Llais Ardudwy
50c
RHIF 477 - MEDI 2018
MEDALAU I KEN AC EVIE Eleni roedd Sioe Sir Meirion yng Nghorwen yn dathlu pen-blwydd arbennig yn 150 oed. Llongyfarchiadau i ddau aelod, ymysg eraill, oedd yn derbyn Tystysgrif Cydnabyddiaeth Nodedig y Gymdeithas sef Ken Roberts, Bellaport ac Evie Morgan Jones, Penybryniau. Cyflwynwyd Medal a Thystysgrif iddynt gan Mr E Douglas Powell, Llywydd eleni ac Ysgrifennydd y Gymdeithas a diolchodd yn ddiffuant iddynt am flynyddoedd o waith mewn meysydd gwahanol. Mae’n bleser gennym ninnau yn Llais Ardudwy longyfarch y ddau am eu hir wasanaeth i fyd amaeth a hefyd am eu gwaith diflino yma ym mro Ardudwy i nifer fawr o fudiadau a chymdeithasau.
Mae Calendr Llais Ardudwy ar werth rŵan yn y siopau arferol Bargen am £5!
PEIRIANT DI-FFIB
Bu aelodau Capel Soar yn brysur yn casglu arian i brynu peiriant diffib i’r pentref. Mae wedi ei osod ar wal garej yn stâd Maesgwndwn yng nghanol pentref Talsarnau gyda chaniatâd caredig y gymdeithas dai, Cartrefi Cymunedol Gwynedd. Diolch i bawb a gyfrannodd a chasglu’r arian ar gyfer yr adnodd yma fydd yn werthfawr iawn i’r gymuned i gyd.
POB HWYL!
Llun: Erfyl Lloyd Davies Pob dymuniad da i blantos Cylch Meithrin y Gromlech, Dyffryn Ardudwy fydd yn cychwyn yn yr ysgol gynradd ym mis Medi.
ARHOLIAD PIANO [GYDAG ANRHYDEDD]
Llun: Erfyl Lloyd Davies
Llongyfarchiadau i David Bissecker, Acra Galed, Harlech sydd wedi llwyddo yn ei arholiad piano Gradd 5 gydag anrhydedd. Dymuniadau gorau i ti yn y dyfodol, David.
GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 780635 pmostert56@gmail.com
HOLI HWN A’R LLALL
Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com 07760 283024 / 01766 780541
SWYDDOGION
Cadeirydd: Hefina Griffith 01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg CASGLWYR NEWYDDION LLEOL
Y Bermo Grace Williams 01341 280788 David Jones 01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones 01341 241229 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Cysodwr y mis: Phil Mostert
Gosodir y rhifyn nesaf ar Medi 28 am 5.00. Bydd ar werth ar Hydref 3. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Medi 24 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’
Dilynwch ni ar Facebook @llaisardudwy
2
Enw: Arwyn Williams Gwaith: Adeiladwr gyda chwmni Wigglesworth. Cefndir: Wedi fy ngeni ar frys yn hen ysbyty Porthmadog (heb gyrraedd Bangor!) a derbyn yr enw canol Madog o ganlyniad. Wedi fy magu ac wedi byw’n ardal Talsarnau erioed ac yn ffodus o gael gweithio’n lleol hefyd. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Mwynhau cerdded mynyddoedd yn lleol ac ymhellach yn rheolaidd ar ôl methu ymarfer pêl-droed a rhedeg oherwydd anafiadau. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Dydw i ddim yn llawer o ddarllenwr ond yn edrych ar gylchgronau cerdded Trail ac
erthyglau ar y wê. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Dilyn sawl cyfres ‘box set’ fel Game of Thrones a Homeland pan ddim allan yn yr awyr iach! Ydych chi’n bwyta’n dda? Ydw’n dda iawn ac yn mwynhau coginio ambell bryd. Hoff fwyd? Stêc rib-eye eitha’ gwaedlyd a chips cartref. Hoff ddiod? Gin a thonic gyda sleisen o lemon a rhew – yn enwedig yng Ngŵyl Rhif 6 Portmeirion! Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Rhian y wraig, teulu a ffrindiau – dim byd gwell na chyfle i ddal i fyny dros bryd o fwyd a gwin da. Lle sydd orau gennych? Ar ben mynyddoedd Eryri a gweld bobman o bell. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Awstralia – wedi bod yn lwcus o gael mynd y tro cynta gyda hogia Talsarnau i weld Cwpan Rygbi’r Byd ac yna’n ôl gyda Rhian tua 10 mlynedd yn ôl – gobeithio cael mynd yn ôl rhyw ben eto’n y dyfodol. Beth sy’n eich gwylltio? Fawr o ddim fel arfer ond dylai pawb wneud ymdrech i ofalu nad oes sbwriel yn cael ei adael ar ein llwybrau cerdded. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind?
LLYTHYRAU
Cwmni da, digon o hwyl a barod eu cymwynas. Pwy yw eich arwr? Jürgen Klopp – rheolwr Lerpwl sydd wedi trawsnewid y tîm. Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon? Wedi edmygu sawl un yn yr ardal dros y blynyddoedd ond yn anffodus wedi colli sawl cymeriad dros yr amser. Beth yw eich bai mwyaf? Gofynnwch i Rhian! Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Bod yn fodlon fy myd bob dydd. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Trefnu taith crwydro’n cerdded mynyddoedd yr Alpau. Eich hoff liw? Coch - lliw Cymru a Lerpwl. Eich hoff flodyn? Cennin Pedr. Eich hoff gerddorion? James Bay ac Emily Sandé. Pa dalent hoffech chi ei chael? Byswn yn hoffi gallu canu gan fy mod yn dôn fyddar ac wedi gorfod meimio yng nghôr ysgol Talsarnau! Eich hoff ddywediadau? ‘Gwyn ein byd – am ba hyd?’ Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Hapus fy myd ac yn ddigon iach i gael crwydro’r mynyddoedd am sawl blwyddyn eto gyda lwc.
Annwyl Olygydd Diolch am gynnwys newyddion yr ysgol yn rhifyn Gorffennaf o Llais Ardudwy. Rhag ofn eich bod yn meddwl nad ydym yn gallu treiglo yn Nhanycastell - ‘Sigl-di-cwt’ ydi enw’r cwmni ac nid ‘Sigl-di-gwt’ fel yr ymddangosodd yn y rhifyn diwethaf. Chwarae ar eiriau yw bwriad yr enw, newid y ‘gwt’ i ‘cwt’ fel ei fod yn cynrychioli y bocs/tŷ adar. Mae’r e-bost sydd wedi ei nodi yn yr erthygl hefyd yn anghywir gan fod yr ‘c’ wedi ei newid i ‘g’ ac felly ni fyddwn yn gallu derbyn unrhyw archeb. A oes posib sicrhau fod hyn yn cael ei gywiro? Diolch. Annwen Parry Williams Pennaeth, Ysgol Tanycastell Nodyn golygyddol Ymddiheurwn am y newid; mae’n biti na chawsom wybodaeth am hyn ymlaen llaw. Os hoffech archebu un o’r bocsys adar o Ysgol Tanycastell, gallwch gysylltu gyda sigl-di-cwt@gmail.com neu ffonio’r ysgol yn uniongyrchol ar 01766 780454.
Offeren Ddwyfol Cantorion Enddwyn
Bu disgwyl eiddgar am ailgyhoeddi’r recordiad ar ffurf cryno ddisg, ac mae bellach ar gael mewn siopau. Rwyf yn awyddus iawn i gyn-aelodau Côr Cantorion Enddwyn gael copi yr un o’r Cryno Ddisg newydd yn anrheg er mwyn iddynt wybod nad edwinodd y gwerthfawrogiad o’u llafur ac ymroddiad a llwyddiant wrth wynebu’r her go fawr o ddysgu cerddoriaeth litwrgaidd anghyfarwydd. Er mwyn i gyn-aelodau Cantorion Enddwyn dderbyn copi, gwahoddir chwi i gysylltu â Mr Gwilym Jones ar 01766 780600), neu â Mrs Rhian Davenport (oedd yn ysgrifennydd y côr) ar 01341 247 381, neu â minnau (01766 831 272). Diolch i chwi oll unwaith eto, +Tad Deiniol, Blaenau Ffestiniog
HARLECH
Sefydliad y Merched Croesawodd y Llywydd, Jan Cole yr aelodau i’n cyfarfod a gynhaliwyd ar nos Fercher, 11 Gorffennaf. Croesawyd y wraig wadd Sophie Rendle oedd wedi dod i siarad am ei gwaith ar ‘Vets in Practice’ ac wedi bod yn gweithio yn Nolgellau am wyth mlynedd. Gwaith ac hanes difyr iawn oedd gan Sophie a diolchwyd iddi ar ran yr aelodau gan Denise Hagon. Ar ôl cael te cychwynnwyd y busnes. Diolchodd Meinir Lloyd Jones i bawb oedd wedi cymryd rhan a chefnogi’r Sioe Ffasiwn ym Mhorthmadog yn ddiweddar. Mae angen ystyried y ‘Cynigion’ ar gyfer 2019 a gadael i Christine wybod erbyn diwedd yr haf. Rhoddwyd cardiau pen-blwydd i aelodau’n dathlu pen-blwyddi am y ddau fis nesaf gan nad oes cyfarfod ym mis Awst. Dymunwyd haf hapus i bawb gan y Llywydd ac fe fydd y cyfarfod nesaf ar 12 Medi gyda siaradwr yn dod i drafod cyfathrebu’r gyda’r byddar. Teulu’r Castell Cynhaliwyd y cyfarfod diwethaf yng Nghaffi’r Llechen yn Chwarel Hen Llanfair. Cafwyd te blasus a phopeth wedi eu gwneud gartref, a digon ohono wedi ei goginio a’i ddarparu gan Tania a Graham Stone. Roedd pawb wedi mwynhau’r te a’r olygfa fendigedig o’r caffi. Rhoddwyd y diolchiadau gan Edwina Evans. Fe fydd Teulu’r Castell yn ail-gychwyn ar 9 Hydref yn y Neuadd Goffa, Llanfair, am 2 o’r gloch. Croeso i unrhyw un ymuno â ni am sgwrs a the. Hoffai Edwina ddiolch i’r Pwyllgor am eu cefnogaeth trwy’r flwyddyn, i Ysgol Tanycastell, Sefydliad y Merched Harlech, Merched y Wawr hefyd am eu cefnogaeth wrth drefnu te ac adloniant am dri mis o’r flwyddyn, ac hefyd i’r gwahanol fudiadau, ac unigolion sydd wedi cyfrannu’r arian at Teulu’r Castell, ac i’r aelodau am ddod i’r cyfarfodydd mor gyson a thrwy pob tywydd. Heb aelodau fasa ’na ddim Teulu’r Castell. Diolch yn fawr iawn i bawb. Yn yr ysbyty Dymuniadau gorau i Mrs Melanie Griffiths, 24 y Waun, sydd wedi bod yn Ysbyty Gwynedd am rai misoedd ond yn awr wedi cael triniaeth go fawr yn Ysbyty Lerpwl. Rhodd i Llais Ardudwy £30 Di-enw £.4.50 Di-enw
Darlithio yn yr Eisteddfod
Hyfryd oedd gweld Dr Iwan Rees, Harlech gynt, yn cael ei wahodd i draddodi darlith Cymdeithas Bob Owen yn Eisteddfod Caerdydd eleni. Siaradodd am dafodieithoedd amrywiol a’i ymchwil diweddar ym Mhatagonia. Daeth tyrfa dda ynghyd i wrando arno.
LLWYDDIANT
CADW’R ARDAL YN DACLUS
John Williams
Steve O’Neill
Diolch i ddau wirfoddolwr lleol sy’n cadw’r ardal ger Stad Tŷ Canol yn daclus drwy’r haf a hynny heb dderbyn ceiniog o dâl. Mae John Williams [John Llaeth] a Steve O’Neill wrthi’n ddiwyd ers blynyddoedd ac mae ein diolch yn fawr iawn i’r ddau am eu gwaith diflino. Hoffai John gydnabod ei ddyled i Adrian Lumb sy’n helpu i ofalu am y peiriant.
PRIODAS
Cynhaliwyd Sioe Haf lwyddiannus arall yn Harlech ar ddydd Sadwrn Awst 25. Roedd y Neuadd Goffa yn llawn o gynnyrch o bob math a daeth nifer fawr o bobl leol ac ymwelwyr i weld y gwahanol ddosbarthiadau. Diolch i bawb am gefnogi’r sioe.
Llongyfarchiadau i Ann a Robert Edwards ar ennill gwobrau yn y Sioe Sir. Bu’r ddau yn brysur hefyd yn Sioe Harlech lle bu Ann yn helpu efo’r gwaith ysgrifenyddol ac ymhlith y gwobrau. Yn ôl ei arfer, mi ddaru Robert chwipio pawb yn yr adran lysiau.
Cyhoeddiadau’r Sul
Jerusalem Medi 23 Parch Dewi Morris am 4.00 Engedi Medi 30 - am 2.00 o’r gloch Diolchgarwch - John Price Rehoboth Hydref 7 - am 2.00 o’r gloch Diolchgarwch - Elfed Lewis
Mererid Wyn, merch Medwyn a Margaret Owen, Tan Dderwen, Henryd, Conwy, ag Osian Rhys, mab Ieuan a Gwen Edwards, Hafoty, Harlech, a briodwyd yng Nghapel yr Anibynnwyr, Henryd, ddydd Sadwrn Gorffennaf 14 gyda neithior a dathliadau i ddilyn ar y fferm yn Nhan Dderwen yng nghwmni teulu a llu o ffrindiau. Mae’r ddau yn athrawon cynradd, Mererid yn Ysgol Treferthyr Cricieth ac Osian yn Ysgol y Traeth, Bermo. Byddant yn ymgartrefu yn Rhiwgoch. Diolch Diolch yn fawr iawn am yr holl gyfarchion, dymuniadau da ac anrhegion a gawsom ar achlysur ein priodas. Diolch o galon i bawb. Osian a Mererid. X Ar Achlysur Priodas Mererid ac Osian Mae’r aur am fys Mererid, - ac ylwch! Mae’r golau yn newid Yn Rhiwgoch, yng Nghymru i gyd, Wedi i ddau wneud addewid. Twm Morys, Gorffennaf 2018
3
COLLI MEINIR
LLANFAIR A LLANDANWG
Ganwyd Meinir ar Fai 31ain 1932 yn Nhŷ Capel, Llanfair yn un o bump o blant i Ellis a Florrie Griffith. Wedi pasio arholiad 11+ flwyddyn yn gynnar, cafodd fynediad i Ysgol Ramadeg y Bermo. Llwyddodd yn ardderchog yn yr ysgol a chafodd fynediad i Goleg Prifysgol yn Lerpwl i astudio fferylliaeth. Mae’n anodd i ni werthfawrogi hynny ond roedd i ferch gael mynediad i Goleg Prifysgol a hynny i astudio pwnc gwyddonol, yn y dyddiau hynny, yn dipyn o gamp! Yn drist iawn, ar ôl blwyddyn yn unig, bu’n rhaid i Meinir ddod yn ôl adref i edrych ar ôl ei mam wrth i’w iechyd ddirywio. Bu farw eu mam pan oedd Meinir yn ugain oed a Valmai yn ddim ond deuddeg oed. Ni ddychwelodd i’r coleg, arhosodd adref i ofalu am y teulu ac aeth i weithio i Red Garage, Porthmadog. Roedd ganddi gefnder yn byw yng Nghwparc, Y Rhondda, a ddaeth ar wyliau at y teulu yn Llanfair, un haf. Daeth y cefnder â’i ffrind pennaf gyda fo, bachgen o’r enw Ceri Lewis - mae’r gweddill yn hanes! Wedi priodi a sefydlu busnes gwaith coed ac ymgymerwyr angladdau ac effeithiol, ganwyd Bethan a Geraint. Roedd yn un o sylfaenwyr cangen Merched y Wawr Llanfair a Harlech ac mae angen arloeswyr fel Meinir ar gyfer gwaith o’r fath. Roedd hefyd wedi bod yn aelod o sawl côr dros y blynyddoedd ac mae nifer yn y gynulleidfa yn cofio cael hwyl yn y car ar y ffordd i’r ymarferion. A’r picnics! Rhwng ymarfer pnawn a chyngerdd nos Dyfrdwy a Clwyd byddai’n rhaid cael picnic. I gyngherddau’r Faenol roedd rhaid cael cart bach i gario’r picnic ac mae yna stori am olwyn y cart yn dod i ffwrdd unwaith! Chwerthin wnâi Meinir, wrth gwrs. Roedd Theatr Ardudwy a’r Galeri yn fannau eraill y byddai
4
Meinir yn eu mynychu oherwydd ei hoffter o ddiwylliant yn gyffredinol. Roedd wrth ei bodd yng nghwmni pobol ac roedd cael ffrindiau da yn bwysig iddi. Dyna’r ffrindiau y mae Bethan a Geraint a Valmai yn ddiolchgar amdanynt heddiw; pobol fu’n driw i Meinir i’r diwedd. Cylch arall pwysig i Meinir oedd y capel, Caersalem Llanfair. Nid dim ond “meddwl o’r lle” mewn ystyr sentimental wnâi Meinir. Roedd yn gweithio’n ddygn i gynnal yr achos. Dwi’n cofio mynd i’w gweld unwaith i Ysbyty Alltwen a dyna lle’r oedd y ffeil hefo enwau pregethwyr a rhifau ffôn a Suliau angen eu llenwi! Roedd y gofalu yn ormodol ar adegau, gymaint oedd ei chonsyrn. Gwerthfawrogodd yr aelodau ddaeth o Gapel Bethel y croeso gawson nhw wrth fynychu Caersalem. Roedd bob amser yn gwisgo’n smart ac yn ffasiynol. Roedd yn hoff o ddillad. Fel roedd ei hiechyd yn dirywio, roedd yr ymdrech yn mynd yn fwy ond daliodd ati i’r diwedd. Mae’r cynulliad bach o bobol yng Nghaersalem yn ddiolchgar am ei chyfeillgarwch a’i charedigrwydd ac mae’r teulu’n ddiolchgar iddynt hwythau am eu gofal ffyddlon dros Meinir. Y tro cyntaf i mi fynd i Gaersalem ges i “row”! Bum mor hyf a dweud fod y pulpud braidd yn gul i mi, a Meinir yn fy ateb yn syth - “ Peidiwch chi a dweud dim byd am fy nghapel i!”. Gwn am bregethwr arall nid anenwog na chafodd wahoddiad yn ôl yno ar ôl gwneud sylw tebyg! Byddai achlysuron fel Oedfa Diolchgarwch neu Nadolig yn gyfle iddi addurno’r capel ac roedd yn gwneud hynny hefo arddeliad bob amser. Roedd yn nabod y rhan fwyaf os nad pawb o Weinidogion y Bedyddwyr a byddai wrth ei bodd yn trefnu i rai ddod o’r de i bregethu ac roedd cael te ar ei haelwyd yn rhan o’r achlysur. Ei theulu oedd ei choron - Bethan a Geraint a’u teuluoedd hwythau a Valmai. Roedd yn fam garedig iawn ac yn casáu meddwl y byddai neb o’i theulu yn cael cam - yn arbennig Rhodri, Elain a Glesni. Roedd yn nain falch iawn ohonoch chi. Mae gennych chithau atgofion melys iawn hefyd amdani hi yn chwarae hefo chi pan oeddech chi ’n iau ac roedd yn cymryd diddordeb byw ym mhopeth yr oeddech chi ’n ei wneud. Mae ei chartref yn llawn o luniau ohonoch. Mae Bethan a Geraint yn dweud fod yr wyrion yn cael llawer mwy o ryddid ac yn cael gwneud pethau na fasan nhw byth wedi cael eu gwneud pan oedden nhw yn blant.
