Llais Ardudwy Tachwedd 2018

Page 1

Llais Ardudwy

50c

RHIF 482 - RHAGFYR 2018

Sul y Cofio Llanbedr Yn ôl yr arfer cafwyd gwasanaeth Sul y Cofio yn Llanbedr ar 11 Tachwedd i gofio aberth y rhai a gollwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd. Cafwyd hefyd arddangosfa yn y Neuadd Bentref yn rhoi peth hanes a chefndir y dynion hynny sydd â’u henwau ar y gofeb, pymtheg yn y Rhyfel Cyntaf, chwech yn yr Ail Ryfel Byd ac yna Barney Warburton yn Bosnia yn 1994. Trist iawn, a chofio darllen mewn un erthygl papur newydd i bentref bach fel Llanbedr aberthu mwy o’i fechgyn ieuainc na’r mwyafrif o lefydd eraill yn ystod y Rhyfel Mawr. Mwynhawyd lluniaeth ysgafn ar y diwedd. Hoffai Cyngor Cymuned Llanbedr ddiolch o galon i’r rhai a gyfrannodd tuag at lwyddiant y diwrnod. Dyma ychydig o luniau a dynnwyd gan Mari Wyn i ddangos naws y digwyddiad i gofio 100 mlynedd diwedd y Rhyfel Cyntaf.

‘Ni heneiddiant hwy fel yr heneiddiwn ni; Ni flinir hwy gan henaint, ac ni gollfarnir hwy gan y blynyddoedd. Pan fachluda’r haul ac yn y bore, Ni â’u cofiwn hwy.’ Cyfieithiad o ran o gerdd Laurence Binyon

Calendr Llais Ardudwy ar werth rŵan yn y siopau arferol


GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 780635 pmostert56@gmail.com

HOLI HWN A’R LLALL

Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com 07760 283024 / 01766 780541

SWYDDOGION

Cadeirydd: Hefina Griffith 01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg CASGLWYR NEWYDDION LLEOL

Y Bermo Grace Williams 01341 280788 David Jones 01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones 01341 241229 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Cysodwr y mis: Phil Mostert

Bydd y rhifyn nesaf yn cael ei osod ar Ionawr 4 am 5.00. Bydd ar werth ar Ionawr 9. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Rhagfyr 30 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

Dilynwch ni ar Facebook @llaisardudwy

2

Enw: Aled Corps Gwaith: Ymchwilydd Marchnata Cyfryngau. Gweithio ar y system sy’n adrodd ar ddata gwylio i’r diwydiant teledu i wybod faint o bobl sy’n gwylio ‘Cefn Gwlad’ neu ‘Rownd a Rownd’! Cefndir: Cyn dod i Lundain i weithio dros 12 mlynedd yn ôl, bûm ym mhrifysgol UWIC yng Nghaerdydd yn astudio gwyddoniaeth mewn iechyd, addysg a chwaraeon. Cyn hynny, cael fy magu yn Nyffryn Ardudwy, mynychu’r ysgol gynradd, Ysgol Ardudwy ac ymlaen i Goleg Meirion Dwyfor, Dolgellau. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Dwi wedi bwgwth ymddeol o’r gêm ers 4 mlynedd, ond dwi’n dal i chwarae pêl-droed mewn cynghrair lleol. Dwi hefyd yn gwneud mymryn o redeg, nofio a chwarae badminton, ond beicio ffordd a mynydd yw fy hoff ymarfer corff a dwi wrth fy modd yn dod â beic adra am benwythnos i fynd i Coed y Brenin. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Cyn lleied â phosib fel arfer. Dwi ddim yn un am ddarllen os nad ydi o’n lawlyfr ar gyfer beic modur dwi’n gweithio arni, a hwnnw yn un hefo digon o luniau ynddo!

Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Match Of The Day yw’r unig raglen dwi’n gwneud yn siŵr mod i ddim yn ei fethu, ond dwi’n lwcus i fedru derbyn S4C yn Llundain bellach, a wedi mwynhau rhaglen ‘Adre’, Nia Parry yn ddiweddar. Ydych chi’n bwyta’n dda? Dwi yn trio fy ngorau i fwyta’n iach, ac yn lwcus iawn mod i’n hoff iawn o lysiau a salad, dim mod i’n llwyddo bob amser i wrthod pethau sydd ddim mor dda imi. Yn enwedig creision! Fe wnes i’r dewis dadleuol bum mlynedd yn ôl i roi gorau i fwyta cig, ac mae’n rhaid i mi ddweud fy mod wedi gweld gwelliannau mawr yn fy iechyd o ganlyniad. Hoff fwyd? Cyrri – poetha’n byd, gorau’n byd. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Y teulu agos. Lle sydd orau gennych? Ar ben mynydd gwag ar ddiwrnod braf. Mae top Tryfan neu ben Moelfra yn ffefrynnau. Ble cawsoch chi’r gwyliau gorau? Unol Daleithiau yn 2013. Hedfan mewn i San Francisco, gyrru i barc cenedlaethol Yosemite, a lawr hyd arfordir California, rhentu beic modur i reidio o amgylch LA. Gyrru wedyn heibio y Grand Canyon a Las Vegas cyn cyrraedd cartref rhai o deulu fy ngwraig yn Utah. A darfod y gwyliau gan hedfan draw i Efrog Newydd am ’chydig ddyddiau olaf y daith. Beth sy’n eich gwylltio? Dwi’m yn un sy’n gwylltio’n hawdd, ond mae pethau fel beic yn cael ei adael tu allan yn y glaw i rydu yn berwi fy ngwaed i. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Eu bod yno i mi pan dwi angen. Dwi’n byw yn bell iawn o’m ffrindiau i gyd bellach a dwi ddim y gorau am gadw mewn cysylltiad. Ond dwi’n gwybod y gwna nhw unrhyw beth i mi os byswn ni

LLYTHYRAU 71 Maes y Waun Chirk, Wrecsam

Annwyl Olygydd, Ar ôl darllen y fantolen ariannol yn y Llais yn ddiweddar, rwyf yn anfon £50 tuag at y costau. Rydw i’n meddwl y buasai £1 y mis yn bris teg iawn am y Llais. Cofion gorau, Angharad Morris [Diolch am y rhodd, Angharad.]

angen. Pan dwi yn eu gweld, mae’n teimlo fel bod dim wedi newid, hyd yn oed os ydy hi’n flwyddyn neu ddwy ers eu gweld ddiwethaf. Pwy yw eich arwr? Yn y byd pêl-droed, Ryan Giggs oedd fy arwr yn tyfu i fyny, yn chwarae i’r tîm ac i’r wlad orau. Dyddiau yma, rwy’n edrych i fyny at unrhyw un sydd wedi troi eu hobïau i mewn i yrfa, ac yn medru gwneud bywoliaeth allan o’r peth maent yn ei fwynhau fwyaf, fel y gwnaeth Ryan Giggs mae’n debyg. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Dod yn ôl i fyw yn Nghymru, a gwneud bywoliaeth o adeiladu hen feics modur yn fy sied. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Adeiladu ail garej i ddal mwy o feics. Eich hoff liw? Llwyd, mae’n mynd hefo popeth. Eich hoff gerddor? Dwi’n hoff o’r band Stornoway, ond Anweledig fydd y ffefryn o hyd. Eich hoff ddarn[au] o gerddoriaeth? Dwi’n dal i wrando llawer ar albwm ‘Gweld y Llun’ gan Anweledig. Daeth allan pan o’n i’n 17 ac mae’n fy atgoffa o hafau o hwyl yn mynd i’r Sesiwn Fawr a’r ’Steddfod. Pa dalent hoffech chi ei chael? Naill ai medru adeiladu dodrefn pren, neu medru chwarae unrhyw offeryn, dwi ddim yn meindio pa un. Eich hoff ddywediadau? Mae hi’n bwrw hen wragedd a ffyn. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Hiraethus am fywyd yn ôl yr ochor iawn o’r ffin, ond ar yr un pryd yn lwcus iawn mod i wedi cyfarfod Su, fy ngwraig, a’n bod ni’n dau yn hapus ac yn iach.

Annwyl Olygydd, Gan fy mod newydd orffen darllen ‘Lethal White’ nofel Robert Galbraith (ffugenw J K Rowling) roeddwn wrth fy modd yn darllen hanes Margaret Hefina Auroux yn y golofn ‘Holi Hwn a’r Llall’ yn rhifyn mis Tachwedd o Llais Ardudwy. Hefina yw croesawferch y clwb ‘Pratt’s’ yn Llundain lle mae’r prif gymeriad yn mynd i gael cinio canol dydd. Mae disgrifiadau manwl yr awdur o’r Clwb yn ddifyr iawn ac ar y fwydlen y diwrnod hwnnw? Tafelli o gig eidion, tatws wedi eu berwi a tharten driog wedi ei pharatoi gan Patrice, gŵr Hefina. Yn gywir Gwenda Ellis [trwy e-bost]


SIOE GLAN GAEAF HARLECH Cwpan Garddwyr Harlech - pwyntiau uchaf yn yr adran lysiau R O Edwards Tlws Cadman - pwyntiau uchaf yn yr adran lysiau, haf a gareaf R O Edwards Tlws Glaslyn - pwyntiau uchaf yn yr adran datws, haf a haeaf R O Edwards Tarian Goffa R G Williams - pwyntiau uchaf yn yr adran nionod, haf a gaeaf - Mrs T Lampert Cwpan Her Bermo - am y nionyn mwyaf - I B Lewis Cwpan Langley - pwyntiau uchaf yn yr adran betys, haf a gaeaf R O Edwards Medal Arian Cymdeithas Lysiau Genedlaethol - arddangosiad gorau R O Edwards Cwpan Mochras - pwyntiau uchaf yn yr adran flodau, haf a gaeaf E M Jones Cwpan Her y Sefydlwyr - pwyntiau uchaf yn yr adran blanhigion mewn potiau, haf a gaeaf - E M Jones Cwpan Proctor - pwyntiau uchaf yn yr adran 2 yn Sioe Glan Gaeaf E M Jones Cwpan y Gymdeithas a Thystysgrif Y Gymdeithas Ffarwel Haf - am y blodyn gorau - E M Jones Cwpan Goffa T M Jones arddangosiad gorau adrannau 47-50 - E M Jones Cwpan Ffarwel Haf Haulfryn - enillydd dosbarth 46 - E M Jones Tlws Ffarwel Haf - blodyn gorau - E M Jones Tarian Ralph Highley - dosbarth 36 - E M Jones Tystysgrif y Gymdeithas Ffarwel Haf - arddangosiad gorau E M Jones Arddangosiad gorau o flodau atblyg [incurved] - E M Jones Arddangosiad gorau o flodau atgyrch [reflex] - E M Jones Arddangosiad gorau o flodau canolraddol - E M Jones Ail yn yr adran ffarwel haf - R Anerlay Powlen Croeso 69 - pwyntiau uchaf yn yr adran gelf/ tuswau o flodau Mrs B Roberts Cwpan Goffa A W Thomas arddangosiad gorau yn yr adran gelf/tuswau o flodauMrs B Roberts Gwobr Maidment - enillydd dosbarth 54 - Mrs T Lampert Cwpan Iris Pugh - pwyntiau uchaf yn yr adran gelf/tuswau o flodau, haf a gaeaf - Mrs P Elford Tlws 1953 - pwyntiau uchaf yn yr adran goginio - G Jones Hambwrdd North - pwyntiau uchaf yn yr adran goginio, haf a gaeaf G Jones Tlws Emyr Williams - adran win haf a gaeaf - G Jones Tlws Garddio Bermo - arddangosiad gorau yn yr adran win - R Kirkman Tlws Marchogion Ardudwy - adran ffotograffiaeth - Mrs L Yemm

Cynnyrch gwerth ei weld Magbeth a Rhiannon yn edmygu gwinoedd Gwyn Jones [Bara]!

Blodau hyfryd

Alan a Huw yn mwynhau panad

Rhagor o flodau hyfryd

Bu Edwin Morlais wrthi’n galed yn trefnu ac yn cystadlu yn y sioe. Cafodd lwyddiant ar y cystadlu!

Edwin Jones [Morlais], Harlech gipiodd y gwobrau mawr i gyd yn yr adran flodau

Buasai’r Sioe yn llawer tlotach heb gyfraniad anferth yn yr adran lysiau gan Robert Edwards

Gwyn Jones, Llanbedr gipiodd y gwobrau mawr yn yr adran winoedd

Bryn Lewis, Llandanwg trysorydd diwyd y Sioe

Gosodiad blodau gan Pat Elford

Diolch i Gwyneth Russell, Pentr’e Efail am y lluniau. Diau y bydd Modryb Rhiannon o’i chof dy fod wedi cynnwys y llun uchod!

Esgid i gadw drws yn agored i Siôn Corn yn barod at y Dolig wedi’i gwneud gan Gareth Jones [Trigger]

3


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Cymdeithas Cwm Nantcol Cwmni Drama Llanystumdwy oedd yn ein diddori ganol mis Tachwedd. Cyflwynwyd inni ddrama radio, gwaith buddugol gan Brian Ifans yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd chwe actor yn chwarae rhannau amrywiol o’r gomedi hon a chafwyd mwynhad mawr wrth iddyn nhw ddod â’r ddrama yn fyw o flaen ein llygaid. Noson wahanol ond un a fwynhawyd yn fawr gan y gynulleidfa. Ddiwedd mis Tachwedd, daeth tyrfa dda ynghyd i wrando ar ‘Pedwar yn y car ac un yn y bŵt’ o Fro Ddyfi, a chawsant eu gwobrwyo gyda noson hwyliog o ganu safonol a sgetsys doniol iawn. Cafwyd noson ardderchog. Damwain drist Brawychwyd yr ardal ar 18 Tachwedd pan fu farw Ben Wynne trwy ddamwain ar fferm ei gartref yng Nglyn Artro, ac o fewn y bythefnos bu farw ei dad, John Wynne, yn Ysbyty Gwynedd yn 97 oed. Cydymdeimlwn yn ddwys â’i wraig Mrs Pip Wynne a’r teulu i gyd yn eu colled a’u galar. Cynhaliwyd dau wasanaeth angladdol ar ddydd Sadwrn, Tachwedd 30. Yn yr ysbyty Anfonwn ein cofion at Mrs Hooson, Pengarth, sydd ar hyn o bryd yng Nghartref Madog, Porthmadog.

