Llais Ardudwy Mehefin 2019 Tud 11-20

Page 1

LLINOS ARDUDWY

Eglwys y Bedyddwyr, Utica Merch i Thomas Lewis (ganed 1812), a Jane Lewis (ganed 1822), oedd Mrs Jane Jones (Llinos Ardudwy), a anwyd yn Llanenddwyn, Dyffryn Ardudwy, yn 1856. Un o Lanaber oedd ei thad, a’i mam o Lanenddwyn. Yng Nghyfrifiad 1871 yr oedd ei rhieni yn byw yn Tyddynllan, Dyffryn, ei thad yn ffermwr 22 acer. Hefyd yn rhannu yr un aelwyd yn Tyddynllan, blwyddyn y Cyfrifiad hwnnw, oedd Morgan Humphrey, meddyg anifeiliaid, 79 oed, a Laura, ei wraig, 65, oedd yn gaeth i’w gwely ers rhai blynyddoedd, sef rhieni Jane Lewis, a’r ddau yn enedigol o Lanfair. Ar 10 Mai 1876, yn Eglwys Dewi Sant, Lerpwl, eglwys a adeiladwyd yn 1827 ar gyfer Cymry Lerpwl, priododd Llinos Ardudwy, 21 oed,

TOYOTA HARLECH

COROLLA HYBRID NEWYDD

Dewch i roi cynnig ar yrru’r Corolla newydd! Mae ’na ganmol mawr i hwn! facebook.com/harlech.

Ffordd Newydd Harlech LL46 2PS 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@harlech.toyota.co.uk Twitter@harlech_toyota

â Lewis Evans, 34 oed, gŵr gweddw, a’r ddau ar y pryd yn byw yn Lerpwl. Brodor o Abererch, Eifionydd, oedd Lewis Evans (ganed 1840), ac yn gapten llong. Ei wraig gyntaf oedd Alice Roberts (1844-1875); priodont hwythau yn yr un eglwys yn Lerpwl. Bu farw Alice ymhell i ffwrdd, yn Chile, De America, tra’n mordeithio gyda’i gŵr ar un o’i longau. Marw ar un o’i fordeithiau fu hanes Lewis Evans hefyd, gan adael Jane, ei ail wraig, yn weddw gyda thri o blant. Dau ohonynt oedd Jane Ellen Evans (ganed 1877), a William Griffiths Evans (ganed 1878), y naill wedi ei eni yn Llanenddwyn, a’r llall yn Aberdaron, Llŷn, a’r ddau yn byw gyda’u mam yn Tyddynllan, yn 1881, ynghyd â gwas, sef Walter Clark, deunaw oed, genedigol o Ynys Wyth. Yr oedd Capten Lewis Evans yn fab i William Evans (1816-87) a Magdalen Griffith (1818-83), y ddau o Abererch. Priodont yn Eglwys Sant Cawrdaf, Abererch, 18 Rhagfyr 1838; bedyddiwyd y tad fel William Evans Williams. Yr oedd Lewis yn un o naw o blant. Tua 1879 ymfudodd Llinos Ardudwy i’r America. 30 Mawrth 1886, ailbriododd hithau â Joseph Cromwell Jones, a gwnaethont eu cartref yn 140 Stryd Genessee, Utica, Efrog Newydd, sef prif stryd y ddinas honno. Porthor oedd galwedigaeth Joseph Cromwell, yr oedd hefyd yn barddoni, ac yr oedd yn dad i chwech o blant: Joseph, Taliesin, Caradog, Emma (Mrs E Herbert Evans), Edith a Mary Ann Jones. Gwasanaethai Joseph fel arolygwr i Gwmni Electric Lamp; gofaint oedd Taliesin, a Caradog yn gwneud sbringiau gwifren. Bu farw Joseph Cromwell 29 Hydref 1897, yn 44 mlwydd oed, a’i gladdu ym Mynwent Eglwys y Bedyddwyr, Utica. Bu J Cromwell Jones yn arweinydd Côr yr Haydns, yn Utica. Yr oedd gan Jane (Llinos Ardudwy), ei wraig, lais godidog, a chyn iddi ymfudo rhannodd y llwyfan â chantorion fel Eos Morlais, James Sauvage a Lucas Williams. Ei henw llwyfannol oedd Llinos Ardudwy, a chymerai ddiddordeb mewn cerddoriaeth, gan ganu yn achlysurol yn rhai o eisteddfodau y Taliaethau Dwyreiniol, a chafodd sawl llwyddiant yn eisteddfodau Ffestiniog a Chwm Penmachno cyn iddi groesi’r Iwerydd. Yr oedd yn aelod yn Eglwys Methodistiaid Esgobol Grace, 193 Stryd Genessee, Utica. Bu farw mewn ysbyty leol yn Utica, yn 1919. Yr oedd un o’i merched, Mrs Robert Roberts yn byw yn Dyffryn, ac un chwaer hefyd, Elizabeth Evans, hithau rhywle yng Nghymru. W Arvon Roberts

Eglwysi Bro Ardudwy Digwyddiadau 5 Mehefin Noson Goffi yn Nhŷ’r Jeswitiaid, Llanaber, 7.00yh Cynhelir noson goffi flynyddol yn Nhŷ’r Jeswitiaid, Llanaber (ar y briffordd yn wynebu’r traeth). Croeso cynnes i bawb. 9 Mehefin Eglwys Sant Tanwg, Harlech, 10.30yb. Gwasanaeth Bro Sul y Pentecost yw’r adeg yr ydym yn dathlu pen-blwydd yr Eglwys. Ar ôl y gwasanaeth, bydd cinio. 15 Mehefin Eglwys Dewi Sant, Abermaw Te a stondinau sydyn yn Ras Hwylio y Tri Chopa Dewch i fwynhau te neu goffi a chacennau yng ngerddi Eglwys Dewi Sant gyferbyn â’r harbwr, a weinir o 11.30yb tan 3.00yp. 21 Mehefin Neuadd Eglwys Dyffryn Ardudwy 2.00 – 4.00yp. Te Mefus Mynediad: £3.00 yr un yn cynnwys y Te Mefus Prynhawn. 30 Mehefin Eglwys Sant Ioan, Abermaw, Côr merched Cana-mi-gei 7 Gorffennaf Eglwys Sant Ioan, Abermaw 10.30yb. Gwasanaeth y Fro

