Llais mai 2014

Page 1

Llais Ardudwy 50c

RHIF 430 MAI 2014

Bendi-gedig CAMP A HANNER Yn ystod Cyfarfod Golff Y Pasg 2014 yng Nghlwb Golff Dewi Sant, Harlech, enillodd Elin Jones ‘Fowlen y Pasg’ am yr ail flwyddyn yn olynol, hefyd ‘Powlen Goffa J D McKay’, a ‘Chwpan Handicap Kathleen Moore’. Llongyfarchiadau calonnog iddi. Yn dilyn ei llwyddiant mae ‘handicap’ Elin wedi dod i lawr o 18 ar ddechrau’r cyfarfod i 12 erbyn y diwedd. Da iawn ti yn wir, Elin, a dal ati. Mae’n amlwg fod gen ti ddawn arbennig iawn.

Lansiwyd canolfan chwarae dan do newydd, Bendi-gedig, ers mis Mawrth yn y Bermo. Mae wedi ei ddylunio ar gyfer plant oed hyd at 12 oed ac mae’n fenter gan ddwy fam leol, Heidi Blakemore a Rowi Owen. Mae yno gaffi, man gwylio ac ‘wi-fi’ am ddim. Bydd y ganolfan chwarae yn diddanu pobl leol ac ymwelwyr. Lleolwyd y ganolfan yng nghanol y Bermo ac mae parcio am ddim ar gyfer cwsmeriaid. Mae llefydd parcio yn gyfyngedig ond mae digon o safleoedd parcio talu ac arddangos yn agos. Mae Bendigedig ar gael ar gyfer partïon a bydd cynnig aelodaeth ar gyfer ymwelwyr sydd yn ailymweld. Mae’r oedolion sy’n dod gyda’u plant yn gyfrifol am oruchwyliaeth eu plant ar bob adeg. Mae Bendi-gedig ar agor bob dydd o 9.00 yb ar wahân i ddiwrnod Nadolig a Dydd Gŵyl San Steffan. Mae’n cau am 6.00yp, mynediad olaf am 5.00yp. Os am brisiau, cynigion a bwydlenni diweddaraf, ewch i’r wefan: www.bendi-gedig.com

CYSTADLU BRWD

Y LLAIS YN ELECTRONIG

Cafwyd ymateb brwd iawn i’r Llais electronig y gellir ei ddarllen ar e-bost, iPad, ac iFfôn. Anfonir Llongyfarchiadau i ddisgyblion Ysgol Ardudwy fu’n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Dyma’r copïau i Iwerddon, Awstralia, nifer fwyaf i gystadlu o Ysgol Ardudwy ers amser hir ac rydym yn gobeithio y bydd y bwrlwm yma’n De Affrica, Canada a Seland parhau i’r dyfodol. Pob hwyl i Elan Roberts, Phillipa Cunnington a disgyblion y Gân Actol B7-B9 fydd Newydd. Aiff copïau hefyd i yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala ym mis Mehefin. Lundain, Caerdydd a Bethesda.


Llais Ardudwy

HOLI HWN A’R LLALL

GOLYGYDDION

Phil Mostert

Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com

Anwen Roberts

Cae Bran, Talsarnau (01766 770736 anwen@barcdy.co.uk

Newyddion/erthyglau i:

Haf Meredydd

14 Stryd Wesla, Porthmadog (01766 514774

hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk

Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 thebearatminymor@btinternet.com

Trysorydd Iolyn Jones Tyddyn Llidiart, Llanbedr (01341 241391 iolynjones@Intamail.com

Casglwyr newyddion lleol

Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones(01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Ann Lewis (01341 241297 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 770736 Gosodir y rhifyn nesaf ar Mai 30 am 5.00. Bydd ar werth ar Mehefin 4. Newyddion i law Haf Meredydd erbyn Mai 26 os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau.

2

Enw: Ray Owen Gwaith: Wedi ymddeol. Man Geni: Hebron, sir Gaerfyrddin. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Bwyta’n synhwyrol a cheisio cadw’n heini trwy gerdded, beicio, garddio a ‘chydig o loncian pan fo’r tywy’n sych! Beth ydych chi’n ei ddarllen? Papurau dyddiol ac wythnosol ynghyd â’r cylchgrawn Golwg. O safbwynt llyfrau, rhai ffeithiol yn bennaf. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Unrhyw ddrama neu gyfres teledu y mae Siwan Jones yn ymwneud â hi.

Dywediadau am y Tywydd

MAI Awel oer mis Mai, ni wna’r cnydau ddim llai. Mis Mai oer a wna’n ddi-nag sgubor lawn a mynwent wag. Mai oer a gwlyb, llond lle o ŷd. Glaw Sulgwyn, ffrwythlon drwy’r flwyddyn. Glaw fis Mai i ladd llau. Dau leuad llawn ym mis Mai, dim cynhaeaf a dim cnau.

Ydych chi’n bwyta’n dda? Fel dwedes i, ceisio cadw at ddiet synhwyrol a sicrhau fy mod yn cael fy “mhump y dydd”! Hoff fwyd? Cyri poeth gyda sglodion a reis, os oes rhaid i mi ddewis. Hoff ddiod? Peint o gwrw go iawn, ond dim pump y dydd chwaith! Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Unrhyw un fyddai’n barod i dalu! O fewn rheswm wrth gwrs a chyda caniatâd y wraig. Pa le sydd orau gennych? Y llwybrau sy’n rhan o Daith Ardudwy. Ar ddiwrnod clir fodd bynnag, mae proffil bryniau’r Preseli yn atgoffa rhywun o harddwch Sir Benfro. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Ar Ynys Majorca rwy’n meddwl. Beth sy’n eich gwylltio? Pobl sy’n anystyriol o hawliau a diogelwch pobl eraill. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Teyrngarwch . Pwy yw eich arwr? Dwi ddim yn un am gael arwr/ arwyr ond mae’n debyg mai unigolion sydd yn neu wedi aberthu cymaint er lles eraill fyddai ar frig y rhestr, ee Y Fam Teresa neu Martin Luther King.

Beth yw eich bai mwyaf? Ddim bob amser yn barod i syrthio ar fy mai – yn ôl rhai! Beth ydych chi’n ei gasáu mewn pobl? Mewn llawer cornel o’r byd, mor drist ydy canfod canlyniadau diffyg cariad a goddefgarwch. Dyma agweddau i’w casáu. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Dihuno ar fore heulog cynnes a chael cychwyn y dydd gyda bowlen dda o uwd a mêl a phaned o de i ddilyn! Dyn o chwaeth syml! Eich hoff liw? Glas Eich hoff flodyn? Y clychau glas yn ystod Ebrill a Mai. Eich hoff fardd? Dic Jones Eich hoff gerddor? Robat Arwyn Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Campwaith Eddie Evans: Pantyfedwen. Pa dalent hoffech chi ei chael? Medru cynganeddu. Eich hoff ddywediad? Dal i gredu. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Yn ddigon cysurus ar y cyfan lle mawr i ddiolch.

LLE DIOGEL I SIARAD Bu’r Samariaid yn allweddol wrth ymdrin â hunan laddiad ers i’r mudiad gael ei sefydlu yn 1953. Ar gyfartaledd mae mwy na 300 o bobl yn gwneud amdanynt eu hunain yn flynyddol yng Nghymru, ac mae’r elusen yn gwneud popeth posib i gefnogi’r rhai sy’n mynd drwy gyfnodau anodd ac yn debyg o ladd eu hunain. Y llynedd, fe lwyddodd ychydig dros 600 o wirfoddolwyr y Samariaid mewn naw cangen yng Nghymru i ateb bron i 140,000 o alwadau. Mae cangen ym Mangor sy’n darparu gwasanaeth bedair awr ar hugain i bobl sy’n cael trafferth ymdopi. Mae’r Samariaid yn pwysleisio pa mor bwysig ydi siarad yn hytrach na pheidio rhannu eu pryderon. Mae sawl ffordd o

siarad â’r Samariaid - dros y ffôn, drwy destun, e-bost neu ymweld â changen a chyfarfod â gwirfoddolwyr wyneb yn wyneb. Yn 2009, sefydlwyd y llinell Gymraeg i’r rhai hynny sy’n dymuno siarad â’r Samariaid yn eu mamiaith. Rhai o’r elfennau cyffredin sy’n bynciau trafod wrth siarad â’r Samariaid ydi straen gwaith, bod yn ddi-waith, problemau ariannol, helbulon teuluol a phroblemau perthynas personol. Yn ogystal â’r llinell gymorth mae gwirfoddolwyr y Samariaid yn darparu gwasanaethau yn y gymuned ar hyd a lled Cymru, gan gynnig cefnogaeth mewn ysbytai, ysgolion, canolfannau gwaith a llochesi i’r digartref. Mae’r llinell Gymraeg ar agor rhwng 7 ac 11 bob nos ar 0300 123 3011.


Y BERMO A LLANABER

PLETHU PRIODAS A BUSNES

Y modelau yn y Sioe Ffasiynau a gynhaliwyd gan ‘Pyramid’ yn y Wayside, Llanaber ym mis Ebrill. Sioe Ffasiwn yn y Wayside Bu’r noson yn hynod lwyddiannus a llwyddwyd i godi £1,200 i Gronfa Y Bermo, Eisteddfod yr Urdd Meirion 2014. Diolch arbennig i Gwerfyl a staff ‘Pyramid’ am drefnu’r sioe ffasiwn; ac i Jennifer a staff Wayside am y lluniaeth blasus. Hefyd diolch yn fawr i bawb am eu cefnogaeth ac i bawb a gyfrannodd arian neu raffl. Priodas Ddeiamwnt

Llygod Mawr Hanes am laddfa ar lygod mawr yn y Bermo o ‘Y Genedl Gymreig’, Tachwedd 15, 1882, tud 8, colofn 4. ‘Dydd Iau diwethaf fel yr oedd Mr Hamer, cigydd o’r dref hon, yn symud ei ladd-dy o’r Morfa gerllaw Min y Môr i le mwy cyfleus, cafwyd fod yn trigiannu ynddo fwy o breswylwyr nag oeddid yn feddwl. Yr oedd llygod Ffrengig yn rhedeg allan o bob cilfach a thwll. Yn ffodus, yr oedd cryn lawer o bobl a chŵn yn digwydd bod yno ar y pryd ac ni laddwyd dim llai na thri ar ddeg a thri ugain [73] ohonynt [o’r llygod ydym yn feddwl, nid y bobl na’r cŵn.]’ Diolch i Mrs Gwyneth Edwards, Llanaber, am anfon yr hanesyn uchod atom.

Llongyfarchiadau i Mr a Mrs Ken Jeffs, Arianfryn ar ddathlu 60 mlynedd o fywyd priodasol ar Ebrill 26. Deallwn i’r teligram gan y Frenhines gyrraedd yn ddiogel. Dyma garreg filltir nodedig iawn. Diolch Dymuna Ken a Jennie, Arianfryn, ddiolch yn ddiffuant i’w holl gydnabod am yr holl gardiau, anrhegion a’r negeseuon o ddymuniadau da a gawsant ar achlysur dathlu eu priodas ddeiamwnt yn ddiweddar. Rhodd a diolch £10

Brysiwch Wella Anfonwn ein cofion at Mr Ifor Evans, Marine Road, sydd wedi bod dan anhwylder yn ddiweddar. Brysia wella Ifor.

