Llais Ardudwy Ionawr 2022

Page 1

‘Mae diffyg cydnabod llawer o waith cefndir gan Gyngor Gwynedd. Er enghraifft, mae asesiad adolygu ffyrdd a yrrwyd i Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2021 yn dangos y byddai gostyngiad o 3.6% yn lefel CO2 yn Llanbedr.’ ‘Mae fel petai’r ymchwil yma wedi ei ddiystyru’n llwyr.’ Cyng Dyfrig Siencyn ‘Mae anghysonderau yn yr adolygiad wrth eithrio ffyrdd cyswllt diwydiant trwm, sef y ffyrdd mwyaf llygredig, o’r ymchwiliad, ond oedi’r ffyrdd cyswllt diwydiant ysgafn, sy’n gwasanaethu ardaloedd gwledig, fel Llanbedr.’

Lis Saville Roberts AS ‘Mae’r adroddiad a ddarparwyd yn ddiffygiol iawn.’

Daeth bron i 200 o bobl draw i’r hangar ym Maes Awyr Llanbedr brynhawn ddydd Gwener, 10 Rhagfyr i leisio eu barn a chlywed am y sefyllfa ddiweddaraf gan y gwleidyddion sy’n cynrychioli’r ardal a chan y trigolion. Y

Cyng Dyfrig Siencyn ‘Mae Ardudwy a Llanbedr yn un o’r ardaloedd tlotaf o safbwynt cyflogaeth. Yn sicr, byddaf yn codi hyn yn Senedd Llundain lle mae sôn mawr am lefelu-i-fyny. Buasai’r ffordd osgoi yn fuddsoddiad gwerthfawr iawn i’r ardal.’

‘Beth pe bai ambiwlans neu’r frigâd dân eisiau mynd drwy Lanbedr ar frys?’ John Richards, Llandecwyn

Blas ar y drafodaeth

RHIF 516 - IONAWR 2022 ‘Dyw rhesymeg nac ymchwil yr adroddiad ar yr amgylchedd ddim yn taro deuddeg. Does dim sylwedd na swmp i’r gwaith ac mae cwestiynau dybryd angen eu hateb am fanylder yr ymchwil a wnaed gan banel y Llywodraeth.’

YNFRWYDRPARHAU!

Cyng Annwen Hughes ‘Mae gennym gynlluniau i ddatblygu gweithgareddau gwrth-garbon megis tanwydd synthetig a hydrogen.’ ‘Rhaid inni gael gwell ffyrdd yn ne Gwynedd er mwyn i lorïau sy’n cludo offer mawr fedru cyrraedd yn ddidrafferth ac o fewn amser rhesymol.’

‘Mae’r buddsoddiad yma yn arfordir Ardudwy yn bitw o’i chymharu â’r hyn mae’r llefydd mwy yn ei gael, ond yn gwbl angenrheidiol. Mae gan drigolion Llanbedr achos cyfiawn yma, er lles eu hiechyd, eu diogelwch, a lles cymunedolmae’r angen am y ffordd osgoi yn glir.’

Dr David Naylor, Harlech

Mabon ap Gwynfor AC ‘Ddaru swyddogion y Cynulliad ddim hyd yn oed trafod y mater gyda ni.’

‘Mae’r costau sydd ynghlwm â’r gwaith hyd yma yn ddigon i rywun gwestiynu oedi datblygu’r ffordd yma.’

David Young, Maes Awyr Llanbedr ‘Bu raid i Gyngor Gwynedd wrthod y £7miliwn o grant a gynigiwyd gan y Gymuned Ewropeaidd at y ffordd osgoi.’

Llais Ardudwy 70c

Dr John Idris Jones, Cadeirydd Ardal Fenter Eryri ‘Dwi’n annog pobl i nodi eu hanfodlonrwydd ac arwyddo’r ddeiseb i gyfleu eu teimladau. Mae’n bwysig i ni ddangos i Lywodraeth Cymru bod gwrthod datblygu’r ffordd yma’n cael effaith pellgyrhaeddol ar ein pentref a holl arfordir Ardudwy. Dyw’r ffaith ein bod ni’n ddaearyddol bell o Gaerdydd ddim yn esgus i’r Llywodraeth anghofio amdanon ni. Dwi’n erfyn ar bawb yn y fro i ymateb ac yn annog eraill i lofnodi’r ddeiseb er mwyn i ni ddadlau’r achos yn gryf.’

SWYDDOGION Cadeirydd Hefina Griffith 01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, ann.cath.lewis@gmail.comLlandanwg Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn y Llidiart, Llanbedr Gwynedd LL45 llaisardudwy@outlook.com2NA Côd Sortio: 40-37-13 Rhif y Cyfrif: 61074229 Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, iwan.mor.lewis@gmail.comLlandanwg CASGLWYR NEWYDDION YLLEOLBermo Grace Williams 01341 280788 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Mai Roberts 01341 242744 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Jennifer Greenwood 01341 241517 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Gosodir y rhifyn nesaf ar Chwefror 4 a bydd ar werth ar Chwefror 9. Newyddion i law Haf Meredydd erbyn diwedd Ionawr os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw’r golygyddion o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei Dilynwchllafar.’ ni ar ‘Facebook’ @llaisardudwy GOLYGYDDION 1. Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 pmostert56@gmail.com780635

Gweld cartrefi o’m cwmpas yn cael eu prynu gan Saeson, a phobl ifanc yr ardal yn methu eu fforddio. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Ei fod yna bob amser pan fydd angen. Pwy yw eich arwr? Rhys Meirion, fel canwr a chyflwynydd radio bendigedig, er nad wyf yn deall llawer am ganu.

Sut ydych chi’n cadw’n iach? Er fy mod wedi ymddeol o ffarmio, rwy’n dal i weithio dipyn; yn torri porfa a chario’r plant i’r ysgol. Rwy’n credu’n gryf mewn cael digon o ymarfer corff.

Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon? Fy chwaer yng nghyfraith Elinor Evans, Moelfre, Llanbedr, yn edrych mor dda, ac yn dal i ddreifio yn nawdeg tri oed. Faint o saff yw hi, sa i’n siŵr!

2. Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 anwen15cynos@gmail.com772960

3. Haf Newyddion/erthyglauMeredydd i: 01766hmeredydd21@gmail.com780541/07483857716

Rwy’n credu mai gartref yn Annedd Wen wyf hapusaf a chael ambell i glonc gyda’r cymdogion sydd yn galw, pan oedd hawl i alw ganddynt. Ar hyn o bryd mae hi’n eitha diflas, ond gobeithio y daw haul ar fryn yn fuan yn y flwyddyn newydd. Beth fuasech chi’n ei wneud efo £5,000? Ei rannu i’r wyrion, i’w helpu dipyn bach gyda chostau coleg. Eich hoff liw a pham? Rydw i’n eitha hoff o’r lliw gwyrdd. Ges i ddigon ar y lliw coch pan oeddwn yn benthyg arian ers talwm. Eich hoff flodyn a pham? Rydw i’n credu mai briallu yw’r gorau gennyf. Os cewch chi drwch o friallu yn eich gardd, wnaiff dieithriaid ddim sylwi cymaint ar y chwyn wedyn. Eich hoff ddarnau o gerddoriaeth? Clywed Dai Llanilar yn canu ‘Mi glywaf dyner lais’ (anfarwol).

Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? ‘Ar eich cais’ yw fy hoff raglen radio, a Phobl y Cwm a Cefn Gwlad ar y teledu, ond rwy’n teimlo nad yw’r telu ddim cystal ag y bu. Ydych chi’n bwyta’n dda? Ydwyf, yn rhy dda weithiau. Hoff fwyd? Yn hoff iawn o samon ffres wedi ffrio a thatws rhost, a phys. Dyw’r dannedd ddim cystal ag y buont i gnoi cig, yn enwedig os yw yn wydn. Yn eitha hoff o goffi, ond yn yfed llawer o ddŵr oer bob dydd. Credaf ei fod yn beth iach i’w wneud. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Y wraig a’r plant a’r wyrion a Sali, yr hen ast fach i fwyta’r sbarion. Lle sydd orau gennych? Rhwng Aberarth a Llanon mae golygfeydd godidog. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Ddim yn hoffi gwyliau rhyw lawer, lle bynnag wyf yn mynd yn pallu setlo i lawr; dim ond edrych ymlaen i ddod adref yn ôl. Beth sy’n eich gwylltio?

Beth yw eich bai mwyaf? Mae’r wraig yn dweud mai siarad gormod ydw i ond dyna fo, hi sy’n deud. Beth yw eich syniad o hapusrwydd?

Pa dalent hoffech chi ei chael? Hoffwn allu canu, ond yn anobeithiol, mae arnaf ofn. Eich hoff ddywediad? Daw eto haul ar fryn. Heb iechyd, poen yw bywyd.

Er ei gael yn aur i gyd. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Yn ddiolchgar bod fy iechyd cystal, a hyd yma yn teimlo yn eitha ystwyth. Credaf y gallaf ddweud fy mod yn mynd yn hŷn heb fynd yn hen.

HOLI HWN A’R LLALL 2 Enw: Iorwerth Evans Gwaith: Wedi ymddeol ar ôl bod yn ffermio am bron i ddeugain mlynedd. Cefndir: Cefais fy ngeni yn Gellibant, bachgen o Gwm Nantcol, yn fab i’r diweddar John a Harriet Evans, Nantcol, ac yn un o ddeg o blant, a dim ond fi sydd ar ôl rŵan.

Beth ydych chi’n ei ddarllen? Llyfrau hunangofiant fwyaf, dim llawer o nofelau, fel dywed yr hen air (mwyn yw sdwna mewn hanes dynion).

3

Cyfle i bobl ifanc

i lwyddo ym mro eu Maemebyd.ceisiadau ar agor rŵan. Er mwyn ymgeisio bydd angen i’r bobl ifanc fod rhwng 18-30 oed a bydd gofyn iddyn nhw fod yn byw yng Ngwynedd neu Fôn neu ddod yn wreiddiol o’r ddwy ardal. Cyllidir y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd gefnogaeth gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor ffurflenamCysylltwchGwynedd.âJade@mentermon.comfwyowybodaethneuidderbyngaisermwynymgeisio. CATRIN LOIS JONES Swyddog Cyfathrebu Menter Môn 01248 725700 07376 431432 1,000,000 o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 Neges i siaradwyr Cymraeg presennol Mae holl ddarllenwyr Llais Ardudwy yn gwybod mai dyma yw targed Llywodraeth Cymru. Diau hefyd y byddwch yn dymuno gweld hyn yn digwydd yn llwyddiannus. Faint ohonoch sydd wedi meddwl sut y gwireddir hyn a sut y gallwch fod yn rhan o’r ymgyrch? A ydych yn meddwl mai rhywbeth i’r llywodraeth ydi o? Mae’n wir bod ariannu ysgolion Cymraeg ac athrawon, trefnu cyrsiau, cefnogi

