Llais Ardudwy Mawrth2020

Page 1

Llais Ardudwy

70c

RHIF 496 - MAWRTH 2020

DATHLU AR Y LLETHRAU EIRA

Wrth wibio i lawr y llethrau eira mae Lowri Howie o Dinas, Llanbedr wedi dod i’r brig unwaith eto. Mae Lowri yn ddisgybl yn Ysgol Tanycastell, ac wedi bod yn ymarfer a chystadlu ar lethrau’r Alpau ers mis Rhagfyr, ac mae’r tymor sgïo ar yr eira bron a dod i ben. Tra’n cystadlu yn Awstria dathlodd Lowri ei phen-blwydd yn 10 oed, ac uchafbwynt ei diwrnod oedd derbyn neges fideo gan ei chyfoedion yn B5 Tanycastell yn canu pen-blwydd hapus iddi. Mae technoleg yn galluogi Lowri i gyfuno ei hyfforddiant sgïo yn yr Alpau a dilyn gwersi ysgol Tanycastell hefyd, ac mae mam Lowri, Einir Pritchard (sy’n rhedeg gwersyll a maes carafanau), yn ddiolchgar dros ben am y gefnogaeth barod y mae Lowri yn ei derbyn gan yr ysgol a’r brifathrawes, Mrs Annwen Williams. Caiff y cystadlaethau eu cynnal mewn sawl gwlad o gwmpas yr Alpau, felly mae tipyn o deithio’n digwydd hefyd. Serch hynny, mae patrwm sefydlog i ddiwrnod arferol Lowri, o godi bob bore am 6.30 i ymarfer ffitrwydd, paratoi yr offer sgïo, wedyn ymarfer sgïo gyda’r tîm hyfforddi, cyn mynd ati i wneud ei gwaith ysgol, mwynhau swper a thrafod y diwrnod gyda’i mam, cael sgwrs dros y we gyda’i thad, a mynd i’r gwely. Cyn mynd ymlaen i gystadlu ar eira yn yr Alpau yn erbyn sgïwyr o bron i bedwar ban byd, bu Lowri’n ymarfer a chystadlu ar lethrau artiffisial ledled Prydain ac mae hi wedi ennill pencampwriaethau sgïo dan do ac awyr agored i ferched dan 10 oed Prydain, Cymru, Iwerddon, Lloegr a’r Alban. Cafodd Lowri flwyddyn brysur a llwyddiannus dros ben, ac enillodd fedalau aur mewn tair disgyblaeth wahanol, sef y Slalom, Giant Slalom a Super speed Giant Slalom sy’n galw am sgiliau ac offer gwahnnol, ac mae Lowri bellach yn Bencampwr Alpaidd dan 10 oed Cymru a Lloegr. Bu Lowri’n ffodus eleni i gael nawdd gan Ymddiriedolaeth Cofio Robin (www.cofiorobin.co.uk/ ) mewn cydnabyddiaeth o’r costau uchel sydd ynghlwm â’r dillad a’r offer sgïo a’r teithio i hyfforddi a chystadlu. Mae Lowri rŵan yn edrych ymlaen at fynd ymlaen i gystadlu dan 12 oed y flwyddyn nesaf, a byddai’n ddiolchgar tu hwnt am unrhyw nawdd pellach a fyddai’n ei galluogi i barhau i gystadlu . Pan ddaw adref o’r Alpau, mae Lowri’n edrych ymlaen at ddangos ei medalau ac un wobr arbennig a gwahnnol i’w theulu a ffrindiau, sef cloch buwch Alpaidd, a roddir i’r sgïwr mwyaf addawol. Yn y dyddiau diwethaf, derbyniodd Lowri newyddion da yn dweud ei bod wedi bod yn llwyddiannus o dderbyn grant gan Ŵyl Gwrw Llanbedr. Dyma noddwr arall felly i sicrhau llwyddiant Lowri (eu gwefan am fwy o wybodaeth ydy www.llanbedrbeerfestival.co.uk)

DIWEDD CYFNOD

Gweneira Jones

Jean Edwards

Cyhoeddodd Gweneira Jones ei bod am roi’r gorau i’r gwaith o ofalu am ddosbarthu Llais Ardudwy drwy’r post ym mis Gorffennaf. Fel mae’n digwydd, hwnnw fydd ein 500fed rhifyn. Bu Gweneira a Jean yn gyfrifol am bostio bron i 100 copi bob mis a hefyd yn gofalu am dderbyn y taliadau yn flynyddol. Fe wyddon ni’n dda fod y rhai sy’n ei dderbyn yn ddiolchgar iawn am y gwasanaeth clodwiw hwn. Dymunwn ddiolch yn ddiffuant iawn i Gweneira a Jean am eu llafur cariad dros gyfnod maith. Rydym yn awr yn y broses o chwilio am rywun neu rywrai i gymryd lle Gweneira a helpu Jean i bostio’r papurau bob mis. Bydd angen hefyd cadw cyfrifon ac anfon biliau bob blwyddyn. Os credwch y gallwch fod o gymorth yn y cyfeiriad hwn buasem yn ddiolchgar iawn. Cewch ragor o wybodaeth gan ein trysorydd, Mr Iolyn Jones; mae’r manylion ar dudalen 2. Diolch ymlaen llaw am eich cefnogaeth.

CogUrdd

Llongyfarchiadau cynnes iawn i Lowri Lloyd (canol blaen) ar ddod yn gyntaf yn y gystadleuaeth CogURDD ym Meirionnydd yn ddiweddar. Hefyd i Lia John (de blaen) ar ddod yn drydydd. Roedd rhaid coginio dau o’r tri rysait a osodwyd gan y beirniad cenedlaethol Beca Lyne-Pirkis, sef Patatas Bravas gyda saws tomato, Albondigas gyda saws tomato neu Tortilla. Hefyd, creu trydydd saig tapas - naill ai salad neu llysiau, math o tapas Sbaeneg i gyd-fynd gyda’r 2 rysait a ddewiswyd i greu pryd cytbwys, lliwgar a blasus. Caniatawyd 90 munud i gwblhau’r dasg.


GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 780635 pmostert56@gmail.com

HOLI HWN A’R LLALL

Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com 07760 283024 / 01766 780541

SWYDDOGION

Cadeirydd: Hefina Griffith 01766 780759

Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@outlook.com Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL

Y Bermo Grace Williams 01341 280788 David Jones 01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones 01341 241229 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Cysodwr y mis: Phil Mostert

Gosodir y rhifyn nesaf ar Ebrill 3 am 5.00. Bydd ar werth ar Ebrill 8. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Mawrth 30 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

Dilynwch ni ar Facebook @llaisardudwy

2

Enw: Lowri Haf Cooke Gwaith: Awdur, darlledwraig, adolygydd ffilm a golygydd cylchgrawn Taste/Blas. Dwi hefyd yn cynnal gweithdai sgrifennu mewn ysgolion ledled Cymru. Y llynedd treuliais i 10 wythnos yn Ysgol y Traeth, yn tywys 26 o ddisgyblion ar hyd ‘llwybr bwyd y Bermo’ cyn iddynt brofi bwydlen flasu 6 chwrs ym Mhortmeirion, a arweiniodd at adolygiadau gwych. Cefndir: Ges i fy ngeni a fy magu yn ninas Caerdydd, a dyna lle dwi’n byw hyd heddiw. Magwyd fy nhad ym Mhorth, y Rhondda yna Llanymynech, Sir Drefaldwyn, a fy mam mewn tŷ o’r enw Twyni, dafliad carreg o draeth y Bermo. Roedd Mam (Nia Powys Williams, gynt) yn ferch i Anna a’r Prifardd W D Williams, ac yn chwaer i Iolo Wyn ac Iwan Bryn. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Dwi’n rhedeg a nofio, a cheisio cerdded cymaint â phosib. A phum mlynedd yn ôl sefydlais ‘bŵtcamp’ yn yr awyr iach ym Mharc y Rhath – dan ni’n cwrdd bob bore Sadwrn, law neu hindda! Beth ydych chi’n ei ddarllen? Dwi newydd orffen Pwyth gan Haf Llewelyn, a’i fwynhau yn arw - un o’r toreth o lyfrau a dderbyniais yn anrhegion Nadolig. Dwi’n edrych mlaen i ddarllen Mynd Fel Bom gan Myfanwy Alexander nesa. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Bues i’n gweithio i BBC Radio Cymru am 11 mlynedd, felly well i mi ddweud bob

un! Ond o ddifri, mae safon archif rhaglen Cofio yn wych (diolch i’r ymchwilydd Mair Parry Roberts, o Landrillo, ymysg eraill) y math o raglen sy’n hoelio’ch sylw, a’ch denu i aros yn y car i wrando er bo ganddoch chi gant a mil o bethe ar eich rhestr ‘i’w gwneud’! Ar y teledu? Unrhyw gyfres ddrama - Talcen Caled, 35 Diwrnod, Mad Men, The Marvellous Mrs Maisel, The Killing a War and Peace. Ydych chi’n bwyta’n dda? Ydw! Ond beth yw’ch diffiniad chi o ‘fwyta’n dda’? Fel awdur y gyfrol Bwytai Cymru a golygydd cylchgrawn bwyd a diod Taste/Blas, dwi’n ymweld yn gyson â bwytai, caffis a thafarndai ledled Cymru, ond – diolch i Mam - dwi hefyd yn giamstar yn y gegin. Dwi’n paratoi cinio Sul i’r teulu yn wythnosol, ac yn mwynhau arbrofi â ryseitiau newydd, ynghyd â hen ffefrynnau. Ar y cyfan, mi fyta i unrhyw beth – dwi ddim yn credu mewn hepgor cynhwysion o fy neiet – ond dwi’n credu mewn cymedroldeb, a chynnal fy ffitrwydd er mwynhau fy mwyd. Hefyd, mae bwyta cynhwysion ‘tymhorol’ o ddiddordeb cynyddol i mi, a chefnogi cynhyrchwyr a busnesau lleol yma yng Nghymru. Hoff fwyd? Cig oen Cymreig. Tua’r adeg yma y llynedd fe brynais i ‘chops’ cig oen hyfryd gan David Jones – cigydd y Bermo - a chasglu garlleg gwyllt cyn dychwelyd i Gaerdydd. Ar ôl cyrraedd adre, rhostiais i’r cyfan yn y popty, a mwynhau gwledd o flasau Ardudwy! Hoff ddiod? Dibynnu ar beth sydd ar y fwydlen! Ar gyfer gwledd o gig oen, be well na gwin coch? Mae na ddewis gwych yn siop/ bar Dylanwad, Dolgellau. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Cymro caredig a golygus efo digon yn ei ben! Lle sydd orau gennych? O ran dinas, Caerdydd, Dulyn neu Efrog Newydd ond, os am ddihangfa lwyr, a chyfle i weld teulu a ffrindiau, yna Sir Feirionnydd.

Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Rhyw flwyddyn cyn y bu i Mam farw, buom yn ffodus iawn fel teulu i fwynhau gwyliau bendigedig ym Meirionnydd, yn ystod Gorffennaf crasboeth 2013. Nofio yn y môr yn y Bermo, ac yn y Ddwyryd o flaen Portmeirion; hynibyns Dolgellau, hufen iâ Hufenfa’r Castell yn Harlech a swper bendigedig yn yr awyr agored o flaen Bwyty Mawddach, Llanelltyd, wrth i’r haul fachlud dros Gadair Idris. Atgofion melys iawn o wyliau hyfryd. Beth sy’n eich gwylltio? Amharch at yr iaith Gymraeg. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Hiwmor. Pwy yw eich arwyr? Pob math o ferched a lwyddodd i greu gyrfaoedd iddyn nhw eu hunain, yn wyneb rhagfarn ac agweddau deinosoraidd. Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon? Y nofelydd Haf Llewelyn ac athrawon Ysgol y Traeth, y Bermo. Beth yw eich bai mwyaf? Diffyg amynedd. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Nofio yn y môr oddi ar arfordir Cymru neu un o ynysoedd Gwlad Groeg. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Gan fy mod yn awdur llawrydd, ei fuddsoddi yn y banc! Eich hoff liw a pham? Glas y môr – gall fod yn llawen, yn heddychlon, yn stormus neu’n hardd, yn falm neu’n ddirgelwch pur. Eich hoff flodyn? Iris. Eich hoff gerddor/ion? Super Furry Animals ac MC Mabon. Pa dalent hoffech chi ei chael? Sgwennu llyfrau plant, a lleisio rhaglenni plant. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Dedwydd, prysur, calonagored. Chwilfrydig i weld be ddaw nesa!


LLANFAIR A LLANDANWG

Merched y Wawr Harlech a Llanfair Ymunodd nifer o aelodau cangen Talsarnau â ni ar gyfer y cyfarfod hwn. Y Parch Christopher Prew oedd y gŵr gwadd a thestun ei sgwrs oedd ‘Dylanwadau’. Cafwyd orig ddifyr yn ei gwmni wrth iddo draethu am y rhai a gafodd ddylanwad arno. Aeth â ni i’r India, Jamaica a De Affrica gan sôn am ei brofiadau tra bu yno. Bu’n weinidog yn Llangefni cyn dod i Borthmadog yn 2010. Edwina roddodd y diolchiadau ar ein rhan gyda Mai yn diolch ar ran cangen Talsarnau. Cafwyd cyfle i drafod nifer o faterion cyn troi am adref.

Diolch Dymunwn ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atom yn dilyn ein profedigaeth o golli Gwyneth Meredith yn ddiweddar. Gwerthfawrogwyd y cyfan yn fawr iawn. Edward, Mair ac Arwel, Ymwlch, Llandanwg. Rhodd a diolch £10

Golffio Pob dymuniad da i Mrs Ann Lewis, Min-y-Môr, Llandanwg fydd yn teithio i Valencia yn Sbaen yn ystod mis Mawrth i gystadlu ym mhencampwriaeth amaturiaid hŷn Ewrop.

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR

MATERION YN CODI Pwyllgor Neuadd Mae’r sefyllfa ariannol yn dderbyniol, y pwyllgor yn bwriadu cael prisiau i beintio tu allan i’r neuadd yn y dyfodol agos ac mae yr hen offer chwarae i gyd wedi ei dynnu o’r cae chwarae. Trafod y gystadleuaeth ‘Llanfair yn ei blodau’ ond nid oedd gan yr aelodau ddiddordeb yn y mater. Derbyniwyd e-bost gan Ms Berry ynglŷn â’r mater hwn yn awgrymu y byddai’r pentref yn edrych yn well pe bai’n bosib cael lloches bws yng nghanol y pentref a thacluso’r darn tir ar ochor y ffordd oedd yn honni oedd dan berchnogaeth y Cyngor Cymuned. Cytunwyd nad oedd diddordeb gan y Cyngor yn y mater hwn a datganwyd nad oedd gan y Cyngor gyllideb tuag at archebu lloches bws. Cyngor Gwynedd yw perchnogion y tir ar ochor y ffordd. Cyfarfod Bwrdd Hamdden Harlech ac Ardudwy Yn ôl arolwg gafodd ei lenwi gan 48 o bobl roedd pryder am yr oriau agor ac y bydd hyn yn cael sylw. Mewn ymateb i ddau ymholiad

CWIS GŴYL DDEWI ‘Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri’ Faint fedrwch chi eu hadnabod?

