Llais Ardudwy Medi 2021

Page 1

Llais Ardudwy

70c

RHIF 494 - IONAWR 2020

SIOPAU’N CAU YN HARLECH Yn ôl papur newydd y Guardian, collwyd 140,000 o swyddi ar y Stryd Fawr yng ngwledydd Prydain yn ystod 2019. Gwelwyd 16,000 o siopau yn cau. Wyddom ni ddim faint o swyddi a gollwyd yn nhref Harlech yn ddiweddar ond mae’r dref wedi dioddef ergyd fawr iawn. Gwyddom fod amryw o resymau am hyn. Mae patrymau siopa wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae trethi uchel, diffyg llefydd parcio, y duedd i brynu llond trol o bethau mewn archfarchnad, prynu ar-lein, prynu drwy’r post ac ati i gyd wedi cyfrannu at y dirywiad. Beth wnawn ni ynghylch hyn? A oes modd adfywio’r dref? A ddaw haul ar fryn unwaith eto? Sonnir gan rai fod angen lleihau trethi busnes ac ychwanegu at y trethi a osodir ar gwmnïau arlein. Siawns fod atebion eraill hefyd. Beth yw eich barn chi? Sgwennwch atom. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’ Yn sicr, mae’n chwithig iawn cerdded ar hyd y Stryd Fawr yn Harlech y dyddiau hyn.

MERCHED Y WAWR HARLECH A’R BERMO YN GWLEDDA

Aelodau Merched y Wawr Harlech a’r Bermo yn eu cinio Nadolig yng Nghlwb Golff Dewi Sant, Harlech. Braf oedd cael cwmni’r Llywydd Cenedlaethol, Meirwen Lloyd. Mwynhawyd y wledd gan bawb ynghyd â geiriau amserol Meirwen.


GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 780635 pmostert56@gmail.com

HOLI HWN A’R LLALL

Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com 07760 283024 / 01766 780541

SWYDDOGION

Cadeirydd: Hefina Griffith 01766 780759

Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@outlook.com Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL

Y Bermo Grace Williams 01341 280788 David Jones 01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones 01341 241229 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Cysodwr y mis: Phil Mostert

Gosodir y rhifyn nesaf ar Ionawr 31 am 5.00. Bydd ar werth ar Chwefror 5. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Ionawr 27 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

Dilynwch ni ar Facebook @llaisardudwy

2

Enw: Meirionwen Lloyd Humphreys Gwaith? Bydwraig Gymunedol a newydd ymddeol ar ôl 42 mlynedd yn yr NHS. Rŵan yn gweithio’n rhan amser tua dau/ dri diwrnod yr wythnos. Cefndir? Wedi priodi hefo Pete ers 34 mlynedd ac yn fam i Aron a Siôn. Yn enedigol o Dalsarnau ond wedi cael fy magu yn Nolgellau. Ar ôl pasio cwrs SRN, SCM a DN, mi ddychwelais i’r ardal i weithio yng nghymuned Meirionnydd a Dwyfor. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Mae’n bleser gen i gadw’n iach. Hoff o gerdded y bryniau a’r mynyddoedd bendigedig sydd o’n cwmpas, a llwybrau’r arfordir. Wrth fy modd yn beicio a nofio ac yn ddiweddar wedi bod yn gwneud pethau rhyfeddol fel ceunenta (canyoning) a nofio dŵr oer (wild swimming), zip wire ac abseilio ac yn y blaen. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Gwybodaeth broffesiynol er lles fy ngwaith, a phob math o lyfrau eraill – ditectifs, rhamantus a hanesyddol. Dwi’n hoff iawn o ddarllen cyn mynd i gysgu. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Wrth fy modd yn gwylio ‘Strictly Come Dancing’ ac ambell i gyfres

hanesyddol, ond dydw i ddim yn dilyn operâu sebon. Ydych chi’n bwyta’n dda? Yndw, ac mae pob math o fwyd yn plesio ... gormod weithiau, dwi’n meddwl. Hoff fwyd? Bwyd y môr, neu ginio dydd Sul hefo cig oen a ‘mint sauce’. Hoff ddiod? Gwin coch o dde Affrica yw fy hoff win ac yn ddiweddar iawn dwi wedi cael pleser mewn jin; mae yna gymaint o ddewis y dyddiau yma a modd i’w trio nhw i gyd. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Rwy’n hynod o ffodus o’m ffrindiau da i ymuno hefo nhw i gael swper, ond does na neb gwell na’n nheulu. Lle sydd orau gennych? Cerdded ar hyd lan môr Harlech ac yna i fyny’r llwybr igam ogam (zig zag) ac eistedd ar y fainc yn edrych dros Llŷn, y môr a’r Wyddfa – nefoedd! Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Er fy mod i wedi trafeilio dipyn erbyn hyn, Tossa del Mar yn Sbaen ydy’r lle gorau gen i. Lle bach debyg i Gricieth, a dwi wedi gwneud ffrindiau oes yno. Beth sy’n eich gwylltio? Gwleidyddion sydd yn dweud anwiredd a ddim yn symud pethau ymlaen i helpu’r wlad. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Cefnogaeth, a bod yna pan fydd angen. Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon? Fy ngŵr Pete Humphreys am roi i fyny hefo fi cyhyd – mae o’n haeddu medal! Beth yw eich bai mwyaf? Aros tan y funud olaf i wneud neu orffen rhywbeth - ‘ben set’ bob amser ond wastad yn

llwyddo. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Gweld fy meibion Aron a Siôn yn llwyddo i gael bywyd hapus a llwyddiannus o ran cariad, ffrindiau ac iechyd. Beth fuasech chi’n ei wneud efo £5,000? Mynd i Awstralia i weld fy wyres Bethan sy’n byw yno ers dros flwyddyn bellach. Eich hoff liw? Tyrcweis neu balalwyfen (lime). Wedi gweithio mewn gwisg tywyll bob dydd am 42 mlynedd dwi’n hoff iawn o liwiau llachar. Eich hoff flodyn? Dwi’n mwynhau blodau o bob lliw a llun ac wastad hefo rhai’n y tŷ, yn enwedig ffrisias oherwydd maen nhw’n fy atgoffa fi o’m diwrnod priodas. Eich hoff gerddor? Dwi’n hoff iawn o gerddoriaeth o bob math o glasurol i roc. Eich hoff ddarnau o gerddoriaeth? Mae Pearl Fishers gan Bizet yn codi atgofion melys iawn am ’nhad, a Stairway to Heaven, Led Zeppelin, yn fy atgoffa o amser llawn hwyl a rhyddid. Pa dalent hoffech chi ei chael? Canu’r piano a chyfeilio. Eich hoff ddywediadau? “Dywed yn dda am dy gyfaill, am dy elyn dywed dim”, a “Mae ’na fwy nag un ffordd o roi Wil yn ei wely”. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Hapus iawn. Hynod o ddiolchgar i gael iechyd da ar hyn o bryd, teulu a ffrindiau agos a chefnogol, a chariad. Ffodus i allu mwynhau bywyd yn llawn ac edrych ymlaen at wneud mwy yn fy amser ymddeoliad.

Rhai o ddynion Clwb Rygbi Harlech. Tynnwyd y llun ym mis Awst ac nid dros y Nadolig!


CYNGERDD NADOLIG YSGOL ARDUDWY

CADW’N GYNNES YN Y TYWYDD OER

Wrth i’r tywydd oeri, dyma rai syniadau ar gyfer cadw eich tŷ yn gynnes yn y tywydd oer:

Dŵr poeth Mae angen i’r dŵr fod yn boeth ond byth yn ferwedig. I’r rhan fwyaf o bobl, mae gosod y thermostat ar 60°C/140°F yn iawn er mwyn ymolchi a golchi. Cofiwch roi’r plwg yn eich basn neu sinc! Mae gadael dŵr poeth i redeg heb y plwg i mewn yr un fath â thywallt pres i lawr y draen! Llenni neu Gyrtens Caewch eich llenni wrth iddi nosi er mwyn atal y gwres rhag dianc drwy’r ffenestr. Goleuadau Diffoddwch y golau bob amser pan fyddwch yn gadael ystafell – ac agorwch eich llenni neu’ch bleindiau i adael cymaint o olau dydd ag y bo modd i mewn yn ystod y dydd. Peiriannau trydanol Er mwyn arbed ynni, peidiwch â throi cyfarpar ymlaen nes bydd eu hangen a chofiwch beidio â’u trydanu os nad oes angen. Mae’r swits ‘standby’ yn dal i ddefnyddio ynni. Cofiwch edrych yn y llawlyfr i wneud yn

siŵr na fydd hyn yn effeithio ar gof y peiriant. Tegelli Twymwch yr union faint o ddŵr y mae ei angen arnoch. Os ydych yn defnyddio tegell trydan, gwnewch yn siŵr eich bod yn gorchuddio’r elfennau. Nid oes cymaint o ddŵr mewn tegelli siâp jwg oherwydd bod yr elfennau’n llai. Sosbenni a phadelli Dewiswch sosban o’r maint cywir ar gyfer y bwyd a’r cwcer (dylai’r gwaelod fod yn ddigon i orchuddio’r cylch coginio trydan) a chadwch y caead ymlaen wrth goginio. Wrth goginio â nwy, dim ond wrth waelod y sosban mae angen y fflam. Os ydyw’n ymestyn i fyny’r ochrau, rydych yn gwastraffu gwres. Bwyd 1 Cadwch stoc o fwyd yn y tŷ rhag ofn i’r tywydd waethygu a’ch atal rhag mynd i siopa. 2 Bwytewch o leiaf un pryd poeth y diwrnod. 3 Sicrhewch eich bod yn yfed digon o ddiodydd poeth. Dillad 1 Gwisgwch ddigon o ddillad cynnes cyn mentro allan i’r oerni.

2 Mae gwisgo nifer o haenau o ddillad yn eich cadw’n gynhesach nag un haen drwchus. Cadw’n fywiog 1 Symudwch i gadw’n gynnes gwnaiff ychydig o ymarfer corff eich helpu i gadw’n iach, hyd yn oed o fewn y tŷ. Amser gwely 1 Cofiwch gau’r llenni a’r

ffenestri dros nos er mwyn cadw’r cynhesrwydd i mewn a’r oerni allan. 2 Os oes gennych flanced drydan sydd dros 10 mlwydd oed, dylech brynu un newydd. 3 PEIDIWCH BYTH â defnyddio potel ddŵr poeth ar yr un pryd â blanced drydan. 4 Gwisgwch yn gynnes ar gyfer y gwely.

CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF

MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod

Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant PORTHMADOG 01766 512214/512253 60 Stryd Fawr

PWLLHELI 01758 612362 Adeiladau Madoc

office@bg-law.co.uk

ABERMAW 01341 280317 Stryd Fawr

Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd …

3


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Côr Meibion Ardudwy Bu’r Côr yn brysur iawn ym mis Rhagfyr. Cafwyd y cinio blynyddol yng Nghlwb Golff Dewi Sant yn Harlech ar Ragfyr 9. Yna bu’r Côr yn perfformio mewn noson garolau yn Nyffryn Ardudwy ar Ragfyr 17 ac ym Mhlas Aberartro, Llanbedr yng nghwmni Pres Mân ar y noson ganlynol. Ar nos Sul, Rhagfyr 22, roedden nhw’n perfformio yn Nineteen.57 yn Nhal-y-bont. Y tri perfformiad i gynulleidfaoedd llawn iawn. Derbyniwyd llawer o ganmoliaeth i’r canu a’r awyrgylch Nadoligaidd a grëwyd yn y tri chyngerdd. Cynhelir y Cyfarfod Blynyddol ar Nos Sul, Ionawr 12 am 8.45 yn dilyn ymarfer côr arferol am sesiwn gyntaf y noson. Genedigaeth Llongyfarchiadau i John a Tabitha, Bryn Teg, ar enedigaeth mab bach, Lloyd, brawd bach i Morgan, a’n dymuniadau gorau i’w hen nain Olwen Evans, Werngron. Cydymdeimlo Anfonwn ein cydymdeimlad â Mattie Roberts, Bryn Deiliog, wedi iddi golli ei brawd Cyril yn ddiweddar. Hefyd, â Morfudd a Pat, Hendre Waelod, wedi colli modryb, gwraig y diweddar Merfyn (Hendre gynt). Teulu Artro Dydd Mawrth 3 Rhagfyr, croesawodd Glenys, ein llywydd, ni i ginio Nadolig a chyfeiriodd yn gyntaf at y golled ym marwolaeth Beti Parry. Bu Beti yn ffyddlon iawn i Deulu Artro ac yn aelod ers blynyddoedd lawer. Trist fydd colli ei gwên a’i hanesion difyr; bydd lle gwag ar ei hôl.

