Llais Ardudwy 50c
CAPTEN
RHIF 464 - MEHEFIN 2017
CANA-MI-GEI AR Y BLAEN Pleser pur yw llongyfarch Cana-mi-gei ar ennill Cwpan Stamford yng Ngŵyl Gerdd Caer eto eleni. Llongyfarchiadau i’w harweinydd dawnus, Ann Jones a’u cyfeilydd medrus, Elin Williams. Mi fydd y Côr i’w glywed nesaf mewn cyngerdd yn Nhalsarnau gyda chyfeillion o’r Ffindir ar Mehefin 13.
Llun: Nigel Hughes
Edwin Jones, Eithinog, Cae Gwastad, Harlech yw capten y dynion yng Nghlwb Golff Dewi Sant, Harlech am y tymor i ddod. Bu’n aelod o’r clwb ers ei blentyndod, ac mae wedi ennill sawl cystadleuaeth yno dros y blynyddoedd. Mae’n sicr y bydd yn gapten poblogaidd gyda’i lu gyfeillion o bell ac agos. Llongyfarchiadau mawr iddo.
CLOD I YSGOL TALSARNAU
David a Chloe gyda’r medalau ar ran y Grŵp Cerddoriaeth Greadigol
Llongyfarchiadau i ddisgyblion Ysgol Talsarnau ar eu llwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Daeth y parti Cerddoriaeth Greadigol yn drydydd a braf oedd eu gweld ar y llwyfan yn mwynhau. Cafodd David[cornet a phiano] a Chloe [chwythbrennau] hefyd ganmoliaeth am eu perfformiad yn y rhagbrofion. Braf gweld ysgol fach fel hon yn gwneud mor dda. Mae ein diolch yn fawr i’w hathrawon a’r rhai fu’n eu dysgu. Bydd cyfle i’w clywed yn perfformio eto yn y cyngerdd a drefnwyd yn y Neuadd Gymunedol ar Mehefin13. Byddant yn rhannu’r llwyfan efo Cana-mi-gei a pharti canu a chôr o’r Ffindir - profiad mawr arall iddyn nhw. Llongyfarchiadau hefyd i’r grwpiau dawnsio Trŵps o Aelwyd Ardudwy a Disgyrchiant o Ysgol Ardudwy a lwyddodd i berfformio ar y llwyfan hefyd. Hoffem longyfarch pawb arall sydd â chysylltiadau â’r ardal am eu llwyddiant amrywiol yn yr Eisteddfod.
Llais Ardudwy
HOLI HWN A’R LLALL
GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com (07760 283024/01766 780541
SWYDDOGION
Cadeirydd: Hefina Griffith (01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com
Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones (01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@Intamail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960 Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Mehefin 30 am 5.00. Bydd ar werth ar Gorffennaf 5. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Mehefin 26 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’
Dilynwch ni ar Facebook
@llaisardudwy 2
Enw: Iorwerth ap GruffuddJones Gwaith/gyrfa Mab fferm, Plas yn Rhal, Llanbedr ger Rhuthun. Swyddfa Addysg Sir Ddinbych, RAF – HQ BC, gwasanaeth cenedlaethol 1950-52; Heddlu Sir Ddinbych 1952-58; Coleg St Ioan, Caer Efrog 1958-60. Athro yn Rupert Rd, Cronton Colliery, ger Cronton Colliery; Ysgol Bryn Alun, Gwersyllt ac Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam; Ysgol Bryn Hyfryd, Rhuthun; Ysgol Kings, Caer; Tower House, Abermaw. Cychwyn efo 15 o ddisgyblion – ymddeol efo 150! Cefndir Yn 85 oed. Disgynnydd i Owain Glyndŵr a theulu Dedwydd, Abermaw. Amaethyddol, Eglwys Wen, Dinbech a Phlas yn Rhal, Rhuthun. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Garddio. Dim cwrw na gwirod. Cymryd seidr rhag cerrig yn yr arenau! Peidio smygu. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Y Telegraph a’r Daily Post, Y Cymro, papurau bro, Y Bedol, Y Faner Newydd, Golwg ac yn y blaen. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Dylan Jones yn y bore – Radio Cymru. Newyddion S4C. Radio 4. Ydych chi’n bwyta’n dda? Lasagne a llysiau - byddaf yn
coginio tua thri dwsin o flychau margarîn a’u rhewi - a’u golchi i lawr efo fy ffisig, sef seidr ers yr haf 1964 pam fûm yn yr hen War Memorial am wythnos cyngor y meddyg. Mae cwrw yn wenwyn i fi - wedi ei brofi ddwy waith - a cholli fy swper ddwywaith! Hoff ddiod? Coffi yn y bore, te yn y prynhawn. Seidr efo fy nghinio. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Y teulu fel rheol Lle sydd orau gennych? Gartre! Neu yng nghartrefi’r plant a’r wyrion a’r wyresau. Cartrefi’r plant: Martin ger Caer, Alys yn Ro Wen yn Llwyn Onn a Ruth yn Y Gors, Rhiw, Groes, Dinbech. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Yn Ffrainc, Sbaen a’r Wladfa. Ers talwm – trip Ysgol Sul i’r Rhyl. Beth sy’n eich gwylltio? Cymry Cymraeg gwrth Gymreig! Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Cyfeillgarwch, hyder a ffydd. Pwy yw eich arwr? 1. Llywelyn ap Gruffudd Jones, Eglwys Wen, Dimbech. Brawd fy nhad a ddaeth trwy Ddulyn ac wedyn Ffrainc adeg y rhyfel mawr. 2. Raymond Edwards, fy athro yn Ysgol Stryd y Rhos, Rhuthun. Roedd wedi gwrthod codi arf, bachgen o Rosllannerchrugog - ddaeth yn brifathro Coleg Athrawon yn y Castell yng Nghaerdydd. Darllen newyddion Cymraeg o Fanceinion. Beth yw eich bai mwyaf? Siarad yn ddi-baid! Un drwg am beidio â gwrando ar gyngor? Yn erbyn fy Ngweinidog a ofynnodd i mi fynd i’r Weinidogaeth – fe gedwais fy ngair ac ymaelodais yn Heddlu Sir Ddinbych wedi sgwrs â Philip Tomkins o Benycae, Rhos yn Eisteddfod Genedlaethol
Llanrwst yn 1951 ar ‘leave’ o’r RAF. Dyma sut y bu i mi gyfarfod â Dorothy a oedd ym Mhrifysgol Bangor yn astudio Ffrangeg ac Almaeneg ac ennill gradd ddwbl ag anrhydedd. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Meddu ar fab sy’n feddyg a merch sy’n feddyg a merch sy’n ieithydd (9 iaith), i gyd yn Gymry. Beth fuasech chi’n ei wneud efo £5,000? Talu dyledion – buddsoddi mewn addysg. Delio mewn hen bethau! Eu rhoi yn y banc at y dyfodol? Dwi wedi colli ffydd yn y banciau ers blynyddoedd lawer. Eich hoff liw? Gwyrdd. Cefais fy ngeni a’m magu yn Plas-yn-Rhal, Llanbedr, ger Rhuthun. Merch Plas yn Rhal oedd Anna Lloyd 1865 a gymrodd forgais ar Blas yn Rhal i dalu am y Mimosa i fynd o Lerpwl i’r Wladfa. Priod y Parch Meical D Jones. Eich hoff flodyn? Mae pob un blodyn a’i rinweddau ei hun – drwy’r flwyddyn. Pan yng Ngholeg Sant Ioan, Caer Efrog 1958-60, deuthum yn gymwys i ddysgu garddio. Eich hoff gerddor? Elinor Bennett. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Miwsig mae fy wyrion ac wyresau yn ei chwarae. Pa dalent hoffech chi ei chael? Medru canu fel David Lloyd, Richie Tomos neu Gili! Eich hoff ddywediadau? “Ni ddaw’r lleidr ond i ladrata ac i ladd ac i ddinistrio. Yr wyf fi wedi dod er mwyn i ddynion gael bywyd a’i gael yn ei holl gyfiawnder.” Ut vitam et habeant et abundantius, Sant Ioan X 10. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Bodlon a diolchgar am fy holl deulu, ein diwylliant a balch o’m magwraeth ac addysg.
APÊL GAREDIG GAN Y GOLYGYDDION Oherwydd amgylchiadau arbennig, apeliwn ar i bawb anfon eu cyfraniadau atom yn gynnar ar gyfer rhifyn Gorffennaf os gwelwch yn dda. Fel arfer, rydym yn eithaf caredig gyda phobl sy’n anfon atom yn hwyr, ond ar gyfer rhifyn Gorffennaf ni allwn dderbyn unrhyw beth a ddaw i law ar ôl Mehefin 26. Diolch am bob cefnogaeth.[Gol.]
Caneuon Ffydd
Hapus Dyrfa Mae`r gyfrol ‘Caneuon Ffydd’ gennym bellach ers un mlynedd ar bymtheg ac mae organyddion y gwahanol eglwysi a chapeli wedi hen drefnu dyfeisiadau i ddal yr anghenfil glas hen nodiant a`r anghenfil coch sol-ffa ar yr offeryn. Mae yna gyfrol ddifyr arall wedi hen ymddangos hefyd sef y ‘Cydymaith Caneuon Ffydd’ sydd yn cynnwys pob math o wybodaeth ddifyr am yr emynau, y tonau a`u hawduron. Yn y gyfrol hon mae`r awdur Delyth G Morgans yn crybwyll fod yna feirniadu wedi bod gan sawl un fod hoff emynau wedi eu hepgor. Ond mae`n siŵr na fu erioed na chasgliad na blodeugerdd a blesiodd bawb. Un emyn nas cadwyd i`w roi yn y ‘Caneuon Ffydd’ yw emyn Islwyn, ‘Gwêl uwchlaw cymylau amser’, yr unig emyn o eiddo`r bardd sydd wedi dod yn adnabyddus. William Thomas oedd enw bedydd y bardd Islwyn ond dewisodd ei enw barddonol oherwydd ei fod wedi byw yn ardal Islwyn gydol ei oes [1832–1878]. Fe`i ganed ger Ynys Ddu yn Sir Fynwy i deulu ychydig yn fwy cefnog na`r rhelyw. Tirfesurwyr ac asiantiaid tir oedd ei deulu a dyna a fwriadai Islwyn ei wneud hefyd ar y dechrau. Fodd bynnag clywodd yr alwad i fynd i`r weinidogaeth ac fe ordeiniwyd ef yn 1859. Erbyn hynny roedd wedi dechrau barddoni a chystadlodd lawer yn ystod y blynyddoedd. Dyn bychan a thywyll ei bryd oedd Islwyn, o natur swil a thawel ac yn tueddu i fod yn isel ei ysbryd yn aml. Trasiedi fawr ei fywyd oedd fod ei gariad Anne Bowen wedi marw yn sydyn ychydig cyn dydd eu priodas yn 1853. Barn ei gyfeillion oedd na fu byth yr un fath wedyn. Ymhen blynyddoedd fe briododd â Martha Davies ond bu cysgod Anne dros eu bywyd priodasol. Yn ôl y sôn pan oedd Islwyn ar ei wely angau trodd at ei wraig a dweud, “Diolch i Yn ddiweddar, cynhaliwyd y gystadleuaeth bysgota flynyddol er cof am Gareth Rees, Y Waun, Harlech; un a fu’n aelod ffyddlon a thrysorydd i’r clwb am flynyddoedd lawer. Llyn Tecwyn Uchaf oedd y lleoliad ar gyfer y gystadleuaeth. Eleni, enillwyd y gystadleuaeth gan Dîm Nansi Celyn [9 oed] yng ngofal Gareth Wyn Jones [Gaff] o Dal-y-bont. Bu Gaff yn dysgu Nansi i bysgota er pan oedd yn 3 oed. Mae hi wedi bod wrth ei bodd yn cerdded y Rhinogydd hefo Gaff i bysgota yn y llynnoedd ac mae’n mwynhau yn arw bod allan yn yr awyr iach. Daliodd Nansi a Gaff ddeg pysgodyn, gyda Nansi yn dal un ar ei phen ei hun! Llongyfarchiadau mawr iddi hi.
