Llais Ardudwy 50c
RHIF 458 RHAGFYR 2016
PENCAMPWRAIG ENDURO GWLEDYDD PRYDAIN
CALENDR LLAIS ARDUDWY Bargen am £4. Maen nhw’n gwerthu’n dda!
Hanner Marathon yng Nghaerdydd
Cefnogi’r Gymdeithas Strôc Llongyfarchiadau i Elin Williams, Charlie Roberts ac Angharad Rayner o Dalsarnau am redeg hanner marathon Caerdydd er budd y Gymdeithas Strôc. Roedd Charlie am wneud hyn er cof am ei thad, a fu farw flwyddyn yn ôl. Mae’r merched yn dal i dderbyn cyfraniadau i’r gronfa.
Hanner Marathon yn Seland Newydd Llongyfarchiadau mawr i Glesni Non Jones, 19 oed, o Drawsfynydd, yn y byd rasio motobeics, sydd wedi ei chadarnhau yn bencampwraig Enduro Gwledydd Prydain am 2016 yn dilyn ei buddugoliaeth yn y rownd olaf yn Thetford, Norfolk yn ddiweddar. Roedd yn gystadleuaeth 9 rownd a chyn hynny bu’n cystadlu yn Helmsley, Ynys Manaw, Rhaeadr ac Aldershot. Rhaid bod yn heini iawn i gymryd rhan. Yn ystod y ras, sy’n para am tua 5 i 6 awr, bydd yn teithio dros 100 milltir dros dir garw yn erbyn y cloc a’i chyd-gystadleuwyr. Bob awr a hanner rhaid dod i mewn am betrol i’r mannau gwasanaeth. Mae’n ymarfer bob cyfle sydd ar gael, rhwng ei horiau gwaith yng Nglanllyn fel hyfforddwraig awyr agored. Bob yn ail benwythnos mae’n rasio gyda WOR Events sydd hefyd yn ei noddi. Does dim gorffwys yn y maes yma, a bydd allan yn cystadlu eto’r penwythnos yma ac wedyn bob yn ail dros y gaeaf. Bu Glesni yn llwyddiannus yn erbyn y dynion hefyd. Eleni cafodd yr anrhydedd o gael ei gwobrwyo efo’r teitl ‘Personoliaeth y Flwyddyn 2015/16’ yn adran y merched o Ffederasiwn Motobeics Cymru. Mae Glesni yn ferch i Rhodri a Sarah Jones [Evans gynt], ac yn wyres i Gerallt ac Ann Evans o Fodurdy Toyota yn Harlech. Cyw o frid felly! Mae’r teulu yn falch iawn o’i llwyddiant ac maen nhw am i ni ddweud ‘Da iawn Glesni!’ Mae’n bleser gennym wneud hynny.
Rhedeg ymlaen Llongyfarchiadau i Alun Llŷr Williams, Trem Enlli, Llanaber [mab John a Grace Williams, Hendreclochydd] ar ei gampau ym myd rhedeg. Ar 19 o Dachwedd cynhaliwyd ras Marathon Rhyngwladol yn Queenstown, Seland Newydd, wedi ei noddi gan ‘Air New Zealand’. Roedd dwy ras, sef y marathon llawn a’r hanner marathon gyda chyfanswm o 9,500 o redwyr yn cystadlu. Cafodd Alun gryn lwyddiant yn yr hanner marathon gan ddod yn bumed allan o 5,000 o redwyr mewn amser o 1 awr 16 munud.
Llais Ardudwy
HOLI HWN A’R LLALL
GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk (07760 283024
SWYDDOGION
Cadeirydd: Hefina Griffith (01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com
Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones (01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@Intamail.com Casglwyr newyddion lleol Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960 Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Ragfyr 30 am 5.00. Bydd ar werth ar Ionawr 5. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn y Nadolig fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’
2
Enw: Stephen John Doran Gwaith: Cymhorthydd Proffesiynol yng Nghlwb Golff Dewi Sant. Cefndir: Cefais fy ngeni a’m magu yn Newcastle, Swydd Down yng Ngogledd Iwerddon. Rwyf i a’m teulu o gefndir amaethyddol ond rwyf bellach yn amlwg wedi troi at y golffio. Cychwynnais chwarae’r gêm pan oeddwn yn 7 oed - hynny yw 22 o flynyddoedd yn ôl. Symudais i fyw i Harlech ym mis Ebrill 2012 ac fe gwrddais â fy nghariad Lois Roberts yn fuan wedyn. Rydym bellach yn rhentu Morlais i fyny’r ffordd o dafarn y Llew yn Harlech. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Byddaf yn cerdded llawer o filltiroedd wrth chwarae golff ac rwyf hefyd yn mwynhau chwarae tenis yn ystod yr haf. Yn ogystal â hyn rwyf yn hoff o gerdded yn y gaeaf. Beth ydych chi’n ei ddarllen? The Chimp Paradox yw’r llyfr rwyf yn ei ddarllen ar hyn o bryd. Fel hyfforddwr golff, mae’n bwysig fy mod yn edrych ar bob agwedd o berfformio. Rwyf yn hoff iawn o’r llyfr. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu?
1 oren mawr 2 satsuma neu glementine 3 lemon
Rwyf yn hoff iawn o raglenni Americanaidd ond fy ffefryn yw’r rhaglen Suits. Rhaglen am gyfreithwyr ydi hi ac rwyf yn ei mwynhau yn fawr; mae’n ddoniol iawn. Ydych chi’n bwyta’n dda? Ydw pan gaf y cyfle. Ond nid wyf yn bwyta’n rheolaidd. Gyda bywyd prysur yn y siop nid wyf bob amser yn cael y cyfle i fynd am ginio ar adegau call. Hoff fwyd? Rwyf yn hoff iawn o unrhyw gig, yn enwedig bwyd barbeciw. Ond yn anffodus, diolch i’r hinsawdd Gymreig, nid oes modd cael barbeciw yn rhy aml. Fe fuasai rhaid bod fel Mrs Hyacinth Bucket, ‘an indoor/ outdoor barbecue.’ Hoff ddiod? Rwyf yn hoff iawn o Guinness ond fy hoff ddiod ydi llefrith siocled. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Boris Johnson! Credaf ei fod yn berson hynod o alluog a buaswn wrth fy modd yn clywed yr hyn sydd ganddo i’w ddweud am yr holl fusnes BREXIT yma. Lle sydd orau gennych? Fy hoff le i yw Perth yng Ngorllewin Awstralia. Ond mae Harlech yn agos iawn i’m calon. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Bûm ar wyliau gyda Lois i ymweld â’i theulu yn Awstralia ddwy flynedd yn ôl. Cawsom amser gwych yno ac fe gefais groeso mawr ganddyn nhw. Wrth gwrs, roedd yr hinsawdd yn dra gwahanol. Roedd hi’n braf gallu gwneud trefniadau heb boeni yn ormodol am y tywydd. Beth sy’n eich gwylltio? Pobl afresymol. Nid oes dim gwaeth nag unigolyn nad yw’n
fodlon gwrando ar farn na dadl unigolyn arall. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Ffyddlondeb, digrifwch a haelioni ond y pwysicaf yw llawer o amynedd. Mae angen amynedd fel sant gyda mi! Pwy yw eich arwr? Brian O’Driscoll. Fe wnaeth lawer i’m cenedl ar y cae rygbi. Beth yw eich bai mwyaf? Siocled. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Ni fydd unrhyw un yn wirioneddol hapus os oes rhywbeth yn ei boeni. Felly teimlaf mai rhyddid o bob poen yw gwir hapusrwydd. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Rhoi ychydig ohono yn y banc ac efallai gwario’r gweddill ar wyliau a mynd yn ôl i Awstralia. Eich hoff liw? Fy hoff liw yw glas, lliw yr awyr. Eich hoff flodyn? Briallu a meillionen wrth gwrs. Eich hoff gerddor? Jimi Hendrix a’r band byd enwog y Rolling Stones. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Paint it Black gan y Rolling Stones. Pa dalent hoffech chi ei chael? Gallu canu. Yn anffodus, mae’r llais sydd gennyf ar hyn o bryd yn swnio’n debyg i fuwch mewn poen! Eich hoff ddywediad? ‘Before you judge someone, walk a mile in their shoes.’ Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Person hapus a bodlon. Ar hyn o bryd, teimlaf yn falch nad oes ychwaneg o gwestiynau i’w hateb.
GWIN Y GAEAF 12 clof 2 x 750ml potel o win coch brandi i flasu [dewisol]
150g/5½ owns siwgr mân [dewisol] 2 ddarn o sinamon
DULL Tynnwch y croen a’r croen gwyn oddi ar yr oren a’r lemonau a gwasgwch y sudd ohonyn nhw a’i roi ar un ochr. Rhowch y 12 clof yn y 2 satsuma. Tywalltwch y gwin, 2 beint o ddŵr oer a chroen y ffrwythau a’r sudd i sosban fawr. Adiwch y satsumas a’r sinamon. Codwch y gymysgedd i’r berw ac yna troi’r gwres i lawr nes y bydd yn mudferwi. Rhowch gaead arno a gadewch iddo fudferwi am awr. Adiwch y siwgr yn raddol wrth iddo goginio hyd nes y byddwch yn hapus gyda’r melyster. [Mae’n bosib na fydd angen y siwgr i gyd.] Hidlwch y gwin a’i weini mewn cwpanau cynnes.
Y BERMO A LLANABER Y Gymdeithas Gymraeg Pleser o’r mwyaf oedd croesawu Haf Llewelyn atom yn ein cyfarfod mis Tachwedd. Mae Haf yn gyfarwydd iawn i ni gyd; un o ferched Allt Goch, Cwm Nantcol. Mae’n byw yn Llanuwchllyn ers bron i ddeng mlynedd ar hugain, yn briod â Siôn ac yn fam i bedwar o blant. Mae Haf wedi ysgrifennu sawl llyfr i blant, cyfrol o farddoniaeth, ‘Llwybrau’, tair nofel i oedolion sef ‘Y Graig’, ‘Mab y Cychwr’ a’r nofel ddiweddaraf ‘Y Traeth’. Difyr iawn oedd clywed hanes yr holl ymchwil yr oedd Haf wedi ei wneud cyn dechrau ar y nofelau. Sgwrs ddiddorol iawn yn llawn bwrlwm a hiwmor. Edrychwn ymlaen at ddarllen llawer mwy o’i gwaith eto yn y dyfodol. Bydd y cyfarfod nesaf yn Eglwys Christchurch ar Ragfyr 7 gyda Chôr Meibion Ardudwy yng ngofal y noson. Croeso cynnes i bawb.