Colli Mary Dydd Mawrth, 20 Tachwedd daeth y newydd trist am farwolaeth Mrs Mary Evans, Plas Caermeddyg, yn Ysbyty Alltwen. Cydymdeimlwn â’i tair merch Elen, Catrin a Sara a’u teuluoedd yn eu profedigaeth. Teulu Artro Dydd Mawrth 6 Tachwedd cyfarfu Teulu Artro yng Ngwesty Victoria. Fe’n croesawyd ni gan Glenys a chyfeiriodd at waeledd Elizabeth, hefyd Lorraine wedi derbyn clun newydd ac yn gwella; a dymuno’n dda i Beti wedi dathlu ei phen-blwydd yn 96 oed. Yna croesawodd yr Heddweision Siân Davies o Ddolgellau a David Hughes o Lanbedr atom. Cawsom sgwrs ganddynt yn ein rhybuddio ynghylch twyll ar y ffôn a gwefannau ffug ar y cyfrifiadur. Bu’r sgwrs yn gymorth mawr inni i fod yn wyliadwrus a gofalu nad oeddem yn rhoi dim gwybodaeth bersonol ar y ffôn nac ar-lein. Diolch yn fawr iddynt. Enillwyd y rafflau gan Greta a Beti. Marwolaeth Ar 18 Hydref bu farw Mrs Doris Thomas, Swyddfa’r Post gynt, yng Nghartref Hafod Mawddach. Cydymdeimlwn â Roger yn ei brofedigaeth.

Merched y Wawr Nantcol Wedi gair o groeso gan y Llywydd, Rhian, canwyd cân y Mudiad. Estynnodd groeso arbennig i’r wraig wâdd Janet Parkinson, un o blant yr ardal (Janet Lloyd o Lanbedr gynt). Ar ôl cymhwyso fel ffisiotherapydd yn Ysbyty Orthapedig Gobowen priododd a mynd i fyw i Dundee. Sylweddolodd wrth weithio fel ffisiotherapydd pediatrig fod defnyddio anifail, sef ceffyl, fel offeryn therapi yn helpu gwella cleifion. Bu’n gweithio mewn ysgol i blant gydag anghenion gan fynd â’r plant hynny oedd yn derbyn triniaeth ganddi i Ysgol Farchogaeth. Bu wrthi’n ddiwyd gyda rhai eraill a gyda chymorth arian loteri yn codi arian i adeiladu canolfan farchogaeth bwrpasol o dan do, sef Canolfan Farchogaeth Y Brae a agorwyd 10 mlynedd yn ôl. Cyflogir 6 o staff llawn amser yno gyda dros 100 o wirfoddolwyr gan gynnwys Janet. Mae’n bleser, meddai hi, i weld y plant yn cryfhau ac yn cael mwyniant gyda’r holl brofiadau. Yna dangosodd ddwy ffilm yn enghreifftio’r gwaith arbennig a wneir yn Y Brae. Diolchodd Rhian i Janet am ei chyflwyniad diddorol dros ben. Cydymdeimlwyd â Pat yn ei phrofedigaeth o golli ei chwaer Glenys. Ar nodyn hapusach llongyfarchwyd Heulwen ar ddod yn nain i ŵyr bach arall, mab i Meirion ac Emma. Diolchwyd i Anwen am baratoi ac argraffu’r rhaglen eto eleni. Byddwn yn dathlu’r Nadolig ym mwyty Nineteen57 ar nos Iau, Rhagfyr 6, 2018.

CEISIADAU AM GYMORTH ARIANNOL 2019 gan Ŵyl Gwrw Llanbedr

Gwahoddir ceisiadau gan fudiadau lleol Ardudwy i’w hystyried ar gyfer cymorth ariannol gan Ŵyl Gwrw Llanbedr. Rhaid cyflwyno ceisiadau ar y ffurflen safonol. Gellir lawrlwytho’r ffurflenni o’r wefan http://www.llanbedrbeerfestival.co.uk neu trwy e-bost at llanbedrbeerfestival@gmail.com Dim ond i brosiectau sydd o fudd i’r gymuned y rhoddir ystyriaeth i ddyfarnu grantiau. Bydd angen tystiolaeth o wariant. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw Ionawr 31, 2019. Hysbysir yr ymgeiswyr o benderfyniad y Pwyllgor yn fuan wedyn.

CYNGERDD NADOLIG ABERARTRO Rhagfyr 20 am 7.30 gyda Chôr Meibion Ardudwy a Treflyn Jones

Gwasanaeth Carolau Eglwys Sant Pedr, Llanbedr Nos Fercher, Rhagfyr 12 am 6.30 efo Band Harlech

SAMARIAID LLINELL GYMRAEG

0808 1640123 Tocyn: £10 yn cynnwys gwin y gaeaf a mins peis Archebwch yn fuan, does ond 90 o seddau ar gael Evie Morgan Jones - 01341 247022 Phil Mostert - 01766 780635 Dim sodlau stileto os gwelwch yn dda! 4

Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch RHAGFYR 9 Capel y Ddôl, Llith a Charol 16 Capel Nantcol, Morfudd Lloyd IONAWR 6 Capel y Ddôl, Elfed Lewis


DCOFIO JOHN WYNNE

yr Ail Ryfel Byd. Cawr o ddyn oedd y Cadlywydd [Wing Commander] John Wynne, Glyn Artro, Llanbedr a fu farw’n ddiweddar ac yntau yn 97 oed. Dyn rhadlon a chymwynasgar oedd o ac roedd rhyw serenedd o’i gwmpas. Mi fydd y cyfarwydd yn gwybod hanes ei fywyd a’i waith yn dda ond mae’n werth inni ailadrodd rhai o’r cerrig milltir. Digwyddiad erchyll Yn ystod misoedd olaf yr Ail Ryfel Byd, llofruddiwyd pump o garcharorion rhyfel o Wledydd Prydain yn dilyn cyrch awyr ar un o drefi’r Almaen. Gorfodwyd y pum milwr i neidio o’u hawyren ychydig wythnosau ynghynt. Pan symudodd Dr Curt-Jungen, cyn-filwr, i Huchenfeld yn yr 80au, mi ddarganfu’r gwir am yr hanes trist hwn ac roedd yn benderfynol y dylai’r bobl leol gyfaddef y gwirionedd a gwneud yn iawn am y llofruddiaethau. Roedd hefyd am iddyn nhw sefydlu cysylltiadau heddychlon â phobl gwledydd Prydain. Trefnwyd gwasanaeth yn yr eglwys leol a dadorchuddiwyd plac yn 1992. Daeth pobl o Eglwys Gadeiriol Coventry i’r seremoni. Roedd yn ddiwrnod arbennig ac yn llawn emosiwn. Dywedir bod un o’r llofruddwyr wedi cyfaddef ei bechod gerbron yr offeiriad wrth yr allor yn ystod y gwasanaeth. Yn dilyn y seremoni, llwyddwyd i gysylltu â pheilot un o’r awyrennau a ddihangodd, sef John Wynne. Er ei fod yn chwerw yn dilyn y digwyddiad, maddeuodd John Wynne i’r Almaenwyr a chyflwynodd geffyl siglo i’r ysgol feithrin leol - yn anrheg gan y sgwadron oedd yn gysylltiedig â’r cyrch awyr. Arweiniodd hyn at sawl gweithred o gymodi. Gefeillio Gefeilliwyd Llanbedr â Huchenfeld yn 2008 wedi nifer o flynyddoedd o gyfnewid rhwng yr ysgolion, eglwysi, cerddorion ac arweinwyr y cymunedau. Datblygwyd perthynas agos a sefydlwyd ewyllys da rhwng y cymunedau er cof am y digwyddiadau erchyll ym 1945 yn Pforzheim a Huchenfeld yn ystod

Y Groes Hoelion Cyflwynwyd y Groes Hoelion [sy’n symbol o ddioddefaint rhyfel] i bentref Llanbedr ym Mehefin 2011 gan Eglwys Gadeiriol Coventry. Mae hanes y Groes yn mynd yn ôl i 1940 pan gafodd Coventry ei bomio i’r llawr. Yn ystod y bomio, roedd dau ddistyn golosgedig wedi syrthio i’r llawr ar ffurf croes. Yn ddiweddarach, hoeliwyd y ddau bren at ei gilydd a gosodwyd y groes ar allor yr eglwys. Mae’n ddiamau mai i John Wynne y mae’r diolch am yr anrhydedd gafodd pentref Llanbedr.

Rhai o bobl Huchenfeld yn ystod eu hymweliad yn 2013

Gwobr Heddwch Guernica Sefydlwyd y wobr yn 2005 gan ddinasoedd Guernica a Pforzheim. Eu bwriad oedd gwobrwyo pobl a sefydliadau sy’n gweithio dros heddwch a chymod ac sy’n gwneud hynny yn gyhoeddus. Bu cyffro mawr yn ardaloedd Huchenfeld a Llanbedr yn 2014 pan glywyd am ddyfarnu’r wobr i John Wynne. Dywedodd John bryd hynny, yn ei ffordd ddiymhongar ei hun, na fuasai wedi derbyn y wobr oni bai am gefnogaeth llawer o bobl Llanbedr a Huchenfeld. Heddwch i lwch y cawr o ddyn. PM

Atgofion bore oes yn Harlech Ann Doreen Thomas - Rhan 4

Roeddwn yn byw wrth ymyl fferm fechan Hywel y Gwynt a phob haf mi fydda y Scouts yn cyrraedd i’r cae wrth cefn tŷ ni. Mi oedd yno ysgubor gwair a wedi i’r Scouts gyrraedd mi oedd yna brysurdeb mawr cyn iddynt gyrraedd oherwydd fydda ’na ddynion yn gosod sawl tent crwn gwyn ac hefyd un mawr hir sgwâr. Bydda fy mrawd a finnau yn eistedd ar silff ffenestr llofft cefn a’u gwylio nhw yn sefyll yn rhes ac yn dal pillow slip er mwyn ei llenwi â gwair a dyn y scout master yn eu helpu nhw i lenwi eu pillow slip ac anfon nhw yn ôl i’r tenti. Fydda na ganu yn yr awyr agored oedd i’w glywed yn tŷ ni ac hefyd hogla coginio bwyd bendigedig. Dwi’n cofio gofyn i Mam pam na fetswn i fod yn Scout a hithau yn dweud am mai geneth oeddwn i. Doedd yna ddim sôn am Girl Guides i ni wybod adeg hynny. Mae yn wir mai cofio y pethau da mae rhywun wrth heneiddio, dim yn cofio y caledi mae’n siŵr a fu ond nid oes gennyg gof am amser ofnadwy a gawsom ond dyddiau haul cyn y rhyfel sydd yn aros mwyaf yn y cof gennyf fi, diolch byth.

NOSON BABWYRA

Rhai o ferched Ardudwy a Gerald, nai Hedd Wyn, yn ystod y noson babwyra yn Yr Ysgwrn Fel rhan o raglen ddigwyddiadau’r Ysgwrn, Trawsfynydd, cynhaliwyd noson babwyra yn ddiweddar, gyda’r nod o ganfod mwy am yr hen grefft o wneud canhwyllau brwyn. Pabwyra oedd yr hen arfer o gasglu brwyn er mwyn gwneud canhwyllau. Roedd hon yn grefft a arferid gan y teulu cyfan, gyda rhai ffermydd ym Meirionnydd yn parhau i wneud canhwyllau brwyn tan ganol y ganrif ddiwethaf, pan ddaeth trydan i gefn gwlad. Golau gwan iawn a daflai’r canhwyllau, gan lenwi’r tŷ ag arogl cryf braster tawdd. Yn ystod y noson cafwyd arddangosiad o sut y gwnaed y canhwyllau, yna bu Mair Tomos Ifans yn diddanu gyda straeon ac ambell i gân werin yn ffermdy’r Ysgwrn ei hun, yng nghwmni Gerald, nai Hedd Wyn.

