Llais Ardudwy
70c
ENNILL CHWE GWAITH
RHIF 488 - MEHEFIN 2019
CODI £255 AT AILAGOR CLWB IEUENCTID
(Chwith i’r dde) Ann Lewis, Dorothy Hambley (Capten Caernarfon a Môn), Jeanette Williams (Ail yn y gystadleuaeth) Llongyfarchiadau calonnog i Ann Lewis, Min-y-môr, Llandanwg ar ennill Pencampwriaeth y Sir, Caernarfon a Môn, am y chweched blwyddyn yn olynol.
CANA-MI-GEI AR Y BRIG
Côr Cana-mi-gei yn llawenhau wedi iddyn nhw ennill y gwpan yng Ngŵyl Gerdd Gaer yn ddiweddar
Hoffai pobl ifanc Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont ddiolch yn fawr i’r rhai sydd wedi cefnogi’r stondin gacennau yn ddiweddar. Casglwyd £255 at ailagor y clwb ieuenctid. Diolch hefyd i Meinir Thomas am drefnu ac i Paul a Diane, London House am gael cynnal y stondin tu allan i’r siop. Diolch i Signcreation am y faner wych. Diolch yn fawr i bawb.
CYSTADLU YNG NGHAERDYDD
CANMOLIAETH UCHEL Dyma lun Kirstye Geer o Dal-y-bont oedd yn cynrychioli y siop Pieces For Places, Bermo yng Ngwobrau Annibynnol Mânwerthiant Cymreig yng Nghaerdydd ar Ebrill 30ain. Enillodd Jack Brooks a’i weithwyr wobr Cymeradwyaeth Uchel yn ystod y noson a hoffai ddiolch i’r cwsmeriaid am eu cefnogaeth a’u henwebiadau.
Llongyfarchiadau i staff a phlant Ysgol Talsarnau ar lwyddo i gyrraedd y rownd derfynol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd unwaith eto eleni.
GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 780635 pmostert56@gmail.com
HOLI HWN A’R LLALL
Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com 07760 283024 / 01766 780541
SWYDDOGION
Cadeirydd: Hefina Griffith 01766 780759
Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@outlook.com Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL
Y Bermo Grace Williams 01341 280788 David Jones 01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones 01341 241229 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Cysodwr y mis: Phil Mostert
Bydd y rhifyn nesaf yn cael ei osod ar Mehefin 28 am 5.00. Bydd ar werth ar Gorffennaf 3. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Mehefin 24 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’
Dilynwch ni ar Facebook @llaisardudwy
2
Enw: Gweneira Wyn Williams Gwaith: Athrawes wedi ymddeol, ond yn dal i weithio’n achlysurol. Cefndir: Byw yn Mans y Wesleiaid a chrwydro Cymru benbaladr. Sut ydych yn cadw’n iach? Cerdded, garddio a chwarae badminton a mynychu dosbarth cadw’n heini. Beth ydych chi’n ei ddarllen?: ‘Llanw’ gan Manon Steffan Ros ar hyn o bryd.
Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Gwylio tenis ac S4C. Ydych chi’n bwyta’n dda? Rhy dda. Hoff fwyd? Ham a saws parsli. Hoff ddiod? Paned! Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Ffrindiau da. Lle sydd orau gennych? Unrhyw fan yn Ardudwy ond mae Llandecwyn ar ben y rhestr. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Sir Benfro. Beth sy’n eich gwylltio? Cymry yn siarad Saesneg â’u plant. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Bod yn driw a chefnogol. Pwy yw eich arwr? Fy niweddar dad. Pwy ydych yn edmygu yn yr ardal hon? Anwen Roberts - fe ddysgodd chwarae offerynnau yn ei 40au ac mae’n dal i gerdded
LLYTHYR
Annwyl Ddarllenwyr Cyfarfod Blynyddol Cyfeillion Geiriadur Prifysgol Cymru Estynnir croeso cynnes i chi fynychu Cyfarfod Blynyddol Cyfeillion Geiriadur Prifysgol Cymru a gynhelir am 2 o’r gloch dydd Sadwrn, 22 Mehefin, yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth. Ein siaradwyr eleni fydd Llywydd y Cyfeillion, y Prifardd Myrddin ap Dafydd, ynghyd â D. Geraint Lewis ac Ann Parry Owen. Yn dilyn y cyfarfod bydd cyfle i ymweld â swyddfeydd y Geiriadur ac i gael ‘paned o de a chyfle i gymdeithasu. Yr ydym yn gobeithio cael cwmni nifer o’n Cyfeillion, a hefyd croesawu Cyfeillion newydd – bydd modd ymuno â’r gymdeithas ar y diwrnod. Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan www.geiriadur.ac.uk, e-bostiwch cyfeillion@geiriadur.ac.uk, neu ffoniwch 01970 639094. Yn gywir Mary Williams Ysgrifennydd y Cyfeillion
pellteroedd Ardudwy. Beth yw eich bai mwyaf? Siarad gormod. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Bod ynghanol fy ffrindiau. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Mynd â’r teulu am wyliau. Eich hoff liw? Coch yn y gaeaf. Glas yn yr haf. Eich hoff flodyn? Cenhinen Bedr. Eich hoff gerddor? Hoddinot a Grace Williams. Eich hoff ddarnau o gerddoriaeth? Anodd dewis. Pa dalent hoffech ei chael? Medru chwarae offeryn fel Anwen. Eich hoff ddywediadau? ‘Daw haul ar fryn’. ‘Y drwg ei hun a dybia eraill’. ‘Cenfigen a ladd ei berchennog’. ‘Doeth wedi’r digwydd’. Sut buasech yn disgrifio eich hun ar hyn o bryd?: Bodlon.
