Llais rhagfyr 2015

Page 1

Llais Ardudwy 50c

SYFRDAN Y SAFODD ...

RHIF 447 RHAGFYR 2015

Ailagor Canolfan Hamdden Harlech

Ailagorwyd y ganolfan gan y cyn-bêl-droediwr rhyngwladol, Iwan Roberts. Cafwyd noson hwyliog iawn a braf oedd gweld prysurdeb y gweithgareddau’n ystod y noson. Rhaid diolch i Nicky ‘John’, bellach yn Thomas, am ei gwaith yn ystod y noson. Cafwyd gwledd o weithgareddau gyda dawnswyr Gravity a Dizzy Dancers yn ymarfer yn y gampfa dan arweiniad Eirian Foster. Yn ddiweddar bu grŵp dawnsio Gravity yn cystadlu yn erbyn goreuon Prydain a grwpiau o’r cyfandir - criw sydd yn dod â balchder mawr i’r ardal. Yn y neuadd chwaraeon gwelwyd grŵp oedran cynradd sy’n ymwneud â diogelwch beicio ar y ffordd. Mae’r dosbarth yn hynod o boblogaidd gyda Tracy Dawson, Christina Braithwaite a Simon Dawson yn hyfforddi’r plant. Mae beics rasio y gellir eu llogi ar gael i’r cyhoedd yn y ganolfan; maent yn bennaf i blant a phobl o dan 5’ 6’’. Hefyd yn perfformio ar y noson roedd clwb pêl-rwyd merched Harlech. Mae’r niferoedd sydd yn ymarfer wedi cynyddu’n sylweddol yn ddiweddar, gyda nifer o ddisgyblion ysgol yn cymryd rhan. Dymunwn bob lwc iddynt wrth gystadlu yn erbyn ardaloedd eraill. Uchafbwynt y noson i Iwan oedd

cyfarfod â chyn-chwaraewyr CPD Harlech. Cafwyd noson hwyliog gyda chriw pêl-droed yn herio’r tîm presennol - daeth sgiliau pêl-droed Def John i’r amlwg ar y teledu. Dyfarnwyd y gêm gan Hywel Evans. Mae buddsoddiad wedi bod eisoes ac uwchraddiwyd yr ystafelloedd ffitrwydd. Bydd ychwaneg o offer yn cyrraedd y ganolfan ym mis Rhagfyr gydag ystafell codi pwysau yn cael offer ychwanegol fel dwy o feinciau codi pwysau. Mae’r ganolfan ar agor o 4.00 - 8.00 o nos Lun i nos Iau ond ar nos Wener yr oriau agor yw 5.00 - 7.00. Gyda dros 60 eisoes wedi ymweld â’r ystafelloedd ffitrwydd a dros 200 wedi defnyddio’r cyfleusterau yn ystod mis Tachwedd mae angen amlwg i’r ganolfan yn ein cymuned. Ystadegyn diddorol yw mai merched yw 65% o ddefnyddwyr yr ystafell ffitrwydd cardio. Hefyd, o ran oedran mae sban amser rhan defnyddwyr yn mynd o 4 bl i 84 bl, gyda Bob Major sydd yn ymwelydd cyson ar ben y rhestr oedran. Bu Bob yn weithgar iawn am flynyddoedd lawer yn hyfforddi pêl-droedwyr yn yr ardal; mae diolch llawer o fechgyn ifanc yr ardal yn fawr iddo gan iddynt gael profiad gwerthfawr o chwarae pêl-droed yn gyson yn ystod eu harddegau.

Dipyn o wyrth a ddigwyddodd ym Maes y Garnedd ar brynhawn braf ddechrau Hydref. Roedd y fuwch ‘twins’ yn hwylio ati a Gwyndaf yn cadw llygad barcud arni. Roedd Wil wedi bygwth bod ‘na dri llo ynddi’ dan chwerthin. Byddai’r fuwch yn arfer dod â dau lo pob blwyddyn. Tynnwyd y lloi a chael un gwryw ac un benyw, cyn eu gadael i sugno’u mam yn y sied. Dychwelodd Gwyndaf i dendio ar y ddau lo ymhen awr gan fethu â chredu’r hyn a welai … y trydydd llo! Llo fanyw arall! Mae’r tri llo yn ffynnu.

CROCHENYDD LLEOL AR Y TELEDU

Llongyfarchiadau i Jane Williams, Dyffryn Ardudwy ar gyrraedd y pump olaf o blith y cystadleuwyr ar y rhaglen deledu ‘The Great Pottery Throw Down’. Yn ystod ei chyfnod ar y rhaglen, bu’n rhaid iddi arddangos nifer o wahanol sgiliau ac fe wnaeth hynny gyda chryn glod. Hyderwn y bydd hyn yn hwb mawr iddi yn ei gyrfa.

COLLI GERAINT AC AGNES Daeth ergyd drom i ardal Gors y Gedol o’r Dyffryn pan fu farw Geraint Wynne, Meifod, a Mrs Agnes Roberts, Fron Galed o fewn diwrnod i’w gilydd. Roedd Geraint yn gymeriad unigryw, hoffus, gwybodus, llawn bwrlwm ac yn fawr ei gyfraniad i sawl agwedd o fywyd y fro. Roedd Agnes yn wraig dawel, hoffus, hynaws a siriol ac roedd ei chyfraniad hithau i ddiwylliant y fro yn un gwiw iawn. Gobeithiwn gynnwys teyrngedau llawn i’r ddau ohonyn nhw yn rhifyn mis Ionawr. Cydymdeimlwn yn fawr â theuluoedd a ffrindiau’r ddau yn yr ardal a thu hwnt.


Llais Ardudwy

HOLI HWN A’R LLALL

GOLYGYDDION

Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen@barcdy.co.uk

Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk (07760 283024 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 ann.cath.lewis@gmail.com Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones Tyddyn Llidiart, Llanbedr (01341 241391 iolynjones@Intamail.com Casglwyr newyddion lleol Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Ann Lewis (01341 241297 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960 Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar ddydd Calan am 5.00. Bydd ar werth ar Ionawr 6. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Rhagfyr 27 fan bellaf os gwelwch yn dda. [Buasai’n dda eu cael cyn y Nadolig!] Cedwir yr hawl i docio erthyglau.

Enw: Alan Painter Gwaith: Wedi ymddeol. Wedi bod yn reolwr projectau gyda rheilffordd tanddaearol Llundain. Cefndir: Yn wreiddiol o dde ddwyrain Lloegr ond yn awr yn byw yn Nyffryn Ardudwy. Yn dysgu Cymraeg (yn gallu sgwrsio yn eithaf da erbyn hyn) ac yn mwynhau byw yng Nghymru. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Cerdded mynyddoedd a gweithio yn yr ardd. Nofio yn y môr os bydd tywydd cynnes. Yn anffodus, dim nofio yn ddiweddar. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Llyfrau hanes a bywgraffiadau, hefyd yn hoff iawn o lyfrau Bill Bryson. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Rwyf yn mwynhau rhaglenni

addo gormod. Beth ydych chi’n ei gasáu mewn pobl? Pobol anonest. Diolch nad ydw i wedi cyfarfod gormod ohonyn nhw. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Diwrnod braf yng Nghymru, dim yn rhy boeth. Fel arfer ym mis Medi ar ôl y prif dymor gwyliau. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Ailymweld ag Awstralia a mynd a mwy o’r teulu gyda mi. Eich hoff liw? Coch fel y ddraig. Eich hoff flodyn? Ffiwsia a chennin Pedr. Eich hoff fardd? Max Boyce. Roedd Theatr Harlech yn llawn pan oedd ef yno. Eich hoff gerddor? Mark Knopfer o Dire Straits. Mi welais i’r cyngerdd ardderchog ganddyn nhw yn Woburn Abbey yn 1992. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Hymns and Arias. Pa dalent hoffech chi ei chael? Canu (gyda Max). Eich hoff ddywediad? ‘Always look on the bright side of life.’ Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Yn ddiolchgar fod yr holi drosodd.

Mae dau fath o Syclamen, y rhai bach, sy’n tyfu yn y goedwig (llysiau’r ddidol) a’r rhai mwy (syclamen Persicum) sy’n cael eu codi yn aml ar gyfer y farchnad Nadolig. Mae angen golau arnyn nhw ond nid haul cryf. Cadwch nhw’n llaith heb fod yn rhy wlyb.

Cynghorion i gnoi cil • Cadwch lyfryn bach i nodi beth a ble sydd wedi cael eu plannu yn yr ardd neu’r tŷ gwydr. • Gwnewch yn siŵr bod yr offer iawn i gyd gennych cyn i chi fentro i waelod yr ardd. • Gwasgarwch hadau pabi mewn cornel ddi-liw. • Mae dail bysedd y cŵn yn denu tyfiant mewn planhigion gerllaw ac yn help i wrthsefyll clefydau. • Nid yw ci a lawnt perffaith yn mynd gyda’i gilydd. • Byddwch yn ddiolchgar am y glaw – mae cymaint o’i angen â’r haul (oni bai eich bod am gael barbeciw). • Peidiwch â phlannu coed yn rhy agos i’r tŷ, ac yn sicr os ydych am gadw’ch cymdogion yn hapus, anghofiwch am blannu coed Leylandii.

YN YR ARDD - MIS RHAGFYR

BLODAU’R NADOLIG Poinsettia

Dyma’r adeg pan fyddwn yn cael blodau lliwgar ar gyfer y tŷ, ac yn eu plith Poinsettia sydd erbyn hyn i’w cael â dail coch, pinc, gwyn neu wyrdd golau. Maen nhw’n blanhigion tymhorol sy’n anodd eu cadw ar ôl misoedd y gaeaf. Am eu bod yn dod o’r trofannau, mae gwres canolog yn eu sychu, hefyd mae’n gas ganddyn nhw ddrafft. Syclamen

Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

2

Ralio+, Heno, Cefn Gwlad, Lewis a ‘Have I Got News For You’. Ydych chi’n bwyta’n dda? Ydw. Hoff fwyd? Yn hoffi bob math o fwyd ond bwyd môr. Byddaf yn gofalu nad wyf yn bwyta gormod. Hoff ddiod? Cwrw o’r gasgen a wisgi Penderyn. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Buaswn yn hoffi yn fawr cael cwmni Shane Williams, Max Boyce a Katherine Jenkins. Byddai’r teulu yn cael dod hefyd wrth gwrs. Lle sydd orau gennych? Y llwybr sydd yn dilyn yr afon Ysgethin o’r dafarn at Bont Fadog. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Yn Awstralia yn ymweld â’m merch a’i theulu. Beth sy’n eich gwylltio? Pobol sydd yn gyrru’n gyflym drwy’r pentref. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Gallu dibynnu ar farn gonest. Pwy yw eich arwr? Shane Williams, buaswn wedi hoffi gallu rhedeg ac ystumio fel mae ef yn gwneud. Ef sy’n dal y record am geisiau i Gymru. Beth yw eich bai mwyaf? Yn methu dweud na ac felly yn

Amaryllis

Dyma flodyn sydd ag arogl hyfryd; mae’n lliwgar ac yn hawdd i’w dyfu. Mae’n dechrau tyfu pan fo’r compost yn gynnes ac yn llaith. Os ydych yn ofalus ohono, gall flodeuo am flynyddoedd.


Y BERMO A LLANABER Y Gymdeithas Gymraeg

Ddechrau mis Tachwedd, pleser o’r mwyaf oedd croesawu John Sam Jones atom, hogyn o’r Bermo wrth gwrs, ac wedi dychwelyd ar ôl gyrfa mewn Iechyd Cyhoeddus i gadw llety gwely a brecwast yn y Bermo. Mae John ar Gyngor y Bermo ers pedair blynedd ac roedd yn Faer y llynedd. Cawsom noson hynod o ddifyr ac addysgiadol ganddo yn sôn am ei deulu yn yr hen amser. Cafwyd lluniau o’r hen Bermo, yn enwedig yr ardal o gwmpas yr harbwr, a rhamant y llongau mawr yn mynd i fyny’r Fawddach am Benmaenpool. Gwych iawn. Diolchwyd iddo gan Les Vaughan ac yntau a Megan oedd wedi paratoi’r baned. Enillwyd y raffl gan Llewela. Atgoffwyd pawb yn y cyfarfod bod y cyfarfod nesaf ar Ragfyr yr 2il; roedd pawb yn edrych ymlaen am gwmpeini Parti Lliaws Cain o Drawsfynydd; y noson i’w chynnal yn Eglwys Christ Church. Diolch Dymuna Gareth a Dorothy Williams, Craig-yr-Wylan, Llanaber, ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd dda i bawb. Hoffwn hefyd ddiolch yn fawr iawn am yr holl gardiau a dymuniadau gorau dderbyniodd Dorothy tra yn yr ysbyty yn ddiweddar. Rhodd £20

Merched Y Wawr

Les Darbyshire Mae cyfrol hanesyddol newydd a gyhoeddwyd y mis hwn yn anelu at roi hanes cymunedau Cymru wrth galon cyd-destun gwrthdaro. Mae ‘Our Backyard War’ gan Les Darbyshire yn trin a thrafod yr effaith a gafodd yr Ail Ryfel Byd ar gymunedau gorllewin Meirionnydd, gan gyfleu yr awyrgylch gyffredinol yn ystod y cyfnod a’r modd y bu raid i bobl ymdopi gyda’r newidiadau a ddaeth yn sgîl y rhyfel. Mae’r gyfrol yn cynnwys casgliad o atgofion a straeon o Flaenau Ffestiniog, Trawsfynydd, Penrhyndeudraeth, Harlech, Llanbedr, Bermo, Tywyn ac Aberdyfi. Gwelwyd cymunedau clos yn cael eu rhwygo a theuluoedd yn cael eu gwahanu pan orfodwyd i bobl fynd i weithio mewn diwydiannau ymhell oddi cartref. Mae’r gyfrol yn cynnwys casgliadau o luniau personol gan yr awdur ei hun, ac yn rhoi cipolwg o’r newydd ar gyfnod cyfarwydd mewn hanes. Am y llyfr, meddai Dr David Craik, darlithydd Hanes a Gwleidyddiaeth gynt o Harlech, ‘Fel un sydd wedi astudio hanes gwrthdaro yn yr 20fed ganrif ar hyd fy ngyrfa, dyma un o’r cyfrolau mwyaf manwl i mi ei darllen erioed.’ Gwerthodd ei lyfr cyntaf, sef ‘Barmouth Sea Heroes’ (Rhagfyr, 2012) allan yn gyflym ac fe roddwyd £1,000 o’i werthiant i Gronfa Offer Nyrsys Bermo. Mae’r awdur ei hun wedi cyfrannu at ymdrech y rhyfel mewn amryw o ffyrdd megis gweithio ar adeiladu Meysydd Awyr yn Llanbedr a gweithio o dan ddaear yn chwarel llechi Manod yn adeiladu siambrau i gadw a gwarchod lluniau o’r Oriel Gelf Genedlaethol yn Llundain. Daeth yn rhan o dîm sy’n gweithio yn Morfa Conwy ar brosiect cyfrinachol o adeiladu Harbwr Mulberry yn barod ar gyfer yr ymosodiad ar Ffrainc ar D-Day. Ymunodd gyda’r Llynges Frenhinol hefyd. Marwolaeth Trist adrodd y bu farw Mrs Greta Jones, Bryn Peris, Y Bermo yn ddiweddar. Yn enedigol o Dalsarnau, bu’n athrawes yn Ysgol y Traeth hyd at ei hymddeoliad. Cynhelir yr angladd ar 11 Rhagfyr am 11.30 yb yn Eglwys Christchurch, Y Bermo. Anfonwn ein cofion at y teulu yn eu profedigaeth.

