Llais Ardudwy Rhagfyr 2021

Page 1

• Mae’r traffig yn y pentref ar stop ar yr adegau gwaethaf a hynny am gyfnodau estynedig.

• Nid oes llawer o drafnidiaeth gyhoeddus.

• Caiff hyn effaith ar fusnesau sydd wedi trefnu i dderbyn nwyddau neu gwsmeriaid ar adegau arbennig.

• Mae pentrefwyr yn ofnus rhag cerdded drwy draffig trwm ac maen nhw’n ofnus o ymateb rhai gyrrwyr.

• Credir y buasai llai o nwyon gwenwynig ar ffordd osgoi nag sydd yn y pentref ar hyn o bryd ar adegau prysur.

Llais Ardudwy 70c RHIF 515 - RHAGFYR 2021 Gwrthod Ffordd Osgoi Llanbedr Camarwain! Stynt! Gwarthus!

• Pan fo tagfeydd traffig, mae mwg o’r ceir yn niweidiol iawn i’r pentrefwyr.

• Mae mwy a mwy yn trefnu gwyliau yng Nghymru oherwydd y pandemig.

Mabon ap AnnwenGwynforHughes

• Mae’n beryg croesi’r bont pan fo cerbydau yn gorfod gwasgu heibio ei gilydd.

• Teimlir nad yw’r ardal am ddenu pobl i sefydlu busnesau heb fod gennym ffyrdd addas ar gyfer cerbydau mawr.

Llun: Facebook

• Cwyna rhai pentrefwyr eu bod wedi cael eu taro gan geir.

‘Mae’r penderfyniad yn hollol anghywir a dim byd mwy na stynt i gael sylw tra bod llygaid y byd ar COP26. Rwyf yn gwerthfawrogi’r brys i ddelio â newid hinsawdd ond nid wyf wedi fy argyhoeddi o gwbl bod canslo’r ffordd gyswllt yn rhan o’r ateb byd-eang i’r argyfwng.’

Cofiwch arwyddo’r ddeiseb ar https://deisebau.senedd.cymru - mwya’n byd, gorau’n byd! ‘Mi ges sioc o glywed y newyddion siomedig yma. Cafodd cymuned Llanbedr a’r ardal eu camarwain yn llwyr gan Lywodraeth Cymru. Codwyd ein gobeithion y byddai ffordd osgoi Llanbedr yn cael ei gwireddu, ond heddiw mae’r gobeithion hynny wedi eu chwalu. Mae’n ergyd drom i’r ardal.’

• Mae pobl yn bryderus ynghylch sut gall ambiwlans neu’r frigad dân deithio i Lanbedr os bydd damwain ar adeg brysur.

• Mae pobl yn cadw draw o Lanbedr rhag ofn y bydd y traffig yn ddrwg ac maen nhw’n llai tebygol o deithio i dde Ardudwy i siopa neu hamddena.

Y Prif Ddadleuon

• Mae mwy o gerbydau mawrion y dyddiau hyn, mae tractorau yn fwy nag oedden nhw ac mae carafanau a faniau mawrion yn niferus.

2. Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 anwen15cynos@gmail.com772960 Haf Newyddion/erthyglauMeredydd i: 01766hmeredydd21@gmail.com780541,07483857716 HWN A’R LLALL 2 Enw: Mair Wyn Rich. Gwaith: Wedi ymddeol. Cefndir: Hogan o Uwchartro; wedi fy ngeni a’m magu ym Mhenarth, Uwchartro, yr hynaf o blant Sylfanus a Margaret Jones. Yn niwedd y pumdegau bûm yn hynod o ffodus i gael swydd i ddysgu Cymraeg yn Ysgol Daniel Owen, Yr Wyddgrug. Priodi ffermwr felly yma o hyd. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Trwy gadw fy mys ym mhotes pawb (busnesu’n foneddigaidd, gobeithio). Beth ydych chi’n ei ddarllen? Llyfrau hanesyddol yn bennaf a hunangofiannau busneslyd eto. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu?

HOLI

Beth sy’n eich gwylltio? Y funud yma, Evie Morgan am grybwyll y gallwn ateb yr holiadur hwn! Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind?

Rhywun cymwynasgar sy’n barod i estyn llaw heb ystyried unrhyw gost iddo’i hun. Pwy yw eich arwr? Cofiwch bob amser mae gwaed yn dewach na dŵr. Cas gŵr na châr ei dylwyth ei hun! Beth yw eich bai mwyaf? Rhy hoff o siarad a’i gadael hi’n ‘ben-set’. Beth yw eich syniad o hapusrwydd?

Treulio amser yn cymdeithasu efo’n nheulu. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5,000? Ei roi i ‘Water Aid’. Mae gweld ymdrech yr eneth fach i gael dŵr glân i’w theulu yn codi cywilydd arnaf. Yn yr oes fodern hon, fe ddylem allu sicrhau bod cyflenwad o ddŵr glân gogyfer â phawb. Eich hoff liw a pham? Glas mae yna rhyw dangnefedd ar y gorwel lle mae’r awyr las a’r môr yn uno yr ‘hen derfyn nad yw’n darfod’. Eich hoff flodyn? Rwy’n siŵr y dywedai fy nghymdogion yma mai dant y llew gan eu bod yn drwch yn y gwanwyn ond ymhen ychydig fe ddaw bwtsias y gog yn gymysg â hwy a dyna lawnt naturiol a natur ar ei gorau. Eich hoff gerddor? Cerys Mathews. Pa dalent hoffech chi ei chael? Y gallu i arlunio neu hyd yn oed wnïo botwm heb iddo ddisgyn i ffwrdd. Eich hoff ddywediadau? Cân di bennill fwyn i’th Nain fe gân dy Nain i tithau. Er gweiddi yn dragwyddol, ni ddaw i neb ddoe yn ôl. “Rhagorach fil na’r weddi faith, Yw’r weddi fer mewn dillad gwaith.” Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Yn gwerthfawrogi’r ffaith fy mod i’n mwynhau iechyd ac yn dal reit ystwyth a finnau’n hen. Y Diwedd – diolch byth! Cofion, Mair Wyn

3.

Hanes y teulu sy’n amaethu yn ucheldir Efrog rhyw eco o’m mhlentyndod innau. Ydych chi’n bwyta’n dda? Ydwyf doedd yna ddim ’stumog wantan ym Mhenarth. Hoff fwyd? Lobscows mae’n well fyth drannoeth wedi ei aildwymo a dim ond un sosban i’w golchi. Hoff ddiod? Coffi. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Hanna, Wyn, Robin a Tomos (fy wyres a’m wyrion). Fy neiaint Ewart ac Euros; fe gefais i eu cwmni’n ddiweddar a choeliwch chwi fi fe gawsom ni hwyl. Mae’n gwestiwn os yw Ewart yn cofio! Rwy’n edrych ymlaen am gêm rygbi yn Chwefror pan fydd Yr Wyddgrug yn cael cweir gan Blaenau. Lle sydd orau gennych? Ar ben garllef Penarth yn edrych draw am Benrhyn Llŷn. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Yn Seland Newydd gyda Jane, fy chwaer.

SWYDDOGION Cadeirydd Hefina Griffith 01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, ann.cath.lewis@gmail.comLlandanwg Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn y Llidiart, Llanbedr Gwynedd LL45 llaisardudwy@outlook.com2NA Côd Sortio: 40-37-13 Rhif y Cyfrif: 61074229 Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, iwan.mor.lewis@gmail.comLlandanwg CASGLWYR NEWYDDION YLLEOLBermo Grace Williams 01341 280788 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Mai Roberts 01341 242744 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Jennifer Greenwood 01341 241517 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Gosodir y rhifyn nesaf ar Rhagfyr 31 a bydd ar werth ar Ionawr 6. Newyddion i law Haf Meredydd yn syth wedi’r Nadolig os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw’r golygyddion o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei Dilynwchllafar.’ ni ar ‘Facebook’ @llaisardudwy GOLYGYDDION 1. Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 pmostert56@gmail.com780635

Sylwadau ar Ffordd Osgoi Llanbedr

Mae Lee Waters yn aelod o Dasglu’r Cymoedd, Llywodraeth Cymru ar gyfer creu 17 km o ffordd ddeuol ar yr A465 yn Rhondda Cynon Taf rhwng Dowlais a Hirwaun. Dechreuwyd ar y gwaith ym mis Medi. Mae hyn yn digwydd ar ran o’r ffordd sy’n mesur 17km. Y bwriad ydi gwneud y ffordd yn fwy diogel, yn enwedig o amgylch cyffyrdd ac ardaloedd sydd â gwelededd gwael a hefyd gwella llif y traffig a’i gwneud hi’n haws i basio moduron eraill.

Gellid dweud yr un peth am lawer o bentrefi bach ar arfordir Ardudwy, yn enwedig Llanbedr. Ond ymddengys nad oes ots am Lanbedr.

Mae ffordd osgoi yn Llanddewi Efelffre [A40] yn Sir Benfro yn mynd rhagddi fel y nodwyd gan Lywodraeth Cymru. Dyma pam:. ychydig o leoedd sydd ar gyfer pasio cerbydau arafach, gwelededd [visibility] gwael, mae sawl mynediad i’r ffordd, gall trafnidiaeth yr haf gynyddu dros 30%. Mae’r A40 yn rhedeg trwy Llandewi Efelffre lle mae cyfyngiad cyflymder o 40mya. Mae hyn yn cael effaith ar amseroedd teithio. Mae ysbyty canser newydd wedi’i chynllunio ar gyfer Felindre, Caerdydd. Does neb yn dadlau yn ei herbyn. Ond byddai codi’r ysbyty yn golygu clirio rhan o warchodfa natur i greu mynedfa. Bydd y datblygiad yn dinistrio dolydd coediog 23 erw. Beth yw barn Lee Waters ar hyn? Gellid lleoli’r ysbyty newydd ar safle Ysbyty’r Mynydd Bychan gerllaw lle mae canolfan driniaethau eisoes. Dywed aelodau’r Ymddiriedolaeth na allant ddeall pam mae angen safle newydd!

