Llais mawrth18

Page 1

Llais Ardudwy 50c

RHIF 472 - MAWRTH 2018

£2000 gan Gwmni Magnox

CERRIG HARLECH

Dangoswyd cryn ddiddordeb gan blant [ac oedolion] wrth iddyn nhw chwilio am gerrig lliwgar o gwmpas Harlech a Llanfair yn ddiweddar. Cerrig gweddol fychan ydyn nhw, yn mesur rhyw 10 cm. Syniad ydi hwn gafodd Linda Soar, 15 Cae Gwastad, Harlech. Mae’n golygu peintio lluniau ar gerrig, ei farneisio a’u cuddio o gwmpas y fro. Wrth gwrs, mae hyn oll yn annog plant, pobl ifanc a’u rhieni i fynd allan o’r tŷ, i fynd am dro, i gerdded, i fwynhau’r amgylchfyd, i gael awyr iach ac ychydig o ymarfer corfforol. Onid ydi o yn syniad gwych!

Liz Saville Roberts AS gydag aelodau Pwyllgor Rheoli Institiwt Harlech yn croesawu symud yr Hen Lyfrgell i’r byd digidol Elusen a sefydlwyd yn 1908 ydi’r Hen Lyfrgell a’r Institiwt yn Harlech. Yn ddiweddar, fe lwyddon nhw i sicrhau grant o ddwy fil o bunnoedd gan Gwmni Magnox, Trawsfynydd. Defnyddiwyd yr arian i brynu cyfrifiadur ac argraffydd a galwodd yr AS heibio i drafod posibiliadau’r oes ddigidol gyda’r Pwyllgor Rheoli. Nododd Mr Martin Moore, Cyfarwyddwr y safle yn Nhrawsfynydd, fod y cwmni yn falch o gefnogi cymunedau sy’n annog datblygu medrau addysgol. Ar hyn o bryd, mae’r Hen Llyfrgell yn gartref i wersi dysgu Cymraeg a noddir gan Brifysgol Bangor, hefyd yn gartref i gwrs cyfrifiadurol ‘Adnabod eich Tabled’ a drefnir gan Goleg Meirion Dwyfor bob dydd Iau rhwng 10.00 a hanner dydd. Cyn bo hir fe drefnir cwrs hanes lleol a chyfle i gael mynediad i e-lywodraeth. Cewch ragor o fanylion drwy ffonio 01766 780648.

TÎM PÊL-RWYD HARLECH

Chwaraeodd tîm pêl-rwyd Harlech eu gêm gyntaf eleni ar nos Lun, Chwefror 26 yn erbyn Tywyn. Colli 19-12 oedd eu hanes ond mi ddaru nhw chwarae yn dda. Seren y gêm oedd Alaw Mared.

Linda Soar

Ar ôl dod o hyd i garreg efo llun arni anogir y plant i’w gosod ar dudalen Facebook ‘Harlech Rocks’. Mae nifer dda o luniau eisoes wedi eu gosod ar y gweplyfr. Dywed Linda ei fod yn fwriad ganddi i beintio cerrig aur ar gyfer gwyliau’r Pasg. Bydd hynny yn fodd i aildanio brwdfrydedd y plant a’u gyrru allan o’r tŷ i wneud mwy o chwilio a mwy o gerdded. Melys moes mwy!


Llais Ardudwy

HOLI HWN A’R LLALL

GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com (07760 283024/01766 780541

SWYDDOGION

Cadeirydd: Hefina Griffith (01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com

Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones (01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@Intamail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960 Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Ebrill 6 am 5.00. Bydd ar werth ar Ebrill 11. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Ebrill 2 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

Dilynwch ni ar Facebook

@llaisardudwy 2

Enw: William Henry Owen Gwaith: Wedi ymddeol Cefndir: Pantgwyn a Branas, Dyffryn; ysgolion Dyffryn ac Ardudwy; Coleg Normal. Athro. Y Cymro, radio a theledu ac yna Y Cymro. Byw ym Mangor. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Efo gormod o dabledi! Beth ydych chi’n ei ddarllen? ‘Rhinogydd’ gan Jean Napier oedd y diwethaf. Siomedig iawn oedd o hefyd. ‘Y Meini Llafar’, Lyn Ebenezer o’i flaen yn glasur o’i gymharu.

Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Beti a’i Phobol. Ydych chi’n bwyta’n dda? Rhy dda! Brecwast, cinio, te a swper. Hoff fwyd? Pob dim ond stêc. Hoff ddiod? Llaeth enwyn. (Nid mwnci!) Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Des a Helen Davies o Sir Benfro ond yn byw yn Cegidfa, Y Trallwng ar un adeg. Mae arna’i brydau lawer iddyn nhw. Lle sydd orau gennych? Fy nghartref. Ond yr olygfa orau ar ddiwrnod braf yw honno o ffordd Llwyneinion, Dyffryn yn edrych draw am Ben Llŷn. Ble cawsoch chi’r gwyliau gorau? Yr Eidal, ardal Sienna. Beth sy’n eich gwylltio? ‘So’ a ‘Really’ sydd i’w clywed mor gyson gan yr hen a’r ifanc. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Medru cadw cyfrinach. Pwy yw eich arwr? Eric Jones, y dringwr. Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon? Y rhai sy’n ymwneud â’r papur

Llais Ardudwy DYDDIADUR Y MIS Mae Mrs Mai Roberts, Dyffryn Ardudwy wedi cytuno i ofalu am gynnwys dyddiadur bob mis yn y papur hwn. Rydym yn hynod ddiolchgar iddi. Os oes gennych ddigwyddiad i’w gynnwys, a wnewch chi anfon y manylion at Mai os gwelwch yn dda? Rhif ffôn: 01341 242744 Cyfeiriad e-bost: davidandmairoberts@gmail.com

LLYTHYR

bro, gan wybod gwaith mor ddiddiolch ydi o’n aml. Beth yw eich bai mwyaf? Bod yn frwd dros rywbeth am bum munud ac anghofio amdano wedyn. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Gweld Jose Mourinho a’i dîm yn colli gêm! Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Wedi talu’r bil lectric a nwy, ei rannu efo’r teulu Eich hoff liw? Melyn. Eich hoff flodyn? Bwtsias y gog Eich hoff gerddor? Sibelius. Eich hoff ddarn[au] o gerddoriaeth? ‘Dros Gymru’n gwlad’ (Sibelius/ Lewis Valentine); ‘Y Blodau Ger y Drws’ (John Evans/Meirion Williams); ‘Nos Da Nostalgia’ (Cadi Gwen). Pa dalent hoffech chi ei chael? Medru canu nodyn yn gywir. Eich hoff ddywediadau? Fel y bydd yr hwch y bydd y porchell. Drewi fel buria. Cath fenthyg. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Diog a di-ffrwt.

SAMARIAID Llinell Gymraeg

0808 164 0123

Annwyl Olygydd, Grŵp WASPI Dwyfor Meirionnydd Mae llawer o fenywod lleol a anwyd yn y 1950au yn dioddef yn ariannol oherwydd newidiadau yn eu hoedran pensiwn gwlad. Roedd y merched hyn yn disgwyl derbyn eu pensiwn pan oedden nhw yn 60 oed, ond newidiodd Senedd San Steffan oed pensiwn gwlad drwy Ddeddfau 1995 a 2011. Ffurfiwyd grŵp ymgyrchu cenedlaethol dan yr enw WASPI (Women Against State Pension Inequality) i helpu’r merched hyn. Nid ydym yn gofyn i ddychwelyd oedran pensiwn gwlad i 60, ond rydym yn gofyn i’r menywod hyn, a anwyd yn y 1950au, dderbyn cymorth ariannol ar ffurf pensiwn pontio a/neu ryw fath o iawndal ariannol. Mae WASPI wedi derbyn cyngor cyfreithiol ac yn credu bod achos o gamweinyddu difrifol ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn y modd y gweithredodd y newidiadau yn oedran pensiwn gwlad. Nid oes neb yn dadlau gyda hawl y Senedd yn San Steffan i newid y gyfraith, ond credwn na chafodd y newidiadau hyn eu gweithredu’n deg ac yn sgîl hynny wedi gadael llawer o fenywod yn dioddef caledi ariannol enfawr. Gellir cysylltu â mi trwy anfon neges e-bost at waspidwyformeirion@gmail.com, mae yna hefyd dudalen ar Facebook - Waspi Dwyfor Meirionnydd. Mae angen i ferched lleol weithredu! Yn gywir Sian Rees Cydlynydd Waspi Dwyfor Meirionnydd waspidwyformeirion@gmail.com


Ysgol Ardudwy llun gan Wyn Edwards

DAU AWGRYM

Yn ddiweddar iawn, daeth dau awgrym am golofnau newydd yn Llais Ardudwy i ni gan ein darllenwyr. 2. STRAEON AR THEMA 1. DWI’N COFIO Mae gan bob un o’n darllenwyr, [a honno’n wahanol bob mis] yn enwedig y rhai hŷn, gyfoeth Soniodd rhywun arall am y o straeon ac atgofion lleol a syniad o bennu testun bob mis phersonol sy’n rhoi darlun o ar gyfer cyfraniadau ee teithio, gyfnod i ni. Mi fydd rhai o’r chwaraeon, ffermio, prynu a straeon yma yn sicr o ddiflannu gwerthu, anifeiliaid, siopa, magu dros amser. plant, bwyd, caffi, eisteddfota, Yr awgrym felly ydi eich bod chi, canu, cadw ymwelwyr, garddio, ein darllenwyr, yn anfon pytiau gwyliau tramor ayyb. Siawns byrion i’w cynnwys dan y golofn fod yna chwarel gyfoethog yn y ‘Dwi`n Cofio’. Wrth gwrs, mae fan yna! croeso i bob math o gyfraniadau. Dyma i chi stori am fy mam Hwyrach y bydd y llun uchod o yn teithio ar awyren i Seland Ysgol Ardudwy yn sbardun i’ch Newydd. Roedd wedi bod am atgoffa am atgofion o fod yn yr driniaeth yn yr ysbyty ychydig ysgol - stori am blentyn doniol cyn mynd a doedd hi ddim neu gyngor doeth gan athro neu yn teimlo gant y cant. Roedd athrawes. hi’n boeth yn yr awyren a Neu hwyrach fod gennych dechreuodd chwysu. Dyma hi’n hanesyn am ddefnyddio hen gofyn i’r stiwardes, ‘Os gwelwch gelfi nad ydyn nhw ar ddefnydd chi’n dda, fasa chi’n meindio heddiw. Cofiwch gyfrannu pwt! agor ffenest, mae hi braidd yn Mae croeso i chi sgwennu am boeth yma!’ Gwir bob gair! unrhyw fath o atgofion. Does dim rhaid i’ch Cymraeg Er mwyn rhoi’r cwch yn y dŵr, chi fod yn berffaith. Sgwennwch fe rown ni’r testun ‘Teithio’ i chi nhw orau medrwch chi neu ar gyfer rhifyn mis Ebrill. rhannwch nhw ar lafar efo Diolch ymlaen llaw. [Gol.] rhywun fedar eich helpu. Afraid dweud fod llwyddiant y ddau awgrym uchod yn dibynnu’n llwyr ar eich parodrwydd i anfon deunydd atom. Nid ydym yn chwilio am gyfraniadau hir. Pwt byr fel y stori fach uchod fuasai’n gweddu i’r dim.

