Llais medi 2017

Page 1

Llais Ardudwy 50c

RHIF 466 - MEDI 2017

AILAGOR CAE CHWARAE

Parc Chwarae Llyn y Felin, Harlech

Mrs Myfanwy Jones yn torri’r rhuban

Chwith i’r dde: Margaret Buttigieg [ysgrifennydd ], Julie Thomas [Trysorydd], Myfanwy Jones, Sarah Badham [Cadeirydd y pwyllgor]

Ar ôl bod ar gau am dair blynedd, mae parc chwarae Llyn y Felin wedi ail agor. Bu pwyllgor Parciau Cymunedol Harlech yn weithgar iawn yn ceisio sicrhau bod y parc yn ailagor a’i fod yn hollol ddiogel. Buont yn ffodus i sicrhau grant gan Cadw i lanhau’r offer oedd yno’n barod a phrynu byrddau picnic a chadeiriau newydd. Agorwyd y parc ar fore Gwener, Awst 25 gan Mrs Myfanwy Jones sy’n byw ger y parc. Dymuna’r pwyllgor ddiolch yn fawr iawn am

y gefnogaeth a gawsant gan y gymuned. Diolch hefyd i fusnesau lleol sef y Bwtri Bach, Caffi’r Castell, Llew Glas, Ystafell De Cemlyn, Siop yr Hen Farchnad a Hamdden Harlech ac Ardudwy am y cyfraniadau bwyd, ac i Siop Anrhegion y Castell, Cadw, Siop y Morfa ac A a B Murphy am eu cyfraniadau at y bagiau. Bwriad y pwyllgor rŵan yw gweithio i wella’r offer yng Nghae Chwarae Brenin Siôr.

CNEIFIO 1030 MEWN 24 AWR a chodi dros £20,000 at Tenovus

Llongyfarchiadau mawr i Arfon Pugh, Gilar Wen ar ei gamp fawr yn cneifio 1030 o ddefaid er mwyn codi arian at ymchwil canser. Diolch hefyd i bawb fu ynghlwm â’r fenter. Mae mwy o’r hanes a rhagor o luniau ar dudalen 14.


Llais Ardudwy

HOLI HWN A’R LLALL

GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com (07760 283024/01766 780541

SWYDDOGION

Cadeirydd: Hefina Griffith (01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com

Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones (01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@Intamail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960 Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Medi 29. am 5.00. Bydd ar werth ar Hydref 4. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Medi 25 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

Dilynwch ni ar Facebook

@llaisardudwy 2

Enw: Alan Smith. Gwaith: Athro. Cefndir: Yn enedigol o Harlech. Wedi mynychu Ysgol Ardudwy, ymlaen i’r Normal ym Mangor. Gweithio yn Bradford am 15 mlynedd, symud yn ôl i Gymru ym 1987 i ddysgu yn Nolgellau, wedyn Ysgol Ardudwy ac ymlaen i Ysgol y Moelwyn lle dwi’n dal i weithio’n rhan amser. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Ers cael pen-glin newydd y llynedd, dwi’n gwneud ymdrech fawr i gerdded o leiaf 8 milltir bob dydd. Dwi wrth fy modd yn crwydro’r llwybrau yn y topiau neu ar y glan y môr gorau yn y byd. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Llyfrau John Grisham, Harlan Coben. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Ar y radio: Steve Wright Serious Jokin. Simon Mayo – Drivetime. Ar y teledu – Cyfres Vikings, a bob math o chwaraeon. Ydych chi’n bwyta’n dda? Dwi’n bwyta’n reit dda, ond ddyliwn i fwyta mwy o ffrwythau. Hoff fwyd?

Cyri - ges i fy sbwylio pan oeddwn yn byw yn Bradford! Dwi hefyd yn hoff iawn o ginio dydd Sul. Hoff ddiod? Peint o chwerw – neu ddau! Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Y wraig, wrth gwrs, Peter Kaye am ei storïau diddorol; Trevor Macdonald i gadw trefn ar bethau ac Iwan a Nerys Morris! Lle sydd orau gennych? Dwi wedi bod yn lwcus iawn dros y blynyddoedd i fedru ymweld â nifer o lefydd, fel ‘Wal Fair Tsieina’, Mynydd Ffwji a mannau eraill, ond dwi wrth fy modd yn sefyll yn Fron Deg yn edrych allan dros y môr, Pen Llŷn a glan y môr. Does dim gwell. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Roedd Hawaii yn sbeshial a hefyd Cuba, ond ers tua 10 mlynedd mae’r wraig a fi wedi mwynhau mordeithio. Y llynedd wnaethon ni fynd â’r ddwy ferch (a’r ddau ŵr) ar fordaith i’r Adriatic. Gwyliau arbennig. Beth sy’n eich gwylltio? Teuluoedd o gwmpas bwrdd a bob un ar eu ffonau symudol. Dwi’n poeno fod sgiliau cyfathrebu’n diflannu! Ond y gwaethaf ydi pobl yn dreifio ac yn tecstio. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Dwi’n lwcus fod gennyf gylch agos o ffrindiau, rhai o’r amser yn yr ysgol gynradd a nifer o fy amser yn y coleg. Dwi’n gwybod, pe bai unrhyw broblemau’n codi, does dim ond rhaid codi’r ffôn a dyna ni. Gallaf ddibynnu ar fy ffrindiau ar unrhyw adeg. Pwy yw eich arwr? Mahatma Gandhi – cawr o ddyn.

SIOP NEWYDD

Braf gweld siop newydd wedi agor yn Harlech, sef ‘Yr Hen Farchnad Gaws’. Adnabyddid yr adeilad yn y dref fel Neuadd yr Eglwys gynt. Eddie a Jeanne Morgan a’u merch Melissa sydd wedi agor y siop. Mae’n gwerthu bara gwahanol yn ffres o’r popty, cywion ieir ffres, amrywiaeth o gigoedd oer, dewis eang o gawsiau Cymreig yn ogystal â chacennau amrywiol. Gellir hefyd archebu pysgod ffres. Dywed Eddie nad yw’r cynnyrch y rhataf yn y dref ond ni wnânt gyfaddawdu ar ansawdd y bwyd. Mae 90% o’r cynnyrch yn fwydydd Cymreig o’r ansawdd gorau.

Beth yw eich bai mwyaf? Mae’r wraig yn dweud fy mod i’n chwyrnu fel mochyn, ond dwi ’rioed wedi clywed hyn ... Hefyd dwi wedi cael ‘ban’ ar fwyta sprowts! Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Pryd o fwyd a gwin da gyda fy nheulu. Dwi wrth fy modd pan mae’r 6 ohonon ni yn dod at ein gilydd ac yn cael hwyl. Beth fuasech yn ei wneud efo £5,000? Ei roi o i’r boss – ac wedyn ei pherswadio hi i fynd â fi i ffwrdd ar ein gwyliau. Eich hoff liw? Glas – neu i fod yn fwy manyl Royal blue – lliw Everton – y tîm dwi wedi ei gefnogi ers y cychwyn! Eich hoff flodyn? Lili. Eich hoff gerddor? David Bowie, Rolling Stones, Freddie Mercury, Fleetwood Mac. Eich hoff ddarn(au) o gerddoriaeth? Lynyrd Skynyrd – Freebird (briliant). Peter Roberts yn chwarae Flowerdale ar ei gornet – wow. Rolling Stones – Gimme Shelter. Pa dalent hoffech chi ei chael? Dwi’n chwarae’r euphonium gyda Seindorf yr Oakeley, ond hoffwn fedru ei chwarae’n well! Eich hoff ddywediadau? “It’s a hard life” – (sgwn i pam?) Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Yn fodlon iawn gyda fy mywyd. Mae fy mhlant wedi priodi ac wedi setlo yn yr ardal. Dwi’n mwynhau gweithio’n rhan amser. Dwi a’r wraig yn hoffi mynd i ffwrdd yn aml, felly ar hyn o bryd dwi’n hapus iawn gyda fy mywyd.


Caneuon Ffydd

nghasgliad emynau John Wesley sef ‘Select Hymns with Tunes Annext’ ym 1765. Yr enw uwchben y dôn yw ‘Oliver`s Tune’. Ond pwy oedd Oliver? Yn ôl Huw Williams, yr ‘Oliver’ arbennig yma yw Thomas Oliver neu Olivers, gŵr o Dregynon yn Sir Drefaldwyn. Fe’i ganed ym 1725 a’i brentisio’n grydd. Ychydig iawn o drefn a gafodd ar gartref a llai fyth o addysg a chafodd ei hun yn ŵr ieuanc mewn dyledion enbyd. Dihangodd o Dregynon i osgoi ei gredydwyr gan fynd i Amwythig i ddechrau ac wedyn ymlaen i Wrecsam. Byw digon blêr a fu arno yn y ddau le ac fe’i cafodd ei hun maes o law ym Mryste – tre fawr ac amhersonol – lle delfrydol i ŵr fel Thomas Olivers

ar y pryd. Ond daeth tro ar fyd. Clywodd Thomas Olivers y pregethwr enwog George Whitefield a newidiwyd ei fywyd yn llwyr. Cafodd ei argyhoeddi yn ysbrydol. Daeth yn weithiwr diwyd ac yn grydd llwyddiannus. Aeth yn ei ôl i Dregynon a thalu ei ddyledion. Daeth yn bregethwr ac yn gyfaill mawr i John Wesley. Ef yw awdur yr emyn Saesneg enwog ‘The God of Abram praise’. Mae’r emyn yma wedi ei drosi i’r Gymraeg yn y Caneuon Ffydd (rhif 113). Ac yn ôl Huw Williams, ef mae’n debyg yw awdur y dôn Helmsley. Mae’n debyg meddaf, ond all neb fod yn siŵr. Roedd alaw debyg i Helmsley yn boblogaidd yn Llundain yng nghanol y 18fed ganrif. Roedd gwahanol enwau arni, enwau fel ‘Dancing Jig’, ‘Lancashire Hornpipe’ a ‘Miss Catley’s Hornpipe’. Erbyn hyn yr oedd Thomas Olivers yn byw yn Llundain ac yn un o bregethwyr John Wesley. Roedd hefyd yn golygu cylchgrawn Wesley sef yr ‘Arminian Magazine’. Pwy a ŵyr na chlywodd y cyn-grydd yr alaw ar y strydoedd a’i haddasu ar gyfer canu emynau arni; mae yna hen draddodiad o wneud hynny mae’n debyg. Fel y dywedodd un pregethwr enwog, ‘Why should

Catherine Fawr o Rwsia, yn 67 mlwydd oed, a’r flwyddyn y cyfansoddodd Robert Burns y caneuon poblogaidd hynny: Auld Lang Syne, a My Love Is Like a Red Red Rose. Collodd y telynor ei olwg yn 8 oed o ganlyniad i’r frech wen. Ei athro oedd William Williams (Wil Penmorfa), o Benmorfa, Porthmadog, a daeth yn un o delynorion gorau a godidocaf ei gyfnod ar y delyn deir-res. Ond bu yna amser fel na fedrai ei athro wneud dim ohono fel chwaraeydd, a bu ond y dim ar iddo roi’r delyn heibio. Yn Eisteddfod Wrecsam, 1820, enillodd y Delyn Arian, ac yn Eisteddfod Dinbych, 1828, enillodd y Delyn Aur, achlysur pan oedd y Dug o Sussex yn dangos diddordeb neilltuol yn yr eisteddfod honno, yn arbennig yng nghystadleuaeth y telynorion. Yr alaw a chwaraeodd bryd hynny oedd ‘Sweet Richard’ (Per Oslef). Yn

Eisteddfod Biwmares, 1832, gwisgwyd ef â bathodyn arian, ymysg eraill, gan y Dywysoges Fictoria, Brenhines Fictoria yn ddiweddarach. Wedi iddo gael yr anrhydedd honno daeth yn brif feirniad y delyn mewn sawl eisteddfod gan gynnwys Y Fenni 1842/43, ac Eisteddfod Rhuddlan 1850. Yn y flwyddyn olaf honno bu’n athro i Ellis Roberts (Eos Meirion, 181973), Dolgellau, telynor Tywysog Cymru yn 1850. Byddai’n cael ei gyflogi gan foneddigion ein gwlad, pan gynhelid ciniawau, neu ryw achlysuron neilltuol. Bu am lawer blwyddyn yn mynd i Nannau, ar gyfer Dydd Calan, pryd y byddai nifer o blwyfi Dolgellau, Llanelltyd a Llanfachreth, wedi rhoi gwahoddiad iddo erbyn Nos Galan, i’w difyrru. Yn 1829 cyhoeddodd gasgliad o alawon Cymreig, dan yr enw: ‘Cambrian Harmony’,