Mae Llanbedr ymhlith y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru am fynediad at wasanaethau, sy’n cael ei fesur ar sail amseroedd teithio i wasanaethau hanfodol fel siopau bwyd, meddygfeydd, ysgolion a busnesau. Cafodd llawer o bobl eu taro gan draffig yn y pentref. Roedd y bobl hyn naill ai yn cerdded ar y palmant cul iawn ar y bont neu ar ochr y ffordd. Gwelodd un pensiynwr ei neges yn cael ei daro allan o’i dwylo. Mae eraill wedi cael eu cyffwrdd gan fodur neu wedi cael eu taro. Roedd cynnydd mawr ym maint y traffig yn Llanbedr eleni. Dyna pam roedd hi’n amhosib teithio drwy’r pentref ar adegau. Roedd tagfeydd traffig yn y pentref a phobl yn flin. Yn ystod y 54 mlynedd rydw i wedi byw yn Llanbedr, gwelais lawer o newidiadau. Roedd yn arfer bod yn bentref bywiog a phrysur ond rŵan, am rhyw 6-7 mis o’r flwyddyn beth gawn ni ydi anhrefn. Yn aml iawn, nid yw pobl leol yn mentro allan oherwydd eu bod yn gwybod beth fydd yn eu disgwyl bedlam! Mae pobl Llanbedr hefyd yn gorfod ystyried y datblygiad newydd gan Cymru Lân Ltd. Fe wyddom am eu cynlluniau i godi storfa ar gyfer cyrff anifeiliaid y tu ôl i Gapel Salem i fyny ffordd un lôn. Bydd hyn yn golygu mwy o lorïau. Efallai y bydd 5 y dydd neu hyd at 5 i 10 yn yr wythnos. Faint o lorïau fydd yn teithio trwy’r pentref? Rydym yn gwybod bod angen diogelu’r amgylchedd ond ni allwn laesu dwylo a gweld y pentref yn llenwi efo traffig. Rhaid inni feddwl am ein hiechyd, am les a diogelwch ein cymuned, heb sôn am ragolygon gwaith yn yr ardal. Clywsom yn ddiweddar bod Lee Waters ‘wedi picio i’r pentref i gael naws y lle’. A bu’n holi barn aelodau Cymdeithas Eryri, corff a fu yn erbyn y ffordd osgoi. Faint o’r aelodau sy’n byw yn y pentref? Beth ar y ddaear oedd ar feddwl Mr Waters? Ddaru o ddim cysylltu â’r trigolion, y Cyngor Cymuned na’r cynghorwyr yn ystod ei ‘ymweliad’. Pam nad aeth yr Is-weinidog trwy’r sianelau cywir? A oes achos o esgeuluso dyletswydd? Yn fy marn i, mae wedi dangos amharch llwyr tuag at y sefyllfa hon. Credaf y dylid cael pleidlais o ddiffyg hyder yn yr Is-weinidog Lee Waters a’i bwyllgor oherwydd y ffordd y mae wedi delio â hyn. Maen nhw wedi diystyru’r Awdurdodau yn llwyr, y rhai sydd wedi tendro ac yn enwedig cymuned Llanbedr. Crëwyd deiseb gan y Cyng Annwen Hughes y gallwch ei llofnodi ‘Galwad ar y Llywodraeth i ailystyried ei phenderfyniad i dynnu’n ôl o Ffordd Osgoi Llanbedr’. Cofiwch arwyddo’r ddeiseb. Jane Taylor Williams

Cred Lyn Eynon, ymgyrchydd lleol dros Gaerdydd, fod canslo ffordd osgoi Llanbedr yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn taclo rhai cyfranwyr at newid hinsawdd, ond bod angen iddi gymryd golwg ehangach. Hollol gywir! Mae uwchraddio cylchfannau Llanfairfechan a Penmaenmawr am gostio dros £55 miliwn. Gosodwyd y pris hwn yn 2019. Ffordd osgoi Bontnewydd/Caernafon Wrth gyfiawnhau’r ffordd osgoi, dywed Llywodraeth Cymru: y bydd hi’n haws teithio heb dagfeydd traffig, bydd hi’n haws teithio rhwng Penrhyn Llŷn, Porthmadog, Bangor a’r A55, bydd lleihau ar sŵn a llygredd aer i bobl sy’n byw ar yr A487, bydd yn fwy diogel i bobl deithio rhwng trefi, bydd yn haws i gerbydau nwyddau trwm deithio yn yr ardal, bydd yn fwy diogel teithio rhwng Caernarfon a Bontnewydd drwy gerdded a beicio.

3

Siop ‘pop-up’ yng Nghwm Nantcol Hyfryd oedd gweld arddangosfa mor amrywiol o bethau wedi cael eu darlunio gan Mari Wyn Lloyd, Hendre Waelod, yn yr hen ysgol, Cwm Nantcol, y mis diwethaf mygiau, ‘coasters’, nodlyfrau, calendrau, cardiau, lluniau a llawer mwy! Ar gael hefyd roedd dewis o bethau wedi eu gwneud o bren gan Ashley Hill: powlenni, ysgrifbinnau a choed ’Dolig bach. Cyfle gwych i brynu anrhegion Nadolig anarferol! Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf â Carol a’r teulu oll ar farwolaeth ei mam, Gwen Simpson (Jones gynt, Bryn Deiliog), ar 28 Hydref. Y diwrnod ar ôl yr angladd yn Amlosgfa Bangor ddydd Gwener, 12 Tachwedd, cynhaliwyd gwasanaeth i gladdu ei llwch ym Mynwent Llanbedr. Colli Gwenda Bu farw Gwenda Titley yn dawel yn Ysbyty Gwynedd ar 22 Tachwedd gyda’i phlant Kevin, Julie Parry a Siôn wrth ei hochr. Roedd Gwenda’n chwaer i Lorraine a’r diweddar Michael a Barbara. Ganwyd hi yn fferm Gwynfryn yn 1941, yn ferch i Owen Gwynfryn Thomas (oedd yn gwasanaethu yn y Fyddin ar y pryd) a Sarah (Sally) Thomas. Roedd Gwenda’n ferch hapus ac weithiau’n ddireidus o gwmpas Gwynfryn a Llanbedr wrth iddi dyfu. Pan oedd hi’n 15 oed, dechreuodd weithio fel prentis yn siop trin gwallt Price, Bermo. Yn drasig iawn, fe laddwyd ei thad mewn damwain ffordd ym mis Ionawr 1958. Ar ôl priodi yn 1961, symudodd gyda’i theulu yn weddol aml i wahanol rannau o Loegr, yr Alban a Dwyrain yr Almaen gyda’i gŵr a’r ddau blentyn hŷn; gyda chyfnodau yng nghanol yr holl symud yn byw yn Llanfair. Dychwelodd i Lanbedr yn 1976 a bu’n byw yn Llanbedr ers hynny. Bu’n gweithio yn Hafod Mawddach, Bermo am flynyddoedd lawer ac roedd yn boblogaidd gyda’i chydweithwyr. Bu hefyd yn gweithio yn y caffi ym Maes Artro ac yn Chwarel Hen, Llanfair. Roedd wrth ei bodd yn garddio, yn treulio amser gyda’i theulu (yn enwedig ei hwyrion a’i hwyresau) a’i ffrindiau ac yn gwylio S4C. Roedd yn edrych ymlaen at bob rhifyn o Llais Ardudwy. Roedd gan Gwenda sawl problem iechyd ond roedd yn teimlo’n weddol dda tan ychydig wythnosau cyn ei marwolaeth. Bydd teulu a ffrindiau Gwenda yn teimlo hiraeth mawr ar ei hôl.

4 LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL

AnnwylLlythyr Gyfeillion o Lanbedr, Anfon atoch i ddweud wrthych ein bod yn hynod o drist o glywed am farwolaeth sydyn ein cyfaill, Heinrich Bayer. Roedd Heinrich ymhlith y rhai cyntaf i ymgyrchu dros gymodi gydag aelodau’r teuluoedd oedd yn rhan o griw awyren John Wynne. Iddyn nhw y mae’r diolch am y weithred o gyflwyno’r Groes o Haearn i Huchenfeld. Roedd Heinrich yn weithredol iawn wrth sefydlu’r gefeillio rhwng Huchenfeld a Llanbedr. Gweithiodd am dri degawd dros gymodi a sefydlodd sawl cwlwm o gyfeillgarwch rhwng pobl Llanbedr a’i gymrodyr yn yr Almaen. Roedd Herr Bayer hefyd yn gyfrwng yn nyfarniad y Groes Hoelion i Lanbedr yn 2011. Llanbedr yw’r unig bentref yng Nghymru i gael yr anrhydedd hon. Roedd Llanbedr yn agos iawn at ei galon. Hyderwn y caiff orffwys mewn heddwch ac atgyfodi mewn gogoniant. ‘Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw’n blant i Dduw.’ Cofion caredig atoch ar ran Grŵp y Groes Hoelion yn Huchenfeld. Petra Alexy

HEINRICHCOLLIBAYER

Eglwys Sant Pedr, Llanbedr GWASANAETH CAROLAU Dydd Sadwrn, Rhagfyr 18 am 2.30 Mae rhifau yn gyfynedig oherwydd Cofid. Cysylltwch â Dianne Howie i sicrhau sêt ar 01341 241550

TEYRNGED

Teyrnged fach i Dad Trydydd mab John a Harriet Evans, Nantcol oedd fy nhad, sef Morris Eurwyn Evans, neu Moi Dolbebin fel roedd rhai yn ei alw un o’r pump o hogia a anwyd iddyn nhw yn fferm bellaf y Cwm. Hogia ddaeth ar ôl i bum merch ddod gynta, er fod dwy ohonyn nhw wedi marw’n fabanod.

Erbyn i Iorwerth gyrraedd roedd y teulu wedi symud i Gellibant. O fanno ar ddydd Sadwrn, medda fo y bydda Nain yn ei yrru i Dyffryn i nôl cig at y Sul. Cerdded yr holl ffordd dros yr Allt Fawr i bentre Dyffryn ac yn ôl. Fel ’na oedd petha’ cyn yr Ail Ryfel Byd. Mi fydda’n cael ei wynt ato mewn un lle ar y ffordd adre, medda fo paned a chacan gan wraig Caerffynnon.

