Llais Ardudwyb Medi 2021

Page 1

Llais Ardudwy

70c

Tlws Coffa Elfed Evans

RHIF 512 - MEDI 2021

Llwyddiant ar y llethrau i Lowri

Efan Anwyl, Iwan Evans a Llion Evans. Roedd David Reaney hefyd yn y tîm. Cynhelir y gystadleuaeth am Dlws Coffa Elfed Evans yn flynyddol ac y mae’n ddull hyfryd o goffáu dyn ifanc oedd mor ddawnus a phoblogaidd ymhlith ei gyfoedion. Mae hwn yn gyfle i’r plant a’r bobl ifanc fod yn ganolog yn y digwyddiadau ar y cwrs golff. Pleser yw cyhoeddi fod llawer iawn o blant wedi ymuno eleni a bod y cwrs yn brysur drwy’r dydd. Llongyfarchiadau i David Reaney, Iwan Evans, Llion Evans ac Efan Anwyl am ennill y gystadleuaeth yng Nghlwb Golff Dewi Sant, Harlech ym mis Gorffennaf.

ac ennill pencampwriaeth rhanbarthol Styria Awstria. Nid sgïo’n unig sy’n mynd â bryd Lowri – mae wedi cael ei hysbrydoli gan y campau newydd yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo ac wedi rhoi cynnig a chael cael blas ar ddringo cyflym ar wal ddringo Canolfan Hamdden Ardudwy, lle mae hi hefyd yn mwynhau nofio. Mae’n mwynhau chwaraeon dŵr yng Nghanolfan Glasfryn a Phlas Menai a beicio mynydd yng Nghoed y Brenin. Ym mharc y Bermo mae’n ymarfer sglefrio llinell, ac mae’n ymarfer ei beicio wrth seiclo Lowri Howie yw Pencampwr cystadlaethau sgïo merched adref o’r ysgol i fyny Ffordd Pen Llech a Thwtil. Mae’r holl wahanol gampau yma’n ei helpu i ddatblygu gwledydd Prydain dan 12. Yn anffodus cafodd holl gystadlaethau pencampwriaeth ei chryfder ac ymwybyddiaeth corff, ystwythder a chydbwysedd a chydsymud corfforol sy’n cydfynd ac yn sgïo alpaidd Cymru, Lloegr a Phrydain eu canslo cyfrannu at ddatblygu ei sgiliau sgïo. ddechrau’r flwyddyn ond er gwaethaf rhwystredigaeth Mae hi hefyd yn aelod brwd o glwb beicio Dwyfor lle y tarfu sydd wedi bod ar hyfforddiant a chystadlu, mae’n cael y cyfle i sgwrsio yn Gymraeg gyda’i ffrindiau – llwyddodd Lowri i gipio’r tri theitl Prydeinig yn rhywbeth mae’n ei werthfawrogi’n fawr gan nad yw’n cael y ddiweddar, sef Pencampwr awyr agored Prydain, cyfle pan mae’n hyfforddi a chystadlu ym maes sgïo. Pencampwr Dan Do Prydain, a Phencampwr Ysgolion Tra roedd dramor, roedd wrth ei bodd ar yr adegau pan Prydain merched dan 12 oed, gan ddod â chlod i Ysgol oedd yn cael ymuno gyda’i dosbarth yn Ysgol Tanycastell Tanycastell. dros y we. Mae wedi gwerthfawrogi’r gefnogaeth cyson Trwy ei dyfalbarhad ac wrth ddod i’r brig yn gyson, mae Lowri bellach wedi ymuno ag athletwyr eraill sydd mae wedi ei gael gan ei ffrindiau a staff yr ysgol trwy gydol wedi derbyn nawdd swyddogol gan SportAid Cymru ar y flwyddyn tra mae wedi bod dramor ac adref. Mae hi rŵan yn edrych ymlaen at fynd ymlaen i B7 yn Ysgol Ardudwy. ddechrau eu gyrfa fel Nicole Cooke, Geraint Thomas, Wedi llwyddo yn y cystadlu yng Ngwledydd Prydain eleni, Jade Jones, Rhys Jones, Emma Fitzpatrick ac Elinor mae Lowri yn gobeithio mynd yn ôl i Awstria dros y gaeaf i Barker. Mae’r grant bychan yn gyfraniad tuag at ei dderbyn hyfforddiant ac i warchod ei theitl fel pencampwr chostau hyfforddiant a phrynu offer. sgïo alpaidd merched dan 10 Cymru a Lloegr, ond y tro Yn ystod y gaeaf, bu Lowri yn ofnadwy o lwcus i allu hwn dan 12 oed. Bydd y gwahanol gystadlaethau yn cael eu parhau ei hyfforddiant a’i sgïo gyda Team Evolution yn cynnal yn Awstria, yr Eidal, y Swistir a Ffrainc. Awstria a thra roedd hi yno fe ymunodd â chlwb sgïo lleol Pichl Reiterlam. Aeth ymlaen i gystadlu gyda nhw, Pob lwc Lowri!


GOLYGYDDION 1. Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 780635 pmostert56@gmail.com 2. Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 772960 anwen15cynos@gmail.com 3. Haf Meredydd Newyddion/erthyglau i: hmeredydd21@gmail.com 01766 780541

SWYDDOGION

Cadeirydd Hefina Griffith 01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn y Llidiart, Llanbedr Gwynedd LL45 2NA llaisardudwy@outlook.com Côd Sortio: 40-37-13 Rhif y Cyfrif: 61074229 Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL Y Bermo Grace Williams 01341 280788 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Mai Roberts 01341 242744 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Jennifer Greenwood 01341 241517 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Gosodir y rhifyn nesaf ar Hydref 1 a bydd ar werth ar Hydref 6. Newyddion i law Haf Meredydd erbyn Medi 26 os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw’r golygyddion o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’ Dilynwch ni ar ‘Facebook’ @llaisardudwy

2

HOLI HWN A’R LLALL

Dwi’n hoff iawn o Ben Llŷn, Aberdaron ac Uwchmynydd a chael eistedd o flaen Tŷ Coch, Porthdinllaen, yn edmygu’r golygfeydd. Lle cawsoch chi y gwyliau gorau? Cael mynd i weld ‘Carmen’ yn y Tŷ Opera yn Vienna a chael clywed holl gerddoriaeth Mozart ar hyd a lled y dref. Profiad bythgofiadwy. Beth sydd yn eich gwylltio? Pobol hunanol, sydd yn meddwl eu bod yn gwybod popeth! Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Teyrngarwch a gonestrwydd. Pwy yw eich arwr? Dafydd Iwan, am ei holl adloniant ar hyd y blynyddoedd a’i waith diflino dros ein hiaith. Enw Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal Rhian Jones. hon? Gwaith Yr holl bobol sy’n rhoi eu hamser i edrych Busnes arlwyo. ar ôl eraill llai ffodus na nhw eu hunain a’r Cefndir nyrsys sydd wedi mynd yn ôl i weithio gyda’r Cefais fy magu yn Nhyddyn Gwynt, brechlyn Covid-19. Harlech. Ar ôl gorffen yn yr ysgol mi Beth yw eich bai mwyaf? es i Goleg Llandrillo i wneud cwrs mewn arlwyo. Wedyn cefais swydd yng Poeni am bethau yn anorfod. Ngholeg Penrhos fel Prif Gogydd, ac yno Beth yw eich syniad o hapusrwydd? I lawr yn sir Benfro yn cerdded Llwybr y bûm am 27 o flynyddoedd. yr Arfordir o Abereiddi i Borthgain Yn 2005 dechreuais fy musnes fy hun, ar ddiwrnod braf o wanwyn a gweld y ‘Popty Penrhos’ sy’n dal i fynd hyd golygfeydd godidog a bwtsias y gog yn eu heddiw. Dwi’n briod hefo Paul, ac wedi cartrefu gogoniant. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? ym Metws yn Rhos, Abergele. Mynd i weld tai opera mwya’r byd. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Aqua Aerobics, a cherdded ychydig bob Eich hoff liw a pham? Lelog (lilac) dwin hoff o’i wisgo ac mae’n dydd. gweddu i mi. Beth ydych yn ei ddarllen? Eich hoff flodyn? Dydw i ddim yn darllen llawer, ond Cennin Pedr, blodyn arbennig inni y Cymry. yn mwynhau y papurau bro. Llais Eich hoff gerddorion? Ardudwy, Y Pentan, a’r Gadlas a Andrea Bocelli a Gwyn Hughes Jones. chylchgrawn y Wawr. Pa dalent hoffech chi ei chael? Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Gallu canu’r delyn. Mwynhau gwrando ar Radio Cymru, Eich hoff ddywediadau? rhaglen Bore Cothi ac Ifan Ifans yn y ‘Does unman yn debyg i gartref.’ prynhawn. ‘Daw eto haul ar fryn.’ Ydych chi’n bwyta’n dda? Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn Rhy dda o lawer, ond yn mwynhau o bryd? bwyd. Yn hapus a bodlon, ac yn ddiolchgar am gael Hoff fwyd? iechyd i fwynhau bywyd. Cinio dydd Sul. Hoff ddiod? Te du gwan a dŵr, ac ambell i wydriad o win rosé. Wedi seibiant o flwyddyn a hanner, Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta eto mae’n bleser cyhoeddi y bydd chi? ymarferion y Côr yn ailddechrau yn y Paul ac mae’n siŵr y buaswn yn gofyn i Ganolfan, Llanbedr am 7.30 ar Hydref 3. Marian Rees, mae’n hoffi mynd allan i Buasai croeso cynnes iawn i aelodau fwyta! Lle sydd orau gennych? newydd sy’n medru canu.

Côr Meibion Ardudwy


Hwyl a Sbri ac Euogrwydd!

Ddydd Sadwrn gyda balchder yn fy ngham, mi es i Fae Morecambe i gerdded llwybr poblogaidd Cross Bay, gyda Thywysydd y Frenhines yn ein harwain dros y tywod sigledig a pheryglus. Gyda heulwen glir ac awel fwyn ar y diwrnod, roedd 350 o bobl galonnog eraill yn gwmni i mi ar y daith. Ar wahân i ddau grŵp eglwysig o Sir Gaerhirfryn, credaf fod y rhan fwyaf wedi eu trefnu gan ‘Money for Madagascar’ ac yno am yr her, ond yn bwysicach na dim, i godi pres i helpu pobl yr ynys. Felly pam Madagascar? Fel gwlad sy’n enwog am ei bywyd gwyllt unigryw, mae hefyd yn un o’r gwledydd tlotaf a mwyaf cyntefig yn y byd. Dim ond 1500 o flynyddoedd yn ôl y daeth pobl i fyw yno gyntaf, o Indonesia mae’n debyg. Gyda phrinder adnoddau naturiol i ddenu pobl o’r tu allan, yn yr amser byr i bobl fod yn byw yno, gadawyd llonydd i’r wlad i raddau helaeth. Cafodd ei choloneiddio gyntaf gan Brydain (nes i ni golli diddordeb a symud ymlaen i ynys sbeis a masnach Zanzibar) cyn i Ffrainc gymryd yr awenau ond ymollwng eu hunain o’r diwedd o drafferthion yr ynys yn y 1960au.

Ni all 90% o’r boblogaeth wledig ateb eu hanghenion bwyd sylfaenol. Mae twf 50% o’r plant dan bump oed wedi crebachu oherwydd diffyg maeth difrifol. Mae hyn i gyd wedi’i waethygu gan dair blynedd o sychder yn y de ynghyd â phandemig bydeang sydd wedi gadael y bobl yn hollol despret. Mae GDP tua £1500 y pen y flwyddyn (179fed allan o 187 o wledydd) ac ni all pobl ddisgwyl byw’n llawer hŷn na 65 oed (80 oed yng Ngwledydd Prydain). Felly penderfynais wario bron i wythnos o incwm ar danwydd yn gyrru i Arnside i ddechrau’r daith. Yng Ngwledydd Prydain rydyn ni’n dadlau a allwn fforddio â gwario 0.5% neu 0.7% o’n GDP ar gymorth tramor, sy’n wahaniaeth o tua £4 biliwn – pres mawr i unrhyw un ond gallwn efallai ei roi mewn persbectif drwy ei gymharu â’r £100 biliwn y byddwn efallai’n ei wario ar HS2. Mewn cymhariaeth, nid oes gan Madagascar lawer o reilffyrdd – tua 800 milltir mewn gwlad tua’r un faint â Ffrainc. Mae gan y Deyrnas Unedig tua 10,000 milltir a Ffrainc tua 20,000 milltir o reilffyrdd. Felly pam fy niddordeb personol mewn ceisio codi arian i helpu’r ynys? 140 mlynedd yn ôl a hwythau newydd briodi, treuliodd fy hen nain a thaid dri mis ar stemar i gyrraedd Mauritius cyn dal ‘bullocker’ (a ddefnyddiwyd yn bennaf i gludo gwartheg) i Madagascar. Cenhadon

o Gymru a gyrhaeddodd yr ynys gyntaf, ar ddechrau’r 19eg ganrif. Fe dreuliodd y ddau 40 mlynedd yno, gan anfon eu pum plentyn yn ôl i Wledydd Prydain er mwyn ymroi eu bywydau’n llwyr i bobl y Malagasi. O’r diwedd, ar ôl ymddeol i’r Drenewydd, cawsant eu galw’n ôl oherwydd nad oedd neb i gymryd eu lle oherwydd y Rhyfel Mawr. Bu farw a chladdwyd y ddau ar yr ynys yr oeddent mor hoff ohoni. Llwyddodd Thomas Rowlands i fyw’n ddigon hir i ddathlu can mlynedd ers i’r cenhadon cyntaf o Gymru gyrraedd yno. Ei orchwyl olaf oedd ceisio dosbarthu’r meddyginiaethau prin oedd yn ei feddiant i’r bobl, oedd yn dioddef adfyd ein pandemig bydeang diwethaf – ffliw Sbaen. Tuag at ddiwedd y daith, roeddem ni at ein pengliniau yn nŵr Afon Caint wrth iddi arllwys ei hun i fôr Iwerddon. Roedd yr uchafbwynt hwn wedi ysgogi atgof am ein hunig femento o’r 40 mlynedd y treuliodd y teulu ar yr ynys, sef llun gan Emile Ralambo o wartheg yn cael eu gyrru drwy afon. Taith braf a dydd Sadwrn prin heb orfod gweithio. Yn ôl ym Madagascar, ychydig iawn sydd wedi newid yn yr olygfa honno. Roeddwn yn hapus a balch o fod wedi codi £1000 ond eto’n teimlo’n euog am gyn lleied yr ydym yn ei wneud a’r holl ddadlau ynghylch gallu fforddio 0.7% o’n cyfoeth i helpu.

Dylan Rowlands Dylanwad, Dolgellau.

3


TEYRNGED

BETI ROBERTS (15:3:30 – 20:7:21)

Ganwyd Beti ar 15 Mawrth 1930 yn Can-y-Bwlch Isaf, Llandecwyn, yn ferch i Dafydd a Catherine Williams. Pan yn flwydd oed, fe symudodd y teulu i Gaerllwyn yn Nhal-y-bont. Yno y treuliodd ei phlentyndod cyn symud yn ddwy ar bymtheg oed i Hendy, Llanbedr. Wedi mynychu Ysgol Ramadeg y Bermo, bu’n gweithio am gyfnod yn Llyfrgell Coleg Harlech gyda Dyddgu Owen cyn sicrhau swydd fel teleffonydd yn y Bermo a Dolgellau. Pan oedd yn gweithio i’r ‘Telephone Exchange’ byddai’n ‘cyflenwi’ mewn cyfnewidfeydd eraill mewn mannau fel Wrecsam, Croesoswallt ac Aberystwyth a bu yn Ellesmere Port am chwe wythnos un tro! Byddai’n adrodd ei bod yn cynorthwyo gyda’r godro yn Hendy yn y bore cyn gwneud shifft yn yr Exchange ac yn ôl adra ar y beic i odro’r pnawn cyn beicio’n ôl i Bermo i wneud y shifft hwyr! Pan briododd Elinor, ei chwaer, rhoddodd y gorau i’w gwaith a mynd adref i gynorthwyo ei rhieni yn Hendy. Priododd â Ken yn 1952 a chartrefu yng Nglanywern gyntaf ac yna i Dŷ’n Ffynnon. Ganwyd dau o blant iddynt, Idriswyn a Llinos, ac yn 1955 fe symudodd y teulu o Ddyffryn Ardudwy i Bellaport yn Nhal-y-bont, ac yno y treuliodd weddill ei bywyd. Roedd yn gyfnod digon caled arnyn nhw, symud o dŷ lle roedd trydan a dŵr i le lle’r oedd toiled ym mhen draw’r ardd, nwy i oleuo a choginio

4

a thap y tu allan i gael dŵr golchi a gorfod cario dŵr yfed o’r ffynnon! Bu’n rhai blynyddoedd cyn y cafwyd trydan (ar ddechrau’r chwedegau) ond roedd y teulu’n hapus iawn o’r cychwyn. Er hynny, doedd pethau ddim yn hawdd iddyn nhw. Cychwynnwyd darparu gwely a brecwast i gael dau ben llinyn ynghyd. Gydag amser fe agorwyd y maes carafanau teithiol, a bu’n brysur yn ei redeg a’i ddatblygu ac mae’n dal yno heddiw, Ymunodd Ken â’r Gwasanaeth Sifil, Adran y Weinyddiaeth Amaeth, gan ddal i ffermio adref. Bu’r ddau’n gweithio’n galed iawn gydol eu hoes ac mae Bellaport yn werth ei weld heddiw ac yn tystio i’w dycnwch, eu gweledigaeth a’u llafur. Ond doedd hynny ddim digon i Beti! Roedd yn meddu ar gydwybod gymdeithasol gref a chyfrannodd ei hegni a’i hamser yn helaeth iawn drwy ei hoes i lawer iawn o fudiadau ac achosion da. Bu’n drysorydd Sefydliad y Merched cyn ymuno â Merched y Wawr yng Nghwm Nantcol, un o’r canghennau cyntaf un, ac yr oedd yn dal yn aelod ac yn mynychu’r cyfarfodydd hyd yn ddiweddar. Roedd yn gwbl allweddol yn sefydlu’r Ysgol Feithrin yn Nyffryn Ardudwy, yr ail yn y Sir ar ôl Trawsfynydd, ac ymysg y rhai cyntaf yng Nghymru. Bu’n gweithio’n ddiflino fel Ysgrifennydd yr Ysgol Feithrin am ddegawdau gan gyfrannu oriau maith o’i hamser a’i hegni. Wedi rhoi’r gorau iddi, fe fyddai’n gwahodd y plant a’r athrawon i fyny i Bellaport i gael bwyd a diod a gweld yr anifeiliaid yn flynyddol. Cafodd ei henwebu fel un o gynrychiolwyr Sir Feirionnydd yng nghinio dathlu’r Mudiad Meithrin yn genedlaethol yng Nghastell Penrhyn i gydnabod ei chyfraniad oes. Roedd hi hefyd yn un o sylfaenwyr Llais Ardudwy gyda Martin Eckley ac eraill. Pan symudodd Martin o Harlech i fyw daeth Ken a hi yn olygyddion y Llais gan roi’r gorau i’r gwaith ychydig flynyddoedd yn ôl wedi ymhell dros ddeng mlynedd ar hugain o gyfraniad anhygoel.

