Llais Ardudwy 50c
‘Gwisg genhinen yn dy gap, a gwisg hi yn dy galon.’
RHIF 450 MAWRTH 2016
Tai â Chefnogaeth
Arfon Hughes o Grŵp Cynefin a Caerwyn Roberts ar safle Pant yr Eithin Mae cynllun tai â chefnogaeth newydd yn Harlech yn gwneud gwahaniaeth i fywydau unigolion ag anableddau dysgu sy’n darganfod eu hannibyniaeth am y tro cyntaf erioed. Mae Pant yr Eithin, Harlech yn helpu tenantiaid fyw’n annibynnol gyda chefnogaeth hyd braich wrth law. Codwyd chwe byngalo un llofft, a’u haddasu’n arbennig ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu. Mae hwn yn rhoi cyfle i unigolion fyw yn eu cartrefi eu hunain ac i fod mor annibynnol â phosib. Mae byngalo dwy ystafell wely ar gyfer dau denant sydd ag anghenion mwy cymhleth hefyd ar y safle, gyda staff yn bresennol 24 awr. Mae’r un staff hefyd yn gyfrifol am gynnig cymorth i drigolion y 6 byngalo sengl.
Ynyr Roberts
Gethin Sharp
Bu Wynne Evans, y canwr adnabyddus, yn ymweld â gweithwyr tri chwmni yng Nghymru i ffurfio côr newydd. Dewisodd ddau ŵr ifanc o’r ardal, sef Ynyr Roberts o Ddyffryn Ardudwy a Gethin Sharp o Lanfair; y ddau yn gweithio i Ddŵr Cymru. Darlledwyd saith rhaglen yn ddiweddar a rhyddhawyd CD sengl o ‘Cân Heb ei Chanu’, y geiriau gan Hywel Gwynfryn a’r gerddoriaeth gan Robat Arwyn. Caiff yr holl elw o werthiant y CD ei roi i Tenovus Cymru. Yn dilyn y rhaglenni, mae o leiaf un aelod o’r Côr wedi ymuno â chôr meibion lleol. Tybed a oes gan Ynyr neu Gethin yr un awydd?
Sarn Newydd
Enw Newydd i Ffordd Newydd Sarn Newydd yw’r enw y mae Cyngor Cymuned Llanbedr wedi ei fabwysiadu ar gyfer y ffordd newydd sydd yn cael ei hargymell i greu mynediad i ardal fenter ddiwydiannol ar yr hen faes awyr. Mae arian ar gael ar gyfer y datblygiad oherwydd pwysigrwydd y safle. Wrth gynllunio, yr oedd modd hefyd ystyried y trafferthion presennol sy’n digwydd yn Llanbedr yn ystod yr haf gyda’r traffig ac felly ffordd sydd yn osgoi’r pentref yn gyfan gwbl yw’r dewis. Bydd arddangosfa yn Neuadd Gymunedol Llanbedr rhwng 2.00 ac 8 .00 o’r gloch ar ddydd Iau, Mawrth 17eg. Bydd cyfle bryd hynny i bawb astudio’r cynlluniau yn fanwl a mynegi barn arnyn nhw. Mae cynllun amlinellol eisoes wedi ei ddewis ond mae’r manylion eto i’w penderfynu, felly mae’n bwysig eich bod yn mynychu’r arddangosfa. Bu llawer o drafodaeth ynghylch y ffordd newydd ond mae aelodau Cyngor Llanbedr wedi penderfynu cefnogi’r cynllun gydag amodau fydd yn golygu bydd arwyddion yn dangos yn glir fod pentref gyda siopau a gwestai gerllaw. Credir bod cyfle i’r pentref ddatblygu i fod yn lle deniadol i oedi ynddo ac yn fan cychwyn ar gyfer ymweld â’r Rhinogydd.
Ymddeoliad COLLI’R ARGLWYDD Mrs Mai Jones HARLECH
Yn 61 oed, bu farw’r Arglwydd Harlech yn ei gartref yn Y Glyn, Talsarnau. Collodd ei fam mewn damwain car pan oedd yn 12 oed a’r un fu tynged ei dad yn 1985. Collodd ei frawd Julian a’i chwaer Alice mewn amgylchiadau trist. Roedd yn ddyn adnabyddus yn yr ardal ac yn cymysgu’n dda efo pawb. Gwisgai mewn steil ychydig yn hen ffasiwn gyda’i grafat a’i locsyn clust. Etifeddodd diroedd ei dad a dywed pawb o’i denantiaid ei fod yn ddyn teg i wneud busnes ag ef. Tystiolaeth o hynny oedd y criw mawr o’r ardal hon a aeth i’w angladd yng Nghroesoswallt.
Yn ddiweddar, ymddeolodd Mrs Mai Jones o’i swydd yn Ysgol Ardudwy ar ôl gwasanaeth clodwiw am bron i 45 o flynyddoedd - fel ysgrifenyddes am yr 19 mlynedd cyntaf, ac yna o 1989, yn Swyddog Gweinyddol a Chlerc y Llywodraethwyr, sef 16 blynedd, ac am y 10 mlynedd olaf - yn Glerc y Llywodraethwyr yn unig. Mae wedi cyflawni ei holl ddyletswyddau’n gydwybodol iawn ac mae’r Ysgol yn ddiolchgar iawn iddi am ei harweiniad a’i hymroddiad dros y blynyddoedd. Cynhaliwyd cinio arbennig i ffarwelio â hi yn ddiweddar a chyflwynwyd bowlen risial Gymreig arbennig wedi ei hengrafu iddi gan Gadeirydd y Llywodraethwyr, Mr Maldwyn Jones.
Llais Ardudwy
HOLI HWN A’R LLALL
GOLYGYDDION
Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen@barcdy.co.uk
Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk (07760 283024 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 ann.cath.lewis@gmail.com Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones Tyddyn Llidiart, Llanbedr (01341 241391 iolynjones@Intamail.com Casglwyr newyddion lleol Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Ann Lewis (01341 241297 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960 Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Ebrill 1 am 5.00. Bydd ar werth ar Ebrill 6. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Mawrth 26 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’
2
Enw: Edith Owen (Lloyd gynt). Gwaith: Wedi ymddeol o Fanc Barclays 1999; rŵan yn drysorydd tîm pêl-droed Cemaes a Chadw’n Heini. Cefndir: Wedi cael fy ngeni a’m magu yn Llanbedr, ac ym Mae Cemaes, Ynys Môn ers 1975. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Dosbarth cadw’n heini dair gwaith yr wythnos, a garddio pan mae hi’n braf. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Ar hyn o bryd ‘Y DJ Arall’, ac unrhyw lyfr gan Anita Shreve. Hoff raglen ar y radio a’r teledu?
Radio 2/Dai Jones, ‘Would I Lie to You?’ a drama deledu dda. Ydych chi’n bwyta’n dda? Ydw, pan dwi adra. Bwyta allan mae’n rhaid cael ‘chips’ hefo bopeth! Hoff fwyd? Tywydd oer – potas, cinio Dolig yn ‘parhau am wythnos’. Yn yr haf – salad. Hoff ddiod? Gwin gwyn/coffi/te. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Max Boyce, Hogia’r Wyddfa a ffrindiau Llanbedr a Chemaes. Lle sydd orau gennych? Cwm Bychan/Nantcol yn y gwanwyn a chlywed y gog yn canu. Ddim wedi clywed y gog yng Nghemaes, ac yma ers amser. Rhaid gyrru ‘sat nav’ iddi! Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Y Swistir yn y 70au, ond rŵan yn Nhŷ Mawr yn Llanbedr ym mis Mai. Beth sy’n eich gwylltio? Rhieni Cymraeg yn siarad Saesneg hefo eu plant Cymraeg. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Ffydd a ffyddlondeb. Pwy yw eich arwr? Rhai sydd yn peryglu eu bywyda i safio eraill. Beth yw eich bai mwyaf?
Dweud “Gwnaf, wrth gwrs.” yn rhy amal. Beth ydych chi’n ei gasáu mewn pobl? Rhai sydd yn ddadleugar a balch. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Amser hefo ffrindiau a chael hwyl a rhoi’r byd yn ei le. Beth fuasech chi’n ei wneud pe baech yn ennill £5,000? Ei rannu i Ambiwlans Awyr ac Ymchwil Canser. Eich hoff liw? Coch. Eich hoff flodyn? Rhosyn – unrhyw liw. Eich hoff fardd? I D Hooson, Cerddi a Baledi. Eich hoff gerddor? Andy Williams ers y 60au, Tom Jones wedyn. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Unrhyw ddarn yn cael ei chware ar ‘pipe organ’. Pa dalent hoffech chi ei chael? Chwarae piano’n well na dwi’n ei wneud. Eich hoff ddywediad? ‘Yr hen a ŵyr a’r ifanc a dybia.’ Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Bodlon fy myd.
YN YR ARDD - MIS MAWRTH Tasgau
Mae’r gwanwyn yn arfer cyrraedd erbyn canol mis Mawrth, er y gallech daeru ein bod ni wedi cael tywydd mwyn hyd y Calan eleni. Mae’r cennin Pedr yn harddu’r ardal yn awr. Mae mwy o ddyddiau braf erbyn hyn ac mae ’na gyfle i wneud amryw o dasgau yn yr ardd. Rhaid paratoi gwelyau ar gyfer yr hadau, hau amryw o bethau, tocio llwyni a thacluso’n gyffredinol o gwmpas yr ardd.
1. Gwarchod unrhyw dyfiant newydd rhag malwod a gwlithod.
2. Plannu nionod bach shallots, nionod sets a thatws cynnar. 3. Gallech blannu tatws yng nghornel y tŷ gwydr. Mi fyddan nhw’n barod ymhen rhyw 10-12 wythnos.
4. Plannu bylbiau sy’n blodeuo yn yr haf. 5. Codi a hollti ambell glwstwr o flodau lluosflwydd [perennial].
6. Gosod compost newydd [trwch o rhyw ddwy fodfedd] yn y potiau fydd yn dal eich blodau.
7. Torri’r lawnt os oes angen - ar ddiwrnod sych. 8. Chwynnu! Gorau po gyntaf y cewch chi wared â nhw.
Y BERMO A LLANABER Gwobr i Draeth y Bermo
Llewela Edwards gyda’r gŵr gwadd, Iwan Llewelyn Jones Gymdeithas Gymraeg Ar nos Fercher, 2 Mawrth cawsom Swper Dydd Gŵyl Ddewi yng Ngwesty Min y Môr. Cafwyd gwledd wrth y byrddau ac yna cyflwynodd Llewela y gŵr gwadd, sef Iwan Llewelyn Jones, Borth-y-gest. Cawsom sgwrs hwyliog a difyr am dri cymeriad o Feirion ag Eifionydd a wnaeth argraff arno. Edrychwn ymlaen at noson Brethyn Cartref ar 16 Mawrth.
SAMARIAID Llinell Gymraeg 0300 123 3011
Diolch Dymuna Jinnie, Pam a’u teuluoedd ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth o golli chwaer, chwaer yng nghyfraith a modryb a oedd mor annwyl ganddynt, sef Elizabeth Jones, Trem Eifion. Diolch hefyd i’r Canon Beth Bailey am y gwasanaeth, i Pritchard a Griffiths am y trefniadau ac i Phil a Tony am y teyrngedau. Diolch o galon i bawb. Diolch £20.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd y wefan deithio TripAdvisor bod traeth y Bermo wedi ei gydnabod fel y trydydd gorau yng Nghymru, ac yn un o draethau gorau’r DU. Cafodd y traethau i gyd eu dewis yn ôl ansawdd a nifer adolygiadau gan deithwyr a graddfeydd a gasglwyd gan TripAdvisor dros gyfnod o 12 mis. Roedd maer y Bermo, Matthew Harris, wrth ei fodd gyda’r cyhoeddiad am draeth y dref. Meddai, “Mae’n lle gwych i bobl dreulio amser gyda’i gilydd fel teulu yn ystod yr haf a thrwy’r flwyddyn gron. Mae rhywbeth arbennig iawn am grwydro’r traeth yn y gaeaf a gweld y mynyddoedd o dan eira yn y pellter, ac mae’n hyfryd gweld wynebau llawen y plant yn yr haf wrth iddyn nhw redeg i’r môr neu godi cestyll ar y tywod.” Yn yr haf cynhelir digwyddiadau megis reidio mulod, trampolinio a hedfan barcud ar y traeth ac mae croeso i bawb ddod draw i brofi atyniadau traeth a thref y Bermo.
R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286
Ffacs 01766 771250
Siop Gig Cofiwch fod Llais Ardudwy ar werth gan David Jones yn y Siop Gig ar y Stryd Fawr. Gallwch adael unrhyw hysbysebion neu newyddion yno hefyd.
Honda Civic Tourer Newydd
Côr Bro Meirion Fel y gwelir uchod, mae Tlws Gŵyl Aberteifi bellach ag enw Côr Bro Meirion arni ar ôl iddyn nhw ennill yno’r llynedd. Mae amryw o aelodau CBM yn dod o Ardudwy - cymaint ag 11 ohonyn nhw.
ENGLYN DA
R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU
Cyfarchiad Tad i Fam ar Awr Geni
Bu hir y disgwyl, f ’anwylyd. Yn drwm Ar dy draed, ond gwynfyd Yw cael o’r oriau celyd Wyrth o beth sy’n werth y byd. J Eirian Davies[1918-1985] 3
LLANFAIR A LLANDANWG Croeso adref Croeso adref i Hyfrydle, Derlwyn, i Meinir Ll Lewis sydd wedi bod yn Ysbyty Gwynedd ac yna Ysbyty Alltwen, cyn dod i Harlech at ei theulu i gryfhau. Daliwch i wella. Neuadd Goffa Llanfair Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Pwyllgor Neuadd Goffa Llanfair, nos Fercher, 23 Mawrth am 7.30 yn y Neuadd. Dewch i gefnogi’r gwirfoddolwyr sy’n gofalu bod y Neuadd ar gael i’r gymuned. Merched y Wawr Y mis diwethaf, cafwyd noson yng nghwmni’r dysgwyr. Daeth nifer o ddysgwyr atom gyda Mrs Lowri Thomas Jones a Mrs Pat Thomas oedd yn gyfrifol am Yrfa Chwilen. Cafwyd noson hwyliog iawn gyda Ms Rosie Berry yn ennill yr yrfa. Enillwyr y raffl oedd y dysgwyr Jennifer, Cheryl a Christine. Talwyd y diolchiadau gan David Naylor ar ran y dysgwyr. Roedd y lluniaeth yng ngofal y swyddogion. Aeth tîm o’r gangen draw i Lanllyn i’r gystadleuaeth Bowlio Deg ar Chwefror 19. Mwynhawyd y noson yn fawr gan y tîm er nad oeddent ymysg y goreuon. Cafwyd pryd blasus ym Mwyty’r Eryrod i orffen y noson. Ar Fawrth y cyntaf bu’r aelodau gyda changen Talsarnau ym Mwyty’r Ship Aground yn mwynhau Cinio Gŵyl Ddewi yng nghwmni Mrs Hazel Jones o gwmni Aerona. Rhodd Diolch i Jenn a Dei Evans, Haulfryn am y rhodd o £10 i’r Llais.
CYNGOR CYMUNED LLANFAIR
Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â theulu David Roberts, Uwchglan a Mair M Williams ar farwolaeth Rhiannon Barry, cyfnither i’r ddau, a fu farw ar 5 Chwefror. Roedd Rhiannon yn ferch i’r diweddar Herbert Evans, Brwynllynnau, a’i wraig Doris. Er i Rhiannon gael ei magu yn Llanfair, symudodd y teulu i gyffiniau Wrecsam flynyddoedd lawer yn ôl. O Lanfair, aeth Rhiannon i nyrsio a chyn ymddeol bu’n rhedeg cartref nyrsio yn ardal Reading. Dychwelodd ei brawd Gwynfryn i Lanfair i fyw am gyfnod yn y blynyddoedd diweddar, cyn dychwelyd i Wrecsam. Ar ôl ymddeol daeth Rhiannon hefyd yn ôl i Lanfair i fyw ym Mwthyn Nain, cyn symud yn ôl i dde Loegr pan ddirywiodd ei hiechyd er mwyn bod yn nes at ei dwy ferch a’u teuluoedd. Anfonwn ein cofion at ei pherthnasau a’i ffrindiau yn yr ardal a thu hwnt. Yn yr ysbyty Anfonwn ein cofion at Mrs Elisabeth Jones, Tyddyn y Gwynt sydd wedi bod yn glaf yn Ysbyty Wrecsam yn ddiweddar.
MATERION YN CODI Coed o amgylch giât Porth yr Eglwys Cysylltodd Mr Geraint Williams i ddweud bod y gwaith wedi ei gwblhau ond bod yn rhaid i’r Cyngor gael rhywun i beintio. Torri gwair Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn pris gan Mr Meirion Griffith i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus a phenderfynwyd ei dderbyn; hefyd i anfon llythyr at Mr Arwel Thomas eto eleni yn gofyn am bris i dorri gwair y fynwent gyhoeddus. GOHEBIAETH Heddlu Gogledd Cymru Cafwyd llythyr gan Iwan Jones yn nodi bod dau blismon cymdogol yn yr ardal yma, sef Elliw Jones a Darren Walters; hefyd yn datgan ei fod wedi rhoi cyfarwyddyd iddynt fynychu cyfarfod o’r Cyngor Cymuned o leiaf ddwywaith y flwyddyn. UNRHYW FATER ARALL Cafwyd gwybod gan Gerallt Jones bod angen clirio llanast o goed a drain yn y fynwent newydd a chytunwyd i ofyn i Mr Arwel Thomas wneud y gwaith yr un pryd â’r gwaith arall yn yr hen fynwent. Cafwyd gwybod gan Mair Thomas bod cyfarfod o bwyllgor y Neuadd Goffa wedi digwydd a’u bod wedi dod i benderfyniad y bydd angen peintio tu mewn y Neuadd yn y dyfodol.
