Llais Ardudwy 50c
RHIF 428 MAWRTH 2014
TYWYDD STORMUS
Dyma’r trydydd mis yn olynol i ni grybwyll y tywydd stormus yn y papur hwn. Bydd hynny o ddiddordeb mawr i haneswyr y dyfodol siŵr o fod. Cafodd llawer o bobl Ardudwy eu heffeithio’n drwm gan y tywydd stormus, gyda llawer o gartrefi heb drydan am oddeutu pum diwrnod. Gwnaed difrod i sawl tŷ, to, sied a thŷ gwydr ac ni welwyd cymaint o goed yn dymchwel ers blynyddoedd lawer. Roedd nerth y gwynt mewn rhai llefydd dros gan milltir yr awr. O leiaf bydd digon o goed tân gan lawer un am gyfnod maith. Bu llawer yn beirniadu ‘Scottish Power’ am ddiffyg rhannu gwybodaeth am yr hyn oedd yn digwydd. Ar y llaw arall, mae angen eu llongyfarch am adfer y cyflenwad trydan a hynny dan amgylchiadau anodd dros ardal eang. Clywyd llawer o’r ardalwyr yn cyfrif eu bendithion yn arbennig wrth gymharu eu sefyllfa ag eraill llawer mwy anffodus. Diddorol hefyd yw bwrw golwg yn ôl i ddechrau’r ganrif o’r blaen. Yn 1927, gwrthododd gwartheg y Ship Aground fynd mewn i’r beudy ond mynd fu raid iddynt ac fe’u boddwyd wrth yr aerwy. Yn ôl llygad-dystion yr oedd y jygiau a hongiai ar ochor grisiau’r selar yn tincial fel yr oedd y llanw yn eu taro wrth lenwi’r selar a dringo fyny’r grisiau. Treuliodd John Salmon Jones, Cambrian House (drws nesaf i Angorfa), noson ar y swmar yn Ystafell y Gloch yn Ysgol Talsarnau lle’r oedd yn lanhawr. Canodd y gloch i ddangos ei fod yn ddiogel. Roedd tas wair Tŷ Mawr yn nofio’n braf a dŵr yn dod i mewn drwy ddrws cefn Pensarn, Glanywern ac yn mynd allan drwy’r ffrynt.
Tŷ gwydr yn Llandanwg
GALA NOFIO’R URDD
LLWYDDIANT CYNTAF AELWYD ARDUDWY
Ar benwythnos Ionawr 25 a 26 aeth chwech o ieuenctid yr ardal i lawr i Gaerdydd i Gala Nofio’r Urdd i gynrychioli Aelwyd Ardudwy. Roedd Beca Williams, Cerys Sharp, Lexi Leeke a Seren Llwyd yn cystadlu yn y rasys cyfnewid B6 ac iau. Cafwyd dau berfformiad canmoladwy gan y tîm. Roedd Rebecca Gennard a Cynan Sharp yn cynrychioli’r oedrannau hŷn. Daeth Rebecca adre gyda medal arian yn ei chystadleuaeth hi a Cynan yn dod i mewn yn bedwerydd yn ffeinal ei gystadleuaeth o. Llongyfarchiadau mawr i chi i gyd. Mi fydd yr aelwyd yn brysur yn yr wythnosau nesaf yn paratoi at Eisteddfod yr Urdd 2014. Mae’r aelwyd yn agored i ddisgyblion B5 ac uwch. Os hoffai eich plentyn ymuno â’r aelwyd, gallwch gysylltu gyda Jane Sharp ar 01766 780890 neu Delyth Richards ar 01766 780301 am fwy o wybodaeth.
SWYDD NEWYDD AC AELOD IEUENGAF Y TÎM
Llongyfarchiadau calonnog i Iwan Meirion, mab Gareth ac Anwen, Glanffrwd, Talybont, ar ei benodi’n Rheolwr Rhanbarthol Cymru a Gogledd Lloegr ym maes coedwigaeth. Iwan yw’r aelod ieuengaf o’r tîm o uwch-reolwyr efo UPN Tilhill. Mae’n gweithio iddynt ers 2004 ar ôl graddio ym Mangor ac mae wedi gweithio yn Swydd Efrog, Canolbarth Lloegr a Chymru. Iwan hefyd yw is-gadeirydd CFfIC a’r flwyddyn nesaf ef fydd y Cadeirydd. Mae Iwan, Siân a Begw yn byw yng Nghapel Bangor ger Aberystwyth. Pob dymuniad da i ti, Iwan, yn dy swydd newydd
Difrod mewn gardd ar Ffordd Uchaf, Harlech
Llais Ardudwy
HOLIADUR HWYLIOG
GOLYGYDDION
Phil Mostert
Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com
Anwen Roberts
Cae Bran, Talsarnau (01766 770736 anwen@barcdy.co.uk
Newyddion/erthyglau i:
Haf Meredydd
14 Stryd Wesla, Porthmadog (01766 514774
hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk
Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 thebearatminymor@btinternet.com
Trysorydd Iolyn Jones Tyddyn Llidiart, Llanbedr (01341 241391
Enw: Emsyl Davies Gwaith: Wedi ymddeol o ddysgu canu’r ffidil. Man Geni: Bangor Sut ydych chi’n cadw’n iach? Bwyta bwyd ffres, ymarfer Pilates a cherdded. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Hunangofiannau, hanes, a llyfrau crefft. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu?
Dywediadau am y Tywydd
iolynjones@Intamail.com
Gosodir y rhifyn nesaf ar Ebrill 4 am 5.00. Bydd ar werth ar Ebrill 10. Newyddion i law Haf Meredydd erbyn Mawrth 31 os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau.
2
i gymryd diddordeb mewn datblygiadau, wedi gweld cymaint o newid dros y ganrif. Beth yw eich bai mwyaf? Diogi. Beth ydych chi’n ei gasáu mewn pobl? Anwybodaeth a diffyg gweledigaeth. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Byd natur ac adar yn canu. Eich hoff liw? Porffor, oren. Eich hoff flodyn? Rhosyn melyn gan yr oedd yn fy nhorch briodas. Eich hoff fardd? Eifion Wyn. Eich hoff gerddor? Mstislav Rostropovich. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Purcell – aria galar o Dido ac Aeneas. Pa dalent hoffech chi ei chael? Siarad cyhoeddus a dweud jôcs. Eich hoff ddywediad? Ara’ deg mae mynd ymhell. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Yn ddigon hapus.
Sêl Cist Car Porthmadog
Canolfan Ddodrefn Stryd yr Wyddfa Porthmadog
Cynhaliwyd 30 o seliau yng Nghlwb Chwaraeon Madog y llynedd. Yr uchafbwynt oedd dros 120 o gistiau yn ystod dwy sêl.
Casglwyr newyddion lleol
Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones(01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Ann Lewis (01341 241297 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 770736
Gwrando ar Radio 3, yn enwedig cyngherddau offerynnol byw. Ydych chi’n bwyta’n dda? Ydw. Hoff fwyd? Pysgod a llysiau o’r ardd. Hoff ddiod? Chwisgi, gwin, paned o de ben bore. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Teulu agos. Pa le sydd orau gennych? Cefn gwlad a’r arfordir. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Ynys Jura yn yr Alban, a cherdded hefo archeolegydd lleol yn ynysoedd bae Galway. Beth sy’n eich gwylltio? Gwastraff a difaterwch. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Gonestrwydd. Pwy yw eich arwr? Mam sy’n 103 ac wedi goresgyn caledi bywyd cynnar pan oedd ei thad, ‘Capten Wmffras’, yn garcharor rhyfel trwy gydol y Rhyfel Mawr. Mae hi’n parhau
MAWRTH
Mawrth a ladd Ebrill a fling. Os ym Mawrth y tyf y ddôl, gwelir llawnder ar ei ôl. Fel bo Mawrth y bydd yr haf. Mawrth sych, pasgedig ych. Niwl ym Mawrth, rhew ym Mai. Os daw Mawrth i mewn fel oenig, allan â fel llew mileinig.
SIOP DEWI
MWY NA SIOP BAPUR 14 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth 01766 770266
Ar Agor: Llun–Sadwrn o 6.00 tan 6.00, Dydd Sul o 6.00 tan 1.00 BARA A BWYDYDD POETH Y dewis gorau o bapurau a chylchgronau, melysion, baco, mapiau, llyfrau, diodydd meddal, hufen iâ a Loteri.
Cyflwynwyd yr elw i elusennau lleol. Arian mynediad - £2,400 wedi ei rannu rhwng Tŷ Gobaith ac Ambiwlans Awyr Cymru. Arian mynediad masnachwyr £9,000 rhwng Clwb Chwaraeon Madog, Clwb Pêl-droed Llanystumdwy a chronfa Ysgol Eifionydd. Bydd y tymor newydd yn ailddechrau ar Fawrth 30 ar dir Clwb Chwaraeon Madog. Gatiau ar agor i fasnachwyr am 7.00 ac i ymwelwyr rhwng 8.00 ac 1.00. (£5 y car) Cewch ragor o wybodaeth gan Aled Jones ar 07766 128667 neu Aled Griffith, Tŷ Nanney, Tremadog 01766 515160.
Mae Canolfan Ddodrefn newydd Seren wedi agor ym Mhorthmadog. Mae llawer o nwyddau ar werth gennym am brisiau rhesymol iawn. Mae arnom angen dodrefn o ansawdd da i’w hailgylchu ac unrhyw eitemau eraill megis offer trydanol i’w gwerthu. Rydym yn derbyn ‘suite’ gyfoes dau a thri darn, byrddau bwyta a chadeiriau ystafell fwyta, gwelyau 5 troedfedd, dwbl, sengl a gwelyau bwnc, cypyrddau dillad, cist o ddroriau, byrddau coffi ac unedau adloniant. Rydym yn barod i gasglu pob dim yn ddigost ac eithrio offer trydanol (mae cost fechan o £10 am bob eitem drydanol). Am fwy o wybodaeth neu os ydych yn dymuno cyfrannu unrhyw beth, cysylltwch â ni drwy ffonio 01766 832489.
Y BERMO A LLANABER CYMORTH I FUSNES AM DDIM
DIWRNOD AGORED
Ydych chi’n awyddus i dderbyn newyddion busnes yn syth i’ch mewnflwch e-bost er mwyn sicrhau nad ydych yn methu’r cyfle i holi am grantiau a chael cyngor am ddim?
Gwen Alun, Swyddog Trefi Taclus Cyngor Gwynedd, gyda Lucy Evans a Karis Hughes, Swyddogion Ceidwad Chwarae.
