Llais Ardudwy Mehefin 2018

Page 1

Llais Ardudwy 50c

CÔR MEIBION ARDUDWY YN NORWY Gallwch ddarllen eu hanes ar dudalennau 10 ac 11

RHIF 475 - MEHEFIN 2018

BEICIO I GODI ARIAN

AIL ALLAN O 14 Dyma 14 o feicwyr amhrofiadol ar y cyfan, a dau yrrwr fan, a fu’n beicio o Harlech i Gaergybi ddiwedd mis Mai. Roedd dau arall yn ymuno â nhw ar y ffordd i Gaergybi. Wedi hynny, mi deithion nhw ar gefn beic o Ddulyn i Rosslare, cyn beicio o Abergwaun i Harlech (trwy Aberystwyth) er mwyn codi arian i elusen y Gwasanaeth Iechyd, Awyr Las. Roedd yn dipyn o her i griw o ddechreuwyr! Ar y daith yr oedd Josh Whiteley, Ciron Morgan, Llion Owen, Glyn Wigglesworth, Gwyn Anwyl, David Roberts, Geraint Jones, Dylan Howie, Gavin Jones, Geraint Williams, Andrew Parry, Carwyn Jones, Michael Evans, Iwan Evans, Steven Evans, Elfyn Anwyl, Gareth Williams a Caron Williams. Erbyn hyn mae’r cyfanswm a godwyd ganddyn nhw dros £7000 ac mae’r dynion yn parhau i dderbyn rhoddion.

CADEIRYDD NEWYDD CYNGOR GWYNEDD Llongyfarchiadau cynnes iawn i’r Cynghorydd Annwen Hughes, Plas Uchaf, Talsarnau ar gael ei hethol yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd am y flwyddyn sydd i ddod. Mae’n gynghorydd prysur a gweithgar yn yr ardal hon. Dymunwn flwyddyn lwyddiannus iddi.

Llongyfarchiadau i ‘Disgyrchiant’ o Aelwyd Ardudwy a ddaeth yn ail allan o 14 o grwpiau yn y gystadleuaeth Dawnsio Hip-Hop/ Stryd/Disgo i B7, 8 a 9 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Diolch yn arbennig i Eirian Foster a fu yn eu hyfforddi.


Llais Ardudwy

HOLI HWN A’R LLALL

GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com (07760 283024/01766 780541

SWYDDOGION

Cadeirydd: Hefina Griffith (01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com

Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones (01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@Intamail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960 Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Mehefin 29 am 5.00. Bydd ar werth ar Gorffennaf 4. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Mehefin 25 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

Dilynwch ni ar Facebook

@llaisardudwy 2

Enw: Eleri Owen Jones Gwaith: Rwyf yn gweithio adref ers Ionawr 2017, ar ôl 16 o flynyddoedd yn gymhorthydd clerigol yn Ysgol y Traeth, Bermo. Cefndir: Cefais fy ngeni yn ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli a fy magu yn un o bedwar o blant ym Mhenrhyn Llŷn. Mynychais ysgolion Pentreuchaf, Glan-y-môr ac yna Coleg Bangor. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Dwi’n hoff iawn o Yoga, byddaf yn cerdded dipyn gyda Caio y ci bach ac Elliw, fy merch. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Ar y funud, rwy’n darllen ‘Melysach Cybolfa’ - Mari Gwilym ac hefyd rwy’n darllen ‘Fire and Fury – Inside the Trump Whitehouse’. Dwi’n hoff hefyd o ddarllen llyfrau rhamantus sy’n hawdd eu darllen cyn mynd i gysgu. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Mae llawer o’m ffrindiau yn gwybod na fyddaf yn colli llawer o benodau ‘Neighbours’ ar chwarae bach. Rwyf yn ei wylio ers 1985. Ydych chi’n bwyta’n dda? Dwi’n hoff iawn o goginio ac arbrofi gyda ryseitiau gan eu newid weithiau os na fydd y cynhwysion yn y cwpwrdd bwyd – yr unig ddrwg, fyddai ddim yn cofnodi’r ryseitiau a byddant yn mynd yn angof - y prydau sy’n plesio beth

bynnag! Hoff fwyd? Rwy’n hoff iawn o fwyta pysgod, chwaden neu ginio Sul. Hoff ddiod? Mae’n dibynnu ar yr achlysur coffi, Gin a Tonic, Prosecco hefyd jwg o ddŵr hefo lemon ynddo yn ddyddiol. Pwy fuasai yn cael dod allan i fwyta efo chi? Bydd Aled a minnau’n gwledda allan yn aml mewn cylchoedd ffrindiau gwahanol, anodd dewis unrhyw un penodol. Eich hoff liw? Pan fyddai’n dewis lliwiau ar gyfer addurno’r tŷ ac yn y blaen bydd fy llygaid yn cael ei ddenu at liwiau fel porffor, leilac, arian, llwyd, a gwyrdd golau. Eich hoff flodyn? Rwyf wedi plannu llawer o peonies yn yr ardd, mae ganddyn nhw flodyn mawr leilac, pinc, neu liw hufen. Rwyf hefyd yn hoff iawn o brynu lilis sy’n rhoi persawr bendigedig mewn ystafell. Eich hoff gerddor? Wrth grwydro yn y car ar ben fy hyn byddaf yn hoff o wrando ar U2, rwyf hefyd yn hoff o Meic Stevens, Tina Turner, Cyndi Lauper ac Elin Fflur, ac yn ddiweddar rwy’n hoff o wrando ar Daniel Lloyd a Mr Pinc. Eich hoff ddarn(au) o gerddoriaeth? Merched Rhys Meirion yn canu ‘Anfonaf Angel’ ac yn ddiweddarch Elin Fflur a Sian Cothi yn ei chanu – gwych. Pan oeddwn yn rhan o bartïon canu yn yr ysgol byddai mynd i eisteddfodau’r Urdd yn gyfle i wrando ar ddeuawdau arbennig iawn, rhai o’r cantorion hyn yn adnabyddus erbyn hyn. Pa ddalent hoffech chi ei chael? Dawnsio fel Rihanna, chwarae piano fel Annete Bryn Pari a rhedeg fel Mo Farah. Eich hoff ddywediadau? Nid da lle gellir gwell. Gwneud yr un peth ond yn wahanol. Lle sydd orau gennych?

Bydd Caio a minnau’n mynd i fyny Ffridd Cefn Ucha’ ac edrych draw am Llŷn. Eithriad yw i mi beidio gweld rhywle o’r newydd bob tro. Ble cawsoch chi’r gwyliau gorau? Aeth Aled, Meirion, Jane a minnau i Cuba bedair blynedd yn ôl, aethom ar drip deuddydd i Havana lle cawsom brofi diwylliant y wlad ar ei orau. Beth sy’n eich gwylltio? Bydd anwiredd yn codi fy ngwrychyn. Rwy’n siŵr fod llawer ohonom yn codi’n aeliau pan fyddwn yn darllen gwallau fel ‘to, two a too neu, their, there a they’re ar y Gweplyfr, yn enwedig pan fydd y geiriau’n famiaith i rai! Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Bod yn ddibynadwy, hwyliog ac yn bersonoliaeth didrafferth. Pwy yw eich arwyr? Dad (Thomas Owen) am ei dynerwch cariadaus tuag at bobl a’r byd o’i gwmpas. Evie Morgan oherwydd ei ddoethineb Ywain Myfyr oherwydd ei wybodaeth eang am hanes a diwylliant Cymru. Beth yw eich bai mwyaf? Mae gen i ddant melys. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Aros mewn caban to gwellt sydd ar bileri mewn gwlad drofannol fel Bora Bora efo ffrindiau a’r plant am wythnos. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Yr wythnos hon buaswn yn ei wario ar wneud yr ardd yn fwy deniadol i’r llygaid neu diwedd y flwyddyn hon byddaf yn dathlu fy mhenblwydd yn 50. Buasai £5000 yn talu am y trip i Efrog Newydd. Sut byddech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Dwi’n berson eitha’ beirniadol o fi fy hun felly mae’n debyg y buaswn yn dweud ddim digon ffit, tenau na chreadigol! Fel arall, rwyf yn ddigon prysur ac yn mwynhau gwario amser efo Aron ac Elliw (cyn iddyn nhw symud o adra)!

LLYTHYR

Cyfarfod Blynyddol Cyfeillion Geiriadur Prifysgol Cymru

Annwyl ddarllenwyr, Ar ddydd Sadwrn, 23 Mehefin, bydd cymdeithas Cyfeillion Geiriadur Prifysgol Cymru yn

cynnal eu cyfarfod blynyddol yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, am 2 o’r gloch. Y siaradwyr fydd Llywydd y Cyfeillion, y Prifardd Myrddin ap Dafydd, ynghyd â’r Athro Geraint H Jenkins, Dr Elin Jones, ac Andrew Hawke. Estynnir croeso cynnes i bawb. Bydd cyfle i ymweld â swyddfeydd y Geiriadur i gael ‘paned o de wedi’r digwyddiad. Yr ydym yn gobeithio cael

cwmni nifer o’n Cyfeillion, a hefyd croesawu Cyfeillion newydd – bydd modd ymuno â’r gymdeithas ar y diwrnod. Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan www.geiriadur.ac.uk, e-bostiwch cyfeillion@geiriadur. ac.uk, neu ffoniwch 01970 639094. Yn gywir Mary Williams Ysgrifennydd y Cyfeillion


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Diolch Dymuna Susanne, Angharad ac Elfyn Davies ddiolch yn fawr iawn am bob arwydd o gydymdeimlad a dderbyniwyd yn ystod eu profedigaeth o golli tad a thaid annwyl sef Ben Williams, Bae Penrhyn ar Fawrth 26. Gwerthfawrogwyd holl garedigrwydd ein ffrindiau a chymdogion. Rhodd £10

Elfyn Pugh Heb fod ymhell yn ôl yn y Llais gwelsom am anrhydeddu Elfyn (Pugh, Llwyn Onn, Llambad gynt) gan Undeb Rygbi Lloegr am ei gyfraniad i rygbi yn Swydd Stafford. Eto cafodd anrhydedd arall – y tro hwn yn anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines – y BEM – am ei gyfraniad i rygbi yn Swydd Stafford. Nid yw wedi derbyn y fedal eto – efallai y cawn lun ohono wedi hynny. Mae wir yn haeddu’r gydnabyddiaeth. Mae wedi gweithio’n ddiflino gyda chlwb rygbi Willenhall, lle mae’n byw, a dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi bod yn gweithio gydag ysgolion y sir. Go brin ei fod wedi gweld pêl hirgron pan oedd yn byw yn Llambad heb sôn am chwarae’r gêm! Yn ôl Elfyn un peth allai wedi bod yn well – cael yr anrhydeddau am wneud y gwaith yng Nghymru, ond efallai na fyddai wedi cael ‘anrhydedd’ yn ei wlad ei hun. Anaml iawn iawn y mae’n colli gêm ryngwladol Cymru!

AGOR SIOP

Mae Nansi ac Iwan, Dolgaseg wedi agor siop fach yn gwerthu cynrhon [maggots] a phryfed genwair. Os ydych yn bysgotwyr lleol fe wyddoch rŵan lle i gael gafael arnyn nhw! [Ffôn: 01341 241456 neu 07919 940008.]

Diffribilydd

Mae diffibrilydd newydd wedi ei osod ar wal y Fic bellach. Cewch rif PIN yr uned trwy alw 999. Talwyd am yr uned gan deulu ymwelydd rheolaidd â’r ardal a fu farw yn ddiweddar, er cof amdano. Grŵp Achub Calon y Dyffryn a osododd yr uned ar ran Cyngor Cymuned Llanbedr.

GWASANAETH CADW CYFRIFON ARDUDWY Cysylltwch â ni am y gwasanaethau isod: • Cadw llyfrau • Ffurflenni TAW • Cyflogau • Cyfrifon Blynyddol • Treth bersonol info@ardudwyaccounting.co.uk

R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU

Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch Capel Salem MEHEFIN 17 Parch Dewi Tudur Lewis 24 Parch Tecwyn Ifan Capel y Ddôl 10 Gretta Benn 17 Parch Gareth Rowlands 24 Parch Reuben Roberts

Teulu Artro Daeth y Teulu ynghyd ar Mai 1. Croesawyd ni gan Gweneira, ac yr oedd yn falch o ddweud bod y wennol a’r gog wedi cyrraedd erbyn hyn. Cydymdeimlwyd â Pam wedi colli chwaer yng nghyfraith, sef Jennie Jeffs, y Bermo. Llongyfarchwyd y Llywydd ar ddathliad deugain mlynedd o fywyd priodasol ei mab Alun a Moira ei wraig. Croesawyd Hilda Harris yn gynnes gan Gweneira. Diolch arbennig iddi am ddod atom yn flynyddol. Dechreuodd trwy sôn ychydig am y mwyngloddiau aur a fu yn ardal y Bontddu. Yn dilyn, cafwyd cwis. Diolchodd y Llywydd am brynhawn difyr. Enillwyd y raffl gan Hilda ac Elizabeth.

Yn yr ysbyty Cynhaliwyd cwrs hyfforddiant mewn defnyddio’r ddifribiliwr gan Tomos Hughes o Grŵp Achub y Dyffryn yn y Fic ar nos Fawrth, Mai 9. Diolch i gwmni Robinson’s a Ms Gemma Barry am ganiatâd i leoli’r uned yno. Llongyfarch Llongyfarchiadau i Elin Haf Jones, Uwch y Sarn, fu ym mhriodas Tywysog Harri a Meghan Markle yng Nghastell Windsor. Profiad cofiadwy iawn, dwi’n siŵr, Llongyfarchiadau hefyd i Mari Wyn Lloyd, Tyddyn Hendre, ar ennill gwobr Myfyriwr y Flwyddyn mewn Ffotograffiaeth yn y Coleg yng Nghaer.

Anfonwn ein cofion at Mrs Myfanwy Wannop, Llwynithel, sydd yn Ysbyty Dolgellau. Cydymdeimlo Cydymdeimlwn ag Aeron a Mair Richards, Ffynnon Mair. Bu i Euron golli ei frawd Norman o’r Wern, Llanfrothen, yn ddiweddar. Wedi cael triniaeth Dymunwn wellhad buan i Gwyn Jones, Wenallt ac Iolyn Jones, Tyddyn Llidiart; y ddau wedi bod yn cael triniaeth yn ddiweddar.

