Llais Ardudwy Mai 2022

Page 1

Llais Ardudwy £1

Codi £3350 at Tŷ Gobaith

Nofel newydd Haf Llewelyn Ga’ i fyw Adra?

Nofel ydy hon am yr argyfwng tai yng Nghymru sydd wedi’i gosod ddeugain mlynedd yn ôl, ond sydd yr un mor berthnasol heddiw ’ma. Cwpwl ifanc yw Dafydd a Llinos, ac maen nhw’n gobeithio cael symud i fyw i hen gartref Nain - Ty’n Drain. Dyna ddymuniad Dafydd a’i nain. Ond mae ewythr i Dafydd yn awyddus i werthu Ty’n Drain fel tŷ haf. Mae tensiynau’n codi, ac yng nghanol ymgyrch losgi Meibion Glyndŵr mae cyhuddiadau’n cael eu taflu, ac yn sydyn mae Dafydd mewn

Ddechrau mis Ebrill, llwyddodd Steven Evans, Cae Gwastad, Harlech, i ddringo tri chopa yn yr Alban, Lloegr a Chymru ac yn sgîl hynny godi £3350 at elusen Tŷ RoeddGobaith.yrher yn ymwneud â 3 chopa mwyaf gwledydd Prydain (Ben Nevis, Scafell a’r Wyddfa) - 13,200 troedfedd o ddringo a 450 milltir o feicio rhwng y tri. Dechreuodd ar yr her drwy ddringo Ben Nevis yn yr Alban, cyn beicio wedyn i Ardal y Llynnoedd i ddringo Scafell Pike ac yna feicio i Gymru i gwblhau’r daith enbyd ar gopa’r Wyddfa. Llwyddodd i wneud hyn heb gefnogaeth [ond roedd ganddo gerbyd brys/argyfwng oedd yn cael ei yrru gan ei dad, Gareth Evans]. Nid oedd yn defnyddio llety, dim gwely a brecwast/gwestai ac ati. Roedd yn cysgu mewn bag bivi, gan gario ei holl offer ar ei feic. Roedd yn anelu at gwblhau hyn i gyd mewn 5 diwrnod gan gwblhau ar gyfartaledd 90 milltir y dydd ar y beic. Dymuna Steven ddiolch i bawb am eu cefnogaeth a dymunwn ninnau ei longyfarch ar ei gamp enfawr a diolch iddo am ei ymdrech arwrol.

RHIF 520 - MAI 2022

Steven gyda rhai o’i gyfeillion ar ben Yr Wyddfa wedi iddo gwblhau’r daith.

Mae’rhelynt.stori wedi’i gosod yn 1981, cyfnod pan oedd prisiau tai yn codi a phobl ifanc ardaloedd gwledig Cymru yn methu prynu tai yn eu bröydd. Er bod deugain mlynedd wedi mynd heibio, mae themâu’r nofel yn parhau’n berthnasol i broblemau Cymru heddiw. Ddegawdau’n ddiweddarach, mae pobl ifanc yn dal i fethu fforddio prynu neu hyd yn oed rentu tai yn eu cymunedau. Mae’r broblem yn parhau, ac os rhywbeth yn mynd yn waeth, gyda thai yn cael eu prynu bellach mewn pentrefi a stadau tai, gyda’r bwriad o’u gosod fel tai gwyliau. Dyma gyfle hefyd i ddarllenydd gael cipolwg ar gyfnod cythryblus o hanes Cymru. “Nofel wedi ei gosod yng ngaeaf garw 1981 yw Ga’ i Fyw Adra?,” meddai Haf Llewelyn. “Roedd ymgyrch Meibion Glyndŵr yn achosi cryn gur pen i’r awdurdodau, ond mae’r nofel yn adrodd stori cwpwl ifanc sy’n methu fforddio prynu tŷ yn eu cymuned, a’r broblem sy’n codi oherwydd hynny. Mae’n nofel sy’n amlygu’r un broblem sy’n wynebu pobl yn eu cymunedau heddiw, ond efallai fod mwy o awydd erbyn hyn i sefydliadau fynd i’r afael â’r broblem - rydw i wir yn gobeithio fod hynny’n wir. “Mi wnes i fwynhau ysgrifennu’r nofel oherwydd roeddwn i’n cofio cynnwrf y cyfnod, gan fy mod i’n ferch ysgol yn Ardudwy ar ddechrau’r wythdegau. Roedd yn brofiad braf cael gwibio’n ôl i gyfnod Blondie a cheir Capri.”

Cyhoeddodd Haf Llewelyn nifer o lyfrau ar gyfer oedolion, pobl ifanc a phlant - gan gynnwys barddoniaeth, ffuglen a rhyddiaith ffeithiol. Enillodd y nofel wedi ei seilio ar hanes y bardd Hedd Wyn, Diffodd y Sêr wobr Tir Na n-Og yn 2014, a chafodd y nofel ei haddasu i’r Saesneg o dan y teitl ‘An Empty Chair’. Cyrhaeddodd cyfrol o farddoniaeth, Llwybrau, restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2010.

Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Un sy’n fodlon dweud ei farn yn blwmp ac yn blaen. Mae ffyddlondeb yn bwysig i mi yn ogystal â charedigrwydd a dderbyniais ar hyd fy oes. Pwy yw eich arwr? Y gofalwyr yn y gymuned ac hefyd y meddygon a’r nyrsus lleol ac mewn ysbytai. Mawr iawn yw fy nyled iddynt i gyd. Gwaith diflino a hynny o dan amodau anodd. Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon? Y ffrindiau ffyddlon sydd gennyf yn Ardudwy. Mae eu teyrngarwch wedi aros hefo fi ers yr holl flynyddoedd. Maen nhw’n gwybod pwy ydyn nhw! Edmygedd mawr o weithwyr gwirfoddol Llais Ardudwy. Dwi’n gwybod o brofiad pa mor anodd ydy cynnal y papur bro. Bûm yn sgwennu yn Llais Ogwan ers hanner canrif, a pharhau i wneud hynny o hyd er mod i’n byw ym Môn! Beth yw eich bai mwyaf? Siarad gormod yn lle gweithredu! Methu dweud ‘Na’. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Diwrnod braf a chael cerdded ar draeth Niwbwrch i Ynys Llanddwyn. Hoffi fy nghwmni fy hun ar adegau, ond gyda ffrindiau neu deulu yn gwmni hefyd! Beth fuasech chi’n ei wneud efo £5,000? Ei rannu gyda’r plant a’r wyrion, gan gadw rhan ohono i fynd i deithio yn Rhufain, Firenze (Florence) neu i Santiago de Compostela! Eich hoff liw a pham? Glas bob amser yn plesio. Lliw’r awyr ar ddiwrnod o haf a’r môr ym mhob tywydd, a chlychau’r gog. Eich hoff flodyn a pham? Grug y mynydd yn ei flodau. Amryw o rai amryliw yma yng ngardd Bodiwan. Eich hoff gerddor? Handel, Vivaldi ayyb. O David Lloyd i Super Furry Animals. O Elton John i gerdd dant! Pa dalent hoffech chi ei chael? Pitïo na wnes i gadw at fy ngwersi piano gyda Mrs Lloyd yn Treflyn, Llanbedr. Eich hoff ddywediadau? ‘Mae dy gofio’n hawdd, dy golli sy’n anodd.’ Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Yn addasu i fyw fy hun ers colli Glyn ym Medi 2022 wedi gwaeledd o ddeng mlynedd. Mor falch o gael y teulu yn byw yn agos ac yn llenwi fy amser.

HOLI HWN A’R

3. Haf Newyddion/erthyglauMeredydd i: 01766hmeredydd21@gmail.com780541,07483857716 LLALL

SWYDDOGION Cadeirydd Hefina Griffith 01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, ann.cath.lewis@gmail.comLlandanwg Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn y Llidiart, Llanbedr Gwynedd LL45 llaisardudwy@outlook.com2NA Côd Sortio: 40-37-13 Rhif y Cyfrif: 61074229 Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, iwan.mor.lewis@gmail.comLlandanwg CASGLWYR NEWYDDION YLLEOLBermo Grace Williams 01341 280788 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Mai Roberts 01341 242744 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Jennifer Greenwood 01341 241517 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Gosodir y rhifyn nesaf ar Mehefin 3 a bydd ar werth ar Mehefin 8. Newyddion i law Haf Meredydd erbyn Mai 30 os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw’r golygyddion o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei Dilynwchllafar.’ ni ar ‘Facebook’ @llaisardudwy GOLYGYDDION 1. Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 pmostert56@gmail.com780635

2 Enw: Gwenda Davies Gwaith: Athrawes wedi ymddeol. Cefndir: Cefais fy ngeni ym mhentref bach y Groes ger Dinbych, a symud yn bedair oed i Lanbedr. Ar ôl ysgol, ymlaen i Goleg y Drindod i hyfforddi fel athrawes, gyda phwyslais ar ddrama a Chymraeg. Swydd gynta yn ardal Rhoscolyn. Adre yn magu plant am 10 mlynedd gan gychwyn Ysgol Feithrin yn Nhregarth a Mynydd Llandygai. Athrawes yn Ysgol y Garnedd ym Mangor cyn ymddeol yn 2005. Byw yn Nhregarth am 43 o flynyddoedd ac rŵan yn Llanfairpwll ers 8 mlynedd. Cerdded llawer iawn o gwmpas Môn ac Arfon. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Darllen pob math o lyfrau, ond barddoniaeth a chofiannau ydy fy ffefryn. Wedi mwynhau llyfrau taith Jan Morris yn ddiweddar ac hefyd ail ddarllen nofelau Islwyn Ffowc Elis a Marian Eames. Llyfr Rhys Mwyn ‘Real Gwynedd’ ydy’r llyfr ar hyn o bryd! Hoff raglen ar y radio neu deledu? Rhaglenni amrywiol ar deledu o Cefn Gwlad i University Challenge. Radio Cymru yn gyfaill di-ail. Wedi bod yn gymaint o gysur i Glyn a minnau yn ystod y deng mlynedd diwethaf. Dim gwell na radio ymlaen, drwy’r dydd a’r nos yn tŷ ni! Ydych chi’n bwyta’n dda? Bwyta’n weddol iach! Trio fy ngorau glas i fwyta’n iach. Prydau llysieuol yn bennaf ond yn bwyta llawer o bysgod a chydig o gig. Hoff fwyd? Bwyd Eidalaidd ydy fy ffefryn. Hoff ddiod? Gormod o goffi, mae gen i ofn. Gwin gwyn oer, oer! Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Mae cael y tri phlentyn a’r pump ŵyr o gwmpas y bwrdd yn rhoi pleser mawr, ond nid mor aml ar hyn o bryd gan fod Ifan yr hynaf o’r wyrion yn y coleg yn Salford, yr efeilliaid 17 oed Myfi a Nel yn y chweched dosbarth a Choleg Menai, a’r ddwy fach Mali (7 oed) a Nanw (3 oed) hefyd yn yr ysgol ym Methesda. Lle sydd orau gennych? Adre ym Môn yn crwydro’r ynys. Traeth Mochras, Llandanwg a Chwm Nantcol a Chwm Bychan yn dal i fod ar frig y rhestr. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Blynyddoedd yn y garafan ger Ceinewydd pan oedd y plant yn iau. Bu Glyn a minnau a 4 ffrind yn Y Wladfa am fis yn 2005 yn syth ar ôl ymddeol. Cyfarfod â theulu agos yn Nyffryn Camwy ac yng Nghwm Hyfryd, yn yr Andes. Profiad bythgofiadwy. Beth sy’n eich gwylltio? Y rhyfel di-amcan a di-werth yn yr Iwcrain. Pam na all pobl ddod at ei gilydd? Sbwriel ar y strydoedd ac yng nghefn gwlad yn fy ngwylltio’n gacwn! Rhai gwleidyddion hefyd!

2. Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 anwen15cynos@gmail.com772960

3

Afraid yw nodi fod rhesi hir o geir y tu ôl i’r ddwy lorri. Pa mor hir sydd raid inni aros am well ffyrdd i’r fro hon?

FFYRDD ANNIGONOL

Rwyf yn cysylltu gyda chi i ddiolch am y pleser yr wyf wedi ei gael o ddarllen y ddau rifyn yma o Llais Ardudwy. Rwyf wedi bod yn Lloegr am ddeugain mlynedd erbyn hyn. Bûm yn byw gyda fy ngŵr yn Norfolk ers blwyddyn a hanner er mwyn bod yn agos at y mab a’i deulu. Rwyf wrth fy modd yma ond weithiau yn meddwl mor bell yr wyf o Gymru. Mae gwrando ar ‘Dros Frecwast’ bob bore yn Hwyrachgysur.gallwch ddeall fy syndod o ddarllen am fy nghartref yn blentyn yn yr erthygl am Llanfrothen. Fy nhaid oedd Thomas Richards y Wern, yr englynwr. Fy nhad oedd Hugh Richards (Hugh Wern), ei fab ac felly roeddwn i yn byw yn y Wern o pan oeddwn yn chwech oed hyd nes oeddwn yn ddeunaw oed. Yn ddiweddarach, fe brynodd fy nghefnder, Norman, Y Wern. Yna yn yr erthygl am Cornel Natur dyma enw Twm Elias yn dod i fyny - mae yntau yn un o deulu’r Wern - roedd ei fam yn ferch i Thomas Richards. Ac i gwblhau fy mhleser o ddarllen hyd at y dudalen olaf, dyma fi yn gweld llun fy ffrind agos, Margaret a’i gŵr Geraint. Mi brynodd Margaret Llais Ardudwy am flwyddyn i mi. Roedd rhaid i mi ddarllen yr erthygl am triathlon Harlech i ddeall pam oedd eu lluniau ar y dudalen - nhw oedd Brenin a Brenhines Castell MaddeuwchHarlech. i mi am gamgymeriadau yn yr e-bost yma. Nid wyf yn ysgrifennu llawer yn y Gymraeg. Hefyd mae fy MacBook yn ceisio newid y geiriau Cymraeg i rai DiolchSaesneg.i bawb sydd yn gysylltiedig â Llais Ardudwy oddi wrth Gymraes o Norfolk. Alice Joyner

Bu Llais Ardudwy yn gyson yn tynnu sylw at ffyrdd annigonol yn y fro hon. Tynnwyd y llun uchod rhwng Harlech a Llanfair ddiwedd mis Ebrill eleni.

AnnwylLLYTHYROlygydd,

4 LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Mae’r trafferthion traffig yn parhau yn y pentref a bu’n arbennig o brysur dros y Pasg. Mae amryw o’r pentrefwyr yn holi a ddylid enwi’r gornel lle mae’r ffordd yn troi am Mochras yn ‘Gornel Lee Walters’! Lee Walters ydi’r gweinidog yn Llywodraeth Cymru sydd yng ngofal trafnidiaeth. [Gol.] Er Cof Cyflwynwyd cloc i’r Neuadd Gymunedol er cof am Evie Morgan Jones, Cefn Uchaf gynt. Byddwn yn meddwl amdano bob amser y byddwn yn edrych ar y cloc. Dan anhwylder Anfonwn ein cofion at Miss Elizabeth Richards, Cartref a Mr Robert J Evans, Werncarnyddion - y ddau yn Ysbyty Gwynedd. Gobeithio eu bod yn gwella. Anfonwn hefyd ein cofion at Mrs Gwenfair Howie; bu hithau yn yr ysbyty am gyfnod. Bu Pip Wynne hefyd yn yr ysbyty yn Grimsby. Rydym yn meddwl amdani. Newyddion i Llais Ardudwy Gallwch anfon unrhyw newyddion at Jennifer Greenwood [01341 241517] neu Susanne Davies [01341 241523]. Gellir anfon lluniau at y golygyddion. DIWRNOD O HWYL YN LLANBEDR AR Y CAE PÊL DROED Dydd Sadwrn, Mai 21, 9.00 tan 3.00 9.00 - 11.00 Pêl-droed plant 11.00 Pêl-droed oedolion Stondinau amrywiol Côr Meibion Ardudwy Mae bylchau amlwg yn y Côr wedi iddyn nhw ailgychwyn ar eu hymarferion. Rhyw 25 sy’n mynychu ymarferion yn rheolaidd ond roedd 38 ar y llyfrau cyn y pandemig. Mae cyngherddau ar y gweill yn Llanbedr, Dyffryn Ardudwy a Phorthmadog, ynghyd â thaith i Huchenfeld yn yr Almaen wedi ei addo yn hydref 2023. Mae’n amser delfrydol i wahodd aelodau newydd i’n plith. Os ydych yn medru canu, cofiwch y buasem yn falch o ’ ch gweld yn y Ganolfan yn Llanbedr ar nos Sul am 7.30. R J TalsarnauWILLIAMS01766770286TRYCIAUIZUZU

5 Mae ôl-rifynnau i’w gweld ar y cymru/papurau-bro/neullaisardudwy/docshttp://issuu.com/we.https://bro.360. Llais Ardudwy SAMARIAIDLLINELLGYMRAEG08081640123 CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant PORTHMADOG PWLLHELI ABERMAW 01766 512214/512253 01758 612362 01341 280317 60 Stryd Fawr Adeiladau Madoc Stryd Fawr office@bg-law.co.uk Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd … Cysylltwch â Dioni i siarad am eich bwthyn gwyliau Gwion Llwyd 01341 247200 gwion@dioni.co.uk BUSNES LLEOL ... CWSMERIAID BYDEANG Pryd mae Llais Ardudwy yn mynd i’w wely? Caiff y papur ei argraffu ar y dydd Llun cyntaf o bob mis, os nad yw’n Ŵyl y Banc. Gan hynny, byddwn yn ceisio ei gael i’w wely erbyn y nos Wener cyn hynny. Mae’n dilyn fod angen eich newyddion a’ch erthyglau rhyw wythnos cyn y dyddiad cysodi. Diolch am bob cydweithrediad. Cysodi erbyn Argraffu Mehefin Mehefin 3 Mehefin 6 Gorffennaf Gorff 1 Gorff 4 Awst dim papur Medi Medi 2 Medi 5 Hydref Medi 30 Hydref 3 Tachwedd Tachwedd 4 Tachwedd 7 Rhagfyr Rhagfyr 2 Rhagfyr 5

UNRHYW FATER ARALL Datganwyd pryder bod yr Asiant, Tom Parry, oedd yn gwerthu Capel Bethel, wedi datgan yn y disgrifiad bod lle parcio am ddim y drws nesa i’r Capel. Cytunwyd bod y Clerc yn cysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglŷn â hyn oherwydd bod y maes parcio hwn o dan eu perchnogaeth, a gofyn iddynt gysylltu gyda’r Asiant yn gofyn iddynt dynnu’r cymal hwn o’r disgrifiad.

CyngorGOHEBIAETHGwynedd – Adran Briffyrdd Cafwyd adroddiad manwl gan Mr Gwyn Evans, y Swyddog Llwybrau, ynglŷn â llwybrau cyhoeddus. Hefyd, roedd Mr Evans yn datgan bod perchennog Penrallt wedi cytuno gydag ef i gadw’r giât yn agored am y tro gan nad oedd stoc yn y cae, ac fe fyddant yn gweithio gyda perchennog Penrallt i sicrhau fod giât newydd yn cael ei gosod yno neu bod yr un bresennol yn cael ei hatgyweirio.

Mae angen tynnu sylw Swyddog Llwybrau Cyngor Gwynedd i adrodd bod angen sylw ar y llwybr cyhoeddus sy’n mynd o uwchben chwarel Cae Cethin tuag at Penrallt oherwydd ei fod yn wlyb mewn un man. Hefyd, cytunodd Robert Glynne Owen i’r Swyddog Llwybrau gysylltu ag ef am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r mater.

