Llais Ardudwy Mehefin 2022

Page 1

Cogurdd

Llais

Ardudwy RHIF 521 - MEHEFIN 2022£1

Penderfynodd rheolwyr Tîm Pêl-droed Merched Bethel eleni fod un chwaraewraig yn haeddu gwobr arbennig. Dyma dymor cyntaf Lois Enlli Williams, Talsarnau gyda CPD Merched Bethel ac ers ymuno mae hi wedi chwarae pob un munud o bob gêm. Ym mhob un o’r gemau hyn mae hi wedi rhoi perfformiad 10 allan o 10. Hollol berffaith! Dydi ymuno efo tîm newydd byth yn hawdd, ond o’r gêm gyntaf, mi setlodd Lois a chafodd groeso cynnes iawn gan y genod i gyd. Yn ôl y rheolwyr, ychwanegodd Lois gymaint i’r tîm - cryfder a chyflymder yng nghanol y cae, dim ofn mynd i mewn i dacl a bod yn hollol benderfynol o wneud ei gorau. Mae’n ‘chwaraewraig tîm’ perffaith ac unigolyn sy’n gosod y safonau uchaf bob amser. Yn syml - mae pawb eisiau rhywun fel Lois yn eu tîm nhw. Mae’r clwb a’r tîm i gyd yn ddiolchgar iawn i Lois am ei hymdrech ac am roi 100% a mwy yn ystod ei thymor cyntaf. Llongyfarchiadau cynnes iawn i Lois Enlli Williams am ennill y wobr am ei hymroddiad eithriadol.

Llongyfarchiadau cynnes iawn i Cadi Haf Williams o Ysgol Bro Idris, Dolgellau ar ddod yn gydradd 3ydd yng nghystadleuaeth Cogurdd Meirionnydd. Y dasg oedd paratoi detholiad a ‘tapas’ o restr yn cynnwys patatas bravas a saws tomato, albondigas [peli cig Sbaenaidd] a saws tomato a tortilla. Diau y bu tipyn o ymarfer ar goginio’r tapas yn ei chartref - Benar, Tal-y-bont! Y beirniad oedd Rhian Cadwaladr, yr actores adnabyddus, sydd wedi cyhoeddi’r llyfr coginio ‘Casa Cadwaladr’ yn ddiweddar.

Llongyfarchiadau gwresog i Anna Mitchelmore, B5 ar ddod yn gydradd 3ydd yng nghystadleuaeth Cogurdd B4, B5 a B6. Y dasg oedd paratoi rysáit ‘Stir-fry’ Cig neu Tofu wedi ei ddyfeisio gan Beca Lyne-Perkins. Y beirniad oedd Eleri Edwards, gynt o Ddyffryn Ardudwy. Mae’n siŵr bod y teulu wedi profi ‘stir fry’ sawl gwaith yn ddiweddar! Mae Anna hefyd wedi ennill y wobr gyntaf mewn dawnsio disgo a bydd yn ymddangos ar y llwyfan yn Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych.

YmroddiadEithriadol

3. Haf Newyddion/erthyglauMeredydd i: 01766hmeredydd21@gmail.com780541,07483857716 A’R LLALL 2 Enw: Elma Parry Gwaith: Wedi ymddeol, yn athrawes y Gymraeg yn Ysgol Ardudwy, Harlech am rai blynyddoedd. Cefndir: Cristionogol, Cymraeg, gwladgarol. Wedi ei magu ar Sir Fôn. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Peidio meddwl gormod am iechyd a gobeithio’r gorau. Gofal o’r corff –cerdded, garddio, pilates, Gofal o’r meddwl – peidio dal dig a chenfigennu, cymdeithasu. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Cymraeg yn fwy na Saesneg. Bellach mwynhau llyfrau ffeithiol yn fwy na ffuglenni. Papur bro, Y Faner Newydd a’r Daily Post. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Rownd a Rownd. Galwad Cynnar. Ydych chi’n bwyta’n dda? Rhy dda. Barus a diffyg disgyblaeth. Bwyd cyllell a ffyrc ydy’r gorau. Hoff ddiod? Te Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Dilys Brown Lle sydd orau gennych? Rhosmeirch. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Cymru, Iwerddon, Canada, ynysoedd Yr Alban. Beth sy’n eich gwylltio? Cymry gwael. Saeson cul, gwrth-Gymreig.

SWYDDOGION Cadeirydd Hefina Griffith 01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, ann.cath.lewis@gmail.comLlandanwg Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn y Llidiart, Llanbedr Gwynedd LL45 llaisardudwy@outlook.com2NA Côd Sortio: 40-37-13 Rhif y Cyfrif: 61074229 Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, iwan.mor.lewis@gmail.comLlandanwg CASGLWYR NEWYDDION YLLEOLBermo Grace Williams 01341 280788 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Mai Roberts 01341 242744 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Jennifer Greenwood 01341 241517 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Gosodir y rhifyn nesaf ar Gorffennaf 1 a bydd ar werth ar Gorffennaf 6. Newyddion i law Haf Meredydd erbyn Mehefin 27 os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw’r golygyddion o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’ Dilynwch ni ar ‘Facebook’ @llaisardudwy GOLYGYDDION 1. Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 pmostert56@gmail.com780635

Beth yw eich rinwedd mewn ffrind? Dibynadwy a didwyll. Pwy yw eich arwr? Dafydd Iwan. Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon? Llaweroedd. Gweithwyr o bob math sy’n helpu’r gymetiahs a gwirfoddolwyr. Hefyd ar lefel genedlaethol gallaf feddwl am fwy na hanner dwsin o gyn-ddisgyblion Ysgol Ardudwy gyda chryn edmygedd o’u llwyddiant. Beth yw eich bai mwyaf? Claddu ’mhen yn y tywod. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Gofal am gyfeilion, ffrindiau a theulu a’u caredigrwydd atag. Iechyd a bodlonrwydd. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5,000? Hwb at brynu car. Eich hoff liw a pham? Hoff iawn o wyrdd erioed. Eich hoff flodyn a pham? Hoff o bob blodyn bron hyd yn oed chwyn del. Pa dalent hoffech chi ei chael? Cof ardderchog. Balch iawn i mi symud o Ardudwy. Cywilydd fyddai methu ag adnabod pobl 40 i 70 oed (a’u cofio’n blant). Eich hoff ddywediadau? Heb ei eni, heb ei fai. Sut buasech chi’n disgrifio eic hun ar hyn o bryd? Diolchgar o fod yn eithaf lwcus a chyfforddus fel y mwyafrif llethol o’m cydnabod. Elma Parry yng nghwmni Anwen Roberts ar daith gerdded i fyny Moel Ysgyfarnogod o dan arweiniad Haf Meredydd.

HOLI HWN

2. Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 anwen15cynos@gmail.com772960

• Heuwch ddolydd sy’n blodeuo’n y gwanwyn wedi i dyfiant planhigion bylbau farw’n ôl.

DEWIS BWYD I’R ADAR Os hoffech annog rhywogaeth arbennig o adar i’ch gardd, cofiwch osod eu hoff fwyd ar eu cyfer.

• llwyd y gwrych - hadau bach ar y ddaear • robin goch - cynrhon y blawd (mealworm). drudwen - cacennau cnau mwnci • ji-binc – cacennau aeron • adar y to, pincod a delor y cnau –pennau blodau’r haul titwod – cacennau pryfed

• bronfraith ac aderyn du – ffrwythau fel afalau gor-aeddfed, rheisins, a chymysgedd ar gyfer adar cân wedi eu daenu ar y ddaear. NI YN 2035

EIN HARDAL

3 Bywyd gwyllt yr ardd I’W GWNEUD Y MIS HWN • Teneuwch neu torrwch or-dyfiant newydd ar blanhigion dŵr. Cofiwch ei adael wrth ymyl y pwll cyn ei osod ar y domen gompost.

• Caniatewch i berlysiau fel mintys y graig (marjoram), mint a saets flodeuo i annog gwenyn a gloÿnnod byw.

• dryw – yn hoff o fwyd naturiol ond hefyd yn bwyta braster a hadau

Mae llawer o greaduriaid yn magu rhai bach yr adeg hon o’r flwyddyn. Mae’r draenog yn arbennig o brysur, ac os byddwch yn lwcus efallai y byddwch yn eu gweld neu eu clywed yn chwilota am fwyd yn y nos.

DRAENOGOD

• Lluniwch le yfed i wenyn wrth lenwi soser blanhigion gyda gro mân a dŵr.

• Rheolwch blanhigion nad oes eu hangen ac annog sefydliad gwreiddiau da drwy dorri dolydd unflwydd a sefydlwyd yn ddiweddar pob 6 i 8 wythnos.

• Gadewch i blanhigion dyfu mwy cyn eu plannu allan a rheolwch malwod duon yn fiolegol os oes angen hynny.

• Gadewch i’ch lawnt dyfu’n hirach drwy adael i rai blodau flodeuo ac osgoi defnyddio chwynladdwyr. Bydd hyn yn galluogi pryfed i ffynnu.

ymweliad annisgwyl iawn i’n hymarfer ddiwedd mis Mai pan ddaeth rhai aelodau o gôr Almaenig i’r sesiwn ymarfer. Maen nhw’n byw yn ardal Stuttgart, rhyw 20 milltir o Huchenfeld fel mae’n digwydd. Roedd y Côr cyfan wedi bwriadu teithio i Gymru cyn i’r Pandemig ddifetha eu cynlluniau. Bid a fo am hynny, roedd yn bleser gwrando arnyn nhw’n canu caneuon adnabyddus fel ‘Y Crwydryn Llon’ a rhai caneuon gwerin o’r Almaen. Ond y syndod mwyaf oedd eu clywed nhw’n canu ‘Hen Wlad fy Nhadau’ ar y Dynadiwedd.niwedi cyfarfod criw arall o dramorwyr. Hyderwn y cawn gwrdd eto yn yr Almaen cyn bo hir. Marwolaeth Bu farw Mr Chris Craig, Hafod y Bryn yn 77 oed. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol yn Eglwys Sant Pedr ar Mai 27 dan arweiniad y Tad Peter Kaye. Cafwyd teyrngedau teimladwy gan aelodau o’i deulu oedd yn dangos yn glir cymaint o gymeriad oedd o a dyn mor amryddawn. Cydymdeimlwn â’r teulu oll. Gŵyl Bêl-droed Llanbedr

4 LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL

William a chriw y Cylch Meithrin yn brysur yn trefnu’r diwrnod o hwyl.

gymuned leol am eu cefnogaeth. Hwyl a chodi arian yn Llanbedr Newyddion o Huchenfeld Mi fydd y Grŵp LlanbedrHuchenfeld yn cyfarfod nos Lun, 20fed o fis Mehefin. Mwy o fanylion gan Susanne 01341 241523 neu Jennifer ar 01341 241517 neu jgbrookwood@icloud.com Croeso cynnes i bawb. Colli Pip Wynne Trist yw cofnodi marwolaeth Mrs Pip Wynne ar Mai 26 yn dilyn cyfnod o salwch. Roedd yn gymeriad annwyl yng ngolwg pawb. Cydymdeimlwn â’i theulu a’i ffrindiau i gyd yn Llanbedr a thu hwnt.

calonnog i bawb am gasglu £700 i Gylch Meithrin Llanbedr. Ar y diwrnod, cododd William Hooban dros £400 i Ymddiriedolaeth y Dywysoges Fach drwy dorri ei wallt a’i gyfrannu er mwyn creu gwallt gosod i blant. Diolch i Sophie Collins (Studio 58) am dorri’r gwallt ac eillio pen Wil. Hoffai William a Jacqueline Hooban ddiolch i’r

Côr Meibion Ardudwy Mae cyngherddau ar y gweill yn Llanbedr, Llandudno, Dyffryn Ardudwy a Phorthmadog, ynghyd â thaith i’r Almaen wedi ei addo yn hydref Ychydig2023.oymateb gafwyd i’r nodyn yn Llais Ardudwy mis mai yn nodi bod bylchau amlwg yn y Côr. Mae tenoriaid yn brin ar hyn o bryd ond os medrwch chi ganu unrhyw lais, buasem yn falch o ’ ch gweld yn y Ganolfan yn Llanbedr ar nos Sul am Cafwyd7.30.

