Llais Ardudwy
70c
RHIF 493 - RHAGFYR 2019
CALENDR LLAIS ARDUDWY 2020 ar werth rŵan am £5 yn y siopau arferol
ENNILL DIPLOMA
ENNILL GWOBR AM FWYTY
Llongyfarchiadau cynnes i Linda Evans, 38 Y Waun, Harlech ar ennill Diploma Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant trwy Gynllun Hyfforddiant Mudiad Meithrin. Mae Linda yn gymhorthydd yn y Cylch Meithrin yn Harlech. Paul Wellings, John Roberts, Sion Aled Wellings, Iola Mai Wellings, Jaimee Wellings, Jean Roberts a Julia Hughes - yn dathlu!
ENNILL MEDALAU
Llongyfarchiadau i Nineteen.57 am ddod yn gyntaf allan o ddeg bwyty a ddaeth i’r brig yng ngogledd Cymru yng nghategori ‘Y Gorau yng Ngogledd Cymru’. Cafodd Siôn ac aelodau o’r teulu amser da yn dathlu ar ôl iddo dderbyn y tlws ac mae ei ddiolch yn fawr i’w fam am ei gwaith a’i chefnogaeth bob amser. Hefyd i staff ’57 – y gegin, bar a’r glanhawyr – sydd wedi gwneud hyn yn bosib. Mae’r wobr iddynt i gyd.
Daeth gwobrau hefyd i sefydliadau nepell o Fro Ardudwy. Brasserie Castell Deudraeth enillodd y wobr am ddulliau coginio byd-eang. Llongyfarchiadau iddyn nhw a hefyd i Mirain Gwyn a’i gŵr Geraint, Taldraeth, Penrhyndeudraeth ar ennill gwobr am y Gwely a Brecwast gorau yng ngwobrau Lletygarwch Cymru.
Cydnabod cyfraniad arbennig Cyflwynwyd bathodynnau Ambiwlans Awyr Cymru am wasanaeth gwirfoddol am bum mlynedd yn Ninas Dinlle i Rhian Davenport ac Eifiona Jones. Yn ystod y pum mlynedd maen nhw wedi casglu dros £100,000 i’r gwasanaeth Ambiwlans Awyr yng Nghymru trwy gael stondinau mewn gerddi agored, ffeiriau Nadolig, ffeiriau celf ac yn y Bermo bob dydd Iau drwy’r gwanwyn, haf a’r hydref. Maen nhw hefyd wedi trefnu nosweithiau chwedegau a saithdegau i godi arian, hefyd nhw sy’n mynd o gwmpas yr ardal i wagio bocsys casglu’r Ambiwlans Awyr. Cyflwynwyd y bathodynnau iddyn nhw gan Eryl Jones, cyd-gysylltydd ardal Ambiwlans Awyr Cymru. Llongyfarchiadau i chi eich dwy a diolch am eich gwaith di-flino i achos sydd mor bwysig i ni yma yn Ardudwy.
GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 780635 pmostert56@gmail.com
HOLI HWN A’R LLALL
Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com 07760 283024 / 01766 780541
SWYDDOGION
Cadeirydd: Hefina Griffith 01766 780759
Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@outlook.com Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL
Y Bermo Grace Williams 01341 280788 David Jones 01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones 01341 241229 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Cysodwr y mis: Phil Mostert
Gosodir y rhifyn nesaf ar Ionawr 3 am 5.00. Bydd ar werth ar Ionawr 8. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Rhagfyr 30 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’
Dilynwch ni ar Facebook @llaisardudwy
2
Enw: David Evans Gwaith: Gweithio yn Bar Ysgethin yn Nhal-y-bont Cefndir: Cefais fy ngeni yn Harlech i deulu oedd gynt o Byrdir, Harlech. Wedi priodi hogan o Guernsey a 4 o blant, Aaron, Thomas, Katie ac Alex; yn gyn-reolwr technegol Theatr Ardudwy lle fuais i am 27 o flynyddoedd cyn i’r theatr gau’r drysau. Aelod o Dîm Achub Mynydd Aberglaslyn a thîm Ymatebwyr Cyntaf Harlech. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Cerdded mynyddoedd Eryri hefo’r tîm neu mynd i ffeindio llyn i gael ’sgota plu. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Dwi’m yn un am lyfr ond falch o ddarllen magasîn ’sgota plu a gobeithio cael dysgu rhywbeth yr un pryd. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? ‘All creatures Great and Small’, mae’n siŵr – o’n i yn ffansïo fy hun fel fet ar un adeg. Ydych chi’n bwyta’n dda? O na, mi fasa’r wraig y gyntaf i ddeud na! Gyduras yn trio ei gora i wneud o, dim hopes mul ond dwi yn trio yn yr haf hefo salad, ond yn anffodus yn y fan yna mae o’n gorffan. Hoff fwyd? Barbeciw ‘belly pork’ wedi llosgi’n crisp - rhoi blas gwahanol. Hoff ddiod? Anodd credu ond Baileys hefo rhew. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Fy nheulu a ffrindia i gyd i gael sbort ac amser i hel atgofion. Mae gena’i deulu mawr a dipyn o ffrindia. Lle sydd orau gennych? Adra yn Harlech. Mae petha’n newid bob wythnos yma ond
Harlech yw fy nghartref. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Carafan teulu’r wraig yn Efrog; cael mynd â’r plant i ’sgota wrth yr afon, nofio afon Wharf a gweld y plant yn mwynhau. Beth sy’n eich gwylltio? Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’n rhaid iddyn nhw wrando ar bobl sy’n byw yng nghefn gwlad ers blynyddoedd yn hytrach na gwrando ar rhywun sydd wedi bod yn yr ‘university’, a dim profiad! Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Rhywun yna i wrando a dweud barn pan fydd raid. Pwy yw eich arwr? Does dim ond un ateb i hwn, Dad - anhygoel o ddyn ac wedi gweithio mor galed ar hyd ei oes i neud siŵr fod fy mrodyr a minnau yn cael rhywbeth oedden ni ei angen mewn bywyd. Yna, helpu pawb ar alwad ffôn, hyd yn oed pan yr oedd yn dioddef o ganser. Roedd o’n cymryd bob dydd yn ei dro. Os oedd yn gweld diwedd wythnos roedd o hyd yn deud roedd yn bonys! Treuliais lot o amser efo fo, mynd â fo i ysbyty i gael triniaeth, dim ots lle oedd arni roedd yn nabod pawb. Colled mawr hebddo yn ein bywydau ni fel teulu. Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon? Fy nau daid, Harry a Gwil oedd o hyd yno pan o’n i’n ifanc. Caerwyn Roberts, Merthyr a’r diweddar Idris Williams, Tanforhesgen: fasa Harlech yn wahanol pe tasa’r ddau’n dal yn gynghorwyr yn yr ardal; o hyd yna imi i’n helpu a bod yn gefn i blant yr ardal. Beth yw eich bai mwyaf? Deud fy mod am neud
rhywbath a ddim yn gneud. Sa Phil Mostert yn dal i weitiad am hwn tasa fo ddim yn y côr hefo fi ac ynta yn gyn-athro arna i! Peth rhyfedd ar adroddiad ysgol - roedd yn sgwennu o hyd ‘Gallai David wneud yn well.’ Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Treulio amser hefo’r plant a gweld eu bod nhw’n hapus a fy mod wedi eu magu’n bobl barchus fel maen nhw bob dydd. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Mynd â’r teulu ar wyliau dramor; pe bai arian ar ôl, mynd â fy mrodyr i Gwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc. Eich hoff liw a pham? Glas tywyll, lliw y môr ar rai dyddia. Eich hoff flodyn? Dydw i ddim yn hoffi lili – ogla annifyr. Rydw i yn mwynhau mynd i Goed Aberartro a gweld bwtsias y gog fel carpad dros y lle. Eich hoff gerddor? Andrea Bochelli a Josh Groben – dau denor hefo lleisiau hyfryd i wrando arnyn nhw unrhyw dro. Dwi’n aml yn gwrando ar You Tube os oes angen codi’r galon. Pa dalent hoffech chi ei chael? Medru chwarae cornet yn ddi-gerddoriaeth. Newydd gael cornet i ymarfer gan Linda Roberts ar ôl cael sgwrs ar y trên. Dwi’n ymarfer y scales ar hyn o bryd ond ddim yn mynd yn bell. Mi wnes i ddechra yn yr ysgol ond doeddwn i a Mrs Thomas, athrawes gerdd, ddim yn gweld llygad yn llygad a stopio’n sydyn fu raid. Eich hoff ddywediadau? I’r pant y rhed y dŵr. Mae’r dywediad hwn yn hollol wir yn dydy?
Eglwys Sant Tanwg, Harlech
‘BYTHOL OLEUNI’
yng nghwmni Côr Bro Meirion Nos Sul, Rhagfyr 8 am 7.30 Tocyn: £10 wrth y drws
LLANFAIR A LLANDANWG
CYNGOR CYMUNED LLANFAIR
Christine Freeman a Betty Grant efo torch wedi ei gwau gan aelodau Sefydliad y Merched, Llanfair Gwasaaeth Sul y Cofio yn Neuadd Llanfair Cynhaliwyd gwasanaeth Sul y Cofio yn Neuadd Llanfair ar fore 10 Tachwedd. Braf oedd gweld cynifer o’r ieuenctid yn cymryd rhan mewn amgylchiad mor bwysig yn ein hanes. Yn cymryd rhan roedd David Bisseker – corn; Iwan Lewis – cyfeilydd; Ann a Rob Lewis – emyn a darlleniad Cymraeg; Rosie Berry a Betty Grant – emyn a darlleniad Saesneg; Sue Jones ac Wendon Wigglesworth – gweddïau, Rhoddwyd y torchau gan Eurig Hughes (Cyngor Cymuned Llanfair), Christine Freeman (Sefydliad y Merched), a Betty Grant (Pwyllgor y Neuadd). Anogaeth: Ann Lewis a Maureen Jones. Gorffennwyd gyda gweddi gan Sue Jones, a David Bisseker yn canu’r ‘Last Post’.
PLYGAIN CYFEILLION ELLIS WYNNE 2020 YN EGLWYS LLANFAIR Cynhelir Plygain y Lasynys Fawr 2020 ar nos Fercher, 15 Ionawr am 7.00 o’r gloch yn Eglwys y Santes Fair, Llanfair. Yn dilyn y Plygain, gobeithiwn unwaith eto gynnal swper Y Plygain yn Neuadd Goffa Llanfair. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu tamaid o fwyd at y swper yn y gorffennol, ac os hoffech gyfrannu eto eleni neu helpu ar y noson, cysylltwch â Haf os gwelwch yn dda (manylion cyswllt y tu mewn i’r clawr). Hefyd, os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â pharti Plygain y Lasynys (croeso i unrhyw lais), cynhelir yr ymarfer cyntaf yn y Lasynys Fawr ar brynhawn Sul, 15 Rhagfyr, am 3.00 o’r gloch. Cofiwch gysylltu os hoffech ymuno â’r parti.
YN EISIAU
IS-OLYGYDDION I’R PAPUR HWN
Llais Ardudwy Diolch am bob cefnogaeth. Byddwn yn ôl gyda Rhifyn 494 ddechrau mis Ionawr.
Cydymdeimlodd y Cadeirydd gyda Mair Thomas a’r teulu yn dilyn marwolaeth ei chwaer yng nghyfraith, Mrs Gwyneth Meredith o Ddolgellau a diolchodd Mair Thomas am y cerdyn yr oedd y teulu wedi ei dderbyn gan y Cyngor, ac yn ei werthfawrogi yn fawr. MATERION YN CODI Llinellau melyn ger stesion Llandanwg Cafwyd gwybod bod tri gwrthwynebiad i’r cynllun uchod wedi eu derbyn, felly y cam nesaf fydd mynd a’r mater o flaen pwyllgor cynllunio am benderfyniad. Bydd rhaid iddynt ysgrifennu adroddiad a thrafod gyda’r Gwasanaeth Cynllunio i weld pa bryd allent roi’r mater gerbron y pwyllgor. Daw mwy o fanylion maes o law. GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd – Adran Briffyrdd Gofynnwyd a fyddai’r Cyngor yn fodlon cymryd cyfrifoldeb mewn egwyddor am feysydd chwarae yr ardal (cae chwarae stad Haulfryn) neu yn gwybod am grwpiau eraill a fyddai’n fodlon gwneud hyn. Os oes diddordeb, bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal er mwyn datblygu’r ffordd orau o weithio gyda’i gilydd a thrafod yr opsiynau un ai i drosglwyddo neu i weithio mewn partneriaeth. Mae hyn yn gorfod cael ei wneud oherwydd y toriadau sy’n wynebu Cyngor Gwynedd a bydd y gost o ddarparu gwasanaethau lleol yn cael ei dorri o oddeutu £12 miliwn yn ystod 2019/20 ac efallai £16 miliwn yn 2020/21. Cytunwyd i ddatgan nad oedd gan y Cyngor ddiddordeb mewn cymryd cyfrifoldeb mewn egwyddor am y maes chwarae yn y gymuned. UNRHYW FATER ARALL Nid oedd y twll gyferbyn â’r toiledau cyhoeddus yn Llandanwg byth wedi ei drwsio ac mae dŵr yn casglu ger mynedfa maes parcio Llandanwg pan mae hi yn dywydd garw.
Y diweddar Gwyneth Meredith Yn dawel ar 5 Tachwedd bu farw Gwyneth Meredith yn Ysbyty Dolgellau. Roedd yn wraig i Wyn, mam i Dafydd a’i briod Sarah a nain falch i Cai, Macs a Lwsi. Meddyliwn am ei brawd a’i chwaer yng nghyfraith, Edward a Mair Ymwlch, ac Arwel ei nai, heb anghofio ei diweddar frawd Tanwg a’i nai Gwynfor. Cafwyd gwasanaeth o ddiolch am ei bywyd yng Nghapel Ebeneser, Dolgellau, a y 15fed o Dachwedd. Daeth tyrfa luosog ynghyd i wasanaeth oedd yn wir gofiadwy. Rhoddodd Nia Rowlands, ei chyfnither, deyrnged arbennig iddi. Amlinellodd ei gyrfa hir mewn maes nyrsio gan ddechrau yn Ysbyty’r Frenhines Elisabeth, Birmingham, a therfynu fel Metron yn Ysbyty Dolgellau. Bu’n fawr ei pharch gan bawb â gydweithiodd â hi. Cofiwn amdani gydag anwyldeb ac estynnwn ein cydymdeimlad dyfnaf â’r teulu oll yn eu hiraeth.
Merched y Wawr Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan Bronwen. Cydymdeimlwyd â Mair oedd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar. Llongyfarchwyd Linda ar ennill Lefel 3 ym myd Gofal Plant, a hefyd Cerys, wyres Ann ar ennill Myfyrwraig y Flwyddyn, Ysgolion Uwchradd am ei gwaith mewn gofal plant. Gwnaethpwyd elw sylweddol o’r Te Cymreig; bydd hwn yn hwb i gynnal y gangen eleni. Ymlaen wedyn at faterion y Mudiad. Dangosodd nifer o aelodau ddiddordeb yn y Cyngerdd ‘Canfod y Gân’ ar y 9fed o Dachwedd. Alma Evans oedd y wraig wadd. Cafwyd arddangosfa goginio werth chweil yn ein hatgoffa bod y Nadolig yn agosau. Gwelwyd Alma yn paratoi nifer o ddanteithion melys ar gyfer y cyfnod. Rhaid oedd blasu’r seigiau a blasus iawn oeddynt hefyd ac yn eithaf hawdd i’w gwneud. Ann ac Edwina baratodd y baned, Janet ddaru ddiolch ar ran yr aelodau.
Diolch Dymunwn ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad tuag atom yn dilyn ein profedigaeth o golli Gwyneth yn ddiweddar. Gwerthfawrogwn y cyfan yn fawr iawn. Edward, Mair ac Arwel. Rhodd a diolch £10 Yn yr ysbyty Dymunwn wellhad buan i Bryn Lewis, Min-y-môr, Llandanwg sydd wedi derbyn triniaeth i’w galon yn Ysbyty Broad Green, Lerpwl. Deallwn ei fod yn gwella’n araf erbyn hyn. Bydd bwlch mewn sawl côr ar ei ôl.