BEIRNIAD CENEDLAETHOL
Llongyfarchiadau i Martin Gwynedd [Llanbedr gynt] ar gael ei ddewis i feirniadu Prif Seremoni dydd Mawrth yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, sef Cystadleuaeth Medal y Dysgwyr. Tiwtor Cymraeg yn y gweithle ydi Martin ac mae’n gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd. Cyhoeddodd un llyfr, sef ‘Deinosoriaid Difyr’ yn y gyfres i blant sy’n dysgu Cymmraeg o’r enw ‘Brechdan Inc’.
LLANFAIR A LLANDANWG CODI SBWRIEL
Llywydd. Mynedfa i Ffridd Rasus oedd y man cyfarfod. Bu’r bedair ynghyd ag Alan Hughes, Swyddog Gorfodaeth Stryd, yn brysur ac fe wnaethant lwyddo i gasglu pum bag llawn mewn cwta awr. Diolch i Haf am gysylltu â Jonathan Neale ac i Alan am ddod â ffyn, menig a bagiau pwrpasol. Ar nos Iau, Mai 15 aeth Bronwen draw i’r Ganllwyd i Noson Flynyddol y Dysgwyr. Daeth criw da ynghyd i’r noson yng nghwmni Hywyn Williams. Cafwyd sgwrs a chwis a bwffe bys a bawd cyn troi am adref.
YN EISIAU IS-OLYGYDDION I‘R PAPUR HWN
Llais Ardudwy Ni chawsom unrhyw ymateb i’n ceisiadau diweddar am gymorth i olygu’r papur hwn. Ni all y papur barhau yn y tymor hir heb i ni gael gwaed newydd i helpu yn y gwaith o’i baratoi. Os gallwch helpu mewn unrhyw fodd, buasem yn falch iawn o glywed gennych. Diolch am bob cefnogaeth.
Merched y Wawr Llanfair a Harlech Nos Fawrth y 7fed cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y gangen. Wedi ymdrin â materion yn ymwneud â’r gangen, aeth Bronwen ymlaen i groesawu’r gŵr gwadd. Y gŵr gwadd oedd Wyn Peate a fu’n rhedeg ysgol yrru am 25 mlynedd. Cafwyd noson hwyliog yn ei gwmni yn adrodd troeon trwstan y daeth ar eu traws yn ystod ei waith fel hyfforddwr dreifio. Roedd cyfle hefyd i glywed hanesion rhai o’r aelodau wrth iddynt ddysgu dreifio. Janet dalodd y diolchiadau gyda Bronwen a Janet yn gofalu am y baned. Sheelagh enillodd y raffl. Ar ddydd Llun, Mai 13 bu dwy o’r aelodau yn darllen Llais Ardudwy ar gyfer y deillion. Ar Mai 14, y gangen oedd yn gofalu am gyfarfod mis Mai i Deulu’r Castell. Cafwyd pnawn diddorol yn chwarae’r Gêm Chwilen cyn cael te pnawn llawn o ddanteithion blasus. Ddydd Mercher y 15fed aeth pedair aelod, Bronwen, Edwina, Sue a Janet i gasglu sbwriel fel rhan o Brosiect y
Caffi’r Pwll Nofio Harlech Dydd Sadwrn, Mehefin 22 am 5.30 Tocynnau: £1
3
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Colli Non Trist iawn oedd clywed am farwolaeth Non ar ôl cystudd blin a hithau ond yn 57 oed. Mae cof melys iawn amdani ymhlith trigolion y pentref yn arbennig am ei gwaith dyngarol. Roedd ganddi gysylltiad agos iawn ag aelodau Côr Meibion Ardudwy a byddai yn trefnu cyngerdd blynyddol yn eu cwmni yng nghanolfan Rheilffordd yr Ucheldir. Cawsai’r cyngerdd hwnnw ei nodweddu gan yr holl rinweddau a wnaeth Non yn bersonoliaeth mor ddengar. Brwdfrydedd wrth baratoi a thrylwyredd. Bwrlwm wrth ei chyfarfod ond heb ormod o rwysg. Parodrwydd i weithio’n galed er mwyn cyrchu at y nod. Balchder o’i bro a’i Chymreictod wrth gyflwyno’r Côr i gynulleidfa ddieithr. Caredigrwydd wrth gyflwyno gwobrau i’r raffl. Lletygarwch cynnes ar ddiwedd y cyngerdd a’r un parodrwydd i ymroi i’r gwahanol dasgau er mwyn gwneud y noson yn llwyddiant. Mi fydd bwlch enfawr ar ôl yr arian byw o ferch yr oedd yn bleser ei hadnabod. Cydymdeimlwn â’i gŵr Malcolm a’i phlant Siân, Rhian a Dylan ac â’i rhieni Huw a Catherine Jones, Ty’n Llan, yn eu tristwch. PM Agor pont Yn ystod tywydd mawr Mawrth 2018 syrthiodd coeden ar draws pont Pentre Gwynfryn a’i malurio, ond yn ystod yr wythnosau diwethaf, agorwyd y bont unwaith eto, gyda phont bren solet sydd yn werth ei gweld. Mae llawer o drigolion yr ardal yn falch o gael defnyddio’r llwybr drachefn.