Bu ar Bwyllgor Cyfeillion Ellis Wynne o’r cychwyn, yn ysgrifennydd am gyfnod ac yn aelod brwdfrydig o’r criw bach dygn a lwyddodd i adnewyddu Y Lasynys Fawr a’i agor i’r cyhoedd. Bu’n trefnu clinigau yn y Dyffryn ar gyfer mamau a’u plant ym Mhentre’ Uchaf, eto yn gwbl wirfoddol. Bu Beti, gyda Ken, yn drefnwyr Pryd ar Glud yn yr ardal. Gan nad oedd neb eisiau mynd a bwyd i’r henoed ar ddydd Nadolig, byddai’r ddau yn treulio’r bore’n mynd a chinio o gwmpas! Roedd bob cinio ‘Dolig yn hwyr iddyn nhw! Roedd yn ffyddlon iawn i Gymdeithas Cwm Nantcol a bu’n Ysgrifennydd Cymdeithas Tal-y-bont am gyfnod hir ac yn trefnu’r rhaglen flynyddol. Bu’n aelod o Bwyllgor Sir Plaid Cymru am flynyddoedd lawer ac yr oedd ei brwdfrydedd dros y Blaid yn ddiflino gydol ei hoes. Gwasanaethodd fel Llywodraethwr Ysgol Gynradd Dyffryn am gyfnod maith hefyd. Roedd hi’n wraig brysur eithriadol ac mae’n rhyfeddol beth oedd maint ei chyfraniad i’r gymdeithas yn Ardudwy ac i’r Gymraeg a’r diwylliant. Ond yr oedd hi’n wraig, yn fam, yn nain a hen nain arbennig iawn yng nghanol hyn i gyd. Roedd hi mor gefnogol i’w theulu ac i eraill. Un o’i rhinweddau amlwg oedd ei dawn i weld y da mewn eraill ac i ganmol hynny. Roedd hi’n gefn i bawb. Roedd ganddi hi ryw ddawn arbennig i fynd i fyd plant a gwneud iddyn nhw deimlo’n gyfforddus ac yn ‘arbennig’ yn ei chwmni bob amser gwyddai sut i’w diddori a’i sbarduno. Mae yna genedlaethau o blant sy’n siarad yn gynnes iawn am y croeso ar yr aelwyd yn Bellaport. Peidiwch â meddwl fod Beti wedi treulio ei hoes gyfan adref chwaith! Mi fyddai hi a Ken yn gwneud yn siŵr fod yna wyliau blynyddol iddyn nhw a Llinos ac Idriswyn yn Llundain, De Cymru ac yn yr Alban neu fynd yn y garafán i fannau fel Longleat ac arfordir dwyrain Lloegr ac, ar ôl i’r ddau ‘fach’ hedfan o’r nyth, bu yna deithio dramor lawer gwaith. Roedd y ddau’n cael


boddhad mawr o fynd ar wyliau. Roedd hi hefyd yn gogydd heb ei hail (hi sy’n gyfrifol fod Llinos wedi mynd i’r maes hwnnw!) a byddai’n cystadlu mewn sioeau a chael cryn lwyddiant. Byddai’n pobi bara cyflawn ddwywaith yr wythnos hyd yn oed - er bod becws bendigedig ar waelod y ffordd! Fyddai neb yn cael gadael heb gael llond bol o fwyd, cymaint felly fel bod Llŷr, Gethin ac Iestyn yn cwyno fod Nain yn ei ‘force feedio’ nhw! Mae hi’n anodd crynhoi cyfraniad oes anrhydeddus Beti mewn ychydig eiriau, ei chyfraniad i’w theulu, i’w chymdeithas, i’w chenedl ac i’w hiaith. Roedd hi’n wraig arbennig iawn ac mae’r llythyrau a’r cardiau niferus, y galwadau ffôn a’r ymweliadau dros y cyfnod diwethaf wedi dangos i Ken, Idriswyn a Llinos gymaint yr oedd pawb yn ei feddwl ohoni ac yn gwerthfawrogi ei chyfeillgarwch, ei hiwmor afieithus, ei gwên barod, ei chefnogaeth ryfeddol a’i chyfraniad enfawr dros y blynyddoedd. Roedd hi’n fraint cael bod yn rhan o’i bywyd cyfoethog. Rhan o’r deyrnged a drafodwyd yn yr angladd ar 27 Gorffennaf, 2021. DIOLCH Dymuna Ken a’r teulu ddiolch o galon i’w ffrindiau, cymdogion a chydnabod am bob arwydd o gydymdeimlad, y cardiau, galwadau ffôn a’r ymweliadau personol, yn dilyn marwolaeth Beti, gwraig, mam, nain a hen nain arbennig. Diolch i’r Parch Megan Williams am wasanaeth teilwng a hyfryd ddydd yr angladd ac i’r Ymgymerwyr, Pritchard a Griffiths, am eu trefniadau trylwyr. Dymuna’r teulu ddatgan eu diolch i Feddygfa Harlech, y Gwasanaeth Nyrsio Cymunedol ac i’r Gwasanaeth Gofalwyr am eu gofal rhyfeddol dros y misoedd diwethaf. Diolch hefyd am y rhoddion hael a gafwyd er cof amdani tuag at elusennau lleol yn ardal Ardudwy. Rhodd o £20

CYNGOR CYMUNED HARLECH Croesawyd y Cyng Gwynfor Owen i’r cyfarfod a rhoddwyd cyfle iddo gyflwyno ei hun. MATERION YN CODI Ethol Cynghorydd Ar ôl pleidlais gudd, cyfetholwyd Mr Christopher Braithwaite yn aelod o’r Cyngor. Mae Mr Joe Patton wedi ymddiswyddo a bydd y Clerc yn cysylltu gyda’r Swyddog Etholiadol ynglŷn â hyn. Tir Pen y Graig Mae’r Cyngor wedi nodi eu bod yn barod i dderbyn y tir fel ‘anrheg’. Bydd Cath Hicks o Addysg Oedolion Cymru mewn cysylltiad gyda’r Cyngor eto yn y dyfodol. CEISIADAU CYNLLUNIO Siop Spar, Stryd Fawr, Harlech Creu agoriad newydd gyda drysau dwbl i’r wal dalcen de. Gwaith allanol arfaethedig i ymestyn uchder y parapet ynghlwm a balwstrad gwydr ‘modern’ o amgylch to’r storfa lefel llawr cyntaf, i ffurfio teras uwchben storfa gyda drws patio 1.5m x 2.0m oddi ar y talcen de. Gwaith trwsio blaen siop ar ddrysau, tynnu caeadau allanol a’u gosod oddi fewn. Tynnu caeadau ffenestri sydd ar lefel y llawr cyntaf yr edrychiad gorllewinol ac ail agor agoriadau ffenestri llawr daear, gosod ffenestri codi fertigol traddodiadol cyffelyb â ffenestri gwreiddiol. Gosod 2 flwch adar y to yn union o dan y bondo. Ffurfio ffenestr gromen to llithrig ar y to ochr gorllewinol yn ogystal â 2 ffenestr to math cadwraeth naill ochr y to gorllewinol a dwyreiniol (Cyfanswm o 4) Gwrthwynebwyd y cais hwn oherwydd bod yr adeilad wedi ei restru a byddai tynnu’r corn yn gwneud i’r adeilad edrych yn rhyfedd. Hefyd, mae angen gosod amod 106 ar y fflatiau oherwydd pe bai’r fflatiau arfaethedig yn cael eu gwerthu mae angen gwneud yn siŵr bod pobl leol yn gallu eu prynu. GOHEBIAETH Mr Gordon Robertson Derbyniwyd e-bost gan yr uchod yn datgan ei fod yn falch o weld o’r wefan bod rhan o draeth Harlech yn ddi gŵn, ond wrth fynd lawr y llwybr darganfyddwyd arwydd bach yn cadarnhau mai dim ond y darn chwith o’r traeth oedd i gŵn. Serch hynny, roedd cŵn i’w gweld bob ochr i’r traeth ac roedd hyn wedi amharu ar eu prynhawn. Oherwydd hyn, gofynnwyd a fyddai modd gosod arwyddion mwy clir. Anfonodd y Clerc yr e-bost yn syth at Mr Barry Davies, Swyddog Morwrol. Derbyniwyd copi o ateb yr oedd wedi ei anfon at Mr Robertson yn datgan y byddant yn adolygu eu harwyddion yn Harlech ac yn ystyried gwelliannau i’r arwyddion. Rheoli coedlannau Derbyniwyd e-bost yn nodi nifer o faterion perthnasol i goedlannau’r gymuned. Trafodwyd nhw yn fanwl. Roedd nifer o’r sylwadau yn berthnasol i’r hen Goleg Harlech a chytunwyd i anfon yr e-bost ymlaen i Cath Hicks o Addysg Oedolion Cymru. Clwb Rygbi Harlech Cafwyd cais gan y Clwb yn gofyn a fyddai’r Cyngor yn rhoi caniatâd i drin y tir a’i ailhadu gan greu cae gwastad, diogel er mwyn cynnal unrhyw chwaraeon. Cytunwyd i roi caniatâd iddynt wneud y gwaith yma.

R J Williams Honda Garej Talsarnau Ffôn: 01766 770286

5


Y Bermo a’r cyffiniau ganrif yn ôl (2)

Bermo o’r Awyr - Llun: Mari Lloyd

Arloesi ym myd tyfu llysiau micro

Mae cwmni bwyd newydd yn ffynnu diolch i ffordd arloesol o dyfu planhigion heb bridd. Wedi ei leoli yn Llanbedr, mae Tyfu’r Tyddyn yn cynhyrchu llysiau gwyrdd micro trwy ffermio fertigol neu hydroponeg ar gyfer bwytai a’r sector arwylo lleol. Gyda chefnogaeth cynllun Tech Tyfu gan Menter Môn, cafodd Tyfu’r Tyddyn ei lansio gan syrfewyr siartredig, Jodie Pritchard a Helen Bailey, gwta bedwar mis yn ôl. Roedd y ddwy yn mwynhau tyfu llysiau ac yn awyddus i ddysgu mwy am ffermio hydroponeg. Penderfynwyd felly i fentro i fyd ffermio fertigol er mwyn gallu mwynhau llysiau micro gartref a chael profiad uniongyrchol o redeg busnes bychan cynhyrchu bwyd. Y bwriad yn y pen draw fydd defnyddio’r profiad i gynghori eu cleientiaid. Mewn amser byr mae’r busnes wedi tyfu o nerth i nerth, ac yn rhestru nifer o fwytai a thafarndai lleol yn ogystal â Deli’r Hen Farchnad Gaws, Harlech ymysg eu cwsmeriaid. Dywedodd Helen, un o sylfaenwyr Tyfu’r Tyddyn: “Mae’r llysiau micro rydan ni’n eu tyfu yn cynnwys rhuddygl (radish), egin pys, blodau haul, brocoli a bresych deiliog. Mae ein cwsmeriaid ni i gyd o fewn 4 milltir i’n safle tyfu ac rydan ni wedi profi bod galw yn lleol am y llysiau. Mae hi wedi bod yn her cadw i fyny efo’r galw - wrth ddanfon i’r Hen Farchnad Gaws yn aml rydym wedi gwerthu allan bron cyn cyrraedd y drws, gyda chynifer o gwsmeriaid yn aros amdanon ni.”

6

Fel y soniais yn y rhifyn diwethaf, mae gen i dros hanner cant o lythyrau a ysgrifennwyd rhwng 1919 ac 1923 gan fy nhaid, John Griffith Roberts, Caerau, Abermaw, at ei fab hynaf, Gwilym, a oedd wedi mynd i weithio i gwmni Cunard yn Lerpwl. Fe gawn ynddyn nhw ryw ddarlun o fywyd yn y Bermo a’r cyffiniau yn y cyfnod hwnnw, a fydd efallai o ddiddordeb i ddarllenwyr Llais Ardudwy. Mewn llythyr dyddiedig dydd Mawrth, 16 Medi 1919, mae fy nhaid yn sôn am beth o’r adloniant y byddai’r trigolion yn ei fwynhau. Fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl mewn tref glan môr, roedd ‘Regatta’ yn cael ei chynnal yno, o leiaf unwaith y flwyddyn. Mae’n amlwg ei bod yn ddiwedd y tymor gwyliau yn y Bermo a’r trigolion yn edrych ymlaen at gael y lle iddyn nhw eu hunain. Roedd y tywydd yn braf, regatta wedi ei threfnu ar gyfer trannoeth a’r plant yn cael gwyliau yn y prynhawn i fwynhau. Dim ond y cychod mawr a fyddai’n cael mynd allan am unarddeg y bore oherwydd y llanw ac mae’n debyg bod wyth wedi cyrraedd yn barod o Bwllheli ac Aberystwyth ac un arall o Lerpwl, i gyd yn gobeithio cipio’r wobr o £15. Fe fyddai cystadlaethau llai yn ystod y prynhawn a’r manylion yn cael eu cyhoeddi yn y Barmouth Advertiser ddydd Iau. Tybed a wyddoch chi bod tripiau awyren hefyd yn cael eu cynnal yn y Bermo? Yn yr un llythyr, ceir disgrifiad o’r hedfan oedd yn digwydd yno yr wythnos honno. Dwy awyren yn cyrraedd o Blackpool am naw o’r gloch fore Llun ac yn glanio ar y tywod, a’r cyntaf i fyny am unarddeg o’r gloch oedd Miss Dennis. Roedd hi a’r teulu (teulu Dennis Ruabon) wedi cymryd Haulfryn, tŷ yn Mynach Road heb fod ymhell o gartref fy nhaid a fy nain, am y tymor ac wedi newid eu cynlluniau i fynd adref er mwyn aros ar gyfer y tripiau awyren. Lle i ddau deithiwr a’r peilot oedd yn yr awyren, a’r pris i bob teithiwr yn cynnwys ‘looping’ oedd dwy gini. Roedd y pris am arddangosfa acrobatig yn dair gini ond roedd hi’n bosib mynd i fyny am drip saith munud yn unig am un gini. Fe gafodd Jack, oedd yn dair ar ddeg, yr hynaf o’r plant gartref, y cyfle i fynd ar y trip un gini gyda ffrind i’r teulu a chawn glywed ei fod newydd ddod i’r tŷ wedi mwynhau yn arw ac yn dipyn o arwr i’r plant iau. Yn ôl y we roedd y tripiau yma yn boblogaidd iawn rhwng mis Mai 1919 a mis Mawrth 1920, gan ddefnyddio’r awyrennau ‘bi-plane’ a fu yn y Rhyfel Byd Cyntaf a hefyd y peilotiaid a fu yn eu hedfan. Roedd cwmni o’r enw A V Roe o Blackpool yn un o’r cwmnïau a oedd yn trefnu ‘syrcas deithiol’ o gwmpas amryw o drefi yng ngogledd orllewin Lloegr a gogledd Cymru a chyfeirir at ddyddiadau rhai o’r rhain, yn cynnwys ymweld â’r Bermo rhwng 15 Medi a 20 Medi 1919 - sef yr union ddyddiadau y sonnir amdanynt yn llythyr fy nhaid! Margaret Wallis Tilsley


Y GEGIN GEFN TEISEN GAWS

Cynhwysion ½ pwys o gaws hufen ½ pwys o siwgr eisin Peint o hufen dwbl 12 owns o fisgedi ‘digestive’ wedi eu malu’n fân. 6 owns o fenyn. Dull 1 Defnyddiwch ddysgl 12 modfedd. Mae’r rysáit yma yn ddigon i 12 o bobl, ond gallwch ei haneru os y dymunwch. 2 Toddwch y menyn, a rhowch y bisgedi ‘digestive’ wedi’u malu’n fân yng ngwaelod y ddysgl. 3 Cymysgwch y caws hufen a’r siwgr eisin, yna ychwanegwch yr hufen a’i gymysgu nes y bydd wedi tewychu, yna taenwch ar y bisgedi nes y bydd yn llyfn. 4 Mae’n bosib addurno fel y dymunwch. Dwi wedi defnyddio ffrwythau ffres. Mae tun o ‘cherry pie filling’ yn mynd yn dda hefyd. Dyma rysáit syml a blasus iawn. Mwynhewch! Rhian Mair, gynt o Dyddyn y Gwynt

CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT CEISIADAU CYNLLUNIO Gosod giatiau mynedfa drydanol – Crafnant, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Mynedfa cerbydau newydd i gynyddu gwelededd, cau mynedfa bresennol, trac mynedfa newydd ac estyniad i’r cwrtil - Llety’r Deryn, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. MATERION YN CODI Anghenion Tai Dyffryn Ardudwy Derbyniwyd e-bost gan Catrin Huws,

GWASANAETH GWRANDO’R SAMARIAID Mae’r Samariaid yn cynnig gwasanaeth gwrando ar gyfer y rhai sydd yn unig, yn drallodus neu yn ystyried diweddu eu bywydau ac rydym ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Yn ystod 2020 atebodd y Samariaid alwadau am gymorth bob 9 eiliad, gan ateb dros 3 miliwn o alwadau ffôn dros y flwyddyn a dros hanner miliwn o ebyst. Wrth drafod y teimladau hyn o unigrwydd a diffyg cysylltiad a all arwain ar hunanladdiad, y gobaith yw y bydd hyn yn lleddfu’r teimladau o anobaith a bydd y galwr yn dod i sylweddoli bod modd gwella’r sefyllfa rywfaint. Gweledigaeth y Samariaid yw y bydd llai’n marw o hunanladdiad. Nid yw hunanladdiad yn anochel; mae’n bosib ei rywstro a chydnabyddir gan lawer o ymchwil mai’r allwedd i geisio rhwystro hyn yw’r cyfle i siarad a rhannu teimladau. Mae’r rhesymau am hunanladdiad yn gymhleth, ond tu ôl i bob ystadegyn mae unigolyn sydd yn gadael teulu a chymuned wedi eu dryllio gan eu colled. Mae’r nifer o hunanladdiadau yn bryder mawr - yn 2019 diweddodd 330 o bobl eu bywydau yng Nghymru, 248 o ddynion ac 82 o ferched ac mae dynion deirgwaith yn fwy tebygol felly o gymryd eu bywydau na merched. Dynion yn yr oedran 40-44 sydd â’r gyfradd uchaf o hunanladdiad yng Nghymru, tra mai hunanladdiad yw’r achos uchaf o

farwolaeth mewn dynion ifanc rhwng 16 a 25. Mae’r ystadegau’n dangos bod achosion o hunanladdiad yn uwch yn y siroedd gwledig yng Nghymru sydd yn adlewyrchu’r pwysau a’r problemau sydd yng nghefn gwlad a’r byd amaethyddol. Gwynedd oedd y sir â’r raddfa uchaf o hunanladdiadau bob 100,000 person yng Ngogledd Cymru yn 2019 - 15.5; ar Ynys Môn roedd yn 13.1 ac yn Sir Conwy 11.5. Ceredigion oedd â’r raddfa uchaf yng Nghymru sef 18.2. Mae ffonau argyfwng ar y ddwy bont Menai wedi cysylltu â’n Cangen ni gan obeithio y bydd unigolyn yn ffonio mewn sefyllfa o anobaith. Mae’r Samariaid, fodd bynnag, ar gael i unrhyw un sydd yn dymuno cael clust i wrando a’r cyfle i fynegi eu teimladau a’u pryderon, nid yn unig y rhai sydd yn ystyried diweddu eu bywydau. Mae unigrwydd, iselder a theimladau o hunanladdiad yn gallu effeithio ar bobl o bob rhan o gymdeithas. Ni fyddwn byth yn barnu ac weithiau, oherwydd amgylchiadau, gall fod yn haws ymddiried mewn rhywun sydd yn gwbl anhysbys. Mae’n bosib cysylltu dros y ffôn, trwy e-bost neu lythyr, a phan fydd y pandemic Covid ar ben, ymweld â’r Ganolfan eto i gael sgwrs wyneb yn wyneb. Tudur Williams Cyfarwyddwr – Samariaid Gogledd Orllewin Cymru.