3
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Merched y Wawr Nantcol Ar nos Fercher, Hydref 2, 2019, mwynhawyd cwmni un o blant y Cwm, sef Delyth Evans, Cefn Isaf. Mae Delyth yn berchen ar siop esgidiau Cambrian Boots neu Siop Esi fel y gelwir hi gan drigolion Blaenau Ffestiniog. Yn wreiddiol roedd y siop yn eiddo i deulu yng nghyfraith Delyth a gwelwyd llun o’r teulu o flaen y siop dros gan mlynedd yn ôl. Eglurodd Delyth fod iechyd y droed a’i datblygiad yn bwysig iawn gan fod hyn yn gallu amharu ar y corff i gyd. Cafodd gyfle i ddilyn cwrs sy’n arbenigo yn y grefft o ffitio esgidiau gan lwyddo i ennill gwobr myfyrwraig y flwyddyn. Dangosodd amrywiaeth o esgidiau i ni gan egluro pa fath o esgid sy’n addas i wahanol siâp troed. Roedd pawb yn gytûn i ni gael noson addysgiadol iawn a derbyn sawl cyngor buddiol ganddi. Diolchwyd yn gynnes iawn i Delyth gan Beti Mai, yr Islywydd. Yna, cydymdeimlodd â Beti Wyn yn ei phrofedigaeth o golli ei chwaer yng nghyfraith a hefo Mair yn ei phrofedigaeth o golli modryb. Llongyfarchwyd Jean a John ar ddod yn hen nain a thaid i Ned Elis ac anfonwyd ein cofion at Rhodri Dafydd, mab Rhian. Cyflwynodd Gwen adroddiad y trysorydd a derbyniwyd y fantolen ariannol. Cafwyd adroddiadau o’r Pwyllgorau Rhanbarth gan Mair, Pat a Beti Mai. Darllenwyd llythyrau gan Susanne Davies a Jennifer yn diolch am gymorth aelodau’r gangen yn ystod ymweliad cyfeillion Huchenfeld. Diolchwyd i Anwen am ddarllen Llais Ardudwy. Clwb Cawl Fe gollwyd cwmpeini Menna a Rhiannon o’r Clwb Cawl yn ddiweddar, ac erbyn hyn mae Menna wedi dod adra o Ysbyty Dolgellau. Gobeithio fod hwyl reit dda arni, ond mae Rhiannon yn Ysbyty Gwynedd. Gobeithio y bydd yn gwella’n fuan.
GWASANAETH CAROLAU Eglwys Sant Pedr, Llanbedr Nos Fercher, Rhagfyr 11 am 6.30 efo Band Harlech 4
Merched y Wawr Nantcol Croesawodd yr Is-lywydd, Beti Mai, bawb i’r cyfarfod nos Fercher, Tachwedd 3, gan estyn croeso arbennig i Mirain Gwyn, gwraig wadd y noson.
Gwesty Taldraeth Testun ei sgwrs oedd hanes datblygu Gwesty Taldraeth, Penrhyndeudraeth. Eglurodd mae’r adeilad yma oedd yr Hen Ficerdy a chafodd y tŷ ac Eglwys y Drindod eu hadeiladu gan deulu’r Oakeley yn 1858. Prynodd Mirain a Geraint y tŷ yn 2013 a’i enwi’n Taldraeth gan ei fod yn edrych allan dros y traeth. Bwriad Mirain oedd cynnig llety moethus Cymreig i ymwelwyr a gwireddwyd ei breuddwyd ym mis Awst 2015 pan groesawyd y gwesteion cyntaf. Mae’r tŷ yn llawn o hen ddodrefn Cymreig. Defnyddir cynnyrch Cymreig yn y gwesty gan gynnwys y crochenwaith, brethynnau, defnyddiau a deunyddiau ymolchi. Yn y dyfodol mae’n fwriad gan Mirain ddatblygu busnes gwneud jam a siytni a hynny gyda chynnyrch lleol. Diolchodd Beti Mai i Mirain am noson hynod o ddiddorol a dymunodd yn dda iddi ar y fenter unigryw hon. Wedi mwynhau paned a sgwrs, cydymdeimlwyd ag Ann yn ei phrofedigaeth o golli ei chwaer ac hefo Jean ac Anwen, hwythau wedi colli modryb. Llongyfarchwyd Einir ac Edward ar achlysur dathlu priodas aur ac anfonwyd ein cofion at Huw Dafydd, gŵr Rhian, wedi iddo dderbyn triniaeth ar ei law yn ddiweddar. Dymunwyd yn dda i Pat sydd yn wynebu triniaeth yn fuan. Diolchwyd i Ceri a Beti Mai am gynrychioli’r gangen yn y Ffair Aeaf ac i Gwen am ddarllen y Llais mis diwethaf.
Cymdeithas Cwm Nantcol Roedd Neuadd Llanbedr yn llawn ar gyfer noson o ganu soniarus yng nghwmni Eryrod Meirion ddechrau mis Tachwedd i agor y Gymdeithas. Arweiniwyd y dynion ifanc yn fedrus iawn gan Branwen Haf a’r cyflwynydd hoffus oedd Gruffydd Antur. Yna ddiwedd y mis daeth Bethan Gwanas atom i drafod llyfrau. Nododd ei bod yn awdur dros 40 o lyfrau i blant ac oedolion a chawsom gefndir difyr a blasus i lawer ohonyn nhw. Yn ôl y disgwyl, roedd yn byrlymu a chafwyd noson ddifyr yn ei chwmni. Eisteddfod y Cwm Wedi’r adroddiad am Ysgol Cwm Nantcol a’r Eisteddfod a gynhaliwyd yno, daeth nodyn am enillydd cyntaf y gadair yn y Cwm. Credir mai yn 1934 y bu’r Eisteddfod gyntaf. Enillydd y gadair a wnaed gan Edward Edwards. Cilcychwyn, oedd Maggie Evans, Nantcol (Mrs Margaret Jones, Penarth wedi hynny). Roedd tua deunaw oed ar y pryd. Hi a enillodd y gadair y flwyddyn wedyn hefyd. Y testun y tro cyntaf oedd Grug y Mynydd. Lil Evans, mam Euryn Ogwen, a ganodd gân y cadeirio. Un o Lanbedr oedd hi ac roedd newydd briodi Alun Ogwen Williams, o Fethesda, prifathro ysgol ac adroddwr amlwg yn ei ddydd. Mae’r cadeiriau’n dal mewn bod ac yn cael eu cadw yng nghartrefi dwy aelod o deulu Penarth. Llwynogod Roedd Bryn Williams yn rhifyn mis Hydref yn holi tybed oedd llwynogod Ardudwy yn bwyta tyfiant. Yn ôl Alun Allt Goch maent yn bwyta eirin ac afalau oddi ar y llawr, ond ŵyr o ddim a ydynt yn hoff o lysiau ai peidio. Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch y prynhawn RHAGFYR 8 Capel Nantcol Parch Dewi Tudur Lewis am 2.00 o’r gloch 15 Capel y Ddôl Mrs Eleri O Jones, am 10.00
Teulu Artro P’nawn Mawrth, Tachwedd 5, croesawodd Glenys, ein llywydd, ni gan anfon ein cofion at rai oedd yn cwyno, sef Betty, Pam ac Elinor a chroesawodd Jean atom fel aelod newydd. Yna croesawodd Christopher Prew o Borthmadog atom, a chawsom bnawn difyr a chartrefol yn ei gwmni yn sôn am ei fagwraeth yn Nimbych. Roedd wedi cael blynyddoedd o gwmni ei hen nain ac wedi cael hanesion difyr ganddi o ddechrau’r ganrif ddiwethaf. Soniodd fel y bu yn cenhadu yn yr India pan yn ifanc iawn ac wedi mynychu Cyfarfodydd Cenhadol mewn amryw wlad wedi hynny. Bu’n weinidog yn Llangefni cyn dod i Borthmadog naw mlynedd yn ôl. Diolchodd Greta iddo a chawsom atgofion difyr ganddi hithau. Roedd Pat wedi dathlu pen-blwydd arbennig ddoe a bu inni ganu pen-blwydd hapus iddi. Enillwyd y raffl gan Lorraine a Jean. O.N. Ers ysgrifennu hwn cawsom y newydd trist fod Beti Parry wedi ein gadael. GJ
Grŵp Llanbedr-Huchenfeld Ar 17 Ionawr 2020 mi fydd Grŵp Llanbedr-Huchenfeld yn cynnal noson gwis efo pryd o fwyd Mecsicanaidd yn Neuadd y Pentref. Mwy o fanylion y mis nesaf. Croeso i bawb!
CYNGERDD ABERARTRO
Nos Fercher, Rhagfyr 18 am 7.30 Côr Meibion Ardudwy a Cwlwm Pump [Band] Tocyn: £10 yn cynnwys gwin y gaeaf a mins peis Mae tocynnau yn brin iawn! Iwan Lewis - 01341 241297 Evie M Jones - 01341 247022 Phil Mostert - 01766 780635
Dim sodlau stileto os gwelwch yn dda!
P
DIARHEBION P - S
Pan gyll y call, fe gyll ymhell Pawb a fesur arall wrtho’i hunan Pawb yn aros yr amser, a’r amser nid erys neb Pert pob peth bach ond diawl bach Perth hyd fogel, perth ddiogel Peswch sych, diwedd pob nych Po callaf y dyn anamlaf ei eiriau Po fwyaf y bai, lleiaf y cywilydd Po fwyaf y cwsg, hwyaf yr einioes Pob un a gâr lle ceir arian Prinder gorau, prinder geiriau Prinnaf o bob prŷn, edifeirwch Pryn wael, pryn eilwaith
Rh
Rhaid cael deryn glân i ganu Rhaid cariad yw cerydd Rhaid cropian cyn cerdded Rhaid i’r dderwen wrth gysgod yn ieuanc Rhaid wrth lwy hir i fwyta gyda’r diafol Rhed cachgi rhag ei gysgod Rhwng y cŵn a’r clawdd Rhy hwyr galw ddoe yn ôl Rhy uchel a syrth Rhydd i bob meddwl ei farn, ac i bob barn ei llafar
CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF
MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod
Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant PORTHMADOG 01766 512214/512253 60 Stryd Fawr
PWLLHELI 01758 612362 Adeiladau Madoc
office@bg-law.co.uk
ABERMAW 01341 280317 Stryd Fawr
Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd …
Cwtiad y traeth
S
Seguryd ni fyn sôn am waith Selni rhai yw eu hiechyd Sylfaen pob rhinwedd – gwirionedd
SAMARIAID LLINELL GYMRAEG 08081 640123
Harddwch Artro 07443 527023
Triniaethau i’r wyneb, y llygad, y traed a’r dwylo a thriniaethau harddwch eraill mewn salon newydd pwrpasol yn Llanbedr. Tocynnau anrheg ar gael.
CEISIADAU AM GYMORTH ARIANNOL 2020 gan Ŵyl Gwrw Llanbedr
I lawr fan hyn yn y de mae aelodau’r Gymdeithas yn cerdded yn ardaloedd yr hen feysydd glo ac erbyn hyn ychydig iawn o olion y diwydiant sydd ar ôl. Mae gwyrddni ym mhob man a physgod yn ôl yn yr afonydd, llefydd i chwarae a llefydd i fwynhau’r awyr iach. Yn ddiweddar roedd ein taith yn mynd â ni o’r Rhondda Fawr dros y mynydd i’r Rhondda Fach. Wrth gael golwg oddi uchod roedd y cymoedd yn edrych fel lle braf iawn i fyw, yn lân ac yn lliwgar. Mae heriau newydd gan fyd natur y dyddiau yma ond o leiaf erbyn hyn mae gynnon ni gydwybod - croeswch eich bysedd! Wrth gerdded ar ochr yr afon Menai yn ddiweddar (ia, mae’n braf mynd o un pegwn i’r llall) gwelais i gwtiaid y traeth, adar rhydiol eithaf cyffredin, yn aros yn amyneddgar ar y cerrig wrth chwilio am damaid o fwyd. Maen nhw’n gwybod y bydd y llanw yn treio unwaith eto a rhoi cyfle iddyn nhw chwilio am bryfed blasus. Mi wnes i aros am sbel yn eu gwylio nhw, yr haul yn gynnes ar fy nghefn. Braf iawn yw crwydro. Dewch efo ni i fwynhau ein cefn gwlad ac edrychwch ar ein gwefan cymdeithasedwardllwyd.cymru i weld os ydan ni’n cerdded yn eich ardal. Bydd croeso mawr i chi! Rob Evans
GWASANAETH CADW CYFRIFON ARDUDWY
Gwahoddir ceisiadau gan fudiadau lleol Ardudwy i’w hystyried ar gyfer cymorth ariannol gan Ŵyl Gwrw Llanbedr. Rhaid cyflwyno ceisiadau ar y ffurflen safonol. Gellir lawrlwytho’r ffurflenni o’r safle we http://www.llanbedrbeerfestival.co.uk neu trwy e-bost ar llanbedrbeerfestival@gmail.com Dim ond i brosiectau sydd o fudd i’r gymuned y rhoddir ystyriaeth i ddyfarnu grantiau fel arfer. Bydd angen tystiolaeth o wariant. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw Ionawr 31, 2020. Hysbysir yr ymgeiswyr o benderfyniad y Pwyllgor yn fuan wedyn.
Cysylltwch â ni am y gwasanaethau isod: • Cadw llyfrau • Ffurflenni TAW • Cyflogau • Cyfrifon blynyddol • Treth bersonol info@ardudwyaccounting.co.uk 07930 748930
5
GEORGE BERNARD SHAW AR GOLL YN LLANBEDR Ers ugeiniau o flynyddoedd mae Ardudwy wedi denu pobl enwog yma ar eu gwyliau o bell ac agos. Ymhlith yr enwau mae George Bernard Shaw, y dramodydd a’r sosialydd. Dyma’r hanes pan aeth ar goll wrth ymweld â Llanbedr. Am dri mis yn haf 1907, roedd ef a’i wraig yn aros yn Hafod y Bryn lle’r oedd y Parch D C Edwards yn byw ar y pryd. Ond ar blasdy bychan Penrallt yr oedd ei sylw. Yno roedd y Gymdeithas Ffabiaidd (Fabian Society) yn cynnal Ysgol Haf. Bernard Shaw oedd un o aelodau cyntaf y gymdeithas sosialaidd hon. Yn hwyr nos Sul, Medi 8, daeth y newydd i bentref Llanbedr ei fod ar goll yn y mynyddoedd. Roedd wedi trefnu i fynd gyda’i ffrindiau o Benrallt i gyfeiriad Cwm Bychan, i fyny Bwlch Tyddiad ac yn ôl drwy Ddrws Ardudwy a Chwm Nantcol. Gadawodd Mr Shaw Hafod y Bryn fore Sul cyn cinio gydag Artro, ci’r tŷ yn ei ddilyn. Y trefniant oedd ei fod yn cyfarfod y Ffabiaid o Benrallt ym Mhentre Gwynfryn. Am ryw reswm, roedd y criw yn hir yn cychwyn ac aeth ef yn ei flaen hebddynt. Teimlai’n sicr y byddent yn ei ddal cyn hir. Ond cyrhaeddodd Gwm Bychan heb weld neb y tu ôl iddo. Ysgrifennodd nodyn a’i roi ar arwydd ar ochr y llwybr i ddweud wrth ei gyfeillion am ei ddilyn drwy Fwlch Tyddiad ac yn ôl drwy Ddrws Ardudwy fel y trefnwyd. Ni welodd yr un ohonynt y nodyn ac aethant yn eu blaenau heb weld golwg ar Bernard Shaw. Roeddynt mewn tipyn o benbleth ac aeth rhai yn ôl am Lanbedr a’r lleill am Ddrws Ardudwy. Wedi cyrraedd Hafod y Bryn ’doedd neb wedi gweld hanes ohono. Ar unwaith trefnwyd criwiau i fynd yn ôl i’r mynyddoedd i chwilio amdano efo lampau. Daethant yn ôl fore Llun heb
6
ei weld yn unman. Roedd ei wraig yn methu’n lân a gwybod beth oedd wedi digwydd iddo. Roedd hi’n dal ar bigau’r drain yn hwyrach y bore hwnnw pan gyrhaeddodd yn ei ôl i Hafod y Bryn yn iach a heini. Wrth gwrs, roedd pawb eisiau gwybod ble ar y ddaear yr oedd wedi bod. Ei eglurhad? Ei fod wedi methu’r tro am Ddrws Ardudwy ac wedi mynd yn ei flaen a chyrraedd y ffordd o Drawsfynydd i Ddolgellau, yn llwglyd tu hwnt. Yno cafodd ei gynghori i chwilio am westy Tynygroes, y Ganllwyd, ddwy filltir a hanner i gyfeiriad Dolgellau. Pan gyrhaeddodd yn y diwedd, teimlai ei fod ef ac Artro wedi cerdded milltiroedd yn rhagor. Roedd yn awchu am fwyd a llwyddodd i gael pryd rhagorol yn hwyr y nos. Penderfynodd fod yn rhaid iddo aros yn Nhynygroes. Yn ei wely yr oedd pan oedd y criwiau yn chwilio amdano yn y mynyddoedd. Ond y syndod oedd fod tri oedd yn chwilio amdano wedi dilyn ôl ei droed ef ag Artro yr holl ffordd, yng ngolau lamp, i Dynygroes. Pan gyrhaeddodd y tri roedd yn fore a George Bernard Shaw wedi gadael – roedd wedi cychwyn am Ddolgellau ers hanner awr i ddal y trên am Lanbedr. [Addaswyd yr hanes o ysgrif gan y Parch Z Mather, Y Bermo, a fu’n holi’r dramodydd am ei antur. Cyhoeddwyd hi yn y Traethodydd 1907.]