ti, Martha, am y cyfan a wnest i mi. Buost yn garedig iawn. `Rwyf yn mynd at Anne nawr.” Does dim sôn beth oedd ateb Martha. A dweud y gwir rhyw fywyd digon od a gafodd Islwyn. Ni theimlodd erioed ddigon o hyder i dderbyn gofal eglwys ac er iddo gyfansoddi nifer helaeth o gerddi a chystadlu mewn eisteddfod ar ôl eisteddfod ychydig iawn a enillodd a digon prin ydi diddordeb pobl heddiw yn ei waith. Mae`r cyfan wedi mynd yn anghof. Ond, efallai am un emyn. Rwyf wedi gweld chwe phennill mewn hen gasgliadau ond tri yn unig sydd mewn llyfrau emynau diweddar. Does dim sens mewn cadw`r saint ar eu traed yn canu yn rhy hir! “Gwêl uwchlaw cymylau amser, O! fy enaid, gwêl y tir, Lle mae`r awel fyth yn dyner, Lle mae`r wybren fyth yn glir: Hapus dyrfa Sydd yn nofio yn ei hedd.” Emyn ydyw sydd yn edrych ymlaen at y bywyd tragwyddol sydd y tu hwnt i`r bedd a dichon fod Islwyn yn ei holl drafferthion a`i iselder yn cael cysur wrth edrych ymlaen at y baradwys a ddaw. Sylwch ar y gair “yno” yn yr ail bennill“Nid oes yno neb yn wylo, Nid oes yno neb yn brudd, Troir yn fêl y wermod yno, Yno rhoir y caeth yn rhydd; Hapus dyrfa Sydd â`u trigfa yno mwy.” Ond yn y pennill olaf mae Islwyn yn sôn am y daith at y wlad ac yn galw y rhai sydd yn teithio ati yn “hapus dyrfa” hefyd. Hynny yw, mae`r gobaith a`r ymdrech yn llonni`r pererin hyd yn oed cyn pen ei daith. Roedd yr emyn yng nghasgliadau`r pedwar enwad ond mae wedi cael y sac o`r ‘Caneuon Ffydd’. Pam tybed? Wel, ychydig iawn o ganu a glywais i arno ers talwm ac mae`r hen syniad o Nefoedd wedi mynd yn beth diarth iawn i ni bellach. Oes yna rywun yn cofio y ‘Rhodd Mam’? Yn ôl y ‘Rhodd Mam’ mae`r Nefoedd yn ‘lle gogoneddus a hyfryd’ ond mae`r syniad wedi mynd yn hen ffasiwn drybeilig gennym ni. Dichon bod ‘Caneuon Ffydd’ yn adlewyrchu`n syniadau ni wrth wrthod Islwyn a`i syniadau o’r oes o’r blaen. JBW
Cymdeithas Bysgota Artro a Thalsarnau
CWPAN GOFFA GARETH REES
Roedd nifer dda yn cystadlu ond buasai wedi bod yn braf gweld mwy o aelodau yn cymryd rhan.
Yn ail yn y gystadleuaeth yr oedd cyn-enillydd, sef Gavin Jones a lwyddodd i ddal naw o frithyll breision.
Mae angen mwy o aelodau ar y Gymdeithas er mwyn cadw diddordeb yn y maes yn lleol ac er mwyn trosglwyddo’r diddordeb i’r genhedlaeth a ddaw. Mae gweld rhywun ifanc fel Nansi yn cymryd rhan fel hyn yn galondid mawr i’r aelodau hŷn. Mae mwy o fanylion am ymaelodi â’r Gymdeithas i’w cael gan Dafi Owen, 7 Ael y Glyn neu gan Huw [Tomi] Jones, 14, Tŷ Canol, Harlech.
3
LLANFAIR A LLANDANWG Cydymdeimlad Yn ddiweddar bu farw Mrs Barbara (Babs) Jones mewn cartref nyrsio yn Stoke. Roedd yn ferch i’r diweddar Mr Morgan Jones a Mrs Winnie Jones ac yn chwaer i Dilys Hughes, Llanfair (sydd bellach yng nghartref y Pines, Cricieth) a’r diweddar Annie Williams, Derlwyn gynt. Cydymdeimlwn efo’i theulu yn Llanfair a theulu Harlech, ac efo’r plant i gyd a’u teuluoedd yn Stoke. Cydymdeimlad Trist iawn yw nodi marwolaeth David Elwyn Evans (Dei El) yn dilyn salwch byr yn Ysbyty Bryn Beryl, Y Ffôr, yn 72 mlwydd oed o 9 Haulfryn, Llanfair, a gynt o’r Ynys. Gŵr ffyddlon am 51 mlynedd i Jennifer, tad gofalus i Huw a Jenny a’i gŵr Steve, taid arbennig i Danial a Jess. Mab y diweddar Annie Elizabeth a David James, Harlech. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at y teulu yn eu profedigaeth o golli gŵr, tad a thaid annwyl.
Neuadd Goffa, Llanfair
GYRFA CHWIST
ar y drydedd nos Fawrth yn y mis am 7.00 o’r gloch
Merched y Wawr Harlech a Llanfair Ar noson braf o Fai cyfarfu dwsin o’r aelodau yn Llandanwg i fwynhau taith gerdded. Aeth nifer am dro ar hyd y traeth, rhai i’r eglwys a rhai i gerdded y clawdd llanw. Cyfarfod wedyn yn y Caffi i swpera a thrafod rhai materion pwysig. Gwnaed trefniadau ar gyfer gweini te prynhawn i Deulu’r Castell; nodwyd hefyd ein bod am ymweld â’r Arddangosfa Aur yn y Parc ar Mehefin 20 a chael pryd o fwyd yn Nhafarn yr Eryrod. Diolchodd Hefina i staff y caffi ac i Eirlys am drefnu’r noson. Ar Mai 9, y gangen oedd yn gyfrifol am bnawn Teulu’r Castell yn ôl ein harfer. Eleni daeth Phil Mostert i ddiddori gydag atgofion am droeon trwstan mewn ysgolion pan oedd wrth ei waith ym maes addysg. Diolchodd Gwenda i Ferched y Wawr am y te blasus ac i Phil ar ran y Teulu a nododd mor bwysig oedd cael cyfle i chwerthin. Aeth tair aelod i’r Ŵyl Haf Aur a’r cyfarfod blynyddol ym Machynlleth ar Mai 20. Ar ddechrau’r gweithgareddau dadorchuddiwyd y ‘Paneli Dathlu Aur’ gan Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad. Roedd pob rhanbarth wedi paratoi panel yn nodi gwahanol nodweddion o’u rhanbarth.
COFIWCH! Y dyddiad cau am gyfraniadau i’r papur ar gyfer mis Gorffennaf ydi Mehefin 26 fan bellaf. Diolch.
Llais Ardudwy YN EISIAU GOLYGYDDION YR IFANC
Yn y llun gwelir Eirlys (Ysgrifennydd) a Bronwen (Is-lywydd) yn sefyll wrth banel Meirionnydd. Gwaith cywrain iawn gan aelodau y Pwyllgor Celf a Chrefft a fu’n gyfrifol am ei greu. Yna aethom i’r neuadd i wrando ar y siaradwr gwadd, Alun Davies, AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a chafwyd sgwrs amserol iawn ganddo. Yn ystod y cyfarfod, cawsom wybod bod ein cangen ni wedi ennill y drydedd wobr yn y gystadleuaeth ‘Rhaglen y Gangen’ am ei chynnwys a’i diwyg. Cyflwynwyd tystysgrif, roset aur a siec i’r gangen.
R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU
4
Pen-blwydd Dymuniadau gorau i Eric Jones, 9 Derlwyn ar ei ben-blwydd yn 92, a llongyfarchiadau am ddod yn hen daid eto. Ganwyd Casi Emmie i Heulwen ac Andy yn Abertawe, chwaer fach i Soffia. Pob lwc i’r teulu i gyd.
Rydym yn chwilio am bobl ifanc sy’n medru annog ffrindiau i sgwennu pytiau [rhyw 300 gair] ar destunau difyr. Wrth bobl ifanc, rydan ni’n sôn am rheini sydd wedi gadael yr ysgol. Os teimlwch chi yr hoffech chi rannu’r baich o baratoi’r papur bob mis, a’i wneud yn fwy apelgar i’r ifanc, yna dewch i gysylltiad ag un o’r golygyddion.
CYNGOR CYMUNED LLANFAIR Hamdden Harlech ac Ardudwy Adroddodd Mair Thomas ei bod wedi mynychu cyfarfod o Fwrdd yr uchod. Adroddwyd bod y Bwrdd yn gweithio’n ddygn i ddenu mwy o bobl i’r safle. Hefyd cafwyd gwybod bod rhai Cynghorau Cymuned wedi talu hanner y cynnig praesept yn barod gan gynnwys y Cyngor hwn. Roedd y diwrnod agored a gynhaliwyd ar y 18fed o Fawrth wedi bod yn un llwyddiannus ond mynegwyd siom nad oedd y Post Brenhinol wedi dosbarthu taflenni gwybodaeth yn Harlech a’r cylch oherwydd mater gyda’r cod post. Cafwyd gwybod bod y cyfarfod nesa’n cael ei gynnal ar yr 11eg o Fai a chytunodd Mair Thomas fynychu’r cyfarfod hwn. Parc Cenedlaethol Eryri Derbyniwyd llythyr oddi wrth yr uchod yn hysbysu’r Cyngor y bydd y cyfarfod blynyddol rhwng y Parc Cenedlaethol a’r Cynghorau Cymuned a Thref yn cael ei gynnal ar nosweithiau’r 13eg, 19eg a’r 20fed o Fehefin eleni; bydd y lleoliadau’n cael eu cadarnhau yn y dyfodol agos. Cafwyd gwybod mai yn safle Coed y Brenin ar y 13eg y bydd y lleoliad agosaf i’r Cyngor hwn.
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Teulu Artro Cyfarfod mis Ebrill Cafwyd ymddiheuriad gan Pam, a dymunwyd pen-blwydd hapus iddi. Daeth un o’r aelodau â basgedaid o wyau Pasg i’w rhannu i’r aelodau. Diolchodd y Llywydd i’r aelod ‘anhysbys’! Un o’r aelodau oedd ein siaradwraig sef Nesta Lloyd, a’i thestun oedd Llandecwyn. Dechreuodd ei sgwrs drwy gymharu Llandecwyn ac Eglwysbach sef y ddau le y magwyd ei rhieni. Yna cafwyd peth o hanes y diweddar Dr Tecwyn Evans a ddaeth yn bregethwr amlwg gyda’r Wesleaid. Dyfynnodd Nesta’n helaeth o’r llyfr ‘Atgofion Cynnar’, a ysgrifennwyd yn 1950 ac a ddisgrifiodd safle’r Eglwys fel ‘y lle gyda’r golygfeydd harddaf a mwyaf rhamantus yn y wlad, onid yn wir yn y byd.’ Diolchodd Iona i Nesta, ac enillwyd y rafflau gan Gwenda a Jennifer. Cyfarfod mis Mai Croesawodd Gweneira ni gyda dyfyniad o delyneg hyfryd Eifion Wyn i fis Mai. Croesawyd Eleanor a oedd wedi bod yn Ysbyty Gwynedd, a dymunwyd yn dda iddi yn y dyfodol. Anfonwyd ein cofion at Hywel, a oedd yn dathlu ei ben-blwydd. Croesawyd Hilda Harris i’r cyfarfod, a chafwyd prynhawn hwyliog yn ei chwmni. Roedd wedi paratoi cwis a’r ddau dîm yn cystadlu’n frwd! Diolchodd Glenys iddi am ddod atom unwaith yn rhagor a rhoi mwynhad i ni. Enillwyd y rafflau gan Lorraine, Gweneira a Hilda. DIOLCH Dymunaf ddiolch i bawb am y cyfarchion yn dilyn fy llwyddiant yn etholiad Cyngor Gwynedd. Bydd yn fraint ac yn bleser cael cario ymlaen i gynrychioli trigolion Llanbedr a Llanfair ar y Cyngor. Diolch i bawb a bleidleisiodd i mi; mae’n golygu llawer. Annwen, Plas Uchaf, Talsarnau Rhodd £10
JOHN WYN JONES