Ar ddiwrnod eithriadol o stormus daeth Mair Tomos Ifans, ei mab Elis a’i gyfaill Gweltaz - wŷr Llewela ein llywydd - atom i gynnal noson ac fe gawsom noson i’w chofio o ran yr adloniant ac o ran y tywydd! Cawsom ddetholiad o alawon Dafydd Roberts, Telynor Mawddwy ac un alaw yn arbennig o’r enw Nant y Nodyn sef fferm yn Ninas Mawddwy. Canodd Elis ‘Sosban Fach’ a ‘Chalon Lân’ yn ei lais swynol a ninnau’n ymuno yn y gytgan. Roedd Gweltaz wedi dod a’i chwisl tun ac roedd yn ei chwarae’n fedrus a chawsom gân swynol ganddo yntau hefyd sef ‘Bwthyn fy Nain’. Diolch yn fawr i’r bechgyn am ddod - roeddem i gyd yn gwerthfawrogi eu cyfraniad. Cawsom ganeuon llon a lleddf gan Mair ac adroddiad digrif iawn yn ei dull dihafal ei hun. Diolchodd Megan yn gynnes iawn iddynt i gyd am noson hwyliog a chartrefol. Mair a Megan oedd yn paratoi’r baned a Llewela enillodd y raffl. Llongyfarchwyd Gwyneth, Gwenda, Mair a Megan am gynrychioli’r gangen yn y Cwis Hwyl Cenedlaethol yn Llanelltyd. Gofynnwyd am wirfoddolwyr i ddarllen y Llais ac mae Jean a Gwenda am wneud ym mis Tachwedd a Llewela, Megan a Mair am wneud ym mis Rhagfyr. Cawsom adroddiad o bwyllgor Celf a Chrefft y Pwyllgor Rhanbarth gan Megan. Bydd ein cyfarfod nesaf yn Nineteen57, Tal-y-bont ar Ragfyr 8fed am 1.00, lle byddwn yn mwynhau ein cinio Nadolig.

Côr Bro Meirion yn ymweld â’r Amwythig Ar 14 Tachwedd 2015 aeth aelodau Côr Bro Meirion, dan arweinyddiaeth Iwan Parry, draw i’r Amwythig i gynnal noson yng Nghapel y Bedyddwyr, Crowmore Road. Daeth cynulleidfa luosog ynghyd ar gyfer y cyngerdd, gan gynnwys llawer o Gymry’r dref. Yn eu mysg roedd Mair Jones, gynt o’r Bermo, a bu’n sgwrsio ag amryw o Ardudwy, yn cynnwys John Sam o’r Bermo. Diolch i bawb am eich croeso a’ch cyfeillgarwch ar y noson y tro cyntaf i’r côr fentro dros y ffin i gynnal noson. Cyngerdd

Ddechrau Rhagfyr cafodd y Gymdeithas Gymraeg noson o ddiddanwch pur yn y cyngerdd a drefnwyd yn Eglwys Christ Church yng nghwmni parti Lliaws Cain o Drawsfynydd. Arweinydd y côr oedd Cellan Lewis o Ddolgellau, y gyfeilyddes oedd Heulwen Jones a chyflwynwyd yr eitemau mewn dull hwyliog gan Megan Williams. Diolch i bawb am gefnogi. Fan y Nat West Cofiwch fod fan deithiol banc y Nat West yn y Bermo bob dydd Llun rhwng 11:45 a 12:30 ym Maes Parcio’r Pafiliwn. Bydd Llinos, sydd â’i gwreiddiau yn Ardudwy, ac sy’n gyrru’r fan o le i le, yn falch o’ch cynorthwyo.

Profedgiaeth Cydymdeimlwn yn arw iawn â Mrs Jinny Jeffs, Arianfryn a Tony, Helen, Karen, Joanne a’r teulu oll yn dilyn marwolaeth Mr Ken Jeffs ac yntau yn 84 oed. Roedd wedi ei eni a’i fagu yn y Bermo ac yn ŵr poblogaidd. Gwnaeth lawer o ffrindiau yn sgîl ei fusnes cadw garej. Cofir amdano fel un gweithgar iawn gyda’r bad achud yn y Bermo.

3


LLANFAIR A LLANDANWG

Bu’n fis prysur i aelodau cangen Harlech a Llanfair o Ferched y Wawr. Yn gyntaf darllenwyd Llais Ardudwy ar gyfer y deillion, wedyn adroddwyd stori yn y llyfrgell i’r Mudiad Meithrin fel rhan o brosiect ar y cyd â Merched y Wawr. Bu criw arall o’r gangen yn gofalu bod blodau ffres ar y gofeb yn Harlech trwy gydol mis Hydref. Yna cawsom ddiwrnod i wneud cardiau Nadolig o dan arweiniad medrus Gwen Pettifor o Lanfair. Dangosodd nifer o ddulliau o wneud cardiau ac wedyn i ffwrdd â ni, pawb yn dylunio cardiau yn ôl eu dewis. Ar ddiwedd y sesiwn roedd 28 o gardiau amrywiol wedi eu gwneud i safon uchel iawn. Hwyrach y byddwch yn ddigon lwcus i dderbyn un ohonyn nhw eleni!

Merched y Wawr, Harlech a Llanfair Cychwynnwyd trwy ganu’r gân ac yna Hefina yn ein croesawu i’r cyfarfod. Tynnwyd ein sylw at y bws rhwng y Bermo ac Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Maelor ddwywaith yr wythnos. Rob Booth o’r Ymddiriedolaeth Natur oedd y gŵr gwadd ac fe aeth â ni i hen waith powdr Cooke’s. I ddechrau cawsom hanes y gwaith oedd yn cael ei wneud yno nes iddo gau yn 1995. Aeth ymlaen wedyn i sôn am y bywyd gwyllt sydd i’w weld yno ac yna’r gwaith y mae’r Ymddiriedolaeth Natur yn ei wneud i warchod yr ystlumod. Roedd yn ein hannog i ymweld â’r warchodfa er mwyn i ni werthfawrogi a deall bywyd gwyllt yn well. Diddorol yw nodi mai dyma’r tro gyntaf i Rob gynnal sgwrs yn y Gymraeg - ac roedd yn raenus. Sue dalodd y diolchiadau ar ran y gangen.

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR

Gwenda a Bronwen yn canolbwyntio ar y dasg o greu cerdyn.

Eirlys yn y cefndir yn trafod ei chynllun gyda Gwen, a Hefina, Sue a Cassie wedi ymgolli yn eu gwaith. Rhodd Diolch i Gwyneth Meredith am y rhodd o £5 Pen-blwydd arbennig Llongyfarchiadau i Mrs Ann Lewis, Min-y-môr, Llandanwg oedd yn dathlu pen-blwydd arbennig yn ddiweddar. Nid awn i fanylu! Cyhoeddiadau Caersalem am 2.15 o’r gloch RHAGFYR 13 Parchg Dewi Tudur Lewis

4

CYFARCHION NADOLIG Dymunaf anfon fy nymuniadau gorau am Nadolig Dedwydd i’m teulu a’m ffrindiau yn Llanfair, Harlech a’r cylch, a holl ddarllenwyr y Llais. Gan fy mod yn anabl, byddaf yn anfon rhodd tuag at elusen leol yn hytrach na chardiau Nadolig. Cofion cynnes at bawb. Mair M Williams, 12 Derlwyn, Llanfair.

Cyfarfod Pwyllgor y Neuadd Mae sefyllfa ariannol y pwyllgor yn iach iawn. Ategwyd diolchiadau’r pwyllgor i Mrs Meinir Lewis am drefnu gwasanaeth Sul y Cofio . Ceisiadau Cynllunio Cadw lle parcio a mynedfa i dir ger 1 a 2 Pen Lan - caniatáu. Caniatáu un ffenestr dormer a thair ffenestr do i’r to sy’n wynebu’r de, un ffenestr do i’r edrychiad gorllewinol, un ffenest lefel uchel i’r edrychiad dwyreiniol, ac un ffenestr lefel isel i’r edrychiad gogleddol - Sŵn y Môr - caniatáu Ceisiadau am gymorth ariannol Hamdden Harlech ac Ardudwy £500 Canolfan Hamdden Harlech £250 Adran Briffyrdd Caiff y cwteri ar waelod rhiw Cae Cethin a choed angen eu tocio o Argoed draw am Bensarn sylw o fewn y mis nesaf. Unrhyw Fater Arall Mae’r giât fach o’r cei i’r clawdd llanw wedi ei thrwsio. Mae gordyfiant sylweddol ar hyd ochr ffordd uchaf draw am Wern y Wylan, wrth groesffordd Pant yr Onnen a hefyd i fyny ar hyd ochr y ffordd draw am ystâd dai Derlwyn. Mae’r llwybr cyhoeddus o Gae Cethin draw am Argoed wedi ei drwsio.

Llwyddiant mewn cystadleuaeth addurno cacen

Llongyfarchiadau i Amy Jones, 26 oed, sydd ar hyn o bryd yn fyfyriwr yn ei phedwaredd flwyddyn yn astudio addurno cacenni yng Ngholeg Llandrillo. Mae Amy’n wyres i Barbara Chandler, Llanfair. Roedd Amy’n cystadlu mewn sioe o’r enw ‘Cake International’, sioe flynyddol crefft siwgr, addurno a phobi cacenni, a gynhaliwyd rhwng 6-8 Tachwedd yn NEC Birmingham. Roedd cacen Amy, y tro cyntaf erioed iddi gystadlu, yng nghategori ‘Cacen Ddathlu wedi ei Haddurno – Dosbarth Myfyriwr’ yn y gystadleuaeth yn yr NEC, Birmingham, ac fe’i gwobrwywyd â’r wobr efydd. Cacen las a gwyn wedi ei heisio oedd un Amy gyda gwaith peipio mân iawn, a chynllun ffrog briodas osgeiddig arni. Mae’r teulu yn hynod o falch o lwyddiant Amy yn ei chystadleuaeth gyntaf ac yn dymuno’n dda iddi yn y dyfodol wrth iddi gystadlu ac yn ei gyrfa, gan ei bod yn gobeithio sefydlu busnes fel addurnwr cacennau.

Cydymdeimlo Gyda thristwch y daeth y newyddion am farwolaeth Philis Evelyn Sykes yn 94 mlwydd oed, yn Ysbyty Gwynedd. Yn ddiweddar, roedd Mrs Sykes, gynt o fferm Penrallt, Llanfair, yn byw gyda’i merch Raye a’i mab-yng-nghyfraith Laurence yn 13 Llwyn-y-gadair, Llanfair. Cydymdeimlwn gyda’r ddau a’r teulu i gyd yn eu colled.


SYNIADAU AM BRYDAU

EFO’R CIG TWRCI FYDD DROS BEN

Stwnsh tatws a bresych

Pastai twrci

Cawl twrci

Tagliatelle

Torth gig

Brechdan gynnes

Reis wedi’i ffrio

Tro-ffrio [Stir fry]

Cyri

Quiche

Cawl ’sgewyll

Crempog datws

TRADDODIADAU NADOLIGAIDD MEWN GWLEDYDD TRAMOR 1. Serbia Traddodiad: Cwlwm ar Dad a Mam. Nid ar y Nadolig y rhoddir anrhegion ond ar y Suliau cyn Rhagfyr 25. Ar yr ail Sul cyn Rhagfyr 25, mae’r plant yn clymu eu mam. Rhaid iddi hithau wedyn dalu mewn anrhegion am gael ei rhyddhau. Ar y Sul canlynol, mae’r un peth yn digwydd gyda’r tad. 2. Yr Almaen Traddodiad: Ysbryd y diafol a Santa Fel rhan o’r dathliadau yn yr Almaen, Awstria a rhannau o’r Swistir, mae Sant Nikolaus yn teithio gyda chymeriad tebyg i ysbryd y diafol i rybuddio plant rhag bod yn ddrwg. Yn Ffrainc mae cymeriad tebyg o’r enw La Pere Fouettard. 3. Yr Eidal Traddodiad: Anrhegion ar sgubell Mae gwrach dda o’r enw La Befana yn rhannu anrhegion i blant ar Ionawr 6 gan ddefnyddio sgubell i deithio o gwmpas. Ond os ydych wedi bod yn ddrwg – clapiau o lo gewch chi.