Genedigaeth Llongyfarchiadau cynnes i Liz [Hengaeau] a Gavin, Tŷ Gwyn, Llanfair, ar enedigaeth hogyn bach ar Ebrill 16. Mae Helen, Edward, Glyn a Julie, y teidiau a’r neiniau, wrth eu bodd gyda’r ŵyr newydd. Merched y Wawr Harlech a Llanfair Wedi ymdrin â materion yn ymwneud â’r mudiad aeth Eirlys ati i gyflwyno’r gŵr gwadd, sef Phil Mostert a ddaeth i lenwi bwlch oherwydd bod siaradwraig wedi dioddef o’r Covid-19. Aeth a ni o gwmpas Sir Fôn – ei sir enedigol. Cawsom hanesion difyr am amryw o bentrefi, ynghyd â’u henwogion ac ambell i ddarn o farddoniaeth oedd â chysylltiad â’r ynys. Roedd yn noson ddifyr ac roedd pawb wedi mwynhau. Bronwen dalodd y diolchiadau. Liz oedd yn gofalu am y baned a hithau enillodd y Cynhaliwydraffl.yr

6 LLANFAIR A LLANDANWGCYNGORCYMUNED LLANFAIR Dewch i roi cynnig ar yrru’r Yaris Cross TOYOTAnewydd!HARLECHFforddNewyddHarlechLL462PS01766780432www.harlech.toyota.co.ukinfo@harlechtoyota.co.uk Dewch i roi cynnig ar yrru’r Yaris Cross TOYOTAnewydd!HARLECHFforddNewyddHarlechLL462PS01766780432www.harlech.toyota.co.ukinfo@harlechtoyota.co.ukFacebook.com/harlechtoyotaTwitter@harlech_toyota MATERION YN CODI Torri Gwair Mae Mr Roy Carter wedi cytuno i wneud y gwaith o dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yn yr ardal. Anfonwyd at bob aelod yn gofyn a oeddynt yn hapus gyda’r pris ac roedd y mwyafrif wedi ei dderbyn; hefyd yr oedd wedi anfon rhestr o’r llwybrau ynghyd â map iddo. ADRODDIAD Y TRYSORYDD Ceisiadau am gymorth ariannol Hamdden Harlech ac Ardudwy - £4,282.19 – hanner y cynllun presept. Aethpwyd drwy’r cyfrifon yn ofalus ac fe’u cymeradwywyd yn unfrydol gan yr aelodau. Cytunodd pawb bod y llyfr cyfrifon yn cael ei arwyddo gan y Cadeirydd a’r Clerc. Mae’r Trysorydd wedi cael ffurflen i’w llenwi er mwyn cael defnyddio’r gwasanaeth bancio ar-lein. Rhoddwyd caniatâd i’r Clerc/Trysorydd, Robert Glynne Owen a David John Roberts arwyddo’r ffurflen hon, hefyd er mwyn sefydlu taliadau BACS, a chytunwyd gosod uchafswm o wariant sef £5,000.

Ŵyl Rhanbarth yn Neuadd Rhydymain ar nos Fercher, 27 Ebrill. Croesawyd yr aelodau gan Olwen Jones, Dinas Mawddwy. Mynychodd pedwar aelod o’r gangen yr Ŵyl. Mwynhawyd bwffe blasus wedi ei baratoi gan ‘Arlwyo Nia’ ac adloniant amrywiol llawn hwyl yng ngofal ‘Llond car ac un yn y bŵt’. Bethan Williams, Dolgellau dalodd y diolchiadau. Diolch i Eirian Jones, Dinas Mawddwy a Bethan Edwards am y gwaith trefnu. Golff Llongyfarchiadau i Ann Lewis, Min-y-môr, Llandanwg ar ennill Pencampwriaeth Golff Sirol Gwynedd a Môn am y nawfed tro yn olynol yng Nghaergybi yn ddiweddar.

Hugh a Gwen (Thomas) Evans, yn briod â Jane Jones (g Gorffennaf 8, 1815), yn Penystymllun, Cricieth – m 2 Ionawr 1875, yn Llanfihangel-y-traethau), ac yn dad i chwech o blant, tri o feibion, a thair o ferched. Bu y rhan fwyaf o’r plant yn byw yn Llenyrch, Llandecwyn, cyn symud i Gefn Trefor Fawr. Arhosodd y plant i gyd yn yr ardal neu rhyw ran arall o Feirionnydd, oddi eithr y plentyn hynaf, John William Evans, a anwyd yng Nghricieth, 3 Chwefror 1840. Morwr oedd John ers pan oedd yn bymtheg oed. Dechreuodd ar ei yrfa 18 Mai 1855, yn hwylio ar y llong Gwen Jones, o borthladd Caernarfon. Enillodd dair tystysgrif morwrol cyn cael un yn gapten ar 27 Ionawr 1868, yn Lerpwl. 27 Ionawr 1876, yr oedd yn hwylio ar fwrdd y llong Parmenio o Shinagawa, Siapan, am San Ffransisco, gyda llwyth o reis, pan olchwyd ef dros y bwrdd a boddi. Yr oedd yn 36 mlwydd oed, ac yn Unddi-briod.arallofeibion

7 Yr oedd Edward Evans (1818-1881), un o feibion

HEN LUN O

Edward a Jane (Jones) Evans, Cefn Trefor Fawr, oedd William Evans (g 2 Mawrth 1848, yn Llanfihangel-y-traethau – m 20 Medi 15, yn y Bala). 27 Tachwedd 1876, yn 28 mlwydd oed, priododd â Mary Jones (1850-1903), a anwyd yn Llannerch y Moch, Manod, Blaenau Ffestiniog, yn ferch i Owen (1808-1864), o Lan Ffestiniog, a Margaret Jones (1816-1893) o Feddgelert. Graddiodd un o feibion William a Mary Evans, sef Edward Evans (1877-1918) yn feddyg anifeiliaid yng Ngholeg Caeredin. Hysbyseb Meillionen, Beddgelert. Hydref 1877. Bu Mary Evans yn berchennog Gwesty’r Bull, Y Bala, o 1878 i 1897, a’i gŵr am ran o’r cyfnod. Bu Mary yn gofalu am Gwesty Mona, Llanbeblig, Caernarfon o 1897 i 1902.

HARLECHLlun:Facebook

Rydan ni’n croesawu hen luniau diddorol i’w cyhoeddi. Maen nhw’n llawer mwy difyr, wrth gwrs, pan fo’r bobl sydd yn y lluniau yn dal yn fyw! Cofiwch chwilio drwy eich trysorau er mwyn dethol beth dybiwch chi fydd yn ddiddorol i’n darllenwyr. Diolch am bob cymorth. [Gol.]

Rhai o dylwyth Edward a Margaret Evans, Llandecwyn - RHAN 2

Hysbyseb Bull Hotel, Y Bala

Claddwyd Mary Evans ym Mynwent Eglwys Sant Michael, Llan Ffestiniog. Rhoddwyd gweddillion ei mab, Edward Evans, oedd yn gapten yn y fyddin yn y Rhyfel Byd Cyntaf, i orffwys yn yr un bedd â hi. Carreg fedd Mary a Cpt Edward Evans ym Mynwent Eglwys Sant Mihangel, Llan Ffestiniog. Hydref 11, 1877 Rhagfyr 20, 1879

CYNGORTHAL-Y-BONTDYFFRYNCYMUNEDA

Dosbarth Ysgol Sul yn Horeb Rhes gefn o’r chwith i’r dde: Mrs Morris, Pentre Canol, Ann Griffiths, Bryn Meirion, Tŷ Cornel (chwaer Robert Morris, Pentre Canol), ? Rhes flaen: ?, Mrs Williams, Caerffynnon, Mrs Winnie Jones (mam Mrs Gwenfron Wynne), a’r Parch John Williams.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Ysgol Sul Horeb - mwy o enwau

a Gwyneth. Cofion Anfonwn ein cofion a’n dymuniadau gorau at Mr Robert John Evans, Werncynyddion, sydd yn Ysbyty Gwynedd. Pen-blwydd Llongyfarchiadau i Craig Jones oedd yn dathlu pen-blwydd arbennig ar 18 Ebrill. Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb MAI 8 - Aled Lewis Evans, 10,00 15 - Buddug Medi, 10.00 22 – Parch Eirian Wyn, 10.00 29 – Parch Bryn Williams, 5.30 MEHEFIN 5 – Parch Dorothi Evans, 5.30 Hen luniau Rydym yn croesawu hen luniau [o ansawdd da] i’w cyhoeddi yn Llais Ardudwy. Anfonwch nhw at Gwennie Roberts [01341 247408] neu Mai Roberts [01341 242744] os gwelwch yn dda. Diolch am bob cefnogaeth.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD Ceisiadau am gymorth ariannol Hamdden Harlech ac Ardudwy£5,531.85 – hanner y cynllun presept. Rhannodd y Trysorydd gopïau o gyfrifon y Cyngor yn diweddu 31ain o Fawrth 2022 i bob aelod. Aethpwyd drwy’r cyfrifon yn ofalus ag fe’u cymeradwywyd yn unfrydol gan yr aelodau. Cytunodd pawb bod y llyfr cyfrifon yn cael ei arwyddo gan y Cadeirydd a’r Clerc. Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad at Emlyn, Anthia a’r teulu, Drws y Nant, yn eu profedigaeth o golli chwaer Hefyd,Emlyn. anfonwn ein cydymdeimlad at Mai, Rhian ac Iona a’u teuluoedd yn eu profedigaeth o golli eu hewythr, Mr Huw Roberts, Ardudwy, Corwen, ond Gwelfor, Dyffryn gynt, yr olaf o’r teulu, brawd May, Beti, Dilys

Adeiladu gweithdy/stiwdio ar wahân - Tal Afon, Tal-y-bont. Dim sylwadau ar y cais hwn. Codi estyniad deulawr ar yr ochrTal Afon, Tal-y-bont. Dim sylwadau ar y cais hwn.

DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT 8

Ysgrif gan y diweddar Wil Ifor Jones, y naturiaethwr (o Dyffryn gynt) o’i lyfr ‘Cacwn yn y Ffa’, Llyfrau Llafar Gwlad (rhif 58), Gwasg Carreg Gwalch, Gorffennaf 2004. Diolch i deulu Wil a’r wasg am eu caniatâd i gyhoeddi ei erthyglau yn Llais Ardudwy. Côt o blu du a gwyn clir ymysg brigau’r coed – y gwybedog brith! Gelltydd derw ein cymoedd a’n dyffrynnoedd yw cynefin yr aderyn yma pan fo’n ymweld â ni dros y tymor nythu. Bydd yn cyrraedd yma tua diwedd mis Ebrill wedi taith hir o rannau gorllewinol canolbarth Affrica lle mae’n treulio’r gaeaf. Pan fo pelydrau’r haul yn cael eu chwalu gan ddail a changhennau i daflu clytwaith mân o olau a chysgodion, mae’r du a’r gwyn yn guddliw ardderchog ymysg brigau’r coed lle mae’r aderyn bychan yma yn treulio’r rhan fwyaf o’i amser. Ei gân betrus ond erfyniol rydd syniad o’r leoliad fel arfer. Nid oes brinder o dyllau cainc a cheubrennau yn ein coedwigoedd derw hynafol lle bydd y gwybedog yn adeiladu ei nyth o hen ddail crin a mân weiriach ac y bydd yr iâr, llawer mwy di-nod ei lliw, yn dodwy o bump i wyth o wyau glas I’rgolau.gwybedog, twll gwag tywyll yw blwch nythu hefyd pan fo hwn wedi ei osod yn y cynefin addas, a hawdd yw ei ddenu i nythu ynddo. Y parodrwydd yma i ddefnyddio blwch nythu sydd wedi ei wneud yn destun hwylus i adarwyr i’w astudio ac eisoes casglwyd cryn dipyn o wybodaeth am ei arferion. Fel arfer bydd wyau’r gwybedog yn deor pan fydd y boblogaeth o lindys gwyfynod yn ei anterth yn y goedwig ac wedi rhyw bythefnos o wledda ar y llawnder yma bydd y cywion yn barod i hedfan. Modrwyir llawer o gywion y gwybedog brith cyn iddyn nhw adael y blwch nythu ac oherwydd y drefn sy’n hel gwybodaeth am unrhyw fodrwy a ddaw i’r fei, mae llawer o wybodaeth ar gael am symudiadau’r aderyn. Yn wahanol i lawer o adar sy’n treulio’r haf ar ei hyd yma bydd y gwybedog yn diflannu’n ddisymwth wedi gorffen nythu. Eisoes, deallir fod y gwybedog brith yn croesi anialwch y Sahara y gwanwyn a’r hydref ac yn treulio’r gaeaf yng ngorllewin canolbarth Affrica. Mae ymdrechion yr aderyn i symud o ardaloedd trofannol Affrica i’r gelltydd coediog yng Nghymru yn anodd i’w ddeall, ond mae’r drefn sy’n cael ei hufuddhau gan genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth yn amlwg yn gweithio, a’r gwybedog yn ffynnu yng nghoedlannau Ardudwy.

CORNEL NATUR

“Rhoswch-chi,” medda-Wil, “faint su i chi fellu o-newid?” “Saith swllt yntê,” medda-r hogan. “O ia”, medda-Wil, “dna-un, dau, a dau, dna bedwar, hanar-coron, chwech a chwech.” “Gida ranu,” medda-r Hogan, “mi-rô i hanar Wuddacoron.Wilar-yddyuar beth i-nyud wedyn a-dma-fo-n rhoi swllt wedyn iddi-hi, a swllt wedun a-chwech wedyn, ag-edrach ar-yr-hogan i-weld pa-brud oudd isho iddo-fo stopio a’rhogan yn-methu-yng glir a-gwybod beth odd-o-n nyud. “Sudan-ni-n sefull rŵan?” medda “Wel,Wil. tydach-chi wedi rhoi gormod i-mi o hanar coron rŵan,” medda “Tybad?”hitha. medda Wil, “wel rhoswchchi ta,” medda Wil, “mi rô-i-r sofran a’r-chwyigian yn-ôl i chi a-dywch i-mi-r arian gwynion-na—middechrywn ni eto ôr dechra.” Dma-Wil yn-ystun yr-aur yn-ôl ir hogan, ag-yng-cymud yr-arian gwinion. “Wel, rŵan-ta,” medda Wil, “rhoswch-chi,” medda-r Hogan, “rhowch chi newid y-chwyigian-ma i “Ferimi.” wel,” medda Wil, “dna-swllt a dau bisin dyuswllt, dna-goron a dau hanar coron dna-chwyigian.” “Wel rŵan ta,” medda-r forwun, “dma-bunt a swllt, dna-gini dros y-mistar, dma hanar coron drosta “Dynaina.” hi or-diwadd, chwyliai buth,” medda Wil, “yntê Jon?” “Ia,” medda fina, tan chwerthin. “Ia dyna-hi ryit shŵr, tangciw mawr,” medda Wil a-ffwr a-ni. “Wel, dma lidiart Pem-brun / dach’chi am y-ngadal i-rŵan yn-tydach, Tomos Wilam? Pnawn da, Tomos Wiliam.” “Pnawn da Jon, a chofia fi atun-w.’ Codwyd o ‘Llen a Llafar Môn [1963] sy’n nodi fod yr erthygl wreiddiol wedi ei chodi o Cymru Fydd, ii (1889), 438-40

Gan Syr John Morris Jones [1864-1929] – wedi ei ysgrifennu yn ôl rheolau Cymdeithas Llafar Gwlad. “Ia-un-dda iawn di-hona, un-doniol oudd-Wil hefud, yntê. Dyna-r cywnshwr sala welish i riôud, toudd-o ddim tebig i Twm. Mi-eish-i hefo-fo i-hel at y-genhadauth ilynadd a-dma-ni at dŷ Mistar Wilias y-Cwm a-dma-r forwun ir drws ag-ar ôl i-ni ddyud yn-negas dma-hi i’r tŷ a-dwad yn-i-hôl a sofran a chwyigian felan “Ma-Mistaryn-i-llaw. yn-rhoi gini medda-h ag mi-dwina-n rhoi dyuswlit.”

9

Y gwybedog brith - ymwelydd dros y tymor nythu

IAITH SIR FÔN

TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN 10 *MELIN LIFIO SYMUDOL Llifio coed i’ch gofynion chi Cladin, planciau, pyst a thrawstiau *GWAITH ADEILADU AC ADNEWYDDU *SAER COED Ffoniwch neu edrychwch ar ein gwefan *COED TÂN MEDDAL WEDI EU SYCHU Netiau bach, bagiau mawr a llwythi ar gael Geraint Williams, Gwrach Ynys, Talsarnau 01766 780742 / 07769 713014 www.gwyneddmobilemilling.com Gwŷr Harlech Bu Mr Gwion Owens, pennaeth-mewn-gofal Ysgol Talsarnau a Carwyn Jones (Y Waun, Harlech) yn cystadlu fel pâr mewn cystadleuaeth ffitrwydd yn Derby dros benwythnos y Pasg. Roedd rhaid iddyn nhw gyflawni 4 camp wahanol oedd yn profi eu cryfder, cyflymder, stamina a’u sgiliau gymnasteg. Roedd sawl pâr arall ledled gwledydd Prydain yn y gystadleuaeth a daeth Gwion a Carwyn yn ail. Cwmni dillad Be Defiant oedd yn trefnu’r gystadleuaeth gyda’r elw yn mynd tuag at elusennau iechyd meddwl. Bu Gwion a Carwyn yn hyfforddi gyda’i gilydd yn Iard 6, Porthmadog, ers y Nadolig er mwyn paratoi ar gyfer y gystadleuaeth. Neuadd GwahoddirNosCYHOEDDUSBLYNYDDOLCYFARFODTalsarnauGymunedolLun,23Mai,2022am7.30o’rglochaelodauo’rgymunedi’rCyfarfodCyhoeddusermwynrhoicyfleibawbddangoseudiddordeba’ucefnogaethiweithgareddau’rNeuadd.Croesocynnesibawb.

Cystadleuaeth Ffitrwydd Ennill yng Nghaerdydd Bu Guto Anwyl, sy’n ddisgybl yn Ysgol Talsarnau, yn cynrychioli tîm pêl-droed dan 11 oed ysgolion Gwynedd ym mhencampwriaeth Cymru yng Nghaerdydd ddiwedd mis Ebrill. Ar ôl ennill gemau yn erbyn ysgolion Caerffili 7-4, ac Abertawe 3-2, aethon nhw drwodd i’r rownd derfynol a churo Afan/ Nedd o 6-2. Roedd Guto wrth ei fodd o wybod ei fod yn aelod o dîm Gwynedd - pencampwyr Cymru.

gweddill y materion am y tro ac aethpwyd ymlaen i groesawu Mari Lloyd o Gwm Nantcol, a oedd wedi dod atom i sôn am ei gwaith fel ffotograffydd. Trwy gymorth taflunydd a sgrîn, cyflwynodd sgwrs mewn modd hamddenol a chartrefol braf, gan ddechrau drwy sôn am sut y daeth i wneud y gwaith, ei diddordeb mawr mewn celf a gwaith creadigol, ac wedi graddio mewn celf yng Ngholeg Caer, ei gobaith oedd dod yn ôl i Gymru i weithio, ac yn arbennig i’w chynefin yng Nghwm Nantcol. Erbyn hyn mae wedi llwyddo fel ffotograffydd adnabyddus gyda diddordeb arbennig ym myd ffermio, yn tynnu lluniau godidog o olygfeydd, ac yn hoff o dynnu lluniau o blant bach. Mae modd ymweld ag hen Ysgol Nantcol lle mae’n arddangos ei gwaith. Roedd ganddi bersonoliaeth annwyl ac roedd yn bleser gwrando ar ei sgwrs a diolchwyd i Mari, ar ein rhan, gan Haf a fynegodd ei gwerthfawrogiad o’i dawn a’i Ymdriniwydbrwdfrydedd.â rhai materion Rhanbarthol a Chenedlaethol, gan nodi dyddiadau achlysuron arbennig. Hysbyswyd pawb o’r Arddangosfa Luniau o’r ardal a’i phobl yn y Neuadd Gymuned i ddathlu ugain mlynedd o’i bodolaeth ar 29 a 30 Ebrill. Paratowyd y baned gan Anwen a Mai, gyda chymorth Margaret, ac ymunodd Mari gyda’r aelodau am sgwrs bellach. Roedd tair raffl i’w hennill a’r enillwyr oedd Margaret, Anwen ac Eluned. Atgoffwyd pawb y bydd ein cyfarfod nesaf ar 9 Mai ac y bydd yn Gyfarfod Blynyddol. Gwellhad Estynnir dymuniadau gorau am wellhad buan i Eirwen Roberts, Maes Trefor, Talsarnau sydd yn Ysbyty Gwynedd ar hyn o bryd yn dilyn anffawd yn ei chartref. Anfonir ein cofion ati. EBRILLNewydd 3, 10 ac 17 - Dewi Tudur 24 - Gruffudd Davies MAI 1 - Dewi Tudur 8 - Rhodri Glyn Mae’r oedfaon yma ar nos Sul am 6.00 ac mae croeso i bawb. Nid oes raid gwisgo mwgwd bellach. Ewch i’n safle we: capelnewydd. org am fwy o wybodaeth. Teisen foron 12 owns o flawd codi 13 1/2 owns o siwgr mân 3/4 llwy fwrdd o sinamon 3 ŵy 9 owns o olew llysieuol 1/2 pwys o foron wedi eu gratio (3 o faint canolig) 6 owns o gnau Ffrengig 6 owns o saws afal 1/2 llwy de o bowdwr codi hufen menyn 8 owns o siwgr eisin 4 owns o fenyn. Dull Rhowch y blawd codi, siwgr a’r sinamon mewn dysgl, Ychwaneg wch y moron wedi eu gratio a’r cnau Ffrengig wedi ei malu yn fân at y gymysgedd. Cymysgwch, yna ychwanegwch yr wyau a’r olew (wedi ei gymysgu) a chymysgwch i gyd efo’i gilydd, yna yn olaf ychwanegu’r saws Leiniwchafal. dun slab 12 x 9 a rhowch y gymysgedd yn y tun. Coginiwch am tua 3/4 awr i awr; gwres Gadewch160oc.yn y tun i oeri. Gwnewch yr hufen menyn gan gymysgu’r menyn (wedi ei doddi) a’r siwgr eisin. Troiwch y gacen allan o’r tun a thae nwch yr hufen menyn drosti a chnau Ffrengig ar y top. Mae’r gacen yma yn llaith (moist), ac yn neis i’w bwyta heb yr hufen os Mwynhewch!dymunwch. Rhian Mair, Tyddyn Gwynt gynt. Hen lun o’r pentref

