Llais Ardudwy 50c
RHIF 439 MAWRTH 2015
ANRHEGU EDWINA
Yn y llun o’r chwith i’r dde fe welir: Annette Evans, Edwina Evans, Christine Hemsley a Sheila Maxwell Yn ddiweddar cyflwynwyd dwy anrheg i Mrs Edwina Evans gan Sefydliad y Merched Harlech i gydnabod ei gwaith diflino a chymeradwy fel llywydd am gyfnod o bedair blynedd rhwng 2010 a Thachwedd 2014. Cyflwynwyd iddi flwch gwydr hardd gyda logo’r Mudiad a wnaed gan Mrs Annette Evans o’r Ynys, a chasgliad hyfryd o luniau a dynnwyd o’r gweithgareddau yn ystod ei llywyddiaeth gan y trysorydd Mrs Sheila Maxwell. Roedd Edwina yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed ar 25 Chwefror, Rydym yn falch o ddeall ei bod wedi cael diwrnod wrth ei bodd yn dathlu hefo teulu a ffrindiau. Dymunwn yn dda i Christine Helmsley, Bryn Tirion, Ynys, ein llywydd newydd; a gobeithio y bydd hithau fel Edwina yn mwynhau’r gwaith. Pob hwyl i ti, Christine!
Logo Sefydliad y Merched a wnaed gan Mrs Annette Evans o’r Ynys
COLLI MERÊD
Yn 95 oed, bu farw Dr Meredydd Evans. Roedd yn ffigwr amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru, fel perfformiwr, arbenigwr ar ganu gwerin ac ymgyrchydd iaith. Roedd yn bennaeth adloniant ysgafn BBC Cymru yn ystod y 60au a’r 1970au. Mae’n gadael gwraig, Phyllis a merch, Eluned. Yn enedigol o Lanegryn, Sir Feirionnydd, cafodd ei fagu yn Nhanygrisiau ger Blaenau Ffestiniog, yn un o 11 o blant. Fe gyhoeddodd Phyllis a Merêd sawl cyfrol gwerin gyda’i gilydd. Wedi treulio cyfnod yng Ngholeg Harlech ac mewn prifysgolion yn America, fe gafodd ei benodi’n bennaeth adloniant ysgafn y BBC ganol y ’60au. Buodd yn y swydd am ddegawd ac mi oedd yn gyfrifol am raglenni fel Hob y Deri Dando, Disg a Dawn, Ryan a Ronnie a Fo a Fe.
Roedd ganddo ef a Phyllis gysylltiad cryf ag Ardudwy. Yn Eglwys Llanfair y bu i’r ddau briodi, a phan anwyd eu merch Eluned yn y cartref mamolaeth yn y Bermo, roedd y ddiweddar Miss Ceri Evans, Llanfair yn un o’r gweinyddesau. Soniodd lawer gwaith am weld Eluned yn dod i’r byd. Cadwodd Merêd ei gysylltiad a’r ardal hyd y diwedd. Diddorol yw’r lluniau ohono a dynnwyd pan oedd criw, gan gynnwys Anwen Roberts a Haf Meredydd, ar y ffordd i Enlli. Bu Haf yno droeon yr un pryd ag ef a’r teulu. Mae ganddi atgof melys o’r diweddar Dafydd Davies (Dinas), pan oedd o’n mynd â’r tarw Gwartheg Duon drosodd i Enlli, yn cyfarfod Merêd ar y ffordd i fyny at y capel, a’r ddau’n dechrau canu cân werin fel deuawd a phawb yn ymuno yn y gytgan. Dyddiau difyr ac atgofion cynnes am gawr o Gymro.
Llais Ardudwy
HOLI HWN A’R LLALL
GOLYGYDDION
Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Cae Bran, Talsarnau (01766 770736 anwen@barcdy.co.uk
Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk (07760 283024 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 thebearatminymor@btinternet.com Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 thebearatminymor@btinternet.com Trysorydd Iolyn Jones Tyddyn Llidiart, Llanbedr (01341 241391 iolynjones@Intamail.com Casglwyr newyddion lleol Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones(01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Ann Lewis (01341 241297 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 770736 Cysodwr y mis - Phil Mostert
Enw: Clare Ward Cefndir: Dianc o fyd prysur gwaith ym 2011 i ddychwelyd at fy ngwreiddiau a rŵan dw i’n teimlo fy mod i adre am y tro cyntaf. Dw i’n mwynhau bod yn arlunydd a chael ysbrydoliaeth o’r harddwch yma yng Ngogledd Cymru. Dwi wedi bod yn dysgu’r Gymraeg ers mis Ionawr 2011 pan wnes i ymuno hefo ‘Cana-Mi-Gei’. Gwaith: Dw i wedi ymddeol ers pedair blynedd. Man geni: Essex, Lloegr - ond roedd fy hen nain a’i theulu yn dod o Bwllheli yn wreiddiol. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Mae gen i glefyd coeliag, felly rhaid i mi goginio popeth o’r newydd mae hynna’n helpu fi i fwyta’n iach. Hefyd da ni’n trio mynd am dro ar y traeth bob dydd - oni bai ei bod yn bwrw glaw! Beth ydych chi’n ei ddarllen? Ers ro’n i’n ifanc dw i wedi mwynhau darllen nofelau trosedd, a llyfrau am fforwyr pegynnol, ond yn ddiweddar dw i wedi dechrau darllen nofelau Cymraeg sydd wedi eu sgwennu am ddysgwyr ac wedi mwynhau nhw yn fawr iawn. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu?
Dw i’n hoffi ‘Just a Minute’ ar Radio 4, ac ar y teledu fy hoff raglen ydy ‘Have I got news for you’. Hefyd dw i’n hoffi unrhyw raglen gan Iolo Williams. Mae o’n ddyn diddorol ac yn gwybod llawer. Ydych chi’n bwyta’n dda? Rhy dda! Hoff fwyd? Cyri - mae’r ‘golden chicken’ gan Harlech Tandoori yn fendigedig! Hoff ddiod? Gwin coch neu jin a thonig os gwelwch chi’n dda! Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Rhywun sydd yn ddeallus/diddorol a medru siarad am bethau difrif a gwneud i mi chwerthin hefyd efallai rhywun fel Iolo! Lle sydd orau gennych? Yma yng Ngogledd Cymru! Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Roedd yr Aifft yn ffantastig ond rŵan dw i’n byw mewn ardal mor brydferth dw i ddim isio mynd i ffwrdd! Beth fuasech chi’n ei wneud hefo £5000? Dw i ddim yn gwybod i fod yn onest - dw i’n fodlon iawn, dw i’n hapus efo ein tŷ, mae gen i ddigon o ddillad a dw i ddim angen mynd i nunlle! Beth sy’n eich gwylltio? Gwastraff - o fwyd, o arian, o drydan, o ddŵr, o unrhyw beth dw i’n meddwl bod angen i ni gyd fod yn fwy gofalus a meddwl mwy am ein gweithredoedd. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Gonestrwydd. Pwy yw eich arwr? Dw i’n edmygu Ernest Shackleton yn ofnadwy. Beth yw eich bai mwyaf? Os dw i’n mynd i wneud rhywbeth rhaid i mi wneud o’n dda iawn
- dw i byth yn ddiawydd! Felly weithiau dw i’n gwneud bywyd yn anodd i fi fy hun! Beth ydych chi’n ei gasáu mewn pobl? Mae’n fy ngwneud i’n flin pan mae pobl yn cwyno am rywbeth wedyn gwneud dim byd amdano. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Mynd am dro ar y traeth efo fy ngŵr. Eich hoff liw? Coch Eich hoff flodyn? Mae’n anodd iawn! Dw i’n hoffi llawer o flodau gwahanol, yn yr ardd ac yng nghefn gwlad. Dwi ddim yn hoffi blodau sydd wedi’u torri yn y tŷ mae’n well gen i weld nhw’n tyfu tu allan. Eich hoff fardd? Un o fy hoff gerddi ydy ‘Warning’ gan Jenny Joseph. Mae’n gerdd am dyfu’n hen yn warthus! Eich hoff gerddor? Dave Grohl o’r Foo Fighters. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Mae hynna’n amhosib i’w ddweud, dw i’n hoffi cymaint o fathau o gerddoriaeth glasurol, Cymraeg (dwi wrth fy modd efo Gwibdaith Hen Frân ‘Trôns dy Dad’), Jimi Hendrix, Paul Weller - mae’n dibynnu ar fy hwyliau. Pa dalent hoffech chi ei chael? Hoffwn i fod yn gallu chwarae rhywbeth fel y piano neu gitâr. Eich hoff ddywediad? Dw i ddim yn siŵr os ydy o’n ddywediad ffurfiol neu os fydd o’n cyfieithu’n dda iawn i’r Gymraeg - ‘Galli di wneud unrhyw beth os ti’n ceisio’n ddigon caled.’ Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Diolchgar am gael byw mewn lle hyfryd ac wedi cael cyfle i wneud cymaint o ffrindiau da.
YN YR ARDD - Mis Mawrth - mae’n amser i ddechrau plannu! Er bod y dyddiau’n ymestyn a’r haul yn gryfach, mae’n well oedi ychydig nes bod llai o bosibilrwydd i ni gael rhew caled; ond dyma’r amser i ychwanegu maeth i’r pridd. Fforchiwch yr wyneb er mwyn i’r awyr dreiddio oddi tano. Gorffennwch docio’r rhosynnau a phrysgwydd eraill, gan edrych am afiechyd neu ffwng. Tociwch rosmari yn ofalus – dydy o ddim yn tyfu allan o hen bren. Plannwch datws cynnar - arbrofwch drwy eu tyfu mewn bwced neu botyn mawr os nag oes gennych lawer o ardd. Gallwch blannu pannas, ffa a chennin hefyd. Mae teulu’r nionod, shalots a garlleg yn wydn iawn. Plannwch nhw rŵan, yn agos i’r wyneb ond cadwch olwg arnynt am fod adar yn gallu gwneud difrod. Mae nionod yn hoff o bridd mân. Peidiwch â rhoi gormod o wrtaith iddynt, neu fe gewch chi nionod meddal yn y pen draw hy ni fyddant yn cadw’n dda dros y gaeaf.
Gosodir y rhifyn nesaf ar Ebrill 3 am 5.00. Bydd ar werth ar Ebrill 8. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Mawrth 30 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau.
2
Y BERMO A LLANABER
Aelodau Cymdeithas Gymraeg y Bermo yng Ngwesty Min y Môr gyda Phil, eu gŵr gwadd. Y Gymdeithas Gymraeg Nos Fercher, 25 Chwefror bu’r Gymdeithas yn dathlu dydd Gŵyl Ddewi gyda swper yng Ngwesty Min y Môr, Y Bermo. Ein gŵr gwadd oedd Phil Mostert a chawsom orig ddifyr dros ben yn ei gwmni yn trafod tafodiaith a tharddiad geiriau mewn gwahanol ardaloedd - yn bennaf yn Sir Fôn. Newyddion o’r Llyfrgell
Theatr y Ddraig, y Bermo Dydd Llun, 9 Mawrth Cynhelir bore difyr yng nghwmni Hugh Roberts ‘Hugh’s Views’, curadur archif Bermo o hen luniau. Llawer o luniau i’w gweld o’r newydd, a straeon diddorol amdanyn nhw! Cyfarfod am 10 y bore, £1.50 yn cynnwys tocyn raffl; darperir lluniaeth. Ffoniwch 01341 281697 neu ewch i www. dragontheatre.co.uk Llongyfarchiadau Nos Sadwrn, 21 Chwefror yng Ngŵyl Ffilmiau PICS yn Y Galeri, Caernarfon cafodd Jac Glyn, ŵyr Gwyneth Edwards, Bod Gwilym, Llanaber, y wobr gyntaf i oedran plant cynradd am animeiddio Diwrnod D ar ffilm. Llongyfarchiadau mawr iti Jac.
Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau i Cara Wyn Thomas 7 oed o Faeldre, Dyffryn Ardudwy ar ddod yn gydradd ail, ac ennill tocyn llyfr gwerth £10 yng nghystadleuaeth Nadolig Llyfrgelloedd Gwynedd. Y dasg oedd creu hosan Nadolig mewn unrhyw gyfrwng. Da iawn ti Cara. Diolch Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb, yn deulu ac yn ffrindiau, am yr holl gardiau a dderbyniais ar achlysur fy mhen-blwydd arbennig ac ar enedigaeth fy wyres, Frida Mair. Diolch a rhodd £10. Mair Jones, Amwythig
Cymun Cynhelir Gwasanaeth y Cymun yng Nghaersalem, y Bermo, fore Gwener y Groglith, 3 Ebrill am 9.30. Gweinyddir y Cymun gan y Parchedig Patrick Slattery,
SGWRS AM FYWYD Y MÔR - AM DDIM!
Ar nos Lun, 9 Mawrth, am 7 yr hwyr yn Narllenfa Rydd Dolgellau, bydd croeso i unrhyw un ddod i wrando ar Alison Palmer Hargrave yn traddodi sgwrs am fywyd y môr - yn rhad ac am ddim. Am fwy o fanylion ffoniwch 01248 351541.
Dosbarth y Jonesiaid, Caersalem, Y Bermo 1914
Darlun o ddosbarth o naw o blant, pob un ohonynt yn dwyn yr enw Jones. Eu hathrawes yn 1914 oedd Mrs Gwynoro Davies. Daethant i amlygrwydd yn yr Arholiad Sirol y flwyddyn honno bron pob un ohonynt yn y dosbarth blaenaf, ac un yn ennill gwobr y Cyfarfod Misol. Yr oedd saith ohonynt yn ysgolorion yn Ysgol y Sir, y Bermo yn 1914. Gwelir am wddf yr athrawes y Fedal Aur a enillodd yn 1913 yn yr Arholiad Cyfundebol - Medal Aur Sir Feirionnydd fel y gelwid. Hi oedd yr uchaf yn y sir, a t’oedd ond pedwar marc rhyngddi i gipio Medal Aur y Gyfundeb. Er mai Jonesiaid yw’r naw plentyn, nid oeddynt yn perthyn i’w gilydd. Dyma eu henwau: y rhes flaen, gan ddechrau ar y chwith: Nellie Jones, Cassie Jones, Greta Lumley Jones, Mrs Gwynoro Davies, William Jones, Jenny Jones. Y rhes ôl, gan ddechrau ar y chwith eto: Mary O Jones, Maggie May Jones, Jennie Jones, a Nellie Jones. Digwyddodd rhywbeth digrif yn yr Arholiad Sirol o safbwynt dwy o’r genethod. Fe sylwch fod yna ddwy Nellie Jones a dwy Jennie Jones. Rhoddodd Jennie Jones, welir â’r wats ar ei garddwrn, MB (Moss Bank) ar ôl ei henw, a rhoddodd Jennie Jones, sydd yn rhes gefn, Ll D (Llyn Du) ar ôl ei henw. Methai Ysgrifennydd y Pwyllgor yr Arholiad Sirol â dyfalu beth oedd yr ystyr wrth yr MB a LlD a synnai weld fod MBs a LlDs ymhlith plant Ysgol Sul Meirionnydd! Daeth Jennie Jones, MB (Moss Bank) yn drydydd yng nghylch y Cyfarfod Misol. Cafodd 96 o farciau allan o 100, ni chafodd yr uchaf ond 98, a daeth William Jones, sydd nesaf ati yn y llun, ar agosaf ati yn yr Arholiad gyda 95 o farciau.
3
LLANFAIR A LLANDANWG
Teyrnged i Rhiannon Denman, Maes Teg, Llanfair Ganwyd Rhiannon yn unig blentyn i Gwendolene ac Owen Humphrey Denman, yn Maelgwyn, Harlech, cartref ei thaid a’i nain, sef y Parchedig a Mrs David Davies, gweinidog Bedyddwyr y cylch. Buont yn byw yn Harlech cyn symud i Bwllheli i gadw siop, ac yna symud yn ôl i gadw a siop a llythyrdy Talsarnau, cyn symud eto i fyw i Faes Teg, Llanfair, ac yno y bu hi hyd y diwedd. Bu’n gweithio fel teleffonydd ym Mhwllheli, Porthmadog a Dolgellau. Ar ôl ymddeol, aeth i weithio fel derbynnydd i Gastell Harlech, ac roedd wrth ei bodd yn cyfarfod pobl. Roedd hi’n wraig smart, yn mwynhau gwisgo dillad del oedd yn gweddu iddi, yn cael gwneud ei gwallt yn aml a hefyd bob amser yn gwisgo colur. Pan aeth hi i’r ysbyty, ei phoen
mwyaf oedd nad oedd ganddi golur, a hithau’n 89 oed. Doedd dim byd yn ffals ynddi. Byddai yn ei dweud hi fel byddai yn ei gweld hi a phawb yn ei gymryd dan wenu am eu bod yn ei nabod mor dda. Fyddai hi byth eisiau i neb wneud dim iddi, a hynny wedi iddi fod yn fethedig, er ei bod yn canmol ei gofalwyr yn arw iawn, a’i garddwr hefyd. Byddai bob amser ar y ffôn, gan fod ganddi gymaint o ffrindiau. Byddai’n ffonio Arawn bob dydd a Griffith John, fu’n garedig iawn wrthi tra gallodd, a llawer o’i theulu hefyd. Byddai’n rhaid inni roi gwybod iddi os byddem yn mynd i unrhyw le, yn enwedig ar ein gwyliau, neu byddai hi ddim yn hapus. Mae pawb yn ei chofio yn gyrru’r mini o gwmpas yr ardal am flynyddoedd a phobl yn dweud y drefn amdani gan ei bod yn mynd yn rhy araf ar y ffordd! Loes iddi oedd gorfod ei werthu. Byddwn yn ei chofio am ei charedigrwydd, ei hiwmor, ei chonsyrn amdanom, a’i hagwedd bositif at fywyd. Bu farw’n sydyn ond yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, fis cyn bod yn 90, ac yn gadael cyfnitherod a chefnder a nithoedd. Diolch am gael ei ’nabod. Olwen Williams, Tudweiliog (nith)
Merched y Wawr Croesawodd Hefina bawb i’r cyfarfod a braf gweld bod Eirlys wedi gallu bod yn bresennol; anfonwyd ein cofion at Idris. Cafwyd nifer o ymddiheuriadau. Wedi trafod y materion cychwynnol, croesawyd Linda Ingram a’i merch Hannah atom i ddangos sut y maent yn mynd ati i wneud sebonau gan arbrofi gyda siapiau, lliw ac arogleuon gwahanol ac yn creu sebonau unigryw. Roedd llawer wedi eu cael o’r blaen ac yn eu canmol yn fawr. Cafodd pob aelod sampl bach i fynd adref a chyfle i brynu’n ogystal. Mwynhawyd cwmni’r ddwy’n fawr iawn ac edrychwn ymlaen at weld mwy o ‘Angylion Sebon’ yn y dyfodol. Linda enillodd y raffl, Mair a Gweneth baratôdd y baned a Cassie gynigiodd y diolchiadau. Neuadd Goffa, Llanfair
GYRFA CHWIST
ar y drydedd nos Fawrth yn y mis am 7.00 o’r gloch Croeso i ddechreuwyr.
4
Clwb 200 Côr Ardudwy Mis Chwefror 2015 1 [£30] Pauline Williams 2 [£15] Nia Dukes 3 [£7.50] Gwyneth Meredydd 4 [£7.50] Ffion Thomas 5 [£7.50] Menna Jones 6 [£7.50] Iorwerth Davies
Cyfeillion y Pwll Nofio Trefnwyd dawns yng nghwmni Ratz Alley yn ddiweddar. Llwyddwyd i godi dros £1500 i gadw’r pwll a’r wal ddringo yn agored Byddwn yn trefnu ROC ARDUDWY ym mis Mehefin - gweler www.rockardudwy. co.uk. Cynhelir y Cyfarfod Cyffredinol yn y caffi ddydd Mercher, Mawrth 18 am 7.00. Croeso cynnes i bawb. Ydych chi wedi ymuno â’r Loteri Gymunedol er budd y pwll nofio? Mae’n ffordd hwylus o gefnogi’r pwll a chael cyfle i ennill gwobrau bob mis. Yn 21 oed Pen-blwydd hapus iawn i Iwan Morus Lewis, Min y Môr, [ysgrifennydd Llais Ardudwy] Llandanwg oedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 21 oed ar Chwefror 14. Deallwn iddo gael parti pleserus yn y Clwb Golff.
Gwellhad Dymunwn wellhad buan i David E Evans, 9 Haulfryn, Llanfair sydd wedi derbyn llawdriniaeth yn Ysbyty Broadgreen, Lerpwl. Anfonwn ein cofion at ei wraig Jennifer sy’n cael gofal yn Hafod Mawddach, Abermaw. Brysiwch adref i Lanfair.
Pen-blwydd Pen-blwydd hapus iawn i Gethin Llŷr Sharp a ddathlodd ei ben-blwydd yn 21 yn ddiweddar. Cyhoeddiadau Caersalem 2015 Am 2.15 oni nodir yn wahanol MAWRTH 15 Br Eurfryn Davies
R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286 Ffacs 01766 771250
Honda Civic Tourer Newydd
Cyngor Tref Penrhyndeudraeth MYNWENT MINFFORDD Cynnal a Chadw Beddau
Mae’r Cyngor yn ddiolchgar iawn i’r holl deuluoedd sy’n cadw beddau eu hanwyliaid yn daclus. Fodd bynnag, mae amryw o feddau wedi’u gorchuddio gan wair a thyfiant gwyllt (mae’n debyg am nad oes cysylltiadau teuluol yn yr ardal erbyn hyn) ac felly yn ystod y misoedd nesaf bydd y Cyngor yn trefnu i’r beddau hynny gael eu tacluso. Am fwy o fanylion cysyllter â’r Clerc Glyn E Roberts 3 Tai Meirion, Beddgelert LL55 4NB 01766 890483 glynctp@btinternet.com
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Bedydd Bu gwasanaeth bedydd yng Nghapel Nantcol pnawn Sul y 15fed o Chwefror. Bedyddiwyd Ioan Rhys, mab bach Bethan ac Arwel Williams gan y Parchedig Christopher Prew, gyda’r capel yn llawn o deulu a ffrindiau. Yna cafodd pawb de yn y Neuadd wedi’r gwasanaeth. Teulu Artro Cynhaliwyd cyfarfod y ‘Mis Bach’ ar Chwefror 3ydd. Croesawodd y Llywydd yr aelodau, a dywedodd ei bod yn falch o weld Iona, a oedd wedi cael triniaeth ar ei llaw. Anfonwyd ein cofion at Howel a fu’n cwyno yn ddiweddar. Atgoffwyd ni y byddwn yn yr Ysgol Gynradd i ddathlu Gŵyl Dewi. Croesawyd y siaradwr gwadd sef Mr Ken Robinson, gan Gweneira. Ategodd yntau trwy ddiolch am y gwahoddiad a’r croeso. Ei destun oedd Lein y Cambrian a agorwyd ym 1867, ac aeth â ni am daith ar y trên o Bwllheli i Fachynlleth. Roedd ganddo luniau ardderchog o’r golygfeydd, ynghyd â hanesion difyr am y gwahanol leoedd ar y daith. Soniodd am y nifer o bontydd pren ar y lein. Yr enwocaf yn ddi-os yw Pont y Bermo. Bu trên o’r enw Land Cruise yn dod am ddeng mlynedd, gyda siaradwr yn disgrifio’r daith a chyfle i fwynhau lluniaeth arno. Rydym yn cofio trên Butlin’s ar brynhawn Sadwrn. Cafwyd prynhawn difyr a llawer o atgofion – yn un arbennig y ddamwain ym 1933, pan oedd tirlithriad a’r trên, neu’r injan, yn cael ei dymchwel. Talwyd y diolchiadau gan Iona, ac enillwyd y raffl gan Elizabeth. Profedigaeth Cydymdeimlwn â Megan a Robert John Evans a Medwyn, Werncynyddion yn eu profedigaeth o golli mam Megan, Mrs Elizabeth Rees yn 94 oed yn ddiweddar, a hefyd â’i neiaint Catherine a Hywel Jones, Moelfre Terrace. Hefyd, yr wythnos ganlynol bu farw modryb i Megan, sef chwaer Elizabeth Rees yn y Foel, Sir Drefaldwyn.
