Llais Ardudwy Mawrth 2019

Page 1

GAREJ TALSARNAU 70c YN NODDI CRYSAU

Llais Ardudwy RHIF 485 - MAWRTH 2019

PROFIAD FFORMIWLA UN I DDISGYBLION Cafodd disgyblion o Ysgol Ardudwy brofiad Fformiwla Un yn eu milltir sgwâr yn ddiweddar, wrth iddyn nhw wylio car McLaren clasurol yn cael ei brofi yng Nghanolfan Awyrofod Eryri, Llanbedr. Daethpwyd â’r McLaren 1982 i’r Ganolfan gan ei berchennog, Steve Hartley, a Thîm Peirianneg Mirage, er mwyn ei brofi cyn Pencampwriaeth Fformiwla Un Meistri yr FIA, lle y bydd ceir clasurol yn brwydro yn erbyn ei gilydd mewn saith lleoliad ar draws Ewrop. Cafodd myfyrwyr y cyfle i weld peirianneg campau modur clasurol ar waith - rhywbeth a oedd yn arloesol yn ei ddydd, ac sy’n parhau i fod o’r radd flaenaf - ac i siarad â’r tîm o beirianwyr arbenigol sy’n dal i gadw’r car clasurol mewn cyflwr sydd gyda’r gorau yn y byd, 37 mlynedd ar ôl iddo gael ei adeiladu. Mae’r Ganolfan yn rhan o Barth Menter Eryri Llywodraeth Cymru, oherwydd ei photensial i greu swyddi o ansawdd uchel yn lleol ac yn genedlaethol. Meddai John Idris Jones, Cadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Ardal Fenter Eryri: ‘Mae hi mor, mor bwysig i bobl ifanc gael profiadau cadarnhaol a diddorol o yrfaoedd STEM mor gynnar â phosib, er mwyn dylanwadu ar eu ffordd o feddwl wrth iddynt fynd ati i wneud dewisiadau addysgiadol. ‘Rwyf wrth fy modd fod profiad o’r math hwn wedi bod ar gael yng nghymuned Ardudwy, ac rwyf yn ymwybodol mai dim ond un o gyfres o weithgareddau STEM sy’n cael eu cynnal ar gyfer Pobl Ifanc yn y safle oedd hwn, ynghyd â’r Academi Dronau yn ddiweddar, a’r Her Beirianneg sy’n cael ei chynnal yn fuan gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol.’

Ifan Lloyd Jones, Cadeirydd Côr Meibion Ardudwy yn derbyn crys polo gan Iolo Williams, un o gyfarwyddwyr R J Williams a’i Feibion. Hefyd yn y llun mae trysorydd y Côr, Bryn Lewis Mae perchnogion Garej Talsarnau wedi penderfynu noddi crysau polo Côr Meibion Ardudwy trwy roi symbol Isuzu ar lawes dde’r crys. Dywedodd Iolo Williams ar ran y Cwmni, “Mae’n newid i ni noddi rhywbeth gwahanol i bêl-droed a rygbi yn yr ardal. Rydym yn llawn edmygedd o’r modd y mae’r Côr hwn yn cynnal diwylliant yn yr ardal ac yn rhoi eu gwasanaeth yn rhad i sawl achos da.” Ar ran y Côr, diolchodd Ifan Lloyd Jones i gyfarwyddwyr y garej am eu haelioni a nododd y bydd y garej yn cael sylw rhyngwladol wrth i’r aelodau deithio i wlad Pwyl ym mis Mai eleni gan wisgo’r crysau. Bydd yr aelodau hefyd yn teithio i Galway yng ngorllewin Iwerddon unwaith eto ddiwedd mis Hydref yng nghwmni aelodau Cana-migei. Mae ’na gymaint yn bwriadu mynd fel bod angen llogi dwy fws i gario pawb. Diau y bydd yr hin wedi oeri gormod iddyn nhw wisgo’r crysau ar y daith honno!

Disgyblion o Ysgol Ardudwy yn gweld car Fformiwla Un yn cael ei brofi yng Nghanolfan Awyrofod Eryri, Llanbedr


GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 780635 pmostert56@gmail.com

HOLI HWN A’R LLALL

Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com 07760 283024 / 01766 780541

SWYDDOGION

Cadeirydd: Hefina Griffith 01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg CASGLWYR NEWYDDION LLEOL

Y Bermo Grace Williams 01341 280788 David Jones 01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones 01341 241229 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Cysodwr y mis: Phil Mostert

Caiff y rhifyn nesaf ei osod ar Mawrth 29 am 5.00. Bydd ar werth ar Ebrill 3. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Mawrth 25 fan bellaf, os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

Dilynwch ni ar Facebook @llaisardudwy

2

Enw: Mari Wyn Lloyd. Gwaith: Ffotograffydd. Cefndir: Cefais fy magu yn Bronaber, Trawsfynydd cyn symud i Gwm Nantcol yn 11 oed. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Mynd â’r cŵn am dro o amgylch y fferm. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Cylchgronau a llyfrau ffotograffiaeth er mwyn cael rhywfaint o ysbrydoliaeth ar gyfer fy ngwaith. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Fy hoff raglenni teledu yw Pobl y Cwm ac Emmerdale (dylanwad fy Nain) ac hefyd C’mon Midffîld. Ydych chi’n bwyta’n dda? Dim felly, rwyf yn hoff iawn o fwydydd melys a chreision.

LLYTHYR Annwyl Ddarllenwyr, Dyma gysylltu fel Cymdeithas John Gwilym Jones, cymdeithas lên Prifysgol Bangor yn eich hysbysu o’n cynhyrchiad blynyddol. Bydd un o ddramâu John Gwilym Jones ei hun, Ac Eto Nid Myfi, yn cael ei llwyfannu yn Stiwdio Pontio am 7:00yh ar y 15fed o Fawrth eleni. Mae’r tocynnau’n £5 ac i’w cael gan Pontio drwy ffonio neu ar y we. Byddai’n wych eich croesawu atom.

Hoff fwyd? Chicken burger ac onion rings, (eto dewis iach!). Hoff ddiod? Gin a lemonêd. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Teulu a ffrindiau a phawb i dalu drosto’i hun. Lle sydd orau gennych? Cael bod adra yn tynnu lluniau o’r dirwedd – y môr a’r mynydd. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Gwlad yr Iâ yn 2017- gwlad hyfryd a thrawiadol yn yr eira ond gwlad ofnadwy o ddrud. Beth sy’n eich gwylltio? Pobl yn cymryd mantais ac yn dweud celwydda. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Rhywun sydd yn onest, yn driw, ac yn barod i wrando bob amser. Pwy yw eich arwr? Taid oherwydd roedd o’n berson hoffus, hapus a llawn jôcs a straeon difyr. Yn ei golli’n fawr. Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon? Rwyf yn edmygu holl wirfoddolwyr yr ardal sy’n rhoi o’u hamser i helpu pobl mewn argyfwng. Beth yw eich bai mwyaf? Eisiau gorffen pethau cyn dechrau. Beth yw eich syniad o hapusrwydd?

Cael bod adra gyda theulu, ffrindiau a’r anifeiliaid yn mwynhau y traethau a’r mynyddoedd. Wedi bod yn byw yng Nghaer am dair blynedd tra yn y Coleg yno, a gwerthfawrogi yr hyn sydd gennym adra. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5,000? Prynu offer camera newydd neu byddai’r arian yn mynd tuag at greu swyddfa/stiwdio tynnu lluniau. Ar hyn o bryd, dwi’n cael defnyddio Neuadd Cwm Nantcol ar gyfer ‘photo shoots’. Eich hoff liw? Glas. Eich hoff flodyn? Fy hoff flodyn yw cennin Pedr. Eich hoff gerddorion? Nid wyf yn berson cerddorol ond rwyf yn hoff iawn o ganeuon Bryn Fôn ac Elin Fflur. Eich hoff ddarn[au] o gerddoriaeth? Dwn im! Pa dalent hoffech chi ei chael? Buaswn wrth fy modd yn gallu canu. Eich hoff ddywediadau? ‘Trist iawn, very sad’ (Mr Picton - C’mon Midffîld). Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Rwyf yn hapus iawn i gael bod adra ar ôl gorffen fy ngradd ac yn edrych ymlaen at y dyfodol i gael gweithio a byw’n lleol.

‘PERTHYN’ SIAN NORTHEY

Lansiad nofel newydd gan Siân Northey, Nos Fercher, Mawrth 20, 7.00 tan 8.30. Cell B, Blaenau Ffestiniog Croeso cynnes i bawb Mynediad am ddim. Darperir lluniaeth ysgafn. Gwestai arbennig: Bethan Gwanas Adloniant gan: Gai Toms


LLANFAIR A LLANDANWG Merched y Wawr Harlech a Llanfair Cawsom wahoddiad i ymuno â changen Talsarnau y mis diwethaf. John Christopher Williams o Feddgelert oedd y gŵr gwadd. Aeth John, ei wraig a thair o’u merched allan i Papua New Guinea yn y 70au. Fe fu John yn athro ac yn ymgynghorydd addysg yno am flynyddoedd lawer. Daeth ag arteffactau diddorol gydag ef a chawsom hanes arwyddocâd yr hyn a welsom. Noson ddiddorol iawn oedd hon ac roedd pawb wedi mwynhau clywed am ei gyfnod yn y wlad bell hon. Ym mis Ebrill byddwn yn croesawu Siân Lea o Ddolgellau atom i sôn am Graig y Ffynnon.

Y MACHLUD O TALLIN Llun: Arwel Evans

SUT UN OEDD ELLIS WYNNE O’R LAS YNYS?

Daw’r canlynol o rifyn Gaeaf 1999-2000, rhif 18, o Ramant Bro, cylchgrawn sy’n olrhain hanesion Blaenau Ffestiniog a’r Cylch.

Yn ôl Syr John Morris Jones, dyn na wyddon ni fawr ddim o’i hanes yw Ellis Wynne o’r Las Ynys, cyn-reithor Eglwys Llanfair, ymysg eglwysi eraill. A’r rheswm am hynny, yn ôl Syr John Morris Jones yw ‘nad oedd fawr o hanes yw draethu amdano’. Yng ngwyneb barn ysgolhaig fel John Morris Jones, mae’n debyg mai rhyfyg yw ceisio dirnad sut un oedd Ellis Wynne o’r Las Ynys. Ond pan benderfynodd y Gymdeithas Hanes ymweld â’r Las Ynys teimlais yr hoffwn gael rhyw fath o ddarlun yn fy meddwl o sut gymeriad oedd y dyn a’r llenor fu’n byw yno. Er gwell neu er gwaeth, ffrwyth yr awydd hwnnw yw’r ychydig nodiadau yma. Un o’r pethau cyntaf i’w gofio am Ellis Wynne yw mai nid gwerinwr oedd o. Doedd o chwaith ddim yn aelod o ddosbarth canol ei gyfnod. Uchelwr oedd Ellis Wynne, uchelwr o dras, ac yr oedd yn ymwybodol o hynny. Taid Ellis Wynne oedd William Wynne, Glyn Cywarch a’r William Wynne hwnnw fu’n gyfrifol am godi Glyn Cywarch fel ag y mae heddiw. Mae urddas pensaerniïol Glyn Cywarch yn ddigon ynddo’i hun i roddi rhyw syniad inni o awdurdod a safle teulu Ellis Wynne yn y gymdeithas. Mae gan Huw Machno gywydd lle mae’n disgrifio Glyn Cywarch, ac fel hyn mae rhan o’r cywydd yn darllen: ‘Cerrig a Chalch creigwych wedd, Cadarn goed, ceidw’r iawn gydwedd Da a glân yw dy deg lys, Drych inni drwy chwe ynys.’ O ganlyn ach Ellis Wynne yn ôl i’r drydedd ganrif ar ddeg gwelwn ei fod yn disgyn yn ddifwlch a diwyriad o Osbwrn Wyddel. Un o nodweddion y dosbarth yna o uchelwyr oedd eu hawch i feddiannu tiroedd a stadau ac mae Ellis Wynne yn amlygu’r nodwedd hwnnw. Pan aeth John Jones, Uwchlaw’r Coed, dewythr i Ellis Wynne, i helyntion ariannol a cheisio codi morgais ar ei eiddo aeth Ellis Wynne ati i geisio ennill meddiant o’r stad er mwyn sicrhau, medda fo mewn llythyr, nad oedd y stad yn mynd ‘from the right line’. Llais uchelwr nodweddiadol sydd i’w glywed yn y llythyr hwnnw. Dyna felly un agwedd o gymeriad Ellis Wynne – uchelwr go iawn. Yn ôl y traddodiad cafodd Ellis Wynne ei benodi’n offeiriad ar gorn ei lyfr ‘Rheol Buchedd Sanctaidd’. Cyfieithiad o lyfr Jeremy Taylor yn anad dim arall yn feistr ar deithi’r iaith Saesneg. Wrth ddewis cyfieithu un o weithiau Jeremy Taylor peidied nad oedd Ellis Wynne yn amlygu nodwedd arall o’i gymeriad, sef dyn oedd yn reddfol ymateb i’r iawn ddefnydd o eiriau i gyfleu nid yn unig ystyr y deud ond hefyd naws y deud? Un peth arall am Ellis Wynne fel llenor sydd efallai yn werth sylwi arno. Llyfr diwinyddol yw ‘Rheol Buchedd Sanctaidd’, ac yn y bôn llyfr diwinyddol yw ‘Gweledigaethau’r Bardd Cwsg’. Cyhoeddwyd y ddau cyn i Ellis Wynne fynd yn offeiriad a phan oedd yn ŵr ifanc deg ar hugain oed. Ar gorn hynny gellir, rwy’n credu, ddweud fod yna elfen ysbrydol amlwg yng nghymeriad Ellis Wynne cyn iddo droi at y weinidogaeth. Sut berson plwyf oedd Ellis Wynne? Byddai gwybod hynny yn rhoddi rhyw syniad inni o’i gymeriad. Yn y cofnodion plwyf, lle mae Ellis Wynne yn cofnodi genedigaethau, priodasau a marwolaethau ei blwyfolion, un o’r pethau sydd yn taro dyn yw taclusrwydd ei lawysgrifen a’i waith. Mae rhywun yn cael y teimlad wrth eu darllen mai dyn gonest a chydwybodol wrth ei waith oedd Ellis Wynne. Ac mae ei ofal am ei braidd yn dod i’r golwg mewn llefydd eraill hefyd. Mae ganddo lythyr at yr Arglwyddes Mary Owen yn gofyn am ei chefnogaeth i gael eglwys yn Harlech, ac un o’r rhesymau mae’n ei nodi yw fod yr eglwys yn Llandanwg ym mhen pella’r plwyf ac yn anhwylus i’r mynychwyr. Person plwyf cydwybodol yn poeni am ei blwyfolion. Dafydd Jones, Siop yr Hen Bost, Blaenau Ffestiniog [I’w barhau]