TRACTORAU ERYRI

Peirianneg Amaethyddol Atgyweirio Prynu a gwerthu Gwerthu darnau ac olew Gwasanaeth symudol Arbenigwyr Valtra/MF/John Deere

07961 800816 01766 770932

Cors y Gedol. Mae yna ramant yn yr enw a hefyd yn ei gysylltiadau â hanes ein gwlad. Bu’r Neuadd hynafol rhwng Dyffryn Ardudwy a Thalybont yn gartref i Llywelyn ein Llyw Olaf ar un pryd. Ond, bellach mae’n lleoliad poblogaidd ar gyfer cynnal priodasau. Cafodd y cwpwl ifanc Bethan Angharad Smith a Benjamin Bailey gymorth gan Fusnes Cymru i sefydlu’r fenter briodasau yno. Gwasanaeth rhad ac am ddim Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau ifanc yw Busnes Cymru, ac roedd Beth a Ben yn awyddus i gael cyngor i baratoi cynlluniau ariannol a chyfreithiau cyflogaeth. Saif y Neuadd wrth droed y Moelfre yng nghadwyn mynyddoedd y Rhinogydd, a Ben yw’r bedwaredd genhedlaeth o’i deulu i ffermio tir Cors y Gedol. Yn ogystal â ffermio, mae’r teulu yn agor drysau dau fwthyn ar y stad i ymwelwyr hefyd. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae priodasau wedi eu cynnal yn neuadd Cors y Gedol gan fanteisio ar y golygfeydd godidog a’r gerddi braf sy’n amgylchynu’r Neuadd. “Rydyn ni wedi llogi’r Neuadd i nifer o gyplau dros y blynyddoedd diwethaf ”, eglurodd Beth, 25, sy’n wreiddiol o Harlech. “Mae’r ymateb wedi bod yn wych. Mae hanes y lle’n unigryw, mae’r lleoliad yn hyfryd, ac mae pobl yn falch o gael dod draw yma o brysurdeb y paratoadau wythnos ynghynt i gael gosod eu stamp eu hunain ar eu diwrnod mawr. Dim ond bref dafad glywch chi unwaith y cyrhaeddwch chi yma!” Yn dilyn cyfnod Llywelyn ein Llyw Olaf, ym 1576 daeth y Neuadd i ddwylo’r teulu Vaughan, a chafodd y lle ei ddatblygu ganddyn nhw. Ymhlith eu gwelliannau mae’r paneli derw Cymreig, y tanau agored mawr a’r arfbais hynafol sydd i’w gweld yno hyd heddiw. “Mae’r hanes yn sicr yn ychwanegu at y rhamant”, meddai Beth. “Ond, rydan ni hefyd yn croesawu digwyddiadau, partïon a’r defnydd o’r safle cyfan, gan gynnwys y bythynnod, ar gyfer grwpiau mawr sydd eisiau dod i aros yma ac ymlacio.” Dydy Beth a Ben, fodd bynnag, ddim yn rhai i golli cyfle. Er bod y ddau’n gweithio’n llawn amser, maen nhw’n awyddus i ddatblygu Cors y Gedol fel busnes cynaliadwy i’r dyfodol. “Rydyn ni’n awyddus i ddatblygu’r busnes a diogelu’r safle ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Ar hyn o bryd ehangu’r defnydd ydy’r prif fwriad ac agor drysau’r Neuadd yn amlach”, meddai Beth. “Mae’r cyngor rydan ni wedi ei gael gan Fusnes Cymru wedi bod yn amhrisiadwy yn hynny o beth. Er mod i’n gweithio ym maes marchnata, doeddwn i ddim yn gyfarwydd â’r ochr ariannol o ddatblygu’r busnes, ac roedden ni’n awyddus i gael cyngor hefyd ynglŷn â maes cyflogaeth.” Mae gwasanaeth Busnes Cymru ar gael yn ddwyieithog i fusnesau bach a chanolig eu maint, sydd dros flwydd oed. Mae’r gwasanaeth rhad ac am ddim yn cynnig cyngor ymarferol o ddatblygu busnes i faterion fel cyflogaeth, materion ariannol, allforio a hyfforddiant. Gall Busnes Cymru hefyd gynorthwyo cwmnïau i ddod o hyd i wybodaeth a grantiau ariannol o’r sector gyhoeddus, breifat a’r trydydd sector.

3


LLANFAIR A LLANDANWG Gŵyl Ranbarth Merched y Wawr Cynhaliwyd yr Ŵyl Ranbarth yn Neuadd Llanegryn ar nos Fercher, Ebrill 30. Aeth wyth o aelodau o Harlech draw i fro Dysynni i’r Ŵyl. Ar ôl gwledd o ham, eog , saladau amrywiol, tatws newydd a phwdinau profiteroles, salad ffrwythau ffres neu darten lemwn, coffi a the, cyflwynodd Geunor Roberts, Llywydd y Rhanbarth, Maureen Hughes o Lanrwst. Cafwyd taith ar hyd y flwyddyn o’i hatgofion wrth iddi gystadlu mewn amrywiol eisteddfodau a gwyliau. Soniodd am y rhai a fu’n ddylanwad arni ac yn arbennig y diweddar Mrs L M Morris a’i merch, y ddiweddar Haf Morris. Daeth â llawer o atgofion i nifer o’r aelodau a chafwyd cyfle i ymuno â rhai alawon gwerin a cheisio canu cerdd dant i gyfeiliant Maureen. Haf Jones roddodd y diolchiadau, yn arbennig i Tomi Rowlands a’i ferch Hilary o Gaffi’r Ceunant, Abergynolwyn am y lluniaeth ac i Geunor am lywio’r noson, i Lis Williams, ysgrifennydd y Rhanbarth, am drefnu’r noson, ac i Bethan Edwards am ofalu am y raffl.

Eglwys St Tanwg, Harlech

Gwasanaeth Cymorth Cristnogol Dydd Sul, Mai 11 am 2.00

Genedigaeth Llongyfarchiadau mawr i Meinir a Gwynfor Evans ar enedigaeth Mared Elliw, chwaer fach i Elgan, wyres i Heulwen ac Emyr Evans, Maes yr Aelfor a Hefin a Bethan Evans, Eithinfynydd. Ymchwil Canser Bu pedwar aelod o’r pwyllgor ar ymweliad â Phrifysgol Bangor yn ddiweddar. Cawsant gyfle i glywed am y gwaith ymchwil sy’n digwydd yno ac i weld y peiriannau drud a ddefnyddir gan yr adran microbioleg. Diolchodd Dr Hartsuiker i’r aelodau am eu hymdrechion glew i godi arian at yr achos, sydd yn ei dro yn eu galluogi i brynu’r peiriannau. Mae’r aelodau yn drist bod gwaith fel hyn yn dibynnu ar gyfraniadau elusennol, ond mae’r ymweliad wedi tanlinellu pwysigrwydd yr ymgyrchoedd codi arian.

Clwb 200 Côr Meibion Ardudwy Nawr yw’r amser i dalu eich £9 i ymaelodi â’r Clwb 200 am y flwyddyn. Holwch unrhyw aelod o’r Côr. Cyfle i ennill 72 o wobrau mewn blwyddyn a chefnogi’r Côr ar yr un pryd. Cyhoeddiadau Caersalem 2014 Am 2.15 oni nodir yn wahanol MAI 11 – Parch Iwan Ll Jones am 3.30 o’r gloch MEHEFIN 8 – Br Marc Jon Williams 15 – Parch Tecwyn R Ifan am 10.30 o’r gloch GORFFENNAF 7 - Fns Mair Penri Jones 13 - Parch Dewi Tudur Lewis

CYNGOR CYMUNED

Coed yn y fynwent Caiff y gwaith ei wneud cyn bo hir. Yr Elor Cysylltwyd eto â Catrin Glyn yn gofyn a ydynt eisiau’r elor yn Y Lasynys cyn i’r gwaith o wneud y gwelliannau gael ei orffen a hefyd yn gofyn iddi fynd i weld yr elor yng Nghae Cethin. Polisïau Risg y Cyngor Penderfynwyd gofyn i Russell Sharp a fyddai’n fodlon gwneud y gwaith o asesu risg y mynwentydd; hefyd gofyn i’r David John Roberts asesu risg cwt yr hers, y lloches bws a phorth Eglwys Llanfair. Adroddodd Mair Thomas ei bod wedi gwneud archwiliad o’r hysbysfyrddau a’u bod i gyd yn iawn ar hyn o bryd; bydd angen eu peintio yn yr hydref. Mae sêt yn y fynwent newydd angen sylw a chytunwyd i ofyn i Mr Hywel Jones gael golwg arni. Cyfarfod Pwyllgor y Neuadd Adroddodd Mair Thomas ei bod wedi mynychu’r cyfarfod uchod. Bydd swyddogion y pwyllgor yn parhau am flwyddyn arall sef Mrs Maureen Jones yn Gadeirydd, Mrs Ann Lewis yn ysgrifennydd a Mrs Meinir Lewis yn drysorydd. Bydd Eurig Hughes a Robert G Owen yn dal i gynrychioli’r Cyngor ar y pwyllgor. Ceisiadau Cynllunio Dymchwel y byngalos caban pâr presennol ac adeiladu tŷ unllawr newydd - Hafan a Mordan, Llandanwg Cefnogi’r cais. Ceisiadau am gymorth ariannol Aelwyd Ardudwy - £50.00 Gohebiaeth Ms Rosy Berry Derbyniwyd e-bost pellach gan yr uchod yn diolch i’r Clerc am gyfieithu crynodeb o gofnodion mis diwethaf i’r Grŵp Llafur ac yn gofyn a oes posib ehangu gwybodaeth y Cyngor, yn enwedig gyda’r di-Gymraeg, drwy osod copïau dwyieithog ar yr hysbysfyrddau ac efallai yn y Cambrian News. Hefyd yn datgan balchder ar ran Grŵp Twyni Llandanwg bod y Cyngor wedi gofyn a oedd yn bosib gosod mwy o gerrig mawr ar ben pella’r traeth. Penderfynwyd anfon copi Saesneg o’r cofnodion i’r Cambrian News. Ms Helen Parslow a Mr Simon Haine Derbyniwyd llythyr gan y ddau uchod ynglŷn â’r llwybr cyhoeddus sydd rhwng Llwyn Hwlcyn a fferm Penrallt yn gofyn a fyddai’n bosib gwneud yn siŵr bod y llwybr hwn yn cael ei dorri eleni pan mae’r llwybrau cyhoeddus eraill yn cael eu torri. Cytunodd y Cadeirydd i gael golwg ar y llwybr dan sylw cyn i’r Clerc gysylltu gyda’r Adran Briffyrdd.

DIWRNOD Y LLYFR - Ysgol Tanycastell

Ar y chwith, aelodau staff Ysgol Tanycastell wedi eu gwisgo fel cymeriadau o lyfr. Ar y dde, rhai o’r plant ar Ddiwrnod y Llyfr.

4


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Teulu Artro Cynhaliwyd ein cyfarfod ar ddechrau Ebrill, gyda Gweneira yn llywyddu. Croesawodd yr aelodau’n gynnes, ar ddiwrnod braf o wanwyn. Derbyniwyd gwahoddiad gan Deulu Ardudwy i ymuno â hwy i arddangosfa gwaith llaw Mrs Margaret Evans. Llongyfarchwyd Iona ar ddod yn hen nain eto. Derbyniwyd £50 o Gronfa’r Ŵyl Gwrw. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion mis Mawrth. Ein gwraig wadd oedd Mrs Nesta Jones, Cricieth ac fe’i croesawyd gan y Llywydd. Diolchodd Mrs Jones am y croeso, a dywedodd ei bod yn falch o gael dod – a hynny am y trydydd tro. Ei thesun oedd ‘Barddoniaeth’, gan sôn am ei hoff fardd, yn bennaf, sef y diweddar I D Hooson. Iona fu’n diolch iddi, ac enillwyd y rafflau gan Iona a Catherine, a Leah. Llawdriniaeth Dymunwn yn dda i Eirlys, Tyddyn Llidiart sydd wedi cael llawdriniaeth yn Ysbyty Gwynedd ddechrau’r mis. Brysiwch wella Bu Mrs Mary Evans, Plas Caermeddyg, o dan lawdriniaeth ar ei phen-glin. Gobeithio ei bod yn dal i wella. Llongyfarch Llongyfarchiadau i Rhian a Geraint ar enedigaeth geneth fach ac i James Hughes a’i bartner ar enedigaeth mab bach. Y gog a’r wennol Mae Morfudd a Hefin wedi clywed y gog yng Nghwm Nantcol ar 18 Ebrill, tipyn cynt nag arfer. Diolch hefyd i Iddon Hall am adael i ni wybod fod y wennol wedi dychwelyd i garej Garth Engan ar 14 Ebrill! Marwolaeth Bu farw John Artro Morris yn Llundain yn 89 oed, ddau fis ar ôl ei frawd Tim Artro Morris. Roeddynt yn wyrion i John Morris, Glanffrwd, a adeiladodd strydoedd o dai yn Lerpwl.

