Llais Ardudwy 50c
Naw diwrnod i goncro Prydain
RHIF 453 MEHEFIN 2016
AR Y BRIG YN YR EISTEDDFOD
Teithiodd Aled Corps, Llanaber ac Ynyr Edwards, Hafoty, Harlech a’u cyfeillion dros 900 milltir er mwyn codi arian at yr elusen Gofal Canser y Fron. Ar hyn o bryd mae’r cyfanswm a godwyd ganddynt yn agos at £6,000. Gallwch ddarllen yr hanes ar dudalen y Bermo.
ROC ARDUDWY Mehefin 10/11
Llongyfarchiadau i Cai Roberts, Uwch Glan, am ddod yn gyntaf gyda chreu delwedd 3D o esgid o bapur mache a hefyd gyda grŵp miwsig creadigol Ysgol Hafod Lon.
Llongyfarchiadau i David Bisseker, Ysgol Talsarnau ar ennill yr ail wobr yn y gystadleuaeth unawd pres dan 12 oed yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Dymuna David ddiolch o waelod calon i Ceri Griffith am ei hyffordddi ac am bob cefnogaeth. *** Llongyfarchiadau i Ruby Jude Griffiths, Ysgol y Traeth, y Bermo, rhanbarth Meirionnydd, ar ddod yn 3ydd gyda’i llun o bobl ar draeth y Bermo yn y gystadleuaeth ffotograffiaeth print lliw, B5 a 6. Gweler t. 7.
BANDIAU BYW BWYD A DIOD AR GAEL HWYL I BLANT
Cofiwch gefnogi!
Llongyfarchiadau calonnog iawn i Grŵp Cerddoriaeth Greadigol B6 ac iau Ysgol Talsarnau ar ennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Sir y Fflint. Hyfforddwyd y plant gan y pennaeth, Mr Rhys Glyn. Roedden nhw’n cystadlu yn erbyn nifer o ysgolion llawer mwy. Cafwyd gwledd o groeso wedi iddyn nhw ddod adref.
Llais Ardudwy
HOLI HWN A’R LLALL
GOLYGYDDION
Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com
Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk (07760 283024 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 ann.cath.lewis@gmail.com Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones Tyddyn Llidiart, Llanbedr (01341 241391 iolynjones@Intamail.com Casglwyr newyddion lleol Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Ann Lewis (01341 241297 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960 Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Gorffennaf 1 am 5.00. Bydd ar werth ar Gorffennaf 6. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Mehefin 25 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’
2
Enw: Ceri Ann Williams Gwaith: Ar hyn o bryd, dw i’n gweithio yn y Crown Casino. Cefndir: Yn wreiddiol o Dal-y-bont, ac yn ferch i Anwen a Gareth Williams, Glanffrwd. Bellach yn byw ym Melbourne, Awstralia. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Rhedais farathon Melbourne llynedd, felly rhedeg oedd y ffordd bennaf o gadw’n heini tra’r oeddwn yn hyfforddi ar gyfer y marathon. Dw i wedi dechrau hyfforddi unwaith eto ar gyfer y marathon eleni. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Pa bynnag lyfr Cymraeg alla i gael ar fy Kindle! Hoff raglen ar y radio neu’r teledu?
Ar hyn o bryd fy hoff raglen deledu yma yn Awstralia ydy Masterchef, ond yn hoff o raglenni Cymraeg sydd bellach ar gael ar-lein i bawb yn y byd! Ydych chi’n bwyta’n dda? Wel, dw i’n andros o hoff o ‘fish a chips’, ond tydy o ddim yr un fath yn fan hyn! Felly mi ydw i’n bwyta’n fwy iach yma, ac yn hoff o ddilyn rhaglenni fel Masterchef i gael syniadau. Hoff fwyd? Cinio dydd Sul, heb os. Hoff ddiod? Gwin Rosé, neu Coke Zero. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Fy nheulu i gyd, a fy ffrindiau gorau. Mi faswn i hefyd yn gwahodd y comedïwr Rhod Gilbert, yr actor John Krasinski, Max Boyce a Tom Jones. Comedi, canu a’r cwmni gorau allwn i ei gael. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Yma yn Awstralia. Dyna pam penderfynais aros yma! Beth sy’n eich gwylltio? Pobl ddigywilydd, anfoesgar a dauwynebog. Beth ydych chi’n ei gasáu mewn pobl?
Bod yn anfoesgar. Does dim rheswm dros hynny. Beth fuasech chi’n ei wneud pe baech yn ennill £5000? Hedfan adra dosbarth cyntaf! Eich hoff liw? Melyn fel y genhinen Bedr. Eich hoff flodyn? Y genhinen Bedr. Mae gen i datŵ o gennin Pedr ar fy nhroed. Eich hoff gerddor? Dw i’n hoffi pob math o gerddoriaeth Cymraeg, o Wibdaith Hen Frân i Max Boyce. Hoff ddarn o gerddoriaeth? Anfonaf Angel yn cael ei chanu gan Rhys Meirion. Pa dalent hoffech chi ei chael? Chwarae’r gitâr. Dw i wedi trio dysgu ambell waith, ond ddim yn cael fawr o lwc! Eich hoff ddywediad? Mi alli di wneud unrhyw beth, ond i ti drio dy orau. Sut buasech yn disgirfio eich hun ar hyn o bryd? Hapus fy myd. ***
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb am eu nawdd hael pan redais Farathon Melbourne fis Hydref diwethaf tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.
YN YR ARDD - MIS MEHEFIN Tasgau
Dyma’r haf wedi cyrraedd ac mi fydd y dydd hiraf a throad y rhod yma’n fuan! Mae’r holl oleuni ychwanegol a’r gwres yn golygu bod planhigion yn eu tymor tyfu ac mae hynny’n amlwg ym mhob cornel o’r ardd. Ond mae’r goleuni a’r gwres hefyd wrth fodd y chwyn – felly cadwch yr hof yn brysur. Gyda llaw, ni ddylid defnyddio’r hof ar y gwely nionod gan eu bod yn gwreiddio’n agos i’r wyneb. Chwynnu gyda’r dwylo amdani felly ac os ydych chi am arbed eich cefn, rhowch glustog dan y pengliniau!
1. Hofio’n rheolaidd i gadw’r chwyn dan reolaeth. 2. Defnyddiwch ddŵr yn ddarbodus. Mae un drochfa dda yn well na sawl un ysgafn ac mae’n well gwneud hynny pan fo’r haul wedi gwanio. 3. Ewch i chwilio am y ‘lladron’ ar y tomatos yn gyson. Dydyn nhw’n gwneud dim ond dwyn nerth y planhigyn. 4. Bydd letus, rhuddygl [radish], nionod mân a thatws cynnar yn barod i’w bwyta. 5. Gosodwch y basgedi crog yn eu lle a llenwch eich potiau gyda blodau. Ar ddiwrenod poeth, mae rhai yn eu dyfrio gyda chiwbiau rhew. 6. Torrwch y lawnt bob wythnos. 7. Plannwch weddill y blodau blwyddol. 8. Defnyddiwch gansen os oes gennych blanhigyn gwan a hirgoes. 9. Gallwch docio llwyni sydd wedi blodeuo yn y gwanwyn. 10. Mae rhai garddwyr yn gosod cysgod ar y tŷ gwydr rhag iddo orboethi.
Y BERMO A LLANABER Naw diwrnod i goncro Prydain Cŵn Tywys Gwynedd yn cerdded ymlaen yn y Bermo!
Mae Cŵn Tywys Gwynedd wedi trefnu cyfres o dair taith gerdded i ddathlu 40 mlynedd ers i’r gangen gael ei sefydlu. Hefyd, bydd y teithiau’n codi arian i’r elusen Guide Dogs Cymru er cof am Arthur Rowlands, plismon a gollodd ei olwg ar ôl cael ei saethu ar ddyletswydd ym 1961. Aeth ymlaen i ennill y Fedal Siors am ei ddewrder y noson honno. Mae’r gangen yn gobeithio codi £5,000 i ddewis enw ci bach tywys – ac mae’n debyg mai ‘Arthur’ fydd ei dewis. Bu farw Arthur Rowlands yn ei gartref yng Nghaernarfon yn 2012, ond am fwy na 50 mlynedd roedd o’n llysgennad heb ei ail i’r elusen. Roedd i’w weld yn aml yn cerdded yn hyderus trwy Gaernarfon gyda’i gi. Cafodd 5 ci tywys yn ystod ei fywyd, a roddodd ryddid ac annibyniaeth iddo. Mae nifer o berchnogion ci tywys yn bwriadu cerdded er cof am Arthur, gan gynnwys sawl aelod o Glwb Cerdded Eryri. Yn eu plith mae Buddug Lloyd-Jones o Gaernarfon a’i chi tywys Freya. “Roedd Arthur yn ysbrydoliaeth i ni i gyd gario ymlaen ac roedd ei farwolaeth yn golled fawr,” meddai Buddug. “Roedd e’n caru helpu, a gwên ar ei wyneb bob amser.” Mae’r daith gyntaf, dros Bont y Bermo, yn cael ei chynnal brynhawn dydd Mawrth, Mehefin yr 21ain. Bydd y cerddwyr yn cwrdd yng ngorsaf reilffordd y Bermo am 2yp cyn mynd o’r harbwr dros aber y Fawddach ac o gwmpas Fegla Fawr – taith hawdd o bedair milltir. Mae’r ail daith o Gricieth i Lanystumdwy ar ddydd Iau, 23 Mehefin ac mae’r drydedd daith ar ddydd Sadwrn, 25 Mehefin o Gastell Caernarfon ar hyd Llwybr Arfordir Cymru i’r Felinheli. Mae croeso i’r gymuned ddod â’u cŵn eu hunain i ymuno yn y teithiau a chefnogi Cŵn Tywys Gwynedd. Am ragor o fanylion a ffurflen noddi, ffoniwch Jacquie Hughes-Jones ar 07919 228635 neu e-bostiwch jacquie.hughesjones@guidedogs.org.uk Merched y Wawr y Bermo Nos Fawrth, Mai 17 croesawodd Llewela, Llywydd y Gangen, bawb i’r cyfarfod a chydganwyd Cân y Mudiad. Llongyfarchwyd Salmon a Mair ar ddathlu eu priodas aur yn ddiweddar. Rhoddodd Heulwen groeso arbennig i’r wraig wadd sef Beryl Jones, Bontddu. Cawsom noson i’w chofio yn ei chwmni yn arddangos ei gwaith llaw. Cyn-athrawes oedd Beryl ac roedd wedi dechrau ymddiddori mewn gwaith llaw ar ôl ymddeol. Cawsom arddangosfa gywrain o’i gwaith yn dangos pob math o grefftwaith amrywiol. Yn ychwanegol, rhoddodd eglurhad manwl o’r
modd yr aeth o gwmpas i greu gwrthrychau mor broffesiynol. Roedd yn bleser gweld arbenigwraig wrth ei gwaith. Rhoddwyd y diolchiadau am noson ddiddorol ac amrywiol gan Iona ac enillwyd y raffl gan Elinor a Megan Vaughan. Heulwen a Lorraine oedd yn gofalu am y te. Ar 21 Mehefin i ddiweddu’r tymor, byddwn yn ymweld â Chefn Caer Pennal gyda phryd o fwyd yng Ngwesty Glan yr Afon. Edrychwn ymlaen am ddiweddglo gwych i dymor hynod o lwyddiannus.
