Llais medi 2014

Page 1

Llais Ardudwy 50c

SALEM

RHIF 433 MEDI 2014

Albwm eiconig, llun eiconig – dathlu 40 mlynedd ers rhyddhau ‘Salem’, Endaf Emlyn. Mae’r hanes ar t.3.

CŴN DEFAID ROBOTIG

Fe allai ymchwil newydd i fugeilio arwain at ‘gŵn defaid’ robotig yn y dyfodol, yn ôl gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe. Fe ddarganfyddodd ymchwil gan Dr Andrew King o Goleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe fod cŵn defaid yn defnyddio dwy reol syml i gasglu nifer fawr o ddefaid at ei gilydd. Llwyddodd y tîm i ddarganfod bod y cŵn defaid yn debygol o ddefnyddio dwy reol syml – un i gasglu’r defaid pan maen nhw wedi gwasgaru, a’r llall i’w gyrru ymlaen pan maen nhw wedi casglu at ei gilydd. Ar sail y model hwn gallai un bugail gasglu praidd o hyd at 100 o ddefaid unigol drwy ddefnyddio’r ddwy reol yma. Yn ôl y gwyddonwyr, gall y darganfyddiad arwain at ddatblygu robotiaid sy’n gallu casglu da byw, datblygu technegau rheoli torfeydd a dulliau newydd i lanhau’r amgylchedd. “Os ydych chi’n gwylio cŵn defaid yn casglu defaid, mae’r ci yn symud yn ôl ac ymlaen tu ôl i’r praidd yn union y ffordd rydym ni wedi gweld yn ein model,” meddai Dr King, sydd wedi cyhoeddi’r ymchwil yng nghylchgrawn Interface y Gymdeithas Frenhinol. “Roedd yn rhaid i ni feddwl am beth oedd y ci’n gallu ei weld er mwyn datblygu ein model. Mae’r ci’n gweld pethau gwyn, gwlanog o’i flaen. Os yw’r ci’n gweld bylchau rhwng y defaid, neu os yw’r bylchau’n cynyddu, mae’n rhaid i’r ci ddod â’r defaid at ei gilydd.

CYFFUR

Bu Dafydd J Roberts, Uwch Glan, yn rhoi hanes y cyffur synthetig o’r enw Di-ethylstilbestrol neu DES (yn fyr) a gymerodd ei fam tra’n feichiog hefo Dafydd. Darlledwyd y sgwrs ar raglen ‘Manylu’ Radio Cymru. Mae’r hanes ar t.9.

PROMS YSGOL ARDUDWY Cafodd disgyblion B11 Ysgol Ardudwy gyfle i ddathlu diwedd yr arholiadau TGAU a ffarwelio â’r ysgol yn y Prom a gynhaliwyd yng Nghlwb Golff Dewi Sant, Harlech. Roedd pawb yn edrych yn smart iawn a chafwyd noson lwyddiannus iawn. Rhagor o luniau ar t.13.


Llais Ardudwy

HOLI HWN A’R LLALL

GOLYGYDDION Phil Mostert

Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com

Anwen Roberts

Cae Bran, Talsarnau (01766 770736 anwen@barcdy.co.uk

Newyddion/erthyglau i:

Haf Meredydd

hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk

(07760 283024 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 thebearatminymor@btinternet.com

Trysorydd Iolyn Jones Tyddyn Llidiart, Llanbedr (01341 241391 iolynjones@Intamail.com

Casglwyr newyddion lleol

Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones(01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Ann Lewis (01341 241297 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 770736 Gosodir y rhifyn nesaf ar Hydref 3 am 5.00. Bydd ar werth ar Hydref 8. Newyddion i law Haf Meredydd yn gynted â phosib ac erbyn Medi 29 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau.

2

Enw: David Naylor Gwaith: Dwi wedi ymddeol rŵan. Ro’n i’n gweithio i British Steel/Corus yn y labordy yn Rotherham cyn i ni symud i Harlech yn 2006. Man geni: Mi ges i fy ngeni yn Sheffield, Gorffennaf 24, 1946 Sut ydych chi’n cadw’n iach? Dwi’n chwarae golff unwaith yr wythnos o leiaf yng Nghlwb Golff Dewi Sant yn Harlech a hefyd dwi’n mynd am dro ar y traeth ac yn y mynyddoedd. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Dwi’n darllen llyfr arall gan Jo

Nesbo, ‘The Redeemer’, am y ditectif Norwyeg o’r enw Harry Hole. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Rydw i’n hoff o “Fawlty Towers” ac “I’m Sorry I’ll Read That Again” yn fawr. Ydych chi’n bwyta’n dda? Gobeithio. Dwi’n bwyta ffrwythau, llysiau, pysgod a chig ac weithiau gwydraid bach o win. Hoff fwyd? Pysgod a sglodion! Hoff ddiod? Dwi’n hoffi gwin coch. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Katherine Jenkins. Ond, os nad yw hynny’n bosib, efo’r wraig, Shelagh, ein teulu a’n ffrindiau! Pa le sydd orau gennych? Harlech, wrth gwrs! Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Llynedd mi aethon ni ar fordaith ar long Brenhines Elizabeth o Southampton dros Fôr Iwerydd, trwy Gamlas Panama a dros y Môr Tawel i Seland Newydd ac wedyn mi yrron ni o gwmpas Ynys y De mewn ‘campervan’.

Dywediadau am y Tywydd

AWST

MEDI

Dechrau Awst niwlog, ddiwedd tesog. Nid yw Awst gwlyb yn dwyn newyn. Mis Awst y bladur ar y trawst. Daw Awst, daw nos. Ni fydd tatws yn eu grym nes cael gwynt Awst.

Awst a leinw’r gegin, Medi y seler. Hanner Medi sych a wna seler lawn o gwrw da. Bore niwlog ar ddechrau’r cynhaeaf a ddilynid yn gyffredin gan bnawn tesog.

Beth sy’n eich gwylltio? Pan dwi’n torri rhywbeth. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Bod yn glên wrth bawb. Pwy yw eich arwr? Nelson Mandela. Pan oedden ni ar wyliau yn Ne Affrica mi aethon ni i Ynys Robben i weld y gell lle’r oedd o’n byw am tua ugain mlynedd. Beth yw eich bai mwyaf? Dw i’n ddiamynedd. Beth ydych chi’n ei gasáu mewn pobl? Dw i’n casáu pobl sy ddim yn dweud y gwir. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Dwi’n hapus iawn pan dwi’n eistedd ar ein balconi yn yr haul ac yn edrych ar y mynyddoedd - o’r Moelwynion i Ben Llŷn, dros y traeth a’r bae. Bendigedig! Hefyd dwi’n hoffi chwarae ar y traeth efo fy saith ŵyr. Eich hoff liw? Coch Eich hoff flodyn? Rhosyn coch Eich hoff fardd? John Steinbeck Eich hoff gerddor? Dwi’n hoffi Bryn Terfel yn fawr. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Dwi’n hoffi bob math o gerddoriaeth - Baróc, clasurol, rhamantus, modern, poblogaidd, gwerin ac wrth gwrs emynau a chaneuon Cymraeg. Dwi’n hoffi canu yng Nghôr Cymysg Blaenau a’r Cylch. Pa dalent hoffech chi ei chael? Buaswn i’n hoffi gallu chwarae golff yn well a dweud jôcs yn dda. Eich hoff ddywediad? Os i ddechrau ‘dach chi ddim yn llwyddo, trïwch eto! Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Dwi’n hapus iawn yn Harlech.

SAMARIAID Llinell Gymraeg 0300 123 3011

Mis Awst os bydd yn hindda, ni wna niwed i’r cynhaeaf.


SALEM - Endaf Emlyn

Albwm eiconig, llun eiconig – dathlu 40 mlynedd ers rhyddhau ‘Salem’.

Aeth deugain mlynedd heibio ers rhyddhau un o’r albymau mwyaf dylanwadol yn yr iaith Gymraeg, sef Salem gan Endaf Emlyn. Er mwyn dathlu’r pen-blwydd, fe wnaeth S4C ddarlledu ffilm ddogfen 50 munud o hyd, Salem ar nos Sadwrn y 19eg o Orffennaf am 20.30. Mae’r ffilm yn cyd-fynd ag ail-ryddhau’r albwm dylanwadol ar CD o dan label Cofio yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gaerfyrddin ddechrau mis Awst. Fe gafodd yr albwm ei recordio ar recordydd pedwar trac yng nghartre’ Endaf a’i gynhyrchydd ffrind Mike Parker, a’i rhyddhau ar label Cwmni Recordiau Sain. Mae’n enwog, hefyd, am ei chlawr trawiadol a oedd yn ddehongliad cyfoes gan gyfaill Endaf, Elwyn Davies o lun eiconig Curnow Vosper, Salem. Mae caneuon yr albwm cysyniad/concept gyntaf yn Gymraeg - fel Laura, Evan Edward Lloyd, Siân Owen Tŷ’n y Fawnog a Salem yn y Wlad, wedi dylanwadu ar genedlaethau o gerddorion a dilynwyr y sin fiwsig Gymraeg. Yn y ffilm ddogfen, mae camerâu cwmni Acme yn dilyn y canwr a’r cynhyrchydd ffilm a theledu i Gwm Nantcol ger Harlech i’r capel lle cafodd llun byd-enwog Curnow Vosper ei baentio yn 1908. Mae’n ymweld â safleoedd cartrefi sawl cymeriad sydd yn y llun, gan gynnwys Siân Owen, Tŷ’n y Fawnog, a oedd yn gwisgo’r siôl frethyn Gymreig enwog. Yn ogystal, mae Endaf, sydd ar drothwy ei ben-blwydd yn 70 oed, yn ymweld ag Oriel Port Sunlight, Glannau Merswy lle y gellir gweld y llun gwreiddiol. Meddai Endaf am y llun, a ysbrydolodd yr albwm, “Roeddwn i’n gweld bod cymdeithas yn symud ymlaen ac yn gadael ffordd o fyw. Mae hiraeth yn yr albwm am yr hen ffordd o fyw a oedd yn rhan o fy nghefndir i fel hogyn o Bwllheli ac yn tristau o’i gweld yn mynd ac yn meddwl beth sydd am ddod yn ei lle. Ychwanega am y llun a gafodd ei chomisiynu’n wreiddiol gan gwmni Lever i werthu sebon, “Efallai bod y

record, ynghyd â cherdd am y llun Salem gan y bardd T Rowland Hughes, wedi’n helpu ni fel Cymry hawlio’r llun. Nid glanweithdra, duwioldeb a gwerthu sebon sy’n bwysig ond adlewyrchu bywyd caled lle’r oedd ffydd yn gysur a chydaddoli yn dod a phobl at ei gilydd. Ddeugain mlynedd yn ôl, yn 1974, wnes i greu Salem yn y parlwr, ar beiriant tâp pedwar trac. Dyddiau mwyn y finyl a’r analog oedd y rheiny - gollwng y nodwydd ar drac un/ochr un, ac ymollwng wedyn i’r cyfanwaith. Peth od ynghanol rhuthr y saithdegau i’r oes fodern, oedd sgwennu caneuon am yr hen Gymru, yn dyfynnu emynau ac alawon gwerin, ond roedd rhoi Oedfa’r Bore ar un ochr ac Oedfa’r Hwyr ar y llall rhywsut yn ffitio’n iawn. Trwy’r caneuon roeddwn i’n dweud ffarwel wrth fy nghefndir ac yn deall na ddeuai’r heddiw hwnnw ‘fyth yn ôl’... Pan mae’n caneuon ni’n ‘gadael cartra’ does wybod be ddaw ohonyn nhw, a feddylies i fyth y bydda unrhyw sôn am y record yn 2014. Ond dyma hi rŵan ar gael fel CD ddigidol. Diolch i bawb fu’n gofalu amdani.’ Mae eicon cerddorol arall, Meic Stevens, yn disgrifio’r albwm fel “carreg filltir” ac yn “fath o albwm nad oedd neb wedi gwneud yn Gymraeg o’r blaen”. Mae e’n un o nifer o artistiaid Cymraeg sy’n cyfrannu i’r rhaglen, sy’n cynnwys y canwr, a’r gitarydd Alun Sbardun Huws, a’r canwr Tecwyn Ifan. Mae’r rhaglen yn cynnwys nifer o ecsgliwsifs - fe ofynnwyd i 5 grŵp/unigolyn greu addasiad cyfoes o ganeuon yr albwm: Al Lewis ac Arwel Lloyd - “Salem yn y Wlad”, sydd yn ymddangos ar CD newydd Al. Siddi - “Siân Owen Tŷ’n y Fawnog” Gareth Bonello - “Laura” Huw M - “Edward Evan Lloyd” Grŵp Ysgol Harlech - “Yn yr Haf ”

Fe wnaeth yr awdures, Haf Llewelyn - hithau yn enedigol o Gwm Nantcol, dywys Endaf o gwmpas yr ardal, gan ddangos iddo’n union lle’r oedd cymeriadau’r darlun yn arfer byw. Yn ogystal, bu trafod am gerdd T Rowland Hughes am y Capel a’i chymeriadau. Mae awdur hanes pop Cymru

Elizabeth a Catherine Richards yn dangos siôl wreiddiol Siân Owen i Endaf Emlyn

Gweneira Jones, Endaf Emlyn a Haf Llewelyn

Endaf Emlyn yn Port Sunlight

Lluniau gan blant Ysgol Llanbedr “Blerwyttirhwng”, Sarah Hill, yn gosod y record yng nghyddestun cyfnod y 70au. Holwyd Meic Stevens; Tecwyn Ifan ag Alun Sbardun Huws am ddylanwad y gerddoriaeth arnynt, a Dafydd Iwan a Huw Jones am ymateb cwmni recordiau Sain i glywed y record am y tro cyntaf. Ffilmiwyd Tecwyn Ifan yn pregethu yng Nghapel Salem. Cafwyd cyfweliad arbennig

gyda’r chwiorydd Catherine ag Elizabeth Richards, Llanbedr. Mae’r ddwy yn selogion y Capel, sydd erbyn hyn â llai na deg o aelodau yn perthyn iddo. Dangosodd y chwiorydd siôl wreiddiol Siân Owen, Tŷ’n y Fawnog - nid yr un yn y darlun, ond ei siôl bersonol hi. Mae’r cd o Salem, Endaf Emlyn ar werth am £15.99 yn siop Awen Meirion, Y Bala, ac yn Siop Eifionydd, Porthmadog.