CYNGOR CYMUNED LLANFAIR
Gwefan y Cyngor Adroddodd y Clerc bod y wefan uchod, sy’n cael ei gweithredu gan Gyngor Cymuned Harlech, yn barod rŵan a’u bod yn gofyn a fyddai hi’n bosib anfon cofnodion o gyfarfodydd y Cyngor hwn iddynt er mwyn eu gosod ar y wefan oherwydd bod y Cyngor hwn wedi cytuno i rannu gwefan gyda Chyngor Cymuned Harlech. Trwydded Eiddo Caffi’r Maes, Llandanwg Adroddwyd bod yr is-bwyllgor trwyddedu wedi caniatau y drwydded uchod gydag amodau na fydd alcohol yn cael ei werthu i’w yfed oddi ar y safle, mai dim ond y tu mewn y bydd cerddoriaeth yn cael ei chwarae ac y bydd yn rhaid i’r perchennog ddarparu toiledau addas ar gyfer cwsmeriaid. Unrhyw Fater Arall Adroddodd Mair Thomas bod pwyllgor y neuadd wedi penderfynu bod angen ramp ger y drws a bod trefniadau i gael hwn mewn llaw, hefyd cafwyd gwybod bod un o’r biniau brown wedi diflannu o gefn y neuadd a bod aelod o’r pwyllgor yn delio gyda’r mater yma. Eisiau gofyn a oes posib peintio’r gair ‘ARAF’ yn ôl ar y ffordd ger Ty’n y Maes, Llandanwg yn dilyn yr ailwynebu. Mae angen sylw ar hysbysfwrdd y pentref a’r un ger croesffordd Caersalem a chytunwyd i roi’r mater ar agenda’r Cyngor at y cyfarfod nesaf. Mae angen torri’r llwybr cyhoeddus o’r ffordd fawr draw am stad Cae Garw, hefyd angen torri’r llwybr wrth yr arosfa yn Llandanwg. Datganwyd pryder bod cartrefi teithiol yn aros mewn cilfannau o amgylch yr ardal yn lle mynd i aros mewn safleoedd gwersylla. Roedd colli Ceri ac yna Steve mewn ffordd mor drychinebus yn ergyd fawr iddi ac i’r teulu i gyd ond roedd Meinir fel angor. Hi oedd yr un oedd yn cynnal pawb arall ac roedd ei chefnogaeth i chi yn y cyfnodau anodd yna yn rhywbeth i’w drysori. Mae’n iawn i ni gydnabod hefyd, heddiw, eich gofal a’ch cariad chi, Bethan a Geraint, at eich mam a hynny dros y blynyddoedd ond yn arbennig y blynyddoedd olaf yma. A hefyd Valmai a fyddai’n ffonio Meinir yn ddyddiol o Lundain. Dwi’n gorffen hefo carol oherwydd roedd Meinir yn hoff o’r carolau ac yn methu deall pam nad ydym yn eu canu drwy’r flwyddyn! Roedd yn fraint cael ei hadnabod ac roedd ganddi ffraethineb gwreiddiol a deifiol hefyd ar brydiau ac mae bwlch enfawr ar ei hôl yn arbennig i chi fel teulu. Yn wyneb profedigaethau bywyd mae Efengyl Iesu Grist yn gysur ac yn cynnig gobaith i ni. Dyma’r garol - “ Wele cawsom y Meseia, Cyfaill gwerthfawroca’ ‘rioed, Darfu’i Moses a’r proffwydi ddweud amdano cyn ei ddod, Iesu yw Gwir Fab Duw, Ffrind a Phrynwr dynol ryw. Neges fawr yr Efengyl yw fod Iesu Grist wedi gorffen ei waith - byw a marw drosom ac yna atgyfodi. Nid un ymdrech fawr ydi bywyd y Cristion ond credu, gorffwys, ymddiried yn y Gwaredwr hwn sydd yn gallu ein cynnal mewn adegau anodd a thywyll. Boed i ni i gyd wybod am y gras yna. DTL
Diolch Dymuna Bethan, Geraint a’r teulu ddiolch o galon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli Meinir. Diolch yn arbennig i’r Parch Dewi Tudur Lewis am arwain y gwasanaethau, i’r Parch Tecwyn Ifan am ei gyfraniad yn yr amlosgfa, i Mr Edward Owen am ganu’r organ ac i gwmni Pritchard a Griffiths am eu trefniadau trylwyr. Rhodd £10 Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â Bethan, Huw, Geraint, Linda, Rhodri, Elain, Glesni, a Valmai, chwaer Meinir a’r teulu yn eu profedigaeth.
Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â Bethan, Ifanwy ac Anest yn eu profedigaeth o golli eu tad, Gruff Thomas, Y Berth. Roedd yn ddyn poblogaidd a chymwynasgar ac yn annwyl yng ngolwg pawb.
Merched y Wawr Neuadd Goffa, Llanfair Pnawn Gwener, Medi 7 2.30 - 4.00
TE CYMREIG
a stondinau amrywiol £2.50 Croeso cynnes i bawb!
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL PRIODAS
Hoffai Gwyn Llewelyn (mab Wil a Non Hughes o Dolifan, Llanllyfni) a Sioned Wyn, (merch Euron a Mair Richards o Ffynnon Mair, Llanbedr) ddiolch i bawb am eu caredigrwydd ar achlysur eu priodas ddydd Sadwrn, Gorffennaf 28. Cynhaliwyd y seremoni ym Machwen, Clynnog-Fawr ac yna dathliad yn eu cartref yn Nolifan. Diolch o galon i bawb am yr holl negeseuon, y cardiau a’r anrhegion. Rhodd £10 Marwolaeth Ddiwedd Mehefin daeth y newydd trist i’r ardal am farwolaeth Miss Olwen Williams, Gwerncymerau gynt yn Ysbyty Gwynedd. Symudodd Olwen o’r ardal yn 1979, a threuliodd amser mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru. Cofiwn amdani fel cymeriad hwyliog, siaradus â gwên ddireidus ar y wyneb bob amser. Roedd yn unig ferch i John a Janet Williams. Wedi cyfnod o weithio yng Nghaffi Luned yn Llanbedr a chyfnod yn Siop Fferyllydd D T Morgan yn y Bermo, treuliodd weddill ei hamser yn danfon y post yn ardal Pensarn a Chwm Uwchlawrcoed. Bu’r gwasanaeth angladdol ar y 4ydd o Orffennaf yng Nghapel Horeb, Dyffryn dan ofal y Parch R O Jones, Gaerwen, Ynys Môn. Claddwyd ei gweddillion ym mynwent y plwyf. Yn y gwasanaeth, darllenwyd penillion gan Morris Evans, Pentrefelin; un a oedd yn cydoesi â hi.
Cyhoeddiadau’r Sul i gyd am 2.00 o’r gloch
MEDI 9 Capel y Ddôl, Iona Anderson 16 Capel y Ddôl, Elfed Lewis 23 Capel Nantcol, Aled Lewis Evans 30 Capel y Ddôl, Eirwen Evans HYDREF 7 Capel y Ddôl, Eleri Owen Jones
I GOFIO OLWEN Un arall o hen blant y Gwynfryn A alwyd, a thrist yw ein cri. Un addfwyn a gwylaidd ei natur, Un felly oedd Olwen i ni. Ei chofio yn Werncymerau ‘N ein cyfarch bob amser â gwên, Ac yn ôl y dwed ei chydnabod Parodd felly fel ’relai yn hen. ’N anffodus fe gollais gyfathrach Ag Olwen, ac mae amser maith Er gynt pryd y treuliem ni amser Â’n gilydd ar ddechrau y daith. Ar bwys ’rhen Bont Beser c’farfyddem Yn bwyllgor o bum, chwech neu well, Cael hwyl a oedd eitha diniwed Ond clywech y chwerthin o bell. Perthynas yn wir nid oedd ganddi A hynny fu’n ddolur go iawn, Mae’n siŵr wir fe fyddai perthynas Yn gwneuthur ei bywyd yn llawn. Ni chredaf i Olwen ’rioed boeni Am gyfoeth ni faliodd, ond llon A phwysig oedd estyn cymwynas I gyfaill neu estron i hon. Fe dreuliodd ran helaeth o’i bywyd Yng nghartrefi gofal y wlad ’N ei gofal, ac hefyd roi cymorth I’r rhai nad oedd cystal eu stâd. Mae heddiw wrth ddrws ei hirgartref A bydd wir yn syndod i mi, Os na fydd ‘no sedd wedi’i chadw Yn barod i roi’n Holwen ni. ME
Micky Thomas Ganwyd Micky yn Artro Cottage ym Mhentref Gwynfryn yn 1943, yr ieuangaf o blant y diweddar Sarah Jane ac Owen Gwynfryn Thomas. Bu farw Owen Thomas, tad Micky, mewn damwain ffordd pan nad oedd Micky ond 14 mlwydd oed ac mi ddaeth lle Micky fel brawd bach annwyl Lorraine, Gwenda a’r diweddar Barbara ac fel cannwyll llygad ei fam yn bwysicach fyth yn y teulu wedyn. Roedd Micky yn boblogaidd gyda’i gyfoedion yn Llanbedr gyda nifer o ffrindiau arbennig gydol oes o’r amser yma. Mi wnaeth yn dda yn yr Ysgol Ardudwy newydd a threfnwyd nifer o gyfleoedd iddo gael gweithio i ffwrdd ond nid oedd am adael eu mam ar ei phen ei hun. Parhaodd i weithio yn y Fic am gyfnod ar ôl gadael ysgol. Wedyn aeth i weithio gyda’i ewythr Hugh Thomas yng nghwmni Thomas & Smith Bermo ac mi weithiodd Micky fel adeiladwr bron gydol ei oes. Gweithiodd wedyn mewn partneriaeth gyda John Berridge cyn dod i weithio i Ian Morris, Artro Properties. Symudodd i fyw i’r Bermo yn y saithdegau ar ôl cyfarfod a phriodi Angie ac mi ddaeth yn llys-dad balch i Debbie a Donna. Mae gan y ddwy ferch atgofion melys o fynd am dro gydag ef i fyny at y copa jest tu ôl Bermo er mwyn edrych i lawr ar y dref ac am dripiau yn y car i Gwm Bychan a Chwm Nantcol. Roedd gan Micky wên barod bob amser ac roedd wrth ei fodd yn dilyn bob math o chwaraeon, naill ai ar y teledu neu yn fyw mewn gwahanol leoliadau o gwmpas gwledydd Prydain a’r byd. Roedd gan Mick sgwrs barod a ddifyr efo pawb ac mi roedd wrth ei fodd yng nghwmni ei ffrindiau o gwmpas Bermo. Roedd hefyd yn gymeriad amlwg yn rhai o dafarndai’r dref. Mi fydd hiraeth mawr am Micky ymysg ei ffrindiau a’i deulu ond roedd dathlu ei fywyd yn y Last Inn ar ôl y cynhebrwng yn llawn hwyl a rhywbeth i ychwanegu at atgofion melys ei ffrindiau amdano. Casglwyd £690 ar ran Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru er cof am Micky.
Diolch Dymuna Debbie Saddington, Donna Thomas, Lorraine Coe a Gwenda Titley a’u teuluoedd diolch o galon am y cardiau, cydymdeimlad a charedigrwydd a dderbyniwyd ar ôl marwolaeth Michael David Thomas. Hoffent ddiolch i bawb a fu’n ymweld â Micky yn yr ysbytai yn ystod ei salwch. Diolch hefyd i; Alma Griffiths y Gweinydd Teulu am arwain y gwasanaeth coffa, Dilwyn Rees yr ymgymerwr am y trefniadau gofalus, Greg Courtney ac Ashley Harris am roi teyrnged arbennig iddo ac i’r Last Inn am y lletygarwch arbennig ar ôl y cynhebrwng Rhodd £10 gan y teulu Ymweld â Sweden Llongyfarchiadau i Elin Haf, Pensarn, sydd wedi cael ei dewis i gynrychioli’r ATC drwy Brydain, yr unig un o Gymru, ar ymweliad cyfnewid arbennig â Sweden o 21-29ain o Awst. Hefyd, cafodd ei dewis i fod yn gadet i bennaeth yr orsaf yn RAF Fali am y flwyddyn. Profiad anhygoel arall iddi; da iawn. Llongyfarchiadau. Llongyfarch Llongyfarchiadau i holl bobl ifanc Llanbedr ar eu llwyddiant. Mae Jamie Wynne wedi pasio lefel 2 weldio a pheirianneg. Mae Jessica Williams yn mynd ymlaen i Abertawe, Shona Mckeown i Gaerdydd a Nathan Jones i Fangor. Dymuniadau gorau iddynt. Llongyfarchiadau i Sam Wynne ar ei radd mewn Gwyddoniaeth Chwaraeon o Brifysgol Bangor. Pob lwc iddo yn ei swydd newydd fel ffisiotherapydd cynorthwyol yn Ysbyty Eryri. Pen-blwydd Dymunwn yn dda i Elinor Evans, Moelfre, ar ei phen-blwydd yn 90 oed ar y 1af o Hydref. Gobeithio y caiff ddiwrnod wrth ei bodd. Graddio Llongyfarchiadau i Emma Richards, Cwm-yr-afon, ar ennill gradd BSc anrhydedd mewn Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Teulu Artro Cawsom fwyd blasus a chyngerdd arbennig gan Gwynne Pierce gyda’i gitâr yn canu hen alawon inni cyn torri dros wyliau’r haf. Diolch o galon i Jane a’i chriw gweithgar am y wledd. Byddwn yn cyfarfod eto ddydd Iau, Medi 13. Babi newydd Llongyfarchiadau a chroeso mawr i Evan Llewelyn Gwyrth, mab i Gwynfor a Catrin Edwards, brawd bach i Gruffudd ac ŵyr newydd i Nain Plas Caermeddyg.