11


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Merched y Wawr Croesawodd y Llywydd, Siriol Lewis, yr aelodau i’r Cyfarfod Blynyddol yn y Neuadd Gymuned nos Lun, 13 Mai. Cyflwynwyd gwybodaeth am y canlynol : Cyfarfod Cenedlaethol Blynyddol y Mudiad ym Machynlleth dydd Sadwrn, 18 Mai; atgoffwyd pawb am Brosiect y Llywydd Cenedlaethol i gasglu sbwriel a deunyddiau ail-gylchu. Cytunodd rhai o’r aelodau i fynd o gwmpas gwahanol ardaloedd yn ein bro, mewn parau, gyda bagiau ac offer pwrpasol, ar ôl y Sulgwyn. Dangoswyd cynllun y cardiau Nadolig a rhoddwyd cyfle i bawb archebu’r rhain, ynghyd â dyddiaduron 2020. Cafwyd gwybod am: Gystadlaethau Sioe Llanelwedd a’r Ffair Aeaf 2019-2020; Arddangosfa Gwanwyn - Age Cymru Gwynedd a Môn + Noson Ffasiwn codi arian. Yna aethpwyd ati i drafod syniadau ar gyfer ymweliad mis Mehefin i orffen rhaglen eleni, a hefyd cael trafodaeth ar awgrymiadau ar gyfer Rhaglen 2019-20. Ym mis Mehefin penderfynwyd mynd i gael cinio yng Nghaffi Ni yn Nefyn ac ymweld â’r Amgueddfa Forwrol ac Eglwys Pistyll yno. Wedyn trafodwyd syniadau ar gyfer rhaglen flwyddyn nesa’ a chafwyd nifer o enwau i’r ysgrifennydd gysylltu â hwy. Cafwyd adroddiad o’n sefyllfa ariannol gan ein Trysorydd,

Gwenda, ac adroddodd bod y sefyllfa’n iach. Diolchwyd iddi gan Siriol am ei holl waith yn gofalu am ochr ariannol y gangen. Diolchodd Siriol hefyd i bawb a fu’n cynorthwyo mewn unrhyw fodd yn ystod y flwyddyn aeth heibio, a diolchodd yn arbennig i Mai am ei gwaith yn trefnu’r rhaglen. Gwerthwyd tocynnau raffl ar gyfer y Sioe Sir a rhoddwyd copi Haf 2019 o’r Wawr i bob aelod. Paratowyd y baned gan Ann ac Eluned, a Haf enillodd y raffl. Cyn gorffen, diolchodd Mai i Siriol am ei gwaith hithau’n llywyddu’n ardderchog drwy’r flwyddyn. Idris Williams Wrth i’r papur hwn fynd i’r wasg, daeth y newydd trist am golli Idris Williams, Tanforhesgan, Ynys, ac yntau yn 88 oed. Gwnaeth gyfraniad enfawr i fywyd cymdeithasol a diwylliannol yr ardal hon. Mi frwydrodd yn ddewr iawn am dros ugain mlynedd ers iddo gael strôc fawr a chafodd sawl anhwylder yn dilyn hynny. Mae’n meddyliau gydag Eirlys ei wraig, a’i blant Pauline, Denise a Siân Mai a’u teuluoedd. Bu Eirlys yn gefn mawr iddo ar hyd y blynyddoedd. Bu’n ei gynnal yn ddiwyd a chariadus mewn cyfnod anodd i’r ddau. Cydymdeimlwn â’r teulu oll yn eu profedigaeth. Bydd coffâd llawnach iddo yn ein rhifyn nesaf.

R J WILLIAMS IZUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU IZUZU

12

Marchogion Ardudwy Yn dilyn derbyn rhoddion a’u gwaith codi arian yn ystod 2018, mae Marchogion Ardudwy wedi cyfrannu’r canlynol: £800 Bad Achub y Bermo £800 Hosbis yn y Cartref Gwynedd £500 Grŵp Sgowtiaid 1af Harlech £1,000 WITH (elusen geffylau, Porthmadog). Hoffai’r Marchogion ddiolch i bawb a’u cefnogodd yn eu hymdrechion. Diolch Derbyniwyd rhodd o £30.00 gan Mr a Mrs Ieuan Lloyd Evans er cof am Prydwen Jenkins, Ynys, Talsarnau. Hefyd derbyniwyd rhodd o £5.00 i Llais Ardudwy gan Mrs Iona Aubrey.

Neuadd Gymuned Talsarnau

Noson gyda GWERINOS

Nos Sadwrn, 28 Medi 2019 am 7.30. Adloniant ar ffurf ‘cabaret’ fydd hwn. Bydd croeso i chi ddod â’ch diodydd gyda chi. Rhagor o fanylion i ddilyn.

R J Williams Honda Garej Talsarnau Ffôn: 01766 770286


CYNGOR CYMUNED TALSARNAU MATERION YN CODI Ethol Swyddogion am y flwyddyn 2019/20: Cadeirydd: Cyng Eifion Williams Is-gadeirydd: Cyng John Richards MATERION CYNGOR GWYNEDD Yn absenoldeb Freya Bentham adroddodd y Clerc ei bod yn adrodd fel a ganlyn – gosodir y giât mochyn ar y llwybr cyhoeddus ger Pont Briwet yn y mis nesa, gosodir y llygaid cathod ar y ffordd ger Tregwylan yn fuan, hefyd ei bod yn disgwyl cael gwybodaeth ynglŷn â faint o ail gartrefi sydd yn yr ardal yn fuan. Mae’r coed oedd ar y llwybr ceffyl i fyny o Gafael Grom am Soar wedi eu clirio heblaw un. Hefyd ei bod yn parhau mewn trafodaethau ynglŷn â’r safle y tu allan i’r cyn-Gapel Soar. Mae’r sawl oedd yn berchen ar y tai gyferbyn â’r Capel wedi rhoi llwyth o gerrig ar y safle hwn. ADRODDIAD Y TRYSORYDD Ceisiadau am gymorth ariannol Hamdden Harlech ac Ardudwy - £2,006.55 – hanner y cynnig praesept Adroddodd y Trysorydd fod y llyfrau i gyd mewn trefn a’r cyfrifon yn gywir. UNRHYW FATER ARALL Mae’r gwair i fyny am Soar wedi ei dorri’n daclus ond mae angen torri’r coed sydd wedi gor-dyfu ar ochr y ffordd wrth Garth, ger Trem Eifion, hefyd gyferbyn â Bron Wylfa. Mae angen archwiliad diogelwch i offer y cae chwarae a chytunodd Dewi Tudur Lewis gysylltu â Mr Chris Rayner ynglŷn â hyn a gofyn iddo drefnu fod y cwmni a osododd yr offer (neu rhywun arall) yn rhoi adroddiad am ddiogelwch yr offer. Hefyd, datganwyd pryder bod plant yn taflu’r sbwng sydd ar y llawr yno. Datganwyd siom bod ambell un ar ffordd y stesion yn gadael y gwair y maent yn ei dorri yn eu gerddi ar ochr y ffordd; mae hyn yn cael ei gydnabod fel tipio slei bach. Cytunwyd i gadw golwg ar y sefyllfa ac os bydd hyn yn parhau, bod y Cyngor yn mynd â’r mater ymhellach. Datganwyd pryder bod aelod o’r cyhoedd yn ceisio cadw pobl o’r traeth ger Pont Briwet er bod arwydd llwybr cyhoeddus yna, a chytunwyd i ofyn i Freya Bentham gysylltu gyda Liz Haynes ynglŷn â hyn.