Bu Jacqueline Hooban - Arweinydd Cylch Meithrin Llanbedr ynghyd â’i gŵr

Trefnwyd gemau pêl-droed hefyd dan arweiniad Ed Richards a chynhaliwyd y ddau achlysur ar y cyd er mwyn i bobl gael cyfle i gymdeithasu ar ôl dwy flynedd o’r pandemig erchyll. Roedd amrywiaeth o stondinau deniadol - castell neidio, raffl a thombola, stondin de a choffi a lluniaeth ysgafn ar gyfer y dyrfa. Mwynhawyd paentio wynebau, lliwio gwalltiau a llunio tatŵs gan y plant ac ambell oedolyn. Diolch i rieni plant y Cylch am bob cymorth gyda’r stondinau, i Ellie Wilkes [Caffi’r Wenallt] am weini bwyd poeth ac i Paula Ireland am ei gwaith gyda’r parti Llongyfarchiadauwynebau.

5 Diwrnod o hwyl yn LlanbedrGŵylFlodauEglwysSantPedr,LlanbedrGorffennaf12-1710.00tan6.00GwasanaethoganumawlnosSul,Gorffennaf17am6.00o’rglochDiwrnod Hwyl yr Ysgol Feithrin Yn cyd-ddigwydd gyda’r uchod, bu 18 o dimau yn cymryd rhan mewn Twrnament 8-pob-ochr yng Nghae Chwarae Llanbedr. Trafaeliodd rhai o’r hogiau lleol ar y timau o Fanceinion, Chesterfield, Lerpwl a Wrecsam i gymryd rhan. Y Cobras oedd yr enillwyr a chafodd pawb oedd yna lawer o hwyl ar y diwrnod. Ed Richards drefnodd y Twrnament ac mae o’n ddiolchgar iawn i bawb oedd yn helpu. Bydd y twrnament nesa’n digwydd ar 27 Mai 2023.

Priodas Aur Llongyfarchiadau i Wendon a Garth Wigglesworth sy’n dathlu eu pen-blwydd priodas arbennig ar 3 Mehefin. Pob hwyl i chi’ch dau a’r teulu i gyd ar y dathlu. Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at Dafydd Roberts a’r teulu, Uwchglan yn eu profediageth ddiweddar. Bu farw Gwyneth yn ddiweddar ar ôl cystudd hir.

6 LLANFAIR A LLANDANWG

Merched y Wawr Harlech a Llanfair Croesawodd Eirlys yr aelodau i gyfarfod mis Mai. Braf oedd cael croesawu Sheila Maxwell i’n plith. Daeth Kristie ac Amy o Dîm Achub a Chwilio De Eryri i sôn am eu gwaith gyda’r Tîm sy’n gweithredu yn ne Parc Cenedlaethol Eryri. Elusen gofrestredig ydy’r Tîm ac nid ydynt yn derbyn unrhyw arian gan y Llywodraeth. Maen nhw’n dibynnu ar roddion, gan fwyaf, i’w cynnal yn flynyddol. Mae tua 35 o wirfoddolwyr a’u prif fwriad ydi helpu’r heddlu mewn argyfwng ar y mynydd neu ar afon neu lyn. Maent hefyd yn helpu i ddod o hyd i bobl sydd ar goll. Maent yn cyfarfod yn wythnosol yn Nhrawsfynydd er mwyn ymarfer technegau, yn cynnwys cymorth cyntaf. Roedd y ddwy yn falch o’r cyfle i godi Ennill yn Sioe Nefyn Llongyfarchiadau i Meilir ac Aron Roberts, Uwchglan ar ennill y wobr gyntaf yn adran y defaid Suffolk yn Sioe Nefyn. ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r gwaith maent yn ei wneud. Janet dalodd y diolchiadau, Edwina oedd yn gyfrifol am y baned a Haf enillodd y raffl. Y gangen oedd yn gyfrifol y mis hwn am baratoi lluniaeth ac adloniant i Deulu’r Castell. Paratowyd te prynhawn blasus iawn i’r aelodau. Cafwyd gair gan Eirlys, ein llywydd, ar ddechrau’r cyfarfod. Bronwen oedd yn gyfrifol am y gêm chwilen. Diolch i’r aelodau am ofalu am y lluniaeth a’r gwobrau raffl ac i Eirlys, Bronwen a Sue am ofalu am y pnawn. Coeden mewn unrhyw gyfrwng Ar ddydd Sadwrn 21 Mai, aeth 3 aelod draw i’r Ŵyl Haf ym Machynlleth. Bu i Jennifer gystadlu yn y gystadleuaeth agored ‘Coeden mewn unrhyw gyfrwng – llun, gwaith llaw neu grefft’. Dewisodd ddefnyddio brigyn a defnyddio lliwiau Wcráin i osod fflagiau arni gyda’r geiriau isod i egluro ei syniad amserol iawn: Mae Wcráin yn ddeilchion, mae ei chalon yn cael ei rhwygo allan. Mewn cyfnod o ddim ond tri mis, mae mwy na 25% o’r boblogaeth wedi ffoi o’u cartrefi. Mae mwy na 6 miliwn o Wcráinwyr… dychmygwch, dwbl poblogaeth Cymru...wedi gadael Wcráin. Diolch Dymuna Elizabeth Mair Thomas a Gavin Jones ddiolch yn ddiffuant am y cardiau a’r anrhegion a dderbyniwyd ganddyn nhw ar enedigaeth Jody Jack Jones. Rhodd £10 Yn ôl yn yr ysbyty Anfonwn ein cofion at Gari Hall, 4 Derlwyn sydd wedi ailymweld ag Ysbyty Gwynedd yn dilyn anhwylder.

7 Eleni mae amryw o gyn-ddisgyblion ysgol gynradd Llanfair yn dathlu penblwydd arbennig. Tair o’r rhain ydy Sharon (Hughes gynt o dop Llanfair,) Heulwen (Evans gynt o Dyddyn y Felin), a Nia Medi (Glennydd, Llanfair, Ygynt).dair uchod yn ddisgyblion yn ysgol gynradd Llanfair, a’r dair yn dathlu eu pen-blwydd arbennig yn ddiweddar. Ffrindiau bore oes. Hefyd yn dathlu’r pen-blwydd arbennig ym mis Mai roedd David Jones, Fron Olau, Llanfair. David pan oedd yn ddisgybl yn ysgol gynradd Llanfair. Pen-blwydd arbennigDewchiroicynnig ar yrru’r Yaris Cross TOYOTAnewydd!HARLECHFforddNewyddHarlechLL462PS01766780432www.harlech.toyota.co.ukinfo@harlechtoyota.co.uk Dewch i roi cynnig ar yrru’r Yaris Cross TOYOTAnewydd!HARLECHFforddNewyddHarlechLL462PS01766780432www.harlech.toyota.co.ukinfo@harlechtoyota.co.ukFacebook.com/harlechtoyotaTwitter@harlech_toyota Llythyr Un o’r cwynion mwyaf rwyf wedi ei dderbyn ers pan gefais fy ethol yn Gynghorydd yw gor-yrru yn ein cymunedau. Yn ddiweddar, cefais i ynghyd â’r Cynghorydd Annwen Hughes gyflwyniad gan yr heddlu ar y cynllun Gor-yrru Cymunedol. Mae angen gwirfoddolwyr ar gyfer y cynllun hwn. Os oes gan rhywun o Harlech i Lanbedr ddiddordeb, cysylltwch â mi er mwyn i ni geisio sefydlu cynllun yn yr ardal hon. Diolch, Cyng Gwynfor Owen 07778 960620

DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT 8

19

26

Priodas Ar brynhawn braf ddiwedd Ebrill ym Mhortmeirion, priodwyd Peter Wellings, Llys Pedr, Llanaber a Sandra Watson, Arthog. Cafwyd diwrnod hyfryd iawn yn dathlu gyda’r teulu a ffrindiau. Yn y llun fe welir y ddau gyda’u hwyrion a’u hwyresau. Dymuniadau gorau iddyn nhw.

Parti canu buddugol Miss Anita Griffiths

MEHEFIN 12

Llongyfarch Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Gwenno Edwards, Parc Isaf, sydd wedi ennill cystadleuaeth lefaru yn Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd yn ddiweddar. Bydd yn cystadlu yn Sir Ddinbych yn fuan. Pob lwc Gwenno a mwynha. Babi newydd Llongyfarchiadau i Elin ac Eon (Carleg Uchaf gynt) sy’n byw yn Nolgellau ar enedigaeth eu merch fach Ela Mai, chwaer fach i Owain a Lewis. Dathlu

GORFFENNAF

Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Dei a Jane Corps, Bryn Ifor ar ddathlu eu priodas aur ar 29 Ebrill. Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at Carey, Angelika, Tom a Lisa, Parc Uchaf, yn eu profedigaeth o golli mam, mam yng nghyfraith a nain annwyl iawn, sef Mrs Margretta Cartwright, MBE, Heulwen, Tal-ybont. Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb Parch Gwyn Rhydderch Mawl a Chân, Alma Griffiths Nerys Griffiths 3 Pererindod Capel Anfonwyd y llun hwn i Margaret Pauline gan Ann Nolan o Awstralia. Ganwyd a magwyd Ann yn y Dyffryn ond mae hi wedi ymfudo i Awstralia ers llawer o flynyddoedd ond yn dal mewn cysylltiad â MaeMargaret.hi’nmeddwl mai tua 1951/52 y tynnwyd y llun. Rhes ôl, o’r chwith i’r dde: Mattie (Gorsdolgau), Gwyneth (steshion), Peggy (chwaer Anthia), Nia (merch y prifathro Emlyn Jones). Rhes flaen o’r chwith i’r dde: Margaret (Tŷ’n Buarth), Margaret Pauline, Miss Griffith, Ann Nolan, Dilys Einir (Isgoed).

9 CYNGOR CYHOEDDIADAU’RTHAL-Y-BONTDYFFRYNCYMUNEDACADEIRYDD Croesawyd Denise Stone i’w chyfarfod cyntaf a dymunwyd y gorau iddi. Soniwyd am farwolaeth Mrs Gretta Cartwright, a oedd yn aelod gweithgar o’r Cyngor hwn am flynyddoedd lawer. Estynnwyd cydymdeimlad y Cyngor â’i mab, Mr Carey Cartwright a’r teulu yn eu profedigaeth. CEISIADAU CYNLLUNIO Codi wal atal llifogydd 1.1 medr o uchel yn ymestyn ar hyd ffin terfyn gogledd/gogledd ddwyreiniol Barmouth Bay Holiday Park ger yr afon Ysgethin, Tal-y-bont. Cefnogi’r cais hwn. MATERION YN CODI Ethol Swyddogion am 2022/23: Cadeirydd: Siân Edwards Is-gadeirydd: Steffan Chambers Pwyllgor Elin Humphreys: Edward Cynllunio:Griffiths Cyngor llawn Cyllid: Cyngor llawn Y fynwent:- Cadeirydd, Is-gadeirydd, Edward Williams a Siôn Ifor Williams Seddi: Cadeirydd, Is-gadeirydd, Edward Williams a Siôn Ifor Williams Maes parcio: Cadeirydd, Isgadeirydd, Edward Williams, Edward Griffiths a John Ceri Evans Un Llais Cymru: Kathleen Aikman ac Evan LlwybrauOwencyhoeddus: Cadeirydd, Is-gadeirydd, Edward Williams, Siôn Ifor Williams ac Edward Griffiths Hamdden Harlech ac Ardudwy: Cadeirydd ac Edward Griffiths

ParcGOHEBIAETHCenedlaethol Eryri Eglwys Llanenddwyn - mae ein pryderon wedi eu cofnodi ac y byddant yn ymweld â’r safle unwaith eto a thrafod y camau nesaf yn dilyn hyn.

Pwyllgor Neuadd Bentref: Denise Stone, Kathleen Aikman a Michael YsgolTregenzaGynradd: Siân Edwards Ethol Cynghorwyr Mae dwy sedd wag ar y Cyngor.

Yn awyrgylch hudolus Nant Gwrtheyrn, unwyd mewn priodas Ynyr Wyn Roberts, mab Einion a Rhian Roberts, Llys y Garnedd a Kirstye Geer, merch Rodney a Sharon Geer, Pentre Uchaf. Gwasanaethpwyd gan y Parch Christopher Prew gydag Elin Williams, Talsarnau wrth y delyn. Mwynhawyd diwrnod braf yng nghwmni teulu a ffrindiau. Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i’r pâr ifanc a’u mab bychan Ilan Wyn yn eu cartref yn Llwyn Ynn, Tal-ybont.

