Llais Ardudwy Mai 2018

Page 1

Llais Ardudwy 50c

DYMCHWEL GWESTY DEWI SANT?

RHIF 474 - MAI 2018

PENCAMPWR SELSIG Mae’n fwriad gan Gyngor Gwynedd drefnu bod gwesty Dewi Sant yn cael ei ddymchwel a bod y bil am wneud y gwaith yn cael ei anfon at berchnogion y safle, sef Aitchinson Associates Ltd sy’n gwmni o Gibraltar. Hwrê ddwedwn ni! Ers i’r gwesty gau yn 2008, bu cryn gwyno am gyflwr y safle ymhlith pobl yr ardal. Yn sicr, mae ei gyflwr presennol yn tynnu oddi wrth harddwch y dref a’r ardal yn gyffredinol. Yn 2009, rhoddwyd caniatâd i ailgodi gwesty ar y safle yn cynnwys 130 o ystafelloedd a 76 o fythynnod gwyliau. Adnewyddwyd y caniatâd yn 2014. Cafodd Aitchinson Associates Ltd ddirwy o £1000 yn Llys Ynadon Caernarfon y llynedd am beidio cymryd sylw o’r gorchymyn i ddymchwel y gwesty ac mi gawson nhw ddirwy a chostau o £21,800 yn ddiweddar am beidio cymryd sylw o’r ddirwy gyntaf. Hyderwn y gwelwn ni Gyngor Gwynedd yn dangos eu dannedd yn y mater hwn yn fuan iawn. Rydan ni eisoes wedi aros yn rhy hir.

HWB I DWRISTIAETH YN ARDUDWY Llongyfarchiadau i Mark Hughes sy’n gigydd yn siop London House, Dyffryn ar ei lwyddiant yn Sioe Gynnyrch Cig Gogledd Cymru a Chaer 2018, a gynhaliwyd yn Abergele yn ddiweddar. Dyfarnwyd Mark yn bencampwr y Sioe am ei selsig porc traddodiadol a hefyd yn Brif Pencampwr Selsig y sioe. Mae Mark wedi dod yn bencampwr y sioe bum gwaith mewn 12 mlynedd. Da iawn Mark; rydym yn falch iawn o dy lwyddiant.

BWS YN EI ÔL

Mae Cyngor Gwynedd yn falch o gadarnhau bod gwasanaethau bws cyhoeddus rheolaidd bellach ar gael rhwng y Bermo a Phorthmadog. Ers penderfyniad y Comisiynydd Traffig i ddileu trwydded cwmni Express Motors (Penygroes), mae’r swyddogion wedi bod yn gwneud popeth posib i sicrhau fod gwasanaethau bws cyhoeddus yn parhau i fod ar gael i drigolion Gwynedd. Yn dilyn trafodaethau gyda chwmnïau bws lleol, bydd gwasanaethau ychwanegol rŵan ar gael ar hyd llwybr 38 a 39 o’r Bermo i Borthmadog. Mae’r gwasanaeth 38/39 yn cynnig hyd at wyth taith y dydd rhwng Porthmadog, Harlech a’r Bermo (gan gysylltu gyda’r gwasanaeth T3 i/o Ddolgellau a Wrecsam). Mae manylion llawn am y gwasanaethau i’w gweld ar wefan y Cyngor: www.gwynedd.llyw.cymru/bws

Yn ddiweddar cyhoeddodd y Gweinidog Twristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas ychydig dros £500,000 o fuddsoddiad a fydd yn hwb sylweddol i ddiwydiant twristiaeth yng Ngwynedd. Ymysg y prosiectau a fydd yn cael eu gweithredu yn 2018/19 mae arwyddion a llwybrau tref yn Harlech, gwelliannau i feysydd parcio a chyfleusterau cyhoeddus yn Harlech ac uwchraddio cyfleusterau mynediad arfordirol. Y nod yw ceisio datblygu a gwella cyfleusterau twristiaeth sy’n gynaliadwy a safonol er mwyn ehangu profiadau ymwelwyr i’r sir. Mae ymwelwyr yn disgwyl i bob agwedd ar eu hymweliad fod o’r ansawdd gorau, gan gynnwys llety, gwybodaeth, toiledau a meysydd parcio. Meddai Graham Perch ar ran Cymdeithas Twristiaeth Harlech: ‘Mae Cymdeithas Twristiaeth Harlech yn ddiolchgar am y gefnogaeth a ddangoswyd gan Lywodraeth Cymru a Chroeso Cymru drwy’r gronfa TAIS. Gobeithiwn y bydd y cymorth ariannol hwn yn gychwyn ar greu a datblygu profiad anhygoel i ymwelwyr ac i greu’r ymdeimlad o berchnogaeth o fewn y gymuned leol.’ ‘Bydd yr arian hwn yn helpu i greu newidiadau cyffrous o gwmpas Harlech a fydd yn annog pobl i archwilio’r dref ac ardal Ardudwy. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid er mwyn datblygu’r prosiectau a nodwyd yn y dyfodol agos. Bydd y budd cymdeithasol ac economaidd, i fusnesau lleol ac i’r gymuned, yn hwb i ddatblygiad Harlech.’


GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com (07760 283024 / 01766 780541

SWYDDOGION

Cadeirydd: Hefina Griffith (01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com

Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones (01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@Intamail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960 Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Mehefin 1 am 5.00. Bydd ar werth ar Mehefin 6. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Mai 27 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

Dilynwch ni ar Facebook

@llaisardudwy 2

Enw: Sarah Jones [Evans neu ‘Garej’ gynt]. Gwaith: Mam a nain yn gyntaf, ffermio a chadw trefn ar waith papur R P Jones, Groundworks i Rhodri. Cefndir: Wedi fy magu yn Central Garage, Harlech. Mynychais ysgolion Tanycastell ac Ardudwy. Ymlaen i weithio yn y garej wedyn! Yn 1990, symudais i Drawsfynydd i fyw gyda Rhodri, sef y gŵr ers 24 mlynedd. Magu plant ddaeth nesaf, sef Manon [27], Einir [25], Teleri [22] Glesni [21] a Siôn [18]. Cymryd diddordeb yn y ffermio efo Rhodri a’i dad [William Prysor]. Y ffermio wedi mynd i fy ngwaed ers hynny. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Anodd coelio ond ers tua deg mis rwyf wedi dechrau mynychu Move yn Nhremadog ddwywaith yr wythnos ac rwyf wrth fy modd. Mae’r ffermio yn help hefyd.

Beth ydych chi’n ei ddarllen? Dydw i ddim yn un am ddarllen ond y llyfr diwethaf imi ei ddarllen oedd ‘Galar a Fi’ gan Esyllt Maelor. Llyfr anodd i’w ddarllen ond hefyd yn un da iawn. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Emmerdale. Ydych chi’n bwyta’n dda? Ydw, rwyf yn mwynhau gormod ar fy mwyd. Hoff fwyd? Cig eidion, pwdin Efrog, llysiau a grefi. Hoff ddiod? Paned o de a gwydryn bach o rosé. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Does dim byd gwell na chael mynd allan efo’r teulu, Rhodri y plant a’r wyrion, Mam a Dad, Jane, Iwan a Llion a’u teuluoedd. Llond ystafell o chwerthin a siarad. Lle sydd orau gennych? Dod adref i Drawsfynydd o’r Bala ac edrych i lawr Cwm Prysor. Mae yna le yn fy nghalon i Harlech hefyd. Person fy milltir sgwâr wyf fi. Ble gawsoch chi’r gwyliau gorau? Yng Nghei Newydd pan oedd y plant yn iau. Beth sy’n eich gwylltio? Sbwriel a baw ci. Dydi o ddim yn cymryd llawer i’w roi o yn y bin. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Bod yn annwyl ac yno drwy’r drwg a’r da.

Pwy yw eich arwr? Dad. Sori Mam. Hogan dad dwi wedi bod erioed. Beth yw eich bai mwyaf? Siarad gormod fuasai llawer o bobl yn ei ddweud. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Rwyf yn hapus iawn fel ydw i ac wrth fy modd efo’r wyrion, Deio [4], Beca [3] a Llio [1]. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Mynd ar wyliau i rywle cynnes, allan o’r glaw yma a’r tywydd oer o hyd. Eich hoff liw? Gwyrdd, rwyf yn edrych allan ar wahanol arlliwiau[shades] o wyrdd bob dydd. Eich hoff flodyn? Cennin Pedr, arwydd fod y gwanwyn ar ei ffordd. Eich hoff ddarn[au] o gerddoriaeth? Dydw i ddim yn gwrando llawer ar gerddoriaeth ond rydw i wrth fy modd yn gwrando ar Einir yn canu. Eich hoff gerddor? ‘Anfonaf Angel’ - Rhys Meirion. Pa dalent hoffech chi ei chael? Buaswn wrth fy modd taswn i yn medru dysgu ci defaid fy hun - does gen i mo’r amynedd! Eich hoff ddywediadau? Rhy hwyr codi pais ar ôl piso. Chwarae’n troi’n chwerw. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Hapus fy myd, yn fodlon ac yn llawn cariad.

LLYTHYR - ymateb i’r dominôs! 25 Cil y Graig Lanfairpwllgwyngyll Annwyl Gyfaill, Diddorol oedd darllen am y dominôs. Pan oeddwn yn yr Awyrlu cefais fy anfon ar ddyletswydd [fferylliaeth] i Ysbyty Cosford ger Wolverhampton yn y 70au. Roedd nifer o Gymry Cymraeg yn byw yn Albrighton, sef y pentref agosaf at yr ysbyty. Ac yng nghlwb y Legion y

byddai Huw Evans a minnau’n cyfarfod i ddangos i’r hen stejars sut i chwarae’r gêm. ‘Tri a Phump’ fyddan ni’n ei galw hi, cofio am yr hen bres am wn i. Un gofalus efo’i chwarae oedd Huw, a finna’n fwy parod i fentro, a rhywsut mi fyddan ni’n ennill yn bur aml! Swllt yr un fydda fo’n ei gostio a neb felly’n colli’n ddifrifol. Tybed a glywyd hon o’r blaen? Rhoi un dominô i lawr a hwnnw’n sgorio ‘x’, chwarae

dominô arall a hwnnw’n sgorio ‘y’. Cyfanswm y ddwy sgôr yn 12. Digon hawdd efallai - y dwbl 6 yn sgorio 4 - gosod y 6/3 arno fo i sgorio 8 arall, a dyna’r deuddeg. Pa ddominô ellir ei chwarae fel ’na i sgorio 11? Llawer o ddiolch,

Dei Charles

Chwarae’r 6/3 gyntaf [3] wedyn y dwbl 6 [8] 3+8=11

Llais Ardudwy

HOLI HWN A’R LLALL


Sychu Llyn Cwm Bychan

MERCHED Y WAWR TALSARNAU

Croesawodd y Llywydd, Siriol Lewis, bawb i’r cyfarfod ar nos Lun 9 Ebrill. Mynegodd y tristwch ein bod, fel cangen, wedi colli Gwenda Jones, aelod arbennig o ffyddlon a gweithgar iawn ers sefydlu’r gangen yn Nhalsarnau dros hanner can mlynedd yn ôl. Bu’n drysorydd y gangen am 40 mlynedd. Fe fydd chwith mawr ar ei hôl. Anfonwyd cerdyn cydymdeimlad i‘w gŵr Hefin a’r teulu ar ran yr aelodau. Atgoffwyd pawb eto o’r Ŵyl Ranbarth yn Nhrawsfynydd nos Fercher, 25 Ebrill. Cafwyd gwybodaeth bod rhaglen newydd i fod ar S4C Trysorau’r Teulu - yn ymwneud â chasgliadau o hen bethau y gellid bod yn ein cartrefi ac os y byddai gennym ddiddordeb mewn cysylltu â’r trefnwyr i gael eu prisio gan arbenigwyr ar y rhaglen. Noson greadigol a hamddenol a gafwyd y tro yma yng nghwmni un o’n haelodau ni ein hunain, Gwenda Griffiths yn arddangos y grefft o osod blodau. Roedd pawb wedi dod ag ychydig o flodau a gwyrddni gyda hwy ac wedi gweld gan Gwenda sut i greu trefniant yn y desglau bach, aeth pawb ati’n ddygn iawn i greu eu trefniadau eu

Syniad gwallgo’ i ni heddiw fuasai sychu Llyn Cwm Bychan. Ond yn ôl colofn ym mhapur newydd y Guardian rai blynyddoedd yn ôl, ystyriwyd y posibilrwydd. Y gohebydd Roger Redfern yn ei golofn ‘Dyddiadur Cefn Gwlad’ fu’n tynnu sylw darllenwyr y papur at ymweliad yr awdur a’r naturiaethwr Thomas Pennant â Chwm Bychan yn 1779. Yn ôl yr hanes, cyfarfu â’r tirfeddiannwr ar y pryd, un o deulu’r Llwydiaid fu’n byw yn yr hen ffermdy ac yn ffermio ym mhen uchaf y cwm am ganrifoedd. Yn ôl Pennant, roedd preswylwyr y ffermdy yn 1779 yn byw mewn ‘awyrgylch o symlrwydd canoloesol’. Dangoswyd hen gwpan teuluol i’r ymwelydd a chlywodd gan Llwyd ei fod wedi ei lunio allan o groen ceillgwd tarw! Yn ôl Pennant, hynod hefyd oedd y ‘cistie styslog’, cistiau mawr o dderw lleol a ddefnyddid i storio blawd ceirch dros y gaeaf. Roedd cynaeafu ceirch yn un o weithgareddau blynyddol y fferm gyda blawd ceirch yn rhan bwysig o luniaeth y trigolion yr adeg hynny. Er mwyn ychwanegu at y cnwd, roedd angen mwy o dir gwastad. Tarddodd y syniad o sychu’r llyn er mwyn ennill aceri! Diolch byth, nis gwireddwyd, ac mae gogoniant llyn Cwm Bychan yno o hyd i ni ei fwynhau.

CYSTADLEUAETH SGWENNU ERTHYGL AR GYFER LLAIS ARDUDWY

hunain. Yn y diwedd, cafwyd arddangosfa gwerth chweil o ymgais pawb! Diolchwyd i Gwenda gan Margaret am noson gartrefol braf, gyda phawb yn cael cyfle i sgwrsio wrth greu. Paratowyd y baned gan Anwen a Haf, a Meira enillodd y raffl.

Derbyniwyd dwy erthygl gan un cystadleuydd, sef Mrs Delyth Jones a fu’n athrawes Cyfnod Sylfaen yn Ysgol Talsarnau tan yn ddiweddar. Ym marn y tri beirniad, mae’r erthyglau yn gwbl addas ar gyfer y papur hwn ac yn teilyngu eu gwobrwyo. Dyfarnwyd £20 yr un i Mrs Jones am y ddwy erthygl. Gan fod blas tymhorol iddyn nhw, ni fydd yr erthyglau yn ymddangos yn y papur tan ddechrau 2019. Wedi iddi glywed bod ei gwaith yn deilwng o’u gwobrwyo, anfonodd Mrs Jones air atom i nodi nad oedd am dderbyn y wobr ariannol ond ei bod am gyflwyno’r £40 i goffrau Llais Ardudwy. Rydym yn ddiolchgar iddi am ei haelioni.