5
ARDDANGOSFA FFOTOGRAFFIAETH
Mari yn Sioe Sir Meirion o flaen y gwaith Yn ystod dau ddiwrnod ym mis Gorffennaf cafwyd arddangosfa o ffotograffiaeth gan Mari Wyn, Tyddyn Hendre, Cwm Nantcol. Lluniau o waith terfynol cwrs Ffotograffiaeth BA yng Ngholeg Caer oedd y rhain, a’r testun oedd 3400 o aceri, yn dangos y cyswllt rhwng ffermwyr y Cwm a’u tirwedd. Bu i’r arddangosfa fod yn llwyddiant, gyda phrysurdeb yng nghanolfan Nantcol dros y ddau ddiwrnod. Hefyd agorwyd y drysau ar sawl noswaith arall i roi cyfle i unigolion weld y gwaith. Dangoswyd rhai lluniau o’r arddangosfa hefyd yn stondin yr NFU yn Sioe Sir Feirionnydd ar ddydd Mercher, 22 Awst. Hoffai Mari ddiolch o galon am bob cefnogaeth a gafwyd. Gobeithio i bawb fwynhau’r gwaith. Meddai Mari, ‘mae byw mewn tref am dair blynedd wedi gwneud i mi werthfawrogi lle rwyf yn byw a’r bobl sydd o’m hamgylch. Stori yw’r prosiect yma, yn adrodd hanes bywyd ffarmio yng Nghwm Nantcol, Llanbedr. Mae yma 5 ffarm gyda chyfanswm o 3400 o aceri sydd yn rhoi y teitl i mi. Fan hyn, cewch weld lluniau rhai o’r ffermwyr yn eu tirlun. Y prif reswm dros wneud y prosiect yma oedd i ddangos nad swydd yw ffarmio, ond ffordd o fyw. Fi yw’r pedwerydd cenhedlaeth ar ein ffarm ni ac yn anffodus nid oes gennyf ddigon o ddiddordeb mewn ffarmio felly rydwyf yn teimlo ei bod hi’n ddyletswydd arna’i i gofnodi y ffordd yma o fyw ac i ddangos gwahanol genhedlaeth trwy fy mhrosiect gan bod hyn yn rhoi syniad beth yw’r dyfodol i rai o’r ffermydd hyn. Mae un llun yn dangos y Cwm a’i dirwedd, gyda’r Rhinogydd yn y cefndir. Mae’r lluniau eraill yn dangos y cymeriadau cryf sydd yn gweithio ar y tir a gyda’u hanifeiliaid . Chris Clunn yw’r ffotgraffydd sydd wedi fy ysbrydoli fwyaf gan ei fod wedi creu prosiect gyda FUW yn cofnodi ffermwyr Meirionnydd rhwng 2008 a 2012.’ Mari, Tyddyn Hendre, Cwm Nantcol
CYFARFOD BLYNYDDOL LLAIS ARDUDWY Nos Wener, Medi 28 am 5.30 yn Ystafell y Band, Harlech Croeso cynnes i bawb! 6
CYNGOR CYMUNED HARLECH Goleuadau fflachio ar Ffordd y Morfa Amcangyfrif y gost yw £6,000 - cost archebu £3,500, cost tyllu, bocs ffiws a gosod cebl trydan o’r polyn lamp agosaf i’r arwydd yn £1,000, cost o archebu a gosod postyn £500, cost o osod a chomisiynu’r arwydd £500, cost rheolaeth drafnidiaeth am y gwaith £500, a bod y costau hyn yn dibynnu ar leoliad yr arwydd, y maint a’r math. Cae Chwarae Brenin Siôr Cafwyd neges gan Academi Pêl-droed Porthmadog yn gofyn a fyddai hi’n bosib iddyn nhw ddefnyddio’r cae pêl-droed ar fore/prynhawn Sul, hefyd yn datgan y byddant yn helpu gyda chynnal a chadw’r cae pêldroed. Cytunwyd yn unfrydol iddyn nhw gael defnyddio’r cae pêl-droed ond bod angen nodi nad oes lle newid ar y cae, felly byddai’n well iddynt gysylltu gyda’r pwll nofio ynglŷn â hyn i weld a fyddai hi’n bosib iddynt ddefnyddio’r ystafelloedd newid a chawodydd ar y safle hwnnw. Clwb Beicio Cafwyd neges gan y Grŵp Parciau Cymunedol yn datgan siom nad oedd y Cyngor wedi cysylltu â nhw ynglŷn â’r cynlluniau gan y Clwb Beicio i gael trac seiclo yn y cae a datganwyd gan yr aelodau eu bod yn teimlo nad oedd rhaid iddynt gysylltu gyda’r Grŵp yma. Hefyd adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi derbyn copi o e-bost oddi wrth Gwen Evans, y Swyddog Adfywio lleol, yr oedd wedi ei anfon i’r Cadeirydd ynglŷn â’r trac seiclo yn datgan y bydd yn rhaid edrych i mewn i weld a fydd angen caniatâd cynllunio am y project yma ac yn ddelfrydol dylai’r Cyngor Cymuned gysylltu gyda’r Parc am gymorth a gofyn a fyddai trac o’r fath yn dod o dan ddatblygiad caniataol, hynny ydy na fyddai angen caniatâd cynllunio o dan Ddosbarth A, Rhan 12 o’r Ddeddf Cynllunio Tref a Chymuned 1995. Materion Cyngor Gwynedd Adroddodd Freya Bentham ei bod wedi cysylltu â’r adran llwybrau a bod y llwybr dros y rheilffordd lawr llwybr y Nant yn ffordd ddi-ddosbarth ai fod wedi ei basio ymlaen i’r Adran Briffyrdd ac y bydd yn gwneud mwy o ymholiadau ynglŷn â hyn yn y dyfodol. Hefyd nododd ei bod wedi cael gwybod bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi clirio peth o’r tywod o’r llwybr i lawr am y traeth ond oherwydd y tywydd poeth eu bod wedi gorfod rhoi’r gorau i hyn. Unrhyw Fater Arall Cafwyd gwybod bod cwynion wedi eu derbyn bod canon wedi ei saethu o’r Castell heb i neb wybod; hefyd, cafwyd gwybod y bydd digwyddiad arall o’r fath yn digwydd yn fuan ond bydd hwn y tu mewn i’r Castell. Cytunwyd yn unfrydol i anfon llythyr i aelodau Gwasanaeth Tân Harlech i ddiolch iddyn nhw am yr holl waith maen nhw wedi ei wneud yn
ENWI TRÊN
‘DWI’N COFIO’ Oherwydd bod y rhifyn hwn yn orlawn, nid ydym wedi cynnwys y golofn ‘Dwi’n Cofio’. Er hynny, y mae honno hefyd yn gwahodd eich cyfraniadau! Ymddiheuriadau hefyd am fethu cynnwys ambell i gyfraniad arall y tro hwn. Yn anffodus, roedd sawl coffâd i’w cynnwys ac roedd rhaid blaenoriaethu.
Mary Roberts a John Wynne yn dadorchuddio’r enw ar y trên
Cafodd John Wynne, Glyn Artro, Llanbedr ei wahodd i seremoni enwi trên yn Sir Fôn yn ddiweddar i ddathlu canmlwyddiant yr RAF. Gwahoddwyd Mary Roberts i’r seremoni hefyd - mae hi yn 100 oed. Bu’n gweithio fel nyrs ym Mhenrhos, Pwllheli. Bu John Wynne yn hyfforddi peilotiaid a bu’n hedfan awyrennau Wellington, Mosquito a Valiant. Bu hefyd yn aelod allweddol o’r grŵp gefeillio â Huchenfeld yn yr Almaen.
YSGOL ARDUDWY Croeso’n Ôl Yn dilyn y difrod mawr ddechrau Mawrth, mae’r ysgol yn falch y bydd pawb yn gallu dychwelyd i’r safle ar ddechrau Tymor yr Hydref a bod yr holl ystafelloedd dysgu ar gael. Ni fydd y gwaith atgyweirio wedi ei orffen yn gyfan gwbl hyd diwedd mis Hydref ond ni fydd y gwaith sydd ar ôl yn amharu ar rediad yr ysgol yn y cyfnod hwn. Hoffai’r Prifathro ddiolch i bawb, staff, disgyblion a rhieni am eu hamynedd a’u cydweithrediad yn ystod y cyfnod anodd a heriol hwn. Mae’n braf gallu dod yn ôl i normalrwydd unwaith eto!
Seremoni Cofnodi Cyrhaeddiad Daeth llawer o rieni a chyfeillion disgyblion B11 ynghyd ar eu diwrnod olaf arferol yn yr ysgol i’r Seremoni Cyflwyno Ffeiliau Cynnydd ac roedd y Neuadd yn gyfforddus lawn. Cyflwynwyd y Ffeiliau eleni gan y cyn Ddirprwy, Gwyn Meirion Jones. Roedd disgyblion B11 wedi trefnu nifer o eitemau o adloniant yn ystod y seremoni. Cyflwynwyd Gwobr Goffa Elfed Evans eleni i Ben Davies, y Wobr Ddyfalbarhad i Jordan Williams a’r Wobr Gelf i goffáu Colin Palmer i Jessica Cunnington-Holmes.
Wythnos Weithgareddau Cafwyd Wythnos Weithgareddau lwyddiannus unwaith eto eleni. Cafwyd ymateb rhagorol gan y disgyblion. Roedd disgyblion B7 yn datblygu syniadau Cwricwlwm Newydd Donaldson yn seiliedig ar ymwybyddiaeth am broblemau gwastraff plastigion. Roedd ymweliad â’r traeth yn rhan o’r rhaglen a bu’r disgyblion yn creu gwaith celf amrywiol ar eu darganfyddiadau. Aeth dros 80% o ddisgyblion B8 ar ymweliad â Ffrainc am dridiau a chafwyd amser ardderchog. Bu disgyblion B9 yn gwneud gwaith cymunedol am ddau ddiwrnod mewn sawl ardal yn y dalgylch yn cynorthwo’r Cynghorau Cymuned gyda gwaith peintio a chynnal a chadw, a Chyfeillion Ellis Wynne yn Y Lasynys Fawr. Roedd yn braf gweld bod pob un o’r cynghorau wedi ymateb i’r cais ac wedi trefnu rhaglen lawn ym mhob rhan o’r dalgylch. Fel gwerthfawrogiad o’u gwaith buont ar ymweliad diwrnod â Chanolfan Parc Glasfryn yn Y Ffôr. Bu disgyblion B10 ar wythnos o brofiad gwaith mewn lleoliadau ar draws y dalgylch a thu hwnt.
Canlyniadau TGAU Haf 2018 Mae’r ysgol yn falch bod y disgyblion wedi gwneud yn dda eleni er gwaetha’r problemau a wynebwyd yn dilyn difrod storm ddifrifol i doeau’r ysgol ym mis Mawrth. Roedd yn rhaid i’r disgyblion a’r staff ymdopi gydag aflonyddwch i’r addysg ar adeg hollbwysig ychydig wythnosau cyn eu harholiadau TGAU. Roedd rhaid addysgu’r disgyblion mewn canolfannau eraill y tu allan i’r ysgol a chynnal gwersi ychwanegol ôl-ysgol i adennill yr amser dysgu a gollwyd yn ystod y cyfnod argyfwng. Roedd ymroddiad y disgyblion a’r staff yn sicr yn cael ei adlewyrchu yn y canlyniadau cadarnhaol a gyflawnwyd. Dyma rai o’r disgyblion a dderbyniodd ganlyniadau da iawn: Lowri Llwyd 2A* 4A 5B Angharad Lloyd Jones 6A 6B Gweno Lloyd 4A 6B 2C Mia Hughes 1A* 2A 7B 2C
Prom Blwyddyn 11 Cynhaliwyd y Prom eleni yng Nghors y Gedol, Dyffryn Ardudwy ar 27 Mehefin. Roedd y noson yn llwyddiannus iawn ac agwedd ac ymddygiad y disgyblion yn wych. Roedd pawb yn edrych yn smart yn eu dillad gorau!
7
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT
CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y BONT
Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau i Helen Vernon, Pennaeth Ysgol Gymunedol Bodnant a ddewiswyd yn Bennaeth y Flwyddyn 2018 gan y Daily Post. Mae Helen yn ferch i Meurig (Ty’n Wern) a Valmai Jones, Prestatyn. Genedigaeth Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Llion, mab Huw a Rhian Dafydd, a Manon ar enedigaeth merch fach, Fflur, chwaer fach i Nedw. Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau hefyd i Clive a Laura, wyres Mrs Ann Eurwen Price ar enedigaeth mab bach, Oscar, brawd bach i Harry a Jake. Cofion Anfonwn ein cofion a’n dymuniadau gorau at Mr Arthur Jones, Isgoed sydd erbyn hyn yn Hafod Mawddach. Hefyd at Mrs Enid Thomas, Borth Wen a fu yn Hafod Mawddach am rai wythnosau ar ôl cael damwain a thorri ei braich, ond sydd adre erbyn hyn. Hefyd at Mr Harri Jones, Ty’n Wern gynt, a fu yn Ysbyty Gwynedd ond adre erbyn hyn ac yn gwella. A hefyd at Mrs Beti Parry, Uwch y Nant, a Mrs Eurwen Evans, Llwyn y Môr (Morfa Mawr, gynt) sydd heb fod yn rhy dda’n ddiweddar. Dyweddïad Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Twm, mab Dei ac Alma Griffiths, Bryn Coch a Lisa ar eu dyweddïad a hynny ar ben y Moelfre. Diolch Hoffwn ddiolch i bawb a’m cefnogodd yn yr etholiad ym mis Gorffennaf. Diolch hefyd am y blodau hardd a dderbyniais. Diolch yn fawr, Dilys Roberts. Rhodd £10 Teulu Ardudwy Byddwn yn ail gychwyn yn y Neuadd Bentref am 2 o’r gloch, dydd Mercher, 19 Medi, pan fyddwn yn cael cwmni John Blake. Croeso i aelodau hen a newydd.
8
Llongyfarchiadau a phob lwc i Kerry Roberts, merch Dafydd a Bethan, Bro Arthur ar ei llwyddiant yn graddio o Brifysgol Salford, Manceinion. Mae hefyd wedi graddio i fod yn swyddog carchar ym Manceinion. Rhodd: £5 Festri Lawen, Horeb Bydd y Festri Lawen yn ail gychwyn am 7.30 nos Iau, 11 Hydref pan fyddwn yn croesawu Côr Ysbyty Ifan. Croeso i aelodau hen a newydd. Llongyfarch Llongyfarchiadau a chroeso mawr i Evan Llewelyn Gwyrth, mab i Gwynfor a Catrin Edwards, brawd bach i Gruffudd ac ŵyr newydd i Taid a Nain, Parc Isaf. Taith Capel Horeb Dydd Sul, 1 Gorffennaf, aethom ni ar daith i Lŷn gan ymuno yng ngwasanaeth y Maer, yng Nghapel Penlan, Pwllheli. Yn dilyn paned a sgwrs yn y festri aethom ymlaen i Dafarn Glyny-Weddw am ginio. Ymlaen wedyn i Langybi i ymweld â Ffynnon Cybi ac yna gorffen y diwrnod yng Nglasfryn i fowlio deg. Roedd yn ddiwrnod braf a phawb wedi mwynhau. Diolch yn fawr i Alma a Rhian am drefnu’r daith. Cydymdeimlad Cydymdeimlwn â Dei a Jane Corps, Bryn Ifor yn eu profedigaeth o golli mam Dei, Mrs Betty Corps, Llanaber. Cydymdeimlwn hefyd ag Emlyn ac Anthia Owens, Drws y Nant hefyd yn eu profedigaeth o golli chwaer Emlyn.