Dyna lle mae gan y rhai ohonom sy’n ffodus o fod yn siaradwyr Cymraeg ddyletswydd. Gwn y byddwch oll yn croesawu pob un sy’n gwneud yr ymdrech i ddysgu ond mae angen mynd gam ymhellach. I ddod yn siaradwr newydd mae pob dysgwyr angen ymarfer a dyma sut y gallwn ni sy’n siarad Cymraeg wneud ein rhan. Dyma rai awgrymiadau. Wrth gyfarfod dysgwr siaradwch Gymraeg. Yn aml iawn, ar ôl ychydig o frawddegau yn Gymraeg, mae siaradwyr Cymraeg yn troi i’r Saesneg. Dwi wedi gweld hyn yn digwydd yn aml ac wedi siarad gyda dysgwyr/siaradwyr newydd sy’n dweud fod hyn yn rhwystredig iawn. Tybiaf mai’r rheswm yn aml yw ein bod yn foesgar ac nac ydym eisiau rhoi gormod o bwysau ar y dysgwyr. Daliwch ati ond siaradwch yn glir ac yn bwyllog. Wrth gwrs, mae’n dibynnu pa mor rugl yw’r dysgwyr ond mae yn bwysig dal ati gyda’r Gymraeg a gadael i’r dysgwyr droi i’r Saesneg os bydd angen. Rheswm arall fod siaradwr yn troi i’r Saesneg yw er mwyn cael sgwrsio’n rhwydd. Mae hyn yn ddealladwy ond eto mae’n bwysig dal ati yn Gymraeg am gyfnod beth bynnag. Gallwch hyd yn oed ofyn am faint y dylech chi ddal ati i siarad yn Gymraeg. Peth sydd yn digwydd yn aml yw bod rhywun oedd yn arfer siarad Saesneg wedi dysgu Cymraeg yn eithaf rhugl ond bod y rhai sy’n eu hadnabod yn dda’n dal i’w cyfarch yn Saesneg. Mae hyn yn digwydd am fod yr arferiad o siarad Saesneg yn anodd ei newid. Byddwch yn ymwybodol o hyn a gwnewch ymdrech i newid. Mae’n bwysig ein bod yn croesawu ac yn hybu pob dysgwr. Mae’n golygu ymdrech fawr i ddysgu iaith a rhaid gwerthfawrogi hynny. Mae’n dderbyniol i gywiro ychydig ond peidiwch â bod yn rhy feirniadol. Dyma i chi adduned blwyddyn newydd: Dwi yn mynd i roi cymorth i bob dysgwr droi yn siaradwr newydd! Neges i ddysgwyr Yn gyntaf diolch i chi am wneud yr ymdrech i ddysgu. Rydym yn gwerthfawrogi’r ymdrech ac yn eich croesawu i’r gymuned o siaradwyr YCymraeg.negesichi ydi byddwch yn hyderus a mynnu defnyddio’r hyn yr ydych wedi ei ddysgu faint bynnag yw hynny. Peidiwch ag ofni gwneud camgymeriad. Gallwch droi i’r Saesneg i ofyn am gyngor os bydd angen. Mae hefyd yn hollol ddealladwy i droi i Saesneg am sgwrs hir neu os am fod yn hollol sicr bod eich neges yn gywir. Yr adduned blwyddyn newydd i chi yw: Dwi yn mynd i fod yn hyderus yn defnyddio Cymraeg er mwyn dod yn siaradwr newydd. Grŵp Dysgu Cymraeg yn Ardudwy

Cyfle unigryw i entrepreneur! Rhaglen hyfforddiant busnes a chymorth ariannol i gefnogi busnesau sy’n ymateb i heriau cymdeithasol. Mae cynllun gan Menter Môn, Llwyddo’n Lleol 2050, am gynnig cefnogaeth unigryw i griw o bobl ifanc sy’n awyddus i ddatblygu eu syniad busnes eu hunain. Dyma gyfle i dderbyn hyfforddiant busnes dros gyfnod o ddeg wythnos yn ogystal â chefnogaeth ariannol fydd o gymorth wrth symud y syniadau busnes yn eu Byddblaen.y cynllun yn cefnogi syniadau busnes sydd yn ymateb i her gymunedol. Gall y gymuned hon fod yn un ddaearyddol, yn gymuned o bobl, neu yn fusnes sydd yn ceisio creu cymuned newydd. Dyma gyfle gwych i greu gwelliant cymunedol ac i gael bod yn rhan o brosiect sydd yn cefnogi pobl ifanc mudiadau fel yr Urdd, eisteddfodau ac, wrth gwrs, papurau bro yn rhan bwysig o hybu’r iaith ond sut mae troi dysgwyr yn siaradwyr newydd?

DiolchRHODDIONNANTCOLamyrhoddionaganlyn:

Morris DolbebinEvans,a’rEog Nodyn gan Evie Morgan Jones

Mae ychydig gopïau ar ôl

Carol Blygain o Lanbedr Diolch Hoffai teulu’r diweddar Gwenda Titley ddiolch o galon am bob mynegiant o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth. Rhodd Huchenfeld£20 Gwahoddiad i gyfarfod Zoom gan ein ffrindiau yn Huchenfeld. Rydan ni wedi cael gwahoddiad gan Petra Alexy i ymuno â chyfarfod Zoom efo ein ffrindiau Almaenig yn Huchenfeld ar ddydd Gwener yr 21ain o fis Ionawr. Os oes gennoch chi ddiddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â Jennifer Greenwood (01341 241517) am fwy o fanylion. Llais Ardudwy 2022.qxp_Layout 8:29

Gwaeddodd arno a rhedodd y person anhysbys i ffwrdd a gadael y samon ar lawr ar y lan. Doedd gan Morris neb i’w amddiffyn yn y llys a gofynnodd a gai o groesholi Emrys, y Cipar swyddogol. Cafodd ganiatâd gan y fainc a gofynnodd Morris iddo a oedd o wedi ei weld yn tynnu’r samon allan o’r afon. Atebiad Emrys oedd nac oedd. Daeth Morris yn rhydd o’r cyhuddiad heb unrhyw gosb. Roeddwn i yn cario’r samon allan o’r llys yn falch o’r dyfarniad ond pwy oedd ar yr ochr arall i’r ffordd ond Edgar, cipar arall a brawd i Emrys.

Darllenais y deyrnged am Morris Evans yn y rhifyn diwethaf o Llais Ardudwy ac mi wnes ei mwynhau yn arw. Hoffwn ychwanegu ychydig at y stori am yr eog a gynhwyswyd yn y Roeddwndeyrnged. i a Jarret, Dinas yn y llys i wrando’r achos. Eglurodd Morris ar y dechrau mai ef oedd Cipar yr afon i Syr John Black. Roedd yn cerdded i lawr i gyfeiriad yr afon pan welodd rywun yn tynnu samon o’r afon.

am Page 1 CALENDR2022Pris:£5.00

Tybed faint o’n darllenwyr sy’n gwybod mai dyn o Lanbedr oedd awdur y garol isod? Bu’n gweithio am gyfnod ym melin Gwern Einion ac yn ennill bywoliaeth drwy wneud cewyll cimychiaid a gwau sanau a mynd â nhw ar gefn mul i’w gwerthu mewn ffeiriau. Byddai hefyd yn mynd â baledi a charolau Plygain o’i waith ei hun. Ei enw gan ei gymdogion a phobol y ffeiriau oedd Siôn RoeddPen-y-garth.ynywladhonno

4 LLANBEDR, CWM BYCHAN A

Lorraine Coe, Llanbedr £10 Bethan Ifan, Aberystwyth £10 Dotwen Jones, Cilgwri £10 Teulu’r ‘Crossing’, Harlech £20

Llais2022Ardudwy Calendr

1 19/07/2021

Gwaeddodd arnaf i ddod a’r samon iddo fo gan egluro mae eiddo’r Bwrdd Afonydd oedd o. Ys gwn i beth ddigwyddodd i’r samon wedyn? Dyna i chi hanes y llys a’r samon.

fugeiliaid yn gwylio Eu praidd rhag eu llarpio’r un lle; Daeth angel yr Arglwydd mewn didwyll fodd dedwydd I draethu iddynt newydd o’r ne’, Gan hyddysg gyhoeddi fod Crist wedi’i eni, Mawr ydyw daioni Duw Iôr; Bugeiliaid pan aethon’ i Fethlem dre’ dirion Hwy gawson’ Un cyfion mewn côr: Mab Duw tragwyddoldeb yn gorwedd mewn preseb Tri’n undeb mewn purdeb heb ball, Cydganwn ogoniant yn felys ei foliant, Fe’n tynnodd o feddiant y fall. Nac ofnwch, blant Seion, fe welir duwiolion A’u gynau’n dra gwynion i gyd, Yn lân wedi’u cannu yng ngwerthfawr waed Iesu, Er maint fu i’w baeddu’n y byd; Yn rhyddion o’u cystudd yn canmol eu Harglwydd, Yn cario hardd balmwydd bob un Mewn teyrnas uwch daear, fel haul yn dra hawddgar, Heb garchar na galar na gwŷn: A’r bachgen bach Iesu fydd testun y canu, Fu’n gwaedu i’n prynu ar y pren; Yn ffyddlon gantorion, o nifer plant Seion, Bôm ninnau’r un moddion, Amen. John Richards (Siôn Ebrill) 1745-1836

• datblygu gyrfa: cael gwell swydd

• meithrin gwell perthynas gydag eraill,

• arbrofi mwy gyda bwydydd o dramor,

OwenSgidiau dringo Bessie Williams eto

Wrh i chi feddwl am addunedau blwyddyn newydd gallech ystyried rhai o’r rhain:

• anfon erthygl i Llais Ardudwy!

• cyfrannu mwy at achosion da,

5

• gwneud mwy i warchod yr amgylchedd,

• gwella iechyd: colli pwysau, gwneud mwy o ymarfer corff, bwyta’n iach, yfed llai o alcohol, stopio ysmygu, peidio cnoi ewinedd,

Rwyf yn atodi ‘Llythyr i’r Golygydd’ i Llais Ardudwy ynglyn â’r erthygl “Bessie Williams, y Crydd, a’r Sgidiau Dringo Mynyddoedd, ac Anturiaethau Eraill” yr oeddech yn garedig iawn yn ei gyhoeddi yn y Llais yn Mis Medi 2021. Hefyd llun i fynd efo fo ‘Aelodau’r Urdd ar gopa Ben Nevis yn 1953’. Credaf fod cynnwys y llythyr yn ‘hunanesboniadol’ ac rwyf felly yn ymddiheuro i chwi oll sy’n gyfrifol am baratoi a chyhoeddi’r papur, am fod trefn y digwyddiadau a grybwyllir yn yr erthygl yn anghywir mae’n ddrwg gen i ddweud. Cefais wybod gan Goronwy Morris a oedd ar y daith i’r Alban yn 1963 efo fi ac hefyd cefais gymorth gan arweinydd y daith, Iolo ap Gwynn a chael lluniau ganddo o’r daith. Mae’r ddau wedi rhoi caniatâd i mi ddefnyddio eu henwau a Iolo roddodd y llun o gopa Ben Nevis i mi. I esbonio y digwyddiad anffodus o fod gyda chof gwael ar y tro wrth ysgrifennu’r erthygl ac i egluro’r drefn gywir, rwyf wedi ceisio gwneud hynny yn y llythyr hwn. Alun

• gwella addysg: cael canlyniadau gwell, dysgu rhywbeth newydd (megis iaith dramor neu gerddoriaeth), astudio’n amlach,

• gwirfoddoli i helpu eraill,

• gwella eich hun - bod yn fwy trefnus, delio’n well â straen, rheoli amser, bod yn fwy annibynnol, gwylio llai o deledu, chwarae llai o gemau fideo, • cerdded mwy,