1

2

3

4

5

6

7

8

9

10

11

12

13

14

15

16

17

18

ATEBION

deallir fod 22% o’r incwm yn dod gan y Cynghorau Cymuned a Chyngor Gwynedd a bod Mr Chris Hulsey yn helpu efo’r cyfrifon hyd diwedd Rhagfyr eleni. Gobeithir gallu gweithio tuag at gynyddu’r incwm, lleihau costau annisgwyl a bod yn llai dibynnol. Mae £650 y mis yn cael ei dalu i Gyngor Gwynedd i glirio’r ddyled drydan. Mae Ms Samantha Cooper wedi cael ei hapwyntio i ddelio gyda’r ochor incwm yn lle Mr Chris Hulse, a Mr Michael Rowe o Rhiw, Pen Llŷn, wedi ei apwyntio fel Rheolwr Rhan Amser y ganolfan. Hefyd, cafwyd gwybod ganddo eu bod wedi llwyddo i ddenu dau grant arall, sef grant £10,000 gan y Loteri Fawr tuag at y ffenestri a grant o £1,200 tuag at dacluso’r coed ar yr ochor. UNRHYW FATER ARALL Mae Mr Hywel Jones wedi tynnu i lawr yr hen hysbysfwrdd a oedd ar ochor y lloches bws ger groesffordd Caersalem a chytunwyd bod y safle yn edrych yn well hebddo. Mae angen sylw ar yr hysbysfwrdd ym maes parcio’r Maes, Llandanwg, oherwydd bod y drws wedi cael ei ddifrodi yn y stormydd diweddar. Adroddodd Mair Thomas a Robert G Owen eu bod wedi cael golwg arno a chytunwyd i drafod gyda Mr Hywel Jones i weld beth all ei wneud i’w adfer. Cytunodd y Clerc holi’r cwmni i weld a fyddai yn bosib archebu drws newydd. Mae eiddew a coed wedi gordyfu dros y wal i’r llwybr ger Castellfryn. Mae angen sylw ar yr hysbysfwrdd ger yr Eglwys a chytunwyd i ofyn i Mr Hywel Jones gael golwg arno.

Arwydd od!

Glywsoch chi fod Llandanwg ar werth? Rhaid ein bod ni wedi methu rhywbeth yn rhywle! Neu hwyrach fod rhywun wedi camgymryd Mawrth 1af am Ebrill 1af! Mae’r arwydd wedi diflannu erbyn hyn.

3

1. Dylan Thomas 2. R S Thomas 3. Gwyneth Lewis 4. Menna Elfyn 5. R Williams Parry 6. T H Parry Williams 7. Rebecca Evans 8. Cerys Matthews 9. Manon Rhys 10. Mererid Hopwood 11. Ceri Wyn Jones 12. Tudur Dylan Jones 13. Gwyn Hughes Jones 14. Arfon Gwilym 15. Leah Owen 16. John Eifion 17. Myrddin ap Dafydd 18. Owain Arwel Hughes


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Merched y Wawr Nantcol Cawsom ein croesawu i gyfarfod mis Chwefror gan Rhian, ein Llywydd, ac wedi canu cân y Mudiad rhoddodd groeso cynnes iawn i Shoned Owen i roi hanes ei siwrnai yn dechrau ei busnes Tanya Whitebits. Dechreuodd ei gyrfa ym myd chwaraeon ond roedd ganddi ddiddordeb hefyd yn y byd harddwch. Mentrodd i ddilyn cwrs a fyddai yn ei galluogi i weithio fel technegydd melynu’r croen. Cafodd lwyddiant hefo’r gwaith gan roi yr hyder iddi i fentro datblygu cynnyrch haul ffug naturiol. Mae wedi ennill nifer o wobrau arbennig a bellach mae’r cynnyrch ar werth ar y we ac mewn nifer o siopau’r stryd fawr. Gobaith Shoned yw y bydd ei chynnyrch yn datblygu i fod ar werth yn fyd eang yn y dyfodol. Wrth ddiolch i Shoned, dywedodd Rhian ei bod hi’n braf gweld Cymraes yn mentro ac yn arloesi mewn maes hynod o gystadleuol. Darllenwyd llythyr gan Beti Wyn yn diolch am y cyfarchion ac anfonwyd ein cofion at Pat sydd yn Ysbyty Maelor. Rydym yn meddwl amdanat, Pat, ac yn mawr obeithio y byddi’n teimlo’n well yn fuan. Bydd 6 o’r aelodau yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Bowlio Deg y Rhanbarth. Pob hwyl i chwi i gyd. Derbyniwyd gohebiaeth gan Hosbis Dewi Sant a Galwch Draw yn cynnig anfon cynrychiolydd i rannu gwybodaeth am eu gwaith. Byddwn yn dathlu Gŵyl Ddewi yn Bistro’r Castell, Harlech, ar Fawrth 4ydd. Cydymdeimlo

Cydymdeimlwn â Mrs Cynthia Jones, Wenallt, a’r teulu oll yn eu profedigaeth o golli Gwynne Jones. Roedd yn ddyn triw iawn i’w deulu ac yn weithgar a phoblogaidd a chanddo wên barod bob amser. Roedd ganddo amryw o ddoniau yn cynnwys coginio a gwneud gwin. Bu farw yn Ysbyty Gwynedd ar 14 Chwefror yn 79 oed. Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch y prynhawn Capel Salem 22 Mawrth – Parch Dewi Tudur 5 Ebrill – Rhys ap Owen Capel y Ddôl 8 Mrs Iona Anderson 22 Parch Aneurin Owen Capel Nantcol 29 Parch Robert Parry

4

Gefeillio Llanbedr a Huchenfeld - cofio’n ôl 75 mlynedd 75 o flynyddoedd yn ôl ar Fawrth 17eg 1945 cafodd pump aelod o’r Llu Awyr Prydeinig eu lladd yn Huchenfeld gan Ieuenctid Nazi. Fe arweiniodd hyn i’r gefeillio rhwng Llanbedr a Huchenfeld oherwydd roedd y pump dyn mewn awyren efo’r ddiweddar John Wynne y peilot, a fu’n byw yn Llanbedr hyd at ei farwolaeth yn 2018. Gan fod yr awyren wedi ei tharo gan y gelyn ac ar dân, gorchmynnodd i’r dynion neidio allan trwy ddefnyddio eu parasiwt. Fel y digwyddodd, cyrhaeddodd John Wynne yn ôl yn ddiogel i Brydain heb wybod beth oedd wedi digwydd i’r dynion tan bron i hanner cant o flynyddoedd yn ddiweddarach. Cychwynnodd y cyfeillgarwch rhwng y pentrefi yn 1995

pan aeth John a cheffyl siglo drosodd yn anrheg ac ers hynny mae nifer o blant ac oedolion wedi bod yn ymweld â Huchenfeld a ninnau wedi croesawu ein ffrindiau Almaenig yma yn Llanbedr. I gofio’r drychineb erchyll yma o’r dynion yn colli eu bywydau rydym yn cael gwasanaeth arbennig yn Eglwys Sant Pedr ar Fawrth 15fed am 10.30 yb efo lluniaeth ysgafn i ddilyn. Croeso cynnes i bawb. Llongyfarch Llongyfarchiadau i Elin Haf, Pensarn sydd wedi dechrau ei Phrentisiaeth Peirianneg Sifil gydag YGC (Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy) yn gweithio gyda’r Tîm Strwythurau, Erbyn hyn mae hi’n Dechnegydd gyda nhw.

CYMDEITHAS CWM NANTCOL

Cafwyd noson ddifyr iawn ganol mis Chwefror yng nghwmni Dr John Williams, Lerpwl. Bu’n feddyg ymgynghorol yn Lerpwl am bron i ddeugain mlynedd. Ei destun y tro hwn oedd Clefydau’r Beibl. Aeth ati trwy gyfrwng set o sleidiau manwl i esbonio degau o wahanol glefydau gan roi noson addysgiadol iawn i’r dyrfa dda ddaeth ynghyd.

Ddiwedd y mis daeth un o’r cewri, sef Dafydd Iwan, atom i roi hanes y 60au a’r 70au inni trwy nifer o ganeuon. Cyn ei gyflwyno, anrhegwyd merched y gegin - Jean, Heulwen a Morfudd - am eu gwaith diflino drwy’r gaeaf, a hefyd Eurwen am ofalu am y raffl ym mhob cyfarfod. Diolchodd y Cadeirydd i Evie hefyd am ysgwyddo’r baich trymaf o ran trefnu’r rhaglen. Cytuna pawb inni lwyddo i fwynhau rhaglen wirioneddol ddiddorol eto eleni. Afraid dweud i ni gael noson hwyliog iawn yng nghwmni un o’r cewri. Roedd yn bleser gwrando arno yn traethu ac yn gosod brwydr yr iaith mewn cyd-destun rhyng-genedlaethol. Cafodd gymeradwyaeth frwd iawn ar derfyn y noson. Teulu Artro Pnawn Mawrth 4 Chwefror, fe’n croesawyd gan Glenys, ein llywydd. Nid oedd Gretta Benn yn teimlo’n ddigon da i ddod atom, ac roedd Pat wedi cael llawdriniaeth yn Ysbyty Maelor. Gobeithiwn y bydd yn troi ar wella’n fuan. Yna cawsom bnawn difyr yng nghwmni Olwen Jones, Tynbraich, Dinas Mawddwy, yn sôn am ei magwraeth yn Pensarn, Glanywern a Bryntirion gyda hanes ei theulu niferus a lluniau o’i hynafiaid. Bu inni gyd fwynhau ein hunain yn ei chwmni. Enillwyd y rafflau gan Winnie, Glenys, Lorraine a Gweneira. Dal i wella Gobeithio fod Beti Wyn Jones, Pensarn, yn dal i wella ar ôl ei llawdriniaeth a gobeithio y bydd Pat Thomas, Cerrig Gleision, yn troi ar wella’n fuan. Rhoddion Diolch am roddion i Llais Ardudwy gan y Parch Paul Jones, William Large, a Miss Jane Lloyd Hughes.


Ymweliad â Graig Isa

GWASANAETH CADW CYFRIFON ARDUDWY

Cysylltwch â ni am y gwasanaethau isod:

O’r chwith: Dai Miles, Is-lywydd UAC yn genedlaethol; Robert Wyn Evans, Cadeirydd cylch Ardudwy o’r Undeb; Liz Saville Roberts AS; Alun a Moira Jones a Siôn Ifans, Cadeirydd y Sir. Ymweliad UAC â’r Graig Isa, Cwm Nantcol Trefnodd Undeb Amaethwyr Cymru Cangen Meirionnydd ymweliad â Graig Isa, Cwm Nantcol, yng nghanol Chwefror drwy garedigrwydd Alun a Moira Jones a’r teulu. Roedd ein Haelod Seneddol Liz Saville Roberts gyda ni, a chafwyd cyfle i glywed hanes y fferm a’r amaethu yno. Trafodwyd dyfodol a chyfeiriad y diwydiant amaeth, a pha mor bwysig yw gweld ffermydd yr ucheldir ac ardaloedd gwledig yn cael cefnogaeth yn sgil y newidiadau fydd yn ein wynebu yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn i Alun a Moira a’r teulu am y croeso cynnes yno. Rydym yn ddiolchgar dros ben hefyd i Mr Dai Miles, Is-lywydd yr Undeb o Sir Benfro a ddaeth atom ar gyfer yr ymweliad, ac i’r swyddogion a’r aelodau a oedd yn bresennol. Roedd yn sicr yn brynhawn llwyddiannus iawn.

• • • • •

Cadw llyfrau Ffurflenni TAW Cyflogau Cyfrifon blynyddol Treth bersonol info@ardudwyaccounting.co.uk 07930 748930

PWT O ATGOF

Ymweld â D G Thomas, Agri

O’r chwith: Dai Miles, Is-lywydd Cenedlaethol yr Undeb; Siôn Ifans, Cadeirydd UAC Meirion; Robert Wyn Evans, Cadeirydd cylch Ardudwy; Liz Saville Roberts AS ac Will Ellis. Ymweliad UAC â D G Thomas Agri, Llanbedr Bu cyfle hefyd yn ystod y diwrnod i alw heibio Dewi Thomas a Will Ellis o fusnes tractorau a pheiriannau amaethyddol DG Thomas Agri yn Llanbedr efo Liz Saville Roberts AS a swyddogion yr Undeb. Roedd yn gyfle i longyfarch Will ac i ddymuno yn dda iddo yn ei fenter newydd ar y safle. Bydd yn sicr yn cynnig gwasanaeth gwych i berchnogion tractorau a pheiriannau o bob math yn yr ardal, a bydd cyfleusterau’r gweithdy a’i brofiad eang ym maes peirianneg amaethyddol yn werthfawr iawn i’r ardal. Dyma sylwadau Liz Saville Roberts ar ddiwedd y diwrnod; “Dwi’n hynod ddiolchgar i Undeb Amaethwyr Cymru am drefnu ymweliadau â busnes peiriannau D G Thomas Agri yn Llanbedr ac â fferm deuluol Graig Isaf, yn ucheldir Cwm Nantcol. Yn y ddau achos, mae pwysigrwydd cysylltedd band llydan dibynadwy i fusnesau gwledig yn amlwg. Mae D G Thomas yn gweithio i sicrhau gwell cysylltedd gyda ffeibr i’r eiddo, tra bod teulu Alun a Moira Jones wedi buddsoddi mewn rhwydwaith lleol pwrpasol i gefnogi busnesau amaethyddol a lletya”.