Merched y Wawr Nantcol Cyfarfu’r gangen yn Neuadd Bentref Llanbedr ar nos Fercher, Rhagfyr 4. Wedi gair o groeso gan Rhian, ein Llywydd, croesawyd Alma Evans atom. Gwyddom am ei dawn fel cogyddes ac roedd pawb yn edrych ymlaen at gael syniadau newydd ar gyfer y Nadolig. Uchafbwynt y noson oedd cael blasu y pwdinau gan gynnwys pwdin Nadolig hefo hufen iâ ac ymenyn brandi, teisen frau briwfwyd melys a theisennau siocled. Roedd pawb wedi mwynhau’r danteithion blasus a rhai ohonom yn awyddus i roi cynnig ar ambell i rysait. Diolchwyd yn gynnes iawn i Alma gan Rhian.

Ffeithiau a Ffajitas

Noson o fwyd Mecsicanaidd a Chwis

Nos Wener Ionawr 17 yn Neuadd Bentref Llanbedr am 7.00 Tocyn: £12.50

Ar gael gan Helen Johns 01341 241617 Cyhoeddiadau’r Sul Capel y Ddôl am 2.00 o’r gloch IONAWR 12 Mrs Glenys Jones 19 Parch Dewi Tudur Lewis CHWEFROR 2 Mr Iwan Morgan Diolch Diolch i Gwenda a Glyn Davies am dalu mwy na’r disgwyl wrth adnewyddu eu tanysgrifiad i Llais Ardudwy.

Llongyfarchwyd Ceri am ennill y drydydd wobr am wau sgarff a menig yn y Ffair Aeaf – tipyn o gamp gan fod pedwar ugain wedi cystadlu. Darllenwyd cyfarchion y Nadolig gan Meirwen Lloyd, y Llywydd Cenedlaethol. Aeth pump ohonom i’r Gwasanaeth Llith a Charol yn Nhrawsfynydd. Roedd yn wasanaeth bendithiol iawn gyda chynulleidfa deilwng yn bresennol. Diolchwyd i Gwen ac Enid am gymryd rhan yn y gwasanaeth. Cyn ymadael dymunodd Rhian Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i ni i gyd. Clwb Cawl Pnawn Gwener, 13 Rhagfyr, cawsom barti Nadolig yn y Neuadd a chriw da ohonom yno. Roedd Jane a’i chriw wedi gofalu am ddigon o ddanteithion ar ein cyfer a chawsom amser difyr. Bu plant meithrin yn ein diddanu a chawsom ganu carolau cyn troi am adra. Bydd y Clwb yn ail ddechrau pnawn Iau, 16 Ionawr. Diolch yn fawr am eu gwasanaeth clodwiw.

ENGLYN DA

GARI WILLIAMS

Â’r sioe ar ben, er cau’r llenni, - di-daw Yw y dorf, a glywi O gwr y llwyfan, Gari, Sŵn chwerthin dy werin di? Llion Jones, 1964 4

Grŵp Llanbedr - Huchenfeld

Yn anffodus, nid oedd yn bosib gwneud copi clir o hwn. [Gol.]

Côr Meibion Glannau’r Artro - 1958 Diolch i Evie Morgan Jones am anfon y rheolau isod atom. Dyma ddarllen diddorol i aelodau o gorau lleol!

CÔR MEIBION LLANBEDR Mehefin 21, 1958 RHEOLAU

1. O hyn ymlaen enw’r Côr fydd CÔR GLANNAU ARTRO. 2. Gofynnir i bob aelod dalu swllt y flwyddyn fel tâl aelodaeth. 3. Gofynnir i bob aelod dalu am gopïau o’r darnau a ddysgir. 4. Unrhyw aelod a gyll bractis dair gwaith yn olynol, heb reswm digonol, i ddisgyn o’r Côr. 5. Gwneir casgliad ewyllys da ymhob practis. 6. Pob aelod sy’n ymuno a’r Côr i wneud ei drefniadau ei hun i ddyfod i’r practis. 7. Yn ystod tymor yr Haf cynhelir y practis bob nos Sul am 8.00.

GWASANAETH CADW CYFRIFON ARDUDWY

Cysylltwch â ni am y gwasanaethau isod: • Cadw llyfrau • Ffurflenni TAW • Cyflogau • Cyfrifon blynyddol • Treth bersonol info@ardudwyaccounting.co.uk 07930 748930


Y BERMO A LLANABER TOYOTA HARLECH

Gwarchod Bermo Watch – teledu cylch cyfyng (cctv) yn y Bermo Mae Gwarchod Bermo Watch yn cydweithio efo gweithredwyr teledu cylch cyfyng preifat eraill y Bermo megis gwestai, tafarndai a siopau er mwyn cadw llygad am unrhyw droseddau sy’n digwydd. Rydym yn apelio at unrhyw un sydd â theledu cylch cyfyng yn y Bermo i gysylltu ar dudalen FB Gwarchod Bermo Watch gyda’ch manylion cyswllt er mwyn i ni allu cysylltu â chi. Felly, os bydd angen eich cymorth arnom ni, gallwn gysylltu â chi. Byddwn yn cadw eich gwybodaeth yn hollol breifat. Cofiwch ein helpu ni i gadw’n hardal yn ddiogel ac yn lle braf i fyw a gweithio ynddo fo.

Cymdeithas Gymraeg Mwynhawyd noson arbennig yn Eglwys Crist dan ofal Meibion Prysor, dan arweiniad Iwan Morgan. Cafwyd eitemau cerddorol gan y Côr, unawdau gan Tomos Heddwyn ac Iwan Morgan gydag aelodau’r cor yn cyflwyno darlleniadau Nadoligaidd. Cawsom naws y Nadolig yn eu perfformiad i gychwyn Cyfnod yr Adfent. Paned, sgwrs a danteithion lu oedd yn rhan o’r croeso yn y festri ar ôl y cyngerdd godidog. Diolch i’r Côr ac i bawb fu’n cynorthwyo mewn unrhyw fodd. Cynhelir ein noson nesaf ar nos Fercher, Ionawr 8fed yng nghwmni Glyn Williams, Borthy-gest.

Canolfan Hamdden Harlech a Ardudwy

COROLLA HYBRID NEWYDD

Dewch i roi cynnig ar yrru’r Corolla newydd! Mae ’na ganmol mawr i hwn! facebook.com/harlech.

Ffordd Newydd Harlech LL46 2PS 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@harlech.toyota.co.uk Twitter@harlech_toyota

Diwrnod agored i lansio’r prosiect newydd i wella amgylchoedd y ganolfan

10:00 – 3:00 Bydd grwpiau, clybiau a sefydliadau cymunedol lleol yno ac hefyd bydd gweithgareddau pwll a rhoi cynnig ar ddringo ar gael trwy gydol y dydd

LLANFAIR A LLANDANWG PLYGAIN 2020, EGLWYS Y SANTES FAIR, LLANFAIR Cynhelir Plygain y Lasynys 2020 ar nos Fercher, 15 Ionawr am 7.00 o’r gloch yn Eglwys y Santes Fair, Llanfair. Yn dilyn y Plygain, cynhelir swper yn Neuadd Goffa Llanfair. Os hoffech gyfrannu eitem o fwyd neu helpu ar y noson, cysylltwch â Haf os gwelwch yn dda (manylion cyswllt y tu mewn i’r clawr). Byddem yn ddiolchgar am unrhyw gyfraniad. Hefyd, os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â pharti canu Plygain y Lasynys (croeso i unrhyw lais), cynhelir yr ail ymarfer yn y Lasynys Fawr ar brynhawn Sul, 12 Ionawr, am 3.00 o’r gloch. Croeso i bawb.

Parhau i wella Anfonwn ein cofion at Bryn Lewis, Min-y-môr sy’n dal i wella ar ôl llawdriniaeth i’w galon. Damwain Deallwn bod Ann Lewis, Min-y-môr, un o weithwyr Llais Ardudwy yn yr ardal, wedi cael codwm yn ddiweddar ac wedi torri asgwrn yn ei braich. Anfonwn ein cofion ati hithau gan hyderu y bydd yn teimlo’n well yn fuan. Cydymdeimlo Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf â theulu Cilbronrhydd ar farwolaeth Doris Parry, mam, mam yng nghyfraith, nain a chyfaill hoff gan lawer yn yr ardal hon ar 5 Rhagfyr 2019.

CEISIADAU AM GYMORTH ARIANNOL 2020 gan Ŵyl Gwrw Llanbedr

Gwahoddir ceisiadau gan fudiadau lleol Ardudwy i’w hystyried ar gyfer cymorth ariannol gan Ŵyl Gwrw Llanbedr. Rhaid cyflwyno ceisiadau ar y ffurflen safonol. Gellir lawrlwytho’r ffurflenni o’r safle we http://www.llanbedrbeerfestival.co.uk neu trwy e-bost ar llanbedrbeerfestival@gmail.com Dim ond i brosiectau sydd o fudd i’r gymuned y rhoddir ystyriaeth i ddyfarnu grantiau fel arfer. Bydd angen tystiolaeth o wariant. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw Ionawr 31, 2020. Hysbysir yr ymgeiswyr o benderfyniad y Pwyllgor yn fuan wedyn. 5


Mrs Doris Parry COFFÂD

Teyrnged i Mam [gan Margiad; traddodwyd gan Gwenno a Martha yng nghynhebrwng Doris] Ganed Mam yn Graigddu Isaf, Trawsfynydd, yn ail blentyn i Robert a Margaret Edwards, a chwaer i Edward. Mynychodd yr ysgol yn Traws gan fynd ar fore Llun a dod adref yn ôl nos Wener. Roedd yn aros yn Ty’n Pistyll hefo Mr a Mrs Jacob Jones, a byddai’n galw i weld Jacob Jones yn rheolaidd hyd ei farwolaeth. Aeth Mam adref i helpu ar y ffarm a bu’n gweithio’n galed yno yn enwedig ar ôl i’w brawd gael damwain a cholli ei law. Symudodd y teulu i Tyddyn Gwynt, Harlech yn y 40au a daliodd Mam i weithio yn galed ar y ffarm. Byddai’n mynd bob dydd o Tyddyn Gwynt i Gwm Mawr adeg ŵyna i fugeilio, cerdded weithiau neu ar y ferlen os nad oedd rhywun arall ei hangen. Priododd Dad a symud i Cilbronrhydd. Mewn ychydig wedyn collodd ei mam a symudodd Taid a fy ewythr i Harlech. Daliodd i gadw tŷ i’r ddau yno. Ddwy flynedd wedi i mi gael fy ngeni, cafodd Dad angina a hi borthodd a charthu’r beudai drwy’r gaeaf hwnnw. Gallai droi ei llaw at unrhyw waith ffarm. Hi fyddai’n llwytho wrth gario gwair a byddai ofn i’w llwyth chwalu a hitha golli ei chymeriad. Byddai’n lluchio’r bêls i mewn i’r tŷ gwair yn rhy gyflym nes fyddai Dad yn gwylltio. Fe fyddai yn godro buwch neu ddwy bob bore a nos yn yr haf. Byddai’n corddi unwaith neu ddwy yr wythnos a gwneud menyn. Byddai yn gwerthu menyn o gwmpas Harlech ac yn Blaenau bob wythnos. Roedd diwrnod pluo’r gwyddau yn ddiwrnod mawr. Caer yn dod i helpu i bluo ac Anti Bet, Tyddyn Gwynt i drin. Prynu gwydda bach 10 diwrnod oed wnaethon ni flwyddyn wedyn a throdd clagwydd Tyddyn Felin yn ŵydd.