YR YSGWRN Trawsfynydd

“Buom yn yr Ysgwrn ar ymweliad flynyddoedd yn ôl a disgyn mewn cariad a’r lle ar ôl cael ein tywys gan Gerald. Dyma gyfle i ni roi help llaw at achos Yr Ysgwrn, a chan bod ein dau yn dysgu Cymraeg, mae’n gyfle perffaith i ni ymarfer.” Tony Richards a Carol Ball Harlech

GWIRFODDOLI

Er mwyn ‘cadw drws yr Ysgwrn yn agored’ i’r dyfodol bydd angen tim o bobl brwd efo amrywiaeth o sgiliau i’n helpu. Os ydych chi’n awyddus i… Gyfarfod pobl newydd a gwneud ffrindiau? Fod yn rhan o dim cyfeillgar Yr Ysgwrn? Gynorthwyo i gadw drws Yr Ysgwrn yn agored? Ddatblygu eich sgiliau neu ddiddordebau? Wella eich CV? Ymarfer eich sgiliau Cymraeg? Gael profiadau newydd? Yna mae’r Ysgwrn eich angen chi! Bydd hyfforddiant yn cael ei drefnu ar eich cyfer.

3


LLANFAIR A LLANDANWG

Damwain Drwg iawn gennym glywed am y difrod i gar Andy Unwin yn Glan Gors, Harlech yn ddiweddar. Fel y gwelwch o’r llun, mi fu Andy yn ffodus iawn o fod yn anffodus!

Carnifal Dyma lun a dynnwyd yng Ngharnifal Harlech rai blynyddoedd yn ôl. Tybed fedr unrhyw un o’n darllenwyr enwi’r unigolion? Un cliw i chi - dydyn nhw ddim yn hen iawn! Gwellhad buan Dymuniadau gorau am wellhad buan i Meirion Evans, Maes yr Aelfor. Gobeithio dy fod yn gwella’n dda ar ôl dy ddamwain.

CYSTADLEUAETH GYMNASTEG 2017

Gymnasteg Llongyfarchiadau calonnog i Eira Watts, wyres Ann a Mwff Williams ar ennill gwobr gyntaf mewn cystadleuaeth gymnasteg yn ddiweddar. Beth Tweddle y gymnast enwog sydd yn y llun efo Eira.

Neuadd Goffa, Llanfair

GYRFA CHWIST

Y drydedd nos Fawrth yn y mis am 7.00 o’r gloch Croeso i ddechreuwyr

R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU

Ysbyty Anfonwn ein cofion at Mair M Williams, Llanfair gynt, a Hafod Mawddach, sydd bellach yn Ysbyty Dolgellau yn dilyn cyfnod yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth. Gobeithiwn y cawn ei gweld yn ôl yn Hafod Mawddach cyn bo hir.

Merched y Wawr Llanfair a Harlech Aeth pump aelod, sef Hefina, Ann, Linda, Sue a Janet draw i Lanllyn i dwrnament bowlio deg Merched y Wawr. Nid oedd lwc ar ochr y tîm lleol y tro hwn er i ni gael hwyl wrth ymgeisio. Draw i Dafarn yr Eryrod wedyn i fwynhau swper a chael cyfle i gymdeithasu. Babi newydd Llongyfarchiadau i Meinir [Maes yr Aelfor gynt] a Gwynfor ar enedigaeth mab, Gethin Rhys, brawd i Elgan a Mared.

Rhodd i Llais Ardudwy: Gary Hall, Tal-y-wern £10

Clwb 200

Clwb 200

Côr Meibion Ardudwy

Côr Meibion Ardudwy

IONAWR 2018 1. £30 Bili Jones 2. £15 Tecwyn Williams 3. £7.50 Jean King 4. £7.50 Hefin Jones 5. £7.50 Richard Morgan 6. £7.50 Eirlys Williams

CHWEFROR 2018 1. £30 Dafydd Thomas 2. £15 Siân Ephraim 3. £7.50 Aled P. Jones 4. £7.50 Ifan Lloyd Jones 5. £7.50 Gwenan Owen 6. £7.50 Mrs O M Evans

ENGLYN DA NYTH Ni fu saer na’i fesuriad - yn rhoi graen Ar ei grefft a’i drwsiad, Dim ond adar mewn cariad Yn gwneud tŷ heb ganiatâd. Parch Roger Jones, 1903-1982

4


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Colli Meurig Daeth tristwch eto dros y Cwm ym marwolaeth sydyn Meurig Jones, Hendre Waelod yn 88 oed. Cydymdeimlwn â’i ddwy ferch, Pat a Morfudd a’u teuluoedd yn eu profedigaeth. Bydd yn chwith mawr yn y Gymdeithas a’r Cwm ar ei ôl. Pen-blwyddi Dymunwn yn dda i ddwy o’r ardal sydd yn cael eu penblwydd yn 90 oed yn ystod y mis, sef Catherine Jones, 6 Moelfre Terrace, ar yr 17eg, ac Olwen Evans, Werngron, ar y 29ain. Llongyfarchiadau i chwi eich dwy. Yn yr ysbyty Bu Humphrey Williams, Tanygraig, yn Ysbyty Gwynedd, ond mae wedi cael dod adre erbyn hyn. Gobeithio ei fod yn dal i wella. Diolch Diolch i Paul Jones a John Pugh am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu eu tanysgrifiadau yn ddiweddar. Cymdeithas Cwm Nantcol ‘Band Arall’ oedd yn ein difyrru yng nghyfarfod olaf y tymor. Fe wnaethon nhw hynny yn ôl eu harfer yn rhagorol gydag amrywiaeth o ganeuon, alawon ac offerynnau. Anrhegwyd Heulwen, Jean, a Morfudd am eu gwaith clodwiw iawn yn y gegin ac Eurwen am ofalu am y raffl ar hyd y tymor. Crybwyllwyd hefyd waith Morfudd a Hefin sy’n gofalu mor ffyddlon am yr adeilad. Diolchodd Cledwyn Roberts i’r band am y diddanwch a’r adloniant, i Phil ac Evie am eu gwaith yn y cefndir ac i bawb am gefnogi mor ffyddlon. Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch MAWRTH 11 Capel y Ddôl Mrs Eirwen Evans 18 Capel Salem, Parch Dewi Tudur Lewis 25 Capel Nantcol Parch Gareth Rowlands EBRILL 1 Capel y Ddôl, Parch Dafydd Andrew Jones

PORTREAD O TAID, MEURIG JONES, HENDRE WAELOD, GAN MARI WYN

Ganwyd Taid ar y 12fed o Fawrth 1929 yn Tan Rhiw, Llanbedr. Symud wnaeth y teulu i’r Lodge wedyn i edrych ar ôl y giatiau i’r bobl fawr. Roedd fy hen daid yn gweithio yn Nhalgarreg yng ngofal y ceffylau cyn bodolaeth y loriau. Plentyn gwael oedd taid a byddai ei dad yn godro caseg Talgarreg gan fod y llaeth yn dda ar gyfer mendio yr eczema. Symudodd y teulu i’r Hendre pan oedd yn flwydd oed ac aeth i Ysgol y Cwm. Yn 14 oed, bu’n was fferm yn Llanddwywe ac am gyfnod yn fugail teithiol. Yna gweithio yn Nhalgarreg yn gyrru loriau. Wedyn gweithio am 30 mlynedd i Gymdeithas Meirion cyn ymddeol yn 1994. Roedd yn ffraeth ei atebion bob amser, fel mae Evie Morgan Jones wedi ei grynhoi – digwyddodd y stori hon rhyw bnawn Sul tu allan i Gapel Nantcol. Gweneira oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth y pnawn dan sylw, a bu wrthi’n reit ddygn yn trafod Philemon. Gofynnodd i Meurig “Be ti’n feddwl o’m mhregeth i ta?” Atebodd Meic, “Mae’n well gen i dy chutneys di”! Dwi’n gallu ei weld o rŵan yn hanner cysgu o flaen y teledu gyda’i gap stabal ar ei ben, sbectols pot jam yn gwyro ar ei drwyn a phapurau da das mint imperials a liquorish allsorts ar hyd y soffa. Bu’n briod ag Ellen ei wraig ers dros hanner canrif, ond bu iddi farw ym mis Hydref 2013, a’r golled yn enfawr iddo. Roedd o’n drwm ei glyw, ond efallai mai dim yn gwrando oedd Taid. Rwyf yn ei gofio fo’n cael yr hearing aid am y tro cyntaf a ninna’n dal i weiddi arno, ac yntau yn ateb, “Asu, does dim rhaid gweiddi, mond yn fama ydw i.” Hen bwtyn bach, byr ei gorff oedd Meurig Jones, y cyw melyn olaf o dri o feibion Hendre Waelod, fferm fynyddig yng Nghwm Nantcol. Mae’n dad i ddwy o ferched, Pat a Morfudd ac mae ganddo ddau o wyrion, Eon ac Erddyn a finna’r wyres.

Roedd o’n greadur bach hoffus, bob amser gyda gwên fawr lydan ar ei wyneb, bron na fyddech yn dweud ei fod yn gwisgo gwên bob amser. Roedd ganddo fop o wallt gwyn, fel eira o gwmpas ei glustiau, ac wedi teneuo yn arw ar y copa. Adroddai’r pennill yma dro ar ôl tro, lle mae’r afon yn siarad gyda’r Moelfre. “Igam Ogam, ble’r ei di? Moel dy ben, be waeth i ti, Mi dyfith gwallt ar fy mhen i, Cyn sythith dy igam ogam di.” Roedd ei lais yn dawel er nad oedd ei geg byth ar gau, a’i ddannedd gosod yn symud nôl ac ymlaen. Yr unig beth alla’i ddweud am ei ddwylo yw nad oeddynt yn ddwylo chwarae piano reit siŵr, roeddent yn fyr, ond yn gadarn, gydag ôl gwaith arnyn nhw. Dwylo caredig a ffeind gyda phob creadur, anifail neu ddyn. Roedd o’n hoff o’i fwyd. Un stori sydd yn aros yn fy nghof yw honno pan oedd Taid yn dreifio lori wartheg i fyny rhyw Tal Llyn a’r lori’n dechrau poethi. Peth nesa roedd Taid wedi stopio’r lori, diffodd yr injan, estyn am ei focs bwyd a rhedeg allan. Roedd ganddo chwant am fwyd o hyd, yn enwedig pwdin. Doedd dim rhaid dweud wrtho bod bwyd yn barod, mi oedd o’n eistedd wrth y bwrdd cyn i’r plât gyrraedd. Dyn ei filltir sgwâr oedd Taid, nid yw wedi teithio’n bell oddi cartref. Roedd ganddo bersonoliaeth gynnes iawn; yn llawn hoffter a dim drwg i’w ddweud am neb. Meurig Jones ydi o, Meic yr Hendre, Merrick i’r Saeson ac Yncl Meurig i’r hogiau lleol. Brenin y Cwm. Addysg leol, bedyddio’n lleol, gweithio’n lleol a phriodi’n lleol. Diolch am chwerthiniad iach a diolch am gael ei adnabod. Daeth terfyn dydd. Cysgwch yn dawel, Taid.