CLWB BEICIO ARDUDWY
Diolch i aelodau Co-op bydd plant Harlech a’r ardal cyfagos yn elwa rŵan o £4,752.50. Cafodd y swm yma ei godi o gronfa cymunedol Co-op Bermo a bydd yn cael ei roi at ddefnydd Clwb Beicio Ardudwy. Mae prif hyfforddwr y clwb beicio, Tracey Dawson, yn defnyddio ardaloedd di-draffig i ddysgu sgiliau beicio i blant ifanc, gan gynnwys rhai gydag anableddau. Yn ôl y Gymdeithas Frenhinol Atal Damweiniau, cafodd bron i 2,000 o blant eu hanafu dros gyfnod o 12 mis ar ffyrdd yn y DU. Mae hyn yn golygu ei bod yn hanfodol dysgu sgiliau beicio diogel mewn ardal sydd yn ddi-draffig. Bydd yr arian a godwyd gan gronfa cymunedol Co-op Bermo yn cael ei roi tuag at y gost o ddatblygu trac seiclo ar gaeau chwarae Brenin Siôr V. Yma bydd plant yn cael eu diogelu wrth ddysgu sut i seiclo ar ffyrdd cyhoeddus. I gofrestru plant ar gyfer dysgu sgiliau seiclo diogel, gallwch e-bostio clwbbeicioardudwy@gmail.com Byddai’r clwb yn falch o glywed gan oedolion sydd yn fodlon helpu gyda’r prosiect trac beicio.
Apêl Cymorth Cristnogol
Yn India, dechreuodd Ranjita, 30, fynd gyda’i mam i gasglu sbwriel pan oedd ond yn naw oed. Fel casglwr sbwriel, dioddefodd ddyddiau 10-15 awr o waith israddol oedd yn cynnwys glanhau, cario a symud carthion dynol o doiledau a charthffosiau - a hynny i gyd â’i dwylo. Fel Dalit - yr isaf a’r mwyaf gwrthodedig yn system cast India - roedd yn dlawd ac ar y cyrion, a doedd ganddi fawr o gyfle i allu dianc y cylch systemig o dlodi yr oedd
wedi ei dal ynddo. Ranjita gaiff y sylw yn Apêl Nadolig Cymorth Cristnogol eleni, oherwydd gyda help partner Cymorth Cristnogol yn India, ARUN, mae Ranjita wedi dysgu fod ganddi hawliau a cheisiodd am grant gan y llywodraeth yno, a thrwy hynny cychwynnodd ei busnes gwnïo ei hun. Y Nadolig hwn, beth am helpu mamau fel Ranjita i ddefnyddio’r doniau roddodd Duw iddynt i ddianc rhag tlodi, a chreu gobaith a dyfodol newydd iddynt hwy eu hunain a’u plant. Mewn byd o anghydraddoldeb ac anghyfiawnder, gyda’n gilydd gallwn newid bywydau. Cewch gyfle i gefnogi’r apêl trwy fynd i wefan Cymorth Cristnogol yn caid.org.uk/ christmas-appeal.
Teyrnged Mrs Beti Parry, Uwch y Nant, Dyffryn Ardudwy
Wel! 1922 oedd hi. Roedd Lloyd George newydd ymddiswyddo fel Prif Weinidog ac ymhen mis fe anwyd merch yn Nyffryn Ardudwy a fyddai, ymhen ychydig flynyddoedd wedyn- yn ferch ifanc fywiog llawn antur – yn seiclo o’r Dyffryn i Lanystumdwy i ymweld â bedd y cyn Brif Weinidog hwnnw. Beti oedd y ferch ifanc honno ac yn gwmni iddi ar y daith feic roedd merch arall a anwyd yr un un diwrnod â hi, sef y diweddar Jane y Garej. Dros 60 o flynyddoedd yn ddiweddarach fedrech ddefnyddio yr union eiriau yna i ddisgrifio Beti yn ei 90au - yn berson hynaws ei ffordd, roedd na elfen fywiog a llawn antur i’w phersonoliaeth hyd y diwedd. Cafodd lawer o fwynhad yng nghwmni aelodau Teulu Artro a Theulu Ardudwy ynghyd â Chymdeithas Gymraeg y Bermo ac mi roedd yn aelod ffyddlon o’r Clwb Cinio yn Horeb. Braint oedd cael bod yng nghwmni un mor egnïol i ddeud y gwir. Teithiodd gyda’r Clwb i Ynys Llanddwyn - lle gafodd ei chludo mewn ‘Betmobile’ (rhywbeth tebyg i’r Popemobile!) ar draws yr Ynys. Y daith i Aberdaron wedyn, a hithau yn deud wir nad oedd am fynd am Dyddyn Sachau i gael te heb ymweld ag Uwchmynydd gynta a chael cipolwg ar Ynys Enlli - ac nid o’r car yn unig ond allan a cherdded i weld yr ynys yn iawn! Mor ddymunol oedd gwrando ar ei sgwrs dros y pryd bwyd – doedd dim pall ar y cof ac mi roedd y sgwrs yn ddifyr bob tro. Ganwyd Beti yn Ty’nbryn yn un o bump o blant i William a Mary Roberts. May oedd yr hyna, wedyn Beti ac yna Dilys, Hugh a Gwyneth. Yn ferch ac yn chwaer ymroddgar, roedd cwmnïaeth ei theulu a gofalu amdanynt yn hynod bwysig i Beti. Pan fu ei chwaer hynaf May farw yn 32 oed, Beti oedd adref yn gofalu. Pan fu ei chwaer Dilys yn sâl wedi genedigaeth ei mab, David, roedd Beti wrth ei bodd yn cynorthwyo i’w fagu. Bob amser yn gefn i’w rhieni, yn gofalu amdanyn nhw yn eu henaint. Teimlai Mai, Rhian a Iona mor bwysig oedd cael talu’r pwyth yn ôl rhywsut am y gofal hwnnw, drwy ofalu am eu mam yn
yr un modd. Yn ferch ifanc roedd Beti yn mwynhau bwrlwm cymdeithasol y pentre, gan gynnwys y Gymdeithas Ddrama a gweithgareddau’r Capel ac Urdd y Bobl Ifanc. Yn awyddus i ymuno â’u taith gerdded i ben yr Wyddfa, ar gyngor ei thad, rhaid oedd mynd a’i hesgidiau at Meirion y Crydd i roi hoelion arnyn nhw. Wel, mae’n siŵr ei bod hi wedi bod yn daith go arw oherwydd pan gyrhaeddodd hi adre doedd na fawr o sôn am yr hoelion!! Cafodd fwynhad o gwmnïaeth aelodau’r grwpiau gwnïo a chwiltio. Enillodd wobr gyntaf yn Sioe Sir Feirionnydd am gwiltio ymledydd bwrdd Nadolig - a hithau yn ei 90au! Roedd hyd yn oed yr aelodau ieuengaf o’i theulu yn cydnabod ei sgiliau, gan i Morgan (ei gorwyr) gyhoeddi yn yr ysgol bod ei hen nain ar gael i wnïo a thrwsio unrhyw beth. Wedi gadael yr ysgol yn 14 oed, aeth Beti i weini. Tra’n gweini yn Arthog, daeth yn ffrindiau gyda Charcharor Rhyfel o’r enw Hans. Derbyniodd gwch fach mewn potel ganddo yn anrheg. Ymhen blynyddoedd lawer ymddangosodd lun o Hans a rhai eraill yn y Cambrian News gan ofyn am unrhyw un â gwybodaeth am y llun i gysylltu â’r papur. Deallodd Beti yn syth lle tynnwyd y llun a rhaid oedd ysgrifennu gyda’r hanes. Pleser ganddi oedd croesawu mab Hans i de a dangos iddo y cwch bach yr oedd ei dad wedi ei gerfio. Roedd Beti yn gogyddes reddfol ac yn iaith heddiw yn dipyn o ‘legend’ yn y gegin! Wrth ei bodd yn creu prydiau, trio ryseitiau newydd, cyfnewid ryseitiau (coginio heb rysait!) a rhannu o’i gwybodaeth. Doedd neb tebyg iddi am neud pwdin! Chocolate Puddle Pudding oedd ffefryn mawr ei gor-wyrion Morgan, Joseff, Ela, Elsi a Gethin. A phwy arall ’dan ni’n adnabod sydd wedi cael cegin newydd yn 95 oed yn llawn o bob teclyn modern cyfleus? Legend! Fawr rhyfedd ei bod wedi derbyn swydd yn Ysgol Ramadeg y Bermo fel cogyddes ar ddiwedd y Rhyfel - ac yn mynd ymlaen oddi yno yn 1957 i gegin Ysgol Ardudwy. Ond mae ’na un achlysur pwysig a ddigwyddodd yn ystod yr adeg yma - roedd Ernest Parry, Tyncoed, a Beti wedi nabod ei gilydd ers rhai blynyddoedd ac yma yn Horeb am 9.00 o’r gloch y bore ar Ebrill 19, 1954 priodwyd y ddau. Dim ond eu teulu agosaf oedd yn bresennol a Beti, ei hun, wedi paratoi’r brecwast priodas iddyn nhw wedyn yn Gwelfor. Byw yno wedyn yn Gwelfor
tra oedd Ernest yn atgyweirio Frondirion. Gorfod gweithio yno wedi ’swylio, wrth gwrs, a dyna oedd y bai mwya yn ôl Beti. Wedi swper, byddai’n mynd i fyny yno ond roedd sawl un yn galw am sgwrs wrth basio ac ara deg iawn oedd pethau’n symud er mawr siom i Beti. Wedi geni Mai, rhoi ei throed lawr a deud eu bod nhw’n symud i mewn wnaeth Beti - a deud sa pethe’n symud ymlaen yn gynt efo nhw’n byw yna! Ac fel yna fuodd hi a daeth Frondirion yn gartref cysurus ac aelwyd hapus i’r teulu am dros 30 mlynedd. Cadw bobl ddiarth - arferiad nifer yn yr ardal ers talwm a Beti ddim gwahanol yn troi Frondirion yn ‘B&B’ yn ystod misoedd yr haf. Sylweddolodd Mai, Rhian a Iona yn fuan iawn wedi iddynt gael cartrefi eu hunain pa mor galed oedd eu mam wedi gweithio yn ystod y blynyddoedd hynny. Er na theimlon nhw erioed eu bod nhw wedi cael cam - yn wir roedd ambell i deulu yn mynd â nhw allan efo nhw am y diwrnod. Ambell i ddiwrnod braf wedyn, pacio picnic ac i lawr am Draeth Bennar gyda’r merched wnaeth Beti - wedi clirio brecwast - a’r pedair yn mwynhau cyn gorfod cychwyn am adre mewn da bryd i hwylio swper i’r bobl diarth. Yr un rhai fyddai’n dychwelyd blwyddyn ar ôl blwyddyn ac yn dod yn ffrindiau yn fwy nac ymwelwyr yn y pen draw. Yn ystod y tymor ysgol, fe weithiai Beti fel cogyddes yn Ysgol Gynradd Dyffryn. Cyfnod hapus iawn yn ei bywyd oedd hwn. Mwynhaodd y gwmnïaeth yn y canteen’ â’r criw merched yn cael llawer o sbort yn cyd-weithio. Cymdeithasu tu allan i’r gwaith hefyd a mwynhau ambell i day-out a trip siopa hwyliog. Allan i ddathlu pen-blwyddi ei gilydd gyda phryd bwyd blasus rhywbeth oedd bob amser at ddant Beti. Roedd colli Ernest yn 1984 yn ergyd drom iddi. Cariad a chydweithio, dyna oedd sylfaen eu perthynas wedi bod. Ac Ernest eisoes wedi ymddeol, fe benderfynodd Beti hefyd roi’r gorau i’w gwaith gan fwriadu mwynhau blynyddoedd mwy hamddenol gyda’i gilydd. Ond nid fel ’na oedd hi i fod. Eto, ynghanol y tristwch a’r hiraeth o golli cymar, roedd hefyd llawenydd o enedigaeth Glesni. Beti yn ymfalchïo o fod yn nain. Roedd wrth law bob amser i roi cymorth a help llaw i Mai ac yna, cyn pen dim, daeth Gwyn a rhoi yr un cymorth i Rhian. Yn ystod yr adeg yma, gweithiai Iona yn Llundain ond yna derbyniodd swydd yng
Nghaernarfon a symud i fyw i Benisarwaun. Jack a Gwyneth yn mynd â Beti i fyny i weld y lle - cael a chael fu iddyn nhw gyrraedd yno o gwbl (roedd hyn cyn dyddiau sat nav a Beti a Gwyneth ddim y rhai gorau am ‘nafigatio’) - fe ddreifiodd Jack druan drwy Bethel dair gwaith cyn cael hyd i’r lle. Bu cryn dynnu coes am flynyddoedd wedyn pan oedd unrhyw sôn am Bethel! Parhau wnaeth yr hwyl wrth ymweld â chartref Iona dros y blynyddoedd ac roedd penwythnos Sul y Mamau yn un o’r rhai pwysig yn y calendr. Aros i fyny am y penwythnos a Dafydd yn coginio ac yn darparu’r ‘entertainment’. Roedd tynnu coes a chael hwyl yn nodweddiadol o’i chymeriad ac er yn eistedd yn dawel, yn aml fase ’na linell fach reit fachog ganddi yn dod â gwên i bawb. Mewn cwmni oedd hi hapusaf, boed hynny ar aelwydydd ei theulu yn Nant-ycoed a Llys y Garnedd neu yn ymuno mewn unrhyw ddathliad teulu estynedig. Ymfalchïodd yn y ffaith ei bod wedi medru teithio ac ymweld â chartrefi bob un o’i hwyrion. I Gaerdydd at Glesni a Gavin, Bangor at Gwyn ac Elin, i Gaer at Owain a Rosie a jest lawr y ffordd i Dal-y-bont at Ynyr a Kirstye. Ymhell dros y ffin hefyd i Tunbridge Wells at Llio a Mark. Ymfalchïodd yn gweld bob un ohonoch yn eich cartrefi cysurus; a dyna oedd ganddi hi hefyd wedi symud o Frondirion, ac i ganol pawb yn Uwch y Nant. Wrth ymyl Joseph, Bet a Gwen cafodd flynyddoedd lawer o gwmnïaeth - a thrampio i fan hyn a fan acw hefyd! Roedd wrth ei bodd pan fyddai’r hogia - David ac Einion - yn galw wrth fynd adre o’r gwaith – a siawns am dipyn bach o hanes o hwn a’r llall, ac roedd bob amser yn dweud ei bod yn lwcus ohonynt. Felly jest ychydig eiriau i gloi. ‘Rydan ni ar drothwy tymor y Nadolig. Cadwai Beti yn dynn at ei thraddodiadau Nadolig, yn bennaf yn paratoi danteithion yr Ŵyl - o’r gacen i’r menyn melys, y saws bara, y treiffl ac, wrth gwrs, yn goron ar y cyfan ei phwdin Nadolig. Does dim rhaid i chi neud heb y pwdin eleni chwaith, roedd hi wedi paratoi digon ar eich cyfer, llynedd. Dyna’n union a wnaeth trwy gydol ei hoes. Ymroi o’i gorau bob amser i bawb ohonoch. Paratoi ar eich cyfer. Mae ei gwaith hi wedi’i neud. Mae hi wedi’ch paratoi chi a gadael ei chariad yn waddol i chi gario ’mlaen. ‘O’i derwen, tair mesen ’da chi wreiddiodd ym mhridd ei ffrwythloni Heddiw rhown ddiolch iddi, Mwy na Mam fu Mam i chi.’ AG
7
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Cydymdeimlad Trist oedd clywed am farwolaeth Mrs Beti Parry, Uwch y Nant, ar 14 Tachwedd. Roedd wedi dathlu ei phen-blwydd yn 97 ar 1 Tachwedd. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at Mai a David, Rhian ac Einion, Iona a Dafydd, a’u teuluoedd ac at ei chwaer Dilys a’i brawd Huw a’r teulu oll yn eu profedigaeth o golli un annwyl iawn. Gala nofio Llongyfarchiadau i Mikael, Kayden a Ieuan fu’n cystadlu yng ngala nofio yr Urdd, yn cynrychioli Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy. Clwb Cinio Aeth criw da am y Brondanw yn Llanfrothen ddydd Mawrth, 12 Tachwedd er gwaetha’r tywydd. Ond, roedd y lle ar gau a phenderfynwyd mynd i’r Oakeley Arms. Cafwyd croeso cynnes yno a bwyd ardderchog, a phawb wedi eu plesio. Ni fyddwn yn cyfarfod ym mis Rhagfyr ond byddwn yn mynd i’r Victoria yn Llanbedr ar Ionawr 21. Cofiwch fod croeso i unrhyw un ymuno â ni. Dewch yno erbyn 12.00. Festri Lawen, Horeb Croesawyd ni i’r festri nos Iau, 14 Tachwedd, gan John Gwilym Roberts ac aeth ton o dristwch drwy’r ystafell pan gyhoeddodd John fod ein haelod hynaf, Mrs Beti Parry wedi ein gadael y bore hwnnw. Roedd yn aelod ffyddlon o’r Festri Lawen a byddwn yn gweld ei cholli. Ein siaradwr ar y noson oedd Mr Cefin Roberts o Fangor a chyflwynwyd a chroesawyd Cefin gan Llewela Edwards. Testun ei sgwrs oedd dylanwad tair gwraig arno, sef ei fam, Nora Isaac, darlithydd yn y coleg yng Nghaerfyrddin a Rhian, ei wraig. Cafwyd straeon difyr iawn ganddo, rhai’n ddigri iawn, rhai eraill yn drist a Cefin yn eu dynwared yn wych. Ond uchafbwynt y noson i bawb oedd gwrando arno’n canu’n ddi-gyfeiliant. Roedd yn wych. Diolchwyd iddo am noson fythgofiadwy gan Llewela. Ar 12 Rhagfyr byddwn yn mynd i Nineteen57 am ginio Nadolig ac yn cael cwmni Siân James. Enwau, dewisiadau ac arian i Anwen yn y garej erbyn 7 Rhagfyr, os gwelwch yn dda.