ARFORDIR CYMRU
Rhodd i’r Llais Gareth a Dorothy Williams Craig-yr-wylan £20
THEATR HARLECH Ffôn: 01766 780667
RHAGFYR 8, 7.30yh – FFILM, Bread and Roses, Ken Loach – hanes dwy chwaer sy’n gweithio fel glanhawyr mewn swyddfa sy’n brwydro am yr hawl i ffurfio undeb. 9-10 + 12-14 – FFILM, Fantastic Beasts and Where to Find Them (9fed a 12-13eg am 7.30, 10fed am 2.30 a 7.30). Anturiaethau awdur mewn cymdeithas gudd o wrachod a dewiniaid yn Efrog Newydd 70 o flynyddoedd yn ôl – cyn i Harry Potter ddarllen ei lyfr yn yr ysgol. 15, 7.00yh – o’r NTL yn fyw, No Man’s Land. Ian McKellen a Patrick Stewart yn serennu fel dau awdur oedrannus wedi eu dal rhwng byw a marw yn nhir neb, drama enwog Harold Pinter. 16-23 a 27-29 – FFILM, Rogue One: A Star Wars Story, gwrthryfelwyr yn cynllwynio i ddwyn cynlluniau’r ‘Seren Farwolaeth’. (16-17 am 2.30 a 7.30, 18fed am 7.30, 19-23 a 27-29 am 2.30 a 7.30) 18, 3.00yp - Bale Bolshoi yn perfformio The Nutcracker yn fyw. Un o’r sioeau bale mwyaf poblogaidd gyda cherddoriaeth hudolus Tchaikovsky. Mae anrheg Nadolig merch ifanc yn ei harwain at antur ryfeddol. Mwy o fanylion ar www.theatrardudwy.cymru neu ffoniwch 780667
Arfordir Cymru ar S4C Ym mhennod gyntaf y gyfres nesaf o Arfordir Cymru a fydd yn cael ei darlledu cyn bo hir ar S4C, mae Bedwyr Rees yn teithio o gyffiniau afon Dwyryd hyd aber afon Mawddach, y Bermo. Mae’n ymweld ag Ynys Gifftan ac yn cwrdd â Derwyn Evans i gael hanes codi tywyrch ar y glastraeth. Mae’r glaswellt yno’n berffaith ar gyfer chwarae pêl ac mae’n rhyfedd meddwl fod tywyrch o’r fan honno wedi mynd i lefydd fel Wimbledon ac Wembley! Bydd Bedwyr yn ymweld ag Eglwys hyfryd Llandanwg ac yn cael hanes afon Artro a thwyni Morfa Dyffryn gan Rhodri Dafydd, hogyn lleol sydd bellach yn gweithio i Gyfoeth Naturiol Cymru. Yn y Bermo, mae Bedwyr yn rhyfeddu at brydferthwch llwybr y Panorama cyn cael holl gyfrinachau rhai o enwau’r dref yng nghwmni John Sam Jones, sydd yn hanu o deulu o ofaint yn yr ardal. Dyma daith amrywiol a thrawiadol sydd yn ddathliad o brydferthwch a hanes Ardudwy! Cofiwch wylio’r rhaglen!
Dymuna Gareth a Dorothy Williams Craig-yr-wylan, Llanaber Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb
Eglwys Christ Church Bermo Nos Fercher, Rhagfyr 7 am 7.30 Noson yng nghmwni CÔR MEIBION ARDUDWY Noddir gan Gymdeithas Gymraeg y Bermo
Croeso cynnes i bawb! 3
LLANFAIR A LLANDANWG Merched y Wawr Llanfair a Harlech Llongyfarchwyd Bronwen Williams ar ddod yn hen nain i Ffion Medi, ac Ann Evans ar ddod yn nain i Efa. Yna aethpwyd ymlaen i drafod materion yn ymwneud â’r mudiad. Y gŵr gwadd oedd Rob Booth o’r Ymddiriedolaeth Natur. Ei bwnc y tro hwn oedd Gwarchodfa Coed Crafnant, sy’n cynnwys Coed Crafnant a Choed Dolbebin. Gyda’i gilydd maent yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig helaeth Rhinog yn y Parc Cenedlaethol. Mae’r warchodfa yn enghraifft wych o goetir hynafol gyda chyfoeth o o fwsogau, llysiau’r afu, rhedyn a choed derw sydd hefyd yn gartref i sawl math o drychfil, aderyn a mamal. Roedd Rob yn ein hannog i ymweld ag ardal sydd mor gyfoethog o fyd natur. Cafwyd sgwrs ddiddorol ganddo a braf cael nodi mai dysgwr ydy Rob a dyma’r ail dro yn unig iddo siarad yn gyhoeddus yn y Gymraeg. Diolchwyd iddo gan Sue. Gwenda a Cassie baratodd y baned ac Eirlys enillodd y raffl.
Plygain Cyfeillion Ellis Wynne
Cynhelir Plygain Cyfeillion Ellis Wynne, y Lasynys Fawr, yn Eglwys Llanfair am 7.00 yr hwyr ar 18 Ionawr 2017. Mae croeso i unrhyw un ymuno â pharti’r Lasynys a chymryd rhan yn y noson. Cynhelir yr ymarfer cyntaf yn y Lasynys ar brynhawn Sul, 11 Rhagfyr, am 3 o’r gloch. Cynhelir yr ail ymarfer ar brynhawn Sul, 15 Ionawr 2017. Croeso i bawb. Yn dilyn y Plygain bydd lluniaeth ar gael yn Neuadd Llanfair a byddem yn hynod ddiolchgar unwaith eto am bob cymorth ar y noson; cysylltwch os gwelwch yn dda ag Elfed Roberts ar 770621 neu elfedtynffridd@gmail.com
4
MyW YN CREU CARDIAU NADOLIG
Hefina Griffith, Llywydd yn cyflwyno blodau i Mrs Gwen Pettifor i ddiolch iddi am roi o’i hamser a’i harweiniad yn y dosbarth creu cardiau Nadolig. Isod gwelir yr aelodau fu’n ymarfer y grefft.
Stori ddifyr gan W Large
Dros gan mlynedd yn ôl, bu llongddrylliad yn y Môr Tawel. Dim ond un morwr, sef Joni Jones, lwyddodd i achub ei hun. Nofio am ynys fechan wnaeth Joni a bu’n trigo yno ar ei ben ei hun heb weld neb am flynyddoedd. Un diwrnod mi sylwodd fod mwg i’w weld ar y gorwel ac yn fuan wedyn gwelodd stemar fawr yn dŵad yn syth at ei ynys. Ymhen ychydig glaniodd cwch efo Captan a hanner dwsin o forwyr. Cawsant groeso mawr gen Joni. Wedi cael ei hanes am y llongddrylliad ag ati aeth Joni a nhw o gwmpas ei ynys. Roedd wedi adeiladu tŷ go sylweddol iddo fo ei hun, wedyn sylwodd y Captan bod dau adeilad arall ddim yn bell o’i gilydd, “Be ydi’r adeilad yma?”, gofynnodd y Captan. “Wel, Capal wrth gwrs”, oedd ateb Joni. “Wel beth am yr adeilad arall acw?”, holodd y Captan. “Wel, dyna’r Capal dydw i ddim yn mynd iddo fo”, medda Joni.
MAPIAU DEGWM Dyweddïad Llongyfarchiadau i Bethan Owen, Cae Cethin, Llanfair ac Adam Cain o Fae Colwyn ar eu dyweddïad yn ddiweddar. Mae’r ddau yn gweithio yn Llundain. Pob dymuniad da i chi’ch dau oddi wrth y ddau deulu. Rhodd a diolch £10 Mapiau Degwm i Bawb Dewch i weld hen fapiau gogoneddus o’r ardal ar y we. Cafodd yr ardal hon, fel bron pob ardal yng Nghymru, ei mapio yn fanwl yn ystod yr 1840au ar gyfer casglu’r degwm. Mae’r mapiau yma i gyd, dros 1,200 ohonynt, wedi eu digido yn y Llyfrgell Genedlaethol ac maent ar-lein ar wefan cynefin. cymru. Croeso i unrhyw un fynd ar y wefan yma i edrych arnynt, a chymharu’r hyn a fu gyda beth sydd yma heddiw. Mae prosiect Cynefin hefyd wedi digido dogfennau’r degwm sy’n mynd gyda’r mapiau. Mae’r rhain yn enwi pwy oedd yn talu’r degwm, a phwy oedd perchnogion y tir, gwybodaeth ddiddorol iawn i haneswyr teulu. Gan amlaf mae’r wybodaeth wedi ei rhoi fesul cae, ac mae hefyd yn cynnwys enwau’r caeau a’r defnydd tir. Mae’r dogfennau a’r mapiau yma yn cael eu trawsgrifio gan wirfoddolwyr er mwyn ei gwneud yn bosib i bawb allu eu harchwilio yn hwylus yn y dyfodol, ac mae dros fil o bobl yn rhan o’r prosiect eisoes. Er hynny, mae digon o waith ar ôl ac os hoffech chi ymuno gallwch wneud hynny yn rhwydd ar wefan cynefin.cymru, neu trwy anfon e-bost at cynefin@llgc.org.uk Elin-Haf Llyfrgell Genedlaethol Cymru Aberystwyth SY23 3BU 01970 632534
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Diolch Dymuna Mrs Cynthia Jones, Wenallt, Llanbedr ddiolch i’w ffrindiau a’i theulu am y cardiau, anrhegion a’r llu o flodau gogoneddus a gafodd ar achlysur dathlu pen-blwydd arbennig iawn yn 80 oed yn ddiweddar. Yn ychwanegol, rhannodd rodd o £70 rhwng yr Ambiwlans Awyr ac Ymatebwyr Cyntaf Harlech. Diolch hefyd i ferched yr ystafell de yn y Wenallt am drefnu parti penblwydd blasus i’r holl ymwelwyr. Rhodd a diolch £10 Teulu Artro Croesawyd pawb gan Gweneira. Rhoddwyd croeso cynnes i Mrs Winnie Griffith atom. Cofiwn am Winnie’n byw ym Mhenrhiw a’i chymwynasau i lawer. Estynnwyd croeso hefyd i Jennifer o Benbryn, Saesnes sydd yn dysgu Cymraeg ac yn siarad yr iaith yn dda iawn. Cafwyd ymddiheuriadau gan Beti a Pam. Roedd yn ddiwrnod pen-blwydd i Beti ac yn dathlu gyda’r teulu yng Nghastell Deudraeth. Bydd ein cinio Nadolig yng Ngwesty’r Fictoria fis nesaf ac edrychwn ymlaen. Ein gŵr gwadd am y trydydd tro oedd Mr Ken Robinson a chroesawyd efo gan Gweneira. Testun ei sgwrs oedd y rheilffordd o Bermo i Riwabon. Cafwyd sleidiau ardderchog o’r daith gyda hanes diddorol am y gwahanol leoedd. Mae’n dda bod y lein wedi ail agor o Langollen i Gorwen. Diolchodd Glenys i Mr Robinson am fynd â ni yn ôl i’r cyfnod cyn cau’r lein a oedd mor hwylus i fynd i Gaer a Lerpwl. Enillwyd y rafflau gan Gweneira a Glenys.
Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch RHAGFYR
11 Capel Nantcol, Mrs Morfudd Lloyd 18 Capel Salem, Parch Dewi Tudur Lewis IONAWR 2017 8 Capel y Ddôl, Parch Dewi Tudur Lewis
Cydymdeimlad Cydymdeimlwn â Mr Hugh Jones, Ty’n Llan, a’r teulu yn eu profedigaeth o golli ei chwaer yn ddiweddar yn Harlech. Cymdeithas Nantcol Nos Lun, 16 Ionawr, bydd Dr Iwan Rees, Harlech yn sôn am ‘Tafodieithoedd Cymreig’. Croeso i bobl nad ydyn nhw yn arfer mynychu. Genedigaeth Llongyfarchiadau i Lowri a Peter, Cae Nest, ar enedigaeth eu merch fach, Cadi Fflur. Gwella Gobeithio fod Andy Anderson, Bryn Deiliog, yn dal i wella ar ôl ei lawdriniaeth yn Ysbyty Glan Clwyd. Carolau Ar 11 Rhagfyr bydd Canu Carolau yn Eglwys Sant Pedr am 4.00 o’r gloch. Rhoddion Diolch am y rhoddion canlynol - Geraint Owen £12, - Gwenda Davies £10
Canolfan y Band, Harlech
GYRFA CHWIST er budd y Ganolfan newydd yn Llanbedr
Nos Iau, Ionawr 19 am 7.30 o’r gloch
Merched y Wawr Nantcol,
Ddechrau mis Tachwedd, croesawyd pawb yn gynnes gan Anwen ein Llywydd, a rhoddodd groeso arbennig i Jennifer sydd wedi symud i fyw i’r ardal, ac yn ddysgwraig, i’n plith. Cawsom noson ddifyr iawn ar ‘Gymorth Cyntaf ’ yng nghwmni Jon Dodson Jones, parafeddyg yn gweithio o orsaf Porthmadog. Roedd wedi bod â diddordeb yn y gwaith ers yn blentyn, a dechreuodd weithio fel dyn ambiwlans ym 1981. Roedd yn un o’r pedwar cyntaf i gymhwyso i ddefnyddio teclyn diffib yng Ngwynedd. Dangosodd inni sut mae’r galon yn gweithio, a beth sy’n digwydd pan mae rhywun yn cael trawiad. Aeth ymlaen i egluro’r drefn os oes rhywun yn galw 999 gyda’r ymatebwyr cyntaf yn mynd gyntaf gan eu bod yn lleol ac yna’r ambiwlans yn dilyn. Os ydi rhywun o gyrraedd ffôn tŷ ac ar y ffôn symudol ond heb signal, mae’n dal yn bosib ffonio 999 a chael ymateb bob amser. Eglurodd am yr AED, yr Automatic External Defibrilator a ddefnyddir ganddyn nhw, a’r PAD, sef y Public Access Defibrilator, a ddefnyddir gan y cyhoedd mewn achosion brys. Mi fyddai’n braf petai mwy o’r teclynnau PAD ar gael ym mhob cymuned meddai. Dangosodd y bagiau sydd gan bob parafeddyg ac egluro’u
cynnwys, gydag eitemau i drin pob digwyddiad, at bethau y dylid chwilio amdanynt yn y claf ar ôl damwain neu ddigwyddiad sef ABC - airway, breathing, circulation, ynghyd â splints ayyb. Eglurodd bod llawer o’r technegau wedi eu datblygu o’r gwaith yng nghamp Bastion yn Afghanistan. Cafodd yr aelodau gyfle ar y diwedd i’w holi. Diolchodd Anwen yn gynnes iawn i Jon am ddod atom ac am sgwrs mor ddifyr. Ar ôl cael paned, aethom ymlaen i drafod ychydig o faterion. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Einir ac Elinor Dolgau, a llongyfarchwyd Elinor ar enedigaeth Cadi Fflur, merch fach Lowri a Pete. Darllenwyd y cofnodion, a’u cael yn gywir. Cawsom wybodaeth am gwrs crefft aur y gogledd yn Glasdir, Llanrwst fis Ionawr, a gohebiaeth am berfformiad o ‘Raslas’ yn Y Galeri yng Nghaernarfon. Derbyniwyd gwahoddiad i aelod o’r gangen ddarllen yn y gwasanaeth Llith a Charol yng nghapel Salem, Dolgellau, ar Ragfyr 4ydd. Ceri enillodd y raffl. Bydd ein cyfarfod nesa yng nghwmni Siân Jones a fydd yn coginio ar gyfer y Nadolig.