3


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Cymdeithas Cwm Nantcol Daeth y tymor i ben nos Lun y 18fed o Hydref wedi cyfarfodydd hynod lwyddiannus trwy gydol y tymor. Yn absenoldeb y llywydd, Phil Mostert, croesawyd pawb a chyflwynwyd ein siaradwr gwadd Mr Iwan Morgan gan Evie. Cafwyd sgwrs ddiddorol ganddo - yn cyflwyno barddoniaeth gan feirdd Ardudwy a dyfynnu llawer o’u gwaith. Bu Iwan yn mynychu’r Gymdeithas yn y saithdegau ac ymfalchïodd o ddatgan iddo y pryd hynny ennill dwy gadair yn Eisteddfod y Cwm. Gwyddom iddo ennill sawl cadair arall dros y blynyddoedd. Gwyddom amdano fel beirniad cenedlaethol ac am ei lwyddiant eleni o fod yn gadeirydd Pwyllgor Gwaith Gŵyl Gerdd Dant Stiniog a’r cylch. Diolchodd Evie i Hefin a Morfudd am ofalu am y Neuadd mewn sawl modd yn cynnwys gofalu bod yr adeilad yn gynnes a chlyd i’r cyfarfodydd. Diolchodd i Eirwen am ofalu am y raffl, y merched sy’n paratoi lluniaeth, sef Jean, Morfudd a Heulwen, ac i bawb gyfrannodd mewn unrhyw ffordd a phawb arall fu’n selog a chefnogol drwy’r tymor. Cyfeiriodd at arbenigrwydd Phil Mostert a fu’n llywyddu mor fedrus ar hyd y tymor. Bydd y Neuadd yn cael ei defnyddio drwy’r flwyddyn fel stiwdio ffotograffiaeth gan Mari Wyn Lloyd, Tyddyn Hendre. Dymunwn pob llwyddiant iddi yn ei menter. Diolch Dymuna Bryn a Hilda, Gorffwysfa, ddiolch o galon i bawb am y cardiau, cyfarchion a rhoddion a dderbyniwyd ar achlysur dathlu eu Priodas Aur ar y 15fed o Chwefror. Rhodd £10 Gwasanaethau’r Sul Am 2.00 o’r gloch y prynhawn MAWRTH 17 Capel y Ddôl, Parch Dewi Tudur Lewis 24 Capel Nantcol, Elfed Lewis 31 Capel y Ddôl, Parch Huw Dylan Jones EBRILL

7 – Parch Christopher Prew

4

Merched y Wawr Nantcol Nos Fercher, Chwefror 6ed, daeth yr aelodau ynghyd ar gyfer noson y dysgwyr. Croesawyd ein gwestai, Pam Cope o Lanaber, gan Rhian, y Llywydd. Mae Pam wedi ymroi o ddifrif i ddysgu Cymraeg a bellach mae hi wedi croesi’r bont o fod yn ddysgwraig i fod yn rhugl yn yr iaith. Roedd Pam wedi creu dwy gêm ar ein cyfer a’r ddwy wedi eu seilio ar gerdd o’r enw ‘Terfyn’ gan y bardd Gwyn Thomas. Cafwyd llawer o hwyl a chrafu pen yn paru geiriau a cheisio didoli llinellau o’r gerdd a’u gosod yn eu trefn gywir. Cawsom noson hwyliog a chartrefol yng nghwmni Pam a diolchodd Rhian iddi am yr holl waith paratoi a’r cyflwyniad graenus. Dymunwyd yn dda i aelodau’r tîm Bowlio Deg yng nghystadleuaeth y Rhanbarth yng Nglanllyn. Cafwyd gwybodaeth am brosiect Llywydd y Mudiad eleni, sef yr ymgyrch i gasglu sbwriel yn lleol er mwyn diogelu’r blaned i blant ein plant. Dosbarthwyd manylion am gystadlaethau amrywiol y Mudiad. Gwnaed trefniadau ar gyfer croesawu aelodau cangen Maesywaun a Ceri Griffith a’i chyfeillion i ddathlu Gŵyl Ddewi gyda ni. Cyhoeddiadau’r Sul, Capel Salem Am 2.00 o’r gloch y prynhawn 24 Mawrth Parch Judith Morris 14 Ebrill Marc Jon Williams Croeso cynnes i bawb.

Côr Meibion Ardudwy Bu farw Gareth Jones, Minffordd cyn-aelod poblogaidd iawn o’r Côr Meibion. Canu oedd prif ddiddordeb Gareth. Bu’n aelod o dri chôr, sef Côr Caernarfon, Côr Colin Jones ac Ardudwy – lle’r oedd yn unawdydd dawnus. Roedd ganddo llais bas llawn, meddal a mwyn ond roedd ganddo lais cryf hefyd pan oedd ei angen. Oherwydd ei bersonoliaeth radlon, roedd yn aelod poblogaidd iawn yn y corau a chafodd bleser mawr iawn o gyd-ganu a chyd-deithio gyda’r aelodau dros y blynyddoedd. Bu’r ddwy flynedd ddiwethaf yn anodd i’w ffrindiau wrth i ni sylwi ar y dirywiad yn ei iechyd. Ond cofio’r blynyddoedd da wnawn ni, cofio’r hwyl, cofio’i gyfeillgarwch, ei addfwynder a’i wên barod. Hen foi iawn oedd o. Un o’r goreuon. Bydd chwith mawr ar ei ôl. Cynhelir yr angladd yng Nghapel y Garth, Porthmadog ar Mawrth 8. RK

Cyngor Cymuned Llanbedr Eisiau gwaith torri llwybrau a thorri glaswellt mynwent yr Eglwys? Yna beth am dendro am waith gan Gyngor Cymuned Llanbedr? Llwybrau – categori 1 a 2 yn unig. Tendro yn ôl gwaith fesul awr. Mynwent Sant Pedr – tendro fesul torriad. Disgwylir i dorri bob 5 wythnos, ond yn dibynnu ar y tyfiant blynyddol. Am fwy o fanylion cysyllter â M W Lloyd, Clerc y Cyngor, e-bost cyngorllanbedr@gmail.com Tendr i law erbyn Ebrill 4ydd.

GWASANAETH CADW CYFRIFON ARDUDWY

Cysylltwch â ni am y gwasanaethau isod: • Cadw llyfrau • Ffurflenni TAW • Cyflogau • Cyfrifon blynyddol • Treth bersonol info@ardudwyaccounting.co.uk 07930 748930

Teulu Artro Dydd Mawrth, Chwefror 5, croesawodd Glenys ein llywydd bawb ac roeddem yn falch o weld Pam Richards wedi gwella a dymunodd wellhad buan i Catherine a Beti. Hefyd dymunwyd yn dda i Winnie ac Iona, y ddwy wedi dathlu eu pen-blwydd yn 80 yn ystod mis Ionawr. Gan na chawn gyfarfod yn Victoria yn ystod mis Mawrth ac Ebrill, penderfynwyd gofyn i Bwyllgor y Neuadd am gael llogi ystafell. Cafwyd pnawn diddorol yng nghwmni Clare o Borthmadog sydd yn cynnal cyfarfodydd ‘Dementia Go’ ac yn trafod yr afiechyd creulon hwn, sydd yn medru effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg. Yna buom yn ceisio gwneud tipyn o ymarfer corff gyda hi. Diolchodd Iona iddi am yr wybodaeth a fydd yn gymorth i ni i gyd. Enillwyd y raffl gan Pam a Winnie. Cydymdeimlo Anfonwn ein cofion at John ac Eleri Thomas, Morfa Mawr. Bu farw Dylan Islyn Griffiths, brawd yng nghyfraith i Eleri yn frawychus o sydyn yn Nhrawsfynydd. Cydymdeimlwn â hwy yn eu colled. Adre o’r ysbyty Rydym yn falch o glywed fod Jane Caermeddyg yn gwella ac wedi dod adre o’r ysbyty, a hefyd croeso i’w chwaer Jennifer, adre o Iwerddon am ychydig. Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â David a Julie Hughes. Mae Judith wedi colli ei thad yn ddiweddar. Rhodd i’r Llais Miss Jane Lloyd Hughes £13 Nain eto Llongyfarchiadau i Susanne Davies, Bryn Deiliog ar ddod yn nain i’w hail wyres, Alys Rhiannon, merch fach arall i Angharad a Luke. Grŵp Huchenfeld Bydd cyfarfod o’r Grŵp Huchenfeld yn Neuadd Llanbedr am 9.00 o’r gloch y bore, dydd Gwener, Ebrill 5.


TRAFOD SILLAFIAD YR ENW COED FELIN/FELENRHYD Dadlenni hanes Llennyrch a Choed Felin/ Felenrhyd, y ‘goedwig law Geltaidd’ Mae Coed Cadw yn ailagor cwestiwn sillafiad un o’r choedlannau mwyaf eiconig yn Eryri. Yn 2015, fe lwyddodd Coed Cadw i brynu safle Llennyrch ar ôl ymgyrch godi arian llwyddiannus. Mae’r tir yn ffinio gyda Choed Felenrhyd, sydd wedi bod yng ngofal y mudiad ers yr 1980au. Mae’r safle yn cynnwys hen ffermdy sydd o ddiddordeb hanesyddol mawr, a all berthyn i’r unfed ganrif ar bymtheg, ac mae’r mudiad yn awyddus i ymchwilio a dehongli hanes y ffermdy a’r tir. Oherwydd hyn, mae Coed Cadw’n awyddus i recriwtio Ymchwilydd Treftadaeth gwirfoddol i ymchwilio a darganfod mwy am hanes y safle hudolus hwn. A gan y bydd cryn dipyn o’r dogfennau yn y Gymraeg, mae’r mudiad yn awyddus i ddod o hyd i rywun sy’n siarad Cymraeg i wneud hyn. Meddai Kylie Jones Mattock, Rheolwraig Stad Coed Cadw ar gyfer Cymru: “Mae gan Goed Felenrhyd hanes anhygoel. Hi yw’r unig goedwig o eiddo Coed Cadw sy’n cael ei henwi yn y Mabinogi! Yn y bedwaredd gainc mae Pryderi, Arglwydd y Deheubarth yn cael ei ladd gan y dewin Gwydion, ar ôl brwydr fawr sy’n digwydd yn y ‘Felen Rhyd ger Maen Twrog’. Mae’n amlwg fod hwn yn gyfeiriad at y goedwig hon. Rydan ni’n credu fod y gair ‘felen’ yn cyfeirio at mwsogl sy’n dal i dyfu ar y cerrig lle mae’r hen ffordd yn croesi afon Prysor.” Pan brynodd Coed Cadw’r goedwig hon, Coed Felenrhyd, gydag ‘i’ oedd yr enw ar y gweithredoedd, er nad oes cof fod yna felin wedi bod ar y safle erioed. Yn 2001, fe wnaeth y mudiad ystyried newid y sillafiad i ‘Felenrhyd’ fel sydd yn y Mabinogi. Ond ar y pryd yr oedd Cyngor Cymuned Talsarnau yn erbyn gwneud hyn. Heddiw, fodd bynnag, mae’r elusen yn barod i ailystyried. “Fe fydden ni wrth ein bodd cael mynd yn ôl i’r sillafiad sydd yn y Mabinogi,” meddai Kylie Jones Mattock, “ond dim ond os ydan ni’n hyderus fod pobl leol o blaid gwneud hyn.” Felly, mae Coed Cadw yn awyddus i ddarganfod beth yw barn bobl leol am hyn, ac mae’r mudiad wedi gwahodd bobl leol sydd â barn ar y pwnc, y naill ffordd neu’r llall, i gysylltu â kyliejonesmattock@woodlandtrust.org.uk neu i ffonio 0343 770 5785. Fe fyddai Kylie yn awyddus hefyd i glywed oddi wrth bobl leol sydd â straeon doniol neu ddiddorol am y ddwy goedlan. Fe fyddai hynny’n cynnig cyfle i’r gwirfoddolwr wneud rhagor o waith ymchwil am y straeon fyddai’n dod i law, Mae manylion am y cyfle i wirfoddoli fel Ymchwilydd Treftadaeth yn y ddwy goedlan yn woodlandtrust.org.uk/ volunteering

PYTIAU OLWEN

Dyma ychwaneg o’r casgliad o atgofion a ffeithiau difyr am Ardudwy a’i phobl a gasglwyd gan Olwen Jones pan roedd yn ddisgybl yn Ysgol Ardudwy. Hugh John Hughes Dirprwy brifathro ac athro Cymraeg yn Ysgol Ardudwy, Harlech. Ganed efo ym 1912 ym Mwlch-gwyn, Garndolbenmaen. Aeth i Ysgol Gynradd Brynengan, Eifionydd, Ysgol Sir Penygroes, a Choleg y Brifysgol, Bangor. Enillodd ddwy gadair gyntaf Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd – Corwen 1929, a Chaernarfon 1930. Cyhoeddodd ‘Gwerthfawrogi Llenyddiaeth’ ym 1959, yn osodedig fel Maes Llafur yr Orsedd. Mae’n feirniad Llên yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd. Ei waith: Molawd Ardudwy Bu Branwen yn curio am weled dy dyno, Ac yma bu adar Rhiannon yn gôr; Ar greigle dy goedfron bu Owain ddewrgalon Yn gwarchod dy ryddid rhwng mynydd a môr. Fe heriwyd pob bonedd gan rym Maesygarnedd, Rhag teyrn na thaeogion ni phlygodd efô; A thra hedo gwylan uwch tir Hendre Fechan Nid byth yr â’n ango Landanwg a’i gro. Wrth grwydro dy fryniau a’th hyfryd geulannau Ac edrych ar feiston ewynfriw dy draeth, Ni ganwn dy glodydd, fro gain y diwedydd Bydd arial i’n calon, ni feibion dy faeth. I B’le, Gymry?

Fel gwŷr Pryderi gynt ar hynt yr awn Wynebwn y Bwlch yn dun a dall, a rhedegog nwyf rhyw hen Ddwyfach Yn ein galw’n ddirgelaidd I gilio rhag y gelyn O lechwedd ein Capel Uchaf I ryw Nancall ar ein hencil, Ac i ddeheudir lle mae’r gwir fel gau. I’n plant rhown neges fantach Yn rhodres blin iddynt ar draws y blynyddoedd.

GWASANAETH DIGIDOL NEWYDD - YN LLANBEDR Yn ymateb i’r galw am i bawb wneud pob cais am wasanaeth yn ddigidol, mae Cyngor Gwynedd yn creu cyfleusterau a chymorth mewn pentrefi. Un o’r pentrefi hyn yw Llanbedr, lle mae cyfrifiadur ar gael yn y neuadd. Yn gysylltiedig â’r cyfrifiadur mae llinell ffôn arbennig sy’n cysylltu yn uniongyrchol â chanolfan gymorth. Dim ond codi’r ffôn sydd ei angen os byddwch yn cael trafferth. Y bwriad yw rhoi cyfle i rai sydd heb gysylltiad digidol gael adnodd fydd yn eu galluogi i gysylltu â gwasanaethau cyhoeddus nad ydyn nhw ar gael ond drwy’r We. Hefyd gellir ei ddefnyddio i gadw cysylltiad â theuluoedd. Mae’n bosib bod rhai sy’n cysylltu gyda ffôn weithiau angen cyfrifiadur, er enghraifft i lenwi ffurflen. Mae’r offer ar gael i bawb pan fydd y Neuadd yn cael ei defnyddio (Llun i Gwener o 9.00 tan tan 3.00 a nos Sul i nos Iau. Gall yr amseroedd yma newid). I’r rhai sydd angen cyflwyniad i’r gwasanaeth mae rhywun ar y safle rhwng 10:00 a 12:00 ar ddydd Gwener. Yn ychwanegol, mae gwirfoddolwyr yn Llanbedr yn fodlon trefnu cyfarfod ar adeg cydgyfleus i roi hyfforddiant un-i-un. I drefnu hyn cysylltwch ag Iddon Hall ar 01341 241464 neu 07966 406497.