Tair Haf - Haf Llewelyn, Haf Roberts a Haf Meredydd yn y noson

CYMDEITHAS CWM NANTCOL 2018/19

Rhagfyr 10: Cinio Nadolig ym Mwyty Clwb Golff Harlech Diddanwyr: Geraint, Nerys ac Alwena Ionawr 7, 2019: Mair Tomos Ifans, ‘Y Fari Lwyd’ Ionawr 21: John Price, ‘Dylanwadau a Choronau’ Chwefror 3: Glyn Williams, ‘Sgwrs a Chân Chwefror 18: Iwan Morgan, ‘Dylanwadau’

5


HARLECH Marathon Llongyfarchiadau cynnes iawn i Aelwen Mair Blythe [Glasfryn gynt] ar gwblhau hanner marathon Caerdydd mewn amser ardderchog o 1:37:29. Daeth yn wythfed yn y dosbarth ar gyfer merched dros 50 oed, sy’n gryn gamp. ’Rhen Aelwen, nid malwen mohoni, Ymylodd Caerdydd fel y milgi, Cyflymodd, carlamodd cyn croesi Y llinell yn bell ar y blaen i mi! Teulu’r Castell Croesawyd yr aelodau i gyfarfod Tachwedd 13 yn Neuadd Goffa Llanfair gan y llywydd Edwina Evans. Dymunwyd yn dda i bawb oedd yn sâl a chofion arbennig i Sybil Smith o Lanfair, aelod ffyddlon iawn cyn iddi fynd yn sâl. Llongyfarchwyd Emlyn a Hefina Griffith sydd wedi dod yn daid a nain am y tro cyntaf; wyres fach Nia Grace, hefyd llonfygarchwyd wyres Bronwen sef Elen, sydd wedi dyweddïo yn ddiweddar. Diolch i Roc Ardudwy am y rhodd o £11 a dderbyniwyd ganddynt at goffrau Teulu’r Castell. Diolch i Susan Jones am brintio’r bwydlenni i ni at y cinio Nadolig yn y Bistro, 11 Rhagfyr am 1 o’r gloch. Y rhain i ddod yn ôl i Edwina erbyn 5 Rhagfyr. Croeso i unrhyw un ymuno â ni ond i’r enwau gyrraedd mewn da bryd. Diolch i’r aelodau am y rafflau a dderbyniwyd y prynhawn yma a diolch i bawb a ddaeth ag aelodau i’r cyfarfod ac am yr help gyda brechdanau. Croesawyd y gŵr gwadd sef Mr Gwynne Pierce oedd wedi dod atom am y pedwerydd tro i’n diddori. Roedd Gwynne wedi ysgrifennu y geiriau i rai caneuon adnabyddus yn y Gymraeg a’r Saesneg, a phawb yn mwynhau canu o’r ‘singalong’ hefo Gwynne. Cafwyd prynhawn hapus iawn ac yna pawb yn cael mwynhau’r te a ddarparwyd gan y Pwyllgor. Edrychwn ymlaen at gael eich gweld yn y cinio Nadolig ar 11 Rhagfyr.

6

Cyngor Cymuned Harlech Mae rhandiroedd sydd o dan berchnogaeth y Cyngor ar gael i’w rhentu am bris rhesymol. Os am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda Chadeirydd y Cyngor, Judith Strevens ar 01766 780700 neu 781696 neu ar e-bost: jude.angharad.evans@ googlemail.com Cardiau Nadolig Mae gan Mrs Eirlys Williams (Siop Trugareddau) gardiau Nadolig ar werth at Ymchwil y Canser. Sul y Cofio Daeth tyrfa fawr ynghyd ar fore 11 Tachwedd 2018 wrth y gofgolofn yn Harlech. Mi oedd llawer wedi dod i Eglwys Tanwg Sant, Harlech am 9.45 cyn hynny ac mi oedd hwnnw o dan ofal Pam Odam. Cymerwyd y gwasanaeth wrth y gofgolofn hefyd gyda Pam Odam. Darllenwyd y Cyflwyniad yn y Gymraeg gan Edwina Evans, yn Saesneg gan Tom Mort a’r Kohima Epitaph gan Roy Gamblin. Chwaraewyd y Last Post a’r Reveille gan Gethin Sharp. Cymerwyd rhan gan Fand Harlech. Rhoddwyd y torchau pabi gan wahanol fudiadau a theuluoedd Harlech. Rhoddwyd y gweddïau a’r Fendith gan Pam Odam. Diolch yn fawr i Margaret Williams, Cilfor, am argraffu taflenni newydd at y Gwasanaeth Cofio. Mae’r rhai sydd gennym braidd yn hen ac wedi eu defnyddio ers 1980. Ar ran y Lleng Brydeinig, diolch i bawb a gymerodd ran, ac i bawb sydd yn cymryd eu tro i roi blodau bob mis ar y Gofeb yn Harlech. Rhoddion £200 - Di-enw £5 - Mrs Bronwen Williams £5.50 - Mrs Cope £500 - Cyngor Cymuned

Gwasanaeth Nadolig Carol a Chymun Capel Engedi, Harlech Pnawn Sul, Rhagfyr 9 am 2.00

GAREJ KILMISTER 1955/56

Diolch i Mrs Cassie Jones, Llain Hudol am anfon y ddau lun yma atom. Mi fydd llawer o’n darllenwyr yn cofio’r garej. Bu cwmni bwydydd wedi’u rhewi ar y safle wedyn ac yna’r Bistro. Erbyn hyn, tai annedd sydd ar y safle.

Pen-blwyddi Mi fu Gareth Evans (Crossing gynt) yn dathlu pen-blwydd arbennig ac yntau yn 60 oed ar Tachwedd 26. Anfonwn ein cyfarchion a’n dymuniadau gorau iddo gan y teulu a’i holl ffrindiau. Llongyfarchiadau i Annest Jones, Hafod y Bryn a fu’n dathlu ei phen-blwydd yn 21 oed yn ddiweddar. Mae Annest ar ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Manceinion. Dymuniadau gorau iddi i’r dyfodol. Diolch Dymuna Robert ac Ann Edwards, 43 Y Waun, ddiolch yn fawr i bawb a gofiodd am eu priodas aur ar Tachwedd 23. Maent yn gwerthfawrogi’r anrhegion, cardiau a chyfarchion a dderbyniwyd. Diolch o galon.

Cyhoeddiadau’r Sul

RHAGFYR Jerusalem 16 Gwŷl y Baban am 7.00 Engedi 9 Gwasanaeth Nadolig, Carol a Chymun am 2.00 Rehoboth 23 Gwasanaeth Nadolig am 2.00

Diolch Dymuna Emma Howie, David a’r teulu ddiolch yn ddiffuant iawn i bawb am yr holl negeseuon a dderbyniwyd ganddyn nhw pan fu ei mab, Evan yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Alder Hey yn gynharach yn ddiweddar. £5 Diolch Hoffwn ddiolch am yr anrhegion, cardiau, a’r negeseuon a gefais wrth ddathlu fy mhen-blwydd yn 60. Cefais lawer o hwyl yn dathlu gyda ffrindiau dros y 5 mis diwethaf. Rwyf yn awr yn edrych ymlaen at ymddeoliad rhannol a threulio mwy o amser gyda’r ŵyr a’r teulu. Bethan Howie £5

Gwasanaeth Nadolig Undebol

Eglwys St Tanwg, Harlech Nos Sul, Rhagfyr 9 am 6.00

gyda Cana-mi-gei a Band Harlech

Gŵyl y Baban

Capel Jerusalem, Harlech Nos Sul, Rhagfyr16 am 7.00 gyda Meibion Prysor


HYSBYSEBION

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu 01341 241297 GALLWCH HYSBYSEBU YN Y BLWCH HWN AM £6 Y MIS

7


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn y Neuadd Bentref bnawn Mercher, 21 Tachwedd. Croesawyd pawb gan Gwennie. Mae Blodwen (Tŷ’n Wern) gynt, wedi ymaelodi â ni ond nid oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod. Bydd cyfle i’w chroesawu y tro nesaf. Roeddem yn falch o glywed fod Lorraine yn gwella. Diolchodd yn gynnes iawn i Lodge Ardudwy RAOB am eu siec hael o £225 i Deulu Ardudwy ac i Mrs Eifiona Shewring am ei rhodd o £20 er cof am ei mam. Yna croesawodd Mrs Dorothy Round, Pedair Derwen, atom unwaith eto. Mae Dorothy yn arbenigwraig ar osod blodau a chreodd dri gosodiad gwych ar gyfer y Nadolig. Enillwyd y tri gosodiad gan Anthia, Enid Thomas a Margaret Pauline. Byddwn yn mynd i Hendre Coed Isaf ddydd Mercher, 19 Rhagfyr am ginio Nadolig – yno erbyn hanner dydd, bwyta am 12.30yp. Festri Lawen, Horeb Nos Iau, Tachwedd 8fed cawsom gwmni Mr Keith O’Brien, ffotograffydd dawnus o Drawsfynydd. Croesawyd a chyflwynwyd Mr O’Brien gan lywydd y noson, Huw Dafydd, ac fe ddaeth yn amlwg fod Mr O’Brien yn weithgar iawn yn ei gymuned. Dangosodd luniau gwych i ni o fyd natur, o Wlad yr Iâ ac o’r gofod. Diolchodd Huw iddo am noson ddiddorol ac addysgiadol iawn. Ar Ragfyr 13, cynhelir noson yng nghwmni ‘Steff a Tud’ ac fe fydd bwffe wedi ei baratoi ar ein cyfer. Clwb Cinio Dydd Mawrth, 13 Tachwedd yn dilyn cinio ardderchog yn yr Eryrod, Llanuwchllyn, aeth criw da ohonom ymlaen i Langynog ac i fyny’r cwm i ymweld ag Eglwys Pennant Melangell. Wrth deithio i fyny’r cwm roedd y caeau bob ochr i’r ffordd yn llawn o ffesantod. Mae’r dyddiad 1737 uwchben porth yr Eglwys ac mae’n adeilad hynafol a diddorol dros ben a llawer iawn o ymwelwyr yn dod yno a naws arbennig i’w deimlo yno. Cawsom hyd i fedd Nansi Richards, y delynores. Cyn gadael yr Eglwys rhaid oedd

8

canu emyn ac Edward Owen yn cyfeilio. Ymweliad â mangre nas anghofir. Ni fyddwn yn cyfarfod ym mis Rhagfyr.

Mrs Betty Parry, Gwennie ac Einir yn mwynhau pwdinau arbennig Bwyty’r Eryrod cyn mynd i Langynog.

Eglwys Pennant Melangell Odditan yr ywen gawres. Ymweld â beddrod Nansi Brenhines y delyn deires. Aros ennyd i glustfeinio Tybio clywed y tannau’n tiwnio. John V Jones

Bedd Cecil Maurice Jones a Nansi, Telynores Maldwyn ym mynwent Llangynog Rhoddion Wendy Griffith £10 Di-enw £10

Ysgol Dyffryn Ardudwy

Cafodd disgyblion Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy ddiwrnod llawn hwyl ar ddiwrnod plant mewn angen. Fe welwyd plant yn pobi cacennau i’w gwerthu, gwisgo dillad eu hunain neu smotiog, ac yn amlwg roedd rhaid ymuno gyda her Aled Hughes i gael 10,000 pawen lawen; hefyd gosodwyd sawl her i’r plant eu cyflawni. Cafodd disgyblion B3, B4, B5 a B6 eu noddi i sgipio am 10 munud, disgyblion B2 a B3 i fownsio ar ‘space hoppers’ am 10 munud, ac roedd rhaid i ddisgyblion dosbarth derbyn a B1 orchuddio Pudsey gyda newid mân. Gyda diolch i bawb a gyfrannodd, fe gasglwyd £526.00 i’r achos.

Daeth Elliw Gwawr - gohebydd gwleidyddol ac awdur i gasgliad o lyfrau coginio - draw i Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy i gynnal sesiwn goginio gyda phob dosbarth. Roedd ymweld ag Ysgol Dyffryn yn rhan o glwstwr o ymweliadau i lansio ei llyfr coginio teuluol, Blasus, sydd yn annog teuluoedd i fwyta’n iach a choginio gyda llai o halen a siwgr. Roedd ei nai a’i nith Marged a Moi wrth ei boddau yn cael cyfle i ddangos eu lluniau yn y llyfrau i’w ffrindiau. Mae Blasus ar gael yn eich siopau lleol, rŵan! Hoffai Elliw ddiolch i’r holl staff a’r plant am fod yn hynod groesawgar.

Disgyblion yr ysgol yn cael cyfle i flasu’r danteithion a baratowyd iddyn nhw gan Elliw Gwawr Cofion Anfonwn ein cofion a’n dymuniadau gorau at John Gwilym Roberts, Modurdy’r Efail, sydd wedi cael llawdriniaeth yn Ysbyty Wrecsam.


RHAGOR O DYFFRYN A THAL-Y-BONT

CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT

Cyfeillion Ysgol Dyffryn Ardudwy Trefnwyd disgo Calan Gaeaf gan Gyfeillion Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy. Hoffai’r Cyfeillion a’r ysgol ddiolch i bawb am eu cefnogaeth a’u cyfraniadau. Casglwyd £400 tuag at brynu offer cyfrifiadurol i’r ysgol. Cafwyd hwyl gan bawb a llongyfarchiadau i Alaw Thomas am ennill y gystadleuaeth addurno pwmpen ac i Gwenno a Miley am ennill y gystadleuaeth gwisg ffansi. Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad at Dewi a Pat Thomas a’r teulu oll yn eu profedigaeth o golli Glenys, chwaer Pat. Cydymdeimlwn hefyd â Dei a Jane Corps a’r teulu, Bryn Ifor, yn eu profedigaeth o golli Delyth, chwaer Dei. Cydymdeimlwn â Mrs Eluned Williams a Nia, Islwyn a Sally Griffiths, Glanywerydd, yn eu profedigaeth o golli brawd yng nghyfraith ac ewythr hoff, sef Mr Edward Williams, gynt o Afallon, Bontddu, yn 95 mlwydd oed.

Diolch Dymuna teulu’r diweddar Glenys Williams, Annedd Wen, Tal-y-bont, ddatgan eu diolch am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth. Diolch yn arbennig i Alma Griffiths am arwain y gwasanaeth yn yr amlosgfa, i’r trefnwyr angladdau Pritchard a Griffiths am eu trefniadau trylwyr, ac i staff Caffi Neuadd Dyffryn Ardudwy am baratoi lluniaeth ar eu cyfer. Diolch hefyd i’r Gwasanaeth Ambiwlans ac Ysbyty Gwynedd am eu gofal. Diolch a rhodd £10

Swyddfa’r Post Bydd pawb yn falch glywed y newyddion da fod y Swyddfa Bost wedi ailagor. Dymunwn yn dda i bawb sy’n ymwneud â’r siop. Yno y gwerthir y nifer mwyaf o gopïau o Llais Ardudwy ac rydym yn ddiolchgar am eu cefnogaeth.