DYDDIADUR Y MIS 13 Mehefin Cystadleuaeth Coffa Gwynfor John, 4.30 Cae Brenin Siôr, Harlech 17 Mehefin Diwrnod Agored Cylch Meithrin Harlech, Safle Tanycastell 21 Mehefin Cyfarfod Grŵp Llanbedr/ Huchenfeld, 7.00, Gwesty Tŷ Mawr 22 Mehefin Taith Gerdded er cof am Gwynfor John, 11.00, Gorsaf Bermo 22 Mehefin Cyfarfod Blynyddol Geiriadur Prifysgol Cymru, 2.00, Aberystwyth 16 Gorff Clwb Cinio, 12.00, Aberdaron 18 Gorff Cyngerdd Meibion Prysor, 7.00, Eglwys Llanfihangel-y-traethau. 14-23 Medi Gŵyl Gerdded y Bermo 28 Medi Gwerinos, 7.30, Neuadd Gymuned Talsarnau

ATHLETAU YR URDD

Cyngor Cymuned Harlech [oddeutu 1981]

Hanner marathon Dyma lun Sophie Roberts o’r Ynys a gwblhaodd hanner marathon Caer yn ddiweddar mewn 2 awr 30 munud. Dyma’r ras gyntaf i Sophie ei rhedeg. Roedd yn codi arian at Gymdeithas Alzheimer’s. Da iawn chdi, Sophie.

Rhes ôl, o’r chwith: Edward Thomas (Clerc), Rhys Artro Evans, Michael Evans, Capel Newydd, Talsarnau Oedfaon am 6:00 a chroeso i bawb Sulwyn Roberts, Caerwyn Roberts, Gerallt Evans, Dewi Langley. MEHEFIN Rhes flaen, o’r chwith: 9 - Rhun Murphy, Wrecsam. 16 - Dewi Tudur Richard Williams, Dafydd Jones, Jennie Humphreys, William 23 - Dewi Tudur Owen, John Williams, Stella Calvert, Emyr Davies. 30 - Gruffudd Davies Absennol o’r llun: Phil Mostert. GORFFENNAF 7 - Dewi Tudur

Ras unigol bechgyn 75m B3 a 4 2il Dewey Wright Ras unigol merched 75m B3 a 4 3ydd Scarlett Thomas Ras gyfnewid bechgyn 4 x 100m B3 a 4 3ydd Ysgol Dyffryn Ardudwy Ras gyfnewid merched 4 x 100m B3 a 4 2il Ysgol Dyffryn Ardudwy Naid hir merched B3 a 4 3ydd Scarlett Thomas Naid hir bechgyn B3 a 4 2il Dewey Wright Ras gyfnewid merched 4 x 100m B5 a 6 3ydd Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy

Eglwys Llanfihangel-y-traethau

Cyngerdd gyda

Meibion Prysor Tomos Heddwyn Alaw Haf

Gorffennaf 18 am 7.00 o’r gloch Caws a gwin i ddilyn Tocyn: £7 Elw at adnewyddu’r eglwys Mae cyfleusterau toiled ar gael

13


HYSBYSEBION

Telerau gan Ann Lewis 01341 241297 ALUN WILLIAMS TRYDANWR GALLWCH HYSBYSEBU *YN Cartrefi Y * Masnachol BLWCH HWN * Diwydiannol AM £6 Ya Phrofi MIS Archwilio Ffôn: 07534 178831

e-bost:alunllyr@hotmail.com

14

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru


TEYRNGED I’R DIWEDDAR GWILYM WILLIAMS Daeth ffrindiau a theulu ynghyd ddiwrnod cynhebrwng Gwilym Williams i gofio ac i ddathlu ei fywyd. Roedd yn ddyn wnaeth yn fawr o’i fywyd ac fe ofalodd am ei deulu ei hun yn ogystal am lawer eraill yn y gymuned. Pa le bynnag yr oedd yn byw roedd yn gymydog da; rhywbeth nad oes llawer ohono y dyddiau yma. Cafodd ei eni yn nhop dre, ond symudodd y teulu i rif 5, Y Waun. Aeth i’r ysgol gynradd yn y dre, ac yna i Ysgol Ramadeg y Bermo, gan deithio ar y trên. Ar ôl gadael yr ysgol aeth i weithio fel clerc yng ngorsaf y rheilffordd yn Harlech. Roedd tîm pêl-droed da yn Harlech bryd hynny; hogiau lleol fel Arwyn Mindon, Kenneth Wyn, Ishmael, Ifan Gruff, pob un yn driw i’w gilydd. Roedd y cae pêl-droed lle mae Ysgol Ardudwy rŵan, a’r ystafell newid oedd hen feudy a thŷ gwair – doedd dim sôn am gawod bryd hynny! Mi fyddai Ralph Lloyd yn rhannu orennau wedi eu torri’n eu chwarter o fwced du ar hanner amser. Yna ar ôl y gêm, byddai Mrs Evans, Gwesty’r Queens, wedi paratoi bwyd iddyn nhw. Gwilym oedd gwas priodas Ken Wyn ac Olwen. Fel cymaint o rai eraill, bu’n rhaid i Gwilym fynd i ffwrdd i wneud ei wasanaeth milwrol a bu am ddwy flynedd yn yr RAF. Yna daeth yn ôl adref i Harlech a gweithio yng ngwesty’r rheilffordd ym Mhorthmadog. Roedd yn arferiad gan rai o fechgyn Harlech fynd efo tacsi, ar nos Sadwrn, i Borthmadog; mynd i Neuadd y Dref lle’r oedd amryw o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal. Ar un o’r nosweithiau yma cyfarfu Gwilym ag Elizabeth, un o ferched Port, a dechrau canlyn. Hefyd, cyfarfu Will Parry, Byrdir, â Maureen a’i phriodi, a phriododd Gwilym ac Elizabeth yn 1951 yng Nghapel Caersalem, Porthmadog, a symud i fyw i dŷ’r ‘level crossing’ bach. Bendithiwyd y briodas â dwy ferch. Yn 28 oed, wedi astudio a graddio’n dda, Gwilym oedd gorsaf feistr ieuengaf y wlad.