Diolch Dymuna Pat, Morfudd a theulu Hendre Waelod ddiolch o galon i bawb am y geiriau caredig, y llu cardiau, galwadau ffôn, a bwyd bendigedig, a phob arwydd o gydymdeimlad yr ydym wedi ei brofi gan gymdogion, teulu a ffrindiau yn ystod cyfnod anodd o golli tad a thaid, sef Meurig Jones, mor sydyn. Yr ydym yn gwerthfawrogi hyn yn fawr iawn. Diolchwn hefyd am y gwasanaeth clodwiw a gafwyd yng Nghapel Salem dan ofal Dewi Tudur, gyda Catrin Richards yn cyfeilio. Hefyd i Mari Wyn ac Evie Morgan am eu teyrngedau ac i Morris Evans am yr englynion er cof. Rhodd £10 I gofio Meic, un o ffrindiau gorau’n y byd. Yn ddisymwyth ei symud – ddoe yn iach Ond heddiw’n y gweryd, O ynni byw newid byd, Inni mor drist yw’r ennyd. Yn fugail hwn a fagwyd – mewn heddwch Mynyddoedd bu’i fywyd, Un di-gŵyn, yno’i wynfyd I hwn yn ddiolch o hyd. Caddug sydd heddiw’n cuddio – y mynydd A’r mannau fu’n grwydro, Briw o weld ei lwybrau o Arhwd lle bu’n eu rhodio. O’r gwŷr bu’n un o’r gora’, - ei haeddiant Fu heddwch ei gartra, ‘Rhyd ei oes wir dewis da Ei drig dan glwyd yr Hendra. Y wên ddiflannodd heno – o’r hen gwm, ‘Rhyn a gei yw atgo O’i weld, ac ôl y wylo Yno fydd amdano fo. ME

5


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Teulu Ardudwy Cyfarfu Teulu Ardudwy yn y Neuadd Bentref, bnawn Mercher, 21 Chwefror. Croesawyd pawb gan Gwennie gyda chroeso arbennig i Brenda, Pentre Canol, oedd wedi ymuno â ni am y pnawn. Mae Brenda yn byw yn Seland Newydd ond yn y Dyffryn ar hyn o bryd yn dilyn marwolaeth ei modryb Mrs Jane Jones, Byngalo Berwyn. Mynegwyd ein cydymdeimlad â hi. Dymunwyd pen-blwydd hapus iawn i Mrs Catherine Jones fydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 90 ar 17 Mawrth. Yna croesawyd un o blant y Dyffryn, John Blake, atom a chafwyd pnawn bendigedig yn ei gwmni. Cawsom ganddo hanes ei deulu ar ochr ei fam, y ddiweddar annwyl Mrs Eirlys Blake. Cawsom hanes ei hen daid Gwilym Ardudwy, Bryn Teg, ei nain, Blodwen, ei brawd Hu Gwilym a ymfudodd i Ganada a darllenodd rai o’i lythyrau i’w deulu yn ystod y Rhyfel Mawr, a’i chwaer Luned a aeth i Alaska i briodi Ceiriog Morris. Gymaint y mwynhad fel bod John wedi cytuno i ddod yn ôl atom y tymor nesaf. Diolchwyd yn gynnes iawn i John gan Glenys Jones. Cyd-ddigwyddiad oedd bod Hilda, fore Mercher, wedi dod â llun i mi o rai o aelodau Teulu Ardudwy yn 1957 i’w roi yn y Llais. Un o’r gwragedd yn y llun oedd Mrs Morris, Alaska. Dangosodd John yr un llun â Mrs Morris, Alaska oedd Luned, chwaer ei nain. Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau i Gwynfor a Meinir, Eithinfynydd ar enedigaeth mab bach, Gethin Rhys, brawd bach i Elgan a Mared. Diolch Dymuna Enid, Eluned a Gwennie ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a dderbyniwyd yn ystod eu profedigaeth o golli eu brawd, Ned. Diolch a rhodd £10

6

Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at Pat, Eon ac Erddyn, Carleg Uchaf, yn eu profedigaeth o golli tad a thaid annwyl, Mr Meurig Jones, Hendre Waelod. Ar 10 Chwefror bu farw Miss Evelyn Lloyd Jones, 10 Bro Arthur, Dyffryn yn 79 oed. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at y teulu yn eu profedigaeth. Clwb Cinio Ar 20 Mawrth byddwn yn cyfarfod yn Aberdunant, rhwng Tremadog a Beddgelert am hanner dydd. Croeso i unrhyw un ymuno â ni. Diolch Diolch i Ann Humphreys a Mr Cyril Jones am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu eu tanysgrifiadau i Llais Ardudwy yn ddiweddar. Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb MAWRTH 11 Mawl a Chân, Rhian ac Alma 18 Geraint a Meinir Lloyd Jones 25 Parch Gareth Rowlands EBRILL 1 Parch Dewi Morris 5.30

MAWL AR GÂN Dydd Sul, Mawrth 11, Rhwng 10.00 ac 11.00 y bore Capel Horeb, Dyffryn Ardudwy Dowch! Ymunwch! I ganu hen ffefrynnau o Ganeuon Ffydd Croeso cynnes i bawb! Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy

CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT Ceisiadau Cynllunio Adeiladu modurdy dwbl/gweithdy/stiwdio newydd ar wahân a ffurfio mynediad cerbydau ôl-weithredol - Liverpool House, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Caniatâd Adeilad Rhestredig am waith sydd eisoes wedi ei wneud i ffurfio mynediad cerbydau yn y wal derfyn - Liverpool House, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Creu mynedfa newydd i gerbydau yn lle’r fynedfa presennol - Bryn Melyn, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn oherwydd bydd y fynedfa newydd yn un fwy diogel. Rhaglen Cydweithio Iwerddon Cymru 2014-2020 Adroddodd y Clerc bod y Cadeirydd wedi cysylltu â hi ynglŷn â’r uchod a hefyd wedi derbyn e-bost gan Mr Iolyn Jones o Lanbedr. Y Cadeirydd fydd yn cynrychioli’r Cyngor yn y mater yma. Cyngor Gwynedd - Adran Economi a Chymuned Mae’r Cyngor yn trafod ailfodelu’r gwasanaeth ieuenctid. Mae’n debyg na fydd y Cyngor Sir yn darparu unrhyw glwb ieuenctid o Ebrill 1, 2018 ac felly yn cynnig y math o drefniadau gwahanol y gellid eu hystyried - Cyngor Cymuned lleol yn ystyried ariannu clwb ieuenctid a’r gwasanaeth ieuenctid yn cynnal y clwb ar gost o amgylch £4,250 y flwyddyn i’r Cyngor Cymuned, y Cyngor Cymuned yn cynnal clwb ieuenctid gwirfoddol a grŵp gwirfoddol yn cynnal clwb ieuenctid gwirfoddol. Byddant yn falch o gael gwybod pa un o’r uchod mae’r Cyngor hwn yn ei ffafrio erbyn y 9fed o Fawrth. Cyngor Gwynedd - Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu’r Cyngor eu bod yn sefydlu Timau Adnoddau Cymunedol ar y cyd rhwng yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Cyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac y bydd pump tîm Adnoddau Cymunedol yn cael eu sefydlu ar draws y Sir ac y bydd rhai o’r staff o’r dair ardal a’r staff oedd yn rhan o’r Tîm Cynghori ac Asesu Oedolion yn trosglwyddo i’r timau newydd ar Chwefror 5. Bydd yr ardal hon yn cael ei gwasanaethu gan Dde Meirionnydd a’r rhif cyswllt yw 01341 424499 OedolionDeMeirionnydd@gwynedd.llyw. cymru.

Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd

Tel: 01341 247799

www.smithygarage-mitsibushi.co.uk smithygaragedyffryn

smithygarageltd

CYNGERDD gyda CHÔR MEIBION ARDUDWY Nos Sul, Ebrill 1 am 7.30 Mynediad: £5

Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes


Er ei anableddau, roedd Robert wrth ei fodd yn cymryd rhan mewn cyfres o heriau corfforol megis merlota, sgio llethr sych, nofio, hwylio ac, yn ddiweddarach, boccia. Ym 1969 cododd Jane a Ned fyngalo a daeth hwn yn gartref i’r teulu, ac yn ganolfan i’w busnes. Fodd bynnag, yn 1970 dinistriwyd eu siop a’r adeiladau yn llwyr gan dân. Er hyn, penderfynodd y ddau ail-godi’r busnes a chynyddu’r ystod a’r nifer o bethau i’w gwerthu yn y siop. Ychydig cyn y Nadolig 1985, daeth trychineb i Teyrnged Jane Louisa Jones ran y teulu pan fu farw Ned yn sydyn. Roedd Ganed Jane ym mis Tachwedd 1922, trydydd Robert yn 19 oed ar y pryd. Parhaodd Jane i plentyn Elizabeth a Robert Morris, fferm weithio yn y garej a’r siop, a chynnal ei chartref Pentre Canol. Roedd cerddoriaeth yn rhan a’r ardd ar yr un pryd, gan weithio hyd at 15 fawr o’r cartref, ac roedd pawb bryd hynny’n awr y dydd. Bu ei brawd OT a oedd erbyn hyn canu neu’n canu offeryn. Dysgodd Jane i wedi ymddeol o’i waith ffermio’n gryn gefn iddi ganu’r piano a’r organ, ac arferai gyfeilio yn y cyfnod hwn. ar adegau i gôr meibion ei thad mewn Am y rhan fwyaf o’i hoes cadwodd Jane cyngherddau neu eisteddfodau lleol. ddyddiadur, a gallai felly gofio llawer o Ers pan oedd yn wyth oed, gofalai Jane am ei ddigwyddiadau ei hoes a’r pentref yn hanner nain, Margaret Jones, a dyma sefydlu patrwm cyntaf yr 20fed ganrif. Byddai’n hoff iawn o am weddill ei hoes, gan i Jane ofalu am lu o adrodd ei hatgofion, a hynny gyda hiwmor. Un aelodau teuluol ar hyd ei hoes, gan gynnwys o’i ffrindiau bore oes oedd Beti bach (a anwyd ei gŵr Ned a’i diweddar fab Robert. ar yr un diwrnod â Jane). Ffrind mawr arall i Yn 20 oed gadawodd Jane Gymru i fynd Jane oedd Catrin, Penre Ucha. i hyfforddi fel nyrs yn Ysbyty Alder Hay, Yn 2013, bu farw ei mab hoff Robert yn dilyn Lerpwl. Roedd ei chwaer yno eisoes, a salwch. Ni ddaeth Jane dros y sioc yma o golli datblygodd Jane i fod yn nyrs ymroddedig. ei hunig fab a hithau wedi edrych ar ei ôl am Dychwelodd i’r Dyffryn ar ôl hyfforddi a gymaint o flynyddoedd. Serch hynny, yn ôl chafodd swydd fel bydwraig yn y Cartref yn Jane, “Rhaid i mi ddal ati” a dyna a wnaeth. y Bermo. Roedd wrth ei bodd yn gofalu am Bu i Jane fyw ei bywyd hir gyda phwrpas, y babanod yno, cyn dal y bws yn ôl i Dyffryn. ymroddiad a phenderfyniad i ddal ati. Cafodd Am flynyddoedd lawer, arferai mamau yr gefnogaeth y gymuned a’i theulu drwy’r adegau oedd Jane wedi gofalu amdanyn nhw a’u da a’r adegau anodd, a rhaid diolch i Ron babanod gadw cysylltiad â hi ac roedd wrth ei ac Olwen Telfer a Ned ac Enid Owen am eu bodd yn dal i fyny efo’u hanes. cefnogaeth gyson iddi ar hyd y blynyddoedd. Yng nghanol yr 1940au cyfarfu Jane â gŵr Mae dyled y teulu’n fawr i bobl garedig ifanc lleol, Edward (Ned) Jones, mab ieuengaf Dyffryn, a diolchwn yn fawr i bawb un ac oll. teulu mawr o’r Graig Isaf, Cwm Nantcol. Er Cafwyd hyd i’r geiriau canlynol yn un i’w perthynas fod yn un dros bellter a thrwy o’r cardiau a dderbyniodd Jane dros y lythyru i ddechrau, priodwyd y ddau yn 1951 blynyddoedd: a mynd i fyw i Llwyn Onn. Ym 1961 cafodd Cofio’r dyddiau dedwydd diddan, y ddau gyfle i ddilyn gyrfa dra gwahanol Cofio’r cariad, cofio’r wên, pan brynodd y ddau eu busnes eu hunain, a Cofio’r gofal mawr amdanom, phrynu Garej Berwyn yng nghanol Dyffryn. Hiraeth nid yw’n mynd yn hen. Ym 1966 ganwyd eu hunig blentyn, Robert.

