Llais mai 2017

Page 1

Llais Ardudwy 50c

Pencampwyr Dawnsio Stryd Gwledydd Prydain 2017

RHIF 463 - MAI 2017

NEUADD NEWYDD LLANBEDR Grŵp Adran Canolig dan 16 ‘Gravity’

Mewn cystadlaethau dawnsio stryd yn Blackpool yn ddiweddar, bu tri grŵp o ddawnswyr o ardal Ardudwy yn cystadlu o dan arweiniad eu hyfforddwraig, Eirian Foster. Llongyfarchiadau i grŵp Gravity ar ennill y gystadleuaeth a gynhaliwyd yn y ‘ballroom’, Tŵr Blackpool. Daeth y grŵp ‘High Energy’ yn ail [grŵp o dan 12 oed], a daeth y grŵp newydd o dan 14 oed, ‘Untitled’ yn chweched. Llongyfarchiadau hefyd i ddau o’r unigolion, sef Ela John (2il) a Jess Hughes (4ydd) ar eu llwyddiant yn y gystadleuaeth ddawns unigol dan 12. Llongyfarchiadau mawr i Eirian Foster am ei llwyddiant a’i hymroddiad a diolch iddi am roi ardal Ardudwy ar y map unwaith eto. Mae’r neuadd ar ei newydd wedd yn awr yn agored ar gyfer ei defnyddio. Bu diwrnod agored ar Ebrill 28 er mwyn i bawb gael cyfle i weld neuadd mor braf sydd ar gael. Fe ddaeth llawer heibio am baned a sbec a chael eu rhyfeddu gan y newid. Yn ystod y diwrnod, cafwyd cyflwyniad gan blant Ysgol Llanbedr a bu Gwenno Lloyd yn canu’r delyn. Os na fuoch chi yno, bydd cyfle eto i gael golwg pan gynhelir cyngerdd ar nos Sul Mai 7. Bydd Côr Meibion Ardudwy, y Côr Cymunedol a’r unawdydd Treflyn Jones yn diddanu. Dewch yn llu i ganolbwynt newydd y pentref. Mae’r adeilad yn ganlyniad i flynyddoedd o ymdrech wirfoddol. Wedi’r siom o gael gwrthod arian loteri ar y cais cyntaf, roedd angen brwdfrydedd a dyfalbarhad i ddal ati er mwyn cael adnodd chwaethus i’r pentref. Bu criw bychan o wirfoddolwyr yn paratoi cynllun ac yn gwneud ceisiadau am arian i wireddu estyniad a gwelliannau gwerth £400,000. Diolch hefyd i’r rhai a fu wrthi yn codi arian yn lleol. Bu amryw o weithgareddau gwerth chweil. Noson o gerdded o dŷ i dŷ a chael cwrs o fwyd ym mhob un oedd y mwyaf llwyddiannus; mawr yw ein diolch i’r pump cartref a drefnodd hyn. Gweithgareddau eraill oedd te gardd yn

Werngron, gyrfa chwist yn Harlech, helfa drysor ym Mochras, sawl sêl cist car a gweini crempog/stondinau. Gwerthfawrogir yn fawr yr arweiniad a gafwyd gan Dylan Morris o gwmni Wakemans a bu’r pwyllgor yn ffodus iawn i gael W F Clayton i ymgymryd â’r gwaith. Mae angen canmol a diolch i’r holl gwmnïau a fu yn gweithio ar y safle ond rhaid enwi’r gŵr a oedd yn gofalu am y cwbl. Dewi Thomas oedd rheolwr y safle a bu’n eithriadol o ofalus fod popeth yn cael ei orffen yn berffaith ac yn barod iawn gyda chyngor ar newidiadau bychain sydd wedi gwella’r neuadd. Heb y noddwyr ni fyddai’r gwaith wedi bod yn bosib, felly diolch i’r Loteri Fawr a gyfrannodd £249,000 a hefyd i’r canlynol am gyfraniadau hael: Garfield Weston, Parc Cenedlaethol Eryri, Cartrefi Cymunedol Gwynedd, Cyngor Gwynedd, Trusthouse Foundation, Magnox, Foyle Foundation Bernard Sunley Foundation, Cyngor Cymuned Llanbedr, Gŵyl Gwrw Llanbedr, Owen Family Trust a’r Laspen Trust Village. Cewch ragor o hanes y neuadd ar y Gweplyfr (Facebook) Neuadd Llanbedr Village Hall


Llais Ardudwy

HOLI HWN A’R LLALL

GOLYGYDDION

Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Sbaen

Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen15cynos@gmail.com

SWYDDOGION

Cadeirydd: Hefina Griffith (01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com

Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones (01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@Intamail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960 Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Mehefin 2 am 5.00. Bydd ar werth ar Mehefin 7. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Mai 28 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

Dilynwch ni ar Facebook

@llaisardudwy 2

Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Lionel Messi a’r wraig wrth gwrs. Pa le sydd orau gennych? Y Traeth, Clwb Pêl-droed Porthmadog

Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com

Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk (07760 283024/01766 780541

Hoff ddiod? Seidr

Enw: Dylan Elis Gwaith: Swyddog Datblygu’r Urdd, Rhanbarth Meirionnydd Man geni: Bangor ai! Sut ydych chi’n cadw’n iach? Rhedeg ar ôl fy mhlant. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Papurau bro! Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Coronation Street

Beth sy’n eich gwylltio? Cymry da sydd yn siarad Saesneg gyda’u plant. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Clust dda i wrando. Pwy yw eich arwr? Neb yn benodol ond unrhyw un sydd yn fodlon bod yn gymorth i eraill ar draul eu hunain. Dim digon o hynny’n digwydd yn ddigon aml.

Ydych chi’n bwyta’n dda? Nac ydw – gormod ac yn aml.

Beth yw eich bai mwyaf? Gwylio teledu yn hytrach na mynd allan am dro gan ein bod mewn ardal arbennig o’r byd.

Hoff fwyd? Cyri wedi ei wneud fy hun – Tikka Masala cyw.

Beth ydych chi’n ei gasáu mewn pobl? Bod yn anghwrtais ac yn

Canolfan Hanes Uwchgwyrfai

(Cyfres gyffrous o gyfarfodydd yn adrodd gwir hanes Cymru)

gadael i eraill aros. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Clwb Pêl-droed Porthmadog yn ennill bob wythnos. Eich hoff liw? Coch. Eich hoff flodyn? Rhosyn. Eich hoff fardd? Llion Jones am ei gerddi i’r Ewros yn 2016. Eich hoff gerddor? Geraint Jarman – sydd yn fytholwyrdd wedi’r holl flynyddoedd o berfformio. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Insomnia gan Faithless – Clasur go iawn. Pa dalent hoffech chi ei chael? Canu a hynny mewn tiwn. Eich hoff ddywediad? I’r pan y rhed y dŵr. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Hapus, bodlon a theimlo’n ifanc.

CANU HAF

Lansio ‘Canu Haf ’ ar Ŵyl Banc Calan Mai, 1af o Fai

‘Cymru: Gwlad y gân?’ Arfon Gwilym ‘Yr Hen Gymru Lawen’ Rhidian Griffiths ‘Ieuan Gwyllt a Chanu’r Cymry’ Dydd Sadwrn, Mai 13, 2017 10.30 - 2.30 Darperir paned ond dewch â thamaid o fwyd hefo chi. canolfanuwchgwyrfai@gmail.com 01286 660 546/853

Arfon Gwilym, Mair Tomos Ifans a Sioned Webb yn canu ar raglen Dei Tomos, BBC Radio Cymru Cynhaliwyd gweithdy yn Neuadd Talsarnau ar Mai 1 i lansio’r gyfrol ‘Canu Haf ’ yng nghwmni Arfon Gwilym a Sioned Webb. Cafwyd cyfle i ymweld â’r Lasynys yn y bore, a chanu tipyn o’r caneuon yno, ac yna cafwyd paned a chinio yn Neuadd Talsarnau.


LLANFAIR A LLANDANWG

Rhodri Jeffreys-Jones Llyfr newydd Llongyfarchiadau i Rhodri Jeffreys-Jones, Caeredin [Llanfair gynt] ar gyhoeddi ei lyfr diweddaraf ‘We Know All About You - The Story of Surveillance in Britain and America.’ Deil i gadw cysylltiad agos â’r ardal hon.

MARATHON

Merched y Wawr Harlech a Llanfair Croesawyd yr aelodau a’r wraig wadd, Emsyl Davies, gan Hefina, ein Llywydd. Cawsom hanes ei magwraeth ym Mhorthmadog ac fel roedd ei mam wedi eu hannog i ymddiddori ym maes crefft. Erbyn heddiw ei phrif ddiddordeb yw nyddu a gwau. Mae’n casglu gwlân ac alpaca’n lleol cyn eu golchi a’u nyddu cyn eu gwau. Roedd ganddi enghreifftiau gwych o siwmper a ffrog roedd wedi ei wau o wlân mân iawn. Roedd yr aelodau wedi dotio at y gwaith a ddangoswyd yn cynnwys cwiltiau yr oedd wedi eu gwnïo. Rhaid nodi hefyd ei bod yn feistres ar ganu’r ffidil ac wedi bod yn aelod o Gerddorfa Ieuenctid Chymru a Phrydain – tipyn o gamp. Cyfeiriodd at y profiadau arbennig a gafodd gyda phobl fel Karl Jenkins. Noson arbennig a diolchwyd iddi’n ddiffuant gan Edwina. Roedd cyfle i’r aelodau ennill carthen Melin Tregwynt, yn rhoddedig ganddynt i ddathlu’r aur. Dangosodd nifer o aelodau ddiddordeb mewn mynychu’r Ŵyl Ranbarth yn y Penrhyn ddiwedd mis Ebrill.

100 OED

Llun Shani gyda Pam a Colin Ar Dachwedd 28, 2016 dathlodd Mrs Williams, priod y diweddar Llew [Bronfair] ei phen-blwydd yn gant oed. Ers rhai blynyddoedd bellach, mae wedi ymgartrefu gyda’i merch, Pam, yn Sbaen, ac yn ôl y sôn yn parhau i fwynhau iechyd da. Aeth Colin, ei mab a’r teulu drosodd o Ganada i ddathlu’r achlysur. Llongyfarchiadau arbennig iddi. Triathlon Harlech Llongyfarchiadau i Dewi Owen, Brwynllynnau sydd wedi bod yn gweithio’n galed yn ddiweddar. Llwyddodd i gwblhau triathlon Harlech ac yn sgîl hynny mae wedi llwyddo i godi dros £700 tuag at Ymchwil Canser. Dyna gyfraniad gwerthfawr iawn gen ti, Dewi. Da iawn chdi!

Neuadd Goffa, Llanfair

GYRFA CHWIST

nos Fawrth, Mai 16 am 7.00 o’r gloch Croeso i ddechreuwyr.

DAU FRWD AR Y MEYSYDD CHWARAE Llongyfarchiadau i Damon John ar lwyddo i gwblhau Marathon Llundain mewn amser anhygoel o 3:39:27 yn ddiweddar. Gyda’i rieni balch, Sally a Def, a’i gariad Leanne yn gwylio ymhlith y dorf, dywedodd Damon ei fod o wir wedi mwynhau’r profiad, a bod y sŵn gan y dorf wedi’i ysbrydoli i gario ymlaen yn ystod y cyfnodau anodd. Roedd yr awyrgylch yn drydanol, yn enwedig wrth ddod dros y bont,’ meddai, ‘yn fwy swnllyd nag unrhyw beth dwi wedi ei glywed mewn unrhyw gêm bêl-droed.’ Ac mae Damon wedi bod mewn digon o rheini! Cwblhaodd y ras mewn steil, gan orffen dros 42 munud yn gynt na gymrodd o i gwblhau’r 26.3 milltir ym marathon Manceinion y llynedd! Da iawn ti Damon – dipyn o gamp! Rwyt ti’n ysbrydoliaeth!