Mwy am yr Hapus Dyrfa

Buom yn edrych ar emyn mawr Islwyn ac ar y tonau a roddwyd ar ei gyfer mewn gwahanol gasgliadau cyn i’r Caneuon Ffydd ymddangos. Fe gofiwch na chafodd yr emyn le yn y casgliad newydd. Yng nghasgliad y ddau enwad Methodistaidd, sef ‘Emynau a Thonau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaid’ (y ‘Llyfr Hymns’ ar lafar gwlad) y dôn a roddwyd yw Helmsley. Mae Helmsley yn dôn hyfryd iawn er ei bod braidd yn ailadroddus efallai, ond fel yr emyn ni chanfu ei ffordd i’r Caneuon Ffydd. Beth yw hanes Helmsley felly? Tôn Gymreig fel St Garmon neu un Seisnig gan fod Helmsley yn Swydd Efrog? Wel, mae yma gryn dipyn o ddirgelwch ac nid oes neb yn siŵr iawn, hyd yn oed heddiw, beth yw’r stori yn llawn. Mae’n debyg mai’r prif awdurdod ym maes tonau cynulleidfaol Cymru oedd y diweddar Huw Williams ac i’w ymchwil ef mae fy nyled bennaf wrth geisio olrhain yr hanes. Ymddengys y dôn gyntaf yng

the Devil have all the best tunes?’ Mae arnaf ofn nad yw hanes y Dancing Jig cweit mor barchus ag un Helmsley. Defnyddiwyd hi i’r werin ddawnsio iddi yn y tafarnau yn Llundain. Gwaeth na hynny, roedd cantores o’r enw Ann Catley wedi gwneud enw iddi ei hun trwy ganu cân fasweddol ar yr alaw. Ni fyddai wiw i’r gân ymddangos yn Llais Ardudwy ond dyna’r rheswm mae`n debyg i’r alaw gael yr enw ‘Miss Catley’s Hornpipe’. Aros yn Llundain fu hanes Thomas Olivers wedyn. Ychydig iawn o gydweithwyr John Wesley oedd yn gallu deall a siarad Cymraeg ac felly roedd Olivers o gymorth mawr iddo. Fodd bynnag, yn Awst 1789 aeth pethau braidd yn flêr eto. Cwynai John Wesley fod yna ormod o wallau yn yr Arminian Magazine ac fe ddiswyddodd Thomas Olivers. Er hynny, nid ymddengys i’w cyfeillgarwch ddod i ben. Pan fu i Thomas Olivers farw ym 1799 fe’i claddwyd ym meddrod John Wesley yn City Road, Llundain. Felly os byddwch yn mynd tua Gregynog cofiwch am yr hen grydd o’r ardal gyda’i fywyd cythryblus a’i gyfraniad i’n canu cynulleidfaol. JBW

Richard Roberts, y telynor

Dydw i ddim yn rhy siŵr pwy ai piau, yntau Llŷn neu Feirion? Dywed John Parry (Bardd Alaw, 1776-1851) mai yng Nghefn Mine, Rhydyclafdy, Pwllheli, y ganwyd ef. Ac eto, y mae Meurig Idris yn honni iddo gael ei eni yn Ardudwy, ac Idris Fychan hefyd yn dweud iddo gael ei eni yn Nhŷ’r Geifr, Dyffryn Ardudwy. Felly dau yn erbyn un yn tystio fod Richard Roberts yn frodor o Feirion. Yn y flwyddyn 1796 y ganwyd ef, sef y flwyddyn y bu farw

yn cynnwys 30 o alawon, 20 ohonynt yn cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf. Dysgodd lawer o delynorion enwog i ganu’r delyn deir-res. Gellid ei weld yn cael ei arwain gan un ohonynt yn ei fraich, sef Hugh Pugh, oherwydd ei fod yn ddall. Cysylltwyd ei enw â Chaernarfon yn niwedd ei oes. Bu farw 28 Mehefin 1855, a’i gladdu ym mynwent Llanbeblig, Caernarfon, yn anhygoel felly yn yr un flwyddyn y bu Nicholas I o Rwsia fawr, yn 58 oed. W Arvon Roberts, Pwllheli

3


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Llais Ardudwy DYDDIADUR Y MIS

Hoffem gynnwys dyddiadur yn manylu ar ddigwyddiadau yn yr ardal bob mis yn y papur hwn. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn gyfrifol am ei gasglu ynghyd, yna dewch i gysylltiad ag un o’r golygyddion. Mae’n bwysig bod gennych gyfeiriad e-bost!

Cyhoeddiadau’r Sul

Gweithwyr Ffatri ‘Cooke’s Chemicals’ yn Neuadd Aber Artro, Llanbedr [1968] Tybed fedr unrhyw un o’n darllenwyr adnabod y gweithwyr? Anfonwch atom os gwelwch yn dda. Profedigaeth Cydymdeimlwn ag Elizabeth a theulu Cefn Isa yn eu profedigaeth o golli Robert ar ôl salwch blin. Diolch Dymuna Elizabeth Llwyngwril ddiolch o galon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag ati ar ôl colli Robert yn ddiweddar. Diolch yn arbennig iawn i’m teulu yng Nghefn Isa a Thŷ Cerrig am eu cefnogaeth a’u caredigrwydd yn ystod amser anodd iawn. Rhodd a diolch £10 Yn gwella Anfonwn ein cofion at Mrs Myfanwy Wannop, Llwyn Ithel, sydd wedi bod am gyfnod yn Ysbyty Dolgellau. Gobeithio ei bod llawer iawn gwell erbyn hyn. Rhoddion Diolch i William Large am y rhodd o £16. Diolch hefyd i Mrs Glenys White am y rhodd o £10.

Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â Mrs Catherine Jones a’r teulu, 6 Moelfre Terrace, yn eu profedigaeth. Bu farw ei brawd Hywel Jones yng nghartre Madog, Porthmadog. Yn yr ysbyty Bu Ann Smith, Tŷ Mawr, yn yr ysbyty’n ddiweddar. Gobeithio ei bod yn teimlo’n well erbyn hyn. Dymuniadau gorau hefyd i John Ceri; gobeithio dy fod yn gwella ar ôl dy ddamwain, hefyd Aled Cefn Ucha ar ôl ei ddamwain yntau.

Llinell Gymraeg

0808 164 0123 AR WERTH Trelar ffarm 10tr x 6tr, 4/5 tunnell ac yn tipio. Ffôn: 01766 772960

ANRHYDEDD I EVIE

Gŵyl Gwrw Llanbedr Yn ogystal â chynnyrch arferol bragdai Gogledd a Chanolbarth Cymru, rydym eleni yn cynnig cwrw o gyn belled â Phenfro a Dinbych-y-pysgod. I’n diddanu, bydd Gwenno a Lowri’n canu’r delyn yn y prynhawniau gan ddilyn ar nos Wener gyda Johnny a Hywel, a Phatrobas. Wil Tân a Gwyn a Nan fydd yn perfformio nos Sadwrn. Dewch i fwynhau!

Gŵyl Gwrw Llanbedr Dydd Gwener Medi 15 a Dydd Sadwrn Medi 16 o hanner dydd tan 11.00 y nos cwrw, seidr, bwyd Cymreig, ac adloniant. 4

SAMARIAID

Cyhoeddiadau’r Sul – am 2.00 y prynhawn Capel Salem MEDI 17 Parch Dewi Tudur Lewis HYDREF 22 Eurfryn Davies (Diolchgarwch) MEDI 10 Capel y Ddôl, Iona Anderson 17 Capel y Ddôl, Dafydd Iwan 24 Capel y Ddôl, Gareth Lloyd Evans HYDREF 1 Capel Nantcol, Parch William Davies

Gari Owen yn cyflwyno’r dystysgrif anrhydedd i Evie Morgan

Jones yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn

Mae Cymdeithas Eisteddfodau Cymru wedi cyflwyno Tystysgrif Anrhydedd i Evie Morgan Jones am ei waith diflino i eisteddfodau lleol dros gyfnod hir o flynyddoedd. Gwyddom yn dda am yr holl waith a wnaeth Evie i hybu eisteddfodau yn yr ardal hon. Mae’n dal i wasanaethu Eisteddfod Llawrplwy a Phenstryd, Trawsfynydd a’r pwyllgor lleol hwnnw yn Nhrawsfynydd ddaru ei enwebu ar gyfer y wobr hon. Llongyfarchiadau mawr iddo.


‘O Lys Aberffraw i Gribau Eryri’

Cip ar waith y nofelydd hanes Rhiannon Davies Jones, Ardudwy ac atgofion am ei gwaith a’i bywyd. Yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn cyflwynwyd rhaglen deyrnged i Rhiannon Davies Jones o Uwch Artro, Ardudwy gan Haf Llewelyn, gynt o Graig Isa, Cwm Nantcol, ac Allt Goch, Llanbedr. Hefyd yn cymryd rhan roedd Nia Medi, Dolgellau, gynt o Lanfair, ac yn canu roedd Cadog, Brychan a Guto (wyrion i Gareth a Llewela Edwards, Llanaber).

Rhiannon Davies Jones 1921 - 2014 Nofelydd

Dechrau’r daith

Dydw i ddim yn cofio’n iawn pryd y gwnes i gyfarfod gyntaf â Rhiannon Davies Jones. Roedd hi’n hanu o’r un ardal â mi; Rhiannon o Gwm Uwch Artro, Llanbedr, Meirionnydd a minnau hediad brân oddi yno yng Nghwm Nantcol. Ond tra yn y Coleg Normal ar ddechrau’r wythdegau y dois i’w hadnabod, ac yno mewn darlithoedd ysgrifennu creadigol y dois i i sylweddoli fod hon yn wraig arbennig iawn. Fe ddof yn fy ôl i sôn wrthych chi am y darlithoedd hynny, os medra i eu galw’n ddarlithoedd. Ond i ddechrau yn y dechrau ... Ganed Rhiannon Davies Jones yn Llanbedr, Ardudwy yn 1921. Gweinidog gyda’r bedyddwyr oedd Hugh Davies Jones, ei thad a bu’n weinidog ar gapeli’r Bedyddwyr ar lannau Meirionnydd, gan gynnwys capel bach Salem Cefncymerau, ac ef oedd y gweinidog pan fu Vosper yno yn paentio’r llun enwog. Gyda llaw, roedd Rhiannon yn adnabod Laura Williams, Ty’n y Buarth, y wraig yn y llun a anfarwolwyd yng ngherdd T Rowland Hughes a chân Endaf Emlyn - yr hen wraig yma fu’n tendio arni hi adeg y ffliw a’r frech goch. Brodor o ardal Croesoswallt oedd Hugh Davies Jones, tad Rhiannon, ond o fferm Derwyn Fawr, Corwen yn wreiddiol. Bu’n rhaid i’w deulu

symud i ardal y gororau pan gafodd ei dad yntau ei orfodi i adael ei fferm yn wythdegau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg am feiddio pleidleisio yn groes i ddymuniad y meistr tir, Wynniaid y Rug. Cefndir rhyddfrydol, radical felly oedd i deulu ei thad, ac roedd Rhiannon yn ymfalchïo yn ei gallu i olrhain ei chyn-deidiau yng ngogledd Powys yn ôl hyd at 1075 pan fu farw Bleddyn ap Cynfyn, un o frenhinoedd Powys a thŷ Mathrafal.

Rhiannon yn ferch fach yn Llanbedr Bu farw Hugh Davies Jones yn ŵr cymharol ifanc gan adael ei weddw, Laura, i fagu Rhiannon a’i chwaer Annie. Dyflwydd oed oedd Rhiannon pan gollodd ei thad, ac aeth y teulu bach i fyw at eu Nain i Penbont, bwthyn ar lan yr afon Artro, ar y ffordd sy’n arwain at Gwm Bychan, a Bwlch Tyddiad. Cafodd ei mam Laura waith fel athrawes ond roedd bywyd yn ddigon anodd yn ugeiniau a thridegau’r ganrif diwethaf. Ond roedd magwraeth Rhiannon ac Annie ei chwaer yn un llawn anturiaeth, wedi eu magu i ryfeddu ar y wlad o’u hamgylch, ac i gael cwmni pobl ddifyr oedd yn aros ym Mhenbont ar eu ffordd i fyny’r cwm. Roedd hud a lledrith, tylwyth teg a’r bywyd cyfrin sy’n llithro o’n gafael ni a’n bywydau prysur, yn rhan o fagwrfa Rhiannon. Cawn gip ar y bywyd hwnnw gyda’n cyfraniad cerddorol cyntaf, sef hwiangerdd o eiddo Rhiannon Davies Jones wedi ei gosod ar gerddoriaeth gan Bethan Antur, a’r brodyr Cadog, Brychan a Guto. Teulu a’u gwreiddiau’n ddwfn yn naear Ardudwy oedd teulu mam Rhiannon Davies Jones, ac wrth grwydro hyd llwybrau cymoedd Uwch Artro, daeth yn ymwybodol o hanes yr ardal, ac mai ar hyd yr union lwybrau hynny, dri chan