Ysgol Llanbedr Chwaraeon, chwaraeon a mwy o chwaraeon! Bu’n gyfnod prysur yng nghystadlaethau chwaraeon yr Urdd. Buom yn chwarae pêldroed, gan gymryd rhan hefyd mewn athletau a râs trawsgwlad. Rydym yn falch iawn o’r holl blant sydd yn gwneud eu gorau wrth gynrychioli Ysgol Llanbedr mor arbennig o dda!
Diolch Dymuna Evie Morgan ddiolch o galon i deulu a ffrindiau am y negeseuon, galwadau ffôn, ymweliadau a llu o gardiau a dderbyniodd yn ystod ei arhosiad yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Alltwen. Gwerthfawrogir y caredigrwydd diflino dderbyniodd yn ystod ei waeledd, roedd y cyfan oll yn gysur mawr iddo. Yn ogystal, dymuna ddiolch yn ddiffuant i staff y ddwy ysbyty am eu gofal arbennig. Rhodd £20 Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch y prynhawn
MEHEFIN 9 Capel Nantcol, D Charles Thomas 16 Capel Salem John Williams 18 Capel y Ddôl, Iona Anderson 30 Capel y Ddôl, Parch Geraint Roberts
GWASANAETH CADW CYFRIFON ARDUDWY
Cysylltwch â ni am y gwasanaethau isod: • Cadw llyfrau • Ffurflenni TAW • Cyflogau • Cyfrifon blynyddol • Treth bersonol info@ardudwyaccounting.co.uk 07930 748930 4
Rhai o aelodau cangen Nantcol yng Ngwesty’r Grapes Merched y Wawr Nantcol Aeth criw ohonom i Drawsfynydd gyda’r bwriad o gerdded llwybrau’r Ysgwrn a mwynhau’r golygfeydd godidog. Bu’n rhaid anghofio’r cerdded a threuliwyd orig hwyliog yn mwynhau paned a chacen flasus a sgwrs ddifyr gydag Alwen (Frongaled). Cawsom gyfle i weld yr arddangosfa gan gynnwys llyfryn yn dangos yr holl haenau o bapur oedd ar waliau cegin y tŷ a ffosil arbennig o’r haenau tu ôl y cloc tywydd. Roeddem i gyd wedi rhyfeddu at waith cywrain myfyrwraig o Ysgol y Creuddyn sef dyblygiad o ffrog wen laes yr oes gyda phrintiadau o hanes yr Ysgwrn arni. Cyn troi am adref aethom draw i Westy’r Grapes, Maentwrog, i fwynhau pryd o fwyd. Cydymdeimlodd Rhian hefo Jean ac Anwen yn eu profedigaeth o golli ewythr ac anfonwyd ein cofion at Beti Wyn a Pat. Llongyfarchwyd Ann ac Anwen am ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth dominos Meirionnydd. I ddiweddu, trafodwyd nifer o faterion y Mudiad.
Teulu Artro Fe’n croesawyd gan Glenys ar Mai 7, a dymunodd adferiad iechyd buan i Evie M Jones. Yna croesawodd Mari Wyn a’i mam, Morfudd, atom, a chawsom bnawn difyr gyda Mari Wyn yn dangos ei gwaith gradd mewn ffotograffiaeth o Brifysgol Caer. Roedd wedi dewis sôn am amaethu yng Nghwmnantcol, a’i lluniau mewn du a gwyn wedi canlyn amaethwyr y Cwm ar hyd y tymhorau. Bu’n arddangos ei gwaith yn Oriel Croesoswallt ac enillodd wobr mewn cystadleuaeth yn y Farmers’ Weeekly. Braf yw deall ei bod yn medru cael gwaith yn ei hardal. Diolchodd Iona iddi am bnawn diddorol. Tynnwyd y raffl gan Pam ac Eirwen. Cyn mynd adra tynnwyd ein lluniau gan Mari Wynn.
DIARHEBION - C ac Ch
Cadarna’r mur po arwa’r garreg
Cadw dy ardd, ceidw dy ardd dithau Cadw dy dafod i oeri dy gawl Cais ffrwyn gref i farch gwyllt Canmol dy fro a thrig yno Canmoled pawb y bont a’i dyco drosodd Câr cywir, yn yr ing fe’i gwelir Cariad yw mam pob dwyfoldeb Cas athro heb amynedd Cas chwerthin heb achos Cas dyn a ddirmygo Dduw a dyn Cas dyn ni chredo neb, na neb yntau Cas fydd un enllibiwr gan y llall Cas gŵr na charo’r wlad a’i maco Cas yw’r gwirionedd lle nis carer Castell pawb, ei dŷ Ceffyl da yw ewyllys Ceiniog a enillir ydyw’r geiniog a gynilir Ceir llawer cam gwag trwy sefyll yn llonydd Celf orau yn y tŷ; gwraig dda Cenedl heb iaith, cenedl heb galon Cenfigen yw gwraidd pob cynnen Cennad hwyr, drwg ei neges Clyw a gwêl ac na ddywed ddim Cred air o bob deg a glywi, a thi a gei rywfaint bach o’r gwir Crochaf yr afon, lleiaf y pysgod Cura’r haearn tra fo’n boeth Cwsg yw bywyd heb lyfrau Cydwybod euog a ofna ei gysgod Cyfaill blaidd, bugail diog Cyfaill da cystal â cheffyl Cyfoeth pob crefft Cyfoethog pob bodlon Cymydog da ydyw clawdd Cynt y cwrdd dau ddyn na dau fynydd Cyntaf i’r felin caiff falu Cyntaf ei og, cyntaf ei gryman Cysur pob gwyryf - cusan
Ch
warae’n troi’n chwerw Chwedl a gynydda fel caseg eira Chwefror garw; porchell marw Chwerthin a wna ynfyd wrth foddi Chwynnwch eich gardd eich hun yn gynta
LLYTHYR
Teithiau mynydd i ddysgwyr
