Llais Ardudwy 50c
RHIF 469 - RHAGFYR 2017
TÂN A MÔR
CALENDR LLAIS ARDUDWY 2018 Ar werth yn y siopau rŵan.
Bargen am £4!
Y CO-OP YN CEFNOGI MUDIADAU LLEOL
Mae’n braf cael adrodd am archfarchnad yn cefnogi mudiadau gwirfoddol lleol. Mae gan y cwmni Co-op drefniant sy’n dosbarthu arian i fudiadau. Yn ddiweddar, mae cangen Bermo wedi rhannu dros £11,000 i’r canlynol: Hosbis yn y Cartref £3853, Cylch Meithrin Bermo £3830, Canolfan Gymdeithasol Llanbedr £3623. Yn y llun, fe welir Iona Anderson ac Iolyn Jones yn derbyn siec ar ran Neuadd Llanbedr. Daw’r arian o gynllun sy’n gwadd siopwyr i ddod yn aelod o Co-op. Os ydych yn aelod mae 1% o’r sŵm a gaiff ei wario ar gynnyrch neilltuol y Co-op yn cael ei gyfrannu at fudiad lleol o’ch dewis chi. Ar hyn o bryd, y mudiadau lleol fydd yn elwa o’r cynllun yw Neuadd Dyffryn, Theatr y Ddraig - Bermo a Hen Lyfrgell Harlech. Eich dewis chi yw pa un i’w gefnogi. Yn y dyfodol, bydd cyfle i fudiadau eraill wneud cais i fod yn rhan o’r cynllun.
DILYN Y SEREN
Pob clod i Gymdeithas Dwristiaeth Harlech am geisio bywiogi’r dref cyn y Nadolig a pherswadio pobl i brynu’n lleol yn hytrach na chrwydro i’r trefi mawr a’r dinasoedd. Ar nos Sadwrn, Rhagfyr 2 roedd y siopau yn agored yn hwyr a gwelwyd gorymdaith fawr o Fron-y-graig i’r castell yn cynnwys pibydd, Marchogion Ardudwy yn cario torchau, llusernau a Meirion y dawnsiwr tân. Roedd Ysgard Newydd yno o Ysgol Ardudwy ynghyd â Seindorf Arian Harlech. Trefnwyd adloniant yn y Clwb Golff yn cynnwys cerddoriaeth ac adrodd storiau. Roedd yr ŵyl ‘Tân a Môr’ yn gyfres o dri digwyddiad sydd i’w cynnal yn Harlech gyda chymorth ‘Croeso Cymru’ - bydd rhai eraill dros y Pasg ac ym mis Hydref. Melys moes mwy!
Ar bnawn Sadwrn, Rhagfyr 2 trefnwyd helfa drysor i’r plant gan aelodau eglwys St Tanwg, Harlech. Y syniad oedd chwilio am sêr yn y siopau a chasglu gwybodaeth i gwblhau taflen am stori’r Nadolig, yn enwedig hanes y doethion. Cafodd yr eglwys ei gweddnewid a gwelwyd byrddau crefft amrywiol wedi ei seilio ar y thema ‘Seren’.
Llais Ardudwy
HOLI HWN A’R LLALL
GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com (07760 283024/01766 780541
SWYDDOGION
Cadeirydd: Hefina Griffith (01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com
Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones (01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@Intamail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960 Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Ionawr 5. am 5.00. Bydd ar werth ar Ionawr 10. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Ionawr 2 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’
Dilynwch ni ar Facebook
@llaisardudwy 2
Enw: Rhian Tomos Gwaith: Cyfarwyddwr Partneriaethau Ysgolion a DPP Athrawon, Ysgol Addysg Prifysgol Bangor. Cefndir: Yn blentyn, byw yn Barcdy a Bryn Eithin, Llandecwyn a mynychu ysgol gynradd Talsarnau ac yna Ysgol Ardudwy. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Cerdded mynyddoedd. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Hoff iawn o hunangofiannau.
CARTŴN DONALD TRUMP
Mwynhau dysgu am bobl eraill. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Ar hyn o bryd, ‘Liar’ gyda Ioan Gruffudd a chyfres ‘Deuawdau’ Rhys Meirion. Ydych chi’n bwyta’n dda? Trio ngora! Hoff fwyd? Bwyd llysieuol gan amlaf. Hoff ddiod? Mwynhau gwin rose! Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Glyn, fy ngŵr ac Alis fy merch. Lle sydd orau gennych? Osteria yng Nghaernarfon neu Bortmeirion. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Amalfi yn yr Eidal. Beth sy’n eich gwylltio? Baw ci. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Cysondeb. Pwy yw eich arwr? Unrhyw un sy’n gweithio dros y Gymraeg. Beth yw eich bai mwyaf?
Diffyg amynedd. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Cerdded mynydd ar ddiwrnod braf a sylweddoli pa mor fach ydw i. Beth fuasech yn ei wneud efo £5,000? Trefnu gwyliau i Ciwba wastad eisiau mynd yno. Eich hoff liw? Glas. Eich hoff flodyn? Llygad y dydd. Eich hoff gerddor? Gareth Glyn. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? ‘Llanrwst’ gan Gareth Glyn. Pa dalent hoffech chi ei chael? Chwarae obo. Eich hoff ddywediad? Os nad oes gennych chi rywbeth cadarnhaol i’w ddweud, yna byddwch dawel. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Newydd ddathlu fy hanner cant ac yn edrych ymlaen at y degawd difyr nesaf a phrofiadau newydd.
YR ADFENT YN ARDUDWY Eglwys St Tanwg, Harlech Gwasanaeth Carolau Undebol – Dydd Sul, 10 Rhagfyr, 6.00yh Carolau wrth y crud – 24 Rhagfyr 4yp Cymun Bendigaid ar Noswyl Nadolig - 24 Rhagfyr, 11.30yh Eglwys St Tanwg, Llandanwg Gwasanaeth Carolau – Dydd Sul, 17 Rhagfyr, 6.30yh Cymun Bendigaid ar Ddydd Nadolig – 25 Rhagfyr, 10.30yb Gwasanaeth y flwyddyn newydd – Dydd Sul, 31 Rhagfyr, 6.30yh
Enillodd y cartŵn sydd uchod y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth yn Iran i greu cartŵn am Donald Trump. Darluniodd y cartwnydd Trump fel dyn yn glafoeri uwch llyfrau mewn siwt wedi ei gwneud o ddoleri. Mae’r perygl i Trump ddinistrio’r byd yn cael ei gyfleu gan ei wallt yn fflamio a’r byd i gyd wedi troi yn fwg. Codwyd y cartŵn o’r Faner Newydd - rhifyn 81.
Santes Fair, Llanfair Gwasanaeth Goleuni a Gobaith - Dydd Llun, 18 Rhagfyr 6.00yh (yn arbennig i rai sy’n cael y Nadolig yn her bersonol – yn cynnwys cyfle i gofio am anwyliaid a gollwyd) Cymun Bendigaid a charolau – Dydd Sul, 24 Rhagfyr, 9.30yb Cymun Bendigaid – Dydd Sul, 31 Rhagfyr, 9.30yb Eglwys Llanfihangel-y-traethau Gwasanaeth Carolau – Dydd Sul, 24 Rhagfyr 11.30yb Cymun Bendigaid ar Ddydd Nadolig – 25 Rhagfyr 10.30yb
Ffeindio fy Ffordd Adref - Elizabeth Jane Corbett
Beth yw’r ots gennyf i am Gymru? Damwain a hap Yw fy mod yn ei libart yn byw.
Do’n i ddim yn bwriadu dysgu Cymraeg. Fe wnaeth ddigwydd drwy broses damwain a hap. Pan droais i’n bedwar deg oed, a chael crisis canol bywyd, penderfynais fy mod i moyn trio ysgrifennu nofel. Dw i erioed wedi ysgrifennu nofel o’r blaen. Ond ro’n i wrth fy modd yn astudio hanes. Symudais i Awstralia yn fy mhlentyndod. Felly, penderfynais drio ysgrifennu nofel mewnfudo Awstralaidd. Ganwyd fy nhad yn Lloegr ond Cymraes oedd fy mam. Felly, ar fympwy, penderfynais gynnwys cwpl o gymeriadau Cymreig yn y stori. O edrych yn ôl, dwi’n synnu pa mor achlysurol roedd y penderfyniad. Er hynny, mae wedi newid fy mywyd yn gyfan gwbl. Do’n i ddim yn gwybod llawer am Gymru
ar y pryd. Dim ond hanes y diwydiant glo (daeth fy mam o’r de) a bod pobl o Gymru yn hoffi rygbi. Hefyd, fe wyddwn i am yr iaith Gymraeg. Ro’n i eisiau i fy nghwpl Cymreig roi ysbrydoliaeth i fy mhrif gymeriad, glaslances 15 oed. Ond do’n i ddim yn meddwl y byddai’n ffeindio glowyr neu rygbi yn ysbrydoliaethus iawn. Ar ôl tipyn bach o waith ymchwil sylweddolais fod gan Gymru hanes barddonol hefyd. Darllenais y Mabinogi a llawer o chwedlau. Fe dyfodd y cwpwl o Gymry yn storïwyr. Wnes i ddod ar draws gwybodaeth am ddosbarthiadau Cymraeg ym Melbourne hefyd. Ro’n i’n meddwl: efallai fydd hi’n ddefnyddiol i ddysgu tipyn bach am yr iaith. Wnes i gofrestru yn y dosbarth am un tymor! Roedd pedwar o blant gennyf, yn byw yn fy nghartref i yn y dyddiau yna. Mae’n rhaid i fi gydnabod, oedd y gallu i ddweud, I’m going to Welsh class, a cherdded mas y drws bob nos Fawrth yn rhan o’r apêl. Ond hefyd, wnes i ffeindio’r geiriau Cymraeg mor brydferth. Trodd un tymor o ddosbarthiadau yn ddau dymor ac wedyn tri. Cyn i fi wybod, roeddwn wedi syrthio mewn cariad gyda’r iaith Gymraeg. Do’n i erioed wedi disgwyl siarad yr iaith. Ro’n i wedi astudio Siapanaeg yn yr ysgol a ro’n i’n anobeithiol yn llwyr. Ond roedd ysgrifennu nofel gyda chymeriadau Cymraeg wedi dihuno darnau cudd ynof, darnau do’n i ddim wedi sylweddoli eu bod yn bodoli.
Ar ôl gorffen braslun cyntaf fy nofel, ro’n i’n lwcus i gael fy enwi ar restr fer am wobr datblygu llawysgrif. Hefyd, enillais y Bristol Short Story Prize gyda stori am blentyndod fy mam. Wedyn - trychineb. Dechreuodd ein merch ieuengaf ni weithio ei ffordd trwy restr o hunllefau gwaethaf pob rhiant. Wnaeth hi redeg bant a byw ar y strydoedd, brifo ei hunan, cwympo mas o’r ysgol a dwyn o siopau. Roedd ei hymddygiad yn cael effaith ofnadwy ar fy iechyd meddwl. Allwn i ddim ysgrifennu. Allwn i ddim gweithio. Mynnodd fy ngŵr i fod rhaid i fi fynd ar wyliau am dipyn. Roedd gennym lawer o bwyntiau “frequent flyers”. Penderfynais deithio i Gymru gwlad yr iaith a’r straeon. Er mwyn paratoi ar gyfer fy ngwyliau, awgrymodd ffrind y dylwn i drio cwrs Say Something in Welsh. Roedd y syniad o drio cwrs ar lein rhyfedd yn llenwi fi’n llawn gofid. Ond penderfynais drio un wers. Mae Aran - y dyn ar y podlediad mor garedig. Dwedodd e wrth bawb ein bod yn gwneud yn dda iawn ac y byddwn yn cael llwyddiant. Bydd popeth yn iawn. Roedd ei eiriau fel glaw ar ddaear sych. Wnes i wers bob dydd, weithiau dwywaith y dydd. Cwympodd pum mlynedd o ddosbarthiadau i’w lle - fel ceiniogau yn syrthio, syrthio, syrthio. Nawr, ddweda i wrth bawb - gerddais i drwy’r amser tywyll yn gafael ar gwt yr hen iaith. Es i i gwrs haf yn Aberystwyth y flwyddyn wedyn. Pan ro’n i yno, cwrddais
â Veronica Calarco, arlunydd o Awstralia oedd yn byw yng Nghymru. Pan wnaeth hi sefydlu Stiwdio Maelor yng Nghorris (stiwdio breswyl ar gyfer ysgrifenwyr ac arlunwyr) ceisiais am le fel y gwirfoddolwr cyntaf. Arhosais saith mis yn Stiwdio Maelor. Wnes i ymuno â grŵp Merched y Wawr a chofrestru mewn dosbarthiadau Cymraeg er mwyn gwella fy Nghymraeg. Gorffennais i fy nofel pan ro’n i’n byw yno hefyd. Mae hi’n nofel “coming-of-age” hanesyddol wedi ei gosod ar long allfudiad. Mae’r storïwyr Cymreig yn dweud eu chwedlau Cymreig yn ystod y daith. Nofel ychydig yn hudol a rhyfedd i ddweud y gwir. Do’n i ddim yn siŵr os byddai unrhyw un yn moyn cyhoeddi hi. Ond yn yr eiliad, yn eistedd gyda mynyddoedd Eryri o gwmpas fi, doedd cyhoeddi ddim yn bwysig, achos trwy’r broses greadigol, ro’n i wedi ffeindio fy ffordd adref.