10 ENILLWYR Llongyfarchiadau i Mai Jones, DotwenPritchard-Jones,Garndolbenmaen;WendyMorris,Llanfairpwll;Fawr;BethanLlandecwyn;Ifan,LlanbadarnGwendaDavies,AngharadYWaun,Wrecsam;Haverfield,DilysAAbererch;Jones,Cilgwri Wirral Anfonwch eich atebion i’r Pos Geiriau at Phil Mostert. [Manylion ar dudalen 2]. POS RHIF 15 22 23 19 15 26 5 19 18 16 23 16 4 18 8 25 2 12 8 10 11 25 21 1 17 E 21 5 A 18 27 L 5 14 16 4 25 4 27 26 16 14 15 6 10 17 9 18 27 16 1 20 5 24 26 8 13 5 16 11 16 8 5 24 26 16 18 20 12 5 16 17 8 17 8 5 8 14 21 17 27 7 26 18 5 25 8 16 21 3 27 5 1 12 26 3 25 23 17 27 27 1 26 16 17 13 17 27 5 8 21 16 8 5 8 2 1 6 21 8 16 23 18 5 23 5 12 23 25 21 5 27 12 16 12 26 1- 2 - 3 - 4 - 5 - A 6 - 7 - 8 - 910 - 11- 12 - 13 - 14 - 15 - 16 - 17 - E 1819 - 20 - 21- 22 - 23 - 24 - 25 - 26 - 27 - L 28 - Ph A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y Diolch i bawb sy’n mynd ati i ddatrys y pos geiriau yn fisol. Yn ôl y sôn, roedd pos rhif 14 yn weddol hawdd. Nid yw pos rhif 15 mor hawdd yn fy marn i. Os oes angen cliw, dyma fo - chwiliwch lle mae’r ‘u’ yn ffitio ac wedyn dyfalwch y gweddill! ATEBION POS GEIRIAU 14 Y Diarhebion Casgliad cynhwysfawr o ddiarhebion Cymraeg cyfoes. Rhestrir y diarhebion yn ôl y gair arwyddocaol yn yr ymadrodd fel eu bod yn rhwydd i’w darganfod. Ceir hefyd restr o addasiadau Saesneg cyfatebol er mwyn i’r di-Gymraeg ddeall eu hystyr. Cyfrol sy’n drysorfa o gyfoeth yr iaith Gymraeg fydd o ddefnydd i siaradwyr Cymraeg rhugl a dysgwyr. Dyma lyfr gwerth ei brynu i’r rhai ohonoch sydd a diddordeb yn y tywydd. Mae ‘bwa’r arch prynhawn, tywydd braf a gawn/enfys ar ôl hanner dydd, tywydd braf i ddilyn’ ac un ar gyfer mis Ebrill, Ebrill oer, sguboriau llawn’ tra bod yr un ar gyfer y mis Mai yn awgrymu ‘Mai gwlyb, ydlan lawn.’ Mae patrymau’r tymhorau yma fel y mae rhythmau cefn gwlad, heb sôn am gipolwg ar ein gorffennol diwydiannol. Mae ‘dim gobaith caneri,’ yn cyfeirio’n ôl at y dyddiau pan gludwyd yr aderyn bach dan ddaear gan lowyr i rybuddio am bresenoldeb methan, marwolaeth y caneri yn arwydd sicr o’r nwy Migwenwynig.gefaisoriau o bleser yn pori yn y gyfrol ddiweddaraf hon gan D Geraint Lewis. Mae yma ddiarhebion cyfarwydd - ‘amynedd yw mam pob doethineb; arf doeth - pwyll: arf ynfyd - dur; a geir yn rhad a gerdd yn rhwydd. ‘ Ac, wrth gwrs, rhai sy’n llai adnabyddus - ‘nid yw aderyn yn canu er mwyn dweud dim, ond oherwydd fod ganddo gân.’ Trysor o lyfr am £9.99! PM POS GEIRIAU 15

Eleni bydd Urdd Gobaith Cymru yn dathlu canrif union ers ei sefydlu gan Syr Ifan ab Owen Edwards ym 1922. Saith mlynedd yn ddiweddarach cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol gyntaf y mudiad yng Nghorwen. Brodor a anwyd ac a fagwyd ym Mwlch Gwyn, Brynengan, Eifionydd oedd enillydd cadair gyntaf yr eisteddfod honno ac yntau yn aelod o Adran Ysgol Sir Pen-y-Groes – Hugh John YchydigHughes.ofanylion sydd ar gael am natur y gystadleuaeth rhagor nad am farddoni y cafodd ei chynnig. Yn ôl a ddeëllir rhyw ffurf ar arholiad oedd y gystadleuaeth. Roedd ugain wedi cystadlu am y gadair ac o un marc yn unig yr enillodd H J Hughes y wobr. Syr Ifor Williams oedd y beirniad, ysgolhaig a gŵr a gafodd gryn ddylanwad arno pan aeth yn fyfyriwr i Goleg y Brifysgol, Bangor yng nghanol y tridegau. Yn ei feirniadaeth dywedodd Syr Ifor – ‘ni ches yn fy mywyd gymaint o waith i bigo’r gorau’. Y flwyddyn ganlynol cynhaliwyd yr Eisteddfod yng Nghaernarfon ac unwaith eto H J Hughes aeth â hi. Dwy gadair gyntaf Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i fab ffarm o AethEifionydd!ymlaen i Fangor i astudio o dan Syr Ifor Williams ac enillodd radd anrhydedd uchel yn y Gymraeg.

Roeddcolegau.cywirdeb y Gymraeg yn ysgrifenedig ac ar lafar yn hanfodol bwysig iddo. Roedd ei fagwraeth yng nghefn gwlad Eifionydd wedi sicrhau ei fod wedi ei drwytho yn nheithi ac idiomau cefn gwlad ei ardal enedigol. Ac roedd Eifionydd yn rhan annatod ohono – wrth gael ei dderbyn yn aelod o Orsedd y Beirdd dewisodd ‘Dwyfach’ fel ei enw. Dwy gadair gyntaf Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i lanc ifanc o odrau Mynydd Cennin. Tipyn o gamp! Ann Price

Dwy gadair gyntaf Eisteddfod yr Urdd Hugh John Hughes Cadair Corwen, 1929 Cadair Caernarfon, 1929 Gwilym Rhys Jones yn ymddeol Cyhoeddodd Gwilym Jones ei fwriad i roi’r gorau i’r gwaith fod yn Isarweinydd Côr Meibion Ardudwy. Bu’n aelod o’r Côr ers 1966 a daeth yn arweinydd ar y Côr wedi i Rhyddid Williams ymddeol.

Llun a dynnwyd yn hydref 1975

Bu Elfed ap Gomer yn arwain am sbel a daeth Dafydd Bryn Roberts yn arweinydd yn ystod yr 80au. Roedd yn gyfnod llewyrchus ac roedd dros 50 o aelodau a llawer o deithio gan gynnwys i wledydd tramor. Cyngerdd yn Nyffryn Ardudwy yn 1977 a’r tro cyntaf i’r Côr gael siwt Aeth Dafydd Bryn yn sâl yn 1993 a bu farw yn 1996. A dyna Gwilym yn camu i’r adwy unwaith eto. Yn Eisteddfod Bro Colwyn yn 1995 enillodd y Côr y wobr gyntaf dan arweiniad Gwilym a churo naw côr arall i wneud hynny. Mae’n ddiamau mai ennill y wobr hon oedd yr uchafbwynt dros y blynyddoedd. Ciliodd Gwilym unwaith eto wrth i Aled Morgan Jones gymryd yr awennau yn 2005 ond bu ei gyfraniad yn anfesuradwy wrth iddo baratoi caneuon a hybu doniau o fewn y Côr. Diolch am yr holl lafur, Gwilym, ac ymddeoliad hapus iawn iti.

11

Lladin oedd ei bwnc gradd ategol. Roedd yn athro wrth reddf a bu’n bennaeth yr Adran y Gymraeg (a Lladin am gyfnod) ac yn ddirprwy brifathro yn Ysgol Ramadeg y Bermo ac yna yn Ysgol Ardudwy, Harlech o 1936 hyd 1976. Roedd yn ŵr llengar a chyhoeddodd lyfrau ac erthyglau niferus ar amryfal agweddau ar lenyddiaeth Gymraeg. Roedd ei gyfrol ‘Gwerthfawrogi Llenyddiaeth’ yn gaffaeliad mawr i ddisgyblion a oedd yn astudio’r Gymraeg yn yr ysgol uwchradd a’r

CORNELhaul

12 Glaw yw’r elfen amlycaf yn ein tywydd yn yr ardal yma trwy gydol y flwyddyn, yn enwedig felly ar y tiroedd uchel lle mae ymhell dros gan modfedd yn disgyn ar y copaon uchaf. Oherwydd y gwlybaniaeth parhaol yma ar y mynyddoedd a natur galed y graig, mawn yw’r rhan fwyaf o’r gorchudd a geir arnynt. Ychydig o blanhigion sy’n medru dygymod â’r amodau llaith yma, ond mae rhai, fel y migwyn (Sphagnum) a mân hesg (sedges) yn ffynnu arno. Wedi i’r rhain wywo ni allant bydru’n ôl yn bridd oherwydd y diffyg aer yn y ddaear wleb; yn hytrach bydd cenhedlaeth arall o figwyn yn tyfu ar gefn yr hen. Fe mae’r drefn yn cael ei hailadrodd dro ar ôl tro bydd mawn yn cael ei ffurfio yn yr haenau isaf, a thros gyfnod maith o amser bydd y mawn yma’n cynyddu’n drwch sylweddol.

Nghoedpoeth, Wrecsam, mab i Robert James Jones (ganed 1839, yn Llanarmon, Sir Ddinbych) a Mary Eade (Harper) Jones (ganed 1841, yn St Agnes, Cernyw – m. 1896, yn Sir ymEsgobola2Colorado,MontanaGwnaethontymCymraeg,(1856-1940),ganGwasanaethwydDdinbych).yneiphriodasyParchedigRobertEWilliamsgweinidogCapelPresbButte,Montana,aanwydMwlchtocyn,Abersoch,Llŷn.eucartrefynRoundup,yngyntaf,acynayna725StrydButte.BuMaryMillafarwarIonawr1936,ynYsbytyMurray,Butte,chynhaliwydeihangladdynEglwysSantIoan,Butte.CladdwydhiMynwentMountMoriah,Butte. Rhai o dylwyth Edward a Margaret Evans, Llandecwyn - Rhan 3 T Brindley JonesMary Milla

