Llais medi 2016

Page 1

Llais Ardudwy 50c

Ymchwil Canser

RHIF 455 MEDI 2016

Llwyddiant Ar nos Iau, 14 Gorffennaf, cynhaliwyd Noson Goffi i godi arian yn y Neuadd Goffa, Harlech. Ynghyd â rhoddion casglwyd dros £1,000 tuag at Gronfa Ymchwil Canser Gogledd Cymru. Cynhelir llawer o’r ymchwil yn lleol ym Mhrifysgol Bangor. Cyflwynwyd gwobrau hir wasanaeth o 25 mlynedd i Gwenda Jones ac Edwina Evans fel cydnabyddiaeth o’u hymrwymiad a’u ffyddlondeb i’r gronfa elusen. Cafwyd adloniant ar y noson gan Ysgard, y band jazz ifanc a medrus o Ysgol Harlech. Llawer o ddiolch i’n holl aelodau, ein cynorthwywyr a’n cwsmeriaid ac i bobl nad oedd yn gallu dod ar y noson ond a fu’n ddigon caredig i roi cyfraniad. Llongyfarchiadau calonnog i Dr Siwan Mitchelmore, gynt o Draenogau Mawr, sydd wedi ennill Cymrodoriaeth Addysgu o Ysgol Fusnes Bangor.

Ymddeoliad

Côr Bro Meirion

Llun gan Arwyn Parry Jones, y Cambrian News Llongyfarchiadau i Gôr Bro Meirion a’u harweinydd, Iwan Parry ar ennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni a’r Fro. Mae amryw o’r aelodau yn byw yn yr ardal.

COFIWCH AM ŴYL GWRW LLANBEDR GERDDI GWESTY TŶ MAWR LLANBEDR o ganol dydd tan yn hwyr ddydd Gwener, Medi 16 a dydd Sadwrn, Medi 17

Ar ddiwedd y tymor diwethaf bu Ysgol Llanbedr yn ffarwelio efo Meryl Jones ar ôl 19 mlynedd. Cawsom de parti hwyliog, wedi ei drefnu gan y rhieni, yn yr awyr agored efo’r haul yn gwenu yn ystod yr wythnos olaf i’r disgyblion, staff, rhieni a nifer o gyn-ddisgyblion. Roedd hyn yn gyfle i bawb ddangos eu gwerthfawrogiad o’r holl waith a gofal mae Meryl wedi ei roi dros y blynyddoedd. Roedd rhaid hefyd ffarwelio efo un arall oedd yn gadael, sef Mair Richards. Bu Mair yn athrawes am flynyddoedd yn yr ysgol ond yn ddiweddar mae wedi bod yn gweithio fel cymhorthydd dosbarth. Mi fydd yna fwlch mawr ar ôl y ddwy a hoffem ddymuno’n dda iddynt yn y dyfodol.


Llais Ardudwy

HOLI HWN A’R LLALL

GOLYGYDDION

Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com

Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk (07760 283024 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 ann.cath.lewis@gmail.com Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones Tyddyn Llidiart, Llanbedr (01341 241391 iolynjones@Intamail.com Casglwyr newyddion lleol Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Ann Lewis (01341 241297 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960

Enw: Richard Emlyn Owen Gwaith: Adeiladwr Cefndir: Cael fy magu ar fferm Fuches Wen, Glan y Wern, ger Talsarnau. Wedyn symud i Drawsfynydd a phriodi Beth a chael dwy o enethod bach, Malen, 10 oed, a Lleucu, 7 oed. Hefyd, babi’r tŷ, a’r bos, Mewsan y gath. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Deffro yn y bore – mae i’w weld yn gweithio hyd yma! Beth ydych chi’n ei ddarllen? Papur dydd Sul – mae’n para’r wythnos. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Wil Morgan nos Sadwrn ar

Radio Cymru. Unrhyw raglen goginio ar y teledu. Ydych chi’n bwyta’n dda? Cael pleser wrth ymdrechu i greu pryd o fwyd blasus o bob cyfandir i’r teulu. Cael mwy o ‘mmms’ nag ‘ychs’ y dyddiau yma! Hoff fwyd? Cyrri poeth. Hoff ddiod? Gwin coch. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Chwarae’n saff – Beth y wraig! Lle sydd orau gennych? Eistedd o amgylch y bwrdd yn cael cinio dydd Sul hefo’r teulu. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Santorini, Groeg, ar ein mis mêl. Beth sy’n eich gwylltio? Cwestiynau sy’n gofyn am un ateb. Baw ci ar y ffordd tu allan i’r tŷ; mae’r sefyllfa’n gwaethygu pan mae hi’n nos. Cymru’n colli yn y rygbi. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Codi calon. Pwy yw eich arwr? Doctoriaid a nyrsys yr NHS. Beth yw eich bai mwyaf? Poeni’n dawel am bethau.

Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Bwyd, gwin a chwmni da. Beth fuasech yn ei wneud efo £5,000? Ateb y cwestiwn cynt ond yng ngwlad Groeg. Eich hoff liw? Du. Eich hoff flodyn? Lili wen fach. Eich hoff gerddor? Yr aderyn du. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Newid o ddydd i ddydd, ond hoffi Nana Mouskari ac Ivan Rebroff. Pa dalent hoffech chi ei chael? Chwarae offeryn. Mi drïodd Taid Dyffryn, ond ar y pryd roedd chwarae cowbois ac injans yn well syniad. Eich hoff ddywediad? Un o ddywediadau y diweddar Glyn Heddwyn: ‘Daliwch i wenu a daliwch i ganu. Mi wneith bywyd wneud siŵr eich bod yn crio eich siâr.’ Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Bodlon fy myd ac yn falch iawn o’r plant.

TWLL YN Y FFORDD

Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Medi 30 am 5.00. Bydd ar werth ar Hydref 5. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Medi 25 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

2

Mae’n siŵr y bydd pawb wedi sylwi erbyn hyn ar y gwaith sy’n digwydd wrth droi i mewn i stad Tŷ Canol, gwaelod Harlech. Ar ddiwedd mis Gorffennaf, sylwodd preswylwyr lleol bod caead y manol (manhole) yn y ffordd wedi suddo rhyw

fodfedd a bod craciau wedi ymddangos o’i gwmpas. Cysylltwyd â’r Bwrdd Dŵr a ddaeth draw i osod ffens fach blastig o’i gwmpas. Ymhen diwrnod neu ddau, fodd bynnag, roedd y manol wedi diflannu a thwll, digon i lyncu car, wedi

ymddangos! Bellach mae’r gwaith ar raddfa fawr a bydd yn cymryd misoedd i’w drwsio. Rhaid bod y tywod o dan groen y ffordd ei hun wedi bod yn golchi i ffwrdd ers cryn amser gan greu’r twll anferth heb i unrhyw un sylweddoli hynny.


Y BERMO A LLANABER Yr olygfa o Bont y Bermo Merched Y Wawr I ddiweddu tymor llwyddiannus aeth 14 o’n haelodau draw i westy hyfryd Glan yr Afon ym Mhennal i fwynhau cinio canol dydd blasus. Wedi’r cinio diolchodd Llewela, ein Llywydd, i bawb o’r aelodau am eu cydweithrediad a’u parodrwydd i helpu yn ystod y flwyddyn. Anfonwyd cyfarchion i Lilian Edwards oedd yn dathlu ei phen-blwydd yn ddiweddar. Gofynnwyd am wirfoddolwyr i ddarllen Llais Ardudwy a gwirfoddolodd Glenys, Gwenda, Mair, Megan a Heulwen. Diolchodd Pam i Llewela am gamu i’r adwy fel Llywydd yn absenoldeb Dorothy. Mynegodd Jean ei siom o weld cyn lleied o aelodau oedd wedi cystadlu yng nghystadlaethau’r Sioe Sir. Yna aethom draw i eglwys hynafol Pennal lle’r oedd Anwen, cyfeilles i Grace, yn aros amdanom a chawsom sgwrs tu hwnt o ddifyr ganddi yn olrhain hanes yr eglwys. Cyfeiriodd at ddarlun enwog Aneurin Jones o Owain Glyndŵr oedd yn crogi mewn lle amlwg yn yr eglwys. Oherwydd prinder amser roedd yn rhaid torri’r ymweliad yn ei flas a mynd yn ein blaenau i Gefn Caer, lle’r oedd Mr Elfyn Rowlands yn aros amdanom. Cawsom groeso cynnes iawn ganddo i’w gartref canoloesol unigryw - lle tu hwnt o ddiddorol a rhaid edmygu Mr Rowlands am ei waith dyfal yn gwarchod ein treftadaeth. Roeddem i gyd wedi mwynhau ein hymweliad â Phennal, lle digon diarth i rai ohonom, ac roedd amryw yn sôn am ddod yn ôl yn fuan er mwyn gwneud cyfiawnder â’r pentref diddorol hwn. Byddwn yn ail ymgynnull ar Fedi 20fed am 12.00 ym Mhenmaen-pŵl, lle bydd Rhys Gwynn o Barc Cenedlaethol Eryri yn rhoi sgwrs cyn i ni fynd i’r George am ginio. Croeso cynnes iawn i aelodau hen a newydd ymuno â ni - mae rhaglen ddifyr o’n blaenau yn 2016/17. Mewn ysbyty Pob dymuniad da i Mrs Betty Corps, Llanaber sydd erbyn hyn yn Ysbyty Alltwen. Brysiwch wella.

Y Gymdeithas Gymraeg Bydd cyfarfod cyntaf y tymor ar nos Fercher, 5 Hydref am 7.30 yr hwyr yn y Parlwr Mawr. Edrychwn ymlaen at gwmni’r Parchedig Christopher Prew, Porthmadog. Profedigaeth Gyda thristwch y clywodd yr ardal am farwolaeth sydyn John Owen Williams, Caerddaniel ar 16 Awst yn 87 mlwydd oed. Roedd wedi gwasanaethu a byw yn yr ardal ar hyd ei oes. Cynhaliwyd gwasanaeth o ddiolch am ei fywyd yng Nghapel Horeb, Dyffryn gyda’r Parchedig Brian Evans yn gwasanaethu. Cydymdeimlwn â Jeni, Aeron a Rhian, Anwen a Chris a’u teuluoedd yn eu profedigaeth.

Cyngerdd yn Theatr y Ddraig Ar nos Wener, 9 Medi, cynhelir cyngerdd gan “Volante Strings” o Swydd Gaerwrangon, cerddorfa siambr medrus a phrofiadol sydd wedi perfformio ledled gwledydd Prydain a rhannau eraill o Ewrop. Mae eu rhaglen yn cynnwys Serenâd i Linynnau hyfryd Elgar, a gweithiau cerddorol gan Vivaldi, Leroy Anderson, Eric Coates, Frank Bridge, a Pablo Casals. Ceir mwy o fanylion ar http://www.volantestrings.co.uk

Theatr y Ddraig MEDI

8, nos Iau am 7.30 yh Sgwrs: Song Lyrics & The Great Lyricists 9, nos Wener, am 8.00 yh Cerddorfa Linynnol Volante yn cyflwyno gwaith clasurol amrywiol. 19, nos Sadwrn am 8.00 yh Noson Jam Jazz am 8.00 yh 16, nos Wener am 8.00 yh Cerdd: Band ‘Vintage’ Taylor Maid 17, nos Sadwrn - lansio Gŵyl Gerdded y Bermo 2016 21, nos Fercher, am 7.30 yh Rhan o’r Ŵyl Gerdded; noson bysgod a sglodion 22, nos Iau, 22 - Noson Gymdeithasol a Swper 23, nos Wener am 7.30 yh Cerdd: Jazz a Blues, John Etheridge a Vimala Rowe.

Yn 1903, eisteddai’r diweddar H Gwilym Lewis, Dyffryn Ardudwy, yn dawel ar fainc ar ganol pont glodfawr y Bermo, ar ôl teithio dros fynydd a bryn a dôl. Roedd hi’n fore o haf hin-desog melyn, a’r haul wedi codi o wely sidanaidd y dwyrain ychydig eiliadau ynghynt na’r dydd blaenorol, ac erbyn hynny bron cyrraedd y nawnlin. Uwchben, ac oddi amgylch, clywid cathlau swynol adar o bob math a lliw, o bob maint a llais - carolau ehedyddion, chwiban gerddi pereiddfwyn mwyeilch, twit-twit gwenoliaid chwimwth, yn gymysg â dadwrdd sgrechlyd gwylanod y môr. Cododd Gwilym Lewis o’i sedd, ac edrychodd i ganmol yr olygfa o’i gwmpas. Erbyn hynny roedd yr haul, yr arlunydd mawr, wedi lliwio pob dôl, bryn, a mynydd, â’r lliw ceinaf a harddaf. Roedd y coedwigoedd ar bob ochr mewn mantell o las a gwyrdd. Syllodd i gyfeiriad y gogledd, a gwelai dref y Bermo, fel brenhines falch ar ysgwydd y graig, a’i throed yn cael ei golchi yn wastad gan y don. Codai’r tai, yn orielau uwch orielau, o lan y traeth i grib y graig. Uwchlaw yr oll, dan belydrau melyn yr haul, ymestynnai Rhodfa’r Panorama enwog yn un banlawr teg a gwastad-lyfn, o ben yr hwn y caed y golygfeydd harddaf yng Nghymru. Tua’r gorllewin rholiai bae aflonydd Ceredigion, a llu o gychod pleser yn dawnsio a gwibio ar hyd ei wyneb glaswyrdd; ac Ynys y Brawd, yn un crug-lwyth o gerrig mân a thywod, fel hen filwr yn chwarae nofio wrth wylio’r agorfa o’r bae i’r dref. I gyfeiriad y de gwelai Allt y Ffynnon Rydd yn codi o’r môr i’r uchelion, a’r rheilffordd fel sarff yn ymdroelli drwy ei chanol, a’r trên yn griddfan dan ei lwyth wrth lusgo ar hyd-ddi i gyfeiriad Llwyngwril. A dyna bentref bach y Friog yn nythu yn glyd dan gysgodion yr hen Allt. Cafodd yr Allt ysgythrog a danheddog ei henw oddi wrth ffynnon rinweddol a fyrlymai gynt ar ei mynwes serth, sef Ffynnon Rydd. Iddi cyrchai Gwyddno Garanhir, tywysog Cantref Gwaelod; pan y’i blinid gan y coluddwst, cai wellhad drwy yfed y dŵr. Yn nes ato oedd Cymer y Bermo (Barmouth Junction), a chlwstwr o dai bychan destlus o’i amgylch yn gwenu dan yr haul, a dau neu dri o beiriannau stêm trystiog yn rhuthro o’i gwmpas, ac yn chwythu mwg i’r uchelion. Tu cefn i’r cyfan, ar fynwes y llechweddau gleision, yng nghanol y twmpathau a’r coed, llechau yn glyd amryw o ffermdai bychan, ac ar y caeau meillionog tawel, porai llu o anifeiliaid mawr a bach yn prancio’n sionc ar y bryniau heirdd.