Wrth ddarllen erthygl gan fy niweddar ffrind Meurig Hendre Waelod, Cwm Nantcol yn rhifyn diwethaf o Llais Ardudwy am y giatiau terfyn o Rhiw Felin hyd at Faes y Garnedd, mi ddaeth ’na atgofion yn ôl i minnau hefyd. Yr oedd fy nhad Wil Pugh, Llwyn Onn yn rhedeg tacsi tua diwedd y rhyfel, ac yn aml yn cael gwaith o gario pobl o Orsaf Pensarn oddi ar y trên i fyny i Gwm Bychan. Wedyn byddent yn cerdded dros Bwlch Tyddiad drosodd i Drws Ardudwy ac i lawr at y ffordd ym Maesgarnedd. Byddent yn cytuno ar amser eu casglu ger Maesygarnedd. Yr oeddwn i yn gorfod mynd gyda fy nhad i agor y giatiau yn y Cwm, rheini yr oedd Meurig yn sôn amdanynt. Ar y ffordd yn ôl, roeddwn yn gorfod eistedd ar y carier tu ôl i’r car a rhedeg rownd y car i agor a chau’r giât. Un tro, wrth fynd rownd tro cyn giât Cil Cychwyn mi syrthiais oddi ar y carier. Yr oedd yn dda nad oedd fy nhad yn gyrru, a bu’n rhaid i mi redeg ar ôl y car i ddal i fyny â hwy, er mwyn agor y giât. Mwynheis ddarllen yr erthygl a dwyn i gof atgofion hapus iawn yng Nghwm Nantcol. Mangre sy’n golygu llawer i mi hyd y dydd heddiw, a byddaf wrth fy modd yn cerdded o’r Capel i fyny at Maesgarnedd pryd caf y cyfle gyda’m teulu. Elfyn Pugh

Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/ llaisardudwy/docs Llais Ardudwy

SAMARIAID LLINELL GYMRAEG 08081 640123

5


PORI DRWY HEN ENWAU CAEAU Bore gwlyb iawn yma yn y Cwm (Cwm Nantcol) heddiw diwrnod olaf Ionawr. Minnau wedi bod mewn cyfarfod yr wythnos diwethaf yng Nghymdeithas y Cwm (yn Llanbedr) ac wedi cael fy ysgogi gan ddarlith Rhys Gwynn ar enwau yn ardal Dolgellau. Felly dyma geisio arni, nid gorchwyl hawdd, a byddwn yn gwerthfawrogi pe bae chwi ddarllenwyr brwd y Llais yn fy helpu gydag ambell esboniad neu enwau difyr eraill at y casgliad. Mae sawl enw fel cae Ceirch yn cyfeirio at hen batrwm amaethu ’slawer dydd a’r hen gymdeithas honno. Ond mor fuan gall enwau newid – o’r llafar, ac ysgrifenedig. Wrth gwrs, bydd yr enwau yn diflannu yn gyfan gwbwl wrth i’r to hŷn ein gadael. Y mis diwethaf rhoddais ddarn o waith fy nhad yn Llais Ardudwy, a byddaf yn cyfeirio o dro i dro at eiriau yn y darn hwnnw hefyd. Enwau caeaf ein fferm ni sydd gen i y tro yma – Fferm Glanrhaiadr a Hendre Waelod, ac enwau rhai ffermydd o’n cwmpas yn y Cwm. Mae pori drwy map y Degwm 1841 yn agoriad llygaid ac yn rhoi naws gwahanol ar rai o’r enwau yr ydwyf i yn gyfarwydd â hwy. Rhaid hefyd cyfeirio yma fel mae tir a’t ffordd o drin y tir wedi newid o genhedlaeth i genhedlaeth, sydd falle yn rhoi eglurhad i rai o’r enwau hyn. Hefyd, mae terfyn caeau wedi newid mewn ambell fan . Enwau Ffermydd 1841 Twyllnant – yn mynd yn Twllnant Cae’r Gwnog – yn Cae’r Gynog erbyn heddiw. Cilcochion – yn Cilcychwyn Erys y lleill yr un fath. Mae’r map degwm hefyd yn cyfeirio at y preswylydd a’r tirfeddiannwr ar y pryd. Er enghraifft fferm Glanrhaiadr – yn eiddo Edward Mostyn Lloyd, a Griffith Williams yn ei ffermio. Hendre Waelod yn eiddo Edward Jones ac hefyd yn cael ei ffermio ganddo. Ef hefyd oedd perchennog fferm Twllnant, a’i frawd yn ffermio yno. Enwau caeau Cae Odyn bach a Mawr – odyn yn cyfeirio at bopty neu ffwrn i sychu, lle i losgi, carreg galch i wneud calch. Cae batten (ochr ucha’r groesffordd yn yr Hendre) –

6

tybed beth yw’r batten? ‘batingo’ – ceibio tywyrch. Cae Grwn – cae o dan tŷ Glanrhaiadr – mae yn gae eitha crwn o ran siap, ond nid hynny yw’r ystyr. Grwn sydd yma – sef grynnau - y darn o dir rhwng dau gob wrth aredig. Torri grwn wrth aredig. Cae erwarth – wedi mynd yn cae hirwaith – a bellach yn cae Iorwerth Clywais Taid yn cyfeirio ato fel cae hir waith oherwydd y gwaith caled o’i bladuro ers talwm. Wrth reswm mae Erw yn cyfeirio at ddarn neu fesur o dir. Arth – allai fod yn cyfeirio at yr anifail, ond yn debycach ei fod yn sôn am arteithio – poenus – cyfeiriad at y gwaith caled efallai. Henfaes – cyfeirio at y tir ochr uchaf y ffordd yn yr Hendre (gwaelod y ffridd). Buarth eilun – cae bach i ni heddiw, o dan Tŷ’r Hendre. Mae corlan fechan ar ymyl y ffordd. Buarth wrth gwrs yn lle i gadw anifeiliaid. Eilun – delw, rhywbeth i’w addoli. Hyn yn gwneud fawr o synnwyr, felly chwi ddarllenwyr Llais Ardudwy, beth am esboniad? Mae yn Glanrhaiadr 3 cae sef Tyleri, Tylori a Tilori. Y cyntaf sef Tyleri yn cael ei alw yn cae mawr i ni heddiw. Cae gwastad iawn. Er bod y gair TYLE yn cyfeirio at fryn neu riw, mae’r ddau gae arall yn fwy ar lechwedd. Cofiwch mai o’r map degwm 1841 y ceir yr enwau yma, a minnau yn ceisio rhoi dehongliad ohonynt. Cyfar gwyn- eto cyfeirio at yr arfer o aredig. Gottel Tŷ Gwyn – rhwng Twllnant a’r Hendre. A oes esboniad o’r gair gottel? A dyma air yr oedd Dad yn cyfeirio ato yn yr erthygl y mis diwethaf, adwy neu llidiart green, rhwng Cilcychwyn a Maesygarnedd. Ac yn wir i chwi ar y map oedd y geiriau Cimi Crin. A’i yr un lle? Ie, dwi’n credu. Y crin wedi mynd yn green efallai. Lle wedi crino, llosgi. Ond beth am ystyr y gair CIMI? Wel dyna fo am rŵan, gwell cau pen y mwdwl. Gobeithio y cewch fwyniant o’i ddarllen a bydd yn rhoi plwc i’r hen feddwl droi rhywbeth ar bapur. Hwyl fawr Morfudd Hendre

LEWIS EVANS ‘Y CERDDOR’ - rhan 2

Lewis Evans Fel y nodwyd, fel cerddor neu arweinydd corawl yr arbenigodd Lewis Evans ei hun. Yr oedd wedi treiddio yn ddwfn i egwyddorion cerddoriaeth, ac ymhyfrydai mewn astudio gweithiau clasurol prif gerddorion y byd. Yn syth ar ôl diwedd y Rhyfel Cartref ymunodd yn aelod o bedwarawd gydag E O Jones, John Williams a John M James. Yn Chwefror 1882, bu i aelodau Capel (A) Cymraeg, Racine, gydnabod ei lafur a’i ffyddlondeb fel arweinydd y gân yno, trwy ei anrhegu ag organ hardd. Hefyd, ei anrhegu gan aelodau Côr Unedig Racine, â chadair esmwyth, eto fel gwerthfawrogiad ohono fel eu harweinydd. Ym mis Ebrill 1883, cynhaliwyd cystadleuaeth cerddorol, pryd yr oedd y Cymry yn chwarae rhan helaeth ynddi. Diben y gystadleuaeth oedd chwyddo cronfa Racine ar gyfer adeiladu cofgolofn mewn lle cyhoeddus i’r milwyr a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Cartref. Yr oedd tua deunaw o ddarnau wedi cael eu rhoi allan yn y gystadleuaeth. Daeth y Cymry allan yn fuddugoliaethus ar fwy na’r hanner, a hefyd y rhai pwysicaf. Priodolwyd y llwyddiant i’r arweinyddion, sef Lewis Evans ac Elias J Prichard. Proffeswr Root, o Chicago, oedd y beirniad. Gwnaed elw o thua $400. Er mai fel arweinydd Cymraeg y cyfeirir ato yn bennaf, teg yw dweud mai ef oedd prif arweinydd Racine ymysg unrhyw genedl. Bu hefyd yn llwyddiannus fwy o weithiau mewn ymgyrchoedd Eisteddfodol yn neilltuol, yn Chicago, Milwaukee, ac yn y blaen. Yn 1899 enillodd Côr Lewis Evans, 70 o leisiau, $500 yn Eisteddfod Calan Racine. Cyflogwyd ef yn flynyddol i arwain y canu mewn amryw o addoldai Racine yn ystod ei oes, gan gynnwys Eglwys Ann Street, Racine Junction, a bu am flynyddoedd hyd nes i’w olwg amharu arno, yn arweinydd Côr Meibion Belle City, cymdeithas o gantorion sefydlog a roddai gyngherddau yn gyfnodol. Ar ôl iddo ymneilltuo o’r byd cerddorol, ymgymerodd ei gôr â rhoi cyngerdd mawreddog iddo, fel gwerthfawrogiad o’i waith gyda hwy ar y dealltwriaeth mai ef fyddai yn eu harwain. Cynhaliwyd y cyngerdd ar 20 Ionawr 1914, yn yr Association Hall, Racine, i’w anrhydeddu. Er na fu y côr yn ymarfer nesaf peth i ddim cyn hynny, sef bron i dair blynedd, oherwydd pall iechyd Lewis Evans, arweiniodd y cyfan yn hollol o’i gof, fel bod y côr y canu yn ardderchog ac mewn perffaith cytgord, ac yr oedd y cynulliad wedi gorlenwi y neuadd eang. Bu farw 15 Rhagfyr 1915, yn ei gartref 1223 Stryd Racine, Racine, a’i gladdu ym Mynwent Mound yn y ddinas. Dywedodd un o’r papurau Saesneg amdano “Lewis Evans, the peerless bader of the Belle City Male Choir, and one of the best musical critics in the State, died early this morning after an extended illness at the age of 70 years”. W Arvon Roberts, Pwllheli.


ATGOFION CHWERW FELYS Trefnwyd noson ddifyr iawn yn Neuadd Llanbedr ar nos Fawrth, Chwefror 18, pan ddaeth tyrfa dda o bobl ynghyd i fwynhau noson gymdeithasol yn gwylio fidoes o’r gorffennol yng nghwmni aelodau o Gôr Meibion Ardudwy. Daeth nifer dda o gyfeillion y Côr atom i rannu atgofion a mwynhau noson o atgofion chwerw felys wrth iddyn nhw fwrw golwg ar rai o’r lluniau, dogfennau a’r arteffactau sydd wedi eu casglu dros y blynyddoedd. Trefnwyd lluniaeth ysgafn a raffl gan Rhian Davenport, Rona Jones, Meryl Jones a Morfudd Jones a chyflwynwyd y £265 o elw i’r Ambiwlans Awyr ar ddiwedd y noson. Cewch chithau gyfle ar y dudalen hon i adfyfyrio am rai o gewri’r gorffennol ac ambell un sy’n dal yn y tresi.

7


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Festri Lawen, Horeb Nos Iau, 13 Chwefror, cawsom gwmni criw o bobl ifanc o Ysgol Ardudwy, ynghyd â’u hathrawes gerdd Miss Lona Williams. Croesawyd hwy atom gan lywydd y noson, Anwen, ac roeddem yn falch o gael cwmni nifer o’u rhieni a ddaeth â nhw atom ac aros i’w cefnogi. Cafwyd amrywiaeth o berfformiadau gan y bobl ifanc sy’n ddisgyblion o Blwyddyn 7 i Blwyddyn 10. Cafwyd unawdau gan Jade, Summer a Nel, unwad ar y cornet gan Elsie Bisseker gyda’i brawd David yn cyfeilio iddi ac unawd ar y ffliwt gan Chloe, unawdau ar y piano gan David Bisseker ac unawdau ar y delyn gan Erin Lloyd sydd yn perthyn i Gôr Telyn Meirionnydd ac unawdau ar y piano gan Erin Mitchelmore. Cafwyd perfformiadau gan yr ensemble offerynnol hefyd gyda David ar y piano, Miss Lona Williams ar y delyn a Morgan ar y drymiau ac yna Llŷr ar y drymiau. I gloi’r noson, cafwyd deuawd gan David ar y piano a Miss Lona Williams ar y delyn yn perfformio ‘You raise me up’. Cawsant wrandawiad astud iawn gan y gynulleidfa ac roedd yn braf cael cwmni’r bobl ifanc ac yn gyfle iddynt hwythau berfformio o flaen cynulleidfa niferus a magu hyder. Diolchodd Anwen yn ddiffuant iddynt hwy a’u hathrawes gan eu hannog i ddal ati i ymarfer a pherfformio. Bydd cyfarfod ola’r tymor ar 12 Mawrth. Cinio Gŵyl Ddewi yn Nineteen.57 a chwmni Myrddin ap Dafydd. Clwb Cinio Ar 17 Mawrth bydd y clwb cinio yn cyfarfod yn y Cross Foxes ger Dolgellau, am hanner dydd. Cyfarfod Gweddi Chwiorydd y Byd Cynhelir y cyfarfod yn Festri Horeb, ddydd Gwener, 6 Mawrth, am 2 o’r gloch. Dewch i ymuno â ni ac i gael paned a sgwrs wedi’r cyfarfod. Diolch Diolch am rodd i Llais Ardudwy gan Mr Cyril Jones.

8

Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn y neuadd bentref bnawn Mercher, 19 Chwefror. Ar waetha’r tywydd roedd nifer dda yn bresennol. Croesawyd pawb gan Gwennie a anfonodd ein cofion at aelodau oedd yn methu bod gyda ni - Mrs Cartwright, Miss L Edwards, Mrs Elinor Evans, Mrs Enid Thomas a Mrs Elizabeth Jones. Rydym yn gweld eu colli. Yna cyflwynodd a chroesawodd Mrs Sheila Maxwell atom. Daeth Mr a Mrs Maxwell i fyw i Harlech yn 1986. Un o Sir Gaerfyrddin yw Sheila’n wreiddiol. Bu’n gweithio yn y coleg yn Harlech am 9 mlynedd. Fe’i gwelwyd ar y rhaglen Waliau’n Siarad am Goleg Harlech ac mae nifer fawr o’r llyfrau o’r coleg yn cael aros yn Harlech yn yr hen lyfrgell ac i ymroddiad Sheila mae’r diolch am hynny. Testun ei sgwrs oedd Laura Ashley ac fe gafwyd pnawn diddorol iawn yn ei chwmni yn adrodd hanes Laura Ashley a’i gŵr a hanes sefydlu’r cwmni a’r llwyddiant a gawsant. Sefydlodd y ddau Gronfa o Ymddiriedolwyr i helpu prosiectau mewn cymunedau yng Nghymru ac mae Sheila’n gweithio i’r Gronfa. Roedd wedi dod a rhai o ffrogiau Laura Ashley i’w dangos ac roedd sawl un wedi bod yn berchen ar ffrog gan Laura Ashley. Diolchodd Gwennie i Sheila am brynhawn bendigedig a phawb wedi mwynhau. Ar 18 Mawrth byddwn yn cael cwmni plant yr ysgol gynradd.

Bu disgyblion Ysgol Dyffryn Ardudwy yn dathlu Dydd Gŵyl Ddewi. Cafwyd Eisteddfod Ysgol yn y bore. Bu’r disgyblion hefyd yn ymarfer canu ‘Mae Hen Wlad fy Nhadau’ a chafwyd sesiynau ymarfer sgiliau rygbi yn ystod y dydd. Cofion Anfonwn ein cofion at Mrs Ann Price, Bro Enddwyn, sydd yn gwella ar ôl llawdriniaeth fawr yn Ysbyty Glan Clwyd. Rydym hefyd yn meddwl am Mrs Pat Thomas, Cerrig Gleision, sy’n bur wael yn Ysbyty Maelor. Clwb Garddio Sefydlwyd Clwb Garddio Dyffryn a Thal-y-bont 60 o flynyddoedd yn ôl a bu’n glwb llwyddiannus iawn ac yn cynnal Sioe Wanwyn a Sioe Haf yn flynyddol. Trist yw clywed y bydd y Clwb yn cael ei ddirwyn i ben ar 20 Ebrill, ond cynhelir y Sioe Wanwyn yn Neuadd yr Eglwys ar 18 Mawrth am 2.00 o’r gloch.

