Llais Ardudwy Medi 2020

Page 1

Llais 70c Ardudwy RHIF 501 - MEDI 2020

CWT MOCHYN HEFO STEIL

Calendr 2021 Llais Ardudwy Ar gael rŵan £5

MAE’R PEILOT WRTH Y LLYW

Wrth glirio tomen sbwriel o’r oes o’r blaen, ger y cwt mochyn hynafol yn Aberdeunant, Llandecwyn, daeth Paul, Mandy a’r teulu ar draws rhywbeth rhyfeddol iawn. Roedd cynnwys y domen yn ddiddorol - darnau o hen lestri a chelfi o oes arall - ond roedd be oedd oddi tani yn ddarganfyddiad mwy diddorol byth. Yno mae buarth, wedi ei lorio â cherrig taclus, cystal â llawr unrhyw gegin mewn tŷ yr oes honno ac yn arwain allan o’r buarth, risiau cerrig. Dychmygwn foch breintiedig iawn yn byw mewn cartref mor foethus, ac yn ddigon medrus i ddringo grisiau! O na bai’r cerrig yn gallu siarad.

Ar Mehefin 14 fe gyrhaeddodd llong nwyddau fwyaf y byd lannau Prydain o Tsieina. Mae’n braf iawn cael adrodd mai un o Dal-y-bont oedd wrth y llyw yn dod a hi i mewn i borthladd Tilbury ar y Tafwys. Mae Hywel Pugh, mab Iris a’r diweddar Emyr Pugh, wedi bod yn gweithio fel peilot llongau ar y Tafwys ers 44 o flynyddoedd ac roedd ei orchwyl ddiwethaf yn ddipyn o glod iddo. Enw’r llong yw HMM ALGECIRAS a dyma’r tro cyntaf iddi ymweld â Phrydain a bu 6 mis o waith paratoi am ei hymweliad. Mae’r llong yn 400 medr o hyd, 61 medr o led ac yn gallu cario 23,964 o gynwysyddion 20 troedfedd o hyd, ond ar y fordaith yma 19,261 oedd ar ei bwrdd. Yn y llun gwelir y llong yn hwylio i mewn i afon Tafwys. Rhyfedd cofio’n ôl i’r sgyrsiau gydag Emyr a’r sgwrs bron yn ddi-ffael yn troi at ddyddiau ceffylau gwedd.


HOLI HWN A’R LLALL

dreuliais yno. Sut ydych chi yn cadw’n 1. Phil Mostert iach? Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Cyn y feirws Corona Harlech 01766 780635 roeddwn yn mynd i pmostert56@gmail.com 2. Anwen Roberts Ganolfan Hamdden Craig y Nos, Llandecwyn Caergybi yn rheolaidd ac 01766 772960 yn defnyddio’r offer i gadw anwen15cynos@gmail.com yn weddol heini. Ar hyn 3. Haf Meredydd o bryd rwyf yn garddio a Newyddion/erthyglau i: cherdded tipyn. hmeredydd21@gmail.com 07760 283024 / 01766 780541 Beth ydych chi’n ei ddarllen? Rwyf yn gwneud tipyn o ymchwil i longau Porthmadog a oedd yn Cadeirydd Hefina Griffith 01766 780759 gysylltiedig â’r teulu ac yn Trefnydd Hysbysebion darllen llyfrau y diweddar Ann Lewis 01341 241297 Aled Eames, hefyd wedi Min y Môr, Llandanwg dechrau ail ddarllen gwaith ann.cath.lewis@gmail.com Joseph Conrad, “Heart of Trysorydd Enw: Richard Jones. Darkness” ar hyn o bryd. Iolyn Jones 01341 241391 Gwaith: Capten Llong, wedi Hoff raglen ar y radio neu’r Tyddyn y Llidiart, Llanbedr ymddeol ers peth amser. Gwynedd LL45 2NA teledu? llaisardudwy@outlook.com Cefndir: Wedi fy ngeni a’m Cefn Gwlad, The Repair Côd Sortio: 40-37-13 magu yn Harlech a’r Ynys, Shop a rhai o raglenni Rhif y Cyfrif: 61074229 addysg yn Ysgol Gynradd ditectif o wledydd Ysgrifennydd Talsarnau, Ysgol Ramadeg Scandinafia . Iwan Morus Lewis 01341 241297 y Bermo ac Ysgol Outward Ydych chi’n bwyta yn dda? Min y Môr, Llandanwg Bound Aberdyfi, wedyn iwan.mor.lewis@gmail.com Yn trio bwyta yn weddol CASGLWYR NEWYDDION ymuno â’r Llynges Fasnachol iach ond dim yn llwyddo LLEOL a hwylio yn rheolaidd i’r bob amser. Y Bermo Dwyrain Pell ac Awstralia Hoff fwyd? Grace Williams 01341 280788 am bum mlynedd, wedyn Wrth fy modd hefo pysgod Dyffryn Ardudwy newid cwmni a hwylio i Dde a physgod cregyn, ond does Gwennie Roberts 01341 247408 a Dwyrain Affrica, Ynysoedd Susan Groom 01341 247487 dim byd i guro cinio dydd Llanbedr India a’r Gorllewin ac ar hyd a Sul traddodiadol, cig oen Iolyn Jones 01341 241391 lled môr y Caribi. Cyn pasio neu gig eidion. Susanne Davies 01341 241523 yn gapten roeddwn wedi Hoff ddiod? Llanfair a Llandanwg priodi a dim llawer o awydd Gwydryn bach o win coch Hefina Griffith 01766 780759 hwylio ar led, felly cefais a choffi da o Fynyddoedd Bet Roberts 01766 780344 swydd syrfëwr morwrol a Gleision Jamaica. Harlech threulio bron i dair blynedd Edwina Evans 01766 780789 Pwy fuasai yn cael dod Ceri Griffith 07748 692170 yn Nigeria yn gweithio ran allan i fwyta efo chi? Carol O’Neill 01766 780189 fwyaf yn y diwydiant olew. Y teulu a’r wyrion i gyd. Talsarnau Erbyn hyn yr oedd y teulu Lle sydd orau gennych? Gwenda Griffiths 01766 771238 yn dechrau cynyddu ac yr Y Traeth yn yr Ynys. Anwen Roberts 01766 772960 oeddem yn teimlo nad oedd Lle cawsoch chi’r gwyliau Gosodir y rhifyn nesaf ar Hydref 2 Nigeria yn lle delfrydol i gorau? a bydd ar werth ar Hydref 7. fagu ein plant; hefyd roedd Teithio o gwmpas Seland Newyddion i law Haf Meredydd yna rhyw hen hiraeth am y Newydd. erbyn Medi 28 os gwelwch yn dda. môr, a bûm yn lwcus yn cael Beth sydd yn eich gwylltio? Cedwir yr hawl i docio erthyglau. swydd ar longau Caergybi Dim llawer, wedi mynd yn Nid yw’r golygyddion o a threulio bron i chwarter rhy hen. angenrheidrwydd yn cytuno â phob canrif yn hwylio ar draws y Beth yw eich hoff rinwedd barn a fynegir yn y papur hwn. môr i’r Iwerddon yn swyddog mewn frind? ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’ a chapten ar y rhan fwyaf o’r Gonestrwydd Dilynwch ni ar ‘Facebook’ llongau a oedd yn gweithredu Pwy yw eich arwr? @llaisardudwy o’r porthladd yn y cyfnod a Does gen i ddim un arwr

GOLYGYDDION

SWYDDOGION

2

arbennig, ond mae gen i feddwl mawr am lawer o bobol rwyf wedi hwylio hefo nhw dros y blynyddoedd. Pwy ydych chi yn ei edmygu yn yr ardal hon? Ar hyn o bryd rwyf yn edmygu gweithwyr yn y gwasanaethau iechyd ym mhob ardal. Beth yw eich bai mwyaf? Braidd yn ddiamynedd. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Cael bod mewn cwch ymysg ynysoedd môr Ionian, yr awel yn chwythu yn dda, yr haul ar ein cefnau a’r hwyliau yn llawn ac yn tynnu yn iawn. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Ei rannu rhwng Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru ac elusen i Gyn Aelodau Dall y Lluoedd Arfog, “Blind Veterans”. Eich hoff liw? Glas. Eich hoff flodyn? Pys pêr. Eich hoff gerddor? Mae hyn yn newid yn gyson ond ar hyn o bryd Giuseppe Verdi. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Ar hyn o bryd yr opera, Tosca. Pa dalent hoffech chi ei chael? Y gallu i wneud gwaith coed taclus, mae gen i ofn na thydw i ddim yn saer, nac yn fab i saer ond mi fyddaf â pharch mawr i’r rhai sydd hefo’r ddawn. Eich hoff ddywediadau? Deuparth gwaith, ei ddechrau. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Yn fodlon fy myd ac yn teimlo fy mod wedi cael bywyd breintiedig iawn.


NEWID MAINT Y PAPUR Siŵr bod llawer ohonoch yn holi pam ein bod wedi newid maint y papur wrth inni gyhoeddi rhifyn 501. Yr ateb syml i’r cwestiwn ydi am ei fod yn ffitio i amlen A4 ac, oherwydd hynny, yn haws i’w bostio. Yn garedig iawn, mae Jennifer Greenwood wedi gwirfoddoli i gymryd cyfrifoldeb am bostio bron i 90 o gopïau. Cytunodd Iolyn Jones, ein trysorydd, i ysgwyddo’r cyfrifoldeb ychwanegol am anfon biliau i bawb o’n tanysgrifwyr. Rhowch wybod os ydych am danysgrifio. Hyderwn na fydd y maint newydd yn achosi unrhyw anawsterau. Fe geisiwn gadw’r print yr un maint er ei bod yn amhosib pan fo angen gwasgu ambell i gyfraniad. Fe geisiwn, hefyd, gynnwys o leiaf 20 tudalen fel a wnaethpwyd yn ystod y blynyddoedd diweddar.

Cysylltwch â Dioni i siarad am eich bwthyn gwyliau Gwion Llwyd 01341 247200 gwion@dioni.co.uk BUSNES LLEOL ... CWSMERIAID BYDEANG

CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF

MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod

Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant PORTHMADOG 01766 512214/512253 60 Stryd Fawr

PWLLHELI 01758 612362 Adeiladau Madoc

ABERMAW 01341 280317 Stryd Fawr

office@bg-law.co.uk

Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd …

Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/ llaisardudwy/docs Llais Ardudwy

SAMARIAID LLINELL GYMRAEG 08081 640123

3


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL

Ffarwelio â Gweneira Does ’na ddim byd mor ddigalon â gweld diwrnod mudo yng nghefn gwlad. Mae cymaint o hanes yn dod i ben. Diwrnod trist iawn i’r ardal gyfan ac i Gweneira ei hun hefyd mewn ffordd, mae’n siŵr.

Yn y cefndir roedd car Mai, merch Gweneira, efo Gweneira oddi mewn, a trailer Alun, efo’r pethau olaf o Allt Goch (yn cynnwys dwy iâr a chath Gweneira). Diwrnod trist iawn inni i gyd ... roedd Gweneira yn gymdoges mor anhygoel i mi ac yn weithgar mewn cymaint o gylchoedd ym mro Ardudwy. Hi oedd y prif ysbrydoliaeth i mi i drio dysgu Cymraeg.

JG

John Morris, Glanffrwd Cefais hyd i lyfr ar hanes adeiladwyr a aeth o Gymru i Lerpwl yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Enw’r llyfr yw ‘The Welsh Builder on Merseyside’, a’r awdur yw J R Jones. Euthum yn syth i chwilio am enw John Morris, Glanffrwd a Phenybont, ond dim llawer mwy na hynny. Yn ôl J R Jones, ganwyd ef yn 1850 a mynd i Lerpwl yn 1870. Pan yn bedwar ar hugain oed adeiladodd floc o dai mawrion yn Princes Avenue. Fo oedd y cyntaf i adeiladu’r math yma o dai ac adeiladodd yr un math eto yn Sefton Park. Fo oedd y cyntaf i ddefnyddio ‘pitch a tar’ rhag gwlybaniaeth (damp course). Adeiladodd pob math o dai mewn gwahanol ardaloedd ar hyd ochr yr afon Merswy. Adeiladodd Glanffrwd yn 1909 a’i werthu yn 1944. Ef oedd y Cymro cyntaf i’w ethol ar y Cyngor Tref a bu’n sefyll fel Rhyddfrydwr yno o 1899-1909. Bu’n Brif Siryf Meirionnydd yn 1914-15. Pryd ysgrifennwyd y llyfr yn 1945 roedd yn 96 oed ac yn mwynhau sgwrs a smôc â’i hen ffrind Thomas Williams, Birkenhead, yn y Lyceum Club bron bob bore. Clywais hanesyn gan Gwilym Thomas, Gwynfryn House i John Morris ddychryn yn arw pan oedd yn ei ddreifio heibio’r Bala ar law mawr ac i’r car fynd i bwll o ddŵr, a John Morris yn holi’n gyffrous tybed oeddynt wedi mynd i’r llyn. Mae’n siŵr fod aml un o drigolion hŷn Llanbedr yn ei gofio’n dda. GJ

GRADDIO

Mae Lloyd Hughes, mab Judith, [Johnstone gynt], wedi graddio o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam gyda gradd dosbarth cyntaf mewn hyfforddiant chwaraeon. Cafodd ei dderbyn i Brifysgol Bangor i wneud cwrs addysgu am flwyddyn. Dymuna ei nain (Bethan Johnstone) a’r teulu i gyd ei longyfarch yn gynnes iawn.

Bydd Judith, mam Lloyd, yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed ar Medi 2. Llongyfarchiadau iddi a phob lwc gan y bechgyn a’r teulu i gyd.

ENGLYN DA Pen-blwydd arbennig Pen-blwydd hapus iawn i Beti Wyn, Pensarn, sydd yn dathlu pen-blwydd arbennig ym mis Medi, oddi wrth y teulu i gyd.

4

MIS MEDI Y llwyni cnau yn llawnion, - afalau Filoedd yn fochgochion, Brithwyd y berth hyd y bôn Yn dew gan fwyar duon. T Llew Jones, 1915 - 2009


HEN BLANT Y CWM

Dyma lun eitha diddorol o hen blant y Cwm. Gweler y wern islaw yn ddi-goed bryd hynny.

CNEIFIO HENDRE

Rhoddwyd sylw i hen giatiau yn y rhifynnau diweddar. Dyma un arall. Mae hon ar geg y ffordd sy’n arwain i’r murddun Cystellan. Yr hyn sydd wedi tynnu fy sylw yw’r ddau gylch sydd ar y doleni addurnol ar ben y giât. Mae’r rhain yn rhan o’r gwneuthuriad. Beth yw eu pwrpas? O bosib i roi weiran bigog uwchben y giât ond pam fod angen hynny?