3


Corporal Evan Evans, Brwynllynnau, Llanfair

ar wefan ‘The War Graves Photographic Project’ a sylwi bod arysgrif ar waelod y garreg ond oherwydd ansawdd y llun ar sgrin y cyfrifiadur nid oeddwn yn gallu ei ddarllen. Es yn ôl i wefan y CWGC gan obeithio dod o hyd i ateb. Bum yn hynod o lwcus i ganfod dogfen wreiddiol yn dynodi dymuniadau’r teulu am arysgrif penodol i’w osod ar y garreg fedd. Dymuniadau Griffith a Mary Evans, ei rieni, oedd i’r canlynol gael ei osod ar fedd eu mab: “Cwsg di fy mab; ym mhell o dre, Nid oes trwy’r byd, a leinw’th le. Cwsg, cwsg.” Bellach rwyf wedi derbyn llun clir o’r garreg fedd. Hyd yma canfod y cwpled uchod yw diwedd fy nhaith. Rhyw ddiwrnod bwriadaf deithio i Erquinghem-Lys i dalu teyrnged bersonol i Evan Evans. Efallai eich bod chi yn perthyn iddo ac efallai wedi cael rhywfaint o’i hanes wedi ei basio ymlaen i chi? Hoffwn gael eu clywed. Efallai bod gennych lun ohono rywle mewn bocs neu ryw ddrôr? Buaswn yn hoffi eu gweld. Gallwch gysylltu trwy e-bost, cyfeiriad neu rif ffôn symudol. Diolch, Eirian Stephen Jones

Y fynwent yn Erquinghem-Lys Roedd Evan Evans yn gefnder i fy hen nain, (Sarah Stephen, Maesygarnedd, Cwm Nantcol). Nid oeddwn wedi clywed amdano hyd nes i mi grybwyll wrth fy nhaid, (William Stephen, Maesygarnedd) fy mod yn mynd i Wlad Belg ar fy ngwyliau ac yn cael ymweld â bedd Hedd Wyn. Trodd ataf a dweud bod cefnder i’w fam sef Evan Evans wedi ei ladd tua’r un adeg â Hedd Wyn ac roedd yn eithaf pendant nad oedd y ddau nepell o’i gilydd. Roeddwn eisoes wedi defnyddio’r wefan ‘Commonwealth War Graves Commission’ gan nad oeddwn yn cofio enw’r fynwent lle claddwyd Hedd Wyn. Es ati i roi enw yn y bwlch chwilio a chanfod... 5212 ffeil yn cynnwys yr enw Evan Evans! Sylweddolais nad oedd hon yn mynd i fod yn dasg hawdd iawn. Wedi ychwanegu ychydig mwy o wybodaeth daeth y canlyniadau i lawr i 2910. Penderfynais chwilio am ffynhonnell arall a dod ar draws gwefan ‘War Forces Records’ a chanfod Evan Evans o fewn munudau gan ddefnyddio ei enw, man geni a’r talfyriad ‘WW1’. Dyma’r wybodaeth bu i mi ddarganfod: Enw: Evan Cyfenw: Evans Dyddiad Geni: Tua 1893 Oed: 24 Tref enedigol: Llanfair, Meirionnydd Cenedl: Prydeinig Dyddiad marw: 19/9/1917 Tynged: Lladdwyd ar waith Gwybodaeth: Rhieni, Griffith a Mary Evans o Brwynllynnau, Harlech, Meirionnydd Rheng: Corporal Rhif gwasanaeth: 39185 Lleoliad: Ffrainc a Fflandrys Gan fy mod wedi dod o hyd i’w rif gwasanaeth roeddwn yn gallu troi yn syth yn ôl at wefan CWGC a chanfod yr union fan lle claddwyd Evan Evans, sef estyniad mynwent Erquinghem Lys. Pentref bychan rhyw 25 munud o Lille, Ffrainc a rhyw 40 munud o Atillery Wood sef man gorffwys Hedd Wyn yw Erquinghem Lys. Roedd taid yn eithaf agos i’w le felly pan ddywedodd bod y ddau wedi eu lladd yn eithaf agos i’w gilydd o ran dyddiad a lleoliad. Wrth ddarganfod man gorffwys Evan Evans roeddwn yn credu fod fy nhaith wedi dod i ben gan fy mod eisoes wedi canfod cyfrifiad 1901 a 1911 ac wedi dysgu bod ganddo o leiaf 10 brawd neu chwaer ond na, mi ddarganfyddais fwy. Rhywsut neu’i gilydd bu i mi ddod ar draws llun o’i garreg fedd

4

eirianstephen21@btinternet.com / Hafodunos, 21 Bryncir, Llannerchymedd, Ynys Môn, LL71 8EQ / 07933 264216

Carreg fedd Evan Evans

Gŵyl Gwrw Llanbedr 2014 Medi 19 a 20

Mynediad cyn 6 - £3.50 Ar ôl 6 yr hwyr - £4.50 yn cynnwys gwydr i’w gadw, rhestr blasu ac adloniant byw Mojo, Gwibdaith Hen Frân, Gerry, The Street Band


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL

Llwyddiant i Summer Llongyfarchiadau i Summer O’Brien Jones o Lanbedr ar ei llwyddiant yn ddiweddar ym myd gymnasteg. Yn ddim ond pump oed ar y pryd, bu Summer yn cystadlu mewn digwyddiad Gymnasteg Canolfannau Hamdden yng Nghaernarfon ym mis Gorffennaf a daeth yn 15fed o 45 o blant. Cafodd dystysgrif a medal am ei pherfformiad. Mae clwb gymnasteg yn cael ei gynnal yn y Ganolfan Hamdden yn y Bermo ac mae Summer wedi bod yn hyfforddi bob nos Fawrth ers chwe mis efo’r hyfforddwraig Lucinda. Dal ati! Coffâu’r Rhyfel Byd Cyntaf Casglwyd oddeutu £2000 tuag at elusennau dyngarol mewn noson ddiweddar ym Mhlas Aberartro. Darllenwyd barddoniaeth gan Paul Morgan, Julia Payne a Phil Mostert a chafwyd darlleniadau gan Pat Hughes a Paul McCarroll. Cyflwynwyd eitemau cerdd dant gan Iwan Morgan, sef ‘Anfon y Nico’ ac ‘Englynion Coffa Hedd Wyn’. Noson lwyddiannus iawn.

Y diweddar Eleanor Jones, Crafnant, Llanbedr Cydymdeimlwn fel ardal â theulu Crafnant, Llanbedr, yn eu colled ddiweddar. Ar 30 Gorffennaf, yn dawel yng nghwmni ei theulu yng nghartref Bryn Awelon, Cricieth, yn 87 mlwydd oed, bu farw Len (Eleanor), priod ffyddlon a chariadus John Wyn, mam a mam yng nghyfraith Janet a Glyn ac Annwen a Trefor, a nain falch Heddwyn, Eilir, Llion, Gwenan a Dewi. Cydymdeimlwn hefyd ag Ifan ei brawd a’i chwiorydd Leusa a Catrin, a’i pherthnasau eraill yn Ardudwy. Cynhaliwyd y gwasanaeth yng Nghapel Rehoboth, Harlech ar ddydd Mercher, 6 Awst. Yn arwain y gwasanaeth roedd Bethan Johnstone ac yn cymryd rhan roedd Lisbeth a Peter James a Dewi Tudur Lewis, gydag Edward Owen wrth yr organ. Yn dilyn y gwasanaeth, fe’i rhoddwyd i orffwys ym mynwent y Capel. Derbyniwyd rhoddion yn ddiolchgar tuag at Gapel Rehoboth a Chapel Engedi, Harlech, drwy law’r ymgymerwyr Pritchard a Griffiths Cyf, Tremadog. Cydymdeimlo Cydymdeimlwn ag Emsyl a Goronwy Davies a’r teulu, Llys Artro ar farwolaeth mam Emsyl, Myfanwy Morris yn Ysbyty Gwynedd a hithau yn 103 mlwydd oed.

Diolch

Dymuna John Wyn, Annwen, Janet a’u teuluoedd ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a dderbyniwyd ganddynt yn dilyn eu profedigaeth o golli gwraig, mam, mam yng nghyfraith a nain arbennig ac annwyl sef Eleanor Jones (Len) Crafnant. Bu’r holl gardiau, llythyrau, galwadau ffôn ac ymweliadau personol yn gysur mawr i ni i gyd. Diolch i Mrs Bethan Johnstone am arwain y gwasanaeth ddydd yr angladd ac i’r Parch Peter James a’r Parch Dewi Tudur Lewis am gymryd rhan; hefyd, diolch i Mrs Lisbeth James am draddodi’r deyrnged ac i Mr Edward Owen am ei wasanaeth wrth yr organ. Dymunwn hefyd ddiolch yn arbennig i Anna Wyn (Penisarcwm gynt) am ei ffyddlondeb yn ymweld ag Eleanor yng nghartref nyrsio Bryn Awelon, Cricieth a hefyd diolch i Olwen (Gilar gynt) am fod yn gymaint o gefn i ni’n ystod ac ar ôl yr amser trist hwn. Diolch hefyd i Malcolm o Pritchard a Griffiths am ei drefniadau trylwyr a theimladwy ac i Iolo a staff y Ship Aground, Talsarnau am y bwyd a’r croeso arbennig a dderbyniwyd yn dilyn yr angladd. Diolch: £10

Cyhoeddiadau Sul Capel Salem

MEDI 21 Parchedig Dewi Tudur Lewis 28 Parchedig Dafydd H Edwards HYDREF 19 Parchedig Dewi Tudur Lewis (Diolchgarwch) *

*

*

Dathlu Dathlodd Mrs Greta Benn ei phen-blwydd yn 89 oed ar yr 20fed o Awst. Ein dymuniadau gorau iddi.

PRIODAS

Ar Gorffennaf 28 priododd Emlyn a Helen, Cilcychwyn yn Sant Lucia. Dymunwn yn dda i’r ddau ac i’w mab bach Trystan Glyn. Priododd Jane Taylor a John Williams, Gwynfryn, yn Eglwys Sant Pedr ar 26 o Orffennaf. Dymunwn yn dda i’r ddau.

Am 2.00 oni nodir yn wahanol MEDI 21 Capel Nantcol, Mrs Morfudd Lloyd 28 Capel y Ddôl, Mr Evie M Jones HYDREF 5 Capel y Ddôl, Parchedig Huw Dylan Jones * * *

Colled Cydymdeimlwn â theulu Crafnant, John Wyn Jones a’r merched Janet ac Annwen a’u teuluoedd, ac â’r chwiorydd Elizabeth a Catherine a’rbrawd Evan yn eu profedigaeth. * * * Trist hefyd oedd darllen am farwolaeth Nia Powys Cooke, Caerdydd, merch y diweddar Mr a Mrs W D Williams, y Bermo. Roedd yn derbyn y Llais ers blynyddoedd. Anfonwn ein cydymdeimlad â’i theulu ac â’i brodyr Iolo ym Mangor ac Iwan yn y Bala.

