Llais Ardudwy
70c
RHIF 487 - MAI 2019
CYD-LYWYDDION CYMDEITHAS Y GWARTHEG DUON
Y brodyr Evans yn gyd-lywyddion Cymdeithas Gwartheg Duon Cymreig Ar ddechrau Mai roedd yn ddiwrnod pwysig i’r teulu Evans gan mai un o’r eitemau allweddol ar agenda cyfarfod blynyddol y Gymdeithas oedd ethol Llywydd i’r Gymdeithas. Fel arfer, un Llywydd a benodir, ond y tro yma bydd yn sefyllfa unigryw wrth i dri brawd rannu’r anrhydedd – Robert John Evans, Elwyn Pryce Evans ac William Hefin Evans. Mae’r tri’n ffermio ar wahân, ond yn agos at ei gilydd yn Ardudwy, a gan fod y tri’n berchen ar wartheg pedigrî mi fyddai ethol un unigolyn fwy neu lai’n amhosibl! Er bod ffermwyr fel arfer yn gystadleuol o ran cynhyrchu anifeiliaid o safon, mae’r tri brawd wedi arfer cydweithio a chynnig cymorth i’w gilydd. Yr hyn sy’n uno’r tri brawd a’u gweithgareddau amaethu ydy Gwartheg Duon Cymreig – unig frîd o wartheg brodorol Cymru – sy’n hanesyddol yn dyddio o gyfnod y Rhufeiniaid. Mae’r gwartheg yn adnabyddus am eu gallu i ffynnu ar ucheldir garw neu borfa ffyniannus ar yr iseldir. Llongyfarchiadau calonnog i’r brodyr am roi Ardudwy ar y map.
MEDALAU O LETHRAU SGÏO EWROP Y Gamp Lawn i Gymru, a Grand Slalom i Lowri
â chael hyfforddiant ar lethr sgïo dan do yn Landgraff yn yr Iseldireodd. Mae’n teithio’n rheolaidd i lethr sgïo dan do hiraf Gwledydd Prydain, y Chill Factore ger Manceinion, lle cafodd y fraint o gyfarfod ag Eddie the Eagle (Michael Edwards).
Ar diwedd ei thymor cyntaf o gystadlu ar lethrau sgïo Ewrop mae Lowri Howie, sy’n 9 oed, ac yn ddisgybl B4 yn Ysgol Llanbedr wedi dod gartref gyda llu o fedalau. Lowri oedd yr enillydd dan ddeg oed, er ei bod yn un o’r cystadleuwyr ieuengaf eleni. Roedd Lowri yn cynrychioli ei hysgol ym Mhencampwriaeth Ysgolion Prydain yn Pila yn yr Eidal, pan ddaeth yn gyntaf yn y rasys Slalom a Giant Slalom. Alun Cairns AS oedd yn cyflwyno gwobrau Pencampwriaeth Alpaidd Cymru yn Champery yn y Swistir eleni pan enillodd Lowri ail yn y Slalom a thrydydd yn y Grand Slalom. Dyma’r tro cyntaf i Lowri gystadlu yn y Bencampwriaeth ac roedd Mr Cairns wedi rhyfeddu at allu a dewrder y cystadleuwyr ifanc, gan roi sylw arbennig i’r rhai dan 10 oed. Yn y gystadleuaeth cyflymder cyrhaeddodd Lowri gyflymder o bron i 70 cilomedr yr awr, a daeth yn bedwerydd yn y Slalom a’r Giant Slalom ym Mhencampwriaeth Alpaidd Lloegr, yn Bormio yr Eidal ym mis Chwefror. Cafodd Lowri flas ar ennill rasys slalom pan enillodd bencampwriaeth agored sgïo llethr sych Yr Alban yng Nghaeredin yn 2018, ac eto pan enillodd y ‘GBR Series’ dan ddeg oed yn 2018. Meddai Lowri, ‘Dwi’n mwynhau y Giant Slalom fwy na’r slalom oherwydd mae’r polion wedi eu gosod yn bellach oddi wrth ei gilydd ac mae’r troadau’n fwy llydan felly dwi’n gallu mynd yn gyflymach nag ar y slalom cyffredin.’ Er iddi dorri ei bawd ar ddechrau’r tymor sgïo, mae wedi dyfalbarhau ac wedi mwynhau ymarfer sgïo ar rewlif yn Awstria yn ogystal
Dechreuodd Lowri sgïo gyda’i mam ar lethr Llandudno pan oedd yn 3 oed ac yna ym Mhlas y Brenin. Erbyn heddiw, a chanolfan Plas y Brenin wedi cau, mae Lowri’n teithio o Lanbedr i ymarfer ar lethr sgïo yn Runcorn bob nos Fercher, a’r gaeaf yma bu’n treulio bron i saith wythnos yn cystadlu a mynychu rhaglen hyfforddiant arbennig yn Awstria, a’r Eidal gydag academi sgïo. Roedd rhaglen yr academi yn cynnwys hyfforddiant sgïo bob bore, wedyn gwersi ysgol yn y prynhawn a sesiwn hyfforddi ar gyfer ffitrwydd ar ôl hynny. Pan nad yw’n sgïo ar y llethrau mae Lowri yn mwynhau beicio mynydd a nofio. Mae’n bencampwraig beicio mynydd Cymru, ac hefyd wedi ennill cystadlaethau nofio yng ngala nofio yr Urdd, Meirionnydd. Einir (Pritchard) Dinas
GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 780635 pmostert56@gmail.com
HOLI HWN A’R LLALL
Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com 07760 283024 / 01766 780541
SWYDDOGION
Cadeirydd: Hefina Griffith 01766 780759
Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@outlook.com Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL
Y Bermo Grace Williams 01341 280788 David Jones 01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones 01341 241229 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Cysodwr y mis: Phil Mostert
Bydd y rhifyn nesaf yn cael ei osod ar Mai 31 am 5.00. Bydd ar werth ar Mehefin 5. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Mai 27 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’
Dilynwch ni ar Facebook @llaisardudwy
2
Enw: John Bryn Williams Gwaith: Cyfreithiwr wedi ymddeol. Cefndir: Yn wreiddiol o Abersoch yn Llŷn ac wedi byw yma ac acw ond gan fwyaf yn Eifionydd. Bellach rwyf yn byw yng Nghricieth ac yn mwynhau’r olygfa o Ardudwy dros y bae. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Damwain a hap am wn i ond efallai bod dipyn go lew o gerdded yn help. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Y peth agosaf ataf yn aml. Llyfrau hanes, nofelau, taflen amser y bws a’r trên, barddoniaeth ac ati. Caf y Times a’r Daily Post bob dydd a phedwar papur bro bob mis. Ar hyn o bryd mae Hanes Methodistiaeth Cymru, Murders of Maamtrasna a hanes Rheilffordd y Cambrian ar y bwrdd.
Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Ychydig iawn o radio bellach. Rhaglenni dogfen ar y teledu gan fwyaf – hanes neu natur a theithio neu ffilm dditectif weithiau ac ambell i gwis. Ydych chi’n bwyta’n dda? Ydw, yn dda iawn diolch. Yn rhy dda efallai. Hoff fwyd? Popeth yn ei dro. Rydw i yn hoff o drio bwydydd newydd. Hoff ddiod? Te coch ydi’r boi er bod ambell i beint o gwrw yn dderbyniol iawn. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Rhywun. Dwi ddim yn ffysi. Lle sydd orau gennych? Fy nghartref newydd yng Nghricieth. Er hynny, dwi yn hoff iawn o grwydro ac o gael dod adref wedyn. Ble cawsoch chi’r gwyliau gorau? Anodd dewis ond cafodd Gwenan a minnau wyliau arbennig yn y Baltic un tro ac mae’r ddau ohonom yn cyfri mai hwnnw oedd y gorau un – hyd yn hyn. Beth sy’n eich gwylltio? Baw cŵn hyd y ffyrdd a’r llwybrau a’r Brecsit felltith ma. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Teyrngarwch gyda digon o amynedd a maddeuant i mi pan fyddaf yn colli pethau ac yn galw arnynt am help i’w ffeindio. Pwy yw eich arwr? William Morgan (dyn y Beibl nid y defaid) ac mae Pantycelyn yn uchel iawn hefyd. Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon?
TAITH GERDDED GWYNFOR JOHN Annwyl Bawb, Ar ôl llwyddiant ysgubol y blynyddoedd diwethaf, rydan ni wedi penderfynu cynnal taith gerdded eto eleni er cof am Gwynfor, ar ddydd Sadwrn Mehefin 22, gan obeithio bydd y tywydd yn ffafriol fel y llynedd. Y bwriad yw cerdded oddeutu hanner taith ‘Ffordd Ardudwy’, o Bermo i Lanbedr. Rydan ni’n disgwyl i’r daith gymryd rhyw bump awr, gydag amser ychwanegol am fwyd a diod. Byddai’n grêt petaech ar gael i gymryd rhan ac i gymdeithasu yn Tŷ Mawr, Llanbedr, wedyn. Bydd y daith yn cychwyn o’r stesion yn y Bermo am 11.00 i siwtio amserlen y trên o’r gogledd (trên yn gadael Harlech 10.28 ac yn cyrraedd Bermo 10.53). Ar ôl gadael y stesion byddwn yn pasio’r eglwys a dilyn arwyddion ‘Ffordd Ardudwy’ heibio Llyn Erddyn a Moelfre ac i lawr i Lanbedr. Hwyl, Iwan
Mae yna lawer un a byddai yn annheg enwi neb sydd yn dal yn fyw ond mae gennyf barch arbennig tuag at y diweddar Dudley Maidment oherwydd ei garedigrwydd a’i unplygrwydd. Os bu gwir Gristion erioed ... Beth yw eich bai mwyaf? Meindiwch eich busnes! Fel dywedodd Pantycelyn, ‘Cudd fy meiau rhag y werin…’ Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Y teulu i gyd gyda’i gilydd. Mae gwaith trefnu ar hyn bellach hefo pedwar o blant a phedwar o wyrion a wyresau er nad oes neb yn byw ymhell iawn. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Prynu Ford V8 Pilot hefo running boards ond efallai na fyddai £5000 yn ddigon. Eich hoff liw? Glas am wn i. Dwi ddim yn dda iawn hefo lliwiau. Eich hoff flodyn? Bwtsias y gog a’r haf ar y ffordd. Eich hoff gerddor? Does yna neb i guro Handel yn fy marn i. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Amrywio o ddydd i ddydd. Rydwi yn hoffi pob math ond jazz. Dydw i erioed wedi deall hwnnw. Pa dalent hoffech chi ei chael? Canu’r piano yn well. Eich hoff ddywediadau? ‘Heb ei fai, heb ei eni, Coed ei grud sydd heb eu plannu.’ Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Yn ddiolchgar ac yn llawen fy myd.
PENNAETH Y LLYFRGELL
Pob dymuniad da i Pedr ap Llwyd o Benrhyndeudraeth a chyn-ddisgybl Ysgol Ardudwy, sydd newydd ddechrau ar ei swydd fel Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Llongyfarchiadau i ti, Pedr, a phob llwyddiant yn y swydd.
LLANFAIR A LLANDANWG Merched y Wawr, Llanfair a Harlech, Ebrill 2019 Shân Lea oedd y wraig wadd y mis hwn. Daeth Shân a John Lea a thri o hogiau i Graig y Ffynnon yn 1989. Tŷ a dwy acer yng nghanol Dolgellau yw Craig y Ffynnon. Erbyn heddiw mae’r ardd wedi ei datblygu yn llawn blodau a llwyni ac yn hardd iawn. Cyngor defnyddiol gawsom gan Shân wrth drawsnewid gardd oedd i beidio a cheisio gwneud popeth ar unwaith; nid oes angen gwario ffortiwn a defnyddio planhigion sy’n gorchuddio’r tir mewn gardd fawr. Gobeithio y cawn gyfle i ymweld â Chraig y Ffynnon yn y dyfodol. Ar nos Fercher, Ebrill 24 aeth pedair aelod o’r gangen i’r Parc ger y Bala i’r Ŵyl Rhanbarth. Cafwyd croeso cynnes gan y swyddogion. Mona Hughes oedd yn cyflwyno’r noson. Cawsom air hefyd gan y Llywydd Cenedlaethol, Meirwen Lloyd. Yn dilyn cafwyd bwffe blasus iawn gan Nia Davies, Parc ac adloniant gan deulu talentog iawn Bryniau Defaid, Ysbyty Ifan cyn troi am adref. Bu dwy aelod yn ddigon ffodus i ennill raffl ar y noson. Pwll nofio Cynhaliwyd Bore Coffi yn Neuadd Llanfair bore Sadwrn, Ebrill 20. Gwnaed £336 o elw tuag at Bwll Nofio Harlech. Rhodd Ann N Mackay - £33. Diolch yn fawr.
Cyngor Cymuned Llanfair
Diolch Dymuna Beti Wyn, Pensarn, ddiolch o galon am y cardiau, galwadau ffôn ac ymweliadau gan y teulu a ffrindiau. Roedd hyn yn gymorth mawr imi. Diolch £10 Mudo Croeso cynnes iawn i Annes (Thomas gynt, a chwaer i Bethan ac Ifanwy) a’i gŵr Kevin sydd wedi symud i fyw i Y Berth, Llanfair. Pob hapusrwydd i’r ddau yn eu cartref newydd. Genedigaeth Llongyfarchiadau i Bethan (Cae Cethin gynt) ac Adam ar enedigaeth hogyn bach, Aled Glynne, yn ddiweddar, ŵyr newydd i Rob a Lis, Cae Cethin. Mae’r teulu bach yn byw yn Llundain. Rhodd £10 Dychwelyd ar ôl crwydro Croeso adra i Elin Haf, Pensarn (merch Hywel ac Ifanwy) ar ôl ei hamser yn gweithio a theithio yn Awstralia ac ambell i wlad arall am 5 mis - profiad anhygoel. Marwolaeth Yn frawychus o sydyn yn ei gartref, bu farw Mr Gareth Mitchelmore. Fe’i cofir fel gwas ffyddlon yn Nhyddyn Du. Gŵr oedd yn caru’r encilion oedd Gareth ond mi fyddai yn hoff o gerdded hyd y fro a theithio i Borthmadog ac i Gaernarfon.