R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU
Croeso cynnes i bawb
ENGLYN DA
Ni Ddaw i Neb Ddoe yn Ôl
Er arian ac er eiriol, - er wylo, Er alaeth beunyddiol, Er gweiddi yn dragwyddol, Ni ddaw i neb ddoe yn ôl. Anhysbys
5
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn Neuadd yr Eglwys bnawn Mercher, 16 Tachwedd. Croesawyd pawb gan Gwennie. Cydymdeimlodd â Glenys Jones yn ei phrofedigaeth o golli ei chwaer, Eira. Llongyfarchodd Beti Parry ar ddathlu ei phen-blwydd yn 94 ac Iona Anderson ar ddod yn hen nain i efeilliaid. Diolchodd i Eifiona ac Anona am roi’r te er cof am eu mam, Mrs Emily Jones. Penderfynwyd yn ein gwasanaeth Diolchgarwch, fis Hydref wneud casgliad tuag at Apêl Nadolig Cymorth Cristnogol a chasglwyd £47. Yna croesawodd Mair Penri a’i gŵr Penri, atom, y ddau wedi teithio o Gaerdydd i fod gyda ni. Fel y gellid disgwyl cafwyd pnawn ardderchog yng nghwmni Mair. Cawsom ganddi hanes ei hewythr Llew a fu’n garcharor rhyfel yn ystod yr ail ryfel byd o dan y Japaneaid. Sobrwyd ni gan yr erchyllterau a ddioddefodd ef a’i gydgarcharorion. Roedd ei hewythr wedi ysgrifennu’r hanes ond wedi gadael allan yr erchyllterau gwaethaf. Diolchodd Enid Owen yn gynnes iawn i Mair am ddod atom ac am brynhawn ardderchog. Ar 21 Rhagfyr byddwn yn mynd i Nineteen 57 am ein cinio Nadolig, yno erbyn 12.00. Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at Mrs Glenys Jones a’r teulu, Cerist, Dyffryn, yn eu profedigaeth o golli chwaer Glenys, sef Mrs Eira Muscroft, Penrhyndeudraeth. Diolch Dymuna Glenys a’r teulu o Gerist, 3 Ffordd yr Orsaf, Dyffryn, ddiolch o galon am yr holl gardiau, galwadau ffôn ac am yr ymweliadau a gawsom yn ein profedigaeth o golli chwaer a modryb annwyl sef Eira Muscroft yn ddiweddar. Hefyd, diolch am y rhoddion hael a dderbyniwyd at Ward Alaw. Mae’r cyfan yn gymorth mawr i ni yn ein hiraeth. Diolch a rhodd £10
6
Festri Lawen, Horeb Nos Iau, 10 Tachwedd, yn y Festri Lawen, cawsom gwmni Geraint Jones o Drefor. Croesawyd a chyflwynwyd Geraint Jones gan Raymond Owen. Testun ei sgwrs oedd yr hen drempyn John Preis ac mae Geraint wedi ysgrifennu cofiant iddo. Hawdd iawn oedd gwrando arno yn dweud hanes ac adrodd storïau am y cymeriad hynod yma. Nid oedd y gair diolch yn dod i eirfa John Preis o gwbl ac roeddem yn edmygu caredigrwydd pobl Llŷn ac Eifionydd at ddyn mor anniolchgar a sarrug. Diolchodd Raymond yn gynnes i Geraint am noson ddifyr a hwyliog. Gofalwyd am y te gan Enid, Aldwyth, Jane ac Ann. Ar 8 Rhagfyr byddwn yn cael cwmni Trefor a Rhiannon i Ganu Plygain a bydd bwffe i ddilyn. Clwb Cinio Dydd Mawrth 15 Tachwedd, aeth criw da i’r Black Boy yng Nghaernarfon am ginio. Cafwyd cinio ardderchog yno ac yna aed ymlaen i’r Castell i weld yr arddangosfa o’r pabi coch sydd wedi denu cymaint o ymwelwyr. Radio Cymru Amser cinio dydd Llun, 14 Tachwedd, mewn rhaglen ar y Rhyfel Mawr, darllenwyd rhannau o ddyddiadur Mr Edmund Davies, London House a ysgrifennodd ef yn ystod Brwydr y Somme a Choedwig Mametz. Cadwodd siop London House am flynyddoedd lawer ac mae llawer ohonom yn ei gofio fel gŵr bonheddig tawel a charedig iawn.
Neuadd Bentref Dyffryn 20 Rhagfyr am 7.00 Noson o Ganu Carolau Arweinydd: Aled Morgan Jones
Eitemau gan
Gôr Meibion Ardudwy Paned a mins peis
CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT CEISIADAU CYNLLUNIO Ail-doi’r cwt mochyn gyda llechi - Fferm Abaty Egryn, Tal-y-bont Cefnogi’r cais hwn. Ceisiadau cynllunio a phenderfyniad arnynt Codi derbynfa newydd yn cynnwys estyniad i’r tŷ - Parc Caerelwan, Tal-ybont - caniatáu Newid defnydd o siop farbwr i fwyty bwyd poeth cario allan - Llwyn, Dyffryn Ardudwy - caniatáu Cais cynllunio hen neuadd Sefydliad y Merched, Tal-y-bont Cafwyd gwybod bod Mrs Gregory o Gwelfryn, Tal-y-bont wedi cysylltu ag ef yn datgan pryder bod y tŷ sy’n cael ei adeiladu ar y safle uchod yn rhy uchel ac yn cuddio rhan o’u tŷ nhw sydd drws nesa. Gwrthododd y Parc Cenedlaethol gais am ymweliad safle. Bydd Mrs Gregory yn mynd a’r mater at yr Ombwdsman a chytunwyd i’w chefnogi. GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd - Adran Gyfreithiol Bydd rhan o Ffordd Glan y Môr, Tal-y-bont yn cau i gerbydau er mwyn gwneud gwaith adnewyddu ar y brif bibell garthffosiaeth. Disgwylir cwblhau’r gwaith o fewn 65 diwrnod. UNRHYW FATER ARALL Cytunwyd i roi’r angen am goeden newydd a goleuadau Nadolig yn Nhaly-bont ar agenda’r mis nesa. Cafwyd gwybod bod angen trwsio’r gyli dŵr ger mynedfa’r neuadd. Mae angen gwneud rhywbeth ym maes parcio’r neuadd oherwydd nad ydy’r golau’n gweithio yn iawn. Mae coeden wedi disgyn ger Pont Fadog. Mae angen gwneud rhywbeth ynghylch ceir yn parcio ar hyd y stryd. Mae clymog Japan yn tyfu yn ffos Ffordd y Llan ac mae angen cysylltu gyda Chyfoeth Naturiol Cymru.
Apêl Ym mis Ionawr mae’n fwriad gan rai ohonom ddod at ein gilydd yn Festri Horeb un prynhawn yr wythnos i wau. Fel rhan o brosiect cenhadol is-bwyllgor chwiorydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru byddwn yn gwau maneg gôf (twiddle mitts). Mae’r faneg gôf ar gyfer pobl sydd yn dioddef o ddementia ac mae’n rhywbeth i’r claf afael ynddo a ffidlan hefo fo ac mae’n helpu i leihau pryder a hybu tawelwch. Os oes gan rywun ohonoch edafedd dros ben nad ydych ei angen, buasem yn falch o’i dderbyn gan ein bod am eu gwneud mor lliwgar â phosib. Croeso i unrhyw un ymuno â ni; mae’r patrwm yn un syml iawn. Gallwch gysylltu ag Enid Owen neu Gwennie Roberts.
Gwasanaethau’r Sul, Horeb
RHAGFYR 11 Parch Carwyn Siddall 18 Gwasanaeth Nadolig 25 Llith a Charol am 9.00
Ymddiriedolwyr Gwaddol Addysgol Ellin Humphrey Penodwyd Catrin Evans Edwards yn glerc newydd i’r bwrdd. Bydd yn olynu Ray Owen, sy’n ymddeol ar ôl cwblhau’r dyletswyddau am 18 mlynedd. Diolchwyd iddo am ei waith dros y blynyddoedd gan y cadeirydd, Pat Thomas. Estynnwyd croeso arbennig i wyneb newydd ar y bwrdd, sef Pat Williams, a enwebwyd gan Goleg Meirion Dwyfor. Ymunodd Ray Owen â bwrdd yr elusen yn 1996, gan gymryd drosodd y dyletswyddau clercio oddi wrth y diweddar Iorwerth Williams, dair blynedd yn ddiweddarach. Gweithgaredd pwysig arall yn ystod y cyfarfod oedd dosbarthu arian 2016 i fyfyrwyr o Dal-y-bont a Dyffryn Ardudwy sydd ar eu blwyddyn gyntaf neu ail o gwrs prifysgol. Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i’r myfyrwyr fod o dan 25 ac yn byw oddi cartref er mwyn dilyn cyrsiau addysg uwch. Eleni, dyrannwyd arian i 12 o fyfyrwyr. Mae’r ymddiriedolwyr yn dymuno pob llwyddiant iddynt ar eu cyrsiau.
NEWYDDION YR URDD
Trigolion Dyffryn Ardudwy ar Sul y Cofio
Ffarwelio ag Anti Susan
Cylch Meithrin y Gromlech Diolch yn fawr i Anti Susan am 9 mlynedd o wasanaeth i Gylch Meithrin y Gromlech. Mae wedi rhoi blynyddoedd o atgofion melys i blant y Gromlech. Diolch yn fawr a hwyl fawr i Anti Susan. Cydymdeimlad Trist oedd clywed am farwolaeth Mrs Margaret Bowater, Pentre Uchaf. Cydymdeimlwn â’i meibion Clinton a Brendon a’r teulu oll yn eu profedigaeth.
Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes
Cofion Anfonwn ein cofion a’n dymuniadau gorau at Mrs Ann Williams, Llwyn Ynn (Ann Parc Isa), sydd yn yr ysbyty ar ôl syrthio a thorri ei chlun.