SIOE FODELAU’R CANOLBARTH 2016
Cafodd Hefin Jones, Arfor, Tryfar, Harlech anrheg o ddau lun gan ddyn a oedd yn ddieithr iddo yn ddiweddar. Fe welwch o’r lluniau a gafwyd, fod Hefin yn mwynhau adeiladu modelau o droliau. Yn y llun fe welir model o’r Goets Fawr a fu’n teithio o Lundain i Gaergybi. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar un o fwsiau hen ffasiwn Llundain. Edrychwn ymlaen i weld ei llun yn Llais Ardudwy yn y dyfodol.
3
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT
PRIODAS
Neuadd Bentref Dyffryn Rhagfyr 19 am 7.00 Noson o Ganu Carolau Arweinydd: Aled Morgan Jones
a Chôr Meibion Ardudwy Paned a mins peis
Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Dave a Sioned, merch David Parry, Castell y Gog a briodwyd yn Llandrindod ar Awst 26. Festri Lawen Horeb Yn y cyfarfod ar Dachwedd 9fed cawsom gwmni’r Parch Iwan Llewelyn Jones o Borthygest, Porthmadog. Cyflwynwyd a chroesawyd ef gan Lywydd y noson, Huw Dafydd Jones. Testun ei sgwrs oedd ‘Hiwmor’. Rhoddodd i ni ddarlun byw o dri chymeriad arbennig ac annwyl iawn y daeth i’w hadnabod yn dda iawn yn ystod ei weinidogaeth, a thri chymeriad gwahanol iawn, sef Ieuan Evans, Hengwrt, Rhydymain; Elwyn Griffiths, Penygroes; a Gwilym Dwyryd Jones, Porthmadog. Mae’n meddu ar y ddawn i ddweud stori a threuliwyd noson ddifyr a hwyliog iawn yn ei gwmni. Diolchwyd yn gynnes iawn iddo gan Huw. Gofalwyd am y te gan Enid, Aldwyth, Jane ac Ann. Ar Ragfyr 14eg byddwn yn cael cwmni Arfon Gwilym a Sioned Webb gyda bwffe wedi’i baratoi gan Siôn o ‘Nineteen 57’ i ddilyn. Rhodd Diolch i Mrs Wendy Griffith am ei rhodd o £10 i Llais Ardudwy. Gwasanaethau’r Sul, Horeb RHAGFYR 10 Dafydd Charles Thomas 17 Dr Goronwy Prys Owen 24 Parch Carwyn Siddall 31 Huw a Rhian Jones Cynhelir gwasanaeth o Lith a Charol fore dydd Nadolig am 9.00 o’r gloch.
4
Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn y Neuadd Bentref pnawn Mercher, Tachwedd 15fed. Croesawyd pawb gan Gwennie. Cydymdeimlodd â Mrs Glenys Jones yn ei phrofedigaeth o golli ei brawd yng nghyfraith. Diolchodd i Mrs Eifiona Shewring am ei rhodd ariannol i’r Teulu er cof am ei mam, Mrs Emily Jones. Yna croesawodd Mrs Junita Jones atom. Mae Junita wedi byw yn y Dyffryn ers rhai blynyddoedd bellach a chyn hynny bu’n byw yn Llanaber, ond cafodd ei geni yn Suffolk. Rhoddodd i ni beth o hanes ei phlentyndod yno. Wedi gadael yr ysgol aeth i goleg i hyfforddi i fod yn gynllunydd defnyddiau, gan egluro’r broses i ni. Bu’n gweithio fel cynllunydd ym Manceinion am rai blynyddoedd, cyn iddi hi a’i diweddar ŵr ddod i fyw i Lanaber. Yna bu’n gweithio fel cynllunydd yn yr ‘Elephant Factory’ yn y Bermo, ac yn ddiweddarach yn Theatr y Ddraig, lle bu’n cynllunio a gwneud gwisgoedd ar gyfer gwahanol gynhyrchiadau a pheintio setiau. Mae Junita hefyd yn hoff iawn o wneud pob math o waith llaw. Cafwyd pnawn diddorol iawn yn ei chwmni a diolchwyd yn gynnes iawn iddi gan Iona.
CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT Cydymdeimlodd y Cadeirydd â Steffan Chambers a’r teulu yn eu profedigaeth o golli ei dad yn ddiweddar. Ceisiadau cynllunio Ailwampio strwythurol yn cynnwys gosod cladin allanol - 10 a 13 Bron Arthur, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Ailwampio strwythurol yn cynnwys gosod claddin allanol - 3 Glan y Werydd, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Cais i ddiwygio amod 2 a 4 o ganiatâd cynllunio i newid ffenestri a drysau allanol o bren i alwminiwm - Ynys Gwrtheyrn. Cefnogi’r cais hwn. Adeiladu ystafell haul ochr - Llecheiddior Isaf. Cefnogi’r cais hwn. Materion yn codi Cyfarfod Bwrdd Hamdden Harlech ac Ardudwy Bu cyfarfod cyhoeddus ar y 24ain o’r mis diwethaf a chytunwyd bod y cofnodion yn gywir. Dangosodd y Clerc bapurau oedd wedi ei dderbyn ganddynt i’r aelodau a datganodd bod y papurau hyn yn rhai cyfrinachol ac nad oedd yn bosib gwneud copïau ohonynt. Cytunwyd i barhau i gyfrannu trwy’r cynllun praesept ag felly bydd y Cyngor hwn yn cyfrannu £10,034.40 yn ystod y flwyddyn ariannol 2018/19 ac hefyd yn ymrwymo i hyn am 5 mlynedd. Roedd yr aelodau i gyd yn cytuno i hyn ar wahân i Owen Gwilym Thomas a oedd yn atal ei benderfyniad. Gohebiaeth Cyngor Gwynedd - Adran Cefnogaeth Corfforaethol Bydd Ms Bethan Hughes o Gyngor Gwynedd ar gael i drafod opsiynau ar gyfer flwyddyn nesaf o ran darpariaeth toiledau cyhoeddus yn ein cymuned. Cytunwyd i barhau gyda’r cynllun partneriaeth ar hyn o bryd. Unrhyw fater arall Datganwyd pryder sylweddol bod rhai plant yn y pentref yn chwarae gemau anghyfrifol ar hyd rhai o ffyrdd y pentref. Cytunwyd i anfon llythyr at bennaeth yr ysgol gynradd ac hefyd PCSO Elliw Williams i ofyn iddyn nhw dynnu sylw’r plant ynghylch y peryglon.
Clwb Cinio Dydd Mawrth, Tachwedd 14eg daeth criw da iawn i’r ‘George’ ym Mhenmaenpŵl am ginio. Yn ystod y flwyddyn, mae Henaduriaeth Gorllewin Gwynedd wedi penodi cynorthwywr gweinidogaethol i weithio yng Ngorllewin Meirionnydd, sef Mr Elfed Lewis o Drawsfynydd. Ymunodd â ni am ginio a bu’n gyfle da iawn iddo ef ddod i’n hadnabod ni a ninnau i’w adnabod yntau. Ni fyddwn yn cyfarfod ym mis Rhagfyr.
Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd
Tel: 01341 247799
www.smithygarage-mitsibushi.co.uk smithygaragedyffryn
smithygarageltd
Cinio Ar ddydd Mercher, Rhagfyr 20fed byddwn yn mynd i ‘Nineteen 57’ am ein cinio Nadolig. Yno erbyn 12.00 a bwyta am 12.30. Rhodd Diolch i Mr Raymond Jones Dolgellau am ei rodd o £10 i Llais Ardudwy.
Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes
Celf yn y Llan Rhoddodd y pwyllgor £50 yr un i’r sefydliadau isod: Teulu Ardudwy, Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy, Cylch Meithrin Dyffryn Ardudwy, Seindorf Arian Harlech, Arch Noa, Côr Arfordir y Cambrian, Cyngor Eglwysig Dyffryn a Thal-y-bont, Ffermwyr Ifanc Ardudwy, Tîm Achub Mynydd Ardudwy, Sefydliad y Morwyr Bermo, Llais Ardudwy a Clwb Bach. Cynhelir Celf yn y Llan, sy’n ddathiad o waith pobl leol, bob dwy flynedd. Caiff eu gwaith ei arddangos mewn adeiladau amrywiol. Mae’r cof am y cwiltiau wedi eu harddangos ar yr hen waliau yn un byw iawn. Gwirfoddolwyr sy’n trefnu Celf yn y Llan. Er mwyn iddo barhau rhaid sicrhau arweinydd newydd. Diolch i bawb a gyfrannodd ac a wirfoddolodd. Liz Hodby
Eglwysi Bro Ardudwy
FFAIR NADOLIG yn Neuadd yr Eglwys, DYFFRYN ARDUDWY Rhagfyr 7 o 2.00 tan 4.00
Bric a Brac, Tombola, Cacennau, Llyfrau a Theganau. Lluniaeth ar gael. Tynnir raffl y Nadolig yn ystod y ffair - gwobr 1af - £100
Llais Ardudwy Diolch i waith gwiw gan Ferched y Wawr yn ardal Ardudwy, mae copïau o’r papur i’w cael ar cd.
Rhagor o fanylion gan: Cymdeithas y Deillion 325 Stryd Fawr Bangor LL57 1YB 01248 353604
Bu disgyblion Ysgol Dyffryn yn mwynhau gweithgareddau yn CMC Pensarn yn ystod y tymor hwn. Cafodd plant B5 a B6 gerdded y ceunant yng Nghwm Nantcol a bu plant B4 yn dysgu sut i ganŵio yn Harbwr Pensarn.
Noddi Cadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru 2017 Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru gan Fudiad Ffermwyr Ifanc Eryri ym mis Tachwedd yn Llandudno. Roedd aelodau NFU Cymru’r sir yn awyddus iawn i ddangos eu cefnogaeth lawn i Fudiad y Ffermwyr Ifanc drwy noddi’r brif wobr. Comisiynwyd Gethin Pyrs i gynllunio a saernïo’r gadair o dderw lleol yn ei weithdy yn Ysbyty Ifan.