4. Yr Iseldiroedd Traddodiad: Sinterklaas a Phedr Ddu Yn yr Iseldiroedd, enw Siôn Corn yw Sinterklaas. Dydi o ddim yn byw ym mhegwn y Gogledd ond yn Sbaen ac mae’n cyrraedd ar long stêm. Pedr Ddu sy’n ei helpu i rannu’r anrhegion. 5. Sgandinafia Traddodiad: Uwd ac nid bisgedi a moron Dros yr ardal mae cymeriad tebyg i gorrach - Tomte yn Sweden a Nisse yn Norwy - yn gwarchod y tai gwair a hefyd yn dod ag anrhegion. Mae’r plant yn gadael powlen o uwd iddo fo. 6. Sbaen Traddodiad: Boncyff Nadolig gwahanol Yng Nghatalwnia, ychwanegir y

cymeriad ‘caganer’ at Ŵyl y Geni. Ac mae’r cymeriad ar ei gwrcwd fel pe bai’n mynd i’r toiled. Weithiau mae’n fugail, ond fe alla fod yn bêl-droediwr neu’n wleidydd. 7. Awstralia Traddodiad: Rwdolff y Cangarŵ efo trwyn coch Yn yr haf mae eu Nadolig, wrth gwrs. Y traddodiad yw bod Siôn Corn yn cyfnewid y ceirw am gangarŵs. Mae hefyd yn draddodiad i fwynhau barbeciw ar y traeth ar ddydd Nadolig. 8. India Traddodiad: Addurno coed mango Nid yw coed pinwydd yn gyffredin yn y rhan yma o’r byd. Yn hytrach, yn aml caiff coed mango eu haddurno a chludir y dail i’r tŷ. 9. Yr Ynys Las [Greenland] Traddodiad: Bwyta aderyn wedi pydru Mae’r bobl galed yng nghylch yr Arctig yn bwyta ‘kiviak’, sef aderyn pydredig wedi’i lapio mewn croen morlo a’i gladdu dan garreg am rai misoedd. Maen nhw hefyd yn bwyta

‘mattak’, tafelli o gig morfil amrwd. 10. Wcrain Traddodiad: Gwe pryf cop ar goeden Mae’n debycach i Galan Gaeaf, ond maen nhw’n rhoi gwe pryf cop ar eu coeden Nadolig. Yn ôl yr hanes, unwaith ymwelodd pryf copyn hud â theulu tlawd a throi pob gwe yn eu cartref yn aur ac arian. 11. Bwlgaria Traddodiad: Taro efo ffyn Mae ‘koleduvane’ yn ymwneud â bechgyn yn canu carolau mewn tai cymdogion ac wedyn yn taro ei gilydd ar eu cefnau gyda ffyn. 12. Brasil Traddodiad: Anrhegion mewn esgidiau Mae pobl Brasil yn dathlu bod anifeiliaid yn gallu siarad ar noswyl Nadolig tra mae’r plantos yn cael eu hanrhegion gan Papa Noel - nid yn eu sanau ond yn eu hesgidiau. 13. Pwyl Traddodiad: Haearn o dan y bwrdd Mae’r prif bryd ar noswyl Nadolig pan roddir haearn o dan y bwrdd i sicrhau bod gan bawb goesau cryfion. Rhaid i goesau’r bwrdd fod yn gryf hefyd – yn draddodiadol mae 12 cwrs, dau yn bysgod - cerpynnod.

5


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Noson Garolau Cofiwch am noson garolau Pwyllgor ’81 yn y Neuadd Bentref, nos Fawrth, Rhagfyr 15 am 7.00 o’r gloch dan arweiniad Aled Morgan Jones. Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad at Mr a Mrs Gareth Jones, Cerist, a’r teulu, yn eu profedigaeth o golli modryb i Glenys. Festri Lawen, Horeb Nos Iau, 12 Tachwedd, daeth criw da i’r festri ar waethaf storm Abigail. Cyflwynwyd a chroesawyd ein siaradwr, John Sam Jones, o’r Bermo gan lywydd y noson, Rhiannon Roberts. Testun ei sgwrs oedd Teulu Mawddach o 1747, sef hanes teulu ei dad Mr Terry Jones, Manweb, fel roedd llawer ohonom yn ei adnabod, ac roedd yn hanes difyr a diddorol iawn. Datgelwyd sawl cyfrinach am y teulu. Yn ogystal dangosodd i ni drwy gyfrwng lluniau fel y datblygodd tref Y Bermo er 1747. Diolchodd Rhiannon iddo am noson arbennig iawn. Y gwragedd te oedd Enid, Aldwyth, Ann a Jane. Ar 10 Rhagfyr byddwn yn cael bwffe bys a bawd, wedi ei baratoi gan Ellie, Caffi’r Hen Grydd ac adloniant gyda naws y Nadolig yng nghwmni Nerys a Geraint Roberts ac Alwena Morgan.

Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn Neuadd yr Eglwys bnawn Mercher, 18 Tachwedd. Croesawyd pawb gan Gwennie. Diolchodd i Anona ac Eifiona am roi’r te er cof am eu mam, Mrs Emily Jones. Cydymdeimlodd â Mrs Glenys Jones yn ei phrofedigaeth o golli ei modryb. Anfonodd ein cofion at Mrs Beti Parry sydd wedi cael llawdriniaeth ar ei llygaid a’i llongyfarch ar ddathlu ei phen-blwydd yn 93 ar y cyntaf o’r mis. Yna croesawodd Linda Ingram o Landecwyn atom. Mae Linda a’i merch Hannah wedi cychwyn menter gwneud sebon a chanhwyllau. Dangosodd i ni sut yr oedd gwneud y sebon a’r cynhwysion oedd yn cael eu hychwanegu ato. Roedd wedi dod a llawer o’i gwaith gyda hi a chafwyd cyfle i brynu anrhegion at y Nadolig. Diolchwyd i Linda am bnawn diddorol gan Laura. Ar 16 Rhagfyr byddwn yn cael ein cinio Nadolig wedi ei baratoi gan Ellie, Caffi’r Hen Grydd, yn Neuadd yr Eglwys. Yno erbyn 12.30 a bwyta am 1.00. Cydymdeimlad Trist oedd clywed am farwolaeth Mrs Nancy Ritchie, Ynys Wen, Ysbyty Ifan, gynt o Frongaled, Dyffryn. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at ei gwr Jim a’r teulu oll yn eu profedigaeth.

Llongyfarchiadau Anfonwn ein llongyfarchiadau a’n dymuniadau gorau i Dafydd Siôn a Ginnie ar enedigaeth eu merch fach, Alice Susan. Mae taid a nain, Dei ac Alma Griffiths, wedi gwirioni hefo’u hwyres fach.

Rhoddion i’r Llais Diolch am y rhoddion - £10 gan Wendy Griffith a £10 gan Megan Ll Williams. Diolch hefyd i Dei Charles o Lanfairpwllgwyngyll [Llwyngriffri, Tal-y-bont gynt] ac i Elenor, Dolafon am eu rhoddion i goffrau’r Llais.

Clwb Cinio Ar 10 Tachwedd daeth criw da i Aberdeunant rhwng Tremadog a Beddgelert am ginio. Nid oedd pawb yn gwybod am y lle ond mae’n westy bendigedig a’r bwyd o safon uchel iawn. Ni fyddwn yn cyfarfod ym mis Rhagfyr, ond yn cyfarfod yn y Sgwâr yn Nhremadog ar 19 Ionawr.

Cofion Anfonwn ein cofion at Mrs Jane Jones, Berwyn, sydd yn Ysbyty Gwynedd ac at Mrs Margaret Bowater yn Ysbyty Dolgellau, a hefyd at Mrs Agnes Roberts, Frongaled, sydd mewn cartref yn y Felinheli.

Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau mawr i Tomos ‘Twm’, mab Dei ac Alma Griffith, a’i ffrind, Emlyn, ar ennill y £1,000 ar y rhaglen Rhestr ar S4C. Deallwn dy fod wedi mwynhau dy wyliau’n fawr, Tomos!

Cydymdeimlad Bu farw Mr Peter Whittaker, Glenville, Talybont. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at ei wraig Glenys a’r plant yn eu profedigaeth. Bu Mr Whittaker yn gweithio gyda’r gwasanaeth ambiwlans am flynyddoedd.

Gwasanaethau’r Sul, Horeb

RHAGFYR

13 Dewi Jones 20 Gwasanaeth Nadolig 25 Naw llith a charol [am 9.00 o’r gloch] 27 Parch Iwan Ll Jones

IONAWR 2016 3 Parch Dewi Morris, 5.30

CYFARCHION NADOLIGAIDD

Dymuna Gwenda a Glyn Davies, Bod Iwan, 21 Lôn y Wennol, Llanfairpwll, Ynys Môn anfon eu cyfarchion Nadolig a dymuno Blwyddyn Newydd dda i’w holl gyfeillion yn ardal Ardudwy

Dymuna Gareth a Dorothy Williams, Craig-yr-Wylan, Llanaber, Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb. 6

NADOLIG LLAWEN A BLWYDDYN NEWYDD DDA I’N LLU FFRINDIAU John a Gwyneth Richards, Hafan Deg, Bryn Eithin, Llandecwyn.

Yn hytrach nag anfon cardiau, byddwn yn cyfrannu at elusen o’n dewis.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n holl ddarllenwyr.

Hoffai David Jones, Siop Gigydd y Bermo, ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’w holl gwsmeriaid.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n holl gwsmeriaid. TYMHORAU A RHESYMAU Stryd Fawr, Harlech.

Nid wyf am ddanfon cardiau eleni ond, drwy gyfrwng Y Llais, hoffwn ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i fy nheulu, ffrindiau a chymdogion. Diolch am yr ymweliadau a’r galwadau ffôn cyson. Elenor, Dolafon

Cyfarchion yr Ŵyl a phob dymuniad da ar gyfer 2016 Dei ac Alma, Bryn Coch, Dyffryn Ardudwy.


RHAGOR O DYFFRYN A THAL-Y-BONT Teyrnged i Mrs Glenys Richards Ganwyd Glenys yn Nhywyn ar 24 Mawrth 1927 yn llysferch i’r diweddar Llewelyn a Dorothy Evans, Argoed, Llwyngwril. Mynychodd Ysgol y Cyngor, Llwyngwril, ac yna ymlaen i Ysgol Ramadeg Tywyn lle cafodd addysg dda iawn. Ar ôl gadael yr ysgol aeth i hyfforddi fel nyrs SEN yn Ysbyty Walton, Lerpwl. Ar ôl bod yno am rai blynyddoedd cafodd afiechyd ar y croen wrth drin claf o wlad dramor a bu rhaid gadael yr ysbyty a mynd adref i Lwyngwril i wella. Ar ôl gwella aeth i weithio i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, ac yna ymlaen i Blas Amherst, Harlech, cartref nyrsio o dan ofal y diweddar Dr Morris. Nyrsio milwyr clwyfedig ar ôl yr Ail Ryfel Byd, rhaid wedi eu hanafu’n gorfforol ac eraill yn feddyliol, felly nid gwaith hawdd oedd hwn. Roedd Glenys yn barod iawn i helpu ei chydweithwyr ar y shifft nos. Aeth wedyn ymlaen i Gricieth i fod yn nyrs breifat i Dr Roberts. Tra yn Harlech bu i Glenys gyfarfod â’i phriod Ifan Cwm yr Afon neu Ifan JCB fel mae rhai yn ei adnabod. Priodwyd Glenys ac Ifan yn Eglwys Llangelynnin, Llwyngwril ar 20 Tachwedd 1954. Ganwyd eu mab John Llewelyn ym 1956 a merch fach, Irene Janet, ym 1958. Roeddynt yn byw ym Minffordd, Horeb erbyn hyn a mawr fu gofal y ddau am eu plant. Ar ôl i John briodi â Gwyneth, yr wyrion a’r wyresau oedd yn mynd â’u bryd, sef Gwenith, Siôn a’r efeilliaid Carwyn a Catrin. Wedyn, daeth plant Richard a Gwenith, sef Euros, Lois a Mari. Y llynedd bu i Glenys ac Ifan ddathlu 60 mlynedd o fywyd priodasol hapus iawn. Yn anffodus ni fu’r blynyddoedd diwethaf yn hawdd iawn iddynt gan i Glenys fod i mewn ac allan o’r ysbyty droeon. Roedd Glenys yn benderfynol iawn ac nid oedd am ildio i ddim. Ei hoff ddiwrnod oedd cael mynd yn y car gydag Irene i Bwllheli, Port a Bermo a’r ddwy’n treulio oriau yng nghwmni pobl yr oeddynt wedi dod i’w hadnabod mewn gwahanol gaffis. Cafodd Glenys ofal arbennig dros y blynyddoedd gan Ifan, hefyd John, Irene, Gwenith a Catrin yn y misoedd olaf. Hoffai’r teulu ddiolch o waelod calon i bawb a fu mor garedig tuag atynt yn eu profedigaeth. Colled fawr i ni i gyd ond atgofion melys iawn am Glenys. Diolch a rhodd £10

SGANIO DEFAID

Am wasanaeth dibynadwy ac effeithiol ffoniwch Iestyn Dafydd ar 07990 631313

BWS I’R YSBYTY

Mae gwasanaeth bws wedi ei drefnu gan Cil De Gwynedd o’r ardal hon i Ysbyty Gwynedd ar ddyddiau Marth a Iau ac Ysbyty Wrecsam ar ddydd Mercher. Mae’n costio £1 bob ffordd ac mae’n caniatau ymweld am awr. Gallwch archebu eich sedd trwy ffonio 01766 514249 neu anfonwch e-bost at transport@ cildegwynedd.co.uk

CLWB 200

CÔR MEIBION ARDUDWY Mis Tachwedd 1. £30 Nia Dukes 2. £15 Beti Wyn Jones 3. £7.50 Ken Roberts 4. £7.50 Donna Williams 5. £7.50 Meirion Richards 6. £7.50 Goronwy Davies Mis Rhagfyr 1. £30 Pauline Williams 2. £15 Iwan Morgan 3. £7.50 Manon E Thomas 4. £7.50 John Lindsay 5. £7.50 Eileen Greenwood 6. £7.50 Huw Dafydd

PEN-BLWYDD

Mae’r eneth fach yma’n dathlu ei phen-blwydd yn 50 ar Ragfyr 4ydd. Pen-blwydd hapus, Babs.

