Llais Ardudwy 50c
RHIF 436 RHAGFYR 2014
yd n - ar aelw â h t a n ly e Celyn a th iddan, d A charoli ân i gyd yn g d y f n e h A’r an. Mab bych y s wen o h c a O Robert O
GARDDWR O FRI
HYBU RYGBI YN AFFRICA
Bu Tom Silverside, David a Mai Roberts, Dyffryn a Tim Dobson o’r Bermo ynghyd â phedwar arall ar daith i Fotswana a Namibia yn ystod mis Hydref eleni. Ar y ffordd, roedd rhaid ailymweld ag Ysgol Kuke ger Ghanzi ym Motswana. Ar y trip diwethaf, ddwy flynedd yn ôl, bu plant Ysgol Cefn Coch yn hael iawn yn cyfrannu papur a phensiliau i’r plant o dras San yn yr ysgol. Y tro hwn, aethpwyd â gemau sy’n hybu mathemateg a llythrennedd megis dominos, ludo, cardiau, ayyb ynghyd â llyfrau storïau gyda phypedau, jig-so, peli amrywiol a dillad cynnes. Cafwyd cyfraniadau gan Gymdeithas Gymraeg y Bermo a Merched y Wawr Cwm Nantcol (cyfraniad am roi sgwrs) a chan unigolion i brynu rhai o’r nwyddau uchod. Hefyd cyfrannodd Iwan Evans, Garej Toyota, Harlech ar ran Clwb Rygbi Harlech grysau a phêl rygbi er mwyn hybu chwaraeon ymhlith y disgyblion. Diolch i bawb am eu haelioni. Cafwyd croeso mawr yn yr ysgol - pawb wedi cynhyrfu’n lân a bu’r plant yn dawnsio i’w hymwelwyr yn y dull traddodiadol. Aeth yr amser yn sydyn a gorfu i’r ymwelwyr ddirwyn eu hymweliad i ben a throi am y daith hir i Maun a’r Okovango.
Llongyfarchiadau i Edwin Morris Jones ar ei lwyddiant mewn sawl sioe flodau eleni. Mae Edwin yn adnabyddus yn yr ardal fel garddwr o fri ac eleni cafodd ei flwyddyn orau eto gan ennill gwobrau mewn nifer o sioeau yng Ngwynedd. Yn y llun gwelir rhai o’r tlysau a enillodd yn ystod 2014. Bydd diwedd 2014 yr un mor brysur iddo gan ei fod yn dathlu ei ben-blwydd yn 65 oed ar Ragfyr 4 [llongyfarchiadau!], diwrnod cyn ei briodas â Mair [llongyfarchiadau]! Bydd hanes y briodas yn rhifyn mis Ionawr.
COLLI ARWEL Un o feibion disgleiriaf yr ardal
Fe gollodd tref Harlech un o’i meibion disgleiriaf pan fu farw Arwel Jones, Garth Bach gynt, ddiwedd mis Tachwedd wedi gwaeledd blin. Roedd yn ŵr bonheddig, caredig, triw, galluog a dawnus a hefyd yn weithiwr diarbed dros y pethau gorau. Roedd yn adnabyddus ymhell tu hwnt i’w filltir sgwâr fel gweinidog yr efengyl yng Nghapel Rehoboth, cyn-brifathro Ysgol y Moelwyn a chyn-gynghorydd sir dros Blaid Cymru yng Ngwynedd. Cydymdeimlwn yn ddwys iawn â’i briod, Elsi a’r teulu oll. Bydd teyrnged lawn iddo yn y rhifyn nesaf.
Llais Ardudwy
HOLI HWN A’R LLALL
GOLYGYDDION
Phil Mostert
Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com
Anwen Roberts
Cae Bran, Talsarnau (01766 770736 anwen@barcdy.co.uk
Newyddion/erthyglau i:
Haf Meredydd
hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk
(07760 283024 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 thebearatminymor@btinternet.com
Trysorydd Iolyn Jones Tyddyn Llidiart, Llanbedr (01341 241391 iolynjones@Intamail.com
Casglwyr newyddion lleol
Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones(01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Ann Lewis (01341 241297 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 770736 Cysodwr - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Ionawr 2 am 5.00. Bydd ar werth ar Ionawr 7. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Rhagfyr 29 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau.
2
Enw: Huw Dafydd i’r rhan fwyaf o bobol. Cefndir: Priod â Rhian o Lanuwchllyn ac yn Ardudwy ers dros ddeugain mlynedd. Gwaith: Wedi ymddeol ers wyth mlynedd bellach ar ôl bod yn athro mathemateg yn Ysgol Ardudwy am 34 mlynedd cyn hynny Man geni: Bangor Sut ydych chi’n cadw’n iach? Gan fy mod yn ddiabetig ers dros hanner can mlynedd mae gan y diet ran bwysig mewn cadw’n iach. Fel arall mae cerdded (ym mhob rhan o Wledydd Prydain) a theithiau efo cymdeithasau megis Cymdeithas Ted Breeze Jones yn fodd i hyrwyddo’r iechyd. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Cynnyrch llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol yn flynyddol gan ddadansoddi’r cynganeddion yn yr awdl fuddugol. Cylchgronau amrywiol megis Barddas, Enjoying MG a’r Railway
Modeller. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Mae rhaglen Dei Tomos ar y radio nos Sul yn un safonol ei chynnwys ac yn fy siwtio i yn well na llawer o’r sothach arall sydd ar gael. Ydych chi’n bwyta’n dda? Bwyta’n gymedrol a chadw at bethau iachus. Hoff fwyd? Cinio dydd Sul – cig eidion ac ati. Hoff ddiod? Anodd curo paned o de. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Y Dr Meredydd Evans, yr emynydd Ann Griffiths a’r peiriannydd Isambaard Kingdom Brunel. Lle sydd orau gennych? Ynys Llanddwyn. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Teithio am dri mis yn yr Unol Daleithiau a Chanada, gan ganu ar sawl rhaglen deledu yno a chyfarfod â’r cyn-arlywydd Harry Truman. Beth sy’n eich gwylltio? Lot fawr o bethau! Dwi bellach yn un o’r ‘grumpy old men!’ Ceir sydd ddim yn dipio goleuadau yn y nos; y gweinydd mewn bwyty sy’n gofyn a yw popeth yn iawn a finna a llond fy ngheg o fwyd; ac ati, ac ati… Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Diffuantrwydd. Pwy yw eich arwr? Rwy’n edmygu llawer o unigolion mewn gwahanol
RHYWBETH I BLANT YDI’R NADOLIG A dweud y gwir, rhywbeth i blant ydi’r Nadolig. Yn arbennig i blant sy’n hoff o anifeiliaid, stablau, sêr a babis wedi’u lapio mewn cadachau. Wedyn mae ’na dri gŵr doeth, brenhinoedd mewn dillad da, bugeiliaid gwerinol ac arogl persawr drud. A dweud y gwir, dydi’r Pasg ddim ar gyfer plant os nad ydi o’n dod gydag ŵy yn llawn hufen. Mae ’na chwip, gwaed, hoelion, gwaywffon a chyhuddiadau o ddwyn cyrff.
Mae’n ymwneud â gwleidyddiaeth, Duw a phechodau’r byd. Nid gŵyl ar gyfer pobl nerfus yw hon. Buasai’n well iddyn nhw feddwl am gwningod a chywion ieir, ac am eirlys cynta’r gwanwyn. Neu buasai’n well iddyn nhw aros am ailddangos y Nadolig heb orfod gofyn gormod o gwestiynau ynghylch beth wnaeth yr Iesu wedi iddo dyfu’n ddyn, ac a oes ’na gysylltiad. Steve Turner
feysydd. Nelson Mandela am fynnu na fyddai casineb yn rheoli ei ymddygiad. Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon? Y disgyblion hynny y bûm yn eu dysgu sydd wedi aros yn Ardudwy ac sy’n ennill eu bara beunyddiol drwy eu crefft. Beth yw eich bai mwyaf? Gadael tan yfory beth allwn ei gyflawni heddiw. Beth ydych chi’n ei gasáu mewn pobl? Anwadalwch. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Cael iechyd a’r modd i’w fwynhau. Eich hoff liw? Yr enfys! Eich hoff flodyn? Blodyn y gwynt yn y cloddiau yn y gwanwyn. Eich hoff fardd? Mae gwahanol feirdd yn taro deuddeg ar wahanol adegau. Mae Dic Jones a’i awdl i’r cynhaeaf yn un o’r goreuon. Eich hoff gerddor? Mae Handel a’i Feseia yn ddiguro. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Ar wahân i’r uchod, ‘Dances with Wolves’, John Barry. Pa dalent hoffech chi ei chael? Canu fel Rhys Meirion. Eich hoff ddywediad? Callaf dawo. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Yn falch fy mod wedi cwblhau’r holiadur!
Dywediadau am y Tywydd
RHAGFYR
Taranau ar y mis du, angladd o bob tu. Niwl gaeaf gwas y rhew. Rhagfyr gocheler ei far. Nadolig glas - Mai cas. Nadolig gwyrdd - Pasg gwyn. Nadolig tirion - blwyddyn o fendithion.
Y BERMO A LLANABER
Bore Coffi Ysgol y Traeth Cynhaliodd B5 Ysgol y Traeth fore coffi yn ddiweddar er mwyn codi arian ar gyfer yr elusen Macmillan. Gwahoddwyd Merched y Wawr, Sefydliad y Merched a llywodraethwyr yr ysgol i neuadd yr ysgol a chafwyd bore yn llawn hwyl a sgwrsio. Roedd yn gyfle gwych i gyfarfod aelodau o’r cyhoedd sy’n byw yn nalgylch yr ysgol. Hoffai disgyblion B5 a staff Ysgol y Traeth ddiolch yn fawr iawn i bawb a fynychodd. Casglwyd £365 at elusen Macmillan. Gwasanaeth Cymraeg Y Nadolig Cynhelir oedfa bore Nadolig am naw o’r gloch yn Eglwys Christ Church, Y Bermo. Y Gymdeithas Gymraeg Mae tymor Cymdeithas Gymraeg Y Bermo yn prysur fynd gyda thair noson eisoes wedi mynd heibio. Roedd y noson agoriadol ar 8 Hydref yng ngofal y tri hwyliog o ardal Penllyn, sef Al Tŷ Coch, Eilir yr Hendre a Glyn Tynbwlch. Cafwyd noson hwyliog dros ben gyda’r tri yn arddangos a disgrifio hen greiriau gydag un yn dweud y gwir a ninnau’n ceisio dyfalu pa un. John ddiolchodd i’r tri am noson gartrefol. Troi eto at ardal Y Bala ar gyfer ein noson ar 15 Hydref. Dorothy groesawodd Glyn Jones atom am yr ail dro. Cafwyd noson ddifyr iawn gyda Glyn yn olrhain ei hanes yn cystadlu gyda Derfel ar y ddeuawd cerdd dant dros y blynyddoedd. Roedd yn braf clywed y ddau’n canu trwy gyfrwng cryno ddisg a chael cyfle i werthfawrogi gwerth y geiriau yn y gwahanol gywyddau. Dylanwadau a Choronau oedd testun ein trydedd noson ar 12 Tachwedd gyda John Price Machynlleth. Estynnodd Alma groeso cynnes
i John. Cawsom grwydro oddi amgylch bro ei febyd sef Aberffraw gyda sleidiau a chlywed sut roedd y fro a’i chymeriadau wedi dylanwadu arno. Yna cawsom weld rhai o’i gampweithiau gydag arian. Er ei fod yn perthyn, doedd gennyf ddim syniad ei fod wedi cynllunio a chreu cymaint o goronau! Roedd y gwaith cywrain i’w edmygu yn arw ond heb yr het yn y canol ni fyddai’r un goron yn gyflawn ac roedd John yn ddyledus i Mary am ei dawn gwnïo. Merched y Wawr Mair Tomos Ifans oedd y wraig wadd ym mis Tachwedd. Bu trafod am y gwahanol weithgareddau sydd i ddod ac ar y cystadlaethau yn y gwahanol sioeau. Ategolion o bob math y byddwn yn eu casglu am y flwyddyn nesa – sgarffiau ac yn y blaen. Croesawyd Mair a’i thelyn deires Beti Bwt atom ac fel arfer ni chawsom ein siomi. Cawsom wledd wrth wrando ar ei dehongliad ar y delyn a’r gwahanol ganeuon a’r hanes hynod o ddiddorol yn ymwneud â’r telynau. Roedd y te o dan ofal Megan a Mair. Enillwyd y raffl o dan ofal Elinor gan Elinor ei hun. Edrychwn ymlaen am ein cinio Nadolig yn y Coleg ac i ymweld â Changen Pennal ar y 18fed o Ragfyr.