Neuadd GoffaLlanfair
GYRFA CHWIST
TORRI GWAIR Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yng nghymuned Llanfair o leiaf ddwywaith y flwyddyn oni bai fod y Cyngor yn dweud yn wahanol. Am fwy o fanylion, cysylltwch â’r Clerc Mrs Annwen Hughes, Plas Uchaf ar 01766 780971. Dyddiad cau 31.05.19.
y 3ydd nos Fawrth ym mhob mis am 7.00 Mae’r criw ffyddlon wedi lleihau yn ddiweddar ac rydym yn apelio am wynebau newydd i ddod aton ni. Mae ’na wobrau hael bob mis er bod y criw yn fach ac mae awyrgylch gynnes a chroesawus. Nos Fawrth, Mai 21 fydd y nesaf - tybed welwn ni chi yno?
Hoffem anfon ein llongyfarchiadau gwresog i Damon John a Leanne Bacigalupo ar eu dyweddïad ym Mharis yn ddiweddar. Roedd y cwpl yn ymweld â’r brifddinas er mwyn i Damon gymryd rhan ym marathon Paris, ac fe lwyddodd i gwblhau’r ras mewn 3 awr, 24 munud a 22 eiliad, sef ei amser cyflymaf erioed! Rhywsut neu’i gilydd, y diwrnod ar ôl y ras, roedd ganddo ddigon o fywyd ar ôl yn ei goesau i ddringo tŵr Eiffel gyda Leanne, cyn gofyn y cwestiwn hollbwysig!
CYNGOR CYMUNED LLANFAIR MATERION YN CODI Llinellau melyn ger stesion Llandanwg Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn llythyr gan Gyngor Gwynedd ynglŷn â’r mater uchod yn hysbysu’r Cyngor eu bod yn hysbysu’r cyhoedd o’r cyfyngiadau parcio arfaethedig hyn a hefyd yn amgae cynllun. Hefyd, yn datgan os na fyddant wedi derbyn sylwadau erbyn dyddiad cau yr ymgynghoriad sef y 3ydd o Ebrill, byddant yn cymryd nad oedd gan y Cyngor wrthwynebiad. Pwyllgor Blynyddol Neuadd Goffa Adroddodd Mair Thomas bod 9 aelod o’r pwyllgor a dau arall yn bresennol, hefyd cyfeiriwyd at y golled o ddwy aelod weithgar oedd wedi dod i ran y pwyllgor yn dilyn marwolaeth Mrs Meinir Lewis a Mrs Mair M Williams. Wedi derbyn adroddiadau gan y swyddogion, a bod y swyddogion wedi cytuno i aros yn eu swyddi ac, yn dilyn ymddiswyddiad Mrs Hefina Griffiths, bydd Teresa Lambert yn cymryd drosodd i fod yn drysorydd. Bod y sefyllfa ariannol yn foddhaol a bod y pwyllgor yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth gan y Cyngor Cymuned fel bo angen. Hefyd adroddwyd bod ychydig o ddifrod wedi cael ei wneud adeg y storm ond bod y gwaith atgyweirio mewn llaw a chytunwyd bod yr adeilad mewn cyflwr boddhaol a bydd yr offer chwarae yn cael ei dynnu yn fuan. Hefyd bod Mrs Ann Lewis yn trefnu noson agored i Mr David Evans a Mr Robert Lewis ddod i roi hyfforddiant sut i ddefnyddio’r diffribilydd. Bydd y pwyllgor nesaf yn cael ei gynnal ar y 12fed o Fehefin. Cyfarfod Bwrdd Hamdden Harlech ac Ardudwy Adroddodd Mair Thomas bod 7 aelod o’r bwrdd yn bresennol a bod Mr Chris Hulse wedi cytuno i barhau i wneud y cyfrifon am flwyddyn arall. Bod incwm y wal a’r caffi i fyny ond bod incwm y pwll i lawr. Bod trafodaethau wedi eu cynnal ynglŷn â’r bws ‘hopper’ i godi defnyddwyr o faes parcio’r pwll nofio a bod y trafodaethau hyn yn dal i gael eu cynnal. Bod y Bwrdd wedi cyflogi un unigolyn i wneud y gwaith cynnal a chadw a bod hyn yn fuddiol iawn. Bydd y cyfarfod nesaf ar yr 20fed o Fehefin. CEISIADAU CYNLLUNIO Gosod dwy ffenestr to ar yr edrychiad blaen a gosod ffenest ddormer to fflat ar yr edrychiad cefn – Bryn y Wern, Llanfair. Cefnogi’r cais hwn. Codi estyniad un llawr ar y cefn – Gwern yr Hedydd, Fron Deg, Llanfair. Cefnogi’r cais hwn.
3
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Eglwys Sant Pedr Mae aelodau Eglwys Sant Pedr a thrigolion pentref Llanbedr yn bryderus iawn oherwydd, yn yr wythnosau diwethaf, mae arwyddion fod rhywrai yn mynd i mewn i’r eglwys yn eithaf gyson ac yn creu llanast a difrod. Mae hyn yn sefyllfa drist iawn yn enwedig mewn man cysegredig. Mae’r heddlu wedi cael gwybod am hyn a buasent yn falch iawn o glywed pe buasai gan unrhyw un ohonoch mwy o wybodaeth. Fel arall os ydych wedi gweld neu clywed unrhyw beth amheus cysylltwch efo aelod o’r eglwys os gwelwch yn dda. Diolchwn am unrhyw gymorth yn y mater. Gwesty’r Fictoria Braf oedd gweld Gwesty’r Fictoria wedi ailagor ar ei newydd wedd a sylwi bod y Frenhines Fictoria wedi mynd i ‘edrych yn iau wrth fyned yn hŷn’! Clywed y gog Mae’r gog yn canu ei hochr hi yn y Cymoedd. Clywodd Jennifer Penybryn hi yn y bore bach ar Ebrill 17. Diolch i Iddon Hall sydd wedi gadael i ni wybod iddo glywed y gog ym Mhenbont fore 20 Ebrill ac iddo weld y wennol rhyw 10 diwrnod cyn hynny – maen nhw wedi symud ymlaen ers hynny! Cyhoeddiadau’r Sul MAI Capel Salem 19 Parch Dewi Tudur Lewis Capel y Ddôl 12 Parch John Owen 19 Parch Gareth Rowlands MEHEFIN 2 2 Parch Iwan Ll Jones
CANOLFAN GYMDEITHASOL LLANBEDR
Cyfarfod Blynyddol Nos Wener, Mai 16 am 7.30 o’r gloch Croeso cynnes i bawb Diolch Hoffai fy nheulu a finnau fynegi ein gwerthfawrogiad dyfnaf i’r rheiny sydd wedi cynnig y fath garedigrwydd, cefnogaeth a negeseuon o gydymdeimlad a chysur i ni yn ein profedigaeth. Trwy eich rhoddion hynod hael, casglwyd cyfanswm o £1,405 er cof am Brian, a chaiff ei rannu rhwng Hosbis yn y Cartref a Marie Curie. Rydym hefyd yn ddiolchgar tu hwnt i Pritchard a Griffiths, Ymgymerwyr Angladdau Tremadog, am eu cefnogaeth a gwasanaeth proffesiynol drwy’r amser. Gyda diolch, Betty Taylor. £10 Rhodd a diolch
Mai 11 – Taith Gerdded (Yr Wyddfa) er budd Alder Hey, cysylltwch â Bethan Howie, 1 Tŷ Canol, Harlech Mai 13 – Cwmni Drama Llanystumdwy ‘Y Pry yn y Pren’, Capel y Porth, Porthmadog, 7.00 Mai 15 – Teulu Ardudwy, Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy, 2.00 Mai 21 – Clwb Cinio yn Bryn Cynan, Nefyn ac yna Eglwys Pistyll, 12.00 Mai 21 – Gyrfa Chwist, Neuadd Goffa Llanfair, 7.00 Mehefin 22 – Taith Gerdded er cof am Gwynfor John, Gorsaf y Bermo, 11.00 Gorff 12 ac 13 – Eisteddfod Talaith a Chadair Powys, Dyffryn Banw [enwau cystadlu erbyn Mai 1 a Mehefin 1] Gorffennaf 18 - Cyngerdd gyda Meibion Prysor yn Eglwys Llanfihangel-y-traethau am 7.00 o’r gloch. Medi 14 – 23 – Gŵyl Gerdded y Bermo www.barmouthwalkingfestival.co.uk [Amrywiol weithgareddau hefyd.] Medi 20 a 21 – Gŵyl Gwrw Llanbedr, Gwesty Tŷ Mawr Cofiwch gysylltu gyda’ch digwyddiadau – gellid eu gadael yn y garej yn Dyffryn neu e-bostiwch Mai ar mairoberts4@btinternet.com
PARTI PIWS
Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â Jean Jones, Llys Brithyll a’i merched Gwenfair a Lynwen a’u teuluoedd yn eu profedigaeth o golli Robin ar ôl cystudd blin. Marwolaeth Bu farw Leslie Kerr, Ivy Cottage, Gwynfryn yn Ysbyty Gwynedd. Cydymdeimlwn a’i fab Steven a’r teulu yn eu profedigaeth.
GWASANAETH CADW CYFRIFON ARDUDWY
Cysylltwch â ni am y gwasanaethau isod: • Cadw llyfrau • Ffurflenni TAW • Cyflogau • Cyfrifon blynyddol • Treth bersonol info@ardudwyaccounting.co.uk 07930 748930 4
DYDDIADUR Y MIS
Cylch Meithrin Llanbedr yn dathlu pen-blwydd Dewin a Doti yn 10 oed gan wisgo piws Ym Mharti Piws y Mudiad Ysgolion Meithrin, erbyn 4.00 o’r gloch ar ddydd Mercher, 10 fed o Ebrill roedd dros 10,000 o blant a chefnogwyr Dewin a Doti wedi dathlu pen-blwydd y ddau arwr yn 10 oed drwy wisgo piws a mwynhau. Daliwch ati i siarad Cymraeg gyda phlant o bob oed, Dewin a Doti.
DRAMA Gwahoddir chi i ymuno â: Chymdeithas Festri Capel y Porth, Porthmadog i weld drama un act o’r enw ‘Y Pry yn y Pren’ gan Gwmni Drama Llanystumdwy Mai 13, am 7.00 o’r gloch
YSGOL FEITHRIN HARLECH 1984
CODI ARIAN I YSBYTY ALDER HEY
JÔCS •
•
• •
•
• Cefn o’r chwith i’r dde: Helen Williams, Meilir Roberts, Dylan Williams, Gwyn Anwyl, Ryan Jones. Rhes flaen: Philip Todd, Rachel Wainwright, Lowri Williams ac Aron Payne. Mae’r blynyddoedd yn gwibio heibio!
R J WILLIAMS IZUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU IZUZU
ENGLYN DA
GLAS Y DORLAN Rhyfeddais, sefais yn syn - i’w wylio Rhwng yr helyg melyn; Yna’r lliw yn croesi’r llyn; Oedais, ond ni ddaeth wedyn. Trebor E Roberts, 1913-1985
• Mi gafodd fy ŵyr, Evan, driniaeth fawr ar ei asgwrn cefn yn Ysbyty Alder Hey pan oedd yn 18 mis oed. Er mwyn codi arian at yr ysbyty, rydw i wedi trefnu taith gerdded i ben yr Wyddfa ar ddydd Sadwrn, Mai 11. Bydd criw mawr ohonom o bob oedran ac mae croeso i unrhyw un ymuno â ni. Os hoffech chi gyfrannu at yr achos, gallwch wneud hynny ar fy nhudalen Just Giving ar y linc isod. www.justgiving.com/ fundraising/bethan-howie Diolch yn fawr iawn, Bethan Howie 1 Tŷ Canol Harlech
TEITHIO I WLAD PWYL
Pob dymuniad da i aelodau Côr Meibion Ardudwy fydd yn teithio i wlad Pwyl i gynnal cyngerdd yn Gdansk ar Mai 20 ac yn aros yno am bedair noson. Bu’r Côr yn brysur yn dysgu alaw werin Bwylaidd i’w pherfformio yn Gadansk. Clywyd hon gyntaf mewn cyngerdd llwyddiannus a gynhaliwyd yn y Neuadd Gymunedol dros y Pasg. Edrychwch ymlaen at ddarllen hanes y daith yn y rhifyn nesaf.
