Llais mehefin 2015

Page 1

Llais Ardudwy 50c

BEICIO I GODI ARIAN

RHIF 442 MEHEFIN 2015

DATHLU CANMLWYDDIANT Reidio beic o Land’s End i John O’Groats, pellter o rhyw 900 milltir, mewn 6 diwrnod

Yn Llanfairpwll ym Môn y ffurfiwyd y gangen gyntaf o Sefydliad y Merched yng Nghymru a Lloegr, a hynny yn 1915. “Fy Ngwlad a’m Cartref ” yw arwyddair y sefydliad. Yn 1917, daeth merched Dyffryn a Thalybont at ei gilydd i ffurfio cangen a buont yn cydweithio tan 1949, ond gan fod y cyfan o’r gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg a chyda mewnlifiad o Saeson i’r ardal, ffurfiwyd cangen Saesneg yn Nhalybont. Dechreuodd dathliadau’r canmlwyddiant ym mis Ionawr 2014, yn dilyn penderfyniad i ddanfon baton ar daith gyfnewid i bob sir yng Nghymru a Lloegr, gan gychwyn o Lanfairpwll wrth gwrs. Meinir Lloyd Jones yw llywydd y mudiad ym Meirionnydd, un o blant y Dyffryn, a hi dderbyniodd y baton ym Mhenrhyndeudraeth oddi wrth lywydd Sir Gaernarfon. Trosglwyddodd Meinir y baton i Dorothy Harper, llywydd Grŵp Artro, yng Ngwesty’r Fictoria yn Llanbedr, lle’r oedd cynrychiolwyr pum cangen yn bresennol, sef Harlech, Llanfair, Dyffryn, Talybont a’r Bermo.

Mae Andrew Parry, sy’n wreiddiol o Harlech, yn byw yng Nghaerffili ac yn gweithio fel swyddog tân ym maes awyr Caerdydd. Bu’n ymddiddori mewn reidio beic ers tro ac mae wedi cwblhau dros 5000 o filltiroedd ar gefn y ‘ceffyl dur’. Yn ddiweddar, penderfynodd ymweld â Harlech [lle mae ei dad Chris a’i frawd Neal yn byw] a hynny ar gefn ei feic bob cam o Gaerffilli. Wedi iddo gyflawni’r gamp honno, meddyliodd y buasai yn syniad da i reidio’r beic o Land’s End i John O’Groats, pellter o rhyw 900 milltir, mewn 6 diwrnod, a hynny heb gyfnod gorffwys. Dechreuodd ei daith ar Mai 21 gan aros dros nos yn Taunton, Crewe, Penrith, Caeredin ac Inverness gan gwblhau’r gamp aruthrol ar Mai 26. Roedd yn codi arian i gronfa Ambiwlans Awyr Cymru. Buasai’n ddiolchgar am unrhyw gyfraniadau i hybu’r achos teilwng hwn. Gellid anfon rhoddion at ei dad, Mr Chris Parry, Bwlch y Garreg, Harlech. Mae eisoes wedi casglu dros £1,400.

Llwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Llongyfarchiadau i Cerys Sharp, Aelwyd Ardudwy, ar ei llwyddiant yn Eisteddfod Caerffili wrth gipio’r drydedd wobr yn y gystadleuaeth ffasiwn, B7-9. Thema’r gystadleuaeth eleni oedd ‘Tyfu a Ffynnu’. Fel rhan o’r gystadleuaeth roedd angen dylunio a chreu dilledyn a phenderfynodd Cerys seilio ei ffrog ar dyfiant cennin Pedr. Roedd gwaelod y ffrog yn dehongli’r bwlb, canol y ffrog yn dehongli coes y genhinen a’r top yn dehongli’r genhinen wedi agor. Cerys yn yr Eisteddfod yng Nghaerffili gyda’i gwaith buddugol, ei thystysgrif a’i medal.


Llais Ardudwy

HOLI HWN A’R LLALL

GOLYGYDDION

Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Cae Bran, Talsarnau (01766 770736 anwen@barcdy.co.uk

Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk (07760 283024 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 ann.cath.lewis@gmail.com Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones Tyddyn Llidiart, Llanbedr (01341 241391 iolynjones@Intamail.com Casglwyr newyddion lleol Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Ann Lewis (01341 241297 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 770736 Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Gorffennaf 3 am 5.00. Bydd ar werth ar Gorffennaf 8. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Mehefin 28 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau.

2

Enw: Mari Elen Jones Gwaith: Myfyrwraig llawn amser, Cynorthwy-ydd Tocynnau yn Theatr y Sherman, DJ yng Nghlwb Ifor Bach ac actores. Cefndir: Wedi fy ngeni a fy magu yn Harlech. Yn ferch i Rhian a John Powell. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Fe wnes i adduned blwyddyn newydd i ddechrau mynd i’r gym yn fwy rheolaidd ac rydw i wedi dal ati. Dwi hefyd yn bwyta’n iach ac yn yfed lot o ddŵr. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Dwi’n mwynhau darllen pethau reit ysgafn a doniol, megis nofelau gan Sophie Kinsella a Jojo Moyes. Dwi hefyd yn mwynhau pethau mwy dwys,

ac ar hyn o bryd dwi’n darllen ‘Gone Girl’ gan Gillian Flynn. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Dwi’n ffan mawr o gomedi, felly ar hyn o bryd mae’n rhaid dweud mai Modern Family ydy’n hoff raglen i ar y teledu. Byddaf yn gwrando ar Radio 2 yn bennaf achos bod y miwsig a’r gwestai yn dda. Ydych chi’n bwyta’n dda? Dwi’n trio fy ngora! Hoff fwyd? Cwestiwn anodd, rhywbeth sy’n cynnwys tomatos. Hoff ddiod? Paned o de, wrth gwrs. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Petawn i’n cael te parti, ac yn cael gwadd rhywun, mi fuaswn i’n gwadd Anna Wintour am gyngor ffasiwn, Graham Norton i mi gael chwerthin, Dame Judi Dench a Dylan Thomas. Lle sydd orau gennych? Rhianfa, fy nghartref yn Harlech. Mae o mewn safle godidog gyda golygfa hyfryd o Fae Tremadog. Ble cawsoch chi’r gwyliau gorau? Gŵyl y Dyn Gwyrdd, 2008. Beth sy’n eich gwylltio? Pobl anniolchgar Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Rhywun sy’n gwneud i mi chwerthin.

Pwy yw eich arwr? Rhian Wyn Jones (Mam) Beth yw eich bai mwyaf? Mae gen i broblem gwario ofnadwy, a dwi’n siŵr mod i wedi’i etifeddu gan Mam. Beth ydych chi’n ei gasáu mewn pobl? Pobl snobyddlyd. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Gwneud yr hyn dwi’n garu fel bywoliaeth, a treulio amser hefo’r teulu. Eich hoff liw? Gwyrddlas Eich hoff flodyn? Tiwlip Eich hoff fardd? T H Parry Williams Eich hoff gerddor? Andrew Bird Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? ‘Hey Snow White’ gan Destroyer. Pa dalent hoffech chi ei chael? Mi fuaswn i wrth fy modd pe bawn yn gallu dawnsio yn dda, dwi wedi dechrau dawnsio fel rhan o nghwrs i, a dwi wedi gwirioni cael gwneud. Eich hoff ddywediad? “I feel the same way about clothes as I do about food. I want everything” - Mindy Kaling Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Hapus iawn.

YN YR ARDD Mis Mehefin • Cysgodwch eich tŷ gwydr rhag haul crasboeth. Mae awyru yn bwysig - hynny yw, agor neu gau’r ffenestri a’r drws fel bod angen. • Yn hytrach na gosod darnau o botiau pridd ar waelod eich potiau defnyddiwch bolystyren er mwyn cael draeniad effeithiol ac, wrth gwrs, mae’r potiau yn ysgafnach i’w trafod. • Taenwch ddyrnaid o wrtaith dros fylbiau’r gwanwyn a’u cadw yn y pridd nes i’r dail wywo. • Chwynnwch yn ofalus rhwng ac o amgylch eich pys a ffa a’r ffa dringo a gwnewch hyn yng ngwres yr haul. Gallwch eu

dyfrio ar ddiwedd y dydd. • Erbyn hyn fe all eich planhigion tyner ifainc fynd allan i wres yr haul, ond bydd angen eu gwylio a’u dyfrhau yn gyson nes iddynt sefydlu. • Mae’n bwysig iawn i binsio blaen dyfiant llwyni fel fuchsia rhag iddynt fynd yn hirgoes; fe fydd mwy o flodau wedyn.

Vibernum tinus Spring Bouque

Viburnum Mae cymaint o amrywiaeth o Viburnum fel bod modd i chi gael lliw yn yr ardd o fis Ionawr tan y Nadolig. Dyma ddau sydd ymhlith y mwyaf poblogaidd. Vibernum Burkwoodii Anne Russell


LLANFAIR A LLANDANWG

Merched y Wawr Llanfair a Harlech Daeth nifer dda o gangen Llan Ffestiniog atom ddechrau Mai. Croesawodd Hefina’r gangen atom a hefyd y wraig wadd, Haf Llewelyn, yn wreiddiol o Gwm Nantcol ond bellach o Lanuwchllyn, a’i mam Gweneira. Mae hi’n ysgrifennu ar gyfer plant ac oedolion ac yn gweithio fel athrawes ymgynghorol. Enillodd wobr Tir na n-Og y Cyngor Llyfrau am ei nofel ‘Diffodd y Sêr’ yn 2013 am hanes Hedd Wyn. Yn ystod ei sgwrs cyfeiriodd at ei phlentyndod, a’i chyfnod yn Ysgol Ardudwy. Aeth ymlaen i sôn sut y mae’n mynd ati i gasglu gwybodaeth cyn cychwyn ysgrifennu. Mwynhawyd ei sgwrs yn fawr iawn. Paratôdd aelodau’ r gangen amrywiaeth o ddanteithion blasus. Diolchodd Wendy Evans o gangen Llan am y croeso, Hefina yn ategu’r diolch i Haf ac aelodau’r gangen am y lluniaeth a’r gwobrau raffl. * * * Cangen Merched y Wawr oedd yn westai i Deulu’r Castell mis Mai. Daeth Roger a John Kerry i’w difyrru gyda nifer o ganeuon adnabyddus a newydd. Cafwyd pnawn pleserus yn eu cwmni a phawb wedi mwynhau. Yna ymlaen at de pnawn arbennig wedi ei baratoi ar eu cyfer. Hefina oedd yn croesawu ar ran y gangen ac Edwina yn diolch i’r hogia a’r gangen am y croeso. Neuadd Goffa, Llanfair

GYRFA CHWIST

ar y drydedd nos Fawrth yn y mis am 7.00 o’r gloch Croeso i ddechreuwyr.