Ganwyd Dad ym mis Hydref 1928, yr unig blentyn i John ac Annie Jones, Crafnant, a John Wyn Crafnant y bu drwy gydol ei oes. Symudodd y teulu bach i fferm Frongoch, Llandrillo pan oedd Dad yn saith oed, ond am dair blynedd yn unig y buont yno. Daeth cyfle i symud yn ôl i Crafnant; Nain yn falch ofnadwy mae’n debyg, teimla’r tywydd yn oerach yno yn un peth, a’r dynfa i Crafnant yn gry’ wrth reswm, ond ‘roedd Dad yn dal i sôn am y cyfnod yn Frongoch er ei fod yn ôl yn Crafnant yn ddeg oed. Wedi’r cyfnod yn ysgol Llanbad, ymlaen wedyn i’r ysgol ramadeg yn y Bermo. Byddai yn sôn am fynd lawr y tair milltir i Llanbad ar gefn beic yng nghwmni Eirianwen Dinas, Myfanwy Llwynithel ac Olwen Werngron, ac wedyn dal y trên i Bermo. Cofiwch, ’roedd rhaid mynd ar y beic y tair milltir yn ôl i fyny i Crafnant ar ddiwedd y dydd, ond am ryw reswm byddai yn haws ganddo fynd yn ôl i fyny am adra na mynd lawr yn y bore am yr ysgol! Fel sawl mab ffarm ar hyd y blynyddoedd, ’roedd Dad yn cyfri’r dyddiau nes y cai ddod adra i ffarmio, ac wrth gwrs dyna a wnaeth. Ffarmio oedd ei fywyd, yn bleser ac yn waith ganddo, ac wrth ei fodd gyda’r gwmnïaeth agos oedd yn bodoli hefo teulu a chymdogion, y cyd-weithio a’r hwyl arbennig ar adegau megis c’naeau gwair a chneifio. Yn wir, ’roedd hel defaid ar y mynyddoedd hefo’r cŵn yn dal yn fyw yn ei feddwl hyd at y diwedd, ac yn foddhad ganddo hefyd wybod fod y mynyddoedd hyn yn ddiogel yn nwylo’r genhedlaeth nesa’. Os bu dyn ei filltir sgwâr erioed, Dad oedd hwnnw. Byddai wrth ei fodd yn blentyn cael mynd ar ei ‘holidays’ i Llanerchgoediog, a llawer blwyddyn yn ddiweddarach, wrth gwrs, Ty’n Pwll oedd y lle am ychydig o ‘holiday’, ac mae’n rhyfedd fel mae pethau yn digwydd, ym Mro Dysynni bu diwedd y daith. Na ’doedd Dad ddim yn un am grwydro ymhell, ac fel y byddai yn dweud yn amal, dim ond i’r ffarm agosâ a’th o i ffendio gwraig, a dod yn rhan o deulu a fu yn gyfeillion oes iddo. Bu’r ‘hen lady’ (fel y byddai yn galw Mam) a fynta yn hapus eithriadol am dros bumdeg pump o flynyddoedd, a’r gofal addfwyn o’r naill a’r llall i’w gilydd ar adegau gwahanol yn ystod y daith yn arbennig iawn. Fel yn wir bu’r gofal gawsom ni ein dwy a’n teuluoedd ganddynt, yn Daid a Nain falch a charedig dros ben a’r pum plentyn yn meddwl y byd o’u Taid a’u Nain. Roedd Capel ‘Berwgoch’ yn agos iawn at ei galon, a bu’n flaenor yno am flynyddoedd lawer, fel Taid o’i flaen, ac yn drysorydd y capel. Pan oedd yr eisteddfod yn cael ei chynnal yno Dad oedd trysorydd honno hefyd, er byddai’r cynta’ i ddweud nad oedd yn gallu canu’r un nodyn nac yn d’allt dim am ganu! Soniai hefyd fel y byddai yna ddosbarthiadau WEA difyr iawn yn cael eu cynnal yn y festri, a’r lle yn orlawn. Mae’n wir deud nad oedd gan Dad, fel amal i ffarmwr arall mae’n siŵr, lawer o ddiddordebau. Roedd yn hoff iawn o ddarllen, ac yn colli hyn pan oedd y golwg yn gwaethygu. Mi drïodd ei law ar bysgota unwaith, gan fod Mam yn pysgota, ac fe ddaliodd slywen ar y cynnig cynta. Un peth na allai Dad ei diodde’ oedd neidar - wel gallwch feddwl, mi gafodd y wialen ffling reit sydyn a nath o ddim ei chyffwrdd byth wedyn! Roedd Dad yn un da am sgwrs. Byddai wrth ei fodd ar noson braf o haf yn crwydro i lawr y caeau i wneud yn siŵr bod y ‘campers’ yn iawn, a chael diod bach efo nhw pan ga’i gynnig. Byddai wrth ei fodd yn gweld rhywun yn galw hefyd, a’r sgwrsio difyr ambell fin nos yn mynd ymlaen am oriau weithiau. Byddai gwên yn dod i’w wyneb yn amal wrth gofio hen hanesion neu ryw stori byddai Taid Cwm’r Afon, neu Uncle Wmffra Rhiwgoch, neu Uncle Bob Pensa’r Cwm wedi’i dweud - ie dyddiau difyr, neu fel fyddai Dad yn ddweud yn bur amal yn ddiweddar, a’r iechyd ddim cystal, ond yr hanesion difyr a’r atgofion melys yn dal yn fyw iawn yn y côf - “those were the days”! I orffen, carem aralleirio be fyddai Dad yn ei ddweud cyn mynd i’w wely tra hefo ni yn Plas Ucha neu Ty’n Pwll yn ystod y blynyddoedd diwetha - “Nos da, a diolch am bob dim heddiw ’ma”. “Nos da Dad, cysga’n dawel, a DIOLCH I TI am bob dim.”
Cyhoeddiadau’r Sul
am 2.00 o’r gloch CAPEL SALEM 18 Mehefin – Rhys ap Owen 16 Gorffennaf – Parch Dafydd H Edwards MEHEFIN 11 Capel Nantcol, Mrs Morfudd Lloyd 18 Capel y Ddôl, Parch Adrian Williams 25 Capel y Ddôl, Huw Dylan Jones GORFFENNAF Capel Nantcol, Parch T L Williams Neuadd y Pentref Braf iawn oedd gweld y Neuadd wedi ei hagor ar ei newydd wedd a diolch i’r criw gweithgar fu wrthi am flynyddoedd yn cael y maen i’r wal. Mae’r Neuadd yn werth ei gweld. Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau i Nia a Gareth, Cae Nest ar eu priodas yn ddiweddar, hefyd i John a Tabitha, Bryn Teg ar eu priodas hwythau. Dymunwn yn dda iddynt. Symud i Borthmadog Mae Mrs Gwen Simpson, Bryn Deiliog, wedi gadael Ysbyty Dolgellau ac yn aros rŵan ym Modawen, Porthmadog. Gobeithio ei bod yn hapus yna. Anfonwn ein cofion ati. Triniaeth Hyderwn fod Aled Morgan Jones, Cefn Uchaf yn gwella ar ôl iddo gael triniaeth i’w benglin yn ddiweddar. Brysia wella! DIOLCH Dymuna Annwen, Janet a’u teuluoedd ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a dderbyniwyd ganddynt yn dilyn eu profedigaeth o golli Tad, Tad yng nghyfraith a Thaid arbennig ac annwyl sef John Wyn Jones, Crafnant. Bu’r holl gardiau, llythyrau, galwadau ffôn ac ymweliadau personol yn gysur mawr i ni i gyd. Diolch i bawb a gymerodd ran ddydd yr angladd ac am y rhoddion hael a gasglwyd er cof tuag at Gapel Rehoboth ac Engedi. Diolch hefyd i Malcolm o Pritchard a Griffiths am ei drefniadau trylwyr a theimladwy. Rhodd a diolch £10
5
Chwilio am Gyfeillion!
BWYD A DIOD
Myrddin ap Dafydd Ar ddydd Sadwrn 17 Mehefin, bydd Geiriadur Prifysgol Cymru yn lansio cynllun Cyfeillion y Geiriadur, gyda’r bwriad o gefnogi’r Geiriadur a’i gyflwyno i’r gynulleidfa ehangaf bosibl. Cynhelir y lansiad yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, am 2 o’r gloch, ac mi fydd yna groeso twymgalon i unrhyw un sydd eisiau ymuno â ni am brynhawn o sgyrsiau diddan, ’paned, ac ymweliad â swyddfa’r Geiriadur. Llywydd y Cyfeillion yw’r Prifardd, awdur, dramodydd, a chyhoeddwr adnabyddus, Myrddin ap Dafydd, a fydd, ynghyd â siaradwyr eraill, yn ein diddori gan gyflwyno eitemau difyr ac ysgafn. Bydd cyfle i gwrdd â’r staff, ac i ddarganfod ychydig am y Geiriadur a sut mae’n berthnasol ac yn eiddo i’r Cymry oll. Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan http://gpc.cymru, e-bostiwch ni ar cyfeillion@geiriadur.ac.uk, neu cysylltwch â ni ar 01970 639094. Mae’r achlysur yn agored i bawb ac am ddim, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu.
Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw:
Llais Ardudwy
Gwin Sieri Roedd ‘Taid’ y byd gwin, Hugh Johnson, yn yr ardal yn ddiweddar a thynnodd sylw at sefyllfa druenus sieri ar hyn o bryd. Mae’r ddiod yma wedi disgyn yn ei phoblogrwydd mewn ffordd mor ddramatig, mae gwinllannoedd sy’n tyfu’r grawnwin iddo’n cael eu dinistrio. Felly, rydym am roi cais i arbed y diwydiant sieri yn Nolgellau trwy ymuno â’r ŵyl sieri ryngwladol! Y prif rawnwin a ddefnyddir i gynhyrchu sieri yw Palomino. Mae dau arall yn cael eu defnyddio i winoedd naturiol felys: Pedro Ximénez a Moscatel. Mae’n cael ei aeddfedu mewn casgenni neu danciau a chaiff ei gryfhau gydag alcohol. Mae’r broses o aeddfedu yn golygu cyswllt gyda’r aer i’w ocsideiddio. Mae sieri’n ddiod hollol wahanol i’w darganfod, a chymaint o wahanol rai, o sych fel corcyn fel Manzanilla neu Fino ac ymlaen trwy’r Amontillados ac Olorosos. Efallai bod rhai ohonoch wedi blasu’r bur wahanol Pedro Ximénez? Nid yw’r un yma at ddant pawb gyda’i nodweddion o ffigys, licris a chic o felyster trwchus ond mae’n werth ceisio ei baru gyda phwdin Nadolig, pwdin siocled cyfoethog neu ei arllwys dros hufen iâ hyd yn oed. Awgrymir hefyd i roi cynnig arno gyda chaws glas fel Roquefort neu Gorgonzola. Does dim byd gwell i wylio’r haul yn diflannu dros y gorwel na sieri bach sych gyda phowlen o olewydd gwyrdd. Yn sieri Manzanilla’n arbennig cewch flas hallt y môr yn y cefndir sy’n gweddu’n berffaith, neu almonau rhost, unwaith eto, yn hallt a chyfoethog eu blas. Dwi’n cydnabod mod i’n awgrymu’r gelyn pwysau gwaed ond wanwyl, mae’n dda a dim ond fel trît achlysurol! Wrth gwrs, mae sieri hefyd yn ‘champion’ i’w gadw am gyfnod heb boeni am unrhyw ddirywiad yn y blas trwy gyswllt â’r aer. Soniwyd yn ein llyfr am daith Dylan i Jerez lle sylwodd mai poteli sieri ac nid gwin oedd ar y bwrdd cinio yn y prynhawn ac mae’n bartner da i fwyd y môr. Rhowch gynnig ar wydraid o Fino gyda chregyn gleision neu bennog. Mae ‘smorgasbord’ o gaws, jamon ayyb yn ffordd braf o fwyta a byswn yn fodlon yfed Amontillado neu Oloroso gyda hwn. Mae’r ŵyl sieri yn parhau o ddydd Llun 5ed o Fehefin hyd Sul Y Tadau, sef dydd Sul 18fed o Fehefin. Rydym yn bwriadu dathlu sieri yn ystod y cyfnod hwn yn Gwin Dylanwad trwy gynnig blasu, paru gyda bwyd ayyb. Dewch draw, neu trefnwch rywbeth yn eich cartref/ardal eich hunan. Ewch ati i flasu rhywbeth gwahanol! Llinos Rowlands Gwin Dylanwad Wine Dolgellau
Llais Ardudwy
RHIFYN NESAF
Newyddion erbyn Mehefin 26 Gosod - Mehefin 30 Yn y siopau - Gorffennaf 5
6
SAMARIAID Llinell Gymraeg 0808 164 0123
DATHLU CALAN MAI Roedd ’na ambell i gwmwl yn yr awyr ar fore Calan Mai, ac ambell i ddiferyn o law yn bygwth troi’n gawod, ond toc daeth yr haul i’r golwg ac awyr las; addas iawn ar gyfer diwrnod o ddathlu deffroad byd natur a dyfodiad yr haf. Yr achlysur oedd cyhoeddi casgliad newydd o garolau haf (neu garolau Mai fel y’u gelwir weithiau) yn ardal Ardudwy. Teitl y gyfrol yw ‘Canu Haf ’. Fe’i cyhoeddir gan Gwmni Cyhoeddi Gwynn ac fe’i golygwyd gan Arfon Gwilym a Sioned Webb. Cysylltir y gair ‘carol’ fel arfer â chyfnod y Nadolig, ond yn yr hen amser roedd hi hefyd yn arferiad i ganu carolau haf o fis Mai
ymlaen, i gyd-fynd gydag arferion eraill megis codi’r Pawl Haf (clamp o bolyn mawr wedi ei addurno gyda rhubanau lliwgar) a’r dawnsio llawen (y Cadi Ha). Byddai partïon bychain yn crwydro’r wlad yn canu y tu allan i’r tai, yn dymuno’n dda i’r teulu ac yn diolch i’r Hollalluog am ei haelioni arferol. Yn wahanol i’r traddodiad canu plygain, sydd wedi dal ei dir ar hyd y blynyddoedd, daeth yr hen arferiad o ganu carolau haf i ben o leiaf ganrif a hanner yn ôl. Ond, wedi cryn ymchwil, mae’r hen garolau hyn ar gael unwaith eto. Daeth criw o dros 50 ynghyd ar Galan Mai - yn y Lasynys yn y bore, ac wedyn yn Neuadd Talsarnau yn y prynhawn. Y tu allan i’r Lasynys clywyd sawl perfformiad o’r hen garolau gan wahanol gantorion, yn cynnwys criw Cana-mi-gei, Arfon Gwilym, Sioned Webb a Mair Tomos Ifans, a chafodd pawb gyfle i gyd-ganu hefyd, gan ddarllen y geiriau a’r gerddoriaeth ar yr olwg gyntaf! Ymhlith y carolau yr oedd un gan Ellis Wynne ei hun. Yn y prynhawn roedd cyfle i bawb edrych yn fwy manwl ar y carolau a dysgu tipyn bach mwy am y cefndir. Diwrnod hwyliog a braf. Diolchiadau lu i Gyfeillion y Lasynys a phawb a wnaeth y diwrnod hwn yn gymaint o bleser. Arfon Gwilym