NATUR ambell un o gael cynhaliaeth ar le mor wael yn beth i’w ryfeddu ato. Ychydig o blanhigion blodeuog mae’r fawnog yn ei gynnal ond mae iddi ei gogoniant ei hun ym Mehefin a Gorffennaf pan fo plu’r gweunydd yn gwynnu’r fign a chanhwyllau bach melyn llafn y bladur yn codi eu pennau o ffeg gwellt gwyn y llynedd. Enghraifft arbennig o hyn yw chwys yr haul sy’n ddim mwy na thusw bach iawn o ddail mân barfog coch yn tyfu ar y migwyn. Mae’n gwneud yn iawn am y diffyg maeth yn y ddaear drwy ddal mân bryfetach yn ei ddail. Bydd y blewiach gludiog yn cau am unrhyw wybedyn anffodus sy’n disgyn ar y ddeilen, a’i ddal yna. Daw sudd o’r ddeilen a threulio’r pryf ar gyfer ei gymryd i mewn i gyfansoddiad y planhigyn. Nid oes prinder gwybed a phryfaid mewn unrhyw gors felly mae’r planhigyn bach yma yn siŵr o damaid at ei gynnal. WIJ Er nad yw blodau’r fawnog yn orchestol eu gwedd mae dull cywrain Merch i William a Mary (Jones) Evans oedd Mary Milla Evans (1885-1936). Ganwyd hi yn Butte, Montana. Ar ôl i’w mam gael trwydded Gwesty Mona, Llanbeblig, yn Rhagfyr 1898, treuliodd Mary Milla gyfnod ei hieuenctid yng Nghaernarfon. Mae adroddiad papur newydd amdani, nos Wener, 19 Ebrill, 1901, yn bymtheg oed, yn perfformio gyda myfyrwyr o Ysgol Dewi Sant yn y Guild Hall, Caernarfon, pan chwaraeodd ran Iarlles Gruffanuff mewn drama o’r enw ‘Prince Bulbo, or the Rose & the Ring.’ Yn 1907, symudodd i Lundain ac o 1907 i 1910 bu’n astudio ar gyfer gyrfa nyrsio yn Ysbyty Hammersmith. Graddiodd yno yn 1910, a gwasanaethodd yn Ysbyty Shepherds Bush yn Llundain. Dychwelodd i Sir Gaernarfon cyn ei bod yn 25 oed, a threuliodd gyfnod byr yn byw yn Abergwyngregyn, ger Bangor. Gwasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn aelod o Gorfflu Nyrsio Brenhinol gyda’r lluoedd arfog yn Ffrainc. Cafodd ei anrhydeddu â medal y Royal Order of the Red Cross, Ail Ddosbarth, gan y Brenin Siôr V, 12 Rhagfyr 1917, ym Mhalas Buckingham. Ar ôl hynny bu’n byw yn y Swyddfa Bost, Bala, ac yna Ysbyty Alder Hey, West Derby, Lerpwl, a hefyd gyfnod yn Glasfryn, Llanrwst. Yn 1925, a hithau bellach yn 40 oed, ymfudodd i’r Unol Daleithiau, 17 Ionawr, ar fwrdd y llong Cedric, o Lerpwl. Ymsefydlodd yn Twin Bridges, Sir Madison, Montana, ac ymhen dim amser cafodd waith fel nyrs mewn cartref plant amddifad yn Twin Bridges, cartref oedd wedi rhoi lloches i tua 5,000 o blant cyn iddo gau i lawr yn 1975. Ar 4 Chwefror 1926, yn Sir Silver Bow, Montana, priododd Mary Milla Evans â Thomas Brindley Jones (1882-1966), mwynwr a anwyd yng

Chwys yr

R J Williams Honda Garej Talsarnau Ffôn: 01766 770286 Fel ‘Alun Bont-ddu’ y byddai llawer yn adnabod Alun. Yno, yn nhyddyn bychan Llech-fraith yng Nghwm Hirgwm, y cafodd ei eni cyn i’w rieni symud i’r pentref i gadw Tŷ Capel RoeddBethania.ygwreiddiau

Bu’n derbyn triniaeth tuag at ganser cyn y Nadolig ond, er iddo ymateb yn dda i hynny, daeth yr hen elyn yn ôl a bu farw yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth ar Ebrill

hynny’n bwysig iawn iddo. Ef oedd cof y teulu, yr achau’n fyw ganddo a stôr o straeon ac atgofion am bobl a chymeriadau’r fro’n byrlymu ohono. Oedd, roedd hen ruddin Meirionnydd yn ddwfn ynddo. Gadawodd yr ysgol yn bymtheg oed heb unrhyw gymwysterau; doedd Alun ac ysgol ddim yn cyd-weddu rhywsut! Y tu allan i furiau’r dosbarth yr aeth ati i addysgu ei hun mewn amryfal feysydd ac y datblygodd ei ddiddordeb mewn byd natur, llên gwerin a hanes a thraddodiadau ei bobl. Bu’n gweithio am rhai blynyddoedd i’r Cyngor Sir ar y ffyrdd gan ddod i adnabod bro Ardudwy’n dda. Yn fwy diweddar, efallai y bydd rhai’n ei gofio fel gyrrwr bws barfog a hwyliog a chlên. Cafodd gyfnodau hefyd o dorri coed ac o drwsio llwybrau ar Gadair Idris ac yna yng Nghanolfan Ailgylchu Dolgellau, lle’r oedd yn dal i weithio’n rhan amser. Bu’n aelod selog a brwdfrydig dros ddegawdau o Gymdeithasau Edward Llwyd a Ted Breeze Jones gan arwain llawer o deithiau ei hun, yn arbennig yn ei gynefin yn Nyffryn Mawddach. Disgrifiwyd ef gan gyd-aelodau fel naturiaethwr naturiol a gwybodus. Roedd ei ieuenctid yn cyd-daro â’r cyfnod cyffrous a hwyliog hwnnw o frwydro dros y Gymraeg a chwaraeodd Alun ei ran yn llawn yn ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith, gan gynnwys paentio a thynnu arwyddion ffyrdd. Wynebodd lys barn a threuliodd gyfnod yng ngharchar YmysgAbertawe.ygweithgareddau lleol y byddai’n eu cefnogi oedd y Sesiwn Fawr, ac yntau yn un o sefydlwyr Gŵyl Werin Dolgellau gynt. Alun oedd un o’r rhai hynny fyddai ar shifft stiwardio olaf y nos ac un o’r rhai fyddai wrthi’n blygeiniol fore trannoeth yn glanhau a chlirio a chael pethau’n barod at ddiwrnod arall. Gadawyd un bwlch yn y rhestr o swyddi. Bu Mair ac yntau’n ofalwyr ar Enlli gan dreulio dwy flynedd anghymharol ar yr ynys hudolus honno oedd mor agos at galonnau’r ddau. Dyna’r unig gyfnod yn ei fywyd iddo adael DaethMeirionnydd.cyfarfodâ,aphriodi Mair Tomos Ifans, â llawenydd mawr i’w fywyd ac ymgartrefodd y ddau yn Ninas Mawddwy. Yn goron ar y cyfan daeth Osian ac Elis i lenwi ei fywyd. Roedd bod yn ŵr a thad cariadus, balch a gofalgar yn sylfaen i bob dim arall.

22ain. Roedd y dyrfa fawr a ddaeth i ddathlu ei fywyd yng Nghapel Ebeneser, Dinas Mawddwy yn tystio i’w boblogrwydd a’r parch a oedd gan bawb tuag ato. Eryl Owain [brawd] Rhywfodd yn rhodd er nad oes ’run gwreiddyn, o’n bro weithiau daw rhai o’r un brethyn ac agwedd â’u holl rinwedd i rannu’n milltir sgwâr hardd a budr, ambell wydryn a chân dlos fin nos. Felly fu fan hyn yn swynol wyrthiol, yn Gymry’n perthyn. Lle bu’n gynnes ddweud hanesyn – daeth taw I’n halaw, mae’n llwm yma heb Alun. Huw Dylan Owen Roedd addfwynder yr erwau – yn ei wên, Tywynnai drwy’n sgyrsiau, A gardd o Gymraeg yn gwau Yn faledi o flodau. Rhys Gwynn Un oedd Alun â’i deulu – a gwerthoedd Y Garth yn ei yrru. Er helaeth yr hiraethu Daw i’r cof storïau cu. Rhodri Owain

ALUN GARTH OWEN (1952 – 2022)

13

Mae’n od sawl un aeth ati i roi’r gair ‘Gwyllt’ yn ei enw barddol. Un o’r rhain oedd Robert Owen neu Eryron Gwyllt Walia (1807–1870). Mae ganddo ddau emyn yn Caneuon Ffydd, sef 543 a 640. Emyn cymundeb ydi 640, emyn da tawel, er na chofiaf glywed ei ganu erioed. Emyn Pasg ydi 543, emyn sy’n boblogaidd o hyd: ‘Hwn ydyw’r dydd y cododd Crist gan ddryllio pyrth y bedd; O cyfod, f’enaid, na fydd drist i edrych ar ei wedd.’ Mae yma bum pennill a phob gair yn talu am ei le. Roedd yna un arall ond gollyngwyd hwnnw i’w golli ers talwm. ‘Nativity’ yw’r dôn a roddir uwch ben yr emyn ac ni ellid cael ei Ondgwell.pwy oedd y dyn yma oedd wedi mabwysiadu’r fath enw gwyllt arno’i hun? Wel un o Ddyffryn Nantlle oedd Robert Owen, o Ffridd Baladeulyn. Symudodd y teulu pan oedd Robert yn ifanc iawn i dref Caernarfon. Yno, cafodd addysg dda cyn ei brentisio fel paentiwr. Symudodd i Lundain a bu’n weithgar iawn yno yn y capel Cymraeg enwog yn Jewin, capel â hanes hir a diddorol iddo. Roedd yn fardd, yn areithydd cymeradwy ac yn bregethwr; dyn uchel iawn ei barch ymysg Cymry Llundain ei oes. Yn ogystal â hyn oll, roedd yn hanesydd galluog ac yn ŵr fu’n flaenllaw yn yr ymgyrchu i gael hawliau i’r werin yn yr oes galed honno. Ychydig iawn o gefnogaeth a roddai’r mwyafrif o arweinwyr Methodistiaid Calfinaidd i geisio hawliau a thegwch i’r lliaws gan gredu mai teithio tuag at y byd nesaf a sicrhau lle ynddo oedd eu busnes yn hytrach na cheisio newid y byd hwn. Roedd Eryron Gwyllt Walia yn dipyn o Wneithriad.iddim ond dichon bod ‘eryron’ wedi tarddu o’r eryr. Gwalia (sef Cymru) mae’n siŵr oedd yn wyllt ac nid y bardd. Ond mae’n anodd meddwl am le gwylltach na Llundain yn oes Eryron Gwyllt Walia. Mwy o wylltineb tro nesa.

JBW

WylltPobl 14Ers talwm, yng Nghymru, byddai pob bardd oedd yn credu y dylai gael ei gyfrif yn fardd go iawn yn gofalu bod ganddo neu ganddi enw barddonol. Byddai rhai o’r enwau hyn yn dipyn o lond ceg. Meddyliwch mewn difrif am y Parchedig Thomas Price (1787–1848) ficer Cwm Du yn Sir Frycheiniog, ysgolhaig a llenor ac un o garedigion yr iaith Gymraeg yn ei oes a fabwysiadodd yr enw ‘Carnhuanawc’ iddo ei hun yng nghylchoedd eisteddfodol ei oes. Ac mae yna rai gwaeth o lawer. Ystyriwch am funud Carnrhawdfardd, Gwrwst ab Bleddyn Flaidd a Scorpion. Cafodd ambell un weledigaeth go ryfedd. Gyda rhai o’n beirdd mae’r enw barddonol wedi glynu’n well nag enw bedydd ei berchen. Efallai y byddai’n rhaid i chi ystyried am funud neu ddau petawn i’n sôn wrthych am Eliseus Williams, Albert Evans Jones ac Ellis Humphrey Evans. Maen nhw’n haws eu hadnabod yn siŵr fel Eifion Wyn, Cynan a Hedd Wyn. Efallai fod y prinder sydd gennym o gyfenwau yn un rheswm dros fabwysiadu’r enwau barddonol yma. Syndod yw sylweddoli bod yna gymaint â 38 John Jones yn cael erthygl lawn yn y Bywgraffiadur hyd at 1940. Newidiodd un ei enw i John Cynddylan Jones ac mae gan lawer iawn o’r lleill enw barddonol i’w gwahaniaethu oddi wrth y John Jonesiaid eraill ond bobol bach! Beth mae hyn yn ei ddweud amdanom fel Dewisoddcenedl? golygyddion Caneuon Ffydd roi enwau barddonol y gwahanol emynwyr ar waelod pob emyn os byddai’r bardd wedi arddel enw fel hyn. Felly ar ddiwedd ei emyn rhif 2, ‘Hwn yw y sanctaidd ddydd...’ ceir yr enw syml ‘Elfed’ ac nid yr enw a’r tetl llawn ‘Y Parchedig Howell Elvet Lewis’ fel ag a geid yn rhai o’r casgliadau enwadol. Er hynny gofalwyd am roi’r enw llawn ar gyfer yr enw barddonol yn y mynegai. Dim ond un a glywais i yn condemnio’r drefn yma. Roedd y diweddar Robert Eiddior Davies o Borthmadog yn gryn awdurdod ar emynau a ffurfiau ar addoli. Ei farn ef oedd mai enw bedydd emynydd a ddylid ei arddel wrth emyn gan mai trwy fedydd y derbyniwyd pob un ohonynt (bron iawn!). Iawn, defnyddied bardd ei enw barddonol i gystadlu a difyrru ac ati ond rhoed yr enw bedydd wrth emyn yn ôl Bob RoeddEiddior.hen lyfr emynau’r Methodistiaid yn hynod o barchus yn hyn o beth. Rhoddwyd enw llawn a theitl pob emynydd gyda’r graddau Prifysgol hefyd, yr enw barddol ac yn aml iawn bentref neu hyd yn oed gyfeiriad yr emynydd. Ffurfiol iawn i’n ffordd ni o feddwl mae’n siŵr ond dyna i chi ddangos parch. Er hynny, doniol braidd ydi darllen ‘Mrs Anne Griffiths, Dolwar Fach, Llanfihangel yng Ngwynfa’ fel pe buasai’n bosib anfon llythyr ati.