Côr Meibion Ardudwy Daeth gwahoddiad i Gôr Meibion Ardudwy ymweld â Chernyw yn ystod gwanwyn 2016. Bydd Côr Meibion Treverva o ardal Helston yn westeion iddyn nhw. Yna yn Hydref 2016, y bwriad yw i’r cantorion o Gernyw ymweld ag Ardudwy. Mae sawl cyngerdd ar y gweill gan gynnwys un ym Melin y Coed ar Fawrth 13 ac un arall yn Neuadd Dyffryn ar nos Sul y Pasg am 7.30. Rydym yn disgwyl 47 o bobl o Estonia, sef Côr Merched Leelo, i ymweld â ni am bedair noson o Fehefin 25 i 28. Y gobaith yw cynnig llety iddyn nhw yn nhai’r aelodau. Ar hyn o bryd, ymddengys y bydd yn gryn her i ni letya pob un ohonyn nhw. Os gallwch helpu i’r cyfeiriad hwn buasem yn ddiolchgar pe medrech gysylltu ag unrhyw aelod o’r Côr. Marwolaeth Drwg iawn oedd gennym glywed am farwolaeth sydyn Miss Sylvia Jones, Bryn Deiliog, yn Ysbyty Gwynedd. Anfonwn ein cydymdeimlad â’i theulu yn yr ardal yn eu profedigaeth. Roedd Sylvia yn un o’r pum plentyn oedd yn Ysgol Nantcol pan gaewyd yr ysgol ym 1949. Pryd hynny yr oedd yn byw yn Gellibant gyda’i nain a’i thaid. Y pedwar plentyn arall oedd yn yr ysgol pan gaewyd hi oedd Gwynli, Iorwerth, Jean ac Anna Wyn.
DIOLCH I’R ŴYL GWRW AM RODD ARIANNOL HAEL Derbyniodd Llais Ardudwy £300 gan Ŵyl Gwrw Llanbedr er mwyn eu galluogi i brynu offer cyfrifiadurol. Rydym yn hynod ddiolchgar i’r pwyllgor am eu haelioni.
Cymdeithas Cwm Nantcol Dr John Williams, meddyg ymgynghorol o Lerpwl, oedd yn ein difyrru ganol mis Chwefror. Bu’n olrhain hanes y ffotograffydd enwog, John Thomas trwy gyfrwng sleidiau a hynny heb yr un pwt o bapur. Cafwyd noson addysgiadol iawn. Ddiwedd y mis, daeth y Glaslanciau o Borthmadog i’n difyrru. Cawsom wledd o ganu yn eu cwmni. Roedd ganddyn nhw gyflwynydd hwyliog yn Elwyn Thomas, cyfeilydd gwych yn Gareth Jones a nifer o unawdwyr talentog. Ar derfyn y cyfarfod, cyflwynodd Phil anrhegion bach i Gweneira, Jean, Heulwen a Meinir am eu cymorth gyda’r trefniadau yn ystod y tymor. Diolchwyd hefyd i Evie am drefnu rhaglen mor amrywiol a diddorol inni unwaith eto.
Cyhoeddiadau’r Sul
Y gwasanaethau am 2.00. MAWRTH Capel Salem 15 Parch Dewi Tudur Lewis 22 Parch Eirian Wyn Lewis 29 Parch Judith Morris * * * Capel y Ddôl 8 Parch Marcus Robinson 29 Parch Eric Jones EBRILL Capel y Ddôl 5 Parch Trefor Lewis
Rhodd Diolch i Gwyn Thomas am y rhodd o £1.50. Llongyfarch Llongyfarchiadau i Roger a Janet Owen, Hen Feudy ar ddod yn daid a nain. Cafodd eu merch Catrin a Tom, o Dywyn, ferch fach. Croeso i Nia i’r hen fyd yma!
YSGOL ARDUDWY Golchi Car, Coffi a Chacen am £5!
Dydd Iau, Mawrth 12 o 9.00 hyd 1.30 Elw at elusennau amrywiol
R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU
SAMARIAID Llinell Gymraeg 0300 123 3011
5
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Diolch Hoffem, fel teulu, ddiolch o waelod calon am y gefnogaeth i’r Swper Sosej a Mash yn Festri Horeb. Mae’r swm o £1650 wedi ei drosglwyddo i elusen Sands er cof am William Ioan, a anwyd yn cysgu ym mis Mai 2014. Diolch i Jen, Mai a Rhian am y cymorth efo’r paratoi, pario a’r perfformio, i Huw am ei barodrwydd i ganu ac i bawb fu’n gweini a golchi llestri. Hefyd i Anwen am werthu tocynnau. Gwerthfawrogwn eich caredigrwydd yn fawr iawn. Teulu Bryn Coch Diolch £5 Cofion Anfonwn ein cofion a’n dymuniadau gorau at Miss Catrin Evans, Pentre Uchaf, sydd wedi bod yn Ysbyty Gwynedd ond wedi dod i Ysbyty Dolgellau erbyn hyn. Clwb Cinio Ddydd Mawrth, 17 Chwefror aeth nifer ohonom ar y trên i Benhelig a chael teithio am ddim. Cawsom ginio yng Ngwesty Penhelig yna cerdded yn ôl i bentref Aberdyfi i fwynhau’r olygfa fendigedig cyn dal y trên adra. Ar Fawrth 17 y bwriad yw mynd i ganolfan arddio Tyddyn Sachau, cinio yna ac yna ymlaen i Glynnog a Phistyll. Pen-blwyddi Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Mr Ifan Richards, Minffordd, Dyffryn, oedd yn dathlu pen-blwydd arbennig ar 22 Chwefror. Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau hefyd i Anwen, Glanffrwd, Talybont oedd yn dathlu pen-blwydd arbennig ar 26 Chwefror. Aeth Gareth ac Anwen i Awstralia i ddathlu’r pen-blwydd hefo’u merch, Ceri, sy’n byw yno ers sawl blwyddyn.
Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb Mawrth 8 Anthia a Gwennie 15 Parch Harri Parri am 5.30 22 Parch Gareth Rowlands 29 Geraint a Meinir Ll Jones Ebrill 5 Parch Huw John Hughes
6
Festri Lawen Nos Iau, 12 Chwefror, cawsom gwmni Mari Gwilym yn y Festri Lawen. Croesawyd a chyflwynwyd Mari gan Rhian Davenport, llywydd y noson. Aeth Mari ar goll ar ei ffordd i’r Dyffryn ond ffeindiodd ei ffordd i dafarn y Lion yn Harlech ac rydym yn ddiolchgar i Rhian am ei chyfeirio i’r Dyffryn ar ôl iddi gael paned o goffi. Fel y gellid disgwyl, cafwyd noson wych yn ei chwmni a llawer o hwyl a chwerthin. Yn ystod ei chyflwyniad, darllenodd Rhian bennill roedd John (Gornant) wedi ei ysgrifennu’n arbennig ar gyfer y noson: Rhown groeso i’r ferch o Gaernarfon, Cawn hanes a hynt ei threialon, Os nad yw hi’n fawr, mae hi’n ddigon, Yn siŵr cawn sbeshial o noson. Y gwragedd te oedd Rhian Jones, Rhian Davenport, Beryl a Meinir. Ar Fawrth 12fed cawn noson o Gawl a Chân i ddathlu Gŵyl Dewi yng nghwmni Treflyn ac Ann Jones, Porthmadog. Teulu Ardudwy Croesawyd pawb i’r cyfarfod bnawn Mercher, 18 Chwefror gan Gwennie. Cydymdeimlodd â Catherine Jones yn ei phrofedigaeth o golli dwy gyfnither a mynegodd ein tristwch o glywed am farwolaeth sydyn Korina Mort, Llanfair. Yna croesawodd Claire Whitehouse, rheolwraig Edinburgh Woollen Mills a Craft Centre Cymru, Porthmadog a Liz o Harlech sy’n gweithio yno atom. Rhoddodd Claire beth o hanes y cwmni i ni i ddechrau ac yna dangosodd i ni gasgliad y gwanwyn o ddillad y cwmni a chasgliad o esgidiau Hotter. Pnawn gwahanol iawn ac roedd llawer o siarad a thrafod. Diolchodd Hilda’n gynnes iawn i Claire a Liz am roi o’u hamser i ddod atom. Rhoddwyd y te a’r raffl gan Enid Thomas, Blodwen Williams ac Olwen Telfer a gwobrau hefyd o’r casgliad gan Claire. Ar Fawrth 18 byddwn yn cael cwmni plant yr Ysgol Gynradd.
Diolch Dymuna Alun, Jean, Einir a Robert ddiolch yn ddiffuant iawn i bawb am bob mynegiant o gydymdeimlad ac am y diolchiadau a’r cyfraniadau a dderbyniwyd ganddynt ar ôl colli Elwen. Casglwyd dros £800 at Ambiwlans Awyr Cymru. £10 Cyfarfod Gweddi Byd-eang y Chwiorydd Cynhelir y Cyfarfod Gweddi, dydd Gwener, Mawrth 6ed yn Festri Horeb am 2 o’r gloch. Croeso cynnes i bawb a bydd paned i ddilyn. Diolch Hoffwn ddiolch yn ddiffuant am bob caredigrwydd a dderbyniais yn ystod fy nghyfnod yn Ysbyty Maelor ac wedyn ar ôl dod gartref. Mae teulu a ffrindiau wedi bod tu hwnt o gymwynasgar a charedig ym mhob ffordd. Diolch o waelod calon am yr holl gardiau, galwadau ffôn ac ymweliadau a dderbyniais yn ystod fy anhwylder. Heulwen Jones, Penybryniau Rhodd £10
Neuadd Dyffryn Ardudwy
CYNGERDD
yng nghwmni Côr Meibion Ardudwy a Treflyn Jones Nos Sul, Ebrill 5 am 7.30 Mynediad: £5 Plant yn rhad
Pen-blwydd hapus Pen-blwydd hapus i’r hogan fach yma sy’n dathlu pen-blwydd arbennig ar 26 Chwefror. Pen-blwydd hapus iawn gan y teulu i gyd, a swsys mawr i Nain gan Begw Meirion a Siwan Melangell. XXXX Genedigaeth Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Llion, mab Mr a Mrs Huw Dafydd Jones, Erw Deg, a Manon ar enedigaeth mab bychan, Ned Gwynne Dafydd. Mae’r teulu bach yn byw yn Llangefni. Rhodd Diolch am y rhodd i’r Llais o £11.50 gan Mr Cyril Jones
ADUNIAD
Blwyddyn Gychwynnol Medi 1966 Ysgol Ardudwy Nos Sadwrn, Mehefin 13 Clwb Golff Harlech am 7.00 o’r gloch Rhifau cyswllt :
Ann Mudie (Pierce) 07772 071322 e-bost ann.mudie@gmail.com Ann Jones (Harris) 01766 770846 e-bost annffynnon@btinternet.com Tocynnau: £20 [yn cynnwys bwffe a disgo!]
RHAGOR O DYFFRYN A THAL-Y-BONT
Noson Sosej a Mash Wel am noson wych! Pwy ‘sa’n coelio bod cymaint o hwyl i’w gael o fwyta sosej a mash - ac mi roedd yn noson hwyliog a hefyd yn gartrefol iawn. Braf oedd gweld pawb yn hapus yn sgwrsio ac yn bwyta llond eu boliau. Sosej o London House oedd ar y fwydlen a hawdd deall pam eu bod wedi ennill gwobrau. Tatws a phys a grefi winiwns yn cwblhau’r cwrs cynta. Yna i bwdin - darn o ‘Lemon Meringue’ gyda hufen. Adloniant ar ôl paned, gan gychwyn efo Huw Dafydd a’i lais swynol a’r gitâr 12 tant yn mynd a ni nôl i adeg pan oedd pawb bron yn aelod o grŵp, a Huw yn aelod o Hogia’r Garreg. Braf oedd cael clywed Huw yn canu un o’i gyfansoddiadau ei hun. Yna fe adroddodd Rhian, yn ei ffordd ddihafal ei hun, ddarnau o waith Mari Gwilym. Bythgofiadwy yw’r unig air i ddisgrifio cyflwyniad Rhian o’r ‘Eliffant’ - sydd mae’n debyg yn stori wir - am achos mewn sw yn America lle cafodd gwarchodwr un eliffant ddiwedd anffodus yn dilyn trin yr eliffant rhwym. Un arall nad ydym wedi cael clywed digon ohoni yn canu’n ddiweddar a ddaeth nesaf, sef Jennifer. Cawsom ddwy gân werin ganddi a’i nodau pur yn ein hudo a’i dehongliad o’r geiriau mor ddeallus.