Yma, cewch wybodaeth gynhwysfawr am 48 o deithiau cerdded i ben copaon mynyddoedd ledled Cymru. Ac, wrth gwrs, mae gan Gymru ddigonedd o fynydddir amrywiol i’w fwynhau; o gopaon uchel a chreigiog ardal Eryri i fynyddoedd llai garw Bannau Brycheiniog. Ffrwyth llafur aelodau Clwb Mynydda Cymru sydd yma, a rhaid diolch yn fawr iddynt am eu gwaith yn crynhoi’r teithiau i greu’r gyfrol swmpus hon. Er bod nifer o awduron wedi cyfrannu ati, mae teimlad unedig i’r cyfanwaith, yn bennaf efallai oherwydd bod y cyflwyniad i’r teithiau’n dilyn yr un patrwm. Mae’r gyfrol yn dechrau gyda hanes difyr creu Clwb Mynydda Cymru; o’r llond dwrn cychwynnol yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1979 i’r cannoedd sy’n aelodau erbyn hyn. Mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys manylion hanfodol i unrhyw un sy’n bwriadu mynd ar un o’r teithiau, gan gynnwys sylw priodol i offer a diogelwch. Pwysleisir nad yn ddifeddwl y mae mentro i’r mynyddoedd ac mae’n rhaid cofio cynllunio a pharatoi’n drylwyr er mwyn
mwynhau’r profiadau i’r eithaf. Ar ddechrau pob taith ceir enw’r copa, gwybodaeth am y mapiau angenrheidiol fydd eu hangen, y man cychwyn ar gyfer parcio, disgrifiad byr o’r daith, a’r amser ddylai’r daith ei gymryd. Gall hynny fod yn bwysig iawn – does yr un o’r teithiau’n llai na dwy awr a hanner o hyd, ac mae un ohonynt yn debygol o gymryd dros 7 awr. Mae’r disgrifiadau manwl o’r cerdded yn ddiddorol ac yn rhoi hanesion difyr am yr hyn y mae’n rhaid cadw llygad amdano wrth grwydro. Maent yn dangos yn glir fod awduron y teithiau’n deall i’r dim sut i gyflwyno gwybodaeth i’r cyfarwydd a’r anghyfarwydd. Mae’r cyfan yn cael ei gyflwyno’n gryno ac yn cynnwys popeth sydd ei angen ar gyfer cyfoethogi’r daith. Ond mae llawer mwy na chyflwyno teithiau cerdded yma. Gyda phob taith ceir pytiau hynod ddifyr sy’n ychwanegu at y darllen a’r cerdded. Cawn wybodaeth am hanes lleol a hanes Cymru yn fwy cyffredinol, am ein beirdd a’n llenorion, am lên gwerin ac am archaeoleg a daeareg y tir o gwmpas y teithiau. Ac mae yna un elfen arall y mae’n rhaid sôn amdani, sef y lluniau gwych. Mae nifer ohonynt yn drawiadol iawn ac yn dangos pa mor brydferth yw ein tirwedd, a hynny yn y pedwar tymor. Ac fe ddylai’r lluniau fod yn rheswm arall dros wisgo ein dillad cynnes a’n hesgidiau cerdded, a mynd i grwydro rhai o fynyddoedd mawreddog Cymru. Hefin Jones Adolygiad oddi ar www.gwales. com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
7
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT
PRIODAS A RHODD ANRHYDEDDUS IAWN
Dymuna Nia a Gaff ddiolch i bawb oedd yn bresennol yn eu parti priodas ar Ebrill 22 ac i bawb arall am eu rhoddion hael tuag at Ambiwlans Awyr Cymru. Cafodd yr arian ei dderbyn yn bersonol gan griw Ambiwlans Awyr y Trallwng ddydd Sadwrn, Mai 20. Casglwyd y swm anhygoel o £2565. Diolch yn fawr unwaith eto. Nia a Gaff
Cyflwyno’r siec i griw Ambiwlans Awyr y Trallwng Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn y Neuadd Bentref bnawn Mercher, 17 Mai. Croesawyd pawb gan Gwennie gyda chroeso arbennig i Ann (Parc Isa) am y tro cyntaf ers iddi dorri ei chlun cyn y Nadolig. Roeddem hefyd yn falch fod Elinor wedi gwella’n ddigon da i fod gyda ni. Cwblhawyd y trefniadau ar gyfer y trip ar 21 Mehefin. Byddwn yn cael cinio yn yr Afr, Glandwyfach am 12.30 ac yna’n mynd ymlaen i Ganolfan Arddio Frongoch. Cytunodd pawb i dalu £5 at gost y bws. Bydd y bws yn galw yn: Talybont 11.15 (safle bws) Dyffryn 11.20 (safle bws) Llanbedr 11.25 (Wenallt). Yna cafwyd cip yn ôl ar y tymor
8
a aeth heibio. Cafwyd tymor llwyddiannus, gyda rhaglen amrywiol a chwmni pobl ddiddorol iawn. Penderfynwyd cadw’r tâl aelodaeth yn £4. Yna aed ati i gasglu syniadau ar gyfer y tymor nesaf. Diweddwyd y prynhawn gyda the prynhawn hyfryd iawn wedi ei baratoi gan Denise a’i staff o’r Tebot Arian, caffi’r neuadd bentref. Cofion Anfonwn ein cofion a’n dymuniadau gorau at Robert Owen (Bobi Ty’n Cae) a dreuliodd beth amser yn Ysbyty Glan Clwyd ond sydd adre erbyn hyn.
CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT Llongyfarchwyd Eryl Jones Williams ac Annwen Hughes ar eu llwyddiant yn cael eu hailethol i Gyngor Gwynedd yn ddiweddar. Croesawyd Steffan Chambers a Steffan Jones i’w cyfarfod cyntaf o’r Cyngor gan ddymuno pob dymuniad da iddynt yn y dyfodol. Ceisiadau cynllunio Newid ystafell haul presennol gydag estyniad ochr deulawr - Trigfan, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Newid to’r ystafell wydr i lechi - 2 Ty’n Llidiart, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Dyluniad diwygiedig am dŷ annedd wedi ei gymeradwyo’n flaenorol Llain 5, Tyddyn Du, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Codi mast latis 15m o uchder yn ymgorffori 3 antena, 2 ddysgl trosglwyddo yn ogystal â chabanau offer cysylltiol o fewn compownd wedi ei amgáu - Tir yng Nghyfnewidfa Ffôn Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Ethol Swyddogion Cadeirydd: Edward Griffiths Is-gadeirydd: Emrys Jones Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy Derbyniwyd llythyr o ddiolch oddi wrth yr uchod am y rhodd ariannol a dderbyniwyd ganddynt yn ddiweddar gan y Cyngor er mwyn codi campfa’r jyngl. Cyfeillion Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy Derbyniwyd llythyr o ddiolch oddi wrth yr uchod am y rhodd ariannol a dderbyniwyd ganddynt yn ddiweddar gan y Cyngor er mwyn codi campfa’r jyngl ynghyd â llun o’r offer a diolch gan un o’r disgyblion, sef Lois Williams. Mrs Jennifer Yuill Derbyniwyd llythyr oddi wrth yr uchod yn diolch i holl aelodau’r Cyngor am y gwaith diflino maen nhw wedi ei wneud ar ran yr ardalwyr ar hyd y blynyddoedd a bod hyn yn cael ei werthfawrogi’n fawr; hefyd, yn dymuno’n dda i’r Cyngor newydd am y tymor nesaf.
Clwb Cinio Ddydd Mawrth, 16 Mai aeth criw da iawn ohonom am Sir Fôn i Westy’r Victoria ym Mhorthaethwy i gael cinio. Ein bwriad wedyn oedd ymweld ag Ynys Llanddwyn gan i ni gael ein swyno gan hanes yr ynys pan ddaeth y Parch Carwyn Siddall atom i’r Festri Lawen. Yn anffodus roedd y tywydd yn ddrwg iawn fore Mawrth a phenderfynwyd gohirio’r ymweliad. Wedi cinio yn y Victoria aethom i Langefni i Oriel Môn i gael gweld arddangosfa o waith Kyffin Williams ac artistiaid eraill. Penderfynwyd ein bod am fynd eto ar 27 Mehefin i gael cinio yn y Victoria gan obeithio y bydd y tywydd yn ffafriol i ni ymweld ag Ynys Llanddwyn. Diolch i Enid am wneud y trefniadau. Mae croeso i unrhyw un ymuno â ni.
Mawl ar gân Fore Sul, 14 Mai yn Horeb, cynhaliwyd gwasanaeth o fawl ar gân wedi ei baratoi gan Alma a Rhian. Roeddynt wedi dewis eu hoff emynau ac roedd criw da yn bresennol ac roedd graen ar y canu. Nid oedd arweinydd ond roedd Edward yn ‘codi canu’ a Rhian Dafydd oedd wrth yr organ. Cafwyd eitem gan rai o blant yr Ysgol Sul hefo Mai ar y gitâr. Yn ystod y gwasanaeth gwnaed casgliad tuag at Corwyn Cariad, apêl Eglwys Bresbyteraidd Cymru am 2017, a llwyddwyd i gasglu £253. Diolchodd Enid yn gynnes iawn i Rhian ac Alma am drefnu’r oedfa arbennig ac i bawb am eu cefnogaeth. Yn dilyn cafwyd paned a ‘shortbread’ arbennig Rhian yn y festri.
YMWELD Â’R PALAS
Llongyfarchiadau Ar ddydd Mawrth, 23 Mai roedd Rhian Davenport, Ty’n y Wern mewn parti ym Mhalas Buckingham ar wahoddiad y Frenhines fel gwerthfawrogiad o’i gwaith diflino yn codi arian tuag at Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru. Llongyfarchiadau i ti, Rhian, ac rydym fel ardal yn falch iawn ohonot ac yn ddiolchgar am dy ymroddiad i achos mor werthfawr i ni yn yr ardaloedd pell o ysbytai.
Un arall o’r Dyffryn a fu mewn parti ym Mhalas Buckingham oedd Iwan Meirion, mab Gareth ac Annwen Williams. Cafodd Iwan Meirion yr anrhydedd o gael ei wahodd i Balas Buckingham ddiwedd mis Mai i fynychu te parti dathlu pen-blwydd RoSPA yn 100 mlwydd oed. Tra’n gadeirydd CFfI Cymru, RoSPA oedd elusen y flwyddyn i’r Mudiad ac fe wahoddwyd Iwan i’r digwyddiad fel cydnabyddiaeth am ei gyfraniad eithriadol i hybu diogelwch da, nid yn unig yn y maes amaeth ond hefyd coedwigaeth. Mae Iwan yn Rheolwr Cynhyrchu Rhanbarthol i Tilhill, ac fe wahoddwyd Iwan a Phennaeth Iechyd a Diogelwch y Cwmni’n ogystal â’u gwragedd i’r digwyddiad - felly roedd rhaid cael gwisg newydd a het! Llongyfarchiadau i thithau hefyd, Iwan, ac rydym fel ardal yn falch iawn ohonot ti hefyd.
Ysgol Gynradd Dyffryn Fe gafodd disgyblion Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy fraw wrth ddychwelyd o wyliau’r Pasg - roedd ffrâm ddringo pren newydd wedi ei osod ar eu cyfer. Hoffai cyfeillion Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy ddiolch i’r rhieni a’r gymuned am gasglu dros £5,000 i brynu a gosod y ffrâm ddringo newydd yn yr ysgol. Mae’r plant wrth eu boddau gyda’r adnodd newydd yma. Hoffem ddiolch i Bethan Smedly am gystadlu yn nhriathlon Harlech a’i holl noddwyr hael, Cae’r Ddaniel, Sunnysands, D G Thomas, Dei Tom, Gwynfor Edwards, Cae Cethin, Siân Edwards, Val a Myf Ephraim, Seaside Estate, y Cyngor Cymuned a chyfraniadau gan rieni Cylch Meithrin y Gromlech. Diolch yn fawr.
CAP I GYMRU
Gwasanaethau’r Sul, Horeb
MEHEFIN 11 - Parch Carwyn Siddall – 5.30 18 - Meryl a Rhian – 10.00 25 - Parch Dewi Morris – 5.30 GORFFENNAF 2 - Cyfarfod Gweddi
Llais Ardudwy DYDDIADUR Y MIS
Hoffem gynnwys dyddiadur yn manylu ar ddigwyddiadau yn yr ardal bob mis yn y papur hwn. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn gyfrifol am ei gasglu ynghyd, yna dewch i gysylltiad ag un o’r golygyddion. Mae’n bwysig bod gennych gyfeiriad e-bost!