5


Atgofion bore oes

– rhan 7, gan Ann Doreen Thomas

Yn dilyn ei phlentyndod yn Harlech, symudodd y teulu o’r ardal adeg y Rhyfel. Dyma’r hanes yn parhau: Mi oedd gan y Germans dueddiad i ddod drosodd pan oedd yna leuad, a rhyw gyda’r nos, cyn amser gwely, dyma Dad yn dod adref o’i waith a dweud wrth Mam ei fod am fynd a Hilary a fi allan. Nid oedd gennyf syniad lle’r oedd o’n mynd a ni. Ond aeth Dad a ni tuag y bryn tu ôl i’r stad dai ac wedi cyrraedd dyma fi yn gweld bod pobol eraill a phlant yno hefyd. Mae un peth efo’r Germans – roeddynt yn cadw i’r un amser bob nos i fomio. “Fetsach osod eich cloc arnynt”, oedd y dywediad.

Ta waeth, dyma fi’n gofyn i Dad pam oedden ni yno a be oeddwn yn mynd i’w weld. “Aros funud”, medda Dad, “a mi gei di weld.” Doedd porthladd Southampton ddim yn bell oddi wrthym ac yng ngolau’r lleuad roedd y barrage balloons i’w gweld yn sgleinio fel pysgod aur. Ar hynny, dyma weiddi “Maent yn dod,” a be oedd i’w weld ond aeroplanes Germans yn tanio bwledi tuag at y balŵns a’r rheini yn cwympo fel peli o dan y tracer bullets oedd i’w gweld yn cael eu tanio. Wedyn, dyma’r bombers yn dod; roedd y ffordd yn glir iddynt rŵan i ollwng eu bomiau ar y dociau. Wedi i’m brawd, chwaer fach a’r babi fynd i’w gwely o dan y staer, fydda mam yn rhoi amser imi ac yn gwrando arnaf yn darllen. Roedd gennyf stôr o lyfrau a byddwn yn darllen cylchgrawn fy mam pan fyddwn yn cael gafael arno. Un noson pan oedd Mam yn gwrando arnaf yn darllen, dyma gnoc ar y drws. Roedd Dad allan yn gwylio fel oedd rhaid i bob dyn y stad gymryd ei dro, a’r noson honno oedd noson ein tad. Mi aeth Mam at y drws a finnau wrth ei chwt hi; roedd rhaid tynnu cyrten oddi ar y drws rhag ofn i olau ddangos neu ddiffodd y golau. Roedd pawb wedi cael blackout curtains i’w gosod dros y ffenestri ac unrhyw wydr; roedd dirwy i’w gael os oedd rhywun yn dangos rhywfaint o olau o’i dŷ. Pan agorodd mam y drws, pwy oedd yn sefyll yno ond Army Officer a Sergeant; roedd hwnnw’n dal un o’r hen focsys pren oedd gynnon ni. “O”, meddia’r Swyddog, “o’n i’n meddwl y basa eich plant i gyd yn eu gwelyau.” “O, peidiwch â phoeni,” medda Mam, “os dyweda i wrth fy merch i beidio â dweud, neith hi ddim dweud gair.” Ar hynny, daethant i mewn a mi roddwyd y bocs o nwyddau ar y bwrdd a dyma’r swyddog yn ysgwyd llaw Mam a siarad gyda hi. Wedi iddynt fynd, dyma Mam yn dweud yr hanes pan oeddynt wedi dod â’r anrheg o nwyddau iddi. Wir, roedd o fel Dolig, y pethau oedd ynddo. Pan oedd Mam yn bwydo’r babi, mi sylwodd bob bore tua dau o’r gloch, fydda ’na gar yn dod i lawr y rhiw tuag at y groesffordd a’i olau yn llenwi’r llofft. Roedd golau’r car yn sgleinio i fyny y rhiw i gyfeiriad y dociau yn Southampton; mewn ychydig o funudau wedyn fydda ni yn clywed sŵn y German bombers yn dod i fomio’r dociau. Wel, mi ddaru Dad adrodd hyn i’r awdurdodau a mi osodwyd trap i ddal y car a be oedd ynddo ond German spies ac am fod Mam wedi sylwi

6

ar hyn a Dad wedi dweud amdano a bod nhw wedi eu dal, y bocs nwyddau oedd gwobr Mam. Nid oedd yna drefn ar fywyd yr adeg honno; dim ond cymryd bob dydd fel medrwn. Rhai dyddiau byddem yn cael heddwch i gael gwersi trwy’r dydd, y tro wedyn yn gorfod mynd dros y ffordd i’r shelters, ac am rhyw reswm roedd fy mrawd a sawl brawd bach arall yn cael dod gyda ni. Ddaru fi erioed ofyn i’m tad be ddigwyddodd, ond tybiwn fod ambell i riant arall wedi cael deall be oedd wedi digwydd a mi altrodd pethau yn y shelter hefyd, ond fuon ni erioed yno mor hir wedyn. Dal i gysgu o dan y staer roeddem fel teulu a phawb arall yn y rhes tai. Ond mi oedd yna rhyw ysbryd wedi dod a bob teulu yn helpu ei gilydd; roedd gan bob tŷ ei allotment ac i weld yn ei blannu. Adeg hynny cefais flasu parsnips am y tro cyntaf; “moron gwyn oeddynt” medda fi wrth ein mam ond blas gwahanol.

Pan ddois adref o’r ysgol un prynhawn, gwelais ddwy neu dair o’r gwragedd yn siarad yn ddifrifol gyda’i gilydd a phan es i fewn i’n tŷ ni, dyma fi yn dweud wrth Mam a gofyn iddi be oedd wedi digwydd. Dyma Mam yn dweud hwyrach y basa ni yn gorfod symud achos roedd y stad a thŷ mawr y perchennog yn cael ei comandeerio gan y llywodraeth achos ei fod yn German Jew. Felly roedd yn mynd i gael ei roi mewn carchar a bod y plasdy yn mynd i fod un ai yn ysbyty neu barracks i’r awyrlu. Roedd land girls yn mynd i redeg y fferm hefo un neu ddau o ddynion oedd wedi ymddeol. Nid oedd rhaid meddwl ymhellach tan y basa ’na gyfarfod wedi bod. Nid oedd yna waith yn yr ardal i’m tad na’r dynion eraill chwaith. Rwyf yn gwybod bod yr amser hynny o ansicrwydd wedi dweud ar ein rhieni. Yr adeg hynny, roedd y bomio ar ei waethaf hefyd – bob nos heb stop. Adeg honno hefyd, wedi deall, buom trwy be gafodd ei alw yn Battle of Britain, y cwffio yn yr awyr a’r bomio trwy’r dydd a nos. Clywais Mam yn dweud wedyn bod y bomio wedi para am chwech wythnos yn ddi-stop. Mi effeithiodd hyn ar ein mam rwy’n siŵr achos ni fuodd byth yr un fath wedyn, a bu farw yn 39 oed diwrnod gorffen y Rhyfel yn Ewrop, 7 Mai 1945.

Sawl gwaith ddaru fi feddwl mai piti garw oedd bod Dad wedi cadio ar y cwrs golff ac wedi ein symud ni er mwyn cael gwaith, ac hefyd bod y German Jew yna ddim wedi ei ddenu i waelod Lloegr.


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Dyweddïad Llongyfarchiadau i Eon Williams, Carleg Uchaf, Dyffryn Ardudwy, ac Elin Thomas, Dolgellau ar eu dyweddïad yn ddiweddar. Dymuniadau gorau i chwi eich dau yn y dyfodol. Festri Lawen, Horeb Ar nos Iau, 14 Chwefror, cawsom noson yng nghwmni John Ogwen a Maureen Rhys. Croesawyd pawb gan David Henry ac yna cyflwynwyd a chroesawyd John a Maureen gan Gwennie. Testun y noson oedd ‘Annwyl Kate ac Annwyl Saunders’, sef Kate Roberts a Saunders Lewis. Bu’r ddau’n llythyru â’i gilydd am 60 o flynyddoedd. Wrth wrando ar John a Maureen yn darllen y llythyrau dysgasom lawer mwy am Kate a Saunders a chael ein synnu weithiau. Cawsant wrandawiad astud iawn ac wedi i Gwennie ddiolch iddynt, dechreuasant sgwrsio â’r gynulleidfa’n ddifyr iawn ac roedd yn anodd eu cael at y bwrdd i gael paned. Ar Fawrth 14eg byddwn yn cael cinio Gŵyl Ddewi yn Nineteen 57 a’r gŵr gwadd fydd Dilwyn Morgan. Clwb Cinio Ddydd Mawrth, 19 Chwefror, aethom am ginio i’r Sportsman ym Mhorthmadog. Nid ydym wedi penderfynu eto lle y byddwn yn mynd ar Fawrth 19. Diolch Dymuna Rhian a Huw Dafydd ddiolch am bob cefnogaeth iddynt yn ystod y misoedd diwethaf. Mae’r oll wedi bod yn gymorth mawr iddyn nhw yn eu gofid. Llawer o ddiolch. £10 Cofion Anfonwn ein cofion a’n dymuniadau gorau at Mrs Olwen Lewis, Ger y Nant, Mr Arthur Jones, Isgoed a Mrs Eluned Williams, Islwyn, sydd yn Ysbyty Dolgellau. Rhoddion i’r Llais Di-enw £8 Cyril Jones £20 Margaret Williams £3

Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn y Neuadd Bentref bnawn Mercher, 20 Chwefror. Croesawyd pawb gan Gwennie. Roedd amryw yn methu dod oherwydd anwhylder. Derbyniwyd llythyr o ddiolch gan Mrs Cartwright am y dymuniadau da iddi ar ei phen-blwydd arbennig ac mae hi’n colli dod i’r cyfarfodydd. Yna croesawodd Edwina Evans o Harlech atom. Cafodd Edwina ei geni a’i magu yn y Dyffryn ac er iddi symud i Harlech yn 1947 mae Dyffryn yn agos iawn at ei chalon. Bu Edwina hefo ni o’r blaen yn dangos sut i osod blodau. Mae’n arbenigwraig ar wneud hynny ac am wneud cacennau at achlysuron arbennig. Y tro yma daeth atom i rannu ei hatgofion am Harlech ers 1947 ac fel y mae pethau wedi newid a dirywio. Aeth a ni am dro drwy Harlech gan sôn am y siopau, y gwestai, y caffis, y crydd, y gof a’r ‘cabinet maker’. Bu Hafod Wen yn lle i weithwyr Cadbury’s ddod i orffwys a gwella ar ôl salwch a Phlas Amherst yn ysbyty i filwyr. Mae ganddi gof ardderchog a storïau difyr am rai o’r trigolion. Mwynhawyd bob munud a diolchodd Gwennie iddi ac i Bronwen am ddod a hi. Ar Fawrth 20 byddwn yn cael cwmni plant yr ysgol gynradd. Cyfarfod Gweddi Byd-eang y Chwiorydd Cynhaliwyd y cyfarfod yn Festri Horeb bnawn Gwener, Mawrth 1af. Paratowyd y gwasanaeth eleni gan Chwiorydd Cristnogol Slofenia. Arweiniwyd y gwasanaeth gan Glenys Jones a’r organyddes oedd Rhian Dafydd. Cafwyd gwasanaeth bendithiol iawn a diolch yn fawr i bawb a gymrodd ran. Gwnaed casgliad o £46. Ar y diwedd mwynhawyd paned a sgwrs. Gwasanaethau’r Sul Horeb MAWRTH 10 Parch Iwan Ll Jones 17 Parch Carwyn Siddall, 5.30 24 Geraint a Meinir Lloyd Jones 31 Jean ac Einir EBRILL 7 Parch Dorothi Evans, 5.30

CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT

CYHOEDDIADAU’R CADEIRYDD Diolchodd y Cadeirydd i Edward Williams am wneud y gwaith o osod y newidydd trydan ger toiledau Tal-y-bont dan ddaear. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn mynd i wneud y gwaith o agor aber afon Ysgethin ger Rowen a gofynnodd a fyddai’n bosib anfon gair o ddiolch i Liz Saville Roberts AS am ei help gyda’r gwaith yma. CEISIADAU CYNLLUNIO Cais i ddiwygio amod rhif 17 o ganiatâd gynllunio dyddiedig 05/08/2014 am osodiad safle diwygiedig Tan y Foel, Ffordd y Capel, Dyffryn Ardudwy. Gohirio dod i benderfyniad ar y cais uchod nes bydd eglurhad o beth yw amod rhif 17, wedi ei dderbyn. Dymchwel yr estyniadau unllawr presennol ac adeiladu estyniadau deulawr - Tŷ Bennar, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Trosi adeiladau storfa/ystafell gemau yn ddwy uned llety gwyliau hunain arlwyo – Parc Carafanau Sarnfaen, Tal-y-bont. Cefnogi’r cais hwn. MATERION YN CODI Neuadd Bentref Adroddodd y Cadeirydd ei fod wedi derbyn copi o gofnodion cyfarfodydd yr uchod a gynhaliwyd ar y 13eg o Ragfyr a’r 10fed o Ionawr. Datganwyd pryder mawr bod Trysorydd y pwyllgor wedi ei orfodi i ymddiswyddo a hefyd y ffordd yr oedd hyn wedi digwydd. Cytunwyd i anfon at ysgrifennydd y pwyllgor yn llongyfarch y gwahanol rai oedd wedi gweithio’n ddygn i adnewyddu llawr y Neuadd. Hefyd cafwyd gwybod gan y Cadeirydd bod Patricia Lill eisiau newid ychydig ar gaffi’r neuadd ond cytunwyd na ddylid gwneud hyn gyda’r Cyngor. GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd – Adran Gyfreithiol Wedi derbyn copi o Rybudd ynglŷn â Gorchymyn Gwahardd a Chyfyngu Aros a Mannau Parcio ar y Stryd (Ardal Meirionnydd) 2019 yn gofyn a oes gan y Cyngor unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau ynglŷn â rhybudd ‘Dim aros ar unrhyw adeg’ Ffordd Dosbarth 1 – Y Brif Heol – A496 ar y ddwy ochr o’r ffordd wrth ei chyffordd â’r ffordd sy’n arwain at Ffordd Isaf a’r rhybudd ‘Dim aros 8yb-6yh 1 Ebrill – 30 Medi’ Y Brif Heol – A496 – ar ochr orllewinol y ffordd wrth ei chyffordd â’r ffordd sy’n arwain at Ffordd Isaf am bellter o 5 medr i gyfeiriad y gogledd. Cytunwyd na ddylai dim sylwadau na gwrthwynebiad i hyn gael eu gwneud.

Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd

Tel: 01341 247799 www.smithygarage-mitsubishi.co.uk smithygaragedyffryn

smithygarageltd

Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes 7


HARLECH Sefydliad y Merched Croesawyd y Llywydd Jan Cole yr aelodau i’r cyfarfod nos Fercher, 13 Chwefror. Cafwyd munud o dawelwch i gofio am Joyce Wood oedd wedi bod yn aelod ffyddlon i’n Sefydliad ers blynyddoedd ac wedi marw yn sydyn ar ddechrau Ionawr. Darllenwyd y Llythyr o’r Sir a’r dyddiadau o bwys ydy’r Te Pen-blwydd arbennig Cymraeg yn Nyffryn Ardudwy Edrychwch pwy sy’n 30! Pob ar 15 Mawrth a phlant o’r ysgol hwyl ar dy ben-blwydd arbennig, yn ein diddanu a bore coffi a Catherine Myra Poulton, gyda bwrdd gwerthu yng Nghemlyn chariad gan y teulu i gyd. 23 Chwefror. Rhoddwyd cardiau pen-blwydd Teulu’r Castell i aelodau yn dathlu’r mis yma. Cafwyd ymddiheuriadau gan Bydd y Grŵp Cinio yn cael amryw oedd yn sâl ond braf cinio yng Ngholeg Dolgellau iawn oedd gweld Maureen Jones, ddydd Gwener, 15 Chwefror. ein trysorydd, wedi gwella ac efo O ran cynigion, roedd y rhan ni y prynhawn hwnnw. fwyaf wedi pleidleisio yn erbyn Trist iawn oedd cydymdeimlo toriadau i’r gwasanaeth bysiau gydag Eileen Lloyd wedi colli yn yr ardal yma, gan fod hyn yn ei chwaer Margaret Eirlys bwysig ofnadwy i bobl heb gar. Stumpp ac hefyd â theulu Sybil Ar ôl trafod y busnes cafwyd Smith oedd wedi bod yn aelod sgwrs gan Claire Harris sydd ffyddlon i Deulu’r Castell am rai yn gweithio gyda ‘Dementia Go blynyddoedd. Team’. Mae Claire yn teithio Llongyfarchwyd ŵyr Bronwen, o amgylch Gwynedd yn rhoi sef Gethin Jones, oedd wedi sgwrs am y gwahanol gymorth ennill gwobr mewn coginio yng ar gael i rai sydd efo dementia. Ngholeg Dolgellau ac yn mynd Diolchwyd i Claire gan Denise ymlaen i gynrychioli Cymru yn ar ran yr aelodau. Birmingham, ac hefyd i Cara Enillwyd y raffl gan Myfanwy Rowlands, wyres Bronwen, a Jones a’r gystadleuaeth gan oedd yn 18 ar 15 Chwefror. Stella Calvert, Wendy/Christine. Fe fydd cyfarfod mis Mawrth yn Ysgol Tanycastell. Mudo Croesawyd Gwenda Griffith Croeso i Mr a Mrs J Price a’r oedd wedi dod i gymryd y teulu sydd wedi dod i fyw i prynhawn ac roedd pawb wedi 39 Y Waun. cael hwyl yn chwarae bingo. Er cof am Diolch i bawb am y gwobrau ac Olive Jones, Arfor, Harlech a fu am y rafflau. Croeso adra Braf iawn gweld bod Melanie Griffiths, 24 Y Waun, wedi dod adref ar ôl amser maith mewn gwahanol ysbytai am y 10 mis diwethaf. Colli Olwen Bu farw Mrs Olwen Jones, Rock Terrace ar Fawrth 1af. Roedd yn wraig ddymunol a chymeradwy gan bawb. Cydymdeimlwn â’i mab Alan a’r teulu yn eu profedigaeth. Bu Alan yn gefn mawr i’w fam ac yn ofalus iawn ohoni yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

8

farw Ebrill 1988 yn 49 mlwydd oed. Hefyd Gwenda Jones, Arfor a fu farw Mawrth 2018 yn 82 mlwydd oed. Ar hyd ei hoes bu’n drysor drud A’i gofal mawr yn llenwi’n byd, Roedd heulwen yn ei llygaid llon A’r byd yn well lle cerddai hon.

Er cof annwyl am Gwenda, Arfor, Harlech a fu farw Mawrth 21, 2018, heb anghofio Olive, mam Edwin, Gwyn ac Aled. Diolch am ffrindiau triw. Cledwyn a Glenys, Benllech, Ynys Môn. Rhodd a diolch £20

Taith er elusen I nodi ei hymddeoliad o Reserves y Llynges Brydeinig a blwyddyn 2017 canmlwyddiant Gwasanaeth y Merched yn y Llynges Brydeinig mae’r Cdr Jane Allen RN, wedi ymddeol, ar hyn o bryd yn ymgymryd â thaith gerdded i elusen ar ei phen ei hun o amgylch arfordir tir mawr Prydain - ‘Victory Walk’. Gan gychwyn a gorffen yn HMS Victory, yn Portsmouth, nod taith gerdded Jane yw codi arian ac ymwybyddiaeth am ddwy elusen y Llynges – WRNT BT ac RNRMC. Cefnogir Jane gan ei gŵr Frank, cyn aelod o’r Royal Marine, sy’n gyrru’r ‘Victory Van’. Hyd yma, mae Jane wedi cwblhau 4,266 milltir o’i thaith 5,500 milltir. Wedi parcio’r ‘Victory Van’ dros nos ar ddydd Mawrth 22 Ionawr 2019 yn Snowdon Lodge, Tremadog (man geni T E Lawrence – Lawrence o Arabia), roedd Jane wedi cael gorffwys ac yn barod i gychwyn ei thaith o’r Cob, Porthmadog i Harlech. Y lle cyntaf iddi alw heibio fore Mercher oedd Portmeirion cyn iddi groesi aber Dwyryd, gan gyrraedd Harlech ychydig cyn y gwyll. Roedd trefniadau wedi eu gwneud i Jane a Frank barcio’r ‘Victory Van’ y tu allan i dŷ ein Menna Jones ni. Cafodd Jane a Frank groeso cynnes gan Menna Jones a chafwyd noson yn dysgu pob dim am y mannau rhyfeddol yr oedd Jane wedi ymweld â nhw a charedigrwydd pobl oedd wedi helpu Jane dros y 18 mis diwethaf. Gyda deigryn yn ei llygaid ar fore Iau, 24 Ionawr, cychwynnodd Jane ar ei thaith ar hyd traethau gwag o Harlech i’r Bermo, lle buon nhw ddigon ffodus i aros dros nos wrth ochr Gorsaf Bad Achub y Bermo. Rhyw ddau ddiwrnod yn ddiweddarach, derbyniodd Menna Jones gerdyn gan Jane a Frank yn diolch iddi am ei charedigrwydd a’i chroeso Cymreig cynnes. Yn ôl Jane, mi fyddai Admiral Nelson wedi bod yn falch ohoni! Mae Jane eisoes wedi cyrraedd arfordir Sir Benfro ar y daith enfawr hon, a bydd yn ffarwelio â Chymru rhywbryd ym mis Mawrth, pan fydd yn croesi’r afon Hafren cyn y cam nesaf sef arfordir de orllewin Lloegr. Dymunwn hwyl fawr a thywydd teg i Jane a Frank. Yn ôl Menna, mae Jane yn ysbrydoliaeth i ni i gyd ac mae hi’n ddewr iawn o ystyried yr holl dywydd gwael y mae hi wedi gorfod ei ddioddef dros yr ychydig wythnosau diwethaf.

Mudo Dymunwn yn dda i Richard a Cassie Jones, gynt o Llwyn Hudol, Harlech, sydd wedi symud i fflat newydd yn adeilad Hafod-y-gest, Porthmadog. Pob lwc i chi’ch dau yn eich cartref newydd yn nhref enedigol Richard a gobeithio y cewch iechyd i’w fwynhau.

Rhoddion Di-enw £10 Teulu Eirlys Stumpp £10 Cyril Williams £25

Gwasanaethau’r Sul MAWRTH 10 Undebol, Capel Rehoboth Iwan Ll Jones, am 3.30 24 Capel Jerusalem Parch Iwan Ll Jones, am 3.30. EBRILL 7 Engedi - John Price, am 2.00.


Er cof cariadus am Margaret Eirlys Stumpp

Bu farw Eirlys yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Alltwen ar 30 Ionawr yn 86 oed. Roedd yn wraig hoffus i’r diweddar Albert, yn fam i Edward a Maria, yn famyng-nghyfraith i Maureen a’r diweddar Tony, yn nain i saith, yn hen nain i 13 ac yn hen hen nain i Elliott, chwaer i Eileen, Arthur, Gwendoline, Ken, Maureen a’r diweddar Joan. Roedd Eirlys yn unigolyn caredig, hael a chariadus ac roedd yn falch iawn o’i phlant a’i hwyrion. Byddwn yn cofio amdani am ei gwên hyfryd, a byddwn yn ei cholli’n fawr. Priododd Eirlys ag Albert ym 1950 a symud i fferm Moel-yGlo lle ganwyd Edward a Maria. Yn 1968 symudodd y teulu i Moel View ac yna i Bron Haul, Harlech. Bu Eirlys yn gweithio yng Ngwesty’r Castell, gwesty Maes y Neuadd, fferm Rhosigor a fferm Moel-y-Glo, ac yna’n Brif Gogydd yn Ysgol Ardudwy. Ym 1988, cafodd driniaeth mawr ar ei chalon a rhoddodd y gorau

i fod yn brif gogydd i wneud dyletswyddau ysgafnach yng nghegin yr ysgol. Roedd bob amser yn mwynhau ei gwyliau gydag Albert yn eu campar fan gan deithio i’r Almaen sawl gwaith a ledled y DU. Dymuna’r teulu fynegi eu diolch diffuant a’u gwerthfawrogiad am bob caredigrwydd a chefnogaeth a negeseuon o gydymdeimlad â dderbyniwyd yn ystod y cyfnod trist hwn. Hoffem ddiolch i’r holl ddoctoriaid a nyrsys yn Ward Prysor, Bangor, ac yn arbennig i bawb yn Alltwen am eu gofal a’u sylw yn ystod ei dyddiau olaf. Hoffem hefyd ddiolch i ddoctoriaid a nyrsys Meddygfa Ardudwy am eu gofal dros y blynyddoedd ac ymweliadau cartref, ac i’r gwasanaeth ambiwlans a oedd yn mynd a hi i’r apwyntiadau ysbyty. Diolch hefyd i Malcolm o gwmni Pritchard a Griffiths am wasanaeth hynod o broffesiynol, ac i’r Canon Idris Thomas am ei wasanaeth yn Amlosgfa Bangor. Hoffai Edward ddiolch i Maria, a’i wraig Maureen, am y gofal a sylw a roddwyd i Eirlys yn ystod y blynyddoedd olaf yma a’i dyddiau olaf yn Alltwen lle treuliodd y ddwy bob dydd a nos efo hi tan y diwedd. Yn olaf diolch i bawb am eu cyfraniadau a fydd yn cael eu rhannu rhwng Cyfeillion Ysbyty Alltwen ac Ambiwlans Awyr Cymru. Teyrnged gan Rachel, Jonathan a Gareth. Y cludwyr oedd Edward, Karl, Jonathan, Gareth, Ceri, a Gareth.

Er cof cariadus am Brenda Maureen Williams (Anti Mo)

Yn enedigol o Syston, Sir Gaerlŷr, derbyniodd ei hyfforddiant fel nyrs yn Ysbyty’r Frenhines Elisabeth yn Birmingham, ac wedyn fel bydwraig yng Nghaerlŷr a Llanelwy cyn cwblhau ei hyfforddiant yn Ysbyty Merched Lerpwl. Priododd â Cyril yn 1964 a ganwyd Marc yn 1966. Treuliodd gyfnod fel nyrs yng Ngholeg Harlech ac fel bydwraig yn Nolgellau. Rhoddodd flynyddoedd o wasanaeth fel bydwraig boblogaidd yn yr ardal hon ac wedyn fel ymwelydd iechyd. Cychwynnodd glinig gogyfer â merched i gadw’n iach yn y

feddygfa yn y Bermo. Wedi ei hymddeoliad, bu iddi hi a Cyril dreulio llawer o amser yn dilyn eu diddordebau. Ni fu’n dda ei hiechyd ers rhai blynyddoedd a threuliodd gyfnodau hir mewn ysbytai; roedd wrth ei bodd yn cael dod adref dan ofal y gofalwyr ac yn y cyfnod diweddar Cyril oedd yn fawr ei ofal ohoni fel nyrs iddi hithau. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol yn Amlosgfa Bangor ar Chwefror 6ed gyda Bethan Johnstone yn gweinyddu. BW Diolch Dymuna Cyril, Marc a’r teulu ddiolch yn ddiffuant iawn i gymdogion, teulu a chyfeillion am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli Maureen. Diolch am y rhoddion hael tuag at Gyfeillion Ysbyty Alltwen ac i ‘Abacare’ am eu gofal. Diolch i Bethan a Bronwen am eu gwasanaeth yn yr Amlosgfa ac i Gwmni Pritchard a Griffiths am eu gofal a’u trefniadau.

TOYOTA HARLECH

TREM YN ÔL

Eu hachub gan y gath - dihangfa gyfyng teulu o’r Dyffryn Tua dau o’r gloch bore Mawrth, 24 Mai, 1910, deffrowyd Mrs Richards, priod Mr David H Richards, postmon, Henshop, Dyffryn, gan sgrechiadau y gath, ac er ei dychryn canfu yr ystafell wely yn llawn mwg. Deffrodd ei phriod, ac aethant i ystafell y plant, a chawsant honno mewn cyflwr cyffelyb, a’r plant yn cysgu yn dawel. Yn ffortunus arweiniai y grisiau i’r gegin gefn, ac wedi mynd i lawr gwelsant y gegin ffrynt yn olau o dân. Dihangont i’r ardd gan waeddi am help, a chlywyd eu cri gan yr Heddwas Davies a chymdogion eraill, y rhai a’u cynorthwyodd. Digwyddai fod digon o ddŵr yn ymyl, a llwyddwyd wedi cryn ymdrech i roi y tân allan, ond nid cyn dinistrio holl ddodrefn y gegin a drws a ffenestr yr ystafell. Tybiwyd fod y golled tua £15. Yn ychwanegol yr oedd Mr Richards wedi bod am rai wythnosau ac yn parhau felly yn wael ei iechyd, ac yn methu dilyn ei waith.

COROLLA HYBRID NEWYDD

Dewch i roi cynnig ar yrru’r Corolla newydd! Mae ’na ganmol mawr i hwn! facebook.com/harlech.

Ffordd Newydd Harlech LL46 2PS 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@harlech.toyota.co.uk Twitter@harlech_toyota

9


Y BERMO A LLANABER

MIS FEGANIAETH

Siop Gig David Jones Cofiwch fod Llais Ardudwy ar werth yn y Siop Gig bob mis. Mae’n cael ei argraffu ar y dydd Llun cyntaf ym mhob mis ac mae ar werth ddeuddydd wedi hynny.

Newid aelwyd Erbyn i’r rhifyn hwn o Llais Ardudwy gyrraedd y siopau fe fydd y bonheddwr Iorwerth Gruffydd Jones wedi ymgartrefu yn Rhuthun. Daeth Iorwerth a’i ddiweddar wraig Dorothy i’r Bermo yn 1975 gan sefydlu Ysgol y Tŵr. Mae hanes Iorwerth wedi ymddangos eisoes yn y papur dan y pennawd ‘Holi Hwn a Llall’. Roedd yn ŵr reit unigryw. Byddai’r teulu yn hoff iawn o dreulio amser yn Ffrainc ac yn aml roedd Iorwerth i’w weld ar y stryd yn Bermo yn gwisgo ei hoff ‘beret’ yn y dull Ffrengig. Siaradai â phawb, boed ymwelwyr neu drigolion lleol gan ddechrau pob sgwrs yn y Gymraeg ac yn aml roedd yn cyfarfod pobl ddiddorol. Bu ei deyrngarwch at ei famiaith heb ei ail, roedd yn gefnogol iawn i sawl mudiad gan gynnwys Capel Caersalem. Bydd chwith ar ei ôl a dymunwn bob bendith iddo yn ei gartref newydd.