mlynedd ynghynt, y byddai’r Cyrnol John Jones, Maesygarnedd wedi bod yn arwain dynion ei frawd yng nghyfraith, Cromwell. Roedd dylanwad y ddwy ardal - Ardudwy a gogledd Powys, yn ddwfn arni felly, a does ryfedd i’r hanesion fynd i’w gwaed. Meddai wrth sôn am ei magwraeth yn Ardudwy: ... ‘gwyddwn bod yma Hanes efo llythyren fawr o’r cychwyn cynta, a hwnnw wedi gwreiddio yn y cyfansoddiad. Doedd Uwch Artro wedi newid odid ddim dros y canrifoedd ac o ganlyniad doedd hi ddim yn anodd i mi daflu fy hunan i fywyd yr Oesoedd Canol, heb sôn am yr wythfed a’r nawfed ganrif.’ Mae ei geiriau yma yn ddiddorol pan fyddwn yn sylweddoli fod cynifer o awduron hanes wedi codi o’r rhan hon o sir Feirionnydd. Yn eu plith wrth gwrs mae Marion Eames a Dyddgu Owen. Ond yn sicr yr oedd y gorffennol hwnnw wedi cydio ynddi, ac ni ddatododd hud hanes ei glymau a’i rhyddhau o’i afael erioed. Yn ferch ifanc aeth i Ysgol Sir y Bermo, ac yno dod dan ddylanwad ei athro hanes E Pugh Parry, a’i chyflwynodd i hanes y ‘gwledydd cred’, ac a roes gefndir i’w nofelau Lleian Llan Llŷr a Dyddiadur Mari Gwyn. Dyma weithiau sy’n llawn cyfeiriadaeth at arferion Pabyddiaeth, yr Hen Ffydd, a hanes y Crwsadau. Mae’r gwaith ymchwil yn y rhain fel pob un o weithiau Rhiannon Davies Jones yn gwbl glodwiw. Mae’n rhaid fod oriau o ddarllen ac ymdroi yn y cyfnod wedi digwydd cyn iddi fynd ati i ysgrifennu. Fel hyn y dywed hi: ‘Credaf ei bod hi’n ofynnol chwilota’n drwyadl mewn llyfrau

hanes cyn mynd ati i gyfansoddi nofel hanes.’ Dwi’n credu fod ei geiriau braidd yn gynnil. Wrth fynd yn fy ôl i ailddarllen ei nofelau, cefais fy syfrdanu at y sylw a’r gofal yr oedd hi’n ei roi i greu’r awyrgylch priodol, a hynny trwy ddefnydd priodol o eirfa ac ymadroddion. Ond yn fwy na hynny roedd ganddi’r gallu ‘cyfrin’ hwnnw i fynd o dan groen y cyfnod trwy ei ymdriniaeth â ffeithiau, arferion a ffordd o feddwl y cyfnod yr ysgrifennai amdano. Byddai rhyw fodd yn cael ei thrawsblannu yn ôl i’r cyfnod hwnnw, yn dioddef ac yn gorfoleddu efo’i chymeriadau ac yn anadlu’r un awyr â nhw, yn gweld yr un golygfeydd, yn clywed yr un synau, yn arogli mŵg o’r tyddynod, ac yn blasu’r un bara rhyg â nhw. Dylanwad arall arni yn y Bermo oedd ei athro Cymraeg, Aneurin Owen, a fyddai’n gwneud iddyn nhw fel disgyblion ddysgu rhannau helaeth o ryddiaeth ar eu cof. Fel hyn y dywed Rhiannon am yr arferiad o ddysgu ar y côf ‘Tybed ai hyn a ddylanwadodd ar ddull rhywun o ysgrifennu neu ar yr arddull bondigrybwyll? Mae’r cwestiwn arddull yma yn codi ei ben bob tro y bydd rhywun am fy nal mewn cornel gan wneud i mi deimlo fel yr Apostol Paul gyda rhyw swmbwl yn y cnawd. Mae’r peth erbyn heddiw yn destun dipyn o wên i mi gan fod yr arddull fel anadlu ac na fedrwch wahanu’r awdur a’i arddull. Beth fyddai wedi digwydd pe bawn wedi ysgrifennu Fy Hen Lyfr Cownt, yn ymwneud ag Ann Griffiths, mewn rhyw Gymraeg bwngleraidd? Mae un peth yn gysur i mi gan fod yr Athro Ifor Williams, yn fy nhystlythyr Coleg, wedi rhoi sylw arbennig i’r (i fy) arddull, na wyddwn i fy mod yn berchen ar y fath beth.’ [I’w barhau]

Cadog, Guto a Brychan gyda Haf Llewelyn

5


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau i Rhodri, mab Mr a Mrs Huw Dafydd Jones, ac Eleri, ar enedigaeth mab bach, Twm Elis, brawd bach i Mabli a Miri. Beirniadu Braf oedd gweld un o blant y Dyffryn, sef Gareth Eilir, mab Mr a Mrs Edward Owen, Coed Uchaf, yn beirniadu yn yr Adran Offerynnol yn Eisteddfod Genedlaethol Môn. Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at Mr Alan Whatmore, Derlwyn, Dyffryn, yn ei brofedigaeth o golli ei wraig, Hazel. Taith Capel 16 Gorffennaf Eleni am y tro cyntaf aeth rhai o aelodau Horeb a phlant yr Ysgol Sul ar daith Capel. Ymunodd yr oedolion yn yr oedfa yng Nghapel y Garn, Bow Street a chafodd y plant fynd i’r festri i’r Ysgol Sul. Pregethwyd gan y Parch R W Jones a fu yn weinidog yn Horeb a Chapel y Garn ac yn dilyn yr oedfa fe’n croesawyd i’r festri lle’r oedd paned a chacennau yn aros amdanom. Diolchwyd iddynt am gael ymuno yn yr oedfa ac am y croeso cynnes gan Gwennie. Yna ymlaen â ni am Aberystwyth ac i fyny Constitution Hill i fwynhau’r olygfa fendigedig. Yn dilyn cinio ardderchog yng ngwesty’r Marine, aethom i Abaty Ystrad Fflur. Roedd pawb wedi mwynhau’r diwrnod yn fawr a diolch yn fawr i Alma am wneud yr holl drefniadau. Teulu Ardudwy Bydd Teulu Ardudwy yn cyfarfod am 2 o’r gloch, bnawn Mercher, 20 Medi, yn y Neuadd Bentref. Croeso cynnes i aelodau hen a newydd. Byddwn yn cael cwmni Rhian Davenport ac Alma Griffiths i ddweud eu hanes ym Mhalas Buckingham. Festri Lawen, Horeb Cynhelir cyfarfod cynta’r Festri Lawen am 7.30 nos Iau, 12 Hydref.

6

Bore coffi Cynhelir bore coffi yn Nantycoed (cartref David a Mai Roberts) fore Gwener, 8 Medi o 10 tan hanner dydd, i godi arian at Gorwynt Cariad, Apêl y Philipinas, Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Elusen Ambiwlans Awyr Cymru Cynhaliwyd dwy noson hynod lwyddiannus yn ystod gwyliau’r haf. Yn dilyn digwyddiad blynyddol erbyn hyn, diddanwyd cynulleidfa dda gan ‘Gastric Banned’ - sef deuawd aeddfed, yn canu caneuon o’r 60au a’r 70au yn Neuadd y Pentref, Dyffryn. Pleser oedd gweld cymaint yn ymuno i ddawnsio a chael hwyl. Menter newydd eleni oedd noson Elvis Cymraeg mewn lleoliad gwahanol sef Dyffryn Country Inn, ac yr ydym yn ddiolchgar iawn i Jennifer am drefnu bwyd blasus ar y noson. Crëwyd naws arbennig wth wrando ar yr hen ffefrynnau, a phawb gyda llawer o atgofion am yr amser a fu. Gwnaed elw sylweddol o dros ddwy fil a hanner tuag at yr achos teilwng yma gyda chymorth caredig Banc Barclays. Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i’r ffyddloniaid am eu cefnogaeth ddiflino tuag at yr elusen werthfawr yma. Rhian Davenport Diwrnod oeraf Gorffennaf O bapur y ‘Cymro’, 27/7/46 (dydd Gwener), glannau Meirion. “Y dydd oeraf. Ni chafwyd diwrnod oerach yng Ngorffennaf na dydd Iau’r wythnos diwethaf (18 neu 25 Gorffennaf) ers deugain mlynedd a mwy, yn ôl rhai o’r garddwyr profiadol ar lannau Meirion. Syrthiodd y tymheredd mor isel fel y bu’n rhaid cynnau tân mewn nifer o dai gwydrau. Pryder llawer o’r garddwyr yw na cheir haul i roi gwrid ar domatos cyn iddynt syrthio.” Meddai’r meteorolegydd Huw Holland Jones: “Gorffennaf 18 oedd y diwrnod oeraf yn bendant, yn wir cafwyd dau ddiwrnod oer yn y ddau ddiwrnod cyn y

CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT CEISIADAU CYNLLUNIO Codi un tŷ 4 ystafell wely yn lle dau dy 4 ystafell wely a ganiatawyd eisoes Tir ger Capel Horeb. Cefnogi’r cais hwn. Dymchwel ports a storfa/toiled allanol ac adeiladu estyniad deulawr ac estyniad penty unllawr a gosod ffenestri to a newidiadau i simdde - Station House. Cefnogi’r cais hwn. Ailwampio tŷ annedd yn cynnwys newidiadau i borts a ffenestri dormer a chadw porth car gyda phatio uwchben a newidiadau i garej a gweithdy i gynnwys anecs i’r tŷ presennol - Tan y Coed, Tal-y-bont. Dim sylwadau ar y cais hwn nes bydd y Cyngor wedi cael eglurhad ynglŷn â beth yw’r caniatâd cynllunio sydd ar y safle yn barod. MATERION YN CODI Archwilio’r llochesi bws, mynwentydd a pharciau chwarae. Cafwyd adroddiadau cadarnhaol at ei gilydd a chafwyd rhai syniadau ynghylch gwelliannau. Datblygu Maes Parcio Ni fyddai’r Parc Cenedlaethol yn gallu cefnogi unrhyw gais i newid y parc chwarae i faes parcio gan y byddai hyn yn groes i Bolisi Datblygu 5 (mannau agored a llechynnau glas). Er y sylwadau hyn, mae gan y Cyngor yr hawl i gyflwyno cais cynllunio. Cytunwyd i barhau i roi cais cynllunio i mewn a chytunwyd ymhellach bod y Grŵp Adfywio yn gwneud hyn ar ran y Cyngor (fel y gwnaethpwyd gyda’r parc chwarae newydd) er mwyn gwneud ceisiadau am grantiau. Ceisiadau am gymorth ariannol Dizzie Dancers - £250 UNRHYW FATER ARALL Cefnogwyd cynnig Steffan Chambers bod Michael Tregenza yn gofyn i Gorff Lywodraethwyr yr Ysgol Gynradd i osod baner Cymru ar safle’r ysgol. Mae angen gwybod pwy sy’n gyfrifol am y llwybr o safle’r ysgol feithrin hyd at y gromlech. Cytunwyd bod angen arwydd yn nodi ddim aros dros nos ym maes parcio’r pentref.

dyddiad hwn. Mae’r log tywydd ar gyfer Gorffennaf 1946 yn dweud y stori. Roedd pwysedd isel uwchben y Deyrnas Unedig o’r 14eg i’r 20fed Gorffennaf, cyfnod anghyffredin o hir, gan dynnu ffrwd o awyr ledled Prydain o’r gogledd i ddechrau, yna o’r gogledd orllewin. Ffrwd awyr oer a chymylog oedd hwn, a byddai unrhyw gyfnodau clir dros nos yn arwain at ‘minima’ isel iawn, fel a ddigwyddodd. Hefyd yn anghyffredin oedd y ffaith bod y pwysedd isel wedi datblygu dros Fôr y Gogledd, nid lle cynnes, cyn symud tua’r gorllewin (y cyfeiriad hollol groes i’r arfer i bwysedd isel) a setlo dros ogledd Lloegr. Diolch Dymuna Bob a Diana Owen, Wenallt, ddiolch i’w teulu a chyfeillion am yr holl gymorth a dderbyniwyd ganddynt tra bu Bob dan lawdriniaeth yn Ysbyty Glan Clwyd. Braf yw deall ei fod yn gwella. Rhodd £10

DARLITH

Yn Festri Horeb nos Iau, 21 Medi cynhelir noson i ddangos darlun un o weinidogion cyntaf y capel, Edward Morgan. Mae’r llun wedi ei lanhau a’i ailfframio yn ddiweddar. Gan ei bod yn 200 mlwyddiant ei eni yr adeg yma o’r mis bydd William H Owen, Bangor (Wil Pantgwyn) yn sôn am fywyd a gwaith Edward Morgan y Dyffryn a fu’n byw yn Lluesty a’r Faeldref. Bydd llyfryn amdano ar werth am £3.00.


