Llais Artdudwy Medi 2019

Page 1

Llais Ardudwy

70c

DAU GAPTEN

RHIF 490 - MEDI 2019

DWY WOBR GYNTAF

Lluniau: Nigel Hughes

Llongyfarchiadau i Ann Lewis, Llandanwg a Glyn Jones, Harlech ar gael eu dewis yn gapteniaid ar Glwb Golff Dewi Sant, a hynny am y flwyddyn pan fydd y clwb yn dathlu 125 mlynedd ers ei sefydlu. Hyderwn y bydd yn flwyddyn lwyddiannus i’r ddau ohonyn nhw.

CLWB YN DATHLU

Llun: Mari Lloyd

Llongyfarchiadau gwresog i Meilir Roberts, Uwchglan, Llanfair ar ennill dwy wobr gyntaf yn adran y defaid Suffolk yn y Sioe Sir yn Harlech yn ddiweddar. Cafwyd sioe lwyddiannus iawn eto eleni.

HETIAU HAF Yn Neuadd Llanbedr ddydd Iau, Gorffennaf 18 cafodd y Clwb Cawl bnawn diddorol iawn. Roedd Jane a’i chriw wedi llenwi’r byrddau gyda danteithion o bob math ac wedi gofyn ini ddod yno yn ein hetiau haf. Cawsom fôr o liw gyda tua 25 o hetiau, pawb wedi bod yn brysur yn eu haddurno. Roedd yn ddiwrnod penblwydd ar Rhiannon a bu inni ganu a dymuno pen-blwydd hapus iddi. Ar ôl y bwyd blasus cawsom ein diddanu gan Derek gyda’i sacsoffôn a’i glarinet a Douglas ar y gitâr. Diolchodd Janet Griffiths am y parti ardderchog. Yna bu i bawb wisgo eu het a Douglas Powell yn eu beirniadu. Yr enillydd oedd un Pam Richards, ac roedd yn werth ei gweld.

Llun: Dave Newbould Rhagor o luniau ar t.4

Llongyfarchiadau i Glwb Golff Dewi Sant ar ddathlu 125 mlynedd ers ei sefydlu. Deallwn bod 200 o bobl yn bresennol yn y noson ddathlu a bod y noson wedi bod yn un llwyddiannus iawn.


GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 780635 pmostert56@gmail.com

HOLI HWN A’R LLALL

Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com 07760 283024 / 01766 780541

SWYDDOGION

Cadeirydd: Hefina Griffith 01766 780759

Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@outlook.com Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL

Y Bermo Grace Williams 01341 280788 David Jones 01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones 01341 241229 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Cysodwr y mis: Phil Mostert

Gosodir y rhifyn nesaf ar Medi 27 am 5.00. Bydd ar werth ar Hydref 2. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Medi 24 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

Dilynwch ni ar Facebook @llaisardudwy

2

Gwen gyda’i merch, Megan Enw: Gwen Lloyd Aubrey Gwaith: Ysgrifennydd Cwmni (WJEC CBAC Ltd) Cefndir: Cefais fy magu ar fferm Garth Byr yn Llandecwyn ac es i oddi yno i’r Brifysgol ym Mangor. Cefais fy swydd gyntaf yn Aberystwyth cyn symud wedyn i Gaerdydd ac yr wyf wedi ymgartrefu yn ardal Pontypridd ers dros 20 mlynedd bellach. Rwyf wedi treulio dros 25 mlynedd ym gweithio ym myd addysg yn bennaf ym maes llywodraethiant a chydymffurfiaeth. Rwyf hefyd yn arolygydd lleyg i Estyn ers nifer o flynyddoedd ac yn rhedeg fy musnes cyfieithu fy hun. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Oherwydd prysurdeb gwaith a bywyd teuluol, dwi ddim yn cael y cyfle i wneud cymaint o ymarfer corff ag y baswn i’n ei ddymuno ond basa fy mhartner yn dweud fy mod yn llosgi digon o galorïau trwy siarad gormod! Beth ydych chi’n ei ddarllen? Nofelau Cymraeg yn bennaf. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Dwi ddim yn un am wylio llawer ar y teledu gan nad oes amser rhwng prysurdeb gwaith a rhedeg busnes a magu teulu!

Ond wna’i byth golli Pobol y Cwm, Rownd a Rownd, Galw Nain Nain Nain, Priodas Pum Mil ac unrhyw raglenni dogfen a dramâu ar S4C. Ydych chi’n bwyta’n dda? Bwyta digon ond ddim bob amser yn iach! Hoff fwyd? Bwyd Eidalaidd neu Indiaidd. Hoff ddiod? Ateb braidd yn ddiflas – dŵr (ond ddim o dap – rhaid iddo fod yn Brecon Carreg – wedi fy nifetha ar y fferm yn Garth Byr gyda dŵr ffynnon – methu dioddef unrhyw ddŵr o’r tap ers hynny!) Ac ambell i G&T wrth gwrs, ond rhaid iddo fod yn un pinc gyda digon o rew a mefus ynddo! Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Syr Tom Jones, ond basa fy mam a fy merch yn genfigennus dros ben pe bai hynny’n digwydd! A baswn yn cael bwrdd i ddau ger Eglwys Llandecwyn yn edrych draw am Portmeirion a’i gael i ganu ‘Green Green Grass of Home’ i mi! Lle sydd orau gennych? Llandecwyn wrth gwrs! Noson braf o haf ger Eglwys Llandecwyn yn edrych i lawr ar Portmeirion yn y dyffryn islaw – does unman yn debyg i gartref! Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Yn Aviemore yn yr Alban ychydig flynyddoedd yn ôl gyda’r teulu, mam a Dylan fy mrawd. Beth sy’n eich gwylltio? Rhieni sydd wedi derbyn addysg Gymraeg yn siarad Saesneg gyda’r plant maen nhw hefyd wedi dewis addysg Gymraeg ar eu cyfer! Pobl aneffeithiol! Beth yw eich hoff rinwedd

LLYTHYRAU

mewn ffrind? Gonestrwydd. Pwy yw eich arwr? Fy mam - am aberthu popeth i roi’r dechrau gorau i mi mewn bywyd a phob cyfle a chefnogaeth bosibl i ffynnu. Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon? Celt Roberts – prifathro gwych, Cymro i’r carn ac un gweithgar yn ei gymuned - dyn ei filltir sgwâr o hyd. Beth yw eich bai mwyaf? Dwi’n hunan-feirniadol iawn ac yn ormod o berffeithydd! Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Cymru rydd. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Mynd â mam ar saffari i Dde Affrica! Eich hoff liw? Du – mae’n mynd gyda phopeth ac yn dwyllodrus – yn gwneud i chi edrych yn denau pan nad ydych chi! Eich hoff flodyn? Cennin Pedr Eich hoff gerddor? Ivor Novello Eich hoff ddarn[au] o gerddoriaeth? Finlandia, Calon lân, Yma o Hyd gan Dafydd Iwan Pa dalent hoffech chi ei chael? Gallu gwnïo i wneud fy nillad fy hun er mwyn arbed arian!! Eich hoff ddywediadau? Gwyn y gwêl y frân ei chyw Byw’n dda, chwerthin yn aml, caru’n fawr. Cenedl heb iaith yw cenedl heb galon Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Yn rhy brysur o lawer!

Annwyl Olygydd Mae BBC Radio Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn awyddus i wybod beth yw hoff air Cymraeg y rheini sy’n dysgu, neu sydd wedi dysgu Cymraeg. Mae modd rhoi gwybod beth yw eich hoff air trwy fynd i wefan Radio Cymru (bbc.co.uk/radiocymru). Dyddiad cau y pôl yw 20 Medi a bydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi yn ystod ‘Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg’, sy’n cael ei chynnal ar BBC Radio Cymru ganol mis Hydref. Ymysg yr arlwy fe fydd: • Bwletin newyddion ychwanegol bob nos am 8.00yh ar gyfer dysgwyr. • Cyfle i griw o ddysgwyr gymryd yr awenau bob prynhawn ar raglen Ifan Evans. • Golygydd gwadd ar gyfer y Post Cyntaf. • Podlediad gyda’r cyflwynydd Wynne Evans yn darllen o’i hunangofiant. • Penodau newydd o ‘Hanes yr Iaith’ gan y prifardd Ifor ap Glyn. Bydd yr wythnos yn cyd-fynd â Diwrnod Shwmae Su’mae, ac mae’n ffrwyth partneriaeth rhwng BBC Radio Cymru a’r Ganolfan. Yn ddiolchgar Trystan ap Ifan


LLANFAIR A LLANDANWG Cerdd Ardudwy a Harlech

Glain Dafydd

Cynhaliwyd cyngerdd arbennig yn Eglwys Llandanwg nos Fercher, 14 Awst pan gyflwynwyd amrywiaeth o gerddoriaeth ar y delyn gan Glain Dafydd. Mae Glain, sy’n dod yn wreiddiol o ochrau Bangor, wedi cael llwyddiannau lu yn ystod ei gyrfa gerddorol, megis dod yn ail yng Nghystadleuaeth Telyn Ryngwladol Moscow (adran iau). Mae Glain wedi ennill y Rhuban Glas ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal ag Ysgoloriaeth Bryn Terfel. Ym mis Mehefin eleni fe enillodd gystadleuaeth ryngwladol yn Ilede-France ac o ganlyniad bydd yn perfformio yng Ngŵyl Ryngwladol Saluzzo, yr Eidal. Astudiodd Glain yn Ysgol Gerdd Paris ac yn y Royal Academy. Mae hi wedi perfformio fel unigolyn ac mewn cerddorfa siambr mewn pob math o leoliadau yn cynnwys Wigmore Hall a’r Royal Festival Hall, Llundain, cartref y Llysgennad ym Mharis a’r Amgueddfa Brydeinig. Teithiodd ledled yr Unol Daleithiau fel gwestai gyda

Chôr Meibion y Penrhyn ac mae hi wedi perfformio mewn gwyliau megis Gŵyl Gerddorol Ryngwladol Abergwaun, Gŵyl y Tri Chôr yng Nghaerloyw (deuawd i’r ffliwt a’r delyn) a’r MusicFest yn Aberystwyth. Mae Glain yn gweithio’n llaw rydd yn Llundain ac yn ystod y noson cyflwynodd gerddoriaeth gan gyfansoddwyr megis J S Bach, Grieg, G F Handel, a Marcel Tournier.

Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â theulu George Michelmore a fu farw’n ddiweddar yn Ysbyty Gwynedd yn 77 oed. Trist meddwl mai George oedd yr olaf o saith brawd a gafodd eu magu yn Heulfryn, Llanfair. Cofiwn am y teulu oll, yn enwedig Alwena a Gwenllian, sydd yn byw yn lleol. Does ond cwta dri mis ers pan fu iddynt golli ewythr arall, sef Gareth.