LLYTHYR Plas Caermeddyg Llanbedr Annwyl Ffrindiau Mae geiriau’n annigonol iawn i fynegi yn llawn ein diolch a’n gwerthfawrogiad fel teulu am eich cydymdeimlad a’ch caredigrwydd tuag atom yn dilyn ein profedigaeth o golli Gareth annwyl. Bu eich gofal a’ch consyrn, eich mynych alwadau ac ymweliadau, eich cymorth ymarferol a’ch llu gymwynasau yn gysur ac yn galondid inni ar adeg ddirdynnol o anodd. Yn sicr bu - ac y mae’r cariad a’r gofal a’n hamgylchynodd yn nerth ac yn ysbrydoliaeth inni. Derbyniwch ein diolch cywiraf. Cofion caredig Mary Elen, Catrin, Sara a’u teuluoedd. Rhodd £20

Emlyn a Helen Jennings ar ddydd eu priodas yn St. Lucia

5


Nia Powys Cooke

Nia Powys Cooke Mae ‘na gefnfor maith o wahaniaeth rhwng ystyr y geiriau ‘roedd’ a ‘mae’; mae’n anodd trafod Mam yn nhermau’r gorffennol. Roedd cael bod gyda hi fel teulu, ar yr eiliad olaf un, yn fraint eithriadol o drist. Wrth afael yn ei llaw, cawsom rannu’n cariad a’n diolchgarwch am rannu’r daith gyda hi. Wrth wasgu’n dynn cyn gadael fynd fe wnaeth hi’r un gymwynas â ni. Ganwyd Nia Powys Cooke yn Llangollen ym 1939, yn chwaer fach i Iolo Wyn ac Iwan Bryn, ac yn ferch i Anna a WD Williams, oedd yn fardd ac ysgolfeistr yn Ysgol y Sarnau, Meirionnydd ac yn byw ym mhentre Carrog. Dwy flynedd yn ddiweddarach ym 1941, symudodd y teulu i Harlech yna i Twyni, eu cartref yn y Bermo; rhannodd hi nifer fawr o hanesion gwych ‚ ni am ei phlentyndod ym mro Ardudwy a’i llawenydd ger y lli. Roedd Nia yn brif ferch yn Ysgol Ardudwy ac aeth ymlaen i astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Ar droad y chwedegau rhoddodd ei bryd ar ddinas Caerdydd, lle bu’n ddinesydd balch am hanner canrif a mwy. Yn y ddinas hon hyfforddodd fel athrawes, gan ddechrau gyrfa faith o ddysgu’r iaith Gymraeg yn Ysgolion Glyn Derw, Cardiff High, ac Ysgol Radyr. Cyrhaeddodd ddinas Caerdydd ar gyfnod o gynnwrf mawr a deffroad ieithyddol, a bu’n aelod brwd o Aelwyd yr Urdd ar Conway Road. Bu’n byw bywyd rhydd fel merch yn ei hugeiniau gyda’i ffrindiau mewn cyfres o dai ym Mhontcanna; cawsom flas o’r hanes hynny’n ddiweddar iawn. Un atgof gan gyfeilles wnaeth ein rhyfeddu ni yn llwyr oedd ei rôl fel aelod o grŵp gwerin Y TelÍdis. Crëwyd y grŵp mewn ymateb i wahoddiad gan Meredydd Evans ar gyfer y darllediad cyntaf erioed yn y Gymraeg ar deledu BBC Cymru, hanner can mlynedd yn ôl ym 1964. Teithiodd Mam i Ganada, Siapan a’r Unol Daleithiau gyda Chôr Poliffonig Caerdydd, a fwydodd y ‘wanderlust’ a’i heintiodd ar hyd ei hoes. Ym 1970, yn Ocean Club Tremorfa, yn un o gigs mawr Plaid Cymru gyda Heather Jones, cyfarfu hi ‚ Phil Cooke o’r Porth yna Llanymynech, oedd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Dair blynedd yn 6

ddiweddarach fe briododd y ddau yng Nghapel Caersalem y Bermo, cyn cael gwledd i’w gofio a golygfa dros y Fawddach a Chadair Idris yn Bontddu Hall, ger Dolgellau. Fe greon nhw gartref yn Nanmor, Penylan – enw a ysbrydolwyd gan Dafydd Nanmor, a fudodd i’r Deheubarth i greu bywoliaeth iddo’i hun fel bardd. Bum mlynedd yn ddiweddarach, ym 1978, yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, fe’m ganed i, Lowri, yna’r efeilliaid Catrin a Lleucu, ym Medi 1979. Bu blynyddoedd ein plentyndod yn rhai hapus dros ben, ac ryn ni’n tair yn dal i fyw yn yr un filltir sgwâr ger Parc y Rhath. Roedd coginio yn rhan fawr o’n magwraeth ni, ac mae ryseitiau cegin Nanmor ar gof a chadw. Roedd Mam wrth ei bodd yn darllen - fe fwynhaodd hi ‘Awst yn Anogia’ (Gareth F Williams) ac ‘Y Gwylliaid’ (Bethan Gwanas) yn ystod ei misoedd olaf. Carai’r sinema a’r theatr hefyd, a gwyliai chwaraeon o bob math; ymysg ei harwyr mawr roedd Gareth Edwards, Bjorn Borg a Roger Federer. Wedi iddi ymddeol fel athrawes ym 1999, fe barhaodd i ddarganfod llefydd a phrofiadau newydd; yn fwyaf diweddar cafodd hwyl ar yr iPad a enillodd mewn cystadleuaeth ar raglen Heno. Darganfuom ni lwyth o lawrlwythiadau cerddorol arno - roedd caneuon gan Meic Stevens, The Beatles, The Dubliners, Bryn Fôn, Alan Stivell, Geraint Lovgreen a Dafydd Iwan yn eu plith. Fe deithion ni’n pump gyda’n gilydd dros y byd, ond roedd y gwyliau gawsom ni yng Nghymru’r llynedd yn arbennig. Dair blynedd yn ôl clywodd Mam fod canser arni hi, ac fe ledodd o’i llygad dde i’w hafu; ymatebodd Mam yn ddi-gŵyn, a gydag urddas tawel. Buom yn ffodus i dreulio blwyddyn a hanner ychwanegol gyda hi, diolch i driniaeth canser arloesol. Yn dilyn y triniaethau’r llynedd cawsom ddau wyliau bendigedig ym Meirionnydd a Phen Llŷn - ardaloedd oedd yn agos i’w chalon - a chafodd Mam a Dad ddathlu eu pen-blwydd priodas ruddem ym Mhlas Bodegroes, Pwllheli gyda’r teulu. Byddwn yn dychwelyd cyn hir i Feirionnydd i wasgaru llwch Mam ger traeth y Bermo a glannau’r Fawddach. Roedd hi’n caru Caerdydd ond hiraethai am fro ei mebyd. Wrth feirniadu cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn eleni, ces fy nghyffwrdd i’r byw gan gerddi R Williams Parry yn y cofiant buddugol Bob gan Alan Llwyd. Roedd copi o ‘Yr Haf a Cherddi Eraill’ ar erchwyn gwely Mam, a fedra’i ddim peidio meddwl amdani wrth ddarllen ‘Mae Hiraeth yn y Môr a’r Mynydd Maith’. Byddwch yn falch i glywed nad oedd gen i mo’r nerth i’w chanu yn ei hangladd, ond mae fersiwn gynnar gan David Lloyd, ar yr alaw gan Dilys Elwyn Edwards o Ddolgellau, yn anfarwol o hardd. Serch ein galar dwys ryn ni’n dal yn ‘deulu dedwydd’ gan y bydd hi gyda ni am byth. Mam i ni i gyd oedd ein canol llonydd distaw, a’n henaid hoff, cytûn. Fe adawodd ei chariad a’i chadernid a’i Chymraeg - fe wnaiff hynny barhau trwyddon ni. Lowri Haf Cooke

CYFARFOD BLYNYDDOL LLAIS ARDUDWY

Nos Lun, Medi 29 am 6.00 o’r gloch yn Ystafell y Band, Harlech

Croeso cynnes i bawb


Y BERMO A LLANABER Ôl-nodyn bach i stori’r negeseuon mewn potel Mae plant Ysgol y Traeth wedi clywed gan ddynes oedd yn cerdded ar y traeth yng Nghilgwri ac wedi dod o hyd i’w potel. Maent hefyd wedi cael neges yn ôl gan rywun o Ynys Arran, ond does gen i ddim mwy o fanylion am hynny. Diolch i Gwenda am anfon yr wybodaeth i’r Llais.

Dyddiadau pwysig 16 Medi – Cyfarfod agoriadol Merched y Wawr Y Bermo a’r Cylch pryd y byddwn yn ymweld â Gwinllan a Pherllan Pant Du, Penygroes. 8 Hydref – Cyfarfod agoriadol y Gymdeithas Gymraeg yng nghwmni Al, Tŷ Coch a’i gyfeillion. Beth am ddod i gefnogi? Bydd croeso cynnes yn eich aros.

Pen-blwydd arbennig Llongyfarchiadau i Betty Corps, Llanaber ar ddathlu ei phenblwydd yn 90 oed yn ddiweddar.

Croeso adref Braf gweld Alun, Trem Enlli, mab Grace a John adref ar wyliau o Queenstown, Seland Newydd. Efallai eich bod wedi ei weld yn rhedeg ar y ffyrdd neu’r mynyddoedd. Daeth Alun yn drydydd yn ras y trên yn Nhywyn ar ddechrau Awst.

Colled Ar 5 Awst yn sydyn yn Ysbyty Llandochau, Bro Morgannwg bu farw Nia Powys, merch y diweddar Mr a Mrs W D Williams, y Bermo. Mae llawer yn yr ardal yn ei chofio’n dda. Cydymdeimlwn â’i phriod Phil, ei merched Lowri, Catrin a Lleucu, ei brodyr Iolo Wyn ac Iwan Bryn Williams a’u teuluoedd yn eu profedigaeth. Ysgol y Traeth Pob dymuniad da i Mr Ywain Myfyr, Prifathro, a Mrs Carys Roberts, Pennaeth y Cyfnod Sylfaen, a fydd yn ymddeol o’u swyddi ddiwedd Awst wedi iddyn nhw wasanaethu’r ysgol yn anrhydeddus iawn. Bu Mr Myfyr yn dal nifer o swyddi pwysig yn ystod ei yrfa gan gynnwys cadeirio ffederasiwn y prifathrawon. Bu hefyd yn athro ymgynghorol am gyfnod. Yn sicr, bu ei gyfnod yn y Bermo yn gyfnod llewyrchus iawn i’r ysgol. Roedd o’n brifathro poblogaidd iawn. Dymunwn yn dda iawn iddo i’r dyfodol. Bu Mrs Carys Roberts yn gweithio yn yr ysgol ers 27 mlynedd wedi iddi ddod i’r Bermo o Sir y Fflint. Roedd hithau hefyd yn uchel ei pharch ymhlith ei chyd-athrawon. Hyderwn y caiff iechyd i fwynhau ei hymddeoliad. Croeso cynnes i Mrs Elin Jones, y dirprwy sydd yn awr yn camu i swydd y pennaeth. Pob dymuniad da iddi hithau yn y barchus, arswydus swydd!

MARCHNAD CYNNYRCH LLEOL GWYNEDD Y Ganolfan, Porthmadog 9.30 y bore – 2.00 y pnawn

Dydd Sadwrn ola’r mis. Cyfle i brynu cynnyrch lleol ffres o bob math, o fadarch, wyau, cacenni, llysiau, bara a chig, i daffi a jamiau!

TRIP Y LLENG BRYDEINIG I YPRES GWLAD BELG i weld Cofebion Rhyfel yr ardal

Hydref 16- 20, 2014

Cost i’r unigolyn, yn rhannu ystafell - £313. Teithio mewn bws moethus Euro Tunnel. Dim ond 8 lle ar ôl.