John Bryn Williams

15 ALUNBLWCHHYSBYSEBUGALLWCHYNYHWNAM£6YMISWILLIAMS TRYDANWR*Cartrefi*Masnachol*Diwydiannol Archwilio a Phrofi Ffôn: 07534 178831 e-bost:alunllyr@hotmail.com TelerauHYSBYSEBIONganAnnLewis01341241297 Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru ALAN RAYNER 07776 181959 ARCHEBU A CARPEDIGOSOD Sŵn y Gwynt, www.raynercarpets.co.ukTalsarnau CAE DU DESIGNS DEFNYDDIAU DISGOWNT GAN GYNLLUNWYR Stryd Fawr, Harlech Gwynedd LL46 2TT 01766 780239 ebost: sales@caedudesigns.co.uk Dilynwch ni: Oriau agor: Llun - Sadwrn 10.00 tan 4.00 Tafarn yr LlanuwchllynEryrod 01678 540278 Bwyd cartref blasus Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd E B RICHARDS Ffynnon 01341LlanbedrMair241551 CYNNAL EIDDO O BOB MATH Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb. GWION ROBERTS, SAER COED 01766 771704 / 07912 gwionroberts@yahoo.co.uk065803 dros 25 mlynedd o JASONbrofiadCLARKE Maesdre, 20 Stryd golchipeiriannauPenrhyndeudraethFawrLL486BNArbenigwrmewngwerthuathrwsiosychudillad,dilladagolchillestri. Gwasanaeth Cadw Llyfrau a Marchnata Glanhäwr Simdde • Chimney Sweep Gosod, Cynnal a Chadw Stôf Stove Installation & Maintenance 07713 703 222 Glanhäwr Simdde Gosod, Cynnal a Chadw Stôf 01766 770504 Am argraffu diguro Holwch Paul am paul@ylolfa.combris! 01970 832 304 Talybont Ceredigion SY24 5HE www.ylolfa.com H Williams Gwasanaeth cynnal a chadw yn eich gardd Ffôn: 01766 762329 07513 949128 NEAL PARRY Bwlch y Garreg Harlech CYNNAL A TUCHADWMEWN A THU 07814ALLAN900069 Llais Ardudwy Drwy’r post Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, £7.70llaisardudwy@outlook.comE-gopillaisardudwy@outlook.comLlanbedryflwyddynam11copi Am hysbysebu yn Llais Llandanwg,ManylionArdudwy?gan:AnnLewisMin-y-môrHarlechLL462SD01341241297 07713 703222

ArddangosfaHenLuniau

I ddechrau’r garreg filltir hon ym mis Ebrill eleni, bu trefniant gan Bwyllgor y Neuadd i ddangos lluniau o’r ardal a’i phobl yn y Neuadd nos Wener, 29 Ebrill a phnawn Sadwrn, 30 Ebrill. Roedd yr arddangosfa dan ofal Grŵp

Yn ystod mis Mai, roeddwn yn dathlu pen-blwydd arbennig, ac yn hollol ddiarwybod i Mathew a finnau, trefnwyd parti gan ein plant, Rhian a Hywel ym Mwyty Gwinllan Pant Du, Penygroes a hwythau wedi trefnu i wahodd teulu a ffrindiau i ymuno! A ninnau wedi cael gwahoddiad i fynd am de prynhawn yno gyda’m cefnder a’i wraig, a meddwl ein bod yn mynd i gael te bach tawel gyda hwy, gellir dychmygu’r sioc enfawr a gefais pan gerddais i mewn i’r Bwyty a gweld cymaint o wynebau cyfarwydd yn aros amdanaf – a phawb yn canu ‘pen-blwydd hapus’!! Roeddwn yn crynu tu mewn am hir – ond wedi dod ataf fy hun, cefais gyfle i gael gair gyda phawb a mwynhau’r achlysur annisgwyl yma! Roedd te prynhawn ardderchog wedi’i baratoi ar ein cyfer a diolch i staff y Bwyty am hynny. Diolch i bawb, o bell ac agos, am eu cwmni, a diolch i Rhian am y syniad yn y lle cyntaf! Roedd pawb wedi llwyddo i gadw’r gyfrinach am y parti ers rhai misoedd! Rwy’n gwerthfawrogi hefyd yr holl gardiau, anrhegion a dymuniadau da a dderbyniais ar fy mhen-blwydd. Roedd yn ddydd Sadwrn braf iawn i ymgynnull yn Pant Du a chafwyd nifer o luniau arbennig o’r achlysur. Mae’n le hyfryd a chroesawgar iawn. Mai RhoddJ. a diolch £10.00 arbennig

16 TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN

Braf iawn oedd cael cynnal dwy sesiwn yn y Neuadd Gymuned o ddangos hen luniau a hefyd fideos oedd yn fodd i gofio rhai digwyddiadau yn yr ardal nifer helaeth o flynyddoedd yn ôl. Mae’n debyg bod y sesiynau hyn ymysg y gweithgareddau cyntaf ar ôl i’r Neuadd Fawr gael ei huwchraddio ac i fywyd ddechrau dod yn ôl i normalrwydd ar ôl y Covid. Cafwyd cefnogaeth dda i’r ddau gyfarfod a chafwyd cyfle i sgwrsio dros baned a bachu ar y cyfle i weld lluniau a baentiwyd gan blant yr ysgol mewn cystadleuaeth arlunio. Roedd eu gwaith yn werth ei weld, yn hynod liwgar a nifer o’r lluniau’n dangos manylder arbennig. Ymdrechion canmoladwy Bu’riawn.ddau gyfarfod nid yn unig yn fodd i weld wynebau a digwyddiadau o’r gorffennol, roeddynt hefyd yn gyfle i sôn a thrafod am ambell ddigwyddiad ac fel arfer roedd yn braf cael croesawu sawl un o du allan i’r ardal – ac yn enwedig felly Olwen Ty’n Braich. Mae cof Olwen am wynebau, enwau a digwyddiadau yn arbennig, ond heb anghofio cyfraniadau niferus gan unigolion eraill hefyd a lwyddodd i wneud y ddau gyfarfod yn gymdeithasol gynnes ac yn fwynhad pur. Diolch i bawb ddaeth i gefnogi ac i’r rhai ddaeth â lluniau inni i’w sganio. Braf iawn yw cael lluniau nad ydyn nhw wedi eu gweld o’r blaen.

Dathlu 20 mlynedd y Neuadd Gymuned

Trysorau Talsarnau, a fu wrthi’n ddiwyd yn casglu a sganio nifer fawr o hen luniau, a dangoswyd rhain ar fur prif ystafell y Neuadd, trwy gyfrwng taflunydd, dan ofal Celt Roberts. Daeth nifer o ymwelwyr ynghyd, o bell ac agos, yn enwedig ar y nos Wener, a mwynhawyd hel atgofion a chael sgwrs am y lluniau. Roedd paned ar gael ar y ddau ddiwrnod a’r gegin yn brysur am y tro cyntaf ers amser. Gobaith y Pwyllgor yw cynnal rhagor o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn. Fel rhan o’r dathlu, gosodwyd cystadleuaeth arlunio i blant Ysgol Gynradd Talsarnau i baentio llun o unrhyw olygfa yn yr ardal. Cafwyd llawer ymgais wych gan y plant, wedi’u dosbarthu i wahanol oedran, a gosodwyd y lluniau i fyny ar fur y Neuadd; roedd yn arddangosfa liwgar dros Diolchben.iIolo Lewis, athro Celf yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Dolgellau am ei waith yn beirniadu’r gystadleuaeth, a threfnwyd cyfarfod gan yr ysgol yn y Neuadd pnawn dydd Mawrth, 3 Mai i gyflwyno medalau aur ac arian, a roddwyd gan Siôn Richards, i’r cyntaf a’r ail o’r enillwyr. Roedd holl blant yr Ysgol yno, gyda phedwar aelod o Bwyllgor y Neuadd yn bresennol yn y cyfarfod, a diolchwyd i’r plant am eu cyfraniad gwych i’r gystadleuaeth. Hefyd roedd yr Ysgol wedi cyflwyno ŵy Pasg mawr i’r enillwyr, gyda Phwyllgor y Neuadd yn rhoi ŵy Pasg llai i bob cystadleuydd. Diolchwyd i Gwion Owens am drefnu’r achlysur.

Dathlu pen-blwydd

Tudur 10 -

ADRODDIAD

Cytunodd y swyddogion presennol i barhau yn eu swyddi am flwyddyn arall. Cwblhawyd yr archeb am gardiau Nadolig 2022 ynghyd â dyddiaduron 2023 a nwyddau eraill. Roedd pawb yn awyddus i orffen rhaglen eleni gydag ymweliad ym mis Mehefin ac argymhellwyd mynd i Blas Glyn y Weddw yn Llanbedrog. Yna gofynnwyd am syniadau ar gyfer rhaglen 2022-23 a dechreuwyd gydag ym weliad eto ym Medi. Argymhellwyd a chytunwyd i ymweld ag Amgueddfa Lloyd George ac yna ymlaen i Dyddyn Sachau am ginio.

19 -

MATERION YN CODI Ethol Swyddogion 2022/23 Cadeirydd: Owen Lloyd Roberts Is-gadeirydd: Margaret Roberts Wrth ymadael â’r Gadair diolchodd y cyn-Gadeirydd am y fraint o gael bod yn Gadeirydd y Cyngor unwaith yn rhagor. Hefyd diolchodd i’r Clerc am ei holl waith a dymunodd yn dda i’r Cadeirydd newydd. Wrth gymryd y Gadair diolchodd y Cadeirydd i’w gydGynghorwyr am y fraint o gael ei ethol yn Gadeirydd am y flwyddyn i ddod. Camerau CCTV Adroddodd y Cadeirydd bod y polyn trydan yn Maentwrog wedi ei weirio a bod y cyfarpar ar gyfer Llandecwyn yn cael ei gadw ar safle Dŵr Cymru gerllaw. Bydd y gwaith wedi ei orffen yn fuan. Oherwydd nad ydy’r offer hwn yn recordio cyflymder ceir, datganwyd pryder nad ydy’r fan Gan-Bwyll byth yn aros yn y pentref. CEISIADAU CYNLLUNIO Toiled newydd, uwchraddio system ddraenio, a gosod uned trîn carthion newydd - Waliau’r Gerddi, Glyn Cywarch, Talsarnau. Cefnogi’r cais hwn. Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer toiled newydd, uwchraddio system ddraenio, a gosod uned trîn carthion newydd - Waliau’r Gerddi, Glyn Cywarch, Talsarnau. Cefnogi’r cais hwn. Y TRYSORYDD Adroddodd y Trysorydd bod £41,068.00 yn y cyfrif cyfredol, £4,159.37 yn y cyfrif cadw a £76.00 yng nghyfrif y Cadeirydd. Steffan Jones Irvon Parry Dewi Tudur Dewi Tudur Dewi Dafydd Morris Cynhelir yr oedfaon am 6.00 ac mae croeso cynnes bawb.