Pen-blwydd arbennig Ar Fehefin 6ed, bydd Mr H Eric Jones (DSM), 9 Derlwyn, Llanfair, yn dathlu ei benblwydd yn 90 oed! Hoffem ddymuno pen-blwydd hapus iawn iddo, pob dymuniad da iddo at y dyfodol, a’n cofion cynhesaf ato ar y diwrnod arbennig iawn yma! Cariad mawr, oddi wrth Mair Wyn a Ken, Meic a Bet, Kevin, Delyth a Heulwen Medi, Osian, Ethan, Holly, Amelia a Soffia fach. [XXX i Taid-Taid gan y plant lleiaf!] Rhodd £10 Bet Jones

Cyhoeddiadau Caersalem 2014 Am 2.00 o’r gloch oni nodir yn wahanol MEHEFIN 14 Parch Tecwyn R Ifan am 4.30 o’r gloch 28 Parch Megan Williams GORFFENNAF 5 Parch Dewi Tudur Lewis 28 Parch D Carl Williams

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR Ethol Swyddogion Cadeirydd: Eurig Hughes Is-gadeirydd: Russell Sharp Yr Elor Adroddodd Caerwyn Roberts ymhellach ei fod wedi cael y Cytundeb sydd wedi ei arwyddo gan Mr Elfed Roberts ar ran Cyfeillion Ellis Wynne. Cytunodd Caerwyn Roberts i osod y plac ar yr elor. Ceisiadau Cynllunio Trosi adeilad allanol yn anecs - Llanfair Uchaf - gwrthod. Ceisiadau am gymorth ariannol Dizzee Dancers - £50 Trysorydd Mae cwmni yswiriant Aon Ltd yn cynnig i’r Cyngor arbed 5% yn nhaliad yr yswiriant wrth ymrwymo i gytundeb tair blynedd o hyd. Cytunwyd i hyn, felly bydd y Cyngor yn talu £1,386.76 yn lle £1,457.74 i’r cwmni yswiriant. Un Llais Cymru Mae hyd at 70% o grant ar gael gan Lywodraeth Cymru i atgyweirio a diogelu cofebion rhyfel cymunedol fel rhan o weithgareddau cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf. Parcio yn nhref Harlech Mae cabinet y Cyngor Sir yn fodlon ystyried ein cais i newid dynodiad maes parcio Bron y Graig Isaf yn y dyfodol ond bydd swyddogion yn monitro’n ofalus batrymau parcio yn y dref unwaith y bydd safle parcio CADW yn weithredol. Bydd Swyddogion Gorfodaeth Parcio yn ymweld â’r dref yn rheolaidd dros y 6 mis nesaf i rannu tocynnau parcio. Trên Adroddodd Annwen Hughes, ar ôl cael gwybod nad oedd y trên 8.00 o’r gloch y nos yn aros yn Llanbedr, Pensarn a Llandanwg, ei bod wedi anfon llythyr at Edwina Hart yn cwyno am hyn.

Mis Mawrth tan fis Hydref

Er cof am Basil Jerram Ar brynhawn dydd Gwener, 27 Mawrth, daethom at ein gilydd fel teulu a ffrindiau i ddiolch am fywyd, ac i ffarwelio â Mr Basil Jerram, Frondeg, Llanfair, yn Eglwys y Santes Fair. Yn dilyn cyfnod byr yn yr ysbyty, bu farw Basil, annwyl briod Mrs Doreen Jerram, ar 16 Mawrth, dim ond tridiau cyn i’r ddau ddathlu 66 mlynedd o briodas. Cafwyd gwasanaeth hyfryd o emynau a darlleniadau dan arweiniad Beth Bailey, gan gychwyn gyda theyrnged deimladwy gan ŵyr Basil, Damon John; yna ei fab-yngnghyfraith, Graham Finch. Cafwyd darlleniad o’r Beibl gan Wendon Wigglesworth, a darn o farddoniaeth yr un gan ei ddwy wyres, Natalie Finch a Nicky John. Mrs Pam Bowers chwaraeodd yr organ yn ystod y gwasanaeth, a chanodd Jennifer Pugh yr unawd hyfryd, Pie Jesu. Er gwaetha’r ffaith ei fod yng nghanol y Grawys, addurnwyd yr Eglwys gyda blodau, a hoffai’r teulu ddiolch i’r Eglwys am ganiatáu hynny, a hefyd i bob un o’r uchod am eu parodrwydd i gymryd rhan yn y gwasanaeth. Roedd Basil a Doreen fel cwpl yn hoff iawn o ddawnsio ar hyd eu hoes, felly wrth ymadael â’r Eglwys chwaraewyd un o hoff ganeuon y pâr - Unforgettable gan Nat King Cole, a hynny’n ddewis addas dros ben. Yn dilyn y gwasanaeth, roedd lluniaeth arbennig ar gael i deulu a ffrindiau Basil yn y Vic yn Llanbedr. Hoffai’r teulu ddiolch i bawb o waelod calon am yr holl garedigrwydd a chydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli gŵr, tad a thaid mor annwyl. Rhodd gan y teulu £20

Rhedeg hanner marathon Pob hwyl ar yr ymarfer i Damon John, a fydd yn rhedeg hanner marathon yn Abersoch ym mis Medi er cof am ei daid, Basil Jerram. Bydd yn casglu arian tuag at elusen Alzheimer ac os hoffai unrhyw un noddi Damon a chyfrannu at yr elusen, ewch i’r dudalen Just Giving: https://www.justgiving.com/ damon-john/

Sêl Cist Car

Clwb Chwaraeon Porthmadog

Dydd Sul 8 tan 1 £6 y car Ymholiadau - 01766 128667

3


Y BERMO A LLANABER

‘Our Backyard War’ gan Les Darbyshire Ar wahân i’r hyn sydd wedi ei gofnodi mewn gwahanol lyfrau am ddiogelu darluniau gwerthfawr yn Chwarel Manod, ychydig iawn sydd wedi ei groniclo am yr ail Ryfel Byd yng ngorllewin Meirionnydd. Yn y gyfrol hon, sef ail gyfrol Les Darbyshire, cawn gamu’n ôl a chanfod ein hunain yng nghyffro’r ardaloedd hyn a’u pobl yn ystod y blynyddoedd 1939-45. Ceir ymdriniaeth ddifyr â sawl agwedd o’r cyfnod yn y gyfrol hon, megis hanes faciwîs o Lerpwl a Phenbedw yn dod i’r ysgol, y Corfflu Amddiffyn Gwladol gyda Robert G Williams (Glyn Dairy) ac eraill yn cyfarfod yn seler yr hen Lyfrgell, y Gwarchodlu Cartref lleol gyda Tom Williams yn Brif Swyddog, a hanes am rai o’r dynion a fu’n rhan o gatrawd y Royal Engineers, megis Y Capten T W Owen, Swyddfeydd Caerblaidd, John Ellis Williams (yr awdur a’r dramodydd ), a’r rhingyll Ieuan Emyr Jones a fu’n ymdrin â diffiwsio ffrwydron tir a môr ac a ‘enwyd mewn dispatches’. Bu Les yn gweithio fel saer yng ngwersyll Trawsfynydd a maes awyr Llanbedr, a’r Mulberry Harbours enwog yng Nghonwy. Ymuno â’r awyrlu oedd ei ddymuniad ond yn y Llynges y gwasanaethodd yn y diwedd! Yn ddiau, bydd yr atgofion am y brodyr Bradley o’r Blaenau, sef Oswald Bradley (fy athro Saesneg-Sabo), y cynghorydd Frank Bradley, a’u brawd enwog ‘Flight Sergeant’ Joseph Bradley, a wnaeth enw iddo’i hun gyda’i ddewrder yn ymosod ar longau’r

4

gelyn yn Norwy a’i hanes ar Ynys Creta gyda’r Resistance, o ddiddordeb mawr i’r darllenwyr. Derbyniodd sawl medal a chlod am ei ddewrder. Pennod arall y cefais flas arni yn y gyfrol yw hanes y tri bachgen o’r Bermo a ladratodd reiffl yr un yn 1944, dianc i’r mynyddoedd, a phan ddaeth platŵn o 36 milwr ar eu hôl, mi lwyddasant i ddal eu tir am ddeuddydd yno, hynny yw hyd nes i’w bwledi ddarfod ! Y mae pigion o ddyddlyfr Gwarchodlu Cartref Aberdyfi am y flwyddyn 1940-42 yn ddifyr iawn hefyd. Cyfeirir at beryglon i’r gelyn lanio yno a defnyddio llen fwg a nwy gwenwynig. Nodir bod sŵn bomiau yn cael eu gollwng yn yr aber a ffrwydron môr yn cael eu golchi i’r lan, awyren wedi ei saethu i’r ddaear, cyfeiria at dair Spitfire a adawodd Lanbedr ger Harlech yn y bore a’u bod wedi diflannu, a chawn sawl nodyn yn rhybuddio am gyrchoedd awyr, ayyb. Wrth gwrs, y mae hi’n anodd iawn cyfleu’r holl wybodaeth sydd yn y gyfrol ddifyr hon mewn ychydig eiriau. Nid wyf wedi crybwyll y lluniau gwych sydd ynddi, y darnau o farddoniaeth, yr hen hysbysebion, y mapiau ac yn bwysicach na dim, enwau’r rhai a gollodd eu bywydau trosom ac a gofnodwyd ar gofebau’r gwahanol ardaloedd. Hoffwn gloi yng ngeiriau’r Athro Gwyn Thomas yn ei gyflwyniad i’r gyfrol, “I unrhyw un o’m cenhedlaeth i, bydd y llyfr hwn yn deffro atgofion, rhai ohonyn nhw’n drist ac eraill yn eithaf doniol, ond y cwbl yn dwyn i’r meddwl gyfnod tyngedfennol yn hanes y byd. I’r rhai hynny sy’n rhy ifanc i gofio, bydd y llyfr hwn yn gyfrwng i roi amcan iddynt o sut yr oedd hi’n teimlo i fod yn fyw yn ystod blynyddoedd y rhyfel”. Bydd y llyfr yn eich siopau llyfrau cyn bo hir. Mynnwch gopi rhag blaen. Steffan ab Owain Rhodd Diolch i’r Parch R W a Mrs Rhian Jones am y rhodd o £6.50.

Llwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd

Y car ralio a grëwyd gan bedwar o ddisgyblion Ysgol y Traeth, y Bermo, yn y Babell Gelf yn Eisteddfod Caerffili 2015

Cystadleuaeth Ddylunio a Thechnoleg B5 a B6, thema ‘Tyfu a Ffynnu’ Llongyfarchiadau mawr i bedwar o ddisgyblion Ysgol y Traeth, y Bermo, ar eu llwyddiant wrth ddod yn drydydd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerffili ddiwedd mis Mai. Criw brwdfrydig ym Mlwyddyn 5 Ysgol y Traeth oedd â diddordeb mawr mewn ralio oedd yn gyfrifol am y gwaith, ond fel popeth y dyddiau yma mae’n rhaid ei wneud yn gynaliadwy, felly gofynnwyd iddynt sut all ralio barhau ond eto bod yn gynaliadwy. Eu hateb oedd creu car ralio oedd yn rhedeg ar baneli solar, a gan fod ganddom seren ralio byd-enwog yn byw nepell o’r Bermo yn Nolgellau, creu car rali’r dyfodol i Elfyn Evans wnaeth y grŵp, sef Steven Cartwright, Alex Parker, Harrison Wright ac Osian Jones. Diolch i’w hathro celf Osian Edwards am ei arweiniad. Merched y Wawr Yn absenoldeb Llewela croesawodd Grace bawb i’r cyfarfod. Diolch i gynrychiolwyr yr is-bwyllgorau am barhau gyda’u gwaith am y ddwy flynedd nesaf. Diolch i Jean am baratoi adroddiad ar gyfer Llais Ardudwy a’r Cambrian News; bydd trefn newydd o Fedi 2015. Cynhaliwyd yr Ŵyl Haf ar 16 Mai a bu Dorothy a Geinor yn ein cynrychioli yn y gystadleuaeth tenis bwrdd. Bu Jean a Grace yn y Cyfarfod Blynyddol a’r wraig wadd oedd Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin. Eglurodd am y cynllun cyffrous newydd ‘bodo’ fydd yn rhoi cyfle i aelodau Merched y Wawr helpu plant bach cylchoedd meithrin trwy ddarllen straeon yn y cylch. Cafwyd noson lwyddiannus gyda’r dysgwyr yn Llanelltyd, a braf oedd gweld Geinor yn y côr. Diolchodd Pam i’r aelodau am eu cefnogaeth. Mae galw am wirfoddolwyr i helpu yn ein pabell yn Sioe Llanelwedd a’r Sioe Sir. Cyflwynodd Dorothy ein gŵr gwadd sef Gerallt Thomas, ffotograffydd proffesiynol gyda siop yng Nghaernarfon. Testun ei sgwrs oedd ‘Llynnoedd Eryri,” mae 144 ohonynt. Cychwynnodd yn y Carneddau a theithio lawr at Lyn Myngul yn Nhal-y-llyn. Eglurodd ei bod yn bwysig dweud stori wrth dynnu llun a bod angen cadw’r llun yn syml. Mae i bob llyn ei stori a llawer ohonynt â chysylltiadau gyda’r tylwyth teg. Cawsom gyflwyniad unigryw ganddo gyda lluniau ardderchog a hanes a nodweddion y dirwedd. Diolchodd Heulwen i Gerallt ar ein rhan am noson gartrefol, straeon difyr addysgiadol a chanddo gof bendigedig. Geinor a Heulwen oedd yn gyfrifol am y paned. Ar 16 Mehefin byddwn yn ymweld â Chwmni Seren.