W Arvon Roberts (i’w barhau).

ENGLYN DA

Weithiau

Rwy’ weithiau er pob dadrithiad - rywfodd Yn profi cyffyrddiad Rhywun yn siglo’r cread Yn fwyn iawn, fel llaw fy nhad. Emyr Lewis

3


LLANFAIR A LLANDANWG Llongyfarchiadau

Llongyfarchiadau i Iwan Morus Lewis, Min-y-môr, Llandanwg ar ennill y Town Ball yng nghlwb golff Dewi Sant. Mae’n ddyn prysur iawn ac yn dra thalentog. Bu’n chwythu ei gornet gyda Band yr Oakeley pan enillson nhw’r wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni. Bu hefyd yn canu unwadau gyda Chôr Meibion Prysor o Drawsfynydd yn eu cyngerdd diweddar yn Eglwys y Santes Fair ym Metws-y-coed. Llongyfarchiadau

Diolch Mae Beryl yn diolch o waelod calon i’r teulu oll a ffrindiau a chymdogion Derlwyn hefyd am y nifer galwadau ffôn a chardiau, yn ei cholled o Eifion. Casglwyd dros £600 i’r ddwy elusen Canser Gogledd Cymru a’r nyrsys cymunedol lleol, a llawer o ddiolch i bawb. Diolch mawr hefyd i’r ymgymerwyr Pritchard a Griffiths, Tremadog. Rhodd a diolch £15 Te Cymreig Daeth nifer o ffyddloniaid ynghyd i’r Neuadd Goffa ar gyfer y Te Cymreig a drefnwyd gan gangen Harlech a Llanfair o Ferched y Wawr. Cafodd pawb blatiad o fara brith, teisen gri, sgonsan hefo jam a hufen a phaned i’w golch i lawr. Bu cryn brysurdeb wrth y byrddau gwerthu. Gwnaed elw boddhaol. Darlith Goffa Merfyn Williams 2016

‘STRAEON RYGBI GOGLEDDORLLEWIN CYMRU’ gan ARTHUR THOMAS

Llongyfarchiadau hefyd i fam Iwan, sef Ann Lewis, Min-ymôr, Llandanwg. Daeth Ann yn drydydd yng nghystadleuaeth golff Merched Hŷn Cymru yn Radyr, Caerdydd ddechrau mis Medi.

Y STABLAU, PLAS TANYBWLCH MAENTWROG Nos Fercher, Hydref 26 am 7.30pm Bydd copïau o’r ddarlith ar werth ar y noson. Dewch yn llu! Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Naomi Jones 01766 770274 naomi.jones@eryri-npa.gov.uk

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR Croesawyd Ms Heidi Vaughan Williams, Cadeirydd Hamdden Harlech ac Ardudwy ynghyd â Mrs Anwen Davies o Gyngor Gwynedd i’r cyfarfod i drafod dyfodol y pwll nofio. Cafwyd gwahanol ddogfennau gan Ms Williams yn dadansoddi’r gwahanol ffigyrau a faint fyddai’n rhaid i’r Cynghorau ychwanegu at eu praesept er mwyn ei drosglwyddo i Hamdden Harlech ac Ardudwy. MATERION YN CODI Hysbysfyrddau Mae’r hysbysfwrdd ar y Maes, Llandanwg wedi malu ac nid yw’n werth ei drwsio. Cytunwyd i archebu un newydd a’i osod ar y wal os oedd lle, neu fel arall ei osod yn lle’r hen un. Polisïau Risg y Cyngor Mae angen sylw ar glicied giât yr eglwys. Mae llechi’n rhydd ar loches bws Pensarn a Frondeg ac mae angen peintio’r coed y tu allan i lochesi bws Pensarn, a Thŷ Capel, ac mae coed yn gordyfu ger lloches bws Frondeg. Cytunwyd i roi sylw i’r materion hyn. Toiled Cyhoeddus Llandanwg Cytunwyd i fynd i bartneriaeth gyda Chyngor Gwynedd i gadw’r toiled cyhoeddus yn Llandanwg yn agored ar gost flynyddol o £4,000 i’r Cyngor. Cyfarfod gyda Hamdden Harlech ac Ardudwy Trafodwyd y cyfarfod uchod ymhellach a chytunodd pawb yn unfrydol i godi’r praesept er mwyn rhoi i Hamdden Harlech ac Ardudwy’r swm yr oeddynt ei angen. Cytunodd pawb nad oedd y Cyngor yn fodlon codi’r precept yn uwch na’r hyn yr oedd yn ei ofyn os oedd Cyngor arall yn tynnu allan o’r fenter. GOHEBIAETH Biniau halen Cytunwyd y bydd Cyngor Gwynedd yn edrych ar ôl y biniau halen ar ran y Cyngor. Llwybr Cyhoeddus rhif 23 Mae’r Swyddog Llwybrau wedi cael trafodaeth gyda’r ddau dirfeddiannwr ac yn gobeithio datrys y broblem yn fuan. Mae’r gwaith draenio a gosod postyn cyferbwyntio wedi ei raglennu ar gyfer y mis hwn. UNRHYW FATER ARALL • Angen anfon llythyr at yr Adran Briffyrdd i dynnu eu sylw at y ffaith fod angen sylw eto ar y coed ar hyd ochr y ffordd o Argoed i Bensarn; hefyd, bod angen sylw ar y gordyfiant ger Castellfryn. • Angen gadael i’r Adran Briffyrdd wybod bod angen glanhau’r cwteri ger Min y Môr a Thy’n y Maes gan fod dŵr yn llifo i’r ffordd ar adeg tywydd garw. • Angen anfon at y Tîm Gorfodaeth Stryd i adael iddynt wybod bod angen gwagio’r bin baw cŵn ym maes parcio’r Maes, Llandanwg.

CYFARFOD BLYNYDDOL LLAIS ARDUDWY Dydd Gwener Medi 30 am 5.30 o’r gloch

yn Ystafell y Band, Harlech

Croeso cynnes i bawb sy’n darllen y papur. Croeso hefyd i unrhyw syniadau sydd gennych er mwyn hybu gwerthiant y papur. Neuadd Goffa, Llanfair

GYRFA CHWIST

HARLECH TOYOTA

Ffordd Newydd, Harlech 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@ harlech.toyota.co.uk facebook.com/ harlech.toyota Twitter@ harlech_toyota 4

ar y drydedd nos Fawrth yn y mis am 7.00 o’r gloch Croeso i ddechreuwyr.

SAMARIAID Llinell Gymraeg 0300 123 3011


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Tymor newydd Dymunwn yn dda i’r holl blant sydd yn ôl yn eu gwahanol ysgolion a cholegau ar ddechrau tymor newydd yn eu hanes. Mrs Gwyneth Evans Ar 13 Awst bu farw Mrs Gwyneth Evans, Isfryn gynt, yng Nghartref Nyrsio Madog, yn 97 oed. Bu Gwyneth yn gefnogol iawn i Deulu Artro am flynyddoedd a bu colled ar ei hôl pan symudodd i fyw i Borthmadog. Bu ei hangladd yng Nghapel y Ddôl ddydd Mawrth 23 Awst. Cydymdeimlwn â’r teulu yn eu profedigaeth. Diolch Dymuna Eira, Terry, Anti Gwen, Dawn, Steward a Ceri ddiolch yn ddiffuant am y rhodd o £296.63 a dderbyniwyd tuag at yr Ambiwlans Awyr ar ôl colli tad, taid a brawd mor annwyl, sef Ismael Jones, Talgarreg a fu farw ar Ebrill 2 eleni. Diolch a rhodd £10

Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch Capel Salem MEDI 11 Parch Dafydd H Edwards 18 Parch Dewi Tudur Lewis * * * MEDI 11 Capel y Ddôl, Parch R O Jones 25 Capel y Ddôl, Mr Evie M Jones HYDREF 2 Capel Nantcol, Parch Huw Dylan Jones Siop y Wenallt Mae Siop y Wenallt wedi cael ei throi yn Deli a chaffi. Dymunwn yn dda iddynt ar y fenter newydd, hefyd mae David a Julie Hughes wedi gwerthu’r Efail - y siop bapurau. Diolch iddynt hwy a’u staff am eu gwasanaeth a’u caredigrwydd ers blynyddoedd. Dymunwn yn dda iddynt hwythau. Dei Thomas o’r Dyffryn sydd wedi prynu eu siop, a dymunwn yn dda iddo ef a’i deulu yn eu menter newydd.

COFIWCH AM ŴYL GWRW LLANBEDR, GERDDI GWESTY TŶ MAWR, LLANBEDR dydd Gwener, Medi 16 a dydd Sadwrn, Medi 17

Ymweliad Bedyddwyr Sir Benfro â Chapel Salem Pererindod Gofalaeth Bedyddwyr Cylch y Frenni

Cyrchfan y bererindod eleni oedd Salem, Capel y Bedyddwyr, Llanbedr, gan gynnal oedfa brynhawnol yno o dan arweiniad y Gweinidog, y Parchg Rhosier Morgan. Felly, yn gynnar, fore Sul, 14 Awst, casglwyd yr aelodau o ardaloedd Crymych, Blaenffos, ac Aberteifi. Braf oedd cael cwmni plant ar y daith, a rhai ffrindiau a oedd yn awyddus i ymuno – diolch iddynt am eu cwmnïaeth yn ystod y diwrnod. Cafwyd seibiant am baned a lluniaeth ysgafn yng Nghorris er mwyn torri’r siwrne ac i ymestyn y coesau, cyn parhau ar y daith i fyny am y gogledd. Diolch i Foduron Midway am y cludiant ac am y cydweithio hawdd a diffwdan, ac i Eifion Evans, y gyrrwr, am ei ofal a’i gonsyrn am ddiogelwch ei lwyth o gapelwyr brwd. Cyn troi am Salem, anelodd y bws i gyfeiriad traeth hardd Llandanwg lle cafwyd cyfle i’r pererinion fwynhau eu pecynnau bwyd ganol ddydd, mewn llecyn tawel braf. Ar ôl eu digoni, aeth rhai o’r parti i ymweld â’r Eglwys gerllaw, gan fod Gŵyl Flodau yno, tra bu’r lleill yn sgwrsio’n hamddenol wrth eistedd ar y meinciau neu ar y borfa.

Y cam nesa’ oedd prif atyniad y diwrnod sef cyrraedd Salem a gweld yr organyddes Miss Catrin Richards wrth y drws yn croesawu’r teithwyr. Darllenwyd rhan o’r Ysgrythur o’r Beibl.net gan y Parchedig Rhosier. Yn ei anerchiad byr, nododd bod y diafol (gan gyfeirio at siôl Siân Owen, Ty’n y Fawnog), yn gweithredu’n slei, a bod Iesu’n ei rhybuddio i fod yn effro rhag hyn. Bu’r Creawdwr ei hun yn brwydro yn erbyn y diafol yn yr ardd ac yn yr anialwch gan oresgyn pob temtasiwn, ond heddiw, mae nifer ohonon ni’n dueddol i anghofio’n Harglwydd, ac yn caru’n hunain yn hytrach na Duw.

Dros 30 o fathau o gwrw casgen o fragdai gogledd a chanolbarth Cymru, bwyd ac adloniant. Dewch yn llu i gefnogi achosion lleol. Mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan: www.llanbedrbeerfestival

Neuadd Llanbedr Mae newidiadau ar fin dechrau. Ar ôl rhai blynyddoedd o gynllunio a gwneud ceisiadau am gymorthdal, mae pwyllgor Canolfan Gymdeithasol Llanbedr yn gallu cyhoeddi eu bod wedi dod i gytundeb gyda’r cwmni adeiladu W F Clayton o Fangor i adnewyddu ac ehangu’r neuadd. Bydd y gwaith yn dechrau ar Fedi 19 a bydd wedi gorffen erbyn Chwefror 17. Er mwyn cadw costau o fewn yr arian sydd ar gael, bu raid cwtogi ar y cynlluniau gwreiddiol. Y newid amlycaf i ddefnyddwyr yw bod angen gohirio gweithio ar y maes parcio hyd nes bydd mwy o arian ar gael. Caiff y gwaith ei arolygu gan gwmni Wakeman o Gaernarfon ac mae llawer o ddiolch yn ddyledus i Dylan Morris o’r cwmni am ei gymorth i sicrhau ein bod yn gallu mynd ymlaen gyda’r gwaith. Y prif noddwr yw’r Loteri Fawr gyda chyfraniadau eraill gan Garfield Weston, Cartrefi Cymunedol Gwynedd, Cyngor Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri, Foyle Foundation, Trusthouse Charitable Foundation, a’r Owen Family Trust.