SAMARIAID Llinell Gymraeg 0808 1640123 3


LLANFAIR A LLANDANWG

Chris Trevitt o Penrallt,Llanfair

Hanes ymweliad â Chris Trevitt, gynt o Penrallt, Llanfair Roedd ei rieni yn ffermio yn Penrallt, ac oherwydd iechyd ei dad, mi aethon i Awstralia yn Rhagfyr 1966. Frank a Nora Trevitt oedd ei rieni, ac roedd dwy chwaer sef Pat a Sue. Maen nhw i gyd yn dal i feddwl y byd o Llanfair a’r ardal ac wedi dod yn ôl sawl gwaith ers hynna. Roedd Sue draw’r flwyddyn ddiwethaf, ac mae Pat yn dod yn ôl eto yr haf yma i aros gyda ni. Mae Chris a Corrine yn dod yn ôl eto hefyd am gyfnod o flwyddyn a hanner. Roedd Chris yn yr ysgol gynradd yn Llanfair gyda ni. Hogyn clefar iawn!! Ddim run fath â’r gweddill ohonon ni!! Gweithiodd yn y brifysgol yn Canberra am flynyddoedd cyn ymddeol Dolig diwetha. Aeth Gwen, finna, Catrin a Danial i aros gyda nhw ddwy waith o’r blaen yn Canberra, a mis Ionawr mi es i a Gwen i’w gweld yn Tasmania. Roedd Chris wrth ei fodd yn fanna am ei fod mor debyg i Gymru. Mae o’n hoff iawn o’i sgota, a bob tro mae o adra, dan ni’n gneud trip bach i’r llynnoedd lleol o gwmpas y Rhinogydd. Un tymor yn unig a gafodd yn Ysgol Ardudwy cyn dal y llong i Awstralia yn 1966. Cafodd lyfr gan ei ‘classmates’ wedi ei arwyddo ganddynt ac mae yn meddwl y byd o’r llyfr yna. Y peth cynta nath o ddangos i mi ar ôl cyrraedd yn Hobart! Lot o enwa o bobol leol a fysa’n darllen y Llais! Trip briliant gawsom ym mis Ionawr. Dal i fyny gydag Andrew Hughes (Hugsy bach o Ddolgellau, gyda’i frawd, Hugsy mawr!) yn Melbourne ar y ffordd ac wedyn Chris a Corrine yn Hobart, cyn mynd i Tanunda ger Adelaide i gyfarfod Sally Ann, un o ffrindiau gorau Gwen a oedd gyda hi yn y brifysgol. Wedyn mynd i ailweld rhai o’r llefydd gorau welais i gyda Gwynfor John, Dic Tŷ Cerrig a’r criw aeth ar daith y Llewod yn 2013. Great Ocean Road rhwng Adelaide a Melbourne a Sydney i orffen. Lle nesa? Cwm Nantcol, does na nunlla i’w guro! Dafi Owen

Richard Evans Diolch i Bethan Ifan, merch Richard Evans, cyn-brifathro Ysgol Llanfair, am y newyddion canlynol:

Staff Ysgol Llanfair yn 1968, o’r chwith i’r dde: Mrs Chambers, Gretta Benn, Richard Evans, Gwenllian Jones, Ceri Evans. ‘Roedd fy nhad, Richard Evans, yn brifathro Ysgol Gynradd Llanfair o 1967 – 1971. Bu farw yng Nghartref Nyrsio Madog, Porthmadog ar 12 Fai 2018. Byddai’n 82 oed ar y 26ain o Fai. Roedd o a mam yn byw yn Nolgellau ers 2007. Wedi gadael Llanfair, oherwydd i’r ysgol gau, cafodd dad swydd prifathro yn Ysgol Gynradd Cynwyd, bellach yn Sir Ddinbych, lle bu hyd ei ymddeoliad cynnar (oherwydd iechyd bregus) ym 1987. Symudodd fy rhieni i Ddolgellau yn fuan wedyn er mwyn bod yn nes at fy nhaid ar ochr fy mam a fy nain ar ochr dad. Wedi eu colli hwy, treuliodd fy rhieni gyfnod ym Mhenrhyncoch, ger Aberystwyth, nes dychwelyd i Ddolgellau yn 2007, lle y buont nes colli dad yn ddiweddar a lle mae mam yn dal i fyw. Er mai byr amser dreuliais i yn Llanfair - wnes i ddim mynychu’r ysgol yno ond yn hytrach cychwyn o’r newydd yn ysgol Cynwyd - yn Llanfair y bum hapusaf ac yno mae fy nghartref ysbrydol, fel petai. Bu farw fy nhad yng Nghartref Nyrsio Madog, Porthmadog ar 12 Fai, 2018. Byddai’n 82 oed ar y Mai 26.’ Bydd llawer o gyn-ddisgyblion Ysgol Llanfair yn cofio Mr Evans. Yn gweithio’n ysgol Llanfair yr un pryd roedd Anti Ceri (yn y gegin), Anti Dilys a Mrs Chambers (helpu efo’r plant a phres cinio). Meddai Bethan: ‘Dwi’n cofio Mrs Chambers - roedd ganddi gath o’r enw Marmy!’ Cydymdeimlwn â’r teulu yn eu colled.

MARATHON LERPWL

Neuadd Goffa, Llanfair

GYRFA CHWIST

Y drydedd nos Fawrth yn y mis am 7.00 o’r gloch Croeso i ddechreuwyr.

Llongyfarchiadau calonnog i Damon John sydd wedi cwblhau marathon arall mewn amser anhygoel, y tro hwn yn Lerpwl ar Ddydd Sul, Mai 20. Llwyddodd i redeg y marathon mewn 3awr a 40 munud.

4

Llais Ardudwy Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/llaisardudwy/ docs


Y MIS YMA GAN MLYNEDD YN ÔL

SIERCYN Y BERMO Daeth clamp o bysgodyn pur ddieithr i rwyd pysgotwyr bau’r Bermo ddydd Gwener diweddaf, sef un o’r hil a eilw’r Saeson yn angel-fish neu monkfish, a hynny, mae’n debyg, oherwydd y tiriondeb addfwyn sydd yn ei drem a hugan y defosiwn mynachaidd sydd tua’i gorun. Yr oedd yn bum troedfedd o hyd; pwysai dros 50 pwys; a chanddo dair rhes o ddannedd. Dyma’r cyntaf un o’i fath a ddaliwyd erioed y ffordd honno ac wedi hir fustachu i’w gael i’r lan, dyma’i droi’n elw rhag blaen drwy godi tâl am ei weld, a chyflwyno’r arian i drysorfa’r Groes Goch. Y Brython, 6 Mehefin 1918 RHODD FAWR HAELIONUS Adroddir fod perchennog stâd fawr Corsygedol, Dyffryn Ardudwy, (M Dangerfield) wedi cyflwyno’r cyfryw yn rhodd i’r symudiad mawr daionus, Cymdeithas Gristionogol y Gwŷr Ieuainc, yr YMCA, yr hyn a olyga filoedd lawer o ran gwerth ariannol. A deallwn fod Syr Arthur Yapp, Llywydd y Sefydliad, wedi bod yn talu ymweliad â’r etifeddiaeth werthfawr hon yn ystod y dyddiau diweddaf. Yn ôl pob tebyg, bydd yr holl eiddo yn cael ei werthu yn ddiymdroi. A dyna gyfle ardderchog i un o’n Cymry cyfoethog i ddod i sefydlu mewn hen balasdy rhamantus, a byw yng nghanol sir fach wen a dymunol odiaeth - Meirionnydd. Y mae mwy nag un o flaen llygad ein meddwl y carem eu gweled yn perchenogi Corsygedol o uchel fri. Pwy fydd o, tybed? Yr Herald Cymraeg 4 Mehefin 1918 Neuadd Gymuned Talsarnau

Noson o Adloniant gyda TRIO ac Annette Bryn Parri Nos Sadwrn, Medi 29, 2018 Tocyn: £10 Tocynnau ar gael rŵan gan Mai Jones 01766 770757 ac Anwen Roberts 01766 772960 Elw at gostau cynnal y Neuadd Gymuned

GWIBDAITH I YNYS MOCHRAS Dydd Gwener, Mehefin 7 aeth rhan o Ysgol Sul y Wesleaid, Dyffryn am wibdaith i Ynys Mochras. Rhoddwyd y bwyd i gyd gan Mrs Williams, y Gornant, a Mrs Williams, Llanddwywe. Gwasanaethwyd wrth y byrddau gan Misses Bessie, Annie, Lizzie, ac Elizabeth Ellen Williams, a mwynhawyd dau bryd o fwyd ardderchog. Talwyd costau y brakes a’r ceffylau gan Mr Owen David Williams, gwas yng ngwasanaeth Mrs Wiiliams, Gornant, a mawr yw ein diolch i bawb sydd â’u henwau uchod am eu caredigrwydd yn rhoddi treat mor ddymunol. Cafwyd cinio a the allan ar y Green, a phawb yn edrych wrth ei fodd. Gwyliedydd Newydd 26 Mehefin, 1918 STELIN Y STRYD Y mae (neu o leiaf yr oedd) yn Harlech, ar ochr y stryd ger y fynedfa at yr eglwys, hen garreg fawr a elwid yn Stelin y Stryd (a chyda llaw dyma air a ddefnyddir yn gyffredin yng ngorllewin Meirion, sef Stelin neu Ystelin, nas gwelais i mewn unrhyw eiriadur). Yr oedd yn ddywediad gan hen bobl Harlech, os syrthiai neb ar y garreg hon nad âi’r cyfryw un o Harlech mwy neu os deuai rhywun i fyw i’r dre o gymdogaeth arall, dywedid ei fod wedi syrthio ar Stelin y Stryd, ac mai yn Harlech y byddai mwy. IEUAN AP IOAN Y Brython 20 Mehefin 1918

ARWERTHIANT AR WARTHEG YN HARLECH Ddydd Mercher cynhaliodd Mr Robert G Jones arwerthiant hynod o lwyddiannus yn Harlech ar nifer fawr o wartheg stôr, cyplau, myllt, ac ati. Wele ychydig enghreifftiau o’r prisiau: Tynyraerau, 3 dynewad, £40 10s; Bryndirion, Dyffryn, buwch min llo £30 12s 6c, eto, £27 2s 6c; Llechwedd Du, heffer, £18 7s 6c; Llechwedd Du Mawr, dau ddynewad, £15 y pen; Llety, 2 ddynewad, £13 10s y pen; Cefnfilltir, tarw 14 mis oed, £15 10s, un arall £14 7s 6c; heffer gyflo, £24 7s 6d; buwch gyflo, £27, £27 10s; Brwynllynau, buwch wag, £23; Ymwlch, heffer gyflo, £24 10s; Rhosigor, 8 o ddynewid gyrfod, £17 y pen; Fucheswen, buwch wag, £23, heffer gyflo £28 10s; Glan-y-môr, dynewid, amryw, o £11 15s i £17 5s; Cefngwyn, buwch yn ei phroffit, £28 5s; Glanrafon, Dyffryn, buwch £24; Moelgeifr, buwch laeth, £25; Cefn Trefor Fawr, buwch gyflo, £25 15s; Castle Cottage, 2 heffer £21 yr un; W Owen, butcher, 2 heffer, £47 5s; Davies, Llandanwg, heffer gyflo, £28; Pugh, Llandanwg, heffer gyflo £28 5s; 2 ddynewid gyrfod, £16 17s 6d y pen; Ymwlch, 2 eidion, £22 5s y pen; Tŷ Cerrig, heffer gyflo, £27 5s; Plas Llandecwyn, eidion, £26 15s, 4 arall £20 12s 6d yr un, 3 heffer wag £23 y pen, heffer gyflo £23 10s... 11 Mehefin 1918

Llais Ardudwy DEDDF DIOGELU DATA Oherwydd rheolau newydd yn ymwneud â phreifatrwydd a data personol a ddaeth i rym ar Mai 25 [y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol neu GDPR] bydd raid inni wneud rhai newidiadau i’r ffordd y mae Llais Ardudwy yn casglu gwybodaeth a newyddion. Bydd ysgolion a grwpiau meithrin yn gorfod datgan eu bod wedi sicrhau caniatâd rhiant neu warcheidwad pob plentyn i gynnwys gwybodaeth am eu plant neu luniau ohonyn nhw yn adroddiadau’r ysgol i’r papur wrth anfon pob adroddiad i Llais Ardudwy. Ni dderbynnir lluniau a chyfarchion pen-blwydd plant ond gan rieni neu warcheidwaid y plant.

Arloesi Gwynedd Wledig

GRANTIAU AR GAEL

Os oes gennych brosiect mewn golwg a fyddai’n helpu eich cymuned i fod yn fwy cynaliadwy, efallai bod y Gronfa Cymunedau Creadigol gyda hyd at £10,000 ar gael fesul cais yn gyfle i chi a’ch cymuned. Cysylltwch ag Arloesi Gwynedd Wledig trwy eu gwefan am ragor o wybodaeth.

DYDDIADAU GOSOD 2018

Fel y gŵyr y cyfarwydd, caiff y papur ei argraffu ar y dydd Llun cyntaf ymhob mis [ar wahân i fis Awst]. Byddwn, fel arfer, yn gofyn i’r deunydd gyrraedd Haf Meredydd erbyn y dydd Llun cyn y diwrnod gosod. Dyma’r dyddiadau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod: NEWYDDION I LAW GOSOD Y PAPUR PAPUR AR WERTH Mehefin 25 Awst - 27 Medi 24 Hydref 29 Tachwedd 26

Mehefin 29 Awst 31 Medi 28 Tachwedd 2 Tachwedd 30

Gorffennaf 4 Medi 5 Hydref 3 Tachwedd 7 Rhagfyr 5

Diolch am bob cymorth.