Clwb Dreigiau Bach Bermo Mae’r Clwb yn dal i fynd o nerth i nerth, gyda rhieni a babanod a phlant bach yn mynychu yn wythnosol. Cynhelir y Clwb yn Theatr y Ddraig bob dydd Gwener yn ystod tymor ysgol. Mae Ann James yr Ymwelydd Iechyd yno ar gyfer unrhyw ymholiadau parthed datblygiad eich plentyn, ac mae cyfle i bwyso hefyd. Mae Delyth Hughes, Swyddog Iaith a Chwarae, yno ar gyfer gweithgareddau y gallwch eu gwneud gyda’ch plentyn, ac mae Morfudd Lloyd, Swyddog Maes Twf, yno unwaith y mis ar gyfer cyflwyno rhigymau Cymraeg er mwyn i’r babi gaffael yr iaith. Felly os ydych yn adnabod unrhyw un yn ardal y Bermo fyddai’n cael budd o grŵp fel hwn, soniwch wrthynt. Mae ar gael am ddim gyda phaned a byrbryd yn y fargen. Felly dydd Gwener am 10.00 - 11.30 y bore, Bermo amdani.
Un dyn bach wrth ei fodd gydag Anrheg Twf yn ystod cyfnod calan gaeaf.
Moi a Marged wrth eu bodd yn helpu eu modryb Elliw i ‘Bobi’ Mae pobi’n boblogaidd iawn y dyddiau yma, ac mae Elliw Gwawr o Ddolgellau newydd gyhoeddi ei hail lyfr coginio, Pobi, yn dilyn llwyddiant y cyntaf, ‘Paned a Chacen’. “Mae’n amlwg fod poblogrwydd pobi gartref ar gynnydd o hyd,” meddai Elliw Gwawr, sy’n llais cyfarwydd i nifer fel Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru yn San Steffan. Yn chwaer i Annest, Llanaber, mae hi felly’n fodryb i Moi a Marged, Llety’r Wennol. Mae Elliw wedi cynnwys digon o ryseitiau syml a chyflym sy’n addas i ddechreuwyr ac ar gyfer yr adegau hynny pan mae amser yn brin, yn ogystal ag ambell i rysáit fwy heriol. Mae Pobi’n estyniad o flog poblogaidd Elliw (www.panedachacen. wordprees.com) ac yn cynnwys cyngor ar sut i gael y canlyniadau gorau pob tro.
3
LLANFAIR A LLANDANWG Cyfarfod Tachwedd 2014 Merched y Wawr Cychwynnwyd yn y dull arferol trwy ddelio gyda materion y Mudiad. Cytunodd Janet i ddarllen stori yn y Cylch Meithrin y mis hwn. Croesawodd Hefina’r wraig wadd, Ann Powell Williams o Benmachno, a’i chyfnither Gwenda Ellis o’r Bermo. Mae ganddi ddiddordeb mewn gwaith llaw ac mewn gwau mawr yn arbennig. Eglurodd sut daeth y diddordeb mewn gwau mawr yn dilyn ymweliad â Sioe Gwaith Llaw a chael ei gŵr i lunio gweill o goes brwsh a rholbren. Daeth â nifer o enghreifftiau gyda hi a bu nifer o’r aelodau yn ceisio cwblhau gwahanol fathau o wau a chrosio. Winnie roddodd y diolchiadau, Ann a Janet wnaeth y baned a Meinir enillodd y raffl.
Priodas Priodwyd Llŷr Roberts, Uwchglan a Natalie yn Eglwys Llanaber a dathlwyd mewn pabell fawr yn Uwchglan ar noson fendigedig fel y tystia’r llun. Cofnod trist Wedi cystudd hir a blin, bu farw Tanwg Thomas, Ceg y Bar, un o gymeriadau annwyl yr ardal ac un oedd yn hoffus iawn ymhlith nifer fawr o gyfeillion. Bydd hi’n chwith hebddo o gwmpas y fro hon. Cydymdeimlwn ag Edward a Mair, a Gwyneth a Wyn a’r teulu oll. Gobeithiwn gynnwys coffâd estynedig iddo yn y rhifyn nesaf.
GWASANAETH NADOLIG UNDEBOL Eglwys St Tanwg
Dydd Sul, Rhagfyr 14 am 6.00 yng nghwmni
Rhodd Diolch yn fawr am rodd o £10 gan Gwyneth Meredith.
R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau
Cyhoeddiadau Caersalem Am 2.15 oni nodir yn wahanol
Ffôn 01766 770286
Cana-Mi-Gei
Ffacs 01766 771250
Honda Civic Tourer Newydd
4
Newydd trist Trist oedd clywed am farwolaeth Mrs Isobel Wilson, Llandanwg. Roedd yn gefnogol i sawl cymdeithas yn yr ardal. Roedd yn aelod blaenllaw o’r Blaid Lafur yn lleol, yn aelod o’r Clwb Celf, ac yn weithredol gyda chefnogwyr rheilffordd y Cambrian. Bu hefyd yn gynghorydd cymuned am gyfnod. Cydymdeimlwn gyda’i gŵr Philip a’i dwy ferch yn eu profedigaeth.
RHAGFYR 7 – Parch Iwan Llywelyn Jones am 3.45 y prynhawn 14 – Parch Dewi Tudur Lewis
CYFEILLION PWLL NOFIO HARLECH
Rhagfyr 8 Bydd Bore Coffi yn y pwll nofio. Croeso cynnes i bawb. Rhagfyr 12 Dawns Nadolig yn cynnwys bwyd, disco a chyfle i ganu carolau. Tocynnau ar gael o’r dderbynfa.
Caeau a Mwy - Casgliad Merched y Wawr (Llyfrau Llafar Gwlad)
Yn ystod 2010, bu canghennau Merched y Wawr ym mhob rhanbarth yng Nghymru yn casglu enwau caeau yn bennaf, gyda rhai’n ychwanegu atynt enwau nentydd a ffynhonnau, tai a siopau ac ati. Ymatebodd tua chant o ganghennau i’r her, ac mae’r gyfrol hon yn canolbwyntio ar yr enwau caeau a gasglwyd.
GŴYL GWRW LLANBEDR
Mae Pwyllgor yr Ŵyl Gwrw yn gwahodd ceisiadau oddi wrth grwpiau a sefydliadau yn ardal Llanbedr am grantiau bychain ar gyfer prosiectau penodol neu arian refeniw. Efallai bydd angen elfen gyfatebol, hyn yn dibynnu ar natur y cais. Dylai pob ymgeisydd baratoi cynllun prosiect gydag amcangyfrif o gostau ar gyfer prosiect y gelir ei nabod neu angen penodol. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau cyflawn: 31 Ionawr 2015. Cewch ffurflen gais gan Robin Ward, ysgrifennydd yr Ŵyl ar llanbedrbeerfestival@ gmail.com
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL
Gwirioni ar Gymraeg! Pedwar mis yn ôl, symudodd teulu o Tamworth i fyw i Lanbedr. Mae Katie, y ferch, wedi bod yn dysgu Cymraeg yn y Ganolfan Iaith ym Mhorthmadog ers wyth wythnos. Mae hi’n rhugl erbyn hyn! Mae hi wrth ei bodd yn siarad Cymraeg ac yn falch iawn o’i hiaith a’i gwlad newydd. Llongyfarchiadau mawr iddi. Dyma air gan Katie: Helo! Katie Hixson ydw i a dw i’n un deg tri oed. Dw i’n byw yn Llanbedr rŵan ond roeddwn i’n byw yn Tamworth yn Lloegr. Dw i’n mynd i Ysgol Ardudwy yn Harlech ond dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg yn y Ganolfan Iaith ym Mhorthmadog. Dw i’n hoffi siarad Cymraeg hefo fy ffrindiau ac ysgrifennu yn Gymraeg. Dw i’n ymarfer siarad Cymraeg hefo’r cwsmeriaid yn siop fy modryb yn Llanbedr. Rŵan, dw i’n gallu siarad dwy iaith Cymraeg a Saesneg - a dw i wrth fy modd. Gwella Bu Gareth Evans, Cefn Isa, yn cael llawdriniaeth fawr yn Lerpwl. Gobeithio ei fod yn dal i wella ar ôl dod adre. Colled Bu farw Robert John Jones ar ôl treulio cryn dipyn o amser yn Ysbyty Gwynedd. Roedd wedi dathlu ei ben-blwydd yn ddiweddar yn 93 oed. Anfonwn ein cydymdeimlad at ei deulu a’i ffrindiau oll yn yr ardal. Cyhoeddiadau’r Sul Capel y Ddôl, am 2.00 o’r gloch RHAGFYR 7 Mr D Ch Thomas IONAWR 2015 4 Mrs Glenys Jones 11 Parch Patrick Slattery
Teulu Artro Ym mis Tachwedd, rhoddwyd croeso cynnes i’r aelodau gan y Llywydd, Gweneira. Cydymdeimlwyd â theulu’r diweddar Bet Roberts, ac â Beti a fu mor ofalus ohoni pan ddeuai i Deulu Artro. Cafwyd ymddiheuriad gan Mary a Leah a rhoddwyd dymuniadau penblwydd i Mary a Beti. Croesawodd y Llywydd ein gŵr gwadd sef Mr Elfed Roberts. Cafwyd yr hanes amdano’n sefydlu ‘Cymorth Cynfal’ sydd yn gwerthu pob math o bethau diddorol sydd o gymorth i’r henoed a’r aelodau’n cymryd diddordeb arbennig yn y gwahanol bethau. Diolchodd Eleanor am brynhawn diddorol ac addysgiadol. Enillwyd y raffl gan Gretta Benn. Cylch yn Codi Arian Gwisgodd plant Cylch Meithrin Llanbedr eu dillad nos i’r ysgol er mwyn codi arian at achos Plant Mewn Angen. Bu pawb yn brysur yn coginio bisgedi a theisennau Pudsey i fynd adre gyda nhw a chael llond trol o hwyl yn eu haddurno! Cynhelir Ffair Nadolig y Cylch ar ddydd Sadwrn, Rhagfyr 6 yn Neuadd y Pentref rhwng 2 a 4. Dewch draw i weld Siôn Corn a chael paned a mins pei! Mae raffl gwerth chweil eleni a bydd sawl stondin gan grefftwyr lleol er mwyn prynu anrhegion Nadolig. Diolch o galon i bawb sydd wedi cyfrannu mor hael eleni. Dewch i’n cefnogi. Bydd croeso cynnes iawn i bawb! Rhodd Cawsom rodd o £11.50 gan Geraint Owen. Diolch yn fawr.