8
Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn y Neuadd Bentref, pnawn Mercher 20 Tachwedd. Teimladau cymysg iawn oedd yno gan i ni golli ein haelod hynaf, Mrs Beti Parry, Uwch y Nant, yn 97 mlwydd oed. Bu’n aelod ffyddlon iawn o Deulu Ardudwy am flynyddoedd lawer a byddwn yn gweld ei cholli yn fawr iawn; ei sirioldeb a’i sgwrsio difyr. Talwyd teyrnged iddi gan Gwennie. Anfonodd ein cofion hefyd at Miss Lilian Edwards, Mrs Gretta Cartwright a Mrs Enid Thomas. Diolchodd i Mrs Eifiona Shewring am rodd ariannol i’r teulu er cof am ei mam, Mrs Emily Jones. Yna croesawodd Mrs Elisabeth Peate o Golan atom. Athrawes oedd Mrs Peate cyn iddi ymddeol. Cawsom gwmni ei gŵr Wyn Peate rai blynyddoedd yn ôl i sôn am droeon trwstan dysgu dreifio. Mrs Peate wrth ei bodd yn gwnïo ac roedd y gwaith a ddangosodd i ni o safon uchel iawn, iawn – gwaith proffesiynol yn wir. Erbyn hyn mae ganddi beiriant gwnïo arbennig iawn ac mae’n ei ddefnyddio i greu lluniau, a diddorol oedd gwrando arni yn egluro’r holl dechnegau a ddefnyddiai. Buasai Mrs Beti Parry wedi mwynhau’n fawr gan ei bod hithau wrth ei bodd yn gwnïo a gwneud gwaith llaw. Diolchwyd i Mrs Peate am b’nawn diddorol iawn gan Enid Owen. Ar 18 Rhagfyr byddwn yn mynd i Hendre Coed Isaf am ein cinio Nadolig; yno am 12.00 a bwyta am 12.30.
Mrs Beti Parry yn mwynhau ei phen-blwydd yn 97 oed. Roedd mor ddiolchgar i bawb am eu caredigrwydd tuag ati. Rhodd: £20 Gwasanaethau’r Sul, Horeb
RHAGFYR 8 Parch Dewi Morris 15 Gwasanaeth Nadolig yr Eglwys 22 Gwasanaeth Canu Carolau 29 Huw a Rhian Dafydd IONAWR 2020 5 Parch Harri Parri
Diolchiadau Dymunwn, fel teulu y diweddar Beti Parry, Uwch y Nant, Dyffryn Ardudwy, ddiolch yn ddiffuant iawn am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atom o golli Mam, Nain a Hen Nain arbennig iawn. Diolch i’r Tim Nyrsys a Doctoriaid o Meddygfa Y Bermo am eu gofal tyner dros Mam a ninnau i gyd. Hefyd i Pritchard a Griffiths am y trefniadau trylwyr, i’r Parchedig R W Jones am ei wasanaeth ac i Alma Griffiths am dalu’r deyrnged arbennig. Debyniwyd, yn ddiolchgar iawn, £1000 mewn rhoddion, er cof am Beti tuag at Ambiwlans Awyr Cymru. Rhodd a diolch £10 Diolch Diolch i Wendy Griffith am y rhodd o £10 a diolch i Patricia Jones am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu ei thanysgrifiad. Cofion Anfonwn ein cofion a’n dymuniadau gorau at Mrs Ann Eurwen Price, Bro Enddwyn, sydd yn Ysbyty Glan Clwyd ac wedi cael triniaeth yno.
PWYLLGOR ’81
Neuadd y Pentref, Dyffryn Nos Fawrth, Rhagfyr 17 am 7.00 efo Côr Meibion Ardudwy ac Aled Morgan Jones Paned a mins pei yn ystod yr egwyl.
Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd
Tel: 01341 247799 www.smithygarage-mitsubishi.co.uk smithygaragedyffryn
smithygarageltd
Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes
CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT
Croesawodd y Cadeirydd Mrs Ann Jones, Pennaeth yr Ysgol Gynradd leol, a Mrs Anest Williams, Cadeirydd y Llywodraethwyr i’r cyfarfod. Trafodwyd y Clwb Brecwast a gwahanol opsiynau i sicrhau bod y clwb yn cael ei sefydlu, ond yn anffodus mae pob ymdrech wedi bod yn aflwyddiannus. Rhoddwyd crynodeb o’r hyn sydd wedi ei wneud i geisio sefydlu’r clwb i bob aelod oedd yn bresennol. Ynglŷn â phryder aelodau’r Cyngor mae’r parcio bob ochr i’r ffordd ger yr ysgol yn y bore a’r prynhawn, ac eto rhoddodd Mrs Jones grynodeb i’r aelodau o’r camau gweithredu a gymerwyd ynglŷn â’r mater hwn; oherwydd bod mwy o ddisgyblion yn yr ysgol rŵan (52 yn 2013 a 91 yn 2019), yn amlwg mae hyn yn mynd i gael effaith ar y nifer o geir sydd yn dod i’r ysgol. Mae Mrs Jones wedi cysylltu gyda Swyddog Iechyd a Diogelwch Cyngor Gwynedd, a bydd yn ymweld â’r ysgol yn y dyfodol agos. Cytunodd Aelodau’r Cyngor, unwaith y bydd copi o’r llythyr mae’r Corff Llywodraethol wedi ei anfon i’r Eglwys yng Nghymru wedi ei dderbyn, yn gofyn i’r ffens tu ôl i Neuadd yr Eglwys gael ei thynnu i alluogi creu mynedfa o gefn y Neuadd er mwyn i’r disgyblion gael mynd i’r ffreutur i’r clwb brecwast, a bod y Cyngor yn anfon llythyr i’r Eglwys yng Nghymru yn cefnogi’r cais hwn. CYHOEDDIADAU’R CADEIRYDD Derbyniwyd llythyr o ymddiswyddiad gan y Cadeirydd oherwydd ei fod yn teimlo nad oedd yn gallu rhoi 100% i’r Cyngor. Roedd yr aelodau i gyd yn siomedig i glywed hyn oherwydd bod Mr Jones wedi bod yn aelod gweithgar iawn. Gofynnwyd i’r Clerc anfon llythyr ato ar ran y Cyngor yn diolch iddo am ei wasanaeth. GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd – Adran Gynllunio Mae’r ciosg sydd yn Nhal-y-bont a phentref Dyffryn Ardudwy ar y rhaglen i ddileu rhai ffonau talu cyhoeddus. Cytunwyd i beidio a gwrthwynebu tynnu’r ciosg yn Nyffryn Ardudwy ond gwrthwynebu tynnu’r ciosg yn Nhal-y-bont. Roedd Eryl Jones Williams eisiau gwrthwynebu tynnu ciosg Dyffryn Ardudwy ond nid oedd yr un aelod arall yn cytuno â hyn. UNRHYW FATER ARALL Gofynnwyd i’r Clerc gysylltu gyda Mr Dafydd Gibbard, Cyngor Gwynedd i holi a oedd toiledau cyhoeddus y pentref ar werth neu wedi eu gwerthu eisoes; hefyd be ydy’r darn tir sydd yn ei ganlyn. Mae rhai pobl yn dal i yrru i lawr Ffordd y Capel er ei bod yn ffordd un Bydd y clerc yn gofyn i’r heddlu ymchwilio i’r mater rhag i ddamwain ddigwydd.
Ennill yn y Ffair Aeaf Llongyfarchiadau i Ceri Williams, Ffridd y Gog, am ddod yn drydydd yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd ar ddiwedd mis Tachwedd am ei gwaith llaw, sef sgarff a menig wedi eu gwau.
NOSON GAROLAU gyda CHÔR MEIBION ARDUDWY yn NINETEEN.57 Mae croeso cynnes i bawb i ymuno â ni yn NINETEEN.57 Tal-y-bont i fwynhau carolau yng nghwmni Côr Meibion Ardudwy Bydd yno fins peis a gwin cynnes. Nos Sul, Rhagfyr 22 18.00 tan 19.00 Gwneir casgliad at Ambiwlans Awyr Cymru. Mynediad drwy docyn: £5
THOMAS LLOYD WILLIAMS, FRONGALED Ganwyd Thomas Ll Williams yn Frongaled, Llanddwywe, Dyffryn Ardudwy, 5 Rhagfyr, 1830. Enwau ei rieni oedd Evan (1789-1849) a Catherine (Lloyd) Williams (g 1799), y ddau yn enedigol o Sir Feirionnydd. Capten llong oedd ei dad. Ffermwr oedd taid Thomas Ll, sef Cadwalader Williams (1754-1833), Frongaled. Barbara Griffiths (1750-1799), Tyddyn Du, Uwch Artro, oedd ei nain. Bu ei hen nain fyw yn gant namyn un. Yr oedd Cadwalader Williams yn fab i William ap Roberts (17301799), ac yn ŵyr i Robert Evans (1700-1774), Frongaled. Hwylio’r moroedd fu hanes tad Thomas Ll, a bu ei feibion a’i frawd yn dilyn yr un galwedigaeth. Bu ar deithiau yn yr America droeon, ond cadwodd ei gartref yn y Dyffryn, lle y bu ef farw yn 1849, yn 58 mlwydd oed. Bu ei wraig farw yn 1838, yn 39 mlwydd oed. Yr oedd y ddau’n aelodau gyda’r Methodistiaid Calfinaidd. Ar ôl mynychu yr ysgol ddyddiol daeth yn fyfyriwr o dan law y Parchedig Edward Morgan, Dyffryn. Nid oes amheuaeth na fu gan ddylanwad y gŵr mawr hwnnw lawer i’w wneud â’r sail ar ba un yr adeiladodd Thomas Ll Williams ei gymeriad. Wedi treulio ei gyfnod yn yr ysgol penderfynodd gymhwyso ei hun i fod yn fasnachwr. Dechreuodd yng ngwaelod yr ysgol fel breintwas yn y Dyffryn, ac yna yng Nghaernarfon. Yn 1849 symudodd i Lerpwl, a bu yn y busnes masnach yn y fan honno am tua blwyddyn hyd nes iddo ef ddychwelyd i Dyffryn i ail ymgymryd â’i fusnes am gyfnod byr. Yn Ebrill 1850, yn bedair ar bymtheg oed, ymfudodd i’r America ac ar ôl cyrraedd y wlad aeth am y gorllewin i Racine, Wisconsin, lle y cyrhaeddodd ym mis Mai y flwyddyn honno. Treuliodd ei flwyddyn gyntaf yno yn gwasanaethu fel gwerthwr ym masnachdy Mooney a Miller. Symudodd i Newark, Ohio, ar ôl hynny a bu’n ôl ac ymlaen rhwng y ddinas honno a Racine nifer o weithiau, hyd 1854, pan ymunodd mewn busnes masnachol yn Racine gyda John Vaughn. Daeth y busnes i gael ei adnabod wrth yr enw Vaughn ac Williams, sef yr Old Plank Road Store, ar gornel de ddwyrain Sixth a College Avenue. Daeth y bartneriaeth i ben yn Hydref 1873. Yr oedd yn
fusnes llwyddiannus a chasglodd y cwmni gryn eiddo. Ar ôl i Thomas Ll adael y busnes cafodd swydd ym Melin Wlân Racine am gyfnod o ddeuddeg mlynedd. Profodd ei hun yn deilwng o ymddiriedaeth y bobl. Teimlai ddiddordeb neilltuol ym masnach y ddinas yn gyffredinol, a bu yn bleidiol i bob symudiad dinasol a oedd yn ôl ei farn ef, yn fantais i’r ddinas. Llawenychai wrth weld capeli (Cymraeg yn ogystal, un gan Fethodistiaid a’r llall gan yr Annibynwyr), ysgolion a sefydliadau dyngarol eraill yn cael eu hadeiladu. Enillodd ymddiriedaeth ei gyd-fasnachwyr, a pherchid ef yn fawr. Bu ei gyfeillgarwch â’r Parchedig Ioan Llewelyn Evans, DD (18331892), gynt o Sir y Fflint), a fu ar un pryd yn ysgolor ac athro yng Ngholeg Racine, ac â’r Parchedigion Edward Evans (1807-1881, gynt o Sir y Fflint), Rees Evans (1817-1882, gynt o Sir Aberteifi), Thomas Foulkes (1815-1897, gynt o Sir Ddinbych), William Hughes (1813-1883, gynt o Sir Gaernarfon) a Joseph Roberts, DD (1842-1921, gynt o Benmachno), rhai fu’n weinidogion y capel yr addolai Thomas Ll yn Racine, ei gadw mewn cysylltiad â llenyddiaeth yr oes yn Gymraeg a Saesneg. Yr oedd ganddo hoffter at hynafiaeth. Ystyrid ef yn un o’r rhai gorau am ddilyn achau a chysylltiadau perthynol personau a theuluoedd. Ysgrifennodd lawer i’r ‘Drych’, papur Cymry America, ar wahân i bapurau lleol Saesneg yn Racine drwy gyfrwng bywgraffiadau am yr ymadawedig yn y ddinas. Ar gyfrif ei alluoedd uwchraddol, a’i ffyddlondeb di-drai, deuai llawer o orchwylion pwysig i’w ran, a gelwid yn naturiol arno i lenwi swyddi o ymddiried yng nghapel Mount Pleasant (MC). Bu yn athro Ysgol Sul am dros hanner can mlynedd, ac yn Arolygwr lawer tro. Hefyd yn ymddiriedolwr y capel, arweinydd y gân ac yn ysgrifennydd; ac yn 1864 etholwyd ef yn flaenor. Dangosodd lawer o sêl dros lywodraeth y ddinas, y dalaith a’r wlad. Daeth yn Americanwr trwyadl mewn egwyddor, ysbryd ac ymarweddiad. Yr oedd yn aelod o’r Blaid Weriniaethol, bob amser yn cefnogi ei egwyddorion. Etholwyd a gwasanaethodd fel aseswr dinas Racine am dair blynedd, ac yr oedd yn aelod o Gymdeithas Dewi Sant a sefydlwyd yn 1887. Yn Portage, Wisconsin, 14 Ebrill, 1869, priododd Thomas Ll â Mrs Catherine Owen (1832-1919). W Arvon Roberts – i’w barhau.