LLECHEN GOFFA

Yn ddiweddar rhoddwyd llechen goffa ar garreg yn ffridd Caerffynnon lle gwasgarwyd llwch tair chwaer, Margaret, Laura ac Alwyna, a aned ac a fagwyd yng Nghaerffynnon, amser maith yn ôl. Mae’r llechen yn ddwyieithog oherwydd fod teulu Alwyna wedi eu geni a’u magu yn Awstralia. Bydd yn gysur iddynt hwy, ac i’r teulu oll, fod ganddynt le i fynd i gofio amdanynt.

Gwasanaethau’r Sul Horeb MAWRTH 8 – Anthia a Gwennie 15 – Geraint a Meinir Lloyd Jones 22 – Parch Huw Dylan Jones 29 – Parch Dewi Lewis EBRILL 5 – Jean ac Einir

Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd

Tel: 01341 247799 www.smithygarage-mitsubishi.co.uk smithygaragedyffryn

smithygarageltd

Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes


Teyrnged GWYLFA ROBERTS, 6 Pentre Uchaf, Dyffryn a fu farw ar Ragfyr 3ydd 2019. Fe’i rhoddwyd i orffwys yn y Fynwent Newydd yn dilyn gwasanaeth dan ofal y Parch Brian Evans yng Nghapel Horeb, Dyffryn ar Ragfyr 10fed. Atgofion a draddodwyd gan ei chwaer, Eirian Owen, yn y gwasanaeth.

Gwylfa - mab caredig, tad, taid a thad yng nghyfraith balch, brawd ffyddlon, a chyfaill i lawer. Sgwrsiwr diddan, tynnwr coes, ffwtbolar, canwr, pysgotwr. Ganwyd Gwylfa ar Awst 19eg 1940 ar dyddyn Wernddu yng Nghwm Penantlliw, yn ail fab i mam a nhad, Bob a Kate. Y cof sydd gen i o’r cyfnod yma ydy aelwyd fywiog a phrysur, llawn chwerthin a thynnu coes. Yn dair oed, roedd Gwylfa’n gallu sefyll o flaen cynulleidfa i ganu cerdd dant; mam oedd y trênar ac roedd hi yn adrodd hanes y pwtyn bach teirblwydd yn ennill calon y gynulleidfa a’r beirniad yn Steddfod y Llungwyn. Daliodd ati i ganu nes i’w lais ddechre torri. Roedd yn un da ei ddwylo a thra’n ddisgybl yn yr Ysgol Goch yn Y Bala enillodd y wobr gyntaf am wneud ceffyl pren yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Abertridwr ym 1955. Pan oedd Gwylfa yn ei arddegau hwyr sefydlwyd Clwb Pêl-droed Llanuwchllyn. Gemau cyfeillgar i ddechrau cyn i’r clwb ymuno â chynghrair y Cambrian Coast; roedd Gwylfa’n fodlon chwarae yn unrhyw safle ar y cae neu yn y gôl. Priododd Gwylfa ag Ella fis Mawrth 1963 a symud i fyw i Shelbourne Flats yn y Bermo. O fewn blwyddyn roedd ’na fabi bach wedi cyrraedd - Arfon - un bach tlws iawn ond digon swnllyd ac anodd ei gael i gysgu. Un ffordd sicr o’i gael i gysgu oedd mynd a fo yn ei carry cot am dro yn y car. Gallwch ddychmygu’r sioc gafodd plisman pan stopiodd o Gwylfa yn ei gar un noson a gofyn, “Be ti’n neud?” a chael yr ateb “Trio cael y babi ’ma i gysgu!” Symudodd y teulu bach i fyw yn Nhŷ Capel Rehoboth yn y Dyffryn a thyfodd Arfon i fod yn fachgen ifanc cefnogol a gofalus iawn o’i rieni. Ymhen amser, priododd â Diane, perl o ferch yng nghyfraith a safodd wrth ei ysgwydd dros y blynyddoedd tra bu’n gofalu am ei rieni. Roedd cwpan y teulu’n llawn pan anwyd Cara; hi oedd cannwyll llygad Gwylfa - y ddau yn mwynhau herio’r naill a’r llall - ond yn fêts mawr - a bonws i Gwylfa oedd bod gan Cara lais canu hyfryd. Fu rioed daid balchach na fo pan raddiodd Cara a llwyddo i gael gwaith ac, yn ddiweddarach, pan briododd hi ac

TAID - Atgofion Cara Betty, wyres Gwylfa

Arwyn fis Mai diwethaf. Yn y cyfnod cynnar, dreifio loris anifeiliaid i Edwards & Son ym Mhenygeulan, Llanuwchllyn oedd Gwylfa ond, wedi priodi, roedd teithio o’r Bermo i Lanuwchllyn yn dipyn o dreth ac aeth i ddreifio bysus Crosville am blwc cyn dychwelyd i fyd anifeiliaid i ddreifio loris i Ismael, Talgarreg, Llanbedr. Yn dilyn cyfnod o bryder am ei iechyd, bu’n rhaid chwilio am waith llai corfforol a chafodd swydd fel trafaeliwr i gwmni Tithebarn yn gwerthu bwydydd anifeiliaid a daeth i adnabod ffermydd a ffermwyr ar hyd a lled Meirionnydd a’r cyffiniau. Yn ôl rhai oedd yn gyfarwydd â’i ddull o werthu, fyddai o ddim yn gwthio ei nwyddau ond, yn hytrach, yn ennill calon ei gwsmeriaid trwy sgwrsio a dangos diddordeb ac weithiau, estyn cydymdeimlad pan oedd ambell ffarmwr yn cwyno ar ei fyd. Oherwydd hyn, roedd yn werthwr cymeradwy, yn ennyn parch ei gwsmeriaid ac yn llwyddo i’w cael i wario. Yn ei amser hamdden, roedd yn mwynhau pysgota yn nhawelwch Bodlyn. Yn y dyddiau cynnar hynny roedd temtasiwn ambell dro yn llechu dan dorlan yr afon a chafodd Gwylfa, Gwynedd a’u ffrindiau direidus ddihangfa rhag ciperiaid afon fwy nag unwaith. Ymunodd â Chôr y Brythoniaid tua 1980 gan fwynhau blynyddoedd o grwydro i gyngherddau gan gynnwys taith i An Orient (Lorient) yn Llydaw a thaith i Galiffornia, taith a roddodd iddo fo ei gyfle cyntaf i hedfan mewn awyren a dyna brofiad dychrynllyd oedd hwnnw. Mi dreuliodd wythnos gyfan yng Nghaliffornia yn poeni y byddai’n rhaid iddo fo hedfan yn ôl adre - ac nid aeth o byth ar gyfyl awyren wedyn. Gwylfa fu’n bennaf gyfrifol am fy mherswadio fi i adael i Gôr Godre’r Aran gystadlu am y tro cyntaf erioed fel côr meibion a hynny yn Eisteddfod Llanrwst yn 1989. Ymunodd â ni fel aelod dros dro ar gyfer y gystadleuaeth ac mi enillson ni y wobr gynta. Fo oedd y balcha’ ar y Maes ac yn brolio na fasen ni wedi cystadlu o gwbl heblaw amdano fo. O fewn ychydig

Diolch am ddod i gyd-ddathlu bywyd Taid, a diolch hefyd i bawb am bob cymorth a charedigrwydd dderbyniodd o yn ystod ei fywyd, ac yn arbennig dros y 5 mis diwethaf. Rwy’n siŵr bod nifer ohonoch chi wedi clywed y dywediad, “Fi bia Taid a Taid bia fi”. Wel, mae hyn yn wir bob gair am ei berthynas o a fi. Ro’n i’n lwcus iawn yn cael mynd i aros yn Dyffryn yn aml ac mae’r atgofion yn felys iawn. Mae pob atgof sydd gen i o Taid yn gwneud imi chwerthin ac yn dangos ei gymeriad i’r dim. Dwi’n cofio, pan oeddwn yn blentyn, fel roedd ganddo fo bob amser amynedd i chware steddfod efo fi; Taid oedd yn cymryd rhan yr arweinydd oedd yn galw cystadleuwyr i’r llwyfan a fo hefyd oedd y beirniad felly roeddwn i yn lwcus iawn o gael y wobr 1af ganddo bob tro! Dwi’n siŵr bod hynny wedi bod yn help imi gyrraedd lle’r ydw i heddiw efo fy nghanu; roedd o mor gefnogol ohono i ac wrth gwrs yn deud mai ganddo FO y cefais y ddawn i ganu. Dwi’n ei theimlo’n fraint i gael canu cân o ffarwel iddo fo heddiw tra byddwn yn cerdded allan o’r capel a dwi mor falch mai Eirian sydd yn cyfeilio imi. Atgof arall sydd gen i o’r amser pan fyddwn yn aros efo Taid ydy fel y byddwn yn treulio oriau efo fo yn y car; roedd yn mynd â fi i bobman gan adrodd hanes yr ardal. Roedd hyn yn dal i ddigwydd hyd y diwedd ond FI oedd rŵan yn dreifio a Taid yn rhoi ordors lle i fynd a be’ i neud; ac, wrth gwrs, doedd fy nghar i byth cystal â’i un o. Un ffrind fu yn driw iawn iddo dros y 5 mis diwethaf, ac wrth ei ymyl bob amser, oedd ei ffon; un a gafodd gan Jo Lloyd, Dyffryn ac, wir i chi, hon oedd y ffon orau a wnaed erioed. Tra yn yr ysbyty roedd Taid wrth ei fodd yn bachu bagl y ffon rownd y ffrâm ar draed y gwely a thynnu arni er mwyn codi o orwedd i eistedd, a’r nyrsus i gyd yn meddwl ei fod yn dric ffantastig, medde Taid. Roedd yn Evertonian i’r carn ac roedd llun o Goodison Park yn cael lle parchus yn ei fflat. Mi fum i’n lwcus i gael Taid wrth fy ochr fis Mai pan briododd Arwyn a fi; er nad oedd o yn hapus iawn fy ngweld yn newid fy enw o Roberts i Morris. Ychydig fisoedd yn ôl, cefais y fraint o ddeud wrth Taid bod aelod newydd o’r teulu am ymuno efo ni fis Mai nesa ac anghofia i fyth y balchder yn ei wyneb wrth sgwrsio. Er y tristwch o golli “boss” ein teulu ni, mae UN peth sy’n gwneud y golled yn haws i’w diodde a hynny ydy gwybod ei fod o a Nain rŵan efo’i gilydd ac y bydd y ddau yn edrych dros dad a fi am byth. Diolch, Taid, am fod yn TI, ac am fod y Taid mwyaf doniol a chariadus a fu erioed. Mêts am byth. Cariad mawr, Cara Betty flynyddoedd, penderfynodd adael y Brythoniaid a dod yn aelod llawn o Godre’r Aran. Roedd wrth ei fodd yn canu ac mor gefnogol i mi; mae colli Gwylfa yn golygu bod un o fy ffans mwyaf i wedi mynd. Ella a Gwylfa. Dau gariad am bron i 40 mlynedd - a phan fu farw Ella yn ddim ond 59 oed yn y flwyddyn 2000 rhwygwyd bywyd Gwylfa. Yn ogystal â cholli Ella, dioddefodd afiechyd milain ac, yn ddiweddarach, amharodd damwain ar ei ffitrwydd corfforol. Parhaodd i ymddiddori mewn pêl-droed gan fynd i wylio gemau yn y Bermo a Phorthmadog, a daliodd i ganu gyda Godre’r Aran hyd 2009 pan aeth dringo i lwyfan yn dasg rhy anodd iddo. Ond cai bleser o fynd i gyngerdd pan ddoi cyfle ac un o uchafbwyntiau pob blwyddyn oedd mynychu Cyngerdd Blynyddol Côr Godre’r Aran. Siom anferth i Gwylfa oedd cau Capel Rehoboth, ag yntau ac Ella wedi gofalu am yr adeilad a pharatoi ar gyfer gwasanaethau ers degawdau. Symudodd yn anfoddog o’r Tŷ Capel i fflat ym Mhentre Ucha tua 9 mlynedd yn ôl ond er y newid mawr, cartrefodd ar unwaith yn niddosrwydd a

chynhesrwydd ei fflat fach. Fis Gorffennaf diwethaf, lloriwyd ef gan y newyddion gwaetha bosib ond mynnodd ddychwelyd adre i Bentre Uchaf gan ymladd i fyw bywyd mor normal â phosib o dan amgylchiadau creulon. Bu Arfon yn graig o gefnogaeth iddo, gan ddelio efo pob problem gyda’r frawddeg, “Gad o i mi, Dad”. Dwi am gyfeirio yn arbennig at David a Nigel o Gwmni Aykroyd am fod yn rhyfeddol o hael trwy roi amser i Arfon ofalu am ei dad yn ei waeledd. Gwrthododd Gwylfa ildio, daliodd ei ffydd, a daliodd i obeithio ac edrych ymlaen gan ddangos cryfder cymeriad neilltuol. Anodd i ni, ei deulu agosaf, oedd ei weld yn dihoeni ond roedd ei ysbryd annibynnol, ei benderfyniad a’i awch am gael byw yn esiampl a gwers i ni i gyd. Petai o yn un am siarad Saesneg, a doedd o ddim, mi allai fod wedi cau’r llenni ar y byd yma trwy ddeud, “ I did it MY way”. EO Derbyniwyd £850 mewn cyfraniadau er cof am Gwylfa a throsglwyddwyd y swm hwn i Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd.