Gwasanaethau’r Eglwys
7 Cinio’r Eglwys ym Mochras 10 Esgob Andrew John yn ymweld â Bro Ardudwy 14 Canu Carolau yn Sant Pedr am 4.00 o’r gloch 21 Canu Carolau yn Llandanwg am 6.30 o’r gloch 24 Gwasanaeth y Crud am 4 o’r gloch yn Sant Pedr 25 Gwasanaeth Bore Nadolig yn Llandanwg am 10.30 28 Cymun Bro Ardudwy yn Sant Pedr am 10 o’r gloch.
Teyrnged i Rhiannon Davies Jones gan Meic Stephens ar gyfer yr Independent. Cyfieithwyd gan Siân Roberts, Tir Du, Trefor. Diolch am ganiatâd Meic Stephens i’w chynnwys yn y Llais. Rhiannon Davies Jones, nofelydd: ganed yn Llanbedr, Meirionnydd ar 3 Tachwedd 1921; bu farw yng Nghaergybi, Ynys Môn ar 22 Hydref 2014. * * * Roedd Rhiannon Davies Jones yn nofelydd i nofelwyr ac, yn ôl un beirniad llenyddol o fri, roedd ei rhyddiaith goeth yn gain “fel gwawn”. Ysgrifennai mewn Cymraeg cyfoethog, dysgedig a llafar, gan gyfleu hanfod cymeriad a stori gyda rhwyddineb a gâi ei edmygu gan awduron eraill. Bu nofelau hanesyddol yn yr iaith cyn iddi hi ddechrau ysgrifennu yn yr 1950au ond, gydag ymddangosiad ei nofel fer hi, Fy Hen Lyfr Cownt (1961), enillodd y nofel hanesyddol boblogrwydd sydd wedi parhau tan heddiw. Dyddiadur ffuglennol yr emynydd a’r gyfrinydd, Ann Griffiths oedd hwn. Enillodd y Fedal Ryddiaith iddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ym 1960 a bu’n gyfrol uchel ei pharch byth er hynny. Mae’r llyfr yn llwyddo’n rhyfeddol i fynegi pryderon bob-dydd merch syml o gefn gwlad a’i bywyd ysbrydol dwys mewn cyfnod o angerdd crefyddol yng Nghymru. Defnyddiodd ffurf y dyddiadur eto yn y nofel Lleian Llanllŷr (1965) a enillodd y Fedal Ryddiaith iddi am yr eilwaith, yn Abertawe ym 1964. Llawenydd ac ing bywyd y lleiandy oedd ei phwnc y tro hwn. Yna, magodd hyder gyda Llys Aberffraw (1977) a adroddir yn llais Angharad, merch anghyfreithlon un o ferched y Tywysog Owain Gwynedd. Symbylwyd y nofel hon gan ddigwyddiadau anffodus haf 1969, yn enwedig arwisgo mab hynaf y Frenhines yn Dywysog Cymru a marwolaeth dau weithredwr ifanc yn Abergele, a laddwyd gan eu ffrwydron eu hunain cyn y seremoni.
Ym Mhowys y 7fed ganrif y gosodwyd ei nofel nesaf, Eryr Pengwern (1981). Fe’i seiliwyd ar Ganu Heledd, un o’r gweithiau lle ceir y mynegiant mwyaf ingol o alar a hiraeth yn yr iaith Gymraeg. Ysgrifennwyd y nofel hon yn ystod yr ymgyrch dros sianel deledu Gymraeg. Dychwelodd at ffurf ei nofelau cyntaf gyda Dyddiadur Mari Gwyn (1985) sy’n ymwneud â’r reciwsant Pabyddol, Robert Gwyn, awdur Cymraeg mwyaf toreithiog Oes Elisabeth. Cofir amdano yn bennaf fel awdur tybiedig Y Drych Cristianogawl, llyfr a argraffwyd yn rhannol mewn ogof ar Drwyn-y-Fuwch (Little Orme), ger Llandudno. Yna, daeth trioleg o nofelau hyd yn oed mwy uchelgeisiol: Cribau Eryri (1987), Barrug y Bore (1989) ac Adar Drycin (1993). Gosodwyd y tair yn Oes y Tywysogion - Llywelyn Fawr, ei fab Dafydd, a Llywelyn Ein Llyw Olaf, a laddwyd gan filwyr Eingl-Normanaidd yng Nghilmeri, ger Llanfairym-Muallt, ym 1282. Mae’n disgrifio brwydrau’r Oesoedd Canol mewn ffordd fyw iawn ond y peth pwysicaf iddi hi yw effaith y trais ar fywydau’r bobl gyffredin. Ei llyfr olaf oedd Cydio mewn Cwilsyn (2002), sef dyddiadur ffuglennol Edmwnd Prys, archddiacon Meirionnydd ac ysgolhaig o gyfnod y Dadeni. Yn ogystal â’i nofelau, cyhoeddodd rigymau i blant a straeon byrion. Mae dilysrwydd ei nofelau yn golygu bod i Rhiannon Davies Jones le sicr ymhlith nofelwyr Cymraeg ac mae’r defnydd angerddol a wnaeth o ffeithiau hanesyddol i gyfleu safbwynt cenedlaetholgar pendant wedi’i gwneud yn gymeradwy gan genhedlaeth newydd. Fe’i ganed yn Llanbedr yn yr hen Sir Feirionnydd, yn ferch i weinidog. Magwyd hi yn Llanfair ger Harlech a’i haddysgu yn Ysgol Ramadeg Rhuthun ac ym Mhrifysgol Bangor. Ar ôl cyfnod yn athrawes Gymraeg, fe’i penodwyd yn ddarlithydd yn y Coleg Addysg yng Nghaerllion ac yna’n uwch-ddarlithydd yn y Coleg Normal, Bangor.
5
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Diolch Dymunwn fel teulu’r diweddar Elizabeth Jane Roberts, Aelwyd y Gof, Dyffryn Ardudwy, ddiolch o galon i bawb am y cardiau, galwadau ffôn, ymweliadau a rhoddion a gawsom ar ôl colli mam, nain a hen nain annwyl ac arbennig iawn. Diolch i’r rhai fu’n cynorthwyo tra’r oedd gartref ac i’r gweithwyr oll ym Mhlas Gwyn, Pentrefelin am eu gofal caredig ohoni. Diolch i’r Parch R W Jones am ei wasanaeth ac i’r trefnwyr angladdau Pritchard a Griffiths am eu trefniadau trylwyr ac urddasol. Derbyniwyd £900 er cof tuag at Gronfa Ymchwil Alzheimer a Thŷ Gobaith. £10 Cofion Anfonwn ein cofion a’n dymuniadau gorau at Mrs Elinor Owen, Pentre Uchaf a syrthiodd yn y Bermo a thorri ei garddwrn yn ddrwg. Mae hi wedi dod adre o Ysbyty Gwynedd erbyn hyn ac yn gwella. Cymerwch ofal, Elinor. Clwb Cinio Cyfarfu’r Clwb Cinio yn Nhŷ Mawr, Llanbedr, bnawn Mawrth, 18 Tachwedd. Roedd rhai’n methu dod ond roedd 16 yn bresennol. Ni fyddwn yn cyfarfod ym mis Rhagfyr oherwydd prysurdeb y Nadolig. Ond, ar 20 Ionawr byddwn yn cyfarfod yn David Jones’ Locker yn y Bermo am goffi am 10.30. Yna ymweld ag arddangosfa yn Institiwt y Morwyr gyda chinio i ddilyn yn y Last Inn. Croeso i unrhyw un ymuno â ni. Ffair Grefftau Cynhaliwyd Ffair Grefftau lwyddiannus iawn yn y neuadd ddydd Sadwrn, 15 Tachwedd. Bu’n brysur iawn yno drwy’r dydd a gwnaed elw o £598 tuag at Ambiwlans Awyr Cymru. Diolch yn fawr am eich cefnogaeth a’ch haelioni. Noson Garolau Cofiwch am noson garolau Pwyllgor ’81 yn y Neuadd Bentref, nos Fawrth, 16 Rhagfyr am 7 o’r gloch dan arweiniad Aled Morgan Jones.
6
Festri Lawen, Horeb Croesawodd Gwennie bawb i’r cyfarfod nos Iau, 13 Tachwedd ac yna cyflwynodd a chroesawodd Alma, llywydd y noson, Rhys Mwyn, ein siaradwr am y noson, yn ei ffordd hwyliog ei hun. Teitl ei sgwrs oedd ‘Archeoleg Leol’ a dechreuodd trwy ddweud mai astudiaeth o hanes dyn drwy gloddio ac astudio gwrthrychau yw archeoleg a’n bod yn dysgu am hanes a diwylliant dyn drwy astudio olion dyn. Yna dangosodd luniau o archeoleg leol gan ddechrau gyda’r cromlechi yn y Dyffryn sy’n safle pwysig ac arbennig iawn a dyma’r adeilad hynaf yng Nghymru. Ar un mae cafn nodyn sef twll bach crwn sy’n enghraifft o’r gelf gynharaf. Yna Bryn Cader Faner, yn Llandecwyn, y safle mwyaf hynod yng ngwledydd Prydain. Carneddau Hengwm wedyn a’r cytiau crynion lle’r oedd pobl yn byw a Phen y Dinas oedd yn fryngaer Geltaidd. Dysgasom lawer am hanes Ardudwy a diolchwyd yn gynnes iddo gan Alma. Gofalwyd am y bwyd gan Enid, Aldwyth, Jane ac Ann. Ar 11 Rhagfyr byddwn yn mynd i Fwyty’r Llong yn Nhalsarnau am ein cinio Nadolig. Yno erbyn 7.00 a bwyta am 7.30.
PARTI CALAN GAEAF
Dyma Ieuan a Casi, enillwyr addurno pwmpen a gwisg ffansi gorau ym mharti Calan Gaeaf cyfeillion ysgol gynradd Dyffryn Ardudwy a chylch meithrin y Gromlech. Codwyd £480 a hoffai’r cyfeillion ddiolch i bawb am gyfrannu a chefnogi.
Rhodd Diolch am y rhodd o £6.50 gan Wendy Griffith
Noson Arwerthiant Ambiwlans Awyr Cymru
Tafarn Ysgethin
Rhagfyr 11, 2014 am 7.30 Cyfle i brynu celf artistiaid lleol a nifer o eitemau eraill. Eitemau i’w gweld yn yr Ysgethin o 12.00 tan 2.00 o Ragfyr 1. Cofiwch alw hebio am sbec! yng nghwmni Côr Meibion Ardudwy Tynnir Raffl Fawr. Darperir lluniaeth ysgafn
Eillio’i phen at achos da
Dydd Mercher, 12 Tachwedd, yn y Neuadd Bentref, yn ystod dosbarth dawnsio llinell, cafodd Ruth Anderson, 14 Penrhiw, Dyffryn (Coulson gynt) eillio ei phen i godi arian at Ganser y Frest a’r Brostad. Meddai Ruth: “Roeddwn yn gobeithio codi tua £500 gan mai cymuned fach ydym ond er mawr syndod i mi mae’r cyfanswm ar hyn o bryd wedi cyrraedd £1,020. Cefais fy nghyffwrdd gan haelioni’r gymuned, ac fe hoffwn ddiolch o waelod fy nghalon i bawb â’m noddodd. Rydych wedi bod yn wych. Diolch hefyd i Julia Hughes, Salon Gwallt, Elegance, Talybont, am roi o’i hamser i wneud y gwaith. Os dymunwch gallwch gyfrannu i’r gronfa tan ganol mis Rhagfyr. Da iawn ti, Ruth.