TAITH AELODAU CAPEL HOREB

Y daith i Aberystwyth ac Ystrad Fflur Neuadd Gymunedol Dyffryn a Thal-y-bont CYNGERDD gyda CHÔR MEIBION ARDUDWY SIMON MENAI ANN WILLIAMS Nos Sul, Hydref 8 am 7.30 o’r gloch

Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd

Tel: 01341 247799

www.smithygarage-mitsibushi.co.uk smithygaragedyffryn

smithygarageltd

Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes

Gwasanaethau’r Sul, Horeb MEDI 10 Enid ac Edward Owen 17 Alma Griffiths 24 Beryl a Rhiannon HYDREF 1 Jean ac Einir

CYNGOR CYMUNED HARLECH Meysydd Parcio’r Dref Trafodwyd y mater o fynd i bartneriaeth gyda Chyngor Gwynedd i gael 10% o elw’r meysydd parcio a chytunwyd i dreialu’r fenter a rhoi’r cynnig ar waith ar faes parcio Bron y Graig Isaf i gychwyn. Cytunwyd i beidio â chychwyn hyn tan fis Ebrill 2018. Partneriaeth y toiledau cyhoeddus Derbyniwyd yr anfoneb am £8,000 am gyfraniad y Cyngor i Gyngor Gwynedd tuag at gadw’r toiledau y penderfynwyd arnynt fod yn agored. Cyngor Gwynedd Adroddodd Freya Bentham bod y Warden Cŵn yn asesu’r sefyllfa ynglŷn â baw cŵn ar lwybr y Nant a mannau eraill o bwys yn yr ardal. Roedd hefyd wedi derbyn sawl cwyn am oryrru yn enwedig i lawr ffordd y traeth, ffordd Llech a hefyd ffordd y Morfa; bod Swyddog o Adran Drafnidiaeth Cyngor Gwynedd wedi ymweld â Phentre’r Efail ar ôl i’r Cyngor dderbyn yr e-bost yn gofyn am linellau melyn dwbl ar y tro a’i fod yn cytuno â hyn. CEISIADAU CYNLLUNIO Adeiladu estyniad deulawr a newidiadau i do’r eiddo yn cynnwys dymchwel simnai - Aldburie, Harlech. Cefnogi’r cais hwn. UNRHYW FATER ARALL Mae angen torri’r llwybr cyhoeddus o dan Benygraig gan ei fod wedi gordyfu’n ddifrifol. Mae parc Bron y Graig yn flêr; cytunwyd i gysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglŷn â hyn. Datganwyd pryder bod y darn tir ger y Gofeb yn beryglus a bod angen ffens rhag i rywun syrthio drosodd a chytunodd Freya Bentham ddelio gyda’r mater. Cytunwyd bod angen glanhau’r arwyddion o amgylch y dref a chytunodd Judith Strevens fynd o amgylch y dref i weld pa arwyddion sydd angen eu glanhau, a chytunodd Freya Bentham ei helpu. Mae angen gwybod beth sy’n digwydd gydag adeilad yr Hen Ysgol rŵan bod y llyfrgell wedi ei gau, hefyd bod yr Ysgol Feithrin yn symud i Ysgol Tanycastell. Cytunodd Freya Bentham wneud ymholiadau ynglŷn â hyn.

7


HARLECH

Sefydliad y Merched Harlech Croesawodd y llywydd yr aelodau a dau westai i’r cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf. Dymunwyd yn dda i bawb oedd y methu bod yn bresennol trwy afiechyd, a rhoddwyd cardiau pen-blwydd i rai oedd yn dathlu pen-blwydd ym mis Gorffennaf a mis Awst. Darllenwyd y llythyr o’r Sir a chofnodwyd dyddiau o bwys. Diolchodd Edwina i’r aelodau am yr help yr oedd yr aelodau wedi ei roi at stondin Artro yn y Sioe Haf yn y Bermo, ac i’r aelodau am gyfrannu trideg o eitemau i’w rhoi ar y stondin ac i Josie a Jennie am eu rhan wrth edrych ar ôl y stondin ar ran Harlech. Ym mis Awst, mae Eileen Greenwood wedi ein gwadd i gael te parti yn ei thŷ. Cafwyd diwrnod crefftau gyda Gwen Pettifer yn Llanfair ym mis Gorffennaf, prynhawn braf iawn a phawb wedi cael gwneud cardiau del iawn. Yna, cafwyd arddangosfa a phrintio ar ddefnydd, gwneud cardiau, ac amryw o bethau eraill, gan Nerys Rowse o Ddyffryn Ardudwy. Diolchwyd iddi gan Edwina. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 13 Medi yn Neuadd Goffa Harlech. Croeso i unrhyw un ymuno â ni.

GWOBR GOFFA ELFED EVANS

Ennill diploma Llongyfarchiadau i Sam Soar ar gwblhau diploma gydag anrhydedd mewn actio ar gyfer ffilm a theledu yn Vancouver, Canada.

Enillwyd Gwobr Goffa Elfed Evans yng Nghlwb Golff Dewi Sant yn ddiweddar gan dîm o dri oedolyn, sef Dafi Owen, Danial Owen, Gerallt Evans ac un plentyn, sef Cai Evans. Yn y llun uchod y mae nain a thaid Cai, sef Mr a Mrs Gerallt Evans ynghyd â rhai o’r plant a fu’n cystadlu. Llongyfarchiadau i ti Cai. Yn yr ysbyty Dymuniadau gorau i Mrs Melanie Griffith, 22 Y Waun, sydd wedi bod yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar. Carreg filltir Llongyfarchiadau i Mrs Ann Edwards, 43 Y Waun sydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 70 yn ystod y mis hwn. Carreg filltir nodedig iawn!

Teulu’r Castell Fe fydd Teulu’r Castell yn ail gychwyn ddydd Mawrth, 10 Hydref yn Neuadd Goffa Llanfair am 2 o’r gloch. Croeso i aelodau newydd ymuno â ni. Cwrs nyrsio Pob dymuniad da i Lois Roberts, Morlais sy’n cychwyn ar gwrs nyrsio plant yn Wrecsam ddiwedd y mis hwn. Bu Lois yn gweithio yn y Clwb Golff ers rhai blynyddoedd a bydd colled ar ei hôl yn y fan honno. Dyn lolipop Diolch yn gynnes iawn i Mr Bedwyr Williams, Ty’n Ffordd am ei waith fel dyn lolipop yn Ysgol Ardudwy am 26 mlynedd. Dymunwn ymddeoliad hapus iddo. Nid ydym wedi clywed pwy sydd i gymryd ei le.

8

Llongyfarchiadau i Amy Lumb, 2 Tŷ Canol, ar dderbyn gradd Ll.B. [2:1] ym Mhrifysgol Lerpwl. Dymuniadau gorau i ti i’r dyfodol gan y teulu i gyd. Rhodd £5

Mrs Nansi Williams

Ar 24 Gorffennaf 2017 rhoddwyd Nansi Powell Williams [Nansi Siop Sgidia] i orffwys ym mynwent gyhoeddus Harlech. Roedd y gwasanaeth dan ofal Bethan Johnstone a Gwen Edwards. Bu farw Nansi yn dawel ar ddydd Sadwrn 15 Gorffennaf ar ôl cystudd hir yn ei chartref yn Llwyn Onn, Harlech. Fe’i ganwyd ar 28 Ebrill 1936 yng Ngellilydan. Fe ddaeth i Harlech yn gyntaf yn haf 1949 i weithio yn y siop esgidiau. Mi briodwyd hi a’i gwr Richard yn 1959 ac roedd yn fam i Edgar a Richard. Gweithiodd yn y siop tan 2017. Roedd yn nain dyner i Arran Powell Williams, ac roedd yn weithgar at achosion da Ardudwy trwy gydol ei bywyd. Roedd cenedlaethau o blant yr ardal yn ei chofio fel Anti Nansi. Er ei anawsterau iechyd byddai yn y siop gyda gwên ac arferai siarad yn ddifyr gyda’i chwsmeriaid. Diolch Ein diolchiadau i’r doctoriaid a’r gweithwyr iechyd lleol am y gofal tyner a gafodd. Mae’r teulu’n ddiolchgar am yr arian a’r llu cardiau a gafwyd a’r galwadau ffôn. Diolch hefyd i Pritchard a Griffiths, Tremadog, am y trefniadau angladdol.

Anthony David Wainwright Er cof tyner am Anthony David Wainwright (Lofty) a fu farw’n sydyn yn ei gartref ar 9 Gorffennaf 2017 yn 62 mlwydd oed. Bydd cryn golled ar ei ôl.

Diolch Dymuna Mrs Maria Wainwright a’r teulu ddiolch i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a dderbyniwyd ganddyn nhw yn dilyn colli gŵr, tad, tad yng nghyfraith a Thaidi arbennig i Elain, Alaw ac Elsi-Maria a ffrind i lawer. Rhoddwyd yr arian i Ymchwil Canser ac Ambiwlans Awyr Cymru. * * * Fel mab yng nghyfraith i mi roedd bob amser yn galw heibio i weld a oeddwn angen unrhyw beth o’r siop neu’r fferyllfa. Mi fydda i’n methu Tony; roedd yn un mewn miliwn ac yn unigolyn caredig a chariadus a oedd bob amser yn fodlon helpu. Gan Eirlys Stumpp Rhodd £10 gan y teulu Cydymdeimlo Cydymdeimlwn gyda Mrs Beryl Watkins a’r teulu, 42 Y Waun, ar farwolaeth ei gŵr Graham Watkins yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar.


PRIODAS RUDDEM - 40 MLYNEDD

Llongyfarchiadau i Bedwyr a Helen Williams, Ty’n Ffordd ar ddathlu 40 mlynedd o fywyd priodasol ar Awst 27 eleni. Cafwyd parti i ddathlu ar gyfer y teulu a ffrindiau yn Neuadd Gymuned Talsarnau a mwynhawyd y wledd a baratowyd gan ‘Bwyd Bethan’ gan y criw mawr. Yn hytrach na rhoi anrhegion, gofynnwyd i bawb roi cyfraniad at ddau elusen. Cyflwynwyd £537.50 i Ymchwil Canser Gogledd Cymru a £662.50 i Glefyd Crohn a Cholitis yng Ngogledd Cymru. Trefnwyd raffl hefyd ac o’r elw cyflwynwyd £50 i Gylch Meithrin Harlech, £50 i Gylch Meithrin Talsarnau a £50 at y peiriant Diffib yn ardal Talsarnau. Dymuna teulu Ty’n Ffordd ddiolch am yr holl gyfraniadau dderbyniwyd tuag at yr elusennau.

URDDO ‘HERMON FAB’ I’R WISG LAS YM MHRIFWYL MÔN

Phil ac Iwan yn paratoi i fynd i Seremoni’r Cadeirio ar ddydd Gwener Prifwyl Môn

Dymuna darllenwyr Llais Ardudwy longyfarch ei olygydd a’i gysodydd ar yr anrhydedd a ddaeth i’w ran yn Eisteddfod Genedlaethol Môn ddechrau mis Awst. Pe tai ond am yr holl waith a gyflawnodd Phil Mostert i’r papur bro ers ei sefydlu ym 1975 fel cyd-olygydd ers bron i ddeugain mlynedd a chysodydd ers tro bellach, fe lwyr haedda’r clod. Mae ei gyfraniadau eraill yn y gymuned leol yn lluosog hefyd. Bu’n gadeirydd y Cyngor Cymuned am bedwar tymor. Roedd yn un o sefydlwyr Eisteddfod Harlech ym 1977 ac yn arweinydd llwyfan am nifer fawr o flynyddoedd. Bu’n aelod o Gôr Meibion Ardudwy ers 1975 [a Meibion Prysor, Trawsfynydd ers 2006] - ac yn gyflwynydd cyngherddau i’r ddau gôr. Edmygwyd ei ddawn gyflwyno graenus gan gynulleidfaoedd yma yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o’r byd. Mae ganddo afael gadarn ar y Gymraeg a’r Saesneg - ac mae’n weddol rugl mewn Almaeneg hefyd! Cyflawnodd rôl bwysig fel Hoffai Joe Soar a Fiona Morris, Talgoed, Harlech ddiolch o galon am cadeirydd Cymdeithas Cwm Nantcol, gan lwyddo i ddenu siaradwyr yr anrhegion a’r rhoddion a dderbyniwyd ganddyn nhw ar achlysur diddorol ac amrywiol i ddiddanu’r aelodau. ‘Hermon Fab’ yw’r enw a roddwyd iddo yn yr Orsedd, am ei genedigaeth eu merch Aria Lynn Soar. Rhodd £10 fod yn hanu o’r pentref bach hwnnw ym Môn sydd rhwng Aberffraw a Malltraeth. Er mai Monwysyn ydyw’n wreiddiol, Llongyfarchiadau mawr i Emma a Dave, Higher Kinnerton, ar credwn mai ni yma yn Ardudwy gafodd elwa fwyaf o’i ddoniau a’i enedigaeth mab Evan William Howie Owen ar 20/7/17 yn 8 pwys gymwynasgarwch. 11 owns, brawd bach i Archie. Llongyfarchiadau i Nain a Thaid, Bethan a Gordon, heb anghofio’r hen neiniau yn Harlech a Llanbedr. Dyma fel y’i cyfarchwyd yn ddiweddar gan ei hen gyfaill, Iwan Morgan: Priodas Y Monwysyn mynwesol o gyfaill Llongyfarchion i Dr Rhiannon a Dr Iwan Rees, Radyr, Caerdydd Gefais mor gefnogol; ar enedigaeth eu merch Mabli Haf yn 9 pwys a 2 owns. Llongyfarchion hefyd i Marian Rees, Y Waun sydd rŵan yn nain ac Rhannwr hael, graen ar ei ôl, Monwysyn cymwynasol. i’r hen nain, Mrs Gweneth Evans, Glan Gors, Llandanwg.