Pêl-droed Bu ysgolion Talsarnau a Llanbedr yn cystadlu mewn pêl-droed 5-bob-ochr yn y Bermo yn ddiweddar. Ar ddiwedd noson gynhyrfus iawn, llwyddodd Llanbedr i ennill y gystadleuaeth. Llongyfarchiadau i Ysgol y Traeth ar ennill pêl-droed 7-bob-ochr y Rhanbarth. Mi fyddan nhw’n cynrychioli’r Rhanbarth yn y gystadleuaeth yma yn y Chwaraeon Cenedlaethol yn Aberystwyth. Cymru Teithiodd deugain a dau o aelodau Ysgol Ardudwy i weld Cymru yn erbyn Georgia. Do, yn wir, fe gafwyd diwrnod penigamp er nad oedd y sgôr yn plesio wrth wneud y daith hir yn ôl i’r gogledd. Pêl-rwyd Mae nifer o ysgolion wedi cymryd rhan yn y pêl-rwyd gydag Ysgolion y Traeth a Llanbedr yn sicrhau eu lle yn y rownd Ranbarthol. Nofio Mae nifer dda wedi cystadlu’n y nofio yn ddiweddar ac wedi sicrhau eu lle yn y Gala Cenedlaethol ar ddiwedd Ionawr. Staff newydd Cychwynnodd dau aelod newydd o staff yn y Rhanbarth ar ddechrau Medi sef Ifan Ywain o Ddolgellau fel Swyddog Datblygu Cynorthwyol, gan weithio am dridiau’r wythnos a Gwenan Morgan Owen o Fontddu (Cwm Nantcol gynt) sydd wedi ei phenodi fel Swyddog Gweinyddol hyd at ddiwedd Mawrth 2017. Rhestr testunau Mae rhestr testunau Eisteddfod 2017 ar gael i’w phrynu drwy ffonio Swyddfa’r Eisteddfod ar 01678 541012. Cyfryngau cymdeithasol Cofiwch y gallwch ein hoffi ar facebook.com/urdd. meirionnydd, ymweld â twitter. com/urddmeirionnydd neu e-bostio Dylan@urdd.org Dylan Elis Urdd Gobaith Cymru Swyddog Datblygu Meirion
7
HARLECH Sefydliad y Merched Croesawodd y Llywydd Christine Hemsley’r aelodau i’r Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd yn Neuadd Goffa Harlech ar nos Fercher 9 Tachwedd. Rhoddwyd croeso arbennig i Lywydd y Ffederasiwn, Mrs Meinir Lloyd Jones, oedd efo ni am y noson. Dymunwyd yn dda i bawb oedd yn sâl ac yn arbennig i Dorothy Harper oedd wedi mynd i Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Madog. Canwyd y gân Meirion gyda Myfanwy Jones yn cyfeilio. Rhoddwyd cardiau pen-blwydd i aelodau oedd yn dathlu penblwyddi ym mis Tachwedd. Darllenwyd llythyr o’r sir a nodwyd dyddiadau o bwys, sef y prynhawn carolau yn Eglwys Crist yn y Bermo ar 2 Tachwedd a diwrnod ym Mhlas Tanybwlch ar 1 Tachwedd, hefyd noson yng Nghaffi’r Castell ar 14 Rhagfyr ac wythnos trefniadau gan Gyngor Cymuned Harlech yn dechrau 1 Rhagfyr gyda gorymdaith y plant gyda llusernau a noson siopau’n agored yn hwyr ar 1 Rhagfyr. Cafwyd adroddiad gan y Trysorydd Sheila Maxwell ac yna cafwyd adroddiad gan bob un o’r pwyllgor ar eu gwaith trwy gydol y flwyddyn. Diolchwyd i bawb gan y Llywydd am y gwaith a wnaed gan bawb ac am y cymorth a roddwyd iddi trwy’r flwyddyn. Ail-etholwyd Christine am y drydedd flwyddyn i fod yn Llywydd. Ail-etholwyd y Pwyllgor i gyd eto. Cafwyd hanes difyr iawn am hanes ‘Ceiniogau dros Gyfeillgarwch’ oedd yn cael eu casglu bob wythnos. Diolchodd Meinir Lloyd Jones am y gwahoddiad i Harlech a diolchodd i bawb am wneud cymaint at achos Sefydliad y Merched. Roedd y rhan fwyaf o’r aelodau wedi dod â gwaith crefft i’w ddangos; roedd dau fwrdd arddangos a gwaith bendigedig yn cael ei ddangos. Cynhelir y cyfarfod nesaf yng Nghaffi’r Castell nos Fercher, Rhagfyr 14, 2016.
8
Dydd Sul y Cofio Daeth tyrfa fawr at y Gofgolofn yn Harlech fore dydd Sul 13 Tachwedd 2016. Cychwynnwyd y bore gyda gwasanaeth yn yr Eglwys am 9.45 yng ngofal Sheila Naylor ac yna wrth y gofgolofn am 10.40. David Naylor oedd yng ngofal cloch yr Eglwys ac ar ôl y 2 funud cychwynnwyd y gwasanaeth. Darllenwyd yr Anogaeth gan Tom Mort a rhan y Lleng Prydeinig a’r Kohima gan Roy Gamlin. Rhoddwyd y torchau pabi ar ran y Lleng Prydeinig gan Tom Mort, ar ran y Burma Star gan Myfanwy Jones a Pam Ainsworth, ar ran Cyngor Cymuned Harlech gan y Cadeirydd Edwina Evans, ac ar ran Ffederasiwn yr Heddlu gan Mark Armstrong. Rhoddwyd torchau pabi gan wahanol fudiadau yn Harlech a gan deuluoedd rhai oedd wedi colli rhai annwyl yn y rhyfel. Cymerwyd rhan gan Seindorf Arian Harlech o dan arweiniad Heledd Evans. Chwaraewyd y Caniad Olaf a Chaniad y Bore gan Gethin Sharp. Rhoddwyd y gweddïau a’r fendith gan Sheila Naylor. Darllenwyd y weddi heddwch gan Mrs Pat Turton. Yn yr ysbyty Dymuniadau gorau i Mrs Melanie Griffiths, 24 Y Waun, sydd wedi bod yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Gobowen am beth amser ond sydd wedi dod adref yn ddiweddar. Genedigaethau Llongyfarchiadsu i Sara Mai a Brython, ar enedigaeth Guto Sion Hywel, ŵyr arall i Rhian a John Powell Jones, Rhianfa, Heol y Bryn. Mae Sara a Brython wedi ymgartrefu ym Mhenyffordd. Llongyfarchiadau hefyd i Siân a Stuart Lamkin ar enedigaeth Osian Ted, brawd i Elis Dylan. Mae Siân a Stuart yn byw yn Widnes. Mae taid a nain, Dylan a Judith Roberts, Gorwel Deg, Heol y Bryn wedi gwirioni!
PLYGAIN
Plygain y Lasynys yn Llanfair Cynhelir Plygain Cyfeillion Ellis Wynne, y Lasynys, yn Eglwys Llanfair am 7.00 ar nos Fercher, 18 Ionawr 2017. Yn y llun gwelir y tri brawd Dyfan Roberts, Gerallt Rhun ac Arfon Gwilym a fu’n cymryd rhan ym Mhlygain 2016. Teulu’r Castell Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod gan Edwina Evans ddydd Mawrth 8 Tachwedd a gynhaliwyd yn Neuadd Goffa Llanfair. Dymunwyd yn dda i aelodau oedd yn methu bod gyda ni. Mae pawb yn meddwl am M M Williams, Dorothy Harper ym Mangor, a Rhiannon Jones wedi dod adref. Mae cinio wedi ei drefnu yn y Brondanw, Llanfrothen, ar 6 Rhagfyr. Ar ôl trafod y busnes cafwyd prynhawn hwyliog yn chwarae bingo gyda Hefin Jones yng ngofal y bingo gyda help Gwenda. Enillodd Meirion Thomas ‘full house’ dair gwaith – da iawn, Meirion. Diolch i Gwenda Jones am ofalu am y gwobrau. Diolch i bawb oedd wedi trefnu’r te ac wedi dod a gwobrau raffl.
Diolch Dymuna Mrs Mair Jones, Eithinog, Cae Gwastad ddiolch yn ddiffuant i’w llu cyfeillion am bob caredigrwydd a dderbyniodd ganddyn nhw yn dilyn y driniaeth gafodd i gael clun newydd yn ddiweddar. Gwerthfawrogwyd hyn yn fawr.
Eglwys Sant Tanwg HARLECH Nos Sul, Rhagfyr 11 am 6.00 o’r gloch
Gwasanaeth Undebol gyda Seindorf Arian Harlech a Meibion Prysor Croeso cynnes i bawb.
CYNGOR CYMUNED HARLECH Yr Heddlu Croesawodd y Cadeirydd yr Heddlu i’r cyfarfod i drafod materion o bwys i’r aelodau. Cafwyd gwybod fod 3 achos troseddol wedi digwydd yn y dref yn ystod y mis diwethaf; hefyd, cafwyd gwybod bod yr Heddlu’n barod i helpu gyda’r cynllun gwarchod cymunedol i fusnesau a chytunodd Judith Strevens roi ei manylion cyswllt iddynt. Nadolig 2016 Mae rhestr ddigwyddiadau wedi ei llunio a fydd yn rhedeg o 26 Tachwedd hyd 25 Rhagfyr. Mae trefniadau ar y gweill i archebu’r coed ac mae’r trefniadau yn symud ymlaen yn dda. Cytunodd rhai o’r aelodau i helpu ar y noson. Bydd Mr a Mrs Aled Williams yn beirniadu’r gystadleuaeth addurno ffenestri a bydd yr enillydd yn cael ei wobrwyo ar ddiwedd y gwasanaeth Nadolig yn yr Eglwys ar yr 11eg. Cae Chwarae Brenin Siôr Cafwyd ateb gan Field in Trust ynglŷn â chael darn bach o’r cae uchod er mwyn lledu’r ffordd at y pwll nofio a’u bod yn datgan, gan fod y cae’n elusen a’i phwrpas yw darparu cae chwarae cyhoeddus fel cofeb i Frenin Siôr V, bod y gwarediad arfaethedig yn gyfangwbl groes i’r pwrpas hwnnw. Wedi dweud hynny, gallai’r gwarediad ddigwydd ar yr amod ei bod yn fuddiol i’r elusen, sef os bydd tir addas arall yn cael ei gysegru yn ei le. Byddai angen eu caniatâd i gynnwys ystyriaeth o dir addas arall i fwrw ymlaen. CEISIADAU CYNLLUNIO Adeiladu 4 tŷ fforddiadwy - Tir ger Bryn Awel, Hwylfa’r Nant. Cefnogi’r cais. Cais ôl-weithredol i osod cerflun eryr dur - Parc Gwyliau Min y Don. Cefnogi’r cais. Cais ôl-weithredol i osod cerflun draig dur - Parc Gwyliau Castle View. Cefnogi’r cais. Grisiau allanol ac agor drws newydd yn lle ffenestr - Gwalia, Stryd Fawr. Cefnogi’r cais. UNRHYW FATER ARALL Datganwyd pryder nad oedd dim yn digwydd parthed cae chwarae Llyn y Felin.
PÊL-DROED
Diolch i Arawn Jones, Cerrig Gwaenydd gynt, am y llun isod o dîm pêl-droed Harlech a dynnwyd yn Nolgellau. Hwyrach y gall un o’n darllenwyr roi rhagor o fanylion am y llun i ni. Dyma rai o’r enwau: Rhes gefn: Ralph Lloyd, Ifan Gruff Ellis,?,?, Owen Williams [Groeslwyd], ?,?,?. Rhes flaen: Cyril John Williams, Ken Wyn Jones, Sulwyn Williams, Arwyn Jones, Iddon Lloyd Jones, Robin Owen.