Ambell jôc gan Alma - am athrawon a ffermwyr fwyaf - ac er bod nhw’n hen, rhaid oedd chwerthin! Mai, gyda chymorth Huw ar y gitâr, a’n harweiniodd i gloi’r noson drwy ganu ychydig o ffefrynnau fel Lawr ar Lan y Môr a Moliannwn. Pawb yn ymuno a morio canu. Pwrpas y noson oedd codi arian at elusen “Sands” sydd yn cefnogi rhieni a theuluoedd yn dilyn colli babanod yn y groth ac ar enedigaeth; hefyd yn ariannu ymchwil. Codwyd y swm anhygoel o £900 drwy werthiant tocynnau, casgliad Rhian wrth y drws a rhoddion caredig gan rai nad oedd yn bresennol. Ychwanegwyd £750 gan Fanc Barclays o dan eu cynllun £ am £ yn gwneud cyfanswm o £1650. Fe fydd chwarter y swm yn mynd i grŵp Sands Gwynedd a’r gweddill i gronfa ymchwil Sands, sef Why17? Ie, noson wych yn cefnogi achos teilwng.
Robert Morris, Pentre Canol Mae’n siŵr fod llawer o drigolion Dyffryn a Thalybont yn cofio’r diweddar Robert Morris, Pentre Canol, oedd yn dipyn o gymeriad ac yn llawn hwyl. Dyma rai atgofion amdano. Yn y llun y mae Mr Morris yn sefyll o flaen Capel Horeb ar 29 Mawrth 1951 ar ddiwrnod priodas ei ferch ieuengaf, Jane Louisa ac Edward Morris Jones. A llun ohono wedi gwisgo fel plismon (mounted police) yn y Carnifal ym mis Awst yn y pedwardegau. Roedd yn adnabyddus yn yr ardal am fynd o amgylch y ffermydd gyda’i injan ddyrnu. Fe fyddai’n arfer â mynd i aros am wythnos i Drawsfynydd i weithio gyda’r injan. Ar ôl cael y cnydau i mewn roedd y cyfnod dyrnu’n parhau o ddiwedd mis Medi tan y Nadolig. Roedd yn hoff iawn o ganu ac yn arwain y Côr Cymysg yn y pentref am lawer blwyddyn. Cafodd Mr Morris strôc chwe
wythnos ar ôl priodas Jane ac Edward ac yn wael am 21 diwrnod, a bu farw ym mis Mai 1951 yn 69 oed. Hilda Harris Englynion gan y Capten Tom Davies er cof am Robert Morus, Pentre Canol. Un dawnus oedd a doniol – garodd gôr, Garodd gerdd yn reddfol; Geiriau hael a geir o’i ôl Tra cwyna Pentre Canol. Hir wylir ar ei aelwyd efo, - ei feysydd A’i fiwsig fu’i fywyd; Emyn a chân mwy ni chwyd, Ei dirion delyn dorrwyd. Ble mae’r côr heb Bob Morus, - ble mae’r nwyd, Ble mae’r nodyn melys? Aeth y llaw fu’n afiaith llys I lannau tawel ynys. Yn deffro y mae’r Dyffryn – i hiraeth Wrth erw ei ffefryn; Rhoed hiwmor bro dan glo’r glyn Ym medd arabedd Robyn.
CEIR MITSUBISHI
Diolch Dymuna Mr Ifan Richards, Minffordd, Dyffryn ddiolch i bawb am y cardiau, galwadau ffôn, dymuniadau da a’r anrhegion a dderbyniodd ar achlysur dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed. Diolch yn fawr iawn i bawb. Diolch: £5
Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk 7
HARLECH Ysgol Tanycastell 1973, B5 Dosbarth Mr Carroll Hughes LLYTHYR
Rhes gefn: Peter Smith, Stephen Jones, Alan Jones, Eurwyn Owen, Andrew Jones, Kelvin Jones, Michael Wearne, Andy Unwin, Steff Parry, Robert Rees, Malcolm Brown, Mr Carroll Hughes. Rhes ganol: Ian Morgan, John Nelson, Carys John, Annest Thomas, Ann Highley, Julie Jones, Ann Harvey, Sharon Hughes, Susan Richards, Glyn Jones, David Oakely, Robert Newing. Rhes blaen: Eurona Jones, Janet Jones, Karen Parsons, Eirian Williams, Gwen Owen, Aelwen Roberts, Cathryn Allen. Credwn bod yr enwau’n gywir. Rhowch wybod os gwnaed camgymeriad! Colli Pat Er iddi fod yn sâl am gyfnod yn ddiweddar, fe ddaeth y newydd am farwolaeth Mrs Pat Roberts, 11 Tŷ Canol i’n brawychu i gyd. Roedd Pat yn wraig hynod o boblogaidd yng ngolwg pawb ac yn barod iawn ei chymwynas. Roedd yn wraig deg iawn yn ei hymwneud â phawb ac yn fawr ei gofal o’i theulu bob amser. Cydymdeimlwn yn ddwys iawn â Trefor, Julie, Peter, Gerwyn a Llion a’r teulu oll. Marw yn 99 oed Bu farw Mrs Maggie Edwards, 66 Y Waun a hithau yn 99 oed. Cofir amdani yn ei phreim fel gwraig hwyliog a phoblogaidd. Bu’n gweithio yn gydwybodol yng nghegin Ysgol Ardudwy am flynyddoedd. Roedd y gwasanaeth yng Nghapel Jerusalem a chladdwyd hi ym mynwent yr eglwys. Cydymdeimlwn â’r teulu oll yn eu colled. Diolch Dymuna Els a’r teulu ddiolch o waelod calon i’r nifer fawr ohonoch a gyfrannodd mor hael at Cymorth Cristnogol er cof am Arwel Jones [Garth Bach gynt]. Trosglwyddwyd y swm anrhydeddus o £2220 i’r elusen. £10
8
Marw cyn-Gynghorydd Bu farw John Iscoed Williams o Drawsfynydd ac yntau yn 89 oed. Roedd yn Gynghorydd dros ardal Harlech a Llanfair a Thalsarnau ar Gyngor Gwynedd am gyfnod. Cofir amdano fel cynghorydd cydwybodol, cymwynaswr bro, siaradwr parablus a Chymro cadarn. Coffa da amdano. Pen-blwydd arbennig Llongyfarchiadau i Lis Jones, Min y Morfa oedd yn dathlu pen-blwydd arbennig yn ddiweddar
Cynhyrchu fideo Braf gweld fideo Huw Ynyr, mab Dylan a Judith Roberts, Gorwel Deg, Heol y Bryn, ar wefan y Daily Post. Bu Huw yn tynnu lluniau gwych o’r ardal yn ystod gwyliau’r haf. Bellach mae’n byw yn Wigan ac yn mwynhau ffilmio fel hobi. Celwydd Noeth Enillwyd swm da o arian ar y rhaglen hon yn ddiweddar gan y ddwy chwaer Sara a Mari Jones, Rhianfa, Heol y Bryn. Roedd yn hyfryd eu gweld yn gwneud mor dda ac yn mwynhau eu hunain.
TOYOTA YN CEFNOGI YMGYRCH Y TRWYNAU COCH - MAWRTH 13, 2015
Cofiwch osod trwyn coch ar eich car yn ystod y mis. Mae’n costio £5 ac mae pob ceiniog o’r arian a gesglir yn mynd at elusen y trwyn coch.
TOYOTA HARLECH Ffordd Newydd, Harlech 780432
Cŵyn Castell Harlech Sgwn i a oes yna bobl sy’n teimlo’r un fath â fi? Pan aethon ni at y castell, yr hyn welson ni oedd bwgan hyll yn lle pont! Roeddwn yn gandryll o’m cof wrth weld y ffasiwn lanast. Un peth sy’n sicr, fydd Castell Harlech byth yr un fath eto. Sut yn y byd gafodd y cynlluniau eu pasio? Rwy’n cofio pan ofynnodd fy niweddar frawd am ganiatâd i ffitio ffenestri PVC [roedd yn byw yn Rock Terrace], cafodd ei wrthod. A’r ateb a gafodd oedd y buasai yn difetha’r castell a thref Harlech hefyd. Lle mae’r rheswm yn hyn? Dywed Cadw fod y fynedfa i’r castell yn addas i’r anabl. Rwyf mewn cadair olwyn. Yr unig le y medraf fi fynd iddo yn y tu mewn yw i ganol y castell. Dydy o ddim yn gwneud synnwyr o gwbl. Nid wyf yn deall pam fod rhaid symud y stepiau cerrig oedd yno yn y dechrau. Ac maen nhw’n dweud fod arian yn brin y dyddiau hyn! Sgwn i a ydy pobl Cadw wedi mynd cyn belled â Chapel Uchaf [Rehoboth] ac edrych i lawr ar yr olygfa? Pwy ar y ddaear fuasai eisiau tynnu llun hwn a’i roi mewn llyfr hanes? Cywilydd noeth. Ond efallai fod llawer o bobl yn hoffi’r erchyllter [monstrosity]. Pawb â’i farn yntê! Mae eisiau i’r cynllunwyr feddwl yn ddwfn iawn cyn iddyn nhw newid unrhyw adeilad hanesyddol. Buasai yn ddifyr cael barn pobl eraill am hyn. Gŵyr pawb am yr hen ddywediad, mae’n rhy hwyr codi pais ar ôl ----! Ond os gwelwch yn dda, cyn y bydd mwy o altrad i hen lefydd, gwnewch yn siŵr fod y bobl iawn ar y Cyngor. Buasai’n well i’r Awdurdodau roi ramp ar yr Hen Lyfrgell ac adeiladau eraill er mwyn gwneud llefydd yn addas i gadeiriau olwyn. Buasai’n ddiddorol cael barn pobl eraill am y sylwadau uchod. Yn gywir Menna Jones
[Rhodd o £10 i’r Llais.]