Organyddes Salem a ddewisodd y pedwar emyn gan sicrhau cyfeiliant sionc i’r canu llawen ac eneiniedig, a chyn ymadael, cafwyd braslun o hanes yr adeilad ganddi, ac o’r llun a beintiwyd gan Sidney Curnow Vosper. Diddorol iawn oedd gwrando arni’n cyflwyno’r hanes mewn ffordd mor naturiol a chartrefol. Cafwyd hefyd gyfle i wisgo’r siôl wreiddiol, am mai un fenthyg o’r Ficerdy yn Harlech oedd gan Siân Owen ar gyfer y llun. Bwriad peintio’r llun (a gymerodd dri mis i’w gwblhau), oedd portreadu ‘yr hen Sul yng Nghymru’. Llafur cariad a adeiladodd y capel bach a agorwyd yn 1850 ac erbyn heddiw, gan mai dim ond pedwar aelod dros eu pedwar ugain oed sy yno’n ymdrechu i gadw’r drws yn agored, croesewir yn fawr iawn bererinion a ddaw i ymweld â’r fangre. Ar ôl treulio diwrnod pleserus mewn cwmni da, arhoswyd ar y ffordd adre am swper yn Llety Parc, Aberystwyth. Bydd yr atgofion am bererindod Salem yn aros yn y cof am amser hir, a charem ddiolch o galon am y croeso a gafwyd i wneud y diwrnod yn un bendithiol tu hwnt.

Wendy Lewis

5


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Diolch Dymuna Ray Owen, Llwyn Ynn, ddiolch am bob arwydd o gonsyrn a charedigrwydd a ddangoswyd iddo fo a’i wraig, cyn ac ar ôl ei lawdriniaeth yn Ysbyty’r Galon a’r Frest Lerpwl (hen safle Broadgreen), ym mis Mehefin. Gwerthfawrogir yn fawr y cardiau, galwadau ffôn, yr ymweliadau a’r rhoddion. Braf yw byw mewn ardal lle mae’r ysbryd cymunedol yn dal i ffynnu. Rhodd a diolch £15 Cydymdeimlad Trist oedd clywed am farwolaeth John Nolan, gynt o’r Dyffryn ond a oedd yn byw yn Awstralia ers blynyddoedd. Roedd yn 75 mlwydd oed ac mae’n siŵr fod llawer o’r Dyffryn yn ei gofio. Gedy briod, tri o blant, pedwar o wyrion a thri gor-ŵyr. Cydymdeimlwn â’r teulu yn eu profedigaeth ac anfonwn ein cofion at ei chwaer Ann sy’n byw yn Atherton, Far North Queensland, Awstralia. Mae Ann yn dal i gadw mewn cysylltiad â Dilys Roberts, Gorffwysfa. Yn ystod yr haf hefyd bu farw Emrys Owen (Lodge Hengwm gynt) yn Harrogate. Anfonwn ein cydymdeimlad at ei wraig, Margaret (Ty’n Buarth gynt), ei blant Christian a Llinos a’r teulu oll yn eu profedigaeth.

Rhoddion i’r Llais Teulu Parc Isaf £10 Mr Gedol Roberts, Llandudno (Trem Enlli gynt) £15. Ambiwlans Awyr Cymru Yn ystod mis Gorffennaf cynhaliwyd noson o fiwsig y 60au a’r 70au yn y Neuadd Bentref. Roedd un canwr wedi dod yr holl ffordd o’r Alban. Cafwyd noson lwyddiannus iawn a chasglwyd £740 tuag at yr Ambiwlans Awyr a bydd Banc Barclays yn cyfrannu £1 am £1 at y cyfanswm. Trefnwyd y noson gan Rhian Davenport. Yn ogystal casglwyd £177 yn y ddwy sioe gŵn yn Egryn a £307.50 yn y Ffair Grefftau a gynhaliwyd yn y neuadd bentref ar 20 Awst. Dymuniadau da Ym mis Gorffennaf ymddiswyddodd Meryl Jones, Wern Fach, fel pennaeth Ysgol Gynradd Llanbedr. Treuliodd Meryl 19 mlynedd hapus iawn yno fel pennaeth a bydd ganddi lawer o atgofion melys. Roedd yn bennaeth ac athrawes gydwybodol iawn gan roi o’i gorau bob amser a lles y plant yn bwysig iawn iddi. Ar ddiwedd y tymor cynhaliwyd parti i’r plant, y staff, y rhieni a ffrindiau’r ysgol i anrhegu Meryl a diolch iddi am ei gwaith diflino dros y blynyddoedd. Dymuniadau gorau i ti i’r dyfodol, Meryl.

Llwyddiant Llongyfarchiadau i frodyr o Ddyffryn Ardudwy ar eu llwyddiant yr haf yma. Mae Aidan Hughes wedi graddio o Brifysgol Manceinion ar ôl cwblhau cwrs cynllunio graffig. Mae Lloyd wedi bod yn llwyddiannus yn ei ganlyniadau lefel A ac Ellis wedi llwyddo i gael canlyniadau uchel yn ei arholiadau TGAU. Maen nhw’n byw yn Nhŷ Benar, Dyffryn Ardudwy ar hyn o bryd ac mae eu nain, Bethan Johnstone, Min-y-don, sy’n dal i fyw yn Harlech, yn siŵr o fod yn falch iawn ohonyn nhw.

6

CYNGOR CYMUNED Croesawyd Ms Heidi Vaughan Williams, Cadeirydd Hamdden Harlech ac Ardudwy ynghyd â Mrs Anwen Davies o Gyngor Gwynedd i’r cyfarfod i drafod dyfodol y pwll nofio. Cafwyd gwahanol ddogfennau gan Ms Williams yn dadansoddi’r gwahanol ffigyrau a faint fyddai’n rhaid i’r Cynghorau ychwanegu at eu praesept er mwyn ei drosglwyddo i Hamdden Harlech ac Ardudwy. CEISIADAU CYNLLUNIO Estyniad ochr deulawr - 12 Glanwerydd, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi. Adeiladu estyniad deulawr - Plas Bach, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi. Ceisiadau cynllunio â phenderfyniad arnynt Codi garej ddwbl newydd - Y Waun, Dyffryn Ardudwy - caniatáu. Codi estyniad unllawr - Bronant, Talybont - caniatáu. MATERION YN CODI Camerâu CCTV Mae’r PCSO Dai Hughes yn barod i ddod i gyfarfod y pwyllgor i drafod. Neuadd Bentref Mae Siân Edwards wedi ymddiswyddo o’r pwyllgor. Gosodir dau wyntyll echdynnu (extractor fan) cyn bo hir. Datganwyd siom fawr fod y sawl oedd wedi gwneud y gwaith o drwsio’r llawr wrth ddrws cefn y neuadd wedi gadael yr hen ddeunydd y tu allan i’r drws er bod y Cyngor wedi talu swm sylweddol iddo am wneud y gwaith hwn. Cytunodd Mike Tregenza gasglu’r hen ddeunydd a’i waredu. Archwilio’r lloches bws, mynwentydd a pharciau chwarae Derbyniwyd adroddiadau manwl iawn a rhoddir sylw buan i rai materion. Gwefan y Cyngor Cafwyd pris gan gwmni Quick & Simple o un taliad o £400 a £100 y flwyddyn ac y bydd y cyfanswm yn dod i £500. Cau banc HSBC Bermo Datganwyd siom a phryder bod y banc uchod yn mynd i gau ym mis Medi. Cyfarfod gyda Hamdden Harlech ac Ardudwy Trafodwyd y cyfarfod uchod ymhellach a chytunodd pawb yn unfrydol i godi’r praesept er mwyn rhoi i Hamdden Harlech ac Ardudwy’r swm yr oeddynt ei angen, ond cytunodd pawb nad oedd y Cyngor yn fodlon codi’r praesept yn uwch na’r hyn yr oedd yn gofyn amdano os oedd Cyngor arall yn tynnu allan o’r fenter. GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd Cytunwyd i fynd i bartneriaeth gyda Chyngor Gwynedd i gadw’r toiled cyhoeddus yn Nhalybont yn agored ar gost flynyddol o £4,000 ond cytunwyd i beidio mynd i bartneriaeth gyda Chyngor Gwynedd i gadw’r toiled cyhoeddus yn y pentre yn agored am nad oedd yn ateb y gofynion; hefyd, gan fod gan y cyhoedd yr hawl i ddefnyddio toiled y neuadd a bod y cyhoedd yn cael defnyddio’r toiled sydd yng ngarej Smithy. Biniau Halen Cytunwyd i dderbyn y cyfrifoldeb o edrych ar ôl y biniau halen ein hunain. UNRHYW FATER ARALL • Gofynnodd Margretta Cartwright a fyddai’n bosib i’r Cyngor hwn goffau 100 mlwyddiant Brwydr y Somme a Choedwig Memetz trwy gynnal gwasanaeth a gosod torch ar y Gofeb. Cytunodd pawb â hyn a chytunwyd i archebu torch o gyfrif y Cadeirydd. • Adroddodd Owen Gwilym Thomas bod Dyffryn Ardudwy wedi ei ddewis fel un o’r 3 lle mae Arloesi Gwynedd Wledig wedi ei ddewis i gydweithio â hwy, ac yn gofyn am gefnogaeth y Cyngor gyda hyn. Cytunwyd i gefnogi’r fenter hon. • Er gwybodaeth, dywedodd Eryl Jones Williams ei fod wedi derbyn gwobr am y gwaith y mae’n ei wneud gyda’r Gwasanaeth Iechyd ac fe’i llongyfarchwyd am hyn.

Gwasanaethau’r Sul, Horeb MEDI 2016 11 Parch Olwen Williams 18 Edward ac Enid Owen 25 Rhian a Meryl HYDREF 2 Anwen Williams

Festri Lawen, Horeb Cynhelir cyfarfod cynta’r tymor nos Iau, 13 Hydref am 7.30. Croeso cynnes i aelodau hen a newydd.


Cofio Ffrind a Chydweithiwr Tudor Thomas

Bellach mae dros ddeugain mlynedd ers i “hwntw” yn ei dridegau cynnar wneud ei ffordd i Feirion, ar ôl derbyn swydd yng Ngholeg Meirionnydd. Cofiaf i’m dyletswyddau gychwyn rai dyddiau cyn i ni fel teulu symud i Dalybont ac o’r herwydd, roedd angen llety dros dro ar y darlithydd Astudiaethau Busnes newydd. Ni fu rhaid chwilio am wely a brecwast ar lannau’r Wnion, gan fod yna gartref oddi cartref ar gael yn Ffordd Glan y Môr, Talybont. Trwy garedigrwydd Tudor a Marian Thomas, cefais bob gofal yn ystod y dyddiau nerfus hynny, pan oedd popeth mor newydd a heriol i mi. Ym mis Medi 1975 felly y profais am y tro cyntaf, groeso’r Preseli. Does ryfedd i mi deimlo mor gartrefol yno gan fod yr enw Preseli yn gweddu i un a anwyd yng nghysgod yr hen fryniau. Hefyd, roedd Marian yn dod o Glunderwen, ychydig i lawr y ffordd o fro fy mebyd felly roedd ‘na destun trafod parod ar ein cyfer. Cydweithio gyda’n gilydd ac yn drigolion o’r un pentref, buan iawn y tyfodd ein cyfeillgarwch. Roedd Tudor a fi yn rhan o drefniant rhannu ceir a dros y blynyddoedd bu nifer o’r darlithwyr a drigai ym mro Ardudwy yn rhan o’r trefniant hwylus. Mor ffodus oeddwn i gael ysblander Dyffryn Mawddach yn gefnlen i’n teithiau dyddiol. Difyr iawn fu’r sgyrsiau yn y car ac weithiau roedd rhywun yn anghofio ein bod yn teithio i’r gwaith! Cofiaf un digwyddiad pan oedd neb llai na’r Parchedig Brian Evans wrth y llyw. Hillman Imp oedd ei gar ar y pryd ac ar y nos Lun honno, rhedodd yr Imp allan o betrol. Doedd y parchedig ddim yn ŵr poblogaidd gyda’i gyd-deithwyr. Syndod iddo redeg allan o danwydd o gofio iddo bregethu droeon am y pum morwyn ffôl heb olew yn eu lampau! Rhai dyddiau yn dilyn y digwyddiad, ymddangosodd faled yn ein tyllau colomen nod. Er taw

dienw oedd y bardd, roedd awdur y geiriau yn wybyddus i’r rhan fwyaf ohonom. Dyma un pennill o’r faled er mwyn cyfleu neges y gerdd: Ac wele’r tri yn gwthio Sef Tudor, Ray a Dan A’r chwys yn dechrau llifo, A’r rhiw yn serth – am lan! Dychmygwch faint y traethu Rhegfeydd o gylch yn gwau Heb obaith am achubiaeth A drws y George ar gau. Wel, mi ddaeth achubiaeth ac mi dynnwyd yr Imp sychedig i Birmingham Garage gan lori gownsil. Tebygol mai pwerau perswadiol Tudor fu’n gyfrifol am yr achubiaeth! Poblogaidd iawn oedd Tudor ymhlith ei gydweithwyr ac yng ngweithgareddau cymdeithasol y staff, roedd yn dipyn o seren. Wedi cael ychydig o luniaeth hylifol, byddai’n adrodd o’i gasgliad o straeon digri’. Er bod rhai ohonynt yn dyddio, mawr oedd yr hwyl a’r chwerthin. Cofiaf un achlysur o’r fath a gynhaliwyd ym Mwyty Ymarfer y coleg. Tudor oedd yn gyfrifol am y bar. Clywyd un aelod hŷn yn dweud fod hyn yr un fath â rhoi Jesse James yng ngofal banc! O ddifrif, daeth pinacl gyrfa Tudor pan roddwyd iddo’r cyfrifoldeb o redeg y coleg yn sgil secondiad Keith Jones y Pennaeth i lywio’r gwaith o sefydlu Coleg Meirion Dwyfor. Ef oedd y Pennaeth Gweithredol yn ystod blwyddyn olaf Coleg Meirionnydd. Priodol iawn oedd hynny o gofio iddo wasanaethu’r sefydliad mor gydwybodol am dros 20 mlynedd. Adeg y Pasg 1993, daeth yn amser i Tudor a nifer o’i gydweithwyr ymddeol. I nodi’r achlysur pwysig, rhoddwyd englynion wedi eu fframio’n gelfydd iddynt. Gwaith y diweddar Ieuan Jones o Ddyffryn Ardudwy oedd yr englynion. Dyma’r englyn a gyflwynwyd i Tudor: Rhoddaist o’th orau iddi – hen goleg, Nag wyla amdani, Noswylia i’th Breseli Hoff y rhawg a byw yn ffri.