Wedi diwrnod hir o deithio tua’r gogledd, trwy bob math o dywydd, fe gyrhaeddon ni John O’Groats a chael ein cyfarch gan heulwen braf a golygfeydd anhygoel allan tuag at ynysoedd Erch (Orkney). Dechrau da i’r 9 diwrnod gwych o’m blaenau. Bore trannoeth, gyda’r haul yn tywynnu a’r gwynt y tu ôl i ni, fe ddechreusom ar yr 86 milltir cyntaf i bentref bach Tain, 30 milltir i’r gogledd o Inverness. Cawsom gychwyn yr un mor hwylus i’r ail ddiwrnod, a chyn bo hir roeddem yn cadw golwg allan am Nessy wrth stopio i dynnu llun wrth Loch Ness. Fe gyrhaeddon ni ddiwedd y 95 milltir i An Gearasdan (Fort William) mewn glaw trwm. Cychwyn yn y glaw eto fu raid i ni ar y trydydd diwrnod. Doedd dim amdani ond dringo dros fynydd Glencoe cyn gadael y glaw a reidio gydag ochor Loch Lomond tuag at Dumbarton. 3 diwrnod i mewn a 276 milltir wedi pasio, roedd yn rhaid dal i fyny ar y milltiroedd os oeddem ni am daro 900 mewn 9 diwrnod. Ar ddiwrnod 4, fe ddechreuon ni ddod i arfer reidio mewn grŵp, a chan newid yr arweinydd bob hyn a hyn, roeddem yn llyncu’r milltiroedd fel tasan ni’n aelodau o dîm Sky, a chyn bo hir roeddem yn reidio i mewn i Dumfries gyda 100 milltir arall o dan y belt. Diwrnod 5 oedd y diwrnod hiraf. Ar y daith 114 milltir, fe aethom dros fynyddoedd Ardal y Llynnoedd, trwy dref Kendal a gorffen yng nghanol Lancaster. Cawsom gwmni 8fed reidiwr am y diwrnod, gyda brawd yng nghyfraith un o’r bechgyn yn dewis ymuno â ni. Diwrnod o draffig oedd diwrnod 6, gyda milltir ar ôl milltir o lonydd prysur yn gweithio’n ffordd trwy Preston, Wigan a Warrington, a braf iawn i mi ac Ynyr oedd cael teulu yn aros i’n croesawu ni wrth gyrraedd Amwythig yn yr haul. 2/3 o’r trip di ei gwblhau a 600 milltir drosodd, roeddem o’r diwedd yn cychwyn coelio bod yr her o gyrraedd Land’s End yn bosib, er bod ambell un o’r hogiau yn dioddef ychydig gydag anaf neu ddau. Daeth diwrnod 7 a haul poeth a ffyrdd seiclo hyfryd trwy gefn gwlad Swydd Henffordd. Penderfynwyd ein bod yn haeddu cael stopio mewn tafarn am ginio. Dyma fynd dros y ffin i Gymru a ffeindio tafarn berffaith gyda gardd neis i gael bwyd da a pheint oer yn yr haul. 12 milltir ymhellach ac roeddem yn croesi pont Hafren yn ôl drosodd i Loegr lle’r oedd y Travelodge nesaf a gwely yn aros amdanom. Diwrnod tebyg oedd yr 8fed, unwaith roedden ni heibio ardal Bryste, roedd y ffyrdd a’r tywydd yn hyfryd, ac wedi reidio 95 milltir, fe ddaethom ar draws tafarn o’r enw ‘The Beer Engine’ - hefo enw fel yna roedd yn rhaid stopio i ail-lenwi’r tanc, ac yn wir, roedd 15 milltir olaf y diwrnod yn lot haws wedi gwneud hynny! Roedd gan y dafarn fragdy bach gyda chwrw blasus iawn, ac yn dipyn o gyd-ddigwyddiad, ymhen dau ddiwrnod, wedi i ni gyrraedd adref roedd y dafarn yn ymddangos ar raglen deledu ‘Paul Merton’s Secret Stations’! Roedd y diwrnod olaf drwy Gernyw yn un o’r dyddiau caletaf ar bapur, gyda 114 milltir a llawer iawn o ddringo. Ond gyda’r cyffro o wybod fod y llinell derfyn o fewn cyrraedd, roedd pawb yn teimlo’n dda. Fe gyrhaeddon ni Land’s End ar brynhawn Sadwrn i weld ffrindiau a theulu yno yn dal baneri i’n croesawu. Wedi seiclo 920 milltir mewn 9 diwrnod roeddem wedi cyflawni ein her, ac wedi cael amser anhygoel ar hyd y ffordd. Cawsom noson dda o ddathlu a hel atgofion am y 9 diwrnod oedd wedi pasio, cyn gorfod teithio yn ôl adre ar y dydd Sul a mynd yn ôl i realiti gwaith bore Llun! Prif bwrpas yr her oedd codi arian ar gyfer Gofal Canser y Fron, a chyn cychwyn yn John O’Groats, roeddem wedi hel dros £2,500, ac erbyn rŵan mae hynny wedi codi at bron i £6,000. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r teulu a ffrindiau sydd wedi ein helpu i godi arian ac i bawb sydd wedi cyfrannu i godi swm ardderchog ar gyfer achos mor bwysig. Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen rŵan at yr her nesaf!
Aled Corps
3
LLANFAIR A LLANDANWG
Merched y Wawr a Theulu’r Castell
Cawsom wahoddiad i ymuno â changen Llan Ffestiniog ym mis Mai. Cafwyd croeso gan Nan Rowlands, y Llywydd, a threuliwyd orig ddifyr yng nghwmni Iwan Parry, milfeddyg o Ddolgellau. Testun ei sgwrs oedd ‘Dylanwadau’ a chafwyd hanes nifer o bobl a fu yn ddylanwad arno. Difyr oedd ei glywed yn sgwrsio mewn ffurf gartrefol iawn. Paratowyd nifer o ddanteithion blasus ar ein cyfer. Hefina dalodd y diolchiadau ar ran y gangen.
Yr Wylan O! wylan y môr, mae’th degwch di Yn llonni’m calon a’m henaid i; Blentyn y creigle, blentyn y don, Faban yr awel, aderyn llon; Nid cyfrin yw’th gartref ym murmur lli, O! gwn yn iawn am dy wynfa di. O! wylan y môr, perchen y traeth, Cynnwys y don yw’th noddfa a’th faeth; Siffrwd yr ewyn, terfysglyd fôr, Murmur y llanw – nefolaidd gôr; Angel y don a chennad y lli, Dy nefoedd di yw’m paradwys i. Rhiannon Davies-Jones, Llanfair, Harlech. 1938.
Ar Fai 10 y gangen oedd yn gyfrifol am bnawn Teulu’r Castell. Cyflwynodd y Llywydd, Hefina, Iwan Morus Lewis i’n diddori gydag amrywiaeth o ganeuon gydag Iona Griffiths yn cyfeilio’n ddeheuig iddo yn ogystal â chanu gydag Iwan yn cyfeilio iddi hi. Mwynhawyd yr adloniant yn fawr iawn a braf Llongyfarchiadau i Lewys Meredydd, ŵyr oedd gweld hogyn lleol yn canu i safon uchel iawn. Wedyn i Mrs Mair M Williams, ar ddod yn ail gweiniwyd te prynhawn ar gyfer aelodau’r Teulu. yn y gystadleuaeth unawd alaw werin yn Diolchodd Edwina i’r gangen am baratoi pnawn diddorol. Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Fflint.
Y Bad Achub Enwyd bad achub newydd yng Nghaergybi’n ddiweddar er cof am ddau a oedd yn meddwl y byd o arfordir gogledd Cymru, sef Mary ac Archie Hooper. Roedd y ddau yma, a fu’n byw yn Llandanwg a Harlech am gyfnod hir, yn frwd iawn dros godi arian i’r Bad Achub ac mae eu rhodd ariannol wedi talu am y cwch newydd. Un rheswm dros eu penderfyniad i noddi cwch achub oedd eu profiad uniongyrchol tra’n byw yn Llandanwg o weld cymaint o beryglon oedd yn wynebu ymwelwyr oedd yn galw heibio’r glannau. Eu diddordeb mawr oedd achub bobl eraill rhag peryglon y môr ac roedden nhw’n arfer ymweld â safleoedd carafanau i godi arian i’r RNLI a dosbarthu taflenni gyda chanllawiau ar achub bywydau. Diolch i’r ddau am gyfrannu arian i achub bywydau yn ardal Caergybi, un o’r tair gorsaf bad achub hynaf ar arfordir Cymru.
CYNGOR CYMUNED LLANFAIR
Cyflwynodd Hefina dusw o flodau i Iona ar ddiwedd y cyfarfod. Ar nos Iau’r 12fed aeth rhai o’r aelodau draw i Lanelltyd i Noson y Dysgwyr. Noson ydy hon sy’n cael ei threfnu gan Bwyllgor y Dysgwyr ar gyfer dysgwyr y rhanbarth. Cafwyd eitem gerddorol gan Gôr y Dysgwyr gyda Lowri Thomas Jones yn eu harwain. Yna gêm o lunio stori gydag aelodau’r Mudiad yn ymuno gyda’r dysgwyr. Noson ddiddorol sy’n gymorth mawr i’r dysgwyr allu ymarfer eu Cymraeg. Ar ddiwedd y noson mwynhawyd lluniaeth wedi ei baratoi gan aelodau’r Pwyllgor.
4
Ethol Swyddogion Cadeirydd: Eurig Hughes. Is-gadeirydd: Russell Sharp. Coed o amgylch giât Porth yr Eglwys Mae Mr Hywel Jones wedi pwyntio’r darnau angenrheidiol ar y gwaith uchod a chytunwyd i ofyn rŵan i Mr Colin Rayner am bris i’w beintio. Gofynnwyd i Mr Geraint Williams greu ramp er mwyn galluogi mynediad i gadair olwyn. Ceisiadau Cynllunio Codi adeilad amaethyddol - Argoed, Llanbedr. Cefnogi’r cais hwn. Ceisiadau cynllunio a phenderfyniad arnynt Newid garej - Maes Teg, Cae Garw, Llanfair – caniatáu. Ffioedd Claddu Adroddodd y Clerc bod y Cyngor wedi gwneud colled ariannol o £43.53 gyda’r fynwent yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Codi’r prisiau o’r 1af o Ebrill. Ysgol Ardudwy Gofynnwyd a fyddai’r Cyngor yn fodlon rhoi cyfraniad ariannol at archebu diffibriliwr. Cytunwyd i roi £200 iddynt. Bydd disgyblion B9 yn chwynnu’r maes parcio fel y llynedd a hefyd chwynnu o amgylch y lloches bws yn Frondeg a’r un wrth groesffordd Caersalem. Cyflymder traffig Adroddodd Annwen Hughes bod canlyniadau’r mesurydd cyflymder traffic a osodwyd ar yr A496 ger Pensarn yn dilyn pryderon gan breswylwyr lleol wedi dod i law a bod cyflymder 85% yn 48 a’r cyflymder ar gyfartaledd yn 41. Hefyd, adroddwyd bod yr wybodaeth yn dangos bod y cyflymder yn weddol isel. UNRHYW FATER ARALL Mae angen sylw ar yr hysbysfwrdd ger Morlyn. Mae Mr Hywel Jones wedi cael golwg arno ond bod dipyn o waith i’w wneud arno. Cytunwyd i’w dynnu. Mae angen ysgrifennu at Gyngor Gwynedd yn gofyn a fyddai’n bosib cynnwys llwybr beics o Bensarn i Lanbedr yng nghynllun ffordd osgoi Llanbedr.
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL PRIODAS
Llongyfarchiadau i Angharad Davies a Luke Wreglesworth ar eu priodas yn Eglwys Sant Pedr, Llanbedr ar Fai 14eg. Maen nhw wedi ymgartrefu yn Swydd Efrog, lle mae Angharad yn athrawes a Luke yn feddyg. Profedigaeth Cydymdeimlad â Misses Elizabeth a Catherine Richards, Cartref, yn eu profedigaeth o golli Irene, nith iddynt a hithau ond yn 57 oed. Hefyd, anfonwn ein cydymdeimlad â’i thad Evan a’i brawd John a’r teulu yn eu hiraeth.
Deunod y gog Mae’r gog wedi canu’n ddibaid eleni, yn wahanol iawn i’r llynedd, ond roedd mis Mai’r llynedd yn oer iawn. Tybed ai hynny oedd y rheswm? Bydd wedi ffarwelio â ni eto cyn pen y mis.
R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU
Teulu Artro Croesawyd pawb i gyfarfod mis Mai gan Gweneira. Gofynnodd faint o’r aelodau oedd wedi clywed y gog eleni. Cafwyd amryw o ymddiheuriadau. Roedd yn dda gweld Beti wedi dod ac wedi gwella ar ôl ei llawdriniaeth ar ei llygaid. Erbyn hyn mae Elizabeth wedi dod i ysbyty yn yr Wyddgrug. Gobeithio y gwnaiff ddal i wella. Diolchwyd i Pam am y rhodd o arian. Ein gwraig gwadd oedd Hilda Harris. Croesawodd y Llywydd hi’n gynnes, gan ddiolch iddi am ddod atom unwaith yn rhagor. Fel arfer, cafwyd prynhawn difyr yn ei chwmni. Darllenodd amryw ddarn o farddoniaeth i wneud â’r adeg yma o’r flwyddyn, gan ddechrau hefo’r delyneg swynol i fis Mai gan Eifion Wyn. Yna, cafwyd lluniau o rai o hen gymeriadau Llanbad, ac ychydig o’u hanes. Roedd Morfudd wedi dod â nifer o luniau o’r pentrefi a’r ardal, a diolchwyd iddi. Iona a roddodd y diolchiadau ac Eirwen a gafodd y raffl.
Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch MEHEFIN 5 Capel Salem, Parch Tecwyn Ifan 12 Capel y Ddôl, Mrs Eleri Owen Jones 19 Capel Nantcol, Parch Patrick Slattery 19 Capel Salem, Parch Iwan Llywelyn Jones 26 Capel Salem, Parch Mark John Williams GORFFENNAF 3 Capel y Ddôl, Parch Huw Dylan Jones Rhodd Diolch i William Large am y rhodd o £16.50. Pen-blwydd Dymunwn yn dda i Mrs Winifred Adamowski, Llys Meirion, ar ei phen-blwydd yn 90 oed. Mae hi erbyn hyn yn Hafod Mawddach ac yn hapus iawn yno.
STRAEON TIC TOC Oes gyda chi bum munud fach i sbario? Oes? Wel, dyma gyfrol fydd wrth eich bodd felly. Straeon Tic Toc – casgliad lliwgar o straeon pum munud ar gyfer y plant lleiaf. Mae pob un o’r straeon sydd yn y gyfrol wedi eu darlledu’n wreiddiol gan Radio Cymru fel rhan o’r gyfres Tic Toc ar nos Sul. Tic-Toc medd y cloc Hwrê, mae’n amser stori! Awn ar antur i’r gofod i wlad yr Wmffifflwffs, o dan y môr i Eisteddfod y Pysgod i wrando ar lais hyfryd Prys y pysgodyn aur a sgrechiadau aflafar Myfanwy’r macrell yn yr Unawd Heb Ddant cyn gwibio ar ras i ganol y mwncïod, yr eliffantod, y teigrod a’r anifeililiaid eraill i gyd yn Jwngl Anti Jini. Cawn gyfle hefyd i gyfarfod â ffrindiau hen a newydd, yn cynnwys Waldo’r Gath sy’n cael siom o weld fod ci bach newydd am ddod i fyw gyda’r teulu, Huw-BobLliw, y cymeriad bach rhyfedd sy’n gyfrifol am liwio pob peth yn y byd i gyd, Ela a’i gafr fach newydd, heb sôn am yr hen ffefrynnau Ben Dant a Cyw a’u ffrindiau.