• ehangu cylch ffrindiau,

AddunedauPoblogaidd

Tachwedd 24, 2021 Annwyl ddarllenwyr, Mae’n siŵr nad ydy’r rhan fwyaf o ddarllenwyr oedrannus Llais Ardudwy yn cofio’n glir beth oedd dyddiadau arbennig gwahanol ddigwyddiadau amrywiol yn eu bywydau drigain mlynedd yn ôl. Ddrwg gen i ddweud fy mod yn euog, ac felly dyma gywiro rhai pwyntiau yn erthygl ‘Bessie Williams, y Crydd, a’r Sgidiau Dringo Mynyddoedd ac Anturiaethau Eraill’ a gyhoeddwyd yn y Llais mis Medi 2021. Rhaid imi ymddiheuro i ddarllenwyr Llais Ardudwy yn gyffredinol oherwydd fod trefn y digwyddiadau a ddisgrifiwyd yn yr erthygl yn anghywir. Fy niolch i Goronwy Morris, o’r Bermo gynt, (a oedd gyda ni ar y daith i’r Alban gyda grŵp yr Urdd o wersyll Glan-llyn), am ofyn yn union pa flwyddyn oedd hi. Cefais wybod fod y trip o dan arweinyddiaeth (Dr) Iolo ap Gwynn. Ar ôl ychydig o ymchwil llwyddais i gysylltu â Iolo a chael gwybod mai 1963 oedd y flwyddyn. Anfonodd Iolo luniau o’r trip i mi. Drwy edrych ac astudio’r lluniau yn ofalus mae’n bosib gweld fod yr esgidiau mawr a gefais gan Bessie Williams ar fy nhraed yn yr Alban! Roedd y daith ar y beics o amgylch de Cymru yn haf poeth 1959 ac wedyn ymunais â Chlwb Dringo Porthmadog, yn hwyrach yn 1960. Yr un pryd prynais y sgidiau dringo oddi wrth Bessie ac felly roeddwn wedi dringo a cherdded ynddynt am dros dair mlynedd a chael eu gwisgo bob amser gyda’r clwb. Ar ôl y daith wnes i ei mwynhau i’r Alban gyda’r Urdd yn haf 1963, ffarweliais ag Ysgol Ardudwy a chychwyn yn y coleg yn Lerpwl yn y mis Medi. Hefyd ffarwelio ag esgidiau dringo Bessie Williams a buddsoddi £25 o’r grant coleg i sgidiau Vibram newydd o’r Eidal o siop Ellis Brigham yn Lerpwl. Mae’r llun olaf o’r trip i’r Alban (a’r sgidiau mawr) gyda’r grŵp ar gopa Ben Nevis a baner y Ddraig Goch yn cyhwfan yn y gwynt fel yn y llun gan Iolo. Gweld llythyr Heather Zolman yn y Llais mis Tachwedd yn sôn am Bessie Williams ac rwyf yn cytuno gyda hi. Roedd Bessie yn ddynes anghyffredin a chymeriad hynod, yn grefftwr eithriadol ac yn trwsio a gofalu fod sgidiau pwrpasol i bawb yn Llanbedr dros y pumdegau a’r chwedegau. Roeddwn yn ddiolchar iawn am y sgidiau mawr a brynais gan Bessie. Gwelsant lawer o greigiau a mynyddoedd ar draws y wlad. Yn Alungywir,Owen Aelodau’r Urdd ar gopa Ben Nevis ar ddiwedd y daith i’r Alban yn 1963

• gwella eich sefyllfa ariannol; dileu dyled, cynilo mwy,

Merched y Wawr Harlech a Llanfair Ymunodd 65 o aelodau o Ferched y Wawr Rhanbarth Meirionnydd mewn gwasanaeth Llith a Charol ar nos Lun 6ed o Ragfyr trwy gyfrwng Zoom. Trefnwyd y gwasanaeth gan Eirian Jones, Ysgrifennydd Rhanbarth ac Olwen Jones, Llywydd Rhanbarth. Cymerwyd rhan gan 12 aelod o wahanol ardaloedd, gyda datganiadau cerddorol hyfryd, darlleniadau addas o’r Beibl a darnau o farddoniaeth Nadoligaidd oedd yn gosod naws y Nadolig i ni. Ar noson stormus, y 7fed o Ragfyr, daeth 8 o aelodau’r gangen gyda’u blodau a’u deiliach i noson trefnu blodau. Edwina oedd yn arwain y noson. Dangosodd sut i wneud trefniant efo 3 blodyn a ninnau i wneud trefniant ein hunain gyda’r blodau oedd gennym ni.

MATERION CYNGOR GWYNEDD Nododd y Cyng Annwen Hughes ei bod wedi cychwyn deiseb yn gofyn i’r Llywodraeth ailfeddwl ynghylch Ffordd Osgoi Llanbedr a bod hon wedi cyrraedd bron i 2,000 erbyn hyn.

UNRHYW FATER ARALL Mae pantiau mawr sy’n llenwi hefo dŵr a mwd o amgylch y giât mochyn sydd rhwng Argoed ac Ymwlch ar y clawdd Cafwydllanw. gwybod bod rheolwr newydd, sef Mr Michael Griffith, wedi cychwyn yn Hamdden Harlech ac Ardudwy a’i fod yn awyddus i ddod i un o gyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol.

Clwb Celf Cafodd aelodau Clwb Celf Llanfair ginio Nadolig ardderchog yng nghaffi Canolfan Hamdden Harlech Ardudwy. Yn y llun mae Jean Storey, aelod a fu gyda’r Clwb am flynyddoedd lawer, a’r Cadeirydd, Tony King.

Aeth pawb adre gyda threfniant addas ar gyfer y Nadolig wedi paned, mins pei a bisged Aberffro wedi eu paratoi gan Bronwen. Diolchodd Eirlys i bawb oedd wedi cyfrannu at y noson.

MATERION YN CODI Llinellau melyn ger stesion Llandanwg Adroddodd y Clerc ei bod, fel Cynghorydd Gwynedd yr ardal, wedi cysylltu gydag Iwan ap Trefor ynglŷn â’r mater uchod ond nad oed diweddariad wedi ei dderbyn. Hefyd adroddodd ei bod wedi cysylltu eto gyda Mr ap Trefor i ofyn pryd y byddai adroddiad y cynllun hwn yn mynd o flaen pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd. Cafwyd gwybod gan y Cyng Hughes ei bod wedi cael gwybod gan Mr ap Trefor y bydd arwyddion rhybudd yn cael eu gosod bob ochor i’r bont ar ffordd Llandanwg ac y bydd yr arwyddion newydd yn cynnwys arwydd i rybuddio gyrwyr o’r bont yn ogystal ag arwyddion o dan yr arwydd i ofyn i yrwyr ‘Arafwch Rŵan’ a dangoswyd cynllun o’r arwyddion. Hefyd roedd y Cyng Hughes wedi cael canlyniadau’r mesurydd traffig oedd wedi ei osod ar y ffordd i lawr am Landanwg rhwng 26 Awst ac 1 Medi, ag roedd hwn yn darllen bod cyfartaledd y cyflymder yn 25.6 mya a bod 85% o geir yn teithio ar 30.4 mya neu oddi tano. CEISIADAU CYNLLUNIO Newidiadau i’r garej atodol presennol i ymgorffori to brig gyda llechi, gosod dormer a rhoi ffenestr a drws newydd ar y drychiad gorllewinol - Mayfield, Llandanwg. Cefnogi’r cais hwn.

CLWB CELF LLANFAIR

6 LLANFAIR A LLANDANWG CYMUNEDCYNGORLLANFAIR

Dyma’r pennill roedd Mair Davies o Gwm Gwaun yn ei adrodd: Mae dydd Calan wedi gwawrio Dydd tra hynod, dydd i’w gofio Dydd i roi a dydd i dderbyn Yw y trydydd dydd ar ddeg o’r Rhowchflwyddynyn hael i’r rhai gwael Pawb sy’n ffyddlon i roi rhoddion Yw’r rhai hynny sydd yn cael. Y Berllan Byddai’r plant yn cario afal wedi’i addurno gyda nhw o dŷ i dŷ er mwyn dod â lwc dda. Rhan bwysig o ddydd Calan oedd addurno afal. Bydden nhw’n gosod tri darn o bren ar waelod yr afal i wneud coesau. Byddai darnau o almwnd yn cael eu gosod yn yr afal wedyn a dail bytholwyrdd yn cael eu gosod ar ei Wedi’rben. daith o gwmpas yr ardal byddai’r afal yn cael ei arddangos yn y cartref neu’n cael ei roi’n anrheg i ffrindiau fel arwydd o lwc dda.

Arferion Blwyddyn Newydd

Codwyd rhannau o’r erthygl hon o’r cylchgrawn Parallel.cymru Diau y bydd rhai ohonoch yn cofio rhai o’r arferion. Beth am anfon pwt atom? Fuoch chi’n hel calennig? Yn lle? Beth oeddech chi’n ei ganu?

Hel Calennig ym mhentref Trefeurig ger Aberystwyth yn yr 1960au Hel Calennig Cyn ac ar ôl y newid yn y calendr, roedd y traddodiad o hel calennig yn boblogaidd dros Gymru gyfan. Ar ddechrau’r flwyddyn newydd, roedd y plant yn edrych ymlaen at gael cyfle i lenwi eu pocedi ag arian ac anrhegion Byddai’rcalennig.plant yn mynd i gasglu calennig yn ystod y bore ar ddiwrnod cynta’r flwyddyn. Bydden nhw’n ymweld â’r ffermydd a’r tai yn yr ardal gan ganu penillion a gofyn am galen nig, ond byddai’n rhaid gwneud hyn i gyd cyn hanner dydd.

Ond er mwyn i chi gael lwc wirioneddol dda fe ddylai’r dyn yma gario darn o lo, tafell o fara a darn o arian. Byddai hyn yn sicrhau cynhesrwydd, bwyd a chyfoeth i chi drwy’r flwyddyn. Mewn rhannau o Geredigion roedd hi’n lwcus i ferch weld dyn yn gyntaf ond yn anlwcus i ddyn weld merch gyntaf. Yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro roedd hi’n anlwcus i ferch weld merch yn gyntaf. Mewn rhai ardaloedd wedyn roedd hi’n anlwcus i weld dyn â gwallt coch yn gyntaf. Dyma’r rhigwm calennig mwyaf Blwyddynpoblogaidd:Newydd dda i chi Ac i bawb sydd yn y tŷ, Dyma fy nymuniad i, Blwyddyn Newydd dda i chi. Ym Mlaenau Ffestiniog roedd y plant yn canu hwn: Rhowch galennig yn galonnog, I blant bach sydd heb un geiniog, Gymaint rhoddwch, rhowch yn ddiddig.

chi roi cynnig at wneud eich ‘perllan’ eich hun? Ysbrydion Coel arall yn ymwneud â’r Calan oedd bod ysbrydion y meirw yn crwydro‘r wlad ar ddiwrnod ola’r flwyddyn er mwyn ffarwelio â’r flwyddyn honno. Dyma pam mae’n debyg fod pobl yn closio at ei gilydd ar y noson arbennig hon gan adrodd straeon a chynnal noson lawen. Coelcerth y Calan Ers talwm hefyd byddai pobl yn croesawu’r flwyddyn newydd drwy adeiladu coelcerth fawr. Byddai pobl yn codi’r goelcerth yng nghanol y dref neu’r pentref a byddai pawb yn sefyll o’i chwmpas. Byddai’r trigolion wedyn yn gadael i’r tanau oedd yn eu cartrefi ddiffodd. Byddai hyn yn rhoi diwedd ar yr hen flwyddyn. Byddai’r goelcerth yn rhoi croeso gwresog i’r flwyddyn newydd. Dyledion Roedd pobl yn credu y byddai eich gweithredoedd ar ddydd Calan yn penderfynu beth fyddech chi’n ei wneud weddill y flwyddyn. Dylech chi felly beidio â benthyg arian i neb na benthyg arian eich hun ar ddydd Calan. Hefyd roedd hi’n bwysig gwneud yn siŵr bod pob dyled wedi ei thalu cyn hanner nos ar nos Galan neu fe fyddech mewn dyled am flwyddyn gyfan. Ymwelydd Mae’r bobl sy’n dod i ymweld â chi gyntaf ar ddydd Calan yn bwysig. Yn draddodiadol, dim ond dynion â gwallt tywyll sy’n derbyn croeso yng nghartrefi Cymru ar fore Calan. Bydd gŵr tywyll sy’n troedio dros y trothwy yn dod â lwc dda i’r cartref drwy’r flwyddyn.