Hwylusydd Tai Gwledig, ynglŷn â’r anghenion tai yn y pentref yn datgan bod y Gymdeithas Dai wedi nodi darn o dir ym Mhentre Uchaf a fyddai o bosib yn addas ar gyfer datblygu tai fforddiadwy i bobl leol. Cafwyd gwybod bod ganddynt gynlluniau i godi 8 tŷ yn y pentre. Datganwyd siom bod y pamffledi a gafodd eu dosbarthu yn rhy fach i’w darllen ac nad oedd neb yn eu deall, a chytunwyd i gwyno am hyn. GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd – Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol Derbyniwyd dogfen ynglŷn â Rheoli Cŵn gan yr adran uchod gan ddatgan

bod unrhyw un yn gallu cynnig sylwadau ar y Gorchymyn arfaethedig wrth lenwi’r holiadur ar lein. Anfonwyd y ddogfen i bob aelod gan nodi dyddiad clir ar gyfer derbyn atebion. UNRHYW FATER ARALL Mae angen sylw ar y ffordd i lawr o Gadwgan draw am Roslin a chytunwyd i gysylltu unwaith yn rhagor gyda Dŵr Cymru ynglŷn â hyn. Cafwyd trafodaeth ynglŷn â’r angen i dreillio yr afon Ysgethin oherwydd bod y twyni tywod yn diflannu, a chytunwyd i gysylltu gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â hyn.

7


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Cydymdeimlad Ar Orffennaf 20 bu farw Mrs Beti Roberts, Bellaport, yn 91 oed. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at ei phriod Mr Ken Roberts, ei phlant Idriswyn a Llinos a’u teuluoedd, ei chwaer Elinor, ei brawd Iwan a’r teulu oll yn eu profedigaeth. Ar Awst 11 bu farw Mr Evan Edwards, Parc Isa, yn 84 oed. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at ei briod, Mrs Jean Edwards, ei blant Eleri, Gwynfor, Deilwen, Hefin, Iddon a Bethan a’u teuluoedd, ei chwiorydd Jane ac Ann a’r teulu oll yn eu profedigaeth. Ar Awst 13 yn 86 mlwydd oed bu farw Mrs Bethan Griffiths, Ardudwy, Tal-y-bont, Bangor. Bethan, Bronywerydd, oedd hi i ni yn y Dyffryn, yn ferch i’r diweddar Mr a Mrs Iorwerth Humphries a chwaer i’r ddiweddar Mair a phriod i’w diweddar Eifion. Anfonwn ein cydymdeimlad at ei nith Gwyneth a’i neiaint Erddyn, Iorwerth a Hywel a’u teuluoedd ac at ei chefndyr Huw a John a’u teuluoedd. Cafodd Bethan yrfa ddisglair fel nyrs a bu yn gyn-Swyddog nyrsio yn Ysbyty Dewi Sant, Bangor. Os clywai Bethan fod unrhyw un o Ardudwy yn Ysbyty Gwynedd byddai’n siŵr o fynd yno i ymweld. Ar Orffennaf 4ydd yn y Swistir, bu farw Ellen Margaret Burkhad-Jones yn 77 oed. Roedd Ellen yn ferch i’r diweddar Mr a Mrs Robin Jones, Meifod Isa, yn fam i Gabriela ac yn chwaer i Eifiona, Wynford a’r diweddar Arwyn a Richard. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf atynt yn eu profedigaeth ac at ei chefndyr a’i chyfnitherod a’u teuluoedd yma yn Ardudwy.

Colli Gwyneth Ar 16 Awst yn Ysbyty Telford, bu farw Mrs Gwyneth Jones, gynt o 16 Pentre Uchaf a Thy’n y Buarth, yn 91 oed. Roedd yn ferch i’r diweddar Mr a Mrs Morris Evans, yn briod i’r diweddar Evan ac yn chwaer i Wyn, David, Mair, Ronald, Margaret ac Alun. Anfonwn ein cydymdeimlad at ei meibion, Alan a’i wraig Sue a Gareth a’i wraig Sheena, ei hwyres Ann a’i hwyrion Iwan, Aled, Sam a Harry a’r teulu oll yn eu profedigaeth o golli un annwyl a hoffus iawn. Bu ei mam farw yn ei phumdegau ond bu ei thad fyw i’w nawdegau ac fel y gŵyr llawer ohonom, bu Gwyneth yn ofalus iawn ohono am flynyddoedd lawer.

Genedigaeth Llongyfarchiadau i Ewart a Siân, Ystumgwern ar enedigaeth eu merch fach yn ddiweddar, sef Menna Mair Williams. Dymuniadau gorau i chi eich tri yn y dyfodol. Llongyfarchiadau hefyd i John a Jane Williams, North Lodge a Wil a Beth Bailey, Bermo, ar ddod yn daid a nain unwaith eto.

Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb MEDI 12 – Rhian a Meryl, 10.00 19 – Cyfarfod gweddi, 10.00 26 – Parch Megan Williams, 5.30 HYDREF 3 – Parch Eric Green, 10.00 -----------------------------------------Festri Lawen Manylion i ddilyn ym mis Hydref.

8

Diolch Dymuna Mr Emlyn Owens, Drws y Nant, ddiolch o galon am y dymuniadau da, y cardiau a’r anrhegion a dderbyniodd ar ddathlu pen-blwydd arbennig yn ddiweddar. Diolch a rhodd £10 Gwella Rydym yn falch iawn fod Mark Hughes wedi gwella’n ddigon da i ddod yn ôl i weithio yn London House am ychydig o oriau bob dydd ond ddim yn llawn amser eto. Rydym wedi gweld dy golli, Mark. Diolch Hoffem ddiolch am yr holl garedigrwydd a chefnogaeth a gawsom wedi i ni golli Siân. Bu’r cyfan yn gymorth mawr i ni fel teulu. Diolch hefyd am y rhoddion hael i Ward Alaw er cof am Siân. Meic, Gwenda a’r teulu, Llwyn March. Rhodd £10

Er cof am Ellen Margaret

Gyda thristwch mawr y daeth y newyddion am farwolaeth un o hen frodorion y Dyffryn, sef Ellen Margaret, merch y diweddar Robin ac Iris Jones Meifod Isa. Gadawodd y Dyffryn pan yn ddeunaw oed am y Swistir, lle y treuliodd weddill eu hoes. Priododd frodor o’r Swistir a ganwyd iddynt un ferch Gabriella. Roedd yn gallu siarad amryw o ieithoedd, ond ei hoff iaith oedd y Gymraeg. Bu’n ffyddlon iawn i’w theulu a’i chyfeillion a byddai’n ymweld â Chymru yn aml iawn. Roedd yn hoff iawn o gerddoriaeth ac yn yodlwr heb ei hail pan oedd yn ei hwyliau! Hoffai fynychu cyngherddau lleol pan adre yn y Dyffryn. Roedd yn llawn bywyd a gwên siriol ar ei hwyneb bob amser. Nid oedd ei hiechyd yn dda ers tro ond cawsom sioc o glywed ei bod wedi’n gadael. Trefnwyd gwasanaeth coffa yng ngofal Alma a oedd yn cydfynd ag amser yr angladd yn y Swistir. Daeth aelodau o’r teulu agosaf i ardd Gwernlys i hel atgofion am Ellen ac i ddathlu ei bywyd. Anfonwyd trefn y gwasanaeth at aelodau eraill o’r teulu nad oedd yn gallu bod yn bresennol ar y diwrnod. Codwyd £335 er cof amdani tuag at Ambiwlans Awyr Cymru. Bydd hiraeth a chwithdod mawr ar ei hôl yma, ac yn enwedig yn y Swistir gan ei bod yn fam a nain ofalus a chariadus i Gaby, Marc a Sajsa. Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Alma am ei gwasanaeth trylwyr. Rhodd i Llais Ardudwy Dwy ffrind di-enw o bell £60


Siwrna Siân Tŷ Nanney ‘Mae’n rhaid i ni neud i bob diwrnod gyfri rŵan.’ Dyna eiriau Siân pan gafodd y newyddion ysgytwol ddechrau Mawrth bod amser yn brin. Ond y gwir amdani ydy mai dyma sut roedd hi’n byw bob dydd beth bynnag. ‘Os dach chi isio gneud rhywbeth, gofynnwch i ddynes brysur!’ ydy’r hyn sy’n cael ei ddweud yn aml, wel dyna chi ddeud cwbl addas yn achos Siân. Arweiniodd Siân yr ymgyrch i gael cartref newydd i Ysgol Feithrin Tremadog ac i sefydlu’r Gorlan Fach. Roedd gwaith Siân yn allweddol wedyn efo Clwb Nofio Gwynedd. Dim ond enghreifftiau ydy’r rhain o’r cyfraniad wnaeth hi i’r gymdeithas yn lleol a bywydau plant a phobl ifanc yr ardal, ond does ’na neb sydd wedi ei hadnabod ers blynyddoedd yn synnu at hyn. Mae’r egni a’r bwrlwm yno erioed. Dechreuodd y daith ym Mhrestatyn - yn siarad llond ceg o Saesneg. Byw mewn stad o dai, yn chware am oriau ac wrth eu boddau yn mynd o dŷ i dŷ a Meg y ci yn eu dilyn. Yno mi wnaeth ei rhieni Meic a Gwenda ddyfalbarhau a sicrhau fod y Gymraeg yn llifo. Cyrraedd Y Bermo wedyn, a’r parc dros y ffordd i’r tŷ. Gwneud ffrindiau newydd a chwarae cowbois ac indians am oria cyn rhedeg i Siop Nain Judith i nôl bag o fferins. Dechrau yn Ysgol Y Traeth a symud wedyn i Ysgol Bontddu er mwyn bod yn y ffrwd Gymraeg. Yno roedd Siân yn ennill rasys rhedeg ac yn dangos ei thalent gymnasteg a nofio. Dewis mynd i Ysgol Uwchradd Ardudwy wnaeth Siân. Roedd ganddi safonau clir ac roedd pawb yn gwybod y byddai Siân yn gefn iddyn nhw. Symud i dŷ uwchben Bermo wnaeth y teulu bach ac yno gwneud dens yn yr ardd a chwarae yn yr ogofeydd ar y mynydd. Ymhen rhai blynyddoedd, dawnsio am oriau yn y Sandancer - o dan oed wrth gwrs! Ond roedd Siân y tu hwnt o weithgar yn ystod gwyliau ysgol a choleg. I ddechrau gweithio yn David Jones’ Locker, wedyn yn y Lemon Tub ac i orffen yn Y Royal lle roedd y staff a’r perchennog yn ei

chyfri’n un o’r teulu. Yn 1989 roedd wedi trefnu wythnos yng nghwmni ffrindiau ysgol yn Steddfod Llanrwst ac yno mi wnaeth gyfarfod Aled (Sgwal). O’r wythnos arbennig honno, bron i 32 o flynyddoedd yn ôl, fuon nhw ddim ar wahân ac mi ddaeth ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’ yn anthem iddyn nhw. Roedd y Coleg ger y Lli a Phantycelyn yn ddewis amlwg i Bermo Bach. Cyfarfod yn llofft Siân a mwynhau bob eiliad o’r hwyl, er ei bod yn gwybod pryd i gau’r drws er mwyn canolbwyntio ar ei gwaith a’r bawd yn ei cheg yn arwydd ei bod wedi cael diwrnod caled. Ar ôl gadael y Brifysgol, cymryd blwyddyn allan wnaeth Siân cyn hyfforddi i fod yn Weithiwr Cymdeithasol yn Mangor. Gwirfoddoli i’r VSO mewn lloches cymorth i ferched yn Wolverhampton ac yna mewn ysbyty meddwl yng Nghaerdydd oedd ei hanes. Gweithio am chwe mis mewn awyrgylch cwbl ddieithr gan gefnogi merched ifanc oedd wedi dioddef pob math o drais a chamdriniaeth. Yna, gweithio yng nghartref Pen Dyffryn, Dyffryn Ardudwy. Mynd wedyn i Southport i edrych ar ôl hogyn 17 oed oedd wedi ei barlysu mewn damwain beic modur. Bod yn glust, bod yn gefn a bod yn ffrind dyna ei dawn. Symudodd Siân ac Al Sgwal i ardal Eifionydd yn ’97, a sefydlu cartref ym Mhorthmadog i ddechrau. Roedd Siân wedi cael swydd yn Nghaernarfon a Sgwal yn gweithio yn Nolgellau felly dyma’r tŷ hanner ffordd. Roedd ei chymeriad cynnes, croesawgar yn sicrhau nad oedd gwneud ffrindiau’n anodd. Wedyn symud i Dremadog, 20 mlynedd yn ôl, ac mi fu priodas. Nid priodas draddodiadol fuodd hi, ond seremoni fechan i deulu a ffrindiau agos ym Mhlas Glyn y Weddw, Llanbedrog a dathliad nos, mewn pabell enfawr yng ngardd Tŷ Nanney gyda dros 120 o westeion yn mwynhau tan oriau mân bore trannoeth. Y mis mêl - taith o amgylch y byd - yn digwydd y flwyddyn ganlynol. Tri mis o grwydro o amgylch Singapore, Awstralia ac America. Antur a hwyl. Byw i’r eithaf a charu mawr. Dechreuodd wedyn gystadlu mewn cystadlaethau treiathlon a chael hwyl fawr arni yn herio ei hun i’r eithaf. Ganwyd Iago Rhys, ac ar fin nos dwywaith yr wythnos roedd hi’n gwirfoddoli i’r Samariaid gan wrando, cynghori a bod yn angor i gannoedd oedd mewn trybini. Yn dilyn genedigaeth Enlli, gadael y swydd yn y Cyngor er mwyn magu’r teulu. Ar yr

un pryd mi aeth hi ati i warchod mab un o’i ffrindiau gorau yn ystod y dydd a gweithio rhan amser, fin nos, i Barnardo’s er mwyn asesu a chynghori cyplau oedd yn awyddus i faethu plant. Roedd yn tystio’n ddyddiol i’r gobaith a’r anobaith mewn bywyd ac yn ddoeth a gofalus yn ei gwaith bob amser. Daeth Gruff i’r byd, a dyma Tîm Tŷ Nani wedi ei gwblhau. Mi gafodd plantos Tŷ Nani bob amser anogaeth i fwynhau gwneud gweithgareddau hamdden gymnasteg, pêl droed ac wrth gwrs y tri yn aelodau o’r clwb nofio lleol sy’n golygu codi bron bob bore cyn toriad gwawr er mwyn mynd i pyllau nofio Borthmadog, Caernarfon neu Fangor. Mae’r awydd i gymryd rhan a rhoi 100% i bob ymdrech wedi cael ei drosglwyddo i’r tri ac hynny wedi ei wneud mewn awyrgylch gefnogol llawn hwyl. Mae drws Tŷ Nanney wastad ’di bod ar agor i bawb a phartïon pen-blwydd y plantos yn fythgofiadwy wrth i Siân wahodd yr holl dosbarth, rhag gadael neb allan. Mae’r un peth yn wir am y croeso i ffrindiau Siân. Ychydig o flynyddoedd yn ôl mi wnaeth Llinos o Dalsarnau, un o’i ffrindiau gorau o ddyddiau ysgol, symud i’r tŷ drws nesaf ac mae Siân a’i magned o bersonoliaeth wedi bod yn ffrind triw a gwerthfawr i lawer sydd wedi cyd-fagu plant yn yr ardal. Doedd hi byth yn llonydd ac yn ei helfen yn mynd ar ei beic, mynd am dro, mynydda, nofio yn y môr ac mewn llynnoedd cyn sôn am y busnes nofio gwyllt ffasiynol yma. Paradwys i Siân oedd gwersylla yn Nhyddyn Adi, Morfa Bychan. Croeso i bawb a dim ffrils. Pawb yn rhannu’r bwyd, y diod a’r chwerthin. Dim ffys, dim amserlen, dim trefn, ond yr hwyl yn byrlymu a phawb yn dysgu beth ydy ystyr bod yn rhydd yng nghanol byd natur. A dyna beth arall pwysig, gwarchod yr amgylchedd a chofio mai dros dro ’dan ni i gyd yn cael y fraint o fod ar y byd yma. Mi oedd cael caru mawr gan Siân fel cael eich lapio mewn blanced gynnes, ei chwerthiniad yn heintus a’i gwên yn dod o’r galon. Mae’n bryd i Tîm Tŷ Nani

ddeud, ’Nos da Mam, mi wela i chdi yn fy mreuddwyd i,’ ond ‘carry on’ fydd hi, Siân. Rwyt ti wedi gosod sylfaen gadarn ac mi wnân nhw i bob diwrnod gyfrif am mai dy dîm di ydyn nhw, siwgr aur. Nos da, Siâni bach. Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad llwyr â theulu Siân yn eu colled enfawr – gyda’i rhieni, Meic a Gwenda Ellis, ei gŵr Aled, ei phlant a’i holl ffrindiau yn yr ardal hon ac yn Eifionydd, yn eu colled fawr.