Mae’r straeon a geir yn y gyfrol gan amrywiaeth o awduron newydd a chyfarwydd, yn cynnwys Anni Llŷn, Bethan Gwanas, Caryl Parry Jones, Llŷr Titus, Casia Wiliam, Rhys Parry Jones, Meirion Davies, Rhian Williams, Lowri Delve, Rhiannon Lewis, Rhodri Trefor, Anna-Lisa Jenaer, Awel Trefor, Beca Evans a Bedwyr Rees. A chyda lluniau lliw llawn o waith yr arlunydd amryddawn o Abergwyngregyn, Helen Flook, yn ei harddu drwyddi draw, dyma gyfrol sy’n siŵr o ddod â gwên i wyneb plant o bob oed! Mae Straeon Tic Toc ar gael am £8.99 yn eich siop lyfrau leol neu www.gomer.co.uk
5
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn Neuadd y Pentref, bnawn Mercher, Mai 18fed. Croesawyd pawb gan Gwennie ac roeddem yn falch o glywed fod Elizabeth yn gwella. Yna gwnaed trefniadau at y trip ar Fehefin 15fed. Byddwn yn cael cinio yn yr Eryrod yn Llanuwchllyn am 12.00 ac yna’n mynd ar y trên bach i’r Bala ac yn ôl cyn dychwelyd adre drwy Drawsfynydd. Bydd y bws yn Llanbedr am 10.30, Dyffryn am 10.40 a Thalybont am 10.50. Yna cafwyd golwg yn ôl ar y flwyddyn a aeth heibio. Cawsom un aelod newydd ond fe gollasom un aelod hefyd. Yna casglwyd syniadau ar gyfer rhaglen y tymor nesa. I orffen mwynhawyd te prynhawn bendigedig wedi ei baratoi gan staff caffi’r Tebot Arian. Diolchodd Iona i’r rhai sy’n gyfrifol am redeg y clwb am eu gwaith drwy’r flwyddyn. Clwb Cinio Ar Fai 17 aeth nifer ohonom am ginio i’r Hebog, ym Meddgelert. Ar Fehefin 28 byddwn yn mynd i Gastell Gwydir ac ymlaen i Langernyw.
Cydymdeimlad Daeth ton o dristwch dros yr ardal gyfan pan glywyd am farwolaeth Irene Richards, 3 Bron Hyfryd ar Mai 9 yn 57 mlwydd oed. Roedd Irene yn gymeriad annwyl, hwyliog, siaradus a charedig iawn a dangosodd y dyrfa niferus a ddaeth i’r gwasanaeth yn Horeb mor boblogaidd yr oedd yn yr ardal. Bu’n hynod o ofalus o’i thad a’i diweddar fam ar hyd y blynyddoedd. Cydymdeimlwn yn fawr â’i thad, Mr Ifan Richards, ei brawd John Llewelyn, ei phartner, Peter, a’r teulu oll yn eu profedigaeth lem. Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Deiniol ac Angharad Wynne ar enedigaeth mab bach, Siôn Elgan, brawd bach i Levi Hedd.
CAPTEN CYMRU
Rhoddion £20 - David a Mai Roberts. £9 - Gareth ac Anwen Williams. Diolch Dymuna John a Heather, Byrllysg, ddiolch i bawb am y cardiau a’r dymuniadau da a dderbyniasant ar achlysur dathlu eu priodas ddiemwnt. Rhodd a diolch £10 Cofion Anfonwn ein cofion a’n dymuniadau gorau at Mr Ifan Edwards, Parc Isa sydd wedi cael llawdriniaeth yn Ysbyty Broadgreen, Lerpwl, ac at Miss Catrin Evans, Pentre Uchaf a Mrs Eluned Williams, Islwyn sydd yn Ysbyty Dolgellau. Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau i Mrs Sheila Walker, Sarnlys ar dderbyn Bathodyn Aur yr RNLI am ei gwaith diflino yn codi arian i’r sefydliad am 41 o flynyddoedd.
6
Llongyfarchiadau i ThierryJo, merch Michael, gynt o Fro Enddwyn ac wyres i Ann Eurwen, ar gael ei chapio i dîm pêl-droed merched Cymru o dan bymtheg oed. Er mai colli wnaethant mi gafodd Thierry ei henwi fel chwaraewr gorau’r twrnament. Cafodd hefyd y fraint o fod yn Gapten i Gymru yn erbyn Iwerddon. Llongyfarchiadau mawr iddi gan y teulu oll. Mae dyfodol disglair o’i blaen.
ROC ARDUDWY Mehefin 10/11
Eleni bydd Roc Ardudwy yn ddigwyddiad penwythnos a hoffem ddiolch i’r canlynol am eu cefnogaeth: Arian i Bawb - Cronfa Loteri Fawr Cymru, Cyngor Sir Gwynedd, Cronfa Economaidd Magnox, Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Cymuned Harlech, Cyngor Cymuned Dyffryn a Thalybont a diolch yn fawr i ‘Made with Zeal’ www.madewithzeal. co.uk am gynhyrchu’r deunydd marchnata a’r wefan wych: www. rockardudwy.co.uk Dydd Gwener 10 Mehefin am 7.30, Cerddoriaeth Fyw o Gastell Harlech - tocynnau £15.00 Batala Bermo – Grŵp Drymiau fydd yn eich croesawu i’r castell Côr Meibion Ardudwy Gwibdaith Hen Frân - Grŵp poblogaidd gwerin Cymraeg, sŵn llawn hwyl fydd yn eich codi ar eich traed ! Deborah Rose a Mari Randle - Gyda’u lleisiau unigryw, mae Deborah a Mari yn teithio o gwmpas y wlad, ac maen nhw’n werth eu clywed. Mae Deborah Rose wedi canu yng nghwmni Ralph McTell, Judy Collins, Fairport Convention a Jimmy Webb. Mae Mari Randle yn gantores ac yn awdur arweiniol yn y grŵp roc amgen ‘Vault of Eagles’ a ‘Farrells Frolicks’. Rydym hefyd wedi llwyddo i sicrhau rhai cerddorion talentog lleol i chwarae yn ystod y noson unigryw hon. Bydd y noson yn gorffen gydag unawd gitâr roc yn uchel yn y castell a fydd yn rhoi blas o’r hyn sydd i ddod ar dir Hamdden Harlech ac Ardudwy ar y dydd Sadwrn. Noson na ddylech ei cholli !
Gwasanaethau’r Sul, Horeb MEHEFIN 2016
12 Parc Ioan Davies 19 Edward ac Enid Owen 26 Aled Lewis Evans GORFFENNAF 3 Anthia a Gwennie
Sadwrn 11 Mehefin, gatiau’n agor am 2.00 y pnawn ar dir Hamdden Harlech ac Ardudwy - tocynnau £20 (dros 16 oed), £15 (10-16 oed) a phlant dan 10 oed am ddim. Bydd yna gerddoriaeth fyw drwy’r dydd o 2:00 y prynhawn tan hwyr y nos. Rydym wedi llwyddo i sicrhau rhai bandiau lleol anhygoel i’ch diddanu drwy’r dydd, ynghyd â band teyrnged gorau gogledd Cymru - Pinc Ffloyd. Mae gennym gymysgedd o grwpiau Cymraeg a Saesneg a bydd y noson yn dod i ben gyda’r grŵp poblogaidd lleol ‘SESSION’. Bydd llawer mwy i’w wneud a’i weld yn Roc Ardudwy 2016 – ‘Ardal Roc Plant’, lle bydd gweithdai, peintio wynebau a hyd yn oed castell bownsio! Bydd gennym fannau gwerthu bwyd o fyrgyrs i fochyn rhost, crempogau i gacennau, ynghyd â siop goffi i chi ei mwynhau. Bydd hefyd Ŵyl Gwrw a Seidr, a Bar Chwaraeon lle byddwn yn dangos gêm bêl-droed Cymru’n ystod y prynhawn. Yma bydd pob beth sydd ei angen arnoch am ddiwrnod gwych i’r brenin gyda cherddoriaeth wych mewn lleoliad unigryw o dan gysgod y Castell. Mae manylion y grwpiau sydd yn chwarae ar ein gwefan: www.rockardudwy.co.uk ynghyd â gwybodaeth am docynnau. Bydd tocynnau ar gael ar y gât. Mae’r holl elw o’r digwyddiad hwn yn mynd tuag at gadw Canolfan Hamdden Harlech ac Ardudwy yn agored i chi i gyd ei mwynhau, felly dewch draw i gefnogi’r digwyddiad hwn. Os hoffech chi gysylltu â Thîm Roc Ardudwy - dyma’r cyfeiriad e-bost: rockardudwy@gmail.com
IOAN RHAGFYR Cafodd yr eisteddfodwr Lewis Davies Jones (Llew Tegid – 1851-1928), brodor o ardal y Bala, hyd i hen lyfr ysgrifennu oedd yn perthyn i Anne Jones, Bryn Rhug, Dolgellau, oedd yn llawn o gynhyrchion beirdd lleol cynnar, wrth browla ymhlith hen lyfrau a phapurau llychlyd yn 1899. Un o’r beirdd hynny oedd John Williams (Ioan Rhagfyr, Hafoty Bach, plwyf Celynnin, Meirionnydd). Ganwyd ef Rhagfyr 26, 1740, sef blwyddyn y rhew mawr. Ceir hanes byr o’r bardd gan yr hynafiaethydd Robert Prys Morris (m 1890) yn ei lyfr Cantref Meirionnydd a gyhoeddwyd ychydig ar ôl ei farw yn yr un flwyddyn. Mae’r gyfrol yn waith chwilotwr diwyd a gasglodd ei ddefnyddiau o nifer fawr o ffynonellau. Roedd mam Ioan Rhagfyr yn
gyfnither i’r Parch Edward Samuel (1674-1748), Rheithor Llangar, ger Corwen, a anwyd yng Nghwt-y-defaid, Penmorfa. Bu’r teulu yn cartrefu yn Talywaen, ger Dolgellau, yn ddiweddarach, lle’r oedd tad Ioan yn wneuthurwr hetiau brethyn. Dilynodd yntau’r un alwedigaeth â’i dad, ac arferai fynd o amgylch y ffeiriau a’r marchnadoedd i werthu hetiau hyd nes oedd yn 33 mlwydd oed. Yn yr adeg honno, byddai masnachwyr gwlân o’r Amwythig yn arfer ymweld â’r gymdogaeth, ac yn lletya yn Nhalywaen. Tynnwyd eu sylw at Ioan a rhoesant dri mis neu ragor o addysg iddo yn yr Amwythig. Hyfforddwyd ef mewn cerddoriaeth, a llwyddodd i ddysgu canu’r trymped a’r ffliwt Almaenig. Ar ôl ei gyfnod yn Amwythig bu’n glerc i Edward Anwyl, cyfreithiwr, Dolgellau, ac yna’n cadw ysgol ddyddiol am nifer o flynyddoedd. Dechreuodd yn Nhrawsfynydd, ac ar ôl hynny
bu yn y Bermo, Dolgellau, a Llanelltyd. Pan oedd tua 17 oed dechreuodd astudio barddoniaeth a cherddoriaeth. Cyfansoddodd englynion, cywyddau, a hefyd awdlau gorchestol cyn ei fod yn 22 oed. Yn 1763 priododd Jane, merch William Jones, perchennog Bryn Rhug, ger Dolgellau; buont yn ddi-blant. Bu caniadaeth y cysegr yng Nghymru drwy amryw gyfnodau o adfywiad a diwygiad. Nid oes amheuaeth na fu Ioan Rhagfyr yn foddion i ddwyn un o’r adfywiadau hynny o amgylch. Roedd yn cael ei gydnabod fel un o gerddorion mwyaf talentog ei oes yng Nghymru a’i donau a’i anthemau efo genid mynychaf a mwyaf cyffredinol ymysg yr enwadau ymneilltuol pryd hynny. Pan oedd yn ysgolfeistr yn y Bermo, cyfansoddodd Ymdaith Gwŷr Abermaw. Yno hefyd cyfansoddodd dôn o’r enw Funeral ar gais gweinidog
RHAGOR O’R EISTEDDFOD
Llanfachreth, i’w chanu yn ei angladd. Ymysg ei gyfansoddiadau eraill oedd ei donau Saboth, Cemaes, a Dyfroedd Siloah; anthem Yn fy nghyfyngder y gelwais (Salm 18) ac Wrth afonydd Babilon; ymdeithganeuon, ‘The Two Lovers’ Successful March’, Ymdeithgan Tremeurig, Ymdeithgan Gwŷr Llanerfyl, ac Ymdeithgan Gwŷr Meirion. Yn llyfr Eos Llyfnwy (17741870), sef Cerddoriaeth o Gerddi Seion mewn llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol, ceir 59 o donau a 21 o anthemau o waith Ioan Rhagfyr. Bu farw Mawrth 11, 1821, yn 81 mlwydd oed, a’i gladdu ym mynwent Llanfair Bryn Meurig. Bu ei briod farw ychydig ar ei ôl ef. Englyn i flwch tybaco Owen Dafydd, Maentwrog Clydwch wyf fi, yn cludo – deiliach, Rhai dilys i Gymro; A thra bo chwyth, byth na bo Dy boced heb dybaco. Ioan Rhagfyr
CEIR MITSUBISHI
Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk
Llongyfarchiadau i Ruby Jude Griffiths, Ysgol y Traeth, ar ddod yn 3ydd gyda’i llun o bobl ar draeth y Bermo yn y gystadleuaeth ffotograffiaeth print lliw, B5 a 6.
ENGLYN DA
Yr esgid o bapur mache a wnaed gan Cai Roberts, Uwch Glan, Llanfair.