Er cof am Glenys Derbyniwyd rhodd o £20 er cof am Glenys Jones, Llwynonn, oddi wrth Elfyn a John Pugh a’r teulu. Merched y Wawr Nantcol Nos Fercher, Ebrill 2il - Cawsom air o groeso gan Mair cyn canu cân y mudiad i gyfeiliant Rhian. Aethpwyd ati wedyn i drafod materion y gangen a’r mudiad. Estynnwyd croeso arbennig i Ann Williams o Benmachno, a Gwenda Ellis, ei chyfnither o Ddyffryn Ardudwy, oedd wedi dod yn gwmni iddi. ‘Gwau mawr a ballu’ oedd testun y noson ac roedd Ann wedi dod â llawer o enghreifftiau o’i gwaith gyda hi i’w harddangos - clustogau, bagiau, cardiau, bathodynnau i enwi dim ond ychydig. Cawsom hanes sut yr aeth ati i ddechrau’r math yma o wau - gyda gweill mawr wedi eu gwneud o goes brwsh gan ei gwr yn ogystal â botymau wedi eu torri o rolbren. Cawsom hwyl pan gawsom ni i gyd gyfle i wau ychydig o bwythau! Olwen a gyflwynodd y diolchiadau ar ein rhan. Edrychwn ymlaen at groesawu Angharad Tomos atom y mis nesaf gydag aelodau o gangen Dinas Mawddwy yn ymuno â ni. Cronfa Eisteddfod Yr Urdd Mae Llanbedr bron â gorffen hel arian at Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd ac rydym wedi casglu £3955.41. Targed y pentref oedd £4000, felly mae’r pentref wedi gwneud yn dda. Fodd bynnag, doedd yna fawr o frwdfrydedd at godi arian ac mae rhan fawr o’r arian wedi dod o’r Cyngor Cymuned. Fodd bynnag mae nifer o fudiadau’r pentref a’r ardal wedi cyfrannu’n hael at y gronfa gyda Chlwb Pêl-droed Iau Llanbedr, yr Ŵyl Gwrw, Clwb y Ffermwyr Ifanc a Chapel y Ddôl wedi cyfrannu symiau sylweddol. Derbyniwyd cyfraniadau da at y Gronfa gan Gôr Meibion Ardudwy, y Ras Hwyaid, a Morfudd a Mari Lloyd ac aelodau Capel Salem. Fel y cofiwch, ddaru’r Côr gynnal cyngerdd i godi arian at holl gronfeydd yr ardal. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu.

CYFARFOD PREGETHU

YN SALEM, CEFNCYMERAU. (Trwy ganiatâd caredig) Nos Wener, Mai 9 am 7:00 PREGETHWR: Y Parch Martin Williams, Abergwaun. TREFNIR GAN EGLWYS EFENGYLAIDD ARDUDWY

Llongyfarch Llongyfarchiadau i Rhian a John ar enedigaeth Osian Rhys Watts ar Fawrth 28, brawd bach i Eira ac ŵyr cyntaf i Ann a Mwff Williams, Llanbedr. Edrychwn ymlaen at weld y teulu bach yn ymweld â Llanbedr. Cyhoeddiadau’r Sul Capel Salem MAI 8 Parch Eirian Wyn Lewis MEHEFIN 8 Parch Dewi Tudur Lewis 15 Parch Tecwyn Ifan 29 Parch Carl Williams * * * Y canlynol am 2.00 o’r gloch oni nodir yn wahanol MAI 11 Undebol yng Nghapel y Ddôl 18 Capel Nantcol, Parch R W Jones 1 MEHEFIN Capel y Ddôl, Parch Eric Greene

Ysgol y Moelwyn Blaenau Ffestiniog

CYNGERDD COFFA EILIR MORGAN gyda

Seindorf yr Oakely Dewi Griffiths Hogia’r Berfeddwlad DylanRowlands Nos Sadwrn, Mai 17 am 7.30 Tocyn: £6, Plant £2

CANOLFAN ARTRO AR WERTH

Mae Canolfan Artro ar werth am £85,000 – gyda chaniatâd cynllunio - NP5/62/384 (heb amodau tŷ fforddiadwy) i’w drosi yn dŷ dwy lofft i’r prynwr. Wedi’r ailddatblygu gan y perchennog newydd bydd yn dŷ sylweddol gyda golygfa braf o’r afon a’r bont. Cysyllter â Gwerthwyr Tai Sanderson ar 01341 281508 am ragor o wybodaeth.

5


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT

Miss Jean Thomas Daeth Jean i fyw i Ben Dyffryn ym 1993 ynghyd â Joan a Siân. Ar ôl rhai blynyddoedd fe hunodd Siân ac wedyn Joan yn gadael Jean yr unig denant gwreiddiol ym Mhen Dyffryn. Daeth Elinor i fyw ati ac yna Caroline. Croesawodd Jean y ddwy ohonynt i’w chartref newydd a’u helpu i ymdopi gyda’r cam nesaf o’u bywyd. Pan ddaeth Jean i Ben Dyffryn roedd yn llawn prysurdeb, roedd yn annibynnol yn dal y bws i’w gwaith ac i’r Bermo neu i edrych am ei thad ym Mlaenau Ffestiniog. Roedd yn gwneud ei rhan yn Tenovus ac yn Achub y Plant a’r Groes Goch lle bu’n cyfarfod pobl ac yn cael sgwrs efo ambell un. Roedd Jean yn unigolyn cymdeithasgar ac yn hoff iawn o gyfarfod a dod i adnabod pobl lle bynnag y bu. Roedd cael cysylltiad â’i theulu yn bwysig iawn i Jean, a chafodd amser hapus iawn yn sgwrsio efo bawb yn y partis diweddar fu’n cael eu trefnu gan y teulu. Mynychodd Jean y Capel efo Joan tan ballodd ei hiechyd. Bu’n aelod o Ferched y Wawr, Teulu Ardudwy a Chlwb Cadwgan hefyd ‘tea dancing’ yn ei dyddiau heini. Y ‘square tango’ oedd ei ffefryn. Ei hoff bethau oedd anifeiliaid, trên bach a chanu. Pan ddaeth yn bryd cynllunio trip neu wyliau roedd yn rhaid cysidro fod yna rhyw barc anifeiliaid neu sw yn yr ardal lle byddai’n aros. Roedd hefyd yn hoff iawn o fynd am dro ar y trên bach. Os nad oedd llawer o hwylia ar Jean byddai ffeindio rhaglen am anifeiliaid ar y teledu yn siŵr o godi ei chalon. Fel aeth amser heibio fe ballodd

6

iechyd Jean. Roedd hyn yn anodd ganddi ei dderbyn ar y pryd ond dros amser fe ddaeth i fwynhau cael cwmni aelodau’r tîm a chael profiad o wneud a dysgu sgiliau newydd. Roedd Jean bob amser yn ddiolchgar am y gefnogaeth beth bynnag yr oedd ac yn barod iawn i rannu bob amser. Roedd yn gwneud ei gorau o gwmpas y tŷ ac yn mwynhau helpu gyda’r neges wythnosol. Wel, Jean, mae’n bryd ffarwelio. Bydd yn rhyfedd iawn hebddot ti ym Mhen Dyffryn. Mae digon o atgofion amdanat i sgwennu llyfr, ond diwrnod arall fydd hynny. Rhiannon Jones Diolchiadau Dymuna teulu’r ddiweddar Jean Thomas, Pen Dyffryn, ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth. Diolch arbennig i staff Cartref Pen Dyffryn am bob caredigrwydd a gofal dros gyfnod maith o flynyddoedd. Ein diolch hefyd i’r Parchedig Christopher Prew am wasanaethu yn y capel a’r fynwent mewn modd mor hyfryd deimladwy. Diolch i’r organydd Mr Edward P Owen ac i’r trefnwyr angladdau, Pritchard a Griffiths, Tremadog sydd bob amser mor broffesiynol yn eu trefniadau. Rhodd £10 Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn Neuadd yr Eglwys brynhawn Mercher, 16 Ebrill. Croesawyd pawb gan Gwennie yn ôl i Neuadd yr Eglwys ar ei newydd wedd. Gwnaed llawer o waith ar y Neuadd yn y misoedd diwethaf ac mae’n werth ei gweld. Mynegodd ein tristwch o golli un o’n haelodau sef Miss Jean Thomas, Pendyffryn a fu farw’n sydyn yn dilyn ein cyfarfod diwethaf, a diolchodd i’w gofalwyr am eu gofal arbennig o Jean am yr ugain mlynedd y bu’n byw ym Mhendyffryn. Anfonodd ein cofion at Mrs Gretta Cartwright a Miss Lilian Edwards gan nad oedden nhw wedi gwella’n ddigon da i ymuno â ni.

Cydymdeimlodd â Mrs Gwyneth Davies yn ei phrofedigaeth o golli ei chwaer, Catherine Jones. Yna croesawodd Margaret, Bryn Bywyd, atom. Wedi gadael Ysgol Ramadeg y Bermo, aeth Margaret i nyrsio i Firmingham. Dilynodd Alun hi yno i weithio fel dyn tân. Pan ymddeolodd rhieni Margaret i’r byngalo yn Nhalybont daeth Margaret ac Alun i fyw i Fryn Bywyd. Roedd Margaret wedi gosod arddangosfa o’i gwaith cwiltio bendigedig o gwmpas y neuadd ac aeth o gwmpas i egluro’r patrymau i ni a sut roedd wedi eu gwneud. Dyma’r tro cyntaf iddi arddangos a siarad am ei gwaith fe wnaeth hynny yn fyrlymus a hwyliog a chafwyd amser difyr iawn yn ei chwmni, a phawb yn edmygu ei dawn arbennig. Diolchwyd iddi am brynhawn diddorol a chartrefol gan Hilda. Rhoddwyd y te a’r raffl gan Glenys, Elinor a Catherine. Penderfynwyd mynd ar ein trip ym mis Mehefin i Fetws-y-coed a chael cinio yn y ‘Royal Oak’. Sefydliad y Merched, Dyffryn Ardudwy Cynhaliwyd cyfarfod mis Ebrill o Sefydliad y Merched yn Heulwen ar y 9fed, dan lywyddiaeth Dorothy Harper. Estynnwyd cydymdeimlad â Beti Parry wedi colli ei chwaer Gwyneth a’i chefnder Emyr, a hefyd â Leah Jones wedi colli cyfnither. Darllenwyd y cofnodion a’r Llythyr Newyddion gan Gretta Cartwright, gan drafod materion yn codi ohonynt. Cafwyd adroddiadau gan Dorothy a’n cynrychiolodd mewn nifer o gyfarfodydd, yn cynnwys Cyfarfod Gŵyl Dewi yn Nhywyn, derbyn y Baton Canmlwyddiant o Sir Gaernarfon ym Mhenrhyn, ac yna ei drosglwyddo i Ddysynni yng Ngwesty’r Victoria. Hefyd, cyfarfod Gwyl Dewi gyda Sefydliad Harlech, a Chynhadledd Cymru yn Wrecsam. Cafwyd y fantolen ariannol gan Gretta. Un o’n haelodau ni, Leah Jones, oedd y wraig wadd. Cawsom brynhawn difyr