5


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Er cof am Doris Griffith, Swyn y Grug, Llanfair

Yn dawel ar 13 Ebrill bu farw Doris Griffith yn 96 oed yng nghartref y Llwyn, Dolgellau, lle’r oedd wedi cael gofal tyner am y ddwy flynedd ddiwethaf. Un o blant y Dyffryn oedd hi, wedi ei magu yn Glasfor, y pedwerydd plentyn i Lewis a Margaret Lewis. Fe’i haddysgwyd yn yr ysgolion lleol cyn mynd i weithio i siop drapers Morris yn y Bermo ac wedyn i nyrsio i Ysbyty Dolgellau gyda llawer o ganmol i’w gofal tyner tuag at y cleifion a’u teuluoedd. Dechrau canlyn efo William Griffith wedyn, oedd ar y môr, a priodwyd y ddau yn Horeb mis Ionawr, 1946. Buan tra’r oedd William ar un o’i fordeithiau prynodd Wendon heb ddweud dim wrtho, a threfnu i gael gwneud y gwaith atgyweirio arno cyn iddo ddod adre. Ganwyd Edward yn 1951 ar ôl genedigaeth anodd pan y fu iddo gael ei amddifadu o ocsigen ac angen gofal trwy gydol ei oes fer. Mawr fu ei gofal ohono, ynghyd â’i thad a’i mam a hynny am gyfnodau hir ar ei phen ei hun. Cafodd ergyd drom o golli ‘Edward bach’ yn 1961, ei thad yn 1962 a’i mam ddwy flynedd yn ddiweddarach a hyn i gyd tra’r oedd William i ffwrdd. Cafodd fynd wedyn aml i waith efo William ar ei fordeithiau i Orllewin Affrica pryd y gwnaeth ffrindiau oes efo cyd-wragedd y criw a rhai eraill oedd ynghlwm â’r cwmni yn y porthladdoedd. Un stori oedd ganddi oedd bod yn sâl môr ofnadwy ers dyddiau ac mi ofynnodd i William stopio’r llong am ychydig. “Wel, fedra’i ddim,” meddai yntau. “Wel, galli siŵr, ti ydy’r Capten,” oedd ei hateb hithau. Pan na fyddai’n mynd efo fo ar ei fordaith, byddai yn ei ddanfon i Lerpwl i ddal ei long a’i nôl pan ddeuai’r amser i Avonmouth a byddai gwahoddiad i deulu neu ffrindiau fynd efo hi a chael aros noson ar y llong cyn troi am adre y diwrnod wedyn. Ar ôl ymddeoliad William, mwynhaodd y ddau eu bywyd yng nghwmni ei gilydd a Mandy y pwdl. Roedd Doris yn weithgar efo Sefydliad y Merched a’r ddau ynghlwm â Theulu Ardudwy. Symudodd y ddau i Swyn y Grug, Llanfair, lle’r oeddant wrth eu boddau yn garddio a cherdded Mandy, chwarae ‘bridge’ a mynd am dripiau efo Caelloi. Yn 1996, bu farw William ond buan iawn oedd angen ei gofal eto wrth nyrsio ei annwyl chwaer Menas oedd yn araf golli ei meddwl. Rhwng y sioc o golli ei gŵr ac afiechyd Menas, cafodd ei tharo ag afiechyd cas lle’i parlyswyd hi a cholli ei gallu i gerdded. Bu yn Walton am dair wythnos cyn dod yn ôl i Fangor ac i Frongarth i ail ddysgu cerdded. Unwaith eto, dangosodd ddygnwch a dyfalbarhad. Rai blynyddoedd ynghynt, roeddent wedi cyfarfod Josie ac wedi gofyn iddi ddod i’w helpu nhw. Ond, buan iawn datblygodd i fod yn fwy na pherthynas cydweithwyr rhwng Josie a hi. Dros y blynyddoedd bu’r ddwy, heb anghofio Dave, yn mwynhau dyddiau allan efo’i gilydd a pherthynas y ddwy debycach i fam a merch. Yn wir, oni bai am Josie, fydda hi ddim wedi parhau yn ei thŷ cyn hired. Ers y Nadolig, roedd wedi dechrau mynd ar i lawr a mwy o sôn ei bod eisiau mynd at ‘Edward bach’ fel roedd wedi sgwennu yn ei dyddiadur fis Mawrth. Mi gawsoch eich dymuniad, Anti Doris. Bydd bwlch mawr ar eich hôl, ond llawer o atgofion o’r ffeithiau ffraeth a di-flewyn ar dafod. Cysgwch yn dawel efo ‘Edward bach’ a William. Diolch Dymuna teulu Doris Griffith ddiolch i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad yn eu profedigaeth.

CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT Cyhoeddiadau’r Cadeirydd Ar ran y Cyngor cydymdeimlodd y Cadeirydd â Sian Edwards a’r teulu yn eu profedigaeth o golli ei mam. Ethol Swyddogion am y flwyddyn 2018/19: Cadeirydd: Emrys Jones, Is-gadeirydd: Siân Edwards. Pwyllgor Elin Humphreys: Cadeirydd. Cynllunio a chyllid: Cyngor Llawn. Y fynwent: Cadeirydd, Is-gadeirydd, John Ellis Williams a Steffan Jones. Seddi: Cadeirydd, Is-gadeirydd, Edward Williams a Siôn Ifor Williams. Maes parcio: Cadeirydd, Is-gadeirydd, Cyng John Ellis Williams, Edward Williams a John Ceri Evans. Un Llais Cymru: Cadeirydd a Steffan Chambers. Llwybrau cyhoeddus: Cadeirydd, Is-gadeirydd, Edward Williams, Siôn Ifor Williams ac Edward Griffiths. Hamdden Harlech ac Ardudwy: Steffan Jones a Michael Tregenza. Llywodraethwyr Ysgol Gynradd: Michael Tregenza Neuadd bentref: Cadeirydd, Edward Williams, Steffan Chambers ac Edward Griffiths Wrth ymadael â’r Gadair diolchodd Edward Griffiths am y fraint o gael bod yn Gadeirydd am y ddwy flynedd ddiwethaf a nododd ei fod wedi mwynhau’r amser yn fawr iawn a diolchodd i’r Cynghorwyr a’r Clerc am eu gwaith; hefyd dymunodd y gorau i’r Cadeirydd newydd, Emrys Jones. Diolchodd Emrys Jones i’r aelodau am ei ethol yn Gadeirydd a theimlodd hyn yn fraint fawr; hefyd datganodd y byddai yn gwneud ei orau dros y ddwy gymuned. Hefyd, diolchodd i’r cyn-Gadeirydd, Edward Griffiths, am ei waith diflino i’r Cyngor yn ystod ei amser fel Cadeirydd, hefyd am gael y cyfle i gydweithio gydag ef ar sawl achlysur. Datblygu Maes Parcio Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod gan Mr Geraint Lewis ei fod wedi anfon y cais cynllunio am y datblygiad uchod i’r Parc Cenedlaethol ond nad oedd wedi talu’r gost gofrestru. Cytunwyd bod y Clerc yn cysylltu gyda’r Swyddogion i weld faint oedd y gost a mynd â siec i swyddfa’r Parc Cenedlaethol. Unrhyw Fater Arall Datganwyd, oherwydd nad oedd arwyddion 30 mya ar ben Ffordd Glan y Môr, bod goryrru yn digwydd i lawr y ffordd dan sylw gan bobl leol ac ymwelwyr gan eu bod yn meddwl nad oedd cyfyngder o 30 mya i lawr y ffordd hon. Cytunwyd y dylid gofyn a fyddai’n bosib gosod arwyddion ‘dim aros dros nos’ yn ôl mewn cilfannau. Oherwydd nad oedd BT wedi cymryd sylw o bryderon y Cyngor ynglŷn â’r polyn yn culhau Ffordd Tyddyn y Felin, roedd y Clerc rŵan am gysylltu gyda’r Adran Briffyrdd yn gofyn iddynt weithredu ar y mater.

Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd

Tel: 01341 247799

www.smithygarage-mitsubishi.co.uk smithygaragedyffryn

smithygarageltd

Rhodd £10

Rhodd Diolch yn fawr iawn i Enid Owen, Heulwen P Jones a Meurig Jones am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu eu tanysgrifiadau.

6

Gwasanaethau’r Sul, Horeb MEHEFIN 10 Edward ac Enid Owen 17 Parch Gareth Rowlands 24 Parch Reuben Roberts GORFFENNAF 1 Taith yr Eglwys

Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes


Teulu Ardudwy Cynhaliwyd ein Cyfarfod Blynyddol yn y Neuadd Bentref ar Fai 16. Cafwyd cip yn ôl ar y tymor ac adroddiad ariannol gan y trysorydd. Yna casglwyd syniadau ar gyfer y tymor nesaf. Gwnaed trefniadau at gyfarfod olaf y tymor pan fyddwn yn mynd am de prynhawn i Fron Eifion yng Nghricieth ar Fehefin 20. Llongyfarch Llongyfarchiadau i John a Tabby Evans ar enedigaeth mab bach, Morgan Dafydd. Ŵyr bach newydd i Carol Jones, Clogwyn Villa, Harlech a Hefin a Bethan Evans, Eithin Fynydd, Tal-ybont.

FFAIR HAF

yn Neuadd yr Eglwys Dyffryn Ardudwy Dydd Mercher, Awst 1 2:00 - 4:00 Digon o hwyl a gemau i’r holl deulu Stondinau, Rafflau a Lluniaeth Ymunwch â ni!

Cyngerdd Tri Chôr gyda

Côr Meibion Dwyfor, Côr Meibion Ardudwy a Cana-mi-gei yn

Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy Nos Sul, Mehefin 24 am 7.30 o’r gloch Mynediad:

TE MEFUS A HUFEN

Ar bnawn Gwener, Mehefin 22, cynhelir ‘Te Mefus a Hufen’ yn Neuadd yr Eglwys, Dyffryn Ardudwy. Cadwch lygad am y posteri!

ENGLYN DA

YN YR HEN GARTREF

Gweld ’deryn gwyllt, gweld derwen gam, - gweld mawn A gweld môr yn wenfflam; Gweld brwyn ar dwyn dinam A gweld mwg aelwyd mam. J J Williams, 1869 - 1954

HARLECH TOYOTA

Ffordd Newydd, Harlech 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@ harlech.toyota.co.uk facebook.com/ harlech.toyota Twitter@ harlech_toyota

Cofio Dorothy

Ganwyd Mam ar Ragfyr 1, 1938 yn Amlwch, yn ferch i Llew a Mary Jones a chwaer fach i John a Ken. Aeth i Ysgol Gynradd Amlwch cyn symud, yn 11 oed i Ysgol Dr Williams, Dolgellau i gael ei haddysg uwchradd. Tra yn Ysgol Dr Williams (DWS) bu i Mam gyfarfod â Dad a oedd yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Dolgellau. Roedd Dad yn un o griw o hogia oedd yn mynd o’r ysgol uwchradd i gael gwersi gwyddoniaeth yn Ysgol Dr Williams bob wythnos. Ar ôl gadael ysgol, aeth Mam i Lerpwl i astudio nyrsio ac ar ôl cymhwyso cafodd swydd fel ‘Sister’ yn yr adran ddamweiniau yn y Liverpool Royal Infirmary, lle’r oedd Dad hefyd yn gweithio fel ‘Houseman’. Priodwyd Mam a Dad yng Nghapel Mawr, Amlwch ar Orffennaf 29, 1961 ag ymgartrefodd y ddau yng Nghaer. Ddeunaw mis yn ddiweddarach, ganwyd Richard. Pan oedd Rich yn 7 mis oed, cafodd Dad ei swydd gyntaf fel meddyg teulu yn Bermo ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno, ganwyd Hywel. Saith mlynedd wedyn, a Dad, Mam, Rich a Hywi erbyn hynny wedi ymgartrefu yng Nghraig-yr-Wylan, Llanaber, fe landies i! Ar ddechrau’r 70au, cafodd Mam swydd yng Ngholeg Meirionnydd, Dolgellau. Yn ystod ei hamser hamdden, roedd Mam yn mwynhau ystod eang o chwaraeon. Tra yn Ysgol Dr Williams, bu’n gapten ar dîm hoci’r ysgol a chwaraeodd i dîm Ysgolion Meirionnydd. Parhau wnaeth ei diddordeb mewn chwaraeon ar ôl gadael yr ysgol a bu’n chwarae criced i dîm ‘Liverpool Ladies’ yn ystod ei hamser yn Lerpwl. Mae’n debyg fod gan bobl gof o Mam a Dad ar gyrtiau tenis y Bermo yn ddyddiol yn ystod y tymor tenis. Roedd hefyd yn mwynhau chwarae sboncen a sgïo ac enillodd Bencampwriaeth Parau Tenis Bwrdd Merched y Wawr Cymru ychydig o flynyddoedd yn ôl.

Roedd Mam yn un dda am gadw mewn cysylltiad â phobl ac roedd yn chwarae rhan bwysig wrth drefnu aduniadau blynyddol i ‘Old Girls’ y DWS ac hefyd i gyn-nyrsus yr Infirmary. Yn ogystal â threfnu aduniadau, roedd ei chymuned leol a gwaith elusennol yn bwysig iawn, iawn iddi. Dros y blynyddoedd bu’n gwirfoddoli ac yn codi arian i nifer fawr o elusennau gan gynnwys y Groes Goch, Action Research, y Jubilee Sailing Trust, PHAB a’r RNLI. Roedd hefyd yn aelod ffyddlon ac yn flaenor yng Nghapel Caersalem y Bermo ac yn aelod o’r Gymdeithas Gymraeg ac yn gyn-gadeirydd cangen leol Merched y Wawr. Roedd Mam wrth ei bodd yn teithio’r byd ac yn dysgu am wahanol wledydd a diwylliannau. Teithiodd sawl cyfandir gan gynnwys America, Awstralia ac Asia a bu’n ymweld â sawl gwlad yn Ewrop ar wyliau sgïo a gwyliau haf hefo’r teulu. Roedd wrth ei bodd yn trefnu teithiau ar draws Gogledd America hefo’i dwy chwaer yng nghyfraith (Haf a Betty) ac mi oedd y dair yn digwydd bod yn ‘galifantio’ rhywle rhwng Washington DC a New Orleans pan dorrwyd y newyddion am drychineb 9/11. Er gwaetha’r trafferthion, ddaeth y dair yn ôl adra’n ddiogel a dim gwaeth ar ôl y profiad. Yn 2000 bu Mam a Hywel ar daith o amgylch y byd am dros 5 wythnos, gan ymweld â Los Angeles, Hawaii, Seland Newydd, Awstralia a Singapore. Cafodd y ddau amser bythgofiadwy yn dal i fyny a chyfarfod â hen ffrindiau a theulu ar hyd y daith. Bu i Dad ymddeol fel meddyg teulu ym mis Awst, 1992 ond yn anffodus oherwydd ei iechyd, ni chafodd yntau na Mam lawer o gyfle i fwynhau eu hymddeoliad. Cafodd Dad gystudd hir a blin a rhaid diolch yn fawr iawn i Mam am ei gofal tyner ohono dros y blynyddoedd. Yn anffodus, cymerwyd Mam yn wael yn 2009 ond brwydro drwyddo’n ddewr a di-ffwdan a wnaeth. Wedyn ym Medi 2015 dioddefodd strôc a newidiodd ei bywyd yn llwyr. Er gwaetha hyn, parhau wnaeth Mam i frwydro ac i ofalu am Dad tan fu i iechyd y ddau ohonynt ddirywio yn ystod y 6 mis diwethaf. Bu Dad farw ar Ionawr 26 eleni a chollodd Mam ei brwydr ddewr hithau ar Ebrill 21. Doedd gan Mam byth air drwg i’w ddweud am neb ac er gwaethaf y boen a’r ddioddefaint, hyd at y diwedd roedd yn dal i roi pobl eraill yn gyntaf. Rydym fel teulu’n ddiolchgar iawn i bawb am y caredigrwydd a’r cydymdeimlad a ddangoswyd yn ein profedigaeth. Rhodd a diolch £10 Siân