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Teulu Artro Daeth y Teulu ynghyd ar Fai 6ed, a chroesawyd ni gan Gweneira, ein Llywydd. Mis Mai yw’r mis gorau gan Gweneira a gofynnodd am ein barn, a faint o’r aelodau sydd wedi clywed y gog. Anfonwyd ein cofion at Pam a Myfanwy – y ddwy ddim digon da i ddod i’r cyfarfod. Diolchwyd i Leah am ei rhodd o arian. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion mis Ebrill. Ein gŵr gwadd oedd Mr Phil Mostert. Croesawyd ef gan y Llywydd, a diolchodd iddo am roi o’i amser i helpu gyda gwahanol fudiadau. Cawsom hanes - trwy sgwrs a sleidiau - am ymweliad â Kenya yn 2011. Cawsom hanes yr ysgolion a hefyd hanes y bobl leol. Mae safonau hylendid yn parhau yn echrydus o isel mewn llawer rhan o’r wlad. Bydd Teulu Artro yn anfon cyfraniad at ‘Water Aid’ yn dilyn y sgwrs hon. Diolchwyd i Phil gan Iona, un a fu’n ymweld â Kenya yn y gorffennol ac enillwyd y rafflau gan Catherine ac Iona. Y Swyddfa Bost Dydd olaf o Ebrill caewyd drws y Swyddfa Bost am y tro olaf. Mae’r rhai hynaf ohonom yn cofio Mr Rhys Pugh Griffith yn Bost Feistr yno, gyda Miss Jennie Roberts a Mrs Mair Thomas, Tŷ Gwyn yn ei gynorthwyo. Bu’n lle prysur iawn flynyddoedd yn ôl yn arbennig yn ystod y rhyfel. Dymunwn yn dda i Mr Roger Thomas ar ei ymddeoliad, gan obeithio y gwelwn Swyddfa Bost arall yn agor yn y pentref yn fuan iawn.

RHAGOR O’R BERMO

Profedigaeth Cydymdeimlwn â Mr a Mrs Gwynne Jones, Wenallt, yn eu profedigaeth o golli mam Gwynne, sef Mrs Laura Jones, Harlech yn 94 oed.

Cofio’r cleifion Mae Mrs Vera Redhead, Ardudwy yn Ysbyty Gwynedd. Gobeithio ei bod yn gwella, a bu Mr Howell Jones, 6 Moelfre Terrace hefyd yn cwyno. Gobeithio ei fod yntau wedi gwella. Y Maes Awyr Yn yr wythnosau diweddar bu cryn fynd a dod i’r maes awyr. Roedd y rhain yn baratoadau at dri diwrnod o ddangos y datblygiad sydd mewn llaw i alluogi hedfan hofrennydd yn ddi-beilot. Derbyniodd Cyngor Cymuned Llanbedr wahoddiad i fynd i’r dyddiau arddangos ac i’r rhai a fu, roedd yn ddiddorol ac yn agoriad llygaid i fyd gwahanol iawn. Buom yn gwrando ar y cyflwyniadau gan y gwyddonwyr oedd yn egluro sut yr aed ati i ddatblygu’r dechnoleg ac arbrofi gyda hofrennydd a addaswyd. Gwelwyd yr hofrennydd yn codi, cwblhau taith ac yna glanio ar drelar oedd y tu ôl i lori yn gyrru ar hyd y maes awyr. Mae dau brif fantais i allu hedfan heb beilot; mae angen llai o offer ac felly gellir cario mwy o lwyth, a gellir hedfan am amser heb ei gyfyngu gan flinder y peilot. Yn sicr defnydd milwrol sydd wrth wraidd y datblygu; y weinyddiaeth amddiffyn sydd yn ariannu’r ymchwil ac o’r lluoedd oedd y rhan fwyaf o’r rhai oedd yna ar gyfer yr arddangosfa, ond mae defnydd arall er enghraifft pe byddai ar gael byddai wedi bod yn gymorth mawr i ddosbarthu

Marwolaeth Ar 24 Mai, bu farw Ellen Hoare (Evans gynt) yn Hafod Mawddach, Bermo, yng nghwmni ei theulu, yn 86 mlwydd oed. Bu’n byw cyn hynny yn Heol Idris ac roedd yn wraig i’r diweddar Edward, yn fam i John a Moira, ac yn nain a hen nain hoff i’w wyrion a’i hwyresau. Roedd yn chwaer i Wynne a’r diweddar Peter a Dennis. Cynhaliwyd ei gwasanaeth angladdol yn Eglwys Sant Tudwal, y Bermo ar 2 Mehefin, ac fe’i rhoddwyd i orffwys ym Mynwent Llanaber. Derbynnir cyfraniadau’n ddiolchgar tuag at Ambiwlans Awyr Cymru er cof amdani drwy law Pritchard a Griffiths, Stryd Dulyn, Tremadog. Anfonwn ein cydymdeimlad â’i theulu i gyd yn eu colled.

cymorth yn Nepal. Mae dwy farn yng nghylch y defnydd sydd yn cael ei wneud o’r maes awyr ond mae’n rhaid canmol QinetiQ am roi gwahoddiad i’r digwyddiad er mwyn i ni yn lleol gael gweld beth yw’r datblygiadau posibl. Rhagwelir y bydd mwy o arddangosfeydd tebyg oherwydd nad oes safle arall tebyg heb fynd i’r Unol Daleithiau neu Ganada. Beth fydd y fantais i’r economi lleol yw’r cwestiwn mawr? Yn sicir fe fu’r gwestai lleol yn brysurach nag arfer ond does dim llawer arall. Cwmni o Gonwy oedd yn arlwyo, ac mae’n debyg eu bod yn ystyried hyn yn lleol. Bu rhyw ychydig o waith rhan amser i rai lleol ond rhai o ffwrdd sydd yma yn barhaol bum diwrnod yr wythnos yn rheoli’r hedfan ac yn mynd adref dros y Sul. Mae’n debyg nad oes neb yn byw’n lleol gyda’r sgiliau priodol ond tybed a oes Cymro gyda’r sgiliau a fuasai’n hoffi dod yma i fyw? Mae’n rhaid cael rhyw ffordd o hysbysu bod cyfleodd fel hyn ar gael.

Cyhoeddiadau’r Sul Am 2.00 o’r gloch MEHEFIN 7 Capel Nantcol, Parch Patrick Slattery 14 Capel Salem, Parch Tecwyn Ifan 21 Capel y Ddôl, Mrs Gretta Benn GORFFENNAF 5 Capel y Ddôl, Parch Edwin Hughes 12 Capel Salem

Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, Cymdeithas Hanes Sir Feirionnydd a Chymdeithas CymruAriannin Neuadd Bentref Llanelltyd, Dydd Sadwrn, 13 Mehefin am 2.30 y prynhawn

Sgwrs am Enwau Lleoedd Patagonia gan y Dr Dewi Wyn Evans, o Brifysgol Dulyn.

TAITH ARCHEOLEGOL

Ddydd Sul, 24 Mai, aeth criw bach o bobl leol ar un o deithiau CADW, a arweiniwyd gan Rhys Mwyn, o gyffiniau Llandecwyn i fyny am heneb trawiadol Bryn Cader Faner. Ar y ffordd cawsom hanesion difyr gan Rhys am y nodweddion a oedd i’w gweld y naill ochr i’r llwybr uwchben Caerwych - cytiau Gwyddelod, mannau claddu, hen feudai ac aneddleoedd wedi eu hamddiffyn. Yn ôl Rhys, mae Bryn Cader Faner ei hun yn un o’r mannau claddu sydd wedi goroesi orau yn y wlad, os nad yng ngwledydd Prydain. Wrth deithio ar yr hen ffordd o’r oes efydd o gyfeiriad Ardudwy am Gwm Moch a Thrawsfynydd, mae meini’r heneb i’w gweld yn hynod o drawiadol, ac yn ôl Rhys, roedd hyn yn hollol fwriadol er mwyn i deithwyr y cyfnod sylweddoli bod yr unigolyn a gladdwyd yno’n un o bwysigion y fro.

5


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Dathlu Canmlwyddiant Sefydliad y Merched Yn Llanfairpwll ym Môn y ffurfiwyd y gangen gyntaf o Sefydliad y Merched yng Nghymru a Lloegr, a hynny yn 1915. “Fy Ngwlad a’m Cartref ” yw arwyddair y sefydliad. Yn 1917, daeth merched Dyffryn a Thalybont at ei gilydd i ffurfio cangen a buont yn cydweithio tan 1949, ond gan fod y cyfan o’r gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg a chyda mewnlifiad o Saeson i’r ardal, ffurfiwyd cangen Saesneg yn Nhalybont. Dechreuodd dathliadau’r canmlwyddiant ym mis Ionawr 2014, yn dilyn penderfyniad i ddanfon baton ar daith gyfnewid i bob sir yng Nghymru a Lloegr, gan gychwyn o Lanfairpwll wrth gwrs. Meinir Lloyd Jones yw llywydd y mudiad ym Meirionnydd, un o blant y Dyffryn, a hi dderbyniodd y baton ym Mhenrhyndeudraeth oddi wrth lywydd Sir Gaernarfon. Trosglwyddodd Meinir y baton i Dorothy Harper, llywydd Grŵp Artro, yng Ngwesty’r Fictoria yn Llanbedr, lle’r oedd cynrychiolwyr pum cangen yn bresennol, sef Harlech, Llanfair, Dyffryn, Talybont a’r Bermo. Arddangosodd y cynrychiolwyr eu baneri gan roi hanes byr o’u cangen. Roedd pob baner yn dangos nodweddion nodedig o’r ardal a gynrychiolwyd. Ffrwyth gwaith destlus Gwyneth Morris a welir ar faner Dyffryn, gyda’r arwyddair, dyddiad sefydlu, y Ddraig Goch a’r cromlechi, sy’n nodwedd arbennig a hanesyddol o fro sydd mor gyforiog o hanes. Ar gais y Ffederasiwn, cymerodd Gwen Pettifer luniau fel cofnod o’r achlysur. Yng Ngwesty Siôr III, Llyn Penmaen, trosglwyddodd Dorothy’r baton i lywydd Bro Dysynni ac aeth yn ei flaen wedyn i weddill Meirion, cyn i Meinir, fel llywydd y sir, ei gyflwyno i lywydd Sir Ddinbych yng Nghanolfan Garddio Dwyryd. Y mae Cynhadledd Flynyddol y sefydliad yn Neuadd Albert ym Mehefin lle bydd y baton yn cael ei gyflwyno i’r Llywydd Cenedlaethol. Bydd dathliadau