iawn o recordiau Cymraeg hen a newydd, gan ddechrau gyda ‘Molawd i Ardudwy’ gan Gantorion Enddwyn. Hyfryd oedd gwrando ar enillydd y Rhuban Glas o Sir Gâr, Timothy Evans, parti Cut Lloi ac eraill. Diolchodd Beti am brynhawn hyfryd, ac yna te wedi ei baratoi gan Beti, Dorothy a Gretta. Leah enillodd y raffl. Bydd Jean Powell Jones gyda ni ym mis Mai ynghyd ag aelodau Sefydliad Bronaber. Cofion Anfonwn ein cofion at Mr Glyn Edwards, Arfryn, sydd wedi dod adref o Ysbyty Gwynedd. Cydymdeimlad Cydymdeimlwn â John Gwilym Owen, Bro Arthur, a Gwyneth a Ronnie Davies a’u teuluoedd yn eu profedigaeth o golli chwaer annwyl, sef Catherine Jane, merch y diweddar John a Dora Owen, Penrhiw gynt. Roedd Catherine wedi ymgartrefu yn Leeds ers tua 40 o flynyddoedd. Diolch Dymuna John Gwilym a’r teulu a Gwyneth a Ronnie a’r teulu ddiolch i bawb am y cardiau a’r galwadau ffôn a phob arwydd o gydymdeimlad a dderbyniasant ar ôl colli Catherine Jane. Diolch a rhodd £10 Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Gwynfor a Meinir, Llys Enlli, Talybont, ar enedigaeth merch fach, Mared Elliw, chwaer fach i Elgan John. Diolch Dymuna Eluned Williams, Islwyn, Dyffryn, ddiolch o galon am y cardiau, anrhegion ac ymweliadau a dderbyniodd ar achlysur ei phen-blwydd yn 80. Diolch a rhodd £10 Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb MAI 11 Y Parch Philip de la Haye 18 Alma Griffiths 25 Y Parch W H Pritchard, 5.30 MEHEFIN 1 Y Parch Eric Green Diolch i Mrs Heulwen Jones am y rhodd o £6.50.


RHAGOR O DYFFRYN A THAL-Y-BONT CYNGOR CYMUNED

Llongyfarchwyd Mr Edmund Bailey ar gael ei benodi’n Arglwydd Raglaw Gwynedd, Owen Gwilym Thomas ar ddathlu ei benblwydd yn 65, Mr Ceri Cartwright ar ennill gwobr yn ei swydd gyda Chyngor Gwynedd am ddangos parch at ei gydweithwyr, a CFfI Ardudwy ar ddod yn ail drwy Gymru yn y gystadleuaeth ciwb a gynhaliwyd yn ystod diwrnod gwaith maes y Mudiad yn ddiweddar. Datgan Budd Datganodd y Cynghorydd Eryl Jones Williams fudd yng nghais cynllunio 1 Castell y Gog, Dyffryn Ardudwy. Ceisiadau Cynllunio Adeiladu estyniad unllawr - 1 Castell y Gog, Dyffryn Ardudwy Cefnogi’r cais hwn. Ceisiadau Cynllunio â phenderfyniad arnynt Amnewid ac ail-leoli 24 caban gwyliau - Dyffryn Seaside Estate caniatáu Codi estyniad llawr isaf i’r gamfa ac addasiadau i’r ystafell ymolchi Llechryd, Ffordd Glan y Môr, Talybont - caniatáu Estyniad deulawr, inswleiddio allanol a thoi’r lolfa wydr gyda llechi - Llys Enddwyn, Ffordd yr Orsaf, Dyffryn Ardudwy) - caniatáu. Archwilio’r llochesi bws, mynwentydd a pharciau chwarae Ar y cyfan roedd yr archwiliadau yn gadarnhaol iawn. Rhoddwyd sylw i fân faterion. Adran Briffyrdd Gofynnwyd a fyddai’n bosib gofyn i’r contractwyr torri gwair dorri’r mieri yn gyfan gwbl ar y llwybr rhif 10 eleni rhag bod yr un broblem â’r llynedd yn codi eto, pan gafwyd cwyn bod y llystyfiant yn gorfodi cerddwyr i gerdded ar wal yr afon. Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy Cagwyd gwahoddiad i ddau aelod o’r Cyngor fod yn bresennol ar noson lansio’r yr i-pads. Cytunodd y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd i fynychu’r noson hon. Ceisiadau am gymorth ariannol Pwyllgor Neuadd Bentref - £500.00 Unrhyw Fater Arall Rhoddwyd hawl i’r is-bwyllgor seddau fwrw ymlaen gyda’r gwaith o dynnu’r matiau ac ailosod y matiau o dan yr offer yn y parc chwarae newydd. Mae angen cael gwybod a yw’n wir fod y diweddar Gyrnol John Jones, Maesygarnedd wedi ei gladdu ym mynwent Eglwys Llanenddwyn a chytunodd Sally Jones ymchwilio i hyn.

CEIR MITSUBISHI

Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk

Gwen C Evans (Gwen Gors)

Daeth y newyddion am farwolaeth Gwen C Evans, Lodge Corsygedol gynt, yn Llundain ar ddydd Gwener, 11 Ebrill yn 92 oed. Hi oedd yr olaf o’i chenhedlaeth o genhadon a aeth i’r India ym 1950. Yn rhifyn Ionawr eleni o’r Llais, cafwyd erthygl ganddi o dan y teitl ‘Edrych yn ôl’. Roedd yn mynd ar hyd stryd Dyffryn ac yn dwyn i gof y rhai oedd yn byw yn y tai ac yn cadw’r siopau. Diddorol oedd darllen mai Mrs Davies, London House, roddodd y siars iddi ar ran Horeb pan oedd yn gadael am India. Ym mis Chwefror anfonodd William Pant Gwyn lythyr i’r Llais. Roedd o yn cofio gwrando arni yn sôn am ei gwaith fel cenhades yn yr India ac yn dangos enghreifftiau o grefftwaith pobl India. Rhai ohonom yn ei chofio adre ar wyliau o’r India un tro a ninnau yn ymarfer at gyngerdd i gloi tymor y ‘Band of Hope’. Roeddem yn perfformio cân actol am Moses a Mrs Gwenfron Wynne yn ein dysgu a chawsom fenthyg saris gan Gwen Evans ac roeddem wedi gwirioni. Ella oedd Miriam ac Alice oedd y dywysoges. Aeth i Fryniau Casia ym 1950. Aeth i Shillong ddechrau Ionawr 1964 i Ysgol Uwchradd y Merched a sefydlu Adran Saesneg a dyfodd i fod yn Ysgol Saesneg y Synod. Bu’n rhaid i Gwen a chenhadon eraill adael yr India ym 1969 ond dychwelodd yno ym 1976 i agoriad ysgol newydd ac ym 1989 i ddathlu Jiwbilî Arian a dadorchuddio’r plac. Ar ôl ei magu yn Nyffryn Ardudwy, India, Manceinion, a Llundain fu’n gartref iddi wedyn. Bu’n weithgar iawn fel blaenor yn Llundain ac roedd ei meddwl yn dal yn glir i’r diwedd. Wedi cyflawni ei gwaith yn y maes cenhadol daeth adref i fyw gyda’i chwaer Ann a’i theulu. Parhaodd ei gyrfa fel athrawes ym Manceinion ac Enfield, lle y’i penodwyd yn bennaeth yr Adran Addysg Arbennig yn Ysgol Ambrose Flemming. Roedd y capel yn gonglfaen ym mywyd Gwen ac roedd ei chyfraniad i fywyd crefyddol Llundain yn enfawr. Teithiodd ar hyd ac ar led y brifddinas fel pregethwr lleyg yn ein capeli Cymraeg. Fe’i hetholwyd yn Flaenor yng Nghapel Wood Green yn 1975, lle bu’n ysgrifennydd am nifer o flynyddoedd. Gwen oedd y wraig gyntaf i’w hethol fel llywydd yr Henaduriaeth yn Llundain. Roedd yn aelod o’r Ysgol Sul ar hyd ei bywyd ac fe gyflwynwyd y Fedal Gee iddi hi rai blynyddoedd yn ôl. Gweithiodd yn ddyfal iawn gyda’r Ysgol Sul fel athrawes ac adnabyddai nifer fawr o blant - ac erbyn hyn, oedolion - hi fel “Anti Gwen Llundain”. Gwasanaethodd fel arolygwr Bwrdd yr Ysgol Sul rhwng 1981 a 1996. Ymhyfrydodd yn ei nithoedd a neiaint, ac roedd yn hen fodryb a hen hen fodryb annwyl i blant ddwy genhedlaeth iau. Yn y blynyddoedd diweddaraf doedd Gwen ddim yn gallu mynd i’r capel gymaint ond roedd yn dal yn ffyddlon i’w chrefydd a’r capel. Wedi amser maith yn yr ysbyty roedd yn eiddgar am ddod gartref i’w fflat bach ei hun lle gofalodd ei theulu amdani hyd y diwedd. Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf â Peter, Pat a Glyn Barnes, ei nith a’i neiaint: Richard Evans, Lynn Vandyke a Coralie Reynolds a’r teulu cyfan yn eu profedigaeth.

7


HARLECH Neuadd Goffa Harlech Gwnaethpwyd elw o £340.80 i goffrau’r Neuadd dydd Sadwrn, 26 Ebrill, yn y Sêl Pen Bwrdd. Llawer o ddiolch i bawb a gymerodd fwrdd, i aelodau’r pwyllgor a’u ffrindiau, i bawb a alwodd i mewn, ac i’r cefnogwyr a gyfrannodd mewn unrhyw fodd. Mae’r Neuadd wir angen pob cymorth ariannol ac mae cymydog a ffrind i’r Neuadd yn trefnu Sêl Pen Bwrdd eto dydd Sadwrn 3 Mai. Hoffai Pwyllgor y Neuadd ddiolch hefyd i aelodau cynbwyllgor Eisteddfod yr Urdd am eu rhodd o £200. Penderfynodd y criw gweithgar yma barhau ar ôl cyrraedd eu targed i’r Eisteddfod. Eu bwriad yw trefnu ambell i weithgaredd a rhannu’r elw ymysg elusennau lleol. Teulu’r Castell Croesawyd yr aelodau a gwesteion i’r cyfarfod ar brynhawn dydd Mawrth, 8 Ebrill, a gynhaliwyd yn Neuadd Goffa Llanfair, gan y llywydd Edwina Evans. Diolchodd i Gyngor Cymuned Harlech am y rhodd o £250 tuag at gynnal Teulu’r Castell. Mi fydd yr arian yma yn gymorth mawr at yr achos. Dymunwyd yn dda i rai oedd yn methu bod yma trwy salwch, a dymunwyd pen-blwydd hapus i Nana, Mair, Jack, Wenda a Myfanwy – llawer yn dathlu eu pen-blwydd ym mis Ebrill. Y mis nesaf fe fydd aelodau Merched y Wawr yn gyfrifol am brynhawn gwych arall a hefyd am yr adloniant gan John a Roger Kerry. Ar ôl trafod y busnes cafwyd cwis cerddorol wedi ei ddarparu gan Jack Forster. Roedd pawb wedi cael hwyl yn trio cael enwau i’r caneuon. Ar ôl yr hwyl a’r dyfalu cawsom de wedi ei baratoi gan y Pwyllgor. Genedigaeth Llongyfarchiadau i Kylie Bridger a Tom Kelly ar enedigaeth Lexi, chwaer fach i Ruby, Caio a Paige. Rhodd i’r Llais Mrs Elizabeth Jones, Trem Eifion £10

8

Diolch Diolch i bawb am y cardiau a’r galwadau ffôn yn dilyn fy namwain. Diolch yn fawr. Sonia Thomas Rhodd £10

Priodas Ym mis Ionawr priodwyd Sarah Thomas, merch John a Sonia, 4 Tŷ Canol, a Hugh Bracegirdle, Penygroes. Maent yn ymgartrefu yn Llannor.