Gwasanaethau’r Sul, Horeb RHAGFYR 14 Rhiannon a Beryl 21 Gwasanaeth Nadolig 28 Huw a Rhian Jones Bore’r Nadolig am 9 y bore, Llith a Charol IONAWR 2015 4 Alma
RHAGOR O DYFFRYN A THAL-Y-BONT
Priodas Ddiemwnt Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i dad a mam, Ifan a Glenys Richards, Minffordd, Dyffryn, ar ddathlu 60 mlynedd o fywyd priodasol gan Irene, John Rich a’r teulu i gyd. Priodwyd hwy yn Llwyngwril ar 20 Tachwedd 1954. Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn Neuadd yr Eglwys bnawn Mercher 19 Tachwedd. Croesawyd pawb gan Gwennie. Rhoddodd deyrnged fer i’r ddiweddar Mrs Elizabeth Roberts, Aelwyd y Gof, a fu’n aelod ffyddlon o deulu Ardudwy. Roeddem yn falch o weld Leah wedi gwella’n ddigon da i ymuno â ni. Diolchodd i Annona Collishaw ac Eifiona Shewring am roddi’r te a’r raffl er cof am eu mam, Mrs Emily Jones. Ein siaradwr am y pnawn oedd William Owen, Bangor (Pantgwyn gynt), a chawsom ganddo hanes Syr Charles Phibbs, Plas Gwynfryn, Llanbedr. Bu’n rhaid iddo ffoi o’r Iwerddon ym 1922 oherwydd for yr IRA am ei ladd. Roeddynt hyd yn oed wedi agor bedd iddo o flaen ei gartref yn Iwerddon. Credir iddo ddod i Ardudwy oherwydd ei gysylltiad ag Arglwydd Harlech. Ar ôl dod i Blas Gwynfryn prynodd ffermydd a daeth yn feistr tir gyda llawer yn gweithio iddo. Yn 1930 cafodd ei urddo’n farchog. Dim ond unwaith aeth yn ôl i Iwerddon a hynny yn 1923 a daeth a’r gloch a oedd ar ei stablau yno i Gymru a’i rhoi ar Eglwys Llandanwg ac mae yno heddiw. Bu farw yn 1964 yn 86 oed. Cawsom weld rhan o raglen deledu Hel Straeon oedd wedi ymweld ag Iwerddon i gael yr hanes. Diolchodd Laura i William am bnawn diddorol iawn. Bydd ein cinio Nadolig yn Nhŷ Mawr, Llanbedr ar 17 Rhagfyr, yno erbyn 12.00 a bwyta am 12.30.
Annwyl Olygydd Anfonaf lun o Fand Arian y Dyffryn - yr un llun gan obeithio ei fod yn gliriach. Rwy’n adnabod rhai aelodau o’r Band. Y dyn yn eistedd ar y dde yw fy nhad, Robert Gwynne Jones, 4 Brynawelon gynt. Y dyn ar y chwith hefo’r drwm yw John Foulkes a’r dyn y tu ôl iddo yw Peter Bach. Yn eistedd y tu ôl i’r dyn pen moel mae’r hen grydd Meirion a hwyrach mai Ken Bellaport sydd rhwng Meirion a fy nhad. Y tu ôl i Meirion mae Ifan Carleg Isa. Gobeithio fod hyn o gymorth. Yr eiddoch yn gywir Gwenfair Aykroyd Hafod y Coed Y Bala
Cinio Nadolig
yn Neuadd yr Eglwys, Dyffryn Ardudwy. Dydd Sul, 14 Rhagfyr 3 chwrs, te/coffi a mins pei £12.50 Neu gellir cludo’r pryd i’ch cartref am £9.00. Gellir trefnu cludiant i Neuadd yr Eglwys os oes angen. I archebu ffoniwch 01341 247364.
Gŵyl y Gaeaf
yn Aelybryn, Dyffryn Ardudwy. Sglefrio Iâ a Marchnad Nadolig. 17-21 Rhagfyr o 10.30 y bore hyd 9.00 yr hwyr. Ogof Siôn Corn, gwin cynnes, bwyd tymhorol, crefftau, cerddoriaeth a dawnsio. Ffoniwch yn gynnar i gadw lle ar gyfer sglefrio 01341 242701. Elw at Dŷ Gobaith a’r Ambiwlans Awyr.
CEIR MITSUBISHI
Plas Aberartro, Llanbedr
DATHLU’R NADOLIG
gyda Chôr
Meibion Ardudwy a Treflyn Jones
Nos Wener, Rhagfyr 19 am 7.30
Tocyn - £10 [ffoniwch 01341 247022] yn cynnwys gwin, mins pei a bara brith
Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk 7
HARLECH
Stori Ryfeddol o’r Rhyfel Byd Cyntaf
Rhian Rees Roberts gyda Beibl ei hen daid, Evan Pugh-Roberts ynghyd â’r hances yr oedd y Beibl wedi ei lapio ynddi. Gŵr o Aberdâr oedd Evan Pugh-Roberts. Roedd yn dad i’r ddiweddar Madge Lewis, yn daid i Mervyn Lewis ac i’r ddiweddar Margaret Rees, ac yn hen daid i Robert, Rhian a Geraint. Fel nifer o blant dros y cenedlaethau, cyflwynwyd Beibl iddo gan y Capel pan oedd yn hogyn ifanc. Bu’n gweithio fel chwarelwr cyn ymuno â’r fyddin ac wynebu erchylltra’r Rhyfel Byd Cyntaf yn Salonica yng ngwlad Groeg. Fel llawer o’r milwyr eraill, aeth â’i Feibl, wedi ei lapio mewn hances, gydag ef i ryfela. Roedd hwnnw’n benderfyniad ffodus iawn gan iddo gael ei saethu yn ei gefn yn ystod y rhyfel hwnnw a’r Beibl, a gariai mewn bag ar ei gefn, a arbedodd ei fywyd. Mae’r fwled a’r hances a’r Beibl ym meddiant Rhian Rees Roberts, sy’n cadw tafarn y Llew yn Harlech, ac mae’n eu trysori yn fawr. Rhyfeddod pellach yw i’r fwled dreiddio cyn belled â llyfr Eseia, pennod 43 ac adnod 15 yn y Beibl, sef: ‘Myfi, myfi yw’r Arglwydd; ac nid oes geidwad ond myfi.’ Symudodd y teulu i fyw i Bronallt, Harlech yn 1924 a theithio yma mewn ceffyl a throl. Roedd Madge yn 12 oed bryd hynny. Stori ryfeddol ynte!
ôl y fwled bwled twll yn yr hances Mae olion y fwled i’w weld yn glir yn y Beibl ac yn yr hances Codi arian sylweddol Llwyddodd David Price, Bryn Aderyn i gasglu £2280 at yr Ambiwlans Awyr trwy werthu ei drydedd CD o gerddoriaeth ymhlith ei gydnabod. Anfonwn ein cofion ato gan y gwyddom ei fod wedi bod dan anhwylder yn ddiweddar. Dymuniadau gorau am wellhad llwyr a buan i chi David.
8
CYNGERDD NADOLIG
BAND HARLECH Ystafell y Band
Rhagfyr 10, am 6.30 Mins pei a phaned
Croeso cynnes i bawb
Parti Body Shop Ar Dachwedd 14 yn Ystafell y Band, cynhaliwyd parti Body Shop i gasglu arian at Neuadd Goffa Harlech. Cafwyd noson lwyddiannus iawn gydag elw o £457. Hoffai pwyllgor y Neuadd ddiolch i bawb am eu rhoddion hael ac am eu cefnogaeth.
Teulu’r Castell Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod dydd Mawrth 11 Tachwedd gan Edwina Evans. Dymunwyd yn dda i bawb oedd yn dathlu pen-blwydd y mis yma, a dymuniadau gorau i Eileen Lloyd a Teresa Rees, y ddwy wedi bod yn yr ysbyty yn ddiweddar. Aelwyd Ardudwy Diolchwyd i Ysgol Ardudwy Llongyfarchiadau i aelodau’r am argraffu’r rhaglenni am Aelwyd ar eu llwyddiant yng y flwyddyn nesaf ac am Ngala Nofio’r Urdd yn Nhywyn y bwydlenni, hefyd am y ar Dachwedd 15. Cafodd Cynan gwahoddiad i aelodau fynd i’r Sharp a JJ Roberts lwyddiant Sioe Gerdd yn Theatr Harlech yn y cystadlaethau B12 a B13, ddydd Mercher 10 Rhagfyr am gyda thimau cyfnewid B5 a B6 10 o’r gloch y bore. yr Aelwyd hefyd yn fuddugol. Y Cynhelir cinio yn y Ship, timau cyfnewid oedd: Bechgyn ~ Talsarnau ar 3 Rhagfyr, erbyn Siôn Williams, Osian Llŷr Evans, 12.30 a bwyta am 1.00. Brandon Smedley a Jude Leeke Yna cawsom weld gwaith a’r Merched ~ Iona May Sloan, gwych Linda Ingram oedd yn Lexi Leeke, Mari Titley a Seren dangos i ni sut i wneud sebon Llwyd. Dymuniadau gorau a chanhwyllau ac yn y blaen. iddynt yn y rowndiau terfynol Rhoddwyd rhosyn bach i bawb yng Nghaerdydd ar ddiwedd mis wedi ei wneud y prynhawn yma Ionawr. gan Linda, a hefyd yr oedd wedi rhoi raffl i ni at y prynhawn. Dyweddïo Roedd pawb wedi mwynhau ac Llongyfarchiadau mawr i Alex wedi dotio at ei dawn. Cafwyd te Evans a Hannah Gunn ar eu wedi ei baratoi gan y pwyllgor. dyweddïad. Dymuniadau gorau i’r dyfodol iddynt. Pen-blwydd hapus Pen-blwydd hapus a Rhodd dymuniadau gorau i Catherine Diolch am y rhodd o £6.50 gan Spoonley, 57 y Waun, sy’n dathlu Mrs M Cope. pen-blwydd arbennig ar 26 Tachwedd. DIOLCH PEN-BLWYDD HAPUS Hoffwn ddiolch i’r teulu ac i’m ffrindiau am y galwadau ffôn ac am y cardiau a dderbyniais tra bûm yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar. Diolch hefyd i bawb a ddaeth heibio i fy ngweld. Braf iawn oedd cael eich cwmpeini. Hoffwn ddiolch yn arbennig i Bronwen am gadw llygad ar Trevs a Llion. Rydan ni yn lwcus iawn o gael cymdogion da. Diolch o galon i bawb. Pwy fuasai’n meddwl? Pat, Morfa Garage £20 40 oed ar Ragfyr 2!