Dyddiad cau – Medi 12 Am fwy o fanylion, cysylltwch â Graham Perch: d.perch@ btinternet.com ffôn 01766 781154 symudol 07866509896

LLANFAIR A LLANDANWG

Cyhoeddiadau Caersalem 2014

Am 2.15 oni nodir yn wahanol

Dymuno’n dda Dymuniadau gorau i Ann Lewis, Min-y-môr, Llandanwg wrth iddi gychwyn am Dornoch yn yr Alban i amddiffyn ei theitl fel Pencampwr Merched Hŷn Gwledydd Prydain. Llongyfarchiadau iddi hefyd ar ostwng ei handicap eto fyth. Mae hi yn awr yn chwarae oddi ar +1, sy’n golygu bod rhaid iddi adio un i’w sgôr ar ôl pob gêm. Genedigaeth Llongyfarchiadau mawr i William a Jackie Hooban ar enedigaeth Kayleigh Rose ar Orffennaf 26 - chwaer fach i Chloe, Harvey a Tommy, wyres i Laurence a Raye Hooban, Llanfair ac Alun a Lorraine Jones, Llanbedr, a gorwyres i Mrs Sykes. Diolch Carwn ddiolch o waelod calon am y gofal a’r sylw a dderbyniais gan y nyrsys a’r staff yn ystod fy nghyfnod yn Ysbyty Gwynedd a’r Alltwen yn ddiweddar. Diolch hefyd am bob cymorth gan deulu a ffrindiau ar ffurf ymweliadau, llythyrau a negeseuon caredig, ac anrhegion. Braf cael bod adref o’r diwedd, a llawer o ddiolch i chi i gyd. Mair Meredydd Williams, Glennydd, Llanfair Diolch £10

DAU O STAFF YSGOL Y TRAETH YN YMDDEOL

Mrs Carys Roberts

Mr Ywain Myfyr

MEDI 21 Parchedig Tecwyn R Ifan 28 Bnr G Eurfryn Davies HYDREF 12 Parchedig Tecwyn Ifan, Diolchgarwch 19 Parchedig C Prew 26 Bnr Marc Jon Williams TACHWEDD 16 Parchedig Eirian Wyn Lewis 23 Parchedig Olwen Williams am 2.00 o’r gloch RHAGFYR 7 Parchedig Dewi Tudur Lewis

Cymunedau Crefftus Mae Cyngor Gwynedd am gynnal cwrs hyfforddi i grefftwyr o Wynedd am sut i greu a gwerthu cynnyrch crefft o’u cartref. Bydd y cwrs - Cymunedau Crefftus - yn rhoi arweiniad ac anogaeth i oedolion o’r sir sydd yn awyddus i ddysgu mwy am ddatblygu eu sgiliau cynhyrchu crefftau yn fusnes o’u cartref. Cynhelir y cwrs dros gyfres o 10 sesiwn hyfforddi ar foreau Mawrth ac Iau rhwng 14 Hydref 2014 a 13 Tachwedd 2014 yn ardal Caernarfon. Yn ogystal, bydd cyfle i’r rhai sydd yn cymryd rhan yn yr hyfforddiant werthu eu cynnyrch o stondin Cymunedau Crefftus yn Ffair Grefftau Nadolig Glynllifon ar 22 a 23 Tachwedd 2014. Cost y cwrs yw £20 am 10 sesiwn. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Gwawr Wyn Roberts drwy e-bostio GwawrR@gwynedd.gov.uk neu ffoniwch 01286 679721.

Merched y Wawr NEUADD LLANFAIR Te Cymreig Pnawn Gwener, Medi 5 2.00 hyd 4.00 y pnawn NEUADD LLANFAIR Nos Fawrth, Medi 9 Cyfarfod cyntaf y flwyddyn Noson yng nghwmni Mair Penri Jones am 7.30 o’r gloch

7


Eleanor Jones

Janet yn Nhŷ’n Pwll dywedai y buasai wedi bod wrth ei bodd cael bod yn nyrs ac, mewn Gwraig, mam, nain, chwaer a un ystyr, fe wnaeth hynny yn ffrind annwyl; hoffus, gofalus ddistaw bach drwy gydol ei hoes. a chroesawus i’w theulu ac i’r Pan gafodd Anna Wyn ei geni, gymdogaeth oedd Anti Len. Anti Len ddaeth i Benisarcwm Un o blant Pen Rhos, i ofalu a helpu mam. A phan Trawsfynydd, ond pan yn oedd mam yn sâl efo niwmonia ifanc daeth y teulu dros Fwlch Tyddiad i lawr i Gwm’rafon i fyw. a ninnau yn fach iawn, Anti Len oedd acw yn gofalu. Cafodd y teulu ergyd drom o Gofalodd yn dyner a chariadus golli Bennet bach yn dair oed am Johnny Jones ac Anti Annie, trwy ddamwain, ac yna colli eu John Wyn a’i merched bach hi ei mam Janet yn y flwyddyn 1950. hun, Annwen a Janet. Gan mai Anti Len oedd y ferch Rhinwedd arall amlwg Anti Len hynaf byddai Janet, ei mam, yn oedd ei chroeso. Mae croeso fel ei siarsio i wneud yn siŵr bod gwythïen yn rhedeg drwy deulu y merched bach yn iawn, sef Catrin a Leusa, pan oeddynt ym Cwm’rafon a Chrafnant. Nosweithiau di-ri o gwmpas y Mhen Rhos. Ie, gofalu - un o rinweddau Anti tân a’r bwrdd swpar. Pan oedd Annwen a Janet yn Len. Pan oedd iechyd Anti Len fabis bach byddai Anna Wyn a yn simsan a hithau yn aros efo

minnau yn cael mynd i’r llofft efo Anti Len i roi’r plant yn eu gwelyau. Janet yn cysgu heb ddim trafferth, ond Annwen? Doedd dim cysgu yn ei chroen hi! Yna, yn goron ar y noson, y swper; y croeso a’r sgwrsio o gwmpas y bwrdd; y straeon difyr, y chwerthin a’r tynnu coes - trysorau i’w cadw yn y cof ac i’w trosglwyddo i’r genhedlaeth nesa. Diolch Anti Len am ofalu bod yna fargarin i Anna Wyn yn lle menyn ffarm - y pethau bach oedd Anti Len yn gofio a oedd yn gwneud i chi deimlo eich bod yn cael eich lapio mewn croeso. Ers blynyddoedd bellach mae plant i blant Anna Wyn wedi mwynhau croeso yng Nghrafnant a hwnnw yn groeso

cynnes iawn. Mae’r croeso hwnnw yn parhau yn Nhy’n Pwll ac ym Mhlas Ucha’ heddiw fel y dymunai Anti Len. Cywion o frîd! Fe awn yn ôl at y gofal eto. Fe ofalodd Anti Len drwy gydol ei hoes ac fe ofalodd ei theulu amdani hithau yn ddiweddar. Cafodd John Wyn y cyfle a’r nerth i ofalu am Anti Len ac yn falch o gael gwneud hynny heb anghofio’r merched Janet ac Annwen am eu ffyddlondeb a’u gofal tyner ohoni ar hyd y blynyddoedd - hyd y diwedd. Bob tro y byddai Anna Wyn a’r teulu yn gadael Crafnant y geiriau yma sy’n atsain yn y cof - “Diolch i chi am ddŵad! Bryshiwch yma eto” Diolch i chi Anti Len! Lisbeth ac Anna Wyn

ail briodi â Lewis Evans, cefnder i Hedd Wyn, o fferm Muriau ger Trawsfynydd. Symudwyd i Gancoed Uchaf yn y dauddegau cynnar. Yr oedd Doris a’i brawd yn mynychu ysgol Maentwrog, dipyn o gerdded a thynnu i fynnu yn ôl adref ymhob tywydd, dipyn gwahanol i blant heddiw yn cael tacsi mam a dad. Dyna’r unig ysgoloriaeth a oedd ar gael y dyddiau hynny gan nad oedd trafnidiaeth ar gael i’r ysgol fawr yn y Blaenau. Yn y fangre honno fe anwyd dwy chwaer iddi sef Ceinwen a Glenys. Gan fod gwahaniaeth 28 Awst 1911 - 27 Mehefin 2014 yn yr oedran roedd Doris fel ail Ganwyd Doris ar fferm fam i’r ddwy. Symudwyd wedyn Cilcychwyn yng Nghwm i Bant y Wrach yn Llanfrothen. Nantcol, yn blentyn hynaf Roedd Doris yn gwerthu llaeth William a Dora Stephens, a ym Mhenrhyndeudraeth yn chwaer i’r diweddar Gruffydd ddyddiol gyda throl a cheffyl. Stephens, Penymstymllyn, Sôn am drychineb du, un wen a Cricieth. Roedd ei thaid gafodd Doris y diwrnod hwnnw. Stephen Stephens yn wreiddiol Dynes yn pluo iâr ar ochor y o Lan Ffestiniog a symudodd ford a’r plu gwyn yn hedfan a i Faes y Garnedd yn y ganrif dychryn y gaseg wen nerfus. cyn y ddiwethaf. Yr oedd o’r Rhedodd ar garlam am y rhiw un teulu ag Edward Stephens y fawr a’r nwyddau yn mynd i bob pregethwr a’r emynydd enwog man ond roedd y llaeth wedi (Tanymarian). Adeg rhyfel yr ei glymu’n dynn. Trwy ryw oedd carcharorion o’r Almaen yn ragluniaeth roedd dau grwydryn helpu ar y ffarm a doeddwn nhw yn ymyl a lluchiodd un ei gôt erioed wedi gweld merch bump am ben y ceffyl a’i atal, cyn i oed, gyda dwylo mor fach, yn bawb fynd i dragwyddoldeb. Yr godro buwch. Roedd y cryfder oedd Doris yn fedrus iawn yn hwnnw yn amlwg hyd y diwedd gwneud menyn a chaws ac yn pan fyddai’n gafael yn dynn yn ennill gwobrau yn lleol a’r sioe eich llaw. sir. Enillodd ysgoloriaeth i fynd Roedd Doris yn ddeg oed pan i Goleg Llysfasi on ni chafodd gollodd ei thad ac yr oedd fynd oherwydd anawsterau pethau yn reit ddrwg arnynt fel teuluol. teulu’r dyddiau caled gynt. Fe Ar ôl rhai colledion symudwyd i wellhaodd pethau ar ôl i’w mam

Lech y Cwm ger Gellilydan ac yn dal i gynhyrchu llaeth a’i werthu yn y pentref. Ar ôl peth amser fe gafodd afael ar Phillip Owens ac fe’u priodwyd yng Nghapel Maentwrog Uchaf ym mis Medi 1938. Wedi ymgartrefu yn Stryd Leeds ym Mlaenau Ffestiniog ac wedyn i 24 Heol Jones, ganwyd iddi ddau fab sef Dewi Aled a Geraint Wyn. Fe anwyd y ddau mewn amser go ddyrys gyda’r ail ryfel byd yn ei hanterth. Ar ddechrau’r pumdegau symudodd i’w chartre’ mwyaf diweddar, 12 Brynbowydd. Yr oedd y flwyddyn 1959 yn drychinebus dros ben. Gadawodd un mab i ymuno â’r Awyrlu ym mis Ionawr ac fe gollodd Geraint o salwch ym mis Awst. Fe effeithiodd hyn yn drwm arni trwy gydol ei hoes. Roedd Doris yn gapelwraig selog yn y Salem, Brynbowydd ac yn ddiweddar yn Jerusalem, lle’r oedd ei gwr yn flaenor a chodwr canu. Hoffai gymryd rhan yn y gobeithlu gyda’r organ geg a hefyd yn adrodd. Mi fuodd hefyd yn gwasanaethu am rai blynyddoedd gyda chriw Mrs Cadfan Jones yn paratoi a danfon “Pryd ar Glud” i’r gymdogaeth. Roedd yn fedrus iawn am weu a chrosio ac roedd yn gwneud pethau o bob math i hel arian at achosion da yn yr ardal a thros y dŵr. Cafwyd llawer o hwyl yn dathlu ei phriodas arian, aur a diemwnt. Collodd ei gŵr ar ôl bod yn ffyddlon gyda’i gilydd am chwe deg wyth o flynyddoedd.

Fel yr aeth y blynyddoedd heibio yr oedd yn rhaid cael gofal cartref. Yr oedd yn hoff iawn o hen ddyweddiadau a phenillion a ddysgodd yn ei phlentyndod amser maith yn ôl, a byddai hi a’r gofalwyr cymunedol yn cael llawer o hwyl, a dweud pethau mawr weithiau. Ei hoff bennill oedd:

Doris Meiriona Owens

8

Cod yn y bore a meddwl am Dduw Dyro ddŵr ar dy wyneb fe fendia dy liw A dweud dy bader cyn profi dy fwyd Rhag ofn i’r hen Satan dy ddal gyda’i rwyd.

Yn ei blwyddyn olaf aeth i Hafod Mawddach am chwe mis, ac ym mis Rhagfyr fe gafodd le ym Mryn Blodau ac yno yr oedd hyd fis Ebrill eleni. Ar ôl cystudd hir yn Ysbyty Gwynedd ac yna Alltwen daeth y frwydr ddewr i ben, a hithau’n 102 mlwydd oed. Dewi Aled Owens

Golau gwyrdd i lwybr Llanfrothen Mae cynlluniau am lwybr cerdded newydd yn Llanfrothen wedi cymryd cam cadarnhaol ymlaen yn ddiweddar. Bydd llwybr troed palmant yn cael ei greu ar y B4410 ger Morfa Gaseg gan ffurfio cyswllt pwysig i Ysgol y Garreg, Llanfrothen. Bydd y llwybr yn gwneud byd o wahaniaeth i gymuned Llanfrothen: i blant sy’n cerdded i’r ysgol, trigolion sy’n cerdded i’r siop leol ac ymwelwyr â’r pentref.