Diolch Dymuna Emma Howie a David Owen, Caergwrle, ger Wrecsam, ddiolch o galon i bawb am yr anrhegion, y cardiau a’r negeseuon a roddwyd iddynt ar achlysur genedigaeth Archie Wyn ar y 3ydd o fis Ebrill. Diolch yn fawr iawn i bawb. Rhodd £10

Priodas arian Llongyfarchiadau i Hefin a Gwenda Jones, Arfor, Harlech, oedd yn dathlu eu priodas arian ar 29 Ebrill 2014. Pob dymuniad Pen-blwydd arbennig da oddi wrth eich ffrindiau i gyd. Pen-blwydd hapus iawn i Mrs Beryl Jones (Crossing!) sydd Dyweddïo newydd gael ei phen-blwydd yn Llongyfarchiadau i Lowri Ifan, 60 oed. Pen-blwydd hapus iti merch Helen ac Ifan Pritchard, Beryl, gan dy deulu a ffrindiau Harlech a Deian ap Rhisiart ar yn Harlech. eu dyweddïad. Dymuniadau gorau iddynt.

Sefydliad y Merched Cynhaliwyd cyfarfod o Sefydliad y Merched nos Fercher, 9 Ebrill yn Neuadd Goffa Harlech. Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod gan Edwina Evans. Dymunwyd yn dda i 5 aelod oedd yn dathlu pen-blwydd ym mis Ebrill. Darllenwyd y llythyr o’r Sir a chofnodwyd dyddiadau o bwys sef Cyngor y Gwanwyn ym Mhenrhyndeudraeth ar 29 Ebrill. Cafwyd adroddiad o Grŵp Artro ac fe gynhelir Ysgol Undydd ym Mhlas Tanybwlch ar 21 Mai. Cafwyd adroddiad am y stesion, a hefyd am gael gwobr gan Cadw Cymru’n Daclus am y gwaith sydd yn cael ei wneud gan yr aelodau yn yr ardal yma. Mae Myfanwy Jones a Jan Cole wedi trefnu digwyddiadau ar gyfer mis Mai. Fe fydd y cinio blynyddol yng Nghlwb Golff y Royal St David’s ar 24 Ebrill. Yna croesawyd Carys Edwards oedd wedi dod atom i roi sgwrs werthfawr am hanes cadw gwenyn ym Meirionnydd. Cawsom ganddi hanes difyr iawn am y gwenyn a’u gwaith. Y mis nesaf, ar 14 Mai, bydd Emma Quaeck yma i sôn am gadw’n heini. Croeso i unrhyw un ymuno â ni ar y noson.

HEN LUN

YARIS Dewch i holi am ein cynigion arbennig ar Yaris ac Auris.

AURIS

TOYOTA HARLECH Ffordd Newydd, Harlech 780432

Darganfyddwyd y llun hwn o dan un o’r lloriau yn siop bapur newydd Murphy’s yn Harlech. Tybed a all un o’n darllenwyr daflu goleuni arno?


Barcelona a Bangor – be ydy’r cysylltiad? Mae Nicky John bellach yn wyneb ac yn llais cyfarwydd ar raglen Sgorio S4C. Llongyfarchiadau calonnog iddi ar ei llwyddiant ym myd y bêl gron a’r cyfryngau. Cafodd ei holi’n ddiweddar a dyma bigion o’r cwestiynau a’i hatebion hi. Beth yw dy gefndir ac o le wyt ti’n dod yn wreiddiol? Cefais fy magu yn Harlech a dyma le’r ydw i’n ei ystyried yn ‘adref ’ hyd heddiw. Mae fy nheulu’n dal i fyw yno a chefais fy magu gyda fy nain a thaid ar y ddwy ochr yn byw gerllaw ym mhentref Llanfair, felly dyma’r lle yr ydw i’n ei ystyried y mae fy ngwreiddiau. Priodais yn lleol yn Eglwys Tanwg Sant, Llandanwg, ychydig o flynyddoedd yn ôl a dyma le hoffwn fyw rhyw ddiwrnod, er fy mod wrth fy modd yn gweithio ac yn byw yng Nghaernarfon ar hyn o bryd.

Holi Nicky John, cyflwynydd ar y rhaglen Sgorio, S4C

yn chwarae pêl-rwyd, ac mae fy nhad a fy mrawd yn dal i wneud tipyn go lew efo Clwb Harlech. Mae dad hefyd yn gefnogwr brwd o Manchester United, a gallaf gofio bod yn ifanc iawn a fynta’n gwneud i mi edrych ar Match of the Day i wylio hogyn ifanc iawn â gwallt cyrliog o’r enw Ryan Giggs yn chwarae ei gêm gyntaf erioed ar y rhaglen! Cyn bo hir roeddwn innau hefyd yn meddwl y byd o Man Sut wnest ti ddechrau darlledu U. Gallaf gofio bod tua naw a gweithio ar Sgorio? oed mewn parti Nadolig yn y Mi fues i’n lwcus iawn gan clwb chwaraeon yn Harlech, a ddechrau gweithio mwy neu lai Siôn Corn yn dod â blwch bach o fewn ychydig fisoedd wedi i mi i gadw broetsus a ballu ynddo raddio o Brifysgol Aberystwyth fo. Dywedodd rhiant un o fy yn 2006. Roeddwn i wedi ffrindiau y byddai dad yn gorfod gwneud rhywfaint o waith radio prynu modrwy i mi i’w rhoi yn y yn lleol yn barod yn ogystal â blwch, a fy ateb i oedd y byddai’n rhywfaint o actio, ond dwi’n llawer gwell gen i gael tocyn i cofio teimlo’n ffodus iawn fy wylio United i fynd ynddo fo ... mod wedi cael hyd i waith mor ac felly dechreuodd pethau! fuan. Pan ymunais efo Sgorio roeddwn Roedd dad yn ffrindiau efo Iwan yn ffodus iawn oherwydd rhan Roberts o Ddyffryn Ardudwy o’m gwaith i oedd teithio dramor a oedd, ar y pryd, yn chwarae i i rai o’r clybiau mwyaf yn Ewrop Leicester City, ac yn ddeg oed fel gohebydd ar ochr y cae. cefais wireddu fy nymuniad pan Roedd cael ymweld â’r Camp brynodd Siôn Corn (diolch i Nou, Bernabeu, Sanchez Pizjuan Iwan), ddau docyn i mi i weld a llefydd eraill i recordio darnMan U v Leicester yn Old i-gamera ar ochr y cae yn wych, Trafford yn anrheg Nadolig. yn ogystal â rhoi cynnig ar Ond yn eistedd ym mhen y cae’r sgwrsio ar ddiwedd y gêm efo sêr tîm oddi cartref, wrth gwrs! pêl-droed y byd! Treuliais lawer o’r blynyddoedd Wrth i’r rhaglen symud ymlaen nesaf hyd at fy arddegau hwyr a datblygu’n ystod y tymhorau yn mynd i Old Trafford ar canlynol, felly hefyd fy rôl i ac benwythnosau ac i gemau ganol roeddwn yn canolbwyntio mwy yr wythnos hefyd, ond wedi ar yr ochr gynhyrchu. Dysgais i mi fynd i’r brifysgol roedd lawer iawn yn y cyfnod hwn. yn anoddach ac, wrth gwrs,

Mi wyt ti wedi bod yn cyflwyno adroddiadau o’r gemau ar y rhaglen y tymor hwn – wyt ti’n mwynhau hynny? Yndw, dwi wrth fy modd efo fy rôl newydd ar y rhaglen y tymor hwn, ac rydw i’n teimlo’n lwcus iawn mod i’n cael gwneud be rydw i’n ei wneud. Dydw i ddim yn meddwl y byddwn yn gallu gwneud be rydw i’n ei wneud rŵan fodd bynnag heb weithio ‘y tu ôl i’r llenni’ fel petai ar yr ochr gynhyrchu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yma. Mae wedi bod yn brofiad amhrisiadwy, ac wedi fy ngalluogi i ddeall yr holl waith sydd ei angen i roi rhaglen at ei gilydd. Hefyd, mae wedi rhoi cyfle anhygoel i mi ddod i adnabod pob math o bobl yng Nghynghrair Cymru.

Beth wyt ti’n ei wneud ar ddiwrnod arferol? Oherwydd bod dwy brif raglen Sgorio bob wythnos, yn ogystal â fersiwn i ieuenctid o’r uchelbwyntiau, does dim dau ddiwrnod yr un fath i ddweud y gwir. Gallaf fod yn eistedd mewn ystafell olygu un diwrnod, yn penderfynu be fydd yn cael ei ddarlledu fel uchelbwyntiau, cyfarwyddo’r camerâu yn y stiwdio ar gyfer rhaglen nos Lun, helpu i drefnu criwiau camera i ffilmio gemau’r penwythnos, ysgrifennu eitem ar gyfer y wefan, neu archebu gwestai i bobl - unrhyw beth dan haul, i ddweud y gwir! unwaith y dechreuais weithio ar Wrth gwrs, mae dyddiau Sadwrn Beth ydy dy gefndir di o ran Sgorio, roedd rhaid i mi roi trefn ychydig yn wahanol, yn dibynnu pêl-droed? ar fy mlaenoriaethau. Ond, hyd be sy’n rhaid i mi ei wneud Cefais fy magu mewn teulu oedd heddiw, mae gan dad a fy mrawd y diwrnod hwnnw. Fel arfer yn gwirioni ar chwaraeon a phêl- docynnau tymor! byddaf yn cyrraedd y safle efo droed. Roedd dad yn chwarae’n gweddill y tîm cynhyrchu tua lleol i Harlech ac roedd mam

9.30 y bore, yn cael sgwrs gyda’r cynhyrchydd i gael gwybod yr hyn sydd ei angen arno fo’r diwrnod hwnnw, yna efallai’n recordio rhyw ddwy sgwrs cyn y gêm gyda’r rheolwyr ar ôl iddyn nhw gyrraedd ac yna paratoi i ymarfer cyn i ni fynd ar yr awyr. Er gwaethaf bod ar y safle am rai oriau cyn i’r rhaglen ddechrau, mae’r amser yn hedfan ac mae hi’n 3 o’r gloch y prynhawn cyn troi rownd! Unrhyw straeon difyr am y swydd? Yn ystod fy nyddiau cynnar efo’r rhaglen, roeddwn draw yn Seville ar gyfer y gêm rhwng Sevilla a Real Madrid. Soniodd cynhyrchydd y rhaglen ar y pryd wrthyf i fod llawer o bobl wedi dod at ei gilydd y tu allan i’n gwesty, ond wnes i ddim meddwl llawer am y peth. Beth bynnag, y bore wedyn, wrth fynd i lawr i gael brecwast, roedden ni’n aros am y lifft ochr yn ochr â David Beckham, Raul, Guti a Ronaldo! Mae’n rhaid i mi ddweud nad oedd gen i ddim cywilydd ar y pryd, oherwydd gofynnais iddyn nhw am eu llofnod a chefais dynnu fy llun efo nhw! Beth yw dy hoff atgof? Mae llawer iawn ohonyn nhw a dydw i ddim yn gwybod ym mhle i gychwyn. Roedd casglu cyfweliadau ar ôl unrhyw gêm La Liga yn rhoi gwefr arbennig bob amser oherwydd roeddwn yn gorfod pinsio fy hun wedyn, wrth feddwl, “Rargol, rydw i newydd siarad efo Xavi, neu Iniesta, neu Sergio Ramos ...”. Wedi dweud hynny, rhaid i mi ddweud fod gwell gen i fy rôl y tymor hwn - mae teledu byw yn rhoi hyd yn oed mwy o wefr. A’r stadiwm gorau i ti ymweld ag o? Yng Nghynghrair Cymru, mae’n debyg mai Nantporth ydy’r gorau - cae da a chyfleusterau da. Rydw i hefyd yn hoff o Park Avenue yn Aberystwyth oherwydd mae’n fy atgoffa o fy nyddiau yn y brifysgol, ac mae hefyd yn braf cael ymweld eto â Belle Vue (neu Stadiwm Chwaraeon Corbett) yn Y Rhyl y tymor hwn. Yn Sbaen, mae’r Camp Nou bob amser yn rhagorol, ond mi oeddwn i hefyd yn mwynhau ymweld â’r Sanchez Pizjuan yn Seville.