9
Y BERMO A LLANABER Y Gymdeithas Gymraeg Ar 6 Tachwedd, cawsom noson ddifyr yng nghwmni Elfed Lewis, Brithdir yn trafod ei fenter sef codi tŷ goddefol. Beth yw tŷ goddefol? Yn fyr, tŷ sydd wedi ei godi mewn ffordd arbennig ac wedi ei insiwleiddio yn hynod o effeithiol. Cawsom ddeall trwy sgwrs a sleidiau pa mor effeithiol ydyw gan fod gwres rhywbeth tebyg i sychwr gwallt yn ddigon i’w gynhesu. Roedd yn rhaid cydymffurfio â rheolau llym wrth ei godi i sicrhau nad oedd dim gwynt yn gallu mynd i mewn iddo. Braf hefyd oedd cael cwmni Kevin Lewis, sef tad Elfed. Yr un hen stori oesol, y mab yn cynllunio a siarad a’r tad yn gwneud y gwaith! Diolch Diolch i Aled Lewis Evans am y rhodd o £8.
Cymdeithas Ted Breeze Jones ym Mhlas Tanybwlch, Nos Iau, 12 Rhagfyr am 7.30
Sgwrs gan Emyr Evans, swyddog Gweilch y Pysgod, Dyfi
‘Adar y Gambia’
Croeso i aelodau hen a newydd
Rhes gefn (chwith i’r dde) – Paul Owen (Byw’n Iach), Rhona Lewis (Gwirfoddolwr Clwb Cymunedol), Nia Rees (Gweithiwr Cymorth Ieuenctid) a Lisa Williams (Gweithiwr Ieuenctid). Rhes flaen (chwith i’r dde) – Evie, Jess, Ruby, Georgie (trefnwyr y noson) Noson bingo yn y Bermo yn hel arian at achos da Yn ddiweddar fe ddaru noson bingo llwyddiannus yn y Bermo hel dros £835 tuag at achos da lleol o’r enw ‘Josh’s Lighthouse Project.’ Trefnwyd y noson gan aelodau o Glwb Cymunedol Bermo, gyda chymorth Nia Rees (Gweithiwr Cymorth Ieuenctid Gwynedd), staff Byw’n Iach, Rhona Lewis (Gwirfoddolwr Clwb Cymunedol) a Lisa Williams (Gweithiwr Ieuenctid). Y nod oedd hel arian tuag at achos da, yn ogystal â chwblhau achrediad Agored Cymru mewn Gwaith Tîm. Roedd y noson yn un llawn hwyl, gyda 130 o bobl yn mynychu’r digwyddiad. Gwahoddwyd PCSO Mark Hughes (PCSO lleol Porthmadog) i alw’r rhifau ar gyfer y bingo, ac fe ddarparwyd y gwobrau drwy haelioni dros 30 o fusnesau lleol. Mae Project Goleudy Josh yn achos sydd yn codi ymwybyddiaeth am hunan-niwed a hunanladdiad ymysg pobl ifanc. Roedd teulu Josh yno ar y noson i gefnogi’r digwyddiad. Yn ogystal â hyn, mae Banc Barclays am gyfrannu swm gyfatebol ac am ei roddi i’r elusen Mind Gwynedd a Môn, sydd yn hybu gwell iechyd meddwl a lles i bawb. Meddai Nia Rees, Gweithiwr Cymorth Ieuenctid Gwynedd: “Dwi mor falch o fod wedi cael y profiad o weithio efo criw o bobl ifanc sydd â chymaint o frwdfrydedd i wneud rhywbeth da ar gyfer eu cymuned. “Mae’r criw ifanc yn diolch i bawb oedd wedi mynychu’r noson i gefnogi’r achos, ac fe hoffent ddweud diolch yn fawr i’r holl fusnesau lleol am eu haelioni trwy ddarparu gwobrau gwych am ddim ar gyfer y noson.”
TOYOTA HARLECH
COROLLA HYBRID NEWYDD
Dewch i roi cynnig ar yrru’r Corolla newydd! Mae ’na ganmol mawr i hwn! facebook.com/harlech.
10
Ffordd Newydd Harlech LL46 2PS 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@harlech.toyota.co.uk Twitter@harlech_toyota
Theatr y Ddraig Mae’r drysau bellach yn agored i bob perfformiwr gynnal dramâu llwyfan, digwyddiadau cerddorol a chanu ... mewn gwirionedd, bron iawn unrhyw beth y gellir ei berfformio’n fyw ar y llwyfan! Cynigir rhaniad swyddfa docynnau 70/30 [70% o’r swyddfa docynnau i’r perfformwyr]. Gyda thranc trist Theatr Ardudwy yn Harlech, mae’r cyfarwyddwyr eisiau gweld Theatr y Ddraig yn dod yn brif leoliad adloniant byw yn yr ardal. Ar hyn o bryd mae’r staff yn adnewyddu’r system sain. Bydd hyn yn gwella’r profiad i gynulleidfaoedd ar gyfer sioeau llwyfan byw a dangosiadau ffilm yn fawr. Dilynir hyn yn fuan gan system goleuadau llwyfan LED newydd sbon. Mae ailwampiad cyflawn o’r wefan hefyd ar y gweill. Mae amser cyffrous o’u blaenau!’
Theatr y Ddraig, Bermo
CYNGERDD gan
Gantorion Gogledd Cymru am 7.30 Nos Wener, Rhagfyr 6 Tocyn: £12
Eglwysi Bro Ardudwy Digwyddiadau
8 Rhagfyr Eglwys y Santes Ddwywe, Llanddwywe 4.00 yp Gwasanaeth Cristingl 8 Rhagfyr Eglwys Tanwg Sant, Harlech 7.00 yh Côr Bro Meirion Cyngerdd “Bythol Olau” 11 Rhagfyr Eglwys Pedr Sant, Llanbedr 6.00 yh Gwasanaeth Carolau 15 Rhagfyr Llanfihangel-y-traethau, Ynys 11:00 yb Naw Llith a Charolau 15 Rhagfyr Eglwys Tanwg Sant, Harlech 6.00 yh Gwasanaeth Carolau 17 Rhagfyr Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy 7.00 yh Gwasanaeth Carolau 22 Rhagfyr Eglwys y Santes Fair, Llanfair 9.30 yh Gwasanaeth Carolau 22 Rhagfyr Eglwys Sant Ioan, Abermaw 4.00 yp Gwasanaeth Carolau
22 Rhagfyr Eglwys Tanwg Sant, Llandanwg 6.30 yh Gwasanaeth Carolau yng ngolau canhwyllau 24 Rhagfyr Eglwys Pedr Sant, Llanbedr 4.00 yp Gwasanaeth y Preseb 24 Rhagfyr Noswyl Nadolig 7.00 yh Eglwys Bodfan Sant a’r Santes Fair, Llanaber 9.00 yh Eglwys y Santes Fair, Llanfair 11.30 yh Offeren Canol Nos Eglwys Tanwg Sant, Harlech 25 Rhagfyr Dydd Nadolig 10.30 y bore Eglwys Sant Ioan, Abermaw Eglwys Tanwg Sant, Llandanwg Llanfihangel-y-traethau, Ynys 5 Ionawr Eglwys Sant Ioan, Abermaw 10.30 yb Gwasanaeth y Fro i bob eglwys ym Mro Ardudwy
TELYNOR MAWDDWY A’I DEULU gan Les Darbyshire - Rhan 2 Ar ôl priodi cartrefodd Dafydd a’i wraig yn Ardwyn, Bermo. Buont yno am tua deg mlynedd, ac er nad oes llawer o hanes iddynt yn y cyfnod yma, cefais yn 2002 nodiadau gan y diweddar Ritchie Rees yn rhoi ychydig o hanes Dafydd pan ddaeth i’r Bermo ac rwyf wedi eu cyfieithu i’r Gymraeg: Dyma sut roedd Ritchie Rees yn ei gofio: Y Telynor Dall “David Roberts - tad fy nghyfaill ysgol, a oedd yn ddall ers ei blentyndod. Yr oedd yn ddyn hynod, ystyr ei fywyd oedd cerddoriaeth ac yr oedd yn delynor penigamp ac yn cael ei adnabod fel Telynor Mawddwy. Yr oedd yn ddyn medrus mewn llawer cyfeiriad a phan ddaeth ef a’i wraig i’r Bermo gyntaf, galwasant yn siop Mr Richard Roberts (QV) lle roedd fy nhad yn gweithio. Wedi prynu linoleum i’w tŷ cludwyd ef i’w cartref er i’r siopwr gynnig cymorth. Hwyrach yn y dydd pan ddychwelodd fy nhad i’r siop, cafodd orchymyn gan ei feistr i fynd i dŷ y dyn dall i osod y lino. Pan gyrhaeddodd gwelodd, mewn syndod, fod y gwaith bron â’i orffen a’r dyn dall ar ei liniau, cyllell yn ei law ac yn hymian canu wrth weithio. Am flynyddoedd bu yn mynd o ddrws i ddrws yn gwerthu nwyddau o’i ‘Gladstone Bag’ - nid oedd ganddo broblem gyda phres, yn adnabod papurau ac arian bach yn syth. Byddai hefyd yn mynd o gwmpas yn tiwnio pianos. Yr oedd bob amser yn wybodus o’r ffyrdd i wahanol lefydd, heb gymorth. Rhan o’i waith oedd dysgu llawer i ganu’r delyn a chymryd rhan mewn cyngherddau a nosweithiau cerddorol yn y cylch. Pan fyddai yn diddori pobl ar y prom byddai yn cario cadair a blwch i ddal y pres, ei delyn wedi ei chlymu i’w gefn, ac - yn holl bwysig - ei ffon - roedd pwysa’r delyn yn ddigon i’w gario heb sôn am y gweddill. Yr oedd yn ddyn gwybodus â’r gallu ganddo i drafod unrhyw bwnc a ddymunech gydag ef; yr oedd yn berson mwyn a theimlaf fy mod wedi cael fy anrhydeddu o gael y cyfle o’i adnabod”. Yr oedd yn aelod selog o’r Eglwys Fethodistaidd (Wesla) ac fel oedd arfer yr enwad yna, roedd Dafydd Roberts yn bregethwr cynorthwyol a byddai yn gwasanaethu yn Arthog a Soar, Talsarnau ac yn ei gapel ei hun yn y Bermo. Yr oedd wedi dysgu llawer o’r efengylau ar ei gof ond yn y blynyddoedd olaf byddai yn gofyn i rai ei gynorthwyo gyda’r darlleniad.
Clara, merch Dafydd Roberts, gyda Gwyneth Darbyshire a gŵr Clara, Colin Warr Symudodd Dafydd a’i wraig, Jennie, o Ardwyn i Dy’n y Coed, mewn darn o’r dref a elwir yn Llyn Du, ac yno ganwyd y plant, David Elio yn 1921, Robert Ifor yn 1923 a Clara Catherine yn 1926. Yn anffortunus bu i Clara hefyd gael y frech goch a bu i hithau golli ei golwg pan oedd yn ei harddegau, a gorfod iddi fynd oddi cartref i gael hyfforddiant yn ysgol y deillion. Roedd gan Clara lais da a byddai yn cyd-ganu gyda fy niweddar wraig Gwyneth; roeddent yn ffrindiau agos ar hyd y blynyddoedd. Cafodd Elio a Robert Ifor eu haddysg yn ysgolion elfennol a Sir y Bermo lle bu i’r ddau ddisgleirio. Symudodd y teulu a chartrefu yn Marine Road ac enwi y tŷ yn ‘Llys y Delyn’. Roedd yn dŷ hwylus ac fe addaswyd yr ystafell ffrynt fel siop i werthu nwyddau, siocled a mân bethau eraill ac yn gyfle i Jennie gael gweithredu yn y busnes o wely a brecwast i’r ymwelwyr. Yr oedd Dafydd wedi sefydlu ei hun fel telynor o fri ac yn hyfforddi llawer, a daeth yn enwog yn y grefft cerdd dant. Un o’i ddisgyblion oedd Llyfni Hughes a ddaeth yn feistr yn y byd cerdd dant. Cyhoeddodd Dafydd amryw o werslyfrau a chaneuon a’r pwysicaf oedd ‘Y Tant Aur’ a ddaeth ac enw y telynor yn adnabyddus trwy Gymru, ond cawn fwy o hanes ei gyhoeddiadau eto. Llys y Delyn oedd ‘Mecca’ llawer o’r cerddorion Cymreig ac yn cynnwys yr anhygoel Nansi Richards, meistres y delyn deires, a Haydn Morris, y cyfansoddwr enwog o dde Cymru a fu yn cyd-weithio â Thelynor Mawddwy i greu gwaith fel Seren Bethlehem. Mae Robert Ifor, yn ei nodiadau, yn cyfeirio at wasanaeth ei dad fel beirniad cerdd dant yn yr Eisteddfodau – y Genedlaethol a’r Urdd ynghyd â rhai lleol. Mae ei waith yn trefnu a hyfforddi partïon ar gyfer gwahanol eisteddfodau wedi eu rhestru yn y llyfr ‘Canrif o
Gân’ gan y Dr Aled Lloyd Davies a fu hefyd yn ddisgybl y telynor. Mae Robert Ifor yn cyfeirio, pan oedd yn blentyn, at fynd gyda’i dad ar nos Sul yn y gaeaf ac yn cerdded dros bont y Bermo i’w gyhoeddiad yn Arthog. Roedd ei dad yn cael ei swyno gan ddisgrifiad Robert o’r holl sêr yn yr awyr a’u dehongli at bwrpas morwriaeth. Yr un pryd roedd Robert yn awyddus i wybod sut oedd ei dad yn medru osgoi yr holl rwystrau ar y bont yn enwedig y cytiau lloches; roedd fel petai yn ymwybodol ohonynt heb gyfarwyddyd gan Robert. Pan ofynnodd iddo sut yr oedd yn medru eu hosgoi, eglurodd Dafydd am y sain a oedd yn bodoli o’r ffon pan oedd yn ei defnyddio. Wrth daro y llawr byddai gwahanol seiniau yn rhoi gwybodaeth o berygl iddo. Mae stori ddiddorol am bwysigrwydd y ffon. Bu i’r diweddar W D Williams, a oedd newydd gael ei benodi yn brifathro ysgol elfennol Bermo a’r dre yn dal yn ddieithr iddo, gael ei ddal mewn niwl trwchus ac nid oedd yn medru gweld ei ffordd gartref. Clywodd sŵn ffon Dafydd Roberts yn tapio ar y ffordd a gweiddodd arno am gymorth i ddychwelyd gartref. Roedd tŷ W D yn gyfochrog â thŷ y telynor, a’r hen delynor a arweiniodd W D gartref. Achos o’r dall yn arwain y gweledig! Adnabyddir y telynor drwy Gymru fel cerddor o’r radd uchaf. Nid wyf yn gymwys i feirniadu ei gyfraniad i gerddoriaeth Cymru. Digon imi restru rhai o’i orchestion. Yn gynnar yn ei oes cafodd ei dderbyn i Orsedd Beirdd Cymru a chael ei adnabod fel Telynor Mawddwy, ac enillodd y brif unawd cerdd dant yn Eisteddfodau Cenedlaethol Blaenau Ffestiniog a Lerpwl, yn brif westai mewn llawer o gyngherddau, dysgu llawer yn y grefft o ganu telyn, ond hwyrach ei gyfraniad mwyaf oedd ei gariad at gerdd dant a diddordeb yn y maes. Cyn ei amser roedd cerdd dant bron wedi mynd yn angof. Adfywiodd ddiddordeb ynddo trwy gyhoeddi gwerslyfr ‘Y Tant Aur’, gwerslyfr cyntaf ar ganu penillion. Yn ôl y diweddar Mrs Margaret Owen mae 48 o osodiadau ynddo a bu yn gymorth mawr i lawer ac yn gyfrwng i sbarduno adfywiad mewn canu gyda’r tannau ledled Cymru yn ystod dau ddegawd cyntaf yr ugeinfed ganrif. Cyhoeddwyd sawl ad-argraffiad cyn cyhoeddi yr ail argraffiad yn 1916. Ar gyfer yr ail argraffiad yr oedd Telynor Mawddwy wedi cydweithio gyda P H Lewis a oedd yn weinidog ar y pryd yn y Bermo. Cyhoeddwyd
ganddynt hefyd ‘Cainc Y Delyn I’ ac yn ddiweddarach cyhoeddwyd ‘Cainc y Delyn II’ gyda chymorth Mr J Rhyddid Williams, athro cerdd yn Ysgol y Bermo ac wedyn Harlech, a oedd wedi cael llawer o hyfforddiant gan y telynor, a thystia nifer o bobl o bob rhan o Gymru cymaint oedd eu dyled i’r llyfrau yma. Mae y Dr Aled Lloyd Davies yn cyfeirio yn ei lyfr at ei ddechreuad gyda chanu penillion: “Roeddwn i wedi clywed yr hen gymeriad Ifan Davies o Drawsfynydd yn canu penillion o’i waith ei hun ar gerdd dant mewn ‘cyfarfod bach’ yn Nhalybont ar geinciau fel Calan, Pen Rhaw, a Llwyn Onn ond doeddwn i erioed wedi canu fy hun yn yr arddull honno. Canu unawdau a chaneuon gwerin y byddwn i, ond pan ddaeth Telynor Mawddwy acw, fel y gwnai bob wythnos i werthu nwyddau ei siop, gofynnodd mam iddo wrando arna i’n canu a dyma fo’n awgrymu y dylaswn i ganu penillion, ac y bydda fo’n barod i’m dysgu. A’r tro nesaf mi ddechreuasom ni. Roedd o’n adrodd pennill, llinell ar y tro gan ddweud “gad linell wag ar gyfer y nodau...” a minne’n ysgrifennu. Wedyn, mi fydde canu’r gosodiad heb yr alaw, a finne’n ei droi i sol-ffa. Ac felly buom yn ei wneud drwy’r blynyddoedd nes dod i ddechreu gosod fy hun. Dyma sut y dysgwyd O T Morris o Ddyffryn Ardudwy i ganu o’r gosodiadau yr oedd Dafydd Roberts eisoes wedi’u llunio. Digon tebyg oedd ei dechneg pan nad oedd yn gyfarwydd â’r geiriau. Mi fyddwn i’n mynd a’r geiriau yno efo mi i’r Bermo, a darllen y gerdd i gyd iddo fo’n gynta’. Wedyn mi fyddwn i’n darllen y pennill cynta’ iddo fo eto ac ar ôl hyn, mi fydden ni’n gosod o linell i linell ac weithiau’n trio sawl cyfalaw. Roedd lliwio llinell a’i dehongli hi’n gerddorol yn holl bwysig”. LD
LLYTHYR Annwyl Olygydd, Diddorol oedd darllen yr erthygl am Dafydd Roberts [Telynor Mawddwy] yn rhifyn Tachwedd o’r llais. Roedd fy nain ar ochr mam wedi ei magu yn y Bermo ac yn adnabod DR yn dda. Mae gan mam luniau o fy nain efo DR. Mae gan mam hithau gof plentyn amdano. Bethan Ifan Diolch i Bethan Ifan am y nodyn ac am y rhodd o £10. [Gol.]