Ceisiadau Cynllunio Ymestyn ffenestr dormer bresennol, tynnu dau simdde a gosod cladin allanol - Awelfryn, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Adeiladu estyniad cefn ac ochr unllawr ac adeiladu ports ar y blaen Dolafon, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Newid defnydd y maes gwersylla presennol o 30 pabell i 15 pabell a chae chwarae i blant yn cynnwys gosod offer chwarae - Maes Carafanau Islawrffordd, Tal-y-bont. Cefnogi’r cais hwn. Datblygu Maes Parcio Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan Mr Geraint Lewis ynglŷn â’r mater uchod yn datgan bod y cais cynllunio wedi ei wrthod gan Swyddog o’r Parc Cenedlaethol heb gynnal trafodaeth na chysylltu gydag ef ynglŷn â’r cais. Hefyd datganodd bod gan y Cyngor ddau opsiwn rŵan sef ail gyflwyno’r cais a chael Aelod o Awdurdod y Parc Cenedlaethol i’w alw i mewn neu mynd a’r cais am apêl. Cytunwyd i ofyn i Mr Lewis ail gyflwyno’r cais ar ran y Cyngor. Y Cae Pêl-droed Adroddwyd bod gwybodaeth wedi ei derbyn gan CCG nad oedd prydles gyda’r Cyngor na’r un sefydliad arall yn y pentref i ddefnyddio’r cae uchod. Adroddwyd ymhellach ei bod hi’n hanfodol bod prydles yn cael ei llunio efo CCG cyn gynted â phosib am £52 y flwyddyn fel a drafodwyd rhwng Mr Michael Evans o CCG a’r Cyng Eryl Jones Williams a bod hon yn brydles tir agored am 5 mlynedd; ond byddai Aelodau’r Cyngor yn falch pe bai rhai amodau yn cael eu rhoi ynddi ee cadw’r hawl i gael mynediad i’r cae pa bai’r cae gyferbyn â’r cae pêl-droed yn cael ei werthu. Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru Yn ystod yr haf trefnodd Rhian Davenport noson o gerddoriaeth yn y Neuadd Bentref. Cafwyd noson lwyddiannus iawn gan godi £660 ac fe gafwyd £660 gan Fanc Barclays o dan y cynllun punt am bunt. Mae Rhian wedi bod yn brysur iawn yn codi arian gan gynnal stondin yn y Bermo bob dydd Iau, mynd i sioeau ac i ffeiriau crefftau a sawl gweithgaredd arall gyda’i stondin ac mae hi hefyd wedi derbyn llawer o gyfraniadau at yr achos teilwng hwn. Ers dechrau 2018 mae Rhian a Rona ac Eifiona sy’n ei helpu wedi codi £12,400 at yr Ambiwlans Awyr, swm anrhydeddus iawn ac rydym fel ardal yn gwerthfawrogi eu hymroddiad a’u gwaith diflino yn fawr iawn, ac mae hwythau hefyd yn ddiolchgar iawn am bob cyfraniad.
Clwb Cinio Bydd y Clwb Cinio yn cyfarfod yn Nineteen 57 ddydd Mercher, 12 Medi, am 12 o’r gloch. Croeso i unrhyw un ymuno â ni i wledda a sgwrsio.
Clwb Gwau Bydd y Clwb Gwau yn cyfarfod yn Festri Horeb, ddydd Mawrth, 18 Medi am 2 o’r gloch. Croeso
i unrhyw un ymuno â ni.
RHAGOR O DYFFRYN A THAL-Y-BONT CYNGERDD TRI CHÔR
Dyma’r criw sy’n cyfarfod bob pythefnos ar ddydd Llun yn Neuadd yr Eglwys, Dyffryn i wneud bob math o wnio, sgwrsio a chael hwyl. Dyma nhw wedi mwynhau te prynhawn yng Ngwesty Penmaenuchaf yn ystod gwyliau’r haf. Oriel Gelf a diwylliant Ar 30 Awst agorir Oriel Gelf yn Nhŷ Meirion, Dyffryn (gyferbyn â Huws Gray) gydag arddangosfa “Tiroedd Gwyllt” gan Peter Hedd Williams, o 30 Awst i 23 Medi. Gwaith celf i’w brynu.
Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb MEDI 9 - Parch Dewi Morris, 5.30 16 - Elfed Lewis, 10.00 23 – Aled Lewis Evans, 10.00 30 – Parch Bryn Williams, 5.30 HYDREF 7 – Parch Christopher Prew, 5.30
Rhian Davenport yn derbyn siec ar ran yr Ambiwlans Awyr gan Susanne Davies a Gwen Edwards o Cana-mi-gei Cynhaliwyd cyngerdd llwyddiannus yn Neuadd Dyffryn ym mis Mehefin yng nghwmni tri chôr, sef Côr Meibion Dwyfor, Côr Meibion Ardudwy a chôr Merched Cana-mi-gei. Casglwyd £520 tuag at gronfa’r Ambiwlans Awyr yn ystod y noson. Diolch yn fawr iawn i bawb am eu cefnogaeth. Wyres Llongyfarchiadau i Nain sef Gillian [Gwelfor, Tal-y-bont gynt] ar enedigaeth wyres - Elsie Matilda, merch i Laura. Mae Gillian a’r teulu yn byw yn Awstralia.
Dyma blant Ysgol Sul Horeb ar ddiwedd eu trip. Yn y llun gwelir Casi, Elgan, Mared, Ieuan a Rhys
Plant Ysgol Sul Horeb yn rhoi eu traed yn Ffynnon Cybi ar eu trip
DYDDIADUR Y MIS Awst 30 i Medi 23 Oriel Gelf, Tŷ Meirion, Dyffryn Ardudwy Medi 6 Arddangosfa Sefydliad y Merched Theatr y Ddraig, Bermo, 10.30 - 12.30 Medi 7 Te Cymreig, Neuadd Goffa , Llanfair, 2.30 - 4.00 Medi 13 Teulu Artro, Gwesty Victoria, Llanbedr, 2.00 - 4.00 Medi 19 Teulu Ardudwy, Neuadd Bentref, Dyffryn Ardudwy, 2.00 - 4.00 Medi 21 a 22 Gŵyl Gwrw, Tŷ Mawr, Llanbedr Medi 28 Cyfarfod Blynyddol Llais Ardudwy, Ystafell y Band, 5.30 Medi 29 Trio gydag Annette Bryn Parri, Neuadd Talsarnau Hydref 3 Cymdeithas Gymraeg Bermo, Theatr y Ddraig, Bermo, 7.30 Hydref 7 Gwasanaeth Diolchgarwch, Eglwys Llandecwyn, 3.00 Hydref 9 Agoriad Swyddogol Llif Oleuadau Clwb Pêl-droed Bermo a Dyffryn Hydref 11 Côr Ysbyty Ifan, Festri Capel Horeb, Dyffryn Ardudwy, 7.30 Anfonwch unrhyw fanylion ar gyfer y dyddiadur yn syth at Mai Roberts os gwelwch yn dda. Rhif ffôn: 01341 242744 e-bost: mairoberts4@btinternet.com
9
Y BERMO A LLANABER Sefydliad y Merched Y siaradwr gwadd yn ein cyfarfod diwethaf oedd Dianna Treganza, aelod o Warchodwyr y Glannau. Mae hi, ynghyd â Tina Triggs a Sarah Tibbetts, wedi’u hyfforddi gan Brifysgol Bangor i gofnodi llygredd ar y glannau a threfnu grwpiau glanhau’r traethau. Mae’r ffeithiau yn ddychrynllyd. Dim ond pymtheg y cant o wastraff sy’n cael ei olchi yn ôl i’r lan; mae’r gweddill yn y môr. Plastig yw’r llygredd gwaethaf. Mae’n cymryd 450 o flynyddoedd i botel blastig waredu ei hun. Dangosodd Dianna nifer o enghreifftiau o beth oedd yn edrych fel graen o dywod ond plastig oedd o mewn gwirionedd. Gwnaeth hyn i ni i gyd sylweddoli bod rhaid lleihau’r defnydd o blastig. Diolchwyd i Dianna am sgwrs hynod iawn gan Rose. Cystadleuaeth y mis oedd ‘Neges Mewn Potel’ a enillwyd gan Mary Smallwood. Pat Bunce, Karen Chapman a Jeanette Marsh oedd yng ngofal y te, a diolchwyd iddynt gan Jacqui. Enillodd Pat Bunce y raffl, a Rose Morris y blodau.
Gwamal Braidd
Gŵr a gyfrannodd lawer iawn i fywyd Cymru oedd E Tegla Davies (1880–1967) 6 Medi 10.30 - 12.30. neu Tegla fel y gelwid ef yn Theatr y Ddraig gyffredinol. Mae pawb dros Bydd Arddangosfa gan Sefydliad y Merched, Bermo. ryw oed wedi darllen ei lyfrau Lluniau, crefftau a henebion, i ddathlu eu canmlwyddiant eleni. plant, ‘Hunangofiant Tomi’, Mynediad am ddim a choffi. Croeso cynnes i bawb. ‘Nedw’ a ‘Rhys Llwyd y Lleuad’. Diolch Roeddent yn boblogaidd iawn Dymuna Ian, Dai, Delyth a’r teulu ddiolch o galon am y negeseuon, yn eu dydd ond, wrth gwrs, galwadau ffôn, cardiau a’r cyfraniadau a gafwyd tuag at y nyrsus erbyn heddiw maent yn hen cymunedol lleol a dderbyniwyd ar achlysur eu profedigaeth o ffasiwn iawn. golli mam, Betty Corps. Diolch i’r Parch Dorothi Evans am ei Mae ei nofel ‘Gŵr Pen y Bryn’ gwasanaeth a hefyd i’r Trefnwyr Angladdau, Pritchard a Griffiths am yn glasur ac yn haeddu ei eu gwasanaeth proffesiynol. darllen a’i hailddarllen, hyd yn Rhodd a diolch £10 oed y dyddiau hyn nid yn unig er ei mwyn ei hun ond hefyd gan ei bod yn gam pwysig yn natblygiad y nofel Gymraeg. Ond fy hoff lyfr o blith llyfrau Tegla yw ei hunangofiant, ‘Gyda`r Blynyddoedd’. Mae yn fy marn i yn un o hunangofiannau gorau’r iaith. Mae’r disgrifiadau sydd ynddo yn benigamp ac nid yw Tegla yn brin i ddatgan ei farn ar rai o safbwyntiau a phobl ei oes. Mae’r llyfr fel chwa o awel iach Llun: Rod Davies, Dolgellau trwy ambell ystafell fyglyd yn y byd llenyddol a’r byd crefyddol Clwb Pêl-droed Abermaw a Dyffryn yn hanner cyntaf yr ugeinfed Cyflwynwyd Cwpan Goffa John Morris i Paul Lewis, is-reolwr ganrif. cynorthwyol Clwb Pêl-droed Bermo a Dyffryn gan David James a Mae yna ambell i beth od Mai Roberts, perthnasau John Morris. Paul enillodd Chwaraewr y Flwyddyn 2017/18 ac ef oedd y capten ar y 4ydd o Awst. Mwynhawyd iawn yn y llyfr. Bu Tegla yn weinidog (Wesle) ym diwrnod braf yn gwylio’r tîm yn chwarae Llay Welfare, o ardal Wrecsam. Ar ôl gêm gyffrous a chyfartal cipiodd Llay Welfare y Mhorthaethwy pan oedd yn ŵr fuddugoliaeth gyda chiciau o’r smotyn. ifanc. Pan oedd yno gwelodd Ynghyd â chofio John Morris, cyn-chwaraewr, capten a rheolwr y gyfaill ar y stryd wrth yr ysgol a Clwb roed y gêm i gofio am Mr John Parry oedd wedi chwarae i’r dangosodd y cyfaill ‘lwmp tew ddau glwb ac hefyd yn gyn-reolwr Llay Welfare. Yn bresennol hefyd o lyfr emynau’ iddo. Yn y llyfr oedd Idris Pryce a John Bleyney, cyn-chwaraewyr Clwb Bermo a roedd yr emyn yma: Dyffryn yn oes aur y Clwb ddiwedd y 60au a’r 70au, pan enillodd y Clwb Gwpan Arfordir Gogledd Cymru ar ddau achlysur. Cynhelir noson i ddathlu agor yn swyddogol y llifoleuadau ar y cae pêl-droed yn Wern Mynach ar Hydref 9 gyda gêm yn erbyn un o gewri uwch-gynghrair Cymru, Côr Meibion Ardudwy a Batala Bermo. Croeso cynnes i bawb.
10
‘Diawl, diawl, ’Does arno ar y saint ddim hawl Er pan fu farw Crist ar bawl; Y diawliaid oll orchfygodd Ef, -
Maer ffordd yn glir yn awr bob cam, `Does dim diawl mwy a’m rhwystra i`r nef.’ [Caned ar y dôn ‘Braint’ Rhif 25 yn Caneuon Ffydd neu’n well fyth ar ‘Dorcas’ adawyd allan o Caneuon Ffydd!]. ‘Syndod mud’ a gafodd Tegla o ddarllen y ffasiwn emyn, ac yn y syndod hwnnw nid edrychodd ar wynebddalen y llyfr i weld pa lyfr ydoedd. Wn i ddim yn sicr ond pe gallai unrhyw un o ddarllenwyr Llais Ardudwy fy ngoleuo fe fyddai ei wobr yn fawr. Nid dyna’r unig emyn od mae Tegla yn ei grybwyll yn ei hunangofiant. Mae’n sôn amdano ei hun yn weinidog ifanc yn siarad gyda gweinidogion oedd lawer yn hŷn ar y pryd. Un ohonynt oedd William Hugh Evans (1831–1909), gŵr gyda’r enw barddonol bendigedig ‘Gwyllt y Mynydd’ ac awdur emyn 14 yn Caneuon Ffydd. Ef a drefnodd i godi’r Capel Wesle ym Morthy-gest. Dywedodd Gwyllt y Mynydd ei fod wedi clywed canu’r emyn canlynol pan oedd yn ŵr ifanc: ‘Daeth anghrediniaeth ataf A chlamp o bastwn mawr, Fe`m tarodd i yn fy nhalcen Nes own i`n bowlio i lawr: Tarewais anghrediaeth, Rhois iddo farwol glwy, A rhedodd yntau ymaith Na welais mono mwy.’ Dichon fod lle i ddiolch nad aeth pob emyn Cymraeg i mewn i’r Caneuon Ffydd. A tra ein bod yn gwamalu braidd, tybed a ydych wedi sylweddoli bod y dôn St Nicholas, rhif 441 yn Caneuon Ffydd, yn debyg iawn i alaw God Save the Queen? Rwy’n credu fod St Nicholas yn well tôn o lawer a phetawn i yn Sais fe ysgrifennwn at y Frenhines yn gofyn iddi ffeirio y ddwy dôn. Ni fyddai fawr ddim o waith aildrefnu’r geiriau i’w cael i ffitio a byddai Lloegr yn sicr wedyn o ennill pob gêm! Triwch hi adre - ond ddim yn y capel! JBW
STRAEON AR THEMA
