Llais mehefin 2014

Page 1

Llais Ardudwy 50c

CEFNOGWR Y FLWYDDYN

RHIF 431 MEHEFIN 2014

CLWB RYGBI YN ENNILL Y DWBL

Iwan Evans yn llongyfarch Gwynfor Williams

Tîm Clwb Rygbi Harlech yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Pwllheli o 17-5 yng Nghwpan Gwynedd. Nhw hefyd yw pencampwyr Cynghrair 3 y Gogledd. Dyma’r tymor mwyaf llwyddiannus yn hanes y Clwb.

Iwan Evans, un o hyfforddwyr Clwb Rygbi Harlech, yn llongyfarch Gwynfor Williams, Gwrachynys, Ynys, wedi iddo gael ei ddewis yn Gefnogwr y Flwyddyn am eleni. I gydnabod ei hir wasanaeth i’r Clwb Rygbi, cafodd Gwynfor hefyd y fraint o gyflwyno’r gwobrau yn y cinio blynyddol eleni. Mae rhagor o luniau a mwy o hanes y tymor gwych a gafodd y chwaraewyr ar dudalennau 8 a 9. Dymuna aelodau’r Clwb anfon eu cofion gorau at Gwynfor, a fu dan anhwylder ers tro.

LLWYDDIANT CANA-MI-GEI

Llongyfarchiadau enfawr i’r côr merched lleol, Cana-mi-gei, ar eu llwyddiant yn eu cystadleuaeth gyntaf erioed. Cynhaliwyd Gŵyl Gerdd flynyddol yn Ysgol King’s, Caer, ers sawl blwyddyn bellach, a phenderfynodd Ann Jones, yr arweinydd, y byddai’r côr yn cystadlu yn adran y corau merched ar ddydd Sadwrn, 17 Mai. Er i’r côr gychwyn yn blygeiniol am Gaer, yn anffodus torrodd y bws i lawr tua 10 milltir o leoliad yr Ŵyl a bu’n rhaid aros am gyfnod go hir am fws arall! Serch yr anffawd, llwyddodd y côr i gyrraedd mewn pryd i ganu eu dau ddarn o gerddoriaeth, Clodforaf Di gan Robat Arwyn, a Gweddi’r Arglwydd gan Albert Hay Malotte. Y beirniad oedd Yr Athro David Hoult, ac fe benderfynodd mai Cana-mi-gei oedd yn haeddu’r wobr gyntaf. Y wobr oedd Cwpan Stamford. Diolch i Ann ac i gyfeilydd y côr, Elin Williams, am eu holl waith. Yn cystadlu hefyd yn yr Ŵyl, a hynny ers sawl blwyddyn bellach, roedd Treflyn, gŵr Ann, a chafodd yntau gryn lwyddiant fel unawdydd. Arhosodd llawer o aelodau’r côr yng Nghaer y noson honno, a mawr fu’r dathlu.


Llais Ardudwy

HOLIADUR HWYLIOG

GOLYGYDDION

Phil Mostert

Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com

Anwen Roberts

Cae Bran, Talsarnau (01766 770736 anwen@barcdy.co.uk

Newyddion/erthyglau i:

Haf Meredydd

14 Stryd Wesla, Porthmadog (01766 514774

hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk

Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 thebearatminymor@btinternet.com

Trysorydd Iolyn Jones Tyddyn Llidiart, Llanbedr (01341 241391 iolynjones@Intamail.com

Casglwyr newyddion lleol

Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones(01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Ann Lewis (01341 241297 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 770736 Cysodir y rhifyn nesaf yn derfynol ar Gorffennaf 5 am 5.00. Bydd ar werth ar Gorffennaf 10. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn dydd Llun, 23 Mehefin, fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau.

2

Enw: Alun Williams Gwaith: Trydanwr yn Nhalaith Otago, Seland Newydd Man geni: Bangor Sut ydych chi’n cadw’n iach? Rhedeg bob diwrnod, pan mae’r corff yn caniatáu! Beth ydych chi’n ei ddarllen? Dim llawer o nofelau yn ddiweddar, darllen erthyglau ar y we, ychydig o bopeth, chwaraeon, technoleg, gwyddoniaeth, trafeilio.

Dywediadau am y Tywydd

Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Ar hyn o bryd ‘Person of interest’, rhaglen Americanaidd y maent yn ei dangos yma yn Seland Newydd. Ydych chi’n bwyta’n dda? Dwi’n mwynhau amrywiaeth o fwyd iach. Mae rhedeg bob diwrnod yn caniatáu bwyta rhai pethau sydd ddim mor iach! Hoff fwyd? Mae bwyd Eidalaidd o hyd yn dda. Rydw i hefyd yn hoff o bysgod. Hoff ddiod Coffi Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Unrhyw un sy’n cynnal sgwrs dda, a Janet a Phil pan maent yn ymweld â Seland Newydd! Pa le sydd orau gennych? Ar ben mynydd neu wrth y môr. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Roedd teithio o gwmpas Awstralia a Seland Newydd am ddwy flynedd yn dipyn o hwyl! Beth sy’n eich gwylltio? Pobol ddiamynedd ac sy’n anfoesgar. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Dibynadwy a llawn hwyl.

Pwy yw eich arwr? Anodd enwi un person - teulu a ffrindiau, y bobl dwi’n treulio amser hefo nhw. Beth yw eich bai mwyaf? Byw yn rhy bell o Gymru! Beth ydych chi’n ei gasáu mewn pobl? Ddim yn cadw at eu gair. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Bod yn fodlon ar yr hyn sydd gennyf. Eich hoff liw? Glas. Eich hoff flodyn? Cennin Pedr! Eich hoff fardd? Does yna ddim un yn dod i’r meddwl! Eich hoff gerddor? Arweinydd Côr Godre’r Aran! Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Rydw i’n hoffi pob math o gerddoriaeth o roc i electronig. Pa dalent hoffech chi ei chael? Dysgu ieithoedd yn gyflym! Eich hoff ddywediad? “If you don’t ask you don’t get!” Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Bodlon a mwynhau fy mywyd yn Seland Newydd ond angen dod adref i weld y gang!

MEHEFIN

Mis Mehefin, gwych os daw, peth yn sych a pheth yn law. Gwenau Mehefin, alltudiant bob drycin. Glaw Mehefin, cynnydd yr egin. Na chwsg Fehefin, rhag rhew fis Ionawr. Na feia dy egin, cyn ddiwedd Fehefin. Rhaid iddo frafio cyn troad y rhod, neu glaw a geir am y mis i ddod. Glaw gŵyl Ifan, andwyo’r cyfan. Ŷd yn ehedeg cyn Gŵyl Ifan a fedir yn Awst. Blodau’r mwyar ym Mehefin, bydd cynhaeaf cynnar wedyn.

Ysgol y Traeth enillodd y gystadleuaeth addurno ysgolion i groesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Gweler yr adroddiad ar dudalen 3.


Y BERMO A LLANABER Llwyddiant Llongyfarchiadau i ddau grŵp o ddisgyblion Ysgol y Traeth ar eu llwyddiant yn y cystadlaethau dylunio a thechnoleg yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Roedd eu gwaith wedi ei seilio ar y thema ‘Rhyfeddodau’. Yn y llun cyntaf fe welir gwaith Grŵp Brandon o B3/4, sef plant 7-9 oed oedd wedi creu model o awyren y brodyr Wright.

Yn yr ail lun, fe welir gwaith Grŵp Kane o B5/6, sef plant 9-11 oed, a luniodd fodel o Stadiwm y Mileniwm.

Dan anhwylder Anfonwn ein cofion at Oscar Jones, 2 Hillside, Stryd y Brenin Iorwerth, sydd wedi bod dan anhwylder ers sbel ac yn disgwyl triniaeth yn yr ysbyty. Mae llawer o dy ffrindiau yn cofio atat Oscar. Gwobrau Cigydd Enillodd David Jones, Siop y Cigydd ar y Stryd Fawr, bum gwobr gyntaf eleni yn y cystadlaethau i gigyddion lleol. Enillodd bedair gwaith am ei selsig ac ef hefyd enillodd am wneud ffagots. Llais Ardudwy ar werth Buasem yn falch iawn pe bai ein darllenwyr ffyddlon yn y Bermo yn dweud wrth eu cyfeillion bod y papur ar werth yn y Siop Gig. Newyddion Cofiwch bod modd i chi adael newyddion neu hysbys hefo David yn y Siop Gig. Rhodd Diolch i’r Parch R W Jones am y rhodd o £1.50 i’r Llais.

Llais Ardudwy CLUDO’R PAPUR

Mae pwyllgor Llais Ardudwy yn chwilio am bobl fedr helpu i gludo’r papur o’r Lolfa yn Nhal-y-bont, ger Aberystwyth, a’i rannu i siopau’r ardal. Rydym yn fodlon talu costau teithio o 25c y filltir. O gael rhyw dri neu bedwar, neu hyd yn oed fwy, i wneud y gwaith, ni fuasai hyn wedyn yn mynd yn waith rhy feichus i unrhyw un. Mae’n golygu gwaith o rhyw 4-5 awr.

CALENDR 2015

Rydym hefyd yn chwilio am set o 13 llun o’r ardal er mwyn creu Calendr 2015. Rhowch wybod os teimlwch y gallwch ein helpu.