Ceisiadau am gymorth ariannol Hamdden Harlech ac ArdudwyYsgol£2,141.71.Gynradd Talsarnau - £1,500 PwyllgorGOHEBIAETHNeuadd Talsarnau Derbyniwyd llythyr gan yr uchod yn diolch i’r Cyngor am y cyfraniad ariannol a dderbyniwyd ganddynt yn ddiweddar gan y Cyngor. CYNGOR MEHEFINCapelTALSARNAUCYMUNEDNewydd,Talsarnau 5 -

Mae’r sefyllfa ariannol yn iach iawn. Paratowyd y baned gan Gwenda a Meira ac enillwyd y raffl gan Margaret. Diolchodd Siriol i bawb ac i Anwen a Mai am ddarl len Llais Ardudwy i’r deillion ddwy waith mewn blwyddyn. Diolchodd Mai i Siriol am ei gwaith cydwybodol fel Llywydd.

i

P

Feithrin Gymraeg i blant Cymraeg yr ardal ac yn 1973 dyma gychwyn un gan Mair Wyn Jones, 1 Rhes Tŷ Gwyn, yr Ynys ac Annie Davies, Draneogan Mawr, CynhaliwydTalsarnau.yrysgol feithrin yn yr hen neuadd bentref gyda Mair Wyn Jones yn athrawes gyntaf a Priscilla Williams, Ty’r Acrau, Harlech yn ei helpu. Criw bach oedd yno ar y dechrauJohn Williams, Gwyndaf Jones, Gwen Williams a Jenny Evans. Wedi iddyn nhw dreulio peth amser yn yr ysgol feithrin, byddai’r plant yn cael cychwyn yr ysgol gynradd ar ôl y Pasg. Roedd yr ysgol feithrin yn llwyddiant o’r cychwyn ac yn boblogaidd. Ymhen ychydig amser daeth Margaret Eckley â phlant o rannau eraill o Ardudwy iddi –Dafydd Eckley a Gwion Llwyd. Dyma enwau rhai o’r athrawon dros y blynyddoedd: Gweneira Evans, Helen Williams, Enid Jones, Barbara Jones –heb anghofio Llinos Llyfni Hughes a fu’n helpu am flynyddoedd lawer. Mae gan Gweneira atgofion o wneud tân glo yn Ystafell y Gloch yn yr hen neuadd cyn i’r plant gyrraedd. Yn y llun, a dynnwyd yn 1974, mae Gwen Aubrey, Amanda Williams, Haydn Rayner, Ann Williams, Anwen Williams, Gwynedd Thomas ac Iddon Williams. Erbyn heddiw mae’r Cylch Meithrin dan ofal Sonia Jones a Meinir Jones, yn cael ei chynnal mewn ystafell braf, pum bore’r wythnos yn y Neuadd Gymuned newydd.

26 -

Roedd aelodau Merched y Wawr, Talsarnau yn awyddus iawn i gael Ysgol

12 -

17

GORFFENNAF 3 -

CylchTalsarnauMeithrin

Merched y Wawr Croesawyd yr aelodau gan y Llywydd, Siriol Lewis, i’r Cyfarfod Blynyddol yn y Neuadd Gymuned nos Lun, 9 Mai. Anfonwyd cofion at Gwenda Paul ac Eirwen Roberts, y ddwy heb fod yn dda eu hiechyd yn ddiweddar.

TalsarnauWILLIAMS01766770286TRYCIAUIZUZU

R J

HARLECH 18 Capel Jerusalem, Harlech Mis Mehefin

Marwolaeth Trist iawn yw gorfod cofnodi marwolaeth Mr Ivor Parry, [gynt o Tan-yr-allt, Harlech] un o hen hogia Harlech, yng nghartref Bodawen yn dilyn salwch byr. Roedd yn ŵr tawel, bonheddig i oedd yn caru’r encilion. Nid oedd ganddo air drwg am neb. Cydymdeimlwn yn ddwys iawn gyda’i wraig, Glenys, sydd yn Ysbyty Bryn Seiont a’u plant Valerie a Geraint.

12 Parch Iwan Ll Jones am 3.30 26 Mrs Alma Griffiths am 4.00 a Ms Rhian Davenport

Graddiodd Scott o Brifysgol John Moores yn Lerpwl hefo BA(Anrhydedd) mewn Busnes Chwaraeon. Roedd y seremoni yn yr Eglwys Gadeiriol Anglicanaidd yn Lerpwl. Mae pawb yn falch iawn o dy lwyddiant, Scott. Triathlon Llongyfarchiadau cynnes iawn i Erin Mitchelmore, Cae Gwastad, Harlech ar ddod yn gyntaf yn y ras i ferched o dan 18 yn Nhriathlon Pwllheli ar 15 Mai. Da iawn ti, Erin. Cydymdeimlad Gyda thristwch y clywsom y newyddion am farwolaeth Alun Garth Owen, o Bontddu yn wreiddiol, gŵr Mair Tomos Ifans, gynt o Harlech. Bu farw Alun ar 22 Ebrill yn annisgwyl o sydyn yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth yn 70 mlwydd oed. Yn ŵr caredig i Mair, roedd yn dad gofalgar a chefnogol i Osian ac Elis, yn frawd a brawd yng nghyfraith ffyddlon i Eryl a Angharad ac Emyr ac Anita ac yn ewythr hwyliog. Cynhaliwyd angladd preifat fore Mawrth, 10 Mai, yn dilyn gwasanaeth cyhoeddus i ddathlu ei fywyd yn Ninas CydymdeimlwnMawddwy.â Mair a’r teulu oll yn eu colled fawr. Snwcer Mwynhawyd noson wych o snwcer gan yr wyth cystadleuydd yng nghystadleuaeth snwcer Llwybrau Llesiant De Gwynedd 2022 a gynhaliwyd yng Nghlwb Snwcer Talsarnau ar Mai 26. Mae Llwybrau Llesiant yn

Profedigaeth Cydymdeimlwn â Sally a David John a’r teulu, 30 Tŷ Canol yn eu profedigaeth ddiweddar. Bu farw mam Sally, Doreen Beatrice Elizabeth Jerram, yn 95 oed, gynt o Lorelei, Llanfair. Bu mewn cartref yn y Rhyl ers sawl blwyddyn erbyn hyn. Cynhaliwyd ei hangladd yn Eglwys y Santes Fair, Llanfair ar 19 Mai. Dan anhwylder Rydym hefyd yn anfon ein cofion at Nicky (merch Sally a David) a Gwion Thomas. Mae eu merch fach o dan anhwylder ar hyn o bryd ac rydym yn meddwl amdanyn nhw. Cofion Anfonwn ein cofion at Mrs Helen Owen, Y Waun, sydd bellach yn Nghartref Bodawen, Porthmadog, wedi cyfnod yn Ysbyty Alltwen. Anfonwn ein cofion hefyd at Emyr Price sydd wedi cael dod adref ar ôl cyfnod yn Ysbyty Gwynedd. Graddio Llongyfarchiadau gwresog i Scott Jones, 14 Tŷ Canol, mab Huw ac Yvonne, sydd wedi bod mewn seremoni graddio o’r diwedd ar ôl aros am bron iawn i ddwy flynedd.

datblygu potensial oedolion sydd ag anableddau dysgu trwy ddilyn gwahanol lwybbrau llesiant. Ar ôl 3 awr o chwarae o’r safon uchaf, daeth Gethin Jones o Harlech i’r amlwg fel yr enillydd cyffredinol, ond yn bwysicach fyth, cafodd pawb amser da! Llongyfarchiadau gwresog i Geth. Gethin Jones ydi’r trydydd o’r dde Trefnwyr Angladdau • Gofal Personol 24 awr • Capel Gorffwys • Cynlluniau Angladd Rhagdaledig Heol Dulyn, Tremadog. Ffôn: 01766 post@pritchardgriffiths.co.uk512091 Cystadleuaeth Rygbi Tag Gwynfor John Nos Iau, Mehefin 23, am 5.00 yn Ysgol Ardudwy, Harlech Mae Clwb Rygbi Harlech yn falch iawn o gael cynnal y gystadleuaeth hon unwaith eto er cof am gymwynaswr brwdfrydig o’r ardal. Nosymarferion‘Cana-mi-gei’ynailddechrauFawrth,Mehefin7,am8.00ynNeuaddTalsarnau.Croesocynnesiawniaelodaunewyddymunoâni.

19 Gretta Cartwright MBE (05.01.1929 – 11.05.2022) Gair gan Carey Er ei fod yn achlysur trist, mae’n bwysig cofio’r pethau da a dathlu bywyd un a oedd mor ffeind, cymwynasgar a charedig. Dyma ychydig o’i hanes. Ganwyd Gretta ar y 5ed o Ionawr 1929 yn fferm Llwyncrwn, Trawsfynydd. Roedd yn rhan o deulu estynedig mawr, ac roedd teulu yn bwysig iawn iddi. Roedd ganddi wybodaeth anhygoel am bwy oedd yn perthyn i bwy yn ogystal â hanes teulu. Cafodd addysg yn ysgol Traws ac wedyn Ysgol Sir Ffestiniog. Bu’n Radbrook College yn yr Amwythig, lle cymhwysodd yn y maes arlwyo a chadw tŷ. Yna gweithio am gyfnod byr yn Ngholeg Ellesmere yn gyfrifol am drefniadau preswyl ac arlwyo. Roedd yn rhagori mewn gwneud bwyd fel y byddai unrhyw un a ddaeth i’r tŷ yn ei gofio. Gallai wneud gwyrthiau a hwylio gwledd mewn dim amser gan ymddangos yn hollol ddiymdrech. Cofiaf arwain taith gerdded dros y bryniau y tu ôl i Dyffryn gyda dros 40 o aelodau o Glwb Mynydda Prifysgol Aberystwyth. Y cynllun oedd cerdded i lawr heibio Parc Uchaf i gwrdd â’r bws. Ond roedd gan Mam syniad gwahanol, a chyfeiriwyd 40 o fyfyrwyr gwlyb a mwdlyd drwy’r drws ffrynt i’r gegin i gael sosej rolls, brechdanau a chacen, cyn codi diod wrth fynd allan o’r drws cefn i’r garej i fwyta dan do. Roedd Gretta yn weithgar a chymdeithasol, gan gychwyn yn ifanc yn Traws gyda’r capel a’r Urdd yn arbennig. Un stori ddiddorol i’w rhannu oedd pan oedd Gretta wedi mynd i aros i ‘wersyll’ yr Urdd yng Nghricieth. Roedd criw ohonynt wedi mynd ar fws i Lanberis, cerdded i fyny ac i lawr y Wyddfa cyn dal bws yn ôl i Gricieth am swper. Wedi iddynt gyrraedd yn ôl, roedd ymwelwyr o Czeckoslovakia yna, eisiau mynd i fyny’r Wyddfa i weld y wawr. Felly, llyncu swper a neidio’n syth ar fws arall i Lanberis a cherdded i fyny’r Wyddfa eto dros nos i weld yr haul yn codi. Tipyn o gamp! Ond dyna fesur o egni a phenderfyniad Gretta. Priododd Jack yn 1951 a chychwyn bywyd priodasol yn Llanidloes lle’r oedd Jack yn athro yn yr ysgol uwchradd. Yna symud yn ôl i Ardudwy, yn gyntaf i’r Bermo, wedyn Dyffryn a Thal-y-bont (Jack yn athro ffiseg yn ysgol Bermo, wedyn Harlech). Symud i Parc Uchaf yn 1964, a minnau’n cael fy ngeni y flwyddyn wedyn. Cychwynnodd fusnes gwely a brecwast poblogaidd, gyda’r tŷ yn llawn o ymwelwyr drwy’r haf, nifer ohonynt yn dod yn ffrindiau agos. Penodwyd Jack yn Ddirprwy Brifathro Ysgol Tywyn ar ddechrau’r 70au a bu’r teulu yn byw rhwng Dyffryn a Tywyn am gyfnod. Roedd Gretta yn weithgar fel arfer, gan wneud ffrindiau da iawn lle bynnag yr oedd yn mynd. Gofalodd yn ddiflino am Jack pan fu’n wael, hyd at ei golli yn 1989. Parhaodd i groesawu ymwelwyr, tra’n dilyn amrediad o ddiddordebau a chyfrannu’n helaeth i nifer o Symudoddgymdeithasau.oParc Uchaf i Heulwen, Glan Ysgethin yn 20001. Roedd yn hynod o egnïol a gweithgar a chymwynasgar ac roedd yn cyfrannu cymaint i’r gymuned: gofalu am nifer o henoed bregus yn y pentref; un o’r rhai a sefydlodd yr Ysgol Feithrin gyntaf yn Dyffryn; Llywydd WI Dyffryn a Llywydd WI Sir Feirionnydd gan gynrychioli’r Ffederasiwn mewn cynadleddau cenedlaethol; Merched y Wawr Nantcol; Sioe Sir; Cyngor Cymuned; Teulu Ardudwy; Cyfeillion y Lasynys; Theatr Ardudwy – mynediad i’r anabl; Rhwydwaith Canser Gogledd Cymru; Sefydliad y Galon; digwyddiadau yn Neuadd y Pentref – roedd yn hynod o falch o’r gwasanaeth carolau, a sut yr oedd yn tynnu trigolion y pentref at ei gilydd ... a llawer mwy. Roedd yn hoff iawn o deithio gyda thripiau i Sbaen, Awstria, Norwy a’r Eidal. Hefyd cerdded – yn aelod brwdfrydig o Gymdeithas Edward YnLlwyd.haeddiannol iawn, derbyniodd Gretta MBE yn 2010 am ei gwasanaeth i’r gymuned ac roedd yn falch iawn ohono fel ac yr oedd y teulu yn falch ohoni hi. Ond mae’n sicr mai ei phleser mwyaf oedd cael bod yn Nain (Nana) i Tom a Lisa ac ni fyddai’n methu cyfle i fod hefo nhw a’u diddanu. Atgofion Tom (ŵyr) Mae gen i atgofion melys o fynd at Nana i Parc Uchaf ac eistedd wrth y bwrdd yn y gegin yn coginio cacen, a doedd hi byth ddim bwys pan o’n i’n gwneud llanast! Ro’n i a Lisa bob amser yn edrych ymlaen at fynd i tŷ Nana. Roedd fel gwyliau bach i ni – ac iddi hi, dwi’n meddwl! Pob tro y byddai’r ddau ohonom yn ei chwmni, roedd cymaint o hwyl i’w gael – a chael ‘get away’ hefo gwneud pethau bydden ni byth yn eu gwneud adra! Dwi ddim yn credu bod Mam a Dad yn gwybod beth oeddem yn ei wneud, a dwi ddim yn siŵr faint oedd Nana’n gwybod chwaith. Dwi’n cofio’r ddau ohonom ni’n trio symud teledu i’r ystafell wely o’r ‘conservatory’ trwy ffenestr yr ystafell ymolchi. Gafon ni ddim llawer o lwc hefo hynny, felly mi fethon ni noson lawen y noson yna! Adeg arall dyna lle o’n i – am 3 o’r gloch y bore yn y gegin yn cwcio taffi hefo sosban boeth o siwgr a menyn. Mae’n siŵr nad o’n i mor ddistaw ac o’n i’n feddwl – achos daeth Nana i weld be o’n i’n wneud a throi’r hob i ffwrdd yn reit sydyn cyn fy anfon yn ôl i fy ngwely! Roedd y ddau ohonom yn gwneud cyngerdd bach iddi yn Heulwen weithiau – roedd hi bob amser yn gwylio a gwrando yn astud, ac yn mwynhau bob tro. Bydd gan y ddau ohonom atgofion o fynd hefo hi yn y car a reidio pob trên stem yng ngogledd Cymru, hefo bocsiad mawr o frechdanau ham yn ddigon i fwydo teulu. Pob Nadolig, y teulu hefo’n gilydd yn cael hwyl, clamp o dwrci, a phwdin ’Dolig – yr unig beth fyddai Nana yn ei fwyta hefo siwgr - fel oedd hi’n dweud pob blwyddyn. Teyrnged Lisa (wyres) Pwt byr iawn sgen i. Diolch i Nana am yr atgofion melys. Diolch, nid yn unig am yr atgofion o achlysuron arbennig, ond hefyd am yr atgofion o fywyd bob dydd. Pethau fel cael llythyr trwy’r post, a mynd at Nana ar ôl ysgol, cael ychydig i’w fwyta a gwylio ‘Pointless’ efo’n gilydd. Am bron i ganrif roedd Nana ar y byd yn creu atgofion ac am byth fydd yr atgofion yn byw efo ni, yn annwyl yn ein cof. ‘Gretta’ 05.01.1929 - 11.05.2022 Gwasanaeth yn Capel Moriah, Trawsfynydd Dydd Gwener 20 o Mai 2022 am 12 o’r gloch a rhoddir i orffwys ym Mynwent Salem, Trawsfynydd Service at Moriah Chapel, Trawsfynydd Friday 20th May 2022 at 12 noon and will be laid to rest at Salem Cemetery, Trawsfynydd