Draenen
Lleian addfwyn y llwyni - a hafwisg Mehefin amdani; Ond yn heth y dinoethi Ar y gwrych oer, gwrach yw hi. J Lloyd Jones [1885-1956] 7
TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Merched y Wawr Croesawodd Siriol Lewis, bawb i’r Cyfarfod Blynyddol nos Lun, 9 Mai a dechreuwyd drwy gydganu cân y mudiad. Cafwyd ymddiheuriad gan bum aelod, a hefyd adroddodd Siriol iddi ymweld â Chartref Nyrsio Madog a bu’n siarad gyda Marwolaeth Dorothy Harper yno a hithau’n Drwg oedd gennym glywed am anfon ei chofion at bawb. farwolaeth Nansi Lloyd Ellis, Rhoddwyd ffurflenni pleidleisio a oedd yn ferch i’r diweddar i’r aelodau eu cwblhau ar gyfer Richard ac Elisabeth Edwards gynt o 8 Heol y Bryn, Talsarnau. ethol swyddogion am 2016-18. Estynnwn ein cydymdeimlad i’w Cyhoeddwyd nifer o achlysuron i bawb eu nodi: Cyfarfod theulu oll. Blynyddol ym Machynlleth ar 21 Mai, Noson y Dysgwyr Rhodd yn Llanelltyd ar 12 Mai, y Derbyniwyd rhodd o £6.50 gan Penwythnos Preswyl yn Iona Aubrey – diolch yn fawr. Abertawe, 2-4 Medi, ac fe’n hatgoffwyd am y daith gerdded Cydymdeimlad ar hyd glan Afon Mawddach ar Estynnir cydymdeimlad dwys 17 Mehefin. â theulu John Richards, Hafan Cafwyd adroddiad ariannol gan Deg, Bryn Eithin, Llandecwyn yn eu profedigaeth ddiweddar o y Trysorydd, Gwenda Griffiths golli Irene, chwaer John, oedd yn ac adroddodd bod y sefyllfa’n iach. byw yn Nyffryn Ardudwy. Diolchodd y Llywydd iddi am ei gofal trylwyr o’r cyfrifon. Darlith Flynyddol Cafwyd canlyniad y cyfri’ gan Cyfeillion Ellis Wynne Eluned Williams ac Ann Jones a ‘Cofiant Crwydryn: John Preis chyhoeddwyd y bydd y 1894-1985’ swyddogion presennol yn Cafodd y gynulleidfa niferus yn parhau yn eu swyddi am y ddwy Neuadd y Pentref, Talsarnau, flynedd nesaf. Diolchwyd i’r ar Ebrill 21ain fodd i fyw a’i ddwy am eu cymorth. hymateb yn hybu’r awdur. Trefnwyd ein hymweliad i Roedd Geraint Jones ar ei orau orffen gweithgareddau eleni llafar ffraeth a’i draethu’n llawn trwy dderbyn Pecyn Ymweliad y asbri. Y mae darllen y llyfr yn bleser; yr oedd ei glywed yn fwy Parc Cenedlaethol i fynd i Blas Tanybwlch a dewis i fynd ar 7 o wledd fyth. Gorffennaf. Clamp o gamp oedd i’r cofiant Aethpwyd ati wedyn i ofyn hwn fynd i dri argraffiad ym am syniadau ar gyfer Rhaglen mlwyddyn ei gyhoeddi. Ond 2016-17 a chafwyd nifer o pa ryfedd, hefyd, rhwng dawn dweud yr awdur a bod John Preis awgrymiadau ac enwau i’r ysgrifennydd gysylltu â hwy. yn gybyddus i gynifer o bobl ac Diolchodd y Llywydd i bawb am yntau wedi treulio tair blynedd ar ddeg olaf ei fywyd ym Mron y eu cefnogaeth a’u cymorth yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. Garth? Paratowyd y baned gan Anwen a Gan fod y Neuadd mor addas a Margaret. Roedd tair raffl ar gael bod panad a chacan gri i bawb heno a’r enillwyr oedd Anwen, ar y diwedd a chyfle i sgwrsio, Ella ac Eirwen. yr oedd yr achlysur yn un cymdeithasol, braf. Diolchwyd Taith Gerdded er cof am i bawb a fu ynglŷn â threfnu’r Gwynfor Gwrach Ynys ddarlith ac i’r gynulleidfa am ei Cynhelir taith gerdded eto eleni chefnogi. er cof am ac i ddathlu bywyd Elfed Roberts Gwynfor, ar ddydd Sadwrn Neuadd Talsarnau Mehefin 18, i ben y Rhinog Fawr neu’r Rhinog Fach. Am fanylion pellach ewch i Nos Iau, Mehefin 9 am 7.30 wefan www.cofiogwynfor.com Genedigaeth Llongyfarchiadau i Hannah (Llwyn Ffynnon) a Rhodri ar enedigaeth eu mab, Lewis, yn ddiweddar – brawd bach i Rhys ac ŵyr i Ann a Peter, Llwyn Ffynnon.
GYRFA CHWIST
8
CYNGOR CYMUNED Ethol Swyddogion Cadeirydd: Margaret Roberts Is-gadeirydd: Eluned Williams Cae Chwarae/Maes Parcio Mae’r cynlluniau’n datblygu’n dda a bydd yr offer chwarae yn ei le yn ystod yr haf; hefyd bod y maes parcio yn dod yn ei flaen yn dda. Hysbysfwrdd yr Ynys Cytunwyd i archebu hysbysfwrdd a gosod deunydd lleol yn unig ar yr amod ei fod yn ddwyieithog arno, i roi blaenoriaeth i’r Gymraeg, a bod y sawl fydd yn gosod y deunydd yn yr hysbysfwrdd yn penderfynu a yw’r deunydd dan sylw yn addas. Ceisiadau Cynllunio Panel gwybodaeth - Gwarchodfa Natur Morfa Harlech. Cefnogi’r cais. Ffioedd Claddu Gwnaed colled ariannol o £658.50 gyda’r fynwent yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Cytunwyd i godi’r prisiau newydd o’r 1af o Ebrill. Swyddfa Bost Yn anffodus, nid ydynt wedi symud yr un yn y pentref ond maent wedi ailagor yr un ger Ysgoldy, Ynys. Parc Cenedlaethol Eryri Mae camfa newydd bellach wedi ei gosod ger Llyn Tecwyn Uchaf. Neuadd Bentref Mae Pwyllgor y Neuadd yn gofyn a fyddai’r Cyngor yn fodlon cyfrannu at archebu diffibriliwr. Cytunwyd i roi £1,000. Ysgol Ardudwy Ni fydd y Cyngor yn cyfrannu at ddiffibriliwr oherwydd ein bod wedi cyfrannu at yr un yn y pentref, hefyd cytunwyd pe bai arian dros ben ar ôl archebu’r un yn y pentref ei fod yn cael ei drosglwyddo i hwn. Bydd rhai o ddisgyblion B9 yn gwneud gwaith yn y gymuned ar yr 11eg a’r 12fed o Orffennaf. Cytunwyd i ofyn iddynt dacluso a glanhau’r lloches bws yng Nglan y Wern, hefyd peintio’r hysbysfwrdd yn Llandecwyn. Ysgol Feithrin Talsarnau Datganwyd pryder bod sefyllfa ariannol yr ysgol feithrin yn fregus iawn a chytunwyd i roi £500 arall iddi ar hyn o bryd, hefyd cytunodd Dewi Tudur Lewis fynd i siarad gyda Mrs Meinir Jones er mwyn cael gweld beth arall fyddai’r Cyngor yn gallu ei wneud i’w helpu. UNRHYW FATER ARALL Mae camfa bellach wedi ei gosod er mwyn cael croesi o Borth Las i’r clawdd llanw. Mae’r giât fawr ger Pont Briwet yn cael ei chloi. Angen gwybod pryd mae’r arwyddion 40 mya yn Llandecwyn yn cael eu symud. Mae angen sylw ar y postyn giât ar lwybr Pont y Glyn i Glan y Wern. Datganwyd pryder bod Cyngor Gwynedd yn bwriadu codi tâl o £30 am wagio biniau gwastraff gardd.
R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286 Ffacs 01766 771250
Honda Civic Tourer Newydd
TEULU EISINGRUG, TALSARNAU Tad a Mam ac 13 o blant
Gwahoddiad i Balas Buckingham
Rhes gefn - Jack, Lewis, Ted, Rose [mam], Twm, Ellis [tad], Wil, Megan, Mari. Rhes flaen - Rosa, Meirion, Edwyn, Sally, Huw, Glyn.
PEDAIR MERCH EISINGRUG
Mari, Rosa, Sally, Megan. Marwolaeth Trist yw gorfod cofnodi marwolaeth yr olaf o deulu Eisingrug. Bu farw Sally Williams a fu’n byw yn ardal Deganwy am nifer o flynyddoedd.
Capel Newydd Talsarnau
Cynhelir Oedfa bregethu bob nos Sul am 6.00 o’r gloch MEHEFIN 5 Dewi Tudur 12 Ceri Jones 19 Goronwy Prys Owen 26 Dewi Tudur GORFFENNAF 3 Dewi Tudur 10 Dewi Tudur 17 Dewi Tudur 24 Dewi Tudur 31 Dewi Tudur
Clwb y Werin Derbyniwyd rhodd ariannol hael i gofio am Blod Jones, 23 Y Waun, Harlech. Mae pawb yn hynod ddiolchgar am y rhodd a phleser mawr fydd trefnu beth i’w wneud i gofio amdani. Mi roedd pawb yn meddwl y byd o Blod a dwi’n siŵr y bydd yn hapus hefo’n dewis o weithgaredd lleol er cof amdani. Y diwrnod wedyn daeth cacen fawr fel rhodd arall i’r Clwb gan Dorothy Harper, sydd yn hapus yn y Madog ym Mhorthmadog erbyn hyn. Dyma hysbyseb wych am aelodau newydd i ddod i fwynhau dwy awr hyfryd bob pnawn Llun yn ein Neuadd braf yn Nhalsarnau. Byddwn yn cyfarfod rhwng 1.30 a 3.30 yp i chwarae gemau o bob math a chael sgwrs a phaned cyn troi am adra.
Mynychodd Geraint a Margaret Williams (sef Benjie a Mev) o Dalsarnau Barti Gardd Frenhinol ym Mhalas Buckingham ar ddydd Iau 19eg Mai 2016. Cynhaliwyd y parti gan y Frenhines, Dug Caeredin, y Tywysog Charles, Camilla ac aelodau o’r Cartref Brenhinol. Roedd y gwahoddiad yn dipyn o syndod a rhoddwyd enwau Benjie a Mev gerbron o ganlyniad i’w gwaith gydag ieuenctid lleol a gwasanaethau o fewn y gymuned. Cafwyd prynhawn cyffrous a gwelwyd y cwpl Brenhinol a’u teulu, a chafwyd amser hefyd i archwilio’r gerddi hyfryd a blasu’r lluniaeth a oedd yn cael ei gynnig, i gyd i gyfeiliant sain dau fand pres. Hoffem ddiolch i’r bobl a roddodd ein henwau gerbron ar gyfer y digwyddiad arbennig hwn.
SIOPA YNG NGHAER
Rhai o ferched Cana-mi-gei yn mwynhau ychydig o siopa yng Nghaer yn ddiweddar. Mewn hwyliau da yn amlwg!
9
HARLECH Teulu’r Castell Prynhawn dydd Mawrth 10 Mai, croesawyd aelodau Teulu’r Castell gan Lywydd Merched y Wawr, Mrs Hefina Griffiths, a rhoddwyd croeso hefyd i Iwan Lewis a’r cyfeilydd Iona Griffiths oedd wedi dod i’n ddiddanu. Diolchwyd iddi am y croeso gan y Llywydd Edwina Evans. Braf iawn oedd gweld Meirion Thomas yn ôl efo ni. Dymuniadau gorau i Olwen a Menna Jones oedd yn methu bod gyda ni. Braf iawn oedd clywed bod Enid Smith yn ôl yn Harlech am yr haf. Mae Dorothy Harper yn gwella bob dydd ac yn Ysbyty Madog ac yn cofio at bawb. Dymuniadau gorau i bawb oedd yn dathlu pen-blwydd y mis yma, a hefyd i Terry Jones oedd yn 80 yn ddiweddar; hefyd mae Susan Jones wedi dod yn nain unwaith eto. Diolch i bawb sydd wedi rhoi cymorth i ni drwy’r flwyddyn, sef Merched y Wawr, Sefydliad y Merched ac Ysgol Tanycastell, hefyd i’r Pwyllgor am helpu i baratoi te a rhoi’r rafflau trwy’r flwyddyn, ac i bawb sy’n dod ag aelodau i’r cyfarfodydd. Ar ôl trafod y busnes, croesawyd Iwan ac Iona gan Hefina. Cawsom brynhawn gwych talent wych gan y ddau, ac Iwan yn canu caneuon Cymraeg a dwy yn Saesneg, ac Iona’n cyfeilio a hefyd hithau’n canu dwy gân. Roedd hwn yn brynhawn cofiadwy. Does dim rhaid i neb fynd ymhell i chwilio am bobol dalentog; mae rhai dawnus iawn yn ein cymuned ni, a diolch am hynny. Rhoddwyd y diolchiadau ar ran yr aelodau gan Edwina. Cafodd pawb de ardderchog wedi ei baratoi gan aelodau Mercher y Wawr; te blasus iawn, ac enillwyd llawer o’r rafflau a roddwyd gan Ferched y Wawr. Rhoddwyd tusw o flodau i Iona am gyfeilio gan Hefina Griffiths.
Sefydliad y Merched Harlech Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod nos Fercher, 11 Mai, gan y llywydd Mrs Christine Hemsley. Rhoddwyd cardiau pen-blwydd i aelodau oedd yn dathlu’r mis yma, ac un arbennig i Mrs Libby Williamson oedd yn dathlu penblwydd yn 80 ar 18 Mai. Braf iawn oedd gweld Libby wedi gwella digon i ddod atom am y noson. Darllenwyd y llythyr o’r Sir a chofnodwyd dyddiadau o bwys. Cafwyd adroddiad gan yr Islywydd Mrs Jan Cole oedd wedi trefnu noson allan i’r bwyty newydd As-is, a hefyd taith gerdded ar lwybr natur yn hen Waith Cookes, taith gerdded i’r Bala ar 14 Mehefin, a chwis yn y Clwb Rygbi yn Nolgellau ar 29 Ebrill. Roedd 2 dîm o Harlech wedi cymryd rhan. Cynhaliwyd Sioe Ffasiynau ym Mhorthmadog ar 19 Mai ac roedd 4 model o Harlech yn cymryd rhan, sef Christine, Ann, Annette a Josie. Rhoddwyd adroddiad am Gyngor y Gwanwyn a gynhaliwyd yn Neuadd Rhydymain ar 26 Ebrill gan Christine, a rhoddwyd adroddiad am Grŵp Artro gan Edwina. Ar ôl trafod y busnes, cafwyd noson o fonedau’r gwanwyn a drefnwyd gan Edwina. Gwnaed 13 boned gan yr aelodau a nhw oedd y modelau hefyd. Roedd rhai gwych iawn ac roedd llawer o waith a meddwl wedi mynd i’w gwneud. Cafwyd noson hwyliog iawn. Yr enillwyr oedd Myfanwy Jones, Denise Hagan a Pat Church. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 8 Mehefin pan fydd Mr Merfyn Thomas yn sôn am Archif Dolgellau. Mae croeso i unrhyw un ymuno â ni am y noson.