6

trwy Gymru a Lloegr a threfnwyd cyfarfod arbennig yn Theatr y Ddraig, y Bermo. Bydd yna edrych ymlaen at weld a chlywed adroddiadau pellach am weithgareddau’r dathlu. Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn Neuadd yr Eglwys bnawn Mercher, 20 Mai. Croesawyd pawb gan Gwennie gyda chroeso arbennig i aelod newydd, Mrs Iris Pugh. Dymunodd yn dda i Mrs Blodwen Williams oedd yn mynd i’r ysbyty ddiwedd yr wythnos a hefyd i Ron ac Olwen Telfer yn eu cartref newydd ym Mhentre Uchaf. Yna croesawodd Mr Wyn Peate o Golan atom. Hyfforddwr dysgu dreifio ydy Mr Peate. Ond fe fu’n athro yng Nghyffordd Llandudno ac Ysgol Maenofferen, Blaenau Ffestiniog am flynyddoedd cyn penderfynu newid gyrfa. Tri chwestiwn sy’n cael eu gofyn iddo’n aml yw Pam? Ydy o’n syrffedu ar y gwaith? Ydy o erioed wedi teimlo ofn wrth wneud y gwaith? Atebodd y cwestiynau trwy ddweud storïau difyr, doniol ac ambell un frawychus. Diolchwyd iddo gan Elinor am bnawn diddorol a hwyliog. Rhoddwyd y te a’r raffl gan Beti, Leah, Mary a Glenys. Ar 17 Mehefin, byddwn yn mynd ar ein trip blynyddol, cinio yng Nghricieth ac yna ymlaen i Dyddyn Sachau. Y bws yn Nhalybont 11.00, Dyffryn 11.10, Llanbedr, 11.20 a Harlech 11.30. Cofion Anfonwn ein cofion a’n dymuniadau gorau at Mr Glyn Edwards, Arfryn sydd wedi bod yn yr ysbyty yn cael llawdriniaeth ar ei goes. Hefyd at Mrs Blodwen Williams, Bodfaen oedd yn cael llawdriniaeth ar ei choes ar 22 Mai ac at Mrs Glenys Richards, Minffordd, sydd wedi bod yn cwyno’n ddiweddar.

TREM ARALL YN ÔL Dosbarth Mr Meirion Jones

Rhes ôl: Ifan Parc Isa, Ronald Evans, Ron Socket, Thyrlus Hughes. Rhes ganol: Anona Lloyd Jones, Gwynfor Evans, Gedol Roberts, Mr Meirion Jones, Mair Griffiths, ? , Catrin Edwards. Rhes flaen: George Edwards, Llewelyn Ellis, Blodwen Jones, Blodwen Francis, Audrey Hughes, Jane Jones, Dilys Roberts.

Dosbarth Ysgol Sul Horeb 1952

O’r chwith i’r dde: Helaine Jones, Carol Williams, Ann Eurwen Roberts, Mr Emrys Evans, Meinir Pugh, Margaret Griffith.

Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb MEHEFIN 7 Parch Philip de la Haye 14 Parch Gwyn Rhydderch 21 Parch Ioan Davies 28 Parch Megan Williams, 5.30 GORFFENNAF 5 Parch Dafydd Rees Roberts

SAMARIAID Llinell Gymraeg 0300 123 3011

Neuadd Gymunedol Dyffryn

CYNGERDD DAU GÔR Côr Meibion Ardudwy Côr Merched Leelo [o Pärnu yn Estonia]

Nos Sul, Mehefin 28 am 7.30 Tocynnau: £5 Plant yn rhad ac am ddim Elw i gefnogi taith y côr o Estonia


RHAGOR O DYFFRYN A THAL-Y-BONT

CLWB CINIO

COFIO UN O FAWRION Y DYFFRYN Diolch i Wil Owen am fwy o hanes E Morgan Humphreys, Faeldref, yn dilyn cyhoeddi erthygl W Arvon Roberts amdano yn Llais mis Ebrill 2015.

Clwb Cinio Capel Horeb Dydd Mawrth, 19 Mai, aeth criw ohonom i Westy’r Eryrod yn Llanuwchllyn am yr eildro i gael cinio. Wedi croeso cynnes a bwyd ardderchog gan Eleri a Deilwen, aethom ymlaen am Gorwen i ymweld â Chapel Rug. Pawb wedi ei basio nifer o weithiau ond heb aros i fynd i’w weld. Adeiladwyd Capel Rug gan yr adeiladwr William Salesbury ym 1675. Yn awr mae dan ofal CADW ac yn werth ei weld gyda’i ffenestri lliw hardd, ei nenfwd pren gwych gyda’i angylion lliwgar a’i ganwyllbrennau crog a phennau’r meinciau wedi eu cerfio ag anghenfilod chwedlonol. Dydd Iau, 18 Mehefin, byddwn yn mynd am ginio i’r Afr, Glandwyfach ac yna ymlaen i Oriel Plas Glyn y Weddw.

GWAU BLANCED

Chwedeg mlynedd yn ôl i’r mis hwn bu farw’r newyddiadurwr E Morgan Humphreys. Cafodd ei eni a’i fagu yn y Faeldref, Dyffryn Ardudwy. Bu ei deulu yno o’i flaen, y Parch Edward Morgan, ei daid a’r Parch Richard Humphreys, ei hen daid. Richard Humphreys oedd gweinidog cyntaf capel Horeb ac Edward Morgan a’i dilynodd. Merch Edward Morgan oedd mam E Morgan Humphreys. Treuliodd beth amser ar y Barmouth Advertiser cyn symud i weithio ar bapurau newydd yn nhref yr inc bryd hynny, Caernarfon. Daeth yn adnabyddus fel golygydd rhai o’r papurau wythnosol Cymraeg – Y Genedl Gymreig a’r Goleuad. Bu’n golofnydd i’r Liverpool Daily Post lle’r ysgrifennai dan yr enw Celt, ac i’r Manchester Guardian. Aeth ati i ysgrifennu llyfrau i ddarllenwyr ifanc – Dirgelwch Gallt y Ffrwd a Ceulan y Llyn Du yn eu plith. Daeth ei lais yn gyfarwydd ar y radio yn ystod rhaglenni cynnar y BBC o Fangor. Mewn un ysgrif radio yn 1952 bu’n sôn am feirdd Ardudwy a gofiai pan oedd yn blentyn. Gwilym Ardudwy, Bryn Teg oedd un yr oedd â meddwl mawr ohono – “y tebycaf i syniad llawer ohonom am fardd o ran ei olwg o bob un.” Gweryddon oedd y bardd arall a gofiai, Hugh Evans; roedd o’n byw ym Mhen y Bont, Talybont. Cadwai siop fechan ar lan afon Sgethin ac roedd wedi dofi dau frithyll yn yr afon, meddai Morgan Humphreys. Ieuan Ionawr oedd y trydydd. Bu’n cadw carchar Dolgellau cyn dod i’r Dyffryn i fyw. Ychydig fyddai’n cofio ei waith hyd yn oed drigain mlynedd yn ôl, eglurodd. Bu farw E Morgan Humphreys yng Nghaernarfon 11 Mehefin 1955 yn 73 oed ac yn y dref honno y claddwyd ef.

CEIR MITSUBISHI

Aelodau o Glwb Cadwgan a fu’n gwau blanced amryliw i’w hanfon i blant sydd angen cadw’n gynnes yn y Trydydd Byd. O’r chwith i’r dde: Mrs Selby, Mrs Hall, Mrs Warrilow a Mrs Enid Thomas.

Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk 7


HARLECH Sefydliad y Merched Croesawyd yr aelodau a’r gwesteion gan y llywydd Christine Hemsley nos Fercher 13 Mai yn y Neuadd Goffa, Harlech. Canwyd y gân Meirion gyda Myfanwy Jones yn cyfeilio. Dymunwyd yn dda i rai oedd yn sâl yn arbennig i Libby Williamson oedd wedi bod yn yr ysbyty yn ddiweddar; hefyd i Mary Stein oedd wedi bod yn yr ysbyty. Cydymdeimlwyd â theulu’r diweddar Christine Pickard. Llongyfarchwyd Gwen Pettifer ar ennill gwobr yn y Ffair Wanwyn am ei gwaith gyda SyM ar hyd y flwyddyn. Darllenwyd y llythyr o’r sir a nodwyd dyddiadau o bwys, sef y cwis yn Nolgellau, ymweliad â’r Tollty yn Llanfairpwll a’r Arddangosfa Canmlwyddiant yn Sir Fôn ar 16 Mai. Hefyd y darllediad o Gyfarfod Blynyddol NWFW yn Llundain oedd yn cael ei darlledu o Neuadd Albert i Theatr y Ddraig yn y Bermo ar 4 Mehefin. Fe fydd 80 o aelodau o wahanol SyM yn yr ardal yn mynd i’r Bermo i weld hwn ac mae bwffe wedi ei drefnu ar gyfer y diwrnod. Cafwyd adroddiad gan Denise Hagan am y gwaith sy’n cael ei wneud ar y stesion yn Harlech. Mae llawer o wahanol bethau yn cael eu trefnu gan Annette Evans ar gyfer mynd i Tŷ Gwyn y Bermo ac i’r Theatr yn Llandudno. Yna cyflwynwyd y gŵr gwadd Mici Plwm. Cafwyd sgwrs ddiddorol ganddo am y gwaith y mae Age Cymru’n ei wneud mewn gwahanol ardaloedd. Mi fyddai’n braf iawn gweld un yn cychwyn yn Harlech. Diolchwyd iddo ar ran SyM gan Edwina Evans. Yna torrwyd y gacen oedd wedi ei gwneud at y cinio yn y golff yn ddiweddar gan Christine a Jill Houliston, yr is-lywydd. Y mis nesaf, ar 10 Mehefin, y wraig wadd fydd Anne Fleming o Fantell Gwynedd. Croeso i ymwelwyr ymuno â ni am y noson.

Diolch Diolch i Mandy Edwards a’r teulu am y rhodd o £20 er cof am eu mam, Mrs Maggie Edwards, fu farw’n ddiweddar. Hoffai’r teulu ddiolch yn fawr am y cyfraniadau o £438.000 a gasglwyd yng nghynhebrwng Mrs Edwards tuag at y Nyrsys Cymunedol Lleol.

Teulu’r Castell Croesawyd yr aelodau gan lywydd Merched y Wawr, Mrs Hefina Griffith, gan mai MyW oedd yn gyfrifol am fis Mai, prynhawn dydd Mawrth 12 Mai yn y Neuadd Goffa, Llanfair. Diolchwyd iddi am y croeso gan Edwina Evans. Cydymdeimlwyd â theulu’r diweddar Mrs Laura Jones (Auntie Laura i lawer ohonom). Bu’n aelod ffyddlon o TC pan oedd hi’n byw yn Harlech. Braf iawn oedd gweld Enid Smith yn ôl yn Harlech am yr haf. Dymunwyd pen-blwydd hapus i bawb oedd yn dathlu’r mis yma, a gwellhad buan i’r rhai nad oedden nhw’n ddigon da yn arbennig i Menna Jones, Olwen Jones, Meirion Thomas, a Mair M Williams. Gobeithio y cawn drefnu te at ddiwedd Mehefin neu ddechrau Gorffennaf. Cewch glywed y trefniadau pan fyddan nhw wedi eu gwneud. Yna, cyflwynwyd y ddau ŵr gwadd, sef John a Roger Kerry. Cawsom amser braf yn clywed y ddau ddawnus yma’n canu caneuon Cymraeg a Saesneg. Rhoddwyd y diolchiadau gan Edwina. Yna, cawsom de gwych wedi ei baratoi gan aelodau o MyW. Diolch hefyd am y rafflau a roddwyd gan aelodau o FyW.