LLUNIAU YN LLAIS ARDUDWY
Cyhoeddiadau Caersalem 2015 Am 2.15 y prynhawn 3 EBRILL Y Parchg Iwan Llewelyn Jones
Clwb 200 Côr Meibion Ardudwy CHWEFROR
1. £30 Iwan Prys Owen 2. £15 Mair Jones 3. £7.50 Aled Morgan Jones 4. £7.50 Sian Edwards 5. £7.50 Kirsty Jones 6. £7.50 Ffion Meleri Thomas
MAWRTH
1. £30 Osian Edwards 2. £15 Gwen Edwards 3. £7.50 Bili Jones 4. £7.50 Lea Ephraim 5. £7.50 Dylan Williams 6. £7.50 Lowri Llwyd
Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â Dion a Sue Hopcroft a’r teulu yn eu profedigaeth ddiweddar. Yr ydym yn meddwl amdanoch yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Llais Ardudwy
Os ydych yn anfon lluniau atom, a wnewch chi sicrhau mai chi sydd piau’r hawlfraint arnyn nhw? Os ydyn nhw wedi’u tynnu gan ffotograffwyr proffesiynol, yna y mae’n bwysig i ni wybod hynny a chydnabod hynny. Diolch am bob cydweithrediad. [Gol.]
2016 - BLWYDDYN Y TOMATO
1. Credir mai o Beriw y daeth y tomatos cyntaf. 2. Mae prawf cyflymder ar saws tomato [ketchup] cwmni Heinz. Os ydi’r saws yn tywallt ar gyflymder o fwy na 0.028mya yn y ffatri yna credir ei fod yn rhy ddyfrllyd ac mae’n cael ei waredu. 3. Mae gŵyl flynyddol yn Sbaen o’r enw La Tomatina, lle mae pobl yn taflu 150,000 o domatos at ei gilydd. Swnio’n waith budr iawn! 4. Yn Ohio, yn yr Unol Daleithiau, maen nhw’n hoff iawn o domatos. Sudd tomato yw diod swyddogol y dalaith. 5. Gredwch chi fod dros 10,000 o wahanol domatos i’w cael drwy’r byd?
4
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL
Cymdeithas Cwm Nantcol Ddechrau mis Chwefror, cafwyd noson lwyddiannus iawn yng nghwmni Elfyn Llwyd. Siaradodd am ei blentyndod, dyddiau coleg a’i fywyd fel aelod seneddol ac am ei ddewis i bwyllgorau gwahanol yn y Tŷ Cyffredin. Ganol y mis, daeth y Prifardd Cen Williams atom i drafod gwaith rhai o feirdd Môn. Cafwyd noson hwyliog afieithus a chawsom ganddo amrywiaeth o farddoniaeth o’r gwachul i’r difrifol. Rhoddwyd pen ar y mwdwl am y tymor gyda chinio Gŵyl Ddewi yn y Clwb Golff yn Harlech. Cafwyd pryd o fwyd blasus ac adloniant safonol iawn gan Lliaws Cain o Drawsfynydd gyda Cellan Lewis yn arwain, Heulwen Jones yn cyfeilio a Megan Williams yn cyflwyno’r caneuon. Diolchodd Phil i Evie am ei waith yn y cefndir, i ferched y gegin am eu llafur diflino ac Hefin a Morfudd am ofalu mor ddiwyd am Neuadd Nantcol.
Llwyddiant Ysgol Llanbedr
Teulu Artro Daeth y Teulu ynghyd i Westy’r Fictoria brynhawn Mawrth, Chwefror 2il. Croesawyd pawb gan Gweneira, ein Llywydd. Cafwyd nifer o ymddiheuriadau, ac anfonwyd ein cofion at y rhai oedd yn cwyno. Cydymdeimlwyd â Pam yn ei phrofedigaeth o golli ei chwaer yng nghyfraith, sef Elizabeth Jones. Bu Elizabeth yn aelod ffyddlon, hael a gweithgar iawn yn y Teulu am amser maith. Anfonwn ein cofion at Howel sydd heb fod yn teimlo’n dda yn ddiweddar. Ein gŵr gwadd oedd Mr Ken Robinson a’i destun oedd Florence Cooke. Croesawyd ef gan Gweneira a dywedodd ei bod yn falch iawn o’i weld hefo ni unwaith yn rhagor. Llong oedd y Florence Cooke wedi ei hadeiladu yn arbennig i gario’r powdwr o waith Cookes yn Penrhyn – o’r flwyddyn 1923, gyda deg o griw. Cafwyd ychydig o hanes y diweddar R T Cooke i ddechrau, ac roedd hynny’n ddiddorol iawn i ni, sy’n ei gofio ef a’r teulu yn Aberartro. Diolchwyd iddo gan Iona, ac enillwyd y raffl gan Mary.
Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch
MAWRTH 13 Capel y Ddôl, Mrs Iona Anderson 20 Capel Nantcol, Mr Eurwyn Pierce Jones EBRILL 3 Capel y Ddôl, Parch Dewi Morris Capel Salem MAWRTH 20 Parch Dewi Tudur Lewis 27 Parch Irfon Roberts EBRILL 17 Parch Dewi Tudur Lewis 24 Rhys ab Owen Genedigaeth Llongyfarchiadau i Neil ac Angharad (Tyddyn Llidiart gynt) ar enedigaeth eu mab bychan, Emyr Wyn, brawd bach i Annest. Cofion Anfonwn ein cofion at Hywel Jones, Moelfre Terrace, sydd wedi bod yn cwyno ers peth amser. Gobeithiwn ei weld yn gwella’n fuan. Mae Peter Crabtree, Isgoed, wedi cael llawdriniaeth yn Ysbyty Gwynedd. Gobeithio fod yntau’n gwella hefyd. Mae Jean Gould, Y Glyn, wedi symud i Gartref Bodawen, Tremadog.
GALWADAU FFÔN TWYLL
Llongyfarchiadau i dîm pêl-droed Ysgol Llanbedr ar ddod yn gyntaf yn nhwrnament yr Urdd Meirionnydd. Clod mawr i’r ysgol ac wrth gwrs i aelodau’r tîm – Jude, Erin, Iona, Dominic, Shane a Luke. Bydd y gystadleuaeth nesaf yn Aberystwyth ar benwythnos Mai 7fed-8fed. Pob lwc iddyn nhw!
Fersiwn Cymraeg o ‘Thirty Days hath September Tri deg o ddyddiau ydyw cyhydedd Ebrill, Mehefin, Medi a Thachwedd; Caiff pob mis arall undydd yn rhagor Heblaw’r mis bach - a hwnnw yw Chwefror: Dau ddeg wyth gaiff hwn, mae’n rhaid, Ac un yn fwy mewn blwyddyn naid.
Aled Rhys Wiliam
Mae Cyngor Gwynedd yn annog pobl i fod yn wyliadwrus o sgamiau ffôn lle mae rhywun yn honni ei bod yn gweithio i’r Cyngor. Daw’r rhybudd hwn wedi i ddigwyddiad gael ei ddwyn at sylw’r Cyngor fod aelod o’r cyhoedd wedi derbyn galwad ffôn gan rywun yn honni ei bod yn galw o swyddfa treth y Cyngor. Roedd yr unigolyn ar y ffôn yn ceisio darganfod manylion cyfrif banc personol gyda’r esgus fod ad-daliad Treth Cyngor yn ddyledus iddyn nhw ac y byddai’r manylion yn cael eu defnyddio yn y broses ad-dalu. Dywedodd Manon Williams o adran Safonau Masnach Cyngor Gwynedd: “Mae ceisio cael pobl i ddarparu eu manylion cyfrif banc personol fel hyn yn sgam gywilyddus. Rydym yn cynghori aelodau o’r cyhoedd i beidio â darparu unrhyw fanylion personol neu wybodaeth gyllidol i unrhyw fusnes neu unigolyn nad ydyn nhw’n eu hadnabod.” Gall bobl leihau’r nifer o alwadau ffôn digroeso y maen nhw’n eu derbyn drwy gofrestru gyda Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn (TPS) sydd hefyd yn cynnwys rhifau ffôn symudol. Mae hyn yn bosib drwy ffonio 0845 0700707 neu wrth ddefnyddio’r ffurflen gofrestru sydd ar gael ar eu gwefan : www.tpsonline.org.uk/tps Os oes gennych bryderon, cysylltwch â llinell gymorth Cyngor ar Bopeth ar 03454 04 05 05.
5
UTGORN MEIRION Roedd yn ddiddorol darllen yr ychydig hanes am Dic Penderyn o dan newyddion Talsarnau yn rhifyn Gorffennaf 2015. Gofyn oedd y gohebydd am hanes y Parch Edmund Evans a fu’n cefnogi’r drwgweithredwr. Ganwyd Edmund Evans (Utgorn Meirion) ar 9 Gorffennaf 1791 yn Aberdeunant, Llandecwyn. Bu yn yr ysgol o’r pryd yr oedd yn bump oed hyd nes oedd yn wyth oed. Oherwydd mai aelod gyda’r Methodistiaid oedd ei athro, David Davies, i gapel yr enwad hwnnw yr âi yntau hefyd ac, yn ddiweddarach, yng nghyfnod gweinidogaeth J R Jones, Ramoth, mynychai oedfaon y Bedyddwyr. Ond daeth dau ŵr dieithr i Fryn-y-bwa-bach, pentref mynyddig a diaddurn ger ei gartref, sef dau bregethwr Wesla, Edward Jones, Bathafarn, a William Parry, Llandygai. Yn 1804, pan oedd Edmund yn 13 oed, cyd-deithiai â gwahanol bregethwyr, weithiau i ddangos y ffordd iddynt, dro arall i wrando arnynt yn pregethu. Priododd cyn ei fod yn 23 oed a daeth dan ddylanwad rhai fel y Parchedigion Samuel Davies, Robert Humphreys a David Evans. Ar 4 Rhagfyr 1815, ymunodd â’r Gymdeithas Wesleaidd ym Mryn-y-bwabach, ac ymhen llai na blwyddyn yr oedd yno eglwys fechan, ac angen rhywun i edrych ar ei hôl. Penderfynwyd mai Edmund Evans oedd y gŵr cymhwysaf i ymgymeryd â’r gofal hwnnw. Gwnaed ef yn flaenor yng Nghyfarfod Chwarter Dolgellau, yn Ebrill 1816, ond rhoddwyd ef yng ngofal yr eglwys dri mis cyn hynny, yng Nghyfarfod y Bermo. Dechreuodd bregethu ar y Sul cyntaf, 1 Chwefror 1818, yn y Pandy, ar ben ystôl. Dewisodd ei destun o Efengyl Ioan 3: 14, 15. Pregethodd yn Nhrawsfynydd am ddau, a Ffestiniog am chwech, y Sul canlynol. Yn yr un flwyddyn ymddangosodd ei enw ar ‘Y Plan’ am y tro cyntaf fel pregethwr ar brawf. Yn ei Ddyddlyfr mae’n mynegi ei farn am rhai o’i Suliau megis: “Gwneud fy ngorau”, “Sul gweddol”, “Hyfryd”, a “Da”. Pregethai bob Sul yn rhywle, deirgwaith rhan amlaf, pedair gwaith ambell dro: Trawsfynydd deg, Ffestiniog un, Dolymoch bump, a Maentwrog.
6
Am y deg mlynedd canlynol, nid oedd dim hynod i’w ddweud amdano, dim mwy hynod na’i fod yn dal ati i bregethu, a bod enw efengylwr selog Meirion yn mynd yn fwy cyhoeddus, ac yn fwyfwy poblogaidd. Yr oedd dydd Llun, 19 Ionawr 1824 yn ddiwrnod mawr yng nghalendr Edmund Evans. Dyna’r diwrnod y gosodwyd carreg sylfaen Capel Soar (W), Talsarnau. Cafodd weld ‘tŷ newydd’ chwedl yntau yn lle’r tŷ cyntaf hwnnw, ac addoli ynddo ganwaith hefyd. Tŷ braf, helaeth, cysurus, a hardd, a mwy na hynny, cafodd fyw hyd adeg helaethiad hwnnw hefyd. Agorwyd capel newydd Soar, dydd Iau, 1 Gorffennaf, 1824. Yn niwedd Mehefin 1826, bu ar daith i Sir Fôn. Erbyn saith o’r gloch nos Fercher, 5 Gorffennaf, yr oedd yn pregethu yn Amlwch ar fwrdd llong newydd ym Mhorth Amlwch pan ddigwyddodd damwain hynod. Ar ganol yr oedfa nofiodd y llong a throi ar ei hochor bron. Rhuthrodd y bobl oedd arni i’r ochr arall yn ormodol, nes creu cynnwrf. Bu’r Parch Robert Jones bron â syrthio i lesmair wrth weld y llong yn troi. Yna rhoddwyd rhaff o’r mast uchaf i’r lan i sadio’r llong. Daliodd Edmund Evans drwy’r holl derfysg. Yn 1830 anturiodd ar y goets fawr mor bell â Llundain ar ôl derbyn gwahoddiad i bregethu i’w gydwladwyr, a bu yno am fis. Manteisiodd ar y cyfle i ymweld â mannau fel Capel Rowland Hill, Ysbyty’r Deillion, y Bont Haearn a Gerddi Parc Regent. Ar 2 Mehefin 1831, torrodd terfysg arswydus allan ym Merthyr Tudful. Cyfarfu llu o’r glowyr, ynghyd â gweithwyr eraill, gyda’i gilydd, ac aethant o fan i fan i derfysgu, ysbeilio a dinistrio. Bore drannoeth bu i ryw ddihiryn rhyfygus dorri allan i ddweud mai i amddiffyn personau ac eiddo y daeth y milwyr yno, enw’r dihiryn oedd Lewis Lewis neu Lewis yr Heliwr. Yn ystod yr ymladdfa archollwyd un o’r swyddogion milwrol, a daliwyd Richard Lewis neu Dic Penderyn ar y cyhuddiad o’i frathu. Gwadai ef ei fod yn euog o’r weithred, ond aethpwyd ag ef a Lewis yr Heliwr yn gaeth i Gaerdydd.
Dedfrydwyd y ddau droseddwr i farwolaeth. Arbedwyd bywyd Lewis Lewis ond gadawyd Richard Lewis i farw. Bu Edmund Evans yn ymweld â’r carcharor a’i gael ef yn wylo’n dost, a bu’n cyd-weddïo gydag ef. Yna daeth gŵr y carchar a chwpanaid o de i’r carcharor, a deilen denau o fara a menyn, ond ni chymerodd ddim i’w fwyta, yfodd y te, a dyna’r cwbl. Yna daeth ei wraig i ffarwelio ag ef. Yn ogystal ag Edmund Evans yr oedd y Parchedigion David Williams, T Jones, DD a William Rowlands yn bresennol. Daeth yn wyth o’r gloch, ac yr oedd yn rhaid cychwyn! Allan â hwy i’r cwrt. Gyda hynny daeth y dienyddiwr ymlaen i rwymo breichiau’r carcharor â chortyn, a cheidwad y carchar yn rhoi cyffion am ei ddwylo. Aeth Edmund Evans a’r gweinidogion eraill (y tri ohonynt pryd hynny yn llafurio ar Gylchdaith Gymreig Caerdydd) i ben y dienyddle, i olwg miloedd o wylwyr. Darllenodd yr offeiriad y gwasanaeth claddu, a thra yr oedd y dienyddiwr yn gosod y cortyn am ei wddf, rhoes y dyn druan floedd dreiddiol yn atsain dros yr holl dref. Aeth y gweinidogion i lawr i edrych am y carcharor arall (Lewis yr Heliwr) oedd wedi ei gondemnio fel Dic Penderyn, ond a alltudiwyd yn hytrach. Nid Dic a frathodd y swyddog yn ôl Lewis, gwyddai ef yn iawn pwy wnaeth ond nid oedd am ddweud. “Diwrnod sobr!” yn ôl Edmund Evans, yn ei Ddyddlyfr. Aeth adref o Gaerdydd i Aberhonddu, a Landeilo, ac oddi yno adref trwy Lanidloes, ac felly ymlaen. Cyrhaeddodd adref o’r daith honno 13 Hydref ar ôl bod oddi cartref am dri mis. Lle gwledig ger Llanbedr Pont Steffan oedd Cilgwyn lle’r oedd achos gan y Presbyteriaid mor bell yn ôl a’r flwyddyn 1653. Yn 1837 cafodd Edmund E vans wahoddiad i ddod yn weinidog ar yr eglwys, oedd yn cynnwys tyddyn o dir da yn ddi-dreth, a thua £100 y flwyddyn o gyflog. Gwrthod y gwahoddiad fu ei hanes er i aelodau Cilgwyn benderfynu “ymgysylltu” â “chorff y Wesleaid.” Eu dymuniad oedd cael gweinidogaeth ar ordinhadau â’r Cyfundeb Wesleaidd ond dewis aros yn bregethwr cynorthwyol wnaeth Edmund Evans. Bu ei wraig farw 4 Tachwedd,
1847, yn 58 oed. Yn nechrau y flwyddyn 1849 yr oedd Edmund Evans yn ôl yn Llundain unwaith eto, y tro hwn yn weinidog ar gapel Cymraeg, Friar’s Street, am tua wyth mis. Bore 29 Awst 1849 cefnodd ar bobol ei ofal, a throes tua Chymru. Cychwynnodd o Lundain am 6 y bore ac yr oedd ym Mangor erbyn 4 o’r gloch y prynhawn. Yr oedd Dug Caergrawnt yn teithio ar yr un trên ag ef i Fangor. Yn ôl Edmund Evans cafodd y Dug hwre fawr wrth iddo gamu o’r cerbyd ym Mangor ar ei ffordd i Blas Newydd, Sir Fôn. Dwy flynedd ar ôl dychwelyd o Lundain er mawr ofid iddo ymadawodd ei blant i’r America - Evan a Richard, a Margaret gwraig Evan. Ffarwelio ym mharlwr y Jarrets, yn Nhalsarnau. Ym mis Hydref o’r un flwyddyn (1851) treuliodd fis yng Nghylchdaith Rhuthun a Dinbych, tair wythnos wedi hynny yn Llangollen, wythnos yng Nghorwen, ac felly ymlaen yn ddi-baid o 1851 i 1855 drwy wahanol rannau o Ogledd Cymru. Teithiodd, pregethodd, a chasglodd fwy o arian i glirio dyledion capeli na neb arall yng Nghymru yn ei ddydd. Yng ngaeaf 1854 yr oedd yn dioddef o chwydd yn ei wyneb, a phoen yn ei glun, fel na allai gerdded fawr - methai â mynd i’w gyhoeddiadau. Tua’r adeg yma anogwyd ef i gasglu cyfrol fach o bregethau gwahanol weinidogion adnabyddus. Daeth y gyfrol allan o’r wasg yng Ngorffennaf 1855, argraffwyd yng Nghaernarfon, teitl y gyfrol oedd ‘Dwfr y Bywyd’, cynhwysai ddeg o bregethau. Y tro olaf iddo bregethu oedd yng Ngorffennaf 1863 pan oedd Soar, Talsarnau, yn cael ei helaethu, a’r gynulleidfa yn addoli yn Ysgol Talsarnau. Bu farw’r Sul, 9 Hydref 1864, a’i gladdu ym mynwent Soar gyda’i briod. Cyfansoddwyd dau englyn ar garreg ei fedd gan Ellis Owen, Cefn Meysydd ... Pregethwr fu’r gŵr; rhagorol odiaeth; Ydoedd anghydmarol; Taniwyd ei enaid doniol  thân nef, aeth yno’n ôl. Cenad hedd; ei fedd wyf i - yn Soar Y mae’r Sant yn tewi; I gannoedd y bu’n gweini, Gwaed y groes i gyd ei gri.