FFAIR NADOLIG
Eglwys Sant Tanwg Dydd Sadwrn, Rhagfyr 6, yn Neuadd Goffa, Harlech o 2.00 tan 4.00 yng nghwmni Sion Corn a’r Band Bach. Mynediad yn cynnwys panad Oedolion: £1, plant: 50c
Pen-blwydd hapus Olwen - gan y teulu i gyd. £5
Swyddfa’r Post, Harlech
STONDIN GACENNAU
gan y Cylch Meithrin Bore Llun, Rhagfyr 15 Cofiwch gefnogi!
CYNGOR CYMUNED
RHAGOR O HARLECH Teyrnged i Victor Owen[gan Menna Jones, cyfaill iddo] Sefydliad y Merched
Ganwyd Victor yma yn Harlech yn Nhy’n Gwtar ar 9 Tachwedd 1918. Roedd ganddo dri brawd, Will, Gruff a Richard, ond yn drist iawn maent i gyd wedi marw erbyn hyn. Croesawodd y Cadeirydd Mr Pan roedd yn gweithio i Lewis Jones, Tryfar, cwmni adeiladu, roedd Colin Jones o Gyngor Gwynedd Victor yn gyrru ‘pick up’. Pan yn blentyn ifanc, byddwn yn aros am i drafod problemau parcio yn y dref. Cytunwyd bod angen gofyn Victor er mwyn cael reid yn hwn. Roeddwn yn byw yn Porkington i’r warden traffig ymweld â’r dref Terrace ar y pryd, gyferbyn â Gorsaf yr Heddlu. Un diwrnod daeth yn amlach a gofyn iddynt ddod PC Hughes a gofynnodd ‘Be mae’r plentyn yma’n ei wneud yn y yn hwyrach yn y dydd ac nid yn sêt flaen?”. Fi fy hun a atebodd, “Fan Yncl Victor ydy hon, felly gynnar yn y bore. Hefyd, cytunwyd meindiwch eich busnes.” Yn ffodus, chwerthin wnaeth o a phawb bod angen gofyn i berchnogion arall. Roedd Victor yn ŵr talentog, yn hoff o ganu’r piano, ac roedd busnesau’r dref barcio yn y meysydd Elvira, mam Carys, wrth ei bodd yn gwrando arno bob amser. Fel parcio ac nid ar y stryd fawr trwy’r dyn ifanc roedd yn bêl-droediwr medrus a chafodd ei dderbyn dydd. i chwarae i Fryste (Bristol Rovers) ond pan ddywedwyd wrtho y MATERION YN CODI byddai’n gorfod chwarae ambell i gêm ar y Sul, gwylltio wnaeth o Darn Tir ger y Cwrt Tenis Mae’r gwaith uchod wedi’i gwblhau. a dweud, “Na, dydan ni ddim yn chwarae pêl-droed ar y Sul yng Cyngerdd Nadolig y Cyngor 2014 Nghymru.” Oedd, roedd yn aelod ffyddlon o’i gapel, gan sicrhau Mae’r trefniadau wedi eu gwneud a bod y fynwent bob amser yn daclus. Roeddem i gyd yn gwybod ei bydd Siôn Corn yno. fod yn unigolyn llawen ac yn feddylgar iawn o bobl eraill a phlant. Coed Nadolig ac addurno’r dref Pan ddaeth y rhyfel, ymunodd Victor â’r Llynges a chymerodd ran Mae’r trefniadau ar y gweill. yn y glaniadau yn yr Eidal. Priododd ag Eira ar 18 Mehefin 1941 a GOHEBIAETH chafodd y ddau 72 o flynyddoedd hapus gyda’i gilydd. Roeddent yn Cafwyd cŵyn ynglŷn â chyflwr byw i’w gilydd. y lloches bws ger y toiledau yng Pan adawodd y Llynges, aeth y ddau i fyw i Harrogate ac yno ei ngwaelod y dref. Mae angen waith oedd dysgu milwyr i yrru a hefyd i yrru cerbydau HGV. Yn trwsio’r lloches hwn cyn gynted â phosib. ddiweddarach symudodd y ddau i’r Rhyl lle bu Victor yn gwneud yr Hamdden Harlech ac Ardudwy un gwaith yng ngwersyll Bae Cinmel, Y Rhyl. Bydd y Cadeirydd yn dod i gyfarfod Wrth i’r teulu glirio’r tŷ, cafwyd hyd i lythyrau oddi wrth rhai nesa’r Cyngor ar Rhagfyr 8. milwyr ifanc yn diolch iddo am ei amynedd ac yn dweud na fyddent UNRHYW FATER ARALL wedi goroesi heb ei gymorth a’i gefnogaeth. Mae tyllau mawr yn y maes parcio Wedi ymddeol, daeth y ddau’n ôl i Harlech i fyw lle’r oedd y ddau’n wrth droed y castell . Cytunwyd i byw i’w gilydd. gysylltu â CADW ynglŷn â hyn. Roedd Victor yn golffiwr brwdfrydig a bu’n aelod o Glwb Golff Mae tar wedi ei adael gyferbyn ag Dewi Sant am flynyddoedd lawer, gan ennill llawer o fedalau a Afallon ar Ffordd Penllech. Mae angen tocio’r gordyfiant ar hyd thlysau. Rhoddodd un o’i fedalau i mi, sef ‘The Beverly Western ochor y ffordd o Ben y Graig draw Command Champion’, fel ei bod yn parhau i’w gofio. am riw Dewi Sant. Flwyddyn yn ôl, pan gollodd ei annwyl Eira, torrodd ei galon, ond erbyn hyn mae’r ddau’n ôl gyda’i gilydd am byth. Heddwch i’w lwch.
YMWELIAD
GRADD UWCH I KATE
Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr newydd y Mudiad Meithrin yn ymweld â Chylch Meithrin Harlech fel rhan o’i thaith o amgylch Cymru. Mae Gwenllian ar y dde a Gail Roberts, Arweinydd y Cylch, ar y chwith gyda rhai o’r plant.
Gradd uwch Llongyfarchiadau mawr iawn i Kate Roberts, 53 Cae Gwastad, ar dderbyn gradd MSc mewn Arfer Nyrsio Clinigol Uwch
Croesawodd y Llywydd Edwina Evans yr aelodau i’r cyfarfod a gynhaliwyd nos Fercher, 12 Tachwedd, yn y Neuadd Goffa. Cafwyd newydd trist am ddwy aelod oedd wedi bod yn ffyddlon i’r Sefydliad ers blynyddoedd sef marwolaeth Margaret Till ac Isobel Wilson. Rhoddwyd teyrnged i’r ddwy gan Edwina. Cafwyd newydd hapusach sef fod hen aelod arall, sef Linda Shaw, wedi ailbriodi. Darllenwyd y llythyr o’r Sir a chofnodwyd dyddiadau o bwys. Ar ôl gorffen y busnes aethom ymlaen â’r Cyfarfod Blynyddol. Cafwyd adroddiad gan bob aelod o’r pwyllgor. Diolchodd y Llywydd i bawb am eu gwaith trwy’r flwyddyn ac am y gefnogaeth a dderbyniodd ganddynt i gyd. Yr oedd wedi cael braint o gynrychioli SyM Harlech ar lawer o achlysuron mewn gwahanol leoedd yn ystod y pedair blynedd diwethaf ond yr oedd yn awyddus i roi’r gorau i’r swydd ac yn teimlo anrhydedd o fod wedi cael bod yn Llywydd cyhyd. Penodwyd Christine Hemsley fel y Llywydd newydd, a dymunwyd yn dda iddi gan Edwina. Diolch hefyd i Gwenda Jones a Myfanwy Jones am eu gwaith i SyM gan fod y ddwy’n rhoi’r gorau i fod ar y pwyllgor. Fe fydd Jennie Dunnley ac Annette Evans yn ddwy aelod newydd o’r pwyllgor. I ddiweddu’r noson roedd yr aelodau wedi dod â’u gwaith i’w arddangos. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 10 Rhagfyr yn adeilad y pwll nofio. Ffair Nadolig Tanycastell Roedd y neuadd a’r dosbarthiadau yn orlawn o stondinau amrywiol. Roedd gan Annest Jones ac Elan Hedd Roberts stondin i gasglu arian i Ymchwil Canser. Mae’r genod yn astudio yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Dolgellau ar hyn o bryd ac fel rhan o’u gwaith BAC mae’r genod yn gwirfoddoli yn y gymuned leol. Enillydd eu cystadleuaeth oedd Cadi Mair Roberts gydag elw o £34.50 yn mynd at yr elusen. Da iawn, genod.
9
TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Gwella Braf clywed fod Dafydd Jones, Bryn yr Aur (Dei glo) yn gwella ac wedi symud o Ysbyty Alltwen i gartref Plas Newydd yng Nghricieth i orffen gwella i ddod adref cyn hir.
Safle we newydd Talsarnau
www.talsarnau.com
Efallai bod rhai ohonoch yn y gorffennol wedi ymweld â safle we Talsarnau ar eich cyfrifiadur ond wedi sylwi ers peth amser nad oedd posib’ mynd iddi. Yn anffodus bu peth problemau Merched y Wawr technegol oedd tu draw i’n Croesawyd pawb i’r cyfarfod rheolaeth ni. gan y Llywydd, Siriol Lewis, Braf iawn yw cael cyhoeddi y nos Lun, 3 Tachwedd. Wedi bydd y safle yn ôl yn fyw o’r delio â’r cofnodion a’r materion 1af o Ragfyr 2014. Bydd y safle oedd yn codi, atgoffwyd pawb â gwedd newydd iddi ac yn eto o’r Cwis Cenedlaethol ar cynnwys pob math o agweddau 14 Tachwedd, ond neb yn ar fywyd o fewn ein hardal. Er bod iddi o gwmpas 300 o gallu mynd y tro yma. Hefyd dudalennau a channoedd lawer y cais am ategolion gan Meryl Davies - gobeithiwn gael y rhain o luniau, mae’r criw bychan o wirfoddolwyr sydd wedi bod i law ddechrau’r flwyddyn. wrthi yn dal yn awyddus am Darllenwyd y Fwydlen a chwaneg o storïau, hanesion, dderbyniwyd gan Westy Seren lluniau ac ati. Byddai’n i bawb nodi eu dewis ohoni ar braf iawn cael hanesion am gyfer ein cinio Nadolig yno ar ddigwyddiadau ac achlysuron 12fed Rhagfyr. sydd yn gysylltiedig â’r fro. Croesawyd ein gwraig wadd, Y neges yw nad rhywbeth gorffenedig yw safle we ardal, Hazel Jones, Cwmni Aerona o Chwilog. Cawsom sgwrs ddifyr ond rhywbeth byw fydd yn dal i dyfu a datblygu. ganddi ar sut y daeth y cwmni i fodolaeth a’r hyn roedd hi a’i gŵr Dydy’r safle felly ddim yn gyflawn, ond mi fydd ar gael i yn ei gynhyrchu erbyn hyn. unrhyw un droi i mewn iddi o Cawsom flasu’r gwinoedd, y Ragfyr 1af. Y cyfeiriad hawdd siocled a’r cyffug a chael cyfle i ei gofio yw www.talsarnau.com brynu o’r nwyddau deniadol. a byddai’n braf meddwl y bydd Edmygwyd yr holl waith oedd pobl yn cael pleser wrth bori ynghlwm â’r cwmni a diolchodd o’i mewn. Mi fyddwn ni, yn y cyfamser, yn edrych i’r dyfodol Frances yn gynnes iawn i Hazel gan obeithio ychwanegu ati yn am ddod atom, gan fynegi mor rheolaidd. braf oedd gweld Cymry yn Hoffem apelio at unrhyw un â dechrau busnes. Dymunodd chysylltiad ag ardal Talsarnau pob llwyddiant iddi hi a’i gŵr i gysylltu â ni a chyfrannu gyda’r cwmni i’r dyfodol. gwybodaeth am ddigwyddiadau, Paratowyd y baned gan Maureen troeon trwstan, hanesion, lluniau ac Eirwen a Gwenda G enillodd ac ati fel y gallwn eu cynnwys. y raffl. Hoffwn bwysleisio nad chwilio Rhoddwyd dwy wobr raffl arall am hen luniau yn unig yr ydym, - mae bywyd heddiw lawn mor gan Hazel - un i’w ddefnyddio bwysig. Mae lle i chi gysylltu ar yn ein cinio ’Dolig a’r llall i’w dynnu heno. Eirwen fu’n ffodus dudalen flaen y safle neu drwy Weplyfr (Facebook). o ennill y pecyn siocled. Hoffwn gydnabod a diolch yn gynnes iawn i Hefin Williams Deudraeth Cyf sydd wedi bod yn hael ei gefnogaeth a hir ei amynedd yn ein helpu ar y Aarrow Sherborne Medium daith a diolch yr un mor gynnes i’r criw bychan sydd wedi Multifuel Stove ymgymryd â’r gwaith.