Cwmorthin Eleni, am y tro cyntaf mi fydd yna fusnes mynydda Cymraeg yn ymestyn ei ddarpariaeth i gynnig cyfleodd i ddysgwyr Cymraeg ddatblygu eu hyder sgwrsio wrth droedio mynyddoedd Eryri. Gweledigaeth Stephen Jones o Ddyffryn Ogwen, sylfaenydd a phrif arweinydd busnes anturio ‘Anelu - Aim Higher’ ydi arwain teithiau mynydda sy’n rhoi cyfle i oedolion sy’n dysgu Cymraeg i gynyddu eu hyder yn y Gymraeg. Meddai Stephen, “Mae mynydda a sgwrsio wrth grwydro Eryri yn ffordd wych o gymhathu i’r gymdeithas Gymraeg a dod i adnabod tirlun a chynefin Eryri drwy lygaid Cymry lleol.” Partneiraid Anelu-Aim Higher yn y fenter ydi Hunaniaith: Menter Iaith Gwynedd. Meddai Ifan Llewelyn Jones, “Un o amcanion Hunaniaith ydi cynnwys dysgwyr mewn gweithgareddau yn eu cymuned sydd am roi cyfle iddyn nhw ddod i arfer siarad Cymraeg mewn awyrgylch gefnogol. Mae syniad Stephen yn gyfle gwych i ni gyflawni hynny.” Esboniodd Ifan fod lle i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf ymuno â’r teithiau mynydda hefyd “wrth gwrs, er mwyn rhoi’r cyfleoedd i ddysgwyr yn llawn mae angen Cymry Cymraeg arnom hefyd, Felly os oes yna siaradwyr Cymraeg ac awydd ymuno â’r teithiau cerdded mi fyddai yna groeso mawr iddynt.” Mi fydd dwy daith gyntaf ‘Anelu-Aim Higher’ i ddysgwyr yn cael eu cynnal ar yr 8fed a’r 10fed o Orffennaf, 2019. Aiff y gyntaf o Danygrisiau, drwy Gwmorthin i Groesor a’r ail o Fethesda, heibio Mynydd Llandygai a Dinorwig i Lanberis. Am fwy o fanylion cysylltwch ag Ifan ar 01286 679452 hunaniaith@ gwynedd.llyw.cymru.
CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF
GWESTY DEWI SANT MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod
Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant PORTHMADOG 01766 512214/512253 60 Stryd Fawr
Clywsom fod tendr wedi ei osod ar gyfer dymchwel Gwesty Dewi Sant yn Harlech. Hen bryd hefyd ddywedwn ni!
PWLLHELI 01758 612362 Adeiladau Madoc
office@bg-law.co.uk
ABERMAW 01341 280317 Stryd Fawr
Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd …
5
RYGBI TAG
Dau dîm Ysgol Cefn Coch fu’n cystadlu
Dyma’r enillwyr sef un o dîmau Ysgol y Traeth, Bermo.
Tim Ysgol Dyffryn Ardudwy a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth
CORNEL Y FFERYLLYDD Clefyd y Gwair
A ninnau bellach yn agosáu at fisoedd yr haf, bydd tymor clefyd y gwair yn ei anterth. Er hyn mae’n bwysig i ni gofio fod clefyd y gwair yn broblem yn ystod y gwanwyn a’r hydref yn ogystal. Paill sy’n achosi clefyd y gwair. Yn ystod y gwanwyn lefel paill coed sy’n uchel, yn ystod yr haf mae lefelau paill gwair yn codi ac yn yr hydref paill chwyn sy’n achosi trafferth. Mae’r paill yn achosi i’r corff ryddhau histamin sy’n achosi symptomau annifyr clefyd y gwair. Mae symptomau yn cynnwys tisian, trwyn yn rhedeg neu wedi blocio a llygaid yn cosi. Gall gael gwir effaith ar ansawdd bywyd dioddefwyr. Er fod meddyginiaeth ar gael mae’n bwysig ystyried pethau y gallwch wneud eich hun. Mae rhoi Vaseline o gwmpas y ffroenau yn gallu dal paill cyn iddo fynd i mewn i’r trwyn ac achosi rhyddhad histamin. Mae’r un peth yn wir am wisgo sbectol haul i arbed paill rhag mynd i’r llygaid. I’r rhai sy’n cael symptomau yn y nos rydym yn awgrymu cau ffenestr y llofft
6
yn ystod y dydd, cael cawod cyn mynd i’r gwely i olchi’r paill o’r gwallt a’r corff ac i adael y dillad yr ydych wedi ei gwisgo yn ystod y dydd y tu allan i’r ystafell wely. Mae yna ddewis eang o feddyginiaethau ar gael o’r fferyllfa i helpu gyda symptomau clefyd y gwair. Un o’r opsiynau mwyaf effeithiol yw tabledi gwrth-histamin megis loratadine a cetirizine. Mae’r tabledi yma yn helpu i arbed histamin rhag achosi y symptomau a ddisgrifir uchod. Mae hefyd yn bosib cael drops llygaid sodium cromoglicate neu chwistrell trwyn beclometasone i helpu. Mae’n bosib prynu’r rhain dros y cownter mewn fferyllfeydd ond hefyd erbyn hyn maent ar gael yn rhad ac am ddim o fferyllfeydd Cymru wedi eu hariannu o dan gynllun mân anhwylderau’r GIG. Cofiwch fod croeso i chi alw heibio eich fferyllfa leol unrhyw bryd am gyngor gyda chlefyd y gwair neu i gael gafael ar feddyginiaethau. Steffan John
Disgyblion B3 a B4 o Ysgol Tanycastell a fu’n cystadlu mewn rygbi tag yn Harlech yn ddiweddar
Tîm arall o Ysgol y Traeth Mwynhawyd noson hwyliog gyda B3/4 ysgolion cynradd y Traeth, Dyffryn Ardudwy, Tanycastell, a Cefn Coch. Diolch i Graham Perch a Gavin Fitzgerald am ddyfarnu, i Osian Roberts a Sian Edwards am hyfforddi a threfnu ar y noson ac i bawb am sicrhau llwyddiant y noson. Llongyfarchiadau mawr i’r holl dimau a’u hathrawon am gefnogi.