W Arvon Roberts, Pwllheli
Teyrnged i Idris Lloyd, Glanllyn, Ynys.
Ganwyd Idris ym Mhencerrig, Harlech, ar Ionawr 28ain, 1936, pedwar ugain o flynyddoedd yn ôl i heddiw, yn fab ieuengaf i Robert a Bessie Lloyd, ac yn frawd bach i Llewelyn a Mair. Yn fuan wedi ei eni symudodd y teulu i lawr i Pen-y-waen ar ffordd Morfa, neu Pen-wein fel rydan ni yn ei adnabod yn lleol. Roedd ei atgofion cynnar ym Mhen-wein yn troi o gwmpas y fyddin a’r camp oedd wedi ei sefydlu ar Forfa Harlech yr adeg hynny. Yn fachgen bach mwynheuai grwydro o gwmpas y camp a dod i adnabod y cymeriadau oedd yno. Roedd wrth ei fodd hefyd yn mynd i’r ‘pictiwrs’ yn y camp, a chael byns i fwyta o’r ‘Naffi’, a phan ddeuai ‘convoy’ newydd i mewn, byddai Idris a’i ffrindiau yn aros i’w croesawu oherwydd roeddan nhw’n gwybod y byddai danteithion yn cael eu taflu o’r lorïau iddyn nhw. Rhaid dweud nad oedd Idris yn hoff iawn o sŵn mawr. Dywedai bod y gynnau mawr a daniwyd ar y ‘range’ yn ysgwyd y tŷ yn aml. Yn y cyfnod yma, hefyd, byddai yn mynd ar ei feic i ‘London House’ i nôl papurau newydd i’r milwyr yn y camp, a’r tai ar hyd ffordd Morfa. Hyd heddiw, roedd yn cofio geiriau o Eidaleg a ddysgodd gan rai o’r carcharorion Rhyfel oedd yn y camp, ac yn sicr dysgodd lawer o’r iaith fain hefyd gan y milwyr. Mynychodd yr ysgol gynradd yn Harlech cyn mynd ymlaen i’r ysgol ym Mlaenau Ffestiniog, ac oddi yno aeth i weithio ar nifer o ffermydd lleol. Yn y cyfnod yma cyfarfu ag Olwen, merch leol, o fferm Ffridd Fedw, Talsarnau. Priodwyd y ddau, a ganwyd iddyn nhw ddau o blant Myfanwy a Gwilym, ac ymgartrefodd y teulu bach yn Nhy’n Llwyn i ddechrau ac yn ddiweddarach yng Nglanllyn. Ar ddechrau’r 60au symudodd i weithio i’r Maes Awyr yn Llanbedr fel ‘Dyn Tân’, ac yn ddiweddarach fel ‘Gofalwr Diogelwch’, ac yno y bu am bron i ddeugain mlynedd tan ei ymddeoliad yn y flwyddyn 2000. Roedd Idris yn un crefftus iawn - gallai droi ei law at waith coed, gwaith plymio neu waith trydan, ac mae Glanllyn, y cartref, yn dystiolaeth o’i holl lafur. Roedd hefyd yn un da iawn am drwsio unrhyw declyn oedd wedi torri. Un arall o’i ddiddordebau oedd pôs-eiriau – y ‘crosswords’ yn y papur newydd. Roedd wrth ei fodd hefo’r sialens o gael hyd i’r gair iawn er mwyn cael ei gwblhau yn gywir. Bu Idris yn gefn mawr i deulu Ffridd Fedw; roedd yn frawd-yngnghyfraith bendigedig iddyn nhw i gyd. Byddai’n mynd i fyny i’r fferm ar ôl dod adre o’i waith yn aml, i helpu gydag unrhyw beth oedd angen ei wneud. A mawr iawn fu ei ofal o Olwen, ei briod, yn ystod ei salwch hithau rai blynyddoedd yn ôl – rhoddodd fisoedd lawer o ofal tyner amdani. Yn anffodus bu’n dioddef ei hun o glefyd creulon am y saith mlynedd diwethaf, a thro Olwen oedd edrych ar ei ôl o erbyn hyn, a gwnaeth hynny yn ddirwgnach, gyda gofal a chariad, adref ar yr aelwyd yng Nglanllyn, tan y bythefnos olaf pryd y bu’n rhaid iddo fynd i Ysbyty Gwynedd. Gŵr tawel, a gŵr ei filltir sgwâr oedd Idris. Roedd yn ymhyfrydu ac yn ymfalchïo yn llwyddiant y plant, a’r ŵyr a’r wyresau erbyn hyn Thea, Gwennan a Rhys. Bydd bwlch mawr iawn ar ei ôl, a hynny yn yr unlle mwy nag ar yr aelwyd yng Nglanllyn. Myfanwy Diolch Dymuna Olwen a’r teulu, Glanllyn, Ynys, ddiolch i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a dderbyniwyd yn eu profedigaeth o golli Idris, annwyl briod, tad a thaid, ar ôl gwaeledd hir. Gwerthfawrogir yn fawr iawn yr holl negeseuon ffôn, cardiau ac ymweliadau. Rhodd a diolch £10
Llais Ardudwy ym Mhen Draw’r Byd
Wrth gynllunio gwyliau i Awstralia, fe gafodd Eirlys a minnau wahoddiad gan fy nghyfnither i gyfarfod ag aelodau o ddosbarth Cymraeg yn Hobart, Tasmania. Derbyniwyd y gwahoddiad a phenderfynwyd mynd â rhai o galendrau Llais Ardudwy efo ni fel anrhegion. Wele uchod lun o’r dosbarth wedi eu derbyn. Mae’n debyg eich bod, fel finnau, eisiau gwybod sut a phwy sy’n dysgu Cymraeg yn Hobart. Yr arweinyddion yw Margaret, fy nghyfnither, (ail o’r chwith rhes flaen) a’i gŵr Guy (ar y pen ar y dde yn y rhes gefn). Bu Margaret yn byw yn Harlech rhwng 1955 a 58 pan oedd ei thad, T J Griffith, yn weinidog ym Moreia. Ar ôl cyfnod yn Niwbwrch, ymfudodd y teulu i Tasmania pan oedd Margaret yn 14 yn 1963. Ymfudodd teulu Guy yno yn 1967 pan oedd o yn ddwy ar bymtheg. Mae Guy wedi dysgu Cymraeg yn rhugl iawn a thrwy hynny ddysgu am ei gefndir ei hun yng Nghernyw. Mae enwau lleodd Cernyw yn golygu mwy iddo rŵan nag oedden nhw pan oedd yn tyfu i fyny yn yr ardal. A beth am y rhai sydd yn y dosbarth? Dyma ychydig o gefndir y rhai a ddaeth i’n cyfarfod. Peter (yr ail o’r chwith yn y rhes gefn), yn fab i Gymro ond wedi ei fagu ym Mryste ac yn arfer mynd at famgu a thadcu yn Abertawe pan oedd yn ifanc. Mae ganddo frawd sydd yn byw yn Abertawe ac yntau hefyd yn ddysgwr. Bu Peter am wythnos yn Nant Gwrtheyrn llynedd. Nesaf iddo mae Krista sydd yn wreiddiol o’r Ffindir. Does ganddi ddim cysylltiad Cymreig ond mae ganddi ddiddordeb mewn ieithoedd Celtaidd. Wedyn mae Bronwen. Er yr enw Cymraeg un o Seland Newydd ydi hi. Ei hen daid wedi ymfudo o Gymru a’r teulu wedi cadw’r traddodiad o roi enwau Cymraeg i’r plant. Cysylltiad mwy diweddar yw fod ganddi fab yng nghyfraith sydd yn dod o Borthcawl. Ar y dde yn y rhes flaen mae Jean, yn wreiddiol o Lundain. Bu hi a’i diweddar ŵr, oedd yn Gymro o Gaerdydd, yn feddygon teulu yn Nhrefdraeth cyn ymfudo - ac yno dysgodd Jean ychydig o Gymraeg. Ar y dde yn y rhes flaen mae Wendy sydd yn ferch i Jean. Magwyd hi yn Nhrefdraeth tan oedd yn 12 oed. Yr un sydd nesaf i Jean yw Serana. Mae yn bosib fod rhai o’n darllenwyr yn ei hadnabod. Bu’n byw yn Nhanygrisiau am tua 20 mlynedd. Roedd yn gweithio fel ffotograffydd yn gwneud llawer o waith ar gyfer rhaglenni HTV a thrwy hynny wedi cyfarfod â llawer o Gymru gan gynnwys llawer o enwogion. Os oes rhai ohonoch yn bwriadu teithio i Tasmania cysylltwch â mi (iolynjones@intamail.com). Mi fyddai’r dosbarth yn falch iawn o gyfarfod â siaradwyr Cymraeg. Iolyn Jones
Capel Jerusalem HARLECH
Mis Mawrth 25 Parch Dewi Morris am 10.30 - Cymun y Groglith Croeso cynnes i bawb.
Capel Engedi Berw Goch, HARLECH Mis Mawrth 13 Parch Dewi T Lewis am 2.00 - Undebol Croeso cynnes i bawb.
7
HARLECH
Teyrnged i Blodwen Owen
Diolch Dymuna Mrs Marian Rees, 34 Y Waun ddiolch i’w theulu a’i holl ffrindiau a fu mor garedig tuag ati yn dilyn ei damwain ddiweddar pan syrthiodd a brifo ei hysgwydd. Mae Marian, erbyn hyn, yn gwella’n araf deg! Rhodd a diolch £5 Diolch Hoffai Nicky (John gynt) a’i gŵr, Gwion Thomas ddiolch i bawb yn yr ardal am yr holl negeseuon, cardiau, anrhegion a dymuniadau da ar enedigaeth eu mab, Sam Elwyn. Ganwyd Sam yn Ysbyty Gwynedd ar nos Lun, Chwefror 8fed am 8:30yh yn pwyso 7lb 11owns. Mi fydd y bachgen bach yn saff o gael ei ddifetha gan ei Neiniau a’i Deidiau - David a Sally John yn Harlech a Dawn a Gareth Thomas ym Mhenrhyndeudraeth, yn ogystal â gan Yncl Damon, ac Anti Low ac Yncl Geth! Mae ei fam a’i dad yn edrych ymlaen yn fawr at ddod a fo i gyfarfod ei holl ffrindiau yn Ardudwy cyn bo hir - ei ymweliad cyntaf o nifer, mae’n siŵr! Rhodd a diolch £10 Rhodd Diolch i Edwin Lewis am y rhodd o £10 Priodas ddeiamwnt
Llongyfarchiadau i Ralph a Catherine Jones, Min-y-Morfa sy’n dathlu 60 mlynedd o fywyd priodasol ar Mawrth 3. Cariad mawr gan y teulu i gyd a diolch i chi am yr holl ofal a’r caredigrwydd a gawsom gennych chi eich dau ar hyd y blynyddoedd.
8
Graddio Llongyfarchiadau i Rachel Evans sydd wedi ennill gradd mewn seicoleg ym Mhrifysgol Caerloyw. Mae’n ferch i Gareth a Jane Evans ac yn wyres i Aneurin ac Ann Evans, 30 Y Waun a David a Charlotte Hurst oedd yn cadw siop ffrwythau yn Harlech beth amser yn ôl. Hoffai Jessica, Sophie a Harry longyfarch eu chwaer yn fawr. Rhodd: £10 Teulu’r Castell Braf iawn oedd gweld Olwen Jones yn ôl ond ers hynny bu Olwen yn Ysbyty Gwynedd. Anfonwn ein dymuniadau gorau iddi ac i Dorothy Harper, Blodwen Jones a Mair M Williams a fu dan anhwylder ers tro. Cydymdeimlwyd â theulu Christine Freeman oedd wedi colli ei gŵr yn ddiweddar. Dymunwyd yn dda hefyd i Enid Davies oedd yn mynd yn ôl i Dde Affrica; gobeithio y cawn ei gweld yn fuan unwaith eto. Bydd y cyfarfod nesaf ar Mawrth 15 [nid yr 8fed] yn Nhanycastell ac edrychwn ymlaen yn eiddgar i glywed y plant unwaith eto. Croeso i bawb ddod yno. Croesawyd Gwenda Jones atom i drefnu Bingo a diolch iddi am ofalu am y gwobrau. Cafwyd llawer o hwyl yn chwarae a gweld y peli yn glynu yn y peiriant! Diolch am yr hwyl Gwenda! Ar ôl y gemau cafwyd gwledd o fwyd oedd wedi ei baratoi gan y pwyllgor. Y Groes Goch Anfonwyd £300 at y Groes Goch yn dilyn y casgliad a wnaed yn y gwasanaeth carolau yn Eglwys St Tanwg dros ŵyl y Nadolig.
Ganwyd Blodwen yn fferm Hendre, uwchben Harlech, merch hynaf Ifor a Laura Owen. Mewn amser, symudodd y teulu i Flaenau Ffestiniog, lle ganwyd Gareth, Rhiannon, a Robert Wyn, tra’r oedd eu tad yn gweithio yn y chwarel. Symud yn ôl i Harlech wedyn i Garth Mawr, lle ganwyd chwaer fach arall, Margaret Elizabeth. Ymhen ychydig flynyddoedd, yn ddwy ar bymtheg oed, symudodd Blodwen i weithio i Blas Owain, ac yna i Blas Bryn Hir, Cricieth, lle threuliodd weddill ei hoes fel howscipar i’r Colonel a Mrs Maxwell. Wedi marwolaeth y Colonel, arhosodd Blodwen ymlaen fel ‘companion’ nes iddi ymddeol. Yn ystod ei chyfnod ym Mryn Hir, cafodd gyfle i deithio gryn dipyn a chafodd lawer trip i Lundain a Cheltenham gyda’r teulu. Trwy’r cyfnod prysur yma, roedd Blodwen yn driw iawn i’w mam, Laura, a byddai’n teithio adref ar y trên bob penwythnos i ymweld â hi yn rhif dau ddeg un Y Waun, neu ‘number 21’, fel y’i gelwir hyd heddiw gan y teulu. Ar y penwythnosau yma, byddai hefyd yn mynychu Eglwys St Tanwg, lle buodd mor weithgar, ac wrth ei bodd yn dysgu yn yr ysgol Sul. Roedd ganddi berthynas arbennig gyda’r plant a phob haf byddai rhai’n ddigon ffodus i fynd i Fryn Hir ar eu gwyliau. Roedd hyn yn brofiad bythgofiadwy iddynt, ac mae atgofion melys o’u hamser yn y Plas efo Blodwen yn dal yn fyw iawn yng nghof rhai ohonoch yn ogystal ag atgofion am dripiau’r eglwys i Butlins, ac i’r pantomeim yn Llandudno, a Blodwen, yng nghanol y plant a’r bwrlwm, yn mwynhau. Ers symud yn ôl i Harlech yn 2005, Eglwys St Tanwg oedd canolbwynt bywyd Blodwen. Yr eglwys a’i theulu yma yn Harlech, a pha bynnag gi, neu anifail anwes oedd ganddi ar y pryd. Roedd ei hanifeiliaid anwes yn bwysig iawn iddi, ac aml i gi neu gath wedi glanio ar eu traed go iawn o gael cartref bendigedig efo Blodwen. Bu’n hynod o iach trwy gydol ei hoes, allan yn garddio, glanhau a gosod blodau yn yr eglwys, a bob amser â gwên ac amser i bawb, a threulio ei hamser hamdden yn coginio neu’n darllen llyfrau Cymraeg. Dim ond yn ddiweddar y dirywiodd ei hiechyd, ac eto, ni fyddai’n cwyno ei byd nac am siarad amdani ei hun, dim ond gofyn sut oeddech CHI bob amser. Un annwyl, hoffus, gweithgar, styfnig weithiau! - cymeriad go iawn, mae colled fawr i’r eglwys, ac i’w theulu a’i ffrindiau ar ei hôl.