7

‘Perllan’ – afal calennig wedi ei addurno Mewn rhai ardaloedd o’r de ‘perllan’ oedd yr enw am yr afal calennig hwn. Roedd yr afal yn cael ei addurno â gwahanol blanhigion am wahanol resymau, ee llawryf er gogoniant; celyn ar gyfer rhagweld; rhosmari er mwyn cofio; bocs er mwyn dewrder a lafant i sicrhau digonedd dros y Bethflwyddyn.ami

am farwolaeth

iawn

Enddwyn

Bu

Croeso adref Braf iawn oedd gweld Ceri Ann Williams, Glanffrwd, Tal-y-bont adref o Melbourne, Awstralia dros gyfnod y Nadolig. Nid yw wedi bod gartref ers iddi ymfudo dros 7 mlynedd yn ôl. Croeso adref iti Ceri.

yn mynychu

39

a

Dyffryn. Cydymdeimlwn yn fawr â’r teulu yn eu profedigaeth. Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb am 10.00 o’r gloch y bore IONAWR 9 Parch Eric Greene 16 Anthia a Gwennie 23 Edward ac Enid 30 Andrew Settatree CHWEFROR 6 Jean ac Einir Cydymdeimlad Bu farw

DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT 8 CYNGOR CYHOEDDIADAU’RTHAL-Y-BONTDYFFRYNCYMUNEDACADEIRYDD Diolchwyd i Siôn Ifor Williams, Edward Griffiths ac Edward Williams ynghyd â Mr Ellis Williams a Mr Danny Quinn am helpu i osod y goeden Nadolig yn Nhal-y-bont. Mae’n amlwg bod mwyafrif yr aelodau yn fodlon cynnal y cyfarfod yn y Neuadd gan ddilyn y canllawiau priodol. Dim ond tri aelod oedd wedi datgan eu bod eisiau cynnal y cyfarfod drwy gyfrwng Zoom. CEISIADAU CYNLLUNIO Gosod mast telathrebu 20m o uchderTir ger Broomfield, Tal-y-bont. Roedd pryder nad oedd y lleoliad presennol yn Ailwampioaddas. strwythurol yn cynnwys gosod cladin allanol, 14-25 Pentre Uchaf. Cefnogi’r cais hwn. Newidiadau i greu anecs defnydd domestig achlysurol i Dŷ Meirion -Tŷ Meirion. Cefnogi’r cais hwn. Estyniad amser preswyl y 22 caban am feddiannaeth rhwng 1 Mawrth a 31 Ionawr y flwyddyn ganlynol. Defnyddio Caban rhif 18 yn lle 13 fel llety parhaol i’r staff - Maes Carafanau Rhinog, Ffordd Yr Orsaf. Cefnogi’r cais Caniatâdhwn. Adeilad Rhestredig i drosi a chreu 4 tŷ newydd farchnad agoredTaltreuddyn Fawr. Cefnogi’r cais hwn cyn belled â bod amod 106 yn cael ei roi ar y tai os bydd y cais cynllunio yn cael caniatâd neu’r swm perthnasol yn cael ei dalu. MATERION YN CODI Parc Chwarae Pentre Uchaf Bu’r Cyngor yn llwyddiannus gyda chais grant y parc chwarae uchod o Gronfa Cae Chwarae Cyfalaf Cyngor Gwynedd ac fe arwyddwyd y Ffurflen Derbyn Grant gan y Cadeirydd a’r Clerc. Cytunodd y Cadeirydd i gysylltu gyda chwmni G L Jones ynglŷn â gosod y sleid newydd. Hefyd cafwyd gwybod gan y Clerc ei bod wedi derbyn adroddiad o archwiliad yr offer chwarae gan gwmni Play Inspection Company a chytunwyd i anfon copi o’r adroddiad hwn i bob aelod.

ohonoch. Cydymdeimlad

Awelfryn,

Gwasanaeth Nadolig Ar Ragfyr 12, cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig yn Horeb. Trefnwyd y Gwasanaeth gan Mai Roberts gyda phawb oedd yno’n cymryd rhan. Roedd y festri wedi ei haddurno’n hardd iawn gan Mai a Rhian. Diolch yn fawr i’r ddwy Trist oedd clywed Mrs Diana Cozens, Llanbedr ar Ragfyr 5. Mr Mrs Cozens yn byw ym Mro am flynyddoedd a’r plant Ysgol Jayne Margaret Sydenham, Glanysgethin, Tal-y-bont yn Ysbyty Gwynedd ar 16 Rhagfyr. Cynhelir gwasanaeth angladdol yn yr Amlosgfa ym Mangor ar 5 Ionawr. Cydymdeimlwn â’r teulu yn eu profedigaeth lem. Dymuno’n dda Ein dymuniadau gorau i Hefin Evans, Eithin Fynydd sydd gartref ar ôl ymweld ag Ysbyty Gwynedd dros y gwyliau. Llongyfarch Llongyfarchiadau mawr i Dafydd Foulkes a Ffion Thomas, Tŷ Ni, Dyffryn ar eu dyweddïad. Hefyd i Siôn Wellings a Masara Sandells, Awelfryn ar eu dyweddïad yn Efrog Newydd cyn y Nadolig. Dymuniadau gorau iddyn nhw yn y dyfodol.

9

ENGLYN NADOLIG Celyn a thelyn a thân - ar aelwyd, A charoli diddan; A’r hen fyd i gyd yn gân O achos y Mab Bychan. Robert Owen

Dyma’r diweddar Mrs Beti Roberts, ysgrifennydd Cylch Meithrin Dyffryn Ardudwy ar y pryd, a Mrs Gill Brown, yn barod i gerdded gyda’r plant o’r Neuadd Bentref draw i’r ysgol Roeddgynradd.Betiyn un o sylfaenwyr yr Ysgol Feithrin ac yn aelod gweithgar o’r Pwyllgor. Fe’i gwnaed yn aelod anrhydeddus am oes yn Nhachwedd Ar1986.ôl cynorthwyo i godi arian i adeiladu ein cartref presennol sef Cylch Meithrin y Gromlech, etholwyd Beti fel un o’r CawsomYmddiriedolwyr.sawlcyfle i ymweld â Bellaport i weld yr anifeiliaid a mwynhau picnic, gan dderbyn croeso cynnes iawn bob tro. Dymuna Cylch Meithrin y Gromlech ddiolch am y siec teilwng iawn a dderbyniwyd er cof am Beti gan Ken, Idriswyn, Llinos a’u teuluoedd. Defnyddir y rhodd i barhau â’r gwaith a gychwynnwyd gan Beti a’r arloeswyr cyntaf yn ôl yn 1967.

CYFRANIAD BETI

Mae’n glir ei bod yn sobor o anodd croesi’r bont pan fo cerbyd yn dod o’r cyfeiriad arall. Mae llawer o’n darllenwyr wedi cael y profiad o gyfarfod tractor a threlar, bws, lorri, fan, carafan a hyd yn oed beic ar y bont. Ac, wrth gwrs, pwy sy’n dweud mai dim ond ym misoedd yr haf y mae hyn yn ddigwydd? Fe welwch o’r llun uchod hefyd pa mor gul yw’r llwybr ar ochr y bont. Siawns na fydd raid disgwyl am ddamwain ddifrifol cyn y bydd gwleidyddion yn gweithredu. Lluniau: Facebook Afraid nodi bod y ffordd o’r Bermo i Lanelltyd hefyd yn gul, yn enwedig yn Aberamffra a Thaicynhaeaf. Mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru feddwl o ddifrif am wella’r ffyrdd yn y rhan hon o’r wlad.

Dywed rhai unigolion, a chriw bach iawn ydyn nhw, y buasai goleuadau traffig yn ateb i’r broblem drafnidiaeth ym mhentref Llanbedr. Mae’r syniad yn swnio’n hawdd nes i chi dyrchu ychydig a meddwl am beth fuasai’n digwydd yn ymarferol. Buasai raid i’r system oleuadau wasanaethu o leiaf 3 ffordd os nad 4 ffordd. I weithio’n iawn, buasai angen cadw’r lonydd lle mae’r traffig yn ciwio yn glir. Ond buasai raid cadw’r lonydd eraill yn glir hefyd - ar gyfer y traffig sy’n gyrru drwodd. O weithredu system oleuadau, buasai raid cyfyngu’n llwyr ar barcio er mwyn sicrhau bod rhan helaeth o’r ffordd yn glir ddydd a nos. Mewn gair, buasai angen llinellau melyn dwbl ar rannau helaeth o’r pentref..

10 FFYRDD CULION

Tybed i ba raddau mae pobl Llanbedr yn fodlon byw gyda chyfyngiadau parcio ar hyd darn mawr o’r pentref? A thybed lle mae’r cerbydau i gyd yn mynd i gael llefydd parcio os bydd rhaid gwahardd parcio ar y stryd? A fuasech chi yn fodlon cadeirio unrhyw gyfarfod a fuasai’n cynnig gwneud hynny yn y pentref?

Os ydych am sgwennu i gwyno, dyma gyfeiriad y Prif Weinidog: Mark Drakeford, 395 Cowbridge Road East, Treganna/Canton, Caerdydd CF5 1JG. Gallwch anfon copi o’r neges at Mabon.Ap.Gwynfor@Senedd.Cymru

11 YN ARDUDWY

Y ffordd ger Tregwylan, Talsarnau Mae’r ddau lun yn dangos yn glir pa mor anodd ydi hi ar fodurwyr pan fo bws, lorri, tractor llydan, fan fawr, carafan, neu gampafan ar daith. Afraid dweud bod y gornel ‘ddall’ yn beryglus hefyd.

O Lanfair i ben rhiw Dewi Dant, Harlech Mae’r llwybr troed o Lanfair yn dod i ben yn sydyn ar ôl rhyw ganllath a hanner o Fron Deg. Wedyn mae’n anodd drybeilig i ddau gerbyd llydan fynd heibio’i gilydd. Mae’n beryg bywyd cerdded ar hyd y ffordd yn y nos.

Pont Tal-y-bont O leiaf mae hon yn weddol ddiogel i gerddwyr ond mae’n amlwg ei bod yn annigonol i draffig. Pwy ddaw i’r ardal i ddatblygu busnes pan fo safon ein ffyrdd mor ddiffygiol? Tybed a fuon ni’n rhy dawel yn y gorffennol?

12 AMSEROLCERDD Llongyfarchiadau i Mary Jones, Dolgellau; Angharad Morris, Y Waun, Wrecsam; Janet Mostert, Harlech; Bethan Ifan, Llanbadarn Fawr; Dotwen Jones, Cilgwri Wirral Anfonwch eich atebion i’r Ddrysfa Geiriau at Phil Mostert. [Manylion ar dudalen 2]. A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y Atebion sgwâr geiriau Gerallt Rhun - Rhif 10 Sgwâr Geiriau Rhif 11 - Gerallt Rhun 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 G PhA I RHIF 112 21 1 27 10 20 19 26 25 15 G 3 25 6 8 4 I 26 A 2 26 18 7 12 8 26 11 14 10 14 6 8 9 26 4 14 26 24 18 14 24 23 6 13 24 4 3 10 13 8 10 26 23 10 11 2 3 27 6 9 6 13 7 14 26 4 22 11 26 14 18 19 3 12 10 15 4 15 26 24 25 16 16 18 24 3 15 20 6 15 6 18 17 10 6 11 4 10 13 15 13 26 8 16 25 4 19 3 12 26 8 16 3 13 4 26 2 26 18 4 18 4 5 10 13 Diolch i ffyddloniaid y pôs am eich dycnwch. Gobeithio na fu gormod o grafu pen a melltithio’r awduron ! Dymuniadau gorau am y flwyddyn sydd o’n blaenau. Daliwch ati, mae pob adborth yn cael ei drysori. G Rh IONAWR Wyt Ionawr yn oer A’th farrug yn wyn; A pha beth a wnaethost I ddŵr y llyn? Mae iâr fach yr hesg Yn cadw’n ei thŷ, Heb le i fordwyo Na throchi ei phlu. Wyt Ionawr yn oer A’th farrug yn wyn; Ac nid oes uchedydd Na grug ar fryn; O liaws y lawnt, Ni welaf ond un, O’r pridd wedi codi Fel pe drwy ei hun. Wyt Ionawr yn oer A’th farrug yn wyn; A sigli yr adar O frig yr ynn; Ni cheir ar y coed Griafol fel bu— Mae’r frongoch a’r fwyalch O dŷ i dŷ. Wyt Ionawr yn oer A’th farrug yn wyn; Ac ni fedd pob aelwyd Ar hin fel hyn; Mae rhywrai heb dŷ, A rhywrai heb dân, A rhywrai heb fara, Na chwsg na chân. Eifion Wyn Iâr fach yr hesg