6

Wnaeth Dad ddim pasio’i dest dreifio a bu Mam yn ei chauffro i bob man, i seli, i olwg teirw, i nôl defaid adra o lefydd, i sioeau cŵn. Byddai’n mynd a’i gwau hefo hi i ddisgwyl amdano ac yn aml iawn byddai rhywun yn eistedd yn y car hefo hi yn siarad neu tu allan. Fe ddysgodd fi i ddreifio, nôl a mlaen yn Fonllech i gychwyn cyn mentro i ffordd Morfa a dod yn ôl rhyw dro a thywarchen yn sownd i’r bympar lle oeddwn bron â methu troi’n y finger post. Chwerthin mawr wedyn wrth ei weld ar ôl dod adra. Byddai Mam wrth ei bodd yn gweu sana, jympers a menyg. Fuodd na crês ar fenyg Steptoe yn y topiach acw un tro (mi fu’n gweu i’r plant pan oedden nhw’n fach). Roedd hefyd yn gwnïo, patchio trowsusau, troi coleri crysa a mi fydda’r injian wnïo yn gorfod symud yn go handi pan fyddai’n troi ei handlan. Mi gadwodd bobl ddiarth am flynyddoedd, gwely a brecwast a swper nos. Roedd ganddi bryd gwahanol i 7 noson ond byddai’n diawlio rhai oedd isio aros pythefnos. Cafodd hi a Dad lot o bleser yn cyfarfod pobl a sgwrsio a mae rhai yn dal i gadw cysylltiad. Uchafbwynt mis Gorffennaf i mam fyddai mynd i hel llus i Gwm Bychan i ganol y gwybed bach. Byddai’n sbinio’r llus am oria wedyn a gwneud tarten a lot o jam a jeli. Un min nos aeth Yncl Gwil, Anti Gwenllian, Dad, Mam a minnau i Gwm Bychan. Roedd wedi bod yn ddyddiau gwlyb cynt a phan gyrhaeddom roedd dipyn o ddŵr yn yr afon lle arferem groesi. Es i gyntaf, gan fynd yn araf ar draws y cerrig yn y dŵr hwnnw bron i dop fy wellingtons, Anti Gwenllian wedyn yn gafael yn dynn yn fy llaw a Mam wedyn. Roeddem yn siglo nôl a mlaen yn yr afon ein tair ac yn y pwl mynd ymlaen fe waeddodd Mam “dwi di colli fy nana.” “Be oeddach chi isio dod a banana?”, medda finna. “Naci fy nannedd,” medda Mam, gan ddangos ei cheg wag. Dwn i ddim sut aru ni lwyddo i groesi wir, ond mi gawsom ni lus a mi gafodd Mam gosta mawr a lot o dynnu coes wedyn. Mudodd Dad a Mam lawr i Lanfair pan ddois i adra a chawsant lot o bleser yn mynd am sbins hefo Yncl Gwilym ac Anti Gwenllian. Mi ddaethant yn ôl i Cilbronrhydd pan briodais i a daeth cyfnod o warchod iddynt tra oeddwn i’n ffarmio a ddaeth a phleser mawr iddyn nhw.

Caiff Martha ddweud yr hanes yma. Teyrnged Nain Cyfeillgar, hoffus, cariadus a direidus. Dyna bedair nodwedd sy’n dod i’m meddwl i wrth sôn am Nain. Wrth gwrs, mae yna eiriau eraill. Fel mae rhai oedd yn ei hadnabod yn gwybod, roedd hi’n dipyn o gymeriad ac yn gwc arbennig o dda, yn gallu troi ei llaw at unrhyw beth o jams a siytnis, i gacennau a phwdinau gwahanol. Fy ffefryn oedd y pwdin reis. Roedd hi hefyd yn giamstar ar wneud crempogau bach trwchus. Roeddwn i wastad yn edrych ymlaen i fynd i dŷ Nain ar ddydd Sul i weld be fyddai ar y bwrdd ond be bynnag oedd o, roedd hi’n gwneud yn siŵr ei bod hi’n llenwi ein boliau yn llawn dop cyn i ni fynd adre. Mae Ifan yn cofio bob tro oeddem yn mynd yno roedd Nain wastad yn rhoi Cyrly Wyrly i ni. Doedd hi ddim yn rhoi rhain tan oeddem ar fin mynd, felly roedd Nain yn eu cuddio nhw o gwmpas y tŷ. Waeth heb iddi achos buasem wedi eu ffeindio a’u byta nhw cyn mynd adre. Roedd Nain yn dalentog iawn nid just fel cogyddes. Roedd hefyd wrth ei bodd yn gwneud crefft boed yn wnïo neu gweu a ninnau wrth ein boddau yn cael y teganau meddal ganddi. Un sy’n aros yn y cof ydi’r holl fwganod brain grëodd i ni. Maent yn dal ganddon ni yn Harlech. Fe drïodd lawer gwaith i ddysgu Gwenno i weu ond methodd gan ei bod yn llaw chwith. Roedd hi wrth ei bodd hefo’i gwydda a’r ieir. Mae gennym fel y plant lawer o atgofion melys, llawn hwyl hefo Nain. Un atgof anghofiai fyth ydi pan aethom ni y plant hefo Nain i lawr i Harlech, Nain yn dreifio a dyma ni’n dod lawr at y railway a goleuadau yn fflachio yn dangos bod yna drên yn dod. Dwi ddim yn gwybod be ddoth dros ei phen i wneud y penderfyniad, ond mi benderfynodd Nain ddal ati i yrru gan feddwl y bysa hi yn ei gwneud hi. Nath hi ddim, yn amlwg, a dyna lle oedden ni ar ganol y ffordd ar y railway, y trên yn dod a reilings y ddau ben i lawr a Nain yn methu pasio. Wel, bacio yn ôl fu raid wedyn am y reiling a gobeithio am y gorau. A dyna lle oedden ni yn panicio i gyd a Nain yn hollol cŵl. Wel, sôn am halibalw. Ond roedd yna wastad hwyl i’w gael gyda hi. Roedd wrth ei bodd yn tynnu coes rhywun, yn enwedig ni’r plantos ac os oedden ni’n ddrwg roedd

y dyrnau yn dod allan a hithau yn dweud ’weli di hwn, hwn sy’n beryg’ - roedd hynna’n ddigon i’n distewi ni i gyd. Byddai bob dydd Sul yn mynd a ni at siop Anti Gwenda i nôl WCW a bob tro yn rhoi punt neu ddwy i ni am ein bod wedi helpu ar y ffarm. Roedd Nain yn prowd iawn ohonom ni i gyd ac wastad yn cadw bob papur newydd oedd â sôn amdanom ynddo. Roeddwn i wrth fy modd yn cael eistedd ar ei glîn yn ei chadair wrth ymyl y Rayburn gan ganu Gee Ceffyl Bach a hithau bob tro pan yn dod i’r linell ‘wel cwympo ni’n dau’ mi fuasai yn mynd a fi at y llawr ond heb fy ngollwng a thynnu fi nôl ati am cydl. Buasai yn hollol gyffyrddus yn ei chadair gyda phaned o de yn ei llaw a gorfod troi ei chadair bob tro roedd hi eisiau gwylio’r teledu. Roedd wrth ei bodd yn eistedd yn y fan honno am oriau yn sgwrsio a heb yn wybod, buasai yn cysylltu ei dwylo hefo’i gilydd a’i bodiau yn troi un ar ôl y llall. Mi ydan ni gyd yn browd o’i galw hi’n Nain i ni ac mi fyddwn yn ei cholli yn fawr iawn. Margiad: Daliodd Mam ati yno yn ddygn ar ôl colli Dad, am flynyddoedd. Wedyn dechreuodd ei salwch a gwneud petha oedd gymaint allan o gymeriad, unwaith rhoddodd ei phwrs yn y deep freeze hefo’r hufen iâ a phanic wedyn yn chwilio amdano. Pan ddaeth acw, dywedodd y nyrs ei bod yn gorfforol gryf ac roedd staff Plas Eleri yn dweud yr un peth. Byddai pawb oedd yn mynd i ymweld â Phlas Eleri yn mynd i weld Mam hefyd gan ei bod yn gweiddi ‘hei’ arnynt. Daliodd ei chymeriad cryf i fod yna hyd y diwedd. Hoffwn ddiolch i bawb fu yn cadw llygad arni’n Cilbronrhydd ac ymweld â hi ym Mhlas Eleri yn enwedig teulu Uwchglan. Roedd Mam o hyd yn hwyr i lefydd ac yn hir yn cychwyn a ninnau’n swnian a byddai’n dweud, “Mi fyddaf yn barod o’ch blaen rhyw ddiwrnod y diawliad”. A heddiw ydi’r diwrnod hynny ynte. Diolch am bopeth Mam. Dwylo hael “hen ŷd y wlad” A miri o gymeriad. Nia Powell Diolch Dymuna Margiad, Gwyn, Gwenno, Catrin, Ifan a Martha ddiolch i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad ar ôl colli Mam a Nain.


Edrych ar ôl rhywun lansio llyfryn ar gyfer gofalwyr Gwynedd Gall gofalu am un o’ch anwyliaid neu ffrind fod yn brofiad gwerthfawr ac yn rhywbeth y bydd llawer ohonom yn ei wneud ar ryw adeg yn ein bywyd, ond gall hefyd fod yn brofiad heriol. Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi llyfryn, ‘Edrych ar ôl Rhywun’, sy’n dwyn ynghyd gwybodaeth hanfodol ar gyfer gofalwyr gyda’r nod o’u helpu i ymdopi â’u cyfrifoldebau. Mae’r wybodaeth hefyd ar gael ar wefan y Cyngor: www. gwynedd.llyw.cymru/gofalwyr Mewn cynhadledd yn ddiweddar cafwyd trafodaethau pwysig iawn am waith hanfodol gofalwyr.

Ann Griffith, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

Roedd hefyd yn gyfle i glywed gan Ann Griffith, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, sy’n wreiddiol o’r Bermo, a fu’n trafod sut mae trosedd yn effeithio ar bobl hŷn. Hefyd yn cymryd rhan yn y gynhadledd oedd Selwyn Griffiths, cyn-brifathro Ysgol Llanbedr. I gael mwy o wybodaeth am y llyfryn gofalwyr, cysylltwch â Chyngor Gwynedd ar 01286 679742 neu e-bostiwch gofalwyr@gwynedd.llyw.cymru

Ydych chi wedi cael calendr? Mae ychydig ar ôl!