CEIR MITSUBISHI
Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk
Sefydliad y Merched Croesawyd pawb gan y llywydd, Christine Hemsley. Dymunodd yn dda i Dorothy Harper oedd yn Ysbyty Alltwen ac i Libby Williamson oedd yn gwella yn araf iawn. Dymunwyd penblwydd hapus i’r rhai oedd yn dathlu y mis hwn a chyfeiriwyd at John a Pat Turton oedd yn dathlu eu priodas aur ym mis Chwefror. Darllenwyd y llythyr sirol a chyfeiriwyd at y cyfarfod blynyddol yn Llandrindod ar 20/21 Ebrill. Mae angen stiwardiaid ar gyfer stondinau celf a chrefft yn Sioe Llanelwedd [Gorffennaf 18-22]. Bydd dosbarth crefftau yn y Felin Ganol, Dolgellau ar Mawrth 16. Cafwyd adroddiad am gyflwr yr orsaf drenau gan Denise Hagan. Siomedig iawn oedd clywed am y difrod a’r llanast oedd yno. Bu’r aelodau yn glanhau a pheintio a phlannu blodau yno ers 2009. Y farn gyffredinol oedd nad oedd pobl yn gwerthfawrogi hyn a phleidleisiodd y cyfarfod i beidio gwneud dim mwy ar yr orsaf. Ar ôl trafod y busnes, cawsom wledd wrth flasu a chydfwynhau Noson Ffolant lle’r oedd yr aelodau wedi dod â phob math o ddanteithion a risetiau addas ar gyfer y noson. Bydd y cyfarfod nesaf ar nos Fercher, Mawrth 9. Bydd hon yn noson Gymreig a Chymraeg. Byddwn yn dathlu Gŵyl Ddewi a bydd aelodau o ganghennau eraill yn dod atom i fwynhau. Nodyn Golygyddol Siomedig oedd darllen na fydd aelodau Sefydliad y Merched yn parhau gyda’r gwaith gwych a wnaed ar yr orsaf. Diolch iddyn nhw am y gwaith gwiw. Yn sicr, y mae’n cael ei werthfawrogi gan lawer o drigolion yr ardal. Yn yr ysbyty Bu Neal Parry, Bwlch y Garreg yn glaf yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar. Anfonwn ein cofion ato wedi iddo ddod adref gan hyderu ei fod yn teimlo’n llawer iawn gwell erbyn hyn. Diolch Dymuna Neal Parry ddiolch i’w holl ffrindiau am eu cefnogaeth ac am fod mor driw iddo yn ystod ei waeledd. Mae eich caredigrwydd wedi bod yn galondid mawr i mi.
CÔR YSGOL TANYCASTELL 1975
Tybed a oes un o’n darllenwyr yn medru enwi aelodau’r côr uchod a thybed a oes copi o’r llun gwreiddiol gennych? Diolch WHITE Dymuna Glenys, Michael, Martin a Peter ddiolch i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a chefnogaeth a ddangoswyd tuag atynt ym marwolaeth Richard (Dick) White. Y mae’r teulu wedi rhyfeddu at y cynhesrwydd a ddangoswyd atynt, bu hyn yn ffynhonnell o gysur mawr iddynt yn y cyfnod trist hwn o golli priod a thad annwyl. Dymuna’r teulu ddiolch hefyd am y rhoddion hael at Gymdeithas Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin. Diolch Dymuna Gethin Jones, 36 Tŷ Canol ddiolch i’w deulu a’i ffrindiau am yr holl negeseuon, cardiau ac anrhegion a dderbyniodd ar achlysur ei benblwydd yn 18 oed yn ddiweddar. Is-Gapten Llongyfarchiadau i Edwin Jones, Eithinog, ar ei ethol yn Is-Gapten Clwb Golff Dewi Sant am y flwyddyn 2016-17. Ef felly fydd y capten yn y flwyddyn 2017-18. Anrhydedd deilwng iawn i ddyn sydd wedi gwasanaethu’r clwb mor ffyddlon. Ei wraig, Mair, yw Capten y merched ar hyn o bryd.
CYNGOR CYMUNED HARLECH MATERION YN CODI Hysbysfyrddau Cytunwyd bod angen hysbysfyrddau newydd a chytunodd Huw Jones wneud ymholiadau ynglŷn â chael rhai o’r Pwerdy yn Nhrawsfynydd. Os na fyddai hyn yn bosib, yna’r Cyngor i archebu rhai newydd. Torri gwair Mae tendrau wedi eu gosod yn gofyn am dorri gwair y llwybrau cyhoeddus, y fynwent a chae chwarae Llyn y Felin; hefyd cytunwyd i anfon llythyr at Mr Gareth John Williams eto eleni yn gofyn am bris i dorri gwair y cae pêl-droed a chae chwarae’r Brenin Siôr. CEISIADAU CYNLLUNIO Ailwampio a gosod cladin allanol - 57 Y Waun. Cefnogi’r cais hwn. Gosod dwy ffenestr dormer - Hen Dyrpeg. Cefnogi’r cais hwn. Cyngor Tref Porthmadog Wedi derbyn e-bost gan Gadeirydd y Cyngor uchod yn gofyn am gefnogaeth y Cyngor i fynychu cyfarfod cyhoeddus ynglŷn â gwrthwynebiad i adleoli swyddfa Tŷ Moelwyn o Borthmadog i Gaerdydd. UNRHYW FATER ARALL Mae eiddew yn gordyfu i’r ffordd o dan Blas Owain. Datganwyd pryder bod y Siop Cebab yn edrych yn flêr ar ôl ei chau. Cafwyd gwybod bod ‘Ymweld â Chymru – Blwyddyn Antur’ yn cael ei gynnal ar yr 2il a’r 3ydd o Ebrill a bod gweithgareddau yn cael eu cynnal yn y dref. Mae Castell Harlech yn dathlu 30 mlynedd o Dreftadaeth y Byd ym mis Ebrill. Mae gan Ymweld â Harlech dudalen ddigwyddiadau ar eu gwefan. Datganwyd pryder bod y dref mor flêr a dywedodd Judith Strevens ei bod yn bwriadu trefnu ymgyrch i’w thacluso cyn cychwyn y tymor ymwelwyr. Nododd Judith Strevens bod angen gwneud rhywbeth yng nghae chwarae Llyn y Felin ar frys a chytunodd Caerwyn Roberts ddelio gyda’r mater yma. Datganwyd pryder bod llanast y tu allan i Siop y Morfa a gofynnwyd i’r Clerc gysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglŷn â hyn. Mae angen sylw ar y llwybr cyhoeddus o Barc Bron y Graig am ffordd Pendref. Adroddodd Caerwyn Roberts ei fod wedi cyfarfod ag Iwan ap Trefor o Gyngor Gwynedd ynglŷn â’r llinellau melyn dwbl arfaethedig yn y dref.
9
TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN E Audrey Roberts Bu farw E Audrey Roberts ar 13 Ionawr 2016 yng nghwmni ei theulu a’i ffrindiau. Ganwyd Audrey ar 26 Mawrth 1919 yn Nhalsarnau. Roedd yn ferch i’r diweddar Catherine E a William H Jones, yn chwaer i’r diweddar Cecil Norman Jones a John Kenneth Jones (Ken Temps, Y Waun, Harlech), ac yn wraig i’r diweddar Goronwy Roberts. Bu’n gweithio yn ardal Schenactady ac fel cymhorthydd nyrsys i’r Groes Goch. Roedd Audrey wrth ei bodd â’i theulu, cerddoriaeth, dawnsio, blodau, siopa, anifeiliaid a garddio. Er iddi symud i America ers blynyddoedd lawer, roedd yn meddwl y byd o Gymru, ynghyd â’i cherddoriaeth a’i barddoniaeth, ac roedd yn dal i allu adrodd cerddi ar ei chof. Roedd gan Audrey un ferch, Margaret Roberts Alesio, ac roedd yn nain ac yn hen nain falch. Yn drist iawn, roedd wedi colli un ŵyr. Diolch arbennig i sawl un, yn enwedig Olwen Wheeler, Cymraes arall oedd wedi symud i’r un ardal ag Audrey; i staff Capital Living Care lle bu farw, yn enwedig uned Elm, a hefyd i dîm yr Hosbis. Cydymdeimlwn â’r teulu oll a’i ffrindiau yn eu colled. Merched y Wawr Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod yn y Neuadd Gymuned nos Lun, 1 Chwefror gan y Llywydd, Siriol Lewis a dechreuwyd drwy gyd-ganu cân y mudiad. Derbyniwyd ymddiheuriadau a darllenwyd cofnodion cyfarfod 11 Ionawr. Ymatebwyd i gais y Rhanbarth am enwau rhai i helpu ym Mhabell y Mudiad ar faes Sioe Llanelwedd eleni. Dwy aelod oedd yn bwriadu mynd yno sef Gwenda Paul a Bet Roberts a chwblhawyd y ffurflen i’w hanfon at Freda Williams yn nodi y bydd y ddwy’n barod i helpu rhwng 11.30 a 2.30 ar ddydd Mawrth y Sioe. Yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor Rhanbarth i ofyn am £2 gan bob aelod at gostau’r babell ar y maes, casglwyd yr arian heno er mwyn i’n
10
Trysorydd ei anfon ymlaen at y Trysorydd Rhanbarth. Cyfeiriwyd at lythyr apêl Gwynn Angell Jones yn gofyn am gymorth ariannol tuag at helpu creu Uned Mamolaeth yn Ysbyty Jowai a gwnaed casgliad ymysg yr aelodau i’r ysgrifennydd ei anfon ato. Trafodwyd dathlu Gŵyl Ddewi - nid oeddem wedi penderfynu lleoliad na dyddiad hyd yma, ond wedi trafodaeth, cytunwyd i gael cinio canol dydd ar 3 Mawrth ac i wneud ymholiadau am fwydlen o ddau le. Cawsom wahoddiad gan Gangen Harlech i ymuno â hwy mewn swper yn y Ship, Talsarnau nos Fawrth, 1af Mawrth, i gydddathlu Gŵyl Ddewi a chafwyd enwau rhai oedd â diddordeb mewn ymuno. Cadarnhawyd y bydd y tîm Bowlio Deg yn chwarae am 6 o’r gloch yng Nglanllyn nos Wener, 19 Chwefror. Testun ein sgwrs y noson yma oedd Cymorth Cyntaf yn y cartref , yn cael ei chyflwyno gan ein Llywydd, Siriol Lewis, nyrs a bydwraig brofiadol. Cafwyd sgwrs hynod o ddiddorol ac addysgiadol ganddi yn esbonio sut i ymdrin â gwahanol faterion yn dilyn anaf, damwain neu argyfwng. Roedd Siriol wedi archebu cit, yn rhad ac am ddim, ar y we i ddangos sut i roi ‘CPR’ a gorffennodd ei sgwrs trwy ddangos ar fodel rwber sut i ymdrin â chael calon i ailgychwyn. Roedd hyn yn waith caled fel y profodd rhai o’r aelodau wrth geisio gwneud yr un peth! Mae’r cit yma ar gael i unrhyw fudiad i’w fenthyg er mwyn dysgu ac ymarfer ‘CPR’. Dysgwyd llawer wrth wrando ar Siriol a diolchwyd iddi gan Bet Roberts am ei chyflwyniad arbennig gan werthfawrogi’r wybodaeth a gafwyd a sylweddoli mor bwysig ydy i gael deall beth i’w wneud pe byddai raid i ni roi help llaw rhyw dro. Paratowyd y baned gan Frances, gyda chymorth Margaret; Eirwen enillodd y raffl.
Peiriant Diffib
Mae mwy a mwy o beiriannau diffibriliadur (defibrillator) yn cael eu gosod mewn mannau cyhoeddus gan eu bod yn gallu achub bywydau. Dydy’r enw ddim yn hawdd iawn ei ynganu ac efallai y dylem ei alw’n syml yn “Diffib”. Ar y llaw arall, maen nhw’n beiriannau hawdd iawn i’w defnyddio ac nid yw hyfforddiant yn angenrheidiol. Mewn ardal wledig gellid dweud bod y rheswm dros eu cael gymaint yn fwy.
£4850 i Neuadd Talsarnau
Braf yw cael cyhoeddi fod Neuadd Gymuned Talsarnau wedi derbyn grant o £4,850 gan y Gronfa Loteri Fawr – Arian i Bawb tuag at ddiweddaru offer technolegol yn y neuadd. Prynwyd system sain a fydd yn gaffaeliad at ddigwyddiadau megis cyflwyniadau, cyngherddau, siaradwyr, digwyddiadau plant ysgol ac ati. Llwyddwyd hefyd i gael offer er mwyn recordio digwyddiadau o fewn yr ardal ar ffurf sain a llun yn cynnwys camerâu fideo a chyfrifiaduron a bydd modd golygu’r gwaith gyda meddalwedd arbenigol at y gwaith. Dymuna Pwyllgor Rheoli’r Neuadd gydnabod a diolch yn Cytunwyd ym Mhwyllgor Rheoli gynnes am y grant hwn a fydd yn galluogi pobl i fenthyca’r offer Neuadd Gymuned Talsarnau ar o fewn y gymuned i recordio 29ain Chwefror y byddai cael digwyddiadau o bob math er peiriant diffib a’i leoli mewn safle hwylus o fewn y pentref yn mwyn sicrhau a diogelu ein hanes a’n diwylliant. rhywbeth gwerth ei wneud. Bwriedir felly gychwyn apêl i Colli John Davies godi arian tuag at y gronfa hon gan anelu i godi £2000. Byddai’n Daeth tristwch mawr i’r ardal o golli John Davies, 2 braf meddwl y gallai gwahanol Tanymarian, Soar. Bu John yn gymdeithasau, clybiau a chapeli byw yn yr ardal ers blynyddoedd / eglwys o fewn yr ardal gynnal gweithgareddau i gyfrannu tuag lawer. Bu’n ddarlithydd yng at y gronfa. Byddai rhwydd hynt Ngholeg Harlech am gyfnod i unigolion hefyd, wrth gwrs i roi a mwynhaodd ei ymddeoliad yn Soar ymysg ei ffrindiau cyfraniadau unigol. Efallai na fydd angen defnyddio’r a’i gymdogion. Roedd yn ŵr bonheddig ac roedd yr ardal yn peiriant hwn o fewn ein agos iawn at ei galon. Byddai’n cymuned, ond pe byddai yn mwynhau cerdded yn ddyddiol achub ond un bywyd, byddai’r ymdrech yn un werth ei gwneud. ac roedd ei ardd yn werth ei Fe ddaw mwy o wybodaeth maes gweld. Byddai croeso i unrhyw o law. Rhif cyswllt ar hyn o bryd un alw i fwynhau eistedd ar y fainc am sgwrs. Cydymdeimlwn – Mai Jones 01766 770757 â’i deulu yn eu colled.
Rhagor o ardal TALSARNAU Brysiwch wella Anfonwn ein cofion cynnes at Nia Owen, Fuches Wen sydd wedi cael llawdriniaeth yn ddiweddar. Dymunwn adferiad llwyr a buan iddi.
Cydymdeimlo Estynnwn ein cydymdeimlad llwyraf i deulu Glanymôr, Ynys, yn eu profedigaeth drist o golli Heulwen - merch a chwaer annwyl iawn iddynt.
Bowlio Deg Ymdrechodd tîm o Ferched y Wawr Talsarnau i gystadlu yng Nghystadleuaeth Bowlio Deg Rhanbarth Meirionnydd yng Nglanllyn, nos Wener, 19 Chwefror ond ni chafwyd llawer o lwyddiant y tro hwn. Er hynny, cafwyd amser hwyliog braf a mwynhawyd swper da yn Nhafarn yr Eryrod yn Llanuwchllyn i orffen y noson.
Genedigaethau Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i Carwyn a Lisa, 3 Bryn Eithin, Llandecwyn ar enedigaeth eu merch fach, Lowri Fôn ar 17 Chwefror.
Rhodd Wyn ac Olwen Jones, Ty’nybraich, Dinas Mawddwy £20
Genedigaeth
Llongyfarchiadau i Linda a Bob Ingram, Bryn Derw ar ddod yn daid a nain ac i Barry ac Eirwen, Awel y Mynydd ar ddod yn hen daid a nain yn ddiweddar. Ganwyd Alexa i Hannah ac Alex, Harlech. Pob dymuniad da i’r ferch fach a’r teulu i gyd.