Sicrhau llai o faw cŵn yn Y Bermo Yn dilyn llwyddiant cynllun i osod arwyddion codi ymwybyddiaeth
am broblemau baw cŵn a ddyluniwyd gan ddisgyblion Ysgol y Traeth yn Y Bermo yn 2012, mae mwy wedi eu cynhyrchu a’u lleoli yn ardal parc Wern Mynach yn ddiweddar. Yn dilyn pryderon am broblemau baw cŵn yn Wern Mynach daeth swyddogion Prosiect Ceidwad Chwarae a Swyddog Trefi Taclus Cyngor Gwynedd at ei gilydd i geisio datrys y mater, gan ailymweld â’r ysgol i drafod y materion gyda’r disgyblion. Meddai Lucy Evans o’r prosiect Ceidwaid Chwarae: “Mae’n bwysig galluogi plant i chwarae yn yr awyr agored, ond mae’n rhesymol hefyd fod rhieni yn teimlo’i fod yn ddiogel. Nod y cynllun Ceidwaid Chwarae yw cael plant yn ôl allan i chwarae mewn cymunedau a dyna’r nod yn Wern Mynach. “Ond gan fod yna broblem baw cŵn yn y parc roedd yn beryglus i blant chwarae’n rhydd yno - y gobaith yw y bydd yr arwyddion glanhau ychwanegol yn annog perchnogion i ymddwyn yn fwy cyfrifol a glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes a’i waredu mewn modd cyfrifol.” Mae peidio clirio ar ôl eich ci yn drosedd, a gall unigolyn sy’n cael ei ddal wynebu dirwy yn y fan a’r lle o £100 neu ddirwy o hyd at £1,000 os yw’r mater yn mynd i’r llys. Os ydych chi’n berchen ci gwnewch yn siŵr fod gennych ddigonedd o fagiau baw ci pan rydych yn mynd â’ch ci am dro. Gallwch roi baw ci sydd wedi ei rwymo’n iawn mewn unrhyw fin baw ci, bin gwastraff cyhoeddus neu eich bin gartref. I adrodd am broblemau baw ci yn eich cymuned chi cysylltwch â Chyngor Gwynedd ar 01766 771000. Y Gymdeithas Gymraeg Nos Fercher, 28 Ionawr cawsom noson ddifyr o Frethyn Cartref gyda nifer yn barod iawn i gymryd rhan. Agorwyd y noson gydag Alma, Rhian ac Eifiona yn canu cerdd dant gan gloi gyda Chywydd i Ardudwy gan Ieuan Jones. Cawsom fwynhau atgofion o weithio mewn siop cigydd gyda Les gan ddwyn i gof troeon trwstan yn dilyn desimaleiddio. Dilynwyd Les gan Megan yn dwyn i gof dyddiau ysgol yn ardal Llangadfan a chôr yr aelwyd yn ennill yn Eisteddfod yr Urdd yn Wrecsam. Dorothy ddaeth ymlaen nesaf gan ddarllen un o gerddi Cynan, yna soniodd am
ei dyddiau cynnar yn Sir Fôn a hanes ei thad yn mynd i’r Rhyfel Byd Cyntaf yn Ffrainc. Llewela a Gareth ddaeth i’n diddanu gyda deuawd soniarus gan ganu’r emyn dôn boblogaidd Coedmor. Cafwyd arddangosfa wych o grefftau gan Jean; mae ei gwaith llaw yn arbennig iawn, er ei bod wedi colli ei llais! Daeth y noson i ben gyda John yn adrodd hanes y mochyn drwy’r canrifoedd ac arweiniodd pawb i ymuno yng nghân y Mochyn Du. Noson ddifyr iawn gydag amrywiaeth dda o eitemau gan yr aelodau. Diolch i Elinor a Grace am gyfeilio.
Mae cylchlythyr dwyieithog Busnes Cymru, sy’n cynnwys cyngor di-dâl am faterion fel tendro a’r newyddion diweddaraf am newidiadau mewn cyflogaeth, iechyd a diogelwch a materion byd busnes eraill ar gael yn electronig. I dderbyn y cylchlythyr, ewch i www.busnes.cymru.gov.uk/cy/ tanysgrifiwch-cylchlythyrau neu ffoniwch 03000 603000. Gall tanysgrifwyr gofrestru hefyd ar gyfer digwyddiadau a chyrsiau busnes di-dâl. Ymysg y pynciau dan sylw mae dod o hyd i gyllid ar gyfer busnesau a dysgu am dendro am gontractau newydd. Mae’r cylchlythyr hefyd yn rhoi cyngor ar faterion cyfredol. Er enghraifft, roedd rhifyn diweddar yn cynnwys awgrymiadau ar sut y gall busnesau gael eu traed danynt eto ar ôl i’r stormydd a’r llifogydd diweddar darfu arnynt. Croeso adref Anfonwn ein cofion at Betty Corps, Llanaber sydd wedi dychwelyd adref ar ôl cael clun newydd yn Ysbyty Gwynedd. Gobeithio eich bod yn teimlo’n llawer gwell erbyn hyn. Brysia wella Anfonwn ein cofion at Oscar Jones, 2 Hillside, Stryd y Brenin Iorwerth, sydd wedi bod anhwylder yn ddiweddar. Brysia wella Oscar, bydd yn hyfryd cael dy weld yn ôl yn ein plith. Diolch Diolch i Mrs Enid Parry am y rhodd o £7 i’r Llais.
Ar ddydd Sadwrn, Mawrth 22 am 10.30 yn y blwch signalau ym Mhwll Penmaen, bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cynnal diwrnod i’r cyhoedd, a hithau’n Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Ynghyd â’r Wardeniaid lleol, bydd y tîm diwyd o wirfoddolwyr sy’n cynorthwyo i redeg y blwch wrth law i roi cymorth. Gan y bydd y gwanwyn ar y trothwy, gobeithio, ac adar y fro’n bwydo’n brysur i fagu cyflwr ar gyfer y tymor nythu, bydd yn adeg ddelfrydol i osod blychau nythu a bwydwyr o bob lliw a llun. Bydd cyfle i’r cyhoedd roi cynnig ar adeiladu eu blychau a’u bwydwyr eu hunan a naill ai mynd â nhw adre neu os bydd y tywydd yn caniatáu, eu gosod yng Nghoedwig Abergwynant, filltir i lawr llwybr y Fawddach ar ddydd Sul. Bydd cyfle i bawb fabwysiadu eu blychau yn y goedwig ac ailymweld â nhw yn ystod y tymor nythu. Bydd hyn yn cynorthwyo’r Awdurdod gyda phrosiect i ychwanegu at y data sydd wedi cael ei gasglu ar y rhywogaethau sy’n magu yn Abergwynant, a’u llwyddiant dros y tymor nythu. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael ar y diwrnod adeiladu a chroeso i bawb, yn hen ac ifanc – y cyfan am ddim! Efallai yr hoffech fod yn wirfoddolwr ar ôl y profiad ac os felly bydd pob croeso. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Warden, Rhys Gwynn ar 07748 103940.
3
RHAI O GARTREFI BONEDD A NODDWYR Y BEIRDD YN ARDUDWY
Gerddi Bluog
Maesyneuadd
Tyddynyfelin
Glyn Cywarch
Cae Nest
Llanfair Isaf
Egryn
Cors-y-gedol
Plas Aberartro
Hendrewaelod
Maesygarnedd
Y Lasynys Fawr
Taltreuddyn
Llwyn-du
Plas Gwynfryn
Cwmbychan, Gerddi Bluog, Tyddynyfelin, Cae-nest, Mae’r tai y gwyddys iddynt fod yn perthyn i ‘Noddwyr y Beirdd’ Talwrn Bach, Maesygarnedd, Taltreuddyn, Cors-y-gedol, yn y cyfnod ôl-ganoloesol yn awgrymu pa dai oedd yn perthyn Hendrefechan, Egryn a Llwyndu oedd y rhain (Bowen, 1971). i’r bobl gymharol gyfoethog. Sefydlwyd nifer o’r ffermydd O’r gogledd i’r de, nodwyd yn gynnar. Yn eu plith mae mai Plas (Llandecwyn) Caerwych, Cefnfilltir a Hendre Maesyneuadd, Y Glyn,
CARTREFI ENWOG
4
Fechan, Tal-y-bont. Mae fferm Llanddwywe, gyda’i chasgliad o adeiladau amaethyddol mewn cyflwr da, yn oroesiad hynod. Mae ffermydd pwysig, canolig eu maint, naill ai wedi eu hailgodi neu wedi eu sefydlu yn ddiweddarach. Mae Penrallt, Llanbedr yn enghraifft drawiadol
o fferm o’r 17eg/18fed ganrif sy’n bensaernïol arbennig. Yn ogystal, mae gan yr ardal gyfoeth o ffermydd bychain o gymeriad ‘ucheldirol’, llawer ohonynt yn rhestredig. Ymhlith rhai o’r enghreifftiau gorau mae Argoed, Drws-yr-ymlid, Merthyr, Foel a Nant Pasgan-mawr a Nant Pasgan-bach.
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Cymdeithas Cwm Nantcol Haf Llewelyn oedd ein gwestai ganol mis Chwefror. Cawsom ganddi daith lenyddol o gwmpas ardal Ardudwy, a chyfeiriodd wrth fynd heibio at ei nofelau ‘Y Graig’, ‘Mab y Cychwr’ a ‘Diffodd y Sêr’. Bu hefyd yn darllen cerddi o’i llyfr ‘Llwybrau’. Cafwyd noson ddifyr iawn yn ei chwmni.
PRIODAS
Llongyfarchiadau i Clare Harper a Ffestyn Williams, mab Humphrey (Mwff) ac Ann Williams, Tanygraig, Llanbedr ar achlysur eu priodas ar Ionawr 25, yng Ngwesty Grosvenor Pulford, Caer. Y morwynion oedd Rhian, chwaer Ffestyn, Jennie Wadding a Lucy Whigham, ffrindiau Clare gydag Eira, nith Ffestyn yn forwyn fach. Kevin Williams, ffrind Ffestyn, oedd y gwas, gyda Peter Schofield a John Watts yn dywyswyr. Cafwyd gwledd y briodas a’r parti nos yn y gwesty. Treuliwyd y mis mêl ym Mecsico. Mi fydd y cwpwl ifanc yn ymgartrefu yng Nghaer. Pob lwc i’r pâr ifanc yn eu bywyd priodasol. Teulu Artro Croesawodd Gweneira Jones, bawb i’r cyfarfod brynhawn Mawrth, sef y 4ydd o’r ‘Mis Bach’. Cydymdeimlwyd â Beti, wedi colli ei chwaer Gwyneth, ac anfonwyd ein cofion ati. Roedd yn dda gweld Mary a Myfanwy yn y cyfarfod – y ddwy heb fod yn dda eu hiechyd yn ddiweddar. Cafwyd rhodd o arian gan Myfanwy a Leah. Diolchodd y Llywydd iddynt ac am y nwyddau i’r bwrdd gwerthu. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion mis Ionawr.Estynnwyd croeso cynnes i Naomi Jones a chafwyd hanes Yr Ysgwrn ganddi. Da yw meddwl y bydd cartref Hedd Wyn a’i ddrysau yn agored yn y dyfodol, a llawer yn eiddgar am gael ymweld â’r ffermdy yn ardal Trawsfynydd. Rhoddwyd y diolchiadau gan Elenor ac enillwyd y raffl gan Pam. Llongyfarch Llongyfarchiadau i Teresa Ross ar ddod yn nain unwaith eto. Ganed merch fach, Pippa Grace Wynn, i’w merch Jenny a’i gwr Simon ar 4 Chwefror, chwaer fach i Hugo. Mae Jenny wedi ymgartrefu yn Laverstock ger Salisbury ers deng mlynedd bellach.