Teulu Ardudwy ar Daith

Diolch Dymuna Brenda, Marilyn, Alan a theulu’r diweddar annwyl Jane Louisa Jones ddiolch yn ddiffuant iawn am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth. Diolch £5

O rifyn Mis Mai 1934 Y Dysgedydd Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg Beddargraff ocsiwniar Lot ar ôl lot a droes ei ddoniau ef Yn fargen enfawr, nes ei dwyn i dref ; Ni ddyry ef un gnoc â’i forthwyl mwy – Fe gafodd yntau’i daro lawr. I bwy? Sarnicol Beddargraff Llenor Cyhoeddodd lyfr Cymraeg; fe glybu toc Ei fod yn talu, a bu farw o sioc. Sarnicol Un gair yn ddigon Y prydydd hir : Rwy’n danfon i chwi ddarn O’m pryddest ar ‘Yr Heuliau’, A hoffwn gael eich barn Mewn cant neu ddau o eiriau. Y beirniad byr Pa eisiau cant neu ddau, O ddyn, Pan fedraf ddweud fy marn mewn un! Sarnicol Ac ni wnaeth chwaith Ysbîwr o swyddfa y pensiwn Anfonwyd ar neges trwy’r plwy, Gan feddwl y gellid, mi dybiwn, Gynhilo rhyw geiniog neu ddwy. Pan gurodd wrth ddrws Catrin Bleddyn – Hynafwraig anwylaf y fro, Llais ymgom a ddeuai o’r bwthyn, Ond nid oedd sŵn agor y clo. A churodd yn drymach yr eildro – ‘Dydd da !’ ebai Catrin yn llon; ‘Dowch i mewn os gellwch ystwytho I ddod i’r fath ’stafell â hon.’ ‘Dydd da,’ ebe’r sbiŵr, gan holi, ‘Oes rhywun yn cyd-fyw â chwi; Pan gurwn, yn enw’r daioni, Â phwy yr ymgomiech mor ffri ?’ ‘Ymgynghori â FO yr oeddwn Am helbul hel tamaid; ac O! Mi wn nad ymyrrwch â ’mhensiwn Os ydych yn ffrind iddo FO!’ Richard Williams Mossley Hill Lerpwl

Dyma lun o rai o aelodau Teulu Ardudwy ar drip drwy Drawsfynydd ym mis Mai 1957. Yn y cefn o’r chwith i’r dde: Mrs Jones, Min-y-wern, Mrs Griffith, Siopwen. Yn y blaen o’r chwith i’r dde: Mrs Jones, Ty’nygroes, Mrs Froggat, Tŷ Ucha, Tal-y-bont, Mrs Morris, Alaska [Luned, hen fodryb John Blake], Mrs Simson, Cromlech a Mrs Griffith, Llys-y-wawr.

7


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Merched y Wawr Croesawodd Siriol ein gŵr gwadd, sef John Christopher Williams o Feddgelert, i gyflwyno sgwrs ar y testun ‘Byw yn y Dwyrain Canol’. Dechreuodd drwy sôn mai mab i blismon o Feddgelert oedd o, wedi mynychu’r ysgol gynradd yno cyn mynd i Ysgol Eifionydd ac yna i’r Coleg Normal ym Mangor. Roedd erbyn hyn wedi ymddeol ac yn byw yn ôl yn ei hen gartref. Roedd ei swydd ddysgu gyntaf yn Lerpwl ond yn fuan dechreuodd grwydro’r byd a chael swydd yn Zambia i ddechrau, ac wedyn dysgu yn Papua New Guinea am dipyn o flynyddoedd. Yna dychwelyd i Goleg Bangor a gwneud gradd uwch, cyn mynd i Mongolia i ddysgu am flwyddyn, cyn cael swydd Pennaeth Coleg yn Saudi Arabia ac am y cyfnod yma y bu’n sôn wrthym. Disgrifiodd sut brofiad oedd byw yn y wlad – yn hynod o boeth yn yr haf, ond oer iawn yn y gaeaf, y prinder dŵr ac fel roeddynt wedi darganfod modd i ddi-halltu’r môr er mwyn cael dŵr yfed; dim afonydd parhaol o gwbl a phris dŵr yn ddwbl pris petrol. Wythnos waith o Sadwrn i Mercher. Merched ar wahân ym mhopeth, ond un newid mawr ym mis Mehefin eleni yw y bydd merched yn cael dreifio am y tro cyntaf. Cawsom sgwrs hynod o ddiddorol a chael darlun ardderchog o fyw yn y Dwyrain Canol.

Daeth â nifer o eitemau perthnasol i’r wlad i’w dangos i ni a chyflwynodd eglurhad ar eu pwrpas a’u defnydd. Diolchodd Gwenda Paul, un o gyfoedion John Williams yn Ysgol Eifionydd gynt, am ddod atom a rhoi cyflwyniad mor ddifyr ac addysgol hefyd, a gwerthfawrogwyd ei sgwrs yn fawr iawn. Roedd y baned dan ofal Margaret ac enillwyd y raffl gan Anwen. Bowlio Deg Nos Wener, 23 Chwefror aeth pedair o Gangen Talsarnau – Siriol, Anwen, Gwenda a Mai, i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Bowlio Deg Rhanbarth Meirionnydd yng Nglanllyn, y Bala. Cafwyd noson o hwyl wrth geisio taflu’r peli trwm ond ni fu llawer o lwyddiant y tro yma ac roedd yn amlwg bod rhaid cael mwy o ymarfer ymlaen llaw! Ond mwynhawyd y swper yng Ngwesty’r Eryrod ar ôl y gêm ac roedd hyn yn gorffen y noson mewn modd pleserus iawn. Diolch Dymuna Deborah Williams, Caryl a Geraint, Gwrach Ynys ddiolch i’w cyfeillion ymhell ac agos am bob arwydd o gydymdeimlad a dderbyniwyd ganddyn nhw ar achlysur marwolaeth mam, nain a hen nain, sef Mrs Nancy Jones, Pontllyfni yn ddiweddar.

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286

Ffacs 01766 771250

Honda Civic Tourer Newydd

8

Colli Philip Ganwyd Philip Hughes yn y flwyddyn 1936 yn Ysbyty Dewi Sant, Bangor; yn fab i Bob ac Ethel Hughes o Rhyd Ddu. Yn fuan wedi hyn symudodd y teulu i Benrhyndeudraeth ac yno cafodd ei addysg gynradd cyn symud i Ysgol y Bermo. Ar ôl gadael ysgol dechreuodd fel prentis mecanic ym Morfa Garage hefo Lewis Roberts ac yna gyda Russell Hughes yn Llanbedr. Wedi hynny aeth i wneud ei ddwy flynedd o wasanaeth yn y lluoedd arfog. Ar ôl dod adref aeth i weithio i Ishmael Jones, Talgarreg i yrru lorri anifeiliaid a hefyd lorri cwmni Cooke’s pan fyddai angen. Yn ystod y cyfnod hwn daeth i adnabod ffermwyr yr ardal yn dda. Roedd ganddo bersonoliaeth ddymunol iawn ac roedd yn boblogaidd iawn ymhlith yr amaethwyr ac wrth ei fodd yn ei waith. Yn ystod hanner olaf y 60au cyfarfu â Cassie a bu iddyn nhw briodi yn 1970 a chartrefu yn 2, Cilfor a byw bywyd dedwydd iawn yng ngwmni ei gilydd Roedd wrth ei fodd pan anwyd Siân ac yr oedd wedi ffoli arni. Pan ymddeolodd Ishmael, aeth Philip i weithio i gwmni John Roberts, Ffestiniog ac yno y bu nes iddo ymddeol. HJ Diolch Dymuna Cassie a Siân ddiolch yn ddiffuant i’r meddygon a’r nyrsus yn Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Alltwen ac i’r nyrsus cymunedol am eu holl ofal caredig. Hoffem hefyd ddiolch yn fawr iawn i’n cymdogion a’n cyfeillion am y galwadau ffôn ac am yr holl gardiau a dderbyniwyd. Diolch yn fawr. Rhodd £10 Cydymdeimlad Estynnwn ein cydymdeimlad â Cassie Hughes, 2, Cilfor yn ei phrofedigaeth o golli ei phriod Philip yn ddiweddar. Hefyd rydym yn cofio am Siân, ei ferch a’r teulu, Dinas Mawddwy, yn eu colled. Anfonwn ein cofion at y teulu oll.

DARLITH FLYNYDDOL CYFEILION ELLIS WYNNE

Rhaghysbysiad Cynhelir y ddarlith eleni ar nos Iau, 19 Ebrill yn Neuadd Gymuned Talsarnau am 7.00 o’r gloch. Y siaradwr eleni yw’r Dr Iwan Rees, mab Marian a’r diweddar Gareth Rees o Harlech, a’i bwnc fydd “Ffiniau, Cylchoedd a Dyfodol y Tafodieithoedd Cymraeg.” I’r rhai a fu’n gwrando ar Iwan yng Nghwm Nantcol y llynedd, sylwer bod hon yn sgwrs ar bwnc gwahanol ganddo, felly dewch yn llu unwaith eto i gefnogi. Mynediad yn cynnwys lluniaeth: £5. Croeso cynnes i bawb. Cydymdeimlad Anfonwn ein cofion at Alan a Deilwen Cooper, Argoed, Llandecwyn, a’r teulu yn eu profedigaeth o golli mam Alan, June Nightingale. Rydym yn meddwl am Melanie a Samantha hefyd, wedi colli eu nain, ac am Ray, ei phriod a’r teulu oll. Rhodd Diolch i Dafydd Williams am y rhodd o £16 i gronfa Llais Ardudwy.