Teisen y dyn tlawd Dyma rysáit o’r tridegau pan oedd wyau, llaeth a menyn yn brin, ond mae’n bosib ychwanegu unrhyw ffrwyth neu gnau i’r gacen i’w gwneud yn fwy blasus. Mae’n debyg iawn i gacen frith wedi ei berwi.

Rysáit 1 cwpaned o ddŵr 1 cwpanad a hanner o ffrwythau, syltanas, cyrens, ceirios, bricyll neu beth bynnag sydd gennych yn y tŷ.

Trodd pawb am adre wedi mwynhau diwrnod arbennig iawn.

Priodas aur Llongyfarchiadau i Grace a John Williams, Trem Enlli, Llanaber ar ddathlu eu priodas aur ar 27 Mai.

20

½ llwy de o halen ½ llwy de o sinamon ½ llwy de o ewin (cloves) ½ llwy de o sinsir ½ llwy de o nytmeg ½llwy de o bicarb. Llond llwy fwrdd o olew llysieuol (mi allwch ddefnyddio menyn os yn well 1gennych)cwpaned o siwgr brown 1 cwpaned a hanner o flawd plaen 1 llond llwy fwrdd o ddŵr poeth ½ llwy de o bicarb. Dull Rhowch y dŵr a’r ffrwythau mewn sosban, a gadewch iddo ddod i ferwi. Yna ei dynnu o’r gwres a gadael iddo Ychwanegwchoeri. y blawd plaen, y bicarb (wedi ei gymysgu gyda llond llwy fwrdd o ddŵr poeth) a’r sbeisys i gyd a’i gymysgu yn dda. Mi allwch adio ychydig o laeth os ydi’r gymysgedd braidd yn sych. Rhowch y gymysgedd mewn tun torth pwys wedi ei leinio gyda phapur pob. Coginiwch ar wres 350oc am tua 40 i 50 munud. Gadewch i oeri yn y tun. Gobeithio y gwnewch ei mwynhau! Rhian Mair Jones, Tyddyn y Gwynt gynt

Merched y Wawr Llongyfarchiadau i Morwena Lansley, Cangen Merched y Wawr y Bermo a’r Cylch ar ennill dwy wobr yn y Gystadleuaeth Cynllunio Cerdyn Nadolig yng Ngŵyl Haf y Mudiad ym Machynlleth ar 21 Mai. Gŵyl y Pum Rhanbarth Ar fore braf o Fai, aeth tair ohonom o gangen y Bermo i Ŵyl y Pum Rhanbarth yn Rhydymain. Croesawyd pawb yn gynnes gan Margaret Roberts, Llywydd Gŵyl y Pum Rhanbarth, cyn iddi gyflwyno’r eitem gyntaf, sef parti o ddisgyblion o Ganolfan Gerdd William Mathias, sydd â’u cartref yn y Galeri yng RoeddNhgaernarfon.degaelod yn y parti a phob un yn berchen ar dalent gerddorol arbennig. Cawsom eitem hynod ddoniol, datganiad ar y piano, a datganiad hudolus o ‘Ode To Joy’, Beethoven, ar ddwy soddgrwth [cello] - profiad swreal a phleserus oedd gwrando ar y cellos am hanner awr wedi deg y bore mewn neuadd bentref ym Meirionnydd. Canwyd y gân boblogaidd ‘Ceidwad y Goleudy’ gan bedwar gŵr ifanc, ac roedd pawb ar eu traed yn cymeradwyo cyn iddyn nhw orffen. Yna, roedd yn amser am baned ganol bore, a chael cyfle i sgwrsio gyda rhai nad oeddem wedi eu gweld ers misoedd lawer oherwydd cyfyngderau Covid-19. Roedd bisgedi cartref Nia yn boblogaidd dros ben gyda’r baned. Erbyn hyn, roedd Catrin Williams, yr arlunydd poblogaidd o Bwllheli, wedi gosod ei stondin ar y llwyfan a chawsom sgwrs fyrlymus ganddi am ei bywyd a’i gyrfa. Roedd hefyd yn dangos esiamplau o’i gwaith llaw, yn ogystal â’i phaentiadau lliwgar. Daeth yn amser cinio ac roedd ‘Arlwyo Nia’ o’r Bala wedi paratoi bwffe blasus ar ein cyfer. Roedden ni’n ffodus iawn o gael cwmni hyfryd Jill Lewis, ein Llywydd Cenedlaethol, wrth fwynhau ein cinio. Yn y prynhawn, roedd un arall o drigolion tref Pwllheli wedi cyrraedd i’n diddanu, sef John Dilwyn Williams. Testun ei sgwrs oedd ‘Baled Largo a Thref Pwllheli’. Gwelsom sleidiau yn dangos datblygiad Pwllheli yn y blynyddoedd cynnar, cyn i John ddarllen ‘Baled Largo’ gan Cynan. Baled ddiddorol nad oeddwn wedi ei chlywed o’r Eitemblaen. olaf y dydd oedd Eryrod Meirion, parti o fechgyn ieuanc o ardal Llanuwchllyn, gyda’u cyfeilyddes ac arweinydd Branwen Williams. Roeddynt yn llawn hwyl a miri ac yn canu’n ardderchog hefyd! Roedd gwên ar wyneb pawb wedi iddynt orffen. I gloi, daeth ein Llywydd Cenedlaethol, Jill Lewis ymlaen i ddweud gair ac i ddiolch i bawb oedd ynghlwm á’r Ŵyl. Diolchodd am eu gwaith caled yn trefnu’r digwyddiad.

Gwenda Ellis

Y GEFNGEGINY BERMO A LLANABER

21 LLYSIAU’R meddyginiaethWENNOLiddafaden

Cofiaf pan oedd Rhian Lumb [sy’n gynorthwyes yn Ysgol Talsarnau] yn ferch ifanc [Rhian John bryd hynny] roedd ganddi ddefaid ar ei dwylo. Adroddais yr hanes am y feddyginiaeth wrth y dosbarth pan welson ni’r blodyn. Aeth Rhian adref ac ailadrodd yr hanes wrth ei rhieni, Iola a’r diweddar Emyr. Cofiaf fod Iola yn bur amheus o’r holl beth ond, coeliwch neu beidio, roedd llysiau’r wennol yn tyfu reit wrth ymyl drws cefn eu tŷ, Trem y Wawr. ‘Pam na wnewch chi roi cynnig arni?’ holais, ‘fe weithiodd i mi a does gennych chi ddim byd i’w golli.’ Ac i dorri stori hir yn fyr, fe weithiodd i Rhian hefyd. Yn ddiweddar, sylwais fod gen i rywbeth yn debyg i ddefaid ar fy ngwddf ac mi ges i losgi rhai ohonyn nhw gan y meddyg teulu yn Harlech.