Pen-blwydd

Arholiad Piano

Capel Jerusalem Medi 10 - Undebol

Iwan Llewelyn Jones am 3.30 Hydref 1 - Diolchgarwch Christopher Prew am 3.30 Hydref 8 Dewi Morris am 4.00

Capel Engedi

Pen-blwydd hapus i Billy Jones, 11, Y Waun a oedd yn 18 oed ar Awst 23 eleni. Gan y teulu oll a Cara XXX.

Medi 24 DIOLCHGARWCH John Price am 2.00

Llongyfarchiadau i David Capel Rehoboth Bisseker, Acragaled ar lwyddo yn Hydref 1 ei arholiad piano Gradd 4 gyda DIOLCHGARWCH rhagoriaeth. Da iawn ti! Rhian Williams am 2.00

Priodas Dymuniadau gorau i Lowri Vaughan (merch Wendy Williams o Harlech) a Dave Merritt, Ynys Môn (mab Colin ac Anne), ar eu priodas yng Nghaliffornia ar 12 Mehefin 2017.

9


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN

Priodas Aur Llongyfarchiadau enfawr i mam a dad (Celt a Meira Roberts) ar ddathliad go arbennig sef pen-blwydd Priodas Aur – 50 blynedd ar Medi 2, 2017. Llawer o gariad oddi wrth y teulu a ffrindiau oll.

Priodas Braf yw cael cyhoeddi priodas Sara a Dyfed Llywelyn ar 27 Mai yn Neuadd y Dref, Llanelli. Mae Sara yn gweithio fel Nyrs Gymunedol yn Sir Gaerfyrddin a Dyfed yn Bennaeth Cyfadran Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Maes y Gwendraeth. Mae Celt a Meira, Berthen Gron, Talsarnau a’r teulu yn eu llongyfarch yn fawr ar eu priodas ac yn dymuno blynyddoedd lawer o hapusrwydd iddynt. Capel Newydd MEDI 10 - Dewi Tudur 17 - Sulwyn Jones 24 - Dewi Tudur HYDREF 1 - Dewi Tudur. Oedfaon nos Sul am 6:00. Croeso cynnes i bawb. Byddwn yn ailgychwyn yr Astudiaeth Feiblaidd/Seiat ar nos Fercher, Medi 27ain am 7:30. Mae croeso cynnes i chi ymuno hefo ni. Ffoniwch Dewi a Siriol am fwy o fanylion ar 01766 770953.

Neuadd Gymuned Talsarnau

Neuadd Talsarnau

GYRFA CHWIST Nos Iau Medi 14 am 7.30 o’r gloch

ER COF Er cof annwyl am Muriel Williams, Cefn Gwyn a hunodd Medi 21ain 2016. Cofio’r dyddiau dedwydd hapus, Cofio’r cariad, cofio’r wên, Cofio’r gofal mawr amdanom Hiraeth nid yw’n mynd yn hen. Y Teulu. Rhodd £10 Golff Llongyfarchiadau i Celt hefyd am ennill y ‘Seniors Cup’ yng Nghlwb Golff Porthmadog – tipyn o gamp, a hynny mewn gwyntoedd cryfion.

GWASANAETH DIOLCHGARWCH EGLWYS LLANDECWYN Pnawn Sul, Medi 17 am 4.00 o’r gloch Pregethir gan y Parch Peter James

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286

Ffacs 01766 771250

TRIO CYMRU ac

Annette Bryn Parri Nos Sadwrn, Tachwedd 18 am 7.30 Tocyn: £10 Plant ysgol am ddim Tocynnau gan: Anwen Roberts 01766 772960 Mai Jones 01766 770757

10

Honda Civic Tourer Newydd

Ar ymddeoliad Eluned Williams, Talsarnau (Awst 2017) Gwasnaethodd Gyngor Gwynedd Am ddeugain mlynedd faith, Fel tystia ei chydweithwyr ‘Ardderchog fu ei gwaith!’ Ond fel y syrthia dail o bren Rhaid i bob gyrfa ddod i ben. Ceginau a ddatblygwyd Yn ein hysgolion ni, A sicrhau adnoddau Digonol a wnaeth hi. Fe hoffai hwyl a thynnu coes, Ni chredai fyth mewn tynnu’n groes. Dymuno pob hapusrwydd I ’Luned nawr a wnawn, Boed dyddiau’i hymddeoliad Yn rhai o fwyniant llawn, Ei byd o gân a fo’n fyd gwyn Tra’n cyrchu i Gaer ’fo Einir Wyn. IM Priodas a Bedydd Ddydd Sadwrn 19 Awst, priodwyd Arfon, mab Meredith a Lynn Williams, Ty’n Fron a Rhiannon Louise yn Eglwys Llanfihangel-y-traethau. Ar ddydd Sul 20 Awst bedyddiwyd eu merch fach, Shannon Louise. Y Parch Bob Hughes oedd yn gwasanaethu yn y ddau achlysur hapus iawn. Pob lwc i’r teulu bach.


CYNGOR CYMUNED TALSARNAU Croesawyd Swyddogion o’r Grid Cenedlaethol i’r cyfarfod. Datganwyd pryder a siom mawr nad oedd y peilonau sydd ochr ucha’r ffordd ger ystâd Trem Tecwyn yn mynd i gael eu claddu. Nododd y Swyddogion bod y gwaith yma’n rhy anodd. Datganwyd hefyd eu bod yn gobeithio creu dipyn o swyddi lleol yn ystod y datblygiad hwn gan ddefnyddio crefftwyr lleol a gwelwyd amserlen o’r gwaith a fydd yn cychwyn gydag ymgynghoriad cyhoeddus ym Mai/Mehefin 2018. Cae Chwarae/Maes Parcio Adroddwyd bod y gwaith o osod y maen wedi ei gwblhau. Hefyd adroddwyd nad oedd yr ysgol wedi bod mewn cysylltiad ynglŷn â’r agoriad swyddogol a chytunwyd i adael hwn tan fis Medi. Cytunwyd bod Mr Gwyn Williams, Bronaber yn gwneud y plac i’w osod ar y maen a chytunodd John Richards gysylltu ag ef; hefyd cytunodd i gysylltu â Mr Chris Rayner ynglŷn â gosod arwyddion. Adroddwyd bod Clwb Rygbi Harlech eisiau gosod mainc yn y cae chwarae er cof am Mr Gwynfor John Williams, Gwrach Ynys, a chytunwyd i hyn yn unfrydol. Maes Parcio Cilfor Adroddodd John Richards ei fod wedi bod mewn cysylltiad ag Open Reach ynglŷn â’r polyn sydd yn rhwystr i’r datblygiad uchod a’i fod wedi cael ateb yn datgan y byddai amcangyfrif y gost o symud y polyn dan sylw yn £6,000. Cytunodd i wneud ymholiadau pellach gydag Open Reach i weld a fyddai hi’n bosib gostwng y pris er mwyn y gymuned. Materion Cyngor Gwynedd Adroddodd Freya Bentham ei bod wedi gallu cael bin baw cŵn wedi ei osod yn yr Ynys. CEISIADAU CYNLLUNIO Estyniad ffrynt unllawr arfaethedig - 4 Caerffynnon. Cefnogi’r cais hwn. Estyniad ffrynt unllawr arfaethedig - 5 Caerffynnon. Cefnogi’r cais hwn. Ceisiadau am gymorth ariannol Dizzie Dancers - £250 UNRHYW FATER ARALL Nid yw’r Cyngor yn hapus gyda’r ymateb ynglŷn â gosod giât fochyn ar y llwybr ger Pont. Mae hollt wedi ymddangos yn y ffordd ar Bont Briwet. Datganwyd siom bod tŷ yn y pentref wedi ei baentio yn las. Angen gwaredu’r arwydd 40mya ar y ffordd wrth fynd i lawr am Bont Briwet rŵan bod 30mya wedi ei osod fel cyflymder ar y ffordd. Dewi Evans yw ein Heddwas Cymunedol. Mae rhiwbob gwyllt wedi gordyfu ger Ysgoldy, Soar ac yn dod allan i’r ffordd. Bydd angen cysylltu gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â hwn. Mae coed wedi gordyfu i’r ffordd o Garth, Soar, i lawr am ystâd Maes Gwndwn. Llongyfarchwyd Mr Arfon Pugh ar ei lwyddiant gyda’r her ‘cneifio 900 mewn 24 awr’ a chasglu arian at Tenovus. Cytunwyd i gyfrannu £250 i’r gronfa o gyfrif y Cadeirydd.

TREM YN ÔL

Dylan a Delyth, plant y diweddar Pegi a Dic, Glan-y-wern ym mlodau eu dyddiau. Diolch i Bili, Tremadog am anfon y llun atom.

Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn Braf oedd gweld a chlywed am lwyddiant pobl â chysylltiadau ag Ardudwy yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ar ddechrau mis Awst. Llongyfarchiadau lu i Phil Mostert am gael ei dderbyn i’r Orsedd (gwisg las), yn ogystal â Meinir Lloyd Jones (Pugh gynt, o’r Dyffryn) a’i gŵr Geraint, o Benrhyndeudraeth, hefyd ar gael eu derbyn i’r Orsedd (gwisg las). Un o uchafbwyntiau’r Babell Lên oedd cyflwyniad gan Haf Llewelyn (gynt o Gwm Nantcol) i gofio’r diweddar Rhiannon Davies Jones, yr awdures ddisglair o Uwchartro, Ardudwy. Yn darllen rhannau o waith Rhiannon roedd Nia Medi (gynt o Lanfair), ac yn canu roedd tri o wyrion bach Gareth a Llewela Edwards o Lanaber. Un arall o uchelbwyntiau’r Babell Lên oedd cyflwyniad i gofio am y diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones. Cawsom gyflwyniad llawn hiwmor a ffraethineb gan amryw, yn cynnwys hanes cynnar Bedwyr gan ei frawd Geraint Percy Jones a fu’n athro yn Ysgol Ardudwy rai blynyddoedd yn ôl.

Meinir Lloyd Jones

Haf Llewelyn

Nia Medi

Yn ystod yr wythnos hefyd braf oedd gweld Gareth Eilir Owen, y pianydd o Ddyffryn Ardudwy, yn brysur yn beirniadu fel un o’r tîm o gerddorion adnabyddus a oedd yn beirniadu yn yr adran offerynnol. Gareth draddododd y feirniadaeth ar gystadleuaeth y Rhuban Glas offerynnol, a hynny’n gelfydd iawn. Yn yr Adran Lenyddiaeth, llongyfarchiadau i John Gruffydd Jones, Abergele, ar ennill gyda phortread. Roedd y diweddar Eirlys, gwraig John, yn dod o Lanfair. Y gystadleuaeth dan sylw oedd ‘Portread o gynefin neu unigolyn’, a dewisodd John, yng ngeiriau’r beirniad Geraint Vaughan Jones, “daflu golwg yn ôl am y tro olaf dros ei gynefin gynt, a hynny ar gyrion rhyw ddinas neu’i gilydd na chaiff ei henwi ganddo.”

Gareth Eilir Owen

John Gruffydd Jones

11


ENGLYN DA Beddargraff Tad a Mab

BWYD A DIOD

Yr eiddilaidd ir ddeilen - a syrthiodd Yn swrth i’r ddaearen, Yna y gwynt, hyrddwynt hen Ergydiodd ar y goeden.

Tegidon [John Phillips], 1810-1877

Gwilym R Jones yn Dadansoddi’r Englyn Englyn delweddog... a chysylltiad ingol-iasol rhwng y tair delwedd sydd ynddo - yr ‘ir ddeilen [y mab], y ‘goeden’ [y tad] a’r ‘hyrddwynt hen’ [a fu gwell darlun o’r angau?]. Y mae camp ar ansoddeiriau Tegidon. . . ‘eiddilaf ’, ‘ir’, ‘swrth’ a ‘hen’. Y mae cannoedd o feirdd wedi defnyddio’r ansoddair ‘hen’ mewn englynion a cherddi eraill ac erbyn hyn aeth yn ystrydebol ond nid oedd cymaint o lawer o draul wedi bod arno pan ddefnyddiwyd o gan Tegidon, ac onid yw yn ei glensio am byth yn ei gysylltiad yma â’r hyrddwynt mwyaf difaol sy’n bod. Y mae yn yr englyn hefyd homer o ferf: ‘ergydiodd’.

Eglwysi Llanfihangel-y-traethau a Llandecwyn

NOSON GOFFI

yn Neuadd Talsarnau Nos Wener, Medi 15 am 6.30 o’r gloch £1 yn cynnwys coffi a bisgedi, plant am ddim Raffl, Tombola, Poteli a Chacennau. Croeso cynnes i bawb.