Derbyniol tu hwnt i hogyn 10 oed. Cawsom fynd i’w hen gartref yn Nantcol diwrnod cyn ei flwydd yn 90 oed, a diolch i Gwyndaf Maesygarnedd, cawsom fynd i mewn a chael picnic bach hefo’n gilydd tra roedd Dad yn hel atgofion; y ddau ohonom yn synnu i feddwl fod Nain wedi cael naw o blant yn y tŷ ac roedd hanner y seis adeg honno! O Gellibant i Glanrhaeadr a fanno y bu farw ei dad, fy nhaid, pan roedd Dad ond yn 14 oed cyn iddyn nhw symud efo Nain i Maesygarnedd. Felly, yn naturiol, roedd o’n gwybod am bob man bron yn y Cwm. Lle cymdogol oedd o’n ei gofio, pobol yn helpu ei gilydd, a phobol yn aml yn mynd i gartrefi ei gilydd am swper fin nos. Digon o sgwrsio a rhoi’r byd yn ei le. Mynd i ysgol fach y Cwm wnaeth o ac ymlaen i Ysgol Sir y Bermo. Am y trên bob dydd i fynd i’r Bermo ond nid o Faesygarnedd. Yn ystod yr wythnos mi fuo’n aros efo’i chwaer Ogwen, Rhinogwen, yn Pantgwyn, Dyffryn. Ac o stesion ‘Dyffryn on Sea’ roedd o’n mynd i’r ysgol fawr. Roedd wrth ei fodd yn aros hefo Anti Rhinogwen, roedd y bwyd yn aruthrol o dda medda fo, ac un o’i jobsys oedd mynd a William Henry am dro yn y pram a cherdded tua milltir i nôl dŵr o’r ffos! Aethom yno hefo’n gilydd ar ôl ei ben-blwydd a hel atgofion melys o pan roedd y ddau ohonom yn blant ac yn aros ym Mhantgwyn. Doedd ganddo fawr i ddeud wrth yr ysgol gan nad oedd wedi dysgu llawer o Saesneg yn ysgol fach y Cwm, ond roedd yn cael marciau llawn yn y Gymraeg a maths bob tro medda fo. Cafodd sylfaen yno i ddechrau dysgu barddoni a chynganeddu’n nes ymlaen. Yn ddigon da i fod yn nhimau Ymryson y Beirdd, a Thalwrn y Beirdd ar y radio ymhen blynyddoedd wedyn. Roedd o’n mynd i fyny i’r Cwm i gystadlu mewn tîm Ymryson ac wrth ei fodd yn gwneud.

5

Pan ddaeth dyddiau Maesygarnedd i ben, mi symudodd y teulu o’r Cwm waeth i chi ddeud i’r Fron Fron-dostan. O’r Fron dach chi’n gweld Dolbebin ’danoch chi a phwy fyddai’n meddwl y bydda fo’n byw yno, yn feiliff i Syr John Black, y dyn ceir, wedi cyfnod byr yn Coedbachau ar ôl priodi fy Mam? Y dyn gwledig a’r dyn trefol yn dod at ei gilydd ac yn gneud yn dda iawn efo’i gilydd; i Dad adawodd Syr John y ffarm ar ôl iddo farw ac roeddem yn hapus iawn ein byd yna am flynyddoedd. Doedd o ddim yn ddyn i greu gelynion, er bod rhai yn cofio ei fod wedi gneud gelyn o gipar yr afon unwaith. Wedi meddwl cael samon yn bresant i un o’r teulu oedd o, a dyma fynd at yr afon yn Dolbebin a chael gafael ar samon braf efo gaff. Pwy welodd o yn dwad i’r golwg wrth iddo gerdded am adra ond y cipar? Gollwng y samon yn y tir anwastad. Deud wrthon ni’r plant am fynd am adra. Y cipar yn gofyn iddo dynnu ei wellingtons ar ôl ei ‘searchio’ a doedd dim byd yn y wellingtons chwaith! Chafodd y cipar mo’r gaff, ond mi fu’n rhaid i dad fynd o flaen ei well yn Penrhyndeudraeth. Rhoi’r gora i ffarmio yn 1970 a mynd i Landanwg a Harlech i gadw siopau a gwerthu petrol yn Llanfair wrth ymyl fan hyn. Rhyfedd, siopwr oedd Morris ei ewyrth oedd hefyd wedi ei fagu yn fferm Nantcol cyn iddo fo fynd i America. Yn y gwaed, mae’n rhaid. Troi yn hanner ffarmwr eto yn yr 80au. Ffarm wningod y tro yma, yn Llanystumdwy, a chydig o anifeiliad eraill i ddiddanu plant. Mi weithiodd yn galed yn troi’r lle yn atyniad poblogaidd i bobol o bell ac agos. Roedd hefyd yn daid ffeind dros ben. Mae Beth yn cofio Taid yn aml yn rhoi tenar iddi a deud wrthi am beidio deud wrth Mam! Hefyd pan roedd Beth a’i chneitherod, Beth a Grace, yn aros hefo nhw un tro, dyma Taid yn stopio wrth y banc a rhoi £50 yr un iddynt; tua ugain mlynedd yn ôl oedd hynny a’r merched yn dal i siarad am y peth heddiw! Arafu dipyn wedyn ac ymddeol i Ty’n Ddôl yn Llanystumdwy. Beth yn cofio bod yn Ty’n Ddol ac un diwrnod roedd buwch wedi dianc a disgyn i’r ffos. Neidiodd Dad a Nathan, gŵr Beth, i’r car a helpu’r fuwch allan o’r ffos; dyma nhw’n ôl i’r car a Dad yn rifersio yn syth i mewn i gar arall; ‘wpsi’, medda fo a rhyw eiriau eraill hefyd, medda Nathan wrth Beth! Mi ddaeth mynd o un sioe gŵn neu ras gŵn i un arall o gwmpas y gogledd yn rhan bwysig o’i fywyd. Byswn yn ei ffonio a gofyn ‘sut hwyl gefaist yn y sioe gŵn heddiw Dad?’ a weithiau, os na enillodd, y defaid oedd yn cael y bai! Roedd yn rhaid cael lle i fagu cŵn a’u dysgu nhw wrth symud am y tro ola i Glanywern, Pentrefelin. A thra medrodd o, roedd yn dal i gystadlu a dilyn y cystadlaethau yn aml rhai Cymru hefyd, yn y gogledd neu’r de. Mi oedd yn deud pan oedd y salwch wedi dechra deud arno fo ei fod wedi cael ‘innings’ da. Dywediad o fyd chwaraeon ac roedd chwaraeon yn cyfri llawer iddo fo, golff a phêl-droed yn arbennig. Ond yn fwy na dim ei deulu oedd yn bwysig iddo fo, fel yr oedd o yn bwysig i’w deulu. Ei wraig, Mair, a ninnau ei blant, Bryn, Rhys a Ler, fel roedd o hyd yn fy ngalw, a’i wyrion, Aneurun, Nia, Gareth, Beth, Grace a Beth fi a’u plant nhwtha, ac hefyd plant Mair, sef Tim, Andy a Sali a’u plant nhw. Mae pob un, bron, yn ddigon hen i fedru ei gofio ac i drysori eu cof annwyl ohono. Dwi’n gwybod y byddai pawb yn gwerthfawrogi’n fawr ein bod wedi cael adnabod Morris Morris Nantcol, Morris Dolbebin neu Morris Pentrefelin, dim gwahaniaeth lle Morris oedd o i bawb. Roedd o bob amser yn barod i wneud cymwynas i unrhyw un a dwi am orffen hefo’i hoff englyn sef: I gymwynas Na fliner ei chyflawni, nid â gwg Ond â gwen ac egni, Na chwyd arian amdani, Na dy lais i’w hedliw hi. Diolch Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb a ddangosodd bob cyfeillgarwch i Dad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf;. Roedd yn siarad hefo’i hen ffrind o Gwm Nantcol bron bob dydd, sef Evie Morgan. Diolch i Huw a fu’n ffyddlon iawn, John Garn, Alwyn a Gaynor a llawer o rai eraill hefyd. Diolch yn fawr i chi i gyd; dwi’n gwybod fod Dad wedi gwerthfawrogi cyfeillgarwch pawb. Ler, Rhodd a diolch £20

6 DewchNEWYDDHYBRIDCOROLLAiroicynnig ar yrru’r Corolla newydd! Mae ’na ganmol mawr i hwn! Ffordd info@harlech.toyota.co.ukwww.harlech.toyota.co.uk01766HarlechNewyddLL462PS780432 facebook.com/harlech.Twitter@harlech_toyota TOYOTA HARLECH LLANFAIR A LLANDANWG Betty Grant a Christine Freeman yn cyflwyno torch ar Sul y Cofio ar ran Sefydliad y Merched, Llanfair. Pabi coch Roedd yn hyfryd gweld y pabi coch yn tyfu yng ngardd Rosy Berry yn Llanfair a hynny yn ystod y cyfnod pan oeddem yn cofio am yr holl filwyr fu farw mewn rhyfeloedd. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda Mared Rhys Edwards Hoffem ddiolch yn fawr i bawb am y dymuniadau gorau a gawsom ar achlysur genedigaeth Mared Rhys. Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n teulu a’n ffrindiau oll. Osian, Mererid a Mared Rhys Rhiwgoch, Llanfair £10 Merched y Wawr Wedi ymdrin â materion yn ymwneud â’r gangen, cyflwynodd Eirlys y wraig wadd am y mis, sef Mari Lloyd o Gwm Nantcol. Ar ôl graddio mewn ffotograffiaeth o Brifysgol Caer, daeth adra i’r Cwm a sefydlu busnes ffotograffiaeth. Cawsom hanes ei phrif brosiect a elwir yn 3400 acer cofnod o waith ffermydd o gwmpas ei chartref. Daeth â nifer o arteffactau oedd yn rhan o’i gwaith prosiect i’w harddangos. Mae ganddi stiwdio bellach yn yr hen ysgol yng Nghwm Nantcol. Bu’n tynnu lluniau ar gyfer Hybu Cig Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru yn ogystal â thynnu lluniau plant, teuluoedd ac anifeiliaid anwes. Roedd yn noson gartrefol a fwynhawyd gan bawb. Janet a ddiolchodd ar ran y gangen. Diolch Hoffwn ddiolch o galon i’m teulu a’m ffrindiau am yr holl gyfarchion, cardiau ac anrhegion a gefais wrth i mi ddathlu fy mhen-blwydd yn ddiweddar. Diolch i bawb am fod mor garedig. Mary Ellis, Rhodd £20 Priodas ddiemwnt Pob dymuniad da i Maureen a Terry Jones, Bryn Tanwg, Llanfair, ar ddathlu eu priodas ddiemwnt ar 21 Hydref. Llongyfarchiadau, eich dau, a chofion cynnes atoch, oddi wrth y teulu a’ch ffrindiau oll yn Llanfair ac Ardudwy. Babi Newydd

DIOLCH

Diolch i Danial Owen am ei waith yn paratoi’r lluniau ar gyfer ein calendr eleni. Mae’n fab i Dafi a Gwen, 7 Ael y Glyn, Harlech. Ar hyn o bryd, mae’n astudio ar gyfer doethuriaeth ac yn darlithio ym Mhrifysgol

Ym mis Gorffennaf 1966 cyrhaeddais yr Hen Wlad am y tro cyntaf, efo Dad a Charlie, fy mrawd. Glanio yn Southampton a chymryd y trên i Gaerfyrddin lle roedd Glyn Ifans, prifathro Ysgol Uwchradd Tregaron yn disgwyl amdanom. Y cyngor a gawsom ganddo: gofyn am docynnau i Carmarthen, gan na fyddai’r gwerthwr yn ein deall wrth ofyn am Gaerfyrddin!