Wel llun arall sydd gen i, yn dilyn y llun cneifio ymddangosodd ym mis Mehefin. Mae’r ddau lun o’r un safle, sef cneifio yn Hendre Waelod. Gwelwch Foel Wen yn y cefndir. Y ddau lun wedi eu tynnu o dan y tŷ, lle mae’r sied newydd heddiw. Dwn i ddim pwy ydyn nhw i gyd, ond mae fy nhaid a nain yn y ddau. Yn y cyntaf dwi’n credu mai dad yw’r bachgen bach ar y llaw chwith, yng ngofal ei frawd Oswald a Merfyn y brawd canol yng nghanol y llun. Erbyn yr ail lun mae fy nhad yn nghanol y llun. Dyn o Birmingham ddaru dynnu’r ddau lun, sef Mr Don Owen. Roedd y teulu yn dod i’r ardal yn y tridegau i Maesygarnedd ac i Coed Mawr. Mae yn lun effaith sepia, sef brown a gwyn. Roedd y teulu wedi cymryd Tŷ Capel ar rent gan Taid ac maent yn dal i ddod i’r bwthyn yn y cyfnod hwn. ‘Buartha Cottage’ oedd yr hen enw ar y tŷ. Eu merch Marilyn sydd yn dod bellach, ac rwyf wedi cadarnhau y manylion gyda hi. Morfudd Hendre.

GIÂT ARALL

Llais Ardudwy AR

Daeth neges e-bost ganol Gorffennaf yn gofyn imi a fuasai’n bosib i raglen ‘Heno’ gyfweld rhyw dri neu bedwar o bobl Llais Ardudwy i drafod cyhoeddi 500 o rifynnau. Felly dyma ymateb i’r cais a threfnu i bedwar gael eu cyfweld. Pan gyrhaeddodd y gŵr camera a’r cyfwelydd, cawsom wybod mai rhyw ddau funud a hanner o eitem oedd ei angen. Dau funud a hanner i drafod 45 mlynedd ac i drafod cynhyrchu 500 o rifynnau! Mae hynny’n agos i dri munud ac os rhennir hwnnw efo pedwar, dyna 45 eiliad yr un inni siarad. Roedd gen i dair ffaith yr oeddwn i am eu rhannu efo’r gwylwyr, felly roedd gen i 15 eiliad yr un i nodi’r tri phwynt a ganlyn: 1. Ro’n i eisiau sôn am gyfraniad Martin Eckley a roes gychwyn i’r papur a’r ddau frawd Dafydd Guto a Brian Ifans a fu’n weithgar yn y blynyddoedd cynnar. 2. Wedyn ro’n i am grybwyll cyfraniad enfawr Ken a Beti Roberts, Bellaport a fu yn y tresi am flynyddoedd lawer. 3. Ro’n i hefyd eisiau ailddatgan fy niolch i Gweneira Jones a Jean Edwards ac eraill am ysgwyddo’r cyfrifoldeb am bostio’r papur am dros 20 mlynedd. Fe ŵyr y rhai ohonoch a welodd y clipiau ar y rhaglen ar nos Fercher, Gorffennaf 22, na chafodd yr un o’r enwau hyn eu crybwyll ar y ffilm. Do, mi welwyd lluniau o Ken a Beti a lluniau Gweneria a Jean am ychydig eiliadau ond chefais i ddim cyfle i bwysleisio eu cyfraniadau. Rydw i’n teimlo’n eithaf blin am hynny. O leiaf, gallaf wneud iawn am hynny drwy ail-bwysleisio’r tri phwynt yn y papur. PM

5


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Diolch Dymuna Rhian, Huw Dafydd a Llion ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli Rhodri. Bu’r oll o gysur mawr iddynt. Diolch hefyd am y cyfraniadau hael er cof amdano er budd Ward Enfys, Ysbyty Glan Clwyd, a Menter Iaith Conwy. Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â Beryl Farricker, Adele y ferch, a Neil y mab a’u teuluoedd yn dilyn marwolaeth Michael, gŵr a thad hoff, ar Awst 5ed mewn hospis ym Macclesfield. Ymddangosodd llun o Beryl a’i thad, (Wil Gors/Pant Einion) a oedd wedi ei dynnu Gorffennaf 1af 1972 yn rhifyn Mehefin o’r Llais o dan y pennawd - “Pwy ydyw’r briodferch?” Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau i Mrs Jean Jones, Sarn Faen, ar ddod yn hen nain. Ar Orffennaf 16 ganwyd merch fach i Rhian ac Osian, ŵyr Jean. Ymddangosodd Osian ar y rhaglen ‘Tŷ am ddim’ ar S4C a gwnaeth yn ardderchog. Cydymdeimlad Ar yr 20 Awst, yn 91 mlwydd oed, bu farw Mrs Eunice Stephen (Mc Kean gynt) o Glanrhos, Tynlon, Caergybi. Ganwyd Eunice yng Nglanrhos, Dyffryn. Anfonwn ein cydymeimlad llwyraf at ei phlant ac at ei brawd Leslie. Roedd Eunice yn chwaer hefyd i’r diweddar Jessie a Joyce a’r diweddar Len. Mae llawer ohonom yn cofio’r teulu yn dda. Pen-blwydd Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau gan y teulu i gyd i Mrs Jean Roberts, Gorwel, oedd yn dathlu penblwydd arbennig ar Orffennaf yr ail. Hyderwn y bydd modd iddi dreulio mwuy o amser rhydd o’r gwaith yn y garej yn y dyfodol.

6

Teulu Ardudwy Gair i atgoffa’r aelodau na fydd y Teulu yn ailgychwyn cyfarfod ym mis Medi. Llun yn y Llais Yn Llais Ardudwy, mis Gorffennaf, roedd llun o drip Dosbarth Ysgol Sul o Horeb i Bournville ar 7 Mai 1953. Diolch i Ann, Meifod gynt, am lenwi’r bylchau. Y gyntaf o’r chwith yn y rhes gefn: Mrs Eluned Wynne, mam Ann. Y gyntaf o’r chwith yn y rhes flaen: Mrs Enid Jones, mam Anthia, yna Mrs Foulkes, Swyddfa’r Post, y bedwaredd, Mrs Griffith, Berwyn, yna Miss Ella Jones a Mrs Annie Roberts, Lluesty, mam Ann Eurwen. Llun Sefydliad y Merched Ac yn y llun o Sefydliad y Merched y drydedd o’r chwith yn y rhes flaen yw Miss Kitty Evans, Y Ddôl. Festri Lawen Yn anffodus, oherwydd y sefyllfa bresennol, ni chynhelir cyfarfodydd o’r Gymdeithas ym mis Hydref nac ym mis Tachwedd. Byddwn yn edrych ar y sefyllfa ddiwedd Tachwedd gan obeithio cawn ddathlu’r Nadolig gyda’n gilydd. Diolch i chi am eich cefnogaeth bob amser.

Capel Horeb Yn anffodus, ni fyddwn yn cynnal gwasanaethau yn y capel ar hyn o bryd ond gobeithiwn ailedrych ar y sefyllfa ddiwedd mis Hydref. Yn y cyfamser mae y Parch Robert Roberts a Helen, Morfa Nefyn yn gyrru myfyrdodau ac mae croeso i unrhyw un gysylltu i’w derbyn. Ymddeoliad Hwyrach i rai ohonoch sylwi nad oedd Dei Tacsi yn gwibio heibio i fan hyn a fan draw yn ddiweddar. Y cyfyngiadau oedd y rheswm fisoedd yn ôl, wrth gwrs, ond rŵan mae David Albert Griffiths, Bryn Coch am ymddeol ar ôl 30 mlynedd o gludo pobl leol ac ymwelwyr i’w cyrchfannau amrywiol. Mwynhawyd ei gwmni a’i hiwmor dihafal gan amryw o blant y fro - a’u rhieni - wrth deithio i’r ysgol. Dymunwn y gorau iddo gan obeithio y caiff fwy o gyfle i ddianc i weld yr wyresau, ymysg pethau eraill. Bu’n ddiwyd yn cario pobl i Glwb Cadwgan ac i leoliadau gwahanol ar gyfer y tîm Gofal Dydd, i apwyntiadau o bob math, ac i’r Clybiau misol. Bu’n cyrchu Mrs Jones, Twllnant i lawr i Lanbedr i Deulu Artro yn ddiffael gan roi trip annisgwyl i rai ar y ffordd adre. Mae taith i’r Cwm bob amser yn bleserus.

Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd Tel: 01341 247799

www.smithygarage-mitsubishi.co.uk smithygaragedyffryn

smithygarageltd

Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes


CYNGOR CYMUNED DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT MATERION YN CODI Grŵp Gwella Mae Grŵp Gwirfoddolwyr Covid-19 Dyffryn a Thal-y-bont wedi ei sefydlu ac mae grŵp o dros 55 o wirfoddolwyr o dan arweiniad y Grŵp Adfywio yn sicrhau bod cymorth ar gael i drigolion lleol a oedd yn hunan-ynysu neu’n cysgodi yn sgil y coronafeirws. Sefydlwyd llinell ffôn o 9:00yb tan 8:00yh o ddydd Llun i Gwener. Dymuna Steffan Chambers ddiolch yn fawr iawn i’r holl wirfoddolwyr am eu cymorth ac yn arbennig i rai unigolion neilltuol. Mae swyddogion y Clwb Pêl-droed wrthi’n cymryd camau i geisio ailsefydlu sesiynau hyfforddi o dan ganllawiau yr FAW. Mae’r clwb yn edrych am Swyddog Cydymffurfio â Chovid i wirfoddoli i geisio sicrhau bod y clwb yn dilyn canllawiau’r FAW yn gywir, felly os oes unrhyw un â diddordeb cysylltwch â’r Clwb. Ni fydd y clwb ieuenctid yn ailgychwyn tan y flwyddyn newydd. Roedd hyn yn benderfyniad anodd iawn i’w wneud ond rhagwelwn y bydd yn anodd iawn cadw at ganllawiau ‘pellhau cymdeithasol’ gyda chyn gymaint o aelodau yn mynychu’r clwb. Darpariaethau y Cyngor Cymuned yn ystod digwyddiadau anghyffredin Cynigiwyd bod y Cyngor yn buddsoddi yn rhaglen Zoom er mwyn cynnal cyfarfodydd dros y we os oes angen. Y gost fyddai £11.99 y mis - sy’n cynnwys amser diderfyn, dros 100 o gyfranwyr ayyb. Ar ôl trafodaeth cynigiwyd bod Steffan Chambers yn ceisio treialu’r fersiwn am ddim efo rhai o’r Cynghorwyr yn gyntaf cyn gwneud unrhyw benderfyniad pellach ar y mater. Diweddariad ‘Plan C’ Covid-19 Bydd y gwasanaeth ar waith o 09:30yb tan 16:00yp ddydd Llun i Gwener hyd Awst 31. Mae’n bosib y bydd yn ailgychwyn y gwasanaeth yn y dyfodol. Cynigiwyd bod y rhestr, gydag enwau a manylion gwirfoddolwyr Plan C, yn cael ei throsglwyddo o’r Grŵp Adfywio i berchnogaeth y Cyngor Cymuned. Adroddodd y Trysorydd Cytunodd pob aelod a oedd yn bresennol i gymeradwyo y cyfrifon, hefyd ardystio’r ffurflen flynyddol, ac i’r Cadeirydd a’r Clerc/Trysorydd arwyddo’r cyfrifon, y ffurflen flynyddol a’r llyfr cyfrifon ar ran y Cyngor.

DYDDIADUR GARDDIO - Margaret Roberts

Mis Awst Dyma fis y cynaeafu pan fyddwn yn mwynhau ffrwyth ein llafur. Y tatws cynnar wedi’u codi a’u mwynhau, y tomatos wedi cochi o’r diwedd a digon o giwcymerau. Siomedig iawn yw’r ffa dringo gyda thyfiant gwael iawn. Mae’r ardd flodau ar ei gorau er gwaethaf y gwynt a’r glaw.

Dyma’r amser i brynu Ffarwel Haf gyda digon o ddewis yn y canolfannau garddio. Erbyn hyn, mae’n bosib cael rhai bach sy’n addas ar gyfer eu rhoi mewn potiau mewn lliwiau hydrefol. Fe ddylai’r rhain barhau i edrych yn dda hyd nes daw y tywydd oer gan ychwanegu ychydig o wyrddni i gadw’r sioe i edrych yn dda heb fawr o sylw. Mae’r Agapanthus wedi rhoi sioe fendigedig eleni - y gorau erioed. Fe’u symudwyd o botiau wedi iddynt ddodwy gormod a’u symud i’r ardd. Maent yn dweud eu bod yn blodeuo’n well pan fyddant wedi llenwi eu potiau i’r ymylon ond maent llawn cystal yma wedi eu plannu yn yr ardd. Gan mai planhigion o Dde Affrig ydynt gallant fod dipyn yn dyner a byddaf yn tannu deilbridd (leaf mould) neu gompost drostynt cyn y tywydd oer. Wrth eu plannu mi fyddaf yn eu gosod ar wely o raean er mwyn iddynt gael draeniad da - pridd gwlyb yw eu gelyn mwyaf.

Mae’r Dahlias hefyd ar eu gorau ac yn rhoi lliw i’r border. Planhigyn arall sydd yn werth ei gael yn y border yw’r Phlox ac mae sawl lliw yma yn y border. Mae’n rhaid cadw’r rhain mewn trefn gan eu bod yn ymledu yn gyflym ond maen nhw’n hawdd eu teneuo a rhoi planhigion i ffrindiau. Erbyn yr amser yma mae llawer o’r planhigion blwydd yn edrych yn dila ac angen eu codi a phlannu rhywbeth arall yn eu lle.

Dyma’r amser i brynu a phlannu bylbiau cennin Pedr gyda digon o ddewis ar gael yn y siopau ar hyn o bryd. Braf yw eu gweld yn dangos eu pennau uwch y pridd yng nghanol gaeaf pan nad oes fawr o ddim yn yr ardd - arwydd fod y gwanwyn ar ei ffordd. Byddaf fel arfer yn plannu rhai oedd mewn potiau y llynedd yn yr ardd gan blannu rhai newydd yn y potiau i gael sioe ac arogl wrth ymyl y tŷ. Does dim yn codi calon yn well ar ôl gaeaf caled na gweld sioe o gennin Pedr. Ewch ati i ddewis a dethol tra mae digon o ddewis yn y siopau.

7


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Cydymdeimlad Bu farw Bill Thomas, 1, Cilfor, ar 27ain Gorffennaf. Estynnwn ein cydymdeimlad â Bethan, Deilwen a Gwynedd a’u teuluoedd yn eu profedigaeth o golli tad a thaid hoff iawn. Anfonwn ein cofion atynt fel teulu. Rhodd Diolch i Mrs Deborah Williams, Gwrach Ynys am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu ei thanysgrifiad.