THOMAS LLOYD WILLIAMS, FRONGALED Rhan 2

Merch i John a Jane (Williams) Lloyd, gynt o Gatehouse, Minffordd, ger Penrhyndeudraeth, oedd Catherine, priod Thomas Ll Williams. Ymfudodd gyda’i rheini yn 1842 i’r America, a buont yn trafaeilio ar hyd y Llynnoedd Mawr nes cyrraedd Racine, Wisconsin. Symudont i Portage, Wisconsin, 28 milltir i ddinas Columbus, yng nghanol ardal amaethyddol yn 1845. Yn Ionawr 1890 cafodd Thomas Ll delegram yn ei hysbysu fod ei unig chwaer, Mrs Catherine Roberts, groser, Dyffryn Ardudwy, wedi marw o ganlyniad i strôc. Nos Iau, 16 Mai 1894, daeth tua 30 o gyfeillion Thomas a Catherine Williams i’w tŷ yn Racine, i ddathlu 25ain mlynedd o fywyd priodasol. Cyflwynwyd iddynt set o lestri te arian, a hambwrdd i’w dal o’r un defnydd, ar yr hwn yr oedd y llythyren W wedi ei cherfio, a’r blynyddoedd 1869 ac 1894 ar bob ochr iddi. Yn ôl ym Mawrth 1856, cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf yn Racine, a’r gyntaf i’r gorllewin i fynyddoedd yr Allegheny. Yr oedd eisiau cael dau gôr i gystadlu, a’r modd y ffurfiwyd y ddau oedd trwy nodi dau frawd yn arweinyddion, ac iddynt hwythau ddewis aelodau y corau. Y dull a gymerodd y ddau arweinydd i gael hynny o gwmpas oedd, tynnu y cwta am y dewisiad cyntaf, ac yna dewis eu rhai gorau bob yn ail, nes cael y rhif gofynnol, heb ofalu dim i ba un o’r ddwy gynulleidfa y

byddent yn perthyn. Cafwyd cystadleuaeth boeth, a dyfarnwyd un dipyn bach yn well na’r llall, ond gan fod y ddau gôr yn gymysg o aelodau y ddwy gynulleidfa ni chafodd y cythraul enwadol le i roi ei drwyn i mewn i’r ffrae o gwbl. Ac y mae yn beth hynod, wedi cymaint o amser, bron i ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, fod ysgrifennydd yr eisteddfod honno, Thomas Ll Williams, ac arweinyddion y ddau gôr, a’r beirniaid, yn fyw ac yn iach ar ôl yr holl flynyddoedd, ac yn sefyll ar y llwyfan diwrnod jiwbili Capel Cymraeg M C Racine, Mawrth 27, 1894. Y brodyr eraill oedd John R Davies ac E Samuel, arweinyddion y ddau gôr, a’r Athro John P Jones, y beirniad. Yn haf 1901, ymwelodd T Lloyd Williams ac E J Morgan, Racine, a Miss Jones, Idris House, a nifer o gysylltiadau bore oes yn ardal Llangollen. Yr oedd yn frawdyng-nghyfraith i’r Parchedig Evan Evans, gweinidog Glanrafon (A), Llangollen, sef gŵr ei chwaer; ac yn ewythr i Lewis Evans (1844-1915) y cerddor, Racine, oedd wedi ei eni yn Nyffryn Ardudwy. Bu Thomas Ll Williams farw bore dydd Diolchgarwch, 24 Tachwedd 1910; a Catherine, ei wraig, 31 Ionawr, 1919. Claddwyd hwy ym Mynwent Mound, Racine. Yr oedd Catherine wedi priodi o’r blaen, yn 1853, gydag Owen J Owen, a bu ef farw yn 1864. Ganwyd i Thomas a Catherine un ferch, sef Mrs R Howell Jones, Racine.

PASTAI TWRCI A LLUGAERON

cyn eu coginio, felly fydd dim rhaid gwastraffu dim ohonynt os nad ydych eisiau eu bwyta i gyd ar unwaith. CYNHWYSION Pecyn 500g o does crwst brau 200g (7 owns) o dwrci dros ben, wedi ei dorri’n ddarnau 2 lwy fwrdd o saws llugaeron 6 pelen stwffin dros ben, wedi eu torri’n fras â chyllell (140g) 50g o gaws meddal braster isel 75g (3 owns) o bys wedi eu rhewi ac wedi eu dadmer 1 ŵy canolig wedi ei guro. CYFARWYDDIADAU Twymwch y popty ymlaen llaw i 200°C, nwy marc 6. Rholiwch y toes allan a’i dorri

30 - 45 Munud Gwnewch yn fawr o’r bwyd sydd dros ben ar ôl eich cinio Nadolig trwy gyfuno twrci wedi ei goginio, saws llugaeron a stwffin yn y pasteiod Nadoligaidd hyn. Hefyd mae’n bosibl eu rhewi

Er Cof am Thomas Lloyd Williams, Racine Pan grinai dail yr hydref, Mewn henaint ar y coed, A noethder anian dd’wedai Fod gaeaf du wrth droed. Mewn llonder teg, urddasol, Fel aur dywysen lawn, Ein brawd esgynodd uchod I wlad y dydd heb nawn. Dan goron clod bu farw Fel teyrn mewn bri a pharch, Y byd a’r eglwys wylai Yn hidl uwch ei arch. Dinesydd da gaed ynddo, Gwladgarwr cynnes, cryf, O farn fyw, glir, a phwyllog A meddwl eiddgar, hyf. Addurnai mewn arferiad Arddunedd crefydd Crist, Hael oedd i’r rhai anghenus A thŵr i’r gwan a’r trist. Ei galon lawn gyfoethog Eanged oedd â’r byd, Yn lleddfu clwyf cymdeithas Fel gwaed yr aberth drud. Ei weddïau a’i gynghorion, Profiadau aeddfed, llawn,. Y gân soniarus, ddeuant I’n hadgof fore a nawn. Ar lechau prudd ein calon Ei enw’n aros sydd, A gobaith glân sy’n sibrwd “Cawn gwrdd mewn tecach dydd.” W Arvon Roberts

yn gylchoedd 6 x 17cm (7’’). Cymysgwch y twrci, y saws llugaeron, y stwffin, y caws meddal a’r pys gyda’i gilydd a rhannu’r gymysgedd rhwng y cylchoedd crwst. Brwsiwch yr ymylon gydag ŵy. Tynnwch yr ymylon at ei gilydd a’u gwasgu gan eu selio’n dda a gwneud siâp pastai. Rhowch y pasteiod ar hambwrdd coginio, gyda’r ymylon a seliwyd at i fyny, a brwsiwch ŵy drostyn nhw. Pobwch nhw am 20 i 25 munud nes y maen nhw’n frown golau.

7


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Genedigaeth Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Dafydd Siôn, mab Dei ac Alma Griffith, a Ginne, ar enedigaeth merch fach, Nancy Haf, chwaer fach i Alice. Cydymdeimlad Ar 3 Rhagfyr yn Ysbyty Gwynedd bu farw Mr Gwylfa Roberts, 6 Pentre Uchaf yn 79 mlwydd oed. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at ei fab Arfon, ei ferch yng nghyfraith Diane, ei wyres Cara a’i gŵr Arwyn, ei chwiorydd Eirian a Gwenda a’r teulu oll yn eu profedigaeth. Festri Lawen, Horeb Ar 12 Rhagfyr aethom i Nineteen.57 am ginio Nadolig. Croesawyd pawb gan David Roberts. Wedi’r gwledda croesawodd a chyflwynodd David ein gwestai Siân James. Roedd Siân wedi dod a’i thelyn gyda hi ac fe’n swynodd ni gyda’i chanu a’i dehongliad o ganeuon gwerin, a chafodd wrandawiad astud iawn mewn awyrgylch hyfryd iawn. Diolchwyd yn gynnes iawn i Siân gan David a diolchodd hefyd i Siôn ac Iola am y wledd. Mae’r cyfarfod nesaf ar 9 Ionawr. Gwasanaeth Nadolig Fore Sul, 15 Rhagfyr, cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig Horeb gan blant yr Ysgol Sul a nifer o’r oedolion. Cafwyd gwasanaeth bendithiol iawn a’r plant yn gwneud eu gwaith yn ardderchog. Roedd y capel wedi’i addurno’n hardd gan Alma, Mai a Rhian. Diolchodd Huw Dafydd i bawb ac yn arbennig i Mai, Rhian a Meryl am drefnu’r gwasanaeth a hyfforddi’r plant. Gwasanaethau’r Sul Horeb

IONAWR 12 Edward ac Enid Owen 19 Parch Goronwy P Owen 26 Anwen Williams CHWEFROR 2 Ceri Hugh Jones

8

Llongyfarchiadau Nos Lun, 16 Rhagfyr, ar y rhaglen Ffermio ar S4C gwelwyd Mr Meirion Williams, Hendre Eirian, yn ennill y Bencampwriaeth gyda’i ddefaid yn Sioe Nadolig Mart Dolgellau. Llongyfarchiadau, Meirion. Ar y rhaglen Tŷ am Ddim ar S4C gwelwyd Osian, mab Emrys Jones, Sarnfaen, a merch nad oedd wedi ei chyfarfod o’r blaen, yn cael arian i brynu tŷ mewn ocsiwn ac yna arian i’w adnewyddu. Gwnaethant waith ardderchog ar y tŷ a llwyddwyd i’w werthu a gwneud elw da i’w rannu rhyngddynt. Pan gafodd Osian y newyddion da roedd ar ei wyliau yn Awstralia ac yn methu credu eu bod wedi llwyddo i wneud elw. Yn ystod y rhaglen gwelwyd Emrys, ei dad, a Jean, ei nain yn edmygu’r gwaith a wnaed gan y ddau. Teulu Ardudwy Ar 18 Rhagfyr aethom am ginio Nadolig i Hendre Coed Isaf erbyn 12.30 – fe’n croesawyd gan Gwennie. Roedd Rhian yn methu bod gyda ni oherwydd bod ei hwyres fach, Alys, yn Ysbyty Gwynedd ond roeddem yn falch o glywed ei bod wedi cael dod adre. Anfonodd ein cofion at dair o’n haelodau oedd yn methu bod gyda ni hefyd sef Mrs Gretta Cartwright, Miss L M Edwards a Mrs Enid Thomas. Ar y diwrnod, roedd Miss Edwards yn symud o Ysbyty Dolgellau i Gartref Nyrsio yr Alexander yn Nhywyn. Diochodd i Hilda am brynu a lapio anrheg bach i bawb i Fox’s a London House am roi gwobrau at y raffl eto eleni. Mwynhawyd cinio ardderchog mewn awyrgylch hyfryd a diochodd i’r staff am y croeso cynnes, y gwasanaeth a’r wledd a gawsom a dymunodd Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb a chawsom fynd adre cyn i’w gwynt mawr gyrraedd. Ar 15 Ionawr byddwn yn cael cwmni Peter Telfer. Clwb Cinio Bydd y Clwb Cinio yn cyfarfod yng ngwesty’r Victoria, Llanbedr ar 21 Ionawr am hanner dydd.

CLWB GWAU

Bu’r Clwb Gwau yn brysur yn gwau nwyddau i Rhian Davenport eu gwerthu er budd yr Ambiwlans Awyr. Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn gwau hetiau a sgarffiau ar gyfer y rhai sy’n ddigartref.

Graddio Jenny Oakley, merch Judith, wyres Emlyn ac Anthia Owens, yn derbyn gradd o Brifysgol Abertawe mewn Gofal Mamolaeth. Llongyfarchiadau gan y teulu oll. Rhodd £10

Diolch Diolch i Margaret McCaig a Dilys Earnshaw am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu eu tanysgrifiadau. Diolch hefyd am eu cyfarchion i griw Llais Ardudwy am Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda.

Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd

Tel: 01341 247799 www.smithygarage-mitsubishi.co.uk smithygaragedyffryn

smithygarageltd

Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes


TELYNOR MAWDDWY A’I DEULU gan Les Darbyshire [Rhan 3] Fel hyn mae Elio yn disgrifio ei dad a’i fam: “Yr oedd fy nhad yn ŵr rhyfeddol, yn adnabyddus trwy Gymru gyfan fel Telynor Mawddwy. Ond nid hynny’n unig. Yr oedd yn ŵr a berchid am ddewrder ysbryd ac am fywyd a lywodraethwyd gan athroniaeth Cristionogol gadarn. Ond oedd gwroldeb fy Mam a’i chymeriad hithau yr un mor rhyfeddol yn ôl barn y sawl a’i hadwaenai’n dda, ac yn sicr fe’i profwyd fwy nag unwaith yn y blynyddoedd hyn.”