Llwyddiant Ysgol y Traeth

Enillodd Ysgol y Traeth gystadleuaeth addurno ysgolion i groesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i Feirionnydd. Cafodd pob ysgol ym Meirionnydd gyfle i gystadlu ac Ysgol y Traeth ddaeth i’r brig. Roedd pob dosbarth wedi gwneud addurniadau ond fe wnaeth blwyddyn 5 a 6 200 o grysau-T ‘clymu a llifo’ coch, gwyn a gwyrdd i bob plentyn yn yr ysgol eu gwisgo ar y diwrnod. Digon o waith iddynt! Roedd seremoni wobrwyo ar Faes yr Eisteddfod yn Y Bala ar ddydd Mawrth y 27ain ym mhabell Cyngor Gwynedd ac enillwyd camera digidol.

COFGOLOFN JOSÉ MARTÍ

Bûm ar wyliau yn Cuba beth amser yn ôl a phan o’n i yno mi es i i weld cofgolofn José Martí. Dyn diddorol iawn oedd José Julián Martí Pérez (1853-95). Roedd yn arwr ymhlith pobl ei wlad ac yn ddyn pwysig o safbwynt llenyddiaeth De America. Yn ystod ei fywyd byr roedd yn newyddiadurwr, athronydd, cyfieithydd, bardd, athro prifysgol a chyhoeddwr. Roedd yn weithgar yn y frwydr i ennill annibyniaeth Cuba oddi wrth Sbaen. Dyma rai o’i ddywediadau fel y’i gwelsant nhw wedi eu cerfio ar ei garreg fedd. Plant yw gobaith y byd. Rhaid i’ch cartref a’ch ymddygiad fod yn lân. Nid yw gogoniant dyn yn gyflawn heb wên merch. Mae dau fath o ddyn, y sawl sy’n caru ac yn creu, a’r sawl sy’n casáu ac yn difa. Mae’n rhaid ildio i ennill buddugoliaeth. Mae maddeuant yn fuddugoliaeth. Mae gronyn o farddoniaeth yn gallu rhoi blas ar ganrif. Mae’r byd yn gryf a phrydferth oherwydd cyfeillion. Mae ffos o syniadau yn fwy gwerthfawr na ffos o gerrig. Tawelwch yw gwyleidd-dra cymeriadau mawr. Er mwyn bod ar y blaen i eraill, rhaid i chi fedru gweld mwy na nhw. Rhaid esgyn i’r mynyddoedd os ydych am gael eich gweld o bell. Mae gohirio yn golygu peidio penderfynu. Mae popeth wedi ei ddweud, ond mae pethau’n newydd os ydyn nhw’n ddidwyll. Addysgu yw’r peth harddaf a’r peth mwyaf anrhydeddus yn y byd. Os heuwch ysgolion byddwch yn medi dynion. Mae’n bechod i beidio gwneud yr hyn a allwch. AMJ

3


LLANFAIR A LLANDANWG Brysiwch wella Gobeithiwn fod Mair M Williams, Glennydd, yn cryfhau ar ôl cwympo yn ei chartref yn ddiweddar a chael ei chludo i Ysbyty Gwynedd. Mae hi bellach wedi dod i Ysbyty Alltwen. Merched y Wawr Canolfan Cwmni Seren, Blaenau Ffestiniog oedd y lleoliad ar gyfer cyfarfod mis Mai. Prif nod Seren yw cynnig gwasanaethau cyflogi proffesiynol i bobl sydd ag anableddau dysgu fel y gallant fyw yn annibynnol a gweithio a chymdeithasu yn naturiol o fewn eu cymuned. Roedd Linda ac Adelyn yng Nghylch yr Efail yn aros amdanom a chawsom gyfle i weld y gwaith arbennig sy’n cael ei wneud cyn i ni symud ymlaen i’r ganolfan ddodrefn, Siop Seren Waverley, ac ymlaen â ni wedyn i Westy Seren yn Llan Ffestiniog. Roeddem i gyd wedi ein llonni gyda brwdfrydedd, bwrlwm a sêl Linda ac Adelyn dros eu cenhadaeth. Mae Gwesty Seren yn cynnig gwyliau mewn llety moethus i bobl sydd ag anableddau dysgu, eu gofalwyr a’u teuluoedd. Mae yno ystafelloedd synhwyraidd, crefftau, hydrotherapi ac ystafell gemau. Cawsom ein tywys o gwmpas y gwesty cyn eistedd i wledda. Dyma noson arbennig iawn a phawb yn rhyfeddu at y weledigaeth o sefydlu cwmni ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Bronwen ddiolchodd ar ran y gangen am y lletygarwch a’r croeso. RHODD I’R LLAIS - £50 Diolch am y rhodd o £50 er cof am Iorwerth Simon gan ei nith Nia [a Dyfrig Jones], Bangor.

ar y drydedd nos Fawrth yn y mis am 7.00 o’r gloch Croeso i ddechreuwyr.

Deunod y gog Ar ddydd Iau, 10 Ebrill clywodd Margiad a Gwenno y gog yn canu ar fferm Cilybronrhydd. Tybed ai dyma’r cofnod cynharaf o ddeunod y gog yn ardal Ardudwy eleni? Cofion Anfonwn ein cofion at Mrs Gwyneth Roberts, Uwchglan, sydd wedi bod dan anhwylder.

Neuadd Bentref, Llanbedr

ARDDANGOSFA A CHYFLE I FYNEGI BARN Mehefin 5 12.00 hyd 8.00 Cyfle i fynegi barn am y cynllun i wella mynediad i’r Ardal Fenter [Maes Awyr, Llanbedr]

TRACTORAU ERYRI

Peirianneg Amaethyddol Atgyweirio Prynu a gwerthu Gwerthu darnau ac olew Gwasanaeth symudol Arbenigwyr Valtra/MF/John Deere

07961 800816 01766 770932

William, James a Laurence Hooban 01766 549130 07540 530248 07979 353348

info@dyffrynirondesign.co.uk jameshooban@hotmail.co.uk

Uned 146, Maes Awyr Llanbedr, Gwynedd LL45 2PX

4

GYRFA CHWIST

YMGEISYDD LLAFUR

CYNLLUN HAEARN DYFFRYN Gwarantir gwaith o safon

TORRI GORIADAU

Neuadd Goffa, Llanfair

Cyhoeddiadau Caersalem

Dewiswyd Mary Griffiths Clarke yn ymgeisydd Llafur ar gyfer etholiad Senedd Westminster yn 2015. Daw Mary o deulu ffermwyr a magwyd hi yn Llanbedr. Dywed ei bod eisoes yn codi ymwybyddiaeth am yr angen sydd yn Nwyfor Meirionnydd am swyddi, help i fusnesau bach ac i’r anabl.

Am 2.15 oni nodir yn wahanol MEHEFIN 8 Br Marc Jon Williams 15 Parch Tecwyn R Ifan am 10.30 o’r gloch. GORFFENNAF 7 Y Fns Mair Penri Jones 13 Parch Dewi Tudur Lewis AWST 31 Br Rhys ab Owen MEDI 21 Parch Tecwyn R Ifan 28 Br G Eurfryn Davies

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR Coed yn y Fynwent Cafwyd gwybod nad oedd y gwaith o docio’r coed uchod wedi ei wneud ac adroddodd y Clerc y byddai’n cysylltu â Tree Fella i adael iddo wybod bod y coed mewn cyflwr drwg erbyn hyn, a gofyn iddo wneud y gwaith ar frys. Yr Elor Cafwyd ateb gan Catrin Glyn ag yn datgan y byddai’r Cyfeillion yn hoffi gweld yr elor a’i bod yn mynd i drefnu hyn ar ôl sôn wrth y Cyfeillion. Ceisiadau cynllunio â phenderfyniad arnynt Dymchwel y byngalos caban pâr presennol ac adeiladu tŷ unllawr newydd - Hafan a Mordan, Llandanwg - caniatáu. Adran Briffyrdd Cyngor Gwynedd - Gwasanaeth Cyfreithiol Mae’r ffordd dosbarth 3 ger Bron y Garth, Llanbedr yn cael ei chau er mwyn i BT osod cebl newydd o dan y ffordd. UNRHYW FATER ARALL Adroddodd y Clerc ei bod wedi cysylltu gyda Ms Liz Haynes o Gyngor Gwynedd i dynnu ei sylw at y ffaith nad oedd y bont bren sydd rhwng Ymwlch a Phensarn wedi cael ei thrwsio, bod y bont dan sylw ar Lwybr yr Arfordir a bod amryw’n cerdded ar hyd y llwybr hwn. Gan fod y bont wedi torri mae pobl yn cerdded ar lein y trên neu ar hyd yr ochr. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi derbyn ateb gan Ms Haynes yn datgan ei bod yn cysylltu gyda’r contractwyr ynglŷn â hyn. Datganwyd pryder bod gordyfiant ger croesffordd stad Pant yr Onnen a bod ceir yn methu â gweld wrth ddod i’r ffordd. Cytunodd y Robert Owen ddelio gyda’r mater. Datganwyd pryder bod Cyngor Gwynedd wedi penderfynu dechrau casglu ysbwriel bagiau du/biniau gwyrdd bob tair wythnos o fis Mawrth 2015 ymlaen. Cafwyd adroddiad o gyfarfod twyni Llandanwg gan Caerwyn Roberts. Nid yw’r gwaith o dorri’r coed ar hyd ochr y ffordd o Gae Cethin at Bensarn wedi cael ei wneud. Mae llwybr ger Uwchglan wedi cau a gofynnwyd i’r Clerc gysylltu gyda Mr Meirion Griffith ynglŷn â hyn. Adroddodd y Cadeirydd ei fod wedi ymweld â’r llwybr cyhoeddus sydd rhwng Llwyn Hwlcyn a Fferm Penrallt a’i fod mewn cyflwr drwg iawn, a gofynnwyd i’r Clerc gysylltu gyda Ms Liz Haynes, Cyngor Gwynedd ynglŷn â hwn.