DYDDIADAU GOSOD 2018 Fel y gŵyr y cyfarwydd, caiff y papur ei argraffu ar y dydd Llun cyntaf ymhob mis [ar wahân i fis Awst]. Byddwn, fel arfer, yn gofyn am i’r deunydd gyrraedd Haf Meredydd erbyn y dydd Llun cyn y diwrnod gosod. Dyma’r dyddiadau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod: NEWYDDION I LAW GOSOD Y PAPUR PAPUR AR WERTH Mehefin 6 Mehefin 1 Mai 29 Gorffennaf 4 Gorffennaf 6 Mehefin 25 Medi 5 Awst 31 Awst 27 Hydref 3 Medi 28 Medi 24 Tachwedd 7 Tachwedd 2 Hydref 29 Rhagfyr 5 Tachwedd 30 Tachwedd 26

3


LLANFAIR A LLANDANWG Merched y Wawr Cafwyd gair o groeso gan y Llywydd, Hefina a rhoddwyd croeso arbennig i Liz Hodby, dysgwraig leol. Derbyniwyd nifer o ymddiheuriadau. Cydymdeimlwyd â Hefin Jones a’r teulu ar yr adeg trist o golli Gwenda. Roedd Gwenda yn aelod ffyddlon iawn o’r gangen ac yn barod iawn ei chymwynas bob amser. Cafwyd munud o dawelwch er cof amdani. Gwnaed trefniadau ar gyfer teithio i’r Wŷl Rhanbarth ac ar gyfer mynd i’r Ysgwrn ym mis Mai. Croesawyd y wraig wadd, Jane Williams o Dal-y-bont, darlithydd Celf yn Nolgellau. Cafodd pawb dalp o glai i’w fowldio i siâp powlen. Aeth Jane a nhw adref i’w rhoi yn y ffwrnes. Mae hen edrych ymlaen i’w gweld ar eu gwedd newydd. Hefina dalodd y diolchiadau, Ann a Janet oedd yng ngofal y baned ac Eirlys enillodd y raffl.

Yr Ysgwrn Wele wyth aelod o Ferched y Wawr ac un gŵr dewr ar eu hymweliad â’r Ysgwrn yn Nhrawsfynydd. Cawsant eu tywys o gwmpas cartref Hedd Wyn gan Alwen Derbyshire [Frongaled gynt]. Cafwyd croeso cynnes iawn a phnawn gwirioneddol ddiddorol yn profi cyfnod ingol yn ein hanes. Mwynhawyd y daith yn fawr iawn gan bawb. Ar y diwedd cafwyd paned a chacen yn y caffi a chyfle i adfyfyrio ar y profiad unigryw hwn. Os nad ydych chi wedi bod yn yr Ysgwrn, awgrymwn yn gynnil iawn y dylech fynd cyn gynted ag bo modd. Diolch i Eirlys Williams am drefnu. Fel y gwelwch, ychydig ohonom sydd yn y gangen erbyn hyn. Pam na ddewch chi atom - cewch sawl profiad difyr mewn blwyddyn!

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR MATERION YN CODI Pwyllgor Neuadd Goffa Adroddodd Robert G Owen ei fod wedi mynychu cyfarfod blynyddol yr uchod yn ddiweddar a bod y pwyllgor yn fodlon i deulu’r diweddar Mr Gwilym Jones, Bryn Awelon osod y diffibriliwr y maent yn ei archebu er cof ar wal y neuadd. Hefyd cafwyd gwybod bod y sefyllfa ariannol yn iach. CEISIADAU CYNLLUNIO Gosod 3 ffenestr do newydd ar yr edrychiad cefn ac ehangu ffenestr do bresennol ar yr edrychiad blaen, ail doi ac ymestyn ystefell haul blaen presennol ar yr edrychiad blaen a gosod tanc olew - Golygfa, Llandanwg. Cefnogi’r cais hwn. GOHEBIAETH Parc Cenedlaethol Eryri Derbyniwyd llythyr ynghyd â dogfennau oddi wrth yr uchod ynglŷn â Chynllun Datblygu Lleol adolygedig Eryri 2016-2031 yn gofyn a oes gan y Cyngor unrhyw sylwadau i’w gwneud ynglŷn â’r Newidiadau Ffocws arfaethedig a’r dogfennau cefnogol. Cytunodd Dylan Hughes gael golwg arnyn nhw. UNRHYW FATER ARALL Mae David John Roberts wedi tacluso’r llwybr o groesffordd Brwynllynnau draw am Uwchglan a diolchwyd iddo am wneud y gwaith hwn. Cytunwyd i ofyn i Mr Meirion Griffith gynnwys y llwybr hwn ar y rhestr o lwybrau sydd angen eu torri o hyn ymlaen. Cafwyd gwybod gan Mair Thomas bod angen sylw ar hysbysfwrdd y pentref, hefyd bod Mr Arwel Thomas wedi cael golwg ar gyflwr wyneb y llwybr am y fynwent. Cytunwyd bod pawb ar ôl y cyfarfod yn mynd i weld beth oedd yn bod efo’r hysbysfwrdd, hefyd asesu cyflwr llwybr y fynwent. Mae angen cofrestr claddu newydd gan fod yr un presennol a oedd wedi ei gychwyn ym mis Ebrill 1928 bellach wedi ei lenwi. Cytunwyd bod y Clerc yn archebu un newydd ar ran y Cyngor.

Cydymdeimlad Cydymdeimlwn yn ddwys iawn ag Arwel, Haf a Nia ym marwolaeth eu mam, Mair Meredith Williams, Glennydd, a fu farw fore Gwener, 27 Ebrill, yn Ysbyty Dolgellau, yn 89 mlwydd oed. Roedd yn wraig hynod o weithgar yn y gymdeithas a bydd colled enfawr ar ei hôl yn yr ardal.

Diolch Dymuna Mrs Pam Richards, Tyddyn Llwyn, Llandanwg, ddiolch i’w theulu a’i ffrindiau am y cardiau a’r anrhegion a dderbyniwyd ganddi ar achlysur dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed yn ddiweddar. Rhodd a diolch £10

CLWB RYGBI HARLECH Cynhaliwyd ymarfer rygbi tag Clwb Rygbi Harlech i blant rhwng 8-11 oed ar gaeau Brenin Siôr V nos Iau, 4.30 - 5.45 o’r gloch. Cynhelir yr ymarfer yn wythnosol tan hanner tymor. Daeth criw o blant yr ardal at ei gilydd i fwynhau ymarfer gydag Osian Roberts sydd wedi bod yn ymweld â’r ysgolion tymor diwethaf. Cynhelir Cystadleuaeth Goffa Gwynfor John ar Fehefin 21 - cofiwch gefnogi.

4


Y diweddar John Williams, Y Wern, Morfa Harlech Saer gwych oedd John Wern yn ogystal â bod yn ffarmwr. Cynigiwyd iddo brentisiaeth saer yn Llundain ond gwrthodod oherwydd ei fod yn dioddef o gyflwr oedd yn ei yrru i gysgu yn sydyn, yn enwedig os byddai rhywun yn ei wneud o chwerthin neu dan deimlad. Os galwai heibio Bryntirion, Yr Ynys, ar ei feic a gweld dieithriaid yno, ni arhosai oherwydd na allai gynnal sgwrs gyda deithriaid am y gallai syrthio i gysgu ac nid oedd eisiau teimlo’n chwithig. Os oedd ynghanol cydnabod ni faliai. Roedd yn ffrindiau agos â’n teulu ni a hefyd roedd ei chwaer Laura wedi priodi brawd fy nhad sef Harry, felly roedd cyswllt teuluol yn ogystal. Treuliai ’nhad oriau fin nos y gaeaf yn aml yn ymweld ag un o’r tai mwyaf poblogaidd, Y Wern, a byddai seiat go iawn yno gyda Gareth Wyn y Waun ac Arwel o Stiniog yn ychwanegu at yr hwyl. Roedd y frawddeg “Picio i Wern” yn aml yn cael ei chlywed. Byddai Wyn y gŵr wrth ei fodd yn mynd yno hefo Dad i ganol y tynnu coes a’r miri. Ai Dad yno i helpu gyda’r cynhaeaf gwair a thelid y gymwynas yn ôl fel y byddai John a Robat Gwilym yn helpu ym Mryntirion. Unwaith, pan oedd Dad a John Wern ar ben y das wair yn derbyn y gwair oddi ar y drol gan y taflwr (ai Gareth, dybed?) dywedwyd rhywbeth gwirion a lloriwyd John Wern yn syth ond roedd Dad (John Pensarn) yn barod amdano fel bob amser a symudiad sydyn i’w ddal o dan ei geseiliau fel y cwympai yn ddiogel a pheidio cwympo oddi ar y das wair. Dro arall a finnau’n blentyn yn Ysgol Talsarnau daeth John Wern heibio ac fe fynnodd nad oedd yn cael bwyd hefo ni ac felly ddim am eistedd. Pwysodd yn erbyn drws canol y gegin a ’nhad yn ei gadair freichiau wrth y bwrdd. Aeth y sgwrs i drafod niwsans y moch daear oedd yn bodoli yr amser hynny ac heb yn feddwl iddo rhoddodd John Wern ei farn ar y mater ac yn ei sgwrs roedd ganddo reg reit amrwd i glustiau hogan ysgol. Sylweddolodd yn syth ac aeth yn llipa a llithro lawr y ffrâm drws nes roedd ar ei hyd ar lawr. Dad yn cynhyrfu dim, cododd yn bwyllog a chodi John Wern ar ei draed. Arfer llawer yr adeg honno oedd torri gwallt y naill a’r llall. Yn yr haf, fe fyddai’r broses yn digwydd ar y concrid yng nghefn Bryntirion neu Pensarn - dibynnu pwy fyddai wrthi a phwy fyddai angen torri ei wallt. Y tro yma John Pensarn a John Wern oedd y ddau mewn angen. Mae’n debyg i John Pensarn dorri gwallt y llall gyntaf ac wedyn newid drosodd. Roedd John Wern wrthi’n dalog hefo’r peiriant (clipars) ac mae’n debyg ei fod yn torri’n rhy isel. Y cwbl ddywedodd John Pensarn yn dawel oedd “Llai o ddyfnder, Wilias” a bu’n ddigon. Roedd hynny wedi gyrru John Wern i chwerthin ac i lawr â fo’n llipa, y clipars yn ei law a John Pensarn yn gorfod mynd lawr hefo fo neu golli darn o groen ei ben!

Anifeiliaid yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru Ydych chi’n hoff o gŵn neu’n hoff o gathod? Ai ‘Creadur rheibus yn ŵr o’r un teulu â’r blaidd, ond a ddofwyd i raddau helaeth ... nodedig am ei gynneddf ddeallus a’i ymlyniad wrth ddyn’, neu ‘anifail dof pedwartroediog bychan sydd ag ewinedd llym a blew esmwyth ac a gedwir yn aml i ddifa llygod’ yw eich ffefryn? Mae’r diffiniadau yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru yn disgrifio’r anifeiliaid hyn i’r dim gan greu darluniau ohonyn nhw yn y meddwl. Tybed a fedrwch ddyfalu pa anifeiliaid sy’n cael eu disgrifio isod? ‘Anifail hirflew o rywogaeth y Capra (nodweddir y gwryw gan ei gyrn a’i farf a’i aroglau cryf) sy’n cnoi ei gil ac yn crwydro mynyddoedd’ ‘Anifail cigysol o rywogaeth y Lutra sy’n byw yn y dŵr, a chanddo gôt o flew llwydfrown tywyll, traed gweog i’w alluogi i nofio, a chynffon lydan i’w lywio drwy’r dŵr’. ‘Y llwdn neu’r cilfilyn gwlanog (diniwed a heidiol) a gedwir i bori ar fynydd-dir, ayyb a’i fagu er mwyn ei gig a’i gnu’. ‘Creadur ysglyfaethus o dylwyth y wenci (ond mwy o faint), a’i flew yn llwytgoch yr haf, gan droi’n wyn y gaeaf ’. ‘Cnofil sy’n perthyn i is-deulu’r Cricetinae a chanddo gynffon fer a bochau codog mawr ac a gedwir yn aml fel anifail anwes’. (Yr atebion yw gafr, dyfrgi, dafad, carlwm, a bochdew.) Wyddoch chi pa anifail yw’r llostog? Mae llostog yn un o nifer o enwau a gofnodir gan y Geiriadur am lwynog. Tarddiad y gair yw llost, sef ‘cynffon’ ac ‘-og’, sef ‘a chanddo gynffon’, sy’n addas iawn i ddisgrifio’r hen Siôn Blewyn Coch! Efallai fod cadno, madog, madws, madyn, pry coch neu gwyddgi yn enw mwy cyfarwydd i chi? Mae enwau dros 90 o anifeiliaid wedi eu cofnodi yn y Geiriadur – porwch ynddo i geisio dod o hyd iddyn nhw, a rhowch wybod os oes gennych ar lafar unrhyw enw diddorol am anifail sydd heb ei gofnodi yno. Medrwch gysylltu â ni drwy ein gwefan, ar e-bost (gpc@geiriadur.ac.uk), neu wrth ysgrifennu i’r cyfeiriad canlynol: Geiriadur Prifysgol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3HH

Gŵyl Harlech 1911

Bu farw fy nhad a doeddwn i ddim wedi gweld John Wern ers y cynhebrwng tan y Sioe Sir ar gaeau Tŷ Cerrig. Deuthum wyneb yn wyneb ag o ar y cae a gwyddwn yn reddfol nad oedd fiw imi fod yn rhy deimladol neu byddai wedi bod yn anodd iawn iawn ar John Wern a chedwais y sgwrs mor ysgafn ag y gallwn dan yr amgylchiadau. Collais i fy nhad ond roedd yntau wedi colli ffrind agos a gallai fod wedi effeithio arno yn y fan a’r lle. Olwen Jones, ’Rynys gynt Tybed a oes gan unrhyw un o’n darllenwyr atgofion teulu am yr ŵyl hon? Buasem yn falch iawn o glywed gennych. [Gol.]

5


H YS B YS E B I O N MWY NA SIOP BAPUR...

SIOP DEWI

14/15 Stryd Fawr Penrhyndeudraeth 01766 770266

dewi11@btconnect.com Papurau, cylchgronau, llyfrau a chardiau Ac yn NEWYDD Bwydydd Cyflawn a Bwydydd Iach Cefnogwch eich siop leol, Cymraeg ei hiaith

E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr

01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

-

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu 01341 241297

CYNLLUNIAU CAE DU Stryd Fawr Harlech, Gwynedd 01766 780239

ARCHEBU A

01341 421917 07770 892016

Sŵn y Gwynt Talsarnau, Gwynedd

www.raynercarpets.co.uk

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

i unrhyw le yn yr UK!

Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk

drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]

GERALLT RHUN

07776 181959

1 Osmond Terrace, Penrhyn Ceir ar gael yn ardaloedd Arfon, Dwyfor a Meirionnydd Ffoniwch 01766 772926 07483 166901

Llais Ardudwy

ALAN RAYNER GOSOD CARPEDI

Llanuwchllyn 01678 540278

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

Tiwniwr Piano

g.rhun@btinternet.com Tiwnio ...neu drwsio ar dro!

GWION ROBERTS SAER COED 01766 771704 - 07912 065803 gwionroberts@yahoo.co.uk

C.E.F.N Tacsi Cyf

Tafarn yr Eryrod

01766 512091 / 512998

TREFNWYR ANGLADDAU

Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

JASON CLARKE Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

DAVID JONES

Cigydd, Bermo 01341 280436

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

ADEILADWR Gwarantir gwaith o safon.