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR MATERION YN CODI Model Brotocol Datrysiadau Lleol Adroddodd y Clerc bod yr aelodau wedi penderfynu yn y cyfarfod diwethaf i gynnwys y mater yma ar yr agenda er mwyn gallu ei drafod ymhellach cyn penderfynu ei fabwysiadu ai peidio. Cytunwyd i fabwysiadu’r model hwn. Rheolau Ariannol a Rheolau Sefydlog y Cyngor Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon copi o rai newydd o’r uchod i bob aelod gyda’r cofnodion er mwyn iddynt gael amser i’w darllen. Cytunwyd i fabwysiadu’r rheolau sefydlog a’r rheolau ariannol newydd hyn. CEISIADAU CYNLLUNIO Gosod un ffenestr to ar y drychiad blaen - Fron Oleu, Fron Hill, Llanfair. Cefnogi’r cais hwn. Gosod ffenest ddormer ar yr edrychiad cefn, dwy ffenestr do ar yr edrychiad blaen ac un ar edrychiad ochr – Bryn y Wern, Fronhill, Llanfair. Cefnogi’r cais hwn. Codi estyniad unllawr ar yr ochr – Penrallt, Llanfair – CYNLLUN DIWYGIEDIG. Cefnogi’r cais hwn. Datganodd David John Roberts fuddiant yn y cais cynllunio uchod ac ni chymerodd ran yn y trafodaethau. MATERION CYNGOR GWYNEDD Adroddodd y Cyng Annwen Hughes ei bod wedi cysylltu gyda’r Adran Briffyrdd yn Nolgellau i ofyn pryd oedd yn fwriad ganddynt dorri’r gwair ar ochr y ffordd o Frondeg i lawr am Pensarn gan ei fod yn edrych yn flêr iawn; roedd wedi cael ateb yn datgan ei fod yn fwriad ganddynt, gyda Llanfair o fewn y cyfyngiad 40 mya, unwaith y bydd y contractwr wedi ei dorri, ei roi ar restr waith Mewnol y Cyngor fel pentrefi eraill. Wrth wneud hyn bydd yn derbyn tri thoriad y flwyddyn fel pentrefi cyfagos.

TEULU’R CASTELL

Pen-blwydd arbennig Llongyfarchiadau i ddwy o Lanfair sydd wedi cyrraedd oedran go arbennig ym mis Awst. Cyfeiriwn at Gwenllian Jones, Bryn Awelon a Stella Calvert, Caehirfryn. Pob dymuniad gorau i’r ddwy. Diolch Dymuna Gwenllian Jones, Bryn Awelon, ddiolch o galon am yr holl alwadau, cardiau, blodau a galwadau ffôn a gafodd ar ddathliad y pen-blwydd arbennig. Diolch £10

Clwb 200 Côr Meibion Ardudwy EBRILL 2019

1. Gwilym Rhys Jones 2. Olwen Jones 3. Iwan Morgan 4. Phil Mostert 5. Rhian Jones 6. Bili Jones

MAI 2019

1. Bili Jones 2. Eileen Greenwood 3. Bili Jones 4. Llewela Edwards 5. Dewi Thomas 6. Hefin Jones

£30 £15 £7.50 £7.50 £7.50 £7.50

£30 £15 £7.50 £7.50 £7.50 £7.50

MEHEFIN 2019

1. Osian Edwards 2. Efan Anwyl 3. Dei Corps 4. Ieuan Edwards 5. Llion Williams 6. Iwan Morus Lewis

£30 £15 £7.50 £7.50 £7.50 £7.50

GORFFENNAF 2019

1. Lea Ephraim £30 2. Olwen Jones £15 3. Beryl Jones £7.50 4. Siân Edwards £7.50 5. Siân Edwards £7.50 6. Heulwen Jones £7.50

Merched y Wawr Harlech a Llanfair

TE CYMREIG

Aelodau Teulu’r Castell yn cael te yn Chwarel Hen, Llanfair i derfynu eu rhaglen am y flwyddyn.

yn Neuadd Llanfair Pnawn Gwener, Medi 6 2.00 tan 3.00 Stondinau amrywiol Cofiwch gefnogi! 3


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL

Y CLWB CAWL - rhagor o hetiau

Marwolaeth Ar Awst 12 eleni, yn dawel mewn hospis yn Victoria, British Columbia, Canada bu farw John Gareth Lewis, mab hynaf Ifor a Gwenda Lewis, Glanrafon (siop ffrwythau gynt) Llanbedr a brawd hwyliog Menna, Erfyl, Idris a’r ddiweddar Nia. Mae’n gadael ei briod Lesley a’i feibion David ac Andrew, eu gwragedd Christine a Jennifer, ŵyr ac ŵyres bach, Jake a Claire. Rhodd: Idris Lewis £10 Bedydd Ar y dydd olaf o Fehefin bedyddiwyd Llewelyn, ail fab Gwynfor a Catrin Edwards. Roedd y gwasanaeth yn Nantcol dan ofal y Parch Megan Williams, a dymunwn yn dda i’r teulu bach sydd yn symud i fyw i Dwllnant. Braf iawn fydd gweld golau yn Twllnant eto. Mudo Dymunwn yn dda i Gwion a Lena sydd wedi symud i ffermio i Morfa Mawr. Cydymdeimlo Anfonwn ein cydymdeimlad at Alan Owen, teulu Hendre a Steve Kerr yn eu profedigaeth o golli Idris, brawd hynaf Alan, yn 88 oed. Symudodd Idris i fyw i Groesoswallt pan yn ifanc iawn.

Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch y prynhawn

MEDI 8 - Capel Nantcol, Parch Huw Dafydd Jones 15 – Capel y Ddôl, Glenys Roberts 29 – Capel y Ddôl, Parch John Owen 29 - Capel Salem - Diolchgarwch Parch Dewi Tudur Lewis HYDREF 6 - Capel y Ddôl, Parch John Tudno Williams

4

Dyma Hoffnung y ceffyl siglo yn mwynhau ei barti penblwydd efo plant yr ysgol feithrin yn Huchenfeld. Grŵp Llanbedr-Huchenfeld Hoffwn atgoffa’r darllenwyr fod criw bychan o Huchenfeld yn dod i ymweld â Llanbedr yn ystod penwythnos yr Ŵyl Gwrw (Medi 20fed – 23ain). Mae’r ymweliad yn ran bwysig o’r cysylltiad rhwng y ddau bentref ers blynyddoedd bellach wedi i John Wynne ymweld â Huchenfeld a chyflwyno ceffyl siglo i’r ysgol feithrin lleol fel rhan o broses heddwch rhwng y ddwy wlad. Cynhelir prynhawn agored ar ddydd Sul, Medi 22ain am 2.30 yp yn Neuadd Bentref Llanbedr lle fydd yna adloniant a grwpiau lleol yn dangos ac yn sôn am eu gwaith. Hoffwn wahodd pobl leol i ddod i gyfarfod ein ffrindiau o’r Almaen a mwynhau paned a chacen. Croeso cynnes i bawb! SD Dan anhwylder Dymunwn yn dda i’r rhai fu dan anhwylder yn ddiweddar, gan obeithio eu bod llawer iawn gwell erbyn hyn, sef Hefina Thomas, Tyddyn Bach, Iona Anderson, Bryndeiliog a Ruth, nith Gretta Benn, sydd yn ymweld â’r ardal yn aml. Hefyd, bu Gwynli Jones am gyfnod yn Ysbyty Gwynedd ond yn yr Alltwen erbyn hyn. Gobeithiwn fod yntau’n dal i wella.

Pam Richards a’r het fuddugol


DIARHEBION - G Gaeaf gwyn, ysgubor dynn Gair drwg a dynn y drwg ato Gair mam a bery’n hir Gall y gwaethaf ddysgu bod yn orau Gan bwyll y mae mynd ymhell Gelyn yw i ddyn ei dda Gellir yfed yr afon ond ni ellir bwyta’r dorlan Genau oer a thraed gwresog a fydd byw yn hir Gloddest awr a newyn blwyddyn Gnawd i feddw ysgwyd llaw Gochel gyfaill a elo’n feistr Gorau aml, aml gardod Gorau arfer, doethineb Gorau caffaeliad, enw da Gorau cam, cam gyntaf Gorau cannwyll, pwyll i ddyn Gorau cof, cof llyfr Gorau coll, enw drwg Gorau cyfoeth, iechyd Gorau Cymro, Cymro oddi cartref Gorau chwedl, gwirionedd Gorau doethineb, tewi Gorau gwraig, gwraig heb dafod Gorau haelioni, rhoddi cardod Gorau prinder, prinder geiriau Gorau trysor, daioni Gorau un tlws, gwraig dda Gormod o ddim nid yw dda Gorwedd yw diwedd pob dyn Gwae a fag neidr yn ei fynwes Gwae leidr a fo gweledig Gwaethaf gelyn, calon ddrwg Gweddw crefft heb ei dawn Gwell amcan gof na mesur saer Gwell bach mewn llaw na mawr gerllaw Gwell bachgen call na brenin ffôl Gwell benthyg nag eisiau Gwell bygwth na tharo Gwell câr yn y llys nag aur ar fys Gwell ci da na dyn drwg Gwell cydwybod na golud Gwell cymydog yn agos na brawd ymhell Gwell digon na gormod Gwell Duw yn gâr na holl lu daear Gwell enw da nag aur dilin Gwell hela â maneg nag â saeth Gwell hanner na dim Gwell hwyr na hwyrach Gwell mam anghenog na thad goludog Gwell migwrn o ddyn na mynydd o wraig Gwell pwyll nag aur Gwell synnwyr na chyfoeth Gwell un awr lawen na dwy drist Gwell un hwde na dau addewid Gwell yr heddwch gwaethaf na’r rhyfel gorau Gwerth dy wybodaeth i brynu synnwyr Gwers gyntaf doethineb; adnabod ei hunan Gwisg orau merch yw gwyleidd-dra Gwna dda unwaith, gwna dda eilwaith Gŵr dieithr yw yfory Gŵr heb bwyll, llong heb angor Gwybedyn y dom a gwyd uchaf Gwybydd fesur dy droed dy hun Gwyn y gwêl y fran ei chyw Gwynfyd herwr yw hwyrnos

CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF

MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod

Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant PORTHMADOG 01766 512214/512253 60 Stryd Fawr

PWLLHELI 01758 612362 Adeiladau Madoc

office@bg-law.co.uk

ABERMAW 01341 280317 Stryd Fawr

Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd …

CALENDR LLAIS ARDUDWY 2020 ar werth rŵan am £5 yn y siopau arferol

GŴYL GWRW LLANBEDR Medi 20, 21

Manylion llawn ar dudalen 18. Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/ llaisardudwy/docs Llais Ardudwy

SAMARIAID LLINELL GYMRAEG 08081 640123

GWASANAETH CADW CYFRIFON ARDUDWY

Cysylltwch â ni am y gwasanaethau isod: • Cadw llyfrau • Ffurflenni TAW • Cyflogau • Cyfrifon blynyddol • Treth bersonol info@ardudwyaccounting.co.uk 07930 748930

5


TOYOTA HARLECH

LLYTHYRAU LLUN YN RHIFYN MIS GORFFENNAF – LLYTHYRAU GAN DDARLLENWYR Perthi, Ffordd Minffordd, Penrhyndeudraeth.

COROLLA HYBRID NEWYDD

Dewch i roi cynnig ar yrru’r Corolla newydd! Mae ’na ganmol mawr i hwn! facebook.com/harlech.