Daeth Cynllun yr Iaith Gymraeg i Chubut yn 1997, a chyfle newydd i’r rhai oedd yn dymuno ail afael yn iaith eu plentyndod a hefyd i eraill nad oedd o dras Gymreig i ymuno â’r bywyd Cymraeg. Fel canlyniad mae tair ysgol gynradd ddwyieithog Cymraeg/Sbaeneg yn y dalaith. Un yn Nhrelew, un yn y Gaiman ac un yma yn Nhrevelin. Mae’r gwersi i oedolion yn dal ar-lein, fel canlyniad i’r pandemig, a hynny wedi rhoi cyfle i ddysgwyr o ardaloedd pellach allu ymuno. Newyddion da ar y cyfan felly. Petaech chi’n gallu bod yn unrhyw fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddolpwy fyddai o neu hi, a pham? Baswn yn hoffi bod yn esgidiau Ann Griffiths, Dolwar Fach am ddiwrnod, efallai. Yn gallu treiddio i ddyfnderau ei phrofiadau ysbrydol, ac yna’n medru eu mynegi gyda’r fath angerdd a didwylledd, mewn geiriau a phenillion swynol a choeth.

Cyhoeddwyd erthygl dan yr enw ‘Capiau Cwyr yr Hydref’ yn ein rhifyn diwethaf yn eich annog i gadw llygad am ffwng capiau cwyr lliwgar mewn porfeydd a chaeau agored. Ymhen ychydig ddyddiau anfonwyd y llun uchod atom gan Deborah Williams, Gwrachynys, Talsarnau gan nodi ei bod wedi eu gweld yn agos iawn i’r tŷ ar y 3ydd o Dachwedd. Y bardd o Batagonia, Mary Green de Borda, oedd bardd mis Tachwedd Radio Cymru. Wedi ei magu ar y fferm deuluol yn Nhrevelin, yn yr Andes, roedd hi’n siarad Cymraeg yn y cartref, y capel a gyda chymdogion, a Sbaeneg yn yr ysgol a thu hwnt. Treuliodd sawl cyfnod yng Nghymru, yn cynnwys cyfnod yng Ngholeg Harlech, ac mae’n gweithio fel athrawes ysgol uwchradd ym Mhatagonia a chefnogi dysgwyr Cymraeg newydd yn Y Wladfa. Beth yw eich atgofion o ymweld â Chymru am y tro cyntaf?

Lerpwl. Bu tynnu lluniau yn anodd ers iddo symud o Harlech yn 2015. Mae wrth ei fodd yn tynnu lluniau yn y Rhinogydd a rhannau eraill o’r fro pan fydd o gartref.

Y profiad nesa’ oedd Eisteddfod Genedlaethol Aberafan, agoriad llygaid yn wir!

Ai dim ond yn y Gymraeg ydych chi’n barddoni? Os felly, pam? Ie, yn y Gymraeg, am mai dyna iaith y cartre’, iaith fy magwraeth. Dysgu darllen, dysgu adrodd a chanu ac fel canlyniad mae rhythm a geiriau’r iaith yn nythu yn ddwfn yn yr isymwybod yn sicr. Pan ddaw’r amser i fynegi teimladau, dyma’r ffordd i mi. Fe fuoch chi’n cefnogi dysgwyr newydd y Gymraeg yn yr Andes; faint o ddiddordeb sydd i’r Gymraeg yno o’i gymharu â phan oeddech chi’n blentyn a sut mae hybu’r Gymraeg yno?

YnARDUDWYCALENDRLLAIS2022ysiopaurŵanPris:£5.00AnrhegNadoligdelfrydol

Bardd Mis Tachwedd Radio Cymru

7 BYSEDD Y DIAFOL

Anfonwn ein cydymdeimlad at Einir, Jean, Anwen a’r teulu yn eu profedigaeth o golli eu modryb, Mrs Ella Elinor Edwards, Y Bermo, yn 88 mlwydd oed, priod y diweddar Gwilym (Pantenddwyn gynt), mam Eluned, nain Owain a’i briod Siân a hen nain Harri Gwilym ac Elinor Mai. Trist iawn oedd clywed am farwolaeth Carys Macdonald ar 14 Tachwedd yn 66 mlwydd oed. Carys y Post oedd hi i ni ac yn ferch i’r diweddar Mr a Mrs Lewis Jones, Swyddfa’r Post, Pentreuchaf a’r Aelwyd gynt, chwaer Gruff a’r ddiweddar Lona. Anfonwn ein cydymdeimlad at ei phriod Ian, ei phlant Stuart, Martin, Ffion a Thomas, ei hwyrion Leo a Rhys, ei hwyresau Sophie, Calon ac Elin, ei brawd Gruff a’i pherthnasau yma yn y Dyffryn. Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb RHAGFYR 12 Gwasanaeth Nadolig 10.00 19 Parch Olwen Williams 10.00 25 Bore Nadolig, Llith a Charol 26 Dim oedfa IONAWR 2022 2 Parch Carwyn Siddall 10.00 Cyfarfod Blynyddol y Lasynys Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol (rhithiol) Cyfeillion Ellis Wynne yn ddiweddar. Fel gyda chymdeithasau a mudiadau eraill, fe fu’n flwyddyn llwm o ran gweithgareddau ac o ran agor Y Lasynys i’r cyhoedd. Ac, yn anffodus, er mawr siom i bawb, ni fydd yn bosib cynnal y Plygain yn Eglwys Llanfair fel y bwriadwyd ym mis Ionawr, 2022, oherwydd sefyllfa Covid-19. Ond y gobaith fydd ailagor ar gyfer yr haf nesaf, gyda lwc. A gobeithir, yn sgil hynny, efallai, i ddenu aelodau newydd i’r Cyfeillion yn y flwyddyn newydd. Adroddwyd fod y tir o gwmpas y Lasynys wedi’i gadw’n daclus trwy’r flwyddyn ddiwethaf. Bydd y rhai craff ohonoch wedi sylwi ar giât newydd sydd yn y fynedfa erbyn hyn. Diolch i’r Parc Cenedlaethol am eu cymorth yn hyn o beth. Diolch i Eifion Roberts am ei ofal cydwybodol am y tir dros y blynyddoedd diwethaf ac hefyd i Tecwyn Jones sydd bellach yn ysgwyddo baich y dyletswyddau. Diolch hefyd i’r gwirfoddolwyr a fu’n cadw tu mewn y tŷ yn lân a thaclus. Mae cynlluniau a syniadau newydd a chyffrous i’w trafod yn y dyfodol agos dan arweiniad aelod newydd i’r Bwrdd Rheoli, sef Siân Llywelyn. Edrychwn ymlaen i’r dyfodol.

DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT 8

Plant Cylch Meithrin Y Gromlech, Dyffryn Ardudwy, gyda’r pabi coch a grëwyd ganddyn nhw.

Cydymdeimlad

Diolchgarwch Ar 24 Hydref cynhaliwyd Gwasanaeth Diolchgarwch yn festri Horeb. Trefnwyd y Gwasanaeth gan Mai Roberts gyda nifer o’r aelodau yn cymryd rhan. Cafwyd gwasanaeth bendithiol iawn a diolch yn fawr i Mai am ei drefnu. Cofio Cynhaliwyd Gwasanaeth y Cofio wrth y Gofeb bnawn Sul, 14 Tachwedd am 3.00 o’r gloch. Roedd y Gwasanaeth o dan ofal Alma Griffiths.

9 CYNGOR CEISIADAUTHAL-Y-BONTDYFFRYNCYMUNEDACYNLLUNIO

Trosi i dŷ marchnad agored a gosod gwaith trîn carthion Nant Eos, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Dymchwel y modurdai presennol a chodi tŷ deulawr gyda pharcio cysylltiol a thirlunio. Modurdai, tir ger yr A496, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais ond bod pryder am fynedfa i dai cyfagos.

Cylch Meithrin y Gromlech Derbyniwyd siec teilwng iawn er cof am Beti gan Ken Bellaport, Idriswyn, Llinos a’u teuluoedd. Dymuna pawb sydd ynghlwm â Chylch Meithrin y Gromlech, Dyffryn ddiolch yn fawr iawn iddynt am eu haelioni. Defnyddir y rhodd i barhau â’r gwaith a gychwynwyd gan Beti a’r arloeswyr cyntaf yn ôl yn 1967. Diolch yn fawr iawn.

Gosod mast telathrebu 20m o uchder ynghyd a chompownd offer a gwaith cysylltiol Tir ger Broomfield, Tal-y-bont. Mae’r cais uchod yn newydd a byddai yn cael ei anfon ymlaen at yr aelodau pan fydd ar wefan y Parc.