Gwasanaethau’r Sul, Horeb RHAGFYR 9 Parch Pryderi Llwyd Jones 16 Parch Olwen Williams 23 Parch Ddr Goronwy P Owen 30 Huw a Rhian Dafydd IONAWR 2019 6 Edward ac Enid Owen

Cydymdeimlo Cydymdeimlwn yn fawr iawn â Rhian a Huw Dafydd a’r teulu ar farwolaeth mam Rhian, Mrs Oleuli Roberts, yn Llanuwchllyn, a hynny un diwrnod cyn iddi gyrraedd ei phen-blwydd yn 100 oed.

Neuadd y Pentref, Dyffryn Nos Fawrth, Rhagfyr 18 am 7.00 efo Côr Meibion Ardudwy ac Aled Morgan Jones

PWYLLGOR ’81

Paned a mins pei yn ystod yr egwyl.

Croesawodd y Cadeirydd Mr Bryn Roberts o Wasanaeth Ieuenctid Gwynedd i’r cyfarfod i drafod ail sefydlu’r Clwb Ieuenctid yn y pentref a’r Cyngor Cymuned yn ei gynnal fel Clwb Ieuenctid Gwirfoddol. Bu trafodaeth ynglŷn â sut i fwrw ymlaen i sefydlu clwb o’r fath a datganodd Mr Roberts y bydd yn rhaid creu Grŵp Llywio fel un o’r camau cyntaf a pheth pwysig arall yw y bydd rhaid i bawb sydd yn gwirfoddoli i redeg y clwb gael DBS a Thystysgrif Amddiffyn Plant Lefel 2 (mae’n bosib cael DBS am ddim drwy Mantell Gwynedd). Bydd rhaid cael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a thrafodwyd y bydd rhaid holi a yw yswiriant y Neuadd yn ddigonol. Hefyd datganodd bod hyfforddiant Amddiffyn Plant ar gael drwy gyfrwng Ieuenctid Gwynedd. Bydd rhaid cael asesiad risg o’r adeilad a llunio cynllun tân i’r staff. Dangoswyd templedi o wahanol ffurflenni oedd eu hangen, hefyd y gwahanol bolisïau oedd ar gael a datganwyd ymhellach bod rhai o staff Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd ar gael i ddod i’r clwb pe bai angen. Trafodwyd y ffaith hwyrach y byddai’r Clwb Ieuenctid yn gallu rhedeg fel is-bwyllgor o’r Grŵp Gwella. Diolchodd y Cadeirydd i Mr Roberts am fynychu’r cyfarfod. Cais Cynllunio Gosod paneli solar ar y ddaear ac ar do adeilad – Gwaith Trin Dŵr Eithin Fynydd, Tal-y-bont. Cefnogi’r cais hwn. Polyn Fflag ger y Gofeb Ar ran y Cyngor diolchodd y Cadeirydd i’r Cyng Edward Williams am archebu’r uchod ar ran y Cyngor a hefyd am ei osod, a chytunwyd ei fod yn edrych yn dda. Bu trafodaeth ynglŷn â chwifio baner ar Sul y Cofio a datganwyd bod yn rhaid chwifio baner Jac yr Undeb a chytunodd y Cyng Edward Williams archebu un ar ran y Cyngor. Hefyd cytunwyd i chwifio fflag y Ddraig Goch am ychydig ddyddiau wedyn. Banc Bwyd Derbyniwyd e-bost oddi wrth yr uchod ar ran Banc Bwyd Bermo yn gofyn am gyfraniad ariannol gan y Cyngor tuag at gynnal y Banc Bwyd, hefyd yn datgan y byddai’n fodlon dod i gyfarfod o’r Cyngor i roi cyflwyniad o waith y Banc Bwyd. Cytunwyd i gyfrannu £200 iddynt. Adran Briffyrdd Derbyniwyd llythyr oddi wrth yr uchod yn hysbysu’r Cyngor bod bwriad ganddynt wneud i ffwrdd â’r banc ailgylchu papur a saif ym maes parcio’r stesion oherwydd bod gwerthiant papur newydd a chylchgronau wedi gostwng dros y blynyddoedd a bod y gost o’r gwasanaeth hwn wedi codi. Hefyd yn datgan bod modd rhoi papur newydd a chylchgronau rŵan yn y bocs ailgylchu sydd gan bob tŷ neu wrth fynd â hwy i’r ganolfan ailgylchu yn Ffridd Rasus. Llais Ardudwy Cytunwyd i gyfrannu £400 i’r papur bro. ----------------------------------------------------------------------------------Diolch Diolch i Gyngor Cymuned Dyffryn a Thal-y-bont am eu rhodd garedig o £400 tuag at goffrau’r papur. [Gol.]

NOSON GAROLAU gyda CHÔR MEIBION ARDUDWY yn NINETEEN.57 Mae croeso cynnes i bawb i ymuno â ni yn NINETEEN.57 Tal-y-bont i fwynhau carolau yng nghwmni Côr Meibion Ardudwy Bydd yno fins peis a gwin cynnes. Nos Sul, 23 o Ragfyr 18.00 tan 19.00 Gwneir casgliad at Ambiwlans Awyr Cymru. Rhodd: £20

9


Y BERMO A LLANABER Y Gymdeithas Gymraeg Noson yng nghwmni JBW gawsom yn ein cyfarfod diwethaf a bu ambell un yn ceisio dyfalu pwy oedd y JBW yma? Wel, datgelwyd y cyfan nos Fercher, 7fed Tachwedd ac wrth gwrs John Bryn Williams o Gricieth ydoedd. Mae’n gyfrannwr cyson a difyr dros ben yn Llais Ardudwy. Bydd yn mynd a ni i sawl cyfeiriad, ar draws Ewrop neu i fyd pêldroed drwy gyfrwng emynau Caneuon Ffydd. Bu’n sôn am ei blentyndod fel mab y mans, yn tyfu i fyny yn Abersoch, a hefyd rhai o’r cymeriadau fyddai’n dod ar eu traws. Cawsom adroddiad doniol iawn yn sôn am rinweddau’r llythyren ‘O’ – fydd hi byth yr un fath i lawer ohonom! Gobeithio cawn ei gwmni eto rhywbryd, mae’n siŵr fod sawl sgwrs ddifyr yn y storfa cydrhwng ei blentyndod a heddiw. Gwasanaeth Carolau Bydd Gwasanaeth Carolau Tref Abermaw yn cael ei gynnal yn Eglwys Sant Ioan, Abermaw, ar 23 Rhagfyr am 4.00yp. Mae aelodau o nifer o gorau lleol yn ffurfio côr ar gyfer y gwasanaeth hwn felly beth am ddod i ymuno â ni i ganu carolau hyfryd wrth i ni gofio genedigaeth Crist yr adeg hon o’r flwyddyn? Bydd ein casgliadau eleni yn cael eu rhoi i apêl y Banc Bwyd yma yn Abermaw a’r cyffiniau.

Merched y Wawr Alma Evans o Dabor ger Dolgellau ddaeth atom ni’r mis diwethaf i gynnal Noson Nadoligaidd ei naws. Tra roedd Alma yn gosod ei stondin cawsom gyfle i drafod rhai o faterion y Mudiad, gan gynnwys trefniadau ar gyfer ein cinio Nadolig, ar y cyd â changen Llanfair a Harlech, yn Hendre Coed, Llanaber ar Rhagfyr . Cyflwynwyd Alma gan Megan ac yna cawsom ymlacio’n braf tra’n gwylio Alma’n paratoi nifer o ddanteithion hyfryd ar gyfer y Nadolig. Roedd paratoadau Alma yn hynod o drylwyr a chafodd pob un ohonom gopi o bob rysait er mwyn i ni eu trio gartre. Wedi gwylio Alma’n creu’r danteithion yn ei dull hamddenol ei hun roeddem with ein boddau’n cael blasu pob un. Diolch am fod mor hael, Alma. Pan ddaeth amser paned doedd dim angen y bisgedi - cawsom ddarn o Truffle Torte siocled yn eu lle. Rhoddodd Megan ddiolchiadau gwresog i Alma am noson hyfryd o Nadoligaidd. Enillwyd y raffl gan Grace a pharatowyd y baned gan Gwenda, Mair a Megan.

YSGOL ARDUDWY Gwasanaeth Carolau yn Eglwys Sant Tanwg Nos Iau, Rhagfyr 13 am 7.00

NEWYDDION YR URDD Helo a sut mae pethau ar ddechrau Rhagfyr oerllyd? Pêl-droed Aeth carfan dda o ddisgyblion Ysgol Ardudwy i lawr i Gaerdydd i weld Cymru yn herio Sbaen mewn gêm bêldroed gyfeillgar. Er y canlyniad siomedig i’r cochion, fe gafwyd taith dda gyda nifer fawr yn ymweld â’r Brifddinas a’r Stadiwm am y tro cyntaf. Diolch i bawb am gefnogi. Nofio Cynhaliwyd gala nofio’r Urdd yn ddiweddar yn Nhywyn. Daeth nifer dda o ardal Ardudwy yn ôl gyda chanlyniadau penigamp. Oedran Uwchradd Rhydd Merched B7 ac 8 3ydd - Saskia Duncan, Ysgol Ardudwy Cymysg Unigol Merched B7 ac 8 2il - Saskia Duncan, Ysgol Ardudwy 3ydd - Erin Fflur Mitchelmore, Ysgol Ardudwy Cyfnewid Rhydd Merched B7 ac 8 2il - Ysgol Ardudwy Cyfnewid Amrywiol Merched B7 ac 8 2il - Ysgol Ardudwy Oedran Cynradd Rhydd Bechgyn B3 a 4 3ydd - Iwan Evans-Brooks, Ysgol Tanycastell

Rhydd Merched B3/4 1af - Lowri Howie, Ysgol Llanbedr Rhydd Bechgyn B5 a 6 1af - Sam Tomos Roberts, Ysgol Talsarnau 2il - Dylan Bryn Mitchelmore, Ysgol Talsarnau Rhydd Merched B5 a 6 3ydd - Cari Jones, Ysgol Talsarnau Broga Bechgyn B3 a 4 2il - Iwan Evans-Brooks, Ysgol Tanycastell Broga Merched B5 a 6 1af - Nansi Evans-Brooks, Ysgol Tanycastell Cefn Merched B3 a 4 1af - Lowri Howie, Ysgol Llanbedr Pili Pala Bechgyn B5 a 6 1af – William Bailey, Ysgol Tanycastell Cymysg Unigol Bechgyn B5 a 6 1af - Dylan Bryn Mitchelmore. Ysgol Talsarnau Cyfnewid Rhydd Cymysg B5 a 6 1af - Ysgol Talsarnau Pob lwc i’r enillwyr yn y Gala Nofio Cenedlaethol a gynhelir ar ddiwedd mis Ionawr yng Nghaerdydd. Nadolig Llawen a Blwyddyn Dda i chi i gyd a diolch am eich cefnogaeth yn ystod 2018. Dylan Elis

TREM YN ÔL Ni ddywed neb Yr Aberdaron, Yr Aberystwyth, Yr Abersoch na Yr Aberdâr. Ond ysgrifennir Yr Abermaw yn fynych. Ni chlywid neb yn seinio’r geiriau mewn sgwrs cyffredin. Aeth Abermawddach rhyw dro yn Bermawdd; a throdd y gair yn Barmouth gan y Saeson. Aeth y gair wedyn yn Abermaw gan y Cymry gyda’r acen ar y sill ganol. Yn ddiweddarach, yn lle dweud Abermaw, dywedwyd Y Bermo. Ffug ysgolhengdod yw ysgrifennu Yr Abermaw. Yr Herald Gymraeg, Awst 1904

10

Caffi’r Pwll Nofio Harlech Dydd Sadwrn, Rhagfyr 8 am 2.30 Tocynnau: £1 y gêm

Croeso cynnes i bawb! Diolch am gefnogi.