11
TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN PIGION O GYNGOR TALSARNAU
Dyma’r rhai gymrodd ran yn y Cwis Hwyl Cenedlaethol MyW ar 8 Tachwedd ac a ddaeth yn drydydd yn Rhanbarth Meirionnydd, o’r chwith i’r dde – Mai, Siriol, Haf ac Anwen. Cystadleuaeth Cwis Hwyl Cenedlaethol Merched y Wawr Nos Wener, 8 Tachwedd roedd pedair aelod – Siriol, Anwen, Mai a Haf - yn cynrychioli Cangen Talsarnau, Rhanbarth Meirionnydd, yn y Cwis Hwyl Cenedlaethol, yn Neuadd Llanelltyd. Roedd nifer dda iawn o wahanol ganghennau yno’n cystadlu o bob cwr o Feirionnydd. Cawsom hwyl dda ar ateb y 50 cwestiwn cynta’ – a gwell hwyl fyth ar ateb y 50 cwestiwn olaf, a chyda’n sgôr o 83 pwynt allan o 100, daethom yn drydydd yn Rhanbarth Meirionnydd. Cafwyd tynnu llun a chyflwynwyd siec o £15.00 i’n Cangen gan y Llywydd Rhanbarth. Do, bu’n werth cymryd rhan a chafwyd noson hwyliog wrth bendroni dros rhai o’r atebion! Merched y Wawr Croesawodd y Llywydd, Siriol Lewis bawb i’r cyfarfod nos Lun, 11 Tachwedd. Cyflwynodd Siriol ein cofion arbennig at Maureen wrth iddi ddechrau ar ei thriniaeth; rhoddir cerdyn iddi, ar ein rhan ni i gyd, yn cyfleu pob dymuniad da. Gofynnwyd am flaendâl o £5.00 at y cinio Nadolig ym Mhlas Tanybwlch ar 11 Rhagfyr. Atgoffwyd pawb o ddyddiad y Bowlio Deg yng Nglanllyn ar 28 Chwefror – angen tîm o 6 i gystadlu; yr enwau i law yng nghyfarfod mis Ionawr. Gwnaed apêl i bawb geisio cefnogi’r gwasanaeth post sydd yn Neuadd Talsarnau ddwywaith yr wythnos – ar bnawn dydd Llun rhwng 12.30 a 3.00 o’r gloch, ac ar fore dydd Iau o 9.00 hyd at 11.00 o’r gloch. Erfynnir am gefnogaeth er mwyn cadw’r gwasanaeth hwylus yma i redeg – mae hefyd yn dod ag arian da i’r neuadd. Yna croesawyd ein gwraig wadd, Elisabeth Peate o Golan, a ddaeth atom i arddangos ei gwaith creadigol amrywiol. Eglurodd ei bod â diddordeb mawr mewn gwnïo ers yn ifanc iawn, wedi bod yn mynychu dosbarthiadau gwnïo Megan Williams ac wedi cael cychwyn da iawn. Yn gyntaf, cawsom weld esiamplau o’r holl ddillad roedd wedi’u creu – yn ffrogiau, sgertiau, trowsusau, siacedi a dillad plant, gyda’r rhain i gyd yn dangos manylder a gwaith hynod o grefftus; roedd ein hedmygedd ni’n fawr iawn at y cywreinrwydd oedd ym mhopeth. Roedd ganddi hefyd waith sampleri a darluniau mewn fframiau – rhain eto’n dehongli gwaith perffaith ac artistig iawn. Roedd ei harddangosfa’n wych ac yn werth ei weld. Diolchodd Anwen i Elisabeth am ei sgwrs ac am y cyfle i weld ei holl waith llaw, gan werthfawrogi ei dawn creadigol yn fawr iawn. Bu’n noson hynod o bleserus i bawb. Capel Newydd, Talsarnau Gwir naws y Nadolig drwy Oedfaon am 6:00. NAW LLITH A CHAROL Croeso i bawb yn RHAGFYR Eglwys Llanfihangel-y-traethau 1 - Dewi Tudur Ynys, Talsarnau 8 - Dewi Tudur Dydd Sul, Rhagfyr 15 15 - Rhys Llwyd am 11.00 y bore 22 - Gwasanaeth Carolau. [amser newydd] Bore Nadolig am 9.00. Casgliad at 29 - Gruffudd Davies Gylch Meithrin Talsarnau IONAWR 2020 Croeso cynnes i bawb! 5 - Dewi Tudur
12
CEISIADAU CYNLLUNIO Adeiladu estyniad blaen deulawr, adeiladu garej o flaen yr eiddo gyda balconi uwchben y rhan gefn, gosod balconi dros estyniad to fflat cefn presennol ac ymestyn yr estyniad cefn to fflat presennol – Trem y Traeth, Talsarnau. Cefnogi’r cais hwn oherwydd bydd yn welliant i’r tŷ presennol. ADRODDIAD Y TRYSORYDD Ceisiadau am gymorth ariannol Hamdden Harlech ac Ardudwy - £2,006.55 – hanner cynnig cynllun praesept Partneriaeth Ardudwy - £100.00 Eisteddfod Ardudwy - £500.00 GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd – Adran Briffyrdd Gofynnwyd a fyddai’r Cyngor â diddordeb ac yn fodlon cymryd cyfrifoldeb mewn egwyddor am feysydd chwarae yr ardal (cae chwarae Cilfor, Maes Gwndwn a Maes Mihangel) neu’n gwybod am grwpiau eraill a fyddai yn fodlon gwneud hyn. Os oes diddordeb bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal er mwyn datblygu’r ffordd orau o weithio gyda’i gilydd a thrafod yr opsiynau un ai i drosglwyddo neu i weithio mewn partneriaeth. Mae hyn yn gorfod cael ei wneud oherwydd y toriadau sydd yn wynebu Cyngor Gwynedd a bydd y gost o ddarparu gwasanaethau lleol yn cael ei dorri o oddeutu £12 miliwn yn ystod 2019/20 ac efallai £16 miliwn yn 2020/21. Cytunwyd i ddatgan bod gan y Cyngor ddiddordeb ac yn fodlon ystyried cymryd cyfrifoldeb mewn egwyddor am feysydd chwarae y gymuned.
Plant Ysgol Talsarnau gyda rhai o’r parseli a gasglwyd ganddyn nhw er mwyn rhoi anrheg Nadolig i blant mewn gwledydd tlawd
R J Williams Honda Garej Talsarnau Ffôn: 01766 770286
LLYTHYR ‘Perthi’ Ffordd Minffordd Penrhyndeudraeth Gwynedd Annwyl Olygydd Credaf mai ‘Llenyrch’ yw’r ffermdy yn y llun yn Llais Ardudwy mis Hydref. Y fferm uchaf ym mhlwyf Llandecwyn, ac wedi cerdded ddwsinau o weithiau yn ôl ac ymlaen i gasglu at y Genhadaeth pan yn blant. Atgofion melys am yr amser a fu. Cofion,
R J WILLIAMS IZUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU IZUZU
Siân Mai Ephraim, Cadeirydd, Cana-mi-gei, Margaret Roberts, Mai Jones, Anwen Roberts ac Eifion Williams, swyddogion Pwyllgor Neuadd Talsarnau - yn derbyn siec am £1,250 gan Ann Jones, Arweinydd Cana-mi-gei a Susanne Davies, Trysorydd.
CYNGERDD Y CORAU Cafwyd cyngerdd o safon yn Neuadd Gymuned Talsarnau nos Fawrth Tachwedd 19eg 2019 gyda Chôr Cana-mi-gei a Chôr Meibion Ardudwy. Cafwyd cyflwyniadau ardderchog gydag amrywiaeth braf yn rhaglenni’r ddau gôr. Braf iawn oedd gweld y neuadd yn llawn a’r gynulleidfa’n amlwg yn mwynhau’r eitemau. I ddiweddu’r noson, cafwyd paned a chacen a chyfle i gymdeithasu, cyfle i gael sgwrs hefo hwn a’r llall, oedd yn weithgaredd werthfawr ynddi ei hun. Diolch yn gynnes iawn i aelodau’r ddau gôr am drefnu’r cyfan, am roi o’u hamser a’u doniau, ac i’r ddau arweinydd, a’r cyfan yn rhad ag am ddim. Diolch i’r cyfeilyddion ac i Phil am arwain yn ei ddull deheuig arferol. Gwerthfawrogwn hefyd waith Morfudd yn trefnu raffl gyda gwobrau o safon. Mae aelodau Pwyllgor Rheoli Neuadd Gymuned Talsarnau yn awyddus iawn i gyfleu eu diolch am yr ymdrech arbennig yma. Oherwydd rhai costau annisgwyl yn ystod yr haf hwn o rai miloedd, gwnaed apêl am gymorth a chefnogaeth. Ymateb i’r apêl hwnnw oedd y cyngerdd hwn. Gwnaed elw sylweddol o £1200 sy’n swm anrhydeddus iawn. Felly diolch yn gynnes iawn. Byddai’n braf meddwl fod y weithgaredd hon wedi bod yn ysbrydoliaeth ac yn sbardun i grwpiau lleol eraill yn ein cymuned sydd yn gweld gwerth yn y neuadd arbennig yma sydd gennym, i gynnig eu cefnogaeth hwythau er mwyn sicrhau sicrwydd a pharhad. Rydym yn agored iawn i syniadau ac yn falch o dderbyn unrhyw gymorth i gadw pethau i fynd. Diolch eto, un ac oll.
CYNGERDD NADOLIG YSGOL TALSARNAU
Neuadd Gymunedol Talsarnau
Gyrfa Chwist Nos Fawrth, Rhagfyr 17 am 6.00 o’r gloch
Nos Iau, Rhagfyr 12 am 7.30 Croeso cynnes i bawb!
Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau calonnog i Cai Henshaw ar ddod yn gyntaf yng nghystadleuaeth derfynol World Skills Carpentry yn yr NEC yn Birmingham ac ennill y Fedal Aur. Bu iddo ennill y Fedal Arian yno y llynedd hefyd. Roedd Cai yn cynrychioli Adran Adeiladwaith a Pheirianneg Coleg Meirion Dwyfor. Mae Cai yn fab i Sioned (Rhosigor gynt) a Stephen, Minffordd. Dymunwn bob llwyddiant iddo i’r dyfodol. Rhodd Diolch i Angharad Morris am y rhodd o £10. Genedigaeth Llongyfarchiadau mawr i Mark a Beci, 8 Cilfor, ar enedigaeth eu merch fach yn ddiweddar. Ein dymuniadau gorau i’r ddau deulu ar yr achlysur hapus. Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â’r Parch Bob Hughes, Clogwyn Melyn yn ei brofedigaeth fawr o golli ei wraig, Sheila. Roedd yn wraig annwyl iawn yng ngolwg pawb. Cydymdeimlir ag ef hefyd wrth iddo golli ei frawd oedd yn byw yng Nghanada.
Cydnabyddiaeth Dymuna Maureen Williams, Cefntrefor Fawr, Talsarnau, ddiolch i bawb sydd wedi bod yn garedig tuag ati wrth iddi ddechrau ar ei thriniaeth yn Ysbyty Gwynedd. Diolch yn arbennig i Deulu Ty’n Fron sydd wedi bod gyda hi yn yr ysbyty, yn gefn ac yn gymorth iddi, ac am eu caredigrwydd a’u gofal amdani ar amser anodd. Mae’n gwerthfawrogi pob dim yn fawr iawn. Rhodd a diolch £10 Taith Galway Yn y rhifyn diwethaf, addawsom nodi faint a gasglwyd at Hospis Galway yn dilyn y daith ddiweddar - €5,240.84.
13
HYSBYSEBION
Telerau gan Ann Lewis 01341 241297 ALUN WILLIAMS TRYDANWR GALLWCH HYSBYSEBU *YN Cartrefi Y * Masnachol BLWCH HWN * Diwydiannol AM £6 Ya Phrofi MIS Archwilio Ffôn: 07534 178831
e-bost:alunllyr@hotmail.com
14
Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
LLYFRAU
Diawl Bach Lwcus Geraint Davies (Gwasg Carreg Gwalch, £8.50) ‘Mae caneuon fel plant,’ meddai Geraint Davies (aelod o Hergest, Mynediad am Ddim a grwpiau eraill) – mae gan bob un ei stori. Efallai mai ‘Hei, Mistar Urdd’ yw ei gân enwocaf – ac mae honno’n llawer mwy na chân plant. Mae’r gyfrol hon yn casglu ynghyd straeon o Lanymddyfri, Abertawe a’r Borth; yn sôn am ddylanwadau o Merêd i Joan Baez, ac am brofiadau o weithio gyda Grav.