MATERION YN CODI Grŵp Gwella Dyffryn Ardudwy a Taly-bont Nododd Steffan Chambers nad oedd yn siŵr beth sydd yn digwydd hefo’r Clwb Ieuenctid. Mae diffyg gwirfoddolwyr ond mae’r clwb pêl-droed yn dal i fynd ymlaen. Cafwyd adroddiad gan Kathleen Aikman ynglŷn â’r rhandiroedd a nododd bod gwaith yn digwydd yn fuan. Mae angen mynediad i berson anabl sydd eisiau rhandir a chytunwyd bod angen cysylltu gyda phwyllgor y neuadd ac ADRA ynglŷn â chreu y mynediad hwn. Parc Chwarae Pentre Uchaf Mae grant hyd at £15k i’w gael at ddefnydd y parc chwarae. Mae angen cwblhau’r gwaith erbyn diwedd Mawrth 2022. Byddwn yn gwneud cais am lithren newydd a matiau diogelwch a hwyrach offer chwarae arall a fyddai yn addas i’r parc chwarae. Cytunodd y Cadeirydd ar Edward Williams gael golwg ar beth fyddai yn addas. Sul y Cofio – 14.11.21 Mae gan y Cyngor bum torch pabi coch a chytunwyd i adael rhain mewn lle diogel yn y neuadd ar hyn o bryd. Mae Steffan Chambers wedi cytuno i ffilmio’r gwasanaeth eto eleni ac hefyd wedi siarad gyda Mr Mark Stanton Hughes ynghylch sustem PA. Mae Ms Ceri Griffith wedi cytuno i chwarae’r corn. UNRHYW FATER ARALL Archebwyd baner Cymru newydd i’w gosod ar y polyn a chytunodd Edward Williams i ofalu am hyn. Adroddodd y Clerc ei bod wedi bod yn y fynwent yn ddiweddar a bod y mwsog ar y llwybrau yn beryglus. Cytunwyd i ofyn i Mr Gary Coates a fyddai modd iddo lanhau y llwybrau. Mae tyrchod yn y parc chwarae. Llongyfarchiadau i Tomos Griffiths, Bryn Coch ar ei lwyddiant yn ennill y gystadleuaeth Brechdan i’r Brenin gyda Chris ‘Flamebaster’ Roberts fel beirniad. Enillydd: Twm Griff stêc syrlwyn Cig Eidion Cymru gyda chig moch streipiog crensiog a saws bourbon llus wedi’i lapio mewn crempogau marchruddygl. Dyna i chi frechdan sydd yn dod â dŵr i’r dannedd! Hefyd, llongyfarchiadau i’w wraig dalentog, Lisa ar ennill y 3edd wobr yn y categori 18 oed a throsodd yng nghystadleuaeth ffotograffiaeth ’Steddfota, sef cylchgrawn Cymdeithas Eisteddfodau Cymru. Aled Hall oedd y beirniad a’r thema oedd O na byddai’n haf o hyd! Yn y llun gwelwn Lyn Tecwyn Isaf, Llandecwyn.

ENNILL GWOBRAU Diolch Dymuna Meinir a Gwynfor, Eithinfynydd ddiolch o galon am y cyfarchion a’r caredigrwydd mawr a dderbyniwyd ganddyn nhw ar achlysur genedigaeth William Aron, brawd bach i Elgan, Mared a Gethin.

Mae ôl-rifynnau i’w gweld ar y we. https://bro.360.cymrullaisardudwy/docshttp://issuu.com/neu/papurau-bro/ Llais Ardudwy

PwyllgorGOHEBIAETHyNeuadd Bentref Derbyniwyd llythyr gan ysgrifennydd y pwyllgor yn gofyn a fyddai’r Cyngor yn gallu cyfrannu at y gost o brynu diffibriliwr newydd ar gyfer safle mur allanol y Garej. Mae anawsterau mawr wedi codi gyda’r diffibriliwr presennol oherwydd nid oes modd cael pads a batris newydd iddo. Cytunwyd i dalu am ddiffibriliwr newydd.

10 Ar y 15fed o Hydref 2021 cynhaliwyd ein cyfarfod blynyddol cyntaf ers Medi 2019. Yn dydy’r hen bandemig yma wedi peri problemau dros y ddeunaw mis diwethaf, ac yn parhau i’w wneud hefyd? Cyfle i gyfarfod ein haelodau yw’r gynhadledd ond rywsut dydi cyfarfod ar Zoom ddim yr un peth. Does dim cyfle i gael sgwrs ac ar ôl y cyfarfod mae’r sgrîn yn sydyn iawn yn mynd yn ddu popeth drosodd! Dim cyfle i gael sgyrsiau am rywbeth a drafodwyd yn y cyfarfod. Ac mi oedd rhywbeth i’w drafod. Roedd Goronwy Wynne, ein llywydd, wedi gosod tasg i ni. Roedd o eisiau i ni fynd allan yn ystod chwe diwrnod cyntaf y flwyddyn newydd ac edrych pa flodau sydd i’w gweld. Dydyn ni ddim yn meddwl am flodau yn eu harddwch yng nghanol y gaeaf, nac ydan? Ond mae yna rai. Meddyliwch am yr eithin; roedd y dyn a ddywedodd ”Mi fydda i’n dy garu tra bydd blodau ar yr eithin” ddim yn trio rhoi’r argraff mai dim ond dros dro oedd ei gariad tuag at ei gariad oherwydd mae blodau ar yr eithin trwy’r flwyddyn. Mae’n rhaid gobeithio bod ei gariad yn ymwybodol o hyn, wrth gwrs! Neithiwr roeddwn i’n meddwl am hyn ac mae heddiw yn cychwyn efo haul ac awyr las. Roedd gen i bethau i’w gwneud y bore ‘ma ond wedyn, a’r diwrnod yn rhy braf i’w wastraffu, es i am dro. Mae yna gylchdaith trwy’r coed y byddaf yn ei dilyn yn aml a cherddais hanner milltir i fyny’r ffordd i gyrraedd y fynedfa. Erbyn hyn mae’r rhan fwyaf o’r dail ar y llawr a’r haul yn tywynnu trwy’r brigau’n ddirwystr. Doedd dim blodau i’w gweld yn unman. A fydd gobaith gweld rhai ym mis Ionawr? Ond wrth fynd ymlaen ‘dw i’n gweld ysgallen, nid yn ei blodau ond ar fin blodeuo. Druan bach! Ond mae pawb yn drysu’r dyddiau yma! Mae gweddillion y mwyar duon o gwmpas ond esgus am fwyar ydyn nhw. Maen nhw’n rhy hwyr beth bynnag bydd y diafol wedi poeri arnyn nhw i gyd erbyn hyn, neu rywbeth gwaeth! Ond yng nghanol y mwyar ‘dw i’n gweld blodeuyn, dim ond un ond eto yn dangos balchder. Dydy pethau ddim yn rhy addawol am fis Ionawr! Ond wedyn ddois i ar draws blodau melyn yr eithin yn gweiddi “Rydan ni yma o hyd!” Doeddwn i ddim yn disgwyl gweld unrhyw beth arall ond mi oedd pleser arall i ddod. Wrth gerdded ymlaen gwelais gwpl yn cerdded tuag ataf ac, wrth iddyn nhw nesáu, roeddwn i’n amau eu bod nhw’n siarad Cymraeg efo’i gilydd. “Prynhawn da” medda fi wrth wenu. “Prynhawn da” medden nhw efo gwên lydan ar eu hwynebau. Roedd yn werth mynd am dro a chael haul, awyr iach a geiriau Cymraeg! Nadolig Llawen i chi i gyd! Rob Evans

CYNGORTALSARNAUCYMUNED

Blodau mis Ionawr –beth fyddech chi’n eu gweld? Ymweliad yr Heddlu Croesawyd PCSO Elliw Williams a Paula Stewart i’r cyfarfod i drafod materion yn ywneud â’r gymuned. Cafwyd gwybod ganddynt bod troseddu yn yr ardal hon yn isel ar cyfan. Nododd y Cadeirydd bod y Cyngor wedi bod yn edrych i gael camerau CCTV wedi eu gosod ar y groesffordd ger Bont Briwet ond bod y prisiau oedd wedi eu derbyn yn rhy ddrud. Cafwyd wybod gan PCSO Paula Stewart bod Mr Kevin Jones o Flaenau Ffestiniog wedi gosod camerau CCTV ac y byddai yn anfon ei fanylion ymlaen i’r Clerc. Datganwyd pryder gan yr aelodau bod adran y ddalfa yng ngorsaf heddlu Dolgellau wedi cau a bod hyn yn gadael yr ardal heb heddwas pan mae materion yn codi. MATERION YN CODI Ffordd Osgoi Llanbedr Datganwyd siom gan yr aelodau bod y cynllun hwn wedi cael ei stopio a bod Llywodraeth Cymru wedi dod i benderfyniad i beidio ariannu’r ffordd a gwella’r fynedfa newydd i’r maes awyr, sydd dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru. Nododd y Clerc, fel y Cynghorydd Sirol dros Llanbedr, ei bod wedi mynychu cyfarfodydd gydag Arweinydd y Cyngor a Swyddogion perthnasol Gwynedd i drafod y ffordd ymlaen yn sgil derbyn y penderfyniad hwn. Hefyd roedd wedi cychwyn deiseb yn gofyn i Lywodraeth Cymru ailystyried eu penderfyniad i dynnu yn ôl o gynllun ffordd osgol Llanbedr ac roedd yn annog pawb i lofnodi’r ddeiseb hon. Roedd wedi rhannu llythyr yr oedd Arweinydd y Cyngor wedi ei anfon at Mark Drakeford gyda’i chyd-gynghorwyr ag hefyd gyda Chadeiryddion y Cynghorau Cymuned lleol. ADRODDIAD Y TRYSORYDD Ceisiadau am gymorth ariannol Hamdden Harlech ac Ardudwy £2,077.31 hanner y cynnig precept. CEISIADAU CYNLLUNIO Newidiadau i do’r penty, gosod dwy ffenestr to a ffenestri newydd Glan Meirion, Ynys, Talsarnau. Cefnogi’r cais hwn. Caniatâd Adeilad Rhestredig i ddymchwel penty Adeilad buarth, Glyn Cywarch, Talsarnau. Cefnogi’r cais hwn.

11 CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant Hawliad Iawndal Niwed Personol Materion Sifil Ysgariad a Theulu Cyfraith Amaethyddol Troseddau di-annod Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant PORTHMADOG PWLLHELI ABERMAW 01766 512214/512253 01758 612362 01341 280317 60 Stryd Fawr Adeiladau Madoc Stryd Fawr office@bg-law.co.uk Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd … Cysylltwch â Dioni i siarad am eich bwthyn gwyliau Gwion Llwyd 01341 247200 gwion@dioni.co.uk BUSNES LLEOL ... CWSMERIAID BYDEANG Carol Gŵr y Llety A welaist ti’r rhai a ddaeth gyda’r hwyr O wersyll ffoadur, wedi blino’n llwyr? Bu sawl un yn dweud bod y llety’n llawn A chlywais hwy’n sibrwd, ‘Pa beth a wnawn?’