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

MELIN LIFIO SYMUDOL

Gadewch i’r felin ddod atoch chi! www.gwyneddmobilemilling.com

dros 25 mlynedd o brofiad 6

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014


DYDDIADUR Y MIS Pob dydd Iau - Stondin Ambiwlans Awyr Cymru, Gardd Gwynfor a Maureen, Bermo, 9.30 – 4.00 Mai 10 - Gyrfa Chwist, Neuadd Talsarnau, 7.30 Mai 15 – Gyrfa Chwist, Neuadd Goffa Llanfair, 7.00 Mai 15 – Clwb Cinio Dyffryn, Yr Afr, Bryncir, 12.00 Mai 24 – Cyngerdd yr Ysgol Gynradd Talsarnau, 6.00 Mehefin 8 - Noson Goffi Ymchwil Canser, Harlech, 6.30 Mehefin 9 - Mochras yn dathlu 60 mlynedd, Mochras, Llanbedr, 12.00 tan hwyr. Mehefin 15 – Cyfarfod Pregethu, Salem Cefncymerau, 7.00 Mehefin 21 - Cystadleuaeth Goffa Gwynfor John - rygbi tag Mehefin 23 – Taith Gerdded er cof am Gwynfor John Mehefin 30 - Ffair Llanbedr, 12.00 – 4.00 Gorffennaf 26 - Gig ‘Gastric Banned’ (Ambiwlans Awyr Cymru), yn Neuadd Dyffryn Ardudwy, 7.30 Awst 5 - Diwrnod Golau Glas, Bermo Awst 11 - Diwrnod Hwyl, Dyffryn Ardudwy

BWYD A DIOD

Os oes gennych ddigwyddiad i’w gynnwys, a wnewch chi anfon y manylion at Mai os gwelwch yn dda? Mai Roberts, Nant-y-Coed, Dyffryn Ardudwy, LL44 2EN. Ffôn – 01341242744 / 07818 843309 ; ebost – mairoberts4@btinternet.com

Taith Awstria

Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/llaisardudwy/docs

^

Llais Ardudwy

Mae sawl perk ar gael yn fy ngwaith yn y busnes gwin ac un o’r gorau yw ymweld â’r gwinllannoedd! Y mwyaf diweddar oedd i Awstria, gan gynnwys cyfarfod yr wynebau sydd y tu ôl i’r botel. Uchafbwynt y daith i mi oedd Weingut Johann Topf, cynhyrchwr bach o ganol Strass yn ardal Kamptal i’r gogledd o’r Donau (Danube) ac i’r gorllewin o Wien (Vienna). Un wers ddiddorol oedd y gwahaniaeth sylweddol ym mlas y ddau win – yr un grawnwin ond wedi’u plannu mewn gwahanol winllannoedd. Cawsom flasu Grüner Veltliner (grawnwin gwyn – y math mwyaf cyffredin sy’n cael eu plannu yn Awstria). Roedd y grawnwin o’r gwin cyntaf yn dod o winwydd wedi’u plannu yn sawl safle o gwmpas y dref tra’r oedd yr ail win o un safle: Wechselberg. Y prif wahaniaeth rhwng y ddau win yw’r pridd: mae Strassertal yn gymysgedd o raean tywodlyd a chraig sylfaenol. Ar y llaw arall, yng ngwinllan

SAMARIAID Llinell Gymraeg 0808 164 0123

Wechselberg mae pridd schist sy’n cynnwys llechen folcanig. Gallwch ddychmygu bod y ddau yn flasus dros ben! Ond syndod i mi oedd sut oedd dwy botel o win o’r un math o rawnwin yn gallu cynhyrchu gwin mor wahanol. Veltliner nodweddiadol a gynhyrchir yn Strassertal, crisp a sych gyda blas grawnffrwyth a phupur gwyn. Er bod y Wechselberg yn debyg, mae’n win llawer mwy llawn a chrwn gyda mwy o ddyfnder a phŵer i weddu gyda bwyd. Roedd y gwahaniaeth yma’n ymestyn i’r Riesling a gynhyrchir yn y ddwy winllan hefyd. Profiad arall arbennig yn y winllan oedd ymweld â’r seler wallgof! Yn bendant, doeddwn i ddim yn dychmygu o’r darlun ar label y gwin fy mod am gael fy nhywys i lawr i seler gyda hanes yn ymestyn yn ôl 400 mlynedd! Lawr yn nyfnder yr adeilad, mae dechrau’r dyfodol i’r winllan lle mae’r ddau fab hynaf wedi cychwyn ar daith yn y byd cynhyrchu gwin, a’u henwau a’u dyddiad geni wedi eu naddu yn eu casgenni eu hunain. Ar ôl blasu Riesling Maximillan, gallaf eich sicrhau fod dyfodol y winllan yn hollol ddiogel yn eu gofal.

Terri Jones Gwin Dylanwad Wine Dolgellau

7


HARLECH

Sefydliad y Merched Harlech Croesawodd y llywydd Jan Cole yr aelodau i’r cyfarfod a gynhaliwyd nos Fercher, 11 Ebrill, yn Neuadd Goffa Harlech. Cafwyd munud o ddistawrwydd i gofio am aelod annwyl iawn, sef Gwenda Jones. Ar hyd y blynyddoedd mi oedd Gwenda wedi bod yn weithgar iawn ac wedi bod yn Is-lywydd Sefydliad y Merched Harlech. Cydymdeimlwn yn fawr gyda Hefin a’r teulu yn y golled fawr yma. Rhoddwyd cardiau pen-blwydd i aelodau oedd yn dathlu penblwydd y mis yma. Darllenwyd y llythyr o’r sir a chofnodwyd dyddiau o bwys, yn arbennig y cyfarfod yn y Drenewydd ar 17 Ebrill, cinio ym Mhlas Tanybwlch 18 Ebrill a Chyngor y Gwanwyn ym Mhenrhyndeudraeth ar 24 Ebrill. Derbyniwyd cardiau o ddiolch gan bedair cangen am y noson wych gawsom ym mis Fawrth a phawb yn canmol y noson ac yn arbennig Ceri Griffith a’r Band. Cyflwynwyd y wraig wadd Maria Hayes. Roedd Maria’n dweud hanes gweilch y pysgod gyda lluniau gwych. Cawsom eu hanes yn teithio’n ôl ac ymlaen i’r un nyth am tua 3-4 blwyddyn i Dremadog. Cawsom hanes difyr o ddychweliad yr adar i’r ŵy cyntaf ac yn gweld y cywion yn cael eu magu gan y fam a’r tad, yna’n gadael y nyth ac yn hedfan ymhell i Affrica ac yn ôl i’r wlad yma Diolchwyd gan Sheila Maxwell. Cynhelir y cyfarfod nesaf nos Fercher, 9 Mai, yn y Neuadd Goffa gyda Kim McGuigan yn dweud hanes y Body Shop. Croeso i unrhyw un ymuno â ni. Genedigaeth Llongyfarchiadau gwresog i Glennys Griffitha, 44 Y Waun ar ddod yn hen nain unwaith eto. Ganwyd Ivy Rose ar Ebrill 6 yn 9 pwys a 10 owns, merch fach i wyres Glennys, sef Siân a’i gŵr Rob sy’n byw yn Brissenden, Caint (Kent). Llongyfarchiadau i Nain a Taid hefyd, sef Ion a Bernie Griffiths.

Capel Jerusalem

MAI 20 am 2.00 Parch Christopher Prew

8

MARATHON LLUNDAIN

Genedigaeth Llongyfarchiadau cynnes a dymuniadau gorau i Bec ac Andrew Cockerill ar enedigaeth eu mab bach, sef Benjamin John ar Ebrill 24, yn 9 pwys 6 owns. Llongyfarchiadau hefyd i Nain a Taid, sef Anne a Gary Evans, Cartref, Ffordd y Morfa, heb anghofio yr hen nain, Eifiona Williams. Dymuniadau gorau i’r teulu bach newydd.

TREM YN ÔL

Ymwelodd gŵr bonheddig o’r enw Mr Keren o Lundain â Harlech gyda’r bwriad o aros am tua pedwar mis yno. Byddai yn arfer â mynd i lawr i lan y môr bob bore, a bore Gwener, 13 Gorffennaf, aeth i lawr fel arfer, ac aeth i ymdrochi yn ymyl y llong fawr oedd wedi rhedeg i’r Marwolaeth lan, a rhywfodd boddodd mewn Bu farw Mair Elisabeth ychydig amser. Gadawodd y Evans, Fronhyfryd yn Ysbyty llanw ef ar y lan; ac yn fuan wedi Morgannwg, Llantrisant, a hynny, daeth ei wraig ar ei ôl, hithau yn 87 oed. Roedd yn a’r peth cyntaf welodd oedd ei wraig siriol a phoblogaidd ac yn hannwyl briod yn gorwedd yn Rhedodd Carolyn Dalton, wyres gefnogol iawn i gymdeithasau noeth ar y lan, wedi marw. y ddiweddar Blodwen Jones, 23 Cymraeg y dref. Roedd yn fam Cludwyd ef i’w lety yn fuan gan Y Waun, ym Marathon Llundain i Bryn, Eleri a Rhys ac yn nain y dynion oedd yn gweithio ar y ar Ebrill 22 mewn amser i Aneurin, Nia, Gareth, Beth, llong yn ymyl. Ei oedran oedd anhygoel o 3 awr 28 mun, sydd Grace a Bethan. Cydymdeimlwn tua 48 oed. O ran ei gelfyddyd yn rhyfeddol o ystyried y tywydd â’r teulu oll yn eu profedigaeth. yr oedd yn arlunydd o’r radd chwilboeth. Roedd Carolyn yn Cynhaliwyd y gwasanaeth yng flaenaf, ac yn aelod gyda’r rhedeg i godi arian i’r elusen Nghapel Uchaf ar Ebrill 26. Catholigion. Rheithfarn, ‘cafwyd blant ‘Arch Noa’ ac fe lwyddodd wedi boddi’. 1877 i godi dros £2000 at yr achos. W Arvon Roberts Llongyfarchiadau gwresog iddi.

CERRIG HARLECH

ENGLYN DA

CYFRINACH

Gwenu wrth lôn Bryngeinach - a wnaeth Taid, Gweld nyth twt mewn cilfach; Ni rannwyd y gyfrinach Wele, byw yw’r teulu bach. John Rowlands, 1911-1969

HARLECH TOYOTA Cerrig a beintiwyd gan Alison Rayner ac a gafodd eu cuddio yn Llandanwg a Llanbedr yn ddiweddar.

NOSON GOFFI + Adloniant Nos Wener, Mehefin 8 Neuadd Goffa Harlech am 6.30 Mynediad £1 Elw at Gronfa Ymchwil Canser Cangen Harlech

Ffordd Newydd, Harlech 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@ harlech.toyota.co.uk facebook.com/ harlech.toyota Twitter@ harlech_toyota


Teyrnged i mam (Mair Evans, Harlech) gan ei merch Eleri Shaw. a draddodwyd ar ddiwrnod angladd Mair, 26 Ebrill 2018. “Er nad oedd hi’n fawr, roedd hi’n ddigon i lenwi, i lenwi sawl calon.” Heddiw sylweddolaf mor wir y dywediad ‘Cledd â min yw claddu mam.’ Tueddiad unrhyw deyrnged yw gorganmol ond byddai hynny’n groes iawn i ddewis mam; ond nid rhaid gor-ganmol gan iddi fod yn fam dda iawn i mi, Bryn a Rhys. Taen ni’n MAIR ELISABETH cael cyfle i ail-gychwyn eto a chael (Traddodwyd yn angladd Mair dewis o fam, yr un fyddai’n dewis Evans yn Harlech) gennym ein tri. O Ddolbebin i Harlech, mae’n amlwg fod Mrs Evans ar bererindod Bydd bwlch mawr ar ei hôl - neb i ofyn cyngor a neb i gael sgwrs ar y mwyn a thyner cyn iddi gyrraedd ffôn pan gawn newydd go gyffrous. adref i fynwes ei mam a’i thad yma Bydd hyn yn golled mawr inni. yng Nghapel Uchaf. Ond rhaid cofio bod mam hefyd Gyda chymorth Yncl Lewis, dwi’n ei chofio’n hyfforddi Eleri a minnau yn licio cael hwyl. Roedd wrth ei bodd yn chwerthin ac fasa rhywbeth i ganu deuawdau megis ‘Dwy Law yn ei thiclo, ni fuasai’n gallu stopio yn Erfyn’, ‘Ti Friallen’, ‘Doethion chwerthin wedyn! Ddaeth’ a ‘Tw whit Twwhww’ ar gyfer eisteddfodau lleol. Mae Eleri a Roedd mam wrth ei bodd yng nghwmni plant. Dwi’n cofio hi’n finnau’n dal i ganu efo’n gilydd hyd deud mor hapus oedd hi’n helpu heddiw. Diolch, Mrs Evans, am roi plant bach yn yr ysgol gynradd yn cân yn ein calon. Harlech i ddarllen. Roedd Beth, Dyddiau difyr - Bryn yn campio gyda’r bois; Eleri yn reidio’r ceffylau fy merch, wedi deud laweroedd o weithiau ei bod yn cofio Nain yn (Gwenno a’r cawr Captain) a Rhys darllen llyfrau efo hi pan roedd yn yn y cefndir yn gwylio ei frawd a’i hogan fach ac yn gwneud ‘spelling chwaer, teulu Mrs Evans. tests’ ac yn gwerthfawrogi hyn, a Gwelodd Mair amseroedd llwm minnau hefyd yn cofio’r ‘spelling drwy symud o Gwm Bychan i tests’ pan roeddwn innau’n hogan Harlech; damwain Bryn; Eleri yn ymgartrefu yng Nghaerdydd a Rhys fach yn Dolbebin. yn mynd ar ei drafels dramor. Ond, Byddai Wil Pant Gwyn yn deud fod Mam o hyd yn cymryd diddordeb drwy hyn i gyd, bu Mrs Evans yn yn ei waith ysgol pan oedd o’n ddynes dawel, tyner a theg. Byddai wedi gwneud ysgfrifenyddes hogyn bach. Roedd Mam yn hoffi mynd heibio dda i Huw John Hughes, Ysgol hen bobl hefyd, yn mynd i’w gweld Ardudwy oherwydd byddai’n yn Harlech i roi cymorth a chwmni deud “Siaradwch Gymraeg” o hyd iddynt yn enwedig i rai oedd ar ben pe clywai Eleri a finnau’n siarad eu hunain ac yn unig, ac roedd yn Saesneg. mwynhau mynd efo Anti Gweneth Mae’r teulu i gyd wedi dod at ei fel ‘home help’ ers talwm a chael lot gilydd yma i chi, Mrs Evans - Bryn o hwyl yn gwneud hyn. a’r teulu, Linda, Aneurin, Nia, Gareth, Grace a Bethan; Eleri a Beth Rydym o dan gwmwl du heddiw ond rhaid sylweddoli mor ffodus (Nathan a Jack gartref, gydag un bach arall ar ei ffordd) a Rhys a Mia. y bum o’i chael am wythdeg saith mlynedd. Cafodd llawer mo’r Eich etifeddiaeth. fraint honno. Felly rhaid diolch am Un ffeind iawn oedd Mrs Evans bopeth a dderbyniom ganddi dros a byddai’n gofalu am ei theulu, y blynyddoedd. Os yw’n ddiwrnod ffrindiau a chymdogion ymhell trist heddiw i Bryn, Rhys a minnau, cyn i wasanaethau cymdeithasol hefyd ei holl wyrion a’i hwyresau, ddechrau gofalu am y gymuned. Yn ddiweddar ymwelodd ag Ysbyty y meddyliai’r byd ohonyn nhw, rhaid ceisio cofio’r amseroedd da a Gwynedd, Bronglais, Dolgellau gawsom i gyd yn ei chwmni. a’r Royal Glamorgan, a chartrefi “Ei rhinwedd, nad oedd gyfrinach Bermo, Swindon a Phontypridd! wna wylio’r ffarwelio’n galetach.” Collodd ei llais a’r gallu i symud, “Cyn hyn, o glywed newydd ond un peth na chollodd Mair Boed hwnnw’n ddrwg neu dda. erioed oedd ei gwên lydan. Bydd Os drwg, cael sgwrs er ceisio hon yn aros yn ein cof am weddill Troi’r gaeaf oer yn ha’. ein hoes. Cysgwch yn dawel. Pa newydd fo, daw deigryn. Pam? Lis Lasynys -------------------------------------- Chai’m codi’r ffôn i ddeud wrth mam.” Diolch i bawb am bob gair o Cofion trist felys fydd.

gysur a chydymdeimlad.