Cynlluniau ar gyfer Dyfodol Coleg Harlech Mae Coleg Harlech wedi comisiynu astudiaeth er mwyn ystyried y dyfodol. Mae’r astudiaeth yn ceisio cynnwys trigolion a chymunedau dysgu yn Harlech a’r ardaloedd o gwmpas er mwyn sicrhau ystod eang o syniadau, gan gynnwys y posibilrwydd o ddarparu addysg breswyl i oedolion unwaith eto. Mae’r grŵp astudiaeth am sicrhau bod adnoddau’r Coleg o fudd i’r gymuned gan gynnwys y llyfrgell, y theatr, cwrtiau sboncen, gofod arddangosfa gelf a dosbarthiadau yn y gymuned. Rhoddir ystyriaeth hefyd i ddatblygiad entrepreneuraidd a chreu swyddi sy’n gysylltiedig â thwristiaeth. Yn ogystal, mae’n bosib elwa ar hanes yr adeiladau a datblygu llwybr treftadaeth sy’n gysylltiedig â Chastell Harlech, gan ddarparu arddangosfa barhaol yn y Wern Fawr. Gwahoddir chi i ddod i ymgynghoriad agored sydd i’w gynnal yng Ngholeg Harlech ar 14 Rhagfyr 2015 rhwng1.00 ac 8.00 o’r gloch. Cyflwynir yr astudiaeth i Grŵp Llywio Coleg Harlech yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Sefydlwyd y Grŵp Llywio hwn ym mis Mawrth 2015 i drafod opsiynau ar gyfer cynaliadwyedd safle Coleg Harlech. Unwaith y bydd opsiwn dewisol wedi ei nodi, bydd cynllun busnes llawn yn cael ei ddatblygu i sicrhau dyfodol hirdymor cynaliadwy ar gyfer y safle.

CEIR MITSUBISHI

Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk 7


HARLECH Sioe Calan Gaeaf

Eleni roedd y sioe yn dathlu pen-blwydd arbennig - sef 60 mlynedd o gynnal sioeau yn Harlech. Unwaith eto, roedd canmoliaeth uchel gan y beirniaid i’r cystadleuwyr ym mhob adran - blodau, llysiau, gwaith llaw, gwin, ffotograffiaeth a choginio ac roedd hi’n braf gweld cymaint o bobl yn dod i gefnogi’r sioe yn y Neuadd Goffa. Wrth groesawu pawb i’r sioe dywedodd y Cadeirydd, Edwin Jones, bod angen diolch i nifer o bobl am eu cymorth gan gynnwys aelodau’r pwyllgor, David Lampert a Tony Yemm am baratoi’r neuadd, y gwirfoddolwyr ar y dydd, Robin Edwards am drefnu’r cwpanau, Dinah Pickard a’r beirniaid ac yn arbennig i Anne Edwards sydd yn gadael y pwyllgor ar ôl dros 20 mlynedd o wasanaeth fel ysgrifennydd. Bydd Lucinda Yemm yn gwneud y swydd hon o hyn ymlaen. Mae’n rhaid nodi ein tristwch wrth golli dau gyfaill annwyl i’r sioe sef Phil Williams a Haf Williams. Roedd Phil yn amlwg iawn yn yr adran flodau am flynyddoedd lawer, ac roedd Haf yn gystadleuydd brwd yn yr adran gwaith llaw ac yn enwog am ei Sloe Gin! Diolch o galon unwaith eto i bawb sydd wedi cefnogi’r sioe mewn unrhyw ffordd. Canlyniadau:

CWPAN CADMAN Adran llysiau sioe’r haf a’r hydref R O Edwards CWPAN GLASLYN Dosbarth tatws sioe’r haf a’r hydref R O Edwards TARIAN GOFFA R G WILLIAMS Dosbarth nionod sioe’r haf a’r hydref - MRS T M Lampert CWPAN LANGLEY Dosbarth betys sioe’r haf a’r hydref R O Edwards CWPAN ARDDIO HARLECH Adran llysiau yn sioe’r hydref R O Edwards CWPAN MOCHRAS Adran planhigion pot a blodau yn sioe’r haf a’r hydref - E M Jones CWPAN GOFFA’R SEFYDLWYR Adran planhigion pot yn sioe’r haf a’r hydref - E M Jones CWPAN PROCTOR Adran blodau Mihangel E M Jones CWPAN CYMDEITHAS

8

Dangosiad gorau blodau Mihangel E M Jones CWPAN GOFFA T M JONES E M Jones CWPAN HAULFRYN E M Jones CWPAN BLODAU MIHANGEL E M Jones TARIAN RALPH HIGHLEY R Anelay FFIOL CROESO ’69 Adran celfyddyd blodau - Mrs P Elford CWPAN GOFFA A W THOMAS Arddangosiad gorau yn adran celfyddyd blodau - Mrs P Elford GWOBR MARCHOGION ARDUDWY Adran celfyddyd blodau sioe’r haf a’r hydref – Mrs P Elford TARIAN Y GOGLEDD Adran goginio yn sioe’r haf a’r hydref - Gwynne Jones a Dinah Pickard GWOBR 1953 Adran goginio yn sioe’r hydref – Rhian Roberts GWOBR EMYR WILLIAMS a GWOBR CASTLE COTTAGE Adran win yn sioe’r haf a’r hydref - R T Kirkman Arddangosiad gorau yn yr adran win - Gwynne Jones Arddangosiad gorau yn yr adran ffotograffeg - Eurwyn Owen

Yn yr ysbyty Anfonwn ein cofion at Arawn Jones, Cerrig Gwaenydd sydd wedi bod yn glaf yn Ysbyty Gwynedd am gryn amser. Dealllwn ei fod yn gwella erbyn hyn. Diolch Dymuna Eirlys, Julie a Darren ddiolch yn ddiffuant am y cardiau, y galwadau ffôn a’r holl ymweliadau a’r holl gymorth a gafwyd ar ôl eu profedigaeth o golli Deio. Casglwyd £1034 er cof amdano a chyflwynir yr arian i Ymatebwyr Cyntaf Harlech a Chronfa Ymchwil y Galon.

GWASANAETH NADOLIG UNDEBOL Eglwys St Tanwg

Dydd Sul, Rhagfyr 13 am 6.00 yng nghwmni

Côr Meibion Ardudwy a Band Harlech

PRIODAS

Llongyfarchiadau i Richard Parker, mab Barry a Bethann Parker, Cefnfilltir, Harlech ac Indrè Pataluskaite ar eu priodas ym mis Medi yn Lithuania. Rhodd o £20 i’r Llais, gan deulu Cefnfilltir.

Ysgol Ardudwy, Harlech Hoffem ddod â phobl a busnesau Harlech ynghyd at ei gilydd er mwyn dod â Harlech yn ôl i’r ysblander a fu. Hoffem wybod beth yw eich rhestr ddymuniadau ar gyfer tref Harlech. Bydd lle i chi roi eich syniadau mewn amryw o lefydd yn Harlech rhwng Rhagfyr 7 ac 13, gan gynnwys Caffi’r Pwll Nofio, Y Llew Glas, Caffi Llandanwg a’r Hen Lyfrgell.

Nos Fercher, 9 Rhagfyr 2015 am 6.30 Cyngerdd gyda

SEINDORF ARIAN HARLECH YSGOL TANYCASTELL AELWYD ARDUDWY DIZZEE DANCERS CÔR MEIBION ARDUDWY Lluniaeth ysgafn Croeso cynnes i bawb Mynediad am ddim Bydd Sion Côrn yn galw heibio

GWEITHREDU sy’n bwysig. Cefnogir gan Ian Woosnam, y golffiwr enwog.

Trefnir gan Gyngor Cymuned Harlech


RHAGOR O HARLECH

Clwb Beicio’r Ganolfan Hamdden

Genedigaeth Llongyfarchiadau mawr i Siobhan Caligy a Tim Meadows ar enedigaeth eu merch fach Nancy Sue ar yr 28ain o Hydref yn 7 pwys a 9 owns. Llongyfarchiadau hefyd i Nain, sef Hilary White, 3 Y Waun, Harlech.

Sefydliad y Merched Harlech Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod a’r Cyfarfod Blynyddol gan y Llywydd Christine Hemsley ar nos Fercher, 11 Tachwedd, a gynhaliwyd yn Neuadd Goffa Harlech. Croesawyd hefyd Gadeirydd y Ffederasiwn Mrs Meinir Lloyd Jones. Canwyd y gân Meirion gyda Myfanwy Jones yn cyfeilio. Dymuniadau gorau i’r aelodau oedd yn sâl ac yn methu bod gyda ni, a dymunwyd penblwydd hapus i aelodau oedd yn dathlu pen-blwyddi’r mis yma. Llongyfarchwyd aelodau oedd Rhodd Diolch am y rhodd o £6.50 oddi wedi cystadlu yn Sioe Hydref Harlech ar 31 Hydref. wrth Mrs M Cope. Darllenwyd y Llythyr o’r Sir a chofnodwyd dyddiadau o bwys Teulu’r Castell yn arbennig y Ffair Nadolig yn Croesawyd yr aelodau i’r y Bala, a’r prynhawn carolau yn cyfarfod a gynhaliwyd yn y Nolgellau ar 4 Rhagfyr. Neuadd Goffa Harlech ar 10 Ar ôl y cyfarfod yma, aethom i’r Tachwedd gan Edwina Evans. Cyfarfod Blynyddol. Croesawyd hefyd Gwenda Cafwyd adroddiad gan aelodau’r Griffith oedd wedi dod i ddangos Pwyllgor ar eu gwaith trwy’r trefnu blodau. flwyddyn ddiwethaf. Dymuniadau gorau i Olwen Diolchodd y Llywydd i’r aelodau Jones oedd yn Ysbyty Gwynedd am eu gwaith trwy’r flwyddyn ac a hefyd i Menna Jones oedd yn am y cymorth a roddwyd iddi. mynd i’r ysbyty am driniaeth, a Ail-etholwyd Christine Hemsley dymuniadau gorau i Eileen Lloyd yn Llywydd; Pat Turton yn oedd wedi bod yn yr ysbyty. Ysgrifennydd; Sheila Maxwell Mae’r cinio Nadolig yn y Ship, yn Drysorydd; Jan Cole yn Talsarnau ar 9 Rhagfyr. Is-lywydd, ac ail-etholwyd y Diolch i Ysgol Ardudwy Pwyllgor. Roedd Annette Evans am wneud y rhaglenni eto’r wedi ymddiswyddo, a diolchwyd flwyddyn yma. iddi am ei gwaith trwy’r Diolch i bawb oedd wedi flwyddyn. gwneud eitemau i’r bwrdd Cafwyd sgwrs gan Meinir Lloyd gwerthu a dod â gwobrau raffl. Jones a rhoddodd hithau ddiolch Yna cawsom sgwrs a dangos sut i bawb am eu gwaith trwy’r i drefnu blodau gan Gwenda flwyddyn. Griffith, a chawsom weld a Roedd llawer o’r aelodau wedi chael hanes cardiau Nadolig a dod â’u gwaith crefft o bob math phen-blwydd gwych iawn y mae i’r arddangosfa waith. Roedd Gwenda yn eu gwneud. pawb wedi bod yn brysur iawn Prynhawn pleserus iawn, a trwy’r flwyddyn yn gwneud y diolchwyd iddi gan Bronwen gwaith yma. Williams. Cynhelir y cyfarfod Nadolig ym Mwynhawyd y te wedi ei baratoi mwyty newydd y Castell. gan y Pwyllgor. Ceir gwybodaeth am Ganolfan Hamdden ar Weplyfr/Facebook o dan Hamdden Harlech. Mae’r rhaglen weithgareddau ar gael ar y safle electronaidd neu gallwch ymweld â’r ganolfan a chael taflen weithgareddau. Hefyd, bydd cerdyn misol i’w ddefnyddio yn yr ystafell ffitrwydd ar gael am £25. Gallwch arbed arian a chael defnydd di-baid, - anrheg Nadolig delfrydol i unigolyn sy’n awyddus i wella eu ffitrwydd a’u hyder mewnol yn y flwyddyn newydd.

Cyngerdd Nadolig

SEINDORF ARIAN HARLECH Nos Lun, Rhagfyr 21 am 6:30 Ystafell y Band, Harlech

Brysiwch wella Mae Emyr Rees a Rhiannon Owen yn Ysbyty Gobowen, a Cyril Williams, Edwyn Lewis a Mrs Peggy Lloyd yn Ysbyty Gwynedd. Brysiwch wella i gyd. Dan anhwylder Anfonwn ein cofion hefyd at Mrs Olwen Jones, Rock Terrace, Ms Menna Jones, Bron y Graig a Ms Blodwen Owen, Pen-ybryn sydd i gyd wedi bod dan anhwylder yn ddiweddar.

Grantiau’r Ŵyl Gwrw Manylion am sut i

wneud cais am grant Os hoffai mudiadau lleol wneud cais am grant gan yr Ŵyl Gwrw, cysylltwch â Robin Ward, ysgrifennydd yr Ŵyl, trwy e-bostio@ llanbedrbeerfestival@gmail.com am ffurflen gais.