A deimli di heddiw fod rhyfedd wyrth Yn datod y cloeon, yn agor pyrth? O! tyred, O! tyred, heb oedi mwy, I warchod dy gyd-ddyn drwy’u cofio hwy. gydagPM ymddiheuriad i’r diweddar W Rhys Nicholas LLETY I FFOADURIAID Parodi amserol!

A glywaist wylofain yng nghanol nos A’u gweiddi trallodus draw ar y rhos? Fe garwn ddychmygu fod rhywrai’n dod I achub ffoadur heb ddisgwyl clod.

A weli di ddagrau draw ar y bryn A rheiny yn ddisglair fel eira gwyn? Tra’n gwawrio’n araf tros wlad a thref Mae angen gweithredu trwy wrando’u llef.

A wyt yn eu beio wrth geisio nesáu At lety diogel a hi’n hwyrhau? ‘Roedd yr awel neithiwr yn finiog oer, A llithrai rhyw lesgedd dros wedd y lloer.

ATEBION SGWÂR GEIRIAU Rhif 9 - Gerallt Rhun Derbyniwyd ateb cywir i Sgwâr Geiriau 2 [rhifyn mis Hydref] gan Dilys A Pritchard Merched y Wawr Roedd cryn edrych ymlaen at bnawn Mawrth, 16 Tachwedd o dan ofal Morwena, un ohonom ni. Mae’n aelod ffyddlon a brwdfrydig. Y dasg oedd gwneud cardiau/ addurniadau Nadolig. Roedd y byrddau yn drefnus gydag offer a phatrymau amrywiol i ni eu dilyn. Cafodd Morwena brynhawn hynod o brysur gan fod llawer ohonom angen sylw cyson. Roedd sawl aelod profiadol hefyd. Diolch i Mair, Megan, Morwena a Gwenda am gymryd rhan yn y cwis hwyl. Llongyfarchiadau i Rhiannon Gomer a Margaret Lewis o gangen Dolgellau am ddod yn ail. Dymuniadau gorau i Peggy Parry, Tal-y-bont wrth iddi ymgartrefu yn Llanfairpwll, Ynys Môn; cofiwch y byddwn yn falch o glywed gennych. Trafodwyd amser a man cyfarfod penderfynwyd ar hyn o bryd i gwrdd yn y pnawn am 2.00 yng Nghanolfan Y Pafiliwn. Cost £25 am ddwy awr. Ers blynyddoedd rydym wedi cwrdd yn Theatr y Ddraig ond maent wedi trosi y Parlwr Bach yn swyddfa ag felly dim ond y Parlwr Mawr sydd ar gael i gyfarfodydd. Ar 14 Rhagfyr byddwn yn dathlu’r Nadolig gyda chinio yng Ngwesty Min y Môr. Ar 18 Ionawr byddwn yn cwrdd yn y pnawn dan ofal Pam, aelod gweithgar arall. Ymunodd Llewela â’r Pwyllgor Rhanbarth ar 15 Tachwedd. Mae angen is-swyddogion rhanbarth arnyn

12 Y BERMO LLANABERA

Llongyfarchiadau i Gwenfair Aykroyd, Y Bala; Mai Jones, Llandecwyn; Angharad Morris, Y Waun, Wrecsam; Mary Jones, Dolgellau; Janet Mostert, Harlech. Anfonwch eich atebion i Sgwâr Geiriau 10 at Phil Mostert. [Manylion ar dudalen 2].

nhw. Cynhelir yr Ŵyl Ranbarth yn Neuadd Llanellltyd. Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i holl ddarllenwyr a gweithwyr ffyddlon Llais Ardudwy. Capel Siloam Bydd yr aelodau yn cynnal gwasanaeth bore Nadolig am naw o’r gloch yn Eglwys Crist. Croeso cynnes i chwi ymuno â ni. A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y Pos 10 22 18 23 12 19 16 8 18 13 27 18 15 13 12 27 12 4 1 D 20 22 16 27 24 16 20 12 9 7 18 I 17 15 15 26 4 10 6 2 15 20 15 1 9 15 25 5 16 10 2 10 18 25 15 20 R 26 13 2 15 24 1 12 4 9 10 27 26 18 15 2 16 21 18 22 4 27 15 1 26 15 22 4 27 16 4 27 15 15 11 13 1 4 23 4 7 1 18 11 16 1 6 16 13 13 18 3 20 16 13 14 1 18 24 18 1 15 7 15 20 16 22 12 4 18 15 2 16 19 16 10 20 1 13 24 15 7 Sgwâr Geiriau Rhif 10 - Gerallt Rhun Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i holl ddarllenwyr Llais Ardudwy Gerallt Rhun a Marina 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 D PhRI

13 R J Williams Honda Garej Talsarnau Ffôn: 01766 770286

PRENTISIAETH YN

SWYDD

PRENTISIAETH YN TROI’N Mae deuddeg prentis sydd wedi cwblhau prentisiaeth gyda Chyngor Gwynedd bellach wedi derbyn swyddi o fewn y sefydliad. Yn eu mysg mae Swyddog Cyfathrebu a Marchnata, Technegydd ym maes Priffyrdd, Cynghorwyr Cwsmer, Cymorthyddion Adnoddau Dynol, Is-Arweinydd Ieuenctid a Chymhorthydd Gofal. Hyd yma eleni, mae 30 prentis wedi eu penodi i weithio i’r awdurdod, gyda mwy i ddod dros y misoedd nesaf. Mae bwriad i gynnig swyddi i 20 o brentisiaid bob blwyddyn o hyn Unymlaen.o’rrhai sydd wedi derbyn swydd fel Cydlynydd Gofal Cymunedol i’r Cyngor yw Steffan William Chambers, 23 oed o Ddyffryn “DoesArdudwy.dim dau ddiwrnod yr un fath yn y rôl,” meddai Steffan sydd wedi llwyddo i ddychwelyd yn ôl adref i fyw, diolch i’r cynllun prentisiaeth. “Ro’n i’n gweithio yng Nghaerfyrddin wedi gorffen fy ngradd yn y Brifysgol yn Aberystwyth a phan welais yr hysbyseb am brentisiaethau gyda Chyngor Gwynedd, dyma fachu ar y cyfle i “Erbynymgeisio.hyn,dwi’n astudio gradd feistr gwasanaethau cymdeithasol ac mae hynny o ganlyniad i’r brentisiaeth dwi wedi ei gael gyda’r Cyngor. Gradd mewn gwleidyddiaeth sydd gen i, felly mae cynllun prentisiaeth Gwynedd wedi rhoi’r cyfle i mi ddysgu ac arbenigo mewn maes cwbl wahanol. Dwi’n falch iawn o’r cyfle.” Ers y gwanwyn, mae Steffan wedi derbyn swydd fel Cydlynydd Gofal Cymunedol yng Ngwynedd, wedi iddo gwblhau ei brentisiaeth ddwy llyw.cymru/prentisiaethau.diweddaraf,awdurdodcyfleoeddByddnghymuned,”ynmwynhau’rycynnalynnewid,amlwg,gwaithynynddoeimae’rac’natrigolioniynyweithioYnfeistr.amserflynedd.ôlgoraugweithiogydweithioarwyddrydynwynebu,“Mae’nyôlcyd,falchSteffan Chambers Mae 12 prentis sydd wedi cwblhau i 20 o brentisiaid bob blwyddyn o hyn ymlaen. Un o’r rhai sydd wedi derbyn swydd fel Cydlynydd Gofal Cymunedol i’r Cyngor yw Steffan William Chambers, 23 oed o Ddyffryn Ardudwy. “Does dim dau ddiwrnod yr un fath yn y rôl,” meddai Steffan sydd wedi llwyddo i ddychwelyd yn ôl adref i fyw, diolch i’r cynllun prentisiaeth. “Ro’n i’n gweithio yng Nghaerfyrddin wedi gorffen fy ngradd yn y Brifysgol yn Aberystwyth a phan welais yr hysbyseb am brentisiaethau gyda Chyngor Gwynedd, dyma fachu ar y cyfle i ymgeisio. “Erbyn hyn, dwi’n astudio gradd feistr gwasanaethau cymdeithasol ac mae hynny o ganlyniad i’r brentisiaeth dwi wedi ei gael gyda’r Cyngor. Gradd mewn gwleidyddiaeth sydd gen i, felly mae cynllun prentisiaeth Gwynedd wedi rhoi’r cyfle i mi ddysgu ac arbenigo mewn maes cwbl wahanol. Dwi’n falch iawn o’r cyfle.” Ers y gwanwyn, mae Steffan wedi derbyn swydd fel Cydlynydd Gofal Cymunedol yng Ngwynedd, wedi iddo gwblhau ei brentisiaeth ddwy flynedd. Mae’n gweithio’n rhan amser wrth astudio ar gyfer ei radd feistr. Am ragor o wybodaeth, ewch i www. gwynedd.llyw.cymru/prentisiaethau TROI’N

Y GEGIN GEFN Mae’n braf cael rhywbeth gwahanol i’w fwyta dros y Nadolig, ac mi fyddai i’n hoff iawn o ddilyn y ddau rysáit yma. Gobeithio y gwnewch eu mwynhau. Sgons llygaeron ac oren Rysait Pwys o flawd codi 4 owns o fargarin 5 owns o siwgwr mân ( caster) Tua 8 owns hylif o laeth. 1 owns a hanner o lygaeron wedi eu torri yn eu hanner a’u gorchuddio â blawd. Croen (‘rind’) un oren Pinsiad o halen. Dull Rhowch y blawd, y siwgwr a’r halen mewn powlen, a rhwbiwch y margarin i mewn iddo. Ychwanegwch y llygaeron a’r croen oren a digon o laeth i’w gymysgu. Rholiwch y toes yn wastad a thorrwch gylchoedd allan ohono. Coginiwch ar wres 170°c am 15 munud. Rwlâd Meráng Nadolig Rysait 6 gwynwy 10 owns o siwgwr mân (caster) 2 lwy de o flawd corn 1/2 llwy de o finegar 1/2 peint o hufen dwbwl Tua 8 owns o minsmit Tua 2 llond llwy fwrdd o frandi. Dull Coginiwch y minsmit yn y brandi am ychydig funudau, yna gadewch iddo oeri yn llwyr. Leiniwch y tun gyda phapur pobi. Whisgiwch y gwynwy nes y bydd yn stiff, yna ychwanegwch y siwgwr mân yn ara deg a’i gymysgu bob yn ail. Ar ôl iddo dewychu adiwch y blawd corn a’r finegar a’i gymysgu. Rhowch y gymysgedd yn y tun. Coginiwch am tua 45 munud, gwres 150°c, nes y bydd yn ‘crisp’ a lliw aur. Gadewch iddo oeri yn y tun. Rhowch ddarn o bapur pob ar y bwrdd a throiwch y merang allan arno, yna piliwch y papur pôb oddi ar y meráng. Chwisgiwch yr hufen nes y bydd bron yn stiff a’i daenu dros y meráng a’r minsmit ar ei ben, yna rholiwch y meráng i fyny, addurnwch gyda hufen, cnau Ffrengig a cheirios, neu amrywiaeth o ffrwythau ffres.