• •
•
• •
•
•
•
• •
•
• •
Beth wyt ti’n galw dyn o Japan sy’n gwybod popeth? Idishido! Beth ddywedodd y rawnwinen werdd wrth y rawnwinen biws? – ‘Anadla, neno’r tad, anadla!’ Dwi’n darllen llyfr ar hanes glud. Ni fedraf ei roi i lawr. Gofynnais i ddyn o Ffrainc os oedd yn chwarae unrhyw gemau fideo. Atebodd, ‘Wii.’ Pwy mae taid yn ei alw mewn argyfwng? Nain, nain, nain Beth wyt ti’n galw dyn llefrith o’r Eidal? Toni Torriboteli Pa bwdin mae ysbryd yn ei hoffi? Hufen Iaaaaaaa! Pa fath o gi sy’n byw yn y jyngl? Mwn-ci! Mae dyn yn cerdded i mewn i siop. ‘Paced o fisgedi os gwelwch yn dda.’ Mae dyn y siop yn ateb, ‘Dim ond Ryvita sydd gen i, sori.’ ‘Mae’n iawn, rai i fyta dwi isio.’ Neithiwr gwyliodd fy ngwraig a finnau dri DVD cefn-wrth-gefn. Yn lwcus i mi, fi oedd yr un oedd yn wynebu’r teledu. Beth wyt ti’n galw dyn tân o Rwsia? Ivan Watchaloski! Anghofiais sut i daflu bwmerang. Paid â phoeni, mi ddaw yn ôl ataf! Beth wyt ti’n galw deinosor sydd ddim yn gweld yn dda? Tyranosawrus Sbecs! Beth wyt ti’n galw tedi sydd byth yn gwneud ei wely? Tedi Blêr. Brechdan yn cerdded i mewn i dafarn ac yn gofyn am beint, y dyn tu ôl i’r bar yn dweud, ‘Sori syr, dydan ni ddim yn serfio bwyd yn fan hyn.’ Beth wyt ti’n galw plismon o Lanberis? Copar Wyddfa! ‘Doctor, dwi wedi torri fy mraich mewn sawl lle.’ Doctor: ‘Paid mynd i’r llefydd yna eto.’ Beth wyt ti’n galw dyn o Ffrainc sy’n gwerthu sandalau? Phillipe Floppe! Dwi ar ddiet wisgi, dwi wedi colli tri diwrnod yn barod. Pam mae ET yn fyr? Am fod ganddo goesau bach!
5
HARLECH Cymdeithas Hanes Harlech Y siaradwr yng Nghymdeithas Hanes Harlech ar 12 Mawrth oedd Rhys Mwyn, awdur, darlithydd, cyflwynydd radio, colofnydd yn y Daily Post ac archeolegydd. Yn ei sgwrs trafododd siambrau claddu hynafol o 6,000 o flynyddoedd yn ôl hyd at 4,000. Un o newidiadau pwysicaf ein hanes oedd dyfodiad amaethyddiaeth. Am y tro cyntaf, roedd pobl hynafol Oes y Cerrig, rhyw 4,000 o flynyddoedd CC, yn gallu byw mewn un lle, yn berchen ar gartrefi a ffermydd, heidiau o anifeiliaid a synnwyr o berthyn i un lle. Daeth claddu eu meirw’n bwysig iddyn nhw a daeth eu cofebau o gryn faint yn nodweddion ar ein tirlun. Mae rhai o’r cofebau yma i’w gweld hyd heddiw.
Un enghraifft o’r bensaernïaeth Neolithig yma yw Bryn Celli Ddu ar Ynys Môn a ddisgrifir fel bedd gyda mynedfa. Wedi ei gorchuddio â cherrig ar un pryd, pan gloddiwyd yn y gofeb darganfuwyd yr hyn a elwir yn ‘garreg batrwm’, a orchuddir â marciau haniaethol ac sy’n cuddio pydew yn cynnwys corff llosg. Dengys dyddio carbon o ddefnydd a gafwyd ar y safle ei fod yn dyddio’n ôl i 3,100 CC. Nodwedd hynod o ddifyr am Fryn Celli Ddu yw bod y fynedfa yn union â chodiad yr haul ar y dydd hiraf o’r flwyddyn. Cafwyd lluniau difyr yn ystod y sgwrs ac i orffen cafwyd llun rhyfeddol o olau’n llifo i’r siambr ar godiad yr haul am 4.30 y bore ar ddiwrnod canol haf. Rhoddodd Rhys sgwrs ddiddorol dros ben ac roedd pawb wedi mwynhau gwrando arno. Rhodd Dafydd Thomas £10
6
Mrs Maggie Cope Yn ddiweddar, derbyniwyd llythyr oddi wrth ferch Mrs Cope, a oedd yn derbyn Llais Ardudwy ers blynyddoedd. Yn y llythyr, mae ei merch Gloria Upton yn dweud: “Mi oedd fy mam Maggie Cope yn edrych ymlaen bob amser at dderbyn ei phapur bro Llais Ardudwy. Yn drist iawn, bu farw Maggie ar 16 Chwefror eleni, dim ond pum wythnos cyn ei phen-blwydd yn 100 oed. Cafodd ei geni yn Llechwedd Pella, Harlech, a symudodd gyda’i gŵr Seisnig i Birmingham 71 o flynyddoedd yn ôl. Chollodd hi erioed ei hacen Gymreig. Buoch mor garedig â chyhoeddi erthygl amdani oddeutu deuddeg mis yn ôl. Gwelwyd yr erthygl gan Rhiannon Spoonley o Harlech a oedd yn ei chofio o’i phlentyndod. Ers i Maggie golli ei chefnder Meirion Thomas, hefyd o Harlech, roedd yn colli cael rhywun i siarad Cymraeg efo hi. Roedd wrth ei bodd pan gysylltodd Rhiannon â hi. Amgaeaf lun ohoni. Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn parhau i anfon y Llais ataf; efallai y bydd yn gyfle i mi ail-ddysgu Cymraeg drwy eu darllen.” Cofion cynnes, Gloria Upton, Burntwood, Swydd Stafford Cyhoeddiadau’r Sul MAI Capel Jerusalem 12 Undebol am 3.30 gyda’r Parch Iwan Llewelyn Jones 19 Parch Olwen Williams am 2.00 o’r gloch
Sefydliad y Merched Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod nos Fercher 10 Ebrill a gynhaliwyd yn Neuadd Goffa Harlech gan y Llywydd Jan Cole. Rhoddwyd cardiau pen-blwydd i aelodau oedd yn dathlu ym mis Ebrill, a dymunwyd yn dda i Sue Wager oedd wedi symud i Lanfair i fyw. Cofnodwyd dyddiadau o bwys ac yn arbennig y cyfarfod yng Nghasnewydd, y cinio yng Nghlwb Golff Porthmadog, yr ymweliad â Thyddyn Sachau ar 29 Mai, clirio a thacluso o gwmpas Eglwys Sant Tanwg ar 3 Mai a chlwb crefftau ar 16 Mai. Derbyniwyd llythyr oddi wrth Sue Downes yn diolch am y fasged flodau a dderbyniodd ar ei phen-blwydd. Croesawyd y wraig wadd Siân Roberts oedd wedi dod i siarad am ei gwaith fel tywysydd i CADW, gwaith diddorol iawn a chawsom weld lluniau hefyd. Rhoddwyd y diolchiadau gan Sheila Maxwell. Cafwyd gwybod am y ffurflenni loteri oedd gan Sheila, sydd yn ymgeisio am grantiau’r Loteri ar gyfer yr Hen Lyfrgell a’r Neuadd Goffa. Enillwyd y raffl gan Mavis Kershaw a Joe Johnson a’r gystadleuaeth gan Denise Hagan, Josie Robinson a Sue Williamson.
Mrs Olwen Jones Bu farw Mrs Olwen Jones, Llys Awel, Llanfrothen. Roedd yn chwip o athrawes ddawnus yn adran y babanod yn Ysgol Tanycastell yn ystod 70au ac 80au’r ganrif ddiwethaf. Roedd yn gymeriad annwyl iawn ac yn uchel iawn ei pharch ym myd addysg a thu hwnt. Cydymdeimlwn â’r teulu oll. Rhedeg marathon
Llongyfarchiadau i Judith a Si Strevens ar gwblhau Marathon Llundain ar ddydd Sul, Ebrill 28 a chyflawni camp fawr yn sgîl hynny. Llwyddodd Judith a Si i godi’r swm anferthol o £5,700 tuag at gronfa Parkinson UK, sef afiechyd y mae Si yn dioddef ohono. Eglwys St Tanwg, Harlech Mai 30 am 7.00 yr hwyr
Gŵyl y Dyrchafael
Dewch i ddathlu’r brif ŵyl eglwysig hon wrth i ni goffáu dyrchafael corfforol yr Iesu i’r nefoedd
PARTI PIWS
Cylch Meithrin Harlech yn dathlu wrth iddyn nhw gymryd rhan ym mharti piws mwya’r byd
CYNGOR CYMUNED HARLECH Croesawodd y Cadeirydd Rhys a Mark o Seiclo Cymru, hefyd Mr Mike Locker, perchennog maes carafanau Woodlands i’r cyfarfod i drafod y digwyddiad seiclo a fydd yn digwydd ar yr 11eg o Awst eleni pan fydd seiclwyr o bob man yn seiclo i fyny ffordd Penllech. Cafwyd gwybod manylion y digwyddiad hyd yma ganddynt a chytunwyd iddynt ddod yn ôl i gyfarfod â’r Cyngor ym mis Mehefin. MATERION YN CODI Tir rhwng Sibrwd y Môr a Wern yr Wylan Nododd Freya Bentham nad oedd y tir rhwng y ddau le uchod wedi ei gofrestru a’i bod yn dal i wneud ymholiadau ynglŷn â’r tir dan sylw. Hefyd cafwyd gwybod nad oedd y llwybr wedi ei gofrestru chwaith. Toiledau ger y Castell Nododd y Clerc ei bod wedi holi faint fyddai’r Cyngor hwn yn gorfod ei dalu i gynnal y toiledau os byddant yn penderfynu eu cynnal a’u bod wedi cael yr ateb canlynol – cost cynnal a chadw £1,204.35, cost glanhau £4,276.75, cost trydan £180.12, cost trethi £759.15 a chost dŵr £764.17, sef cyfanswm o £7,184.54 y flwyddyn i’w rhoi ar waith. Cytunwyd yn unfrydol i gymryd cyfrifoldeb am y toiledau hyn a bod y Clerc yn cysylltu unwaith yn rhagor gyda Chyngor Gwynedd i ddatgan hyn, hefyd i gael mwy o fanylion ynglŷn â rhedeg y safle. CEISIADAU CYNLLUNIO Tynnu simdde – Hiraethog, Stryd Fawr. Cefnogi’r cais hwn. Cais ôl-weithredol i gadw ail-leoli unedau 10, 11, 12, 13 a 15 a gadael allan uned flaenorol 14 (ailenwi uned 13 yn uned 14) gan gynnwys cynllun parcio a gosodiad y ffordd, cadw waliau cynnal ychwanegol, waliau terfyn a ffensys terfyn pren a chadw terasau cerrig, tirlunio, sgrinio a chadw tŷ haf – Parc Preswyl Pant Mawr, Harlech. Gwrthwynebu’r cais hwn oherwydd dylai wal gael ei hadeiladu yn lle gosod ffens. Datganwyd pryder gan yr aelodau bod cymaint o geisiadau cynllunio ôl-weithredol yn cael eu cyflwyno i’r adran gynllunio. UNRHYW FATER ARALL Mae rhai aelodau o’r cyhoedd yn credu bod y Cyngor wedi rhoi caniatâd i dynnu ystafell y band a’r cwrt tenis i lawr yn dilyn cyfarfod gyda chynrychiolaeth o Grŵp Harlech ar Waith yn ddiweddar; roedd angen ei gwneud yn glir nad ydy’r Cyngor wedi rhoi caniatâd i hyn gael ei wneud ac wedi gwrando ar beth oedd cynlluniau Harlech ar Waith oedd yr aelodau wedi ei wneud yn y cyfarfod hwn. Datganwyd siom fawr nad oedd rhai aelodau o Grŵp Harlech ar Waith wedi cysylltu gydag aelodau o’r band yn y lle cyntaf cyn bwrw ymlaen â’u cynlluniau.
Cyfarfod Blynyddol Neuadd Goffa Harlech Daeth 12 ynghyd i’r pwyllgor blynyddol ar Ebrill 16. Derbyniwyd 6 ymddiheuriad. Penodwyd Lee Warwick yn ofalwr a diolchwyd i Derek Jones am ei waith dros nifer o flynyddoedd. Diolch am y rhoddion ariannol gan y Cyngor Cymuned, Harlech Cakes, Helpu Harlech, Gŵyl Gwrw Llanbedr a’r Treiathlon. Diolch hefyd i Geraint Lewis am adnewyddu’r gwydr yn y drws ffrynt, hefyd i Geraint Jones am ei arbenigedd trydanol i hyfforddi’r gofalwr. Mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen i geisio am grant gan y Loteri Cenedlaethol i adnewyddu’r gegin. Diolch i Linda Soar, Sheila a Jim Maxwell am eu gwaith i lunio holiadur i’r gymuned i ofyn am eu barn. Os oes gennych ddiddordeb mewn llenwi’r holiadur, mae’n bosib gwneud hynny ar-lein - https://surveys. enalyzer.com/?pid=c2emdm6t. [Mae’r holiadur hefyd yn cynnwys cwestiynau ynglŷn â’r Hen Lyfrgell gan eu bod hwythau yn awyddus i sicrhau mynediad i bobl gydag anableddau a newidiadau i’r toiled]. Gallwch hefyd gael copi o’r holiadur gan Linda [01766 780966]. Cafwyd rhodd o sgrîn o’r Theatr fel ei bod yn hawdd dangos sleidiau a ffilmiau. Diolch i Jim Maxwell, Rob Edwards a Ron Cole am roi eu hamser i osod y sgrîn yn ei le. Cafwyd hefyd stand arbennig i osod taflunydd arno. Roedd y pwyllgor yn ddiolchgar iawn i’r swyddogion am eu gwaith.