Ffordd Newydd Harlech LL46 2PS 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@harlech.toyota.co.uk Twitter@harlech_toyota

PRIODAS

Llongyfarchiadau i Siôn Wyn Blake, Rhos Helyg, Cwm Llinau ac Annest Ffion Waters o Landrillo-yn-Rhos ar eu priodas yn Eglwys y Santes Fair, Tregarth ar Fai 25ain. Cynhaliwyd y wledd briodas yng Ngwesty Tre-Ysgawen, Llangefni lle dathlwyd y diwrnod hapus yng nghwmni teulu a ffrindiau. Maent wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon a dymunwn bob hapusrwydd iddynt yn eu bywyd priodasol. Mae Siôn yn fab i John a Menna Blake, Cwm Llinau ac fe ŵyr y cyfarwydd fod John yn wreiddiol o Dyffryn. Bu Mrs Eirlys Blake, mam John, yn athrawes yn Ysgol Dyffryn yn ystod 60au’r ganrif ddiwethaf.

6

Annwyl Olygydd, ‘Holi am lun’ Llais Gorffennaf 2019 Gan fy mod yn derbyn Llais Ardudwy bron yn fisol, credaf mai Garth Byr yw’r fferm sydd ynddo y mis hwn (mis Gorffennaf 2019). Cefais fy ngeni a’m magu yn Coety Mawr, ryw ’chydig bellter yn uwch i fyny. Byddwn yn ffrindiau mawr ag Aledwen oedd yn byw yng Ngarth Byr. Mynd i ysgol Llandecwyn gyda hi bob bore ac adref y nos. Cofion anwylaf am blentyndod bore oes. Cofion, Beti Jones Rhodd £10

83, Church Street, Rhostyllen Wrecsam 17 Gorffennaf 2019 Annwyl Olygyddion, Diddorol oedd gweld y llun yn rhifyn diwethaf Llais Ardudwy o fferm Garth Byr yn Llandecwyn, lle bûm yn byw am bron i hanner can mlynedd. Buasai’n ddiddorol gwybod pwy oedd y teulu yn y llun. Symudais gyda fy rhieni a’m brodyr i Garth Byr o Coedty Bach yn y pumdegau cynnar. William Owen a Mrs Owen oedd y perchnogion ar y pryd. Cofiaf nad oedd gennym ddŵr yn y tŷ ar y dechrau a rhaid oedd ei gario o’r ffynnon oedd i fyny’r llwybr, ychydig bellter o’r tŷ. Dŵr da oedd o hefyd. Pan oedd yn haf sych byddai’r ffynnon yn sychu a rhaid wedyn oedd cario’r dŵr o’r afon, lle byddwn yn mynd hefo Mam i molchi ac i olchi’r dillad. Ymhen ychydig amser, cawsom bibell o’r ffynnon i’r tŷ ac roedd bywyd dipyn hwylusach wedyn. Hyd heddiw rwyf yn ofalus iawn rhag gwastraffu dŵr. Pan symudais i Garth Byr cofiaf fod melin ddŵr a ffos yn rhedeg iddi ger y tŷ boilar fel y’i gelwid gennym ni blant. Cerdded i’r ysgol gynradd yn Talsarnau ac wedyn i ysgol y Bermo hefo’r trên ac, ar y ffordd adref, cael ambell i frechdan a chacan flasus gan drigolion caredig y pentref, am fod gennym dipyn o ffordd i gerdded adra, medda nhw. Mae un atgof arall yn fyw yn fy nghof. Tybed oes rhai o ddarllenwyr y Llais yn cofio’r syrcas yn dod i Dalsarnau ers stalwm a’r helynt fawr fu am fod mwnci wedi dianc? Credaf hyd heddiw fy mod wedi ei weld yn y coed pan oeddwn yn y cae wrth bont Coedty Bach. Wedi cael fy anfon yno gan Mam a Dad i godi tatws oeddwn. Cefais gymaint o fraw nes lluchio’r bwcad a’r tatws oeddwn wedi godi a rhedeg adra am fy mywyd gan weiddi, ‘Mwnci, mwnci, o wir Mam, yn y coed wrth y bont!’ Roedd Mam wedi dychryn gweld fy wyneb mor llwydaidd! Tybed?! Chlywais i byth a ddaliwyd y mwnci ai peidio. Dyddiau da! Gyda chofion, Iona Ll Aubrey


CYSTADLEUAETH GOFFA ELFED EVANS

Dyma’r ugeinfed tro i Glwb Golff Dewi Sant gynnal cystadleuaeth er cof am Elfed Evans, diolch i haelioni’r teulu. Y buddugwyr eleni oedd: Cyntaf: Edwin Morris Jones, David Reaney, Gareth Lewis a Freddie Lewis. Ail: Ciron Morgan, Peter W Jones Kevin Jones ac Efan Anwyl. Trydydd: Geraint Jones, Neal Parry, Mike Evans ac Owen Jones. DIOLCH Dymuna Gerallt ac Ann Evans ddiolch i bawb sy’n gysylltiedig â’r Clwb am eu cymorth i wneud yr achlysur yn un mor llwyddiannus.

Yn y llun, fe welir y plant lleol fu’n cystadlu yn y gystadleuaeth ynghyd â mam a thad Elfed, Ann a Gerallt Evans a’r ddau gapten, Glyn Jones ac Ann Lewis.

YFED GUINNESS

yng nghwmni’r diweddar Athro Seamas O’Buachalla, Coleg y Drindod, Dulyn. 1. Gymrwn ni beint Seamas? Hyfryd iawn! 2. Gymrwn ni ail beint? Hedodd yr un ’deryn ar un adain! 3. Gymrwn ni drydydd peint? Peth simsan iawn ydi stôl ddwydroed! 4. Gymrwn ni bedwerydd? Pwy sydd i’n rhwystro!

7


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT PRIODAS

Cafwyd haul ar y fodrwy go iawn ym mhriodas Twm a Lisa ar Gorffennaf 25ain, yng Nghapel Bethel, Golan - diwrnod poetha’r flwyddyn eleni! Mae Twm yn fab i Dei ac Alma Griffiths, Bryn Coch, a Lisa yn ferch i Gary a Bethan Williams, Maes Alaw, Tremadog. Yn dilyn y gwasanaeth priodas, dan ofal y Parch Christopher Prew, ymunodd teulu a ffrindiau o bell ac agos ym Mhortmeirion, lle priodol iawn i gynnal y dathliadau gan mai yno y bu i Lisa a Twm gyfarfod gynta. Diolch Hoffem ddiolch am y cyfarchion a’r anrhegion a dderbyniasom ar achlysur ein priodas yn ddiweddar. Gwerthfawrogwn y cyfan yn fawr iawn. Cawsom ddiwrnod bythgofiadwy gan greu atgofion i’w trysori yng nghwmni ein teuluoedd a’n ffrindiau. Twm a Lisa Griffiths

CYD-DDIGWYDDIAD

TAITH CAPEL HOREB

Fore Sul, 7 Gorffennaf, cyfarfu criw da ohonom wrth y parc am 8.30 ac roedd y bws yno’n brydlon. I ffwrdd â ni am Dregaron gan aros am ychydig yn Nhal-y-bont, Aberystwyth. Wedi cyrraedd Tregaron aethom i Ganolfan gemwaith Rhiannon. Nid yw’r ganolfan yn agored fel arfer ar y Sul ond fe agorodd yn unswydd ar ein cyfer ni. I ddechrau cawsom sgwrs gan Rhiannon am sut y dechreuodd ei gwaith fel gemydd a sefydlu’r ganolfan ac fel mae’r fenter wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd ac, erbyn heddiw, Gwasanaethau’r Sul Horeb

MEDI 8 – Parch Goronwy Prys Owen, am 5.30 15 – Jean ac Einir 22 – Elfed Lewis 29 – Parch Bryn Williams, am 5.30 HYDREF 6 – Parch Eric Greene

mae llawer o dramorwyr yn dod yno i brynu ei gemwaith cywrain. Yna cawsom gyfle i fynd o gwmpas y siop i weld ac edmygu ei gwaith gwych. Yna aethom i’r caffi lle’r oedd bwffe wedi ei baratoi ar ein cyfer. Wedi’r gwledda, cychwyn i fyny’r cwm am Soar y Mynydd. Roedd hi’n ddiwrnod braf i fwynhau’r golygfeydd. Ymuno hefo’r gynulleidfa yn oedfa’r prynhawn a’r Parch Eric Greene yn pregethu. Mae dwy ffenest y tu ôl i’r pulpud ac roedd y gwenoliaid yn brysur iawn yn gwibio o’r coed i’w nythod dan fondo’r capel. Wedi’r oedfa troi am adre ond stopio ar y ffordd yn y Llew Coch, Dinas Mawddwy, lle’r oedd cinio wedi ei baratoi ar ein cyfer. Cawsom ddiwrnod bendigedig ac mae’r diolch i gyd i Alma am drefnu’r cyfan ar ein cyfer. Diolch yn fawr iawn iti, Alma.

Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd

Tel: 01341 247799 www.smithygarage-mitsubishi.co.uk smithygaragedyffryn

smithygarageltd

Gan brofi bod y byd yn lle bach iawn, roedd dau o hogiau’r Dyffryn ar eu mis mêl yn yr America ar yr un pryd - ac yn aros yn yr un gwesty! Yn y llun fe welir Twm a Lisa Griffiths ac Owain a Llinos Williams yn Los Angeles. Cydymdeimlo Gyda thristwch y clywsom am farwolaeth Mr John Gwilym Owen, Bro Arthur. Cydymdeimlwn yn fawr â’i ferched, Bethan, Rhian a Nia, ei chwaer Gwyneth, a’r teulu oll yn eu profedigaeth. Ar Awst 9fed yn Ysbyty Gwynedd bu farw Mrs Eurwen Davies, Hyfrydle (Eurwen Stesion). Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at ei phriod, Goronwy Davies, ei chwiorydd Gwyneth a Betty, a’r teulu oll yn eu profedigaeth.

8

Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes


YSGOL SUL HOREB

GWERYDDON

Daw hanes Gweryddon (Hugh Evans) o Dal-y-bont i ben yn ysgrif y Parch Z Mather yn y Traethodydd yn 1923 fel yma:

Casi , Ieuan, Elgan, Mared a Gwenno yn brysur ar y Trip Ysgol Sul (Horeb, Dyffryn ) yn Piggery Pottery ger Llanberis. Diolch i bawb am eu cymorth. Byddwn yn ailgychwyn yr Ysgol Sul ar Medi 15. Teulu Ardudwy Bydd Teulu Ardudwy yn ail gychwyn ddydd Mercher, 18 Medi yn y Neuadd Bentref am 2 o’r gloch, pan fyddwn yn cael cwmni Margaret Ellen Roberts (Margaret Tyddynyfelin). Festri Lawen, Horeb Bydd y cyfarfod cyntaf nos Iau, 10 Hydref am 7.30 yr hwyr pan fyddwn yn croesawu Hogia’r Berfeddwlad i’n diddori. Croeso i aelodau hen a newydd. Genedigaeth Llongyfarchiadau i Dylan a Nikita, Llwyn, Dyffryn ar enedigaeth eu mab Osian Rhys Williams. Dymuniadau gorau i’r tri ohonoch. Priodas aur Llongyfarchiadau i Raymond a Barbara Owen, Llwyn Ynn, ar ddathlu eu priodas Aur ar Awst 9. Priodwyd y ddau yn Eglwys y Drindod Sanctaidd yng Nghastellnewydd Emlyn a mwynhau mis mêl yn Torquay cyn setlo yn Noc Penfro lle roedd Raymond yn dysgu yn yr Ysgol Uwchradd. Diolch bod y ddau wedi cael y weledigaeth o symud i’r gogledd gan ein bod wedi elwa ar eu doniau, eu cefnogaeth i’r gymdeithas yn Ardudwy a’u cyfeillgarwch diffuant. Dymuniadau gorau i chwi fel teulu. Clwb Gwau Bydd y Clwb Gwau yn ail gychwyn ar ddydd Mawrth, 10 Medi, yn Festri Horeb am 2.00.