Darlith Flynyddol Cyfeillion Ellis Wynne COFIANT CRWYDRYN JOHN PREIS 1894 - 1985
Neuadd Gymuned Talsarnau 7.00 o’r gloch, nos Iau, Ebrill 21ain, 2016 TRADDODIR GAN GERAINT JONES Mynediad yn cynnwys lluniaeth £5.00 Croeso cynnes i bawb Noddir gan Llenyddiaeth Cymru
Neuadd Talsarnau
GYRFA CHWIST Nos Iau Mawrth 10 am 7.30 o’r gloch Croeso cynnes i bawb
Capel Newydd, Talsarnau ‘DRAW, DRAW YN TSIEINA’ Sgwrs ar Sefyllfa Cristionogaeth yn Tsieina heddiw. Siaradwr Parch Meirion Thomas Casnewydd Nos Fercher, Ebrill 6ed am 7.30
Capel Newydd Talsarnau
Cynhelir Oedfa bregethu bob nos Sul am 6.00 o’r gloch MAWRTH 6 Dewi Tudur Lewis 13 Dewi Tudur Lewis 20 Dewi Tudur Lewis 25 (Gwener y Groglith) Oedfa a Chymundeb am 10.30 27 Dewi Tudur Lewis
NOSON GYMDEITHASOL CANA MI GEI A CHÔR MEIBION ARDUDWY
“Wedi mwynhau’r noson yn fawr iawn; diolch i Eifiona a’r criw am drefnu. Dwi’m yn cofio’r tro diwethaf wnes i gymryd rhan mewn dawnsio gwerin - lot o hwyl!” Carol O’Neill
“Syniad da oedd dod â’r ddau gôr ynghyd am noson gymdeithasol. Do fe gafwyd lot o hwyl! Rhaid i ni ddod at ein gilydd eto yn fuan. Diolch i’r merched am eu lletygarwch.” Mervyn Williams
“Noson hwyliog iawn a’r ddau gôr yn mwynhau cwmni ei gilydd. Roedd y gêm gawson ni yn syniad da ac roedd y canu a’r dawnsio gwerin hefyd yn ddifyr!” Eleri Jones
“Doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl ond mi wnes i fwynhau fy hun a’r bwyd ardderchog. Roedd y Band Arall yn werth gwrando arnyn nhw ac mi wnes i fwynhau’r gêm. Diolch i bawb am noson wych!” Robert Wyn Evans
11
MALWOD A GWLITHOD
Faint wyddoch chi amdanyn nhw?
1. Dim ond 5% o boblogaeth y gwlithod sy’n byw ar wyneb y pridd. Mae’r 95% sy’n weddill o dan y pridd yn bwyta eich hadau, dodwy wyau ac yn bwyta gwreiddiau neu egin yr hadau. 2. Gwyrdd yw lliw gwaed y wlithen. 3. Mae gwlithod yn bwysig mewn ecoleg gan eu bod yn bwyta tyfiant sydd wedi pydru.
4. Mae gwlithen yn dodwy rhwng 20 a 100 o wyau nifer o weithiau mewn blwyddyn. 5. Mae gan y wlithen organau rhywiol gwrywaidd a benywaidd. 6. Mae gwlithod wedi bod yma ers Oes yr Iâ. 7. Os yw amgylchiadau yn ffafriol, gall y wlithen fyw am ryw 6 mlynedd.
8. Yn wahanol i falwod, sy’n cysgu dros y gaeaf, mae gwlithod i’w gweld pan fo’r tymheredd dros 5 gradd C. 9. Roedd gwlithod yn arfer byw yn y môr. Dyna pam maen nhw’n hoffi cadw’n wlyb. 10. Mae gan wlithen oddeutu 27,000 o ddannedd, sy’n fwy nag eiddo siarc. Fel y siarcod, maen nhw’n colli eu dannedd ac yn tyfu rhai newydd.
ATGOFION O WEITHIO’N YSGOL ARDUDWY
Ymddeolais o’m swydd fel Clerc y Llywodraethwyr Ysgol Ardudwy ddiwedd mis Hydref 2015, ac yn dilyn swper ffarwel gyda rhai o aelodau’r Corff Llywodraethol ar 28 Ionawr eleni, penderfynais ysgrifennu cofnod bras o’r adeg y bûm yn gweithio yn yr ysgol. Hysbysebwyd swydd ‘Headmaster’s Clerk’ yn Ysgol Ardudwy yn y Cambrian News ym mis Tachwedd 1970 - uniaith Saesneg oedd yr hysbyseb os dwi’n cofio’n iawn, a dyna pam mae’n debyg nad oedd pob un o’r pump gafodd gyfweliad yn Gymry Cymraeg. Bûm yn ffodus o gael fy mhenodi a dechreuais weithio yn y swyddfa ddechrau Ionawr 1971 gyda Mr John Owen Jones, y Prifathro ar y pryd, ac yntau’n falch iawn o gael siarad Cymraeg yn y swyddfa wedi hynny, gan nad oedd fy rhagflaenydd yn Gymraes. Buan iawn yr ymgartrefais yn y swyddfa a dod i gysylltiad â rhai o’m cyn-athrawon unwaith eto, un mlynedd ar ddeg ar ôl i mi ymadael â’r ysgol, sef Mr Hugh John Hughes, Mr Iorwerth Simon, Miss Enid Jones a Miss Lilian Edwards i enwi rhai. Un o’m dyletswyddau wythnosol oedd mynd o amgylch pob dosbarth ar fore Llun i werthu tocynnau cinio i’r disgyblion a byddai hynny’n cymryd dipyn o amser! Rhaid oedd cyfri’r arian wedyn a’i fancio, ynghyd ag unrhyw arian arall a ddeuai i’r swyddfa, a byddai Mr Jones
12
yn mynd â fi i fyny i’r banc yn y dre yn y prynhawn. Roedd gwaith y swyddfa’n amrywiol ac yn ddiddorol a buan iawn y byddai’r diwrnod yn mynd heibio. Bu’n sioc ofnadwy i bawb pan fu farw Mr John Owen Jones yn ddisymwth, ychydig ddyddiau cyn y Nadolig 1980, ar y dydd Sadwrn ar ôl i’r ysgol gau am y gwyliau, ac roedd yn anodd iawn dychwelyd y mis Ionawr dilynol. Bu Mr Simon, y Dirprwy, yn gyfrifol am yr ysgol am bron i flwyddyn, cyn i Mr David Cyril Jones gael ei benodi’n Brifathro yn ystod 1981. Eto, bu’n gyfnod pleserus arall o bron i ddeng mlynedd yn gweithio gydag ef, ac yn ystod yr amser yma, cefais fy mhenodi’n Swyddog Gweinyddol yn 1989, gan ddechrau hefyd gweithio fel Clerc y Llywodraethwyr. Roedd dyletswyddau newydd yn dod i’m rhan yn awr a symudais i ystafell ar fy mhen fy hun a gweithio mwy o oriau. Dyma pryd hefyd y deuthum i ddysgu defnyddio’r cyfrifiadur am y tro cyntaf ac roedd hynny’n dipyn o newid byd! Dod i ymarfer â ffordd hollol wahanol o weithio a dechrau dysgu am wahanol systemau cyfrifiadurol Cyngor Gwynedd. Cefais gymorth yn y swyddfa ym mis Mawrth 1978, pan ddaeth Mrs Susan Groom o Ddyffryn Ardudwy i weithio gyda mi. Yna, ym mis Hydref 1989, penodwyd Mrs Grace Williams o Lanaber yn gymorth
ychwanegol yn y swyddfa, wrth i mi symud allan a dechrau gweithio yn fy swydd newydd. Wedi i Mr Cyril Jones ymddeol yn 1990, daeth newid eto ar fyd wrth i mi ddod i adnabod Prifathro arall, pan benodwyd Mr Tudur Williams yn Bennaeth yn ystod 1991. Cyn iddo ddechrau’n llawn amser, byddai’n dod i Ardudwy am ryw ddau neu dri diwrnod bob wythnos, a Mrs Eldrydd Gruffydd oedd mewn gofal yn ystod tymor yr hydref y flwyddyn honno, cyn i Mr Williams ddechrau’n iawn yn Ionawr 1992. Deuthum i adnabod nifer helaeth o staff a disgyblion dros y blynyddoedd, a hynny gan fwyaf yn ystod y tri deg pum mlynedd pan oeddwn yn gweithio’n llawn amser fel ysgrifenyddes a swyddog gweinyddol. Mwynheais fy ngyrfa hir yn yr Ysgol ac mae gennyf lawer o atgofion hapus. Bûm yn ffodus iawn o gael tri Phrifathro; roedd yn fraint ac yn bleser cyd-weithio â hwy, ac yn ystod y deng mlynedd diwethaf, yn dilyn fy ymddeoliad fel Swyddog Gweinyddol yn Rhagfyr 2005, ac yn gwneud gwaith rhan amser fel Clerc y Llywodraethwyr yn unig, rwy’n ddiolchgar iawn i Mr Tudur Williams am ei arweiniad, ei gefnogaeth a’i gymorth i mi yn y swydd. Penodwyd Mrs Fiona Williams yn Swyddog Gweinyddol yn Nhachwedd 2005 ac erbyn
hyn hi hefyd sy’n Glerc y Llywodraethwyr; pob dymuniad da iddi yn y swydd. Wrth edrych yn ôl, lle mae 45 blynedd wedi mynd? Dwi wedi bod yn brysur ac rwy’n ddiolchgar iawn fy mod wedi gallu dal ati i weithio cyhyd. Gwerthfawrogais y cyfle i ddod i adnabod llawer iawn o aelodau’r Corff dros y blynyddoedd, wrth i rai orffen eu cyfnod ac eraill ddod yn eu lle. Mae’n ffaith ddiddorol i mi fod dau aelod o’r Corff presennol wedi dechrau fel disgyblion yn yr ysgol yr un adeg â’m mab a’m merch innau - Hywel gydag Aled Morgan Jones ym Medi 1976, a Rhian gyda Gruffydd Iwan Jones ym Medi 1978; yr adeg hynny roedd 704 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol - y nifer mwya’ fu yno erioed gyda 40 yn Nosbarth cofrestru 1M lle’r oedd Iwan a Rhian! Roedd y dosbarth yma lle mae’r Ganolfan Adnoddau heddiw ac yn un o’r ystafelloedd mwyaf yn yr ysgol i gymryd yr holl blant! Mae rhai aelodau wedi bod ar y Corff ers cyfnod hir ac yn parhau i fod yn ffyddlon iawn. Diolch iddynt i gyd am eu cydweithrediad a’u cyfeillgarwch dros y blynyddoedd. Diolch yn arbennig am y rhodd o fowlen risial Gymreig hardd a gyflwynwyd i mi gan Mr Maldwyn Jones, Cadeirydd y Llywodraethwyr yn y swper ar achlysur fy ymddeoliad. Cefais noson fythgofiadwy. Mai Jones
YSGOL ARDUDWY Sgôr hylendid bwyd Llongyfarchiadau i staff y gegin ar adennill Sgôr 5 Hylendid Bwyd yn dilyn archwiliad dirybudd yn ddiweddar. Readathon Cymerodd disgyblion B7/8/9 ran mewn ‘Readathon’ eto eleni. Prif bwrpas y ‘Readathon’ yw ysbrydoli ac ysgogi plant i ddarllen beth bynnag y maent yn ei hoffi am hwyl - o gomics i glasuron - er mwyn codi arian i helpu plant eraill. Casglwyd £1,627 at achosion teilwng iawn. Cronfa Osian Yn ddiweddar, trefnodd Gyngor yr Ysgol ‘Ddiwrnod Gwisg Hamdden’ i godi arian at ‘Gronfa Osian’ i alluogi Osian Jones (cyn-ddisgybl o’r ysgol) dderbyn triniaeth arloesol ar gyfer canser y coluddyn. Ymwelodd Osian â’r ysgol ym mis Ionawr a chyflwynwyd siec o £340 i ‘Gronfa Osian’ gan Catrin Lewis ar ran Cyngor yr Ysgol. Roeddem yn falch iawn o glywed y bydd tîm o lawfeddygon arbenigol o Ysbyty Sant Marc yn teithio i Fangor er mwyn i Osian dderbyn ei lawdriniaeth yn Ysbyty Gwynedd. Hoffai bawb yn Ysgol Ardudwy ddymuno gwellhad buan iddo. Cwis cemeg Cymerodd tîm o 4 o ddisgyblion ran yng ngornest ranbarthol Gogledd Cymru cystadleuaeth ‘Ar Frig y Fainc’ ym Mangor yn ddiweddar. Roedd yn gystadleuaeth agos iawn gyda 15 ysgol o Ogledd Cymru yn cymryd rhan. Ni ddaeth tîm Ysgol Ardudwy i’r brig y tro hwn, ond cafodd y disgyblion noswaith llawn hwyl. Aelodau’r tîm oedd Elliot Owen (B10), Jim Frodsham (B9), Lea Ledermann (B11) ac Alaw Jones (B9). Pêl-droed Yr Urdd Bu tîm o fechgyn a thîm o ferched B7/8 yn cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Pêl-droed 5 bob ochr Yr Urdd ym Mangor. Er na lwyddwyd i ennill y tro hwn llwyddodd y ddau dîm i roi perfformiad da yn y gystadleuaeth.
Bagloriaeth Cymru Bu disgyblion B10 yn mynd i’r afael â’r ail her ar gyfer eu cymhwyster Bagloriaeth Cymru, sef yr her Menter a Chyflogadwyedd. Gofynnwyd i’r disgyblion weithio mewn timau o 3 i 6 aelod er mwyn cymryd rhan yn her y ‘Ffau’r Dreigiau’ gan ddangos sut i wneud i fuddsoddiad o £10 dyfu er mwyn helpu i godi arian ac ymwybyddiaeth o elusen. Yr elusen ddewisedig yw Hosbis Plant Tŷ Gobaith. Roedd yn rhaid i’r disgyblion gynllunio a datblygu syniad ar gyfer cynhyrchion sy’n addas i’w gwerthu mewn digwyddiad yn yr ysgol. Wal ddringo Llongyfarchiadau i Sophie Gill, Toby Waters, Meilir Edwards ac Ellis Hughes sydd wedi llwyddo i gyflawni gofynion Dyfarniad Lefel 1 a 2 y Cynllun Dringo Dan Do Cenedlaethol. Maent wedi bod yn dilyn cwrs dringo ar ‘Y Graig’, y wal ddringo yn Hamdden Harlech, fel rhan o’u cwrs TGAU Addysg Gorfforol. Taith sgïo Bu 35 o ddisgyblion ar daith sgïo i Le Corbier, sef cyrchfan sgïo yn Savoie yn ardal Dyffryn Maurienne yr Alpau Ffrengig, am wythnos o sgïo a gweithgareddau eira amrywiol ddiwedd Ionawr yng ngofal Mr Gareth Williams, Mrs Caryl Anwyl a Mr Alan Price. Cafodd y criw amser rhagorol; pawb wedi mwynhau, wedi gwella eu sgiliau sgïo a phawb wedi dychwelyd heb dorri coes na fraich! Gala nofio Llongyfarchiadau i Seren Llwyd, Alaw Sharp a Chelsea Smedley a fu’n cystadlu yn y Gala Nofio Cenedlaethol yng Nghaerdydd ddiwedd mis Ionawr yn dilyn eu llwyddiant mewn gala flaenorol. Buont hefyd yn cystadlu yn y Ras Gyfnewid gyda Gwenno Lloyd yn ymuno â hwy i gwblhau’r tîm. Da iawn ferched!
Chwaraeon [a] Pêl-droed
Cafodd Tîm Pêl-droed B10 lwyddiant mawr yn eu gêm yng Nghystadleuaeth Cwpan Eryri dan 15 yn erbyn Ysgol Botwnnog yn ddiweddar wrth ennill o 9 gôl i ddim. Y sgorwyr oedd: Reece Evans (3), Cedri Jones (3), Ben Williams (1), Mathew Hupperdine (1) ac Aron Moore (1). Logan Brading oedd Chwaraewr y Gêm. Aeth y tîm ymlaen i rownd genedlaethol y 16 olaf yn y gystadleuaeth i chwarae yn erbyn Ysgol Brynrefail ond Brynrefail oedd yn fuddugol y tro hwn yn ennill o 5 gôl i 3. Sgorwyr goliau Ardudwy oedd Cedri Jones (2) a Reece Evans. Llongyfarchiadau i bob aelod o’r tîm am gyrraedd mor bell yn y gystadleuaeth.
[b] Traws-gwlad
Bu nifer o ddisgyblion yn llwyddiannus ym mhencampwriaeth traws-gwlad Meirion-Dwyfor yn Nolgellau yn ddiweddar: B7 - Lowri Jones, Ysann Duncan, Leon Brown, Elan Rayner a Seren Llwyd B8 - Jacob Dawson a Beca Williams B10 - Katia Bischoff a Justin Williams B11 - Tirion Evans a Sophie Gill Llongyfarchiadau iddynt oll ar eu llwyddiant a dymunwn bob lwc i Leon Brown sydd wedi llwyddo ym Mhencampwriaeth Eryri ac yn mynd ymlaen i Bencampwriaeth Cymru yn Aberhonddu ar y 10fed o Chwefror. Da iawn chi.