Ar Werth Yn cynhyrchu 8Kw 5kw i’r ystafell a 3kw i ddŵr poeth Mewn cyflwr da Cysylltwch â: 07840 603094 neu 01341 247570
10
Felly dyma gyhoeddi fod Safle We Talsarnau yn agored o Ragfyr 1af 2014. Yn y llun fe welir rhai o’r trigolion yn archwilio’r Safwe.
CYNGOR CYMUNED
Croesawyd Geraint Williams i’w gyfarfod cyntaf o’r Cyngor. MATERION YN CODI Polisi Iaith Cytunwyd bod y Cadeirydd a’r Clerc yn arwyddo’r Polisi ar ran y Cyngor. Pont Briwet Roedd John Richards a’r Clerc wedi cyfarfod Elfyn Llwyd AS a Liz Saville Roberts ynglŷn â phryder am ddiffyg cylchfan yn Llandecwyn ac nad oedd palmant wedi ei osod ar ochr Trem y Garth fel y cytunwyd. Cadarnhawyd y byddai’r swyddogion yn cynnal trafodaethau brys efo Network Rail a Chyfoeth Naturiol Cymru er mwyn sicrhau ceisio darparu maes parcio gogyfer â safle gorsaf trên Llandecwyn ac y bydd diweddariad pellach i’w gyflwyno yn y cyfarfod cyswllt nesaf. Mae’r Cyngor yn awyddus i wireddu’r cylchdro mor fuan ag sydd posib. Trafodwyd lled y ffordd newydd rhwng Penrhyndeudraeth ar draws y bont newydd ac i Landecwyn. Cytunwyd y byddai’r rhesymeg am led y ffordd a’r safonau perthnasol yn cael eu cyflwyno. GOHEBIAETH Eglwys Llanfihangel-y-traethau Cafwyd cais gan aelodau’r eglwys uchod am ganiatâd i addasu hen gwt yr elor yn doiledau. Cytunwyd i hyn mewn egwyddor. Cyngor Gwynedd Cafwyd llythyr gan yr uchod ynglŷn ag ystyried cyflwyno a diwygio Gorchmynion Cyfyngiad Cyflymder 30 mya a 40 mya yn Llandecwyn. Buasai’n well gan y Cyngor weld y cyflymder yn dod lawr i 30 mya a’i fod yn cael ei symud yn nes am Dalsarnau. Pwyllgor Neuadd Bentref Talsarnau Rhoddwyd £3,000 o gymorth ariannol tuag at y gost o osod paneli solar ar do’r neuadd. Hamdden Harlech ac Ardudwy Mae’r Cyngor yn addo £1,000 iddynt yn y flwyddyn ariannol nesaf. UNRHYW FATER ARALL Datganwyd pryder bod rhai’n newid enwau tai yn yr ardal ac anfonwyd llythyr i’r Parc Cenedlaethol ynglŷn â hyn. Angen anfon at Drenau Arriva i ofyn pam na chaiff pas y trên ei ddefnyddio yn ystod tymor yr haf. Nid oes arwyddion dwyieithog ger Llyn Tecwyn. Mae’r gwaith o atgyweirio llwybr cyhoeddus y Wern wedi ei gwblhau. Mae angen torri gwaelod llwybr y Gelli a thorri’r llwybr i lawr o Allt Galch i’r ffordd. Datganwyd pryder nad oedd Uned Meirion yn Nolgellau yn cael ei hailagor a bod rhai’n gorfod teithio i Ysbyty Cefni, Llangefni. Mae ochrau’r ffordd ger Barcdy’n beryglus. Nid oes rhwystr diogelwch ar ochr y ffordd. A oes bosib gosod bariau ar hyd ochr y ffordd?
TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Cyngerdd Mis Hydref 2014 Cynhaliwyd cyngerdd yr hydref eleni ar Hydref 24ain 2014 a braf iawn oedd gweld y neuadd yn llawn. Cynulleidfa a wyddai mai Gwynfor Williams Gwrach Ynys roddodd y cwch yn y dŵr wrth wahodd aelodau o Barti’r Goedlan a Thrio Canig pan ddaethant ar draws y naill a’r llall yn Iwerddon o bob man. Gwyddom fel y byddai Gwynfor wrth ei fodd yn dilyn y gemau rygbi rhyngwladol ac ar ôl y gemau, ennill neu golli, byddai wrth ei fodd yn morio canu fel rhan o’r dathliadau. Llynedd, tra yn Iwerddon, mewn noson â blas arbennig ar y canu a’r Guinness, gwahoddodd Gwynfor y criw i ddod i Dalsarnau i gynnal noson. A dyna fel y bu. Ond gwyddom ers hynny wrth gwrs inni i gyd yn ein gwahanol ffyrdd brofi’r chwithdod a’r brofedigaeth o golli Gwynfor. Teimlwyd, er ei golli, y byddai Gwynfor am inni fynd ymlaen â’r trefniadau ac y byddai am i bawb ohonom gael hwyl a mwynhau’r noson. Ac felly bu. Fe gafwyd hwyl jôcs dirifedi gan Tudur Evans, arweinydd y noson ac aelod o Barti’r Goedlan o ardal Brithdir. Bu hefyd yn canu ynghyd â’i frawd Bedwyr a’i ferch Arwen. Fe gawsom unawdau grymus gan y ddau ohonynt ac fe gawsom ein cyfareddu gan lais hyfryd Arwen, a’i dewis o ganeuon yn cyffwrdd pob un ohonom. Cafwyd eitemau caboledig gan y triawd o Fôn - Trio Canig a’u lleisiau mewn harmoni tynn ac yn gweddu i’w gilydd. Cafwyd sawl datganiad roddodd bleser pur i’r gynulleidfa. Gwerth nodi hefyd y ddau gyfeilydd gan i’r datganwyr a’r gynulleidfa werthfawrogi eu chwarae. Croesawyd y gynulleidfa a chyflwynwyd yr artistiaid gan Dewi Tudur ac ef hefyd ddiolchodd i bawb a fu’n rhan o’r trefnu mewn ffordd ddeheuig iawn ac addas i amgylchiadau’r noson arbennig hon. Cafwyd gwybod gan y trysorydd, Margaret Roberts, i’r noson wneud elw anrhydeddus er hybu gweithgarwch o fewn y neuadd. Diolch cynnes iawn i bawb ddaeth i gefnogi.
Cyfeillion Ellis Wynne Cystadlaethau Celf Mae cystadleuaeth gyffrous iawn yn digwydd ar hyn o bryd rhwng disgyblion ysgolion uwchradd ac ysgolion cynradd y dalgylch. Fel y gwyddoch mae’n siŵr, nid oes llawer o gysylltiad rhwng y disgyblion â’r Gweledigaethau ac mae Cyfeillion Ellis Wynne yn awyddus iawn i annog plant yr ardal i ddysgu mwy am y clasur. Tasg anodd iawn ynte wrth fod y testun yn drwm iawn ar brydiau a rhai mannau yn bendant yn anaddas i oed ifanc. Ond, mae’r testun yn llawn drama a disgrifiadau byrlymus sydd yn creu darluniau yn y meddwl. Felly, penderfynwyd creu cystadlaethau celf fydd yn atgyfodi delweddau o’r Gweledigaethau, gyda gwobrau hael iawn i’r enillwyr. Rydym wedi dethol rhai o ddisgrifiadau dramatig Ellis Wynne o wahanol olygfeydd gan ofyn i’r disgyblion uwchradd ddod a’r darluniau yn fyw ar ffurf celfyddyd. I’r cynradd, rydym wedi dewis cymeriadau lliwgar Ellis Wynne, gan ofyn i’r plant wneud llun ohonynt, gyda’r posibilrwydd o roi’r cymeriadau yng nghyd-destun heddiw ee Siôn Llygaid y Geiniog. Y gobaith ydyw codi ymwybyddiaeth y disgyblion o Weledigaethau’r Bardd Cwsg mewn ffordd ddifyr fydd yn apelio atynt. Fe fyddwn yn trefnu noson wobrwyo ar ôl y feirniadaeth ac fe fydd cyfle i
Dymuna Idris ac Eirlys Williams, Tanforhesgan ddiolch yn fawr iawn am y cardiau, y galwadau ffôn a’r ymweliadau â’r ysbytai tra bu Idris yn glaf yn ddiweddar. £10
chi gael dod draw i’r Lasynys i weld y gweithiau. Mae’r dyddiad cau ddiwedd mis Ionawr 2015, felly os ydych yn fam, tad, nain neu daid i blant neu blentyn yn yr ardal, cofiwch eu hannog i gystadlu. Dylai’r gwobrau fod yn gymhelliant arbennig gyda gwobrau ariannol o rhwng £5 i £45 ar gael i’r rhai sy’n dod i’r brig. Ceir mwy o wybodaeth am y cystadlaethau drwy’r ysgolion neu drwy ffonio Catrin ar 01766 781395 neu yrru e-bost i ylasynys@btconnect.com. Hoffai Cyfeillion Ellis Wynne ddiolch o galon i’r noddwyr hael iawn sydd wedi bod mor barod i gefnogi plant yr ardal. Tafarn y Lion Harlech; R J Williams, Honda Cyf; Caffi’r Cemlyn; Y Branwen; Caffi’r Bwtri Bach; In Stitches; Swyddfa Bost Harlech; Trugareddau Harlech; Siop A & B Murphy; Seasons and Reasons.
Capel Newydd Talsarnau Gair yn gynta’ i ddweud diolch wrth bawb wnaeth gefnogi’r Bore Coffi at waith Tear Fund. Casglwyd dros £600. Yn ein digonedd, mae’n iawn i ni gefnogi pobl lai ffodus dros y byd. Trefniadau dros y Nadolig Nos Sul Rhagfyr 21 am 6, Gwasanaeth Carolau. Noswyl Nadolig (Rhagfyr 24!) am 6,00. Mae neges y Nadolig ar gyfer pawb - nid plant yn unig. Mae gwir lawenydd yn dibynnu ar ein perthynas hefo Duw. Nid arnom ni na’n hamgylchiadau. Yn y ddau wasanaeth byddwn yn atgoffa ein hunain am wir ystyr y Nadolig, dyfodiad Mab Duw i’n byd i fyw a marw dros y colledig.