Aeth yn ei flaen i’r orsaf yn Llanymynech, ac ymunodd y teulu ag ef a chawsant flynyddoedd hapus yno. Ganwyd mab yn y cyfnod yma. Doedd dim Cymraeg yn yr ysgol i’r merched, ond ar ôl newid i ysgol yng Nghroesoswallt, roedd un wers Gymraeg yw wythnos yno. Cymraeg oedd iaith yr aelwyd Wedi cau’r swyddfa yn Llanymynech, daeth y teulu’n ôl i Harlech i fyw a Gwilym unwaith eto’n feistr ar yr orsaf, ac yn byw yn 41 Y Waun, a mwynhau blynyddoedd hapus yno. Roedd ganddo ddiddordeb mawr yn yr ardd, a’i hoff flodau oedd rhosod. Roedd ei ardd yn werth ei gweld. Roedd wrth ei fodd yn chwarae golff. Yn 1967 ymunodd i chwarae gyda Chlwb Golff Dewi Sant, ynghyd â llawer o’i ffrindiau. Roedd gan Gwilym lais hyfryd, a daeth yn aelod o Gôr y Brythoniaid a Chôr Meibion Ardudwy. Ymwelodd â llawer o wledydd gyda’r corau, yn cynnwys America a Hwngari. Roedd wrth ei fodd pan ymunodd ei ŵyr David â Chôr Ardudwy. Bu’n ysgrifennydd i’r Lleng Brydeinig am flynyddoedd, a gweithiodd yn ddiflino i Seindorf Arian Harlech fel ysgrifennydd a thrysorydd, gyda Richard Hughes yn gadeirydd. Pan oedd Gwilym yn 40 oed, caewyd swyddfa’r rheilffordd yn Harlech, a bu’n rhaid i Gwilym feddwl am ffordd newydd o ennill ei fywoliaeth. Aeth i weithio yn Swyddfa’r Cyngor ym Mhenrhyn. Roedd ei deulu’n golygu llawer iawn i Gwilym, a chafodd y teulu gyfnod trist iawn pan fu farw ei fab-yng-nghyfraith, Robert, o ganser. Roedd yr hogiau’n ifanc iawn ac roedd Gwilym bob amser yn fodlon helpu’r teulu ifanc, a bu’n gefn mawr iddyn nhw. Roedd yn falch iawn o’i chwech o wyrion, ac wrth ei fodd efo’r 12 o or-wyrion. Mae ffrindiau o ardal eang iawn, yn anfon eu cydymdeimlad dwysaf at deulu Gwilym. Boed heddwch i’w lwch o.

YMWELD Â’R PALAS

Cyfrannodd Jane Sharp a Ceri Griffith yn enfawr i fywyd yr ardal hon a braf yw gweld cydnabod hynny. Bu Ceri yn arwain y Band Ieuenctid ac yn aelod allweddol o Fand Harlech. Bu hefyd yn gefn i Aelwyd yr Urdd ac Eisteddfod Ardudwy. Yn yr un modd, bu Jane yn weithgar gyda Band Harlech, Aelwyd yr Urdd ac Eisteddfod Ardudwy. Mae’r ddwy hefyd yn hyfforddi ieuenctid y fro mewn gwahanol feysydd. Diolch iddyn nhw am eu gwaith gwiw.

Yn ddiweddar, fe gafodd Rhian Jones, Ffordd Uchaf, Harlech a’i chwaer, Llinos y fraint anarferol o gael mynd i barti gardd ym Mhalas Buckingham. Mi gafodd Rhian ei gwahodd oherwydd ei gwaith efo plant bach yr ardal hon dros gyfnod o 34 o flynyddoedd. Mae Llinos hefyd yn gweithio ym myd addysg ac yn athrawes yn Ysgol Hiraddug, Dyserth ers nifer o flynyddoedd. Bu Llinos yn aelod selog o Glwb Hoci Ardudwy am rai blynyddoedd. Llongyfarchiadau i’r ddwy ohonyn nhw.

ENGLYN DA

CRIST GERBRON PEILAT Dros fai nas haeddai, mae’n syn - ei weled Yn nwylo Rhufeinddyn, A’i brofi gan wael bryfyn A barnu Duw gerbron dyn. Robert ap Gwilym Ddu, 1766-1850 15


HARLECH Sefydliad y Merched Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod a gynhaliwyd nos Fercher 9 Mai 2019 gan y Llywydd Jan Cole. Canwyd y gân Jerwsalem gyda Myfanwy Jones yn cyfeilio. Yng Nghyngor y Gwanwyn yr oedd Sefydliad y Merched Harlech wedi ennill y gwpan am recriwtio’r nifer uchaf o aelodau newydd i gangen dros 25 o aelodau drwy Ffederasiwn Gwynedd. Roedd hon yn hardd iawn ac mae Harlech yn cael ei chadw am flwyddyn. Rhoddwyd cardiau pen-blwydd i rai oedd yn dathlu penblwyddi ym mis Mai. Rhannwyd y tocynnau raffl i’r Sioe Sir fydd yn cael ei chynnal yn Harlech y flwyddyn yma. Darllenwyd y llythyr o’r Sir a chofnodwyd y dyddiadau o bwys. Rhannwyd y cylchgrawn Brethyn Cartref oedd ei drefnu dros y misoedd gan Meinir Lloyd Jones, Sheila Maxwell ac Edwina Evans. Roedd 120 wedi eu hargraffu a’u gwerthu. Bydd tair aelod yn helpu i dacluso o gwmpas Eglwys Tanwg Sant. Mae Christine Hemsley wedi trefnu te prynhawn yn Nhyddyn Sachau. Bydd yr aelodau yn prynu sgrîn newydd i Neuadd Goffa Harlech. Bydd Sue Cerme a Jo Johnson yn trefnu pêl-rwyd cerdded. Y mis nesaf bydd Jill Houliston ac Ann Edwards yn trefnu helfa drysor o amgylch Harlech. Bydd y dosbarth crefft yn cychwyn 16 Mai yn yr Hen Lyfrgell. Mae’r cinio blynyddol wedi ei ohirio ond hwyrach y bydd trip i Sir Fôn ym mis Mehefin. Yna croesawyd y wraig wadd, Julia Lewis, atom. Roedd wedi dod i sôn am hufen dwylo ac yn y blaen. Cafwyd sgwrs dda iawn gyda sleidiau i ddangos y nwyddau. Diolchwyd iddi ar ran yr aelodau gan Denise Hagan. Gwasanaethau’r Sul MEHEFIN 9 - Rehoboth - Undebol 23 - Jerusalem, Iwan Morgan am 4.00