Dathlu Hwyliog yn Harlech Roedd awyrgylch braf a hwyliog yn nhref Harlech ar noson gyntaf mis Rhagfyr pan oedd y siopau i gyd yn agor yn hwyr. Roedd y Seindorf yno ac roedd aelodau Côr Meibion Ardudwy yn perfformio y tu allan i’r castell. Clywyd cryn ganmol hefyd i fand Ysgard o Ysgol Ardudwy a fu’n perfformio y tu allan i’r Llew Glas. Cafwyd gorymdaith o lusernau drwy’r dref, byrddau crefft mewn sawl sefydliad, gwin y gaeaf ac ymweliad gan Sion Corn - y cyfan yn fodd i greu awyrgylch hyfryd yn y dref. Daeth y noson i ben wrth i’r dorf ymuno â’r Seindorf a’r Côr Meibion i ganu carolau ar y cyd. Wedi hynny tynnwyd y raffl fawr. [Gobeithiwn gynnwys enwau’r buddugwyr yn ein rhifyn nesaf.]
9
TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN
Teulu estynedig Eisingrug a ddaeth at ei gilydd am aduniad yn ardal Waunfawr yn ddiweddar. Ymddiheuro Ymddiheurwn i Mrs Meinir Jones am gael ei chyfenw yn anghywir yn ein rhifyn diwethaf wrth i ni nodi iddi ennill un o wobrau cenedlaethol y Mudiad Meithrin. Llongyfarchiadau eto Meinir. Hyderwn fod y rhosod wedi cyrraedd yn ddiogel! Dathlu Mae Gwynfor a Beryl Williams, Angorfa, wedi dathlu dau achlysur arbennig yn ddiweddar - sef 50 mlynedd o briodas a phen-blwydd Gwynfor yn 80. Llongyfarchiadau mawr a’n dymuniadau gorau i’r ddau. Cyngerdd Hoffai swyddogion eglwysi Llandecwyn a Llanfihangel-ytraethau diolch yn fawr iawn i Gôr Meibion Ardudwy a Canami-gei am gynnal noson werth chweil yn Neuadd Talsarnau yn ddiweddar. Diolch i Aled Morgan ac Ann Jones, yr arweinyddion, ac i Idris Lewis ac Elin Williams, y cyfeilyddion. Diolch arbennig i Phil Mostert am gyflwyno’r noson mewn dull mor hwyliog. Diolch hefyd i’r gynulleidfa deilwng ac i bawb a gyfrannodd ar y noson. Rhodd a diolch £10 Cristingl Cynhelir gwasanaeth Cristingl eglwysi Llandecwyn a Llanfihangel yn Neuadd Talsarnau am 4.30 o’r gloch ar Ragfyr 18. Llanfihangel-y-traethau Cynhelir gwasanaeth am 10.00 o’r gloch ar fore Dydd Nadolig yn Eglwys Llanfihangel-ytraethau.
10
Merched y Wawr - Cangen Talsarnau Croesawodd y Llywydd Siriol Lewis bawb i’r cyfarfod yn y Neuadd nos Lun, 7 Tachwedd a dechreuwyd drwy gyd-ganu cân y mudiad. Darllenwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a nodwyd rhai materion o’r Pwyllgor Rhanbarth 21 Tachwedd. Penderfynwyd cael bwrdd gwerthu yn Ffair Nadolig y Neuadd nos Iau, 24 Tachwedd a bydd Anwen a Dawn yn gofalu am y bwrdd a gwnaed apêl am gyfraniadau. Trafodwyd lleoliad ein cinio ’Dolig a chytuno yn y diwedd i fynd i’r Fictoria yn Llanbedr am ginio ganol dydd, ar 15 Rhagfyr. Bydd Siriol, Anwen, Margaret a Mai yn cymryd rhan yn y Cwis Cenedlaethol yn Neuadd
Llanelltyd nos Wener, 11 Tachwedd. Cytunwyd i dderbyn gwahoddiad Cangen Trawsfynydd i ymuno â hwy i ddathlu Gŵyl Ddewi nos Iau, 16 Mawrth 2017. Atgoffwyd pawb o’r Llyfr Lloffion yn dathlu hanner can mlynedd y mudiad gan wneud apêl arbennig am i bawb chwilio am hen luniau ayyb. Nodwyd y bydd Cystadleuaeth y Bowlio Deg 2017 yng Nglanllyn nos Wener, 17 Chwefror. Gwerthwyd y cardiau Nadolig i’r aelodau a rhannwyd rhifyn y Gaeaf o’r Wawr. Yna, pleser oedd i’r Llywydd estyn croeso i’n gwraig wadd heno, sef Gwen Pettifor o Lanfair a ddaeth atom i arddangos ei gwaith creadigol hyfryd o wneud mwclis
Damwain Roedd yn arw iawn gan bawb yn yr ardal glywed am ddamwain ddifrifol Bryn Williams, Tŷ Gwilym, ddigwyddodd wrth iddo gerdded adref ddydd Llun 28 Tachwedd. Aethpwyd ag ef i Ysbyty Stoke. Rydym yn meddwl llawer amdano ac am Wendy a’i deulu oll yn ystod yr amser pryderus yma.
Er cof Er cof annwyl am fy chwaer Miwriel Williams, Cefn Gwyn, Ynys, Talsarnau. Hiraeth mawr a llawer o ddagrau. Eirlys, Rhodd £20
hardd gyda gwahanol fath o gerrig o bob lliw, yn ogystal â gwneud cardiau cyfarch. Cawsom gyflwyniad diddorol ganddi a chael gwybod sut roedd yn creu a gosod y cerrig i wneud y mwclis. Cawsom hefyd afael a theimlo’r cerrig lliwgar. Roedd ganddi lond bwrdd o’i chynnyrch a chafwyd cyfle i weld ei harddangosfa wych ar y diwedd. Diolchodd Margaret i Gwen am ddod atom i arddangos ei chrefft arbennig gan edmygu ei dawn greadigol a’i hamynedd yn creu’r cyfan. Paratowyd y baned ar y diwedd gan Gwenda J a Bet, a Haf enillodd y raffl.
Neuadd Talsarnau
GYRFA CHWIST NADOLIG Nos Iau Rhagfyr 8 am 7.30 o’r gloch
Croeso cynnes i bawb
Bedwyr Rees yn sgwrsio gyda Derwyn Evans ar y glastraeth. Byddant i’w gweld ar y rhaglen deledu ‘Arfordir Cymru’ ar y teledu cyn bo hir.
CYNGOR CYMUNED TALSARNAU Maes Parcio Cilfor Mae Cyngor Gwynedd yn fodlon trosglwyddo rhan o’r tir i’r Cyngor hwn er mwyn ei ddatblygu yn faes parcio am £1. Cytunwyd i hyn mewn egwyddor ond bydd angen gofyn yn gyntaf am amcanbris o’r gost i ddatblygu’r tir. CEISIADAU CYNLLUNIO Gosod 3 antenna newydd a 7 dysgl ynghyd â chabanau ychwanegol Gorsaf Ddarlledu, Yr Onnen, Llandecwyn Cefnogi’r cais hwn. Codi un tŷ marchnad agored - Tir ger y Ship Aground Cefnogi’r cais hwn yn y gobaith y bydd y tŷ’n ddarpariaeth ar gyfer pobl leol. Gosod bwyler gwres canolog olew allanol a thanc olew - Glyn Cottage Cefnogi’r cais hwn. Ceisiadau am gymorth ariannol Canolfan Hamdden Harlech £500 GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd - Adran Briffyrdd I gychwyn yn haf 2017, bydd y gost o lenwi pob bin halen yn y gymuned cyn y gaeaf yn £40 y bin ac ail-lenwi bin ar gais y Cyngor Cymuned yn ystod y gaeaf yn £60 y bin. Gosod plac Derbyniwyd llythyr gan Mrs Janice Jones yn gofyn am ganiatâd i osod plac ym mynwent Llanfihangel-y-traethau er cof am ei gŵr, Mr Dafydd Jones. Cytunwyd i roi caniatâd i hyn. Hamdden Harlech ac Ardudwy Derbyniwyd e-bost yn datgan bod camddealltwriaeth wedi digwydd a’u bod yn disgwyl cymorth ariannol gan y Cyngor yn ystod 2016/17 gan eu bod i lawr £2,750 yn eu cyllideb. Mae’r Cyngor dan yr argraff nad oedd angen arian arnyn nhw am y flwyddyn ariannol hon oherwydd yr ymrwymiad gyda’r praesept ym mis Ebrill 2017 a bod Cyngor Gwynedd yn mynd i roi £20,000 iddynt er mwyn eu cynnal hyd fis Ebrill 2017. Felly, cytunwyd i beidio rhoi dim cymorth ariannol iddynt rŵan. Hefyd, eisiau datgan siom fawr fod pob dim ganddynt yn uniaith Saesneg. Os na fydd y cofnodion, posteri ayyb yn ddwyieithog erbyn Ebrill 2017 bydd y Cyngor Cymuned yn tynnu’n ôl o roi’r arian yr oeddynt wedi ei addo iddynt ar y praesept. UNRHYW FATER ARALL Nid yw’r gwrych ger y lloches bws yn Llandecwyn wedi ei dorri. Nid yw’r llygaid cathod wedi eu hailosod ar y ffordd ar ôl peintio’r llinellau gwyn, hefyd bod yr arwyddion rhybudd yn dal ar hyd ochr y ffordd. Pam nad oedd y llinellau gwyn wedi eu hailosod ar y ffordd ger Cei Newydd? Mae cyflymder y band eang yn araf; awgrymwyd bod y cwsmer yn cysylltu gyda’i ddarparwr gwasanaeth ynglŷn â hyn.
R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286 Ffacs 01766 771250
Honda Civic Tourer Newydd
CD NEWYDD HOGIA HARLECH
‘COFIO’ 1. Pictiwrs Bach y Borth 2. Caru Cymru 3. Moel y Geifr 4. Cofio Gwynfor 5. Llosgi’r Bont 6. Nant y Mynydd 7. Y Border Bach 8. Ofer Chwilio 9. Llwybr y Mynydd 10. Somewhere Between
£10
Ar werth yn Siop Eifionydd neu drwy John a Roger [01766 780525]
ANRHEG NADOLIG DELFRYDOL!
Prysor a Margaret Roberts mewn cinio i’r teulu estynedig yn y Clwb Golff yn Harlech yn ddiweddar. Pob hwyl ar y fordaith!
GWOBRAU SIOE ARDDIO HARLECH Cwpan Arddio Harlech - R O Edwards Tlws Cadman - R O Edwards Tlws Glaslyn trophy - R O Edwards Tarian Goffa R G Williams - Mrs T Lampert Tlws Bermo [nionyn mwyaf] - I B Lewis Cwpan Langley [betys gorau] - R O Edwards Arddangosfa orau - R O Edwards Cwpan Mochras - E M Jones Cwpan Goffa’r Sefydlwyr - E M Jones Cwpan Proctor - E M Jones Ffarwel haf gorau - E M Jones Cwpan Goffa T M Jones - E M Jones Cwpan Haulfryn - E M Jones Tlws Ffarwel Haf - E M Jones Tarian Ralph Highley - E M Jones Ffarwel haf atblygedig - E M Jones Ffarwel haf atgyrchol - E M Jones Blodau canolraddol - E M Jones Ail yn nosbarth y ffarwel haf - R Anerlay Bowlen Croeso 69 - Mrs B Roberts Cwpan Goffa A W Thomas - Mrs B Roberts Gwobr Maidment - Mrs T Lampert Cwpan Iris Pugh - Mrs P Elford Pwyntiau uchaf mewn coginio a chrefftau - G Jones Hambwrdd North - G Jones Tlws Emyr Williams [gwin] - G Jones Tlws Garddwyr Bermo [gwin gorau] - R Kirkman Tlws Marchogion Ardudwy [ffotograffiaeth] - Mrs L Yemm
11
BWYD A DIOD 136-140 STRYD FAWR, PORTHMADOG, GWYNEDD LL49 9NT
Dewch draw i’r Siop am sbec - mae rhywbeth i bawb yma! Gorffennwch eich ymweliad â phaned, teisen neu bryd o fwyd blasus mewn awyrgylch hamddenol.