YSGOL TANYCASTELL
Bu’n fis go brysur arnom yn Ysgol Tanycastell. Ar ddechrau’r mis cafodd disgyblion B6 hyfforddiant beicio, gyda deg ohonynt yn llwyddo i basio Lefel 2. Maent yn awr yn gwybod sut i feicio yn ddiogel o gwmpas yr ardal. Bu disgyblion B3/4 yn cymryd rhan yn Nhwrnament Rygbi ar Gaeau San Siôr. Chwaraewyd 5 o gemau. Enillwyd tair a chollwyd dwy. Da iawn chi, blantos. TRAWSGWLAD Bu dau o ddisgyblion yr ysgol yn cystadlu yn Râs Trawsgwlad Coed y Brenin yn ddiweddar. Llongyfarchiadau i Marley Goulden-Mack ar ddod yn bumed yn Râs Bechgyn B4 ac i William Bailey am ddod yn ail yn Râs Bechgyn B6. Da iawn chi, hogie! ATHLETAU Bu nifer fawr o ddisgyblion yn cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Athletau yr Urdd ar Fai15 ar gaeau Ysgol Ardudwy. Dyma’r canlyniadau: 1af: Garrett Russell - 100m 5/6 1af: Nansi Evans-Brooks – 100m 5/6 1af: Rhys Hanley - 600m 3/4 3ydd: Iwan Evans-Brooks – 600m 3/4 1af: William Bailey – 600m – 5/6 1af: Nansi Evans-Brooks – Naid hir 5/6 1af: William Bailey – Naid Hir 5/6 3ydd: Garrett Russell – Naid Hir 5/6 3ydd: Nansi Evans-Brook, Taflu Pêl 5/6 2il: Ras Gyfnewid bechgyn B3/4 1af: Ras Gyfnewid Merched B5/6 1af: Ras Gyfnewid Bechgyn B5/6 Llongyfarchiadau gwresog iddynt i a phob lwc yn yr Athletau Rhanbarth a gynhelir ddechrau Mehefin. Cynhaliwyd Ras Rwystrau Noddedig ar gyfer disgyblion y
Cyfnod Sylfaen ar Ddydd Iau Mai 16 ar dir yr ysgol. Cafwyd pnawn arbennig yn yr haul a chafwyd cefnogaeth dda gan y rhieni. Diolch i staff y Cylch Meithrin am gynnal stondinau yn ystod y pnawn. TAITH GERDDED Cynhaliwyd Taith Gerdded Noddedig ar gyfer disgyblion CA2 ar ddydd Gwener, Mai 17 i’r traeth, heibio gwesty Dewi Sant ac yn ôl i’r ysgol – oddeutu 5k. Diolch i Mr Peter Smith ac i weddill y Cyfeillion am drefnu. Ar hyn o bryd, mae dros £800 wedi ei gasglu. Diolch yn fawr i bawb am y gefnogaeth. YMWELIAD Cafwyd ymweliad gan ‘Paid Cyffwrdd Dweud’ ar Ddydd Iau, Mai 23. Neges bwysig iawn ar gyfer y disgyblion.
Gofal plant am ddim?
Pwy sy’n gallu elwa ar y cynllun? Mae’r cynllun yn cynnig 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant. Mae ar gael i rieni plant 3 a 4 oed sy’n gweithio hyd at 48 wythnos y flwyddyn. I fod yn gymwys: i) rhaid i’ch plentyn fod yn 3 neu 4 oed ac yn cael mynediad at Addysg Cyfnod Sylfaen rhanamser; ii) rhaid i chi fod yn gweithio ac yn ennill gyfwerth ag o leiaf 16 awr ar gyflog byw cenedlaethol neu’r isafswm cyflog cenedlaethol; neu’n derbyn budd-daliadau gofal penodol. Cewch wybodaeth am y cynnig gofal plant ar www.gwynedd. llyw.cymru/30awr Cysylltwch gydag Uned Gofal Plant Gwynedd a Môn ar e-bost: gofalplant30awr@gwynedd. llyw.cymru neu ffoniwch 01248 352436.