Thierry-Jo, merch Michael a Jo ac wyres Ann Eurwen Price, Bro Enddwyn, gyda’i chap Cymru, wedi iddi gael ei dewis i dîm pêl-droed merched dan 16 Cymru. Llongyfarchiadau mawr iddi. Dymunwn yn dda iddi i’r dyfodol.
9
TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Taith Gerdded 2017 Er Cof am Gwynfor John Bydd y daith eleni yn digwydd ar ddydd Sadwrn, Mehefin 24. Y bwriad ydi cerdded i ben Diffwys a Llethr o Gors-y-Gedol, Dyffryn Ardudwy. Rydan ni’n disgwyl i’r daith gymryd rhyw bedair awr a hanner, gydag amser ychwanegol am fwyd a diod. Byddai’n grêt petaech ar gael i gymryd rhan ac i gymdeithasu yn Tŷ Mawr, Llanbedr, wedyn. Bydd y daith yn cychwyn o ben y trac uwchben Gors-y-Gedol am 10.30 y bore. Manylion pellach ar www.cofiogwynfor.com Genedigaeth Llongyfarchiadau i Rhiannon ac Arfon Williams, 30 Stryd Fawr, Talsarnau ar enedigaeth eu merch, Shannon Louise, ar 12 Mawrth. Mae Shannon yn wyres i Lynn a Meredydd, Ty’n y Fron ac yn or-wyres i Maureen a Gruff, Cefntrefor Fawr. Merched y Wawr Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan Gwenda Paul, yr Is-lywydd, a dechreuwyd drwy gyd-ganu cân y mudiad. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Siriol, Ella a Bet. Dangoswyd y cynlluniau o gardiau Nadolig 2017 ac archebwyd nifer o becynnau, yn ogystal â dyddiaduron 2018. Atgoffwyd pawb o arddangosfa’r Paneli Aur yn y Parc rhwng 19 a 23 Mehefin a’r drefn i ymweld. Derbyniwyd gwahoddiad gan Ganghennau Deudraeth a Phorthmadog i ymuno â hwy i Ddathlu’r Aur pnawn dydd Gwener,16 Mehefin drwy ffurfio ‘Cadwyn Cob’. Bydd canghennau Golan, Nant Gwynant, Cricieth a Llan Ffestiniog yn ymuno hefyd, ynghyd â disgyblion Eifion Wyn, Gorlan, Cefn Coch, Llanfrothen a Thalsarnau, yn ogystal â Hafod Lon, i greu’r gadwyn dros y Cob, gan orffen yn y Ganolfan ym Mhorthmadog i gael paned, cacen a sgwrs. Gan ein bod eisoes wedi trafod y bwriad o ymweld â’r Ysgwrn ar ei newydd wedd i gloi rhaglen eleni, cysylltwyd â Jess Enston, Swyddog Cyswllt yn y Parc i drefnu i fynd yno, a’r unig ddyddiad ar gael ym Mehefin oedd dydd Iau, y 29ain.
10
Cytunwyd felly y byddem yn mynd i’r Ysgwrn yn y bore ar y diwrnod yma. Bydd Anwen yn gwneud ymholiadau am le bwyta addas. Cafwyd adroddiad o’n sefyllfa ariannol gan ein Trysorydd, Gwenda Griffiths, a diolchodd y Llywydd iddi am ei hadroddiad ac am ofalu’n drylwyr am yr arian. Aethpwyd ymlaen i drafod syniadau ar gyfer Rhaglen 201718 a chafwyd nifer o enwau i gysylltu â hwy. Gwerthwyd tocynnau raffl y Sioe Sir i’r aelodau a rhoddwyd dau gopi arbennig o’r Wawr i bawb. Paratowyd y baned gan Rhiannon a Gwenda G, a Gwenda hefyd enillodd y raffl. Diolchwyd i bawb fu’n cefnogi’r cyfarfodydd yn ystod y flwyddyn ac a fu’n barod i helpu mewn unrhyw fodd. Diolchodd Mai i’w chyd-aelodau am bob cefnogaeth a chymorth.
Bedydd Dyma lun a dynnwyd ar achlysur gwasanaeth bedydd Lowri Richards [Llandecwyn] a Lana Richards [Talsarnau] Cynhaliwyd y gwasanaeth ar Mai 14 yn Llanfihangel-y-traethau dan arweiniad y Parch Bob Hughes ac yng nghwmni’r teulu oll. Rhodd £10
TAITH GERDDED
Yn yr ysbyty Anfonwn ein dymuniadau gorau am wellhad buan i Ms Lynn Jones, 4 Bryn Eithin, Llandecwyn sydd yn wael ac derbyn gofal yn Ysbyty Gwynedd. Cyngerdd yr Urdd O’r diwedd fe ddaeth y noson yr oeddym i gyd wedi edrych ymlaen amdani ac ni chawsom ein siomi. Roedd neuadd yr ysgol gynradd dan ei sang. Mwynhawyd perfformiadau gwych gan y disgyblion a chawsom ymweliad ar y diwedd gan Mr Urdd ei hun! Dymunwyd yn dda i’r ddau offerynwr David Bisseker a Chloe Lois Roberts a’r Grŵp Canu Creadigol yn Eisteddfod Pen-y-bont. Rhannwyd yr elw o £360 rhwng yr ysgol a’r Neuadd Gymuned – rhan yr ysgol i helpu i dalu am fynediad y plant i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a rhan y neuadd yn mynd tuag at brynu diffibriliwr.
Neuadd Gymuned Talsarnau
Noson o Adloniant gyda TRIO ac Annette Bryn Parri 18 Tachwedd 2017
Cafwyd taith gerdded ddifyr iawn ddydd Mercher, Ebrill 19eg er mwyn codi arian i gael dau beiriant diffibrilydd arall i’r ardal i’w lleoli yn Yr Ynys a Llandecwyn. Diolch yn gynnes iawn i Gwenda a Beatrice am drefnu. Roedd 16 yn cychwyn o du allan i’r ysgol gynradd, fyny drwy’r Gelli i Soar, lawr Llwybr Coch ac ar draws y waen ac ymuno a llwybr oedd yn arfer bod yn hen ddreif Maesyneuadd. Drwy’r coed a blodau Ebrill yn garpedi o danynt ac i lawr at Gafael Crwm. Ar hyd y ffordd, croesi’r bont a’r ffordd a cherdded i lawr yr afon at Glanwern. Croesi’r ffordd a dilyn y clawdd llanw at Tŷ Gwyn Mawr. Oddi yno drwy Faes Mihangel a’r cae chwarae, heibio Tyddyn Reglwys a chyrraedd Eglwys Llanfihangel-y-traethau. Yna cinio bach a sgwrs ddifyr gan Gwenda yn olrhain hanes yr eglwys. Cychwyn yn ôl ar draws y caeau i lawr at Tŷ Gwyn Mawr a gwerthfawrogi’r olygfa hyfryd ar draws y Traeth Bach a draw i gyfeiriad Eryri. Golygfa nad oes ei thebyg yn unlle. Croesi’r bont at Llwybr Cerrig ond dilyn y clawdd llanw wedyn heibio Draenogau Bach ac ymlaen at yr agoriad sy’n mynd a ni yn ôl i gyfeiriad yr orsaf a’r pentref. A dyna’n taith ni am y diwrnod. Pawb wedi mwynhau – nid yn unig y cerdded a’r golygfeydd godidog amrywiol, ond hefyd sgwrs gyda hwn a llall a rhoi’r byd yn ei le. Bydd yr arian a gasglwyd yn help i’r gronfa tuag at brynu’r ddau beiriant diffribilydd. Os oes rhywun yn dymuno cyfrannu at y gronfa, mae croeso cynnes i chi wneud hynny drwy Gwenda Griffiths – 01766 771238. Mae’r daith gerdded nesa yn cael ei threfnu a bydd hon rhywle yn ardal Llandecwyn. Mae yna edrych ymlaen.
Darlith Flynyddol Cyfeillion Ellis Wynne
Neuadd Gymunedol Talsarnau
CYNGERDD AMRYWIOL
Cana-Mi-Gei
Côr Someron Naiskuoro Darlith/sgwrs a chân 2017, oedd y chweched yn y gyfres. Fe’i Parti Kööri, cynhaliwyd yn Neuadd Gymuned Talsarnau, nos Iau, 27 Ebrill; hwn o’r Ffindir eto’n achlysur llwyddiannus iawn. Arfon Gwilym a Sioned Webb oedd yn diddanu - Arfon yn traethu ac yn canu a Sioned yn cyfeilio ar y delyn, a chafodd y gynulleidfa niferus wledd o ganu gwerin a cherdd dant wrth iddynt enghreifftio crefft a champ cantorion gwerin a cherdd dantwyr Meirionnydd dyddiau a fu ynghyd â’u hanes. Enwogion fel John Thomas, Maesfedw, Dewi Mai o Feirion, Watcyn o Feirion, Bob Plant dan Tocyn Roberts, Tai’r Felin, Edward Jones, Llandderfel, Dafydd Roberts, 16 yn rhad £5 Telynor Mawddwy ac amryw eraill. Roedd telynorion a datgeiniaid Meirionnydd mor niferus fel na allent sôn amdanyn nhw i gyd. Yn dilyn y cyflwyniadau, roedd paned i bawb a gwahoddiad at y bwrdd cacennau. Dyna’r drefn arferol noson ‘y ddarlith’ a phawb yn Bydd Y Casglwr yn dathlu ei ben-blwydd yn 40 oed eleni Os oes mwynhau’r gwmnïaeth. rhai o’ch darllenwyr a fuasai’n hoffi dod yn aelod a derbyn y Casglwr Diolchodd llywydd y noson, Elfed Roberts, i bawb a gyfrannodd i’w yn dymhorol drwy’r post, gellir cysylltu gyda mi am fanylion ac yna llwyddiant. fe gysylltaf gyda’r Trysorydd. Mae tâl aelodaeth am y flwyddyn yn rhesymol iawn ac yn cynnwys copi o’r Casglwr. Dyma’r cyfeiriad: Elwyn Williams, 23 Ffordd Elfed, Wrecsam LL12 7LU neu ebost: Elwynwilliams882@gmail.com [Gynt o’r Gwndwn, Talsarnau.]
a Phlant Ysgol Talsarnau Nos Fawrth, Mehefin 13 7.30
Y Casglwr ( Cymdeithas Bob Owen)
CYNGOR CYMUNED TALSARNAU
Capel Newydd Neuadd Talsarnau MEHEFIN Ar ran y Cyngor diolchodd y Cadeirydd i Mr Caerwyn Roberts am 11 - Dewi Tudur ei waith fel Cynghorydd Gwynedd yn yr ardal dros y blynyddoedd 18 - Rhun Murphy, Wrecsam. diwethaf a chytunwyd bod y Clerc yn anfon llythyr o ddiolch iddo. 25 - Ceri Jones, Aberdyfi Ethol Swyddogion GORFFENNAF Nos Iau 2 - Dewi Tudur. Cadeirydd: Eluned Williams. Is-gadeirydd: Richard Morgan Mehefin 8 Oedfaon am 6:00 bob nos Sul. Maes Parcio Cilfor Croeso cynnes i bawb. am 7.30 o’r gloch Adroddodd John Richards ei fod wedi bod mewn cysylltiad gydag Open Ewch i’n gwefan we am fwy o Reach ynglŷn â’r polyn sydd yn rhwystr i’r datblygiad uchod barhau Croeso cynnes i bawb wybodaeth – capelnewydd.org a’u bod wedi ei sicrhau y byddai swyddog yn ymweld â’r safle mewn 20 diwrnod gwaith. Cytunwyd os bydd pob dim yn iawn ynglŷn â’r polyn dan sylw gael ei symud bod y gwaith o ddatblygu’r uchod yn cychwyn yn syth. Parc Cenedlaethol Eryri Derbyniwyd llythyr oddi wrth yr uchod yn hysbysu’r Cyngor eu bod Ffôn 01766 770286 Ffacs 01766 771250 wedi cael cyflenwad o goed afal a’u bod yn awyddus eu dosbarthu ymysg y cymunedau lleol, ac yn datgan bod 4 coeden afal ar gael i’r Cyngor am ddim. Cytunwyd i dderbyn y coed. UNRHYW FATER ARALL Angen holi beth sy’n digwydd parthed y gamfa ger ystâd Bryn Eithin. Angen arwyddion beics gwell ar Bont Briwet er mwyn galluogi’r beicwyr i ddefnyddio’r llwybr beics yn lle teithio ar hyd y ffordd. Angen gwneud ymholiadau i gael camerâu cylch cyfyng ar y groesffordd sydd yn troi am Bermo/Harlech yn Llanelltyd; hefyd, ar y groesffordd sy’n troi am Harlech ym Maentwrog/Penrhyndeudraeth. Cytunwyd bod y Clerc yn anfon at y Comisiynydd Heddlu ynglŷn â hyn. Honda Civic Tourer Newydd Mae’r giât mochyn wedi pydru ger y llwybr coch yn Soar. Datganwyd pryder bod yr iaith sydd yn cael ei defnyddio gan gyflwynwyr ar y trenau yn uniaith Saesneg.