Dymuno’n dda Dymuniadau gorau i Mrs Eirlys Stumpp sydd yn Ysbyty Gwynedd, i Mr Jim Nelson sy’n Ysbyty Alltwen, i Mr Gwilym Williams, 41 Y Waun sy’n Ysbyty Madog, ac i Mrs Maureen Williams sydd hefyd yn Ysbyty Alltwen.
Capel Jerusalem HARLECH
10
Rhoddion i’r Llais Lyn Bisseker, Acragaled - £5 Eirlys Stumpp - £5
MEHEFIN 19 Parch Dewi Morris am 4.00
PRIODAS
Llongyfarchiadau i Arfon Jones o Benrhyndeudraeth a Denise Manning o Harlech ar eu priodas ddiweddar. Dymuna Arfon a Denise ddiolch o galon i’w teulu, ffrindiau a’u cymdogion am yr holl gardiau ac anrhegion a dderbyniwyd ganddynt ar achlysur eu priodas. Diolch hefyd am yr holl gymorth a gawsant gan ffrindiau i wneud y diwrnod yn un arbennig. Rhodd a diolch - £10.
CYSTADLU YN FFLINT
Bu’r merched uchod yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Fflint dros y Sulgwyn. Eu hyfforddwr yw Eirian Foster sy’n gwneud gwaith gwiw iawn yn hyffforddi dawnsio yn yr ardal hon. O’r chwith i’r dde: Amber Coleman, Elan Rayner, Ella John, Alaw Jones a Lowri Rowlands.
Yna bu’n gweithio i Edwin Williams, Cae Main, Harlech, cyn derbyn yr her o fod yn berchennog ar ei fusnes ei hun pan brynodd y garej yn Llanfair. Yn y cyfnod yma y ganwyd Peter Fe’i ganwyd yn Birmingham ac a Judith. yn ddeg oed symudodd y teulu Daeth angen am weithdy mwy i fyw i ardal Dyffryn Ardudwy. a phrynodd Cae Main, ac ar y Dyma gyfnod anodd i fachgen tir adeiladwyd Encil y Coed, oedd yn paratoi at ei ‘eleven plus’ ac erioed wedi clywed gair a threuliasant y gweddill o’u bywydau gyda’i gilydd yno. o Gymraeg. Ar ôl gadael ysgol aeth i weithio yn Green Garage, Oherwydd afiechyd bu’n rhaid iddo newid gyrfa a daeth yn Y Bermo a Dolgellau. hyfforddwr gyrru car hyd nes Yna cafodd swydd fel taflunydd i’w iechyd ei orfodi i ymddeol yn y Castle Cinema, Harlech, yn gynnar yn 63 oed. Doedd a dyna le cyfarfu â Bethan a ddim yn ddyn i fod yn segur dechrau canlyn. ac fe ddechreuodd un arall o’i Galwyd ef i Wasanaeth ddiddordebau sef adfer dau gar Milwrol a lwcus cael ei bostio clasurol, Midget MG. i Donfannau ger Tywyn o le Fe oedd yn ddyn â llawer o y byddai’n dod ar ei feic dwy olwyn i Harlech i gwrdd â Beth, bethau cyntaf - dyn wedi ei eni o flaen ei amser. Ef oedd y cyntaf taith o 40 milltir yno ac yn ôl. yn yr ardal i gael car disel pan Ar ôl gadael y fyddin, aeth i weithio yn y Pavilion Cinema yn wnaeth roi injan o lori i mewn y Bermo a gan mai gwaith gyda’r yn ei gar. Aeth o a Beth cyn belled â Torquay ynddo ar eu nos oedd hyn, roedd hynny’n gwyliau. gadael digon o amser yn ystod Fe wnaeth ei orau i osod y dydd i adeiladu Sŵn y Nant. pympiau awtomatig yn y garej Daeth ei gyflogaeth i ben pan yn Llanfair ond dywedodd losgodd y Pavilion i’r llawr. yr awdurdodau y buasai Yna symudodd i weithio gyda hyn yn rhy beryglus. Erbyn Lewis Roberts yn Garej Morfa, heddiw, gorsafoedd petrol Harlech. hunanwasanaeth sydd ar gael Priododd Keith a Bethan ym 1959 a mynd i fyw i Sŵn y Nant. bron iawn ymhobman. Yr oedd yn un o brif sylfaenwyr Buasent wedi bod yn briod Clwb Deifio Glaslyn, ac fe fu yn am 57 o flynyddoedd ym mis nofio tanddwr yn y Môr Coch ac Tachwedd.
Keith Johnstone
ynysoedd y Caneri a gwledydd eraill. Fe oedd wedi dysgu i hedfan awyrennau ysgafn a chafodd bleser mawr o hyn. Fe oedd y cyntaf i allu sythu siasi ar geir trwy ddefnyddio system gryfhau hydrolig. Gyda’i gyfaill Gerallt Evans, gwnaethant drefnu’r Dymchwel Derby cyntaf erioed yn yr ardal, sydd erbyn heddiw mor boblogaidd. Yr oedd yn un o’r Ysgol Yrru cyntaf yn yr ardal gan fod o gymorth mawr i gannoedd fod yn llwyddiannus yn arbennig yn cynnwys HGV ar y lorïau. Yr oedd bob amser yn ddyn gweithgar a gallai droi ei law at unrhyw beth. Pe bai wedi methu prynu rhan ar gyfer rhyw swydd, buasai yn mynd ati i’w wneud o ei hun; yn aml cymerodd ef ddau gynnig. Byddai’n dweud “Wnaeth o erioed wneud y peth yn iawn y tro cyntaf.” Tybiaf mai’r perffeithrwydd ynddo oedd hyn. Ni thaflai unrhyw beth i ffwrdd ac unwaith fe atgyweiriodd hen feic tair olwyn yr oedd Peter wedi tyfu allan ohono fo, weldio bin bara ar y cefn fel basged a’i roi o i Judith yn anrheg. Pan oedd Judith yn frenhines carnifal ef gynlluniodd ac adeiladodd alarch fel fflôt iddi hi a’i llys. Hyd heddiw mae pobl yn dal i siarad am y peth. Roedd yn ymfalchïo yn ei deulu yn cynnwys chwech o wyrion,
dwy wyres a dwy wyres fawr, ei ferch Judith (hogan Dad) a’i fab Peter (‘my mate’) ac roedd yn falch ei fod wedi trosglwyddo ei ddiddordeb a’i frwdfrydedd i Peter am y gweithdy. Yn ystod ei fywyd bu’n helpu cymaint o bobl ond erbyn heddiw mae’r golled fwyaf i chi ei deulu agosaf. Heddwch i’w lwch o. J Wright Keith Cynhaliwyd y gwasanaeth yn Amlosgfa Bangor gyda’r Parchedig Pam Wright yn gwasanaethu a’i phriod Jeff wrth yr organ. Ef hefyd dalodd deyrnged. Y cludwyr oedd Michael a Joseph Johnstone ac Aidan a Lloyd Hughes, sef pedwar o wyrion Keith. Diolch i gymaint o deulu a ffrindiau am eu presenoldeb yn y gwasanaeth. Diolch i Malcolm a’r hogiau am eu caredigrwydd ac am y trefniadau trylwyr fel bob amser. Does dim geiriau all fynegi pa mor ddiolchgar ydwyf i bawb sydd wedi bod yn gefn i mi yn ystod y misoedd diweddar. Peth braf ydy cael llu o ffrindiau, yn arbennig ar amser fel hyn. Gair bach ydy diolch ond ar ran y plant a minnau, diolch o waelod calon i bawb. Beth Rhodd a diolch £20
BLAS Y BRYNIAU Dafydd Edwards
amrywiol, yn anffodus, ac ymhlith ei hoff gantorion roedd Dafydd Edwards, Bethania. Nid yw hynny’n syndod gan fod y ddau yn dod o’r un ardal a hyfryd oedd gweld cofnod am fy nhad-cu yn y gyfrol. Dyma gyfrol swmpus yn adrodd hanes y canwr o’i fore oes hyd heddiw. Mae e wedi aros yn ei filltir sgwâr, er ei fod bellach wedi perfformio ar draws y byd. Lyn Pan oeddwn i’n ifanc, un o’r Ebenezer sydd wedi cynorthwyo treats ar ddydd Sul oedd cael y gyda’r gwaith o olygu’r gyfrol, ac yn yr atgofion ceir stôr o wybodaeth record player mas a gwrando am hen arferion amaethyddol, ar recordiau. Dad oedd dyn y recordiau yn tŷ ni a thra bo Mam enwau caeau a hen ofergoelion. Cofnodir hefyd eirfa lafar y rhan yn y capel arferem wrando ein hon o’r byd ac y mae hynny, heb os, dau ar ddetholiad o ganeuon. yn beth gwerthfawr.
Doedd ei gasgliad ddim yn
Nid oes dwywaith nad yw Dafydd yn ffermwr llwyddiannus – mae fferm Plasybryniau yn dystiolaeth o hynny, ond dengys y gyfrol hon mai holl waith Dafydd a’i gyndeidiau sy’n gyfrifol am y llewyrch. Nid yw bywyd wedi bod yn fêl i gyd a bu nifer o golledion trwm ar hyd y daith. Bu colli tad-cu a rhieni yn gryn ergyd, a chnoc arall fu colli ei wraig gyntaf, Llinos, pan nad oedd Menna, y ferch hynaf, ond yn un mis ar ddeg. Ymhellach, bu colli mab ychydig cyn ei eni yn storm arall iddo ef a’i ail wraig, Anne. Mi fyddwn i wedi hoffi mwy o gyfeirio at Llinos. Mae’r rheini ohonom sy’n dod o Geredigion yn cofio amdani’n berson amryddawn iawn a theimlaf y dylid bod wedi rhannu’r wybodaeth honno. Mi
fyddai wedi bod yn braf cael gwybod ychydig hefyd am eu cyfarfyddiad a’r profiad o fagu Menna fach. Heb os, mae Anne wedi bod yn gymorth mawr iddo, ac y mae Gwawr, sy’n gantores dra enwog, yn dod â llawer o bleser i’r teulu, ynghyd â Menna a’r wyrion. Neilltuir rhan olaf y gyfrol i berthnasau Dafydd yn Ohio. Erbyn hyn mae wedi’u cyfarfod droeon ac y mae manylion y llinach deuluol ar flaenau ei fysedd. Dyma ganwr sydd wedi teithio’n helaeth ond hawdd gweld mai dyn ei filltir sgwâr yw Dafydd yn y bôn. Mae’n werth profi Blas y Bryniau er mwyn dod i adnabod Dafydd, ond hefyd ddod i adnabod y rhan hyfryd hon o Geredigion. Sarah Down-Roberts
Adolygiad oddi ar www.gwales.com trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
11
BWYD A DIOD 136-140 STRYD FAWR, PORTHMADOG, GWYNEDD LL49 9NT
Dewch draw i’r Siop am sbec - mae rhywbeth i bawb yma! Gorffennwch eich ymweliad â phaned, teisen neu bryd o fwyd blasus mewn awyrgylch hamddenol.
DISGOWNT O 10% WRTH GYFLWYNO’R HYSBYSEB YMA AR NWYDDAU O’R SIOP, NEU FWYD A DIOD O’R TŶ COFFI. [Ni chaniateir ei ddefnyddio gydag unrhyw gynigion eraill sy’n bodoli ar y pryd.] www.kerfoots.com enquiries@kerfoots.com Ffôn: 01766 512256 Llais Llais Ardudwy
Ardudwy
Gwinllan ger Caernarfon Cofiaf â chywilydd ddatgan wrth gwsmer flynyddoedd yn ôl fod gwell i Gymru aros yn y maes o dyfu cig oen yn lle grawnwin. Wel, mae sawl un wedi fy mhrofi yn anghywir erbyn hyn, gyda dros 15 gwinllan yng Nghymru a channoedd ym Mhrydain. Un o’r gwinoedd Cymraeg rydym wedi penderfynu ei werthu yn ein siop yw Pant Du, gwinllan sydd ymysg y mwyaf gogleddol ac sy’n cynhyrchu gwin o safon. Ym Mhenygroes ger Caernarfon mae’r fenter annisgwyl yma. Sefwch i syllu ar y rhesi o winwydd sy’n rhedeg i lawr y llethr i weld yr Eifl a Phenrhyn Llŷn yn y pellter. Cwpl gweithgar a deallus yn eu maes yw Richard ac Iola Huws sydd ag angerdd go iawn i wneud diodydd o’r ansawdd uchaf. Mae’n rhaid, yn does? Oherwydd buddsoddiad tymor hir yw plannu gwinllan ac ni welir cynnyrch yn y blynyddoedd cynnar i ddod ac incwm i’r busnes.