Neuadd Talsarnau

GYRFA CHWIST Nos Iau, Mawrth 8 am 7.30 o’r gloch Capel Newydd

(Oedfaon y Sul am 6:00) MAWRTH 11 - Eifion Jones. 18 - Dewi Tudur. 25 - Brian Wright. 30 - Oedfa’r Groglith, dydd Gwener, am 10:30. EBRILL 1 - Sul y Pasg - Dewi Tudur. 8 - Rhodri Glyn


HEN LUNIAU

Y diweddar David Elwyn Evans, Tim Jennings [ac aelod o dîm Ysgol y Berwyn?] ym Mabolgampau Ysgolion y Sir yn 1959. Llun: Y Cymro

Rhai o fechgyn Ysgol Ardudwy ym Mabolgampau Ysgolion y Sir yn y Bala yn niwedd y pumdegau. Llun: Y Cymro

Ymweliad rhai o ddisgyblion Ysgol Ardudwy â chanolfan amaeth Bryn Adda, Bangor yn nechrau’r chwedegau. Nid yw’r ganolfan yn bod bellach. Y diweddar Alun Williams yw’r athro yn y llun efo dyn o Bryn Adda. Buasem yn croesawu mwy o wybodaeth am y llun. Llun: Y Cymro

‘Chwilio gem a chael gwymon.’

Rwyf wedi cwyno sawl tro fod rhyw emyn neu’i gilydd wedi ei adael allan o`r Caneuon Ffydd. Mae`n chwith gennyf feddwl am ambell i drysor sydd wedi ei ollwng i golli ac na fydd canu arno bellach yn ein capeli. Un o`r rhai hyn yw emyn mawr Bardd Nantglyn (1769-1835) addas iawn i’w ganu ar ddechrau gwasanaeth: “ Anturiaf, Arglwydd, yr awr hon, Yn llwch a lludw ger dy fron; O flaen dy fainc a`th orsedd Di Gweddi a mawl sy`n gweddu i mi.” Un arall yw emyn John Jones, gŵr na wyddom bron ddim oll amdano: “Trwy ras rwyf, Arglwydd ger dy fron Yn rhoi fy nghalon iti;

Ti`m ceraist i, er maint fy mai Ni allaf lai na`th garu.” Dyna emynau 22 a 480 yn hen lyfr y Methodistiaid. Ond, medde chi, mae’r llyfr yn enfawr eisioes hefo 993 o emynau, caniadau, salmau ac yn y blaen. Mae o yn rhy fawr i ffitio’n daclus ar aml i organ neu biano. Os oedd yr hen emynau yma i fynd i mewn fe fase`n rhaid cael gwared o rai eraill. Oes yna emynau na ddylid bod wedi eu cynnwys? Wel oes am wn i. Mae yna ambell un hollol anaddas ar gyfer cynulleidfa ar y Sul gyda chyfeiliant cymhleth sydd yn ei gwneud hi yn amhosib bron i`r gynulliedfa wybod pryd i neidio i mewn a dechrau canu. A gwaeth byth mae yna ambell i ganig hollol ddisynwyr yn y casgliad. Er enghraifft dyna i chi rif 149 sef Cân iâr fach yr haf. Yn ôl y Cydymaith mae hon yn gân hwyliog i blant. Mae yn agor fel hyn: “Pe bawn i yn iâr fach yr haf diolchwn i ti am adenydd braf.” Wel iawn am wn i. Fi sydd yn hen ffasiwn siŵr o fod. Ond mae hi yn mynd o ddrwg i waeth:-

“Pe bawn i yn eliffant diolchwn yn y sŵ am gael cario plant” Deallaf mai dim ond eliffantod Asiaidd ellir eu hyfforddi i wneud hyn. Nid oes bosib cael rhai Affricanaidd i weithio. Erbyn heddiw, amheuir priodoldeb cadw eliffantod mewn sŵ i wneud y gwaith yma ac mae rhywbeth yn od mewn diolch am y fath beth yn yr addoliad cyhoeddus. Mae amryw o`r emynau newydd yn cyflwyno neges digon rhyfedd. Er enghraifft, mae emyn 150 yn diolch i Dduw am ddiwrnod braf. Efallai yn wir y dylai pregethwr edrych trwy`r ffenestr i wneud yn siŵr o`r tywydd cyn ei ledio . Mae ambell un o’r hen emynau yn haeddu cael ei anghofio hefyd. Mae’n siŵr eich bod i gyd yn cofio canu emyn 116 yn yr ysgol neu`r ysgol Sul: “Nef a daear, tir a môr sydd yn datgan mawl ein Iôr.” Mae`r emyn wedi cael tôn newydd ganadwy ond mae`r geiriau mor ddisynnwyr ag erioed: Popeth hardd o dan y nef, dyna waith ei fysedd ef.” Ond beth am y pethau hyll? Nadroedd, pryfed cop a ballu?

“Cwyd aderyn bach o’i nyth am fod Duw yn dirion byth; gwrendy’r corwynt ar ei lef, cerdda’r mellt ei lwybrau ef.” Tybed? Bywyd byr a bregus yw bywyd aderyn bach ac mae`r corwyntoedd a`r mellt yn aml iawn yn creu dinistr a cholled. Mentrodd un gweinidog o Ardudwy aralleirio’r pennill hwn a’i adrodd yn y Cyfarfod Misol gan achosi cryn helynt: “Cwyd aderyn bach o’i nyth Am fod Duw yn dirion byth; bwyta`r deryn gan y gath am bod Duw o hyd ’run fath.” Mae’r emyn yn sôn hefyd am y don yn rhoi mawl i Dduw cyn codi o`r môr. Yn wir, mae’r emyn yn rhoi darlun od a chymysglyd o’r byd o’n cwmpas a rheolaeth Duw arno. Efallai nad yw’n haeddu ei le yn y Caneuon Ffydd. Ond i gloi dyma i chi bennill olaf emyn John Jones: “I’r Tad, i’r Mab a’r Ysbryd Glân Rhof glod ar dân heb dewi; Y Tri yn Un a`r Un yn Dri Mae f ’enaid i’n ei garu.” Efallai y cawn ni sôn ychydig am ddŵr y tro nesaf. JBW

9


HARLECH Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â Mark a Susan Williamson ar golli ei mam, Elizabeth Williamson (Libby) o Tan y Garth, Ffordd Uchaf, ar 12 Chwefror. Cafwyd gwasanaeth yn Eglwys Tanwg Sant, Harlech, ac fe’i claddwyd ym mynwent yr Eglwys. Cymerwyd rhan gan y Parchedigion Tony a Stephanie Beacon a’r Parchedig Bob Hughes, gyda Pam Bowyers yn cyfeilio. Roedd y cyfraniadau yn mynd at Ymchwil Canser Gogledd Cymru. Teulu’r Castell Croesawodd y Llywydd Edwina Evans yr aelodau i’r cyfarfod ddydd Mawrth, 13eg i Neuadd Goffa Llanfair. Cydymdeimlwyd gyda Maureen Jones a Susan Jones ar golli eu cefnder Geoff Maidment, mab Arthur a Lee Maidment, a hefyd gyda theulu Meirion Thomas. Roedd Meirion wedi bod yn aelod ffyddlon a hael iawn o Deulu’r Castell cyn ei salwch. Cofion gorau i Gwenda Jones, i M M Williams oedd wedi bod mewn ysbyty yn Aberystwyth ac i bawb oedd ddim yn teimlo’n dda. Brysiwch wella, bawb. Dymuniadau i bawb oedd yn dathlu pen-blwydd y mis yma. Dydyn ni ddim yn siŵr iawn o’r dyddiad i fynd i Ysgol Tan y Castell ym mis Mawrth. Cewch wybod mewn da bryd, ac mae pawb yn edrych ymlaen at glywed y plant eto eleni. Diolch am y rhodd gan Rhiannon, merch Anti Laura. Diolch i bawb sydd wedi rhoi rafflau, wedi dod â phobl ac aelodau i’r cyfarfodydd, ac wedi paratoi a gwneud bwyd i’r te. Yna cafwyd hwyl gydag Edwina a Bronwen yn gwneud y bingo. Rhai yn ennill, rhai yn colli, ond fe gafodd bawb anrheg bach i fynd adref. Diolch i’r pwll nofio am roi benthyg y peiriant bingo i ni.

Capel Jerusalem

MAWRTH 18 Parch Dewi Tudur am 3.30 30 Cymun y Groglith gyda’r Parch Dewi Morris am 10.30 Croeso cynnes i bawb!

10

Sefydliad y Merched Croesawyd aelod newydd sef Wyn Jones. Cafwyd munud o dawelwch i gofio am aelod annwyl a thriw iawn i Sefydliad y Merched Harlech sef Libby Williamson. Croesawyd Adrian Evans a Nicci, a rhoddwyd sgwrs am fywyd marchog a dangoswyd dillad, arfau a gwahanol gelfi a gafodd eu defnyddio yng nghyfnod y canol oesoedd. Cymerwyd rhan yn yr arddangosfa gan Denise, Pat Church, a Christine. Yna cyflwynwyd Nicci a’r dylluan fach wen roedd hi wedi ei mabwysiadu. Diolchwyd gan Sheila Maxwell, a darparwyd y te gan Kath Smith a Myfanwy Jones. Dymunwyd yn dda i Gwenda Jones a Sue Downes. Rhoddwyd cerdyn pen-blwydd i 3 aelod oedd yn dathlu’r mis yma. Cafwyd ateb gan Gyngor Gwynedd i’r llythyr yr oedd Edwina wedi ei ysgrifennu am nad oedd bysiau’n dod i Harlech ac ymlaen i Bermo ac hefyd i Port. Y Clwb Cinio a Dosbarth Crefft: Roedd Christine yn holi am y daith i Goleg Denman, a phryd o fwyd yn Hafan Artro. Mae trefniadau ar y gweill ar gyfer y Noson Gymreig, a bydd grŵp Ceri Griffith yn cynnal yr adloniant. Fe fydd y bwrdd gwerthu yn Ebrill yn cynnwys sêl blanhigion. Gwen a Denise fydd yn gyfrifol. Ar 8 Mawrth yn Neuadd Goffa Llanfair fe fydd Bore Coffi ar gyfer Coleg Denman rhwng 11 ac 1 o’r gloch. Croeso i unrhyw un ymuno â ni am y bore. Cystadleuaeth: 1 Lesley Adams, 2 Jill Houliston, 3 Jan Cole. Enillwyd y raffl gan Gwen Pettifor.