Llongyfarch Llongyfarchiadau i Mrs Gould, Glyn a Mrs Bloore, Ger y Coed, ar eu pen-blwyddi yn 90 yn ddiweddar. Gwella Gobeithio fod Jane Evans, Penisarcwm , yn gwella ar ôl ei llawdriniaeth yn ddiweddar.
Llongyfarchiadau i Haf ar gyhoeddi nofel newydd i blant, sef ‘Breuddwyd Siôn ap Rhys’, sydd â’i chefndir yn oes y Tuduriaid. Rydym yn sicr y bydd yn cael derbyniad da. Ddiwedd y mis, daeth Parti’r Ogof o Lanfyllin i’n diddori. Cafwyd gwledd o ganu a noson fendithiol iawn. Diolchwyd i’r parti am eu canu gwych gan Aled Morgan Jones. Diolchodd Phil i ferched y gegin, Gweneira, Heulwen a Jean am eu gwaith drwy’r gaeaf ac i Meinir am ei ffyddlondeb wrth werthu’r raffl. Cyflwynwyd anrhegion i’r bedair i ddiolch am eu cymorth.
Merched y Wawr Nos Fercher, Chwefror 5ed. Cawsom air o groeso gan Mair. Penderfynwyd mynd i’r Ship Aground, Talsarnau i gael cinio dathlu Gŵyl Ddewi mis nesaf. Roedd criw da o ddysgwyr wedi ymuno â ni gydag un dysgwraig wedi cael ei geni yn Uganda. Roedd croeso arbennig i Dei a Mai Roberts, ein gwesteion am y noson. Cawsom noson fendigedig yn eu cwmni yn olrhain eu hanes yn teithio dros 3,000 o filltiroedd drwy Dde Affrica, Namibia a Botswana. Drwy gyfrwng y sgrin cawsom weld lluniau gwych o wahanol anifeiliaid - yn eliffantod, ceirw, sebras, llewes gyda’i rhai bach ac adar lliwgar a rhai arbennig o’r haul yn machlud. Buont yn ymweld ag ysgol yn Botswana gan fynd â nifer o nwyddau iddynt. Mae’r plant yn gorfod aros yno gan fod eu cartrefi mor bell i ffwrdd. Bydd y ddau’n ymweld â’r ysgol eto ym mis Hydref eleni tra ar saffari eto. Cawsom gyfle i weld y cofroddion roeddynt wedi dod i’w harddangos yn cynnwys llawer o enghreifftiau o gerfio pren hardd. Diolchodd Enid yn gynnes i Dei a Mai am rannu eu profiadau diddorol â ni.
Triathlon Deallwn bod deuddeg o rieni lleol am gystadlu yn y Triathlon yn Harlech. Mae llawer ohonynt i’w gweld allan yn y pentref yn beicio neu yn rhedeg. Pob lwc! Profedigaeth Trist yw cofnodi marwolaeth Tim Artro-Morris, Tyddyn Pandy, yn Ysbyty Alltwen ar Chwefror 11 ar ôl cystudd hir. Cyhoeddiadau’r Sul MAWRTH 9 Capel y Ddôl, Undebol 9 Capel Salem Parch Dewi Tudur Lewis 16 Capel y Ddôl, Mrs Iona Anderson 23 Capel Nantcol, Mr D G Thomas 30 Capel y Ddôl, Parch Brian H Jones EBRILL 6 Capel y Ddôl, Mrs Gretta Benn
Derbyn Ar Chwefror 2, cafwyd Cyfarfod Derbyn urddasol yng Nghapel Cwm Nantcol o dan ofal Parch Christopher Prew, Porthmadog. Yr ieuenctid oedd yn dymuno dod yn gyflawn aelodau o Eglwys Iesu Grist oedd, Cai Llywelyn, Aron Morgan, Elliw Nantcol, a Mari Wyn. Roeddent wedi bod yn mynychu dosbarthiadau derbyn gyda’r Parch Prew yn Nghapel y Porth ers rhai wythnosau, er mwyn sicrhau eu bod yn deall pwysigrwydd a goblygiadau y gair ‘derbyn’ a pham cael eu derbyn, gyda’r pwyslais ar fod yn perthyn i Eglwys Iesu Grist. Roedd yn ofynnol iddynt hefyd ddysgu ar gof ychydig o eiriau am y sacrament o dderbyn cymun, a chymryd rhan yn y gwasanaeth derbyn drwy ledio emynau a darlleniad o’r Beibl. Hyn i gyd, yn ogystal â chofio gweddi bersonol “Arglwydd cymer fi, Arglwydd cadw ni, Arglwydd cofia ni, a’n bendithia ni. “ Yr oedd pob un ohonynt yn canmol y gwersi yn fawr ac yn dweud eu bod wedi mwynhau’r trafodaethau. Rhoddwyd tystysgrifau a rhodd o’r Eglwys i bob un. Yn cyflwyno rhain roedd Mrs Glenys Jones.
5
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Llongyfarchiadau
Llongyfarchiadau i Meinir Lloyd Jones, Llwyn Hudol, Penrhyndeudraeth (2 Horeb Terrace, Dyffryn gynt) ar ei dewis yn Llywydd Henaduriaeth Gorllewin Gwynedd. Ddydd Mawrth, 11 Chwefror, yng Nghapel y Porth, Porthmadog, trosglwyddwyd Llywyddiaeth yr Henaduriaeth i Meinir sydd yn olynu Mr Richard Williams, Pwllheli. Dymunwn yn dda iddi yn ystod ei blwyddyn fel llywydd. Bydd cymorth parod wrth law gan mai Geraint ei gŵr yw Ysgrifennydd yr Henaduriaeth. Cydymdeimlad Ar 30 Ionawr bu farw Mrs Mair Wynne Davies, 24 Bro Enddwyn yn 84 mlwydd oed. Cydymdeimlwn yn fawr â’i phlant Gwyneth, Erddyn, Iorwerth, a Hywel a’u teuluoedd ac â’i chwaer Bethan yn eu profedigaeth. Bu’r angladd yn Eglwys Llanenddwyn ar 7 Chwefror dan ofal y Parchedig Ganon Beth Bailey. Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn y Neuadd Bentref, bnawn Mercher, 19 Chwefror, gan fod Neuadd yr Eglwys yn cael ei hadnewyddu. Croesawyd pawb gan Gwennie. Cydymdeimlodd â Mrs Beti Parry yn ei phrofedigaeth o golli ei chwaer, Gwyneth, ac ar nodyn hapusach ei llongyfarch ar enedigaeth ei gor-wyres fach gyntaf, Ela Fflur, a llongyfarch Iona ar enedigaeth ei hail or-ŵyr Oliver. Anfonodd ein cofion at Mrs Blodwen Williams yn dilyn llawdriniaeth, at Mrs Gretta Cartwright a syrthiodd ac anafu ei chlun ac at Miss Lilian
6
Edwards a syrthiodd yn ei chartref. Braf oedd cael croesawu Miss Mary Williams, Cynefin, yn ôl wedi gwella ar ôl bod yn yr ysbyty. Roedd Mici Plwm wedi dod atom am y prynhawn. Mae’n gweithio rŵan i Age Cymru Gwynedd a Môn ac yn ei ffordd ddihafal ei hun, dangosodd gymaint sydd gan Age Cymru i’w gynnig i’r rhai sydd yn mynd yn hŷn! Er enghraifft, cynghorion ar sut i ddiogelu eich hun rhag sgamiau stepen drws, yswiriant tŷ a char rhatach, gwasanaeth eistedd, cymorth cyfreithiol, canolfannau heneiddio’n dda a llawer mwy. Diolchwyd i Mici gan Enid Owen am bnawn difyr a buddiol iawn. Roedd Gareth a’i staff yng nghaffi’r Tebot Arian wedi paratoi te blasus ar ein cyfer. Enillwyd y raffl gan Mary, Catherine, Enid Owen ac Olwen. Byddwn yn cyfarfod yn y Neuadd Bentref eto ar 19 Mawrth i ddathlu Gŵyl Ddewi gyda phlant yr ysgol gynradd. Festri Lawen, Horeb Nos Iau, 13 Chwefror, cawsom gwmni “Pwy sa’n meddwl?”, parti o saith o ddynion o Ben Llŷn – o Aberdaron, Rhiw, Garnfadryn, Tudweiliog a Rhydyclafdy. Maent yn gynaelodau o Hogia’r Mynydd a ddaeth i ben tua 14 mlynedd yn ôl a dyna pryd y sefydlwyd y parti yma ac maent yn brysur iawn. Gwenda sy’n eu hyfforddi ac yn cyfeilio iddynt. Hywel oedd yn arwain, ac mae’n wyneb cyfarwydd ar Noson Lawen. Croesawyd hwy gan Mai, llywydd y noson. Cafwyd noson o ganu bendigedig gan y parti, unawdau gan Gwenda ar yr acordion ac unawd gan Dafydd a ddaliodd ati i ganu er i ni golli’r trydan ddwy waith yn ystod y gân. Ac yna straeon digri Hywel, oedd yn wych. Noson i godi calon yng nghanol stormydd difrifol. Fel y dywedodd Mai wrth ddiolch iddynt, roedd y gymeradwyaeth yn dangos maint y mwynhad. Gofalwyd am y lluniaeth gan Rhian Jones, Rhian Davenport, Beryl a Meinir.