7


HARLECH

Teulu’r Castell Croesawyd pawb i’r cyfarfod a gynhaliwyd ar Mai 8 yn y Neuadd Goffa, Llanfair, gan Lywydd Merched y Wawr, sef Hefina Griffiths a rhoddodd groeso hefyd i Mrs Pat Thomas oedd wedi dod i wneud ‘beetle drive’ i’r aelodau. Diolchodd Edwina iddi am y croeso ac i aelodau o Ferched y Wawr am roi eu hamser i baratoi a gwneud te ac am y rafflau roedd yr aelodau wedi eu rhoi at y prynhawn. Trist iawn oedd gorfod cydymdeimlo gyda thri teulu, sef teulu M M Williams, teulu Mair Evans a theulu Gwenda Jones; Mair, Mair Meredydd a Gwenda wedi bod yn dair aelod ffyddlon ar hyd y blynyddoedd; colled fawr i Deulu’r Castell. Dymuniadau gorau i Sybil Smith ac i bawb arall sydd ddim yn dda. Fe fydd te Teulu’r Castell yn Ysgol Tanycastell ar brynhawn dydd Mercher, 13 Mehefin, am ddau o’r gloch. Ar ôl trafod y busnes, cawsom hwyl yn chwarae’r ‘beetle drive’ gyda Pat, rhai’n ennill a rhai ohonom yn methu cael rhif 6 ar y dîs, ac yn methu cychwyn tan y funud olaf. Yna cawsom de blasus fel arfer wedi ei baratoi gan Ferched y Wawr. Pawb yn mynd adref wedi cael prynhawn yn llawn o hwyl. Diolchwyd i Ferched y Wawr gan Edwina.

ENTREPRENEUR IFANC Y FLWYDDYN

I GYFARCH GERALLT AC ANN AR EU PRIODAS AUR Ein gwych gôr o gantorion Heno sydd yn ôl y sôn Am ganu anthem gynnes O barch i gyfarch dau gês. Mae yma le i aml un I dystio i lwnc destun.

Llongyfarchiadau i Freya Bentham, sydd wedi cael ei gwobrwyo â Gwobr Entrepeneur Ifanc yng Nghinio Wythnos Fusnes Cyngor Gwynedd. Dyma uchafbwynt blynyddoedd prysur i Freya. Cymerodd lês ar Gaffi’r Castell yn Harlech, yng nghanolfan ymwelwyr newydd Castell Harlech. Dyma ei hail fenter lwyddiannus ar stryd fawr Harlech, wedi iddi agor ei busnes cyntaf, caffi’r Llew Glas, sy’n parhau i fynd o nerth i nerth ac yn gwerthu bwyd cartref blasus. Wrth dderbyn y wobr mewn seremoni yng Nghanolfan Rheoli Prifysgol Bangor, diolchodd y ferch 29 oed i’w mam am ei chefnogaeth, i’w staff ac i Jan a Geoff Cole a’i henwebodd ar gyfer y Wobr ac a oedd wedi rhoi iddi ei swydd gyntaf ym maes arlwyo. Derbyniodd ei gwobr gan Dafydd Elis Thomas AC. Arian at elusennau Codwyd £2740 gan elusen y capteiniaid, Edwin Jones a Diane Lamkin, yng Nghlwb Golff Dewi Sant eleni. Caiff yr arian ei rannu’n gyfartal rhwng yr Ambiwlans Awyr ac Ymchwil Canser Gogledd Cymru. Llwyddiant Llongyfarchiadau i Rachel, Stiwdio Gwallt y Castell am ennill gwobr ‘Salon Gorau Gogledd Cymru 2018’ yng ngwobrwyon Gwallt a Harddwch Cymru. Cafodd y wobr yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 13 Mai eleni. Mae Rachel, Dawn a Sophie yn diolch i bawb am eu cefnogaeth ar hyd y flwyddyn; heb eu cefnogaeth ni fuasai’r anrhydedd wedi dod iddyn nhw.

Cyhoeddiadau’r Sul Capel Jerusalem MEHEFIN

3 Parch Dewi Morris am 2.00 10 Undebol - Rehoboth 24 Parch Iwan Ll Jones am 3.30

Garej rhain sy’n gain i gyd – Yn llawn afiaith, llon hefyd; Dau glên barha i wenu Yn wyneb pob ateb, bu Rhoi fôt i’r hen Doyota Yn ddi-os yn arfer dda! Gerallt a’i holl jôcs geiriol – Di-ail yw ef a di-lol; Ymddiddan, herian a hwyl Yw hanes y gŵr annwyl; Ei straeon ddeil i’n llonni, Eu mwynhau a wnaethom ni. Hithau Ann, heulfan ein hwyl, Unwn i foli un annwyl! Tonic yw, a’r tynnu coes Mynych yn falm i einioes; Heddiw cyfarchion gweddus Rown ni er llonni ei llys. Gwir wreiddyn y ddeuddyn ddaeth I’w rhawd yn eglur odiaeth; At rai, waeth beth fyddo’u tras Mynych fu eu cymwynas; Yn hedd a hwyl y dydd hwn Mwyniant iddynt ddymunwn. PM

Sefydliad y Merched sef y Bala 26 Mai, Caerdydd 5 Croesawyd yr aelodau i’r a 6 Mehefin, a the ‘Vintage’, 28 cyfarfod ar 9 Mai a gynhaliwyd Mehefin. yn Neuadd Goffa Harlech, gan Fe fydd Jan Cole yn cynrychioli Diolch y Llywydd Jan Cole. Rhoddwyd Harlech, Llanfair a Bermo yng Dymuna Bryn, Eleri a Rhys cardiau pen-blwydd i aelodau Nghaerdydd a chynnig ar iechyd a theulu’r ddiweddar Mair oedd yn dathlu pen-blwydd y meddwl sydd wedi cael pleidlais Elisabeth Evans ddiolch o galon mis yma. y 3 cangen. i bawb sydd wedi cysylltu gyda Cawsom hanes y cyflwr ariannol Mae Christine Hemsley wedi negeseuon o gydymdeimlad, y gan y trysorydd ac apêl i gael trefnu prynhawn a the yn galwadau ffôn, cardiau, blodau help i werthu mwy o lyfrau Nhyddyn Sachau ar brynhawn a chacennau! Diolch hefyd i hanes Harlech. dydd Mawrth, 22 Mai. Gwen Edwards am arwain y Mi oedd y llyfr Brethyn Cartref, Ar ôl trafod y busnes, cawsom gwasanaeth ac i gwmni Pritchard coffâd i Dorothy Harper, ar noson gyda Kim McGulgan a a Griffiths Cyf am eu trefniadau Bore Coffi werth, ac roedd 150 wedi eu siaradodd ar gynnyrch y Body Ar fore Sadwrn, Gorffennaf 7, effeithiol. gwerthu ers Ebrill a dim ond Shop. cynhelir Bore Coffi yn yr Hen Diolch a rhodd £10 ychydig ar ôl. Y model oedd Ross, a chafwyd Lyfrgell, Harlech, rhwng 10.00 o’r Darllenwyd y llythyr o’r Sir a noson dda iawn. Rhoddwyd y gloch a 12.30 y prynhawn. Pen-blwydd chofnodwyd dyddiadau o bwys, diolchiadau gan Myfanwy Jones. Dewch i gefnogi. Pen-blwydd hapus iawn i Lisa Rayner sydd wedi dathlu ei Diolch Noson Goffi Ymchwil Canser phen-blwydd yn 40 oed ar Mai Dymuna Ann a Gerallt Evans, 2 Trem-y-don ddiolch yn ddiffuant Cynhelir yn Neuadd Goffa, 25. Gobeithio dy fod wedi cael i bawb am yr holl gyfarchion a dderbyniwyd ganddyn nhw ar diwrnod i’w gofio. Dymuniadau Harlech, am 6.30 yr hwyr ar achlysur dathlu eu priodas aur. Llwyddwyd i gasglu £1300 at Mehefin 8. Adloniant gan gorau gan y teulu a dy ffrindiau elusennau amrywiol yn dilyn swper yn y Clwb Golff. ddoniau lleol. Tombola a raffl. i gyd. Rhodd a diolch £10 Mynediad £1.

8


Y BERMO A LLANABER BETI JONES 1923-2018 Wrth i Olwen a Dilys, merched Beti, chwilio am lun ar gyfer y gwasanaeth angladd, sylweddolodd y ddwy nad oedd llun i’w gael o’u mam heb fwclis o berlau o gwmpas ei gwddf. A dyna oedd man cychwyn teyrnged y Parchedig Owain Llŷr Evans i Beti Jones, gynt o Tremydon, Y Bermo, yng Nghapel Minny St. Caerdydd ar Fai 1af. Beti, dynes y perlau. Perl o ddynes. Bu farw Beti yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd ar Ebrill 13eg yn 94 mlwydd oed. Cafodd ei geni a’i magu yn y Bermo ac yno bu fyw am 89 o’r blynyddoedd hynny, yn wraig i Ioan Jones, cyn-glerc Cyngor Tre Abermaw. Un o deulu adnabyddus y Morisiaid oedd Beti, teulu morwrol oedd wedi byw a gweithio ar gei’r Bermo am genedlaethau. Y capel oedd llwyfan cyntaf Beti. Cafodd ei bedyddio ym mhwll sêt fawr Capel y Bedyddwyr ac yn y fan honno bu’n adrodd, fel ei mam o’i blaen, dalpau mawr o’r Beibl ar ei chof. Yn 1939, yn ystod yr haf cyn yr Ail Ryfel Byd, Beti oedd Brenhines Carnifal Y Bermo. Yn ferch ifanc roedd hi’n dipyn o actores, yn cymryd rhan mewn sawl cynhyrchiad o Gymdeithas Ddrama’r Bermo. Gan bod y môr yn ran annatod o fagwraeth Beti, pwy arall base hi’n priodi ond morwr? Pan gyfarfu Beti ag Ioan, roedd e’n gweithio fel Swyddog Radio yn y Llynges Fasnach. Gŵr o Bontddu, roedd Ioan yn barod i roi’r gorau i deithio’r byd a setlodd y pâr priod yn Tremydon, gyda golygfa odidog o’r môr oedd yn holl bwysig i’r ddau ohonynt. Fel cenedlaethau o deulu Beti o’i blaen, rhoddodd Ioan a Beti flynyddoedd o wasanaeth i Fad Achub Y Bermo, Ioan fel Ysgrifennydd Anrhydeddus am dros ddeng mlynedd a Beti fel trysorydd. I ddeud y gwir doedd dim llawer o bethau yn digwydd yn y Bermo heb i Beti fod yn rhan ohonynt – y Gymdeithas Gymraeg, Y Lit & Deb, WI, Merched y Wawr a Chapel Siloam. Mor amlwg ym mywyd Y Bermo, roedd Beti’n hoff o bobl, ac yn hoff o sgwrsio. Mae pawb yn

cofio’r wên gynnes – “y wên na phyla amser”. Ac mae pawb yn cofio’r dillad. Dynes gyda chydig o steil oedd hi; welwyd hi erioed mewn pâr o drwsus! Cymerodd Beti ofal o’i mam am flynyddoedd lawer a phan fu Ioan farw yn 2009, tro Beti oedd hi i dderbyn gofal gan ei merched hi. Ond roedd rhaid gadael Tremydon a symud i Gaerdydd. Nid peth hawdd, gan bod gwreiddiau lan y môr yn ddwfn a chryf. Ond roedd Beti’n gryfach. Er colli hen ffrindiau, yn arbennig ei chyfnither, Beryl Morris, cafodd Beti bum mlynedd hapus iawn yn y brifddinas wrth fyw gyda’i theulu. Roedd yna gwmniaeth gynnes a digon o gyfle i fynd allan am goffi, i gyngherddau a’r theatr. Cafodd groeso mawr yng Nghapel Minny St, a daeth yn aelod yno ymysg llu o ffrindiau newydd. Mae perlau gwerthfawr a phrin yn ffurfio a thyfu yn y môr, meddai’r Parchedig Owain Llŷr Evans. Ac ar lan y môr yn Y Bermo, ar aber yr afon Mawddach tyfodd Beti Jones – perl o ddynes. Ymddiheuriad Trwy amryfusedd, anghofiwyd cynnwys enw’r diweddar Ieuan Richards, Foel, Harlech yn rhestr aelodau teulu agos y ddiweddar Jini Jeffs yn ein rhifyn diwethaf. Ymddiheurwn i’r teulu am y diffyg hwn.

Sefydliad y Merched y Bermo Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod ar Mai 23 gan Jacqui Puddle. Canom Meirion i gyfeiliant piano Blodwen Comerford. Trist oedd clywed bod un o’n cyfeillion hynaf wedi’n gadael, Beti Jones, Tremy-Don. Llongyfarchwyd Anne Vaughan-Jones ar ennill Gwobr Gymuned gan y Maer; a Pam a Pauline ar ennill cystadleuaeth bowlio’r Sir. Cafwyd adroddiadau ar y daith gerdded ddiweddar, cystadleuaeth gwis y Sir, a’r gystadleuaeth ddartiau. Atgoffwyd yr aelodau am y digwyddiadau sydd i ddod gan gynnwys y trip i Ynys Môn, y Sioe Ffasiynau, a’r Te Prynhawn Hynafol.