Plygain Cofiwch am ymarfer canu Plygain yn y Lasynys ar y 14eg o Ragfyr, am 2.00 y prynhawn. Mae croeso cynnes i bawb sydd â diddordeb. Mae’r ymarferion yn arwain tuag at ein trydydd Plygain sydd ar nos Fercher y 14eg Ionawr 2015, yn Eglwys y Santes Fair, Llanfair am 7.00 o’r gloch.
Gwasanaethau Nadolig yn Llanfihangel-y-traethau Rhagfyr 14 am 11.30: Gwasanaeth teulu yng nghwmni Naomi. Rhagfyr 25 am 11.30:
R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU
Genedigaeth Llongyfarchiadau i Nia Wyn a David Gray yn Llangybi ar enedigaeth Beti Tecwyn, chwaer fach i Carys Elain ac Ela Trefor.
SAMARIAID Llinell Gymraeg 0300 123 3011
Neuadd Gymuned, Talsarnau GYRFA CHWIST NADOLIG
Nos Iau, Rhagfyr 11 am 7.30 o’r gloch Gwobrau lu! Croeso cynnes i bawb. 11
1
2
CROESAIR 4
3
5
6
7 8
9
10
RHAGFYR
11
14
18
17
21
19
20
22
Ar draws
1 Math o goeden Nadolig (6) 4 Defnyddir hwn i addurno’r tŷ dros yr Ŵyl (5) 8 Cerrig neu friciau wedi torri (5) 9 Crasu (6) 10 Ffrwd (4) 11 Darnau bychain sy’n cael eu ffurfio wrth i rywbeth gael ei naddu (6) 13 Gweler 2 i lawr 15 Gwall (3) 16 Enw cyntaf ‘reslar’ Cymraeg o fri (4) 17 Y flwyddyn hon (5) 18 Campau dwl (6) 21 Budd (3) 22 Awydd cryf am lwyddiant (8) I lawr 1 Dilynwyd un o’r rhain gan y doethion (5) 2 a 13 ar draws, math o aderyn a gysylltir â’r Nadolig (5, 3) 3 Llefain (4) 5 Newid un chwaraewr am un arall (7) 6 Mynd i’r dŵr i nofio (7) 7 Gwyddor sy’n astudiaeth o’r ffordd y mae diwydiant a masnach yn cynhyrchu ac yn defnyddio cyfoeth (8) 12 Gair i ddisgrifio hanes neu adroddiad celwyddog er mwyn pardduo cymeriad unigolyn (7) 13 Iaith frodorol yr Alban (6) 14 Suro (6) 19 Datblygu (4) 20 Prydferth (4)
12
16
15
Am fanylion pellach am ddigwyddiadau’r Theatr, ffoniwch 01766 780667, neu ewch i’r wefan ar www.theatrharlech.com Digwyddiadau am 7.30 oni nodir yn wahanol.
11,12 Sioe Ysgol Ardudwy - Y Siop Fach Frawychus 14. Ffilm - HFS We Are The Best [15] 17. Cyngerdd yng ngolau cannwyll yng nghwmni Richard Durrant ac Amy Kakoura
12 13
THEATR HARLECH
ENILLWYR MIS TACHWEDD Dyma’r enillwyr y tro hwn: Megan Jones, Pensarn, Pwllheli; Idris Williams, Tanforhesgan, Talsarnau; Elizabeth Jones, Tyddyn y Gwynt, Harlech; Dilys A Pritchard Jones, Abererch; Ceinwen Owen, Llanfachreth; Hilda Harris, Dyffryn Ardudwy; Gweneira Jones, Cwm Nantcol; Ieuan Jones, Rhosfawr, Pwllheli.
ATEBION TACHWEDD
AR DRAWS 1. Eginyn 4. Atlas 8. Drwm bas 9. Noeth 10. Oedolyn 11. Ward 12. Alaw 14. Anthem 17. Lacharn 19. Baglu 21. Neilon 22. Epig I LAWR 1. Eidion 2. Iawndal 3. Ymbil 5. Tanllwyth 6. Amedr 7. Asennau 13. Wyrion 15. Malais 16. Plant 18. Chwisl 20. Acen SYLWER Atebion i sylw Phil Mostert, Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech LL46 2SS, erbyn canol y mis os gwelwch yn dda. GWASANAETHAU’R EGLWYS
Rhagfyr 21 9.00 Carolau - Llanfair 11.30 Carolau - Dyffryn 4.00 Cristingl - Llanddwywe 6.30 - Carolau - Llandanwg Rhagfyr 24 3.30 Gwasanaeth y Crud - Harlech 5.15 Gwasanaeth y Crud - Llanbedr 9.30 yh - Cymun - Llanenddwyn 11.30 yh - Cymun - Harlech
Tai Fforddiadwy yn Nyffryn Ardudwy Fel y rhan fwyaf o ardaloedd gwledig Cymru, mae prisiau tai yn ardal Ardudwy yn uchel iawn o’u cymharu â chyflogau. Mae hyn oherwydd ein bod yn byw mewn ardal ddymunol iawn sy’n denu llawer o du allan i’r ardal i symud yma. O’i gymharu ag ardaloedd mwy llewyrchus, mae prisiau tai yn rhad ac felly yn aml iawn mae gan fewnfudwyr y cyfalaf i brynu tai ac mae hyn yn codi prisiau. Fel yna mae’r farchnad agored yn gweithio. Er mwyn cynnal ein cymunedau gwledig mae’n bwysig fod ein pobol ifanc yn gallu cael cartrefi. Dyna yw sail y cynllun ‘Tai Fforddiadwy’. Mae pob datblygiad o dai newydd yn gorfod cynnwys tai fforddiadwy. Mae amod cynllunio ar y tai yma sy’n golygu bod yn rhaid iddynt gael eu gwerthu am bris llai na phris y farchnad. Mae canran y gostyngiad yn seiliedig ar gyfartaledd cyflogau lleol. Yn achos Dyffryn Ardudwy, y gostyngiad yw 30%. Mae’r gostyngiad yma i’w gael i brynwyr sydd wedi byw yn yr ardal am gyfnod o flynyddoedd. Bydd y gostyngiad a’r angen i’r prynwyr fod yn lleol yn aros gyda’r tai os bydd y prynwyr gwreiddiol yn eu gwerthu. Oherwydd yr amodau, mae adeiladwyr yn fodlon cydweithio gyda phrynwyr sy’n gymwys i ddarparu cartrefi addas o ran defnydd a phris. Er bod gostyngiad ar gael, mae’n gallu bod yn anodd iawn i unigolyn ifanc sydd eisiau prynu tŷ am y tro cyntaf lwyddo. Felly mae cynllun arbennig wedi ei fabwysiadu ar stad o dai newydd yn Nyffryn Ardudwy. Bydd tri o’r saith tŷ newydd ar gael drwy’r cynllun. Mae’r datblygwr, O G Thomas, y pensaer a swyddogion cynllunio Parc Eryri wedi creu cynlluniau fydd yn galluogi i brynwyr gael tŷ sydd heb ei orffen yn gyfangwbwl, ac felly arbed arian drwy gwblhau’r gwaith eu hunain. Mae dyluniad y tai yn golygu y gellir cwblhau rhywfaint er mwyn cael byw ynddynt cyn gorffen y cwbl. Mae swyddogion y Parc yn gefnogol iawn i’r cynllun hwn ac yn ei weld yn ddull o alluogi pobl ifanc i gael cartref yn eu hardal enedigol. Maent hefyd yn cynnal trafodaethau i sicrhau na fydd Cymdeithasau Tai yn gweld y cynllun yn rhwystr i gynnig morgais.
Tai ar Werth
Datblygiad o dai newydd yn Nyffryn Ardudwy yn cynnwys tai fforddiadwy Dyma gyfle arbennig! Rhagor o fanylion gan: Walter Lloyd Jones 01341 280527
TAITH Y DDAU GÔR YN CASGLU NAW MIL EURO
CALENDR LLAIS ARDUDWY Mae Calendar 2015 wedi gwerthu’n dda iawn. Mae ychydig ar ôl yn y siopau ond maen nhw’n brin iawn erbyn hyn!
£4
Roedd hanes y daith i Galway gan Cana-Mi-Gei a Chôr Meibion Ardudwy yn ein rhifyn diwethaf. Erbyn hyn, gallwn gadarnhau mai’r cyfanswm a gasglwyd yn dilyn y ddau gyngerdd er budd Hospis Galway oedd €9000, sydd gyfwerth â £7,200. Afraid dweud bod pawb oedd yn gysylltiedig â’r ymdrech yn hapus dros ben.