7
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT
Clwb Cinio Dydd Mawrth 21 Mai, Bryn Cynan, ger Nefyn, oedd y gyrchfan am ginio a phawb wedi eu plesio gan ansawdd y bwyd. Roeddem yn falch iawn fod Mrs Beti Parry, wedi gwella’n ddigon da i fod gyda ni. Yna aethom i ymweld ag Eglwys Pistyll, eglwys hynafol iawn. Yn ôl y sôn mae’r ochr orllewinol yn dyddio o’r 12fed ganrif a’r ochr ddwyreiniol o’r 15fed ganrif. Ar un pryd doedd dim ffenestri yng nghorff yr eglwys, na seddau chwaith, felly y disgwyl oedd i’r gynulleidfa sefyll neu benlinio. Cyfeirir at ffenestr yn ochr ogleddol yr eglwys hyd heddiw fel ffenestr y gwahanglwyfion. Dyna lle roeddent hwy’n gorfod sefyll ar y tu allan ac edrych i mewn ar y gwasanaeth. Ym Mynwent Pistyll mae’r actor Rupert Davies neu ‘Maigret’, fel roedd pawb yn ei adnabod ar un pryd oherwydd mai ef oedd yr actor oedd yn chwarae’r rhan hon, wedi ei gladdu, a chawsom hyd i’w garreg fedd. Ar y ffordd adre aethom i ‘Caffi Ni’ ym Mhistyll am baned a chael croeso cynnes yno. Ni fyddwn yn cyfarfod fis Mehefin ond ar 16 Gorffennaf byddwn yn mynd i Aberdaron. Cydymdeimlad Ar 12 Mai, bu farw Mrs Pamela Ratcliffe, Hafodwen, Dyffryn. Cydymdeimlwn yn fawr â’i gŵr Allan, y plant Helen a Colin a’r teulu oll yn eu profedigaeth. Diolch Diolch am y rhodd o £5 gan Meurig Jones.
8
Clwb Gwau Daeth tymor y clwb gwau i ben ganol Mai. Buom yn brysur iawn yn gwneud rhithod a choed Nadolig gan ddefnyddio pom poms i Rhian eu gwerthu er budd yr Ambiwlans Awyr a gwnaeth elw o £275. Buom yn gwau sliperi a menig i blant bach Rwmania. Cafodd sawl siôl ei gwau ar gyfer Hafod Mawddach ac Ysbyty Dolgellau. Buom yn gwau capiau, blancedi a chardigans i fabanod cyn-amser yn Ysbyty Gwynedd a chapiau chemo i gleifion sy’n wynebu’r driniaeth yn Uned dydd Alaw, Ysbyty Gwynedd. Cyn y Pasg buom yn gwau cywion bach melyn i ddal ŵy Pasg i Jane eu gwerthu i godi arian at Glwb Cadwgan. Mae Bronwen, Aldwyth ac Alma yn absennol o’r llun. Byddwn yn ail gychwyn ym mis Medi. Croeso i unrhyw un ddod ac nid oes rhaid gwau; dowch am baned a sgwrs.
Robert Isaac Pugh Bu farw Bobbi Pugh, fel yr adnabyddir ef gan ei deulu a’i ffrindiau, yn Ysbyty Brenhinol Gwent ar yr 29ain o Ebrill. Gŵr annwyl Pat, roedd yn frawd i Mari, Catherine, Wilfred a’r diweddar John, Gwendo, Ifan David, Peter, Gwilym a Hughie. Cafodd ei eni yn 1930 yn Dyffryn Ardudwy yn un o ddeg o blant y diweddar Ifan a Mary Pugh. Gyda dau o’i frodyr, dechreuodd weithio fel labrwr fferm ar wahanol ffermydd lleol tan ei Wasanaeth Cenedlaethol gyda’r Awyrlu. Pan ddychwelodd adref roedd gwaith yn brin iawn a symudodd i’r de a gweithio ar adeiladu gweithfeydd dur yn Llanwern. Cyfarfu â Pat a phriodwyd y ddau yn 1961 a setlo wedyn yn Risga. Rhoddwyd ef i orffwys ym mynwent Danygraig, Risga ddydd Gwener 24ain o Fai. “Gŵr bonheddig yng ngwir ystyr y gair”. Genedigaeth Llongyfarchiadau gwresog i Jonathan a Sophie Greenfield, Llwyn Ynn ar enedigaeth merch, Rosie May. Dymuniadau gorau i’r teulu bach.
Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn y Neuadd Bentref bnawn Mercher, 15 Mai i gynnal ein Cyfarfod Blynyddol. Croesawyd pawb gan Gwennie, gyda chroeso arbennig i Mrs Beti Parry oedd wedi gwella’n ddigon da i ddod atom a llongyfarchodd Mrs Catherine Jones ar gael ei henwebu i fynd i Windsor i gyfarfod y Frenhines, a derbyn arian cardod ar y dydd Iau cyn y Pasg. Cafwyd dwy aelod newydd yn ystod y tymor sef Blodwen a Rhian, Ty’n Wern. Cafwyd tymor llwyddiannus eto eleni a chwmni siaradwyr difyr iawn ac aed ati i gasglu syniadau ar gyfer rhaglen y tymor nesaf. Yna gwnaed y trefniadau ar gyfer mynd i Westy’r Eryrod yn Llanuwchllyn ar 19 Mehefin i ddiweddu’r tymor a chael te prynhawn yno.
PRIODAS
Dyma lun Cara Betty, merch Arfon a Diane Roberts o’r Bala yn priodi Arwyn Morris. Mae Cara yn wyres i Gwylfa a’r diweddar Ella Roberts, Dyffryn Ardudwy. Llongyfarchiadau iddynt a dymuniadau gorau i’r dyfodol.
CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT
CYHOEDDIADAU’R CADEIRYDD Cydymdeimlodd y Cadeirydd â theulu y diweddar Mrs Olwen Lewis a oedd wedi bod yn Glerc y Cyngor hwn o 1987 hyd 2004, hefyd â theulu y diweddar Mr Roy Pitman a oedd yn weithgar iawn gyda’r clwb garddio lleol. Llongyfarchwyd Hefin, Elwyn a Robert John Evans (brodyr Eithinfynydd) ar gael eu hethol yn Llywyddion Cymdeithas y Gwartheg Duon am y flwyddyn i ddod. CEISIADAU CYNLLUNIO Dymchwel garej penty presennol gyda tho sinc ac adeiladu garej newydd gyda tho llechi – Tŷ’n Coed. Cefnogi’r cais hwn. Gosod carafan statig i’w defnyddio fel lle byw i’r rheolwr yn ystod y tymor agor (1af Mawrth – 14eg Ionawr) – Murmur yr Afon. Cefnogi’r cais hwn. Dymchwel lolfa wydr UPVC a chodi estyniad to brig – Coed Mawr, 3 Wernfach. Cefnogi’r cais hwn. MATERION YN CODI Ethol Swyddogion am y flwyddyn 2019/20 Cadeirydd: Cyng Emrys Jones Is-gadeirydd: Cyng Siân Edwards Pwyllgor Elin Humphreys: Cyng Edward Griffiths Neuadd Bentref Cafwyd gwybod y cynhelir cyfarfod blynyddol pwyllgor yr uchod ar y 9fed o’r mis hwn. Adroddodd y Cadeirydd ei fod wedi derbyn anfoneb gan y Brodyr Williams am y gwaith yr oeddynt wedi ei wneud ar brif fynedfa’r Neuadd ac adroddodd y Clerc ymhellach bod y Cyngor wedi cytuno i dalu am gwblhau’r gwaith yma yn eu cyfarfod fis Hydref diwethaf. Cytunwyd i dalu yr anfoneb hon. Hefyd cafwyd gwybod bod y Cyngor yn arfer rhoi £1,500 fel cyfraniad ariannol i bwyllgor yr uchod ym mis Mai, felly cytunwyd i dalu hwn hefyd. Ceisiadau am gymorth ariannol CFfI Meirionnydd - £250.00 Pwyllgor Neuadd Bentref - £1,500.00 – hanner y cyfraniad blynyddol Hamdden Harlech ac Ardudwy - £5,182.75 – hanner y cynnig praesept
Gwasanaethau’r Sul Horeb MEHEFIN 9 Dafydd Charles Thomas 16 Buddug Medi 23 Cyfarfod Gweddi 30 Elfed Lewis GORFFENNAF 7 Pererindod – Taith Eglwys
Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/ llaisardudwy/docs Llais Ardudwy
Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd
Tel: 01341 247799 www.smithygarage-mitsubishi.co.uk smithygaragedyffryn
smithygarageltd
Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes
GWERYDDON
Gweryddon neu Hugh Evans oedd bardd lleol o Dal-y-bont a gadwai siop gyda’i fam. Yn y Traethodydd yn 1923 mae’r Parch Z Mather, y Bermo yn crybwyll sawl stori amdano. Dyma un ohonynt: Yr oedd yn arferiad yn amser Gweryddon a’i fam i ofyn i gwsmeriaid a ddeuai o bell ffordd i brynu i gymryd cwpaned o de cyn cychwyn yn ôl. Un tro gofynnodd i gwsmeres o’r wlad ddyfod i’r gegin am gwpaned i’w chario gartref. Mwynhai ef yn fawr, a gofynnai yn amheus a oedd y te a werthid ganddynt yn y siop cystal ag ef. ‘Yr un yn hollol,’ dywedai Gweryddon, ‘ond rydach chi wedi cael te heddiw gyda llaeth geifr yno fo, ’rhwn sy’n llawer gwell na llaeth gwartheg.’ ‘Och a fi!’ gwaeddai yr hen wraig yn gynhyrfus. ‘Taswn i’n gwybod, chawsech chi roi ‘run diferyn yn ’y nghwpan i. Gadewch i mi fynd allan i’r gwynt, ’rydw i’n ofni mod i’n mynd yn sâl.’ Ac allan â hi. Ni allasai Gweryddon a’i fam beidio gwenu wrth ei gweld yn mynd. Daeth yn ôl yn fuan wedi dyfod ati ei hun, a dywedai tan ysgwyd ei phen, “Ymhell bo’ch hen eifr chi, ddeuda i.” Yr oedd rhagfarn cryf ym meddyliau pobl y pentre a’r ardal yn erbyn llaeth geifr. Mae yn eithaf tebyg mai er mwyn cael ychydig ddifyrrwch y cadwodd Gweryddon nes iddynt orffen te cyn dweud am ragoroldeb llaeth geifr.