Kirsty Lumsden o Ddyffryn Ardudwy oedd ein siaradwraig wadd. Roedd wedi dringo Kilimanjaro yn 2016. Roedd y daith wedi cymryd wythnosau o baratoi, ddim yn unig dringo sawl mynydd, ond hefyd codi £6,000 tuag at y Lullaby Trust, sy’n codi ymwybyddiaeth o farwolaethau’r crud a chefnogi teuluoedd. Cymerodd y ddringfa saith niwrnod i’w chwblhau oherwydd yr angen i addasu i’r amgylchiadau. Cefnogwyd y tim gan nifer o borthmyn, a edrychai ar ôl eu holl anghenion yn ogystal â pharatoi prydau bwyd anhygoel. Dim ond deuddydd a gymerwyd i ddod i lawr yn ôl, ac roedd pawb yn gysylltiedig yn teimlo eu bod wedi cyflawni camp arbennig. Mae Kirsty yn defnyddio ei sgiliau fel aelod o’r Tîm Achub Mynydd lleol. Diolchwyd iddi gan Val Vine. Enillwyd y gystadleuaeth swfenir gwyliau gan Pam Payton gyda’i photel o dywod gwahanol liwiau o’r Aifft. Enillwyd y raffl gan Patricia Bunce a’r blodau gan Wendy Ponsford. Diolchwyd i Geinor, Geraldine a Liz am y bwyd, a oedd yn cynnwys cacen o’r un rysait â’r Gacen Briodas Frenhinol. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar y 27ain o Fehefin pan fydd Dianna Treganza yn siarad am waith Gofalwyr Traethau’r Arfordir.

Merched y Wawr y Bermo a’r Cylch

Llongyfarch Llongyfarchiadau i Gweltaz Llŷr Davalan o Ddinas Mawddwy, mab Gwawr ac ŵyr i Gareth a Llywela Edwards, Gorwel, Llanaber ar ddod yn ail yn y gystadleuaeth Unawd Chwythbrennau yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Ar Fai 15 croesawyd pawb gan Llewela, ein Llywydd. Cafwyd munud o dawelwch i gofio am Dorothy, ffrind a chymwynaswraig a fu’n aelod a swyddog gwerthfawr o’r gangen. Yna aethom ymlaen i drefnu rhaglen 2018-19. Cyflwynodd Gwyneth ein gwraig wadd sef Siân Lea o Ddolgellau, merch i’r diweddar Beti a Maldwyn Thomas, Dolgellau. Cafwyd y cyfle i werthfawrogi bywyd cefn gwlad gyda’i rhieni yn blentyn ifanc a chyfarfod â llawer o arbenigwyr blaenllaw. Ar ôl graddio yng Ngholeg Aberystwyth daeth i ddysgu bywydeg trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Ardudwy cyn symud i Ysgol y Gader. Y mae hi a’i gŵr wedi prynu tŷ gyda gerddi unigryw o Oes Fictoria ar Ffordd y Gader, Dolgellau. Gyda blynyddoedd o waith caled maent wedi adnewyddu’r tŷ a’r gerddi i safon uchel. Cawsom weld y newidiadau gyda chymorth offer taflunio. Erbyn hyn y mae y Rock House wedi cael enw Cymraeg, sef Craig y Ffynnon ganddynt. Diolchwyd i Siân am y noson ddifyr gan Iona ac enillwyd y raffl gan Heulwen a Lorraine.

9


TAITH I NORWY YNG NGHWMNI Dydd Mawrth, Mai 15

Cychwyn ben bore ar y daith i Faes Awyr Maenceinion. Cyrraedd maes awyr Oslo am 16.10. £13 am beint o gwrw yn y fan honno, felly roedd pawb yn cadw draw o’r mannau gwerthu diodydd! Mi dalodd Mervyn £17 am salad ond roedd o’n un da! Iwan Morgan yn chwilio am gadair olwyn - sciatica yn ei boeni. Bryn Lewis yn gweld y rhodfa at giât B3 yn drybeilig o hir - mi fydd raid cael cadair olwyn i hwnnw hefyd. Hedfan ymlaen i Bodø [tref yng Nghylch yr Arctig] a chyrraedd am 20.20. Taith o 143 milltir wedyn mewn bws am dair awr a hanner i gyrraedd tref fechan Mo-I-Rana. Cwis ar y bws i dorri’r siwrnai. Tîm Aled, Mervyn, Ifan ac Anne yn fuddugol. Eira ar y mynyddoedd yn Bodø ond agoriad llygad wrth deithio dros y mynydd i Mo I Rana. Elc a cheirw yn pori ar ochr y ffordd ond rhaid eu bod yn byw ar y gwynt achos doedd na fawr o dyfiant ar y twndra! Er ei bod yn hanner nos arnom yn cyrraedd, doedd hi ddim wedi tywyllu. Staff y gwesty wedi gadael bara a chawl a salad i ni. Roedd nifer yn ddiolchgar am banad boeth. Dydd Mercher, Mai 16 Brecwast Norwyaidd wrth gwrs, pysgod ar bob plât bron iawn! Cyfle i gerdded o gwmpas y dref. Bore gwyntog ond braf ond fe gadwodd y glaw draw. Roedd hi’n ddiwrnod digon braf o ystyried lle roedden ni ar fap y byd! Cyfarfod ein gwestai, Torild am 1.30. Sgwrs ganddi am arwyddocâd y gofeb ryfel i dref Mo I Rana. Mynd i olwg yr Eglwys Lutheraidd [300 oed] wedyn i ymarfer at yfory. Adeilad hardd wedi ei wneud o goed. Roedd yr eglwys yn cyflogi organydd ond y wladwriaeth oedd yn talu ei gyflog. Roedd rhai aelodau o Gôr Mo-I-Rana yno i’n cyfarch. Dywedodd yr organydd wrthym fod 8 côr yn y dref a’i fod yn chwarae tuba yn yr orymdaith yfory. Baglu ddaru o pan holwyd a oedd o’n chwarae llawer o donau Cymreig! Te pnawn yn y gwesty wedyn a chyfle i wneud waffles. Aeth

10

Dafydd ac Ieuan i’w gwneud nhw ar ein rhan a blasus iawn oedden nhw hefyd! Min nos yn rhydd a phawb yn cadw ei lais at y diwrnod mawr yfory.

Yr aelodau a deithiodd i Norwy yn Eglwys Gadeiriol Bodø. Arweinydd: Aled Morgan Jones, Cyfeilydd: Alwena Morgan

Y tu allan i Eglwys Mo I Rana yng nghwmni Torild Mastermo, prif noddwr y daith.

Rhai aelodau o’r Côr a chefnogwyr y tu allan i Ganolfan yr Arctig. Fe welwch ei bod yn aeafol yno yng nghanol mis Mai!

Rhai o’r cefnogwyr oedd ar y daith gyda ni.

Dydd Iau, Mai 17 Diwrnod cenedlaethol Norwy. Brecwast da, cawsom rybudd y buasai’n ddiwrnod prysur. Taith fer o gwmpas y dref ben bore yng nghwmni Torild cyn inni ymweld â chartref i’r henoed - ond doedden nhw ddim mor hen ag oedden ni’n ei ddisgwyl. Fe ganwyd saith o ganeuon ac fe gawsom gymeradwyaeth gynnes iawn gan y trigolion a’u cyfeillion. Ieuan Edwards, Kevin Lewis a Roger Kerry yn canu unawdau’n fedrus iawn. Ymlaen wedyn at gofeb y Scots Guards. Fe gollodd y gatrawd [regiment] dros 50 o filwyr yn y dref hon ar ddechau’r Ail Ryfel Byd. Roedd tad ein gwestai, Torild, wedi rhedeg a sgïo dros y mynydd i ddweud bod milwyr yr Almaen ar eu ffordd a thrwy hynny wedi achub bywydau rhyw 300 o’r milwyr lleol. Pleser pur oedd gweld disgyblion ysgol a band lleol yn ymuno yn y prosesiwn i ddathlu eu diwrnod cenedlaethol. Ac anrhydedd mawr i’r Côr oedd cael gwahoddiad i ymuno yn y gweithgareddau a chanu eu hanthem ar y diwedd. Yn ôl i’r gwesty am waffles i ginio cyn ymuno mewn gwasanaeth yn yr eglwys leol a chanu ‘Gwahoddiad’ a ‘Glyn Rhosyn’. Wedi’r gwasanaeth gosodwyd torchau yn y fynwent i goffâu milwyr lleol, a milwyr o’r Alban, y Swistir a Rwsia. Yma eto roedd y bobl leol yn rhyfeddu ein bod ni’n gallu canu Ja Vi Elsker mewn Norwyeg! Cyfle wedyn i ymlacio a mwynhau swper tri chwrs. Cawl, halibut a gateau gefais i ac roedd y pysgodyn yn werth ei gael. Difyrru ein hunain wedyn trwy rannu storïau a chymysgu efo’r brodorion. Roedden nhw’n gwybod rhyw gymaint am Gymry ac yn nabod ein chwaraewyr pêl-droed yn dda iawn! Cawsom weddill y dydd yn rhydd a diolch am hynny!


CÔR MEIBION ARDUDWY Pacio heno ar gyfer y daith i Bodø lle byddwn ni’n aros am ddwy noson. Dydd Gwener, Mai 18 Taith yn ôl i Bodø. Aros am sbelan yng Nghanolfan yr Arctig. Newydd agor am yr haf oedd hi ac roedd yn cau ym mis Hydref (fel ag y mae Hafod Eryri). Cyhoeddwyd fod gan bawb rhyw 50 munud cyn y buasai’r bws yn ailgychwyn. Olwen Pensarn yn Ymarfer yn yr eglwys ym Mo I Rana ymateb yn sydyn gan ddweud nad oedd hi am gael ei gadael yn y fan honno! I mewn â ni a’r peth cyntaf welais i oedd arwydd ‘Ice cold drinks sold here.’ Am eironig! Roedd nifer o anifeiliaid wedi eu stwffio o gwmpas yr adeilad. Arth wen, llwynog, blaidd, carw, elc ac eryr Cofgolofn y Scots Guards y môr; y cyfan yn drawiadol iawn. Cyfle wedyn i chwilio am anrhegion a’r til yn ddigon prysur! Os oeddech yn prynu unrhyw beth dros £35 roedd modd hawlio 14% o arian yn ôl yn y maes awyr ar y ffordd adref - bargen go dda. Manteisiodd rhai ar gyfle i brynu tystysgrif i ddangos eu bod wedi croeso i Gylch yr Arctig. Cyrraedd y gwesty am 3.00 y pnawn a phawb wedi eu plesio. Lle safonol a brecwast, panad pnawn, cacen a bwyd nos yn gynwysiedig yn y pris! Ymlacio Cyfeiriodd Ifan Jones, Cadeirydd wedyn er mwyn paratoi at yfory. y Côr at wasanaeth clodwiw Aled Dydd Sadwrn, Mai 19 Brecwast blasus eto. Cig moch [mochyn go denau meddai un wag], wyau ac ati, pysgod amrywiol, iogyrt, grawnfwyd rhywbeth at ddant pawb. Ymarfer am 11.30 yn yr Eglwys Gadeiriol hardd. Dinistriwyd yr eglwys wreiddiol yn ystod y rhyfel. Roedd yr acwstig yn plesio ac roedd y lle yn enfawr. Roedd angen i ni ganu’n ddisgybledig iawn. Yr organydd yn awyddus i gyfeilio ar eitem neu ddwy a dyna gydsynio ac mi aeth yr ymarfer yn weddol ddidramgwydd - nid oedd yn ‘gyfeiliant’ fel y cyfryw - yn arbennig gan ein bod wedi arfer cymaint efo Idris ac Alwena! Pawb yn ôl yn ei le erbyn 1.00 wedi sgrwbio’n reit lân! Ac mi ddaeth tyrfa dda i’r cyngerdd

- er bod y briodas frenhinol ar yr un diwrnod! Cawsom gymeradwyaeth gynnes iawn ar y diwedd. Fe wnaeth Aled ac Alwena eu gwaith yn arddderchog ac yn ddiffwdan. Aled wedi ei blesio a phawb arall a dyma droi am y gwesty gyda theimlad o falchder. Mi roeson ni Gymru ac Ardudwy ar y map unwaith eto. Treulio’r min nos yn crwydro’r dref ond doedd neb am orwneud, yn enwedig wrth sylwi ar brisiau’r diodydd! Dydd Sul, Mai 20 11.00 Cychwyn am faes awyr Bodø. Doedd dim angen passport y tro hwn gan ein bod yn hedfan o fewn Norwy [i Oslo]. Ond doedd y cyfrifiaduron ddim yn gweithio’n rhy dda a bu peth pryder cyn inni weld pawb yn ddiogel drwy’r giât. Wedi cyrraedd Oslo, symud o un rhan o’r maes awyr i’r llall - dau mewn cadair olwyn - er mwyn dal yr awyren i Fanceinion. Cyrraedd am chwarter i bedwar a thaith bleserus adref wedi pum noson ym mhellafoedd y Gogledd. *****

‘Diolch am daith ragorol unwaith eto.’ Ieu a Gwen ‘Diolch, diolch yw ein cân.’ Wyn ac Olwen Trip da iawn, popeth wedi mynd yn berffaith.’ Dewi ‘Taith lwyddiannus iawn, cant allan o gant.’ Ifor Wyn Morgan Jones fel arweinydd. Alwena Morgan oedd yn cyfeilio ‘Taith lwyddiannus iawn.’ Mae’n llwyddo i ddenu canran yn absenoldeb Idris [oherwydd Bedwyr a Helen uchel o’r dynion i bob ymarfer. iddo frifo ei ysgwydd]. Daeth Iwan ‘Diolch am daith hwylus iawn, gan Morgan i ganu er ei fod yn dioddef edrych ymlaen at y nesaf.’ yn arw o’r glunwst [sciatica]. Dafydd a Mair ‘Llawer o ddiolch am drip gwych.’ Bryn ac Ann ‘Diolch o galon.’ Mervyn Llawer o ddiolch am daith ardderchog.’ Ifan ac Anne ‘Trip bendigedig.’ Bob a Jean ‘Taith benigamp.’ Rob Lewis ‘Taith fendigedig, gobeithio nad Dafydd, Mair, Gwen a Ieuan Cassin Ann yn ein difyrru hwn fydd yr olaf i ni.’ yng Nghanolfan yr Arctig gyda’i storïau am Josh. Arthur ac Eleri ‘Taith werthchweil.’ Cassin ‘Diolch am y trefniadau taclus fel arfer.’ Bryn ‘Diolch am y trefniadau trylwyr.’ Iwan ac Alwena ‘Wedi mwynhau bod hefo pawb.’ Gill a Charles ‘Taith ardderchog fel sy’n arferol.’ Nick a June ‘Diolch yn fawr i bawb.’ Aled Gwledda ar y waffles