Damwain Bu i Mair Evans oedd yng Nghartref Hafod Mawddach ers peth amser gael damwain gas a bu’n rhaid iddi fynd i Ysbyty Bronyglais, Aberystwyth. Mae hi bellach wedi ei symud i Ysbyty Dolgellau, a gobeithiwn ei bod yn gwella yno. Theatr Trist iawn oedd clywed y newyddion fod Theatr Ardudwy yn beryg o gau. Wrth ddarllen yn ddiweddar hen ddyddiaduron o’r wythdegau, roedd y Theatr Pen-blwydd Hapus Sandra yn lle prysur iawn. Byddai yno Dymuna Sandra Philpott ddiolch i’w theulu a’i chyfeillion, ddramâu a chyngherddau’n aml bryd hynny a’r lle yn orlawn, a staff yn Hamdden Harlech ac ond daeth tro ar fyd, ac aeth y Ardudwy, am wneud ei phengynulleidfa’n llai a llai. Siŵr gen blwydd yn un mor gofiadwy. i mai’r saithdegau a’r wythdegau oedd oes aur y Theatr. Cacen arbennig! Byddwn i gyd yn cofio’r dramâu Linda Soar, 15 Cae Gwastad wnaeth y gacen arbennig ar gyfer a’r olygfa wych pan fyddai’r haul yn machlud dros y bae. Sandra. Onid ydi hi’n werth ei gweld? Llongyfarchiadau ar y Priodas gwaith gwych Linda. Llongyfarchiadau mawr i Darren a Donna Williams, 13 Stâd Genedigaeth Pant-yr-eithin ar eu priodas Llongyfarchiadau mawr a ar Chwefror 21. Dymuniadau dymuniadau gorau i Kyle gorau iddyn nhw gan y ddau [Hafod-y-bryn gynt] a Ffion deulu a’u ffrindiau i gyd yn yr Jones, Waunfawr, ar ardal. enedigaeth mab bach, Tomi Aeron ar Chwefror 3 yn 6 phwys Yn gwella a 2 owns. Llongyfarchiadau Braf gweld John Kerry, 33 Tŷ mawr i’r teulu bach newydd, Canol yn gwella’n dda ar ôl oddi wrth y ddau deulu a’u ei driniaeth mewn ysbyty yn ffrindiau. Lerpwl yn ddiweddar.

HARLECH TOYOTA

Babi newydd Llongyfarchiadau i Judith a Dylan Roberts ar ddod yn nain a thaid i Giovanni, merch fach i Heloisa a Huw sy’n byw yn Widnes.

Neuadd Goffa, Harlech

Ffordd Newydd, Harlech 01766 780432

Ebrill 19, Mai 24, Meh. 28 Manylion: 07534 118899 pure.sound@outlook.com

www.harlech.toyota.co.uk info@ harlech.toyota.co.uk facebook.com/ harlech.toyota Twitter@ harlech_toyota

BATH SAIN [Sound Bath]


TŶ CLOGWYN

Prynwyd Clogwyn House yn 1925 gan Mr a Mrs E Wynne Davies, a’i agor fel siop esgidiau a siop cobler yn y rhan isaf. Yna yn 1962, fe brynwyd y siop gan Mr Dickenson a bu ailwampio yno gan ei throi yn siop dorri gwallt. Gwerthwyd yr adeilad wedyn i Deio ac Eirlys Williams a agorodd fusnes gwniadwaith yno. Go brin fod ein darllenwyr yn gyfarwydd â’r estyniad sydd ar flaen y siop yn y darlun. Digwyddodd y difrod oddeutu 1930 pan ddaeth syrcas i’r dref a dywedir mai eliffant a achosodd y dinistr. Diolch i Eirlys Williams am gael benthyg y llun. Pen-blwydd Penblwydd hapus iawn i Rhian Lumb, 2 Tŷ Canol sydd wedi dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed yn ddiweddar. Gobeithio i ti gael amser hapus yn dathlu yn Awstralia bell. Dymuniadau gorau gan y teulu a ffrindiau i gyd.

Aduniad Clwb Hoci Ardudwy - pen-blwydd y Clwb yn 40 oed! I bob ‘hen’ aelod o Glwb Ardudwy - os hoffech ddod i’r Cydymdeimlad aduniad a gynhelir yn y Grapes Cydymdeimlwn gyda Mr Bill ar nos Sadwrn, 14 Ebrill, yna Cruise, 15 Y Waun a’r teulu. cysylltwch â Haf Meredydd cyn Mae Bill wedi colli ei frawd, gynted â phosib, os gwelwch Anthony Cruise, oedd yn byw yn yn dda (manylion cyswllt y tu Swydd Amwythig. mewn i glawr y Llais) i fynegi Cydymdeimlwn hefyd gydag eich diddordeb. Bydd bwffe Ellen Lewis a’r teulu ar golli ei yn y Grapes a bydd angen ei gŵr Ray Lewis yn ddiweddar. archebu cyn 1 Ebrill. Dewch yn Roedd Ellen yn byw yn llu i ddathlu a rhannu atgofion. Nhawelfan cyn priodi, ac roedd yn ferch i Megan Williams.

SEINDORF ARIAN HARLECH

Y BERMO A LLANABER Y Gymdeithas Gymraeg Mwynhawyd noson hwyliog iawn yn Theatr y Ddraig yn chwerthin llond bol wrth wylio dwy ddrama sef ‘Dan y Morthwyl’ gan Ifan Gruffydd a ‘Gwaed dy Gymydog’ gan Gwynedd Huws Jones. Perfformiwyd y dramâu gan Gwmni Drama Dinas Mawddwy. Braf oedd gweld criw o actorion o oedrannau cymysg yn diddanu’r gynulleidfa mor ddeheuig. Daeth aelodau Merched y Wawr a’r Gymdeithas at ei gilydd i gynnal y noson a pharatoi gwledd ar ôl y perfformiad i’r actorion a’r gynulleidfa. Diolch i bawb am eu haelioni a’u cefnogaeth barod. Ysgol y Traeth Braf iawn oedd gweld gwaith plant B3 a B5 Ysgol y Traeth i ddathlu Gŵyl Ddewi yn cael ei arddangos yn siop y Co-op, y Bermo yn ystod wythnos cyntaf mis Mawrth. Roedd y lluniau’n lliwgar ac yn ddeniadol dros ben, ac yn ychwanegu at ymweliad â’r siop.

Sefydliad y Merched Ar Ionawr 24, croesawodd Jacqui Puddle yr aelodau i gyfarfod cyntaf blwyddyn canmlwyddiant SyM y Bermo. Cafodd mainc i goffáu y flwyddyn ei rhoi yng Ngardd Theatr y Ddraig. Awgrymodd Jacqui y gallai aelodau golli 100 pwys rhyngddyn nhw dros y flwyddyn. Ymunodd nifer o aelodau yn yr her hon. Mary Post oedd y siaradwr ar y noson. Bu’n byw mewn tyddyn ar Ynys Manaw ac yn cadw geifr. Arweiniodd hyn hi i wehyddu’r gwlân a gynhyrchwyd ganddi. Dros y blynyddoedd mae hi wedi defnyddio “gwŷdd llawr fawr”. Mae hi wedi cynhyrchu a gwerthu rygiau, sgarffiau a chrogiau wal hardd. Nawr mae hi wedi symud i fyw i Harlech, ac yn defnyddio gwŷdd bach symudol. Rhoddodd gyflwyniad i’r aelodau ar sut mae’n gweithio. Diolchwyd iddi gan Janet Davies am sgwrs ddiddorol iawn.

TREM YN ÔL

Onid yw y Bermo yn le iachus?

“Y mae yma lawer o hen bobl wedi marw yn ddiweddar. Yr oedd saith ohonynt wedi cyrraedd yr oedran mawr canlynol: Owen Griffith, 83 oed; Ann Griffith, ei wraig, 85 oed; Cpt Thomas Martin, 91; Cpt William Lloyd, 83; Humphrey Williams, 88; Edward Jones, 94; ac Ann Roberts, 82 oed. Bu farw y rhai hyn i gyd o fewn y pum mis diwethaf; ac yr oeddynt yn byw o fewn 200 llath i’w gilydd. Y mae yma fwy na 12 o hen bobl yn fyw yn bresennol, a phob un ohonynt dros ei bedwar ugain. Y mae hynny yn nifer mawr o henoed mewn lle mor fach. Nid rhyfedd fod cymaint o ddieithriaid yn cyrchu yma bob haf am iechyd. Pa le gwell a gânt, hyd yn oed yng Nghymru iachusol eu hun?” (RW, Cam Haidd, Gorffennaf 1847) O flaen yr ynadon yn y Bermo, ddydd Gwener, cyhuddwyd pedwar o fechgyn ifanc o roi cerrig ar linell y rheilffordd ger gorsaf Dyffryn. Cawsant eu rhyddhau gyda gorchymyn i’w rheini eu chwipio. (13 Hydref 1883)

Nos Fercher, Ebrill 4 am 6.30 yng Nghanolfan y Band £1 y gêm Elw at y Band

Mabli Rees, merch Dr Iwan a Dr Rhiannon Rees, Caerdydd yn ei gwisg Gymreig ar ddydd Gŵyl Ddewi. Mi fydd ei nain, Marian Rees wrth ei bodd a’i hen nain, Gweneth Evans, Llandanwg.

Am werthu diod ar y Sul dirwywyd Charles Myrton, Cyffordd y Bermo, i un bunt a’r costau gan ynadon y Bermo. (13 Hydref 1883) Cafodd dyn o’r enw Griffith Williams ei ddirwyo hanner coron a’r costau gan ynadon y Bermo, am arfer creulondeb at gaseg, trwy ei weithio pan yr oedd yn anghymwys i waith. (30 Rhagfyr 1882) W Arvon Roberts

11


Ffarwel i Gymru Gain Yn rhifyn 31 Mai, 1894, o’r Drych, papur Cymry America, y mae’r bardd Dwyfor yn cyfeirio at hen gân boblogaidd a glywodd yn nyddiau ei ieuenctid, a’i ddymuniad oedd cael mwy o oleuni mewn perthynas iddi. Daeth ymateb i’w gais mewn rhifyn diweddarach, gan un o’r enw T Ll Williams, o Racine, Wisconsin. Ond pwy oedd hwnnw, tybed? Wel, Thomas Lloyd Williams (1830-1910), gynt o Fron Galed, Dyffryn Ardudwy, dyna pwy oedd o. Yr oedd yn fab i Evan a Catherine Williams. Capten llong oedd galwedigaeth ei dad. Bu TLW yn un o ddisgyblion y Parch Edward Morgans, Dyffryn, gŵr a ddylanwadodd yn fawr arno. Wedi treulio ychydig amser yn yr ysgol cymhwysodd ei hun i fod yn fasnachwr. Ar ôl bod am ugain mlynedd o’i fywyd yng Nghymru a Lerpwl ymfudodd i’r America, i Racine, Wisconsin, lle y treuliodd drigain mlynedd o’i oes oddi eithr ychydig fisoedd a fu yn Newark, Ohio. Dechreuodd ei yrfa yn Racine fel masnachwr. Dangosodd lawer o sêl dros lywodraeth y ddinas, y dalaeth a’r wlad, a daeth yn Americanwr trwyadl mewn egwydor, ysbryd ac ymarferiad. Diau i’r ychydig addysg a gafodd yn y Dyffryn yr adeg hynny feithrin chwaeth ynddo at lenyddiaeth. Daeth yn gyfeillgar â’r Parch Ioan Llewelyn Evans, DD, athro ac ysgolor yng Ngholeg Racine, ynghyd â rhai eraill a fu’n weinidogion y capel Cymraeg yn Racine. Hoffai hynafiaeth. Ystyrid ef yn un o’r rhai gorau yn ei gyfnod am ddilyn achau a dilyn cysylltiadau teuluol. Ysgrifennodd lawer i’r wasg Gymraeg, ac iddo efo yr ymddiriedwyd y gwaith o anfon hanes Cymry Racine a’r cylch i’r wasg am flynyddoedd lawer. Priododd yn Portage, Wisconsin, 14 Ebrill, 1869, ac yr oedd ganddo ef un ferch. Bu farw ar fore dydd Diolchgarwch, 24 Tachwedd 1910, a’i gladdu yn Racine. Yr oedd yn frawd i Bennett Williams (Beuno), Porthmadog.