DISGOWNT O 10% WRTH GYFLWYNO’R HYSBYSEB YMA AR NWYDDAU O’R SIOP, NEU FWYD A DIOD O’R TŶ COFFI. [Ni chaniateir ei ddefnyddio gydag unrhyw gynigion eraill sy’n bodoli ar y pryd.] www.kerfoots.com enquiries@kerfoots.com Ffôn: 01766 512256 Llais Llais Ardudwy
Ardudwy
Port a Chaws i Siôn Corn! Does dim byd tebyg i wydred o Bort - gwyn neu goch. Mae’r enw yn dod o’r ddinas Oporto lle yn draddodiadol roedd yr arferiad i yrru’r gwin i gyd i gael ei aeddfedu. Dyma le, yn yr hen ddyddiau, y byddai’r gwinoedd yn cyrraedd ar gychod, yn dod a’r gwin i lawr yr afon beryglus o’r gwinllannoedd sydd i fyny yn y gefnwlad. Y gwahaniaeth rhwng gwin a Phort yw bod Port wedi’i atgyfnerthu gyda gwirod. Mae hyn yn wahanol i sieri, lle mae’r atgyfnerthu yn dod ar ôl y gwin orffen eplesu. Gyda Phort, mae’r eplesiad yn darfod wrth roi alcohol ynddo tra bod siwgr naturiol yn dal ar ôl ynddo, felly, gallwch ddweud bod Port yn win coch melys. Mae Port yn cael ei weld fel partner naturiol i gaws ond efallai ein bod yn anghofio cymaint o amrywiaeth o gawsiau sydd i’w bartneru. Mae caws cryf yn gallu lladd rhai o’r gwinoedd coch gorau. Os yr ydych chi ddigon lwcus i fod a stash o Claret yn y twll dan staer, peidiwch â’i yfed o efo’ch
Stilton (neu well fyth, caws glas Cymraeg!). Dyma le mae Tawny Port yn gweddu’n hyfryd, yn gryf a melys i herio blas hen gaws glas pwerus. Mae Late Bottled Vintage wedi’i aeddfedu yn y botel yn lle mewn casgen mawr bren. Yn bersonol, dwi’n mwynhau caws caled fel Hafod gyda hwn, ond mae’n hwyl arbrofi i ddarganfod beth sy’n apelio at eich dant chi. Efallai fod Port gwyn yn fwy diarth i ni ond yn wir, mae’n werth cadw potel yn yr oergell am lymed bach cyn bwyd a dwi’n sicr base Siôn Corn yn gwerthfawrogi llymed cyn dringo’n ôl i fyny’r simdde. Ceir dau fath, sych neu felys a gynhyrchir gyda grawnwin gwyn. Mae’r steil sych yn fwy canolig mewn gwirionedd. Awgrymaf wydred o hwn y Nadolig yma, un ai fel aperitif neu gyda’ch mins peis wrth eistedd wrth danllwyth o dân! Nadolig Llawen! Llinos Rowlands Gwin Dylanwad Wine Dolgellau
SAMARIAID Llinell Gymraeg 0808 164 0123
12
YSGOL ARDUDWY
Y Cyngor Ysgol Mae’r Cyngor Ysgol newydd wedi’i ethol. Y cynrychiolwyr yw : B7 Patrick Foster a Keira Williams, B8 Mali Henshaw ac Ellis Jones, B9 Alaw Hughes a Mared Jones, B10 Jessica Cunnington-Holmes a David Hall, B11 Jenna O’Brien ag Elliw Muscroft.
Parchu bywyd gwyllt morol
Mae’r Prosiect Ecosystemau Morol Llŷn yn ymchwilio dulliau o reoli’r môr fyddai’n gwella ein dealltwriaeth o’r amgylchedd morol, hyrwyddo adferiad a gwytnwch ecosystemau, heb gael effaith niweidiol ar bysgotwyr a chymunedau lleol. Un elfen o’r prosiect ydyw’r côd morol sydd wedi ei gyflwyno eleni. Mae’r côd yn anelu tuag at ddiogelu’r bywyd gwyllt godidog sydd gennym yn yr ardal ac wrth ei ddilyn gall pawb fwynhau’r môr, heb darfu na dychryn unrhyw ddolffin, lamhidydd neu aderyn sy’n nythu ar y creigiau.
Sêr Gweithgareddau 5x60 Y disgyblion sydd wedi cymryd rhan lawn mewn Gweithgareddau 5x60 yn yr ysgol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yw Osian Ephraim Elan Rayner ac Elin Lane. Aeth Tarian Disgybl 5x60 y Flwyddyn ar gyfer Ysgol Ardudwy i Elan Rayner am ei chyfranogiad mwyaf mewn sesiynau, ei pharodrwydd i helpu ac am fod yn gydchwaraewraig da iawn. Llongyfarchiadau i ti Elan.
Dolffin Ardal Gadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau I gyd-fynd â’r ymgyrch, mae rhai o ddisgyblion Ysgol Ardudwy wedi dylunio logo a fydd yn cael ei ddatblygu fel dyluniad swyddogol ar gyfer Ymgyrch Neifion. Agorwyd y gystadleuaeth i ddisgyblion B7 yn Nhywyn, Ardudwy, Eifionydd, Glan y Môr a Botwnnog. Gofynnwyd i’r disgyblion gynnwys cymeriad ar ffurf dolffin gyda llinell fachog yn hyrwyddo’r côd morol. Lansiwyd y gystadleuaeth yn ddiweddar gan yr AS Liz Saville Roberts yn Ysgol Tywyn. Yn ôl Liz Saville: ‘Dwi’n hynod o falch fod ysgolion lleol yn Nwyfor a Meirionnydd wedi eu cynnwys yn yr ymgyrch yma, ymgyrch sy’n dod â rhanddeiliaid ynghyd er mwyn annog defnydd cyfrifol o fadau dŵr ar hyd ein harfordir godidog. Edrychaf ymlaen yn arw at weld dyluniadau’r plant.’ Cesglir holl ymgeision yr ysgolion cyn y Nadolig, ac fe gyhoeddir yr enillydd yn y flwyddyn newydd. Am fwy o fanylion am y gystadleuaeth Ymgyrch Neifion, neu am Broject Ecosystemau Morol Llŷn, cysylltwch â Catrin Glyn drwy e-bostio CatrinGlyn@Gwynedd.llyw.cym
Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/llaisardudwy/docs
Llais Ardudwy
Arian ar gael i astudio’n Gymraeg Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig arian i’r rhai hynny sy’n dymuno dilyn cyfran o’u cwrs prifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg yn 2017. Gall unrhyw ddarpar fyfyriwr wneud cais am ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg er mwyn derbyn hwb ariannol sylweddol yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol. Cynigir hyd at £3,000 i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio o leiaf 66% o’u cwrs trwy’r iaith a hyd at £1,500 i rai sydd eisiau dilyn o leiaf 33% ohono trwy’r Gymraeg. Yn ychwanegol, mae Ysgoloriaeth William Salesbury o £5,000 ar gael i unigolyn sydd am astudio cwrs a gynhigir yn gyfan gwbl trwy’r Gymraeg. Mae hyd at 500 o gyrsiau ar draws prifysgolion Cymru yn gymwys i dderbyn yr arian a dylid sicrhau bod cwrs yn gymwys i dderbyn ysgoloriaeth cyn ymgeisio. Gellir gwirio p’un a ydy cwrs yn gymwys i dderbyn ysgoloriaeth trwy ddefnyddio’r Chwilotydd Cyrsiau sydd ar wefan y Coleg Cymraeg neu trwy lawrlwytho’r fersiwn Ap. Un oedd yn falch o glywed bod Newyddiaduraeth yn gymwys i dderbyn arian oedd Elen Davies, sydd bellach yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd: ‘Mae’r arian o gymorth i brynu deunyddiau dysgu ac wrth gwrs i fwynhau bywyd cymdeithasol y brifysgol! Mae’r ffurflen gais yn cymryd ychydig funudau i’w llenwi a’r cyfan sydd angen ei wneud yw dewis astudio rhan o’r cwrs drwy’r Gymraeg.’’ Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ffurflen gais i dderbyn y Brif Ysgoloriaeth yw Ionawr 15, 2017. Gellir cael rhagor o wybodaeth am ysgoloriaethau israddedig a lawrlwytho ffurflen gais y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2016 trwy ymweld â’n gwefan.
13
Bardd yw Eurig Salisbury ac mae ôl bardd ar ei nofel Cai. Rhan o dasg bardd, wrth gwrs, yw cyfleu neges yn gryno iawn; heb os, canlyniad y ddisgyblaeth honno yw’r stori hon ac iddi lawer tro annisgwyl, a hynny mewn llai na 40,000 o eiriau, sef gofynion cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith. O fewn y cyfyngiad geiriol yma hefyd cyffyrddir â nifer o themâu, megis y diffyg cefnogaeth i gelf yng Nghymru, yr elfen o hap a siawns wrth geisio sicrhau cefnogaeth i brosiectau ymchwil, yr ecsodus o’r Gymru wledig i Gaerdydd, a’r diffyg parch i’r Gymraeg. Mae yma hefyd enghreifftiau lu o’r blas a gaiff Eurig Salisbury ar fwytho geiriau ac o greu cymariaethau bachog. Cymhara’r Gymraeg prin a geir yng ngohebiaeth unigolyn ‘fel mân gyraints mewn torth o fara brith’, a dyma un enghraifft o’r dweud pert iawn sy’n britho’r nofel. Ond er yr ysgrifennu cain mewn iaith goeth, y stori sy’n arwain, er efallai nad yw honno’n cydio o ddifri tan eich bod tua chwarter ffordd drwy’r nofel. Yn y chwarter cyntaf gosodir y gefnlen a chawn gyfle i ddod i adnabod y prif gymeriad, Cai, sy’n fyfyriwr ymchwil yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth. Ond o hynny ymlaen mae’r tempo yn cynyddu. Mae yna newid annisgwyl arall cyn cyrraedd y diwedd – try’r gwaith yn nofel dditectif, ac fe ges i flas arbennig ar yr helfa. Stori gyfoes yw stori Cai, a phan gododd y cyfeiriad at Dryweryn suddodd fy nghalon – ai rhyw gawl eildwym, ystrydebol oedd y nofel hon wedi’r cyfan? Ond doedd dim rhaid i fi boeni; defnyddir yr hanes cyfarwydd mewn ffordd ffres a chredadwy. Mae llawer o bethau i’w canmol yn y nofel hon. Mwynheais yn arbennig y symud rhwng dau leoliad, o Aberystwyth drefol, fywiog y myfyrwyr i Feirionnydd lawiog, wledig â’i phoblogaeth hŷn; o lety llwm y myfyrwyr i foethusrwydd hynafol Plas Helygog, cartref yr artist Aeres Vaughan, gwrthrych ymchwil Cai. Dywedodd beirniaid y Fedal Ryddiaith fod y nofel hon yn llawn haeddu’r wobr mewn cystadleuaeth gref a’i bod yn eang ei hapêl. Cytunaf yn llwyr. Mae Eurig Salisbury yn ddi-os yn fardd talentog, ond mae bellach hefyd yn nofelydd penigamp. Dana Edwards Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
14