YMWE LWYR

Def John, aelod o’r tîm hyfforddi ac un o hoelion wyth Clwb Pêl-droed Harlech. Mae wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth i’r gêm bêl-droed yn yr ardal hon.

Fel y gŵyr y cyfarwydd, Meilir Roberts, Uwchglan yw cefnogwr mwyaf brwd Clwb Rygbi Harlech. Ef sy’n gyfrifol am y sgorfwrdd, y raffl, gwerthu rhaglenni a chysylltu â’r wasg. Mae o’n brysur iawn ar ddiwrnod gêm!

3


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Y gog yn canu Clywais y gog fore dydd Iau, 20 Ebrill, yng Nghoed Uwchlaw’rcoed, y tro cyntaf i mi ei chlywed yma mor gynnar ym mis Ebrill. GJ Marwolaeth Bu farw Gwyndaf Williams, Ystâd y Wenallt ar 6 Ebrill yn 63 oed. Cydymdeimlwn â’i wraig Rowena a’u plant Donna, Kevin, Daniel ac Anna a’u teuluoedd yn eu profedigaeth. Diolch Dymuna Rowena a gweddill teulu’r diweddar Gwyndaf Williams [Shrewsbury] ddiolch i bawb am yr holl gardiau, a phob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a dderbyniwyd ganddyn nhw yn dilyn eu profedigaeth ddiweddar. £10 Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â theulu Plas Ucha, Talsarnau a theulu Ty’n Pwll, Llanegryn ym marwolaeth John Wyn Jones, Crafnant, tad annwyl Annwen a Janet. Bu farw yng nghartref Alecsandra, Tywyn, yn 88 oed.

Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch

MAI 7 Capel y Ddôl, Mrs Glenys Jones 21 Capel Nantcol, Parch Eifion Jones 28 Capel y Ddôl, Parch Reuben Roberts MEHEFIN 4 Capel y Ddôl, Parch Dewi T Lewis Capel Salem MAI 21 Parch Dewi Tudur Lewis MEHEFIN 18 Rhys ap Owen Yn gwella Gobeithio fod Mrs Elinor Evans, Moelfre, yn dal i wella ar ôl dod adre o Ysbyty Gwynedd. Y gwanwyn Mae arwyddion y gwanwyn i’w gweld ym mhob man yn y pentref: ‘Mae’r ddaear yn glasu A’r coed sydd yn tyfu A gwyrddion yw’r gerddi Mae’r llwyni mor llon’. GJ

Côr Meibion Ardudwy Cafodd Aled Morgan Jones, yr arweinydd ddamwain i’w benglin yn ddiweddar a bu’n rhaid gofyn i Iwan Morgan lenwi’r bwlch. Dymunir yn dda i Aled wrth iddo wynebu triniaeth yn fuan. Gwnaeth Iwan hynny yn wych iawn mewn cyngherddau yn Eglwys Sant Ioan, y Bermo ac mewn priodas ddiweddar yng Nghastell Harlech. Recordiwyd y cyngerdd yn y Bermo ac rydym yn gobeithio cyhoeddi CD o’r caneuon yn y dyfodol agos. Clwb 200 I chi sy’n tanysgrifio i’r Clwb 200, mae’n amser adnewyddu unwaith eto. £9 yw’r gost ac mae gennych siawns dda o ennill cymaint â 54 o wobrau yn ystod y flwyddyn. Aelod newydd Rydym yn falch iawn o groesawu Russell Sharpe atom fel aelod newydd. Mae’n sicr y bydd yn gaffaeliad i’r Côr. Mae Llion Williams wedi ailymuno ar ôl anhwylder i’w wddf. Bydd y baswyr cyntaf ar eu hennill yn fawr o’i gael yn ôl.

Neuadd Newydd Llanbedr

CYNGERDD AGORIADOL Nos Sul, Mai 7 am 7.30 o’r gloch gyda

Côr Cymunedol Côr Meibion Ardudwy Treflyn Jones ac artistiaid eraill Mynediad: £5

CYFARFOD PREGETHU YN SALEM CEFNCYMERAU (Trwy ganiatâd caredig) Nos Fercher, Mai 24 am 7:00 PREGETHWR Y Parch Gwynn Williams Caerdydd. Trefnir gan Eglwys Efengylaidd Ardudwy

LLUNIAU O DDIWRNOD AGORED Y NEUADD NEWYDD

4


Hanes gwyliadwriaeth [surveillance] ym Mhrydain ac America gan Rhodri Jeffreys-Jones

Rhodri yn ymlacio wrth droed Moelfre

‘We Know All About You’ Mae ‘We Know All About You’ yn dangos sut y datblygodd y grefft o wyliadwriaeth, neu ffurf o ysbïo, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn darparu’r dehongliad cyntaf o’r hyn sydd wedi digwydd ers hynny, yn cynnwys yr asiantaethau, rhaglenni, personoliaethau, technoleg, straeon, beirniadaethau a gwelliannau. Gan ganolbwyntio ar America a Phrydain, mae’n rhoi hanes asiantaethau credyd, ditectifs preifat, a newyddiadurwyr sy’n hacio ffonau yn ogystal ag asiantaethau’r llywodraeth fel yr SNA a GCHQ, ac yn amlygu camymddygiad megis y ‘blacklist’ a thorri i mewn i negeseuon electronaidd anghyfreithlon. Mae’n dangos bod sawl arlywydd - Franklin D Roosevelt, Lyndon B Johnson, Richard M Nixon - wedi rhoi gwyliadwriaeth wleidyddol ar waith, a sut mae asiantaethau Prydeinig wedi bod o dan amheuaeth barhaol am resymau tebyg. Mae ‘We Know ..,’ yn parhau gyda hanes yr 1970au lle deallwyd bod yr FBI a’r CIA wedi bod yn cadw llygad ar brotestwyr yn erbyn Rhyfel Vietnam, ac yn asesu’r adolygiadau a gychwynnodd yn America ac a ledaenodd i Brydain. Bu i ddiwedd y Rhyfel Oer danseilio ymhellach yr hyder yn yr angen am wyliadwriaeth, ond dychwelodd yr ymdeimlad yn gryf wedi 9/11. Mae’r llyfr yn dangos sut oedd yr adolygwyr yn herio’r ehangiad newydd hwnnw, yn asesu effeithiolrwydd gwleidyddol datguddiadau Snowden, ac yn cynnig adolygiad o fentrau deddfwriaethol ar ddwy ochr yr Atlantig. Yn y llyfr hefyd ceir straeon byr a disgrifiadau o gymeriadau yn amrywio o’r ditectif o Pinkerton, James McParlan, i’r cymeriadau diweddar a ddatgelodd gyfrinachau. Mae’r llyfr yn cadarnhau bod gan lywodraethau hanes o gam-drin pwerau gwyliadwriaeth unwaith yr oedd y rheini wedi eu caniatáu, ond yn pwysleisio bod problemau sy’n codi o wyliadwriaeth gan y sector preifat wedi eu hesgeuluso’n arbennig. “Rydym yn byw mewn oes a ragwelwyd gan George Orwell, ac eto prin yr ydym yn ei ddeall. Un sydd yn ei ddeall ydy Rhodri Jeffreys-Jones a fagwyd yn Llanfair. Gyda’i ddealltwriaeth a’i ddeallusrwydd, mae’n dadansoddi rôl gwyliadwriaeth gan y wlad tra hefyd yn datgelu’r argyfwng o fewn ‘busnesu’ preifat. Yn llyfr pwysig, mae ‘We Know ...’ yn rhoi hanes pendant gwyliadwriaeth ym Mhrydain ac America.” Andrew Preston, Prifysgol Caergrawnt Mae Rhodri Jeffreys-Jones yn frodor o Lanfair ac yn Athro Emeritws ar Hanes America ym Mhrifysgol Caeredin ac wedi ymchwilio yn Harvard, Prifysgol Rydd Berlin, a Toronto. Mae’n sylfaenydd ac yn llywydd mygedol presennol Cymdeithas yr Alban er Astudio America, ac mae wedi cyhoeddi’n eang ar hanes gwyliadwriaeth, yn cynnwys y CIA a Democratiaeth America (1989), The FBI: A History (2007), ac ‘In Spies We Trust: The Story of Western Intelligence’ (OUP, 2013). Ef oedd enillydd Gwobr 2014 Neustadt am y llyfr gorau yn y DU am wleidyddiaeth America gyda ‘The American Left: Its Impact on Politics and Society’ (2013).

PWYLLGOR MEIRIONNYDD Cyfarfu pwyllgor gwirfoddol RABI (yr elusen amaeth) yn ddiweddar i drefnu gweithgareddau 2017 ynghyd â thaflu golwg dros ystadegau’r cymorth a ddarparwyd yn Sir Feirionnydd yn ystod 2016. Adroddwyd bod RABI wedi darparu £6,831.19 i fuddiolwyr o fewn y sir a oedd angen cefnogaeth yn ystod y flwyddyn. Yr ydym yn bodoli i gynorthwyo teuluoedd fferm, ac os gwyddech am unrhyw gydnabod sydd angen cymorth, yna rhowch ganiad ar y llinell rhadffôn cyfrinachol 0808 281 9490 i gael sgwrs gyda’r Swyddfa Les. Yn ystod y cyfarfod datgelwyd enillydd y gystadleuaeth “Dyddiadur Lwcus 2016”, a braf yw nodi bod gennym enillydd sy’n ennill y wobr o £50, sef Helen Thomas, Llys Ardudwy, Llanfachreth. Llongyfarchiadau i Helen. Bydd gweithgareddau pwyllgor Meirionnydd yn parhau eleni gyda Chinio dydd Sul ar 4 Mehefin yng Ngwesty Bronffynnon, Bryncrug am 12.30yp. Pris tocyn yw £25 am ginio tri chwrs a thocyn raffl, ynghyd ag adloniant gan Ilian a Dylan. Dylid archebu tocynnau ymlaen llaw erbyn 25 o Fai oddi wrth Mair Rees ar 07717 099830 neu Annie Parry ar 01654 702549. Gobeithio y bydd modd i chi ymuno â ni ar gyfer y prynhawn hamddenol hwn; byddwn yn falch iawn o’ch croesawu. Diolch i Undeb Amaethwyr Cymru am ganiatáu i ni ddefnyddio’r swyddfa yn Nolgellau ar gyfer ein cyfarfodydd. Gwerthfawrogwn yn fawr iawn.

Dafydd Elis Thomas AC yn cwrdd â ffermwyr Meirion Bu Dafydd Elis Thomas AC yn annerch ffermwyr lleol yng nghyfarfod sirol NFU Cymru Meirionnydd ar ddechrau Mai ym Mart Dolgellau. Roedd y cyfarfod gynhaliwyd yng nghylch gwerthu’r gwartheg, yn gyfle i glywed y gwaith y mae Dafydd Elis Thomas AM yn ei wneud ar ran yr etholaeth ar lefel genedlaethol a lleol. Hefyd roedd y cyfarfod yn gyfle i aelodau gael dweud eu dweud ar faterion sy’n effeithio ar ffermwyr yn yr ardal.