9


CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT

Arwydd y Gwanwyn Yn dydyn ni’n lwcus fel Cymry? Yn y Ddraig Goch mae gennym y faner orau yn y byd, heb amheuaeth, a beth well na’r cennin Pedr fel arwyddlun? Mae hanes go iawn y tu ôl i’r faner, wrth gwrs, a gallwn ni fynd i Ddinas Emrys, ger Beddgelert, a sefyll uwchben lle roedd y Ddraig Goch a’r Ddraig Wen yn ymladd. Ond dydy’r stori yna ddim yn wir, meddech chi, ond a ydych chi’n hollol siŵr? Roedd ein gelynion dros y ffin yn gwybod bod dreigiau yng Nghymru oherwydd ar y mapiau cynnar doedd dim manylion i’w dangos yn ein gwlad ddewr ni, dim ond y frawddeg ‘Here be Dragons’! Yn fy nyddiau i yn yr ysgol go brin y byddai’r cennin Pedr mewn blodau ar gyfer diwrnod ein nawddsant a’r cennin roedden ni’n ei wisgo i’r ysgol ar ddydd Gŵyl Ddewi. Bechgyn drygionus oedden ni wrth gwrs a’n harfer oedd cnoi’r dail agosaf at ein cegau. Roedd neuadd yr ysgol yn llawn o arogl cennin yn ystod y gwasanaeth boreol. Plant, ynte! Roeddwn i’n synnu gweld cennin Pedr yn ei flodau y tu allan i’r capel lle mae’n cymdeithas Cymraeg yn cyfarfod a hynny ar y 13eg o fis Ionawr! Tybed a oedd hyn yn arwydd o’r newid hinsawdd? Dw’n i ddim, ond mae’r sinig ynof fi yn meddwl mai rhywbeth i’w wneud efo’r diwydiant blodau ydy hynny, wedi bod yn gweithio ar fagu gwahanol straen i ehangu’r tymor, siŵr o fod. Ond dydw i ddim yn cwyno - mae’r blodyn yn ein sicrhau bod tymor y gwanwyn ar y ffordd a’r byd yn ailddechrau efo bywyd, a lliwiau, newydd. Ardderchog! Dewch efo ni i fwynhau ein cefn gwlad ac edrychwch ar ein gwefan cymdeithasedwardllwyd.cymru i weld a ydan ni’n cerdded yn eich ardal. Bydd croeso mawr i chi! Rob Evans

YN EISIAU

IS-OLYGYDDION I’R PAPUR HWN Llais Ardudwy

ENGLYN DA

Clwb 200 Côr Meibion Ardudwy CHWEFROR 2020 1. Geraint Williams £30 2. Iorwerth Davies £15 3. Hari Jones £7.50 4. Siân Edwards £7.50 5. Huw Dafydd £7.50 6. Iolo Williams £7.50

CYMRU Cymru lân, Cymru lonydd, - Cymru wen, Cymru annwyl beunydd; Cymru deg, cymer y dydd, Gwlad y gan, gwêl dy gynnydd. Thomas Jones [Taliesin o Eifion] 1820-1876 10

CYHOEDDIADAU’R CADEIRYDD Rhoddodd y Cadeirydd groeso i Kathleen Aikman i’w chyfarfod cyntaf o’r Cyngor a dymunodd yn dda iddi yn y dyfodol. CEISIADAU CYNLLUNIO Cais llawn i godi dau dŷ deulawr ar wahân gyda garejis mewnol Tir rhwng Plas Meini a Swyn y Môr, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn er fod pryderon gan yr aelodau gyda’r fynedfa. Tystysgrif Defnydd Cyfreithiol (Defnydd Presennol) i osod 2 garafan statig a 2 garafan deithiol - Tir yng Ngwesty Cadwgan, Dyffryn Ardudwy. Nid barn y Cyngor Cymuned sydd ei angen ond yn hytrach gwybodaeth bersonol gan Gynghorwyr unigol o ddefnydd y tir yma yn ystod y ddeng mlynedd ddiwethaf. MATERION YN CODI Grŵp Gwella Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont Adroddodd y Cyng Steffan Chambers y bydd dyddiad i gynnal cyfarfod wedi ei gadarnhau erbyn diwedd yr wythnos; hefyd bod cyfarfod o bwyllgor y clwb pêl-droed yn cael ei gynnal nos Sul y 9fed am 6.00 o’r gloch. Cafwyd gwybod bod rhai’n pryderu ynglŷn â’r ffens sydd o amgylch y cae pêl-droed a chytunwyd i anfon llythyr at Adra i ofyn beth yw eu bwriad gyda’r tir; hefyd i ofyn a ydynt yn bwriadu adnewyddu’r ffens gyfan. Y Neuadd Bentref Cafwyd gwybod mewn adroddiad blaenorol gan Eryl Jones Williams bod y pedwar cynghorydd a oedd wedi eu penodi fel Ymddiriedolwyr newydd wedi cyfarfod, a bod Cadeirydd ac ysgrifennydd dros dro wedi eu penodi. Bu’n rhaid gwneud hyn er mwyn cydymffurfio â’r rheolau a bydd cyfarfod blynyddol ffurfiol yn cael ei gynnal yn y dyfodol. Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn anfoneb gan Snowdonia Fire and Security am waith a wnaed yn y Neuadd a chytunwyd iw basio ymlaen i bwyllgor y Neuadd. Cynhelir cyfarfod nesaf pwyllgor y Neuadd ar y 13eg o’r mis hwn. UNRHYW FATER ARALL Cafwyd gwybod bod y llwybr troed rhwng Ffordd Benar a Ffordd Isaf mewn cyflwr drwg, bod coed i lawr ar draws y llwybr, a bod y llwybr yn llawn o fwd ac wedi gorlifo. Cytunwyd bod y Clerc yn cysylltu gyda’r Swyddog Llwybrau yn yr Adran Briffyrdd yn Nolgellau.

CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF

MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod

Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant PORTHMADOG 01766 512214/512253 60 Stryd Fawr

PWLLHELI 01758 612362 Adeiladau Madoc

office@bg-law.co.uk

ABERMAW 01341 280317 Stryd Fawr

Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd …


Y BERMO A LLANABER Cymdeithas Gymraeg Bermo a Merched y Wawr

PANED A SGWRS DYSGWYR MEIRIONNYDD

Ar nos Lun, Chwefror 10, croesawyd Cwmni Drama Dinas Mawddwy i Theatr y Ddraig. Daeth cynulleidfa dda iawn i fwynhau y ddwy ddrama. ‘Ffesant i Swper’ gan Ifan Gruffydd oedd y ddrama a berfformiwyd gan y criw hŷn gyda chriw Ffermwyr Ifanc Dinas

Mawddwy yn perfformio ‘Brân i Frân’ gan Emrys Owen. Bu i’r cwmni ifanc gystadlu yn Rhydymain ar y nos Fercher ganlynol a llwyddo i ddod yn ail yn y Sir. Cafwyd noson hwyliog a diolch i bawb am gefnogi. Nos Fercher, Mawrth 4 bydd Mair Tomos Ifans yn dod atom i Hendrecoed Isaf i ddathlu Gŵyl Ddewi. Croeso i bawb. Yna ar nos Fercher, Mawrth 18, cynhelir ein cyfarfod blynyddol byr am 7.00 gyda sgwrs a sleidiau i ddilyn. Dowch draw am dro.

TOYOTA HARLECH

COROLLA HYBRID NEWYDD

Dewch i roi cynnig ar yrru’r Corolla newydd! Mae ’na ganmol mawr i hwn! facebook.com/harlech.

Roedd hi’n braf gweld Caffi’r Castell, Harlech o dan ei sang a bob bwrdd yn llawn ddydd Llun cyntaf mis Chwefror, a’r caffi yn llawn o ddysgwyr Cymraeg brwdfrydig ac angerddol. Yn wir roedd pob cornel o’r caffi yn llawn a dysgwyr wedi dod o bob cwr o Feirionnydd ar gyfer y sesiwn paned a sgwrs. Roedd ymateb y dysgwr i’r sesiwn hon yn heintus iawn, ac roedd yn deimlad braf gweld y dysgwyr o bob lefel yn cymdeithasu ac annog ei gilydd i siarad Cymraeg. Roedd sawl dysgwr sydd wedi bod yn dysgu ers blynyddoedd ac yn rhugl bellach wedi dod draw, a rhai newydd ddechrau ar y cwrs Mynediad wedi dod at ei gilydd, ac roedd pob un yn dangos diddordeb ac yn helpu ei gilydd ynganu geirfa a phatrymau Cymraeg. Yn ogystal, hoffem ddiolch yn fawr i siaradwyr Cymraeg a ddaeth i’r sesiwn; roedd cael siarad efo Cymry Cymraeg yn gyfle i godi hyder y dysgwyr, a braf oedd gweld eu cefnogaeth hwythau hefyd. Yn sicr, ar ôl ymateb mor dda i’r sesiwn hon, byddwn yn cynnal un arall, lle bydd cyfle i ddysgwyr ddod am sesiwn anffurfiol i ymarfer siarad yr iaith y tu allan i’r dosbarth.

Ffordd Newydd Harlech LL46 2PS 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@harlech.toyota.co.uk Twitter@harlech_toyota

11


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Diolch Dymuna Mari, Ann a’r teulu ddiolch i bawb am eich cefnogaeth yn 2019. Llwyddwyd i godi £500 a rennir unwaith eto yn gyfartal rhwng Ysgol Hafod Lon a Thŷ Gobaith. Diolch o galon i Glyn a Medwyn (yn Siop Gigydd Penrhyn) am werthu’r cardiau Nadolig ar ein rhan. Llawer o ddiolch i chwi fel teulu am eich cefnogaeth i holl weithgareddau lleol. Diolch a rhodd o £10 Genedigaeth Llongyfarchiadau mawr i Arfon a Rhiannon Williams ar enedigaeth eu mab, Tomos Osian ddydd Mawrth, 18 Chwefror, brawd bach i Shannon, ŵyr i Meredydd a Lyn, Ty’n Fron, a gor-ŵyr i Gruffydd Dei a Maureen, Cefntrefor Fawr ac i Alan a Shirley, Beulah Cottage, Harlech. Newyddion ardderchog i’r teulu i gyd. Croeso adref Hefyd, mae’n dda cael estyn croeso cynnes adref i Maureen, Cefntrefor Fawr yn dilyn ei llawdriniaeth yn Ysbyty Wrecsam yn ddiweddar. Daeth gartref ar y dydd Mercher canlynol i enedigaeth Tomos Osian ac roedd hyn yn calonogi’r teulu i gyd wrth iddynt allu mwynhau dau achlysur arbennig. Pob dymuniad da am wellhad buan i ti Maureen a chofion cynnes oddi wrth dy ffrinidau i gyd.

DAU LUN

Penbryn-pwll-du, Llandecwyn Yn y llun mae fy nain, fy mam, fy mrawd John yn y goets, a minnau. 1947 oedd y flwyddyn, ar ôl un o’r gaeafau caletaf mewn cof. Wedi gadael y llynges fasnachol ar ddiwedd y rhyfel, cafodd fy nhad ei hun yn ddi-waith ac heb gartref iddo ef, fy mam a minnau. Pan fudodd fy ewythr John a’m modryb Gwen Hughes i’r Barcdy yn 1945, o Benbryn-pwll-du, wedi ffermio yno ers dydd eu priodas yn 1935, aeth fy rhieni a minnau i fyw yno am tua dwy flynedd. Roedd angen parhau i redeg y fferm am gyfnod cyn i’r denantiaeth ddod i ben a chafodd fy nhad y gwaith hwnnw. Ganwyd fy mrawd, John, yno fis Tachwedd 1946. Y perchennog bryd hynny oedd Mrs Inge (teulu’r Oakeley, Plas-tan-y-bwlch). Gwerthwyd y fferm i ŵr a gwraig o Birmingham maes o law ac yna bu llawer tro ar fyd yno. Mae’n blasty moethus heddiw ac ar werth am oddeutu wyth can mil o bunnoedd. Byddai fy Nain Stiniog, sydd yn y llun (a gafodd ei magu yn y Groesnewydd, Llandecwyn) yn dod ar y bws o’r Blaenau at Bower Hows Maentwrog ac yna’n cerdded y llwybr i fyny i Benbryn-pwll-du. Cariai becynnau hefo hi, yn cynnwys plancedi i’n cadw’n gynnes rhag ofn i ni rewi! Roedd y lluwch eira’n chwythu drwy’r to ar ein gwlâu y gaeaf hwnnw. Led cae o’r tŷ, roedd hen gapel Llenyrch a oedd, erbyn hynny, wedi cau, ac yn ddim ond lloches i ambell i ddafad bellach. Mae gennyf gof fod yno ryw fath o bulpud a meinciau ac fod Nain wedi mynd â fi yno am dro a’n bod wedi dweud gweddi fach a chanu emyn. Prin ddwyflwydd oed oeddwn i ar y pryd ond cofiaf y digwyddiad yn glir. Y fferm agosaf i ni oedd Llenyrch. Yno roedd Dafydd Williams a Mrs Williams a’u naw plentyn yn byw. Roedd y plant dipyn yn hŷn na fi a chofiaf mor annwyl a charedig oedd y teulu cyfan; halen y ddaear. Cofiaf i Gwynfor, un o’r hogiau iau, pan ddaeth i Benbryn-pwll-du rhyw ddiwrnod, fy rhoi i eistedd mewn rhyw hen goets a mynd i hel wyau i Mam. Roedd yn gwthio’r goets gan redeg nerth ei draed, dros gerrig garw’r buarth nes oeddwn i a’r wyau yn bownsio. S’gen i’m cof faint o’r wyau oedd yn gyfa ond roeddwn i wrth fy modd hefo’r reid! Pan ddaeth y cyfnod byr hwnnw i ben, symud i Foel-y-glo fu ein hanes wedyn a stori arall ydi honno. AR

Merched y Wawr Derbyniwyd gwahoddiad gan Gangen Harlech i ymuno â hwy yn Neuadd Llanfair nos Fawrth, 4 Chwefror i glywed sgwrs gan y Parch Christopher Prew, Gweinidog Capel y Porth, Porthmadog. Cafwyd pleser mawr wrth wrando arno’n sôn am y dylanwadau fu arno yn ystod ei fywyd, a’i fryd ers pan yn ifanc iawn i fod yn Weinidog. Wedi graddio o’r Coleg treuliodd chwe mis yn y Maes Cenhadol Cymraeg yn yr India a chafwyd dipyn o’i hanes o’r cyfnod hwnnw. Yna soniodd am fynd gyda CWM i gynhadledd yn Johannesburg am ddeng niwrnod, ac yn hwyrach ymlaen, treulio deng niwrnod mewn cynhadledd arall yn Jamaica. Dechreuodd ei waith fel Gweinidog yng Nghapel Moreia, Llangefni lle bu am ddeng mlynedd, cyn symud i Borthmadog ac yno mae ers bron i ddeng mlynedd arall. Roedd ei sgwrs yn hynod o ddiddorol ac roedd yn hawdd iawn gwrando arno’n dweud ei hanes. Diolchwyd iddo gan Bronwen Williams, Llywydd Cangen Harlech, ac wedi i bawb fwynhau paned a bisged, diolchodd Mai, ar ran Cangen Talsarnau, i aelodau Harlech am y gwahoddiad i ymuno â hwy, a diolch arbennig am y cyfle i gael gwrando ar sgwrs gan Christopher Prew.