13 Eisiau gweithio gyda phlant bach? Mae nifer o wahanol swyddi ar gael mewn Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd Mudiad Meithrin. Am sgwrs pellach: Leanne.marsh@meithrin.cymru neu ffoniwch 01970 639639 Dyma gyfle i chi gyflwyno’r Gymraeg i blant bach yn eich ardal chi. Byddwch yn cael pleser o’u gweld yn datblygu’n siaradwyr Cymraeg hyderus gan wybod eich bod chi wedi cyfrannu at hynny! Am wybodaeth am ein holl swyddi ewch i’n gwefan –www.meithrin.cymru/prentisiaethwww.meithrin.cymru/swyddi Angen cymhwyster gofal plant? Mae gennym nifer o gyrsiau ar gael i’ch helpu –1022320elusen:Rhif Trefnwyr Angladdau • Gofal Personol 24 awr • Capel Gorffwys • Cynlluniau Angladd Rhagdaledig Heol Dulyn, Tremadog. Ffôn: 01766 post@pritchardgriffiths.co.uk512091DewchNEWYDDHYBRIDCOROLLAiroicynnig ar yrru’r Corolla newydd! Mae ’na ganmol mawr i hwn! Ffordd info@harlech.toyota.co.ukwww.harlech.toyota.co.uk01766HarlechNewyddLL462PS780432 Twitter@harlech_toyotafacebook.com/harlech. TOYOTA HARLECH i’nNewyddBlwyddynDdadarllenwyr

Colli May Ar Ragfyr 6 bu farw May Wells, gweddw’r diweddar Albert, yn 93 oed, yng Nghartref Bryn Seiont Newydd, Caernarfon. Bu’n byw am flynyddoedd lawer yn Yr Ogof, Ynys, Talsarnau. Cydymdeimlwn â’i merch, Jennifer, a’i hwyrion Huw a Jenny. Cynhaliwyd gwasanaeth preifat yn Eglwys Llanfihangel-y-traethau ar Ragfyr 14. Bu’n gweithio yn London House a bu’n rhedeg caffi Jac Do am rai blynyddoedd. Wedyn bu’n gweithio gyda Blower’s Exhausts ac fel prif weinyddes yng Ngwesty Dewi Sant. Wedi hynny bu’n gweithio gyda’r gwasanaeth Pryd ar Glud, lle roedd hi’n boblogaidd iawn. Roedd yn gosod ei thŷ i ymwelwyr a chadwai gysylltiad clos ag ambell un hyd at yn weddol ddiweddar. Gyda’i ffrind Megan, roedd yn gefnogwraig selog i nosweithiau coffi yn yr ardal. Un o’i phrif bleserau oedd gwrando ar Radio Cymru ac ymhlith ei ffefrynnau yr oedd John ac Alun, Wil Morgan a’r diweddar Tommo. Yn sicr, fe roddodd yr Ynys ar fap Radio Cymru. Coffa da amdani. Merched y Wawr Cafwyd croeso cynnes i ddeg o aelodau ym Mhlas Tan y Bwlch p’nawn dydd Gwener, 3 Rhagfyr pan gawsom fwynhau cinio Nadolig blasus iawn yn Ystafell yr Oakeley. Gweinyddwyd y bwyd gan staff dymunol mewn awyrgylch gyfforddus. Cyn i’r bwyd gyrraedd, croesawodd Siriol, ein Llywydd, bawb yno, gan ddweud mor braf oedd gweld Frances wedi gallu ymuno, er ar ei baglau! yn dilyn ei damwain anffodus. Byddwn yn cyfarfod yn Neuadd Talsarnau, pnawn dydd Llun, 10 Ionawr am 2.00 o’r gloch i gyfarfod cyntaf y flwyddyn newydd i gael dipyn o Frethyn Cartref, a bydd croeso i unrhyw un wneud cyfraniad. Ar ôl y bwyta, tynnwyd y raffl ac roedd gwobr fach i bawb. Pleserus iawn oedd y cymdeithasu a’r sgwrsio braf, gyda phawb wedi gwerthfawrogi’r cyfle i gyd-fwynhau cinio Nadolig unwaith eto. Gwellhad Da yw gallu dweud bod Geraint Williams adref o’r Ysbyty erbyn hyn ac yn gwella. Rydym yn anfon cofion a dymuniadau gorau ato. Newyddion trist Daeth y newyddion trist dydd Sadwrn, 18 Rhagfyr am farwolaeth disymwth y Parch Anita Parry Ephraim. Tua 27 mlynedd yn ôl daethom i adnabod Anita gyntaf pan ddechreuodd bregethu yng Nghapel Bryntecwyn, Llandecwyn a daethom yn gyfeillion da. Yn 2006, fe’i hordeiniwyd yn Weinidog ar yr eglwys a pharhaodd yn y gwaith am bron i 12 mlynedd hyd nes i’r eglwys gau yn 2018. Byddai’n paratoi’n drylwyr ar gyfer popeth, yn enwedig gwasanaeth i blant yr Ysgol Sul at y Diolchgarwch a’r Nadolig bob blwyddyn, a phob amser yn mwynhau dod i Fryntecwyn i gynnal oedfa. Bu’n ffrind da i ni, yn ogystal â gweinidog, ac rydym yn anfon cydymdeimlad dwys iawn at Gwil, ei gŵr, a’r plant, Siôn, Tomos a Cadi yn eu colled enbyd a’u galar mawr. Ymddangos ar y teledu Hyfryd iawn oedd gweld Alis Glyn, merch Rhian a Glyn Tomos, ac wyres Mathew a Mai Jones, Bryn Eithin, Llandecwyn, ar y teledu ddwywaith adeg y Nadolig. Bu Alis yn cael cyfweliad gan Elin Fflur ar raglen Prynhawn Da dydd Gwener, 24 Rhagfyr, ac yn canu un o’i chaneuon newydd, ‘Anrheg’; yna ar ddiwrnod Nadolig, ar Noson Lawen yr Ifanc, bu’n canu ‘Sêr’ - cân newydd arall. Mae Alis wrth ei bodd yn cyfansoddi’r geiriau a’r gerddoriaeth i’w chaneuon i gyd ac yn cael pleser mawr wrth eu canu.

RHAGLEN ADUNIAD ar RhaglenIonawrS4C13igofiofy

14 TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN

Hysybyseb Bersonol

mrawd Glyn (Dave Curtis) Cofion o’r ffin Elwyn o’r Gwndwn gynt

Capel Newydd IONAWR 2 - Dewi Tudur 9 - Dafydd Job 16 - DT 23 - DT 30 - DT CHWEFROR 6 - DT 13 – T Roberts-Young Mae croeso i bawb ymuno hefo ni yn yr oedfaon nos Sul am 6:00 ond gofynnwn, yn garedig, i chi gysylltu hefo ni fel bod sedd gadw i chi. Ewch i’n safle we am fwy o wybodaethcapelnewydd.org neu ffonio 770953.

Genedigaeth Llongyfarchiadau i Laura a Dewi, Dolgellau ar enedigaeth eu mab Hari Wyn Thomas yn Ysbyty Maelor ar 6ed Rhagfyr. Roedd hyn yn newyddion da iawn i Geraint Williams, Garej Talsarnau [taid!] ac yntau yn Ysbyty Gwynedd ar y pryd. Bydd yn edrych ymlaen at weld ei ŵyr bach am y tro cyntaf. Pob dymuniad da i’r teulu i gyd. Cydymdeimlad Estynnwn ein cydymdeimlad ag Owain Llŷr a Deian Rhys (meibion y diweddar Islwyn a Nia Pritchard Jones, Ynys gynt) yn eu profedigaeth o golli eu nain, Llinos Llyfni Hughes, ar 20 Rhagfyr. Cofion cynnes at y brodyr a’r teulu oll.

Fel rhyw ôl nodyn bach, gan ei bod yn tynnu at flwyddyn newydd, a phobl o bosib yn cael ysfa i glirio a gwaredu hen bethau, apêl fach, - os oes gennych chi hen luniau / dogfennau a chyswllt â Thalsarnau a’r Cylch, byddem yn falch iawn o gael eu benthyg am ychydig er mwyn eu sganio.

Penderfynu mynd allan am ginio Nadolig i Glwb Golff Porthmadog wnaeth criw bach Trysorau Talsarnau a chafwyd pryd arbennig o flasus mewn awyrgylch gynnes a chroesawgar a’r gwasanaeth a’r gweini heb ei ail. Yn y llun fe welwch y criw yn mwynhau eu pryd.

15

Mae’n holl oedfaon ar You tube, ar sianel ‘eglwys efengylaidd ardudwy’. Cofion annwyl a Blwyddyn Newydd Dda/well i holl ddarllenwyr Llais Ardudwy. Os gallwn fod o help, mewn unrhyw ffordd, mae croeso i chi gysylltu. Yn rhwymau’r Efengyl, DT TRYSORAU TALSARNAU

Cinio Nadolig Trysorau Talsarnau Yn rhannol oherwydd yr aflwydd Covid-19 bu Cyngor Gwynedd eleni yn rhedeg cynllun Pontio’r Cenedlaethau. Ymdrech mae’n debyg oedd hon i gael pobl, yn arbennig pobl hŷn, i ail afael yn eu bywydau ar ôl cyfnod hir o ynysu hwyrach, a throi allan i ail ddechrau cymdeithasu. Mae’r grŵp Trysorau Talsarnau wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd ar foreau Llun yn Neuadd Gymuned Talsarnau ers nifer o flynyddoedd bellach, yn hel gwybodaeth am amrywiol agweddau ar fywyd yr ardal gan ganolbwyntio ar bentref Talsarnau yn naturiol, ond hefyd Llandecwyn, Soar, Eisingrug, Yr Ynys a Glanywern. Fel gŵyr rhai ohonoch, mae’n siŵr, mae llawer o’r wybodaeth i’w gael ar y safle we www. talsarnau.com gan gynnwys yn agos i 20 o fideos byrion yn cyfleu hanesion a Onddigwyddiadau.felpawbarall, fe ddaeth y Covid-19 a rhoi sbaner yn sbôcs y digwyddiadau a chawsom ni ddim cyfarfod am gyfnod hir oedd yn ymddangos fel oes. Byddai wedi bod yn hawdd peidio ag ail gychwyn – mae hynny yn rhywbeth allai ddigwydd yn hawdd i lawer o ddigwyddiadau, cymdeithasau, corau ac ati, a byddai hynny yn resyn gwirioneddol. Rhaid canmol Cyngor Gwynedd am eu gweledigaeth i annog cefnogi pobl hŷn yn arbennig drwy gynnig grant i grwpiau i gynnal gweithgareddau megis cinio Nadolig, cwis, ymweliad neu unrhyw weithgaredd arall.

MeistrGradd

Llongyfarchiadau i Stefan Roberts, Erw Beudy, Llandecwyn ar ennill ei MSc dosbarth cyntaf o Brifysgol Lancaster. Bydd yn dechrau ar ei gwrs PhD ym Mhrifysgol Lerpwl ar y 1 Ionawr i astudio topoleg wahaniaethol ‘differential topology’. Pob lwc i ti, Stef. (Mae Stefan yn fab i Kate Whitehead, o Harlech yn wreiddiol, llys fab i Dr Bill Whitehead, ŵyr i John a Sonia Thomas a gor-ŵyr i Sally Bridle, Tŷ’n y Ffridd, Ynys).