9


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN

Capel Newydd Cynhelir oedfa bob nos Sul am 6:00 ac mae croeso i unrhyw un ymuno hefo ni. Gofynnwn i chi gysylltu ar 01766 770953 i wneud yn siŵr fod sedd gadw i chi gan ein bod yn ceisio cadw pawb yn ddiogel. MEDI 5 - Dewi Tudur 12 - Dewi Tudur 19 - Alun Thomas 26 - Rhodri Glyn HYDREF 3 - Dewi Tudur

Cydymdeimlad Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf Pen-blwydd arbennig i Dylan a Ffion a’r teulu, 4, Glan-yLlongyfarchiadau a phen-blwydd hapus arbennig i Ieu (Cefn Gwyn gynt) oedd wern, yn eu profedigaeth o golli mam yn dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed ar y 5ed o Awst. Cafodd ddiwrnod i’w gofio Dylan, Isabel Williams, Penrhyn, gyda theulu a ffrindiau yn galw trwy’r dydd ac Angharad y ferch wedi paratoi yn ddiweddar. Anfonwn ein cofion lluniaeth ysgafn i bawb. Roedd y gacen pen-blwydd hyfryd wedi ei pharatoi cynnes atynt yn eu colled. gan Leanne, ei wyres yng nghyfraith. Dymunwn iddo bob lwc ac iechyd am Y SWYDDFA BOST lawer blwyddyn eto. Newid bach yn amser y Swyddfa Bost. Dymuna Ieu ddiolch o galon i bawb am y llu cardiau, cyfarchion, anrhegion a Sesiwn dydd Iau yn symud galwadau ffôn a dderbyniodd; mae’n gwerthfawrogi’r holl garedigrwydd. i ddydd Gwener o 3 Medi. Rhodd £20 Llun: Mari Lloyd

PRIODAS AUR

Geraint Williams, Gwrach Ynys, Talsarnau 01766 780742 / 07769 713014 www.gwyneddmobilemilling.com

*MELIN LIFIO SYMUDOL Llifio coed i’ch gofynion chi Cladin, planciau, pyst a thrawstiau

*COED TÂN MEDDAL

Dathlu achlysur arbennig Llongyfarchiadau i Angela a Bill Swann, Gelli Deg, Talsarnau, ar achlysur eu priodas aur, sef 50 o flynyddoedd o briodas. Cariad oddi wrth eu teulu a’u ffrindiau oll.

10

WEDI EU SYCHU Netiau bach, bagiau mawr a llwythi ar gael

*GWAITH ADEILADU AC ADNEWYDDU

*SAER COED

Ffoniwch neu edrychwch ar ein gwefan


CYNGOR CYMUNED

TALSARNAU

Croesawyd y Cyng Gwynfor Owen i’r cyfarfod a rhoddwyd cyfle iddo gyflwyno ei hun. DATGAN BUDDIANT Datganodd Eluned Williams fudd yng nghais cynllunio Garej Talsarnau ac fe arwyddodd ffurflen Datgan Budd. MATERION YN CODI Ethol Cynghorydd Derbyniwyd un enw ar gyfer y sedd wag oedd yn bodoli ar y Cyngor. Cytunwyd yn unfrydol i gyfethol Ms Lisa Birks fel aelod. CEISIADAU CYNLLUNIO Estyniad llawr cyntaf uwchben yr arddangosle ceir i greu lle byw - RJ Williams, Y Garej, Talsarnau. Cefnogi’r cais hwn cyn belled â bod amod 106, darpariaeth ar gyfer pobl leol, yn cael ei osod arno. GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd – Adran Briffyrdd Mae’r braced oedd yn dal y panel solar wedi torri yn ystod cyfnod o wynt cryf ac o ganlyniad i hyn mae’r Adran Golau Stryd wedi bod mewn trafodaethau gyda’r cwmni fel eu bod yn darparu braced newydd i’r safle. Cyngor Gwynedd – Adran Briffyrdd Mae angen gwaith ar y ddwy giât sydd ar hyn o bryd yn anodd eu trin ar lwybr march rhif 49. Trafodwyd gwelliannau gyda’r tirfeddianwyr a gobeithio y byddant yn cael gweithredu arnynt. Ynglŷn â’r twll sydd ger Llyn Tecwyn Uchaf, mae’n ymddangos bod hon yn ffordd ddi-ddosbarth ac felly mai cyfrifoldeb yr Adran Briffyrdd fyddai hyn a’u bod yn disgwyl am ymateb ganddynt.

Y LASYNYS FAWR

Yn dilyn cais am gymorth i lanhau tu mewn y Lasynys Fawr, diolch i’r gwirfoddolwyr a ddaeth draw yn ddiweddar i dwtio’r lle. Diolch i Sheila Maxwell am y llun o’r criw glanhau a’u hoffer amrywiol.

Coffâd i Bethan Griffiths Ganwyd hi ar y 18fed o Ragfyr, 1934, yn Bronwerydd, Dyffryn Ardudwy. Roedd yn ferch ofalgar i’r diweddar Iorwerth ac Etta Humphreys, ac yn chwaer i’r diweddar Mair. Magwyd ei thad yn Station House, Harlech, a’i mam yn Meifod Uchaf, Dyffryn Ardudwy. Roedd yn wraig ffyddlon i’r diweddar Eifion, yn lys-fam i David a Carol ac yn fodryb garedig i Gwyneth ac Erddyn a’u teuluoedd, ac Iorwerth a Hywel. Bu Bronwerydd yn gartref i’r teulu am flynyddoedd ac, yn aml, aelodau o’r teulu estynedig. Roedd ei mam yn ddynes addfwyn a charedig a’i thad yn dipyn o gymeriad; etifeddodd nodweddion gorau y ddau. Roedd yn wraig arbennig, yn hynod o garedig, siriol ac annibynnol a oedd wrth ei bodd yng nghwmni pobl ac yn arbennig yng nghwmni plant. Mynychodd ysgol gynradd y pentref ac yna Ysgol Ramadeg y Bermo cyn dilyn gyrfa fel nyrs. Hyfforddodd yn Ysbyty Frenhinol Caer - roedd Nesta Lister, chwaer ieuengaf ei mam eisoes yn byw ac yn gweithio fel nyrs yn y ddinas. Yn 1953, penderfynodd symud i Ysbyty Dewi Sant, Bangor, lle hyfforddodd i fod yn fydwraig ac yn ddiweddarach daeth yn Swyddog Nyrsio uchel ei pharch. Yn dilyn ei marwolaeth, cysylltodd sawl cyd-weithiwr â merched a roddodd enedigaeth yn Ysbyty Dewi Sant i rannu eu hatgofion ohoni gydag aelodau’r teulu. O dan ei llygaid gofalus roedd yn rhaid i’r nyrsys gadw at y safonau uchaf roedd hi’n eu gosod. Dros y blynyddoedd cynorthwyodd gyda genedigaeth cannoedd os nad miloedd o fabanod. Roedd albwm ganddi yn llawn o luniau babanod a dderbyniodd gan rieni diolchgar dros y blynyddoedd. Arwydd o’i charedigrwydd tuag at ei chyd-weithwyr oedd y byddai bob amser

yn dewis gweithio ar ddydd Nadolig er mwyn i’r nyrsys a oedd yn famau gael treulio’r ’Dolig gyda’u plant. Erbyn i Ysbyty Dewi Sant gau yn 1993/94, roedd wedi gweithio yno am ddeugain mlynedd. Penderfynodd na fyddai’n symud i Ysbyty Gwynedd – ond nid dyna diwedd ei chysylltiad gyda’r Gwasanaeth Iechyd. Wedi ymddeol, gwirfoddolodd gyda’r WRVS yn Ysbyty Gwynedd. Bu hefyd yn gwirfoddoli yn y siop yn y Gadeirlan. Ar ei dyddiau rhydd, deuai adref i Dyffryn i ofalu am ei mam ac i gadw trefn ar Bronwerydd a’i thad wedi i’w mam farw ar ddiwedd y 1960au. Tra adre ymwelai â’i chwaer a’i theulu a theulu Agnes, Fron Galed, ei ffrind ers dyddiau ysgol. Os oedd unrhyw aelod o’r teulu neu rhywun o ardal Dyffryn yn yr ysbyty byddai ei chwaer neu Agnes yn siŵr o’i ffonio i roi gwybod iddi, a byddai’n siŵr o ymweld â hwy. Yn 1973, priododd ag Eifion ac ymgartrefu ym Mro Emrys, Tal-ybont, Bangor, lle daeth yn aelod selog o Eglwys Sant Cross. Byddai’n cefnogi digwyddiadau yng nghapel Bethania. Bu farw Eifion yng Ngorffennaf 2002. Ei ffordd hi o ddelio gyda’r golled oedd cadw’n brysur trwy fod yn gefn i eraill. Roedd yn hoff iawn o gerddoriaeth a phan yn ifanc roedd yn aelod o barti canu’r diweddar O T Morris; bu hefyd yn aelod o Gôr Traeth Lafan. Byddai’n mwynhau mynd i gyngherddau ac ar deithiau gyda’r Côr a chael hwyl yng nghwmni’r aelodau. Erbyn i Ysbyty Dewi Sant gau yn 1993/94, bu’n gweithio yno am ddeugain mlynedd. Tua tair blynedd yn ôl, dechreuodd ei hiechyd ddirywio ond roedd yn benderfynol o barhau i fyw adref. Bu’r cyfnodau clo yn anodd iddi ond llwyddodd i fyw adref tan y chwech wythnos olaf o’i bywyd gyda chefnogaeth aelodau’r teulu, ffrindiau, cymdogion a gofalwyr. Bu farw ar Awst 13eg yn Ysbyty Eryri. Cynhaliwyd yr angladd yn Eglwys Sant Cross, dan arweiniad yr Hybarch Mary Stallard, Archddiacon Bangor. Cymerodd sawl unigolyn ifanc ran yn y gwasanaeth – Huw Erddyn, darlleniad, Llŷr Erddyn ac Elen Jones, unawdau, gyda theyrngedau gan Rhun Erddyn a Beca Jones. Dymuna’r teulu ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad ac am y rhoddion sylweddol a gasglwyd at Tŷ Gobaith. Erddyn Davies Rhodd a diolch £20

11


Y BERMO A LLANABER

PÔS DRYSFA GEIRIAU 1 11

15

8

24

8

9

10

18

25

10

15

18

20

13

3

10

27

17

20

2

17

8

4

20

15

19

15

25

4

11

15

10

4

19

10

26

9

22

8

1

20

19

6

25

4

7

8

3

27

6

25

17

15

6

20

4

15

25

25

18

4

22

15

7

17

19

24

15

25

6

4

17

8

6

4

26

20

26

8

17

8

2

15

24

26

2

24

8

20

18

8

5

26

27

7

11

20

17

4

10

8

17

23

25

17

21

20

25

20

8

25

5

10

19

10

8

20

9

15

16

4

22

12

8

15

4

8

20

19

8

17

18

20

18

10

4

18

7

18

17

19

12

15

®

Llun: Cwmni’r Frân Wen Organ Eglwys y Santes Fair, Bangor. Ross Williams ac Owain Pritchard sy’n sefyll o’i blaen

Gerallt Rhun

POS DRYSFA GEIRIAU 1

•N

O

N

•T

I

®

• • • • • • Eglwys Sant Ioan 25 20 13 15 19 25 17 25 27 3 17 20 8 Daeth rhannau o organ hynafol o Fangor i Eglwys Sant Ioan, y Bermo 14 4 19 15 1 27 26 17 22 17 21 20 22 yn ystod yr haf. Gan fod Eglwys y • • • Santes Fair ym Mangor wedi cau nid oedd angen yr organ. Cwmni’r A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y Frân Wen, a sefydlwyd yn Harlech i ddechrau, sydd am ddatblygu’r 1- 2- 3- 4- 5 - 6- 7-T 8-I 9 - 10- 11- 12- 13- 14eglwys yn ganolfan greadigol i bobl 15-O 16- 17- 18- 19- 20-N 21- 22- 23- 24- 25- 26- 27- 28-Ph ifanc o’r enw Nyth. Adeiladwyd yr organ ym 1899 gan Pôs ychydig yn wahanol y mis yma. Efallai ychydig yn anoddach! Felly, rwy’n Nicholson & Co. Roedd y cwmni cynnwys pedair llythyren i gychwyn arni. Mae pob gair newydd yn dechrau wedi gofyn i wneuthurwyr gwreiddiol ar sgwâr gyda • . Mae’r • hefyd yn nodi gorffen gair. Bydd y geiriau yn yr organ eu helpu i ddod o hyd i mynd i gyfeiriadau chwithig gan ddilyn trywydd y ddrysfa; sy’n gallu bod yn gartref newydd iddi. Sefydlwyd apêl, ddryslyd! Awgrym: dylech geisio dirnad yn gyntaf pa rai yw A ac E. Wedyn ac mi gawson nhw eu rhoi mewn mae’n fater o drio gwahanol gytseiniaid! Pob lwc! cysylltiad ag Eglwys Sant Ioan. Mae’r ddwy organ bron yn union yr un fath, wedi’u hadeiladu gan yr un Llongyfarchiadau i: gwneuthurwyr yn yr un cyfnod, ond Mary Jones, Dolgellau, Mai mae angen ei thrwsio a’i hadfer yn y Jones, Llandecwyn; Angharad dyfodol agos. Morris, Y Waun, Wrecsam; Dywedodd Cwmni’r Frân Wen eu Rhian Mair Jones, Betws bod yn falch iawn eu bod yn gallu yn Rhos. Tom Roberts, rhoi defnydd newydd i’r offeryn, Rhosmeirch. Gwenda Davies, ond yn yr eglwys ym Mangor y bydd Llanfairpwllgwyngyll. ffasâd yr organ wreiddiol o hyd. Drwg gennym am un gwall bach yn y croesair diwethaf. Y Gymdeithas Gymraeg Y llythyren ‘i’ oedd i fod Ni fyddwn yn trefnu cyfarfodydd ar yn y geiriau naid ac ymroi. hyn o bryd oherwydd bod yr ystafell Anfonwch eich atebion i’r braidd yn fach. Gobeithiwn drefnu Ddrysfa Geiriau at Phil Gwasanaeth Nadolig yn Christchurch Mostert. [Manylion ar ym mis Rhagfyr. dudalen 2].

ATEBION SGWÂR GEIRIAU 12

12


Teyrnged i David Edwards Parc Isaf Ganed David ar y 23ain o Awst 1951, yn fab i’r diweddar David ac Emily Edwards, yr ieuengaf o bump o blant - Evan, Wmffra, Jane ac Ann. Ergyd mawr i’r teulu a hynny pan oedd David ddim ond yn 10 oed oedd colli ei Dad - a dwi’n siŵr fod hynny wedi cael effaith fawr arno fo fel gweddill y teulu. Bu’n byw ym Mharc Isaf ar hyd ei oes, ac mae atgofion lu yn dod i’r meddwl wrth gofio’r hwyl o chwarae ‘rounders’, criced neu bêl-droed yn yr iard! Byddai hyn fel arfer yn ddigwyddiad cyson pan fyddai ein cefndryd yn galw acw ar y penwythnosau. Trwsio tsiaen neu bynctiar beic neu orfod sefyll wrth ei ochr am hydoedd wrth weldio er mwyn helpu i droi pethau rownd a fiw i ni ddenig oddi yno! Gallwn ni i gyd gofio yn ôl hefyd am ddyddiau hel gwair, plannu neu godi tatws neu adeiladu sied - pan fyddai pethau yn mynd o chwith byddai pawb â barn wahanol o sut oedd mynd ati i ddatrys y broblem. Dwi ddim hyd heddiw yn cofio na gwybod ar ôl y dadlau di ben draw p’run a’i dad, Wmffra neu David oedd yn cael y gair olaf! Ond er yr holl ddadlau roeddent yn dipyn o fêts ac yn helpu, dibynnu a gwerthfawrogi gwaith ei gilydd. Roedd David yn nabod pob cornel o Barc Isaf a dwi’n meddwl dros y blynyddoedd un ai ei fod o wedi tyllu neu chwistrellu pob modfedd o’r fferm. Roedd y lle werth ei weld, dim mymryn o chwyn i’w gael yn unlle a byddai dyddiau hir yr haf yn gyfle iddo grwydro caeau Parc Isaf y ffridd a Thwllnant gyda ‘sprayer’ melyn ar ei gefn. Os oedd David ar goll neu isho rhoi gwybod fod bwyd yn barod, dim ond 3 lle’r oedd angen chwilio amdano, yn y wern, garej wrth y tŷ neu yn y sied goed.

Roedd yn weithiwr caled a hefyd yn berffeithydd; roedd pob dim roedd o yn ei wneud yn gorfod bod yn berffaith. Roedd yn fecanic da, yn gallu ‘sprayo’ peiriannau a hefyd yn weldiwr heb ei ail. Anhygoel meddwl ei fod o’n gallu tynnu ceir yn ddarnau ac yna eu gosod nhw yn ôl fel newydd. Gadawodd yr ysgol cyn gwneud ei Lefel O a hynny yn bymtheg oed. Mynd yn syth i weithio i garej Bradbury’s yn y Bermo wnaeth o ac yno y bu am flwyddyn yn dysgu ei grefft cyn cychwyn ar ei brentisiaeth yn 16 oed. Yna aeth i weithio gyda R B Williams yn Brangstom a Wernfach ac wedyn gweithio hefo Alec Howie cyn symud i weithio at Dennis Owen, Pentre Mawr fel gyrrwr JCB. Fe fuodd o hefyd yn chwilio am waith ar yr oil rigs yn Aberdeen, ond er mor brofiadol a chywrain oedd ei waith, anodd oedd cael gwaith heb gymwysterau. Ac, fel dywedodd dad, roedd ei sgiliau llawer gwell na sgiliau’r gweithwyr eraill ond doedd ganddo ddim darn o bapur i brofi hynny. Bu’n gweithio gyda Dennis tan iddo ymddeol bedair blynedd yn ôl a’r ddau wedi adnabod ei gilydd am dros 50 mlynedd fel ffrindiau a chydweithwyr. Ar sawl achlysur bu’r ddau yn gweithio tan oriau mân y bore yn ceisio trwsio peiriannau. Yn ôl Dennis, byddent wedi gallu gorffen yn llawer cynt heblaw am yr angen i gael paned a dadl neu ddwy ynglŷn â sut y dylid cwblhau’r gwaith. Roedd yn rhaid i bob dim fod yn berffaith ac ni fyddai 5 milimedr allan yn gwneud y tro. Roedd o wastad yno i helpu pan oedd angen cymorth. Cofiai Dennis hefyd pan fyddai’r ddau yn ymweld â Sioe Llanelwedd a David ddim yn meddwl dwywaith yn rhoi ei farn ar gynlluniau’r peiriannau. Er na wnaeth ei Lefel O, na mynd i goleg, roedd o yn ddeallus iawn ac yn gwybod dipyn am y byd a’i bethau. Roedd o wrth ei fodd yn gwylio teledu a hynny tan oriau mân y bore. Roedd hynny yn gyfle yn aml iawn iddo wylio newyddion,

rhaglenni addysgiadol a materion cyfoes. Roedd o wrth ei fodd hefyd yng nghwmni cŵn ac roedd pob ci gafodd o dros y blynyddoedd yn cael ei sbwylio yn racs. Yn yr un modd, roedd Meg hefyd yn fêts mawr iddo fo a byddai yn cael mwynhad mawr yn ei chwmni. Roedd pobl hefo dipyn o feddwl o David, ac mae gweld coffâd amdano yn amlygu eu hoffter ohono. Mae gan bob un ohonom atgof gwerthfawr ac unigryw amdano ac mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn dal a chadw’r atgofion hynny. Diolch Dymuna teulu y diweddar David Edwards, Parc Isaf, ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt o golli David mor frawychus o sydyn. Gwerthfawrogwyd yr ymweliadau, galwadau ffôn, cardiau a chyfraniadau yn fawr iawn. Casglwyd £485 tuag at elusen Ambiwlans Awyr. Rhodd £10.00

Iddon ------------------------------------------Gobeithir cynnwys teyrnged i Evan Edwards, Parc Isa, yn ein rhifyn nesaf.