Clwb Cinio Bydd y Clwb Cinio yn cyfarfod yn Nineteen57 yn Nhal-y-bont am hanner dydd ar 17 Medi. Croeso i unrhyw un ymuno â ni. Dychwelyd Croeso nôl i Elen Mari, Phil ac Alys Medi Beaven sydd wedi ymgartrefu yng Nglanywerydd ar ôl bod yn byw yng Nghaerdydd. Braf yw gweld plant yr ardal yn gallu dychwelyd i Ardudwy i gefnogi’r fro unwaith eto. Dymuniadau gorau oll i chwi eich tri yn eich cartref newydd. Diolch Dymuna John a Jean, Gorwel, ddiolch am y cardiau a’r anrhegion a dderbyniwyd ar achlysur dathlu eu priodas aur. Hefyd am y rhoddion hael a dderbyniwyd tuag at Alzheimer’s ac Ymchwil Canser Cymru. Codwyd £670 – diolch o galon. Diolch a rhodd £10 Yn gwella Rydym yn falch o glywed bod John yn gwella ar ôl ei lawdriniaeth ddiweddar. Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Sioned (merch David Parry, Castell y Gog) a Dave ar enedigaeth mab bychan, Noah. Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau hefyd i Llion (mab David Parry) a Caren ar enedigaeth mab bychan, Logan.

Ni allaf ddwyn fy llith i derfyniad heb gyfeirio at un nodwedd arbennig yn Gweryddon, sef ei hoffter o brydyddu. Byddai’r awen bob amser at ei wasanaeth; a phan yn beirniadu neu annerch mewn cyfarfodydd llenyddol ac eisteddfodau, gwnâi y cwbl yn fynych ar gân, ac mewn ymddiddan cyffredin a thrafodaethau bywyd siaradai yn fynych mewn iaith farddonol. Clywais grydd o’r enw Morris Jones, Dyffryn, yr hwn arferai weithio iddo, yn dweud iddo un tro ddyfod a phâr o esgidiau iddo i’w gwadnu, a chan eu hestyn iddo, dywedodd, ‘I ymorol am Meurig - y daethum O deithio’n flinedig, Gael iddo heb deimlo dig - drwsio gwadnau Agored esgidiau gŵr dysgedig.’ Yr oedd yn fardd o radd uchel, fel y dengys ‘Cân Hen Ŵr y Cwm’ o’i waith yn Caniadau Cymru, gan y diweddar Broffeswr W Lewis Jones, yn gystal â chynhyrchion eraill. Temtir fi i roddi yma ddau englyn o’i eiddo, ar garreg fedd hen gyfaill iddo, o’r enw John Owen, ym mynwent Horeb, Dyffryn, yr hwn oedd ddiacon defnyddiol gyda’r Methodistiaid. ‘Pob peth yn dda’ oedd ei eiriau olaf wrth Gweryddon: Ffordd gras mewn urddas a gerddai - a’r saint Dros ei Dduw arweiniai; Ei yrfa’n llawen orffennai, Ac i’r nef dan ei goron ai. Efe yn glaf yn y glyn - a ddwedai, Yn ddidwyll heb ddychryn, Pob peth yn dda. Ha fel hyn Trechaf fy olaf elyn.’ Mae’r llinell olaf uwchlaw canmoliaeth, medd Z Mather.

CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT Croesawodd y Cadeirydd aelodau o Glwb Moduro Harlech i’r cyfarfod, sef Wenna Roberts, Euros Hughes a Darren Garrod i drafod rali fydd yn digwydd yn yr ardal ym mis Mehefin 2020 sef ‘Her John Arthur Mk2’. Cytunwyd i gefnogi’r rali hon mewn egwyddor cyn belled â bod pawb oedd yn mynd i gael eu heffeithio yn fodlon hefo’r trefniadau. CYHOEDDIADAU’R CADEIRYDD Llongyfarchwyd Jonathan Greenfield a’i wraig ar enedigaeth merch fach o’r enw Rosie. CEISIADAU CYNLLUNIO Ail-leoli mynedfa cerbydau, ffordd fynediad newydd a chodi pergoda – Merrog, Ffordd Glan Môr, Tal-y-bont. Cefnogi’r cais hwn. Codi sied wartheg newydd ynghyd â storfa slyri tanddaearol – Faeldref, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Diddymu Cytundeb Adran 106 ynghlwm i ganiatâd cynllunio yn 1993 – Bryn Coch, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Ymestyn safle carafanau i’r cae cyfagos i alluogi ailddosbarthu’r lleiniau ac ychwanegu 9 llain carafan deithiol ychwanegol, codi bloc toiledau newydd a gosod tanc nwy hylif - Llwyn Griffri, Tal-y-bont. Cefnogi’r cais hwn. MATERION YN CODI - Grŵp Gwella Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont Adroddodd y Cyng Steffan Chambers bod cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal ar yr 8fed o’r mis hwn er mwyn sefydlu grŵp fforwm. Hefyd, bod cyfarfod wedi ei gynnal gyda’r clwb ieuenctid a bod pethau’n edrych yn dda ac y bydd y cyfarfod blynyddol yn cael ei gynnal yn y dyfodol agos. GOHEBIAETH - Cyngor Gwynedd – Adran Briffyrdd Derbyniwyd ateb yn ôl gan yr uchod ynglŷn â materion a godwyd yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor yn datgan bod y gwaharddiad aros eisoes ar y bae parcio y tu allan i’r swyddfa bost sef dim parcio am fwy na hanner awr rhwng 8.00 o’r gloch y bore a 6.00 o’r gloch y nos. Hefyd yn datgan bod angen holi ynglŷn â’r mater gyda’r polyn BT ar Ffordd Tyddyn y Felin, Tal-y-bont gyda’r archwiliwr ac y byddant yn dod yn ôl atom.

9


STRYD MWYAF SERTH YN Y BYD

Dyma logo newydd Grŵp Cymunedol Harlech a gynlluniwyd gan y talentog Gwyn Headley. Fel y gwelwch, mae’n cynnwys lliwiau baner Meirionnydd. Os edrychwch yn ofalus, fe welwch fod y graddiant ar y gair LLECH yn 37.45%. Llongyfarchiadau i’r Grŵp am eu gwaith dros y dref. Y mae’n sicr bod nifer yr ymwelwyr â’r dref wedi codi’n arw ers y cyhoeddiad.

Gwyn Headley a Sarah Badham gyda’r dystysgrif

Yr offer mesur

10

Mae trigolion ac ymwelwyr sy’n gyrru ar ei hyd neu yn cerdded ar ei hyd oll yn dweud ffordd mor serth ydi Ffordd Pen Llech. A dyna hefyd ddywed Recordiau Byd Guinness, a gyhoeddodd heddiw dystysgrif yn cyhoeddi mai gan Ffordd Pen Llech bellach y mae’r record am fod y stryd mwyaf serth yn y byd: Y stryd (ffordd) mwyaf serth yw Ffordd Pen Llech yn Harlech, gyda graddiant o 1:2.67 (37.45% o ymestyn dros esgyniad) fel y’i dilyswyd ar 6 Mehefin 2019. Graddiant o 35% sydd gan ddeiliad blaenorol y record, Baldwin Street, Dunedin, Seland Newydd.

Facebook Ffordd Pen Llech, a chyngor hollol hanfodol y syrfëwr Myrddyn Philips, lluniodd trigolion Harlech becyn di-ffael er mwyn ennill y bid. Dywedodd Craig Glenday, Prif Olygydd Recordiau Byd Guinness: “Mae’r gymuned leol yn Harlech wedi dangos penderfyniad diwyro yn eu cais i ennill y teitl i Ffordd Pen Llech. Mi wyddom y bu nifer yn disgwyl ers tro byd, ac yr wyf yn falch o weld fod y canlyniad wedi llonni calonnau’r trigolion. Rwy’n gobeithio y bydd Harlech yn mwynhau’r dathliadau ac y bydd y teitl newydd yn denu llawer o bobl i’r dref hyfryd hon, iddyn nhw gael profiad o stryd serthaf y byd drostynt eu hunain!” “Roedd hi’n llawer anos nac yr oeddem ni’n tybio,” meddai Mr Headley. “Roedd Recordiau Byd Guinness yn ddeddfol o benodol o ran y meini prawf oedd yn angenrheidiol er mwyn i’r stryd fod yn gymwys i’w galw yn serthaf y byd, ac er ein bod yn ffyddiog y buasem yn ateb neu’n gwneud yn well na naw ohonynt, yr oedden ni braidd yn bryderus am y degfed.” Roedd angen glasbrint o’r stryd ar Recordiau Byd Guinness Cyfiawnhaodd cais Harlech ei ddiffyg gan i’r stryd fod yno Stryd Baldwin, Dunedin ers cyn cof, mil o flynyddoedd o leiaf; dim ond o 1842 mae glasbrintiau’n dyddio. Mae trigolion lluddedig Harlech Cafwyd parti mawr yn Harlech ar ben eu digon. “Mae wedi bod yn dilyn y cyhoeddiad. Mae’r yn daith faith a rhyfedd”, meddai hen dref wedi bywiogi drwyddi Gwyn Headley. ac yn barod i ddathlu gydag Gyda chymorth a brwdfrydedd ymwelwyr a chyfeillion – am hynod werthfawr Sarah Badham, y mil o flynyddoedd nesaf, sy’n rhedeg tudalen we Grŵp hwyrach? Pwy a ŵyr? Cymuned Harlech a thudalen

Ffordd Pen Llech yn yr eira cyn iddi ddod yn enwog!


DRINGFA PEN LLECH Dringfa Pen Llech neu fel mae’r Saeson yn ei galw - Harlech Hell Climb wedi ei drefnu gan Beicio Cymru. Ddechrau mis Awst daeth dros 60 o gystadleuwyr, yn cynnwys ychydig o feicwyr lleol, a Dan Evans, pencampwr dringo elltydd Prydain ddwy waith, a’i wraig Jess Evans, pencampwraig dringo elltydd Cymru pum gwaith. Enillydd ras y dynion oedd Callum Brown a lwyddodd i reidio beic o waelod Llech i’r top mewn 50 eiliad. Yn ras y merched, Rebecca Richardson ddaeth i’r brig mewn 1 munud 18 eiliad. Daeth torf dda o bobl leol ac ymwelwyr i gefnogi a chreu awyrgylch dda iawn yn annog a chefnogi pob reidiwr.