Mae’r llinell agoriadol yn ein hatgoffa o gyfraniad gwerthfawr Tudor i fywyd a gwaith yr “hen goleg.” Daeth ymddeoliad ag amser i arddio, cerdded ac ymarfer ei sgiliau gwaith coed. Roedd cerdded yn rhan bwysig o’r hamddena a chefais i ag eraill, sawl diwrnod hapus iawn yn ei gwmni yn troedio llwybrau Ardudwy a thu hwnt. Roedd yn gyfarwydd iawn â llwybrau’r Rhinogydd a gallaf ei weld yn awr yn sefyll yn falch ar gopa’r Rhinog Fawr. Yn fwy diweddar, teithio yn ei gwmni i fwynhau rhyw orig fach ym mhwll nofio Harlech. Yn dilyn yr ymarfer, mwynhau cinio a sgwrs yng Nghaffi’r Pwll. Cyfeiriai o dro i dro at y teras ar y graig a’r bwthyn ar y pen, lle bu’n lletya yn ystod ei gyfnod cynnar fel athro yn Ysgol Ardudwy. Yn drist, daeth salwch i roi terfyn

ar y nofio. Bu’n cyfnod fel diaconiaid a swyddogion Capel Rehoboth yn cynnig cyfle arall i gydweithio a chymdeithasu. Ym mis Chwefror 1993, gyda dyddiad cau Coleg Meirionnydd yn prysur agosáu, ysgrifennodd Tudor lythyr i’r holl staff i ddiolch iddynt am eu gwasanaeth i’r coleg. Mae fy nghopi yn dal gen i ac ar ddiwedd y llythyr yn ei lawysgrif, mae’r geiriau: “Diolch am dy gefnogaeth a chyfeillgarwch dros yr holl flynyddoedd Dymuniadau gorau i’r dyfodol. Cofion gorau, Tudor.” Yn awr, bron i chwarter canrif yn ddiweddarach, dyledus yw diolch i Tudor am ei gefnogaeth a’i gyfeillgarwch ac am yr etifeddiaeth gyfoethog o atgofion a adawodd ar ei ôl. Ray Owen

Diolch Dymuna Mrs Doris Griffith, Swyn y Grug, Llanfair (Wendon, Dyffryn gynt), ddiolch i’w ffrindiau a’i theulu am y cardiau a’r dymuniadau da wrth ddathlu ei phen-blwydd yn 95 oed. Diolch hefyd i bawb sydd yn ymweld â hi yng Nghartref Llwyn, Dolgellau. Diolch a rhodd £25

Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Sioned Parry, merch David Parry, 3 Castell y Gog ar dderbyn gradd gwyddoniaeth (Bachelor of Science) mewn nyrsio o Brifysgol Bryste. Mae Sioned eisoes wedi cychwyn ar ei gyrfa nyrsio yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

CEIR MITSUBISHI

Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk

7


HARLECH Sefydliad y Merched Harlech Croesawodd y Llywydd Christine Hemsley yr aelodau a gwesteion i’r cyfarfod a gynhaliwyd yn y Neuadd Goffa, Harlech ar nos Fercher 13 Gorffennaf. Dymunwyd pen-blwydd hapus i rai oedd yn dathlu pen-blwyddi’r mis yma ac ym mis Awst, a dymuniadau da i aelodau oedd yn sâl. Darllenwyd y llythyr o’r Sir a chofnodwyd y dyddiadau o bwys. Cafwyd adroddiad gan y Trysorydd ac mae’r llyfr o Harlech yn dal i werthu’n dda iawn. Mae mis Awst yn fis prysur iawn i’r aelodau. Mae rhai wedi bod yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, wedi paratoi a gwerthu nwyddau yn Arddangosfa Gelf Harlech, rhai wedi helpu i werthu te yn y diwrnod hwyl ar y cae chwarae, aelod o SyM wedi trefnu blodau at y Sioe Flodau oedd yn Eglwys Llandanwg, rhai wedi cymryd rhan yn y Sioe yn Harlech, a dangoswyd gwaith crefft aelodau yn y Sioe Sir yng Nghorwen. Ar ôl darfod y busnes croesawyd y wraig wadd, sef Loes Mulder yn siarad am nematodau ac iechyd planhigion. Cynhelir y cyfarfod nesaf nos Fercher 14 Medi am 7 o’r gloch. Croeso i ymwelwyr. Diolch Dymuna Menna Jones, 4 Bron y Graig ddiolch o galon am yr holl gardiau a’r galwadau ffôn a dderbyniodd ar ôl dod adref o Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Alltwen yn ddiweddar. Diolch hefyd am y gofal a gafwyd gan y nyrsys ym Mangor ac Alltwen a’r nyrsys cartref a’r gofalwyr. Diolch a rhodd £10 Cofion Cofion pen-blwydd am gymar a ffrind mor annwyl, sef Ishmael Jones, Talgarreg, Llanbedr a fyddai yn 93 oed ar Fedi 9. Y pen-blwydd cyntaf heb yrru cerdyn. Dy golli bob dydd. Hiraeth yn dal yn fy nghalon. Diolch am yr amser mor hapus a gawsom efo’n gilydd. Menna Rhodd a diolch £10

8

Marwolaeth Gyda thristwch y cyhoeddir marwolaeth Enerys Wynn Richards [Evans gynt] ar Awst 22 a hithau yn 81 oed, cynwraig Gerald, mam i David a Brian a nain i bump o wyrion; merch ieuengaf John Henry ac Annie Mary o’r Waun, Harlech, a chwaer i Rhinogwen, Arwyn, Aneurin, Emyr a Tecwyn. Roedd yn aros ar y pryd yng nghartref ei mab, Brian, yn Southampton. Cynhelir gwasanaeth cyhoeddus yn yr Amlosgfa yn Southampton am 1.45 ar 9 Medi. Y bwriad ymhellach ymlaen yw taenu ei llwch ar fedd ei thad a’i mam yn Harlech. Gweithiodd yn ddygn ar hyd ei bywyd. Bu’n gweithio mewn gwesty yn Southampton am ugain mlynedd. Roedd yn wraig gymeradwy iawn yng ngolwg ei llu gyfeillion. Cydymdeimlwn â’r teulu oll yn eu colled.

Teulu’r Castell Mae Teulu’r Castell wedi cael blwyddyn lwyddiannus, diolch i gymorth Merched y Wawr, Sefydliad y Merched ac Ysgol Tanycastell yn ogystal â’r swyddogion am eu cefnogaeth ac i’r aelodau am ddod mor gyson i’r cyfarfodydd. Ar ddiwedd ein blwyddyn yn ôl ein harfer ym mis Gorffennaf fe aethom i gael te yn y Tebot Arian yn Nyffryn Ardudwy. Cafwyd te ardderchog ac roedd pawb wedi mwynhau eu hunain. Braf iawn oedd gweld Olwen Jones yn teimlo’n ddigon da i ddod atom a diolch i Alan, ei mab, am ddod a hi ac yntau wedi cael aros am y te. Roedd pawb yn meddwl am Menna Jones, Dorothy Harper a Mair M Williams, aelodau ffyddlon ond yn awr yn methu â bod gyda ni trwy salwch. Diolchwyd i deulu’r diweddar Mrs Blodwen Jones am y rhodd o arian a dderbyniwyd gan y teulu i gofio am Anti Blod. Fe fydd Teulu’r Castell yn ailgychwyn ar 11 Hydref am 2 o’r gloch yn Llanfair. Croeso i aelodau newydd ymuno â ni.

Er Cof Er cof annwyl iawn am Jennie May Williams, Tŷ’r Acrau, mam, nain a hen nain garedig a fuasai wedi bod yn 100 oed ym mis Awst eleni. ‘Mae alaw pan ddistawo Yn mynnu canu’n y co’.’ Dic Jones Rhodd a diolch: £20 Teulu Tŷ’r Acrau Ffair Haf Harlech Cynhaliwyd y ffair eleni ar Awst 6ed ar y cyd â chystadleuaeth Rygbi 7 pob ochr er cof am Gwynfor John. Daeth tri thîm at ei gilydd i gystadlu am y gwpan sef Harlech, Porthmadog a Llangefni, gyda Llangefni yn fuddugol. Cafwyd diwrnod llwyddiannus gydag elw o £440 a fydd yn cael ei rannu rhwng Seindorf Arian Harlech a Chlwb Rygbi Harlech. Hoffai’r ddau bwyllgor ddiolch o galon i bawb a gyfrannodd i’r digwyddiad ac a’i cefnogodd. Priodi Llongyfarchiadau i Catherine a Tony Pulton, Stad Pant yr Eithin sydd wedi priodi yn ddiweddar Rhodd i’r Llais Di-enw £4.50

Jim Nelson Cydymdeimlwn â theulu a chyfeillion Jim Nelson a fu farw ar 30 Gorffennaf ac a gladdwyd ar 4 Awst ym mynwent Eglwys Tanwg Sant efo’i rieni. Magwyd Jim yn Harlech ac yma y bu’n byw gydol Llongyfarch ei oes. Mae cyfeillion Jim wedi trefnu Gwasanaeth Coffa iddo i’w Llongyfarchion i Darren a gynnal ar brynhawn Iau, 15 Medi am 2.00 yng Nghapel Jerusalem, Donna, 13 Stad Pant yr Eithin ar Harlech. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael yn dilyn y gwasanaeth enedigaeth Tomi Joe ar y 18fed yn Eglwys Tanwg Sant. Croeso i bawb. Diolch i Edwina am gael o Orffennaf 18; brawd bach i benthyg y llun yma isod o Ieuenctid Capel Tabernacl, Harlech, tua Siôn James. Dymunant ddiolch i 1952-53, lle’r oedd Jim yn aelod. bawb am y cardiau, yr anrhegion a’r cyfarchion a gawsant. Diolch £5 Mudo Mae Elizabeth Jones a’i mab Dylan, Min-y-morfa gynt, wedi ymgartrefu ym Mhenrhyndeudraeth erbyn hyn. Pob dymuniad da iddyn nhw.

Capel Jerusalem HARLECH

Yn y llun gwelir: Rhes gefn, chwith i’r dde: 11 Parch Olwen Williams am 2.00 18 Parch Dewi Tudur Lewis am 4.00 Roy Jones, Gweneth Evans, Valmai Griffith, Edwina Evans, Olive Jones, Eifiona Williams, ac Emyr James. HYDREF Rhes flaen, chwith i’r dde: 9 Parch Iwan Ll Jones am 3.30 Undebol Jim Nelson, Y Parch a Mrs R W Evans, Margaret Rees (Lewis gynt). MEDI


YSGOL ARDUDWY Ffair Yrfa Codi Stêm yn Nolgellau Mynychodd disgyblion B8 y ffair hon sy’n codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd cyflogaeth leol yn y sector ynni, yn enwedig y cyfleoedd hynny sy’n cysylltu â’r pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).

Ysgard – Band Jazz-Roc Bu Ysgard, band jazz-roc yr ysgol, yn perfformio yng Ngŵyl Roc Ardudwy eto eleni. Aelodau’r band ar lwyfan Roc Ardudwy dan arweiniad Einion ‘Mr D’ Dafydd oedd Oscar Fields (gitar fâs), Tirion Evans (gitâr), Osian Myfyr Jones, (gitâr), Miki Adamkiewicz (drymiau a congas), Max Liggett (drymiau a congas) Dafydd Hughes (llais ac allweddell), Elissa Moore (llais), Gwion Lloyd (cornet), Alaw Sharp (cornet), Cerys Sharp (flugel horn) gydag Elfyn Anwyl a Heledd Evans yn yr adran bres ar ran y staff. Yn Eglwys Tanwg Sant ymunodd Dalton Foster ar y gitâr â Miss Naomi Redman, Pennaeth Ieithoedd Modern Tramor yr ysgol, a chanwyd amrywiaeth o ganeuon fel rhan o’r set. Dawnsio Stryd DDC Bu dau dîm o’r ysgol, Gravity (dan 18) a HI Energy (dan 10), yn cystadlu ym Mhencampwriaethau UDO Dawnsio Stryd Y Byd XI 2016 yng Nglasgow ar 18-21 Awst. Mae’r ddau dîm wedi gweithio’n anhygoel o ddyfal i gynrychioli Harlech a Chymru yn y gystadleuaeth. Cynhaliwyd diwrnod Gwisg Hamdden i godi arian at y costau cystadlu. Codwyd £235 at yr achos. Diffibriliwr Mae ymgyrch i brynu diffibriliwr ar gyfer yr ysgol yn mynd yn ei flaen a’r disgyblion eisoes wedi casglu £250. Yn dilyn cyfraniadau gan Gynghorau Cymuned lleol mae’r offer nawr wedi ei archebu. Diolch i bawb am eich cefnogaeth. Taith ‘Bin it!’ Cymerodd disgyblion B9 ran yn rhaglen addysgol drama-seiliedig ‘Bin it!’ yn ddiweddar. Pwrpas ‘Bin it!’ yw addysgu disgyblion am gyfrifoldeb a sbwriel a chadw eu hamgylchedd yn daclus. Dyma adolygiad o ‘Bin it!’ gan Osian Myfyr Jones, B9: Pwrpas y perfformiad oedd ein haddysgu ni am effaith llygredd a sut y gallwn ni wneud ein rhan i arbed y sefyllfa. Roedd arddull y sioe yn debyg i bantomeim. Roedd y cymeriad ‘Doc’ yn un doniol a dros ben llestri sydd hefyd yn nodweddiadol o bantomeim. Dim ond dau gymeriad oedd yn y sioe, sef Doc a Taylor. Roedd Taylor yn gymeriad naturiol. Fy hoff gymeriad i oedd Doc oherwydd roedd o’n andros o ddoniol ac yn cysylltu gyda’r gynulleidfa’n aml. Roedd ei wisg yn adlewyrchu ei bersonoliaeth melodramatig a dros ben llestri. Roedd o’n defnyddio’r gofod actio i gyd yn effeithiol ac yn amrywio ei lais er mwyn dangos teimladau a chreu tensiwn a hiwmor. Mi wnes i fwyhau’r perfformiad yn fawr iawn. Roedd yr actio yn ardderchog ac roedd yr arddull yn addas ar gyfer ein hoedran ni fel cynulleidfa. Roedd y mynegiant wynebol yn ddoniol a chreadigol. Roedd y ddau actor yn amrywio tôn a thraw eu lleisiau ac yn aml yn byrfyfyrio. Roedden nhw yn gwneud hyn mewn ffordd ddoniol oedd yn dal ein sylw yn syth. Er mwyn gwella’r perfformiad yma efallai y dylai’r diweddglo fod yn fwy cadarn gyda ffeithiau dychrynllyd er mwyn atgyfnerthu bwriad y sioe. Er fy mod i wedi dysgu bod rhoi fy sbwriel yn y bin yn ofnadwy o bwysig, roedd rhai o aelodau eraill o’r gynulleidfa wedi canolbwyntio fwy ar yr elfen o hiwmor ac nid y neges. Mi fyddwn i yn rhoi sgôr o 8.5 allan o 10 i’r sioe ‘Bin It’.