Festri Lawen, Horeb Nos Iau, 13 Mawrth, dathlu Gŵyl Ddewi yng nghwmni Gwenan Gibbard. Cefnogir y digwyddiad hwn gan ‘Noson Allan Fach’, Cyngor Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd. Diolch Rhodd o £10 oddi wrth Mr Cyril Jones. Diolch yn fawr. Cofion Anfonwn ein cofion at Mrs Gretta Cartwright, Heulwen, Talybont, a syrthiodd gan anafu ei chlun, ac sydd yn Ysbyty Gwynedd. Cofion hefyd at Miss Mari Jones, Tyddynfelin, sydd wedi dod o Ysbyty Dolgellau i Hafod Mawddach. Diolch Dymuna Iris a’r teulu, Llwyn, Talybont, ddiolch o galon am y cydymdeimlad a’r caredigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli Emyr, gŵr, tad a thaid annwyl. Diolch am yr ymweliadau, y llythyrau, cardiau a’r galwadau ffôn ac am y rhoddion hael tuag at Dŷ Gobaith, Conwy. Diolch yn fawr. Diolch a rhodd £10
Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb MAWRTH 9 – Gareth Rowlands 16 – Parch Ioan Davies 23 – Dafydd Charles Thomas 30 - Geraint a Meinir Lloyd Jones EBRILL 6 – Parch Goronwy Prys Owen Cerdd A gâf fi gornel yn y ‘Llais’ I gofio hen gyfeillion A chyd-ddisgyblion ysgol ddoe Sydd heddiw ond atgofion? Ond peidiwn â digalonni ‘chwaith, Fe gawn eto gwrdd ar ben y daith. JVJ
TRACTORAU ERYRI Peirianneg Amaethyddol Atgyweirio Prynu a gwerthu Gwerthu darnau ac olew Gwasanaeth symudol Arbenigwyr Valtra/MF/John Deere
07961 800816 01766 770932
CEIR MITSUBISHI
Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk
RHAGOR O DYFFRYN A THAL-Y-BONT Gwyneth Morris [Anti Gwyneth] Ganwyd Anti Gwyneth yn Nhy’n Bryn, Dyffryn Ardudwy, yr ieuengaf o 5 o blant - May, Beti, Dilys a Huw. Mynychodd Ysgol Dyffryn ac roedd ei bryd ar drin gwallt a bu’n dysgu’r grefft yn Siop Osi yn Beach Road, Bermo. Roedd yn eisteddfotwraig yn ei phlentyndod – yn amlach na pheidio yn groes i’w hewyllys, yn canu’n unigol ac mewn côr. Priododd â John Morris ar Dachwedd 3ydd, 1951 gan fynd i fyw i Hendrefoelas, y Bermo. Cychwynnodd fusnes trin gwalltiau yn Lever House, Bermo gan gynnal y busnes am flynyddoedd tan symud yn ôl i’r Dyffryn i edrych ar ôl ei mam, yn dilyn marwolaeth ei thad. Roedd hi’n dal i drin gwalltiau yn Dyffryn cyn rhedeg siop fara yn y pentre. Symud yn ôl i Bermo wedyn lle cafodd lawer o bleser, a llwyddiant, yn chwarae bowls. Bu’n aelod ffyddlon o Sefydliad y Merched a Chapel Caersalem. Roedd hi’n hoff o gerddoriaeth ac yn aml yn troi at y piano, a’i ffefryn oedd ‘Jesu, joy of man’s desiring’. Roedd Gwyneth yn hynod fedrus gyda gwaith llaw, yn enwedig yn creu samplers cywrain a’u cyflwyno i aelodau’r teulu. Roedd yn gelfydd hefyd gyda PHOB math o waith llaw – brodwaith, gwau, crosio ac ati. Hefyd roedd yn creu dillad ei hun ac yn hoff o ffasiwn a bob tro’n gwisgo’n smart. Er brwydro’n ddewr trwy ei salwch am sawl blwyddyn bu wastad yn siriol a hwyliog a phob tro yn ffraeth ei sgwrs hyd y diwedd.
Roedd colli Jac, ei chymar am dros 61 o flynyddoedd, yn golled fawr iddi. Bu’n dyner ei gofal amdano hyd eithaf ei gallu gan roi o’r neilltu ei salwch ei hun. Roedd ei theulu’n bwysig iawn iddi, ac roedd yn unigolyn hynod o hael a charedig tuag atom. Cafodd fwynhad mawr o glywed am enedigaeth Ela Fflur yn eithaf diweddar yn Tunbridge Wells a chael gweld ei llun tra yn yr ysbyty. Ac roedd hi’n falch iawn o gael dweud bod gan Ela Fflur, fel hithau, goesau hirion. Dynas benderfynol oedd yn sicr, ond dynas gwydr hanner llawn oedd Anti Gwyneth. Y diwrnod o’r blaen yn ei chartre daethom ar draws darn bach o bapur ac arno gwpled yn ei hysgrifen, sydd mor addas i’w adrodd rŵan gan ei fod yn cyfleu’n berffaith ein teimladau fel teulu: “Hiraeth erys am un annwyl, Na ddiflanna byth o’n cof.” Diolch Dymuna Beti, Dilys, Huw a David, Mai, Rhian, Iona a Gareth, Merian a’u teuluoedd ddiolch yn gynnes iawn i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli chwaer a modryb arbennig ac annwyl iawn. Diolch yn fawr i’r Parchedig Christopher Prew am arwain y gwasanaeth yn yr Amlosgfa a hefyd i Pritchard a Griffiths am eu trefniadau trylwyr. Diolch i bawb oedd yn gallu bod yn bresennol yn y gwasanaeth. Hoffem ddiolch yn ogystal am y rhoddion hael tuag at Ambiwlans Awyr Cymru. Diolch a rhodd £10
Prif heol y Dyffryn - Cafwyd benthyg y cerdyn post hwn o’r brif heol yn y Dyffryn gan Miss Mary Williams, Cynefin, Talybont. Mae’n dweud ar y cefn mai pris stamp ar y pryd oedd dimai a phris stamp i’w yrru dramor yn geiniog.
Mair Wynne Davies (1929 -2014) Ganwyd mam ar Hydref 21ain, 1929, ym Mron Hyfryd, Dyffryn Ardudwy – yn ferch i Iorwerth ac Etta Humphreys; taid wedi ei fagu yn Station House, Harlech, a nain yn un o blant Meifod Uchaf. Wrth feddwl am eiriau sy’n disgrifio mam, geiriau megis cariadus, cymwynasgar, balch, teyrngar, annibynnol, penderfynol neu ystyfnig hyd yn oed ddaw i’r meddwl. Roedd bob amser yn fodlon datgan ei barn - os na fyddai’n cytuno â rhywbeth roedd hi’n sicr o ddweud. Aeth i ysgol gynradd y pentref ond gadawodd yn ifanc iawn er mwyn dod adref i helpu nain, a oedd yn cadw pobl ddiarth, a thaid oedd yn rhedeg busnes gwerthu llaeth yn yr ardal. Oherwydd hyn daeth i adnabod yr ardal fel cledr ei llaw a dod i adnabod y teuluoedd oedd yn byw yma. Ym 1949, fe briododd William Davies, a adnabuwyd fel Wil Llan gan ei fod wedi ei fagu yn Nhŷ’n Llan. Pan oeddynt yn canlyn gyda’r nos ac yn dod yn amser mynd adref, mam, coeliwch neu beidio, fyddai’n danfon dad adre - roedd gan dad dipyn o ofn y tywyllwch. Pan ddaeth y penderfyniad i briodi fe redodd y ddau i ffwrdd ar y trên - nid i Gretna Green ond i’r ‘offis fach’ - swyddfa’r cofrestrydd, ym Machynlleth dipyn o sioc i deulu’r ddau ar y pryd. Am gyfnod byr bu’r ddau yn byw yn Y Bermo, a dyma’r unig amser iddi beidio bod yn byw yn Dyffryn. Yn 1952 fe anwyd Gwyneth yn yr Home yn Bermo, wedyn yn ein tro fi, Iorwerth a Hywel. Roedd ganddi 4 o wyrion, 3 wyres, 2 gor-ŵyr a 3 gor-wyres. Cefais fy ngeni yn Erddyn gyda mam yn cael cymorth gan nyrs
Davies. Flynyddoedd wedyn pan oedd mam yn gweithio fel cymhorthydd cartref bu’n gofalu am Nyrs Davies a’i chwaer mae’n rhyfedd fel mae’r cylch yn troi. Bu am sawl blwyddyn yn maethu babanod. Byddai dad yn aml yn gorfod ei hatgoffa mai cael y babanod yma ar fenthyg oedd hi ac nid am byth! Cadwodd gysylltiad gyda theuluoedd sawl un ohonynt. Maethodd 18 o fabanod yn eu tro - roedd hi’n reit anodd arni pan oedd y cyfnod maethu yn dod i ben yn enwedig os oedd hi’n clywed nad oedd y babi am gael mynd adref at y fam. Pêl-droed oedd un o ddiddordebau mawr dad – bu’n aelod o bwyllgor clwb pêl-droed Bermo a Dyffryn a byddai mam yn ei gefnogi trwy weithio yn y cwt te a gwerthu tocynnau raffl. Wedi i nain farw symudodd pawb i fyw i Bronwerydd i fod yn gwmni i taid ac yna yn ddiweddarach ar ddechrau’r 80au daeth y symud i Fro Enddwyn. Cyfraniad mawr arall wnaeth mam yn y gymdeithas oedd ei gwaith yn yr eglwys. Bu’n organyddes am dros 40 mlynedd. Bu hefyd yn cefnogi eglwysi eraill y fro yn eu tro – yn Llanddwywe a Llanbedr ac am gyfnod newydd iddi briodi bu’n organyddes yn Eglwys Sant Dewi, yn Y Bermo. Roedd Eglwys Llanenddwyn yn bwysig iawn yn ei bywyd – bu’n weithgar gyda’r arddwest a digwyddiadau eraill er mwyn codi arian at yr eglwys neu achosion da eraill. Achos a fu’n agos iawn at ei chalon yn y blynyddoedd diwethaf oedd Tŷ Gobaith. Bu’r eglwys a’i ffydd yn gymorth mawr iddi wedi i dad farw dros ugain mlynedd yn ôl a hefyd y gofal arbennig a gafodd gan Iorwerth, ffrindiau agos ac aelodau’r teulu. Credaf fod yr englyn yma’n gweddu’n dda iddi: Fy Mam Darn o’i bro, cadarn o bryd: ei chyfoeth Yn ei chof ai hysbryd, I’r Tŷ bu’n driw, gwraig ddiwyd A’i gwên i bawb - gwyn ei byd. Erddyn Davies.