12

Groesnewydd, Llandecwyn - tua diwedd yr 1800au - dechrau’r 1900au Tyddyn a safai ar dir Pentre Ffarm oedd Groesnewydd yn y cyfnod hwnnw. Fy hen daid a nain, William ac Ann Roberts, Ellen, eu merch ieuengaf a phlant eu hail fab, Morris, sydd yn y llun. Roedd ganddynt naw o blant a Sarah, fy nain, yr wythfed ohonynt. Merch arall iddynt, Elisabeth Ann, oedd prifathrawes gyntaf yr ysgol wrthryfel yn Llandecwyn. O fferm Mynydd Ednyfed, ardal Cricieth ddaeth ein hen daid Groesnewydd. Un diwrnod, yn ôl y sôn, pan oedd yn hogyn yn yr ysgol, wedi helynt rhyngddo â’r ysgol feistr, dihangodd am Port a phenderfynu mynd yn llongwr ar long yno. Cyn i’r llong adael yr harbwr fe neidiodd i’r dŵr a nofio am Dalsarnau a mynd yn was bach ar fferm Cefntrefor Fawr ac aros yn yr ardal weddill ei oes. Bu’n gweithio ar ffermydd lleol ac hefyd yn chwarelwr yn chwarel Cwmorthin. Fel llawer o dyddynwyr yr oes byddai’n treulio’r wythnos yn y baracs yn y chwarel ac yn dod adref ar benwythnosau gan adael y gwaith o ofalu am y tyddyn i’w wraig a’r plant hynaf. Bu Groesnewydd yn gartref i amryw o deuluoedd yr ardal yn ystod y blynyddoedd ond tŷ gwyliau yw erbyn hyn. AR


ENNILL MEDAL

R J WILLIAMS IZUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU IZUZU

DARLITH FLYNYDDOL CYFEILLION ELLIS WYNNE

‘NADOLIG 1648 YN ARDUDWY’ (Cyfnod y Rhyfel Cartref) Traddodir gan PEDR AP LLWYD, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru 7.00 o’r gloch nos Iau, 16 Ebrill 2020 yn Neuadd Gymuned Talsarnau Llongyfarchiadau i Osian Ephraim, Tanforhesgan, sy’n fyfyriwr yng Ngholeg Meirion Dwyfor, am lwyddo i ennill medal yng ngystadleuaeth Sgiliau Cymru, adran Adeiladwaith a Pheirianneg. Caiff canlyniad terfynol y gystadleuaeth a gwybodaeth ynghylch a yw wedi ennill medal aur, arian neu efydd ei gyhoeddi yng Nghaerdydd ym mis Mawrth. Pob lwc iti Osian! Diolch Dymuna Arwel Evans, Tallin ddiolch am y cardiau, galwadau ffôn ac ymweliadau tra bu o dan anhwylder yn ddiweddar. Mae o’n gwerthfawrogi’r caredigrwydd yn fawr iawn. Rhodd a diolch £10

Neuadd Gymuned Talsarnau

Gyrfa Chwist

nos Iau, 12 Mawrth 2020 am 7.30 o’r gloch Croeso cynnes i bawb! Capel Newydd, Talsarnau Oedfaon am 6:00. Croeso cynnes i bawb MAWRTH 8 - Dewi Tudur 15 - Steffan Job 22 - Dewi Tudur 29 - Dewi Tudur EBRILL 5 - Dewi Tudur

Darlith Gŵyl Ddewi

Capel Newydd, Talsarnau

Nos Fercher, Mawrth 4 am 7:30 ‘Edmwnd

Prys y dyn a’i waith’

Darlithydd Parch Dr Adrian Morgan Gorseinon Croeso i bawb

Mynediad: £5.00 (yn cynnwys lluniaeth) Croeso cynnes i bawb

DYDDIADUR Y MIS MIS MAWRTH

4 – Darlith Gŵyl Ddewi gan Dr Adrian Morgan, Capel Newydd Talsarnau, 7.30 4 – Cinio Gŵyl Ddewi Cymdeithas Gymraeg Bermo gyda Mair Tomos Ifans, Hendrecoed Isaf, 6.30/7.00 4 – Cinio Gŵyl Ddewi Merched y Wawr Nantcol, Bistro’r Castell, Harlech 5 – Cyfarfod Blynyddol Clwb Pysgota Artro a Thalsarnau, Canolfan y Frigad Dân, Harlech, 7.30 6 – Cyfarfod Gweddi Chwiorydd y Byd, Festri Horeb, Dyffryn Ardudwy, 2.30 12 – Gyrfa Chwist, Neuadd Gymunedol Talsarnau, 7.30 12 – Cinio Gŵyl Ddewi gyda Myrddin ap Dafydd, Nineteen.57, Tal-y-bont, 7.00/7.30 15 – Gwasanaeth Coffa Huchenfeld, Eglwys Sant Pedr, Llanbedr, 10.30 a phaned a sgwrs yn y Wenallt 17 – Clwb Cinio Dyffryn a Thal-y-bont, Cross Foxes, Dolgellau, 12.00 18 – Teulu Ardudwy gyda phlant yr Ysgol Gynradd, Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy, 2.00 18 – Sioe Wanwyn, Neuadd yr Eglwys, Dyffryn Ardudwy, 2.00 18 – Cyfarfod Blynyddol a Sleidiau a Sgwrs Cymdeithas Gymraeg Bermo, Parlwr Bach, 7.00 21 – Bingo, Caffi Pwll Nofio, 2.30 Rhaghysbysebion Ebrill 16 – Darlith Cyfeillion Ellis Wynne gyda Pedr ap Llwyd, Neuadd Gymunedol Talsarnau Gorffennaf 10 – Cyngerdd Dathlu 500fed rhifyn Llais Ardudwy, Ysgol Ardudwy, 7.00

13


HYSBYSEBION

Telerau gan Ann Lewis 01341 241297 ALAN RAYNER

JASON CLARKE

ALUN WILLIAMS

TRYDANWR GALLWCH HYSBYSEBU *YN Cartrefi Y * Masnachol BLWCH HWN * Diwydiannol AM £6 Ya Phrofi MIS Archwilio

07776 181959

ARCHEBU A GOSOD CARPEDI

Sŵn y Gwynt, Talsarnau www.raynercarpets.co.uk

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru Maesdre, 20 Stryd Fawr Penrhyndeudraeth LL48 6BN

DAVID JONES Cigydd, Bermo 01341 280436

Ffôn: 07534 178831

e-bost:alunllyr@hotmail.com

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys,Talsarnau

ADEILADWR

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad a golchi llestri.

GWION ROBERTS, SAER COED 01766 771704 / 07912 065803

Gwarantir gwaith o safon

Ffôn: 01766 780742 / 07769 713014

MELIN LIFIO SYMUDOL Gadewch i’r felin ddod atoch chi! Y cyntaf i’r felin gaiff lifio! www.gwyneddmobilemilling.com

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014

CAE DU DESIGNS DEFNYDDIAU DISGOWNT GAN GYNLLUNWYR

Stryd Fawr, Harlech Gwynedd LL46 2TT

gwionroberts@yahoo.co.uk dros 25 mlynedd o brofiad

Tafarn yr Eryrod Llanuwchllyn 01678 540278

01766 780239

ebost: sales@caedudesigns.co.uk

Dilynwch ni:

Oriau agor: Llun - Sadwrn 10.00 tan 4.00

E B RICHARDS Ffynnon Mair Llanbedr 01341 241551

CYNNAL EIDDO O BOB MATH Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

Llais Ardudwy

Bwyd cartref blasus Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

argraffu da am bris da Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk 01766 512091 / 512998

Drwy’r post Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@outlook.com

TREFNWYR ANGLADDAU

E-gopi pmostert56@gmail.com £7.70 y flwyddyn am 11 copi holwch Paul am bris ar paul@ylolfa.com 01970 832 304 www.ylolfa.com

14 ARGRAFFU DA AM BRIS DA gwahanol feintiau.indd 9

19/12/2013 12:58:44

Gwasanaeth personol dydd a nos Capel Gorffwys Ceir angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb


TELYNOR MAWDDWY A’I DEULU gan Les Darbyshire [rhan 5] yr un cyfnod. Bu i Eirwen ac nid yn gwybod a oedd ef yn meddiant. Bu Colin farw ac fe’i Rhagor o hanes yn ddangos y llythyr a gofyn iddo fyw neu farw. Yn y cyfnod yna, claddwyd ym medd y teulu yn ei anfon i’w frawd. Gwelodd yn 1942, fe fu ychwanegu at y boen Llanaber ac yn 2015 bu Clara Robert Ifor syth mae llawysgrifen Connie trwy i Clara gael ei tharo’n wael farw a chael ei dymuniad i’w Cymerodd ymddeoliad cynnar yn 1979 ond cafodd wadd i ddysgu mathemateg, fel athraw rhan amser, yn Ysgol Annibynnol Penrhos, Bae Colwyn – ysgol i ferched. Roedd hefyd yn amryddawn yn y byd cerdd; roedd y gallu ganddo i chwarae wahanol offerynnau fel ‘clarinet, saxaphone, violin, accordion, mandolin, flute a’r piano’. Roedd yn cael hwyl yn trefnu a chyfansoddi cerddoriaeth i wahanol fudiadau cerdd gyda’i diddordeb yn y ddawns werin. Bu ef a’i frawd, Elio, yn brysur yn chwarae offerynnau i bartïon adnabyddus fel Dawnswyr Bryn Mawr o Dde Cymru, Dawnswyr Pendorlan, Bae Colwyn ac i’r pencampwr dawnsio clocsiau Owen Huw Roberts o Sir Fôn. Bu mewn sawl sioe ar y teledu ac ymwelodd â llawer o wledydd yn Ewrop – sef Ffrainc, yr Iseldiroedd a Gwlad Belg. Sefydlodd y ddau grŵp band dawnsio o dan yr enw ‘Band y Brodyr’ a thrafeilio llawer trwy Gymru gyfan i nosweithiau twmpath. Yr oedd hefyd yn caru popeth morwrol ac yn berchennog ar gwch a byddai yn aml yn rhan o’r criw yng nghychod ei ffrindiau. Symudodd Robert Ifor a’i wraig Meiriona o gylch Bae Colwyn i ardal Manod yn Stiniog, i fyw yn Bryn Glas a oedd ar un amser yn ysgoldy i Gapel Gwylfa. Tad Meiriona oedd wedi ei brynu a’i addasu yn fyngalo. Bu Meiriona farw ym mis Mawrth 1987 yn 72 oed a chafodd ei chladdu ym medd y teulu yn Llanaber, Bermo. Un diwrnod bu i Mrs Eirwen Thomas, oedd yn byw yn Llys y Delyn, Bermo, ac wedi ei brynu ar ôl i Mrs Jennie Roberts farw, dderbyn llythyr yn gofyn yn garedig a fuasai yn anfon llythyr a oedd yn yr amlen i Mr Elio Roberts, trwy nad oedd ei gyfeiriad ganddi. Roedd y llythyr wedi ei arwyddo gan un o’r enw Connie - yn rhyfedd bu i Robert Ifor alw yn Llys y Delyn

ydoedd ac mae iddo ef oedd bwriad y llythyr ac fe’i agorodd. Cynnwys y llythyr oedd i ddarganfod cyflwr Robert Ifor ac i ddweud ei bod hi yn dod i Lundain fel cynrychiolydd i gynhadledd y mudiad Gwyrdd ac os oedd yn bosib iddynt gwrdd. Roedd Robert o dan deimlad ar ôl darllen y llythyr ac mewn ychydig ffoniodd Connie i gadarnhau ei fod yn awyddus i’w gweld. Trefnwyd i gyfarfod lle darganfyddodd Robert Ifor ei bod hithau yn weddw hefyd. Yn 1988, fe benderfynwyd ail briodi ac aethant i fyw i Ddeganwy a mwynhau eu hunain a chael ymweld â’r teulu a oedd wedi cartrefu yn yr Almaen a Los Angeles. Un diwrnod, yr oeddwn ar y cei yn y Bermo ac yno roedd grŵp o ddawnswyr yn eu gwisg draddodiadol ac yn eu plith roedd Robert Ifor gyda’i ‘violin’. Cefais sgwrs gydag ef ac fe gyflwynodd ei wraig, Connie, i mi. Nid oeddwn yn gwybod ei fod wedi ail briodi a chefais peth sioc o achos yr oeddwn yn adnabod ei ddiweddar wraig, Meiriona, ac ni wyddwn ddim o hanes Connie a phan gyrhaeddais gartref ac egluro i Gwyneth be oedd wedi digwydd, fe chwarddodd yn braf - roedd hi yn gwybod y cwbwl. Bu i Robert Ifor a Connie adael Deganwy a chartrefu yn Singen yn yr Almaen lle roedd Robert Ifor yn hapus iawn, ond bu Connie farw yn 2017, ac mae Robert Ifor erbyn hyn mewn cartref gofal yn yr Almaen ac yn dal i fod yn siriol a hyddysg yn ei bethau.

Clara Catherine Roedd Clara yn ffrind agos i fy ngwraig Gwyneth ac yr oeddent yn cyd-ganu, Clara y soprano a Gwyneth yr alto. Ganwyd Clara yn 1926 a bu yn Ysgol y Bermo. Mae Elio ei brawd yn cyfeirio yn ei lyfr at y boen oedd ei rieni yn gorfod ei ddioddef pan oedd ef yn garcharor rhyfel gan y Siapaneaid yn y Dwyrain Pell

gyda’r frech goch a chollodd hithau ei golwg. Ymunodd ag ysgol y deillion am hyfforddiant lle cyfarfu a’i darpar ŵr, Colin Warr oedd yn cael ei hyfforddi i fod yn grydd. Roedd Colin yn rhannol ddall ac yn gallu gweld ychydig gyda chwyddwydr fawr. Mewn amser bu iddynt briodi a sefydlu cartref yn Birmingham. Roedd Colin yn fachgen tal, graenus ac yr oedd yr un stamp ar hen Delynor Mawddwy - nid oedd am ildio dim o achos ei ddallineb. Gorffennodd fel crydd a chymeryd bŵth mewn ffatri fawr cyfagos i werthu nwyddau a oedd yn angenrheidiol i’r gweithwyr. Yr oedd yn gwneud busnes da trwy werthu ‘nylons’ i’r merched. Roedd y bŵth yn llwyddianus ym mhob ystyr ac mewn amser roedd Colin yn gallu prynu tŷ. Cawsant blentyn, mab o’r enw David, hyn yn erbyn pob cyngor a roddwyd iddynt, ond magwyd y plentyn yn iawn heb unrhyw anhawster a gwnaeth enw iddo’i hun fel cynghorwr addysg a phriododd â merch o Uganda, a chafodd Clara a Colin fynd i Uganda i’r briodas lle cawsant groeso gwresog. Bu Clara yn ffyddlon iawn i’w chynefin a byddai gyda Colin yn ymweld â’r Bermo pob blwyddyn a dyna sut y deuthum i’w hadnabod. Yr oedd bob amser yn awyddus i gael hanes y cylch ac yn cofio llawer o’r digwyddiadau. Cofiaf i Gwyneth a minnau fynd a hwy i weld ei hen gartref yn Llyn Du ac yr oedd yn gwybod lle roedd ei hen le eistedd ar y palmant ger y grisiau yn arwain i’r tŷ pan oedd yn blentyn ac yr oedd yn falch o’r cyfle o’i ddarganfod eto. Er yn ddall roedd ganddi wybodaeth o wahanol liwiau. Cofiaf i Gwyneth fethu â chael menyg o rhyw liw neilltuol a gofyn i Clara gael rhai iddi yn un o siopau Birmingham a phan danfonwyd hwy roeddent y lliw iawn ac yn hollol be oedd ei angen ar Gwyneth. Fe ddywedodd Clara wrthym unwaith bod telyn ei thad yn ei

chladdu ym meddrod y teulu yn Llanaber. Cefais y cyfle i fod yn yr angladd ac yr oedd llawer o’i chyfeillion yn bresennol i dalu y deyrnged olaf i un a oedd mor annwyl ac wedi concro effaith ei dallineb. Mae hanes y teulu anhygoel yma wedi ei gwblhau yn awr, teulu sydd wedi gadael eu hoel ar y gymdeithas a chyfrannu cymaint i fyd cerdd Cymru diolch iddynt.

CHWARAE PLANT

Plwc ar y cudyn gwallt a dweud: ‘Canwch y gloch.’ Curo’r talcen a dweud, ‘Cnoc ar y drws.’ Codi’r trwyn i fyny a dweud, ‘Codwch y glicied.’ Rhoi’r bys ar y wefus a dweud, ‘Dewch i mewn.’

RHIGYMAU PLENTYNDOD ‘Wel’, meddai Wil wrth y wal. Ddwedodd y wal ddim wrth Wil. Llion bach a minna Yn mynd i Lundain Glama Dŵr yn oer a’r ffordd yn bell, Mae’n well inni aros adra. Cris croes tân poeth Torri ’mhen a thorri ’nghoes. A-men, person pren, Torri ’nghoes a thorri ’mhen. Morus y gwynt ac Ifan y glaw Daflodd fy het i ganol y baw. O diar, diar doctor Mae pigyn yn fy ochor Ond gwell gen i daro pwmp o rech Na thalu chwech i’r doctor.