David Elio

Mab hynaf y telynor oedd Elio, a anwyd yn 1921. Cafodd ei addysg yn yr ysgol elfennol ac Ysgol Sir y Bermo. Ar ôl cael gyrfa lwyddiannus yn yr ysgol cafodd gyfle i fod yn brentis peirianyddol trydan gyda chwmni yng Nghaerlŷr yn adeiladu cerbydau cludo llefrith. Ni arhosodd yn hir yn y dre honno; roedd yr Ail Ryfel Byd wedi dechrau ac fel llawer eraill roedd yr ysfa o wirfoddoli i’r llu arfog yn gryf ynddo ac ymunodd â’r Llynges Brydeinig. Hyfforddwyd ef yn HMS Glendower, camp Billy Butlins ym Mhenychain, Pwllheli, oedd wedi ei gymeryd drosodd gan y llywodraeth adeg y rhyfel. Ar ôl gorffen ei hyfforddiant cafodd ei anfon i’r Dwyrain Pell ac ymuno â llong HMS Mata Hari fel swyddog cyflenwad. ‘Patrol Vessel’ oedd y llong yma ac wedi ei lleoli ym mhorthladd Singapore. Bu i’r Siapaneaid orchfygu’r ddinas ac ar y 12fed o Chwefror 1942 llwyddodd y Mata Hari i ddianc oddi yno gyda phum cant o nyrsys ar ei bwrdd; roedd hyn yn rhan o’r cynllun ymgilio o’r ddinas. Ond er llwyddo am ddyddiau i osgoi Llynges y Siapaneaid, cawsant eu dal a chael eu trin fel carcharorion rhyfel. Mae Elio wedi ysgrifennu llyfr o’i hanes fel carcharor sef ‘No Bamboo for Coffins’ sydd wedi ei gyfieithu i’r Gymraeg o dan y teitl ‘I’r Pridd heb Arch’. Mae yn disgrifio creulondeb milwyr Siapan tuag atynt

CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT Cadeirydd – Edward Griffiths Is-gadeirydd – Siân Edwards Croesawyd Mr Mick Tibbetts a Mr John Doherty o bwyllgor y Neuadd Bentref i drafod rhai materion. Eglurodd Mr Tibbetts, fel Trysorydd y pwyllgor, ei fod wedi dod ar draws nifer o bapurau ynglŷn â gweithgareddau ariannol y Neuadd yn y gorffennol, hefyd bod y pwyllgor wedi cael trafferthion gyda’r banc ond bod pethau wedi eu datrys erbyn hyn. Oherwydd bod y Neuadd yn dipyn o oed, mae mwy a mwy o waith cynnal a chadw arni ac mae angen gwario swm sylweddol o arian rŵan i’w thrwsio hyd y gofynion priodol. Cafwyd copïau o’r incwm a dderbyniwyd a’r gwariant yn y Neuadd dros gyfnod o flynyddoedd. CEISIADAU CYNLLUNIO Codi estyniad unllawr yn y cefn ac amnewid y to fflat presennol gyda tho brig llechi - 59 Llwyn Ynn, Tal-y-bont. Cefnogi’r cais hwn. Dymchwel y tŷ unllawr presennol ac adeiladu tŷ newydd - Uncle Jim’s Cabin, Tal-y-bont. Cefnogi’r cais hwn. MATERION YN CODI Grŵp Gwella Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont Datganwyd pryder ynglŷn â’r baw cŵn ar y cae pêl-droed ac adroddodd y Cadeirydd ei fod wedi cysylltu gyda Chyngor Gwynedd a bod swyddog wedi gosod arwyddion, hefyd adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon cŵyn i Gyngor Gwynedd ynglŷn â’r mater yma. Adroddodd Meinir Thomas bod y Clwb Ieuenctid yn mynd yn dda a bod bellach restr aros o ran y sawl sydd eisiau mynychu. Ethol Cynghorydd Anfonwyd llythyr ymddiswyddiad Mr Emrys Jones ymlaen i’r Swyddog Etholiadol yng Nghaernarfon. Nododd y Swyddog Etholiadol ei fod wedi derbyn cais am etholiad sy’n cynnwys llofnod pymtheg etholwr o Ward Llanddwywe, ac y daw y cais yn weithredol ar ddydd Gwener, 27ain Rhagfyr 2019. GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd – Adran Tai ac Eiddo Holwyd a oedd y toiledau cyhoeddus yn y pentref ar werth neu wedi eu gwerthu. Gellir cadarnhau nad yw’r toiledau ar werth hyd yma ac y bydd yr eiddo yn cael ei adolygu gan y Cyngor yn y dyfodol.

lle bu i’r llongwyr a’r nyrsys gael eu trin fel anifeiliaid. Mae’r llyfr yn rhoi darlun da o’r sefyllfa ond nid yw yn lyfr i’w fwynhau. Mae profiadau carcharorion yng Ngwersyll Palembang yn ddisgrifiad gwirioneddol ddychrynllyd o’u caethiwed ac ymddygiad creulon eu gwarchodwyr. Bu cyfran o’r carcharorion, a oedd wedi llwyddo i oroesi y drychineb pan fu Siapan ildio ac ar ôl cyfnod o adferiad yn yr ysbyty, ddychwelyd i Brydain. Mae Elio yn sôn am y derbyniad arwr a gafodd pan gyrhaeddodd gartref i’r Bermo - baneri yn chwifio yn y gwynt a’r stesion yn llawn o bobl gyda Chadeirydd y Cyngor yn ei ddisgwyl - ond fwy na dim roedd ei dad a’i fam yno yn ei ddisgwyl, a chofio bod pum mlynedd er iddo adael cartref. Yn wir deilwng oedd y derbyniad gwresog i un a oedd wedi gweld a gorfod dioddef llawer am gyfnod hir heb ddim cysur na gobaith am ryddhad. Bu am gyfnod wedyn yn ei gartref yn methu dygymod â’i sefyllfa ac yn annifyr o’i fodolaeth. Gwelodd W D Williams, ysgolfeistr yr ysgol elfennol, fod angen cymorth arno a fe wahoddodd Elio i’r ysgol fel athraw rhan amser a di-dâl i greu pwrpas i’w fodolaeth a hynny a fu. Ond roedd Elio yn dal yn ddifater ac yn ddibwys o’i amseriad a’i ymddygiad, ond agorodd W D ei lygaid trwy ddweud wrtho’n sydyn, ond yn hynod o fonheddig, nad oedd yn rhoi esiampl dda i’r disgyblion a rhaid iddo feddwl am hynny. Er syndod bu i’w ymddygiad wella a hyn, yn fwy na dim, fu yn foddion i’w adfer i fywyd normal, ac o’r amser hynny ymlaen gwnaeth gamau breision. Ymunodd â Choleg Hyfforddi Athrawon yng Nghartrefle, Wrecsam ac wedyn am gyfnod bu yn athro yn ysgol elfennol Trawsfynydd cyn cael ei benodi yn athro yn un o ysgolion Bae Colwyn. Yn ddiweddarach penodwyd ef yn athro celfyddyd yn Ysgol Bryn Eilian, Bae Colwyn. Priododd â Margaret Vaughan (née Hughes) merch i ysgolfeistr Ysgol y Manod, a chawsant un ferch. Gwraig weddw oedd Margaret, wedi colli ei gŵr pan fu farw yn y Dwyrain Canol tra yn gwasanaethu yn y Llynges Brydeinig. Roedd Margaret ac un arall o Stiniog, Meiriona Lloyd, yn gweithio yn y Swyddfa Fwyd yn y Bermo oedd ond nepell o Llys y Delyn. Bu i briodas Elio dorri ac fe briododd â Bessie a oedd yn athrawes yn yr un ysgol ag ef. Roedd Elio yn brysur ym myd y dawnsio gwerin ac yn perthyn i lawer o bartïon ac yr oeddent yn dra poblogaidd. Roedd brawd Elio, Robert Ifor, hefyd yn athro ym Mae Colwyn ac yr oedd yntau yn perthyn i’r un partïon â’i frawd; roeddent yn boblogaidd ac yn ymddangos ar lawer o lwyfannau yng Nghymru ac ar y teledu. Mae hefyd yn adrodd hanes a ddigwyddodd iddo yn fuan yn ei yrfa fel athro ac y mae’n cymharu gweithgareddau dau wahanol brif athrawon. Rwyf eisoes wedi sôn am y cymorth gafodd gan W D Williams ac mewn gwirionedd hyn fu yn feddyginiaeth iddo ond mae hefyd yn cyfeirio at ysgolfeistr arall. Nid yw yn ei enwi na dweud pa ysgol oeddent ynddo ond bu i Elio fynd allan gyda dosbarth o fechgyn ac fe’u cyhuddwyd hwy o ddwyn cacennau oddi wrth barti o ‘Girl Guides’ a oedd yn cael picnic cyfagos. Cafodd gerydd gan y prifathro am nad oedd yn goruchwylio’r bechgyn, ac atebodd Elio nad oedd yn bosib gwneud hynny gyda’r nifer ohonynt a dywedodd ei bennaeth i ddangos ei bwysigrwydd, “Y drwg Mr Roberts ydi, dydach chi ddim wedi gweld dim ar fywyd nac ydych?” Bu i Elio bron â dweud wrtho be oedd yn feddwl ohono. Yr ysgolfeistr yn un a oedd wedi cael amser braf a chyfforddus yn ei gartref trwy gydol y rhyfel a dim syniad be oedd carcharorion rhyfel wedi gorfod ei ddioddef, yn enwedig carcharorion y Dwyrain Pell. Bu’n anodd ar Elio i beidio dweud wrtho faint o fywyd a marwolaethau roedd wedi ei weld yn ei fywyd. Yn ei lyfr, mae Elio yn rhoi teyrnged i holl famau yr hogiau yn y Lluoedd Arfog yn ystod y rhyfel: “Aethant trwy ing meddwl ac aberthu eu meibion ar allor rhyfel. Pa bryd bynnag y byddai un o’n brodyr farw ehedai ein tosturi ar ei union dros y moroedd at ei fam”. A dywedaf innau Amen i’r datganiad yna. Bu Elio farw yn 2002 yn 81 oed. [i’w barhau]

9


HARLECH

Llwyddo Llongyfarchiadau i David Bisseker, Acragaled ar lwyddo yn ei arholiad piano [Gradd 6 - gyda chymeradwyaeth gan fethu’r anrhydedd o ddau bwynt] a’i arholiad cornet [Gradd 5 - anrhydedd] o fewn awr i’w gilydd yn ddiweddar. Diolch Dymuna Robert ac Ann Edwards, 43 Y Waun, ddiolch yn ddiffuant i aelodau’r teulu ac i gyfeillion am helpu gyda chludiant i Ysbyty Glan Clwyd yn ystod triniaeth Robert yn y cyfnod diweddar. Gwerthfawrogwyd eich caredigrwydd yn fawr. Dymuna Ann hefyd ddiolch i’r unigolion caredig hynny am eu cymorth yn dilyn y ddamwain a gafodd pan dorrodd ei braich yn ddiweddar. Mae’n teimlo yn llawer gwell erbyn hyn. £10 Diolch Dymuna Bronwen, 16 Tŷ Canol ddiolch yn fawr am y cardiau a’r anrhegion a dderbyniodd ar ei phen-blwydd yn ddiweddar. Diolch yn fawr i Eirian, Eleri ac Olwen am ei wneud yn amser cofiadwy. £5

10

Sefydliad y Merched Cynhaliwyd cyfarfod mis Rhagfyr yn y Cemlyn, lle cafwyd te Nadolig gwych iawn. Darllenwyd llythyr o’r Sir, a chofnodi dyddiau o bwys yn 2020. Cafwyd adloniant gan yr aelodau Jan, Rachel a Ruth yn gwneud sgets, Wyn Jones yn canu ac Edwina yn darllen cerdd yn ymwneud â chardiau Nadolig. Prynhawn braf iawn; diolchwyd i’r Llywydd Jan Cole ac i Geoff Cole oedd wedi paratoi’r te ac i’r staff gan yr ysgrifennydd Edwina Evans. Fe fydd y cyfarfod nesaf dydd Mercher yn y Neuadd Goffa, 8 Ionawr 2020 am 2 o’r gloch, pan gynhelir gyrfa chwilen gyda Christine Freeman.