Ffeiliau Cynnydd Cyflwynwyd y ffeiliau eleni gan Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas. Cafwyd araith a chyngor pwrpasol ganddo i’r disgyblion wrth iddynt drosglwyddo i addysg ôl-16 neu fyd gwaith. Trefnwyd eitemau o adloniant i ddiddanu pawb ac, ar ôl y seremoni, cafodd pawb fwynhau bwffe a baratowyd gan staff y gegin. Cyflwynwyd dwy wobr arbennig yn ystod y prynhawn, sef Gwobr Goffa Elfed Evans ar gyfer rhagoriaeth yn y byd Chwaraeon i Dafydd Jones, a Gwobr Ddyfalbarhad i Katie Morrison. Athletau Yng Nghystadleuaeth Athletau Meirion-Dwyfor, daeth tîm bechgyn B7 yn 1af a thîm bechgyn B10 yn ail. Daeth timau merched B7 ac 8 yn ail a thimau merched B9 a 10 yn 3ydd. Cwis y Gymdeithas Ddaearyddol Bu Owain Evans, Ameilia Greenway ac Alaw Jones o B8 yn cymryd rhan yn y cwis hwn ym Mhrestatyn yn ddiweddar. Daeth y tîm yn 4ydd allan o 8 ysgol. Roedden nhw wedi mwynhau’r profiad yn fawr.

Beicio Mynydd 5x60 Llongyfarchiadau MAWR i Evie Dawson, Millie Tookey a Lowri Llwyd am ddod yn 1af yng Nghystadleuaeth Beicio Mynydd 5x60 Gwynedd ar gyfer Merched B9, B10 a B11.

Pencampwriaeth Athletau Cymru Aeth Ben Davies o B9 ymlaen i gystadlu yng Nghaerdydd a daeth yn 3ydd am daflu pwysau. Roedd yn 7fed am daflu disgen. Llongyfarchiadau mawr i ti Ben

9


Priodas

TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN

Llongyfarchiadau i Damian Peake, Pentre Uchaf, Dyffryn Ardudwy, a Megan Carter, Clogwyn Melyn, Ynys, ar eu priodas ar Orffennaf 30 yn Eglwys Llanfihangel-y-traethau dan ofal y Parch Bob Hughes (taid Megan). Cafwyd y wledd briodas yn Neuadd Talsarnau (bwyd gan Grasdy’r Gader, Dolgellau) ac wedyn dathliadau hapus yng Nghlogwyn Melyn a’r ardd. Mae’r ddau yn byw yn Derby, lle mae Damian yn gyrru lorïau a Megan yn astudio yn y Brifysgol.

Brân

Mae brân wedi bod yn brysur yn gwneud hyn ar un o ffenestri’r adeiladau yn Barcdy! Welwyd erioed y peth yn digwydd yna o’r blaen. Gweld ar y we fod brain YN gwneud hyn wrth drio mynd at yr aderyn maen nhw’n ei weld yn y ffenest! Bydd angen ffenast newydd! [Gol: Diolch am yr hanesyn difyr uchod a’r llun o’r ffenestr dan sylw. Mae rhai rhywogaethau o adar yn gyffredinol yn gwneud hyn yn y gwanwyn pan maen nhw’n chwilio am gymar ac am gynnal eu tiriogaeth rhag adar diarth.]

Llongyfarch Llongyfarchiadau i Ffion Medi, Glan-y-môr, Ynys am gael 4 A*, 5A a 2B yn ei arholiadau TGAU - gan Dad. Geni Llongyfarchiadau i John Bryn a Mari, Draenogau Mawr, ar enedigaeth eu mab, John Myfyr - ŵyr arall i gadw Gwion a Gwyneth yn brysur! Ein dymuniadau gorau iddynt.

Swydd newydd Yn y llun mae Sara a Tomos Llongyfarch Macdonald, merch a mab Llongyfarchiadau hefyd i John Macdonald, gynt o Bryn Annwyl (Aberdeunant) a Eithin, a’r ddiweddar Amanda Huw Williams, Caerdydd ar Williams, 5, Cilfor. Anfonwn enedigaeth eu merch fach, ein dymuniadau gorau i Sara ar Megan Celyn Enlli, ac wyres i ddechrau ei swydd fel cyfrifydd Paul a Mandy, Aberdeunant. yn Llandudno. Anfonwn ein dymuniadau gorau. Mae Tomos hefyd wedi gwneud Neuadd Talsarnau yn dda iawn yn ei lefel A ac ar i Rydychen ym mis GYRFA CHWIST gychwyn Hydref. Nos Iau Llongyfarchiadau mawr i’r ddau Medi 8 gan Taid a Nain Cilfor a’r teulu. am 7.30 o’r gloch Rhodd a diolch £10

10

IAN RAYNER

Mae cymylau tristwch yn ymweld ag ardal yr Ynys braidd yn rhy aml y dyddiau hyn. A’r tro hwn y rheswm am y tristwch yw bod yr annwyl Ian Rayner wedi mynd o’i waith at ei wobr a hynny wedi cystudd hir iawn ac yntau yn 65 oed. Cystudd a wynebwyd mor ddewr gan Alison, ei wraig, a’i ferched Lisa a Claire. Cydymdeimlwn â’u teulu i gyd gan gynnwys yr wyrion oedd mor hoff ganddo, sef Jack a Nell. A sôn am weithiwr, ‘workaholic’ medd rhai amdano. Roedd yn weithiwr caled iawn. Roedd mor dda yn ei waith nes i hynny un tro ei rwystro rhag cael dyrchafiad. Doedd y meistr ddim am golli ei grefftwaith. Pe cai archeb am garped rhyw ddeg mlynedd wedi iddo osod y cyntaf, byddai’n siŵr o gofio’r union garped a osodwyd deng mlynedd ynghynt a’r union fesur - i’r llathen sgwâr. Mae’r ddraig goch sydd yng ngardd Gwyndy Mawr, Ynys yn dystiolaeth i’w allu fel crefftwr a’i Gymreictod. Wedi iddo ymddeol, daethom i’w ail-adnabod fel un hwyliog ei gwmni a difyr oedd y cyfleoedd i hel atgofion am yr hen amser yng nghwmni cylch eang o ffrindiau. Roedd yn un garw am wneud triciau hud a lledrith a byddai’n chwerthin yn afreolus wrth eich gweld yn crafu pen ac yn methu deall sut roedd y tric yn gweithio. Fe’i magwyd ym Maes Gwndwn, Talsarnau, yn fab i Ted a Bronwen ac mae ei fam yn dal i fyw heddiw yng Nghartref Madog. Byddai Ian yn ymweld â hi yn ddi-ffael yn wythnosol. Roedd yn frawd i Colin, Michael, Alan, Elisabeth a Linda.

Roeddem yn cydoesi ac yn cael llawer o hwyl yn ei gwmni yn yr ysgol ac wedi i ni ymadael. Pan oedden ni’n gweithio ym Mhortmeirion, roedd yn un garw am ddwyn eirin gwlanog drwy dwll yn y to. Ond ar un achlysur, wrth iddo roi ei ddwylo drwy’r twll, beth gafodd o ond trap llygoden ar ei fysedd! Sôn am chwerthin wedyn! Roeddem hefyd yn nabod ein gilydd ar y cwrs golff lle cawsai Ian lawer o bleser, a chyfle i ymlacio, os nad cymaint o lwyddiant ar y gêm ei hun. Mi gwrddodd â’i wraig yng ngwesty Caerffynnon. Yr hyn ddigwyddodd oedd iddo ei baglu yn fwriadol. Cymeriad fel ’na oedd o! Wrth gwrs, mi faddeuodd Alison iddo a buont yn briod am dros ddeugain mlynedd. Cynhaliwyd yr angladd yn Eglwys Llanfihangel-y-traethau ar Fedi 5 dan arweiniad y Parchedig Ganon Beth Bailey a rhoddwyd ef i orffwys yn y fynwent. Bydd hiraeth mawr ar ei ôl a hwnnw’n amlwg iawn yn Gwyndy Mawr, Ynys. Cydymdeimlwn yn ddwys iawn â’r teulu i gyd yn eu profedigaeth. Hir yw galar i gilio, – ac araf Yw hen gur i fendio, Am un annwyl mae’r wylo’n Ddafnau cudd o fewn y co’. Dic Jones John a Roger Kerry Capel Newydd Gyda thymor yr hydref ar fin dechrau byddwn yn cyfarfod eto ar nos Fercher. Mae’r cyfarfod cyntaf am 7.30 nos Fercher Medi 21. Maes yr Astudiaethau Beiblaidd y tro yma yw Llyfr y Proffwyd Eseia. Mae’n gyfle gwych i ddysgu a thrafod. Oedfaon am 6.00 bob nos Sul. Medi 11 Dewi Tudur Medi 18 Parch Sulwyn Jones Medi 25 Dewi Tudur Hydref 2 Dewi Tudur Hydref 9 Dewi Tudur Hydref 16 Dewi Tudur Hydref 23 Mr Huw Roderick Hydref 30 Dewi Tudur Cofiwch fod gennym Ysgol Sul bob bore Sul am 10.30. Manylion gan Dewi Tudur ar 01766 770953.


CYNGOR CYMUNED TALSARNAU Croesawyd Ms Heidi Vaughan Williams, Cadeirydd Hamdden Harlech ac Ardudwy ynghyd â Mrs Anwen Davies o Gyngor Gwynedd i’r cyfarfod i drafod dyfodol y pwll nofio. Cafwyd gwahanol ddogfennau gan Ms Williams yn dadansoddi’r gwahanol ffigyrau a faint fyddai’n rhaid i’r Cynghorau ychwanegu at eu praesept er mwyn ei drosglwyddo iddyn nhw. MATERION YN CODI Cae Chwarae/Maes Parcio Adroddwyd bod y datblygiad yn symud ymlaen yn dda. Mae dyfynbris wedi’i dderbyn. Adroddwyd hefyd bod teulu Gwrach Ynys wedi cytuno i’r cae chwarae gael ei adnabod fel ‘Cae Gwynfor John’ a diolchwyd iddynt am hyn. Bydd angen agoriad swyddogol unwaith fydd y lle’n barod; hefyd, cytunwyd bod Dewi Tudur Lewis yn trafod gyda theulu Gwrach Ynys beth i’w osod yn y cae chwarae fel coffâd i Gwynfor. Hysbysfwrdd yr Ynys Caiff ei osod yn ei le’n y dyfodol agos. Cylch Meithrin Cafwyd cerdyn hardd gan blant y Cylch yn diolch am y rhodd ariannol. Cyfarfod gyda Hamdden Harlech ac Ardudwy Trafodwyd y cyfarfod uchod ymhellach a chytunodd pawb mewn egwyddor i godi’r praesept er mwyn rhoi i Hamdden Harlech ac Ardudwy’r swm yr oeddynt ei angen, ond cytunodd pawb nad oedd y Cyngor yn fodlon codi’r praesept yn uwch na’r hyn yr oedd yn ei ofyn os oedd Cyngor arall yn tynnu allan o’r fenter. CEISIADAU CYNLLUNIO Codi gorsaf bwmpio - Tir ger yr A496 gyferbyn â’r fynedfa i Blas Caerffynnon, Talsarnau. Cefnogi’r cais hwn ond bod yr aelodau’n bryderus am y gwelediad o faes parcio’r ysgol i gyfeiriad Glan y Wern. Creu stiwdio tatwio - Isgoed/Hen Dy’r Ysgol, Talsarnau. Cefnogi’r cais. GOHEBIAETH Adran Briffyrdd Bydd Cyngor Gwynedd edrych ar ôl ac ail-lenwi’r biniau halen yn yr ardal. UNRHYW FATER ARALL • Cafwyd adroddiad o gyfarfod blynyddol Un Llais Cymru yn Nhywyn gan Owen Lloyd Roberts. • Datganwyd pryder am y prinder llefydd parcio ar stad Cilfor a chytunwyd o ofyn i CCG a fyddai modd datblygu darn o dir ym mhen draw’r stad dai yn faes parcio. Cytunodd Caerwyn Roberts ddelio gyda’r mater hwn. • Llongyfarchwyd yr ysgol gynradd ar eu llwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Y Fflint. • Mae angen sylw ar Ardd y Rhiw ac angen torri eiddew ger lloches bws Llandecwyn. • Datganwyd pryder bod cymaint o geir yn parcio ar y rhiw i fyny am Soar a chytunwyd i roi papur trwy ddrws pawb yn y pentref yn tynnu eu sylw at y ffaith bod maes parcio newydd ar gael unwaith y bydd wedi ei orffen.