R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU
Cyfarfod Blynyddol Llais Ardudwy
Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ddiwedd mis Tachwedd dan gadeiryddiaeth Hefina Griffith, nododd y trysorydd, Iolyn Jones fod y papur wedi gwneud colled o £32.72 am y flwyddyn. Ond cynhyrchwyd sawl rhifyn yn cynnwys 20 tudalen, felly nid oedd y sefyllfa yn rhy bryderus. Derbyniwyd £504 mewn rhoddion a chasglwyd £2255 o hysbysebion. Roedd y gwerthiant i lawr oddeutu 60 copi y mis y llynedd. Rydym yn gwerthu ar draws 700 copi y dyddiau hyn. Ni chafwyd unrhyw ymatebion i’n cais am Olygydd yr Ifanc ac mae perygl i’r Llais fynd yn bapur pobl hŷn. Mynegodd y golygyddion eu siom na ddaeth neb i ofalu am galendr misol. Cadarnhawyd na ddylai unrhyw goffâd fod yn hwy na 600 gair ac na ddylai unrhyw newyddion am gyfarfodydd cymdeithasau fod yn hwy na 250 gair. Mae tuedd i rai anfon copi o’r cofnodion atom yn hytrach na chrynhoi digwyddiadau. Rydym yn parhau i chwilio am bobl all helpu i gludo’r papur o’r Lolfa bob mis. Penderfynwyd talu cyfradd o 45c y filltir i bawb fydd yn gwneud y gwaith hwn. Penderfynwyd cadw hen ffeiliau ar ddisg allanol er mwyn clirio cof y cyfrifiadur a hwyluso mynediad at hen ffeiliau pe bai angen gwneud hynny. Diolchodd y Cadeirydd i bawb ym mhob pentref am eu gwaith yn hybu’r papur yn ystod y flwyddyn.
Arddangosfa Gerfluniau yn Storiel, Bangor
Ar hyn o bryd, yn Storiel, Bangor, sef safle newydd Amgueddfa Gwynedd, gwelir gwaith trawiadol y cerflunydd John Meirion Morris o Lanuwchllyn, sydd â chysylltiad cryf ag Ardudwy. Mae dylanwad y cyfnod y
treuliodd John yn Ghana i’w weld ar ei waith, yn ogystal â dylanwadau Celtaidd. Mae John yn adnabyddus am lunio penddelwau o enwogion Cymru, ac yn yr arddangosfa gwelir penddelwau o Derec Llwyd Morgan yn ogystal â’r diweddar Athro Gwyn Thomas a Saunders Lewis. Ymysg ei waith cofiadwy mae Lleu, murlun efydd, a Blodeuwedd. Meddai John, “Yn ôl fy mhrofiad i fel cerflunydd, caf mai rhywle yn fewnol, yn y meddwl neu yn yr isymwybod, y daw’r delweddau mwyaf creadigol a chrefyddol i mi.” Ewch draw i ryfeddu!
Plas Aber Artro, Llanbedr DATHLU’R NADOLIG Côr Meibion Ardudwy a Pres Mân 7.30 pm Nos Iau, Rhagfyr 14
£10 yn cynnwys gwin y gaeaf a mins peis Tocynnau Phil - 01766 780635 Evie - 01341 247022 5
LLANFAIR A LLANDANWG Merched y Wawr, Harlech a Llanfair Croesawyd yr aelodau gan Hefina Griffith. Pleser o’r mwyaf ganddi oedd croesawu Olwen [gynt o’r Ynys] ac Wyn, Ty’n Braich, Dinas Mawddwy atom. Cawsom orig ddiddorol yn eu cwmni a swynwyd pawb gan eu cyflwyniad cartrefol a rhadlon. Adroddwyd hanes Angharad Price [nith i Wyn] yn ennill Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2002 gyda hunangofiant dychmygol gor-fodryb yr awdures, Rebecca Jones. Mae’n cynnwys portread byw a chynnes o gymdeithas wledig ym Meirionnydd yn ystod yr 20fed ganrif. Cafwyd hanesion diddorol gan Wyn am yr hyn yr oedd yn ei gofio am y tri brawd. Dangoswyd amryw o arteffactau inni yr oedden nhw wedi eu casglu dros y blynyddoedd. Eirlys ddiolchodd ar ran y gangen a Janet ofalodd am y baned. Cardiau Nadolig Ddiwedd mis Tachwedd, daeth chwe aelod brwdfrydig o Ferched y Wawr at ei gilydd i wneud cardiau Nadolig gyda Gwen Pettifor.
Mrs Gwen Pettifor Gwelwyd nifer o enghreifftiau gan Gwen ar ddechrau’r sesiwn ac wedyn aeth yr aelodau ati i greu cardiau deniadol a phroffesiynol eu diwyg. Diolch i Gwen am roi ei hamser i’n harwain. Cofion Anfonwn ein cofion at Llewelyn Lloyd, Pant yr Onnen a fu’n glaf yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar. Hyderwn ei fod yn teimlo’n well erbyn hyn.
6
COFFÂD
GWILYM JONES, BRYN AWELON, LLANFAIR Ganwyd Dad yn Frongelli, Soar yn 1926, yn fab i Robert Edwards ac Elizabeth Jane Jones. Roedd yn frawd i’r diweddar Hubert a’i chwaer Frances. Cafodd ei addysg yn Ysgol Talsarnau ac wedyn yn Ysgol Ramadeg y Bermo. Roedd wrth ei fodd yn yr ysgol ac oni bai am yr Ail Ryfel Byd byddai wedi mynd ymlaen i goleg. Roedd ei frawd yn anfon llythyrau ato o Burma ac yn ceisio ei berswadio i fynd i weini ar ffermydd, ac felly bu. Wrth weithio ar ffermydd yn yr ardal daeth i adnabod Mam, sef Gwenllian, merch Tyddyn y Felin, Harlech. Mi fuon nhw’n canlyn am bum mlynedd. Roedd arian yn brin a dywedodd Mam wrtho ‘Sigaret neu fi!’ ‘Iawn Gwen,’ atebodd ef ac ‘iawn Gwen’ fu hi wedyn am weddill ei oes. Priodwyd y ddau yng Nghapel Gwynfryn. Buont yn byw yn Nhyddyn y Felin cyn symud i Bryn Gwyn ac wedyn i Bryn Awelon. Pe bai Dad wedi byw hyd at Ionawr 3, buasen nhw wedi dathlu 65 mlynedd o fywyd priodasol yn 2018. Treuliodd gyfnod efo’r War-Ag ac wedyn aeth ar ei fotobeic i weithio i Faes Awyr Llanbedr, lle’r oedd ganddo swydd gyfrifol yn cludo nwyddau a dogfennau cyfrinachol i wahanol rannau o’r wlad. Cafodd Dad a Mam aml i wyliau efo’r hen ‘Matchless’. Er iddo ymddeol yn 1991 ar ôl 40 mlynedd, daliodd ei ddiddordeb yn y ‘camp’ hyd y diwedd a byddai yn aml yn eistedd yn y cwt gyda’i sbienddrych rhag ofn iddo fethu rhywbeth. Roedd yn brydlon ym mhob man ac ni allai ddioddef bod yn hwyr. Roedd ganddo lawer o ddiddordebau. Bu’n aelod ffyddlon o’r Cyngor Cymuned ac roedd yn nabod pob llwybr yn y fro - roedd yn un defnyddiol iawn wrth iddo adrodd yn ôl i’r aelodau am gyflwr llwybrau neu unrhyw fater perthnasol. Cai bleser mawr o’i dŷ gwydr a bu aml i gystadleuaeth rhyngddo a Ted Eisingrug a Llew Glo ynghylch y ‘cucumbers’ gorau. Roedd hefyd yn bysgotwr brwd ac yn un da hefo’i law. ‘Llanast Gwil,’ ddywedai Mam. ‘Mi fyddan nhw’n handi rhywbryd,’ atebai yntau. Byddai wrth ei fodd ar wyliau tramor hefo Elfed a Frances neu’n mynd i’r Bala at Artro a Mair am chwisgi neu ddau. Y fo yn dreifio yno a Mam yn dreifio adref. Roedd yn ŵr a thad bonheddig. Dyn a wisgai goler a thei bob amser, hyd yn oed mewn haf poeth. Roedd ei fywyd yn troi o gwmpas y teulu a byddai wrth ei fodd yn clywed hanes Lucy yn Ne Affrica neu Matthew yn y llynges. A finnau, os oedd gen i broblem dim ond i mi ffonio Dad – ‘problem solved’! Pan oedd Eilir yn hogyn bach byddai’n gwisgo oferols a chap stabl fel ei daid, heb anghofio’r bocs celfi. Erbyn heddiw, mae’r dylanwad a fu ar Gwynn ac Eilir wedi cyrraedd y genhedlaeth nesaf, sef Siôn bach sy’n dilyn llwybrau’r ddau. Roedden nhw’n gannwyll ei lygad, fel Cari hogan Taid. Llethwyd ef ag afiechyd Parkinson’s yn y diwedd ond daliai ati gyda’i feic ymarfer a chwblhau rhyw 5-8 milltir y dydd. Ond cwynai fod rhiw Cae Cethin wedi mynd yn drech nag o! Fe fydd bwlch mawr i ni fel teulu ar ei ôl. Gŵr arbennig, tad a mwy na hynny – fy ffrind, taid, hen daid a chyfaill cywir i lawer. Diolch hefyd i Geraint ac Artro am eu gofal dwys. Nos da Dad, cysgwch yn dawel. Caru chi. Delyth Diolch Dymuna Gwenllian, Delyth, Gwynn a theulu’r diweddar Gwilym Jones, Bryn Awelon ddiolch yn ddiffuant i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a dderbyniwyd ganddyn nhw yn eu profedigaeth ddiweddar. Diolch am y trefniadau yng Nghapel Soar a diolch i’r ymgymerwyr am eu gwaith gwiw.
BISGEDI NADOLIG
275g o flawd plaen 125g o siwgr brown mân 50g o gnau almwn mâl 175g o fenyn llwy de o rinflas fanila 1 ŵy melyn 1 ŵy * Rhwbio’r menyn i’r blawd * Adio’r siwgr a’r almon * Troi’r wyau i’r gymysgedd, dylai fod fel marsipan * Torri’r toes yn siapiau Nadoligaidd * Gosod ar dun pobi am 8 munud, 180C/Nwy 4 Cydymdeimlo Bu farw Mr Gwilym Jones, Bryn Awelon, gŵr Gwenllian, a thad Delyth a Gwynn. Cydymdeimlwn â’r teulu yn eu profedigaeth. Anfonwn ein cofion atyn nhw.
Neuadd Goffa, Llanfair
GYRFA CHWIST NADOLIG
RHAGFYR 19 am 7.00 o’r gloch
Plygain Cyfeillion Ellis Wynne
Cynhelir Plygain Cyfeillion Ellis Wynne, y Lasynys Fawr, yn Eglwys Llanfair am 7.00 yr hwyr ar Ionawr 10, 2017. Croeso cynnes i bawb.