Ler x

a chenedlaethol megis Merched y Wawr Llanfair a Harlech, Cymdeithas Gymraeg Harlech, a Chyfeillion Ellis Wynne. Bu hefyd yn olygydd Llais Ardudwy ar un pryd ac yn aelod o sawl pwyllgor lleol megis Neuadd Goffa Llanfair, Cyfeillion y Lasynys Fawr a gohebydd y wasg i Ferched y Wawr Llanfair a Harlech. Er na grwydrodd ymhell iawn o’i chynefin, mentrodd cyn belled â Chanada i weld ei pherthnasau (teulu Brwynllynnau), efo’i chwaer yng nghyfraith, Delyth, oedd yn dod yn MAIR M WILLIAMS wreiddiol o Lanelltyd. Roedd wrth [MAIR M] ei bodd hefyd yn mynd i aros ar Ynys Yn dawel ar fore Gwener, 27 Ebrill, Enlli efo’i ffrind bore oes, Margiad yn Ysbyty Dolgellau, bu farw Mair Wilson (Hughes gynt) o Harlech. Meredith Williams (Mair M), Byddai’r ddwy’n hel eu bwyd a’u Glennydd, Llanfair, yn 89 mlwydd dillad am yr wythnos cyn cychwyn oed. Cynhaliwyd yr angladd yn am harbwr Pwllheli i ddal y cwch. Amlosgfa Bangor fore Gwener, Y cychwr bryd hynny oedd Edwin 4 Mai, gyda gwasanaeth coffa i Williams, Bryn Hoel, Llanfair, gynt, ddilyn yng Nghapel Caersalem, ffrind bore oes a oedd yn ddisgybl Llanfair, yn y prynhawn, dan yn ysgol Llanfair yr un pryd â hi. ofal y Parchedig R W Jones, a Roedd cryn dynnu coes bob amser Catrin Richards wrth yr organ. felly ar y daith draw dros y Swnt. Bu Cafwyd datganiad hyfryd o ‘Panis hefyd ar sawl taith efo’r Terfeliaid ac Angelicus’ gan Lewys Meredydd, roedd wrth ei bodd yn cael mynd efo ŵyr Mair, darllenodd Nia Medi Margiad ar dripiau Silver Star i sawl straeon ei mam am Neuadd Eisteddfod Genedlaethol. Goffa Llanfair, a chafwyd hanes ei Yn y blynyddoedd diwethaf, bu’n chefndir fel isod gan Haf Meredydd. rhaid iddi fynd i’r ysbyty droeon a Ganed Mair yn Awelfryn, Harlech rhyw ddeunaw mis yn ôl symudodd (cartref ei thaid a’i nain ar y pryd), i Hafod Mawddach gan nad oedd yn yn ferch i’r diweddar Jennie gallu ymdopi yn ei chartref mwyach. Meredith Evans a John Evans, Er hynny, roedd yn mwynhau gwylio Brwynllynnau. Ddwy flynedd yn chwaraeon amrywiol, yn enwedig ddiweddarach, ganed ei brawd rygbi, ar y teledu, ac roedd S4C, a Gwynfor, a bu’r teulu’n byw mewn Phobol y Cwm, yn gyfeillion cyson gwahanol gartrefi’n yr ardal yn iddi. Roedd hefyd wrth ei bodd pan cynnwys Bwthyn Llanfair Isaf, yn fyddai pobl yn galw heibio am sgwrs, un o dai Pensarn, ac yn Neuadd a bu rhai cyfeillion yn ffyddlon iawn Goffa Llanfair, lle’r oedd ei mam drwy gydol y misoedd diwethaf. yn ofalwr. Roedd gan Mair lu o Diolch iddyn nhw un ac oll. straeon am y cyfnod hapus yn y Dyna’r boen a’r dioddef drosodd Neuadd Goffa, y digwyddiadau yno erbyn hyn, felly, a bydd hithau’n a rhai o’r cymeriadau a fyddai’n dod ôl ym mhentref Llanfair cyn bo yno’n rheolaidd i gymryd rhan yn hir. Yma fydd hi wedyn, yn ôl yn yr amrywiol weithgareddau. Ardudwy, ei chynefin a’i chartref am Mi fyddai Mair M wedi bod yn gymaint o flynyddoedd. 90 ym mis Tachwedd eleni. Ar ôl Adre’n ôl ... mynd i ysgol gynradd Llanfair ac HM Ysgol Ramadeg y Bermo, aeth i’r Diolch Coleg Normal, Bangor, i hyfforddi Dymuna Arwel, Haf a Nia a theulu’r fel athrawes. Bu’n dysgu wedyn ddiweddar Mair M ddiolch o galon am sbel ym Mirmingham ac yn i bawb sydd wedi cysylltu gyda Llanegryn, cyn dychwelyd i’w bro negeseuon o gydymdeimlad. enedigol a dysgu dros dro mewn Diolch i garedigion Capel Caersalem amrywiol ysgolion megis ysgol a Neuadd Goffa Llanfair am eu fach Llanfair. Yna cafodd swydd parodrwydd i’r teulu gael defnyddio’r yn Ysgol Ardudwy, lle bu’n aelod adeiladau dan sylw, ac i bawb a o’r staff am bron i ugain mlynedd, gymerodd ran yn y gwasanaethau. gan ymddeol ar ddechrau’r 80au. Os hoffech gyfrannu rhodd er cof Diolch i rai o’i chyn-ddisgyblion am Mair M tuag at Neuadd Goffa sydd wedi cysylltu yn y dyddiau Llanfair, Llais Ardudwy, Ysgol diwethaf ac wedi dweud eu bod yn Tanycastell a chronfa Plas Bach, Ynys gwerthfawrogi ei chymorth yn yr Enlli, achosion oedd yn agos iawn ysgol uwchradd hyd heddiw gan at ei chalon, cysylltwch â’r teulu neu iddi fod yn athrawes mor dda. derbynnir rhoddion yn ddiolchgar Roedd wrth ei bodd yn gan Pritchard a Griffiths Cyf, cymdeithasu ac roedd yn aelod Tremadog (ffôn 512091). o bob math o gymdeithasau lleol Diolch a rhodd £10

9


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Newid aelwyd Darlith Flynyddol Dyna fu hanes Ieuan ar ôl treulio Cyfeillion Ellis Wynne dros saith deg mlynedd yng Nghefn Gwyn. Mae wedi symud i 6 Maes Mihangel, Ynys, a hyfryd yw ei fod yn cael aros yn ei ardal enedigol. Dymuniadau gorau a gobeithio y caiff iechyd a hapusrwydd yn ei gartref Nos Iau, 19 Ebrill, traddodwyd newydd. chwip o ddarlith ar dafodieithoedd Cymru gan Taith Gerdded 2018 Dr Iwan Rees, brodor o Harlech Er Cof am Gwynfor John Bydd y daith eleni yn digwydd ar sydd bellach yn aelod o staff Ysgol y Gymraeg Prifysgol ddydd Sadwrn, Mehefin 23. Y bwriad ydi cerdded i ben Moel Caerdydd. Arbenigodd ym maes Ysgyfarnogod a Bryn Cader tafodieithoedd Cymru ar ôl ennill Faner. Byddai’n grêt petaech ysgoloriaeth yn Aberystwyth ar gael i gymryd rhan ac i gymdeithasu. Manylion pellach i wneud doethuriaeth ar dafodieithoedd Cymraeg dwy ar www.cofiogwynfor.com neu ardal yn Sir Feirionnydd, sef drwy ffonio 01766 780742. tafodiaith cyffiniau Harlech a thafodiaith Bro Dysynni. Gan Cydnabyddiaeth fod ei astudiaethau yn y maes Dymuna Cassie a Sally ddiolch wedi ehangu yn ystod ei gyfnod yn ddiffuant iawn am bob ym Mhrifysgol Caerdydd, roedd arwydd o gydymdeimlad a cwmpas ei ddarlith, nos Iau, fynegwyd iddynt trwy’r cardiau, yng Nghanolfan Gymunedol y galwadau ffôn a’r ymweliadau, Talsarnau, yn cynnwys yn dilyn colli eu chwaer Gwenda Cymru gyfan. Ei destun oedd o Harlech. Gwerthfawrogwyd ‘Cylchoedd, Terfynau a Dyfodol y pob dim yn fawr iawn. Tafodieithoedd Cymraeg’. Rhodd a diolch £10 Gerbron cynulleidfa werthfawrogol, niferus, gyda Capel Newydd chymorth offer taflunio,

oedfaon am 6:00

MAI 13 - Dewi Tudur 20 - Dewi Tudur 27 - Dewi Tudur MEHEFIN 3 - Derrick Adams. 10 - Ben Thomas

Cyngerdd yr Ysgol Gynradd Nos Iau, 24 Mai am 6.00 o’r gloch Mynediad £5 [tâl gan oedolion yn unig] Elw at gostau’r plant yn Eisteddfod yr Urdd

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286

Ffacs 01766 771250

Honda Civic Tourer Newydd

10

traddododd ei ddeunydd yn frwdfrydig a golau. Er mai ffiniau anweladwy ydyw ffiniau tafodiaith, chadael â chlawdd terfyn neu ffens, ni rwystrodd hynny’r gynulleidfa rhag deall y cysyniad mai cydredeg â hen derfynau tiriogaethol Cymru, megis gwlad, cantref a chwmwd a wnai’r tafodieithoedd, a bod hynny’n golygu y gellid tafodiaith o fewn tafodiaith. Penderfynu nad oedd o ddim am ddarogan pa ddyfodol oedd yna i’r tafodieithoedd ddaru Iwan ac eithrio dweud y gallen nhw newid a’u bod nhw’n adlewyrchu cryfder cyffredinol y Gymraeg; awgrymodd ein bod ni, efallai, yn gweld arwyddion o dafodiaith newydd yn dechrau blaguro yn y de-ddwyrain. Ar derfyn y ddarlith, roedd cymeradwyaeth y gynulleidfa’n brawf o’i gwerthfawrogiad ac ar ôl tynnu tocynnau gwobr y raffl, derbyniol iawn gan bawb oedd y pana’d dda a’r danteithion cyn troi am adra. Diolch i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd at lwyddiant y noson.

Neuadd Talsarnau GYRFA CHWIST Nos Iau, Mai 10 am 7.30 o’r gloch Neuadd Gymuned Talsarnau

Noson o Adloniant gyda TRIO ac Annette Bryn Parri Nos Sadwrn, Medi 29, 2018 Tocyn: £10 Tocynnau ar gael rŵan gan Mai Jones 01766 770757 ac Anwen Roberts 01766 772960 Elw at gostau cynnal y Neuadd Gymuned

Ar Osod Byngalo dwy ystafell wely yn Nhalsarnau Dim ysmygu a dim anifeiliaid anwes Ymholiadau: 07860 845551

Neuadd Gymuned Talsarnau Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol y Neuadd nos Lun, 23 Ebrill a siomedig iawn oedd y ffaith na welwyd neb o’r gymuned yn y cyfarfod arbennig yma. Mae’n bryder mawr i aelodau’r Pwyllgor Rheoli bod cyn lleied o ddiddordeb yn cael ei ddangos yn y gwaith o ofalu a chynnal a chadw’r Neuadd. Mae hwn yn adnodd gwerthfawr iawn yn y pentref a cheisiwn, fel Pwyllgor, sicrhau bod y lle’n agored i bawb sydd am gael ei defnyddio i wahanol bwrpas. Defnyddir y neuadd yn rheolaidd gan: Yr Ysgol Feithrin - bob bore Clwb y Werin - clwb i’r henoed bob pnawn Llun, grŵp cyfrifiadurol ‘Trysorau Talsarnau’ sy’n cofnodi hanes lleol a chreu fideos - bore Llun. Côr ‘Cana-mi-gei’ - ymarfer ar nos Fawrth; grŵp ‘Pilates’ - bore Mawrth; grŵp dawns ‘PomPoms’ - dydd Mercher; dawnsio llinell - dydd Sadwrn; gwasanaeth post - pnawn Llun a bore Iau; Merched y Wawr - nos Lun cyntaf yn y mis; gyrfa chwist - nos Iau yn fisol; Cyngor Cymuned - 3ydd nos Lun yn y mis; Pwyllgor Rheoli’r Neuadd - 4ydd nos Lun yn y mis. Mae pwyllgorau eraill hefyd yn cael eu cynnal yn achlysurol. Mae’n dda o beth bod y rhain i gyd yn digwydd ac rydym yn ddiolchgar iawn amdanynt, ond nid yw’r rhain yn ddigonol i ymateb â’r costau cynyddol sydd i gadw’r Neuadd yn agored. Yn anffodus, rydym wedi colli grant blynyddol Cyngor Gwynedd ers tro ac eleni, wrth i’r Clwb Ieuenctid ddod i ben, ni fyddwn yn derbyn arian gan y Sir tuag at eu defnydd nhw o’r Neuadd. Rhaid nodi hefyd bod cyfraniadau Cyfeillion y Neuadd wedi lleihau llawer dros y blynyddoedd. Er mwyn ceisio gwella’r sefyllfa ariannol, gofynnwn yn garedig, os oes unrhyw un yn dymuno gwneud defnydd o’r Neuadd i ddechrau rhyw weithgaredd, clwb neu ymarfer, a wnewch chi gysylltu â’r Clerc Bwcio, Dionne Rayner ar 07940 481426 am wybodaeth bellach. Rydym wedi apelio am gymorth i brynu tri diffibriliwr i’r ardal eisoes ac yn ddiolchgar i bawb sydd wedi rhoi cyfraniad at rhain. Mae un wedi’i osod ar wal garej Talsarnau ac mae’r ddau arall wedi cyrraedd ac ar fin cael eu gosod. Y gwariant sylweddol rŵan ydy prynu tanc olew newydd a bydd y gost o’i adnewyddu tua £1,500. Gobeithio y cawn pob cefnogaeth er mwyn cadw’r Neuadd ar agor i’r dyfodol.