GYRFA CHWIST
R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau
11
HARLECH PRIODAS
Colli John Barnett Sioc i’r gymuned oedd clywed am farwolaeth John Barnett yn frawychus o sydyn ar ddechrau’r mis ac yntau yn 67 oed. Bu’n golffwr proffesiynol yng Nghlwb Golff Dewi Sant am bron i 36 mlynedd. Ni fu’n dda ei iechyd ers rhai blynyddoedd. Roedd yn ŵr hawddgar a hoffus ac yn un difyr iawn i fod yn ei gwmni. Roedd ganddo gysylltiadau niferus ym myd golff ac fe osododd Harlech ar y map pan ddaeth yn llywydd y PGA. Cydymdeimlwn yn ddwys iawn â’i wraig Beryl ac a’i blant Andrew a Jayne a’u teuluoedd yn eu profedigaeth.
Llongyfarchiadau mawr i Emily Evans (merch Gareth a Wendy, Brodawel, Harlech) a Nicholas Roberts, Dyffryn Ardudwy ar achlysur eu priodas ar y 28ain Ebrill. Treuliwyd y mis mêl yn ymweld â Stockholm, Prâg a Fienna. Mae’r ddau wedi ymgartrefu ym Mhenrhyndeudraeth. ROC ARDUDWY Llongyfarchiadau i’r tîm sy’n gyfrifol am yr ŵyl roc. Roedd pawb wedi mwynhau’r diwrnod. Hyderwn fod arian da wedi’i godi ar gyfer Hamdden Ardudwy.
Eglwys Tanwg Sant, Harlech Cynhelir dau gyngerdd yn yr Eglwys yn ystod yr wythnosau nesaf. Nos Wener 23 Mehefin, 7.30 Trio Teuluol (NHH) o Ganolbarth Lloegr sy’n dychwelyd i Harlech i berfformio ar organ y Tad Willis, y ffliwt a llais, a cherddoriaeth gan Bach, Handel, Britten, Pergolesi, Rutter, Sousa a llawer mwy! Mynediad am ddim, lluniaeth a chasgliad ar ddiwedd y noson. Nos Iau, 6 Gorffennaf am 7.30 Croeso’n ôl i’r band jas a blŵs lleol poblogaidd, Ysgard. Mynediad wrth y drws £5. Lluniaeth ar gael.
Capel Engedi
Mehefin 11 Gwen Edwards, Undebol am 2.00 o’r gloch.
GRŴPIAU DAWNSIO
Pen-blwydd Hapus yn 50 oed
Llongyfarchiadau i a Linda ac Elaine Evans, efeilliaid Ann ac Aneurin Evans, 30 Y Waun ar ddathlu eu pen-blwydd yn 50 oed ar Mai 21. Cafwyd parti mawr i ddathlu yn y Neuadd Goffa.
Y grŵp dawnsio Trŵps ddaeth yn bumed allan o 16 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mhen-y-bont. Llongyfarchiadau iddyn nhw a diolch arbennig i Eirian Foster am yr holl waith a wneir ganddi i baratoi’r bobl ifanc.
LLONGYFARCH PHIL Llongyfarchiadau i Phil Mostert, Bryn Awel, Ffordd Uchaf, un o’n golygyddion, ar gael ei anrhydeddu gyda’r wisg las gan Orsedd y Beirdd eleni. Cynhelir y seremoni yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Modedern, Ynys Môn ar ddydd Gwener, Awst 11 am 11.00 y bore. Dyma englyn a dderbyniodd gan ei gyfaill, Iwan Morgan, i nodi’r achlysur: Haeddu ei glod gorseddol - a wna ef ‘Rhen gyfaill mynwesol, Rhoddodd i’w fro mor ddifrol Orau ei ddawn lifeiriol. Iwan Morgan
12
Y grŵp dawnsio Disgyrchiant a fu’n cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mhen-y-bont. Llongyfarchiadau eto.
CYNGOR CYMUNED HARLECH Estynnodd y Cadeirydd longyfarchiadau’r Cyngor i Freya Bentham ac Annwen Hughes ar gael eu hethol i Gyngor Gwynedd yn ddiweddar. Croesawyd Martin Hughes i’w gyfarfod cyntaf o’r Cyngor gan ddymuno pob dymuniad da iddo yn y dyfodol. Diolchwyd i Caerwyn Roberts am ei waith fel cynghorydd yn yr ardal dros y blynyddoedd diwethaf a chytunwyd bod y Clerc yn anfon llythyr o ddiolch iddo. Ethol Swyddogion Cadeirydd: Cyng Edwina Evans. Is-gadeirydd: Cyng Judith Evans Ceisiadau cynllunio Codi mast maint math polyn gwaith stryd 20m o uchder yn ymgorffori 2 antena, 1 dysgl trosglwyddo a 2 gaban offer - Tir ym Maes Parcio Parc Bron y Graig. Cefnogi’r cais hwn. Gohebiaeth Derbyniwyd e-bost yn holi a fyddai’n bosib gosod llinellau melyn ar y gornel cyn mynd lawr Teras Tryfar oherwydd bod ceir yn parcio yno ac nid yw’n bosib i geir eraill basio. Cytunodd Freya Bentham ddelio gyda’r mater. Rhandiroedd Mae 6 o blotiau yn rhydd sef 1, 3, 11 a 12, 17 a 19. Pan fydd plotiau 11 neu 12 yn cael eu gosod bod angen creu llwybr ar draws y wal gefn neu’r ffens flaen. Bydd y Cyngor yn ymestyn y tenantiaid i gynnwys pobl Llanfair.
THEATR HARLECH Ffôn: 01766 780667 MEHEFIN
7 The Dream/ Symphonic Variations/ Marguerite ... (Bale) 7.15 9-10 Their Finest 7.30 10 Peter Pan 2.30 16-17 King Arthur: Legend of the Sword 7.30 22 Salomê 7.00 23-24 Lady Macbeth 7.30 28 Otello 7.15
£15 / £13 / £10 ROH £6.50 / £5.50 / £4.50 Ffilm £10 / £8 NT Live £6.50 / £5.50 / £4.50 Ffilm £10 / £8 NT Live £6.50 / £5.50 / £4.50 Ffilm £15 / £13 / £10 ROH
CYFNEWID CYNGHORWYR
LLYFRGELL GWYNEDD
Bydd gwasanaeth Llyfrgell Deithiol ar gael yn Harlech ar y dyddiau a ganlyn: Gorffennaf 4, Awst 1 a 29, Medi 26, Hydref 24 a Tachwedd 21 Maes Chwarae Y Waun 2.00 - 2.55 a Maes Parcio Bron y Graig 3.00 - 4.00 Ymholiadau: 01341 422771 llyfrgell@gwynedd.llyw.cymru Llongyfarchiadau cynnes iawn i Freya Bentham, [Cae Du gynt] ar gael ei hethol i gynrychioli Harlech a Thalsarnau ar Gyngor Gwynedd. Dymunir pob llwyddiant iddi wrth iddi ymroi i wasanaethu ei chymuned.
Diolch i Caerwyn Roberts am ei waith clodwiw. Roedd ei gyfraniad yn allweddol mewn sawl maes - Pont Briwet, Gwesty’r Castell, y Feddygfa, Pont yr Ynys, Pant yr Eithin, y pwll nofio, ysgolion, a llawer achos unigol. Bydd colled ar ôl ei wybodaeth fanwl o’r ardal. Dymunwn yn dda iddo yn ei ymddeoliad.
HARLECH TOYOTA
ENGLYN DA
Ci Lladd Defaid
Pen annwyl yn fy nwylo - am anwes A minnau’n ei fwytho Yn dyner heb weld yno Waed oen yn ei lygad o. Rhys Dafis[1924-2003]
Ffordd Newydd, Harlech 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@ harlech.toyota.co.uk facebook.com/ harlech.toyota Twitter@ harlech_toyota 13
Y BERMO A LLANABER Merched y Wawr Bermo Ar ddechrau cyfarfod mis Mai anfonodd Llewela, ein llywydd, ein cofion cynhesaf at deulu a chyfeillion y diweddar Angela Evans. Roedd Angela yn un o sylfaenwyr cangen Merched y Wawr yn y Bermo, ac roedd yn braf cael ei chwmni pan roedd y gangen yn dathlu’r deugain ym Mwyty Mawddach, Llanelltyd.
CHRIST CHURCH Bermo
CYNGERDD Roeddem wedi rhoi gwahoddiad i gangen y Ganllwyd atom i fwynhau cwmni’r awdures ddawnus Beryl Griffiths o Lanuwchllyn. I ddathlu’r Aur gofynnwyd i bawb ddod a chwpanau gyda rhimyn aur arnynt ac roedd y bwrdd swper bys a bawd yn edrych yn euraid iawn gyda’r llestri a’r cacennau bach melyn. Cyflwynwyd Beryl gan Llewela a chawsom hanes ei gwaith yn mynd ati i ymchwilio hanes diddorol y ‘merched hynod sydd wedi gadael eu marc ar hanes Cymru’. Tasg anodd oedd dewis ar gyfer y llyfr, ond ar gyfer ein noson ni penderfynodd Beryl ganolbwyntio ar Elizabeth Davies, sef Betsi Cadwaladr. Ganwyd Betsi ym Mhenrhiw, Y Bala, yn 1789, ac yn 12 oed dihangodd i Lerpwl, ac oddi yno bu’n teithio’r byd gan weithio’n ddygn bob amser. Difyr iawn oedd clywed hanes ymwneud Betsi â Florence Nightingale yn y Crimea a Balaclava. Ond er ei holl waith, marw yng nghartref ei chwaer Bridget yn Llundain wnaeth Betsi, a’i chladdu mewn bedd tlotyn mae’n debyg. Un llun yn unig o Betsi a ddarganfu Beryl ond roedd y llun hwnnw’n adrodd cyfrolau. Wrth derfynu dywedodd Beryl mai ei phrif amcan wrth ysgrifennu’r gyfrol oedd sicrhau bod y merched hyn yn dod allan o’r cysgodion a chael sylw haeddiannol.
Côr Meibion Ardudwy + Côr Someron Naiskuoro a Pharti Kööri o’r Ffindir 7.30 pm Nos Wener, Mehefin 16 Tocyn: £5 - Plant yn rhad
Ffoaduriaid
Does dim angen ein help arnyn nhw Felly peidiwch â dweud wrtha i Mi allai’r wynebau gwyllt fod yn eiddo i chi neu fi Pe bai bywyd wedi delio’r cardiau yn wahanol Mae angen eu gweld nhw fel y bobl ydyn nhw mewn gwirionedd Rhai mentrus a chwiwladron Diogwyr a segurwyr Gyda bomiau dan eu gwisgoedd Yn dorrwyr gyddfau a lladron Dydyn nhw ddim (i) Deimlo fod croeso yma Dylen nhw Fynd yn ôl i’r lle y daethon nhw ohono Ni allan nhw Rannu ein bwyd Rhannu ein cartrefi Rhannu ein gwledydd Yn hytrach Adeiladwn wal i’w cadw allan Nid yw’n iawn dweud Mae’r bobl yma yn union fel ni Dylai lle fod yn eiddo i’r rhai a anwyd yno yn unig Peidiwch â bod mor ffôl a meddwl y Gellir edrych ar y byd mewn ffordd arall. Nawr darllenwch y gerdd o’r llinell olaf yn ôl. Cyfieithiad Raymond Owen o’r gerdd ‘Refugees’ gan Brian Bilston.
Wrth ddiolch i Beryl dywedodd Llewela mor falch oedd hi ein bod wedi dathlu’r Aur gyda noson mor ardderchog. Talwyd y diolchiadau ar ran cangen y Ganllwyd gan Eirian Davenport a hi hefyd enillodd y raffl ynghyd ag aelod arall o’u cangen. Bydd ein cyfarfod nesaf ar Fehefin 20fed pan fyddwn yn mynd i’r Eagles, Llanuwchllyn, ac yna i’r Parc i weld yr Arddangosfa Dreftadaeth. Rhodd Diolch i’r Parch R W Jones a Rhian am gyfrannu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu eu tanysgrifiad i Lais Ardudwy.
14
THEATR Y DDRAIG, Y BERMO Ffilm – LION, Sadwrn, Mehefin 10 am 7.30 Sgwrs – COMMEMORATING FANNY TALBOT, Mercher, Mehefin 21, am 4.00 Cerdd – 4th FRIDAY JAZZ & BLUES, Gwener, Mehefin 23 am 7.30 Ffilm – BEAUTY AND THE BEAST, Sadwrn, Gorffennaf 1 am 7.00 Ffilm – HIDDEN FIGURES, Gwener, Gorffennaf 7 am 7.45
H YS B YS E B I O N
Cefnogwch ein hysbysebwyr
CYNLLUNIAU CAE DU Stryd Fawr Harlech, Gwynedd 01766 780239
Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00
E B Richards
Llais Ardudwy
01341 241551
Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.