9


TAITH FEICIO MEIRION

hefyd brofiad o aros y noson mewn hen garchar - gan brysuro i ychwanegu mai hwn oedd yr hostel am y noson honno.

TALU 75% O GOSTAU CYMWYSTERAU GWEITHGAREDDAU AWYR AGORED

Hoffech chi gael gyrfa neu waith rhan amser yn y sector awyr agored? Oes angen hyfforddiant arnoch er mwyn cael cymhwyster? Codi pabell Mae gan Fentrau Iaith y gogledd, ar y cyd â chynllun datblygu Weithiau roedd yn codi pabell gwledig Llywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd gynllun mewn llecyn gwyrdd ar ochr arbennig sydd yn cynnig talu 75% o gostau eich cymwysterau. ffordd, neu mewn maes parcio lorïau, ac yn bwyta llawer o basta Gall cymwysterau fod gymaint â £1,000 ac felly mae cael 75% o’r costau wedi eu talu yn gynnig na allwch ei fethu. a thiwna. Mae dros 100 o unigolion ar draws y gogledd wedi cael budd o’r O Mount Gambier i lawr i cynllun hyd yma. Dyma sydd gan rai i’w ddweud: Warrnambool, pentref bach lan y môr, debyg iawn i lan môr Cychwyn Harlech. Yna dechrau’r daith ar “Mae’r cymorth a gefais gan gynllun awyr agored wedi bod yn Cychwynnodd Meirion ar ei hanfodol i mi ennill fy nghymwysterau fel hyfforddwr ac arweinydd daith feicio noddedig o amgylch hyd y Great Ocean Road, ffordd eirafyrddio. Drwy gefnogaeth y Mentrau Iaith, gallaf helpu pobl o 300 km ar hyd yr arfordir, a Awstralia ddechrau Tachwedd chreigiau ymhob man yma. Yma eraill i ddarganfod y gamp rwyf mor hoff ohoni yn eu hiaith 2013 am gyfnod o 10 wythnos i naturiol”. gwelais yr arth coala bach delaf gyd, er mwyn codi arian er cof erioed, a chael tywydd anwadal o Matt Garnett, Gwynedd, Hyfforddwr Eirafyrddio am Efan tuag at Dŷ Gobaith. Mab ei gefnder oedd Efan bach, law a chenllysg. “Yr wyf yn gwerthfawrogi’r cymhorthdal a dderbyniais gan Fenter dim ond 20 mis oed. Iaith Conwy am y cymwysterau yr wyf wedi eu cwblhau. Nid yn Melbourne Rhoddwyd y beic ar gyfer y unig yr wyf wedi cael fy nghymhwyso yn y gweithgareddau yr daith gan gwmni Harlech Frozen Yna ymfalchïo drwy reidio’r beic i mewn i Melbourne, sef ail dref oeddwn yn paratoi i hyfforddi ynddynt, ond mae’r cynllun wedi Foods, a rhoddwyd nawdd fy ysgogi i wella fy safon bersonol yn y gweithgareddau hyn. Un ariannol sylweddol gan wahanol fwyaf Awstralia. Aeth y daith o’r elfennau gorau o’r cynllun yw fy mod yn gallu pasio’r medrau ymlaen wedyn tuag at Sydney, gwmnïau busnes lleol yn yr gyda llawer o riwiau i’w goresgyn ymlaen i blant a phobl ifanc lleol, a fydd, gyda gobaith, yn gweld fod ardal, megis Islawrffordd, Artro dyfodol cyflogedig iddynt hwy drwy’r gweithgareddau awyr agored Properties a Rhaeadrau Nantcol yn awr, ac yn gwneud y daith yn maent yn eu mwynhau”. anodd tua’r terfyn; taith o 701 tuag at y daith gychwynnol, yn Guto Roberts, Ynys Môn, Hyfforddwr Syrffio a Mynydda km. Roedd cyrraedd Sydney a ogystal â nawdd gan unigolion reidio’r beic drwy’r ddinas yma eraill a gwahanol nosweithiau Cyfle arbennig i ddechreuwyr neu brofiadol felly peidiwch â cholli yn brofiad dychrynllyd, gyda’r codi arian tuag at yr apêl. eich cyfle. Os ydych yn byw, yn gweithio neu’n gwirfoddoli yn holl brysurdeb ar y ffordd. Yna cyrraedd traeth Bondi, a diwedd ardaloedd gwledig gogledd Cymru, cysylltwch heb oedi gyda’ch Cymorth Menter Iaith leol neu swyddog y cynllun sef Esyllt Tudur, Menter y daith feicio fythgofiadwy. Cafwyd hefyd gymorth mawr i Iaith Conwy, 01492 642357 neu esyllt@miconwy.org. allu gwireddu’r freuddwyd yma 2651 milltir oddi wrth Dic a Pat Hughes (Dic Plas) a Gwynfor a Deborah Cyfanswm o 2651 o filltiroedd hyd y daith, ac wedi colli 2 stôn (Gwrachynys), a diolch iddynt Dydd Mawrth, o bwysau yn ystod y cyfnod. am eu cefnogaeth frwdfrydig. 27 Mai 2014 Cyfarfod nifer o bobl yn gwneud Wel, dyma gychwyn o lan y Diwrnod casglu sbwriel yr union yr un peth, un bachgen môr Fremantle, ar arfordir blynyddol ar draeth Harlech. gorllewinol yr ynys gyda beic yn yn cerdded o amgylch Awstralia Dewch yn llu i dacluso eich ac yn cymryd blwyddyn a pwyso 11 cilogram, a phac ar ei ardal leol. Mwy o fanylion ar hanner i gyflawni ei nod, wedi gefn yn pwyso tua 29 cilogram. wefan Cymdeithas Eryri. gwisgo fel cymeriad allan o Anelu draw tuag at Norseman, “Star Wars”, ac un athro ysgol taith o 726 km. Yna chychwyn yn beicio o amgylch Awstralia tuag at Balldonia ar hyd ffordd hefyd. unionsyth o 148 km, trwy anialwch a elwir yn Nullarbor Plain tuag at Border Village i dde £8000 Casglwyd y swm o £8,000 hyd Awstralia. yma. Mae’r cyfrif yn dal yn agored os dymunir cyfrannu Trwy’r anialwch tuag at yr apêl, trwy “just giving”, Taith wedyn drwy anialwch nes ar Weplyfr (Facebook) neu drwy cyrraedd Ceduna. O Ceduna law Meirion Griffiths, Islwyn, ymlaen i Adelaide, a gweld dim Talsarnau. ond caeau anferth o wenith ar hyd y darn yma o’r daith. Hoffai Meirion ddiolch i O Adelaide i lawr i Mount bawb am bob cefnogaeth; Gambier, taith o 550 km mewn gwerthfawrogir pob cyfraniad cwta 5 diwrnod a hanner. Eto ariannol tuag at Apêl Tŷ mwynhau’r olygfa o gaeau gwenith ymhob man. Cael Gobaith.

CYMDEITHAS ERYRI

10


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Merched y Wawr Croesawodd y Llywydd, Gwenda Paul bawb i’r cyfarfod ar nos Lun, 7 Ebrill a dechreuwyd drwy gyd-ganu cân y mudiad. Wedi darllen a derbyn cofnodion cyfarfod 3 Mawrth a nodi cynnwys cofnodion y Pwyllgor Rhanbarth diwethaf, cyflwynwyd gwybodaeth am dri achlysur - Gŵyl Ranbarth Meirion yn Neuadd Llanegryn ar 30 Ebrill, Noson y Dysgwyr yn Neuadd Llanelltyd ar 15 Mai a Gŵyl y Pum Rhanbarth ym Mangor ar 10 Mai. Derbyniwyd gwybodaeth bellach am y rota gwneud te ym Mhabell MyW ar faes Eisteddfod yr Urdd – bydd Cangen Talsarnau yn gofalu am y babell o 2.45 tan 5.00 o’r gloch ar brynhawn dydd Mercher, 28 Mai. Cafwyd enwau’r rhai oedd yn barod i gynorthwyo a chafwyd addewidion am 10 dwsin o gacennau cri. Roedd yr edafedd glas a melyn wedi cyrraedd ar gyfer gwau’r baneri a chynigiodd Siriol ac Eirwen eu gwau. Trafodir eto sut y byddwn yn gwneud y llythrennau gydag enw’r gangen ar y baneri. Penderfynwyd paratoi ffurflenni pleidleisio ar gyfer ethol swyddogion newydd i’r Gangen yn y Cyfarfod

Y LASYNYS

Os ydych am drefnu i weld y tŷ, gellir cysylltu â ni ar 01766 781395 neu ar e-bost: ylasynys@btconnect.com Cyfeiriad y wefan yw www.lasynys.co.uk

Blynyddol ar 12 Mai. Y wraig wadd y noson yma oedd aelod o staff Gwasanaethau Trais yn y Cartref, yn gweithio yn y lloches i fenywod ym Mlaenau Ffestiniog. Cafwyd sgwrs ddiddorol ac addysgiadol iawn gan Sioned McQuilling, yn sôn am bob math o drais oedd yn digwydd a’r amgylchiadau anodd yr oeddynt yn ymdrin â hwy. Eglurodd bod y gwasanaeth yn gyfrinachol a’u bod yn cydweithio ag asiantaethau eraill er mwyn rhoi’r cymorth gorau i’r rhai oedd yn dod atynt. Cawsom weld ffilm yn portreadu bywyd tair merch gyda phroblemau gwahanol, yn treulio cyfnod mewn lloches. Yna bu cyfle i holi a thrafod gyda Sioned a dysgwyd llawer mwy am yr holl waith da yr oedd y Gwasanaeth yn gyfrifol amdano. Diolchodd Siriol i Sioned am ei chyflwyniad diddorol, a oedd wedi bod yn agoriad llygad i ni, a diolchodd hefyd bod asiantaeth fel hyn ar gael i helpu’r rhai oedd yn dioddef trais. Paratowyd y baned ar y diwedd gan Frances, Meira a Rhiannon enillodd y raffl. Damwain ar wyliau – diolch Dymuna Mrs Win Jones, Sŵn yr Wylan, 2 Maes Trefor, ddiolch i bawb am eu dymuniadau da a’u caredigrwydd yn ystod ei chyfnod o ‘garchar’ yn ei chartref yn dilyn ei hanaf tra ar wyliau i weld Golau’r Gogledd yn Alta, Norwy, ger Cylch yr Arctig. Diolch a rhodd £5

R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU

Anfon cofion Anfonwn ein cofion cynnes at Gwen Williams, 5 Cilfor sydd wedi cael damwain anffodus iawn yn ei chartref a thorri ei choes yn eithaf drwg. Wedi derbyn llawdriniaeth yn Ysbyty Gwynedd mae wedi cael dod adref erbyn hyn. Bydd raid ei chymryd yn araf deg iawn rŵan a dim dawnsio llinell am sbel! Rydan ni’n meddwl amdanat ti, Gwen. Cydymdeimlo Cydymdeimlwn ag Eleri, Tŷ Cerrig yn ei phrofedigaeth o golli ei thad yn Fferm Bron Eifion, Cricieth yn ddiweddar.