STRAEON AR THEMA: Bwyd Cig anodd ei dorri Mewn caffi o’r enw ‘Mother Hubbard’s’ yn Iwerddon yr oedden ni, Huw Dafydd, Bili, Bryn a minnau. Dyma archebu cinio. Mi gymrais i gig eidion a dyna a wnaeth Bryn hefyd. Rydw i’n un digon misi efo fy mwyd ond fydd Bryn byth yn cwyno. Pan ddaeth y bîff, ro’n i’n teimlo ei fod yn wydn iawn, yn wir ni allwn ei dorri efo’r gyllell a roddwyd i mi. Gwell holi Bryn cyn cwyno, meddwn wrthyf fy hun. ‘Beidio bod y bîff ychydig yn wydn Bryn?’ holais. ‘Wel, mae o braidd yn wydn, dwi’n cyfaddef,’ oedd ateb Bryn. A dyma alw’r gweinydd draw. ‘This beef is very tough. I can’t cut it with this knife,’ medda fi wrtho fo. ‘Sure that’s no problem, Sir,’ atebodd, ‘I’ll go and get you another knife!’ PM Sgwennwr ifanc Pan oedd y plant yn fach, rhyw 5 a 7 oed, mi aethon am sgod a sglod i siop enwog Enoc Huws yng Nghyffordd Llandudno. Wedi i ni archebu, fe drôdd Gwyn at y ffenest i wylio’r traffig. Yn ddiarwybod i ni, roedd wedi gafael yn y sôs coch hefyd ac, heb i ni sylweddoli hynny, roedd o wrthi’n brysur yn sgwennu ‘Gwyn’ ar ffenest y siop efo’r sôs coch! Fuo fo ddim wrthi’n hir! PM

Lleidr y picnic Pan oedd fy nhad, Evan Wyn, yn byw ym Mro Enddwyn, Dyffryn Ardudwy, byddai’n dal i hoffi mynd i fyny i ffriddoedd Tyddyn Llidiart gyda’i bladur i dorri rhedyn, gan fynd â phicnic gydag ef mewn bag canfas brown. Un diwrnod, ac yntau wedi rhoi ei bicnic yn ei fag fel arfer ac yna wedi ei adael mewn man arbennig yn y cae tra roedd yn torri rhedyn, pan aeth i gael ei ginio, roedd y bag yn agored ac yn wag! Yr unig greadur oedd wedi bod gydag ef yn y cae ar y diwrnod hwnnw oedd Berry y ceffyl, ac mae’n ymddangos ei fod wedi llwyddo i agor y bag, bwyta’r bag o amgylch y bwyd a bwyta’r picnic, oedd yn cynnwys porc pei - sydd yn beth rhyfedd iawn i geffylau fwyta gan mai bwyd llysieuol maen nhw’n ei hoffi! Roedd gan Dad gymaint o feddwl o’r ceffyl fel y cafodd faddeuant llwyr a byddai’n adrodd y stori hon wrth hwn a’r llall am hir wedyn! Eirlys Wyn

Bwyd y Plant Mae’n siŵr fod plentyndod pawb ohonom yn llawn atgofion am ymweliadau â chartrefi neiniau a theidiau, ewythrod a modrybedd ac ati. Rhan bwysig o’r ymweld oedd cael aros i fwyd, pan fyddai rhyw ddanteithion arbennig i’w blasu a’u mwynhau. Cofiaf fynd sawl tro i fwthyn anti ac wncwl i mi yng ngogledd Sir Benfro. Roedd yn Dim yn hoffi gwin fwthyn hyfryd ac o flaen y tŷ, yn y Roedd wyth wrth y bwrdd, Chris, Rose, Bili, Carys, Phil, Janet, Ann a tymor priodol, roedd ’na fôr o liw minnau. Pan gyrhaeddodd y bwyd, a siapiau wrth i’r dahlias fod yn eu roedd rhaid i’r gweinydd gyfaddef ei gogoniant. Aelwyd di-blant oedd, fod wedi anghofio rhoi archeb bwyd er iddynt yn ystod yr Ail Ryfel Byd Chris i’r gegin. Stecen oedd honno. roi cartref caredig a gofalgar i ddau A dyma fo’n ei ôl i ddweud na fuasai efaciwî. Bu’r ddau yn gyfeillion bwyd Chris yn hir a’i fod am gynnig oes iddynt a chlos a chyson fu’r potel o win i ni am ei gamgymeriad. cysylltiad ar ôl blynyddoedd y ‘I don’t drink w...’ oedd Chris yn trio rhyfel. Er na chawsant blant, yn aml byddai fy ewythr yn ei ddweud pan afaelodd Ann yn y ddireidus dynnu’n sylw at hynny ar botel gan ddweud, ‘Thank you very adegau pryd bwyd. Yr un oedd y much for your kind gesture... neu eiriau i’r perwyl hwnnw. ‘Iechyd da gwahoddiad bob tro, sef “dewch at y ford a bytwch faint a fynnoch ond Chris,’ meddai pawb! cofiwch mai bwyd y plant ’da chi’n Gerallt Evans fyta! Ray Owen Antur 2005 oedd hi, a mi a’m ffrind yn Bwyta efo’r Côr mynd ar antur i Goa. Buom yn Ar noson olaf ein taith i Ddenmarc teithio am fis a phrofi traethau yn 1982 mi gawson ni bryd anhygoel a’r môr cynhesaf erioed. traddodiadol yn cynnwys bob Tra’n aros yn nhref Calangute, dyma fynd allan am fwyd un noson. math o ddanteithion - caviar a physgod amrwd yn eu plith. Fe Cyrri cyw iâr - wff, sôn am fod yn ddaeth mewn plât crand ag iddo sâl y diwrnod wedyn. Teimlo’n naw o rannau ar wahân. Chafodd y salach fyth pan ges wybod gan berchennog ein llety mai brân fydda bwyd, a’r caviar yn benodol, fawr o groeso gan y cantorion. Aeth y rhan ’di bod yn fy nghyrri ac nid cyw iâr fwyaf ohono yn ôl i’r gegin. Rhag wedi’r cyfan! cywilydd inni! IBW

Yn yr Almaen yn 1987, cyhoeddwyd ar y dydd Llun ein bod am gael pryd arbennig o fwyd i ginio, sef goulash, bwyd sy’n cynnwys sbeis a paprika [math o bupur]. Dydw i ddim yn hoff ohono. Bid a fo am hynny. Symud i dref arall ar y dydd Mawrth a dyma gyhoeddiad arall amser cinio yn dweud ein bod ni’n mynd i gael bwyd arbennig - goulash eto! Goeliwch chi mai goulash gawson ni bob dydd am wythnos, ac yn waeth na hynny gherkins oedd ar y plât efo fo bron bob tro! Wedyn yn Iwerddon yn 1988, roeddem yn canu allan yng Nghonemara. Ugain plât o gyw iâr ac ugain plât o eog [smoked salmon]wedi’i gochi ar ein cyfer ar ôl y cyngerdd a dim ond ychydig ohonom ddaru fwyta’r eog. Cywilydd eto, ond doedd y Gwyddelodd ddim blewyn dicach! PM Dim Scotch Yn Ysgol Gwalchmai, Sir Fôn y digwyddodd hyn. Amser cinio oedd hi a dyma un o’r bechgyn at yr hatsh a gofyn i’r merched beth oedd i ginio. ‘Scotch Egg,’ meddai un wrtho. ‘Dim Scotch i mi, diolch,’ meddai’r bychan! PM Stecan anferthol Mae’n anodd cael gweinyddes i’ch cyfarch yn y Gymraeg mewn tŷ bwyta yn Llandudno neu Bangor. Meddyliwch y syndod a’r pleser oedd i’r pedwar ohonom oedd ar daith i Batagonia rai blynyddoedd yn ôl yn eistedd mewn tŷ bwyta yn Esquel yng ngodre’r Andes a chael sylw wrth y bwrdd gan Archentwr Cymraeg ei iaith! Alan Green oedd ei enw a chawsom dipyn o’i hanes yn ymweld â’r henwlad gan weithio ar ffermydd yn ardal Arfon. Beth bynnag, bwyd yw’r thema mis yma yntê. Wel, heb ddeall y fwydlen Sbaeneg yn llawn a gan fod yr Ariannin yn enwog am ei chîg eidion, bu i mi archebu stecan, heb fod yn hollol siŵr beth fyddai’n cyrraedd! Toc daeth yn amser i Alan weini’r bwyd ac am wledd a gawsom! Yr hyn oedd yn drawiadol oedd bod fy ‘stecan’ yn anferthol ac yn ymdebygu i ddarn o gîg ‘topside’ fyddai wedi bod yn ddigon i bedawr ar gyfer cinio dydd Sul! Yr oedd mor frau y medrech ei thorri â fforc ac yr oedd yn toddi yn fy nheg. Er i mi amau fy hun, llwyddais i’w bwyta bob tamed. Hysbyseb gwych i gig eidion yr Ariannin ac mae’n parhau i dynnu dŵr i’r dannedd hyd heddiw. DR

Iau gwyn Pan yn hogyn yn ystod y gwyliau yr oeddwn yn helpu llawer iawn ar y teulu yn y lladd-dŷ yng Nghae Iago, Cwm Cynfal. Dydd Llun oedd y diwrnod prysuraf fel arfer ac ar nos Lun arferem gael ‘swpar bwtchiar’ sef cyfuniad o selsig ffres, iau oen a lamb’s fries. Gadawaf i chi ddyfalu beth yw lamb’s fries neu ‘iau gwyn’ fel y byddai rhai cwsmeriaid (posh!) yn cyfeirio atyn nhw. Byddai Mam yn rhoi’r iau a’r fries mewn blawd ac yn eu fffrïo a byddai fy mrawd a minnau wrth ein boddau efo’r arlwy. Yr oedd y fries yn ffefryn mawr. Fodd bynnag, rhywdro lladdwyd maharan go hen gan ein dau ar ddiwrnod heb fod yn ddydd Llun. Prysuraf i ychwanegu mai ar ran ffermwr at ei iws ei hun y digwyddodd hyn - nid ar gyfer y cownter! Wedi cyflawni’r gwaith ac yn unol ag arferiad nos Lun cynigwyd y lamb’s fries i ni’r hogia gan fy ewyrth, fel petai, yn wobr i ni am helpu! Un drwg am dynnu coes oedd o. Yn ddiniwed hollol, bu i ni ateb yn frwdfrydig o gadarhaol ac i ffwrdd â ni am adra a’r lamb’s fries efo ni, gan awchu am ein swper. Am siomedigaeth! Afraid egluro bod fy ewyrth wedi cael y gorau ohonom! Gallaf eich sicrhau nad yw ‘iau gwyn’ maharan yn blasu’n debyg i ddim y bu i mi ei flasu ers hynny! DR Pys slwj Dwi’n cofio Meic Post a minnau yn stopio am foliad o ‘chips’ yn y siop ym Mhenrhyndeudraeth pan oedden ni yn lafnau ifanc. ‘Chips’ a ’sgodyn a phys slwj oedd fy ffefryn i. Ac roedd y pys slwj yno yn werth eu cael, yn ddiguro am filltiroedd lawer. A’r Sadwrn wedyn dyma Meic a minnau yn stopio eto a minnau’n gofyn am ddwbl y pys slwj y tro yma - ddeudodd neb ddim am hynny ond mi edrychodd y dyn arnaf yn eithaf syn. Wir i chi, dyna’r pys slwj gorau i mi eu blasu erioed! Pan ddaeth y nos Sadwrn ganlynol, mi es i yno eto. Doedd dim amdani ond gofyn am dri dogn o’r pys y tro hwn. Meddai’r dyn wrthyf o ben draw’r siop, ‘You’ll sh*t yourself! Wel sôn am chwerthin. A dwi’n dal i chwerthin am y peth! Dyddiau da! Chris Parry

Y TESTUNAU NESAF: Ionawr: Eisteddfota Chwefror: Canu Mawrth: Cadw ymwelwyr Ebrill: Garddio Mai: Gwyliau

11


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Cydymdeimlad Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf i Mrs Llinos Llyfni Hughes, Maes Trefor yn ei phrofedigaeth drist o golli Gerallt, ei mab, yn ddiweddar. Mae ei chyfeillion a’i chymdogion yn yr ardal yn meddwl amdani yn ei cholled. Yr un yw ein cydymdeimlad â Maureen Williams, Cefntrefor Fawr, yn ei phrofedigaeth o golli ei chwaer, Dorothy yn Llanfrothen. Anfonwn ein cofion at Maureen a’r teulu yn eu colled.

TREM YN ÔL

Marw yn Burma Cyrhaeddodd telegram o Rangoon, Burma, yn hysbysu am farwolaeth Morgan Owen, un oedd â meddwl uchel ohono yn nhref Valona, Califfornia. Gadawodd wraig a llys-ferch oedd yn aros adref am air oddi wrtho i ymuno ag ef mewn cartref newydd yn Burma. Yr oedd yn hanu o Talsarnau (Ty’n Lôn, Llandecwyn) ond yn byw yn yr America ers rhai blynyddoedd. Am un mlynedd ar hugain gwasanaethodd Ysgol Talsarnau fel fforman yn un o ffwrneisi Gyda chymorth amryw o bobl, Smeltio Selby. Daeth cyfle i’w llwyddwyd i godi £194.94 tuag at ran yn y Rhyfel Mawr oddi Gronfa Nyrsus Macmillan wrth wrth Llywodraeth Prydain iddo drefnu stondin gacennau yn yr fynd i weithio mewn datblygiad ysgol yn ddiweddar. Wedyn mwynglawdd copor mewn codwyd £139.32 er budd cronfa cysylltiad â gwneud arfau rhyfel Plant Mewn Angen. yn Namtu, Gogledd Burma. Dymunwn ddiolch i rieni a Ar Gorffennaf 12fed, 1918, chyfeillion yr ysgol am eu hwyliodd o San Francisco ar cefnogaeth gyson. fwrdd yr agerlong Santa Clara Eglwys Llanfihangel-y-traethau am Singapore ac yna ymlaen am Rhagfyr 16: Naw Llith a Charol Rangoon a chanol Burma. Mae’n debyg iddo ef gael anwyd ar y am 11.30 fordaith a drôdd yn niwmonia ------a bu farw yn y porthladd Medi Dydd Nadolig 30ain, cyn iddo gael cyrraedd Gwasanaeth am 10.30 yng pen ei daith. ngofal y Parch Bob Hughes Y Drych, Tachwedd 1918 ------[Diolch i W Arvon Roberts am Ni chynhelir gwasanaeth y straeon o wahanol bapurau Cristingl eleni. newydd, yn cynnwys yr uchod.] Cwis Hwyl Merched y Wawr Nos Wener, 9 Tachwedd, cludwyd Anwen, Mai a Margaret gan Haf i Neuadd Llanelltyd i gymryd rhan yn y Cwis. Roedd y Neuadd yn orlawn a bu llawer o hwyl wrth ddyfalu’r atebion. Er nad oeddym ar y brig ar y diwedd, cawsom sgôr ddigon boddhaol a mwynhau cymryd rhan.