DAMSEL IN THIS DRESS [Twtil, Harlech]
Siop Ddillad i Bawb
Yn agored bob dydd 9.30 - 5.30
5
Rhywbeth newydd bob dydd yn ein siop unigryw. Disgownt o 10% wrth gyflwyno’r hysbyseb hon [un yn erbyn bob taliad]. Ffôn: 01766 780199
Rhwng Tymhorau a Rhesymau ac ‘As Is’, gyferbyn â’r siop hufen iâ. Chwiliwch amdanom ar ein Gweplyfr [Facebook]
Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld Llais ar y we. Cyfeiriad y safle yw: Ardudwy http://issuu.com/llaisardudwy/docs 12
Rondo yw un math o rawnwin coch maen nhw wedi penderfynu ei blannu ymysg amrywiaeth o winwydd eraill fel Bacchus neu Seyval Blanc, enwau anghyfarwydd efallai ond mae dewis grawnwin sy’n mynd i dyfu yn ein hinsawdd ogleddol yn hanfodol i’r llwyddiant. Tywydd gwlyb a thamp yw’r gelynion mwyaf yn ogystal â diffyg cynhesrwydd a haul - sy’n gwneud eu llwyddiant yn fwy o syndod fyth. Rhan o’r hwyl a diddordeb i mi yw gallu blasu rhywbeth nad ydy o ar gael yn yr archfarchnad leol. Fel pob amaethwr craff maen nhw’n amrywio trwy gynhyrchu sudd afal a seidr arbennig o dda o’r berllan ar y fferm, yn ogystal â dŵr eu hunan erbyn hyn hefyd. Os oes unrhyw un yn sôn wrtha’i am ddiffyg mentro ymysg y Cymry byddaf yn amlygu’r cwpl yma’n syth. Mae caffi a siop hyfryd ar y safle braf yma. Ewch am dro i gael taith o’r winllan a gweld yr olygfa unigryw. Arhoswch am baned neu gwydred wrth fyfyrio ar yr ysbryd o entrepreneuriaeth sydd wedi rhoi’r cynnwys arbennig yna yn eich gwydr. Llinos Rowlands Gwin Dylanwad Wine
CYNGOR CYMUNED HARLECH Croesawodd y Cadeirydd y PCSO Elliw Jones a David Hughes i’r cyfarfod i drafod materion o bwys i’r aelodau. Ethol Swyddogion Cadeirydd: Edwina Evans Is-gadeirydd: Judith Strevens Cae Chwarae’r Brenin Siôr Mae Parciau Cymunedol Harlech yn y broses o gwblhau ffurflen gais i gael grant o £45,000 gan Tarmac Ltd er mwyn archebu offer ar gyfer y cae chwarae uchod. Ni fydd Tarmac Ltd ond yn talu 90% o’r grant, felly bydd angen i’r Cyngor Cymuned dalu £4,125.00. Hysbysfyrddau Adroddodd Gareth Jones ei fod wedi gwneud ymholiadau ynglŷn ag archebu’r uchod. Cytunwyd yn unfrydol i archebu’r un PTN am £1,764.94 + TAW. Gwaith Cymunedol Myfyrwyr Coleg Meirion Dwyfor Bydd y myfyrwyr yn dod i lanhau’r traeth. Cytunodd Gareth Jones gael deunydd iddynt ar gyfer y gweithgaredd hwn. Ethol Cynghorydd Mae angen i unrhyw un sydd â diddordeb mewn rhoi ei enw gerbron gysylltu â’r clerc erbyn Mehefin 6. Ceisiadau Cynllunio Arddangos un panel gwybodaeth - Gwarchodfa Natur Morfa Harlech Cefnogi’r cais hwn. Gwasanaeth Eiddo Bydd maes parcio Gwesty’r Castell yn faes parcio talu ac arddangos. Adran Briffyrdd Derbyniwyd neges gan yr uchod ynghyd â lluniau yn dangos y clymog Japan sy’n tyfu ar y llwybr gyferbyn â’r pwll nofio, yn gofyn i’r Cyngor a fyddai yn bosib iddynt ddelio gyda’r mater yma gan nad yw’r tir yn dir cyhoeddus. Cytunwyd i basio’r neges ymlaen i Gyfoeth Naturiol Cymru. Adran yr Economi Trafodir ail-ddylunio’r gwasanaeth llyfrgell ar gyfer y dyfodol yng nghyfarfod nesa’r Cyngor. Ysgol Ardudwy Mae angen cael diffibriliwr i’r ysgol rhag ofn i rywun gael ataliad y galon yn ddirybudd fel digwyddodd yn Ysgol Eirias, Bae Colwyn yn gynharach eleni, ac yn gofyn a fyddai’r Cyngor yn fodlon rhoi cyfraniad ariannol at archebu diffibriliwr. Cytunwyd i roi £300. Bydd ddisgyblion B9 yn gwneud gwaith yn y gymuned ar yr 11eg a’r 12fed o Orffennaf. Hamdden Harlech ac Ardudwy Derbyniwyd llythyr gan yr uchod yn gwahodd y Cadeirydd, yr Isgadeirydd ac un aelod arall o’r Cyngor i gyfarfod â hwy ar yr 8fed o Fehefin am 6.00 o’r gloch er mwyn trafod rhoi costau rhedeg y safle ar bresept y Cyngor. Cytunwyd bod y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn mynychu. UNRHYW FATER ARALL Mae llanast y tu ôl i rai o dai ystâd Y Waun a chytunodd Caerwyn Roberts ddelio gyda’r mater yma. Mae bysiau’n aros gyferbyn â chroesffordd Ffordd Glan y Môr. Nid yw’r arwydd canolfan dwristiaeth wedi ei dynnu i lawr. Mae angen sylw ar ganllaw’r stepiau ar y llwybr cyhoeddus igam ogam. Mae coeden gelyn yn gordyfu ar ochr y ffordd yn Y Waun.
Ymgyrch y Bêl – pobl Gwynedd yn pasio’r Bale dros Gymru
Dros yr wythnosau diwethaf mae hunaniaith, y Fenter Iaith sy’n gweithredu yng Ngwynedd, wedi bod yn cymryd rhan mewn ymgyrch genedlaethol ‘Y Bêl – pasio’r Bale dros Gymru’ i gasglu negeseuon o gefnogaeth a llofnodion i’w cyflwyno i dîm pêldroed Cymru, mewn cinio dathlu wrth iddynt baratoi ar gyfer pencampwriaeth Ewro 2016. Mae 23 pêl, un gan bob Menter Iaith, wedi bod yn crwydro Cymru dros yr wythnosau diwethaf gyda phum mil ar hugain o negeseuon o gefnogaeth yn cael eu nodi ar y peli. Mae unigolion, teuluoedd, busnesau, clybiau lleol, sefydliadau ac ysgolion wedi datgan eu cefnogaeth i dîm Cymru a phasio’r ‘Bale’ ymlaen i’r person nesaf, a hyn yn symbolaidd o bwysigrwydd trosglwyddo’r Gymraeg i eraill, er mwyn sicrhau ei dyfodol. Un sydd wedi’i gyffroi’n lân am yr ymgyrch, ac sydd wedi chwarae rôl flaenllaw wrth hyrwyddo Cymru a’r Gymraeg dros y blynyddoedd, yw’r cyn-chwaraewr a’r gôl-geidwad rhyngwladol, Dai Davies. “Mae gweld Cymru, am y tro cyntaf ers cyfnod hir iawn, mewn pencampwriaeth ryngwladol yn rhywbeth i bob un ohonom ddathlu. “Fel chwaraewr pêl-droed, ac fel sylwebydd, mae’r gallu i siarad Cymraeg wedi bod yn fanteisiol iawn i mi yn ystod fy ngyrfa. Rydw i wrth fy modd yn gallu cefnogi ymgyrch y Mentrau Iaith i gasglu cefnogaeth i’r tîm, a hoffwn alw ar bawb i ymuno yn y dathlu, cefnogi Cymru a chefnogi’r Gymraeg.”
CAFFI CASTELL HARLECH Os ydych chi’n awyddus i weld yr holl glipiau/lluniau o gefnogaeth i’r sgwad, cofiwch hoffi’n tudalen Facebook (mewnbynnu manylion Facebook y fenter), ein dilyn ar Twitter ac Instagram (manylion cyfrifon eich menter). Hefyd cofiwch chwilio am #CmonCymru a #DiolchCymru i weld negeseuon o bob cwr o’r wlad. ***
Fuoch chi yno? Mae’r olygfa yn wych ac mae’r bwyd yn dda!
Deallwn fod amryw o’r ardal am deithio i Ffrainc i gefnogi Cymru ym mis Mehefin. Tybed a oes unrhyw un yn fodlon cadw dyddiadur i’w gyhoeddi yn ein rhifyn nesaf? Cofiwch gysylltu!
SAMARIAID Llinell Gymraeg 0300 123 3011
13
Cofio Colin Palmer Cyllid ar gael i Fyfyrwyr Astudio Graddau Meistr Bydd modd i fyfyrwyr ymgeisio am Ysgoloriaethau Meistr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o £3,000 cyn 11 Gorffennaf 2016. Bwriad Ysgoloriaethau Meistr y Coleg Cymraeg yw cynnig cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio cwrs meistr yn rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg mewn prifysgol yng Nghymru. Mae croeso i fyfyrwyr sy’n bwriadu astudio cwrs sydd ag o leiaf 60 credyd wedi ei addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a chyflwyno traethodau hir yn Gymraeg gyflwyno cais. Mae o leiaf 10 ysgoloriaeth ar gael ac mae dros 40 o gyrsiau gradd yn gymwys ar gyfer yr ysgoloriaeth ar draws nifer o sefydliadau Cymru. Yn eu plith mae cyrsiau ym meysydd y gyfraith, busnes, celf, addysg, cerddoriaeth a’r diwydiannau creadigol. Mae pecyn ymgeisio llawn ar wefan y Coleg Cymraeg – http:// www.colegcymraeg.ac.uk/ysgoloriaethau neu gellir cael rhagor o wybodaeth trwy e-bostio gwybodaeth@colegcymraeg.ac.uk neu
Staff Ysgol Ardudwy yn y 60au a’r 70au Diolch i Geraint Percy Jones am gysylltu ac am anfon dau lun yn gysylltiedig ag Ysgol Ardudwy. Byddwn yn cynnwys yr ail lun yn rhifyn mis Gorffennaf. Meddai Geraint: “Ar ôl clywed am farwolaeth Colin Palmer ychydig wythnosau’n ôl bellach mi es i i’r gwasanaeth cofio. Fy atgof i ohono yw ei fod yn greadur digon hoffus a gwahanol. Wrth ddod allan o’r amlosgfa mi ges i sgwrs ddifyr iawn efo John a Roger Kerry a’r atgofion yn mynd â fi’n ôl i’r chwedegau i gyfnod hapus iawn yn fy mywyd (mae pob un ar ôl hynny wedi bod yn hapus iawn hefyd!) Ac rydw i wedi gwrando sawl gwaith ar yr hogia’n canu. Mae croeso mawr o hyd i’r Llais yn ein tŷ ni a sôn am bobl rydw i’n eu cofio ymhob rhifyn. Llongyfarchiadau ar y gwaith da.” Hwyl, Geraint (Percy)
Ddechrau’r chwe degau y dechreuais i ddysgu yn Ysgol Ardudwy a bu’r un mlynedd ar ddeg y bum yno yn flynyddoedd eithriadol o hapus a phwysig yn fy mywyd. Erys atgofion hyfryd am yr athrawon yr elwais yn helaeth o gydweithio â hwynt a’r disgyblion a ddysgodd gymaint imi. Pan welais yn y papur fod Bernard Colin Palmer wedi marw teimlwn y dylwn fynd i Amlosgfa Bangor ar Fawrth y pedwerydd ar hugain i’r gwasanaeth i ddathlu ei fywyd. Cofiaf ei gymeriad lliwgar, bywiog ac unigryw yn glir. Cofiaf yn dda Meira a minnau a’n plentyn cyntaf, Aled Llŷr, yn symud i fyw i hen fflat Colin a Norma ar lawr uchaf Dros-y-môr a gallaf weld y funud yma’r waliau coch llachar a nenfwd yr un mor llachar o goch un o’r ystafelloedd. Daw i mi lu o atgofion eraill am Colin - ei weld ambell fore wedi iddo symud i’r Ynys yn cyrraedd yr ysgol yn cydio’n dynn i reiliau cefn y lorri ludw; cael reid ganddo yn y Jaguar i Fabolgampau Ysgolion Cymru yn Aberhonddu a’m stumog yn cael ei chorddi gan gyfuniad o yrru gwyllt Colin a gorgyfforddusrwydd anghyfarwydd y sedd gefn; brwdfrydedd heintus Colin wrth drafod celfyddyd; a rhai o’i ddywediadau rebelaidd wrth ymateb i ambell sylw o lwyfan na allai ei natur led-fohemaidd gytuno â hwy. Cofiaf yn dda brynu llun ganddo a’r llun hwnnw yn cyfleu aruthredd a hynafiaeth creigiogrwydd Ardudwy mewn brown ac oren mewn dull tra gwahanol i’r hyn a wneid â chamera. Yn y gwasanaeth ym Mangor braf fu hel atgofion am Ysgol Ardudwy yng nghwmni William Henry Owen, Glyn Williams, Alun Owen a William Large a phleser arbennig fu cael sgwrs hir gyda’r efeilliaid John a Roger Kerry y cofiaf yn dda iawn eu hynawsedd boneddigaidd fel disgyblion. Cyn i mi adael y maes parcio rhuthrodd un o’r hogiau ataf a chyflwyno dwy gryno ddisg i mi yn anrheg. Hoffwn i Roger a John wybod fy mod wedi gwrando ar yr hen ffefrynnau laweroedd o weithiau yn y car ac yn y tŷ. Cwestiwn diddorol un o’m hwyrion ifanca wrth wrando efo fi oedd faint oedd fy oed pan ddysgwn i’r ddau oedd yn canu. Oes, mae blynyddoedd bellach ac mae’r atgofion am yr un mlynedd ar ddeg yn Ardudwy yn fyw iawn awn yn fy nghof. Ia, “dyddiau difyr, dyddiau difyr iawn” chwedl un o ganeuon yr hogia. Hen gyd-athrawon a chyn-ddisgyblion, braf iawn cael rheswm dros eich dwyn i gof. Geraint Percy Jones
Tîm hoci athrawon Ardudwy (rhyw dro yn y 60au) Rhes gefn, o’r chwith i’r dde: Rhyddid Williams, Aneurin Thomas, Tudor Thomas, R Silyn Hughes, Iorwerth Simon, Jane Davies, Peter Crabtree, Ceinwen Lloyd Jones, Reg Morris (dyfarnwr). Rhes flaen: Dic Muir, Miss Swan, Geraint Percy Jones, Colin Palmer.