Mr Gwion Owens a’r staff a disgyblion yr ysgol ar eu gwaith gwych yn cynhyrchu sioe Nadolig er gwaetha’r anawsterau niferus eleni. Roedd rheolau Covid-19 yn golygu nad oedd modd i’r rhieni a chyfeillion fynd i weld y ddwy sioe Nadolig. Recordiwyd y sioeau ac anfonwyd linc cyfrifiadurol i bob cartref er mwyn iddyn nhw fedru mwynhau’r sioe ar eu haelwydydd eu hunain. Ac yn ôl y traddoddiad, roedd y ddwy sioe, ‘Carol i Gymru’ a ‘Sioe Nadolig y Cyfnod Sylfaen’ yn werth eu gweld. Os hoffech weld y sioe, gallwch gysylltu â’r ysgol ar 01766 770768.

TALSARNAUYSGOL Sioe Nadolig Llongyfarchiadau gwresog iawn i’r prifathro, Mr Rhys Glyn, y pennaethmewn-gofal

Diolch Dymuna Eifion a Dylan a’r teulu ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd ddangoswyd tuag atom yn ein profedigaeth o golli gwraig, mam, chwaer a nain arbennig - sef Gwen Williams, 5, Cilfor, Llandecwyn. Diolch am yr ymweliadau, cardiau a galwadau ffon a diolch arbennig i Malcolm o gwmni Pritchard&Griffiths am y trefniadau trylwyr ac i’r Canoniaid Tony a Stephanie Beacon a’r Parch Dewi Lewis am gynnal y gwasanaeth ac i Tecwyn Williams am roi’r deyrnged i Gwen. Yn y Neuadd yn Nhalsarnau roedd lluniaeth hyfryd wedi ei baratoi gan Bobty’r Foel a Mai, Gwenda, Margaret ag Ann yn ei weini. Diolch a rhodd £20 Diolch Hoffwn ddiolch yn ddiffuant iawn i’m cymdogion a’m ffrindiau am eu gofal a’u caredigrwydd a ddangoswyd i mi ar ol y ddamwain a gefais yn ddiweddar. Diolch am y llu cardiau a galwadau ffon a’r galwadau i Fryn Môr, ni allaf ddiolch digon i chi i gyd. DiolchFrancesa rhodd £10

Daeth naw aelod o Glwb y Werin ynghyd dydd Gwener 10fed o Ragfyr i gaffi

16 CLWB Y WERIN TALSARNAU

Glan Dŵr - enw hyfryd y caffi prysur a phoblogaidd sy’n perthyn i’r Pwll Nofio, Harlech. Cawsom ginio ardderchog a oedd yn bryd tri chwrs am bris rhesymol, gyda chriw da o dros 30 yn y caffi a phawb i weld mewn hwyliau da hefo’u het bapur lliwgar ar eu pennau. Y bwrdd agosaf at y gegin gafodd y bwyd yn gyntaf, hefo’r cwrs cyntaf o dri dewis, gyda threfn arbennig yn dilyn efo’r prif gwrs fel bod pawb yn cael cinio poeth a phopeth y disgwyliwn ar y plât i ginio Nadolig. Roedd tri dewis o bwdin hefyd i ddilyn, a phaned a mins pei i orffen y pryd. Roeddwn wedi rhyfeddu at y drefn a safon y bwyd. Roedd rhaid i mi ofalu am y tâl - ond bod grant ar gael gan Gyngor Gwynedd i helpu hybu pobl hŷn yr ardal i droi allan i gymdeithasu eto ac roeddwn mor ddiolchgar am hyn. Ail-ddechreuodd y Clwb yma ar y pumed o Hydref 2021, ar ôl y cyfarfod olaf ym mis Mawrth 2020, hefo saith aelod a thri enw newydd sbon; hyfryd oedd gweld y tri wyneb newydd yma. Mor braf fod y dair tipyn yn iau na fi, ac yn llawer mwy bywiog, ond rhaid cyfaddef y byddai cael dyn neu ddau yn braf i gael eu help yn enwedig i osod y bwrdd tenis ar ei draed - mae hwnnw’n dipyn o drafferth! Mae croeso mawr i aelodau newydd bob amser i dreulio dwy awr mewn ystafell gynnes a dymunol a chyfle i gael sgwrs, chwarae gemau o’ch dewis a gêm o bingo, i gyd am £2, sy’n arian at y Neuadd i dalu am y gwres. Mae paned ar gael hefyd a raffl bob wythnos hefo tocyn am 50c yr un, a’r arian yma sy’n cael ei gadw at y cinio Nadolig, neu hwyrach de prynhawn yn yr haf. Bydd Clwb y Werin yn cyfarfod eto ar ddydd Mawrth 11eg o Ionawr 2022 am 1.30 y Dymunwnpnawn.Flwyddyn

Newydd Dda i bawb a chofiwch y bydd croeso cynnes i aelodau newydd – mae’r Clwb yn gwbl ddwyieithog. Edrychwn ymlaen i’ch gweld a chael ffrind hwyrach i ddod hefo chi sy’n berchen ar gar. Gwenda

ymfudodd Robert Owen i’r Unol Daleithiau. Erbyn Medi 1908, yr oedd yn cartrefu yn Great Falls, lle bu’n gweithio i Mwynglawdd Copr Anaconda ac yna Gwaith Toddi Boston a Montana, hyd nes iddo ymddeol yn 1950. Mae’n eithaf tebyg fod R O wedi bod yn canlyn Elizabeth Williams o fewn eu hardal cyn iddi hithau ymfudo ato i Great Falls yn 1913, lle y priododd y ddau ar 12 Awst o’r flwyddyn honno. hefyd mewn ysbyty lleol, yn 97 oed. Claddwyd hwy ym Mynwent Highland, Great GweithiwrFalls. gyda Rheilffordd y Burlington Northern oedd Meirion Llewelyn Hughes, mab R O ac Elizabeth Hughes. Yn Great Falls y ganwyd ef ac yno y treuliodd ei holl fywyd ar wahân i flynyddoedd yr Ail Ryfel Byd pan wasanaethodd gyda byddin yr Unol Daleithiau. Dyrchafwyd ef yn lifftenant yn Fort Benning ,Georgia, ar adeg y rhyfel, a gwasanaethodd ar ôl hynny yn Ynysoedd y Philipine, Guinea Newydd ac Ynysfor Bismark, yn y Môr Tawel. Urddwyd ef â nifer o fedalau yn ystod ac ar ôl y rhyfel. Yn 1973 ymddeolodd o’r rheilffordd ar ôl 33 o flynyddoedd. Bu’n denor yng nghôr yr Ysgol Uwchradd yn Great Falls, ac yn 1963, yn gadeirydd Clwb Bowlio Eagles State. Yn 1943 priododd â May Elizabeth Bay (1916-1969), o Oklahoma. Ganwyd iddynt un ferch, Janice Lynn Byers, Gladstone, Oregon. Bu Meirion Llewelyn farw 5 Awst 1977 yn Great Falls, yn 63 oed. Claddwyd yntau yn yr un fynwent â’i rieni gynt, ond yn adran y cyn-filwyr. W Arvon Roberts, Pwllheli

Gwnaethont eu cartref yn 717 Twenty Second Street North. Ymaelododd y ddau yn Eglwys y Presbyteriaid yn y ddinas. Ganwyd iddynt un mab, Meirion Llewelyn Hughes, ar 8 Gorffennaf 1914. Bu R O farw ym mis Rhagfyr 1954 y 72 oed mewn ysbyty lleol yn dilyn gwaeledd hir. 21 Tachwedd 1987, bu ei briod, Elizabeth, farw, hithau

yna. Yr oedd y boblogaeth pan gyrhaeddodd Elizabeth Williams yno yn 1913 yn 14,000, yn cynnwys nifer fawr o Gymry. Un o ferched Meirion a dreuliodd drigain mlynedd yn Great Falls oedd Elizabeth Williams, o Dalsarnau. Ganwyd hi 4 Rhagfyr, 1889, yn ferch i Robert Williams (1849-1928), crydd, o Benyrallt, Nefyn a Lowri Richards (1846-1933), merch i Robert (17781867), a Margaret (Jones) Richards (1813-1893), Hendre Cerrig, Llandecwyn. Bu tad Elizabeth yn adeiladydd cychod ac yn hwylio cychod cario llechi yn Llanfihangel-ytraethau, ar ôl iddo symud o Lŷn. Yr oedd hi yn un o bedwar o blant, yn chwaer i Robert Richard, Margaret Mary a William. Ym Mhenyrallt, Nefyn (lle bu’r tirlithriad diweddaraf) y trigai ei thaid a nain, sef Robert a Catherine Williams, ac yno y dilynai Robert ei alwedigaeth fel llifiwr, mewn cydweithrediad â’r holl longau a adeiladwyd yn Nefyn yn y cyfnod Yrhwnnw.oedd rhieni Elizabeth wedi symud i Landanwg cyn ei bod yn ddeuddeg oed. Brodor o Lanfair oedd Robert Owen Hughes a anwyd 25 Gorffennaf 1882, yn fab i Hugh a Margaret (Williams) Hughes, Hengaeau, y tad wedi ei eni yn Abererch. Yn 1907 Lleolir talaith Montana i’r gogledd o dalaith Wyoming ac yn union o dan y terfyn rhwng Canada a’r Unol Daleithiau. Mae’n 400 milltir o hyd wrth 400 milltir o led. Ynddi y mae tarddle afon fawr y Missouri. Mae ynddi lawer o ddyffrynnoedd prydferth a’r porfeydd mwyaf gwerthfawr at fagu anifeiliaid, gwartheg a cheffylau yn fwy arbennig. Deil o hyd yn dalaith ffrwythlon a iachus. Ail ddinas fwyaf ‘Talaith y Trysor’ fel y’i gelwid, oedd Great Falls, Sir Cascade, i’r dwyrain o fynyddoedd y Rockies, a ger y rhaeadr (96 troedfedd) a roddodd ei enw i’r lle. Yr oedd Great Falls yn enwog fel canolfan gyllidol, dosbarthu, cynhyrchu ac amaethyddol, wedi ei seilio yn bennaf ar adnoddau mwyn, gwenith a da byw. Proseswyd copr, sinc ac alwminiwm, ac arferid malu blawd

Elizabeth Williams, Talsarnau

17 R J TalsarnauWILLIAMS01766770286TRYCIAUIZUZU

CYNGORHARLECHCYMUNEDIechyd cyhoeddus Dymunwn ddiolch i Mr Mark Thomas a’i staff yn y fferyllfa am eu gwaith cymwynasgar yn ystod y pandemig. Diolch hefyd i’r meddygon, y nyrsus a’r staff yn y feddygfa am eu holl ofal. Dyweddïo Llongyfarchiadau cynnes iawn i Pete Jones a Hayley Woodhouse, Cae Gwastad ar eu dyweddïad yn ddiweddar. Pob dymuniad da i chi. Merched y Wawr Bydd y cyfarfod nesaf yng ngofal Mrs Gwen Pettifor ar Chwefror 1 pan fyddwn yn gwneud cardiau cyfarch. Cydymdeimlo Cydymdeimlwn ag Edgar Williams a’r teulu ym marwolaeth ei frawd, Richard Powell Williams, Llwyn Onn wedi cystudd hir. Roedd yn fab i’r diweddar Richard a Nancy. Llongyfarchiadau i Mair Eluned Jones, Eithinog, Cae Gwastad ar gael ei hethol yn gapten Cymdeithas gwyliau i greu un uned. Newidiadau i’r cynllun ffenestri a drws - Parc Carafanau Woodlands. Cefnogi’r cais hwn. GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd – Adran Briffyrdd Mae’r giât ar ben llwybr cyhoeddus rhif 28 wedi ei hailosod o’r diwedd. Parc Bron y Graig Mae’r gwaith o dacluso’r llyn ac o’i gwmpas wedi ei raglennu i ddigwydd ddwywaith y flwyddyn. Trefnir cyfarfod gyda yn y Bu’rUNRHYWgwanwyn.FATERARALLCyngorynllwyddiannus gyda chais grant cae chwarae Llyn y Felin o Gronfa Cae Chwarae Cyfalaf Cyngor Gwynedd. Aflwyddiannus oedd cais grant cae chwarae Brenin Siôr V oherwydd nid oedd digon o arian ar ôl yn y gronfa i ariannu’r prosiect hwn; hefyd, roedd y Cyngor wedi derbyn grant o’r Gronfa hon i’r cae chwarae hwn yn ôl yn mis Rhagfyr 2020. Bydd croeso i’r Cyngor ailgyflwyno’r cais pan fydd y Gronfa yn agored eto. Cytunodd Christopher Braithwaite gysylltu gyda chwmni G L Jones ynglŷn â gosod yr offer yng nghae chwarae Llyn y Felin ac fe arwyddwyd y Ffurflen Derbyn Grant gan y Cadeirydd a’r Mae’rClerc.Cyngor wedi llwyddo gyda chais grant cae chwarae Brenin Siôr V o Gronfa Grant Prosiectau Cymunedol Bychain y Parc Cenedlaethol ac yn mynd i dderbyn £418.87 o grant unwaith y bydd y gwaith wedi ei gyflawni, ond bod Etta Trumper, Swyddog Gwirfoddoli a Lles y Parc yn awgrymu y dylai un bwrdd picnic fod yn addas i gadair olwyn gael ei leoli yn y cae chwarae.