CYNGOR CYMUNED HARLECH Croesawyd Mrs Sue Travis i’r cyfarfod gan y Cadeirydd i ddatgan ei phryder ynglŷn â’r cais cynllunio yn ymwneud efo datblygiad Pant Mawr. Hefyd gofynnodd i’r Cyngor gyfleu ei diolchiadau i Mr Eifion Roberts am gwblhau gwaith mor daclus o dorri gwair o amgylch y dref, hefyd cadw’r llwybrau cyhoeddus yn agored. MATERION YN CODI Rhandiroedd Mae rhai rhandiroedd ar gael rŵan gan fod rhai tenantiaid wedi tynnu’n ôl a ddim eisiau llogi un eleni. Nid yw’r gwaith o gau’r twll yn yr Hen Ladddŷ wedi ei gwblhau. Hysbysfyrddau Datganwyd pryder ynglŷn â chyflwr y ddau uchod a chytunwyd bod angen archebu rhai newydd. Nadolig 2015 Mae Ms Caroline Evans, Plas Gwynfryn wedi rhoi coeden Nadolig am ddim i’w gosod yn sgwâr y Castell ac mae Huw Jones am archebu’r goleuadau a threfnu i’w gosod. CEISIADAU CYNLLUNIO Estyniad i’r parc preswyl ynghyd â newid defnydd o dir amaethyddol â gosod unedau gwyliau - Safle Preswyl Pant Mawr. Gwrthwynebiad i’r cais hwn oherwydd ei fod yn mynd yn erbyn holl bolisïau’r Parc Cenedlaethol; hefyd, pryder gan yr aelodau ynglŷn â mwy o drafnidiaeth ar ffordd gul a dim angen lleol am fwy o dai o’r math hwn. Ailwampio a gosod cladin allanol - 57 Y Waun Cefnogi’r cais hwn. Ceisiadau am gymorth ariannol Cylch Meithrin Harlech - £300 GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd - Adran Briffyrdd Bydd y gost o lenwi bin halen yn ystod y gaeaf yn £156 a bydd y gost o ddarparu bin halen newydd wedi ei osod a’i gyflenwi â halen oddeutu £281, felly mi fydd yn rhaid i’r Cyngor Cymuned gynnwys y gost yma yn eu cyfrifon. Banc HSBC Maent yn chwilio am le addas ar gyfer y peiriant arian mewn lleoliad arall yn y dref. Trefi Taclus Mae’r prosiect ‘Blitz’ Trefi Taclus yn targedu ardal i drwsio, adnewyddu ac uwchraddio elfennau yn y gymuned sydd angen sylw. Maent yn dod i Harlech yn fuan i gerdded o gwmpas y dref i weld beth sydd angen ei wneud. Bydd Judith Strevens, Thomas Mort fynd a’r Cadeirydd yn ymuno â nhw.

9


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Gwella Anfonwn ein cofion cynnes at Eifion Williams, 5, Cilfor, Llandecwyn, sydd wedi bod yn Ysbyty Broad Green, Lerpwl, yn cael llawdriniaeth yn ddiweddar. Mae’n dda deall fod Eifion adref erbyn hyn a dymunwn wellhad llwyr a buan iddo. Pawb ohonom yn meddwl amdanat Eifion (ac am Gwen hefyd). Diolch Hoffai Carol Stevens, Awelon, Llandecwyn a’i thad, Derwyn Evans, Penrhyndeudraeth, ddiolch o galon i deulu, cymdogion a ffrindiau am y rhoddion, cardiau, galwadau ffôn a’r cyfarchion caredig a dderbyniodd y ddau ar ôl cael llawdriniaeth yn ddiweddar. Gwerthfawrogir hyn yn fawr. Diolch £5 Plygain y Lasynys Fawr Cynhelir Plygain Cyfeillion Ellis Wynne, y Lasynys, yn Eglwys Llanfair ar nos Fercher, 20 Ionawr, 2016, am 7.00 o’r gloch. Mae croeso i unrhyw un ymuno â grŵp y Lasynys a fydd yn cymryd rhan ar y noson. Os oes gennych chi ddiddordeb, dewch draw i’r ymarfer cyntaf yn y Lasynys am 3.00 o’r gloch y prynhawn ar 13 Rhagfyr 2015, lle bydd Mair Tomos Ifans yn ein cynorthwyo. Croeso i bawb!

Llun Yn dilyn cyhoeddi llun o fyfyrwyr Coleg Calder, Lerpwl, yn ddiweddar, derbyniwyd yr ymateb hwn isod: Annwyl Olygydd Diolch am gynnwys yn eich papur bro’r llun o griw Cymraeg yng Ngholeg F L Calder, Lerpwl, tua 1950. Yr oedd un ohonom yn dod o Dalsarnau, a chollais gysylltiad â hi. O ganlyniad i’ch cydweithrediad caredig, daeth galwad ffôn yn ddiweddar yn rhannu’r wybodaeth a geisiais. Rhyfeddod pellach oedd y ffaith bod yr unigolyn yn galw o Bort Talbot, prawf bod grym a rhinwedd eich papur yn ymestyn ymhellach yn ddaearyddol a phersonol nag unrhyw ddychymyg! Daliwch ati, a phob llwyddiant i’r dyfodol. Yn ddiffuant, Meirionwen Evans Diolch Dymuna Frances Griffith, Bryn Môr, Soar, ddiolch yn fawr iawn am yr holl gardiau, blodau, anrhegion a galwadau ffôn a dderbyniodd ar ddathlu penblwydd arbennig yn ddiweddar; ac i Einir a Gareth am y te penblwydd. Diolch i chi i gyd. Diolch a rhodd £10

Priodas Owain Tudur Lewis a Caryl Hughes ar ddiwrnod eu priodas, Hydref 17. Cynhaliwyd gwasanaeth yn y Capel Newydd, Talsarnau a gwledd a pharti yn Aberdunant. Cafodd pawb, yn deulu a ffrindiau, ddiwrnod i’w gofio. Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i’r ddau yn eu cartref newydd yn Y Faenol, Penrhyndeudraeth.

10

CYNGOR CYMUNED

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Mr Iolo Owen, fel rheolwr Canolfan Hamdden Harlech, i’r cyfarfod i drafod y gwaith y ganolfan. Cytunwyd i gyfrannu £1,000 tuag at brynu offer ar gyfer y ganolfan. Llongyfarchwyd Richard ac Eleri Morgan ar eu priodas a dymunodd bob hapusrwydd i’r ddau. Cydymdeimlwyd â John Richards a’r teulu yn eu profedigaeth ddiweddar. MATERION YN CODI Hysbysfwrdd yr Ynys Mae cynlluniau ar y gweill i gael hysbysfwrdd. CEISIADAU CYNLLUNIO Codi garej/storfa ar wahân - Craig y Nos, Llandecwyn. Cefnogi’r cais hwn. GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd - Adran Briffyrdd Bydd y gost o lenwi bin halen yn ystod y gaeaf yn £156.00 a bydd y gost o ddarparu bin halen newydd wedi ei osod a’i gyflenwi â halen oddeutu £281.00, felly bydd yn rhaid i’r Cyngor Cymuned ysgwyddo’r gost. Mae angen biniau halen newydd ger Bronwylfa a Threm Eifion gan fod y ddau yma wedi malu. Dŵr Cymru Wedi cael ateb gan yr uchod ynglŷn ag argae yn gollwng ger Llyn Tecwyn Uchaf yn gofyn a fyddai rhai o’r aelodau’n barod i gyfarfod rhywbryd ynglŷn â’r dŵr maent wedi ei weld yn gollwng o’r llyn. Cytunodd John Richards gyfarfod â Mr Karl Ashworth ar y safle. UNRHYW FATER ARALL Angen datgan wrth rai, pan maent yn gwneud ymholiadau am gael gosod plac er cof yn y mynwentydd, nad ydynt yn cael gosod potiau blodau o dan y plac hefyd.

Cydymdeimlad Estynnwn ein cydymdeimlad i John Richards a’r teulu, Hafan Deg, Bryn Eithin yn eu profedigaeth o golli mam John yn ddiweddar. Anfonwn ein cofion atoch fel teulu. Cyngerdd Nadolig Cofiwch am gyngerdd Nadolig Ysgol Talsarnau ar bnawn a nos Iau, Rhagfyr 17.

Diolch Dymuna John Richards a’r teulu oll ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth ddiweddar. Diolch hefyd i’r Canon Beth Bailey a’r Parch Dewi Tudur Lewis am eu rhan yn y gwasanaeth yn dathlu bywyd gwraig, mam, nain a hen nain annwyl. Rhodd a diolch £10

Priodas Llongyfarchiadau cynnes iawn i Eleri a Richard Morgan, Tŷ Cerrig ar eu priodas ddiweddar. Y mae eich cyfeillion i gyd yn cydlawenhau o glywed y newydd da. Pob lwc i’r dyfodol.


Rhai o aelodau Merched y Wawr Talsarnau yn mwynhau noson greadigol gyda chymorth Gwenda. Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod nos Lun, 2 Tachwedd gan Siriol Lewis, y Llywydd, a dechreuwyd drwy gyd-ganu cân y mudiad. Derbyniwyd yr ymddiheuriadau a darllenwyd cofnod o gyfarfod mis Hydref, cyn mynd ati i ymdrin â rhai materion. Derbyniwyd gwybodaeth am y Gwasanaeth Llith a Charol yng Nghapel Bowydd Blaenau Ffestiniog pnawn Sul, 6 Rhagfyr a bydd y Llywydd yn cynrychioli’r gangen drwy gyflwyno darlleniad pwrpasol. Trefnir i nifer ohonom fynychu’r gwasanaeth. Penderfynwyd ar leoliad ein cinio Nadolig a gynhelir eleni ym Mhlas Aberdunant, Prenteg, amser cinio dydd Iau, 10 Rhagfyr. Nododd pawb eu dewis o’r fwydlen a chytunwyd i estyn gwahoddiad i’r gwŷr oedd am ymuno â ni. Gwerthwyd y cardiau Nadolig oedd wedi cael eu harchebu.

Noson gartrefol, braf a gafwyd y tro yma wrth i Siriol groesawu Gwenda, ein trysorydd, i roi syniadau i ni ar greu trefniant o flodau ar gyfer y Nadolig. Roedd pawb wedi dod ag ychydig o flodau a gwyrddni gyda hwy a chafwyd noson hwyliog yn ceisio creu gwahanol drefniadau. Rhywsut neu’i gilydd, ynghanol yr holl siarad a chwerthin, llwyddwyd i greu gosodiadau taclus iawn a phawb yn amlwg yn mwynhau’r noson ynghanol yr holl lanast ar y bwrdd. Gweler y lluniau uchod! Diolchodd Margaret i Gwenda am ei pharatoadau ar ein cyfer ac am gael mwynhau noson hamddenol yng nghwmni’n gilydd. Paratowyd y baned gan Gwenda Jones a Bet Roberts. Roedd dwy wobr yn y raffl y tro yma, gan i Gwenda Grithith baratoi basged o flodau fel gwobr arbennig a’r enillydd oedd Gwenda Jones. Enillwyd y wobr arall gan Eirwen Roberts.

Neuadd Talsarnau

Gyrfa Chwist Nadolig Nos Iau, 10 Rhagfyr am 7.30

Capel Newydd Talsarnau Oedfaon am 6.00 o’r gloch RHAGFYR 13 Dewi Tudur 20 Gwasanaeth Carolau 24 (Noswyl Nadolig) Gwir ystyr y Nadolig 27 Dewi Tudur

Y SŴ Tudur Owen

Yn enedigol o Fodorgan, Sir Fôn, mae Tudur Owen bellach yn ddigrifwr a darlledwr cyson, yn arbennig ar y radio. Er mai ffuglen yw’r stori hon i raddau helaeth, a nifer o’r cymeriadau a’r sefyllfaoedd yn rhai dychmygol, mae’n seiliedig ar brofiadau personol plentyndod yr awdur ar yr ynys. Bu’r stori’n sail i’w sioe lwyfan yng Ngŵyl y Cyrion yng Nghaeredin ddwy flynedd yn ôl, dan y teitl ‘The Worst Zoo in Britain’ – ond oherwydd cyfyngiadau’r cyfrwng, ni allodd wneud cyfiawnder llwyr â’r hanes. Stori yw hon am fachgen ifanc yn yr ysgol uwchradd sy’n byw ar fferm ddiarffordd ar Ynys Môn yn yr 1980au. Mae ei fywyd yn newid yn llwyr pan mae ei dad – ffermwr a dyn busnes mentrus – yn manteisio ar gyfle i sefydlu sŵ o anifeiliaid gwyllt ar y fferm, ar anogaeth Brendan Fitzgibbon, Gwyddel a chanddo dafod arian, a ddaw i’r fferm yn ddirybudd un prynhawn. Uchafbwynt y stori yw’r pennawd trawiadol ‘The Worst Zoo in Britain’, a ymddangosodd yn The News of the World yn ystod mis Awst 1980, ynghyd â thri llun – llew yn sefyll mewn pwll mwdlyd, mwnci cynddeiriog yr olwg, a bachgen yn ei arddegau, sef Tudur Owen ei hun, yn sbio’n syth i’r camera. Ar wahân i’r brif stori, cawn rai hanesion mwy ymylol, yn fwyaf arbennig hanes Tudur Owen yn cyfarfod â’r Dywysoges Margaret ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd yng Ngorffennaf 1977 ac yntau’n mynnu dweud wrthi, ag wyneb hollol ddifrifol, mai ‘Roddy Llewelyn’ oedd enw’r hwrdd enfawr, a ddaeth yno i’w arddangos. ‘You little bitch!’ oedd unig ymateb swrth y Dywysoges a feddyliai’n siŵr mai merch ifanc oedd Tudur, cyn iddi gerdded o’r cae mewn tymer eithafol o ddrwg. Ond ymweliad y Gwyddel a newidiodd eu bywydau, pan argyhoeddodd hwnnw Richard Owen a’u ddau fab i dderbyn llwyth o anifeiliaid egsotig i’w fferm ar Ynys Môn. Ar adeg y Pasg 1980 agorwyd sŵ a fu’n ddigon llwyddiannus am rai misoedd, yn denu nifer sylweddol o ymwelwyr ac ennill iddynt incwm reit dda wrth i’r teulu agor siop fechan ar y fferm a werthai nwyddau perthnasol i’r brif fenter. Cawn gyfle i ddarllen hanes ac arferion rhyfedd nifer o’r creaduriaid egsotig hyn wrth i’r stori ddatblygu. Fodd bynnag, nid pawb yn yr ardal a gefnogai’r datblygiad anghyffredin hwn. Roedd Saesnes gegog leol o’r enw Mrs Tremayne, hithau â’i chartref yn orlawn o gathod, yn frwd a ffyrnig ei gwrthwynebiad a’i phrotestiadau’n ddiflino. Yna cafwyd ymweliad gan un o swyddogion blin yr RSPCA a arweiniodd at gryn helbul i’r teulu, a daeth gŵr a gwraig heibio i’r sŵ â’u bryd ar sicrhau sgŵp i’r News of the World. Ceir awgrym cynnil fod gan y stori ddiwedd hapus, ond ni fu bywydau’r teulu byth yr un fath eto.