Rhodd Diolch am y rhodd o £11.50 gan Mrs Sally Williams.

HEN LUN

David Soar ac Arwel Morgan yn rhoi bwyd i’r ŵyn llywaeth yn Nhŷ Cerrig rai blynyddoedd yn ôl.

TARIO YN NHŶ CERRIG

Ieuan Roberts, Gwynfor Williams, Wil Morgan, Heron Clarke, Arwel Morgan, Dic Morgan, Iwan Morgan, Dylan Jones ac Islwyn Pritchard Jones yn helpu i dario’r ffordd yn Nhŷ Cerrig rai blynyddoedd yn ôl.

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286 Ffacs 01766 771250

Honda Civic Tourer Newydd

11


THEATR HARLECH

CROESAIR 1

2

4

3

5

Am fanylion pellach am ddigwyddiadau’r Theatr, ffoniwch 01766 780667, neu ewch i’r wefan ar www.theatrharlech.com

6

7 8

10

13

Digwyddiadau am 7.30 oni nodir yn wahanol.

9

MAI

11

12

15

14 17

16 18

20

19 21

22

23

15, Iau - Ffilm ‘Elena’, sy’n archwilio cymdeithas gyfoes Rwsia yn ddiflewyn ar dafod. 16, Gwener ac 17, Sadwrn – ffilm deulu i’w chadarnhau 18, Sul – 2.00 yp, ffilm deulu 19-31, wythnos y Sulgwyn Sioe Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014 Bydd Eisteddfod yr Urdd yn defnyddio’r Theatr am y p ythefnos er mwyn creu Sioe Eisteddfod yr Urdd, Meirionnydd. Bydd cyfle i wylio’r tîm creadigol wrth iddynt weithio gydag ieuenctid lleol i greu sioe anhygoel. Cofiwch gadw llygad am ymarferion agored yn y prynhawn yn ogystal â sgyrsiau gyda’r bobl ifanc. 23, 24 a 26 am 7.30 yh 30, Gwener – Clwb Ffilm Ieuenctid Celf Ardudwy, 9.00 yh, prif lwyfan

Ar draws

1 Ystyfnig (6) 4 Mwynhau eich hun ar achlysur arbennig (5) 8 Darn o beiriant sy’n troi o gwmpas pwynt sefydlog (5) 9 Tref yng ngogledd Cymru (6) 10 Siarp (3) 11 Y diwrnod cyn heddiw (3) 12 Wedi diffodd (4) 13 Ffôs ddofn i gario dŵr i dir sych (6) 15 Drachefn (3) 18 Tŷ Esgimo (4) 19 Cywion mathau o anifeiliaid sy’n hela’u bwyd (7) 22 Bod yn ddrwg gan (6) 23 Enw dyn (5)

I lawr

Mis Mawrth tan fis Hydref

1 Grŵp o gantorion (5) 2 Tymer (5) 3 Teyrngarwch (8) 5 Amcanion (6) 6 Ymosod ar rywun yn chwyrn (9) 7 Stori grefyddol (5) 13 Gêm awyr agored (6 ) 14 Y bwriad i wneud niwed (6) 16 Budreddi (3) 17 Teclyn siafio (5) 20 Pentref yng Ngwynedd (4) 21 Heb fod yn syth (3)

12

Sêl Cist Car

Atebion Mis Ebrill

LLYTHYR

AR DRAWS 1 Jeli 3 Beisicl 8 Biwro 9 Record 10 Eco 11 Natur 12 Gerllaw 13 Lwc 15 Poni 17 Uno 19 Englyn 20 Neidio 22 Ynni 23 Etifeddes

Annwyl Gyfeillion

I LAWR 1. Ji-binc 2 Lawnt 4 Efrog 5 Sacarin 6 Carfan 7 Poeri 14 Curo 15 Gwneud smonach 16 Newydd 17 Undeb 18 Rilen 20 Iddew

Bwriad Pwyllgor Coffa T Llew Jones yw ceisio sicrhau y bydd Cymru gyfan ynghlwm â’r dathlu. I’r perwyl hwn mae’r Pwyllgor yn awyddus i sefydliadau a chymdeithasau ledled Cymru i ystyried ym mha fodd yr hoffent ddathlu’r achlysur pwysig hwn.

ENILLWYR MIS EBRILL Dyma’r enillwyr y tro hwn: Arwyn Jones, Llan Ffestiniog; Ceinwen Owen, Llanfachreth; Gweneira Jones, Cwm Nantcol, Hilda Harris, Dyffryn Ardudwy; Dilys A Pritchard Jones, Abererch; Ieuan Jones, Rhosfawr, Pwllheli. SYLWER Atebion i sylw: Phil Mostert, Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech LL46 2SS, erbyn canol y mis os gwelwch yn dda.

Clwb Chwaraeon Porthmadog

Dydd Sul 8 tan 1 £5 y car Ymholiadau - 01766 128667

CANMLWYDDIANT GENI T LLEW JONES Ar Hydref 11, 2015 byddwn yn dathlu canmlwyddiant geni T Llew Jones, un o lenorion amlycaf Cymru yn enwedig ym maes llyfrau plant.

Gwyddom y bydd cymdeithasau a mudiadau yn eich ardal yn mynd ati’n fuan i drefnu rhaglen ar gyfer y dyfodol. Byddem yn falch petaent yn ystyried cynnwys rhyw elfen o waith neu atgof yn gysylltiedig â T Llew Jones yn eu rhaglen arfaethedig. Ar ôl i chi, fel cymdeithasau a mudiadau gael amser i feddwl a chynllunio byddem yn gwerthfawrogi petaech yn gadael i mi wybod beth fydd eich bwriad. Cawn gyfle wedyn i hysbysebu’r digwyddiadau ar ein gwefan ac yn y wasg Gymraeg. Medrwch gysylltu â ni ar y cyfeiriad uchod neu drwy e-bost at owennadavies@btinternet.com Edrychwn ymlaen at glywed gennych. Yr gywir M Owenna Davies (Cadeirydd)

ATEBION I’R CWIS ADAR

Titw penddu, coch dan adain, dryw eurben, llinos werdd, cnocell werdd, llwyd y gwrych, tylluan wen, tylluan frech, gwennol, gwennol ddu, hebog tramor, siglen fraith, jac y do, brân dyddyn, pioden, ffesant, pioden fôr, môr-wennol, gwylan benddu, gwylan gefnddu, brân goesgoch, cudyll coch, bwncath, eryr môr.


NEWYDDION YSGOL ARDUDWY

Siarad Cyhoeddus Cafodd pump o ddisgyblion o B10 a B11 lwyddiant mawr mewn Cystadleuaeth Dadlau Gyhoeddus Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig yng Nghaernarfon. Roedd y disgyblion mewn dau grŵp, Will Richards B11, Oisin Lowe Sellers B11 a Steffan Chambers B11 yn cynrychioli Syria, ac Elin Jones B10 a Rhys Titley B11 yn cynrychioli UDA. Trafododd y grwpiau ryfel Syria, peryglon naturiol a newid hinsawdd. Enillodd tîm yr

ysgol y gystadleuaeth ac roedd hyn yn gryn gamp gan fod y myfyrwyr o’r ysgolion eraill ar draws Gogledd Cymru yn y 6ed dosbarth. Byddant rŵan yn mynd ymlaen i Gystadleuaeth Gwledydd Prydain yn Lerpwl. Dawns i Bawb Cafodd bechgyn B7 gyfle i gymryd rhan mewn sesiwn ddawns arbennig pan ddaeth criw o ddawnswyr gwrywaidd i’r ysgol i ddangos pa mor berthnasol yw dawnsio i fechgyn hefyd. Cafwyd hwyl wrth ymuno yn y dawnsfeydd modern gwahanol.

Ar y Teledu Bu’r BBC yn ffilmio yma. Ysgol Ardudwy yw’r ysgol orau yng Nghymru am roi sylw i addysg ariannol yn ôl arolwg diweddar. O ganlyniad, daeth camerâu “Wales Today” a “Newyddion 9” yma a ffilmiwyd Miss Mari Evans yn dysgu gwers ar dreth incwm personol i grŵp mathemateg o B10. Wythnos STEM Cynhaliwyd wythnos STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg). Treuliodd y disgyblion yr wythnos yn ymchwilio i egni gwynt i geisio ennill Gwobr Darganfod. Er mwyn ennill y wobr roedd rhaid iddynt ddylunio ac adeiladu winsh wedi ei bweru gan wynt. Yr her oedd codi cwpan oedd yn cynnwys pwysau oddi ar y llawr gan ddefnyddio egni gwynt yn unig. Y tîm buddugol oedd y tîm oedd yn gallu codi’r pwysau mwyaf oddi ar y llawr. Mae’r gweithgareddau wedi gwella dealltwriaeth y disgyblion o ddefnydd a dyluniad dyfeisiadau sy’n cael eu pweru gan wynt. Daearyddiaeth Fel rhan o’r cwrs gwaith maes TGAU Daearyddiaeth B11 aeth y disgyblion i’r Friog. Bu’r grŵp yn astudio prosesau arfordirol, gwneud mesuriadau a thrafod ansawdd traeth Ro Wen. Roedd y disgyblion yn casglu data

gyda Mr Roberts, eu hathro daearyddiaeth, ac Angharad Harris o Barc Cenedlaethol Eryri. Maximise your Potential Daeth Mr Dry o gwmni ‘Maximize Your Potential’ at B10 a B11 yn ddiweddar. Sesiwn i godi ein hunan hyder a chyflawni ein potensial oedd hon. Dyma oedd gan rai o ddisgyblion B11 i’w ddweud am y diwrnod : Dywedodd Lia fod “yr holl wahanol ffyrdd o adolygu yn ddiddorol” tra’r oedd Lauren o’r farn fod y sesiwn yn “ysgafn a hawdd i’w deall”.

Eisteddfod Llongyfarchiadau i’r rhai fu’n llwyddiannus yn Eisteddfod y Sir ac sy’n mynd drwodd felly i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala ym mis Mehefin, sef Cân Actol Blwyddyn 7-9 ac Elan Roberts, blwyddyn 11. Llongyfarchiadau hefyd i barti llefaru Genod Ardudwy, ymgom Harri D, Angharad, Logan a Brychan ap Gareth, ac unawd corn Gwenno Lloyd a ddaeth yn drydydd. Llongyfarchiadau mawr hefyd i Phillipa Cunnington (B8) ar ei llwyddiant yn Eisteddfod y Sir. Cafodd y wobr gyntaf ar y llefaru unigol i ddysgwyr, Blwyddyn 7-9. Bydd felly hefyd yn cystadlu yn y Genedlaethol - camp yn wir, o gofio ei bod yn dysgu Cymraeg ers cwta 18 mis! Pob hwyl iddi hithau hefyd yn Y Bala. Cyn cyrraedd yr Eisteddfod Sir bu llawer o gystadlu yn yr Eisteddfod Cylch. Dyma’r nifer mwyaf i gystadlu o Ysgol Ardudwy ers amser maith ac rydym yn gobeithio y bydd y bwrlwm yma’n parhau i’r dyfodol.