15


CAWR O’R WYDDGRUG

gynorthwyol ar y Suliau. Yn 1830, derbyniodd wahoddiad i fynd yn weinidog gyda’r Bedyddwyr yn Hill Cliffe ger Warrington. Nid aeth John Ambrose hefo’i rieni ond symudodd at frawd hŷn iddo, Isaac, yn Lerpwl i baratoi ei hun at fynd yn athro. Yr oedd erbyn hyn wedi astudio cerddoriaeth yn helaeth ac wedi dechrau cyfansoddi tonau ar gyfer y capel. Un o’i donau cynharaf oedd Wyddgrug, sef rhif 369 yn Caneuon Ffydd. Dywedir mai Ers canrifoedd, bu’r Wyddgrug 16 oed oedd John Ambrose yn dref brysur a phwysig yng pan gyfansoddodd hi. Os felly, ngogledd ddwyrain Cymru. mae’n dangos aeddfedrwydd Mae’n flaenllaw fel canolfan anghyffredin. Ceir y dôn ymhob llywodraeth leol ac hefyd fel casgliad o emynau a thonau bron canolfan y llysoedd barn. er nad ydyw wedi cydio gyda Rai blynyddoedd yn ôl cynhelid chynulleidfaoedd oddi allan i cynhadledd gyfreithiol i farnwyr Gymru. Yn y Caneuon Ffydd Cymru yno o dan gadeiryddiaeth priodir hi ag emyn Dafydd Jones y diweddar (erbyn hyn) Farnwr o Gaio, ‘Wele cawsom y Meseia’. Michael Farmer. Daeth Ond fe’i cenir ar lawer o emynau gweithrediadau’r bore i ben eraill hefyd. rhyw ddeg munud da cyn i’r I fachgen fel John Ambrose cinio fod yn barod. I ddifyrru’r Lloyd, roedd tref fel Lerpwl yn mynychwyr rhwng darlith a cynnig digon o gyfle iddo ei chinio adroddodd Michael ddiwyllio ei hun ac ennill pob Farmer i’r cwmni o farnwyr math o brofiadau cerddorol. dipyn o hanes Daniel Owen y Pan benderfynodd Isaac fudo teiliwr a’r nofelydd arloesol a roes o Lerpwl i Blackburn arhosodd gymaint o gyfoeth i ni trwy ei John a bu yn athro mewn lyfrau. gwahanol ysgolion yn y dref cyn Wn i ddim faint a elwodd y ei benodi yn un o athrawon y barnwyr ar y chwistrelliad o Mechanics’ Institute. ddiwylliant a gawsant y diwrnod Erbyn 1839, teimlai’n ddigon hwnnw ond gall trigolion yr diogel ei safle i briodi. Merch Wyddgrug ymfalchïo fod eu tref o’r Wyddgrug oedd ei wraig, wedi codi cawr. Catherine Evans. Bu iddynt Ac nid Daniel Owen yw’r unig chwech o blant er iddynt golli gawr a ddaeth o’r Wyddgrug beth bynnag un ohonynt yn chwaith. Dyma dref enedigol gynnar fel y digwyddai mor aml John Ambrose Lloyd (1815yn y dyddiau hynny. 1874), cyfansoddwr anthemau Yn y flwyddyn 1848, daeth a thonau gyda’r gorau a welodd ysgrifenyddiaeth y Mechanics’ ein gwlad. Enwau ei rieni oedd Institute yn wag ac hysbysebwyd Enoch a Catherine Lloyd. Enw am ysgrifennydd newydd. morwynol Catherine Lloyd oedd Roedd cyflog yr ysgrifennydd yn Ambrose ac roedd yn chwaer uwch na chyflog athro ac roedd i John Ambrose, Bangor. Mab yr oriau a’r dyletswyddau yn John Ambrose oedd William llai. Pwy a feia John Ambrose Ambrose, sef Emrys y pregethwr Lloyd am roi cynnig i geisio`r a’r bardd a fu’n weinidog ym swydd; roedd ei deulu yn tyfu Mhorthmadog (Capel Salem) ac roedd ei waith cyfansoddi, am flynyddoedd maith. Wedi golygu a beirniadu yn cymryd iddo farw, cododd Annibynwyr amser hefyd. Fel ‘tasa gynno Porthmadog ail gapel a’i alw’n fo ddim digon ar ei blât, roedd Gapel Coffa Emrys er parch yn ysgrifennydd i Gymdeithas iddo. Mae’n rhyfedd meddwl Adeiladu yn ychwanegol at bod Emrys, un o’n prif emynwyr ei waith bob dydd a dywedai a John Ambrose Lloyd, un o’n cadeirydd y Gymdeithas mewn prif gyfansoddwyr tonau yn tystlythyr fod ei waith ynglŷn ddau gefnder cyfan. â hyn yn ardderchog gan Gwneuthurwr dodrefn oedd bwysleisio ei reoleidd-dra, ei Enoch Lloyd ond pregethai yn brydlondeb a’i drefnusrwydd.

16

Yn ei gofiant i’w dad, dywed Charles Francis Lloyd, ‘Anaml y ceir beirdd a cherddorion yn enwog yn y pethau hyn’. Wn i ddim am hynny chwaith! Ond ni chafodd John Ambrose Lloyd y swydd ac ar ôl y siom aeth i edrych o’i gwmpas am swydd arall. Perswadiwyd ef i gychwyn busnes mewn partneriaeth fel argraffydd (lithographer neu faenargraffydd oedd y term cyfoes). Ni fu fawr o lwyddiant ar hwn a bu’r cyfnod yn un pryderus iddo ef a Catherine. Ychydig iawn a gyfansoddodd yn ystod y cyfnod yma a hawdd ydi deall paham. Ond fe ddaeth gwaredigaeth. Cafodd wahoddiad i fynd yn oruchwyliwr i gwmni Woodall & Jones, masnachwyr te i fod yng ngofal y gwaith yng ngogledd Cymru. Cafodd drwy hyn y cyfle i orffen magu ei blant mewn amgylchiadau taclus gan gyflawni gwaith mawr ei fywyd, sef darparu cynhysgaeth lawn a theilwng ar gyfer caniadaeth y cysegr cenedl y Cymry. Cawn weld sut y bu i hyn ddigwydd y tro nesaf. JBW

Rydym yn recriwtio ar gyfer y ddwy swydd ganlynol:

Athro/athrawes nofio/ Achubydd Bywyd - hyd at 37 awr yr wythnos.

Ac hefyd am:

Hyfforddydd Wal Ddringo – 20awr yr wythnos (gallai fod yn fwy yn dibynnu ar gymwysterau).

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â 01766 780576 neu e-bostiwch eich CV i contact@harlechardudwyleisure.org.uk

Diwrnod cau 16 Mawrth 2020. Cynhelir y cyfweliadau rhwng 19 a 26 Mawrth.


POBOL Y PRIFFYRDD - Edward M Thomas Hogia (a merched) yr ‘Highways’ - Rhan 2

I rywun sydd â gwybodaeth am y swyddfeydd ym Mhenarlâg, roedd yr Adran Briffyrdd wedi ei lleoli yn yr wythdegau yn y bloc uchaf, wedi symud o’r hen adeilad uwchben a gymerwyd drosodd gan yr Archifydd Sir yn ddiweddarach. Roedd yn rodfa hir o ystafelloedd bychain o boptu, gydag un swyddfa fawr ar un pen, honno i’r dwyrain, i gyfeiriad Bala. Hon oedd y ‘drawing office’. Fel a soniwyd, roedd Meirionnydd ar y blaen bryd hynny, a chynlluniau gwella ffyrdd, mawr a bach, ar droed ledled y sir, ar y cefnffyrdd a’r rhwydwaith sirol. Gwir dweud mai gweithio yn y ‘drawing office’ oedd pinacl unrhyw yrfa bryd hynny. Dyma fel y cofiaf oedd y dyraniad swyddfeydd: Derbynfa, drwy y drysau dwbl ac i’r chwith: 1. Dewi Emlyn Jones (Dewi Jones) Ffestiniog – Peiriannydd Cynnal, Dafydd Wyn Jones (Dei Wyn) Ffestiniog – Peiriannydd Cydlynu 2. Derek Derbyshire (Pwllpenmaen) – Peiriannydd Ardal 3. ??? 4. Swyddfa Ddylunio – Rhestr anghyflawn mae gen i ofn, ond yn cynnwys rhai enwau a leolwyd yno yn ddiweddarach. Eric Lee, Brithdir, Harry Causer (Abercegir), John Meirion Jones (Dolgellau), Henry Edwards (Dolgellau), Euros Jones (Euros Pentre) Llanuwchllyn, Pat Monaghan (Ffestiniog), David Coleman (Corris), Aled Lewis (Tywyn), Ieuan Thomas (Ieu Bronyfoel) Llanfachreth, Gwyn Pugh (Dolgellau), Emyr Roberts(Dolgellau)... 5. Bernard Davies(Dolgellau) Peiriannydd Goleuo Alun Pierce (Minffordd) – Technegydd Goleuo Bernard Worrall (Tywyn) – Technegydd Arwyddion 6. D J Williams (Machynlleth) Swyddog Diogelwch Ffyrdd Ar ymddeoliad DJ, penodwyd Raymond Williams i’r swydd, mae o bellach yn sarjant yn Heddlu Gogledd Cymru. 7. ??? 8. Swyddfa’r Peirianwyr

Dewi Jones, Peiriannydd, E M Williams, Prif Swyddog

Geraint Roberts, Gareth Evans, Alice Williams, William Jones

Richard Edwards, Alun Pierce, Bernard Davies, Ellis Evans

Hugh B Evans, Idris Parry, Idris Pugh

Ifor Pugh, Gwilym Jones Llinos Jones, Aled Williams Clare Jones D J Williams, Euros Jones, Benny Nolan

Euros Jones

Douglas Powell, John M Edwards

rhanbarth – dau ranbarth. Gwilym Rhys Jones (Dyffryn Ardudwy) – Gogledd. Idris Parry (Y Bala) – De. Edward M Thomas (Llanfair) – Technegydd. 9. Swyddfa Astudio Gwaith (ar draws y rhodfa i rif 8) E Douglas Powell (Dolgellau), Alwyn E Evans (Llanuwchllyn), Tony Gillette? (Y Bala), 10. Swyddfa’r Arolygwyr/ Clercod Cofnodi. Huw Thompson (Llanfihangel-y-pennant), Gareth Evans (Abergynolwyn), William Jones (Caertyddyn) Dolgellau, R J Roberts (Jim Roberts), Ffestiniog. O bryd i’w gilydd, yn y swyddfa hon ac yn rhif 8 y byddai’r fformyn ardal hefyd yn ymgynnull: Ardal 1 – Albert Groom (Dyffryn Ardudwy) – Llanelltyd/Bermo/Harlech/ Talsarnau drwodd i Maentwrog. Ardal 2 – Ifor Pugh (Gellilydan) – Minffordd/ Penrhyndeudraeth/Llanfrothen/ Tanygrisiau/Blaenau Ffestiniog/ Ffestiniog/Gellilydan. Ardal 3 – John Morris Edwards (Parc) – Parc/Rhyduchaf/ Arenig/Trawsfynydd/ Ganllwyd/Abergeirw/ Llanfachreth/Rhydymain.

Eric Williams

Ardal 4 – D J Williams (Dolgellau) – Bala/ Llanuwchllyn/Llandderfel/ Glanrafon/Frongoch. Ardal 5 – Huw Bowen Evans – Dinas Mawddwy/ Talyllyn/Brithdir/Dolgellau/ Islawrdref/Y Friog/Llwyngwril. Ardal 6 – Idris Pugh – Talyllyn/ Corris/Pennal/Aberdyfi/Tywyn/ Abergynolwyn/Rhoslefain. 11. Swyddfa Weinyddol E M Williams (EM), (Dolgellau), Eric Williams (Llanelltyd), B Nolan (Benny) (Bermo) , Mrs A Williams (Alice) (Trawsfynydd). Yn ddiweddarach ymunodd Aled E Williams (Al B) (Dolgellau). 12. Swyddfa Gyffredinol/Derbynfa Dros y blynyddoedd, bu llawer iawn o newid staff yn y swyddfa hon, a chan fod y cof yn dechrau pallu, gallaf ond gofio rhai o’r enwau: Anne Meredith (Dolgellau), Margaret (Islawrdref), Gwyneth Lewis (Rhydymain), Haf Lewis (Rhydymain), Sally? (Tywyn), Christine (Corris), Clare Jones (Dolgellau), Llinos Jones (Dinas Mawddwy). O gwmpas yr adeg hon, roedd yr adran wedi ei had-drefnu o safbwynt gwaith cynnal ffyrdd. Cyn hynny, roedd tair rhanbarth wedi bodoli. Ond

gydag ymddeoliad John Ellis Jones (Tyddyn Felin, Tal-ybont), Taicynhaeaf, crëwyd dau newydd yn unig, y Gogledd a’r De, gyda Dewi Jones yn brif beiriannydd, Dafydd Jones yn beiriannydd cydlynu (coordination), a Gwilym Jones ac Idris Parry yn benaethiaid ar y ddau brif rhanbarth. Tair ardal o fewn pob rhanbarth, pob un â fforman teithiol, a chynorthwyydd/clerc cofnodi, fel a restrwyd eisoes. Ac fel rhan o’r gyfundrefn hon y cefais innau fy ngwir gyfleon cyntaf. Dewi Jones yn dod i mewn i’r swyddfa astudio gwaith rhyw fore, gair sydyn gyda Doug, ac yn gofyn imi fynd gydag o i weld Mr Derbyshire. ‘Dim o’i le,’ meddai, ‘ond mae Mr Derbyshire eisiau cael gair’. Bryd hynny beth bynnag, roedd cael eich galw o flaen unrhyw bennaeth yn brofiad arbennig, ac yn ddychryn, drwg neu dda. Dichon na fyddai hyn yn bodoli y dyddiau hyn! I dorri stori hir yn fyr, cefais gynnig ganddynt i ymuno â’r adran briffyrdd fel technegydd. Swydd wedi ei dynodi ar raddfa is mewn cyflog, ond yn cynnig hyfforddiant yn arwain at ONC a HNC drwy astudio rhan amser yn y coleg yn Wrecsam. Mynegi fy niolch a’m diddordeb, ac yn ddiweddarach, cael cyfweliad ffurfiol gan W R Jones (Penbryn) Cilfor, a oedd bryd hynny yn ddirprwy syrfëwr Cyngor Gwynedd. Ymhen deufis, roeddwn yn gwneud fy ‘nyth’ yn swyddfa Gwilym ac Idris, ac yn gweithio yn uniongyrchol i Dewi ac yn wir, Dafydd. Y prif ddyletswyddau oedd gofalu fod cyswllt effeithiol cydrhwng Dewi ar un ochr, y ddau swyddog rhanbarth, neu ‘superintendents’ fel y’i gelwid bryd hynny. Golyga hynny gydweithio gyda’r fformyn teithiol a’r clercod, yn ymdrin â chwynion, sylwadau, ac amcanion cyffredinol y gwasanaeth. EMT [I’w barhau]

17


Ennill Medal

Llongyfarch Llongyfarchiadau i Mrs Ann Edwards, 43 Y Waun ar dderbyn medal gan Gymdeithas Arddio Meirionnydd mewn cyfarfod arbennig yn Ninas Mawddwy yn ddiweddar. Cyflwynwyd y fedal i Ann i gydnabod ei gwasanaeth clodwiw yn trefnu dwy sioe yn Harlech bob blwyddyn am ugain mlynedd. Hoffem ninnau ymuno yn y llongyfarchion a diolch i Ann am ei gwasanaeth i’r gymuned hon. MARGARET ELIZABETH EVANS (Maggie i’w theulu a’i ffrindiau) Bu farw Maggie ar 20 Chwefror yn Hospis St Richards, Pershore, Caerwrangon [Worcester]. Roedd yn wraig i Arwyn Evans a buont yn byw yn ardal Harlech am 10 mlynedd. Bu’n gweithio yn y Clwb Golff cyn symud i weithio gyda Miriam yn siop dreftadaeth Castell Harlech. Roedd ganddi nifer dda o ffrindiau yn yr ardal ac roedd ganddi deulu agos yma hefyd. Bydd colled ar ei hôl. Roedd yn wraig gariadus, yn fam, nain [Nana], modryb a chyfaill triw. Cydymdeimlwn yn ddwys iawn â’r teulu oll yn eu profedigaeth. Rhodd £10 gan Arwyn Evans Wedi cael triniaeth Anfonwn ein cofion at Aneurin Evans, 30 Y Waun sydd wedi cael tynnu cataract o’i lygad yn ddiweddar. Deallwn fod y driniaeth yn llwyddiant. Mae’n cwyno efo’r annwyd y dyddiau hyn. Brysia wella Aneurin.