Cyfrol gan gyfaill da i Dic Jones yw hon, ac o ganlyniad ceir pethau ynddi na fyddem wedi eu cael mewn hunangofiant. Yn ogystal ag atgofion a thrafodaeth ddeallus iawn ar lawer o’r cerddi, daw dyfnder gwybodaeth yr awdur, Idris Reynolds, am ei fro, y traddodiad barddol Cymreig a hefyd hanes Cymru i’r amlwg drwy’r gyfrol, ac mae hynny’n cyfoethogi’r gwaith yn fawr. Felly nid cyfrol o atgofion cyfaill yn unig yw hi. Dechreuir drwy olrhain achau teulu Dic, a’r lle amlwg a oedd i gerddoriaeth o fewn y teulu, gydag Abba, ei dad, yn arwain côr Blaenporth a Dic yn aelod ffyddlon ohono. Yna sonnir am dyfiant a datblygiad Dic a rhai o’r bobl a ddylanwadodd ar y gŵr ifanc, pobl fel Mr a Mrs Tegryn Davies a Bois y Cilie, ac yn arbennig Alun Cilie. Trafodir ei gamp fel cynganeddwr llithrig a gwreiddiol a’i awen barod, a cheir enghreifftiau o’i gynganeddu ebrwydd. Llwydda Idris Reynolds i osod stori Dic yn ei chyd-destun cymdeithasol. Roedd Dic yn ffigur amlwg yn ei gymdeithas – cymdeithas a gâi ei dylanwadu’n fawr gan y môr a’r tir. Dyma’r gymdeithas y dylanwadwyd arni hefyd gan ddyfodiad yr RAE. i Aberporth. Yn ôl ei reddf, roedd Dic yn heddychwr ac yn edmygydd mawr o Waldo a’i ddaliadau heddychlon. Aros yn ei gymdeithas a mynd adref at ei dad i ffermio Tan-yr-eglwys a wnaeth Dic ar ôl gorffen yn yr ysgol uwchradd, er y gallai’n hawdd fod wedi cael gyrfa academaidd ddisglair. Nid yw’r awdur yn osgoi trafod yr helynt a achoswyd yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi, pan ddaeth Dic
yn fuddugol gydag awdl ‘Y Gwanwyn’, ac yntau wedi torri rheolau’r gystadleuaeth. Caiff y ddwy awdl fawr, ‘Y Cynhaeaf ’ a ‘Gwanwyn’ gryn sylw yn y gyfrol hon, yn benodol yn y bedwaredd bennod, ‘Bydd gŵr diorffwys yn torri cwysi.’ Dyma a ddywed Idris Reynolds am ‘Y Cynhaeaf ’: ‘Canwyd yr awdl gan fardd a oedd yn hen gyfarwydd ag agor grwn, llyfnu, hau, lladd gwair, torri llafur, dyrnu, godro buwch, ac ar ben hynny gan un a oedd yn ei chyfrif yn fraint ac yn bleser i gael gwneud y gwaith.’ Trafodir bywyd teuluol Dic a’i berthynas hapus â Siân ei wraig, ac â’i blant. Cawn wybod am y plant o gwmpas y fferm ac fel roedd y tad wrth ei fodd yn eu cwmni ac o’u gweld yn tyfu a datblygu – ‘O fewn fy rhiniog rwyf innau’n frenin’. Delir hefyd ag afiechyd a thristwch o fewn y teulu, er enghraifft yr ing a ddaeth yn sgil marwolaeth Esyllt, y ferch fach. Yn ogystal ag yn ei alarnad i Esyllt mae’r ing yn amlwg hefyd yn y gerdd ‘Miserere’, a llinell olaf y gerdd honno a ddewiswyd yn deitl i’r gyfrol hon – ‘Darn o’r haul draw yn rhywle’. Ceir penodau pellach sy’n delio â Dic fel y bardd cymdeithasol yn canu i’w bobol, a hefyd Dic y crefftwr, nid yn unig y crefftwr barddol ond hefyd y crefftwr gwledig wrth ei dasgau bob dydd o gwmpas y fferm. Down i wybod am yr elfen gystadleuol gref a’i nodweddai, boed hynny ar y maes chwaraeon neu’r maes eisteddfodol, ac roedd e’n gystadleuydd brwd bob amser. Cawn wybod am ei gysylltiadau â chrefydd, a pha mor hyddysg oedd e yn ei Feibl, a hyn i gyd yn cyfoethogi ei arddull a’i eirfa. Ac wrth gwrs bu’n gyfrannwr cyson i fyd darlledu a’r teledu. Ar ddiwedd ei yrfa cydnabuwyd ei gyfraniad drwy ei ethol yn Archdderwydd, a chyflawnodd y dasg honno ag urddas. Cyfrol i’w thrysori yw hon, felly, gan un a adnabu Dic Jones a’i fro yn dda iawn. Mae fel petai’n cloi pen y mwdwl ar fywyd a gwaith un o’n beirdd galluocaf a mwyaf poblogaidd. John Meurig Edwards Adolygiad oddi ar www.gwales. com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239
Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290
YSWIRIANT I BAWB
E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr
01341 241551
Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.
ALAN RAYNER ARCHEBU A GOSOD CARPEDI 07776 181959
Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00
Sgwâr Llew Glas
Llanuwchllyn 01678 540278
Phil Hughes Adeiladwr
Gosod stofiau llosgi coed Cofrestrwyd gyda HETAS
Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd
01766 780186 07909 843496
Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk
drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]
01766 512091 / 512998
TREFNWYR ANGLADDAU
Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb
JASON CLARKE
GERALLT RHUN
Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504
01341 421917 07770 892016
g.rhun@btinternet.com
www.raynercarpets.co.uk
Tafarn yr Eryrod
Llais Ardudwy
Tiwniwr Piano
Gwynedd
Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297
Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.
Sŵn y Gwynt Talsarnau,
Cefnog wch e in hysbyseb wyr
Tiwnio ... neu drwsio ar dro!
BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU
DAVID JONES
Cigydd, Bermo 01341 280436
Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau
ADEILADWR Gwarantir gwaith o safon.
Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014
Ar agor bob nos 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00
Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 9.00 Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!
MELIN LIFIO SYMUDOL
Gadewch i’r felin ddod atoch chi! www.gwyneddmobilemilling.com
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014 15
Gweddi Bore Nadolig Cyn agor y parselau, Cyn datod y rhubanau, Y gras, O Arglwydd dyro im I gofio’r rhai na chawsant ddim.
YR ENWAU MWYAF POBLOGAIDD I BLANT
PLAS ABERARTRO Llanbedr
Rhagfyr 8 - 10-12 Bore Coffi St Tanwg - Pwll Nofio Harlech Rhagfyr 11 - 4.00 Gwasanaeth Carolau yn St Pedr, Llanbedr 6.00 Gwasanaeth Undebol, St Tanwg, Harlech Rhagfyr 12 - Gŵyl yr Angel yn cychwyn St Ioan, Bermo 6.00 Carolau yn St Ioan, Bermo gyda’r ysgol a Band Harlech Rhagfyr 16 - erbyn 12.30, cinio yn Neuadd yr Eglwys, Dyffryn Rhagfyr 18 - 9.30 Cymun a charolau - Santes Fair, Llanfair 6.00 Eglwysi Unedig Bermo yn Elim 4.30 Cristingl Llanfihangel & Llandecwyn - Neuadd Talsarnau 6.30 Carolau yn Llandanwg Rhagfyr 19 - 4.00 - 8.00 Marchnad Nadolig yn St Ioan, Bermo Rhagfyr 20 - 7.00 Carolau yn Neuadd Dyffryn Rhagfyr 21 11.30am Cymun Nadolig yn Hafan Deg, Bermo Rhagfyr 22 - 2.00 Gwasanaeth Nadolig Hafod Mawddach, Bermo 5.00 Gŵyl y Goleuni Rhagfyr 24 4.30 St Tanwg, Harlech; 5.00 St Pedr, Llanbedr 5.00 St Ioan, Bermo; 7.00 Santes Fair, Llanaber; 7.30. Cymun yn Llanddwywe; 11.30 Cymun yn St Tanwg, Harlech; 11.30 Cymun yn St Ioan, Bermo Rhagfyr 25 10.00 Gwasanaeth Dydd Nadolig Llanfihangel 10.30 Cymun yn Llandanwg, 10.30 St Ioan, Barmouth
DATHLU’R NADOLIG
yng nghwmni SIÔN CORN a BAND ARALL yn Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth am 2.00 o’r gloch y prynhawn
Cyn eistedd wrth y byrddau A gwledda ar dy ddoniau, Rho i mi gofio, Arglwydd Dduw, Y rhai heb fwyd i’w cadw’n fyw. Wrth ganu ein carolau A gwrando ar dy glychau, Rho ras im gofio, dirion Dad, Y mud a’r byddar yn ein gwlad. Wrth ddawnsio rownd y goeden A’r lliwiau ar bob cangen, Gad i mi gofio Iesu hoff Fod rhai yn ddall a rhai yn gloff. Cyn edrych ar y cardiau A chofio am ein ffrindiau, O dwg i’m cof trwy’r cofio i gyd Fod rhai heb gyfaill yn y byd. Yng nghanol fy nghyfeillion A miri’r cwmni rhadlon, Gad i mi gofio ambell un Fydd heddiw ar ei ben ei hun. A minnau eto eleni Yn llon ar Wŷl y Geni, Gad i mi gofio’r rheiny sy’ Y diwrnod hwn mewn galar du. Cyn mynd i’r gwely heno, O Arglwydd gad im gofio Y rhai na chawsant ddim o’r hwyl A gefais i ar ddydd yr Wŷl. Selyf Roberts
YR ADFENT YN ARDUDWY
Enwau o darddiad Cymreig Bechgyn 1) Dylan 2) Harri 3) Osian 4) Rhys 5) Evan neu Efan 6) Jac 7) Morgan 8) Tomos 9) Cai 10) Ioan
Merched 1) Seren 2) Megan 3) Erin 4) Ffion 5) Mali 6) Cadi 7) Alys 8) Elin 9) Lili 10) Lois
Nos Wener, Rhagfyr 16 am 7.30
gyda
Côr Meibion Ardudwy a Pres Mân + Gwin y Gaeaf a Mins Peis Tocyn: £10 Wrth i’r Llais fynd i’r wasg, dim ond 10 tocyn sydd ar ôl. Ymholiadau: 01766 780635
FFAIR AEAF
Dydd Sadwrn, Rhagfyr 10fed, 2016
Stondinau o bob math - cynnyrch cartre’, rafflau, llyfrau, tombola, gemau i’r plant ac ati ac ati. Agorir gan LIZ SAVILLE ROBERTS AS Mynediad yn cynnwys lluniaeth: £1.50 CROESO CYNNES I BAWB Trefnir gan Blaid Cymru
Rhewi nid gwastraffu! Mae prynu neu baratoi gormod o fwyd yn beth cyffredin mewn nifer o gartrefi, yn enwedig dros gyfnod y Nadolig. Yn amlach na pheidio, caiff y bwyd sydd dros ben ei daflu a’i wastraffu. Drwy gynllunio a threfnu eich arlwy ymlaen llaw, a manteisio ar eich rhewgell, gallwch leihau cryn dipyn o’r gwastraff hwn – ac arbed rhywfaint o arian yr un pryd! Wrth siopa, cofiwch faint o bobl y byddwch chi’n coginio ar eu cyfer, a cheisiwch osgoi’r demtasiwn o brynu gormod a gorlenwi’r oergell. Oeddech chi’n gwybod y gallwch roi bwyd yn y rhewgell unrhyw bryd hyd at ddyddiad ei ddefnyddio? Mae’r rhewgell yn gweithio fel ‘botwm oedi’, ac felly os ydych yn annhebygol o ddefnyddio’r bwyd cyn y dyddiad hwnnw, gallwch ei roi yn y rhewgell. Wrth baratoi swp mawr o fwyd, gallwch ei rannu’n ddognau a’u gosod yn y rhewgell mewn cynhwysyddion â chaead neu fagiau rhewi. Yna, gallwch dynnu’r union faint o fwyd sydd ei angen arnoch yn ôl dogn o’r rhewgell. Felly beth am baratoi rhywfaint o’ch llysiau ymlaen llaw’r Nadolig hwn? Os nad ydych chi eisiau treulio bore’r Nadolig yn plicio tatws a llysiau, gallwch eu lledferwi am rai munudau, eu draenio a’u hoeri cyn eu gosod yn y rhewgell i’w defnyddio gyda’r cinio Nadolig. Gallwch hyd yn oed goginio eich twrci ymlaen llaw a’i rewi’n ddognau, - meddyliwch faint o amser a straen y byddai hynny’n ei arbed i chi ar y diwrnod mawr! Ewch i www.food.gov.uk/rhewgyfaill i gael rhagor o gyngor ar rewi, paratoi eich twrci, ac ysbrydoliaeth o ran beth i’w wneud ag unrhyw fwyd sydd dros ben!