MWY O DDŴR Yn ôl Nain, byddai plant eu hoes hi yn tormenti’i gilydd trwy weiddi penillion câs am yr enwadau. Byddai`r Annibynwyr, efallai yn gweiddi ar ôl plant y Capel Methodus, ‘Methodistiaid creulon cas, Mynd i`r capel heb ddim gras: Gosod seti i bobol fawr A gadael tlodion ar y llawr.’ Ac yr oedd yna benillion digon sarhaus am yr enwadau eraill hefyd. Mae’n well peidio ymhelaethu gormod rhag gyrru darllenwyr Llais Ardudwy benben â’i gilydd. Ond dyma’r rhigwm i gynddeiriogi`r Bedyddwyr, ‘Batus y dŵr Yn meddwl yn siŵr Nad aiff neb i’r Nefoedd Ond y nhw.’ Ie, dwi yn gwybod bod yr odl olaf yna yn ddiffygiol ond fel yna y cefais i y pennill. Ond Batus y dŵr neu beidio mae’n rhaid cydnabod bod cyfraniad y Bedyddwyr i ganiadaeth y cysegr yn werthfawr iawn. Ysgrifennwyd rhai o’n tonau gorau gan y ddau frawd ddaeth yn wreiddiol o Rosllannerchrugog, sef John Hughes (1896-1968) ac Arwel Hughes (1909-1988). Mae Maelor o waith John Hughes (rhif 64) yn un o’n tonau enwocaf ac fe`i cenir ar yr emyn mawreddog , ‘Mae Duw yn llond pob lle’ ac ef sydd piau’r dôn Arwelfa hefyd (rhif 516). Arwel Hughes gyfansoddodd y dôn ‘Tydi a Roddaist’ ar eiriau T Rowland Hughes. Gwnaeth hynny yn yr ystafell aros yn stesion Amwythig rhwng dau drên medden nhw; mae yno dabled ar y wal i goffau’r achlysur. Mae’n rhaid bod y trên yn hwyr iddo fod wedi cael yr amser i gyfansoddi’r fath glasur o dôn. Bedyddiwr o emynydd oedd y Parch Ddr Hugh Cernyw Williams, Hywel Cernyw neu Cernyw a rhoi iddo ei enw barddol. Ganwyd ef yn

Y BERMO A LLANABER

Llangernyw yn 1843 ac aeth yn weinidog i Sir Drefaldwyn i Penfforddlas a Dylife yn 1869, pan oedd y gweithfeydd plwm yn eu bri yn yr ardal honno. Symudodd i Gorwen yn 1875 yn weinidog ar gapeli Bedyddwyr Corwen, Cynwyd a Charrog. Rhoddodd y gorau i gapel Carrog yn 1879 ond arhosodd yn weinidog Corwen a Chynwyd hyd nes iddo ymddeol yn 1918. Cartrefodd yng Nghorwen wedyn hyd ei farw yn 1937 yn 94 oed. Ei emyn enwocaf, mae’n debyg, yw ‘Am gael cynhaeaf yn ei bryd’ (rhif 65). Mae yna bump o’i emynau yn Caneuon Ffydd. Yr oedd yna ddau yn hen lyfr y Methodistiaid a dau yn hen lyfr yr Annibynwyr. Yn Llawlyfr Moliant y Bedyddwyr mae yna gymaint ag ugain emyn ganddo. Dywedodd un ffrind i mi oedd yn blentyn yng Nghorwen ei fod yn cofio Cernyw yn hen ŵr barfog yn cerdded y dref wedi ei lapio mewn côt a chrafat gan edrych braidd fel apostle spoon! Dywedodd hefyd beth arall am Cernyw sef bod pob emyn o’i eiddo yn cyfeirio at ddŵr o ryw fath neu’i gilydd. Cefais olwg ar y llyfrau emynau ac yn wir, ym mhob emyn o eiddo Cernyw mae sôn am afon neu fôr neu ffynnon neu don. Dim ond un emyn a welais nad oedd cyfeiriad at yr un o’r rhain ynddo ond mae’r emyn hwnnw yn sôn am niwl. Dyna ddigon o wlybaniaeth, cawn fater sychach y tro nesaf. JBW

Colli Dorothy Trist yw gorfod cofnodi marwolaeth Dorothy Williams o Craig-yr-Wylan, Llanaber yn 79 mlwydd oed. Roedd yn briod annwyl i’r diweddar Dr Gareth ac yn fam a mam-yngnghyfraith gofalgar i Richard a Lynne, Hywel, Siân a Hefin, nain arbennig i Gwenno Fflur. Roedd Dorothy yn hanu o ardal Amlwch yn Sir Fôn a chadwodd acen ei sir enedigol ar hyd ei hoes. Roedd yn wraig llawn bywyd ac yn weithgar iawn yn y gymuned. Bu hefyd yn hael iawn ei chymwynasau ar hyd y fro. Bydd chwith mawr ar ei hôl yn yr ardal hon. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol yn Eglwys Crist ar Fai 1af. Colli Jini Ar ôl cystudd hir bu farw Mrs Jane [Jini] Jeffs, Marine Court ar Ebrill 13. Roedd yn weddw i Ken ac yn fam i Tony, Karen, Helen a Joanne. Cydymdeimlwn â’r teulu oll yn eu profedigaeth. Roedd yn wraig siriol iawn ac yn weithgar iawn yn y dref ac yn aml iawn ei chymwynas. Roedd wrth ei bodd yn darllen Llais Ardudwy. Bydd colled fawr ar ei hôl yn y Bermo. Jini oedd yr olaf o deulu Gilar Wen, yn chwaer i’r diweddar Laura, Elizabeth a John. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol yn Eglwys Sant Ioan.

Sefydliad y Merched Ar Ebrill 25 cafwyd munud o dawelwch er cof am y ddiweddar Jinny Jeffs. Mae digwyddiadau i ddod yn cynnwys ‘Bwyta Allan’ yn Norbar ar yr 11eg o Fai; bowlio ar y grîn yn y Bermo ar Mai 15, Sioe Ffasiwn ar Mehefin 14, a thaith i Blas Newydd ac i Amgueddfa Sefydliad y Merched, Ynys Môn, ar Mehefin 21. Cyflwynwyd tlysau i’r Bermo am ennill y tîm dartiau a’r bowlio, yn ogystal â thlws i’r gangen gyda dros 25 o aelodau, oedd a’r cynnydd mwyaf mewn aelodaeth. Y siaradwraig wadd ar y noson oedd Mary Bolt, sydd dros y 15 mlynedd diwethaf wedi datblygu gardd sy’n agored i’r cyhoedd. Dangosodd ffilm i’r aelodau yn arddangos yr ardd yn y gwahanol dymhorau, a’r planhigion a‘r coed gwahanol, ynghyd â’r bywyd gwyllt yn yr ardd. Dywedodd Mary ei bod yn hoff o arddio ers yn blentyn, ac wedi creu gerddi pan yn byw yn Fiji ac yn Wiltshire, cyn iddi symud i fyw i Gymru. Janet enillodd y gystadleuaeth gosod blodau mewn cwpan de, enillwyd y raffl gan Jacqui, a Carol Rumford enillodd y blodau. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar Mai 23 pan fydd Kirstie Lumsden yn siarad am ei thaith ddringo i fyny Kilimanjaro. Merched y Wawr y Bermo a’r Cylch Trefnwyd noson i’r dysgwyr gan Pam sy’n ddysgwraig y flwyddyn ei hun ac yn ein cynrychioli ar y Pwyllgor Iaith a Gofal. Anfonwyd ein cofion cynhesaf at Megan a’n cydymdeimlad at deulu y diweddar Beti Trem y Don fel byddai pawb yn y Bermo yn ei hadnabod. Roedd Beti ymhlith yr aelodau cyntaf i ymuno pan sefydlwyd ein cangen. Croesawyd ein hymwelwyr gan Llewela ac yna buom yn chwarae dominôs a gêm ddifyr arall sef creu stori o nifer o frawddegau amrywiol. Bu llawer o chwerthin a sgwrsio cyn amser panad pan dynnwyd y raffl. Diolchodd Llewela i bawb am ddod ac yn arbennig i Pam am ei threfniadau trylwyr. Ar Mai 15 bydd Siân Lea o Ddolgellau yn dod atom i ddangos sleidiau o’i gardd. Croeso cynnes i unrhyw un ymuno â ni.

11


Syrthio heb frifo Ers talwm, pan o’n i’n llefnyn ro’n i’n gweithio fel gwas bach, bach ar fferm ym Modorgan. Un o’r tasgau gefais i un diwrnod oedd peintio drysau’r beudai a’r landeri. Cofiaf mai hen baent digon gwael oedd o tebyg iawn i ‘chewing gum’! Bid a fo am hynny, tua 3.00 o’r gloch y pnawn ar y diwrnod tyngedfennol hwnnw, ro’n i’n peintio lander y tŷ gwair a bron â chau pen y mwdwl. Beth welwn i ar frig y to ond rhyw ddeunaw modfedd o fetel â’r paent yn pilio oddi arno. To asbestos oedd ar y tŷ gwair a gwyddwn yn iawn fod raid cerdded ar yr hoelion ar y fath do gan fod yna ddistyn oddi tanynt. Dyma ddringo reit ddel at y grib ac ymestyn am y darn o fetel efo’r brwsh paent. Ond mi ges drafferth cyrraedd a bu raid i mi roi fy nhroed ar yr asbestos - yn ysgafn! Ond ysgafn neu beidio, roedd yr asbestos yn frau ac mi syrthiais drwy’r to. Fel roedd lwc, digwyddodd hyn tua mis Medi pan oedd y tŷ gwair yn llawn hyd y to ac nid oedd fy nghwymp yn fwy na rhyw lathen. Pe bai’r un peth wedi digwydd yn y gwanwyn a’r tŷ gwair yn wag, mi fyddwn wedi disgyn rhyw ddecllath ar ben y belar ac mae’n debyg na fyddwn i yma heddiw i adrodd y stori. PM Geirio’n gam Pan oedd y dyrnwr yn mynd o amgylch ffermydd rhaid, wrth gwrs, oedd cael yr injan yn wastad. Dyma fel yr aeth y sgwrs yn ei blaen: ‘Ydi hi yn sys(syth)?’ ‘Na, mae ’na sop slope ynddi’ ‘Tydi Wil ’ma yn siaiad yn dwg yn tydi [Tydi Wil ’ma yn siarad yn ddrwg yn tydi!] ***** Barnwr oedd yn dysgu Cymraeg yn cadeirio yn y Llys ac yn dedfrydu dyn oherwydd bod ei gi wedi amharu ar rywun. Barnwr: ‘Lle cest ti ci ’ma?’ Yr un o flaen ei well: ‘O ci achach(arall) Syr.’ Barnwr: ‘Dwi’n ffeinio ti pump swllt.’ Yr Euog: ‘O be a sborcht [sport] make it a tenner.’ (10 swllt adeg hynny!) Olwen Jones

12

STRAEON AR THEMA Thema’r Mis: Ffermio

Hel cŵn Ffarmwr o’r enw Evan Jones (a ddoi a defaid cadw i lawr i Dŷ Cerrig, Yr Ynys yn 30au’r ganrif ddiwethaf) yn hel defaid adref ac yn sylweddoli fod yr ast oedd ganddo yn hel cŵn. Gan fod yr helfa yn cymryd pedair awr dda i’w chwblhau, dyfesiodd ei ddull atal cenhedlu ei hun i’r ast - lapiodd ei gôt am ddarn ôl yr ast fel y cai lonydd gan y cŵn oedd o’i chwmpas! Rydw i’n cymryd fod hyn wedi gweithio! Taid un o Gantorion Côr Ardudwy oedd y ffarmwr! Olwen Jones

Pan ddaeth Dafydd adref, ar ôl y diwrnod caletaf o waith a wnaeth erioed, dangosodd ei gyflog i ni - ‘Blydi oran!’ Ddaru o ddim cwyno wrth ei gyflogwr, dim ond cymryd yr oran yn ddistaw, ond aeth o ddim yno i weithio wedyn! Siawns na wnaeth mynd yn ôl i’r hen oes am ddiwrnod ddrwg iddo fo chwaith! Anwen Roberts

Wedi rhwymo

Roedd Dafydd ni dipyn bach yn gyndyn o helpu ei dad o gwmpas y fferm a’r maes carafanau pan oedd yn hogyn 13 oed. Byddai Meirion byth a beunydd yn adrodd ei hanes yn was ar fferm Maes-y-gadfa, Cwmtirmynach pan oedd yn ifanc. Un tro, dywedodd wrth Dafydd, ‘Dwyt ti’n gwbod dim byd amdani. Pan o’n i’n gweithio yn Maes-y-gadfa ers talwm r’on i’n gorfod carthu ar ôl deunaw o wartheg wedi’i rhwymo yn y beudy, bob dydd.’ Ac ateb Dafydd oedd, ‘Os oeddan nhw wedi rhwymo fysa ’na ddim byd i’w garthu na fysa!’ Anwen Roberts Doedd Dafydd ni byth ar ei hôl hi wrth fargeinio hefo’i dad am dâl am bob joban oedd yn ei wneud o gwmpas a fferm a’r maes carafanau. Roedd yn un garw am brês. Galwodd fy Ewythr Wil, Caerwych heibio tŷ ni un diwrnod ac fe ddywedodd wrth Dafydd, ‘Dyw, mi wyt ti i weld yn hogyn handi - fysat ti’n licio dwad i weithio i mi rhyw ddydd Sadwrn?’ I ffwrdd â Dafydd i fyny am Gaerwych y Sadwrn canlynol i garthu llond cwt o dail ar ôl y gaeaf. Llafuriodd yn galed am oriau, tra roedd y syms yn chwyrlio yn ei ben a’r hen Ewythr Wil yn ei ganmol i’r cymylau. Ar y diwedd, meddai, ‘Ty’d hefo fi at y tŷ rŵan i mi gael rhoi rwbath i ti’.

Mochyn yn tresbasu Darllenais beth amser yn ôl stori ddigon doniol am ddigwyddiad ar fferm yng Nghwm Tâf, Gorllewin Cymru tua canol y ganrif ddiwethaf. Mochyn ffermwr cymdogol oedd wrth wraidd y broblem. Cymrodd y mochyn dan sylw ffansi i grwydro i dir y fferm drws nesa gan achosi difrod a bwyta pob dim a ddaeth ar ei draws. Bu sawl cais i’w berchennog i’w gadw dan reolaeth ond ofer fu hynny. Dal i dresbasu wnaeth y gwalch ac anwybyddu gorchymyn ei feistr iddo aros gartref! Yn sgil y difrod a diflaniad y bwyd, daeth dydd pen y tennyn ac amser disgyblu. Penderfynodd y ffermwr a oedd wedi dioddef yr ymweliadau digroeso daflu dŵr berwedig dros gefn y mochyn. Mawr fu’r gwichian wrth ddianc am adref nerth ei bedair troed. Pan gyfarfu’r ddau ffermwr rai dyddiau wedyn, soniodd y perchennog fod y mochyn yn ymddwyn yn rhyfedd ac heb symud o’i gwt ers dyddie’. Mi wellodd y mochyn wrth gwrs ond daeth y tresbasu i ben. Craclin o stori! Ray Owen

Prynu llo Mae Sarah fy merch wedi priodi Rhodri sy’n ffermio yn Glan Llafar, Cwm Prysor, Trawsfynydd. Beth amser yn ôl roedden nhw eisiau prynu llo a dyma Rhodri yn anfon Sara i’r Mart yn Nolgellau. Pan ddaeth hi adref dyma Rhodri yn holi, ‘Gefaist ti afael ar rywbeth?’ ‘Do, tyrd i weld beth ges i.’ A dyma Sarah yn dangos yr anifail newydd i’w gŵr - merlen Gymreig yr oedd wedi gwirioni efo hi! Pwy ond Sarah? Ann Evans Cau’r ieir Yr oedd fy nhaid, Evan Wyn Evans, Tyddyn Llidiart, Llanbedr yn glamp o gymeriad. Dywedai bethau doniol a byddai troeon trwstan yn digwydd iddo o hyd. Un tro, roedd wedi prynu ieir a daeth yn amlwg fod yna lwynog yn crwydro’r fferm. Siarsiai Nain y dylai wneud yn siŵr ei fod yn cau ar yr ieir yn y cwt mewn da bryd rhag ofn i’r llwynog eu cael. Yn ei awydd i wneud hynny, aeth Taid i gau’r cwt cyn i’r ieir fynd i mewn i glwydo a’u cau i gyd allan. Cafodd Mr Fox wledd dda y noson honno! Heulwen Williams Cyrhaeddodd y stori isod yn rhy hwyr i’w chynnwys yn y rhifyn diwethaf. Teithio Bedair blynedd yn ôl, aeth ffrind a minnau ar fordaith ar y Môr Tawel. Un prynhawn tra’n hwylio aethon ni i’r sinema. Wedi eistedd clywais ddwy ddynes yn siarad Cymraeg Gofynnais “O ble ydych chi’n dod?” A’r ateb gefais oedd “Machynlleth”. Yn naturiol, gofynnwyd yr un cwestiwn i mi. Atebais “Cefais fy ngeni yn Harlech, ond dwi’n byw yn Llandudno.” Atebodd hithau, “Mae gen i gefnder wedi priodi merch o Harlech ac yn byw ar fferm ar y Morfa.” Gwyddwn ar unwaith pwy oeddynt. Tybed a fydd darllenwyr y Llais wedi dyfalu pwy ydynt? Dyna ddigwyddiad rhyfeddol ymhell o gartref, ynte? Margaret Darling (Ellis gynt) Y testun ar gyfer rhifyn mis Mehefin fydd ‘Chwaraeon’. Cofiwch anfon atom. Diolch ymlaen llaw. [Gol.]