CYFFUR A’I SGIL-EFFEITHIAU

niweidiol oedd cymryd y cyffur yma i ferched beichiog ac i eraill hefyd ac roedd llawer wedi ei gymryd heb wybod beth fyddai’r canlyniad. Nid oedd modd iddynt bryd hynny, gan gynnwys eu plant chwaith, fod â llawer o obaith o gysylltu cymryd y cyffur gydag unrhyw anhwylderau yn ddiweddarach yn eu bywydau oherwydd diffyg cofnodion. Doedd dim modd iddyn nhw chwaith fod ag unrhyw amheuaeth nad oedd unrhyw anhwylderau’n rhan o’u hanes fel teulu. Dyma’r hanes a gafwyd gan Dafydd gan fod ei fam yn cael y cyffur fel chwistrelliad wythnosol tra’r oedd yn feichiog gydag ef. Roedd eisoes Yn dilyn sgwrs ar raglen wedi colli dau blentyn a anwyd yn ‘Manylu’ Radio Cymru yn ystod farw, ac o ganlyniad i hynny roedd mis Mehefin, a ail-ddarlledwyd ei effaith yn sicr yn ôl gwybodaeth ym mis Gorffennaf eleni, gan heddiw wedi bod yn achos iddi hi ei hun gael llawdriniaeth gyda chanser Dafydd J Roberts, Uwch Glan, ddwywaith o fewn saith mlynedd ar gofynnwyd iddo am gefndir ôl derbyn y cyffur, ond trwy wyrth yr hanes ar gyfer y Llais y mis cafodd wellhad. hwn. Trwy ymchwil diweddar Ar y rhaglen, rhoddodd Dafydd darganfuwyd mwy am y cyffur hanes cyffur synthetig o’r enw Diyma, a chanfod adroddiadau am ethylstilbestrol neu DES (yn fyr) a ddarganfuwyd o gynhwysion côl tar sgil-effeithiau difrifol iawn. Cafwyd sioc go iawn o ddarllen hyn, a yn Rhydychen ym 1938. Tybiwyd bod yr hanes wedi ei gelu bron fod y cyffur yn meimio’r hormon yn gyfan gwbl neu gydag ychydig benywaidd oestrogen. Roedd hwn o adroddiadau ar gael yn y wlad yn rhad i’w gynhyrchu o’i gymharu â hormon naturiol sterol a gafodd ei hon. Mae tuedd i gymryd agwedd gynhyrchu tua’r un pryd ond roedd mwy amddiffynnol ohono yma nag yn y gwledydd eraill oherwydd yn broses hir a chostus i’w hidlo gwelir achosion o’i sgil-effeithiau o wrin anifeiliaid. Derbyniwyd hyd yn oed heddiw a thrwy cyllid gan lywodraeth Prydain anwybodaeth o ddiffyg ymchwil i’w ddatblygu a thrwy hynny fe’i mae’n cael ei anwybyddu hyd yn rhoddwyd i tua 200 o wahanol gwmnïau i’w gynhyrchu heb batent, oed mewn hyfforddiant meddygol ac o ganlyniad fe’i gwerthwyd o dan cyfoes Prydain. Cafwyd y rhan amrywiaeth mawr o wahanol enwau helaeth o wybodaeth o wefannau dibynadwy America lle tybir bod brand. tua deg miliwn o wragedd wedi Fe’i hyrwyddwyd ar y dechrau derbyn y cyffur a lle’r oedd llawer yn fel cyffur i ferched beichiog i amau fod ei sgil effeithiau yn gallu rwystro erthyliad naturiol. Roedd effeithio ar y genhedlaeth gyntaf a’r amheuaeth bryd hynny bod diffyg ail ac yn ddigon posib eto, y trydydd yr hormon oestrogen mewn rhai i lawr y lein. Amheuir hefyd fod merched neu gyda chyflwr diabetig yr effeithiau’n gallu arddangos eu yn fodd i beri iddyn nhw golli hunain ar unrhyw bryd ym mywyd eu babanod cyn eu hamser. Yn yr unigolyn a bod o ganlyniad yn ei ddiweddarach fe’i hyrwyddwyd gwneud yn anodd cysylltu’r cyffur yn eironig iawn i drin cancr â’r anhwylder. Adnabuwyd y plant y fron neu brostad. Defnydd a anwyd i’r mamau hyn yn feddygol arall iddo hefyd oedd fel cyffur fel ‘Des Son/Daughter’ neu ‘Grandi hesbio ar ôl genedigaethau a Daughter/Son’. thriniaeth i ‘Gonorrhoea Vaginitis’, Er y gwelir mwy o’i sgil-effeithiau a hefyd mewn clinigau colegau ar ferched na dynion, ceir fwy o yn y chwedegau fel pilsen bore wybodaeth amdano o safbwynt wedyn i rwystro neu i drio dod â merched, ond mewn gwirionedd beichiogrwydd i ben ond nid oedd mae Dafydd yn fwy na sicr bod y yn effeithiol bob tro ac amharwyd cyffur hwn wedi bod yn gyfrifol ar rai babanod yn ddifrifol trwy am y diagnosis a gafodd yn 2001, niweidio eu gender o ganlyniad sef tiwmor ar ei chwarren bitẅidol i ddefnydd cynnar y cyffur yn (Pituitary), hynny ydy, prif chwarren ystod y deg wythnos gyntaf o endocrin y corff, ond gan nad oes feichiogrwydd. Yn wir, mewn ymchwil llawn wedi ei gynnal ar y gwirionedd, cafodd ei ddefnyddio at dros gant o wahanol anhwylderau cyffur ni all brofi ei argyhoeddiad yn wyddonol. Clywodd sôn hefyd ac oherwydd hyn bedyddiwyd y cyffur fel ‘The Wonder Drug’. Erbyn bod un o blant cyn-Arlywydd America sef Ronald Reagan wedi heddiw rydym yn gwybod pa mor

lesteirio cynhyrchiant hormonau’r chwarren bitẅidol (sef y Pituitary) rhag iddynt ymlid. Beth bynnag, diddymwyd ei ddefnydd at besgi ac i ferched beichiog tua’r yr un pryd ar ddechrau’r saithdegau, ond bu peth defnydd wedyn a hynny’n eironig iawn fel triniaeth i gancr lle’r oedd yn llesteirio cynhyrchiant hormonau LH y chwarren bitẅidol rhag cynhyrchu oestrogen neu destosteron fel yn briodol a fuasai’n bwydo’r cancr. Lle rhoddwyd gwaith ymchwil ar y gweill dyma oedd y canlyniadau i blant DES, ond rhaid cofio mai rhan yn unig yw hyn a petai mwy o waith ymchwil yn cael ei gynnal buasai’r rhestr yn sicr o fynd yn fwy. Organau Cenhedlu Uwch risg i ferched • Canser llysgelloedd y llawes ‘Adenocarcinoma’ merched 14-22 oed *(7 tro i 8) • Problemau cenhedlu,- y fam ar ffurf ‘T’ , neu nam ar y fodrwy • Pwysau genedigaethau isel • Canser y fron (oedran 40>) +77% cynnydd mewn risg • Beichiogrwydd ectopig +403% • Anffrwythlondeb +115% • Erthyliad geni’n farw +242% • Genedigaeth cyn-amser +200% • Menopos cynnar +200% Uwch risg i ddynion • Nam ar organau genidol, cryptorchidiaeth a hypospadias • Canser y ceilliau neu hwyrach y brostad Ond nid DES na Thalidomide • Lefel isel o had oedd yr unig gyffur a gafodd ei • Carfan uwch yn llaw chwith ddefnyddio ac sydd wedi creu • Epididymal cyst di-ganser tu ôl i sgil-effeithiau i fabanod yn y groth. gaill Mewn gwirionedd mae un arall hefyd wedi ymyrryd â natur a chreu • Ymyrraeth ar y gender os y’i rhoddwyd o fewn y 10 wythnos sgil-effeithiau difrifol i fabanod gyntaf. tua’r chwedegau ar saithdegau, Gweddill y Corff sef ‘Primodos’, a gymerwyd fel Cardiovascular +27% cynnydd pilsen bore wedyn. Mae Dafydd ei mewn risg hun yn credu ei bod yn hen bryd Trawiad y galon +28% chwythu caead y bin yn agored fel Hypertensiwn +14% petai a datgelu’r cyfrinachau hyn Cholesterol uchel +12% er mwyn y rhai sydd wedi cael eu heffeithio gael cyfle i holi eu Tybir gan Dafydd mai twyll ar rhieni neu allu cael mynediad i’w raddfa eang oedd yn gyfrifol a’r tu cofnodion meddygol cyn iddynt ôl tu ôl i’r cyffur yma yn y lle cyntaf, gael eu dinistrio ymhen ychydig o a gafodd ei hyrwyddo ar ffeithiau flynyddoedd wedi eu marwolaeth. ffug i rwystro erthyliad naturiol. Mae’r amseriad y’i rhoddwyd a Roedd cymaint o ychwanegiadau chryfder y ddos a’i adnabod fel o anhwylderau eraill yn ei gwneud brand yn holl bwysig i’w wahanol yn anghredadwy. Disgrifiwyd y tîm effeithiau. a’i cynlluniodd gan un cyfreithiwr Defnydd arall a gafwyd i’r cyffur o America fel ‘Quakery’, Hefyd, hwn oedd pesgi anifeiliaid yn y roedd rhai cwmnïau cynhyrchu chwedegau cynnar; er enghraifft yn argymell cryfhau’r ddos i fil i’w roddi i gywion ceiliogod er waith yn fwy heb unrhyw ymchwil mwyn eu tawelu. Lle datblygodd na ffeithiau gwyddonol y tu ôl i rhai diwmor ar ôl ei ddefnydd, hyn, ac mae’n teimlo’n siomedig dywedodd ei fam yr adeg honno iawn bod awdurdodau’r wlad na fuasai yn ei ddefnyddio wedyn, hon wedi dewis cadw ei sgilond ni sylweddolodd mai’r effeithiau’n ddirgel cyhyd, hefyd cyffur a gafodd hi oedd hwn er na chafwyd ymddiheuriad a fydd gwaethaf ei ffydd gref ynddo bryd yn atgyfnerthu’r ffydd ynddynt i’r hynny. Hefyd bu arbrofion yn y dyfodol gydag unrhyw gyffur arall. chwedegau i’w roddi i ŵyn gyrfod i ei effeithio gan DES a’i fod wedi datgan wythnos o ymwybyddiaeth o’r trychineb yn ‘DES Week’ yno. Digwyddodd hyn er gwaethaf adroddiadau cynnar nad oedd y cyffur hwn yn gwneud dim i rwystro erthyliadau, ond anwybyddwyd hyn. Tua diwedd y chwedegau cafwyd ymchwiliad pellach ar ôl darganfod merched o oedran 17-23 yn dioddef o gancr llys celloedd y llawes a oedd cyn hynny’n yn beth eithriadol o brin, a chafwyd amheuaeth mai DES oedd yn gyfrifol. Oherwydd hyn, cafodd ei wahardd tua 1971 a’i ddosbarthu’n dri gwahanol gategori sef: ‘Endocrine Disrupter’: cemegolion gyda’r gallu i rwystro neu amharu ar gynhyrchiant hormonau steroidau’r corff rhag iddynt gyfathrebu gyda’r organau cyfathrebol eraill, trwy niweidio neu lesteirio’r system endocrin. ‘Carcinogen’: Cemegolion sydd yn cael eu cysylltu gyda chancr trwy niweidio patrymau’r DNA, a gosodwyd DES yn y dosbarth uchaf mewn categori i bobl. Hefyd, cafodd DES ei ddarganfod fel y cemegyn cyntaf gyda’r gallu i dreiddio’r brych i’r ffoetws. ‘Teratogen’: Cemegyn sy’n achosi nam datblygol i’r ffoetws; enghraifft arall o gemegyn yn yr un dosbarth oedd Thalidomide.

9


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Diolch Dymuna teulu’r diweddar Marian Thomas, Preseli, ddatgan eu diolch am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth. Y Parchedig Ganon Beth Bailey oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth hyfryd yn Amlosgfa Aberystwyth. Diolch i bawb am y cyfraniadau hael i Dŷ Gobaith. Codwyd y swm anrhydeddus o £1750 at yr elusen. Diolch a rhodd o £20 Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Iwan Meirion (mab Gareth ac Anwen Williams, Glanffrwd, Talybont) a Siân ar enedigaeth merch fach, Siwan Melangell, chwaer fach i Begw Meirion. Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau hefyd i Rhodri (mab Huw a Rhian Dafydd, Erw Deg, Dyffryn), ac Eleri ar enedigaeth merch fach, Miri Enlli, chwaer fach i Mabli. Cydymdeimlad Ar 19 Gorffennaf bu farw Mrs Olive Williams, Glyn Berws, Talybont, yn 81 mlwydd oed. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol yn Eglwys Llanddwywe a chydymdeimlwn

yn fawr â’i phlant a’r teulu oll yn eu profedigaeth. Cydymdeimlwn hefyd â Mr a Mrs Ifan Richards, Minffordd, Dyffryn, a’r teulu yn eu profedigaeth o golli chwaer Ifan, sef Mrs Eleanor Jones, Crafnant, Llanbedr. Tristwch Trist oedd clywed am farwolaeth sydyn Mr John Edwards, Garnwen, Talybont neu John Edwards, Y Port, fel yr oedd pawb yn ei adnabod gan iddo ef ac Esme fod yn cadw’r Swyddfa Bost yn Nhalybont am flynyddoedd ac yn uchel iawn eu parch gan bawb yn yr ardal. Cydymdeimlwn yn fawr â’i briod Esme, y plant Rhian, Vaughan a Philip a’r teulu oll yn eu profedigaeth.