13
Atgofion Elsie Lloyd Morris
Cafodd Elsie ei geni yn 1917, y degfed plentyn i John a Jennie Davies, Bronynys, Llanfihangel-y-traethau. Yr oedd yna wyth merch a phedwar mab. Priododd Elsie â Gwilym Hedd Morris, Tŷ Cerrig, yn 1941, ac mae’r ddwy ferch, Angharad a Rhian, yn ddarllenwyr ffyddlon o Lais Ardudwy. * * * Penderfynais ysgrifennu ychydig o fy atgofion cynnar, er na allaf fynd yn ôl ond am ryw 34 mlynedd. Eto, mae llawer o newid wedi bod yn yr ardal hon, a llawer o newid wedi bod ar y ffordd o fyw.
Cofiaf yn dda fel y byddem ni’r plant yn edrych ymlaen at y Gymanfa. Dyna i chi ddiwrnod pwysig. Byddai mam, a phob mam arall, wrthi am wythnosau yn paratoi’r dillad at y Gymanfa. Os na chaem ddillad newydd byddai rhaid altro a thrimio, a thipyn o startsio ar yr hen. Ni ŵyr plant heddiw ddim am het Gymanfa. Byddai mam bob amser yn cael hetiau i ni yn MacLeans, Port, a nos Sadwrn cyn y Gymanfa byddai Mrs Edwards, Chwilog, Katie Cartrefle gynt, yn dod â’r hetiau gyda hi. Wel, dyna i chi het! Het o wellt a blodau o’i chwmpas, a rhuban yn hongian, ond mi fyddai’n rhaid i mam gael rhoi’r rhuban yn sownd, lle’n bod ni’n chwarae efo fo yn y capel. Wrth gwrs byddem yn edrych ymlaen am gael mynd i wahanol leoedd, ond y lle gorau gennym fynd fyddai Harlech. Wel, dyna i chi helynt fyddai cychwyn. Lori dau geffyl o Gae Gwyn a meinciau arni, a Mr Jordan Roberts, yn gyrru, a ninnau i gyd wrth ein bodd yn cael mynd i’r Gymanfa, a does gen i ddim cof iddi erioed lawio arnom. Cyn mynd o dir y Gymanfa a’r capel, hoffwn ddweud gair am y pregethwyr. Y pregethwr gorau gennym pan oeddwn i’n blentyn fyddai Mr Hughes, Trawsfynydd. Toes yna ddim pregethwr tebyg i Mr Hughes heddiw. Fyddwn i bob amser yn meddwl mai dyn fel Mr Hughes oedd Iesu Grist. Nid anghofiaf byth fel y bydda fo’n edrych yn y pulpud.
14
Yr oedd bob amser mor lân a thwt, efo’i dei bo gwyn a siwt ddu a het gron, ac mi fyddwn yn meddwl y byddai rhyw oleuni llachar o’i gwmpas. Nid wyf yn cofio dim gair o bregeth ganddo, yr oedd edrych arno’n ddigon.
Y pregethwr arall y byddwn yn hoffi ei weld fyddai Mr Gareth Roberts, gweinidog gyda’r Wesleaid. Fel y gŵyr y rhan fwyaf ohonoch, byddai Mr Roberts yn actio ei bregeth. Cofiaf ef yn pregethu unwaith a’i destun oedd “Ac ni wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o’r rhai hyn”, ac yn troi ei gefn atom ac yn cymryd arno wisgo ac ymbincio fel Solomon. Un arall o’i bregethau oedd yr had mwstard, ac yn plannu’r had, a dangos mor isel oedd yr hedyn wedi mynd byddai’n plygu dros y pulpud a Richard a finna’n disgwyl ei weld yn syrthio allan o’r pulpud. Byddai hefyd yn pregethu ar ddameg y Ddafad Golledig, ac wrth sôn am y bugail wedi ei chael, cydiai yn y Beibl a’i daro ar ei ysgwydd a cherdded rownd y pulpud. Yr oedd yn hawdd i ni’r plant gofio ei bregeth. I Ysgol Talsarnau y byddem yn mynd, ond nid mewn car fel plant heddiw. Cerdded fyddem ni ar hyd y clawdd llanw, a llawer gwaith y buom yn wlyb dyferyd yn cyrraedd yr ysgol, wedi cerdded drwy’r llanw, a hynny yn aml heb fod eisiau i ni. Ar adegau o’r flwyddyn byddem yn colli llawer o amser yn gwylio Siôn a Siân yr elyrch yn curo’r cywion hyn a’u danfon am Port, wedyn byddem ryw chwarter awr yn hwyr yn cyrraedd yr ysgol a’r ysgolfeistr yn dweud “Stand by the piano”, a gofyn “Where have you been?”, a ninnau’n ateb, “Coming, sir”. Nid oedd mynd i’r ysgol y pryd hynny mor braf ag ydyw heddiw. Yr oedd y gansen yn barod iawn y dyddiau hynny, ac er nad oeddwn yn un ddrwg iawn mi ges ei blas lawer gwaith, yn enwedig am chwerthin. Pan oeddem yn byw yn Glanmeirion byddem yn dod adre o’r ysgol ar draws y traeth, a byddem yn dal shrimps ac yn eu berwi i de. Ambell i ddiwrnod caem
reid gan Mr Jones Morris yn y car bach a cheffyl, neu mewn trol, ac weithiau step gan rywun hefo beic. Dysgasom lawer am fyd natur wrth gerdded yn ôl a blaen i’r ysgol, a llawer hwyl a ffeit a gawsom wrth gerdded y llwybr cerrig.
Bob nos Lun byddem ni’r plant yn mynd i Gyfarfod y Plant i’r Eglwys. Y ficer ar y pryd oedd y Parch D T Hughes, a byddai wrth ei fodd gyda phlant. Galwem heibio i’r tŷ amdano, a byddai yn gweiddi “Dowch i mewn, fy mhlant i”, ac yna gwisgo ei gôt a’i het a goleuo’r gannwyll i’w rhoi yn y lantern. Nid oedd torch yn bod adeg hynny. Byddem yn ffraeo tipyn cyn cychwyn, pwy oedd i gael gafael yn ei fraich, ac felly y byddem yn mynd yn un gang o boptu’r hen berson. Wedi cyrraedd yr Eglwys, byddem yn canu tipyn a Mr Hughes yn dweud stori wrthym. Bob Nadolig byddai yn rhoi anrheg i ni, a dyna fyddai, hen gerdyn Nadolig a llun Mair a Joseph ac Iesu Grist arno, ac ar y gwaelod adnod. Er mai hen gerdyn Nadolig oedd yr oeddem yn meddwl y byd ohono, ac yn ei gadw’n ofalus rhwng dalennau ein llyfr emynau. Tybed a fyddai plant heddiw yn gweld gwerth mewn peth ’run fath? Ni fyddem yn cael cymaint o foethau â phlant heddiw. Faint o blant heddiw fyddai yn cerdded i Dalsarnau yn ôl a blaen i nôl neges am ddimau, ac yn aml iawn wedi anghofio rhywbeth ac yn gorfod mynd yn ôl wedyn? Wrth gwrs, mi fyddai mwy o bethau i’w gael am geiniog yr amser hynny. Yn siop Annie Griffiths y byddem ni yn gwario ein dimeiau, gan nad oedd siop arall yn Yr Ynys. Cofiaf un diwrnod fynd yno i neges a beth oedd wedi colli ar y cownter ond siwgr bras, neu dyna feddyliais i, a dyma hel y siwgr a’i roi yn fy ngheg, ond pe gwelwch fy wyneb, nid siwgr mohono ond soda golchi! Mi gofiaf un dywediad o eiddo Annie Griffiths, a daeth i fy
nghof ychydig Suliau yn ôl pan oedd y pregethwr yn aros acw. Pan oeddem ar gychwyn i’r capel yr hwyr dyma fo yn dweud, “Mae hi’n trio bwrw glaw”, a dyma fi yn cofio fy hun yn dweud yr un geiriau wrth Annie Griffiths yn 9 oed a dyma ddywedodd hi, “Peidiwch â gadael i mi eich clywed yn dweud peth fel yna eto, tydi’r Brenin Mawr byth yn trio gwneud dim, mae o yn llwyddo yn bopeth mae o yn ei wneud”. Mi fuo bron i mi ddweud yr un peth wrth y pregethwr, ond taw pia hi ynte? Cofio un digwyddiad a fu bron yn angau i ddau o’r Ynys, sef Mr Morris Lloyd, Tŷ Gwyn a Johnnie Hughes. Un diwrnod yr oedd Mr Lloyd yn mynd â llwyth o lo i Ynys Gifftan hefo trol ac fel yr oedd yn digwydd yr oeddwn i yn y gegin ffrynt yn Glanmeirion a Peggie tua thair neu bedair oed, a dyma fi yn digwydd edrych drwy’r ffenest a gweld y drol yn pasio. Dyma godi Peggie i weld y ‘gee-gee’ yn mynd drwy’r dŵr, a wir i chi pan oeddwn i yn dweud dyma’r drol, y ceffyl, Mr Lloyd, a Johnnie o’r golwg o dan y dŵr! Mi fuodd bron iawn iddynt foddi, bu rhedeg mawr i chwilio am bobl i gael y ceffyl a’r drol oddi yno. Roedd y dynion yn saff ond bu rhaid gadael y glo o dan y dŵr. Wrth sôn am ddŵr, dyna i chi ddŵr a llanast pan ddaeth y don enfawr! Yr oedd yn noson ddigon stormus a phawb mewn ofn ers oriau. Cofiaf fel yr oeddem yn mynd allan a gosod carreg yma ac acw i edrych faint oedd y llanw yn codi. Tua 6 o’r gloch dyma ni’r plant lleiaf yn ei gwadnu hi am ein gwlâu, ond cyn pen hir dyma alw arnom i godi, roedd y dŵr yn codi a phawb wedi penderfynu gadael Glanmeirion a mynd am Llechollwyn. Dyma gychwyn ar y daith nad anghofiaf fyth, a’r dŵr yn byrlymu trwy’r drws i’r tŷ, a’r gwynt yn chwythu nes bod y tonnau’n golchi dros y cloddiau. Jackie’n cario Gladys a Mam yn gafael yn ei fraich, Dafydd yn cario Richard, Blodyn yn fy nghario i, a Tada
[parhad] yn cario Peggie. Yr oedd y dŵr at eu hanner ac mi syrthiodd Tada a Peggie dros eu pennau i bwll mawr, ac mae Peggie ofn dwr ers hynny. Mae yn syndod ein bod wedi cyrraedd Chollwyn yn fyw. Codi bore drannoeth a phob man wedi ei orchuddio â dŵr. Tada yn gadael y tŷ cyn iddi oleuo i fynd i edrych a oedd pawb yn iawn yn yr Ynys, a dod yn ôl a dweud am y difrod a oedd wedi ei wneud. Yr oedd Lena wedi treulio’r noson yn sefyll ar silff bentan yn stesion Penrhyn. Roedd gofalwr yr ysgol yn Nhalsarnau wedi gorfod dringo i ben y distiau yn yr ysgol ac wedi gorfod aros yno drwy’r nos. Peth arall sydd wedi newid y dyddiau yma ydyw diwrnod dyrnu. Byddai diwrnod y symud yn ddiwrnod mawr gennym ni’r plant. Pump neu chwech o geffylau trymion yn symud yr injan stêm, a byddai rhaid rhoi Jennie, caseg Tŷ Gwyn, yn y shafftiau bob amser neu mi fyddai Jennie wedi plycio a throi’r tresi. Roeddem ni’r plant yn dilyn yr injan ddyrnu o le i le, a byddem wrth ein bodd yn cario dŵr i’r injan a gollwng stêm, ac wrth gwrs caem ginio ym mhob man. Dwn i ddim beth fuasai hanes plant heddiw wrth ganlyn yr injan ddyrnu, tybed a fuasai’r croeso iddynt mor gynnes ag yr oedd i ni? Dwi’n amau hynny. Diwrnod pwysig arall fyddai Dydd Gwener y Groglith, diwrnod y te parti a’r Cyfarfod Cystadleuol. Byddem yn codi’n gynnar y diwrnod yma i helpu rhoi y byrddau i fyny a chario’r llestri a’r bwyd. A dyna hwyl a fyddai, llond dau fwrdd o blant yn bwyta pob danteithion wedi eu paratoi gan ferched y capel. Nid oedd dim yn ormod o drafferth y dyddiau hynny, pawb wrthi â’u holl egni yn gwneud popeth i ni’r plant, gymaint mwy nag ydym ni yn ei wneud i’n plant yr oes hon. Ar ôl y te, byddai gwaith clirio yn barod ar gyfer y cyfarfod, a ninnau’r plant yn mynd dros y canu a’r adrodd. Ym
mhob cyfarfod byddai o leiaf un eitem arbennig, ac am rai blynyddoedd y prif atyniad fyddai deuawd gan faswr a thenor o fri, sef William Emrys Evans a Richard Davies, Wil Em a Dic Chollwyn! Choeliwch chi byth y fath dderbyniad y byddai’r ddau fach yn ei gael, a’r gân y byddai fwyaf o alw amdani fyddai “Gwen a Mair ac Elin”. Cofiaf unwaith i mi gystadlu ar adrodd y darn adnabyddus “Y Border Bach”, a J Butch, fel y galwem ef, yn beirniadu. Dyma fo yn dweud mai fi oedd wedi adrodd orau, ond na chawn y wobr am fy mod yn ysgwyd gormod, ac mai’r unig ffordd i mi ddysgu sefyll yn llonydd fyddai peidio rhoi gwobr i mi. Ar ôl y Cyfarfod, cofiaf fel y byddai un ai Mr John Lloyd, Llanbedr, neu Mr Edward Thomas, Tŷ Gwyn, yn galw arnom ni blant yr Ynys ac yn rhoi melysion neu bres i ni am gystadlu. Fe fyddai mwy o ddysgu ar blant yn ein hoes ni. Cofiaf fel y byddai’r ddwy Miss Owen, Castle View, yn dysgu drama i ni, a hefyd caneuon actol at Gyfarfod Cystadleuol yr Eglwys. Buom yn perfformio dramâu yn yr ysgol yn Glanwern at y “Waifs and Strays”. Teitl y ddrama oedd ‘Yr Adar’, pob un ohonom wedi ein gwisgo fel adar, a Miss Owen wedi anfon i ffwrdd am bennau i ni, ac wedi gwneud y dillad eraill eu hunain. Dyna i chwi ddwy chwaer ag y mae ein dyled ni yn fawr iddynt am y drafferth a’r amynedd y bu iddynt eu rhoi i ni. Oes, mae llawer o newid wedi digwydd yn yr ardal a llawer wyneb annwyl wedi eu colli. Byddaf yn diolch yn aml am gael fy ngeni a fy magu yn yr amser hynny pan oedd mwy o fynd ar bethau fel y Cyfarfod Cystadleuol, y Gobeithlu [Band of Hope] ac yn y blaen, a phan oedd pobl yn cymryd diddordeb mewn dysgu plant. Rhaid i ni fel cenhedlaeth gyfaddef nad ydym, ac mae arnaf ofn na ddown byth yn agos at y genhedlaeth o’n blaen mewn dysgu a hyfforddi plant. Rydym ni wedi mynd i ddibynnu gormod ar yr ysgolion bob dydd yn hyn o beth.
Ffeithiau hwyl am fwyd a diod o Gymru
Allech chi ddim bwyta un cyfan Hawliodd trigolion y Bala eu lle yn y llyfrau hanes wedi iddyn nhw goginio’r gacen gri fwyaf yn y byd ar Ddydd Gŵyl Ddewi yn 2014. Roedd yn mesur 1.5m o led, yn pwyso 21.7kg ac fe’i torrwyd yn fwy na 200 darn. Yn y cawl Ai ‘cawl’ yw saig genedlaethol Cymru? Yn hanesyddol cawsai ei wneud â chig moch wedi’i halltu neu gig eidion (cig oen erbyn hyn) a rwdan, moron a thatws. Yn y Gogledd fe’i gelwir yn ‘lobsgóws’. Mae cawl cennin yn defnyddio stoc cig a chennin a chaiff ei weini gyda bara a chaws. Viva la bara brith Pan hwyliodd y Cymry i’r Ariannin yn 1865 i chwilio am fywyd gwell, aethant â’u bara enwog, mae’n ddrwg gen i, cacen, gyda nhw. Ewch i dŷ te Cymreig unrhyw le yn nhalaith Chubut yn yr Ariannin ac fe welwch fara brith ar y fwydlen. Mae fel arfer yn felys ac yn fwy o gacen nac o fara, yr enw yn Sbaeneg arni yw torta negra, neu gacen ddu. Gwychfwyd o Gymru Mae bara lawr yn cynnwys lefelau uchel iawn o fitamin D ac roedd glowyr yn hoff ohono gan ei fod yn helpu lleddfu’r oriau hirion dan ddaear heb deimlo fawr ddim o belydrau’r haul os o gwbl. Roedd yr actor Richard Burton yn galw bara lawr yn ‘caviar y Cymry’ ac mae cofnodion cynnar yn sôn am wymon yn cael ei fwyta yn fwyd goroesi gan bobl yn dianc rhag ymosodiadau’r Llychlynwyr. Cyfraith y caws Mae cymal yn y cod cyfreithiol Cymreig o’r oesoedd canol o’r enw Cyfreithiau Hywel Dda (AD 880-950) yn awgrymu fod caws yn aml yn cael ei fwydo mewn heli. Yn ôl y cyfreithiau, tra bod y caws yn dal yn yr heli roedd yn eiddo’r wraig, ond unwaith yr oedd allan o’r heli (ac yn barod i’w fwyta) roedd yn eiddo’r gŵr. Byddai’r gwahaniad yma’n cael ei ddefnyddio’n aml mewn cytundebau ysgaru. Triniaeth dawel Cyflwynodd y cartwnydd o America Winsor McCay ddehongliad diddorol o effeithiau saig caws pob o Gymru, lle’r oedd cymeriadau yn aml yn deffro o freuddwydion ar ôl bwyta’r saig. Cyhoeddwyd ei stribed comig o’r enw ‘Dream of the Rarebit Fiend’ mewn papurau newyddion o 1904 i 1925, ac fe’i gwnaed yn ffilm dawel o’r un enw yn 1906. Y cwrw sy’n siarad * Bragdy enwog Felin-foel oedd y bragdy cyntaf y tu allan i’r Unol Daleithiau i werthu cwrw mewn caniau. * Mae rhai haneswyr yn honni y defnyddiodd Arthur Guinness rysáit o Gymru o Lanfairfechan ger Bangor ar gyfer ei stowt. * Mudodd Joseph ‘Job’ Daniels i America yn y 18fed ganrif o Aberystwyth. Daeth ei ŵyr Jack yn grëwr y chwisgi poblogaidd Jack Daniels y mae pobl dros y byd yn ei fwynhau heddiw.