Pen-blwydd Dymuniadau gorau a phenblwydd hapus i Mr Hefin Jones, Arfor, Harlech, sydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed ar 27 Mehefin 2015.

Rhodd i’r Llais Cyfeilles ddienw o Harlech £20

Darlith Flynyddol Cyfeillion Ellis Wynne Fe’i traddodwyd yn Neuadd Gymuned Talsarnau, nos Iau, Ebrill 16, 2015, i gynulleidfa niferus gan Twm Elias. Ei theitl oedd ‘Hedd Wyn: Seren Ddisglair ar Ffurfafen Serog.’ Roedd ei chwmpas yn eang, yn amseryddol ac yn gyfeiriadol, a chan gyfeirio at Hedd Wyn ac at feirdd eraill a drigai yn yr ardal yn ystod ei gyfnod, eglurodd Twm gymaint yn rhan o’u cymdeithas yr oeddynt a bod eu hawen a’u cynnyrch yn ganlyniad eu perthynas annatod â’u cymdeithas yn hytrach nag yn ganlyniad eu dawn eu hunain yn unig. Atgoffodd y gynulleidfa o’r cyfoeth diwylliannol sydd gennym fel Cymry a bod elfennau o’n cynhysgaeth yn unigryw a ninnau fel pe na baem yn sylweddoli hynny gan ymagweddu fel pe baem dan yr argraff bod yr hyn sydd gennym yn gyffredin i genhedloedd eraill, hefyd. Anogodd y gynulleidfa i edrych o’r newydd ar ei chynhysgaeth gyfoethog i sylweddoli a gwerthfawrogi ei harbenigrwydd. Gyda phwyslais ar gefndir cymdeithasol canu beirdd gwlad, enghreifftiodd yn ddoniol a thrawiadol drwy ddyfynnu rhai o’u cerddi. Achlysur cynnes, cartrefol a dynnwyd i’w derfyn gyda lluniaeth ysgafn a sgwrs. Diolch Dymuna teulu’r diweddar Mrs Laura Jones, 9 Y Waun, Harlech, ddiolch i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a dderbyniwyd yn eu profedigaeth o golli mam, mam yng nghyfraith, nain, hen nain, hen hen nain, chwaer a modryb a oedd yn annwyl iawn ganddynt. Gwerthfawrogir yn fawr iawn yr holl ymweliadau a galwadau ffôn, y cardiau niferus a’r rhoddion hael er cof amdani, tuag at Gymdeithas Parkinsons. Diolch yn arbennig iawn i’r chwiorydd Bethan Johnstone, Gwen Edwards ac i’r organydd Edward Owen. Diolch hefyd i’r trefnwyr angladdau Pritchard a Griffiths am eu trefniadau urddasol. Aygo newydd! Diolch a rhodd £10

YARIS

AURIS

AYGO NEWYDD

TOYOTA HARLECH Ffordd Newydd, Harlech 780432 Dewch i weld yr

8

Diolch Dymuna Trefor Wyn, Morfa Garej ddiolch i bawb am gyfrannu at y casgliad yng nghynhebrwng Pat. Casglwyd cyfanswm o £1,340 tuag at uned gofal dwys Ward Cybi yn Ysbyty Gwynedd. Hoffai Trefor a’r teulu i gyd ddiolch o galon i bawb yn yr ardal am eu caredigrwydd a’u cyfraniad. Diolch a rhodd £20


CYNGOR CYMUNED HARLECH Aelod Newydd Croesawyd Huw Jones i’w gyfarfod cyntaf o’r Cyngor a dymunodd yn dda iddo yn y dyfodol. Cydymdeimlwyd â Gareth Jones a’r teulu yn eu profedigaeth o golli Mrs Laura Jones, 9 Y Waun, Harlech. Ethol Swyddogion Cadeirydd: Caerwyn Roberts, Is-gadeirydd: Edwina Evans Sedd Gyhoeddus ar Penllech Oherwydd bod Mrs Samantha Scriven yn gofyn a oedd lleoliad arall i osod sedd er cof am ei thad gan fod cae chwarae Llyn y Felin ar gau, cytunwyd i gynnig y safle o dan Afallon, Penllech iddi gan fod angen sedd newydd ar y safle. Parcio yn y Dref Mae cabinet y Cyngor Sir yn fodlon ystyried ein cais i newid dynodiad maes parcio Bron y Graig Isaf yn y dyfodol ond bydd swyddogion yn monitro’n ofalus batrymau parcio yn y dref unwaith y bydd safle parcio CADW yn weithredol. Bydd Swyddogion Gorfodaeth Parcio yn ymweld â’r dref yn rheolaidd dros y 6 mis nesaf i rannu tocynnau parcio. Cais Cynllunio Cadw’r ffenestri UPVC sydd wedi eu gosod - cyn-Gapel Tabernacl, Stryd Fawr. Gwrthwynebwyd y cais hwn oherwydd ei fod mewn ardal gadwraeth a hefyd oherwydd bod y Parc Cenedlaethol wedi cymryd gorfodaeth gyda Byrdir sydd ar y Stryd Fawr. Un Llais Cymru Mae hyd at 70% o grant ar gael gan Lywodraeth Cymru i atgyweirio a diogelu cofebion rhyfel cymunedol fel rhan o weithgareddau cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf. Cytunwyd nad oedd angen gwneud unrhyw waith. Capel Jerusalem Derbyniwyd llythyr ar ran aelodau Capel Jerusalem yn gofyn a fyddai’r Cyngor yn gallu gofyn i Gyngor Gwynedd nodi lle parcio cyfnod byr ar gyfer addolwyr y Capel hwn gan fod gwaith adeiladu yn mynd i gael ei wneud ar y darn tir gyferbyn â’r Capel. Cytunwyd i anfon copi o’r llythyr at Gyngor Gwynedd. Materion Eraill Cytunwyd i estyn gwahoddiad i aelodau o Glwb Pêl-droed Harlech i gyfarfod o’r Cyngor ym mis Gorffennaf. Datganwyd pryder a siom bod llythyr wedi ymddangos yn y Daily Post yn ddiweddar yn datgan bod y dref fel safle bomiau a chytunodd pawb fod yr erthygl hon wedi gwneud mwy o ddrwg i Harlech a’r ardal nag o les. Cytunwyd bod angen gwneud rhywbeth i hybu’r dref a’r ardal a chytunwyd i chwilio am brisiau gwneud fideo. Datganwyd pryder bod y safle y tu ôl i’r fferyllfa yn flêr. Mae angen cysylltu â’r Adran Briffyrdd yn Nolgellau ynglŷn â’r cerrig sy’n dal yn rhwystr ar Ffordd Uchaf.

YSGOL ARDUDWY, HARLECH

Cyngerdd yng nghwmni cerddorfa werin

Y GLERORFA

Chwilio am Arwresau Cudd y Byd Ffermio Meddyliwch am ffermwr a mwy na thebyg y ddelwedd a ddaw i’ch pen yw dyn. Ond mae cystadleuaeth newydd ei lansio sy’n ceisio newid y syniad hwn trwy godi ymwybyddiaeth am ferched ym myd amaeth. Mae merched cefn gwlad yn cael eu hannog i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Ffermwraig Cymru’r Flwyddyn 2015 NFU Cymru/ Cymdeithas Adeiladu’r Principality, bellach yn ei 19eg flwyddyn, ac i helpu dathlu cyfraniad merched i ddiwydiant lle mae dynion yn parhau i arglwyddiaethu i raddau helaeth. Y gwir heddiw yw bod ffermydd yn cael eu rheoli mewn partneriaeth ac nid o reidrwydd dyn yw’r ffermwr. Nid yn unig mae merched yn rheoli ffermydd ond hefyd, yn y sefyllfa anodd bresennol lle mae prinder arian, maen nhw’n aml yn rhedeg busnes arall ar wahân neu’n mynd i weithio er mwyn ychwanegu at incwm y teulu wrth ddelio â gofal plant a bywyd teuluol ar yr un pryd. Mae buddugwyr blaenorol y gystadleuaeth wedi codi ymwybyddiaeth am ferched ym myd amaeth ac wedi defnyddio’u llwyddiant i gyrraedd ac annog merched eraill, meddai Sarah Jones, Ymgynghorydd Cyfathrebu NFU Cymru. Bydd enillydd cystadleuaeth Ffermwraig Cymru’r Flwyddyn 2015 NFU Cymru/Cymdeithas Adeiladu Principality yn cael £500 a’r ddwy ail £100 yr un. Y dyddiad cau yw dydd Llun, 15 Mehefin 2015. Os oes gennych ddiddordeb mewn cystadlu neu enwebu rhywun ar gyfer y gystadleuaeth, cysylltwch â NFU Cymru yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, am ffurflen gais. Ffôn: 01982 554200 neu e-bost: sarah.jones@nfu.org.uk.

Profedigaeth

Cydymdeimlwn â Clare Ward, Ffordd Uchaf, Harlech, ar farwolaeth ei gŵr Keith, ar ôl iddo golli ei frwydr ddewr yn erbyn afiechyd cas. Cafwyd hanes Clare, sy’n dysgu Cymraeg ac sy’n aelod o Gôr Cana-mi-gei, yn y golofn Holi Hwn a’r Llall mewn rhifyn diweddar o’r Llais. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf â Clare, oddi wrth aelodau’r côr a phobl yr ardal. Pen-blwydd Bydd Hannah Gunn o Harlech yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 oed ar y cyntaf o Fehefin. Llongyfarchiadau mawr gan Mam, Bob, Jo, Ellie, Nain a Taid. £5

Noson Goffi

Ymchwil Canser Harlech Nos Wener, 19 Mehefin

Nos Sadwrn, Mehefin 27 am 7.30 o’r gloch Tocyn: £10 / Plant £5

Tocynnau: 01766 770621 / 540681 / 770757 / 781395 Elw at Gyfeillion Ellis Wynne

am 7.00 o’r gloch yn Neuadd Goffa Harlech. Mynediad £1. Stondinau amrywiol a pherfformiad gan y ‘Dizzee Dancers’

Marwolaeth Gyda thristwch y derbyniwyd y newyddion am farwolaeth Mr Reg Morris, cyn-athro daearyddiaeth yn Ysgol Ardudwy. Bydd gan lawer o gyn-ddisgyblion lu o atgofion amdano a’i gyfraniad gwerthfawr i’r ysgol. Ynghyd â’i gydddeheuwr Tudor Thomas, bu’n allweddol wrth gyflwyno rygbi i’r disgyblion. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf â’i blant David, Lyneth ac Iwan a’u teuluoedd yn eu colled a’u hiraeth amdano. Llwyddiant i bobl ifanc y pwll nofio Llongyfarchiadau calonnog i griw o bobl ifanc sydd wedi cael llwyddiant rhagorol yn ddiweddar yn eu cystadlaethau nofio, yn enwedig Rebecca Gennard o Harlech. Ymysg y bobl ifanc eraill a lwyddodd yn rhagorol roedd Brandon Smedley, Steffan Titley, Chelsea Smedley, Cynan Sharp ac Alaw Sharp. Enillwyd cyfanswm o 21medal gan yr uchod. Da iawn, bob un ohonoch - daliwch ati.