Phil Hughes o Harlech

EISTEDDFOD SIR CONWY 2019 Bu amryw o Ardudwy yn cymryd rhan neu’n cystadlu yn ystod yr wythnos, a llongyfarchiadau i bob un ohonyn nhw am eu cyfraniad a’u llwyddiant.

Llongyfarchiadau hefyd i bawb fu’n cymryd rhan fel unigolion ac mewn corau, yn cynnwys sawl aelod o Gôr Bro Meirion, Nia Wynne Hughes (teulu Hen Efail), sy’n aelod o Gôr Alaw (fu’n cystadlu ar y dydd Sadwrn cyntaf ac a ddaeth yn 3ydd allan o 9 o gorau), a pherfformio efo’r côr wedyn ar Lwyfan y Maes. Hefyd yn aelod o’r côr mae Gerallt Tecwyn, Ty’n Bonc, Llandecwyn ac roedd hefyd yn cymryd rhan yn y perfformiad o Te yn y Grug. Ar nos Wener gyntaf yr Eisteddfod, darlledwyd perfformiad o’r sioe syrcas gerdd gyfoes Tylwyth o Bafiliwn y Prifwyl. Roedd hon yn gynhyrchiad hudolus ac uchelgeisiol, gan weithio gyda Pontio Prifysgol Bangor a chwmni syrcas modern Gwyddelig, Fidget Feet. Ysbrydolwyd y sioe gan chwedlau a straeon y tylwyth teg yng ngogledd Cymru ac er mai stori serch ydy hi yn ei hanfod, mae ambell dro trwstan wrth i ddau lanc frwydro am galon merch ifanc.

Dan Evans cyn-bencampwr gwledydd Prydain

Yn cymryd rhan fel un o’r prif gymeriadau, Pegi Bwt, roedd Mair Tomos Ifans, wedi ei magu yn Harlech ac yn byw erbyn hyn yn Ninas Mawddwy.

Y llinell derfyn uwchben Llech

Ar y dydd Sul, yn y Babell Lên, cynhaliwyd Stori Cyn Cinio gan Grŵp Ysgrifennu Llanrwst. Yn aelod o’r grŵp mae Margiad Davies, Cilybronrhydd, ac roedd y

merched yn cyflwyno chwedl Gwenffrewi a straeon byrion eraill.

Yn ystod yr wythnos, cynhaliwyd cystadleuaeth ddifyr dros ben yn Nhŷ Gwerin ar y Maes, sef unawd ar unrhyw offeryn gwerin – agored. Llongyfarchiadau i Gweltaz Llŷr Davalan, ŵyr Llewela a Gareth Edwards, Llanaber, ar ennill y wobr gyntaf gyda’i gyflwyniad ar y bib Llydaweg.

Llongyfarchiadau hefyd i Lewys Meredydd (ŵyr y diweddar Mair M Williams o Lanfair) ar ddod yn fuddugol yn yr unawd bechgyn 16 ac o dan 19 oed. Y gân oedd ‘Mab y Mynydd’ gan Idris Lewis a beirniaid y gystadleuaeth oedd Ann Atkinson ac Eric Jones. Hyfforddwraig Lewys ydy Eirian Owen, Dolgellau, ac yn ystod mis Awst roedd Lewys hefyd yn perfformio mewn cyngerdd gan bedwar o ddisgyblion Eirian yng Ngŵyl Gerdd Machynlleth. Cafodd band Lewys wahoddiad i berfformio yn ystod yr wythnos hefyd ac yn dilyn ymddangosiad ar lwyfan y Maes, cafodd y band, pedwar o hogiau ifanc, noson wefreiddiol yn perfformio ym Maes B yr Eisteddfod. Bydd Lewys yn mynd i Gaerdydd y mis yma i astudio cerdd.

11


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN

COFFÂD

Christine Hemsley

Ar ôl treulio gwyliau ym Mhen Llŷn a sylwi oddi yno ar y castell yn Harlech, daeth Mike a Christine i’r ardal a chael tŷ ar werth yn yr Ynys, gyda chegin yn edrych allan ar yr union gastell yma. Roedd y ddau yn hynod weithgar yn yr ardal ac yn hapus i’n helpu gyda gweithgaredd lleol yn yr eglwys yn Llanfihangel ac yn y Neuadd yn Nhalsarnau. Roedd y ddau hefyd yn awyddus i ddysgu siarad Cymraeg. Ymunodd Christine â Sefydliad y Merched yn Harlech, lle bu’n llywydd tan yn ddiweddar. Roedd yn berson hynod annwyl a llawn bywyd, yn dangos diddordeb a chyfeillgarwch at ei chyd-ddyn lle bynnag y byddai. Roedd yn aelod o Bwyllgor Gwaith y Sir ac yn ysgrifenyddes, ac yn gwneud y gwaith yma’n drwyadl a graenus. Roedd ei hadnabod yn gwneud y byd yn llawer gwell lle. Ail briodas oedd hon i Mike a Christine ac roedd y ddau yn hynod o hapus efo’i gilydd am 25 mlynedd, gyda’u dau blentyn yr un wedi ymuno yn yr hapusrwydd oedd mor amlwg ym Mryntirion. Roedd

Christine yn hen nain i bedwar gor-ŵyr, a’r teulu yn hoff iawn o ymweld â glan y môr Llandanwg a’r traeth ger Llechollwyn. Hoffai Christine beintio dyfrlliw ac mae ei gwaith ar lawer o furiau tai yn yr ardal, fel ac yng nghartrefi’r teulu. Dioddefodd Christine waeledd difrifol tra ar wyliau dramor yn Croatia gyda Mike. Daethpwyd â hi i ysbyty yn Lerpwl, ond, yn anffodus, bu farw yno ar 15 Gorffennaf. Cwsg a gwyn dy fyd, Christine, a diolch am gael dy adnabod fel cyd-aelod o Sefydliad y Merched ac yn Eglwys Llanfihangel. Estynnir ein cydymdeimlad dwysaf â’i gŵr Mike a’r teulu oll, yn ogystal â’i ffrindiau a’i chymdogion yn yr Ynys a Thalsarnau, yn eu profedigaeth ddisymwth. GG Genedigaeth Mae dau deulu yn ein hardal yn cael eu cyfarch ar enedigaethau yn eu teuluoedd yn ystod yr haf. Yn gyntaf, llongyfarchiadau cynnes i Bryn a Mari Davies, Draenogan, Talsarnau ar enedigaeth Meri Lina ar 6 Mehefin, chwaer fach i John Myfyr ac wyres newydd i Gwion a Gwyneth Davies, Draenogan. Pob dymuniad da i’r teulu i gyd. Yn ail, ac yn fwy diweddar, estynnir llongyfarchiadau cynnes hefyd i Carwyn a Lisa, Tan y Deri, 3 Bryn Eithin, Llandecwyn ar enedigaeth Elain Ifan ar 19 Awst, chwaer fach i Lowri Fôn ac wyres newydd i John a Gwyneth Richards, Hafan Deg, Bryn Eithin. Dymuniadau gorau iddynt hwythau i gyd.

Neuadd Gymuned Talsarnau Noson gyda

GWERINOS

12

Nos Sadwrn, 28 Medi 2019 am 7.30 Adloniant ar ffurf ‘cabaret’ fydd hwn. Bydd croeso i chi ddod â’ch diodydd a’ch gwydrau gyda chi. Mynediad - £10 i oedolion/Plant ysgol am ddim Tocynnau : Mai 01766 770757, Anwen 01766 772960 Elw at y Neuadd

STONDIN MARI LLOYD YN Y SIOE SIR ELENI

Dyma stondin Mari Lloyd, Yr Hendre, Cwm Nantcol yn y Sioe Sir eleni. Fel y gwelwch, mae ganddi amrywiaeth dda o gynnyrch yn canolbwyntio ar ei gwaith fel ffotograffydd. Diolch iddi am gymryd gofal o Galendr Llais Ardudwy am eleni. Er cof am Tracey Caines (Cooper gynt) Collodd Tracey ei brwydr, ar ôl cyfnod byr yn yr ysbyty, yn 56 mlwydd oed. Roedd Tracey wedi ymgartrefu yn Swydd Warwick, ond treuliodd ei harddegau ym Maes Hyfryd, Talsarnau. Bu’n gweithio ym Mrontrefor, ac yn ddiweddarach, i David Cooke yn Llanbedr cyn symud o’r ardal. Rhodd o £10.00 gan Alan Cooper a Richard Nightingale.

Cydymdeimlad Estynnir cydymdeimlad dwys ag Alan Cooper a’r teulu, Argoed, Bryn Eithin, yn eu profedigaeth ddisymwth yn ystod yr haf, o golli chwaer Alan, sef Tracey Caines a oedd yn byw yn Swydd Warwick. Capel Newydd, Talsarnau Oedfaon am 6.00 bob nos Sul Croeso cynnes i bawb MEDI 8 - Dewi Tudur 15 - Dewi Tudur 22 - Dewi Tudur 29 - Gruffudd Davies, Chwilog HYDREF 6 - Dewi Tudur.

R J Williams Honda Garej Talsarnau Ffôn: 01766 770286


Cyngerdd Eglwys Llanfihangel-y-traethau

R J WILLIAMS IZUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU IZUZU

Meibion Prysor gyda’u harweinydd, Iwan Morgan a’r ddwy gyfeilyddes, Iona Mair ac Alwena Morgan

Dymunwn fel eglwys ddiolch o galon i bawb, aelodau a ffrindiau a gyfrannodd mewn unrhyw fodd i wneud nos Iau, 18 Gorffennaf yn gymaint o lwyddiant. Cafwyd cyngerdd safonol iawn gyda Meibion Prysor gyda Seimon ab Iorwerth yn cyflwyno, Iwan Morgan yn arwain a chanu, Tomos Heddwyn ac Alaw Haf yn perfformio unawdau a deuawdau ac Iona Mair ac Alwena Morgan yn cyfeilio. Roedd hwn yn gyngerdd trist i’r Côr gan mai dyma’r tro cyntaf iddyn nhw berfformio’n gyhoeddus yn dilyn marwolaeth annhymig Islyn Griffiths, gŵr poblogaidd iawn ymhell tu hwnt i’w ardal enedigol yn Nhrawsfynydd. Cyfeiriwyd at hyn yn ystod y noson. Dilynwyd y cyngerdd gyda chyfle i gymdeithasu dros lasied o win ac amrywiol gawsiau a bisgedi. Roedd yr eglwys yn llawn ac roedd pawb wedi mwynhau. Gwnaed elw o £600 tuag at atgyweirio’r adeilad. Dymunwyd yn dda i’r dyfodol i’r ddau gerddor ifanc yn enwedig Tomos Heddwyn mewn amrywiol gystadlaethau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.