Merched y Wawr

Croesawyd bawb i’r cyfarfod nos Lun, 5 Tachwedd gan y Llywydd, Siriol Lewis a dechreuwyd trwy gyd-ganu cân y mudiad. Hysbyswyd dyddiad y gystadleuaeth Bowlio Deg yng Nglan-llyn nos Wener, 22 Chwefror 2019. Penderfynwyd mynd i’r Bistro yn Harlech am ein cinio Nadolig ar ddydd Iau, 6 Rhagfyr a rhoddwyd cyfle i bawb nodi eu dewis o’r fwydlen. Wedi cwblhau’r materion uchod, croesawodd Siriol ein gwraig wâdd, Jane Williams o Ddyffryn Ardudwy. Crochennydd yw Jane, yn dysgu rhan amser yng Ngholeg Meirion Dwyfor ac yn gweithio yn ei chrochendy ar dir ei thad yng Nghors y Gedol. Roedd wedi dod â chasgliad o’i gwaith lliwgar i arddangos i ni ac adroddodd ychydig o gefndir ei bywyd a’i gwaith, cyn i ni gael y cyfle i roi ein dwylo ar dipyn o’r clai a chreu potiau bach ac addurniadau i’w rhoi ar goeden Nadolig.

Capel Newydd. Oedfaon am 6:00 RHAGFYR 2 - Dewi Tudur 9 - Eifion Jones 16 - Dewi Tudur 23 - Gwasanaeth Carolau 30 - Gwilym Tudur IONAWR 2019 6 - Dewi Tudur

Roedd digon o hwyl wrth geisio cael siâp go daclus ar ein cynhyrchion, a bydd Jane yn mynd â rhain gyda hi i’w rhoi yn y ffwrn gartre’ i’w gorffen. Edrychwn ymlaen at eu gweld ymhen rhyw dair wythnos! Diolchodd Anwen i Jane am noson ddiddorol a difyr yn ei chwmni, yn rhoi cyfle i bawb gymryd rhan a mwynhau profiad o’r newydd. Dosbarthwyd y Wawr i’r aelodau, paratowyd y baned gan Maureen ac Eirwen a Frances enillodd y raffl.

12


CYNGOR CYMUNED TALSARNAU Croesawyd y Cadeirydd Mr James Buckley, peiriannydd datblygiad, Ms Nia Thomas, gweinyddwr prosiect a Ms Eloise Frank, rheolwr gogledd y prosiect o’r Grid Cenedlaethol i’r cyfarfod i drafod dymchwel y peilonau ar hyd aber yr afon Ddwyryd. Dangoswyd map o’r ardal ynghyd â’r rhaglen waith. Maent yn gobeithio cychwyn ar y gwaith yn Ionawr 2020. Adroddwyd ymhellach ganddynt bod ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn y Neuadd ar Tachwedd 24 o 10.00 o gloch y bore tan 4.00 o gloch y prynhawn a bod dau ymgynghoriad arall wedi eu cynnal yn barod. Gofynnwyd rhai cwestiynau a oedd o bryder i’r aelodau. Croesawyd Ffion Williams i’w chyfarfod cyntaf o’r Cyngor a dymunodd y gorau iddi. MATERION CYNGOR GWYNEDD Adroddodd Freya Bentham ei bod wedi anfon at yr Adran Briffyrdd yn gofyn am linellau melyn dwbl ar y rhiw sydd yn mynd am Soar ond eu bod angen mwy o wybodaeth cyn gwneud y gwaith hwn, ond eu bod wedi cytuno i fwrw ymlaen gyda’r gwaith o osod rhai ar y ffordd i lawr am y stesion. Adroddwyd ganddi bod y gwaith o atgyweirio Ffordd Barcdy yn mynd i gychwyn yn fuan; bydd yn golygu y bydd y ffordd yn cau dros nos a datganwyd pryder bod hyn yn digwydd oherwydd nad oes cynllun argyfwng mewn lle. CEISIADAU CYNLLUNIO Gosod pympiau tynnu gwres o bwll cyfagos a’r holl waith perthnasol – Getws, Glyn Cywarch, Talsarnau Cefnogi’r cais hwn oherwydd ei fod yn ddull amgylcheddol o gael gwres. Caniatâd Adeilad Rhestredig i uwchraddio ffenestri codi traddodiadol, gwydro eilaidd a chaeadau paenelog/dellt, gosod systemau canfod ac atal tân, ail weirio’n cynnwys 3 cyfnod rhannol, system wresogi yn cynnwys gwres tân lloriau, system gwaith plymio, gorchuddio rhai waliau a pharedau sych, cyflwyno mesuriadau atal sŵn yn ogystal â gwaith ychwanegol i ystafell “yoga” - Glyn Cywarch, Talsarnau. Cefnogi’r cais hwn oherwydd ei fod yn cefnogi gwaith lleol drwy ddenu’r dyddiau saethu i’r ardal. ADRODDIAD Y TRYSORYDD Ceisiadau am gymorth ariannol Hamdden Harlech ac Ardudwy - £1,942.45 Llais Ardudwy £500.00 Adroddodd y Trysorydd ei bod wedi derbyn llythyr gan yr Archwilwyr Allanol, cwmni BDO, yn datgan bod yr archwiliad blynyddol wedi ei orffen ganddynt ac nad oedd materion wedi dod i’w sylw ynglŷn â’r archwiliad heblaw mân faterion. GOHEBIAETH Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Derbyniwyd ateb gan yr uchod ynglŷn â phryder y Cyngor nad oes uned dementia ym Meirionnydd, ac yn datgan mai Mr Saul Kristian o Ansawdd a Diogelwch fydd ein pwynt cyswllt cyntaf yn y Bwrdd Iechyd tra byddant yn ymchwilio i’n hymholiad; ac y byddant fel arfer yn anfon ateb o fewn 30 diwrnod gwaith. UNRHYW FATER ARALL Datganwyd pryder am y goryrru sy’n digwydd ar y ffordd yn Llandecwyn a chytunwyd bod Freya Bentham yn cysylltu gyda Gan Bwyll i ofyn iddynt ymweld â’r ardal a hefyd cysylltu gyda Mr Dylan Jones o’r Adran Drafnidiaeth yng Nghaernarfon yn gofyn i fesur traffig gael ei osod ar y ffordd. ----------------------------------------------------------------------------------Diolch Diolch i Gyngor Cymuned Talsarnau am eu rhodd garedig o £500 tuag at goffrau’r papur. [Gol.]

CYNGERDD NADOLIG YSGOL TALSARNAU

LLWYDDIANT YN Y PWLL NOFIO

Dyma rai o blant Ysgol Talsarnau fu’n cystadlu yng Ngala’r Urdd yn Nhywyn yn ddiweddar - byddant rŵan yn mynd trwodd i gynrycholi’r Sir yng Nghaerdydd ym mis Ionawr.

Roedd Sam yn gyntaf yn y gystadleuaeth ymlusgo [crawl], Dylan yn gyntaf yn ras amrywiol unigol [medley], ac roedd y pedwar ohonyn nhw - Sam, Cari, Dyl ac Erin yn gyntaf yn y ras gyfnewid i dîm. Llongyfarchiadau i’r pedwar ohonyn nhw a phob lwc yng Nghaerdydd.

Neuadd Gymunedol Talsarnau

Gyrfa Chwist Nos Iau, Rhagfyr 20 am 6.00 o’r gloch

Nos Iau, 13 Rhagfyr am 7.30 Croeso cynnes i bawb!

13


PWNSH NADOLIGAIDD CERDDED MEWN CELL

Robin Llywelyn

potelaid o win coch - unrhyw cwpaned o siwgr llwy de o fêl 1 lemon wedi ei dorri yn gylchoedd ychydig o nytmeg peint [500ml] o ddŵr poeth 2 oren wedi’i sgleisio afal coch heb ei chroen

Cynheswch y gwin efo’r siwgr, mêl, lemon a nytmeg yn agos at fod yn ferwedig. Adiwch y dŵr poeth. Tywalltwch dros y cylchoedd afal ac oren mewn powlen fawr. Gallech addurno gyda stribed hir o groen yr afal.

ENGLYN DA HENAINT ‘Henaint ni ddaw ei hunan’; - daw ag och Gydag ef a chwynfan, Ac anhunedd maith weithian, A huno maith yn y man. John Morris Jones, 1864 -1929

Loteri Cymunedol

Mis Rhagfyr 2017 Mawrth 2018 Mehefin 2018 Medi 2018

Rhif yr enillydd H&AL CL00011 H&AL CL00049 H&AL CL00013 H&AL CL00049

PENBEN Cwis Radio Cymru Swm £189.60 £212.40 £178.80 £191.00

Hoffem ar ran Hamdden Harlech ac Ardudwy ddiolch i bawb am eu cyfraniadau a’u cefnogaeth barhaus. Os oes rhywun â diddordeb mewn ymuno â’r Loteri, mae ffurflenni cais ar gael yn nerbynfa’r pwll nofio gan Bethan.

Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/llaisardudwy/docs 14

Mae’r awdur dawnus Robin Llywelyn newydd gyhoeddi ei gyfrol newydd, Cerdded Mewn Cell – ei lyfr cyntaf o ryddiaith ers 2004, pan enillodd wobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae Robin Llywelyn, o Lanfrothen, a chyn-ddisgybl yn Ysgol Ardudwy, yn adnabyddus am ei ddychymyg rhyfeddol, ac mae wedi ennill nifer fawr o wobrau am ei ysgrifennu llachar ac arbrofol. Mae’r gyfrol yn esiampl dda o waith yr awdur gyda’r straeon yn gyfuniad o’r hen a’r newydd, yn fywiog, yn wreiddiol ac yn annisgwyl, yn dyner ac yn drist. Daw’r teitl o stori am ddyn sydd wedi ei garcharu ar gam wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth ar ei noson gyntaf allan gyda’i wraig ers geni eu mab. Dywedodd Robin Llywelyn: “Mae rhai straeon yn ysgafn ac ysmala ac ychydig yn fwy difrifol. Does dim ymgais i greu neges na phregeth yma ond os ceir difyrrwch ohonynt bydd eu hamcan wedi ei wireddu.” “Rwy’n meddwl y bydd y gyfrol yn apelio at ddarllenwyr Cymraeg rhwng 10 a 90 oed sydd heb fod yn biwritaniaid, Torïaid na mesyns.” Mae Robin Llywelyn yn un o awduron gorau Cymru ac mae ei waith wedi’i gyfieithu i’r Saesneg, Ffrangeg ac Eidaleg ac mae’r awdur yn bwnc cyfrol Llên y Llenor. Cafodd ei eni a’i fagu yn Llanfrothen ger Penrhyndeudraeth. Mae’n briod ac yn dad i dri o blant a’i daid oedd y pensaer Syr CloughWilliams.

Llais Ardudwy

Pa fath o anifail yw Saluki? Pwy yw’r Gymraes sy’n cyflwyno The One Show? Pa brifddinas yn y byd yw’r un fwya ddeheuol? Os lwyddoch chi i ateb y cwestiynau uchod, fe ddylech gysylltu yn syth gyda BBC RADIO CYMRU, sydd wrthi yn chwilio am gystadleuwyr ar gyfer y cwis ‘Penben’. Cwis gwybodaeth gyffredinol yw’r cwis ac fe fydd y recordio yn digwydd ym Mangor a Chaerdydd ar ddechrau 2019. Rhowch gynnig arni. Cysylltwch â: radio.cymru@bbc.co.uk 03703 500600 (opsiwn 4) Gyda llaw, ci yw Saluki, Alex Jones sy’n cyflwyno’r One Show a Wellington yw’r brifddinas fwya’ ddeheuol.


CYMDEITHAS BRODWAITH CYMRU

Dewch â gwên i’r byd mewn siwmper glyd

Annwyl Syr/Madam Mae Cymdeithas Brodwaith Cymru yn cynnig ysgoloriaeth bob blwyddyn o hyd at £500 i fyfyriwr Cymraeg sy’n dilyn cwrs tecstilau mewn coleg. Bu nifer o fyfyriwyr yn llwyddiannus yn y gorffennol a phleser oedd cael arddangos peth o’r gwaith ar stondin y Gymdeithas yn yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn. Disgwylir i’r ymgeisydd fod yn 18 oed a throsodd. Amcanion y Gymdeithas yw hyrwyddo brodwaith drwy gyfrwng y Gymraeg, a threfnir cyrsiau, darlithoedd, dosbarthiadau ac arddangosfeydd mewn ardaloedd ledled Cymru. Diffinnir brodwaith fel unrhyw waith sydd yn addurno gan ddefnyddio edau a nodwydd, a cheir amrywiaeth o dechnegau ar gyfer hyn. Mae gennym arddangosfa o waith yr aelodau yn yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn. I gael ffurflen gais neu ragor o wybodaeth cysylltwch â: Medwen Charles, Maes Meini, Rhyduchaf, Y Bala, LL23 7SD. maes.meini@btinternet.com Y dyddiad cau fydd 14 Chwefror, 2019. Gyda diolch, Yn gywir, Medwen Charles

O jyrsis sy’n janglo i siwmperi sy’n sgleinio mae Achub y Plant yn gobeithio y bydd trigolion y fro yn ymuno yn hwyl Diwrnod Siwmper Nadolig Achub y Plant eleni ar ddydd Gwener, 14 Rhagfyr. Nod Diwrnod Siwmper Nadolig yw codi arian ar gyfer cefnogi gwaith yr elusen yn rhyngwladol a hefyd yma yng Nghymru. Ers lansio Diwrnod Siwmper Nadolig yn 2012 mae wedi codi swm o £13.5 miliwn, a’r llynedd fe godwyd y swm aruthrol o £4 miliwn o bunnoedd. • Gallai £1 helpu 16 o blant wella o ddolur rhydd trwy halwynau hydradu syml. • Gallai £5 brynu teganau i helpu plentyn yng Nghymru i ddysgu drwy chwarae. • Gallai £16 roi pecyn genedigaeth i fydwraig yn Afghanistan er mwyn iddynt allu dod â bywyd newydd i mewn i’r byd yn ddiogel. • Gallai £55 ddarparu beic ar gyfer gweithiwr iechyd yn Tanzania er mwyn iddynt allu gofalu am blant mewn lleoedd na all ceir eu cyrraedd. • Gallai £200 dalu i blentyn fynychu ysgol gynradd yn Uganda am flwyddyn. • Gallai £500 ariannu 36 o athrawon ysbrydoledig am fis cyfan yn Libanus.