NOSON YNG NGHWMNI MEIBION PRYSOR yn Neuadd Gymuned Talsarnau

Nos Wener, Ionawr 22 am 7.30

Mynediad: Oedolion - £5, Plant – di-dâl Tocynnau gan: Mai 01766 770757 Anwen 01766 772960 ac wrth y drws ar y noson 11


LLYTHYR ANRHYDEDDU CYFRANIAD ARBENNIG Annwyl Olygydd, Ers dros 40 mlynedd bu’r Eisteddfod yn cydnabod ac yn anrhydeddu un sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig yn y gymuned, er cof am Syr Thomas Parry-Williams, un a wnaeth gymaint dros yr iaith a’n diwylliant yn ystod ei oes. Ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gwirfoddoli i helpu pobl ifanc am flynyddoedd lawer rywle yng Nghymru? Hoffech chi enwebu rhywun sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yn eich hardal leol? Ydych chi’n awyddus i weld rhywun yn cael ei anrhydeddu ar lwyfan Pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol am eu gwaith cymunedol? Efallai felly eich bod chi’n adnabod rhywun y dylid ei h/enwebu ar gyfer y Fedal yn 2016. Mae enwebiadau ar agor ar hyn o bryd, ac mae angen derbyn gwybodaeth am unrhyw un sy’n gymwys erbyn diwedd Ionawr. Os ydych chi’n gwybod am unrhyw un yr hoffech eu henwebu ar gyfer Medal Syr T H Parry-Williams eleni, gallwch lawrlwytho’r ffurflen o wefan yr Eisteddfod – www.eisteddfod.cymru, neu cysylltwch â’r swyddfa ar 0845 4090 300. Y dyddiad cau ar gyfer pob ffurflen enwebu yw 31 Ionawr, a chyflwynir y Fedal mewn seremoni arbennig ar lwyfan Pafiliwn yr Eisteddfod yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau a gynhelir o 29 Gorffennaf – 6 Awst yn Y Fenni. Cyhoeddir enw’r enillydd ym mis Ebrill. Mae nifer fawr o unigolion sy’n llawn haeddu derbyn yr anrhydedd, felly beth am fynd ati i enwebu rhywun yn eich cymuned chi? Yn gywir iawn, Elfed Roberts

Prif Weithredwr

TÎM RYGBI 1962

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286 Ffacs 01766 771250

Honda Civic Tourer Newydd

Pôs y Beirdd - Rhagfyr gan Iwan Morgan

1. Heno mae perthi’n hirlwm O dan eira cynta’r cwm; Mae ei drwch o drum i draeth, Eira a’i lond o hiraeth; Deil cur un Rhagfyr o hyd Imi yn lluwch disymud. (Athro ac ysgolhaig a gipiodd gadair Prifwyl yr Urdd pan oedd ond 16 oed.) 2. Yn Rhagfyr daw cymylau du I guddio’r nefoedd ar bob tu. Yn Rhagfyr blin yw cŵyn y nant; Ni chwery mwy â’r haul a’r plant ... Yn Rhagfyr darfu sŵn y grug, Y mae ei fonau’n ddu fel pyg. Ac ym mis Rhagfyr daeth ysgariad Rhwng Mab y Bwth a Gwen ei gariad. 3. Ar gyfair bloedd Rhagfyr blin - mae gennyf Gof am gân a chwerthin. O na chawn hedd a chain hin, O am haf a Mehefin. (Un o hogia ‘Stiniog a ddaeth yn fardd cadeiriol ac yn Archdderwydd ... a’i ferch yn cyhoeddi holl ‘ganu ei oes’ yn nechrau’r ’80au.)

Yn rhifyn mis Hydref, roedden ni’n gofyn am enwau’r bobl yn y llun uchod. Diolch i Gwyn Cable am ymateb i’n cais. Dyma’r enwau a gafwyd ganddo: Rhes gefn: Gwyn Cable, Roger Noake, Brian John, John Llewelyn Morris, Tim Jennings, Alun Owen, Bernard Brierley, Islwyn Pritchard Jones. Rhes ganol: Richard Nelson, Dafydd Wyn Jones [Ynys], George Repath, Ronnie Williams, Roger Knight, Geraint Hughes, Roger Peckham. Rhes flaen: Martin Taylor, Aneurin Thomas, Robert Merril, Les Mckean. [Tybed a oes gennych chi luniau diddorol yr hoffech eu rhannu gyda’n darllenwyr? Os oes, buasem yn ddiolchgar pe baech yn cysylltu ag un o’r golygyddion.] 12

4. Yma i gyfarth i’m cegin darthiau Fe yrr y flwyddyn Ragfyr a’i fleiddiau; A chyrch marchogion duon y duwiau Yma i wleddoedd wedi’r ymladdau; Ac i fedd fy ogofâu - traidd suon Coedydd yr eigion fel cad o ddreigiau. (Cyfreithiwr ‘cadarn’ ei grefft a’i drawiad .. o ‘wlad y medra’.) 5. Hwn yw’r cof am wylofain awyr wag A’r tir oll yn gelain; Rhagfyr drwy’r goedwig frigfain A’i drwst megis ffaglau drain. (11.12.1282)

ATEBION MIS TACHWEDD

1. Eifion Wyn. 2. John Evans. 3. Gwyn Thomas. 4. O M Lloyd. 5. Euros Bowen. Hoffem ddiolch i Iwan Morgan, Ffestiniog am ei gymorth parod gyda’r golofn hon yn ystod y flwyddyn a aeth heibio.


Grŵp Hyfforddi Ardudwy Yn y gwanwyn, bu cyrsiau Tynnu Ŵyn di-ri dan hyfforddiant Bruce Lawson, Dolgellau trwy ddefnyddio bocs a gynlluniwyd gan Charles Arch gydag esgyrn pelfis dafad a thwnnel o bolythen. Drwy drefnu oen marw mewn gwahanol sefyllfa geni, roedd yn hawdd gweld y gwahanol broblemau yn codi. Roedd yr holl gyrsiau yn rhai ymarferol ac yn denu diddordeb i’r perwyl. Cafwyd sawl cwrs ar drwsio tractorau gydag Arthur Jones o Lyn Dyfrdwy ac roedd y tractorau yn dipyn llai i’w trin heb eisiau lle soffistigedig, a stripiwyd sawl injan neu system hydroleg gyda’r perchenogion yn clirio’r costau trwsio. Cynhwyswyd sawl pwnc ar ein rhaglen ac un o’r rhai mwyaf anghyffredin oedd cwrs defnyddio ffrwydron, gan fod yr ardal yn dra charegog, ar fferm Cae Nest, Llanbedr. Gwahoddwyd y Rhingyll John Jones, swyddog atal troseddau yr heddlu a hyfforddwr o Nobels Explosives atom. Heb fod yn bell roedd gwesty Cae Nest. Er bod gŵr y gwesty wedi cael ei rybuddio ymlaen llaw am fodolaeth y cwrs, ac er nad oeddem wedi tanio dim, penderfynodd alw’r heddlu i ymchwilio. Ond, druan o’i dwpdra oherwydd roedd yr heddlu gyda ni yno yn barod ar y safle. Cwrs arall y cofiaf amdano oedd cynnal silwair ar ôl i’r perchnogion brofi gryn drafferth gyda’i defnyddio ac ymgeisiais i gael hyfforddwr trwy gysylltu â chwmni o ardal Dyfed, sef gwerthwr un o’r peiriannau, ond llond ceg a gefais ac aethpwyd yn syth at y gwneuthurwr. Roedd cefnogaeth dda pob amser i gyfarfodydd min nos ac er ei bod yn eithaf anodd weithiau i ddarganfod pynciau newydd o ddiddordeb mae rhai yn sefyll allan fel y noson gyntaf a gafwyd ar ôl sefydlu’r Grŵp gan Llewelyn Evans. Bu’n gweithio ar un adeg i un o’r cwmnïau cemegol mawr ac erbyn hyn mae’n bennaeth adran amaeth Coleg Meirionnydd ar ddefnydd o Lyswenwyn lle’r oedd y gwrandawiad yn berffaith ac agorwyd sawl amrant i beryglon cemegau fel 245T a sawl un arall. Mewn darlith arall gyda Bruce Lawson, y milfeddyg o Ddolgellau, trafodwyd peryglon canser o redyn yn nhymheredd uchel yr haf a chofiaf un o’r aelodau yn dweud mai i redyn yr aethai ef i garu ers talwm, a thro arall codwyd dadl

rhwng Iwan Parry, milfeddyg Dolgellau, y gall gwrth fiotig amharu ar ffrwythlondeb hyrddod ac Iwan yn crybwyll i gefnogi ei safbwynt na fuasai yn dibynnu ar roddi chwistrell iddo ef ei hun cyn mynd allan ar nos Sadwrn. Ond, awgrymodd Evan Tudor, Trawsfynydd trwy air o ddiolch ar y diwedd nad oedd Iwan eto wedi profi ei hun yn y lle cyntaf yr adeg hynny. Bu imi drefnu cyfarfod unwaith ar nos Sadwrn a chael llond ysgubor o gynulleidfa ar fferm Merthyr gydag Eryl Rees o Dregaron ar lampio llwynogod. Tro arall gwahoddwyd prif filfeddyg o’r Swyddfa Gymreig i roddi annerch ar lendid mewn lladd-dai ac aeth i drio arddangos ei wybodaeth ar fathemateg ond mi roedd ganddom un o’n haelodau yn ei ddeall, a chafodd ei gywiro’n bur fuan gan ein Ifan ni. Anelwyd gweithgareddau’r Grŵp i fod yn gefnogol i’r aelodau i gyfarfod â sawl trefn newydd fel llenwi IACS a phrawf cludo anifeiliaid gyda threlar lle rhoddwyd tua 120 trwy’r felin heb fethiant. Mi roeddwn yn hynod falch gan nad oedd rhai erioed wedi defnyddio cyfrifiadur o’r blaen. Ymysg y tripiau oedd ymweliad â ffatri’r Bwrdd Gwlân ym Mradford a gweld yr ocsiwn yn cael ei chynnal tra’r oeddem yno. Cafwyd hefyd drip bws i Sioe Aredig Iwerddon. Yn ystod yr amser cynlluniwyd arwyddair a logo i’r Grŵp sef “Yn rhoddi pleser mewn gwaith a’r gwaith yn bleser”, ar y syniad mai trwy hyfforddiant y ceir pleser i ddatblygu’r grefft a’r ail, trwy’r grefft orffenedig y ceir y pleser o edrych arni, er enghraifft ar ôl codi wal gerrig! Yn 2001 daeth tro ar fyd i fy rhan a mynegais fy nymuniad i roi’r gorau iddi fel trefnydd ond ni chefais glust i wrando. Pryd y bu imi godi rhyw noson ac edrych allan trwy’r ffenestr a gweld goleuadau Pwllheli yn dipyn hirach nag arfer. Rhoddais y golau ymlaen ond er fy mraw roedd popeth arall yn yr ystafell yn ddau a bûm yn tynnu coes Gwyneth sawl tro pa un oedd hi a pha un oedd y feistres, ond ni fu’n hir cyn fy ngalw yn “Dei Double Vision” ar ôl y boi ar y bocs o Ddinbych. Ond, diolch i wasanaeth a sgiliau clodwiw Walton ac am deulu a chymdogion parod, neu fel dywedodd un meddyg petawn yn ffermwr yn Affrica buasent wedi torri twll i mi. * * * Ond yn gyntaf rhyw bwt sydd gennyf hefo ychydig o hanesion lleol am newydd ddyfodiad i’r byd amaeth yma yn Llanfair. Gobeithiaf

y cewch flas ar eu darllen: Symudasom fel teulu o Caegwion ger Bontddu ym 1947 yn ôl i hen fferm teulu fy mam sef Uwch Glan. Hefyd tua’r un adeg gwerthwyd dwy fferm fechan arall ar y terfyn i fewnfudwyr trefol ac mae’n siŵr y gwelwyd rhai eraill tebyg tua’r adeg honno mewn ardaloedd eraill hefyd ar ôl y rhyfel, ac felly soniaf am eu profiad hwy o ddysgu am fyd y ffermio. Fy nghyfraniad i hanesion lleol Yn gyntaf mi soniaf am ŵr a ddaeth i fferm Hengaeau wedi iddo ymddeol o fod yn bennaeth Adran Osgoi Trethi o’r swyddfa Dreth Incwm dros Ogledd Cymru sef Mr Elecker. Daeth i’r penderfyniad i drio ei law ar amaethu, neu fel y dywedai er sicrhau ei gyflenwad bwyd, sefydlodd fuches fechan o Jerseys. Daeth hefyd yn ddyn handi iawn i’w gymdogion i lenwi ffurflenni am gymwynasau a chynghorion o brofiad ffermio.