DIWEDD TRALLODUS ROBERT W ROBERTS

Postmon, gynt o’r Bermo (rhan olaf)

Yn dilyn marwolaeth yr uchod mewn storm eira, ysgrifennodd ei weddw lythyr i’r Dydd yn Nolgellau. Isod dyma ymateb darllenwr i’r llythyr hwnnw: “Hefyd yn ‘Y Dydd’, Gorffennaf 2,1886, cafwyd llythyr arall, y tro hwn gan un yn galw ei hun yn ‘Gweithiwr’ ... Mr Golygydd, Teimlais wrth ddarllen llythyr Mrs Roberts, Colorado, gynt o’r Goetre a Thynyffridd, yn eich rhifyn diweddaf, yn dymuno cydymdeimlad ei hen ffrindiau yn yr ardaloedd yna, yn ei mawr drallod o gael ei gadael yn weddw gyda phedwar o blant bychain, yng nghanol dieithriaid ymhell oddi wrth ei chydnabod, ei bod yn wrthddrych teilwng o’r cydymdeimlad dyfnaf. Gan hynny byddwch cystal â derbyn y 2 swllt amgauedig (Postal Order), i’r diben o ddechrau cronfa neu roddi at beth bynnag a all fod wedi ei Y Gymdeithas Gymraeg a wneud gan rywun yna, i roddi Merched y Wawr effaith i’w chais. Gobeithiaf y Ar nos Fawrth, Chwefror 6ed, bydd i rywrai o ddarllenwyr ‘Y daeth Cwmni Theatr Dinas Dydd’ yn yr Abermaw, a phob Mawddwy i berfformio dwy ardal yn y cymydogaethau ddrama fer sef ‘Pwy yw dy gymeryd yr achos mewn llaw Gymydog?’ gan Ifan Gruffydd, yn uniongyrchol, fel y gall cynhyrchydd Berwyn Harding, ac ‘Arallgyfeirio’ gan Eirlys Wynn pawb gael cyfleusdra i gyflawni Tomos, cynhyrchydd Hedd Puw. ei ddymuniad o ddangos eu cydymdeimlad mewn modd a Cafwyd noson hwyliog iawn fydd o ddefnydd a chysur iddi ac roedd cynulleidfa deilwng i fwynhau’r perfformiadau, diolch gyda phob brys. Yr eiddoch, i bobl a deithiodd o’r pentrefi GWEITHIWR. cyfagos. (Os teimla rhywrai awydd i Diolch i bawb a gyfrannodd ddangos eu tosturi drwy estyn at y lluniaeth ar y diwedd. cymorth i’r teulu amddifad ac Cynhelir Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas Gymraeg ar Fawrth adfydus, ymgymerwn yn llawen â derbyn cyfraniadau i’r pwrpas, 20fed. ond cyfeirio i Dydd Office, Dolgellau.)” W Arvon Roberts, Pwllheli

10

Bedyddiwyd Ionawr eleni yn ‘Veganuary’ a Chwefror fel ‘Februdairy’ sef ymgyrch y ‘Vegans’. Cymerodd y BBC ran unochrog flaenllaw yn yr ymgyrch a elwir gan rai yn ‘fake news’ a digon posib bod llawer o wirionedd yn hynny. Gwelwyd ymgyrchoedd ar y strydoedd mewn rhai dinasoedd lle’r oedd rhai o aelodau’r ymgyrch yn targedu ac yn bygwth unigolion nad oedd yn cydweld â’u safbwynt. Crëwyd ffilmiau pwrpasol (heb fod yn gamerâu cudd) o erchylltra gyda lloi mewn lladd-dai estron a gafodd eu llwyfannu’n bwrpasol gan y grwpiau mwy eithafol hyn er mwyn creu arswyd. Mae i’n cyrff rhyw dair elfen hanfodol i ffyniant y corff, sef system nerfol, system imiwnedd a system endocrin, lle mae hyd at 50 o wahanol hormonau wedi eu darganfod at angen. Hefyd yn gyffredin yn ein bwyd dyddiol, mae tua 23 o wahanol asidau amino ac rydym yn gwneud defnydd o rhyw 19, ond o’r rhain mae 13 sy’n hanfodol i ddatblygiad plant ac 8 i oedolyn. Mae angen protein o ansawdd da ar rai hormonau yr ydym yn eu cynhyrchu os ydym am ffynnu a wynebu heriau bywyd. Yn anffodus, gwan ac anghyflawn yw lefel amino asid mewn llysiau, ond hefyd yn ogystal mae lefelau rhai fitaminau pwysig fel D a B12 a mineralau fel iodin, haearn a sinc yn gallu bod yn isel. Yn ychwanegol, mae rhai o’r bwydydd hyn, yn enwedig soya, yn cynnwys cemegau fel ffytestrogenau a all efelychu oestrogen ac sydd wedi eu cofnodi fel ‘endocrine disruptors’, sy’n andwyol i’r system endocrin. Gyda phlant mae’r rhain yn bryderus o niweidiol os bwytir hwy mewn meintiau swmpus, ac fe ellir creu niwed i’r ffitws yn enwedig, rhwng 6 -12 wythnos o feichiogrwydd pryd mae’r ffitws yn ceisio sefydlu ei system hormonau ei hun; hefyd i ferched ifanc yn ogystal ag i ddynion. Dangoswyd ffilm ar BBC Sound am amheuaeth gwerth llaeth a chysylltwyd â 232 o ddietegwyr i gael eu cefnogaeth, ond dim ond 14 a ymatebodd; gydag ond un yn llwyr ymwrthod â chynnyrch llaeth. Mae hyn yn dweud y cyfan mai myth dychmygol yw dweud eu bod yn teimlo’n well. DR

DATHLU GŴYL DDEWI

Sut ydych chi’n dathlu Dydd

Gŵyl Ddewi? Cawl? Cennin? Corau? Mae pob math o draddodiadau’n ymwneud â’r dydd yng Nghymru a ledled y byd, ac amryw o straeon difyr o’u cwmpas, ond tybed a wyddoch chi am y traddodiadau newydd sy’n cael eu creu heddiw? Cyfrol ffeithiol gynhwysfawr sy’n esbonio’r hanes tu ôl i rai o’n traddodiadau Gŵyl Ddewi enwocaf, cyn edrych yn agosach ar y ffyrdd y caiff y dydd ei ddathlu heddiw. Lluniau lliwgar, straeon difyr.


STRAEON AR THEMA: Cadw Ymwelwyr

Codi ffon Ers talwm roedd Cofgolofn Ardal Talsarnau, i’r Milwyr gollwyd yn y ddau Ryfel Byd, yn sefyll mewn triongl ar gyffordd Glanywern cyn ei symud i Iard yr Hen Ysgol am gyfnod cyn diweddu yn ei man presennol yng Ngardd y Rhiw. Tra roedd yng Nglanywern, roedd yn lle i’r ychydig geir ymwelwyr a oedd yn trafeilio am Harlech o gyfeiriad Talsarnau oedi mewn cyfyng gyngor pa ffordd oedd yr orau i gymryd gan fod y ddau arwydd yn darllen Harlech. Yn aml iawn eisteddai John Jones Pensarn ar y wal gyda’i getyn a’i ffon. Gofynnid iddo, ‘Which is the way to Harlech?’ Ni allai Taid air o Saesneg felly yr unig gyfarwyddyd gaent oedd codi’r ffon i gyfeiriad y ddwy ffordd a dweud dim! Olwen Jones

Sliperi Arferem gadw gwely a brecwast ym Mryntirion, Yr Ynys fy adeg i. Yn aml golygai y byddai fy Nhad yn gorfod symud o’i wely pum troedfedd i’m gwely i sef difan 2’ 6” a’i draed maint 11 yn sticio allan! Golyga hynny y byddwn yn cael fy anfon allan i bori i Pensarn Glanywern (neu Fucheswen Fach wedi hynny). Doedd gan fy nhad fawr i’w ddweud wrthyn nhw a chwynai eu bod ar draws y lle, ond yn sicr ddigon fe ymlwybrai i’r parlwr i gael sgwrs hefo nhw er mwyn bod yn fanesol er hynny. Lawer gwaith y cwynai y byddent yn ei gadw i siarad ond fel arall roedd o’n gallu hi gystal â hwythau hefo’i “you know” ar ddiwedd aml i frawddeg ac yn cwyno ei fod angen codi i fynd am ei waith yn gynnar y bore wedyn. Cofio cwpwl yn aros acw ac roedd y ddynes â thipyn o feddwl ohoni ei hun ac yn canmol fel roedd hi yn gwnïo dillad iddi hi ei hun hyd yn oed allan o gyrtens! Roedd fy Modryb Dol a’m magodd yn ddynes arbennig o daclus a thrwsiadus ac yn newid i’w slipars wedi iddi orffen ei gwaith fin nos - effaith bod yn gweini byddigions yn ifanc iawn. Roedd

BWYD A DIOD SOPA - Cawl o Sbaen

ganddi slipars yr adeg honno Dyma hi’n fis y crempog – cofiwch fynd ati i baratoi rhai, a a oedd yn gochlwyd ac y gallai rywun daeru eu bod yn llychlyd mwynhewch! ond doedd bosib i hynny fod yn wir oherwydd cai’r slipars olchfa reolaidd fel pob peth arall yn y cartref. Wedi mynd a phaned i’r gwesteion ryw noson a hithau’n cau’r drws clywodd y ddynes ‘canmol ei hun’ yn dweud wrth ei chymar, ‘Nice slippers if she only cleaned them!’ Roedd Anti Dol yn ei dyblau yn chwerthin ac yn ceisio dianc i’r gegin gynted ac y gallai rhag ofn i’r ddynes druan ei chlywed. Dyma rysait arall i’ch cadw’n gynnes yn y gaeaf. Olwen Jones Sopa (Cawl o Sbaen) Cawl hawdd i’w wneud sy’n cynnig cysur ar noson oer o aeaf. Mae’n Strictly wir! llawn maeth ac mae’r sosej Chorizo yn rhoi ychydig o asgwrn cefn Yn ystod tymor gwylia’ haf iddo! Torrwch bopeth yn barod i fynd i’r sosban. Cadwch y gwedllynedd daeth hanner dwsin o dill yn yr oergell i’w fwynhau eto. ffrindiau gyda phabell i aros Cynhwysion: yn Barcdy – cymeriadau posh/ 1 llwy fwrdd o olew olewydd mawreddog/di-gywilydd. ½ Sosej Chorizo wedi ei dorri’n fân. Aethant allan gyda’r nos a Torrwch y llysiau canlynol yn fân: chyrraedd yn ôl yn hwyr yn 1 nionyn bach llawn sŵn a rhialtwch. Roedd 1 coes seleri pawb arall ar y cae yn cysgu’n 1 moronen dawel ers oriau – dim ond pobl ¼ swejan felly sy’n arfer dod i Barcdy – 1 tysan fach ond y noson honno ni fu cwsg 1 pupur coch ar gael i neb. Parhaodd y rêf ½ zucchini posh feddw swnllyd, reglyd bron ¼ bresych drwy’r nos er erfyn yn daer gan 1 clof garlleg wedi ei falu berchennog y safle wedi sawl ymdrech i siarad hefo nhw o du allan y babell. Yn y diwedd, cawsant rybudd i adael y safle y bore wedyn, ar ôl sobri, a dyna fu. Dim ond pan ddaeth yn olau dydd y gwelodd y teulu yn y babell gyfagos mai Craig Revel Horwood a’i gariad oedd dau o’r rhai oedd wedi eu cadw ar effro drwy’r nos! AR Y TESTUNAU NESAF: Ebrill: Garddio Mai: Gwyliau

½ llond tun tomatos wedi eu torri 1 llwy bwdin Piwre Tomato ½ llwy de o baprika ¼ llwy de o giwmin 1 llwy de o berlysiau cymysg 2 beint o stoc llysiau. ½ llwy bwdin o siwgr. halen a phupur at eich dant 1 Sosban fawr - ychwanegwch olew olewydd iddi a chwyswch y Chorizo. 2 Ychwanegwch y llysiau i gyd a’u chwysu. 3 Ychwanegwch y gweddill o’r cynhwysion a’i goginio am 15 munud. Gwiriwch bod y llysiau wedi eu coginio. 4 I’w weini gyda bara ffres a gwydraid neis o Rioja!

Clwb 200 Côr Meibion Ardudwy CHWEFROR 2019 1. Iorwerth Davies £30 2. Siân Ephraim £15 3. Delyth Jones £7.50 4. Ieuan Edwards £7.50 5. Russell Sharpe £7.50 6. Olwen Jones £7.50 11


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN

Merched y Wawr Croesawodd y Llywydd, Siriol Lewis aelodau dwy gangen i’r cyfarfod yn Neuadd Talsarnau ar nos Lun, 4 Chwefror, gan fod aelodau Cangen Harlech wedi derbyn gwahoddiad i ymuno â ni i glywed sgwrs gan John Christopher Williams o Feddgelert. Croesawodd Siriol ein siaradwr, John Williams, a oedd wedi bod gyda ni’n Nhalsarnau y llynedd yn sôn am fyw a gweithio yn Saudi Arabia, a ninnau wedi mwynhau gwrando arno cymaint fel y’i gwahoddwyd yn ôl eleni eto a’r tro yma i roi sgwrs ar fyw a gweithio ym myd addysg yn Ynysoedd y Philippines a mynd yno gyntaf gyda’i deulu i weithio fel Pennaeth Ysgol yn Papua New Guinea. Cawsom ychydig o hanes yr ynys, yr amodau byw a gwaith yno, y bobl, yr holl wahanol ieithoedd a siaredir, a’r tywydd llaith iawn ynghanol yr ynys lle bu’n dysgu gyntaf. Bu’n symud o le i le yn ystod yr 17 mlynedd y bu yno a soniodd am broblemau iechyd, peryglon bywyd a sawl antur a ddaeth i’w ran. Roedd wedi dod ag amrywiaeth o eitemau perthnasol i’r wlad i’w dangos i ni a chawsom gyfle i ddod i wybod tipyn mwy am rhain y gyd. Roedd ei sgwrs yn arbennig o ddiddorol - ac addysgiadol hefyd, yn sôn am wlad nad oedd y rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd iawn â hi! Hawdd iawn oedd gwrando arno a diolchodd Gwenda Paul yn gynnes iawn iddo am sgwrs ddifyr unwaith eto. Mwynhawyd paned a bisged wedi’i baratoi gan Margaret a Dawn. Cyflwynodd Bronwen Williams, Llywydd Cangen Harlech y diolchiadau i John Williams ac i Gangen Talsarnau am y cyfle i gyd-rannu noson dda iawn.