Garddio yn y gwaed Petaech yn digwydd mynd am dro i Rostyllen rhyw dro mae yno ardd fyddai’n werth i chi ymweld â hi. Gardd pwy feddyliech chi ydi hi? Fedrwch chi adnabod yr arddwraig fedrus sydd yn y llun? Ia, neb llai nag Iona Aubrey, Garth Byr gynt. Doedd dim gwell garddwr yn yr ardal na thad Iona, ac yna Dylan, ei mab, a gymerodd ofal o’r ardd yn Garth Byr ar ôl ei daid. Bu Garth Byr yn gartref i Iona o’i phlentyndod nes iddi hi a’i diweddar briod symud i ardal Wrecsam, rai blynyddoedd yn ôl. Braf gweld fod y garddio’n dal yn y gwaed, Iona!

Cydymdeimlad Estynnwn ein cydymdeimlad i Barbara, Helen, Robert ac Alison (Harris) a’u teuluoedd yn eu profedigaeth o golli eu dau riant yn ddiweddar. Gwellhad Da yw gweld bod Geraint Rees Jones, 7 Cilfor, Llandecwyn wedi dod adref o’r ysbyty ar ôl derbyn llawdriniaeth yn ddiweddar. Gobeithio y caiff gyfle eto i fwynhau eistedd allan yn yr ardd gyda’i wraig Pauline. Pob dymuniad da wrth iddo barhau i wella.

R J Williams Honda Garej Talsarnau Ffôn: 01766 770286

Capel Newydd, Talsarnau

Rydym yn parhau i addoli Duw!! Mae croeso i chi ymuno hefo ni ar fore Sul am 10:30 ac ar nos Fercher am 7:30 ar Skype. Rydym yn darlledu ein hoedfaon nos Sul ar ein safle we (capelnewydd.org) ac ar youtube (eglwys efengylaidd ardudwy). Mae croeso mawr i chi ffonio 01766 770953 neu e-bostio ar dewi_lewis@sky.com am fwy o fanylion neu am sgwrs! Er gwaetha’r pandemic, mae rhai pethau yn aros ’run fath o hyd - Iesu Grist, ddoe, heddiw yr Un, ac yn dragywydd!

8


Y Parch Gwyn C Thomas (1936-2020) Magwyd y diweddar Barchedig Gwyn Thomas yn Nhrawsfynydd, yn fab i William a Grace Olwen Thomas, ac yn frawd mawr i’w chwaer Margaret, ac yno y claddwyd ef ar 24 Gorff 2020. Gyrrwr trên oedd ei dad, a phan oedd Gwyn yn ddeuddeg oed symudodd y teulu i Bwllheli ac yna i Abersoch i gadw tŷ capel. Cafodd y plant fagwraeth drwyadl Gristnogol a chwbl Gymreig, a bu’r teulu’n aelodau efo’r Hen Gorff ym Moreia, Trawsfynydd, South Beach, Pwllheli a’r Graig, Abersoch. Roedd Gwyn yn ddireidus wrth natur, ac wrth ei fodd yn tynnu coes a chellwair. Anodd weithiau oedd gwybod a oedd o ddifrif ai peidio. Ond gallai hefyd fod yn bendant ac yn gadarn ei farn ac yn ddiysgog ei feddwl. Ei ddiddordeb pennaf oedd pobl; gallai ymwneud â phawb a byddai’n trin pawb yr un fath. Cafodd ddwy yrfa - yn gyntaf fel athro a phrifathro, ac yna fel gweinidog. Wedi gadael y Coleg Normal bu’n athro yn Lerpwl ac yna yn Gwersyllt cyn mynd yn brifathro i Lanarmon Dyffryn Ceiriog a Llanfynydd. Roedd yn athro wrth reddf, a dywedir y byddai’r Swyddfa Addysg yn anfon ambell blentyn anystywallt i ysgol Gwyn gan fod ganddo’r gallu i ennyn ymddiriedaeth a thynnu’r gorau allan o ddisgyblion felly. Fel gweinidog, bu’n fugail heb ei ail yn ymweld yn gyson â’i aelodau ac yn gymwynaswr parod ar sawl aelwyd. Dechreuodd bregethu yn ifanc iawn, a daliodd ati ar hyd y blynyddoedd. Ni fu iddo erioed sgrifennu pregeth ac ni ddefnyddiai nodiadau wrth annerch. Dweud o’i gof a llefaru o’i galon y byddai, a hynny gyda graen ac ôl myfyrio ar ei eiriau. Roedd wrth ei fodd hefyd yn gwrando pregeth, a gwyddai gystal â neb beth a barai i bregeth daro deuddeg. Ond gwrandäwr llawn cydymdeimlad ydoedd, a’i werthfawrogiad yn gynnes ac yn gyson. Byddai wrth ei fodd yn dwyn i gof oedfaon ei ieuenctid a’r pregethau a glywodd ar hyd y blynyddoedd, a phregethwyr a phêldroedwyr yn ddiamau oedd ei arwyr. Roedd ganddo ddiddordeb mawr

mewn pêl-droed a chwaraeon, ac nid yw hynny’n syndod gan y bu ei dad yn bêl-droediwr cydnabyddedig yn ei ddydd, a bu’n chware i Amwythig am gyfnod. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cafodd Gwyn gysur mawr o wylio chwaraeon ar y teledu ac o ddarllen, a byddai toreth o lyfrau yn wastad wrth ei benelin. Achos tristwch mawr iddo oedd fod y diwylliant anghydffurfiol Cymreig a’i mowldiodd o a’i debyg yn prysur ddiflannu. Roedd Gwyn yn garedig wrth natur, ac yn hael hyd at wiriondeb. Byddai’n rhoi heb ddisgwyl dim yn ôl ac wrth ei fodd yn rhannu, a neb yn gwybod dim am hynny. Wedi iddo gael ei ordeinio yn weinidog gyda’r Wesleaid yn 1993 symudodd i Borthmadog a’i ofalaeth yn ymestyn i ben draw Llŷn ac i lawr i Sir Feirionnydd. Golygodd hynny iddo dreulio oriau yn y car yn teithio i ymweld a phregethu, ac yn ôl a blaen i Fangor i’r ysbyty a’r amlosgfa. Fe weithiodd yn ddiarbed a does dim dwywaith i’w ymroddiad fod yn straen ar ei iechyd. Er nad Wesla ydoedd o’i gychwyn bu’n ffyddlon ac yn driw iawn i’w enwad mabwysiedig, ac er mai fel bugail a phregethwr yr ystyriai ei hun ni fu’n ddibris o fywyd a threfniadau’r gylchdaith a’r dalaith. Bu’n ffrind i’w holl aelodau ac yn gefn garw i’r eglwysi, ac er iddo gael ei alw i fugeilio yng nghyfnod y dirywiad ei ddelfrydau oedd delfrydau Teyrnas Nefoedd. Ac wrth gofio am Gwyn, allwn ni ddim llai na chofio Ann ei briod. Er mai merch o Geredigion ydoedd, cyfarfu ef â hi yn Abersoch yn nyddiau ei ieuenctid, a rhoddwyd ei llwch hithau i orffwys yn y bedd yn Nhrawsfynydd. Roedd hynny’n gwbl briodol am y bu’r ddau fel un, yn gwbl driw i’w gilydd. Ergyd drom iawn i Gwyn a’r teulu oedd colli Ann mor gynnar ar ôl afiechyd a chystudd creulon. Gofalodd Gwyn yn dyner iawn amdani, ac yr oedd ei gariad tuag ati hi, a’r plant, Guto a Catrin, a’i chwaer Margaret a’r teulu i gyd, yn ddifesur. Cydymdeimlwn â hwy yn eu hiraeth.

Elwyn Richards

STRAEON BILI

Yng ngwesty’r Imperial, Galway oedden ni a dyma fi’n holi’r chef a oedd o’n gwybod am le da i fwyta yn y dref. Aeth ati yn syth i ffonio ei fêt a dweud wrtho ar y ffôn, ‘Seamus, ti’n edrych yn dda!’ Roedden ni yn Nulyn un tro a dyma ni yn holi rhyw ddynes lle fasen ni’n gallu dal y bws i Galway. Dyma hi’n ateb, ‘Dros y ffordd yn y fan acw ond does dim rhaid i chi ddal y bws , mi fydd o’n siŵr o stopio ichi.’ Dro arall mi es i rhyw dafarn o flaen y gweddill o’r criw ac archebu 5 peint o Guinness. Dyma’r barman yn edrych yn od arna i a gofyn os oeddwn eu hangen mewn bwcad! Dro arall, roedden ni’n cael llymaid yn y Boston yng Nghaergybi cyn dal y cwch. Yn digwydd bod, roeddwn yn cario un o’r bagiau gwyrdd gawsom gan John Glyn [ar un o deithiau’r Côr a’r flwyddyn ar y bag oedd 1984, ond roedd sawl blwyddyn wedi mynd heibio ers hynny]. Dyma rhyw ddyn yn gofyn lle roedden ni wedi bod ac yn edrych ar y bag a dweud, ‘Trip da mae’n rhaid.’ (Digwyddodd hyn tua 1988!) Anghofia i byth y fwydlen welson ni mewn caffi yng Nghonemara: Ŵy a sosej Ŵy a bacwn Wy a bîns

Bacwn ac wŷ Bacwn a sosej Bacwn a bîns

Sosej ac ŵy Sosej a bacwn Sosej a bîns

Bîns a bacwn Bîns ac ŵy Bîns a sosej

YN EISIAU

IS-OLYGYDDION I’R PAPUR HWN

Llais Ardudwy 9


CYMERIAD FFRAETH

Bob,’ meddai ei weinidog un diwrnod. ‘Ydi wir, Mr Jones,’ meddai Robin, ac ychwanegu, ‘Glaw gwlyb iawn ydi hwn.’ ‘Welaist ti law heb fod yn wlyb rywdro, Bob?’ gofynnodd y gweinidog. ‘Naddo, ond mi glywais rywun yn dweud ryw dro iddi fwrw tân a brwmstan yn rhywle neu’i gilydd.’

Codwyd rhai o’r straeon a ganlyn o’r llyfr ‘Cymeriadau Stiniog’ o Gyfres Cymêrs Cymru, Gwasg Gwynedd. Mae’r llyfryn yn cynnwys pennod ddifyr gan Steffan ab Owain. Un o Harlech yn wreiddiol oedd Robin Griffith [1862-1928] ond yn y Blaenau y bu’n byw gyda’i chwaer am y rhan fwyaf o’i oes. Dyn bychan gyda mwstash bach twt oedd o. Adroddai benodau o’r Beibl o’i gof. Byddai bob amser yn llawn hiwmor. Yn y chwarel yn y fan honno y cafodd ei lysenwi’n ‘Robin Jolly’. Mae’r straeon amdano yn ardal y Blaenau yn lleng. Heb os nac oni bai, Robin Jolly oedd un o’r cymeriadau mwyaf digri a ffraeth a fu’n troedio’r ardal erioed. Un tro roedd o’n hwylio berfa ar hyd Stryd Fawr y Blaenau a sachaid o sment mewn bocs go fawr ynddi. Wrth fynd heibio drws un o’r siopau, gofynnwyd iddo gan siopwr oedd yn rhoi ei hun yn bwysig, ‘Ai mwnci sy gen ti yn y bocs ‘na, Bob?’ ‘Ia,’ meddai Robin ar ei union. ‘Neidiwch i mewn! Mae ‘na le i ddau!’

Robin Jolly ‘Be ti’n feddwl o’r streips dwi wedi’u cael, Robin?’ gofynnodd y sarjant lleol iddo un diwrnod. ‘Am be gefaist ti nhw?’ gofynnodd Robin. ‘Wel nid am ddiogi reit siŵr,’ meddai’r rhingyll. Prin y cafodd gyfle i orffen ei eiriau coeglyd nad oedd Robin wedi ei ateb, ‘Naddo, dwi’n gwbod, neu mi fyddat ti fel sebra erbyn rŵan!’ Wrth ddod adref o angladd un tro, ac yntau’n cydgerdded ag eraill o’r galarwyr, trodd un o’r dynion at Robin a deud, ‘Un sâl am gladdu ydi dy weinidog di, Bob.’ Fe ddaeth yr ateb ar amrantiad, ‘Glywist ti sôn am unrhyw un sydd wedi codi ar ei ôl o?’ ‘Mae hi’n dymhestlog iawn heddiw,

Un prynhawn oer o aeaf a’r eira’n drwch ar y ddaear, cydgerddai Robin i lawr y Stryd Fawr gydag un arall o weinidogion yr ardal. Trodd hwnnw ato a gofyn yn ddigon diffuant, ‘Pam bod yr eira’n wyn, Bob?’ ‘Be dach chi’n ddisgwyl? Dŵad o le glân mae o’n de?’ Roedd yn gymeriad hoffus fel ’rwy’n deall, reit ddiniwed. Byddai’n hoffi canu i’r plant. Un tro gwelodd Dr Roberts, ‘Isallt’ y cymeriad hwn yn brasgamu i lawr y stryd yn y Blaenau. ‘Lle ti’n mynd, Robin?’ medda fo yn ei ddull busneslyd arferol. Wedi bod ydw i’ meddai hwnnw heb arafu ei gam. Nid pawb sydd ag ateb mor barod. Ond os gwyddoch chi am rai yn yr ardal hon oedd neu sydd yn sydyn eu hatebion - rhowch wybod.