AR OSOD

Byngalo wedi ei ddodrefnu, dwy ystafell wely, yn Nhalsarnau. Dim ysmygwyr nac anifeiliaid anwes. Cysylltwch ar 07860 845551

12

Sialens Paru Caws a Gwin Yn ddiweddar cawsom y pleser o gyfarfod Megi Williams o gwmni Hufenfa De Arfon, a rhoddodd y sialens i ni flasu detholiad o gawsiau ‘Dragon’ a’u paru gyda gwin. Daeth ag 8 caws, o Cheddar mwyn a Chaerffili i’r caws cryf sy’n cael ei aeddfedu yn ogofeydd Llechwedd, Blaenau Ffestiniog, gyda hi. Cyfle arbennig i brofi ac arbrofi! Yn gyntaf, mae’n rhaid dweud nad ydy gwin coch o reidrwydd yn paru’n naturiol gyda phob caws. Gall caws caled cryf ladd blasau cain mewn gwin sydd wedi’i aeddfedu felly byse hen Burgundy drud efallai yn wastraff gyda Cheddar cryf neu gaws gafr asidaidd a llymsur iawn. Ffactorau sydd angen sylw yw lefel asid y caws a’r cryfder. Daeth a dau gyda chynhwysion eraill ynddynt, sef llugaeron a chennin. I fod yn onest, nid yw hyn yn rhywbeth rwyf yn arferol yn or-hoff ohono gyda gwin. Dewisodd Dylan a minnau Sauvignon i fynd gyda’r Caerffili a Cheddar mwyn ac roeddem yn cytuno fod y rhain yn gweddu’n dda. Roedd lefel asid y caws yn cydweddu gyda’r un peth yn y gwin. Byse Sauvignon blodeuog o Seland Newydd yn beryg o fod yn ormodol ond oherwydd ei fod yn un fwy cymedrol ei flas o Bordeaux nid oedd yn trechu’r caws. I’r ddau gaws coch, Leicester Coch a Double Gloucester, penderfynwyd mynd am Rosliw o Sbaen. Roedd yr ochr asidaidd o’r gwin yn torri trwy’r saim ond nid oedd yn rhy bwerus ac yn lladd y blas. Credaf fod yr elfen ysgafn o ffrwythau coch yn y rhosliw yn tanlinellu’r ochr hufennog o’r caws. Ymlaen i’r Caerffili gyda llugaeron a dyma le’r oeddem yn mentro i flasu gwin coch, sef Beaujolais. Mae ‘na felyster o’r llugaeron ac nid yw’r caws yn rhy gryf ond mae ’na ychydig o halltrwydd a nodau sur ynddo o’r ffrwyth. Nid oedd y gwin yn lladd y caws ac roedd melyster y ffrwyth yn gweddu’n dda gyda’r gwin. Roedd y tri olaf yn ddatguddiad: y Cheddar ‘Vintage’, y Cheddar wedi’i aeddfedu mewn ogof a Cheddar cryf gyda chennin ynddo. Roeddwn i eisiau rhoi cais i sieri gyda’r un ogof ond roedd y blas yn rhy gryf hyd yn oed i’r caws ‘punchy’ yma. Aeth Dylan i’r seler i nôl y Port Tawny 10 oed. Wel, am nefoedd! Doedd y Port ddim yn drahaus ar y blas cryf ond yn ei ddofi a chyflwyno i’r tafod fel melfed. Wedyn yn ôl i Bordeaux am win coch i’r ddau gaws arall, Cheddar aeddfed ac un gyda chennin. Merlot ydi’r prif rawnwin yn y Claret yma ac mae’r blas eirin meddal yn cludo’r caws yn berffaith - hyd yn oed y Cheddar gyda chennin - a oedd yn eithaf syrpreis i mi. Roedd yn brofiad gwahanol blasu’r ystod o gawsiau caled ac rwy’n eich annog i roi cynnig ar hyn gyda chriw o ffrindiau!


COFFAU MILWYR 1914-18 Cafodd amryw o bobl yr ardal hon brofiadau chwerw-felys wrth deithio gydag aelodau Côr Meibion Prysor, Trawsfynydd i ymuno yn y cyfarfodydd coffa a drefnwyd yng Ngwlad Belg yn ddiweddar. Dyma atgofion y golygydd, a fu ar y daith. Dydd Gwener, Gorffennaf 28 Roedd rhaid codi’n blygeiniol, neu beidio mynd i’r gwely o gwbl, gan ein bod yn cychwyn o Drawsfynydd am 03.30 y bore. Cyrraedd Manceinion tua 05.30 a hedfan am 07.50. Talu crocbris am frechdan bacwn yn y maes awyr! Cyrraedd Brwsel ar amser am 10.15yb ac yna chwilio am y bws i fynd â ni i Kortrijk lle’r oedden ni’n aros am bedair noson yn y Parkhotel. Wedyn cawsom bnawn rhydd i ddod dros y teithio. Cychwyn am 6.30 yr hwyr am Ypres i gadw cyngerdd i griw o Gymry oedd wedi teithio gyda chwmni Seren Arian. Roedden ni’n nabod rhai o’r gynulleidfa. Cafwyd cyngerdd llwyddiannus ac ymateb brwdfrydig wrth i blant Ysgol Sul Trawsfynydd, Elain Iorwerth ac Iwan Morus Lewis rannu’r llwyfan gydag Iona Mair, Iwan Morgan a Meibion Prysor. Dydd Sadwrn, Gorffennaf 29 Tywydd eli haul a dim angen ymbarél, diolch byth! Roedd rhai o’r criw yn teithio mewn ceir gan fod 68 ohonom. Aeth pobl y ceir o gwmpas rhai o’r mynwentydd i osod llechen bwrpasol a wnaed gan blant Trawsfynydd ar fedd pob milwr o Drawsfynydd a gafodd ei ladd yn y brwydro. Roedd blodyn pabi coch ar y

Y gofeb i’r Cymry fu farw

llechen a’r geiriau ‘Mae dy fro yn dy gofio’ ar bob un.

Y lechen a roddwyd ar fedd pob milwr o Drawsfynydd

Ymlaen â ni am Goedwig Memetz ac ardal Thiepval lle bu peth o’r brwydro. Yn wir, fe gollwyd oddeutu 24,000 o filwyr yma mewn un diwrnod. Ar ôl cinio hyfryd yn nhref Albert, aethom i Beamont Hamel ac Ieper [Ypres] a chael peth amser rhydd yno. Fe ganodd y Côr ‘In Flanders Fields’ ac fe ganodd Criw ar y Naw ‘Lleuad Borffor’ o waith Gerallt Rhun ar ôl y Last Post ger Porth Menin yn Ieper am 8.00pm. Roedd cannoedd o bobl yno a llawer yn eu dagrau.

Porth Menin lle mae enwau 54,000 o filwyr a laddwyd

Dydd Sul, Gorffennaf 30 Cychwyn am fynwent Essex Farm ac yna i fynwent Langemark lle’r oedden ni i fod i gael ymarfer ar gyfer y seremoni fawr ar y dydd Llun. Cawsom gyfle hefyd i alw i weld de Sportsman Pub yn Langemark lle mae’r perchennog wedi troi ei fwyty yn amgueddfa er cof am Hedd Wyn a’r milwyr o Gymru a fu farw yn yr ardal honno. Cofiadwy iawn oedd hwn. Yna ymlaen â ni i seremoni dadorchuddio plac newydd i gofio Hedd Wyn, a roddwyd gan Gôr Rygbi Gogledd Cymru, oedd yn bresennol, ynghyd â Dylan Cernyw a Rhys Meirion. Cafwyd geiriau pwrpasol gan Keith O’Brien, Trawsfynydd a dalodd deyrnged i waith y diweddar Isgoed Williams a weithiodd mor galed i

Roedd nifer dda o bobl oedd â chysylltiad ag Ardudwy ar y daith i Fflandrys yng ngwlad Belg

gryfhau’r cysylltiad rhwng ardal Langemark a Thrawsfynydd. Roedd cannoedd o bobl yno i wylio’r Archdderwydd, Geraint Llifon yn dadorchuddio’r plac ac yn darllen un o gerddi Hedd Wyn ‘Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng’. Mi ganodd Meibion Prysor un o garolau Hedd Wyn sy’n cynnwys y llinellau dirdynnol o eironig, ‘Deuwch engyl eto i ganu uwch ein hen ryfelgar fyd, Cenwch wrtho am yr Iesu - all dawelu’r brwydrau i gyd...’

Yr Archdderwydd yn dadorchuddio’r plac newydd i goffáu can mlynedd ers marw Hedd Wyn

Seremoni gofiadwy - ond gallai pethau fod yn well gyda meicroffon da i bobl glywed popeth a llwyfan er mwyn i bobl fedru gweld yn well. Ymlaen â ni wedyn i gynnal gwasanaeth byr ar lan bedd Hedd Wyn ym mynwent Artillery Wood yng nghwmni’r plant a’r Côr. Cafwyd gweddïau pwrpasol, canwyd emyn a chanwyd yr englynion coffa. Cafwyd anerchiad pwrpasol hefyd yn sôn am ddewrder y milwyr ond hefyd yn cyfeirio at wastraff bywydau a’r camgymeriadau a wnaed gan wleidyddion, penaethiaid a chadfridogion. Oni ddywedodd Lloyd George fod ‘Passchendaele yn un o drychinebau mawr y rhyfel.

Ni fyddai unrhyw filwr call yn amddiffyn yr ymgyrch ddisynnwyr hon.’ Dywedwyd gair am y miloedd y gorfodwyd iddyn nhw fynd i ryfela yn erbyn eu hewyllys, am y rhai na ddaeth yn ôl, a’r rhai a ddaeth yn ôl i wynebu blynyddoedd o boen corfforol a meddyliol. Yn ôl yn y gwesty, gwelsom ein bod yn rhannu llety efo neb llai na’r prif weinidog, Theresa May! Plismyn arfog ym mhob man! Dydd Llun, Gorffennaf 31 Bore rhydd cyn cychwyn am wasanaeth y Cymry’n Cofio yn Langemark am 4.00. Yma roedd y gwleidyddion, y cadfridogion, y penaethiaid a’n hannwyl dywysog - a ddarllenodd ddau bennill yn Gymraeg - chwarae teg iddo fo. Cawsom ymuno yn y canu a phrofi balchder y Cymry yn y dorf enfawr. Dydd Mawrth, Awst 1 Pnawn rhydd yn Brugge cyn hedfan adref. Roedd yn fraint bod ar y daith. Ond y cof mwyaf sydd gen i am y daith ydi fod tua hanner miliwn wedi eu lladd yn Passchendaele - a hynny i ddim byd yn y pen draw. Heddwch i’w llwch. PM

Bedd Hedd Wyn

13


LLANFAIR A LLANDANWG

PRIODAS

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR

Llongyfarchiadau i Adam John Cain o Hen Golwyn a Bethan Rowena Owen, Cae Cethin, Llanfair ar eu priodas yn Eglwys Llanfair ar y 5ed o Awst. Cafwyd y wledd briodas yn Neuadd Cors y Gedol a threuliwyd y mis mêl yn Mosi-oa-Tunya [Victoria Falls] a Mauritius. Mae’r ddau erbyn hyn yn byw ac yn gweithio yn Llundain. Dymuniadau gorau iddynt i’r dyfodol. Rhodd £10 Te Cymreig Daeth llawer o’r ffyddloniaid arferol i gefnogi’r Te Cymreig yn y Neuadd Goffa a drefnwyd gan Ferched-y-Wawr, Harlech a Llanfair. Gwnaed elw o £260. Hen nain Llongyfarchiadau i Mrs Gweneth Evans, Glan Gors, Llandanwg ar ddod yn hen nain i Mabli Haf. Ganwyd merch i Iwan a Rhiannon Rees yng Nghaerdydd.

Neuadd Goffa, Llanfair

GYRFA CHWIST

ar y drydedd nos Fawrth yn y mis am 7.00 o’r gloch

Iwan Morus Lewis, Miny-môr, Llandanwg yn canu mewn cyngerdd yng ngwlad Belg ddiwedd Gorffennaf gyda Chôr Meibion Prysor i goffâu canmlwyddiant marw Hedd Wyn.

Cyngerdd Eglwys Tanwg Sant, Harlech Nos Sadwrn, 9 Medi am 7.30

Trio yn cynnwys y ffidil, y soddgrwth a’r piano/organ. Mae eu rhaglen yn cynnwys cerddoriaeth gan Mozart, Corelli, Pachelbel a mwy. Bydd casgliad ar y diwedd a bydd lluniaeth ar gael.

Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/llaisardudwy/docs 14

Llais Ardudwy

CAIS CYNLLUNIO Amnewid ffenestri a drysau upvc ffrâm brown am ffenestri a drysau upvc ffrâm gwyn ac un drws cyfansawdd - O’r Diwedd, Ystâd Pant yr Onnen, Llanfair. Cefnogi’r cais hwn. GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd - Adran Addysg - Cludo plant Llanfair i Ysgol Tanycastell am ddim. Mae’r addewid a roddwyd yn 1972/73 pan gaewyd Ysgol Gynradd Llanfair wedi ei ddiddymu. Hefyd datganwyd bod Cyngor Gwynedd yn darparu cludiant i ddisgyblion ysgolion cynradd sydd yn byw 2 filltir neu ymhellach o’r ysgol yn eu dalgylch neu’r ysgol agosaf ac maent yn disgwyl i rieni disgyblion gwblhau ffurflen gais cludiant. Os yw disgyblion yn byw llai na 2 filltir o’r ysgol gynradd ac yn teithio ar hyd ffordd y mae’r Cyngor yn ei hystyried yn beryglus iawn, yna darperir cludiant am ddim ac felly os yw rhieni disgyblion yn Llanfair yn byw llai na 2 filltir o Ysgol Tanycastell ac yn ystyried bod y ffordd yn beryglus iawn i’w cherdded yna dylent gyflwyno cais i’r Gwasanaeth Trafnidiaeth i gael asesu’r ffordd. Toiled Bydd toiled Llandanwg yn agored am y flwyddyn i ddod ac yn parhau yn y flwyddyn 2018/19. Ceisiadau am gymorth ariannol Dizzie Dancers - £100 UNRHYW FATER ARALL Mae angen glanhau’r tyfiant ar y grisiau i fyny o’r ffordd fawr am y llwybr cyhoeddus sydd yn dod allan yn ystâd Cae Garw. Rŵan bod traeth Llandanwg wedi cael Gwobr Arfordir Gwyrdd yn 2017 mae’r fflag a’r polyn wedi eu tynnu i lawr. Adroddwyd bod ateb wedi ei dderbyn oddi wrth Mr Barry Davies, Swyddog Morwrol, yn datgan bod y Wobr hon yn adlewyrchu safon ardderchog y traeth a bod ansawdd dwr ymdrochi o safon uchel ar draeth Llandanwg yn 2017; golyga hyn nad yw Gwobr Traeth Gwledig yn berthnasol i draeth Llandanwg yn 2017 gan fod gwobr yr Arfordir Gwyrdd o safon uwch. Yn anffodus nid yw Cadw Cymru’n Daclus yn caniatáu chwifio baner er mwyn dangos bod y traeth wedi cyrraedd y safon uchel. Plac a Thystysgrif y mae Cadw Cymru’n Daclus yn eu rhoi. Hefyd datganodd Mr Davies y byddai’n fodlon gosod y polyn fflag yn ôl pe byddai’r Cyngor yn cymryd cyfrifoldeb drosto a chytunwyd i wneud hyn. Goryrru yn Llandanwg Adroddodd Annwen Hughes ei bod wedi cyfarfod â Mr Dylan Jones o Adran Draffig, Cyngor Gwynedd yn Llandanwg yn dilyn y pryder am oryrru i lawr y ffordd am y maes parcio a bod Mr Jones wedi datgan yn gyntaf y byddai yn gosod mesurydd traffig ar y ffordd i weld gwir gyflymder y ceir sy’n teithio lawr y ffordd hon; hefyd yn symud yr arwyddion 30mya i le mwy priodol. Datganwyd pryder mawr fod rhai lleol yn goryrru i lawr y ffordd hon yn ddyddiol a chytunwyd i gysylltu â’r Heddlu ynglŷn â hyn.

R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU


H YS B YS E B I O N

Cefnogwch ein hysbysebwyr

CYNLLUNIAU CAE DU Stryd Fawr Harlech, Gwynedd 01766 780239

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

E B Richards

Llais Ardudwy

01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

GERALLT RHUN

ARCHEBU A

01341 421917 07770 892016

07776 181959 Sŵn y Gwynt Talsarnau, Gwynedd

Tiwniwr Piano

g.rhun@btinternet.com

www.raynercarpets.co.uk

Tiwnio ...neu drwsio ar dro!

GWION ROBERTS SAER COED 01766 771704 - 07912 065803 gwionroberts@yahoo.co.uk

£60 y flwyddyn yw cost hysbysebu mewn blwch sengl ar y dudalen hon

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

Ffoniwch Ann Lewis 01341 241297

Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk

drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]

ALAN RAYNER GOSOD CARPEDI

Llanuwchllyn 01678 540278

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu 01341 241297 Ffynnon Mair Llanbedr

Tafarn yr Eryrod

01766 512091 / 512998

TREFNWYR ANGLADDAU

Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

JASON CLARKE Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

DAVID JONES

Cigydd, Bermo 01341 280436

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

ADEILADWR Gwarantir gwaith o safon.

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

MELIN LIFIO SYMUDOL

Gadewch i’r felin ddod atoch chi! www.gwyneddmobilemilling.com

dros 25 mlynedd o brofiad

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014 15


EPISTOL O MACEDONIA A ganlyn sydd gopi o lythyr fu’n ngwaelod y môr, o eiddo y magnelwr a’r teliffoniwr Ithel Lewis, mab Gwilym Ardudwy, o’r Dyffryn, yr hwn bellach sydd ers deunaw mis yng ngwlad Roeg. Y mae ei frawd, H Gwilym, hefyd ers dwy flynedd gyda’r Canadiaid yn Ffrainc ac wedi dod trwy frwydrau tost yn iach a dianaf hyd yma. * * * Anwyl Dad a Theulu Bach, Eich caredig a dyddorol lythyr i law yn ddiogel ddeuddydd yn ôl. Diolch lawer am dano ac am y copïau o’r “Herald.” Ceir blas ar bapurau fy mamwlad yn y fangre anghysbell hon. Da odiaeth oedd gennyf ddeall eich bod yn weddol iach adref yng nghanol yr alanas a’r heldrin ofnadwy sydd yn y byd. Dyddiau y dagrau a’r galarwisgoedd yw y rhai hyn i gannoedd o deuluoedd anwyl yr hen wlad. Bechgyn ‘glewion a phybur Lloegr a Gwalia fwyn yn myned yn ebyrth i erch-dduw rhyfel wrth y cannoedd, a’r hen bobl a’r canol oed dan feichiau trallod a phryder yn marw ar gyfartaledd mwy nag erioed. Ie, dyddiau cythryblus yw y rhain. Am ba hyd y pery tybed? Ofnaf fod llawer heddyw ar faes y frwydr ac ar aelwydydd Cymru efengylaidd a chrefyddol yn ymson yn aml wrthynt eu hunain, A oes Duw? Er hynny rhaid credu fod yna oruwchreolaeth yn rhywle. Wel, dyna ddigon ar y pen yna hwyrach rhag i mi fyned yn rhy bell. Gofynwch am ychydig o hanes y wlad hon, ei phobl a’u harferion. Ceisiaf yn fyr gydsynio â’ch cais. Wedi blwyddyn o deithio yma ac acw trwy wlad Groeg dyma fy mhrofiad. Gwlad fynyddig a chribog iawn ydyw, tebyg yn hynny o beth i Gymru anwyl ac hoff, ond nid hanner mor doreithiog. Credaf fy mod yn gywir pan ddywedaf na fu mwy na chan’ acer o dir yr aethum drwyddo erioed o dan driniaeth yr aradr a’r og. Ni welais eto yr un dyffryn yn y wlad cyffelyb

16

Llythyr Fu’n Ngwaelod y Môr

Teulu Gwilym Ardudwy. Ithel sydd yn y canol rhwng ei rieni i Ddyffryn Clwyd na thebyg i Ddyffryn Ardudwy. Gwelwch felly mai gwlad dylawd ryfeddol ydyw. Gellid tybio mai prif gynhaliaeth canolbarth y wlad cyn y rhyfel oedd defaid a geifr. Am y bobl, yn syml gellir desgrifio y mwyafrif mawr ohonynt mewn tri gair - hagr, budr a diog. Credaf nad ydyw “slums” trefi mawrion yr hen wlad yn agos mor fudr ag ydyw pob man hyd yn oed prif-drefi Groeg. Ie, budr ei wala a da i ddim yw y Groegwr. Cyfloga y Llywodraeth ugeiniau ohonynt i wneyd ffyrdd newyddion yma, gan dalu iddynt fel cyflog dri swllt y dydd a dau bwys o fara, ac eto i gyd ni ddywedaf air o anwiredd pan ddywedaf fod un Cymro yn werth ugain ohonynt. Ond, ysywaeth, rhaid i ni fyw ar un pwys o fara un dydd a dim ond cacennau caled y ddau neu dri diwrnod nesaf, gyda swllt y dydd fel cyflog. Lled ddu hynyna, onide? Mae eisieu diwygiad yn rhywle, a buan buan y delo. Y fath hwyl fydd yn etholiadau Seneddol Prydain

wedi dychweliad y bechgyn yn ôl? Prin y caiff pethau aros fel ag y maent wedi bod ar hyd y blynyddoedd. Bydd gwedd newydd ar bobpeth pan ddel y boys adref. Arferion y wlad. Nid ydynt yn amlwg iawn mewn moesau na chrefydd. Meddant ryw fath o grefydd o’r eiddynt eu hunain a chadwant ati i’r llythyren, ond nid uchel na choeth yw eu delfrydau. Eu prif ddiod ydyw gwin Ffrengig (French wine), ond nid arferant byth yfed i ormodedd. Mae eu temlau addoli yn heirdd a gwychion, ond anaml iawn y deuwch ar draws yr un. Gan fod y wlad fel y nodwyd mor hynod o fynyddig gwaith anhawdd yw rhyfela yma. Bradychodd Groeg y Cynghreiriaid trwy werthu cadarnfeydd y wlad i’r gelyn a dalia y rhan fwyaf ohonynt hyd yn hyn. Gwir eu bod yn gorfod gollwng eu gafael ohonynt y dyddiau hyn. Fy nghred ydyw y gellir dysgwyl am ddigwyddiadau cyffrous cyn pen hir, gan fod pob arwyddion yn golygu hyny. Yr wyf wedi

bod yn gwneyd tipyn o bobpeth er pan yn y battery. Bum am amser yn deli-ffoniwr, ond yr oedd cynifer o’r magnelwyr yn cael eu taro a’r clefyd fel ag yr oedd eisieu mwy o ddynion ar y magnelau, a chyda’r fagnel yr wyf bellach ers ysbaid o amser. Wyf hyd vma yn iach a dianaf, er wedi bod mewn rhai bylchau cyfyng. Rhoddwch fy nghofion goreu i’r holl gymydogion a phawb a gara holi am danaf. ITHEL Yr Herald Cymraeg 11 Medi 1917


SIOE HAF CLWB GARDDIO HARLECH

R O Edwards - enillydd Tlws y Coroni, Cwpan Alun Williams, Medal yr NVS, a Chwpan 1950 am flodau ar wahân i ddelias.

Pat Elford - enillydd Tlws Ellerker am y nifer uchaf o bwyntiau yn yr adran gosod blodau a Gwobr Maidment.

Dinah Pickard - enillydd y wobr am yr arddangosiad gorau yn yr adran gosod blodau.

Edwin Jones - enillydd Cwpanau Proctor a Chadwgan ynghyd â Chwpan y Sioe am y nifer mwyaf o bwyntiau uchaf yn yr adran Ffarwel Haf.

Richard Anelay - enillydd Tystysgrif Arian am yr arddangosiad gorau yn adran y delias.

Bryn Lewis, Trysorydd- ac enillydd y wobr am y nionod mawr gorau yn y sioe.

Gwynne Jones - enillydd Tlws y WI am y nifer uchaf o bwyntiau yn yr adran goginio a Thlws Emyr Williams am y nifer uchaf o bwyntiau yn yr adran win.

Yn ôl Cadeirydd Sioe Arddio Harlech, Edwin Jones, cafwyd sioe arbennig o dda eto eleni er gwaetha’r tywydd anwadal yn ystod yr haf. Roedd cystadlu brwd ym mhob adran a daeth tyrfa dda o bobl i weld yr arddangosfeydd ar ddydd Sadwrn, Awst 19. Roedd Lucinda Yemm, yr ysgrifennydd, yn awyddus i ddiolch i bawb a gefnogodd y sioe yn ymarferol ac i’r llu pobl ddaeth i fwynhau’r arddangosfeydd. Dymuna Edwin Jones ddiolch i’r swyddogion a’r pwyllgor am eu gwaith ar hyd y flwyddyn ac i bawb a ddaeth i helpu i wneud y sioe yn un mor llwyddiannus.

Lucinda Yemm, ysgrifennydd diwyd y sioe.

17A


BERMO A LLANABER Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â theulu’r diweddar Emlyn Williams, Bryn Derw, Y Bermo, a fu farw yn sydyn ond yn dawel ar 12 Gorffennaf 2017. Yn ŵr i’r diweddar Eirlys Williams, roedd yn dad i Arwel, Gareth, Ann a Bethan, ac yn daid balch i’w wyrion i gyd. Cynhaliwyd gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor a derbyniwyd rhoddion yn ddiolchgar tuag at Ambiwlans Awyr Cymru. Roedd y trefniadau yng ngofal Pritchard a Griffiths, Tremadog.