Nadolig yn y Cartref Luned Aaron (Gwasg Carreg Gwalch £5.95) Mae ‘Adfent’ yn golygu siocled i blant heddiw. Dyma gyfrol sy’n ailddarganfod traddodiadau’r Nadolig yn y cartref a all fynd ar goll ynghanol prysurdeb yr ŵyl heddiw. Lluniau lliw hyfryd, clawr caled – mae’n addurn yn ogystal â bod yn bleser i’w ddarllen.
ANFON Y GWCW
Mae’n debyg na fyddai neb yn gwadu mai William Williams Pantycelyn yw emynydd disgleiriaf a mwyaf dylanwadol Cymru. Ond yr oedd o’n llawer mwy nag emynydd; roedd o’n fardd, ysgolhaig, gwyddonydd, ffermwr, gwerthwr llyfrau a the a llawer iawn o bethau eraill. Mae un peth yn sicr, roedd ganddo hiwmor iach a gallai chwerthin yn harti ar ei ben ei hun wedi tro trwstan neu ddoniol. Byddai yn hoff o wneud penillion diniwed a doniol i’w deulu a’i gydnabod ac rwy’n siŵr y byddai yn gwmni difyr iawn o’i adnabod. Mae yna ddarn o un pennill ganddo wedi dod yn bur adnabyddus. Rhan o gerdd ydyw a anfonodd adre i Bantycelyn pan oedd ar daith bregethu yn y Gogledd: ‘Hed, y gwcw, hed yn fuan,hed, aderyn glas ei liw , Hed oddiyma i Bantycelyn, dwed wrth Mali mod i`n fyw: Hed oddiyno i Lanfair Muallt, dwed wrth Jack am gadw`i le, Ac os na chaf ei weled yma, caf ei weled yn y ne.’
Mae Williams yn defnyddio hen gonfensiwn yma. Fe gofia darllenwyr Llais Ardudwy sut yr anfonodd Branwen neges o Iwerddon at ei brawd yng Nghymru gan ddefnyddio drudwen ac, wrth gwrs, mae Cynan yn ei gerdd o Facedonia yn anfon y nico i ardd Glandŵr Byw Iaith – Taith i fyd y yn Sir Fôn at Wil a Megan. Llydaweg Rhywbeth tebyg sydd yma hefyd, Aneirin Karadog lle mae Williams yn anfon y gog (Gwasg Carreg Gwalch, £8.50) at Mali ei wraig ac wedyn at Jack Mae’r teulu hwn newydd i Lanfair-ym-muallt. ddychwelyd o Lydaw. Ond nid gwyliau haf oedd eu hymweliad. Ond pwy oedd Jack? Wel, mab William a Mali oedd o – yr ail Aeth y Prifardd Aneirin Karadog, Laura ei wraig, Sisial ac fab ac ysgolhaig arbennig iawn. Erwan eu plant a Mukti’r ci i fyw Anfonwyd Jack (neu yn swyddogol John) Williams, am flwyddyn i wlad y tad-cu a’r Pantycelyn [1754-1828] i Ysgol fam-gu.
Ramadeg Caerfyrddin. Yn fuan iawn daeth i wybod mwy na’i athrawon ac aeth yn ei flaen i Ysgol Ystradmeurig yn Sir Geredigion at yr ysgolhaig enwog Edward Richard. Yma eto tyfodd mewn dysg ac ni allai’r ysgol ddysgu mwy iddo. Un diwrnod, gwelodd John Williams Esgob Tyddewi, John Warren a’i wraig ar y stryd yng Nghaerfyrddin. Penderfynodd fentro a mynd at yr esgob gan ddweud: ‘Fy arglwydd, y mae yn hysbys i’ch arglwyddiaeth fy mod wedi dysgu yr holl a allaf yn y sefydliad hwn, a chan nad wyf yn ewyllysio treulio fy amser mewn segurdod, yr wyf mewn cyfyng gyngor beth i’w wneud, hyd oni ddelwyf i oedran i gael fy urddo.’ Ymddengys bod yr esgob wedi cymryd ato braidd gan y bachgen ifanc hy’, ond diwedd y gân oedd i Jack gael swydd fel athro yn ei hen ysgol dan nawdd yr eglwys ac yn nes ymlaen cafodd ei urddo yn ddiacon ac wedyn yn offeiriad. Wrth ei holi cyn ei ordeinio ni ofynnodd yr Esgob Warren fwy na dau gwestiwn iddo. Mae’n debyg fod yr Esgob ofn bradychu ei anwybodaeth ei hun wrth ofyn mwy i’r bachgen disglair. Cytunodd i’w ordeinio a rhoi cyngor iddo beidio cyfeillachu â’r Methodistiaid. Mewn cromfachau fel petai, hanes diddorol ydi hanes John Warren. Fel bron y cyfan o esgobion Cymru yn y 18fed ganrif, roedd yn hollol ddi-Gymraeg heb unrhyw gydymdeimlad â’r werin. Roedd yn ei swydd i bleidleisio dros y Llywodraeth yn Nhŷ’r Arglwyddi ac i fwynhau bywyd bras ar gorn y plwyfolion tlawd. Wedi bod bedair blynedd yn Nhyddewi, symudodd i esgobaeth frasach Bangor lle daeth i helynt melltigedig. Penododd nai iddo, plentyn dan oed, yn gofrestrydd yr esgobaeth a cheisiodd ddiswyddo’r is-gofrestrydd. Gwrthododd hwnnw adael ei ystafelloedd na rhoi’r ’goriadau i’r esgob. Torrodd yr esgob i mewn i ystafelloedd y cofrestrydd ac yn ei wylltineb ymosododd hwnnw a’i glercod ar ei Arglwyddiaeth hefo pistolau. Aeth yr esgob yn orffwyll a cheisio setlo’r mater gyda’i ddyrnau nes y llwyddodd ei wraig ei lusgo o faes y gad. Bu’n rhaid i’r esgob ymddangos o flaen ei well ym Mrawdlys
Amwythig ond daeth oddi yno’n groeniach maes o law. I ddychwelyd at John Williams, fe gafodd swydd yn gurad yn Llanfair-ym-muallt. Er ei fod yn ysgolhaig gyda’r disgleiriaf roedd yna remp yn gymysg â champ. Roedd yn or-hoff o ddiodydd meddwol, bai digon cyffredin yn ei oes, hyd yn oed ymhlith clerigwyr. Mae hanes iddo fod yn gwasanaethu mewn angladd yn Llanfair dan ddylanwad y botel a bu bron iddo a disgyn i mewn i’r bedd wrth iddo adrodd y geiriau, ‘Pridd i’r pridd, lludw i’r lludw.’ Gallodd un o’r galarwyr ei arbed rhag cwymp ond wedi mynd adref, teimlodd y fath euogrwydd nes penderfynu newid ei agwedd yn llwyr ac ni fu diod yn fagl iddo byth wedyn. Bu John Williams yn athro ac wedyn yn brifathro Coleg Iarlles Huntington yn Nhrefeca. Wedi marwolaeth ei dad yn 1791 symudodd i Bantycelyn at ei fam i fod yn gefn iddi ac i amaethu’r hen gartref. Ysgrifennodd a phregethodd lawer ac fe gasglodd emynau ei dad at ei gilydd i’w hargraffu. Erbyn ei hen ddyddiau, daethai yn eithaf cyfoethog a defnyddiai’r cyfoeth yma yn helaeth i helpu rhai mewn angen. Gofynnwyd iddo ryw dro pam na fuasai’n cyfansoddi emynau fel gwnaeth ei dad. Ei ateb oedd, ‘Na, mae fy nhad wedi canu digon.’ Ond roedd y ddawn ganddo. Sylweddolodd fod un emyn o eiddo ei dad yn Saesneg yn boblogaidd iawn:
‘O`er those gloomyhills of darkness Look, my soul; be still and gaze...’
Teimlai y dylai’r Cymry hefyd gael cyfle i ganu emyn mor gyfoethog ac fe’i trosiodd i ni: ‘Dros y bryniau tywyll niwlog ...’ Tydi’r emyn ddim yn Caneuon Ffydd; mae ei ysbryd cenhadol yn ddiarth i ni bellach. Ond gallwn ddweud ‘Amen’ wrth ddarllen neu ganu geiriau buddugoliaethus y pennill olaf: ‘Gwawria, gwawria, hyfryd fore, Ar ddiderfyn fagddu fawr, Nes bod bloedd yr euraid utgorn Yn atseinio’r nen a’r llawr Holl derfynau Tir Emaniwel i gyd.’ JBW
15
HARLECH
PRIODAS
Diolch Dymuna Edwin Jones, Eithinog, Tŷ Canol ddiolch yn ddiffuant iawn i bawb am y cardiau, y negeseuon ffôn, yr ymweliadau a’r ymholiadau a dderbyniwyd pan fu yn glaf yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar. Gwerthfawrogwyd pob cymorth yn fawr iawn. Rhodd a diolch £10 Diolch Diolch i Marian Daniels am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu ei thanysgrifiad. Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â theulu y ddiweddar Sue Downes, Tri Deg Tri, Ffordd Uchaf yn ei phrofedigaeth wedi gwaeledd hir. Mae llawer yn cofio ei hwyneb siriol pan oedd yn cadw siop wlân yn Harlech beth amser yn ôl. Gwella Dymunwn wellhad buan i Yvonne Jones, 14 Tŷ Canol ar ôl ei damwain anffodus yn ddiweddar. Swyddfa’r Post Deallwn y bydd y Post Teithiol yn ymweld â maes parcio Bron-y-Graig ddwywaith yr wythnos nes bydd wedi cael cartref parhaol. Cofiwch edrych amdano a’i ddefnyddio cymaint ag y medrwch er mwyn dangos bod angen Swyddfa’r Post arnon ni yn y dref.
Llongyfarch Llongyfarchiadau gan y teulu i gyd i Mrs Bronwen Williams, 16 Tŷ Canol, a fydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed ar y 6ed o fis Rhagfyr. Rhodd £10
16
Carreg filltir nodedig Pen-blwydd hapus iawn i’r wraig arbennig yma. Mi fydd Carol O’Neill yn dathlu pen-blwydd mawr yn 60 oed ar Ragfyr 27 eleni. Gobeithio gei di amser ffab yn dathlu hefo’r teulu a dy ffrindiau i gyd. Cariad mawr oddi wrth Steve y gŵr, Leah a Sara y genethod a’r teulu i gyd. Dymuniadau gorau hefyd gan Ferched Caer! Rhodd £10 Pen-blwydd arall Anfonwn ein dymuniadau gorau i David John, 30 Tŷ Canol ar ddathlu pen-blwydd arbennig yn ddiweddar. Sefydliad y Merched Harlech Croesawodd y llywydd Jan Cole yr aelodau i’r cyfarfod a gynhaliwyd yn Neuadd Goffa Harlech nos Fercher, 13 Tachwedd, a rhoddodd groeso arbennig i Gadeirydd y Ffederasiwn, Meinir Lloyd Jones. Rhoddwyd cardiau pen-blwydd i aelodau oedd yn dathlu penblwydd ym mis Tachwedd. Darllenwyd y llythyr o’r Sir a nodwyd dyddiadau o bwys. Fe fydd y te Nadolig yn y Cemlyn brynhawn dydd Mawrth 11 Rhagfyr am 2 o’r gloch. Ar ôl seibiant te, fe aethom ymlaen i gynnal y Cyfarfod Blynyddol. Rhoddodd y swyddogion fras hanes eu gwaith. Ail-etholwyd Jan Cole yn Llywydd a’r swyddogion eraill yn ôl am flwyddyn arall. Diolchodd Meinir Lloyd Jones i gangen Harlech am yr holl waith y maen nhw’n ei wneud drwy gydol y flwyddyn.
CYRIL WILLIAMS Brodor o Harlech oedd Cyril Williams, 20 Tŷ Canol, a fu farw yn frwychus o sydyn ganol mis Rhagfyr, ac un o gymeriadau anwylaf y dref. Roedd gwên ar ei wyneb yn barhaus ac roedd yn barod iawn ei gymwynas. Roedd hefyd yn un garw am dynnu coes. Cafodd ei wraig, Maureen, gystudd hir cyn ei marwolaeth ddechrau’r flwyddyn ac roedd Cyril yn driw iawn iddi ac yn ofalgar ohoni ar hyd y cyfnod y bu’n wael ei hiechyd. Ei gyfraniad mawr i’r ardal hon oedd ei waith yn arwain y Frigad Dân ran-amser. Criw o ddynion oedd yn gweithio rhanamser oedd ei gyd-weithwyr fel yntau ond roedd graen ar bopeth a wnai Cyril ac roedd parch mawr iddo yn yr ardal hon a thu hwnt. Cydymdeimlwn a’i fab Mark a’r teulu ac â’r teulu ehangach yn eu profedigaeth.
Llongyfarchiadau i Siân Gilbody a Robert Guest o Swydd Surrey ar eu priodas ddiweddar. Mae Siân yn ferch i Maggie a John Gilbody ac yn wyres i’r diweddar Ken a Blod Jones 23 Y Waun. Cafwyd darlleniad Cymraeg o’r ‘Briodas’ o waith Dic Jones gan gyfnither Siân, sef Leah O’Neill. Dyna’r tro cyntaf i’r Gymraeg gael ei chlywed yn yr eglwys leol. Rhoddwyd blodau’r briodasferch ar fedd ei nain yn Eglwys Llanfihangel. Anfonwn ein dymuniadau gorau i’r pâr Creigiau Harlech ifanc. Deallwn fod y tîm Ricsio [Plant Mewn Angen] wedi derbyn nifer Sul y Cofio o gerrig Harlech i’w dosbarthu Daeth tyrfa fawr iawn eleni i’r ar eu taith i Lundain. Bu Linda gwasanaeth wrth y Gofeb yn Soar, Cae Gwastad yn brysur Harlech ar ôl bod yn yr Eglwys yn paentio cerrig gyda lluniau o mewn gwasanaeth am hanner Pudsey arnyn nhw a chyfeiriad awr wedi naw. Cymerwyd y ddau wasanaeth gan Pam Odam. at y stryd fwyaf serth yn y byd. Cafodd gyfle i’w cyflwyno i Matt Darllenwyd y Cyfarchiad a’r Baker ar y bore Sadwrn cyn Kohima gan Roy Gamlin. Cymerwyd rhan gan Fand Arian iddyn nhw seiclo i fyny Llech. Harlech gyda Ceri Griffith yn canu’r Last Post a’r Reveille. Gosodwyd y torchau pabi gydag Edmund Bailey, yr Uchel Siryf, yn cychwyn, ac yna’r gwahanol fudiadau yn gosod eu blodau pabi, ac yn darfod gyda’r gwahanol deuluoedd yn gosod eu rhai nhw i gofio am eu rhai annwyl. Hoffai’r Lleng Brydeinig ddiolch i bawb a gymerodd ran, ac i bawb sy’n gosod blodau ac yn edrych ar ôl y Gofeb drwy gydol y flwyddyn.
Siop Spar Mae’n chwith meddwl fod y siop wedi cau. Diolch i’r staff am eu gwasanaeth dros y blynyddoedd. Hyderwn y daw rhywun arall i gymryd eu lle.
Yn dilyn yr holl sylw a’r cyhoeddusrwydd, cawsom neges gan Adele Keown oedd yn aelod o’r Tîm Ricsio. Dyma gyfieithu geiriau Adele: ‘Ro’n i’n aelod o’r Tîm eleni ac roedd rhywun o Harlech wedi peintio’r cerrig hardd yma inni. Rydw i wrth fy modd efo nhw ac yn meddwl y cadwa i’r garreg ges i er mwyn fy atgoffa o’r croeso cynnes gawson ni gan bobl Harlech.’ Da yntê!