DEISEB - ACHUB COLEG HARLECH Mae Cymru wedi ddioddef o bla y tai haf ers degawdau lawer a bellach, mae tir ac eiddo ein cenedl fach yn cael ei werthu a’i brynu ar gyflymder dychrynllyd fel na welwyd erioed o’r blaen. Mae syndicetiau o Loegr, yn ogystal ag unigolion, yn prynu, ac os na ellir, hyd yn oed, llofnodi’r ddeiseb sydd yn y ddolen gyswllt isod i achub Coleg Harlech rhag cael ei ddymchwel i ganiatáu i ‘reibwyr’ allu adeiladu tai a fflatiau moethus ar gyfer y cyfoethog hynny sydd am ddianc i fyw o brysurdeb trefi a dinasoedd Lloegr ar y safle, yna, does dim gobaith o achub Cymru rhag ei ‘diwedd dyddiau’. Os achubir y coleg, ar y llaw arall, gellir ei ddefnyddio fel coleg i hyfforddi Cymry diwaith mewn pob math o fedrau y

10

bydd eu hangen arnyn nhw mewn Cymru wedi Covid-19. Felly, os yn pryderu am y cynnydd yn y pla o dai haf, diweithdra yng Nghymru ynghyd â dyfodol neu ddiwedd ein cenedl, llofnodwch y ddeiseb, ac yna pasiwch hi ymlaen i bawb yr ydych yn eu hadnabod. Mae angen 5000 o lofnodion os yw’r ddeiseb i’w thrafod yn y Senedd; dewch i ni anelu am 50,000 er mwyn mynegi’n glir ein bod yn ymladd yn ôl o’r diwedd, ac achub Coleg Harlech yw’r weithred gyntaf yn y brwydro’n ôl i warchod yr hyn sydd ar ôl o Gymru cyn iddi ddod yn rhan o fap Lloegr am byth. Diolch Sian Ifan

https://deisebau.senedd.cymru/ deisebau/200218…


YMWELIAD Â GOGLEDD BRO ARDUDWY YN 1883 (RHAN 1) addurniadol iawn gan y Methodistiaid. Gerllaw hefyd yr oedd gorsaf y rheilffordd newydd, oedd yn dod yno o’r Bala, ac yn dod heibio Tomen y Mur, o gyfeiriad Trawsfynydd. Cychwyn yn araf eto ar draws ceunant y Cynfal, ac heibio Pwlpud Huw Llwyd, “pincyn uchel o graig yn sefyll yng nghanol y ceunant wrtho ei hun, mewn lle anghyfannedd ac unig.” Er fod yr afon a’r dŵr trochionog berwedig yn rhedeg heibio iddo trwy’r oesoedd, ac wedi treulio’r ceunant yn ddwfn iawn, safai yr hen Bwlpud yn ddigryn yng nghanol Parch Owen R Morris crochwaedd y rhedlif crychwyn o hyd. Bristol, Minnesota Dringodd i’w ben ryw dro pan yn fachgen, Brodor o Flaenau Ffestiniog oedd y ond yr oedd yn well ganddo adael yr Parchedig Owen R Morris (1828-1912) lle orchestwaith honno i rhywun arall y tro y bu ei frawd, R R Morris, yn weinidog yng hwn. Nghapel Tabernacl MC. Ar ôl gweithio Credai yr hen bobl y byddai Huw Llwyd o yn y chwarel, ymfudodd yn 1849 i Blue Gynfal yn galli codi cythreuliaid i witsio a Mounds, Wisconsin. Yn Hydref 1851, dad-witsio, a gwneud pob math o gampau priododd â Catrin, gwraig weddw gydag annaearol yng nghylchoedd ei Bwlpud, ac un mab, merch i Thomas ac Elizabeth ar hyd y ceunant hwnnw; ond “nid oes neb Jones, Ceunant, Llanrug, Arfon. Ganwyd yn rhoi fawr goel ar ryw ffiloreg felly erbyn pedwar o feibion o’r briodas honno. Bu heddiw,” meddai. Catrin farw yn 1895 yn 79 oed, ac ymhen Credai O R Morris fod yr hen bwlpud dwy flynedd ailbriododd Owen R Morris, a’r ceunant yn werth mynd i’w gweld ar unwaith eto â gwraig weddw, sef Elizabeth gyfrif y golygfeydd gwyllt a rhamantus (Watkins) Lewis, gynt o Dôl Mason, o amgylch; a chael gweld cyflawniad Llanuwchllyn. Bu hithau farw yn Awst llythrennol o’r geiriau, “y dyfroedd a 1910. dreuliant y cerrig,” oherwydd yr oedd Ordeiniwyd O R Morris yn Dodgeville, rhediad prysur y dyfroedd wedi treulio y Wisconsin yn 1866. Bu’n weinidog mewn creigiau yn rhych cul, dwfn iawn – ugeiniau nifer o wahanol leoedd ym Minnesota o droedfeddi mewn rhai mannau. ac Iowa. Blwyddyn cyn ei farw yn 1912, Croesodd dros fath o bont, ac i gyfeiriad cafodd ddihangfa gyfyng pan aeth tŷ Maentwrog Uchaf, ac wrth fynd yr oedd Thomas, ei fab, ar dân. Collodd bron yn gweld Tomen y Mur, sef gweddillion bopeth o’i eiddo, ar wahân i’w Feibl a Llyfr hen orsaf Rufeinig o gryn enwogrwydd, Emynau, a ffon a chadair a gafodd yn a’r lle y cafwyd lliaws o gywreinbethau anrheg gan aelodau Capel Bristol Grove, hynafol hynod ar wahanol adegau. Bu O Minnesota. R Morris yn pregethu amryw weithiau Yn 1882 ac 1883 daeth ar ymweliad â ym Maentwrog a Maentwrog Uchaf cyn Chymru, a bu’n teithio a phregethu llawer iddo ef ymfudo. Gwelodd gapel newydd yn y gogledd a’r de. Ceir cofnod o ran chwaethus o ran ei ddull, canolig o ei daith mewn hen lawysgrif yn 1884, lle faintioli, ac eglwys gryno a threfnus o cyfeirir at yr ardal hon. Dyma grynodeb dan weinidogaeth y Parchedig Griffith o’r hanes hwnnw. Ceidiog Roberts – “bugail llafurus, Cychwynnodd o bentref hynafol Ffestiniog. pregethwr galluog, yn ddyn cymdeithasgar Yr oedd mewn llawer o bethau yn debyg a dirodres.” iawn i’r hyn ydoedd 30 mlynedd ynghynt, Gelwid y llecyn hwnnw weithiau yn Tafarn ac eto gwelai fod yno dipyn o newidiadau Helyg, a gerllaw yr oedd Pandy’r Dwyryd, – y fynwent wedi ei helaethu a’r hen stociau lle y dechreuodd y cyfarfodydd crefyddol lle y rhoddwyd dynion afreolus yn ddiogel cyntaf gan y Methodistiaid yn y rhan wrth borth y fynwent, nes iddynt sobri, honno o’r wlad. Gyferbyn â’r fan honno, wedi eu symud oddi yno, “er y buasai ar yr ochr ddwyreiniol, oedd gorsaf fach ar yn werth eu cael wrth law eto weithiau, reilffordd y Bala, sef Maentwrog Road fel oherwydd yr oedd yr hen dafarnau yno y’i gelwid. megis cynt, ac wedi mynd dan dipyn o Aeth ymlaen ei gamrau tua Llenyrch, atgyweiriad,” meddai. Ar y pen uchaf i’r yng nghyfeiriad Llandecwyn, lle yr oedd ‘pentref ’ tua’r gogledd ddwyrain, yr oedd capel bychan. Bu yno ar noson waith, ac cryn gyfnewidiad – nifer o adeiladau da yn lletya yn ffarm Llenyrch dros y nos, wedi eu hychwanegu, a chapel newydd a chafodd y teulu “yn bobl crefyddol a

charedig iawn” – yn llond tŷ o deulu o feibion a merched heinif, iachus a chryfion, yn cyd-fwyta gyda’i gilydd yn ddirodres wrth yr un bwrdd, fel yr arferai yntau yn yr America, a digon o gig moch a chig eidion wedi eu codi i sychu o dan y llofft. Nid yn aml bellach fyddai gweld golygfa o’r fath yng Nghymru; yn hytrach aed â dyn dieithr i’r parlwr neu rhyw ystafell o’r neilltu a chai fwyta wrtho ei hun, neu efallai gyda’r gŵr a’r wraig yn unig. Addawodd iddo’i hun gael y mwynhad o fynd ar hyd y lleoedd gwledig yn y wlad, o gael golwg ar y torthau haidd doniol a’r crochanau uwd y clywodd cymaint o sôn amdanynt; ond yr oedd yno rhyw fath o “iau caethiwed,” fel na chafwyd rhyw fraint hyfryd felly ar yr achlysur hwnnw; ac oherwydd hynny yr oedd O R Morris yn hoffi dull rhydd a dirodres y teulu hwnnw yn Llenyrch. Yr oedd wedi clywed llawer o sôn am y fferm honno, ddeugain mlynedd ynghynt, neu fwy, pan oedd yn llanc ifanc, oherwydd i’r gŵr oedd yn byw yno naill ai cael ei ladd yn ymyl ei gartref wrth ddychwelyd adref yn y nos, neu wedi digwydd mynd i rhyw dramgwydd ... Hebryngwyd efo oddi yno bore drannoeth dros y bryniau a’r cymoedd caregog drwy Llandecwyn i gyfeiriad Talsarnau, ac ar ei ffordd yr oedd yn pasio Llyn Tecwyn Uchaf, a dŵr, gloyw, pur a glân ynddo. O’r llyn hwnnw y diwallwyd tref Porthmadog â dŵr, yn cael ei gludo trwy bibellau tanddaearol am naw neu ddeg milltir o bellter o dan y Traeth Bach a’r Traeth Mawr. Yn agos i ben deheuol y llyn sylwodd ar rhyw dwmpath yn ochr y ffordd, a chryn dipyn o gerrig gwynion o’i amgylch. Gofynnodd i’w gydymaith beth allai hwnnw fod. “Bedd Dorti” oedd ei ateb. Proffesai Dorti fod ganddi allu gwyrthiol; ac i geisio argyhoeddi rhywrai oedd yn amau aeth i ben yr allt serth uwchlaw a gollyngodd ei hun i dreiglo i lawr i’r gwaelod. Yr oedd hi wedi sicrhau o’r blaen y gallai wneud y fath beth heb gael niwed; ond ymddangosodd fod treiglo dros ochr y foel serth yn orchwyl mwy cethin nac y dychmygodd Dorti; a chredai pawb ei bod wedi edifarhau yn chwerw iawn cyn cyrraedd hanner y ffordd i’r gwaelod. Claddwyd ei gweddillion yn y fan honno gan rhywun, a rhoed siars i bawb daflu carreg wen at ei bedd, neu y byddai ysbryd Dorti yn brathu eu sodlau. Taflodd y cydymaith lawer o gerrig gwynion iddi pan yn blentyn wrth basio i’r ysgol ond anturiodd O R Morris ac yntau basio y tro hwnnw heb daflu yr un garreg. W Arvon Roberts (i’w barhau)

11


GWASANAETH ARCHIFAU YN AILAGOR Mae Gwasanaeth Archifau Gwynedd yn edrych ymlaen at groesawu’r cyhoedd yn ôl i’w harchifdai. Bydd Archifdy Meirionnydd, Dolgellau yn ailagor ar y 7fed o Fedi, ac Archifdy Caernarfon yn ail-agor ar y 9fed o Fedi. Byddant yn gweithredu system apwyntiadau yn unig, a bydd angen archebu dogfennau o flaen llaw. Bydd angen diwrnod neu fwy o rybudd fel bod modd estyn y dogfennau a sicrhau fod y dogfennau hynny ar gael. Cysylltwch drwy e-bostio archifau@ gwynedd.llyw.cymru neu ffonio: Archifdy Meirionnydd, Dolgellau 01341 424682 (Archifdy Caernarfon 01286 679095).

CYNGOR CYMUNED HARLECH MATERION YN CODI Toiledau ger y Castell Rydym yn dal i geisio cael ateb gan y cwmni sydd yn gwerthu’r unedau golchi dwylo yn y toiledau, ac os na chawn ateb hwyrach y bydd rhaid meddwl am osod basn golchi dwylo a sychwr dwylo ar wahân yna. Ni fyddwn yn agor y toiledau nes fydd y darpariaeth yma wedi ei osod. Seddi Cyhoeddus Archebwyd tair sedd newydd a’u gosod ar Ben y Graig, Twtil a ger Pant Mawr (yn lle’r hen un presennol). Hefyd mae Mr Gareth Jones wedi tynnu’r un ar riw Dewi Sant er mwyn ei hadnewyddu. Adroddodd y Trysorydd Cytunodd pob aelod a oedd yn bresennol i gymeradwyo’r cyfrifon a hefyd ardystio’r ffurflen flynyddol, ac i’r Cadeirydd a’r Clerc/Trysorydd arwyddo’r cyfrifon, y ffurflen flynyddol a’r llyfr cyfrifon ar ran y Cyngor. Unrhyw Fater Arall Mae’n braf gweld y rhandiroedd yn llawn a’r lle yn edrych yn daclus. Mae’r rhestr aros am randiroedd yn bodoli ar hyn o bryd. Croesawyd y newyddion bod siop groser newydd yn mynd i agor yn y cyn-Gapel Tabernacl, gwanwyn 2021, a dymunwyd yn dda i’r perchnogion newydd. Datganwyd pryder bod ymwelwyr yn parcio yn mhobman pan maent yn ymweld â’r traeth a phan fo maes parcio’r traeth yn llawn.

12

GEMAU PLANT Mae chwarae plant wedi newid a datblygu yn y dyddiau digidol hyn – mae’r rhyngrwyd yn eu galluogi i chwarae gemau gyda’u ffrindiau heb adael y tŷ, neu hyd yn oed godi o’r soffa. Ond mae ’na le o hyd i’r gemau traddodiadol, p’un ai yn yr ardd, yn y parc, neu ar iard yr ysgol – d’oes dim yn well na chlywed chwerthin hapus plant yn cael hwyl yng nghwmni ei gilydd yn yr awyr iach. Dyma flas ar rai o’r gemau traddodiadol poblogaidd sydd wedi’u cofnodi yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru. Ewch i: http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html Un o’r hen ffefrynnau yw chwarae cwato neu guddio. Beth yw hwnnw, medd rhai ohonoch? Efallai eich bod yn ei adnabod yn well wrth un o’r enwau canlynol: micymgudd, chwarae whic whiw, cwat a chwiw, cŵn cadno, chwiw mig, sbei, chwarae mig, licaloi, neu, yn Saesneg, ‘hide-and-seek’. A fu rhai ohonoch erioed yn chwarae London? Neu efallai mai cicston, chwarae ecsi, poitsh neu sgotsh oedd eich enw am ‘hopscotch’. Mae cofnod yn y Geiriadur am ‘chware cat’, sef gêm o daro neu fatio darn o bren (y ‘gath’) i bellter am bwyntiau, yn dyddio o’r 16g. Mae’r gêm yn cael ei hadnabod hefyd fel catio, chware’r gath, chwarae’r gath ddwy gynffon, chwarae pren a chati, a pegi. ‘Tip-cat’ yw’r enw Saesneg amdani, a thybed a oes rhai ohonoch erioed wedi ei chwarae? Beth am ‘leap-frog’? Yn ôl y Geiriadur, adnabyddir y gêm fel chwarae donci mul, chwarae ffwdít, llam llyffant, naid y ffroga, chwarae moch duon, neidio caseg felen, neu neidio mulod. Beth oedd eich enw chi am y gêm? Mae’n ddiddorol darganfod yn y Geiriadur bod chwarae pêl-droed yn cael ei adnabod yn y 17-18g fel chwarae pêl ddu. Nid chwarae ffwtbol fel yr ydym yn ei adnabod heddiw, wrth gwrs, ond rhyw ffurf hanesyddol o’r gêm boblogaidd a oedd weithiau’n eitha peryglus, yn ôl yr hanes! Cofiwch, mae ’na nifer fawr o bethau diddorol eraill i’w darganfod drwy bori yn y Geiriadur. Hoffem glywed eich enwau lleol chi am y gemau yr ydych yn cofio eu chwarae yn eich plentyndod, i gael ychwanegu at ein casgliad. Medrwch gysylltu â ni drwy ein gwefan, ar e-bost (gpc@geiriadur.ac.uk), neu wrth ysgrifennu at: Geiriadur Prifysgol Cymru, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3HH

TOYOTA HARLECH

COROLLA HYBRID NEWYDD

Dewch i roi cynnig ar yrru’r Corolla newydd! Mae ’na ganmol mawr i hwn! facebook.com/harlech.