EISTEDDFOD BRO MADOG 1987

Diolch i Bili Jones, Llandecwyn gynt, am ymateb i’r llun uchod, gyda chymorth un neu ddau o bobl Penrhyn. Dyma restr o’r enwau gawson ni gan Bili ynghyd â llinell i geisio amlygu pwy ydi pwy. Maud Griffiths, Elisabeth Blaenddol, Mrs Dafydd Jones, Mrs J T Jones [mam Gareth], Megan Roberts [Syrjyri], Enid Williams [Becar], Meira Lloyd [Eryri Terrace], Bobi Evans, Wil Bach Talsarn.

Aelwyd yr Urdd Harlech Roedd cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn brofiad cyffrous i aelodau’r Aelwyd newydd. Y côr dan arweiniad Elin Williams gydag Iwan Morus Lewis yn cyfeilio oedd y cyntaf i gystadlu. Cafwyd perfformiad canmoladwy ganddynt. Yna tro’r band oedd hi i gymryd y llwyfan. Roeddent yr unig Aelwyd ymysg ysgolion a chawsant ganmoliaeth am eu hymdrech. Prynhawn Sadwrn bu’r band yn chwarae am hanner awr ar y llwyfan awyr agored. Bydd gan yr aelodau lawer o atgofion melys.

Only Kids Aloud yn Ne Affrica

Bryn Terfel yn canu efo Corws Canolfan y Mileniwm / Only Kids Aloud yn Ne Affrica. Mae Lewys Meredydd Siencyn o Ddolgellau yn aelod o’r Côr. Mae Lewys yn fab i Nia Medi ac yn ŵyr i Mrs Mair M Williams, Llanfair. Mae’n sefyll ar y pen ar y chwith yn y rhes ôl.

Bu aelodau sawl cangen lleol o Ferched y Wawr yn gweithio ym Mhabell MyW ar faes yr Eisteddfod yn gweini paned a chacen i’r miloedd fu’n ymweld â’r maes yn ddyddiol. Dyma ychydig o ferched Ardudwy fu’n helpu yn ystod yr wythnos.

5


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT

Diolch Dymuna teulu’r ddiweddar Danielle Wrighton (Dani), 2 Glanywerydd, Dyffryn, ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth. Diolch arbennig i’r Parchedig Beth Bailey am wasanaeth hyfryd, am ei charedigrwydd ac i’r Trefnwyr angladdau Pritchard a Griffiths, Tremadog sydd bob amser mor broffesiynol. Fe gasglwyd £665 at Tŷ Gobaith, £1,000 at Ambiwlans Awyr Cymru a £300 at Eglwys Llanenddwyn. Diolch i bawb am y cyfraniadau hael. Bydd Dani fach yn ein calonnau am byth. Diolch a rhodd £10 Cydymdeimlad Ar y 9fed o Fai yn Ysbyty Maelor, Wrecsam, bu farw Mrs Marian Thomas, Preseli, Talybont. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at Tudor, Elin, Emyr, Caroline, Megan ac Ellen yn eu profedigaeth o golli gwraig, mam a mamgu annwyl iawn a hefyd at John ac Esme, brawd a chwaer yng nghyfraith Marian. Cofion Anfonwn ein cofion at Mr Lionel Parry, Penrhiw, a dreuliodd beth amser yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar ond sydd adre erbyn hyn ac yn gwella. Adre’n ôl Croeso’n ôl i’r Dyffryn i David, Deilwen (Parc Isa), Cara a Hari ar ôl treulio tair blynedd yn byw a gweithio ym Malaysia.

6

Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn Neuadd yr Eglwys bnawn Mercher, 21 Mai. Croesawyd pawb gan Gwennie ac roedd nifer o ymddiheuriadau. Roeddem yn falch fod Gwyneth wedi gwella’n ddigon da i fod yn ein plith. Yna croesawodd ein siaradwr am y prynhawn, sef Phil Mostert o Harlech. Mae Phil wedi ymddeol erbyn hyn ar ôl gyrfa amrywiol ym myd addysg. Yn ystod y cyfnod cafodd gyfle i deithio i sawl gwlad dramor i ddarlithio ac arsylwi ar eu dulliau dysgu. Ymwelodd â Kenya ddwy flynedd yn ôl ac adroddodd yr hanes i ni mewn ffordd hwyliog a diddorol gyda chymorth sleidiau. Er nad oedd y plant yn newynu roeddynt yn dlawd iawn a chawsom agoriad llygad ac fe’n synnwyd gan mor llwgr yw swyddogion y wlad. Pnawn addysgiadol iawn a diolchodd Gwennie yn gynnes i Phil. Rhoddwyd y te a’r raffl gan Bet a Leah, a chafwyd gwobrau raffl gan Margaret, Pauline, Tywyn (Gorffwysfa, Dyffryn gynt), hefyd. Ar 18 Mehefin byddwn yn mynd i Fetws-y-coed am ginio ac ychydig o siopa. Clwb Cinio Ar 20 Mai aeth y Clwb Cinio i Nant Gwrtheyrn ac er ein bod yn disgwyl tywydd mawr buom yn ffodus a chawsom ddiwrnod sych. Roedd awyrgylch braf iawn yno ac wedi ymweld â’r capel a chael cinio yng nghaffi Meinir dyma gerdded i lawr i’r traeth. Yna i ymweld ag un o’r tai cyn troi am adre gan alw yn Nhyddyn Sachau ar y ffordd adre. Ar 1 Gorffennaf byddwn yn mynd i Bont Robert. Croeso i unrhyw un ymuno â ni.

Cyhoeddiadau’r Sul Horeb MEHEFIN 8 Parch Pryderi Llwyd Jones 15 Parch Gwyn Rhydderch 22 Gareth Rowlands 29 Enid ac Edward Owen GORFFENNAF 6 Jean ac Einir

CEIR MITSUBISHI

Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk

LLYTHYR Annwyl Olygydd, Yr wyf yn ddarllenwr brwd o’r Llais ac yn diolch yn fawr iawn am y cyfle o gael e-gopi. Mae’n rhaid llongyfarch y golygyddion am weddnewidiad y Llais ac mae hyn yn fwy amlwg eto yn yr e-gopi. Mae ansawdd y lluniau yn arbennig o dda! Cofion gorau, Gethin Owen Diolch Diolch am y rhodd a ddaeth i goffrau’r Llais gan rieni Gethin a Gareth yn sgîl talu am y Llais electronig. [Gol.]

MARCHNAD CYNNYRCH LLEOL GWYNEDD Y Ganolfan, Harbwr Porthmadog 9.30 y bore – 2.00 y pnawn

Dydd Sadwrn ola’r mis. Cyfle i brynu cynnyrch lleol ffres o bob math, o fadarch, wyau, cacenni, llysiau, bara a chig, i daffi a jamiau!

SAMARIAID Llinell Gymraeg 0300 123 3011

Geni merch Llongyfarchiadau i Richard a Iola Snarr, Cyffordd Llandudno, ar enedigaeth merch, Llio Mai, chwaer fach i Ynyr Hedd a gor-wyres i Edna Jennings, Dyffryn Ardudwy a Glenys ac Ifor Parry, Harlech. Diolch Dymuna Meinir a Gwynfor, Llys Enlli, Tal-y-bont, ddiolch yn fawr am y cardiau, y cyfarchion a’r anrhegion a dderbyniasant ar enedigaeth Mared Elliw. Rhodd £10 Pasiant Llongyfarchiadau i Mai Roberts ar ei gwaith yn sgriptio Pasiant y Plant - ‘Miri Meithrin’. Roedd Gwen Edwards, Harlech yn cydgyfarwyddo a Mair Tomos Ifans [Harlech gynt] yn Rala Rwdins.