7
HARLECH Er cof am un o hogiau Harlech Y Lt Col Arfor Jones, Abingdon, Rhydychen Bu farw Arfor (fy nghefnder) ar 20 Tachwedd 2013 yn 79 oed. Bu’n dioddef o afiechyd y galon, a derbyniodd lawer o driniaeth at gancr ers bron i 3 mlynedd. Bu’n brwydro’n ddewr iawn ar hyd y blynyddoedd tan y diwedd. Trwy hyn i gyd bu’n canu gyda Chôr Meibion De Cymru tan yr haf, gan deithio i Aberafan i ymarfer ddwywaith y mis. Roedd yn faswr o fri, a bu hefyd yn canu gyda chymdeithasau Gilbert & Sullivan yn yr ardal, weithiau’n cymryd y brif ran. Ganwyd Arfor ar 18 Tachwedd 1934, yn fab i’r diweddar Glyn a Maggie Jones, Foelas, Harlech. Roedd yn nai i Mr Douglas Owen, 63 Y Waun, Harlech, a’r diweddar Amy, Nellie, Nancy a Ceridwen (chwiorydd ei fam). Roedd pawb wedi gwirioni efo fo pan gafodd ei eni! Gadawodd Harlech yn ifanc iawn ac ymuno â’r fyddin, REME, ac yn y fyddin y bu ei yrfa. Bu mewn sawl gwlad yn ystod ei yrfa Iran, Aden, yr Almaen, ac yn yr Almaen cyfarfu â Margaret. Bu iddynt briodi yn Tripoli, Libya yn 1961, a ganwyd iddynt 2 o blant, Christopher, sy’n gweithio fel bargyfreithiwr yn Llundain, a Caroline sy’n gweithio i gwmni hamperi yn Rhydychen. Trist i’r teulu oedd pan gollodd Caroline ei gŵr mewn damwain car llai na blwyddyn ar ôl iddi briodi. Ymddeolodd Arfor o’r fyddin ym 1985, a bu’n gweithio wedyn fel gweinyddwr i Adran Ffiseg Niwclear ym Mhrifysgolion Rhydychen. Bu’n wael iawn yn 1990 a gorfod rhoi’r gorau i’w waith a dyna pryd y dechreuodd ganu gyda’r Côr. Bûm yn gwrando ar y côr yn Eglwys Gadeiriol Tŷ Ddewi tua 2 flynedd yn ôl - ardderchog, ac Arfor yn amlwg yn mwynhau cymryd rhan! Bu’r gwasanaeth angladdol yn Eglwys Abingdon ac yn yr Amlosgfa. Roedd y côr yn bresennol yn y gwasanaeth, ac ar y diwedd bu iddynt ganu Gŵyr Harlech. “Emosiynol iawn”, meddai’r teulu. Roedd yn un hwyliog iawn bob amser, yn meddwl y byd o’i deulu, yn ymfalchïo yn ei wreiddiau Cymraeg, ac yn mwynhau dod adref i Harlech pan yn gallu. Cydymdeimlwn â Margaret, Christopher a Caroline, a cholled fawr i ninnau hefyd, cefndryd a chyfnitherod iddo, ac i Uncle Douglas, fi, Glenys, Gwyneth, Eilwen, David, Gaynor, Angharad a Mair (Ymwlch, Llandanwg). Casglwyd dros £100 er cof, i’w rannu rhwng Ymchwil y Galon a Sefydliad y Galon. Diolch a rhodd £5, Bet Jones Diolch Dymuna John a Beryl Barnett a’r teulu ddiolch i bawb am y dymuniadau da, galwadau ffôn, cardiau ac anrhegion a’r gefnogaeth a roddwyd iddynt yn ystod arhosiad John yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty’r Galon a’r Frest yn Lerpwl dros y chwe wythnos diwethaf. Diolch yn fawr iawn i bawb. £5
Rhodd Mrs Julie Jones, 11 Y Waun £5
8
Cyfarfod Blynyddol Seindorf Arian Harlech Ystafell y Band Ebrill 13, 5.00 yh Croeso cynnes i aelodau newydd. **********
Bingo Pasg
Ystafell y Band Ebrill 16, 6.30 yh Elw at Seindorf Arian Harlech **********
Cyngerdd Seindorf Arian Harlech Ystafell y Band Ebrill 26, 7.00 yh Tocynnau: £3 Lluniaeth ysgafn ar gael **********
Ffair Haf Harlech
Cae Brenin Siôr V Elw at Seindorf Arian Harlech a Chlwb Rygbi Harlech Gorffennaf 12, 12.30 Mwy o fanylion i ddilyn Marwolaeth Bu farw Mr Gwyndaf Thomas, Llanbedrog, priod Nansi [Glasfryn gynt] a brawd yng nghyfraith i Nellie, Enid, a Doreen. Cydymdeimlwn â’r teulu oll yn eu profedigaeth. Llongyfarch Llongyfarchiadau i Kelly a Llion Evans, Y Waun ar enedigaeth Lia Mari, chwaer i Ella a Lily, ac i taid a nain, sef Gerallt ac Ann Evans, Trem y Don.
Teulu’r Castell Croesawodd y Llywydd Edwina Evans yr aelodau i’r cyfarfod yn y Neuadd Goffa, Llanfair, brynhawn dydd Mawrth, 11 Chwefror 2014. Croesawodd hefyd aelodau o Sefydliad y Merched Harlech oedd yn gyfrifol am y prynhawn a threfnu’r te yn ogystal â Mr Maldwyn Lewis o Age Concern Cymru Gwynedd a Môn. Dymuniadau gorau i bawb oedd yn dathlu pen-blwydd y mis yma, a hefyd i Mair Evans oedd wedi mynd at ei mab Rhys am ychydig o wythnosau. Fe fydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal yn Ysgol Tan y Castell brynhawn dydd Mawrth, 11 Mawrth,. Mae pawb yn edrych ymlaen bob blwyddyn at fynd i weld a chlywed y plant yn yr ysgol. Yn ôl ein harfer fe fydd pres y te a phres y raffl yn mynd at yr ysgol. Yna croesawyd Mr Lewis. Cafwyd sgwrs a lluniau ganddo o waith Age Concern a chafwyd aml i syniad ar sut i gadw’n gynnes, a’r cymorth i’w gael gan Age Concern. Rhannwyd bylbiau golau ynni isel i bawb. Ar ôl y sgwrs cafwyd te gwych wedi ei baratoi gan aelodau Sefydliad y Merched. Yn yr ysbyty Dymuniadau gorau i Mr Graham Watkins, 42 Y Waun, sydd wedi treulio amser yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar.
Darlith Flynyddol Cyfeillion Ellis Wynne gan Mr Cyril Jones MA
YARIS Dewch i holi am ein cynigion arbennig ar Yaris ac Auris.
Newid Cyfeiriad
Byddaf yn symud o Clogwyn House cyn bo hir ond fe fyddaf yn parhau i wneud gwaith gwnïo. Galwch yn Siop Trugareddau neu ffoniwch fi ar 780399. Eirlys Williams
I’R DYDDIADUR
AURIS
TOYOTA HARLECH Ffordd Newydd, Harlech 780432
Cymru a Sbaen: Ardudwy a La Mancha: Ellis Wynne a Quvedo. Dimensiwn Ewropeaidd clasur y Bardd Cwsg yn Neuadd Talsarnau am 7.00, nos Iau, Ebrill 3, 2014 Mynediad £5, yn cynnwys lluniaeth ysgafn. Peidiwch â’i methu.
RHAGOR O HARLECH Teyrnged i Dewi Arfon Simpson-Williams. 1968-2014
Ganwyd Dewi, plentyn ieuengaf y diweddar Megan ac Ernest Williams o’r Waun, Harlech, ym mis Mehefin 1968. Yn bedair oed cychwynnodd ei addysg yn Ysgol Tan y Castell lle daeth yn ffrindiau mawr efo Huw Lewis a John Gilar ymysg eraill. Pan oedd Dewi’n 15 oed ac yn dal yn Ysgol Ardudwy dechreuodd weithio i Harlech Frozen Foods ar benwythnosau a gwyliau’r ysgol. Gweithiodd hefyd ym Mwyty Cemlyn i Ken Goody. Yn 16 oed gadawodd yr ysgol ac aeth i weithio i Cambrian Cleaners i Bryan a Chris. Bu yno am 9 mlynedd cyn ymuno â Chris a Nev yng Nghaffi’r Plas. Roedd wrth ei fodd yn gweini yno a gwneud i bobl chwerthin. Ym 1999 penderfynodd Dewi yr hoffai weithio i gwmni hedfan er mwyn iddo gael gweld y byd. Aeth i Lundain am gyfweliad ond er na fu’n llwyddiannus, cyfarfu â Tony yno a dyna gychwyn ar eu perthynas. Cafodd Dewi gynnig swydd gyda Air 2000 a symudodd i Surrey i fyw a rhannu fflat gyda Tony. Yn 2008, bu i’r ddau briodi a threulio llawer o amser yn Harlech gyda’u nai James. Yn drist iawn, Nadolig 2013 oedd gwyliau olaf Dewi gyda James, oherwydd roedd yn dioddef o afiechyd creulon erbyn hynny a bu farw ar 24 Ionawr 2014. Bydd colled fawr ar ei ôl gan iddo ddod â chymaint o lawenydd a hapusrwydd i bawb a gafodd y pleser o’i gyfarfod. Gorffwys mewn hedd, Dewi. Rhodd £5
Pen-blwydd Mae’r ‘angel’ bach yma yn 18 oed ar Mawrth 4. Pen-blwydd hapus i Joseph Jones, 11 Y Waun gan y teulu i gyd.
TRAMFFORDD I’R TRAETH
Yn dilyn yr hanesyn yn y rhifyn diwethaf, cysylltodd John a Roger Kerry i roi ychydig mwy o hanes y dramffordd. Dywed y ddau fod sylfaen y trac yn parhau i fod yn amlwg ar y maes golff. Mae’n ymestyn at y tociau [twyni tywod] ac yn troi wedyn mewn siâp pedol i gyfeiriad y dref nes dod i ben wrth ymyl Gwesty Dewi Sant. Yn ôl yr efeilliaid, y rheswm pam y daeth y tram i ben oedd bod y rheilffordd wedi cyrraedd Harlech a bod rhaid croesi’r trac ddwywaith gyda’r tram. Roedd hyn yn anghyfleus ac yn beryglus. Mae olion y lein hynny yw, slipars lein, i’w gweld hyd heddiw ar y maes golff.
TŶ AR WERTH
yng nghanol tref Harlech. Mewn cyflwr gweddol dda tair llofft gwres canolog garej. Mae’r pris wedi dod i lawr yn ddiweddar. Buasai’r gwerthwr yn hoffi gwerthu’r tŷ i Gymro neu Gymraes. Ffôn: 01978 352852
Y Lasynys Fawr Roedd hi’n braf iawn croesawu plant ysgolion cynradd y dalgylch i’r Lasynys Fawr fel rhan o weithgareddau hanner tymor cynllun y Siarter Iaith. Cafodd y plant wledd yn wir wrth gael eu tywys o gwmpas y tŷ gan Betsan, morwyn Ellis Wynne, sef Mair Tomos Ifans, a dysgu am arferion y cyfnod. Dau ddiwrnod eithriadol o lwyddiannus yn y Lasynys.
RHODD GAN DDISGYBLION YSGOL ARDUDWY
Cyflwyno Siec Penderfynodd Cyngor yr Ysgol godi arian at y ddau bapur lleol, Yr Wylan a Llais Ardudwy fel eu helusennau i’w cefnogi eleni. Cafodd y disgyblion wisgo eu dillad eu hunain a chodi arian i ‘r papurau i ddiolch iddynt am gynnwys newyddion yr ysgol bob mis. Yn y llun gwelir cynrychiolwyr y ddau bapur bro yn derbyn y sieciau gan Steffan Chambers ac Oisin Lowe-Sellers. Iolyn Jones, Trysorydd Llais Ardudwy sy’n derbyn y siec ar ein rhan.
RIFIW THEATR BARA CAWS YN NODI DECHRAU’R RHYFEL BYD 1af Ebrill 1, 2 - Neuadd Dwyfor, Pwllheli Ebrill 16 - Neuadd Goffa, Cricieth Ebrill 30 - Ysgol y Moelwyn Yn pendilio rhwng y llon a’r lleddf, y melys a’r chwerw dyma gipolwg sydyn ar y pam, y sut, y pwy, a’r ble a ysgogodd y gyflafan waethaf a welodd Cymru ac Ewrop erioed. “Sut ddaeth hi i hyn hogia’?” yw cwestiwn sylfaenol rifiw gymunedol newydd Bara Caws. Daeth y cast ynghyd, dan fentoriaeth Aled Jones Williams, i greu rifiw newydd i nodi canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Mawr.