R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU

DYN AR DÂN Bu Merêd farw ym mis Chwefror 2015, blwyddyn y cyfeirir ati yn y cyflwyniad i’r gyfrol fel ‘blwyddyn flin’, neu ‘hen fleiddiast o flwyddyn’, i ddefnyddio geiriau Twm Morys. Mawredd Merêd oedd iddo, yn ei oes hir, gyflawni cymaint o waith mewn cynifer o feysydd amrywiol. Ceir rhestr ar ddechrau’r gyfrol o’r ‘Cerrig Milltir ar Daith Bywyd Merêd’, ac mae’r rhestr yn rhoi braslun i ni o’i fywyd o ddydd ei eni hyd at ei farwolaeth. Difyr iawn yw’r bennod agoriadol gan Gwyn Thomas, sydd bellach, ysywaeth, wedi’n gadael hefyd, yn sôn am blentyndod Merêd yn Nhanygrisiau. Mae’n cofnodi peth o hanes Merêd yn llanc yn gweithio yn y ‘Coparét’ ym Mlaenau Ffestiniog, cyn mynd ymlaen i Goleg Clwyd a Choleg y Brifysgol, Bangor. Yno, wrth gwrs, daeth yn adnabyddus fel un o Driawd y Coleg, ac un o’r triawd, Cledwyn Jones, yw awdur yr ail bennod, ‘Atgofion Coleg’. Cyd-fyfyriwr arall, y Parch Huw Jones, yw awdur y drydedd bennod, gŵr a fu’n cydletya â Merêd ym Mangor. Ei waith fel darlledwr a gawn ym mhennod R Alun Evans, a chyfeirir eto at ddyddiau’r triawd, cyn mynd ymlaen i sôn am ei waith fel Pennaeth Adloniant BBC Cymru/ Wales. Yn y swydd hon gwnaeth Merêd ei farc yn sicr, gan osod sylfeini cadarn y byd adloniant ysgafn ar deledu i’r Cymry gyda’i gyfresi poblogaidd. Ceir pennod gan Eluned Evans, merch Merêd a golygydd y gyfrol, ac mae hi’n dadlennu peth o’i hanes yn America, ac mewn pennod arall, ’Bywyd Teuluol’, mae’n sôn am y bywyd hwnnw, gan gyfeirio at rai o’r anfanteision o fod yn ferch i Merêd. Ceir penodau gwerthfawr ar Merêd yr athronydd, Merêd y Pennaeth Adran yn y BBC, yr addysgwr, y perfformiwr, y canwr a’r casglwr alawon gwerin ac, wrth gwrs, Merêd yr ymgyrchwr. Bu’n gefnogwr brwd i ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith, a chofir amdano’n mynd yng nghwmni Ned Thomas a Pennar Davies i ddiffodd trosglwyddydd teledu Pencarreg yn Sir Gaerfyrddin,

fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith dros gael sianel deledu Cymraeg. Yn ddiweddarach bu’n ymgyrchwr brwd o blaid y Coleg Cymraeg Ffederal, a chafodd foddhad mawr o weld sefydlu’r coleg hwnnw. Mae breindaliadau’r gyfrol hon yn cael eu cyfrannu i Ymddiriedolaeth William Salesbury, cronfa a sefydlwyd gan Merêd er mwyn cynorthwyo myfyrwyr a oedd am ddilyn eu cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg. Ym 1985, ar ôl ymddeol o’i waith yn y Brifysgol, symudodd i fyw’n barhaol i Gwmystwyth, a diddorol iawn yw pennod Lyn Ebenezer, ‘Cariad at y Cwm’. Sonnir am y modd y bwriodd Merêd iddi i’r gwaith o ‘geisio ail-greu bwrlwm y Gymdeithas Gymraeg’ yn yr ardal. Daeth yn rhan amlwg o’r gymdeithas honno ac yn ŵr mawr ei barch gan y trigolion. Ar anogaeth Merêd aethpwyd ati i ailgychwyn eisteddfod y pentref yn 2015, ac er na welodd ef yr eisteddfod honno, cerdd iddo fe gan Rocet Arwel Jones a enillodd y gadair, ac mae’r gyfrol hon yn gorffen gyda’r gerdd honno. Arwel hefyd a draddododd y deyrnged i Merêd ar ddydd ei angladd yng Nghapel Siloam, Cwmystwyth, ac mae’r deyrnged hyfryd honno i’w gweld ar ddiwedd y gyfrol. I gael darlun llawnach o’r cyfan a wnaeth y gŵr hynod hwn ei gyflawni yn ystod ei oes hir rhaid darllen y gyfrol drwyddi. Mae’n gyfrol werthfawr, a rhaid diolch i’r Lolfa am gynhyrchu teyrnged mor gynhwysfawr i un o’n mawrion. John Meurig Edwards Adolygiad oddi ar www.gwales. com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

11


BWYD A DIOD 136-140 STRYD FAWR, PORTHMADOG, GWYNEDD LL49 9NT

Dewch draw i’r Siop am sbec - mae rhywbeth i bawb yma! Gorffennwch eich ymweliad â phaned, teisen neu bryd o fwyd blasus mewn awyrgylch hamddenol.

DISGOWNT O 10% WRTH GYFLWYNO’R HYSBYSEB YMA AR NWYDDAU O’R SIOP, NEU FWYD A DIOD O’R TŶ COFFI. [Ni chaniateir ei ddefnyddio gydag unrhyw gynigion eraill sy’n bodoli ar y pryd.] www.kerfoots.com enquiries@kerfoots.com Ffôn: 01766 512256 Llais Llais Ardudwy

Ardudwy

Jeli blodau ysgawen a mafon

THEATR HARLECH Am fanylion pellach am ddigwyddiadau’r Theatr, ffoniwch 01766 780667, neu ewch i’r wefan ar www.theatrharlech.com Digwyddiadau am 7.30 oni nodir yn wahanol.

MEDI 8, 9, 10, 13, 14 am 7.30 yh (a 2.30 ar y 10fed - FFILM Suicide Squad. Mae asiantaeth gyfrinachol y llywodraeth yn recriwtio grŵp o garcharorion i gyflawni gwaith cudd am eu rhyddid, ond anhrefn sy’n digwydd. 10 – Perfformiad Kapow –‘Adrift’ am 5.00, sef stori dwy ddynes sydd ar goll ar y môr drwy gyfrwng dawns, theatr, syrcas, meim a cherddoriaeth. 16, 17, 20, 21, 22 – FFILM Ben-Hur am 7.30 23 – North Wales Jazz - Shades of Shearing am 8.00 yh. Daw’r band i Harlech yn dilyn perfformiadau poblogaidd ledled y wlad, o Abertawe i Aberhonddu. 23-29 – Bridget Jones Baby am 7.30 (a 2.30 ar y 24 a’r 25; 2.30 yn unig ar y 23). Dilynwn gyfnod nesaf taith bywyd Bridget Jones sydd erbyn hyn yn ei 40au. 12

Mae hwn yn rysáit hyfryd at yr haf o’n llyfr ‘Bwyd a Gwin’ ac efallai fod cordial cartref gan rai ohonoch i wneud y pwdin trawiadol yma. Ceisiwch win byrlymus melys gyda hwn, efallai Clairette du Die o dde Ffrainc. Mae’r gwin ysgafn yma’n rhoi llond ceg o swigod blodeuog. Pleser pur i’w yfed ar ddiwrnod braf, neu - gyda dim ond 7.5% alcohol - gwin brecwast perffaith! Y jeli 175ml cordial blodau ysgawen 625ml dŵr 75g siwgr gwyn 7 deilen gelatin (5gm) wedi socian mewn dŵr oer 300gm mafon Y saws 300g mafon 50g siwgr (newidiwch yn ôl eich dymuniad) 1/4 lemwn, y sest a’r sudd (newidiwch yn ôl eich blas) Terin neu dun bara 22cm x 12cmx 7cm 1. Rhowch y dail gelatin i fwydo mewn digon o ddŵr oer i’w gorchuddio am rai munudau nes maen nhw’n feddal. 2. Cynheswch y dŵr, y cordial a’r siwgr nes bydd y siwgr wedi toddi. 3. Tynnwch y dail gelatin o’r dŵr a’u rhoi yn y cymysgiad cynnes a byddan nhw’n toddi yn syth. 4. Gadwech iddo oeri heb roi’r sosban yn yr oergell fel nad yw’n setio. 5. Leiniwch y tun gyda chling

ffilm a rhoi 1cm o jeli yn y gwaelod a’i roi yn yr oergell i setio. 6. Pan mae wedi setio, dosbarthwch hanner y mafon ar hyd y jeli ac ychwanegwch ddigon o jeli i orchuddio’r ffrwyth a’i roi yn ôl yn yr oergell i setio. 7. Unwaith eto, pan mae hwn wedi setio, rhowch mwy o jeli i mewn a’i setio, wedyn y mafon a jeli a setio hwnnw, ac wedyn y gweddill o’r jeli ar ben hyn, i setio. 8. Pan yn barod i’w weini, trowch y terin drosodd ar blât a’i dynnu o’r jeli yn ofalus. Wedyn bydd y cling ffilm yn dod oddi ar y jeli yn hawdd. Cynheswch gyllell mewn dŵr poeth i dorri tafellau glân, a’u gweini gyda’r saws a hufen. Y saws 1. I wneud saws syml, rhowch y ffrwythau yn y prosesydd gyda’r siwgr a’r lemwn a’u prosesu. 2. Gwthiwch y saws yma trwy ridyll. Llinos Rowlands Gwin Dylanwad Wine

Ystafell ar osod, gogledd Ardudwy; rhannu cegin ac ystafell ymolchi. Am fwy o fanylion, anfonwch e-bost at un o olygyddion y Llais.


H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239

Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290

YSWIRIANT I BAWB

E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr

01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

ALAN RAYNER ARCHEBU A GOSOD CARPEDI 07776 181959

Gwynedd

www.raynercarpets.co.uk

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297

Tafarn yr Eryrod Llanuwchllyn 01678 540278

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

Sgwâr Llew Glas

Phil Hughes Adeiladwr

Gosod stofiau llosgi coed Cofrestrwyd gyda HETAS

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

01766 780186 07909 843496

Llais Ardudwy

Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk

drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]

01766 512091 / 512998

TREFNWYR ANGLADDAU

Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

GERALLT RHUN

JASON CLARKE Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

8 CAE IDRIS DOLGELLAU LL40 1GD

01341 421917/07770 892016

Sŵn y Gwynt Talsarnau,

Cefnog wch e in hysbyseb wyr

Tiwniwr Piano a Mân Drwsio g.rhun@btinternet.com

BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU

DAVID JONES

Cigydd, Bermo 01341 280436

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

ADEILADWR Gwarantir gwaith o safon.

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

Ar agor bob nos 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00

Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 9.00 Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!

MELIN LIFIO SYMUDOL

Gadewch i’r felin ddod atoch chi! www.gwyneddmobilemilling.com

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014 13


Arwyr Ardudwy

DDOE A HEDDIW

Annwyl ddarllenwyr y Llais Mae angen cymorth arna’i os gwelwch yn dda. Bûm yn ymdrechu i olrhain hanes enwau’r sawl sydd ar y gofeb yn Dyffryn.

Llun y gofeb a’r enwau arno Ond er fy mod wedi cael rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol iawn gan rai o drigolion y Dyffryn, a rhaid i mi ddiolch o galon i’r rhai hynny am eu cydweithrediad, rwyf yn cael trafferth olrhain gwybodaeth am rai o’r hogiau a enwir ar y gofgolofn. Tybed oes yna rywun allan yna fedr, ac sy’n barod i roi cymorth a gwybodaeth er mwyn i mi ymdrechu i orffen yr ymchwil? Rwyf yn gobeithio ei orffen a’i argraffu cyn canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 2018. Yn ychwanegol i ffeithiau moel, rwyf wedi llwyddo i gael lluniau o rai o’r milwyr, ond eto mae yna fylchau i’w llenwi yma, felly mi fydd hi’n braf cael lluniau perthnasol os yn bosib. Os oes gennych unrhyw wybodaeth, dogfennau, lluniau ac yn y blaen ac yn barod i’w cynnwys yn y llyfr gorffenedig, buaswn yn falch iawn o gysylltu â chi ac o bosib gwneud copi ohonynt. Byddaf yn hollol barod nodi ffynhonnell yr wybodaeth ac, i’r gwrthwyneb, os nad ydych eisiau ni fyddaf yn cynnwys ffynhonnell yr wybodaeth. Dyma’r rhestr o’r unigolion rwyf wedi methu darganfod unrhyw wybodaeth amdanynt hyd yma; rwyf hefyd yn chwilio am luniau o’u cartrefi (hen lun neu lun mwy diweddar, dim o bwys, neu’r lleoliad er mwyn i mi fynd i dynnu llun). 1. Enoch R Morgan - Coedtalywern, Dyffryn. Yr unig wybodaeth rwyf wedi ei darganfod ydi cofnod o enedigaeth bachgen o’r un enw yn Forden ger Y Trallwng rhwng Ebrill a Mehefin 1883. Does dim gwybodaeth arall gennyf. 2. Edward Roberts - Tŷ Isaf, Dyffryn, mab Edward a Laura Roberts, Tŷ Isaf, Dyffryn.

Yn ddiweddar prynais lyfryn mewn siop hen bethau ac i mewn yn y llyfryn roedd llun o stryd fawr Dyffryn Ardudwy. Dyma’r llun o fewn i’r llyfr.

Stryd Fawr Dyffryn Ardudwy tua 1920 Ar y chwith mae lleoliad siop Fox’s. Beth ydi’r siopau drws nesa a phwy pia nhw? Ymdrechais wedyn i dynnu llun o’r olygfa fel y mae heddiw (Mawrth 2016). Mae’n debyg fod yna ychydig o wahaniaeth erbyn heddiw.