Ffordd Newydd Harlech LL46 2PS 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@harlech.toyota.co.uk Twitter@harlech_toyota


YSGOL TANYCASTELL 1990

Mae nifer o’r criw yma yn 40 oed eleni ac mae llawer ohonyn nhw yn dal i fyw yn lleol.

YMATEB

HEN LUN O COLEG HARLECH ymddangosodd yn rhifyn mis Mehefin

Diolch i Rhodri Jeffreys-Jones am ymateb i’r llun uchod. Fy mam, Nancy, pedwerydd o’r chwith yn y blaen O’r chwith yn sefyll: 2: Gerry Bowen Thomas (ond dim yn siŵr). 3. Fy nhad, T Ieuan Jeffreys-Jones, prifathro’r Coleg, 1960-67. 5: Twm Jones, garddwr a chrefftwr. 6. William David Jones. 9: John Selwyn Davies, darlithydd a ffrind i’r bardd Dylan Thomas 10. John Calvert, trysorydd y Coleg 12. Credaf mai Mr Howell, darlithydd yw hwn. Pob hwyl, Rhodri.

Diddorol oedd darllen hanes Lowri Cooke yn Llais mis Mawrth. Er i’w mam ddod o’r Bermo, Harlech yw ei chefndir. Ganwyd William 1838, John 1840, Gwen [Richards, Rhydgaled] 1846, Ann 1848 ac Elizabeth 1850 yn Pen Bryn Bach i Ellis a Catherine Williams. Priododd Ann Evan Morris Williams, Bryntirion, Llanfair yn 1872 a chafwyd dau o blant, William Castle View a Laura Caereinion. Yr oeddym yn byw yn Blaenau Ffestiniog. Bu farw Anne yn 1878 a dychwelodd Evan i Harlech lle yr oedd Elizabeth yn edrych ar ôl y plant yn Castle View. Fe briododd Evan Elizabeth a chafwyd Ellis, Evan, Catherine, Margaret a Lizzie ac wedyn symud i Penbryn bach ar ôl marwolaeth rhieni Elizabeth, Fe anwyd i Wlliam dri o blant – Griff [St David’s], Evan ac Anna. Fe briododd Anna W D Williams a ganwyd Iolo, Iwan a Nia [mam Lowri]. Ar y dde, fe welir llun Elizabeth y tu allan i Penbryn Bach tua 1910. Mae yr ail lun[uchod]yn dangos rhai o’r teulu, sef Margaret, Catherine a Laura gyda rhai o’r plant yn 1938. Diddorol hefyd oedd darllen hanes Telynor Mawddach ar ôl gwrando ar lawer i bregeth ganddo yng Nghapel Seion, Harlech. Gwyn Cable

13


Yr Offeryn

Erbyn heddiw mae hi’n anodd meddwl am gapel neu eglwys heb organ i gynnal y canu. Mewn ambell addoldy, mae yna organ bibau enfawr a phwerus ac os ydi’r capel neu’r eglwys fymryn yn llai, wel efallai mai organ drydan sydd yno. Mae ambell un o’r rhain braidd yn anaddas i’r cysegr hefo stops na ddylid eu defnyddio yn yr addoliad cyhoeddus efallai, rhai ohonynt yn cynhyrchu sŵn drymiau neu waltz neu rock’n rol. Ac yn ambell i dawel fethel fach fe geir yr hen harmoniwm o hyd lle disgwylir i’r organydd badlo ei orau a thynnu’r holl stops allan o’r braidd i gael sŵn teilwng o ganiadaeth y cysegr. Gwn am un capel yn Eifionydd lle roedd megin yr harmoniwm mor ddiffygiol, y bu’n rhaid ei phatsio hefo clytiau o gôt pyjamas gŵr y tŷ capel. Na, digon anodd ydi meddwl am yr addoldy heb “yr offeryn” fel y galwai yr hen bobl ef. Ond yr oedd yna organau crand a soniarus mewn eglwysi mawr yn Ewrop yn ôl yn yr Oesoedd Canol. Mae yna hanes am greu a gosod organ fawr a hynod yn Eglwys Gadeiriol Halberstadt yn yr Almaen cyn belled yn ôl â 1361 ac mae hi’n dal i weithio heddiw wedi ei thrwsio sawl gwaith a chael y beipen yma a’r ystyllen acw o’r newydd dros y canrifoedd yn ôl yr angen. Efallai yn wir ei bod hi fel brwsh bras yr hen Wyddel hwnnw ddywedodd fod yr un teclyn ganddo ers deng mlynedd ar hugain ond ei fod wedi cael coes newydd ddeg gwaith a brwsh newydd ugain o weithiau. Go brin y byddai yna lawer o hen hen organau ym Mhrydain ac ychydig

14

iawn yn yr eglwysi gwledig. Byddent yn bethau drud a doedd yna ddim traddodiad o gynnal offerynnau o’r fath. Os cewch gyfle i grwydro Sir Faesyfed, mae’n werth ichi daro i mewn i Eglwys Pencraig lle mae yna hen organ mewn cas derw yn dyddio o tua 1500. Ond prin fyddai’r ffasiwn bethau yng nghefn gwlad Cymru a phrin iawn oedd y canu yn yr eglwysi ar y pryd. Yn nes ymlaen datblygodd llawer o eglwysi plwyf ryw fath o gerddorfa syml i gyfeilio i’r gynulleidfa gydag offerynnau fel ffidil a chorn a’r creadur od hwnnw a elwid yn Saesneg yn serpent. Roedd y sarff hon yn fawr yn wir ac yn cynhyrchu nodyn bas trwm ac fe’i ceid hyd at y ddeunawfed ganrif yn adran y chwythbrennau mewn cerddorfeydd. Gellir gweld mewn ambell i eglwys o hyd lofft ym mhen gorllewinol yr eglwys lle deuai’r hen wladwyr at ei gilydd i chwyddo moliant y gynulleidfa gyda’u hofferynnau syml. Ymddengys i mi fod hyn yn digwydd fwy o lawer yn Lloegr nag yng Nghymru. Pan ddaeth oes y capeli niferus ac emynau’r 18fed ganrif roedd ar y cynulleidfaoedd eisiau canu yn yr addoliad. Doedd yna ddim organ ac fe fyddai’r hen dadau piwritanaidd yn ffieiddio ffidil, felly dibynnid ar y codwr canu i ddechrau’r gân a gofalu am y dôn iawn a’i phitsio hi lle medrai pobol ganu. Nid oedd pob dechreuwr canu cystal â’i gilydd. Yn ei lyfr difyr, Methodistiaeth Trefaldwyn Isaf, mae Edward Griffith yn sôn am Gapel Maengwynedd lle lediodd y pregethwr emyn na allsai’r codwr canu ffeindio tôn briodol iddo yn syth bin. Wedi ystyried am funud daeth goleuni iddo a dywedodd y byddai yn ei threio hi ar y “Ddafad Gorniog” ac meddai, “Hi aiff yn iawn ar hwnnw”. Wn i ddim sut yr aeth hi ym Maengwynedd ond mi’ch dyffeiwn chi i gyd i ganu unrhyw beth yn ddefosiynol ar y Ddafad Gorniog. Digon cyndyn oedd yr hen saint i dderbyn yr offeryn i’r cysegr. Yr oedd yr eglwyswyr yn barod ac yn wir yn awyddus i wneud hynny ond roedd pobl y capel yn amharod iawn i

fentro. Roedd rhai o’r hen flaenoriaid yn edrych ar offerynnau cerdd fel gwaith y Diafol. Roeddwn yn darllen hanes Capel Seilo, Aberystwyth yn ddiweddar a synnais weld fod y capel wedi ei agor ym 1863 ond ni welodd yr aelodau yn dda i gael organ yno hyd 1894. Os oedd hi felly yn Aberystwyth lle ceid pobol broffesiynol ac academyddion yn y gynulleidfa, sut oedd hi yng nghefn gwlad? Tua 1973 y daeth organ i Soar y Mynydd! Cofiaf wraig o Sir Fôn yn dweud wrthyf am yr helynt fu yng Nghapel Bethania, Llangaffo tua 1900 pan basiwyd, yn groes i rai o’r hen flaenoriaid, i gael organ i helpu`r canu. Ymhen Sul neu ddau i’r organ gyrraedd dyma’r gweinidog yn gofyn ar goedd i un o’r blaenoriaid a wnâ o gymryd rhan i ddechrau’r cyfarfod. “Na wnaf wir,” oedd yr ateb, “gofynnwch i’r bocs pren yna gymryd rhan.” Yr un wraig ddywedodd wrthyf ei bod hi a ffrind iddi wedi peidio mynd i’r Ysgol Sul un pnawn ac wedi cerdded i Bentre Berw rhyw bedair milltir i ffwrdd. Roedd yna sôn fod yna rasys ceir y Gordon Bennett Cup i’w cynnal yn Iwerddon a byddai ceir yn teithio trwy Sir Fôn ar eu ffordd i ddal y llong yng Nghaergybi. Ym 1903 yr oedd hyn ac roedd rasio moduron ar y ffordd gyhoeddus yng Nghymru a Lloegr yn anghyfreithlon ar y pryd. Felly trefnwyd i rasio yn Iwerddon, lle roedd yn gyfreithlon gwneud hynny. Bu’r ddwy yn eistedd ar ochr y ffordd a gweld un car yn pasio, y cyntaf iddynt ei weld erioed. Wedyn roedd yn rhaid i’r ddwy gerdded y bedair milltir yn ôl i Langaffo at wasanaeth y nos. Y noson honno, bu’n enbyd o ddrwg arnynt yn y capel a’r blaenoriaid yn eu condemnio am “rodianna ar y Saboth ac esgeuluso moddion gras”. Buont yn ffodus i fynd adref hefo cerydd yn unig a’r bygythiad i’w torri allan o’r capel os byddai yna ychwaneg o lol fel hyn. Diddorol fyddai gweld hen flaenoriaid yr oes o’r blaen yn y Bermo ar bnawn Sul yn yr haf eleni. JBW


HYSBYSEBION

Telerau gan Ann Lewis 01341 241297 ALAN RAYNER

ALUN WILLIAMS

ARCHEBU A GOSOD CARPEDI

GALLWCH HYSBYSEBU * Cartrefi YN Y * Masnachol BLWCH HWN * Diwydiannol Archwilio a Phrofi AM £6 Y MIS

TRYDANWR

07776 181959

Sŵn y Gwynt, Talsarnau www.raynercarpets.co.uk

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru

Tafarn yr Eryrod

JASON CLARKE

Bwyd cartref blasus Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad a golchi llestri. 01766 770504

Llanuwchllyn 01678 540278

Ffôn: 07534 178831

e-bost:alunllyr@hotmail.com

GERAINT WILLIAMS

Maesdre, 20 Stryd Fawr Penrhyndeudraeth LL48 6BN

GWION ROBERTS, SAER COED

Gwrachynys,Talsarnau

01766 771704 / 07912 065803

ADEILADWR

Gwarantir gwaith o safon

Ffôn: 01766 780742 / 07769 713014

MELIN LIFIO SYMUDOL Gadewch i’r felin ddod atoch chi! Y cyntaf i’r felin gaiff lifio! www.gwyneddmobilemilling.com

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014

CAE DU DESIGNS DEFNYDDIAU DISGOWNT GAN GYNLLUNWYR

gwionroberts@yahoo.co.uk dros 25 mlynedd o brofiad

Glanhäwr Simdde • Chimney Sweep Glanhäwr Simdde

Stryd Fawr, Harlech Gwynedd LL46 2TT

Gwasanaeth Cadw Llyfrau a Marchnata

01766 780239

ebost: sales@caedudesigns.co.uk

Dilynwch ni:

Oriau agor: Llun - Sadwrn 10.00 tan 4.00

E B RICHARDS Ffynnon Mair Llanbedr 01341 241551

CYNNAL EIDDO O BOB MATH Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

Llais Ardudwy

Gosod, Cynnal aaChadw Stôf Stôf Gosod, Cynnal Chadw Stove Installation & Maintenance

07713 703 222

argraffu da am bris da Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk 01766 512091 / 512998

Drwy’r post Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr llaisardudwy@outlook.com

TREFNWYR ANGLADDAU

E-gopi llaisardudwy@outlook.com £7.70 y flwyddyn am 11 copi holwch Paul am bris ar paul@ylolfa.com 01970 832 304 www.ylolfa.com

ARGRAFFU DA AM BRIS DA gwahanol feintiau.indd 9

19/12/2013 12:58:44

Gwasanaeth personol dydd a nos Capel Gorffwys Ceir angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

15


Teyrnged

William Henry Thomas Mae’r rhan fwyaf yn ei nabod fel Bill, Uncle Bill, Billy Pigs ac wrth gwrs Dad a Taid. Ganed ym Mryn Eithin, Manod, yn fab i William ac Agnes ac yn un o bedwar o blant. Ceredig oedd y brawd mawr a soniai yn aml am ei waith arbennig gyda’r heddlu, ac yna dwy chwaer sef Eirlys a Glenys. Stori yr hoffai ei rannu’n aml oedd hanes ei deulu, eu holl eiddo ac anifeiliaid yn symud o Flaenau Ffestiniog i Landecwyn gyda cheffyl a throl. Yna daw hanes y ddau fachgen direidus a ffrindiau am oes - Bill ac Evan Coedty. Bu’r ddau yn Ysgol Llandecwyn am flynyddoedd er nad oedd yr un ohonynt fawr o awydd bod yno. Byddai Taid yn aml yn dweud ei hanes o ac Evan yn taflu rwbiwrs at ei gilydd dros y wal oedd yn rhannu’r dosbarth yn ddau. Roedd y ddau yn awchu i gael gadael yr ysgol a dechrau gweithio a helpodd Evan gael gwaith i Taid fel gwas fferm yn Moel y Geifr ac yna yn Tallin. Dyn ffeind iawn oedd Taid. Pan ddechreuodd ganlyn Nain, fo ddysgodd Mair ei chwaer sut i ddreifio ond nid oedd Mair yn gallu fforddio talu am y prawf. Rhoddodd Taid bunt iddi ar yr amod mai dim ond 50c oedd raid iddi dalu yn ôl os oedd hi’n pasio tro cyntaf. Ac mi wnaeth! Mae hanesion lu am ei ddreifio. Roedd yn mynd i Fronaber i gael bacwn, ŵy a chips. Roedd o ac Evan yn rasio Gerallt Pensarn a Tecwyn Alltgalch ar y ffordd yno efo Taid yn dweud wrth Evan ‘rho dy droed i lawr’! Collodd reolaeth ar fotobeic unwaith gan blygu giât cymaint fel nad oedd hi’n agor. Y clutch oedd yn cael y bai am hyn er fod Evan yn gwybod yn iawn mai gyrru gormod oedd o. Hefyd, collodd reolaeth ar y fan ar Bont Dolgyfeilia unwaith gyda Myfanwy, Mair a Gwenda efo fo. Trodd y fan yr holl ffordd o gwmpas i wynebu am adref heb hitio’r wal ar y bont cul, a doedd dim marc ar y fan na nhwtha! Priododd Gwyn Erfyl Jones Bill ac Olwen yng Nghapel Iwtica yng Ngellilydan. Dim ond dau arall oedd yno sef Anti Mair ac Uncle Evan. Yna y ddau yn symud i Landderfel lle bu’n gweithio ar y stad yn Pale Hall cyn symud i Groes Newydd Llandecwyn. Mae stori amdano ar y Tiwb yn Lundain. Dyn oedd yn hoff o’i filltir sgwâr ei hun oedd Taid felly roedd prysurdeb Llundain yn dipyn o sioc iddo. Yn ystod y gwyliau, camodd y 3 arall ar y Tiwb ac i ffwrdd â