9


ELUSEN AMAETHYDDOL RABI

Gŵyl Gerddorol Harlech 1910 (parhad)

Atseiniodd hen furiau Castell Harlech i aml i gri yn ystod ei hanes cynnar – ochain a gruddfan gwŷr Namor mewn hualau yn ei gelloedd, chwerthin uchel y gloddest yn neuadd y wledd, gwaedd lleisiau croch ym merw buddugoliaeth yn rhuthro arno, hyn a mwy. Ond daeth tro ar fyd a chafwyd distawrwydd. O’r meini hyn rhwng 1461 a 1468, cyfnod y gwarchae yn y castell, y cafwyd y cefndir i un o alawon mwyaf cyffrous y byd sef ‘Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech’. Ond oedd y Castell yn lleoliad bendigedig i gynnal gŵyl gerddorol o’i math. “Bore’r Ŵyl,” yn ôl un o Elusen amaethyddol yw RABI sy’n cefnogi teuluoedd yng Nghymru ohebwyr y cyfnod, yn 1910, “yn a Lloegr sydd naill ai’n ffermio, neu wedi ymddeol o’r byd amaeth. dilyn noson stormus o wynt a glaw Rydym yn gallu helpu pan fo’r esgid fach yn gwasgu am nifer o gyrru trwm, yr oedd yn wledd i’r resymau. Sefydlwyd yr elusen yn 1860, a medrwn gynorthwyo llygad sefyll ar ei ragfuriau a gweld ffermwyr a gweithwyr amaeth, dros dymor byr: er enghraifft yn y cymylau llaesion yn rhuthro’n dilyn salwch, damwain, profedigaeth, teulu’n chwalu, neu glefydau wyllt o’r môr ac yn rhwygo’r ar anifeiliaid. Gallwn, yn ogystal, gynnig cymorth hir dymor i bobl godreon yn garpiau ar lethrau a chribau Arfon - nes dadorchuddio hŷn, pobl sydd wedi ymddeol o’r diwydiant amaeth, a phobl o bob yn raddol gogoniant y wlad i bob oedran sydd ag anableddau. cyfeiriad. Yn ymyl oedd Glasynys, Mae’r elusen yn medru trefnu grantiau’n gyfrinachol i deuluoedd neu unigolion sy’n gysylltiedig â’r byd amaeth os ydy hi’n fain arnyn a heb fod ymhell ond o’r golwg, y Gerddi Bluog.” nhw. Rhaid i bob darpar ymgeisydd fod wedi ffermio am o leiaf 10 Ni chafwyd erioed well canu nag a mlynedd, a heb gynilion dros £10,000. gafwyd yno yn 1910. Meistrolodd Mae’r cymorth sydd ar gael yn cynnwys cyngor ar fudd-daliadau’r bob côr – yn fach a mawr – ei wladwriaeth, grantiau rheolaidd, neu daliadau brys. Gallwn helpu waith fel rhan o’r côr anferth a gyda biliau cyfleustodau, gan gynnwys olew gwresogi yn y gaeaf, ganodd Y Meseia. Yn y bore a nifer o gostau eraill sy’n ymwneud â’r teulu a’r cartref. Gallwn cafwyd atgofion am yr amser hefyd dalu am offer arbenigol, nwyddau hanfodol cartref, a chostau gynt, ac anogaeth ar i’r bobl i ddal teithio i’r ysbyty. Rydym yn asesu pob cais a dderbynnir gennym gafael ar yr hen alawon gan Mary yn drylwyr. Os yw’r ymgeisydd yn gymwys i dderbyn cymorth, Davies. L J Roberts oedd Llywydd byddwn yn teilwra’r cymorth yn unol â’r angen. Rydym weithiau’n y prynhawn, a Syr Osmond Williams, cwnstabl y castell, yn gallu cynorthwyo gyda ffioedd cartrefi gofal, a chostau cymorthLlywydd y nos, gyda Llew Meirion cartref pan fo angen. yn gofalu am gadw trefn ar y dyrfa Nid yw RABI ar unrhyw gyfrif yn talu biliau busnes y fferm, ond fawr gydol y dydd. Cafwyd cyfle gallwn dalu am staff: er enghraifft, pan fydd rhywun yn methu â i ymgeleddu a meithrin doniau gweithio oherwydd salwch neu ddamwain. Rydym yma i gefnogi a thalentau ifanc yng Nghymru pobl, nid busnesau aflwyddiannus. a allasai gynt oherwydd diffyg Mae Cynllun y Porth (Gateway) yn gallu talu am hyfforddiant i cefnogaeth fod wedi methu cyn alluogi pobl i ddatblygu sgiliau i gael gwaith oddi ar y fferm, er blaguro. Yr oedd y gobeithion yn mwyn ychwanegu at incwm y fferm. uchel a’r disgwyliad am bethau Mae gwasanaeth RABI yn gwbl gyfrinachol. Am resymau amlwg, gwych i ddyfod wedi ei seilio ar mae’r bobl rydym yn eu helpu yn annhebygol o ddweud wrth frwdfrydedd ymroddiad, a llafur. eraill am y cymorth a gânt. Os ydych yn credu y gallwn ni eich Cadeirydd y Pwyllgor oedd: Dr cynorthwyo chi, cysylltwch drwy radffôn cyfrinachol 0300 3037373, Prys Williams, Arthog; Trysorydd, neu e-bostiwch grants@rabi.org.uk Os am ragor o wybodaeth am Mr Ariander Hughes, Blaenau waith RABI, mae croeso i chi gysylltu â Linda Jones ar 01559 364850 Ffestiniog; a’r Ysgrifenyddion, Meistri W Morris Jones, neu 07557 363016. Porthmadog, a Samuel Jones, Harlech. Yr unawdwyr oedd Madam Laura Sir nawdd Meirionnydd 2016 Evans, Llundain; Miss A E Davies, Digwyddiadau codi arian cylch Dolgellau Penrhyndeudraeth; Mr David E Ellis, Llundain; Mr David Hughes, Llundain. Cyfeiliwyd gan Miss 24 Mai - Ras hwyaid a stondin gacennau, Dolgamedd, Brithdir. May Robert, Towyn, a Mr T C 30 Mai - Gyrfa Chwist yn y Neuadd Bentref, Ganllwyd. McClean, Porthmadog. 13 Medi - Cyngerdd efo disgyblion Eirian Owen a the prynhawn Yng Nghyfarfod y Bore cymerwyd Neuadd Rhydymain. rhan gan y corau canlynol: 9 Hydref - Rasus Moch – Clwb Rygbi Dolgellau Blaenau Ffestiniog, Anthem: Bryn 30 Ionawr 2016 - ‘Strictly Come Dancing’ – Neuadd Rhydymain. Calfaria (J H Roberts), arweinydd

SIOE LLANELWEDD

10

Tudor Owen. Corau Unedig: Datganiad ac Aria: Give ear, O Lord (A J Williams) Tonau Cynulleidfaol: Alma, Gwynfa, a Moab, arweinydd Tudor Owen. Dolgellau: Anthem: By Babylon’s wave (Gounod), arweinydd O O Roberts. Llan Ffestiniog, Anthem: Drylliwyd y delyn (Jenkins), arweinydd Evan Williams. Nefyn, Canig: Ar don o flaen y gwyntoedd (Parry), arweinydd Mr Williams. Penrhyndeudraeth, Cytgan: Efe a ddaw (T Price), arweinydd D Ll Evans. Porthmadog, I came from the misty ages (Elgar), arweinydd T C McClean. Talsarnau, Anthem: Mor Hawddgar (Joseph Parry), arweinydd Mr Thomas. Towyn, Cytgan: We never will bow down (Handel), arweinydd M H Jones. Cafwyd Detholiad gan Seindorf Harlech hefyd, a chanodd y gynulleidfa y dôn Yr Hen Ganfed. Yng Nghyfarfod y Prynhawn cymerwyd rhan gan y corau canlynol: Abermaw, Anthem: Trowch i’r Amddiffynfa (J H Roberts), arweinydd Rees Jones. Blaenau Ffestiniog, Motet: Yn Nuw fy enaid llawenha (Mendelssohn), arweinydd Tudor Owen. Corau Unedig, Tonau Cynulleidfaol: Artro, Whitford, Dies Irae, Trewen, a Phwll Glas. Corwen, Cytgan: Marvellous Works (Haydn), arweinydd J D Hughes. Dolgellau, Fantasia Corawl: Maritana (Wallace), arweinydd O O Roberts. Llanegryn ac Aberdyfi, Cytgan: Ystorm, Joseph Parry. Nefyn, Canig: Yr Haf (Gwilym Gwent), arweinydd Mr Williams. Penrhyndeudraeth, Rhangan: Oleuni Mwyn (D Ll Evans), arweinydd D Ll Evans. Porthmadog, Rhangan: The Black Monk (Rutland Boughton), arweinydd T C McClean. Talsarnau, Canig: Ar don o flaen y gwyntoedd (Joseph Parry), arweinydd Mr Thomas. Towyn, Canig: Yr Haf (Gwilym Gwent), arweinydd M H Jones. Trawsfynydd, Canig: Deffro, Deffro (Lloyd). Cafwyd Detholiad gan Seindorf Harlech, hefyd, a Chân gan David Ellis, RCM, Llundain. W Arvon Roberts, Pwllheli.