9
LLANFAIR A LLANDANWG Cydymdeimlo Estynnwn ein cydymdeimlad â Mr a Mrs David Williams, Haulfryn. Bu i Gwyneth golli ei mam yn ddiweddar, sef Mrs Mair Wynne Davies, Dyffryn Ardudwy. Pwyllgor Apêl Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014 Harlech, Llanfair a Llandanwg. Hoffai aelodau’r pwyllgor ddiolch o galon i drigolion yr ardal am yr holl gefnogaeth a dderbyniwyd i sicrhau ein bod yn cyrraedd y targed o £9,000. Mae’r targed wedi ei gyrraedd erbyn hyn. Llongyfarchiadau i Mrs Gwyneth Williams, Haulfryn, Llanfair am ddewis y dyddiad cywir yn y dyddiadur, sef Mawrth 20. Mae’r pwyllgor am barhau i weithio i godi arian i elusennau eraill yn yr ardal. I’r pwrpas hwnnw, rydym yn chwilio am aelodau brwdfrydig i ymuno â ni. Cewch ragor o wybodaeth gan Ceri Griffith ar 07748 692170. Eisoes y mae’r pwyllgor wedi rhannu arian fel a ganlyn: £200 - Seindorf Arian Harlech £200 - Neuadd Goffa Harlech £50 - Aelwyd Ardudwy £50 - Banc Bwyd Meirionnydd Cyhoeddiadau’r Sul, Caersalem, am 2.30: MAWRTH 9 - Br G Eurfryn Davies 30 - Br Marc Jon Williams EBRILL 6 - Fns Buddug Medi 27 - Br Rhys ab Owen
Clwb 200 Côr Ardudwy Mis Chwefror
1 [£30] Alun P Evans 2 [£15] Beti Wyn Jones 3 [£7.50] Iwan Morus Lewis 4 [£7.50] Mair Thomas 5 [£7.50] Graham Jenkins 6 [£7.50] Alun P Evans
Llwyddiant Llongyfarchiadau i Connie Foskett-Barnard (7) o Lanfair Isa, Llanfair, a enillodd y gystadleuaeth Nadolig ar gyfer dylunio siwmper Nadolig. Mae’r gystadleuaeth yn agored i bob un o 72 llyfrgell Cymru drwy Wynedd. Rhoddwyd y wobr yn garedig iawn gan Siop Pwlldefaid, Pwllheli.
MARCHNAD CYNNYRCH LLEOL GWYNEDD Y Ganolfan, Harbwr Porthmadog 9.30 y bore – 2.00 y pnawn Dydd Sadwrn ola’r mis. Cyfle i brynu cynnyrch lleol ffres o bob math, o fadarch, wyau, cacenni, llysiau, bara a chig,
ADAR CYFFREDIN Atebion o dudalen 13, o’r top, chwith i’r dde
Robin boch, ji-binc, bronfraith, coch y berllan, nico, aderyn y to, titw tomos las, titw cynffon-hir, titw mawr, mwyalchen, drudwen, sgrech y coed, ysguthan, delor y cnau, alarch dof, hwyaden wyllt, gwylan y penwaig, crëyr glas, cornchwiglen, glas y dorlan, mulfran werdd, dryw, y gog, cnocell fraith.
Merched y Wawr Croesawodd Bronwen, y Llywydd, bawb i’r cyfarfod. Derbyniwyd nifer o ymddiheuriadau oherwydd anhwylder a dymunwyd adferiad iechyd buan iddynt. Cydymdeimlwyd â Mair M Williams oedd wedi colli perthynas yn yr Amwythig yn ddiweddar, sef merch Gwyneth, ei chyfnither. Dymunwyd adferiad iechyd buan i Hari Gwilym, ŵyr Janet, oedd yn Ysbyty Gwynedd. Croesawyd adra Meirion, mab Winnie, ar ôl ei daith feicio noddedig yn Awstralia. Llwyddodd i godi swm sylweddol at Dŷ Gobaith. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion cyfarfodydd Tachwedd a Rhagfyr. Daeth cais gan y Cylch Meithrin am wirfoddolwyr i ddarllen storïau i blant y Cylch ac fe gytunodd Bronwen, Ann, Meinir a Janet i wneud hynny. Daeth cais gan Bwyllgor Urdd Cylch Ardudwy i baratoi lluniaeth ar gyfer y cyhoedd yn Eisteddfod Cylch Ardudwy ar Fawrth 8fed, ac roedd yr aelodau’n barod i gyfrannu bwyd a bod yn bresennol i weini’r bwyd yn ffreutur Ysgol Ardudwy. Croesawyd Gethin Davies, swyddog gyda’r Parc Cenedlaethol atom. Cafwyd amlinelliad o’r gwaith sy’n cael ei wneud yn y Parc ac mor bwysig oedd meithrin diddordeb yr ifanc yn yr amgylchfyd sydd o’n cwmpas. Diolchodd Sue iddo ar ran y gangen. Tynnwyd ein sylw at ddyddiadau nifer o weithgareddau yn y dyfodol 17 Mawrth - Pwyllgor Rhanbarth 30 Ebrill - Gŵyl Ranbarth yn Neuadd Llanegryn 2 Mai - Noson y Dysgwyr yn Neuadd Llanelltyd 27 Mehefin - Taith Gerdded yn ardal Harlech.
Cynhelir CYFARFOD BLYNYDDOL Neuadd Goffa, Llanfair Nos Fercher, Mawrth 26 am 7.30 Croeso cynnes i bawb 10
Neuadd Goffa, Llanfair
GYRFA CHWIST
ar y drydedd nos Fawrth yn y mis am 7.00 o’r gloch Croeso i ddechreuwyr.
AELWYD ARDUDWY Sefydlwyd yr aelwyd yn ôl ym mis Gorffennaf 2013 gyda nifer dda o bobl ifanc o Lanbedr i Benrhyndeudraeth yn ymgynnull i drafod gweithgareddau. Dechreuwyd gyda thaith i Alton Towers dan arweiniad Dylan Elis, gyda nifer o weithgareddau i ddilyn yn y misoedd nesaf gan gynnwys rownderi, clwb cysgu noddedig, parti Calan Gaeaf a pharti Nadolig. SESIWN DDRINGO Cafwyd sesiwn egnïol ar Chwefror y 6ed ar wal ddringo Pwll Nofio Harlech gyda nifer o’r ieuenctid yn mwynhau dringo i’r uchelderau! Hoffai’r arweinyddion a’r bobl ifanc ddiolch o galon i Siôn Lloyd a staff Glanllyn am sesiwn wych.
TAITH I GALWAY
4 noson, gwely a brecwast, yng Ngwesty’r Imperial Ebrill 13 - 17 £255 Bydd £100 o ernes yn gwarantu lle Rhagor o fanylion gan: Phil Mostert 01766 780635 Iwan Morgan 01766 762687
SAMARIAID Llinell Gymraeg 0300 123 3011
TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Hanes difyr o blwyf Llandecwyn Cyhoeddwyd y llythyr hwn mewn rhifyn gweddol ddiweddar o bapur ‘Y Cymro’, ac mae’n siŵr o fod yn ddifyr i ddarllenwyr y Llais. A oes gan unrhyw un atgofion tebyg i rai Beti Jones? Y merched cap stabal Wrth edrych ar y lluniau o ddwy hen wraig yn gwisgo cap stabal daeth i’m cof fel y byddwn yn casglu at y Genhadaeth Dramor bob blwyddyn. Roedd ffermdy ym mhen uchaf plwyf Llandecwyn o’r enw Llennyrch, a thrigai brawd a chwaer yno o’r enw Marged a Richard Evans, a hwy oedd berchen ar y fferm. Tua chanol yr 1930au i ddechrau’r 1940 oedd hyn, a chredaf na welais i erioed Marged Evans heb ei chap stabal. Rwy’n ei gweld hi’r funud yma yn torri coed wrth y plocyn â bwyell. Y cap, y siôl fach wlanog dros ei hysgwyddau ac wedi ei chau â phin. Ffedog wedi ei gwneud o fag peilliad gwyn a chlocsiau am ei thraed. Credaf i rywun ddweud wrthyf flynyddoedd yn ôl fel y byddant yn troi’r cap tu ôl ymlaen, sef y pig ar y gwar i odro’r gwartheg. Eistedd ar y stôl odro, rhoddi eu talcen ar ochr y fuwch i’w godro, a chan y byddai llawer o’r gwartheg â llau ynddynt, roedd y cap yn rhwystro’r rheini rhag mynd i’w gwalltiau. Wn i ddim a oedd unrhyw sail i hyn. Teimlaf wrth ysgrifennu’r ychydig eiriau yma fel pe bawn wedi byw mewn rhyw oes o’r blaen, ond amser hapus iawn serch hynny. Beti Jones, Penrhyndeudraeth Cyfeillion Ysgol Talsarnau. Cynhaliwyd noson lwyddiannus Noson o Hwyl gyda’r o chwarae Bingo yn Neuadd Dewin Howard Hughes Talsarnau ar nos Iau, Chwefror 8. Roedd y plant (a’r oedolion * Plant yr Ysgol Gynradd hefyd) yn amlwg yn mwynhau. Dymuna pwyllgor y Cyfeillion * ddiolch yn fawr iawn i bawb am Band Arall y rhoddion tuag at y gwobrau ac am y gefnogaeth a gafwyd. Gwnaed elw o £250.
Neuadd Gymuned Talsarnau Nos Wener 4ydd Ebrill am 6.30 Mynediad Oedolion £5
Neuadd Gymuned Talsarnau
GYRFA CHWIST
yr ail Nos Iau yn y mis am 7.30 o’r gloch Croeso cynnes i bawb.
R J WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU
Merched y Wawr Croesawodd y Llywydd, Gwenda Paul, bawb i’r cyfarfod yn y Neuadd Gymuned nos Lun, 3 Chwefror a dechreuwyd drwy gyd-ganu cân y mudiad. Darllenwyd cofnodion cyfarfod mis Ionawr a’u derbyn yn gywir, cyn mynd ymlaen i ymdrin â materion yn codi. Cafwyd adroddiad gan Anwen a Mai o’r cyfarfod a fynychwyd yn Neuadd Llanelltyd ar 20 Ionawr i drafod y paratoadau ar gyfer pabell Merched y Wawr ar faes Eisteddfod yr Urdd yn y Bala. Eglurwyd mai thema’r babell fydd ‘Môr a Mynydd’ a bu trafod ar beth fyddai’n cael ei gynnwys ynddi. Penderfynwyd cael un raffl fawr gyda gwobrau ariannol. Bydd pob cangen y Rhanbarth yn eu tro yn helpu yn y babell ar chwe diwrnod yr Eisteddfod. Bydd angen i bob cangen hefyd baratoi fflagiau ar ffurf triongl, mewn glas a melyn, wedi’u gwau neu grosio, i’w gosod, gydag enw pob cangen arnynt. Ceir cadarnhad o’r manylion i gyd cyn bo hir. Cafwyd tîm o 5 – Anwen, Dawn, Gwenda G, Mai a Maureen i gymryd rhan yn y Bowlio Deg nos Wener, 21 Chwefror a nododd pawb eu dewis o fwyd yng Ngwesty’r Eryrod, Llanuwchllyn i ddilyn. Penderfynwyd mynd am ginio Gŵyl Ddewi i Dafarn y Llong, Talsarnau amser cinio dydd Iau, 6 Mawrth a nododd pawb eu dewis o’r fwydlen.