wedi i Sadie dyfu yn hwch fawr. Dai ei enillion yn sydyn a‘i throi am Afraid dweud na fu iddi boetsio dim adre cyn i’r glaw ddod a golchi ei erioed! gyfrinach i ffwrdd!! PM Ac un arall – wel hen jôc mewn Eliffant dillad newydd. Roedd un o Seren “Os bydd oglau garlleg ar ei hanadl Dwi’n cofio Mam fwy nag unwaith dafarndai Bae Caerdydd dan ei sang Fferm fechan oedd gennym, ac yn y bore mi ddylai fod yn gweithio”. yn sôn bod eliffant wedi ei gladdu nos Fawrth yr Eisteddfod. Gŵr roeddem yn godro rhwng ugain meddai. Ac oedd. mi oedd oglau yn un o gaeau Ty’n Llan, Llanfair. lleol gyda’i syrcas o anifeiliaid bach a phump ar hugain o fuchod, y garlleg yn gryf ar ei gwynt y bore Sut y digwyddodd hynny meddech oedd yn mynd trwy’i bethe. Mawr mwyafrif yn Friesians. trannoeth. Daeth William drosodd chi? Wel, yn ôl Mam, pan oedd oedd y cyffro o weld y llygoden Y rhan fwyaf ohonynt efo enwau, y diwrnod canlynol hefyd, a gwneud hi’n hogan fach, mi oedd yna fach yn chwarae cerddoriaeth gan ond Seren oedd y ffefryn. Yn ystod yr un driniaeth eto. A do. fel syrcas yn pasio drwy Lanfair, a’r Mozart ar y piano. Ond, roedd y blynyddoedd ganwyd saith llo gwyrth roedd Seren ar ei thraed eliffantod yn cerdded, wrth gwrs. mwy i ddod. O’i boced tynnodd fanyw iddi, a ddaeth i mewn i’r mewn ychydig o ddyddiau. Seren Yng nghyffiniau Llanfair, bu farw’r y gŵr froga bach. Safodd y broga fuches. Heblaw am ambell lo erbyn hyn yn drwm gyflo, a minnau hen eliffant a dyna sut y bu’n rhaid wrth y piano, cychwynnodd y gwryw hefyd. Defnyddiwyd tarw yn ei gwylio’n ofalus rhag ofn y ei gladdu yma. Tybed oes rhywun llygoden chwarae a buan roedd potel, gan enwebu tarw o safon bob byddai eisiau cymorth i ddod a llo. arall wedi clywed y stori, ac yn y broga yn morio “O sole mio”. tro, a bob un o’i hepil wedi troi allan Ond mynd i’r cae un bore a dyna gwybod ym mha un o’r caeau y mae Wedi’r perfformiad anhygoel, i fod yn rhai da. lle’r oedd Seren yn llyfu llo gwryw gweddillion yr hen eliffant druan? daeth unigolyn cyfoethog, un o Roedd Seren yn fuwch denau ac yn mawr - anhygoel ond gwir. HM Swyddogion yr Orsedd mae’n siŵr, rhoi ei gorau i lenwi’r bwced godro, Bu Seren efo ni am beth amser ac at y gŵr a chynnig mil o bunnoedd er ein bod wedi cael pibellau yn roedd yn dal i roi llaeth bob dydd. Cwrcyn am y broga. Gwrthodwyd y cynnig ddiweddarach yn mynd a’r llefrith Un peth drwg ar ôl iddi ddod at Yn y ‘Steddfod yn y Bae’ eleni, braf nes i’r pris gyrraedd pum mil! Balch yn union i’r tanc yn y llaethdy. Fel ei hun oedd bod y stwmp cynffon oedd cyfarfod unwaith eto â Mary iawn oedd y perchennog newydd y mae pawb yn ei wybod gwaith yn eich taro fel tamed o bren, ond Green, Trefelin, Y Wladfa, a fu’n nes i rhywun lleol ei ddarbwyllo llafurus yw godro dwy waith y dydd roedd Seren yn cael maddeuant bob fyfyriwr yng Ngholeg Harlech rhyw nad oedd y broga yn medru canu’r a saith diwrnod yr wythnos. Ond tro. ddeugain mlynedd yn ôl. Braf oedd un nodyn ond fod y llygoden yn doedd neb yn meddwl amdano fel Meirion Richards cael cwmni amryw o’r Wladfa bryd giamster ar daflu ei llais! gwaith anodd ar y pryd. hynny, gan gynnwys hefyd Maria Ray Owen Pan oedd Seren yn gyflo efo’i Aderyn yn siarad Esther (Evans bryd hynny), mam thrydydd llo roedd ar lawr un Un o bleserau plentyndod yn Sir Alejandro Jones sydd ar hyn o bryd Mochyn daear bore yn y beudy ac yn methu codi Fôn oedd mynd i chwarae efo yn byw yng Nghymru ac yn cynnal Dyma anifail sy’n bwnc llosg mewn o gwbwl, ac i wneud pethau yn John Scotch. [Mi gafodd John ei hun drwy gynnal cyngherddau llawer ardal. waeth, mewn beudy gyda cadwyn yr enw ar ôl ei dad, Huw Scotch o ganeuon Cymreig a Sbaenaidd. Tra bod rhai yn ei hoffi mae eraill am ei gwddf. Felly gyda chymorth ond peidiwch â gofyn am ragor o Dwi’n cofio un noswaith i Mary yn ei lwyr gasáu, y mochyn daear. cymdogion da, dyma ei thynnu fanylion!] Roedd gan ei fam, Mrs Green ddod draw i Lanfair a phan Bu Grace a minnau yn cerdded oddi allan o’r beudy a’i chario ar buckrake Owen, aderyn mynah a fyddai’n welodd hi Ws, y gath, yn gorwedd amgylch Llwyngwril yn ddiweddar i’r cae yn ymyl gan obeithio y byddai ‘siarad’. Byddai’n dweud bob math o flaen y tân, dyma hi’n gofyn i ni, a daethom ar draws y campwaith yn haws iddi godi yn hytrach na bod o ymadroddion gyda’r un goslef yn yma wedi ei wau. ar goncrid. Ond doedd dim byd yn union â Mrs Owen. ‘Taw Judy’ pan ‘Cwrcyn yw e, ai e?’ Dwi’n cofio sbio arni’n syn a hithau’n gofyn yr gweithio, felly mynd â hi i mewn fyddai’r ci yn cyfarth a ‘Huwi eisio un peth wedyn. Doedd gen i ddim i sied rydd a gyda chymorth fy bwyd’ amser pryd bwyd. Byddai’n syniad am be oedd hi’n sôn nes iddi nghymdogion ei chodi bob dydd efo rhegi hefyd, ond nid af i fanylu! egluro mai cath wryw oedd ‘cwrcyn’ pwli er mwyn iddi gael rhoi ychydig PM iddi hi. Dwi’n cofio dro arall rhoi o bwysau ar ei choesau. Sefyllfa lifft iddi i Harlech ar hyd y ffordd anodd gan ei bod yn dechrau cael Neidr uchaf a hithau’n cyfeirio at Forfa doluriau ar ei choesau. Bu hi ar Bu yna hen ddywediad ar lafar Harlech fel ‘y paith’. lawr am tua mis, a’r milfeddyg yn gwlad fod gan gerddoriaeth HM methu gwneud dim. Roedd ei ddylanwad mawr ar nadroedd. hysbryd yn wyrthiol ac roedd yn Cafwyd prawf o hynny yn ystod bwyta ac yfed yn syndod. Wedi angladd a gynhaliwyd yn Aberdaron Spotio’r gwahaniaeth! Yn wahanol i lewpard mae’n bosib mynd i’r farchnad yn Nolgellau rai hafau yn ôl. Tra yr oedd y i gi newid ei smotiau neu o leaif un Gwener bu Dad yn siarad efo galarwyr yn canu emyn ar lan fabwysiadu rhai nad oedd yno cynt! William Jones, Caerberllan a daeth y bedd ymwthiodd neidr fawr Na, dw’i ddim yn sôn am rhyw cyflwr y fuwch i fyny yn y sgwrs. drwy bridd rhydd ar ochr y bedd. frech yn gadael ei hôl ar gnawd “Ydach chi’n siŵr mai ddim clwy’ Symudodd ei chorff yn ôl a blaen ci ond yn hytrach dyfeisgarwch Roeddwn yn gweld rhyw eironi yn cwt sydd yn bod arni hi?” meddai gyda’r gerddoriaeth, ac yna ciliodd perchennog. Tafarnwr nid y gwaith, os oedd yn fwriadol dwn William. “Edrychwch ar ei chynffon yn ôl ar ôl i’r canu orffen. Mewn anenwog oedd Dai, yn cadw Tafarn i ddim! Fel y gwelir, mae’r mochyn i weld a oes bywyd yn fanno”, ychydig funudau wedyn rhoddwyd daear, sef un o elynion mwyaf rhai meddai. Daeth Dad heibio Prysgau emyn arall allan i’w ganu, a gwnaeth Penybont yng ngorllewin Sir Gâr yn y degawdau ar ôl yr Ail Ryfel ffermwyr, yn gyrru beic cwad; Ganol ar ei ffordd adref o’r farchnad, y neidr ei hymddangosiad drachefn, Byd. Roedd yn berchen ar filgi, un cyfaill gorau aml i ffarmwr. Os ac oedd, mi roedd tua troedfedd o’i a chiliodd yn ôl i’w chell ar ddiwedd hynod o lwyddiannus yn y rasus cewch gyfle, mae’n werth ymweld chynffon yn farw ac yn ddu. Mewn y canu. Er fod rhai o’r galarwyr milgwn fyddai’n cael eu cynnal ar â Llwyngwril gan fod pob math o gwirionedd daeth i ffwrdd yn fy wedi dychryn rhywfaint wrth ei drac Fforestfach, ger Abertawe, yr bethau wedi eu gwau yn cael eu llaw. gweld, ni wnaed ymgais o gwbl i adeg hynny. Mor llwyddiannus, harddangos o gwmpas y pentref. Ffonio Caerberllan a daeth William wneud unrhyw niwed i’r neidr. nes i’r ods arno fod yn fyr iawn. John Williams draw efo menyn di halen a garlleg W Arvon Roberts Honnir i Dai un tro fynd a bocs o efo fo. Gwneud eli efo’r cynhwysion Diolch am bob cyfraniad. baent gydag ef ac yn dawel beintio ac edrych efo blaen ei gyllell am Sadie Y testunau sydd i ddod: smotiau ar gefn yr Hen Farnwr, fywyd yn y gynffon. Golchi’r Byddai Capt John Roberts, Galltfel yr adnabuwyd y milgi. Roedd Hydref: Siopa gynffon yn ofalus a gwneud toriad y-balch, Bodorgan yn arfer dod â yna gi ‘newydd’ yn cystadlu a Tachwedd: Magu plant ryw dair modfedd o hyd, wedyn ’sbinwch i’r tŷ efo fo ar amser cinio! ffafriol iawn oedd yr ods. Cafwyd Rhagfyr: Bwyd rhoi’r eli yn y toriad a rhoi cadach Byddai’n ei mwytho fel cath neu llwyddiant wrth gwrs. Casglodd amdano yn reit dynn. gi ac mi barhaodd i wneud hynny Cofiwch anfon atom! [Gol.]
Thema’r Mis: Anifeiliaid
11
TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN PRIODAS
Cofio Dick
(trwy lygad Eleri, yn dilyn ein sgwrs ym mharlwr Tŷ Cerrig)
Mêl y grug ar ochrau’r Mynydd, Paent ar gynfas rhyw arlunydd, Ynys Enlli’n grud bach bodlon Yn y môr ger Aberdaron. Hen atgofion bach fel hyn Ddaw a haul yn ôl ar fryn. Dilyn bys ar fap yn amal Wrth gynllunio taith rhyw ardal, A chael blas ar hen hanesion, A dy gwmni di yn goron. Hen atgofion bach fel hyn Ddaw a haul yn ôl ar fryn. Syllu ar yr haul yn machlud, Cyn rhoi winc a throi yn alltud; Gwerthfawrogi gair o gysur I liniaru unrhyw ddolur. Hen atgofion bach fel hyn Llongyfarchiadau i Carwyn a Glesni ar eu priodas ar Awst 3ydd yng Ddaw a haul yn ôl ar fryn.
Nghapel Bowydd, Blaenau Ffestiniog, gyda’r Parch Dewi T Lewis yn gweinyddu, ac yna symud ymlaen i fwynhau’r dathlu gyda theulu a ffrindiau yng Ngwesty Craig y Dderwen, Betws-y-coed. Mae Carwyn yn fab i Dafydd a Gillian Jones o Soar, Talsarnau, a Glesni wedi ei magu yn Llan Ffestiniog. Mae’r ddau wedi ymgartrefu yn Llan Ffestiniog. Treuliwyd y mis mêl yn Las Vegas - pob dymuniad da i’r cwpwl gan y ddau deulu.
Dymuniadau gorau am wellhad i dri o’r ardal Ychydig ddyddiau cyn diwrnod priodas Carwyn, ei mab, cafodd Gillian Jones, 8, Maes Gwndwn ddamwain anffodus iawn ym Mhorthmadog a thorri ei choes yn ddrwg iawn. Oherwydd hyn, methodd Gillian fod yn bresennol ym mhriodas Carwyn a Glesni. Ar hyn o bryd mae’n gwella yn Ysbyty Alltwen. Dydd Mawrth, 21 Awst, cymerwyd Celt Roberts yn sâl ar ganol gêm golff ar gwrs Henfaes, ger Biwmares. Aethpwyd ag ef i Ysbyty Glan Clwyd lle cafodd driniaeth brys. Da yw deall ei fod adref rŵan ac yn gwella. Ar ôl hir ddisgwyl aeth Elfed Griffith i Ysbyty Gwynedd ddydd Mawrth 21 Awst i gael ei ail glun newydd. Mae yntau hefyd adref o’r ysbyty ac yn dechrau gwella. Yn rhyfeddol, aeth y ddau gymydog yma i’r ysbyty ar yr un diwrnod a chael dod adref ymhen deuddydd ar ddydd Iau 23 Awst. Anfonwn ein cofion a phob dymuniad da am wellhad llwyr a buan i’r tri o Soar. Diolch Yn dilyn anhwylder yn ddiweddar, mae Celt Roberts, Berthen Gron, Talsarnau yn dymuno cydnabod a chyfleu diolch diffuant am yr holl garedigrwydd a ddangoswyd tuag ato ac am gyfleu ei fod yn gwerthfawrogi’r cysylltiadau wnaed mewn amrywiol ffyrdd. Diolch o galon i bawb – ecsgiws ddy pyn!
ENGLYN DA MISERERE
Ymlaen, er na wn ym mhle, - mae gemog Gwmwl hardd ei odre, Uwch y niwl a düwch ne, Darn o’r haul draw yn rhywle. 12
Dic Jones, 1934-2009
Sôn am ambell i dro trwstan, A’u storio’n saff yn yr ydlan; Dilyn llwybr teg yr arad A chael cysur bod mewn cariad. Hen atgofion bach fel hyn Ddaw a haul yn ôl ar fryn. Cawsom hendre, cawsom hafod, Dyddiau nad oedd byth am ddarfod; Ac fe bery yr atgofion, A gorchfygu’r holl drallodion. Tyrd i afael yn fy llaw, Fe ddaw enfys wedi’r glaw. (Diolch i ti am eu rhannu efo ni. Brei a Glenda XXX) Llongyfarchiadau mawr i Cari Elen Jones, 3 Maes Gwndwn, Talsarnau ar lwyddo yn arholiad piano Gradd 1 yn ddiweddar. Da iawn chdi Cari.
Capel Newydd am 6.00 o’r gloch
MEDI 2 Dewi Tudur 9 Dewi Tudur 16 Dewi Tudur 23 Dewi Tudur 30 Dewi Tudur HYDREF 7 Dewi Tudur
Newydd trist Ar fore Gwener, 6 Gorffennaf daeth y newydd trist bod Mrs Cassie Hughes wedi marw yn Ysbyty Prifysgol Stoke, o ganlyniad i ddamwain yn ei chartref, 2 Cilfor, Llandecwyn y penwythnos cynt pan gafodd anaf drwg i’w phen. Estynnir cydymdeimlad dwys at Siân a’r teulu yn Ninas Mawddwy yn eu colled ddisymwth. Diolch Dymuna Siân, Gareth a’r teulu ddiolch yn ddiffuant iawn am bob arwydd o gydymdeimlad a fynegwyd iddynt yn eu profedigaeth annisgwyl o golli mam a nain hoff. Dymuna Siân ddiolch yn arbennig am y cyfeillgarwch a’r caredigrwydd a ddangoswyd i’w mam gan gyfeillion yn Llandecwyn yn ystod y flwyddyn yma yn dilyn dwy brofedigaeth i’r teulu. Rhodd a diolch £10.00 Cydymdeimlad Gyda thristwch y clywsom y newydd am golli Richard Morgan (Dick Tŷ Cerrig) ar 13 Gorffennaf. Estynnwn gydymdeimlad dwys ag Eleri â’r teulu oll yn eu profedigaeth ac anfonwn ein cofion atynt yn eu galar a’u hiraeth.
