COLEG HARLECH 50c YN CAU
Llais Ardudwy RHIF 461 MAWRTH 2017
CYMHARU DAU RIW
Ymateb i stori’r mis diwethaf Gyda thristwch mawr y clywsom fod Coleg Harlech i gau. Er i ni weld y dirywiad yn y Coleg dros y blynyddoedd diweddar ac er i ni ofni’r gwaethaf, mae’n drist iawn gweld fod Harlech yn mynd i golli sefydliad fu mor bwysig i’r dref. Roedd yn bwysig fel sefydliad addysg a chanolfan ddiwylliannol ond hefyd fel cyflogwr da yn cynnig amrywiaeth eang o swyddi. Mi fydd colled enbyd ar ei ôl. Nododd Caerwyn Roberts, y cynghorydd lleol, ei fod ‘wedi siomi’n fawr, ac er bod sôn am adleoli rhai o’r gwasanaethau, rhaid cofio na all Meirionnydd fforddio i golli swyddi fel hyn.’ Galwodd Dafydd Elis Thomas am astudiaeth o’r modd y gellid defnyddio’r safle i bwrpasau eraill. Mae gweithredwr yr adeilad, Addysg Oedolion Cymru, wedi ategu ei ymrwymiad i Harlech ac wedi pwysleisio pwysigrwydd cydweithio â’r gymuned yn ystod y cyfnod ansicr hwn. Mewn datganiad ar y cyd â Harlech yn Weithredol, dywedodd Prif Weithredwr Dros Dro Addysg Oedolion Cymru, Kathryn Robson: “Rydym yn cydnabod bod cynnal yr adeilad a’i asedau at ddiben defnydd parhaus y gymuned yn hollbwysig i Harlech a’r rhanbarth. Byddwn yn parhau gyda’n hymdrechion, ac yn cydweithio â’r gymuned i helpu i sicrhau bod unrhyw ddefnydd yn y dyfodol yn adlewyrchu anghenion lleol.” Ar ôl i Carol O’Neill, 30 Cae Gwastad, Harlech weld y stori yn rhifyn diwethaf Llais Ardudwy am y Llech, Harlech a Stryd Baldwin yn Dunedin, Seland Newydd, fe yrrodd gopi o’r dudalen flaen i’w merch, Leah, sy’n teithio Seland Newydd gyda’i chariad. Coeliwch neu beidio, roedden nhw’n bwriadu mynd yno ar y diwrnod canlynol. ‘Rhyfedd ynte,’ meddai Carol, ‘byd bach!’ Dywedodd Leah wrth ei mam nad oedd hi’n teimlo bod y stryd yn Dunedin mor serth â’r Llech [gweler isod]. Yn ôl Leah, mae’r Llech yn llawer mwy anodd ei gerdded. Dywed hefyd bod llawer iawn o ymwelwyr yn cyrchu yno. Gobeithio daw nifer i Harlech hefyd!
MWY O YMWELWYR Â CHASTELL HARLECH
Bu cynnydd o fwy na 35% yn nifer yr ymwelwyr â Chastell Harlech. Credir bod y datblygiadau newydd yn y castell wedi arwain at hyn. Cafodd y castell fwy o incwm ac mae’r siop wedi gweld cynnydd mawr mewn gwerthiant. Mae’r prosiect wedi ei ganmol yng ngwobrau Diwydiant Adeiladu Prydain yn 2016 ac mae wedi’i enwi yn rownd derfynol Gwobrau Ymddiriedolaeth Sifig 2017.
Llais Ardudwy
HOLI HWN A’R LLALL
GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk (07760 283024 / 01766 780541
SWYDDOGION
Cadeirydd: Hefina Griffith (01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com
Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones (01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@Intamail.com Casglwyr newyddion lleol Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960 Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Mawrth 31 am 5.00. Bydd ar werth ar Ebrill 5. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Mawrth 27 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’
2
Enw: Mair Eluned Gwaith: Wedi ymddeol Cefndir: Yn wreiddiol o Goedpoeth, ger Wrecsam ac yn ferch i löwr. Cefais fy magu ar aelwyd ddi -Gymraeg a derbyniais fy holl addysg trwy gyfrwng y Saesneg. Felly ychydig o eiriau o Gymraeg oedd gen i ac roeddwn yn dysgu Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgol - yn ôl fy nhystysgrif Safon Uwch llwyddais i basio Cymraeg (‘Foreign Language’!) Yn y brifysgol, cefais fwy o gyfle i ddod yn rhugl yn yr iaith ac erbyn i mi raddio roeddwn yn ddigon hyderus i dderbyn swydd yn Ysgol Ardudwy i ddysgu Hanes trwy gyfrwng y Gymraeg. Treuliais 7 mlynedd yn Harlech cyn symud i Ysgol Penweddig yn Aberystwyth ac yna i Ysgol y Preseli yng Nghrymych. Cefais swydd yn ôl yn Aberystwyth gyda’r Urdd ac yno y bûm i am nifer o flynyddoedd nes i mi gael gwaith gyda’r RSPCA. Roeddwn wrth fy modd yn gweithio gydag anifeiliaid ac yn cael y cyfle i symud yn ôl i’r gogledd - a byw unwaith eto yn Harlech. Yn y fan hon, wrth gwrs, cwrddais ag Edwin - yn y Lion dwi’n meddwl! Erbyn hyn rydan ni wedi priodi ac yn byw ar stad Tŷ Canol. Cadw’n iach: Dechreuais i chwarae golff ar ôl dod yn ôl i’r ardal a dwi’n treulio oriau ac oriau ar y cwrs ac yn y clwb. Dwi hefyd yn hoff iawn o feicio, a dwy flynedd yn ôl penderfynais roi cynnig ar feicio mynydd a byddaf yn mynd yn aml i Goed y Brenin i ddilyn y llwybrau arbennig yno. Mae Edwin wedi prynu beic ffordd newydd i mi a dwi’n edrych ymlaen at y tywydd braf i fynd am deithiau difyr. Cyn bo hir - pan fydd y glun newydd yn caniatáu - dwi’n edrych ymlaen hefyd at gerdded yn y mynyddoedd uwchben Harlech.
Darllen: Ar hyn o bryd dwi’n ailddarllen ‘The Tenant of Wildfell Hall’ gan Anne Bronte. Welais i raglen ddiddorol iawn am y chwiorydd Bronte dros y Nadolig a phenderfynais fynd yn ôl at eu gwaith. Radio a theledu: Radio - omnibws yr Archers ar fore Sul. Teledu - bron unrhyw gyfres dditectif - yn edrych ymlaen at y gyfres newydd o Broadchurch. Bwyta’n dda: Dwi wedi bod yn llysieuwr ers dyddiau coleg a dwi’n ceisio sicrhau fy mod yn bwyta’r pethau call er mwyn cadw’n iach. Serch hynny dwi’n or-hoff o chips! Hoff fwyd: Pryd o fwyd Indiaidd. Hoff ddiod: Gwin coch da - yn enwedig o Awstralia Dod allan i fwyta: Edwin, wrth gwrs, a ffrindiau agos sydd hefyd yn hoff o fwyd a diod! Mae criw bach ohonom yn mwynhau mynd ar y trên i gael pryd o fwyd yn Aberdyfi neu Bermo. Yn ffodus, mae gen i ffrindiau sydd yn bencampwyr ar goginio ac mae Edwin a finne yn falch o dderbyn gwahoddiad i fwyta gyda nhw yn Sarn Badrig neu Lain y Grug. Bwyd blasus, gwin ardderchog a chwmni difyr tu hwnt! Lle gorau: Pont Sgethin - byddaf wrth fy modd yn cerdded i ganol y mynyddoedd a chael picnic ar y bont yn rhyfeddu at brydferthwch Meirionnydd Gwyliau gorau: Anodd dewis rhwng Affrica, lle welais i anifeiliaid gwyllt yn cynnwys y gorila mynydd, neu Tsieina pan dreuliodd Edwin a finne fis yng nghwmni ein ffrindiau annwyl Haf a Doc yn teithio trwy’r wlad arbennig hon a gweld rhyfeddodau hen a newydd a chwrdd â phobl gyfeillgar tu hwnt. Gwylltio: Anghyfiawnder - roedd Dad yn sosialydd mawr ac yn mynnu bod pawb yn cael chwarae teg. Mae gweld annhegwch mewn unrhyw faes neu mewn unrhyw le yn y byd yn codi gwrychyn. Hoff rinwedd mewn ffrind: Amynedd - mae’n gysur i bob un ohonom gael ffrind sydd yn ddigon amyneddgar i wrando a chydymdeimlo ar adegau anodd. Arwr: Unrhyw un sydd yn fodlon codi
llais yn erbyn anghyfiawnder. Os oes angen enwi un, buaswn yn dewis Rosa Parks - dynes ddu o America a wrthododd godi o’i sedd ar fws i wneud lle i rywun gwyn. Cafodd ddylanwad mawr ar y frwydr i sicrhau hawliau teg i bobl dduon ac mae’n dangos bod pobl gyffredin yn gallu gwneud gwahaniaeth. Bai mwyaf: Siarad gormod efallai? Yn enwedig pan fydd chwilen yn fy mhen am rywbeth pwysig. Gwrando ar gyngor: Un drwg dwi’n meddwl - yn enwedig pan fydd pobl yn pregethu wrthyf am fod yn ofalus wrth reidio’r beic! Hapusrwydd: Bod yn fodlon eich byd - fedrwch chi ddim bod yn wirioneddol hapus os ydych yn ysu am rywbeth arall o hyd Beth wnaech chi efo £5000? Llogi villa mawr ym Mhortiwgal a gwahodd ffrindiau i ddod i aros efo ni i fwynhau’r tywydd braf a chwarae golff. Hoff liw: Melyn - yn arwydd o’r gwanwyn Hoff flodyn: Mae ’na lawer o ddewis yn yr ardd, fel arfer, ond nid dahlia na chrysanth yw’r dewis, ond cennin Pedr - blodyn melyn llachar gydag arogl bendigedig Hoff gerddor: Yn y byd clasurol y dewis yw Bach, ac yn y maes poblogaidd Al Stewart. Hoff ddarn o gerddoriaeth: Clasurol – consierto i’r ffidil gan Brahms. Poblogaidd – ‘Year of the Cat’ gan Al Stewart. Talent: Gallu darllen cerddoriaeth hwyrach y byddwn yn gallu dysgu chwarae offeryn wedyn. Hoff ddywediadau: ‘Daw eto haul ar fryn’, am fy mod yn ceisio edrych ar yr ochr bositif bob tro. Hefyd, yn ôl Edwin, ‘twpsyn’ pan dwi’n colli amynedd efo rhywun! Disgrifiad ar hyn o bryd: Yn hynod o ffodus a hapus. I ferch o’r dre, mae cael y cyfle i fyw mewn ardal wledig ac mewn cymuned glos yn fraint. Ar ben hynny dwi’n ddigon iach i fwynhau bywyd gyda gŵr da a chyfeillion ffyddlon. Mae colli rhywun agos yn gwneud i chi sylweddoli bod angen gwneud y gorau o bob munud a dwi’n benderfynol o fwynhau fy hun!
CHWILIWCH AM EICH PUNNOEDD!
TRIATHLON HARLECH
yn gofyn am wirfoddolwyr
Os ydych chi’n casglu arian mewn cadw-mi-gei ac yn hoff o gasglu punnoedd, yna mae’n rhaid i chi fod yn wyliadwrus. Mae darn punt newydd - gyda 12 ochr arno - ar y ffordd, ac ni fydd yr hen ddarn punt yn cael ei dderbyn mewn siopau ar ôl Hydref 15 eleni. Felly dyma air i gall, peidiwch â gadael i’r arian sydd wedi ei gynilo gennych fynd yn angof. A pheidiwch â dweud na chawsoch chi rybudd digonol am hyn!
GARDDIO A MWY Rhai o aelodau Clwb Triathlon Harlech sy’n trefnu’r ‘Digwyddiadau Ymosod ar y Castell’. Er bod gynnon ni ddynion yn aelodau hefyd roedden nhw’n rhy swil i gael tynnu eu llun! Rhes gefn o’r chwith i’r dde: Meirionwen Humphreys, Carol O’Neill, Susan Martin, Linda Soar a Sue Davies. Rhes flaen: Anne Fuller, Abigail Martin, Gwen Owen.