NEWYDDION YSGOL ARDUDWY Seremoni Ffeil Cynnydd Roedd Neuadd yr Ysgol yn llawn brynhawn Mercher 21 Mai i’r seremoni i gyflwyno Ffeil Cynnydd i fyfyrwyr B11 ar ddiwedd eu cyfnod yn yr ysgol. Mae’r ffeil yn cydnabod eu holl gyraeddiadau’n academaidd ac yn gymdeithasol tra yn yr ysgol ac yn rhywbeth i fynd ymlaen i addysg bellach neu gyflogwr. Llwyddodd pob myfyriwr i gwblhau ffeil ac fe’u cyflwynwyd iddynt gan Sharon Vaughan, cyn-ddirprwy’r ysgol. Cafwyd eitemau o adloniant gan y myfyrwyr eu hunain yn ystod y seremoni. Dyfarnwyd dwy wobr arbennig yn ystod y prynhawn. Enillwyd Gwobr Elfed Evans ar gyfer Chwaraeon gan James Papirnyk sydd wedi chwarae pêl-droed dros Gymru dan 15 oed. Dyfarnwyd Gwobr Oliver Churchill ar gyfer dyfalbarhad a goresgyn anawsterau i Joseph Swaine a Jason Williams ar y cyd. Dymuna’r ysgol ddiolch i’r myfyrwyr am eu cyfraniad dros y bum mlynedd ac mae’n dymuno’n dda iddynt yn eu harholiadau ac i’r dyfodol. Celf Fel rhan o’n gweithgareddau yn ymwneud â’r Eisteddfod eleni mae Tîm Cyswllt Cymunedol CCG wedi bod yn gweithio efo’r disgyblion. Mae disgyblion B8 a 9 a’r artist Nerys Jones yn creu darn o gelf unigryw i’w arddangos yng nghaffi Mistar Urdd ar y maes. Thema’r gwaith yw ‘Creu Cymunedau’ a bydd yn gyfle i’r plant weithio gydag artist proffesiynol, datblygu eu sgiliau celf a gweld ffrwyth eu llafur yn cael ei arddangos ar y maes. Gwasanaeth Tân Bu grŵp o ddisgyblion B9 yn treulio wythnos gyda’r gwasanaeth tân. Mae Prosiect y Ffenics yn fenter gan y Gwasanaeth Tân ac Achub sydd wedi ei gynllunio i gynorthwyo wrth ailgyfeirio egni pobl ifanc tuag at weithgareddau buddiol. Mae gostwng y nifer o farwolaethau ac anafiadau tân yn yr ardal yn holl bwysig – a gellir hyrwyddo hyn drwy

gydweithio gyda’r bobl ifanc yma i’w haddysgu am bwysigrwydd diogelwch tân a chanlyniadau tanau bwriadol a galwadau diangen. Bu’r disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau megis ymarferion rhedeg pibelli dŵr, diffodd tân a chwilio ac achub. Bu’r disgyblion yn dysgu sgiliau defnyddiol fel Cymorth Cyntaf, Trin Offer gyda Llaw, Rheoli Risg a Diogelwch Tân. Roedd llawer o gyfleoedd i ymdopi o dan bwysau fel rhan o dîm a delio gyda thasgau anodd megis abseilio o adeilad a mynd i mewn i

Disgyblion B9 gyda swyddogion y Gwasanaeth Tân

Tudur Williams, y pennaeth gyda Joseph Swaine, Jason Williams, James Papirnyk a Mrs Sharon Vaughan y cyn-ddirprwy

Stondin Ysgol Ardudwy ar faes Eisteddfod yr Urdd, Y Bala

ystafell llawn mwg. Yn ystod y pum diwrnod, roedd y bobl ifanc yn cael eu gwthio ym mhob ffordd er mwyn cael y gorau ohonynt, ac roedd pob un o’r naw disgybl wedi blino gyda’r holl ymarfer corff ond wedi mwynhau’n fawr iawn – ac yn gofyn pa bryd fydd y cwrs nesaf! Diolch i Mr Gerallt Hughes o’r gwasanaeth tân am drefnu’r cwbl. 5x60 Uni Hoc Bu bechgyn B7, 8 a 9 yn mwynhau sesiwn blasu unihoc yn ysgol Ardudwy. Gan eu bod nhw wedi mwynhau mae’r swyddog 5x60 Jess Kavanagh wedi ychwanegu’r gweithgaredd i’r amserlen wythnosol 5x60. Bydd twrnament yn cael ei drefnu i’r bechgyn cyn yr haf. Teithiau Saesneg Trefnwyd trip i Theatr Clwyd i weld perfformiad o’r nofel “Birdsong” gan Sebastian Faulks. Mae’r themâu yn plethu gyda maes llafar TGAU, ac roedd y perfformiad yn wych. Roedd yn deyrnged i’r aberth a wnaed gan y miliynau o ddynion a gafodd eu lladd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn stori am gariad. Cafodd llawer o’r perfformiad ei osod yn ffosydd rhyfel Ffrainc, ac roedd yr effeithiau sain yn rhagorol. Nid oedd llawer o lygaid sych erbyn diwedd y perfformiad (er na fyddai rhai yn fodlon cyfaddef hynny!). Gan fod 2014 yn ganmlwyddiant y Rhyfel Mawr, aeth yr Adran Saesneg a disgyblion B7 i Fanceinion i weld perfformiad o “Private Peaceful” gan Michael Morpurgo. Mae’r nofel hon yn cael ei defnyddio fel llyfr gosod CA3, ac mae Michael Morpurgo yn parhau i fod yn awdur poblogaidd i ddisgyblion ysgol. Cafodd y stori ei chyfleu trwy lygaid Tommo Peaceful, milwr ifanc a gafodd ei ddedfrydu i farwolaeth gan sgwad saethu. Cafodd ei berfformio gan un actor o’r ddechrau i’w diwedd. Roedd yr actor (Paul Chequer) yn gredadwy fel Tommo; a hefyd fel y 42 cymeriad arall a gafodd eu cyflwyno’n ystod y perfformiad.

7


PENCAMPWYR ADRAN 3 AC ENILLWYR CWPAN GWYNEDD

Aelodau o Glwb Rygi Harlech yn eu cinio blynyddol yn ddiweddar wedi iddyn nhw ennill pencampwriaeth Adran 3 y Gogledd. Ychydig ddyddiau wedyn enillwyd Cwpan Gwynedd mewn gêm gyffrous iawn o flaen torf dda o gefnogwyr selog o’r ardal. Llongyfarchiadau!

Mark Armstrong, Harlech, un o’r hyfforddwyr, yn annerch y chwaraewyr yn y cinio blynyddol. ‘Dyma’r tymor mwyaf llwyddiannus i’r Clwb yn ei hanes,’ meddai Mark sy’n arolygydd gyda’r heddlu.

Gareth John Williams, Dyffryn Ardudwy, y Cadeirydd ac un o’r hoelion wyth. Gareth yw’r tirmon a’r llimanwr, ond mae hefyd yn gwneud cant a mil o swyddi eraill.

Bennet Richards, Cwm-yrafon, Cwm Bychan un o’r tîm hyfforddi. Bu ei ddylanwad ar y tîm yn andros o fawr eleni.

Buasai pob un o aelodau Clwb Rygbi Harlech yn dweud mai Meilir Roberts, Uwchglan, yw un o’u prif gefnogwyr. Mae o yn bresennol ymhob gêm boed honno yn Harlech neu oddi cartref. Ef sy’n gyfrifol am y maes rygbi ac am werthu rhaglenni.

TYMOR I’W GOFIO

Ynyr Roberts yn derbyn tlws Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn ac yn ysgwyd llaw gyda Gwynfor Williams, un o’r hoelion wyth.

8

Fel yr oedden ni’n ei ddarogan ar y dudalen flaen ddau rifyn yn ôl, roedd hwn yn dymor i’w gofio i Glwb Rygbi Harlech. Enillwyd Adran 3 Cynghrair y Gogledd gyda Harlech ar y blaen o 5 pwynt. Seliwyd y fuddugoliaeth ar gae Bangor ar ôl curo’r tîm cartref o 25-8. Bu cryn ddathlu yn ardal Bangor a Chaernarfon ar y ffordd adref! Clwb Rygbi Porthaethwy oedd yn yr ail safle. Golyga hyn y bydd tîm Harlech yn codi i Adran 2 y tymor nesaf ac yn chwarae yn erbyn timau o safon uwch. ‘Rydan ni’n barod am yr her,’ meddai’r hyfforddwr Bennet Richards, ‘Mae yma dîm gweddol ifanc ac maen nhw’n ymarfer yn dda bob wythnos.’ Cafwyd llwyddiant arbennig hefyd yng nghystadleuaeth Cwpan Gwynedd. Cafwyd gêm glos iawn yn erbyn Nant Conwy yn y gêm gynderfynol pan enillodd tîm Harlech o 6-5. Yna roedden nhw’n wynebu tîm cryf, sef ail dîm Pwllheli yn y rownd derfynol ar gae Nant Conwy. Y sgôr derfynol oedd Harlech 17 - Pwllheli 5. Afraid dweud bod y dathlu wedi para am rai oriau!


Andy S. Williams [Capt.]

Ed Bailey

Gareth Davies

Richard Williams

Aeron Griffiths

Eon Williams

Dafydd Foulkes

Richard Foulkes

DIOLCH Dymuna swyddogion y Clwb ddiolch i bawb am eu cefnogaeth dda eto eleni. Gan ein bod rŵan wedi cael dyrchafiad, gobeithiwn y daw rhagor i ymuno â’r Clwb ac i’n cefnogi’n ymarferol. Mae angen cryn arian i redeg clwb rygbi’r dyddiau hyn, gyda chostau, yn arbennig yswiriant, yn uchel iawn.