14
H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239
Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290
YSWIRIANT I BAWB
E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr
01341 241551
Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.
ALAN RAYNER ARCHEBU A GOSOD CARPEDI 07776 181959
Gwynedd
www.raynercarpets.co.uk
Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297
Tafarn yr Eryrod Llanuwchllyn 01678 540278
Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00
Sgwâr Llew Glas
Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd
01766 780186 07909 843496
Llais Ardudwy
Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk
drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]
01766 512091 / 512998
TREFNWYR ANGLADDAU
Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb
GERALLT RHUN
JASON CLARKE
Bryn Dedwydd, Trawsfynydd LL41 4SW 01766 540681
Tiwniwr Piano a Mân Drwsio g.rhun@btinternet.com
BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU
Phil Hughes Adeiladwr
Gosod stofiau llosgi coed Cofrestrwyd gyda HETAS
Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.
Sŵn y Gwynt Talsarnau,
Cefnog wch e in hysbyseb wyr
Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504
DAVID JONES
Cigydd, Bermo 01341 280436
Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau
ADEILADWR Gwarantir gwaith o safon.
Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014
Ar agor bob nos 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00
Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 9.00 Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!
MELIN LIFIO SYMUDOL
Gadewch i’r felin ddod atoch chi! www.gwyneddmobilemilling.com
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014 15
Canmol Cynllun Tai Fforddiadwy Mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin yn cydweithio gyda Chynghorau siroedd Conwy, Gwynedd â Môn, cymdeithasau tai Cartrefi Conwy a Thai Gogledd Cymru, yn ogystal ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gyllido’r gwasanaeth, i sicrhau fod mwy o gymunedau yn gallu manteisio o’r fenter. Un teulu sydd erbyn hyn yn byw mewn cartref newydd cyfforddus oherwydd y gwasanaeth yw Catherine Jones, ei phartner Tony Poulton a’u tri o blant. Mae Catherine yn llawenhau wrth setlo yn ei chartref newydd, yng nghalon ei bro enedigol, sef Ardudwy yng Ngwynedd. Symudodd y cwpl i’w cartref tair llofft ym Mhant yr Eithin, Harlech yn ystod yr haf, ddeng niwrnod cyn geni eu trydydd plentyn. Cyn symud, roedd y teulu wedi bod yn byw mewn fflat dwy lofft, tamp lle’r oedd eu merch fach Yvonne, 2, wedi bod yn dioddef o symptomau tebyg i asthma Meddai Catherine Jones, 27, sy’n gweithio mewn siop yn Harlech: “Mae ein cartref newydd yn wych, a fedrwn ni ddim gofyn am well. Dwi’n nabod llawer o’m cymdogion gan ein bod wedi tyfu i fyny gyda’n gilydd yn yr ardal, a gan fod ganddyn nhw deuluoedd ifanc hefyd, gallwn helpu ein gilydd.
plant allu chwarae gyda’i gilydd. rhan o’r gymuned y maent yn ei hadnabod mor dda. ” talu £50 “Mae ein biliau hefyd yn llawer is. Yn y fflat roeddem yn yr wythnos am drydan. Ychydig wythnosau wedi i ni symud yma, cawsom fil am £40 a hynny am ddefnydd chwe wythnos. Roeddwn yn meddwl fod camgymeriad wedi digwydd! Ond doedd dim. “Does gan Yvonne ddim asthma erbyn hyn, a dwi ddim yn credu ei fod wedi bod arni erioed. Dwi’n credu mai oherwydd ein bod yn byw mewn eiddo tamp roedd hi’n cael trafferthion.” Fe dderbyniodd y teulu eu hagoriadau fis Gorffennaf diwethaf, yr un diwrnod ag yr oedd Catherine i fod i eni ei thrydydd plentyn. Fe anwyd Nathaniel ddeng niwrnod wedi hynny, a chafodd Catherine gymorth gan gymydog a ffoniodd am ambiwlans iddi. Mae gan Catherine a Tony ddwy ferch hefyd, Yvonne sy’n ddwy a Sophia sy’n bedair. Mae Catherine hefyd yn ddiolchgar i allu byw mor agos at ei nain a’i thaid, oherwydd i’r ddau gymryd yr awenau o’i magu o’r cyfnod pan oedd hi’n wyth oed ag ymlaen. “Mae gan Nain glefyd Parkinsons ac mae gan Taid dementia ac felly dwi’n gallu cynorthwyo’r gofalwyr i edrych ar eu holau,” meddai. Teulu arall sydd hefyd yn elwa o’r gwasanaeth yw Darren a Donna Williams a’u mab bach Siôn. Roedd y cwpl, sy’n disgwyl eu hail blentyn ym mis Gorffennaf, yn arfer byw mewn eiddo rhent preifat cyn symud i Bant yr Eithin. Ond roedden nhw’n poeni y gallai’r eiddo gael ei werthu. Erbyn hyn mae ganddyn nhw denantiaeth sicr, rhent llai a gardd ddiogel i’w mab chwarae ynddo. Yn ôl Darren, sy’n gweithio yn siop Spar Harlech, “Mae’n gartref braf mewn llecyn tawel. Rydym hefyd yn teimlo bod gennym fwy o berchnogaeth dros ein cartref newydd, a gallwn roi ein stamp ein hunain arno.” Dywedodd Arfon Hughes, “Ein blaenoriaeth ni yw sicrhau fod gan bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig fynediad at gartrefi sy’n eu galluogi i aros yn eu cymunedau a chyfrannu tuag at y gymdeithas. Mae hyn yn bwysig er mwyn diogelu dyfodol tymor hir a chynaladwyedd cymunedau gwledig ar draws Gogledd Cymru.” Yn ôl y Cynghorydd Caerwyn Roberts, “Roedd hi’n braf gweld sut roedd yr Hwylusydd Tai Gwledig yn cynorthwyo’r cyngor cymuned i adnabod yr angen am gartrefi newydd, a sut y gwnaeth hynny sicrhau ein bod yn cael y cartrefi roedd eu hangen ar y gymuned. “Mae’n galonogol iawn clywed pa mor dda mae’r teuluoedd yn setlo yn eu cartrefi newydd, a faint maen nhw’n gwerthfawrogi bod yn
Darllen Mawr Direidus Mae llyfrgelloedd ym mhobman yn dathlu 100 mlwyddiant Roald Dahl eleni gyda’r Darllen Mawr Direidus, Sialens Ddarllen Haf 2016, a fydd yn cychwyn yn swyddogol ar fore Sadwrn 16eg Gorffennaf ac yn parhau tan ddechrau Medi. Ymunwch â’ch llyfrgell leol i gael ffolder yn rhad ac am ddim i gadw’ch casgliad o gardiau arbennig, ymwelwch â’ch llyfrgell deirgwaith dros wyliau’r haf a benthycwch tri llyfr o’ch dewis bob tro. Cofiwch fod eich llyfrgell leol yno er mwyn i’ch plant gael darllen y llyfrau newydd diweddaraf - yn straeon, nofelau, llyfrau jôcs, a llyfrau am eu hoff ddiddordebau. Ac mae llyfrau Roald Dahl gennym yn Gymraeg a Saesneg, gyda chyfle i’ch plant ddod i nabod y Cawr Mawr Mwyn, y Crocodeil Anferthol a’r Twits, i enwi ond ychydig! Catherine Jones gyda’i phlant Yvonne a Sophia, Nathaniel, y babi, ei phartner Tony Poulton a’r Uwch Hwylusydd Tai Gwledig. Arfon Hughes (chwith) “Mae ein merched wrth eu boddau gan fod cymaint o le yma ac mae ganddyn nhw ardd i chwarae ynddi, rhywbeth nad oedd ganddyn nhw yn ein cartref blaenorol. Mae yna hefyd le diogel i’r
16
Bydd pob plentyn yn derbyn tystysgrif a medal os llwyddant i gwblhau’r sialens ac ymweld â’u llyfrgell dair gwaith dros yr haf! Mae’n dipyn o her ceisio cadw plant yn ddiddig a heb ddiflasu yn ystod gwyliau hir yr haf, felly beth amdani? Cymerodd dros 2700 o blant Gwynedd ran yn sialens y llynedd felly cyntaf i’r felin piau hi. Ewch draw i’ch llyfrgell leol i gychwyn eich Sialens Ddarllen Haf ac i ddarganfod stôr o lyfrau a straeon difyr a chyffrous yn eich aros!
BYD BACH
CHARLES gan Idris Charles
Ar fy ffordd yn ôl o Albania yn ddiweddar, bu’n rhaid newid awyren yn Istanbwl. Eisteddodd dyn Twrcaidd yr olwg wrth fy ochr. Mi wnaethon ni gyfarch ein gilydd a dyna’r cwbl. Daliodd fy ffrind (oedd hefo mi ar y daith) a minnau i barablu yn Gymraeg. Ymhen peth amser dyma’r dyn Twrcaidd yr olwg yn gofyn i ni “What part of Wales do you gentlemen come from?” Cefais sioc fy mywyd fod y dyn yn gwybod mai Cymraeg oedden ni’n siarad!! Ceisiais esbonio iddo, “ We live in the north of Wales. I live in a small village called Talsarnau and my friend lives in Bangor, which is a much bigger place”. “O”- medda fo, “I keep the Spar shop in Cricieth!!” Rhyfedd o fyd! Wel, meddech chi, beth oeddwn i yn ei wneud yn Albania o bobman yn y byd? Roeddwn yn mynd yno yn gwmni i fy nghyfaill, Dafydd Job, sydd hefyd yn weinidog, i bregethu ac i gael blas ar fywyd crefyddol y wlad. Rhwng 1974 a 1991 roedd y Wladwriaeth Atheistiaidd o dan Enver Hoxha wedi gwahardd pob math ar grefydd yn y wlad. Caewyd capeli, eglwysi, mosgiau, a phob adeilad crefyddol arall, gan gadw dim ond un adeilad yn y brifddinas, Tirana, fel amgueddfa i brofi fod dyddiau crefydda yn Albania wedi dod i ben. Yn ystod y cyfnod hwn roedd erlid creulon ar bobol oedd yn dymuno dilyn eu cydwybod ac addoli. Darllenais am ferch ifanc a dreisiwyd ond a garcharwyd. Rhoddodd enedigaeth i efeilliaid yn y carchar. Daeth offeiriad lleol i’w gweld - ond doedd o ddim yn cael gweithio fel offeiriad, wrth gwrs. Gofynnodd hithau iddo fedyddio ei babanod. Cafodd ei ddal gan swyddogion y carchar ac fe aethpwyd ag ef i’r iard yn y cefn a’i saethu’n farw. Ers i Gomiwnyddiaeth ddymchwel ac i oddefgarwch crefyddol ddychwelyd i Albania mae’r bobol yn sylweddoli, rhywsut, fod rhywbeth mawr wedi bod ar goll yn eu bywydau ac maen nhw’n awyddus iawn i glywed neges - gwir neges, y Testament Newydd. Neges ydi honno am fywyd, marwolaeth ac atgyfodiad yr Arglwydd Iesu Grist sy’n gallu newid bywydau a dod a ni i berthynas real hefo Duw, trwy Ffydd. Cefais nifer o brofiadau bythgofiadwy. Yn eu plith, ymweld â Swyddfa Cymdeithas y Beiblau, a’r Cyfarwyddwr yn gofyn i mi a oeddwn wedi clywed am Mari Jones!! Hefyd cael mynychu oedfa mewn un o hanner cant o gapeli sydd yn Tirana ac addoli yno ar y Sul; chwarae (trio!) pêl-droed hefo criw o blant mewn ardal ddifrifol o dlawd a’r criw oedd yn gofalu am y gweithgaredd yn siarad am bwysigrwydd iechyd corfforol ac ysbrydol. Ymhlith yr uchafbwyntiau, ymweld â’r capel yn Vaqarr - tua phymtheg oedd yn bresennol, bob un ohonynt o gefndir Moslemaidd ond wedi troi at Grist. Roedd eu brwdfrydedd yn heintus - ac fe welwch o’r llun, does fawr o bwyslais ar adeiladau!! Gwers fawr i ni sy’n grefyddwyr! Mewn llawer ffordd mae’r wlad yn debyg iawn i Gymru, o ran tirwedd a’r croeso i ymwelwyr, ymhlith pethau eraill ond mewn ystyr arall, mae mor wahanol. Mae yno syched ysbrydol a phobol yn awyddus i glywed y Newyddion Da ac i ddarganfod beth yw gwir ystyr addoli. Dewi Tudur Lewis
Mentraf ddweud na roddwyd digon o sylw i ganmlwyddiant geni Charles. Gwnaed iawn am hynny i raddau helaeth gydag un o’r cofiannau cynhesaf a mwyaf diffuant a luniwyd erioed, a hwnnw gan ei fab, Idris. Wn i ddim ai mantais neu anfantais yw cael tad sy’n arwr, a chael arwr sy’n dad. Gwna hynny’r boen o’i golli yn llawer dyfnach. A hawdd gweld, o ddarllen y cofiant annwyl hwn, fod y mab yn dal i frifo i’r byw, ond hefyd yn dal i addoli ei eilun. O’r frawddeg ingol gyntaf yn y rhagair, mae’r gyfrol hon yn cydio. Ynddi mae’r mab yn diolch i’w dad am y gwmnïaeth. O hynny ymlaen cawn atgofion sy’n denu dagrau, a’r rheiny’n gymysgedd o ddagrau wylo a dagrau chwerthin. Meddyliwch am y cyferbyniad – plant Bodffordd yn gweddïo am haul i gael mynd i lan y môr, ond Idris yn gweddïo am law er mwyn cael bod ym meudy Cerrig Duon yn gwrando ar ei
dad yn mynd trwy ei bethau. Mae rhai o’r hanesion a adroddir yn chwedlau. Mrs Fletcher yn disgyn drwy ffenest y llofft. Hanesion ci Ŵan John, sef Briws, neu ‘Byyrwââs’ i’w berchennog. Hanes Merfyn Ŵan John a Robin Goch Cefn mewn tafarn yn Rhosybol wedyn. Yn rhan o’r cyfan cawn ddadansoddiad gan Idris o hanfodion gwir ddigrifwch a’i hoffter o gomedïwyr cyfoes fel Peter Kay a Lee Mack. Ac yn wir, saif Charles gyfuwch â’r rhain. Sylwi a sylwebu ar ddigwyddiadau bob dydd wnaiff y rhain. Dyna a wnâi Charles hanner canrif o’u blaen. Dyma deyrnged hynod ddiffuant, a theyrnged sydd, mewn mannau, yn gwneud i chi dagu ag emosiwn. Cawn ein beio’n aml fel Cymry am ein gorsentimentaleiddiwch. Mae hon yn gyfrol sentimental. Sut fedrai hi beidio â bod? Mae hi hefyd yn gyfrol odidog sy’n deyrnged nid yn unig i Charles ond i ddawn ysgrifennu Idris yn ogystal.