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Goleuadau’r Nadolig Cofiwch y bydd y goleuadau yn cael eu cynnau ar nos Wener, 8 Rhagfyr. Bydd canu carolau a’r adloniant arferol, groto Siôn Corn yn ogystal â stondinau bwyd. Cymdeithas Cwm Nantcol Croesawyd y Parch Marcus Robinson atom ddechrau Tachwedd gan Evie. ‘Y gaplaniaeth yn ei holl amrywiaeth’ oedd ei destun a chawsom wybod sut y bu i ‘Cofi Dre’ ddod yn gaplan yn y llynges. Cawsom orig ddifyr iawn yn gwrando ar ei straeon - rhai yn lleddf a rhai yn llon. Wedyn ddiwedd mis Tachwedd daeth y cyn-gyfreithiwr, J Bryn Williams atom i sôn am ei fagwraeth fel ‘Mab y Mans’. Yn yr un modd, roedd gan Bryn amrywiaeth o straeon difyr i’n diddori am y cyfnod y bu’n ddisgybl yn ysgolion Abersoch, Corwen a’r Bala. Cawsom noson werth chweil arall. Byddwn yn dathlu’r Nadolig gyda chinio yn y Clwb Golff yn Harlech ar nos Lun, Rhagfyr 11, pan ddisgwylir i Meibion Prysor ddod yno i’n diddori. Colli chwaer Anfonwn ein cofion a’n cydymdeimlad at Mr Elwyn Evans [Gilfach gynt]. Bu farw ei chwaer Deilwen yn 84 oed. Roedd yn byw yn yr Wyddgrug. Bu Deilwen fel Elwyn yn derbyn Llais Ardudwy ers blynyddoedd lawer. Gŵyl gwrw Yn dilyn gŵyl lwyddiannus unwaith eto, mae’r pwyllgor am ddosbarthu arian i fudiadau lleol. Os hoffech gyflwyno cais am gymorth ariannol, mae ffurflen ar gael ar wefan yr Ŵyl www.llanbedrbeerfestival.co.uk
Cymdeithas Cwm Nantcol Nos Lun, Ionawr 8
‘Rhai Awduron Ynys Môn’ Cyflwyniad gan Linda’r Hafod , Llannerch-y-medd
Cyngor Cymuned Llanbedr Dyma geisio crynhoi gwaith y Cyngor dros y misoedd diwethaf. Pethau o bwys - bydd rhai ohonoch yn cofio’r drilio ar Mochras yn y 60au. Wel, trafodwyd cais cynllunio i ailgynnal y gwaith pwysig yma eto. Roedd rhai o’r Cynghorwyr yn y broses o lunio pamffled teithiau cerdded o amgylch y pentref er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r ardal, byd natur, coedlannau a hanes lleol ar y teithiau hyn. Y nod yw cynnwys tua 6 taith. Byddwn hefyd yn derbyn arian i brynu peiriant diffribiliwr gan deulu caredig er cof am eu tad a fu’n dod yn gyson i aros i ardal Ardudwy dros nifer o flynyddoedd. Newyddion am y ffordd arfaethedig Yn dilyn cais y Parc Cenedlaethol am fwy o wybodaeth gan Gyngor Gwynedd, maent wedi ymateb i’w holl sylwadau heblaw am 2 bwynt. Y rhain yw’r ffotomontages a’r asesiad canlyniad llifogydd. Mae’r gwaith ar y ffotomontages ar y gweill rŵan, a byddant yn cael eu cyhoeddi i’r Parc maes o law. Gyda’r mater o asesu llifogydd mae trafodaethau ar y gweill gyda Chyfoeth Naturiol Cymru. Ysywaeth y perygl yw bod hyn yn creu mwy o waith a mwy o oedi. Falle y bydd rhywbeth mwy i’w adrodd am hyn yn rhifyn mis Ionawr. Erbyn i’r Llais weld golau dydd, gobeithio y bydd Llanbedr hefyd wedi cynnal cyfarfod cyhoeddus parthed disgwyliadau i godi praesept y Cyngor er mwyn diwallu anghenion HAL, sy’n adnodd pwysig iawn i ni yn Ardudwy. Cafwyd gwasanaeth teilwng iawn ar Sul y Cofio ger y Gofgolofn, gyda darlleniadau a gosod torchau o babi coch, gyda gorymdaith gan yr ATC, a hyfryd oedd clywed datganiad gan Elin Haf ar y corn. Diolch i bawb a gymerodd ran yn y Gwasanaeth Cofio. Dymunaf, ar ran Cyngor, Nadolig Llawen iawn i chwi i gyd a Blwyddyn Newydd llawn dedwyddwch. ML
Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch Capel y Ddôl RHAGFYR 17 Mrs Eleri Owen Jones IONAWR 14 Mr Evie Morgan Jones Capel Salem RHAGFYR
10 Morfudd Lloyd
Llais Ardudwy DYDDIADUR Y MIS
Hoffem gynnwys dyddiadur yn manylu ar ddigwyddiadau yn yr ardal bob mis yn y papur hwn. Os oes gennych ddiddordeb, yna dewch i gysylltiad ag un o’r golygyddion. Mae’n bwysig bod gennych gyfeiriad e-bost!
Merched y Wawr Nantcol Cyfarfu’r gangen nos Fercher, Tachwedd 1, a chroesawodd Anwen y llywydd bawb i Neuadd y Cwm, gan roi croeso arbennig i’r wraig wadd, Nerys Seale. Cafodd Nerys ei geni yn Hwlffordd, Sir Benfro, yn un o efeilliaid. Mae wedi byw yn yr Alban a’r Almaen, yn ogystal â mynychu Ysgol Dyffryn Ardudwy ac Ysgol Ardudwy yn Harlech. Erbyn hyn, mae Nerys wedi setlo’n ôl yn y Dyffryn ers rhai blynyddoedd, yn fam brysur ac yn ddarlithydd ‘Gwaith printio a Chelf a Dylunio’ yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Dolgellau. Cafwyd arddangosfa o’i gwaith cywrain, ac eglurhad o’r broses o’r cychwyniad i’r gwaith gorffenedig, yn printio ar bapur neu gerdyn a defnyddiau gwahanol fel crysau-T a bagiau, ac edmygwyd ei holl waith yn fawr iawn. Cafodd yr aelodau gyfle wedyn i gynnig eu llaw wrth printio ar gerdyn. Diolchodd Einir i Nerys am noson hynod o ddifyr, gan ddweud mor braf oedd gweld merch leol yn llwyddo yn y maes arbennig yma, a dymunodd yn dda iddi i’r dyfodol. Merched Dyffryn oedd yng ngofal y baned, a Gweneira enillodd y raffl. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Elinor Moelfre a Jane. Cydymdeimlwyd ag Anwen, Jean ac Einir oedd wedi colli modryb yn Rhydymain yn ddiweddar. Llongyfarchwyd Beti Roberts a’i gŵr Ken ar ddathlu eu Priodas Saffir. Croesawyd Enid yn ôl o Ganada, lle bu’n ymweld â Gethin y mab a’r teulu, a’i llongyfarch ar ddathlu pen-blwydd arbennig tra roedd yno. Hefyd llongyfarchwyd Einir ar ennill gwobr o £200 mewn cystadleuaeth ar y rhaglen ‘Heno’ ar y teledu. Bydd y cyfarfod nesaf ar nos Fercher, Rhagfyr 6ed, gydag Olwen Jones ac arddangosfa o’i gwaith o addurniadau at y Nadolig.
R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286 Ffacs 01766 771250
Honda Civic Tourer Newydd
7
HARLECH Sefydliad y Merched Croesawyd yr aelodau i gyfarfod mis Tachwedd gan y llywydd, Christine Hemsley a chadeirydd y rhanbarth, Mrs Meinir Lloyd Jones. Rhoddwyd cardiau pen-blwydd i’r aelodau oedd yn dathlu a chyflwynwyd torch o flodau a cherdyn arbennig i Mrs Stella Calvert a fu’n aelod o SyM ers 60 mlynedd. Nodwyd rhai dyddiadau o bwys gan gynnwys diwrnod carolau ar Ragfyr 9 yn y Bala. Buom yn y Llyfrgell Genedlaethol ac mewn cinio Nadolig yn ystod mis Tachwedd. Yn ystod y cyfarfod blynyddol cafwyd adroddiadau niferus a llongyfarchwyd y gangen ar eu gwaith gan Mrs Meinir Lloyd Jones. Swyddogion 2018: Llywydd: Mrs Jan Cole Is-lywydd: Mrs Debbie Jones Trysorydd: Mrs Sheila Maxwell Bydd Ann Edwards, Annette Evans a Josie Robinson yn dod yn aelodau o’r pwyllgor. Diolchwyd i Mavis Kershaw a Sue Williamson am eu gwaith ar hyd y blynyddoedd. Bydd Parti Nadolig yn y Cemlyn ar Ragfyr 13. Teulu’r Castell Crosawyd yr aelodau i gyfarfod mis Tachwedd yn Neuadd Goffa Llanfair gan Edwina Evans. Cydymdeimlwyd â Mrs Bethan Johnstone ar golli ei nai yn ddiweddar, sef Gerald Evans, mab Brian a Bronwena Evans. Anfonwyd ein cofion at Mr Meirion Thomas ac at Gwenda ac Olwen Jones a fu dan anhwylder yn ddiweddar. Braf oedd gweld Terry a Maureen Jones wedi gwella. Diolchwyd i Sefydliad y Merched am eu rhodd o £100, arian derbyniol iawn gan nad ydym yn derbyn unrhyw grantiau. Bydd ein cinio Nadolig yn Mistro’r Castell. Ar ôl trafod y busnes, cafwyd hwyl gyda chwis cerddorol a chanu cynulleidfaol yng nghwmni Myfanwy Jones a Jack Forster. Diolchodd Edwina i’r ddau, i’r pwyllgor am drefnu’r te, am y gwobrau raffl a dderbyniwyd ac i’r rhai a gludodd aelodau i’r cyfarfod.
8
Sul y Cofio Yn dilyn gwasanaeth yn Eglwys St Tanwg, daeth tyrfa fawr at y gofgolofn ar Dachwedd 12. Pam Odam oedd yng ngofal y gwasanaeth ac roedd Seindorf Harlech yn bresennol. Gethin Sharpe ganodd y Last Post a’r Reveille. Diolch i bawb a gyfrannodd at y ddau wasanaeth ac hefyd i aelodau Sefydliad y Merched a Merched y Wawr sy’n gofalu am osod blodau ar y gofeb yn ystod y flwyddyn. Diolch hefyd i Mr Emyr Rees, Hafan sy’n gosod tybiau o flodau ar y gofeb sawl gwaith dros y flwyddyn.
GWOBRAU SIOE ARDDIO HARLECH
Cwpan Arddio Harlech - R O Edwards Tlws Cadman - R O Edwards Tlws Glaslyn - R O Edwards Tarian Goffa R G Williams - Mr R Kirkman Tlws Bermo - Mr R Kirkman Cwpan Langley - R O Edwards Arddangosfa orau [llysiau]- R O Edwards Cwpan Mochras - E M Jones Cwpan Goffa’r Sefydlwyr - E M Jones Cwpan Proctor - E M Jones Ffarwel haf gorau - E M Jones Cwpan Goffa T M Jones - R Anelay Cwpan Haulfryn - E M Jones Tlws Ffarwel Haf - E M Jones Tarian Ralph Highley - E M Jones Ffarwel haf atblygedig - E M Jones Ffarwel haf atgyrchol - E M Jones Yn yr ysbyty Blodau canolraddol - E M Jones Anfonwn ein cofion at Mrs Ail yn nosbarth y ffarwel haf - R Anelay Eirlys Stumpp sydd wedi bod yn Bowlen Croeso 69 - Mrs P Elford Ysbyty Gwynedd ac sydd rŵan Cwpan Goffa A W Thomas - Mrs P Elford yn Ysbyty Alltwen. Dymuniadau Gwobr Maidment - Ms D Pickard gorau hefyd i Mr Gwyn Jones, 23 Cwpan Iris Pugh - Mrs P Elford Y Waun sydd wedi bod yn glaf Pwyntiau uchaf mewn coginio a chrefftau - H Williams yn Ysbyty Gwynedd. Mae yn Hambwrdd North - G Jones Ysbyty Alltwen ar hyn o bryd ac Tlws Emyr Williams [gwin] - G Jones mewn hwyliau da ac yn gwella. Tlws Garddwyr Bermo [gwin gorau] - G Jones Diolch i bawb sydd wedi holi Tlws Marchogion Ardudwy [ffotograffiaeth] - Ms G Russell amdano. Anfonwn ein cofion Eglwys St Tanwg, Harlech hefyd at Wendy Williams, Cae Rhodd Gwastad sydd gartref erbyn hyn Diolch yn fawr iawn i Mrs ar ôl cyfnod yn yr ysbyty. Mae’n Maggie Cope o Birmingham edrych yn dda ac yn amlwg wedi am ei rhodd ddiweddar i Llais gwella. Ardudwy. Mae’n 98 oed ac wedi symud o Dydd Sul, 10 Rhagfyr Genedigaeth Tŷ Gwyn, Llechwedd ers 1947. am 6.00yh Llongyfarchiadau mawr i Mae’n siŵr bod rhai o drigolion yng nghwmni Gavin a Caryl, 6 Tŷ Canol ar hŷn Harlech yn ei chofio. Seindor Arian Harlech enedigaeth eu mab, Cian Tecwyn a Cana-mi-gei ar Hydref 25. Heb anghofio Nain a Taid, Julie a Glyn Jones a’r teulu yng Nghoedty, Talsarnau.