Annwyl Olygydd Ysgrifennaf ar ran tîm cynhyrchu’r gyfres ‘Garddio a Mwy’ ar S4C, sy’n dychwelyd yn y gwanwyn am gyfres arall. Y tro hwn, bydd ein garddwyr, Iwan a Sioned Edwards yn ymadael yn achlysurol â’u gardd yn Sir Ddinbych i gynnig help llaw i arddwyr sy’n chwilio am gymorth i gwblhau rhyw joban neu’i gilydd yn yr ardd, a hynny wrth sgwrsio’n gyffredinol am arddio wrth gwrs! Yn ogystal â gerddi preifat, rydym hefyd yn agored iawn i glywed am brosiectau garddio cymunedol neu grwpiau lleol, eto a hoffai fewnbwn gan y tîm. Ac ar wahân i’r garddio, mae eitemau sy’n hybu ein gwerthfawrogiad o’r byd natur sydd o’n cwmpas yn rhan
Ar 9 Ebrill bydd oddeutu 500 o athletwyr a rhedwyr yn cystadlu yn ein pedwar digwyddiad. Mae pob un ohonyn nhw’n dod i ben drwy ddringo’r 200 o risiau o Borth y Dŵr i’r llinell derfyn yng Nghanol Castell Harlech. Dyma’r 16eg flwyddyn i ni gynnal y digwyddiad gwych hwn, sy’n cael ei drefnu gan wirfoddolwyr ac sydd wedi cyfrannu dros £10,000 i grwpiau yn Harlech. Mae angen cryn dipyn o bobl arnom i helpu ar y diwrnod a sicrhau allweddol o’r gyfres wrth gwrs, llwyddiant y digwyddiad. Mae’r digwyddiadau’n digwydd dros gyda phwyslais arbennig ar y penwythnos cyfan ond byddem yn gwerthfawrogi eich help ar gadwraeth. I’r perwyl yma, unrhyw un o’r adegau canlynol: bydd Meinir Gwilym unwaith Sadwrn 8fed Ebrill 1-3yp i osod yr ardal gyfnewid wrth y Pwll eto yn ymweld â lleoliadau Sadwrn 8fed Ebrill 3-5yp i osod rhwystrau gwylwyr a threfnu man difyr, i gyfarfod ag unigolion diwedd y ras yn y Castell neu grwpiau, ac i ryfeddu ar Sul 9fed Ebrill – bore – helpu i gyfeirio athletwyr ar eu beic a rywogaethau – planhigiol ac rhedwyr a’u croesawu ar ddiwedd y ras anifeilaidd! – ym mhob cwr o’r Sul 3-5yp - clirio’r man cyfnewid wlad. Sul 3-5yp - cadw’r rhwystrau a man gorffen y ras yn y Castell. Felly, yn arddwyr neu’n Dyma ffordd wych i gyfarfod pobl - gwirfoddolwyr eraill a naturiaethwyr, anogwn eich chystadleuwyr, llawer ohonyn nhw’n dychwelyd flwyddyn ar darllenwyr i ddod i gysylltiad ôl blwyddyn. Mae pawb yn cael brechdan gig moch a diod ar os oes unrhyw beth yr hoffen ddiwrnod y ras ac fe gewch wahoddiad i barti hefyd! Rhyw nhw ei rannu gyda’r gymuned wythnos ar ôl y digwyddiad rydym yn gwahodd pawb i ymuno â ni ehangach ar draws Cymru. am gaws, gwin a chwrw. Cewch wybod mwy am ddigwyddiadau Am ragor o wybodaeth, neu Ymosod ar y Castell ar www.harlechtriathlon.org.uk i gynnig syniad am eitem, Os hoffech wisgo hwdi neu grys-T ‘Ymosod ar y Castell’, gallwch dylid e-bostio garddioamwy@ archebu’r rhain o’r wefan. cwmnida.tv, ffonio 01286 685300 I wirfoddoli e-bostiwch anne.fuller@harlechtriathlon.org.uk neu neu adael neges ar ein tudalen cysylltwch ag un o’r merched uchod. Facebook (facebook.com/ garddioamwy).
3
LLANFAIR A LLANDANWG
COLLI BETH
Elisabeth Rhys Jones Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad at deulu’r diweddar Beth a fu farw yn ddim ond 53 oed ar 7 Chwefror eleni wedi brwydr hir a dewr yn erbyn afiechyd creulon. Magwyd Beth yn Llanfair, yn ferch i Gwilym a Maria Jones, ac yn chwaer i David, Santina a Tudor. Roedd hi a’i chwaer a’i brodyr yn rhai o ddisgyblion olaf Ysgol Gynradd Llanfair cyn ei chau yn yr 1970au. Oddi yno aeth Beth i Ysgol Ardudwy, Harlech. Cynhaliwyd gwasanaeth angladdol iddi yn Henffordd, lle’r oedd yn byw, ac ar Merched y Wawr Llanfair a Harlech Croesawodd Hefina’r aelodau i’r cyfarfod hwn. Wedi delio â materion y Mudiad aethpwyd ymlaen i ofyn am wirfoddolwyr i roi’r Llais ar dâp; cytunodd Bronwen ag Eirlys i wneud hyn. Dywedwyd bod lleoliad y cinio wedi newid i’r Clwb Golff yn Harlech a bod Cana-mi-gei yn barod i ddod i’n diddori. Croesawu dysgwyr y cylch wnaethom y mis hwn gyda’u tiwtor Lowri T Jones, a Pat Thomas, cyn athrawes ac aelod gweithgar o Bwyllgor Iaith a Gofal y Mudiad. Chwaraewyd sawl gêm Gyrfa Chwilen gyda Pat yng ngofal y gemau. Roedd y dysgwyr yn cael cyfle i chwarae trwy gyfrwng y Gymraeg a sgwrsio mewn grwpiau bach. Ar ddiwedd y noson paratowyd lluniaeth gan yr aelodau. Enillwyd gwobrau raffl gan Helen, Rosie, John, Lowri ac Eirlys. Diolchwyd gan John ar ran y dysgwyr a Hefina ar ran y gangen.
ddydd Sadwrn, 25 Chwefror, cynhaliwyd gwasanaeth coffa iddi yn Eglwys Llanfair, ac yna ym mynwent yr eglwys, lle daeth teulu a ffrindiau ynghyd o bell ac agos i gofio amdani. Cymerwyd y gwasanaeth gan y Parch Miriam Beecroft, a’r Tad Deiniol, ffrind i’r teulu, a draddododd y deyrnged a baratowyd gan Gwilym Jones, tad Beth. Myfanwy Jones oedd wrth yr organ. Cydymdeimlwn â’i gwr a’i phlant a’r teulu agos, yn ogystal â’u teuluoedd hwythau. * * * Gobeithiwn gynnwys y deyrnged i Beth yn rhifyn nesaf y Llais.
yng Nghanolfan Tŷ Newydd, Llanystumdwy Dydd Sadwrn, Ebrill 8, 2017 Tiwtor: Karen Owen Ffi’r Cwrs: £32 y pen
Os ydych yn awyddus i gyfrannu at Llais Ardudwy ond ychydig yn ansicr ynghylch sut i fynd ati, beth am gofrestru ar y cwrs hwn? Cewch arweiniad ar sut i ddod o hyd i stori dda a’i hysgrifennu mewn ffordd ddifyr a bachog, a chyflwyniad ar sut i ddefnyddio’r we a chyfryngau cymdeithasol i gyrraedd cynulleidfa ehangach. Mae Llais Ardudwy yn barod i gefnogi hyd at dri unigolyn o’r ardal i fynychu’r cwrs. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch ag unrhyw un o’r golygyddion.
Seindorf Arian Harlech
BINGO PASG
Nos Fercher, Ebrill 12, am 6.30 yn Ystafell y Band, Harlech Elw at y Band Croeso cynnes i bawb!
GETHIN SHARPE YN ENNILL PEDWAR TLWS
PWLL NOFIO HARLECH Noson yng nghwmni ERIC JONES Nos Iau, Mawrth 30 7.00 - 9.00 Mynediad: £5 4
Cwrs Undydd Ysgrifennu i Bapurau Bro
Dros y 12 mis diwethaf mae Gethin wedi bod yn cystadlu ym mhencampwriaeth ralio F1000. Yn ystod y bencampwriaeth bu’n cystadlu mewn amrywiaeth o lefydd yn cynnwys Sir Fôn, Bryste (Bristol), Pen-bre, Blackpool a’r Alban. Bu Gethin yn cystadlu mewn 6 rownd yn ystod y flwyddyn a bu iddo ennill 3 rali, dod yn ail mewn 2 a methu â gorffen un oherwydd i’r ‘gearbox’ dorri. Canlyniad hyn i gyd oedd i Gethin ennill y bencampwriaeth am 2016. Yn ddiweddar bu i Gethin fynychu seremoni wobrwyo’r ‘Association of North Western Car Clubs’. Gadawodd y seremoni gyda 4 tlws - dipyn o gamp yn ei flwyddyn gyntaf o gystadlu. Mae Gethin, dros y gaeaf, wedi uwchraddio injan y car ar gyfer tymor 2017 ac o ganlyniad mi fydd yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Tarmac Cymru gan gymryd rhan yn ei rali gyntaf ar y 12fed o Fawrth yn Epynt. Hoffai Gethin ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi ei gefnogi dros y 12 mis diwethaf, yn enwedig Toyota Harlech a Russell, ei dad.
Cyfarfod NFU Cymru Meirionnydd
Bistro Newydd Harlech Pan ddaeth Kath Sylvester a Wayne Sampson i agor tŷ bwyta yn Harlech, daethant ag amrywiaeth o fwydydd y Caribî a’u sbeisys. Saif eu tŷ bwyta ar safle cadarnle Edward I, lle cododd un o’i gestyll. Yn ddiweddarach ar eu taith goginio penderfynwyd symud y tŷ bwyta i brif safle yn nhref Harlech i barhau â’u dymuniad i weini bwydydd i fwydo’r enaid. Ar ôl cryn amser yn gweini i’r cyhoedd penderfynwyd symud ymlaen a rhoi’r cyfle i gogydd ifanc addawol brwdfrydig gymryd y busnes a’i droi yn ôl yn Fistro traddodiadol syml wrth ddefnyddio cynnyrch lleol. Wedi gweithio yn y gwestai mwyaf moethus lleol cymerwyd y busnes gan y cogydd a’r perchennog newydd, sef y bachgen ifanc lleol Lee Williams o Ddyffryn Ardudwy a gychwynnodd ei yrfa yng ngwesty ‘Maes y Neuadd’ ar brofiad gwaith. Ar ôl cael blas o’r profiad gwaith fe gafodd Lee y fraint o gael hyfforddiant hefo’r prif gogydd adnabyddus Glyn Roberts, Castle Cottage, Harlech. Mae ei yrfa wedi mynd â fo i weithio yn ‘Y Meirionnydd’, Dolgellau ac, yn hogyn ifanc, cafodd swydd fel prif gogydd y ‘Bae Abermaw’, Bermo, a’r gwesty moethus ar lan Tal y Llyn. Dim ond y bwydydd lleol gorau a weinir gan Lee ac fe gewch ganddo blatiad o fwyd Cymreig da er mwyn i chi gael ymlacio a mwynhau’r steil newydd o fwyta, megis shanc oen wedi ei goginio’n araf, ‘rarebit’ Cymreig syn cynnwys cawsiau lleol. Mae’r fwydlen yn syml ond yn llawn blas. Ni fyddai’r Bistro’n gyflawn heb y cinio Sul traddodiadol fel oedd nain yn ei wneud. Mae Lee’n dod a’r dull bwyd cartref i’r plât gan gynnwys amrywiaeth o gigoedd llawn sudd. Cynigir profiad i deuluoedd gael dod at y bwrdd a chael ymlacio heb orfod coginio a golchi llestri. Hen enw’r busnes a sefydlwyd gan Lee oedd ‘Soul Food’ ond mae wedi dewis rhoi enw o’r newydd sef ‘Castle Bistro’. Mae’r bwyty yn agored o ddydd Mawrth tan ddydd Sadwrn 12:00 tan 5:00 y prynhawn, a chynigir y fwydlen nos rhwng 6:30 a 9:00 ac ar ddydd Sul o 12:00 tan 4:00 y prynhawn. Mae’r bwyty wedi cau ar ddydd Llun. Er mwyn archebu lle, ffoniwch 01766 780416, neu anfonwch e-bost reservations@castlebistro.net Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu.
Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes
Ddechrau Mawrth, daeth Rhys Evans, PCSO Tîm Plismona Gwledig, i siarad gyda ffermwyr lleol yng nghyfarfod sirol NFU Cymru Meirionnydd yng Nghlwb Rygbi Dolgellau. Roedd y cyfarfod yn gyfle i aelodau drafod a chael cyngor ar faterion megis rheoli cŵn sy’n poenydio defaid, lladrata gwledig a thipio ysbwriel yng nghefn gwlad. Meddai Geraint Rowlands, Cadeirydd Sir NFU Cymru Meirionnydd: ‘Rydym yn ddiolchgar iawn i Rhys Evans, PCSO am ddod i annerch y cyfarfod. Mae materion megis rheoli cŵn yn fater o bryder i ffermwyr yr adeg hon o’r flwyddyn.’