Teulu’r Castell Cynhaliwyd cinio Nadolig Teulu’r Castell yn y Bistro, Harlech, amser cinio ddydd Iau, 5 Rhagfyr 2019. Dymunwyd yn dda i Beryl Edwards oedd yn methu â bod gyda ni trwy anhwylder, a braf iawn oedd gweld Menna Jones hefo ni, hithau wedi bod yn Ysbyty Dolgellau am rai wythnosau. Dymunwyd pen-blwydd hapus i Bronwen Williams oedd yn 80 ar 7 Rhagfyr. Diolchodd Edwina iddi hi ac i’r Pwyllgor am y gwaith yr oeddynt yn ei wneud i gadw Teulu’r Castell cyhyd. Cafwyd cinio gwych gan Lee, a diolchwyd iddo ac i’r staff am brynhawn gwych iawn. Fe fydd Teulu’r Castell yn cyfarfod ym mis Chwefror yn Neuadd Goffa Llanfair gyda Tony Bowyers yn rhoi sgwrs am Eglwys Llandanwg. Croeso i unrhyw un ymuno â ni am y prynhawn. Dydd Calan

Yn yr ysbyty Dymunwn wellhad buan i Mrs Elizabeth Williams, 41 Y Waun, Harlech, sydd yn Ysbyty Gwynedd ar ôl cael damwain. Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â Priscilla Williams, Ty’r Acrau a’r teulu oll ym marwolaeth ei nai yn Abercraf ger Ystradgynlais. Diolch Diolch i Edwin Evans ac i Arawn Lloyd Jones, [Cerrig Gwaenydd gynt] 21 Maesteg, Penrhyndeudraeth am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu eu tanysgrifiad. Diolch Hoffai cyn-weithwyr Siop Spar ddiolch i bawb a gyfrannodd at y casgliad Nadolig a drefnwyd iddyn nhw wedi i’r siop gau. Hefyd, diolch yn fawr iawn i’r rhai a drefnodd y casgliad.

Paraic MacDonncha a Phil Mostert yn cyflwyno siec am dros €5380 i Mary Nash, Prif Swyddog Hospis Galway. Disgrifiwyd hanes y daith gan Côr Meibion Ardudwy a Chôr Cana-mi-gei yn rhifyn mis Tachwedd

Bore dydd Calan yn yr Hen Lyfrgell, Harlech, daeth bobl draw i fwynhau rhannu caneuon calennig, paratoi ‘Perllan’ (afal addurnedig) am lwc dda, a chwrdd nid un, ond dwy, Fari Lwyd. Yn y prynhawn cafwyd cyngerdd yn yr Eglwys gyda’r gynulleidfa yn mwynhau Band Arian Harlech yn chwarae alawon Cymreig a Sheila Maxwell yn esbonio traddodiadau Cymreig. Diolch i Gronfa Partneriaeth Eryri am ariannu’r digwyddiadau. Mae ‘Perllan’ yn draddodiadol yn rhai ardaloedd: Tri darn o bren ar waelod yr afal i wneud coesau. Darnau o almwnd yn cael eu gosod yn yr afal wedyn (neu ewin) A dail bytholwyrdd yn cael eu gosod ar ei ben. Llawryf - er gogoniant Celyn - ar gyfer rhagweld Rhosmari - er mwyn cofio Bocs - er mwyn dewrder Lafant.- i sicrhau digonedd dros y flwyddyn Ar ôl hanner dydd eu rhoi i ffrind am lwc dda, neu ei gadw yn y tŷ. Llongyfarch Llongyfarchiadau i Dylan a Judith Roberts, Gorwel Deg, ar ddod yn daid a nain unwaith eto. Ganwyd merch, Annie Siân, i Siân a Stuart Lamkin, chwaer fach i’r ddau frawd.

Hen nain Llongyfarchiadau i Edwina Evans, 10 Y Waun, ar ddod yn hen nain i Mia Louise Evans. Ganwyd Mia i Mark a Dannie yn ardal Caerloyw.


BAND YN MWYNHAU

Rhai aelodau o Seindorf Harlech ar stad Tŷ Canol yn mwynhau bwyd wedi ei baratoi gan Linda a David Soar. Yn ôl eu harfer, bu’r aelodau yn chwarae o gwmpas y tai yn y dref ar fore dydd Nadolig. Casglwyd £300 i gronfa’r band.

DYDDIADUR Y MIS MIS IONAWR

8 – Cymdeithas Gymraeg y Bermo, 7.30 9 – Festri Lawen, Dyffryn, 7.30 11 – Bingo, Caffi’r Pwll Nofio, Harlech, 2.30 13 – Merched y Wawr, Talsarnau, Elgan Tudor Lewis, 7.00 14 – Cymdeithas Cwm Nantcol, Dilwyn Morgan 15 – Teulu Ardudwy, Neuadd Bentref Dyffryn, 2.00 15 – Plygain, Eglwys Santes Fair, Llanfair, 7.00 16 – Clwb Cawl, Neuadd Bentref Llanbedr, 17 – Grŵp Llanbedr- Huchenfeld, Ffeithiau a Ffajitas, Neuadd Bentref Llanbedr, 7.00 21 – Clwb Cinio, Gwesty Fictoria, Llanbedr, 12.00 26 – Diwrnod Agored Hamdden Harlech ac Ardudwy, 10.00 – 3.00 Cysylltwch â Mai Roberts ar: mairoberts4@btinternet.com

R J Williams Honda Garej Talsarnau Ffôn: 01766 770286

CYNGOR CYMUNED HARLECH MATERION YN CODI Noson Goleuo Harlech Bu’r noson yn llwyddiannus iawn gyda llawer o bobl wedi ei mynychu. Gofynnwyd lle’r oedd yr addurniadau a arferai fod o amgylch yr ardal a chytunwyd i holi Mr Geraint Williams ynglŷn â hyn. Diolchodd y Cadeirydd i Mr Geraint Williams a phawb arall a fu’n brysur yn paratoi ar gyfer y noson. Swyddfa Bost Harlech Adroddodd Freya Bentham ei bod wedi cyfarfod â Ms Carol Williams o’r Swyddfa Bost a’u bod wedi clustnodi lleoliadau a fyddai’n addas i gynnal swyddfa bost ar foreau Mercher ac Iau. CEISIADAU CYNLLUNIO Ailwampio strwythurol yn cynnwys gosod cladin allanol – 13, 15 a 18 Y Waun, Harlech. Cefnogi’r cais hwn. Newid defnydd o D2 (mannau ymgynnull a hamdden) i B1, B2 a B8 (busnes, diwydiant cyffredinol a gwasanaethau storio neu ddosbarthu) yn cynnwys newidiadau allanol i greu agoriadau drws a ffenestri newydd – Hen Ganolfan Chwaraeon, Coleg Harlech. Cefnogi’r cais hwn. ADRODDIAD Y TRYSORYDD Ceisiadau am gymorth ariannol Partneriaeth Ardudwy - £250.00 GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd – Adran Briffyrdd Holwyd a fyddai’r Cyngor yn fodlon cymryd cyfrifoldeb am gae chwarae Y Waun neu’n gwybod am grwpiau eraill a fyddai’n fodlon gwneud hyn. Os oes diddordeb, bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal er mwyn datblygu’r ffordd orau o gydweithio a thrafod yr opsiynau un ai i drosglwyddo neu i weithio mewn partneriaeth. Cytunwyd i ddatgan bod gan y Cyngor ddiddordeb ac yn fodlon ystyried cymryd cyfrifoldeb mewn egwyddor am y maes chwarae yn y gymuned. UNRHYW FATER ARALL Datganwyd pryder sylweddol ymysg yr aelodau o glywed bod aelod o’r cyhoedd sy’n byw yn y dref wedi bod yn rhoi sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol am y Cyngor a hefyd am aelod unigol. Cytunwyd bod angen datgan nad yw’r Cyngor hwn yn croesawu nag yn caniatáu’r math yma o ymddygiad ag os bydd yn parhau ni fydd gan y Cyngor ddewis ond mynd â’r mater ymhellach. Mae rhai trigolion lleol yn gofyn a fyddai hi’n bosib sicrhau bod toiledau ger y Queens’ yn agored drwy gydol y flwyddyn a chytunodd Freya Bentham i gysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglŷn â hyn.

Stori Coed Felenrhyd a Llenyrch – digwyddiad gan Coed Cadw Ar ôl cloddio’n ddwfn yn ei storfa o straeon gwerin, mi fydd Dafydd Davies Hughes, Menter y Felin Uchaf, Rhoshirwaun, yn adrodd hanes y dewin Gwydion, o chwedlau’r Mabinogi, a ddaeth â byddin o goed yn fyw i ymladd wrth ei ochr mewn brwydr. Yn ôl y chwedl hon, digwyddodd y cyfan yn ein coetir hynafol hardd sef Coed Felenrhyd! Ymunwch â ni am 5.30yh yng Nghaffi Prysor, LL41 4DT, ar 15 Chwefror 2020, am bowlen o gawl blasus gyda rholiau. Wedyn, fe gewch chi ymweld â’r gwahanol stondinau: Prosiect Dyfodol Llenyrch – a darganfod beth mae ein gwirfoddolwyr wedi ei wneud yn ystod 2019 a beth sydd o’n blaenau ar gyfer 2020 Coedwigoedd Glaw Celtaidd De Eryri – cewch wybod sut y gallwch ymgolli yn y coetiroedd hardd hyn trwy gydol 2020 Bydd Dafydd yn adrodd ei straeon rhwng 7.30yh a 9.30yh. Addas ar gyfer oedolion. Mae’r pris yn cynnwys cinio. Mae angen neilltuo lle ymlaen llaw ac mae’r lleoedd yn gyfyngedig, felly sicrhewch eich lle yn fuan! Ewch i wefan Coed Cadw am fwy o fanylion.

POST YN HARLECH Bydd y post yn ailagor ar ddyddiau Llun a Mercher rhwng 10.00 a 12.00 yng Nghaffi’r Llew Glas. 11


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN

Merched y Wawr, Talsarnau wedi bod yn mwynhau cinio Nadolig ym Mhlas Tan y Bwlch ar 11 Rhagfyr Cynhaliwyd cinio Nadolig Cangen Talsarnau ym Mhlas Tan y Bwlch amser cinio dydd Mercher, 11eg o Ragfyr. Croesawyd bawb i Ystafell yr Oakeley gan Siriol Lewis, y Llywydd, ac wrth aros am y cinio, cymerodd y cyfle i gyflwyno rhai materion. Adroddwyd bod bwrdd gwerthu y gangen wedi gwneud elw o £60 yn Ffair Nadolig Neuadd Talsarnau ar 28 Tachwedd a diolchwyd i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw fodd. Bydd cyfarfod nesaf y gangen ar nos Lun, 13 Ionawr am 7 o’r gloch pryd y cawn gwmni Elgan Tudur Lewis yn sôn am fyw a gweithio yn yr Antarctig. Diolchodd Siriol i bawb am ddod gan obeithio iddynt fwynhau’r achlysur. Diolchodd hefyd i staff y Plas am y cinio ardderchog. Ffair Nadolig y Neuadd Cynhaliwyd y Ffair ar nos Iau, 28 Tachwedd a bu’n noson brysur gydag amryw o stondinau yn rhoi cyfle i bawb brynu ychydig o nwyddau at y Nadolig. Roedd yr adloniant hyfryd o garolau gan Band Bach Harlech yn ychwanegu at naws y noson a diolch i’r Band am ddod atom. Diolch i bawb a gefnogodd. Gwnaed elw o £208.90.

Damwain Dymunir gwellhad llwyr a buan i Gwion Davies, Draneogan Mawr, yn dilyn ei anffawd wythnos cyn y Nadolig, pryd y cafodd ddamwain a thorri asgwrn ger ei ben-glîn a bu raid iddo dreulio rhai dyddiau yn Ysbyty Gwynedd cyn i’w goes gael ei rhoi mewn plastr. Yn ffodus iawn, cafodd ddod adref i dreulio’r Nadolig gyda’r teulu.

Genedigaeth Llongyfarchiadau mawr i Geraint (Gwrach Ynys) a Rachael ar enedigaeth eu merch, Gracie, yn ddiweddar. Wyres gyntaf i Deborah, sydd eisoes yn nain i dri ŵyr! Yn anffodus, bu raid i Gracie gael ei chludo i Ysbyty Gwynedd ar frys, a hithau ond wythnos oed. Rydym yn falch o ddeall ei bod yn gwella’n araf erbyn hyn ac anfonwn ein dymuniadau gorau iddi hi a’i rhieni a’r teulu i gyd.