Hoffwn ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd. Rhian Mair

prentisiaeth gyda Chyngor Gwynedd bellach wedi derbyn swyddi o fewn y sefydliad. Yn eu mysg mae Swyddog Cyfathrebu a Marchnata, Technegydd ym maes Priffyrdd, Cynghorwyr Cwsmer, Cymorthyddion Adnoddau Dynol, Is-Arweinydd Ieuenctid a Chymhorthydd Gofal. Mae bwriad i gynnig swyddi

Defnyddiwyd geiriau cyntaf yr emyn gan Angharad Price yn ei chlasur o nofel sy’n darlunio bywyd y teulu yn Nhy’n y Braich yn yr un cwm ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf. Yma ceir gorchudd fel arall gorchudd dallineb a gwelir sut y bu i unigolion arbennig iawn fwy nag ymdopi yn wyneb anawsterau enbyd. Ond beth am Hugh Jones ei hun? Does dim unfrydedd hollol ple y ganwyd ef ond yr oedd yn byw yn gynnar yn ei oes yng Nghwm Maesglasau. Fe’i bedyddiwyd yn Eglwys Mallwyd ar 24ain o Dachwedd 1749. Cafodd well addysg nag a fyddai’r rhan fwyaf o blant yn ei gael ac mae’n bosib bod hynny’n arwydd bod ei rieni yn weddol gefnog yn ôl safonau’r cyfnod. Aeth i Lundain yn gynnar a bu’n athro ysgol yno. Yr oedd yn ôl yn ei hen ardal erbyn 1786 ac yn un o gychwynwyr achos y Methodistiaid Calfinaidd ym Mallwyd o gwmpas y flwyddyn honno. Mae’n debyg mai gweithio ar y tir yr oedd yn y cyfnod yma. Ysgrifennodd a chyhoeddodd lawer. Tra roedd yn Llundain ysgrifennodd ‘Cydymaith yr Hwsmon’ yn 1774. Llyfr o fyfyrdodau crefyddol oedd hwn ac mae ysgolheigion heddiw yn unfarn ei fod yn glasur bach o’i gyfnod. Bu’n barddoni llawer hefyd er mai ‘O tyn y gorchudd’ ydi’r unig emyn o’i eiddo sydd wedi goroesi i ymddangos yn y Caneuon Ffydd. Casgliad o’i farddoniaeth ydi ‘Gardd y Caniadau’ (1776).

GorchuddTynnu’r

Roedd yna saith o benillion yn wreiddiol gan Hugh Jones ac fe’i cyhoeddodd yn 1797 yn ei lyfr ‘Hymnau Newyddion etc’. Ar ôl dyddiau Hugh Jones, cynhwyswyd yr emyn yng nghasgliad Morris Davies ym 1835. Un o’r un ardal oedd Morris Davies (1796–1876), mab

Pennantigi Uchaf ac mae clod iddo am sicrhau poblogrwydd yr emyn. Newidiodd Morris Davies ambell i air yna ac acw a thocio’r penillion i lawr i bedwar. Tri phennill yn unig sydd yn Caneuon Ffydd a chredaf mai colled i’r casgliad ydi absenoldeb yr hen bennill olaf: ‘Golch oddiwrthfi fy meiau mawr eu rhi, yn afon waedlyd Calfari, sydd heddiw`n llu o haeddiant dimllawn;trai ni welir arni mwy; hi bery`n hwy na bore a nawn.’

Efallai bod y golygyddion yn teimlo fod yma fwyd rhy gryf i’n chwaeth ni bellach. Pwy a ŵyr?

14 P’run, meddech chi, ydi emyn mwyaf yr iaith Gymraeg? Doedd gan Syr O M Edwards ddim amheuaeth o gwbwl. Roedd o’n bendant nad oes yn yr iaith emyn mwy nag un Hugh Jones Maesglasau: ‘O tyn y gorchudd yn y mynydd hyn; llewyrched Haul Cyfiawnder gwyn o ben y bryn bu`r addfwyn Oen yn dioddef dan yr hoelion dur, o gariad pur i mi mewn poen.’

Cyfieithiadau ydi’r rhan fwyaf o waith Hugh Jones. Yn ei oes ef, roedd y mwyafrif llethol o Gymry yn uniaith Gymraeg ac felly roedd clasuron Saesneg yn bell o’u cyrraedd heb sôn am weithiau mewn ieithoedd eraill. Gwnaeth Hugh Jones. trwy ei lafur enfawr, gymwynas fawr â’i gyd-genedl trwy agor y drws i bobl oedd wedi dysgu darllen yn ysgolion Griffith Jones a Madam Bevan allu deall a gwerthfawrogi gweithiau oedd allan o’u cyrraedd cyn hynny. Heblaw hyn oll, roedd Hugh Jones yn gerddor da hefyd. Cyfansoddodd sawl tôn er nad oes un wedi cyrraedd y Caneuon Ffydd. Yr enwocaf am wn i ydi Capel Cynon (rhif 405 Llyfr yr MC 1929). Cawn sôn ychydig mwy am Hugh Jones y tro nesaf. JBW

Ond nid dyna farn pawb chwaith! Dywedodd y diweddar Athro R T Jenkins fod ‘yn wirioneddol gas’ ganddo’r emyn. Pan oedd yn blentyn yn y Bala cenid yr emyn bron bob tro yn y gwasanaeth cymundeb misol. Ond erbyn gweld casau’r dôn oedd R T Jenkins. Fe ddywed bod yr emyn yn cael ei ganu ‘ar y gyfres o udiadau a eilw ein Llyfr Tonau yn Dorcas’. Felly, chwarae teg ar y dôn roedd y bai ac nid ar yr emyn. Roedd yr Athro wrth ei fodd bod Llyfr Emynau MC (1929) wedi tynnu Dorcas oddi ar y cae fel petai a’i rhoi ar y fainc, hynny yw, wedi rhoi emynau na chenir mohonynt byth bron ar ei chyfer. Fe fyddai wrth ei fodd bod golygyddion Caneuon Ffydd wedi rhoi drop i’r hen Dorcas yn llwyr. Ond beth am yr emyn ei hun? Myfyrdod ydyw mewn gwirionedd ar angau’r Groes a chri am i Dduw symud pob rhwystr sydd ar y ffordd i’r emynydd weld yr hyn a wnaed yn glir yno. Mae’n cydnabod grym angau’r Groes i lanhau ac i achub. Un o ardal Mawddwy oedd Hugh Jones (1749–1825) a’i gartref yng Nghwm Maesglasau. Mae llawer un wedi dychmygu bod Hugh Jones wedi cael ysbrydoliaeth yn harddwch arbennig cwm ei febyd, ei moelydd a’i rhaeadrau a bod ei ddyhead am dynnu’r gorchudd ar Galfaria yn adlewyrchu codiad y niwl oddi ar fynyddoedd Mawddwy.

SAMARIAID LLINELL GYMRAEG 08081 640123

15 ALUNBLWCHHYSBYSEBUGALLWCHYNYHWNAM£6YMISWILLIAMS TRYDANWR * Cartrefi * Masnachol * Diwydiannol Archwilio a Phrofi Ffôn: 07534 178831 e-bost:alunllyr@hotmail.com TelerauHYSBYSEBIONganAnnLewis01341241297 Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru ALAN RAYNER 07776 181959 ARCHEBU A CARPEDIGOSOD Sŵn y Gwynt, Talsarnau www.raynercarpets.co.uk CAE DU DESIGNS DEFNYDDIAU DISGOWNT GAN GYNLLUNWYR Stryd Fawr, Harlech Gwynedd LL46 2TT 01766 780239 ebost: sales@caedudesigns.co.uk Dilynwch ni: Oriau agor: Llun - Sadwrn 10.00 tan 4.00 Tafarn yr Eryrod Llanuwchllyn 01678 540278 Bwyd cartref blasus Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd E B RICHARDS Ffynnon Mair Llanbedr 01341 241551 CYNNAL EIDDO O BOB MATH Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb. GWION ROBERTS, SAER COED 01766 771704 / 07912 gwionroberts@yahoo.co.uk065803 dros 25 mlynedd o brofiad JASON CLARKE Maesdre, 20 Stryd Fawr Penrhyndeudraeth LL48 6BN Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad a golchi llestri. Gwasanaeth Cadw Llyfrau a Marchnata Glanhäwr Simdde • Chimney Sweep Gosod, Cynnal a Chadw Stôf Stove Installation & Maintenance 07713 703 222 Glanhäwr Simdde Gosod, Cynnal a Chadw Stôf 01766 770504 Am argraffu diguro Holwch Paul am paul@ylolfa.combris! 01970 832 304 Talybont Ceredigion SY24 5HE www.ylolfa.com H Williams Gwasanaeth cynnal a chadw yn eich gardd Ffôn: 01766 762329 07513 949128 NEAL PARRY Bwlch y Garreg Harlech CYNNAL A CHADW TU MEWN A THU ALLAN 07814 900069 Llais Ardudwy Drwy’r post Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, £7.70llaisardudwy@outlook.comE-gopillaisardudwy@outlook.comLlanbedryflwyddynam11copi Am hysbysebu yn Llais Ardudwy? Manylion gan: Ann Lewis Min-y-môr Llandanwg, Harlech LL46 2SD 01341 241297 07713 703222