Gwasanaeth Carolau Undebol
HARLECH TOYOTA
Marwolaeth Bu farw Mrs Louise Thomas, Arfryn/Tirionfa gynt ar Hydref 11. Bu’n athrawes gerdd yn Ysgol Ardudwy a bu’n weithgar gyda’r Clwb Garddio, y Clwb Cerdd a SyM. Roedd ganddi dri o blant, Einion, Gwenfair a Maelgwyn. Symudodd at ei merch yn Bishops’ Stortford yn ddiweddar. Cleddir ei llwch yn Harlech. Cydymdeimlwn â’r teulu yn eu profedigaeth.
Bedyddwyr Albanaidd RHAGFYR 3 Rehoboth - Rhian Williams 17 Rehoboth - Aelodau IONAWR 7 Rehoboth - Aelodau.
Ffordd Newydd, Harlech 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@ harlech.toyota.co.uk facebook.com/ harlech.toyota Twitter@ harlech_toyota
CYNGOR CYMUNED HARLECH Croesawodd y Cadeirydd Mrs Tracy Dawson i’r cyfarfod i drafod y posibilrwydd o greu trac beicio ar ran o dir cae chwarae Brenin Siôr. Cytunwyd yn unfrydol i gefnogi’r cynllun. Ar ran y Cyngor dymunodd y Cadeirydd wellhad buan i Wendy Williams a oedd yn yr ysbyty. Cyfarfod Bwrdd Hamdden Harlech ac Ardudwy Bydd cyfarfod cyhoeddus ynglŷn â’r cynllun praesept gyda’r Cyngor yn cael ei gynnal ar y 13eg o’r mis hwn yn Ystafell y Band am 7.00 o’r gloch. Mae posteri wedi eu dosbarthu o amgylch y dref a chopi hefyd wedi ei anfon i Llais Ardudwy [Ni ddaeth hwn i law. Gol.]. Ceisiadau cynllunio Newid defnydd canolfan fwynderau a ystafell glyweledol i westy 9 lofft gyda pharcio cysylltiedig ar gyfer 12 cerbyd, Coleg Harlech. Cefnogi’r cais. Dymchwel rhan o’r garej sengl i greu dau le parcio ac ailwampio stepiau mynediad a’r giât - Tegfan, Harlech. Cefnogi’r cais. Gohebiaeth Cyngor Gwynedd Bydd Ms Bethan Hughes o Gyngor Gwynedd ar gael i drafod opsiynau ar gyfer flwyddyn nesaf o ran darpariaeth toiledau cyhoeddus yn ein cymuned. Cytunwyd i barhau gyda’r cynllun partneriaeth ar hyn o bryd.
RHUBAN GWYN
Llongyfarchiadau i ddisgyblion Ysgol Ardudwy a fu’n arwain ymgyrch y Rhuban Gwyn yn Harlech drwy gerdded drwy’r dref ar Dachwedd 24. Mae’r ymgyrch yn tynnu sylw at drais yn erbyn merched. Dyma’r addewid yr oedd y disgyblion am dynnu ein sylw ato: ‘Rwy’n addo i beidio hyrwyddo mewn gweithred, gair na thawelwch unrhyw drais gan ddynion yn erbyn menywod lle bynnag a sut bynnag y bo.’ Fe ganwyd y gân ‘Haleliwia’ gan y disgyblion a chafwyd anerchiadau gan y pennaeth, Tudur Williams, Joyce Watson AC a Christine Hemsley o Sefydliad y Merched, Harlech. A ydych chi wedi arwyddo’r addewid?
ENGLYN DA
Glas y Dorlan
Rhyfeddais, sefais yn syn - i’w wylio Rhwng yr helyg melyn; Yna’r lliw yn croesi’r llyn; Oedais, ond ni ddaeth wedyn. Trebor E Roberts, 1913-1985
Robert ap Gwilym Ddu a Wormwood Scrubs Y tro diwethaf soniais am Robert ap Gwilym Ddu (1767-1850) gan ddweud mai Robert Williams oedd ei enw bedydd. Ond ar un ystyr nid oedd hynny yn wir. Bedyddiwr oedd yr hen fardd ond ni chymerodd erioed fedydd trochiad. Efallai ei fod yn teimlo nad oedd yn deilwng o’r fraint. Er hynny bu Robert ap Gwilym Ddu a’i gymydog a’i gyd-fardd Dewi Wyn o Eifion (1784-1841) yn gefnogol iawn i`r Capel Bedyddwyr a godwyd ganddyn nhw ac eraill ger glan afon Dwyfach. I’w sbeitio nhw a’r capel newydd llysenwodd rhyw wag y lle yn ‘Capel y Beirdd’ ac fe lynodd yr enw hyd heddiw. Byddai yn anodd meddwl am enw prydferthach ar gapel ac mae`n newid braf oddi wrth yr enwau sy’n tarddu o fannau ym Mhalesteina - Salem, Ebeneser, Bethel ac yn y blaen. Emyn enwocaf Robert ap Gwilym Ddu yw’r un sydd wedi’i seilio ar ddwy adnod yn Llyfr y Datguddiad, emyn a genir yn aml mewn gwasanaeth cymundeb, “Mae`r gwaed a redodd ar y groes o oes i oes i`w gofio; rhy fyr yw tragwyddoldeb llawn i ddweud yn iawn amdano.” Ond er mai o Eifionydd y daeth yr emyn, mae yma gysylltiad ag Ardudwy. Roedd gan y bardd chwaer o’r enw Anne Wynne yn byw yng Nghefncymerau ar y ffordd i Gwm Nantcol. Credaf mai yn y Cefn Isaf yr oedd yn byw ac nid yn y Cefn Uchaf; mae`n siŵr y gall rhywun o ddarllenwyr Llais Ardudwy gadarnhau hyn. Fodd bynnag, deallaf mai ei gŵr roddodd y tir i godi Capel Salem. Ar ôl gwasanaeth ar y fferm, gofynnwyd i Anne ofyn i’w brawd gyfansoddi emyn iddynt oedd yn addas i’w ganu yng ngwasanaeth y cymun am ei fod yn ‘dipyn o fardd’. Dipyn o fardd? Mae hynny fel dweud bod Mo Farah yn dipyn o redwr! Aeth Anne i’r Betws Fawr yn Eifionydd at ei brawd a daeth â thrysor o emyn adref gyda hi. Yn ei chartref hi y canwyd yr emyn gyntaf oll. Argraffwyd yr emyn gyntaf yn Y Gwyliedydd yn 1823. Mae`r emyn fel yr ymddengys yn Caneuon Ffydd yn cynnwys pum pennill ond ceir wyth mewn hen gasgliadau. Dyma un a aeth ar goll, “Nid yw caniadau’r nef yn awr ond megis gwawr yn torri, yr hon fel amnaid fechan iawn arddengys lawn oleuni.”
Yn rhyfedd iawn mae’r pennill olaf yn cael ei hepgor yn rhai casgliadau. Wn i ddim pam ychwaith am ei fod yn glo effeithiol ac ysbrydoledig ar y cyfan, “Ni thraethir maint anfeidrol werth ei aberth yn dragywydd: er treulio myrdd o oesau glân ni bydd y gân ond newydd.” A’r dôn? Wel, yn ambell i le fe`i gosodir hi ar Deemster, tôn sbonciog, orchestol sydd, yn fy marn i, yn lladd naws fyfyriol yr emyn. Y dôn yn Caneuon Ffydd yw Brynhyfryd ac mae hi yn dôn arbennig iawn. Nid oes sicrwydd, ond credir mai Bedyddiwr arall sef John Williams, Dolgellau (1740-1821) yw ei hawdur. Gŵr o Langelynnin ger Tywyn oedd John Williams. Cychwynnodd fel gwneuthurwr hetiau brethyn a daeth wedyn yn glerc i gyfreithiwr gan orffen ei yrfa fel athro. Roedd yn ddyn galluog ac yn gerddor arbennig. Mae Brynhyfryd yn gweddu i’r geiriau yn ardderchog. Mae’r emyn yn sôn am “hyfryd lef seraffiaid” ac mae’r cymal yn y dôn yma yn cyfleu y cyfan i’r dim. Cyn terfynu, fe luchiaf bumed Bedyddiwr i mewn i’m stori. Roedd T W Jones (wedyn Arglwydd Maelor, 1898-1984) yn wreiddiol o Rosllannerchrugog ond roedd ganddo gysylltiadau cryf â Harlech. Bu’n Aelod Seneddol dros Feirionnydd o 1951 tan 1966. Yn ystod Rhyfel Mawr 1914-18 bu’n wrthwynebydd cydwybodol a bu’n rhaid iddo fynd i`r carchar oherwydd ei safiad. Am gyfnod, bu yn Wormwood Scrubs. Un dydd Sul, yn y gwasanaeth yng nghapel y carchar, fe lediwyd yr emyn Saesneg, The King of love my shepherd is ac fe’i canwyd ar y dôn Brynhyfryd. Fe wyddai T W Jones yn iawn nad oedd y Saeson byth yn arfer y dôn Brynhyfryd ac ni chlywsai erioed ei chanu ond ar eiriau Robert ap Gwilym Ddu. Sut aeth y dôn i Wormwood Scrubs tybed? A fu yno organydd Cymraeg yn y carchar? Dyna faes ymchwil i rywun! A dyna, am wn i, hynny o gysylltiad sydd rhwng Robert ap Gwilym Ddu â Wormwood Scrubs. JBW
9
TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Cyfarchion arbennig Hoffem ddymuno pen-blwydd hapus i May Wells fydd yn 90 oed ar 27ain o Ragfyr. Mae May erbyn hyn yn mwynhau bywyd ym Mryn Blodau yn Llan Ffestiniog a dymunwn pob hapusrwydd iddi wrth ddathlu’r Nadolig ac wedyn ei phenblwydd. Croeso adref i Megan Hughes, Maes Mihangel, yr Ynys sydd wedi bod yn yr ysbyty ers rhai wythnosau, ond yn awr wedi gwella ac wedi dychwelyd adref a gobeithio y bydd yn parhau i wella mwy bob dydd.
ER COF
Er cof annwyl am John Wynn Morgan, Fferm Maes Meillion, a hunodd 30 mlynedd yn ôl ar y 4ydd o Ragfyr, 1987. Byth yn angof. Teulu Maes Meillion. Rhodd: £10 Cofion Anfonwn ein cofion at deulu Draenogan Fawr. Mae pawb yn yr ardal yn meddwl amdanoch. Gwasanaeth Bydd gwasanaeth Cristingl yn Eglwys Llanfihangel-y-traethau ar y 10fed o Ragfyr am 11.30yb.
Taith Gerdded Safle Hen Waith Powdwr Penrhyndeudraeth Aeth criw bychan am daith gerdded ar y 1af o Dachwedd er mwyn codi arian tuag at brynu dau beiriant diffib arall i ardal Talsarnau – un i’r Ynys a’r llall i Landecwyn. Mae’r peiriant cyntaf eisoes wedi ei osod wrth fynedfa’r garej ger y Ship Aground. Cafwyd ymateb da i’r ymdrech a chodwyd union £100 ar y diwrnod. Diolch cynnes iawn i Gwenda am drefnu’r daith a llwyddo i gael tywydd hynod o braf i grwydro tir nad oedd yn gyfarwydd iawn i’r rhan fwyaf o’r cerddwyr. Tynnwyd nifer o luniau gan Ann Jones, Llwyn Ffynnon ac mae’r rheini i’w gweld ar dudalen Gweplyfr Cymuned Talsarnau. Diolch i bawb fu’n ymwneud â’r diwrnod ac am bob cefnogaeth. Does wybod pryd y bydd angen un o’r peiriannau hyn ar un ohonom, ac felly mae’n gysur y byddant i gyd maes o law wedi eu gosod yn eu lle ac at ddefnydd unrhyw un fydd eu hangen. Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â Mike a Christine Hemsley, Bryn Tirion, Ynys ym marwolaeth tad Mike yn swydd Caer yn diweddar. Anfonwn ein cofion at y ddau. Anfonwn ein cydymdeimlad a’n cofion cynnes hefyd at Frances ac Elfed Griffith yn eu profedigaeth ddiweddar o golli brawd Frances, Gwilym Jones, Llanfair (Talsarnau gynt). Rydym yn meddwl amdanyn nhw ac hefyd yn gobeithio fod Elfed yn parhau i wella. Hefyd cydymdeimlwn â theulu Menna Ifans, sef Gwenfair, Dafydd Guto a Brian a’r teulu, yn eu colled.