Golff y Sir (Cymdeithas Golff Merched Caernarfon ac Ynys Môn). Mae Mair yn aelod o Glwb Golff Dewi Sant, ac wedi chwarae dros y sir nifer o weithiau. Mair gyda chyn-gapten y Gymdeithas, Sylvia Dennet o Nefyn *MELIN LIFIO SYMUDOL Llifio coed i’ch gofynion chi Cladin, planciau, pyst a thrawstiau *GWAITH ADEILADU AC ADNEWYDDU *SAER COED Ffoniwch neu edrychwch ar ein gwefan *COED TÂN MEDDAL WEDI EU SYCHU Netiau bach, bagiau mawr a llwythi ar gael Geraint Williams, Gwrach Ynys, Talsarnau 01766 780742 / 07769 713014 www.gwyneddmobilemilling.com Diolchwyd i Mr a Mrs Geraint Williams am eu gwaith yn trefnu’r goleuadau Nadolig. Hefyd pawb arall a gyfrannodd at sicrhau llwyddaint y noson oleuo. Roedd yn braf gweld cymaint o bobl o gwmpas yn enwedig a hithau’n dywydd gwael. Roedd siomedigaeth gyda CADW oherwydd nid oedd coeden na goleuadau wedi eu rhoi ymlaen na hyd yn oed goleuadau’r Castell. CEISIADAU CYNLLUNIO Cais am godi tŷ - Morfa Newydd, Ffordd Glan Môr, Harlech. Cefnogi’r cais. Gosod pwmp gwres ffynhonnell aerRhiwlas, 4 Bronwen Terrace. Cefnogi’r cais Trosihwn.rhan o adeilad [bloc toiled] yn uned

HARLECH 18

19 Mae ôl-rifynnau i’w gweld ar y cymru/papurau-bro/neullaisardudwy/docshttp://issuu.com/we.https://bro.360. Llais Ardudwy SAMARIAIDLLINELLGYMRAEG08081640123 CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant PORTHMADOG PWLLHELI ABERMAW 01766 512214/512253 01758 612362 01341 280317 60 Stryd Fawr Adeiladau Madoc Stryd Fawr office@bg-law.co.uk Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd … Cysylltwch â Dioni i siarad am eich bwthyn gwyliau Gwion Llwyd 01341 247200 gwion@dioni.co.uk BUSNES LLEOL ... CWSMERIAID BYDEANG R J Williams Honda Garej Talsarnau Ffôn: 01766 770286 Blwyddyn Newydd Dda

ArCalfinaidd.ôlhynny, bu ei fywyd yn un digon anodd. Bu’n cadw ysgol mewn sawl lle yn siroedd Meirionnydd a Threfaldwyn gan orfod ymladd â thlodi yn amlach na pheidio. Yn ei flynyddoedd olaf, bu’n gweithio i gyhoeddwyr eraill yn trosi gweithiau ar gyfer eu gweisg hwy yn Nolgellau a Chaernarfon ac hefyd i gwmni enwog Gee yn Ninbych. Yn ei gyfrol ar emynwyr Cymru gofidia John Thickens gan ddweud, ‘clwyfir ein calon pan feddyliwn am a ddioddefodd, a’r cam a wnaed ag ef gan argraffwyr a ymgyfoethogai ar ei Treuliodddraul’. ei flynyddoedd olaf yn ardal Dinbych a phan fu farw ym 1825 claddwyd ef ym mynwent eglwys Henllan. Mae’n chwith meddwl am yr hen wron yn gorfod ymladd ei ffordd trwy’r byd yn ei henaint ond mi gredaf i mai’r groes drymaf iddo orfod ei chario fyddai cael ei dorri allan gan ei enwad am iddo fynd yn

Wrth briodi, symudodd i Lanidloes a sefydlu busnes yno. Ef oedd y cyntaf yng ngogledd Cymru, os nad yng Nghymru gyfan, i fod yn weinidog swyddogol ar eglwys gan y Methodistiaid Calfinaidd. Yn wahanol i lawer o’i gydoeswyr, roedd wedi cael addysg dda, roedd ganddo ddeallusrwydd ym myd busnes a gafael da ar y Gymraeg a’r Saesneg ac felly daeth yn un o brif arweinwyr ei Ondenwad.aeth pethau’n flêr iddo. Treuliodd ormod o amser ar drefnu eglwysig neu, yn hytrach, rhy ychydig o amser ar fugeilio ei fusnes. Cafodd golledion wrth fuddsoddi mewn gwaith plwm yn Tylwch ar y ffin rhwng Sir Drefaldwyn a Sir Faesyfed a diwedd y gân oedd iddo fynd yn fethdalwr ym 1832. Roedd ‘speciletio’ yn bechod gan yr hen bobl ac roedd torri wrth speciletio yn waeth byth. Torrwyd Humphrey Gwalchmai allan a bu am flynyddoedd cyn adfer ei enw da a’i hawl i bregethu. Da meddwl fod hynny wedi dod yn ei hanes at y Undiwedd.arall a ddioddefodd oherwydd y drefn lem yma oedd gŵr o’r enw John Davies, oedd yn flaenor yng Nghapel Princes Road yn Lerpwl. Erbyn yr 1890au, roedd Lerpwl yn llawn o gapeli Cymraeg o bob enwad. Y mwyaf a’r crandiaf o’r rhain oedd Princes Road; y rhai ar frig yr enwad fyddai ei gweinidogion a masnachwyr goludog lenwai ei sêt fawr. Un o’r rhai hyn oedd John Davies. Ond ym 1892, chwalodd ei fusnes a hyrddiwyd ef a’i deulu i dlodi. Ar ôl y cwymp cerddai ei wraig a’i deulu i’r capel fel arfer ac eistedd yn yr un lle yn ôl eu harfer. Sleifiai’r tad trwy’r strydoedd cefn ac i sedd y pechaduriaid bron o’r golwg ac adref wedyn yn yr un modd. Dyna drefn yr oes. Awn yn ôl at Hugh Jones a’i emyn y tro nesaf. JBW

Gwelsom y tro diwethaf fel y cawsom glasur o emyn gan Hugh Jones, Maesglasau, Dinas Mawddwy (17491825) wedi ei ddiogelu yn Caneuon Ffydd (rhif 525). Emyn ydyw sy’n fyfyrdod ar angau’r Groes ac mae’r bardd yn gofyn am symud popeth sy’n rhwystro iddo gael golwg iawn ar Galfaria ac ar rinweddau ei iachawdwr. Dyma’r trydydd pennill: ‘Oes, oes mae rhin a grym yng ngwaed y groes i lwyr lanhau holl feiau f`oes; ei ddwyfol loes a`i ddyfal lef mewn gweddi drosof at y Tad yw fy rhyddhad a`m hawl i`r nef.’ Fe welwch fod yna gyffyrddiadau cynganeddol trwy’r emyn yn union fel y gwelwch yn hen garolau oes Hugh Jones. Roedd y mesur a ddefnyddiodd yma yn un digon poblogaidd yn y ddeunawfed ganrif. Erbyn y ganrif nesaf, collodd lawer ar ei boblogrwydd ac aeth yn hen ffasiwn. Nid oes ond tri emyn ar y mesur hwn yn Caneuon Ffydd – dau o oes Hugh Jones ac un mwy modern o waith Howell Parry, Caergybi. Dywedais(1921–2005).o’r

20 Tynnu Mwy ar y Gorchudd

Yrfethdalwr.oeddcrefyddwyr yr oes yn llym iawn ar wendidau a phechodau eu cyd-aelodau eglwysig. Iddynt hwy nid oedd methu â thalu dyled mewn pryd fymryn gwell na lladrata ac nid oedd gŵr neu wraig oedd yn euog o hyn yn deilwng o gael bod yn aelod eglwysig. Mae’n siŵr yr ychwanegwyd at ofid llawer un a llawer teulu gan yr agwedd haearnaidd yma. Un o’r rhai hyn oedd Humphrey Gwalchmai (1788–1847). Un o blwyf Llanwyddelan oedd y gŵr hynod hwn lle roedd ei deulu wedi byw ers cenedlaethau ac yn meddu ar gryn gyfoeth. Roedd yn flaenor yn 17 oed ac yn bregethwr yn 19!

blaen bod Hugh Jones wedi cyhoeddi sawl cyfrol – emynau, barddoniaeth fel arall a rhyddiaith hefyd. Cyfieithiadau o’r Saesneg yw llawer o’i waith rhyddiaith. Ymddengys i un o’r llyfrau hyn fynd ag ef i drafferthion ariannol dybryd. Oherwydd helyntion gydag argraffwyr, ac eraill yn ymarhous i dalu iddo’n deg, aeth yn ddyledus wrth gyhoeddi ‘Y Credadyn Iachusol’.

Collodd bron hynny o eiddo a oedd ganddo a methodd â thalu ei ddyledion. Yn yr oes honno, roedd hynny’n ddigon iddo golli ei enw da a chael ei dorri allan o aelodaeth eglwysig gyda’r Methodistiaid

21 ALUNBLWCHHYSBYSEBUGALLWCHYNYHWNAM£6YMISWILLIAMS TRYDANWR*Cartrefi*Masnachol*Diwydiannol Archwilio a Phrofi Ffôn: 07534 178831 TelerauHYSBYSEBIONe-bost:alunllyr@hotmail.comganAnnLewis01341241297 Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru ALAN RAYNER 07776 181959 ARCHEBU A CARPEDIGOSOD Sŵn y Gwynt, www.raynercarpets.co.ukTalsarnau CAE DU DESIGNS DEFNYDDIAU DISGOWNT GAN GYNLLUNWYR Stryd Fawr, Harlech Gwynedd LL46 2TT 01766 780239 ebost: sales@caedudesigns.co.ukDilynwchni: Oriau agor: Llun - Sadwrn 10.00 tan 4.00 Tafarn yr LlanuwchllynEryrod 01678 540278 Bwyd cartref blasus Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd E B RICHARDS Ffynnon 01341LlanbedrMair241551 CYNNAL EIDDO O BOB MATH Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb. GWION ROBERTS, SAER COED 01766 771704 / 07912 gwionroberts@yahoo.co.uk065803 dros 25 mlynedd o JASONbrofiadCLARKE Maesdre, 20 Stryd golchipeiriannauPenrhyndeudraethFawrLL486BNArbenigwrmewngwerthuathrwsiosychudillad,dilladagolchillestri. Gwasanaeth Cadw Llyfrau a Marchnata Glanhäwr Simdde • Chimney Sweep Gosod, Cynnal a Chadw Stôf Stove Installation & Maintenance 07713 703 222 Glanhäwr Simdde Gosod, Cynnal a Chadw Stôf 01766 770504 Am argraffu diguro Holwch Paul am paul@ylolfa.combris! 01970 832 304 Talybont Ceredigion SY24 5HE www.ylolfa.com H Williams Gwasanaeth cynnal a chadw yn eich gardd Ffôn: 01766 762329 07513 949128 NEAL PARRY Bwlch y Garreg Harlech CYNNAL A TUCHADWMEWN A THU 07814ALLAN900069 Llais Ardudwy Drwy’r post Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, £7.70llaisardudwy@outlook.comE-gopillaisardudwy@outlook.comLlanbedryflwyddynam11copi Am hysbysebu yn Llais Llandanwg,ManylionArdudwy?gan:AnnLewisMin-y-môrHarlechLL462SD01341241297 07713 703222

Prif Swyddogion yr ysgol, David Bisseker a Lois Erin Jones yn dangos faint o arian godwyd er budd Plant mewn angen a Chronfa Achub y Plant. Cinio Nadolig Diolch o galon i staff y gegin am baratoi gwledd o ginio Nadolig ar gyfer y disgyblion a’r staff. Roedd yna ddigon o ddewis o fwyd i bawb a chyfle i lwytho’r platiau er mwyn gwneud yn fawr o’r bwyd blasus a oedd ar gael. Dyma oedd dechreuad da i’r dathliadau at y Nadolig. Unwaith eto eleni, diolch yn fawr iawn i ferched y gegin.