Sbardunwyd Idris i lunio’r gyfrol hon, meddai, gan hiraeth. A hiraeth, medd rhywun, yw’r gost y mae’n rhaid ei thalu am garu. Dyma eiriau olaf Idris: ‘Diolch, Dad, am yr atgofion ... Dwi’n dal i chwerthin.’ Ac i grio, mi dybiwn i. Lyn Ebenezer Adolygiad oddi ar www.gwales. com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
17 A
HEN FAP O ARDUDWY YN DANGOS FFORDD AR DRAWS Y TRAETH MAWR
Dyma lun o rhan o hen fap yn dangos yn glir llwybr yr hen ffordd fawr (A496!) o Harlech hebio Ynys ac Ynys Gifftan i Finffordd! Diolch i Gareth Williams, sy’n wreiddiol o Dalsarnau, am anfon y map atom.
THEATR ARDUDWY Am fanylion pellach am ddigwyddiadau’r Theatr, ffoniwch 01766 780667, neu ewch i’r wefan ar www.theatrharlech.com Digwyddiadau am 7.30 oni nodir yn wahanol.
MEHEFIN
6-11, 3pm + 7.30 pm, ffilm - Captain America: Civil War 13-16, 3pm + 7.30 pm, ffilm – Florence Foster Jenkins 17-24, 3 pm + 7.30 pm, ffilm, X-Men Apocalypse
GORFFENNAF
1-7, 1.30pm + 6 + 7, ffilm – Teenage Mutant Ninja Turtles: Out of the Shadows 5, perfformiad Cymraeg 8 pm - Caitlin, hanes gwraig y bardd Dylan Thomas a’i brwydr ag alcoholiaeth 7, Iau am 1 pm – Sesiwn Pnawn Da efo Ben Ridler (tenor) a Mark Lowe (piano)
A 18
Sychder Anweledig Lesotho
O edrych ar luniau o Lesotho hawdd cael eich twyllo nad oes gan y wlad unrhyw broblemau. Ond, mae’r tirwedd sy’n wyrdd ar ôl cawodydd diweddar yn cuddio effaith misoedd o brinder glaw a’r sychder gwaethaf mewn deugain mlynedd. Ar y 12fed o Fai darlledwyd rhaglen ar S4C o dan ofal gofalus y darlledwr Garry Owen, yn olrhain effaith y sychder ar bobl Lesotho. Cafodd Garry Owen a’i griw ffilmio eu syfrdanu gydag effaith y sychder ar bobl Lesotho. Fe ddywedodd, ‘Fe wnes i ymweld â Lesotho am y tro cyntaf yn 2005 i adrodd ar yr argyfwng HIV/Aids ar ran BBC Cymru. Mae’r wlad yn wynebu argyfwng arall erbyn hyn ... sychder. Siaradais â phobl sy’n ei chael hi’n anodd ac yn wynebu newyn a diffyg maeth. Mae Lesotho ar drothwy’r gaeaf a bydd y tymheredd yn disgyn. Mae’n amser pryderus i’r wlad fach, fynyddig hon sydd wedi ei gefeillio â Chymru.’ Gyda 80% o boblogaeth y wlad yn ddibynnol ar amaeth mae’r prinder dŵr eleni wedi difetha’r cnydau gan arwain at y cynhaeaf gwaethaf mewn blynyddoedd. Yn ôl yr ystadegau mae 1 o bob 3 yn dioddef o brinder bwyd ac yn poeni sut y byddant yn goroesi’r gaeaf sydd o’u blaenau. Mae’r prinder bwyd a dŵr wedi arwain at gynnydd mewn trais gydag un pentref yn dwyn oddi wrth y llall a chynnydd sylweddol ym mhrisiau bwyd. Mae pris sach o ‘maize’ (india-corn), un o fwydydd craidd y wlad, wedi treblu ac erbyn hyn allan o gyrraedd canran sylweddol o’r boblogaeth. Mae nifer o blant yn ddibynnol ar y prydau bwyd sydd ar gael yn yr Ysgol - uwd dyfrllyd i frecwast a ‘pap’ a llysiau, naill ai ffa, bresych neu spigoglys, i ginio. Ni fyddant yn cael unrhyw fwyd adref oherwydd effaith y sychder. Mae nifer wedi gorfod lladd ei hanifeiliaid gan na allant eu bwydo - yn ôl y dywediad - ‘ei cheg yw tynged y fuwch’. Mae Dolen Cymru Lesotho, a sefydlwyd yn ôl yn 1985, y gefeillio cyntaf rhwng dwy wlad, yn ymdrechu i godi arian i gynorthwyo pobl Lesotho. Mae Dolen Cymru wedi bod yn cefnogi gweithgareddau datblygu yn Lesotho ers dros 30 mlynedd gan ganolbwyntio ar addysg, iechyd a chysylltiadau cymunedol. Ar hyn o bryd mae 5 o athrawon Cymru yn gweithio yn rhanbarth Thaba Tseka gan gynorthwyo gyda gwella llythrennedd. Yn ogystal bu gweithwraig iechyd yn gweithio yn yr un ardal ar hylendid a phwysigrwydd golchi dwylo i osgoi clefydau. Mae Dolen Cymru mewn partneriaeth gyda’r elusen ‘Send a Cow’ (www.sendacow.org/lesotho) yn codi arian i brynu hadau a chreu gerddi twll y clo. Rydyn ni hefyd yn lansio cynllun ‘Bwydo Ysgol’ drwy fuddsoddi mewn gerddi ysgolion. Os am gefnogi gwaith Dolen Cymru Lesotho a chyfrannu at yr Apêl Sychder ewch i’r wefan - http://www.dolencymru.org/sychder neu drwy ffonio ein swyddfa yng Nghaerdydd ar 029 2049 7390 | swyddfa@dolencymru.org.
Côr Meibion Ardudwy yn Iwerddon 1988
Cymdeithas Ted Breeze Jones Adar y bore bach yn ardal Llandecwyn
Ymweliad ag Inis Môr Ar fore Llun, 16 Mai, cyfarfu aelodau o Gymdeithas Ted am 5.30 y bore i wrando ar gôr y bore bach yn ardal Llandecwyn. Cafwyd bore perffaith i grwydro’r coedydd derw o gwmpas Llyn Tecwyn Isaf a’r ffriddoedd uwchben hyd at Eglwys Llandecwyn i wrando ar ganeuon cynnar adar sydd yma drwy’r flwyddyn fel yr ysguthan, yr aderyn du a llwyd y gwrych ac adar ymfudol fel y tingoch, telor y coed, y gwybedog brith - a’r gog yn canu’n parhaol yn y cefndir.
tingoch
telor y coed
gwybedog brith
y gog
Ymysg yr adar eraill a welwyd ac a glywyd roedd y gnocell fraith fwyaf, y crëyr glas, y wennol, y bwncath a chorhedydd y waun. Mae’n werth gwneud yr ymdrech i godi’n gynnar ambell dro a chael bore cofiadwy fel hyn yng nghwmni rhyfeddodau byd natur.
Fe ddaw’r lluniau uchod ag atgofion melys a chwerw i lawer ohonom, yn arbennig o gofio bod nifer o’r bobl yn y lluniau wedi ein gadael erbyn hyn. Diolch i Huw Dafydd am eu hanfon atom. 19 A
YSGOL ARDUDWY YMWELD Â PHORTMEIRION Bu disgyblion Astudiaethau Busnes B11 yn ymweld â phentref Portmeirion. Cyfarfu’r disgyblion â Robin Llywelyn (RheolwrGyfarwyddwr) a Mr Meurig Jones (Rheolwr Atyniad) i drafod sut y mae’r Ŵyl Rhif 6 wedi effeithio ar Bortmeirion fel atyniad i ymwelwyr ac yr effaith hefyd ar randdeiliaid lleol (cwsmeriaid, cyflenwyr a gweithwyr ac ati). Mae’r disgyblion yn awr yn paratoi eu haseiniad ysgrifenedig ar eu canfyddiadau ac i gyd o’r farn bod yr ymweliad yn hynod fuddiol a phleserus. Hoffem ddiolch i Mr Robin Llywelyn a Mr Meurig Jones am eu croeso. E-DDIOGELWCH Cynhaliwyd noson arbennig ar gyfer rhieni’r ysgol yn ddiweddar pan ddaeth Cwnstabl John-Paul Rowlands i gynnig arweiniad ar sicrhau e-ddiogelwch ar y Wê. Trafodwyd gwahanol ffyrdd o gadw’n ddiogel a phwysigrwydd dangos hunan barch a pharch at bobl eraill wrth ddefnyddio’r Wê gan amlinellu goblygiadau’r gyfraith o safbwynt camddefnyddio’r Wê. Soniodd hefyd am broblemau bwlio seibir sydd wedi dod mor gyffredin heddiw a chynnig cyngor i rieni ynghylch beth i’w wneud petai hyn yn digwydd i’w plant. Roedd y sesiwn yn agoriad llygad ac yn ddefnyddiol dros ben ac yn sicr bydd y rhieni a fynychodd yn llawer mwy ymwybodol o beryglon ac yn gwybod sut i ymateb os bydd problemau’n codi.
ATHLETAU MEIRIONDWYFOR Buom yn cystadlu yng Nghystadleuaeth Athletau Meirion-Dwyfor ym Mangor yn ddiweddar. Roedd yn ddiwrnod llwyddiannus iawn gyda llawer yn mynd ymlaen i’r rownd nesaf i gystadlu yn erbyn holl ysgolion Gwynedd. B10: Katia Bischoff - 100m a 200m, Cadi Roberts - Disgen, Cedri Jones - Pwysau, Reece Evans - 400m, Ben Williams - 800m, William McKenzie Disgen, Huw Williams - Naid Hir. B9: Alex Key - Pwysau, Ben Davies – Pwysau a Chlwydi B8: Bethany Doughty - 200m a 300m, Llio Henshaw - 100m
ATHLETAU DAN DO Bu nifer o ddisgyblion B7-9 yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth Athletau Dan Do ym Mangor. Daeth merched B7/8 yn 3ydd drwy Wynedd a daeth merched B9 yn 4ydd. Perfformiodd Nikita Gannon a Bethany Doughty yn dda iawn yn y gystadleuaeth neidio ac felly fe fyddan nhw yn mynd ymlaen i’r rownd nesaf. Llongyfarchiadau i bawb a fu’n cystadlu.
ACHOSION DA Mae’r ysgol yn bwriadu prynu ei diffibriliwr ei hun y gellir ei defnyddio mewn achos o ataliad sydyn y galon yn yr ysgol. Mewn Diwrnod Gwisg Hamdden yn ddiweddar casglwyd £250 sy’n gychwyn ardderchog i’r gronfa. Hefyd, cafwyd cystadleuaeth ddartiau yn yr ysgol yn ystod yr wythnos ‘Sports Relief ’ ynghyd â Diwrnod Gwisg Hamdden. Casglwyd £291 i gefnogi’r achos.
A 20
CEFNOGI CARWYN EDWARDS Cafodd Pennaeth Gwyddoniaeth Ysgol Ardudwy newyddion drwg a thrist iawn ar ddiwedd mis Ionawr 2016 bod ei brawd yng nghyfraith, Carwyn Edwards, yn dioddef o Endocarditis Heintiol yn y gwaed. Ers hynny mae Carwyn wedi cael 7 llawdriniaeth mewn 7 wythnos. Mae Carwyn yn brwydro yn erbyn y salwch yn yr UDA ac mae’r costau meddygol yn anferthol. Er bod ganddo yswiriant meddygol, dim ond 85% o’r costau bydd y cwmni yswiriant yn eu talu. Rhaid i Carwyn dalu am y gweddill. Mae’r teulu yn ymgyrchu i godi £100,000 er mwyn talu am driniaeth a gwellhad Carwyn yn ogystal â chael Carwyn gartref. Trefnodd y Cyngor Ysgol Ddiwrnod Gwisg Hamdden er budd yr achos a chasglwyd £300. Yn ogystal, bydd criw o’r staff yn ceisio cwblhau her Tri Chopa Cymru – sef dringo Pen y Fan, Cadair Idris a’r Wyddfa mewn un diwrnod ym mis Mehefin.