Anfonwyd cofion at aelodau eraill – Gwenda Paul sydd yn Ysbyty Alltwen ers tro ac yn dioddef anhwylder garw; Bet Roberts gyda gofal neilltuol o’i gŵr; Ann Jones wedi cael triniaeth i’w llygad heddiw, a Frances Griffith yn mynd am driniaeth i’w llygad ar 11 Ebrill. Yn olaf cydymdeimlwyd â Meira Roberts wedi colli ei chwaer yng nghyfraith yn ne GadawydCymru.

Capel

GEGINYGEFN

11

Merched y Wawr Croesawodd y Llywydd, Siriol Lewis, bawb i’r cyfarfod nos Lun, 4 Ebrill gan ddechrau drwy adrodd ar ein colled fel Cangen ym marwolaeth ein haelod hynaf, Dawn Owen yn 90 oed. Bu Dawn yn aelod ffyddlon o’r gangen am flynyddoedd lawer ac roedd bob amser yn barod ei chymwynas. Estynnwyd cydymdeimlad â Margaret Roberts, ei chwaer yng nghyfraith, a’r teulu.

12 Dyma’r atebion ddaeth i law: Angharad Morris, Y Waun, Wrecsam; Janet Mostert, Harlech; Mair Rich, Yr Wyddgrug; Bethan Ifan, Llanbadarn Fawr; Dilys A Prichard-Jones, Abererch; Rhian Mair Jones, Betws yn Rhos; Mary Jones, Dolgellau; Dotwen Jones, Cilgwri Wirral; Gwenda [ManylionPosAnfonwchLlanfairpwllgwyngyll.Davies,eichatebioni’rGeiriauatPhilMostert.ardudalen2].1-23 - R 4 - 5 - 6 - 7 - 8 - 910 - 11- O 12 - 13 - 14 - 15 - 16 - 17 - 1819 - S 20 - 21- 22 - 23 - 24 - 25 - 26 - 27 - 28 - Ph 17 19 7 11 14 21 21 7 21 4 20 17 17 27 25 3 11 19 22 15 17 14 7 25 23 3 3 25 12 11 19 17 14 13 11 13 23 3 R 11 O 19 S 11 5 25 14 26 20 26 27 8 26 11 16 21 11 24 5 20 25 2 14 25 4 25 4 26 13 15 1 3 15 17 10 5 11 14 8 15 2 3 13 17 17 2 17 5 19 11 19 2 3 26 17 19 23 11 3 26 23 2 14 9 18 25 15 3 4 3 25 16 6 25 4 11 3 26 17 12 13 12 3 13 19 2 3 18 12 19 POS GEIRIAU 14 A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y Tybed faint ohonoch wnaeth ddatrys pos Mai Jones? Gobeithio fod y llythrennau a roddwyd fel cliwiau wedi bod o help! ATEBION POS GEIRIAU 2 Mai Jones Cerddi am fis Mai MAI Gwn ei ddyfod, fis y mêl, Gyda’i firi yn yr helyg, Gyda’i flodau fel y barrugGwyn fy myd bob tro y dêl. Eis yn fore tua’r waen, Er mwyn gweld y gwlith ar wasgar, Ond yr oedd y gwersyll cynnar Wedi codi o fy mlaen. Eistedd wnes tan brennau’r Glog, Ar ddyfodiad y deheuwynt; Eden glas ddisgynnodd arnynt Gan barablu enw’r gog. Ni rois gam ar lawr y wig Heb fod clychau’r haf o tano, Fel diferion o ryw lasfro Wedi disgyn rhwng y brig. Gwn ei ddyfod, fis y mêl, Gyda’i firi, gyda’i flodau, Gyda dydd fy ngeni innau, Gwyn fy myd bob tro y dêl. Eliseus Williams (Eifion Wyn) MIS1867-1926MAI Mai inni wyt ddymunol – dy laswellt A dy lysiau swynol; Bron a dweud mai bryn a dôl, Na fu Eden fwy hudol. ConwyGyndelyn,

MIS MAI O fisoedd y flwyddyn, Y mwynaf yw Mai; Goreura y dyffryn A’r bryndir yn chwai. Ceir natur ei gorau Mewn mantell werdd, dlos; A thryfrith gan flodau,Meill, briaill, a rhos… Y defaid a borant Mewn llonder ar fryn,A’r gwartheg mewn mwyniant Hyd lanau y llyn. E B LlanbedrMorris,Pont Steffan

GWNEUD PWLL I FYWYD GWYLLT

â thocio gwrychoedd anffurfiol gan eu bod yn cynnig bwyd a lloches i fywyd gwyllt. Daliwch ati i lenwi’ch bwydwyr adar ond rhowch y gorau iddi am chwech wythnos os welwch chi adar sâl. Torrwch lwybr drwy leiniau o wellt hir a thynnwch unrhyw chwyn o leiniau lle byddwch wedi plannu blodau unflwydd neu gymysgedd o flodau Gadewchunflwydd.iraio’ch planhigion hadu. ADAR Erbyn yr adeg hon o’r flwyddyn, mae adar ymfudol fel y wennol a’r wennol ddu wedi cyrraedd o Affrica. Codwch yn gynnar un bore er mwyn gwrando ar gôr y wawr, wrth i adar gystadlu am diriogaeth a chymar.

Rhagor o gerddi am fis HARDDWCHMaiYDDÔLYMMISMAI Er chwythu o Chwefror a Mawrth yn ein herbyn, A’r eira can oered yn syrthio mor sydyn ! Nes cuddio holl harddwch y bryniau a’r bröydd, A chuddio gogoniant celfyddyd y Dawtrefydd.Mai mewn prydferthwch a’r ddôl yn feillionog, Y gog glywn yn canu, bydd pawb yn Canfyddirgalonnog; y coedydd yn gwisgo’u Acgwyrddlesni,anianawelir yn llon adlewyrchu…. G B DaviesCAWODYstradgynlaisMAI Yn ysgafn gyda’r awel Daeth cawod Mai i lawr,

GwennolGwennolddu

Heb dwrf fel cysgod angel Yn gloywi gwên y wawr. Mae anian yn llawn ynni Yn drachtio’r dafnau chwai, Un dyner fel goleuni Yw maethlawn gawod Mai. Mae’nEdnantdebyg mai un o englynion mwyaf cofiadwy y diweddar Ieuan Jones, Talsarnau ac wedyn Dyffryn Ardudwy ydy’r englyn canlynolMAI Hen fuwch y borfa uchel - heb aerwy A bawr heddiw’n dawel, A dail Mai fel diliau mel Wedi rhoswellt y rhesel. J Ieuan Jones Os ydych yn sgwennu barddoniaeth, gallwch anfon eich cerddi atom. Byddwn yn falch iawn o’u cyhoeddi. [Gol.]

Mae twr o gerrig, brics, boncyffion neu ddarn gwastad o bren gyda haen o weiren ieir yn gweithio’n dda fel bod coesau bach yn gallu cael gafael da Llenwcharno. y pwll gyda dŵr glaw. Gollyngwch gynhwysydd i’r pwll sy’n cynnwys cymysgedd o blanhigion pwll sy’n arnofio neu’n sefyll. Fel arfer mae tri i bump o blanhigion yn ddigon ar gyfer pwll bychan – efallai y byddan nhw’n edrych yn fach i ddechrau, ond maen nhw’n gallu tyfu’n sydyn!

13 Bywyd gwyllt yr ardd I’W GWNEUD Y MIS HWN Cliriwch ordyfiant o’ch pwll, a’i adael ar lannau’r pwll am ddiwrnod fel bod unrhyw greaduriaid y pwll yn gallu dychwelyd i’r dŵr cyn i chi roi’r chwyn ar eich tomen gompost. Heuwch flodau unflwydd fel cosmos, phacelia a glas yr ŷd (cornflower) i ddenu Byddwchpryfed.ynofalus rhag ofn i chi darfu ar nythod adar mewn blychau, llwyni a gwrychoedd. Cofiwch lanhau eich baddon adar a bwydwyr adar yn rheolaidd, a’u Peidiwchllenwi.

Defnyddiwch hen sinc Belfast neu gynhwysydd plastig i wneud eich pwll bywyd gwyllt eich hun. Gosodwch eich pwll yn rhywle lle gallwch ei fwynhau, yn llygad yr haul – ond ddim am y diwrnod cyfan, rhag ofn i’r dŵr gynhesu gormod neu anheddu’n rhy sydyn. Os bydd y cynhwysydd yn gollwng, defnyddiwch haen i leinio’r pwll er mwyn iddo ddal dŵr, a’i osod yn ei le gyda ‘sealer’ silicon. Gwnewch yn siŵr bod eich pwll yn gyfeillgar i fyd natur drwy greu ramp fel bod llyffantod a bywyd gwyllt arall yn gallu dringo i mewn ac allan.