15
Y DIWRNOD OLAF I MI GARU - buddugol yn Eisteddfod Ysgol Ardudwy 2015 Y funud wnes i gyfarfod Oliver, o’n i’n gwybod bod o’n wahanol, ei fod o’n rhywun o’n i eisiau dod i nabod a’i archwilio. Cefais gysylltiad ar unwaith gydag ef - cysylltiad mor gryf mod i’n tynnu ato, mewn ffordd nad oeddwn erioed wedi profi o’r blaen. Gan fod y cyswllt hwn yn datblygu dros gyfnod o amser, cefais brofiad o gariad mor ddwfn, cryf a chymhleth, fy mod i’n dechrau amau fy mod i erioed yn wirioneddol wedi caru unrhyw un o’r blaen. Roedd Oliver yn deall ac yn cysylltu â mi ym mhob ffordd ac ar bob lefel, a daeth ag ymdeimlad o heddwch, llonyddwch a hapusrwydd pan oedd o gwmpas. A phan nad oedd o gwmpas, roeddwn yn sylwi pa mor unig a llwm mae bywyd, a sut mae bondio gyda pherson arall yn y modd wnes i fondio gydag Oliver, yw’r peth mwyaf arwyddocaol a boddhaol rwyf am brofi yn ystod fy mywyd. Roeddwn hefyd yn llawer mwy ymwybodol o harddwch mewn bywyd, oherwydd roeddwn wedi cael anrheg wych y byddwn bob amser yn ddiolchgar. Oliver oedd yr anrheg. Mi wnes i addo na fyddwn byth yn ei frifo, neu adael i’r anrheg ddiflannu. Ond wnes i dorri’r addewid ’ma. “Nid oedd modd osgoi’r ddamwain, roedd y ffordd yn rhy lithrig i’r breciau weithio’n ddigon effeithiol” Adroddiad yr Heddlu Roedd yna sŵn dychrynllyd, sŵn fel esgyrn yn torri. Ond nid hynny oedd achos y sŵn afiach, cafodd y sŵn ei achosi wrth i’r car lithro ar y ffordd wlyb a llithrig a tharo i mewn i goed, ac fel canlyniad, wnaeth blaen y car grychu. Yn sych, gwnaeth y darian wynt dorri, a chafodd cawod o wydr ei chwistrellu i mewn i’r car. Cafodd y ddwy olwyn blaen eu danfon allan i’r nos, gan orwedd ymhell o’r llanast. Wnaeth metel y car ruddfan, fel cri o fwystfil a chafodd ei saethu. Crynodd y car unwaith, ac yna syrthiodd yn araf ar ei ochr. Ar ôl hynny, roedd yna dawelwch dychrynllyd am gyfnod. Ar ôl i mi ddod allan o sioc ac i’r ffaith fy mod i’n lwcus i fod yn fyw dreiddio i fy isymwybod, trodd fy meddwl at Oliver. Stopiodd fy nghalon a theimlais bob peth yn fy nghorff yn atal rhag gweithio wrth i mi edrych i fy ochr, a gweld bod Oliver a’i ben yn gorwedd ar yr olwyn yrru a llif o waed cochddu yn ffrydio i lawr ei rudd. Doedd gen i ddim amser i wastraffu, os o’n i eisiau i Oliver fyw, roedd
16
rhaid i mi weithredu yn sydyn. Doeddwn i ddim yn gallu symud llawer oherwydd roedd yna boen difrifol yn fy nghoes chwith. Er hynny, ymestynnais i drio tynnu gwregys diogelwch Oliver er mwyn iddo fo allu dianc o’r car. Doeddwn i ddim yn ddigon cryf i adael hebddo fo, doeddwn i ddim yn ddigon cryf i fyw hebddo fo. Teimlais fy myd yn dechrau chwalu wrth i’r gwregys diogelwch wrthod rhyddhau ei afael, roedd Oliver yn gaeth. Dechreuodd fy nghalon rasio, fel bod o am ddianc allan o fy nghorff. Roeddwn i eisiau sgrechian am help, ond roedd fy ngheg yn sych a ro’n i’n gwybod bod o’n rhy hwyr. Teimlais swm dwys o boen yn lledaenu ar draws fy nghorff, fel bod rhywbeth yn fy ngwasgu mewn pêl fach dynn. Doeddwn i ddim yn gallu anadlu a dechreuais oranadlu. Roedd yna deimlad llethol fy mod am chwydu, ond roedd rhaid i mi ganolbwyntio er mwyn goroesi. Roedd o’n amhosib anwybyddu arogl y mwg; blas olew yn hongian yn yr awyr, fel cwmwl o fygythiad pell. Roedd y car wedi llenwi â mwgdarthau tywyll a oedd yn llosgi fy ngwddf gan achosi i fy llygaid frifo. O’n i’n deall bod fy amser yn brin, a bod y mwg yn gallu fy lladd. Roedd yn rhaid i mi ddianc, os o’n i eisiau byw, roedd rhaid i mi adael Oliver. Teimlais fel bod rhew yn rhedeg trwy fy ngwythiennau. Yr unig beth o’n i’n dymuno oedd rhedeg i ffwrdd oddi wrth fy nghorff, rhedeg oddi wrth yr hunllef, ond nid oedd hyn yn bosib, wrth gwrs. Gwastraffais eiliadau gwerthfawr wrth i mi drafferthu gyda dolen y drws blaen. Ond yna, yng nghyflwr fy sioc, sylweddolais fod y car yn gorwedd ar ei ochr, ac yn dal y drws yn erbyn y ddaear. Yn sydyn, daliodd y peiriant ar dân, crynfeydd bach o fflamau melyn bywiog yn ymddangos o rhwng y metel chwaledig. Ymestynnais dros Oliver, a chrafangu at ochr arall y car i agor y drws, ond roedd rhywbeth yn fy nal i, yn fy nghadw i’n sownd i’r set, fel crafangau angau yn gwrthod fy rhyddhau. Roedd fy ngwregys diogelwch i yn dal ynghlwm. Yn wyllt, chwiliais am y glicied ac ar ôl i mi glicio’r botwm, o’n i’n rhydd o’r gwregys diogelwch. Teimlais yn sydyn fod popeth o’m cwmpas yn edrych arna i, yn sugno’r aer allan ohonna i ac yn tynnu’r ddaear odanaf i. Dechreuais beswch a thagu gan anadlu’r mwg, roedd fy ysgyfaint
yn llosgi yn fy nhu mewn, roedd fy llygaid yn goch amrwd ac erbyn rŵan roedd y dagrau yn llifo, roedd rhaid i mi ganolbwyntio ar oroesi. Yna, daeth rhuthr o aer poeth a thân, ac ar unwaith daeth y gwres annioddefol. Wrth i mi ddechrau dringo dros Oliver at ddrws yr ymdeithiwr, edrychais ar Oliver am y tro olaf. Roedd o’n edrych yn heddychlon, a phenderfynais fod rhaid i mi wneud hyn iddo fo, fysa fo wedi eisiau i mi fyw. Rhoddais gusan ar ei dalcen a sibrydais yn ddistaw yn ei glust fy mod am ei garu fo am weddill fy mywyd. Ciciais y drws ar agor, roeddwn yn pesychu yn dreisgar wrth i mi drio dianc o’r car. Dechreuodd dafodau bychain o dân lyfu drwy’r to, a llosgi fy wyneb, gwallt a fy nwylo. Dechreuais deimlo’n wan ac yn gyfoglyd, teimlais fy nghorff yn dechrau arafu. O’n i’n ymwybodol nad oedd fy ymennydd yn cael digon o ocsigen ac roeddwn mewn perygl o ddisgyn yn anymwybodol. Pe bai hynny’n digwydd, byddwn yn marw. Gydag ymdrech goruchaf o ewyllys, codais fy hun allan o’r car a disgynnais yn galed ar y llawr. Edrychais yn ôl, i weld Oliver yn edrych yn ddifywyd. Doedd yna ddim dadlau ei fod o wedi marw, ond roedd rhaid i mi ganolbwyntio ar oroesi, doeddwn i ddim yn gallu torri lawr eto. Roeddwn i eisiau dianc, ond roedd fy nghorff wedi rhewi, ac roedd fy nghalon yn rasio a fy mrest yn dyrnu. Roedd o’n amhosib dal fy ngwynt, a theimlais mor benysgafn. Nid oeddwn allan o berygl eto, os bydd y tân yn cyrraedd y tanc petrol gallai’r ffrwydrad fy lladd i’n siŵr. Roedd yn rhaid i mi symud ymhellach i ffwrdd, allan o amrediad radiws y ffrwydrad. Codais ar fy nhraed, ond nid oedd fy nghoesau yn gweithio fel o’n i eisiau. Roedd yn rhaid i mi ganolbwyntio ar roi un troed o flaen y llall. Camau bach oedd yr unig ffordd y medrwn ymdopi, a’r boen yn saethu fel gwaywffon drwy fy nghorff blinedig. Roeddwn wedi llusgo fy hun lai na phum llath pan ffrwydrodd y car. Wnaeth pêl fawr o fflam oren echdorri o’r cerbyd fel madarchen niwclear a danfon darnau o fetel poeth yn saethu cannoedd o droedfeddi i’r awyr. Daeth clustog anweledig o wres a fy nharo i o’r tu ôl, a fy nghodi yn ddiymdrech oddi ar y ddaear. Taflwyd fi fel cadach doli glwt allan dros y
creigiau, lle wnes i lanio yn sydyn ac yn boenus ar fy ysgwydd. Gorweddais yn llonydd. Parhaodd y car i losgi am gyfnod ac anfon plu o fwg du trwchus i fyny at y nos; yn achlysurol clywais grac neu alwad fel hen ddyn yn sibrwd ei anfodlonrwydd ar y byd. Nid o’n i eisiau symud, doeddwn i ddim eisiau i neb fy narganfod i. Yna daeth realiti a’n nharo fel gordd. Roedd Oliver wedi mynd. Sgrechiais sgrech artaith wrth i fy nghalon dorri’n ddireol. Ar ôl goroesi, sylweddolais nad oeddwn eisiau byw heb Oliver, heb Oliver doedd gen i ddim pwrpas. Doedd Oliver ddim yn fy myd; fo oedd fy mydysawd. Collais fy anrheg. Credaf fod colli rhywun rydych yn caru’n ddwys fel colli darn o’ch corff. Ar y dechrau mae’r boen yn andwyol ac yn finiog. Yna mae’n datblygu’n ddolur diflas cyson. Yn y pen draw, nid yw’n gyson, yn lle hynny, mae’n mynd a dod mewn poen sy’n saethu atgof mor ddifrifol o’r golled fel saeth drwy’r galon. Pan fydd rhywun yn colli darn o’r corff, nid yw’n anghyffredin iddynt deimlo fel bod y darn yn dal yn bresennol, oherwydd nid yw’r celloedd nerfol wedi cydnabod yr absenoldeb eto. Pan fydd hyn yn digwydd, mae pobl yn aml yn dioddef poen corfforol, iselder, a dicter o ganlyniad. Ers i mi golli Oliver, nid yw’n anghyffredin i mi ffonio fo, ac i siom olchi drosta i yn donnau pan nad yw’r llais sy’n ateb yn gyfarwydd. Hefyd, nid yw’n anghyffredin i fy nghalon i chwalu unwaith eto pan fyddaf yn gweld ei sedd wag o wrth y bwrdd unig, ac i edrych amdano fo pan fydd pawb gyda’i gilydd, ond wedyn yn sylweddoli na fydd o byth yma unwaith eto, a phob tro mae’n fy nharo i fel trên. Efallai, fel y celloedd nerfol, dyw fy ymennydd heb addasu, ac yn anghofio bod Oliver wedi mynd mewn gwirionedd. Er hynny, dwi ddim yn meddwl bydd y teimlad byth yn gwella, nid wyf yn credu y bydd hyn byth yn mynd yn haws, ac nid wyf yn credu bydd hyn byth yn pylu. Mae’r atgof bod Oliver wedi mynd yn rhy amlwg i anghofio ac yn rhy anodd ei anwybyddu. Roeddwn i’n arfer meddwl mai’r peth mwyaf poenus oedd colli rhywun rydych yn ei garu. Yr hyn nad yw pobl yn dweud wrthych yw pan fyddwch yn eu colli, byddwch yn colli darn ohonoch chi eich hun hefyd.
‘Jac y Jwc’, Kelly Williams, B11
H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239
Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290
YSWIRIANT I BAWB
E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr
01341 241551
Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.
ALAN RAYNER ARCHEBU A GOSOD CARPEDI 07776 181959
Gwynedd
www.raynercarpets.co.uk
Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297
Tafarn yr Eryrod Llanuwchllyn 01678 540278
Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00
Sgwâr Llew Glas
Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd
01766 780186 07909 843496
Llais Ardudwy
Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk
drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]
01766 512091 / 512998
TREFNWYR ANGLADDAU
Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb
GERALLT RHUN
JASON CLARKE
Bryn Dedwydd, Trawsfynydd LL41 4SW 01766 540681
Tiwniwr Piano a Mân Drwsio g.rhun@btinternet.com
BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU
Phil Hughes Adeiladwr
Gosod stofiau llosgi coed Cofrestrwyd gyda HETAS
Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.
Sŵn y Gwynt Talsarnau,
Cefnog wch e in hysbyseb wyr
Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504
DAVID JONES
Cigydd, Bermo 01341 280436
Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau
ADEILADWR Gwarantir gwaith o safon.
Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014
Ar agor bob nos 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00
Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 9.00 Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!
MELIN LIFIO SYMUDOL
Gadewch i’r felin ddod atoch chi! www.gwyneddmobilemilling.com
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys Talsarnau 01766 780742 07769 713014 17 A
Teyrnged i Annie Ritchie, Ynys Wen, Ysbyty Ifan, gynt o Frongaled, Dyffryn Ardudwy [23/5/1929 29/11/2015] Ganwyd mam, sef Annie Roberts gynt, i Hugh a Kate Roberts, Frongaled, Dyffryn Ardudwy ar 29 Mai 1929 ac yna ganwyd Hughie ei brawd yn fuan wedyn. Roedd ganddi frodyr a chwiorydd hŷn gan fod nain Frongaled yn wraig weddw cyn ail briodi hefo taid. Roedd cysylltiad agos rhyngddynt i gyd ac mae’r teulu yn parhau’n agos. Dad, sef Jimmy Ritchie, oedd ffrind gorau Yncl Hughie, sef brawd mam a dyna sut ddechreuodd y ddau ganlyn. Ganwyd iddynt y 4 ohonom ni - Hugh, fi, Edward a Catherine. Buom yn byw yn Gornant Isa a Benar Fawr yn Nyffryn Ardudwy cyn symud i Blaencoed, Ysbyty Ifan yn 1969. Yna symudodd mam a dad i Ynys Wen ychydig dros 20 mlynedd yn ôl. Person emosiynol iawn oedd mam ac nid oedd yn gallu cuddio ei theimladau. Roedd dagrau o lawenydd a dagrau o dristwch yn agos iawn i’r wyneb, ond byddai yn eithaf hawdd ei newid o un i’r llall. Nid oedd yn ddynes trin geiriau nac yn barddoni ond roedd ganddi ddull unigryw o gyfathrebu oedd yn naturiol ddoniol. Nid oedd yn gallu deud jôcs gan na fyddai’n cofio’r ‘punchline’ ond roedd ei sgyrsiau bob dydd a’r pethau roedd yn ei ddeud yn gwneud inni chwerthin. Un o’r pethau pwysicaf iddi oedd treulio amser yng nghwmni eraill. Roedd wrth ei bodd yn mynd i’r WI yn enwedig yn y tîm dartiau - cafodd oriau o hwyl yn ei dyblau yn chwerthin nes yn aml methu taflu’r dartiau at y bwrdd. Hyd yn oed pan oedd y briwiau ar ei choesau a’i thraed yn brifo roedd yn troi fyny yn ei slipars ar adegau. Hi oedd y ‘life and soul’ o’r criw. Roedd wrth ei bodd hefyd pan fyddai ffrindiau neu deulu’n galw, ac yn sirioli drwyddi Chwarae whist oedd un o hoff ddiddordebau mam. Roedd yn lwcus iawn hefo rafflau - roedd hyn yn bennaf wrth gwrs gan ei bod yn cefnogi cymaint o achosion da yn lleol a chenedlaethol. Roedd mam wedi gobeithio y byddai’r un lwc yn dod iddi wrth drio’r Loteri hefyd a byddai’n prynu pob math o rai yn ddi-ffael ac yn gwirio ei rhifau bob nos Sadwrn Roedd mam yn ddynes hael - bob amser yn cofio pen-blwyddi pob un o’r teulu ac amser Nadolig roedd arian mewn amlen i bawb. Hefyd roedd rhaid cael digon o fwyd yn y tŷ bob amser -“rhag ofn!” Roedd hi’n hael ond hefyd yn ddarbodus iawn iawn – ddim yn credu mewn gwastraffu o gwbl – yn wir roedd Ynyswen fel canolfan ailgylchu. Roedd yn ail ddefnyddio bagiau a mynd a bagiau hefo hi i ddal neges ymhell cyn codi tâl o 5 ceiniog. Doedd bin du Ynyswen byth yn llenwi. Efallai bod mam yn ddarbodus hefo gwastraff, ond nid oedd yn ddarbodus wrth siarad ac yn mynd i’r manylyn bach dibwys lleiaf wrth sgwrsio . Byddai gwaith crefft yn enwedig tapestri a gwau yn bwysig iddi. Roedd mam yn arfer y ddawn brin o wau sanau hefo 4 gweill ac mae pob plentyn yn y teulu ac eraill yn y gymdogaeth wedi cael sanau wedi eu gwau ganddi.