COLLI’R PARCH BOB HUGHES

Rydan ni wedi colli dyn arbennig iawn – un o’r hoelion wyth – a dyna ichi un o’n dywediadau yr oedd Bob yn hoff ohono fo. Fel y gwyddom i gyd, roedd yn ficer uchel iawn ei barch ac yn gyfaill triw i lawer ohonom. Mi fydd colled enfawr ar ei ôl. Roedd Bob yn ymgeisydd teilwng iawn ar gyfer y fywoliaeth yn Llanfihangel-ytraethau a thu hwnt. Wedi’r cyfan, roedd wedi’i fagu yn y plwyf ac roedd o’n nabod yr ardal yn dda, roedd yn ŵr cymeradwy gan bawb, roedd ganddo gefndir a phrofiad eang ac roedd o’n boblogaidd efo pobl ifanc. Roedd o hefyd wedi dysgu’r Gymraeg i safon dda – er fod peth swildod ynddo fo ac ychydig o ddiffyg hyder – yn ôl ei farn ef ei hun! Roedd yn hynod boblogaidd efo’r to ifanc a byddai’n eu paratoi’n ofalus ar gyfer dod yn aelodau cyflawn o’r Eglwys neu ar gyfer y rhai oedd yn dymuno priodi. Byddai’n gwahodd grwpiau bach i Glogwyn Melyn ac yn eu hannog i rannu eu teimladau a’u profiadau.

Gwn am lawer o bobl ifanc sy’n tystio i’r sylfaen a gawson nhw yng nghwmni Bob. Daeth criw bach ohonom at ein gilydd i sgwennu llythyr at yr Esgob yn tynnu sylw at ei ddoniau amlwg ar gyfer y fywoliaeth. O fewn ychydig wythnosau inni anfon y llythyr, fe benodwyd Bob Hughes i’r swydd yma yn Llanfihangel. Mi oedd yn benderfyniad doeth ac fe wnaeth Bob waith arbennig iawn yn ein plith - a hynny ar draws yr ystod oedrannau. Byddai’n paratoi’r ifanc yn ofalus ar gyfer eu derbyn yn aelodau llawn a byddai’n meithrin perthynas gyda’r rhai oedd yn dymuno priodi gan eu gwahodd i Glogwyn Melyn am seiadau melys. Roedd ganddo rywbeth gwerth ei ddweud bob dydd Sul a chawsom fendith fawr wrth wrando ar ei bregethau a theimlad ei bod yn werth dod i’r gwasanaeth gan fod ganddo neges amserol bob amser. Fel y gŵyr darllenwyr Llais Ardudwy yn dda, bu’n gyfaill agos iawn i nifer o bobl yn y plwyf hwn ac mi fu’n gefn i sawl teulu, yn arbennig y rhai fu mewn galar a phrofedigaeth; roedd o’n wych iawn. Fe wnaeth sawl cymwynas i’w blwyfolion – ond yn y dirgel bob amser. Diolch i Bob am ei weinidogaeth wych yn yr ardal hon. Da was, da a ffyddlon. Gwyn dy fyd. Cydymdeimlwn â Claire a Rachel a’u teuluoedd yn eu profedigaeth fawr. TW

SIOEAU NADOLIG YSGOL TALSARNAU

HEN WLAD FY NHADAU

12

Y BABANOD

Y LLEW FRENIN

Y PLANT HŶN


R J WILLIAMS IZUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU IZUZU

‘Perthi’ Ffordd Minffordd Penrhyndeudraeth Gwynedd Annwyl Olygydd Credaf mai ‘Llenyrch’ yw’r ffermdy yn y llun yn Llais Ardudwy mis Hydref. Y fferm uchaf ym mhlwyf Llandecwyn, ac wedi cerdded ddwsinau o weithiau yn ôl ac ymlaen i gasglu at y Genhadaeth pan yn blant. Atgofion melys am yr amser a fu. Cofion, Beti Jones Ymddiheurwn am fethu cynnwys enw Beti Jones ar derfyn ei llythyr yn y rhifyn diwethaf. [Gol.] Cyfeillion Neuadd Gymuned Talsarnau Gair bach i’ch atgoffa y bydd Cyfraniad Blynyddol 2020 Cyfeillion y Neuadd yn ddyledus ym mis Ionawr. Mae’r cyfraniad fel â ganlyn: £20 i deulu, hynny ydy, rhieni a phlant ysgol, £10 i oedolyn, a £5 i bensiynwyr. Bydd Pwyllgor y Neuadd yn dra diolchgar o dderbyn eich cyfraniadau a gwerthfawrogir pob cefnogaeth. A fyddwch mor garedig â rhoi eich cyfraniad un ai i Colin Rayner, Gwenda Griffiths neu Margaret Roberts? Byddwch yna’n derbyn tocyn aelodaeth am y flwyddyn. Diolch Diolch i Delyth Jones am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu ei thanysgrifiad.

Gyrfa Chwist Bu’n noson bleserus yn y Neuadd i’r Gyrfa Chwist nos Iau, 12 Rhagfyr, gyda nifer wedi dod i’r chwarae. Gwerthfawrogwyd y lluniaeth oedd wedi’i baratoi gan rai o aelodau Pwyllgor y Neuadd i’w fwynhau ar hanner amser. Roedd nifer dda o wobrau i’w hennill gyda sawl raffl a diolchwyd i bawb a gefnogodd y noson. Capel Newydd, Talsarnau Oedfaon am 6:00. Croeso i bawb IONAWR 5 - Dewi Tudur 8 - Oedfa dechrau blwyddyn am 7:00. Dewi Tudur yn pregethu. 12 - Dewi Tudur 19 - Eifion Jones 26 - Dewi Tudur CHWEFROR 2 - Dewi Tudur

Y DIAFOL YN Y LLUN Yn ddiweddar, derbyniwyd copi o dudalen o’r cyhoeddiad ‘Y Ford Gron’. Cyhoeddwyd y cylchgrawn hwn rhwng Tachwedd 1930 a Medi 1935. Yn ystod y pum mlynedd yma o fywyd y cyhoeddiad, cyhoeddwyd y testun isod, sef barn darllenwyr ‘Y Ford Gron’ am faterion yn ymwneud â Chapel Salem a hanes llun Curnow Vosper.

At: Olygydd ‘Y Ford Gron’ Diddorol yn y rhifyn diwethaf oedd ysgrif Mr Einion Evans ar y darlun ‘Salem’. Bûm unwaith gydag arlunydd y gŵyr Cymru amdano, yn gweld y darlun gwreiddiol. Dywedai mai cochl oedd yr enw ‘Salem’ arno, ac mai’r gwir deitl oedd y ‘Diafol yn y Cysegr,’ neu rywbeth tebyg. Portread ydyw, meddai’r arlunydd hwnnw, o falchder lle na ddylai fod – mewn capel, ac mewn un na ddisgwylid i falchder fod - yr aelod hynaf yn y capel. Dengys y cloc ac osgo’r addolwyr fod y cwrdd wedi hen ddechrau. Cawsai’r hen wraig siôl newydd, a’r Sul hwnnw yr oedd yn dangos honno “yng ngŵydd yr holl bobl.” Nid osgo un ar agor drws y sêt i fynd iddi sydd yn ei llaw dde, ond un yn crafu tipyn arni i dynnu sylw at ei hun. Cododd yr hen frawd fan acw’i ben, ac agorodd ei lygaid mewn syndod prudd. A dacw un o’r chwiorydd hynaf yn edrych dros gil ei hochr. Golwg wylaidd ddefosiynol sydd ar wynebau’r cynhulliad gwledig, ond yn nhrem yr hen wraig y mae cyferbyniad o falchder trahaus. Safer ychydig lathenni oddi wrthi gopi da o’r darlun ac edrycher arno trwy gil y llygad, ac fe welir yn union deg wyneb barflaes y gŵr drwg, ym mhlygion y siôl ym mraich aswy’r hen wraig. Deil hithau ei Beibl rywle yng

nghyfeiriad clust dde “Tywysog Balchder.” Unwaith y gwelir hwnnw’n glir, y mae fel y pos hwnnw gynt o Napoleon ym mrigau’r coed, - ni welir dim arall yn y darlun. A’r darlun, a’r hen wraig yn neilltuol, yn gefndir i’r Diafol. Rhydd yntau winc faleisus â’i lygad de ac egyr ei safn fel neidr i chwythu ei gwenwyn. Dangoswyd inni nodweddion eraill yn y darlun i’r un cyfeiriad, ond nid wyf yn eu cofio y funud yma. Os yw’r arlunydd hwnnw felly yn gywir yn ei ddyfaliad, nid yw “Salem” yn ddarlun prydferth iawn o fywyd crefyddol Cymru, fel y dywaid Mr Einion Evans. Ond mae rhyw gysur mai darlun o’r oes o’r blaen ydyw! JRW Cymeriadau “Salem” At: Olygydd ‘Y Ford Gron’ Llawer o ddiolch i Mr Einion Evans am ei ysgrif ddiddorol ar “Salem,” y darlun gan S Curnow Vosper. Cofia rhai o bobl Llanfair, Harlech a’r cylch y cymeriadau a ddarlunir ynddo. Yn y sedd gefn, fel y dywaid Mr Evans, eistedd Laura Williams, a fu farw’n ddiweddar iawn. Y dydd o’r blaen, cefais sgwrs â’i mab, Mr William Williams, Talsarnau, a thaflodd ei atgofion ef ychydig o oleuni pellach ar y darlun. Ef a osododd y tri llyfr yng nghongol sedd gyntaf, a bu’n eistedd gyda’i fam ar y cychwyn. Yr oedd amryw eraill yno hefyd, ond ymddengys i Mr Vosper newid ei syniad cyntaf, gan wneuthur Siân Owen y cymeriad pwysicaf a thorri rhai eraill allan. Yn ôl Mr William Williams, gwnaeth awdur eich erthygl un camsyniad. “Owen Jones, Carleg Goch, a elwid yn gyffredin Owen Siôn, ydyw’r brawd â’i law dan ei ben,” medd Mr Evans, ac ymhellach cyfeiria at frawd y gŵr hwnnw, William Jones (Wiliam Siôn), yr hen ŵr sy’n gweddïo yn y darlun. Diddorol yw sylw Mr William Williams na roddwyd Owen Jones yn y darlun o gwbl, ond mai tynnu llun ei frawd, Wiliam Siôn, ddwywaith a wnaeth yr arlunydd. Wiliam Siôn sydd yn y cefn, a Wiliam Siôn eto, wedi ei newid ychydig, sydd yn gweddïo ar y dde. TRH, Harlech Golygyddol: Oes gan unrhyw un sylw ar yr uchod, neu’n gwybod pwy oedd ‘JRW’ a ‘TRH, Harlech’?