Tomos Heddwyn ac Alaw Haf oedd yr unawdwyr yn y cyngerdd

ENGLYN DA HIRAETH AR ÔL EI FERCH Mae cystudd rhy brudd i’m bron - ’rhyd f ’wyneb Rhed afonydd heilltion; Collais Elin liw hinon, Fy ngeneth oleubleth lon. Goronwy Owen, 1723-1769

CYNGOR CYMUNED TALSARNAU Estynnodd y Cadeirydd gydymdeimlad y Cyngor â theulu y diweddar Mr Idris Williams, Tanforhesgan. Ar ran y Cyngor dymunodd y Cadeirydd wellhad buan i Mrs Gwyneth Richards, gwraig John Richards a oedd wedi bod yn yr ysbyty yn ddiweddar. Dymunodd y Cadeirydd wellhad buan i Mr Steve Henshaw, brawd yng nghyfraith Ffion Williams a oedd wedi bod yn yr ysbyty yn ddiweddar. MATERION YN CODI Rheolau Ariannol a Rheolau Sefydlog y Cyngor Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon copi o rai newydd o’r uchod i bob aelod gyda’r cofnodion er mwyn iddynt gael amser i’w darllen. Cytunwyd i fabwysiadu’r rheolau sefydlog a’r rheolau ariannol newydd hyn. Cyfarfod y Mynwentydd Adroddwyd bod y Cyngor wedi cynnal y cyfarfod blynyddol o fynd o amgylch y mynwentydd ar yr 17eg o Fehefin a bod pawb oedd yn gallu wedi cyfarfod yn gyntaf ym mynwent Llanfihangel-y-traethau am 7.00 o’r gloch ac wedyn wedi mynd draw am Landecwyn gan hefyd ymweld â’r cae chwarae i lawr ffordd y stesion. Cytunwyd bod cofnodion o’r cyfarfod hwn yn gywir. Hefyd, cytunwyd i ofyn i Dewi Tudur Lewis a fyddai’n bosib iddo drefnu i Mr Chris Rayner gael mwy o rwber i’w osod o dan yr offer chwarae; hefyd, cytunwyd i archebu polyn fflag a fflag y Ddraig Goch er mwyn eu gosod yng Ngardd y Rhiw. CEISIADAU CYNLLUNIO Gosod ffenestri dormer ar y drychiadau blaen a cefn – Cae Bran, Barcdy, Talsarnau. Cefnogi’r cais hwn. Newid defnydd rhan o’r stabl/ysgubor wair yn siop adwerthu Dosbarth A1 – Bryn Derw, Talsarnau. Cefnogi’r cais hwn.

13


HYSBYSEBION

Telerau gan Ann Lewis 01341 241297 ALUN WILLIAMS TRYDANWR GALLWCH HYSBYSEBU *YN Cartrefi Y * Masnachol BLWCH HWN * Diwydiannol AM £6 Ya Phrofi MIS Archwilio Ffôn: 07534 178831

e-bost:alunllyr@hotmail.com

14

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru


CYNGOR CYMUNED HARLECH MATERION YN CODI Llwybr Natur Bron y Graig Adroddodd Huw Jones bod Mr Meirion Evans wedi cwblhau’r gwaith ar y wal derfyn ar y safle uchod a bod y gwaith o safon uchel iawn, hefyd ei fod wedi gorffen ail adeiladu’r wal sydd wedi disgyn ger y rhandiroedd. Adroddodd y Clerc ei bod wedi gofyn i Judith Strevens ynglŷn â’r arwyddion a’i bod wedi datgan ei bod yn aros am bethau i’w gosod. Toiledau ger y Castell Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn copi o gontract a’i bod wedi llunio un er mwyn ei roi i Mr Phil Griffiths ond bod angen gwybod faint o oriau roedd yn mynd i weithio a phryd fyddai’r toiledau’n cael eu cau a chytunodd y Cadeirydd fynd i weld Mr Griffiths. Rheolau Sefydlog, Rheolau Ariannol a Buddiannau yr Aelodau Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon copi o rai newydd o’r uchod i bob aelod drwy e-bost er mwyn iddynt gael amser i’w darllen. Cytunwyd i fabwysiadu’r rheolau sefydlog a’r rheolau ariannol newydd hyn. Cytunwyd i fabwysiadu’r rheolau hyn i gyd. UNRHYW FATER ARALL Datganwyd pryder bod gwaith yn mynd i gael ei wneud ar y tir ger stad Tŷ Canol a chytunodd Freya Bentham edrych i mewn i hyn. Cafwyd gwybod bod rhai’n pryderu bod gwaith yn digwydd ym maes parcio Bron y Graig Uchaf a bod llefydd parcio yn mynd i gael eu colli.

FFA DA

Pob lwc i Sarah a Sioned ar eu menter newydd. Mae’r ddwy yn enedigol o’r ardal a bellach wedi dychwelyd i Lanfair wedi cyfnod i ffwrdd. Ar ôl bod yn nofio ym mae Ceredigion un bore, breuddwydio roedden nhw am baned o goffi wedi ei rostio’n ffres pwy fyddai’n meddwl ymhen y flwyddyn mai dyma bydden nhw’n ei wneud?

CORNEL Y FFERYLLYDD

FFLIW

Wrth i’r haf ddirwyn i ben, mae’r gwasanaeth iechyd yn troi ei golygon at heriau’r gaeaf a’r cynllunio sydd ei angen ar gyfer hynny. Un o’r blaenoriaethau yw gwarchod y boblogaeth rhag y ffliw a sicrhau fod y brechiad ffliw ar gael. Rhaid cofio fod y ffliw ac annwyd yn ddau beth gwahanol. Er fod y ddau yn cael eu hachosi gan feirws a ddim yn ymateb i gyffuriau gwrth feiotig, gall y symptomau fod yn dra gwahanol. Mae ffliw go iawn gryn dipyn yn fwy difrifol na’r annwyd ac yn aml gallwch fod yn eich gwely am rai dyddiau. Gall symptomau gynnwys gwres o dros 38C, teimlo wedi ymlâdd, tagu, cur pen, trafferth cysgu a dim awydd am fwyd. Gan amlaf gall pobl ifanc iach ymladd y feirws ei hun ond i bobl hŷn neu rai sy’n dioddef o anhwylderau eraill megis clefyd siwgwr, clefydau’r ysgyfaint neu system imiwnedd wan mae’r stori yn dra gwahanol. Yn wir, ar gyfer y grwpiau hyn gall y ffliw achosi i bobl orfod mynd i’r ysbyty a hyd yn oed marwolaeth mewn rhai achosion. Y prif ffordd mae y gwasanaeth iechyd yn gwarchod y boblogaeth rhag y ffliw yw trwy ddarparu brechiadau ffliw. Mae’r brechiad ffliw ar gael am ddim i rai yn y grwpiau yma: dros 65 oed, merched beichiog, gofalwyr, clefydau’r frest (asthma a COPD), system imiwnedd wan, clefyd siwgwr, byw mewn cartrefi gofal, gweithwyr gofal iechyd, strôc, clefyd y galon, clefyd yr arennau. Gan fod straen y ffliw yn newid o dymor i dymor mae’n rhaid cael y brechiad yn flynyddol. Mae’n bwysig cofio nad ydy’r brechiad yn rhoi y ffliw i chi. Yn wir gallwch gael rhywfaint o sgil effeithiau megis cochni yn y fraich neu symptomau annwyd gwan iawn am gyfnod byr ond gan amlaf dim byd gwaeth na hynny. Cofiwch hefyd mai eich gwarchod rhag y ffliw mae’r brechiad a dim eich rhwystro rhag dal annwyd. Bydd posib i chi gael y brechiad yn y feddygfa a hefyd yn y fferyllfa. Steffan

Sarah a Sioned ar ddiwrnod y lansio yn y Llew Glas, Harlech Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf bu’r ddwy yn dysgu sut i rostio, cymysgu a gwneud coffi. Mae’r ddwy bellach yn achrededig gan yr SCA (Speciality Coffee Association). Ar fferm deuluol mae’r man rhostio ac mae pedwar math o goffi ar gael - ‘Bore Da’ gyda’r ffa yn dod o Frasil, Halibalŵ o Pheriw, ‘Gŵyl’ o Rwanda a choffi di-gaffîn o’r enw ‘Nos Da’ sy’n gymysgedd o ffa o El Salfador a Nicaragwa. Felly os am baned o goffi espresso, americano, latte, cappuccino neu goffi gwyn, chwiliwch am y gwneuthuriad ‘Ffa Da’. Gallwch ei brynu yn y Llew Glas, Harlech. Mae’r cwmni yn ystyried ffactorau amgylcheddol ee bagiau coffi y gellir eu compostio ac mae’r coffi yn cael ei brynu trwy gyflenwyr sydd ag ymrwymiad i gynaliadwyaeth, sy’n ymweld â’r ffermydd lle mae’r coffi yn cael ei dyfu ac yn sicrhau pris teg i’r ffermwyr.

Gŵyl Cerdd Dant Bro Nansi 2020 Mae Gŵyl Cerdd Dant Bro Nansi, sydd i’w chynnal yn Llanfyllin ar Tachwedd 14, 2020 yn chwilio am unigolion, busnesau, mudiadau neu gymdeithasau i noddi gwobrau’r ŵyl. Mae’r rhain yn amrywio o £20 i £500 ar gyfer y prif gystadlaethau. Efallai bod gennych gysylltiad gyda Nansi Richards neu ardal Maldwyn, ac yn awyddus i noddi cystadleuaeth. Cysylltwch â rhian@mentermaldwyn.cymru neu d/o Y Groes, Stryd Lydan, Y Drenewydd SY16 2BB am gopi o’r rhestr o gystadlaethau sydd ar gael i’w noddi. Yn gywir, Alun Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith

15


HARLECH

Graddio Llongyfarchiadau cynnes i Laura Ellen Sadler, Cae Gwastad ar ennill ei gradd mewn Gwyddoniaeth Meddygol ym Mhrifysgol Bangor gydag anrhydedd dosbarth cyntaf. Hefyd, enillodd wobr myfyrwraig y flwyddyn eto eleni a gwobr traethawd hir gorau’r ysgol Wyddorau Meddygol. Bydd Laura rŵan yn dilyn cwrs Meistr Ffisigwr Cysylltiol a bydd yn dechrau ei gyrfa yn y Gwasanaeth Iechyd. Hoffai Laura ddiolch o galon i’w rhieni, ei phartner Aaron ac yn enwedig i Taid am eu cefnogaeth cyson iddi. Teulu’r Castell Ar 11 Gorffennaf 2019 fe aeth aelodau o Deulu’r Castell i Chwarel Hen, Llanfair, am de prynhawn i orffen y cyfarfodydd dros yr haf. Cafwyd te gwych wedi ei baratoi a’i weini gan y perchnogion. Rhoddwyd y diolchiadau iddynt gan Edwina Evans. Diolch i bawb oedd wedi rhoi y rafflau ac i’r perchnogion am y blodau hardd oedd wedi eu trefnu ganddynt ar ein cyfer. Bydd Teulu’r Castell yn ailgychwyn ar 8 Hydref yn Neuadd Goffa Llanfair, am 2 o’r gloch. Croeso cynnes i aelodau newydd hefyd. Gwasanaethau’r Sul Capel Jerusalem MEDI 8 Parch Iwan Ll Jones am 3.30 Medi 15 Parch Dewi Morris am 4.00 Engedi Medi 29 - Diolchgarwch John Price am 2.00 Rehoboth Hydref 6 - Diolchgarwch Elfed Lewis am 2.00

16

Pen-blwydd arbennig Roedd Gareth Owen, sy’n iach fel cneuen, yn dathlu ei benblwydd yn 90 oed ar Gorffennaf 18. Cafodd barti hyfryd yn nhafarn y Pengwern yn Llan Ffestiniog. Wrth ei ochr y mae Helen, ei wraig, a Doreen Roberts a ymunodd yn y dathlu. Seindorf Arian Harlech Brynhawn Sul, 25 Awst, bu Seindorf Arian Harlech, o dan arweiniad Ceri Griffith, yn diddanu ymwelwyr â Llandanwg ar y Maes. Cafwyd orig ddifyr yn canu emynau, gyda’r Tad Tony Hodges a Pam Odam yn cyflwyno ac yn rhoi cefndir y cyfansoddwyr a’r emynau. Diddorol iawn. Pob diolch i aelodau’r band am fod mor fodlon treulio eu pnawn Sul yn diddanu’r gynulleidfa.