Dywed ei gydoeswyr amdano ei fod yn ddyn glandeg hardd, dros chwe troedfedd yn nhraed ei sanau a hynny mewn cyfnod lle roedd pobol yn llawer byrrach nag ydynt heddiw. Roedd ei ysgwyddau’n llydain a thueddiad ynddo, fel llawer i ŵr tal, i fynd i grymu wrth gyrraedd canol oed. Bu’n hen lanc gydol ei oes gan wisgo’n drwsiadus bob amser a gofalu fod ganddo esgidiau da a chryfion – peth call iawn i ddyn a gerddai Ondgymaint.fely gwelwyd o’r blaen, roedd J R Jones yn un penderfynol o gael ei ffordd ei hun ym mhopeth. Gwelsom sut y gallai aelod yn Ramoth neu’r canghennau anghydweld â’r gweinidog ar unrhyw bwnc Beiblaidd a chael ei dorri allan – dim lol! Yn anffodus, tueddai’r agwedd unbennaidd yma ddod i’r golwg fwyfwy dros y blynyddoedd a gallai dynnu pobol i’w ben yn hawdd. Rhyw dro yn y 1790au, daeth J R Jones yn gyfarwydd â gweithiau Archibald McLean o’r Alban. Daeth i gredu fod ei syniadau ef a’i ddilynwyr yn nes at eu lle na’r syniadau oedd gan Fedyddwyr Cymru. Credai fod yn rhaid i’r Bedyddwyr fynd yn ôl at syniadau a threfn yr eglwys fore. Heb fynd i fanylu yma, ceisiodd berswadio Bedyddwyr eraill gogledd Cymru i gytuno ag ef. Cafodd ychydig o lwyddiant ar y dechrau ond, yn anffodus, aeth pethau’n ffradach. Cyhoeddodd J R Jones ei fod ef a’i blaid yn ‘ymneilltuo oddi wrth Fedyddwyr Babilonaidd Cymru’ a’u bod yn nesáu at Fedyddwyr yr Alban. Enwad ar wahân fu’r Bedyddwyr Albanaidd yng Nghymru wedyn. Maent yn dal i fod felly heddiw ac yn wir mae ganddynt ddau gapel yn ardal Llais Ardudwy yn dystion nid yn unig i’r Efengyl ond hefyd i ŵr arbennig roddodd oes o lafur i’w gydoeswyr mewn llawer Unffordd.o’rrhai oedd yn methu cydweld â J R Jones ar y materion yma oedd gweinidog Glynceiriog - Thomas Jones (1769-1850). Rhannwyd Bedyddwyr Glynceiriog gan y ddadl a ddaeth yno o Ramoth ac aeth cydweinidog Thomas Jones – gŵr o’r enw John Edwards – a’i garfan allan a chodi capel arall yn y pentref gan ddilyn syniadau J R Jones. Arhosodd Thomas Jones gyda’r ‘Hen Fedyddwyr’ fel y gelwid hwy. Symudodd yn weinidog i Rydwilym yn Sir Benfro tua 1808 a bu yno weddill ei ddyddiau. Mae gan Thomas Jones ddau emyn yn y Caneuon Ffydd. Dyma bennill cyntaf rhif 371: ‘Er chwilio’r holl fyd a’i fwyniant i gyd nid ynddo mae’r balm a’m hiachâ; ond digon im yw yr Iesu a’i friw, fe’m gwared o’m penyd a’m pla.” Rhai i mi gyfaddef na wyddwn i ddim am yr emyn yma nes ei weld yn y Caneuon Ffydd. Y dôn yw Paradwys a oedd hefyd yn ddiarth i mi. Dywedir mai ‘Alaw Seisnig’ ydyw ond yr hyn sydd yn ddiddorol yw fod y ddwy linell gyntaf yn hynod o debyg i ddechrau’r dôn Pembroke - tôn arall o Loegr. Rhowch gynnig arni hi! Ond hefo trydydd pennill emyn Thomas Jones yr ydw i wedi gwirioni go iawn. Dyma fo: ‘Cydunwn ar gân fel sain adar mân yn lleisio ar doriad y wawr; Gwaredwr mor hael sy’n derbyn rhai gwael: daeth haf ar drueiniaid y llawr.’ Da ynte? JBW

Ramothacati 14Soniais o’r blaen am J R Jones (1765 -1822), gweinidog y Bedyddwyr yn Ramoth, Llanfrothen yn niwedd y ddeunawfed ganrif. Mae ganddo un emyn yn y Caneuon Ffydd sef rhif ‘Duw216: mawr y rhyfeddodau maith ...’ Cyfieithiad yw hwn o’r emyn Saesneg o waith Samuel Davies (1723 neu 1724-1761). ‘Great God of wonders...’ Allai neb gyhuddo J R Jones o fod yn ddiog. Paratoai bopeth a wnâi yn drwyadl a bugeiliai ei braidd yn ofalus. Cerddai filltiroedd ar filltiroedd i ymweld a chynghori a phregethu. Syndod i unrhyw un sydd wedi darllen ei gofiant gan David Williams yw gweld faint a gyflawnodd mewn oes weddol fer. Tybiai llawer o’i gyfoedion ei fod wedi trethu ei hun trwy orlafur a bod hynny’n rhannol gyfrifol am ei waeledd olaf. Roedd yn gerddor da er na chyrhaeddodd yr un o’i donau’r Caneuon Ffydd. Bu’n casglu emynau a thonau ar gyfer cynulleidfaoedd ac ar ben hyn oll roedd yn fathemategwr, yn dipyn o beiriannydd ac yn gweithredu fel math o feddyg gwlad, mewn oes pan nad oedd angen na thrwydded nac yswiriant i fynd i’r afael â chrefft felly.

15 ALUNBLWCHHYSBYSEBUGALLWCHYNYHWNAM£6YMISWILLIAMS TRYDANWR*Cartrefi*Masnachol*Diwydiannol Archwilio a Phrofi Ffôn: 07534 178831 TelerauHYSBYSEBIONe-bost:alunllyr@hotmail.comganAnnLewis01341241297 Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru ALAN RAYNER 07776 181959 ARCHEBU A CARPEDIGOSOD Sŵn y Gwynt, www.raynercarpets.co.ukTalsarnau CAE DU DESIGNS DEFNYDDIAU DISGOWNT GAN GYNLLUNWYR Stryd Fawr, Harlech Gwynedd LL46 2TT 01766 780239 ebost: sales@caedudesigns.co.ukDilynwchni: Oriau agor: Llun - Sadwrn 10.00 tan 4.00 Tafarn yr LlanuwchllynEryrod 01678 540278 Bwyd cartref blasus Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd E B RICHARDS Ffynnon 01341LlanbedrMair241551 CYNNAL EIDDO O BOB MATH Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb. GWION ROBERTS, SAER COED 01766 771704 / 07912 gwionroberts@yahoo.co.uk065803 dros 25 mlynedd o JASONbrofiadCLARKE Maesdre, 20 Stryd golchipeiriannauPenrhyndeudraethFawrLL486BNArbenigwrmewngwerthuathrwsiosychudillad,dilladagolchillestri. Gwasanaeth Cadw Llyfrau a Marchnata Glanhäwr Simdde • Chimney Sweep Gosod, Cynnal a Chadw Stôf Stove Installation & Maintenance 07713 703 222 Glanhäwr Simdde Gosod, Cynnal a Chadw Stôf 01766 770504 Am argraffu diguro Holwch Paul am paul@ylolfa.combris! 01970 832 304 Talybont Ceredigion SY24 5HE www.ylolfa.com H Williams Gwasanaeth cynnal a chadw yn eich gardd Ffôn: 01766 762329 07513 949128 NEAL PARRY Bwlch y Garreg Harlech CYNNAL A TUCHADWMEWN A THU 07814ALLAN900069 Llais Ardudwy Drwy’r post Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, £7.70llaisardudwy@outlook.comE-gopillaisardudwy@outlook.comLlanbedryflwyddynam11copi Am hysbysebu yn Llais Llandanwg,ManylionArdudwy?gan:AnnLewisMin-y-môrHarlechLL462SD01341241297 07713 703222

Talsarnau Ffôn:

Dyma englyn arbennig gan y Parch John Owen Rhuthun i gofio dyn arbennig. Bu John yn arwain Gwasanaeth o Ddiolchgarwch am ei fywyd yng Nghapel Tabernacl, Rhuthun, ar y deunawfed o Fawrth 2022. Un da a fu`n hybu dysg, un hynaws wrth rannu ei addysg, un mwyn a saer yn ein mysg a`i waddol yw to hyddysg. Ond cyn y gwasanaeth yn Rhuthun, daeth cyfle i bobl Ardudwy gofio am Iorwerth ar achlysur ei gladdedigaeth gyntaf, mewn tywydd teg ym mynwent Llanaber. Arweiniwyd gan Y Tad Alex o’r Bermo, a minnau gan mod i yn Weinidog ar Gapel Cymraeg Caer yn ogystal â Wrecsam, lle mae Martin Gruffudd-Jones yn selog. Deuai Iorwerth i ddigwyddiadau yno hefyd cyn y cyfnod Cofid. Y teimladau sy’n dod i’m meddwl bob tro efo Iorwerth ydy anogaeth, diddordeb ynoch chi, a brwdfrydedd.

Roedd gan Iorwerth ddiddordeb mewn pobl. Roedd o hefyd yn ŵr oedd â barn bendant, a brwdfrydedd i’w ganlyn – am bob math o bethau creadigol a Chymreig.

Mae llawer yn Wrecsam a Chaer yn cofio Iorwerth yr athro a’r crefftwr. Bu’n athro yn Ysgol Morgan Llwyd Wrecsam yn ei dyddiau dechreuol ac arloesol fel ysgol cyfrwng Gymraeg.