Trefnwyr Angladdau

• Gofal Personol 24 awr • Capel Gorffwys • Cynlluniau Angladd Rhagdaledig

Heol Dulyn, Tremadog. Ffôn: 01766 512091 post@pritchardgriffiths.co.uk 13


Pen-blwydd Hapus

Mae’r gyfrol ‘Caneuon Ffydd’ yn ugain oed eleni. Mae’r casgliad wedi bod yn un derbyniol iawn ac wedi cael croeso gan yr eglwysi, a gwell na hynny, wedi cael defnydd helaeth iawn ganddynt hefyd. Yn y Traethodydd yn Ebrill 2001, dywedodd y Dr Brynley F Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Golygyddol Caneuon Ffydd fel hyn: ‘Antur enbyd yw llunio llyfr emynau; antur ddwbl enbydus yw rhyfygu paratoi llyfr emynau a thonau’. Gwir iawn, mae’n siŵr, ond credaf mai ychydig iawn fyddai’n dweud na fu hi yn antur lwyddiannus. Bellach mae gennym gyfrol ardderchog Delyth G Morgans, sef ‘Cydymaith Caneuon Ffydd’ i roi inni gefndir a hanes yr emynau a’r tonau i’n helpu i ganu’r trysorau sydd gennym ac i gyfoethogi’n profiad ohonynt. Gofynnodd rhywun i mi y dydd o’r blaen beth fuasai’n digwydd pan ddaw dydd Caneuon Ffydd i ben, hynny yw pan fydd y gyfrol wedi mynd yn rhy hen-ffasiwn a chenhedlaeth newydd o emynau ar gael ar gyfer yr addoliad. Mae’n debyg erbyn hynny mai canu gyda’n ffonau symudol y byddwn ac nid o lyfr traddodiadol ond pwy a ŵyr? Wrth lunio llyfr newydd mae’n siŵr y byddai’n rhaid cyfrannu at iechyd y blaned trwy ddefnyddio llai o bapur ac wrth wneud hynny ollwng ambell i emyn i’w golli. Mae yna sawl un gennym yn awr y byddwn i yn ddigon bodlon ei luchio trwy’r ffenest!

14

Un o’r rhai hyn ydi emyn 50. Dyma’r pennill cyntaf: ‘Down i’th wyddfod, Dduw, kwmbayah, down yn unfryd, Dduw, kwmbayah, i’th foliannu, Dduw, kwmbayah, O Dduw, kwmbayah’. Bu adeg y bu’r emyn hwn yn eitha ffasiynol ac yn sicr mae yn hawdd i’w ganu ac yn wir o dynnu pob ‘kwmbayah’ allan o’r penillion, mae’r gweddill yn gwneud rhywfaint o synnwyr. Ond be ydi ystyr y Kwmbayah yma tybed? Credaf y gallwn ddiystyru cwestiwn un blaenor o Lŷn a ofynnodd i’r gweinidog un Sul, “Deudwch i mi, Mr Jones, lle mae’r Cwm Ba Ia yma? Roedd y wraig `cw yn meddwl mai yn Sir Drefaldwyn mae o, ond tydw i ddim mor siŵr”. Yn ôl y Cydymaith, ystyr ‘kwmbayah’ ydi ‘dere fan hyn’ neu ‘tyrd fan hyn’ yn yr iaith Gullah. Iaith ydi hon a siaredir yn Georgia a De Carolina yn yr Unol Daleithiau. Clywais esboniad arall hefyd, sef mai llygriad ydi’r ymadrodd o’r Saesneg ‘come by here’. Yn naturiol ddigon, nid oes gen i ddim byd yn erbyn ieithoedd lleiafrifol ond gofynnaf i mi fy hun a ydi’r ‘kwmbayah’ yma yn talu am ei le. Yr hyn sydd yn fy nharo yw nad ydi pennill cyntaf yr emyn yn gwneud synnwyr. Mae’r emynydd yn dweud ei fod gydag eraill yn dod i wyddfod Duw yn unfryd i’w foliannu. Digon teg. Ond yn yr un pennill, mae yn gofyn i Dduw bedair gwaith i ddod heibio ei wyddfod, sef ei gartref. Felly, o ddilyn rhesymeg, mae’r addolwyr yn barod yn nhŷ Dduw ac yn gofyn iddo sawl gwaith alw heibio. Nid wyf yn amau diffuantrwydd neb ond mae yna rywbeth od iawn yma. Rwyf wedi sôn o’r blaen am emynau od iawn neu annheilwng sydd wedi canfod eu ffordd i’r Caneuon Ffydd. Un emyn sydd wedi goroesi ei ddefnyddioldeb ydi emyn rhif 30: ‘Glan geriwbiaid a seraffiaid fyrdd o gylch yr orsedd fry mewn olynol seiniau dibaid

canant fawl eu Harglwydd cu...’ Mae’r emyn yn rhoi’r hen ddarlun traddodiadol o’r nefolion leoedd gyda’r angylion yn hedfan hyd a lled y coridorau yn canu ac yn canu i dragwyddoldeb. Mae`r syniad yn ddigon diarth i ni heddiw er ein bod ni yn lled gofio bod y Rhodd Mam yn dweud bod y Nefoedd yn lle ‘gogoneddus a hyfryd’. Cyfieithiad ydi’r emyn gan Alafon (1847–1916) o emyn yr Esgob Richard Mant (1776–1848) ac wedi ei seilio, mae’n debyg, ar weledigaeth Eseia yn y chweched bennod o’i broffwydoliaeth. Bu Mant yn esgob yn Iwerddon ac roedd yn hoff o ddefodaeth a rhwysg yn yr addoliad a gellir gweld sut y byddai golygfa fel hyn yn apelio ato. Ond ar fy ngwir, alla i ddim gweld darlun o sŵ nefol fel hyn yn ychwanegu at gyfoethogi ein profiadau ysbrydol ni heddiw. Efallai dylem roi’r gair olaf i blentyn bach flynyddoedd yn ôl oedd wedi cael y pennill cyntaf o’r emyn hwn i’w adrodd adeg deud adnod yn oedfa’r bore ond ei fod wedi geirio braidd yn flêr: “Glan geriwbiaid a jiraffiaid ...” Chwarae teg iddo fo. Roedd o’n gwneud hen gystal synnwyr â’r Esgob Mant am a wela i. JBW

Clwb Ffermwyr Ifanc Ardudwy Mae hi’n gyfnod ail-ddechrau cyfarfodydd Mudiad y Ffermwyr Ifanc ym Meirionnydd ym mis Medi. Nid yw Clwb Ardudwy wedi bod yn weithredol ers tua 4 mlynedd bellach. Ysgrifennaf hwn yn Llais Ardudwy rhag ofn bod gan rhywun ddiddordeb mewn ailafael yn yr awenau a chwilio am aelodau newydd. Gallwch ymaelodi wedi i chi gyrraedd oed ysgol uwchradd. Gwelir nifer o fanteision, cymdeithasu cefn gwlad, gweithgareddau amrywiol, megis chwaraeon, cystadlaethau, crefftau, barnu stoc, a llawer mwy. Os oes gennych ddiddordeb, gallwch gysylltu gyda mi: morfuddlloyd@gmail.com


HYSBYSEBION

Telerau gan Ann Lewis 01341 241297 ALAN RAYNER

ALUN WILLIAMS

ARCHEBU A GOSOD CARPEDI

GALLWCH HYSBYSEBU * Cartrefi YN Y * Masnachol BLWCH HWN * Diwydiannol Archwilio a Phrofi AM £6 Y MIS

07776 181959

Sŵn y Gwynt, Talsarnau www.raynercarpets.co.uk

NEAL PARRY Bwlch y Garreg Harlech

Llais Ardudwy

TRYDANWR

Ffôn: 07534 178831

e-bost:alunllyr@hotmail.com

CYNNAL A CHADW TU MEWN A THU ALLAN 07814 900069

Drwy’r post Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr llaisardudwy@outlook.com E-gopi llaisardudwy@outlook.com £7.70 y flwyddyn am 11 copi

CAE DU DESIGNS DEFNYDDIAU DISGOWNT GAN GYNLLUNWYR

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru

Tafarn yr Eryrod

JASON CLARKE

Bwyd cartref blasus Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad a golchi llestri. 01766 770504

Llanuwchllyn 01678 540278

Maesdre, 20 Stryd Fawr Penrhyndeudraeth LL48 6BN

GWION ROBERTS, SAER COED 01766 771704 / 07912 065803

gwionroberts@yahoo.co.uk dros 25 mlynedd o brofiad

Glanhäwr Simdde • Chimney Sweep Glanhäwr Simdde

Stryd Fawr, Harlech Gwynedd LL46 2TT

Gwasanaeth Cadw Llyfrau a Marchnata

01766 780239

ebost: sales@caedudesigns.co.uk

Dilynwch ni:

Oriau agor: Llun - Sadwrn 10.00 tan 4.00

E B RICHARDS Ffynnon Mair Llanbedr 01341 241551

CYNNAL EIDDO O BOB MATH Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

Am argraffu diguro

Gosod, Cynnal aaChadw Stôf Stôf Gosod, Cynnal Chadw Stove Installation & Maintenance 07713703 703222 07713 222

H Williams

Talybont Ceredigion SY24 5HE www.ylolfa.com

Holwch Paul am bris! paul@ylolfa.com

01970 832 304

Gwasanaeth cynnal a chadw yn eich gardd Ffôn: 01766 762329 07513 949128

Am hysbysebu yn Llais Ardudwy? Manylion gan: Ann Lewis Min-y-môr Llandanwg, Harlech LL46 2SD 01341 241297

15


LLANFAIR A LLANDANWG Colli Eddie Ddiwedd Awst bu farw Eddie Williams, gynt o 6 Derlwyn. Cyn ei salwch roedd Eddie’n gyfarwydd i lawer yn yr ardal a thu hwnt gan ei fod yn gyrru cerbyd y Cambrian Cleaners am flynyddoedd lawer. Cydymdeimlwn yn fawr â’i frodyr Ken, David, Humphrey ac Emyr a’u teuluoedd, a’i ffrindiau i gyd yn yr ardal. Eisteddfod Dolgellau 1949 Wedi inni gynnwys erthygl am Steddfod Dolgellau ym mis Mehefin, cyflwynodd Gary Hall, 4 Haulfryn becyn inni oedd yn cynnwys rhestr testunau’r Eisteddfod a chopïau o’r Cymro ar Awst 5 ac 12, 1949. Hyfrydwch i’r golygydd yw nodi cyswllt agos iawn â Sir Fôn gan enillydd y goron [John Eilian] a’r gadair [Rolant o Fôn] yn yr eisteddfod honno! Diolch Dymuna Aled (Sgwal), Iago, Enlli, Gruff, Tŷ Nanney, Tremadog, teulu Llanfair a Dyffryn Ardudwy ddatgan eu diolch am bob cymorth a negeseuon yn ystod salwch byr Siân. Hefyd, pob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth trwy dderbyn dros 350 o gardiau a llu o negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol ym mis Mehefin eleni. Diolch a rhodd £10 Merched y Wawr Gwion Llwyd fydd y gŵr gwadd ar Hydref 5 am 7.00 yn Neuadd Llanfair. Croeso cynnes i aelodau newydd. Cydymdeimlo Anfonwn gydymdeimlad at Carol a Mike Beavis, Ceg y Bar ar golli mam Carol. Roedd yn byw yn Barnsley, Sir Efrog. Rydym yn meddwl amdanoch. Mae Carol yn un o’n dysgwyr brwd.

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR Llongyfarchwyd Osian Edwards a’i wraig Mererid ar enedigaeth merch fach. MATERION YN CODI Llinellau Melyn ger gorsaf Llandanwg Mae’r conau erbyn hyn wedi eu cadw un ar ben y llall. Bydd y Cyng Annwen Hughes yn cysylltu gydag Iwan ap Trefor i ofyn a yw hyn wedi cael ei wneud yn swyddogol. Maes Parcio Llandanwg Roedd y Cyng Annwen Hughes yn falch bod Cyngor Gwynedd wedi ailfeddwl yn dilyn trafodaeth ymhlith rhai cynghorwyr allweddol. Bydd y cynghorydd lleol yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa dros y misoedd nesaf. Ar ran y Cyngor diolchodd Mair Thomas i’r Cyng Annwen Hughes am weithredu ar y mater hwn mor sydyn ac am gael Swyddogion Cyngor Gwynedd i ailedrych ar y taliadau parcio. CEISIADAU CYNLLUNIO Beudy Allt y Môr, Llandanwg Caniatâd Adeilad Rhestredig i drosi Adeilad Amaethyddol yn uned gwyliau gan adeiladu estyniad cyntedd ochr gorllewin, unllawr a waliau cerrig to llechi newydd lleol. Cefnogi’r cais hwn ond bod yr aelodau yn bryderus nad yw hi’n ymddangos bod rhybudd o’r cais cynllunio wedi ei osod ger y safle. GOHEBIAETH Ms Rosy Berry Derbyniwyd e-bost gan yr uchod yn gofyn a fyddai’r Cyngor yn gallu edrych eto ar y mater o osod llinellau melyn wrth orsaf Llandanwg a giât Ymwlch. Cytunwyd i ymateb gan ddatgan ei fod yn fwriad gan y Cyngor i barhau gyda’r cynllun o osod y llinellau melyn hyn. Pen-blwydd arbennig Ar 2 Medi mi oedd Mrs Beryl John, Bryn Celyn, 14 Derlwyn, Llanfair, yn dathlu pen-blwydd arbennig. Gobeithio i chi gael hwyl fawr ar y dathlu gyda’ch teulu a’ch ffrindiau i gyd yn yr ardal. Diolch Mae Beryl John, Derlwyn, yn diolch o galon i’r teulu a ffrindiau oll am y cardiau, galwadau ffôn ac anrhegion a dderbyniodd ar achlysur ei phen-blwydd. Diolch yn fawr. Rhodd £10

Anhwylder. Anfonwn ein cofion at Mrs Hefina Griffith, 2 Llwyn y Gadair sydd heb fod yn dda yn ddiweddar. Mae yn Ysbyty Gwynedd ar hyn o bryd. Gobeithiwn y caiff ddod adra cyn bo hir.

Y SWYDDFA BOST

O Medi 3, bydd gwasanaeth eang gan y swyddfa Bost yn Neuadd Goffa Llanfair ar ddydd Gwener rhwng 12:15 a 13:45.

Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd Tel: 01341 247799

www.smithygarage-mitsubishi.co.uk smithygaragedyffryn

smithygarageltd

Er cof Diolch am y rhodd o £15 er cof am Mrs Pam Richards, Y Foel gynt, gan Kath, Jean, Linda a’r teulu. Dathlu Bydd Maureen, Bryn Tanwg, Llanfair yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed ar Medi 10.

16

Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes


Y cerddor John Howell Williams

Eglwys Fethodistaidd Grand Avenue, Milwaukee, Wisconsin

John Howell Williams, gynt o Harlech

Brodor o Harlech oedd J Howell Williams, a anwyd ger muriau yr hen gastell, ar 9 Tachwedd 1857. Yno y treuliodd flynyddoedd ei ieuenctid yn dringo ei dyrrau hanesyddol. Collodd ei rieni pan oedd ef yn blentyn, ac nid oedd yn cofio dim am ei fam. Addysgwyd o dan hyfforddiant y brodyr Morris Jones (Meurig Idris) a Jones John (Idris Fychan), y cyntaf o’r ddau wedi bod yn ysgolfeistr yn Harlech. Chwarelwr llechi yn Blaenau Ffestiniog oedd ei alwedigaeth, ac yno clywodd nid yn unig synau morthwylion a chynion ond synau mwy ysbrydoledig cân a barddoniaeth. Yn ystod ei fywoliaeth yn Ffestiniog, priododd â Mary (1851-1909), merch i Robert ac Ellen Jones, yr Henllys, Pwllheli. Ganwyd iddynt chwech o blant. Wedi byw am amser byr ym Mhwllheli a Harlech (yn byw yn Cambria House, Llandanwg), ym mis Ebrill 1882, ymfudont i’r Unol Daleithiau ac ymsefydlont yn Republic, Michigan, lle buont yn aros am bedair blynedd. Yr oedd yna fwynglawdd haearn ar y pryd. Y symudiad nesaf oedd i Wisconsin, prif ddinas fasnachol y dalaith. Cafodd John Howell waith fel postmon am lawer o flynyddoedd yn Milwaukee. Yr oedd wedi bod yn

arweinydd cerddorol yn yr Eglwys Brotestanaidd yn Republic. Teimlai yn ddyledus am ei ddoniau cerddorol i’r Band of Hope yn ôl yn Harlech gynt, a roddodd gychwyn da iddo i ddatblygu mor llwyddiannus yn y cylchoedd cerddorol yn Wisconsin. Bu’n arweinydd côr yn eisteddfod y ddinas, a hefyd yn ninas Racine, ddeg milltir ar hugain i ffwrdd. Ar ôl ei fuddugoliaeth yn y lle olaf, cafodd ei anrhegu â $100 gan aelodau ei gôr, fel gwerthfawrogiad o’i wasanaeth iddynt. Bu hefyd yn arwain côr o hanner cant o leisiau yn Eglwys Fethodistaidd Esgobol Grand Avenue, yn Milwaukee. Bu Mary, ei briod, farw 2 Mehefin 1909 yn Milwaukee, yn 51 mlwydd oed. Bu’n aelod dichlynaidd bron ar hyd ei hoes gyda’r Methodistiaid Calfinaidd. Bendithiwyd hi â llais clir a soniarus, a bu’n ddefnyddiol iawn gyda chaniadaeth y cysegr. Gweinyddwyd yn ei hangladd gan

y Parchedigion Robert Vaughan Griffiths (1842-1913), Milwaukee, gynt o Ddolwyddelan; Owen O Jones (1854-1933), West Allis, Wisconsin, un o deulu yr Hendref, Dolwyddelan; a John E Jones. Ar 30 Mehefin, 1911, ail-briododd John Howell â Laura (1865-1948), merch o Gapel Curig, Arfon. Bu John Howell farw ddydd Iau, 26 Chwefror 1932, yn ei gartref yn stryd North Galena, Milwaukee, yn 74 mlwydd oed. Yr oedd un o’u plant, Robert L Williams (1881-1922) yn feddyg poblogaidd yn Wisconsin. Addysgwyd ef yng Ngholeg Ripon (1905) a Choleg Meddygol Jefferson, adran o Brifysgol Thomas Jefferson, yn Philadelphia. Gwasanaethodd fel meddyg yn Pine River, Green Lake, Milwaukee, Wales Center, Statesan a Plymouth, oll yn Wisconsin. Priododd â Grace E Parrish (18831940). W Arvon Roberts