Eglurodd Siriol yr wybodaeth a dderbyniwyd ynglŷn ag ymgyrch y Llywydd Cenedlaethol, Meirwen Lloyd, eleni i bob aelod wneud ymdrech i lenwi llond sach o sbwriel o bob math. Y gobaith yw llenwi llond 6000 o sachau ledled Cymru – hyn yn cyfateb i’r nifer o aelodau yn y Mudiad yn Genedlaethol. Bowlio Deg Aeth chwech o aelodau Talsarnau draw tua Llanuwchllyn nos Wener, 22 Chwefror i gynrychioli’r gangen yng Nghystadleuaeth Bowlio Deg Merched y Wawr Rhanbarth Meirion. Ein tîm eleni oedd Maureen, Gwenda, Siriol, ac Anwen, yr hen ffyddloniaid, a dwy arall newydd sbon, Haf ac Ann. Roeddem yn edrych ymlaen at weld beth fyddai gan y ddwy i ddysgu i ni, ac ni chawsom ein siomi, pan sgoriodd Haf STREIC! Cododd hyn ein sgôr yn sylweddol i 147, ond ddim digon i gyrraedd y brig ’chwaith. O wel, gwyliwch chi ni’r tro nesa! Mwynhau swper blasus yn Nhafarn yr Eryrod wedyn cyn troi am adra.

Ysgol Talsarnau oddeutu 1940

Rhes ôl [o’r chwith i’r dde] Idris Roberts, Marian Williams, Trebor Jones, Twm Ieu, Sam Ffridd Fedw, Nel Ffridd Fedw, Annie Ffridd Fedw, Prydwen Evans, Bob Williams, Miss Stuart o Benrhyndeudraeth. Rhes flaen [o’r chwith i’r dde] Credir mai Dic Roberts sydd ar y pen, Eric Roberts, Peggy Owen, Martha Smith, Megan Smith, Arwyn Williams, Dewi Williams, Peggy Williams, Ieuan Lloyd Evans. Diolch i Trebor Jones am anfon y llun atom.

CINIO GŴYL DDEWI

Cydymdeimlad Estynnwn ein cydymdeimlad dwys â theulu Draenogan Fawr, Talsarnau ym mhrofedigaeth drist ac annisgwyl eu merch Heledd yn Nhrawsfynydd. Bu farw Islyn Griffiths, gŵr Heledd, yn frawychus o sydyn ac rydym yn meddwl yn arbennig amdani hi a’r plant bach yn eu colled enbyd.

Merched y Wawr Talsarnau yn mwynhau cinio Gŵyl Ddewi yng Ngwesty’r Grapes, Maentwrog pnawn dydd Gwener, Mawrth 1af. Cafwyd cinio ardderchog mewn cwmni da. Diolch i staff y gwesty Newid aelwyd am baratoi ar ein cyfer. Arwyddwyd y cerdyn gan bawb i ddymuno Pob dymuniad da i Llinos Llyfni Hughes yn ei chartref newydd ym gwellhad buan i Gwenda Paul, Is-lywydd y Gangen, yn dilyn yr Mhorthmadog. Cydymdeimlwn anffawd gafodd hi a’i gŵr yn ddiweddar. â Llinos yn ei phrofedigaeth o Darlith Flynyddol Cyfeillion golli ei chwaer, Heulwen o Gwm Rhoddion Ellis Wynne Di-enw £10 Prysor, Trawsfynydd. Dafydd Williams £3 TYNGED TEULU BRENHINOL GWYNEDD Capel Newydd Oedfaon am 6:00 yn MAWRTH Neuadd Gymuned Talsarnau 10 - Dewi Tudur 7.00 o’r gloch 17 - Dewi Tudur nos dywell yn distewi, - caddug nos Iau, 4 Ebrill 2019 24 - Andras Iago Traddodir gan Ieuan Wyn Yn cuddio Eryri, 31 - Dewi Tudur Tocyn: £5.00 EBRILL Yr haul yng ngwely’r heli Croeso cynnes i bawb 7 - Dewi Tudur A’r lloer yn ariannu’r lli. Tocynnau gan Mathew Jones 14 - Dewi Tudur

ENGLYN DA Y NOS Y

Gwallter Mechain [Walter Davies], 1761-1849 12

770757, Elfed Roberts 770621


YDI HI’N FFITIO ?

Tybiodd un codwr canu yn ardal yr Eifl y byddai ‘Babel’ yn addas ar gyfer emyn mawr Morgan Addysg gynnar a gofal Rhys, ‘Agorodd ddrws i`r caethion I ddod o`r cystudd mawr; A’i werthfawr waed fe dalodd Eu dyled oll i lawr...’ Y llinell nesaf ddrysodd pethau i’r gynulleidfa: ‘Nid os dim dam, nid oes dim damnedigaeth I neb o`r duwiol had...’ Fe fu yn waeth na hynny mewn Clywais y diweddar Rhys Jones angladd yn Sir Gaerfyrddin. wrth arwain cymanfa ganu yn Cefais yr hanes yma gan un o dweud y dylem ni fod yn ofalus weinidogion yr Hen Gorff ac felly wrth ddethol tôn i ganu emyn mae o’n sicr o fod yn wir! Roedd arni. Dywedodd fod dewis yna dipyn o gymeriad yn byw tôn yn debyg i ddewis het i’w yn y pentre. Hen löwr oedd o, gwisgo gan ferch a bod dau ffraeth ei dafod, hoff o’i geffylau 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi’u beth yn bwysig wrth wneud 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant ac o’i beint. Doedd o fawr o hariannu gan y Llywodraeth i rieni cymwys sy’n gweithio hynny. I ddechrau, mae’n rhaid gapelwr ond roedd ganddo duedd wedi’u gan y Llywodraeth i rieniam cymwys ac sydd âhariannu phlant tair a phedair oed, a hynny hyd at i’r het ffitio ond wedyn, ac yn anffodus i forio emynau’r cysegr sy’n gweithio 48 ac wythnos sydd â phlant tair a phedair oed, y flwyddyn. bwysig iawn, rhaid i’r het weddu allan o diwn ar nosweithiau a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. hefyd. Ar y cyfan, mae pwyllgor Sadwrn. Pan fuo fo farw roedd ei Caneuon Ffydd wedi bod yn deulu a’i fêts o’r dafarn eisio cael ddoeth i gael tonau sy’n ffitio ac Amfwy fwyoofanylion fanylion cysylltwch cysylltwch gyda canu ar lan y bedd. Yr emyn a Am gydag hefyd yn gweddu i’r emynau yn y ddewiswyd oedd emyn William Uned Gofal Plant Gwynedd a Môn Uned Gofal Plant Gwynedd a Môn casgliad. Williams, Pantycelyn, ‘Pererin Y tro diwethaf buom yn sôn am wyf mewn anial dir...’ Ffôn: 01248 352436 Ffôn: 01248 352436 emyn D G Jones, ‘Bydd myrdd o Yn y fynwent, roedd pawb yn E-bost: gofalplant30awr@gwynedd.llyw.cymru E-bost: gofalplant30awr@gwynedd.llyw.cymru ryfeddodau’. Ymhob casgliad a edrych ar ei gilydd a neb yn siŵr welais i, mae’r emyn wedi ei osod sut i gychwyn arni. Toc dyma un ar y dôn ‘Babel’. Mae hon yn hen, o’r mêts yn ei tharo hi. Fel arfer, hen dôn ac fe ymddangosodd cenir yr emyn ar y dôn Amazing gyntaf mewn casgliad o’r enw Grace (rhif 563 yn y Caneuon Sacred Harmony yn 1786. Barn Ffydd) a byddai hynny wedi llawer o arbenigwyr yw mai hen gwneud y tro yn ardderchog. Yn alaw werin Gymraeg ydyw wedi anffodus, fodd bynnag, dewisodd ei ‘hachub’ a’i defnyddio fel emyn yr hen foi y dôn Miles Lane (rhif dôn fel digwyddodd i lawer o hen 199 yn y Caneuon Ffydd). Mae alawon eraill. Miles Lane yn dôn ardderchog Mae yna un nodwedd od i’r yn gweithio i uchafbwynt ar dôn. Er mwyn iddi ffitio yn iawn y llinell olaf. Fe’i cenir fel mae’n rhaid ailganu rhan o’r arfer ar gyfieithiad Ieuan Glan pumed llinell cyn symud ymlaen Geirionydd o eiriau Edward i’r chweched. Fel hyn mae’r Perronet ‘Coronwch, coronwch, pumed a’r chweched llinell yn coronwch, coronwch ef yn ben.’ mynd: Tydi hi ddim yn gweithio cystal ‘Oll yn eu gynau gwynion ar eiriau ‘Pererin wyf ’. Doedd y Ac ar eu newydd wedd...’ pennill cyntaf ddim yn ffitio’n rhy Ond mae’n rhaid aildrefnu daclus: mymryn bach i gael y geiriau a’r ‘Pererin wyf mewn anial dir, nodau i briodi yn berffaith. Yn crwydro yma a thraw; Fel hyn y byddid yn gwneud: Ac yn rhyw ddisgwyl bob yr awr ‘Oll yn eu gynau, yn eu gynau Fod tŷ fy, fod tŷ fy, fod tŷ fy gwynion Fod tŷ fy nhad gerllaw.’ Ac ar eu newydd wedd...’ Roedd yr ail bennill rywfaint Yn nyddiau sol-ffa a chanu yn well ond doedd y drydedd pedwar llais mewn oedfa, ddim yn wych. Yn y pedwerydd byddai’r baswyr yn canu rhan pennill y daeth y llanast go iawn: gyntaf y pumed llinell a’r lleisiau ‘Mi wyraf weithiau ar y dde, eraill yn ymuno i ganu’r ail ran. Ac ar yr aswy law; Mae ‘Babel’ yn dôn afaelgar, Am hynny arwain, gam a cham hudolus bron, ond mae’r Fi i’r bar. Fi i’r bar, fi i’r bar odrwydd yma yn ei gwneud hi’n Fi i’r baradwys draw.’ dôn beryg i’w dewis onibai fod y O diar! codwr canu wedi ystyried tipyn. JBW

Cynnig Gofal Gofal Plant Cynnig Plant Cymru Cymru Addysg gynnar a gofal

13


HYSBYSEBION

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu 01341 241297 ALUN WILLIAMS TRYDANWR GALLWCH HYSBYSEBU *YN Cartrefi Y * Masnachol BLWCH HWN * Diwydiannol AM £6 Ya Phrofi MIS Archwilio Ffôn: 07534 178831

e-bost:alunllyr@hotmail.com

14


GWLADGARWR GO WAHANOL Mae’n siŵr bod llawer ohonoch wedi clywed am y cymeriad Niclas y Glais. Mae’r awdur a’r gohebydd, Hefin Wyn, wedi cyhoeddi llyfr yn olrhain ei hanes. Dyma grynodeb byr i greu’r awydd i ddarllen y gyfrol. Gŵr hynod oedd Niclas y Glais a aned ar lethrau’r Preseli mewn fferm fechan o’r enw’r Llety ar Hydref 6ed 1879. Bu tad Niclas yn ddylanwad mawr ar ei fab gan fod y tad yn ddarllenydd mawr, ac yn darllen yn uchel ar yr aelwyd. Roedd Niclas yn darllen cyn mynd i’r ysgol ac fe adawodd yr ysgol pan yn 13 oed a mynd i weithio am bum mlynedd i westy’r Swan. Ar y cyfnod yma, roedd hi’n gyfnod rhyfel y degwm. Roedd gan Niclas ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth a theimlai’n flin yn erbyn cyfalafiaeth ac yn gweld gwahaniaeth mawr rhwng

Niclas y Glais yng nghwmni D J Williams, Abergwaun y tlawd a’r cyfoethog. Yr oedd yn rhyw fath o gomiwnydd ond wedi ei dymheru gan ei Gristionogaeth. Wedi iddo roi’r gorau i weithio yn y Swan, teimlodd fel mynd i’r weinidogaeth ac aeth i athrofa am gyfnod byr a dechreuodd fynd o amgylch yn pregethu. Cafodd ofal eglwys ac yn fuan fe briododd ag Alice, merch o Rydaman, ac yn 1902 cawsant fab. Yna fe ymfudodd y teulu

CORNEL Y FFERYLLYDD gyda Steffan John

EICH FFERYLLFA LEOL Ers peth amser rŵan gyda’r pwysau cynyddol ar feddygfeydd a meddygon teulu yn arbennig, mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru wedi cyflwyno cynllun arloesol ledled y wlad. Roedd fferyllfeydd Gwynedd yn ddigon ffodus i gael bod yn rhan o’r peilot gwreiddiol felly yma yng Ngwynedd mae cleifion eisoes yn manteisio ar y cynllun. Enw’r cynllun yw ‘Ewch i’r fferyllfa – Y Gwasanaeth Mân Anhwylderau’. Gallwch rŵan gael ymgynghoriad cyfrinachol gyda’r fferyllydd mewn ystafell breifat. Yn dibynnu ar eich symptomau byddwn yna yn rhoi cyngor i chi ar lafar neu yn gallu rhoi meddyginiaeth i chi am ddim wedi ei ariannu gan GIG Cymru. Mae’r cyflyrau canlynol i gyd wedi eu cynnwys yn y gwasanaeth – poen bol, peswch neu annwyd, clefyd y gwair, llau pen, peils, llindag (thrush), problemau croen, llyngyr, brech cewyn, tarwden y traed (athlete’s foot), brech yr ieir, torri dannedd, haint yn y llygad, colig, dolur annwyd, ferwca, poen cefn a phoen ewinedd y traed. Nid oes angen i chi gael apwyntiad ar gyfer y gwasanaeth yma ac mae croeso i chi alw i mewn i’r fferyllfa leol unrhyw bryd rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn. Mewn achosion lle mae’r fferyllydd yn teimlo fod y cyflwr yn fwy difrifol byddwn yn gallu trefnu i chi gael eich cyfeirio ymlaen at eich meddyg teulu neu optegydd. Felly, os byddwch chi’n dioddef o un o’r cyflyrau yma yn y dyfodol cymerwch fantais o’r gwasanaeth yma a defnyddio’r fferyllfa cyn codi’r ffôn ar y feddygfa.

Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/llaisardudwy/docs

Llais Ardudwy

bach i’r Unol Daleithiau, ac aeth yn weinidog ar eglwys o’r enw Bethel y Coed yn Dodgenville, Wisconsin. Yn 1904, daeth yn ôl i Gymru yn weinidog yng ngofal y Glais. Wedi dod i’r Glais, ymdaflodd ei hun i ganol y mudiad Llafur yn y Cwm a buan daeth yn un o arweinyddion y garfan eithafol. Pregethai gomiwnyddiaeth yn y pulpud, ar lwyfanau neuaddau neu ar gornel stryd. Cymysgai

hiwmor â gwawd. Yr oedd yn gwisgo’n wahanol i’r mwyafrif – roedd ganddo fwstas pigfain a thei lliwgar. Yr iaith Gymraeg ddefnyddia Niclas bob amser i areithio. Cafodd ei daflu i’r carchar ynghyd â’i fab Islwyn ar ôl cael ei arestio yn Llanbrynmair. Bu yng ngharchar Abertawe a Brixton ac yno fe gyfansoddodd dros gant o sonedau. Enillodd llawer cadair eisteddfodol yn ei amser. Bu’n weinidog poblogaidd gyda’r annibynwyr ac yn ddeintydd yn ardal Aberystwyth a Machynlleth. Cofiaf fel ddoe cyfaill imi yn cwyno o’r ddannodd ac yn mynd i weld Niclas y Glais yn Aberystwyth. Dyma gnoc ar y drws a’r gŵr bach hynod yma yn gofyn beth oedd yn bod, a ’nghyfaill yn esbonio. ‘Agor dy geg i mi gael gweld,’ meddai Niclas, a dyma’r dant poenus allan cyn i’m cyfaill gael eistedd!