HARLECH TOYOTA

Ffordd Newydd, Harlech 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@ harlech.toyota.co.uk facebook.com/ harlech.toyota Twitter@ harlech_toyota 5


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT

Theatr Ardudwy

Rhoddion Derbyniwyd rhodd o £10 tuag at goffrau Llais Ardudwy gan Dei Charles, Tal-y-bont. Diolch yn fawr. Diolch hefyd i Mrs Heulwen P Jones am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu ei thanysgrifiad. Cofion Anfonwn ein cofion at Mrs Jane Jones, Byngalo Berwyn, Mrs Eirian Williams, Llys Gwrtheyrn a Mrs Mari Jones, Pentre Uchaf, sydd yn Ysbyty Dolgellau. Pen-blwydd Llongyfarchiadau i Mrs Mari Jones a ddathlodd ei phenblwydd yn 96 yn ystod mis Ebrill. Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad at deulu Ty’n y Wern yn eu profedigaeth o golli eu cyfnither Olwen James o Drawsfynydd ac at ei brawd, Ifor Griffith. Mae ein cydymdeimlad yn fawr hefyd â Mr a Mrs Guy Lloyd, Tŷ Newydd, yn eu profedigaeth o golli eu merch, Siân. Gwella Rydym yn falch o glywed fod Dylan, mab bach blwydd oed Susan (Foulkes) a Darren, Horeb Terrace, adre ac yn gwella ar ôl cael ei gludo i Ysbyty Alder Hay gan yr Ambiwlans Awyr. Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Nia Medi, merch Mr a Mrs John Evans, Dolgau, a Gareth, mab Mr a Mrs Ifor Wyn Jones, Tal-y-bont, ar achlysur eu priodas ar 29 Ebrill.

Gwasanaethau’r Sul, Horeb MAI 7 Parch Megan Williams 14 Mawl ar gân, Rhian ac Alma 21 Parch Philip de le Haye 28 Parch Reuben Roberts MEHEFIN 4 Cyfarfod Gweddi 6

Llongyfarchiadau Ym mis Mawrth roeddem yn llongyfarch Sophie Collins, Bron Hyfryd, Dyffryn, ar gael ei dewis yn farbwr gorau Gwynedd. Aeth ymlaen i Gaerdydd i gystadlu am farbwr gorau Cymru a daeth yn fuddugol, yr eneth gyntaf i wneud hynny. Llongyfarchiadau i ti, Sophie, a dymuniadau gorau i ti pan fyddi yn cystadlu am farbwr gorau’r Deyrnas Unedig. Teulu Ardudwy Cyfarfu’r teulu yn Neuadd yr Eglwys bnawn Mercher, 19 Ebrill. Croesawyd pawb gan Gwennie. Penderfynwyd mynd i gael cinio yng Ngwesty’r Afr, Glandwyfach ac yna ymlaen i Ganolfan Arddio Frongoch ar 21 Mehefin. Ar 17 Mai byddwn yn mynd i’r Tebot Arian am de prynhawn a’n cyfarfod blynyddol. Roedd Mai Roberts, Nant y Coed, wedi dod atom i roi hanes ei theithiau i Fotswana a Namibia ac roedd ganddi luniau bendigedig i’w dangos ac eitemau diddorol. Roedd yr hanes yn ddiddorol iawn a chafwyd llawer o gwestiynau ar y diwedd. Bydd Mai a David yn ymweld â rhan arall o Affrica ym mis Hydref. Diolchwyd i Mai gan Gwennie. Rhoddwyd y te a’r raffl gan Glenys, Elinor, Catherine, Elizabeth ac Eleri.

Mae Theatr Ardudwy yn falch o gael croesawu Sioned Terry, y fezzosoprano adnabyddus, a Brian Ellsbury y pianydd dawnus a fydd yn perfformio eu datganiad gwanwynol ‘Llais y Gwanwyn’ gyda ni ar Fai’r 6ed am 7.30yh. Yn dilyn ei llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Eisteddfod Ryngwladol yn Llangollen, mae Sioned wedi rhannu llwyfannau gydag artistiaid mwyaf blaenllaw’r byd cerddorol. Mae hi wedi bod yn unawdydd gyda rhai o gorau meibion mwyaf llwyddiannus Cymru ac mae’n wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C. Bydd ‘Llais y Gwanwyn’ yn cynnig trysorfa o ganeuon ac alawon prydferthaf Cymru a thu hwnt. Cyflwynir arias o waith Bizet, Mozart, Morfydd Owen, Handel, W S Gwynn Williams a Meirion Williams yn ogystal â chaneuon gan Rodgers & Hammerstein a Dillie Keane. Archebwch eich tocynnau nawr drwy ein gwefan www.theatrardudwy.cymru Oedolion £12, Gostyngiadau £10

THEATR ARDUDWY Mai

Ffôn: 01766 780667

1-4 6 11 12-13 18 19-20 24-25

Fast & Furious 8 Voice of Spring Obsession Hidden Figures Who’s Afraid of Virginia Woolf? Viceroy’s House Personal Shopper

7.30 7.30 7.00 7.30

£6.50 / £5.50 / £4.50 £12 / £10 £10 / £8 £6.50 / £5.50 / £4.50

ffilm Cerdd NT Live ffilm

7.00 7.30 7.30

£10 / £8 £6.50 / £5.50 / £4.50 £6.50 / £5.50 / £4.50

NT Live ffilm ffilm

27-28

Penwythnos Drws Agored

Edrychwch allan am fwy o fanylion

29 Finding Nemo 2.30 ffilm 30 Ponyo 2.30 ffilm 31 Free Willy 2.30 ffilm 29 Guardians of the Galaxy 2 7.30 £6.50 / £5.50 / £4.50 ffilm

Mehefin

1 The Little Mermaid 2.30 ffilm Guardians of the 7.30 £6.50 / £5.50 / £4.50 ffilm Galaxy 2 2 Finding Dory 2.30 ffilm

Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd

Tel: 01341 247799

www.smithygarage-mitsibushi.co.uk smithygaragedyffryn

smithygarageltd

SAMARIAID Llinell Gymraeg 0808 164 0123

Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes


TACLUSO CAE CHWARAE BRENIN SIOR V

MYND O NERTH I NERTH Mae Hamdden Harlech Ardudwy yn llawer mwy na Chanolfan Chwaraeon fel y dangoswyd gan y Diwrnod Cymunedol ym mis Mawrth. Daeth dros 100 o bobl ynghyd i hawlio eu haelodaeth rhad ac am ddim [oedd i’w gael os oeddech yn byw rhwng Talsarnau a’r Bermo]. Mwynhawyd y sesiynau nofio a dringo rhad ac mae’n siŵr bod rhai wedi eu hysgogi i fwynhau’r gweithgareddau yn amlach - am bris deniadol. Nid yw’n rhy hwyr i ymaelodi.

Llongyfarchiadau i griw Parc Cymunedol Harlech am eu gwaith rhagorol yn tacluso Cae Chwarae Brenin Siôr V. Nid yw’r cae wedi edrych cystal ers tro byd. Mae’n braf gweld criw o bobl cymharol ifanc yn cymryd cyfioldeb am ein hamgylchfyd. Daliwch ati. Diolch hefyd i’r Cyngor Cymuned am dacluso’r ffens o gwmpas y cae.

Gweithdai Adeiladwaith

Fel rhan o’u gwaith gyda Chartrefi Cymunedol Gwynedd, bu disgyblion Ysgol Ardudwy’n cymryd rhan mewn gweithdai adeiladu trionglau pyramid mewn timau ac yna eu cyfuno i un strwythur enfawr er mwyn cael dealltwriaeth o strwythurau. Roedd yn brofiad gwerth chweil i’r disgyblion ac yn rhoi cipolwg gweledol a phrofiad ymarferol iddyn nhw o’r diwydiant adeiladu.

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286

Mae rhaglen amrywiol o weithgareddau yn y Ganolfan yn dal i ddenu’r tyrfaoedd. Yn ddiweddar, cafwyd nosweithiau cinio yn y ffreutur a bydd rhagor yn fuan. Yn ogystal, darperir cinio Sul blasus rhwng 12.00 a 2.00. Carol Wolstenholme oedd enillydd y loteri yn Rhagfyr 2016 a Janet Griffith enillodd ym misoedd Mawrth a Mehefin. Os ydych am ymaelodi, mae’r manylion ar y wefan [www. harlechleisure.co.uk] neu holwch am fanylion yn y dderbynfa. Mae’r sesiynau Acwaffit yn parhau ar nosweithiau Mawrth am 6.30pm a cheir sesiynau o gerddoriaeth hamddenol i ddilyn. Ni chaniateir i’r cyhoedd wylio’r sesiynau hyn. Mae’r Ganolfan yn falch o’i pherthynas gyda Roc Ardudwy. Cafwyd nifer o sesiynau byw yn Neuadd Goffa Harlech ar ddechrau’r flwyddyn a gwnaed elw o £4,323 i gefnogi’r gwaith yn ogystal â chynnig adloniant i bobl leol. Rhoddwyd yr elw o’r raffl i’r Neuadd Goffa a’r Cylch Meithrin. Cynhelir Roc Ardudwy ar Fehefin 3, 2017 - felly nodwch hyn ar eich calendr. Roedd Hamdden Harlech Ardudwy yn falch o gefnogi’r Ras Hwyl ‘Cipio’r Castell’ ar Ebrill 9, sy’n dangos parodrwydd i gefnogi ffitrwydd yn gyffredinol ac adloniant cymunedol. Os hoffech gefnogi Hamdden Harlech Ardudwy drwy ddod yn aelod o’r bwrdd, ffoniwch 01766 780576 neu anfonwch e-bost at hal.chair@btconnect.com. Maen nhw hefyd yn chwilio am rywun i weithredu fel cyfieithydd.

Ffacs 01766 771250

Honda Civic Tourer Newydd

Os oes gennych unrhyw syniadau ynghylch y math o weithgareddau yr hoffech chi eu gweld yn cael eu trefnu, gallwch lenwi’r holiadur ar y wefan [cyfeiriad uchod]. Bydd y tîm bob amser yn falch o glywed gennych ac yn barod bob amser i wasanaethu’r gymuned yn y modd mwyaf buddiol.

7


HARLECH Eglwys Tanwg Sant, Harlech Yn cymryd rhan yn y cyngerdd cyntaf yn y gyfres o gyngherddau’r haf yn Eglwys Tanwg Sant, Harlech, mae Côr Meibion Ardudwy. Cynhelir y cyngerdd ar nos Sul, 28 Mai am 7.30 yr hwyr. Tocynnau £10 wrth y drws gyda gostyngiadau i deuluoedd. Bydd lluniaeth ar gael. Neuadd Goffa Cynhaliwyd pwyllgor blynyddol y Neuadd ddiwedd fis Ebrill o dan gadeiryddiaeth Laurence Hooban. Diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith, sef Linda Soar [ysgrifennydd] a Hefina Griffith [trysorydd]. Diolchwyd hefyd i Derek Jones, y gofalwr, am ei waith yntau. Etholwyd y swyddogion i gyd am flwyddyn arall. Oherwydd bod costau rhedeg y Neuadd yn cynyddu, penderfynwyd y bydd rhaid codi prisiau llogi’r Neuadd am eleni. Nid gwaith hawdd ydi cael dau ben llinyn ynghyd gan fod llai o grantiau ar gael erbyn hyn ac mae gwaith cynnal a chadw i’w wneud yn barhaol ar y Neuadd. Os am logi’r Neuadd, cysylltwch â Linda Soar ar 780966.