R J WILLIAMS Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU IZUZU

17


Bessie Williams, y Crydd, a’r Sgidiau Dringo Mynyddoedd ac Anturiaethau Eraill Yr oedd gweld y llun o Bessie Williams, y crydd yn Llanbedr flynyddoedd yn ôl, yn Llais Ardudwy (Mawrth 2021) ac wedyn yr erthygl amdani gan Aldwyth yn y rhifyn diweddaraf (Ebrill 2021), wedi tanio atgofion o’r adeg imi fynd ati i geisio cael esgidiau dringo mynyddoedd. Mewn ychydig wythnosau ar ôl inni golli ein mam yn Ionawr 1959, daeth cymhelliant cryf ac awydd i grwydro ymhell ac i lefydd eraill ar wahân i’r Bala a Phenygroes, lle oedd rhai o’r teulu yn byw. Roeddwn hefyd yr adeg hynny, mewn ffordd, yn crefu i gael anturiaethau a gwneud pethau heriol a chyffrous mewn mannau eraill o’r wlad neu wledydd gwahanol. Cefais ganiatâd fy nhad i fynd i Wersyll yr Urdd yng Nglanllyn, ger y Bala, dros bythefnos yn yr haf. Doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl i ddechrau. Ond y pwrpas oedd i ddysgu i fod yn hyfforddwr mewn dringo, cerdded a chrwydro, hwylio a chanwio ar Lyn Tegid ymhlith pethau eraill. Roedd tua hanner dwsin o unigolion wedi cyrraedd y lle gyda’r un gobaith. Beth bynnag, ar ôl diwrnod o wneud fawr ddim fe gyhoeddodd y pennaeth mai y ffordd orau i ddysgu oedd drwy inni fynd i’r Alban i wersylla, crwydro a dringo mynyddoedd yno. I ffwrdd â ni i gyd gan wasgu tu mewn i gar Hillman a fan Austin fach. Ar ôl teithio drwy’r dydd a chyrraedd lle gyda’r nos ar lan Loch

Yn y simnai (chimney) ar y darn (pitch) uchaf o’r Milestone Buttress, Tryfan

18

Tulla (ger Bridge of Orchy), codi pebyll a disgyn i mewn yn llythrennol, wedi blino’n lân ar ôl y daith hir. Cael amser a thywydd ardderchog yn y dyddiau canlynog, crwydro a dringo llawer yn Glencoe a Glen Nevis. Gorffen ar gopa Ben Nevis a minnau ar dop y trigpoint a’r Ddraig Goch yn cyhwfan yn y gwynt cyn inni ddychwelyd i Glanllyn. Nid wyf yn cofio pa fath o sgidiau oedd gennyf ond gwn mai nid rhai gan Bessie oeddynt! Os ydw i’n cofio, yr haf wedyn fe gefais waith yn y maes carafanau yn Nhal-ybont a chael digon o arian i brynu beic gan Joseff yn y garej yn Dyffryn. Roedd yn feic rasio coch a’i bris yn ugain punt. Ar ddiwedd y gwyliau haf, cynllunio a threfnu mynd gyda Martin Rimmer, cyfaill ysgol o’r Penrhyn, ar y trên i lawr i Aberystwyth efo’r beics yn y guards-van ac ychydig o ddillad yn y saddle bags ac aelodaeth o’r YHA. Yna seiclo ar hyd arfordir Bae Ceredigion i Sir Benfro. Cyrraedd un hostel nad oeddynt yn paratoi bwyd a gorfod prynu torth, menyn a selsig, munudau cyn i’r siop gau, a’u coginio nhw ein hunain. Ffrio’r selsig yn y menyn a’i fwyta efo tafell dew o’r bara. Yn sâl ofnadwy y bore wedyn! Yna seiclo ymlaen dros yr wythnos ganlynol gan ddilyn arfordir de Cymru yr holl ffordd drwy Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd i Gas–gwent (Chepstow). Wedyn troi tua’r gogledd ar hyd dyffryn afon Hafren am ddau diwrnod a chyrraedd yr Amwythig ac aros noson yn y hostel enfawr YHA yno. Troi tua’r gorllewin ac aros y noson olaf yn Llangollen ac adref drwy Corwen, Bala a Dolgellau. Roedd yn haf poeth iawn ond yn antur gwerth chweil. Y flwyddyn ganlynol, roedd gennyf uchelgais i wneud rhywbeth gwahanol. Roeddwn wedi clywed am fachgen yn Ysgol Ardudwy o’r enw Nicholas Gough o Minffordd a sôn ei fod yn ddringwr craig ardderchog ac wedi arloesi llwybrau cyntaf i fyny creigiau Tremadog. Cael sgwrs hefo Nicholas a dod i wybod fod ei dad, Ray Gough, yn un o hoelion wyth Clwb Dringo Porthmadog ac yn gweithio ym maes awyr Llanbedr. Dyna’r gobaith wedyn oedd ymuno â’r clwb a mynd allan efo nhw a dysgu sut i ddringo creigiau. Mewn ychydig ddyddiau, daeth dyn o’r enw John Murray i’r drws ffrynt ym

Modafon a gofyn amdanaf. Roedd wedi clywed ac yn deall fy mod eisiau ymuno â Chlwb Dringo Porthmadog. Cefais wybod mewn amser fod Mr Murray yn gweithio gyda Ray Gough yn y maes awyr ac hefyd yn perthyn i’r Clwb Dringo. Roedd yn lletya mewn bwthyn yn Llanfair ac yn ddigon agos ac yn barod i roi lifft imi i gyfarfodydd y Clwb. ‘What about this Saturday?’ gofynnodd, ac fe ddywedais imi gytuno ar ôl i’m tad roi caniatâd yn y fan a’r lle. Y cwestiwn wedyn oedd, ‘Have you got some climbing boots? Can you get some? See you Saturday then”. Ar ôl troi at fy nhad ei eiriau nesaf oed.’ ‘Gwell iti fynd a chael gair efo Bessie Williams a hwyrach y gall hi gael sgidiau iti.’ Dyma fynd i weld Bessie a gofyn os oedd yn gwerthu sgidiau dringo. Edrychodd arnaf yn wirion gan ofyn beth oeddwn am ei wneud efo esgidiau dringo! Eglurais fy mod wedi ymuno â Chlwb Dringo Porthmadog ac roeddwn angen sgidiau addas. Trodd Bessie ei phen ac edrych am amser ar y dwsina o silffoedd o gwmpas y siop cyn estyn ystol hir a gofyn am faint fy nhraed. Dringodd i fyny i’r silff uchaf o dan y nenfwd y siop grydd a dod i lawr gyda bocs cardboard gwyn anferth. Agor y bocs a dyma bar o sgidiau ‘gwaith’ yn lledr du gyda chriau hir lledr. Ar sodlau’r sgidiau roedd dwsinau o hoelion mawr mewn rhesi a phedolau haearn ar hyd y ffrynt, ac hefyd rownd y sawdl ar y cefnau a chwaneg o hoelion yn y canol. Ar ôl eu trio nhw ar fy nhraed a cherdded ychydig o gwmpas y siop, doedd gen i ddim opsiwn ond eu prynu nhw a gobeithio am y gorau.

Aelodau’r Urdd ar y daith i’r Alban yn Dingo yn Glencoe


Daeth bore Sadwrn a John Murray yn galw acw yn ei fan Fiat fach i fynd i gyfarfod y Clwb Dringo. Dim ond pedair ffenestr i’r Fiat – y windsgrin, y ddau ddrws a’r drws cefn. Wedi eistedd yn yr unig sedd arall ym mlaen y fan, sylweddoli fod yna greadur du enfawr yng nghefn y fan oedd yn dechrau llyfu fy wyneb. Ci Labrador braidd yn dew a thrwm oedd o ac yn arogli yn ddrwg ac yn gollwng awyr afiach o’i ben ôl yn aml. Gyda fawr ddim awyr iach tu mewn i’r Fiat, roedd rhaid teithio gyda’r ffenestr i lawr a ’mhen allan yr holl ffordd. Mae’n debyg fod Mr Murray wedi dod i arfer hefo’r sefyllfa oherwydd soniodd o ddim gair am y cyflwr yn y fan! Yr oedd yn rhyddhad enfawr inni gyrraedd Cwm Ogwen a pharcio o flaen y llyn. Gadael y ci yn y Fiat gyda’r ffenestri ar agor. Yno yn barod roedd Nicky Gough a’i dad, Ray, gyda rhaffau a slings a carabiners. Yr oeddwn i gael cyflwynad cyntaf i ddringo craig Milestone Buttress ar odre mynydd Tryfan: Cleim V. Diff. (Very Difficult) ac addas i un yn cychwyn dringo medda nhw! Wel rhaid cyfaddef imi grynu ychydig ar y ffordd i fyny a llithro yn aml am nad oedd yr hoelion ar y sgidiau a’r pedolau ar y blaen yn gafael yn dynn ar yr holds neu jug-handles (disgrifiad dringwyr ar lenau enfawr i gael gafael ar y graig yn ddiogel). Ar y darn neu pitch uchaf y ddringfa hon mae crac llydan neu simnai (chimney) yn estyn rhyw bymtheg troedfedd i fyny o’r silff a thua dwy droedfedd ar draws a step o ryw chwe troedfedd i gyrraedd ei waelod cyn ceisio dringo i fewn ac i fyny drwy’r lle. Braidd yn anodd i ddechrau ond gyda rhaff dew wedi ei rhwymo o amgylch fy nghanol ac i Nicky fod yn bileo uwchben (belay – wedi clymu ei hun i’r graig) nid oedd yn bosib disgyn drwy’r holl ymdrech. (Gweler y llun cyntaf.) Ar ôl y cychwyn fel hyn ar Tryfan fe aeth sgidiau Bessie Williams am lawer o deithiau ac i fyny llawer craig dros y ddwy neu dair blynedd wedyn. Dringais ar greigiau Cwm Idwal (Idwal Slabs), Clogwyn y Teirw (Gribin Facet) a Chegin y Cythraul (Devil’s Kitchen), creigiau Tremadog ac ar greigiau y Moelwynion uwchben Llyn Stwlan ar ochr Ffestiniog. Hefyd, roedd llawer o gerdded mynyddoedd yn ogystal â dringo creigiau ac ar lawer o’r teithiau ac anturiaethau roedd Mr Murray wedi rhwymo ei gi gyda rhaff ac yn ei ddilyn gydag ef i bobman nad oedd rhaid i fynd ar dir serth iawn. Yn aml ar y teithiau hyn, roedd dyn o’r enw Showell Styles

Ar gopa mynydd gyda Peter Habeler (ar y chwith) yn y Zillertal Tyrol, Awstria, 1965 efo ni ac roedd yntau yn perthyn i Glwb Dringo Port. Roedd yn byw yn yr hen Swyddfa Bost yng Nghroesor ac roedd yn enwog fel mynyddwr, wedi dringo yn Norwy, yr Himalaya a llawer gwlad arall. Roedd yn y Llynges Brydeinig yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac wedi ysgrifennu llaweroedd o ethyglau a llyfrau ar anturiaethau a dringo mynyddoedd. Pawb yn ei alw yn ‘Pip’ ac mewn amser roeddwn yn un o ‘Pip’s Boys’ gyda dau neu dri o fechgyn ifanc eraill yn y Clwb Dringo. Ac, wrth gwrs, i fod yn ddringwr yn Llanbedr, nid oedd bosib peidio sylwi ar y creigiau yn estyn i fyny ac sydd yn edrych dros y pentref y tu ôl i’r ysgol gynradd. Yr adeg honno, roedd cors yr ochr arall i wal yr ysgol a thu hwnt roedd coedwig isel ar y llethr i fyny i waelod y creigiau a llwybr cyhoeddus yn rhedeg rhyngddynt. Ar y dde y Graig Fawr ac ar y chwith y Graig Fach. Roedd yn fy ngwaed i roi tro ar ddringo Graig Fawr yn enwedig. Ar ôl edrych ac astudio arweddau y graig ar lawer ymweliad ac ymdrech, fe lwyddais un diwrnod braf, a’r graig yn sych, i ddringo ac agor ‘route’ yn ‘solo’ (fel mae dringwyr yn ei ddweud) ar un ochr i wyneb y graig i fyny i’r top. Rwyf yn cofio roedd teulu Howie o Talgarreg yn edrych ac yn gweiddi arnaf dwy’r holl ymdrech. Dwi ddim yn siŵr os oedd sgidiau Bessie yn rhan o’r ymdrech ar y dydd y tro yma ac ni chefais gyfle i ailadrodd y gamp. Hefyd wnes i ddim rhoi nodiadau am y ‘route’ - ond byddaf yn barod i ddangos y lle i unrhyw berson sydd eisiau cael cyfle i ddringo un ffordd i fyny wyneb Graig Fawr! Fe gyfaddefodd rhai o aelodau’r Clwb

Dringo eu bod wedi chwerthin yn aml ar y sgidiau anaddas oedd gen i bob tro yr oeddwn yn dringo ynddynt ond, ar y llaw arall, yn rhyfeddu ar y modd imi ddysgu dringo ynddynt. Hefyd roeddent (yr aelodau ac eraill) yn ddiolchgar yn y diwedd imi gael gwared ohonynt oherwydd fod bob jug-handle ar greigiau gogledd Cymru efallai wedi eu gwisgo i lawr yn smŵdd ganddynt. Erbyn yr amser imi adael Ysgol Ardudwy, roedd y dringo wedi ymestyn dros lawer lle yng Nghymru a phan gychwynnais yn y coleg yn Lerpwl roedd gorfodaeth arnaf wedyn i gyfnewid sgidiau hoelion mawr Bessie Williams am rai modern a gyda ‘Vibram soles’ a oedd yn well am gripio craig na sgidiau Bessie druan! Unwaith yno galw yn siop Ellis Brigham yn Bold Street, Lerpwl a (byw yn beryglus) yn chwythu £25 o grant y coleg ar bâr o sgidiau dringo newydd sbon o’r Eidal gyda sodlau Vibram. Drwy’r amser yn y coleg, a gweithio ar y bysiau yn ngwyliau’r haf i gael arian, cefais siawns i fynd i ddringo yn yr Alpau yn Awstria ac yn y Swistir. Y tro hwn yn gwisgo yr esgidiau dringo o’r Eidal a phriodol ac addas i fynd mewn eira a rhew gyda chrampons arnynt. Ar un adeg wrth ymuno â dringo gyda Chlwb Alpin Awstria, cefais gyfle i ddringo yn yr Zillertal Tyrol yn 1965 yng nhwmni dyn ifanc or enw Peter Habeler (o Mayrhofen, Awstria). Roedd yr adeg hynny yn dysgu i fod yn arweinydd mynydd swyddogol (Alpine Mountain Guide). Daeth yn enwog flynyddoedd wedyn fel yn un o’r rhai cyntaf i ddringo Everest yn 1978 gyda Reinhold Messner heb ddefnyddio ocsigen. Mae yn dal yn fyw ac wedi dringo ledled y byd, yn athro prifysgol ac wedi sgwennu llawer o lyfrau ar ddringo a mynydda. Dros y blynyddoedd, mae wedi cyflwyno rhaglenni ar y cyfryngau ar fynydda yn gyffredinol. Fe ddringodd wyneb gogleddol yr Eiger yr ail waith yn 2017 pan yn 74 mlwydd oed efo dringwr o’r enw David Llama! Doedd dim gobaith imi geisio cario ymlaen a bod yn ddringwr cymharol oherwydd fe ddaeth gwraig a phlant a gwaith fel peiriannydd strwythurol i’m cadw’n brysur! Rhaid cofio, felly, mai gyda Sgidiau Dringo Bessie Williams y dechreuodd hyn oll. Diolch iddi hi ac am siop y crydd yn Llanbed a ddaeth i’m hachub pan oedd angen. Tybed oes mwy o ferched yn dilyn yr alwedigaeth bellach? Alun Owen

19


DAWNSWYR BALE

Credir bod y lluniau hyn wedi’u tynnu yn gynnar iawn yn y 70au, yn ôl pob tebyg yn 1971 neu 1972.

Y ddwy ferch hŷn yn y llun cyntaf yw Glynis a Wendy Parkinson.

Yn yr ail lun, fi (Julie Badham) ar y chwith tua 4-5 oed gyda fy chwaer ar y dde, Linda Badham tua 12 oed.