16
NADOLIG YN Y FFINDIR
Yn ystod fy mhlentyndod, roedd Nadolig y teulu’n llawn hwyl ond roedd straen ar y teulu hefyd. Fel plant roeddem yn disgwyl anrhegion ac fe gawsom rai. Mae euogrwydd ynghylch rhai o fy atgofion. Cofiaf i’m chwaer a minnau agor cwpwrdd rai wythnosau cyn y Nadolig a beth welson ni yno ond dwy ddoli. Y ddwy gyda bochau cochion yn gwenu’n braf gyda’u gwalltiau hyfryd. Mae’n amlwg mai fi oedd i gael y ddoli efo gwallt du a fy chwaer yr un walltfelyn. Ond roedd gan doli fy chwaer ruban felfed coch tlws, ac un llwyd, plaen oedd gan fy un i! Gartref roedd paratoadau’r Nadolig yn cynnwys pobi, glanhau a gwrando ar garolau - ar y radio bryd hynny, wrth gwrs. Byddai Mam yn gwau sanau i fy nhad hyd at y funud olaf. Yr un oedd yr arfer bob blwyddyn - menig o batrwm Carelia, wedi eu gwau gydag un weillen. A bob blwyddyn byddai syndod fy nhad yn aruthrol. Mewn tŷ fferm, roedd y Nadolig yn dechrau trwy olchi’r llieiniau
a’r tywelion i gyd. Ar Sul cyntaf yr Adfent byddem yn mynd i’r eglwys i ganu ac i weld sut roedd y Côr yn llwyddo gyda’r ‘Hoosianna’. Tenor oedd Dad ac roedd yn credu mai ef oedd y gorau; y lleill oedd yn gwneud y camgymeriadau i gyd! Y dasg nesaf oedd pobi. Byddem yn dechrau gyda’r bara sinsir a’r cacennau ond ni chawsem eu blasu tan noswyl y Nadolig. Weithiau byddai Mam yn cuddio’r cacennau mor dda fel na fyddan nhw yn dod i’r golwg tan yr haf! Dau ddiwrnod cyn y Nadolig byddai’r popty mawr yn cael ei danio a byddai’r merched yn coginio pastai Carelia (bara), caserol rutabaga [swejen] a
sauna Nadolig. Yn aml byddem yn diffodd y trydan a mynd i’r sauna yng ngholau cannwyll. Byddai Siôn Corn wedi rhoi’r anrhegion i gyd o dan y goeden Nadolig. Ar ôl y sauna, byddai Mam yn gwneud coffi ac yna byddai’r cacennau blasus yn dod i’r golwg ac yna byddai’n amser agor yr anrhegion. Yn ein teulu ni, rydym yn cadw at yr un traddodiadau mwy neu lai. Bydd fy chwaer a’i moron ac, wrth gwrs, ham. Ar gŵr yn ymuno â ni ar gyfer y y diwrnod mawr, byddem yn gwasanaeth yn yr eglwys leol clirio’r tŷ o’r atig i’r seler. Roedd ac yna byddwn yn mynd i’r rhaid i’r sauna fod yn arbennig o fynwent i osod canhwyllau ar y lân. Roedd hyd yn oed y beudy beddau. Yna i’r sauna gartref ac a’r côr yn cael eu sgwrio’n lân. wedi hynny swper hir ar noswyl Noswyl Nadolig oedd y cyfnod y Nadolig, cyn canu a chwarae mwyaf cynhyrfus. Dyna pryd y gemau gyda’n gilydd. Gormod o byddai’r goeden sbriws yn cael anrhegion, wrth gwrs, ond mae ei chludo i’r tŷ. Roedd Dad yn rhai ohonom wrth ein bodd efo arfer ei dewis hi ac roedd yn pethau fel yna! waith anodd oherwydd trwch Y teulu estynedig: Kaija Parko, yr eira. Gan nad oedd Dad y Tommi Parko, Veera Parko mwyaf amyneddgar, byddai, a Pasi Rajala, Lotta (8 oed) a fel arfer, yn dewis y goeden Markus Rajala (5), Maija Parko leiaf. Cofiaf y pryd o dafod a & Tuomo Meretoja, Lili Parko gawsai gan Mam! Byddem ni’r (4), Sirpa Numminen a Juha plant yn addurno’r goeden gyda Siltanen baneri a rhubanau lliwgar. Kaija Parko Wedi hynny, byddem yn cael pryd o fwyd yn y pnawn ac yna
CYFARCHION NADOLIGAIDD Dymuna Gwenda a Glyn Davies, Bod Iwan, 21 Lôn y Wennol, Llanfairpwll, Ynys Môn anfon eu cyfarchion Nadolig a dymuno Blwyddyn Newydd Dda i’w holl gyfeillion yn ardal Ardudwy
Eleni mae Meurig a theulu Tyddyn Hendre, Cwm Nantcol wedi penderfynu peidio anfon cardiau Nadolig i’w ffrindiau a theulu agos. Dymunwn Gyfarchion yr Ŵyl i bawb yn yr un modd. Byddwn yn anfon cyfraniad at yr Ambiwlans Awyr. Diolch yn fawr.
Hoffai David Jones, Siop Gigydd y Bermo, ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’w holl gwsmeriaid.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n holl gwsmeriaid. TYMHORAU A RHESYMAU Stryd Fawr, Harlech.
NADOLIG LLAWEN A BLWYDDYN NEWYDD DDA I’N LLU FFRINDIAU John a Gwyneth Richards, Hafan Deg, Bryn Eithin, Llandecwyn.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n holl ddarllenwyr.
Oherwydd profedigaeth ddiweddar pan gollais fy chwaer, Ella, ni fyddaf yn anfon cardiau Nadolig eleni. Er hynny rwy’n dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’m holl gyfeillion. Glenys Jones 6 Maes Trefor
Cyfarchion yr Ŵyl a phob dymuniad da ar gyfer 2017 Dei ac Alma, Bryn Coch, Dyffryn Ardudwy
Yn hytrach nag anfon cardiau, byddwn yn cyfrannu at elusen o’n dewis.
17A
SIOE GLAN GAEAF - HARLECH
18 A
SIOE GLAN GAEAF - HARLECH
19 A
Cyw yn dod â swyn y Nadolig i Bwllheli
Mae Cyw a’i ffrindiau yn dod i’r ardal cyn bo hir yn rhan o daith i ddymuno Nadolig Llawen i blant ar hyd a lled Cymru. Bydd rhai o gyflwynwyr a chymeriadau hoffus S4C - Huw, Catrin, Dona Direidi, Seren, Lobs ac, wrth gwrs, Cyw ei hun - yn dod i Bwllheli ar ddydd Iau, 15 Rhagfyr ac maen nhw’n eich gwahodd chi i ymuno â nhw yn yr hwyl. Cynhelir y sioeau yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli ar ddydd Iau, 15 Rhagfyr. Mae tocynnau ar gael ar gyfer y sioeau am 1:45 a 5:45 y prynhawn. Mae’n bosibl archebu ar gyfer grwpiau hefyd, os ydych chi’n dymuno trefnu trip ar gyfer eich ysgol, mudiad meithrin neu grŵp chwarae. Mae croeso mawr i bawb yn Sioe Cyw! Mae’r tocynnau ar gael i’w prynu ar-lein. Ewch i wefan s4c.cymru/ cyw i ddewis pa sioe yr hoffwch ei mynychu ac i brynu eich tocyn. Mae ffi bwcio o £1.00 ar bob archeb ac os oes angen help arnoch chi wrth archebu ar-lein, mae Gwifren Gwylwyr S4C ar gael i’ch helpu, ar 0370 600 4141. Mae Sioe Nadolig Cyw yn boblogaidd iawn pob blwyddyn a’r tocynnau yn gwerthu’n gyflym, felly peidiwch ag oedi!
Dewr arloeswyr Dyffryn Ardudwy
Ym mis Awst 1841 cyrhaeddodd y gwladychwyr sefydlog Cymraeg cyntaf yn Racine, Wisconsin, ar lan gorllewinol Llyn Michigan, tua 62 milltir i’r gogledd o Chicago, a 23 milltir i’r de o Milwaukee. Yn 1843, corfforwyd capel Methodistiaid Cymraeg yno, ac yn 1847 capel Annibynwyr Cymraeg. Er bod dau Gymro oedd yn frodyr o’r cyfenw Jenkins yn Racine cyn 1841, ni fuont yn hir cyn symud oddi yno. Yn y degawd rhwng 1840 ac 1850, roedd yna ymfudiad mawr o bob rhan o Brydain i’r Unol Daleithiau. Blynyddoedd oedd y rheini o ddirwasgiad ymysg y gymuned amaethu, a hynny oedd y prif reswm i gynifer ymfudo. Roeddynt o’r elfen gorau un – nifer ohonynt mewn sefyllfa lled dda, a daeth rhai a chyfoeth sylweddol gyda hwy. Ym mis Ebrill 1841, yng nghymdogaeth wledig Dyffryn Ardudwy roedd yno dipyn o gynnwrf. Yr achlysur oedd ymadawiad saith neu wyth o deuluoedd ynghyd â nifer o wŷr ifanc am yr Unol Daleithiau.
20 A
Racine, Wisconsin yn 1850 Roedd y cwmni’n cynnwys tua deugain i gyd, a hwy ar ôl hynny ddaeth yn gnewyllyn y sefydliad Cymraeg yn nhref Racine. Ar ôl cyrraedd Lerpwl, cyfarfu’r cwmni â thri o deuluoedd eraill o Sir Drefaldwyn, oedd â’u nod am yr Unol Daleithiau fel eu hunain. Cawsant fordaith ar fwrdd y llong Orpheus, ac wedi iddynt gyrraedd Efrog Newydd, aethant cyn belled ag Utica gyda’i gilydd. Ymsefydlodd rhai ohonynt yn y fan honno ond aeth y mwyafrif mawr ohonynt ymlaen ar eu taith, a daethant i Newark, Ohio, a phrynodd rhai ohonynt ffermydd yn y gymdogaeth. Yn
y cyfnod hwn roedd yna ruthrad mawr o ymfudiad i Iowa a Wisconsin. Penderfynodd dau o’r cwmni - Griffith Richards (1788-1860), mab Richard a Jane Griffith, Tyddyn y Felin, Dyffryn Ardudwy a Thomas E Jehu - fynd i ymchwilio’r wlad cyn iddynt sefydlu yn barhaus. Buont yn teithio Illinois ac Iowa yn helaeth, ac yr oeddynt wedi eu bodloni’n fawr gyda pheithiau gwych y taleithiau hynny. Dychwelont i Ohio yn hollol benderfynol y byddent yn lleoli yn Iowa. Pan oeddynt ar fin gadael Ohio rhoddodd rhywun rifyn o’r Weekly Dispatch, Llundain,
iddynt, oedd yn cynnwys hysbysiad gan yr Anrhydeddus Marshall M Strong, oedd yn disgrifio’r manteision yr oedd Sir Racine, Wisconsin, yn ei gynnig i ffermwyr oedd yn ymfudo i ymsefydlu yno. Roedd gan hyn gryn ddylanwad ar y cwmni ac yn tueddu i’w cymell i beidio â mynd i Iowa. Cychwynnont am y gorllewin, heb wybod yn sicr ai i Iowa neu Wisconsin y byddent hwy yn mynd. Pan gyrhaeddont Cleveland, Ohio, canfuant fod yr agerfad yr oeddynt i deithio arni wedi llosgi hyd at ymyl y dŵr rhwng Buffalo a Cleveland. Parodd hynny iddynt oediad yn y lle olaf am wythnos lawn. Yn y cyfamser cyfarfyddont â nifer o bobl oedd wedi bod yn Racine, a phob un ohonynt yn tystiolaethu i brydferthwch ei leoliad ac i ffrwythlondeb y tir cyfagos. Erbyn hyn yr oeddynt yn hollol benderfynol mai yn Racine y byddent yn ymsefydlu. O’r diwedd cyrhaeddodd yr agerfad Bunker Hill a’u cludodd hwy i Racine. W Arvon Roberts i’w barhau