PRIODAS

Brysiwch wella Anfonwn ein cofion am wellhad buan i Edwina wedi iddi gwympo’n ddiweddar a brifo ei throed. Deallwn ei bod yn gwella a gobeithiwn y bydd wrthi’n brysur yn yr ardal eto fel arfer cyn bo hir. Diolch Diolch i Mrs Williams, staff, ffrindiau a phlant Ysgol Tanycastell am gyngerdd gwych ar achlysur fy ymddeoliad. Diolch am flodau, barddoniaeth, anrhegion, cacennau, lluniau, noson allan a llu o gardiau bendigedig. Diolch i bawb wnaeth gyfrannu. Dwi’n mynd i’ch colli chi yn fawr. Ann E Jones, Llwyn y Ffynnon Llongyfarchiadau mawr i Rebecca Evans [merch Garry ac Anne Talsarnau Evans, Cartref, Harlech] ac Andrew Cockerill ar achlysur eu priodas Rhodd £5 ym Mron Eifion, Cricieth ar Mawrth 25. Bydd y ddau yn byw ym Manod, Blaenau Ffestiniog. Teulu’r Castell

Sefydliad y Merched Harlech Nos Fercher, 12 Ebrill croesawodd y Llywydd Christine Hemsley’r aelodau a dymunwyd yn dda i bawb oedd yn methu â bod gyda nhw trwy salwch. Dymunwyd yn dda i’r rhai oedd wedi eu hethol i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Marwolaeth Cofnodwyd y dyddiau o bwys, sef y Sioe Ffasiwn gan Edinburgh Ar Ebrill 7, bu farw Nellie Woollen Mill , Porthmadog, ar 18 Mai., Cyfarfod Blynyddol Cymru Overton yn 88 mlwydd oed yn Sir Fôn ar 26 Ebrill, a’r noson gwis yn Nolgellau ar 28 Ebrill. yn dawel mewn ysbyty yn Yn anffodus gohiriwyd gwneud te i Deulu’r Castell y mis yma. Cheltenham. Roedd yn ferch Fe fydd y clwb cinio yn y Castell Bistro ar 11 Mai, ac mae Jan Cole, i’r diweddar Robert ac Annie yr Is-lywydd, wedi trefnu teithiau cerdded yn yr haf. Roberts, Glasfryn, Harlech, Diolchwyd i Sue Wagner a Denise Hagan am eu cymorth yng priod annwyl y diweddar Fred, nghyfarfod y gwanwyn yn Bermo’n ddiweddar a hefyd i Sheila mam ofalus Nigel, Sarah a’r diweddar Brian, chwaer arbennig Maxwell am ei chyfraniad difyr am ‘Pennies for Friendship’. Rhoddwyd hanes dosbarthiadau cyfrifiadur sy’n cael eu trefnu yn yr Nancy ac Enid a’i diweddar frodyr a chwiorydd. Gadawodd ardal gan ysgrifennydd y sir sef Jill Houliston. Ar ôl trafod yr holl fusnes croesawyd Mary Post, gwehydd hynod o Nellie Harlech ym 1945, ond ddawnus, sy’n byw yn Harlech. Mae gwaith Mary’n werth ei weld a er hynny roedd ei gwreiddiau hefyd soniodd am y geifr yr oedd wedi bod yn eu cadw. yn ddwfn yn yr ardal, byddai wrth ei bodd yn ymweld â bro ei Diolchwyd iddi gan Denise Hagan. Enillwyd y gystadleuaeth gan Sheila Maxwell, Sue Williamson, a Christine Hemsley. mebyd yn achlysurol. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar nos Fercher 10 Mai. Y gŵr gwadd fydd Paul Kay a bydd yn siarad am fywyd y môr ar arfordir Cymru. Cydymdeimlo Croeso i ymwelwyr ymuno â ni am y noson. Cydymdeimlwn â Mrs Enid Smith, Tŷ Canol, a theulu Noson bingo Glasfryn gynt yn eu profedigaeth Diolch yn fawr i bawb am o golli ei chwaer, Nellie. gefnogi’r bingo ar Ebrill 12 ac Rhodd a diolch £10 i bawb a gyfrannodd mewn

Capel Jerusalem HARLECH

MAI 21 Parch Dewi Morris am 4.00.

8

Rhodd Diolch i Mrs Gwyneth Williams am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu ei thanysgrifiad.

unrhyw ffordd. Diolch yn arbennig i Jane Sharpe am ei gwaith rhagorol yn galw’r rhifau. Casglwyd elw o £300 i’r band.

Yn anffodus yr oedd rhaid gohirio Teulu Castell ddydd Mawrth 11 Ebrill, er bod Sefydliad y Merched Harlech a’r aelodau yn siomedig. Fe fydd y cyfarfod nesaf ar brynhawn dydd Mawrth, 9 Mai, yn Neuadd Goffa Llanfair. Fe fydd Merched y Wawr yn gyfrifol am y prynhawn. Newid swydd Wedi 35 mlynedd yn gweithio i Swyddfa’r Post, mae Pete Smith wedi penderfynu newid swydd. O ddechrau mis Mai, bydd Pete yn ymuno â staff Castell Cricieth. Diolch yn fawr iawn iddo am ei waith ac am fod mor fonheddig dros y blynyddoedd. Bydd chwith mawr ar ei ôl.

NOSON GOFFI + Adloniant Nos Wener, Mehefin 9 yn Neuadd Goffa Harlech am 6.30 Mynediad £1 Elw at Gronfa Ymchwil Canser Cangen Harlech


GYMNASTEG

GYMNASTEG

Y grŵp gymnasteg sy’n cyfarfod bob nos Fercher yng nghampfa Ysgol Ardudwy.

CLWB PÊL-DROED HARLECH 2016-17

Plant a rhieni Grŵp Gymnasteg Hwyl B1 a Derbyn yn ymarfer yng nghampfa Ysgol Ardudwy. Oherwydd bod llawer o ddiddordeb mewn gymnasteg yn ddiweddar, bydd cyfnod arbennig yn cael ei drefnu i’r grŵp ar ôl gwyliau’r Pasg. Diolch am gymorth y rhieni wrth i’r plant ymarfer.

CRIW BADMINTON

Clwb Pêl-droed Harlech cyn eu gêm gyfartal yn erbyn Nefyn ganol mis Ebrill. Diolch ar ran y gymuned a Hamdden Harlech am waith y chwaraewyr a’r tîm rheoli, sef Joe Soar, Damon a Def John. Bu’n dymor anodd ond braf gweld hogiau lleol yn cael siawns i gystadlu a chwarae pêl-droed. Daliwch ati.

CLWB RYGBI HARLECH 2016-17

Mae’r criw badminton yn cyfarfod yn y Ganolfan Chwaraeon ar nos Fawrth rhwng 6.30 a 7.45. Mae pob croeso i bobl eraill sydd am ymuno â’r criw.

ACADEMI CAERNARFON V ACADEMI LERPWL

Gobeithiwn gynnwys hanes y Clwb Rygbi yn y rhifyn nesaf.

ENGLYN DA

Dewiswyd Guto Anwyl, Ciltan, sy’n 6 oed, i chwarae pêl-droed i Academi Caernarfon yn erbyn Academi Lerpwl yn ddiweddar. Dyma lun o Guto yn yr academi yn Lerpwl gyda’i frawd Efan yn y cefndir.

Mis Mai

Hen fuwch y borfa uchel - heb aerwy A bawr heddiw’n dawel, A dail Mai fel diliau mêl Wedi rhoswellt y rhesel. J Ieuan Jones [1924-2003]

9


Capten William Williams, Harlech Mab i Cadwaladr a Barbara Williams oedd William Williams. Ganwyd efo 18 Awst 1785 yn Frongaled, Llanddwywe, Dyffryn Ardudwy. Mab Meifod Isaf oedd ei dad, a’i fam yn ferch Tyddyndu, Llanfair. Ni chafodd ond tri mis o ysgol, a hynny ddeng milltir o’i gartref, mewn ysgol a gynhaliwyd mewn tŷ ger Capel Soar, Talsarnau. Trodd allan i weithio ar y tir pan nad oedd ond saith oed. Bugeiliai’r defaid cyn bod yn ddeg oed ar hyd hen fynyddoedd Ardudwy. Yn aml y cafodd ei orfodi i gloddio yn ddwfn i’r eira i gael y defaid i’r wyneb. Yn 13 oed cymerodd Capten Lewis Dedwith, y Bermo, ef yn llongwr gydag ef am bedair blynedd. Yr oedd y Bermo’r amser hwnnw yn un o brif borthladdoedd Bae Ceredigion. Wedi i’r pedair blynedd ddyfod i ben, cafodd ei ddyrchafu’n ‘second mate’ ar long i Fôr y Canoldir a’r Môr Du. Ar ddychweliad y llong adref, fel yr oedd yn mynd i fyny’r afon Tafwys, byrddiwyd hi gan y ‘press-gang’, a chymerwyd William i ffwrdd ar fwrdd rhyw gadlong. Roedd hynny tua dechrau’r flwyddyn 1803. Yn fuan ar ôl hynny, cymerwyd ef ymaith gyda rhan o’r llynges i’r India Ddwyreiniol, o dan y môr-ryfelwr nodedig hwnnw, Arglwydd Exmouth. Symudodd o’r naill fan i’r llall ac fel yr oedd amser yn mynd heibio, yr oedd ei fedrusrwydd yntau fel morwr yn dyfod yn fwy amlwg ac adnabyddus. Ond pell iawn y teimlai o fod yn gartrefol yn y llynges. Penderfynodd y Llyngesydd ei benodi yn gapten ar un o’r ‘gunboats’ ond gwrthododd yntau hynny, a phenderfynodd ddianc i ffwrdd y cyfle cyntaf a gâi. Mae’n ymddangos fod yno le annuwiol iawn, “uffern ar y ddaear” yn ôl ef ei hun.

Ar ôl hynny cymerwyd ef yn swyddog ar long i frwydr Algiers, ac er mor nodedig oedd y frwydr honno, ni chafodd unrhyw fath o niwed ynddi. Yn 1813 daeth i Blymouth, wedi bod felly yn y llynges am ddeng mlynedd. Yn y fan honno, ar ôl bod wedi hen flino yn symud gyda’r llynges o’r naill fan i’r llall, ac yn ymwybodol ei fod yn agored i gymaint o beryglon, penderfynodd roi ei hen fwriad o ddianc i ffwrdd ar waith. Un noson yr oedd yn cysgu ar y lan, pan neidiodd allan trwy ffenestr ei ystafell wely ar do tŷ arall oedd ychydig yn is. Symudodd yn araf a llechwraidd o do i do, nes o’r diwedd iddo gael gafael mewn peipen ddŵr, ac ar hyd honno y disgynnodd i’r gwaelod. Dillad llyngesol oedd ganddo amdano, ond gan ei bod yn dywyll, aeth trwy’r dref heb dynnu sylw neb, a chyrhaeddodd yn ddiogel i’r wlad. A chrwydro y bu, nes o’r diwedd y daeth i Fryste. Gwelai yn eglur nad oedd allan o berygl eto, ac felly teimlai yn bryderus iawn, a llywodraethid ef i raddau helaeth gan ofn. Er mawr lawenydd iddo, beth a ganfyddai yn y porthladd, ond llong fach Gymreig, a thrwy iddo gael ei guddio yn honno, daeth yn ddiogel i Gaerdydd ac oddi yno i’w gartref. Methai ei deulu a’i adnabod, a bu i’r olwg swyddogol oedd arno eu taro gyda syndod. Ond ni fuont yn hir heb wybod mai perthynas iddynt oedd yr ymwelydd dieithr. Ar ôl aros am ysbaid o amser gartref, aeth yn fêt ar long fach yn perthyn i’r Bermo, ac mewn ychydig o flynyddoedd dyrchafwyd ef yn Gapten ar long arall fwy. Hwyliodd felly am tua 11 i 12 mlynedd, ac erbyn hynny, yr oedd yn ymyl bod yn 40 oed. Tua’r adeg hynny priododd â Jane Griffiths, merch Robert Griffiths, Tyddyndu, Llanbedr,

Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld Llais ar y we. Cyfeiriad y safle yw: Ardudwy http://issuu.com/llaisardudwy/docs 10

morwyn i’r Parch Ficer Pugh, o Argoed, Llanfair. Wedi priodi, aethant i fyw i’r Bermo. Yr oedd Wesleaeth erbyn hynny wedi dechrau gwreiddio yng Nghymru. Aeth William a Jane i wrando ar y sect newydd fel y’i gelwid, a’r canlyniad fu iddynt ymuno gyda’r Wesleaid yn y Bermo yn 1828, pan yn dair a deugain mlwydd oed. Yn fuan ar ôl hynny symudodd o’r Bermo i’r Dyffryn, yn gyntaf i dŷ a elwid Brynhoreb, ac ar ôl hynny i Bennarfawr yn yr un gymdogaeth. Symudont ar ôl hynny i Lanbedr, a bu William o wasanaeth mawr tra yno i’r achos gwan oedd yn Beser. Oddi yno symudont i Harlech, lle buont fyw am dros ugain mlynedd. Parhaodd i deithio llwybrau dyrys y moroedd hyd nes yr oedd yn drigain oed, a chafodd y brig Unity o’r Bermo ei llywyddu ganddo am wyth mlynedd yn olynol. Meddai Capten Williams ar lawer o ddewrder a gwroldeb, elfennau angenrheidiol iawn eu cael yng nghymeriad morwr. Bu mewn llawer o helyntion ar y môr, ond dygwyd ef yn ddiogel drwyddynt oll. Pan oddeutu trigain oed blinid ef gan y cryd cymalau. Dichon fod y tywydd garw yr aeth drwyddo ar y môr wedi bod yn help i’r afiechyd poenus hwnnw i gydio ynddo. Cydiodd yr afiechyd â’r fath rym ynddo fel y gorfodwyd ef i roi’r gorau i’r môr, ac agorodd fasnachdy yn Harlech, ond ni fu fawr o lwyddiant ar yr anturiaeth honno. Yr oedd mwy yn mynd allan nac oedd yn dyfod i mewn. Llwyddodd trwy ei lafur a’i ddiwydrwydd i gasglu swm lled helaeth o gyfoeth, ond oherwydd iddo fethu â mynd ei hun gyda’i long oherwydd afiechyd, a’r methiant gyda’r

masnachdy, ni chafodd ef a’i deulu’r mwynhad oddi wrtho a ddylent fod wedi ei gael. Dangosodd lawer o ffyddlondeb gyda’r achos Wesleaidd yn Harlech a chyflawnodd bob swydd a roddwyd iddo gyda phleser a pharodrwydd. Ym Mai 1860 symudodd unwaith eto o Harlech i’r Halfway House, rhwng y Bermo a Dolgellau. Ganwyd i William a Jane saith o blant, tri o feibion a phedair o ferched. Gwasgarwyd hwy yn bell iawn oddi wrth ei gilydd. Aeth William, y mab hynaf, i Calcutta yn Harbwr Feistr Cynorthwyol; Cadwaladr i Awstralia, a Robert Griffith i Lerpwl. Y merched oedd Mrs Capten Lloyd Morris, a Mrs Capten Richards, Porthmadog; a Mrs Plaminck oedd yn byw yn Hwngari, ac wedi priodi peiriannydd yn perthyn i lywodraeth Awstria. Bu’r ferch arall farw yn ifanc. Ar ôl bod yn yr Halfway House am dros bum mlynedd, yn Ionawr 1866 symudodd i Borthmadog, at Mrs Lloyd Morris, ac wedi bod yno am ychydig fisoedd, symudodd i’r Borth-y-gest. Ac wedi byw yn y Borth am ychydig dros flwyddyn, yr oedd ei iechyd yn gwaethygu, a’i briod yn analluog i weini arno fel y dylasid, symudont at Mrs Lloyd Morris i’r Port drachefn. Am saith o’r gloch, brynhawn dydd Mawrth, 4 Awst 1868, bu farw yn 83 mlwydd oed. Y dydd Iau canlynol aed a’i gorff ar y trên o Borthmadog i’r Dyffryn, a’i gladdu ym mynwent Llanddwywe, yn ymyl ei gartref genedigol. W Arvon Roberts, Pwllheli.


Ocsiwn cynnwys Glyn Cywarch yn codi £2.6 miliwn i adfer cartref Arglwydd Harlech

Yn ddiweddar gwerthwyd dros 600 o drysorau Glyn Cywarch am ychydig o dan £2.6 miliwn. Ymysg y pethau a werthwyd roedd dodrefn, peintiadau, llyfrgell hanesyddol, a hen gar a motor beic. Gwerthwyd pob un eitem a gynigiwyd yn yr ocsiwn a gynhaliwyd yn safle’r cwmni Bonham’s yn Llundain dros gyfnod o ddeg awr.

Un o’r eitemau a werthwyd oedd llythyr a ysgrifennwyd gan Jackie Kennedy yn gwrthod cynnig gan Arglwydd Harlech i’w briodi. Anfonodd y neges ychydig fisoedd ar ôl i’w gŵr, yr Arlywydd John F Kennedy, gael ei saethu’n farw yn Dallas, America, ym mis Tachwedd 1963. Gwerthwyd papurau Kennedy-Harlech, sef y llythyrau personol teimladwy a ysgrifennwyd gan Jackie Kennedy a David Ormsby Gore, Arglwydd Harlech, i gasglwr preifat am £100,000.

Roedd Arglwydd Harlech yn gyfaill i’r arlywydd ers eu plentyndod a gweithredodd fel llysgennad Prydain i’r Unol Daleithiau rhwng 1961 ac 1965, gan ddod yn ffrind agos iddo ef a Jackie.

Gofynnodd i Jackie ei briodi, ond gwrthododd, ac yn ddiweddarach priododd y perchennog cwmni llongau, Aristotle Onassis o wlad Roeg.

Ymysg trysorau eraill yr ocsiwn roedd portread gan Marcus Gheeraerts, peintiwr cwrt Elizabeth I, a werthwyd am £269,000 yn dilyn amcanbris o rhwng £60,000 ac £80,000. Portread yw hwn, a beintiwyd ym 1597, o Ellen Maurice, aeres a hynafiad o Harlech. Mae ei pherlau a’i gemwaith werth oddeutu £1 miliwn ym marchnad heddiw.

Gwerthwyd hefyd bortread yr artist o Iwerddon, Daniel Quigley, o’r Godoplhin Arabian, un o dri march o’r dwyrain y dywedir bod pob ceffyl rasio heddiw yn ddisgynnydd ohono. Defnyddir yr arian o’r gwerthiant i sefydlu cronfa tuag at adfer Glyn Cywarch a etifeddwyd gan y seithfed Arglwydd Harlech, Jasset, ar farwolaeth ei dad ym mis Chwefror y llynedd.

11


DIFFODD Y SÊR Hanes Hedd Wyn Haf Llewelyn

Dyma nofel sy’n werth ei darllen. Yn gefndir iddi mae hanes Hedd Wyn, y bardd-filwr a syrthiodd ar Gefnen Pilckem ym mrwydr Passchendaele yn Fflandrys ym 1917 lle collodd bron i chwarter miliwn o filwyr eu bywydau. Adroddir yr hanes trwy lygad Anni, un o chwiorydd Hedd Wyn, ac yn ganolog i’r stori mae ei hanesion hi a Lora, ei ffrind

12

pennaf. Er gwaetha cysgod y Rhyfel Mawr, maen nhw yn eu diniweidrwydd yn dygymod â bywyd bob dydd yng Nghwm Prysor, gan rannu cyfrinachau a phrofiadau carwriaethol merched ifanc yn eu harddegau. Nid tasg hawdd i awdur yw ysgrifennu am un o ddigwyddiadau mwyaf erchyll dynoliaeth, ond fe lwyddodd Haf Llewelyn. Nid yw’n celu dim. Saethwyd tad Lora yn ei wyneb a’i anafu’n ddifrifol ym mrwydr Coed Mametz ac y mae darllen y llythyr sy’n disgrifio’r ymladd a’r amodau byw yn y ffosydd du – pwll dyfnaf uffern – yn ddirdynnol ac yn ddigon i fferru’r gwaed. Ond ochr yn ochr â’r disgrifiadau ysgytwol mae yma ysgrifennu sensitif a dwys, a llwydda’r awdur i ddod ag elfennau o hapusrwydd a pheth ysgafnder i fywydau’r cymeriadau. Â thema rhyfel ar faes llafur ein hysgolion, bydd y nofel hon yn ddeunydd darllen atodol penigamp. Menna Lloyd Williams Adolygiad oddi ar www.gwales. com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

BWYD A DIOD

Crafu Gwaelod y Gasgen! Efallai mod i’n profi amynedd y darllenwr rŵan ond credaf fod casgenni gwin yn bwnc sy’n haeddu sylw. Mae’n siŵr eich bod yn cofio’r gwinoedd o Awstralia flynyddoedd yn ôl, wedi’u goraeddfedu a gor-dostio a lefelau alcohol oedd yn berwi’r ymennydd. Rhoddodd hyn enw drwg i Chardonnay ac i dderw nad oedd un o’r ddau yn ei haeddu. Cefais fy hudo wrth gerdded ym Mourgogne rhyw 10 mlynedd yn ôl trwy daro ar draws cae cyfan yn llawn o blanciau derw yn aeddfedu am 7 mlynedd. Mewn sied enfawr roedd pentyrrau pellach fyny at y nenfwd a Ffrancwr yn chwifio fflam fawr ar du mewn bareli newydd i’w ‘tostio’. Mae gwylio crefftwyr wrth eu gwaith yn bleser ac yn fy annog i ddarganfod mwy am eu cynnyrch. Er bod llawer o win yn cael ei gynhyrchu mewn tanciau mawr dur gwrthstaen, gwelir y dull (drud) o aeddfedu mewn casgen yn parhau oherwydd bod y gasgen yn dylanwadu ar liw, blas a strwythur gwin mewn ffordd arbennig trwy’r derw o’r gasgen a’r ymarfer o dostio. Unwaith eto mae dewis gan y gwinwr. Y manylion a’r drafferth y maent yn fodlon ei gymryd sy’n syndod i mi, er enghraifft, mae modd archebu gwahanol ddwyster o ‘dostio’, sef isel, canolig neu uchel i gael gwahanol effaith ar y blas. Pwy fasa’n meddwl? Mae maint y gasgen yn bwysig hefyd oherwydd mae’r gyfran o dderw i win yn newid yr effaith. Gwelir ‘barriques’ traddodiadol Ffrengig 225lt gyda blas cryfach na’r 500lt lle mae’r dylanwad derw yn llai. Sglodion derw yw’r ffordd rataf o gael effaith derw a chaiff eu trochi yn y gwin mewn rhywbeth tebyg i fag te mawr. Os am ddilyn y trywydd mwy pur a defnyddio casgen, bydd angen dewis pa dderw – un Ffrengig, Americanaidd, Rwsieg? Mae effaith derw Ffrengig, gyda graen mwy tynn, yn llai melys a gyda thueddiad i fod yn fwy llyfn gyda nodau o sbeis ynddo tra bod yr un Americanaidd yn fwy pwerus gyda thueddiad mwy hufennog a blasau fanila a chneuen goco. Dim ond am 1 i 3 mlynedd y gellir defnyddio’r gasgen cyn ei gwerthu ymlaen i ddiwydiant arall oherwydd mae’r effaith yn lleihau. Mae’r gost yn sioc: tua €300 am gasgen Rwsieg, €500 am un o America a €900 am y derw gorau Ffrengig. Dim syndod felly bod Ffrainc yn fôr o goedwigoedd derw! Llinos Rowlands Gwin Dylanwad Wine Dolgellau