HAMDDEN HARLECH AC ARDUDWY
Bu’r Ganolfan yn llwyddiannus yn diweddar efo dau gais am grantiau. Y cyntaf gan Chwaraeon Cymru am £1497 tuag at mwy o offer a hyfforddiant ar y Wal Ddringo. Yr ail grant yn un mwy sylweddol o £50,000 gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru - Cynllun Cymunedau Treth Gwaredu Tir. Pwrpas y grant hwn yw gwella’r ardal o amgylch y ganolfan trwy dacluso a phlannu coed ffrwythau a llwyni, costau tuag at oleuadau ar y ffordd a’r maes parcio, trwsio’r ffordd ac hefyd ailosod yr hen ffenestri yn y pwll nofio. Y gobaith yw gwella’r cyswllt cymunedol a gwirfoddoli i wella’r amgylchedd o amgylch y ganolfan trwy weithio gyda grwpiau cymunedol, ysgolion ac ati. Rydym yn gobeithio trefnu diwrnod agored ar Ionawr 26 i roi mwy o fanylion am y gwaith a hefyd gobeithio denu pobl a grwpiau cymunedol i gefnogi’r prosiect. Angen gwirfoddolwyr Rydym yn chwilio am aelodau bwrdd gwirfoddol sydd â phrofiad mewn AD ac mewn Cyfrifo. Yn ddelfrydol, gyda chefndir proffesiynol yn y naill neu’r llall o’r meysydd hyn, byddai’r rolau gwirfoddol yn gallu cynorthwyo i reoli’r tîm yn y ganolfan ac wrth baratoi a chynnal cofnodion cyfrifo’r ganolfan. Os oes gennych gefndir addas yn y meysydd hyn ac yn awyddus i gynorthwyo gyda rhedeg eich canolfan hamdden leol, byddai’n wych clywed gennych. E-bostiwch eich CV i volunteer@ harlechardudwyleisure.org.uk
Teulu’r Castell Croesawyd yr aelodau gan y Llywydd Edwina Evans. Dymunwyd gwellhad buan i Menna Jones oedd wedi cael damwain ym Mhorthmadog ac wedi bod yn Ysbyty Gwynedd ac wedi treulio peth amser yn Ysbyty Dolgellau. Braf iawn oedd gweld bod Maureen Jones hefyd yn gwella. Croesawyd Beti Mai Miller oedd wedi dod atom i ddangos i ni sut i addurno cacen Nadolig. Cawsom lawer o syniadau, a’r cacennau yn edrych yn hardd iawn.
DYDDIADUR Y MIS MIS RHAGFYR
6 6
7 7
8 11 12 12 12 15
17 17 18 22 Rhoddwyd un gacen yn wobr raffl, ac roedd pawb yn disgwyl am y ticed lwcus. Hefina Griffith oedd y person ffodus. Mi oedd y gacen werth ei gweld; yr un orau dwi wedi ei gweld ers llawer blwyddyn, ac yn well na rhai a welais i yn Siop Harrods yn Llundain. Cawsom de wedi ei baratoi gan y Pwyllgor. Diolch yn fawr i bwyllgor y Triathlon a Roc Ardudwy am eu rhodd diweddar. Diolch Hoffai Menna Jones, Calgary, Bron y Graig, ddiolch i bawb am eu caredigrwydd tra bu yn Ysbyty Dolgellau ac wedi dod adref, ond yn anffodus oherwydd salwch ni fydd yn gyrru cardiau Nadolig y flwyddyn yma, ond mae hi’n dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb. Rhodd £10 Gwasanaethau’r Sul RHAGFYR 8 Engedi am 2.00 Myfyrdodau’r Ŵyl 15 Jerusalem am 2.00 Christopher Prew 22 Rehoboth am 2.00 Neges y Nadolig
Ratz Alley yn Neuadd Goffa Harlech Cyngerdd Cantorion Gogledd Cymru, Theatr y Ddraig, Bermo, 7.30 Bingo, Caffi’r Pwll, Harlech, 2.30 Cinio Nadolig Clwb Rygbi Harlech, Nineteen.57, 7.00 Cyngerdd Côr Bro Meirion, Eglwys Sant Tanwg, Harlech, 7.30 Gwasanaeth Carolau Eglwys Pedr Sant, Llanbedr am 6.30 Cymdeithas Ted Breeze Jones ym Mhlas Tanybwlch, ‘Adar y Gambia’ am 7.30 Gyrfa Chwist, Neuadd Gymunedol Talsarnau, 7.30 Festri Lawen, Nineteen.57, 7.00/7.30 9 Llith a Charol, Eglwys Llanfihangel-y-traethau, Ynys, Talsarnau, 11.00 [amser newydd] Cyngerdd Nadolig Ysgol Talsarnau, 6.00 Carolau ’81 gyda Côr Meibion Ardudwy, Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy, 7.00 Cyngerdd Nadolig ym Mhlas Aberartro, Llanbedr Côr Meibion Ardudwy a ‘Cwlwm Pump’, 7.30. Mae tocynnau yn brin iawn [£10] Noson Garolau yn Nineteen.57, Islawrffordd
Cysylltwch â Mai Roberts ar: mairoberts4@btinternet.com Croeso adref Croeso adref i Suzanne a Richard ac Isla fach, Hiraethog gynt, sydd yma ar eu gwyliau o Awstralia. Siwr bod y teulu wrth eu bodd!
Dathlu Dydd Calan 2020 1 Ionawr 2020
Dyweddïo Llongyfarchiadau i Siôn Alun Williams a Natasha Evans, Aely-garth ar eu dyweddïad tra yn Efrog Newydd yn ddiweddar.
• Straeon • Creu Afal Calennig • Canu calennig • Anrhegion bach
Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â Karen Kerry a’r teulu yn eu profedigaeth o golli ei chwaer yng nghyfraith, sef gwraig ei brawd Gareth, yn y Trallwng yn ddiweddar.
Eglwys Tanwg Sant, Harlech, 3.00 – 4.00
Hen Lyfrgell Harlech, 11.00 – 12.30 Digwyddiad am ddim Croeso i bawb
Cyngerdd Band Harlech
Cymdeithas Dwristiaeth Harlech efo Cronfa Partneriaeth Eryri
ENGLYN DA NYTH Ni fu saer na’i fesuriad - yn rhoi graen Ar ei grefft a’i drwsiad; Dim ond adar mewn cariad Yn gwneud tŷ heb ganiatâd. Roger Jones, 1903-1982 17
Dymuna Wyn ag Olwen, Erw Wen, Ty’nybraich, Dinas Mawddwy, Nadolig Dedwydd a Blwyddyn Newydd ddymunol i bawb o’u teulu, ffrindiau a chydnabod yn ardal Ardudwy.
Mae Ella Wynne Jones, Ty’n y Bonc, Llandecwyn, am ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’w chyfeillion i gyd.
Hoffai Joy a Dylan, Ysgubor Hen, Eisingrug ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’r teulu a’u ffrindiau yn yr ardal.
Dymuna Gwenda a Glyn Davies Nadolig Llawen i’w ffrindiau yn Llanbedr ac Ardudwy, fel ardal, a Blwyddyn Newydd lewyrchus ac iach i bawb.
Ni fydd Hefin Jones, Arfor yn anfon cardiau eleni. Er hynny, hoffai ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’w gyfeillion.
Dymuna Emrys a Delyth [Glan-y-wern gynt] ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb yn deulu a ffrindiau yn yr ardal.
MINS PEIS
Beth am roi cynnig ar wneud mins peis gyda thoes a ddefnyddir i wneud Bisgedi Aberffro yn lle crwst arferol? Rysait Bisgedi Berffro 200g blawd plaen, 150g menyn, 50g siwgr caster. Rhwbio’r menyn i mewn i’r blawd, ychwanegu’r siwgr a’i droi’n does. Ei roi yn yr oergell i oeri. Ei ddefnyddio yn y dull arferol i wneud mins peis. Gellir amrywio beth i’w roi ar y top, darn arall o’r toes wedi’i dorri i siap seren, cymysgedd crwmbwl neu frangipan, hwyrach, neu mae Linda Soar yn dweud ei bod hi’n rhoi darn o bâst almwn yng nghanol y briwfwyd.
SGWARIAU BRIWFWYD
250g menyn 100g siwgr caster euraidd (fe wnaiff un cyffredin y tro) llwy de o fanila a sinamon 140g o semolina neu reis wedi’i falu 250g blawd plaen 2 lwy fwrdd o siwgr a chwarter llwy de o sinamon wedi’i gymysgu. Briwfwyd - 2 lwy fwrdd o siwgr a chwarter llwy de o sinamon wedi’i gymysgu i’w daenu. Dull: Twymo’r popty i 180C neu ffan160C, nwy 4. Curo’r menyn, fanila, sinamon a’r siwgr gyda chwisg. Ychwanegu’r blawd a’r reis/semolina a’i ffurfio’n does. Gadael iddo oeri am rhyw 10 munud. Haneru’r toes a phwyso un hanner ar y tun. Taenu’r briwfwyd dros y toes gan adael 1cm o amgylch y tun. Rholio gweddill y toes rhwng papur pobi i 20cm sgwâr a’i osod ar ben y briwfwyd. Selio’r ochrau a defnyddio fforc i wneud tyllau. Pobi am rhyw 25-30 munud nes yn euraidd. Taenu’r siwgr a’r sinamon ar ben y saig. Gadewch iddo oeri cyn ei dorri’n sgwariau.
18
Ni fydd Tyddyn Hendre eto eleni yn anfon cardiau Nadolig. Byddwn yn cyfrannu tuag at Ward y Galon, Ysbyty Gwynedd. Dymunwn bob dymuniad da am Nadolig Llawen llawn iechyd i bawb o’r teulu, ffrindiau a darllenwyr Llais Ardudwy. Morfudd, Hefin a Mari.
Hoffwn ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda iawn i’m ffrindiau a’m cymdogion yn yr ardal. Pob hwyl a iechyd i chi yn 2020. Cofion, Beti Parry, Dyffryn Dymuniad y teulu oedd cadw’r cyfarchion uchod yn y papur.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda Jerry a Janice ‘Tymhorau a Rhesymau’ Stryd Fawr Harlech
Dymuna Trefor ac Annwen a’r teulu, Plas Uchaf, Talsarnau, Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’w teulu a’u cyfeillion, a phob bendith yn 2019.
Dymuna John a Gwyneth Richards, Hafan Deg, Bryn Eithin, Llandecwyn ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’w holl gyfeillion.
CYFARCHION Dyma gyfarchion gan Ieuan Ty’n Coed ar gerdyn Nadolig a dderbyniais pan gyrhaeddais oed y pensiwn. Evie M Jones Cyfarchion ar gyrraedd rheng yr ‘Henuriad’ Mor hwylus yw llyfr Leusa, - yntau Brown Cânt o’i bres bob gaea’, Mae’n oes heb neb mewn eisia’, Rhaid mawrhau y dyddiau da. Ac ar gerdyn Nadolig arall: Hen Robin Pen y Bryniau A’i goesau’n denau iawn Am nad oedd briwsion iddo Hedodd i lawr un pnawn. Hen Robin Pen y Bryniau Ganfyddodd gelyn coch Wrth Eglwys fach Llanenddwyn Nepell o dŵr y gloch. Hen Robin Pen y Bryniau Ys gwn i aiff o’n ôl? Mae brâth yng ngwynt y Rhwygyr A’r iâ dros fryn a dôl. Ieuan Jones
Caffi’r Pwll Nofio Harlech Dydd Sadwrn, Rhagfyr 7, am 2.30 Tocynnau: £1 y gêm Croeso cynnes i bawb! Diolch am gefnogi.
Cynnig Gofal Gofal Plant Cynnig Plant Cymru Cymru Addysggynnar gynnar aagofal Addysg gofal
30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi’u 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant hariannu gan y Llywodraeth i rieni cymwys sy’n gweithio wedi’u gan y Llywodraeth i rieniam cymwys ac sydd âhariannu phlant tair a phedair oed, a hynny hyd at sy’n gweithio 48 ac wythnos sydd â phlant tair a phedair oed, y flwyddyn. a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Amfwy fwyoofanylion fanylion cysylltwch cysylltwch gyda Am gydag Uned Gofal Plant Gwynedd a Môn Uned Gofal Plant Gwynedd a Môn Ffôn: 01248 352436 Ffôn: 01248 352436 E-bost: gofalplant30awr@gwynedd.llyw.cymru E-bost: gofalplant30awr@gwynedd.llyw.cymru
CYNGOR CYMUNED HARLECH Cyn dechrau cyfarfod y Cyngor yn swyddogol cafwyd cyflwyniad gan Martin Hughes am ei ymweliad ag Iwerddon diwedd Mawrth eleni. Eglurodd Mr Hughes bod yr ymweliad hwn wedi’i drefnu gan Gylch Cyfeillgarwch Trefi Caerog Gogledd Cymru a’i fod ef wedi cael gwahoddiad fel aelod o’r grŵp hwn gyda Chastell Harlech. Aeth ymlaen i ddangos sleidiau o’r daith a rhoddodd hanes rhai mannau o bwys. Diolchwyd iddo am y cyflwyniad diddorol hwn. Ar ran y Cyngor cydymdeimlodd y Cadeirydd â theulu’r diweddar Mr Richard Powell Williams a fu’n aelod o’r Cyngor hwn am sawl blwyddyn. MATERION YN CODI Toiledau ger y Castell Mae’r toiledau uchod mewn cyflwr da ond angen paent. Cytunwyd i roi hyn ar yr agenda nesaf ym mis Chwefror. Grŵp Adfywio Harlech Adroddodd Freya Bentham bod awgrym wedi ei dderbyn i newid enw’r grŵp uchod i ‘Fforwm Cymunedol Harlech’ a chytunodd yr aelodau i hyn. Mae Carol Williams, Rheolwr Newidiadau’r Swyddfa Bost, wedi cysylltu yn chwilio am leoliad i gael post symudol yn y dref am ddwy awr ar ddydd Mercher ac Iau, i gychwyn cyn gynted â phosib. Trefniant dros dro fyddai hyn nes byddai lleoliad parhaol wedi ei gael i leoli swyddfa bost, hefyd nododd bod amryw wedi datgan diddordeb mewn cael y swyddfa bost o fewn eu busnes. Cytunodd Freya Bentham gysylltu ymhellach gyda Ms Williams. CEISIADAU CYNLLUNIO Newidiadau allanol a mewnol i newid defnydd y storfa yn rhan o’r man arwerthu – Morfa Stores, Ffordd Glan y Môr, Harlech. Cefnogi’r cais hwn. Hepgor y cyrn simdde ffug a chadw’r siediau yn y gerddi cefn, 1-4 Nant y Mynydd, Hwylfa’r Nant, Harlech. Cefnogi’r cais hwn. Codi estyniad unllawr ar flaen yr adeilad ac estyniad deulawr yn y cefn – Gwesty’r Llew, Pen Dref, Harlech. Cefnogi’r cais hwn. UNRHYW FATER ARALL Diolchwyd i Mr Steve O’Neill am dorri’r gwair ar hyd ochr y ffordd ger stad Tŷ Canol, hefyd am osod potiau blodau ger y fynedfa. Cafwyd gwybod gan Gordon Howie ei fod wedi tynnu’r teiar oedd yn beryglus ar y dringwr yng nghae chwarae Llyn y Felin ac y bydd yn gosod teiar newydd yn fuan. Diolchwyd iddo am wneud y gwaith. Datganwyd pryder y Cyngor bod cerrig wedi eu gosod o amgylch y Gadair Dweud Stori yng nghae chwarae Brenin Siôr heb gysylltu na chael caniatâd y Cyngor i wneud hyn.
NOFIO
Bu plant Ysgol Talsarnau yn llwyddiannus iawn yng Ngala Nofio yr Urdd yn ddiweddar. Dymunwn bob lwc i Anna Mitchelmore a fydd yn mynd ymlaen i gystadlu yng Nghaerdydd yn y rownd derfynol yn y gystadleuaeth nofio ar y cefn i ddisgyblion B3 a B4.
19
RICSIO PLANT MEWN ANGEN AR DAITH DRWY ARDUDWY
DRINGO LLECH - Llun: Linda Soar
SIOP SPAR, HARLECH - Llun: John Powell Jones
STRYD FAWR, HARLECH - Llun: John Powell Jones
GWAELOD LLECH, HARLECH - Llun: John Powell Jones
TAL-Y-BONT - Llun: Ray Owen
GORSAF DÂN, HARLECH - Llun: Ceri Griffith
LLANABER - Llun: John Williams
_
Llwyddwyd i godi £47.8 miliwn drwy ymdrechion ‘Plant Mewn Angen’ eleni. Deallwn fod yr ymgyrch ricsio wedi codi £8.5 miliwn. Y bonws mawr i ni yn yr ardal hon yw fod lluniau gwych o Ardudwy ar hyd yr arfordir wedi eu darlledu trwy wledydd Prydain. Siawns y bydd ymwelwyr yn tyrru yma y flwyddyn nesaf wedi iddyn nhw weld y fath olygfeydd. Roedd yn bleser gweld y bobl ifanc yn gwneud mor dda.