Dyma hunangofiant un o frenhinoedd opera sebon enwocaf Cymru, yr anfarwol Meic Pierce, neu’n hytrach hunangofiant y gŵr y tu ôl i’r rapsgaliwn hoffus hwnnw sydd wedi dod â gwên i wyneb gwylwyr Pobol y Cwm am ddegawdau. Fel y mae ffyddloniaid y rhaglen boblogaidd yn ei wybod, mae’r actor bellach wedi ymddeol a Meic druan yn ei fedd, ond i gyd-fynd â gyrfa sydd wedi para dros hanner canrif, cawn yma gip ar fywyd Gareth Lewis – ei blentyndod, ei yrfa, a’i deulu. Gellir dweud bod y celfyddydau yng ngwaed Gareth Lewis, ac yntau wedi ei fagu ar aelwyd o gantorion. Gyda cherddoriaeth o’i amgylch o’r crud, cafodd blentyndod difyr dros ben ynghanol prysurdeb y Felin ac mae’r straeon doniol, bachgennaidd yn rhai sy’n llawn cynhesrwydd, yn enwedig efallai’r stori honno amdano’n
Aelodau lleol yn cyfarfod NFU Cymru Canolbarth Gwynedd Ar 3 Mawrth bu Dafydd Elis Thomas, Aelod Cynulliad Annibynnol Dwyfor Meirionnydd, yn annerch ffermwyr lleol yng nghyfarfod sirol NFU Cymru Canolbarth Gwynedd yng Ngwesty’ Royal Goat, Beddgelert. Yn ystod y cyfarfod, diweddarodd Dafydd Elis Thomas yr aelodau ar faterion amaethyddol a gwledig. Hefyd cafodd aelodau ddiweddariad polisi gan NFU Cymru yn ogystal â diweddariadau o’r gwahanol gyfarfodydd bwrdd, pwyllgor a chyngor fu’n digwydd yn ddiweddar. llosgi ei geg yn ceisio tanio smôc wrth iddo adrodd hanes ei brofiadau cyntaf yn smocio! Mae ei hiwmor i’w weld yn y cwpledi y bu’n eu cyfansoddi tra oedd ar set Pobol y Cwm, nifer ohonynt yn deyrngedau i sawl cymeriad enwog arall, ac ni all neb beidio â hel atgofion am y cyfnod hwnnw lle serennai Meic, Magi Post a Mrs Mac. Ond yn fwy na’r straeon hyn, hefyd mae sylwebaeth onest am newidiadau mawr yn y byd actio yng Nghymru a gofid Gareth ynghylch y diffyg cyfleoedd yn y maes hwnnw. Roedd toriadau i omnibws Pobol y Cwm ac effaith hyn ar ddarpariaeth S4C o ran rhaglenni Cymraeg eu hiaith i rai di-Gymraeg yn peri gofid iddo, a chyfrannodd hyn at ei benderfyniad i ymddeol. Mae wastad yn braf clywed barn onest mewn hunangofiannau. Mae’n hynod amlwg wrth ddarllen y gyfrol hon fod Gareth Lewis yn gyfaill arbennig ac yn ddyn teulu mawr, ac mae agosatrwydd yn ei ddawn dweud, yn ogystal ag yn ei berthynas gyda phawb o’i amgylch, boed hynny yng Nghymru neu yn y Gaiman bell. Er bod llawer mwy i fywyd yr actor hwn na’i rôl yn Pobol y Cwm, anodd yw peidio â chloi’r adolygiad heb ei ffarwél arferol, ‘Hwrê wan’. Llinos Griffin Adolygiad oddi ar www.gwales. com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
5
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Festri Lawen, Horeb Nos Iau, 9 Chwefror cawsom gwmni’r Parch Huw John Hughes. Cyflwynwyd ef gan y cadeirydd, Edward Owen, a diolchodd iddo am fod mor barod i ddod atom ar fyr rybudd gan fod Seimon Menai yn methu dod. Testun ei sgwrs oedd dryllio’r llong ‘The Royal Charter’ ger Moelfre, Ynys Môn yn 1859 ond cyn hynny soniodd am longddrylliad arall ger Moelfre yn 1959 a gwrhydri’r enwog Richard Evans, llywiwr bad achub Moelfre a’i griw. Mae Huw John Hughes yn athro, darlithydd a phregethwr ac fel y gwelsom ar y noson mae’n actor hefyd. Bu’n weinidog i Richard Evans ac roedd yn ei adnabod yn dda ac fe roes i ni ddarlun byw ohono trwy sgwrs rhyngddynt ac yntau’n dynwared Richard Evans. Rhoddodd hanes y Royal Charter i ni trwy ddweud hanes a disgrifio rhai o’r teithwyr ar y fordaith gan gynnwys y capten, a rhoddodd ddarluniau byw iawn ohonynt hwythau. Diolchodd Edward iddo am noson addysgiadol, ddifyr a doniol iawn ar adegau. Roedd peth o’r aur a’r gemwaith a ddarganfuwyd ar y Royal Charter i’w werthu yn yr Amwythig. Erbyn hyn mae’r arwerthiant wedi ei gohirio. Mae rhai o’r deifwyr yn awyddus iddynt gael eu harddangos i’r cyhoedd cyn eu gwerthu. Gofalwyr y te oedd Rhian Davenport, Rhian Dafydd, Beryl a Meinir. Ar Fawrth 9fed bydd Cinio Gŵyl Ddewi yn Nineteen.57 a’r wraig wadd fydd Mair Tomos Ifans. Cyfarfod Gweddi Fyd-eang y Chwiorydd Cynhaliwyd y Cyfarfod Gweddi yn Festri Horeb bnawn Gwener, 3 Mawrth. Arweiniwyd y cyfarfod gan Jean Roberts a’r organyddes oedd Rhian Dafydd. Paratowyd y gwasanaeth eleni gan Chwiorydd Cristnogol Ynysoedd y Philipîn. Diolch yn fawr i bawb a gymerodd ran yn y gwasanaeth. Gwnaed casgliad o £47.00. Yn dilyn y gwasanaeth cafwyd cyfle am baned a sgwrs.
6
Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn Neuadd yr Eglwys bnawn Mercher, 15 Chwefror. Croesawyd pawb gan Gwennie. Anfonodd ein cofion at Miss Lilian Edwards sydd wedi ymgartrefu yn Hafod Mawddach yn y Bermo ac at Miss Glenys Roberts oedd yn methu dod oherwydd iddi syrthio ac anafu ei choes. Croesawodd Mrs Olwen Jones o fferm Coed Rhoslwyd, Rhydymain, atom am y prynhawn. Athrawes oedd Olwen a chyn ymddeol roedd yn bennaeth Ysgol Gynradd Llanelltyd. Mae Olwen yn mwynhau gwneud amrywiaeth o waith llaw, mae’n cynnal dosbarthiadau ac yn mynd ar gyrsiau i ddysgu sgiliau newydd. Mae’n hoff iawn o waith ffeltio a chreu cardiau o bob math a disgrifiodd i ni sut mae’n gwneud y gwaith ffeltio a chreu’r cardiau. Roedd yr arddangosfa o’i gwaith yn werth ei gweld. Diolchwyd yn gynnes i Olwen gan Iona am brynhawn diddorol a chartrefol. Rhoddwyd y te a’r raffl gan Enid, Olwen, Blodwen, Gwyneth a Dilys. Ar Fawrth 15fed, byddwn yn cael cwmni plant yr Ysgol Gynradd a’u hathrawon i ddathlu Gwyl Ddewi. Clwb Cinio Cyfarfu’r Clwb Cinio ar Chwefror 21 yn yr Oakeley Arms ym Maentwrog. Gan ei bod yn hanner tymor roedd amryw yn methu dod ond ar ddiwrnod diflas o ran tywydd mwynhaodd unarddeg ohonom ginio blasus a chwmnïaeth ddifyr. Ar Fawrth 21 byddwn yn mynd i Aelybryn, yno erbyn 12.00. Llwyddiant Mae gan Sophie Collins, Bron Hyfryd, Dyffryn, siop farbwr yn Llanbedr. Yn ddiweddar cafodd hi ei dewis yn farbwr gorau Gwynedd. Fe’i gwelwyd ar y rhaglen Heno yn torri gwallt, eillio a thrimio barf. Bydd Sophie’n mynd i Gaerdydd i gystadlu i fod yn farbwr gorau Cymru. Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Sophie.
CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT Cafwyd cyflwyniad am effaith plastig mân sy’n cael ei olchi i’r traeth ar fywyd y môr a bod rhai o draethau’r ardal wedi eu clirio dros benwythnos lle cafwyd hyd i tua 800 o ddarnau. Dangoswyd ffilm fer gan Mike Tregenza yn dangos sut oedd rhai’n America yn casglu’r plastig mân o’r traeth ac eglurodd bod bwriad gan y grŵp i archebu rhai o’r hudlennau er mwyn gwneud y gwaith ar draethau’r ardal yma. Gofynnodd a fyddai’r Cyngor yn fodlon cyfrannu tuag at y gost. Cytunwyd i drafod y mater ymhellach gan ei fod yn eitem ar yr agenda. CEISIADAU CYNLLUNIO Codi polyn 17.5m gyda 3 antena, 2 dysgl trawsyrru, 2 gaban offer a 2 gaban mesurydd - Tir yn ‘The Barns’, Ffordd Tyddyn y Felin, Tal-y-bont. Cefnogi’r cais hwn. Cais am Dystysgrif Defnydd Cyfreithiol ar gyfer lleoli a defnydd preswyl o garafán sengl - Tir yng nghefn Sands Leisure Complex, Tal-y-bont. Cytunwyd bod yr aelodau oedd am ysgrifennu at y Parc Cenedlaethol ynglŷn â’r cais yn gwneud hynny’n uniongyrchol. Datblygu Maes Parcio Cytunwyd i gadw £1,000 wrth gefn bob blwyddyn i ddatblygu’r uchod yn yr hen barc chwarae. Penderfynwyd bod angen is-bwyllgor i weithredu ar hwn. UNRHYW FATER ARALL Mae pwyllgor Eglwys Llanenddwyn wedi penderfynu rhoi’r olew oedd ganddynt dros ben yn y tanc ar ôl i’r Eglwys gau i’r neuadd bentref. Diolchwyd iddynt am hyn. Rhoddwyd yr hawl i Edward Williams waredu’r hen oleuadau oedd ym maes parcio’r neuadd a diolchwyd iddo am ei waith yn archebu a gosod y rhai newydd. Cefnogwyd cais i ofyn am fariau ar groesfan stesion Dyffryn Ardudwy yn lle gatiau. Mae rhai pibellau dŵr i lawr Ffordd Glan y Môr wedi eu gosod yn anghywir ac y bydd angen ailagor y ffordd i’w gosod yn iawn. Credir bod llwybr yn y fynwent yn beryglus efo mwsogl. Bydd Emrys Jones yn delio gyda gwaredu’r tyrchod sydd yn y fynwent.
Sefydliad y Merched Tybed oes gennych chi awydd bod yn aelod o Sefydliad y Merched Dyffryn Ardudwy? Cynhelir noson agored ar 14 Mawrth rhwng 7 a 9 yr hwyr yn Neuadd y Pentref i gael sgwrs dros bwdin a diod. Mae’n fudiad gweithgar iawn gydag atyniadau i bob oed yn cynnwys crefftau, chwaraeon, clybiau cinio, clybiau darllen, siaradwyr, tripiau, a chyfeillgarwch a llawer mwy. Os am weld mwy mae gennym wefan ar www.thewi. org.uk/gwynedd.meirionnydd neu ar y Gweplyfr Gwynedd Meirionnydd Federation. Gallwch gysylltu â Jill Houliston ar 01341 241661 am fwy o fanylion neu’n well fyth dowch i’r Neuadd am sgwrs wyneb yn wyneb. Gwasanaethau’r Sul, Horeb MAWRTH 12 Parch Ioan Davies 19 Geraint a Meinir Lloyd Jones 26 Parch Goronwy Prys Owen EBRILL 2 John Cadwaladr
Cofion Rydym fel ardal yn meddwl am Gareth a Helen Charlton, Trem Enlli ac Aled eu mab yn eu pryder am eu merch ddeunaw oed Jenny sydd wedi bod yn wael iawn yn Ysbyty Gwynedd. Mae Jenny wedi cael dod adref a rŵan mae’n aros am drawsblaniad aren. Diolch Dymuna Eifiona, Marjorie, Andrew a Simon ddiolch o galon i’r teulu, ffrindiau a chymdogion am y galwadau ffôn, blodau a chardiau a dderbyniwyd yn eu profedigaeth o golli gŵr, tad a thaid annwyl; roedd y cwbl yn gysur mawr iddynt. Hefyd diolch i’r nyrsys cymunedol am eu gofal ohono, ac i’w gartref Bryn Blodau a chartref y Bay am eu gofal dwys. Hefyd i’r Canon B Bailey am ei gwasanaeth ac yn olaf i Glyn Rees a’i Fab am eu trefniadau trylwyr. Diolch a rhodd i’r Llais £20
GRIFFT LLYFFANT
CYNGOR CYMUNED LLANFAIR MATERION YN CODI Torri Gwair Cytunwyd i ofyn i Mr Arwel Thomas am bris i dorri gwair y fynwent a gofyn i Mr Meirion Griffith am bris i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus eto eleni. Derbynwiyd llythyr gan Mr Arwel Thomas yn amlinellu’r gwaith ychwanegol y mae wedi ei gwblhau yn y mynwentydd ar ran y Cyngor sef clirio a thacluso’r llwybr a gwaredu’r mwsogl a thyfiant o’r llwybr, torri ac ysgythru drain, coed ag eiddew o’r ffens yn y fynwent newydd, torri coed, eiddew a drain oddi ar wal yr hen fynwent a’r fynwent newydd a thorri’r eiddew a’r goeden gelyn wrth ymyl porth yr Eglwys. Hefyd mae wedi tacluso rhwng y cerrig beddi, wedi torri a chlirio coed celyn ac onnen oedd yn tyfu rhwng y cerrig beddi a thorri a chlirio drain ym mynwent Llandanwg. Diolchwyd iddo am wneud y gwaith hwn a chytunwyd bod y ddwy fynwent yn edrych yn daclus iawn. CEISIADAU CYNLLUNIO Adeiladu estyniad ochr unllawr ac estyniad dormer to fflat - Rebena, Llandanwg. Cefnogi’r cais hwn. MATERION CYNGOR GWYNEDD Adroddodd Annwen Hughes ei bod wedi derbyn copi drafft o’r cytundeb rhwng y Cyngor Cymuned a Chyngor Gwynedd ynglŷn â chael 10% o ffioedd parcio maes parcio Llandanwg. Dywedodd Annwen bod rhai gwallau yn y cytundeb a’i bod wedi cysylltu gyda’r Cyngor yn barod ynglŷn â hyn; hefyd bod ffi rheoli o £150 i’w dalu bob blwyddyn. Cynhaliwyd cyfarfod gyda Mr Iwan ap Trefor o Gyngor Gwynedd a thrigolion Pensarn i drafod eu pryderon ynglŷn â’r goryrru sy’n digwydd ar y ffordd heibio croesffordd Pensarn a datganwyd bod Cyngor Gwynedd yn ystyried gosod deunydd ar y ffordd i arafu’r gyrru; hefyd adnewyddu’r arwyddion 40mya sydd yno’n barod gyda chefndir melyn er mwyn tynnu sylw gyrwyr.