Mr Elecker Daeth i ffermio â housekeeper i’w ganlyn sef Miss Hewish a oedd yn hannu o ardal Bae Colwyn, ond weithiau fel arall yr oedd hi sef hi’n gweithio allan ac yntau yn gwneud y gwaith tŷ. Roedd yn weithwraig ddygn heb ofn torchi llewys at waith fferm, a chofiaf fy nhad yn dweud hanes cario ŷd yn Hengaeau ymhen ychydig ar ôl iddynt ddod yno gyda chymydog Robert Jones o Dyddyn Siocyn, sef hen lanc, a gŵr arall o’r enw Morgan Jones a oedd yn “lengthman” gyda’r Cyngor Sir, a’r ddau wedi dod i helpu i gario’r cynhaeaf ŷd, a tra’n llwytho a hithau ar y drol gofynnodd Morgan Jones i Bob “Sut buasat ti’n licio cael noson hefo hon, Bob?” ond er ei fawr syndod daeth yr ateb o ben y drol “How would you like it?” Ie, roedd yn deall Cymraeg. Roedd Mr Elecker wedi paratoi ei hun i fyd amaeth trwy brynu llyfrau gwyddonol penigamp yr adeg honno ac fe’u cefais ganddo’n ddiweddarach fel anrheg. Felly roedd wedi cael peth syniad ymlaen llaw. Ymhen amser gwerthodd Hengaeau a phrynodd fferm laeth arall sef Tyddyn yr Onnen ger Chwilog ac ymdrechodd yn dda a bu yno am rai blynyddoedd cyn ymddeol - ie, wrth gwrs yn ôl i Lanfair. I fferm arall ar ein terfyn, sef

Penrallt, daeth Mr Frank Trevitt i amaethu o Birmingham lle’r oedd meddai ef yn “Store Manager” ac wedi cael digon o weld brics. Roedd y ddau’n bur wahanol i’w gilydd ac roedd yn dibynnu llawer iawn ar gynghorion ei gymdogion a rhai fy nhad yn enwedig. Daeth Frank Trevitt gyda’i wraig a’i ddwy ferch fach sef Pat a Susan ynghyd â’i fam a oedd mewn oedran i ffermio i Benrallt a chadwodd fuches laeth fechan ac ychydig o ieir. Hefyd gosodwyd y tŷ i ychydig o ymwelwyr yn y blynyddoedd cyntaf a chofiaf ŵr enwog sef Bishop Chavaz yn dod yno i aros bob haf. Ond, mewn ychydig wedi iddo ddod i Benrallt fe gollodd ei fam ac mae’n siwr ei bod wedi ei chladdu ym Mirmingham a gan na allai’r hers fynd i Benrallt yr adeg honno fe gludwyd yr arch yma i Uwch Glan i’w chyfarfod gan ei gymdogion a phawb yn eu dillad parch ond ef ei hun. Wrth ddod gwelodd bod y gwartheg wedi torri drosodd i’r darn tatws ac meddai “Put her down” ac aeth i’w casglu oddi yno. Roedd gan Trevitt dipyn llai o syniad am ffermio a chefais ei hanes pryd yn dyrnu yma yn Uwch Glan i Eifion John a oedd ar y pryd yn was yn Nhŷ Mawr, Llanfair ac wrthi yn cario piswyn i’r llofft stabl. Yn y llofft roedd Frank Trevitt a fy ewyrth Dai a oedd yn forwr ac yn hannu o Aberaeron a’r ddau wrthi’n sgwrsio heb lawer o syniad am ffermio, ac meddai Trevitt “Do you know how much a piglet will cost”? “Well, I’m not sure,” meddai fy ewyrth, “but I would guess you could buy one for half a crown.” “I have been thinking of buying one to eat the chaff after I have thrashed at Penrallt.” Ond yn nechrau y 60au collodd 5 o’i wartheg drwy i bolyn trydan dorri mewn storm a ni fu llawer o lewyrch ar y lle, ac wedi hynny symudodd ef a’i deulu i Awstralia ar ôl i Susan y ferch briodi ac ymfudo yno yn gynt. Stori arall bu fy nhad yn dweud oedd hanes dafad i Bob Pugh, Brwynllynnau a ddengodd i lawr i Lanfair, ac i ardd y twrne lle’r oedd wedi bwyta blodau. Galwyd ar Bob Pugh i ddod i’w nôl. Aeth Bob Pugh yno i’w gweld a chafodd ar ddeall bod bil i’w dalu a chymrodd yr agwedd nad ei ddafad o oedd hi ac awgrymodd iddo ofyn i Edwart Humphreys, Tŷ Mawr. Fe aeth yntau yno i’w gweld a dweud nad oedd yntau’n gwybod pwy oedd ei pherchennog ond os hoffai ei gollwng i’w gaeau ef y byddai croeso iddi, a dyna wnaed a dyddiau wedyn aeth Bob Pugh yno i’w nôl. D J Roberts, Uwch Glan

13


BWYD A DIOD

Y GYMRAEG YN FYW YN HARLECH, BERMO A THALSARNAU

Bwyd a Gwin Nadolig Mae’n amser yna o’r flwyddyn eto, i ddechrau meddwl am gacen Nadolig a pharatoi i ddathlu’r ŵyl. Mynd am dro yn y dydd a phryd yn y nos yw arferiad ein teulu ni, ac wrth gwrs, bydd dewis diodydd yn destun cryn dipyn o feddwl. Wrth agor anrhegion, mae gwin byrlymus yn cyfrannu at yr hwyl a sbri, rhywbeth ysgafn fel Prosecco sy’n boblogaidd. Mae’r Prosecco gorau o ardal Valdobbiadene neu Conegliano – edrychwch am hwn ar label y gwin. Os hoffech rywbeth ychydig mwy sych, mae rhosliw byrlymus Louis de Grenelle gydag ychydig fwy o strwthyr a blas mafon cochion. Bydd unrhyw un o’r ddau yma hefyd yn gweddu gydag eog wedi’i fygu fel cwrs cyntaf neu canapé gan dorri drwy’r braster. Y cwestiwn mwyaf aml yw ‘Pa win gyda thwrci/gŵydd?’ Wrth gwrs, mae’n dibynnu beth yr ydach yn hoffi ond awgrymaf Pinot Noir, un ai o Seland Newydd neu Bourgogne, sydd yn ddigon o foi i gymryd ymlaen y blasau cryf yn y cinio – cofiwch am y bacwn a selsig a stwffin – ond dim yn lladd blas y cig. Os am win gwyn, beth am rywbeth gwahanol? Rhowch gynnig ar un o winoedd Domaine Ogereau o’r Loire yn Ffrainc, Chenin Blanc, pwerus ond gyda balans o asid a ffrwyth lemwn. Mae’r pwdin yn haws gyda’r braster, awgrym o groen oren a ffrwythau sych yn galw am win pwdin gydag elfen o rhesinen ynddo, neu beth am rhywbeth sydd wedi mynd allan o ffasiwn fel Madeira? Yfwch a bwytwch yn araf i fwynhau’r ansawdd trwchus a gludiog o’r pwdin gyda’r diod hyfryd yma’n ei gyfoethogi. Port a chaws rhywun? Wir yr? Gennoch chi le? Iawn ta, peidiwch ag anwybyddu cawsiau Cymreig fel Hafod neu Berl Las i gyfiawnhau cael gwydred o Tawny Port – melfed trwchus gyda blas siwgr brown i droelli gyda blas asidedd hufennog a melys y caws glas yn enwedig. Iechyd, a Nadolig Llawen! Llinos Gwin Dylanwad Porth y Farchnad Dolgellau LL40 1ET 01341 422870 www.dylanwad.co.uk

Ers dyfodiad Siarter Iaith Gymraeg Ysgolion Gwynedd, bu Ysgol Tanycastell, fel ysgolion eraill yr ardal, yn brysur yn hyrwyddo’r Iaith Gymraeg a’r defnydd a wneir o’r Gymraeg yn gymdeithasol. Yn Hydref 2013, llwyddodd yr ysgol i gyrraedd y wobr efydd ac yna ym mis Tachwedd 2014 llwyddwyd i gyrraedd y wobr arian. Yn y cyfnod diweddar, bu’r ysgol yn gweithio tuag at y Wobr Aur. Braf yw cyhoeddi fod Ysgol Tanycastell wedi’i ei gwobrwyo gyda’r Wobr Aur. Cynhaliwyd seremoni i wobrwyo ysgolion Meirionnydd yn Nolgellau yn ddiweddar. Hoffai’r ysgol ddiolch i’r disgyblion, y Cyngor Ysgol, y staff, y Corff Llywodraethol a’r rhieni am eu gwaith dygn i gyrraedd y Wobr bwysig hon. Byddwn yn awr yn parhau gyda’r gwaith heriol o bwysleisio’r pwysigrwydd o fod yn ddwyieithog yn y gymuned ehangach ac i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn parhau i ffynnu yn ardal Harlech.

Disgyblion Ysgol Talsarnau [uchod] ac Ysgol y Traeth [isod] yn derbyn tystysgrifau Siarter Iaith Gymraeg gan y Cynghorydd Peredur Jenkins, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd.

14


H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239

Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290

YSWIRIANT I BAWB

E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr

01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

ALAN RAYNER ARCHEBU A GOSOD CARPEDI 07776 181959

Gwynedd

www.raynercarpets.co.uk

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297

Tafarn yr Eryrod Llanuwchllyn 01678 540278

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

Sgwâr Llew Glas

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

Llais Ardudwy

Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk 01766 512091 / 512998

TREFNWYR ANGLADDAU

Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

GERALLT RHUN

JASON CLARKE

Bryn Dedwydd, Trawsfynydd LL41 4SW 01766 540681

g.rhun@btinternet.com

BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU

01766 780186 07909 843496

Pritchard & Griffiths Cyf.

drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]

Tiwniwr Piano a Mân Drwsio

Phil Hughes Adeiladwr

Gosod stofiau llosgi coed Cofrestrwyd gyda HETAS

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

Sŵn y Gwynt Talsarnau,

Cefnog wch e in hysbyseb wyr

Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

DAVID JONES

Cigydd, Bermo 01341 280436

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

SAER COED Amcanbris am ddim. Gwarantir gwaith o safon.

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

Ar agor bob nos 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00

Tacsi Dei Griffiths

Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 9.00 Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!

Sefydlwyd dros 20 mlynedd yn ôl 15


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Teulu Artro Daeth y Teulu ynghyd ar ddechrau mis Tachwedd ar ddiwrnod braf. Cafwyd ymddiheuriad gan Iona, Myfanwy, Mary ac Eirwen. Dymunwyd pen-blwydd hapus i Beti a Mary a chydymdeimlwyd ag Eirwen yn ei phrofedigaeth. Diolchwyd i Leah am ei rhodd. Croesawodd Gweneira ein gwraig wadd, sef Mrs Mai Roberts, Dyffryn Ardudwy. Cafwyd hanes ei hymweliad â Botswana trwy gyfrwng sgwrs a sleidiau. Hyfryd oedd gweld lluniau o’r wlad a’r brodorion. Cafodd nifer o anrhegion i’w cyflwyno i ysgol Arbennig ac mae’n siwr eu bod yn dderbyniol iawn. Gorffenwyd y prynhawn gyda lluniau o Borthdinllaen a Nant Gwrtheyrn. Diolchodd Haf Meredydd i Mai. Enillwyd y raffl gan Glenys.

Gŵyl Gwrw Llanbedr

Aelodau Teulu Artro yn mwynhau'r te yn y Vic yn dilyn y sgwrs gan y siaradwr gwadd, Mai Roberts o'r Dyffryn.

NOSON GAROLAU gyda

Côr Meibion Ardudwy ym

Mhlas Aberartro, Llanbedr Ras Hwyaid Ni chynhelir y ras hwyaid arferol ar yr afon Artro ar ddydd San Steffan eleni gan ein bod, yn anffodus, yn brin o gynorthwywyr.

Cynhaliwyd Cyngerdd arbennig i ddathlu pen-blwydd Deng Mlynedd Gŵyl Gwrw Llanbedr yn Theatr Harlech ar Tachwedd 14. Difyrrwyd y gynulleidfa fawr gan Rhys Meirion, Elin Fflur a Phres Mân a chyflwynydd y noson oedd Aeron Pughe.

Roedd telynorion ifanc lleol hefyd yn diddanu’r gynulleidfa wrth iddyn nhw gyrraedd. Roedd Pres Mân yn ensemble wedi eu gwahodd yn arbennig o bob rhan o Gymru dan arweiniad Hefin Evans, cyn-arweinydd Seindorf Arian Harlech. Roedd yn braf gweld cymaint o bobl yn mwynhau’r cyngerdd ac roedd yna glod gan lawer wedyn ar ôl y perfformiadau, yn enwedig perfformiad Pres Mân.

Rhagfyr 17, 2015 am 7.00

Mynediad trwy docyn yn unig

Tocyn: £10 [01341 247022] yn cynnwys gwin tymhorol a mins peis

Cymdeithas Cwm Nantcol Daeth cynulleidfa dda i wrando ar Ifor Griffith, Lerpwl ddechrau’r mis. Ei destun oedd ‘Dau Gerddor’ a chawsom hanes Leila Megane a Meirion Williams ganddo. Ddiwedd mis Tachwedd, cawsom fanylion am ei phlentyndod yng Nghwm Tryweryn gan Eurgain Prysor - noson ddiddan a diddorol. Byddwn yn croesawu Dilwyn Morgan o’r Bala ar Ragfyr 14. Pam na ddewch chi atom i fwynhau noson ddifyr? Genedigaeth Llongyfarchiadau i Miriam Beecroft, ciwrad Bro Ardudwy, ar enedigaeth merch fach. Gwellhad buan Dymunwn wellhad buan i Mrs Pat Hughes sydd mewn ysbyty yn Aberystwyth. Gobeithio fod Mrs Adamowski, Llys Meirion, yn gwella yn Ysbyty Dolgellau. Adre o’r ysbyty Mae Guy Simmons, Gellibant, adre o’r ysbyty. Gobeithio ei fod yn dal i wella.