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Merched y Wawr Croesawodd y Llywydd, Siriol Cydymdeimlwyd â Margaret Roberts yn ei phrofedigaeth o golli ei mam Lewis, bawb i gyfarfod blynyddol yng nghyfraith. y gangen nos Lun, 13 Mai, ac Ethol Swyddogion wedi derbyn ymddiheuriad Cadeirydd: Dewi Tudur Lewis, Is-gadeirydd: Margaret Roberts gan dair aelod, canwyd cân y Cae Chwarae Mudiad. Adroddwyd bod cwmni Hochtief yn y cae chwarae am oddeutu tair Wedi darllen cofnodion y wythnos. cyfarfod diwethaf a’u derbyn yn Seddi Cyhoeddus gywir, trafodwyd rhai materion Mae Geraint Williams wedi archwilio’r seddi cyhoeddus. Maent mewn cyflwr da ar wahân i un ger yr Hen Ysgol, Llandecwyn. Cytunwyd i osod yn codi gan atgoffa pawb o un newydd ar y safle hwn. gystadlaethau Sioe Llanelwedd Cais Cynllunio a’r Sioe Sir, Cyfarfod Blynyddol Gosodiad diwygiedig i fynedfa cerbydau, maes parcio a maes chwarae - Tir y Mudiad ym Machynlleth ar 16 ger Ffordd yr Orsaf, Talsarnau. [Cais gan y Cyngor ei hun.] Mai a’r daith gerdded yn ardal Ceisiadau am gymorth ariannol Trawsfynydd ar 5 Mehefin. Dizzee Dancers - £150 Cadarnhawyd ein hymweliad â’r Yswiriant Llyfrgell Genedlaethol ar ddydd Mae cwmni yswiriant Aon Ltd yn cynnig i’r Cyngor arbed 5% yn nhaliad Iau, 18 Mehefin. yr yswiriant wrth ymrwymo i gytundeb tair blynedd o hyd. Cytunwyd i hyn, felly bydd y Cyngor yn talu £696.75 yn lle £732.51 i’r cwmni yswiriant. Er gwybodaeth, cyhoeddwyd Un Llais Cymru bod rhaglen Talwrn y Beirdd Mae hyd at 70% o grant ar gael gan Lywodraeth Cymru i atgyweirio a yn cael ei recordio yn Neuadd diogelu cofebion rhyfel cymunedol fel rhan o weithgareddau cofio’r Rhyfel Talsarnau, nos Fawrth, 9 Byd Cyntaf. Mehefin am 7.00 o’r gloch. Bydd Mr M Beeson y noson yn rhad ac am ddim a Derbyniwyd llythyr oddi wrth yr uchod yn gofyn am ganiatâd i osod plac bydd croeso cynnes i unrhyw un ym mynwent Llanfihangel-y-traethau er cof am ei wraig. Penderfynwyd ddod i wrando. rhoi caniatâd. Cafwyd adroddiad ariannol gan Mrs C Hemsley ein Trysorydd, a diolchodd y Derbyniwyd llythyr oddi wrth yr uchod yn gofyn a oes posib gosod Llywydd i Gwenda am ei gwaith hysbysfwrdd yn yr Ynys. Cytunwyd bod angen hysbysfwrdd yn yr Ynys a chytunodd Geraint Williams a John Richards ddod o hyd i le addas i’w yn gofalu am yr arian. Er bod osod. ein sefyllfa ariannol yn weddol Ysgol Ardudwy ar hyn o bryd, cynigiwyd a A fyddai’n bosib i rai o ddisgyblion B9 wneud gwaith yn y gymuned ar chytunwyd i godi’r pris am y Gorffennaf 6 a 7? Cytunwyd i ofyn iddynt beintio’r seddi cyhoeddus yn yr baned a’r raffl ym mhob cyfarfod ardal a chytunodd Geraint Williams fod yn bwynt cyswllt a dangos iddynt i £2.00 o fis Medi nesaf ymlaen. ba seddi oedd angen eu peintio. Mynegodd Siriol ei diolch i bawb Materion Eraill am eu cefnogaeth yn ystod ei Datganwyd pryder bod rhai gyrwyr yn mynd drwy’r confoi. Nid oes bws na thrên yn mynd drwy’r pentref yn ddigon aml. Cytunwyd i thymor cyntaf fel Llywydd a diolchodd yn arbennig i Mai am aros i weld beth fyddai’r sefyllfa ar ôl i Bont Briwet agor. Datganwyd pryder ynglŷn â’r sefyllfa traffig ar sgwâr Penrhyndeudraeth. ei gwaith yn paratoi a threfnu at Mae perchnogion newydd rhif 1 Barcdy, a oedd yn cael ei alw Yr Hen bob cyfarfod a diolchodd hithau Farcdy, wedi newid ei enw i ‘The Old Tannery’. Cytunwyd yn unfrydol i i Siriol am gydweithio rhwydd anfon llythyr atynt yn gofyn iddynt ailosod yr enw gwreiddiol ar yr eiddo. yn ystod ei thymor cyntaf yn y Mae angen arwyddion rhybudd cyflymder cyn cyrraedd y 40mya yn swydd. Llandecwyn a chytunwyd i archwilio i hyn pan fydd y bont wedi agor. Aethpwyd ymlaen i drafod syniadau ar gyfer Rhaglen 2015/16, ac wedi cael enwau rhai i ofyn iddynt ddod i roi sgwrs inni, gadawyd y mater yn nwylo’r ysgrifennydd i gysylltu â hwy. Penderfynwyd ymweld â Gwinllan Pant Du, Penygroes ym mis Medi i ddechrau rhaglen y tymor nesaf. Paratowyd y baned gan Anwen a Mai, gyda chymorth Margaret, ac Anwen enillodd y raffl.

CYNGOR CYMUNED

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau

Ffôn 01766 770286 Ffacs 01766 771250

Honda Civic Tourer Newydd

Rhodd Diolch i Mrs Iona Aubrey am y rhodd o £6.50.

Cydymdeimlad Gyda thristwch y clywsom am farwolaeth Mrs Olwen Thomas 1, Cilfor yn ddiweddar. Cydymdeimlwn yn ddwys â’i phriod a’r plant a’u teuluoedd.

Eglwys Llandecwyn Cynhelir gwasanaethau Gosber yn Gymraeg yn Eglwys Llandecwyn am 4 y pnawn ar y Sul cyntaf yn y mis trwy’r haf: Mehefin 7fed, Gorffennaf 5ed, Awst 2il, Medi 6ed. Gwasanaethir gan aelodau cynulleidfa Llanfihangel-ytraethau. Croeso cynnes iawn i bawb.

HYSBYSEB AM DAITH

Trefnir bws gan Gangen Merched y Wawr Talsarnau i ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ddydd Iau, 18 Mehefin. Byddwn yn cael ein hebrwng o amgylch y sefydliad a chael sgwrs gan aelod o’r staff yno. Fe fydd y bws yn codi mewn gwahanol fannau rhwng Penrhyndeudraeth a’r Bermo. Ni fydd tâl am sedd ar y bws. Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn ymuno, a fyddwch mor garedig â chysylltu â Mai Jones ar 01766 770757 cyn 13 Mehefin? Diolch yn fawr.

Cyfarfod Blynyddol Neuadd Gymuned Talsarnau nos Lun, 22 Mehefin 2015 am 7.30 Mae’r cyfarfod hwn yn agored i bawb a bydd croeso i unrhyw un ddod yno. Neuadd Gymunedol Talsarnau

CYNGERDD DAU GÔR

Cana-Mi-Gei Côr Merched Leelo [o Pärnu yn Estonia]

Nos Iau, Mehefin 25 am 7.30 Tocynnau: £5 Plant yn rhad ac am ddim

Elw i gefnogi taith y côr o Estonia

11


THEATR HARLECH

CROESAIR 1

2

3

7

4

5

6

8

MEHEFIN

9

16 ac 17 - Pan Oedd y Byd yn Fach Theatr Genedlaethol

10 11

12

17

gan Iwan Morgan

16 18

21

Ar draws

1 Milain (7) 5 Tywyllu (4) 7 Oddi tan (5) 8 Rhagorol (6) 9 Hyblyg (6) 10 Drachefn (3) 12 Cyllell neu gleddyf ar flaen dryll milwr (5) 14 Darn o haearn wedi ei blygu i ffitio carn ceffyl (5) 17 Y noson cyn neithiwr (5) 19 Cais (6) 21 Anifeiliaid neu bobl sy’n neidio (7) 22 Natur (4)

I lawr

Pôs y Beirdd - Mis Mai

14

13

15

1 Math o gêm awyr agored (6) 2 Adeiladau i gynnal gwasanaethau Cristnogol (7) 3 Darn o borfa mewn gardd (5) 4 Llysieuyn gwyn (6) 5 Mam-gu (4) 6 Ceisio gwneud drwg mewn modd maleisus (7) 11 Heb amheuaeth (7) 13 Math o werthiant cyhoeddus (6) 15 Mesur hylif yn cyfateb i 0.57 litr (5) 16 Gwneud yn amhur (5) 18 Llam (4) 20 Derbyn budd neu gymorth (4)

Am fanylion pellach am ddigwyddiadau’r Theatr, ffoniwch 01766 780667, neu ewch i’r wefan ar www.theatrharlech.com Digwyddiadau am 7.30 oni nodir yn wahanol.

20

19

22

1. Brasgama’r llanc o’i ifanc Fehefin Yn wyn ei awydd, ond gwan ei ewin; Caiff yn lle coleg y garreg erwin, A rhaw i’w ddwylo, a llawr i’w ddeulin; Daw’n hogyn glas i’r ffasin’ - i fyw’n gaeth A than lywodraeth yn ŵyl a hydrin. (a ddaeth hwn yn ‘arwr glew’?)

ENILLWYR MIS MAI Dyma’r enillwyr y tro hwn: Hilda Harris, Dyffryn Ardudwy; Idris Williams, Tanforhesgan; Dilys A Pritchard Jones, Abererch; Megan Jones, Pensarn, Pwllheli; Elizabeth Jones, Tyddyn y Gwynt, Harlech; Gweneira Jones, Cwm Nantcol; Ieuan Jones, Rhosfawr, Pwllheli.

2. Gaeaf du y gofid in - gwedi hud Godidog Mehefin; Nid yw parhad neb ond prin Orig lwys ar y glesin. (mewn awdl gadeiriol, aeth â’i anwylyd i’r Swistir i geisio adferiad iechyd)

ATEBION MAI AR DRAWS 1. Daffodil 5. Nobl 7. Diystyr 8. Diog 9. Ateb 10. Nadredd 12. Clais 13. Sigl 15. Od 16. Owns 19. Parc 21. Ymroi 23. Ecsema

4. Oedodd y pren ffoadur Fel pe’n gysgadur gwyw, Hydref ym mis Mehefin, Mor anghynefin yw Ei farwor byw: Ni chadwodd oed dyddiadur. (edrychodd y bardd ‘trwy wydrau lledrith’ ar y ffawydden yma)

I LAWR 1. Dadl 2. Fflyrtian 3. Databas 4. Laryncs 5. Nodedig 6. Bloneg 11. Acronym 14. Drama 17. Wdig 18. Saeth 19. Past 20. Cri

5. Lleian addfwyn y llwyni - a hafwisg Mehefin amdani; Ond yn heth y dinoethi Ar y gwrych oer, gwrach yw hi. (‘Draenen’ arall a siomwyd ym Mhrifwyl y Bala, 1967. Yr awdur yn ewyrthr i Brifardd cadeiriol Llanrwst ’89 ac Aberystwyth ‘92)

SYLWER Atebion i sylw: Phil Mostert, Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech LL46 2SS

3.Onid yw’r caeau yn wyrdd, yn wyrdd, A melyn eithin Tan haul Mehefin Hyd fin afonydd a min y ffyrdd? (mae ganddo ddwy delyneg i’r mis yma)

ATEBION MIS EBRILL 1. R Williams Parry 2. Meirion MacIntyre Hughes 3. T Rowland Hughes 4. Nesta Wyn Jones 5. Dafydd ap Gwilym

Diolch i Mrs Gweneira Jones am atebion oedd bron iawn yn gywir.

Llongyfarchiadau Dymunwn longyfarch Iwan Morgan yn gynnes iawn wedi inni glywed ei fod yn mynd i dderbyn anrhydedd gan Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn eleni. Ar y bore Gwener, caiff ei urddo â’r wisg werdd am ei wasanaeth i’r celfyddydau yng Nghymru. Dyma anrhydedd y mae’n ei lwyr deilyngu. Llongyfarchiadau Iwan! [Gol.]

12


Teyrnged i Laura Jones, Y Waun, Harlech

(Traddodwyd yn ei hangladd gan Bethan Johnstone)

Fe’i ganwyd yn Benllech, Cwm Cynfal, Pont yr Afon, yn un o wyth o blant William a Trethena. Pan oedd yn ifanc, symudodd y teulu i Fur Llwyd, Gellilydan. Ymhen blynyddoedd, cyfarfu â Llew, un o blant Garth Bach, ac fe’u priodwyd ym 1937 a mynd i fyw i Byrdir, yna’n Tan-yr-allt, lle bu’n weithgar iawn yn paratoi bwyd i’r ffermwyr a fyddai’n dod i’r sêl), cyn symud i’r Waun. Arferai ferwi dŵr i fechgyn y tîm pêl-droed ymolchi ar ôl eu gêm, yn ogystal â golchi dillad y tîm. Pan oedd angen adeilad i’r band lleol aeth hi a’i ffrind, Mrs Madge Roberts, Penlan, i gasglu arian gan ofyn i siopau a busnesau lleol gyfrannu arian a gwobrwyon ar gyfer raffl. Cafodd ergyd greulon pan gollodd ei hannwyl briod Llew ym 1972. Ymhen amser, aeth i weithio yn y pwll nofio, cyn symud i siop y Plas. Roedd yn wraig dawel a gweithgar a oedd yn gwneud cymwynas i lawer. Byddai’n cael pleser mawr o wneud dillad i’w phlant ac eraill at y Carnifal. Pan roedd ei hwyres Anwen, merch Gwynne, yn Frenhines y Carnifal, hi wnaeth ei dillad hi, a’r gweddill i gyd. Roedd hefyd yn arlunydd da ac mae enghreifftiau o’i gwaith i’w gweld mewn amryw o gartrefi lleol. Aeth ar wyliau lu gyda’i chwiorydd Mair a Mari, ac roedd hwyl bob amser yn ei chwmni a gwên ar ei hwyneb bob amser. Wedi damwain car bu newid mawr ar ei byd ac, ar ôl blynyddoedd o ofalu am bobl eraill, roedd bywyd yn dipyn anoddach iddi. Roedd yn gwerthfawrogi’n fawr ei theulu, ei ffrindiau a’i chymdogion. Bu Laura’n aelod ffyddlon a gweithgar yn y Capel yma a gofalodd bod y plant yn mynychu’r Ysgol Sul. Bu’n drysorydd am bum mlynedd ar hugain, ac roedd bob amser yn barod i helpu’r chwiorydd ar ddiwrnod glanhau’r Capel a helpu i baratoi bwyd pan roedd achlysur arbennig. Daliodd yn gryf i’w ffydd hyd y diwedd un. Hoffai’r teulu ddiolch yn arbennig i Edwina a Rhys, ei chymdogion drws nesaf, am gadw llygad ar eu mam a bod mor garedig wrthi. Hoffai’r teulu hefyd ddiolch i staff cartref Bodawen, Porthmadog, am bob caredigrwydd a gofal a gafodd eu mam. “Daeth ei diwyd waith i ben Gorffwys mwy lafurwr blin Coron gei tu hwnt i’r llen Wedi’r gad a chlwyfau’r drin.” Boed heddwch i’w llwch hi.