CYNGOR CYMUNED HARLECH
RHAGOR O HARLECH
Bu’n coginio ac yn arlwyo ar gyfer caffi’r pwll nofio o’r cychwyn cyntaf – bob amser â gwên – ac mae’n debyg na fyddai’r caffi wedi parhau yn hir iawn heb ei hymrwymiad. Cyfeiriodd y Cadeirydd at y golled Yn ddiweddar, gan ei bod yn ei enfawr ddaeth i ran y Cyngor ym marwolaeth disymwth Korina Mort helfen yn arlwyo ar gyfer pobl, ar y 23ain o Ionawr. Yn aelod o’r byddai’n trefnu nosweithiau a Cyngor ers 2004, roedd yn aelod heidiai pobl i’r rhain. gweithgar iawn ers y cychwyn, a Am gyfnod hir bu’n cymryd bu hefyd yn Gadeirydd y Cyngor. rhan yn y cynllun Pryd ar Glud a Cydymdeimlwyd â’r teulu yn eu byddai wrth ei bodd yn sgwrsio profedigaeth ac fel arwydd o barch a Teyrnged i Korina Mort efo’r henoed ac yn ffrind i lawer. choffadwriaeth fe safodd yr aelodau gan y teulu Edrychai’r henoed ymlaen at am funud o dawelwch er cof am Ganwyd Korina, a’i hefaill Karen, gael ei gweld ac roedd weithiau’n aelod gweithgar a ffrind da. ym 1949, yn ferch i Alfred a Beti anodd i Korina adael a mynd â Rhandiroedd Gregson, yn chwaer i Raymond, chinio i’r lleill ar y rhestr! Cytunwyd i anfon copi o’r rheolau Roy, Dorinda a Yasmin, a hanner Yn falch iawn o Harlech, roedd i denantiaid y rhandiroedd. Mae’r chwaer i’r diweddar Caradog a gwaith ffensio wedi’i gwblhau. yn ffyddlon i’r gymuned ac yn Pwll Nofio Harlech Lynn. Fe’i magwyd yn Llanfair a aelod o Gyngor y Dref. Yn ôl Rhoddodd Cyngor Gwynedd bu’n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Karen ei hefaill, pan fyddai hi’n £65,000 i’r grŵp yn 2013, £45,000 Llanfair ac yna Ysgol Ardudwy, dod am dro i Harlech roedd yn 2014 a £30,000 yn 2015 ond ni Harlech. bron yn amhosibl cerdded y fydd grantiau ar ôl 2015. Cyfraniad Yn gymeriad cryf, yn ei stryd fawr mewn llai na hanner Cynghorau lleol oedd Harlech phlentyndod a’i harddegau awr gan fod Korina’n aros i gael £1,500, Talsarnau £1,000, Dyffryn roedd Korina yn llawn direidi gair efo bawb a welai. Ardudwy £1,000, Llanfair £500, a drygioni. Un diwrnod, Llanbedr £500, Penrhyndeudraeth Bu hefyd yn Llywodraethwr penderfynodd roi cawod i’w £500 a Bermo £500. Mae prysur yn Ysgol Tanycastell Hamdden Ardudwy wedi dosbarthu chwaer fach – o dan bwmp dŵr am saith mlynedd. Yn gyn6,000 o daflenni a dim ond 50 oer! Gapten Clwb Golff Dewi Sant, sydd wedi eu dychwelyd, ac mae Fel oedolyn, roedd Korina’n bu’n gefnogwr brwd o adran y digwyddiadau codi arian i’w llawn bywyd ac yn falch o fod merched ifanc am flynyddoedd cynnal. Rhoddir ceisiadau eraill yn rhan o bob math o bethau. lawer, a chludodd lawer o’r ger bron y Loteri am grantiau. Roedd yn hoff iawn o arddio a merched yma i ornestau ar hyd Cais Cynllunio phob blwyddyn byddai’n cynnal a lled y rhanbarth a rhoi cyngor Tynnu ffliw drwy’r to, adfer panel gardd agored am fis yn ystod a chymorth wrth iddyn nhw gwydr plwm i’r drws blaen a yr haf, ac yn rhoi’r arian tuag at newidiadau mewnol - Y Wern, aeddfedu fel golffwyr. Ffordd Newydd. Cefnogi’r cais hwn. achosion lleol. O ganlyniad i’w Byddai bob amser yn chariad at arddio, bu’n helpu Harlech a’r Cylch gwirfoddoli i helpu pobl, Mae Pwyllgor Twristiaeth Harlech ar y Pwyllgor Rhandiroedd yn a gweithiodd yn ddiflino ac aelodau o Harlech a’r Cylch wedi Harlech, ac mae’r rheini bellach gyda chymorth Tom, ei gŵr. anfon llythyr i’r Parc Cenedlaethol yn ffynnu. Priodwyd y ddau ym 1972 ac yn yn datgan eu pryder ynglŷn â Roedd Korina hefyd yn ddawnus aml gwelwyd y ddau’n gyrru o chyflwr rhai safleoedd yn y dref. iawn ym myd y crefftau ac roedd gwmpas yr ardal i gasglu a gosod Cytunwyd i gefnogi’r llythyr hwn. yn hoff o groesbwyth, tatio, pethau i Korina. Byddai hithau Unrhyw Fater Arall gwaith les a gwaith memrwn. yn ei thro yn cefnogi diddordeb Mae gwaith wedi ei wneud ar y llain Gwneud gemwaith oedd ei tir ger stad Tŷ Canol. Mae pryderon Tom mewn ceir clasurol, y diddordeb diweddaraf a byddai’n Gymdeithas Hanes a chanfod bod y gwaith hwn yn amharu ar creu hwn gyda phob math o lwybr cyhoeddus rhif 30. metal, ymysg pethau eraill. Mae angen tocio mieri ar lwybr ddefnyddiau. Arferai arddangos Yn wraig, chwaer, modryb a Bron y Graig. ei gwaith crefft i grwpiau chyfaill ffyddlon, byddwn yn ei Mae’r gwaith o drwsio’r llochesi bws amrywiol yn lleol ac yn ehangach chofio am byth, ac fel teulu mae mewn llaw. a dangos ei gwaith mewn ffeiriau ein colled ar ei hôl yn enfawr. Nid yw’r arwydd yn dynodi’r siop crefft. cebabs wedi ei symud o ben rhiw Dewi Sant.
Bingo Pasg Ebrill 1, 2015 am 6.30yh. Ystafell y Band Elw at Seindorf Arian Harlech
Nofio dros Gymru Llongyfarchiadau i Cynan Sharp a Rebecca Gennard o Glwb Nofio Harlech sydd wedi eu dewis i gynrychioli Cymru ym mhencampwriaeth Colegau Cymru yng Nghaerfaddon ddiwedd y mis hwn. Bydd y ddau yn cystadlu yn unigol ac mewn ras gyfnewid.
Cyrchu’r Castell
- Ras fwyaf godidog Eryri
- Delfrydol i ddechreuwyr - Timau cyfnewid - Brechdan bacwn am ddim
Cynhelir Triathlon a Phwll Nofio Harlech, gan y gymuned ar ran y gymuned. Os oes gennych awydd gwirfoddoli i weithredu fel swyddog ar y diwrnod uchod, byddem yn ddiolchgar iawn ac yn falch iawn pe baech yn cysylltu â ni.
Capel Jerusalem, Harlech
Cymun y Groglith gyda’r Parch Dewi Morris Dydd Gwener, Ebrill 3 am 10.30
Gwobr amgylcheddol Enillydd Cwrs Golff Amgylcheddol y Flwyddyn eleni oedd Clwb Golff Dewi Sant, Harlech. Meddai Rhys Butler o’r Clwb: “Rydym yn hynod freintiedig o ennill y wobr hon. Mae ystyriaethau amgylcheddol a chynaladwyedd wedi bod yn flaenoriaeth ers blynyddoedd yng Nghlwb Golff Harlech ac mae gwella’r amgylchedd a gwella profiad chwaraewyr ar y cwrs drwyddo draw o fudd i bawb. Rydw i’n hynod falch o’r tîm a’r gwelliannau rydym wedi eu gwneud wrth adfer y maes i’w ffurf naturiol yr un pryd â gwella’r ecoleg a’r bywyd gwyllt.” Llongyfarchiadau lu i Rhys Butler, Rheolwr y Maes a Dafydd Idwal Jones, Cadeirydd y Grîn a’u tîm ar eu llwyddiant.
9
CYFRANIADAU GAN DDAU DDYSGWR
Dysgwr y Gymraeg ydy Andrew Ryan a Phil Hewitt a’u tiwtor ydy Gwenda Griffiths; hi a anogodd y ddau i anfon yr isod i’r Llais. Daliwch ati, Andrew a Phil!
Gwaith Andrew Ryan
Man geni a magu - Llundain Teulu - gwraig Pam, dau o blant, pedwar o wyrion. Anifeiliaid anwes - dau gi achub. Gwaith - wedi ymddeol ers 2002, cyn hynny swyddog llywodraeth leol yng nghanolbarth Lloegr. Diddordebau - cadw gwenyn a chynhyrchu mêl, dysgu Cymraeg, garddio llysiau a ffrwythau organig, cerdded yn yr ardal i fwynhau lleoedd gwyllt a hardd y Rhinogydd, gwrando ar gerddoriaeth, dangos cefn gwlad go iawn i’r wyrion. Amcan presennol - adnewyddu hen ardd Robin Ffatri i ddefnydd ffrwythlon a phleserus. BYWYD GWENYNWR Rydw i’n cadw gwenyn ers talwm - tri deg mlynedd efallai erbyn hyn. I ddechrau ches i ddim ond dau gwch gwenyn ond yn raddol mi godes i nifer y cychod i ddeg neu ddeuddeg. Unwaith, mi wnes i gynaeafu mil pwys o fêl o ddeg cwch, sef can pwys y cwch ar gyfartaledd. Ar y pryd roedden i’n
falch iawn o’r gamp hon, ac rydw i erioed wedi cael cymaint wedyn! Pam wnes i ymddeol a symud i Ardudwy o ganolbarth Lloegr, mi ddois i a’r gwenyn efo fi, yn amlwg. Yn anffodus doedd dim ond gardd fach o gwmpas ein tŷ newydd ni. Ond doedd dim ots - roedd digon o bobl leol yn fodlon i gynnig safleoedd ar gyfer y gwenyn. Ar ôl pum mlynedd roedd gen i bump o safleoedd gwenyn a thri deg cwch o wenyn, hefyd digon o fêl i’w fwyta a’i werthu. Roedd popeth yn edrych yn reit dda! Ond tair blynedd wedyn doedd pethau ddim yn ymddangos mor llwyddiannus - ar ôl tri thymor o dywydd garw. Bu farw hanner fy nghychod dros y gaeaf ac roedden i’n rhedeg allan o fêl. Beth fedrwch chi wneud o sefyllfa fel hon? Dim llawer, yn anffodus, heblaw gweddïo am dywydd gwell! Mae ardal Ardudwy yn lleoliad bendigedig ar gyfer cadw gwenyn - cefn gwlad naturiol, amrywiaeth eang o blanhigion brodorol, amgylchedd glân a defnydd bach o gemegau. Ond mi fydd y gwenyn yn methu cynhyrchu digon o fêl heb haf ffafriol. Dyma pam mae holl wenynwyr yn dragwyddol optimistig!
PASG YM MRO ARDUDWY
Mawrth 15 – Sul y Mamau Eglwys Santes Fair, Llanfair: Cymun Bendigaid am 8.30 yb Eglwys S. Pedr, Llanbedr: Gwasanaeth Teuluol am 9.45 yb Eglwys S. Tanwg, Harlech: Gwasanaeth Teuluol am 9.45 yb Eglwys Llanenddwyn, Dyffryn: Gwasanaeth Teuluol am 11.30 Eglwys Llanfihangel, Ynys: Cymun Bendigaid am 11.30 Cinio yn Neuadd yr Eglwys, Dyffryn 12.00 -3.00 yh: manylion a bwcio, ffoniwch Caffi’r Hen Grydd 01341247793 neu 01341247564. Eglwys St Tanwg, Llandanwg Cymun Bendigaid am 6.30 yh Mawrth 22 – Sul y Dioddefaint: Gwasanaethau fel arfer Mawrth 29 – Sul Y Blodau Gwasanaeth gyda’r Esgob Andrew John yn pregethu: 9.30 yb: Dechrau yn Eglwys Santes Fair, Llanfair: Gweddiau. Wedyn, taith gerdded i Harlech gyda phalmwydden ac ebol ar Hen Ffordd Llanfair. 11.00 yb: yn Eglwys St Tanwg, Harlech, Gwasanaeth dathlu digwyddiadau Sul y Blodau efo Esgob Andrew Yr Wythnos Fawr Ebrill 2 - Dydd Iau Cablyd: Neuadd yr Eglwys, Dyffryn Swper y Pasg am 6.00yh, Yn dilyn: Eglwys Llanddwywe, Tal-y-bont Cymun Bendigaid am 7.15 yh Ebrill 3 – Dydd Gwener y Groglith: Eglwys Llanenddwyn, Dyffryn Gweddiau a myfyrdod am 10.30 yb Eglwys S. Tanwg, Llandanwg Myfyrdodau o flaen y Groes, 12 - 3 yh (mae croeso i chwi fynd a dod yn ystod y gwasanaeth hwn) Ebrill 5 – Dydd Sul Y Pasg: Eglwys Santes Fair, Llanfair Cymun Bendigaid am 8.30 yb Eglwys St Pedr, Llanbedr Cymun Bendigaid am 9.45 yb Eglwys St Tanwg, Harlech Cymun Bendigaid am 9.45 yb Eglwys Llanddwywe, Tal-y-bont Cymun Bendigaid am 11.30 yb Eglwys Llanfihangel, Ynys Cymun Bendigaid am 11.30 yb Eglwys Llandanwg Cymun Bendigaid am 6.30 yh
CROESO CYNNES IAWN I BAWB!