11


Rhwbio llygaid Roedd Gwynedd Roberts, Dyffryn Ardudwy [diweddar ŵr Gwennie] yn chwarae pêl-droed i Harlech am flynyddoedd. Roedd yn arferiad ganddo roi vaseline ar ei aeliau er mwyn cadw’r chwys o’i lygaid. Ond un dydd Sadwrn, yn hytrach nag estyn am y pot vaseline mi estynnodd am Vick vapour rub! Yn ystod y gêm bu’n rhwbio dipyn ar yr eli a’r canlyniad oedd i’w lygaid droi’n fflamgoch yn ystod y gêm, ac am gyfnodau ni allai weld ymhellach na’i drwyn! Dyddiau da oedden nhw. Fi oedd yn y gôl! Chris Parry Sglodion Bennet Richards yn dod efo fi i chwarae snwcer yn y Bala. Roedd ’na wastad hwyl i’w gael efo Ben lle bynnag oedden ni’n mynd. Wedi i ni orffen chwarae aethom i’r siop sglodion. ‘Can I have some chips please?’ holodd Ben. ‘Would you like a cone or a tray?’ gofynnodd y ferch oedd yn gweini. ‘No, just chips!’ oedd ateb pendant Ben. Gerallt Evans Porc pei Ar daith efo Côr Meibion Ardudwy yn yr Alban oedden ni ac roedd cyngerdd wedi’i drefnu yn Dundee. Roedd y pnawn Sadwrn yn rhydd gennym a dyma Alwen, Arthur Fawr, Bili a minnau yn penderfynu y buasen ni’n mynd i weld Dundee yn chwarae Dundee United. Gêm ddigon sâl oedd hi ond yr hyn rydw i’n ei gofio fwyaf oedd hanner amser! Ro’n i eisiau bwyd a dyma Alwen yn gwirfoddoli i fynd i chwilio am rywbeth i’w fwyta. ‘Mi gymra i borc pei os gweli di’n dda,’ meddwn innau. A dyna’r borc pei yn cyrraedd a honno ydi’r salaf i mi ei bwyta erioed! [Dim bai ar Alwen!] Doedd dim cig ynddi o gwbl, dim ond gïau [gristle]. Mae ei blas yn dal yn fy ngheg hyd heddiw. Mi ges i flas haggis yn ystod y daith honno hefyd a doedd hwnnw fawr gwell. Dwi’n gwybod fy mod i yn un misi, ond druan o’r Albanwyr! PM

12

STRAEON AR THEMA Thema’r Mis: Chwaraeon

Ar y Glastraeth Bennet Williams oedd ein prifathro ni yr adeg hynny, tad GAW sef Glyn Arfon Williams. Person hynaws iawn a fyddai yn rhoi hyder i blentyn drwy y law ar yr ysgwydd yn dyner a phendant pan fyddai raid i blentyn drio rywbeth am y tro cyntaf neu o flaen cynulleidfa fel mewn eisteddfod! Roedd o’n gwirioni ar denis ac roeddem fel plant yn cael digon o gyfle i gael addysg gorfforol. Yn yr haf, cofiaf yr ysgol gyfan yn ei hel hi am gêm griced ar y Glastraeth yn Nhalsarnau. Pe bai’n rhaid llenwi ffurflen Iechyd a Diogelwch, fel sydd raid ei wneud heddiw, mi fyddai’n edrych yn daith ag antur go beryglus i lawer a gorfod gweithio amser y llanw! Cychwyn o’r hen ysgol yn ein siorts [coch oedd gen i] a’n crysau T ac i ffwrdd â ni, y rhai ieuengaf yn llaw rhywun o Standard 4 neu 5. Bob tro y prynnaf Robinson’s Lemon Barley yr antur hon sy’n fy meddwl, oherwydd mai dyna oedd fy niod ac ro’n i wedi cael y botel yn Siop Anti Nans ym mharlwr Pensarn. Cadw gyda’r wal wedi croesi wrth yr ysgol ac ymlaen am Pentra. Pobl ar ben drws yn gwenu a chodi llaw ar y rhai ieuengaf wrth weld y criw yn pasio a phawb yn adnabod pawb. Troi lawr rhiw Ship ac ymlaen at giât y lein a’i chroesi yn ddiogel. Lawr â ni i’r Glastraeth a chael pnawn bach difyr yn chwarae criced ac i ni, y rhai ieuengaf, wedi cael rhyw ychydig gyfle i edrych ar yr hogia a’r merched mawr yn taflu’n galed ac ambell un oedd yn ‘ffildio’ yn methu am ei fod yn breuddwydio neu edrych y ffordd arall ac wedyn yn gorfod rhedeg lathenni yn ychwanegol yn yr ehangder mawr! Roedd peintiau o Calamine Lotion wedi ei rwbio arnom rhag inni losgi nes ein bod yn wynnach na gwyn. Dyddiau dedwydd, dyddiau braf a rhieni yn llwyr ymddiried yn yr athrawon. Olwen Jones

Trip i’r Trallwng Nid oedd fy nhad yn ryw hoffi fy mod i’n chwarae rygbi i dref Harlech tra roeddwn ond yn 17 oed ac yn dal yn yr ysgol. Roedd ganddo ofn y byddwn yn cael fy nwyn ar gyfeiliorn a mynd i yfed cwrw, fel oedd y traddodiad. Un bore Sadwrn cefais alwad ffôn gan Ifan Lloyd (Sonic, fel y byddai’r plant ysgol yn ei adnabod) i ddeud eu bod yn brin o chwaraewyr ar gyfer y gêm yn y Trallwng, a holi os oeddwn ar gael. Gan nad oedd fy nhad o gwmpas, derbyniais y gwahoddiad gyda balchder. Cyfarfod yn y Queens ac i ffwrdd â ni i’r Trallwng gyda’n cefnogwyr selog. Cofiaf fod y gêm yn un wael ond mae ambell i ddigwyddiad doniol yn sefyll allan, dyma rai ohonyn nhw. Y Dyfarnwr a MacDonald Owen Roedd y dyfarnwr mor wael dechreuodd rhai o’n chwaraewyr ni gwestiynu ei benderfyniadau anghyson. Mae’n amlwg ei fod wedi cael llond bol ohonom, ac fe yrrodd ein bachwr, Alec Howie oddi ar y cae, er nad oedd wedi gwneud llawer o’i le. Wrth ei yrru o’r cae, gofynnodd y dyfarnwr i Alec am ei enw er mwyn ei adroddiad i Undeb Rygbi Cymru. Atebodd Alec mai ‘MacDonald Owen’ oedd ei enw. Yr wythnos ganlynol cafodd ‘Macdonald Owen’ ei wahardd rhag chwarae gan yr Undeb am bythefnos, er fod Alec Howie ar gael ar gyfer y gêm nesaf. Helynt y Llumanwr Ein llumanwr ar y dydd oedd Ken ‘Temps’ Jones o’r Waun, cymeriad a hanner os bu un erioed. Cafodd ef hefyd ei anfon i ffwrdd gan y dyfarnwr a’i wahardd rhag rhedeg y lein, gan ei fod yn cwestiynu ei benderfyniadau gwael o hyd. Roedd y dyfarnwr am anfon ei enw ef hefyd i’r Undeb, a gofynnodd i Ken am ei enw. Atebodd Ken yn ddiflewyn ar dafod drwy ofyn i’r dyfarnwr am ei enw, gan ddweud ei fod am sgwennu at Undeb Rygbi

Cymru gan nad oedd erioed yn ei fywyd wedi gweld dyfarnwr mor wael. Doedd hyn yn amharu dim ar Ken a dwi’n siŵr ei fod yn canu ei hoff gân ‘Yn fore af i Ferwyn’ erbyn cyrraedd y Queens y noson honno. Ie colli wnaethom ar y dydd, ond nid amharodd ddim ar ein dathlu, ac mae’r atgofion yn dal i ddod â gwên i’r wyneb. Iwan Morris

Wedi ymlâdd

Y diweddar Ron Pickering Mi ddaeth Ron Pickering i Ysgol Ardudwy yn y chwedegau. Fo oedd hyfforddwr athletau Cymru ar y pryd ac mi ddaeth yn enw adnabyddus fel sylwebydd yn y byd hwnnw cyn ei farw yn 1991. Roedd o am roi ambell un drwy’r drin ar gae’r ysgol. Mi weithiodd ni fel na wnaeth Peter Crabtree erioed! Er mai taflu pwysau a’r ddisgen oeddwn i, roedd yn ein rhedeg am hydoedd o gwmpas y cae, yn cario hwn a’r llall ar ein hysgwyddau hefyd. Roeddan ni i gyd yn tuchan a thagu ei hochr hi ac mi gollson ni un o’r hogiau. Cyn hir mi welson ni Roger Noake (o’r Dyffryn) yn codi o’r ffos sydd rownd y cae yn faw i gyd, y gwaith caled wedi bod yn ormod iddo. Ar y diwedd, roedd gan Pickering declyn i brofi ein cryfder. Roeddech yn ei roi yn eich llaw a’i wasgu a’r cloc bach arno yn dweud faint o nerth oedd yn eich braich. Ar ôl y fath ymarfer roeddwn i’n wan fel cath a phrin symud wnaeth y deial. Am flynyddoedd mi fu Colin Palmer, yr athro celf, yn dweud fy mod i wedi malu’r peth gan fy mod mor gryf. Celwydd! Efallai fod Thomas John, Penarth, fy nghefnder wedi gwneud ond yn sicr wnes i ddim. William H Owen


DWI’N COFIO

Dwi’n cofio... mynd i’r ysgol am y tro cyntaf.

Symud o Benbryn Pwll Du, Llandecwyn i Foel y Glo fu fy hanes pan yn ddyflwydd oed, gyda fy rhieni a fy mrawd bach, John. Pan anwyd ein chwaer, Katherine, ddiwrnod cyn fy mhen-blwydd yn dair mlwydd oed, penderfynwyd fod yn hen bryd i mi fynd i’r ysgol. Doedd gen i ddim syniad beth oedd ysgol, na chwaith lle roedd yr ysgol. Yr unig beth olygai Talsarnau i mi oedd Barcdy, lle roedd fy Modryb Gwen, chwaer fy mam, ei gŵr John, a brawd fy mam, Gwilym Owen, yn byw. Danfonodd fy nhad fi i lawr at giât Ty’n Bwlch y bore neu ddau cyntaf, lle roedd Iorwerth, a oedd yn hogyn dipyn hŷn na mi, yn cymeryd gofal ohona’i ar y ffordd i lawr i Eisingrug at dacsi du Robin John Williams y Garej. Byddai Jimmy Bonds, Sgynolwyn yn cerdded hefo ni hefyd. Ifaciwi oedd Jimmy ac yn hogyn annwyl, caredig iawn, fel Iorwerth. Wedyn byddwn yn mynd bob bore fy hun, dan floeddio crio nes cyrraedd giât Ty’n Bwlch a bloeddio crio drwy’r dydd yn yr ysgol hefyd. Rydw i’n cofio i rhyw ddieithriaid Saesneg eu hiaith roi darn chwe cheiniog i mi yn fy llaw rhywle ar y ffordd rhwng Ty’n Bwlch a Moel y Glo pan oeddwn ar fy ffordd adref un prynhawn ac wedi dechrau bloeddio cyn gynted ag y gollyngodd Iorwerth fy llaw wrth y giât. Waeth i mi heb â chymryd arnaf fod rhain yn atgofion melys ond anghofiais i byth am garedigrwydd y ddau hogyn annwyl fu mor amyneddgar hefo fi. Anwen Roberts

STRAEON AR THEMA Thema’r Mis: Chwaraeon parhad Pêl-rwyd

Blynyddoedd yn ôl roeddan ni’n griw o genod lleol yn chwarae pêl-rwyd o gwmpas Gogledd Cymru ac weithiau yn teithio cyn belled ag Aberystwyth. Oeddan ni’n cael gymaint o hwyl yn chwarae ac yn erbyn timau o safon uchel, ddim bob tro yn ennill ond ta waeth am hynna, cymryd rhan a throi i fyny oedd yn bwysig, job weithiau ar ôl bod allan ar nos Sadwrn! Un noson oeddan ni wedi bod yn chwarae yng Nghynghrair Caernarfon, a doedd y gemau olaf ddim yn cychwyn tan 9yh! Wel, ar y ffordd adra ar ffordd Garndolbenmaen i fyny at Penmorfa roedd Linda Soar yn dreifio yn ei char bach Fiat 126, 5 ohono ni yn y car (cyn dyddiau seat belts a ffonau symudol)! Wel oedd pawb yn deud, ‘Wyddost di be Linda, ma gen ti gar bach handi fan hyn,’

mynd â ni i bob man heb ddim trafferth! Munud nesa dyma hogla rhwbath yn llosgi a’r car yn dechra llenwi hefo mwg! Oedd yr injan yn y cefn, a chyn i Linda gael amser i droi’r injan i ffwrdd oeddan ni allan o’r car ’na fel ieir gwyllt, a mond dau ddrws oedd gynnon ni. ‘Fan belt’ di mynd! Yng nghanol cefn gwlad, dim ffôn, dim ciosg yn agos - OMB! Penderfynodd Linda ac un o’r genod eraill gerdded i’r ffarm agosaf a gofyn fasa’n bosib defnyddio ffôn. Oedd y gweddill ohonon ni yn gorfod aros yn y tywyllwch ar ochr y ffordd. Wel, cyn pen dim dyma Linda yn cyrraedd yn ôl hefo’i brawd, y diweddar Ian, i achub y dydd. Rydan ni’n dal yn chwerthin am y noson honno hyd heddiw, ac mae’r rhan honno o’r ffordd yn cael ei nabod fel ‘Dinky hill’ Dyna oedd enw’r car bach. Atgofion hapus a bythgofiadwy o chwarae pêl-rwyd. Carol O’Neill Diolch i bawb sydd wedi ymateb i’r golofn boblogaidd hon. Y testun ar gyfer mis Gorffennaf fydd ‘Prynu a gwerthu’. Cofiwch anfon atom. [Gol.]

Dwi’n cofio... hedfan i Innis Oirr yn Ebrill 1997 yng nghwmni nifer o bobl o fro Ardudwy.