ArdudwyBanc

Ysgol

Lowri Howie ar y we Cronfa Achub y Plant Llwyddwyd i gasglu £206 tuag at Cronfa Achub y Plant drwy wisgo siwmper Nadolig. Hoffai’r Ysgol ddiolch yn fawr iawn i bawb am yr ymdrechion i godi symiau anrhydeddus o arian yn y cyfnod hyd at y Nadolig. Ar ddiwedd y flwyddyn, beth sy’n bwysig ydi bod o leiaf dwy elusen yn elwa’n fawr o ymdrechion criw Ysgol Ardudwy.

22Gwelwyd nifer o weithgareddau yn digwydd yn yr Ysgol wrth i 2021 ddod i ben. I griw B11, roedd dechrau Rhagfyr yn gyfnod heriol wrth i’r ffug arholiadau gael eu cynnal ar draws y pynciau. Dyma’r cychwyn ar y drefn a fydd yn y pen draw yn arwain at sefyll arholiad TGAU yn ystod yr haf. Casglu arian Ers dros 40 mlynedd bellach, mae Plant mewn Angen wedi casglu arian ledled gwledydd Prydain ar gyfer nifer fawr o elusennau sy’n gwneud gwaith clodwiw gyda phlant a phobl ifanc. Mae Ysgol Ardudwy yn falch o fod yn rhan o’r casglu arian a llwyddwyd eleni i gasglu £342.05 er budd yr achos. Daeth y cyfraniadau gan fod y disgyblion yn cael gwisgo eu dillad eu hunain. Sgi-wraig a hanner Mae Lowri Howie yn llwyddo ar yr eira ac am yr ychydig fisoedd nesaf, bydd yn treulio nifer fawr o oriau yn llithro lawr mynyddoedd y cyfandir er mwyn cael llwyddiant yn y gwahanol gystadlaethau a thrwy hynny yn ychwanegu at ei phrofiad. Ond yng nghanol y prysurdeb, llwyddodd Lowri i anfon neges adre i’w chyd-ddisgyblion yn yr Ysgol ac, fel hwythau, roedd Lowri yn cefnogi diwrnod y siwmper Nadolig a llwyddodd hefyd i gael amser am sgwrs dros y we gyda rhai o’i chydddisgyblion o B7.

Diolch i bawb am yr ymdrech anhygoel unwaith eto. Mae Ysgol Ardudwy yn falch o allu cefnogi’r fenter hon sydd ar ein stepen drws.

Bwyd y Bermo

David Bisseker a Lois Erin Jones, dau o Swyddogion Ysgol Ardudwy yn cyrraedd y Banc Bwyd yn y Bermo. Cafodd y bwyd ac eitemau hanfodol eraill eu cyfrannu gan ddisgyblion a staff yr Ysgol.

23

BYWYD

3 Prynwch fwyd o ansawdd uchel o siopau ar-lein neu’r stryd fawr, neu gwnewch eich peli saim eich hunain wrth ddefnyddio braster naturiol megis lard neu siwet bîff. Dydy braster ar ôl coginio na margarîn heb ei drwytho ‘unsaturated’ ddim yn

hyd ochr y cyw iâr. Torrwch y caws yn ei hanner ar ei hyd, ac yn ei hanner eto. Rhowch y 4 sleisen o gaws i mewn yn y cyw iâr, yna rhowch y bacwn o’i gwmpas nes y bydd wedi ei orchuddio i gyd. Gosodwch y cig mewn tun a’i goginio ar 180c am tua 30 munud. Gweiniwch gyda thatws a llysiau o’ch dewis. Os dymunwch, gallwch ei stwffio gyda chaws mozzarella, stwffin a garlleg. Hoffwn ddymuno Blwyddyn Newydd Dda Well i bawb. Rhian Mair

1 Cofiwch lanhau’r baddon adar a gorsafoedd bwydo yn rheolaidd i helpu i rwystro afiechydon, a gwnewch yn siŵr bod dŵr glân ar 2gael.Gwnewch

5 Cofiwch warchod adar rhag ysglyfaethwyr drwy osod bwydwyr adar ymhell o leoliadau sy’n hawdd i gathod eu cyrraedd. GEFN Y GEGIN GEFN Gobeithio eich bod i gyd wedi mwynhau y Dolig. Dyma rysáit syml iawn ac yn isel mewn calorïau (i’r dim ar ôl y Dolig!). Ffiled o gyw iâr wedi ei stwffio (I ddau) Cynhwysion 2 ffiled o gyw iâr 2 gaws ‘baby bell’ (y rhai bach crwn) 2-4 sleisen o facwn Tatws a llysiau Persli i’w addurno Dull Torrwch hollt ar

1ADARadar.Mae’r aderyn du, titwod gwahanol, y fronfraith a’r robin goch i gyd yn adar cyffredin y gellir eu gweld drwy’r gaeaf. Cadwch lygad am y coch dan adain a’r socan eira (teulu’r bronfraith) sy’n dod yma dros y gaeaf hefyd. GWYLLT YR ARDD Pethau i’w gwneud ym mis Ionawr

yn siŵr nad ydy’r dŵr wedi rhewi, gan ei fod yn hanfodol i’r adar yfed ac ymolchi. Os oes gennych bwll gwnewch yn siŵr nad ydy’r ochrau’n serth neu rhowch ramp ynddo fo er mwyn i fywyd gwyllt allu dringo ohono fo pe bai 3angen.Gosodwch fwyd i’r adar ar y ddaear, ar y bwrdd adar ac mewn bwydwyr

Y GEGIN

Coch dan adain Titw mawr 2 Mae llawer o ffynonellau o fwyd naturiol, fel hadau ac aeron, wedi darfod erbyn yr adeg hon o’r gaeaf, felly mae bwydo adar yr ardd yn bwysicach nag erioed.

4addas.Osyn bosibl, ceisiwch ddilyn trefn gyson o ran bwydo’r adar er mwyn annog adar sy’n dychwelyd yn gyson i’ch gardd.

Mae bron i flwyddyn ers i mi ysgrifennu i ddweud sut oedd y sefyllfa pandemig wedi effeithio ar y busnes. Sut mae pethau erbyn hyn felly? Wel, dwi’n teimlo’n lwcus o’i gymharu â sawl busnes oherwydd rydym yn parhau i fod ar agor gyda’n tîm annwyl a gweithgar yn ogystal â theimlo fod y busnes yn llwyddo. Deallaf siom pobl ar ddiwedd ein gwasanaeth gweini bwyd: penderfyniad anodd iawn ac un parhaol mae arna i ofn. Ychydig fel llong, unwaith mae’r cyfeiriad wedi newid does dim troi yn ôl. Yn dilyn buddsoddiad mewn silffoedd newydd a newid y strwythur staffio, seiliwyd y cynlluniau busnes ar fod yn siop yn unig. Wrth gwrs, mae hi’n dal yn bosib cael paned neu wydraid o win yn y bar neu i fyny grisiau yn un o’r stafelloedd bach clyd, a gallwn ddatblygu hyn yn y dyfodol efallai. Er ei fod yn siwrnai ddiddorol nid yw heb bryderon. Gwelwyd llawer o bobl blwyddyn yma gyda’r boblogaeth yn cael eu gorfodi i gael ‘staycation’. Felly mae’r cyfnod y cawsom ailagor wedi bod yn un da gan gynnwys mis Rhagfyr – dydw i erioed wedi pacio gymaint o hamperi yn fy mywyd. Er hyn, pryderaf mai effaith Covid yw hyn a’i fod yn gyfnod anarferol ac nid yn flwyddyn i’w chymryd yn ganiataol i fod yn batrwm i’r dyfodol. Ar y llaw arall, mae llawer wedi darganfod yr ardal ac yn awyddus i ddod yn ôl. Hefyd, gyda’r pryder am yr amgylchedd, a fydd yr awydd i hedfan gymaint efallai yn llai? Hefyd, dwi’n gobeithio gweld y bobl o dramor yn dod yn ôl yn 2022. Wrth gwrs, mae hyn i gyd yn dibynnu yn fawr ar economi iach a chefnogaeth gan lywodraeth i fusnesau ffynnu. Dyna wraidd y broblem. Does dim amheuaeth fod Brexit yn effeithio arnom ni yn fawr fel busnes sy’n mewnforio o Ewrop. Mae Dylan a minnau isio parhau mewn partneriaeth gyda gwinllannoedd bach yr ydym wedi bod yn prynu ganddyn nhw gan ers bron i 20 mlynedd. Nid oes sôn am hyn yn gwella i ddweud y gwir ond rydym yn addasu ac yn cynnal adolygiadau stoc misol i geisio cynllunio beth ddylem ni ei brynu a faint ymhell ymlaen llaw. Creu cronfa o win! Beth bynnag yw’r bai - Brexit, pandemig neu’r ‘Ever Given’ druan a flociodd ganal y Suez - mae problemau yn bodoli sy’n bla ar unrhyw fusnes. Er enghraifft, pan holodd Dylan lle’r oedd gwin o Dde Affrica yr oeddem yn aros amdano. Yr ateb? Roedd llywodraeth De Affrica yn gorfodi’r cwmni i dynnu’r gwin oddi ar y llongau i roi ffrwythau a llysiau ffres yn ei le! Ac wela’ i ddim bai arnyn nhw. Mae logistig y byd ar chwâl ac mae’n dweud ar brisiau ac argaeledd pob mathau o bethau. Mae yna brinder cardbord, papur, shred i hamperi ac yn y blaen ac wrth gwrs mae’r prisiau’n codi. Rydym yn ymateb trwy gadw’r busnes yn hyblyg ond hefyd gan ganolbwyntio’n bennaf ar fanwerthu. At y diben hwn, mae gennym safle we newydd a siop ar-lein. Dyma yw’n gobaith er mwyn gallu cefnogi’r siop trwy gyrraedd poblogaeth ehangach. Mewn ffordd, mae Covid wedi rhoi’r cyfle i ni arbrofi a sylwi fod galw trwy Gymru a phellach am ein cynnig. Fel rhan o’r cynllun, prynwyd warws blwyddyn ddiwethaf ac erbyn hyn, mi fase’n eithaf drwg arnom hebddo.

Mae hyn i gyd yn fuddsoddiad mawr ac yn fwrn ac yn waith ychwanegol. Ond, mae rhywbeth gennym sy’n wir werth y byd: aelodau staff brwdfrydig, gweithgar a chefnogol anhygoel.

Diolch o waelod calon iddynt am bopeth maent wedi ei wneud i ni yn ystod y chwyrlwynt yma. Llinos Rowlands Gwin Dylanwad

Busnes yn addasu i amodau anodd y ddwy flynedd ddiwethaf

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.