Grifft llyffant a welwyd yn Nhalsarnau yn ddiweddar. Tybed a oes unrhyw un arall wedi sylwi ar rywbeth tebyg mewn man arall yn yr ardal ac, os felly, ar ba ddyddiad?
Clwb 200 Côr Meibion Ardudwy CHWEFROR 2017 1. £30 Rhodri Dafydd 2. £15 Denise Jones 3. £7.50 Gwen Edwards 4. £7.50 Gareth Jones 5. £7.50 Ifor Evans 6. £7.50 Mair Evans
Neuadd Goffa, Llanfair
GYRFA CHWIST
ar y drydedd nos Fawrth yn y mis am 7.00 o’r gloch Croeso i ddechreuwyr.
R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU
Sêl Cist Car, Porthmadog SÊL CIST CAR Fe gynhaliwyd 25 o seliau Cist Car Porthmadog rhwng mis Mawrth a Hydref y llynedd ar dir Clwb Chwaraeon Porthmadog. Yn ystod misoedd y gaeaf fe gyflwynwyd elw`r seliau i elusennau lleol: A. Yr arian a gyfrannwyd gan ymwelwyr wrth y giat yn ystod tymor 2016 - £2,000. Cafodd yr arian hwn ei rannu rhwng Ambiwlans Awyr Cymru a Thŷ Gobaith. B. Arian mynediad masnachwyr yn ystod tymor 2016 - £6,000. Aeth yr arian hwn i Glwb Chwaraeon Madog. Dros y chwe tymor diwethaf, i cyflwynwyd dros £63,000 i elusennau lleol. Diolch i`r tri Aled, Bryn ac Ifan o Glwb Pêl-droed Llanystumdwy sy’n gwirfoddoli yn gynnar ar fore Sul yn wythnosol, Nia Bont a`i chriw am redeg y garafan byrbrydau, yr holl fasnachwyr ac ymwelwyr dros y tymor. Diolch hefyd i Wasg Eryri am yr arwyddion newydd. Bydd tymor newydd o Seliau Cist Car Porthmadog yn ailddechrau ar y 26ain o Fawrth 2017. Felly, beth amdani? Dewch i gefnogi gyda char (£6) neu ymweld ar fore Sul. Mae’r gatiau yn agor i fasnachwyr am 7.00 y.b ac i ymwelwyr rhwng rhwng 8.00 y.b ac 1.00y.p. Os am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Aled Jones ar 07766 128667 /Aled Griffith, Tŷ Nanney, Tremadog 01766 515160 neu Facebook – Sêl Cist Car Porthmadog. Diolch am y gefnogaeth.
7
HARLECH Teulu’r Castell Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Mawrth, 14 Chwefror, gan Edwina Evans. Dymunwyd yn dda i bawb oedd yn methu bod gyda ni, ac yn arbennig dymuniadau gorau i Mair M Williams oedd yn Hafod Mawddach. Cydymdeimlwyd gyda Maureen Jones a’r teulu ar golli cefnder Nick Davies o Flaenau Ffestiniog, a hefyd cyfnither Elaine o Gernyw. Roedd Dorothy Harper yn cofio at bawb. Bydd Edwina’n cysylltu gyda’r aelodau am ddyddiad cyfleus i Mrs Anwen Williams drefnu ein bod yn mynd yn ôl ein harfer i Ysgol Tanycastell. Mae pawb yn edrych ymlaen at y digwyddiad yma, a bydd y pres te a’r raffl yn mynd at yr ysgol. Diolch i bawb sydd wedi dod a nwyddau at y bwrdd gwerthu; mae hwn yn help at wneud tipyn o bres ychwanegol at y gronfa, a diolch i bawb am y rafflau, ac i’r Pwyllgor am drefnu’r te. Croesawyd Haf Meredydd oedd wedi dod i roi sgwrs am Ynys Enlli. Cafwyd sgwrs a hanes yr ynys efo lluniau ac roedd pawb wedi mwynhau’r hanes a’r golygfeydd. Aeth rhai o’r aelodau draw i’r ynys y llynedd ond mae rhai ohonom yn edrych ymlaen at gael mynd yno eleni. Diolchwyd i Haf gan Myfanwy Jones, oedd wedi bod ar y daith y llynedd gyda Haf. Genedigaeth Llongyfarchiadau i Dylan a Vicky Howie (Caer) ar enedigaeth eu mab, Jac Evan ar 22/2/17 yn 10 pwys 5 owns, brawd bach i Charlie. Trydydd ŵyr i Bethan a Gordon Howie, gor-ŵyr i Glenys Griffiths, Harlech a Gwenfair Howie, Llanbedr, heb anghofio Nain a Thaid, sef Sue a Dennis Owen, Pentre Mawr, Dyffryn Ardudwy, Llongyfarchiadau i chi i gyd gan bawb yn yr ardal. Pen-blwydd Pen-blwydd hapus i Tom Mort, Monabri a oedd yn 80 oed yn ddiweddar. Cafwyd parti i ddathlu gyda’i gyfeillion yn y Clwb Golff.
8
Sefydliad y Merched Harlech Croesawyd yr aelodau nos Fercher 8 Chwefror 2017 gan y Llywydd Christine Hemsley. Canwyd y gân Meirion gyda Myfanwy Jones yn cyfeilio. Dymunwyd yn dda i Libby Williamson a Mavis Kershaw, y ddwy aelod wedi bod yn cwyno’n ddiweddar. Gan fod rhai o’r banciau’n cau, cafwyd sgwrs fer gan Rosie McAllister am rai o’r cyrsiau sy’n cychwyn yn y pwll nofio am hyn. Rhoddwyd cardiau pen-blwydd i’r aelodau oedd yn dathlu’r mis yma. Darllenwyd y llythyr o’r Sir a chofnodwyd dyddiadau o bwys sef y te Cymraeg ym Mhlas Tanybwlch ddydd Llun 6 Mawrth gyda John a Roger Kerry yn ein diddori, a Chyngor y Gwanwyn yn y Bermo ar 4 Ebrill 2017; hefyd Cyfarfod Blynyddol Cymru yn Sir Fôn ar 26 Ebrill 2017. Ar ôl trafod hyn i gyd trefnwyd y Noson Gymraeg ar nos Fercher, 8 Mawrth; mae rhai o’r aelodau’n ymarfer at y noson dan arweiniad Sheila Maxwell. Doedd dim gŵr na gwraig wadd yma’n rhoi sgwrs i ni ond roedd pawb wedi paratoi bwyd bwffe ar gyfer parti pen-blwydd yn 21 oed. Dyma wledd gwerth ei gweld a phob aelod wedi gwneud rhywbeth gwahanol. Yr enillydd oedd Sheila Maxwell wedi gwneud mefus mewn jeli fodca. Roedd pawb wedi mwynhau’r noson ac wedi profi gwahanol ddanteithion. Mae pob Sefydliad o’r Bermo i Penrhyn wedi cael gwahoddiad i’r Cyfarfod Cymraeg ym mis Mawrth.
Capel Jerusalem HARLECH
MAWRTH 12 Undebol - Br John Price, [Engedi] am 2.00 19 Parch Christopher Prew am 4.00 EBRILL 9 Undebol - Parch Iwan Ll Jones am 3.30
sef Jac yn y Bocs a phedair o ddramâu byrion eraill – dramâu gyda deialog sy’n rhedeg yn llyfn MATERION YN CODI Cae Chwarae Llyn y Felin ac yn hawdd iawn i’w llwyfannu; Adroddodd Judith Strevens a Caerwyn Roberts eu bod wedi cael sgwrs delfrydol i gwmnïau amatur. gyda Mr Lawrence Smith o CADW yn ddiweddar a’i fod wedi datgan bod Mae Jac yn y Bocs yn gan CADW newyddion da i’r Cyngor ond nad oedd am ddatgelu ddim cynnwys elfen o ddychan mwy bryd hynny. Cytunodd Judith Strevens gysylltu ymhellach gyda Mr wrth ymdrin â sefyllfa o banig Smith i gael mwy o fanylion. ymysg llywodraethau lleol ac Hamdden Harlech ac Ardudwy awdurdodau swyddogol eraill. Er Adroddodd Freya Bentham ei bod wedi mynychu cyfarfod o Fwrdd yr bod pedwar ar ddeg o gymeriadau uchod. Roedd yr arwyddion Cymraeg wedi eu gosod ynghyd â rhai ynddi hawdd iawn fyddai dyblu Saesneg ac roedd arwydd Cymraeg yn mynd i gael ei osod yn y cyntedd. ar actorion ac, fel mae’r teitl Datganwyd pryder nad yw’r lifft yn gweithio a chytunodd Freya wneud yn ei awgrymu, dim ond bocs ymholiadau ynglŷn â hyn. sydd ei angen ar y llwyfan! Yn GOHEBIAETH Emyr Edwards yr ail ddrama, Colli Gafael, mae Clarke Telecom Dyna deitl casgliad o ddramâu yna ymdriniaeth sensitif iawn â Holwyd a oes gan y Cyngor unrhyw wrthwynebiad i osod mast signal ffôn byrion a gyhoeddwyd ddiwedd sut y mae’r clefyd dementia yn symudol ym maes parcio Bron y Graig Uchaf. Cytunodd pawb nad oedd mis Rhagfyr diwethaf gan Emyr gallu effeithio’n wrthdrawiadol gwrthwynebiad i’r mast hwn. Edwards. Gwahoddwyd Bob ar berthnasau - sefyllfa y mae Coed Bron y Graig Roberts, Cadeirydd Cwmni sawl un ohonom, rwy’n siŵr, yn Derbyniwyd llythyr gan ŵr yn datgan pryder am gyflwr y coed sydd Drama Eglwys y Crwys, i fwrw ymwybodol ohoni. Drama yw gyferbyn â’i gartref ym maes parcio Bron y Graig Uchaf. golwg dros y gyfrol. hon wedi ei hanelu, mi dybiwn, at UNRHYW FATER ARALL Nid oes gwybodaeth wedi dod i law ynglŷn â’r cynlluniau parthed ail-leoli’r Y gŵyn fwyaf y mae dyn yn ei actorion mwy profiadol. chlywed gan gwmnïau drama llyfrgell. Mae’r drydedd ddrama, ‘Uffern’, Mae gorchuddion golau wedi dod yn rhydd ar rai o’r lampau ar stad Tŷ amatur y dyddiau yma yw’r diffyg wedi ei hanelu atoch chi’r bobl Canol yn dilyn ailwynebu’r palmentydd yr wythnos ddiwethaf. yn y nifer o ddramâu, hir a byr, dechnegol. Mae’n sôn fel y mae’r Datganwyd pryder bod rhai yn goryrru ar Ffordd y Morfa a chytunwyd i sydd ar gael iddynt eu llwyfannu. dechnoleg fodern, megis yr ofyn am arwydd 20mya ger Ysgol Ardudwy. Mwy na pheidio maent yn I-phone, yn rhwystro cyfathrebu dibynnu ar gyfieithiadau neu ymhlith pobl. Rwy’n siŵr y bydd addasiadau o ddramâu mewn y deialog stacato sydd yma yn taro ieithoedd eraill. Rwy’n siŵr bod deuddeg gyda sawl un ohonoch. hyn yn rhannol gyfrifol am y Dyma ddrama arall hawdd i’w dirywiad yn y nifer o gwmnïau llwyfannu gan mai dim ond bwrdd drama amatur sydd yn bodoli yma a thair cadair sydd eu hangen ar y yng Nghymru a hynny, wedyn, llwyfan. yn cael ei adlewyrchu yn y nifer o Darlun yw’r ddrama ‘O’r Dom wyliau drama sy’n cael eu cynnal. i’r Llaid’ o’r modd y twyllir Mae lle i ddiolch, felly, am caethweision i gyffesu. Mae’r Annwyl gyfaill gynnyrch cyson y dramodydd o ddrama wedi ei lleoli mewn Dyma ysgrifennu at ddarllenwyr Llais Ardudwy i’ch gwahodd i Gaerdydd, Emyr Edwards. carchar gyda phedwar cymeriad ymaelodi â’r Gymdeithas. Mae’n awdur toreithiog, wedi iddi - tri gŵr a gwraig, sef Mae llawer o newid wedi digwydd yn ystod yr hanner can mlynedd cyhoeddi sawl drama, ynghyd â caethwas, caethferch, swyddog diwethaf, er gwell ac er gwaeth. Un peth cyson ydy’r ffaith bod llyfrau ar gynhyrchu a llwyfannu carchar a milwr. Y ddrama olaf Cymdeithas yr Iaith wedi bod yna bob cam o’r ffordd, yn brwydro i dramâu. Mae hefyd wedi dod yn y gyfrol yw ‘Bwlis’, sy’n ymdrin sicrhau hawliau i bobl Cymru, a dyfodol i’r iaith. yn fuddugol yn eisteddfodau â sut y gall addysg ddylanwadu’n Mae llawer wedi’i ennill, ond mae cryn ffordd eto i fynd cyn cenedlaethol Tŷ Ddewi, negyddol, ac yn drasig, ar cyrraedd y nod. Mae angen rhagor o aelodau ar Gymdeithas yr Casnewydd a Chaerdydd. Mae syniadau a gweithgareddau’r ifanc. Iaith er mwyn dal ati efo’r gwaith. Allwch chi gefnogi? hefyd wedi ysgrifennu nifer o Fe’i lleolwyd mewn ysgol ac, o Mi allwch chi ymaelodi â’r Gymdeithas drwy gyfrwng ein gwefan sioeau cerdd ac ef oedd sylfaenydd reidrwydd, cast ifanc sydd iddi ar a chyfarwyddwr Cwmni Theatr yr wahân i athro a phrifathro; naw o www.cymdeithas.cymru/ymaelodi gan dalu efo’ch cerdyn banc, Urdd rhwng 1973 a 1988. neu drwy anfon siec at Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, Ystafell 5, Y actorion mewn nifer. Yn y blynyddoedd diwethaf Dyma gyfrol o ddramâu byrion Cambria, Rhodfa’r Môr, Aberystwyth, SY23 2AZ. Cofiwch sôn eich mae Emyr wedi cyhoeddi sawl sy’n cyfleu sefyllfaoedd cyfoes a bod yn ymaelodi ar ôl gweld y llythyr yn Llais Ardudwy! chyffrous, ac wedi ei hanelu at Mae angen eich cefnogaeth yn fwy nag erioed, felly ewch ati heddiw cyfrol o ddramâu byrion, megis ‘Y Fodrwy’, ‘Adolff ’ a ‘Lloeren’, gwmnïau drama amatur, ysgolion i ymaelodi. Os na wnewch chi, pwy wneith? cyfanswm o 17 o ddramâu ar a cholegau”. Mae’n gyfrol sy’n Gyda diolch, gyfer cwmnïau amatur, colegau ac wirioneddol yn llenwi bwlch yn Osian Rhys ysgolion. llenyddiaeth Cymru. Diolch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg A nawr dyma gyfrol arall o’i waith, Emyr.