16

Teulu’r Castell Croesawydd y Llywydd, Edwina Evans, yr aelodau i’r cyfarfod brynhawn dydd Mawrth 14 Mai ac ar ran Merched y Wawr croesawodd y Llywydd Bronwen Williams yr aelodau hefyd. Cydymdeimlwyd â Sue a Bryn Jones; mae Bryn wedi colli ei frawd yn ddiweddar. Cawsom brynhawn difyr yn chwarae helfa chwilod. Bronwen oedd yn gofalu am hyn a diolch i Phil Mostert am drefnu’r papur chwilen. Cafwyd hwyl gyda’r gêm a chafodd yr enillwyr i gyd wobr. Yna cawsom de gwych wedi ei baratoi gan aelodau Merched y Wawr, a diolch iddynt hefyd am y rafflau. Y mis nesaf, dydd Mawrth, 11 Mehefin, mae Ysgol Tanycastell wedi rhoi gwahoddiad i ni fynd yno i gael cyngerdd bach gan y plant ac hefyd am de. Mewn cartref Anfonwn ein cofion at Eddie, Cambrian Cleaners gynt (61 Y Waun), sydd yng Nghartref Bodawen ar hyn o bryd. Genedigaeth Llongyfarchiadau gwresog i Emily a Nick Roberts, Penrhyndeudraeth ar enedigaeth merch fach, Luna Wyn ar Ebrill 29. Hefyd llongyfarchiadau i Wendy a Gareth Evans am ddod yn nain a taid am y tro gyntaf, heb anghofio’r hen daid Brian Evans (Teulu Min-y-don). Dymuniadau gorau i’r teulu bach newydd.

Jack yn codi arian Llongyfarchiadau mawr i Jack Wigglesworth, mab Allan a Claire, sy’n byw yng Nghroesoswallt, ac ŵyr i Garth a Wendon, Llanfair, ac Alison Rayner, Yr Ynys. Efo help y teulu, derbyniodd Jack yr her o godi pres tuag at Diabetes Research UK. Yn 11 mis oed, cafwyd bod Jack yn dioddef o glefyd siwgr, Teip 1. Ers hynny, mae Jack wedi ein hysbrydoli i gyd wrth ddod i delerau ac ymdopi efo’r cyflwr. Ei her oedd nofio 22 milltir, sef 1500 hyd y pwll, i godi £500. Llwyddodd i godi £600! Bu’n nofio yn y boreau cyn mynd i’r ysgol ac ar benwythnosau. Roedd wrth ei fodd. Mae’n brysur iawn efo’i bêl-droed, ac wedi ennill llawer o dlysau, ac yn aelod o dîm pêl-droed Llangollen. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr achos yma. Da iawn ti, Jack. Rhodd £10

George Gilliland Ar 19 Mawrth, yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, yr Wyddgrug, cynhaliwyd angladd George Gilliland, priod annwyl Rhiannon (Jones, 9 Y Waun, gynt). Roedd yr Eglwys yn llaw o deulu a ffrindiau, llawer wedi dod o Harlech i ffarwelio ag unigolyn hynod o boblogaidd – bob amser mor garedig wrth bawb, yn enwedig ei fam yng nghyfraith, y diweddar Laura Jones, 9 Y Waun. Cydymdeimlwn yn fawr â Rhiannon, ei mab John a’i wraig Tracey a’r teulu oll.

Teyrnged gan John Gilliland Wedi ei eni yn swydd Monoghan, Iwerddon, yn 1933, collodd George ei fam pan oedd yn ifanc iawn. Roedd yn ŵr tawel a gofalus ac yn ŵr, tad a thaid gwych. Cafodd ei alw i’r RAF yn fuan wedi’r rhyfel, ond bu’n rhaid iddo adael yn gynnar i ddychwelyd i fferm y teulu yn Iwerddon. Yna gweithiodd yn y diwydiant adeiladu, gan deithio ledled gwledydd Prydain, cyn dod i Drawsfynydd ar adeg adeiladu’r pwerdy. Roedd yn aros yn Harlech bryd hynny a chyfarfu â Rhiannon. Wedi eu priodas, parhaodd i deithio gyda’i waith, a symudodd y teulu i Frychtyn pan oedd John yn ifanc. Byddai’r teulu’n teithio’n aml i Iwerddon i weld teulu a ffrindiau yno. Roedd yn hoff iawn o rasio ceffylau, ac roedd hefyd wrth ei fodd yn garddio. Arferai ef a Rhiannon fordeithio ac roedd yn mwynhau’r bwyd ar y llong, yn ogystal ag ymlacio yn yr haul. Yn ddyn hael, roedd ganddo ffrindiau bore oes, a theulu oedd yn meddwl y byd ohono. Cydymdeimlwn â’r teulu oll yn eu colled.


CYNGOR CYMUNED HARLECH MATERION YN CODI Ethol Swyddogion am y flwyddyn 2019/20: Cyn trafod y mater hwn datganodd y Clerc ei bod wedi cael e-bost gan Judith Strevens yn gofyn a fyddai yn bosib iddi gymryd blwyddyn i ffwrdd o’r Cyngor. Roedd yn dal yn fodlon bwrw ymlaen â rhai projectau. Y rheswm am hyn oedd oherwydd salwch ei gŵr, a’i bod eisiau treulio mwy o amser gydag ef. Roedd hefyd am sefyll i lawr o’r Gadair. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi cysylltu gyda Swyddogion priodol Cyngor Gwynedd ynglŷn â’r mater yma a bod ateb wedi ei dderbyn yn datgan bod y penderfyniad i’w wneud gan aelodau’r Cyngor Cymuned. Cytunwyd yn unfrydol i Judith gael blwyddyn i ffwrdd o’r Cyngor oherwydd amgylchiadau personol. Cadeirydd: Cyng Huw Jones; Is-gadeirydd: Cyng Freya Bentham Wrth dderbyn y Gadeiryddiaeth ar ran y Cyngor diolchodd Huw Jones i Judith Strevens am ei holl waith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i’r Cyngor a dymunwyd y gorau iddi hi a’i gŵr i’r dyfodol. Toiledau ger y Castell Mae’r mater o bwy i’w gyflogi fel glanhawr[aig] i’w benderfynu gan y Cyngor Cymuned. Gobeithir trefnu les yn weddol sydyn. Cytunwyd i ofyn i Mr Phil Griffiths a fyddai yn bosib iddo ychwanegu’r toiledau hyn at ei restr o doiledau sy’n cael eu glanhau. CEISIADAU CYNLLUNIO Cais ôl weithredol i gadw patio wedi ei godi – Y Garreg, Y Llech. Cefnogi’r cais hwn. Gosod tanc storio dŵr 100m3 ar sylfaen goncrid i gyflenwi system ddyfrhau cwrs – Clwb Golff Dewi Sant. Cefnogi’r cais hwn. ADRODDIAD Y TRYSORYDD Ceisiadau am gymorth ariannol Hamdden Harlech ac Ardudwy - £9,797.45 – hanner y cynnig praesept Adroddodd y Trysorydd fod y llyfrau i gyd mewn trefn a’r cyfrifon yn gywir. GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd Bydd y toiledau ger Tafarn y Frenhines yn cau rhwng y 10fed o Fai a’r 14eg o Fehefin er mwyn cwblhau gwaith uwchraddio. Cofrestrfa Tir Derbyniwyd llythyr oddi wrth yr uchod yn hysbysu’r Cyngor bod Ymddiriedolwyr Capel Rehoboth wedi cyflwyno cais i gofrestru’r darn tir ger mynwent y Capel, hefyd y bedyddfaen. Nid oedd gwrthwynebiad.