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN

Plant y Cylch Meithrin - mae Deio Thomas yn absennol o’r llun

Cyfarfod Blynyddol y Neuadd Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol Cyhoeddus y Neuadd Gymuned nos Lun 24 Ebrill. Cyflwynwyd mantolen ariannol y Neuadd am 2016-17 a thynnwyd sylw at y swm o £11,300 sydd ei angen i redeg y Neuadd yn flynyddol - heb gynnwys y costau cynnal a chadw. Mae angen pob cefnogaeth ar y Pwyllgor Rheoli i gadw pethau i fynd gan fod rhaid codi arian yn gyson os am gadw’r Neuadd ar agor i’r gymuned. Mae nifer o wahanol weithgareddau yn digwydd drwy’r flwyddyn a defnydd cyson yn cael ei wneud o’r adnoddau gwych sydd ar gael yma. Diolch i bawb sy’n defnyddio’r Neuadd i wahanol achlysuron. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth, ond mae gwir angen aelodau newydd, ieuengach i fod ar y pwyllgor rheoli. Rheolir y neuadd gan nifer fechan o weithwyr diwyd, a’r mwyafrif o’r rheini’n bensiynwyr! Pasiwyd fod y swyddogion presennol yn aros fel y maent am eleni – Eifion Williams (cadeirydd), Margaret Roberts (trysorydd) a Mai Jones/Anwen Roberts (ysgrifenyddion).

Cylch Meithrin Diolch i Hannah Jones, ‘Body Shop yn y cartref ’ am ei rhodd i’r Cylch, sef basged o adnoddau harddwch. Diolch hefyd i Morfa Stores, Harlech am eu rhoddion Pasg ac am eu cefnogaeth ar hyd y flwyddyn. Cynhaliwyd raffl yn ddiweddar er mwyn codi arian i’r Cylch. Aeth y prif wobrau i Hari Anwyl [pecyn Body Shop] ac i Mrs Eirlys Williams, Tanforhesgan [ŵy Pasg enfawr]. Llwyddwyd i godi £234. Diolch am bob cefnogaeth.

Rhodd

Cydymdeimlad Estynnwn ein cydymdeimlad i Annwen Hughes a’r teulu, Plas Uchaf yn ei phrofedigaeth ddiweddar o golli ei thad. Hefyd i Prydwen Jenkins a’r teulu yn eu profedigaeth o golli Graham, gŵr Prydwen, yn Llandudno. Mae pawb ohonom yn meddwl am y ddau deulu ac yn cofio’n gynnes atyn nhw.

Diolch am y rhodd o £6 gan Mrs Iona Aubrey. Neuadd Gymuned Talsarnau

Noson o Adloniant gyda TRIO ac Annette Bryn Parri 18 Tachwedd 2017

Tocynnau ar gael rŵan gan Mai Jones 01766 770757 ac Anwen Roberts 01766 772960 neu gan aelodau eraill o Bwyllgor y Neuadd

Dorothy Harper Trist iawn oedd gennym glywed y newydd am farwolaeth Dorothy Harper yng Nghartref Nyrsio Madog yr wythnos hon. Daeth Dorothy a’i phriod, Eric, i fyw i Argraig, Soar dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, a daethant yn rhan o’r gymdeithas yn fuan iawn. Dysgodd Dorothy siarad Cymraeg ac fe gymerodd ran mewn amrywiol weithgareddau Cymreig yn yr ardal, lle’r oedd yn uchel iawn ei pharch. Cydymdeimlwn â’i brawd, Leslie a’i briod (Canolbarth Lloegr) a gyda’i holl ffrindiau yn yr ardal hon.

Bedydd yn Llanfihangel-y-traethau Ar ddydd Sul, Mawrth 26, Sul y Mamau, bedyddiwyd Alexander Joseph Hemsley, mab Christine a Robert Hemsley o Congleton, Swydd Caer, ac ŵyr i Christine a Mike Hemsley, Bryn Tirion, Ynys. Arweiniwyd y gwasanaeth dwyieithog gan y Parch Bob Hughes. Roedd yn ddiwrnod braf a’r golygfeydd yn odidog. Yn dilyn y gwasanaeth, aeth y teulu am ginio blasus i Blas Tanybwlch, ac i fwynhau’r gacen fedydd a baratowyd gan Mrs Edwina Evans, Harlech. Diolch i bawb a gyfrannodd at wneud y diwrnod yn un mor arbennig. Rhodd £10

Neuadd Talsarnau

GYRFA CHWIST Nos Iau, Mai 11 am 7.30 o’r gloch Croeso cynnes i bawb

Y Capel Newydd

Oedfaon am 6:00 MAI 7 - Dewi Tudur 14 - Dewi Tudur 21 - Parch Gwynn Williams, Caerdydd 28 - Dewi Tudur Croeso cynnes i bawb.

Cyngerdd yr Ysgol Gynradd Nos Fercher, 24 Mai am 6.00 o’r gloch Mynediad £5 [tâl gan oedolion yn unig] Elw at gostau’r plant yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a chronfa’r peiriant diffib

Ar werth Tŷ teras, Talsarnau. Ymholiadau: 01766 772960

Merched y Wawr Croesawyd pawb i’r cyfarfod yn y Neuadd Gymuned nos Lun, 3 Ebrill gan y Llywydd, Siriol Lewis. Estynnwyd croeso arbennig i Mai wedi iddi wella ar ôl treulio cyfnod yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar. Derbyniwyd cofnodion dau achlysur diweddar - Cinio Gŵyl Ddewi ym Mrondanw, Llanfrothen ar 2 Mawrth ac ymweliad i gyd-ddathlu Gŵyl Ddewi gyda Changen Trawsfynydd ar 16 Mawrth. Cyflwynwyd materion o gofnodion Pwyllgor Rhanbarth 20 Mawrth. Adroddwyd y bydd nwyddau newydd ar gael cyn bo hir ynglŷn â’r dathlu 50 - matiau diod llechi a chyfres o gardiau post Paneli Aur y Dathlu. Cyhoeddwyd Taith Aur y Paneli - gydag arddangosfa yn y Parc rhwng 19 a 23 Mehefin. Hysbyswyd y Cyfarfod Blynyddol Cenedlaethol ym Machynlleth ar 20 Mai, ac atgoffwyd pawb o’r Ŵyl Ranbarth a gynhelir yn Neuadd Penrhyndeudraeth ar 26 Ebrill am 7 o’r gloch. Cytunwyd y byddwn fel Cangen yn rhoi tocyn llyfr gwerth £10 yn wobr raffl yn yr achlysur. Yna pleser oedd i’r Llywydd gael croesawu ein gŵr gwadd heno, y Dr Rhun Emlyn o Benrhyncoch, darlithydd hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth. Teitl ei sgwrs oedd ‘Hanes Cymru yn y Canoloesoedd’ a chyflwynodd hanes cysylltiadau Cymru ac Ewrop mewn pum maes yn ystod y cyfnod yma – crefydd, gwleidyddiaeth, rhyfel, addysg a masnach. Gŵr ifanc hawdd iawn gwrando arno ac yn cyflwyno ei sgwrs mewn modd diddorol a chartrefol Diolchodd Ella iddo ar ein rhan am ddod atom i rannu ei wybodaeth eang gyda ni am hanes Cymru yn y cyfnod uchod. Paratowyd y baned gan Anwen, gyda chymorth aelodau eraill. Anwen hefyd enillodd y raffl.

13


HEN LUN O HARLECH

ENGLYNION PARODI

Yn rhifyn y gwanwyn o ‘Barddas’ mae cystadleuaeth creu parodi o englyn cyfarwydd, ac mae rhai cynigion diddorol i’w gweld ynddo. Dyma i chi ddwy ymgais i greu parodi o englyn Ieuan Fardd i ‘Lys Ifor Hael’: Llys Ifor Hael, gwael yw’r gwedd - yn garnau Mewn gwerni mae’n gorwedd; Drain ac ysgall mall a’i medd, Mieri lle bu mawredd. Dyma gynnig ‘Gwilidon’: Bill Clinton hael, gwael yw’r gwedd - â’i fenyw Heb fyned i’r Senedd; Byw trwy ddarlithio i’r bedd, Mwy arian lle bu mawredd. a dyma gynnig ‘Top Trymps’: Llys Donald Wael! Gwael yw’r gwedd, - ac ei wallt: to gwelltog yn gorwedd, gyda’r anghall mall a’i medd, Amerig lle bu mawredd.

Ymddangosodd y llun hwn mewn hen rifyn o Lais Ardudwy. Ynddo fe welir Rhian Eluned Jones, Prif Ferch, yn cyflwyno anrheg ffarwel i Mrs Gwyneth Edwards ar ei hymddeoliad. Hefyd yn y llun y mae Eifion Roberts, Prif Ddisgybl, Cyril Jones, pennaeth a’r diweddar Iorwerth Simon, dirprwy bennaeth. Deallwn fod Mrs Edwards wedi bod dan anhwylder yn ddiweddar ac anfonwn ein cofion ati a’n dymuniadau gorau am adferiad iechyd llwyr a buan. Llun: Hugh G Roberts

Llais Ardudwy RHIFYNNAU NESAF NEWYDDION ERBYN Mai 29 Mehefin 26

GOSOD Mehefin 2 Mehefin 30

YN Y SIOPAU Mehefin 7 Gorffennaf 5

Hoffem atgoffa pawb i anfon y deunydd atom ar y dyddiad a nodir ar dudalen 2. Roedd sawl enghraifft o ddeunydd yn cyrraedd yn hwyr y mis hwn. Pob cyfraniad electronig wedi ei deipio ar ffurf ‘Word’ os gwelwch yn dda. Hefyd cofiwch mai ar ffurf ‘jpg’ yr ydym yn derbyn lluniau. Gwnewch yn siŵr nad oes hawlfraint ar y llun cyn ei anfon. Cedwir yr hawl i wrthod unrhyw lun o safon isel. Diolch.