CYNGOR CYMUNED HARLECH
JAC YN Y BOCS
ENGLYN DA
Yr Hogiau, Ebrill 1941
Mae’r hogiau oedd mor agos - wedi mynd Ymhell o’u hen deios, A hir yw pob ymaros Amdanyn’ fan hyn, fin nos. W D Williams [1900-1985]
Gellir archebu Jac yn y Bocs am £7 yn uniongyrchol gan yr awdur naill ar y ffôn: 02920 565122; ar e-bost: edwardscatherine@sky.com neu drwy ysgrifennu ato yn: 9, Petherton Mews, Ffordd Llantrisant, Llandaf, Caerdydd, CF5 2SJ
9
TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Merched y Wawr Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod yn y Neuadd Gymuned nos Lun, 6 Chwefror gan Siriol Lewis, y Llywydd, a braf oedd gweld y rhan fwyaf yn bresennol, er gwaethaf y tywydd oer. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Ella a Frances. Dechreuwyd drwy gydganu cân y mudiad a darllen cofnodion y cyfarfod diwethaf. Roedd tri pheth ynglŷn â dathlu aur y mudiad y noson yma - cyfle i brynu sgwâr am £1 i geisio ennill carthen arbennig; dosbarthu bagiau sach yn rhodd i bob aelod gan y Mudiad, ynghyd â cherdyn bach aur cerdyn aelodaeth am oes. Adroddwyd y bydd cyfarfod ym Mhenrhyndeudraeth bore Sadwrn, 18 Chwefror i gynrychiolwyr o nifer o ganghennau i fynd â lluniau, deunyddiau a hanesion i Alaw Roberts, Swyddog Maes y Gogledd a fydd yn eu dethol a’u dewis ar gyfer y Prosiect Treftadaeth. Cytunodd Anwen a Mai i fynd ac i ofyn i Ella hefyd gan ei bod hi’n aelod yn Nhalsarnau ers y cychwyn cyntaf yn Ionawr 1968. Trafodwyd lleoliad ein cinio Gŵyl Ddewi a chytunwyd i fynd i’r Brondanw Arms amser cinio dydd Iau, 2 Mawrth a nododd pawb eu dewis o’r fwydlen. Y gŵr gwadd y tro yma oedd Wyn Peate o Golan, sy’n rhedeg ysgol dysgu dreifio. Cyflwynodd sgwrs ddiddorol ar hanes ei yrfa a sut y daeth i ddechrau’r gwaith. Soniodd am bob math o brofiadau a gafodd a threuliwyd orig ddifyr yn gwrando arno’n dweud yr hanesion. Diolchwyd iddo ar ein rhan gan Anwen. Paratowyd y baned gan Margaret a Dawn, a Dawn hefyd enillodd y raffl.
SAMARIAID Llinell Gymraeg 0808 164 0123
A 10
Bowlio Deg Meirionnydd Aeth 6 aelod o’r Gangen Merched y Wawr i Lanllyn nos Wener, 17 Chwefror i gymryd rhan yn y gystadleuaeth Bowlio Deg. Er mawr syndod i’r criw – Anwen, Dawn, Gwenda, Mai, Maureen a Siriol – llwyddwyd i gael sgôr dda o 204, gyda dwy o’r tîm, Anwen a Siriol yn cael lwc anhygoel a sgorio ‘strike’ fwy nag unwaith! Roedd pawb wedi chwarae’n dda y tro yma – ond ddim digon da i fynd ymlaen i’r rownd nesa’! Ymlaen i Westy’r Eryrod wedyn am swper blasus i orffen y noson gyda phawb wedi mwynhau’r achlysur.
Dathlu Gŵyl Ddewi yn y Cylch Meithrin
NEUADD GYMUNED Y SWYDDFA BOST Rydym yn falch o gael eich hysbysu bod y Swyddfa Bost yn ôl gyda ni ar ôl absenoldeb am gyfnod byr oherwydd problemau technegol gyda’u hoffer. Yn agored: P’nawn Llun 12.30 - 3.00 Bore Iau 09.00 - 11.00
Neuadd Gymuned Talsarnau DARLITH FLYNYDDOL CYFEILLION ELLIS WYNNE Arfon Gwilym a Sioned yn cyflwyno
Arwyr Canu Gwerin Meirionnydd Drwy Sgwrs a Chân 7.30yh Nos Iau, 27 Ebrill Mynediad yn cynnwys lluniaeth: £5 Tocynnau ar gael: 01766 770621 neu 01766 770757 ‘Noddir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.’
Pysgotfa Eisteddfa a Chaffi Cedron Eisteddfa, Pentrefelin
Pysgota Brithyll neu Frâs
Addas i bysgotwyr profiadol neu ddechreuwyr
Caffi Cedron yn cynnig
brecwast, byrbrydau, paned a chacen, prydau poeth
Holwch am ein partïon pen-blwydd pysgota i blant Ffôn 07754 818414
www.eisteddfa-fishery.co.uk
R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286
Ffacs 01766 771250
Neuadd Talsarnau
GYRFA CHWIST Nos Iau Mawrth 9 am 7.30 o’r gloch Croeso cynnes i bawb
01766 522148
e bost post@eisteddfafishery.co.uk
Honda Civic Tourer Newydd
COFFÂD
ddechrau eto ar lanhau, golchi dillad a’n bwydo ni. yn fam hynod o weithgar, Mrs Bronwen Rayner Roedd ac wrth ei bodd yn gwarchod ei hwyrion unrhyw gyfle y gallai. Roedd Soar yn bentre eitha anghysbell heb ddim trafnidiaeth gyhoeddus yn agos. Nid oedd Mam yn gallu dreifio ond un tro mi drïodd ddysgu dreifio. Pawb i mewn i’r car ac i ffwrdd â ni i lawr am Dolorgan hefo Mam yn gyrru. Dim y peth gorau i’w wneud. Rhwng yr holl gyfarwyddiadau gan bawb ar sut i yrru - “Tro i’r dde, Mam”, “Tro i’r chwith, Mam”, fe drodd Mam y llyw’r ffordd anghywir a gorffen i fyny yn erbyn giât ar y ffordd. MAM Collodd ffydd ac amynedd ar ôl Cafodd ei geni yn Nolorgan, hyn a dyna ddiwedd ar ddreifio. Soar, 12 Ionawr 1925. Roedd Mi fyddai wrth ei bodd yn yn un o 5 o blant Elizabeth a crwydro yn y car o amgylch Tommy Williams. gogledd Cymru a’i hoff dref Tua diwedd yr Ail Ryfel Byd siopa oedd Port. Roedd hwn yn ymunodd â’r Women’s Auxiliary drip wythnosol ganddi. Air Force (y WAAFs) ac fe Roedd yn hoff iawn o unrhyw gafodd gyfle i weithio ar nifer beth pinc, ac roedd pa bynnag o safleoedd y Llu Awyr - un ddilledyn roedd hi’n ei wisgo’n ohonynt oedd RAF Brize cynnwys y lliw yn rhywle. Norton, tua 15 milltir i’r Roedd hefyd yn hoff iawn o’r gorllewin o Rydychen. Hwn yn blodau roedd hi’n eu tyfu yn yr gyfnod hapus iawn yn ei bywyd ardd, y rhan fwyaf o’r rheini’n - gwneud nifer o ffrindiau binc hefyd. newydd, a hefyd cyfarfod ei Byddai’n mwynhau darllen yn darpar ŵr, sef Ted; ac atgofion fawr iawn – llyfrau, cylchgronau melys iawn ganddi am gael a phapur newydd – Daily Post, hedfan mewn awyren ‘Ansell’. ac mi fyddai’n aros yn ffyddlon i Cawsant chwech o blant, pedwar Ian alw hefo’r papurau ar ddydd bachgen a dwy ferch ond yn Sul. anffodus mi gafodd ei gwneud Ar ôl iddi symud i Gartref yn wraig weddw pan oedd ond Madog, Porthmadog yn 2011, ei yn 48. Roedd hwn yn gyfnod chof yn dirywio hefo’r salwch, anodd iddi ond magodd hi’r 6 roedd ‘na nifer o adegau hwyliog ohonom ei hun ac fe gawsom i’w gael yn ei chwmni, a’i ‘sense blentyndod hapus iawn. of humour’ yn amlwg bob Cofio pan yr oeddan ni wedi amser. bod yn blant drwg, a mam yn Hoffwn ddiolch ar ran y teulu deud y drefn, “Lwc owt pan fydd i ofalwyr y Madog am eu gofal dy dad adra”, oedd rhywbeth y dros y blynyddoedd diwethaf. bydda hi’n deud yn aml. Ond, Cwsg yn dawel, Mam. Mae Dad wrth gwrs, pan oedd dad yn dod wedi disgwyl amdanoch am 44 o i mewn trwy’r drws a chlywed flynyddoedd, a rhowch hug i Ian. be oeddan ni wedi ei neud, mi Y teulu Rayner fuasai’n chwerthin yn braf, a Rhodd £10 buasai’n ei chodi hi i fyny, nes bod ei phen hi’n cyrraedd to’r gegin, a ddim am ei gadael i lawr Capel Newydd tan fuasai hithau’n chwerthin Oedfaon am 6:00 hefyd. Mam yn trio cadw trefn a MAWRTH dad fel menyn yn ein dwylo ni. 12 Dewi Tudur Gweithiodd am flynyddoedd 19 Emyr James, Caerdydd. yn y Motel, Talsarnau, gyda 26 Dewi Tudur Betty (drws nesa ym Maes EBRILL y Gwndwn), ac yna dod yn 2 Dewi Tudur ôl adref ar ôl diwrnod hir i
Atgofion am Nain gan Claire
Un o’r pethau mwyaf sydd wedi aros efo fi ers imi dyfu ydi barn nain am gadw stepan drws ffrynt yn lân. Roedd hi’n dweud o hyd, stepan budr, tŷ budr. A dyna lle roedd hi ran amlaf ar ei phengliniau yn sgwrio’r stepan i’w gadw fo’n lan. I’r diwrnod, dwi’n dal i drio i gadw stepan tŷ ni’n lân nain.... ’dan ni ddim eisiau i bobl feddwl ein bod yn byw yn fudr y tu mewn! Ar ôl camu dros y stepan yn Llys Myfyr (a thrio peidio ei faeddu) roedd croeso mawr yr ochr arall. Yn croesawu pawb yn ei sliperi a’i dillad pinc, aeth nain yn syth ati i wneud panad. Yn ôl i mewn â hi i’r ystafell fyw gyda hambwrdd o gwpanau a phlatiad o fisgedi. Doedd y papur newydd byth yn bell o’i hochr chwaith. Sgwrsio fyddan ni wedyn am bawb a phopeth. Un o’i hoff destunau siarad oedd ei theulu, yn enwedig ei phlant. Bob tro yn ein hatgoffa bod ganddi chwech ohonyn nhw. Roedd hi’n falch iawn o hyn ac yn aml yn eu rhoi mewn trefn o’r hynaf i’r ieuangaf ... jest i’n hatgoffa! Yna ein profi i weld os oedden ni’n gallu adrodd y drefn yn ôl yn gywir iddi. Dwi dal methu! Wrth inni dyfu, roedd hi wrth ei bodd yn gweld y teulu yn cynyddu, yn enwedig ar gael cyfarfod y plantos newydd ... un o’i hoff bethau oedd babis. Wrth afael arnyn nhw, roedd yn wên fawr o glust i glust. Hyd yn oed wrth iddi heneiddio a symud i’r Madog, roedd dal croeso mawr ganddi ac yn fwy fyth os oedd y plantos bach efo ni! Diolch am yr atgofion melys nain. Cysga’n drwm x
Mwy na thai
Grantiau Cymunedol Hafod y Gest
Grantiau hyd at £1,000 sydd ar gael i grwpiau/sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol o fewn ardaloedd y Cynghorau Cymuned canlynol: Beddgelert, Cricieth, Dolbenmaen, Llanfrothen, Llanystumdwy, Penrhyndeudraeth, Porthmadog, Talsarnau. Dyddiad Cau: 19/05/17 Am ffurflen gais neu gyngor cysylltwch â’r Tîm Mentrau Cymunedol ar 0300 111 2122 neu e-bostiwch bethan.thomas@ grwpcynefin.org.