CODI ARIAN AT YSBYTY ALDER HEY

Y criw cyn cychwyn ar y daith

Evan

Yn ein rhifyn diwethaf, soniodd Bethan Howie am y modd y cafodd ei hŵyr, Evan, driniaeth fawr ar ei asgwrn cefn yn Ysbyty Alder Hey pan oedd yn 18 mis oed. Trefnwyd taith gerdded i ben yr Wyddfa ganddi gan wahodd cyfeillion i ymuno â’r daith. Ar ddiwedd mis Mai, roedd cyfanswm yr arian a godwyd at Ysbyty Alder Hey yn £2,232. Ymateb rhagorol!

CYLCH MEITHRIN HARLECH Diwrnod Agored, Mehefin 17, 1.30 - 3.00

COFRESTRWCH EICH PLENTYN AR GYFER MEDI 2019 Safle Tanycastell cylchmeithrinharlech@aol.com Triniaeth Cafodd Robert Edwards, 43 Y Waun, driniaeth lawfeddygol yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar. Mae wedi dod adref ac mae’n gwella’n raddol. Anfonwn ein cofion ato.

Capel Rehoboth Ar fore Sul y Pasg, cawsom oedfa arbennig i ddathlu atgyfodiad yr Iesu. Y chwaer Bethan Johnstone oedd yn gwasanaethau’r cymun, a’r plant yn traddodi hanes y Pasg drwy ddarlleniadau a chân. Roedd croes ar y pulpud, gyda’r geiriau, “Cerwch eich gilydd fel y cerais i chwi”, gerllaw. Ar ddiwedd yr oedfa, cyflwynwyd taleb a blodau i’r chwaer Gwen Edwards gan y chwaer Olwen Evans, ar achlysur dathlu penblwydd ac hefyd dathlu pen-blwydd priodas ruddem ar y diwrnod. Cyflwynodd pump o’r plant rosyn coch unigol i Gwen, fesul un. Yna cafodd Olwen flodau hefyd, gan ei bod hithau wedi cael ei phen-blwydd yn ddiweddar yn 91 oed. Diolchwyd iddi am ei ffyddlondeb ar hyd y blynyddoedd. Llongyfarchiadau hefyd i Pam Majeski (Min y Don) sydd wedi dathlu pen-blwydd arbennig yn ddiweddar. Anfonwyd ein cofion at y chwaer Beti Wyn. Brysiwch wella ar ôl llawdriniaeth. Byddwn mor falch o’ch croesawu yn ôl i’r capel.

Rhai o’r criw ar ôl iddyn nhw gyrraedd y copa

17


LLYFRAU DIFYR

Mae haf 2016 yn dal yn fyw yn y cof i gefnogwyr pêldroed Cymru, ac mae ‘Fi a Joe Allen’ yn cynnig cyfle i ail-fyw cyffro’r cyfnod hwnnw wrth i ni ddilyn Marc Huws, bachgen o Fangor, ar ei antur anfarwol yn Ffrainc. Ond mae’n gymaint mwy na stori bêl-droed. Mae’n stori am berthynas bachgen ifanc â’i fam a’i dad sydd wedi gwahanu – am fam sydd yn gwneud popeth posib dros ei mab o dan amgylchiadau anodd, gan fynd dros ben llestri ar brydiau, ac am dad ‘prysur’ nad yw’n dangos llawer o ddiddordeb ym mywyd Marc, nes i’r crysau cochion eu harwain i Baris. Mae Manon Steffan Ros wedi defnyddio un o benodau mwyaf gorfoleddus chwaraeon yng Nghymru i blethu’r elfennau yma at ei gilydd

yn deimladwy iawn, gan roi cipolwg sensitif i ni ar deimladau bachgen y gall llawer iawn o ieuenctid Cymru uniaethu â nhw o ganlyniad i dor priodas. Dyma gyfrol ysgafn-ddwys afaelgar sydd yn llwyddo i’n tywys drwy iwfforia a thristwch a phryder. Byddai pobl ifanc yn cael blas mawr arni heb os, boed nhw’n ddilynwyr pêl-droed ai peidio, ond mae hi hefyd yn foeswers i unrhyw riant fyddai’n ei darllen – mae’n fyfyrdod cynnil ar riantu yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae’n dangos bod bywyd yn gyffredinol yn debyg iawn i ddilyn tîm pêl-droed – mae’r llon a’r lleddf yn anochel. Does dim yn gymhleth am yr iaith na’r arddull. Mae’r Gymraeg yn naturiol a sgyrsiol braf. Iaith Marc ei hun ydi hon, iaith y teras o’r gic gyntaf i’r chwiban olaf. Cefais bleser cynnes o’i darllen, a gwefr o ailddathlu goliau Bale, Vokes, Taylor a Robson Kanu, heb sôn am gyfarfod â Joe Allen ei hun! I’r genhedlaeth iau mae’n taro cefn y rhwyd, ac i rai ychydig hŷn fel fi mae’n ail blentyndod rhwng dau glawr. Morgan Jones Llongyfarchiadau i Manon Steffan Ros ar ennill Gwobr Tir na n’Og gyda’r llyfr hwn.

WIL AC AERON Cyfrol ydy hon sy’n sôn am gyfeillgarwch Wil ac Aeron ers dyddiau eu plentyndod ym Mro Ddyfi. Daeth cyfle iddyn nhw berfformio a sgriptio yn y Clwb Ffermwyr Ifanc ac arweiniodd hynny at gyflwyno rhaglen o’r Sioe Fawr ar S4C. Erbyn hyn mae’r ddau wedi cael sawl cyfres ar y teledu ac yn cyflwyno ar y radio. Mae Heulwen yn hanu o’r un ardal ac yn adnabod y ddau gymeriad yn dda.