HEN LUN
Cledwyn a Christine Garej Morfa, Harlech gyda’u modryb Dol o flaen Bryntirion, Yr Ynys yn ystod y 1960au Teulu’r Castell Croesawodd y Llywydd yr aelodau i’r cyfarfod a gynhaliwyd yn Neuadd Goffa Llanfair brynhawn dydd Mawrth, 9 Ebrill. Rhoddwyd croeso hefyd i aelodau Sefydliad y Merched Harlech oedd yn gyfrifol am fis Ebrill, ac hefyd eu gwraig wadd Sheila Maxwell. Cydymdeimlwyd ag Allan Jones a’r teulu ar golli ei fam annwyl Olwen Jones. Mi oedd Olwen wedi bod yn weithgar iawn ar hyd y blynyddoedd, dros 50 mlynedd gyda Theulu’r Castell, ac yn edrych ymlaen at bob mis. Dymunwyd yn dda i Nancy Nelson oedd wedi symud i fyw i le newydd Hafod-y-gest, Porthmadog. Fe fydd y cyfarfod nesa ar 14 Mai yn Neuadd Goffa Llanfair ac fe fydd Merched y Wawr yn gyfrifol am y prynhawn. Dymunwyd yn dda i bawb oedd yn dathlu pen-blwydd y mis yma. Cafwyd sgwrs ddiddorol a lluniau a hanes Laura Ashley gan Sheila, ac yr oedd wedi dod a defnyddiau a dillad wedi eu gwneud gan Laura Ashley. Ar ôl y sgwrs cafwyd te wedi ei baratoi gan aelodau o Sefydliad y Merched. Roedd pawb wedi cael prynhawn braf a hwyliog. Diolchodd Edwina iddynt ac i bawb oedd wedi dod a rafflau ac wedi rhoi lifft i aelodau i’r cyfarfod.
Cydymdeimlo Cydymdeimlwn yn ddiffuant iawn â Bryn a Sue Jones, Amherst Cottage ar farwolaeth Islwyn Pritchard Jones [Talsarnau gynt] yn ddiweddar. Roedd yn frawd i Bryn ac yn byw yn y Bala ers nifer o flynyddoedd. Bu’n weithgar yn y fro hon ar un cyfnod. Colli Gwilym Bu farw Gwilym Williams, 41 Y Waun yng Nghartref Madog, Porthmadog. Cydymdeimlwn â’i wraig Elizabeth, ei blant Carol, Dorothy ac Alan a’r teulu oll yn eu profedigaeth. Roedd yn gymeriad hoffus ac yn uchel ei barch yn y gymdeithas. Roedd yn gyn-aelod o Gôr y Brythoniaid a Chôr Meibion Ardudwy a bu’n helpu llawer i gasglu arian at Seindorf Arian Harlech. Gobeithiwn gynnwys mwy o’i hanes yn y rhifyn nesaf.
YN EISIAU IS-OLYGYDDION I‘R PAPUR HWN
Llais Ardudwy Ni chawsom unrhyw ymateb i’n cais diweddar am gymorth i olygu’r papur hwn. Os gallwch helpu mewn unrhyw fodd, buasem yn falch iawn o glywed gennych. Diolch am bob cefnogaeth.
7
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT PRIODAS
FFARWELIO AG ANTI MEINIR
Dyma lun o Anti Meinir sydd wedi bod yn rhan annatod o frwdfrydedd a gweithgarwch Cylch Meithrin y Gromlech, Dyffryn Ardudwy am bedair blynedd. Llawer iawn o ddiolch, Meinir, am eich gwaith a’ch cymorth dros y blynyddoedd a phob lwc yn y dyfodol.
Llongyfarchiadau calonnog i Owain Williams (mab ieuengaf Ceri ac Arwel Williams, Ffridd y Gog, Dyffryn Ardudwy) a Llinos Parry (merch Gareth a a Margaret Parry o Landdeusant, Ynys Môn) ar eu priodas ym Mae Trearddur, Môn, ar ddydd Sadwrn 13 Ebrill. Cafwyd diwrnod heulog braf, a chludydd y fodrwy oedd Caio Rhys, mab Owain. Mae Owain yn gweithio yn Airbus, Penarlâg ac mae Llinos yn athrawes Cyfnod Sylfaen yn Ysgol Twm o’r Nant, Dinbych. Mae’r ddau’n byw ar hyn o bryd yn Rhuthun, Sir Ddinbych. Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn y Neuadd Bentref, bnawn Mercher, 17 Ebrill. Croesawyd pawb gan Gwennie. Cydymdeimlodd â Blodwen a Rhian yn eu profedigaeth o golli eu brawd Robin. Anfonodd ein cofion at Mrs Beti Parry sydd heb fod yn dda’n ddiweddar. Yna croesawodd y Parch Christopher Prew o Borthmadog atom. Un o Ddyffryn Clwyd yw Mr Prew a chyn dod i Borthmadog roedd yn weinidog yn Llangefni. Testun ei sgwrs oedd Dylanwadau – y bobl, yr amgylchiadau a’r lleoedd sydd wedi dylanwadu arno. Cafodd dreulio amser yng ngogledd ddwyrain India, yn Ne Affrica ac yn Jamaica ac roedd ganddo hanesion difyr iawn i’w rhannu â ni. Cafodd wrandawiad astud iawn a phawb wedi mwynhau’n fawr. Diolchwyd yn gynnes iawn iddo gan Enid Owen. Bydd ein cyfarfod nesaf ar Fai 15fed. Clwb Cinio Ar 16 Ebrill aeth nifer ohonom i Dyddyn Sachau am ginio ac i ymweld â’r ganolfan arddio. Ar y ffordd adre aeth rhai ohonom i Siop Fawr Portmeirion am baned. Ar 21 Mai, byddwn yn mynd am ginio i Bryn Cynan, ger Nefyn, ac yna i ymweld â’r Eglwys ym Mhistyll. Rhodd Diolch yn fawr i Heulwen P Jones am ei rhodd o £13.
8
Mawl a Chân Fore Sul, 14 Ebrill cafwyd oedfa o Fawl a Chân yn Horeb wedi ei threfnu gan Alma a Rhian a hwy oedd yn arwain yr oedfa a Rhian Dafydd wrth yr organ. Cafwyd canu da iawn a’r uchafbwynt oedd gwrando ar blant yr Ysgol Sul yn canu a phawb wedi gwirioni efo nhw. Radio Ysbyty Ddechrau Ebrill cafodd Tom Cartwright, mab Mr a Mrs Carey Cartwright, Parc Ucha, gyfweliad ar y rhaglen ‘Heno’ ar S4C. Mae Tom yn fyfyriwr cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ond ers Mai 2017 mae Tom wedi bod yn gwirfoddoli fel DJ ar Radio Ysbyty Bronyglais ac yn cyflwyno sioe wythnosol Gymraeg ac yn gwneud hynny yn ardderchog. Erbyn hyn mae wedi cyflwyno dros 100 o sioeau. Da iawn ti, Tom, rydym yn falch iawn ohonot. Gwasanaethau’r Sul Horeb
MAI 5 Aled Lewis Evans 12 Parch Goronwy P Owen 19 Parch Gareth Rowlands 26 Parch Eirian Wyn MEHEFIN 2 Rhian a Meryl
Colli Jack Carson Wrth i’r papur fynd i’r wasg daeth y newydd am golli Jack Carson, Tal-y-bont, un o gymeriadau mawr yr ardal hon. Fe’i cofir gydag annwyldeb gan lawer. Cydymdeimlwn yn arw gyda’i deulu yn eu profedigaeth. Bydd coffâd llawn iddo yn ein rhifyn nesaf.
PARTI PIWS
Llwyddiant Eisteddfod yr Urdd, Cylch Ardudwy Bu cystadlu brwd yn yr Eisteddfod yn Ysgol Ardudwy a daeth Alaw Thomas yn gyntaf am lefaru gyda Tomos Williams yn ail yn y gystadleuaeth ar gyfer B3 a 4. Cafodd Gwenno Edwards 3ydd safle am ganu a llefaru yng nghystadlaethau B2 ac iau yn ogystal - Da iawn chi! Yn dilyn hyn, cynhaliwyd yr Eisteddfod Celf a Chrefft yn Ysgol Tanycastell nos Fercher, Mawrth 27, a daeth Siôn Williams yn fuddugol yn y cystadlaethau Ffotograffiaeth a Graffeg Cyfrifiadurol a Tomos Williams yn ail.
Cylch Meithrin y Gromlech, Dyffryn Ardudwy yn mwynhau eu parti i ddathlu pen-blwydd Dewin a Doti yn 10 oed.
GWERYDDON Bardd lleol a fu farw yn 1902 oedd Gweryddon neu Hugh Evans o Ben-y-bont, Tal-y-bont. Roedd yn cadw siop gyda’i fam, Gwen Evans. Mewn ysgrif amdano yn y Traethodydd yn 1923 mae’r Parch Z Mather, gweinidog Annibynwyr yn y Bermo yn crybwyll sawl stori amdano. Dyma un ohonynt am ei ddiddordeb mawr yn y ffrwd fechan a redai drwy ardd Peny-bont: Un diwrnod tynnwyd ei sylw gan frithyll a chwaraeai yn chwim yn ei dwfr glân a gloyw, a phenderfynodd geisio ei ddofi drwy daflu ambell damaid iddo. Bob yn ychydig llwyddodd yn ei amcan. Arferai ei borthi gyda darnau mân o gaws a phethau eraill, ac o bosibl ambell bry genwair a phryfed eraill. Bedyddiodd ef yn Simon ar ôl pysgotwr enwog Môr Galilea ddwy fil o flynyddoedd yn flaenorol. Daeth ei ofal amdano yn gymaint ag am yr ieir a’r geifr godro. Clywais yr hen forwyn yn dweud yr arferai ddyfod yn aml i’r tŷ gan ddweud, ‘Rhaid i mi fyn’d a thamed i Simon.’ Byddai ei fam yn gystal ag yntau yn cael pleser mawr mewn myned yn achlysurol i gael golwg ar Simon. Dywedodd hen gyfaill i Gweryddon wrthyf fod y pysgodyn wedi dyfod mor ddof fel y câi roddi ei law yn y dwfr i’w gosi. Mae yn debyg nad oes un creadur mewn dwfr nac ar dir nad ydyw yn hoffi cael ei gosi. Pan ofynnid i Gweryddon ai gwir stori dofi’r pysgod atebai: ‘Ym Mhen-y-bont mae gan y bardd Bysgodyn dôf ym mhendraw’r ardd.’ Ond un diwrnod mynegwyd iddo, er ei fawr siomedigaeth a’i ofid chwerw, fod bachgen direidus yn y pentre, pan oedd y dwfr wedi ei droi o ffrwd y felin wedi myned drosodd i’r ardd, wedi dal Simon, ei gymryd gartre a’i fwyta. Digiodd yn aruthr wrth y bachgen, a bygythiai roddi curfa dda iddo pe cai afael arno, ond gofalodd y bachgen am gadw yn glir oddi wrtho. Ond os gwir y stori glywais mai myned â Simon i hen wraig glaf oedd wedi colli ei harchwaeth at fwyd a wnaethai, gwnaeth ei wasanaeth mwyaf pan aberthwyd ei fywyd er mwyn un arall. Cyfaill I’W BARHAU
Da iawn hefyd i bawb am gystadlu a diolch yn fawr i Anti Mai am eu hyfforddi yn ogystal â’r rhieni a staff yr ysgol.
Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd
Tel: 01341 247799 www.smithygarage-mitsubishi.co.uk
smithygaragedyffryn
smithygarageltd
Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes 9
STRAEON AR THEMA: Gwyliau Os oeddech yn blentyn oddeutu 50au y ganrif ddiwethaf ac yn blentyn i ffarmwr godro, nos a bore, ‘doedd gennych chi fawr o obaith o gael gwyliau hefo’ch rhieni! Ond wedi dweud hynny, gwyliau i blant felly oedd cael mynd am wythnos neu bythefnos i aros at un o’r teulu neu ffrindiau agos. Doedd dim raid mynd ymhell - roedd tu fewn i ffiniau Meirionnydd yn ddigon da fyth i rywun fel fi. Bûm i’n ddigon ffodus o gael digon o deulu i’m rhannu allan rhyngddynt! Y lle agosaf i Glanywern a’r Ynys y byddwn i’n cyrraedd iddo oedd y Waun yn Harlech, rhif 50 i fod yn fanwl gywir. Wythnos y ‘Motor Show’ yn Llundain fe fyddwn yn codi fy mhac i fynd yno am y dyddiau y byddai Lewis a Jennie Roberts, Garej Morfa yn rhoi cyfrifoldeb eu plant, a’m cyfneitherod a’m cefndryd innau, i’m modryb Gwen. Byddai hi wedi cymryd wythnos o wyliau o’i gwaith fel Cogyddes Cartref yr Henoed, Awel y Môr, Y Bermo i warchod. Wythnos braf yn cysgu mewn gwely gwahanol mewn tŷ gwahanol a chael digon o gemau i’w chwarae allan a thrampio hyd y lle heb ofal yn y byd. Gwyliau haf oedd y gwyliau hiraf wrth gwrs ac felly fe gawn fod yn Nhrawsfynydd am y chwe wythnos yn aml iawn ac anfon cerdyn post adref, yn bwysig iawn, i ddweud fy mod ar dir y byw! Pythefnos hefo Nain a’r ddwy bythefnos arall yn rhannol rhwng cartref fy ewythr yn nhop y Llan a’r llall i lawr ym Maesgwyndy yng nghartref fy modryb. Yn y ddau le olaf, roedd eto ddigon o gyfneitherod neu gefndryd i gadw cwmni hefo nhw. Pan oedd Nain yn byw ger llyn Trawsfynydd ar ei ffurf gwreiddiol, yn Islaw’rcoed, lle magwyd fy Mam, byddai’r dyddiau braf yn cael eu treulio yn potsian ger y llyn er fod y dŵr yn eithriadol o oer. Byddem hefyd yn cael cwmni fy nghefnder, David a ddoi atom am y gwyliau gan fod ei rieni yn gweithio yn y NAAFI yn yr Almaen ac yn dod drosodd ato ar eu gwyliau. Roedd gan David gwch fach goch a hwyl arni a
10
byddem yn cael chwarae hefo honno ar y llyn os na fyddai o yno. Yn aml, chwifiem bowlen enamel ar y pysgotwyr yn eu cychod a chaem bysgod ffres ganddynt ac astudio Nain yn eu glanhau a’u ffrio inni i swper. Doedd ’run botel lefrith yn cael ei gosod ar stepan y drws bob bore, rhaid oedd ei gyrchu o Coedcaedu led ryw ddau gae i ffwrdd. Felly i fyny a ni hefo’r jwg yn aml, heibio’r crawiau ar eu cyllyll, drwy agen yn y wal a chyrraedd y ffarm. Clywed hanes Twm a Cyril, y meibion rywdro, yn ifanc iawn, yn astudio eu Nain a oedd yn cysgu yn ei chadair yn yr ystafell ffrynt. Rydw i yn ei chofio ac roedd y ddau fach y diwrnod hwnnw yn ei gweld reit llonydd ac mae’n debyg yn anadlu’n ysgafn iawn. Y cyntaf yn mynd yn nes, edrych arni ac yn dweud wrth y llall, ‘Mae hi wedi malw ysti.’ Yr ail yn nesu ac yn edrych yn drist ac yn ategu, ‘Ydi, mae hi wedi malw.’ Yr hen ledi yn piffian chwerthin yn dawel ac wedi gallu dioddef peidio â chwerthin yn uchel hyd nes iddyn nhw ddod i’r penderfyniad prudd a chytuno ac wedyn dangos ei bod yn dal yn fyw! Dro arall, a’m cyfnither a finnau wedi cyrraedd Coedcaedu, aethom allan hefo Dorothy ac Olwen, y merched, at yr ŵyn bach tu ôl i ddarn o sinc ynghanol y gwair. Yn sydyn, dyma ruo a gweiddi a’r hyn welson ni oedd y tarw gwyllt yma’n ein pasio a’r hogiau yn ceisio ei ddal - lwcus ein bod wedi rhoi naid dros y sinc a chuddio gyda’r ŵyn bach! Byddai hafau Islaw’rcoed yn felys iawn gan y byddai’r teulu yn dod at ei gilydd a Nain wrth ei bodd yn cael ei phump plentyn adref o’i chwmpas unwaith eto a’r haldiad wyrion a wyresau - 9 ar yr adeg honno. Y picnic mawr i bawb, y brechdanau, sgons a chacennau a Lemon Barley i ni blant i’w yfed. Cael rowlio a chwarae o gwmpas yn y cae a rhostio yn yr haul tanbaid. Amser i’w drysori erbyn heddiw. Olwen Jones
Siarad yr iaith frodorol Manteisiol, pan ar daith dramor yw cael cwmni rhywun sy’n medru’r iaith frodorol. Dros hanner canrif yn ôl, roeddwn ar wyliau yn Awstria a’r Almaen, neu’n fwy cywir, ar daith addysgol. Er wedi gadael Ysgol Ramadeg Hendygwyn-arDâf a chychwyn yng Ngholeg Aberystwyth, derbyniais, ynghyd ag un ddau gyn-ddisgybl arall, wahoddiad gan athro daearyddiaeth yr ysgol i ymuno (am bris wrth gwrs) â thrip ysgol roedd yn ei threfnu. Fel rhan o’r gweithgareddau, roedd yna daith i Koblenz i wylio perfformiad yn y Tŷ Opera enwog ar lan yr afon Rhein. Teithio yno mewn bws oedd yn orlawn a dim dewis ond sefyll. Roedd na fotymau bach i’r teithwyr wasgu pan oeddynt am gael eu gollwng o’r bws. Canodd y gloch fwy nag unwaith, y bws yn stopio, a neb yn mynd allan! Roedd y dirmyg yn amlwg ar wyneb y tocynnwr. Cerddodd i’m cyfeiriad a sylwais ar unwaith nad oeddwn wedi ei blesio. Er mwyn cadw balans tra’n sefyll ar y bws, roedd na strap i afael ynddi. Yn ddiarwybod i mi, gyda symudiadau’r bws, roedd fy ngarddwrn ar adegau yn dod i gyffyrddiad â botwm y gloch! Cefais bryd o dafod mewn Almaeneg a bygythiad mae’n debyg i adael y bws. Diolch
i Almaeneg croyw yr annwyl “Davies Geog”, fe’m dyfarnwyd yn ddieuog a rhoes y tocynnwr y cerdyn coch ’n ôl yn ei boced! Ray Owen
Gwely plu Pan o’n i tua deg oed mi es i dŷ Anti Jane am ‘wyliau’. Doedd hi ddim yn fodryb go iawn, bu’n byw drws nesaf inni am rai blynyddoedd. Roedd ganddi ŵyr, sef Dic Bach. A mynd i chwarae efo Dic Bach am benwythnos yr oeddwn i mewn gwirionedd. Ond y cof mwyaf sydd gen i am y gwyliau hwnnw ydi’r gwely plu. A bod yn onest hen wely [ac mae’r ansoddair yn gwbl briodol!] digon anghyfforddus oedd o. Wedi i chi setlo iddo fo, roedd yn sobor o anodd troi ac ailosod eich hun gan fod yna bant mawr yn y plu! Dwi’n dal i’w gofio hyd heddiw! PM
R J Williams Honda Garej Talsarnau Ffôn: 01766 770286
Y BERMO A LLANABER CORNEL Y FFERYLLYDD Merched y Wawr, Y Bermo a’r Cylch Nos Fawrth 9 Ebrill, ar ôl trafod materion y mudiad aethon ni ymlaen efo prif ddigwyddiad y noson. Roedd yn noson i ddysgwyr Cymraeg ein hardal ac roedden ni’n falch o groesawu dau ohonynt a’u clywed nhw’n defnyddio’r iaith yn dda iawn. Cyflwynodd Pam gwis diarhebion Cymreig a mwynhaodd bawb geisio ailgreu dewisiad 26 dihareb. Roedd Pam wedi’u cymryd o lyfr bach A Little Book of Welsh Proverbs wedi’u casglu gan Tegwyn Jones (Appletree Press 1996), oddi ar dudalennau’r We ac oddi wrth bobl leol ein hardal. Roedd ’na nifer dda o ddiarhebion nad oedd neb ohonom yn eu gwybod. Roedd pawb yn gyfarwydd efo ‘Henaint ni ddaw ei hunan’ a ‘Dyfal donc a dyr y garreg’, er enghraifft. Enghreifftiau o’r rheini nad oedden ni yn eu gwybod oedd ‘A ddwg ŵy a ddwg fwy’, ‘Gwin yn y bol, twrw yn y pen’, ac ‘A wnelir liw nos a welir liw dydd’. Mae’n ymddangos bod rhai o’r diarhebion Cymraeg yn rhanbarthol. Cytunom nad oeddem wedi clywed llawer ohonynt yn yr ysgol; maen nhw’n tueddu i ddod i lawr trwy deuluoedd a chael eu rhannu yn lleol. Daeth y noson i ben yn sgwrsio dros banad a chacen. Roedd ’na ddwy wobr raffl heno. Aeth un i aelod ein cangen ac un i ddysgwraig. Bydd ein cyfarfod nesaf ar 21 Mai. Diolch i Ferched y Wawr, y Bermo am anfon siec am £25 atom, sef cyfraniad un siaradwr di-enw nad oedd am dderbyn y tâl arferol ond a oedd yn dymuno ei drosglwyddo i’r papur. [Gol.]
PARTI PIWS
Mae’r plantos i’w gweld yn mwynhau eu hunain yn fawr! Llongyfarchiadau mawr i bwyllgor a gweithwyr Cylch Meithrin y Bermo ar dderbyn adroddiad da gan Estyn yn ddiweddar. Dalier ati. Mae’n hyfryd gweld y plant yn mwynhau trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.
gyda Steffan John
GWYLIAU
Wrth i fisoedd y gaeaf ddirwyn i ben a’r dyddiau’n dechrau goleuo mae’n siŵr bod nifer ohonom yn dechrau meddwl a chynllunio gwyliau dramor rhywbryd eleni. Mae’n sicr yn braf cael gwyliau i edrych ymlaen ato ond a ydych wedi ystyried eich iechyd tra’n teithio? Mae ymchwil yn dangos bod canran uchel o bobl yn teithio dramor heb gymryd y camau priodol i warchod eu hiechyd. Dros y misoedd diwethaf rydw i wedi bod yn hyfforddi i fedru darparu clinig teithio yn Fferyllfa Powys Davies. Dyma i chi faes cymhleth ond tu hwnt o ddiddorol. Rydwyf wedi bod yn dysgu am glefydau megis Hepatitis A, teiffoid, colera, diptheria a’r dwymyn felen ymysg eraill. Mae dysgu am y clefydau, eu heffeithiau a sut maent yn cael eu trosglwyddo wedi bod yn addysg ond hefyd yn frawychus. O ganlyniad beth bynnag, gallaf rŵan roi gwybodaeth, brechiadau a chyffuriau gwrth-falaria yn y fferyllfa. Un o’r pethau pwysicaf pan yn mynd dramor yw gwarchod eich croen rhag effeithiau niweidiol yr haul. Cofiwch ddefnyddio eli haul ffactor 15 fel isafswm ond bellach rydym yn argymell defnyddio ffactor 30 gan gofio ei roi ymlaen sawl gwaith yn ystod y dydd. Mae gwarchod eich hun rhag pigiadau hefyd yn bwysig yn enwedig mewn gwledydd lle mae malaria a’r dwymyn
felen yn bresennol. Cofiwch ddefnyddio hylif gwrth bryfid i geisio cadw pryfetach i ffwrdd. Hylif sy’n cynnwys DEET 50% sydd fwyaf effeithiol. Mae bod yn ofalus o’r hyn yr ydych yn ei fwyta ag yfed hefyd yn bwysig. Mewn nifer o wledydd mae’n bwysig ond yfed dŵr potel. Rhaid cofio gwneud yn siŵr fod y botel wedi ei selio, osgoi ciwbiau rhew, osgoi salad wedi ei olchi mewn dŵr ond hefyd golchi eich dannedd mewn dŵr potel. Mae nifer yn ddigon anlwcus i ddioddef o ddolur rhydd pan yn mynd dramor. Mae’n bwysig peidio cymryd tabledi i stopio hyn am y 3 diwrnod cyntaf i roi cyfle i’r corff gael gwared o’r drwg. Wedi hyn gellir defnyddio meddyginiaeth fel loperamide. Cofiwch hefyd bod angen cael tystysgrif y dwymyn felen i ymweld ag ambell fan, yn enwedig rhai o wledydd Africa a De America. Felly os ydych ddigon lwcus i gael mynd i weld rhai o ryfeddodau y byd eleni, mwynhewch ond cymerwch amser i feddwl am eich iechyd gyntaf.
Clwb 200 Côr Meibion Ardudwy Dyma’r amser i adnewyddu eich tâl aelodaeth i’r Clwb 200. Mae cyfle i ennill 72 o wobrau yn ystod y flwyddyn a helpu’r Côr wrth wneud hynny. 11
TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Merched y Wawr Croesawyd pawb i’r cyfarfod nos Lun, 1af Ebrill gan y Llywydd, Siriol Lewis. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Ella, Anwen a Gwenda Paul; anfonwyd cofion arbennig at Gwenda a dymunwyd pob dymuniad da iddi wrth wella. Llongyfarchwyd y tîm bowlio deg ar gael sgôr reit dda yn y gystadleuaeth yng Nglan-llyn ddiwedd Chwefror, gyda Haf yn cael ‘streic’ wrth chwarae yn y tîm am y tro cyntaf. Darllenwyd cofnod byr o’r cinio Gŵyl Ddewi yng Ngwesty’r Grapes, Maentwrog ar 1af Mawrth. Atgoffwyd pawb o Brosiect 6000 y Llywydd Cenedlaethol, sef casglu bagiau o sbwriel ac ailgylchu o fewn ein cymuned leol. Cytunodd nifer o’r aelodau i fynd o amgylch yr ardal mewn parau i wneud y gwaith yn ystod y misoedd nesaf. Cyflwynwyd ein gwraig wadd heno, sef Margaret Davies o’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac wedi’i chroesawu gan Siriol, dechreuodd trwy gyflwyno sgwrs gyffredinol i ddechrau am ei gwaith. Roedd ei swyddfa yn Ysbyty Alltwen ac roedd yn un o dîm o chwech o weithwyr cymdeithasol a therapyddion galwedigaethol. Roeddynt yn cydweithio gydag asiantaethau eraill i ymweld â phobl ac i gynnig cymorth lle roedd angen ac eglurodd y pethau oedd ar gael i’r henoed i’w helpu yn eu cartrefi. Cawsom lawer o wybodaeth ddefnyddiol ganddi a diolchwyd iddi ar ein rhan gan Frances a fynegodd gwaith mor werth chweil roedd y gwasanaeth yn ei gynnig ac roedd yn dda o beth dod i wybod am yr adnoddau a’r cymorth posib oedd ar gael. Paratowyd paned gan Bet a Haf ac enillwyd y ddwy wobr raffl gan Siriol a Rhiannon. Gwella Da gennym ddeall fod Geraint Williams, Y Garej, wedi cael dod adref o Ysbyty Prifysgol Stoke erbyn hyn, ar ôl derbyn llawdriniaeth, ac yn dechrau gwella ar ôl ei ddamwain anffodus yn ddiweddar.