16

nhw a f ’ynta dal yn sefyll ar y platfform! Yna ganed tri o blant, Bethan, Deilwen a Gwynedd. Daeth blwyddyn dda iawn iddo yn 1990 ac yn 1992 - dod yn Daid i mi a Samantha. I dŷ Nain a Taid fysa’r ddwy ohonom yn mynd unrhyw adeg roeddem yn sâl neu isho mwytha. Hyd yn oed yn bymtheg oed dwi’n cofio cerdded yno yn fy mhyjamas pan yn sâl ac isho sylw! Credai Taid y buasai jochiad o whisgi yn gwella poen bol ac roedd yn methu deall beth oedd problem Deilwen efo hyn! Anifeiliaid oedd un o’i ddiddordebau. Cŵn defaid, moch, defaid, gwartheg, geifr a tyrcwn. Unwaith, tynnodd o ac Evan y sêt gefn o’r car er mwyn gwneud lle i roi dau lo. Wrth ddreifio adref, dechreuodd y car symud yn ôl i lawr y rhiw ac roedd yn raid i Evan afael reit sydyn ar yr hand brake er mwyn achub pawb. Plannu oedd y prif ddiddordeb arall. Dau dŷ gwydr a phob tamaid arall o’r ardd wedi ei orchuddio efo rhyw fath o blanhigyn. Roedd unrhyw ymwelydd â Chilfor yn mynd adra efo llond bag o gynnyrch. Ar gyfer gweithio mae cŵn, hynny yw nes i Queen y ci defaid ddod i’w fywyd. Hi oedd y ci cyntaf i gael dod i’r tŷ ac yna doedd dim stop arno. Yna daeth Fflei a oedd yn cael dod i’r tŷ yn aml ac yn cael ei difetha. Ac yn olaf, yr enwog Meg. Mae pawb yn nabod Meg. Un ai trwy ei chlywed yn swnian pan ar y ffôn, clywed Taid yn sôn amdani neu drwy chwarae pêl yn ddi-stop. Yn syml, Meg oedd hoff aelod Taid o’r teulu. Roedd y ddau yn ffrindiau gorau ac yn gofalu am ei gilydd drwy’r dydd, bob dydd. Yn fwy diweddar, trip i Port oedd uchafbwynt yr wythnos efo Beth a Meg. Beth yn gwneud neges, Taid yn sêt y passenger a Meg yn guardio yn sêt dreifar. Crynhoad byr yw hwn o 89 o flynyddoedd ac yn sicr mae gan bawb ohonom lawer mwy o atgofion ohono. Yn syml, roedd Taid yn ‘one off’ ac fe fydd gan bob un ohonom hiraeth amdano. Melanie

Deilen ola’r ha’. Os bu awel angau Yn melynu’i lliw, Dal yn dynn ei gafael Wnâi y ddeilen friw. Methodd nerth y gaeaf A’i gawodydd ia Daro i ddifancoll Ddeilen ola’r ha’.

Ond daeth llanw Ebrill A’i dywynion poeth; Llifodd bywyd eilwaith Drwy y gangen noeth. Nerth y bywyd newydd Yn yr ysgafn chwa Dorrodd fedd i weddill Deilen ola’r ha’.

Atgofion Dwi’n siŵr eich bod yn cytuno fod hon yn gerdd fendigedig sy’n egluro y ‘Cylch Bywyd’. Taid oedd y gangen oedd yn ein cynnal ni fel teulu. Y mae gan Melanie a minnau lawer o atgofion bythgofiadwy ohono. Byddai Taid wrth ei fodd pan fyddai Melanie yn galw am banad gan weiddi ‘iŵ hŵ’ dros y tŷ. Dywedai Taid yn aml fod ganddo gur pen wrth iddi ada’l gan nad oedd hi yn stopio siarad. Yr oedd hi’n bleser galw a gwrando arno yn siarad am yr ‘hen amser’ neu gael gwybod ganddo be oedd yn mynd ymlaen yn y pentra, Efallai mai nid darllen y Daily Post oedd raid iddo yn ddiweddar ond rhwng Gwen a John Coedty doedd o’n colli allan ar ddim. Roedd Taid yn arddwr penigamp ac fe fyddai wrth ei fodd yn rhannu planhigion a rhoi tips i ni. Chydig o wythnosa yn ôl, gosododd Melanie her ‘lockdown’ iddo, sef cystadleuaeth tyfu y blodyn haul mwya. Dwi ddim cweit yn siŵr pam sa hi yn gosod sialens nad oedd ganddi gobaith o’i hennill a siŵr i chi mae un Melanie yn edrych mwy fel chwyn. Byddwn i wrth fy modd yn cael chwarae ar ffermio gyda Taid a gallwn yn aml iawn ei berswadio i brynu ‘stoc’ – ia fi oedd eisiau y chwaden ddu a fu fyw am flynyddoedd er mai bob lleuad llawn oedd Taid yn cael ŵy ganddi (wyau drud ofnadwy)! Ia, fi hefyd ddaru swnian arno i brynu Meg am £50. Efallai ei fod o di cael gwerth mwy am ei bres - mae Meg wedi bod ei gyfaill gora ers iddo golli nain. Clywsoch yn y deyrnged fod Taid yn dipyn o ‘driving instuctor’ a dwi’n cofio fy ngwers ddreifio gynta efo fo pan tua unarddeg oed yn cae Beudy Gil yn y tryc. Dim ond un broblam oedd - doedd o ddim wedi cofio deud wrtha’i sut i stopio ond, wrth lwc, fe ddaru postyn y giât helpu hynny. Dwi ddim yn cofio llawer o wersi wedyn. Bydd yn golled fawr i’r ddwy ohonom ar ei ôl. Samantha


Hanes y diweddar Arthur Thomas Newydd ei gyhoeddi y mae’r llyfr uchod. Trwy atgofion cyfeillion a geiriau Arthur ei hun, cawn ddarlun cynnes ohono. Roedd yn gymeriad adnabyddus ledled Cymru mewn Eisteddfodau, ralïau, gwyliau a gêmau rygbi a byddai criw’n hel o’i amgylch am sgwrs a chân a thynnu coes. Cymro cadarn a brogarwr balch, cymeriad ffraeth a chwmnïwr diddan ond hefyd dyn teulu a chyfaill triw i laweroedd – dyna i chi Arthur. Wedi’i wreiddio yng Nghymreictod Penmachno, bu’n brotestiwr brwd yn ddyn ifanc a gwisgodd grys ei wlad yn ddi-gyfaddawd trwy gydol ei oes. Breuddwydiai am Gymru fyddai’n falch ohoni a bu’n byw i geisio gwireddu’r freuddwyd – wrth sefydlu papur bro Yr Odyn neu Glwb Rygbi Nant Conwy yn ei fro enedigol, yn aelod o gorau, yn golofnydd difyr a dadleuol i’r Cymro a’r Wylan, papur bro ei ardal fabwysiedig yn Eifionydd, yn awdur cyfrolau poblogaidd ac yn fardd aml-gadeiriog. Dyma gyfle i gofio am yr hwyl ac am freuddwydion a gweithredoedd Arthur. Gellid dyfynnu’n helaeth o’r llyfr ond dyma i chi flas a thamaid i aros pryd. Tynnwyd y sylwadau o’r bennod sydd â’r teitl: ‘Ffraethineb hen gymeriadau ardal Arthur yn

hel atgofion am gymeriadau Nant Conwy.’ Ar ddiwedd y pumdegau, roedd treialon cŵn defaid rhyngwladol yn cael eu cynnal yn Hyde Park a llond bws o ben uchaf Dyffryn Conwy wedi mynd yno. Er nad oedd gan Syl [Sylfanws Ellis, adeiladydd ac ymgymerwr] fymryn o ddiddordeb mewn cŵn defaid, aeth ar y trip. Ar ôl rhyw gwta hanner awr, dyma Syl yn mynd am beint. Cyn pen dim, roedd yn ôl, a holodd Huw Sel, y saer coed a’r bardd o’r un pentref, yn lle oedd o wedi bod. `Uffarn o byb drud,’ medda Syl, `rhyw Dorchester neu rwbath oedd ei enw fo!’ Wedi cneifio, un tro roedd ffermwr yn rhoi’r llythyren ‘V’ mewn pitsh ar bob dafad. Dyma un o’r defaid yn dianc i’r A5 ac aeth y ffermwr i chwilio amdani. Stopiodd gar a gofyn: ‘Ydech chi ’di gweld dafad a ‘V’ ar ei chefn hi!’ Roedd wynebau’r ddau yn y car yn werth eu gweld! Cofiaf hen ŵr o’r enw Roli Cefn a geisiodd un tro, adeg helynt Suez, roi tipyn o addysg i ni blant. `Dyna i chi’r Ijypt ‘na. Rhyw le ‘fath â Cwm Eidda ydi o!’ Cyhoeddodd Arthur gasgliad o straeon Crad Bach yn y gyfrol ‘Straeon Celwydd Golau’. Roedd yn gymeriad heb ei ail ac yn bioden o gasglwr, a’i gartref yn llawn o bethau. Roedd wedi cael bocsiad o lemons plastig Jiffy gweigion o rywle. Aeth ati un gaeaf i’w gludo ar ganghennau coeden afalau ger ei dŷ gan ddenu ymwelwyr ac roedd ceir yn stopio a chamerâu yn clicio drwy’r gaeaf. Cymeriad arall oedd Dei Gwyndy, un â’r ddawn i ddynwared llawer o’r trigolion lleol fel y gallech daeru mai nhw oedd yn siarad. Ac un sydyn ei ateb. Mewn gêm bêl-droed ar gae Ty’n Ddol, a’r tîm lleol yn chwarae yn erbyn Llanfairfechan, roedd Dei yn cega ar lumanwr yr ymwelwyr. Cafodd hwnnw lond bol a dyma fo’n troi at Dei a dweud: `Dwi di bod ar y lein ers chwarter canrif.’ Daeth ateb Dei Gwyndy yn syth: `Mae’n rhaid bod hi’n hir yn sychu.’ Roedd dau gyfaill yn gweithio gyda’i gilydd yn un o chwareli Cwm

Penmachno, un yn flaenor ac yn ŵr duwiol iawn ond bocsio ai â bryd y llall. Cyn y ffeit enwog rhwng Tommy Farr a Joe Louis, dyma oedd testun ei sgwrs byth a hefyd. Cafodd y llall ddigon a dyma fo’n gofyn, `Duda i mi Rhys, wyt ti’n ’nabod y Tommy Farr ’ma?’ A’r ateb, ‘Yndw’n duw, cystal ag wyt ti’n nabod Paul a Pedr.’ Roedd y chwarel yn lle am lysenwau. Cafodd Wil Gwd Morning ei enw oherwydd iddo fod yn Lerpwl am bythefnos a dod yn `dipyn o Sais’ yn ei dyb ef. Roedd yn cerdded o chwarel Rhiwfachno gyda’i ffrind ar ddiwedd y prynhawn pan ddaethant i gyfarfod gwraig leol: ‘Gwd morning’, medda Wil. `Gwranda,’ medda’i ffrind, `mae hi’n b’nawn rŵan.’ `Chdi ta fi sydd wedi bod yn Lerpwl?’ oedd yr ateb.

Dau hen gyfaill Eifion Williams, Llandecwyn [sydd, fel Arthur, yn enedigol o Benmachno] ac Arthur yn dathlu ym mhriodas merch Arthur, sef Elen Hydref. Cewch gyfle hefyd i ddarllen y gerdd a sgwennodd Anwen Roberts, Craig y Nos i gyfarch Arthur yn Eisteddfod Talsarnau, 1996. Mae honno’n un gofiadwy iawn! Prynwch y llyfr. Mae o’n costio £8 ac yn werth ei ddarllen.

17


HARLECH EMYR REES

Dathlu Priodas Arian Llongyfarchiadau calonnog i Huw (Tommy) ac Yvonne Jones 14, Tŷ Canol, sy’n dathlu eu priodas arian ar Medi 9. Mae pawb oedd yno yn cofio’r diwrnod a’r cyffro y tu allan i Eglwys St Tanwg pan ddaeth yr Injan Dân i’ch nôl chi a’ch cludo i lawr at y wledd briodas yng Ngwesty Dewi Sant. Atgofion hapus iawn. Mwynhewch y dathliadau, gyda chariad mawr gan y teulu a ffrindiau i gyd. Graddio Dymuniadau gorau hefyd i Scott, mab Huw a Yvonne ar ei lwyddiant yn graddio gydag Anrhydedd Dosbarth 1af mewn Busnes a Chwaraeon ym Mhrifysgol John Moores, Lerpwl. Pob lwc iti yn y dyfodol a phenblwydd hapus iawn iti ar droi yn 21 oed ar ddiwedd mis Gorffennaf. Cydymdeimlo Cydymdeimlwn ag Arawn Lloyd Jones, 21 Maes Teg, Penrhyndeudraeth [Cerrig Gwaenydd gynt] ym marwolaeth ei frawd, Iddon yn ddiweddar ac yntau yn 86 oed. Bu dan anhwylder ers tro. Peiriannydd sifil ymgynghorol yn arbenigo ar argaeau oedd Iddon. Bu’n gweithio ar gynlluniau Stwlan a Dinorwig. Bu hefyd yn ynad ar fainc Llandudno. Ef, yn ôl Syr Thomas Parry, arbedodd Eisteddfod Bro Dwyfor yn 1975 wedi helynt diogelwch y pafiliwn. Roedd y ddau frawd yn agos iawn ac yn siarad â’i gilydd bob nos am union hanner awr wedi saith. Rhodd £20 Diolch am bapur difyr bob mis. Tec a Priscilla, Ty’r Acrau.