GŴYL CERDD DANT Llŷn ac Eifionydd 2016 Y mae cynnwrf ac edrych ymlaen yn lleol am gael cynnal yr Wŷl unwaith eto yn ardal Llŷn ac Eifionydd, a’r pwyllgorau eisoes wedi dechrau cyfarfod i wneud y paratoadau. Un o’r tasgau cychwynnol yw chwilio am nawdd i’r cystadlaethau, dros ddeg ar hugain ohonynt i gyd. Mae gwobrau ar gael yn yr adrannau canlynol: cerdd dant, y delyn, llefaru, canu gwerin a dawnsio gwerin. Os ydych yn dymuno rhoi gwobr ariannol yn un o gystadlaethau yr Ŵyl, yna byddai’r ysgrifenyddion yn falch iawn o glywed gennych. Gellir cynnig gwobr/gwobrau yn dechrau am gyn lleied â £15 ar ran unigolyn, teulu, gymdeithas, neu er cof am rywun arbennig, a bydd y manylion yn ymddangos yn Rhaglen y Dydd. Mae cyfrannu gwobr yn ffordd effeithiol iawn o gefnogi’r Ŵyl, a gall unrhyw un sy’n talu Treth Incwm y Deyrnas Unedig ychwanegu at ei gyfraniad trwy lenwi ffurflen Rhodd Cymorth. Gyda’r Rhodd Cymorth am bob £1 a gyfrennir, mae’r Ŵyl yn hawlio 25c yn ychwanegol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Pe dymunech roi gwobr, neu am fwy o wybodaeth yn gyffredinol, yna cysylltwch ag Ysgrifenyddion y Pwyllgor Gwaith cyn diwedd mis Hydref os gwelwch yn dda - Gwyn a Rhian Parry Williams, Rhos Eithin, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd LL53 6TF. 01766 810717 neu e-bost: gwynarhian@btinternet.com

Swyddogion yr Ŵyl: Gwyn a Rhian Parry Williams, John Eifion Jones, Ken Hughes, Dafydd Rhun a Gwyn Jones.

EISTEDDFODWYR

Aelodau Aelwyd Ardudwy yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerffili 13


OSTEOPOROSIS Dau Lythyr

Annwyl Olygydd

Annwyl Ddarllenwyr,

Dwi’n amgáu copi o lythyr gan Delyth Owen, Groeslon ger Caernarfon sydd yn annog pobl sy’n dioddef o gyflwr osteoporosis i ysgrifennu at Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i esbonio eu problemau a’r diffyg cymorth maen nhw wedi ei dderbyn i ddelio gyda’r afiechyd hwn.

Allwch chi helpu? Mae 1 mewn 2 o ferched ac 1 mewn 5 o ddynion dros 50 oed yn dioddef o osteoporosis, cyflwr sydd cymaint mwy na thorri asgwrn. Gall • Achosi poen cyson yn y cefn a’r clun • Wneud gweithred syml o agor ffenest neu ddrws yn anodd • Effeithio ar y balans gan achosi codymu •Achosi crymu sy’n effeithio ar yr ysgyfaint ac anadlu

Mae Delyth ei hun wrth gwrs yn dioddef o’r cyflwr ac yn awyddus, gan fod y Comisiynydd yn casglu gwybodaeth, i gymaint o bobl gysylltu â’r Comisiynydd er mwyn rhoi tystiolaeth iddi hi ddwyn pwysau ar y Llywodraeth i sgrinio rhagor o bobl fel y gellir mynd i’r afael â mesurau i leddfu’r cyflwr ac i ddiogelu pobl a’u cadw yn eu cartrefi wrth gwrs. Byddwn yn ddiolchgar petaech chi’n cyhoeddi’r llythyr yn eich papur lleol. Yn gywir iawn Alun Ffred Jones Aelod Cynulliad Arfon

R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU

O ENAU PLANT BYCHAIN

Bore ‘ma rhaid oedd cneifio sbyrniaid wedi dod adra o’r tir rhent yn Brechfa. Wyn (Taid) wedi gosod bwrdd iddo’i hun i lapio’r gwlân. Ar y bwrdd yma, roedd Aaron Wyn ar ei bengliniau yn cyfri’r anifeiliaid oedd yn ei basio yn y rhes. Mewn saib tra ‘roedd Aled yn paratoi’r pwmp dosio, gofynnodd ‘Wyt ti’n cyfri?’ Ateb y tair oed oedd ei fod wedi colli cyfri am fod Taid yn ei fwydro fo! Olwen Jones, Ty’n y Braich

Er bod y cyflwr yn effeithio cymaint, y cyngor mae Llywodraeth Cymru yn ei gael yw na fyddai sgrinio yn 50 oed yn gost effeithiol ac ni fydd adolygiad arall tan 2016/17. Trwy fy Aelod Cynulliad, Alun Ffred Jones, rwyf wedi derbyn llythyr gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ac mae ei hymateb hi yn fwy cadarnhaol a chalonogol. Ond er mwyn gweithredu mae hi angen tystiolaeth o’r problemau sydd ynghlwm ag osteoporosis. Felly, ‘sgynnoch chi neu aelod o’r teulu unrhyw stori neu brofiad i’w rannu â’r Comisiynydd? Gall fod yn brofiad positif neu negyddol. Unrhyw beth sydd yn sôn am y driniaeth/y gefnogaeth neu’r diffyg triniaeth/gefnogaeth a dderbynioch ers i chi wybod eich bod yn dioddef o’r cyflwr hwn. Os gallwch helpu, ysgrifennwch at Johanna Davies, Adeiladau Cambria, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL. Gyda’n gilydd, gallwn ymgyrchu i gael sgrinio cynnar yng Nghymru, fydd yn arwain at driniaeth gynnar, fydd wedyn, (a dyma fy ngobaith) yn galluogi pobl hŷn fyw’n annibynnol yn hirach yn eu cartrefi eu hunain. Siawns bod gan bawb hawl i hyn. Diolch am ddarllen. Delyth Owen (Arwelfa, Y Groeslon)

CYSTADLEUAETH CADW Mae angen enw newydd ar hen Westy’r Castell [‘Castle Hotel’]. Erbyn mis Awst, bydd yr adeilad yn ganolfan groeso ar y llawr isaf gyda fflatiau moethus uwchben. I gynnig enw ac am gyfle i ennill gwyliau, ewch draw i dudalen Gweplyfr/Facebook CADW cyn 26 Mehefin, a dilynwch y cyfarwyddiadau.

14


H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239

Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290

YSWIRIANT I BAWB

E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr

01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

Am hysbysebu yma? Telerau - £6 y mis neu £60 y flwyddyn [am 11 mis] Rhagor o wybodaeth gan Ann ar 01341 241297

Cefnog wch e in hysbyseb wyr

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297

Tafarn yr Eryrod Llanuwchllyn 01678 540278

Gosod stofiau llosgi coed Cofrestrwyd gyda HETAS

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

Sgwâr Llew Glas

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

Llais Ardudwy

Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk 01766 512091 / 512998

TREFNWYR ANGLADDAU

Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

GERALLT RHUN

JASON CLARKE

Bryn Dedwydd, Trawsfynydd LL41 4SW 01766 540681

g.rhun@btinternet.com

BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU

01766 780186 07909 843496

Pritchard & Griffiths Cyf.

drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]

Tiwniwr Piano a Mân Drwsio

Phil Hughes Adeiladwr

Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

DAVID JONES

Cigydd, Bermo 01341 280436

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

SAER COED Amcanbris am ddim. Gwarantir gwaith o safon.

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

Ar agor bob nos 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00

Tacsi Dei Griffiths

Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 9.00 Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!

Sefydlwyd dros 20 mlynedd yn ôl 15


Aduniad Dosbarth Ysgol Ardudwy 1961

Dechreuwyd y noson gydag ymweliad â’r ysgol. Cawsom ein tywys o gwmpas gan y Pennaeth, gan gofio a rhyfeddu ar y daith. Roedd dros 40 o gyn-ddisgyblion gyda’i gilydd yn y Clwb Golff, Harlech yn mwynhau bwffe ac adloniant gan John a Roger Kerry. Bu iddynt ganu cân i gofio Gwynfor a oedd ynghlwm â’r bwriad o ailgyfarfod, a melys yr atgofion amdano ef ac amryw o gyd-ddisgyblion eraill. Bu cryn sgwrsio a hel atgofion drwy gydol y noson. Yn y llun o’r chwith i’r dde y mae: Cefn - John Foxwell, Dyffryn; Hywel Evans, Harlech; Edwin Jones, Harlech; Janet Lloyd, Llanbedr/Dundee; Sulwen Evans, Penrhyn; Ann Edwards, Parc Isa Dyffryn/Talybont; Eifiona, Dyffryn; June Sherwin, Minffordd; Ken Williams, Talsarnau/Clynnog; Rich Jones, Penrhyn; David Gumbley, Harlech/Garn; Iwan Williams, Hendy, Llanbedr. Canol - John Webb, Llanaber/Cricieth; Geraint Jones ,Harlech; Victor Biddle, Bermo/Talybont; Edwina Aidley, Llanfrothen/Minffordd; Belinda Brown, Llanfair/Croesoswallt; Jean Jones, Llanbedr/Penybont ar Ogwr; Olwen Jones, Pensarn, Rynys/Dinas Mawddwy; Pam Smith, Harlech; Karen Gregson/Vaughan Jones, Llanfair/Llandudno; Sonia Blake/Thomas, Harlech; Anwen Jones, Penarth, Llanbedr/Porthmadog; Rhydwen Jones/Roberts, Llanfrothen; Mary R Evans, Penrhyn; Rhoswyn Richards, Dyffryn; Joan Jones, Calvin Evans, Penrhyn. Rhes flaen - Yasmin Gregson/Turner, Llanfair; Louise Owen/Webb, Bermo/Cricieth; Beti Mai Arthur/Miller, Llanbedr; Lynne Biddle; Valmai Roberts, Penrhyn/Rhondda; Roger Kerry, Rynys/Harlech; Glenys, Penrhyn; John Kerry, Rynys/Harlech; Heulwen P Williams/Jones, Talybont/Llanbrynmair. Yn anffodus yn absennol o’r llun - Mike Rayner, Talsarnau/Llanddoged, Llanrwst; William Wyn Morgan, Rynys/Talsarnau a Morwen Davies/Pritchard, Llanfrothen/Minffordd.

16


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.