JLW

CYNGOR CYMUNED HARLECH Croesawyd Ms Heidi Williams a Mr Graham Perch o’r Grŵp Harlech ar Waith i drafod y cynlluniau diweddaraf sydd ganddynt. Y pryder mwyaf sydd gan y Grŵp ar hyn o bryd yw nad oes digon o lefydd addas i ymwelwyr aros yn Harlech, felly maen nhw’n ceisio mynd i’r afael â hyn. MATERION YN CODI Llwybr Natur Bron y Graig Adroddodd Huw Jones ei fod wedi gorffen torri’r coed oedd angen eu cwympo ar y llwybr uchod ond bod angen adnewyddu’r byrddau sydd rhwng Pant Mawr a thop y llwybr gan eu bod mewn cyflwr gwael, ond oherwydd y tywydd gwlyb nid yw’n bosib gwneud hyn ar hyn o bryd nes y bydd wedi sychu. Hefyd cytunwyd bod angen arwyddion bob pen i’r llwybr cyn gynted â phosib a bod pawb yn cerdded ar hyd y llwybr hwn ar eu risg eu hunain. CEISIADAU CYNLLUNIO Creu mynediad newydd a newid gosodiad i alluogi i fwsiau ddefnyddio’r maes parcio – maes parcio Bron y Graig Uchaf, Harlech. Cefnogi’r cais hwn oherwydd byddai galluogi bysiau i ddod i barcio yn y dref helpu economi’r dref wrth ddenu mwy o ymwelwyr iddi. GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd – Adran Trafnidiaeth Derbyniwyd e-bost oddi wrth yr uchod ynghyd â linc ynglŷn â llenwi holiadur parthed Adolygu Cludiant Cyhoeddus y Cyngor. Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i bawb oedd efo cyfeiriad e-bost a’i bod wedi darparu copi papur i eraill. Dywedodd y Clerc bod angen llenwi’r holiadur hwn erbyn Ebrill 30. Cyngor Gwynedd – Adran Amgylchedd Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn ateb gan Mr Steffan Jones o’r adran uchod yn datgan ei fod wedi trafod y mater gyda’r tîm gwasanaethu biniau ynglŷn ag ymestyn y gwasanaeth o wagio biniau ysbwriel i gynnwys cae chwarae Llyn y Felin ac nad oedd problem i hyn gael ei wneud. UNRHYW FATER ARALL Datganwyd pryder bod y peiriant talu ac arddangos wedi ei dynnu o faes parcio’r Hen Ysgol a chytunodd Freya Bentham edrych i mewn i hyn. Datganwyd pryder bod rhai’n parcio ger y tai yn stad Parc Bron y Graig.

15


RHAI O’N ‘HEN BENILLION’ Iwan Morgan Cyfrol o bwys a ymddangosodd yn wreiddiol ym 1940 oedd casgliad T H Parry-Williams o ‘hen benillion.’ Fe’i hargraffwyd sawl gwaith ar ôl hynny. Penillion syml yn mynegi teimladau cyffredin megis serch, marwolaeth, natur neu ddoethineb ydy’r hen benillion. Maen nhw’n gerddi traddodiadol, di-enw. Yn aml, fe’u ceir nhw ar fesur y triban, yr awdl-gywydd a’r mesur tri-thrawiad. Ond y patrwm mwyaf cyffredin ydy’r pennill sy’n cynnwys pedair llinell, ac yn odli ar batrwm aabb. Mae’n anodd dyddio’r hen benillion ond dechreuwyd eu cofnodi yn y llawysgrifau o’r 16eg ganrif ymlaen. Mae eraill yn amlwg yn llawer iawn hŷn. Ymddangosodd yr argraffiad diweddaraf o’r gyfrol yn 2010. Wrth ei hadolygu, dywed Glyn Evans ei bod yn ‘werth chweil cadw mewn print y gist drysor hon o emau llawn cyffro telynegol.’ Rhannodd T H Parry-Williams ei gasgliad dan wyth pennawd, a dyma ddewis un pennill enghreifftiol yn unig o’r penawdau hynny: Doethineb Pan fo seren yn rhagori Fe fydd pawb â’i olwg arni; Pan ddêl unwaith gwmwl drosti Ni fydd mwy o sôn amdani. Profiad Gwynt ar fôr a haul ar fynydd, Cerrig llwydion yn lle coedydd, A gwylanod yn lle dynion; Och Dduw! Pa fodd na thorrai ‘nghalon? Bywyd Bum yn hwsmon cynnil caled, Heliais arian, prynais ddefed, Aeth y cŵn a’r brain â’r rheini, O waeth imi droi i ddiogi! Hanes Pe cawn i’r Pengrynied ar ben goriwaered, Er gwanned a hyned wyf heno, A phastwn du-ddraenen – rwy’n ddeuddeg a thrigen – Chwi a’m gwelwch yn llawen yn llywio. [Credir mai William Phylip, Hendre Fechan (tua 1590-1670) oedd awdur y pennill hwn. Brenhinwr pybyr ydoedd – a roddodd ei gas perffaith ar Oliver Cromwell a’r ‘Pengryniaid’ yn y 1650au. Bu farw mewn gwth o oedran ar 11 Chwefror, 1670 a chladdwyd ef ym mynwent Eglwys Llanddwywe.] Cyfeddach Yr oeddwn i neithiwr yn Nhafarn-y-coed Gyn feddwed a neb ar a welsoch erioed, Yn methu na symud na bys na bawd llaw, Peth garw yw medd-dod - yn sydyn y daw. Canu Mwyn yw peraidd leisiau’r adar Ar y clyw ar fore claear; Gwell gen i yw clywed englyn Mewn aceniad gyda’r delyn.

16

Natur Gwyn eu byd yr adar gwylltion, Hwy gânt fynd y ffordd a fynnon’, Rhai tua’r môr a rhai tua’r mynydd, A dŵad adref yn ddigerydd. Serch Haws yw codi’r môr â llwy, A’i roi oll mewn plisgyn ŵy Nag yw troi fy meddwl i, Anwylyd fach, oddi wrthyt ti. Ffraethineb Chwech o bethau a sych yn sydyn, Carreg noeth a genau meddwyn, Cawod Ebrill, tap heb gwrw, Pwll yr haf a dagrau gwidw. Mae enwau lleoedd mewn nifer o’r hen benillion a gofnodwyd. Dyma i chi flas ar rai o Feirionnydd. Hwyrach y gŵyr rhai ohonoch am fwy o rai perthnasol i dalgylch ‘Llais Ardudwy’: Hir yw’r ffordd a maith yw’r mynydd O Gwm Mawddwy i Drawsfynydd; Ond lle bo ‘wyllys mab i fyned Fe wêl y rhiw yn oriwaered. O’r gog fach, yr wyt yn ffolog, Canu ymysg yr eithin pigog. Dos i blwy’ Dolgellau dirion; Ti gei lwyni o fedw gleision. Mae llawer pen bencyn o’r Dinas i Benllyn, A dolydd i’w dilyn hyd lawr Dyffryn Clwyd; Er garwed yw’r creigie sy o gwmpas Dolgelle, Gerwinach nag unlle yw’r Ganllwyd. ‘R oedd gafr wrth droed yr Wyddfa Yn sownd wrth aerwy bren, A bwch ar Ynys Enlli Yn bygwth taro pen. Wrth sŵn y rhain yn taro, Yn ôl y chwedel chwith, Fe syrthiodd clochdy’r Bermo Na chodwyd mono byth. Mi godwn y Gader ac ywen Llangywer I fynwent Llanaber, heb neb ond myfi; Mi chwythwn dre’r Mwythig ar unwaith i’r ‘Rennig, Ond siarad ychydig â Chadi. Fy nhaid oedd yn Llanbed’ yn berson, ŵr hardd, Fy hendaid yn Llanfair yn berson a bardd, A minnau wyf beunydd a chur dan fy mron Yn glochydd Llanegryn a’m pwys ar fy ffon. Pan oeddwn i’n athro ac yn ceisio dysgu’r plantos i farddoni, byddwn yn rhoi patrwm iddyn nhw i’w efelychu, a’r patrwm hwnnw bob tro fyddai un o’r hen benillion. IM


COLOFN YR URDD gyda Dylan Elis

Wrth i’r tywydd droi’n lawog gydag eira’n casglu yn y cymylau, dyma gyfle gwych i bawb ddod at ei gilydd er mwyn cystadlu yn yr Eisteddfod Gylch. Mae yna ddigon o gystadlaethau i bawb ymgeisio ynddyn nhw – boed yn ganu, llefaru, yn ddawnsio neu yn gelf. Maen nhw yna ond i chi ymarfer ar gyfer yr her. Cofiwch, fe fydd un yn ennill yn y Genedlaethol ar ddiwedd mis Mai a hwyrach mai chi fydd yr unigolyn yma. Ewch amdani, a pheidiwch a difaru na wnaethoch chi gymryd y siawns na’r cyfle. Eisteddfod Cylch Mae’n angenrheidiol bod yn aelod o’r Urdd i gystadlu. Gellir ymaelodi drwy fynd i safle we’r Urdd a dilyn y cyfarwyddiau yno. Mae’r ffi aelodaeth wedi codi i £10 erbyn hyn. Cynhelir Eisteddfod Cylch Ardudwy yn Ysgol Ardudwy ar Mawrth 16. Bydd cyfle i weld dawnswyr y pum Cylch yn lleol y flwyddyn yma wrth i’r Eisteddfod Ranbarth i ddawnswyr ddod i Harlech a hynny ar nos Iau, 28 Mawrth. Bydd y cyfan yn cychwyn am 5.00 yp.

Y Tim Cyfnewid Cymysg Rhydd B5 a 6 oedd yn cynrychioli’r Sir ac Ysgol Talsarnau yng Ngala Nofio’r Urdd yng Nghaerdydd. O’r chwith i’r dde Dylan Mitchelmore, Sam Roberts, Cari Elen Jones ac Erin Roberts. Bu Dylan yn cystadlu yn y ras i fechgyn 5 a 6 Amrywiol Unigol a Sam yn y ras i fechgyn B5 a 6 rhydd 50m hefyd. Er na ddaethant i’r brig llongyfarchiadau iddynt ar ymdrech arbennig.

Nofio Diolch yn fawr iawn i’r plant a’r oedolion hynny aeth lawr i’r nofio cenedlaethol yn ddiweddar. Roedd yna garfan dda yn teithio i lawr yr A470 a rhoddwyd perfformiadau llawn egni ar y diwrnod, felly fe all pawb fod yn falch iawn o’r bluen yn eu het. Daliwch ati.

Eisteddfod Talaith a Chadair Powys Dyffryn Banw Gorffennaf 12 ac 13, 2019 Os ydych am gystadlu, dyma ddau ddyddiad pwysig: Mai 1: Cyfansoddiadau’r adran lenyddiaeth i law. Mehefin 1: Cystadleuwyr y cystadlaethau llwyfan i anfon eu ffurflenni. Rhestr Testunau i’w gael ar smala.net/steddfota sef gwefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru. Yn gywir, Dafydd Morgan Lewis, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith

Timau bechgyn a merched B7-8 Ysgol Ardudwy yn y 5-bob-ochr

Pêl-droed Talaith y Gogledd Timau o fechgyn a merched B7 ac 8 Ysgol Ardudwy gafodd y cyfle i gystadlu yng Nghanolfan Hamdden Brailsford, Bangor yn erbyn tri deg un o dimau eraill yn ddiweddar. Cafwyd perfformiadau penigamp gan bawb ond ni ddaeth y gwpan yn ôl y tro yma. Diolch am eich cefnogaeth. Dylan Elis Swyddog Datblygu Meirionnydd

EISTEDDFOD YR URDD

Cylch Ardudwy yn Ysgol Ardudwy Mawrth 16 am 12.30

Gweithgareddau Caffi Glandŵr Pwll Nofio Harlech Mawrth 21 - ‘Pop Up’ Siop Esgidiau Mawrth 23 - Bingo Mawrth 30 - Noson Gyrri Ebrill 20 - Bingo Ebrill 27 - Noson Sbaenaidd

Tybed lle welsoch chi oen cynta’r gwanwyn eleni? Rhowch wybod i ni. Yn ôl hen goel, os oedd yr oen yn eich wynebu, mi fyddwch yn lwcus am y flwyddyn i ddod.

17


Peth o Orffennol Talsarnau Drwy Luniau a Fideos Byrion

Rwyf yn cynnal sesiynau tynnu lluniau [photo-shoots] yn Ysgol Cwm Nantcol sy’n addas ar gyfer plant, babanod, teuluoedd neu gŵn. Mae themâu gwahanol ar gael. Am ragor o fanylion, cysylltwch â Mari. mari_wyn@icloud.com FB: marilloydphotos

DYDDIADUR Y MIS

Mawrth 6 – Darlith Gŵyl Ddewi, Capel Newydd, Talsarnau, 7.30 Mawrth 6 – Cinio Gŵyl Ddewi Cymdeithas Gymraeg Bermo, Hendre Coed Isaf, 7.30 Mawrth 14 – Cinio Gŵyl Ddewi Festri Lawen, Nineteen.57, 7.30. Gŵr gwadd - Dilwyn Morgan. Mawrth 16 - Eisteddfod yr Urdd Cylch Ardudwy Mawrth 19 – Cyfarfod Blynyddol Eisteddfod Ardudwy, Ystafell y Band, Harlech 6.00 Mawrth 23 – Hafan Artro, Llanbedr, Côr Meibion Ardudwy, 6.00 Ebrill 4 - Darlith Flynyddol Cyfeillion Ellis Wynne Neuadd Gymuned Talsarnau am 7.00 o’r gloch. Darlithydd: Ieuan Wyn. Ebrill 13 – Cyngerdd Coffa Elen Meirion yn 50 oed, Y Ganolfan Porthmadog, 7.30, Côr Godre’r Aran, Rhys Meirion, Steffan Lloyd Owen, Elan Meirion, a Nic Parry yn arwain. Ebrill 14 – Treiathalon Harlech 2019, rhaghysbysiad er mwyn paratoi.

CHWARAE PÊL-DROED I DREF ABERYSTWYTH Llongyfarchiadau cynnes iawn i Carwyn Jones, mab Andy a Julie Jones, 11 Y Waun, Harlech ar arwyddo i glwb pêl-droed tref Aberystwyth yn Uwch Gynghrair Cymru. Mae eisoes wedi chwarae tair gem i’r Clwb fel amddiffynnwr canol. Tynnwyd y llun uchod yn ystod ei gêm gyntaf yn erbyn Llandudno ar Chwefror 8. Pob dymuniad da iddo yn ei yrfa fel pêl-droediwr.