Ffeirio Pulpud

Parch. Huw Jones

Cofrestrwch i gymryd rhan ar www.christmasjumperday.org, ac unwaith i chi wneud hynny cewch e-bost fydd yn mynd â chi at dudalen sy’n cynnwys yr adnoddau Cymraeg. Mae’r pecyn codi arian yn llawn syniadau ar gyfer gweithgareddau creadigol a dwl i sicrhau y bydd eich Diwrnod Siwmper Nadolig yn llwyddiant. Os am sgwrs yn y Gymraeg am Ddiwrnod Siwmper Nadolig neu waith Achub y Plant yn gyffredinol, cysylltwch ag Eurgain Haf a Rhian Brewster ar 029 20 396838. Gallwch ein dilyn hefyd ar Facebook @savethechildrenwales a Thrydar @savechildrencym a chofiwch ddanfon eich lluniau atom drwy ddefnyddio #diwrnodsiwmpernadolig.

Parch. Robin Williams

Rwyf newydd ddarllen ‘Tynnu Llwch’ gan Robin Williams a deuthum ar draws yr hanesyn bach digri hwn. Cefndir y stori yw fod Huw Jones (Huw Bach) yn aros yn Llanystumdwy gyda Robin Williams a’r ddau yn fyfyrwyr. Ar y Sul canlynol, roedd gan y ddau ddiwrnod llawn o gadw oedfaon, Huw Jones yng Nghapel Ysgoldy wrth droed Eryri a Robin Williams i draethu yn Saron Penygroes. Y bwriad oedd i Huw Jones ollwng Robin Williams ym Mhenygroes ac wedyn mynd ymlaen i’w gyhoeddiad, ond roedd car Robin Williams yn camymddwyn. I dorri stori hir yn fyr penderfynwyd ffeirio pulpud. Ar derfyn y dydd dyma Robin Williams yn troi am adref a galw am Huw Jones ym Mhenygroes. Wrth yrru yn ôl am Lanystumdwy dyma Huw Jones yn holi beth oedd gan bobl Ysgoldy i’w ddweud am y newid i’w trefniadau. Atebodd Robin Williams fod y blaenoriaid wedi cytuno’n hapus ac o dan yr amgylchiadau eu bod wedi gwneud peth call iawn. Dyma Robin Williams yn gofyn i Huw Jones beth oedd barn bobl Saron am y newid i’w patrwm hwythau. ‘Wel’, meddai Huw Jones, ‘diolch yn arw iawn yr oedd swyddogion Saron am dy fod wedi anfon un gwell yn dy le’. John Williams, Hendreclochydd

15


CYNGOR CYMUNED HARLECH

Croesawodd y Cadeirydd Ms Paula Ireland i’r cyfarfod i drafod y rhandiroedd ag i gael gweld pa rai oedd yn wag. Cafwyd gwybod bod 6 yn wag ar hyn o bryd a phenderfynwyd tacluso’r rhain cyn y gwanwyn pan gynhelir diwrnod agored i geisio denu tenantiaid newydd. Cytunwyd i roi hysbyseb yn Llais Ardudwy yn datgan bod rhandir ar gael ag i’r darllenwyr gysylltu gyda’r Cadeirydd am fwy o wybodaeth. Penderfynwyd gofyn i Mr Lee Warwick dacluso’r llwybrau o amgylch y rhandiroedd. Diolchwyd i Ms Ireland am fynychu’r cyfarfod. Y Fynwent Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn pris o £935 gan Mr Peter Rees, Dolaur i wneud y gwaith o ddiogelu’r ddwy garreg dan sylw, hefyd i ail beintio y “Dim Parcio/No Parking” sydd wedi ei osod ar y ffordd ynghyd â’r llinell wen i weld a fyddai hyn yn atal rhai rhag defnyddio’r lle fel man parcio cyhoeddus. Hefyd bod y pris hwn yn cynnwys y gwaith o beintio ‘Dim Parcio’ ar y llecyn gyferbyn â’r Odyn, Ffordd Penllech, hefyd trwsio’r bolard sydd wedi ei ddifrodi yr un pryd. Cytunwyd i dderbyn y pris hwn a gofyn iddo a fyddai’n gallu cychwyn cyn gynted â phosib. Cyfarfod Bwrdd Hamdden Harlech ac Ardudwy Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn copi o gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Bwrdd uchod a gynhaliwyd ar y 25ain o’r mis diwethaf gan Mr Dylan Hughes, yn datgan ynddo bod rhai wedi dangos diddordeb mewn bod yn aelodau o’r Bwrdd. Hefyd, datganwyd bod yr adroddiad diwethaf oedd wedi ymddangos yn y Cambrian News yn hen a bod angen ei anwybyddu. Roedd digwyddiadau codi arian wedi bod yn dda gyda llawer yn mynychu. Adroddwyd ymhellach y byddant yn anfon allan anfonebau i’r Cynghorau Cymuned am 2il ran y taliad presept ddechrau’r mis hwn a bydd adroddiad llawn i ddilyn tuag at ganol neu ddiwedd y mis a fydd yn cynnwys datganiad o’r cyfrifon incwm a gwariant hyd yma a thudalen balans am y flwyddyn ariannol 2016/17; hefyd, llythyr yn dangos y swm fydd raid i’r Cyngor ei dalu yn ystod blwyddyn ariannol 2018/19. Adroddodd y Clerc ymhellach bod copi o lythyr yr oedd y Bwrdd wedi ei anfon ynglŷn â chyfarfod oedd wedi ei gynnal gyda Harlech ar Waith yn datgan eu bod yn gefnogol i’r cynlluniau sydd ganddynt. Adroddwyd gan y Clerc ei bod wedi derbyn yr anfoneb am yr 2il daliad presept o £9,484.45 a chytunwyd i’w dalu pan fydd copïau o’r adroddiadau ariannol wedi eu derbyn. Ceisiadau Cynllunio Adeiladu balconi a grisiau dur i ddarparu mynediad o lawr cyntaf yr eiddo i’r ardd gefn – Anwylfa, Stryd Fawr, Harlech. Cefnogi’r cais hwn. Addasiadau ac estyniadau yn cynnwys estyniadau ar flaen ac ochr yr eiddo, garej a chreu mynediad newydd i gerbydau – Allt y Morfa, Heol y Bryn, Harlech. Cefnogi’r cais hwn. Ceisiadau am gymorth ariannol Llais Ardudwy - £500.00 Cylch Meithrin Harlech - £500.00 ----------------------------------------------------------------------------------Diolch Diolch i Gyngor Cymuned Harlech am eu rhodd garedig o £500 tuag at goffrau’r papur. [Gol.]

PARTI NOS CALAN

Cerddoriaeth Fyw!

Mynediad trwy docyn. Ar gael o ‘Seasons & Reasons’, Stryd Fawr, Harlech.

16

NI FEGIR CENFIGEN

Teulu a wnaeth lawer dros Gymru oedd teulu Plas Pen Ucha, Caerwys. Gwn eu bod yn bobl gyfoethog iawn a’r gallu ganddynt i wneud hynny, ond gwelodd ein cenedl ddigon o deuluoedd cyfoethocach a wnaeth lai o lawer. Bu Syr John Herbert Lewis (1858-1933) yn Aelod Seneddol dros Fwrdeisdrefi Fflint, dros Sir y Fflint ac yn olaf dros Brifysgol Cymru. Gweithiodd yn ddygn dros y Llyfrgell Genedlaethol ifanc, dros y Brifysgol a dros gael pensiynau teilwng i athrawon. Daliodd swyddi pwysig yn Llywodraethau Asquith a Lloyd George, lle gweithiodd yn galed dros rai llai ffodus nag ef ei hun. Fel y gweddai iddo fel gor-nai i’r hen weinidog a bardd Thomas Jones o Ddinbych (1756-1820), roedd ganddo ddiddordeb mewn emynau a thonau Cymru. Er na ddywedir hynny yn Llyfr Emynau 1929, ef oedd awdur y dôn Tafwys (rhif 468). Mae ei enw fel y dylai fod yn y Caneuon Ffydd. Dynes arbennig iawn oedd ei ail wraig, Ruth Caine (18711946). Saesnes o Lerpwl oedd hi ond wedi priodi Syr Herbert gofalodd ddysgu Cymraeg a magu ei phlant yn yr iaith honno, peth anffasiynol ar y pryd. Roedd yn un o aelodau cyntaf Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Treuliodd lawer o amser yn casglu hen alawon a geiriau gan bobl mewn oed ac mae’n siŵr y byddai llawer o’r caneuon hyn wedi mynd i ebargofiant oni bai am ei dycnwch ynglŷn â’r gwaith. Ym mis Medi 1910, roedd Ledi Herbert (fel y gelwid hi) yng Nghaerwys, Sir y Fflint lle cafodd hyd i rhyw frawd o’r enw Robert Jones a ganodd ran o hen garol yr oedd yn ei

brithgofio i mewn i ffonograff. Fel hyn y dechreuai: ‘O deued pob Cristion i Fethlem yr awron I weled mor dirion yw’n Duw,’ Erbyn hyn daeth yn hysbys mai’r bardd oedd Jane Ellis (1779wedi 1841), gwraig a fu’n byw yn ardal y Bala ac wedyn yn yr Wyddgrug. Cyhoeddodd ddau lyfr o farddoniaeth, un yn 1816 a’r llall yn 1840. Peth anarferol iawn i wraig ddistadl o’r cyfnod hwnnw fyddai gwneud peth felly. Welais i erioed gopi o’r un o’r ddau lyfr. Pan gyhoeddwyd y garol yng Nghaniedydd 1921, mae’n amlwg na welsai’r golygyddion y garol wreiddiol chwaith. Rhoddwyd ‘Anadnabyddus’ o dan y pennill cyntaf ac ail bennill wedi ei gywain o rywle ato. Rhaid fu aros tan y Caneuon Ffydd i gael enw Jane Ellis o dan y garol. Mae yna brinder emynwyr o wragedd heb i bobl fel Jane Ellis gael eu hanwybyddu. I ni heddiw mae’r garol yn swnio yn hen-ffasiwn iawn, ‘O ddyfnder rhyfeddod! fe drefnodd y Duwdod Dragwyddol gyfamod i fyw!’ Ac eto: ‘Heb le yn y llety, heb aelwyd, heb wely, Nadolig fel hynny gadd hwn.’ Mae’r penillion yn clymu yn daclus gan odli yn gymhleth a thinc cynganeddol trwy’r cyfan braidd fel hen fesur tri thrawiad. Cawn sôn am y dôn y tro nesaf ond dowch i ni feddwl am ddymuniad diffuant y bardd, ‘Tywysog tangnefedd wna’n daear o’r diwedd Yn aelwyd gyfannedd i fyw; Ni fegir cenfigen na chynnwrf na chynnen, Dan goron bydd diben ein Duw.’ Ac o na fydded hi felly y Nadolig yma. JBW


AROLWG GWYCH I’R HEFIN YN PARHAU Â’R GYMRAEG YNG NGHYLCH GWAITH MODELU MEITHRIN LLANBEDR

Daeth arolygwyr Estyn i Gylch Meithrin Llanbedr ym mis Gorffennaf eleni. Rhoddwyd adroddiad canmoliadwy ym mhob agwedd o’r arolwg. Dangosodd yr adroddiad ragoriaeth yn y defnydd o’r Gymraeg. Roedd yr ymateb yn gadarnhaol ym mhob agwedd o’r arolwg gan grybwyll bod y plant yn cael addysg mewn awyrgylch llwyddiannus, apelgar a hapus iawn. Carwn ddiolch i Anti Heulwen, Anti Helen, Anti Chris ac Anti Sara am eu hymroddiad i sicrhau’r ddarpariaeth orau i’n plant.

Bws Llundain a dynnwyd gan geffylau oddeutu 1885 Bws Llundain a dynnwyd gan geffylau oddeutu 1885 yw’r model diweddaraf i’w gynhyrchu gan un o selogion mwyaf y gymdeithas fodelu, sef Hefin Jones, Arfor, Harlech. Cychwynnodd ar y gwaith o greu modelau yn ei amser hamden yn 1976 ac ers hynny mae wedi cwblhau rhyw 14 ohonyn nhw. Mae pob un yn dangos ôl ei law crefftus a’i ddawn unigryw i gael popeth yn ei le yn hollol gywir. Mae ganddo diddordeb mawr yn y bws hwn. Roedd deg o geffylau yn perthyn i bob bws, ac roedd y bws yn gwneud pedair taith bob dydd, felly yr oedd angen i wyth o’r ceffylau fod yn gweithio. Cawsai dau geffyl ddiwrnod o orffwys yn eu tro. Roedd gan y cwmni gyfanswm o 16,714 o geffylau. Golygodd waith dwy flynedd i Hefin gwblhau’r gwaith ar y

Hefin Jones model hwn ac fe welwch o’r llun isod mor gywrain ydi o. Mae arno waith trin coed a metel, peintio amrywiol, farnais ac ailgreu’r hysbysebion ar yr un patrwm â’r gwreiddiol. Holais wedyn beth fydd y project nesaf. Meddai Hefin, ‘Rydw i am weithio ar un o’r bysus cyntaf gafodd eu cynhyrchu erioed, sef un o ‘East Anglia’. Edrychwn ymlaen at gyhoeddi llun o’r model gorffenedig ymhen y rhawg!