CWPAN GOFFA GARETH REES

Nansi a Huw Cynhaliwyd y gystadleuaeth am gwpan goffa Gareth Rees yn Llyn Tecwyn Uchaf yn ddiweddar. Yn anffodus, nid oedd llawer yn cystadlu eleni. Bu Gareth yn drysorydd ffyddlon iawn i Glwb Sgota Artro a Thalsarnau am flynyddoedd. Daliwyd un sgodyn gan bawb oedd yn bresennol, sef Dafi Owen, Siôn Rees, Huw Jones, Gareth Rees, Martin Howiw, Ken Howie a Nansi Celyn . Yr enillydd oedd Huw Jones gyda’r brithyll trymaf o thua dau bwys. Doedd Nansi ddim yn bell tu ôl wrth iddi ennill cystadleuaeth y bobl ifanc. Braf oedd gweld Siôn, mab Gareth yn cystadlu. Siawns y buasem wedi dal mwy o bysgod pe bai Nel, ci Siôn, wedi cyfarth llai! Diolch i bawb ddaeth i gystadlu. Gobeithio cawn well cefnogaeth y flwyddyn nesaf.

Hapus goffadwriaeth I gofio gyda hiraeth dwys, tair blynedd yn ôl am ein mam, nain, a hen nain sef Blodwen Jones, 23 Y Waun ar ei phenblwydd. Buasai wedi bod yn 100 oed ar Medi 12. Erys yr hiraeth yn ein calonnau, ond aros mae’r atgofion mor felys ag y buon nhw erioed, Teulu Blod £40

Siôn Rees


BORE COFFI LLWYDDIANNUS

CANMOL TRAETH HARLECH

Ar ddydd Mercher, Gorffennaf 17, cynhaliwyd Te Prynhawn tuag at Ymwybyddiaeth Canser y Fron yng Nghaerau, Harlech. Dymunwn ddiolch yn ddiffuant i bawb am eu cyfraniadau ariannol ac i’r busnesau lleol ac unigolion am y gwobrau raffl hael. Diolch am y cacennau ac i bawb a fu yn cynorthwyo ar y diwrnod. Diolch i bawb a ddaeth i wneud y prynhawn mor llwyddiannus. Rwyf yn gwerthfawrogi popeth ac yn falch fod y prynhawn wedi codi £865 at yr achos. Bethan Jones Rhodd £10

Mae traeth Harlech ar frig rhestr TripAdvisor o draethau gorau Gogledd Cymru. Pluen arall yn het y dref!

CLWB RYGBI HARLECH

Enillwyd Plât Cystadleuaeth Goffa Siôn Wyn gan Glwb Rygbi Harlech ym Machynlleth ar Awst 3. Llongyfarchiadau gwresog iddynt ac i Meilir Roberts am drefnu. Braf gweld dau frawd, Eon ac Erddyn Williams, a’r tri brawd Edward, Richard ac Ewart Williams yn cymryd rhan ac yn cefnogi’r Clwb.

Dathlu ar ôl y fuddugoliaeth ym Machynlleth Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol y Clwb ar nos Fercher Gorffennaf 31 yn Ystafell y Band. Ailetholwyd y swyddogion presennol a llongyfarchwyd pawb oedd ynghlwm â’r cystadlu yng ngemau 7-bob-ochr Llanidloes a Machynlleth. Diolchwyd i bawb sydd ynghlwm â’r hyfforddiant i blant iau a’r disgyblion hŷn yn Ysgol Ardudwy, yn enwedig Osian Roberts a Siân Edwards. Croeso i aelodau newydd 6 -11 oed ar bob prynhawn Iau rhwng 4.30 a 5.45. Hefyd disgyblion Uwchradd rhwng 2.30 - 4.00 ar gaeau Ysgol Ardudwy. Diolch i bawb am bob cefnogaeth. Mwynhawyd barbaciw ar ôl ymarfer nos Iau, Awst 22 yng nghaeau Brenin Siôr V ac yn Ystafell y Band gan nad oedd y tywydd mor ffafriol. Mwynhawyd gêm o rownderi gyda’r oedolion yn ymuno yn yr hwyl. Diolch i bawb am bob cefnogaeth.

17


DYDDIADUR Y MIS

Medi 6: Merched y Wawr, Harlech a Llanfair, Te Cymreig, Neuadd Llanfair, 2.00 – 3.00 Medi 7: Rali Lorïau, Bermo Medi 10: Clwb Gwau, Festri Horeb, Dyffryn, 2.00 Medi 1–15: Arddangosfa Artistiaid Lleol, Tŷ Meirion, Dyffryn Medi 14 – 23: Gŵyl Gerdded Bermo Medi 17: Clwb Cinio, Nineteen.57, 12.00 Medi 18: Teulu Ardudwy, Neuadd Bentref Dyffryn, 2.00 Medi 20 – 23: Gŵyl Gwrw Llanbedr, Tŷ Mawr, Llanbedr Medi 21: Sioe Ganllwyd Medi 22: Prynhawn Agored i ddathlu gefeillio Llanbedr/ Huchenfeld, Neuadd Llanbedr, 2.00–5.00 Medi 26: Gŵyl Rygbi Tag Cwpan y Byd [Ysgolion Ardudwy], Cae Brenin Siôr V, Harlech 10.00 – 3.30 Medi 28: Gwerinos, Neuadd Gymunedol Talsarnau, 7.30 Medi 28: Diwrnod Agored Gwartheg Duon Cymreig, Egryn, Eithin Fynydd a Gwern Caernyddion Medi 28: Hwyl Nofio, Harbwr Bermo i Benmaenpool. Hydref 2: Cymdeithas Gymraeg Bermo, Euros Hughes, Theatr y Ddraig Bermo, 7.30 Hydref 10: Festri Lawen, Dyffryn Ardudwy, Hogia’r Berfeddwlad, 7.30 Hydref 19: Eisteddfod Ardudwy, Neuadd Goffa Harlech, 1.00 Tachwedd 2: Sioe Arddio Harlech, Neuadd Goffa, 2.00 Cysylltwch â Mai Roberts ar: mairoberts4@btinternet.com

YN EISIAU

IS-OLYGYDDION I’R PAPUR HWN

SIOE ARDDIO HARLECH Sioe Glan Gaeaf Dydd Sadwrn, Tachwedd 2 am 2.00 Mynediad: £1.50

Llais Ardudwy Diolch am bob cefnogaeth. Gyda lwc ac os byw ac iach, byddwn yn cyhoeddi Rhifyn 500 ymhen blwyddyn!

CYNNYRCH EISTEDDFOD DYFFRYN CONWY

CARAFANIO GUTO DAFYDD ‘Mae’n nofel onest, yn glyfar, yn ddeifiol’... ‘A dyna fawredd y nofel: sylwadau craff am y natur ddynol, am ddyheadau, disgwyliadau, ofnau, am ein stad fydol, fregus.’ (Haf Llewelyn) ‘Hanes teulu sydd yma. Nid oes stori fawr i’w dweud, does dim digwyddiadau ysgytwol, newid-bywyd. A dyna fawredd y nofel: sylwadau craff sydd yma am y natur ddynol, am ddyheadau, disgwyliadau, ofnau, am ein stad fydol, fregus. Mae’n nofel onest, yn glyfar, yn ddeifiol – weithiau’n hiraethus – ac yn ei chwmni, cefais blyciau o chwerthin yn uchel, o nodio a phorthi, o dristáu, ac anobeithio, ond yn ei chwmni hefyd cefais brofi rhyddiaith ar ei gorau.’ (Haf Llewelyn)

INGRID RHIANNON IFANS Mae’r siampên yn llifo yn ninas Stuttgart, y neuaddau jazz yn orlawn a’r tŷ opera dan ei sang. Ac yng nghanol y bwrlwm mae Ingrid, yn barod ei gwên a’i barn. Yr Awdur: Yn wreiddiol o’r Gaerwen ar Ynys Môn, mae Rhiannon Ifans yn byw ers blynyddoedd lawer ym Mhenrhyn-coch yn ardal Aberystwyth. Mae’n arbenigo ar lenyddiaeth ganoloesol ac astudiaethau gwerin. Gwybodaeth bellach: Ond mae salwch meddwl yn cael effaith greulon ar deulu cyfan wrth iddo daro’r un mae pawb yn ei charu. Stori ingol, lawn ffraethineb, am ddynes gyfareddol sy’n araf golli ei meddwl.

GŴYL GWRW LLANBEDR - Medi 20, 21 Cynhelir 14eg Gŵyl Gwrw Llanbedr yng Ngwesty Tŷ Mawr. Tocyn mynediad yn cynnwys gwydr swfenîr a nodiadau blasu: Cyn 6.00 yr hwyr £3 Ar ôl 6.00 yr hwyr £5

• Adloniant dydd Gwener 12.00 tan 6.00 - Cerddoriaeth gefndir tawel, wedi’i recordio ac yn fyw, yn cynnwys cerddoriaeth delyn Gymreig • 6.00 tan 7.00 - Côr Meibion Ardudwy • 7.00 tan 8.30 - Liam & Friends • 9.00 tan 11.00 - John ac Alun Adloniant dydd Sadwrn • 12.00 tan 6.00 - Cerddoriaeth gefndir tawel, wedi’i recordio ac yn fyw. • 6.00 - 8.00 - Ruby Blues Band • 8.30 -1100 - Band lleol yw Sesiwn sy’n canu casgliad o roc a blŵs, yn amrywio o AC/DC i The Zutons a phopeth rhyngddynt.