Apêl am wybodaeth Cofeb y Rhyfel Mawr 1914 -1918 yn Y Neuadd Goffa, Penrhyndeudraeth
Mae Cyngor Tref Penrhyndeudraeth yn apelio am unrhyw wybodaeth am y rhai a enwir ar y gofeb er mwyn argraffu llyfryn i’w coffáu. Mae rhestr lawn ar gael ar safwe’r Cyngor neu drwy gysylltu â’r Clerc: Glyn E Roberts 3 Tai Meirion Beddgelert LL55 4NB glynctp@btinternet.com www.cyngortrefpenrhyn.cymru
CLWB RYGBI HARLECH
YN EISIAU: Cyfarwyddwr Rygbi Ieuenctid Dyddiad cau: 24.03.17 Cysyllter â Judith Strevens 07971 235895
Capel Newydd, Talsarnau Darlith Gŵyl Ddewi Nos Fercher, Mawrth 15 am 7.30
‘GWREICHIONEN LLŶN TÂN BEDDGELERT’ Stori’r Adfywiad Ysbrydol ym 1817 Darlithydd: Dr Gwyn Davies, Aberystwyth
11 A
NEWYDDION YR URDD
Eisteddfod Gylch – 11 Mawrth yn Ysgol Ardudwy Fe fydd yn ddiwrnod llawn hwyl a chyffro wrth i’r ysgolion ac Adrannau geisio eu gorau glas i gael llwyddiant a chyrraedd yr Eisteddfod Ranbarth ar y 18fed o Fawrth yn Ysgol y Gader, Dolgellau. Eisteddfod Ranbarth i’r oedran Uwchradd Cynhelir yr Eisteddfod Ranbarth i aelodau hŷn yn Ysgol Ardudwy eleni. Mae’n gyfle i weld doniau’r Rhanbarth ar stepen eich drws ac am bris bach hefyd. Fe fydd y cystadlu yn cychwyn am 9 y bore ac yn parhau hyd ddiwedd y prynhawn. Os oes yna rai’n ystyried rhoi eich amser i stiwardio, byddwn yn falch o glywed oddi wrthych. Cysylltwch gyda Dylan@urdd. org os am helpu. Celf a Chrefft Ydych chi’n artist neu’n grefftwr ac awydd cystadlu yn y Celf a Chrefft eleni? Wel, mae’n bwysig eich bod yn mynd i safle we’r Urdd a chofrestru eich ceisiadau ar-lein cyn hanner dydd ddydd Gwener, 10 Mawrth. Fe fydd y gweithiau yn cael eu beirniadu wedi amser ysgol ar y diwrnod hwnnw ac yn cael eu harddangos yn yr Eisteddfod Gylch. Diolch am eich cefnogaeth Dylan Elis Urdd Gobaith Cymru Swyddog Datblygu Meirionnydd
Yn yr ysbyty
Anfonwn ein cofion at Mr Gareth Edwards, Gorwel, Llanaber sydd wedi derbyn triniaeth fawr yn Ysbyty Gwynedd. Deallwn ei fod wedi rhoi tro ar wella erbyn hyn ac edrychwn ymlaen yn fawr at ei weld yn ôl yn ein plith yn fuan. Brysia wella Gareth.
A 12
Y BERMO A LLANABER Dymuno’n dda
Pob dymuniad da i John Sam Jones a’i gymar sy’n symud i fyw i’r Almaen ddiwedd y mis. Bu’n Clare Horton a James Richards sydd ynghlwm â’r sesiynau atal codymau weithgar iawn yn y dref hon dros y ddeg mlynedd ddiwethaf gan Sesiynau atal codymau ymysg pobl hŷn yn y Bermo wasanaethu ar sawl pwyllgor Mae traean o bobl dros 65 oed a hanner bobl dros 80 oed yn cael a chefnogi amrywiaeth fawr o codwm bob blwyddyn yng Nghymru. Mae codymau yn un o’r gymdeithasau. Diau y bydd yn prif achosion sy’n rhoi hanner y cleifion yn yr ysbyty gydag anaf dal i ddarllen Llais Ardudwy. damweiniol, a thorri asgwrn y glun. Dyna pam fod Cynllun Cenedlaethol am gefnogi rhaglen Merched y Wawr Y Bermo a’r gweithgarwch corfforol i geisio lleihau’r risg ac atal pobl rhag disgyn Cylch ar y cyd â Chymdeithas a chael codwm. Gymraeg y Bermo Bydd y rhaglen gweithgarwch corfforol a fydd yn dechrau ar Nos Fawrth, Chwefror 7fed, 21 Mawrth 2017 yn golygu fod Ffisiotherapydd a Gweithiwr roedd y Gymdeithas Gymraeg Proffesiynol yn gweithio gyda’i gilydd yng Nghanolfan Hamdden a changen Merched y Wawr y Pafiliwn, y Bermo. Nod y rhaglen fydd gwella cryfder a yn edrych ymlaen at groesawu chydbwysedd pobl hŷn er mwyn atal codymau a thorri esgyrn. Cwmni Drama Dinas Mawddwy Mae saith elfen i’r rhaglen yn cynnwys cryfder, cydbwysedd, i’r Bermo. Mr Dei Griffiths, hyblygrwydd, dygnwch, gweithgareddau llawr, codi ac oddi ar y llywydd y noson, oedd yn llawr yn ogystal â thai chi. croesawu a chyflwyno’r Cwmni Am ragor o wybodaeth cysylltwch â James Richards yng Nghanolfan i’r gynulleidfa eiddgar. Teitl Hamdden y Bermo drwy ffonio 07833441175. y ddrama gyntaf oedd ‘Dan y
Morthwyl’ - drama berthnasol a digri, gydag un o’r actorion yn chwarae dau ran yn gelfydd iawn. Roedd y ddeialog yn naturiol ac yn llawn hiwmor, a’r jôcs yn taro deuddeg bob tro. Peth braf iawn oedd gweld mai pobl ieuanc oedd mwyafrif cast yr ail ddrama, ac roedd hon hefyd yn ddrama hwyliog gyda deialog ffraeth. Tra’r oedd yr actorion yn cael swper a seibiant haeddiannol, bu Dei yn cynnal y raffl a’r enillwyr oedd Rhian Edwards, Glenys Jones, Enid Owen, Llewela Edwards a Les Vaughan. Diolchodd Dei yn gynnes iawn i’r Cwmni am ein diddori, ac i bawb fu’n helpu gyda’r raffl a gyda pharatoi’r swper ardderchog. Bydd Merched y Wawr yn cyfarfod ar Fawrth 21, pan fydd Jane Williams o Ddyffryn Ardudwy yn sôn am ei chrochenwaith, a bydd y Gymdeithas Gymraeg yn cael noson yng nghwmni Steffan John, ein fferyllydd lleol, am 7.00 o’r gloch.
H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239
Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290
YSWIRIANT I BAWB
E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr
01341 241551
Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.
Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00
Sgwâr Llew Glas
01341 421917 07770 892016
Sŵn y Gwynt
Tiwniwr Piano
Gwynedd
g.rhun@btinternet.com
www.raynercarpets.co.uk
Llanuwchllyn 01678 540278
Tiwnio ...neu drwsio ar dro!
SHIP AGROUND TALSARNAU
Phil Hughes Adeiladwr
Gosod stofiau llosgi coed Cofrestrwyd gyda HETAS
Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd
01766 780186 07909 843496
Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk
drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]
ARCHEBU A
Talsarnau,
Tafarn yr Eryrod
Llais Ardudwy
GERALLT RHUN
07776 181959
Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297
Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.
ALAN RAYNER GOSOD CARPEDI
Cefnog wch e in hysbyseb wyr
01766 512091 / 512998
TREFNWYR ANGLADDAU
Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb
JASON CLARKE Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504
DAVID JONES
Cigydd, Bermo 01341 280436
Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau
ADEILADWR Gwarantir gwaith o safon.
Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014
MELIN LIFIO SYMUDOL Rhif ffôn: 01766 770777
Amrywiaeth dda o gwrw a chroeso cynnes!