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Cofion Anfonwn ein cofion at Gwynli Jones, Bryn Deiliog sydd heb fod yn dda ei iechyd ers peth amser. Er hynny, deil i gael pleser mawr yn darllen Llais Ardudwy bob mis. Marwolaethau Bu farw Mrs Irene Newett, Tal-y-celyn, Pentre Gwynfryn yn sydyn ar Mawrth 22 yn 92 oed. Cofiwn Irene yn cario’r post i Gwm Nantcol efo beic yn y pedwar a’r pumdegau ac yn ddiweddarach daeth yn ysgafnach arni pan gafodd fan bost. Cydymdeimlwn â’i mab Clifford a’i brodyr Leslie a Herbert a’r teulu yn eu profedigaeth. Bu farw modryb i Lesley Howie, Gwynfryn yn ddiweddar. Cydymdeimlwn â hi ac Alec yn eu colled. Cydymdeimlo Cydymdeimlwn ag Elizabeth a Catherine Richards sydd wedi colli cyfnither, sef Jennie Jeffs, y Bermo; yr olaf o hen deulu Gilar Wen, Harlech. Rhodd Diolch i Anwen Farlane am ei rhodd o £5.50 ac i Susanne Davies am ei rhodd o £10 i Llais Ardudwy. Diolch Dymunaf ddiolch yn ddiffuant i’r teulu, fffrindiau a chymdogion am y llu cardiau, galwadau ffôn ac anrhegion a dderbyniais ar achlysur dathlu fy mhen-blwydd yn 90 oed. Diolch yn fawr i bawb. Olwen (Werngron, Llanbedr) Rhodd a diolch £10

Teulu Artro Yng nghyfarfod mis Ebrill croesawyd pawb gan Gweneira. Bu raid gohirio cyfarfodydd diweddar oherwydd y tywydd garw. Cydymdeimlwyd â Glenys a oedd wedi colli modryb. Cafwyd rhodd o £50 er cof am aelod ffyddlon, sef Mrs Leah Jones. Cafodd yr aelodau a’r siaradwyr anrheg yn ymwneud â’r Pasg wedi ei wneud gan Jennifer. Diolchwyd yn gynnes iddi gan y llywydd. Croesawyd Morris a Mair Evans o Bentrefelin [neu Morris Dolbebin i ni!]. Wrth ei gyflwyno, darllenodd Gweneira ddarn o farddoniaeth o’i eiddo, sef Santa Clôs. Cafwyd pnawn hynod o hwyliog gyda Morris yn rhannu llawer o’i atgofion am Gwm Nantcol y cymeriadau oedd yno pan oedd o’n ifanc - a darllenodd rhai o’i gyfansoddiadau. Diolchwyd gan Eleanor ac enillwyd y rafflau gan Pam, Gwenda a Gweneira.

Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch

Capel y Ddôl MAI 13 Parch Dewi Tudur Lewis 20 Parch John Owen Capel Nantcol MEHEFIN 3 Parch Harri Parri

CYFARFOD PREGETHU

yn Salem, Cefncymerau (trwy ganiatâd caredig)

Nos Wener, Mehefin 15 am 7:00 PREGETHWR

Parchg Ddr Rhodri Glyn, Llansannan Trefnir gan Eglwys Efengylaidd Ardudwy

R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU

TREM YN ÔL Y mae yna ystafell gyfarfod a darllenfa fenthyciol a chyhoeddus yn Llanbedr, gyda llawer iawn o lyfrau a phapurau newydd Cymraeg a Saesneg. ‘Clwb Gweithiol Artro’ yw ei enw. S Pope, Ysg, QC, Hafod-y-Bryn, a’i cyflwynodd i blwyfi Llandanwg, Llanfair, Llanaber a Llanenddwyn. Llanbedr sydd wedi ymaflyd ynddi orau, ac y mae’r aelodau yn awr dros 80. (30 Ionawr, 1883) W Arvon Roberts

GWASANAETH CADW CYFRIFON ARDUDWY Cysylltwch â ni am y gwasanaethau isod: • Cadw llyfrau • Ffurflenni TAW • Cyflogau • Cyfrifon Blynyddol • Treth bersonol info@ardudwyaccounting.co.uk 097930 748930

CYNGOR CYMUNED LLANBEDR Tendro am waith gan Gyngor Cymuned Llanbedr Llwybrau – categori 1 a 2 yn unig. Tendro yn ôl gwaith yr awr. Mynwent Sant Pedr – tendro fesul toriad. Disgwylir torri bob 5 wythnos, ond yn dibynnu ar y tyfiant blynyddol. Am fwy o fanylion cysyllter â M W Lloyd, Clerc y Cyngor (e.bost ... cyngorllanbedr@ gmail.com) Tendr i law erbyn Mai 7 os gwelwch yn dda.

YMWELD Â NORWY Bodø . Mo-i- Rana .

NORWY

Pob dymuniad da i aelodau Côr Meibion Ardudwy pan fyddan nhw yn teithio i Gylch yr Arctig yn Norwy ganol mis Mai. Cawsant wahoddiad i fod yn brif westeion yn nhref Mo-iRana ar ddiwrnod cenedlaethol Norwy ar Mai 17. Ar ddydd Sadwrn, Mai 19 bydd y côr hefyd yn canu yn Bodø [ynganer ‘Bwdy’] sydd yng Nghylch yr Arctig. Yn naturiol, bu llawer o waith paratoi gan gynnwys dysgu anthem Norwy - Ja, vi elsker dette landet, som det stiger frem. Mae’r cantorion a’u cyddeithwyr yn barod am bob math o dywydd. Fel arfer mae rhyw 9-10 o ddyddiau glawog yno ym mis Mai. Mi fyddan nhw yn bwyta llawer o bysgod - cod, penwaig (picl), macrell, cranc a chorgimwch. Mae cig oen yn gyffredin yno a charw ac elc! Diau y cawn ni’r hanes i gyd ganddyn nhw yn rhifyn mis Mehefin.

13


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Cydymdeimlad Ar 13 Ebrill yng nghartref y Llwyn, Dolgellau, bu farw Mrs Doris Griffith, gweddw’r Capten William Griffith a mam y diweddar Edward bach, Wendon, Dyffryn gynt, ond roedd wedi symud i fyw i Lanfair ers rhai blynyddoedd. Cydymdeimlwn â’r teulu yn eu profedigaeth. Trist hefyd oedd clywed am farwolaeth Mrs Barbara Griffiths, gwraig y diweddar James Griffiths. Bu’r ddau yn cadw Garage Esso yn y Dyffryn am flynyddoedd lawer. Cydymdeimlwn â’i merch Elizabeth a’i brawd Ronnie a’r teulu oll yn eu profedigaeth. Clwb Cinio Nifer fach lwyddodd i ddod i’r Afr, yng Nglandwyfach ar 17 Ebrill oherwydd galwadau eraill, ond cafwyd amser difyr a bwyd da iawn. Byddwn yn mynd i’r Afr eto ar 15 Mai.

Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb

MAI 13 Buddug Medi McParlin 20 Ceri Hugh Jones 27 Dewi Jones, 5.30 MEHEFIN 3 Parch R O Jones

Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn y Neuadd Bentref, bnawn Mercher, 18 Ebrill. Croesawyd pawb gan Gwennie a braf iawn oedd cael croesawu dwy aelod newydd, Einir a Mattie. Diolchodd i Miss Lilian Edwards am gyfraniad ariannol i’r Clwb. Cydymdeimlodd â theulu Mrs Doris Griffith, Wendon gynt, yn eu profedigaeth. Bu Mrs Griffith yn aelod ffyddlon o’r Teulu ac yn arweinydd am gyfnod. Yna croesawodd Mrs Dorothy Round atom. Daeth Dorothy i fyw i’r Dyffryn o Litchfield bedair blynedd yn ôl ac mae’n byw yn y Pedair Derwen ger Neuadd yr Eglwys. Mae hi’n dalentog iawn yn y maes gosod blodau. Roedd ganddi siop flodau yn Litchfield ac mae’n mynd yn ôl yno’n aml i osod blodau ar gyfer achlysuron arbennig. Mae Dorothy hefyd yn dysgu siarad Cymraeg. Aeth ati’n hollol ddi-ffws a diffwdan i greu dau osodiad hollol wahanol ond trawiadol dros ben ar ein cyfer a chafwyd pnawn addysgiadol a difyr iawn yn ei chwmni a braf oedd cael dod i’w hadnabod yn well. Diolchodd Anthia yn gynnes iawn iddi am ddod atom a rhoi gymaint o fwynhad i ni. Y ddwy lwcus enillodd y gosodiadau bendigedig oedd Margaret Pauline a Laura.

Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd

Tel: 01341 247799

www.smithygarage-mitsibushi.co.uk smithygaragedyffryn

smithygarageltd

Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes 14

Diolch Diolch yn arbennig i Meinir Thomas, 18 Penrhiw am drefnu i gael mainc er cof am Evan, Glenys ac Irene Richards, Minffordd. A hefyd, diolch o waelod calon i holl drigolion Dyffryn a ffrindiau agos y Bermo am helpu i wneud hyn. Mae’r teulu yn hynod ddiolchgar. Rhodd £10


CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT CEISIADAU CYNLLUNIO Newid defnydd rhan o safle gwersylla presennol (16 llain) i safle carafanau teithiol (10 llain) ac ymestyn tymor y safle carafan teithiol presennol o 8 i 9 mis - Safle Carafanau Teithiol Dyffryn Seaside Estate, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn gan fod yr aelodau o’r farn y byddai’n helpu economi’r ardal yn ystod misoedd y gaeaf. Ymestyn cyfnod agor i alluogi i gabanau gael eu defnyddio drwy gydol y flwyddyn fel unedau gwyliau - Parc Cabanau Dyffryn Seaside Estate, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn gan fod yr aelodau o’r farn y byddai’n helpu economi’r ardal yn ystod misoedd y gaeaf. Ymestyn cyfnod agor i alluogi carafanau statig gael eu defnyddio drwy gydol y flwyddyn fel unedau gwyliau - Parc Carafanau The Pines, Dyffryn Seaside Estate, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn gan fod yr aelodau o’r farn y byddai’n helpu economi’r ardal yn ystod misoedd y gaeaf. Diwygio Amod Rhif 2 o ganiatâd cynllunio dyddiedig 15/06/1982 i ganiatâu’r carafanau a chabanau i gael eu meddiannu rhwng Mawrth 1 a Thachwedd 14 bob blwyddyn - Parc Carafanau Rhinog, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn gan fod yr aelodau o’r farn y byddai’n helpu economi’r ardal yn ystod misoedd y gaeaf. Cais i gadw sied gardd - Cynefin, Ffordd Glan y Môr, Tal-y-bont. Cefnogi’r cais hwn oherwydd bod yr aelodau o’r farn nad ydy o’n amharu ar unrhyw uned arall. MATERION YN CODI Diffibriliwr yn Nhal-y-bont Adroddwyd bod yr Is-gadeirydd a’r Clerc wedi cyfarfod Mr Tomos Hughes o Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn Nhal-y-bont yn ddiweddar a bod y diffibriliwr dan sylw erbyn hyn yn ei le; hefyd, adroddodd y Clerc ei bod wedi cysylltu gyda’r cwmni yswiriant ac wedi cynnwys y ddau ddiffibriliwr ar yswiriant y Cyngor. Cytunwyd i ofyn i Mr Tomos Hughes ddod i roi hyfforddiant i’r aelodau yng nghyfarfod nesa’r Cyngor ar Mai 1 am 7.00 o’r gloch. Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn llythyr gan SADS UK yn gofyn a fyddai’r Cyngor yn fodlon rhoi cyfraniad iddyn nhw er mwyn eu galluogi i barhau i wneud y gwaith y maent yn ei wneud ar hyn o bryd gyda’r diffibriliwr. Cytunwyd i gyfrannu £50 tuag at yr elusen hon. Cyfarfod Bwrdd Hamdden Harlech ac Ardudwy Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan Mr Chris Hulse ar ran yr uchod yn gofyn am daliad cyntaf y cynllun praesept erbyn y 10fed o Ebrill a’i bod wedi egluro iddo bod y Cyngor o dan yr agraff ar ôl iddyn nhw dderbyn taliad cyntaf y praesept y byddai’r taliad praesept yn cael ei wneud iddynt. Hefyd ei bod wedi derbyn anfoneb gan yr uchod yn gofyn am y taliad cyntaf o £5,017.20 a chytunwyd i’w dalu’r mis hwn.

TREM YN ÔL Rhyfedd mewn cymaint o wahanol ffyrdd y mae angau yn dyfod i gyfarfod â rhai i ddwyn eu bywyd ymaith. Fel ac yr oedd Hugh Williams, 23 oed, o’r Dyffryn, wrth ei waith o dyllu am gwningod mewn torlan dywod ger Mochras, gollyngodd y tywod i lawr arno, a’i fygu yn y fan. Gwas ydoedd gyda Mr Ellis Williams, Mochras, a dal cwningod i’w feistr oedd ei waith. Y tro olaf y gwelwyd ef yn fyw, oedd tua thri o’r gloch brynhawn dydd Gwener, yn yr un man ac y deuwyd o hyd iddo yn farw bore drannoeth gan un o’r gweision eraill. Yr oedd ar ei ben yn y twll, a’i ddwy goes allan. Cynhaliwyd trehongliad ar ei gorff. Rheithfarn ‘Marwolaeth ddamweiniol.’ 23/10/1868 Nos Lun, 1 Tachwedd, yn nhafarn Llanddwywe, Dyffryn, Lewis Evans, Coed y Bachau, a Henry Jones, Bron y Foel, dau fab i ffermwyr, wedi bod yn yfed y ddiod feddwol gyda’i gilydd, a aethant i ymrafaelio, ac yn ei anifaileiddiwch, rhuthrodd Lewis Evans ar Henry Jones, ac a frathodd tua modfedd o’i drwyn i ffwrdd. Erlyniywd y troseddwr. 9/12/1875 Cyfarfu dyn ifanc o’r enw Prichard Davies, 23 oed, â’i ddiwedd tra yn gweithio yng ngorsaf Dyffryn. Ymddengys ei fod yn llwytho rheiliau i un o’r tryciau; syrthiodd dros yr ochr wysg ei gefn, a llithrodd y rheiliau ar ei ôl, gan ddisgyn ar ei ben, a’i ladd yn y fan. Yr oedd yn enedigol o Waenhir, Trefeglwys, Sir Aberteifi. 16/4/1891. W Arvon Roberts

DWI’N COFIO

Fe welwch fod yna ddau darn dan y pennawd ‘Dwi’n Cofio’ yn y rhifyn hwn. Mae’r blwch sy’n cynnwys darnau wrth gefn yn bur wag erbyn hyn, felly cofiwch anfon cyfraniadau at y golofn hon. Peidiwch â dibynnu ar eraill i wneud y papur hwn yn un difyr! Mae gan lawer o’n darllenwyr gyfoeth o straeon ac atgofion lleol a phersonol sy’n rhoi darlun o gyfnod i ni. Mi fydd rhai o’r straeon yma yn sicr o ddiflannu dros amser. Mae croeso i bob math o gyfraniadau.

LLYFRAU DIFYR Llyfr celf i ysbrydoli plant sy’n cyflwyno gwaith un o arlunwyr gorau Cymru. Ceir ugain o weithiau yma mewn lliw llawn ynghyd â ffotograffau sy’n dangos Kyffin wrth ei waith. Adargraffiad a gyhoeddir ym mlwyddyn canmlwyddiant ei eni. Cyhoeddwyd gyntaf yn 2005.

Hanes difyr a gonest o fywyd gwleidyddol Rhodri Morgan, cyn Brif Weinidog Cymru ac arweinydd y blaid Lafur yng Nghymru, bywyd a fu’n bur gythryblus ar adegau. Cawn olwg newydd ar y dylanwadau a’i harweiniodd i San Steffan, ar y degawd a arweiniodd at sefydlu Cynulliad Cymru ac at ddeng mlynedd cyntaf ei fodolaeth. 31 llun du a gwyn.