R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU

Parodi arall a gafwyd oedd hwnnw i’r ‘Nyth’ gan Roger Jones. Ni fu saer na’i fesuriad - yn rhoi graen Ar ei grefft a’i drwsiad; Dim ond adar mewn cariad Yn gwneud tŷ heb ganiatâd. Dyma gynnig ‘Y Bardd Ffug’: Ni all Trump, na’r llu Trumia’d - godi wal I gau dôr mewnlifiad; Ond drwy drydar heb gariad A gwneud deals am ganiatâd. Un ymgais a fwynheais i oedd y barodi ar ‘Llŷn’ gan J Glyn Davies: Heulwen ar hyd y glennydd - a haul hwyr A’i liw ar y mynydd, Felly Llŷn ar derfyn dydd, Lle i enaid gael llonydd. Dyma gynnig ‘Huw Puw’. Olwen o hyd yn ysblennydd - a’r un Hen griw yno beunydd, Felly’r Llew Gwyn derfyn dydd, Lle i Einion gael llonydd. Un arall gwerth ei ddyfynnu yw’r parodi ar englyn enwog Thomas Richards i’r ‘Ci Defaid’. Rhwydd gamwr hawdd ei gymell - i’r mynydd A’r mannau anghysbell; Hel a didol diadell Yw camp hwn yn y cwm pell. Dyma gynnig ‘Nigel’ - oes mae arwyddocâd i’r ffugenw! Rhwydd gymar hawdd i gymell - y werin I diroedd anghysbell; Hel a didol diadell ei gamp o, i ryw gwm pell. Mae enillydd y gystadleuaeth wedi dewis creu parodi o englyn gwych Dic Jones ar y testun ‘Fy Nymuniad’. Gweld ryw adeg, aildroedio - yr undaith, A’r un ffrindiau eto, Yr un hwyl, a’r un wylo, Yn ôl y drefn yr ail dro. Ond os ydych chi eisiau darllen y barodi fuddugol, mi fydd raid i chi brynu copi o ‘Barddas’! Mae ar werth yn y siopau ar hyn o bryd. PM

14


H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Stryd Fawr Harlech, Gwynedd 01766 780239

Cefnogwch ein hy s b y s e b w y r

Llanuwchllyn 01678 540278

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr

01341 241551

ALAN RAYNER

GERALLT RHUN

ARCHEBU A

01341 421917 07770 892016

GOSOD CARPEDI 07776 181959 Sŵn y Gwynt Talsarnau,

Tiwniwr Piano

Gwynedd

g.rhun@btinternet.com Tiwnio ...neu drwsio ar dro!

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

ADEILADWR Gwarantir gwaith o safon.

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

Gadewch i’r felin ddod atoch chi! www.gwyneddmobilemilling.com

Ffoniwch Ann Lewis 01341 241297

Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk

drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]

Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

www.raynercarpets.co.uk

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

Llais Ardudwy

Cynnal Eiddo o Bob Math

Am hysbys ebu y ma? £6 bob mis, £60 y flwyddyn

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu 01341 241297

MELIN LIFIO SYMUDOL

Tafarn yr Eryrod

01766 512091 / 512998

TREFNWYR ANGLADDAU Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

JASON CLARKE Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

DAVID JONES

Cigydd, Bermo 01341 280436

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

GWION ROBERTS SAER COED 01766 771704 - 07912 065803 gwionroberts@yahooo.co.uk

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014

dros 25 mlynedd o brofiad 15


Ond tra bo tafod, sillaf a nodau A rhywrai’n cywain ein llên o’r caeau, Bydd dawn yn aros, bydd dyn a’i eiriau A chân o’i hyngan yn drech nac angau. Bydd huodledd, bydd awdlau - a stori Yno ym miri y pentymhorau. Mae ei gyfres o englynion i’r Lada, a brynodd gan ei frawd yng nghyfraith, Gari Wyn, yn taro nodyn ysgafnach:

LADA

CAETH A RHYDD

Yn ôl Myrddin ap Dafydd: ‘Mae gwerth dwy gadair a dwy goron yn y casgliad hwn.’ Yn ôl Dr Derec Llwyd Morgan yn y rhifyn cyfredol o ‘Barn’ - ‘Awen a hanner yw hon’. ‘Dyma gerddi gwych sy’n gwau adleisiau o feirdd y canrifoedd ynghyd a’i lais ei hun.’ Bu’n barddoni er pan oedd yn fachgen. Meddai Peredur, sy’n frodor o Garrog yn yr hen Sir Feirionnydd: ‘Mae cryn amrywiaeth o ran naws yn y gyfrol, cerddi dwys a cherddi ysgafn, rhai i ’nheulu, rhai ar gyfer dathliadau arbennig, rhai i gofio mawrion y genedl, a cherddi dychan hefyd.’ ‘Y gerdd dwi fwya balch ohoni er mor drist oedd y rheswm dros ei chyfansoddi, ydi’r farwnad i Gwyn Thomas. Dwi’n ymdrechu’n fwriadol yn honno i ailgylchu ac adleisio rhai o nodweddion y canu clasurol. Nid cynnwys y gyfrol yn unig sy’n gwneud Caeth a Rhydd yn gyfrol i’w thrysori. Mae hon yn gyfrol hardd sydd wedi’i dylunio a’i rhwymo gyda chrefft a gofal. Olwen Fowler sydd i’w chanmol am y dylunio caboledig. Hoffais yn fawr yr englyn coffa i’w chwaer, Amranwen Haf, athrawes fro yng Ngwynedd a chyfaill yr oedd gen i gryn feddwl ohoni:

AR FEDD AMRANWEN HAF Ni weddai mo henaint iddi - na chrych Ar wedd na dihoeni; Fan hyn, pan ddaw’n penwynni, Ni chawn ond ei harddwch hi.

Cerdd a ffolais arni oedd y gerdd er cof am Dic Jones:

MARW DIC JONES

Tra bo dynoliaeth fe fydd hiraethu A phen i dalar a phoen i deulu. I wlad daw eiliad i ymdawelu, I hendre a loriwyd daw hir alaru, A bydd, fel erioed y bu,- gau dorau Ar gnydau’r hafau a’r cynaeafu.

16

Araf oedd y milltiroedd, - ie, araf Er gwario’r holl gannoedd; Lada ar y diawl ydoedd, Ond un da mewn eira oedd. Lada’r lefftis a’r tlodion - un Lada Clywadwy ei biston; Un a’i fwg o Fynwy i Fôn, Yn Lada’n llawn dyledion.

HOLI PEREDUR LYNCH

Enw: Peredur Lynch. • Beth yw eich gwaith? Darlithydd ym Mangor. • Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Ymchwilydd. • O ble’r ydych chi¹n dod? Carrog, gerllaw Corwen • Lle’r ydych chi¹n byw yn awr? Bangor. • Wnaethoch chi fwynhau eich haddysg? Do. • Dywedwch ychydig am y llyfr yr ydych newydd ei gyhoeddi. Addasiad o nofel dditectif Saesneg, Mother’s Boys gan Robert Barnard. • Cyfieithu - ei bleserau, ei anawsterau, ei werth trafodwch! Addasiad yw’r llyfr, ac nid cyfieithiad!

Dduw Iôr, pa ryw ddihiryn - a dwyllodd Y dall â’r fath recsyn? Ei anrhydedd, yr adyn, Yw dêl wael i’w deulu’i hun. O Dduw, pan ddaw ei ddiwedd, - un llinell Hynod o gynghanedd Yn fawl a gaiff ar ei fedd: ‘Y rhwd oedd ei anrhydedd’. A dyma i chi englyn fydd yn siŵr o gael ei ddarllen mewn llawer angladd yn y dyfodol:

CRI’R YMADAWEDIG

Ni fynnaf eich griddfannau; - ni hawliaf Dorcalon, ’rhen ffrindiau; Dewch yma i gofio’r oriau Llawn a oedd a llawenhau.

I TONY BLAIR CROESGADWR IRAC AR EI YMDDEOLIAD

Ymhob rhyw wlad pan siarado, - ni waeth Pa mor hen y byddo, Drwy y wên or-daer honno Daw y gwaed o hyd i go’. Darllenwyd ymateb Llion Jones i’r llyfr ar noson y lansiad ym Mhrifysgol Bangor: Â natur y clasurydd - yn llawiau â doniau’r diwynydd a rhin y gwir awenydd coeth o raid yw ‘Caeth a Rhydd’.

Mae ganddo englyn cofiadwy iawn i Tony Blair sy’n ddisgrifiad go gywir ohono.

Mi gefais i bleser digymysg yn darllen ac ailddarllen y cerddi a mentraf ddweud, er nad yw ond canol mis Ebrill wrth i mi sgwennu hyn o lith, y bydd y llyfr hwn yn agos iawn i’r brig pan ddaw yn adeg i gyhoeddi enillydd ‘Llyfr y Flwyddyn’ eleni. PM

• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu cyhoeddi? Rwy’n gyd-awdur sawl cyfrol academaidd. • Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Trysor y Môr Ladron. • A fyddwch yn edrych arno’n awr? Byddaf o bryd i’w gilydd. • Pwy yw eich hoff awdur? Graham Greene. • A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Nac oes • Pwy yw eich hoff fardd? Dafydd ap Gwilym • Pa un yw eich hoff gerdd? Rwy’n edrych dros y bryniau pell. • A pha un yw eich hoff linell o farddoniaeth? Tosturiaethau fel y lli. • Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Godfather, Dad’s Army. • Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir? Da dant rhag tafod. • Pa gyngor fyddech chi¹n ei roi i rywun sydd eisiau bod yn awdur? Ystyriwch fynd i fyd y gyfraith. Mi gewch fwy o arian! • Pa ddawn hoffech chi ei chael? Y gallu i dorri newyddion drwg. • Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?

Digyffro, digyffro, digyffro • A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Yr anallu i gwblhau gwaith mewn pryd • Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham? William Salesbury. Yr oedd ganddo weledigaeth. Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Eisteddfodau Caerwys. • Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Dafydd ap Gruffydd. ‘Callia!’ • Pa un yw eich hoff daith a pham? O amgylch Castell Carreg Cennen. • Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Yr un diwethaf. • Beth yw eich hoff weithgaredd amser hamdden? Nofio. • Pa un yw eich hoff liw? Gwyrdd. • Pa liw yw eich byd? Llwyd. • A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Oes. • Beth fyddai’r paragraff agoriadol delfrydol i nofel neu waith llenyddol arall? Bobol bach, ’wn i ddim!

Codwyd yr holiadur uchod o Safwe BBC Cymru, Llais Llên, Tachwedd 2014


Cwpan Cynghrair y Pencampwyr yn Ysgol Ardudwy Cafodd disgyblion Ysgol Ardudwy gyfle i weld Cwpan Cynghrair y Pencampwyr yn yr ysgol yn ddiweddar. Cafwyd cyfle hefyd i dynnu lluniau gyda’r gwpan. Nid oedd y gwpan yn ymweld â llawer o ysgolion, felly roedd hi’n anrhydedd i’r ysgol gael cyfle i arddangos y ddwy gwpan. Cynhaliwyd cystadleuaeth pêl-droed i ysgolion cynradd y dalgylch hefyd ar gaeau’r ysgol i ddathlu ymweliad y gwpan. Ysgol y Traeth oedd yn fuddugol, llongyfarchiadau iddyn nhw.