Siôn Rees

Tom Pugh

Ewart Williams

Iwan Evans

Gareth Lewis

Llion Kerry

Jack Brooks

Heledd Evans - physio

Ynyr Roberts

Dylan Evans

Cedri Williams

YMDDIHEURIAD Yn anffodus, nid oedd yn bosib cynnwys llun pob un o’r chwaraewyr yn y rhifyn hwn. Yn absennol y mae Tom Richards, Arfon Pugh, Eilir Hughes, Ieuan Williams, Edward Williams ac Alex Evans. Lluniau: Dei Roberts

Cafwyd gêm go galed ym Mangor i selio’r fuddugoliaeth - llun Gwion Llwyd

9


HARLECH

Llongyfarch Llongyfarchiadau i Vicky a Dylan Howie ar enedigaeth Charlie James ar Mai 3 yng Nghaer. Llongyfarchiadau hefyd i Bethan a Gordon Howie ar ddod yn daid a nain. Llongyfarchiadau i Dylan a Judith Roberts, Gorwel Deg, Heol y Bryn, ar ddod yn daid a nain. Ganwyd mab [Elis Dylan] i Sian a Stuart yn Widnes. Llongyfarchiadau hefyd i Gareth ac Edith, Eifionydd, Bronygraig, ar ddod yn daid a nain. Ganwyd merch [Sofia] i Rachel a Michael yng Nghaer. Teulu’r Castell Cynhaliwyd y cyfarfod yn Neuadd Goffa Llanfair. Gan fod y prynhawn yng ngofal MyW, croesawyd aelodau Teulu’r Castell gan Lywydd MyW sef Mrs Bronwen Williams. Wedyn croesawyd pawb gan Edwina Evans, gan gynnwys y ddau ŵr gwadd Roger a John Kerry. Dymunwyd pen-blwydd hapus a gwellhad buan i aelodau oedd yn methu bod gyda ni ac yn arbennig i Mrs M M Williams, aelod ffyddlon oedd wedi bod gyda ni yn ddiweddar. Braf iawn oedd gweld Menna Jones yn ôl gyda ni a hefyd ei nith Sandra. Yna cyflwynwyd John a Roger Kerry, dau frawd sydd wedi gweithio ar y cwrs golff ers blynyddoedd ond wedi ymddeol ac wedi dechrau gyda’r canu, y ddau i’w clywed yn aml ar Radio Cymru. Cawsom ganu gwych a theimladwy gan y ddau y prynhawn yma. Yna, cawsom de gwych wedi ei baratoi gan Ferched y Wawr, nhw hefyd gyflwynodd y gwobrau raffl. Y Rhyfel Byd Cyntaf Ydych chi, neu unrhyw berthynas i chi, yn gwybod hanes y dynion ifanc a enwir ar Gofeb Rhyfel Harlech, ac a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf? Rydym yn gobeithio trefnu arddangosfa fach er cof am y dynion yma. Cysylltwch, os gwelwch yn dda, gyda Barbara Roberts gydag unrhyw wybodaeth a ffotograffau (byddwn yn eu dychwelyd). Ffôn 01766 780723; e-bost eric. barbara@tiscali.co.uk

10

Tri chopa mewn deuddydd

Er gwaethaf y tywydd erchyll cyrhaeddodd dwy ffrind, sef Jo Ayling ac Alison Owen a chriw o ffrindiau gopa Ben Nevis, Scafell Pike a’r Wyddfa. Yn ystod dydd Sadwrn, nos Sadwrn a bore Sul a hithau yn bwrw yn ddi-baid, dringwyd Ben Nevis yn gyntaf a’i gopa o dan eira, yna Scafell Pike yn y tywyllwch, a gorffen gyda’r Wyddfa ben bore Sul. Roedd y tîm wedi hel noddwyr a chasglwyd dros £16,000 at ‘Motability’. Da iawn ferched Harlech a’ch cyfeillion o Lerpwl. Dymuno’n dda Dymuniadau gorau i Mrs Beryl Watkins, 42 Y Waun, a Mr Robert Edwards, 43 Y Waun, y ddau wedi cael triniaeth yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar. Hefyd i Mrs Nansi Williams, Llwyn Onn, sydd wedi bod yn glaf yn Ysbyty Alltwen ers tro. Swydd yng Nghaerdydd Llongyfarchiadau i Dr Iwan Rees ar ei swydd newydd ym Mhrifysgol Caerdydd.

CYNGOR CYMUNED HARLECH

Croesawyd Mr Aled Lloyd o’r Parc Cenedlaethol. Dywedodd fod y Parc yn derbyn rhwng 600 a 650 o geisiadau bob blwyddyn a bod tua 85% o’r rhain yn cael eu caniatáu. Gofynnwyd a oedd yn iawn i aelodau o’r Cyngor Cymuned ymweld â safleoedd yn yr ardal a oedd yn rhoi cais cynllunio ger bron a datganodd Mr Lloyd bod hyn yn iawn oherwydd mai gan yr aelodau lleol oedd yr wybodaeth am yr ardal. Rhandiroedd Mae Mr Harri Pugh wedi cychwyn ar y gwaith o godi’r wal. Anfoneb wedi ei hanfon i bob tenant oedd â rhandir. Darn tir ger y cwrt tenis Adroddodd Korina Mort bod £474 wedi ei dderbyn fel incwm o’r cwrt tenis am y flwyddyn. Cytunwyd i gyfrannu’r hyn oedd yn ddyledus i Hamdden Harlech ac Ardudwy at gynnal y pwll nofio ar wahân i £100 am dreth y cwrt i Gyngor Gwynedd ar yr amod eu bod yn cymryd y cyfrifoldeb o gynnal a chadw’r cwrt tenis, a bod y trefniant hwn I’w adolygu’n flynyddol. Ceisiadau Cynllunio Adeiladu estyniad ar y tu blaen - Canol Bryn, Heol y Bryn. Dim sylwadau. Creu uned wyliau ynghyd ag adeiladu estyniad ochr - Cae Du. Cefnogi. Cladin carreg i’r wal talcen - Tŷ Llawen, 22 Heol y Bryn. Cefnogi. Rheolaeth Adeiladu Mae waliau peryglus gyferbyn â Thegfan a Bryn Teg ac mae Swyddog wedi ymweld â’r safle. Bydd yn cysylltu gyda pherchnogion y waliau i egluro’r sefyllfa a’u gorfodi i’w dymchwel. Ysgol Ardudwy Llythyr yn gofyn a fyddai’n bosib i rai o ddisgyblion B9 wneud gwaith yn y gymuned ar y Gorffennaf 7 ac 8. Penderfynwyd gofyn iddynt beintio seddi yn yr ardal. Diolch i’r Cyngor am gynnwys adroddiad Saesneg o’r cofnodion yn y Cambrian News ac yn gofyn am addewid y bydd hyn yn parhau. UNRHYW FATER ARALL Mae Korina Mort wedi rhoi chwynladdwr ar y llain ger llwybr yr eglwys. Mae fan yn parcio trwy’r amser ar ochr y ffordd ar stad Bron y Graig mewn safle lle mae llinellau melyn dwbl. Mae ceir yn parcio ar hyd ochr y ffordd o flaen tai ger maes parcio Bron y Graig uchaf ac yn rhwystro perchnogion tai rhag defnyddio eu ceir. Mae angen llinellau melyn dwbl ar hyd ochr y ffordd o groesffordd Ffordd Uchaf hyd at fynediad yr hen ysgol. Mae ceir yn parcio ar y gornel ger gwaelod stepiau Pentre’r Efail. Derbyniwyd dyfynbris o £2,500 i adnewyddu’r Gofeb a bod Cyngor Gwynedd yn talu am wneud y gwaith hwn o dan y cynllun trefi taclus. Angen tocio’r coed oedd ar ôl ar hen safle Pant yr Eithin. Datganwyd bod y lloches bws ger y toiledau yn y gwaelod wedi eu difrodi unwaith eto a chytunodd Gordon Howie ddelio gyda’r mater.

Rygbi v Pêl-rwyd

Mehefin 14, am 2.00 Gweithgareddau yn dilyn yn Ystafell y Band

Ffair Haf Harlech

YARIS Dewch i holi am ein cynigion arbennig ar Yaris ac Auris.

AURIS

TOYOTA HARLECH Ffordd Newydd, Harlech 780432

Gorffennaf 12 12.30 o’r gloch

Neuadd Goffa, Harlech

NOSON GOFFI ac ADLONIANT [Doniau’r Aelwyd] Mehefin 20 am 7.00 Mynediad: £1 Elw at Ymchwil Canser

Diolch Diolch i Eleri Jones, 36 Tŷ Canol, am y rhodd o £5 i’r Llais.