Yn y llun grŵp, yr athrawes ar y dde yw Anti Muriel, ac un o’r merched ar y chwith oedd y pianydd. Dwi ddim yn siŵr pwy yw’r merched i gyd yn y llun grŵp (ond fi yw’r un o flaen ac i’r dde, Julie Badham bryd hynny [Julie Brookes, Tymhorau a Rhesymau]. Y drydedd o’r chwith yn y rhes ôl yw Wendy Parkinson, y ferch sy’n bedwerydd o’r chwith yw fy chwaer, Linda Badham, a’r ferch yn ail o’r chwith yw Glynis. 12 oed. Tynnwyd y llun yn y Neuadd Goffa, Harlech. Julie Brookes

PWYSIGRWYDD Y LLYTHYRXN GOLL Xr bod y typxwriter sydd gennym yn hxn, max yn gwxithio yn dda ond am un o’r llythrxnnau. Max yn wir bod yna bedwar deg a chwxch o lythrxnnau sydd yn gwxithio,ond max un llythrxn nad ydy hi’n gwxithio yn gwnxud gwahaniaxth. Hwyraah y buasxch yn dwxud wrth xich hunan, na’i ddim gwnxud nac amharu ar unrhyw gynllun. Ond y max yn gwnxud gwhaniaxth i gylch o gymdxithasau, ac yn amharu ar xu dxalltwriaxth o anghxnion cymdxithas. Y tro nxsaf yr ydych yn mxddwl mai dim ond un unigolyn di-nod ydych, nxu yn ddibwys ac wnxith neb xich colli, cofiwch am yr hxn typxwriter a dywxdwch wrthoch xich hun, unigolyn cyffrxdin ydwyf yn y pxntrxf ac fxl llawxr xraill max angxn xin cxfnogaxth i gynnal gwxithgarxddau y gymunxd ac max cyfraniad yr unigolyn mor bwysig fel ydych yn gwxld pan max un llythrxn y typxwriter yn amharu ar wxddill y gwaith, ac yn xu gwnxud yn ddibwys. Max un llais drwg yng nghanol côr yn xu wnxud yn boxnus i wrando arno. Cofiwch hxfyd bxth all un afal drwg xi wneud yng nghanol yr afalau yn y gasgxn. Mae’n rhaid i’r unigolyn wnxud xi orau bob amsxr i’r gymdxithas nxu fydd y diffygion i’w gweld yn amlwg fel max y llythyrxn E yn amlwg yn ei habsxnoldxb yn y llith yma. Les Darbyshire

Pererindod Eglwys Horeb, Dyffryn Ardudwy

Wedi methu â threfnu ein taith llynedd, roedd pawb yn awyddus i fynd ar bererindod eleni! Bore Sul, Gorffennaf 4ydd, aeth nifer dda o’r aelodau am Fallwyd. Bu Arfon Hughes (Teithiau Cerdded Dyfi) yn ein tywys o gwmpas Eglwys Sant Tydecho a Rheithordy Mallwyd. Cawsom hanes Dr John Dafis a fu’n Rheithor ym Mallwyd o 1604 hyd ei farwolaeth yn 1644 - ei bwysigrwydd fel ysgolhaig a chyfieithydd i’r iaith Gymraeg a’i ddylanwad ar fywydau trigolion yr ardal yn ystod y cyfnod. Cawsom hefyd ddetholiad o nofel y diweddar Barchedig Gwynn ap Gwilym, ‘Sgythia’, sydd wedi’i seilio

20

ar fywyd Dr John Dafis er mwyn cael naws y cyfnod. Wedi paned a chyfle i gael sgwrs dros baned yng ngardd Y Brigands Inn, aeth pawb ymlaen am Gregynog, cartref y Chwiorydd Davies, fel yr adnabyddwyd Gwendoline a Margaret Davies, wyresau y diwydiannwr David Davies a fu mor flaenllaw yn creu canolfan gelfyddydol yn yr hen blasdy. Er i’r tywydd droi’n wlyb fe lwyddodd pawb i fynd am dro o gwmpas y gerddi - rhai yn bellach na’r lleill!! Mwynhawyd lluniaeth yn y caffi cyn troi am adre gyda phawb o’r farn eu bod wedi gwerthfawrogi cael cymdeithasu unwaith eto.


HARLECH Cofion Dymuniadau gorau gan deulu a ffrindiau yn yr ardal i Mair Lloyd, Rock Terrace, Harlech yn dilyn ei arhosiad yn yr ysbyty yn ddiweddar. Gobeithio eich bod yn teimlo’n well erbyn hyn. Hefyd, ein cofion ati ar gyrraedd pen-blwydd arbennig ym mis Mehefin eleni.

Llongyfarchiadau i Gwyn Anwyl, Bryn Awel gynt, a Meinir Williams, Llangwyllog ar eu priodas ddiweddar yn Sir Fôn. Byddant yn ymgartrefu ym Maenaddwyn ger Llanerchymedd.

Colli Mags Cydymdeimlwn â theulu’r ddiweddar Margaret E Roberts (Mags i’w chyfeillion a’i theulu), Waterloo House, Harlech, gynt, a fu farw ar 28 Gorffennaf eleni mewn cartref nyrsio ym Mhorthmadog. Yn wraig i’r diweddar Bill, bydd colled ar ei hôl i aelodau’r teulu sy’n dal i fyw yn ardal Harlech a’i theulu ehangach. Cydymdeimlad Cydymdeimlwn â Beryl Williams, Tŷ Canol ar farwolaeth ei mam sef, Blodwen Williams, Plas Gwyn, Pentrefelin, gynt o Bro Islyn, Trawsfynydd.

Mi fydd y pedwar cyn-ddisgybl uchod o Ysgol Tanycastell yn dathlu eu penblwyddi yn 50 oed eleni. Llongyfarchiadau i Eurig Hughes, Barry Naylor Williams, Gwyn Edwards a Julian Owen.

TOYOTA HARLECH

Geni Llongyfarchiadau i Llion Lloyd-Kerry a Lowri Roberts, Min-y-Ddôl ar enedigaeth Deio Llŷr ar Gorffennaf 30. Diolch i bawb am y cardiau, y pres ac anrhegion i Deio Llŷr. Rhodd i Llais Ardudwy Mrs Bethan Johnstone £10

Capel Jerusalem

Medi 12 Parch Iwan Llewelyn Jones am 3.30.

Eglwys Rehoboth,

Medi 26 Gŵyl Ddiolchgarwch am y cynhaeaf am 2.00. Croeso cynnes i bawb.

COROLLA HYBRID NEWYDD

Dewch i roi cynnig ar yrru’r Corolla newydd! Mae ’na ganmol mawr i hwn! facebook.com/harlech.

Ffordd Newydd Harlech LL46 2PS 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@harlech.toyota.co.uk Twitter@harlech_toyota

CYMDEITHAS ARDDIO HARLECH

Bydd y Sioe Glan Gaeaf yn digwydd fel arfer ar y 6ed o Dachwedd yn y Neuadd Goffa

21


Sefydlu Ysgol Feithrin Harlech Cafodd yr Ysgol Feithrin ei sefydlu yn 1981 gan Ann Evans, perchennog Central Garage, Harlech a Dr Pam Michael (wedi dysgu Cymraeg) o Penderyn, Harlech. Roedd Ann yn gadeirydd a Pam yn drysorydd ac yn ysgrifenyddes. Roeddynt yn cynnal yr Ysgol Feithrin yng nghartref Pam gyda Jean Pugh o Harlech yn eu cynorthwyo. Roedd tua 5 o blant yn mynychu sef Elfed ac Iwan, efeilliaid Ann Evans, Eluned, merch Pam Michael a dau o blant i fyfyrwyr Coleg Harlech. Penderfynwyd ar ôl dau fis bod rhaid cael lle mwy addas i gynnal yr Ysgol Feithrin a chafwyd caniatâd i ddefnyddio ystafell y Clwb Ieuenctid yn Hen Ysgol Harlech. Ar ôl cofrestru’r ystafell gyda Gwasanaethau Cymdeithasol, symudwyd yno ar ôl Nadolig 1981. Penodwyd Mair Richards, Llanbedr, fel athrawes a’r rhieni yn ei chynorthwyo. Drws nesa i ystafell yr Ysgol Feithrin roedd y PPA yn cyfarfod a’r grŵp Mam a’i Phlentyn a’r ddwy Ysgol Feithrin a’r PPA yn edrych ar ei gilydd drwy ffenestr y drws, teimlwyd nad oedd hyn yn ddelfrydol i’r Ysgol Feithrin na’r PPA, a’r PPA yn ei chael hi’n anodd cael athrawes ddwyieithog felly peth doedd fyddai cael cyfarfod agored gyda’r ddau sefydliad yn yr Hen Lyfrgell ar ddiwedd Tachwedd 1982 dan gadeiryddiaeth y Tad Deiniol. Canlyniad i’r cyfarfod oedd bod y PPA yn uno gyda’r Ysgol Feithrin ac yn trosglwyddo eu hoffer a’u harian i’r Ysgol Feithrin ac y bydd yr Ysgol Feithrin yn symud i ystafell y PPA gyda chaniatâd y Cyngor Sir. Penodwyd y canlynol yn swyddogion i bwyllgor llawn cyntaf yr Ysgol Feithrin

Ysgol Feithrin Harlech 1994 Anti Carol, Anti Karen, Anti Helen, Anti Julie, Anti Glynis gyda’r plantos 1994 am y flwyddyn 1982-83: Cadeirydd – Ann Evans Is-gadeirydd – Helen C Williams Ysgrifennydd – Janet Mostert Is-ysgrifennydd – Doreen McDermot Trysorydd – Anna Atkins Mam a’i Phlentyn – Ann Barnard Cytunwyd y byddai’r rhieni i gyd yn aelodau llawn o’r pwyllgor. Staffio Ychydig iawn o newid a fu mewn arweinyddion i’r Ysgol Feithrin dros gyfnod o ugain mlynedd. Mair Richards 1981-1992 Helen C Williams 1983-2001 Carol Evans 1993-2002 grŵp iau Bu llawer o gymorthwragedd yn yr Ysgol Feithrin hefyd: Elizabeth Johnson, Ann

Ysgol Feithrin Harlech 1986 Anti Mair ac Anti Katie gyda’r plantos

22

Evans, Katie Pattenden, Ifanwy Jones, Manon Pierce, Hefina Griffith, Kath Richards, Julie Jones, Rhian Lumb, Karen Kerry, a Glynis Evans a oedd yn gweithio am dros 9 mlynedd yn yr Ysgol Feithrin. Hefyd, cafwyd cymorth amrhisiadwy llawer iawn o rieni fel bo’r angen ar hyd y blynyddoedd. Ystadegau Cynyddwyd yr oriau dros y blynyddoedd o 4 awr yn 1981 i 15 awr yn 1991 oherwydd nifer y plant yn cynyddu. Roedd rhaid cael dau grŵp, plant iau a phlant hŷn gan gynnwys sesiwn drwy’r dydd i’r grŵp hŷn yn nhymor yr haf pan oedd yn mynd i Ysgol Tanycastell. Er gwybodaeth, mynychodd 223 o blant yr Ysgol Feithrin o fis Medi 1982 i fis Medi 1992, 83 yn Gymry ac 140 o ddysgwyr. Dyfodol Mae’r Ysgol Feithrin/neu’r Cylch Meithrin yn Harlech fel y gelwir hi heddiw wedi sicrhau addysg Gymraeg i blant o dan 5 oed ers bron i 40 o flynyddoedd drwy gyflwyno gweithgareddau diogel, hwyliog a boddhaol. Mae diolch enfawr i’r holl rieni Cymraeg a’r di Gymraeg ac mae’n bwysig bod y rhieni Cymraeg yn argyhoeddi’r sawl nad ydyn nhw’n gwerthfawrogi manteision addysg ddwyieithog i’r blynyddoedd i ddod. Crynodeb o weithgareddau Ysgol Feithrin Harlech o 1981-2001 Tripiau’r Ysgol Feithrin o 1983-2000 ’84 Rheilffordd Ffestiniog


Gwion Llwyd yn cyflwyno cot i’r Ysgol Feithrin a wnaeth ar gyfer ei arholiad CDT yn Ysgol Ardudwy, Mehefin 1986 ’84 Rheilffordd Ffestiniog ’85 Fferm Wningod Llanystumdwy 1990, 91-92 Butlin’s, Pwllheli 2000 ymlaen, fferm Cae Cethin, Llanfair. Pawb o’r plant a’r rhieni yn mwynhau. Carnifal Harlech 1983-87 Thema ’83 - Arch Noa Thema ’85 – Dawns werin Thema ’86 – Picnic Huwcyn Thema ’87 – ‘Yr hen wreigan yn byw yn yr esgid’. Nid oedd digon o frwdfrydedd ar ran rhieni i gymryd rhan a dyna ddiwedd ar y carnifal. Nadolig Dau Siôn Corn hynod o dda fu gan yr Ysgol Feithrin o’r 80au a’r 90au oedd Richard Evans, cyn-brifathro Tanycastell, a Caerwyn Roberts, fferm Merthyr. Gofalai’r pwyllgor am anrheg i bob plentyn yn cynnwys Ti a Fi (mam a’i phlentyn). Nosweithiau cymdeithasol Nadolig a diwedd tymor yr haf yn Yr Ogof, Llew Glas a’r Castle Cottage i’r rhieni Ysgol Feithrin a Ti a Fi hefyd; cynrieni yn cael gwahoddiad.

Rhan yr Ysgol Feithrin yng ngweithgareddau rhanbarth Meirion 1983 Miri Meirion yn Ysgol Ardudwy 1986 Boco a Bim Cwmni’r Frân Wen, Bermo 1987 Cwmni Crwban yn y Bermo 1989 Cwmni Cortyn yn Harlech 1991, 1992 Canu noddedig ym Maes Artro gydag Arwel Griffiths o slot Meithrin a Carys Huw, Cwmni’r Frân Wen 1999 Super Ted a Sali Mali yn fferm Cae Cethin, Llanfair Codi arian Gwnaed amryw o weithgareddau, er enghraifft, boreau agored a chyngerdd, dartiau noddedig, nofio noddedig, sioe ffasiynau, golchi ceir, nosweithiau coffi, stondin drwy’r haf ym Marchnad Harlech ar y Sul, raffl ac yn y blaen. Rhoddion gan Gyngor Cymuned Harlech a Llanfair, rhoddion materol a rhoddion gan gymdeithasau lleol eraill; gwerthfawrogwyd yn fawr. Cymryd rhan mewn Eisteddfodau 1983-2000 - Eisteddfod Harlech. Plant yn cystadlu ar y canu a’r adrodd, hefyd

Anti Carol yn fferm Cae Cethin. Rhan o weithgaredd Mudiad Ysgolion Meithrin 1999 – pawb i ddod â’u ‘Tedi’

Eisteddfod Genedlaethol Bro Madog 1987, y bechgyn gydag Anti Mai ac Anti Gwen ym Mhasiant Mudiad Ysgolion Meithrin yn y Theatr Fach arlunio. 1987 – Eisteddfod Genedlaethol Bro Madog. 10 o blant yn cymryd rhan ym Mhasiant Mudiad Ysgolion Meithrin yn Theatr y Maes gydag Anti Mair ac Anti Gwen yn cynorthwyo. 1997 – Eisteddfod Genedlaethol Y Bala. 17 o blant yn cymryd rhan ym Mhasiant Mudiad Ysgolion Meithrin yn Theatr y Maes a Anti Helen, Anti Carol ac Anti Glynis yn cynorthwyo. Roedd ein diolch yn enfawr i’r rheini am eu cymorth o flaen llaw ac ar y diwrnod; mwynhawyd y diwrnod yn fawr iawn gan bawb.

Carnifal Harlech 1987 Thema: Hen wreigan yn byw yn yr esgid. Pennill gan Mair, chwaer Hefina Griffith, Llanfair; Anti Mair, athrawes gyda’r plant Diolch i Helen Williams, Ty’n Ffordd, Harlech am anfon yr erthygl a’r lluniau atom. Ymddiheurwn na allen ni gynnwys rhagor o luniau. Mae dyled yr ardal yn fawr iawn i Helen a’i chyfeillion am eu gwaith gwiw dros nifer o flynyddoedd. [Gol.]

23


YSGOL TALSARNAU Roedd diwedd tymor yr haf yn llawn bwrlwm yn Ysgol Talsarnau! Er gwaethaf cyfyngiadau Covid-19 llwyddwyd i drefnu gweithgareddau hwyliog hefo’r plant. Trefnwyd teithiau cerdded ar gyfer bob blwyddyn ysgol yn yr Adran Iau ar y cyd â disgyblion Cefn Coch. Crwydro o gwmpas Rhydddu wnaeth disgyblion B3 a mwynhau ychydig o waith maes ar lan Llyn y Gader. Roedd taith B4 fymryn yn fwy heriol; cerdded o Ryd-ddu i Feddgelert. Unwaith eto dyma daith addysgiadol a chyfle i ymgysylltu hefo byd natur a mwynhau’r ardal odidog o’u cwmpas. Cafwyd bore egnïol iawn ddiwedd y tymor wrth i’r holl blant fwynhau cystadlu yn y Mabolgampau blynyddol. Roedd hi’n rhyfedd heb gynulleidfa ein rhieni eleni ond rhoddodd y plant o’u gorau wrth gynrychioli eu tai: Tecwyn, Gelli a Soar. Ar ddiwedd y bore cyhoeddwyd mai’r tŷ buddugol oedd Soar. Llongyfarchiadau fil i holl aelodau’r tŷ ac i bob plentyn am gymryd rhan a mwynhau eu hunain wrth wneud hynny!! Fel anrheg diwedd tymor trefnwyd syrpreis neis i’r plant. Prynhawn Gwener gyntaf mis Gorffennaf daeth fan hufen iâ i’r ysgol a chafodd pob plentyn ac oedolyn ddewis hufen iâ a mwynhau pob tamaid ohono yng ngwres cynnes yr haul. I gloi gweithgareddau’r flwyddyn trefnwyd parti i ddiolch i ddisgyblion B6 am eu cyfraniadau a’u cyfeillgarwch dros y blynyddoedd yn Ysgol Talsarnau. Bydd yn chwith ffarwelio hefo Cai, Ceri, Elsi a Seren ar ddiwedd y tymor. Mae wedi bod yn bleser eu haddysgu a bod yn eu cwmni. Dymuniadau gorau i chi yn Ysgol Ardudwy ar ddechrau’r tymor newydd.

PÊL-DROÊD

A sôn am fis Medi pan fydd pawb yn dod yn ôl i’r ysgol byddwn yn llongyfarch Miss Katie Chambers, athrawes y Cyfnod Sylfaen, ar ei phriodas hefo Mr Cai Hughes. Dymuniadau gorau i’r ddau gan bawb yn Ysgol Talsarnau.

24

Llongyfarchiadau i Guto Anwyl o Ysgol Talsarnau ar gael ei ddewis am dreialon gyda sgwad pêl-droed ysgolion Gwynedd. Mae’n chwarae i Benrhyndeudraeth a Chaernarfon.