Gadewch i’r felin ddod atoch chi! www.gwyneddmobilemilling.com
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014 13 A
Yn y llyfr hwn, cawn ein tywys yn ôl i dridegau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ym Meirionnydd, a’n cyflwyno i gast o gymeriadau byw mewn cymdeithas sy’n ymddangos yn gyfarwydd a hapus, a honno wedi ei lleoli yn ardal Dolgellau. Ond wrth ddarllen down i ddeall bod hon yn gymdeithas wahanol iawn wedi’r cyfan, wedi ei rheoli’n haearnaidd gan statws a chrefydd. Ac yng nghanol hyn i gyd mae Ann Lewis, merch ddeunaw oed, yn dechrau torri ei chŵys ei hun. Wrth ddod i adnabod Ann a gweld ei gobeithion a’i rhwystredigaethau, cawn brofi bywyd merch ifanc hardd mewn cymdeithas lle nad oedd gan fenywod hawl i feddwl drostyn nhw eu hunain. Mae ei
Yma, cewch wybodaeth gynhwysfawr am 48 o deithiau cerdded i ben copaon mynyddoedd ledled Cymru. Ac, wrth gwrs, mae gan Gymru ddigonedd o fynydd-dir amrywiol i’w fwynhau; o gopaon uchel a chreigiog ardal Eryri i fynyddoedd llai garw Bannau Brycheiniog. Ffrwyth llafur aelodau Clwb Mynydda Cymru sydd yma, a rhaid diolch yn fawr iddynt am eu gwaith yn crynhoi’r teithiau i greu’r gyfrol swmpus hon. Mae’r gyfrol yn dechrau gyda hanes difyr creu Clwb Mynydda Cymru; o’r llond dwrn cychwynnol yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1979 i’r cannoedd sy’n aelodau erbyn hyn. Mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys manylion hanfodol i unrhyw un sy’n bwriadu mynd ar un o’r teithiau,
14 A
safbwynt hi ar fywyd yn newydd a diniwed ac mae’n llais gwahanol iawn i’r hyn a geir yn y rhan fwyaf o nofelau hanesyddol. Gwelwn ei hymwneud â’i ffrindiau a’i chyflogwr, a manylion bywyd beunyddiol y cyfnod mewn naratif naturiol sy’n dangos cefndir hanesyddol y cyfnod. Un o gryfderau mawr y nofel yw bod y cymeriadau’n bobl o gig a gwaed y gall darllenwyr uniaethu â nhw, er gwaethaf amgylchiadau gwahanol eu bywydau. Er bod eu profiadau nhw’n wahanol iawn i’n rhai ni heddiw, teimlwn ein bod yn dod i’w hadnabod. Mae’r ysgrifennu yn adlewyrchu tafodiaith naturiol yr ardal, a gallwn eu dychmygu yn sgwrsio ymysg ei gilydd wrth basio ar y stryd wrth i fymryn o’u sgwrs gael ei gofnodi. Ond yn y pen draw nofel yw hon am fywyd a phrofiadau un ferch. Mae’n stori am ramant ac yn gipolwg ar gymdeithas gyfan, yn dod â hanes yn fyw ac yn ennyn chwilfrydedd. Nid esgyrn sychion o archif yw hon ond bywydau unigolion, ac unwaith y caiff y bobl rhwng y cloriau hyn afael arnoch, ni fyddan nhw’n gollwng eu gafael ar frys. Meinir Williams Adolygiad oddi ar www.gwales. com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. gan gynnwys sylw priodol i offer a diogelwch. Pwysleisir nad yn ddifeddwl y mae mentro i’r mynyddoedd ac mae’n rhaid cofio cynllunio a pharatoi’n drylwyr er mwyn mwynhau’r profiadau i’r eithaf. Ar ddechrau pob taith ceir enw’r copa, gwybodaeth am y mapiau angenrheidiol fydd eu hangen, y man cychwyn ar gyfer parcio, disgrifiad byr o’r daith, a’r amser ddylai’r daith ei gymryd. Gall hynny fod yn bwysig iawn – does yr un o’r teithiau’n llai na dwy awr a hanner o hyd, ac mae un ohonynt yn debygol o gymryd dros 7 awr. Mae disgrifiadau manwl o’r cerdded yn ddiddorol ac yn rhoi hanesion difyr am yr hyn sy’n rhaid cadw llygad amdano wrth grwydro. Ond mae llawer mwy na chyflwyno teithiau cerdded yma. Gyda phob taith ceir pytiau hynod ddifyr sy’n ychwanegu at y darllen a’r cerdded. Cawn wybodaeth am hanes lleol a hanes Cymru yn fwy cyffredinol, am ein beirdd a’n llenorion, am lên gwerin ac am archaeoleg a daeareg y tir o gwmpas y teithiau. Ac mae yna un elfen arall sy’n rhaid sôn amdani, sef y lluniau gwych. Hefin Jones Adolygiad oddi ar www.gwales. com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
HELFA DRYSOR HEN FFILMIAU
Mae yna apêl arbennig i hen luniau ffilm gartref: y gwisgoedd diddorol, hetiau rhyfeddol, cymeriadau neilltuol a cheir clasurol sy’n croesi’r sgrîn yn eich lolfa! Efallai bod y ffilmiau hyn yn dod i’r golwg ar gyfer achlysuron teuluol neu ddigwyddiadau cymunedol arbennig, er mwyn i bawb gael chwerthin a chofio. Ond yn awr mae yna gyfle i’w rhannu gyda’r genedl. Os oes gynnoch chi hen ffilmiau cine difyr yn llechu mewn atig neu’n casglu llwch mewn garej, fe hoffai cwmni teledu Silent Movies o Gaerdydd glywed amdanynt. Mae’r cwmni yn cydweithio hefo Archif Genedlaethol Sgrîn a Sain Cymru ar raglen deledu sy’n gobeithio dadorchuddio rhai o drysorau sinematig coll y genedl. Ers yr 1920au mae pobl Cymru wedi bod yn croniclo carnifal pentref, treialon cŵn defaid, eisteddfod, cymanfa ganu, gwyliau hynod Gymreig ar lan y môr neu ar ben mynydd. Os oes gan eich teulu neu gymuned hen ffilm wedi ei chreu yn eich meddiant fe hoffai’r tîm glywed amdani. Gallwch e-bostio movies@ silentmovies.media neu adael neges ar 0370 218 3100. Duw a ŵyr pa drysorau gweladwy sy’n dal i aros i gael eu darganfod o gwmpas Cymru!
DYDD MIWSIG CYMRU
Llongyfarchiadau i Mari Elen, merch John a Rhian Jones, Rhianfa, Heol y Bryn, Harlech ar gael ei llun ar boster yn hyrwyddo Dydd Miwsig Cymru ar Chwefror 10 - y diwrnod a ddewiswyd ar gyfer dathlu’r goreuon o ganu Cymraeg dros yr hanner canrif ddiwethaf. Mari sydd ar y dde yn y llun uchod.
BISTRO’R CASTELL Stryd Fawr, Harlech
BWYD A DIOD
Bistro traddodiadol yn defnyddio bwydydd lleol Ar agor Dydd Mawrth tan Dydd Sadwrn 12:00 tan 5:00 y pnawn Bwydlen nos 6:30 tan 9:00 Dydd Sul 12:00 tan 4:00 y pnawn Mae’r bwyty ar gau ar Ddydd Llun Dyma i chi flas o’r fwydlen: Stecen £14.95, Coes Oen £11.95, Brest Cyw Iâr £9.25, Draenog y Môr [Sea Bass] £11.95, Burger £10.95, Tortelloni £9.25, Lasagne £8.95 Cefnogwch Lee Williams, gŵr lleol o Ddyffryn Ardudwy!
Bordeaux (1)
Mae Bordeaux yn ardal enwog ond gymhleth i’w deall. Mae hi’n ddinas hynod braf a buaswn yn awgrymu gwyliau byr yno unrhyw bryd oherwydd ei channoedd o adeiladau rhestredig (mae’n safle UNESCO), sgwariau bywiog ac ardal hyfryd ar hyd yr afon Garonne yr holl ffordd i’r La Cité du Vin - y ganolfan win. Ond, mynd i edrych am win o’r ardal glasurol yma roeddem, er nad ydy ‘Claret’ efallai ddim mor amlwg yn ein profiad gwin y dyddiau hyn. Ers canrifoedd allforiwyd y gwinoedd yma i Brydain (a Chymru hefyd) ond y dyddiau hyn mae’r farchnad yn gryfach yn Tsieina i Bordeaux. Mewn ffair win y llynedd, roeddem wedi darganfod un cynhyrchwr a oedd wedi dal ein sylw gyda safon am bris rhesymol, a dyma beth oedd yn ein denu’r mis Chwefror yma. Efallai nad yw’n ardal mor drawiadol â Bourgogne neu’r Loire ond mae teithio trwy’r pentrefi bach gydag enwau cynhyrchwyr mawr yn addysg. Cylcha’r ardal yma ddwy afon: y Garonne a’r Dordogne, a chadwaf y ‘Banc Chwith’ a’r ‘Banc De’ tan y mis nesaf a chanolbwyntio ar y darn canol am y tro, sef rhwng y ddwy afon: Entre Deux Mers. Mae safon dda o winoedd yma a doedd Lamothe-Vincent ddim yn ein siomi. Ail-blannodd taid y gwinwr yma’r winllan yn yr 1920au ac roedd yn falch iawn o’r datblygiadau a thechnegau modern a oedd yn parhau i godi safon gyson y gwin. Y peth cyntaf a’n tarodd ni oedd set newydd sbon o danciau mawr dur gwrthstaen a oedd yn amlwg wedi costio ffortiwn. Yn eu swyddfa roedd ‘dashboard’ digidol yn monitro tymheredd pob un tanc ac yn eu caniatáu i reoli’r tymheredd yn ofalus. Roedd Fabien yn awyddus i ddangos y tanciau dan ddaear o goncrit roedd wedi eu hadeiladu. Esboniodd sut oedd hyn yn eu galluogi i gael system ‘pump-over’ effeithiol. Gwnawn hyn i gael gwell alldyniad (extraction) o’r crwyn lle mae’r blas a thannin, ac mae’n golygu pwmpio’r gwin o’r tanciau i’r seler goncrit ac yn ôl i mewn i’r tanciau i falu’r plisgyn o groen sy’n ffurfio ar y sudd. Mae hyn hefyd yn osgoi malu’r hadau a’u tannin chwerw. Techneg fodern arall a ddefnyddir yma yw ‘micro-oxygenisation’. Trwy bibell fach denau mae’n pwmpio perlau bach o aer trwy’r gwin i gynorthwyo’r broses o aeddfedu a dyblygu rhywfaint o effaith casgen dderw nad ydy mor ddigyfaddawd â dur gwrthstaen. Unwaith eto, mae’n rheoli’r broses yn ofalus i ddatblygu’r union rinweddau yr hoffai eu gweld yn y gwin. Roedd y gwinoedd o safon arbennig ac am brisiau rhesymol iawn i Fordeaux. Hefyd, mae’n dewis parseli bach o dir gyda’r ‘terroir’ cywir i greu gwin arbennig a’r gobaith yw y caiff ganiatâd i ddosbarth arbennig o Grand Cru gan yr awdurdodau cyn bo hir. Nid yw’n broses hawdd ac mae 10 mlynedd wedi mynd heibio ers iddo gychwyn yr ymgyrch. “Da ni bron yna”, nododd gyda gwên. Gobeithio y caiff Fabien ei statws cyn bo hir ond yn y cyfamser, bydd palet ar ei ffordd i Gymru fach! Llinos Rowlands Gwin Dylanwad Wine Dolgellau
15 A
THEATR HARLECH Ffôn: 01766 780667
MAWRTH
Y digwyddiadau am 7.30 oni nodir yn wahanol 9 - NTL Live: Hedda Gabler - Darllediad byw, 7.00 yh. 10-11 - Jackie, ffilm, 10fed 7.30/11eg @ 2.30 + 7.30 17-18 – Manchester By The Sea - 17eg, 18fed @ 2.30 + 7.30 19 - Bolshoi Ballet: A Contemporary Evening 3.00 yp 21-22 - Lion, ffilm 27-29 - Moonlight, ffilm 25 - Celtic Guitar Journeys 30 - Madama Butterfly Oedolion £15, gostyngiad £13, plant £10
16 A
NEUADD LLANBEDR - y gwaith adeiladu yn symud ymlaen yn dda
I’r rhai ohonoch sy’n mynd heibio’r neuadd yn rheolaidd, bydd yn amlwg fod y gwaith adnewyddu ac ehangu yn dod yn ei flaen yn dda. Rhagwelir y bydd yr adeiladwyr yn trosglwyddo’r neuadd yn ôl i’r elusen ar ddechrau Ebrill. Yn dilyn hyn, bydd angen symud celfi a dodrefn yn ôl a pharatoi popeth ar gyfer ei defnyddio. Golyga hynny y bydd tua diwedd Ebrill cyn y bydd popeth yn barod. Nid yw’r trefniadau ar gyfer yr agoriad
swyddogol wedi eu cwblhau ar hyn o bryd ond gallwch fod yn sicr y cynhelir diwrnod agored swyddogol. Bryd hynny bydd croeso i’r ardalwyr ddod i weld yr adeilad ar ei newydd wedd. Rhaid gweld y lle i werthfawrogi’r newid sydd wedi digwydd. Mae’r gost wedi bod oddeutu £400,000. Y cyfraniad mwyaf oedd £249,000 gan gronfa’r Loteri Fawr. Derbyniwyd cymhorthdal hefyd gan lawer o fudiadau eraill. Mae rhestr o’r holl gyfranwyr isod. Diolch yn fawr iawn i bob un ohonyn nhw. Garfield Weston Parc Cenedlaethol Eryri Cartrefi Cymunedol Gwynedd Cyngor Gwynedd Trusthouse Foundation Magnox Bernard Sunley Foundation Cyngor Cymunedol Llanbedr Gŵyl Gwrw Llanbedr Beer Owen Family Trust Laspen Trust Snowdonia Aerospace Er mwyn y rhai sydd â diddordeb mewn defnyddio’r adeilad, mae’n werth rhoi braslun o’r adnoddau fydd ar gael. Gobeithir y bydd galw mawr am logi ystafelloedd. Mae ystafell fechan ar gyfer pwyllgorau neu gyrsiau hyfforddi, digon o le i tua 16. Yn yr ystafell hon mae teledu a chysylltiad i’r rhyngrwyd. Mae’r brif neuadd fel arfer yn cael ei rhannu – un rhan wedi ei neilltuo i’r Ysgol Feithrin a’r rhan arall at ddefnydd cyffredinol, ond gellir agor y rhaniad fel bod modd defnyddio’r neuadd i gyd ar gyfer gweithgareddau pan fo angen. Mae cysylltiad i’r rhyngrwyd yn y ddwy ran gyda theledu yn rhan yr Ysgol Feithrin a thaflunydd yn y rhan arall fydd yn galluogi dangos lluniau teledu neu wybodaeth sydd ar sgrin cyfrifiadur ar sgrin fawr. Mae cegin hefyd gyda phopty, hob, microdon, oergell, peiriant golchi llestri a boiler ddŵr.