10
LLYTHYR
Trist oedd clywed dros y penwythnos bod Capel traddodiadol Wesle yn Soar yn cau ar ôl angladd Gwilym Jones, Llanfair a chynt o Soar, Talsarnau. Rhaid diolch i’r tîm bychan ffyddlon a fu’n brwydro’n galed am amser maith i gadw’r drws yn agored. Maen nhw’n haeddu medalau am eu hymdrech. Yn anffodus, bu raid imi adael yr ardal oherwydd fy ngyrfa yn nechrau’r 60au - yn erbyn fy ewyllys. Cofier nid y capeli sy’n cau ond pobol sy’n troi eu cefnau ar werthoedd y gorffennol. Yn ardal Wrecsam, cofiaf ryw 10 mlynedd yn ôl, fynd i wasanaeth cau capel oherwydd diffyg aelodau. Roedd y capel yn orlawn ar y noson olaf a’r emyn cyntaf oedd ‘I Bob Un Sy’n Ffyddlon’! Elwyn Williams Sir Wrecsam
Merched y Wawr
Croesawodd y Llywydd, Siriol Lewis yr aelodau i’r cyfarfod yn y Neuadd nos Lun, 6 Tachwedd a dechreuodd drwy ddiolch i bawb am bob ymholiad a dymuniadau da gawsont fel teulu yn dilyn anhwylder ei gŵr, Dewi yn ddiweddar. Nodwyd rhai dyddiadau gan gynnwys yr Ŵyl Ranbarth yn Neuadd Trawsfynydd nos Fercher, 25 Ebrill. Penderfynwyd cael ein cinio ’Dolig ym Mwyty Seren yn Ffestiniog amser cinio dydd Iau, 7 Rhagfyr. Edrychwyd ymlaen yn fawr iawn at gael cwmni Emsyl Davies o Lanbedr gyda’i gwaith llaw gwau a gwnïo arbennig iawn. Wedi i’r Llywydd ei chroesawu, dechreuodd Emsyl ei sgwrs drwy sôn am sut y crewyd ei diddordeb yn y gwaith pan yn ifanc iawn, gan fod ei mam yn gwneud dillad i rhywun neu gilydd o hyd ee gwnaeth wisgoedd i barti dawnsio gwerin ym Mhorthmadog ers talwm. Yn y cartref roedd gwaith llaw yn bwysig. Ond dilyn gyrfa cerdddorol wnaeth hi gan fynd i Goleg Cerdd ac arbenigo ar chwarae’r ffidil. Yna aeth ymlaen i sôn am ei chynnyrch – yn gwau gyda sidan, gwlân a chotwm ac roedd wedi dod â nifer o wahanol wisgoedd gyda hi – yn siacedi, siolau a sgarffiau a chyflwynodd dipyn o hanes ynghlwm â rhain. Roedd pawb yn rhyfeddu at ei dawn a’r manylder roedd yn ei greu ac yn dotio at ei gallu anhygoel. Hefyd roedd ganddi nifer o eitemau wedi’u cwiltio, yn orchuddion gwely lliwgar wedi’u gwnïo’n berffaith, ynghyd â bagiau llaw hyfryd iawn. Roedd y cyfan yn werth eu gweld. Diolchodd Frances i Emsyl am ddod atom ac am i ni gael y cyfle i weld arddangosfa wych o waith llaw creadigol arbennig. Bu’n noson hynod o bleserus yn ei chwmni. Paratowyd y baned gan Gwenda J a Bet, gyda Gwenda hefyd yn ennill y raffl.
Neuadd Talsarnau GYRFA CHWIST Nos Iau, Rhagfyr 14 am 7.30 o’r gloch Croeso cynnes i bawb!
Capel Newydd Oedfaon am 6:00
Rhagfyr 10 - Dewi Tudur Rhagfyr 17- Carolau Rhagfyr 24 - Beth sydd i’w ddathlu? Rhagfyr 31- Irvon Parry. Ionawr 7 - Dewi Tudur
Rhodd i’r Llais Cyfaill dienw - £20
CYNGOR CYMUNED TALSARNAU Dymunodd y Cadeirydd wellhad buan i Dewi Tudur Lewis. Materion yn codi Cyfarfod Bwrdd Hamdden Harlech ac Ardudwy Dangosodd y Clerc bapurau oedd wedi eu derbyn a nododd bod y papurau yn rhai cyfrinachol ac nad oedd yn bosib gwneud copiau ohonynt. Ar ôl trafodaeth cytunwyd cario ymlaen i gyfrannu trwy’r cynllun praesept ac felly bydd y Cyngor hwn yn cyfrannu £3,884.90 yn ystod y flwyddyn ariannol 2018/19 ac hefyd ymrwymo i hyn am 5 mlynedd ar yr amod bod aelodau y Bwrdd yn adrodd yn ôl yn flynyddol i’r Cyngor. Ceisiadau cynllunio Creu balconi ar ben estyniad to fflat presennol gan gynnwys adeiladu platform ychwanegol i’w ochr wedi ei amgau gyda phaneli gwydr - 12 Bryn Eithin, Llandecwyn. Cefnogi’r cais hwn. Ailwampio strwythurol yn cynnwys gosod cladin allanol - 2 Cilfor, Llandecwyn. Cefnogi’r cais hwn. Codi gweithdy coed 446 medr sgwâr ac adeiladu swyddfa 107 medr sgwâr, mynedfa gerbyd newydd, tirweddu a man caled - Gwrach Ynys, Talsarnau. Cefnogi’r cais.
COFFÂD MENNA IFANS, ‘MENNA TY’N BONC’, PLWYF LLANDECWYN (Gorffennaf 31ain 1920 – Tachwedd 13eg 2017)
O bosib, fei’i cofir fel gwraig y diweddar John Ifa’s, Noddfa (Yr Hen Bost’, pentref Talsarnau). Merch Ann Jones, Ty’n Bonc oedd hi; wyres Robert Owen Jones (tyddynnwr gweithgar, chwarelwr yn Llechwedd, Blaenau Ffestiniog), blaenor MC ym Methel, Talsarnau a chefnogwr digyfaddawd hynod ryddfrydol yr Ysgol Wrthryfel gyntaf ym Meirion, sef Llandecwyn (c.1905), a Jane ei briod, a roddodd enedigaeth i 15 o blant. Roedd rhieni Robert, sef Owen a Jonet o Lanfair (ganwyd y ddau’n y flwyddyn 1816) cyn iddynt ddod i Dŷ’n Bonc, yn trigo yn Ysgoldy a Chapel Fawnog, Soar. Saer maen a gweithiwr ar y tir oedd Owen Jôs. Dyma deulu a berthyn i Iwan Bryn Williams, cyn-brifathro Ysgol y Berwyn, y Bala, a fu’n farw’n ddiweddar, a’r Prifardd W D Williams; hefyd y diweddar Trebor Jones, Manod, Blaenau Ffestiniog, tenor ac enillydd rhuban glas Eisteddfod Genedlaethol Cymru, a thaid i Geraint Jones a fu’n chwarae tu cefn i’r wiced dros y wlad estronol honno dros Glawdd Offa! Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, hynny’n gynnar yn y flwyddyn 1941, priodwyd (yn hynod o foreol hefyd) yn Eglwys y Drindod, Penrhyndeudraeth, gorporal ifanc o Gymro gyda’r Llu Awyr, sef John R D Evans, (‘Jonrws’, brodor o ‘Pendryn’) â Menna Tŷ’n Bonc, plwyf Llandecwyn, a hynny gan y Canon John Llywelyn Richards, brodor o Ddolwyddelen, a chrydd-offeiriad a allai greu esgidiau. Wedi’r briodas, ymadawodd John dros y môr ac ni welodd Menna mo’i gŵr am bedair blynedd. Do, mi gafodd lythyrau ganddo a’r rheini’n dyllau byw, wedi i’r Sensor Cymraeg ei iaith fynd ati i ddileu rhai disgrifiadau a oedd yn ymwneud ag union leoliad rhif 613800, sef Corporal Ifans, a geid ar y pryd yn y Swdan, yr Aifft, yr Eidal, Awstria a Malta. Yn y cyfamser, gweithiodd Menna yn yr adran a elwid DETS yng ngwaith pylor Cookes ym Mhenrhyndeudraeth. Pan ddaeth y rhyfel i ben, bu iddynt fyw am gyfnodau yng Nghaerloyw, ac yna Kirkham, Sir Gaerhirfryn, Lloegr. Ganed eu mab cyntaf yn y flwyddyn 1946, ond y flwyddyn ddilynol, roeddynt adref ym Mhenrhyndeudraeth yn byw yng Nghynfal. Ymhen tair blynedd, symudwyd i Noddfa ym mhentref Talsarnau. Erbyn hyn gweithiai John am yr eildro yng ngwaith pylor Cookes, tra cadwai Menna gaffi bychan yn Noddfa. Yn ystod ymgyrch etholiadol Gwynfor Evans, y Blaid Genedlaethol ym Meirion yn y pumdegau, bu i Menna ofalu rhoi poster ohono yn ffenestr y caffi. Yma deuai Annie Davies Jones, Llanfair, chwaer y llenor Rhiannon Ardudwy, a Nesta Ifans, Llan Ffestiniog, athrawesau yn yr ysgol gynradd leol (hen ysgol erbyn hyn), am eu paneidiau a theisennau Cymreig ddiwedd pnawniau. Yma’n seler y tŷ, arferai aelodau’r timau pêl-droed ymolchi ar ôl gemau, cyn esgyn y grisiau i’r caffi er mwyn cael eu diwallu hefo brechdanau, cacennau cartra a phaneidiau. Doedd ball ar ofal Menna dros eraill; o’r dorth sbâr a drosglwyddid hwyr y nos, heb fyth ofyn am un arall yn ei lle; y dieithryn o gardotyn wrth y drws nad âi oddi yno’n waglaw; ei gofal tyner o Nain Ty’n Bonc, sef Jên Jôs, yn y flwyddyn 1952, pan fu hi farw yn Noddfa – ‘mae’ch gwraig yn un o fil’ oedd geiriau’r diweddar feddyg O M Pritchard, Tristan, Penrhyndeudraeth wrth John, gŵr Menna, amdani bryd hynny; ei gofal o Gruff Owan Jôs, Ty’n Bonc, yntau’n wan drybeilig oherwydd salwch, a’r un oedd y croeso a’r gofal, doedd wahaniaeth pwy oeddech chwi, teulu neu beidio. ‘Mae hi wedi bod yn wraig dda imi’ ydoedd cyffes y diweddar John Ifas. Ie! trysor o fam; perl o Gymraes. Ydynt y maen nhw i’w cael – yma o hyd yng Nghymru ein gwlad! Yn y flwyddyn 2011, bu i John Ifans, gŵr Menna, farw’n ei gwsg ac yntau’n 95 mlwydd oed. Estynnwn ein cydymdeimlad a’n hatgofion hefo’r canlynol: ei merch Gwenfair, a Dei ei gŵr, Talsarnau; Brei (mab) a Glenda Ifans, Llanystumdwy a’r teuluoedd, Dafydd Guto (mab arall) a Linda M, Penisarwaun, (+ teuluoedd), a pherthnasau ledled Cymru a thu hwnt sef yn Abergele; Bethel, Arfon; Blaenau Ffestiniog; Caerdydd; Efail Isaf, Morgannwg; Y Felinheli; Maesteg; Maulden, swydd Bedford, Lloegr; Penrhyndeudraeth; a Wellington, ger Ironbridge, swydd Amwythig, Lloegr. EDRJ
TRYSORAU Y Faner, dydd Gwener, 2 Awst 1991
Daw’r eitem ganlynol o’r rhifyn uchod o’r Faner. Yr awdur yw Rhiain Phillips a dreuliodd ran o’i phlentyndod yn Nhalsarnau. Rydych ar ynys unig. Pa lyfr ddewisech yn gwmni? Pa ddarlun? A pha gydymaith? Dyma ddewis diddorol Rhiain Phillips. “Neb ond yr wylan, fy nghariad a minnau Ym murmur y tonnau yn byw ...” meddai I D Hooson ers talwm ac mae yna apêl arbennig yn y darlun yma. Dim ffôn i dorri ar sgwrs; dim hast i gael pryd ar y bwrdd rhwng dau gyfarfod; dim galw gwyllt am grys arbennig i’w bacio i fynd ar daith! Ond er mai Glyn ydy’r cwmni a ddewiswn o hyd does dim deunydd ‘Boy Scout’ ynddo ac mi fyddai’n un trafferthus anniddig ar ynys unig. Fyddai bod ar fy mhen fy hun ddim yn brofiad newydd imi; mi allwn ddygymod yn iawn cyn belled â bod gen i ddigon i’w wneud, ond mi fyddai cael rhywun i’m sbarduno yn gaffaeliad mawr. Y dewis pwysicaf felly fydd cydymaith. Rwyf am fynd â Lowri Angharad efo fi. A hithau’n ddwy flwydd oed, mae’n hapus iawn i ddod efo Nain i rywle. Fyddai dim pall ar y sbort gan ei bod yn cael y byd ma’n lle diddorol o fore tan nos ac mae ei synnwyr digrifwch yn effro iawn. Caf ddysgu ei llythrennau iddi ar dywod ar draeth, dod i adnabod lliwiau natur o’n cwmpas a dysgu rhifo efo cregyn. Gobeithio na fyddwn yno’n hir iawn chwaith gan mai elfennol sobr fydd y rhifyddeg a allai i drosglwyddo iddi! Yr unig amser pan mae Lowri’n llonydd ydy wrth gysgu neu wrando stori, felly bydd yn fy nghadw innau yn heini, yn gorfforol wrth chwarae a dawnsio, ac yn feddyliol, wrth grafu fy mhen am hen chwedlau, rhigymau a chaneuon. Yn ôl ei rhieni, mae hi wedi etifeddu cariad ei Nain at anifeiliaid; wir, mae hi’n mynd gam ymhellach yn gwirioni ar adar hefyd. Siawns felly, na fydd digon o gwmni cydnaws o’n cwmpas.