Mair Tomos Ifans yn cyflwyno sioe undyn yn seiliedig ar drais yn y cartref

2018 Llais Ardudwy Ar werth cyn bo hir am £4

THEATR ARDUDWY

HEN LUN

Côr Meibion Ardudwy Ebrill 2017

CALENDR LLAIS ARDUDWY 2018

Cafwyd un o’r perfformiadau mwyaf dirdynnol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn ym mis Awst wrth i Mair Tomos Ifans gyflwyno ‘Gweni’ yn y Cwt Drama. Portread a geir gan Mair o wraig fferm sy’n cael ei thrin yn greulon gan ei gŵr er na wnaeth o ei tharo erioed. Cafodd Mair gomisiwn i baratoi’r sioe gan drefnwyr Gŵyl y Grawnwin ym Mhorthmadog. Wrth baratoi’r sioe darllenodd Mair lyfrau a bu’n pori gwefannau am brofiadau merched o drais, a’r r rheiny sy’n sylfaen i’r fonolog. Mae Gweni’n berfformiad ingol a dirdynnol, ac mae’r cymeriad yn eistedd yng nghanol bocsys a phentyrrau o’i phethau fel hen ddillad, hen recordiau ac albymau lluniau. Mae’r sioe yma’n haeddu cael ei gweld gan nifer fawr o bobl gan ei bod yn codi ymwybyddiaeth am rywbeth nad ydy llawer ohonom yn ymwybodol sy’n digwydd i rywun bob dydd.

Clwb 200

Ffôn: 01766 780667

Hydref

Nosweithiau National Theatr Live 5 Hydref - Hamlet (Encore), gyda Benedict Cumberbatch fel Hamlet.

Tachwedd

16 Tachwedd – Follies, sioe gerdd chwedlonol Sondheim.

£30 Gwen Edwards £15 Jean Jones £7.50 Guto Anwyl £7.50 Beti Owen £7.50 Ronnie Davies £7.50 Iwan Bryn Lewis Mai 2017

£30 Mair Thomas £15 Llion Dafydd £7.50 Janet Mostert £7.50 Phil Mostert £7.50 Geraint Williams £7.50 O M Evans Mehefin 2017

£30 Kirsty Jones £15 Dafydd Thomas £7.50 Arthur G Jones £7.50 Gwyneth Davies £7.50 Iona Anderson £7.50 Phil Mostert Gorffennaf 2017

£30 Iorwerth Davies £15 Gwen Edwards £7.50 Bili Jones £7.50 O M Evans £7.50 Bili Jones £7.50 Smithy Garage Awst 2017 £30 Gwyneth Davies £15 Denise Jones £7.50 Bili Jones £7.50 Eirlys Williams £7.50 Tecwyn Williams £7.50 Dafydd Thomas

HARLECH TOYOTA

Ffordd Newydd, Harlech 01766 780432 Bws Davies Bermo yn mynd â chriw i gystadlu yn Eisteddfod Llyn Penmaen. Diolch i Hugh G Roberts am gael benthyg y llun.

18 A

www.harlech.toyota.co.uk info@ harlech.toyota.co.uk facebook.com/ harlech.toyota Twitter@ harlech_toyota


HYFRYD IAWN

Replica yw’r gyfrol hon o gyhoeddiad cyntaf erioed Gwasg y Lolfa, ac fe’i cyhoeddwyd i nodi hanner canrif bodolaeth y wasg. Pan gyhoeddwyd Hyfryd Iawn yn 1966, go brin y gwnaeth unrhyw un sylweddoli arwyddocâd y digwyddiad. Ynddo cawsom ffrwyth athronydd o saer coed na welwyd ac na chlywyd ei debyg cynt nac wedyn. Ynddo hefyd cawsom ragflasu dawn ddarluniadol Elwyn Ioan, neu Elwyn Jones bryd hynny. Hyfryd Iawn oedd yr allwedd a agorodd y drws i lenyddiaeth

CERDDI’R BUGAIL

Eleni, a hithau’n ganmlwyddiant marwolaeth Hedd Wyn, aeth Gwasg Carreg Gwalch ati i gyhoeddi detholiad o’i gerddi i gofio’r achlysur. Ymddangosodd yr argraffiad cyntaf o Gerddi’r Bugail flwyddyn ar ôl y Gadair Ddu, o dan olygyddiaeth J J Williams, a chyhoeddwyd y fersiwn diweddaraf - hyd at ymddangosiad y gyfrol hon - gan Alan Llwyd yn 1994, i gyd-fynd â chyhoeddi’r cofiant safonol, Gwae Fi Fy Myw, a’r ffilm am ei fywyd. Yn addas iawn, bardd ifanc

ogoneddus o amharchus a gymerir bellach yn ganiataol. Mae’r isdeitl yn ymgais i grynhoi’r cynnwys: ‘Rhyw fath ar hunangofiant go flodeuog neu rywbeth!’ Gwir iawn. Dywedodd rhywun am Eirwyn ei fod yn gomedïwr stand-yp cyn i’r ymadrodd erioed gael ei fathu. Nid dweud jôcs a wnâi, ond athronyddu. Cyn hyd yn oed droi at gorff y gyfrol mae’r nodiadau rhagarweiniol yn ddadlennol. Pwysleisir y posibilrwydd, gydag ymddiheuriad, y gellid canfod ambell flerwch yma ac acw a chael yr orgraff weithiau’n ansafonol ac anghyson. Hyfryd o onest! Disgrifir yr awdur fel un a wnaeth i ni chwerthin a llefain ar lwyfannau swyddogol ac answyddogol. Tyfodd, meddir, i fod yn chwedl fyw gan ein difyrru a’n swyno ‘mewn noson lawen ac eisteddfod, capel a thafarn, ysgol a rali’. A dyna grynhoad perffaith o apêl y gŵr rhyfeddol hwn. Yn wir, does dim ond angen edrych ar y clawr i sylweddoli deuoliaeth ei gymeriad. Gwelwn y dyn bach mewn cap gwyn yn syllu arnom yn drist-fyfyrgar. Disgrifiwyd ef gan rai fel Charlie Chaplin

Cymru. Na, roedd e’n llawer doniolach, yn llawer dwysach na hwnnw. Yn y rhagair cawn gan Cynog Dafis grynhoad i’r dim o ddawn unigryw Eirwyn. Disgrifia ef fel disgynnydd ysbrydol i’r cyfarwyddiaid a arferent slawer dydd adrodd helyntion Peredur a Geraint. Gellir, meddai, cymharu’r hanesion am Peredur a Geraint fab Erbin â mabinogi Boi Felin Bob a’r Rayburn. Ceir yma hefyd fabinogi’r Go Mowr ac Ianto Llwyn Crwn, Ficer Penstwffwl a Mari Fowr Trelech a llawer mwy. Cymeriadau go iawn neu ddychmygol? Pwy sy’n becso? Af mor bell â dweud i gyhoeddi Hyfryd Iawn fod mor bwysig i ni’r Cymry Cymraeg â chreadigaethau Idwal Jones ac yn ddiweddarach rhai Wil Sam. Mae gen i gopi o hyd o’r argraffiad gwreiddiol yn 1966. Ar yr wynebddalen mae llofnod y dyn ei hun. Daw deigryn i’m llygaid bob tro y syllaf ar yr hyn a nododd Eirwyn: ‘Diolch, Lyn am ddal y gannwll.’ Rhen gyfaill, diolch i ti am ei chynnau. Lyn Ebenezer Adolygiad oddi ar www.gwales. com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

arall o Feirion, sef Gruffudd Antur, a gomisiynwyd i olygu’r detholiad diweddaraf hwn. Yn ei gyflwyniad pwrpasol gosodir y cerddi yn eu cyd-destun, gan fynd ati i geisio gwahaniaethu rhwng y bardd a’r chwedloniaeth a ddaeth yn rhan ohono wedi’i farwolaeth. Yn ogystal, ailargraffwyd teyrnged i Hedd Wyn gan William Morris, a fu, yn ddiweddarach, yn Archdderwydd Cymru. Caiff y gyfrol ei chyfoethogi hefyd gan luniau lliw Keith O’Brien. Ynddynt gwelir y Rhinogydd, y Moelwynion, y Traws a’r llyn a’r lleuad borffor dros Gwm Prysor yn eu holl ogoniant. Dyma’r mannau a fowldiodd awen Hedd Wyn a’r dirwedd yr hiraethai amdani yn ffosydd Ffrainc. Eto, cyfoeth pennaf y gyfrol yw’r cerddi. Deil nifer o’r telynegion a’r englynion i ganu yn y cof. Canodd yn synhwyrus i brydferthwch natur ei gynefin ac i bobol y gymdeithas y’i magwyd ynddi wrth i’r Rhyfel

Mawr daflu ei gysgodion bygythiol dros y tangnefedd hwnnw. Ond hyd yn oed yn ei wisg filwrol glynodd at ei egwyddorion heddychol, a chanrif yn ddiweddarach deil ei awen yr un mor berthnasol i ni heddiw yn y dyddiau dreng sydd ohoni. I gloi, cawn erthygl gan Naomi Jones yn ymfalchïo bod Parc Cenedlaethol Eryri, gyda chefnogaeth y Llywodraeth a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, wedi cymryd cyfrifoldeb dros yr Ysgwrn er mwyn ei ddiogelu ar gyfer y genedl. Yn yr un modd, bydd y gyfrol hardd hon hefyd yn cadw’r cof yn fyw am stori drasig Ellis Humphrey Evans o’r Ysgwrn, a fu farw ar faes y gad bum wythnos cyn y bu rhaid taenu cwrlid du dros Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhenbedw yn 1917. Idris Reynolds Adolygiad oddi ar www.gwales. com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

TRA BO DAI

Mae Dai Jones Llanilar, yn fwrlwm o fachan – dyn pobol, dyn ‘y pethe’ yn hytrach na dyn pethe, gwladwr i’r carn. Mae darllen ei ail gyfrol hunangofiannol, Tra bo Dai, fel sefyll ar ddiwrnod gwyntog yn ucheldir Mynydd Bach. Mae’n gyfrol sy’n werthfawrogiad o’r hen Gymru wledig, Gymraeg ei hiaith. Fe wêl golled yr ysgolion bach, ac yn ddiamau bu cau ysgolion cynradd yn fodd i symud trwch y boblogaeth ifanc o’r pentrefi bach yn ddigon clou. Y sioeau, yn genedlaethol a lleol, yw diddordeb mawr arall Dai Jones, a’r anifeiliaid, yn hytrach na’r offer sydd i’w gweld yn y stondinau niferus, sy’n tynnu ei sylw. Fel y dwedodd ffermwr o ganol y Preseli wrtho’ i unwaith – mae popeth ar bedair coes yn gwneud arian a phopeth ar bedair olwyn yn colli arian. Cawn ei glywed yn canmol y cobiau a’r merlod Cymreig, a’r hen fuwch ddu Gymreig, gyda brwdfrydedd heintus. Mi fedra inne gofio fel y bydde dwy neu dair o dda duon ym mhob beudy, i roi ychydig o fraster i lifeiriant llaeth y Friesians. Mae yma lu o gymeriadau, a Dai yn eu brolio a’u canmol gydag afiaith. Wedi’r cyfan, dyn pobol yw Dai, dyn a gafodd flas ar gyflwyno’r bobol hynny i ni ar deledu dros nifer o flynyddoedd bellach. Cydiodd yn y cyfrwng hwnnw a’i anwesu a’i ddefnyddio i ddod â ni i adnabod ein gilydd. Daeth â chyfle iddo grwydro’r byd yng nghwmni corau ac i weld dulliau o amaethu mewn gwledydd eraill, a’u cyflwyno i ni gyda chynhesrwydd; yr un cynhesrwydd ag a gawn yn ei raglen radio bob nos Sul. Mae yma farn, atgofion, hanes, ond uwchlaw popeth mae yma frwdfrydedd a llawenydd. Pleser pur a darlun o fyd amaethu ar ei orau – mwynhewch. Gwyn Griffiths Adolygiad oddi ar www.gwales. com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

19 A


HER GNEIFIO MIL [1030] O DDEFAID Lluniau: Gwion Llwyd

Dymuna Arfon Pugh ddiolch yn ddiffuant i lawer o bobl a fu’n helpu i wneud yr her yn un mor lwyddiannus. Dywed fod ei chwaer, Ffion [ar ei ochr dde] wedi bod yn gymorth gwerthfawr iawn. Diolch hefyd i Mr a Mrs Bryn Roberts, Merthyr am eu lletygarwch ac am bob cymorth.

Arfon yn torri’r gacen ddathlu a baratowyd gan ei gyfnither, Amy Lumb.

Ffion Pugh yn lapio’r gwlân ac yn tacluso wrth i Arfon gneifio. Arfon Pugh a Deborah, gweddw’r diweddar Gwynfor Williams, ar derfyn y cneifio. Casglwyd dros £20,000 at Tenovus er cof am Gwynfor.

Dyma’r 1030 o gnu wedi eu llwytho ar y lorri. Daeth y lorri i gludo’r sachau yn ddi-dâl. 20 A

Arfon yn cael tamaid o fwyd rhwng y gwaith cneifio.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.