Llongyfarchiadau i Mauriese Ceri ar ennill gradd mewn addysg yn y Brifysgol ym Mangor a Tomos Osian, Sarnfaen am ennill gradd Meistr mewn Peirianneg Mecanyddol yn Lerpwl.

Eisteddfod Dyffryn Ardudwy 1943-48 Tybed a oes gan un o’n darllenwyr fanylion am ganlyniadau’r eisteddfod uchod rhwng 1943 a 1948? Cafwyd cais gan Mr Wilfred Williams o Landudno [01492 871658] am wybodaeth am Watcyn o Feirion yn beirniadu yn yr adran gerdd bryd hynny.

PRIODAS

Ras Feicio Ar 17 Awst bu David Roberts, 14 Bro Arthur yn cymryd rhan yn y ras feicio Y Tour de Môn, ras o dros gant o filltiroedd o gwmpas Ynys Môn. Roedd 420 yn cymryd rhan ac er gwaethaf y gwynt cryf fe lwyddodd Dei i orffen yn safle 32, mewn amser o 5 awr a 52 munud. Llongyfarchiadau mawr iddo ar wneud mor dda. Y Tour de France nesa?

Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb

MEDI 7 – Parch Dewi Morris 14 – Anwen Williams 21 – Parch Goronwy Prys Owen, 5.30pm 28 – Edward ac Enid Owen Carol Messenger [o Aberly yn Swydd Worcester] a Nedw Griffiths ar ddiwrnod eu priodas Awst y 9fed, ar dwyni Llandanwg yng nghwmni rhai o aelodau Côr Meibion Ardudwy Llun: Lorentz Gullachsen

10

HYDREF 5 – Parch Philip de la Haye.


RHAGOR O DYFFRYN A THAL-Y-BONT Teulu Ardudwy Bydd y Teulu yn ailgychwyn am 2 o’r gloch ar ddydd Mercher, 17 Medi pan fydd Mr Wyn Meredith o Ddolgellau yn dod atom. Byddwn yn cyfarfod yn Neuadd Sefydliad y Merched yn Nhalybont gan nad yw Neuadd yr Eglwys ar gael. Croeso i aelodau newydd ymuno â ni.

Festri Lawen, Horeb Bydd cyfarfod cyntaf y Festri Lawen yn digwydd ar nos Iau 9 Hydref am 7.30 o’r gloch pan fyddwn yn cael cwmni Parti Perlais o ardal Y Bala dan arweiniad Beti Puw Richards. Beth am i chi ymuno â ni eleni? Croeso cynnes i bawb.

Clwb Ffermwyr Ifanc Ardudwy

Fuoch chi erioed yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd? Wel, dyma binacl blwyddyn Clybiau Ffermwyr Ifanc. Wedi llwyddiant yn y Rali mae cyfle i gynrychioli’r Sir ar raddfa Cymru. Mae 12 sir o fewn Cymru. Eleni 6ed oedd Cywaith Ardudwy, mewn cystadleuaeth o safon uchel iawn. Thema eleni ydoedd “Arwyr”, i’w ddehongli rywsut, ond o gofio bod hi’n 100 mlynedd ers dechrau’r Llynedd bu farw Jack Morris (Gwelfor, Dyffryn gynt) a Rhyfel Mawr, roedd y rhan fwyaf o siroedd wedi phenderfynodd y teulu roddi Cwpan i gofio amdano i Glwb Pêldilyn y trywydd yma. droed y Bermo a’r Dyffryn. Pêl-droed oedd popeth i Jack ac roedd yn chwaraewr arbennig o dda. Bu’n chwarae i’r tîm am flynyddoedd Bu i Llinos Ford gystadlu yn y beirniadu moch. Bu Mari a Cai wrthi’n brysur yn y gystadleuaeth coginio dan lawer ac yna bu’n rheolwr y tîm. 21. Cawsom 3ydd, gyda phryd o fwyd i ddau gan ddefnyddio Cafwyd cyfnod llwyddiannus iawn yn y 50au pan oedd Jack yn cynhwysion o’r ail Ryfel Byd, (bwyd y Rations), a’i arddangos gapten ac yn y 60au pan oedd yn rheolwr. Yn ystod tymor 1955/56 mewn “alcof ” gwyn. Hwnnw hefyd yn seiliedig ar thema, neu enillodd y tîm Gwpan Amatur Gogledd Cymru ar ôl curo Buckley gefndir, y 40au. Wanderers yn Llandudno. Fel y gwelwch ceir cyfleoedd gwych drwy’r Ffermwyr Ifanc. Yn ystod yr haf ar ddechrau gêm gyfeillgar yn erbyn Caersws cyflwynodd Mai, Rhian, Iona a David, nithoedd a nai Jack, y gwpan Clwb yw i ieuenctid o 11 oed i fyny, i fwynhau gweithgareddau amrywiol, chwaraeon, drama, eisteddfod, tripiau, beirniadu, magu i’r Clwb. Cyflwynir y Gwpan i’r chwaraewr gorau yn ystod y tymor llo, coginio, gosod blodau, sgwennu - mae’r rhestr yn ddiddiwedd. a’r cyntaf i’w hennill oedd James Papyrnick gan mai ef oedd y Cewch gyfleoedd gwych, ffrindiau am oes, codi hyder a llawer mwy. chwaraewr gorau’r tymor diwethaf. Bydd gennym noson i drefnu rhaglen nos Fawrth y 9fed o Fedi am Yn y llun mae Mai, Rhian ac Iona, nithoedd Jack, James Papyrnick, 7.00 yn Neuadd Bentref Llanbedr. enillydd cyntaf y Cwpan, David, nai Jack, Idris Price a Wil Huntley, Byddwn yn falch iawn o’ch gweld, aelodau hen a newydd. cadeirydd Clwb Pêl-droed Bermo a’r Dyffryn. Mari’r Hendre

Cwpan Coffa John ‘Jack’ Morris

Y Capel Newydd Talsarnau

Wrth edrych ymlaen at weithgareddau’r gaeaf, mae’n braf cael dweud fod Dewi Tudur Lewis, ein gweinidog, wedi ymddeol o’i waith fel Swyddog Lles yn Ysgol y Moelwyn er mwyn medru canolbwyntio ar y Weinidogaeth yn llawn amser. Mae’n edrych ymlaen yn fawr at gael rhoi mwy o amser i ymweld â phobl yn eu cartrefi a chael sgwrs am bethau pwysicaf bywyd. Os hoffech iddo alw, mae croeso i chi gysylltu drwy ffonio 01766 770953 neu ar Facebook -eglwys efengylaidd ardudwy/capel newydd. Mae yna oedfa bregethu bob nos Sul am 6:00, Seiat bob nos Fercher am 7:30, cyfarfod i bobol ifanc bob yn ail nos Sadwrn (yn dechrau Hydref 4), ac mae croeso i unrhyw un ymuno hefo ni. Os nad ydych erioed wedi bod mewn capel, neu heb fod ers blynyddoedd ac yn awyddus i wybod mwy am wir neges y Beibl, trowch i mewn. Bydd Caffi Bara’r Bywyd ar agor Medi 8-12 o 2 tan 4. Te, coffi, brechdanau, cacennau - bydd y cwbl am ddim, ond bydd pob cyfraniad yn mynd at waith Tear Fund ym Mhalesteina ac Irac. Dowch â’ch plant hefo chi gan y byddwn yn rhannu gwybodaeth am yr Ysgol Sul, Clwb Plant a’r Cyfarfod Pobl Ifanc.

CEIR MITSUBISHI

Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk 11


THEATR HARLECH

CROESAIR 1

2

3

4

5

6

Am fanylion pellach am ddigwyddiadau’r Theatr, ffoniwch 01766 780667, Digwyddiadau am 7.30 oni nodir yn wahanol.

8

7

MEDI

10

9

11

13

12

14

15 16

18

17 19

21

20

Ar draws

1 + 5 i lawr. Cyfnod o seibiant o’r gwersi (5, 6) 4 Clwyfo (6) 7 Tynnu’n ôl (7) 8 Gŵr dewr (4) 9 Anifail ‚ phlu ac adenydd [ar lafar] (5) 10 Cythraul (6) 11 Math o ddefnydd cryf (6) 13 Yr wybren (3) 16 Hiraethu am un sydd wedi marw (6) 18 Gwneud rhywbeth yn gam (5) 20 Gair y gogledd am sianelau hir a chul i gasglu dŵr o’r to (7) 21 Eithaf (4) I lawr 1 Tref yn Ne Cymru (7) 2 Sylwedd melys gaiff ei ddefnyddio yn lle siwgr (7) 3 Cylch i weindio hyd o weiren, lein bysgota ac ati (5) 4 Offeryn cerdd (8) 5 Gweler 1 ar draws 6 Trosedd mewn gêm bêl-droed (5) 12 Teitl arglwyddes uchel ei statws (6) 14 Cefn hir o fynydd, crib (6) 15 Aderyn dŵr urddasol (5) 16 Gweiddi (4) 17 Defnydd meddal i drin briwiau (4) 19 Nifer o bysgod gyda’i gilydd (3)

YARIS

Mis digidol yw mis Medi yn Theatr Harlech. I wybod mwy am beth sy’n digwydd yno, ewch i www.theatrharlech.com Grwpiau Artistiaid Lleol: Cynhelir arddangosfa o waith artistiaid lleol hyd at 20 Medi; cyfle i ymweld rhwng 11 y bore a 5.30 y prynhawn. Dyddiadau criw Celf Bach: sesiynau dylunio i blant rhwng 7 ac 11 oed gyda’r artist Tess Urbanska rhwng 11 y bore a 12.15 y prynhawn ar 20 Medi, 11 Hydref, 15 Tachwedd ac 17 Ionawr 2015.

ENILLWYR GORFFENNAF

Dyma’r enillwyr y tro hwn: Megan Jones, Pensarn, Pwllheli; Elizabeth Jones, Tyddyn y Gwynt, Harlech; Dilys A Pritchard Jones, Abererch; Ceinwen Owen, Llanfachreth; Gwyneth Williams, Amwythig; Hilda Harris, Dyffryn Ardudwy; Heulwen P Jones, Llanbrynmair; Gwenfair Aykroyd, Y Bala; Gweneira Jones, Cwm Nantcol; Ieuan Jones, Rhosfawr, Pwllheli. ATEBION MIS GORFFENNAF AR DRAWS 1. Beison 4. Olwyn 7. Wincio 8. Erydu 10. Arian 11. Cantor 12. Edefyn 15. Ysbïo 18. Gweddi 19. Banc 22. Tri 23. Ymgeleddu I LAWR 1. Biwmares 2. Ianci 3. Olion 5. Laryncs 6. Ymdrochi 9. Act 13. Esgair 14. Ymenyn 16. Bwa 17. Disgo 19. Bola 20. Naddu 21. Eto Atebion i sylw: Phil Mostert, Bryn Awel, Ffordd Uchaf,, Harlech LL46 2SS, erbyn canol y mis os gwelwch yn dda.