‘Ffrwyth’ ydy un o’r geiriau cyntaf ynganodd a does dim posibl ei chael i fwyta dim arall os oes ffrwyth yn y golwg. Mi fyddwn uwch ben ein digon efo banana a mango, paw-paw a ciwi heb orfod poeni dim am goginio. Yn gorcyn noethlymun mae hi hapusaf hefyd fel na fydd golchi a smwddi yn tarfu dim ar yr hamddena. Ond mae gen i ofn y bydd Lowri’n gweld chwith mawr yn ansawdd lleisiol y cwm hefyd. Nain â fawr o lais a hynny wedi bod yn flinder imi erioed. Llond calon o ganu yn fy mrest a rhyw wich denau yn dod allan. I wneud yn iawn am y diffyg mi awn â record o Acker Bilk yn chwarae Stranger on the Shore. Y peth agosaf at lais dynol i mi ydy’r clarinét a dyna pam mae hon yn gymaint o ffefryn. Gallaf fwmian a’r offeryn yn cario’r sŵn allan drosof. Anghofia’i byth y tro cyntaf y clywais y darn. Wedi fy magu yn y traddodiad corau capel, doedd o erioed wedi dod i’m meddwl ei bod yn bosibl i ddim ond dyn wneud sŵn mor hyfryd. Darn â’i seiniau’n llawn hiraeth nostalgic fydd hwn ac mae’n siŵr y byddwn yn falch o’i gael i fynegi hynny drosom ninnau weithiau. Does bosibl na fydd ambell i don o hiraeth yn dod drosom er ein gwaethaf, yng nghanol pleserau ein paradwys. Ond mi fydd hefyd yn asio i’r dim efo sŵn y tonnau’n torri ar y traethau ac â’r awelon yng ngwyntyll y palmwydd. Alla’i ddim bod yn unlle’n hir heb ei gymharu â Chymru. Bu’r ‘Wyddfa a’i chriw ...’ yn llinyn mesur imi dros y byd. Y tro cyntaf imi fod allan o Gymru oedd mynd i’r coleg i ddysgu i Reading. Doeddwn i ddim yn setlo’n iawn yno rywsut, ond yn methu deall pam chwaith nes imi sylweddoli rhyw brynhawn wrth gerdded adre o’r ysgol nad oedd yna ddim mynydd i’w weld i’r un cyfeiriad. Colli’r ‘llechweddau ar bob llaw’, oeddwn i heb yn wybod i mi fy hun. Rhiain Phillips [i’w barhau]
11
NEWYDDION YR URDD
Y BERMO A LLANABER
Merched Y Wawr Y grochenwraig Jane Williams o Ddyffryn Ardudwy ddaeth atom ym mis Tachwedd. Dyma’r eildro i Jane ymweld â’r gangen a’r tro Cynhaliwyd gala nofio’r Urdd ym yma cawsom gyfle i addurno mhwll nofio Harlech yn ddiweddar potiau bach i ddal canhwyllau a a dyma’r canlyniadau o ran nofwyr lleol. Bydd yr enillwyr yn cynrychioli’r gwneud addurniadau Nadolig i’w hongian ar y goeden. Aeth Jane Rhanbarth yng Nghaerdydd ar 20-21 i lawer o drafferth i baratoi ar ein Ionawr, 2018. Pob lwc iddyn nhw. Rhydd Bechgyn B3/4 cyfer a chawsom hwyl yn cerfio Ail - Sam Tomos Roberts, patrymau, lliwio a chymharu Ysgol Talsarnau campweithiau ein gilydd. Rydym i Rhydd Merched B3/4 gyd yn edrych ymlaen at weld ein 1af - Serena Rushton, Ysgol y Traeth gwaith gorffenedig pan fyddant 3ydd - Lowri Howie, Ysgol Llanbedr wedi dod o’r odyn yn y gweithdy Rhydd Merched B5/6 yng Nghors y Gedol. Megan 3ydd - Lois Enlli Williams, Vaughan gyflwynodd Jane a hi Ysgol Talsarnau hefyd dalodd y diolchiadau cynnes Broga Bechgyn B3 a 4 1af - Iwan Evans-Brooks, ar y diwedd. Ysgol Llanbedr Cydymdeimlodd Llewela gyda Broga Bechgyn B5 a 6 Megan wedi iddi golli ei brawd Ail - Tegid Wyn Sloan Lewis, yn ddiweddar. Anfonwyd ein Ysgol Llanbedr cofion at yr aelodau hynny oedd 3ydd - Efan Anwyl, Ysgol Talsarnau yn methu bod gyda ni oherwydd Broga Merched B5/6 salwch. Diolchodd Llewela i’r Ail - Nansi Evans-Brooks, rhai fu’n cynrychioli’r gangen yn y Ysgol Llanbedr 3ydd - Sioned Evans, Ysgol Talsarnau Cwis Hwyl yn Llanelltyd. Cefn Merched B3 a 4 Gofynnwyd am syniadau ar sut 1af - Lowri Howie, Ysgol Llanbedr i godi arian i’r gangen ac un o’r Ail - Serena Rushton, Ysgol y Traeth awgrymiadau oedd cynnal stondin Cefn Merched B5 a 6 Moes a Phryn yn y gangen bob 3ydd - Lois Enlli Williams, mis. Rhoddodd Geinor, Gwenda, Ysgol Talsarnau Mair a Megan eu henwau ymlaen Pili Pala Merched B5 a 6 ar gyfer y noson Bowlio Deg ar 1af - Erin Mitchelmore, Chwefror 23. Enillydd y raffl oedd Ysgol Talsarnau Cyfnewid Rhydd Merched B5 a 6 Grace. Bydd ein cyfarfod nesaf ar 1af - Ysgol Talsarnau Ionawr 16 pan fyddwn yn edrych 3ydd - Ysgol Llanbedr ymlaen at groesawu Mai Roberts, Cyfnewid Amrywiol Merched B5 a 6 Dyffryn Ardudwy atom i sôn am 1af - Ysgol Talsarnau ei hymweliad â Rhaeadr Fictoria Rhydd Merched B7/8 a’r cyffiniau. Croeso cynnes i 1af - Iona May Sloan Lewis, bawb. Ysgol Ardudwy Rhydd Bechgyn B9 a 10 1af - Brandon Smedley, Ysgol Ardudwy Rhydd Merched B9 a 10 Ail - Seren Llwyd, Ysgol Ardudwy Rhydd Merched B11+ 1af - Chelsea Smedley, Aelwyd Ardudwy Broga Merched B9/10 1af - Seren Llwyd, Ysgol Ardudwy Cefn Merched B7 ac 8 1af - Iona May Sloan Lewis, Ysgol Ardudwy Cefn Merched B9 a 10 1af - Ysanne Duncan, Ysgol Ardudwy Cefn Merched B11+ 1af - Chelsea Smedley, Aelwyd Ardudwy Cymysg Unigol Bechgyn B9 a 10 1af - Brandon Smedley, Ysgol Ardudwy Diolch am eich cefnogaeth i waith yr Urdd yn lleol a Nadolig Llawen i bawb.
Dylan Elis Swyddog Datblygu Meirionnydd
12
Gymdeithas Gymraeg Heblaw am ardal y Rhinogydd un o fy hoff lefydd i gerdded yw Cwm Orthin, Tanygrisiau. Sefyll yn y distarwydd ac edmygu’r golygfeydd a cheisio dychmygu’r bwrlwm a fu. Nos Fercher, Tachwedd 1, roedd yn bleser gennyf groesawu ein siaradwr gwadd, Steffan ab Owain atom i’r Gymdeithas Gymraeg. Trwy gyfrwng sleidiau aeth Steffan â ni am daith ar hyd Cwmorthin a rhannu o’i wybodaeth eang o’r cwm. Ar ei anterth, roedd tua 350 yn gweithio cyd-rhwng chwarel Cwm Orthin a chwarel y Rhosydd ac roedd un siop a dau gapel i’w cael yno. Mae Cwm Orthin yn llecyn hyfryd ond mae rhyw dristwch yn perthyn iddo hefyd pan feddylir am y gwaith a’r diwylliant Cymreig a gollwyd yno. Os nad ydych wedi bod yng Nghwm Orthin dewiswch ddiwrnod braf ac ewch yno am dro ar bob cyfrif. JW Banc y National Westminster Mae banc y Nat West yn Nolgellau, a bydd y fan symudol ym maes parcio Canolfan Hamdden Glaslyn, Porthmadog, bob bore dydd Iau rhwng 10.05 ac 11.05 y bore, ac ym maes parcio Diffwys, Blaenau Ffestiniog, rhwng 9.45 a 10.30.
Cwmni Opera Canolbarth Cymru Nos Wener, Tachwedd 17, cafwyd gwledd o gerddoriaeth yn Theatr y Ddraig. Mae cwmni Opera Canolbarth Cymru ar daith oddi amgylch neuaddau bach Cymru. Yn ystod hanner cyntaf y cyngerdd, roedden nhw’n perfformio opera un act - sef Yr Arth. Cyfieithiad gan William Walton o waith Anton Chekhov y dramodydd Rwsiaidd oedd y ddrama hon. Comedi glasurol un act yw Yr Arth sy’n llawn hiwmor gyda thri canwr a phump cerddor. Yn ystod yr ail hanner, cawsom gyflwyniad ysgafn ar brif daith lwyfan cwmni Opera Canolbarth Cymru ar gyfer gwanwyn 2018 sef Eugene Onegin gan Tchaikovsky. I gloi’r noson, cawsom berfformiad gwych o un o ganeuon Flanders a Swan ‘In the desert’ ac roedd y gynulleidfa oll yn eu dwblau gan chwerthin. Noson wych yng nghwmni cantorion o fri a phum cerddor medrus iawn. Rhodd Dr Gareth a Dorothy Williams, Craig-yr-Wylan - £20. Siop gig Mae calendr Llais Ardudwy a chopïau o’r papur i’w cael yn Siop y Cigydd ar y stryd fawr.