RHAGFYR 11 ac 12 am 7.30
Ffôn: 01766 780331
CYFARCHION NADOLIGAIDD
Dymuna Gwenda a Glyn Davies, Bod Iwan, 21 Lôn y Wennol, Llanfairpwll, Ynys Môn anfon eu cofion Nadoligaidd a dymuno Blwyddyn Newydd dda i’w holl gyfeillion yn ardal Ardudwy £10
NADOLIG LLAWEN A BLWYDDYN NEWYDD DDA I’N LLU FFRINDIAU John a Gwyneth Richards, Llandecwyn. Ni fyddwn yn anfon cardiau o hyn ymlaen. Yn hytrach byddwn yn rhoi arian i elusen o’n dewis. £5
Hoffai David Jones, Siop Gigydd y Bermo, ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’w holl gwsmeriaid.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n holl gwsmeriaid. TYMHORAU A RHESYMAU Stryd Fawr, Harlech
Hoffai Mair Highley [Bryn Twrog, Harlech gynt] anfon cyfarchion Nadolig i’w holl ffrindiau a theulu yn yr ardal. Nid yw Mair am anfon cardiau eleni ond yn hytrach bydd yn anfon rhodd at elusen canser. £10
Dymuna Geraint Wynne [Meifod Uchaf] Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’w holl ffrindiau a’i deulu yn yr ardal. Ni fydd yn anfon cardiau eleni ond yn hytrach bydd yn anfon rhodd at ymchwil yr arennau. £10
Dymuna Jim a Nansi Ritchie, Ynys Wen, Ysbyty Ifan Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’w perthnasau a’u holl ffrindiau yn ardal Llais Ardudwy. £5
Dymuna Idris ac Eirlys Williams, Tanforhesgan, Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’w cymdogion a’u holl ffrindiau yn yr ardal. Nid anfonir cardiau eleni ond anfonir cyfraniad at elusen. £10
13
Clwb Rygbi Harlech Gwellhad buan i Kearon Thomas a gafodd anaf cas wrth chwarae rygbi yn ddiweddar. Edrychwn ymlaen at dy weld yn cryfhau ac yn dychwelyd i’r cae rygbi. Gemau i ddod: Rhagfyr 6: Machynlleth - adref - 2.30 Rhagfyr 13: Porthaethwy - adref - 2.00 (Gêm Gwpan) Rhagfyr 27: Cyn-chwaraewyr Cwpan Gogledd Cymru , Tachwedd 8 Llangollen i ffwrdd oedd y gwrthwynebwyr a dechreuodd Harlech gyda chic gosb lwyddiannus Ewart Williams. Aeth Harlech ymlaen i sgorio cais (Andrew Stone Williams) a throsgais (Ewart Williams). John Gormely, cefnwr Llangollen, gafodd y gic gosb lwyddiannus nesaf. Cafodd Arfon Pugh gerdyn melyn yn yr hanner cyntaf a’r sgôr hanner amser oedd Llangollen 3 Harlech 10. Dechreuodd Harlech yr ail hanner gyda chic gosb (Ewart Williams) yna cais (Alex Evans) ond methwyd y trosgais. Cafodd Llangollen gic gosb arall trwy John Gormely, ond aeth Harlech ymlaen i sgorio cais (Llion Kerry) a throsgais (Ewart Williams). Sgoriodd cefnwr Llangollen dair cic gosb a’r sgôr terfynol oedd Llangollen 15 Harlech 23. Cafwyd perfformiadau clodfawr gan Gwion Llwyd, Ben Bailey, Edmund Bailey ac eraill. Cynghrair Swalec - [2]- Gogledd, Dydd Sadwrn, Tachwedd 11 Teithiodd Harlech i Wrecsam, lle dechreuodd y tîm cartref gyda chais gan Jake Edwards yr asgellwr, ond methu’r trosgais wnaeth Gavin Jones. Aeth Wrecsam ymlaen i sgorio cais (Phil Williams) a throsgais (Gavin Jones) a’r sgôr hanner amser oedd Wrecsam 12 Harlech 0. Dechreuodd yr ail hanner gydag Wrecsam yn rhoi sawl cic gosb i ffwrdd a chafodd dau o’u chwaraewyr, sef Ikenasio Fidow a Rob Moore gardiau melyn. Gydag Wrecsam lawr i 13 dyn llwyddodd Harlech i gael cais (Ben Bailey) a throsgais (Ewart Williams), ond yn anffortunus cafodd Cedri Williams gerdyn melyn hefyd. Y sgôr terfynol oedd Wrecsam 12 Harlech 7. * * * Adroddiadau Meilyr Roberts
LLYTHYR Lleisiau ein beirdd Annwyl Ddarllenwyr Carwn dynnu eich sylw at gryno ddisg eitha gwahanol a fydd yn cael ei chyhoeddi’r mis hwn. Ei henw yw ‘Lleisiau’r beirdd yn Llefaru Eto’, sef casgliad o feirdd Cymraeg yn darllen rhai o’u cerddi gorau. Mae’r beirdd i gyd ysywaeth wedi’n gadael, felly mae hon yn drysorfa unigryw o leisiau’r gorffennol (pell ac agos) yn llefaru wrthym heddiw. Mae’n dechrau gyda’r unig recordiad sy’n bodoli o Syr John Morris-Jones yn darllen darn o gywydd Goronwy Owen, a recordiwyd ar silindr. Mae’r gweddill, o Cynan i Gerallt Lloyd Owen, o’r bardd o Ryd-ddu i Iwan Llwyd, ac o Waldo i Dic Jones, yn darllen eu cerddi eu hunain, 40 o ddarnau i gyd. Os ydych am archebu copi o’r CD newydd, gyrrwch siec am £12.98 i Sain, Llandwrog, Caernarfon LL54 5TG, neu ffoniwch 01286 831111 gyda’r archeb. Os nodwch enw eich papur bro, bydd Sain yn anfon cyfraniad o bunt i’r papur am bob copi a werthir. Bydd ‘Yn Llefaru Eto’ hefyd ar gael yn y siopau Cymraeg. Dr Gwyn Thomas oedd yr ymgynghorydd ar y casgliad hwn, ac wrth inni sylweddoli mor brin yw ein harchif genedlaethol o leisiau’n beirdd, mae Sain wedi dechrau ar raglen o recordio beirdd cyfoes yn darllen eu gwaith ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Dafydd Iwan
14
YARIS
AURIS
AYGO NEWYDD
TOYOTA HARLECH Ffordd Newydd, Harlech 780432 Dewch i weld yr Aygo newydd!
Dim ‘drones’ ym Meirionnydd
Ddiwedd Hydref, gosodwyd lluniau o blant a laddwyd gan drones ar y ffens tu allan i faes awyr Llanbedr. Roeddent yn lluniau erchyll, a bwriad Cymdeithas y Cymod oedd dangos beth yw canlyniad defnyddio drones. Mae cwmni Qinetiq wedi dweud y bydd Maes Awyr Llanbedr yn ‘open for business’ fis Ionawr 2015. Dyna ddechrau trychinebus i flwyddyn newydd! Mae rhai yn dadlau fod prinder swyddi, bod angen rhywbeth yn yr ardal hon, ond os mai cyrff meirw yw pen draw’r stori, does bosib na allwn gael cynnig swyddi gwell? Yn hytrach na rhoi arian i Faes Awyr Llanbedr, pam nad yw’r Cynulliad yn fodlon rhoi arian i fenter arall yn Ardudwy? Gydag awyrennau angau (drones) yn cael eu profi yn Aberporth a Llanbedr, mae mwy a mwy o dir Cymru yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi lladd. Awyrennau di-beilot yw drones, ac mae modd peri iddynt ollwng bomiau o ben arall y byd. Bomio drwy gompiwters ydyw. Mae peryg y bydd yr ardal hon yn dod yn fwy cyfarwydd yn y dyfodol agos efo’r Watchkeeper. O’r 400 o fomiau a ollyngwyd ar Afghanistan gan Lywodraeth Gwledydd Prydain, roedd 80% yn fomiau o drones. Trist yw meddwl mai ar dir Cymru y profwyd llawer ohonynt. Angharad Tomos
PWLL NOFIO HARLECH Pa bryd galla’ i fynd i nofio? Llun Mawrth Mercher Iau Gwener Sul
12.00 tan 2.00, nofio lôn: 6.00 tan 7.00 4.30 tan 7.00 12.00 tan 12.45 7.00 tan 9.00, 11.00 tan 2.30, 3.30 tan 6.00, edolion 6.00 tan 7.00 3.00 tan 4.00, nofio lôn: 6.00 tan 7.00 Merched yn unig 7.00 tan 8.00 11.00 tan 2.00
H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239
Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290
YSWIRIANT I BAWB
E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr
01341 241551
Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.
MARCHNAD CYNNYRCH LLEOL GWYNEDD Y Ganolfan, Harbwr Porthmadog 9.30 y bore – 2.00 y pnawn Dydd Sadwrn ola’r mis. Cyfle i brynu cynnyrch lleol ffres o bob math, o fadarch, wyau, cacenni, llysiau, bara a chig, i daffi a jamiau!
Cefnog wch e in hysbyseb wyr
Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297
Tafarn yr Eryrod Llanuwchllyn 01678 540278
Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.
Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00
Sgwâr Llew Glas
Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd
Llais Ardudwy
Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk
drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]
GERALLT RHUN Bryn Dedwydd, Trawsfynydd LL41 4SW 01766 540681
Tiwniwr Piano a Mân Drwsio g.rhun@btinternet.com
BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU
01766 512091 / 512998
TREFNWYR ANGLADDAU
Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb
TERENCE BEDDALL
JASON CLARKE
15 Heol Meirion, Bermo
Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504
Papuro, peintio, addurno tu mewn a thu allan 01341 280401 07979 558954
Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau
SAER COED Amcanbris am ddim. Gwarantir gwaith o safon.
Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014
Ar agor bob nos 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00
Tacsi Dei Griffiths
Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 9.00 Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!
Sefydlwyd dros 20 mlynedd yn ôl 15
Sioe Arddio Glan Gaeaf, Harlech Diolchodd y Cadeirydd, Edwin Jones i’r holl gystadleuwyr, noddwyr, a phawb fu’n helpu i sicrhau llwyddiant y sioe. Yn nhyb y beirniaid ym mhob adran roedd pob dim o safon uchel iawn. Cyflwynwyd y tlysau gan Roy Plumtree, is-lywydd y Sioe. Cwpan Cadman - marciau uchaf yn adran llysiau sioe haf a hydref - R O Edwards Cwpan Glaslyn - marciau uchaf yn y dosbarth tatws sioe haf a hydref – R O Edwards Tarian Goffa R G Williams marciau uchaf yn y dosbarth nionod sioe haf a hydref - Mrs R M Lampert Cwpan Langley - marciau uchaf yn y dosbarth betys sioe haf a hydref R O Edwards Cwpan Arddio Harlech - marciau uchaf yn yr adran lysiau yn sioe’r hydref - R O Edwards Cwpan Mochras – marciau uchaf yn adran planhigion pot a blodau yn sioe’r haf a hydref - E M Jones Cwpan Goffa’r Sylfaenwyr - marciau uchaf yn adran planhigion pot yn sioe’r haf a hydref - E M Jones Cwpan Proctor - marciau uchaf yn adran blodau Mihangel - E M Jones
16
Cwpan Cymdeithas – Arddangosfa orau o flodau Mihangel - E M Jones Cwpan Goffa T M Jones – E M Jones Cwpan Haulfryn - E M Jones Cwpan Blodau Mihangel – E M Jones Tarian Ralph Highley – E M Jones Ffiol Croeso ’69 - marciau uchaf yn adran celfyddyd blodau – Ms D Pickard Cwpan Goffa A W Thomas – arddangosfa orau yn adran celfyddyd blodau – Mrs P Elford Tlws Marchogion Ardudwy – marciau uchaf yn adran celfyddyd blodau sioe haf hydref – Mrs P Elford Tlws y Gogledd a Gwobr Castle Cottage - marciau uchaf yn adran coginio yn sioe’r haf a hydref Gwynne Jones Tlws 1953 – marciau uchaf yn adran coginio yn sioe’r hydref – Gwynne Jones Tlws Emyr Williams a Gwobr Case o Harlech - marciau uchaf yn adran gwin yn sioe’r haf a’r hydref – Gwynne Jones Arddangosfa orau yn yr adran win – R T Kirkman Arddangosfa orau yn adran ffotograffiaeth – P Bedson
Arweinwyr cerdded newydd i gymunedau Gwynedd Mae mwy o arweinwyr cerdded wedi eu hyfforddi ar ran Dewch i Gerdded Gwynedd yn ddiweddar, wrth i 20 o unigolion fynychu cwrs undydd yng Nghanolfan Hamdden Plas Ffrancon, Bethesda. Rôl yr arweinwyr cerdded ydy i arwain sesiynau cerdded diogel a hwyliog i bobl o bob oedran a gallu, helpu i lunio cerdded iach i anghenion personol yn ogystal â hyrwyddo manteision iechyd cerdded ac ysgogi pobl i ddechrau cerdded fel ffurf o ymarfer corff. Dywedodd Mair Rowlands, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd ar gyfer Gwynedd Iach: “Mae’n hynod galonogol bod y cwrs hwn mor boblogaidd gyda thrigolion gwirfoddol a di-wirfoddol Gwynedd, ac mae’n gam arall i helpu’r Cyngor gyrraedd ei nod i annog pobl Gwynedd i fyw bywydau iachach.” Ychwanegodd Sharon Jones, Swyddog Datblygol Byw’n Iach Cyngor Gwynedd: “Ar ôl cymryd rhan yn y cwrs, bydd cyfranogwyr rŵan yn gallu arwain sesiynau cerdded yn eu cymunedau eu hunain a darparu cyngor ymarferol i gerddwyr yn eu grŵp. Mae cerdded yn ffordd wych i fynd allan a mwynhau awyr agored godidog Gwynedd, yn ogystal â chyfarfod pobl newydd.” Am fwy o wybodaeth am grwpiau cerdded yng Ngwynedd, cysylltwch â cerdded@gwynedd.gov.uk neu ffoniwch 01341 424410.