10
Gwaith Phil Hewitt
Ganed Phil yn 1945 yn Bicester, Sir Rhydychen, lle’r oedd ei dad yn gwasanaethu fel milwr. Cafodd ei fagu yn Thornton Heath. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Selhurst ac wedyn aeth i astudio ieithoedd modern yn Rhydychen. Gweithiodd yn Stuttgart fel golygydd llyfrau gramadeg Saesneg, fel athro Saesneg i oedolion ac yn y diwedd fel cyfieithydd ar ei liwt ei hun cyn dychwelyd i Gymru yn 2002. Bu’n rheoli Swyddfa’r Post Tanygrisiau cyn iddi hi gael ei chau yn 2008. The Oxen ( Thomas Hardy)
Yr Ychen
We pictured the meek mild creatures where They dwelt in their strawy pen, Nor did it occur to one of us there To doubt they were kneeling then.
Dychmygasom y creaduriaid addfwyn yr oeddent yn byw yn y beudy acw, ac nid oedd un ohonom ni’n amau na fyddent yn penlinio bryd hynny.
Christmas Eve, and twelve of the clock. “Now they are all on their knees,” An elder said as we sat in a flock By the embers in hearthside ease.
So fair a fancy few would weave In these years! Yet, I feel, If someone said on Christmas Eve, “Come; see the oxen kneel,
“In the lonely barton by yonder coomb Our childhood used to know,” I should go with him in the gloom, Hoping it might be so.
Noswyl Nadolig a deuddeg o’r gloch “Maen nhw i gyd ar eu gliniau nawr,” dywedodd hynafgwr wrth i ni eistedd yno yn gysurus ar yr aelwyd wrth y tân yn diffodd.
Does neb yn ein dyddiau ni’n gallu gwau dychymyg mor deg fel hwn. Ond dwi i’n siŵr pe bai rhywun yn dweud ar Noswyl Nadolig “Dewch, gadewch i ni weld yr ychen yn penlinio, “Yn y bartwn pell ar ochr arall y cwm, fel gwnaethom pan oedden ni’n ifanc.” elwn i gyda fo allan i’r gwyll mewn gobaith y byddai’r hen chwedl yn wir.
Llais Ardudwy ar y We Yn ddiweddar bu dau o wirfoddolwyr Llais Ardudwy ar gwrs ‘Digidol ar Daith’. Roedd y cwrs hwn yn cynnig arweiniad i fudiadau ynghylch sut i ddefnyddio adnoddau digidol i hybu eu gweithgareddau o fewn y gymuned. Mae hyn yn berthnasol iawn i bapurau bro. Cafwyd amryw o awgrymiadau - defnyddio gwefannau cymdeithasol yn un amlwg. Yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, byddwn yn ystyried pa ddatblygiadau sy’n addas ar gyfer Llais Ardudwy. Un cam y gallwn ei gymryd yn ddiymdroi yw rhoi hen rifynnau o’r papur ar y we; mae’r gwaith hwn wedi ei ddechrau. Ewch i’r safle we http://issuu.com/llaisardudwy/docs a chewch ddewis rhifyn o’r Llais i’w ddarllen. Os am ragor o wybodaeth cysylltwch â Iolyn Jones [manylion cyswllt ar dudalen 2]. Byddem hefyd yn falch o glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn cynnig cymorth gyda datblygiadau digidol.
NEWYDDION YSGOL ARDUDWY
astudio amddiffyn yr arfordir ym Meirionnydd. O ganlyniad i’r hyn a ganfyddodd y disgyblion ar eu hymweliad, byddant yn cwblhau prosiect gwneud penderfyniad ar gyfer amddiffyn yr arfordir fel rhan o’u gwaith cwrs a fydd yn cyfrif tuag at eu TGAU. Arweiniwyd y daith gan Angharad Harris o Barc Cenedlaethol Eryri. Cafwyd amser da er y tywydd gwyntog, a chafwyd amser i stopio am sglodion ar y ffordd yn ôl!
iddyn nhw ennill y gêm olaf yn erbyn Friars i fynd drwodd i’r gemau cynderfynol”, meddai Jess Kavanagh yr hyfforddwraig. “Roeddwn yn gallu gweld mor benderfynol oedden nhw fel tîm.” Aethon nhw ati i ennill y gêm 5-0. Yn eu hwynebu yn y gêm derfynol roedd Ysgol Eifionydd. Gweithiodd merched Ardudwy yn galed iawn yn ystod y gêm, a rhoddodd merched Eifionydd hefyd ymdrech 100%. Roedd yn Pêl-droed ornest hynod o agos, ond Ysgol Llongyfarchiadau mawr i’r Tîm Ardudwy aeth â hi pan sgoriodd Pêl-droed Merched 5-bobBeca unig gôl y gêm, a’u gwneud ochr am fod yn fuddugol yn yn bencampwyr am 2015. nhwrnamaint yr Urdd. Roedd A dyma nhw’r genod: Gwenno 12 o dimau ysgolion uwchradd yn cystadlu. Mae’r gystadleuaeth Lloyd, Aalyia Pratt, Elin Williams, Alaw Jones, Llio wedi ei chynnal ers nifer o Henshaw, Beca Williams a Lowri flynyddoedd ac mae bob amser Llwyd. Da iawn chi! yn dwrnamaint llwyddiannus. Hon yw’r ail flwyddyn i’r tîm Trip i’r Friog a’r Bermo ddod at ei gilydd. Gweithiodd y merched yn galed Nôl ym mis Rhagfyr, aeth dosbarth TGAU B11 ar drip yn ystod y gemau. “Dywedais i’r Bermo a’r Friog er mwyn wrth y genethod bod RHAID Gradd 1 am Safonau Yn dilyn ein dyfarniad fel Ysgol Band 1 y llynedd mae’r Ysgol wedi derbyn Gradd 1 ar gyfer safonau academaidd yn null categorïo ysgolion diwygiedig Llywodraeth Cymru eleni. Dim ond tair ysgol uwchradd yng Ngwynedd sydd wedi derbyn Gradd 1. Rydym yn falch iawn ein bod yn parhau i gyrraedd y safonau uchel iawn yma.
Lori Ni Dydd Mawrth, 17eg Ionawr, cafodd disgyblion yn B9 y cyfle i dreulio amser ar Lori Ni, yn trafod ac yn casglu gwybodaeth am nifer o bynciau cymdeithasol sy’n bwysig iddynt. Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei gynnig gan Gyngor Gwynedd i wella gwybodaeth am hawliau i bobl ifanc. Dafydd yn Ateb yr Alwad Braf iawn oedd clywed fod Dafydd Jones (B9) wedi cael ei ddewis i fod yn rhan o dîm dan 15 Ardal Ddeheuol Rygbi Gogledd Cymru (RGC) yn erbyn Ysgolion Dyffryn Abertawe ar ddydd Gwener, 23ain Ionawr, ar faes Clwb Rygbi Ystradgynlais.
B8 a 9 1af Lowri Llwyd a Justin Williams 2ail Seren Coulon a Harri Saddler 3ydd Chelsea Smedley a Ben Williams B10 ac 11 1af Isobel Kidd ac Adam Jones 2ail Georgia Povey ac Andrew Papyrnik 3ydd Danielle Smith a Llŷr Davies Mathemateg Ar ddydd Mawrth, 3ydd Chwefror, daeth Huw Alun Roberts i siarad â disgyblion B10 ac 11. Yn ystod y sesiwn bu’n sôn am wahanol yrfaoedd oedd yn gwneud defnydd o sgiliau uwch mathemateg, rhai – o bosib – na fyddai’r disgyblion wedi meddwl amdanynt. Cafodd y disgyblion hefyd eu herio i gwblhau tasgau datrys problemau mathemategol, megis cyfeiriannu gan ddefnyddio onglau.
Crisialau o fewn Grisialau: Hanes rhew môr Dydd Llun, 9fed Chwefror, cafodd disgyblion B9 gymryd rhan mewn gweithgaredd ymarferol gwyddonol gyda Ben Butler o Brifysgol Bangor. Ei amcan yw ennyn diddordeb disgyblion mewn gwyddoniaeth Ras Ardudwy trwy ddefnyddio offer ymarferol Cynhaliwyd Ras Ardudwy sy’n cysylltu rhew môr a ddechrau mis Chwefror, sef her rhedeg traws-gwlad i bob disgybl grisialau i rai o’r offer gwyddonol mwyaf datblygedig yn y byd. yn yr ysgol. Cafwyd cystadlu Roedd gofyn i’r disgyblion brwd a dyma’r rhai enillodd ym adnabod y gwahaniaeth rhwng mhob blwyddyn, yn ferched a rhew dŵr croyw a rhew môr. bechgyn: Gwelodd y disgyblion grisialau B7 1af Cara Evans a Carwyn Foster yn ffurfio o’u blaenau cyn mynd ymlaen i edrych ar eu 2ail Elin Ann a Jacob Dawson strwythurau o dan y microsgop. 3ydd Katie Jones a Tomos Rooney
11
THEATR HARLECH
CROESAIR 1
2
3
4
5
6
7 8
9
10
11
12
Mawrth 6 Drama Grav [Cwmni Theatr Torch] 14
13 16
15
17
19
18 20 21
Am fanylion pellach am ddigwyddiadau’r Theatr, ffoniwch 01766 780667, neu ewch i’r wefan ar www.theatrharlech.com Digwyddiadau am 7.30 oni nodir yn wahanol.
22
Mawrth 19 Ffilm The Golden Torch [15]
PUM CYNNIG I GYMRO addasiad Dyfan Roberts o lyfr John Elwyn Jones
Ar draws
1 + 12 i lawr. Mae hon yn achosi pryder i lawer ar y funud (4,6) 3 Tair carreg anferth ger man claddu (7) 8 Cymeriad (5) 9 Anghytuno’n eiriol (6) 10 Priod-ddull (5) 11 Difetha (6) 12 Math o ‘byfflo’ (6) 14 Oernadu (3) 18 Enw dyn (4) 19 Boneddigaidd 21 Gwlân sy’n cael ei ddefnyddio i wau (6) 22 Rhywbeth a gyflwynir am gyflawni camp arbennig (5)
I lawr
1 Math o flodyn bach (5) 2 Aelod o’r blaid sosialaidd dan Hitler (5) 4 Siarad dwli (6) 5 Planhigyn sy’n perthyn i deulu’r ffwng (6) 6 Rhan ysbrydol rhywun (5) 7 Pancosen (7) 12 Gweler 1 ar draws 13 Llinell ar fap sy’n cysylltu lleoedd sydd â’r un gwasgedd aer (6) 15 Heb unrhyw bryderon (6) 16 Gwaedd (3) 17 Adain (5) 20 Trwchus (3)
12
ENILLWYR MIS CHWEFROR Dyma’r enillwyr y tro hwn: Idris Williams, Tanforhesgan; Megan Jones, Pensarn, Pwllheli; Elizabeth Jones, Tyddyn y Gwynt, Harlech; Dilys A Pritchard Jones, Abererch; Hilda Harris, Dyffryn Ardudwy; Gwenfair Aykroyd, Y Bala; Gweneira Jones, Cwm Nantcol; Ieuan Jones, Rhosfawr, Pwllheli. ATEBION CHWEFROR AR DRAWS 1. Cino 4. Diachos 7. Teidiau 8. Echel 9. Amryliw 10. Draw 11. Cri 13. Credu 17. Ianci 18. Addoldy 21. Offa 22 Talcen tŷ I LAWR 1. Cotiar 2. Is Iarll 3. Oriel 4 Drudwy 5. Aberdar 6. Ochenaid 12. Reiat 14. Diffodd 15. Anial 16. Cablu 19. Ofer 20. Data SYLWER Atebion i sylw: Phil Mostert, Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech LL46 2SS, erbyn canol y mis os gwelwch yn dda.