DIGON I BAWB Y NADOLIG HWN
Eleni mae’r Llywodraeth yn dyblu cyfraniadau – punt am bunt – at Apêl Nadolig Cymorth Cristnogol. Mae llawer o bobl mewn ardal helaeth o is-Sahara Affrica yn wynebu newyn. Mewn cyferbyniad, mae’r Nadolig i ni yn adeg o ddigonedd. Daw Colette (yn y llun) o Furkina Faso, Gorllewin Affrica, lle mae un plentyn o bob tri yn dioddef o ddiffyg twf oherwydd
diffyg maeth. Mae Colette yn byw, gyda’i gŵr, merch fach a babi. Mae Nadolig Colette yn ddigon tebyg i’n gŵyl ni. Mae’n cychwyn gyda choginio bwyd blasus ac yna paratoi ei phlant i fynd i’r eglwys. Pan mae Colette yn cyrraedd adref mae hi’n cyfarch ei chymdogion ac maen nhw’n rhannu bwyd. Maen nhw’n dod at ei gilydd ac yn dawnsio a chanu i ddangos eu llawenydd. Fel ni, maent yn bwyta bwyd arbennig ar Ddydd Nadolig. I Colette a’i chymdogion reis, gafr a sbageti yw’r pryd bwyd. Mae bywyd wedi bod yn galed i Colette ond daeth gobaith iddi drwy brosiect gardd lysiau Cymorth Cristnogol. Cafodd
ei gŵr a hithau hyfforddiant i dyfu cnydau ac offer a hadau i oroesi. Mae hi bellach yn tyfu bwyd maethlon i’w fwyta a’i werthu ac mae hi’n gallu gweithio gyda’i phlant yn agos ati. Mae Eulalie bellach yn bedair oed ac wedi gwella ac nid yw ei chwaer fach, Omela erioed wedi dioddef diffyg maeth. Mae hi’n cynllunio i ymestyn yr ardd er mwyn talu i’r plant fynd i’r ysgol. Trwy gefnogi ein Hapêl Nadolig, gallwch helpu rhai o’r bobl mwyaf bregus sy’n wynebu’r argyfwng bwyd hwn. Gellwch hefyd roi cyfraniad trwy ymweld â’r wefan www.caid.org. uk/christmas neu trwy ffonio 029 2084 4646.
Cefnogi Cadw Drysau’r Pwll Nofio ar Agor Dwy long ryfel anferth newydd ar y gweill, Trident, lluoedd arfog mewn sawl gwlad yn rhyfela a dyna chi rysáit am fod angen cwtogi a dileu pob math o wasanaethau ar hyd ac ar led, ond yn arbennig felly yng nghefn gwlad. Cnoi cil ydw i, ar ôl bod mewn Cyfarfod Cyhoeddus yn Neuadd Talsarnau yn trafod yr angen i gynyddu cyfraniad arian o braesept y Cyngor Cymuned tuag at helpu i gadw adnoddau Pwll Nofio Ardudwy yn Harlech yn agored. Yr hyn sy’n gwbl amlwg ydy bod anhegwch dybryd yn y sefyllfa sydd ohoni. Gwasanaethau megis y Pwll Nofio yn colli cefnogaeth gan Gyngor Gwynedd am eu bod hwy yn derbyn llai o arian o Lywodraeth Lafur Cymru yng Nghaerdydd. Hwythau yn eu tro yn cael llai o arian o Lywodraeth Dorïaidd Llundain oherwydd y Fformiwla Barnett bondigrybwyll sy’n gwbl annheg â Chymru ers sawl blwyddyn. Pawb yn cytuno fod y fformiwla hwn yn ddiffygiol a hen ffasiwn, ond neb am wneud dim i newid y sefyllfa. Beth bynnag ydy’r rhesymau eraill am brinder arian (a gallem gynnwys colledion anferthol y banciau a’u gweithredoedd trahaus) y gwir ydy bod gwasgu cynyddol wedi bod ers llawer blwyddyn ac mae’r sefyllfa bellach yn argyfyngus. Yn dilyn y drafodaeth ynglŷn â chynyddu’r gefnogaeth i’r pwll nofio, cafwyd pleidlais, a braf oedd gweld fod cefnogaeth i hynny. Does dim amheuaeth bod ymdrechion glew a llawer iawn o waith wedi digwydd i gadw drysau’r Pwll Nofio yn agored yn y blynyddoedd diwethaf. Gobeithio y bydd y penderfyniad yma yn fodd i arwain at allu llunio ceisiadau am gymorthdaliadau sylweddol i sicrhau dyfodol yr adnodd hwn. Un siom amlwg oedd yn y cyfarfod, oedd y ffaith i Glerc Cyngor Cymuned Talsarnau rannu papur pleidleisio unigol i bob person i weld a oedd cefnogaeth ai peidio ac arnyn nhw roedd ‘YES’ a ‘NO’ yn uniaith Saesneg. Mae’n bwysig ein bod ni’n arddel y Gymraeg ym mhob agwedd o’n cysylltiadau â gweithgareddau’r Pwll Nofio. Mi fyddem ni wedi disgwyl gwell. CR
BWYD A DIOD
Pwdin Nadolig a Sieri Tydi pawb ddim yn hoff o bwdin Nadolig felly beth am bwdin cyfoethog iawn sydd â’r ffrwythau a chnau ond nad oes angen ei goginio? Mae’r dafell yma’n cadw’n dda yn yr oergell a gallwch ei bwyta gyda hufen dwbl neu dorri i ddarnau i weini fel siocled gyda choffi. Nawr te, beth am yfed rhywbeth gyda hwn? Yn y caffi-bar, byddaf yn awgrymu gwydred o Solera, sieri melys, cyfuniad o Pedro ‘Ximinez a Cream Sherry’ sy’n ddigon o foi i’r blas cryf siocled a’r ochr caramel o’r gwin sieri yn gweddu yn hyfryd gyda’r ffrwythau sych ac yn cyffwrdd llaw’r sieri neu chognac sy yn y gacen yn barod. Anodd curo’r cyfuniad yma! Nadolig llawen! Tafell Siocled, Ffrwyth a Chnau 225g bisgedi ‘Nice’ wedi malu’n fras 120g cnau cymysg wedi malu 65g ceirios glacé wedi eu torri’n fach 225g ffrwyth sych cymysg 225g siocled tywyll 175g menyn 85g siwgr mân 2 ŵy 4 llwy bwdin sieri neu Cognac Tun bara wedi’i leinio efo papur gwrthsaim 1. Cymysgwch y bisgedi, cnau, ceirios a ffrwythau gyda’i gilydd. 2. Toddwch y siocled a’r menyn yn y pobty ping. 3. Cymysgwch y siwgr i mewn i’r siocled. 4. Ychwanegwch yr wyau a chymysgwch yn dda. 5. Rhowch y sieri a’r brandy yn y cymysgiad siocled a’i gymysgu’n dda. 6. Trowch y gweddill o’r cynhwysion sydd wedi eu rhestru yng ngham 1 i mewn i’r siocled a’u cymysgu’n dda. 7. Tolltwch i mewn i’r tun bara a’i roi yn yr oergell. Gorchuddiwch gyda clingffilm unwaith mae wedi caledu a’i dorri fel y mynnwch. Bydd yn cadw am o leiaf wythnos i chi. Llinos Rowlands Gwin Dylanwad Wine Dolgellau
Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/llaisardudwy/docs
Llais Ardudwy 13
‘DILYN Y SEREN’ a ‘TÂN A MÔR’
14
H YS B YS E B I O N
Cefnogwch ein hysbysebwyr
CYNLLUNIAU CAE DU Stryd Fawr Harlech, Gwynedd 01766 780239
Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00
E B Richards
Llais Ardudwy
01341 241551
Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.
GERALLT RHUN
ARCHEBU A
01341 421917 07770 892016
07776 181959 Sŵn y Gwynt Talsarnau, Gwynedd
www.raynercarpets.co.uk
Tiwniwr Piano
g.rhun@btinternet.com Tiwnio ...neu drwsio ar dro!
GWION ROBERTS SAER COED 01766 771704 - 07912 065803 gwionroberts@yahoo.co.uk
£60 y flwyddyn yw cost hysbysebu mewn blwch sengl ar y dudalen hon
Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd
Ffoniwch Ann Lewis 01341 241297
Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk
drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]
ALAN RAYNER GOSOD CARPEDI
Llanuwchllyn 01678 540278
Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.
Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu 01341 241297 Ffynnon Mair Llanbedr
Tafarn yr Eryrod
01766 512091 / 512998
TREFNWYR ANGLADDAU
Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb
JASON CLARKE Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504
DAVID JONES
Cigydd, Bermo 01341 280436
Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau
ADEILADWR Gwarantir gwaith o safon.
Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014
MELIN LIFIO SYMUDOL
Gadewch i’r felin ddod atoch chi! www.gwyneddmobilemilling.com
dros 25 mlynedd o brofiad
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014 15
AM DDIM. DOES DIM RHAID ARCHEBU LLE.
Canu a dawnsio gyda Cyw a’i ffrindiau!
GWEITHDAI 11.00 – 12.00 a 1.30 – 2.30 DYDD SUL 14.01.2018 YSTAFELL CRAFNANT
Y Brif Theatr Dydd
10.00 11.30 1.30 3.00
Awydd actio? Eisiau gwybod sut mae rhaglen deledu’n cael ei chreu? Hoffet ti weithio gyda chamera teledu neu fŵm? Dyma dy gyfle i gyfarfod rhai o actorion a chriw cynhyrchu Rownd a Rownd mewn gweithdy o’r sgript i’r sgrin.
Sul 14.01.2018
Sioe Cyw Sioe Cyw Sioe Cyw Canu a dawnsio gyda Cyw Llwyfan y Neuadd
Archeba docyn am £1 ru.co.uk 01492 872000 venuecym
s4c.cymru/cyw
s4c.cymru
CYFARCHION NADOLIGAIDD A BENDITHION Y TYMOR
TAKE PART A5 2018 Wel only.indd 1
Dymuna Gareth a Dorothy Williams, Craig-yr-Wylan, Llanaber, ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd dda i bawb. Hoffem hefyd, ddiolch yn fawr iawn am yr holl gardiau a dymuniadau da rydym wedi eu derbyn yn ddiweddar.
Anfonaf gyfarchion y Nadolig i’m teulu a’m ffrindiau yn ardal Llanfair, Harlech a thu hwnt. Mair Meredith
Cyfarchion yr Ŵyl a dymuniadau gorau i’r Flwyddyn Newydd i’r teulu, cyfeillion a chydnabod. Lilian May Edwards
16
Dymuna Teulu Tyddyn Hendre a Meurig Jones ddymuno Nadolig Llawen Iawn a Blwyddyn Newydd Dda i’n holl ffrindiau a pherthnasau pell ac agos. Ni fyddwn yn anfon cardiau Nadolig eto’r flwyddyn hon, ond rydan ni wedi dewis rhoi cyfraniad at SCBU, sef uned gofal dwys babanod. Cawsom fendith fawr o’r gwasanaeth hwn 21 mlynedd yn ôl pan anwyd Mari.
Dymuna Gwenda a Glyn Davies, Bod Iwan, 21 Lôn y Wennol, Llanfairpwll, Ynys Môn anfon eu cyfarchion Nadolig a dymuno Blwyddyn Newydd Dda i’w holl gyfeillion yn ardal Ardudwy.
Dymuna Trefor ac Annwen a’r teulu, Plas Uchaf, Talsarnau Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’w teulu a’u cyfeillion a phob bendith yn 2018.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n holl gydnabod. Elfyn a Caryl, Efan, Guto a Hari. CILTAN HARLECH
22/11/2017 13:11
Hoffai Hefin a Gwenda Jones, Arfor, Harlech ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’w holl gyfeillion.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n holl gwsmeriaid. TYMHORAU A RHESYMAU Stryd Fawr, Harlech. Dymuna Edward ac Einir, Enlli, 16 Pen Rhiw, Dyffryn anfon cyfarchion Nadolig a Blwyddyn Newydd Dda i’w cyfeillion yn yr ardal. Byddwn yn anfon cyfraniad i gronfa Canser y Prostad yn lle cardiau.