AURIS

AYGO NEWYDD

TOYOTA HARLECH Ffordd Newydd, Harlech 780432

12


NEWYDDION YSGOL ARDUDWY Prom Cafodd myfyrwyr B11 gyfle i ddathlu diwedd yr arholiadau TGAU a ffarwelio â’r ysgol yn y Prom a gynhaliwyd yng Nghlwb Golff Dewi Sant, Harlech. Roedd pawb yn edrych yn smart iawn a chafwyd noson lwyddiannus iawn. Diwrnod gwisg hamdden Penderfynodd y Cyngor Ysgol gynnal diwrnod gwisg hamdden ar gyfer Pwll Nofio Harlech. Mae’r Pwll yn wynebu cyfnod anodd yn ariannol ac roedd y disgyblion yn falch o helpu gan fod y pwll a’r wal ddringo’n bwysig i’r ardal. Cyflwynwyd siec o £200 yn ddiweddar i Mike Roberts, Rheolwr Y Pwll. Roedd Mr Dylan Hughes, un o ymddiriedolwyr Hamdden Harlech yn bresennol hefyd. Wythnos weithgareddau Bu’r Wythnos Weithgareddau ym mis Gorffennaf yn un llwyddiannus iawn gyda phob blwyddyn yn dilyn gweithgareddau amrywiol drwy’r wythnos. Roedd B7 yn gwneud gwaith celf a cherdd, B8 ar ymweliad â Ffrainc, a B9 yn gwneud gwaith cymunedol a thaith i Gaerdydd. Bu B10 ar brofiad gwaith estynedig. Taith fathemateg i Gaerdydd Trefnwyd ymweliad arbennig dros nos gan yr adran fathemateg i Techniquest yng Nghaerdydd ar gyfer 51 o ddisgyblion Blwyddyn 9 i ymgymryd â gweithgareddau mathemategol. Cafwyd cyfle hefyd i ymweld â Sain Ffagan a mynd i’r ‘Doctor Who Experience’. Mwyhawyd y daith yn fawr. Readathon 2014 Eleni, bu B7, 8 a 9 yn cymryd rhan yn ymgyrch ddarllen Readathon. Am bythefnos, bu’r disgyblion yn darllen cymaint â phosibl, gan geisio cael eu noddi am wneud hyn. Llwyddwyd i godi’r swm anhygoel o £2000, ac mae pob ceiniog yn mynd at ‘Clic Sargent Cancer Care’, a’r ‘Roald Dahl Foundation’ sydd yn helpu plant a phobl ifanc ddifrifol wael.

13


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN

PRIODAS

Llongyfarchiadau i Lisa Rayner a Mark ‘Bych’ Williams ar achlysur eu priodas ar Fehefin 21. Cynhaliwyd y gwasanaeth yn Eglwys Llanfihangel gyda’r wledd briodas yng Ngwesty’r Oakeley Arms, Maentwrog. Y morwynion oedd Gwenan Owen, Gail Roberts a Carys Jane Williams gyda Nell Wigglesworth yn forwyn fach. Y gwas priodas oedd David Roberts gyda Jack Wigglesworth a Callum Williams yn ‘Page Boys’. Jodie Evans y ffotograffydd ifanc talentog oedd yn gyfrifol am dynnu lluniau. Mi dreuliodd y ddau eu mis mêl yn Swydd Efrog. Mi fydd Lisa a Bych yn ymgartrefu yn Harlech. Dymuniadau gorau i’r ddau yn y dyfodol.

Gwasanaeth Bedydd Prynhawn Sul, 6 Gorffennaf 2014, yng Nghapel Bryntecwyn, dan ofal y Parch Anita Ephraim, cynhaliwyd Gwasanaeth Bedydd Anedd Enlli, merch fach Islyn a Heledd Griffiths o Drawsfynydd, a chwaer fach i Mabon Prysor. Bu Heledd yn aelod ffyddlon iawn o’r Ysgol Sul ym Mryn= tecwyn am nifer o flynyddoedd a phleser oedd cael ei chroesawu hi, ei gŵr a’r plant, ynghyd â theulu Draenogan Mawr, Talsarnau a theulu Islyn o Drawsfynydd i’r achlysur hapus yma. Roedd nifer o blant ifanc yn yr Oedfa a gwahoddwyd hwy gan y Gweinidog i ddod ymlaen i gyd-ganu ‘Dod ar fy mhen’ yn ystod y Gwasanaeth a chafwyd dehongliad hyfryd. Roedd yn braf iawn gweld cymaint yn y Capel i fwynhau’r digwyddiad teuluol arbennig yma. Cydymdeimlad Estynnwn ein cydymdeimlad llwyraf â theulu’r Onnen yn eu profedigaeth drist o golli chwaer ieuengaf Lis, sef Rhian, yn ddiweddar. Anfonwn ein cofion atoch i gyd fel teulu.

Llongyfarchiadau i Keira Jones, merch Gareth a Jaspreet, am gerdded i gopa’r Wyddfa ganol mis Gorffennaf. Gadawodd ei chartref am 6.30 y bore ac yr oedd yn ôl erbyn 3.00 y pnawn. Tipyn o gamp i ferch fach bump oed. Mae’n ddisgybl yn Ysgol Talsarnau.

R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU

NEUADD GYMUNED TALSARNAU

Cyngerdd gyda

Trio Canig Parti’r Goedlan Nos Wener, 24 Hydref 2014 am 7.30 Tocynnau £10 (plant ysgol yn ddi-dâl) Cyngerdd Yn ystod 2013, fel aelod gweithgar o Bwyllgor y Neuadd, roedd Gwynfor John Williams, Gwrach Ynys, wedi cynnig yr artistiaid a enwir ar y poster uchod i gysylltu â hwy i ofyn a fyddent yn barod i ddod i gymryd rhan mewn cyngerdd yn Neuadd Talsarnau. Aed ymlaen gyda’i ddymuniad ac erbyn hyn mae’r Pwyllgor yn ddiolchgar iawn bod Trio Canig o Sir Fôn a Pharti’r Goedlan o Frithdir, Dolgellau wedi cytuno i ddod i Dalsarnau. Bydd yr achlysur yma’n deyrnged i Gwynfor am ei ymroddiad llwyr er sicrhau llwyddiant y Neuadd Gymuned.

Eglwys Llandecwyn Diwrnod Sant Tecwyn PERERINDOD A CHANU A MOLIANT Dydd Sul, Medi 14

Taith yn dechrau gyda gweddi wrth ffenester Sant Tecwyn yn Eglwys Llanfihangel– y–traethau, Ynys am 4.00. Ar ôl i’r cerddwyr gyrraedd Eglwys Llandecwyn, byddwn yn cael lluniaeth, ac yna dathlu gyda gwasanaeth o Ganu a Moliant. Bwriedir dechrau y gwasanaeth am 6.00, ac anelu at orffen mewn pryd i wylio’r machlud dros yr aber ychydig wedi 7.00.

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286 Ffacs 01766 771250

Honda Civic Tourer Newydd

14


O’r Lasynys Fawr

Dechreuwyd ein tymor gyda’n darlith flynyddol yn Neuadd Talsarnau. Pleser o’r mwyaf oedd cael croesawu Mr Cyril Jones atom unwaith eto i draddodi’r ddarlith. Ei destun dewisol oedd hanes ymweliad, ar lafar ac ar ffilm, rai o Gyfeillion Ellis Wynne â La Mancha, lle y bu Quevedo, awdur ‘Los Sueños’, patrwm y ‘Gweledigaethau’, yn byw ar un adeg. Roedd y Neuadd o dan ei sang, ac fe gawsom wledd yn wir. Hoffem ddiolch o galon i Mr Jones am ei gyflwyniad hynod ddifyr ac addysgiadol. Bu’r haf yn brysur iawn gydag ymweliadau gan bobl o bob cwr. Mae’n bleser eu croesawu i’r Lasynys a’u tywys o gwmpas y tŷ gan adrodd hanes y Bardd Cwsg a’i gartref. Croesawyd Cyfeillion y Llyfrgell Genedlaethol draw ar un o brynhawniau brafiaf yr haf, a’r Lasynys ac Ardudwy ar eu gorau. Cafwyd prynhawn difyr iawn yng nghwmni Canolfan Uwchgwyrfai hefyd, oedd ar daith o amgylch Ardudwy o dan arweiniad Elfed Roberts. Mae canghennau Merched y Wawr yn ffyddlon iawn pob blwyddyn ac fe ddilynwyd yr un patrwm eleni gydag ymweliadau gan nifer o ganghennau o’r Bermo i Bentrefoelas. Mae rhai ymweliadau bellach wedi dod yn ymweliadau blynyddol megis ymweliad gan Adran Gymraeg Prifysgol Abertawe ac ymweliad gan Ysgol Haf Gymraeg Coleg Harlech, ac mae’r arferion rheiny yn hynod o bwysig gennym. Traddodiad amhrisiadwy arall yw cyfraniad disgyblion ac athrawon Ysgol Ardudwy yn ystod wythnos gweithgareddau’r ysgol ddiwedd tymor yr haf. Wyth merch fuodd yn ddygn eleni am ddau ddiwrnod cyfan. Fe weithiodd y criw’n eithriadol o dda gan beintio’r pyst a’r giatiau, sgleinio’r lloriau, crafu fframiau’r ffenestri a llawer iawn mwy. Hoffwn ddiolch iddynt a’r athrawon am eu haelioni a’u gwaith gwych ac estynnaf werthfawrogiad twymgalon i’r Ysgol am y cyfraniad hwn. Roedd y tŷ yn edrych yn well nag erioed ar eu holau ac yn sgleinio fel swllt. Uchafbwynt ein haf yn bendant oedd derbyn y delyn. Cafwyd noson ddifyr a hanesyddol ym mis Gorffennaf i arddangos y delyn arbennig. Mae’r delyn ar fenthyg am gyfnod byr yng nghartref y Bardd Cwsg o Amgueddfa Werin Sain Ffagan. Mae hanes y delyn yn eithriadol o ddifyr ac mae ganddi gysylltiad agos iawn gyda’r Lasynys gan ei bod yn eiddo i Ellis Wynne ei hun ar un adeg. Pleser o’r mwyaf ydy derbyn y delyn ac mae diolch Cyfeillion Ellis Wynne yn dwymgalon iawn i’r Amgueddfa am ganiatáu i’r gwrthrych hanesyddol ac arwyddocaol yma, nid yn unig i Ardudwy, ond i Gymru, ddychwelyd adref. Telyn unres, werinol ydyw, yn dyddio yn ôl i’r ail ganrif ar bymtheg, ac yn un o’r enghreifftiau cynharaf o’i bath. Mae’n delyn fendigedig ac yn hynod o drawiadol, ac yn wir, yn werth ymweld â’r tŷ hanesyddol i’w gweld. Hoffai Cyfeillion Ellis Wynne annog y cyhoedd i fanteisio ar y cyfle gwych, ond prin, hwn i weld y delyn yn ei chartref. Mae’r delyn wedi ennyn diddordeb a sylw mawr yn barod ac wedi denu enwogion i’w gweld hefyd. Roedd hi’n fraint ac anrhydedd o’r mwyaf ei dangos i’r telynor, Robin Huw Bowen, ac un o olygyddion y Gweledigaethau, Patrick J Donavan, yn ystod yr haf. Mae’r Lasynys yn agored bob dydd rhwng 1.00 – 4.00 y prynhawn, ac eithrio dyddiau Sadwrn a Llun. Cysylltwch am fwy o fanylion am y delyn a’r Lasynys ar 01766 781395 neu ar yr e-bost ylasynys@btconnect.com.

Ffair Lyfrau’r Hydref

Yn dilyn llwyddiant y llynedd mae’n bleser eich hysbysu ein bod yn cynnal ein hail Ffair Lyfrau ar ddydd Sadwrn y 18fed o Hydref, 2014 yn y Neuadd Gymuned, Talsarnau. Felly mae gwahoddiad i unrhyw un (arwerthwyr ai peidio) i logi bwrdd. CHWILOTWCH, TRAFODWCH, CLIRIWCH, a dewch i WERTHU! Nifer cyfyngedig o fyrddau sydd gennym yn y Neuadd felly cysylltwch ar frys i logi bwrdd neu am fwy o fanylion. Y cyntaf i’r felin fydd hi! Rydym yn y broses o drefnu ein hadloniant Calan Gaeaf ar hyn o bryd; arferiad sydd bellach yn glo swyddogol i’r Lasynys dros y gaeaf ac yn ddathliad o’n llwyddiant dros yr haf. Bydd mwy o fanylion am hyn yn y rhifyn nesaf.

1A5


HARLECH Priodas

Genedigaeth Llongyfarchiadau mawr i Gwyn Williams a Ruth, Cae Gwastad, ar enedigaeth Daniel Arfon Kennedy ar Fehefin 28, brawd bach i James. Dymuniadau gorau i’r teulu bach. Dymuna Gwyn a Ruth ddiolch i bawb am yr holl gardiau a’r anrhegion a dderbyniwyd ganddynt. Diolch: £5

Llongyfarchiadau lu i Rhian Wyn Jones, wyres Ralph a Catherine Jones a Paul Slater ar achlysur eu priodas ar Fehefin 26 yn Jersey. Dymuniadau gorau iddynt.