Bechgyn Cefn Coch

Merched y Traeth

Ysgol Llanbedr

Merched Cefn Coch

Bechgyn y Traeth

Ysgol Talsarnau

Ysgol Dyffryn Ardudwy

Ysgol Tanycastell

17 A


NEWYDDION YR URDD Wedi’r ymryson yn ystod misoedd y gaeaf, bydd Ysgol y Traeth yn teithio i lawr i Aberystwyth ar gyfer cystadlu yng nghystadleuaeth 7-bob-ochr i Ysgolion ledled Cymru. Dyma gyfle arbennig i’r criw yma ddangos eu doniau ar lefel uchel. Mae’r cystadlu’n digwydd ar ddydd Sadwrn, 6 Mai eleni. Dyma ddiwrnod sydd yn dathlu enillwyr Rhanbarthol Ysgolion ac Adrannau Cynradd Cymru. Yn ogystal, bydd cyfle i rai sydd eisiau rhedeg y traws gwlad wneud hynny, drwy fynd ar safle we’r Urdd am fwy o fanylion Gobeithiwn adrodd ar y diwrnod yn y rhifyn nesaf. Glan-llyn Dros y blynyddoedd, mae plant ardal Llais Ardudwy wedi bod yn ffyddlon iawn i Wersyll yr Urdd Glan-llyn ac mae yna gyfle i griw blynyddoedd 4, 5 a 6 fynychu’r Gwersyll ar lan Llyn Tegid eto eleni. Mae’r penwythnos yn digwydd rhwng 16 ac 18 Mehefin. Mae’r wybodaeth yma wedi ei hanfon i’r Ysgolion a’r Adrannau. Celf a Chrefft Dyma’r gweithiau celf fydd yn mynd i Ben-y-bont ar Ogwr ar gyfer eu beirniadu er mwyn sicrhau lle yn arddangosfa yn Eisteddfod yr Urdd. Gwaith Creadigol 2D Bl 2 ac iau (Unigol) Ela Thomas, Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy 1af Gwaith Creadigol 3D Bl 5 a 6 (Gwaith Grŵp) Cari, Grace a Chloe, Ysgol Gynradd Tanycastell 1af Print Monocrom Bl 5 a 6 Justice Williams, Ysgol Gynradd Y Traeth 1af Cyfres o Brintiau Monocrom Bl 5 a 6 Bailie Pitcher, Ysgol Gynradd Y Traeth 1af Mae’r gweithiau canlynol wedi cael ail neu drydydd yn y Rhanbarth Gwaith Creadigol 2D Bl 2 ac iau (Unigol) Moi Williams, Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy 3ydd Gwaith Creadigol 2D Bl 5 a 6 (Unigol) Ruby Jones, Ysgol Gynradd Tanycastell 3ydd Argraffu Bl 2 ac iau Moi Williams, Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy 2il Graffeg Gyfrifiadurol Bl 5 a 6 Millie Roper, Ysgol Gynradd Y Traeth 3ydd Print Monocrom Bl 5 a 6 Brandon Williams, Ysgol Gynradd Y Traeth 2il Print Lliw Bl 3 a 4 William Bailey, Ysgol Gynradd Llanbedr 3ydd Print Lliw Bl 5 a 6 Keira Evans, Ysgol Gynradd Y Traeth 3ydd Cyfres o Brintiau Lliw Bl 5 a 6 Ruby Jones, Ysgol Gynradd Tanycastell 3ydd Creu Arteffact Bl 3 a 4 (Unigol) Thio Walters, Ysgol Gynradd Tanycastell 2il Diolch am eich cefnogaeth Dylan Elis Urdd Gobaith Cymru Swyddog Datblygu Meirionnydd

Y BERMO A LLANABER Merched y Wawr, Bermo a’r Cylch Yn ddiweddar, cawsom wahoddiad gan gangen Nantcol i noson o ganu traddodiadol Cymreig yng nghwmni’r Band Arall. Aeth nifer dda ohonom draw i Festri Horeb, Dyffryn, ynghyd â rhai o ddysgwyr yr ardal, i fwynhau noson o gerddoriaeth. Roeddem i gyd yn arbennig o falch o gael Mrs Gwyneth Edwards gyda ni, wedi gwella ar ôl ei damwain gas. Croesawyd pawb yn gynnes gan Anwen y Llywydd, cyn iddi roi braslun o hanes y band i ni. Anodd credu, ond maent gyda’i gilydd ers ugain mlynedd bellach ac wedi rhyddhau CD o’r enw ‘Lleuad Borffor,’. Maent yn edrych ymlaen at fynd ar daith i Estonia ym mis Medi. Diolchodd Celt, arweinydd y band, am y croeso gan ddweud bod ganddo atgofion braf iawn o’i ddyddiau ysgol yn y Dyffryn. Yna cawsom gyfle i fwynhau gwrando a chanu gyda’r Band, gan orffen gyda’r hen ffefryn ‘Moliannwn’. Roedd merched Nantcol wedi bod yn brysur yn addurno’r Festri’n hardd ac wedi paratoi gwledd ar ein cyfer, a buom yn sgwrsio a mwynhau cwmpeini ein gilydd dros baned. Glenys roddodd y diolchiadau dros gangen Y Bermo, gan ddiolch yn arbennig i’r merched am baratoi’r bwyd hyfryd, a dymunodd yn dda i’r Band ar eu taith i Estonia. Enillwyd y raffl gan Gwen o Nantcol, a Pam o’r Bermo. Cyfarfu’r gangen ETO nos Fawrth 18 Ebrill. Croesawodd Iona Anderson y gŵr gwadd sef Mr Ken Robinson atom eleni eto i sôn mwy am y rheilffyrdd. Y tro yma Rheilffordd Cyffordd y Bermo i Langollen oedd ganddo. Dangosodd luniau bendigedig o amrywiol drenau/injans stêm yn aros mewn gwahanol orsafoedd, gan gynnwys injan yr enwog Flying Scotsman. Dyma rai dyddiadau ganddo o ddiddordeb: 1862 Y lein yn agored o Gyffordd y Bermo i Riwabon – gelwir heddiw yn Morfa Mawddach. 1880 – y Great Western yn gyfrifol am redeg y rheilffordd 1947 – Newidiwyd i Reilffyrdd Prydeinig 1965 – Ionawr, bu i Dr Richard Beeching gau’r lein o Gyffordd y Bermo i Riwabon. Colled fawr i drigolion yr ardaloedd heb sôn am yr holl oedd yn colli eu gwaith. Lle bu Gorsaf Dolgellau heddiw ceir y ffordd osgoi ar wely’r lein. Erbyn heddiw mae yn drên bach stêm yn rhedeg o Langollen drwy Garrog o’r lein bron â chyrraedd Corwen, gan ddefnyddio’r hen gledrau, a hefyd o Lanuwchllyn i’r Bala. Y mis nesaf bydd cangen y Ganllwyd yn ymuno â ni.

TYRPEG BERMO

Lleolwyd y Tyrpeg ar Rodfa’r Brenin lle mae Eglwys St Tudwal rŵan. Rhoddodd ‘Deddf y Priffyrdd 1862’ ddiwedd ar dalu tollau am ddefnyddio’r mwyafrif o’r ffyrdd . Llun: Hugh G Roberts

18 A


Y s g o l Ta n y c a s t e l l Taith Noddedig Yn ystod gwyliau’r Pasg, penderfynodd dau ddisgybl godi arian at brynu adnoddau i chwarae tu allan. Penderfynodd Bradley a Cherry Smith o B3 a B5 wneud taith gerdded noddedig. Cerddodd y ddau gyda’i rhieni o Harlech i Gwm Bychan ac yn ôl, oddeutu 13 milltir o daith. Cododd y ddau dros £750. Diolch iddyn nhw ac i’w rhieni am bob cymorth.

Beicwyr y dyfodol Yn ystod dau ddiwrnod olaf y tymor diwethaf, cafodd disgyblion B6 hyfforddiant Beicio Lefel 1 a 2. Llongyfarchiadau mawr i’r disgyblion hynny a lwyddodd i basio Lefel 2.

Buom yn dathlu ‘Diwrnod y Llyfr’ ar ddechrau mis Mawrth. Gwisgodd y disgyblion a’r staff fel cymeriadau o lyfr. Fel rhan o’r diwrnod, cafwyd cystadleuaeth gwisg ffansi. Aelodau o’r Cyngor Ysgol oedd y beirniaid. Dyma ddisgyblion bob dosbarth wedi gwisgo fel cymeriadau.

Ffarwelio ag Anti Ann

Ar ddiwedd tymor y gwanwyn, roedd hi’n ddiwrnod trist yma wrth i ni ffarwelio gydag un o gymorthyddion yr ysgol, sef Mrs Ann Jones neu Anti Ann, gan ei bod yn ymddeol ar ôl cyfnod o bron i 20 mlynedd o wasanaeth. Hoffai pawb sy’n gysylltiedig â’r ysgol ddiolch o waelod calon am ei gwaith arbennig dros y cyfnod yma. Yn ystod y cyfarfod arbennig a drefnwyd iddi, cawsom sgets gan y disgyblion, barddoni a chaneuon a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer Anti Ann. Cyflwynwyd iddi lun wedi’i fframio, blodau, cacen fendigedig, albwm o atgofion a thalebau Bysiau Arvonia. Diolch yn fawr am y cyfraniadau gan rieni a staff.

Llwyddiant Celf a Chrefft - Urdd Llongyfarchiadau mawr i’r disgyblion isod a gafodd un ai cyntaf, ail neu drydydd yn y cystadlaethau Celf a Chrefft yn Eisteddfod yr Urdd. Aeth y gwaith ymlaen i’r Eisteddfod Ranbarth ym Meirionnydd. Llongyfarchiadau i Ruby Jones am ddod yn drydydd yn y printiau lliw ac yn y Gwaith Creadigol 2D, i Thio Walters am ddod yn ail gyda’i arteffactau ac i Cari Evans , Grace Lewis a Chloe Hooban am ddod yn gyntaf gyda’i model. Bydd gwaith y tair yma yn mynd yr holl ffordd i Ben-y-bont ar Ogwr i’r Eisteddfod Genedlaethol. Pob lwc iddyn nhw.

19 A


MERCHED Y WAWR YN DATHLU’R AUR [50]

Cangen Talsarnau

Cangen Harlech a Llanfair

Cangen Nantcol

Daeth oddeutu 100 o aelodau rhanbarth Meirion draw i Benrhyndeudraeth i’r Ŵyl Ranbarth i ddathlu’r aur. Cafwyd gair o groeso gan Geunor Roberts, Mawddwy, cyn-lywydd [yn absenoldeb Buddug Medi oherwydd damwain]. Yna cafwyd cyfle i fwynhau bwffe wedi’i baratoi gan Gwmni Nia. Paratowyd cacen arbennig gan Eirian Thomas o’r Brithdir. Cafwyd gair gan ein trefnydd cenedlaethol, Tegwen Morris a fu’n hel atgofion am weithgareddau amrywiol ym Meirionnydd. Rhannwyd y Tlws Cynnydd Aelodaeth eleni rhwng y Bala a Dolgellau. Lliaws Cain o Drawsfynydd a’u harweinydd Cellan Lewis a’u cyfeilydd Heulwen Jones ddaeth i’n diddori a chawsom fwynhad o glywed canu persain nifer o ganeuon adnabyddus. Cyflwynwyd y caneuon gan Megan Williams mewn dull cartrefol iawn. Bu Beti Wyn Jones, Cangen Nantcol, Dawn Owen, Talsarnau ac Elizabeth Jones, Harlech a Llanfair yn ffodus o ennill beiros aur. Janet, Gwenda, Hefina, Beti Wyn, Elizabeth ac Anwen enillodd y gwobrau raffl a Freda Williams roddodd y diolchiadau.

YSGOL ARDUDWY

Tocyn Nofio, Bwyta a Gwylio

£6 i blant

Wythnos Hanner Tymor Mai 29 - Mehefin 2 12.00 - 1.00 Nofio 1.00 - 2-00 Cinio yng Nghaffi Glandŵr 2.30 - Ffilm yn Theatr Ardudwy

20 A

Prosiect yr Hwntw Mawr Yn ystod wythnos ola’r tymor cafwyd Sioe Ddathlu ar ddiwedd y prosiect gyda disgyblion B9. Crëwyd rhaglen ddogfen yn ymchwilio i’r digwyddiadau a arweiniodd at lofruddiaeth Mary Jones a’r posibilrwydd bod ‘Yr Hwntw Mawr’ yn ddieuog! Mae’r Sioe Ddogfen i’w gweld ar YouTube - Llofruddiaeth Mary Jones - Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol https://www. youtube.com/watch?v=zXMM2f6ecTo&feature=youtu.be Hoffai’r ysgol ddiolch i Owain Llŷr a John Williams am eu gwaith wrth arwain y disgyblion drwy’r prosiect.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.