15


Mae gan Lyn Ebenezer glust a llygad sy’n cael eu denu gan y doniol a’r rhyfeddol, ynghyd â dawn anghymharol i’w darlunio mewn rhyddiaith sy’n fynych yn gain a phob amser yn uniongyrchol a darllenadwy. Hunangofiannol yw Y Meini Llafar, ar batrwm Cofion Cynnes, ac yma mae’n craffu ar yr enwau naddwyd gan y cenedlaethau ar hen bont y pentref; rhai ohonynt yn enwau pobol y mae’n eu cofio, rhai y mae’r awdur yn dyfalu pwy oeddynt ac weithiau mae’r dyfalu’n mynd ag e i fyd ffantasi llwyr. Dyna’r llythrennau WEJ. Mae Lyn yn rhoi hynt i’w feddwl grwydro a chofio W E Johns, crëwr y gyfres Biggles yr awyrennwr a gyflawnodd gampau yn y Rhyfel Mawr, yr Ail Ryfel Byd ac mewn awyren Hawker Hunter yn ddiweddarach, ynghyd â llawer o bethau eraill. Hwn oedd yr arch-Sais hirhoedlog. Rwyf innau yn cofio rhai o’r llyfrau, fel Biggles and the Cruise of the Condor. Wnaeth Johns na Biggles ddim Sais ohonof innau chwaith, ond fe wnaethant lawer i wella fy Saesneg ysgrifenedig cynnar, os nad fy ngallu i siarad yr iaith. Ond yn ôl i’r bont a Phontrhydfendigaid. Mae’r enwau’n rhoi’r rhyddid i atgofion Lyn Ebenezer grwydro i weithdy Jac Defi Hopkins y crydd, lle trafodid pynciau’r dydd ac yr adroddid straeon ysbryd. Neu i grwydro’r eisteddfodau lleol lle roedd heclo’r arweinydd yn arferol. Dic Bach – cawr o fachan – yn mynd yn dreth ar amynedd yr arweinydd yn Eisteddfod y Groglith, Llanddewibrefi, a hwnnw’n galw am stiward i’w hebrwng o’r adeilad. Er syndod i bawb, â’r pechadur yn ufudd. Yna, wrth y drws dyma Dic yn troi, gafael yn y stiward a’i daflu allan i’r nos. “Dyna chi,” gwaeddodd ar yr arweinydd. “Ymlân â’r steddfod. Chewch chi ddim mwy o drwbwl ’da hwnna!” Mae yma lu o gymeriadau a straeon amdanynt, megis hanes John Isaac a aeth i Ffair Galan Gaeaf Aberystwyth ond ni ddychwelodd adre. Ddegawdau’n ddiweddarach cerddodd i mewn i’r Llew Coch. Yn ôl y sôn, aeth i drafferth gyda’r heddlu noson y ffair, bodiodd i Lerpwl a hwylio oddi yno ar long i Ganada lle gwnaeth ei ffortiwn! A dyna Guy Morgan, Wali Tomos tîm pêl-droed y Bont cyn bod sôn am Wali Tomos; y Gwyddelod fu’n gweithio ar gynllun dŵr Llynnoedd Teifi; Raymond Osborne Jones ... ac yn y blaen. Llefarodd y meini â ni drwy gyfrwng cyfieithydd anghymharol. A diolch am ambell fflach o’r gorffennol pell. Faint sy’n deall y dywediad ‘Lleuad Sypynno’ heddiw? Mae’n siarad â mi, beth bynnag. Gwyn Griffiths

Nofel am gariad anghyfreithlon, gwyrdroëdig ac obsesiynol a geir yma, a go brin y gallai peth felly arwain at ddiweddglo hapus. Na, fel sydd i’w ddisgwyl, distryw yw’r canlyniad ac mae gweithredoedd y ddau brif gymeriad yn effeithio’n negyddol ar bob un o gymeriadau’r nofel. Er bod iselder, hunanladdiad a gwallgofrwydd oll yn hawlio’u lle, dyw’r nofel ddim yn gadael y darllenydd yn teimlo’n anobeithiol o ddigalon wedi’r darllen. Dyna grefft yr awdures – yn gelfydd o gynnil, llwydda i gadw’n driw i’w hunig linyn storïol heb ganiatáu inni dosturio’n ormodol wrth y cymeriadau a’u sefyllfa anffodus. Mae prif gymeriad benywaidd y nofel, Lois, yn benderfynol o ddilyn ei greddf naturiol heb feddwl am yr oblygiadau ac fe’i portreadir hi, yn hytrach na phrif gymeriad gwrywaidd y nofel, sef Now, fel yr un gynllwyngar, y dwyllwraig sy’n hudo’i hysglyfaeth i’r gwely. Er nad yw anffyddlondeb priodasol

Adolygiadau oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

yn mennu dim ar yr un o’r ddau, mae Now yn ceisio arddangos rhywfaint o hunanreolaeth, a chlywn ef yn ceisio rhesymu, anghofio a symud ymlaen, ond go dila yw ei ymdrechion mewn gwirionedd. Archwilir cyflwr priodasol Now ac Alis a Lois a Robat, ynghyd â pherthynas y ddau ‘gariad’, trwy gyfrwng cyfres o benodau byrion, gyda phob pennod yn cyflwyno safbwynt cymeriad unigol. Symudir yn ddiffwdan o un cyfnod i’r llall, ac yn ôl drachefn, heb achosi unrhyw ddryswch i’r darllenydd. Y mae symboliaeth y ‘glaw trana ... yn ffresio pob dim’ yn creu undod, ac mae brwydr fewnol Now yn cael ei disgrifio yn gyson trwy gyfrwng cymhariaethau cofiadwy, megis ‘Roedd angerdd ar y naill law a hunanffieidd-dra ar y llall yn ymladd â’i gilydd fel dwy sarff yn ei berfedd.’ Mae’r arddull a’r ieithwedd yn gyhyrog heb fod yn hen ffasiwn: ‘Trawodd ei ergyd yn galetach nag unrhyw beltan. Mi fasai cic yn fy môls wedi bod yn ffeindiach.’ Esbonia’r broliant mai dilyniant yw Glaw Trana i’r nofel Mynd Adra’n Droednoeth, ond na phoener os nad ydych wedi darllen y nofel ragorol honno. Gellir mwynhau a gwerthfawrogi Glaw Trana fel stori gwbl annibynnol. Efallai fod amgylchiadau’r garwriaeth a bortreadir yn anghyfarwydd ac annhebygol, ond does dim amheuaeth fod hon yn nofel afaelgar sy’n werth ei darllen. Elin Bishop

CYNGOR CYMUNED HARLECH MATERION YN CODI Cyfarfod Bwrdd Hamdden Harlech ac Ardudwy Derbyniwyd e-bost gan Mr Chris Hulse ar ran yr uchod yn gofyn am daliad cyntaf y cynllun praesept erbyn Ebrill 10. Cytunwyd i dalu hwn yng nghyfarfod nesa’r Cyngor ym mis Mai ar ôl i hanner y praesept ddod i mewn. Datganwyd pryder nad oedd disgyblion B7 Ysgol Ardudwy yn gallu cael gwersi nofio oherwydd bod y gwersi addysg gorfforol yn cychwyn am 8.30 o’r gloch y bore ac nid oedd y ganolfan yn mynd i agor yr adeg hynny; cytunwyd i anfon at Mr Chris Hulse yn gofyn iddo dynnu sylw aelodau’r Bwrdd at hyn. CEISIADAU CYNLLUNIO Adeiladu ports ar edrychiad blaen Gwernan, Harlech. Cefnogi’r cais hwn. Newid defnydd o siop llawr gwaelod i fflat un ystafell wely - 1 Gwyddfor, Stryd Fawr, Harlech. Gwrthwynebu’r cais hwn oherwydd nad oedd yr ymgeisydd yn fodlon arwyddo cytundeb 106; hefyd roedd gan yr aelodau bryderon ynglŷn â llecyn parcio ar gyfer y fflat arfaethedig. Cais ôl-weithredol i gadw sied gardd bren a lle dan orchudd - 71 Cae Gwastad, Harlech. Cafwyd ar ddeall bod yna anghydfod gyda’r cais hwn. GOHEBIAETH Pwyllgor Twristiaeth Harlech Gofynnwyd am ganiatâd y Cyngor i osod sedd yng nghae chwarae

16

Brenin Siôr, Llyn y Felin ac ar Benygraig, er mwyn eu galluogi i greu llwybr dweud stori er mwyn tywys pobl o amgylch y dref yn ystod rhan 2 o Stori Tir a Môr a fydd yn cael ei gynnal ym mis Hydref. Hefyd yn gofyn a fyddai’n bosib enwebu criw bach o Gynghorwyr i greu panel gyda’r pwyllgor twristiaeth er mwyn dewis dyluniad priodol i leoliad y seddi ac arwyddion. Rhoddwyd caniatâd i’r seddi yma gael eu gosod; hefyd, cytunodd Judith Strevens, Martin Hughes a Thomas Mort fod yn rhan o’r panel. Mrs Jan Cole Adroddodd Siân Roberts ei bod wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn gwrthwynebu’r cynllun i gael 3 lle i fysiau barcio yn maes parcio Bron y Graig Uchaf. Cytunwyd i drosglwyddo’r llythyr i’r Cyng Freya Bentham. UNRHYW FATER ARALL Nid yw’r hysbysfwrdd wedi ei dynnu ger siop y Morfa. Mae’n edrych yn flêr erbyn hyn. Mae angen sylw ar y sedd gyferbyn â maes parcio Bron y Graig Isaf a chytunodd Huw Jones gael golwg arni. Datganwyd pryder bod rhai yn dal i fynd i mewn i adeilad y tŵr ger y Coleg a chytunwyd i ysgrifennu at Adran yr Amgylchedd, Cyngor Gwynedd ynglŷn â hyn a chysylltu gyda’r Heddlu. Datganwyd pryder bod gweithwyr y siopau yn parcio mewn safleoedd parcio ar y stryd drwy’r dydd.


CLWB PWYTH A PHANED, DYFFRYN ARDUDWY

Daeth y clwb gwau i ben ar 24 Ebrill wedi misoedd prysur iawn. Buom yn gwau eitemau i Rhian eu gwerthu er budd yr Ambiwlans Awyr, blancedi a hetiau bach ar gyfer babanod cynamserol i Ysbyty Gwynedd. Hefyd buom yn gwau bandiau gwallt, capiau toslyn a menig iglw i Teams 4 U i lenwi bocsys esgidiau ar gyfer Nadolig 2018 i blant a theuluoedd bregus yn nwyrain Ewrop. Meddai’r sylfaenydd Dave Cooke: “Mae pobl yn dweud mae dim ond bocs sgidia yw ond mae’n fwy o lawer. Mae’r bocs yn dweud wrth blentyn fod rhywun, rhywle wedi gwneud hwn iddo fo, neu hi a bod rhywun yn malio amdanynt. Bydd Enid yn mynd â nhw i T4U yng Nghyffordd Llandudno. Bu rhai hefyd yn crosio neu wau Octopus ar gyfer babanod cynamserol neu i gleifion dementia. Bydd y clwb yn ail-gychwyn ym mis Medi. Croeso i unrhyw un ymuno â ni yn festri Horeb. Tybed ydy’r profiad gefais i yn brofiad cyffredin, efallai? Rhaid imi ddeud fod y profiad wedi bod yn un pleserus ond efallai mai da fyddai cychwyn yn y cychwyn fel pe tae. Cychwyn y stori ydy imi orfod torri fy modrwy briodas oddi ar fy mys yn dilyn cael pigiad gwenyn ar fys y fodrwy. Roeddwn ar gwrs golff ar y gororau ar y pryd! Taith adre’ boenus a gorfod mynd i Ysbyty Alltwen y diwrnod canlynol a fy mys chwyddedig yn lliw piws cyfoethog! Cael y sylw gorau gan Eirian, a hithau’n cyfleu y byddai raid cael y fodrwy i ffwrdd. Haws deud na gwneud ac mae’n rhaid deud y bu’r broses yn dipyn o syrcas a lot o hwyl er mod i’n gwingo! Mynd â’r fodrwy wedyn i’w thrwsio a gorfod mesur y bys. Pan ddaeth yn ôl, doedd hi ddim fel cynt ac yn teimlo dipyn yn llac. Ymhen pythefnos

HELYNT Y FODRWY

digwyddodd yr anorfod. Heb rybudd, canfod nad oedd y fodrwy am fy mys a methu’n lân a chofio pryd, na lle’r oedd hi gennyf ddiwethaf. Chwilio o gwmpas y tŷ – i mewn ac allan, yn yr ardd a’r berllan a chael cyfaill draw gyda pheiriant canfodydd metalau – ond heb fawr o lwc. Aeth deunaw mis heibio mwy

neu lai. Ebrill wedi cyrraedd a phopeth yn yr ardd yn tyfu. Am ddim rheswm, ac yn groes i arferiad, penderfynu ychwanegu dipyn o gompost cartre o’r domen wrth botio rhyw blanhigyn, na fyddai fel arfer wedi cael dim sylw. Wrth godi dyrnaid o gompost gyda rhaw ardd fechan, methu coelio be welwn i’n sgleinio’n felyn yn

y pridd. Yno’r oedd y fodrwy, prin o dan y wyneb! Ond buan y gwelais ei bod hi wedi cael cryn niwed a’i siap ymhell o fod yn grwn. Rhaid ei bod hi wedi llithro’i ffwrdd pan oeddwn yn torri gwair o flaen y tŷ, mod i wedyn wedi mynd drosti hefo’r peiriant torri gwair, ac wedyn wedi gwagio’r gwair i waelod y domen gompost. Yno y bu hi wedyn am dros flwyddyn neu well nes daeth amser symud cynnwys y domen. Bryd hynny y daeth o waelod y domen i fod ar yr wyneb yn y blwch compostio cyfagos – lle dois i o hyd iddi! Allai ddim cyfleu pa mor falch rydw i’n teimlo, ac rydw i’n dal i fethu credu ei bod hi wedi dod i’r golwg ar ôl yr holl amser. Mae’n siŵr bod ’na hanesion tebyg i’w cael, beth am eu rhannu? [Clywch, clywch! Gol.] CR

A 17


Cadlywydd David Evans 1817-1895 Collais y cyfle y llynedd i dynnu sylw’r wasg Gymreig at goffau’r morwr adnabyddus, David Evans, a fu farw ychydig dros ddau can mlynedd yn ôl. Felly, dyma ychydig o’i hanes. Ganwyd ef ar 4 Gorffennaf 1817, yn fab i David O Evans (1788-1855), ffermwr, o Landecwyn, a Margaret (Roberts) Evans (1793-1860), o’r Fucheswen, Llanfihangel-y-traethau, Talsarnau, ei fam yn ferch i Cpt Ellis Roberts, ac yn wyres i Cpt Ellis Roberts arall (1732-1819). Heblaw ffermio ei dyddyn 118 o aceri, yr oedd ei dad yn saer coed, ac yn oruchwyliwr i Syr Williams Wynn, Maes y Neuadd, Talsarnau, a Llywodraethwr Ynys Wyth. Bu tueddiad at y môr yng ngwaed David Evans ers pan oedd yn ifanc. Yr oedd ef wedi meistroli gwyddor morwriaeth cyn ei fod yn bymtheg oed. Aeth i’r môr yn llongwr yn 1832, ar ôl iddo efo wasanaethu fel egwyddorwas ar fwrdd y llong Swallow o Gaernarfon. Yna bu’n hwylio mewn llongau oedd yn teithio rhwng Prydain ac America.