Mae cyd-weithwyr yn cofio ei grefft efo coed, ac i nifer o blant yr ysgol ennill gwobrau am eu gwaith yn fynych yn Eisteddfodau’r Urdd yn ystod y cyfnod hwn. Mae disgyblion yn ei gofio fel athro Ymarfer Corff, a Nofio hefyd. Bu’n athro yn Ysgol y Gwersyllt ger Wrecsam, ac yna yn Ysgol King’s, Caer. Roedd o bob amser yn groesawgar pan welwn ef boed yn y Bermo, yng Nghaersalem a Siloam, ar y stryd, neu yn y Gymdeithas Gymraeg, neu adeg Gŵyl y Bermo. Gŵr brwdfrydig iawn, ac roedd ganddo ddiddordeb yn achau’r teulu. Byddai wastad yn gofyn sut oedd fy ngwaith creadigol yn datblygu, ac yn sôn yn annwyl iawn am fy nhaid John Ifans a fu’n byw ym mhlwyf Llanaber ym more oes - yn Eithinfynydd. Roeddwn wrth fy modd efo’r sgyrsiau hynny yn ei gwmni, a rywsut yn dysgu dipyn bach mwy am fy ngwreiddiau innau bob tro Darllenaishefyd.ddyfyniad o Awdl fy nhaid John Ifans i’r Gorwel i gloi – cyfeirir at y gorwel hwnnw a oedd mor dyner a bendigedig ar fore ei gladdedigaeth yn Llanaber, wrth i gyfeillion Ardudwy ddod ynghyd i gofio Iori yn ddiffuant iawn.

16

Y BERMO LLANABERA

Merched y Wawr Ar 5 Ebrill daethom ynghyd yng Ngwesty’r Victoria Llanbedr. Croesawyd unarddeg o’r aelodau gan Llewela. Darllenwyd cyfarchion gan Tegwen a manylion am y Cyfarfod Blynyddol a’r Wyl Haf ym Machynlleth ar 21 Mai, ac edrychwn ymlaen at gwrdd â ffrindiau o bob rhanbarth. Yn ystod yr ŵyl bydd Morwena yn cael ei gwobrwyo am gynllunio dau gerdyn Nadolig. Cofiwch hefyd am brosiect ein Llywydd Jill Lewis ‘Cerdded, Cerdd a AethpwydChynefin’. ymlaen i ddewis swyddogion ar gyfer 2022/2023. Etholwyd: Llywydd, Morwena Lansley; Ysgrifennydd, Gwenda Elis; Trysorydd, Megan Vaughan. Isbwyllgorau: Celf a chrefft, Jean Jones; Iaith a gofal, Pam Cope. Diolch i bawb am eu parodrwydd ac edrychwn ymlaen yn hyderus at dymor newydd mis Medi. Diolchwyd i Llewela a Grace am eu gwaith trylwyr dros amser eithaf Roeddheriol. cryn edrych ymlaen at amser y paned a sgwrsio, y byrddau wedi eu gosod yn drefnus gyda sgon a bara brith ar blatiau unigol. Cafwyd cyfle hefyd i edrych yn ôl ar luniau ers cychwyn y gangen yn 1979! Diolch i Iona am drefnu ac i’r staff am eu croeso. Bydd ein cyfarfod nesaf ar 23 Mai, a’n bwriad ydi mynd am dro o gwmpas Wern Mynach unwaith eto. IORWERTH GRUFFUDD-JONES

Y GORWEL. Ymhell o afael byd mall a’i ofid Moriaf yn lew i law’r Digyfnewid –I lawnder Un sy’n lendid – i Ddinas Enwog y Deyrnas a’i Llyw’n Gadernid. A daw i briddyn hen gryndod breuddwyd, Daw o’r gorwel hen geinder a garwyd –Daw’r Mai digoll a gollwyd yn oddaith, Yn wyrth eilwaith yn y Berth a welwyd. Â rhin heulwen ar fy Siwrnai Olaf Trwy gafnau’r tonnau, heb ofn y tynnaf, I’r goleuni aur glanaf, a’r pellter Yn dyner dyner yn cau amdanaf.”

Aled Lewis Evans R J Williams Honda Garej 01766 770286

Neges o ddiolch gan Mr Glyn Ar fy niwrnod olaf yn ysgol Talsarnau cefais syrpreis bendigedig sef parti yn y neuadd hefo’r plant a’r staff. Roeddwn wrthi’n brysur yn fy swyddfa yn gorffen gwaith papur cyn diwedd y tymor pan ddaeth Mia a Brooke i ddweud fod Mr Owens eisiau dangos dawns newydd i mi yn y neuadd. Roedd hyn yn swnio’n amheus iawn, ond pan gyrhaeddais cefais groeso arbennig gan bawb a chwip o de parti wedi ei baratoi gan y staff. Roedd posteri o ddiolch ar hyd y waliau a chefais gyfarchion arbennig ar ran bawb gan Mr Owens. Yn ogystal, derbyniais rodd anhygoel gan y gymuned leol yn cynnwys y plant a’r rhieni a mawr yw fy niolch i bawb am eu caredigrwydd a’u haelioni. Ar ddiwedd fy nghyfnod fel pennaeth

17 YSGOL TALSARNAU

Pêl-droed yr Urdd – Cit Newydd Yn ystod ail hanner tymor y gwanwyn aeth dysgwyr B5 a 6 i gystadlu yng nghystadleuaeth pêl-droed yr Urdd ar gae 3G Y Bala. Bu cystadlu brwd iawn drwy gydol y dydd a thîm Talsarnau yn mynd o nerth i nerth. O drwch blewyn, methodd y tîm symud ymlaen i’r rownd gyn-derfynol. Er y siom, braf oedd cael cystadlu yn erbyn ysgolion eraill unwaith eto ar ôl dwy flynedd ansicr. Mae ein diolch yn ddiffuant i Mrs Deborah Williams, Gwrach Ynys, am noddi ein cit newydd.

Ysgol Talsarnau carwn ddatgan fy niolch a’m gwerthfawrogiad i holl gymuned yr ysgol am y croeso arbennig a gefais yn yr ardal. Treuliais flynyddoedd hapus iawn yn fy swydd fel pennaeth yn yr ysgol ac roedd hi’n fraint cael gwasanaethu mewn cymuned mor arbennig ac unigryw. Diolch i chwi oll am eich cydweithrediad, eich cyfeillgarwch a’ch caredigrwydd. Hoffwn ddymuno’r gorau i’r plant, staff, llywodraethwyr, y rhieni a’r gymuned ehangach i’r dyfodol. Byddaf yn parhau mewn cysylltiad hefo’r ardal a rhanbarth Meirionnydd yn fy swydd newydd fel Pennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am y canolfannau Iaith. Byddaf yn trysori’r atgofion melys sydd gen i am fy amser yn Ysgol Talsarnau am byth! Rhodd a diolch £10 Wythnos Dysgu yn Yr Awyr Agored Fel rhan o wythnos dysgu yn yr awyr agored, aeth yr Adran Iau ar daith gerdded o’r ysgol ar hyd y clawdd llanw i warchodfa natur yr Ynys. Cymerodd y dysgwyr ran mewn amrywiaeth o dasgau gyda naws gwyddonol a daearyddol. Braf oedd cael cyflawni gweithgareddau cyfoethog yn yr awyr agored gan fwynhau golygfeydd godidog yr ardal. Diolch i Mrs Llinos Jones-Williams am drefnu’r gweithgareddau.

HARLECH 18 Trefnwyr Angladdau • Gofal Personol 24 awr • Capel Gorffwys • Cynlluniau Angladd Rhagdaledig Heol Dulyn, Tremadog. Ffôn: 01766 post@pritchardgriffiths.co.uk512091 CYNGORHARLECHCYMUNEDColli Gwyn Cable Bu farw Gwyn Cable yn 78 oed yn ei gartref yn Wellingborough yn dilyn gwaeledd estynedig. Roedd yn enedigol o Harlech ac yn darllen Llais Ardudwy yn frwd bob mis. Yn unol â’i ddymuniad, ni chynhaliwyd gwasanaeth angladdol. Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â Beryl Williams, Tŷ Canol, Harlech yn ei phrofedigaeth. Bu farw ei hewythr Gruffydd Edwards, Tŷ Cerrig, Ganllwyd yn ddiweddar. Diolch Dymuna Tec, Pris a’r teulu ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli Glenys. Diolch am y rhoddion tuag at ward Enfys, Ysbyty Glan Clwyd. Diolch hefyd i’r canoniaid Tony a Stephanie Beacon am eu gwasanaeth yn yr amlosgfa, i Trystan Lewis am ei waith wrth yr organ ac i gwmni Pritchard a Griffiths am y trefniadau Rhodd a diolch £20 Capel Jerusalem, Harlech Mis Mai 8 Y Br Iwan Morgan 4.00 15 Parch Christopher Prew 2.00 Croesawodd y Cadeirydd Mari Beynon Owen o ‘Chambers Conservation’ ac Elen Hughes o Barc Cenedlaethol Eryri i drafod cynllun newydd Ardal Gadwraeth Harlech. Dywedodd Ms Beynon y byddai’n falch o gael gwybod beth yw barn yr aelodau am Harlech a beth ddylid ei gynnwys yn y cynllun rheolaeth. Nododd rhai o’r aelodau bod y dref wedi newid dros y blynyddoedd a bod amryw o fusnesau wedi cau, ond eu bod ar yr un pryd yn croesawu’r Cynllun Cadwraeth Croesawoddhwn. y Cadeirydd Mrs Myfanwy Jones a Mrs Jane Emmerson i’r cyfarfod i drafod y gwaith ger cae chwarae Llyn y Felin. Datganodd Mrs Emmerson ei bod wedi gwirfoddoli i glirio’r darn tir yma a dangosodd rhai o’r planhigion roedd yn bwriadu eu plannu yno. Cytunwyd ei bod yn llunio cynllun ynghyd ag amcangyfrif o’r gost derfynol. ADRODDIAD Y TRYSORYDD Rhannodd y Trysorydd gopïau o gyfrifon y Cyngor yn diweddu 31ain o Fawrth 2022 i bob aelod. Aethpwyd drwy’r cyfrifon yn ofalus ac fe’u cymeradwywyd yn unfrydol gan yr aelodau. Cytunodd pawb bod y llyfr cyfrifon yn cael ei arwyddo gan y Cadeirydd a’r Clerc. CyngorGOHEBIAETHGwynedd – Adran Bwrdeistrefol Derbyniwyd e-bost gan Mr Bryn Hughes, Peiriannydd Cynorthwyol o’r adran uchod, yn ymddiheuro i’r Cyngor nad oedd wedi trefnu i gyfarfod rhai o’r aelodau ar safle Parc Bron y Graig eto oherwydd ymrwymiadau eraill yn y Hefydgwaith.hysbysodd yr aelodau eu bod yn gobeithio cychwyn yn fuan ar y gwaith o dorri’r gwair a fydd yn cael ei wneud dair gwaith eleni, a’i fod yn gobeithio trefnu cyfarfod ar y safle rhyw dro ar ôl 1 Mehefin. Mr Joe Patton Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn diweddaru’r Cyngor ynglŷn â’r gwaith sy’n digwydd yn y darn WI gyferbyn â chae chwarae Brenin Siôr ac yn datgan bod y gwaith yn dod yn ei flaen yn dda.