18 A
Nid oedd mam yn or-hoff o goginio ond er hyn roedd yn dda am wneud cacennau ac roedd plant yn hoffi mynd yno i de i gael brechdan denau denau fel y gallech “weld eich traed drwyddi” a menyn wedi ei daenu i’r corneli a brechdan samon coch a ciwcymber a chaws Dairylea. Roedd wrth ei bodd yn mynd allan i fwyta ac os oeddem yn mynd i siopa roedd rhaid stopio am ginio lle’r oedd yn bwyta yn araf deg iawn a phawb arall wedi gorffen ers meitin, ac yna cael pwdin wedyn!! A deud y gwir roedd wedi edrych ymlaen yn ofnadwy i fynd gyda merched Blaencoed am ‘afternoon tea’ i Tweedmill y diwrnod y penderfynodd yr ‘aneurism’ oedd wedi bod yn gwmni tywyll iddi ers 1999 fynnu sylw. Er bod mam wedi symud i Blaencoed o Ddyffryn Ardudwy ers 1969 ac yn hapus iawn yn Ysbyty Ifan, a ddim eisiau mynd yn ôl, roedd hi’n dal yn ddynes Sir Feirionnydd i’r carn ac yn parhau i ddefnyddio geiriau ac ymadroddion y fro. Trwy sgwrsus ffôn ac ymweliadau a darllen y papur bro Llais Ardudwy byddai’n gwybod popeth oedd yn digwydd ac yn adrodd hanesion am pan oedd yn ifanc a’u hanturiaethau hefo’i ffrindiau. Byddai nain yn adnabyddus am ddeud pethau o chwith neu ddim cweit yn iawn. Enghraifft gan Catherine oedd pan aeth i siop yn ddiweddar i ofyn am Smiths crisps ac eisiau gofyn “Do you sell Smiths’ crisps?”, ond be ddaeth allan oedd – “Do you smell?” Pan oedd angen mynd i feddygfa Cerrigydrudion ar mam i fesur curiad ei chalon, “ar y peiriant GCSE” medda hi yn lle ECG. Roedd mam yn drefnus iawn – mor drefnus fel y bod pob manylyn am drefniadau heddiw wedi ei gofnodi ganddi. Roedd wedi llwyddo i gael deud wrthon ni be i neud a sut, reit i’r diwedd!! Gorffwyswch mewn hedd rŵan mam - dim mwy o boen o’r hen goesa na. Mary Jones, ar ran y teulu
Deg peth i’w wybod am Ddewi Sant
1. Mae Dydd Gŵyl Ddewi yn digwydd ar ddiwrnod marwolaeth Dewi Sant yn 589 – Mawrth 1af. 2. Daw Dewi Sant o linach frenhinol. Roedd ei dad, Ceredig ap Cunedda, yn dywysog Ceredigion a’r hanes yw bod ei fam, Non, oedd hefyd yn sant, yn nith i’r chwedlonol Frenin Arthur. 3. Dywedir mai “Gwnewch y pethau bychain” yw ymadrodd enwocaf Dewi Sant ac roeddent ymhlith ei eiriau olaf cyn iddo farw. 4. Daeth Dydd Gŵyl Ddewi yn ddiwrnod dathlu cenedlaethol yn y 18fed ganrif. 5. Mae sawl stori am wyrthiau Dewi Sant, gan gynnwys dod â bachgen marw yn ôl yn fyw ac adfer golwg dyn dall. 6. Roedd cysegrfa Dewi Sant yn ei eglwys gadeiriol – yn Nhŷ Ddewi yn Sir Benfro, y ddinas leiaf ym Mhrydain, yn cael ei hystyried mor bwysig gan y Pab Callistus II fel y datganodd fod dwy bererindod i’r gysegrfa werth un i’r Vatican yn Rhufain. 7. Cymerodd Brenin Edward I ben a braich Dewi Sant o’r Eglwys Gadeiriol yn dilyn ei goncwest o Gymru yn 1284. Arddangosodd yr olion ynghyd â nifer o greiriau sanctaidd eraill yn Llundain. 8. Digwyddodd ei wyrth enwocaf yn Llanddewi Brefi, pan ddaeth torf enfawr ynghyd i glywed un o’i bregethau. Yn ôl yr hanes, er mwyn i bawb allu ei weld, rhoddodd hances boced ar y llawr a sefyll arni, ac yna cododd bryncyn bach oddi tan ei draed, gan alluogi pawb i’w weld. 9. Fel arfer portreadir Dewi Sant yn dal colomen, yn aml yn sefyll ar fryncyn. Ei symbol yw’r genhinen. 10. Honnir y bu byw Dewi am fwy na 100 mlynedd!
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Geraint Lloyd Wynne Dymuna Ann, Huw, John a’u teuluoedd ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt ym marwolaeth sydyn eu brawd Geraint. Diolch am eich presenoldeb ddydd yr angladd, hefyd am bob ymweliad, galwad ffôn, a chardiau. Derbyniwyd rhoddion o £1849 i’w rhannu rhwng Ambiwlans Awyr Cymru a Ward Dialysis Alltwen. Diolch hefyd i gwmni Pritchard a Griffiths am eu trefniadau trylwyr. Diolch a rhodd £10 Clwb Cinio Byddwn yn cyfarfod yng Ngwesty’r George ym Mhenmaen-pwl am 12 o’r gloch ar Fawrth 15fed. Croeso i unrhyw un ymuno â ni. Cydymdeimlad Dydd Llun, Chwefror 15fed, bu farw Mr John Elwyn Edwards, Nantcol, Rhuddlan yn 83 oed. Roedd yn enedigol o’r Dyffryn, yn fab i’r diweddar John ac Annie Edwards ac mae’n siŵr bod rhai yn ei gofio. Cafodd ei addysg yn Ysgol Dyffryn ac Ysgol Ramadeg y Bermo. Roedd yn derbyn y Llais yn fisol ac yn ei fwynhau. Cydymdeimlwn â’i ddwy ferch Delyth ac Iona ac â’r teulu sy’n byw yn yr ardal yn eu profedigaeth.
Pen-blwydd Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i David Roberts, Nant y Coed, oedd yn dathlu pen-blwydd arbennig ar 17 Chwefror. Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau hefyd i Aron Wellings, mab Paul ac Iola, Llys Andreas, Talybont, oedd yn dathlu ei benblwydd yn 21 yn ystod y mis. Festri Lawen Horeb Daeth nifer dda i’r Festri nos Iau, 11 Chwefror a chroesawyd pawb gan Gwennie. Anfonodd ein cofion at Rhian Davenport oedd wedi cael llawdriniaeth ar ei llaw. Yna cyflwynodd a chroesawodd Edward, Llywydd y noson, Criw ar y Naw atom. Parti o ddeuddeg ydy’r rhain dan arweiniad Gerallt Rhun. Sefydlwyd y parti gyda’r bwriad o ddysgu sol-ffa fel bod yr aelodau wedyn yn gallu ymuno â Meibion Prysor. Braf oedd gweld nifer o fechgyn ieuainc yn aelodau o’r criw. Cyfeiliwyd ar y piano gan Iona gyda Gerallt Rhun a Hefin ar y gitâr a Phil Lemon ar y ffliwt. Arweiniwyd y noson gan Dewi Williams, ac roedd yn dipyn o gymeriad, a chyflwynwyd y caneuon gan Gerallt. Cafwyd noson ardderchog a llawer o chwerthin. Diolchwyd i’r Criw ar y Naw gan Edward. Gofalwyd am y lluniaeth gan Rhian Jones, Rhian Davenport, Beryl, Meinir, Elinor a Llewela. Ar Fawrth 10fed, byddwn yn mynd i’r 1957 yn Nhalybont i gael Cinio Gŵyl Ddewi a’n gwraig wadd fydd Karen Owen.
Dathlu Pen-blwydd Arbennig
Rhodd Diolch i Mr Cyril Jones am y rhodd o £20 i’r Llais.
Gwasanaethau’r Sul, Horeb
MAWRTH 13 Parch Pryderi Ll Jones 20 Geraint a Meinir Ll Jones 27 Parch Eric Greene EBRILL 3 Parch Huw John Hughes
THEATR HARLECH Am fanylion pellach am ddigwyddiadau’r Theatr, ffoniwch 01766 780667, neu ewch i’r wefan ar www.theatrharlech.com Digwyddiadau am 7.30 oni nodir yn wahanol.
Ffilmiau Cymdeithas Ffilm Harlech Dydd Iau 17 Mawrth - Shell Dydd Iau 14 Ebrill - In Bloom
Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn Neuadd yr Eglwys bnawn Mercher 17 Chwefror. Croesawyd pawb gan Enid ac anfonodd ein cofion at Meinir, Beti a Mary oedd ddim yn teimlo’n ddigon da i fod yn bresennol. Yna croesawodd yr efeilliaid Roger a John Kerry o Harlech atom. Rai blynyddoedd yn ôl dechreuodd Roger a John fynd o gwmpas i ganu hen ffefrynnau canu gwlad wedi eu cyfieithu i’r Gymraeg a chafwyd amser difyr yn eu cwmni. Diolchwyd yn gynnes iddynt gan Anthia. Rhoddwyd y te a’r raffl gan Dilys, Gwyneth, Enid, Blodwen ac Olwen. Ar 16 Mawrth byddwn yn cael cwmni plant yr ysgol gynradd.
Y tri brawd - David, John ac Einion Pen-blwydd hapus i David Henry ar ddathlu ei ben-blwydd yn 60ain ar Chwefror 17eg. Mwynhawyd parti yn Neuadd Bentref Dyffryn a diolch yn fawr iawn i bawb oedd yn bresennol ac i bawb am eu cyfarchion a’u cyfraniadau hael tuag at Gymdeithas Alzheimer a Chronfa Ymchwil Canser. Casglwyd £1225. Diolch yn fawr iawn i bawb am eu caredigrwydd. Pen-blwydd hapus i Aron Rhys Wellings oedd yn dathlu ei benblwydd yn 21 ar yr 21ain o Chwefror. Llongyfarchiadau i Hana Jayne Wellings hefyd sydd yn ymuno gyda’r RAF. Ein llongyfarchiadau hefyd i Llion Paul a Jaimee ar achlysur eu priodas yn ddiweddar. Roedd gennym lawer iawn o waith dathlu felly fel teulu yn y parti, heb sôn am weddill y teulu a ffrindiau oedd yn dathlu penblwyddi a phen-blwyddi priodas hefyd. Gobeithio i bawb fwynhau’r achlysur. Diolch.
Ymadroddion Tywydd yn cynnwys elfennau o gelwydd golau!
Bwrw cenllysg fel cerrig beddi. [Blaenau Ffestiniog] Yn ddigon oer i rewi cathod. [Uwchaled] Yn ddigon oer i rewi cathod mewn popty. [Dinbych] Yn ddigon oer i rewi’r tegell ar ben tân. [Llanilar] Yn ddigon oer i rewi’r botel ddŵr poeth yn y gwely. [Llanilar] Yn ddigon oer i rewi baw yn nhîn aderyn. [Llŷn]
19 A
BWYD A DIOD 136-140 STRYD FAWR, PORTHMADOG, GWYNEDD LL49 9NT
Dewch draw i’r Siop am sbec - mae rhywbeth i bawb yma! Gorffennwch eich ymweliad â phaned, teisen neu bryd o fwyd blasus mewn awyrgylch hamddenol.
DISGOWNT O 10% WRTH GYFLWYNO’R HYSBYSEB YMA AR NWYDDAU O’R SIOP, NEU FWYD A DIOD O’R TŶ COFFI. [Ni chaniateir ei ddefnyddio gydag unrhyw gynigion eraill sy’n bodoli ar y pryd.] www.kerfoots.com enquiries@kerfoots.com Ffôn: 01766 512256 Llais Llais Ardudwy
Ardudwy
Blas o Ffair Win Vinisud
STORFA CANOLBARTH CYMRU www.midwalesstorage.co.uk STORFA CARTREF A BUSNES
Ystafelloedd storio ar gyfer eich anghenion Monitro diogelwch 24 awr - wedi’i wresogi Siop ar lein: www.boxshopsupplies.co.uk Ffôn: 01654 703592 Heol y Doll, Machynlleth, Powys SY20 8BQ
Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/llaisardudwy/docs 20 A
Llais Ardudwy
Un o ‘byrcs’ gweithio yn y byd gwin yw’r teithio, ac ar ôl pum diwrnod yn ardal Montpellier rydym ar ein ffordd adref ar y trên yn trafod y gwinoedd y gallwn eu prynu i gwsmeriaid Gwin Dylanwad. Mewn gwirionedd, nid yw ffair win yn hamddenol o gwbl oherwydd mae’n rhaid canolbwyntio i osgoi penderfyniadau gwael; hefyd mae llawer o drafod gyda’r cynhyrchwyr a gwybodaeth i’w phrosesu mewn amser byr. Mewn ffair fel Vinisud mae tua 1,700 o gynhyrchwyr a dros 20,000 o winoedd, felly mae’n rhaid gwneud yr ymchwil yn ofalus o flaen llaw. Hefyd, i allu pwyso a mesur pa winoedd sy’n cynnig y gwerth gorau am arian, mae’n bwysig i beidio yfed diferyn o win. Ie, bobl, mae’n rhaid troi cyfeiriad yr hylif o’i lwybr naturiol a’i boeri o’r geg! Deg cynhyrchwr yw’r mwyaf y gallwn eu gweld o fewn amser rhesymol. Felly beth sydd wedi dal ein sylw’r tro yma? Wel, un pwrpas yw ymweld â stondin ein cynhyrchwyr presennol i flasu eu cynaeafau mwyaf diweddar a thrafod eu gwinoedd newydd. Un o’r rhain yw Font Sarade o’r Rhone. Partneriaeth tad a merch yw Bernard a Claire Burle, sy’n gweithio ochr yn ochr i gynhyrchu gwin o safon
arbennig. Nid yw’r ardaloedd Vacqueyras a Gigondas, lle mae’r teulu Burle yn tyfu eu grawnwin, mor enwog â’r agos (a drud) Châteauneuf-du-Pape, ond ceir safon arbennig gyda’r un gymysgedd o rawnwin am bris llawer mwy rhesymol. Dyma’r gamp i gael gwerth am arian. Braf oedd gweld balchder Claire wrth ddangos ei gwin cyntaf o’r enw ‘Premier Vin’. Dywedodd na chaniateir iddi drin gwinllan ei thad gan ddangos (gyda gwên) enw’r gwin ar y botel - ‘Egoïste’. Da gweld yr hiwmor yn ogystal â’r angerdd. Er ei fod yn ne Ffrainc, ceir gwin o wledydd Canolforol eraill hefyd, felly roedd cyfle i edrych am winoedd o Sbaen a’r Eidal. Roedd un teulu o Piedmonte yn cynhyrchu gwin a fydd yn ychwanegu amrywiaeth i’n siop seler. Daw un arall gydag enw da o Yecla, Murcia - ddim yn bell o Alicante, a diddorol yw gweld safon am bris da o winllannoedd cymharol newydd. Wrth flasu a sgwrsio sylwais ar un dyn yn cerdded yn ôl ac ymlaen. Cadw llygaid oedd, ac yn aros i ni orffen cyn rhedeg ar ein holau i’n denu i flasu ei win. Nid oedd ar ein rhestr ond, lwc pur, roedd ei win yn dda a hefyd roedd o’n dipyn o gymeriad. ‘Care’ oedd enw’r winllan, sef ‘wyneb’ ac roedd masgiau ar labeli’r gwinoedd i adlewyrchu gwahanol agweddau o’r tir a rhinweddau’r gwin. Dyma gyfnewid cyfeiriad e-bost a chardiau busnes cyn ysgwyd llaw a gadael. Fel mae tirwedd Ffrainc yn diflannu tu ôl y TGV, rydym yn dod i gasgliad eithaf pendant am beth fyddwn yn eu prynu. Nid yn syth bin efallai – bydd angen i ni fynd i’r gwinllannoedd i weld mwy, ond mae’r cysylltiadau yna at y dyfodol agos. Yn y cyfamser, rwy’n poeni am ein siwtcesys sydd ddeg gwaith trymach yn dod adref ac yn byrstio gyda gwin i’w gludo adref yn ddiogel. Llinos Rowlands Gwin Dylanwad Wine Dolgellau