Yn anffodus, methodd Caryl Anwyl â dod atom y noson yma oherwydd gwaeledd ei mab bychan a bu raid i ni baratoi ar fyr rybudd, a threulio ychydig amser yn chwarae sgrabl Cymraeg, dominos a gêm cardiau Gair am Air. Cafwyd noson ddigon difyr a mwynhawyd y cyfle i sgwrsio a chael paned, wedi ei baratoi gan Dawn a Margaret, wrth chwarae’r gemau. Gwenda G enillodd y raffl. Gobeithir cael cwmni Caryl ar nos Lun gyntaf mis Mawrth. Bowlio Deg Ar nos Wener, 21 Chwefror aeth tîm Talsarnau i Wersyll Glanllyn i gymryd rhan yng Nghystadleuaeth Bowlio Deg Rhanbarth Meirionnydd. Cludwyd 5 yno gan Mai – Anwen, Dawn, Gwenda G a Maureen erbyn 6 o’r gloch ac er mawr syndod, cafwyd eitha’ hwyl arni! Ymlaen wedyn i Westy’r Eryrod yn Llanuwchllyn a mwynhau swper blasus – yn enwedig y ‘pavlova’ mafon! Noson ddifyr gyda chwmni da. Erbyn y daeth yn amser gosod y Llais, cafwyd gwybod bod tîm Talsarnau wedi dod yn ail yn y Rhanbarth ac y byddwn yn mynd ymlaen i Rownd Gogledd Cymru yn ystod yr haf. Diolch Diolch i Mrs Olwen Jones, Dinas Mawddwy (Pensarn gynt) am y rhodd o £6.50 i’r Llais
R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286 Ffacs 01766 771250
Honda Civic Tourer Newydd
11
1
2
CROESAIR 3
4
7
5
6
8
11 12
14
13
15
16
18
20
22
Ar draws 1 Math o fwyd o’r Eidal (7) 5 Arswyd (4) 7 Coler neu gadwyn am wddf anifail (5) 8 Canmoliaeth (4,2) 9 Nerth (4) 10 Darogan (7) 12 Dewrder (5) 14 Rhoi eich gair (3) 18 Gair i ddisgrifio rhywun tywyll ei liw (7) 19 Cadw neu arbed rhywun rhag niwed (4) 21 Rhan ysbrydol unigolyn (5) 22 Anghyffredin o dda (6) I lawr 1 Math o gôt fer (6) 2 Grawn (5) 3 Barddoniaeth grefyddol (4) 4 Math o fwyd wedi’i wneud o laeth (6) 5 Anifail sy’n cael ei alw yn ‘byfflo’ yn America (6) 6 Uchelwr o radd rhwng dug a iarll (7) 11 Cofrestru (7) 13 Nesau (6 ) 15 Wythfed (5) 16 Gwartheg godro (5) 17 Symud yn gyflym (5) 20 Gair i ddisgrifio rhywbeth sydd ymhell o wyneb y ddaear (4)
TATWS AR WERTH (unrhyw bwysau) Parc Isaf, Dyffryn 01341 247447
12
17 19
21
Am fanylion pellach am ddigwyddiadau’r Theatr, ffoniwch 01766 780667, neu ewch i’r wefan ar www.theatrharlech.com Digwyddiadau am 7.30 oni nodir yn wahanol.
MAWRTH
10
9
THEATR HARLECH
ENILLWYR MIS CHWEFROR Llongyfarchiadau i’r canlynol a lwyddodd gyda’u cynigion i gwblhau croesair mis Chwefror: Mair M Williams, Llanfair; Elizabeth Jones; Ellie Owen, Harlech; Ceinwen Owen, Llanfachreth, Dolgellau; Elisabeth Roberts, Ty’nffridd, Penrhyn; Hilda Harris, Dyffryn; Awel Jones, Llanuwchllyn; Dilys A Pritchard-Jones, Abererch; Gwenda Davies (Owen gynt, Llanbedr); Mai Jones, Llandecwyn; Andrew Ryan, Llanbedr; Gweneira Jones, Llanbedr, Megan Jones, Pwllheli; Rhiannon Roberts, Dolgellau; a Glyn Williams, Amwythig. Diolch hefyd i’r ymgeiswyr a ddaeth yn agos iawn at fod yn gywir sef Ieuan Jones, Rhosfawr; Gwenfair Aykroyd, Y Bala; Eddie Wyn, Harlech; a Meryl a Dafydd Williams, Siop Pike, Porthmadog. Atebion Mis Chwefror AR DRAWS 1. Gorsaf 4. Pydru 8. Rasio 9. Bragdy 10. Edliw 11. Canran 12. Tact 14. Esgus 18. Ardal 19. Doctor 20. Adran 21. Wermod I LAWR 1. Gornest 2. Rasal 3. Addolwr 5. Y Waun 6. Rwdlan 7. Abacws 13. Cadarn 15. Uncorn 17. Colon 18. Afal 19. Dewr SYLWER Atebion i sylw: Haf Meredydd, 14 Stryd Wesla, Porthmadog LL49 9DS, erbyn canol y mis os gwelwch yn dda.
6, Iau, 1-2 yp – Sesiwn Pnawn Da gyda Huw Warren ac awr o gerddoriaeth jazz anffurfiol. £5 yn cynnwys cacen a phanad (2-3 yp). 6, Iau, 3.15 hyd 4.15 – Dawns ag ymlacio gyda Siri ar gyfer dawnswyr mwy aeddfed; prif lwyfan. 8, Sadwrn – Cenhedloedd Dan Ddyfroedd, cyd-gynhyrchiad Theatr Mwldan ac Access All Areas. Cymru a Nubia, dwy genedl, un bennod gyffredin. Gyda Siân James, Gai Toms a Nuba Nour, drymwyr ffrâm o’r Aifft. 15, Sadwrn - “Clown in the Moon”, gyda Rhodri Miles, sy’n dychwelyd i’r llwyfan i chwarae Dylan Thomas. Portread dramatig a doniol o fywyd cythryblus y bardd; lleolir mewn stiwdio BBC, a chawn atgofion o’i waith. 19, Mercher - Cyngerdd Gŵyl Ddewi gyda disgyblion ysgolion cynradd dalgylch Ardudwy, a’r gantores Georgia Ruth a Chowbois Rhos Botwnnog. 20, Iau – FFILM, “Museum Hours”. 21 a 22, Gwener a Sadwrn, FFILM i’w chadarnhau. 23 a 24, Sul a Llun (11-6 ar y 23ain, 5.30 – 7.30 ar y 24ain) Cwrs dawns 2 ddiwrnod i ieuenctid rhwng 12 ac 18 i ddysgu technegau newydd a chreu darn i’w berfformio gyda’r coreograffydd Gwyn Emberton. 25, Mawrth – Perfformiad dawns newydd gan Gwyn Emberton, “My People”, a ysbrydolwyd gan gasgliad dadleuol Caradoc Evans o straeon. 28, Gwener, 9.00yh – Clwb Ffilm Ieuenctid Celf Ardudwy 29, Sadwrn – FFILM i’w chadarnhau 29, Sadwrn – Criw Celf Bach Gwynedd, clwb dylunio i blant rhwng 7 ac 11.
EBRILL
3, Iau, 3.15-4.30yp - Dawns ac ymlacio gyda Siri i bobl aeddfed. 3, Iau – Sesiwn Pnawn Da gydag Annette Bryn Parri, “Nôl i’r Gorffennol”. Datganiadau piano a sgwrs am ganeuon a cherddoriaeth ffilm mwyaf poblogaidd yn cynnwys cerddoriaeth o Glenn Miller i Abba. 4, Gwener – “I, Elizabeth”, gyda Rebecca Vaughan, sy’n defnyddio geiriau Elizabeth wedi eu haddasu o lythyrau, areithiau ac ysgrifau. 5, Sadwrn – Criw Celf Bach Gwynedd (gweler uchod). 5, Sadwrn – Dawnsio’n heini i oedolion gyda Siri, 10.15-11.45yb 13, Sul – Cyngerdd Cymdeithas Cerdd Harlech
MERCHED Y WAWR, ARDUDWY YN BOWLIO DEG YNG NGLANLLYN
ADAR CYFFREDIN
Tybed faint o’r adar isod fedrwch chi eu henwi? Maen nhw i gyd yn adar a fu’n gyffredin yn ardal Ardudwy.
Dorothy, Mair, Megan a Geinor - Bermo
Janet, Ann, Sue, Hefina, Maureen a Linda - Harlech a Llanfair Daeth cynrychiolaeth dda o ganghennau’r rhanbarth i’r gystadleuaeth Bowlio Deg flynyddol. Roedd y pedair cangen o Ardudwy yn cystadlu. Llongyfarchiadau i dîm Talsarnau ar ddod yn ail. Fe fyddant yn cynrychioli’r rhanbarth, ynghyd â Chorris, yng ngornest Gogledd Cymru ym mis Mehefin. Llongyfarchiadau hefyd i Pat Thomas, Nantcol, ar ddod yn ail gyda’r sgôr uchaf ac i Dorothy Williams, Bermo, ar ddod yn drydydd. Yn dilyn y cystadlu cafwyd pryd o fwyd yn Nhafarn yr Eryrod, lle’r oedd cyfle i gymdeithasu ag aelodau eraill o’r rhanbarth.
Pat, Heulwen, Jane, Meinir, Elinor, Ann, a Rhian - Nantcol
Gwenda, Mai, Maureen, Dawn ac Anwen - Talsarnau
Yn ôl y bobl sy’n gwybod, dydy plant heddiw ddim yn adnabod eu hadar! Tybed a ydy eu rhieni? Atebion ar waelod tudalen 10.
13
YSGOL ARDUDWY Ras Ardudwy Llongyfarchiadau i’r disgyblion canlynol am ddod i’r brig eleni: B7 1 Kian Cunliffe 2 Brychan Roberts 3 Harri Davies 1 Lowri Llwyd 2 Jessica Cunnington-Holmes 3 Alaw Jones B8 a 9 1 Tirion Evans 2 Andrew Papirnyk 3 Cai Henshaw 1 Olivia Povey 2 Chelsea Smedley 3 Sophie Gill B10 ac 11 1 Josh Catheral 2 Jordan Edwards 3 Joe Joscelyne 1 Isobel Kidd 2 Georgia Povey 3 Laura Sadler
14
Canlyniadau Tîm Pêl-droed B7, 2013-2014 Mae tîm pêl-droed B7 wedi cael cychwyn gwych wrth ennill 3 gêm o 4. Daeth y tîm yn ail yng nghynghrair ysgolion y dalgylch sydd yn llwyddiant arbennig o dda. Cafwyd perfformiadau gwych gan nifer o chwaraewyr ond yn ystod y gemau roedd dau fachgen yn amlwg yn chwaraewyr arbennig o dalentog. Mae Ifan a Cian wedi disgleirio ym mhob gêm ac wedi cael eu dewis i chwarae i dîm B8 hefyd. Mae’r Adran Chwaraeon yn hynod o falch o lwyddiant y tîm. Canlyniadau Ennill: Ysgol y Gader 3-1, Ysgol Eifionydd 11-0, Ysgol y Berwyn 4-1 – Colli : Ysgol Glan y Môr 3-5.