Neuadd Gymuned Talsarnau Noson o Adloniant gyda
BWYD A DIOD
TRIO ac ANNETTE BRYN PARRI Nos Sadwrn, Medi 29 Tocyn: £10 Tocynnau gan Mai Jones [770757]
Anwen Roberts [772960] Elw at gostau cynnal y Neuadd Gymuned
CYNGOR CYMUNED TALSARNAU Cyn dechrau’r cyfarfod yn swyddogol cyfeiriodd y Cadeirydd at golled yr ardal a’r Cyngor dros y penwythnos yn dilyn marwolaeth Richard Morgan, Tŷ Cerrig yn dilyn gwaeledd, a chydymdeimlwyd â’r teulu yn eu profedigaeth. Fel arwydd o barch safodd yr aelodau am funud o dawelwch mewn coffadwriaeth am aelod gweithgar o’r Cyngor a bydd bwlch mawr ar ei ôl yn y cyfarfodydd. Cytunwyd i gyfrannu £100 o Gronfa’r Cadeirydd i’r gronfa roddion er cof. Ar ran y Cyngor dymunodd y Cadeirydd wellhad buan i Eifion Williams a oedd ar hyn o bryd yn yr ysbyty. Cyfarfod Bwrdd Hamdden Harlech ac Ardudwy Adroddodd Owen Lloyd Roberts bod pryder nad oedd digon o aelodau ar y Bwrdd i redeg y safle ac os na fydd mwy o wirfoddolwyr yn dod ymlaen fel aelodau o’r Bwrdd erbyn diwedd Medi 2018 y bydd y safle yn cau. Ceisiadau Cynllunio Caniatâd Adeilad Rhestredig am newidiadau i addasu agoriad drws yn ffenest yn yr edrychiad dwyreiniol, ffurfio agoriad drws yn y wal garreg fewnol, ychwanegu drws gwydr a sgrîn mewnol i’r fynedfa, ffurfio ystafell gawod newydd gyda gwyntyllwr mecanyddol, ychwanegu gwresogyddion, ychwanegu ynysu i’r to a’r lawr - Adeilad Allanol, Ysgubor Penmaen Talsarnau. Cefnogi’r cais hwn. Newidiadau i addasu agoriad drws yn ffenest yn yr edrychiad dwyreiniol i drosi modurdy domestig yn llety ansileri - Adeilad Allanol, Ysgubor Penmaen, Talsarnau. Cefnogi’r cais hwn. Cyngor Gwynedd - Adran Priffyrdd Gellir cadarnhau bod y llinellau gwyn wedi eu hailbeintio ar y ffordd B4391 o Bont y Glyn hyd at Glasfryn, yn datgan ynglŷn â’r ffordd ger Tregwylan eu bod yn paratoi rhaglen i ailosod llygaid cathod ar draws ardal Meirionnydd ac yn bwriadu ei gwblhau tuag at ddiwedd yr haf, eu bod wedi archwilio y safle yn Glan y Wern ynglŷn â thrin clymlys Japan a bod y lleoliad yma eisoes ar y rhestr i gael ei drin a bydd yn cael ei wneud pan fydd y contractwr yn yr ardal nesaf. Cwmni Bro Ffestiniog Cafwyd cais i enwebu aelod o’r Cyngor i fod yn rhan o fenter ‘Ynni Twrog’ ag hefyd cyfrannu tuag at costau sefydlu a gweinyddu’r fenter hon. Cytunwyd i gyfrannu yr £50 yr oeddynt yn gofyn amdano a hefyd cytunodd John Richards a Margaret Roberts gynrychioli’r Cyngor ar fenter ‘Ynni Twrog’. Unrhyw fater arall Angen anfon llythyr at Wasanaeth Tân Gogledd Cymru yn datgan gwerthfawrogiad y Cyngor o’r modd y cafodd y tân oedd uwchben y pentref ei drin yn ddiweddar. Hefyd gofynnwyd a fyddai modd anfon llythyr i’r Adran Briffyrdd yn dangos y waliau oedd wedi eu difrodi oherwydd bod yr injan dân wedi gorfod mynd i fyny, a datganodd Margaret Roberts, er bod y diffoddwyr tân wedi codi’r cerrig yn ôl nad oedd y waliau hyn yn ddiogel, a chytunodd Margaret Roberts anfon y lluniau o’r waliau i’r Clerc er mwyn eu hanfon ymlaen i’r Adran Briffyrdd.
Dathlu Blwyddyn Dda i’r Grawnwin Mae 15,000 o gynhyrchwyr Siampên yn disgwyl cnwd da ar ôl sawl blwyddyn llwm yn dilyn gwanwyn gwlyb a haf poeth 2018. 30 mlynedd yn ôl, roedd yn arferol i gychwyn hel y grawnwin ym mis Hydref ond blwyddyn yma, mae’r cynaeafu wedi cychwyn diwedd mis Awst. Fe’u casglwyd i gyd â llaw ac mae’n cymryd dros 100,000 o bobl i wneud hyn. Allwch chi goelio eu bod yn cynhyrchu dros 300 miliwn potel pob blwyddyn? Disgwylir cynnydd o dros 50% o 2017 yn ogystal â safon uchel. Bydd o leiaf 3 mlynedd cyn bydd gwin o’r gwinaeaf yma ar gael. Nid cynhyrchwyr Ffrainc yn unig sy’n gwenu. Mae’r rhagolygon yn dda i winoedd Cymru hefyd y flwyddyn yma. Ymwelodd Dylan â thair gwahanol winllan yn yr wythnos ddiwethaf i gasglu stoc. Yng ngwinllan Whitecastle, blasodd y grawnwin Seigrebbe - roedd yr eirin yn felys a llawn ffrwyth a phopeth yn edrych yn iach a ffrwythlon. Mae Robb Merchant yn bwriadu dechrau hel y grawnwin ar ddechrau mis Medi - tair wythnos yn gynt na’r llynedd. Ond, mae cymaint yn dibynnu ar y tywydd y mis nesaf. Yr hydref yw’r tymor mwyaf pwysig mewn ffordd, a hawdd yw boddi wrth ymyl y lan os oes gormod o law a dim digon o haul i aeddfedu’r ffrwyth yn y cyfnod olaf hollbwysig yna. Pob lwc iddynt, wir, a dyma edrych ymlaen at flwyddyn dda i win Cymru. Llinos Rowlands Gwin Dylanwad Wine Dolgellau
CYLCHWYL GERDDOROL CASTELL HARLECH
Diolch i Mrs Gwyneth Edwards, Bod Gwilym, Llanaber am ymateb i’n cais diweddar am wybodaeth ynghylch y gwyliau cerddorol a gynhaliwyd yn Harlech yn y blynyddoedd a fu. Fel y gwelwch, sefydlwyd yr Ŵyl yn 1867. Dyma glawr y rhaglen ar gyfer 1932. Diddorol hefyd yw sylwi ar restr y swyddogion a’r dalgylch lle roedden nhw’n byw, felly hefyd restr cynrychiolwyr y corau.
13
COLLI MAIR WEBB
Ganed Mair ar 6ed Ionawr 1928 yn Nhalsarnau, Meirionnydd, yn blentyn cyntaf o ddau i Owen a Margaret Lewis. Roedd Gwyn ei brawd, a fu farw yn 2008, 4 mlynedd yn iau. Ysgolfeistr Talsarnau oedd ei thad, Owen Lewis. Fe’i haddysgwyd hi wedyn yn Ysgol Ramadeg y Bermo tan roedd hi’n 17 oed pan symudodd y teulu i Faesywaen, ger Y Bala, ar benodiad ei thad yn brifathro yno. Ar ôl gweithio yn y banc am gyfnod symudodd i Lundain i hyfforddi i fod yn nyrs yn ysbyty’r Royal Free, yna’n ôl i Faesywaen ar farwolaeth sydyn ei mam yn 1952. Cyfarfu â Geraint Edwards oedd yn athro yn Rhiwabon yng nghanol y 50au a phriodi yn 1956 gan fyw gyda thad Mair ym Maesywaen. Ganwyd eu plentyn cyntaf Huw yn 1957 cyn i’r teulu symud i Fronfegla, Arthog yn 1958 yn sgil penodiad Geraint i fod yn athro Cymraeg a hanes yn Ysgol y Gader. Yn 1959, ganwyd eu hail blentyn Dwynwen. Yn y 60au cynnar, penderfynodd Mair ddysgu dreifio pan nad oedd dim llawer o ferched yn gyrru. Agorodd y dreifio lawer o ddrysau iddi. Ail-gydiodd Mair yn ei gyrfa yn 1964 gyda Bwrdd Dŵr Meirionnydd yn eu swyddfa yn Y Bermo wedi i’r plant gychwyn yn yr ysgol. Roedd Mair yn mwynhau cerdded dros y bont i’w gwaith gan weld y cyfoeth o fywyd gwyllt, yn enwedig yr adar môr ar ei ffordd. Yn drist iawn, daeth trychineb i ran y teulu yn Nhachwedd 1970 pan fu farw Geraint o ganlyniad i ddamwain car, a derbyniodd Mair ergyd arall yr haf canlynol pan fu farw ei thad. Roedd cymeriad Mair yn gryf a gallodd ddygymod â’r colledion yn eithaf stoicaidd gan ail-gydio yn
14
ei bywyd yn bur sydyn. Rhaid oedd symud cartref wedyn gan fod Bronfegla yn dŷ llawer rhy fawr i weddw ifanc gyda dau o blant. Ymgartrefodd ym mhentref Fairbourne ac yno bu nes iddi orfod symud i gartref gofal. Fe ail briododd yn 1973 â Dennis Webb oedd yn gweithio fel cyfrifydd i’r awdurdod lleol a bu’r ddau yn briod am 45 o flynyddoedd nes i Dennis farw gwta ddeufis o flaen Mair. Roedd yn nain balch i bedwar – Geraint, Siôn, Hannah a Leah, ac yn ystod ei blwyddyn olaf gwelodd eni ei gorwyres Swyn Haf. Dechreuodd Mair swydd newydd yng nghanol y 70au yng Ngholeg Meirionnydd a bu’n gweithio i’r sefydliad nes iddi ymddeol yn 1990. Roedd ei diddordebau yn cynnwys llenyddiaeth, hanes, arlunio, gwau, teithio ac yn fwy na dim y byd natur, yn enwedig adar, a cherddoriaeth. Roedd cerddoriaeth yn bwysig dros ben i Mair a châi bleser mawr o fynd i wrando ar gerddoriaeth fyw ac operâu a byddai’n mynychu cyngherddau yn gyson gyda’i ffrindiau. Ar ei phen-blwydd yn 80 oed, cafodd y pleser o fynd i Gaerdydd i weld Jools Holland a’i fand yn chwarae cyfuniad o jazz, y blŵs a roc a rôl. Fedrwn ni ddim cloriannu bywyd Mair heb sôn am ei chariad at Ynys Enlli. Cafodd y pleser mwyaf o ymweld â’r ynys ac o brofi naws a chyfoeth y lle ar sawl achlysur. Yn amlwg roedd y bywyd gwyllt yno yn ei rhyfeddu ac yn rheswm da dros ymweld â’r lle ond roedd y teimlad ysbrydol a gai yno yn un wnaeth argraff ddofn iawn arni. Atgofion pobl ohoni oedd rhywun oedd yn disgleirio, yn hapus yng nghwmni eraill yn enwedig yr ifanc, yn gogyddes fedrus, hefo diddordeb byw mewn pobl a phethau ac yn un â gwybodaeth eang iawn. Mi wnaeth yn fawr o bob cyfle ddaeth i’w rhan ac mae’n rhaid inni ddiolch am hynny Roedd yn un a gyfrannodd yn sylweddol i’w theulu ac a gyfoethogodd ei chymdeithas ac fe welwn ei cholli. Diolchwn am gael ei hadnabod. Traddodwyd gan Gerallt Rhun ar ran y teulu.
Gŵyl Gwrw Llanbedr Medi 21 a 22 Hon fydd ein 12fed Gŵyl Gwrw. Fe’i cynhelir yng ngardd gwesty Tŷ Mawr gyda phob mathau o gwrw a seidr o ogledd, canolbarth a de Cymru. Mae bwyd lleol ar gael hefyd yn ogystal ag adloniant byw gan gerddorion blaenllaw’r ardaloedd cyfagos. Dewch i ymuno â’r hwyl yng Ngwesty Tŷ Mawr. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Llanbedr www. llanbedr.com neu at Ŵyl Gwrw Llanbedr Beer Festival ar Facebook neu ar wefan yr Ŵyl. Mynediad 2018 Tocyn yn cynnwys gwydr swfenîr a nodiadau blasu. Cyn 6 yr hwyr - £3; ar ôl 6 yr hwyr - £5. Cwrw a seidr £3 y peint. Caiff elw’r Ŵyl ei ddosbarthu ymysg achosion lleol. Adloniant yr Ŵyl Dydd Gwener 12.00 - 18.00 Cyfnod o gerddoriaeth gefndir tawel, wedi’i recordio i ddechau, wedyn cerddoriaeth y delyn Gymreig traddodiadol a Chôr Meibion Ardudwy. 18.00 - 20.00 Liam & Friends yn chwarae deunydd o’r 60au i’r presennol. 20.30 - 23 00 Gwibdaith Hen Frân. Dydd Sadwrn 12.00 - 18.00 Cyfnod o gerddoriaeth gefndir tawel, wedi’i recordio ac yn fyw wedyn y gitarydd Brett Redmayne-Titley. 18.00 - 20.00 Catrin O’Neill a Chris Knowles. Bydd Catrin a Chris yn canu detholiad o gerddoriaeth Gymreig a Gwyddelig, cymysgedd o ganeuon a dawnsiau jig a rîl bywiog. 20.30 - 23.00 Ratz Alley
EISTEDDFOD ARDUDWY
Hydref 20 am 1.30 yn Neuadd Goffa, Penrhyndeudraeth Cyswllt: Mai E Roberts [01341 242744] Llywydd: Mrs Gwenda Paul, Penrhyndeudraeth Beirniaid Cerdd: Carwyn Evans Llefaru: Janet Pugh Cyfeilydd: Caryl Roberts Cofiwch gefnogi!