13


HYSBYSEBION

Telerau gan Ann Lewis 01341 241297 ALUN WILLIAMS TRYDANWR GALLWCH HYSBYSEBU *YN Cartrefi Y * Masnachol BLWCH HWN * Diwydiannol AM £6 Ya Phrofi MIS Archwilio Ffôn: 07534 178831

e-bost:alunllyr@hotmail.com

14

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru


LLAWYSGRIF CYMRAEG WEDI EI DARGANFOD Dywed ymchwilydd llawysgrifol yn Aberystwyth ei fod yn methu credu ei fod wedi dod o hyd i lawysgrif Gymraeg o’r 1550au yn Sir Northampton. Mae gan y llawysgrif gysylltiad ag ardal Ardudwy oherwydd cafwyd hyd iddi yng nghasgliad Finch-Hatton o Kirby Hall yn Northampton. Arferai aelodau o’r teulu yma ymweld â Harlech ac aros yn y Plas ar Stryd Fawr Harlech ar un cyfnod, ac roedd ganddyn nhw gysylltiad agos â theulu Arglwydd Harlech, Glyn Cywarch. Ar hyn o bryd mae Gruffudd Antur, ar y cyd â’r ysgolhaig Daniel Huws, yn paratoi tair cyfrol arloesol ar lawysgrifau cysylltiedig â Chymru o c.800 i c.1800. Fel rhan o’r gwaith mae Gruffydd Antur wedi bod yn teithio i amrywiol lefydd er mwyn canfod llawysgrifau coll. Ar hyd y blynyddoedd mae nifer o lawysgrifau wedi’u canfod mewn mannau annisgwyl. Cafodd casgliad o achau Ynys Môn ei ganfod mewn archifdy yn Wakefield a chafwyd hyd i lawysgrif debyg yn Stafford. Hanes gwrthryfel Glyndŵr Ond mae’r llawysgrif y cafwyd hyd iddi yng nghasgliad FinchHatton wedi cael ei chopïo gan Syr Siôn Prys oddeutu 1550, ac mae’n cynnwys hanes gwrthryfel Glyndŵr. Siôn Prys oedd y gŵr a oedd yn gyfrifol am y llyfr Cymraeg cyntaf i’w argraffu (Yny Lhyvyr Hwnn, 1546) ac ef oedd perchennog Llyfr Du Caerfyrddin yn fuan ar ôl diddymiad y mynachlogydd. Yn ôl Gruffudd Antur mae’n llawysgrif ddigon diolwg ac mae’n hawdd “credu ei bod wedi llechu’n ddisylw yn yr un cartref ers canrifoedd”. Dywedodd: “Dwi’n gobeithio y bydd llawysgrif Northampton

William Williams Arall

Buom yn sôn llawer am William Williams, Pantycelyn yn ddiweddar, ond nid y fo ydi’r unig William Williams ym myd emynau Cymru. Na, mae yna sawl un arall y byddwn yn canu ei emynau. Un o’r rhain ydi William Williams o Lanbrynmair yn Sir Drefaldwyn neu Gwilym Cyfeiliog â rhoi iddo ei enw barddonol. Bu’n byw o 1801 hyd 1876. Roedd yn perthyn i’r teulu Roberts enwog o Lanbrynmair a gofalodd ei deulu ei fod yn cael addysg dda. Bu yn ysgol ei ewythr John Roberts ger ei gartref ac wedyn mewn ysgol yn y Trallwm. Yn ôl traddodiad, fe ddysgodd y bedair Efengyl air am air ar dafod leferydd yn ogystal â nifer helaeth o`r Salmau. Camp fawr yn wir. Wedi darfod yn y Trallwm aeth adref at ei dad i ffermio ond roedd ganddo olwg ar fusnes hefyd. Daeth yn berchennog ar felin wlân ac ar amryw o dai yn ardal Pont Dolgadfan. Dywedir bod safon uchel iawn ar y blancedi a gynhyrchai’r ffatri ganddo. Priododd dair gwaith a chafodd ddeg o blant i gyd. Mae’n siŵr fod dyletswyddau teuluol a masnachol yn ei

gadw’n dra phrysur. Mae`n rhyfeddol faint o lafur a gyflawnodd rhai o wroniaid oes Fictoria a hynny pan oedd rhaid ymdopi heb yr holl offer sydd gennym ni heddiw i hwyluso pob gwaith. Yng nghanol popeth, fe gyfansoddodd Gwilym Cyfeiliog swmp helaeth o farddoniaeth hefo’r rhan fwyaf ohono yn y mesurau caeth. Ar ôl iddo farw aeth un o’i feibion, Richard Williams oedd yn gyfreithiwr yn y Trallwm, i gasglu gwaith ei dad a’i gyhoeddi mewn cyfrol. Enw’r gyfrol ydi Caniadau Cyfeiliog ac mae hi’n anodd cael copi erbyn heddiw. Fel llawer o feirdd cynhyrchiol ei oes, ychydig iawn o ddiddordeb sydd yn y rhan fwyaf o’i waith i ni yn yr oes hon. Aeth yr awdlau hirfaith a’r cywyddau sychion i ebargofiant. Ond mae rhai o’i emynau wedi byw. Hyd yn oed yn awr, mae ei emyn rhif 536 yn y Caneuon Ffydd yn cael ei ganu o bryd i’w gilydd: ‘Caed trefn i faddau pechod yn yr Iawn...’ Ond emyn enwocaf Gwilym Cyfeiliog ydi’r un sydd wedi ei rhifo 768 yn Caneuon Ffydd: ‘Myfi’r pechadur penna’, fel yr wyf, wynebaf i Galfaria fel yr wyf; nid oes o fewn yr hollfyd ond hwn i gadw bywyd; ynghanol môr o adfyd, fel yr wyf, mi ganaf gân f ’Anwylyd fel yr wyf.’ Un pennill sydd yn Caneuon Ffydd ond mae hwnnw wedi ei gyplysu ar hyd y blynyddoedd hefo pennill arall ar yr un mesur gan ŵr o’r enw Hugh Jones ac mae’r ddau hefo’i gilydd eto yn y casgliad hwn. Gŵr o Lanwnda

yn Sir Gaernarfon oedd Hugh Jones (1781-1825). Ei ddewis enw barddonol oedd Gwyndaf Ieuanc. Ychydig o’i waith sydd ar gael ac hyd y gwn ni chasglwyd dim o’i waith i gyfrol. Enillodd y gadair yn Eisteddfod Tremadog yn 1812 ond ychydig iawn a wyddom am Gwyndaf Ieuanc. Fodd bynnag, mae pennill o emyn o’i eiddo wedi byw ar ôl ei glymu hefo pennill Gwilym Cyfeiliog: ‘Mae’r Oen fu ar Galfaria wrth fy modd, Efengyl a’i thrysorau wrth fy modd: mae llwybrau ei orchmynion a grym ei addewidion a hyfryd wleddoedd Seion wrth fy modd; a chwmni`r pererinion wrth fy modd.’ Ac fe allwn gredu yn hawdd fod yr hen grefyddwyr wedi cael aml i fendith wrth ganu ac ail ganu’r geiriau, yn enwedig ar yr hen dôn Tŵr Gwyn (rhif 622 yn Caneuon Ffydd). Ond mae yna stori arall. Wn i ddim a ydi hi’n wir chwaith. Yn ôl rhai, yr oedd yna hen bregethwr wedi mynd i hwyliau go iawn yn y pwlpud ac wedi bod yn ei thiwnio hi yn y modd mwya yn y bregeth hefo’r blaenoriaid yn porthi ac yn amenio eu gorau yn y sêt fawr. I ddiweddu’r oedfa, fe lediodd yr hen frawd yr emyn yma ond yng nghyffro’r funud fe gamddarllennodd y pennill cyntaf ‘Myfi’r pechadur penna’, wrth fy modd...’ Gobeithio nad ydi’r stori’n wir ynte? JBW

yn taflu goleuni newydd ar Siôn Prys fel gŵr sy’n pontio rhwng sawl gwahanol fyd - rhwng y traddodiad llawysgrifol ar y naill law a byd newydd y wasg argraffu ar y llaw arall, a hefyd rhwng y beirdd a dysgedigion Lloegr. “Dyma lawysgrif sy’n cynnig pob math o wybodaeth newydd am y ffynonellau llawysgrif a llafar oedd ar gael - a’r berthynas agos rhwng dyneiddwyr fel Siôn Prys a beirdd fel Ieuan ap Huw Cae Llwyd, Gruffudd Hiraethog a

Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan.” ‘Calonogi dyn’ Ychwanega Gruffydd Antur bod y testunau sydd yn y llawysgrif hefyd yn ddiddorol am nad oes neb wedi’u gweld o’r blaen ac maent yn taflu goleuni newydd ar feirdd fel Maredudd ap Rhys. “Ond yr hyn sy’n fwyaf difyr yw cyd-destun y testunau - mae’r rhain yn hynod werthfawr. “Mae dod o hyd i bethau

newydd, cyffrous fel hyn yn calonogi dyn,” meddai. Mae cyhoeddi’r cyfrolau yn brosiect rhwng Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol. Yn ogystal â rhoi manylion am y llawysgrifau bydd y cyfrolau hefyd yn rhoi gwybodaeth am yr ysgrifwyr ac yn cyflwyno delweddau o’r llawysgrifau. Mae disgwyl i’r cyfrolau gael eu cyhoeddi ym mis Medi 2020.

15


LLADRON AR WAITH

SGAMIO O BOB MATH YN YR ARDAL HON!

Mae sawl un ym Mro Ardudwy wedi bod yn agos i gael eu twyllo gan sgamwyr yn ystod y misoedd diwethaf. Ymddengys ein bod ni yn rhy barod i ymddiried mewn pobl ddieithr sy’n ein ffonio neu’n sgwennu atom. Mae ymchwil yn dangos ei bod yn dacteg dda i ddweud wrth y sgamwyr faint sydd yna tan y Sul! Yn ôl sawl cydnabod, mae siarad Cymraeg efo nhw yn gweithio’n dda iawn! Dyma i chi restr o ddulliau’r sgamwyr: 1. Eich persawdio chi i ryddhau arian o’ch cyfrif banc. Yn aml, mae negeseuon y sgamwyr yn debyg iawn i neges swyddogol y banc - boed ar e-bost neu ffôn. Y tric ganddyn nhw ydi dweud eu bod yn cysylltu o’r adran dwyll. Maen nhw’n gwneud hyn yn aml ar bnawn Gwener er mwyn dwyn eich arian cyn i unrhyw un sylwi. Cofiwch na fydd eich banc byth yn eich ffonio. 2. Bil am arian dyledus gan yr Awdurdod Cyllid a Thollau [Treth Incwm]. Yn aml, mae logo’r Awdurdod ar y bil. Weithiau ceir sgam debyg gan yr Awdurdod Trwyddedu. Anwybyddwch nhw. Dydi pobl Cyllid a Thollau byth yn anfon bil - anfon llythyr maen nhw yn nodi eu bod am newid eich côd. 3. Galwad ffôn gan ‘Amazon Prime’. Mi gewch alwad yn nodi eich bod yn ddyledus o swm penodol ee £49.99. Wrth i chi ateb, maen nhw’n dweud fod rhywun wedi ceisio eich sgamio ac wedyn maen nhw’n gwneud eu gorau i’ch sgamio. Dydi pobl Amazon go iawn byth yn ffonio cwsmeriaid. Addysg gynnar a gofal 4. Galwad ffôn gan BT, Openreach neu Microsoft yn dweud eu bod am dorri eich cyflenwad. Rhowch y ffôn i lawr yn syth a pheidiwch â rhannu unrhyw gyfrinair efo nhw. 5. Neges destun gan Apple yn dweud y bydd eich ID yn cael ei ddileu onibai eich bod yn clicio ar y cyswllt. Sgam ydi hwn hefyd. Fe ddywedan nhw hefyd fod gennych fil mawr sydd angen ei dalu’n syth. Peidiwch â chlicio - gwasgwch y botwm ‘dileu’. 6. Ennill cystadleuaeth fawr e.e. £500 gan Argos. Os nad ydych chi wedi rhoi cynnig ar y gystadleuaeth - dydych chi ddim wedi ennill. A does dim o’r fath beth ag arian am ddim! 7. Adolygiad pensiwn am ddim. Mae hon yn sgam gyffredin er bod y Llywodraeth wedi gwahardd pobl rhag ffonio fel hyn. 8. Cariadon ar lein. Wedi ichi ‘ddod i nabod’ y cariad, mae’n dechrau gofyn am arian; symiau bychan ar y dechrau ac wedyn mae’r symiau’n mynd yn fwy. Ac mae pobl yn ofni dweud wrth neb rhag codi cywilydd. Os oes rhywun yn cynnig rhywbeth am ddim ichi - mi ddylsech ei 3030awr yryr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi’u awr wythnos o addysg gynnar a gofal plant amau yn syth!

Cynnig Cynnig Gofal Gofal Plant PlantCymru Cymru Addysg gynnar a gofal

hariannu gan y Llywodraeth i rieni cymwys sy’n gweithio wedi’u hariannu gan y Llywodraeth i rieni cymwys ac sydd â phlant tair a phedair oed, a hynny am hyd at sy’n gweithio ac â phlant tair a phedair oed, 48 sydd wythnos y flwyddyn. a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

AmAm fwy o fanylion fwy o fanylioncysylltwch cysylltwch gydag gyda Uned GofalPlant PlantGwynedd Gwynedd a Môn Uned Gofal Môn Ffôn: 01248352436 352436 Ffôn: 01248 E-bost: gofalplant30awr@gwynedd.llyw.cymru E-bost: gofalplant30awr@gwynedd.llyw.cymru

Caffi’r Pwll Nofio Harlech Dydd Sadwrn, Ionawr 11, am 2.30 Tocynnau: £1 y gêm

SAMARIAID LLINELL GYMRAEG 08081 640123


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.