CYNNIG ATEB I BROBLEM TAI HAF

Un llyfr ddaru mi ei fwynhau yn ystod y cyfnod clo oedd hunangofiant y cynAelod Seneddol, Elfyn Llwyd ‘Betws a’r Byd’ a gyhoeddwyd gan y Lolfa. Roedd Elfyn yn ennyn parch ei gydaelodau o ba bynnag blaid, ac o ddarllen ei hanes ddaru mi ryfeddu at y swmp o waith a syrthiai ar ddesg yr Aelod Seneddol gweithgar o Gymru. Cafodd Elfyn nifer fawr o gyfrifoldebau ar bwyllgorau dylanwadol, a gyda’i wybodaeth eang o’r gyfraith, roedd ei farn ar faterion yn ymwneud â’r cyfansoddiad a materion rhyngwladol yn ddefnyddiol iawn. Un stori amserol iawn a ddenodd fy sylw i yn arbennig oedd ymdrech gan Elfyn yn 1998 i geisio rheoli’r nifer o dai haf a gwyliau yng Nghymru. Rhywbeth a oedd yn amlwg yn achosi problemau mawr bryd hynny, ac wedi datblygu yn wir argyfwng erbyn heddiw. Roedd y cynnydd yn y nifer o dai haf a thai gwyliau yng Nghymru yn poenydio llawer ar etholwyr Meirionnydd bryd hynny, yn arbennig felly pobol ifanc gan iddynt grefu arno am gael newidiadau, fel y caent fyw yn eu bröydd. Roedd y dadleuon yn ingol a phoenus pan gyflwynodd Elfyn fesur 10 munud yn y Senedd yn Ebrill 1998 i geisio lleddfu’r sefyllfa. Cafodd y Mesur gefnogaeth aelodau o sawl plaid. Roedd rhai, wrth gwrs, yn ceisio dweud ei fod yn wrth-Seisnig, ond ystyriai Elfyn hynny yn nonsens. Soniai am un aelod Llafur o’r Gogledd, sef Betty Williams, a geisiodd ddarbwyllo pobl bod Elfyn yn wrth-Seisnig, a hithau bryd hynny, yn ôl Elfyn, yn eistedd yn ôl yn hapus mewn etholaeth a honno’n doreithiog o dai haf ac ail gartrefi. Roedd y mesur a luniodd Elfyn yn debyg iawn i’r galwadau am newid yn y gyfraith rydan ni’n eu clywed heddiw gan lawer, a hynny 23 mlynedd yn ddiweddarach. Yn ôl y mesur a luniod Elfyn ni allai unigolyn brynu tŷ fel tŷ gwyliau mewn ardal heb wneud cais cynllunio am newid defnydd i’w droi yn dŷ rhan amser. Yn y mesur roedd dyletswydd ar bob awdurdod cynllunio - Cyngor neu Barc Cenedlaethol - i ddynodi’r ganran dderbyniol o dai haf a ganiateir yn eu hardaloedd. Yr ystyriaethau oedd yr effaith yr oedd tai haf yn ei gael ar iaith a diwylliant yr ardaloedd, a’r angen i gadw’r ardal a’r gymuned yn hyfyw ac yn fyw - i weld ffyniant siopau, ysgolion, capeli, eglwysi ac ati. Wedi dynodi’r ganran arbennig fel rhan o’r polisi, yna ni fuasai’n bosibl

prynu tŷ gwyliau mewn ardal lle’r oedd y ganran wedi cyrraedd y nifer y cytunwyd arno. I Elfyn roedd y mesur yn gwneud synnwyr a’r broses yn rhoi hyblygrwydd lleol. Ond yn anffodus doedd o ddim i’r gwrthwynebwyr hynny oedd yn fwriadol yn ei gamddehongli, neu yn achos un neu ddau, ddim yn ei ddeall chwaith. Roedd Elfyn yn bendant nad oedd tras y person a fydda’n holi am dŷ yn berthnasol – doedd dim ots a ddeuai o Gaerdydd neu o Gaerloyw! Yn anffodus, ni chafodd y Mesur ei dderbyn ond mi gafodd Elfyn sgwrs gyda Michael Meacher AS oedd yng Nghabinet Tony Blair, ac mi roedd ef o blaid y Mesur. Trafodwyd Mesur Elwyn hefyd yn y Cabinet a’r un oedd yn dra gwrthwynebus oedd y sosialydd mawr, John Prescott - yr Arglwydd Prescott erbyn heddiw. Cred Elfyn, fel sawl un arall, bod y grym a’r gallu heddiw yn bodoli yn ein Senedd yng Nghaerdydd i weithredu, ac mi fuasai Elfyn wrth ei fodd petai un o’r Aelodau yno’n mabwysiadu’r mesur, ac

yn gweithredu. Mae Elfyn wedi ymddeol ers 2015 ac, fel y gwyddom, mae’r sefyllfa dai wedi gwaethygu yn sylweddol, a’r cyfle i newid pethau 23 mlynedd yn ôl wedi ei hen golli. Tybed sawl tŷ sydd wedi ei golli i’r gymuned trwy ei droi yn dŷ haf ers hynny? Sawl unigolyn ifanc sydd wedi torri calon ac wedi gorfod symud o Gymru i fyw? Yn ddiweddar mae’r Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd wedi penderfynu ymgynghori [unwaith eto] a fydd yn esgus dros osgoi gwneud dim [unwaith eto] ac yn y cyfamser mae’r anghyfiawnder cymdeithasol yn mynd o ddrwg i waeth. Mae digon o dystiolaeth bod gwledydd eraill wedi gallu gweithredu, hyd yn oed yn Ardal y Llynnoedd yn Lloegr. Os na wneir rhywbeth yn fuan iawn bydd yn rhy hwyr, a chaiff ein cymunedau gwledig, a phopeth a ystyriwn yn werthfawr ynddynt, eu dinistrio. O P Huws, Nebo Cynghorydd Cymuned Llanllyfni

NEUADD LLANBEDR

Yn araf deg mae bywyd yn dychwelyd i rywbeth tebyg i’r hyn yr arferai fod cyn i’r feirws ein taro. Mae rheolau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn golygu ei bod yn bosib cynnal cyfarfodydd yn y Neuadd ac mae rhai sy’n mwynhau gwau yn cyfarfod yn wythnosol. Mae’r neuadd wedi asesu risg ac wedi mabwysiadu rheolau i atal y posibilrwydd o ledaenu Covid-19. Cysylltwch â neuadd.llanbedr@outlook.com neu 01341 241391 os ydych yn ystyried cynnal gweithgaredd cymunedol. Er bod yn bosib iddynt ddefnyddio’r Neuadd mae’r Côr Cymunedol wedi gwrando ar y neges bod cyfarfod yn yr awyr agored yn fwy diogel ac yn ymarfer y tu allan. Yn y llun fe’i gwelir yn mwynhau canu yn yr heulwen. Prif nod y Côr hwn ydi mwynhau eu hunain yn canu. Os am ymuno yn yr hwyl, cysylltwch â d.j.p.gunn@gmail.com (01766 762491).

25


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL GRADDIO ATGOFION AM GAPEL NANTCOL Mewn rhifyn diweddar o Llais Ardudwy, cafwyd hanes atgyweirio Capel Cwm Nantcol gan Morfudd yr Hendre. ’Chydig wedi hynny, aeth Peter a minnau gyda ffrind i fyny’r Cwm am sgiawt a daeth Morfudd i’n cyfarfod i agor y capel er mwyn i ni gael gweld y gwaith. Roedd yn hyfryd ei weld yn edrych mor dda a diolch i Morfudd am yr amser difyr a gawsom wrth hel atgofion! Cefais rhyw bwl o hiraeth wrth fynd i mewn i’r Capel bach y diwrnod hwnnw wrth ddychmygu’r teuluoedd ffyddlon yn eistedd yn y seddau gweigion o Sul i Sul. Roedd cymdeithas glos yng Nghapel Cwm Nantcol, nid yn unig yn y capel ond hefyd yn ystod yr wythnos ac ar adegau arbennig o’r flwyddyn pan fyddai yn amser golchi defaid, cneifio, diwrnod injian ddyrnu a byddai dwylo parod i helpu bob amser pan fyddai unrhyw un mewn helbul. Yn ystod y clo, daeth Anna Wyn ar draws dyddiadur ein Mam ac ynddo cofnododd yr amser pan fu Dad yn wael yn ’sbyty Llandudno yn nechrau 1960. Mor werthfawr oedd y gefnogaeth a gafodd gan ffrindiau’r Cwm a pherthnasau eraill i ymgodymu â gwaith y fferm a’i chludo i Landudno i weld Dad a hithau heb fedru dreifio yr adeg honno. Mae’r côf yn frith o hanesion sy’n adlewyrchu’r berthynas glos oedd gennym â’n gilydd yn y Cwm. Difyr oedd yr amser sgwrsio wrth dindroi y tu allan i’r capel ar ddiwrnod braf a’r gog yn canu’i gora glas wrth droed y Foel Wen. Doedd neb ar frys i fynd adra. Yn aml iawn, cafodd Anna Wyn a minnau wahoddiad i dê ar ôl yr oedfa bnawn i Faes y Garnedd neu Cilcychwyn, yna, cael ein hebrwng adra yn hwyr y pnawn. Cofiaf y tro hwnnw pan aeth Anna Wyn allan o’r car i agor un o’r giatau, i mi ddweud wrth Yncl Robat nad oedd Anna Wyn a finna am briodi ond am fyw efo’n gilydd r’un fath ac Anti Leah ac Anti Martha! Cynhaliwyd Ysgol Sul yn y boreau ac fe’n dysgwyd i gymryd rhan i agor y cyfarfod a’n dysgu i solffeuo’r caneuon newydd yn y Detholiad. Eistedd yr arholiad Sirol bob blwyddyn a dysgu adnodau ar y côf sydd yn dal wedi eu serio arno. Rhannwyd pawb i dri dosbarth; y babanod at Dodo Twllnant, y plant hŷn at Anti Glen, Cilcychwyn ac yna yr oedolion yng nghwmni Edward Edwards, Cilcychwyn. Ni chofiaf fawr am yr amser yn nosbarth Dodo Twllnant gan mai ifanc iawn oeddwn ond yr hyn a gofiaf amdani hi oedd ei gwên lydan bob amser a’i bod mor ffeind. Roedd gan Anti Glen ddawn arbennig o adrodd hanesion y Beibl a chofiaf hyd heddiw’r modd yr adroddodd hanes croeshoeliad Iesu Grist er mai wedyn y dois i ddeall arwyddocâd yr hanes arbennig hwnnw. Roedd dipyn o drafod yn nosbarth yr oedolion ac un atgof neilltuol sydd gennyf pan fu trafod ar yr emyn, ‘Mi dafla’maich oddi ar fy ngwar, wrth deimlo dwyfol loes’ gan Robert ap Gwilym Ddu. Cofiaf i’m tad roi pwyslais mawr ar y llinell gyntaf fel tae wedi cael gollyngdod gwirioneddol yn ei brofiad ei hun. Yn yr oedfa bnawn, caem ein dysgu i eistedd yn llonydd a gwrando! Byddwn yn dueddol o syllu ar bobl pan yn blentyn ac un cof sy gennyf yw o bregethwr yn tynnu ei hances fawr wen o’i boced, ei hysgwyd a sychu’i drwyn er nad oedd ganddo anwyd. Yna â’i ymlaen gyda’i bregeth ar ôl seibiant arwyddocaol! Ond roedd rhyw urddas yn perthyn i’r oedfaon hynny gyda’r pedwar blaenor yn llenwi’r seddau cyfyng wrth droed y pulpud. John Jones yr Hendre ar y chwith i’r pulpud gyda Dad ar yr un ochor. Yna Yncl Ifan, Graig Isa ar y dde i’r pulpud ac Edward Edwards, Cilcychwyn wrth ei ochor yntau. Byddai cyffro mawr i ni’r plant pan fyddem yn cael oedfa nos adeg Diolchgarwch neu ddechrau blwyddyn. Byddai pob teulu yn dod â lamp baraffîn i oleuo’r capel. Felly po fwyaf o deuluoedd, mwyaf o olau fyddai yn llewyrchu! Ambell waith yn ystod y cyfarfod byddai angen pwmpio chydig arnynt i’w cadw ynghynn. Yna arogli’r paraffîn a chlywed yr hishian distaw. Rwy’n hoff iawn o’r emyn ‘Wrth orsedd y Jehofa mawr, plyged trigolion byd i lawr...’ a’r emyn hwn a lediai Yncl Andro bob tro ar ddechrau blwyddyn. Mae yna le cynnes iawn yn fy nghalon wrth feddwl am Gapel y Cwm ac am y sail gadarn a gawsom yno yn ein blynyddoedd cynnar. Deallais bod llawer o deuluoedd ifanc yn byw yn y Cwm o hyd a’m gweddi yw y bydd capel bach Cwm Nantcol yn fan lle bydd y gymdeithas yn dod at ei gilydd unwaith eto i gael clywed am Iesu Grist. Lisbeth James

26

Llongyfarchiadau i Judith a’i mab Lloyd sydd wedi cwblhau cyrsiau tystysgrif athrawon. Fe fydd Lloyd yn dechrau ei swydd gyntaf ym mis Medi yn Ysgol Uwchradd Tywyn. Pob lwc i’r ddau.

Marwolaeth

Trist oedd clywed am farwolaeth Mike Balderstone, Arosfa, yn ddiweddar a hynny mor sydyn ar ôl colli ei wraig Meg. Cydymdeimlwn â Jo ei ferch a’r teulu i gyd yn eu colled.

Gŵyl Gwrw Llanbedr

Gyda thristwch mawr mae’r Pwyllgor wedi penderfynu canslo Gŵyl Gwrw Llanbedr eleni oherwydd ansicrwydd parhaus ynghylch cyfyngiadau Covid-19. Gobeithiwn weld pawb ar Medi 9-10, 2022.

CALENDR LLAIS ARDUDWY 2022 Yn siopau rŵan. Anrheg Nadolig Gwych! £5


GAIR I GALL Mi synnech faint sy’n anwybyddu’r dyddiad olaf ar gyfer derbyn deunydd i Llais Ardudwy bob mis. Sylwch ar y manylion ar waelod y golofn gyntaf ar y dudalen hon. Medi 26 yw’r dyddiad pwysig y tro nesaf. Mae’r gwaith cysodi yn mynd yn anodd pan fo newyddion hwyr yn cyrraedd.

HEB DANYSGRIFIO? Mae un cyfle olaf i’r rhai ohonoch sydd wedi anghofio adnewyddu eich tanysgrifiad, boed yn gopi papur drwy’r post neu yn e-gopi. Os na chlywn ni gennych yn fuan, byddwn yn cymryd nad ydych am barhau gyda’r trefniant. Mae llythyr atgoffa wedi ei gynnwys gyda’r papur hwn.

Cysylltwch â Dioni i siarad am eich bwthyn gwyliau Gwion Llwyd 01341 247200 gwion@dioni.co.uk BUSNES LLEOL ... CWSMERIAID BYDEANG

CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF

MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod

Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant PORTHMADOG 01766 512214/512253 60 Stryd Fawr

PWLLHELI 01758 612362 Adeiladau Madoc

ABERMAW 01341 280317 Stryd Fawr

office@bg-law.co.uk

Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd …

Llais Ardudwy Mae ôl-rifynnau i’w gweld ar y we. http://issuu.com/ llaisardudwy/docs neu https://bro.360. cymru/papurau-bro/

SAMARIAID LLINELL GYMRAEG 08081 640123

27


Siop Elinor Post, Dyffryn Ardudwy

Agored bob awr o’r dydd Dros 70 mlynedd yn ôl, roedd bywyd pentref yn troi o amgylch nifer fach iawn o siopau lleol a oedd yn cynnal bywyd bron yn gyfan gwbl. Trysorau ‘mân-werthu’ o’r fath oedd curiad calon pentrefi lle nad oedd teithio, onibai eich bod yn cerdded, i brynu angenrheidiau bywyd. Roedd y mwyafrif o siopau’n gwerthu eitemau penodol fel cig a bara neu amrywiaeth o fwydydd. Fodd bynnag, yn Nyffryn Ardudwy profodd un siop arbennig i fod yn fersiwn debyg iawn i’r gyfres deledu ‘Open all Hours’. Hon oedd Siop Elinor. Bu Elinor yn bostfeistres yn y pentref am gyfnod, wedyn trodd bron i hanner ei thŷ eang, Awelon, yng nghanol y pentref yn siop a gwerthu pob dim y gellir ei ddychmygu: o flowsys i gig moch, bananas i feiciau - a hyd yn oed gopïau o ganeuon ei brawd, y cerddor a’r beirniad eisteddfodol enwog, Meirion Williams. Ogof Aladin o le! Dechreuai diwrnod gwaith Elinor pan welid hi’n beicio’n dalog i lawr lôn y pentref i’r orsaf ar yr hyn y cyfeiriwyd ato fel beic dwy olwyn ‘sit up and beg’. Yma roedd yn codi’r ‘Daily Post’ a phapurau eraill. Ar ôl eu stwffio i’w basged dros yr olwyn flaen, byddai’n llywio ei chargo i fyny’r bryn i Awelon, gan ddanfon a sgwrsio gydag amryw o’r bobl leol yr oedd eu tai yn digwydd bod ar ochr ei llwybr yn ôl i’r siop. Er y gallai hyn nodi ‘dechrau’ ei diwrnod, ni ellid gwarantu ei bod, mewn gwirionedd, wedi bod yn cysgu. Prin y bu iddi gloi drws y siop! Roedd yn bosib i’r trigolion lleol brynu unrhyw eitem ar unrhyw adeg o’r dydd [neu hyn yn oed gyda’r nos]; y cyfan oedd yn rhaid ei wneud oedd codi’r glicied. Deuai Elinor wedyn o gefn y tŷ gan wenu’n groesawgar a rhoi sylw i anghenion cwsmer arall. Dyma yn

wir oedd siop oedd yn ‘agored ar bob awr’. Ganwyd yr unig ferch o deulu deallus a oedd yn ymddiddori mewn cerddoriaeth a chrefydd - fel y nodwyd, un brawd oedd y pianydd a’r cyfansoddwr adnabyddus, Meirion Williams a’r llall, John, canon yn yr Eglwys yng Nghymru. Roedd Elinor, fel y cyn-bostfeistres, yn nabod pawb yn yr ardal. Roedd fel gwyddoniadur ar gerdded - neu ar feic! Roedd yn storiwraig ddifyr ac yn gallu cyfathrebu’n naturiol.

Roedd ei chyfweliad ar y rhaglen ‘Cefn Gwlad’, a ddarlledwyd ar S4C ym 1986, yn tystio nid yn unig i’w diddordebau amrywiol ond hefyd i’w deallusrwydd helaeth a’i sgiliau adrodd stori cyfoethog. Yn y maes olaf hwn roedd Elinor yn wych ac, ar wahân i fynd yno i siopa, roedd y bobl leol yn mynd yno i fwynhau’r sgwrs flasus oedd i’w chael yn y siop a doedd fawr o neb yn poeni am yr amser ar y cloc. I fod yn hollol onest, ni welais erioed unrhyw siop debyg iddi ac ni welais unrhyw berchennog tebyg iddi - ac ni fu neb tebyg iddi ers y cyfnod euraidd hwnnw. Brenda E Turner

Siop Elinor Post, Dyffryn A

llywio Awelo rhai o’ digwy i’r siop

Er y ga diwrn mewn cysgu. siop! lleol b adeg o nos), y wneud

Deuai wenu’n anghe yn wir bob aw

Ganwy deallu cerddo nodwy a’r cyfa Willia Eglwy

Agored ar bob awr Dros 70 mlynedd yn ôl, roedd bywyd pentref yn troi o amgylch nifer fach iawn o siopau lleol a oedd yn cynnal

Llun: Llun:Marilyn MarilynJones Jones

am gyfnod, wedyn trodd Elinor Williams bron i hanner ei thŷ eang ‘Awelon’, yng nghanol y pentref yn

Roedd yn nab fel gwy ar feic ac yn g ei chyf ddarlle tystio eang o helaeth


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.