18

Pen-blwydd Pen-blwydd hapus gan Mam, Dad, Carwyn, Joe a’r teulu i gyd i Billy Jones 11, Y Waun oedd yn 21 oed ar Awst 23. Pen-blwydd Arbennig Pen-blwydd hapus iawn i Mrs Hazel Jones 23, Y Waun, a fu’n dathlu ei phen-blwydd yn 70 oed yn ddiweddar. Mae hi a’i gŵr Gwyn hefyd wedi dathlu eu priodas saffir [45 o flynyddoedd]. Llongyfarchiadau i’r ddau. Rhodd a Diolch Gwyn a Hazel £10 Pen-blwydd Arbennig Llongyfarchiadau cynnes iawn i Helen Pritchard, 26 Tŷ Canol ar ddathlu pen-blwydd arbennig iawn. Llawer o gariad oddi wrth dy ffrindiau i gyd yn yr ardal. Merched y Wawr, Harlech a Llanfair Mae aelodau’r gangen yn bwriadu dod at ei gilydd i gyfarfod yn yr awyr agored a mynd am dro yn fuan iawn. Yn sgîl hynny, gobeithiwn drafod rhaglen bosib o weithgareddau am y flwyddyn. Mae cryn chwilfrydedd ynghylch cael gweld y llyfr ‘Curo Corona’n Coginio’.

SIOE FLODAU HARLECH Oherwydd yr anawsterau o safbwynt Cyfnod y Gofid, ni chynhelir y Sioe Flodau eleni.

SWYDDFA’R POST Pwll Nofio Harlech ar ddydd Gwener 1.45 - 3.00

Glan Wern, Llyn Bodlyn, Llanw a thrai, Ted bach, crëyr glas, Gwenyn a gwreiddiau, a’r Waun yn ei wythiennau. Pa ots am gyfnod clo I frenin balch ei dir a’i fro? Dan gysgod ei gastell Yn plannu, rhyfeddu, Y ffeindiaf oll Yn mynnu rhannu. Torth frith, Jam coch a chytni, Nionod picyl, Jariau dirifedi A gwên o ddireidi, Ei holi “sud wti?” Joch o wisgi, Rhegi, Kit kat a sws i’r ci. Gwenynwr, Garddwr, Â meddwl chwim, Ein Emyr Wyn, Yn ’nabod pob ’Deryn a mynydd a llyn, Bonheddwr ein bro, A’i galon yn gyffro Wrth rannu mêl Ei gof. Ar ddydd olaf Mehefin, Daeth hen ofn i gydio’n dynn. Heb g’nesrwydd calon Emyr Dim ond hiraeth fydd fan hyn. Dim and cwch heb suo’r gwenyn; Dim and gardd heb liw ’run blodyn, Dim and llyn heb ddawns pysgodyn, Gwag yw’n nyth heb gân ein ’deryn. Diolchwn oll amdano, Ein braint, hyd byth Fydd cofio. A heno, Codwn wydryn Wrth i’r gwenyn Suo, suo Nos da. Lowri Ifan


LLANFAIR A LLANDANWG Cydymdeimlad Cydymdeimlwn â Glenys, Ian ei chymar a’r teulu yn dilyn marwolaeth ei mam, Gladys Jones, Bryn Derwen, Llanfair, yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, ar 26 Awst. Roedd yn wraig i’r diweddar Eddie (Eddie Pentra), yn nain i Jemma a Jessica, yn nain Llanfair i Harri a Leia, ac yn chwaer i Eluned a Jean a’r diweddar Rosie a Mair. Cynhaliwyd gwasanaeth preifat, oherwydd y cyfyngiadau presennol, ar lan y bedd ym Mynwent Llanfair ar ddydd Sadwrn, 5 Medi. Derbynnir rhoddion er cof am Gladys, y cyfraniadau tuag at Ambiwlans Awyr Cymru, gan yr ymgymerwyr Pritchard a Griffiths, Heol Dulyn, Tremadog. Cofion atat, Glenys a’r teulu, gan deulu a ffrindiau yn yr ardal.

HOGIA LLANFAIR

Pwy tybed? Mi gawsom atebion gan fwy nag un darllenydd. Dyma’r enwau - Iddon Hall ar y chwith, Dafi Owen yn y canol efo’r gitâr a Def John ar y dde.

Llais Ardudwy

£19 y flwyddyn drwy’r post

Anfonwch at: Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr LL45 2NA llaisardudwy@outlook.com

Gladys Jones, Bryn Derwen Ganwyd Gladys ar y 26ain o Hydref 1929 yn Llanbedr, yn ferch i’r diweddar Annie ac Edward Jones-Williams. Roedd yn un o bump o ferched ac yn Brongadair, Prysg, Llanfair y cafodd ei magu gyda’i chwiorydd Eluned, Jean a’r diweddar Rosie a Mair Cafodd ei haddysg yn ysgol gynradd Llanfair ac wedyn ysgol Harlech. Drws nesaf roedd ei ffrind gorau, Barbara, yn byw, a phan roeddent tua 17 mlwydd oed aeth y ddwy i ymuno â’r Land Army ac yna gweithio ar fferm Abergwynant, Penmaenpool a gweithio o amgylch ffermydd yr ardal yn ystod y rhyfel. Fuodd y ddwy yn ffrindiau drwy gydol eu hoes. Aeth ymlaen wedyn i weithio yn y ffatri gemegau yn y Bermo, Plas Amherst yn Harlech a Gwesty’r Marine yn y Bermo. Ar ôl priodi Eddie a symud dafliad carreg i Bryn Derwen, ganwyd Glenys, yna gwraig tŷ fuodd Gladys. Roedd Eddie a Gladys yn hoff o fynd i Landudno bob dydd Sadwrn i siopa ac wedyn ymlaen i gaffi Enoch’s am ‘Fish a Chips’ - dyna oedd uchafbwynt yr wythnos. Yr oedd yn aelod ffyddlon o Gapel Bethel Llanfair ac yn mynychu pob dydd Sul. Ar ôl i’r Capel gau, aeth i Capel Bach, ond yn anffodus roedd rhaid stopio mynd pan roedd symud o gwmpas wedi dod yn fwy o broblem iddi. Yn 1991 collodd Gladys ei mam a’i gŵr; roedd hyn yn amser anodd iawn iddi ond brwydro ymlaen wnaeth hi. Roedd yn nain arbennig o dda i Jemma a Jessica, roedd yn cerdded a nhw i’r ysgol feithrin yn Harlech, a gwneud y daith yn ól ac ymlaen 4 gwaith y diwrnod. Roedd yn edrych ar ôl y ddwy ac yn ffrindiau mawr hefo’r ddwy.

Gofynnodd Glenys i’w mam os hoffai ddysgu dreifio er mwyn gneud petha yn haws iddi. Dyna oedd gamp fawr! Aethon nhw i lawr i faes parcio lan y mór Harlech yn y Peugeot 205 coch, neidio i’r sêt dreifar wnaeth Gladys a Glenys yn y sêt passenger. Dyma’r wers yn dechrau a Gladys yn cychwyn y car, yna roedd y car yn mynd fel cangarŵ i lawr y maes parcio a Glenys yn chwysu chwartia yn gweiddi bréc, bréc, bréc. Diolch byth, roedd y maes parcio yn wág. Dyna oedd y wers gyntaf - a’r olaf! Dynes oedd yn hapus yn ei milltir sgwâr oedd Gladys, ond roedd yn hoff iawn o fynd i siopa a byddai Glenys yn mynd a hi pob wythnos i wahanol lefydd. Ei hoff le oedd Morrisons yng Nghaernarfon ac yna cael mynd i Bant Du, Penygroes am fwyd. Mis Medi 2019 dechreuodd iechyd Gladys ddirywio a chafodd newyddion trist ei bod yn mynd yn ddall. Er hyn roedd yn benderfynol o gario mlaen yn Bryn Derwen er fod llawer o stepiau serth i fyny at y tŷ. Roedd hi’n dal i wneud tân iawn yn y tŷ tan mis Mawrth y flwyddyn yma a dal i’w llnau bob bore. Roedd yn drwm ei chlyw ac yn gwrthod cymryd ‘hearing aid’ ar ôl profiad ofnadwy gyda’i mam yn y capel pan ddechreuodd ei ‘hearing aid’ hi chwibanu a Gladys yn methu stopio chwerthin. Er dweud wrthi fod pethau wedi newid erbyn heddiw gwrthod yn llwyr a wnaeth. Roedd hi ai chwaer Jean yn siarad bob diwrnod ar y ffôn er trafferthion gyda’i chlyw a bob dydd Sul gydag Eluned. Roedd yn hoff iawn o weld ei gorwyrion Harri a Leia a byddai wrth ei bodd yng nghwmni y ddau. Roedd Harri wrth ei fodd yn mynd at nain Llanfair am ‘cup of tea’ a bisged. Chwech wythnos yn ôl cafodd ei hanfon i Ysbyty Gwynedd ac yn anffodus dirywio wnaeth ei hiechyd a fy farw ar ddydd Mercher y 26ain o Awst. Bydd chwith mawr i’r teulu hebddi; roedd yn gefn mawr iddynt ac yn rhan fawr o’u bywydau. Diolch Dymuna Glenys, Jemma a Jessica ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad tuag atynt gan deulu, ffrindiau a chymdogion, galwadau ffôn, cardiau a’r rhoddion hael er cof am Gladys at Ambiwlans Awyr Cymru. Diolch i’r Parch R W Jones, Wrecsam, am ei wasanaeth meddylgar ar lan y bedd ac i Dylan Griffiths o Pritchard a Griffiths am y trefniadau gofalus a thrylwyr. Rhodd a diolch £10

19


TALSARNAU YR OEDD MAM YN EI GOFIO PAN OEDD YN HOGAN FACH Thomas Gwilym Williams 1912-1996

Ynys

Llechollwyn Elen Thomas, cyn i deulu David ac Ellen Davies, mam a thad John Davies, Bronynys symud yno. Mi gymerodd John Humphrey ei gartref yn Llechollwyn ac mi fu yn gweithio yno am flynyddoedd, a chafodd fedal am ei deyrngarwch. Glanmeirion John a Margaret Roberts, nain a thaid Mrs Davies, Bronynys, sef mam Dic Llechollwyn. John Roberts adeiladodd y tŷ ar dir ar lês gan Lord Harlech. Roedd Mrs Davies yn gyfnither i Nain, mam fy nhad, sef hen deulu Bracdy Tŷ Gwyn Mawr Evan Lloyd a’i wraig, rhieni John Lloyd, Morris Lloyd a Mrs Evan Evans. Cyn hynny Capten Pritchard, wedi marw Chwefror 1827, yn Gambia, Affrica, yn 31 oed, ac wedi cael ei gladdu yn Llanfihangel. Tŷ Gwyn y Gamlas Ann Jones, cyfnither John Jones, Brynfelin. Mae’r hen dŷ erbyn hyn wedi ei chwalu; defnyddiwyd y cerrig i gau twll mawr yn y clawdd llanw ar ôl i’r llanw ei dorri pan oeddant yn gwneud sluice. Fe dorrodd WT Williams, Llanfair trwy y clawdd ar gyfer y llyn a rhoi pipes mawr trwodd, ond daeth y llanw a bron i’r clawdd i gyd fynd. Rhes Tŷ Gwyn

20

1. Mrs Pole 2 Capten a Mrs Ellis, tad a mam Mrs Rowlands, Miss Ellis ac Elizabeth Ann 3 Capten Roberts a’i wraig, rhieni Mrs Garret Roberts 4 Capten a Mrs Thomas 5 Teulu Teddy Lloyd 6 Mrs Nutman Crossing Tŷ Gwyn Philip Vaughan, ganger ar y lein. Garreg Ro Mam Dorothea a Robin Sgrew, a bu Evan Lleda yn byw yma hefyd. Garreg Ro Bach Richard Lloyd. Tyddyn Du Yn yr hen amser. David Jones, morwr, a’i briod Margaret Yr oedd pregethu yn cymryd lle gerllaw Tyddyn Du gan y Methodistiaid. Pan oedd Owen Jones, yr Offeiriad yn dychwelyd o’r Llan wedi bod mewn gwasanaeth, dangosodd awydd cryf i ymosod arnynt, ond llwyddodd ein taid i’w dawelu. Glanllyn Elizabeth Evans. Ysgoldy John Richard, Tanpenmaen, yr oedd wedi torri ei goes yn y chwarel a choes bren ganddo Rectory Jones y person. Un da am galennig meddai Mam. Ar ei ôl daeth D T Hughes, “Morfa”. Yr oedd y plant yn ei alw yn Person Hughes, yr oedd hefyd yn dysgu’r plant yn ysgol yr Eglwys yn Glanywern. Cartrefle John Evans a Mrs. Evans, rhieni William Emrys. John Evans ddaru adeiladu Cartrefle Tŷ Newydd John Davies a Mrs. Davies, rhieni Blodyn Jones, Glanmeirion, Lena Williams, Cefn Gwyn, Jackie, Draenoga, David Morgan, a fu farw 1943, Nancy Thomas, Harlech, Netta Thomas, Blaenau, Kathleen Rogers, Llandecwyn, Thomas

Ithel, Penrhyn, Gladys Jones, Bronynys, Elsie Morris, Tŷ Cerrig, Dic, Llechollwyn, Pegi Hughes, Glanywern. Odyn y Cyw Ann Thomas, un o Glynnog, wedi ei chladdu yn Soar. Gwyndy, neu Gwindy Elizabeth Davies, Tom Davies, oedd ar y môr, ac Evan Davies oedd yn athro. Yr oedd Gwindy yn agos i’r Eglwys ers talwm, yn ôl Bedwyr Lewis Jones. Tai Newyddion 1. Siop Annie Griffiths, mam John Griffith 2. William Owen a Maggie Owen 3. Mrs Hughes, a ddaeth o Tŷ Gwyn Crossing 4. Mrs Roberts, ‘Dodo”, a’r ferch Grace 5. Peter Williams a’r teulu Yr Yard Yr Ysgol Sul gyntaf yn yr Ynys. Bryn Tirion Griffith a Mrs Roberts, rhieni Mrs Tudor, Bron Graig a William Roberts, tad Ceridwen Ellis. Rhyd Goch William Griffith Cefn Gwyn Thomas a Mrs Griffith Glanmorfa Jones Downs, a foddodd ar y morfa, yr oedd yn gipar i Lord Harlech’ mi fuodd yn byw yn Ffridd Rasus. Glan Môr Matthew Owen, tad William Owen. Cyn hyn, David ac Ellen Davies. rhieni John Davies, Bronynys Tanfoel yr Hesgen John Griffith Tŷ Cerrig Teulu Jones Morris, Gwrach Ynys.