Capten Llongyfarchiadau i Dafi Owen, 7 Aely-glyn, Harlech ar ei ethol yn Gapten Clwb Golff Dewi Sant yn Harlech am y flwyddyn sydd i ddod. Bu’n aelod o’r Clwb ers 1979 a bu’n weithgar ar nifer o bwyllgorau. Bu hefyd yn ymwneud â meithrin talentau ifanc i chwarae golff. Bydd yn gapten poblogaidd iawn. Oed yr addewid Llongyfarchiadau cynnes iawn i Bedwyr Williams, Ty’n Ffordd fydd yn cyrraedd oed yr addewid ar Mai 26. EglwysGWASANAETHAULlanfihangel-y-traethauDWYIEITHOGARFEROL yn dilyn y pandemig bob dydd Sul am 11.30 y bore BINGO YN Y PWLL NOFIO Sesiynau nesaf: Mai 28 a Mehefin 25 am 2.30 o’r gloch £8 am 8 gêm

NI’N DAU

19 Gallwch ailwrando ar y rhaglen ar BBC iPlayer, Radio Cymru, Ni’n Dau. Nic Parry yn JohnRogercyfweldaKerry

Cafodd Roger a John Kerry o Harlech eu cyfweld gan y darlledwr [a’r barnwr] adnabyddus, Nic Parry ar Radio Cymru yn ddiweddar. Rhaglen ar efeilliaid oedd gan Nic ac mae ef ei hun yn efaill i Wil. Meddai Nic, ‘Wiliam Elis ddaeth gyntaf, a Niclas Iorwerth yn dilyn rhyw ddeng munud wedyn. Fel arall fuodd hi ar ôl hynny. Fuodd Wil fyth ar frys wedyn.’ Meddai ymhellach, ‘Fo oedd yr un pwyllog, amyneddgar ohonan ni, fo nid fi oedd yn hapus i gymryd ei amser, i aros ei dro a hyd yn oed wedyn, oedi! Gwisgo label ar eu dillad wnai’r efeilliaid Roger a John Kerry pan oedden nhw’n yr ysgol ddegawdau lawer yn ôl. Dyna’r unig ffordd y gallai’r athrawon ddweud y gwahaniaeth rhyngddyn nhw! Hyd heddiw, a hwythau’n eu 70au, mae rhai pobl yn dal i’w chael yn anodd i’w nabod.

Efeilliaid drych [mirror twins] ydyn nhw. Mae Roger yn lawchwith ac yn gryfach yn ei droed dde tra bod John yn defnyddio’r llaw dde ac yn droedchwith. Dydyn nhw erioed wedi bod yn gystadleuol yn erbyn ei gilydd ond maen nhw’n barod iawn i amddiffyn ei gilydd pan fo raid. Digwyddodd hynny un tro ond stori arall ydi honno! Maen nhw’n eithaf tebyg o ran cymeriad ond mae tuedd yn John i gynhyrfu’n gynt. Mi basiodd John ei brawf gyrru ar yr ail gynnig ond methu wnaeth Roger. Gan eu bod yn rhannu popeth, fe benderfynwyd rhannu’r drwydded! Ac felly fu pethau am rhyw ddeg mlynedd nes iddyn nhw gael damwain car ger Maes Mihangel. Roger oedd yn gyrru ond John wnaeth ddatganiad i’r heddlu gan mai fo oedd [i fod] yn gyrru. Pan briododd John mi benderfynwyd cael car bob un ac mi basiodd Roger y prawf gyrru - o’r diwedd!

Dydw i ddim yn siŵr ai tynnu coes y gohebydd oedden nhw efo’r stori hon! Beth oedd barn y barnwr tybed? PM

Er eu bod yn efeilliaid unfath, dydyn nhw ddim yn rhannu’r un pen-blwydd. Mi gafodd John ei eni am 9.00 y nos a Roger am 3.00 y bore. Mae ganddyn nhw hefyd arwydd Sidydd gwahanol, Sagitariws ydi Roger a Scorpio ydi WediJohn.iddyn nhw adael Ysgol Ardudwy, mi aethon nhw i weithio i Bortmerion fel porthoriaid. Byddai’r ddau yn cerdded drwy’r afon Ddwyryd yn eu tronsiau gan ddal eu dillad uwch eu pennau. Pan welodd y meistri beth oedd yn digwydd, mi gafwyd ystafell iddyn nhw yn yr atig. Byddent yn rhoi eu cyflogau mewn un drôr ac yn tynnu o’r fan honno pan oedd angen arian arnyn nhw. Wedyn buont yn gweithio gyda’r Comisiwn Coedwigaeth am sbel, gyda’i gilydd wrth gwrs, ac yna yn y Clwb Golff fel tirmyn, gyda’i gilydd eto am 37 mlynedd. Ond yn ddiweddarach daeth Roger yn bennaeth yr adran. Aros yn ŵr sengl wnaeth Roger ac mi briododd John â Karen yn 1981. Hyd yn oed heddiw, pan mae Karen yn prynu dilledyn i John, mae’n prynu yr un peth i Roger, boed yn grys, siwmper, trowsus neu esgid. Maen nhw’n gwisgo’n debyg yn aml. Mae hyd yn oed y ddwy sbectol sydd ganddyn nhw yn debyg. Mae Roger yn fyddar yn ei glust chwith. Felly pan welwch chi nhw efo’i gilydd, mi fydd Roger bob amser yn eistedd ar yr ochr chwith. Hwyrach y gall hynny eich

Arhelpu!yrhaglen, roedd y ddau’n sôn am y cyfnod pan oedd John yn glaf yn Ysbyty Caernarfon. Daeth Roger i ymweld a dyna benderfynu chwarae tric ar y nyrsys.

Aeth Roger at y ddesg a dweud ei fod o eisiau mynd adref. ‘Rydw i’n mynd adref heno!’ Wrth gwrs, roedd y nyrs yn credu mai efo John, y claf, yr oedd hi’n siarad a dyma hi’n dweud, ‘Beth ydach chi’n ei wneud yn gwisgo dillad fel ’na? Chewch chi ddim mynd adref, dydych chi ddim yn barod am hynny eto. Ymhen sbel fe ddaeth John i’r golwg yn ei byjamas a mawr fu’r chwerthin pan sylweddolwyd bod y sister wedi’i thwyllo! Mi gawson nhw fagwraeth braf iawn yn yr Ynys, Talsarnau ac wedyn yn Llanfair - maen nhw’n dal mewn cyswllt efo llawer o’u ffrindiau bore oes - megis Pris, Colin, Mike ac Ian Rayner a Bryn Cefn Gwyn.

Trwyn Coch Mae codi arian o fewn yr ysgol wedi dod yn destun pwysig yn sicr. Y tro hwn, cyfle i gyfrannu tuag at elusen y Trwyn Coch oedd dan sylw. Wedi’r cyfri, casglwyd cyfanswm anrhydeddus o £250 at yr achos. Diolch yn fawr iawn i bawb am eich cyfraniadau hael eto. Mae’r casgliadau yma yn mynd tuag at nifer fawr o brosiectau a thrwy hynny yn galluogi yr elusennau i wella cyfleon a bywydau nifer fawr o bobl ifanc ar draws y wlad a’r byd yn grwn.

Yn y Brifysgol Diwrnod ym Mhrifysgol Bangor a gafodd merched B11 wrth iddyn nhw dreulio amser mewn gweithdy er mwyn cael profiad o weithio gyda gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Cyfle gwych i gael trin a thrafod llawer iawn o agweddau o fewn y meysydd yma.

Pêl-rwyd Nid yn aml dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae ysgolion eraill wedi cael y cyfle i ymweld ag Ysgol Ardudwy er mwyn cystadlu mewn chwaraeon. Ar y cae rygbi, yn ogystal â’r cwrt pêl-rwyd, gwelwyd hyn yn ddiweddar wrth i dimau Ysgol Bro Idris deithio o Ddolgellau.

Traeth Harlech Hwyrach nad yw’r haul yn ddigon cryf i dorheulo yr adeg yma o’r flwyddyn, ond taith i draeth Harlech gafodd criw o B9 er mwyn cwblhau uned yn yr Adran Wyddoniaeth. Sesiwn o gasglu sbwriel a chefnogi ymgyrch ‘Surfers against Sewage’ oedd hi y tro hwn.

Goed Mae nifer fawr o fusnesau lleol yn llefydd arbennig i ymweld â hwy. Cwta dwy filltir oedd yn rhaid i ddisgyblion B7 deithio er mwyn cyrraedd y felin goed. Saif hon rhwng yr Ynys a Harlech. Aed a’r disgyblion o amgylch y sied er mwyn cael gweld y gwaith sydd yn cael ei wneud yno. Gwelwyd taith y coed o’r cychwyn i’r diwedd. Diolch yn fawr am y croeso a’r cyfle i weld busnes lleol llwyddiannus ar waith.

YSGOL ARDUDWYYFelin

Wrth i Llais Ardudwy fynd i’r wasg, fe fydd disgyblion B11 yn paratoi ar gyfer eu harholiadau terfynol. Felly, dyma ddymuno pob lwc iddynt wrth gwblhau’r tasgau gan obeithio y daw llwyddiant wedi’r holl waith dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Peirianneg Un o’r pynciau gweddol newydd yn yr ysgol yw peirianneg. Gwelir disgybl yn defnyddio un o’r peiriannau o fewn yr adran i greu gwaith ar gyfer asesiad. Mae pynciau tebyg yn bwysig fel y gall ddisgyblion gael blas cyn penderfynu ar yrfa wrth ymadael â’r ysgol ar ddiwedd B11.

Fel rhan o waith ymarferol, roedd cyfle i ddyrannu ystifflog (squid) fel gweithgaredd bioleg cyn troi at greu model o’r anifail yma mewn gweithgaredd ffiseg. Profiad gwerth chweil.

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.