Stryd Fawr Dyffryn Ardudwy 2016

Rwyf wedi clywed mai efallai yn y man yma yn Dyffryn roedd Tŷ Isaf, a yw hyn yn gywir? Cyn belled ag y gwn i nid Tŷ Isaf, Talybont oedd ei gartref, ond eto efallai bod hyn yn anghywir. 3. William D Lowe – Brynawelon, Dyffryn (wedi ei eni yn Awstralia), gŵr i Kate Lowe, Llanenddwyn, Dyffryn 4. Robert Idris Williams - ei gartref? Mab Morris a Jane Williams, Dyffryn 5. William Humphreys – Tŷ Canol, Coedystumgwern, Dyffryn (lleoliad ei gartref ?) 6. Humphrey Ronald Roberts – Rose Villa, Fairbourne a Bermo, (lleoliad ei gartref yn y Bermo?) Enw ei rieni oedd Richard a Rosemary Roberts o’r Bermo 7. Evan Thomas – Creigiau Bychain, Bontddu a 4 Graigydon Cottage, Bermo. (Lleoliad 4 Graigydon Cottage yn Bermo?) 8. Cyril Keith Lanman – Lawrenny Lodge, Bermo a Dyffryn Ardudwy. (Lle oedd ei gartref yn y Dyffryn?) Mae ef wedi ei restru ar gofgolofn y Bermo ond nid Dyffryn. Ei rieni oedd Cyril Arnold a Florence Lanman. Gallwch gysylltu efo fi yn fy nghartref yn Lluest-y-Coed, Llwyn Ynn, Talybont neu drwy ddefnyddio’r e-bost yma – arwyrardudwy@outlook.com Diolch yn fawr am unrhyw gymorth medrwch ei gynnig. Keith Phillips

14

Ffordd Capel Horeb – dyddiad? Diolch i Huw Wynne am y llun. Keith Phillips

Ac eto yn 2016.


Hamdden Harlech ac Ardudwy

Mae Hamdden Harlech ac Ardudwy wedi ymweld â’r Cynghorau Cymuned yn yr ardal i drafod pecyn ariannol o gymorth er mwyn sicrhau’r ganolfan am flynyddoedd i ddod.

Rydym wedi ysgrifennu dogfen ar gyfer codi’r praesept ar gyfer Cynghorau Cymuned Talsarnau, Harlech, Llanfair, Llanbedr, Dyffryn a Thal-ybont ac Abermaw sy’n cynnwys cynyddu’r praesept. Byddai trigolion lleol yn cyfrannu swm ychwanegol o arian drwy eu bil treth cyngor blynyddol a fyddai wedyn yn cael ei drosglwyddo i’r Cyngor Cymuned. Dydy sefyllfa ariannol bresennol Hamdden Harlech ac Ardudwy ddim yn wahanol i 5 mlynedd yn ôl pan gymerwyd awenau’r Pwll Nofio gan y gymuned a’i roi ar waith gan fwrdd o wirfoddolwyr. I ddechrau roedd cais y Loteri’n llwyddiannus ac wedi galluogi’r ganolfan i adeiladu Wal Ddringo a chaffi cymunedol llwyddiannus. Roedd yna hefyd becyn refeniw o fewn y cais. Roedd yr arian yma’n caniatáu rhywfaint o ‘le i anadlu’ a gweithio ar farchnata’r ganolfan, sicrhau arbedion costau sylweddol a rhoi cynllun strategol clir ar gyfer Hamdden Harlech ac Ardudwy ar waith. Rydym bellach wedi derbyn ein taliad terfynol, ac rydym wedi bod yn gweithio dros y 12 mis diwethaf i geisio sicrhau dyfodol y ganolfan. Nid oes unrhyw gyllid refeniw ar gael i helpu gyda ‘chostau rhedeg’ menter gymdeithasol ac rydym wedi siarad â Chynulliad Cymru a’r Loteri Fawr i wneud newidiadau ar gyfer cefnogi

prosiectau fel ni. Yr unig opsiwn ar ôl i ni yw mynd at ein Cynghorau Cymuned lleol a gofyn am gyfraniad drwy’r praesept. Rydym wedi gwneud arbedion sylweddol dros y blynyddoedd ac wedi cynyddu ein hincwm ond mae diffyg yn yr incwm o £100,000 y flwyddyn. Mae’r Bwrdd Cyfarwyddwyr yn ymrwymedig i godi £50,000 y flwyddyn trwy gynnal digwyddiadau amrywiol drwy gydol y flwyddyn, megis Roc Ardudwy, a gwneud ceisiadau am grantiau bach, ond mae dal angen £50,000 y flwyddyn, ac rydym wedi gofyn i’r Cynghorau Cymuned helpu gyda hyn. Rydym wedi rhoi ychydig o ddewisiadau yn y cynnig praesept ond rydym yn ffafrio’r un lle mae Cynghorau Cymuned Harlech a Llanfair yn cyfrannu mwy, a rhai ymhellach i ffwrdd o’r ganolfan ychydig yn llai. Ar gyfer trigolion Harlech a Llanfair byddai hyn yn golygu swm ychwanegol o £24.73c y flwyddyn ar eu Treth Cyngor ar gyfer y rhai ym Mand D sy’n cyfateb i ychydig dros £2.00 y mis neu 50c yr wythnos. Byddai trigolion Talsarnau, Llanbedr, Dyffryn a Thal-ybont yn talu swm ychwanegol o £12.36 y flwyddyn (£1.03 y mis) a thrigolion y Bermo yn talu swm ychwanegol o £6.18 y flwyddyn (£0.53c y mis). Rydym wedi rhoi Cynghorau Cymunedol mewn cysylltiad ag ysgolion yn eu hardal sydd yn defnyddio Hamdden Harlech ac Ardudwy i ddod â phlant i

ddysgu nofio yn wythnosol. Mae gan Hamdden Harlech ac Ardudwy dros 55,000 o ddefnyddwyr y flwyddyn, 25% o’r rhain dros 60 oed a 25% yn ymweld â’r ganolfan dros wyliau haf yr ysgol. Rydym yn cyflogi 17 o bobl mewn amrywiol swyddi ac mae yna dros 400 o aelodau sy’n talu bob blwyddyn. Mae gennym dros 5,000 o ddefnyddwyr y Wal Ddringo bob blwyddyn ac ni ydy prif ddarpariaeth gweithgareddau ‘tywydd gwlyb’ yn yr ardal. Rydym yn credu fod angen i’n cymunedau NI ddechrau helpu eu hunain er mwyn cadw cyfleusterau a gwasanaethau ar agor ar gyfer EIN cymuned eu mwynhau. Mae ardaloedd eraill yn gwneud hyn yng Ngwynedd ac mae’n bryd i ni ddechrau gwneud newidiadau drwy gefnogi Hamdden Harlech ac Ardudwy neu fel arall bydd y ganolfan yn cau yn yr hydref 2016. Beth fydd yn dod ohoni? Gwasanaeth arall a gollwyd yn yr ardal, adeilad diffaith arall, llai i’n plant ei wneud, effaith ar y fasnach dwristiaeth ... Mae’r cyfleuster yma’n hanfodol ar gyfer dysgu plant i nofio a’r ddarpariaeth

ar gyfer ffordd iachach o fyw. Mae ysgolion lleol wedi rhoi gwybod i ni pe bai angen iddynt deithio ymhellach, ni fyddent yn gallu mynd mor aml oherwydd y gost a’r amser y byddai’n ei gymryd i deithio. Bydd yr effaith ar blant yr ardal yn sylweddol pe bai Hamdden Harlech ac Ardudwy yn cau. Mae gennym hefyd glwb nofio llwyddiannus iawn sydd wedi cynrychioli’r ganolfan mewn digwyddiadau cenedlaethol. Os bydd y cynnig praesept yn cael ei dderbyn gan yr holl Gynghorau Cymuned yna gallwn sicrhau dyfodol y ganolfan ar gyfer y tymor hir a byddwn yn cynnig aelodaeth AM DDIM i’r ganolfan i drigolion lleol. Mae aelodau’r ganolfan yn arbed pres ar bris mynediad. Rydym wedi sefydlu tudalen Facebook i chi ychwanegu sylwadau o gefnogaeth i’r cynnig hwn - mae croeso i chi ychwanegu sylwadau ar ein tudalen: ‘supporthal’ neu ‘harlechardudwyleisure’ neu gallwch anfon e-bost at gadeirydd y bwrdd rheoli: Heidi Williams ar hal.chair@ btconnect.com neu gallwch ysgrifennu at: Heidi Williams (Cadeirydd), Hamdden Harlech ac Ardudwy, Ffordd y Traeth, Harlech. LL46 2UG.

15


DAWN YMADRODD Mary Wiliam Llyfr difyr iawn am ddywediadau a diarhebion yw hwn – rhai lliwgar a chofiadwy a rhai sydd â llai o ddefnydd ohonynt – ond maen nhw i gyd yn ddifyr a diddorol. Cyfoeth a chyfaredd y Gymraeg rhwng dau glawr sydd yn y gyfrol hon. Ceir yma gasgliad o ymadroddion a diarhebion difyr, doniol, dychanol a difrïol o Fôn i Fynwy ac o Ben Llŷn i Bont-siân. Bu Mary Wiliam yn cofnodi ein hiaith lafar ers dros ddeugain mlynedd, ac mae ei brwdfrydedd yn heintus. Mae pynciau mawr bywyd yma i gyd – teulu, gwaith, caru, cecru, arian ac angau – ac yn dod yn fyw drwy ein gwahanol ffyrdd o’u mynegi. Mae llawer o resymau pam rydyn ni’n trysori’r Gymraeg, ac mae cynnwys y llyfr hwn yn eu plith. Cymerwch gip hwnt ac yma neu darllenwch y llyfr ar ei hyd – byddwch yn siŵr o’i fwynhau a dod yn fwy toreithiog eich sgwrs hefyd. Mae ynddo benodau ar ddywediadau amrywiol a rheiny wedi’u codi o bob rhan o Gymru. Mae’n crybwyll athrylith yr iaith ac yn enghreifftio hynny gyda ‘Jac Codi Baw’, ‘tarw potel’, ‘swigen lysh’, ‘llwyth dyn diog’, ‘golwg ‘Be wna i?’ arno fo’, a ‘dim mwy o dryst na thwll din babi’; ymadroddion a ddefnyddir yn ddyddiol gennym. Cefais flas anghyffredin ar y bennod ar ddiarhebion. Mae llawer ohonyn nhw yn gyfarwydd: Afalau diweddar sy’n cadw. Ffrind i bawb, ffrind i neb. Ni ddaw ddoe byth yn ôl. Drwy ymarfer y perffeithir pob crefft. Yr hen a ŵyr a’r ifanc a dybia. Gwell dau ben nag un. Mae brân i bob brân; ac, fel y dywedodd hen ferch o Aberteifi wrth fyfyrio ar ei stad ddibriod: Mae brân ar gyfer bob brân – pwy ddiawl sy wedi saethu’r frân sy ar ‘y nghyfer i? Ond y mae llawer mwy yn y llyfr sy’n anghyfarwydd ond yn ddifyr odiaeth. Mae rhai o’r cymariaethau yn wirioneddol gomig ee ‘fel piso mochyn mewn eira’ neu ‘mae rhech dafad yn well na thail buwch’ hy yn crybwyll rhinweddau defaid wrth fraenaru’r tir. Dyma rai ymadroddion sy’n disgrifio merch feichiog: Wedi llyncu corryn. [Penfro a Morgannwg] Wedi llyncu pry. [Môn a Llŷn] Yn yr hen frat mawr. [Môn] Wedi mynd dros y ffordd. [Rhydaman] Wedi ista rhy agos at y tân. Dal y dorth ymhell. Diau y gwyddoch chi am ragor o ddywediadau tebyg. Wrth i chi fynd i’r gwely fyddwch chi yn mynd i fyny’r allt bren neu’r mynydd pren? Ac a ddaw Siôn Cwsg neu Huwcyn Cwsg heibio chi? Beth fyddwch chi’n ei ddweud wrth blentyn sy’n holi ‘Ble wyt ti wedi bod?’ I dŷ Dafydd Agos! Yn cyfri bysedd fy nhroed! O fanno i fancw ac yn ôl efo baich o rywbeth! I brynu hada moch bach! Beth fyddwch chi’n ei ddweud wrth blentyn sy’n holi ‘Pam?’ Nid af i restru’r atebion sydd yn y llyfr. Mi fydd raid i chi gael gafael ar gopi i wneud hynny drosoch eich hun. Hyderaf yn fawr y cewch yr un pleser ac a gefais i wrth ei ddarllen. PM

Cyfle i chi ddweud eich dweud am ddyfodol S4C

Beth yw eich hoff raglenni ar S4C? Beth ddylai S4C fod yn ei ddarparu yn y dyfodol? Beth mae sianel deledu Cymraeg yn ei olygu i chi? Mae cyfle i chi roi eich barn a chyfrannu at y drafodaeth am ddyfodol S4C yn yr holiadur ‘Dweud eich Dweud’ sydd ar gael i bawb ei llenwi ar wefan s4c.cymru Mae S4C yn awyddus fod llais y bobl yn cael ei glywed yn rhan o’r paratoadau ar gyfer Adolygiad Annibynnol Llywodraeth y DU o S4C yn 2017. Mi fydd yr Adolygiad yn edrych ar waith a rôl S4C a’r math o wasanaeth sy’n debyg o fod ei angen yn y dyfodol. Yn ôl Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, mae hi’n bwysig iawn cynnwys y cyhoedd yn y sgwrs. Meddai Huw Jones, “Rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod llais y cyhoedd yn cael ei glywed – pa fath o wasanaeth mae pobl eisiau ei weld a pha wasanaeth aml gyfryngol fydd ei angen yn y dyfodol. Ein gobaith yw y bydd Adolygiad yn ystyried hyn yn ofalus ynghyd â sut y gall S4C ddarparu ac ariannu gwasanaeth yn y ddeng mlynedd nesaf.” Ewch i wefan s4c.cymru rŵan i lenwi’r holiadur er mwyn Dweud eich Dweud am S4C.