16

Merched y Wawr Nantcol Nos Fercher Tachwedd 4ydd - Croesawyd pawb gan ein Llywydd, Gwen, ac estynnwyd croeso arbennig i Mo Ainsclough o Rydymain atom. Bu Mo yn nyrsio yn Warrington cyn dychwelyd i’r ardal. Addurniadau bwrdd Nadolig oedd testun y noson ac aeth ati i greu tri gosodiad hardd iawn, gan ddefnyddio blodau coch a gwyn - rhosod a’r lili a llawer gwahanol fath o wyrddni yn ogystal â chanhwyllau a rhubanau i orffen y gosodiad. Cawsom ddigon o syniadau ar sut i fynd ati’r Nadolig hwn i greu addurniadau ar gyfer y bwrdd. Diolchodd Gwen yn gynnes iawn i Mo, ac am roi’r gosodiadau yn wobrau raffl. Cydymdeimlwyd â Rhian a’r teulu sydd wedi colli perthynas. Llongyfarchwyd Gareth Eilir, mab Enid, ar ei benodiad yn bennaeth adran piano yng Ngholeg Eton a hefyd wedi ei ordeinio yn flaenor yn Eglwys Jewin, Llundain. Llongyfarchwyd Hana Jane, wyres Jean, sydd wedi pasio arholiadau terfynol i ymuno â’r RAF ac i Anwen a Gareth ar ddathlu eu priodas ruddem. Atgoffwyd yr aelodau mai Sir Feirionnydd sydd yn noddi sioe Llanelwedd ac y bydd Pwyllgor Rhanbarth ar Rhagfyr 16, a’r Ŵyl Ranbarth yn Rhydymain ar Ebrill 27. Cymdeithas Hanes Harlech Daeth dros 100 o bobl i Blas Aber Artro yn ddiweddar i ddathlu bywyd a gwaith Jackie Williams. Ysgrifennwyd cofiant iddo yn 1942 oedd yn cynnwys ei hanes yn Gallipoli yn 1916, a hanes ei glwyfo yn Gaza yn 1917 lle cafodd ei achub gan Ianto Humphries o Harlech a Will Williams o Lanbedr. Ymhlith y siaradwyr roedd ei ŵyr, George Wright a’i or-wyres, Rachel Jones. Rhoddodd Dr Neil Evans, Cadeirydd y Gymdeithas drosolwg o’r brwydrau yn Gallipoli a Gaza a siaradodd Paul Morgan am y cyfnod pan oedd Aber Artro yn ysbyty yn ystod y rhyfel. Cadeiriwyd y cyfarfod yn ddeheuig iawn gan Myfanwy Jones.


RHAGOR O LANBEDR Yn yr Awyr Agored

Ysgol Gynradd Llanbedr Tymor yma bu plant y dosbarth hynaf yn mwynhau gweithgareddau awyr agored yn CMC ym Mhensarn. Cafodd B5 gyfle i fynd i gaiacio ar yr afon a bu B6 yn cerdded ceunant Nantcol a llwyddo i ddringo i fyny’r rhaeadr. Er eu bod wedi gwlychu o’u corryn i’w sawdl roedd pawb wedi mwynhau’r profiad!

Cylch yn Codi Arian

NADOLIG YN EGLWYSI ARDUDWY

Gwasanaethau Carolau Rhagfyr 9 6.30 Dewi Sant, Bermo Rhagfyr 13 11.30 Llanddwywe 6.00 St Tanwg, Harlech Rhagfyr 20 9.30 Carolau - Llanfair 6.00 Christchurch, Bermo 6.30 Carolau - Llandanwg

Rhagfyr 24 Noswyl Nadolig Gwasanaeth y Crud Llanbedr am 5.00 Dewi Sant, Bermo am 5.00 Cymun Llanaber am 7.00 Llanddwywe am 7.30 St Tanwg, Harlech am 11.30 St Ioan, Bermo am 11.30 25 Bore Nadolig Llandanwg am 10.30 Dewi Sant, Bermo am 10.30 Llanfihangel am 11.00 27 Cymun Bro Ardudwy yn Sant Pedr am 9.30 St Tanwg, Harlech am 11.30

Rhoddion Diolch am y rhoddion i’r Llais - £21.50 gan Geraint Owen, £10 gan Glyn a Gwenda Davies, Bangor ac £11.50 gan Anna Wyn Jones.

Arian ar Gael i Astudio trwy’r Gymraeg

Gwisgodd plant Cylch Meithrin Llanbedr eu dillad nos i’r ysgol er mwyn codi arian at achos Plant Mewn Angen. Bu pawb yn brysur yn coginio bisgedi a theisennau Pudsey i fynd adre gyda nhw a chael llond trol o hwyl yn eu haddurno! Cynhaliwyd ein Ffair Nadolig ar ddydd Sadwrn, Rhagfyr 6 yn y Neuadd Bentref rhwng 2 a 4 yr hwyr. Diolch o galon i bawb a gyfrannodd mor hael eleni.

Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch Capel y Ddôl RHAGFYR 13 Mrs Eleri Jones IONAWR 2016 10 Parch William Davies Capel Salem RHAGFYR 20 Parch Dewi Tudur Lewis IONAWR 2016 17 Parch Dewi Tudur Lewis

Elusen Canolfan Gymdeithasol Llanbedr Cyfarfod Blynyddol Nos Fawrth, Ionawr 5 yn y Neuadd am 8.00 o’r gloch

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig arian i’r rhai hynny sy’n dymuno dilyn cyfran o’u cwrs prifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg yn 2016. Gall unrhyw ddarpar fyfyriwr wneud cais am ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg er mwyn derbyn hwb ariannol sylweddol yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol. Cynigir hyd at £3,000 i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio o leiaf 66% o’u cwrs trwy’r iaith a hyd at £1,500 i rai sydd eisiau dilyn o leiaf 33% ohono trwy’r Gymraeg. Yn ychwanegol, mae Ysgoloriaeth William Salesbury o £5,000 ar gael i unigolyn sydd am astudio cwrs a gynigir yn gyfan gwbl trwy’r Gymraeg. Mae cannoedd o gyrsiau ar draws prifysgolion Cymru yn gymwys i dderbyn yr arian a dylid sicrhau bod cwrs yn gymwys i dderbyn ysgoloriaeth cyn ymgeisio. Y dull gorau o wirio a yw cwrs yn gymwys yw trwy ddefnyddio’r Chwilotydd Cyrsiau sydd ar wefan y Coleg Cymraeg neu trwy lawrlwytho’r fersiwn Ap.

R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU

Croeso i holl drigolion Llanbedr. Dyma gyfle i chi gael gwybod am y cynllun i adnewyddu’r neuadd. 17 A


NEWYDDION YSGOL ARDUDWY Cynhadledd ‘Mathemateg yw eich Dyfodol’

Ddechrau’r tymor mynychodd deg disgybl gynhadledd undydd ar gyfer disgyblion Mathemateg galluog B11 ym Mhrifysgol Bangor. Pwrpas y gynhadledd oedd rhoi cipolwg i’r disgyblion ynglŷn ag astudio Lefel A Mathemateg Bellach ac i bwysleisio y gall mathemateg fod yn hwyl ac yn heriol a sut mae’n agor drws i gyrsiau prifysgol cyffrous ac amrywiaeth o yrfaoedd. Cymerodd y disgyblion ran mewn cyfres o weithdai a chwis ar sail ‘syrcas mathemateg’. Cafodd y disgyblion fudd mawr o’r profiad. Taith Gwaith Maes Daearyddiaeth

Aeth criw TGAU Daearyddiaeth B11 ar daith gwaith maes yn Aberglaslyn gyda’u hathro Iolo Jones ag Angharad Harris o Barc Cenedlaethol Eryri. Roedden nhw’n mesur yr afon ac yn ymchwilio sut mae nodweddion afon yn newid wrth lifo o’i tharddle. Byddan nhw’n defnyddio’r data a gasglwyd wrth gwblhau eu gwaith cwrs. Ymweliad â Gweithdy Trenau Arriva ym Machynlleth

Yn ddiweddar, cafodd disgyblion B10 sy’n dilyn cwrs BTEC Peirianneg gyfle i ymweld â gweithle Trenau Arriva Cymru ym Machynlleth. Yn ystod y dydd cawson nhw wybodaeth am sut roedd y trenau sydd yn rhedeg ar hyd Arfordir y Cambrian wedi eu hadeiladu a beth oedd gwaith pwysig y peirianwyr i gynnal a chadw’r trenau er mwyn sicrhau rhediad esmwyth y gwasanaeth. Roedd yr ymweliad yn agoriad llygad i’r disgyblion ac yn dwysau eu gwybodaeth ar gyfer elfennau o’u cwrs BTEC. Cafwyd sgwrs hefyd am sut i baratoi ar gyfer dilyn gyrfa yn y byd peirianneg ac roedd cynrychiolwyr o Weithdy Boston Lodge, Rheilffordd Ffestiniog yn bresennol ac yn annog y disgyblion i gael profiad peirianyddol ymarferol drwy wirfoddoli. Diolch i gwmni Trenau Arriva am drefnu’r diwrnod oedd yn cynnwys tocynnau am ddim.

18 A

Chwaraeon

Mae timau pêl-droed a rygbi’r ysgol wedi bod yn brysur yn barod y tymor yma yn chwarae gemau yn erbyn ysgolion yr ardal. Mae nifer o ganlyniadau gwych yn barod gan y timau pêl-droed. Enillodd tîm pêl-droed B7/8 eu gêm yn erbyn Ysgol Eifionydd o 5 gôl i 1 gydag Osian Myfyr Jones yn disgleirio drwy sgorio 3 gôl gyda Rhys Taylor-Clarke a Tom Rooney yn sgorio un gôl yr un. Cafodd tîm pêl-droed B10 lwyddiant yn erbyn Ysgol Uwchradd Tywyn o 3 gôl i ddim. Y sgorwyr oedd Reece Evans (2 gôl) ag Aron Moore. Dewiswyd Vinnie Catherall yn ‘Chwaraewr y Gêm’. Aeth tîm pêl-droed B8 i’r Bala i chwarae gêm Cwpan Cymru o dan 13 yn erbyn Ysgol y Berwyn yn ddiweddar. Enillodd Ysgol Ardudwy’r gêm o 5 gôl i 4. Sgoriodd Tom Rooney 4 gôl ac Osian Jones un gôl gyda ‘Chwaraewr y Gêm’ yn mynd i Carwyn Foster. Hefyd, cafodd tîm pêl-droed B9 lwyddiant yn erbyn Ysgol Uwchradd Tywyn wrth ennill o 5 gôl i dair. Sgoriodd Justin Firth y 5 gôl ac yn llawn haeddu cael ei ddyfarnu’n Chwaraewr y Gêm. Da iawn hogiau! Cafodd y timau rygbi dan 16 a dan 14 fuddugoliaeth yn Nolgellau yn ddiweddar. Dyma’r sgoriau: dan 16 - Ysgol y Gader 7, Ysgol Ardudwy 10. Sgoriodd Dafydd Hughes gais gydag Aron Moore yn trosi a sgoriodd Gwion Lloyd gic gosb. Dan 14 - Ysgol y Gader 5, Ysgol Ardudwy 40. Sgoriodd Ben Davies 6 o geisiau gydag un trosiad! Cafodd Logan Court-Williams 4 trosiad hefyd. Canlyniadau gwych gan y ddau dîm. Da iawn hogiau. Ysgard Rhoddodd Ysgard, grŵp jazz-roc Ysgol Ardudwy, berfformiad da yn Theatr y Ddraig yn ddiweddar gerbron cynulleidfa o ryw 70 o bobl a chael ymateb gwresog. Daeth sawl un atom i gyfleu faint oeddynt wedi mwynhau. Efo criw llwyfan, PA a goleuadau llwyfan cryf yn eu hwynebau, fe gawson nhw flas o fyd perfformio proffesiynol. Wedi perfformiad agoriadol Ysgard, daeth prif artist y noson i’r llwyfan sef triawd Remi Harris a chwaraeodd amryw o fathau o gitâr acwstig a thrydanol a set oedd yn cynnwys rhai o ganeuon y Beatles, Standard Jazz a Blues. Roedd dawn Remi yn anhygoel. Mae Ysgard yn ddiolchgar i Danny Jones am y gwahoddiad i chwarae yn un o gigs Cerdd y Bermo ac yn cynhyrfu o glywed ei fod yn dechrau meddwl am gyfleoedd eraill i’r band chwarae. Mwy o ymarfer a mwy o ganeuon amdani hogiau! A ble mae’r genod? Dewch i ymarfer efo ni, wir!


Osian Myfyr Jones B8 sgoriodd dair gôl yn erbyn Ysgol Eifionydd

Tîm dan 16 oed yn Nolgellau yn ddiweddar

B7 a B8

Tîm rygbi dan 14 oed

B8 a B9

Llongyfarchiadau i Elin McKenzie, Llio Henshaw a Cerys Sharp sydd wedi cael eu dewis i gynrychioli tîm pêl-rwyd Meirion-Dwyfor a fydd yn cystadlu yn Nhreialon Pêl-rwyd Eryri mis nesaf. Pob lwc ferched!

Cyn-athrawon Ysgol Ardudwy

Vinnie Catherall ‘Chwaraewr y Gêm’ yn erbyn Tywyn.

Ar ddydd Mercher cynta’r mis, mae criw o ferched yn dod ynghyd i fynd am dro, ac ar Fynydd Paris, Ynys Môn, yn ddiweddar, gwelwyd pump o gyn-athrawon Ysgol Ardudwy, sef Mair, Val, Helen, Elma a Rita ymysg y cerddwyr rheolaidd. Arweiniwyd y daith gan Elma a Helen, a chafwyd hanesion difyr am y mwyngloddio a ddigwyddodd ar Fynydd Paris. Braf eu gweld i gyd yn parhau i gadw cysylltiad a mwynhau cadw’n heini.

19 A


136-140 STRYD FAWR, PORTHMADOG, GWYNEDD LL49 9NT

Dewch draw i’r Siop am sbec - mae rhywbeth i bawb yma! Gorffennwch eich ymweliad â phaned, teisen neu bryd o fwyd blasus mewn awyrgylch hamddenol.

DISGOWNT O 10% WRTH GYFLWYNO’R HYSBYSEB YMA AR NWYDDAU O’R SIOP, NEU FWYD A DIOD O’R TŶ COFFI. [Ni chaniateir ei ddefnyddio gydag unrhyw gynigion eraill sy’n bodoli ar y pryd.] www.kerfoots.com enquiries@kerfoots.com Ffôn: 01766 512256 Llais Llais Ardudwy

CALENDR LLAIS ARDUDWY

Calendar 2016 - dim ond £4 neu £5.50 drwy’r post. Anrheg Nadolig Delfrydol ond does dim llawer ar ôl!

20 A

Ardudwy


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.