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Merched y Wawr Cynhaliwyd y Cyfarfod Blynyddol nos Lun, 12 Mai pan groesawyd pawb gan yr Islywydd, Ella Wynne Jones. Llongyfarchwyd Gwenda a Hefin Jones ar ddathlu eu priodas arian yn ddiweddar. Wedi rhoi ffurflen pleidleisio i bawb, eglurwyd y byddai dwy o’r pentref yn dod i gyfri’r pleidleisiau am 7.30 o’r gloch. Wedi cwblhau’r ffurflenni fe’u casglwyd a’u rhoddi i Eluned Williams ac Ann Jones oedd wedi cyrraedd i’w cyfri’. Aethpwyd ymlaen gyda’r materion eraill. Eglurwyd bod y baneri gwau wedi’u gorffen a’u hanfon, a diolchwyd i Siriol ac Eirwen am eu gwau, i Mai am baratoi llythrennau enw’r gangen mewn ffelt a’u gwnïo ar y baneri, ac i Dawn a Mai am wnïo’r baneri i gyd ar dâp gwyn yn barod i’w hongian. Dychwelodd Eluned ac Ann gyda’r canlyniad a’i roi i’r Llywydd. Cyhoeddodd Ella mai swyddogion 2014-15 fydd: Llywydd - Siriol Lewis;

Is-lywyddion - Gwenda Paul a Bet Roberts; Ysgrifennydd - Mai Jones; Is-ysgrifennydd - Anwen Roberts; Trysorydd - Gwenda Griffiths; Is-drysorydd - Frances Griffith. Atgoffwyd pawb am y daith gerdded o gwmpas ardal Harlech nos Wener 27 Mehefin. Gwerthwyd llyfrau raffl ar gyfer Sioe Sir Meirionnydd a dosbarthwyd copi o’r Wawr i bawb. Cafwyd adroddiad calonogol o’n sefyllfa ariannol gan y Trysorydd, Gwenda Griffiths. Darllenodd Ella fraslun o raglen amrywiol 2013-14 a diolchodd i’r aelodau am bob cymorth yn ystod y cyfnod, gan ddiolch yn arbennig i Gwenda Paul am lywyddu pob cyfarfod yn hwylus, i Mai am ei gwaith yn paratoi’r rhaglen a gofalu am y trefniadau i gyd, ac i Gwenda am ofalu am yr ochr ariannol. Penderfynwyd gwneud ymholiadau i ymweld â Chwmni Seren yn y Blaenau i gloi rhaglen eleni. Paratowyd y baned ar ddiwedd y cyfarfod gan Anwen

GWISGOEDD FFANSI

Wil Morgan, Ron Roberts, Dic Morgan a Tony Kerry yn eu gwisgoedd ffansi. Beth am anfon yr hanes y tu ôl i’r llun atom?

R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU

a Rhiannon, a Maureen enillodd y raffl. Wrth gloi, mynegodd Mai ei diolch i’w chyd-aelodau am bob cymorth a chefnogaeth a roddwyd iddi yn ystod y flwyddyn aeth heibio. Capel Newydd Talsarnau Bydd ymgyrch arbennig ddechrau Mehefin i dystiolaethu i neges yr Efengyl. Ein bwriad ydi gwahodd pobol i ddod i sgwrsio, a gwrando ar y neges. Caffi Bara’r Bywyd Bydd Caffi rhad ac am ddim ar gael yn y Capel, Stryd Fawr, Talsarnau, o ddydd Mercher ymlaen, o 10 :00 hyd 14:00. Galwch heibio am bryd o fwyd ysgafn, paned, sgwrs a chwmni. Croeso i bawb! Cyfarfod ar y thema ‘Y Bont’ Eisiau gwybod mwy am Gristnogaeth, yr Efengyl a neges y Beibl? Dewch i’r Capel nos Wener Mehefin 6 am 7 o’r gloch. Efengyl Marc Yn ystod yr wythnos bydd pobol yn ymweld â chartrefi’r ardal yn rhannu copïau o Efengyl Marc. Mynnwch sgwrs hefo nhw!

Eisteddfod yr Urdd Dydd Mercher oedd y diwrnod i aelodau Talsarnau fod yn gyfrifol am wneud y baned ym mhabell Merched y Wawr yn y Bala. Wedi crwydro ychydig o gwmpas y maes yn y mwd, buan iawn daeth yr amser i’r chwech ohonom fynd i babell Merched y Wawr - Gwenda Paul, Gwenda Jones, Gwenda Griffiths, Dawn Owen, Ella Wynne Jones a Mai Jones - Dawn ac Ella wrth y bwrdd raffl a’r tair Gwenda a Mai yn gofalu am y baned a glanhau’r byrddau. Bu’n brysur iawn am sbel go lew a gorffennodd y cacenni cri erbyn 4 o’r gloch! Dim ond paned oedd i’w gael wedyn nes i ni orffen gweinyddu ychydig cyn 5 o’r gloch pan ddechreuodd pethau dawelu ac roedd angen dechrau glanhau’r lle. Bu’n ddiwrnod difyr mewn cwmni da a mwynhawyd y cyfan – er gwaetha’r mwd!

Apêl Eisteddfod yr Urdd Dymuna Pwyllgor Apêl Eisteddfod yr Urdd ardal Talsarnau ddiolch yn ddiffuant am bob cymorth a chefnogaeth i sicrhau ein bod wedi cyrraedd Genedigaeth y targed o £4,000. Diolch yn Llongyfarchiadau mawr i arbennig i Gyngor Cymuned Geraint a Margaret Williams, 13, Cilfor ar ddod yn daid a nain. Talsarnau am eu cyfraniad Ganwyd merch fach, sef Celyn, i hael o £1,500 tuag at yr achos ac i bawb sydd wedi cefnogi Dafydd a Maddi. Dymuniadau digwyddiadau, amlenni rhodd a gorau iddynt. phrynu nwyddau. Yn yr ysbyty Diolch Anfonwn ein cofion gorau at Gwynfor Williams, Gwrachynys, Diolch i Mrs Iona Aubrey am y rhodd o £6.50 i’r Llais. sydd yn Ysbyty Glan Clwyd yn derbyn triniaeth ar hyn o bryd.

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286 Ffacs 01766 771250

Honda Civic Tourer Newydd

11


THEATR HARLECH

CROESAIR 1

2

3

4

5

Am fanylion pellach am ddigwyddiadau’r Theatr, ffoniwch 01766 780667, neu ewch i’r wefan ar www.theatrharlech.com Digwyddiadau am 7.30 oni nodir yn wahanol.

6

7 8

MEHEFIN

9

10

5 Sinfonia Cymru a Catrin Finch 7 Clwb Celf Bach [rhagor o wybodaeth o’r Theatr] 14 Rock Anthems 23 Diwrnod Hedd Wyn [rhagor o wybodaeth o’r Theatr] 25-28 As You Like It

11

12 13

15

14

CANA-MI-GEI

16

22

AR DRAWS

1 Cartref (6) 4 Mwydro (5) 8 Trawiad caled (5) 9 Planhigyn gardd (6) 10 Heb fod ymhell (5) 11 Carcharu (4) 13 Mesur o bwysau (4) 15 Ysgrifennu record ffurfiol o drafodaeth(7) 17 Rhoi’r gorau i (5) 18 Rhan o faes gweithgarwch(6) 22 Heini (6) 23 Stori hir ysgrifenedig (5)

I LAWR

1 Hollt (4) 2 Llyn o ddŵr y môr (5) 3 Dod i ben â rhywbeth (6) 5 O gwmpas (5) 6 Sylwedd brown melys (7) 7 Torri’n deilchion (6) 12 Hanes bywyd rhywun (7) 14 Math o bin hir gaiff ei ddefnyddio i wnïo (6) 16 Lliw a ddefnyddir i harddu’r wyneb(5) 19 Nerth (4) 20 Cynyddu (4) 21 Cyfarfod cyhoeddus mawr (4)

PRYSURDEB EISTEDDFODOL

18

19

20

21

23

ENILLWYR CROESAIR MIS MAI

Dyma’r enillwyr y tro hwn: Ceinwen Owen, Llanfachreth; Megan Jones, Pensarn, Pwllheli; Hilda Harris, Dyffryn Ardudwy; Dilys A Pritchard Jones, Abererch; Ieuan Jones, Rhosfawr, Pwllheli; Elizabeth Jones, Harlech. Diolch hefyd i Megan Jones, Pensarn, Pwllheli, am ateb cywir a gyrhaeddodd yn hwyr y mis diwethaf.

ATEBION MIS MAI AR DRAWS

1 Cyndyn 4 Dathlu 8 Rotor 9 Abermo 10 Sur 11 Ddoe 12 Allan 13 Camlas 15 Eto 18 Iglw 19 Cenawon 22 Edifar 23 Caleb

I LAWR

1 Corws 2 Natur 3 Ymroddiad 5 Anelau 6 Lambastio 7 Dameg 13 Criced 14 Malais 16 Baw 17 Rasal 20 Nebo 21 Cam

Atebion i sylw: Phil Mostert, Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech LL46 2SS, erbyn canol y mis. Diolch.

Amheuthun oedd gweld cynifer o bobl ifanc y fro hon mor amlwg ar faes a llwyfan yr Eisteddfod yn y Bala. Roedd disgyblion Ysgol Ardudwy yn amlwg ar y dydd Mercher wrth gyfarch y rhai buddugol a chyflwyno’r tlysau. Roedd aelodau o Fand Harlech yn amlwg iawn hefyd. Roedd nifer o bobl hŷn yr ardal yn allweddol hefyd, gan gynnwys un o lywyddion y dydd, sef Iwan Roberts o Ddyffryn Ardudwy. Hyfryd hefyd oedd gweld aelodau Aelwyd Ardudwy yn rhoi cyfrif da ohonynt eu hunain. Diolch i’w hyfforddwyr am roi o’u hamser. Llongyfarchiadau i bob un ohonynt am eu gwaith clodwiw.