Caeau Cymru: Ar Gof a Chadw

Gwerthfawrogai Jordan “y cynghorion bach ar sut i gofio pethau, ac roedd yr hyfforddwr yn ddiddorol a difyr”. Bydd ganddo fo hyd yn oed fwy o benderfyniad rŵan. Dysgodd Elin “lawer am sut mae ein hymennydd yn gweithio a ffyrdd newydd o adolygu” tra llwyddodd Mr Dry i ysbrydoli Josh i “fynd ati o ddifri i wneud y gwaith”. Barn Grady oedd “ei fod o wedi llwyddo i gynnwys pawb, a doedd o ddim wedi teimlo’n ddiflas o gwbl!” Fel y dywedodd Mr Gwyn Meirion Jones wrth ddiolch i’r siaradwr, nid oedd y sesiwn yn un sych o gwbl er mai Mr “Sych” oedd enw’r cyflwynydd!

Cofiwch am y gyfres ddifyr hon bob nos Fercher ar S4C am 8.25. Yn y gyfres hon mae Brychan Llŷr yn datgloi cyfrinachau ein cymunedau gwledig, drwy ddadansoddi ac ymchwilio i’r enwau a ddefnyddir ar ein tiroedd. Yn gwmni i Brychan mae’r hanesydd Dr Rhian Parry yr ydym i gyd yn Ardudwy’n gyfarwydd â hi oherwydd ei gwaith yn yr ardal, ac yn y rhaglen gyntaf roedd y ddau’n canolbwyntio ar diroedd hen ystâd Gelli Iorwerth ger Trawsfynydd. Trafodwyd casgliad o hen enwau diddorol ar gaeau fferm Plas Capten. Bu Brychan yn darganfod pwysigrwydd hen garreg fedd ar ffordd Rufeinig Sarn Helen ac yn dysgu am hen olion amaethyddol i’w gweld ar diroedd fferm Yr Ysgwrn, ac ar y ffriddoedd uwchben.

13


EISTEDDFOD BRO MADOG 1987

Daeth nifer o gantorion y fro ynghyd adeg Eisteddfod Bro Madog ym 1987 i ffurfio Côr Pensiynwyr i gystadlu yn ystod yr wythnos o dan arweinyddiaeth Dafydd Bryn a’r cyfeilydd Sylfia Hughes. Dyma rai o’r cantorion sydd i’w gweld yn y llun - ydych chi’n gallu enwi mwy ohonyn nhw? [T] = Trawsfynydd/ [P] = Penrhyndeudraeth] Rhes ôl - Llinos Llyfni Hughes, Gwenno Roberts (chwaer Dafydd Bryn), Menna Hayley [T], Cit Huws [T], I T, Adwydeg, Trawsfynydd, Robert John Jones (Ffatri, Pentre Gwynfryn) Ymysg y gweddill: Mrs A V Cain [T], Prescilla Jones

CYNGOR CYMUNED HARLECH

[T], Eirwen Hughes [T], Richie E Williams (Llanfair), Idris Edwards (Talybont), I Roberts [T], John Davies (Tegannedd, Bronaber), Maggie Kate Roberts [T], Annie Edwards [T], Edna M Jennings (Dyffryn Ardudwy), Nellie Jones [T] (mam Robin R, Penrhyn, a Jane Corps, Dyffryn), Mattie Lewis [T], mam Bryn Lewis, Llandanwg), L M Roberts [T], Annwen Williams [T], Sylfia Hughes, Dafydd Bryn Roberts, Gwilym Hedd Morris (Ynys), ac Ithel Davies (teulu Glan Meirion, Ynys). Mwy o’r rhes flaen: Peris Davies [P], Susie Jones [P], Nansi Vaughan Jones [P], Betty Evans [P], Kate Tudor [P]

COFNODION DRAFFT Estynnwyd llongyfarchiadau i Gordon Howie ar ddod yn daid am y tro cyntaf. Rhandiroedd Lluniwyd cytundeb ynglŷn â rhentu’r garej dan glo ger y safle uchod gan Mr David Priestley. Mae Mr Harri Pugh yn barod i gychwyn y gwaith o godi’r wal. Coed Nadolig Cytunodd Gareth Jones i helpu i blannu’r coed Nadolig. Anfonir biliau i rai sy’n llogi rhandiroedd yn fuan. CEISIADAU CYNLLUNIO Newid defnydd o siop i fflat Siop 1, Gwyddfor, Stryd Fawr, Harlech Cefnogi’r cais hwn ond mae gan yr aelodau bryder bod safle busnes arall yn cael ei golli yn y dref, a phryder hefyd am barcio gan fod problem ddirfawr yn bodoli yn y dref yn barod. Cyngor Gwynedd Oherwydd diffyg defnydd o faes parcio’r hen ysgol fel man parcio tymor byr, ystyrrir newid dynodiad y safle i un tymor hir yn y flwyddyn nesaf. Mae cais gan y Cyngor i osod llinellau melyn dwbl yng nghyffiniau Rock Terrace ac ochr yr hen ysgol i lawr at y groesffordd ar y cyd â newid statws y maes parcio.

FFAIR EGIN GWYRDD

Yn y Ffair Egin Gwyrdd bydd cynhyrchwyr bwyd lleol, grwpiau ieuenctid, cwmnïau ynni adnewyddadwy, seiri coed gwyrdd a chrefftwyr lleol yn dod at ei gilydd. Yng nghanol y Ffair mae’r gyfnewidfa blanhigion blynyddol lle byddwch yn dod o hyd i bopeth o domatos a letys i goed ceirios a ffa fflat Affricanaidd. Lluniaeth: Bydd cawl cartref, bara a chacennau blasus ar gael drwy gydol y dydd a bydd raffl gyda gwobrau gwych, gan gynnwys coeden Afal Ynys Enlli a roddwyd gan Ian Sturrock a’i Feibion.

Bydd hefyd ddigon o bethau i blant, o adeiladu blwch adar i beintio wynebau. Bydd Dafydd Elis Thomas yn agor y Ffair yn swyddogol am 10.30 ac eleni rydym yn gobeithio torri’r record o 230 o bobl a alwodd draw’r llynedd!

FFAIR EGIN GWYRDD

Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth 10.00 tan 3.00 Mai 10, 2014

MYNEDIAD AM DDIM 14

Cwsmer yn Ffair y llynedd

Pwyllgor yr Hen Lyfrgell Tynnwyd y stôf o’r gegin oherwydd ei bod yn ddiffygiol. Mae’r Pwyllgor Rheoli wedi penderfynu ail-leoli’r gegin i’r hen ardal storfa o dan y grisiau gan fod hyn yn galluogi defnyddio’r gegin bresennol fel ystafell bwyllgor. Cwyno ar e-bost Derbyniwyd e-bost arall gan aelod o’r cyhoedd yn diolch am yr wybodaeth ynglyn â chael copi o gofnodion y Cyngor yn Saesneg ond yn pryderu bod y Cyngor yn gwahaniaethu a dim ond yn cael pobl sy’n siarad Cymraeg yn aelodau o’r Cyngor. Adroddodd y Cadeirydd ei fod wedi ymateb trwy ofyn sut oedd rhywun yn gallu dweud bod y Cyngor yn gwahaniaethu. Adroddodd Siân Roberts ei bod wedi cael sgwrs hir gyda Ms Rhodes ynglyn â’r e-byst hyn a chytunodd y Cadeirydd hefyd i anfon gair ymhellach at Ms Rhodes ynglyn â’r mater. Cytunwyd i ailddechrau gosod copïau o gofnodion y Cyngor yn y Gymraeg a’r Saesneg yn y Llyfrgell a chytunodd Siân Roberts wneud hyn. Pwyllgor Twristiaeth Harlech Cafwyd gwybod ei bod yn bosib i fusnesau lleol wneud cais am ostyngiad yn y dreth os gallant brofi eu bod yn gwneud colled. UNRHYW FATER ARALL Derbyniwyd pris gan Tree Fella am dorri’r coed peryglus ar y llwybr natur. Gofynnwyd i CADW a fyddai’n bosib iddynt roi gwybodaeth am y gwaith sy’n digwydd yn y blwch ger y castell. Mae arwyddion newydd “Dim cŵn” wedi eu gosod ar giatiau cae chwarae’r Brenin Siôr. Mae’r Cyngor wedi mabwysiadu’r hysbysfyrddau newydd a gosodwyd placiau ger y cafn dŵr a ger yr hen le golchi. Datganwyd pryder bod rhai’n parcio y tu allan i’r siop kebabs gan fod fflat o dan y safle hwn.

MARCHNAD CYNNYRCH LLEOL GWYNEDD Y Ganolfan, Harbwr Porthmadog 9.30 y bore – 2.00 y pnawn Dydd Sadwrn ola’r mis Cyfle i brynu cynnyrch lleol ffres


H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239

Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290

YSWIRIANT I BAWB

E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr

01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

Sgwâr Llew Glas

Llanuwchllyn 01678 540278

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk 01766 512091 / 512998

drwy’r post

T N RICHARDS

GERALLT RHUN

Rydym yn gwarantu gwaith trwsio a chwyro o’r safon uchaf. Mewn busnes ers 30 mlynedd.

Tafarn yr Eryrod

Llais Ardudwy

Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

Adnewyddu Hen Ddodrefn

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch Llanbedr 01341 241229

Caergynog, Llanbedr 01341 241485

Cefnog wch e in hysbyseb wyr

Bryn Dedwydd, Trawsfynydd LL41 4SW 01766 540681

Tiwniwr Piano a Mân Drwsio g.rhun@btinternet.com

BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU

TREFNWYR ANGLADDAU

Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

TERENCE BEDDALL

JASON CLARKE

15 Heol Meirion, Bermo

Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

Papuro, peintio, addurno tu mewn a thu allan 01341 280401 07979 558954

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

SAER COED Amcanbris am ddim. Gwarantir gwaith o safon.

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

Ar agor Dydd Mawrth - Dydd Gwener 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00 Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 8.00

Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!

Tacsi Dei Griffiths Sefydlwyd dros 20 mlynedd yn ôl 15


RABI

RHAGOR O ADAR

Cefnogi Teuluoedd sy’n Ffermio

Tybed faint o’r adar isod fedrwch chi eu henwi? Nid yw pob un o’r rhain mor gyffredin â’r ddau ddwsin a gyhoeddwyd y tro diwethaf.

Yn draddodiadol, mae RABI yn cynorthwyo pobl sydd wedi ymddeol o’r diwydiant amaeth oherwydd oedran, salwch, damwain neu anabledd, ond cyfartaledd oedran pobl newydd yr ydym wedi’u cynorthwyo yn ystod 2013 oedd 57, a’r llynedd bu i ni gynorthwyo dwywaith cymaint o bobl o fewn oedran gweithio nag y gwnaethpwyd yn y flwyddyn flaenorol.

Yn 2013: • Rhoddwyd £2.2 miliwn mewn grantiau - £1 miliwn i’r ardaloedd o angen uwch • Mae tua ¼ o’r bobl a dderbyniodd grantiau o fewn oedran gweithio • Rhoddwyd £35,000 o grantiau hyfforddi i helpu pobl i ennill incwm ychwanegol o’r fferm • Talwyd £235,000 i alluogi pobl i aros mewn cartref gofal o’u dewis.

Mae’r diwydiant bwyd a ffermio’n darparu 3.5 miliwn o swyddi ac yn werth £9 biliwn i economi’r DU bob blwyddyn. Cofiwch brynu cynnyrch Cymreig - neu Brydeinig - i gefnogi ffermwyr Cymru ac ynysoedd Prydain. Os oes angen cymorth arnoch chi, neu unrhyw un yr ydych yn ei adnabod sy’n ffermio, ffoniwch 0300 303 7373.

CYNLLUN HAEARN DYFFRYN Gwarantir gwaith o safon

William, James a Laurence Hooban

TORRI GORIADAU

01766 549130 07540 530248 07979 353348

info@dyffrynirondesign.co.uk jameshooban@hotmail.co.uk

Uned 146, Maes Awyr Llanbedr, Gwynedd LL45 2PX

16

Nid yw pob un o’r rhain i’w gweld yn lleol, ond mae amryw. Atebion ar waelod tudalen 12.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.