A welwyd y fath ymateb erioed i nofel Gymraeg? Ychydig dros wythnos ar ôl i Llyfr Glas Nebo ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Caerdydd 2018, roedd ailargraffiad yn cael ei baratoi. Do, fe gafodd ganmoliaeth gan feirniaid y gystadleuaeth: “Mae profi cyffro fel hyn yn peri i ias eich cerdded,” meddai Sonia Edwards am y profiad o’i darllen, ond dyma nofel hefyd sydd wedi cyffwrdd â’i darllenwyr, boed yn bobl sy’n prynu pob nofel Gymraeg a ddaw o’r wasg, neu rai sydd prin yn agor cyfrol o un pen y flwyddyn i’r llall. Ys dywedodd Betsan Wyn Morris ar Twitter: “Mae fy feed Instagram i wedi mynd o lunie o fwyd, cathod, a phobol smyg “my office for today” i jyst llunie o bobol ar drenau /gwylie yn darllen Llyfr Glas Nebo.” Yr ymateb cyffredinol yw ei bod yn nofel hawdd ei darllen ond sy’n aros yn hir ym meddwl y darllenydd. A dyna yw camp ryfeddol Manon Steffan Ros; creu cymeriadau i ni boeni amdanyn nhw a sefyllfa frawychus o bosibl a chredadwy, er mor afreal. Bachgen ifanc yn ei arddegau yw Siôn, ac mae yntau a’i fam Rowenna yn adrodd stori eu bywydau yn ardal Nebo mewn hen lyfr nodiadau sydd wedi’i fathu’n Llyfr Glas Nebo gan Siôn, yn nhraddodiad Llyfr Coch Hergest a Llyfr Du Caerfyrddin, yr hen lawysgrifau canoloesol sy’n cofnodi cymaint o hanes Cymru. Rydym ni’n cwrdd â’r ddau rai blynyddoedd ar ôl Y Terfyn, y trychineb

enbyd a newidiodd fywydau pawb. Chawn ni ddim gwybod yn union beth ddigwyddodd; gan fod y cyflenwad trydan yn peidio a’r cyfryngau’n distewi, a does dim modd cael newyddion na chlywed am ddim byd pellach na’r ardal leol. Mae sôn am fom niwclear efallai, neu drychineb yn atomfa’r Wylfa, ond canlyniad ac effaith y Terfyn sy’n bwysig, gyda’r bobl sydd wedi goroesi’n gorfod dysgu byw o’r newydd. Prin mae Siôn yn cofio bywyd cyn Y Terfyn, ac mae’n rhyfeddu at y ffordd roedd pobl yn arfer byw – y gwastraff, a diffyg pwrpas eu bywydau; mae pwrpas i bopeth mae yntau’n ei wneud – hela anifeiliaid bach i gael bwyd, trwsio rhannau o’r tŷ, goroesi. Mae perthynas Siôn a Rowenna’n newid yn ystod y cyfnod – o fod yn fam yn gofalu am blentyn bach i gydddibyniaeth a chyd-aeddfedu. Mae bywyd yn anodd, ond wrth i’r gyfrol fynd rhagddi, mae cyfoeth eu bywyd yn dod yn amlycach – eu perthynas â’i gilydd, pleser mewn pethau bach, a gwirioneddol werthfawrogi byw yn eu cynefin. Mewn un man mae Rowenna’n cofio’n ôl i’r cyfnod cyn y Terfyn, pan fyddai hi’n mynd â Siôn am dro, a’i ffôn gyda hi, yn “creu sefyllfaoedd perffaith er mwyn rhannu delweddau ar-lein heb rannu dim byd. A Siôn ers ei fabandod yn llonydd o flaen sgriniau … Roeddan ni’n byw heb ddistawrwydd – sŵn teledu neu radio yn parablu yn y cefndir o hyd – ond roedd yna fudandod gwag, afiach am y ffordd roedden ni’n byw”. Mae’r ychydig gymalau syml hyn yn enghraifft hyfryd o gynildeb Manon Steffan Ros. A hithau’n cyfansoddi stori fer fer i Golwg yn wythnosol ers rhai blynyddoedd, mae hi wedi hogi a mireinio ei chrefft a’i gallu i ddweud llawer iawn mewn bach iawn o eiriau. Dyma gyfrol fer, ond un sy’n llawn i’r ymylon. Ydy, mae’n hawdd ei darllen, ond mae’n codi cwestiynau am flaenoriaethau ein hoes a’n ffordd o fyw nad oes iddynt atebion hawdd o fath yn y byd. Catrin Beard

Adolygiadau oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru

18


Cynnig Gofal Gofal Plant Cynnig Plant Cymru Cymru Addysggynnar gynnar aagofal Addysg gofal

30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi’u 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant hariannu gan y Llywodraeth i rieni cymwys sy’n gweithio wedi’u gan y Llywodraeth i rieniam cymwys ac sydd âhariannu phlant tair a phedair oed, a hynny hyd at sy’n gweithio 48 ac wythnos sydd â phlant tair a phedair oed, y flwyddyn. a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Amfwy fwyoofanylion fanylion cysylltwch cysylltwch gyda Am gydag Uned Gofal Plant Gwynedd a Môn Uned Gofal Plant Gwynedd a Môn Ffôn: 01248 352436 Ffôn: 01248 352436 E-bost: gofalplant30awr@gwynedd.llyw.cymru E-bost: gofalplant30awr@gwynedd.llyw.cymru

GWRON O LANLLYFNI

Un emyn sy’n boblogaidd iawn ar ddechrau gwasanaeth crefyddol yw emyn rhif 24 yn Caneuon Ffydd. Robert Jones, Llanllyfni yw’r awdur a dyma’r unig emyn sydd ganddo yn y casgliad. Dyma’r pennill cyntaf: “O cenwch fawl i`r Arglwydd, y ddaear fawr i gyd, ac am ei iachawdwriaeth moliennwch ef o hyd; mynegwch ei ogoniant, tra dyrchafedig yw; mae`n ben goruwch y duwiau, mae`n Arglwydd dynol-ryw.” Mae’r trydydd pennill yn y casgliad ond welwyd mo’r ail yn unrhyw gasgliad ers talwm iawn. Fe welwch pam wrth ei ddarllen. Dyma fo: “Holl dduwiau y cenhedloedd, eilunod y’nt i dân; y Duw a wnaeth y nefoedd yn unig haedda gân: Mae’i sanctaidd nefol drigfa, yn harddwch pur digoll; o doed trigolion daear i`w ogoneddu oll”. Ond mae`r pennill olaf, sef yr un sydd yn y Caneuon Ffydd yn codi i dir uchel iawn. Mae’n sôn am foli Duw am ei fendithion ac yn dangos sut y gall dyn fod ag ofn Duw a llawenhau ynddo yr un pryd. “Rhowch yddo aberth moliant, ymgrymwch ger ei fron; yn brydferth mewn sancteiddrwydd moliennwch ef yn llon; ac ofned pob creadur yr hwn sy`n dal y byd; ymlawenhaed y nefoedd a`r ddaear ynddo `nghyd.” Gweinidog gyda’r Bedyddwyr oedd Robert Jones (18061896) yng nghapel Felingerrig, Llanllyfni. Roedd yn greadur gwahanol a deud y lleiaf a chyfrifid ef yn hen gono digon od gan lawer. Wedi iddo gael ei ordeinio yn weinidog yn 1836 meddyliodd mai ei ddyletswydd