Ffair Haf Harlech

Er gwaetha’r tywydd siomedig, cafwyd Ffair Haf lwyddiannus pan wnaed elw o £460. Hoffai pwyllgorau Seindorf Arian Harlech a Chlwb Rygbi Harlech ddiolch o galon i bawb am eu cyfraniadau hael a’u cefnogaeth unwaith eto eleni. Graddio

Graddio Llongyfarchiadau i Leah O’Neill ar ennill gradd BSc [dosbarth 1af] mewn Rheolaeth Chwaraeon ym Mhrifysgol Caerdydd. Llongyfarch Llongyfarchiadau i Andrew Barnett a Stephanie ar enedigaeth mab, Kai Owen John, a hefyd i Nain a Thaid, sef John a Beryl Barnett. Diolch Dymuna Carol a Steve ddiolch o galon i bawb am yr holl gardiau a chyfarchion a dderbyniwyd ganddynt ar achlysur dathlu eu priodas arian. Diolch hefyd am yr holl gyfarchion a dderbyniodd Leah. Rhodd a diolch: £10

Llongyfarchiadau i Joshua Pennie ar ennill gradd BSc mewn Technoleg Sain ym Mhrifysgol De Cymru. Mae am fynd ymlaen i astudio am radd MSc. Pob dymuniad da iddo. Mudo Dymuniadau gorau i Nigel Evans sydd wedi symud i fyw i Stad Castell y Morfa. Hyderwn y bydd yn hapus iawn yno.

A 16

Pen-blwyddi arbennig Mae nifer o bobl y dref yn dathlu pen-blwyddi arbennig yn ystod y cyfnod hwn: Al Smith yn 60 oed, Delyth Standring yn 50 oed a Hywel Evans, Crossing yn 65. Bydd Mrs Laura Jones, 9 Y Waun a Mrs Blodwen Jones, 23 Y Waun yn dathlu eu penblwyddi yn 95 oed yn ystod mis Medi. Llongyfarchion cynnes iawn iddynt a’n dymuniadau gorau ni.

Ysgol Tanycastell Pen-blwydd hapus iawn i Anti Ann, Ysgol Tanycastell sydd yn dathlu pen-blwydd go arbennig ar Fedi 13. Dymuniadau gorau gan y staff, disgyblion a dy holl ffrindiau. Gobeithio y cei di ddiwrnod i’w gofio.

70 oed Roedd un o garedigion y Llais, sef Deio Williams, Siop Trugareddau, yn dathlu ei benblwydd yn 70 oed yn ddiweddar. Llongyfarchiadau i ti, Deio, a diolch yn fawr iawn am dy lafur yn paratoi croesair ar gyfer Llais Ardudwy bob mis. Taid a Nain eto Llongyfarchiadau i Rhian a John Powell Jones, Heol y Bryn, ar ddod yn Nain a Taid eto, heb anghofio Caryl ac Alex sydd wedi cael merch fach, Nel Martha, chwaer fach i Harri.

Enillwyr Cwpan Goffa Gareth Rees

Cynhaliwyd cystadleuaeth bysgota yn Llyn Tecwyn Uchaf ar y 7fed o Awst. Enillydd ieuenctid oedd Scott Jones. Enillwyr dynion oedd Gareth Jones, a Ken Jones yn ail. Diolch i bawb am eich cefnogaeth. Mae’n braf gweld fod y grefft o bysgota yn cael eu meithrin yn ein pobl ifanc ac yn hyfryd gweld bod Gareth yn cael ei goffâu fel hyn. Diolch Dymuna Menna, Bron y Graig, Harlech, ddiolch yn ddiffuant i’w theulu a ffrindiau am yr holl gardiau, anrhegion, blodau a galwadau ffôn a gafodd ar ei phen-blwydd arbennig yn ddiweddar, ac i Edwina Evans am y gacen hardd a gafodd ganddi.

HARLECH YN COFIO

Trefnwyd arddangosfa ddiddorol iawn gan Barbara Roberts a Sue Travis yn Eglwys Sant Tanwg yn ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf. Hefyd, cynhaliwyd gwasanaeth arbennig, dan ofal y Parch Beth Bailey, ar brynhawn Sul, Awst 17 i gofio am y rhai a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu nifer o bobl yr ardal yn cyfrannu gan gynnwys pobl ifanc yr ATC. Diolch i Carol O’Neill am y llun.


RHAGOR O HARLECH

Taith gerdded i Gwm Bychan yn yr 1950au

Diolch i Gwyneth Williams, gynt o Gorwel, Harlech, ond sy’n byw yn Yr Amwythig ers blynyddoedd lawer bellach, am yr hanes difyr canlynol, a’r lluniau. “Ym 1950 digwyddodd y canlynol, rwy’n meddwl. Penderfynodd rhai ohonom yn Nosbarth chwech Ysgol Ramadeg y Bermo gerdded o Lanbedr i Gwm Bychan. Roeddem yn cael hwyl iawn ac ar ôl cyrraedd Cwm Bychan penderfynasom ddringo’r Grisiau Rhufeinig, ac yna ymlaen â ni i Drawsfynydd! O fanu cawsom lifft adre yn ôl mewn lori lo a lori wartheg. Dwn i ddim be oedd y gwaetha, y llwch glo, yntau hogla’r gwartheg! Cawsom ddiwrnod i’w gofio, ond ro’n i’n syth yn y bath ar ôl cyrraedd adref!”

O’r chwith i’r dde: William Jones, Dyffryn; Artro Jones, Llanbedr; Iddon Lloyd Jones, Harlech

John White, Iddon Lloyd Jones, Len Humphreys (Stesion), a Richard White

Sioe Haf Harlech 2014 Cwpan Coroni - marciau uchaf yn yr adran lysiau – R O Edwards Arddangosfa orau’r adran lysiau – R O Edwards Cwpan Alun Williams – Arddangosfa orau o domatos R O Edwards Cwpan Coffa Ralph Highley Arddangosfa orau o gasgliad o nionod – D Lewis, Corris Cwpan Proctor - marciau uchaf yn adran blodau Dahlia - R G Anelay Dangosiad gorau o flodau Dahlia - R G Anelay Cwpan Goffa Owie Jones R G Anelay Cwpan Cadwgan – R Anelay Cwpan Cymdeithas Arddio

Harlech – marciau uchaf yn adran blodau Mihangel – E M Jones Cwpan 1950 - marciau uchaf yn adran blodau - E M Jones Cwpan Ellerker - marciau uchaf yn adran celfyddyd blodau Patricia Elford Cwpan Celfyddydau Blodau Arddangosfa orau yn yr adran celfyddyd blodau - Patricia Elford Gwobr Maidment - Patricia Elford Cwpan Sefydliad y Merched – marciau uchaf yn yr adran goginio - Huw Williams Arddangosfa orau yn yr adran win - Gwynne Jones

CYNGOR CYMUNED HARLECH RHANDIROEDD AR OSOD Am fwy o fanylion, cysylltwch â Korina ar 01766 780593

O’r chwith i’r dde: Peter Parry, Harlech; Rhiannon Roberts, Dyffryn; John White, Harlech; Bennett Griffiths, Talybont; Gwenfair Pryce Jones, Harlech; Gwyneth Evans, Harlech; Anne Williams, Bermo; ?

CAPEL JERUSALEM Medi 14 - Undebol Parch Olwen Williams am 2.00 o’r gloch Medi 21 Parch Iwan Ll Jones am 4.00 o’r gloch

CROESO CYNNES I BAWB

BORE COFFI MACMILLAN

Castle Gift Shop, Harlech Dydd Iau, Medi 25 am 10.00 y bore

Panad, cacennau a thombola

TRACTORAU ERYRI

Peirianneg Amaethyddol Atgyweirio Prynu a gwerthu Gwerthu darnau ac olew Gwasanaeth symudol Arbenigwyr Valtra/MF/John Deere

07961 800816 01766 770932 17 A


BLODAU GWYLLT Faint o’r rhain ydych chi’n eu hadnabod?

botwm crys

briallu

briwlys y gors

clafrlys

briallu Mair

cloch yr eos

brenhines y weirglodd

garlleg gwyllt

gwlŷdd y dom

gwyddfid

iris melyn

llin y llyffant

llygad doli

llysiau’r wennol

pabi Cymreig

seren Bethlehem

llwyn hidl

llygad Ebrill

meillionen goch

pen caled

tegeirian coch

taglys

llygad llo mawr

milddail

rhosyn Saron

troed yr iâr

blodyn neidr

Mae’n bosib bod gennych chi enw arall ar ambell flodyn!

18 A

Carreg ddiarth yn Uwchglan, Llanfair

Yn ddiweddar roedd Dafydd John, Uwchglan yn cau bwlch mewn wal gerrig a daeth un o’r wyrion â charreg iddo i’w gosod yn y wal. Sylwodd David ei bod yn dra gwahanol i’r cerrig o gwmpas, ac yn y man cysylltwyd â Dyfed Elis Gruffydd, y daearegwr, i weld a oedd ganddo unrhyw oleuni ar y garreg ryfedd. Dyma’i ymateb difyr: “Mae D J Roberts, Uwchglan, yn llygad ei le. Darn o fflint neu gallestr yw’r garreg a chan mai ond ar ffurf haenau toredig neu gnepynnau oddi mewn i sialc yn dyddio o’r cyfnod Cretasig (c100 miliwn o flynyddoedd yn ôl) y ceir y garreg, mae’n amlwg fod y cnepyn yn dod yn wreiddiol naill o dde-ddwyrain Lloegr (ee sialc yw sail clogwyni gwynion Dofer a’r clogwyni hynny rhwng Beachy Head a Bognor Regis) neu ogledd-ddwyrain Iwerddon (arfordir Antrim, rhwng Ynys Rathlin a Belffast). Wedi dweud hynny, mae’n biti na wyddom o le y cafwyd y garreg cyn iddi gael ei gosod yn y wal ar fferm Uwchglan, Llanfair. Gan nad yw’r fferm yn bell o’r arfordir, mae’n dra phosib y cafwyd hyd iddi ar y traeth, sef carreg a oedd ar un adeg yn rhan o lwyth o gerrig balast un o’r

llongau hwylio a arferai ymweld â phorthladdoedd bach ar hyd arfordir Cymru a Lloegr ’slawer dydd. Mae cerrig balast yn eitha cyffredin ar draethau Cymru, ac ym Mhorthmadog, er enghraifft, cerrig balast yw sail Cei Balast, yr ynys fechan honno a grëwyd pan oedd y porthladd yn ei anterth. Ond mae un posibilrwydd arall na ddylid ei lwyr ddiystyru. Mae cnepynnau o fflint (ynghyd â meini o dde-orllewin yr Alban) yn gyffredin yng nghlogwyni Dinas Dinlle, y twmpath mawr hwnnw o ddyddodion rhewlifol ar arfordir Arfon, a grëwyd wrth i Len Iâ Môr Iwerddon ddadmer ac encilio tua 18,000 o flynyddoedd yn ôl. Tybed ydy hi’n bosib fod rhywun o gyffiniau Llanfair wedi ymweld â thraeth Dinas Dinlle rywbryd neu’i gilydd ac ar ôl canfod y garreg estron, wedi penderfynu mynd â’r swfenîr adra? A pheidied neb â dweud nad yw’r esboniad hwnnw yn taro deg. Yma yng ngardd Tŷ’r Ardd, Llechryd, mae modd dod o hyd i feini o’r Alban, Ardal y Llynnoedd, yr Alpau, Llydaw, Ffrainc a Norwy, heb sôn am ogledd, canolbarth a de Cymru!”

SOPHIE COLLINS Barbwr Traddodiadol

Torri Gwallt a Siafio Llanbedr Dydd Iau a Dydd Gwener 9.30 y bore hyd 7.00 y nos


H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239

Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290

YSWIRIANT I BAWB

E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr

01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

T N RICHARDS Caergynog, Llanbedr 01341 241485

Adnewyddu Hen Ddodrefn Rydym yn gwarantu gwaith trwsio a chwyro o’r safon uchaf. Mewn busnes ers 30 mlynedd.

Cefnog wch e in hysbyseb wyr

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297

Tafarn yr Eryrod Llanuwchllyn 01678 540278

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

Sgwâr Llew Glas

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

Llais Ardudwy

Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk

drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]

GERALLT RHUN Bryn Dedwydd, Trawsfynydd LL41 4SW 01766 540681

Tiwniwr Piano a Mân Drwsio g.rhun@btinternet.com

BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU

01766 512091 / 512998

TREFNWYR ANGLADDAU

Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

TERENCE BEDDALL

JASON CLARKE

15 Heol Meirion, Bermo

Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

Papuro, peintio, addurno tu mewn a thu allan 01341 280401 07979 558954

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

SAER COED Amcanbris am ddim. Gwarantir gwaith o safon.

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

Ar agor bob nos dros yr haf 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00

Tacsi Dei Griffiths

Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 9.00 Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!

Sefydlwyd dros 20 mlynedd yn ôl 19


EGLWYS LLANDANWG DAN YR ENFYS

Diolch i Hanneke Luijting am anfon y llun uchod i’n sylw. Onid oes gan rai ffotograffwyr ddawn arbennig i fframio llun yn gelfydd?

20

CALENDR LLAIS ARDUDWY Calendar 2015 ar werth rwan - dim ond £4 Anrheg Nadolig Delfrydol!


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.