Gweithdy Rownd a Rownd Cafwyd ymweliad gan rai o actorion, cynhyrchwyr a sgriptwyr y gyfres boblogaidd Rownd a Rownd ar ddydd Mawrth, Chwefror 4. Roedd y profiad yn un cyffrous ac roedd y disgyblion wedi dysgu llawer am dechneg sgriptiau a sut mae’r stori o’r sgript yn cyrraedd y sgrîn fach.
Hoci Llongyfarchiadau hefyd i Elin Jones ac Abigail Winter, B10, sydd wedi bod yn mynychu cwrs hoci 4689. Maent hefyd yn cynnal sesiynau hoci ar ôl yr ysgol ar ddydd Iau, ac yn gobeithio sefydlu tîm hoci yma.
5X60 Tenis Llongyfarchiadau i Catrin Lewis sydd wedi ennill “Dyfarniad Arweinwyr Tenis” gyda 5x60. Mae Catrin, B9, rŵan yn gallu cynnal sesiynau tenis bob amser cinio ar ddydd Gwener i ddisgyblion eraill a hefyd yn
Trawsgwlad Llongyfarchiadau i’r disgyblion canlynol - Isobel Kidd, Georgia Povey, Kelly Williams, Santi Backes, Tirion Evans ac Iwan Davies yn Ras Trawsgwlad Eryri ar ôl bod yn llwyddiannus yn nhrawsgwlad Meirionnydd/ Dwyfor. Llongyfarchiadau i’r chwe disgybl.
gallu ennill gwobrau am yr oriau y mae hi’n eu cwblhau ee 50 awr = raced tenis! Lori Ni Dydd Gwener 17eg Ionawr cafodd disgyblion Blwyddyn 10 gyfle i dreulio amser ar Lori Ni yn casglu gwybodaeth a sgwrsio am rai o’r topigau cymdeithasol sy’n bwysig iddynt. Cynigir y gwasanaeth hwn gan Gyngor Gwynedd i wella gwybodaeth am hawliau pobl ifanc.
H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239
Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290
YSWIRIANT I BAWB
E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr
01341 241551
Cynnal Eiddo o Bob Math
Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00
Sgwâr Llew Glas
Llanuwchllyn 01678 540278
Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd
Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk 01766 512091 / 512998
drwy’r post
T N RICHARDS
GERALLT RHUN
Rydym yn gwarantu gwaith trwsio a chwyro o’r safon uchaf. Mewn busnes ers 30 mlynedd.
Tafarn yr Eryrod
Llais Ardudwy
Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.
Adnewyddu Hen Ddodrefn
Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297
Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.
Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch Llanbedr 01341 241229
Caergynog, Llanbedr 01341 241485
Cefnog wch e in hysbyseb wyr
Bryn Dedwydd, Trawsfynydd LL41 4SW 01766 540681
Tiwniwr Piano a Mân Drwsio g.rhun@btinternet.com
BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU
TREFNWYR ANGLADDAU
Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb
TERENCE BEDDALL
JASON CLARKE
15 Heol Meirion, Bermo
Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504
Papuro, peintio, addurno tu mewn a thu allan 01341 280401 07979 558954
Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau
SAER COED Amcanbris am ddim. Gwarantir gwaith o safon.
Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014
Ar agor Dydd Mawrth - Dydd Gwener 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00 Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 8.00
Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!
Tacsi Dei Griffiths Sefydlwyd dros 20 mlynedd yn ôl 15
Ymson Milwr Ifanc Y trydydd o Fedi 1939 ‘Y bore yma, rhoddodd y Llysgennad Prydeinig ym Merlin nodyn terfynol i’r llywodraeth Almaenaidd. Roedd yn datgan, os na fyddem yn clywed gennyn nhw erbyn unarddeg o’r gloch eu bod yn fodlon tynnu eu byddin allan o Wlad Pwyl, a byddai stad o ryfel yn bodoli rhyngom ni. Mae’n rhaid i mi ddweud wrthych chi nawr nad oes unrhyw gytundeb o’r fath wedi cael ei dderbyn. O ganlyniad, mae’r wlad yma wedi datgan rhyfel yn erbyn yr Almaen.’ Blydi hel, mae o wedi digwydd. Mae Prydain am ryfela yn erbyn gormes Hitler! Diolch byth fod y Llywodraeth wedi gweld fod angen helpu Ewrop yn erbyn bygythiad Hitler. Y piti yw ei fod wedi cymryd mor hir i ni ymateb i’w cri. Ar ôl misoedd o glywed am fwriadau’r Natsïaid i gymryd drosodd y byd, a’u bwlio o Tsiecoslofacia a Gwlad Pwyl, mae o gymaint o ryddhad i glywed ein bod am eu hatal! Y nosweithiau digwsg dwi wedi troi a throsi yn poeni fod Prydain am aros i’r Natsïaid agosáu ac agosáu nes byddent yn llyncu’r wlad yn eu gormes. O leiaf rŵan rydym ni’n barod ar gyfer eu hymosodiad. Rydym am sefyll i fyny iddyn nhw a dangos iddyn nhw nad ydym am ddioddef eu bwlio a’u bygwth rhagor. Efallai y gwnawn ni ysbrydoli gwledydd llai Ewrop i wneud hyn a’u sbarduno i sefyll i fyny iddyn nhw hefyd. Rydym nawr am achub Ewrop rhag gafael barus y Natsïaid unwaith ac am byth. Edrych ar mam a dad - maent mor welw â chalch a’u llygadau’n llawn gofid. Pam nad ydynt yn hapus? Maent yn edrych fel bod y byd am ddod i ben! Fedrai’m deall pam eu bod yn ddigalon am y newyddion yma. Argol annwyl, mae mam yn crynu fel deilen! Dwi erioed wedi’i gweld hi fel ‘ma o’r blaen - mae hi fel arfer mor hunanfeddiannol. Mae dad, ar y llaw arall, yn stond fel delw, yn syllu i fewn i fyd arall. Beth sydd yn eu poeni? Ni enillodd y rhyfel diwethaf yn erbyn yr Almaenwyr, ni wneith ennill yr un yma hefyd! Dydyn nhw byth yn sôn am y rhyfel hwnnw, ‘Y Rhyfel Mawr’. Does neb yn sôn am y rhyfel yn y pentref yma, wrth feddwl am y peth. Pam ‘sgwn i? Mae pawb yn mynd yn ddistaw wrth sôn am y rhyfel. Dim ond mewn sibrydion pryderus caiff y rhyfel ei drafod. Dwi’n gweld hynna’n ofnadwy o od; tydyn nhw ddim yn falch ohono? Er eu bod nhw wedi byw trwy’r rhyfel ac wedi ennill, fel petai arnynt gywilydd. Dydw i ddim yn deall y peth. Gwn fod rhai wedi marw, fel Wncl Huw. Ond mae pobl yn marw yma hefyd – bu farw John Ty Cerrig ychydig o fisoedd yn ôl wrth gael ei daflu gan y ceffyl. Ond marw mewn balchder a wnaeth y milwyr, te? Aethon nhw i faes y gad i achub eu gwlad rhag y gelyn. Astudion ni gerddi Rupert Brooke yn yr Ysgol. Dyna’r argraff gefais i, roedden
16
nhw’n ymladd dros achos. Mae amddiffyn y wlad a’r bobl rydych yn eu caru’n achos digon haeddiannol yn tydi? Dyna beth dwi eisiau wneud. Dwi am ymladd yn y rhyfel yma. Dwi am achub Ewrop rhag y Natsïaid. Dwi mor gynhyrfus! Mi wisgai’r wisg grand, fel a gwnaeth Wncl Huw yn llun mam, a gorymdeithio i fewn i Ewrop, lladd Natsïaid mileinig a dychwelyd yn ôl i Gymru’n llwyddiannus yn fy nghenhadaeth. Mae’n rhaid i mi ymuno! Ond dwi’n gwybod y gwnân nhw drio fy rhwystro. Dydyn nhw ddim yn deall faint dwi’n torri fy mol eisiau mynd. Dwi ddim eisiau aros ar y fferm yma am weddill fy oes! Dwi eisiau gweld y byd. Dwi eisiau cael anturiaethau fel Huckleberry Finn a Tom Sawyer. Dwi eisiau gweld llefydd fel gwnaeth Lemuel Gulliver. Dwi wedi diflasu ar fod yn ffermwr. Mae byw yn seiliedig ar y tymhorau, o fis i fis, yn fy niflasu’n llwyr. Yr un bobl, yr un golygfeydd. Mae pob dim mor gyson yma. Os arhosaf yma ar y fferm am weddill fy oes, mae’n rhy hawdd rhagfynegi fy mywyd. Wyna, cneifio, hel cnaeaf ac mewn chwinciad mae’r dyddiau porthi yn ail ddechrau - mae o’n ddi-ddiwedd! Dydw i ddim eisiau hynna. Dwi eisiau difyrrwch! Dwi eisiau bwrlwm yn fy mywyd! Dwi ‘di clywed fod yna filoedd o bobl yn byw yn y dinasoedd a bod yna bob math o gampau ar bob cornel! Yn y pentref yma, mae pawb yn adnabod ei gilydd, a’u busnes. Mae’n rhy glos yma. Dwi angen rhyddid i brofi’r byd. I brofi fy hun. Y rhyfel yw fy nghyfle i wneud hyn. Fy nhiced i fyw fy mywyd fy hun. Caf ddod yn ôl o’r rhyfel yn arwr. Bydd fy mrest yn loyw hefo medalau. Bydd pawb yn fy edmygu. Yn fy mharchu. Byddan nhw’n gwybod fy mod yn ddewr a bod yna fwy i mi na bachgen fferm breuddwydiol. Bydd y genod yn heidio o’m cwmpas, yn cynnwys Bet. Bydd hi’n gweld fy mod i’n ddewr ac yn medru ei chynnal yn well na’r joscins eraill. Mi wnawn briodi a byw bywyd anturus gyda’n gilydd. Sut wyf am lwyddo? Bydd Dad yn lloerig, ac mi dorraf galon mam yn ei gadael. Ond dwi’n gorfod mynd. Dwi’n ugain oed. Fi sydd â rheolaeth dros fy mywyd, nid neb arall. Mi wn bydd dad eisiau i mi aros i dendio’r caeau fel rhan o’r ymdrech rhyfel. Ond caeau’r rhyfel sydd yn galw allan arna i. O dwi’n ysu am gael mynd! Dwi angen mynd, mi wnaf fynd. Ni fedrant fy atal! Byddan nhw’n falch o’u mab pan ddof adref yn arwr. Bydd cynrychiolwyr y fyddin yn dod o amgylch yr ardal yn casglu enwau cyn bo hir yn byddan? Fe fyddaf yn barod amdanyn nhw. Rwyf am fod yn filwr. O, am dda mae hyna’n swnio! Dwi mor gynhyrfus! Dwi am helpu i achub y byd rhag Hitler. Dwi am wneud fy ngwlad yn falch. Dwi am fod yn filwr.
Elan Roberts [Ysgol Ardudwy]