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Pen-blwydd Dymuniadau gorau i Robert John Evans, Werncynyddion ar gyrraedd ei ben-blwydd yn 80 oed. Genedigaeth Llongyfarchiadau i Helen ac Emlyn Jenkins, Cilcychwyn, ar enedigaeth merch fach ar 23 Chwefror, chwaer fach i Trystan Glyn. Rhodd Diolch yn fawr i’r Parch Paul Jones – rhodd o £20 i’r Llais. Teulu Artro Cynhaliwyd ein cyfarfod ar 7 Chwefror gyda Glenys, yr Is-lywydd, yn llywyddu. Estynnwyd croeso i’r aelodau. Cafwyd ymddiheuriad gan Gweneira, Elizabeth a Pam, a chydymdeimlwyd â Gweneira oedd wedi colli perthynas. Darllenwyd a chadarnhawyd y cofnodion. Ein gŵr gwadd oedd Mr Rob Booth, o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Croesawyd ef gan Glenys. Ei destun oedd Coed Crafnant a Choed Dolbebin. Rhoddodd hanes difyr iawn am yr adar a welir yno, ac mae bocsys nythu yno ar gyfer y gwybedog brith sy’n magu yn y coed. Mae’r bocsys yn ogystal yn gartref i’r titw tomos a’r titw mawr. Yn y gaeaf daw’r cyffylog yma. Mae hefyd amrywiaeth o blanhigion cyntefig sy’n hoffi’r awyrgylch gynnes, laith. Roedd yr hanes yn ddifyr iawn, ynghyd â’r lluniau a ddangoswyd. Talwyd y diolchiadau gan Iona, ac enillwyd y raffl gan Iona.
Cymdeithas Cwm Nantcol Cafwyd darlith afieithus gan yr Athro Peredur Lynch yng Nghwm Nantcol ganol mis Chwefror. Bu’n olrhain ei achau ei hun - a’r enw Lynch - gan ein tywys i ddechrau’r 19eg ganrif ac i bob math o helyntion y bu aelodau o’i deulu yn eu hwynebu. Pleser yn wir oedd gwrando arno’n traethu. Yna ddiwedd y mis, tro’r Parch Christopher Prew oedd ein diddori gyda manylion am y dylanwadau a fu arno. Roedd y rheiny’n cynnwys rhai pell ac agos gan gynnwys magwraeth yn nhref Dinbych, Coleg Aberystwyth, taith genhadol i’r India, a chyfleoedd yn gweinidogaethu yn ardaloedd Llangefni a Phorthmadog. Diolchwyd gan Phil Mostert a gyda chymorth Cledwyn, anrhegwyd y merched fu’n gweini arnom ac yn brysur yn y cefndir yn ystod y tymor. At ei gilydd, cafwyd tymor rhagorol a chyfle amheuthun i wrando ar siaradwyr diddorol a diddanwyr difyr. Melys moes mwy!
Cyflwyniad i Ynys Enlli Ysgol Llanbedr Gan fod plant yr Adran Iau yn astudio cynefinoedd fel rhan o’u gwaith gwyddoniaeth y tymor yma, fe wnaethom wahodd Haf Meredydd i ddod i’r ysgol i siarad am Ynys Enlli. Bu Haf yn warden ar Enlli am rai blynyddoedd ac mae’ n adnabod yr ynys yn dda. Dangosodd luniau hyfryd a chawsom sgwrs ddiddorol iawn ganddi, a’r plant yn cael cyfle i holi a thrafod trwy’r sesiwn. Rydym yn ddiolchgar iawn i Haf am roi ei hamser a rhannu ei gwybodaeth efo’r plant. Roedden nhw a’r staff wedi dysgu llawer iawn am fyd natur ar yr ynys.
Merched y Wawr Nantcol Nos Fercher, Chwefror 1af cafwyd gair o groeso gan Anwen cyn mynd ymlaen i drafod materion y gangen a’r rhanbarth. Llongyfarchwyd Heulwen ar ddod yn Nain i Oliver Emyr Evans; i Nansi, wyres Elinor ar ei llwyddiant yng nghystadleuaeth derfynol Gala Nofio’r Urdd yng Nghaerdydd a Hana Jane, wyres Jean, ar ennill Gwobr Beaufort, sef gwobr am gyfraniad myfyriwr rhagorol yn ei maes. Erbyn hyn mae hi wedi dechrau ar ei swydd newydd yn RAF Coningsby. Braf oedd gweld Rhodri Dafydd, mab Rhian a Huw, ar y rhaglen ‘Arfordir Cymru’ yn ddiweddar. Mae Rhodri, sydd yn Uwch Reolwr Gwarchodfa Cyfoeth Naturiol Cymru, i’w glywed hefyd ar raglenni radio fel ‘Galwad Cynnar’. Derbyniwyd gwybodaeth gan yr Ysgrifennydd Rhanbarth am y cyfarfod i lunio’r Panel Dathlu a chyfarfod y Swyddog Treftadaeth i sganio lluniau ym Mhenrhyndeudraeth ar ddydd Sadwrn 18fed Chwefror. Cawsom noson o frethyn cartref hyfryd yn gosod blodau a bu pob un ohonom yn gwneud trefniant ein hunain. Cynhaliwyd ein swper dathlu Gŵyl Ddewi yn Nineteen 57 ar Fawrth 1af. Cawsom noson hyfryd iawn a chinio blasus gweler y llun isod.
Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch
MAWRTH
12 Capel y Ddôl, Parch Marcus Robinson 19 Capel Salem, Parch Dewi Tudur Lewis 26 Capel Salem, Parch Peter Thomas EBRILL 2 Capel Nantcol, Parch Dewi Morris
Merched y Wawr, Nantcol yn eu cinio Gŵyl Ddewi yn Nineteen.57 17 A
YSGOL TANYCASTELL
Cystadleuaeth Athletau Yn ddiweddar, bu Tîm Athletau’r ysgol yn cystadlu yn y gystadleuaeth Athletau Dan Do yn Nolgellau. Roedd naw mewn tîm ac roedd pob aelod yn cystadlu mewn un gamp maes a dwy gamp rhedeg. Gweithiodd y tîm yn dda iawn gyda’i gilydd ac fe gafwyd cystadleuaeth heriol. Yn anffodus y tro hwn, ni lwyddodd y tîm i fynd ymlaen i’r rownd nesaf.
Dydd Miwsig Cymru
Bu’r disgyblion a’r staff yn dathlu ‘Dydd Miwsig Cymru’ ar ddydd Gwener 10fed Chwefror. Daeth pawb i’r ysgol yn gwisgo naill ai coch, gwyrdd neu wyn neu gyfuniad o’r tri lliw. Bu pawb yn dysgu’r Anthem Genedlaethol ac yna yn y prynhawn cafwyd cystadleuaeth carioci Cymraeg, gyda Dylan Elis (Urdd) yn beirniadu. Cafwyd perfformiadau gwych gan y disgyblion yn canu ‘Un Funud Fach’ gan Bryn Fôn, ‘Harbwr Diogel’ gan Elin Fflur, ‘Mam Wnaeth Gôt i Mi’ gan Dafydd Iwan a nifer o ganeuon Cymraeg eraill. Dyma ychydig luniau o’r cystadleuwyr.
Llais Ardudwy RHIFYNNAU NESAF
Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/llaisardudwy/docs 18
Llais Ardudwy
NEWYDDION ERBYN Mawrth 27 Ebrill 24 Mai 29 Mehefin 26
GOSOD Mawrth 31 Ebrill 28 Mehefin 2 Mehefin 30
YN Y SIOPAU Ebrill 5 Mai 4 Mehefin 7 Gorffennaf 5
YSGOL TANYCASTELL
Gwobr Dug Caeredin
Llongyfarchiadau i Ben Williams, Katia Bischoff, Lois Evans, Dion Jones, Cadi Roberts, Sophie Richards ag Owain Roberts, disgyblion B11 yn yr ysgol, sydd wedi llwyddo i gwblhau rhaglen Gwobr Efydd Dug Caeredin yn ddiweddar. Aeth y disgyblion i’r afael â’r rhaglen yn fuan ym M10 a chawsant eu hannog a’u harwain drwy’r rhaglen dros y deunaw mis diwethaf gan Wasanaeth Ieuenctid Gwynedd. Bu’r disgyblion mewn seremoni yng Ngwesty’r Celt yng Nghaernarfon i dderbyn eu gwobrau yn ddiweddar.
disgyblion canlynol sydd yn mynd ymlaen i gystadlu yng Nghystadleuaeth Trawsgwlad Eryri yn fuan. Dymunwn bob lwc iddynt. B7- 1af Iona Sloan-Lewis (sydd hefyd wedi torri record y cwrs o 10 eiliad), 6ed Demi Evans, 6ed Gwion Davies. B8/9 - 3ydd Lowri Jones, 6ed Beca Williams, 8fed Leon Brown. B10/11 - 4ydd, Justin Williams
Ymweliad Addysgol - Astudiaethau Busnes
Bu disgyblion B10 y cwrs BTEC Astudiaethau Busnes ar ymweliad addysgol ar y cyd gyda disgyblion o Ysgol Eifionydd i Stafford i ymweld â gweithle cwmni technoleg gwybodaeth Grwp Stone yn Stafford. Nod yr ymweliad oedd rhoi cipolwg ymarferol ar sut mae adrannau o fewn busnes yn cydweithio gyda’i gilydd a sut mae strwythur gwaith y busnes yn effeithio ar lwyddiant. Mae’r disgyblion wedi elwa’n fawr o’r ymweliad sydd wedi rhoi dealltwriaeth ymarferol o faes ffocws yr uned gwaith maent yn y broses o’i chwblhau.
Eisteddfod
Gweithdai “Talk the Talk”
Bu disgyblion B10 yn gweithio gyda hyfforddwyr arbenigol o’r elusen addysg ‘Talk The Talk’. Mae’r cwmni yn anelu at wella sgiliau cyfathrebu disgyblion er mwyn eu galluogi i ymadweithio’n bositif mewn pob sefyllfa ym mywyd. Roedd amseru’r sesiynau hyn yn ddelfrydol wrth i’r disgyblion baratoi ar gyfer eu harholiadau Llafar TGAU Cymraeg a Saesneg.
Cystadleuaeth Trawsgwlad Meirion-Dwyfor
Bu dros 50 o ddisgyblion yn cystadlu yng Nghystadleuaeth Trawsgwlad Meirion-Dwyfor yn Nolgellau yn ddiweddar. Bu perfformiadau gwych gan y disgyblion a phawb yn ymdrechu i roi o’u gorau yn y gystadleuaeth. Llongyfarchiadau i’r holl ddisgyblion ar eu hymdrechion ac yn enwedig i’r
Bu prysurdeb mawr yn yr wythnosau cyn yr Eisteddfod gyda phawb yn paratoi ac yn ymarfer ac o ganlyniad cafwyd Eisteddfod lwyddiannus dros ben gyda safon uchel yn y cystadlu ar y llwyfan ac yn y gwaith cartref. Ar y llwyfan, roedd cystadlaethau o bob math yn cynnwys y traddodiadol megis llefaru unigol ac mewn parti, unawd, canu’r piano ac offerynnau pres ynghyd ag eitemau mwy modern fel dawnsio disgo, sgetsys a grwpiau roc. Bu cystadlu brwd hefyd ar y cystadlaethau gwaith cartref gyda phob pwnc wedi gosod testunau amrywiol a diddorol i’r disgyblion
fynd i’r afael â nhw. Uchafbwynt y dydd oedd Seremoni Cadeirio’r Bardd ac enillydd y Gadair oedd ‘Chunks Cyw Iâr’ sef Cadi Roberts, B11, am ei hymson “Y Pwll” - darn dirdynnol am frawd bach yr awdur yn sglefrio dros bwll oedd wedi rhewi ac yn syrthio i mewn i’r dŵr wrth i’r rhew roi o dano. Flwyddyn yn ddiweddarach mae’r awdur yn dychwelyd i fan y ddamwain ac yn ail fyw’r hyn a ddigwyddodd. Mae’n poenydio’i hun nad oedd wedi ei rwystro rhag mynd ar yr iâ ac yn beio ei hun am ei farwolaeth. Yn sydyn, mae’n gweld ei mam yn sefyll yn y dŵr, hithau hefyd wedi dod yno ac yn ail fyw’r hunllef. Maent yn ceisio cysuro ei gilydd ond mae’r hiraeth am Geraint yn affwysol. Mae’r disgrifio’n fanwl ac rydym yno gyda’r awdur yn yr ing llethol. Cafwyd diweddglo grymus gyda chystadleuaeth Corau’r Tai a phawb yn morio canu ‘Calon Lân’ - ni welwyd canu mor ysbrydoledig a gwladgarol erioed yn yr ysgol! Eisteddfod gwerth chweil! Llongyfarchiadau i FOELFRE, y Tŷ buddugol ac i bawb a gystadlodd i wneud yr Eisteddfod hon yn un o’r rhai gorau eto.
19
CLWB RYGBI HARLECH YN GWLEDDA
Ymddiheurwn fod y lluniau yn ymddangos yn hwyr. Gwell hwyr na hwyrach! 20