18

Cyflwyniad gan Grŵp Trysorau Talsarnau Neuadd Gymuned Talsarnau Cyfle hefyd am baned a sgwrs Cyfraniad at gynnal y neuadd

CYMDEITHAS Y DEILLION Mae Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru yn recordio a chynhyrchu ystod eang o Lyfrau Llafar sydd ar gael yn eich llyfrgelloedd lleol. Y llyfrau diweddaraf ar gyfer plant a phobol ifanc a recordiwyd yw’r canlynol. Gellir eu benthyca yn rhad ac am ddim trwy gysylltu â’ch llyfrgell leol. 1. Dosbarth Miss Prydderch – Llyfr 2 Silff y Sarff (Mererid Hopwood) 2. Deri Dan y Daliwr Dreigiau (Haf Llewelyn) 3. Cyfres Maes Y Mês – Dwy stori gan Nia Gruffydd Briallen a Brech y Mêl a Brwynwen a’r Aderyn Anferth 4. Hufen Afiach (Meilyr Siôn)

R J Williams Honda Garej Talsarnau Ffôn: 01766 770286


DISGYBLION YN LLWYDDO

Llwyddiant mawr i fyfyrwyr Busnes BTEC o Goleg Meirion Dwyfor Dolgellau

Aeth grŵp o fyfyrwyr o Goleg Meirion Dwyfor, Dolgellau i gystadleuaeth Menter Sgiliau Cymru yn y Senedd yng Nghaerdydd ar Chwefror 1af. Roeddent yn cynrychioli Grŵp Llandrillo Menai i gyd yn y gystadleuaeth. Roedd y tîm yn cynnwys Lennon Roper o Dal-y-bont, Kerry Morris o’r Bermo, Lois Owen o Harlech, ac Erin Roberts a Callum Tugman o Ddolgellau. Mae’r holl fyfyrwyr yn eu hail flwyddyn o astudio Diploma Cenedlaethol mewn Busnes BTEC ac maent i gyd wedi derbyn cynigion amodol i fynychu Prifysgolion ym mis Medi eleni. Kerry Morris: “Rwy’n teimlo ei fod wedi helpu i adeiladu fy hyder. Aethom yno i ennill felly rydw i mor falch mai ennill wnaethon ni!!” Er mwyn mynd i’r gystadleuaeth roedd rhaid iddynt gwblhau cynllun busnes, cynllun marchnata a rhagolwg llif arian pythefnos cyn y digwyddiad. Asesodd panel o 6 o entrepreneuriaid, o wahanol ardaloedd o Gymru, y dogfennau er mwyn graddio’r timau yn barod at y rownd derfynol yng Nghaerdydd. Mae hon yn gystadleuaeth boblogaidd iawn, gyda bron pob coleg yng Nghymru yn cystadlu. Lois Owen: ‘’Nes i wir fwynhau’r profiad, rhywbeth y byddaf yn ei gofio am byth. Dyma’r tro cyntaf i mi fod yn y Senedd; roeddwn i’n teimlo’n falch iawn yn cynrychioli Coleg Meirion Dwyfor yng Nghaerdydd. Roedd yn deimlad anhygoel i ennill y gystadleuaeth ac yn rhywbeth positif iawn y gallaf ei ychwanegu at fy CV’’. Y brîff oedd ailgylchu eitem plastig bob dydd i mewn i gynnyrch, neu greu menter busnes o’r defnydd o’r cynhyrchion. Gelwid eu Menter Gymdeithasol yn Actî-Plast, a;u syniad oedd ailgylchu poteli llaeth yn offer plastig. Gyda defnyddio pabell pop-up, byddent wedyn yn cynnig gweithgareddau hwyliog i blant ifanc, gan ddefnyddio’r offer plastig. Roedd eu cysyniad yn canolbwyntio ar faterion cymdeithasol eraill, nid yn unig gwastraff plastig, ond hefyd y diffyg gweithgaredd mewn plant ifanc, o ganlyniad i’r cynnydd yn y defnydd o dechnoleg. Roedd y beirniaid yn canmol eu syniad ac roeddent hyd yn oed eisiau buddsoddi!! Ar ôl cyflwyniad anhygoel a hyderus iawn yn y Senedd, enillodd Coleg Meirion Dwyfor Aur, derbyniodd Coleg Cambria Arian ac Efydd i Goleg Pen-y-bont ar Ogwr. Meddai Catrin Edwards, eu tiwtor busnes: ‘Rwyf mor falch o’m myfyrwyr, maen nhw wedi gweithio mor galed ac wedi mynd yno i gynrychioli’r grŵp cyfan. Fe wnaethon nhw gyflwyno yn ddwyieithog a dangoswyd aeddfedrwydd, angerdd a hyder mawr ar y llwyfan... ac roedden nhw’n wir haeddu ennill’.

YSBYTY DOLGELLAU

Amseroedd Ymweld Nid oes amseroedd ymweld penodol. Gallwch weld claf ar amser sy’n addas i chi, eich teulu a’r claf. Mae cyfyngiadau mewn rhai unedau arbenigol, yn cynnwys; gofal critigol, dibyniaeth fawr, gofal coronaidd, mamolaeth, paediatreg, gofal arbennig i fabanod ac iechyd meddwl. Mae adegau hefyd ble bydd wardiau ar gau am gyfnodau byr pan fydd staff yn gofalu am gleifion. Uned Mân Anafiadau Ar agor o 10.00am hyd at 10.00pm, 7 diwrnod yr wythnos Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â’r ward cyn ymweld. Dim mwy na dau ymwelydd wrth ochr gwely’r claf ar unrhyw adeg Dylai plant gael eu goruchwylio’n ofalus - gofynnwch i’r Brif Nyrs neu’r Nyrs mewn Gofal cyn mynd â phlant ar y ward Cynghorir ymwelwyr i beidio dod â babanod bach i’r ysbyty Ni chaniateir ymweld yn ystod amseroedd bwyd oni bai eich bod yn helpu’r claf i fwyta. Ymholiadau Gall perthnasau a ffrindiau holi am y claf drwy ffonio’r ysbyty. Er mwyn cyfyngu ar nifer y galwadau, rydym yn awgrynu fod un aelod o’r teulu’n cysylltu â’r ysbyty ac yn dweud wrth y gweddill Fe fyddwn yn dweud wrth ffrindiau agos a pherthnasau am gynnydd cyffredinol y claf oni bai ei fod yn dweud yn benodol nad yw’n dymuno i’r wybodaeth yma gael ei rhannu Amseroedd Bwyd Mae Amseroedd Bwyd wedi’u neilltuo yn gyfnodau dros amser cinio ac amser swper pan fydd gweithgaredd ar y ward yn stopio a’r nyrsys ar gael i helpu gweini bwyd a rhoi cymorth i gleifion sydd angen help. Os ydych yn ymweld â ward sy’n arddangos Poster Amseroedd Bwyd wedi’u Neilltuo, cofiwch barchu hyn. Ond os ydych wedi arfer ymweld yn ystod prydau bwyd er mwyn helpu eich pethynas/ cyfaill i fwyta, rydym yn fodlon i chi ddal i wneud hyn. Lleihau heintiau Mae ewyn alcohol ar gael i’w ddefnyddio i lanhau a diheintio dwylo. Mae ar gael wrth fynedfa pob ward a chaiff ymwelwyr eu hannog i’w ddefnyddio cyn ac ar ôl ymweld. Er mwyn helpu’r ysbyty i leihau heintiau: Dylai ymwelwyr ddefnyddio’r gel alcohol wrth fynedfa pob ward bob amser cyn ac ar ôl ymweld. Dylai ymwelwyr ddefnyddio cadeiriau bob amser a pheidio ag eistedd ar welyâu. Golchwch eich dwylo bob amser ar ôl defnyddio’r toiled. Cyfleusterau Mae gan Ysbyty Dolgellau 24 gwely mae gofal yn cael ei roi gan staff nyrsio, meddygon ymgynghorol a meddygon teulu. Mae gan yr ysbyty: Uned Mân Anafiadau, Uned Ffisiotherapi, Uned Therapi Galwedigaethol, Therapi Iaith, Dieteteg, Uned i Henoed Eiddil eu Meddwl, Uned Mamolaeth, Adran Cleifion Allanol, Cyfleusterau Pelydr-X, Gwasanaeth Trîn Traed, Gwasanaeth Deintyddol, Mae’r Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu hefyd wedi’i leoli ar safle’r ysbyty.

19


TOPIAU POTELI PLASTIG

‘GWISG GENHINEN YN DY GAP A GWISG HI YN DY GALON’

Ie, ’da chi’n iawn. Am y genhinen ydan ni’n sôn. Y llysieuyn bach di-nôd, syml hwnnw fu’n fodd o fwydo ein teuluoedd ers cenedlaethau. Efallai nad oes gennych fawr o gariad tuag at y genhinen, oni bai eich bod yn arddwr llysiau. Ond mae’n annhebygol y buasai hynny’n wir am ein teidiau a’n neiniau. Ddim mor boblogaidd â’r hen dysen wrth gwrs. Honno sydd ar frig y rhestr - un o’n prif fwydydd fel Cymry, yn y gorffennol o leiaf, ynghyd â’r hen rwdan a’r foronen cyn inni ddechrau ehangu gorwelion i gynnwys pob pitsa, tica, enchilada, lasania, byrgyr a chant a mil o bethau eraill ar ein bwydlenni wythnosol. Ond am y genhinen rydyn ni’n sôn heddiw. Dyma ambell i ffaith ddiddorol amdani ... •

Dywedir fod milwyr Cymreig wedi eu hysbrydoli yn oes Dewi Sant i wisgo cenhinen yn eu helmedau/ capiau cyn brwydro yn erbyn y Sacsoniaid yn 640 OC gan fynd rhagddynt i ennill y goncwest. • Mae’n draddodiad gan y Ffiwsilwyr Cymreig i fwyta cenhinen amrwd ar Ddydd Gŵyl Dewi. • Honnir bod merched sy’n gosod cenhinen o dan eu gobennydd yn gweld wyneb eu darpar ŵr yn eu breuddwydion! • Bwytaodd yr Ymerawdwr Nero lwythi o gennin yn y gobaith y byddent yn gwella ei lais canu. • Defnyddiodd Hypocrates y genhinen fel ffordd o wella gwaedlin. Gall yn ogystal buro’r gwaed a’n cadw rhag annwyd. Ond â Dydd Gŵyl Ddewi

newydd gael ei ddathlu, priodol yw i ni feddwl am bryd i’w flasu, i ni gael ymdeimlo â’n gwreiddiau go iawn. Yn gyntaf beth am y swper bach syml hwn? Ar fy ngwyliau yn nhŷ fy modryb o’n i, pan ddois ar draws ei llyfr rysetiau, ac ynddo dois ar draws hwn. Ei symlrwydd yw ei ragoriaeth a bu’n ffefryn rheolaidd yn ein tŷ ni byth ers hynny. Dyma fo:

SWPER SYML DEWI POPTY:190 gradd 14 owns o datws (rhai fydd ddim yn canlyn dŵr) 6 owns o gennin 3 owns o gig moch wedi’i gochi Saws caws (gwneud digon fel bod y bwyd yn ddigon gwlyb) 2 owns wleb o hufen (dewisol) DULL 1. Pliciwch a sleisiwch y tatws a’u torri’n ddarnau tua modfedd yr un. 2. Golchwch y cennin a’u sleisio hwythau yr un faint. 3. Berwi y ddau ynghyd am ryw 15-20 munud nes yn feddal. 4. Ffrïwch y cig moch, yna ei dorri’n ddarnau go lew. 5. Gogrwch y llysiau a’u tywallt i ddysgl lasania. 6. Ychwanegwch y darnau cig moch yma ag acw. 7. Gwnewch y saws caws a’i dywallt dros y cyfan. Taenwch ychydig o gaws wedi ei gratio drosto a phobwch nes y bydd hwn wedi toddi a brownio (tua 30 munud). A dyna eich swper yn barod. Gweiniwch ar ei ben ei hun neu efo llysieuyn gwyrdd am swper Gŵyl Dewi blasus a di-drafferth. Rysait blasus arall wrth gwrs ydi’r hen gawl cennin. Mi fydda i bron bob amser yn gwneud dwbl gan ei fod wastad yn darfod yn rhy fuan. Dyma’r rysait fydda’ i’n ei ddilyn.

CAWL CENNIN 4 cenhinen fawr 2 dysen ganolig, yn giwbiau 1 nionyn canolig, yn fân 1.5 peint o stoc cyw iâr 0.5 peint o lefrith 2 owns o fenyn halen a phupur DULL 1. Golchi’r cennin a’i dorri’n fân. 2. Toddi’r menyn mewn sosban fawr, ychwanegu’r llysiau a’u chwysu am 15 munud. 3. Ychwanegu’r pupur a halen,yna’r stoc/isgell. 4. Mudferwi am 20 munud nes y bydd y cyfan yn feddal. 5. Hylifwch y cynhwysion nes yn llyfn ac yna ychwanegu’r llefrith ond peidio â gadael iddo ferwi ,dim ond cynhesu drwodd. 6. Bwytewch gyda rholiau o fara ffresh, cynnes. Wel, gobeithio y cewch flas ar ddydd Gŵyl Dewi, gwisgwch eich cenhinen, ond yn fwy na dim, gwisgwch hi yn eich calon. Rydan ni yma o hyd! Delyth Jones Diolch i Delyth Jones am yr erthygl. Hi enillodd y gystadleuaeth a ymddangosodd yn Llais Ardudwy y llynedd yn gofyn am erthyglau ar gyfer y papur. Bydd erthygl arall ganddi y mis nesaf. [Gol.]

Raffl Nadolig 2018 Cangen Plaid Cymru Penrhyndeudraeth

Yr enillwyr oedd: 1 Tony Edwards, £50 2 Celt Roberts, gwerth £40 o gig 3 Ems a Lucia, tocyn Portmeirion 4 Ed Holden, tocyn Portmeirion 5 Ieu Roberts, gwerth £15 o gig 6 Elsbeth (Wern), potel chwisgi 7 Cara O’Neill, potel chwisgi 8 Rose, potel o win 9 Cai Williams, tocyn llyfr Siop Dewi Bill Nelis, Ysgrifennydd Cangen Penrhyndeudraeth

Galw eco-gefnogwyr! Dyma wybodaeth bellach ar ein cynllun topiau poteli gwych! Byddwn yn derbyn topiau poteli plastig o unrhyw fath: capiau poteli LUSH, poteli llefrith, diodydd meddal, caeadau jariau coffi, capiau hylif golchi dillad, ac yn y blaen. Gallwch adael eich topiau poteli plastig yn eich siop LUSH leol ond os nad oes siop yn lleol gallwch eu postio mewn blwch neu amlen (yn dibynnu ar faint ohonyn nhw y byddwch yn eu hanfon – dim mwy na 2kg), i: FREEPOST LUSH GREENHUB (mewn priflythrennau, os gwelwch yn dda!) Yma mae’r topiau poteli plastig yn cael eu prosesu cyn cael eu hanfon i gwmni arall, stormboard.net (Storm Board yng Ngwlad yr Haf, Lloegr) i’w gwneud yn fwrdd poteli lliwgar. Defnyddir y byrddau poteli yma ar gyfer pob dim dan haul, a hyd yma fe’u defnyddiwyd i lunio maes chwarae i blant, cychod gwenyn, sgriniau preifatrwydd, a hyd yn oed dodfren mewn rhai siopau LUSH ac i orchuddio’r muriau. Gan mai bychan yw’r ganolfan, dydy hi ddim yn gallu derbyn topiau ar raddfa masnachol oddi wrth busnesau, cymunedau nag ysgolion. Gobeithio y bydd hyn yn helpu, a diolch i chi am ofalu am y blaned.

SAMARIAID LLINELL GYMRAEG 08081 640123


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.