12
Cydymdeimlad Trist iawn oedd derbyn y newydd am farwolaeth annisgwyl Islwyn PritchardJones yn Ysbyty Glan Clwyd yn ddiweddar. Un o hogiau Talsarnau oedd Islwyn (Didw, Brontrefor i’w gyfoedion) a chymeriad hoff iawn gan bawb oedd yn ei adnabod. Bu iddo symud i fyw i’r Bala rai blynyddoedd yn ôl yn dilyn ei swydd fel un o wardeniaid Parc Cenedlaethol Eryri yn yr ardal honno. Cydymdeimlwn yn ddwys iawn â’i feibion, Owain Llŷr a Deian Rhys, ei ddwy chwaer, Enid a Cari-Wyn a’i frawd, Bryn yn eu profedigaeth. Diolch Dymuna Mari Williams a’r teulu o Landecwyn ddiolch i bawb a’i chefnogodd yn 2018. Bu’n cynhyrchu cardiau cyfarch a chardiau Nadolig yn ystod y flwyddyn a llwyddodd i godi £460. Fe rennir yr arian yn gyfartal rhwng Ysgol Hafod Lon a ThŷGobaith. Diolch i bawb unwaith yn rhagor am eich cefnogaeth ac hefyd i Glyn a Medwyn, y cigyddion, am eu cymorth yn gwerthu’r cardiau. Rhodd a diolch £10 Yn yr ysbyty Anfonwn ein cofion at Mr Idris Williams, Tanforhesgan sydd wedi symud i Ysbyty Alltwen a chyn hynny yn Ysbyty Gwynedd. Mae’n cryfhau ac yn gwella’n raddol ac rydym oll yn hyderu y bydd yn teimlo’n llawer gwell yn fuan. Capel Newydd Oedfaon am 6:00
MAI 12 Dewi Tudur 19 Dewi Tudur 26 Steffan Jones, Pontardawe MEHEFIN 2 Ben Thomas, Cricieth 9 Rhun Murphy, Wrecsam
Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/ llaisardudwy/docs
Llais Ardudwy
PARTI PIWS
Cylch Meithrin Talsarnau yn dathlu yn y parti piws
Darlith Flynyddol Cyfeillion Ellis Wynne Tynged Teulu Brenhinol Gwynedd Traddodwyd gan Ieuan Wyn Roedd Neuadd Gymuned Talsarnau yn rhwydd iawn nos Iau, Ebrill 4ydd, noson darlith flynyddol Cyfeillion Ellis Wynne, yr wythfed yn y gyfres, a chafodd y gynulleidfa niferus a gwerthfawrogol gyflwyniad a’i sobreiddiodd. Roedd y darlithydd, Ieuan Wyn, Prifardd Eisteddfod Bro Madog, 1987, ysgrifennydd diwyd Cylch yr Iaith a gweithiwr diarbed dros bopeth dyrchafol a diwylliannol, ar ei orau yn traethu am y cyfnod y mae o’n arbenigwr cydnabyddedig arno – cyfnod teulu brenhinol Gwynedd. Cafwyd noson i’w chofio, gyda chyflwyniad Ieuan, o ran ei gynnwys, ei ddiffuantrwydd a’i goethder ymadrodd yn adlewyrchiad o’i allu yn ogystal ag o’i gariad di-gwestiwn at ei genedl, ei hanes a’i iaith. Yn fanwl ac yn fedrus, dangosodd fel y dinistriodd Edward 1af, brenin Lloegr, a’i ddifrodwyr, drefn wleidyddol, hen sefydledig, teulu brenhinol Gwynedd, gyda’i brif lys yn Abergarthcelyn yn Uwch Conwy, ar ôl concwest trwy frad a chynllwyn 1282. A’r modd bwystfilaidd a dienaid y triniwyd gwreng a bonedd Cymru ganddynt er ymgais nobl Llywelyn ap Gruffydd i lunio cytundeb heddwch cymodlon drwy’r Archesgob Peckham. Dangosodd hefyd, iddyn nhw fod yr un mor anwaraidd yn y
ffordd y triniason nhw blant y tywysogion i’w rhwystro nhw rhag cael etifeddion. Carcharu’r meibion yn naeargelloedd Castell Bryste weddill eu hoes ac alltudio’r merched, saith ohonyn nhw, i leiandai ym mhellafoedd Lloegr; hwythau, hefyd, ar hyd eu bywydau. Ond er eu gwaethaf, fe gododd y Cymry eto, ac eto ac eto. Do, fe gafwyd stori arwrol gan Ieuan a oedd, ar yr un pryd, yn drasiedi enbyd. Stori y dylai plant holl ysgolion Cymru fod yn cael ei chlywed ynghyd â gweddill eu hanes cyfoethog i gyd, iddyn nhw gael y cyfle i ymfalchïo wrth ddod i wybod i bwy maen nhw’n perthyn. Gobeithio y bydd maes llafur hanes cwricwlwm addysg newydd ysgolion Cymru yn ’morol y bydd hynny’n digwydd. Cafodd plant Cymru a’u hamddifadu o’u hanes yn rhy hir.
ER
YSBRYDOLI DISGYBLION RHAGLUNIAETH FAWR Y NEF YN HOLLYWOOD
(c.1730-1812) bancer cyfoethog, gŵr a fu yn Rabi Iddewig cyn troi yn Gristion. Mae gan David Charles saith o emynau yn y Caneuon Ffydd. Ond nid y fo ydi’r unig David Charles yn y llyfr. Un plentyn oedd gan David a Sarah Charles – mab, a David oedd ei enw yntau. Bu fyw o 1803 i 1880. Fel ei dad, daeth yn berchennog Y tro diwethaf buom yn sôn ffatri nyddu rhaffau a daeth maes fod yna draddodiad fod David o law yn weinidog hefyd ar ôl Charles, Caerfyrddin (1762ei ordeinio yn 1851. Eto, fel ei 1834) wedi cyfansoddi’r emyn dad, roedd yn emynydd. ‘Rhagluniaeth fawr y Nef ’ yn y Yn anffodus, mae yna twymiad pan welodd fod ei ffatri gamgymeriad yn y Caneuon Rhai o’r disgyblion sydd eisoes wedi bod yn rhan o’r gweithgareddau gwneud rhaffau wedi llosgi i’r Ffydd. Wrth baratoi y rhestr llawr gan ei adael yn golledus ac ‘Awduron, Cyfieithwyr a o bosib yn brin o arian. Ffynonellau’r Emynau’ Ond tybed? Ai dyna yr unig yn nechrau’r llyfr, mae’r esboniad? Ac hefyd, be ydi’r golygyddion wedi cymysgu’r cysylltiad rhwng David Charles a ddau David Charles ac wedi Hollywood? STEM ar gyfer disgyblion Mae rhaglen a gefnogir gan priodoli emynau’r tad ac Mae rhai haneswyr yn credu mai emynau’r mab i gyd i’r tad. David lleol unwaith eto yn “IMechE Gyngor Gwynedd yn gwahodd ymateb cyffredinol i helyntion UAS Challenge” eleni. Y 120 o ddisgyblion ysgolion lleol Charles yr ieuengaf yw awdur tri yr oes oedd emyn mawr David llynedd, roedd pobl ifanc yn i gymryd rhan mewn gweithdai o’r emynau yn y llyfr, sef emynau Charles. Yn 1815, gyda brwydr 64, 287 a 332. Mae`r tri emyn gallu cymryd rhan mewn awyrofod yng nghystadleuaeth fawr Waterloo a churo Napoleon yma yn eitha adnabyddus: gweithgareddau peirianneg, ryngwladol dylunio drôn, sy’n daeth y rhyfel hir hefo Ffrainc a siarad â thimau peirianneg dychwelyd i ganolfan awyrofod 64 ‘Tydi sydd deilwng oll o’m cân, i ben. Fel sydd yn digwydd o brifysgolion ar draws y byd Eryri yn Llanbedr ym mis Fy nghrëwr mawr a`m Duw...’ yn aml, daeth cyfnod o dlodi - rydym yn gobeithio y bydd Mehefin. 287 ‘Mor beraidd i`r credadun trwm ar ôl y rhyfel. Cafwyd gweithgareddau STEM eleni yn Mae’r gystadleuaeth ‘UAS gwan yw hyfryd enw Crist...’ adeiladu ar lwyddiant y llynedd, diweithdra a llawer o gynnwrf Challenge’, a drefnir gan 332 ‘O Arglwydd da, argraffa yn yr ardaloedd diwydiannol ac rydym yn falch o allu cynnig Sefydliad Peirianwyr Dy wirioneddau gwiw ...’ darpariaeth i blant oed cynradd.” gyda’r meistri cyfoethog yn Mecanyddol, yn atyniad i A Hollywood? gormesu’r tlawd. Ar ben hyn oll, Bu David Charles farw yn nhŷ Ychwanegodd Cadeirydd Ardal gannoedd o fyfyrwyr gyda cafwyd blwyddyn ar ôl blwyddyn ei fab, David Roberts Charles Fenter Eryri, Dr John Idris thimoedd yn teithio o wledydd o gynaeafau sâl, collodd sawl fel Canada, Pakistan a Sri Lanka Jones: “Mae’r Bwrdd wedi bod yn Ulverston, Sir Gaerhirfryn tenant ei fferm a daeth newyn at yn Lloegr yn 1880. Yn yr yn awyddus i sicrhau bod y i hedfan eu hawyrennau yn y ddrws llawer un. gymuned leol yn cymryd rhan digwyddiad. un dref ddeng mlynedd yn Fel hyn y canodd Gwallter yng ngwaith yr Ardal Fenter Bydd cyfle i ddisgyblion ysgol ddiweddarach y ganed Arthur Mechain (1761-1849) i gynhaeaf Stanley Jefferson, neu Stan ac yn cael profiad ymarferol o’r gynradd Llanbedr ac ysgolion gwlyb 1816: hyn y gallai’r dyfodol ei ddal uwchradd Meirionnydd gael Laurel (1890-1965) a rhoi iddo ‘Leni ni bu hardd-gu hin ar gyfer safle Llanbedr. Mae siarad gyda’r myfyrwyr am eu ei enw diweddarach a mwy pynciau STEM yn mynd i fod yn Mai hafaidd na Mehefin; dronau, gwylio’r awyrennau adnabyddus. Daeth Stan Laurel Ni ffynnodd ein Gorffennaf, hanfodol i sector awyrofod sy’n yn cystadlu yn y “fly-off ” ac yn un o sêr amlycaf y byd datblygu’n gyflym a gobeithiwn y Pob dyffryn a glyn yn glaf; adeiladu gleiderau model eu ffilmiau yn ei ddydd yn sgil ei gall y safle ddarparu rhagolygon Yn Awst gwlyb wair mewn ystod, ffilmiau comedi gyda’i bartner hunain. Medi heb fedi i fod.’ cyflogaeth go iawn i’n pobl Fel rhan o’r rhaglen, mae Oliver Hardy. Mae’r llinell olaf yna yn crynhoi A dyna ni wedi teithio yn o bell ifanc.” Cyngor Gwynedd wedi noddi pryder y teulu a gaeaf caled yn Mae Llywodraeth Cymru yn cystadleuaeth celf a dylunio o fyd Thomas Charles a’i frawd eu wynebu ar ôl haf sâl. cefnogi’r “UAS Challenge” a “Air Adventures” lle gofynnir i’r David. fydd yn arddangos nodweddion Roedd David Charles yn nghanol JBW disgyblion gyflwyno syniadau hyn i gyd ac yn cyfansoddi ei unigryw canolfan awyrofod am awyrennau i ddiffodd tanau emyn er cysur iddo ei hun a’i Eryri yn Llanbedr i’r gymuned gwyllt. gymdogion mewn oes o gyni. leol ac i gynulleidfa ryngwladol Dywedodd y Cynghorydd Tydi ddim yn eglur chwaith faint ehangach. Mae noddwyr eraill Gareth Thomas, Aelod o gyni personol a welodd David yn cynnwys GKN Aerospace, Cabinet Datblygu’r Economi a QinetiQ, Bombardier, Raytheon Charles. Mae sôn iddo briodi Chymuned Cyngor Gwynedd: merch o’r enw Sarah Phillips o a Fraser Nash. “Rydym wrth ein boddau i Hwlffordd yn Sir Benfro. Merch fod yn noddi gweithgareddau oedd hi i Samuel Levi Phillips
Ysbrydoli plant ysgol am awyrofod yng nghystadleuaeth drôn Eryri
SAMARIAID LLINELL GYMRAEG 08081 640123
13
HYSBYSEBION
Telerau gan Ann Lewis 01341 241297 ALUN WILLIAMS TRYDANWR GALLWCH HYSBYSEBU *YN Cartrefi Y * Masnachol BLWCH HWN * Diwydiannol AM £6 Ya Phrofi MIS Archwilio Ffôn: 07534 178831
e-bost:alunllyr@hotmail.com
14
Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
PYTIAU OLWEN Dyma ychwaneg o’r casgliad o atgofion a ffeithiau difyr am Ardudwy a’i phobl a thu hwnt a gasglwyd gan Olwen Jones. Tom Richards Yn byw yn y Wern, Llanfrothen, roedd yn englynwr medrus. Ffermwr wrth ei alwedigaeth, cyhoeddodd lyfr ‘Y Ci Defaid ac Englynion Eraill’ ar ôl ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhenybont-ar-Ogwr, 1948:
David Jenkins (1848-1915) Cyfansoddwr y dôn ‘Talsarnau’
Y Ci Defaid Rhwydd gamwr hawdd ei gymell – i’r mynydd A’r mannau anghysbell; Hel a didol diadell Yw camp hwn yn y cwm pell. Brodor o gylch y Ganllwyd a anwyd ym Mwlch-y-ffordd yng Ngorffennaf 1883, yn un o ddeg o blant, addysgwyd ef yn Ysgol y Ganllwyd. Yn 1903, cyrhaeddodd San Ffransisco lle cafodd swydd mewn gwaith aur yno. Cafodd ddamwain fawr yno ac wedi troi ar wella cyrhaeddodd adref yn hollol ddirybudd yn 1905. Enillodd ar englyn arall yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1957 i’r ysgyfarnog.
Ysgyfarnog Iach raenus ferch yr anial - hir ei chlust, Sicr ei chlyw, a dyfal; Rhed o wewyr y dial I’w byd ei hun heb ei dal. I Ŵyr John Davies, Tŷ Newydd, Talsarnau Y diwyd ŵr sy’n daid i hwn – ei wyneb Yn ei wenau welwn; Ond ’rwy’n siŵr nad yr un sŵn Fedd ei ŵyr, ni fyddarwn.
CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF
MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod
Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant PORTHMADOG 01766 512214/512253 60 Stryd Fawr
PWLLHELI 01758 612362 Adeiladau Madoc
office@bg-law.co.uk
ABERMAW 01341 280317 Stryd Fawr
Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd …
Ffigwr poblogaidd iawn ar lwyfan y Brifwyl Genedlaethol yn y 19eg ganrif oedd David Jenkins, a anwyd yn Nhrecastell, Sir Frycheiniog. Nid oedd yr hyn y buasem yn ei alw yn ryfeddod gerddorol, gan na fu iddo gymryd unrhyw ddiddordeb mewn cerddoriaeth hyd nes oedd yn naw mlwydd oed. Yn yr oedran hwnnw yr oedd yn canu alto mewn côr oedd ar fin cystadlu mewn eisteddfod leol, ond yr oedd yn un ar bymtheg oed pan ddechreuodd astudio cerddoriaeth o ddifrif oddi ar system tonic-solffa. Ymhen dwy flynedd wedyn enillodd dystysgrif uwchraddol Coleg Tonic-Solffa, a thua’r amser hynny y clywyd amdano yn gyntaf fel arweinydd côr, a arweiniodd i fuddugoliaeth yn ei ugeinfed flwyddyn yn Llanddeusant, pryd y trechodd arweinwyr fel D T Prosser (Eos Cynlais) a John George (Llew Tawe). Yn y cyfamser, cysegrodd bob eiliad i astudio cytgord gwrthbwynt a chyfansoddiad. Y llwyddiant cyntaf a gafodd ar y llinellau hynny oedd ei fuddugoliaeth o wobr yng Ngholeg TonicSolffa am yr anthem gorau, pan roedd Syr G A Macfarren yn beirniadu. Yn 1874, aeth yn fyfyriwr i Goleg Aberystwyth, lle yr enillodd ysgoloriaeth tair blynedd yn ei ail dymor, ac yn fuan ar ôl hyn penodwyd ef yn gynorthwywr i Dr Joseph Parry. Yn ystod ei gyfnod yn Aberystwyth, trefnodd a chyfansoddodd dôn yn seiliedig ar hen alaw Gymreig, a’i galw’n ‘Talsarnau’. Daliodd i gystadlu mewn gwahanol eisteddfodau ac yn 1873 enillodd wobr o £5 yn Eisteddfod Utica (America), ac yn 1875 £10 yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli. Yn 1876 enillodd y brif wobr am gyfansoddiad yng Nghaernarfon gyda’i cantata, ‘Arch y Cyfamod’. Yn 1877 sicrhaodd radd B Mus ym Mhrifysgol Caergrawnt. Yn 1885 bu ar daith yn yr Unol Daleithiau am bedwar mis, lle cafodd gyfle i feirniadu ac arwain gwyliau cerddorol. Arferai feirniadu tua ugain o eisteddfodau ac arwain o leiaf 35 o gorau yn flynyddol. Ar wahân i hynny bu’n Athro Cerdd yng Ngholeg Aberystwyth, ac yn gyd-olygydd ‘Y Cerddor’ gydag Emlyn Evans. Cyhoeddodd nifer fawr o ganeuon, rhanganeuon, cerddoriaeth i gorau ac anthemau, yn ogystal â thair cantata ac operetau i blant. Yn 1894 cyfansoddodd oratorio, ‘Dewi Sant’, i Eisteddfod Caernarfon, hefyd cantata, ‘The Psalm of Life’, a gyfansoddwyd yn arbennig i Ŵyl Tair Blynyddol Caerdydd, 1895. Cafodd ei pherfformio yr un flwyddyn gan 2,000 o leiswyr yn y Palas Grisial, Llundain. Bu farw yn ei gartref, Castell Brychan, Aberystwyth, 10 Rhagfyr 1915. W Arvon Roberts
15
Côr Ysgol Ardudwy Harlech yn y 60au
GWEITHGAREDDAU EGLWYSIG
17 Mai Llanddwywe, Tal-y-bont 7.00yh Helfa Chwilod Neuadd Eglwys Dyffryn Dewch i ymuno â ni ar gyfer Helfa Chwilod y Fro. Llawer o hwyl a gemau– rhowch gynnig ar greu chwilen! Gwobr i’r sawl sy’n gwneud y chwilen yn yr amser cyflymaf a gwobr am y sgôr gyffredinol isaf. Ceir raffl a bydd lluniaeth ar gael. Mae tocynnau’r gêm chwilod yn costio £5 a byddant ar gael wrth y drws – lluniaeth yn gynwysedig.
Côr Ysgol Ardudwy gyda’u harweinydd Mr J Rhyddid Williams a fu’n athro yn Ysgol Ardudwy cyn symud i Ysgol y Gwendraeth, enillodd y côr yma lawer yn Eisteddfodau Cenedlaethol Cymru ac eisteddfodau lleol. Diolch i Olwen Jones am gael benthyg y llun. Rhes gefn: Rhyddid, Rhian Pendryn, Lis Cefn Isa, Wendon Cae Cethin, Ann Williams (athrawes mathemateg Ysgol Ardudwy), Lisbeth Penisarcwm, Dilys Pendryn, Einir Dyffryn, Korina Llanfair, Menna Llanbedr, Luneth Harlech, Mary Pendryn, Dafydd Lloyd Jones Pendryn. Ail res: Beti Llanbedr, Teresa Llanbedr, Keri Llanbedr, Einir Talsarnau, Ann Eurwen Talsarnau, Jennifer ’Rynys, Karen Llanfair, Olwen ’Rynys, Valerie Dyffryn. Rhes flaen: Eirlys Llanbedr, Catherine Pendryn, Valmai Pendryn, Heulwen Tal-y-bont, Dorinda Llanfair, Jean Dyffryn, Gwenan Dyffryn, Dwynwen Penrhyn.
5 Mehefin Eglwys Sant Bodfan a’r Santes Fair, Llanaber 7.00yh Noson Goffi yn nhŷ’r Jesiwitiaid Cynhelir noson goffi flynyddol yn Nhŷ’r Jesiwitiaid, Llanaber (ar y briffordd yn wynebu’r traeth). Bydd y maes parcio a’r fynedfa wedi eu harwyddbostio ar y diwrnod. Bydd planhigion a theisennau cartref ar werth. Bydd stondin bric-a-brac, tombola a raffl. Croeso cynnes i bawb.
Cynnig Gofal Plant Cymru Cynnig Gofal Plant Cymru Addysg gynnar a gofal Addysg gynnar a gofal
awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal 3030 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plantplant wedi’u wedi’u hariannu gan y Llywodraeth i rieni hariannu gan y Llywodraeth i rieni cymwys sy’ncymwys gweithio acsy’n sydd â phlantac tair a phedair oed, a hynny am hyd gweithio sydd â phlant tair a phedair oed,at 48 wythnos y flwyddyn. a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Am fwy o fanylion cysylltwch gydag Am fwy o fanylion cysylltwch gyda Uned Gofal Plant Gwynedd a Môn Uned Gofal Plant Gwynedd a Môn Ffôn: Ffôn:01248 01248 352436 352436 E-bost: gofalplant30awr@gwynedd.llyw.cymru E-bost: gofalplant30awr@gwynedd.llyw.cymru 16
TOYOTA HARLECH
COROLLA HYBRID NEWYDD
Dewch i roi cynnig ar yrru’r Corolla newydd! Mae ’na ganmol mawr i hwn! facebook.com/harlech.
Ffordd Newydd Harlech LL46 2PS 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@harlech.toyota.co.uk
Twitter@harlech_toyota
Y GYMRAEG YN SWYNO YMWELYDD
Yn ddiweddar, diolch i archif Gwyneth Edwards Llanaber, cyfle i ddarllen hanes Alfred Cedric Maby, un a dreuliodd sawl haf yn ymweld â Bro Ardudwy. Cyfres o lythyron a chardiau post fu’r ffenestr, a thrwyddi cefais olwg ar fywyd un a gafodd ei eni a’i fagu yn Cheltenham. Byddai’n dod gyda’i fam a’i chwaer i aros at y teulu Edwards yn Bod Gwilym, Llanaber (gweler llun ohonynt) a mawr oedd yr edrych ymlaen at yr ymweliadau a chael ymdrochi yn y môr. Roedd y croeso a’r gofal yn Llanaber yn tywys y teulu yn ôl dro ar ôl tro. Un o ddiddordebau y Cedric Maby ifanc oedd ieithoedd a buan y cafodd ei swyno gan y Gymraeg. Sonia yn un o’i lythyron am rodd o Feibl Cymraeg a gafodd gan Mrs Edwards (mam yng nghyfraith Gwyneth) ac fel roedd yn edrych ymlaen at gael “mwynhau iaith hardd a brawddegau coethion y Beibl”. Dro arall, soniodd am y cyffro wrth i wyliau yn Llanaber agosáu, gyda rhybudd nad oedd yn bwriadu siarad dim byd ond Cymraeg! Mae’r llythyron cynnar, dyddiedig dechrau tridegau’r ganrif ddiwethaf, yn cyfleu darlun o ŵr ifanc galluog yn ymdrechu i feistroli ei iaith newydd. Roedd Mrs Edwards yn ysgrifennu ato yn y Gymraeg ac yntau yn ymateb yn yr un modd. Yn ogystal â chlywed yr iaith ar aelwyd Bod Gwilym
ac o fewn yr ardal mae’n siŵr, cafodd wersi gan W D Williams a Nancy Dedwydd Roberts. Trawiadol canfod sut y datblygodd ei allu a’i hyder yn y Gymraeg ac erbyn diwedd y degawd mae cynnwys y llythyron yn dangos fod yr eirfa a’r gystrawen yn ddiogel yn ei afael. Nid syndod efallai o ddarllen am ei yrfa addysgol ddisglair. Coleg Cheltenham ac yna ysgoloriaeth i Goleg Keeble Rhydychen i astudio’r Clasuron, Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg. Cafodd yrfa lwyddiannus yn y Gwasanaeth Diplomyddol am dros ddeg mlynedd ar hugain, gan weithio mewn sawl rhan o’r byd yn cynnwys Tsieina a’r Swistir. Ardudwy oedd yr atyniad o hyd fodd bynnag ac ar ôl ymddeol yn nechrau’r saithdegau, dychwelyd i olwg y fro, wrth i’r teulu ymgartrefu yng Nghae Canol, Minffordd, oedd ei hanes. Parhau wnaeth ei brysurdeb a buan y’i gwelwyd yn chwarae rhan flaenllaw ym mywyd diwylliannol a chrefyddol ardal Deudraeth. Yn 1976 fe’i penodwyd yn Uchel Siryf Gwynedd. Roedd yn awdur a cherddor, yn aelod o Gymdeithas Cerdd Dant Cymru a Chymdeithas yr Iaith ac yn aelod oes o Gymrodorion Llundain. Bu farw yn 2000 a than y diwedd, er yn rhugl mewn sawl iaith, roedd y Gymraeg yn dal i’w swyno. Ray Owen
17
ER COF AM PRYDWEN LLOYD JENKINS, GAN EI BRAWD IEUAN
Ganwyd a magwyd fy chwaer yn 2, Tŷ Gwyn, Yr Ynys, yn ferch i Evan ac Ann Evans. Roeddem yn dri o blant, fy niweddar frawd John, Prydwen a minnau, Ieuan. Tros y ffordd roedd brawd ein mam yn byw, ac yno roedd chwech o blant, a drws nesaf roedd chwaer mam yn byw, felly roeddem fel un teulu mawr. Gan fod ei thad yn flaenor, a’i mam yn athrawes Ysgol Sul, roedd mynychu capel yr Ynys yn rhan naturiol o fywyd Prydwen yn ystod ei magwraeth. Yn ei harddegau cynnar dechreuodd chwarae’r organ yn y capel, ac fe wnaeth ei hewythr John Cartrefle restr o’r tonau oedd yn gymwys ar gyfer nifer o’r emynau mwyaf poblogaidd. Addysgwyd Prydwen yn Ysgol Talsarnau, Ysgol y Bermo a’r Coleg Normal ym Mangor. Yn y pedwardegau roedd Clwb Ffermwyr Ifanc llewyrchus yn Nhalsarnau, a daeth Prydwen yn aelod selog. Dewiswyd hi a’i ffrind Rhian i gynrychioli’r clwb mewn cynhadledd yn Llundain, ond nid oedd Mr Parry, y prifathro, yn fodlon iddynt fynd gan fod y ddwy yn astudio ar gyfer lefel A. Aeth dau aelod o’r clwb i weld Mr Parry, a llwyddo i’w berswadio i ail-feddwl, felly, i ffwrdd â’r ddwy ar y trên, a mwynhau y cwbl yn fawr. Rhaid oedd dychwelyd dros nos er mwyn lleihau yr amser roedden nhw’n absennol o’r ysgol. Ym mis Medi 1949 dechreuodd Prydwen ar gwrs dwy flynedd yn y Coleg Normal, Bangor, i’w hyfforddi i fod yn athrawes. Ar ddiwedd y ddwy flynedd cafodd ei phenodi’n athrawes yn Birmingham. Ymunodd â Chymdeithas Gymraeg y ddinas, ac yno cyfarfu â Graham, oedd
18
ar y pryd yn gweithio yn y ddinas. Yn 1954 priodwyd y ddau yng Nghapel Suffolk Street, Birmingham, lle’r oedd Prydwen wedi ymaelodi. Roedd Graham wedi dychwelyd i’w fro enedigol yn Llantrisant cyn hyn, ac yno yr oedd eu cartref cyntaf, a chafodd Prydwen waith fel athrawes ym Mhontypridd. Yn Llantrisant y ganwyd y ferch Carys. Yn 1958 cafodd Graham swydd newydd, a symudwyd i fyw yn Blaby, ger Caerlŷr, ac yno ganwyd Richard ac Iwan. Buont yn byw yno am
29 o flynyddoedd. Bu’n aelod brwd o Gymdeithas Gymraeg Caerlŷr, ac am flynyddoedd arferai gynnal dosbarthiadau i ddysgwyr Cymraeg. Yn 1987 wedi ymddeoliad Graham, symudwyd yn ôl i’r hen gartref yn Tŷ Gwyn, a Prydwen yn falch iawn o ddychwelyd i’w chynefin. Buan iawn yr ymunodd â Merched y Wawr, a Chlwb yr Werin. Gan fod capel yr Ynys wedi cau, daeth yn aelod ffyddlon o Eglwys Llanfihangel, a dod yn un o’r organyddion yno, a bu hefyd yn warden am rai
blynyddoedd. Fe wirfoddolodd i fynd i Ysgol Talsarnau i wrando ar y plant yn darllen, a bu Graham a hithau yn mynd â Phryd ar Glud i gartrefi cyfagos am flynyddoedd. Yn 2012 bu raid iddynt adael eu cartref oherwydd gwaeledd a mynd i gartref gofal yn Llandudno i fod yn ymyl Carys, ac yno y bu farw Prydwen yn wyth deg wyth mlwydd oed ym mis Ionawr eleni. Rhoddwyd ei llwch i orffwys ym medd ei thad a’i mam, ym mynwent Llanfihangel.