Pan oeddwn yn athro dosbarth rai blynyddoedd yn ôl, roeddwn yn awyddus i blant wybod enwau adar a blodau a choed cyffredin. Byddwn yn ceisio eu meithrin i sylwi ar fyd natur ac yn eu hannog i defnyddio’r enwau tlws sydd gennym yn Gymraeg. Roedd misoedd Mai a Mehefin yn amseroedd gwych i fynd ar ‘daith natur’. Pan fyddem ar y teithiau hynny, byddwn yn siarsio’r plant i adnabod deg blodyn wrth eu henwau Cymraeg. Roedd eirlys, cennin Pedr, blodau’r eithin, briallu, dant y llew, blodyn menyn, llygad y dydd, a bwtsias y gog yn adnabyddus i bawb. Ond roeddwn i’n awyddus iddyn nhw nabod bysedd y cŵn, llygad doli, botwm crys, llwyn hidl, llygad Ebrill, blodyn y gwynt, carn yr ebol, ceinioglys, blodyn neidr, banadl, cloch yr eos a blodau mwy anghyffredin - yn arbennig o safbwynt yr enw Cymraeg! Wrth fynd am dro ym mis Mehefin fe ddeuem ar draws llysiau’r wennol. Blodyn melyn ydi hwn, lliw cwstard, debyg iawn i flodyn menyn. Mae o’n hirgoes a dydi’r petalau ddim yn gorwedd ar ben ei gilydd. Mae’n tyfu ar ochr y ffordd neu mewn gardd fel chwyn ac yn blodeuo o fis Mai i fis BobMedi.tro y byddwn yn gweld y blodyn hwn yng nghwmni criw o blant, byddwn yn holi a oedd gan unrhyw blentyn ddafaden ar ei groen. A phob blwyddyn, mewn dosbarth o ryw 30 o blant, byddai rhyw ddau neu dri yn nodi bod ganddyn nhw ddafaden ac yn aml iawn yn ei dangos imi. Wedyn byddwn yn dweud wrth y dosbarth fod gen innau rai ar fy nwylo pan oeddwn yn blentyn. Byddwn yn nodi wedyn fy mod wedi cael gwared arnyn nhw wrth roi’r sug melyn o goes y blodyn ar y ddafaden unwaith bob dydd am dair wythnos, fel y ces fy nysgu gan un o’r pentrefwyr yn Sir Fôn. [Wn i ddim a fuaswn yn mentro gwneud hynny yn yr oes hon oherwydd yr holl helynt sydd ynghylch iechyd a diogelwch. Ond athro dibrofiad oeddwn i bryd Bethhynny!]bynnag i chi, fe wnes i hyn yn Llan Ffestiniog, yn Harlech ac yng Nghefn Coch ym Mhenrhyndeudraeth ac o safbwynt y plant roddodd gynnig ar y ‘feddyginiaeth’, mi weithiodd bob tro!

Beth bynnag i chi, fe ddaeth ’na ragor i’r golwg a dyma gofio am y feddyginiaeth sydd i’w chael gan lysiau’r Roeddwnwennol.iwrthi’n crybwyll hyn wrth

Margaret Roberts, Cilfor, a soniodd Margaret mai deilen gron oedd y feddyginiaeth ar gyfer dafaden pan oedden nhw’n blant. Roedd angen casglu rhai ffres a gwneud trwyth a rhoi mymryn o’r trwyth ar y ddafaden bob nos. Fe wnes i hynny am dair wythnos ond aros efo fi wnaeth y defaid! Roedd rhywun arall wedu awgrymu llaeth dant y llew a dyma roi cynnig ar hwnnw am dair wythnos. Ond i ddim diben - aros wnaeth y defaid Wedynystyfnig.wrth i mi yrru’r car i fyny am Soar, Talsarnau rhyw bnawn, fe welais bod llysiau’r wennol yn tyfu ar ochr y ffordd yno. Roeddwn i wedi bod yn chwilio amdano yn yr ardal ond wedi methu ei ganfod. Bingo! Dyma deithio i Soar yn rheolaidd a rhoi’r sug melyn o’r goes ar fy nefaid bob dydd am dair wythnos. Ac maen nhw wedi diflannu! Mi gasglais hadau o’r planhigion ar ddiwedd y tymor ac mae’r blodyn wedi bod yn y tŷ gwydr dros y gaeaf ac yn ddiweddar mae wedi adfywio. Os oes gennych chi ddafaden sy’n peri trafferthion, dewch heibio Bryn Awel ac mi gewch chi ddeilen neu ddwy i fynd efo chi! PM

ymhellach ei bod wedi ymweld â’r safle. Cytunodd Huw Jones ddelio gyda’r mater hwn. CYNGORHARLECHCYMUNED Plant Cylch Meithrin y Gromlech, Dyffryn Ardudwy yn mwynhau parti i ddathlu gyda rhieni unwaith eto ar ôl dwy flynedd o bellhau cymdeithasol. Maent wedi bod yn brysur yn creu baneri a lluniau i ddathlu 70 mlynedd y Frenhines ar yr Orsedd. MWYNHAU PARTI *MELIN LIFIO SYMUDOL Llifio coed i’ch gofynion chi Cladin, planciau, pyst a thrawstiau *GWAITH ADEILADU AC ADNEWYDDU *SAER COED Ffoniwch neu edrychwch ar ein gwefan *COED TÂN MEDDAL WEDI EU SYCHU Netiau bach, bagiau mawr a llwythi ar gael Geraint Williams, Gwrach Ynys, Talsarnau 01766 780742 / 07769 713014 www.gwyneddmobilemilling.com

CyngorGOHEBIAETHGwynedd – Adran Briffyrdd Cafwyd ateb gan y Swyddog Llwybrau ynglŷn â gosod canllaw ar lwybr cyhoeddus rhif 4 sydd yn mynd i lawr o Pencerrig at Tegfan ac yn datgan ei fod wedi archwilio’r llwybr dan sylw ac, er yn cytuno y byddai canllaw ger y llwybr yn fendithiol, yn anffodus nid oes cyllid ar gael ar hyn o bryd ar gyfer gwelliannau o’r math yma. Hefyd yn datgan nad ydynt yn gallu awdurdodi giât newydd ar waelod y llwybr hwn oherwydd bod awdurdodi giatiau a chamfeydd newydd yn gyfyngedig iawn o dan adran 147 o’r Ddeddf Priffyrdd 1980 ac mae’r hawl wedi ei gyfyngu i dir sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth yn unig. Ms Fiona Porter Cytunwyd i roi caniatâd i osod plac ar un o’r meinciau ger yr Eglwys er cof am ei thad. Ms Karen Lucas Roedd angen tocio coed sydd yn gordyfu o lwybr natur Bron y Graig drosodd i’w gardd ac adroddodd y Clerc

22 RHODDION Diolch i’r canlynol am eu rhoddion i Llais Ardudwy: John a Roger Kerry £20 Aled Morgan Jones £10 Er cof am Gwyn Cable gan Margaret Darling £20 Mai Jones, Llandecwyn £10 Croesawyd Mark Armstrong i’w gyfarfod cyntaf o’r Cyngor a dymunwyd y gorau iddo. MATERION YN CODI Ethol Swyddogion 2022/23: Cadeirydd: Edwina Evans Is-gadeirydd: Christopher Braithwaite Cae Chwarae Brenin Siôr V Adroddodd Christopher Braithwaite ei fod wedi cael gwybod gan Ms Tracey Dawson o grŵp beicio Harlech Ardudwy eu bod wedi cael grant a bod angen iddynt ei wario yn fuan. Mae Ms Tracey Dawson yn garedig iawn wedi cynnig rhoi’r arian yn ôl i’r gymuned ar y cytundeb y byddwn yn gofalu am yr offer, ei osod ac ati a bod y lleoliad i’w gytuno gennym ni. Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i bob Aelod er mwyn iddynt gael ei ddarllen cyn y cyfarfod ac roedd Emma Howie wedi gofyn i gwmni arall am brisiau yn ymwneud efo offer o’r un fath. Cytunwyd i fwrw ymlaen gydag archebu offer o’r fath a bod Christopher Braithwaite ac Emma Howie yn ymdrin â’r mater hwn.

23 Mae ôl-rifynnau i’w gweld ar y cymru/papurau-bro/neullaisardudwy/docshttp://issuu.com/we.https://bro.360. Llais Ardudwy SAMARIAIDLLINELLGYMRAEG08081640123 CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant PORTHMADOG PWLLHELI ABERMAW 01766 512214/512253 01758 612362 01341 280317 60 Stryd Fawr Adeiladau Madoc Stryd Fawr office@bg-law.co.uk Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd … Cysylltwch â Dioni i siarad am eich bwthyn gwyliau Gwion Llwyd 01341 247200 gwion@dioni.co.uk BUSNES LLEOL ... CWSMERIAID BYDEANG Gŵyl Gwrw Llanbedr Cynhelir 15fed Gŵyl Gwrw Llanbedr ar y 9fed a 10fed o Fedi yng ngerddi Gwesty Tŷ Mawr. Mae’r dyddiadau wedi newid o’r 3ydd penwythnos arferol ym mis Medi gan y bydd pont reilffordd y Bermo wedi cau am fwy o waith adnewyddu erbyn hynny. Ar y nos Wener, bydd Côr Meibion Ardudwy, y Welsh Whisperer a Martyn Rowlands yn ein diddanu. Ar y nos Sadwrn, Côr Meibion Ardudwy a Session fydd yr adloniant. Os oes ddiddordeb gennych mewn helpu gyda’r gwaith paratoi a’r gwaith cadw a thacluso wedyn neu pe baech yn hoffi helpu yn ystod yr Ŵyl, e-bostiwch llanbedrbeerfestival@gmail.com neu cysylltwch ag un o aelodau’r pwyllgor.

Pêl-rwyd Trefnodd merched B11 gêm bêl-rwyd yn erbyn staff yr ysgol. Roedd hwn yn mynd i fod yn achlysur mawr gyda’r ysgol i gyd yn cael cyfle i ddod i’r cwrt chwarae er mwyn cynnig anogaeth i’r merched a, hwyrach, i weld ychydig o ddoniolwch gan y staff. Ond nid felly y bu. Cafwyd gêm hynod gystadleuol gyda’r staff yn rheoli’r rhan helaethaf o’r chwarae a thrwy hynny yn llwyddo i rwydo 9 gôl yn erbyn 3 y merched. Y neges i ddisgyblion B10 ar gyfer 2023 ydi – mae’r staff yn barod am yr

Trefnwydher! y gêm hon ar ddiwedd Wythnos Hyrwyddo Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Wrth edrych ar y gêm, cafwyd eiliadau a oedd yn sicr o ddod a gwên i’r wyneb. Dyna syniad grêt felly diolch i’r trefnwyr –achlysur i godi calon. Aeth disgyblion B8 i goedwigoedd Tan-y-bwlch. Cafwyd cyflwyniad diddorol tu hwnt gan Anita Daimond am fyd natur tra’r oedd cyfle hefyd i gasglu nifer o eitemau er mwyn edrych yn fanylach arnynt a dysgu am yr hyn sydd yn yr ardal odidog hon. Llyn Mair I Lyn Mair aeth criw B7 gydag Anita. Cynigiwyd gemau a gweithgareddau diddorol wrth gerdded o amgylch un o lynnoedd prydferthaf yr ardal. Cafodd y disgyblion gyfleoedd arbennig gyda’r gobaith y bydd cyfle i ddychwelyd yno’n fuan. Diolch i Anita am y ddeuddydd. Coleg Glynllifon Bu criw o ddisgyblion B11 yn teithio i Goleg Glynllifon yn gyson yn ystod y flwyddyn er mwyn cael gwersi amaethyddiaeth. Fe ddaeth hyn i ben yn ddiweddar ond yn ystod yr ymweliad olaf cafwyd cyfle i edrych ar ôl y moch ar y fferm. Cafwyd profiad arbennig o gael trin a thrafod yr anifeiliaid bywiog yma. Diolch i Fferm Glynllifon am y profiadau.

YSGOL ARDUDWY

Yn ystod y flwyddyn, mae’r ysgol wedi codi arian at achosion megis y Trwyn Coch, Plant mewn Angen, Pobl Wcrain a sawl achos arall. Ar ddiwedd Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, penderfynwyd cyflwyno diwrnod er mwyn i’r disgyblion a’r staff wisgo’r lliw gwyrdd a chodi arian. Unwaith eto, diolch i bawb am y cyfraniadau hael. Mae’r tymor athletau yn ei anterth ar hyn o bryd gyda Thrac a Maes Treborth ym Mangor yn gyrchfan i’r athletwyr. Cafwyd nifer o berfformiadau gwerth chweil yn erbyn Ysgolion De Gwynedd wrth i’r disgyblion ddangos eu doniau. Ar ddiwedd y cystadlu, cafwyd canlyniadau penigamp mewn sawl maes. Athletau Aeth Katie Paganuzzi, Erin Mitchelmore, Sioned Evans a Nansi Evans-Brooks i gystadlu yn Athletau Eryri hefyd. Cyfeillion yr Ysgol Beth am fod yn rhan o Gyfeillion Ysgol Ardudwy? Mae’r criw yma’n trefnu gweithgareddau codi arian ac yn cefnogi a hyrwyddo’r ysgol yn lleol. Os am gynnig cymorth, cysylltwch drwy e-bostcyfeillionysgolardudwy@aol.com

Yn ddiweddar, cafwyd pum diwrnod o gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Roedd yna nifer o weithgareddau ar y calendr gan gynnwys cwisiau, ioga a thaith i draeth gorau’r byd.

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.