Yn 21 mlwydd oed, penodwyd ef yn Llywydd y barc ‘Gwen Evans’ a adeiladwyd ym Mhwllheli, sef y llong dri mast gyntaf i gael ei hadeiladu yng Nghymru. Bu yn yr America gyda hi droeon, a chludodd liaws o ymfudwyr o dro i dro. Aeth y ‘Gwen Evans’ yn ddrylliad ger Alexandria, Yr Aifft, 15 Rhagfyr, 1844, pryd y bu bron i David Evans golli ei fywyd. Y rheswm dros y digwyddiad oedd fod y goleudy wedi ei symud, a dim rhybudd cyhoeddus wedi ei roi o hynny. Wrth ddychwelyd adref, anfonwyd ef i’r Iseldiroedd, i achub llong werthfawr oedd wedi rhedeg i’r lan ger Texel, yn yr Iseldiroedd. Enw’r llong honno oedd Jane & Eliza, unwaith eto wedi ei hadeiladu ym Mhwllheli, yn iard Robert Evans, Y Gadlys. Llwyddodd Evans yn ei amcan, a daeth a hi yn ôl i Brydain. Yn ddiweddarach, tua 1846/47, hysbysodd yr adeiladydd llongau o Borthaethwy, John Davies, fod yna ddwy long newydd, yn ogystal â’r llong Northumberland yn hwylio am yr America gydag ymfudwyr. Rhoddwyd David Evans yn Llywydd arni, ac ar ôl hynny bu’n feistr yr Oregon, llong a adeiladwyd yn Quebec, Canada. Y llong nesaf y bu yn Llywydd arni oedd y Cotter. Ar un siwrnai cariodd y llong honno bedair mil o fwndeli o gotwm o New Orleans i Lerpwl, y llwyth mwyaf o gotwm a gariwyd erioed mewn llong hwyliau hyd y pryd hwnnw. (i’w barhau). W Arvon Roberts

Plant Dyffryn Ardudwy fu’n casglu at y Genhadaeth yn 1906

18 A

DWI’N COFIO

Michael D Higgins Arlywydd Iwerddon Dwi’n cofio cyfarfod Arlywydd Iwerddon, Michael D Higgins; ddwywaith. Roedd y tro cyntaf yn bleser pur ond roedd yr ail dro yn hunllefus! Y tro cyntaf imi ei gyfarfod oedd pan oedd Côr Meibion Ardudwy yn canu yn Galway yn 1990. Michael [Mick] Leonard cyfaill agos i mi a chyd-aelod o’r Blaid Lafur â Michael D, oedd prif drefnydd y daith. Roedd Michael D yn faer Galway ar y pryd ac hefyd yn aelod seneddol yn Dáil Éireann. Roedd yn awyddus i roi derbyniad i’r Côr ac fe wnaeth hynny yn anrhydeddus yng Nghanolfan Guinness - lle da! Cofiaf i ni gael araith gofiadwy ganddo am y cwlwm Celtaidd. Yn 1993, dyrchafwyd Michael D yn Weinidog dros y Celfyddydau, Diwylliant a’r Gaeltacht. Gwnaeth waith da drwy sefydlu Bwrdd Ffilmiau a’r sianel deledu Wyddelig, Teilifís na Gaeilge. Yn Ionawr 1994, roedd Mick a Michael D yn digwydd cyddeithio i Ddulyn ar y trên. Soniodd Mick wrth y gweinidog fod aelodau o Gôr Ardudwy yn teithio i’r gêm rygbi yn nechrau Chwefror, ond doedd Mick ddim yn siŵr faint yn union oedd yn teithio. Atebodd y Gweinidog yn syth y buasai yn trefnu derbyniad iddyn nhw yn y Weinyddiaeth a gofynnodd i Mick gysylltu efo’r ‘côr’ i wneud y trefniadau. Ffoniodd Mick acw y noson honno a holi faint ohonon ni oedd yn mynd i’r gêm. ‘Pedwar’, medda fi, ‘Bryn, Bili, Gareth Banc a minnau.’ ‘Mae gynnon ni broblem felly!’ ‘Beth sy’n mater?’ Adroddodd Mick y stori gan ddweud bod y Gweinidog wedi meddwl bod y côr cyfan yn dod

a bod trefniadau ar y gweill i’n croesawu. Buasai yno fwyd a diod inni a buasai’r Gweinidog yn ein hannerch am 4.00 y pnawn. Tybiai Mick y buasai’n syniad da inni ganu dwy gân! ‘Fedri di gael ychydig mwy o aelodau neu gantorion o gorau eraill? Fydd o ddim llawer callach!’ Gwyddwn fod Dulyn yn fôr o ganu Cymraeg adeg gêm rygbi ac er fy mod yn bryderus, credwn y gallwn gasglu ychydig o gantorion ynghyd. Cysylltais ag aelodau Côr Cymry Dulyn hefyd gan eu gwahodd i ganu efo ni. Gobeithiwn hefyd dreulio nos Iau a bore Gwener yn crwydro’r gwestai lle gwyddwn y byddai Cymry Cymraeg yn lletya. Roedd storm enbyd ar y môr wrth inni gychwyn bnawn dydd Iau ac mi fethodd y llong â docio yn Dun Laoghaire. Bu raid iddi ddychwelyd i Gaergybi. Fe welwch fod fy hunllef yn gwaethygu! Er fy mod i wedi darganfod ychydig o recriwtiaid, ro’n i’n dal yng Nghaergybi ar y nos Iau. Mi hwyliodd y llong eto fore Gwener ac roedd oddeutu 1.00 o’r gloch y pnawn arnon ni’n cyrraedd canol Dulyn; a golwg ail-law arnon ni! I ffwrdd â fi wedyn i chwilio am ragor o gantorion gan addo bwyd a diod iddyn nhw yn dâl am y ffafr! Gobeithiwn weld ychydig o ffrindiau ysgol a choleg. I dorri stori hir yn fyr, mi gyrhaeddon ni’r Weinyddiaeth yn Stryd Mespil am 3.45 gyda 15 o griw, llawer ohonyn nhw yn gantorion da. Wrth y drws yn eu gwisgoedd swyddogol yr oedd 4 o aelodau o Gôr Cymry Dulyn, a diolch amdanyn nhw. ‘Beth ydych chi’n ganu bois?’ ‘Sara’ ac ‘Ar Hyd y Nos’. Ar ben 4.00 o’r gloch, fe ddaeth Michael D at y podiwm ac mi gawson ni yr un araith ac a glywsom ganddo yn Galway yn 1990! Dywedais innau air yn Gymraeg wedyn gan annog y côr i wneud eu gorau glas. A wyddoch chi beth, mi ganwyd y ddwy gân yn bur dda - yn ddigon da i berswadio’r Gwyddelod ein bod yn gôr go iawn! Ond cael a chael fu hi a phrofiad digon hunllefus gefais i - un na wnaf i fyth ei anghofio! PM


Gwenda Jones, 1935-2018

Ganed Gwenda yn Nhyddyn Siocyn, Llanfair ar 20 Ebrill 1935. Hi oedd yr hynaf o dair merch a aned i Tom a Gwen Jones; y ddwy arall oedd Cassie a Sally. Yn ystod bywyd cynnar Gwenda, symudodd y teulu nifer o weithiau - i Soar, Cilfor, a Thŷ’r Ysgol yn Nhalsarnau, cyn symud i 2 Cilfor. Cafodd Gwenda ei haddysg yn ysgol gynradd Talsarnau ac Ysgol Y Bermo. Roedd yn ferch ifanc ddel iawn ac ar 15 Awst 1947 fe’i coronwyd yn Frenhines Carnifal Talsarnau. Mae’r Beibl a gafodd Gwenda gan ei Modryb Jennie gan Hefin bellach, ac yn ei du blaen, mewn ysgrifen hardd, mae’r geiriau ‘I’r Frenhines Gwenda, Hir oes a phob llwyddiant yn y dyfodol’. Ar ôl gadael yr ysgol, gweithiodd Gwenda mewn siop a chaffi yn y Bermo.

Yn 1975, priododd Gwenda â Goronwy Roberts, saer a threfnydd angladdau, a bu’r ddau’n byw ym Mryn yr Aur, Talsarnau. Ni bu’n briod yn hir, fodd bynnag, oherwydd bu farw Goronwy’n sydyn yn ei gwsg yn 1976. Yn y cyfamser, priodwyd Hefin ac Olive yn 1960 a chawsant dri mab, Edwin, Gwyn ac Aled. Gweithiai Olive yn siop Bob Jones ar y sgwâr yn Harlech. Pan roddodd Olive y gorau i weithio, Gwenda ddaeth i gymryd ei lle’n y siop. Roedd Olive a Gwenda’n ffrindiau mawr a phan aeth Olive yn ddifrifol wael yn 1987, gofynnodd i Gwenda ddod i mewn i ‘Arfor’ unwaith yr wythnos i lanhau, golchi a choginio pryd i Hefin, Aled a Dewyrth Fred, a oedd yn byw efo nhw. Roedd Gwenda’n falch iawn o wneud hyn, a dyma sut y daeth Gwenda yn rhan o fywydau Hefin a’i feibion. Bu farw Olive flwyddyn yn ddiweddarach yn 1988. Yn 1989, dri-mis-ar-ddeg yn ddiweddarach, priododd Hefin a Gwenda. Dyma gychwyn cyfnod newydd a hapus iawn ym mywydau’r ddau a oedd i barhau am bron i drideg mlynedd arall. PW

DWI’N COFIO

Dwi’n cofio ... Y diweddar Dr Gareth.

Pan oeddwn yn gweithio yn Garej Artro efo Russell Hughes a’r diweddar Philip Hughes yn y chwedegau, roedd yno griw direidus iawn yn casglu ynghyd. Yno roedd Jones Silcocks a oedd yn lojio yn Llanbedr. Ar ddydd Gwener fe fydda Dic Pensarn, Mr Evans i mi, yn dod a dau ddwsin o wyau i Silcocks, ac yn eu cadw yn y swyddfa. Un diwrnod roedd Dr Gareth wedi dod i gael paned o de hefo’r hogiau a dyma fo a Russell dros y ffordd

i’r swyddfa efo gwên o glust i glust. Cydiodd yn yr wyau, edrych arnaf a dweud ‘Cofia nad wyt wedi fy ngweld i yma.’ ‘Ok’, meddaf innau. Mewn rhyw awr, gwelais Gareth a Russell yn dod allan o’r byngalo ac yn syth i’r swyddfa a rhoi’r wyau yn ôl ar y cabinet, gan chwerthin fel arfer. Ymhen tipyn, fe alwodd Silcocks i nôl yr wyau. Roedd y criw yn y garej yn eu dyblau yn chwerthin. Llenwi car Silcocks efo petrol ac i ffwrdd â fo adref at ei fam i Gonwy. Ffoniodd Silcocks ben bore

Teyrnged i Gwenda ar ddydd ei hangladd gan Aled Jones Pan gyrhaeddais yr ysbyty i weld Gwenda a hithau’n bur symol, y peth cyntaf ofynnodd hi oedd sut o’n i a sut oedd y plant. Dyna pwy oedd Gwenda, o hyd yn meddwl am bobl eraill a beth alla’i ei wneud iddyn nhw. Roedd yn unigolyn hael a hollol anhunanol. Ymunodd Gwenda â’n teulu ni ar amser anodd dros ben a daeth yn wraig, yn ofalwr ac yn fam, gan edrych ar ôl Dad, Dewyrth Fred a minnau. Doedd hi ddim yn hawdd iddi adael Talsarnau a symud i Harlech efo’i chathod. Yn sydyn roedd ganddi dri dyn yn ei bywyd, fi yn fy arddegau, Dewyrth Fred yn hen lanc 70 oed a Dad yn bennaeth y teulu. Arferai Edwin a Gwyn alw’n fynych hefyd ac, yn ogystal â bod yn chwaer fawr i Cassie a Sally-Ann, daeth yn ‘Nain’ i Carys, Siân, Carwyn, yn fodryb i Siân; roedd yn ferch i Tom a Gwen Ann Jones. Alla’i ddim dychmygu pa mor anodd y bu i Gwenda ymuno â’r teulu ond wnaeth hi erioed golli ei thymer a gwnaeth ei gorau glas

i sicrhau bod pawb yn hapus. Bydd llawer yn cofio Gwenda yn siop Bob Jones, yna’r siop bapur y bu hi a Dad yn ei chadw. Ychydig o wyliau gafodd y ddau er mwyn cynnal busnes llwyddiannus a man cyfarfod poblogaidd. Roedd hefyd yn aelod brwdfrydig a gweithgar o 2 gangen o Ferched y Wawr, Sefydliad y Merched, Teulu’r Castell, a derbyniodd glod am 25 mlynedd o wasanaeth i Ymchwil Canser Gogledd Cymru. Yn ystod yr hafau diwethaf byddai Gwenda a Dad yn teithio’r wlad yn ymweld â sioeau ac arddangosfeydd amrywiol gyda modelau Dad a’r garafan. Roedd Gwenda wrth ei bodd yn croesawu pobl i’r garafan a gwneud ffrindiau, llawer ohonyn nhw wedi teithio ymhell i ddod i’r cynhebrwng yma heddiw. Doedd gan neb air drwg i’w ddweud am Gwenda, ac roedd yn un o’r bobl mwyaf caredig a chyfeillgar. Ni allwn fod wedi gofyn am unrhyw un gwell i ddod yn fam i mi. Byddwn yn eich colli.

Diolch Dymuna Hefin, Edwin, Gwyn, Aled a’u teuluoedd ddiolch yn ddiffuant i bawb am bob arwydd o garedigrwydd a ddangoswyd tuag atyn nhw yn eu profedigaeth o golli Gwenda. Diolch am y cardiau a’r galwadau ffôn. Diolch yn arbennig i’r Parch Miriam Beecroft am arwain y gwasanaethau, i Mrs Myfanwy Jones am ei gwaith wrth yr organ, ac i gwmni Pritchard & Griffiths Cyf. am eu trefniadau effeithiol.

dydd Llun yn gandryll. Roedd ei fam yn mynd i wneud scrambled eggs i frecwast iddo a beth gawson nhw ond wyau wedi eu berwi’n galed. Dyma Gareth i fewn i’m gweld a dweud hanes yr wyau. Mi ddisgynnodd fy wyneb. Roeddwn yn teimlo fel llo fy mod i wedi bod mor ddiniwed. Pan oeddwn yn gweithio yn y camp, roedd Dr Gareth yn Sick Quarters. Bu’n siarad am yr wyau yn hir. Roedd o wedi cael diwrnod wrth ei fodd. Un felly oedd Dr Gareth - yn codi calonnau pawb. Mae yna fwy o straeon y garej ond fel maen nhw’n ei ddweud ‘Calla dawo’. Menna Jones

Hen Fap o Gymru

Dengys y map uchod lle’r oedd y Gymraeg yn cael ei siarad yn y flwyddyn 500. Difyr yntê!

19 A


CANA-MI-GEI AR Y BRIG YNG NGHAER ENNILL CWPAN STAMFORD ETO!

‘Cwlwm cariad’ ac ‘I’m gonna wash that man out of my hair’ o sioe South Pacific oedd y darnau a ganwyd gan Cana-mi-gei mewn cystadleuaeth gorawl yng Nghaer yn ddiweddar. Nododd y beirniad eu bod yn llwyr haeddu Cwpan Stamford. Llongyfarchiadau gwresog iawn i’r Côr, eu harweinydd Mrs Ann Jones a’u cyfeilydd Mrs Elin Williams. Mae’r merched yn gobeithio trefnu cyngerdd gydag artistiad lleol yn fuan.

CLWB HOCI ARDUDWY YN 40 OED

Mae Clwb Hoci Ardudwy yn mynd o nerth i nerth. Dathlwyd y 40 mlynedd ers eu sefydlu trwy ddod yn bencampwyr Adran 1 Gogledd Cymru gyda’r Tîm Cyntaf a hefyd ddod yn bencampwyr Adran 3 Gogledd Cymru gyda’r Ail Dîm. Sgoriodd y Tîm Cyntaf 69 o goliau gyda 13 gôl yn eu herbyn a sgoriodd yr Ail Dîm 72 o goliau gyda 8 gôl yn eu herbyn. Cafwyd cyfle i ddathlu’r 40 mlynedd yn nhafarn y Grapes, Maentwrog ganol mis Ebrill pan ddaeth nifer o’r cyn-chwaraewyr ynghyd i adfyfyrio am yr hwyl a gafwyd dros y blynyddoedd. Dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw dros y blynyddoedd nesaf.

20 A


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.