Gwrach Ynys Jones Morris ddaeth o Tŷ Cerrig, y fo ddaru godi Gwrach Ynys, roedd hen dŷ yno o’r blaen, ac mae sôn am John Evans yn byw yno, roedd yn dal weirglodd yr Oakeley ar un adeg. Bronynys William Edwards, wedi ei gladdu yn Llanfihangel yn 1865.

Glanywern

Gafael Grwn Evan Evans a Mrs Evans, yr oeddynt yn selog yn Soar. Fucheswen Richard Evans a Mrs Evans, rhieni Ritchie Evans. Pensarn William Jones, taid Harri. Tŷ’r Ysgol John Griffith a Mr a Mrs Mynnot, yr oedd hi yn athrawes yn Glanwern ac yntau yn garddio yn y Glyn. Fuches Wen Bach John a Siân Evans, taid a nain William Emrys, a Mr a Mrs Bowering, rhieni Dic oedd yn garddio yn y Glyn. Bron Graig Edward Tudor a’i wraig. Bryn yr Eirin Siân Evans’ mi symudodd i Dalsarnau i fyw i dŷ Hugh Owen. Yr oedd ganddi fab, Morris Issac. Rhes Glanywern 1 John Thomas, Postman 2 Margiad Jones a Peter, Siop Miss Tudor, Mary Tudor, Edward ac Elin. Tŷ Twm Ieu Tŷ Morus Hughes Teulu Morus Hughes oedd yn byw yn Llidiart Garw, mab William Hughes, Barcdy. TGW

Roedd un gwall bach yn yr erthygl yn y rhifyn diwethaf. O dan Ysgyrnolwyn, “dau frawd wedi priodi dwy chwaer, sef merched Bracdy” ddylai o fod, nid Barcdy. Hen dyddyn bach oedd Bracdy ond does ddim olion ohono ar ôl heddiw. Ymddiheurwn am y llithriad.


Y BERMO A LLANABER

Er cof am`Moai Man` ar draeth y Bermo. Diolch i Wyn Edwards, Dyffryn Ardudwy am y lluniau.

CROESAIR

18

Yn y pos hwn, mae pob llythyren y wyddor Gymraeg rywle yn y croesair (ar wahân i Ph). Ceisiwch ddyfalu pa rif sy’n cynrychioli pob llythyren. Mae tair llythyren wedi eu dadlennu eisoes. Diolch i Gerallt Rhun am y pos ac am gynnig gwobr o £10 i’r enillydd. 1

2

3

4

5

6

7

E 8

9

10

11

14

13

18

10

17

18

19

20

4

3

5

23

24

5

2

26

27

13

23

26

8

16

14

17

26

9

26

Ph

7

13

17

27

4

14

MANYLION BANC Llais Ardudwy Mae amryw wedi holi am fanylion banc Llais Ardudwy er mwyn iddyn nhw fedru rhoi cyfraniad neu adnewyddu eu tanysgrifiad. Os ydi o’n gyfraniad, nodwch CYF ar y taliad ac os ydi o’n danysgrifiad [£7.70 y flwyddyn yn electronaidd] nodwch TAN os gwelwch yn dda. Banc: HSBC Porthmadog Côd Sortio: 40-37-13 Rhif y Cyfrif: 61074229

3

5

9

4

3

26

9

17

4

15

23

18

8

14

23

17

2

5

4

6

26

10

26

13

6

17

14

12

3

17

2

14

3

17

6

17

9

9

18

14

26

21

13

3

16

23

3

4

1

13

3

21

28

20

9

18

4

4

7

14

18

17

3

14

25

3

17

16

17

26

25

3

26

14

19

5

3

13

14

14

19

4

13

14

27

R 22

20

5

18

16

8

13

Y 15

22

26

13

12

10

22

4

3

13

4

3

24

24

23

21

3

11

5

Yn y pôs hwn mae pob llythyren y wyddor Gymraeg rywle yn y croesair (ar wahân i Ph)

R J WILLIAMS Talsarnau 01766 770286

Ceisiwch weithio allan pa rif sy’n cynrychioli pob llythyren. Mae tair llythyren wedi eu dadlennu eisoes.

TRYCIAU IZUZU

21


DAU GANMLWYDDIANT EGLWYS REHOBOTH Mae dau gan mlynedd eleni ers pan agorwyd Capel Rehoboth. Dewisiwyd Medi 20fed i ddathlu’r achlysur pwysig hwn oherwydd fe gynhaliwyd y gwasanaeth cyntaf ddiwedd yr haf 1820. Roedd pawb ohonom yn edrych ymlaen i gael cydaddoli yng nghwmni Côr Ardudwy a Cana-mi-gei ac roedd Dafydd Iwan am ymuno â ni. Er y paratoi i gyd, oherwydd y Coronafeirws, mae’n rhaid gohirio’r cwbl. Mae hyn yn siom fawr i’r aelodau i gyd. Rydym yn ymddiheuro i bawb oedd yn edrych ymlaen i ddathlu gyda ni. Rhaid peidio digalonni. Rhaid edrych ymlaen i’r dyfodol gyda ffydd y cawn ymuno i addoli eto. Diolch i bawb sy’n cefnogi’r capel. Dyma ein hetifeddiaeth. Gofalwn edrych ar ei ôl. “Mae’r cynhaeaf mor fawr a’r gweithwyr mor brin.”

BJ

Trip Ysgol Sul (1951) Arwel, David Williams, Jane Humphries ( athrawes Ysgol Sul) Eleanor Humphries, Laura a Llew, Jim, Ernest, Gwynne, Dilys, Fay Rowlands, Menna. Gwen Jones, Bethan, Davina, Iola, Mrs Jones, Min y Don, Douglas, Sandra, Rhiannon, Lilian, Shirley a Pat Rowlands.

Derbyn babanod (1995)

Derbyn babanod (2003)

22

Elsi a Judith ar ôl derbyn (1995)


BEDYDDWYR ALBANAIDD , HARLECH PWT O HANES EGLWYS REHOBOTH

Sylfaenydd yr Eglwys oedd J R Jones, Ramoth. Dechreuodd yr achos yma yn Harlech ym Maesgwyn. Gan fod yr achos yn cynyddu, adeiladwyd Capel Bethel yn 1795 oedd hefyd yn cael ei alw’n Capel Dŵr, sydd erbyn hyn yn siop hufen iâ. Yna yn 1818, symudwyd i adeilad mwy a’i enwi’n Capel Bach. Siambar Wen y’i gelwir heddiw. Mae erbyn hyn yn gartref i deulu. Am fod yr enwad yn dal i gynyddu, roedd angen adeilad mwy. Rhoddodd Morris Jones, Y Coed, a oedd yn ddiacon, ddarn o dir yn rhad ac am ddim i godi capel arno ac i gael mynwent gyfleus o’i amgylch. Agorwyd y capel yn niwedd haf 1820 a phregethwyd gan J R Jones ar yr achlysur. Cymerodd ei destun o Genesis 26: 22 “Ac efe a fudodd oddi yno ac a gloddiodd bydew arall ac efe a alwodd ei enw ef Rehoboth: ac a ddywedodd, “Canys yn awr yr ehangodd yr Arglwydd arnom, a ni a ffrwythwn y tir.” Mynwent fechan oedd yn perthyn i Rehoboth ar y dechrau ond trwy garedigrwydd Morris Jones fe’i ehangwyd hi ddwywaith. Yr ochor isaf i’r fynwent, adeiladwyd y Cwt Elor, yn lloches i’r Elor, sydd yn ein meddiant ni hyd heddiw. Hefyd yma y byddai ceffylau’r aelodau, a fyddai’n teithio o bell i’r gwasanaethau, yn cael lloches am y diwrnod . Arferent fedyddio yn Llyn y Felin sydd erbyn hyn yn gae chwarae i blant. Yn 1841, gwnaed ffynnon fedyddio newydd tua 250 medr o’r capel. Mae gennym hefyd ffynnon fedyddio o dan lawr y sêt fawr. Yn 1835, ychwanegwyd darn i’r capel yn cyrraedd o’r drws i dalcen uchaf y capel oedd yn esgyn yn risiau fel math o galeri. Rhoddwyd llawr newydd ar y capel i gyd a gwnaed pulpud newydd a hefyd meinciau newydd â chefn iddynt. Erbyn hyn yr oedd yn llawer mwy cysurus i addoli ynddo. Yn y cyfnod hwn dechreuwyd cynnal ysgol. Erbyn 1871, ychwanegwyd darn newydd eto i’r gorllewin ohono. Dyma’r festri, fel y galwn ni hi heddiw. Credwn, erbyn hyn, mai yma yr arferent gynnal yr Ysgol Sul. Roedd tua hanner cant yn cael eu dysgu yma. Ymysg yr arferion a sefydlwyd yn Ramoth, ac sydd yn dal hyd heddiw, y mae: a) Lluosogrwydd henuriaid sy’n gwneud gweinidogaeth gyflogedig yn amhosibl. b) Gwrthod unrhyw deitl ond Brawd neu Chwaer. c) Cymuno bob dydd yr Arglwydd. Fel llawer enwad arall, mae’r Bedyddwyr Albanaidd wedi colli llawer o gewri ar hyd y blynyddoedd a’r mwyaf diweddar i ni yma yn Rehoboth oedd colli ein brawd Arwel Jones BSc, MEd.

Y Ffynnon Fedydd o dan y sêt fawr

Y Brawd Arwel Jones yn bedyddio (2009)

Arwel ac Elsi Jones, dau o’r hoelion wyth

Capel Rehoboth

Diwrnod glanhau y Capel (1986) Mair, Peggy, Laura, Jane, Iola, Margaret, Eileen, Bronwen, Bethan, Bronwena

Yr olygfa o fynedfa’r Capel [Diolch am rodd di-enw o £40.]

23


DROS GANT O FEDALAU AUR

trac ar y rhedfa, sicrhaodd fod hwn yn cael ei nodi cyn i’r hyfforddiant ddigwydd. Cynhaliwyd, o leiaf bedair gwaith yr wythnos yn ystod misoedd yr haf, sesiynau hyfforddi o awr a hanner, gyda Ron yn amseru ac yn cofnodi’r holl ganlyniadau. Felly dechreuodd cyfnod hir Robert o rasio cadeiriau olwyn cystadleuol, gyda Ron yn sicrhau bod paratoad trylwyr ar gyfer yr holl gyfarfodydd blynyddol hyn. Hefyd, cynhaliwyd hyfforddiant chwaraeon maes mewn taflu gwaywffon a disgen yn agosach at adref, yn ogystal ag yng ngardd gefn Robert - hyfforddwyd pob un ohonynt a mynychwyd gan Ron. Roedd cyfranogiad cystadleuol yn cynnwys y Cenedlaethol yn ogystal â Diwrnod y Lluoedd Arfog. Ar gyfer y pellteroedd mawr hyn, roedd arosiadau dros nos weithiau’n angenrheidiol. Roedd y cystadlaethau niferus hyn yn gofyn am deithio i leoliadau mor amrywiol ag Abertawe, Cwmbrân, Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Nottingham – a hyd yn oed mor bell i Mae ennill medal chwaraeon o unrhyw fath bob amser ffwrdd â Hull. yn achlysur cofiadwy i unrhyw un ond, i rywun sydd Nid yw’n syndod bod llwyddiannau wedi’u cyflawni a ag anfantais, gall dyheadau o’r fath fod yn hynod heriol. dyfarnu a dathlu medalau. Mewn gwirionedd, cyflwynwyd Mewn sefyllfaoedd o’r fath, nid yn unig y mae angen cyfanswm o o leiaf 100 o fedalau aur dros y blynyddoedd dyfalbarhad, dycnwch ac ymrwymiad unigol, ond mae lawer. Uchafbwynt gwahanol, ond arwyddocaol, oedd y hyfforddiant a hyfforddiant cefnogol a pharhaus yn gwbl paratoad ar gyfer Ras Ffordd noddedig o Dyffryn i Bermo, anhepgor. a’i nod oedd codi arian ar gyfer sganiwr ar gyfer Ysbyty Daeth memorabilia o lwyddiannau cynnar cynGwynedd. Cododd hyn gyfanswm teilwng o £ 1000 ac, fel breswylydd Dyffryn, Robert Jones o Berwyn, i’r amlwg yn erioed, roedd Ron wrth law i ddarparu’r hyfforddiant a’r ddiweddar - gan ein hatgoffa o’i hanes arbennig. Efallai gefnogaeth angenrheidiol. ei bod yn ymddangos bod ei eni o dan anfantais gorfforol yn atal ei ran mewn heriau cystadleuol a chwaraeon ond nid oedd ystyriaethau o’r fath yn bodoli iddo ac, ar ôl marwolaeth ei dad, Ned, cymerodd cymydog agos a phreswylydd lleol, Ron Telfer, gyfrifoldeb am ddarparu Robert gyda’r holl gyfleoedd perthnasol i ddilyn ei freuddwydion ym myd chwaraeon. Ar ôl cychwyn yn 1980 gyda’i dad, cychwynnodd Robert ei yrfa chwaraeon hir a llwyddiannus bum mlynedd yn ddiweddarach o dan lygad caredig, ond gwyliadwrus, Ron. Dros y blynyddoedd, ar wahân i sicrhau bod Robert yn derbyn yr hyfforddiant perthnasol, bu Ron hefyd yn darparu cludiant i’r digwyddiadau chwaraeon cystadleuol dirifedi. I ddechrau, ymgymerwyd â’r arferion gosod nodau a hyfforddi - hyn yn y maes awyr yn Llanbedr lle Dros gyfnod o fwy na 25 mlynedd, Ron oedd yr roedd Ron yn gweithio. Ar ôl cael caniatâd i ddefnyddio hyfforddwr, cefnogwr, mentor a chauffeur - gan neilltuo llawer o amser ac egni personol - a wnaeth bob amser yn ei ffordd dawel, ddiymhongar ei hun. Er i Robert ennill llawer llwyddiant (a bod ei fedalau a’i gwpanau yn profi hyn yn wir) mae un fedal aur i’w dyfarnu o hyd. Yn un o gyfarfodydd Diwrnod y Lluoedd Arfog, dyfarnwyd medal arbennig i Robert am ei ddycnwch, ei ddyfalbarhad a’i ymdrech. Mae medal o’r fath yn ddyledus i Ron Telfer am fod yno bob amser a darparu cyfleoedd yn ddiffael i Robert osod a chyflawni nodau mewn cymaint o ddigwyddiadau chwaraeon i bobl dan anfantais. Mae hwn yn gydnabyddiaeth ac yn werthfawrogiad am “fod yno bob amser a pheidio byth â rhoi’r gorau iddi.” BT


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.