Model gorffenedig Hefin Jones

Y plant presennol yn mwynhau gwisgo i fyny ar ddiwrnod ymweliad Prif Weithredwr y Mudiad, Dr Gwenllian Lansdowne Davies. Cafodd bleser o wrando ar y plant yn canu hwiangerddi.

DYDDIADUR Y MIS

Rhagfyr 5 - Carolau Ysgol y Traeth, Eglwys Sant Ioan, Bermo, 6.00 Rhagfyr 5 - Cymdeithas Gymraeg Bermo, Côr Lliaws Cain, Trawsfynydd, Eglwys Crist, Bermo, 7.30 Rhagfyr 8 - Cinio Clwb Rygbi Harlech, Nineteen.57, 7.30 Rhagfyr 8 - Bingo yn Caffi’r Pwll Nofio, Harlech, 2.30 Rhagfyr 9 - Gwasanaeth Nadolig Carol a Chymun, Capel Engedi, Harlech, 2.00 Rhagfyr 9 - Gwasanaeth Nadolig Undebol, Eglwys St Tanwg, Harlech gyda Band Harlech a Chana-mi-gei, 6.00 Rhagfyr 10 - Cinio Cymdeithas Cwm Nantcol/ Côr Meibion Ardudwy, Bwyty Clwb Golff Harlech Rhagfyr 12 - Gwasanaeth Carolau Eglwys Sant Pedr, Llanbedr, 6.30 Rhagfyr 13 - Festri Lawen, Dyffryn Ardudwy, Steff a Tud a bwffe, 7.30 Rhagfyr 16 - Gŵyl y Baban, Capel Jerusalem, Harlech am 7.00 Canu Nadoligaidd yng nghwmni Meibion Prysor Rhagfyr 18 - Carolau ’81, Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy, 7.00 Rhagfyr 20 - Gŵyl y Nadolig ym Mhlas Aberartro gyda Chôr Meibion Ardudwy a Treflyn Jones, 7.30 Rhagfyr 23 - Carolau Tref y Bermo, Eglwys Sant Ioan, Bermo, 4.00 Rhagfyr 23 - Carolau yng nghwmni Côr Meibion Ardudwy, Nineteen.57 am 6.30

17


LLANFAIR A LLANDANWG Merched y Wawr ‘Brethyn Cartref ’ oedd teitl y noson a chafwyd noson wahanol gyda phob un aelod oedd yn bresennol yn cymryd rhan. Gwneud cardiau Nadolig oedd pwrpas y noson; rhai wedi mynychu dosbarthiadau yn y gorffennol a rhai eraill yn newydd i’r grefft. Roedd pawb wedi casglu papur, glud a graffeg perthnasol i’r Nadolig i wneud cardiau. Eraill wedi dod ag enghreifftiau o gardiau yr oeddent wedi eu paratoi o flaen llaw ar gyfer rhai nad oedd yn gyfarwydd. Gwnaethpwyd nifer o gardiau gan ddefnydddio technegau gwahanol a phawb yn gweithio’n ddygn iawn trwy’r cyfarfod. Roedd y baned, wedi ei pharatoi gan Ann a Linda, yn dderbyniol iawn. Ar yr 8fed o Ionawr, rydym yn disgwyl Rob Booth atom i sôn am y wennol ddu. Mae croeso i unrhyw un ymuno â ni yn Neuadd Llanfair am 7.30 yh. Rhodd Diolch i Marian W Daniels am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu ei thanysgrifiad i Llais Ardudwy. Diolch hefyd am roddion o £10.00 yr un gan Gwyneth Meredith a Bethan Ifan.

Cinio Nadolig

Caffi Pwll Nofio Harlech Rhagfyr 11

18

PLYGAIN CYFEILLION ELLIS WYNNE 2019 YN EGLWYS LLANFAIR

Cynhelir Plygain y Lasynys Fawr yn 2019 ar 16 Ionawr am 7.00 o’r gloch yn Eglwys Llanfair. Yn dilyn y Plygain, gobeithiwn unwaith eto gynnal swper Y Plygain yn Neuadd Goffa Llanfair. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu tamaid o fwyd at y swper yn y gorffennol, ac os hoffech gyfrannu eto eleni neu helpu ar y noson, cysylltwch â Haf os gwelwch yn dda (manylion cyswllt y tu mewn i’r clawr). Hefyd, os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â pharti Plygain y Lasynys, dewch draw i’r ymarfer cyntaf a gynhelir yn y Lasynys Fawr brynhawn Sul, 16 Rhagfyr, am 3.00 o’r gloch. Croeso i aelodau hen a newydd.

Ymchwil Canser Cynhaliwyd Gyrfa Chwilen yn Neuadd Llanfair ddiwedd Tachwedd a chasglwyd £300 er budd y gronfa leol. Yn ystod y flwyddyn aeth heibio, mae’r gangen leol wedi llwyddo i anfon dros £11,000 i’r Ganolfan Ymchwil ym Mangor. Llongyfarchion i’r aelodau diwyd am eu cyfraniadau anrhydeddus i’r gronfa hon dros y blynyddoedd. Gwaith gwiw iawn!

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR

Hysbysfyrddau Bu trafodaeth ynglŷn â’r ffaith fod angen dipyn o waith atgyweirio ar yr hysbysfwrdd ger groesffordd Caersalem ac oherwydd hyn cytunwyd i archebu un newydd wedi ei wneud o ddeunydd ailgylchu a chytunodd y Clerc wneud hyn ar ran y Cyngor; cytunodd Robert G Owen i’r hysbys fwrdd dan sylw gael ei adael yng Nghae Cethin. Pwyllgor Neuadd Goffa Adroddodd Mair Thomas ei bod wedi mynychu’r cyfarfod uchod a bod Mrs Sue Travis wedi rhoi ramp at ddefnydd y neuadd. Cais Cynllunio Caniatâd Adeilad Rhestredig i ail-doi gyda llechi – Llwyn Hwlcyn, Llanbedr. Cefnogi’r cais hwn. Adroddiad y Trysorydd Ceisiadau am gymorth ariannol Dizzie Dancers - £50.00 Adroddodd y Trysorydd ei bod wedi derbyn llythyr gan yr Archwilwyr Allanol, cwmni BDO, yn datgan bod yr archwiliad blynyddol wedi ei orffen ganddynt ac nad oedd materion wedi dod i’w sylw ynglŷn â’r archwiliad heblaw mân faterion. Unrhyw Fater Arall Cafwyd gwybod nad yw’r arwydd ‘Araf ’ wedi ei ailosod ar y ffordd cyn cyrraedd maes parcio’r Maes yn Llandanwg. Mae cŵn yn cael eu gollwng yn rhydd unwaith y maent yn mynd drwy’r giât i’r Maes er bod arwyddion ynglŷn â hyn ar y safle, a chytunwyd i anfon llythyr at yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i dynnu eu sylw at hyn a gosod mwy o arwyddion yn gofyn iddynt beidio â gwneud hyn. Mae ceir yn dal i droi i mewn am stad Pant yr Onnen er bod arwydd ‘T’ wedi ei osod yno.

Pigion

gan Olwen Jones, o’r Ynys gynt

W D Williams Athro wedi ymddeol ac yn byw yn y Bermo, lle bu’n brifathro’r ysgol gynradd yno am bron i ugain mlynedd. Ganed ef ym 1900 yn Llawrybetws, ger Corwen; bu yn yr ysgol gynradd yno, Ysgol Ramadeg y Bala, a Choleg y Brifysgol, Bangor. Cyhoeddodd ‘Adlais Odlau’, ‘Cerddi’r Hogiau’, ‘Cân ac Englyn’, ‘Goronwy Owen’ a ‘Pleser Plant’ (cyd-awdur). Enillodd wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol a bu’n feirniad ynddi droeon. Bu’n golygu ‘Yr Athro’ am naw mlynedd, yn aelod o dîm Meirionnydd yn Ymryson y Beirdd, ac yn cyfrannu amrywiol raglenn i’r BBC am flynyddoedd. Ofergoelion Dyffryn Ardudwy 1. Dau neu dri o anifeiliaid yn yr un lle yn trengi yn agos i’w gilydd, yn rhagarwyddo y byddai anffawd fawr neu farwolaeth yn cyfarfod y penteulu hwnnw’n fuan. 2. Cloch eglwys Llanenddwyn yn rhoi tinc ohoni’i hunan yn y nos yn argoel mai yr hwn a’i clywodd fyddai y cyntaf i gael ei gladdu yn yr ardal. 3 Niwl ar gopa’r Moelfre yn argoel am wlaw. 4 Credid gynt y dylsid ymgadw ymhell o gymdeithas pawb o Dal-y-bont, Talywern a Choed Ystumgwern am y credid: Harlech lwm a’r Bermo leuog Tal-y-bont yn chwil gynddeiriog, Cae’n-y-coed lladron erioed A witshus coed stumgwern. ÔL-NODYN: Credaf imi dderbyn y rhain gan Gwilym Owen – ewythr Anwen Cae Brân a Barcdy a William Henry Owen (Wil Hen). Roedd Gwilym yn ffrind mynwesol i’m tad, John Pensarn, yn was priodas iddo wedi iddyn nhw fod yn gweini hefo’i gilydd tua Dyffryn a Fucheswen Fawr, Glanywern (lle sâl am fwyd, medden nhw!). Bu’n rhan o’m bywyd erioed nes imi fynd i’r coleg (fo a Dad aeth â fi am gyfweliad i Goleg y Drindod, Caerfyrddin). Cofio’r seiadu ym Mhensarn – Gwilym, Dad, fy 2 ewythr – Harry a Hugh, Tec Ty’n-y-bonc, Cilfor ac Idwal, brawd arall fy nhad, Niclas y Glais – am le! 4 llafurwr rhonc, 1 comiwnydd a 2 yn honni eu bod yn gomiwnyddion. Tec ac Idwal a Dad yn deud mai ‘blydi Toris’ oeddynt.


CLWB RYGBI HARLECH

Ar ddydd Iau, Tachwedd 8, mwynhawyd cystadleuaeth rygbi tag rhwng ysgolion cynradd Ardudwy. Gan fod y tywydd wedi ein gorfodi i newid cynlluniau, ni chafwyd enillwyr ond roedd pawb wedi cael hwyl o dan arweiniad Dai Higgs URC ac Osian Roberts. Ar ôl chwarae brwd, draw i’r ffreutur yn Ysgol Ardudwy i gael selsig, rôl bara a sôs coch, wrth gwrs, dan ofal Olwen Richards. Diolch i Ysgol Ardudwy a Mr Iolo Owen am eu hyblygrwydd ac am gael defnyddio’r ganolfan a’r gampfa.

TALSARNAU

CEFN COCH

Y GARREG

LLANBEDR

Y TRAETH

TANYCASTELL

TANYCASTELL

DYFFRYN ARDUDWY

19


Dymuna Edith Owen anfon ei chofion at bawb yn Llanbedr. Rhodd £35.50

Hoffwn ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb o’m ffrindiau. Cledwyn Roberts Garej y Morfa £10

Dymunaf Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’m teulu, cyfeillion a chydnabod. Lilian Edwards £10

Dymuna Gwenda a Glyn Davies Nadolig Llawen i’w ffrindiau yn Llanbedr ac Ardudwy, fel ardal, a Blwyddyn Newydd lewyrchus ac iach i bawb. Rhodd £20

Ni fydd Hefin Jones, Arfor yn anfon cardiau eleni. Er hynny, hoffai ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’w gyfeillion.

£10

Ni fydd Tyddyn Hendre eto eleni yn anfon cardiau Nadolig. Byddwn yn cyfrannu tuag at Ward y Galon, Ysbyty Gwynedd. Dymunwn bob dymuniad da am Nadolig Llawen llawn iechyd i bawb o’r teulu, ffrindiau a darllenwyr Llais Ardudwy. Morfudd, Hefin a Mari. £10

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd dda i bawb sy’n darllen Llais Ardudwy.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda ‘Tymhorau a Rhesymau’ Stryd Fawr Harlech

Dymuna Trefor ac Annwen a’r teulu, Plas Uchaf, Talsarnau, Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’w teulu a’u cyfeillion, a phob bendith yn 2019. £10

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda gan aelodau Côr Meibion Ardudwy Diolch am eich cefnogaeth ar hyd y flwyddyn

Diolch am eich cefnogaeth yn ystod y flwyddyn.

TOYOTA HARLECH

AYGO X-CITE

Dewch i roi cynnig ar yrru’r Aygo - chewch chi mo’ch siomi!

Ffordd Newydd Harlech LL46 2PS 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@harlech.toyota.co.uk facebook.com/harlech.toyota Twitter@harlech_toyota

Ymddiheurwn i Gwmni Totota Harlech am fethu â chynnwys eu hysbyseb arferol yn y tri rhifyn diwethaf oherwydd anawsterau cyfrifiadurol. [Gol.]


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.