12

Mis Mawrth tan fis Hydref

17

Isod, fe welwch luniau o’r merched ar eu ffordd i Gaer. Er bod y bws wedi torri, roedden nhw’n dal i wenu. Diolch i Carol O’Neill am y lluniau.

Sêl Cist Car

Clwb Chwaraeon Porthmadog

Dydd Sul 8 tan 1 £5 y car Ymholiadau - 01766 128667


Eisteddfod yr Urdd

CYNGOR CYMUNED TALSARNAU Cyfarfod Cyhoeddus yn Neuadd Bentref Talsarnau Nos Fercher, Mehefin 18 am 7.30 er mwyn trafod datblygu parc chwarae newydd yn y pentref.

Bu rhai o blant ysgolion cynradd y dalgylch yn perfformio dawns greadigol yn portreadu chwedl Branwen yn ystod seremoni’r Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd yn Y Bala. Cawsant eu hyfforddi gan Susanne Davies, a hoffai ddiolch iddynt am eu hymroddiad a’u holl waith.

Croeso cynnes i bawb.

CYNGOR CYMUNED TALSARNAU

Cyfeillion Pwll Nofio Harlech

Dyma enghreifftiau o’n gweithgareddau: • Rhannu gwybodaeth a gwneud casgliad yn siop y Co-op, Bermo yn Ebrill ac Awst. • Creu Calendar 2014 i godi arian. • Rhannu gwybodaeth a gwneud casgliad yn Bermo yn y ‘Paddle Ffest’. • Creu sesiwn i fusnesau a’r Gymdeithas Ymwelwyr. • Helpu’r Bwrdd i drefnu’r Noson yng Nghwmni Jim Perrin. • Trefnu Swper Pys a Phei a disco. • Casgliad Diwrnod Sant Ffolant yn siopau Harlech. • Sesiynau dysgu defnyddio cyfrifiadur, adeilad y pwll nofio (wi-fi am ddim). • Sêl Cist Car. Rydym yn credu yn gryf mewn cydweithio â’r gymuned a phobl fusnes. Hoffem ddiolch i faes carafanau Min y Don am eu cefnogaeth ariannol. Hefyd, i Graham Stone am drefnu sesiynau cyfrifiadurol ac i Chris Meller sy’n gwirfoddoli’n aml yn y caffi. Diolch arbennig i Sheila a Jim Lees, sydd wedi codi dros £1,000, a hefyd wedi helpu i atgyweirio’r to a’r ffordd. Diolch i aelodau’r Bwrdd sy’n gwneud yr holl waith er mwyn cadw’r ganolfan ar agor. Hoffem wneud rhagor a gyda mwy o gymorth fe allwn ni. Beth am ymuno â’r tîm? Rydan ni’n chwilio am bobl sy’n siarad Cymraeg i’n helpu. Nid gwaith hawdd yw cynnal y pwll nofio. Tra mae’r wal ddringo a’r caffi yn broffidiol, nid yw’r pwll. Rhaid wrth lawer o arian i barhau i’w gynnal yn llwyddiannus. Beth am ofyn i’ch cyfeillion gyfrannu at y gronfa? Achubwch ein pwll nofio!

Ethol Swyddogion Cadeirydd: Owen Lloyd Roberts, Is-gadeirydd: Margaret Roberts Cyfarfod Cae Chwarae Adroddodd John Richards ei fod wedi derbyn cynllun gan Hochtief ynglŷn â’r uchod a chytunwyd i gynnal cyfarfod arall gydag aelodau o’r cyhoedd ar y 18fed o Fehefin am 7.30 o’r gloch. Ceisiadau Cynllunio Diddymu Amod Rhif 3 o ganiatâd cynllunio 5/77/25B dyddiedig 12.05.92 i newid defnydd o lety gwyliau hunanarlwyo i dŷ parhaol - ‘The Cottage’, Bwlch y Fedwen, Llandecwyn. Cefnogi’r cais. Parc Cenedlaethol Eryri Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu’r Cyngor bod gwaith yn cael ei wneud ar safle Bron Trefor a’u bod yn cadw golwg ar y safle i sicrhau fod unrhyw weithgareddau’n gysylltiedig â’r gwaith adnewyddu’n unig. Adran Reoleiddio Wedi cael ateb gan yr uchod ynglŷn ag waliau peryglus yn Llandecwyn yn datgan eu bod bellach wedi ymchwilio i’r waliau dan sylw ac o’r farn eu bod yn breifat ac felly nid yn cael eu cynnal gan wariant cyhoeddus. Hefyd yn datgan, gan fod y Cyngor yn teimlo bod y waliau hyn yn beryglus. 40mya i 30mya Trafodwyd gostwng y cyflymder 40mya presennol i 30mya ar yr A496 yn Llandecwyn ac yn datgan, gan fod y gwaith o adnewyddu Pont Briwet yn dal ar y gweill, y bydd unrhyw newidiadau angenrheidiol yn cael eu cyflawni ar ôl cwblhau’r gwaith hwn. Angen ateb i ddatgan mai 30mya dros dro oedd cais y Cyngor yn Llandecwyn tra bod y gwaith ar y bont yn cael ei wneud. Ysgol Ardudwy Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn gofyn a fyddai’n bosib i rai o ddisgyblion B9 wneud gwaith yn y gymuned ar Gorffennaf 7 ac 8. Cytunwyd i ofyn iddynt beintio’r sedd ger y ciosg yn Eisingrug a pheintio giât Gardd y Rhiw a giât mynwent Llanfihangel y Traethau, hefyd golchi lloches bws Glan y Wern. Cylch Meithrin Talsarnau Cytunwyd i roi £100 iddynt. UNRHYW FATER ARALL Eisiau ysgrifennu at yr Adran Briffyrdd i dynnu eu sylw nad oedd y gwaith o lenwi tyllau yn ffordd stad Bryn Eithin wedi ei wneud. Hefyd eisiau tynnu eu sylw nad oedd y gwaith o atgyweirio’r tyllau yn y maes parcio i lawr ffordd y stesion wedi cael ei wneud. Datganwyd bod lloches bws Llandecwyn angen sylw a chytunwyd i ofyn i Mr Dylan Jones, Yr Onnen wneud y gwaith; cytunodd John Richards gysylltu ag ef.

13


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Teulu Artro Daeth y Teulu ynghyd ar brynhawn Mawrth, 6 Mai. Croesawodd y Llywydd, Gweneira, un ag oll, gan ddweud mor hyfryd oedd Coed Aber Artro, y bwtsias y gog yn werth eu gweld. Rhoddwyd dymuniadau pen-blwydd i Hywel, a llongyfarchwyd Elisabeth ar briodas ei hwyres. Estynnwyd croeso i Hilda Harris, a’r Llywydd yn rhoi atgofion am yr adeg pan oedd gan Hilda siop yn y pentref. Cawsom brynhawn cartrefol, gydag amryw o’r aelodau wedi dod â rhywbeth i’w arddangos, a Hilda wedi dod â nifer o luniau o’r teulu. Rhoddwyd y diolchiadau gan Beti, ac enillwyd y rafflau gan Elisabeth, Mary a Glenys. Diolch Diolch am y rhodd o £20 oddi wrth Mr Edwyn Humphreys, Gwlad yr Haf. Bu’n ymweld â’r ardal yn ystod mis Mai ac yn cyfarfod rhai o’i gyfoedion bore oes a galw heibio Robert J Jones yn Hafod Mawddach.

Cofion Anfonwn ein cofion at Mrs Olwen Jones, Werngron, sydd wedi syrthio a thorri ei llaw. Gobeithio ei bod yn gwella. Diolch Hoffai Eirlys, Tyddyn Llidiart, ddiolch o galon am yr holl anrhegion, cardiau, galwadau ffôn, ymweliadau a phob cefnogaeth a dderbyniodd yn ystod ei salwch diweddar. Rhodd a diolch £10 Bedyddio Ar brynhawn Sul braf y 18fed o Fai, bedyddiwyd Gwenno Fflur, merch fach Hefin a Siân Parc Isa yng Nghapel Nantcol gyda’r Parch R W Jones yn gwasanaethu.

Ar achlysur pen-blwydd Peter Crabtree yn 90 oed Mai 11, 2014.