12

Tua’r flwyddyn 1844 neu ynghynt, arferai llongau o Bwllheli a Phorthmadog gludo ymfudwyr i’r America, ac un o’r llongau hynny oedd y barc Gwen Evans gyda Chapten David Evans (1817-1895), Fuches Wen, fferm ar Stad Glyn Cywarch, ger Talsarnau, wrth y llyw. Ymsefydlodd David Evans yn Berlin, Sir Marquette, Wisconsin, tua 1853, lle a fu’n nodedig am ei melinau llifio ayyb. Bu gan y Bedyddwyr a’r Presbyteriaid achosion Cymraeg yn Berlin. Llong arall oedd honno o dan lywyddiaeth Capten Pritchard(1792-1855), Porthmadog. Gomer oedd enw’r brig, a thrigolion gororau gorllewin Meirion, Llŷn ac Eifionydd fyddai’r mwyafrif o’r ymfudwyr arni. I’r dieithryn, y mae lleoliad fferm Cefn Trefor Fawr ym mhlwy Llandecwyn, ar lan y Traeth Bach. Yr oedd nifer o feibion a merched yno, ac un ohonynt oedd y ‘Bardd Tecwyn’, tollydd ar un pryd, a bu ei wraig yn fetron mewn sefydliad elusennol yn Lerpwl yn 1849, ac ef gyfansoddodd y gan Ffarwel i Gymru gain, a ymddangosodd yn Y Drych yn 1894. Penderfynodd brawd i’r bardd ymfudo i’r America, ac yr oedd yn hwylio ar long Capten Richard Pritchard, Porthmadog. Yr oedd tad Thos Lloyd Williams, sef Evan Williams, rhywbryd ar ôl hynny yn gapten y brig Lord Palmerston yn mêt gyda Chapten Pritchard yr adeg hynny, ac yr oedd yntau hefyd yn gefnder i’r bardd Tecwyn. Cyfansoddodd y bardd y gân i’w frawd oedd yn ymfudo i’r America a rhoddodd hi yng nghist ei frawd yn ddiarwybod iddo. Pa un ai ar y môr yntau wedi glanio yn Efrog Newydd y darganfyddodd y brawd y gân, nid oes sicrwydd, ond mae’n go debyg mai ar y môr y digwyddodd. Beth bynnag, mewn canlyniad o’i darllen, aeth y brawd i sefyllfa mor hiraethus fel y torrodd ei galon ac y bu farw, a chladdwyd ef yn Efrog Newydd. Bu si ar led yn ôl yn yr hen ardal fod y brawd wedi gwneud cais at Capten Pritchard i gael dychwelyd i Gymru gydag

ef, ac i’r capten wrthod, a beid ef am hynny; ond yr oedd tad Thos L Williams yn tystiolaethau’n wahanol, sef na wnaeth y capten mo’i wrthod iddo gael dychwelyd gyda’i long. Ymysg y rhai a ymfudodd i’r America o Cefn Trefor, Talsarnau, oedd Ann Jones a’i dwy ferch. Ymsefydlodd yn Sir Oneida, Efrog Newydd. Yr oedd yn fam i’r Parch William R Jones (Goleufryn 1840-1898), Caergybi, Môn, a adawyd yn blentyn gyda’i ewythr, John Williams, saer coed, ac yn byw yn Bryngolau, Llanfrothen, i’w ddwyn i fyny. Pan oedd Goleufryn ar daith bregethu yn yr America yn 1887 gyda’i briod am saith mis, bu yn siarad â Thos L Williams ynglŷn ag amgylchiadau marwolaeth ei ewythr. Ganwyd Griffith G Roberts yn Cefn Trefor Isaf, 6 Medi, 1824. Mab ydoedd i Griffith Roberts, neu Capten Roberts a Mary Roberts. Bu iddynt bump o blant, tair o ferched a dau fab, sef Jane, Margaret ac Ann, a Dafydd a Griffith. Ymfudodd gyda’i rieni yn 1848, ac ymsefydlont yn Kingston, Sir Green Lake, Wisconsin. Yn 1853 priododd â Miss Catherine Jones, o ardal Caledonia, Wisconsin, a ganwyd iddyn nhw bump o blant, gan gynnwys David, oedd yn troi yn y cylchoedd masnachol. Yr oedd y teulu yn Wesleaid cyn iddynt ymfudo, ond gan nad oedd yna gapel gan yr enwad hwnn ar gael ymunont gyda’r Presbyteriaid Cymraeg. Yn 1867 symudodd o Wisconsin i Bristol Grove, Minnesota, ac yna yn 1882 i Minneapolis. Bu farw o glefyd y gwaed, 15 Tachwedd 1897. Wyres i Capten Griffith Roberts oedd Mrs Winifred Jones. Ganwyd hi 17 Mawrth 1845, yn Cefn Trefor, Talsarnau, yn ferch i Richard a Jane Jones. Ymfudodd yn dair oed ond bu ei thad farw ar ôl iddynt lanio yn Efrog Newydd. Cafodd ei mgau gyda’i thaid a’i nain, Capten Roberts a’i wraig, yn ardal y Llwyn, ger Portage Prairie, Wisconsin, 18 milltir o bentref Cambria. Yr oedd ei thaid a’i nain yn Wesleaid selog, a dygwyd hithau i fyny gyda’r enwad hwnnw yng Nghapel y Llwyn, lle’r oedd achos gan y

Wesleaid y pryd hwnnw. Yn 1863 priododd William R Jones, Waterside, Portage Prairie, ac yn Mai 1866, symudont i Bristol Grove, Minnesota, lle y ganwyd iddynt chwech o feibion ac un ferch. Bu tri o’r bechgyn farw o’r twymyn coch yn 1873, o fewn pythefnos i’w gilydd. Yn 1876 sumudont i Lime Spring, Iowa, ond yr oeddynt yn ôl drachefn yn Bristol Grove ymhen wyth mlynedd, lle y bu farw yn ei chartref o’r cancr, 27 Mehefin, 1900. Gwasanaethwyd yn nifer o angladdau y teulu hwn gan y Parch Owen R Morris (1828-1912) a anwyd yn Ty’n Ddol, Blaenau Ffestiniog, un a fu’n gweinidogaethu yn Bristol Grove a Lime Spring. Ynglŷn a hyn i gyd, parthed â’r gân Ffarwel i Gymru Gain, gellir dweud fod y bardd Tecwyn yn fardd o gryn fri yn ei ddydd, a phe na byddai wedi cyfansoddi ond y gân y cyfeirir ati, buasai yn teilyngu enwogrwydd, ond cyfansoddodd nifer o ddarnau gwych, a chyhoeddwyd ei waith. W Arvon Roberts

TREIATHLON HARLECH Cynhelir Treiathlon Harlech eleni ar ddydd Sul, 25 Mawrth. Cynhelir y ras mewn partneriaeth â’r gymuned leol a Chyngor Gwynedd, yn ogystal â Phencampwriaeth Duathlon Genedlaethol Cymru. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y ras, mae llefydd yn dal ar gael - ewch i www.alwaysaimhighevents. com i gofrestru. Fel cwmni lleol rydym wedi bod yn cydweithio’n agos gyda’r gymuned leol i sicrhau cyn lleied o darfu ac anhwylustod i bawb â phosibl. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli fel swyddog ar ddiwrnod y ras byddem yn falch iawn o glywed oddi wrthych, neu os oes gennych unrhyw ymholiad ynglŷn a’r ras, cysylltwch ar yr e-bost canlynol os gwelwch yn dda: info@ alwasyaimhighevents.com Diolch yn fawr, Tîm Digwyddiadau’r Camu i’r Copa


TYWYDD GÅ´YL DDEWI YN ARDUDWY

Arwel Evans, Tallin [y ddau lun uchod]

Bryn Tirion, Ynys - Mike Hemsley

Difrod i do Ysgol Ardudwy - Elfyn Anwyl

Ffordd Uchaf, Harlech

Llech, Harlech - Myfanwy Jones

Llanbedr - Annwen Hughes

Llyn Tecwyn Isaf - Eirian Evans

Glan Gors, Harlech

Ar ben rhiw Dewi Sant yn Harlech - Elfyn Anwyl

13


CYNGOR CYMUNED HARLECH Grŵp Cynefin Nododd Mr Arfon Hughes fod y Grŵp Cynefin yn prynu y 4 llain i godi tŷ ger safle Bryn Awelon i lawr Ffordd y Nant a hefyd yn gobeithio rhoi cynnig ar dir Merthyr Isaf. Mae 56 ar y rhestr aros am dai cymdeithasol a 8 eisiau prynu tŷ fforddiadwy ac wedi nodi Harlech fel dewis cyntaf, a bod 27 o dai gwag yn yr ardal. Hefyd dywedodd bod grant o £20,000 ar gael tuag at brynu tŷ am y tro cyntaf neu roi blaendal ond bod amod o fyw yn y tŷ hwn am y 5 mlynedd cyntaf. Trafodwyd safle’r hen ysgol a nododd Mr Hughes ei fod wedi gofyn i Gartrefi Cymunedol Gwynedd a Chyngor Gwynedd a fyddai’n bosib iddynt ddangos diddordeb yn hyn. Cyfarfod gyda Kathryn Robson Bu tri aelod yn y cyfarfod buddiol hwn. Cafwyd gwybod bod Oedolion Dysgu Cymru wedi ceisio cysylltu â’r ‘Chinese Consortiwm’ a oedd â diddordeb yn safle’r Coleg ond heb gael llwyddiant. Hefyd cafwyd gwybod bod cyfarfod blynyddol ODC ar Ebrill 14 yng Nghastell-nedd. Cyngor Gwynedd Mae’r marciau ffordd newydd wedi eu gosod i lawr ffordd y traeth o’r ysgol ac arwyddion 30 mya wedi eu peintio ar y ffordd allan o’r dref. Mae ardal fferm Tŷ Canol wedi ei glirio yn dilyn cwynion. Bu cyfarfod rhwng y Cyngor Cymuned a Harlech ar Waith ar Chwefror 15 yn ystafell y band. Y bwriad oedd casglu gwirfoddolwyr ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol a gadael i bawb wybod beth sy’n digwydd yn y gymuned. Roedd Swyddog Adfywio yn bresennol. Datganwyd siom gan yr aelodau bod y cyfarfod hwn wedi ei drefnu yn enw’r Cyngor Cymuned heb ddim trafodaeth ymlaen llaw mewn cyfarfod o’r Cyngor. Ceisiadau Cynllunio Ymestyn patio/teras presennol i greu platfform i osod twb poeth a chyswllt i ddrysau’r pwll nofio wedi eu amgau a chanllaw gwydr - Eryl Meirion, Hen Ffordd Llanfair. Cefnogi’r cais hwn. Gosod dwy beipen haul yn y to presennol a newidiadau i estyniad yn cynnwys newidiadau i ffenestri a drysau a gosod paneli solar - Fila Medi, 1 Heol y Bryn, Hen Ffordd Llanfair. Cefnogi’r cais hwn. Codi tŷ ar wahân ar amryw lefel gyda 3 ystafell wely - tir rhwng Trem Arfor a Hiraethog, Stryd Fawr, Harlech. Cefnogi’r cais hwn.