Pris tocyn cwrw a seidr hanner peint - £1.70. £5 am 3 tocyn. 37 cwrw gwahanol gan 11 o fragwyr o ogledd a chanolbarth Cymru a 6 seidr gan 2 gwmni Cymreig eleni. Bydd byrbrydau oer ar gael yn y babell a the a choffi hefyd gan gwmni newydd lleol, Ffa Da. Bydd bara di-glwten ar gael. Yr arlwywr allanol tu allan i’r babell eleni fydd Costume Company o Gorwen - yn gwerthu byrgyrs cig oen a phorc Cymreig, cŵn poeth (gyda selsig Edwards Conwy) a byrgyrs a selsig fegan. Mae holl elw’r ŵyl yn cael ei rannu; mae dros £30,000 wedi ei rannu i gymdeithasau lleol dros y blynyddoedd bellach. Dymuna Pwyllgor yr Ŵyl ddiolch i Jane a Steve, Tŷ Mawr, a’r holl noddwyr casgenni a hysbysebwyr am eu cefnogaeth. Prin fyddai’r elw bellach heb gefnogaeth hael y noddwyr. 18


Cynnig Gofal Gofal Plant Cynnig Plant Cymru Cymru Addysggynnar gynnar aagofal Addysg gofal

30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi’u 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant hariannu gan y Llywodraeth i rieni cymwys sy’n gweithio wedi’u gan y Llywodraeth i rieniam cymwys ac sydd âhariannu phlant tair a phedair oed, a hynny hyd at sy’n gweithio 48 ac wythnos sydd â phlant tair a phedair oed, y flwyddyn. a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Amfwy fwyoofanylion fanylion cysylltwch cysylltwch gyda Am gydag Uned Gofal Plant Gwynedd a Môn Uned Gofal Plant Gwynedd a Môn Ffôn: 01248 352436 Ffôn: 01248 352436 E-bost: gofalplant30awr@gwynedd.llyw.cymru E-bost: gofalplant30awr@gwynedd.llyw.cymru

Bocsys a ‘bubblewrap’ ar lein

WIL BIAU’R EMYN O HYD

Soniais o’r blaen am William Williams, Pantycelyn (17171791). Fo ydi prif emynydd yr iaith Gymraeg siŵr o fod ac mae ei gynnyrch yn yr iaith Saesneg yn loyw iawn hefyd. Mae mor flaenllaw fel emynydd fel bod pregethwyr yn aml yn anghofio rhoi ei enw llawn iddo o’r pulpud ac yn cyfeirio ato fel ‘Pantycelyn’ neu hyd yn oed fel ‘Williams’ yn unig. Byddai yn ffasiwn unwaith ei alw ‘Y Pêr Ganiedydd’ ac yn siŵr roedd ei gyfoeswyr yn ei gydnabod fel eu prif emynydd. ‘Wil biau’r emyn’ yn wir. Cefais drip i ardal Pantycelyn unwaith gyda llond bws o bobl eraill heb sôn am blant. Gwelsom ryfeddodau ardal Llanymddyfri a mwynhau picnic a phryd sylweddol ar y ffordd adref. Ond i mi, penllanw’r diwrnod oedd cael mynd i Bantycelyn a chael gweld cartref Williams a’i deulu. Er bod dulliau ffermio a llawer peth arall wedi newid, roedd y tŷ yn allanol yr un fath yn union â’r lluniau traddodiadol o’r cartref. A’r croeso! Roedd y teulu yn barod iawn i roi o’u hamser i ni ac adrodd rhai o’r traddodiadau am Williams. Peth braf tu hwnt oedd deall mai’r un teulu sydd ym Mhantycelyn byth a’u bod yn ddisgynyddion i’r emynydd. Roedd y penteulu, Mr Cecil Williams, yn frwd iawn ei groeso. Rwyf wedi gweld hen luniau o Williams; mae yna un arbennig yn y Llyfrgell Genedlaethol ac mae’r lluniau wedi eu gwneud yn ystod oes rhai a’i cofiai. Tybed ai ffansi gwirion ar fy rhan oedd credu bod yna debygrwydd pryd a gwedd eithriadol iawn rhwng Mr Cecil Williams a’r gwron ei hun? Roedd yn amlwg bod y teulu yn falch o’u hetifeddiaeth er ei bod hi’n anodd credu y byddai pawb mor rasol o weld siarabang ar ôl siarabang yn dadlwytho

edmygwyr yn y buarth. Wedi`r cyfan, mae ar y fferm ac yn y tŷ ddigon o waith i’w wneud heb gael minteioedd o ymwelwyr. Un o emynau mwyaf Williams yw yr un sydd â rhif 517 yn Caneuon Ffydd. Dyma emyn cryf yn sôn am y croeshoeliad ac mae Williams yn datgan mai er mwyn pechaduriaid y bu Crist farw. Mae’n gofyn y cwestiwn: ‘Dwed i mi, ai fi oedd hwnnw gofiodd cariad rhad mor fawr?’ Ac wrth gwrs, bwriad Williams oedd i bawb a ganai’r emyn holi ei hun gyda’r un cwestiwn. Mae’r ail bennill yn gofyn un cwestiwn ar ôl y llall. Mae Delyth G Morgans yn y gyfrol Cydymaith Caneuon Ffydd yn gweld y pennill yma yn null ymson rhethregol pregethwyr mawr cyfnod Williams, pobl fel Daniel Rowland (1711-1790). ‘Dwed i mi, a wyt ti`n maddau cwympo ganwaith i`r un bai? Dwed a ddeui byth i galon na all gynnig ’difarhau? Beth yw pwysau’r beiau mwyaf a faddeui? O ba ri? Pa un drymaf yw fy mhechod ai griddfannau Calfari?’ Wir, bron na ddywedech fod yna dinc o orffwylldra yma. Ac mae’r un peth yn wir am ddechrau’r pennill nesaf: ‘Arglwydd, rhaid i mi gael bywyd; mae fy meiau yn rhy fawr...’ I ni heddiw mae canu fel hyn yn fentrus tu hwnt ac yn bell iawn oddi wrth emynau llawer ‘neisiach’ fel y rhain a arferwn ni. Roedd llawer o ganu ar yr emyn yma yn ystod Diwygiad 1904-05. Dyna pryd y cafwyd tôn i weddu i’r dim hefo’r geiriau sef Nasareth (rhif 433 yn Caneuon Ffydd). Mae’r rhythm yn cydfynd â’r cwestiynau pwysig yn yr ail bennill ac mae’r gair ‘rhaid’ yn llinell cyntaf y trydydd pennill yn cael ei dynnu allan gan y dôn. Gŵr o’r Rhondda Fach oedd y cyfansoddwr – Joseph Rhys Lewis neu Alaw Rhondda (18601920). Lledodd poblogrwydd y geiriau ar y dôn a bu llawer o ganu ar yr emyn hyd yn weddol ddiweddar. Efallai fod yr emyn a’r dôn braidd yn hen ffasiwn i’n chwaeth ni bellach. Gair pellach am Williams y tro nesaf ac awgrym i unrhyw un sydd â ffansi am drip. JBW

19


BWYD A DIOD Languedoc

Ffardding ac ‘India Roc’

Lluniau gan Coed Celyn Photography

Disgwylir y tywydd ar daith i dde Ffrainc ym Mehefin fod yn rhesymol, ond na, dim y flwyddyn yma ar ein gwyliau i’r Languedoc! Cafwyd dyddiau llethol o boeth gyda thymheredd yn taro dros y 40˚. Nid negyddol oedd pob deilliant o’r tywydd. Yn gyntaf, dychrynodd Dylan am ei fywyd ar ôl gweld neidr yn nofio yn yr afon yr oedd o newydd nofio ynddi. Yn ail, cawsom yrru i fyny Mont Ventoux i geisio cael gwared â gradd neu ddau o gynhesrwydd. Er ei fod ddwywaith uchder y Wyddfa a’r tywydd yn dal yn chwilboeth roedd rhes gyson o feicwyr yn dilyn y ffordd ddibaid o serth sy’n rhan o lwybr Tour de France. Cymerodd hanner awr i ni yrru i fyny i fwynhau ein picnic ar y copa! Pwrpas y daith oedd gwyliau, ond hefyd i ymweld â gwinllan newydd yn yr ardal hon. Cynhyrchir mwy na thraean o win Ffrainc yn yr ardal Languedoc-Roussillon – ac roedd yn amlwg ar ein taith trwy winllannoedd di-ben-draw o dan yr haul poeth. Yn yr ardal hon treuliwyd diwrnod braf iawn yng nghwmni Etienne a Marie Rouanet o winllan Saint Cels yn ymweld â’r gwinllannoedd sy’n ymestyn dros 81 hectar – eithaf mawr i fusnes teuluol. Dros ginio yn eu cegin esboniodd Etienne effaith y tywydd anarferol ar y grawnwin; roedd yn poeni bod y planhigion yn cau i lawr gyda’r dail yn gwywo – ffordd natur o geisio achub y winwydden. Hefyd, roedd perygl o losgi’r dail yn amlwg yn rhai gwinllannoedd a oedd wedi eu chwistrellu rhag llwydni yn y tywydd llaith. Yn ystod ein hamser yno, cafwyd blas ar ymrwymiad y ddau i’w tir a’r ardal ond hefyd eu ffordd broffesiynol a gofalus o redeg busnes. Gwinllan taid oedd hwn ond etifeddodd Etienne y busnes oherwydd nad oedd diddordeb gan ei dad. Maent ar y ffordd i gael statws organig o fewn dwy flynedd. Syndod oedd gweld gymaint o Vermentino yn yr ardal ac yn eu gwinllan nhw - grawnwin Eidaleg sy’n cynhyrchu gwin ysgafn, persawrus ffres. Wrth gerdded tu ôl i Dylan ac Etienne yn trafod y tir a’r gwinwydd roeddwn yn teimlo’n falch iawn o’r cyfle unigryw yma i gael golwg fanwl a gwneud ffrindiau gyda’n cymdogion sy’n ffermio yn Ffrainc. Bydd yr archeb i mewn yn fuan! Llinos Rowlands Dylanwad Da, Dolgellau

Ffardding ac ‘India Roc’ - penwythnos ‘ffair gyflogi’ Cludwyd preswylwyr Harlech ac ymwelwyr â’r dref yn ôl mewn amser dros benwythnos olaf mis Gorffennaf pan ail-grëwyd y ffair gyflogi a arferai gael ei chynnal ddwywaith y flwyddyn ers lawer dydd. Wedi ei chynnal am y tro olaf yn gynnar yn yr 20fed ganrif, arferai ffermwyr a gweision oes Fictoria ddod ynghyd i drafod cytundebau gwaith chwe mis ac yna i fwynhau’r ffair gyda’r gof, gwneuthurwyr ffensys a lês a masnachwyr eraill a arferai gynhyrchu nwyddau i’w gwerthu. Paratowyd ‘india roc’, cyflath Meirionnydd neu daffi du, hoff dda-da plant yr oes, gan aelodau o Sefydliad y Merched Harlech. Tywyswyd ymwelwyr â Harlech o gwmpas y dref gan ‘Mrs Holland’, gwraig yr AS lleol.

Llun gan Coed Celyn Photography Trefnwyd y digwyddiad ar ran Cymdeithas Dwristiaeth Harlech gan Benjie a Mev Williams, gyda chymorth amryw o gymdeithasau cymunedol Harlech. Daeth pawb ynghyd i ddathlu ac i fwynhau hanes a diwylliant lleol.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.