Rhedaist, chwaraeaist dy ran – yn y gêm A chael gôl, mewn oedran; Teg yw’r sgôr sy’n dy glorian, A chan marc gyrcha’n y man. HDJ

Pum Cenhedlaeth

Merched y Wawr Nantcol Yn ein cyfarfod diwethaf rhoddwyd croeso arbennig i aelodau cangen Dinas Mawddwy. Ein gwraig wadd am y noson oedd Angharad Tomos. Roedd gan Angharad atgofion hapus o’r ardal ac wedi treulio ei mis mêl yma yng Nghwm Nantcol. Cawsom ganddi hanes ei phlentyndod yn teithio yn y garafán gyda’r teulu i Sir Fôn, ar y traeth yn Abersoch yn ogystal â’r Alban ac Iwerddon. Dim ond tri pheth mae hi angen i fynd gyda hi wrth grwydro’r wlad - map, petrol a cherdyn banc ac fe gawsom hwyl yn gwrando arni yn adrodd llawer stori ddoniol a thrwstan hefyd wrth iddi sôn am ei theithiau i’r Eidal, Efrog Newydd, Seville, a Nicaragua i enwi ychydig ohonynt. Cyn dod i ben roedd angen syniadau ynglŷn â lle i fynd ar wyliau ac fe gafwyd sawl awgrym (a stori) gan yr aelodau. Gwen ddiolchodd i Angharad am noson gartrefol ac ar ran aelodau Dinas Mawddwy diolchodd Olwen am y croeso a’r sgwrs ddifyr. Diolchodd Mair i bawb am baratoi’r lluniaeth. Llongyfarchwyd Elin, wyres Beti Wyn, ar ei llwyddiant yn ennill 3 gwobr yng Nghlwb Golff Dewi Sant. Atgoffwyd pawb am y daith gerdded sydd eleni yn ardal Harlech ar y 27ain o Fehefin ac edrychwn ymlaen at ein taith i Dŷ Mawr Wybrnant y mis nesaf.

Gwobr Heddwch a Chymod Llongyfarchiadau i John Wynne, Glyn Artro, ar dderbyn Gwobr Heddwch a Chymod Guernica. Sefydlwyd y wobr yn 2005 gan ddinasoedd Gernica a Pforzheim [a ddinistriwyd yn y rhyfel]. Eu bwriad yw gwobrwyo pobl a sefydliadau sy’n gweithio er mwyn heddwch a chymod ac sy’n gwneud hynny yn gyhoeddus. Bu cyffro mawr yn ardal Huchenfeld pan glywyd am ddyfarnu’r wobr i John Wynne. Derbyniwyd y wobr ar ei ran gan ei fab, Ben. Noda John, yn ei ffordd ddiymhongar ei hun, na fyddai Elain Mai ar lin hen hen daid sef Ismael Jones, Tal Garreg, Llanbedr hyn wedi bod yn bosib heb hefyd ei thad Keiron Jones, ei thaid Medwyn Jones a’i hen daid gymorth llawer o gyfeillion yn Griffith Herbert Jones. Diolch £10, Mr a Mrs Griffith Herbert Jones. Llanbedr a Huchenfeld.

14

Cyhoeddiadau Sul

Capel Salem MEHEFIN 8 Parch Dewi Tudur Lewis 8 Undebol yn yr Eglwys - 9.45 15 Parch Tecwyn Ifan 29 Parch Carl Williams Am 2.00 o’r gloch oni nodir yn wahanol. 15 Capel y Ddôl, Mrs Eirwen Evans 22 Nantcol, Parch John Owen GORFFENNAF 6 Capel y Ddôl, Parch Huw Dylan Jones Llongyfarch Llongyfarchiadau i Mrs Ann Williams, merch Margaret Morgan a phennaeth Ysgol Llanelltyd ar ei llwyddiant gyda’r Parti Canu yn yr Eisteddfod.

Priodas Llongyfarchiadau i Delyth Mair Thomas, Tyddyn Bach, Llanbedr a Deian Wyn Williams, Afallon, Cilcennin ar achlysur eu priodas ar ddydd Sadwrn 3ydd o Fai yn Llanerchaeron. Mae Deian yn gontractwr amaethyddol yn ardal Cilcennin ger Aberaeron, ac mae Delyth yn rheolwraig fferm a threfnydd gweithgareddau i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron. Bydd y ddau’n ymgartrefu ym Mlaen Benlan, Aberarth. Dymuniadau gorau i’r ddau yn y dyfodol. Diolch Dymuna Delyth a Deian ddiolch i bawb am yr holl gardiau ac anrhegion y maent wedi eu derbyn ar achlysur eu priodas yn ddiweddar. Rhodd £10


H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239

Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290

YSWIRIANT I BAWB

E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr

01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

T N RICHARDS Caergynog, Llanbedr 01341 241485

Adnewyddu Hen Ddodrefn Rydym yn gwarantu gwaith trwsio a chwyro o’r safon uchaf. Mewn busnes ers 30 mlynedd.

Cefnog wch e in hysbyseb wyr

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297

Tafarn yr Eryrod Llanuwchllyn 01678 540278

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

Sgwâr Llew Glas

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

Llais Ardudwy

Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk

drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]

GERALLT RHUN Bryn Dedwydd, Trawsfynydd LL41 4SW 01766 540681

Tiwniwr Piano a Mân Drwsio g.rhun@btinternet.com

BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU

01766 512091 / 512998

TREFNWYR ANGLADDAU Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

TERENCE BEDDALL

JASON CLARKE

15 Heol Meirion, Bermo

Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

Papuro, peintio, addurno tu mewn a thu allan. 01341 280401 07979 558954

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri.

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

SAER COED Amcanbris am ddim. Gwarantir gwaith o safon.

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

Ar agor bob nos dros yr haf 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00

Tacsi Dei Griffiths

Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 9.00 Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!

Sefydlwyd dros 20 mlynedd yn ôl. 15


Haf Llewelyn yn ennill Gwobr Tir na n-Og 2014

Mewn seremoni a gynhaliwyd yn Eisteddfod yr Urdd, y Bala, cyhoeddwyd mai dwy nofel a seiliwyd ar ddigwyddiadau hanesyddol yw enillwyr Gwobrau Tir na n-Og 2014. Yr enillydd yn y categori cynradd yw Gareth F Williams am ei nofel Cwmwl dros y Cwm, sy’n seiliedig ar brofiadau ffuglennol John Williams wrth i’w dad chwilio am waith ym maes glo’r de. Cyflwynir Gwobr Tir na n-Og yn flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru i awduron y llyfrau gorau i blant a phobl ifanc a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol. Sefydlwyd y gwobrau yn 1976, a thros y blynyddoedd cawsant eu cyflwyno i rai o brif awduron llyfrau plant Cymru. Yr enillydd yn y categori uwchradd yw Haf Llewelyn, yn wreiddiol o Ardudwy ond sy’n byw yn Llanuwchllyn. Seiliwyd ei nofel hithau, Diffodd y Sêr, ar ddigwyddiadau hanesyddol. Mae’r gyfrol, a gyhoeddir gan Y Lolfa, yn olrhain hanes y teulu Evans o fferm Yr Ysgwrn, Trawsfynydd, a’u mab – y bardd enwog Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn), a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Adroddir ei stori trwy lygaid ei chwaer ieuengaf, Annie. Wrth siarad yn y seremoni wobrwyo, dywedodd Haf: “Yr ysbrydoliaeth ar gyfer ysgrifennu Diffodd y Sêr oedd taith a gafodd fy ffrindiau a minnau i weld mynwentydd y Rhyfeloedd Byd yn Ypres,

16

gwlad Belg, lle buom yn sefyll ar lan bedd Hedd Wyn. Teimlad rhyfedd iawn oedd syllu ar y rhesi diddiwedd o gerrig beddi gwyn, ac enwau milwyr o Gymru ar bob un ohonynt; cafodd y profiad effaith fawr arnom wrth i ni sylweddoli pa mor ifanc oedd y bechgyn hyn. “Ar ôl cyrraedd adref, dechreuais ddarllen pentwr o lythyrau a ysgrifennwyd gan y milwyr at eu teuluoedd, ac fel arall. Ac ar ôl hynny doedd dim troi’n ôl i fod – roedd yr hanes wedi fy rhwydo, ac roedd yn rhaid i mi ddechrau ysgrifennu.” Dywedodd Elwyn Jones, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau: “Hoffem longyfarch Gareth F Williams a Haf Llewelyn, sy’n cipio’r wobr am y tro cyntaf. Mae hi eisoes wedi profi ei gallu i lunio straeon gafaelgar. Roedd safon y llyfrau ar y rhestr fer yn arbennig o uchel eleni, gan adlewyrchu ystod eang y teitlau a gyhoeddwyd.

Ennill Cwpan Stamford

Elin Williams, y gyfeilyddes, ac Ann Jones, arweinydd Côr Merched Cana-Mi-Gei efo Cwpan Stamford wedi’r fuddugoliaeth yng Nghaer. Rydym yn llawenhau yn eu llwyddiant.

Baneri Merched Y Wawr

Gwahoddwyd pob cangen o Ferched y Wawr yn Rhanbarth Meirionnydd i lunio baner i’w gosod ym mhabell MyW yn yr Eisteddfod. Yn y llun fe welir Mrs Eirlys Williams [Ysgrifennydd] a Mrs Bronwen Williams [Llywydd Cangen Harlech] yn chwifio’r faner a wnaethpwyd ganddynt. Bu aelodau canghennau Ardudwy yn gofalu am y baned a’r teisennau cri ar y dydd Mercher. Beth am i chi ystyried ymuno â MyW yn eich ardal chi? Cewch nosweithiau difyr ac addysgiadol a chwmni diddan.

Gwaith Celf - Gwobr Gyntaf i Gethin

Gethin Jones

Gethin Jones o 36 Tŷ Canol, Harlech, enillodd y gystadleuaeth am waith creadigol 2D dan 25 oed yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Mae’n ddisgybl yn Ysgol Hafod Lon, Y Ffôr.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.