“Safwn ar y Bont Fawr yn Nolgellau, a’m llygaid yn gwledda ar harddwch dihafal y fro ...” Dyna frawddeg olaf y nofel hunangofiannol ‘PUM CYNNIG I GYMRO’ gan John Elwyn Jones wrth iddo gyrraedd yn ôl i’w dref hoff o wersylloedd carchar yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd – ar ôl ceisio dianc bum gwaith!! John Elwyn, mab ffarm tlawd a adawodd yr ysgol yn bedair ar ddeg. Ychydig a wyddai wrth ymuno â’r fyddin chwe mis cyn y rhyfel y byddai ei lwybrau anturus yn mynd a fo ar draws yr Ewrop Natsiaidd, o frwydrau gwaedlyd Ffrainc i lethrau Tsiecoslofacia, diffeithwch oer Gwlad Pwyl a chael ei ddwyn yng nghrombil llong i Sweden a rhyddid!! Mae ei lyfr yn llawn cyffro, hapusrwydd a thrasiedi, ac yn dyst i allu anhygoel John Elwyn i ddweud stori afaelgar yn ei eiriau ei hun. Yr actor a’r awdur Dyfan Roberts fydd yn portreadu’r John Elwyn hŷn ar lwyfan. “Cefais innau fy magu yn Nolgellau” meddai Dyfan Roberts, “ac fel John mi es i Ysgol Ramadeg y dref. ‘Dwi ‘di siarad ag amryw oedd yn ei ‘nabod o a chael darlun clir yn fy mhen o be’ oedd yn ei yrru fo. Arwr gwahanol iawn i Lewis Valentine y gwnes i sioe arno beth amser yn ôl. HUNANGOFIANT DYN BYRBWYLL - dyna is-deitl ei gyfrolau hunangofiant, ac mae’r antur a’r byrbwylltra eofn hwnnw yn rhan annatod ohono ef a’r sioe.” Yn ymuno â Dyfan ar y llwyfan fydd Meilir Rhys Williams, yr actor ifanc o Lanuwchllyn, gan bortreadu’r ‘arwr’ yn ei ieuenctid. Nos Iau, 12 Mawrth, Theatr Fach, Dolgellau, Mari Emlyn 01286 675869 Nos Wener, 13 Mawrth, Theatr Fach, Dolgellau, Richard Withers 01654 761358 Nos Fercher, 18 Mawrth, Ysgol Moelwyn, Blaenau Ffestiniog Mena Price 01766 830435
GWEITHIO FEL GWAS BACH, BACH [parhad o’r mis diwethaf]
Roedd yng Ngallt-y-balch, Bodorgan lawer o dir llethrog ac roedd cael y llwyth o fyrnau gwair i’r ardd ŷd yn gryn gamp yn aml. Cefais fy nysgu sut i gloi llwyth, a’r gamp oedd ei greu ‘fel basged’ – byrnau bach ar draws y canol bob tro. Jygyn bach os oedden ni mewn cae go agos a llwyth o ryw wyth neu naw plyg os oedden ni’n bell. Roedd dod â llwyth i fyny Allt Fachell yn gamp ac roeddwn yn cael pleser o weld pobl yn edmygu’r ‘fasged’. Cofiaf i’r llwyth ddisgyn oddi ar y trelar ar yr allt hon unwaith a minnau yn eistedd ar ei ben o. Do’n i ddim gwaeth ond roedd Tom wedi dychryn yn arw. Ychydig o sôn oedd bryd hynny am iechyd a diogelwch. Bu i ‘aml lwyth ddisgyn o fewn dim i gyrraedd yr ardd ŷd’, ac roedd honno’n ddihareb gennym ar lafar gwlad. Ar adegau, yn enwedig min nos, doi criw mawr o lafnau i helpu gyda’r cario ac roedd llawer o dynnu coes a herio ee pwy allai godi belen i’r awyr ar bicwach gydag un fraich. Cofiaf hefyd fel y byddem yn gorlwytho’r ‘elevator’ er mwyn clywed y criw chwyslyd yn y gowlas yn cwyno ac yn bygwth. Roedd llawer o’r llafnau yn ddigon cryf i fedru taflu belen o wair gryn bellter; yn aml doedd dim angen yr ‘elevator’! Os byddai amser yn caniatáu, byddem yn rhoi cynnig ar garreg orchest, neu godi echel gydag un fraich, neu ddal bustach mewn sied gydag un fraich, neu geisio neidio o ben y rhesel wair a hongian ar y trawst yn un o’r siediau; camp lawer mwy anodd wedi i’r sied gael ei charthu! Roedden ni i gyd yn heini iawn yr adeg honno! Roedd y teulu yn hau ŷd [haidd yn bennaf] ac yn hadu cae o wair yn flynyddol. Ychydig y bûm i’n aredig, ond bûm yn discio, llyfnu a rowlio, ac yn
sefyll ar y dril hau gan godi’r handlen wrth ddod i ben y dalar. Roedd rhyw bowdr coch ar yr haidd - i gadw adar a llygod oddi wrtho? Job lychlyd oedd hon. Felly hefyd efo’r dril hadu, pan oedd rhaid cerdded ar y tu ôl i sicrhau bod marc yn y pridd i ddangos lle’r oedd y tractor i fynd ar y rownd nesaf. Doedd wiw cael rhimyn o dir moel yn amlwg pan fyddai’r hadau bach yn egino, yn arbennig os oedd y cae yn agos i’r ffordd fawr, neu byddai cryn dynnu coes wrth gyfarfod hogia’r pentref ar fin nos. Cofiaf mai Mr Muir ac R.O. [y gwas] o Dyddyn Oliver dros y ffordd oedd yn dod i gombeinio amlaf, ond cofiaf deulu Foulkes, Taldrwst yno hefyd. Roedd rhaid codi’r bagiau ŷd i’r trelar a mynd â’r haidd i’w storio. Pan o’n i’n ifanc, fy nhasg oedd gosod y sachau ar yr ‘elevator’, gan ofalu gosod top y sach yn gywir rhag iddo fynd yn sownd. Pan yn hŷn, y dasg oedd cario’r sachau i ben draw’r llofft storws. Wedi treulio diwrnod neu ddau yn symud sachau, roedd y cynhaeaf gwellt ar ein gwarthaf. Brafiach o lawer oedd cario’r byrnau gwellt, roedden nhw’n ysgafnach o lawer na byrnau gwair. Roedd ganddyn nhw gryshar yn y llofft storws, a chawsai’r haidd ei gymysgu hefo dwysfwyd a ‘sugar beet’ i’w borthi. Wrth gwrs, roedd llygod bach a mawr wrth eu boddau mewn lle fel hyn. Roedd gen i ofn llygod mawr, ac mae gen i hyd heddiw. Cofiaf unwaith i mi godi’r felen olaf yn y das wair, a beth oedd yno oddi tani ond nyth llygoden fawr. Mi sgrialodd y llygoden rhwng fy nghoesau, a dyma Gel yn cythru ar y llygod bach pinc yn y nyth ac yn dechrau eu bwyta. Ro’n i wedi ‘styrbio. Cymerais gryn amser i ddod ataf fy hun wedi’r digwyddiad hwn. Fel y soniais, roedd Mrs Roberts yn cadw ieir, a hynny mewn ‘deep litter’. Ychydig ro’n i’n ei wneud efo’r ieir. Ond cofiaf un tro iddi ofyn a fuasai gen i ddiddordeb yn y gontract o garthu’r cwt. Dyma gytuno ar bris a gofyn i gyfeillion ysgol
fy nghynorthwyo. Wel am ddiawlio a bytheirio fu wedyn, gan i ni i gyd gael ein bwyta’n fyw gan chwain! Dyna ddysgu gwers bwysig arall. Dysgais hefyd sut roedd ffermwyr yn bargeinio am bron bob dim, a byth yn talu’r pris cyntaf y gofynnwyd amdano, bod pethau’n rhatach wrth brynu llwyth mawr, a bod modd trwsio’n aml yn hytrach na phrynu’n newydd; bod modd addasu. Ni ddylid, ‘chwaith, ddangos gormod o ddiddordeb os oeddech yn awyddus i brynu rhywbeth. Mae’r arferion hyn wedi aros gyda mi ar hyd fy oes. Dysgais hefyd beth oedd gwaith caled a pharhau i weithio ym mhob tywydd ac yn hwyr y nos yn aml. A minnau yn 18 oed, ciliais o waith y gwas bach a’i hel hi am y coleg. Ymhen rhyw ddwy flynedd yn y fan honno, cyfarfûm â merch fferm o Dywyn, Meirionnydd [Janet wrth gwrs!]. Ymhen sbel, daeth gwahoddiad i aros ar fferm Tŷ Mawr ym mis Mehefin, a helpu’r dynion efo’r cynhaeaf gwair. Ond nid rhyw 800 o fyrnau gwair, fel yng Ngallt-ybalch, oedd i’w hel yma, ond yn agosach at 5000! A chodi bob un efo picwach. Yn y gaeaf, roedd angen help efo’r porthi a’r carthu, ac yn y gwanwyn efo’r wyna a symud defaid. Bu fy mhrentisiaeth ym Modorgan yn gymorth mawr i mi hefo’r gwaith yn Nhywyn. Yn Sir Feirionnydd, roedd rhaid dysgu geirfa newydd hefyd. Cofiaf gerdded at y tŷ y tro cyntaf hwnnw a dyma Janet yn dweud wrthyf, ‘Edrycha mae’r hyrddod wedi bod yn cnoi’r shetin.’ Do’n i’n deall dim gair o’r hyn ddwedodd hi! Doedd gen i ddim syniad beth oedd hwrdd na beth oedd sietyn! Dysgais ymhen amser mai hwrdd oedd maharen [neu ‘maharan’ yn Sir Fôn], sietyn oedd gwrychyn, llwch [neu ICI] oedd giwana, a helm oedd tŷ gwair. Dysgais aml i beth arall yno hefyd, ond nid oes lle yma i fanylu ar hynny! PM
MISOEDD Y BEIRDD
PÔS MIS MAWRTH 1. Rhyfedd bregeth a bregethodd Dewi Wedi’r offeren y Sul cyn calan Mawrth I’r dorf a ddaethai ato i gwyno’i farw; ‘Frodyr a chwiorydd, byddwch lawen, Cedwch y ffydd a gwnewch y pethau bychain A welsoch ac a glywsoch gennyf i.’ (yn fwy o ddramodydd nag o fardd; dau ddylanwad mawr arno oedd Emrys ap Iwan a W B Yeats) 2. Gwelwch eurlliw glych hirllaes Merthyr i Mawrth ar y maes, Yn eilfyw o’r rhyfelfaes. (Prifardd ‘crwn, cyflawn a’i draed yn solet yn y pridd’) 3. Buarth Mawrth, heb ymborth mwy, Yn gaeëdig ei adwy, A’r gofer wedi fferru Yng nghasgen talcen y tŷ. (ail oedd hon mewn gwirionedd i awdl y bardd uchod) 4. Hoga’r gwynt fidogau’r gwŷdd, Miniog yw Mawrth y mynydd, A’i lwydgroen yn galedgras, Y grug crimp yn gerrig cras. (awdl nas gorffennwyd mewn pryd i’w hanfon i Brifwyl Aberteifi!) 5. Fe’th welais di ar lawnt y plas A gwyntoedd Mawrth yn oer eu min. ----------------------------------------
Atebion Chwefror: 1. Alun Jones - ‘Alun Cilie’ oedd ‘y cyw melyn ola.’ Fo oedd yr ieuengaf o’r plant. 2. ‘Tîm Crannog’ - y bu Dic yr Hendre’n aelod blaenllaw ohono am nifer o flynyddoedd. 3. T. Llew Jones - y byddwn ni’n dathlu canmlwyddiant ei eni ar 11eg o Hydref eleni. 4. T. Arfon Williams oedd yr englynwr-ddeintydd dan sylw. 5. Telyneg Eifion Wyn i fis Chwefror.