DIARHEBION AaB A arddo diroedd a gaiff ddigonedd
A bryn gig a bryn esgyrn A chwilio fwyaf am fodlondeb a fydd bellaf oddi wrtho A ddwg ŵy a ddwg fwy A fo ben, bid bont A fo byw yn dduwiol a fydd marw yn ddedwydd A fynno barch, bid gadarn A fynno glod, bid farw A fynno iechyd, bid lawen A geir yn rhad, a gerdd yn rhwydd A wnêl dwyll, ef a dwyllir A ystyrio, cofied Adeiniog pob chwant Adfyd a ddwg wybodaeth, a gwybodaeth ddoethineb Adwaenir ffôl wrth ei wisg Adwaenir dyn wrth ei gyfeillion Afalau’r nos, cnau’r bore, os ceri’th iechyd Afal pwdr a ddryga’i gyfeillion Angau’r euog ydyw’r gwir Angel pen ffordd, a diawl pen tân Angor diogel yw gobaith Ail fam, modryb dda Allwedd tlodi, seguryd Aml cogau, aml ydau Aml yw haint ym mol hen Amlach ffŵl na gŵr bonheddig Amser yw’r meddyg Amynedd yw mam pob doethineb Anaml elw heb antur Annoeth, llithrig ei dafod Anodd iacháu hen glefyd Arfer yw hanner y gwaith Arfer yw mam pob meistrolaeth Athro da yw amser A wrthodo gyngor rhad a bryn edifeirwch drud
B
ach hedyn pob mawredd Bach pob dyn a dybio ei hun yn fawr Bedd a wna bawb yn gydradd Benthyg dros amser byr yw popeth geir yn y byd hwn Blasus pob peth a gerir Blodau cyn Mai, gorau na bai Blwyddyn o eira, blwyddyn o lawndra Blys geneth yn ei llygaid, blys bachgen yn ei galon Bolaid ci a bery dridiau Bonheddig pob addfwyn Brawd mygu yw tagu Brawd yw celwyddog i leidr Brenhines pob camp, cyfiawnder Brenin pob llyffant ar ei domen ei hun Brenin y bwyd yw bara Bu weithiau heb haf; ni bu erioed heb wanwyn Bychan y tâl cyngor gwraig, ond gwae y gŵr nas cymero Bydd olaf i fyned drwy ddŵr dwfn Byr ei hun, hir ei hoedl Byr yw Chwefror, ond hir ei anghysuron Byw i arall yw byw yn iawn
PIGION O HEN RIFYNNAU Dros y blynyddoedd mae llawer o erthyglau difyr wedi eu cyhoeddi am bob agwedd o fro Ardudwy – isod mae hanesion (o’r 80au) gan y diweddar Enid Siopwen, Tal-y-bont. Gobeithio y bydd yr eitem ganlynol yn dod ag atgofion melys yn ôl i bobl Ardudwy sy’n ei chofio. . [Gol.] ‘Not entitled.’ Hydoedd yn ôl, cyn dyddiau Elwyn Hughes, pan oeddwn bron â drysu eisiau llyfr i ddarllen, fe biciais i draw i ben ffordd i gyfwrdd y fan llyfrau. Roedd ynddi lond lle o ryw bethau’n dewis eu Westerns, a’u Barbara Cartlands, a phan euthum a’m dewis at y ddesg, ‘Sorry’, meddai’r llipryn, ‘you’re not entitled, you’re not a ratepayer.’ Wyddwn i ddim p’run ai chwerthin ai chrio! Roedd fy iaith yn lasach nag arfer pan ddeuthum adref. Y fi, sy’n perthyn i un o’r clybiau mwyaf elite y gellid ymaelodi ynddo, yn un o’r bobl breiniol hynny a anwyd ac a fagwyd yn Nhal-y-bont. ‘Not entitled’, myn jagons! Mae mam yn adrodd hanes Guto Puw (Y Crosville) yn codi mewn cyfarfod gweddi adeg y Diwygiad ac yn dweud ‘O Arglwydd, cofia am hen fois Tal-y-bont. Amen.’ Dyna i chi weddi o’r galon, ynte, ac mi fedrai feddwl am Dduw’n eistedd i fyny yna, ac yn poeni na fuasai llawer o’i ddeiliaid hirwyntog yn mynd at lygad y ffynnon mor sydyn. Ia, cofia am hen fois Tal-y-bont, ond does dim angen poeni na gweddïo rhyw lawer drosom ni, gan ein bod wedi cael y blaen ar y rhan fwyaf ohonoch er ein cychwyn. Mae hen fois Tal-y-bont wedi gweld Johnny Williams yn plygu ei bengliniau wrth godi canu yn Beulah: mae hogia Taly-bont wedi clywed Thomas Edwards yn ein hudo wrth ddarllen penodau ddydd Diolchgarwch; rydan ni wedi bod yn nosbarth Ysgol Sul William Morris yn Egryn, a dyna chi brofiad heb ei ail; mae hogia Tal-y-bont wedi gweld ’nhad yn swyno pysgod o bob pwll o Bont Sgethin i geg yr afon; rydan ni wedi clywed crochan Benar Isa’n uchel ei chloch yn darogan tywydd mawr. Y ni welodd y direidi yn llygaid gleision William Jones Tyddynyfelin, a gwrando ar straeon lliwgar Griff tra’r eisteddai ar gamfa Roewen yn gweitiad am bobl B&B ers stalwm. Fe welsom ni ogoniant gwyrdd y dail o ben banc Tyddynyfelin a golchi ein llygaid yn ffynnon Ronw, a chwilio am nadrodd yn Uffern Gerrig. Fe gawson ni eistedd ar Ben dinas, ac ehedeg ar adenydd dychymyg ymhell bell i’r gorffennol. A does yr un Delia Smith all wneud cacen soda hafal i rai Mrs Williams Caerllwyn; rydw i’n eu blasu nhw rŵan.
Dwn i ddim ydach chi fel fi’n methu cysgu; yn oriau mân y bore, mae fy meddwl fel grisial, ac fe fyddai’n brysur yn rhestru enwau caeau Roewen, neu’r berthynas rhwng Tsar Nicholas a George V, neu pwy sgoriodd gôls Lloegr yn World Cup ‘66. Rhyw noson, fe ddechreuais feddwl yn sobr faint o fois Tal-y-bont go iawn sydd yna ohoni, hynny yw, faint o blant a anwyd yn y pentref cyn yr Ail Ryfel byd sy’n byw yma’r dyddiau yma, ac fe synnech cyn lleied sydd ohonoch! Mae yna amryw sydd â’u traed mewn dau wersyll fel fi; mae yna ugeiniau wedi mynd, petai ddim ond fy nghyfoedion i, Mair Sarnfaen, Elinor Caerllwyn, Mair Llecheiddior, Beti Henborth, Nansi Frongaled, a Janet a Mair Pontfadog, a dim ond un garfan fach ydy rheina. Pwy ydy’r gweddillion ffodus sydd wedi byw yn sŵn rhen Sgethin ar hyd eu hoes, neu wedi dwad yn ôl o bedwar ban byd? Rydw i’n bur saff fy mod wedi eu cyfri’n gywir, a chymer hi ddim llawer o bapur i’w nodi – Hughie Frongaled, y Capten yn y Wenallt, Elis Griffith a’r wraig, Beti Bellaport, mam, Bennet Henborth, Lelan Roewen, Pat yn y Pandy, Olwen, Williams Llecheiddior, Mari a William Tyddynyfelin, Mrs Pugh Caetani, Mrs Gaynor Payne, Nan a Mari a Joseph Caerelwan, Mrs Wilcox, a Glyn a Gwynfor Islawffordd. Fydd dim llawer o straen ar Dduw i gofio am cyn lleied, ond mi fuasai’n werth yr ymdrech Iddo, hen fois go lew ydyn nhw i gyd. Fel rydw i’n mynd yn hŷn, does dim rhyw lawer yn fy nghyffroi. Diogi ydy hynny, mae’n debyg, ond fyddai ddim yn teimlo’n gryf am ddim byd, yn ddillad, na bwyd, na rhaglen deledu, na Man Utd. Dydy tynged Cymru ddim yn poeni llawer arna’i , ond pan maen nhw’n chwarae Lloegr yn Twickers, a dydw i ddim yn sythu fy ysgwyddau wrth ddweud mai o Feirion rydw i’n hanu. Ond Duw a’n helpo, pan fyddai’n dwad rownd Trwyn Tonfanau ar y trên, a gweld coed pinwydd Tyddyn Goronwy’n dod i’r golwg, fe fyddai’n cael coblyn o job i lyncu fy mhoeri. Ugain munud arall, ac mi wela i rai o’r hen wynebau, yr ‘not entitled’ y cofiodd Guto Pugh amdanyn nhw!
Enid Siopwen
19
YR URDD
Cafwyd cryn gynnwrf yn Ysgol Ardudwy ar ddiwrnod olaf y tymor wrth i Candelas berfformio set o’u caneuon enwog o flaen disgyblion yr Ysgol. Dyna i chi gyfle gwirioneddol i weld prif grŵp y wlad ar y llwyfan yn lleol.
Daeth Lowri Lloyd yn ail gyda Lia John a Gethin Evans yn gydradd drydydd yng nghystadleuaeth CogUrdd i rai yn B7-9 ar lefel Rhanbarth yn ddiweddar.
Dwi’n siŵr nad oedd neb wedi meddwl i hyn ddigwydd ond gyda gweledigaeth y Pennaeth a chefnogaeth yr Adran Gymraeg, llwyddwyd i gael yr hogiau i lawr i Harlech. O’r dechrau, roedd y bobl ifanc yn ymateb i ganeuon fel ‘Anifail’, ‘Llwytha’r Gwn’ a ‘Brenin Calonnau’ ond roedd yr hyn ddigwyddodd pan glywyd ‘Rhedeg i Paris’ yn werth pob eiliad o fod yn yr Ysgol.
Chwaraeon Daeth Ysgol Talsarnau yn ail agos i Ysgol Bro Tryweryn wrth gystadlu yn erbyn sawl ysgol arall yng nghystadleuaeth pêl-droed 5-bob-ochr i ysgolion gyda llai na 50 o blant. Byddai ennill wedi sicrhau lle yn y Chwaraeon Cenedlaethol yn Aberystwyth ganol mis Mai. Diolch hefyd i Ysgol Llanbedr am gynrychioli’r ardal hon yn y gystadleuaeth bwysig yma. Athletau Cynhelir yr athletau cylch yn Ysgol Ardudwy ar ddydd Mercher, 15 Mai am 4.30yp. Pob lwc i bawb. Taith Trefnwyd taith i weld Cymru yn herio Trinidad a Tobago ar y Cae Ras yn Wrecsam yn ddiweddar. Cafwyd noson bleserus a buddugoliaeth i’r crysau coch ond ni ddaeth y gôl hyd yr eiliad olaf un o’r gêm. Diolch i‘r athrawon am wirfoddoli amser er mwyn i’r bobl ifanc gael cyfle i fynd.
Aeth y neuadd yn ‘boncyrs’ a’r cyd-ganu yn codi gwallt eich pen yn unionsyth. Dyna uchafbwynt ac un fydd yn aros yn y cof ac o flaen llygaid pawb oedd yn bresennol y prynhawn hwnnw yn Ysgol Ardudwy. Diolch i chi i gyd. CogUrdd Diolch am eich cefnogaeth Dylan Elis, Swyddog Datblygu Meirionnydd
Llongyfarchiadau i griw Ysgol Ardudwy am yr ymdrech yn y CogUrdd am eleni. Wedi cystadlu yn yr ysgol, roedd y gorau yn y Rhanbarth yn cael cyfle i fynychu’r gegin yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Dolgellau er mwyn sicrhau lle yn Eisteddfod yr Urdd. Diolch i Mrs Caryl Anwyl yn Ysgol Ardudwy am eu hannog i gystadlu.
Band Ieuenctid Gwynedd a Môn Band Ieuenctid Gwynedd a Môn sydd wedi ennill trwy wledydd Prydain. Llongyfarchiadau calonnog a da iawn i’r aelodau o Ysgol Ardudwy sy’n rhan ohono sef Llŷr Rayner a Morgan Evans o Benrhyndeudraeth a David Bisseker o Harlech. Daliwch ati.