GERALLT RHUN
ARCHEBU A
01341 421917 07770 892016
07776 181959 Sŵn y Gwynt Talsarnau, Gwynedd
www.raynercarpets.co.uk
Tiwniwr Piano
g.rhun@btinternet.com Tiwnio ...neu drwsio ar dro!
GWION ROBERTS SAER COED 01766 771704 - 07912 065803 gwionroberts@yahoo.co.uk
£60 y flwyddyn yw cost hysbysebu mewn blwch sengl ar y dudalen hon
Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd
Ffoniwch Ann Lewis 01341 241297
Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk
drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]
ALAN RAYNER GOSOD CARPEDI
Llanuwchllyn 01678 540278
Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.
Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu 01341 241297 Ffynnon Mair Llanbedr
Tafarn yr Eryrod
01766 512091 / 512998
TREFNWYR ANGLADDAU
Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb
JASON CLARKE Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504
DAVID JONES
Cigydd, Bermo 01341 280436
Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau
ADEILADWR Gwarantir gwaith o safon.
Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014
MELIN LIFIO SYMUDOL
Gadewch i’r felin ddod atoch chi! www.gwyneddmobilemilling.com
dros 25 mlynedd o brofiad
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014 15
PANTYWENNOL Ruth Richards Mae Pantywennol yn nofel sydd yn llifo’n rhwydd, a’r cymeriadau a’r stori yn denu rhywun i droi’r tudalennau. Nid peth rhwydd yw hynny, gan fod Ruth Richards angen ein denu i gyfnod gwahanol iawn i’r dyddiau hyn. Nofel wedi ei gosod yn niwedd y bedwaredd ganrif a’r bymtheg yw hon, a hynny mewn cymdeithas oedd yn blethiad rhyfedd o grefydd a pharchusrwydd, ac ofergoel ac ofn. Mae’r stori wedi ei seilio ar ddigwyddiadau hanesyddol y ceir cofnod amdanynt yn y Caernarvon and Denbigh Herald, 29 Medi 1866, a dyfynnir y cofnod hwnnw ar flaenddalen Pantywennol. Ond man cychwyn yw hanes yr ofn oedd yn yr ardal oherwydd bod dillad yn cael eu rhwygo. Credid bod bwgan neu hyd yn oed y diafol ei hun yn ymyrryd ym mywydau pobl yn yr ardal, ond yn y diwedd penderfynodd
yr heddlu mai merch Pantywennol oedd yn gyfrifol am y weithred. Dyna esgyrn sychion y nofel hon. Dawn Ruth Richards sydd yn dod ag Elin Ifans yn fyw i ni ar y tudalen. Ond nid bywiogrwydd Elin Ifans yn unig sydd ar y tudalennau. Yma hefyd mae agwedd hunanbwysig Catrin ei chwaer (Asipheta ydi ffugenw Elin arni), ynghyd â thawedogrwydd nerfus ei mam a dyfalbarhad lled ddiflas Huw y crydd. Ond enaid hoff cytûn Elin ydi ei brawd, y llongwr Emaniwel. Enw teuluol oedd yr Emaniwel ond y mae’r enw yn arwyddocaol iawn gan mai yn absenoldeb Emaniwel (Duw gyda ni) y mae’r holl helynt a’r helbul yn digwydd i Elin a’i theulu. Perthynas pobl a’i gilydd yw diddordeb yr awdures, ynghyd â meddylfryd Elin ei hun. Mae’r berthynas yn cael ei lliwio’n gynnil, yn enwedig felly perthynas Elin, Huw ac Asiffeta, perthynas gymhleth anodd sydd yn anorfod o arwain at siomedigaeth. Ond fe geir hefyd ambell ddarn hynod ddifyr pan mae Elin yn dadansoddi ei hun a’i sefyllfa, a’r mwyaf difyr o’r rhain yw’r darn swreal pan fo Elin yn wael yn ei gwely gartref a hithau yn meddwl ei bod yn ei harch. Dengys y sgwennu celfydd, y cymeriadu cyflawn a’r darnau swreal hyn feistrolaeth yr awdur ar iaith goeth a theithi iaith addas ac amrywiol. John Roberts Adolygiad oddi ar www.gwales. com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
DWEUD EICH DWEUD!
Mae Panel Cyfryngau Cymru’n chwilio am bobl o bob oed, o bob rhan o Gymru i lenwi holiaduron am raglenni a gwasanaethau teledu. Mae’r holiaduron yn hawdd a chyflym i’w llenwi a chewch dalebau siopa, arian i elusen neu hyd at £500 y flwyddyn i grŵp cymunedol (e.e. côr, Merched y Wawr neu glwb chwaraeon) am gymryd rhan. Gallwch ddewis llenwi’r holiaduron am ddim ar-lein neu drwy’r post. Gweithredir yr ymchwil gan gwmni ymchwil TRP Research ar ran S4C. Ymunwch ar-lein www.panelcyfryngau.cymru neu drwy ffonio Sian ar 07494 506962.
16
Arddodiaid Yn ôl arbenigwyr iaith, buasai iaith plant yn gwella pe baen nhw’n dysgu sut i redeg arddodiaid yn gywir. Yr hyn a glywn ni gan lawer y dyddiau hyn ydi ‘i nhw’, ‘at fo’, ‘gan fo’ ‘iddoch chi’ ayyb sy’n Gymraeg carbwl iawn! Dyma’r arddodiaid mwyaf cyffredin: am ar at gan heb i dan dros trwy wrth hyd o Rhaid defnyddio’r ffurfiau priodol wrth ‘redeg’ rhain. I Ar At i mi/fi arnaf fi arnom ni ataf fi, atom ni i ti arnat ti arnoch chi atat ti, atoch chi iddo ef/hi arno ef/arni hi ato ef/ati hi iddi hi arnyn nhw atyn nhw i ni i chi iddyn nhw Mae’n debyg fod plant y dwthwn hwn yn cael y dasg hon yn anodd am nad ydyn nhw’n clywed yr iaith yn ei phurdeb. Heb Am Gan hebddo i amdana(f) i gennyf i/gen i hebddot ti amdanat ti gennyt ti/gen ti hebddo ef/fe amdano ef/ ganddo ef/fe hebddi hi amdani hi ganddi hi hebddon ni amdanon ni gennym ni/ hebddoch chi amdanoch chi gynnon ni hebddyn nhw amdanon nhw gennych chi/ gynnoch chi ganddyn nhw Mae’n bwysig ein bod yn defnyddio arddodiaid arbennig ar ôl rhai berfenwau neu gall effeithio ar eu hystyr. Dyma rai berfenwau sydd ag arddodiaid arbennig yn eu dilyn. adrodd am/wrth credu yn/am disgwyl am/i dianc rhag gweddio ar/am/dros anelu at rhyfeddu at anghofio am synnu at cyd-weld â gweiddi ar/am siarad â/am amddiffyn rhag cyfarfod â apelio at/ar dweud wrth/am gwrando ar/am cynnig i/am sôn wrth/am estyn at/ cyffwrdd â dylanwadu ar hiraethu am sylwi ar anfon at/i cyhuddo o dysgu i/am llwyddo i maddau i talu i/am [Mae ‘na lawer mwy, wrth gwrs!] Rhowch brawf ar eich plant neu eich wyrion neu eich perthnasau trwy ofyn iddyn nhw gywiro’r brawddegau a ganlyn! Oes [gan] ti arian? Gofynnais [i] hi ddarllen. Mae nain yn dod [at] ni i swper. Mae [ar] hi ofn cŵn. Mae’n rhaid dweud [wrth] fi am frysio. Mae cyfrifoldeb [ar] ti i wella. Wyt ti wedi clywed oddi [wrth] hi. Gwaeddais [ar] fo. Aeth mam [heb] fi i’r car. Llifai dŵr o [dan] ni yn y nant. Ymddiheuriadau am y wers ramadeg ond y mae clywed plant a phobl ifanc yn siarad bratiaith yn loes calon i mi!
PM
Darganfod y Gorffennol yn Nyffryn Ardudwy Fel rhan o gynllun £2.3 miliwn cymdeithas dai Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) mae gwaith gwella sylweddol wedi cael ei wneud ar 111 o gartrefi ‘anhraddodiadol’ ar draws Wynedd. Mae tai anhraddodiadol yn dai gafodd eu codi yn dilyn yr ail ryfel byd fel rhan o’r ymgyrch ‘Cartrefi ar Gyfer ein Harwyr’. Yn dilyn y rhyfel, roedd prinder mewn defnyddiau adeiladau a phrinder cartrefi, ac o ganlyniad roedd tai yn cael eu codi yn y dull ‘tŷ parod’ gyda deunyddiau fel fframwaith coed Swedaidd a fframiau metel.
Y criw o ddynion oedd yn codi’r tai yn 1949-1950
Y gwaith yn cael ei wneud ar y tŷ yn Bryn Awelon Un o’r 111 o dai gafodd waith wedi ei wneud arnyn nhw oedd tŷ ar stad Bryn Awelon, Dyffryn Ardudwy. Cafodd y gwaith ei wneud gan gwmni Willmott Dixon, ac wrth i’r gweithwyr ailosod to newydd ar y tŷ daethant o hyd i hen gŷn yn y ffrâm, oedd yn deillio yn ôl i’r 50au pan godwyd y stâd yn wreiddiol.
Y tŷ ym Mryn Awelon wedi i’r gwaith gael ei gwblhau
A hoffech ddod yn aelod o Gefnogwyr Mudiad Meithrin? Cyfle i ennill gwobr gyntaf o £75, ail wobr o £20 a thrydydd gwobr o £10 yn fisol a chefnogi gwaith Mudiad meithrin. www.meithrin.cymru/clwb-100 Cysylltwch â Nerys Fychan: nerys.fychan@meithrin.cymru neu ffoniwch 01970 639639 am ragor o wybodaeth.
Y cŷn gafodd ei ddarganfod yn atig un o dai CCG ym Mryn Awelon Yn dilyn y darganfyddiad a sgwrsio gyda phobl eraill ar y stâd, darganfyddwyd fod y tai wedi cael eu codi gan aelodau o deulu un o’r trigolion preifat sy’n byw ar y stad heddiw, sef Eifiona Jones. Roedd gan Eifiona hen lun o’r gweithwyr yn codi’r tai yn dyddio’n ôl i’r 40au hwyr a’r 50au cynnar, oedd yn cynnwys ei thri ewythr Lewis, Harri a Gruff a’i chwaer fach oedd wedi dod am dro gyda’i mam i weld ei thri ewythr. Dywedodd Eifiona: ‘Cefais fy ngeni a’m magu yn Penrhiw. Roedd gan fy nhad dri brawd, ac aeth y tri ohonyn nhw (sydd yn y llun) i ffwrdd i ymladd yn y rhyfel. Ni chafodd fy nhad ei alw i fyny achos roedd o’n ffermio gartref. Prynais y tŷ yma ryw 15 mlynedd yn ôl a bu sôn bryd hynny bod perthnasau i mi wedi codi’r tai a daethant o hyn i’r llun dan sylw. ‘Yr hyn sydd yn braf ydi bod CCG wedi rhoi y cŷn yn ôl i feibion fy ewythr Harri, un o’r dynion yn y llun. Doedd o ddim yn medru credu ei fod o mewn cyflwr mor dda. Mae’n anhygoel meddwl ei fod o wedi bod yn y to ers bron i 70 mlynedd! ‘Dydw i ddim yn siŵr iawn pwy ydi rhai o’r dynion eraill yn y llun, ond dwi’n meddwl bod nhw’n gweithio i gwmni D. Davies o’r Bermo ar y pryd. Mi fyddai’n braf iawn os oes unrhyw un lleol yn eu hadnabod ac yn gallu cysylltu gyda fi neu rywun o’r teulu er mwyn casglu enwau pawb sydd yn y llun.’
Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes 17 A
CYMDEITHAS TED BREEZE JONES Taith Cwm Nantcol gyda Rhodri Dafydd
Aelodau Cymdeithas Ted Breeze Jones yn ymweld â Chwm Nantcol. Aeth sawl blwyddyn heibio ers i’r Gymdeithas drefnu taith i Gwm Nantcol. Ar fore Sadwrn, Mai 13, a hithau’n fore digon llwyd, cyfarfu deg o aelodau wrth hen ysgol/neuadd y Cwm. O dan arweiniad Rhodri Dafydd, Uwch Reolwr Gwarchodfeydd Morfa Harlech a Morfa Dyffryn, y gobaith oedd cael gweld rhai o adar mudol yr haf. Cyn cychwyn o’r maes parcio, roedd un o’r ymwelwyr hynny wedi amlygu ei hun. Yno yn canu ar frig coeden gyfagos roedd tingoch. Cychwynnwyd y daith i lawr y llwybr heibio’r ysgol ac ymlaen at Glan Rhaeadr. Cyn cyrraedd yr adeiladau ger y rhaeadr gwelwyd llu o’r mân adar, yn eu mysg aderyn du, robin goch, ji-binc, nico, corhedydd y waun, tinwen y garn, dryw bach, titw tomos las, brân
ni fyddai gobaith gweld bronwen y dŵr er bod siglen fraith wedi ymddangos. Uwch ein pennau gwelwyd llu o wenoliaid ac ambell i foncath. Croesi’r afon ar y bont gerrig sy’n cario’r ffordd at Faes y Garnedd, a throi i’r chwith gan ddilyn y llwybr at Ddôl dal Owain. Y tro olaf i’r Gymdeithas lwybro’r ffordd hon fe glywyd ac fe welwyd mwyeilch y mynydd ar y llethrau islaw’r gweithfeydd mango, ond nid y tro hwn. Cafwyd tamaid o ginio ymysg y creigiau cyn cyrraedd Dôl dal Owain, a’r geifr yn cadw llygad arnom. Gwlyb iawn oedd y llwybr tuag at Bwll March a chan fod y pontydd troed dan ddŵr bu’n rhaid cwtogi ar y daith a dychwelyd at yr ysgol. Ar y ffordd yn ôl i’r maes parcio roedd cân y telorion ar bob tu. Telor yr helyg, telor yr hesg, y troellwr bach, a’r telor penddu. Gwelwyd hefyd grec yr eithin, bras y cyrs a llinosiaid. Crëyr glas a’r sguthan ddaeth â’r cyfri i ryw ddau ddwsin o wahanol fathau
y gog o bell o adar ar y daith hon. Cafwyd diwrnod diddorol ac addysgiadol. Diolch i Rhodri am ei arweiniad. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymaelodi â’r Gymdeithas a derbyn tri chopi o Lygad Barcud, cylchgrawn y Gymdeithas, bob blwyddyn, gallwch gysylltu trwy ymweld â gwefan Cymdeithas Ted Breeze Jones. HD
tingoch dyddyn a chigfran. Tylluan frech ddaeth allan o un o ysguboriau Glan Rhaeadr, ond yn anffodus ni welwyd hon gan bawb. Gwelodd pawb, fodd bynnag, y gwybedog brith a chlywed y gog yn canu. Wrth ddilyn y llwybr o Lan Rhaeadr, syndod oedd gweld carthion dyfrgi ar lan ffos fechan. Dyma anifail sydd bellach yn ail sefydlu yn yr ardal. Canai’r gog eto ac fe’i gwelwyd yn hedfan i goeden ddraenen wen. Llwyddwyd i gael llun ohoni er ei phellter oddi wrthym. Ymlaen wedyn drwy’r gors ac ar draws y caeau islaw Cilcychwyn. Oddi yma roedd y geifr gwylltion i’w gweld ymysg glesni bwtsias y gog ar y llethrau gyferbyn. Roedd tipyn o li yn afon Nantcol ac felly
18 A
gwybedog brith
NEWYDDION YR URDD
Chwaraeon Wedi’r ymryson yn ystod misoedd y gaeaf, cafodd Ysgol y Traeth gyfle i gystadlu yng nghystadleuaeth 7-bob-ochr i Ysgolion ledled Cymru. Nid eleni yw’r tro cyntaf i’r ysgol gystadlu ond i’r criw yma, roedd yn ymweliad cyntaf ac un y byddent yn edrych arno mewn blynyddoedd i ddod gyda balchder.
Griffith J Williams Ganwyd G J Williams yn Frongaled, Dyffryn Ardudwy, 3 Tachwedd 1846, yn fab i Bennett ac Ann Williams. Pan oedd ef yn bump oed, symudodd ei rieni i Borthmadog. Yn 23 mlwydd oed ymfudodd i’r Amerig, ac ymsefydlodd yn gyntaf yn Racine, Wisconsin. O’r fan honno fe aeth i fyw i Emporia, Kansas, lle yr ymgartrefodd am tua deng mlynedd. Priododd ac un o ferched y ddinas honno, sef Miss Elizabeth Jones. Symudodd y teulu i Utica, Efrog Newydd, yn ddiweddarach, ac yn 1880 ymsefydlodd yn Boston, Massachusetts. Pan gyrhaeddodd Griffith J ddinas Boston cafodd waith gyda Chwmni West End Roofing, a bu efo nhw am un mlynedd ar ddeg hyd nes iddo ef fentro i’r busnes toi a chontractio ei hun, gyda’i swyddfa yn 8 Stryd Beacon, Boston.
Glan-llyn Eto eleni, fe fydd carfan dda o blant ardal Llais Ardudwy yn mynychu Gwersyll Glan-llyn ar benwythnos 16 i 18 Mehefin. Mae’r cyfle blynyddol yma yn amhrisiadwy. Gobeithio y bydd pawb yn cael penwythnos a hanner ac yn adrodd y storïau o gyfeillgarwch a hwyl am fisoedd a blynyddoedd. Athletau Cynhaliwyd noson o athletau yn y dalgylch yn ystod y dyddiau diwethaf ac roedd yna gystadlu brwd ymysg yr holl ysgolion ac adrannau. Llongyfarchiadau i bawb ar eu llwyddiant ac fe fydd sawl un yn cynrychioli’r Cylch yn yr Athletau Rhanbarthol a gaiff eu cynnal eleni yn Ysgol Ardudwy ar nos Iau, 15 Mehefin gan gychwyn am 5yh. Nodwch y dyddiad a dewch i gefnogi. Taith diwedd flwyddyn Cafwyd cyfle i ymweld â gerddi Aberfan i edrych ar y cerrig beddi sydd wedi eu lleoli yn y pentref wedi hunllef 1966. Yn dilyn hyn, anelu am Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer edrych ar gêm bêl-droed y Bencampwriaeth rhwng Dinas Caerdydd a Newcastle. Er i’r tîm cartref golli, roedd y profiad o fod yna’n werth y daith. Yna, noson yng Nghanolfan yr Urdd yng Nghanolfan y Mileniwm ar y nos Wener. Y bore canlynol, cyfnod o siopa yn y Brifddinas cyn ei throi hi am Abertawe a Stadiwm Liberty i weld y Gweilch yn herio Ulster yn y Pro-12. Cyfle i ymweld am y tro cyntaf i nifer. Taith adre drwy Aberystwyth a chyfle i edrych yn ôl ar ddeuddydd penigamp, gyda llawer iawn o brofiadau i nifer fawr o bobl ifanc.
Diolch i Mr Elfyn Anwyl a Ms Mared Huws am wirfoddoli eu hamser i fynd ar y daith ac i’r ysgol am eu caniatáu ac i’r bobl ifanc am ymddwyn mor dda a’r rhieni am gefnogi. Dylan Elis Urdd Gobaith Cymru Swyddog Datblygu Meirionnydd
Pan y bu ef farw 1 Chwefror 1907, o’r canser, collodd y gymdogaeth Gymraeg yn Boston a’r ardal gyfagos, ac yn arbennig Cymdeithas y Cymrodorion, ŵr o wybodaeth ddofn, yn llenor amryddawn, ac yn fwy na dim yn Gristion. Yr oedd ef wedi cymryd diddordeb gyda Chymdeithas y Cymrodorion ers pan y ffirfuiwyd yn 1892, ac ef oedd y llywydd cyntaf un. Iddo ef hefyd y rhaid rhoi’r clod am gynllunio mor feistrolgar Gyfansoddiad ac Is-ddeddfau’r gymdeithas. Cyfansoddodd amryw o ganeuon addas i’w canu yng nghyfarfodydd y Cymrodorion, megis ‘Cân Agoriadol’, ‘Emyn Croeso’, ‘Emyn yr Undeb’, a’r Diweddgan’ isod, wedi ei gosod ar y dôn Caersalem: Wele eto un cyfarfod Fel ar edyn wedi ffoi; Ninnau frodyr mewn tangnefedd, Pawb i’w annedd ar ymdroi; Seren siriol, Cariad brawdol, arwain ni. Nawdd y Nef fo i’n cymdeithas, Nawdd i lwyddiant Cymru fad, Nawdd i egwyddorion addas, Nawdd i’n mabwysiedig wlad. Hedd a chariad Fo’n teyrnasu dros y byd. Cynhaliwyd ei angladd yn ei gartref yn Stryd Harvard, Cambridge, ger Boston, ar ddydd Sul, 3 Chwefror. Gwasanaethwyd gan y Parch J Wynne Jones (m 1917), rheithor, Eglwys y Drindod, Boston, gynt o Fethesda, Arfon. Gadawodd ei weddw, mab a dwy o ferched; a dau frawd oedd yn byw yng Nghymru, Bennett ym Mhorthmadog, a’r Athro John Henry Williams, Lerpwl, awdur ‘Gwlad y Delyn’, ‘Nos Ystorm’, ‘Galwad y Tywysog’, ‘Bwthyn yr Amddifad’, ayyb. Claddwyd efo ym Mynwent Cambridge. W Arvon Roberts
19 A
GŴYL GREGYNOG YN HARLECH
Baneri ysgol yn barod i hedfan o furiau castell Harlech Gŵyl Gregynog ar ei ffordd i’r dref
Bu myfyrwyr o Ysgol Ardudwy yn brysur yn creu baneri ar gyfer ymweliad Gŵyl Gregynog fydd yn ymweld â chastell Harlech ddiwedd fis Mehefin. Bu disgyblion B7 yn gweithio gyda’r arlunydd enwog Luned Rhys Parri greu baneri pasiantri lliwgar i’w harddangos yng Nghastell Harlech yn ystod yr ŵyl nodedig. Roedd y disgyblion wrth eu bodd yn cael bod yn rhan o’r digwyddiad fel y dywed Pennaeth Celf yr ysgol, Emma Marini,“Mae gan Ŵyl Gregynog enw mor dda ac mae’r ffaith fod gan ei thema gysylltiad personol â Harlech yn wych. Caiff y baneri eu harddangos i bawb eu gweld trwy gydol yr Ŵyl ac mae hon yn ffordd arbennig o gael y plant i ymddiddori mewn celf fel yr esbonia’r arlunydd Luned Rhys Parri, “Roedd o’n anhygoel gweithio ar brosiect mor arbennig; mae hanes cyfoethog Gŵyl Gregynog a phasiantau Harlech yn ysbrydoledig. Gwnaeth yr arlunydd Luned Rhys Parri ei henw trwy greu delweddau tri dimensiwn gwahanol a diddorol yn darlunio agweddau nodweddiadol ar fywyd Cymru. A hithau’n gweithio o’i stiwdio yn y Groeslon ger Caernarfon, mae’n creu cerfluniau o bapur a chyfryngau cymysg. Gregynog yw gŵyl gerddoriaeth glasurol hynaf Cymru sy’n dal i gael ei chynnal, ond ei rhagflaenydd mwyaf arwyddocaol oedd Gŵyl Gerddorol Castell Harlech, sef yr ysbrydoliaeth ar gyfer rhaglen Gŵyl Gregynog eleni fel y mae’r curadur Rhian Davies yn esbonio, “Mae dod â’r ŵyl i Harlech yn anrhydedd mawr a bydd gweld fy 20 mlynedd o ymchwil yn dod yn fyw yn y gymuned yn anhygoel. Un o’r uchafbwyntiau fydd yr ensemble pres Septura yn chwarae ffanfferau o fylchfuriau’r Castell yn ystod yr awr cyn
20 A
eu cyngerdd ar 2 Gorffennaf, yn union fel yr arferent ei wneud yn Harlech gan mlynedd yn ôl. “Mae pob cyngerdd yn yr Ŵyl eleni yn adfywio repertoire gan gyfansoddwyr sy’n gysylltiedig â Harlech, a chafodd llawer ohonynt eu hysgrifennu yn yr ardal a’u hysbrydoli gan dirweddau a chwedlau Cymru, sy’n amserol iawn gan ein bod yn cychwyn ar ein taith trwy Flwyddyn y Chwedlau yng Nghymru.” Yn ogystal â Chastell Harlech, bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal ymhob rhan o’r dref, yn eu plith y Clwb Golff, y Neuadd Goffa a Choleg Harlech. Ychwanegiad arloesol fydd Croesi Traeth, cynhyrchiad arbennig a gomisiynwyd gan Ŵyl Gregynog gan y cywaith dawns, Light, Ladd and Emberton, ac a berfformir i ymateb i’r llanw ar Draeth Harlech. Cynhelir teithiau o leoliadau eiconig, gan gynnwys nifer o dai preifat a thaith arbennig ar Reilffordd Ffestiniog. Mae’r prif artistiaid yn cynnwys y fiolinydd Sara Trickey, y pianydd Clare Hammond, y gantores werin o Ynysoedd Heledd, Joy Dunlop a’r chwaraewr pianola Rex Lawson. Mae’r rhaglen gref o sgyrsiau yn cynnwys yr hanesydd Paul O’Leary ar Basiantau Harlech, y ffotograffydd Iestyn Hughes ar Alvin Langdon Coburn, Cuillin Bantock ar ei deulu cerddorol, a thaith gerdded dan arweiniad Sian Roberts. Bydd yr Ŵyl yn dechrau yn Aberystwyth yn y Llyfrgell Genedlaethol ar Ddydd Gwener 16 Mehefin a bydd digwyddiadau Harlech o’r 28ain Mehefin tan yr 2il Gorffennaf. Am wybodaeth bellach ac am docynnau ewch i www.gregynogfestival.org neu ffoniwch 01686 207100.