[Chwith i’r dde] Arawn Jones [Cerrig Gwaenydd], Jack Carson, Iwan Morgan, Bryn Williams, Dafydd Lewis [Warin], y diweddar John Richards, [Gilar Wen] a Phil ar ei gwrcwd. Buom yng Ngorllewin Iwerddon gyda’n gilydd ar fwy nag un achlysur. Y tro hwn, Ebrill 1997, roedd y ffermwyr yn ein plith yn awyddus i weld y dulliau ffermio ar un o ynysoedd yr Aran. Dyma gytuno y buasem yn hedfan i Inis Oirr mewn awyren ag ynddi naw sedd. Rhaid oedd inni gael ein pwyso’n y maes awyr bychan yn Invereen. Pan gamodd Dafydd Warin ar y glorian, gwnaeth y bys ddau gylchdro, a chafodd ei anfon i’r sedd gefn i gadw balast. Nododd John Gilar nad oedd o am eistedd yn y sedd flaen a dyma gael gair efo’r peilot. Bili oedd yr ysgafnaf o’r naw ohonom, a chafodd o fynd i eistedd yn y blaen wrth ochor y peilot. Dyma brofiad go frawychus, mi gredaf! Yn enwedig pan oedden ni’n cychwyn ar hyd mawndir Conemara a hwnnw’n prinhau a’r môr yn agosau wrth i ni ddynesu at y dibyn. Pa ryfedd i Bil roi cyfarwyddiadau clir i’r awyren pan welodd ddyfroedd Iwerydd yn driblan dan ei thrwyn! ‘Coda’r ****!’

Iwan Morgan

Tu allan i ‘Peacocks,’ Maam Cross [chwith i’r dde, rhes gefn] John Richards, Bryn Williams, Sulwyn Roberts, Bili Jones, Iwan Morgan [rhes ganol] Tom Richards, Arawn Jones, Richard P Williams, Dafydd Lewis [rhes flaen] John Kerry, Jack Carson, Roger Kerry

Diolch i Iwan Morris o Gaerdydd am anfon llun y baedd atom. Yn anffodus, roeddem yn cynnwys storϊau am ffermio yn ein rhifyn diwethaf. Ond os oes gan unrhyw un stori am fynd â hwch at y baedd [neu vice versa] buasem yn falch iawn o’i chynnwys yn y papur!

13


MWY O LUNIAU’R BEICWYR

Mae’r gronfa rŵan yn agos iawn at £7000, diolch i bawb am eich cefnogaeth. 14


BWYD A DIOD

Gin o ddyffryn Dyfi

Wel, lle i ddechrau? Er mod i’n hoff iawn o win, mae gin yn cystadlu am fy sylw hefyd, a chawsom brofiad bendigedig yn Dyfi Distillery, busnes bach teuluol wyth milltir i’r de o Ddolgellau. ar ymweliad hyfforddi. Mae dyffryn Dyfi wedi’i adnabod fel ardal biosffer UNESCO, yr unig un yng Nghymru o dros 250 trwy’r byd. Dyfi Original yw’r gin y byddech yn ei adnabod fel blas clasurol gin ond mae’n dal yn unigryw oherwydd y planhigion cynhenid ynddo fel pinwydden yr Alban sy’n gweddu’n arbennig o dda gyda’r ferywen yn ogystal â’r coriander a lemwn organig sy’n golygu bod y ddiod yma’n fwy diddorol a chymhleth. Roedd y gin Pollination yn brosiect dwy flynedd. Gweledigaeth Pete a Danny Cameron oedd cynhyrchu gin gyda blas o’r ardal lle mae’n deillio. Gyda dros 60 o blanhigion yn nyffryn Dyfi, mae dewis anhygoel, ac o’r 29 planhigyn a ddefnyddir i greu’r gin mae 20 wedi’u casglu yn yr ardal leol, megis yr helygen Fair, camri, draenen wen a llawer mwy. Nid trwytho’r elfennau botanegol y maent yn ei wneud ond ail-ddistyllu’r gwirod gyda’r planhigion ynddo. Beth oedd o ddiddordeb mawr i oedd y syniad o feddwl trwy liw - ‘synesthesia’ yn Saesneg, am sbectrwm o liw, ee merywen ochr yn ochr â gwyrdd y gonwydden a’r blodau gwyllt yn wyn, melyn a hufen. Hwn yw’r gin mwyaf blasus – plîs peidiwch â’i ddifethaf gyda gormod o donic! Mae’n fraint gan y brodyr hawlio mai eu gin Hibernation yw’r cyntaf yn y byd i’w aeddfedu mewn casgen port gwyn. Ffordd o feddwl rhesymegol iawn o ystyried beth sy’n cael ei yfed yn draddodiadol gyda phort gwyn - tonic! Felly mae rhoi gin mewn casgen port gwyn yn bartneriaeth berffaith. Yn ogystal, cewch nodweddion o afalau surion bach, nytmeg a blasau caramel o’r gasgen – hyfryd! Gallwn siarad am byth, ac rwyf wir wedi cynhyrfu ar ôl yr ymweliad. I ddweud y gwir, dwi mor frwdfrydig fel fy mod am gynnal arbrawf bach. Oherwydd bod 75% o’r botanegau wedi’u casglu’n lleol, mae si eu bod yn gwella symptomau clefyd y gwair, felly bydd llymaid bach pob dydd yn llesol i mi. Rhaid dweud, dydw i ddim yn dioddef o’r cyflwr yn bersonol, ond, wel, byddaf yn ddiogel felly’n byddaf?

Emma Williams Gwin Dylanwad, Dolgellau

Hanes a Chwedl Mae yna straeon neu draddodiadau yn mynnu glynu at rai o’n tonau a’n hemynau ni. Dyna i chi’r dôn Caersalem er enghraifft. Rhif 16 ydi hi yn y gyfrol Caneuon Ffydd ond y mae hi wedi cael ei chynnwys ymhob un bron o’r llyfrau emynau a thonau sydd wedi ymddangos yn y 150 mlynedd diwethaf. Mae hi yn dôn hamddenol braf sy’n gwahodd rhywun bron i ailganu ar y diwedd. Tôn hen-ffasiwn hawdd ei chanu a’i chofio. Yr ydym wedi arfer ei chanu ar yr emyn ‘Dan dy fendith wrth ymadael’ ar ddiwedd gwasanaeth, ond yn y Caneuon Ffydd mae emyn Derwyn Jones oddi tani hefyd sef ‘Dyro i ni fendith newydd gyda`n gilydd yn dy dŷ…’ Felly gellir canu’r dôn ar ddechrau neu ar ddiwedd gwasanaeth. Yn ddiweddar, cyplyswyd y dôn hefyd gyda’r garol Nadolig o waith Morgan Rhys, ‘Peraidd ganodd sêr y bore ar enedigaeth Brenin nef ’ Priodas hyfryd a gwell o lawer na’r dôn sbonclyd Calfari (368) sydd uwch ei phen yn Caneuon Ffydd. Awdur y dôn ‘Caersalem’ ydi Robert Edwards (1796-1862), melinydd o Felin Gwibnant, Mostyn yn Sir Fflint. Byddai`r hen bobl yn sôn amdani fel ‘Tôn Bob y Felin’ neu ‘Tôn yr Hen Felinydd’. Aeth Robert Edwards, fel llawer o bobl Gogledd Cymru, i Lerpwl i wella ei fyd a daeth maes o law yn arolygydd adran gludiant camlesi Lerpwl, Runcorn a Manceinion. Roedd hefyd yn godwr canu yng nghapel Cymraeg Bedford Street, Lerpwl. Dyma’r stori. Byddai Robert Edwards yn cyfansoddi llu o donau ond ychydig iawn ohonyn nhw oedd yn gweld golau dydd. Un tro aeth yn wael iawn a darganfyddwyd y dôn hon mewn dror yn ei ddesg. Aeth côr y capel ati i

ddysgu’r dôn a’i chanu iddo fel syrpreis pan wellodd yn ddigon da i ddod yn ei ôl i’r capel. Stori wir? Pwy a ŵyr bellach? Ond fe wyddom nad yw pob stori yn wir. Cymrwch y dôn ‘Ebeneser’ er enghraifft, sef tôn 168 yn Caneuon Ffydd. Daeth y dôn yma yn hynod boblogaidd yng Nghymru tua 1900 a hynny ar y geiriau, ‘Dyma gariad fel y moroedd, tosturiaethau fel y lli’ o waith Gwilym Hiraethog. Wyddai fawr neb o le y daeth y dôn ac fe adroddid pob math o straeon amdani. Y stori orau oedd fod y dôn wedi ei golchi i’r lan mewn potel ar un o draethau Llŷn Porth Neigwl meddai rhai a Phorth Ceiriad meddai eraill. Yn wir, adroddwyd hyn fel ffaith yn y Daily Mail ar Ionawr 4, 1902. Oherwydd y stori, fe elwir y dôn yn ‘Dôn y Botel’ gan lawer hyd heddiw. Ond peidiwch â chredu popeth sy’n ymddangos yn y Daily Mail. Y gwir yw fod y dôn wedi ei chyfansoddi gan ŵr o`r enw T J Williams (1869-1944), swyddog yswiriant o ymyl Pontardawe yn Sir Forgannwg. Mae yna lawer o straeon erail am y dôn yma. Yn ôl un mae wedi ei dwyn o hen alaw o Ffrainc, ac yn ôl un arall bu glowyr yn ei chanu o dan y ddaear adeg tanchwa Tŷ Newydd yn 1877. Does dim gwirionedd i’r straeon hyn ond mae yna un peth digon diddorol am y dôn. Cynhwysir hi yn y Baptist Book of Praise o dan yr enw ‘Assurance’. Go brin fod yr enw yn cyfeirio at waith bob dydd y cyfansoddwr! JBW

15


H YS B YS E B I O N MWY NA SIOP BAPUR...

SIOP DEWI

14/15 Stryd Fawr Penrhyndeudraeth 01766 770266

dewi11@btconnect.com Papurau, cylchgronau, llyfrau a chardiau Ac yn NEWYDD Bwydydd Cyflawn a Bwydydd Iach Cefnogwch eich siop leol, Cymraeg ei hiaith

E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr

01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

-

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu 01341 241297

CYNLLUNIAU CAE DU Stryd Fawr Harlech, Gwynedd 01766 780239

ARCHEBU A

01341 421917 07770 892016

Sŵn y Gwynt Talsarnau, Gwynedd

www.raynercarpets.co.uk

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

i unrhyw le yn yr UK!

Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk

drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]

GERALLT RHUN

07776 181959

1 Osmond Terrace, Penrhyn Ceir ar gael yn ardaloedd Arfon, Dwyfor a Meirionnydd Ffoniwch 01766 772926 07483 166901

Llais Ardudwy

ALAN RAYNER GOSOD CARPEDI

Llanuwchllyn 01678 540278

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

Tiwniwr Piano

g.rhun@btinternet.com Tiwnio ...neu drwsio ar dro!

GWION ROBERTS SAER COED 01766 771704 - 07912 065803 gwionroberts@yahoo.co.uk

C.E.F.N Tacsi Cyf

Tafarn yr Eryrod

01766 512091 / 512998

TREFNWYR ANGLADDAU

Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

JASON CLARKE Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

DAVID JONES

Cigydd, Bermo 01341 280436

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

ADEILADWR Gwarantir gwaith o safon.

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

MELIN LIFIO SYMUDOL

Gadewch i’r felin ddod atoch chi! www.gwyneddmobilemilling.com

dros 25 mlynedd o brofiad 16

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014


DWY BRIODAS

NEWYDDION YR URDD

URDD MEIRIONNYDD

Yn Nant Gwrtheyrn ar ddydd Gwener, Ebrill 29, priodwyd Sophie Evans o Harlech a Luke Roberts o Dyffryn Ardudwy. Llion Wellings oedd y gwas priodas ac Emily Roberts, chwaer Sophie oedd y forwyn. Cafwyd gwledd yng nghwmi eu teuluoedd a’u ffrindiau. Dymunwn bob hapusrwydd i Sophie a Luke yn eu bywyd priodasol. Byddant yn ymgartrefu yn yr Ynys, ger Harlech.

Llongyfarchiadau cynnes iawn i Ffion Mai Rees a Steffan Wyn Evans a briodwyd ar ddydd Sadwrn, Mai 5 yng Nghapel Rehoboth. Cynhaliwyd y wledd briodas yn y Celtic Royal yng Nghaernarfon yng nghwmni eu teuluoedd a’u ffrindiau. Dymunwn bob hapusrwydd i Ffion a Steffan yn eu bywyd priodasol. Byddant yn ymgartrefu yng Nghaerfyrddin.

3ydd - Grace Mulholland, Ysgol y Traeth Taflu Gwaywffon Bechgyn B3 a 4 1af - Leo Papirnyk, Ysgol y Traeth 3ydd - Layton Hollingworth, Ysgol y Traeth Taflu Gwaywffon Merched B3 a 4 2il - Ela Chambers, Dyffryn Ardudwy 3ydd - Seren Lockett, Ysgol Talsarnau Ras Unigol Bechgyn 100m B5 a 6 1af - Joe Lloyd, Ysgol y Traeth 2il - Michael Collins, Ysgol y Traeth Athletau Ras Unigol Merched 100m B5 a 6 Ras Bechgyn 75m B3 a 4 1af - Katie Paganuzzi, Ysgol y Traeth 1af - Leo Papirnyk, Ysgol y Traeth 3ydd - Michael Horn, Ysgol y Traeth 2il - Poppy Jones, Ysgol y Traeth Ras Unigol Bechgyn 600m B5 a 6 Ras Merched 75m B3 a 4 2il - William Bailey, Ysgol Tanycastell 1af - Keisha Swai, Ysgol y Traeth Ras Unigol Merched 600m B5 a 6 3ydd - Alice Mead , 2il - Nansi Evans-Brooks, Dyffryn Ardudwy Ysgol Llanbedr Ras Bechgyn 600m B3 a 4 3ydd - Sioned Evans, Ysgol Talsarnau 1af - Jim Tookey Ysgol y Traeth Ras Gyfnewid Bechgyn B5 a 6 2il - Bradley Smith 1af - Ysgol y Traeth Ysgol Tanycastell Ras Gyfnewid Merched B5 a 6 3ydd - Iwan Evans-Brooks 2il - Ysgol y Traeth Ysgol Llanbedr 3ydd - Ysgol Dyffryn Ardudwy Ras Merched 600m B3 a 4 Naid Hir Bechgyn B5 a 6 1af - Lowri Howie, Ysgol Llanbedr 1af - William Bailey, Ysgol Tanycas2il - Grace Mulholland, tell Ysgol y Traeth 3ydd - Joe Lloyd, Ysgol y Traeth 3ydd - Serena Rushton, Naid Hir Merched B5 a 6 Ysgol y Traeth 1af - Nansi Evans-Brooks, Ras Gyfnewid Bechgyn B3 a 4 Ysgol Llanbedr 1af - Ysgol y Traeth 3ydd - Lois Jones-Evans, 3ydd - Ysgol Tanycastell Ysgol Llanbedr Ras Gyfnewid Merched B3 a 4 Taflu Pêl Merched B5 a 6 1af - Ysgol y Traeth 2il - Katie Paganuzzi, Ysgol y Traeth Ras Gyfnewid Cymysg B3 a 4 Taflu Gwaywffon Bechgyn B5 a 6 1af - Ysgol Talsarnau 2il - Jake Jones Ysgol y Traeth 2il - Ysgol Llanbedr Taflu Gwaywffon Merched Bl 5 a 6 Naid Hir Bechgyn B3 a 4 3ydd - Bryony Green,Dyffryn Ar1af - Brodie Pugh, Ysgol Llanbedr dudwy 2il - Jim Tookey, Ysgol y Traeth 3ydd - Sam Wadsworth, Ysgol y Glan-llyn Traeth Pob lwc i griw’r dalgylch sy’n cael Naid Hir Merched B3 a 4 penwythnos antur yng Ngwersyll 1af - Lowri Howie, Ysgol Llanbedr Glan-llyn ganol mis Mehefin 2il - Iris Izuogu, Ysgol y Traeth Taflu Pêl Bechgyn B3 a 4 3ydd - Leo Papirnyk, Ysgol y Traeth Dylan Elis Taflu Pêl Merched B3 a 4 Swyddog Datblygu Meirionnydd 1af - Keira Jones, Ysgol Talsarnau Da iawn, genod Ysgol y Traeth Wedi cystadleuaeth agos iawn ar gae Clwb Pêl-droed tref y Bala, cyrhaeddodd tîm merched Ysgol y Traeth y gemau cyn-derfynol gan golli i Ysgol Bro Tegid ar giciau o’r smotyn. Ymdrech lew gan y genod i gyd. Fe all yr ysgol fod yn falch iawn o’r criw i gyd.