RYGBI
Disgyblion B3 a B4 o Ysgol Dyffryn Ardudwy a ddaeth yn ail yn nhwrnament rygbi’r dalgylch yn Harlech yn ddiweddar
JACK CARSON Ni chlywais yr un gair drwg am Jack Carson gan neb erioed. Hen foi iawn oedd o. Yr oedd yn boblogaidd gan bawb ac yn goleuo pob cwmni gyda’i wên barod a’i hiwmor iach. Roedd yn wreiddiol o’r Bermo a chredaf ei fod wedi bod yn ei ieuenctid yn gweithio mewn pwll glo. Gwn hefyd ei fod wedi gweithio ar lein ar yr hen GWR. Roedd yn amlwg ei fod wedi’i fagu o dan y llinell honno lle mae’r ‘a’ yn troi yn ‘e’. Wrth drafod ei ddyddiau ar y lein, ai’r sgwrs rhyngom rhywbeth yn debyg i, ‘Yn y ciab roedd na blaet baech sgwaer oedden ni i fod i’w giadw fo’n laen.’ Fel aelod o Gôr Meibion Ardudwy y deuthum i’w nabod
gyntaf. Roedd wrth ei fodd gyda’r gwmnïaeth yn y fan honno ac yn mwynhau teithio ymhell ac agos. Roeddem yn codi 12 aelod yn y Bermo bryd hynny ac mae’r atgofion yn llifo’n ôl wrth feddwl am rai o’r cyfeillion sydd wedi’n gadael. Soniai Jack lawer am garedigrwydd ei ferch tuag ato a byddai’n gofalu am anrhegion i’w wyrion ar bob taith, ac yn talu’n ddrud amdanyn nhw weithiau! Cawsom ei gwmni hwyliog ar sawl taith i Iwerddon ac mae gennym stôr o atgofion melys amdano. Mae’n debyg mai’r wên a’r direidi yn ei lygaid sy’n aros. ‘Y wên na phyla amser!’ PM
9
Y BERMO A LLANABER Merched y Wawr Bermo a’r Cylch Nos fawrth Mai 21ain, daeth nifer dda ynghyd i’r Parlwr Mawr, Theatr y Ddraig. Croesawyd yr aelodau gan Grace, ein hysgrifennydd, derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Llewela a Gwenda, a dymunwyd gwellhad buan i Gwenda. Cytunodd Llewela a Grace i barhau yn eu swyddi am flwyddyn arall, a chytunodd Megan i fod yn drysorydd. Cawsom adroddiad gan Pam am Wŷl y Pum Rhanbarth yn ddiweddar. Croesawodd Heulwen, ein gwraig wadd i’n plith, sef Gwenda Griffiths o Dalsarnau a’i “gosodiad blodau”. Roedd Gwenda wedi paratoi un gosodiad ymlaen llaw, sef ar ffurf hanner lleuad. Tra yr oedd wrthi’n creu yr ail osodiad, un mwy traddodiadol ar siâp triongl, cawsom beth o’i hanes yn blentyn bach yn yr ardd adre gyda’i thad a fu’n ddylanwad mawr arni ac â’i dysgodd am yr holl blanhigion a’u henwau. Cyflwynodd Gwenda y ddau drefniant fel gwobrau raffl. Yr enillwyr lwcus oedd Jean a Mair. Cafwyd noson ddifyr a chartrefol iawn yn ei chwmni. Ar derfyn y noson rhoddwyd y diolchiadau gan Iona. Pen-blwydd Ar y 18fed o Fehefin, bydd y tymor yn darfod, a mae trefniant y Llongyfarchiadau i Mrs Gwyneth Edwards, Bod Gwilym, Llanaber a oedd noson i’w gadarnhau. yn dathlu ei phen-blwydd yn 90 oed yn ddiweddar. Hyderwn iddi gael diwrnod wrth ei bodd.
Diolch Dymuna Gwyneth Edwards, Bod Gwilym, Llanaber ddiolch i bawb a wnaeth y dathliad ar achlysur ei phen-blwydd yn 90 oed yn ddiweddar mor bleserus. Rhodd £20
Pencampwr Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cafodd Aled Shenton, Caerddaniel, dymor eithriadol lwyddiannus gyda’i wartheg Charolais. Mae pethau’n argoeli’n dda eto eleni gyda’i lwyddiant yn sioe gyntaf y flwyddyn yn Nefyn. Cipiodd Aled y brif gystadleuaeth rhyngfrid gyda’i heffer ‘Caerddaniel Nice’ sy’n hanner chwaer i ‘Nanette’ a fu mor llwyddiannus y llynedd. Pen-blwydd arbennig Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i Eirlys Williams, Heol y Llan ar gyrraedd ei phen-blwydd yn 90 oed.
MACHLUD HAUL YN ARDUDWY
Merch o’r Bermo Diolch i Dilys Roberts, Gorffwysfa, Dyffryn Ardudwy am hanes Dr Ann Niall. Cafwyd yr wybodaeth gan Ceri Williams, Glanffrwd, Tal-y-bont a oedd wedi cyfarfod Elizabeth, merch hynaf Ann mewn clwb Cymraeg yn Awstralia. Roedd Ann Niall (Morgan) yn ferch i’r fferyllydd D T Morgan a’i wraig Gwladys yn y Bermo. Priododd â Dr John Niall ac ymgartrefu ym Melbourne, Awstralia a ganwyd iddynt saith o blant. Roedd y ddau yn arloeswyr ym maes meddygaeth. Arbenigedd Dr John Niall oedd yr arennau ac roedd Dr Ann Niall yn flaenllaw iawn ym maes seiciatreg plant am dros 60 mlynedd. Roedd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Melbourne ar iechyd meddwl plant, ac roedd yn dal i ddysgu mewn seminarau hyd yn 88 oed. Bu farw John ar drothwy Nadolig 2018 yn 89 oed. Ef oedd yn gyfrifol am sefydlu uned arennau yn Ysbyty St Vincents, Melbourne. Ar 17 Ebrill 2019 bu farw Ann yn 93 oed. Ymddangosodd teyrngedau i’r ddau mewn papurau newydd Awstralia ac roeddent oll yn datgan fod y ddau wedi cyflawni gwasanaeth clodwiw iawn. Ennill Llongyfarchiadau i Mollie a Tyler, Ysgol y Traeth am ddod yn fuddugol gyda’i gwaith creadigol 3D yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd.
Dywed rhai nad oes unman gwell nag Ardudwy i weld yr haul yn machlud. Os oes gennych chi luniau da o’r machlud yn yr ardal hon, buasem yn falch iawn o’u cyhoeddi.
10