nesaf oedd cael gwraig. Wedi’r cyfan cydnabyddiaeth go dila oedd i genhadon hedd yr oes honno. Wedi bwrw’r rhwyd yn ardal Llanllyfni, sylweddolodd fod yna wraig weddw ifanc o’r enw Margaret Hughes yn byw rhyw filltir oddi wrtho yn Ochr y Foel. Roedd ganddi hi a’i rhieni dyddyn bach taclus a, gorau oll, roedd hi yn Fedyddwraig. Dechreuodd Robert Jones gyrchu i Ochr y Foel yn aml ond mae’n debyg ei fod yn garwr afrosgo iawn. Wedi cyrraedd, fe arhosai am oriau gan adael yn hwyr yn y nos. Ar ôl tipyn o hyn, dywedodd Margaret y byddai yn well iddo beidio galw rhag rhoi lle i bobol straellyd yr ardal ddeud eu bod yn caru. Ateb Robert Jones oedd, “Ond tydan ni’n caru? Waeth iddyn nhw ddweud hynny na peidio.” Dyna’r tro cyntaf i Margaret ddeall beth oedd ei fwriad. Gallai Robert Jones dynnu pobl yn ei ben yn aml iawn. Yn ei bregethau, taranai yn erbyn pob enwad oedd yn bedyddio babanod (hy pawb ond y Bedyddwyr). Ymosodai o’r pulpud ar bobl y teimlai nad oeddent yn mynychu’r oedfaon yn ddigon aml neu yn gwisgo yn rhy grand. Ar un adeg, ni chai fynd i bregethu i Bwllheli gan ddiaconiaid un capel am ei fod wedi eu sgwrio go iawn mewn penillion yn y Wasg. Ond roedd ei bobl ei hun yn Llanllyfni a’r cylch yn ei ddeall ac yn gweld fod ganddo galon fawr er ei odrwydd ac yn barod i faddau llawer iawn iddo. Bu Margaret farw yn sydyn un Sul pan oedd yr hen foi wedi mynd i Gapel y Beirdd i bregethu a daeth rhai o’r teulu i’w gyfarfod ar y ffordd wrth iddo gerdded adref i roi’r newydd drwg iddo. A dyma ei ateb, “Wel wir, tydw i’n synnu dim, roedd hi wedi mynd yn beth digon sâl ers blynyddoedd.” Mae emynau eraill Robert Jones wedi mynd yn angof bellach ond, er ei holl odrwydd, credaf iddo gael gweledigaeth fawr a chryn eneiniad wrth gyfansoddi emyn 24. JBW

SAMARIAID LLINELL GYMRAEG 08081 640123

19


Côr Meibion Ardudwy yng Ngwlad Pwyl

Cafodd aelodau Côr Meibion Ardudwy eu canmol yn fawr am ddod â sŵn y Gymraeg i’w cyngerdd yn Gdansk ddiwedd mis Mai. Esboniodd llywydd y noson mai clywed y Gymraeg yn cael ei siarad a’i chanu a roddodd y pleser mwyaf i’r gynulleidfa. Cafwyd cyngerdd bythgofiadwy yn y Ganolfan Ddiwylliant yn Oliwia, Gdansk a dwy encôr ar y diwedd ac roedd y gynulleidfa yn dal i weiddi ‘Mwy’ ar ddiwedd y cyngerdd. Roedd amryw yn y gynulleidfa yn holi ai côr proffesiynol oedd hwn ynteu un lled-broffesiynol. Dyna i chi beth oedd canmoliaeth. Pob clod i Aled Morgan Jones, y cyfarwyddwr cerdd ac i Alwena Morgan oedd yn cyfeilio yn absenoldeb Idris Lewis. Roedd cyfraniadau yr unawdwyr Iwan Morgan ac Iwan Morus Lewis yn boblogaidd iawn, yn arbennig y caneuon Cymraeg. Phil Mostert oedd yn cyflwyno. Mi ddysgodd y Côr gân werin Bwyleg o’r enw Lipka Zielona a’i chanu mewn Pwyleg - wel dyna i chi beth oedd cymeradwyaeth! Ni chlywodd Harri Jones, Dyffryn Ardudwy y fath glapio yn ei ddydd. Meddai Harri, ‘Ro’n i’n meddwl fod y dyn wrth fy ochr am wneud niwed mawr iddo’i hun, roedd o’n clapio mor frwd!’ Roedd cydbwysedd da rhwng gweithgareddau wedi eu trefnu a chyfle i bobl grwydro yn ôl eu diddordebau personol. A dyma i chi ddinas wych i astudio hanes, pensaernïaeth, celfyddyd a gwleidyddiaeth. Cafwyd croeso cynnes iawn yn y gwesty a chyfle i ganu i rai o’r cwsmeriaid a chyfleoedd hefyd i ganu mewn mannau gwahanol yn y ddinas hardd hon. Taith lwyddiannus arall a chlod mawr i’r côr am fynd ag enw Ardudwy a Chymru i diroedd newydd unwaith eto.

Mae’n draddodiad i bob côr sy’n ymweld â Gdansk ganu o flaen y ffownten

Roger Owen yn hel meddyliau

Robert Wyn, Ifan Jones a Bedwyr Williams yn ymlacio yn yr heulwen cyn canu yn Oliwia

Paned a sgwrs yn bwysig hefyd! Diolch i Alwena Morgan ac Aled am eu gwaith gwiw

Mae mynd allan i wledda yn ran bwysig o’r hwyl

Dewi Thomas a Bob Jones yn ymlacio cyn y cyngerdd

Iwan, Llewela a Mair. Soniodd rhywun am bolyn lein a pheg!

Rhai o’r criw yn amgueddfa Solidarność

Bili


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.