17A


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Merched y Wawr Croesawodd y Llywydd, Siriol Lewis, bawb i Gyfarfod Blynyddol y Gangen yn y Neuadd Gymuned nos Lun, 14 Mai. Hefyd croesawyd Freda Jones Williams, Swyddog Datblygu’r Gogledd Orllewin a Maldwyn Powys i’n cyfarfod. Estynnwyd cydymdeimlad â Haf Meredydd yn ei phrofedigaeth o golli ei mam yn ddiweddar. Dosbarthwyd ffurflenni ethol swyddogion am 2018-2020 i’r aelodau ac wedi i bawb eu cwblhau, fe’u rhoddwyd i Eluned Williams ac Ann Jones, y ddwy wedi dod yn arbennig i gyfri’r pleidleisiau. Cwblhawyd yr archeb am gardiau Nadolig 2018 a dyddiaduron 2019. Cyhoeddwyd Taith Gerdded 2018 yn ardal Blaenau Ffestiniog nos Wener, 15 Mehefin am 6.15 o’r gloch a nodwyd diddordeb gan rai aelodau. Gwerthwyd raffl y Sioe Sir gyda phob aelod yn prynu dau docyn am £1 yr un. Dychwelodd Eluned gyda chanlyniad y pleidleisio a diolchodd Siriol iddi hi ac Ann am eu cymorth. Cyhoeddwyd bod pob swyddog wedi’u hail-ethol am ddwy flynedd arall fel â ganlyn: Llywydd – Siriol Lewis, Is-lywydd – Gwenda Paul, Ysgrifennydd – Mai Jones, Isysgrifennydd – Anwen Roberts, Trysorydd – Gwenda Griffiths ac Is-drysorydd – Frances Griffith.

Y gwaith dan sylw oedd trefnu ymweliad mis Mehefin i gloi rhaglen eleni, a chael awgrymiadau ar gyfer ymweliad mis Medi i ddechrau Rhaglen 2018-19. Rhoddwyd adroddiad o’n sefyllfa ariannol gan Gwenda Griffiths a da oedd deall bod gennym dipyn o arian wrth gefn ar gyfer gweithgareddau 201819. Diolchodd Siriol i Gwenda am ei gofal arbennig o’r ochr ariannol a diolchodd hefyd i Mai am drefnu’r rhaglen ac i bawb arall am bob cymorth yn ystod y flwyddyn aeth heibio. Dosbarthwyd copi arbennig o’r Wawr i bob aelod. Paratowyd paned gan Frances a Meira, a Meira hefyd enillodd y raffl. Mewn anhwylder Nid yw Richard Morgan, Tŷ Cerrig yn dda ei iechyd ar hyn o bryd. Mae’r trigolion i gyd yn meddwl amdano ef a’r teulu ar yr adeg yma. Rhodd Diolch i Mrs Iona Aubrey am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu tanysgrifiad. Capel Newydd

oedfaon am 6:00 MEHEFIN 10 Ben Thomas 17 Dewi Tudur 24 Dewi Tudur GORFFENNAF 1 Dewi Tudur 8 Meirion Thomas

CYNGOR CYMUNED Llongyfarchwyd y Clerc, Annwen Hughes ar gael ei hethol yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd am y flwyddyn 2018/19. Cadarnhawyd mai’r Cyngor sydd yn gyfrifol am y biniau halen. Nododd Eifion Williams bryder nad oedd wedi clywed dim ers y cyfarfod diwethaf ynglŷn â’r giât wedi ei chloi ar y llwybr cyhoeddus ger Bont Briwet, a chytunwyd i anfon rŵan at Mr Dafydd Wyn Williams yn gofyn iddo edrych i mewn i gais y Cyngor i gael gosod giât mochyn yn lle camfa, hefyd eisiau tynnu ei sylw mai tir comin yw’r tir dan sylw ac nid tir preifat. Ethol Swyddogion am y flwyddyn 2018/19: Cadeirydd: Eluned Williams Is-gadeirydd: Richard Morgan Canllawiau ar gyfer ceisiadau ariannol Adroddwyd bod Dewi Tudur Lewis wedi llunio’r canllawiau ynglŷn â’r uchod allan ar ran y Cyngor a dosbarthodd gopi i bawb a chytunwyd i roi’r mater ar agenda cyfarfod nesa’r Cyngor ar ôl i bawb gael amser i’w astudio’n fanwl. Cais Cynllunio Gosod cawod yn ystafell feithrin llawr cyntaf adain GG, inswleiddio ystafell ioga ac ystafelloedd nenfwd - nenfwd byrddau tenau ar dro-gylch i’r ffenestri to presennol R1, R2, R3. Inswleiddio lloriau coed a choncrid - llawr daearol, gosod 4 llosgwr coed gyda leinin ystwyth i’r simneiau presennol C4, C5, C6, C7 - Glyn Cywarch, Talsarnau. Cefnogi’r cais hwn. Unrhyw Fater Arall Datganwyd balchder o weld bod y cae chwarae newydd yn cael cymaint o ddefnydd a chytunwyd i wneud arwyddion yn Gymraeg i gyd-fynd â’r rhai Saesneg sydd yno’n barod. Roedd angen gwybod pam nad oedd y gwair yn cael ei dorri yng Nglany-wern a chafwyd ateb nad oedd oddi fewn i’r arwydd 30 mya ac mai contractwyr allanol fyddai’n gwneud y gwaith. Mae angen sylw ar giât sydd angen ei hail-osod ar y llwybr cyhoeddus ger Pont y Glyn. Nid yw’r llygaid cathod wedi eu hailosod ar y ffordd ger Tregwylan. Eglwys Llanfihangel-y-traethau

Gŵyl Flodau Awst 16-19

Rhagor o fanylion i ddilyn ym mis Gorffennaf

Neuadd Talsarnau GYRFA CHWIST Nos Iau, Mehefin 14 am 7.30 o’r gloch

BEICIO I GODI ARIAN

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286

Ffacs 01766 771250

Dyma rai o’r beicwyr yn mynd drwy Glan-y-wern ar eu ffordd i Gaergybi.

Honda Civic Tourer Newydd A dyma nhw yn cyrraedd Harlech tri diwrnod yn ddiweddarach. Gallwch gyfrannu at y gronfa drwy gysylltu â gwefan ‘Justgiving’ neu trwy law unrhyw un o swyddogion Llais Ardudwy.

18 A


ADRAN YR URDD TALSARNAU

CYNGOR CYMUNED HARLECH

Er na chawson nhw ymddangos ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Llanelwedd, rhaid llongyfarch Grŵp Cerddoriaeth Greadigol Ysgol Talsarnau am gyrraedd y rownd derfynol. Diolch i Mr Rhys Glyn fu’n eu dysgu ac i’r rhieni am bob cefnogaeth.

Llongyfarchwyd y Clerc, Annwen Hughes ar gael ei hethol yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd am y flwyddyn 2018/19. Ethol Swyddogion am y flwyddyn 2018/19: Cadeirydd: Judith Strevens Is-gadeirydd: Huw Jones Wrth ymadael â’r Gadair diolchodd y cyn-gadeirydd, Edwina Evans am y fraint o gael bod yn Gadeirydd y Cyngor am y ddwy flynedd ddiwethaf a’i bod wedi mwynhau’r profiad yn fawr; hefyd, diolchodd i’w chydgynghorwyr am eu cymorth, hefyd i’r Clerc am ei gwaith a’i chefnogaeth trwy gydol y ddwy flynedd. Dymunodd y gorau i’r Cadeirydd newydd. Wrth gymryd y Gadair diolchodd Judith Strevens am y fraint o gael ei hethol yn Gadeirydd y Cyngor, hefyd diolchodd i’r cyn-gadeirydd am ei gwaith fel Cadeirydd y Cyngor yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Gwefan y Cyngor Adroddodd Judith Strevens bod pethau wedi symud ymlaen gyda’r wefan ers cyfarfod diwethaf y Cyngor ac y bydd y wefan yn un Gymraeg. Cytunwyd bod angen cynnwys rhestr o aelodau’r Cyngor ar y wefan ynghyd â chofnodion Cymraeg a Saesneg bob mis i sôn am yr hyn sy’n digwydd yn y gymuned. Hefyd oherwydd bod y Cyngor yn rhannu’r wefan hon gyda Chyngor Cymuned Llanfair, bod angen gofyn iddynt anfon rhestr o’r aelodau a chofnodion y Cyngor i Judith. Hefyd nododd y byddai’n anfon linc y wefan i bob aelod o’r Cyngor. Ceisiadau Cynllunio Adeiladu estyniad unllawr, ports mynediad a gosod lifft platfform fertigol – 13, Parc Bron y Graig, Harlech. Cefnogi’r cais hwn. Cyngor Gwynedd Oherwydd bod Cyngor Gwynedd wedi llwyddo i ddenu arian grant RCDF ar gyfer uwchraddio toiledau cyhoeddus mewn cymunedau penodol, bydd y toiledau ger Gwesty’r Queens yn Harlech ar y rhestr hon a bydd y gwaith yn cychwyn o fewn yr wythnosau nesaf.

Plant Ysgol Talsarnau gyda Chloe a David [cyn-ddisgyblion] yn dilyn cyngerdd a drefnwyd i godi arian tuag at dalu am gludiant y plant i’r Eisteddfod yn Llanelwedd

Taith Gerdded 2018 Er Cof am Gwynfor John Bydd y daith eleni yn digwydd ar ddydd Sadwrn, Mehefin 23. Byddwn yn cyfarfod yng Nglan-y-wern am 10.30 y bore. Y bwriad ydi cerdded i ben Moel Ysgyfarnogod a Bryn Cader Faner. Byddai’n wych iawn petaech ar gael i gymryd rhan ac i gymdeithasu. Manylion pellach ar www.cofiogwynfor.com neu drwy ffonio 01766 780742.

DYDDIADUR Y MIS Pob dydd Iau - Stondin Ambiwlans Awyr Cymru, Gardd Gwynfor a Maureen, Bermo, 9.30 – 4.00 Mehefin 8 - Noson Goffi Ymchwil Canser, Harlech, 6.30 Mehefin 9 - Mochras yn dathlu 60 mlynedd, Mochras, Llanbedr, 12.00 tan hwyr Mehefin 14 - Gyrfa Chwist, Neuadd Talsarnau, 7.30 Mehefin 15 - Cyfarfod Pregethu, Salem Cefncymerau, 7.00 Mehefin 19 - Gyrfa Chwist, Neuadd Goffa Llanfair, 7.00 Mehefin 20 - Taith Teulu Ardudwy Mehefin 21 - Cystadleuaeth Goffa Rygbi Tag Ysgolion Mehefin 22 - Te Mefus a Hufen, Neuadd yr Eglwys Dyffryn Ardudwy Mehefin 23 - Taith Gerdded Er Cof am Gwynfor John Mehefin 23 - Cyfeillion Geiriadur Prifysgol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, 2.00 Mehefin 24 - Cyngerdd Tri Chôr, Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy, 7.00 Mehefin 30 - Ffair Llanbedr, 12.00 – 4.00 Gorffennaf 7 - Bore Coffi, Hen Lyfrgell, Harlech, 10.00 – 12.30 Gorffennaf 26 - Gig ‘Gastric Banned’ (Ambiwlans Awyr Cymru), Neuadd Dyffryn Ardudwy, 7.30 Awst 1 - Ffair Haf, Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy, 2.00 – 4.00 Awst 5 - Diwrnod Golau Glas, Bermo Awst 11 - Diwrnod Hwyl, Dyffryn Ardudwy Awst 16 - 19 - Gŵyl Flodau, Eglwys Llanfihangel-y-traethau Awst 25 - Sioe Arddwriaethol Harlech Os oes gennych ddigwyddiad i’w gynnwys, a wnewch chi anfon y manylion at Mai Roberts os gwelwch yn dda? Rhif ffôn: 01341 242744 e-bost: mairoberts4@btinternet.com

^

CYFARFOD PREGETHU yn Salem, Cefncymerau Nos Wener, Mehefin 15 am 7:00 PREGETHWR Parchg Ddr Rhodri Glyn, Llansannan 19A


RHAGOR O LUNIAU NORWY

Mae’r arth wen yn goblyn o fawr! Bryn Lewis sydd efo fo.

Ethan James Morris ydi aelod ieuengaf y Côr

Ann Lewis wedi gwisgo’n addas yn yr oerni

Torild a Phil yn esbonio bod gwaith caled o’n blaenau

Eglwys Mo I Rana

Yr orymdaith ger y gofeb

Allanah ac Andy yn ymlacio

Canolfan yr Arctig

Ifor Wyn ac Aled yn mwynhau

Eglwys Bodø

Rob Lewis â’i ffrind newydd

Olwen ac Eleri yn sgwrsio

Mair ac Alwena yn hamddena

20 A

Dafydd a Ieu yn chwilio am haul Torild yn ei gwisg draddodiadol

Helen a Bedwyr wrth eu bodd


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.