Eisteddfod Ardudwy
Neuadd Dyffryn Ardudwy Hydref 10, 2015 Mwy o fanylion i ddilyn 13
Geiriau Sir Fôn
‘Olion Bywyd Gwyllt’
Diwrnod o weithgareddau ym altrad affliw o ddim asen fras awran Mocs Signal Llynpenmaen, Dolgellau bachu o ’ma balch a thlawd berwi cabaits bing boddi’r cynhaeaf briblins brwgaits byw tali • Helfa drysor, gwneud olion traed anifeiliaid cadw riat carmon [cariad] cetl ceubal • Dadansoddi pelenni tylluanod ciami ciando ciarpad bag cigladd [celain] • a defnyddio meicroscop clanna clenc clets clewtian • Sut i blethu pren helyg • Arddangosfa arbennig o adar ysglyfaethus cnadu cnonyn [cynthronyn] corbwll cowdal • Y cyfan yn rhad ac am ddim! cowt crymffast cwla chwinc chwiws daffod dat ei ganol mynd yn ddigri Dydd Sadwrn, Mawrth 21 dowcio eirias [o dân] esgidiau dal adar 10.00 yb tan 3.00 yh dim ffadan beni, dim ffliwjan fflachod ffigiaris ffling yn un fflud giamstar gwatwar Diwrnod gwerth chweil i’r hen a’r ifanc – dewch yn llu! hafflau wedi hario hefru hiwal [hovel] Mwy o fanylion gan Rhys Gwynn ar 07748 103940 hogia holics [allan o reolaeth] jero jibidêrs jygyn laddar larts [powld] lefran lempan lobsgows troednoeth lladd gwair llembo llipryn llo cors carainj Fe gynhaliwyd 30 o seliau Cist Car Porthmadog rhwng mis Llynlgyr daear gwneud migmas misi Nerpwl Mawrth a Hydref diwethaf ar dir Clwb Chwaraeon Porthmadog. nithlan obadia palu celwydd pethau da Cyflwynwyd elw’r seliau i elusennau isod: picio pledu pric pwdin pwcs - arian mynediad y cyhoedd - £4,000 wedi ei rannu rhwng sbangi sbrencs sberu sbydu Ambiwlans Awyr Cymru a Thŷ Gobaith. sgrwb slebog stillo stryffîg - arian mynediad masnachwyr - £7,000 rhwng Clwb Chwaraeon sgilffyn stwna tinllach torri cyt Madog a Chlwb Pêl-droed Llanystumdwy. trybola trowsus dwyn fala wardio ffunan bocad Dros y pedwar tymor diwethaf, trosglwyddwyd dros £45000 i Diau y bydd llawer ohonoch yn dweud nad yw rhain yn eiriau sydd elusennau lleol. Diolch i`r pump o griw selog Clwb Pêl-droed i’w cael ar Ynys Môn yn unig. Mae hynny’n berffaith wir. Ond Llanystumdwy sy’n gwirfoddoli bob bore Sul i gynnal y seliau. tybed faint ohonyn nhw sy’n hollol ddieithr [neu ddiarth] i rai ---------------------------------------------------------------------------ohonoch? Bydd tymor newydd o seliau yn ailddechrau ar Mawrth 29. Felly, ’Fydda’ i ddim yn berwi cabaits ddwywaith. Hen dinllach ydy o! beth amdani? Dewch i gefnogi (£6 y car) neu ymweld ar fore Sul. Ew mae hwn a hwn yn torri cyt. Hen sgilffyn tenau ydy o! Mae Gatiau yn agor i fasnachwyr am 7.00 y.b ac i ymwelwyr rhwng 8.00 o’n wlyb fel sbangi [ci dŵr]. Mae’r chwiws [gwybed mân] yn boen ac 1.00. Mwy o wybodaeth gan Aled Jones ar 07766 128667 neu yn yr haf. Mae o’n drewi fel cigladd. Mae ’na hen chwinc ryfedd Aled Griffith, Tŷ Nanney, Tremadog 01766 515160. ynddo fo. Mi syrthiodd dat ei ganol i’r doman. Doedd ’na fawr Diolch am y gefnogaeth. o enllyn ynddo fo, hen lobsgows troednoeth oedd o h.y. wedi ei wneud hefo asgwrn yn unig neu heb unrhyw gig o gwbl. Tyrd i fama i wardio rhag y gwynt. Mae o’n deud clwydda yn drybola. Dim ond y tatw [nid tatws ym Môn] mawr cofia, dydw i ddim isio’r briblins. Dwi am bicio i lawr y ffordd i nol jygyn o wair i sberu’r gwarthaig. Ac felly ymlaen!’
Sêl Cist Car, Porthmadog
FFAIR BASG YSGOL ARDUDWY
CINIO SUL YM MHLAS TANYBWLCH Mwynhewch ginio dydd Sul yn hen ystafell fwyta’r teulu Oakeley gyda golygfeydd godidog dros Ddyffryn Maentwrog. Mae’n hanfodol archebu ymlaen llaw. CINIO DAU GWRS - £12 yn cynnwys te/coffi Plant dan 15 oed - £6 Ffôn: 01766 772600
14
Nos Fercher, Mawrth 25 am 6.30
Stondinau amrywiol Elw at MS, Tŷ Gobaith ac elusennau eraill Dewch yn llu i gefnogi!
H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239
Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290
YSWIRIANT I BAWB
E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr
01341 241551
Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.
Am hysbysebu yma? Telerau - £6 y mis neu £60 y flwyddyn [am 11 mis] Rhagor o wybodaeth gan Ann ar 01341 241297
Cefnog wch e in hysbyseb wyr
Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297
Tafarn yr Eryrod Llanuwchllyn 01678 540278
Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.
Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00
Sgwâr Llew Glas
Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd
Llais Ardudwy
Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk
drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]
01766 512091 / 512998
TREFNWYR ANGLADDAU
Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb
GERALLT RHUN
JASON CLARKE
Bryn Dedwydd, Trawsfynydd LL41 4SW 01766 540681
Tiwniwr Piano a Mân Drwsio g.rhun@btinternet.com
BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU
Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504
DAVID JONES
Cigydd, Bermo 01341 280436
Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau
SAER COED Amcanbris am ddim. Gwarantir gwaith o safon.
Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014
Yn agored bob nos 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00
Tacsi Dei Griffiths
Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 9.00 Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!
Sefydlwyd dros 20 mlynedd yn ôl 15
TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Merched y Wawr Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod yn y Neuadd Gymuned nos Lun, 2il Chwefror gan Ella Wynne Jones, Llywydd y noson. Derbyniwyd yr ymddiheuriadau a darllenwyd cofnodion cyfarfod mis Ionawr, cyn mynd ati i drafod materion eraill. Penderfynwyd na fyddem yn cyfarfod nos Lun gyntaf mis Mawrth, ond yn hytrach yn cynnal cyfarfod byr cyn y cinio dathlu Gŵyl Ddewi dydd Iau, 5 Mawrth ac i wahodd y gŵr gwadd, oedd wedi’i drefnu i ddod atom ar y nos Lun, i ymuno â ni yn y cinio yng Ngwesty’r Llong, Talsarnau. Cyflwynwyd manylion o dri achlysur a rhoddwyd cyfle i bawb nodi eu henwau os oeddynt am fynychu’r rhain Cinio’r Llywydd Cenedlaethol yn Llanberis 18 Ebrill, Gŵyl Ranbarth yn Neuadd Rhydymain ar 22 Ebrill a Gŵyl y Pum Rhanbarth ym Mangor ar 9 Mai. Trafodwyd yr ymweliad ag Aberystwyth ac adroddwyd bod Freda Jones Williams, y Swyddog Datblygu yn ein cynorthwyo gyda chwblhau’r ffurflenni cais am grant. Atgoffwyd pawb am apêl y Llywydd Cenedlaethol i gasglu ategolion a diolchwyd i rai oedd wedi cyfrannu eisoes. Cadarnhawyd enwau’r rhai fydd yn cystadlu yn y Bowlio Deg yng Nglanllyn nos Wener, 20 Chwefror - Anwen, Dawn, Gwenda, Maureen, Siriol a Mai. Gwaith pleserus oedd i’r Llywydd groesawu Linda Ingram Diolch Dymuna Ffion, Sioned a Glesni ddiolch o galon i bawb am bob cydymdeimlad a ddangoswyd i ni fel teulu ar golli Mam mor frawychus o sydyn ar ddiwrnod Calan. Mae’r caredigrwydd wedi ein cario dros yr wythnosau diwethaf ac rydym yn gwerthfawrogi’r holl alwadau, cardiau a negeseuon lu. Hefyd carem ddiolch am y rhoddion ariannol o £916.72 a gasglwyd er cof am Mam tuag at Ymchwil Canser. Diolch a rhodd £10 Rhodd Diolch am y rhodd o £11.50 gan Olwen Jones.
16
atom heno i sôn am ei busnes ‘Angylion Sebon’ a dangosodd i ni sut roedd yn paratoi’r sebon o wahanol siapau, lliw ac arogl. Cafwyd cyfle i arogli’r poteli bach o bersawr hyfryd ac roedd y bwrdd gwerthu’n llawn o sebon lliwgar, yn ein denu i brynu wedi i Linda orffen ei sgwrs. Diolchwyd iddi am noson bleserus gan Dawn Owen; paratowyd y baned gan Gwenda Jones a Louise Kemp ac Ella Wynne Jones enillodd y raffl. Roedd Linda hefyd wedi rhoi gwobr ychwanegol o sebon at y raffl a Meira Roberts oedd yn lwcus o ennill hwn. * * * Bowlio deg yng Nglanllyn Aeth chwech o aelodau Merched y Wawr Talsarnau Anwen, Dawn, Gwenda, Mai, Maureen a Siriol i gymryd rhan yn y gystadleuaeth yma yng Nglanllyn nos Wener, 20 Chwefror. Ni fuom yn llwyddiannus iawn yn cael sgôr dda’r noson yma, ond cafwyd digon o hwyl wrth daflu’r peli, gyda dwy aelod - Anwen a Siriol yn cael ‘streic’! Ymlaen wedyn i Dafarn yr Eryrod yn Llanuwchllyn a mwynhau pryd o fwyd blasus iawn cyn cychwyn am adra’.
Manon Wilson oedd y cystadleuydd buddugol o Ysgol Ardudwy. Hi greodd y murlun uchod.
Cyfeillion Ellis Wynne, Y Lasynys Cymrodd 260 o ddisgyblion ysgol ran yng nghystadlaethau celf Cyfeillion Ellis Wynne a oedd yn agored i ysgolion cylchoedd Ardudwy, Eifionydd a Ffestiniog. Y dasg a osodwyd i’r ysgolion cynradd oedd creu lluniau portread o gymeriadau penodol o waith rhyddiaith Ellis Wynne, Gweledigaethau Y Bardd Cwsg. Yn y sector uwchradd dehongli unrhyw un neu gyfuniad o dri Cydymdeimlo dyfyniad o’r llyfr oedd y dasg. Estynnwn ein cydymdeimlad â Bil Roberts, Tremadog a Ronald Noddwyd gwobrau’r cystadlaethau hyn gan fusnesau ac Irene Roberts, Harlech yn eu a siopau Harlech a Thalsarnau. profedigaeth o golli eu chwaer Mae’r trefnwyr yn ddiolchgar Ann Savage, Hafod Mawddach i Dafarn y Lion, Harlech, R (Tywyn gynt). J Williams Honda Limited, Croeso Talsarnau, Caffi Cemlyn, Rydym yn falch o groesawu Bili Harlech; Caffi’r Bwtri Bach, Jones a Katherine Kennedy i 6 Stryd Fawr. Hyderwn y byddant Harlech; Swyddfa’r Post, Harlech, Siop Trugareddau yn hapus yno. Drwg gennym glywed am yr anffawd ddiweddar Paraphernalia, Harlech, In gafodd Katherine i’w hysgwydd. Stitches, Harlech, Siop A & B Murphy, Harlech, Gwesty HEDD WYN Branwen, Harlech a Siop - SEREN DDISGLAIR Seasons & Reasons, Harlech, am AR FFURFAFEN SEROG eu haelioni. Darlith Flynyddol Cloriannwyd yr holl ddarluniau Cyfeillion Ellis Wynne gan Mr Ywain Myfyr, Dolgellau, a fu yn amlwg ym myd celf yn Neuadd Gymunedol Talsarnau ystod ei yrfa fel pennaeth ysgol Nos Iau, Ebrill 16eg, 2015 gynradd. Disgrifiodd y ddwy gystadleuaeth fel rhai “o safon Traddodir gan Twm Elias uchel”. Mynediad: £5.00 Dechrau: 7.30 o’r gloch yr hwyr Croeso cynnes i bawb
Cameron Green, Ysgol Tanycastell Cydradd 4ydd
Ethan Jones, Ysgol Tanycastell gafodd dystysgrif teilyngdod
Ioan Elis Williams, Ysgol Talsarnau Cydradd 4ydd