BWYD A DIOD

Ffair Briodas yn hybu busnesau’r fro

Cafodd Ffair Briodas ffurfiol gyntaf Dolgellau ei chynnal yn Nhŷ Siamas rhwng Dydd Dwynwen a Sant Ffolant ar 11 Chwefror. Daeth llif o bobl drwy’r drysau, ac fe rannwyd 44 o fagiau anrheg i gyplau sy’n profi fod y diwrnod wedi bod yn llwyddiant. Pam cynnal ffair briodas yn Nolgellau? Mae busnesau’n ffurfio rhan hanfodol o economi’r dref a thrwy eu llwyddiant mae cyfoeth y cylch yn gallu tyfu. Er mwyn gwneud hynny, mae’n bwysig arddangos busnesau ar eu gorau a’u hybu. Roedd cyfle yma i werthu’r gorau o’r ardal ac o Gymru dan yr un to, gan obeithio y bydd yn cadw priodasau yn y cylch yn ogystal â’u denu. Hefyd, roedd yn gyfle i rwydweithio, gyda’r gwesteion yn darganfod pwy sy’n gallu cynnig gwasanaeth cacennau, ffotograffiaeth a cherddoriaeth iddynt er enghraifft. Mawr oedd syndod pobl leol ac ymwelwyr at y stondinau hardd a’r cynnyrch safonol oedd ar gael, ac roedd canmoliaeth fawr i’r ffaith fod cymaint o wasanaethau ar gael yn y Gymraeg. Mae sôn yn aml fod y Cymry’n rhai sâl am fentro ond roedd y diwrnod hwn yn profi i’r gwrthwyneb. O blith y 31 stondin oedd yno, roedd 20 yn Gymry Cymraeg a 4 arall yn dysgu’r iaith. Diwrnod prysur, bywiog a hardd oedd y bwriad a dyna gafwyd, gyda cherddoriaeth yn gefndir i’r digwyddiad (pwysig iawn yn lleoliad Tŷ Siamas) a dau barêd proffesiynol iawn o ffrogiau priodas gan The Silk Loft o’r Felinheli a Moncrieffe. Edrychwn ymlaen at lwyddiant tebyg y flwyddyn nesaf yn ystod y Cyfnod Caru blynyddol! Llinos Rowlands Gwin Dylanwad Wine Dolgellau

^ Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/llaisardudwy/docs 14

Llais Ardudwy


H YS B YS E B I O N MWY NA SIOP BAPUR...

SIOP DEWI

14/15 Stryd Fawr Penrhyndeudraeth 01766 770266

dewi11@btconnect.com Papurau, cylchgronau, llyfrau a chardiau Ac yn NEWYDD Bwydydd Cyflawn a Bwydydd Iach Cefnogwch eich siop leol, Cymraeg ei hiaith

E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr

01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

-

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu 01341 241297

CYNLLUNIAU CAE DU Stryd Fawr Harlech, Gwynedd 01766 780239

ARCHEBU A

01341 421917 07770 892016

Sŵn y Gwynt Talsarnau, Gwynedd

www.raynercarpets.co.uk

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

i unrhyw le yn yr UK!

Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk

drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]

GERALLT RHUN

07776 181959

1 Osmond Terrace, Penrhyn Ceir ar gael yn ardaloedd Arfon, Dwyfor a Meirionnydd Ffoniwch 01766 772926 07483 166901

Llais Ardudwy

ALAN RAYNER GOSOD CARPEDI

Llanuwchllyn 01678 540278

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

Tiwniwr Piano

g.rhun@btinternet.com Tiwnio ...neu drwsio ar dro!

GWION ROBERTS SAER COED 01766 771704 - 07912 065803 gwionroberts@yahoo.co.uk

C.E.F.N Tacsi Cyf

Tafarn yr Eryrod

01766 512091 / 512998

TREFNWYR ANGLADDAU

Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

JASON CLARKE Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

DAVID JONES

Cigydd, Bermo 01341 280436

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

ADEILADWR Gwarantir gwaith o safon.

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

MELIN LIFIO SYMUDOL

Gadewch i’r felin ddod atoch chi! www.gwyneddmobilemilling.com

dros 25 mlynedd o brofiad

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014 15


TYLLUANOD MEWN CARTREF NYRSIO Cafodd preswylwyr cartref nyrsio dipyn o hwyl, diolch i ymweliad gan ffrindiau hedegog arbennig. Roedd Bobo, y dylluan fawr, yn un o’r prif atyniadau pan alwodd Geraint a Margaret Williams o Landecwyn heibio i Gartref Nyrsio Bodawen ym Mhorthmadog. Mae’r aderyn ysglyfaethus prydferth hwn mewn cyflwr da bellach ond roedd pethau’n wahanol iawn pan gafodd ei achub gan y cwpl. Yn ôl Geraint, roedd Bobo mewn cyflwr ofnadwy ac nid oedd yn gallu hedfan oherwydd bod ei berchnogion blaenorol wedi ei gadw o dan y grisiau. O ganlyniad, cymerodd dair blynedd cyn i Bobo allu hedfan unwaith eto. Daeth atgofion hapus yn ôl i un preswylydd, Anwen Mair Jones, 77 oed, gweddw’r ffotograffydd a’r darlledwr adnabyddus Ted Breeze Jones, wrth weld y tylluanod. Mae Anwen yn byw ers rhai blynyddoedd bellach yng Nghartref Nyrsio Bodawen sy’n cael ei redeg gan Gartrefi Gofal Cariad. Meddai: “Ysgrifennodd Ted lawer o lyfrau ac erthyglau am adar a byd natur. Adar oedd ei fywyd ac roedd yn ffotograffydd anhygoel. “Dwi’n mwynhau gweld y tylluanod yn arw ac mae’n braf gallu rhoi mwythau iddyn nhw. Dwi’n hoffi byw yma ac mi rydan ni’n cael gofal da iawn. Mae llawer yn digwydd yma drwy’r amser ac mae yna ganu a dawnsio yma hefyd.” Meddai Geraint: “Mae bob amser yn bleser galw heibio i Gartref Nyrsio Bodawen, er mwyn rhoi cyfle i’r preswylwyr weld a chyffwrdd y tylluanod rydym wedi eu hachub. Dwi’n gweithio fel swyddog rheoli pla a dwi’n defnyddio adar ysglyfaethus, yn bennaf gweilch a hebogiaid Harris, yn fy ngwaith er mwyn cadw gwylanod draw o feysydd awyr, safleoedd claddu gwastraff a safleoedd diwydiannol eraill. “Rydym hefyd yn ganolfan achub tylluanod answyddogol ac mae’r heddlu, yr RSPCA, milfeddygon ac elusennau lles anifeiliaid eraill yn cysylltu â ni pan fo ganddyn nhw dylluan neu aderyn ysglyfaethus arall sydd angen cymorth. “Ar hyn o bryd rydym yn gofalu am tua 20 o dylluanod sydd wedi cael eu hachub ac a fydd, maes o law, os ydyn nhw’n gallu gofalu am eu hunain, yn cael eu gollwng yn rhydd. “Fodd bynnag, yn anffodus ni fydd yn bosib i ni adael Bobo a Swnyn y dylluan frech yn rhydd. Mae Swnyn wedi bod efo ni ers pan oedd ond ychydig ddyddiau oed, a chafodd Bobo ei achub mewn cyflwr ofnadwy o dŷ ger Porthmadog lle’r oedd yn cael ei gadw o dan y grisiau. Mi wnaeth hi gymryd bron i dair blynedd i Bobo hedfan eto ond erbyn hyn does dim modd iddo hela ar ei ben ei hun. Rydym yn credu ei fod o tua 30 oed, ond mae hynny’n oed eithaf ifanc ac mi allai fyw i’w 80au.” Ychwanegodd: “Rydym bob amser yn mwynhau cael cyfle i weld Mrs Jones. Mi o’n i’n adnabod ei gŵr, Ted Breeze Jones, yn dda iawn. Byddai’n dod i dynnu lluniau fy adar gan ei bod hi’n haws cael lluniau agos heb amharu ar adar gwyllt. Sefydlwyd Cymdeithas Ted Breeze Jones i gofio am gyfraniad Ted. Roedd yn adarwr a ffotograffydd arbennig ac yn awdur amryw o lyfrau ar adar; hefyd, roedd yn ysgrifennu erthyglau ar gyfer llawer o bapurau newydd a chylchgronau.” Roedd y preswylydd Dafydd Brian Edwards, 66 oed, sy’n heddwas wedi ymddeol, hefyd yn ei elfen. Meddai: “Dwi wrth fy modd pan fydd y tylluanod yn dod i mewn. Mae’r dylluan fawr yn drawiadol iawn ac yn aderyn enfawr ei faint ond mae’n eithaf addfwyn mewn gwirionedd.” Dywedodd y gyn-athrawes Barbara Jones, sy’n gweithio fel cydlynydd gweithgareddau ac ymarferydd gofal yng Nghartref Nyrsio Bodawen: “Rydym am wneud i’r preswylwyr deimlo mai hwn yw eu cartref a’u bod nhw’n berthnasol, yn bwysig a bod gennym ddiddordeb ynddyn nhw. “Dylai byw mewn cartref nyrsio fod yn bennod arall ym mywyd rhywyn gyda digon o gyfle i gymryd rhan a mwynhau. “Mae’n wych gweld sut mae’r preswylwyr yn ymateb i’r tylluanod a chymaint o bleser y maen nhw’n ei roi iddyn nhw. Dwi bob amser yn ddiolchgar i Geraint a Margaret am alw heibio a dod â’u hadar hardd gyda nhw.” Mae gan Gartref Nyrsio Bodawen 40 o welyau gan ddarparu ar gyfer preswylwyr sydd ag amrywiol gyflyrau ac meddai Ceri Roberts,

16

Anwen Jones, gweddw y naturiaethwr teledu, y diweddar Ted Breeze Jones, yn cyfarfod Swnyn y dylluan frech yng Nghartref Nyrsio Bodawen.

Geraint Williams yn arddangos Bobo, y dylluan fawr, i Betty Griffiths un o’r preswylwyr.

Margaret Williams yn cyflwyno Swnyn y dylluan frech i Gwyneth Gibson, un o’r preswylwyr. Cyfarwyddwr Cartrefi Gofal Cariad: “Mae gennym breswylwyr sy’n dioddef o glefyd Parkinson, MS, strôc, clefyd y galon a rhai sy’n byw gyda dementia. Mae’n gartref hapus a llon ac rydym yn ceisio annog preswylwyr i fod yn weithgar, i fwynhau’r gweithgareddau amrywiol sydd ar gael yn y cartref ac i fynychu digwyddiadau cymdeithasol yn y gymuned leol. Rydym yn ddiolchgar iawn i Geraint a Margaret am ddod â Bobo a Swnyn draw. Mae’r preswylwyr yn amlwg yn cael llawer o fudd o weld a chyffwrdd yr adar a dwi’n gwybod eu bod yn edrych ymlaen bob tro at ymweliad ganddyn nhw.”


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.