18

HARLECH Sefydliad y Merched Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod a gynhaliwyd brynhawn dydd Mercher, 12 Chwefror 2020 gan y Llywydd, Jan Cole, yn Neuadd Goffa Harlech. Roedd yr aelodau wedi penderfynu cynnal cyfarfodydd Ionawr a Chwefror yn y prynhawn gan ei bod hi’n rhy oer i ddod allan gyda’r nos. Darllenwyd llythyr o’r Sir a nodwyd dyddiadau o bwys, yn arbennig y te Cymraeg ym Mhlas Tanybwlch ar 31 Mawrth, a’r sgwrs yn Llanelltyd gan Katherine Insley ar hen offer garddio, hefyd y nosweithiau cwis yng Nglwb Rygbi Dolgellau ar 24 Ebrill am 7 o’r gloch. Cafwyd adroddiad y Trysorydd, Sheila Maxwell. Cynhelir bore coffi yn yr Hen Lyfrgell, 8 Mai, 10yb i 1 o’r gloch. Bydd gwahoddiad yn cael ei yrru i 4 cangen o Sefydliad y Merched i ddathlu Gŵyl Ddewi ar 11 Mawrth 2020 am 7 o’r gloch. Côr Cymuned a lleisiau o Gricieth fydd yr adloniant. Cawsom sgwrs gan y gŵr gwadd Paul Williams oedd wedi dod atom am ddiogelwch tân yn y cartref. Cawsom wybod gan Paul mai’r pethau bach iawn oedd yn cychwyn tân, ac roedd pawb yn sylweddoli mor eugo oeddem yn gadael rhai pethau wedi eu troi ymlaen yn lle eu diffodd dros nos. Rhoddwyd diolch gan Jill Houliston, ac enillwyd y cystadlaethau gan Wendy Hollingworth, Sheila Maxwell, a’r raffl gan Sheila Maxwell. Ennill gwobr Llongyfarchiadau i gwmni Toyota Harlech ar ennill cystadleuaeth arall ym maes gwasanaeth cwsmeriaid. Teithiodd Gerallt Evans ac Emily Roberts ar ran y cwmni i Lundain yn diweddar i dderbyn y wobr am y marciau uchaf yn y gystadleuaeth i fodurdai gwledig cwmni Toyota. Mae’r cwmni lleol wedi enill y gystadleuaeth hon sawl gwaith yn y gorffennol; mae hynny’n siarad cyfrolau am ansawdd y gwasanaeth a gynigir ganddyn nhw.

Pen-blwydd

Cyfarchion Pen-blwydd Dymunwn fel teulu ddymuno pen-blwydd hapus iawn i fam a nain arbennig iawn, sef Eirlys Williams, ‘Trugareddau’ sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 70 oed ar Mawrth 20, a hefyd ei mab Darren fydd yn dathlu pen-

blwydd arbennig yn 50 oed ar Mawrth 23. Dymuniadau gorau a chariad mawr gan y teulu a’u ffrindiau oll. Mwynhewch y dathlu! Genedigaeth Llongyfarchiadau calonnog i Dylan a Vicky Howie ar enedigaeth eu merch fach, sef Anni Mae ar 21ain o Chwefror yn 8 pwys 5 owns, chwaer fach i Charlie a Jac, a’r wyres gyntaf i Bethan a Gordon, Dennis a Sue (Dyffryn) a gor-wyres i Glenys Griffiths, 44 Y Waun Harlech, a hefyd cyfnither fach i Archie ac Evan. Mae pawb wedi gwirioni gyda’r babi bach newydd. Rhodd £5 Diolch Diolch am rodd i Llais Ardudwy gan Mrs Barraclough. Diolch hefyd i Mrs Rhiannon Gilliland am ei rhodd o £10.

Teulu’r Castell Rhoddodd y Llywydd, Edwina Evans, groeso i’r aelodau i’r cyfarfod a gynhaliwyd yn Neuadd Goffa Llanfair brynhawn dydd Mawrth, 9 Chwefror 2020. Rhoddwyd croeso i ddwy aelod newydd, Carol a Rose, ac hefyd y gŵr gwadd Mr Tony Bowyers o Lanbedr. Yn anffodus roedd Menna yn methu bod efo ni ond yn cofio at bawb ac yn diolch am bob peth a gafodd dros y Nadolig gan ei ffrindiau. Braf iawn oedd gweld Ann Ainsworth gyda ni heddiw wedi treulio amser mewn ysbyty yn ddiweddar, a gweld Beryl a Maureen efo ni hefyd. Roedd pawb hefyd yn cofio at Eileen Lloyd oedd wedi bod yn yr ysbyty. Y mis nesa dathlu Gŵyl Dewi fyddan ni gyda Siân Roberts yn sôn am chwedlau Cymraeg, ac wedyn te Cymraeg. Diolch i bawb oedd wedi rhoi rafflau a pharatoi’r te ac wedi dod ac aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd sgwrs ddiddorol gan Tony Bowyers ar hanes Eglwys Llandanwg. Cawsom weld dechreuad yr Eglwys a’i hanes hyd at yr amser yma, hanes yr hen ffenestri, y rhai newydd, drysau hen a newydd a phob carreg newydd a phren newydd a hen yn yr hen Eglwys, a hanes y cerrig beddi. Mae Tony wedi bod yn edrych ar hanes yr Eglwys ers blynyddoedd ac wedi gwneud llawer o ymchwil dros y blynyddoedd. Rhoddwyd y diolchiadau am hanes gwych gan Christine Freeman.

PWLL NOFIO 3 Mawrth Bore Coffi ‘Fairtrade’ Gwasanaethau’r Sul MAWRTH Capel Jerusalem 15 Iwan Morgan am 4.00 29 Parch Dewi Morris am 4.00 Rhodd Di-enw £10


CYNGOR CYMUNED HARLECH Croesawyd Leigh a Jake o Twyni Tywod LIFE i’r cyfarfod. Maen nhw’n gweithio ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn gwneud ychydig o waith clirio ar y twyni tywod yn Harlech wrth ymyl y cwrs golff. Gwneir hyn yn bennaf er mwyn denu madfall y tywod yn ôl i Harlech oherwydd dyma’r lle gorau i’w gweld. Trafodwyd mai prosiect byr fydd hwn a’u bod yn gobeithio cychwyn yn fuan ar y gwaith; hefyd y byddant yn anfon newyddion misol i’r Cyngor. Dymunodd y Cadeirydd wellhad buan i Elfyn Anwyl yn dilyn ei lawdriniaeth yn ddiweddar. CEISIADAU CYNLLUNIO Estyniad unllawr ar yr ochr, cynyddu lefel y teras ar y blaen, lledu’r man parcio presennol a thynnu dwy simdde – Haulfryn, Ffordd Uchaf, Harlech. Cefnogi’r cais hwn. GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd – Adran Briffyrdd Cafwyd ymateb gan yr Adran uchod ynglŷn â maes chwarae Y Waun yn nodi y gall y Cyngor hwn benderfynu i gymryd cyfrifoldeb llawn neu benderfynu gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Gwynedd wrth gymryd yr asedau ymlaen a bod Cyngor Gwynedd yn dal yn archwilio ar ein rhan. Hefyd yn amgaeëdig mae copi o amcan gost rhedeg y maes chwarae Y Waun ar gyfer 2018/19 – sef £342.05. Cytunwyd bod y Cyngor yn mynd i weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Gwynedd. UNRHYW FATER ARALL Mae’r heddlu yn ymweld yn rheolaidd â’r ardal a chytunwyd ein bod yn gofyn iddynt ddod i mewn i’r Cyngor unrhyw bryd y byddant o gwmpas y dref ar noson y Cyngor. Cafwyd adroddiad o gyfarfod Un Llais Cymru gan Martin Hughes a nododd bod amryw o bethau wedi eu trafod. Cyflwynodd adroddiad ynglŷn â beth oedd angen i Gynghorau Tref a Chymuned ei wneud i weithredu ynglŷn â chael gwefan a beth oedd yr angen cyfreithiol mewn gwefan i Gynghorau. Cytunwyd bod y Cadeirydd yn cysylltu gyda Mr Owen Brown ynglŷn â hyn a dangos copi o’r ddogfen hon iddo er mwyn dod a gwefan y Cyngor i fyny i’r gofynion. Mae angen gwahodd rhai sydd yn brofiadol ac yn gymwys yn eu meysydd i roi eu henwau i lawr ar gofrestr i gwblhau gwaith ar ran y Cyngor.

Clwb Pysgota Artro a Thalsarnau

CYFARFOD BLYNYDDOL Nos Iau, Mawrth 5 am 7:30 pm yn y Frigâd Dân, Harlech Croeso cynnes i unrhyw aelodau newydd.

R J Williams Honda Garej Talsarnau Ffôn: 01766 770286

DYDDIADUR SGÏO

Dydd Sul, Ionawr 26 Cychwyn o Ysgol Ardudwy am 5.00 y bore. Cyrraedd Birmingham i ddal awyren Ryanair ac yna hedfan i Barcelona. Teimlo’n gyffrous wrth deithio mewn bws i Andorra rhyw dair awr i ffwrdd. Roedd 38 o ddisgyblion a 4 o athrawon. Mi ddaru pawb setlo i mewn yn dda mewn llofftydd efo 2 neu 3 gwely. Dydd Llun, Ionawr 27 Mynd i nôl offer sgïo a chael ein rhannu i grwpiau – dechreuwyr, y rhai fedrai sgïo’n weddol a’r rhai profiadol. Gwersi wedyn o 7.00 y bore tan 4.00 a phwyslais mawr ar ddiogelwch. Roedd y bwyd yn dda, steil bwffe a phawb yn hapus. Min nos mi gawson ni gystadleuaeth chwarae pŵl i’r bechgyn a’r merched. Dydd Mawrth, Ionawr 28 Gwersi sgïo eto. Roedd ’na lifft i fynd â ni i fyny’r llethr. Doedd neb yn cael trafferthion ond roedd rhai yn cael hwyl arni. Cawsom gwis ar ôl swper nos Fercher a merched B8 enillodd. Dydd Mercher, Ionawr 29 Tebyg iawn i ddydd Mawrth ond bod y cwis ar ganeuon pop. Roedden ni’n codi am 6.00 bob dydd ac roedd blinder yn amlwg ar lawer. Teimlais fod fy sgiliau sgïo yn gwella. Dydd Iau, Ionawr 30 Cawsom fynd i siopa am fwyd a diod ar y stryd yn Andorra. Yn ôl ar y llethrau sgïo wedyn. Gwely am 10.00 y nos a phawb yn falch o fynd iddo fo. Dydd Gwener, Ionawr 31 Siopa eto ond y tro hwn yn chwilio am anrhegion i ddod adre. Wedyn yn ôl ar y llethrau. Dydd Sadwrn, Chwefror 1 Roedd un peth yn wahanol heddiw. Cawsom fynd i ben y mynydd lle roeddem yn gallu gweld Sbaen a Ffrainc. Fe gymrodd rhyw chwarter awr i sgïo o’r top i’r gwaelod. Dydd Sul, Chwefror 2 Cawsom seremoni wobrwyo i ddangos beth oedd pawb wedi ei gyflawni. Wedyn cychwyn ar y daith hir am adref. Marciau am y daith? Deg allan o ddeg. Diolch i’r athrawon am bob cymorth. EA, B7 - Ysgol Ardudwy

BINGO NESAF Caffi’r Pwll Nofio Harlech Dydd Sadwrn, Mawrth 21, am 2.30 Tocynnau: £1 y gêm

Llongyfarchiadau i Lesley Chick a enillodd dair gwaith yn y sesiwn ddiwethaf. Llwyddwyd i godi £200 ym mis Chwefror.

19


‘CADEIRIAU’R CYFARWYDD’ – ar gyfer adrodd straeon yn Harlech

Mae Cymdeithas Hanes Harlech wedi derbyn grantiau gan Ymweld â Chymru (cronfeydd Ewrop) a Sefydliad y Teulu Ashley i greu llwybrau yn Harlech a fydd yn annog pobl i aros yn yr ardal yn hytrach nag ymweld â Chastell Harlech yn unig.

Ysgol Ardudwy, Harlech Llais Ardudwy

CYNGERDD DATHLU’R 500fed Rhifyn

Y llwybr cyntaf i gael ei greu yw ‘Llwybr Meirion’. Mae hwn yn adrodd stori Meirion, fel yr adroddwyd yn yr Ŵyl Tân a Môr, o gwmpas Harlech drwy gyfrwng y cadeiriau adrodd straeon. Mae’r llwybr yn cychwyn ym mharc Llyn y Felin gyda ‘chadair y Castell’ ac yna’n dirwyn drwy’r dref i barc Bron y Graig a ‘chadair y Llwyfan’. Mae’r drydedd gadair, ‘cadair Branwen’, ar Ben y Graig. O’r fan hon gellir dilyn y llwybr i lawr y rhiw i faes chwarae Siôr V a ‘chadair yr Awduron’, ac ar y ffordd i’r traeth mae’r gadair olaf, y ‘gadair Broc Môr’. Cwblheir y daith gerdded wrth ddringo Twtil (neu Llech) yn ôl at y castell. Mae’r stori gyfan yn cael ei hysgrifennu ar hyn o bryd a bydd yn barod yn fuan.

Gellir defnyddio’r cadeiriau ar eu pen eu hunain hefyd ar gyfer cystadlaethau adrodd straeon ac ar gyfer adrodd straeon a chwedlau lleol. Mae Cymdeithas Dwristiaeth Harlech yn cydweithio gyda Pharc Cenedlaethol Eryri ac eraill i baratoi cyhoeddusrwydd am lwybrau cerdded, y llwybr trefol, y llwybr artistiaid ac yn y blaen o amgylch Harlech. Dylai’r rhain fod yn barod erbyn yr haf.

Nos Wener, Gorffennaf 10 am 7.00 o’r gloch gyda DONIAU BRO ARDUDWY

Hyderwn y gallwn ddenu amryw o dalentau’r fro i’n diddori ar y noson. A fuasech mor garedig â chysylltu ag Iwan Morus Lewis, ymlaen llaw, os ydych yn rhydd i berfformio dwy eitem ar y noson? Diolch ymlaen llaw am eich cydweithrediad. 01341 241297 iwan.mor.lewis@gmail.com


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.