CYNGOR CYMUNED HARLECH Croesawyd Freya Bentham i’w chyfarfod cyntaf o’r Cyngor. MATERION YN CODI Hysbysfyrddau Archebwyd hysbysfwrdd newydd i’w osod yn y dref. Nadolig 2016 Mae trefniadau ar y gweill i gynnal digwyddiadau yn y dref o Ragfyr 1-8 a bydd gorymdaith drwy’r stryd gyda llusernau; bydd plant yn cario llusern y maent wedi ei gwneud mewn gweithdy blaenorol. Toiledau Cyhoeddus Cytunwyd i fynd i bartneriaeth gyda Chyngor Gwynedd i gadw’r toiledau cyhoeddus yn y dref yn agored ar gost flynyddol o £12,000 i’r Cyngor. Cyfarfod gyda Hamdden Harlech ac Ardudwy Trafodwyd y cyfarfod uchod ymhellach a chytunodd pawb yn unfrydol i godi’r praesept er mwyn rhoi i Hamdden Harlech ac Ardudwy’r swm yr oeddynt ei angen. Ond nid oedd y Cyngor yn fodlon codi’r praesept yn uwch os oedd Cyngor arall yn tynnu allan o’r fenter. GOHEBIAETH Llyfrgell Cytunwyd i ddatgan siom fawr o glywed hyn a chytunwyd i wrthwynebu hyn i lyfrgell y dref; hefyd datganwyd pryder y bydd llai o ddefnydd o’r gwasanaeth llyfrgell oherwydd hyn. Cae Chwarae Llyn y Felin Mae’r aelodau yn parhau i holi CADW sydd wedi addo dod a’r parc yn ôl i’w gyflwr gwreiddiol cyn i’r gwaith adnewyddu gychwyn. UNRHYW FATER ARALL • Oes posib cael bysiau i faes parcio Bron y Graig Uchaf? • Mae gordyfiant o amgylch yr arwyddion wrth ddod i mewn i’r dref. • Mae rhai rhandiroedd yn wag. Mae angen cau bwlch oedd wedi disgyn a chytunwyd i ofyn i Mr Eifion Roberts wneud y gwaith hwn. • Mae’n fwriad i sefydlu tudalen gweplyfr i’r Cyngor a gosod y cofnodion arni. Bydd pawb yn eu tro yn cyfieithu’r cofnodion. • Mae Elfyn Anwyl wedi anfon lluniau o’r difrod ar ganllaw stepiau Allt y Môr ymlaen at Ms Liz Haynes.


AR Y BRIG YN LLANELWEDD

Tarw fferm Glan-y-môr, Talsarnau yw Etna uchod, un a brynwyd o Ffrainc gan Alun Jones. Roedd yn bencampwr y gwartheg ‘Salers’ yn Sioe Llanelwedd eleni. Isod y mae’r fuwch, Fortuna, a enillodd ei dosbarth ac a ddaeth yn ‘reserve champion’. Llongyfarchiadau i Alun a phob lwc gyda’r cystadlu i’r dyfodol.

ANRHEGU ELS JONES

Gwen Edwards, Els Jones a Bethan Johnstone Capel Rehoboth, Harlech. Brynhawn Sul, Awst 7fed, daeth i’n rhan fel aelodau Rehoboth ac Engedi i ffarwelio ag Els Jones, wrth iddi ymfudo yn ôl i’w chynefin yng Ngheredigion i fod yn agosach at ei theulu. Bu Els, gyda’i diweddar ŵr, Arwel Jones, yn aelod gwerthfawr a ffyddlon iawn o’r “teulu” yn Rehoboth ac Engedi, a’i chyfraniad a’i chefnogaeth yn amhrisiadwy. Cyflwynodd Carys dusw o flodau iddi i ddiolch ar ran y rhai a dyfodd i fyny yn yr Ysgol Sul o dan ei harweiniad ysbrydoledig hi ac Arwel, a chyflwynwyd llun Dave Newbould o ‘Traeth Harlech’ iddi ar ran yr holl aelodau gan Bethan a Gwen. Cafwyd cyfle hyfryd dros baned wedyn i hel atgofion, cyn ffarwelio a dymuno pob hapusrwydd ac iechyd iddi yn ei chartref newydd yn Llanbedr-pont-steffan.

CALENDR 2017 LLAIS ARDUDWY

Ar werth yn fuan am £4! Anrheg Nadolig delfrydol

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286 Ffacs 01766 771250

Carys John yn cyflwyno tusw o flodau i Els Jones

CYNGERDD CERDDORFA LINYNNOL Honda Civic Tourer Newydd

Eglwys Tanwg Sant, Harlech Nos Sadwrn, 10 Medi am 7.30 Mynediad: £10

17 A


RAS Y TRI CHOPA

Canlyniadau Sioe Haf Harlech Enillwyr y Tlysau

Criw’r llong Aparito Digital yn Ras Hwylio’r Tri Chopa wrth iddyn nhw geisio bod y tîm merched cyntaf i ennill y ras.

Tîm merched bron â chipio’r ras

Roedd y tywydd eleni yn arbennig o gyfnewidiol, gan gychwyn heb fawr o wynt a newid wedyn i fod yn stormydd garw erbyn diwedd y ras. Roedd y gystadleuaeth eleni yn un ffyrnig ac roedd cyflwyno handicap y tro hwn yn sicrhau cystadlu brwd o’r dechrau i’r diwedd. Enillwyd rhan gyntaf y ras gan Moby J o funud yn unig ac enillwyd y tair rhan gan dimau gwahanol. Nid oedd y canlyniad terfynol yn glir hyd nes i’r timau ddod i lawr o Ben Nevis at y llinell derfyn. Yr enillwyr oedd Pure Attitude a oedd yn agos i’r blaen drwy’r ras er gwaetha’r tywydd cyfnewidiol, a nhw yw’r enillwyr cyntaf ar handicap. Cawson nhw eu curo at y llinell derfyn gan Aparito Digital Health, y tim merched-yn-unig cyntaf i gwblhau’r ras ers 2009. Enillwyd Tlws Tilman gan Brifysgol Southampton, un o’r timoedd ieuengaf i gystadlu ers sefydlu’r ras.

Arddangosfa ym Mhlas Tanybwlch

Y Cynghorydd Caerwyn Roberts, y cynhyrchydd ffilm Llinos Griffin a’r artist Siân Elen ar noson agoriadol ‘Croesor, y Byd a fi’ - arddangosfa ffilm a chelf yn dathlu bywyd a hanes pobl Croesor. Cynhelir yr arddangosfa yn y Stablau ym Mhlas Tan y Bwlch tan y 9fed o Fedi. Mynediad am ddim a chroeso i bawb. Cofiwch bod arddangosfa’r Ysgwrn hefyd yn Stablau’r Plas ar hyn o bryd. Mae gwaith papier mâché plant ysgolion lleol wrth atgynhyrchu cegin yr Ysgwrn yn werth ei weld yn ogystal â replica o’r Gadair Ddu. Os am fynd am dro yn y gerddi a phaned a chacen wedyn, galwch heibio ystafell de’r Plas lle cewch olygfa hyfryd o ddyffryn Maentwrog a’r Ddwyryd islaw.

18 A

Llongyfarchiadau i’r canlynol ar eu llwyddiant yn y Sioe Haf eleni. Tlws y Coroni am y nifer uchaf o bwyntiau yn nosbarth y llysiau – R O Edwards Cwpan Alun Williams yn nosbarth 19, tomatos - R O Edwards Medal y NVS am yr arddangosfa orau o lysiau – R O Edwards Cwpan Goffa Ralph Highley – Mrs T Lambert Cwpan Proctor am y nifer uchaf o bwyntiau yn y dosbarth Dahlia – E M Jones Tystysgrif Arian Cenedlaethol Dahlia am y blodyn gorau yn y dosbarth Dahlia – E M Jones Cwpan Goffa Owie Jones a Thystysgrif Efydd Cenedlaethol Dahlia am y fâs gorau o Ddahlia - E M Jones Cwpan Cadwgan i enillydd dosbarth 48 – R Aneley Cwpan Garddwriaeth Harlech 2012 am y nifer uchaf o bwyntiau yn y dosbarthiadau ffarwel haf (chrysanths) E M Jones Y fâs gorau – E M Jones Cwpan 1950 am y nifer uchaf o bwyntiau yn y dosbarthiadau blodau wedi eu torri heblaw am Ddahlia - E M Jones Tlws Ellerker am y nifer uchaf o bwyntiau mewn celf flodau – P Elford Cwpan Celf Blodau am yr arddangosfa orau mewn celf flodau – P Elford Gwobr Maidment i enillydd dosbarth 71 – P Elford Tlws WI Harlech am y nifer uchaf o bwyntiau yn yr adran goginio – G Jones Y botel orau yn yr adran win – G Jones

YMA I HELPU MACMILLAN Mae’n stori gyfarwydd erbyn heddiw bod canser wedi cyffwrdd bywydau nifer fawr ohonom ar ryw dro neu’i gilydd. Erbyn heddiw, mae 2.5 miliwn o bobl yn byw gyda chanser yng Ngwledydd Prydain ac mae 130,000 o’r rheini yn byw yng Nghymru. O ganlyniad i waith ymchwil a buddsoddi mae’n golygu bod nifer fawr o bobl erbyn heddiw yn byw gyda, ac yn goroesi, canser. Mae Macmillan yn enw cyfarwydd sydd yn gysylltiedig â chymorth a chefnogaeth canser. Maent yn grediniol na ddylai unrhyw un fynd trwy ganser ei hun. Yn ogystal â chymorth a materion clinigol a meddygol mae cefnogaeth hefyd ar gael i ddelio â’r sgil effaith emosiynol, cymdeithasol ac ariannol sy’n dod yn sgil canser. Mae’r gwasanaeth yma ar gael yn lleol yn y Llyfrgelloedd yn Nolgellau, Blaenau Ffestiniog a Phorthmadog. Bydd cyfle i sgwrsio gyda’r Cydlynydd yn y llyfrgelloedd mewn amgylchedd cyfrinachol. Gallwn gynnig cefnogaeth un-i-un ac mae modd i ni gyfeirio ymlaen at wasanaethau ychwanegol os oes angen. Mae modd cael mynediad i gyngor ar faterion ariannol a chymorth gyda budd-daliadau. Mae deunyddiau a chyhoeddiadau diweddar ar gael ym mhob un o’r llyfrgelloedd yn rhad ac am ddim. Mae’r Cydlynydd ar gael i gefnogi nid yn unig yr unigolyn sy’n delio a chanser ond hefyd y teulu, gofalwyr a ffrindiau gan gynnig cyngor a chefnogaeth fel bo’r angen. Fel rhan o ymgyrch Macmillan bydd Boreau Coffi yn cael eu trefnu yn y Llyfrgelloedd canlynol: Dolgellau - Dydd Gwener, Medi 30 10.30 - 12.30 Porthmadog – Dydd Mercher, Hydref 5 10:30- 12:30 Galwch draw am baned a sgwrs, byddai’n braf eich gweld. Os am wneud apwyntiad i gyfarfod â’r Cydlynydd Macmillan gellir cysylltu gyda Teleri ar 07920 537405 neu Eirlys ar 07876 448447, neu Lyfrgell Porthmadog (01766 514091)/Llyfrgell Dolgellau (01342 422771) neu e-bostio Macmillan@gwynedd.gov.uk.


Sioe Arddio Harlech

Bryn Lewis, Trysorydd a Lucinda Yemm, Ysgrifennydd y sioe.

Merched y te

Gwynne Jones enillodd ym mhob dosbarth gyda’i win.

Merched y raffl

19 A


GARDDWR PRYSUR

Heb os nac oni bai y mae Robert Edwards, Y Waun, Harlech yn un o arddwyr amlyca’r fro. Enillodd Dlws y Coroni yn Sioe Harlech 15 gwaith a chafodd aml i wobr yn y Sioe Sir. Fe welwch o’r lluniau bod graen ar ei lysiau ac fe welwch hefyd pa mor gryf yw’r tyfiant.

Mae’n tyfu blodau a llysiau ond yn tueddu i ganolbwyntio mwy ar y llysiau. Tatws, nionod a chennin yw ei brif ddileit ond mae’n cwyno ei bod yn flwyddyn sâl eleni gyda chlwyf y ‘black leg’ ar y tatws. Mae o’n eu prynu o Swydd Derby a’r Alban ac yn cadw’r hadyd am flwyddyn, ‘ond peryg bydd raid i mi brynu rhai ffres eleni,’ meddai wrthyf. Cwyna hefyd fod y glaw cyson eleni wedi andwyo’r bresych.

Mae’n tyfu rhai llysiau ar gyfer sioeau. Mae’r moron mewn pibellau a’r panas mewn tybiau enfawr. ‘Gan John Ystumgwern y cefais i’r rhain,’ meddai Robert, ‘mi fyddaf yn eu llenwi efo hen bridd y bagiau tatws ac yn plannu’r panas fesul tri - ac yna’n eu teneuo i un. ‘Yng ngweddill yr ardd, byddaf yn defnyddio tail Tec Tŷ’r Acrau mae’n gymorth mawr - sef y tail nid Tec!’

Bu’n garddio ers yn 7 oed gan gychwyn gyda’i dad, Robert Richard Edwards yn Llidiart Garw. Pan oedd yn yr ysgol gynradd, cai ei anfon i weithio yn yr ardd ac roedd hynny’n plesio! Yna, bu dan ddylanwad y diweddar Alun Williams yn Ysgol Ardudwy; roedden nhw’n ffrindiau da. Yn fwy diweddar, bu Gareth Wyn Owen, cymydog iddo, yn fentor iddo ym myd y blodau, yn arbennig y ffarwel haf [chrysanths].

Mae Ann, ei wraig, yn helpu ac yn canolbwyntio ar y gwelyau blodau a’r llwyni. Bu’r ddau yn gefnogol iawn i Sioe Arddio Harlech am flynyddoedd lawer. Diolch iddyn nhw am eu llafur.

20 A


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.