COLLI DICK
Ganwyd Dick ar Ionawr 14, 1946, yn Gefail-y-cwm, Talsarnau yn un o dri o feibion i Hugh ac Elaenor Morgan. Roedd yn frawd i Wil a’r diweddar John. Does dim dwywaith ei fod wedi etifeddu llawer o serennedd ac annwyldeb ei fam. Poenai ei fam amdano, plentyn tawedog a swil a thenau oedd Dick. Pan siaradai rhywun ag ef byddai’n troi at Wil a byddai’r hogyn bach tew [Wil] yn siarad drosto! Yn fuan wedi geni’r hogia, cododd eu tad Ysgubor Hen ac aeth y teulu bach hapus i fyw yno. Gŵr uchel ei barch oedd Hugh Morgan a chanddo ddwylo crefftus. Fel y gŵyr amryw, roedd yn un da am hyfforddi cŵn defaid - ond dydw i ddim yn meddwl fod Dick wedi etifeddu’r ddawn honno. Pan oedd y tri brawd yn gweithio gartref, roedd Tŷ Cerrig yn fferm gynhyrchiol iawn ac mi fyddai llawer o’r hogia rygbi yn dod yno i helpu i gario miloedd o fêls bach. Cyfnod difyr iawn oedd hwnnw. Roedd Dick yn ddyn dymunol a rhadlon, yn garedig a chymwynasgar. Roedd yn gymydog da iawn na fyddai byth yn cwyno, hyd yn oed pan oedd anifeiliaid yn crwydro i’w dir. Roedd ganddo galon fawr ac roedd yn gyfaill triw. Pan oeddan ni’n ifanc, roedd criw da o ffrindiau yn hel at ein gilydd yn yr Ynys - Dick a Wil, Bryn Cefn Gwyn a’r diweddar Dafydd Bron Ynys, Anthony Kerry, Megan Cartrefle a’r diweddar Rhian a finnau. Bob nos Wener, byddem yn cerdded i Dalsarnau i’r Clwb Ieuenctid ac yn cael llawer o hwyl yno. Ar nos Sadwrn, reidio beic i Borthmadog i gymdeithasu a mynd i’r pictiwrs ambell dro. Roedd Dick ar y blaen bob amser am fod ganddo fo feic ‘drop handles’ a choesau hir iawn i fedru seiclo. Roedd o’n feiciwr da iawn yn y cyfnod hwnnw. Fe briododd o a Shân yng Nghapel Gwynfryn ar ddydd Mercher, er
mwyn sicrhau na fyddai hogia’r tîm rygbi yn colli’r gêm ar y Sadwrn. Buon nhw’n byw yn yr Hafan, Harlech am gyfnod cyn symud i Dŷ Cerrig, lle ganwyd Iwan ac Arwel. Dyma rannu rhai o atgofion Arwel ac Iwan am eu tad. Arwel yn gyntaf: Mae gan Arwel gof melys, melys iawn am ei dad. Yn ôl Arwel, pan fyddai Iwan a fo yn gwneud drygau, byddai Shân yn mynd yn gandryll o’i cho, ‘berserk’ ddwedodd Arwel, ac yna byddai Shân yn troi at Dick ac yn dweud wrtho fo, ‘Deud rwbath wrthyn nhw Dick!’ Ac ymateb Dick fydda, ‘Rŵan, rŵan’, ond yn ôl Arwel, fydda fo byth yn dweud y drefn go iawn wrthyn nhw. Ac meddai Iwan: Rhyw 15-16 oed oeddwn i, ac roedd hyn cyn y ffôn symudol. I ddangos pa mor ffeind oedd Dad efo ni, dwi’n cofio fi, Dylan Jones a Llŷr Fuches Wen yn sownd yng Ngherrig-y-drudion, wedi bod mewn helynt bach mewn dawns ysgubor a wedyn yn gorfod ffonio Mam i ofyn am lifft adra, a hitha yn mynd yn ‘berserk’ ac yn gyrru Dad i’n nôl ni. Roedd hi’n hanner awr wedi un yn y bora! A dyma Dad yn cyrraedd ac yn pigo ni i fyny yn ‘cool’ braf heb wneud unrhyw ‘fuss’. Doedd dim byd yn ormod i Dad – boi fel ’na oedd o. Mae Iwan yn cofio hefyd am adeg pan fuo fo yn agor ffosydd yn Nhŷ Cerrig. ‘Newydd ddod yn ôl o Seland Newydd o’n i a dyma Dad yn warnio fi i beidio mynd yn rhy agos i un lle am fod y beipan ‘mains’ dŵr Harlech yno. ‘Mi wna i wneud y rhan yna,’ medda fo, a phan ddaeth i wneud yr ardal yna, mi aeth yn syth drwy’r beipen ddŵr ac mi oedd ’na ddŵr ym mhob man. Yn ôl Iwan, mi gafodd o ‘stick’ am flynyddoedd am hynna. Roedd Dick yn gymeriad hoffus a charedig ac yn dangos tynerwch at bawb. Dyn cymdeithasol oedd o ac yn un gweithgar iawn yn yr ardal – yn gynghorydd lleol ac yn aelod o bwyllgor y Neuadd, roedd hefyd yn weithgar efo’r sioe gŵn, y rasus malu a sioe Sir Feirionnydd. Yn wir, mi glywais o le da mai fo fyddai Llywydd y sioe y tro nesaf y byddai hi yn Harlech. Rhaid dweud hefyd ei fod yn gefnogol iawn i weithgareddau’reglwys hon. Bu colli Gwynfor Gwrach Ynys, ei ffrind gorau, yn ergyd drom iddo fo hefyd a bu’n driw iawn i Deborah, Geraint a Caryl ac i’w gymdogion, Idris ac Eirlys a’r
teulu yn Nhanforhesgan. Wel Dick, yr hen fêt a’r cymydog gorau a allai rhywun ei gael, mi fydd ’na fwlch enfawr ar dy ôl di yn yr ardal yma - ac yn arbennig yn Nhŷ Cerrig. Gwyn dy fyd! Tecwyn Williams ***** Bu i Dick ac Eleri gyfarfod o dan amgylchiadau digon anodd, a hynny yn Bristol ym mis Gorffennaf 2008, pan oedd Shân a Ceredig yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty yno, dros gyfnod o rai misoedd. Datblygodd cyfeillgarwch yn fuan iawn rhwng y pedwar ohonyn nhw ac roedd Shân yn sôn llawer amdanynt ar ôl iddi gyrraedd adref. Dwi’n ei chofio hi’n dweud pa mor garedig oedd Eleri wrth Ceredig a’i bod hi’n gwneud pob dim drosto. Er gwaethaf y driniaeth, colli’r frwydr wnaeth Shân ym mis Gorffennaf, 2009 a Ceredig hefyd, ddeufis yn ddiweddarach. Parhaodd y gyfeillgarwch rhwng Dick ac Eleri ac roeddent yn gefn i’w gilydd yn eu colled a’u hiraeth. Doedd Dick ddim yn un am wneud pethau’n sydyn, ond mi wnaeth o symyd yn sydyn ar y naw ar ôl Eleri. Yn ôl pob sôn, mi roedd o wedi ymddiried mewn ffrind, gan ddweud fod ganddo deimladau tuag at Eleri, ond ei fod o ofn ei dychryn neu ei phechu hi. Yr ateb a gafoddd oedd ‘Wel, dos amdani, neu mi fydd rhywun arall wedi ei bachu hi!’ Doedd dim rhaid dweud ddwywaith! Cyfaddefodd Dick ei deimladau dros y ffôn a phan ddaeth Eleri draw i Dŷ Cerrig y cwbl wnaeth o oedd agor ei freichiau ac mi gamodd Eleri iddynt. Pan ddaeth Dick i ddweud yr hanes wrth Wil a fi, doedd Wil ddim adref, gall y rhan fwyaf ohonoch chi ddyfalu lle roedd Wil hefyd! Wel, ar ôl dweud ei newydd a phan roedd o ar gychwyn, dyma fo’n dweud wrtha i, ‘Cofia di ddweud wrth Wil fy mod i wedi cael dynas ieuengach na’r un sydd ganddo fo!’ A hynny hefo gwên bach digon slei ar ei wyneb! Symudodd Eleri i Dŷ Cerrig at Dick, hefo Gwynant ac ymgartrefu’n fuan. Cafodd Eleri gyfle i gyfarfod Nain Morgan droeon a dod i adnabod rhywfaint arni. Roedd hi’n falch iawn fod Eleri yna yn gwmni i Dick ac yn edrych ar ei ôl o mor dda! Dyna oedd ein teimlad ninnau fel teulu hefyd. Wedi’r cwbl, doedd Dick ddim yn un oedd yn hoffi
ei gwmni ei hun. Daeth Eleri i adnabod teulu Dick, teulu Shân a llu o ffrindiau Dick ac mi wnaeth Dick a hithau lawer hefo’r teulu a ffrindiau ar hyd y blynyddoedd. Er ei fod o’n ddistaw, roedd yn hoffi cymdeithasu a mi roedd o’n hoffi chwerthin. Roedd o’n chwerthin ar brydiau nes fod dagrau yn rowlio dros ei fochau a’i gorff yn ysgwyd. Roedd Dick yn hoffi crwydro a roedd o’n hoffi gwyliau. I Solfa aeth Dick ac Eleri ar eu gwyliau cyntaf gyda’i gilydd a bu iddyn nhw ddychwelyd yno droeon gan eu bod yn meddwl fod Solfa yn le arbennig. Roedd Aberdaron yn le arbennig yn eu meddyliau hefyd a chafwyd ambell i wyliau yno, yn y garafan dros y blynyddoedd. Roedden nhw’n hoffi mynd i‘r Iwerddon ar dripiau Phil ac Iwan hefyd. Bu Dick ar ugeiniau o wyliau tramor a bu Eleri ac yntau ar sawl mordaith gyda’i gilydd. Yn Antigua wnaethon nhw briodi ar yr 11 o Dachwedd 2015. Ychydig dros ddwy flynedd o briodas gawson nhw cyn darganfod fod gan Dick ganser ar un o’i arennau. Roeddem yn obeithiol y buasai llawdriniaeth ar ei gyfer, ond nid felly y bu hi! Roedd Dick yn gwybod nad oedd mendio iddo ac wynebodd hyn gyda dewrder tawel ac heb yr un gŵyn! Cafodd ofal tyner a chariadus gan Eleri ac roedd yn gwybod ei fod mewn dwylo diogel. Gofynnodd iddi rhyw ddiwrnod, ‘Rwyt ti’n licio nyrsio fi, ‘dwyt?’ Ateb Eleri oedd, ‘Wel, mi fuasa’n well gen i beidio gorfod gwneud.’ Rwyt ti wedi colli gŵr, ffrind a chefn Eleri, ac mae Gwynant wedi colli ffrind a rhywun a oedd ag amser iddo a diddordeb ynddo. Ond, rydw i’n sicr y bydd teulu Dick a Shân, ffrindiau a chymdogion yn gefn ac yn gysur i chi yn yr amseroedd anodd o’ch blaenau. Gillian Morgan Diolch Dymuna Eleri, Gwynant, Iwan, Rhian, Arwel a’r teulu oll ddiolch yn ddiffuant i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a dderbyniwyd ganddynt yn dilyn eu profedigaeth o golli Dick. Gwerthfawrogwyd eich caredigrwydd yn fawr iawn. Rhodd a diolch £20
15
SGYTHIA ‘Prin fod nofel hanesyddol arall a all ddal cannwyll iddi.’ Ceir digonedd o gyfeiriadau pur sarhaus mewn testunau clasurol at y Scythiaid – gan yr Apostol Paul, er enghraifft, yn ei epistol at y Colosiaid (ac addas yw dyfynnu o’r hen gyfieithiad yma): “Lle nid oes na Groegwr nac Iddew, enwaediad na dienwaediad, Barbariad na Scythiad, caeth na rhydd: ond Crist sydd bob peth, ac ym mhob peth.” Sgythia yw’r llysenw a ddefnyddir gan yr awdur i gyfeirio at Fawddwy, yr ardal wledig, wyllt lle saif pentrefi Mallwyd a Dinas Mawddwy heddiw, a lleoliad y nofel eithriadol hon. Hanes un o drigolion mwyaf nodedig pentref Mallwyd, ac un y cysylltir ei enw’n ddiwahân â’r lle cyhyd ag y bo Cymry, a geir yn y nofel, sef yr ysgolhaig, yr offeiriad a’r cymwynaswr mawr o’r ail ganrif ar bymtheg, Dr John Davies. Pan benodwyd John Davies yn rheithor plwyf Mallwyd, ystyriwyd ei fod wedi’i anfon i ganol barbariaid, ac i ddiffeithwch diwylliannol a deallusol – heb sôn am fod yn lle peryglus ar y naw, a Gwylliaid Cochion Mawddwy yn dal i lechu yn y coed. I’r lle diarffordd a thlodaidd hwn daeth John Davies â phregethu grymus, dysg a doethineb enfawr, gan sefyll yn gadarn yn erbyn Pabyddiaeth – yr ‘hen goel’ – ac ofergoeliaeth ar adeg pan oedd yr eglwys wladol a’r Frenhiniaeth, dau sefydliad llawer mwy dylanwadol a grymus nag ydynt heddiw, mewn trybestod llwyr, a llywio cwrs gofalus rhwng creigiau llymion gwleidyddiaeth yr Eglwys a’r bonedd a drwgdybiaeth y werin leol. Ac yntau’n hirben a siriol yn wyneb siomedigaethau lu, adeiladodd John Davies ddinas dysg ym mherfeddwlad fynyddig Cymru, gan godi tai, pontydd ac eglwys sy’n gofadail barhaus iddo hyd heddiw. Ond ei wir etifeddiaeth yw ei waith – yn bennaf, addasiad John Davies o Feibl William Morgan a ddefnyddiwyd yn gyffredin rhwng 1620 a 1988 gan y Cymry, a gosodwyd seiliau’r Gymraeg fodern gan ei Ramadeg a’i Eiriadur Cymraeg-Lladin, heb sôn am ei waith yn casglu a diogelu cerddi’r beirdd canoloesol. Yn wir, gellid honni’n ddigon hyderus mai diolch i’r Doctor Dafis yr ydym ni’n dal i siarad, ysgrifennu a thrysori’r iaith heddiw. Lle digon dieithr yw Mallwyd yn negawdau cyntaf y 1600au, ac eto, nid yw’r darllenydd yn cael ei ddieithrio oddi wrtho, gystal yw gafael yr awdur ar ei destun, gan mor llwyr gyfarwydd ydyw â’r ardal (bu Gwynn ap Gwilym ei hun yn Rheithor Mallwyd am gyfnod), a chan mor fain yw ei glust at sgwrs gwreng a bonedd – ac at eu hiwmor. Mae hi’n glamp o nofel, yn llawn hyd at y distiau pren neu’r tyweirch mawn o gymeriadau lliwgar. Cynhwyswyd rhestr o gymeriadau ar y dechrau, ac fe allai pori drwy honno cyn bwrw iddi i ddarllen godi braw; peidiwch â digalonni, mae’r awdur yn feistr corn ar ei grefft ac mae hi’n ddigon hawdd cofio pwy yw pwy, a sut maen nhw’n perthyn i’w gilydd ac i’r hanes. Mae’n biti garw nad oes modd anrhydeddu awduron â gwobr ‘Llyfr y Flwyddyn’ ar ôl eu marwolaeth; nid oes amheuaeth y dylai ‘Sgythia’ hawlio’i lle ymysg nofelau gorau 2018, onid y degawd ar ei hyd. Prin fod nofel hanesyddol arall a all ddal cannwyll iddi. Ysywaeth, ni chaniateir hynny. Y gymwynas orau y gellir ei thalu â’r diweddar Gwynn ap Gwilym felly yw darllen ei nofel, ei chymeradwyo i’ch cydnabod, a rhyfeddu lawn cymaint at gamp yr awdur yn yr unfed ganrif ar hugain ag at gampau ei wrthrych, bedwar can mlynedd yn ôl. Bethan Mair Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
16
Nofel hanesyddol yn dilyn stori’r ysgolhaig o glerigwr, John Dafis, a fu’n rheithor ym Mallwyd o 1604 hyd ddiwedd ei oes. Yr oedd hefyd yn eiriadurwr a gramadegwr, cyfieithydd a golygydd blaenllaw. Llwyddodd yr awdur i weu hanes a ffuglen yn hynod o effeithiol, ac o’r herwydd, mae cymeriadau a bro Mawddwy yn dod yn fyw.
CYFEIRIADAU AT ARDUDWY YN Y NOFEL ‘SCYTHIA’ Y Rheithor a fu farw yn Harlech
Bu farw Dr John Dafis, Mallwyd yn sydyn yn Harlech yn 1644. Roedd yn adnabyddus am ei waith yn addasu argraffiad Cymraeg o’r Beibl a elwid yn Beibl William Morgan. Hwnnw gafodd ei ddefnyddio tan y cyfieithiad newydd yn 1988. Mae’r nofel yn ymdrin â’i fywyd a’i waith. Ynddi hefyd mae hanes yr helyntion o fewn yr Eglwys, am ei deulu a bywyd anodd ardal Mawddwy bedwar can mlynedd yn ôl. Cyn diwedd ei oes brysur cafodd ei wneud yn Ustus Heddwch. Ar ei ffordd i Lys Chwarter Harlech, mewn wagen oedd yn mynd drwy’r Bermo, aeth i deimlo’n sâl. Yn ôl y nofel i le o’r enw Plas Harlech yr aethpwyd ag o. Er i ddoctor gyrraedd ni lwyddodd i achub ei fywyd a bu farw yno. Gadawodd ei wraig, Sin, a oedd yn ddi-blant. Roedd hi’n enedigol o Lanfair Dyffryn Clwyd ac yn wyres i’r Barwn Lewis Owen, gelyn mawr
Gwylliaid Cochion Mawddwy. Mae cyfeiriad yn y nofel at ei dwy chwaer oedd yn byw yn Ardudwy – Annes yn Llanaber a Sioned yn Llanenddwyn. Mae’n sôn hefyd am John Dafis yn cyfarfod Edmwnd Prys a chyhoeddi ei salmau cân. Daeth i gysylltiad hefyd â William Vaughan a Richard Vaughan, Gors-y-gedol, ‘y dyn tew’ a fu’n Aelod Seneddol Merionnydd. Ar wahân i’w ymwneud â phobl, yr hyn sy’n amlwg yw fod y rheithor wedi gweithio mor ddygn fel cyfieithydd, geiriadurwr a gramadegydd a gwneud cymaint yn ei gymuned. Cafodd y nofel ei chanmol yn fawr a rhai yn dweud y byddai wedi ennill Llyfr y Flwyddyn oni bai fod Gwynn ap Gwilym wedi marw cyn ei chyhoeddi. Roedd yntau hefyd wedi bod yn rheithor Mallwyd ac wedi byw yn yr un rheithordy.
Clwb 200 Côr Meibion Ardudwy EBRILL 2018 1. Idris Williams £30 2. I Bryn Lewis £15 3. Anne Jones £7.50 4. Iwan Morus Lewis £7.50 5. Beti Roberts £7.50 6. Smithy Garage £7.50
MEHEFIN 2018 1. Helen Williams £30 2. Bili Jones £15 3. Pauline Williams £7.50 4. Gwen Edwards £7.50 5. Isfoel Davies £7.50 6. John Williams [Coedty]£7.50
MAI 2018 1. Olwen Jones £30 2. Ronnie Davies £15 3. Janet Mostert £7.50 4. Aled Morgan Jones £7.50 5. Hefin Jones £7.50 6. John Lyndsey £7.50
GORFFENNAF 2018 1. Tecwyn Williams £30 2. John Williams [Coedty] £15 3. Gareth Williams £7.50 4. Mair Jones £7.50 5. Helen Williams £7.50 6. Aneurin Evans £7.50
GWIREDDU GWELEDIGAETH MERÊD Lansio Apêl Newydd i Godi £10k y Flwyddyn
Nest Jenkins cyn-enillydd yr ysgoloriaeth yn 2017 a Gwenllian Lansdowne yn lansiad yr Apêl Dyn y ‘pethe’, dyn y gwerin, ac yn anad dim, dyn y Gymraeg oedd Dr Meredydd Evans – neu Merêd i ni ei gyd-Gymry. Bu’n ymgyrchu’n ddyfal gydol ei oes i sicrhau ffyniant a pharhad y Gymraeg, a rŵan, wrth iddynt baratoi i nodi canmlwyddiant ei eni yn 2019, mae ei gyfeillion yn Ymddiriedolaeth William Salesbury wedi cyhoeddi apêl genedlaethol newydd sbon i wireddu ei weledigaeth. Bwriad yr Ymddiriedolaeth, ers i Merêd ei sefydlu yn 2012, yw ariannu ysgoloriaethau i gefnogi pobl ifanc i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda’r nod o gefnogi gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sydd yn cydweithio gyda phrifysgolion Cymru i ehangu ystod y cyrsiau sydd ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r criw am weld gweledigaeth Merêd yn fyw eto, ac wedi datgan bod angen i’r Gronfa gasglu o leiaf £10,000 y flwyddyn dros y pum mlynedd nesaf i sicrhau ysgoloriaethau’r dyfodol. Ers sefydlu’r gronfa, mae chwech o Gymry ifanc wedi derbyn cymorth ariannol gan y Gronfa a hynny ar ffurf ysgoloriaethau gwerth £5,000 yr un, dros dair blynedd. Eleni, Heledd Lois Ainsworth, disgybl yn Ysgol Bro Teifi, ac Elen Wyn Jones, disgybl yn Ysgol Dyffryn Ogwen, oedd yr enillwyr. Mae Heledd ar fin astudio’r Gyfraith a’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn edrych ymlaen at ddefnyddio canran o’i hysgoloriaeth i “ymchwilio’r defnydd o ieithoedd lleiafrifol ym meysydd y gyfraith”. Bwriad Elen yw mynd i Brifysgol Bangor i astudio cerddoriaeth ym mis Medi. Dywedodd mai “braint” oedd derbyn Ysgoloriaeth William Salesbury ac y byddai “o fudd mawr” iddi. Wrth lansio’r apêl ar faes yr Eisteddfod yng Nghaerdydd, dyweddodd Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Dr Gwenllian Lansdown Davies: ‘Nid oedd llaesu dwylo yn perthyn i Merêd. Dyma ein cyfle ni i gerdded yn ôl ei droed ac ymuno yn yr ymdrech i gefnogi addysg gyflawn drwy gyfrwng y Gymraeg – o’r cylch meithrin i’r brifysgol.’ Os hoffech ymuno yn yr ymdrech, gallwch gyfrannu heddiw mewn sawl ffordd:
* rhoi swm o arian trwy gyfrwng siec, cerdyn, taliad ar-lein neu orchymyn banc
* gorchymyn ad-daliad o’ch treth lle bo’n bosib (Rhodd Gymorth) * trefnu gweithgareddau i godi arian * gadael rhodd yn eich ewyllys i’r Gronfa, fel y gwnaeth Merêd.
Grŵp pwytho’r ‘Penrhyn Pinups’ Dyna enw hanesyddol y grŵp yma sydd bellach yn cyfarfod yn Llanfair. Chwarae ar eiriau mae’r cyfeiriad at ‘pinups’ - mae’r grŵp yn defnyddio pinnau i wneud eu lês ac mae ‘gosod y pin’ yn rhywbeth sy’n digwydd wrth greu’r gwaith – ond mae’r gair ‘pinup’ yn gwneud i’r genod swnio’n reit glamyrys!
Aelodau o’r Dosbarth Lês lleol a elwir yn ‘Penrhyn Pinups’ Tynnwyd y llun o’r grŵp ym Mynydd Gwefru Llanberis. Daw’r lluniau o’r darnau unigol o’n harddangosfa yng Nghastell Harlech yn gynharach yr haf hwn. Cynhaliwyd Arddangosfa Lês Gogledd a Chanolbarth Cymru eleni yn y Mynydd Gwefru, Llanberis ar 30 Mehefin. Yn yr ystafell arddangos fawr roedd amrywiaeth eang o wahanol arddulliau a thechnegau lês, o lês nodwyddau i Swydd Bedford, Honiton i Bucks Point. Roedd ymwelwyr yn gwerthfawrogi’r holl sgil a’r gwaith cain oedd i’w weld yn yr ystafell. Mynychwyd yr arddangosfa gan gryn dipyn o bobl, ac roedd yr aelodau’n falch iawn o glywed eu sylwadau. Un eitem a ddenodd sylw ymwelwyr â’r sioe oedd Branwen, enillydd yr arddangosfa yn 2012. Addurnwyd y llong hon gyda llu o hwyliau o les fras patrymog.
Branwen Gwnaed yr holl eitemau yn yr arddangosfa yn ystod y tair blynedd diwethaf a doedden nhw ddim wedi eu harddangos o’r blaen. Roedd sawl eitem wedi cymryd tair blynedd i’w gwneud, yn cynnwys ein cynnig ni: darlun gyda’r gair enw Blodeuwedd arno fo, gyda phob llythyren wedi ei greu mewn lês Milanaidd (bu’n rhaid i ni ddysgu’r dechneg yn gyntaf) a’i addurno gyda blodau a dail hardd a wnaed o lês. Roeddem yn falch iawn o ennill ‘Gwobr Dewis y Bobl’ am ymgais gan grŵp. Wedi i’r arddangosfa gau ar 8 Gorffennaf, cludwyd yr eitemau yn ôl i Harlech ar gyfer ein harddangosfa ni yng Nghastell Harlech, am ddiwrnod yn unig ar ddydd Mawrth, 2 Awst. Roeddem yn falch iawn o allu dangos ein gwaith, a luniwyd dros gyfnod o flynyddoedd, i’r gymuned leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Kathy Aikman
17
HYSBYSEBION
Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu 01341 241297
18
COLLI BRONWENA
Teyrnged gan ei chwaer Bethan
Y peth cyntaf sy’n dod i’r meddwl wrth gofio am Bron, ydi hwyl. Y dair ohonom, Bron, Iola a finnau fydda yn chwarae gyda’n gilydd. Fe oedd y côr plant yn rhan bwysig iawn o’n bywydau ni. Nid oedd teledu ganddom. Allan trwy’r dydd yn chwarae tŷ bach. Gwneud cacen gyda thywod a dŵr, dail tafol yn facwn a blodyn melyn dant y llew yn ŵy wedi ffrio. Allan drwy’r dydd yn difyrru ein hunain. X-BOX? Beth yn y byd ydi hwnnw? Unwaith cofiaf i ni ddod o hyd i bwt o sigaret a’i ysmygu yn y tŷ bach, a dychryn o weld cymaint o fwg rhag ofn cael ein dal. A wnaeth yr un ohonom ysmygu byth wedyn. Fe oedd Bron yn un dda am drefnu y dair ohonom. Weithiau drama fer gyda’n gilydd neu y dair ohonom yn canu. Fe oedd ganddi y ddawn i ddynwared pobl fel Co Bach, Caernarfon. Lawer tro gwelais fy nhad yn sychu dagrau gyda hances boced, fe oedd yn chwerthin gymaint wrth wrando arni hi yn mynd trwy’r pethau i gyd. Fe fyddai ambell gae mor wlyb ac yn rhewi yn y gaeaf. Aethai Arwyn a’i ffrind John Tanycastell a’u beiciau arno ac yn llusgo ninnau ar ddarn o bren gyda phwt o linyn y tu ôl iddynt a chael hwyl fawr. Wrth gwrs weithiau fyddai y llinyn yn torri a’r beic yn mynd un ffordd a ninnau yn sglefrio i’r cyfeiriad arall. Fe oedd yn aelod o barti O T Thomas, Dyffryn Ardudwy. Fyddai Iola yn mynd yn gwmpeini iddi ac un tro fe wnaethant golli y bws i ddod adref a chael eu codi gan rhyw ddyn, dim syniad pwy oedd o ac wrth gwrs, dim sôn yr un gair am
hyn wrth ein rhieni. Fe oedd Bron yn un ddireidus yn gynnar iawn yn ei bywyd a hwyl i gael bob amser yn ei chwmni pa le bynnag yr oeddem ac fe barhaodd hynny drwy gydol ein bywydau. Yn 1947 fe gafodd ei dewis yn frenhines carnifal Harlech. Ar ôl gadael ysgol gynradd, fe aeth hi ac amryw o’i ffrindiau i’r ysgol yn Blaenau Ffestiniog. Nid oedd cinio’r ysgol yn boddhau yr un ohonynt, felly cael cinio tri chwrs bob dydd am bump swllt (hen arian) yn y Bridge Cafe. Byddai yn cael gwersi chwarae piano gyda Miss Katie Plemming a graddio yn uchel iawn. Ar ôl gadael yr ysgol fe aeth i weithio i Bloors, Llanbedr. Ie, ffatri asbestos. Ar ôl canlyn am bum mlynedd, fe briododd â Brian yng Nghapel Rehoboth, a byw yn Brodawel am flynyddoedd hapus. Bendithiwyd y briodas â thri o blant, Gerald, Colin ac Wendy, ac mewn amser fe oedd yn ymfalchio o gael bod yn nain a hen nain. Byddai bob amser yn cefnogi Brian ar hyd y blynyddoedd yr oedd yn aelod ffyddlon o Seindorf Arian Harlech. Pan wnaeth Carnifal Harlech ail ddechrau, fe weithiodd Bron yn ddiwyd iawn ar y pwyllgor codi arian, gwneud dillad, a chael llawer iawn o bleser yn gwneud hynny. Fe wnaeth Bron a Brian fwynhau ymweld â llawer o wledydd tramor. Teithio gydag aelodau o’r teulu a ffrindiau da. Yr oeddynt yn aelodau ffyddlon iawn yn yr Old Tyme Dancing a gynhaliwyd yn y Neuadd Goffa bob Nos Sadwrn. Cofiaf i ni ymweld â Llundain, a mynd i Harrods a Bron yn trio ambell het ond yn eu rhoi yn ôl wedi gweld y pris, gan ddweud o dan ei gwynt nad oedd hi ddim eisiau prynu’r lle. Bu rhaid i Brian gymryd drosodd y gwaith o redeg y cartref pan ddechreuodd iechyd Bron ddirywio, a mawr fu ei ofal ohoni. Ergyd greulon iawn i Brian, a’r teulu, pan fu i Gerald golli ei frwydr yn erbyn y clefyd canser yr oedd o wedi ei ymladd mor ddewr am un ar ddeg o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod prudd yma, bu yn rhaid i Brian wneud y penderfyniad anodd iawn, i drosglwyddo gofal Bron i Bryn Seiont, Caernarfon. Ond mi deithiodd yno bob dydd i fod
wrth ei hochor. Fe oedd Bron yn aelod ffyddlon iawn o Eglwys Rehoboth. Bu yn chwarae’r organ am tua 70 o flynyddoedd. Gofalu am flodau bob Sul. Weithiau’n dod â rhai o’i gardd adref a fyddai werth eu gweld. Cymerodd ran ym mhob taith gerdded a fyddai y capel wedi ei drefnu. Mae colli aelod mor weithgar a ffyddlon yn golled enfawr i Rehoboth ond wrth gwrs i Brian a’r teulu mae’r golled fwyaf. Ni ellir claddu cariad mam mewn bedd a’i lwyr anghofio, mae hwn fel blodyn yn yr ardd yn para i flodeuo. Nos da Bron fach, cysga di yn dawel rŵan. Boed Hedd i’w llwch hi.
Diolch Dymuna Brian, Colin a Wendy ddiolch o galon i’w teulu, ffrindiau a chymdogion am y gefnogaeth, negeseuon a chardiau a dderbyniwyd yn dilyn marwolaeth Bronwena (Min-y-don gynt). Diolch i Anti Beth a Gwen am wasanaeth hyfryd yn yr angladd ac i bawb a ddaeth i ddweud ffarwel wrth Bron. Rhodd a diolch £10
Hufenfa’r Castell 10 mlynedd oed ac yn dal i dyfu!
Mae’r busnes wedi mynd o nerth i nerth ac wedi ennill gwobrau bob blwyddyn ers 2010. Roedd eleni’r un fath ac yn Sioe Llanelwedd cawsom ddwy wobr arian am ein hufen iâ coffi a’n iogwrt ffigys a mêl. Yna, yn goron ar y cwbl, daethom yn ail yng ngwobrau Clymblaid y Gynghrair Cefn Gwlad am siop fwyd orau Cymru. Rydym bellach wedi ehangu ac agor Yr Hen Farchnad Gaws sy’n cynnig dathliad o gynnyrch bwyd Cymreig yn cynnwys bara ffres, caws, cigoedd oer, bacwn ac wyau i sôn am ychydig yn unig. Rydym hefyd wedi ein trwyddedu ac yn gwerthu gwin, cwrw a seidr o Gymru. Yr Hen Farchnad Gaws yw’r fan arddangos ar gyfer Gin y Greigddu sy’n cael ei ddistyllu’n lleol, cynnyrch o safon sy’n boblogaidd gyda thwristiaid a bobl leol fel ei gilydd.
19
GŴYL FLODAU EGLWYS LLANFIHANGEL-Y-TRAETHAU Cynhaliwyd Gŵyl Flodau yn yr eglwys o’r 16eg i’r 19eg Awst eleni. Agorwyd gan y Tad Tony Hodges gyda ffanffer byr gan David Bisseker a Mike Hemsley a’r thema eleni oedd “gyda’n gilydd”. Cafwyd arddangosfeydd godidog a chreadigol gan Gwen Edwards ar ran capeli Rehoboth ac Engedi, Janet Mostert ac Eirlys Williams ar ran Capel Jeriwsalem, Sheila Hughes, Gwenda Paul, Fal Edwards a Gwenda Griffiths ar ran Llanfihangel a Llandecwyn, Edwina Evans ar ran Sefydliad y Merched, Carol Harvey ar ran Undeb y Mamau a Llanddwywe, Pat Turton ar ran Sant Tanwg, Gwenda Griffiths ar ran Merched y Wawr, Christine Hemsley ar ran Gwenynwyr Cymru a Pam Odam ar ran ‘Bro’. Bu’r teithiau tywys o gwmpas y fynwent gyda Bob Hughes a Gwenda Paul yn ddiddorol a phoblogaidd a hefyd y lluniau hen a newydd yng ngofal ‘Trysorau Talsarnau’. Dangoswyd hefyd luniau o rai o briodasau a fu yn yr eglwys o’r 50au hyd heddiw ac ambell i fedydd diweddar. Cafwyd arddangosfa liwgar a hwyliog o’r gystadleuaeth beintio cerrig neu lechen gan blant cylchoedd meithrin Talsarnau a Harlech, ysgolion Talsarnau a Thanycastell, ac unigolion o’r eglwys gyda Linda Soar ac Alison Rayner yn beirniadu. Roedd prysurdeb mawr ym mhorth yr eglwys gyda stondin cynnyrch cartref a chacennau yng ngofal Christine Hemsley a phawb o’r aelodau yn cymryd eu tro i weini paned a bisgedi i’r llu ymwelwyr. Drwy’r ŵyl cafwyd tair sesiwn o ddatganiadau cerddorol gyda’r Eglwys yn llawn bron bob tro. Yn cymryd rhan roedd: Lodesi’r Lasynys sef Gwenno, Lowri ac Erin wrth y delyn; David Bisseker corn, organ a piano; Mike Hemsley corn tenor; Roger Kerry unawdau, gitâr; Alaw Sharp unawdydd; Ross Williams organ, Ceri Griffiths yn arwain Seindorf Arian Harlech. Y cyfeilyddion i’r unawdwyr oedd Alwena Morgan o Ffestiniog a Lona Williams, Trawsfynydd, pennaeth cerdd Ysgol Ardudwy. Roedd pawb wedi gwirioni gyda’r datganiadau cerddorol ac oll yn dalentau lleol. Yng ngeiriau un ymwelydd “ … bu iddynt gyffwrdd fy enaid” – beth mwy allwn ddweud? Ar y bore Sul, cafwyd gwasanaeth yng ngofal Robert Hughes gyda Priscilla Williams wrth yr organ a chafwyd datganiad swynol iawn o Finlandia gan Alaw Sharp a’i mam Jane yn cyfeilio iddi. Diolchodd y Tad Tony Hodges ar ran yr Eglwys i’r uchod ac i bawb arall a fu o gymorth i wneud yr Ŵyl Flodau 2018 yn llwyddiant mawr ym mhob ystyr. Llwyddwyd i gasglu £900 tuag at gronfa atgyweirio’r eglwys a bydd y gwaith yn dechrau o ddifrif yn yr wythnosau nesaf. Diolch arbennig iawn i bawb a ymwelodd â’r Ŵyl ac a gyfrannodd mewn unrhyw fodd.
Rhoddodd ‘Lodesi Las Ynys’ - Erin, Lowri a Gwenno ddatganiadau ar y delyn ar bnawn dydd Iau
Enillwyr peintio carreg 5 -7 oed
Enillwyr peintio carreg 8 -11 oed
‘Cofio Hedd Wyn’ Edwina Evans Alaw Sharpe fu’n perfformio bnawn Sul
Yr artistiaid a fu’n diddanu yn y cyngerdd nos Wener. Helen Williams, Ty’n Ffordd [nad yw yn y llun] fu’n cyflwyno’r cyngerdd
‘Llawer o aelodau mewn un corff ’ - Rehoboth ac Engedi
‘Gwenyn’ - Christine Hemsley
‘Y nef sy’n datgan gogoniant Duw’ - Capel Jerusalem
Gwenda Griffiths
EGLWYS LLANDECWYN Hydref 7 am 4.00 o’r gloch Gwasanaeth Diolchgarwch Pregethwr gwadd: Parch Tecwyn Ifan