Ganed Olwen ar Tachwedd, 1940 ym mwthyn y ‘Crosin’ yn Harlech, i’w rhieni Evan a Nancy Evans, ceidwaid y groesfan. Hi oedd yr hynaf o naw o blant a fagwyd yn y bwthyn bach hwnnw, dim ond tair ystafell gyda chegin fach a thoiled y tu allan. Roedd ganddyn nhw faddon [bath] tun o flaen y tân. Ar ôl ysgol bu’n gweithio yn Cambrian Cleaners ac roedd wedi ennill cymhwyster yn y sgil o smwddio ffrogiau priodas. Yn ddiweddarach bu’n gweithio yn y ffreutur ym Maes Awyr Llanbedr lle cyfarfu â’i gŵr David ym 1964. Roedd hi wrth ei bodd yn adrodd y stori am ei gyfarfod a dweud wrth ei ffrind Lilian, ‘dwylo i ffwrdd mae o’n eiddo i mi!’ Priododd hi a David ym 1965 yng Nghaergybi. Ar ôl hynny buont yn byw yn Salford am ychydig flynyddoedd lle ganed eu merch Caroline. Yn fuan ar ôl hynny ymunodd ei gŵr â’r RAF ac ar ôl hynny fe’u postiwyd i Singapore am dair blynedd. Yno ganwyd eu mab Stephen. Roedd Olwen bob amser yn hel atgofion am y bywyd rhyfeddol a gafodd yn Singapore gyda’r moethusrwydd o gael morwyn tŷ, a gwniadwraig. Soniai’n aml am y gwyliau hyfryd yn ucheldiroedd Malaya. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach fe’u postiwyd i Cyprus am ychydig flynyddoedd, nes i luoedd arfog Twrci oresgyn yr ynys. Mi arweiniodd hynny at wacáu teuluoedd Gwledydd Prydain ar frys. Dyma pryd y dangosodd ei dewrder a’i phenderfyniad. Caniatawyd un cês dillad i bob teulu heb roi unrhyw ddull o gyfathrebu â ffrindiau neu deulu yn ôl gartref. Yna bu’n rhaid iddi adael ei gŵr David yng Nghyprus, a hedfanwyd hi (dim ond 5 troedfedd o daldra) gyda dau o blant ifanc a chês dillad trwm yn ôl gartref mewn awyren Hercules. O Swindon cafodd y gwaith anodd o ddod o hyd i’w ffordd ar y trên gyda’r cês dillad trwm hwnnw a dau o blant yn ôl at ei theulu yn Harlech. Doedd dim ffonau symudol felly doedd dim ffordd o alw am help. Roedd hi’n hoff iawn o Elvis Presley. Roedd ganddi sawl LP a phoster. Ei heilun ffilm oedd John Wayne. Roedd hi hefyd yn casglu addurniadau eliffant. Roedd hi’n falch iawn o’i mab a’i merch a’i thri o wyrion. Roedd hi’n falch iawn o fod yn perthyn i James Griffiths, Cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y cyfarfu ag o pan yn ferch fach. Aeth ei hewythr Ted Griffiths a hi i briodas deuluol. Roedd hi hefyd yn falch o gael cyfarfod â Prif Weinidog Singapore, Lee Khan Yew mewn siop fach yn y ddinas. Roedd ganddi atgofion hyfryd o fod yn dawnsio gyda David, wedi ei hamgylchynu gan benaethiaid sawl gwlad, mewn cynhadledd Penaethiaid y Gymanwlad yng Ngwesty Mandarin, Singapore yn 1971. Ymwelodd ddwywaith â’r teulu yn Awstralia. Roedd bob amser at ei chrefydd fel Bedyddiwr ac roedd wrth ei bodd yn

gwylio ‘Songs of Praise’. Yn ddiweddarach, cadarnhaodd Ysbyty Morriston fod y murmur ar ei chalon a gafodd fel babi wedi arwain at fethiant dwy falf ei chalon. Dyna pryd y penderfynodd fynd i fyw i Ffrainc i fwynhau bywyd hamddenol a thywydd braf, ond sicrhaodd ei bod hi’n symud i fyw yn agosach at ei theulu pan ddaru cyflwr ei chalon waethygu. Fe wnaethant hynny ddwy flynedd yn ôl ar ôl naw mlynedd difyr iawn yn Ffrainc. Cydymdeimlwn yn ddwys iawn â’r teulu oll. Rhodd £20 TEYRNGED Trefnwyr Angladdau • Gofal Personol 24 awr • Capel Gorffwys • Cynlluniau Angladd Rhagdaledig Heol Dulyn, Tremadog. Ffôn: 01766 post@pritchardgriffiths.co.uk512091

16 R J

OLWENTalsarnauWILLIAMS01766770286TRYCIAUIZUZUPOOLE

Noson Siopa’n Hwyr

brechlynnau

Mae’n anodd gwybod pam bod elw’r calendrau yn is eleni, ond mi oedd yr elw yn 2019-20 yn uchel o’i gymharu â blynyddoedd cynt. Mae cost argraffu ychydig yn fwy gan fod mwy o liw yn y papur a mwy o dudalennau. Iolyn Jones, Trysorydd

Fe gyrhaeddodd y Nadolig i dref Harlech wrth i’r goleuadau blynyddol gael eu troi ymlaen a’r siopau agor ar y noson siopa’n hwyr a gynhaliwyd ar ddydd Sadwrn 27 Tachwedd. Cychwynnodd y noson gyda Chôr Ysgol Tanycastell yn canu’n swynol ym maes parcio Bron y Graig cyn i’r daith lusernau gychwyn am 5.30 gyda Siôn Corn yn ei sled ar y tu blaen. Cafwyd cefnogaeth dda iawn gan bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd gyda llawer o’r siopau yn elwa o’r digwyddiad. Daeth y daith i ben ym maes parcio’r castell lle bu’r Côr unwaith eto’n canu carolau’r Nadolig yn y Ganolfan Ymwelwyr wrth i Siôn Corn rannu anrhegion i’r holl blant oedd yn bresennol. Dymuna Benjie ddiolch i’r holl fusnesau a gefnogodd y digwyddiad gyda gwin cynnes, mins peis a nwyddau ardderchog ar werth ledled y dref. Daeth y noson i ben gyda noson gerddorol gyda Ratz Alley yng ngwesty’r Queens. Diolch yn fawr iawn i bawb. Mae Covid-19 yn dal i fodoli yn ein cymunedau. Mae’r achosion yn uwch, mae’n debyg, ond diolch i’r mae’r effeithiau yn llawer llai. Er hynny, nid yw cymdeithasol yn digwydd cymaint ag a fuont ac felly mae’r newyddion o’r cymunedau yn llai na fydden nhw yn y dyddiau cyn Cofid. i siopa a hefyd argraffwyd rhifyn pob mis ond ym mis Awst. Mae’n anodd cymharu tanysgrifwyr gan fod y drefn wedi newid. Rŵan mae pawb yn talu ymlaen llaw am rifynnau o Medi i Awst. Hoffwn ddiolch i’r tanysgrifwyr am gydweithio wrth i ni sefydlu’r newid. Mae taliadau yn cyrraedd yn brydlon iawn. Diolch i’r hysbysebwyr am barhau i’n cefnogi. Bu cynnydd sylweddol yn y rhoddion. Diolch yn fawr. Nid yw cymhorthdal Llywodraeth Cymru yn ymddangos yn y cyfrifon ond mae wedi ei dderbyn ers mis Hydref. Diolch i Gyngor Cymuned Talsarnau am eu cymhorthdal; gwerthfawrogwn hyn yn fawr.

gweithgareddau

17

Diolch i chi i gyd am gefnogi’r papur yn brynwyr, hysbysebwyr ac yn arbennig y rhai a ysgrifennodd, boed hynny yn ychydig frawddegau neu dudalennau. Mae’r sefyllfa ariannol yn dal yn iach. Llais Ardudwy 2020-21 2019-20 Gwerthiant 3080 2448 Tanysgrifwyr 1649 1206 Hysbysebion 2550 2319 Rhoddion 1975 900 Cymorthdal Llyw. 0 1870 Cyngor Talsarnau 500 0 Elw Calendrau 457 732 Incwm 10211 9475 Argraffu 4831 4617 Cysodi +Paratoi 4 559 5217 Teithio 462 295 Tâl Ystafell 0 170 Archwilio Cyfrifon 30 30 Costau 9882 10328 Enillion/Colled 330 Adroddiad-854Ariannol Llais Ardudwy Dyma rai sylwadau am y cyfrifon. Rydym yn croesawu unrhyw ymholiadau ynghylch ein cyfrifon. Mae’r gwerthiant yn fwy eleni wrth i lawer mwy gael hyder i fynd

HARLECH 18

Kenneth Wilson Ridley Fe’n brawychwyd i gyd o glywed y newyddion am farwolaeth Kenneth Wilson Ridley ar 15 Medi, yn 78 oed.

Roedd wedi cael llawdriniaeth yn Ysbyty Guernsey ac yn Southampton. Cydymdeimlwn â’i wraig Jean, ei feibion Glyn a Neil, ei frawd Arthur, ei chwiorydd Gwendoline, Eileen a Maureen, a’r teulu i gyd.

Rhodd £10.00 Margaret Darling, Llandudno

Diolch Hoffai Edwina Evans, 10 y Waun, a’r teulu, ddiolch i’w chymdogion a’i ffrindiau am y cardiau a galwadau ffôn a’r blodau a dderbyniodd Edwina ar farwolaeth sydyn ei brawd Michael Bennet Jones (Mick). Cynhaliwyd y gwasanaeth yn Amlosgfa Bangor ddydd Gwener, 19 Tachwedd, gyda’r Parch Llywelyn Moules Jones yn cymryd y gwasanaeth, a’r casgliad yn lle blodau yn mynd at Gymdeithas Multiple Sclerosis. Rhodd a diolch £10 Cydymdeimlo Cydymdeimlwn yn ddwys iawn ag Edwina Evans, 10 Y Waun yn ei phrofedigaeth ddiweddar. Bu farw brawd Edwina, sef Michael Bennett Jones, yn sydyn yn Ysbyty Gwynedd ar 10 Tachwedd. Roedd Michael yn byw ym Mhenllech, Ynys Môn.

Diolch Dymuna Sara a Jamie, Morfa Bychan, ddiolch o galon am yr holl gyfarchion, cardiau ac anrhegion a gawsant i ddathlu genedigaeth eu merch, Mari. Diolch hefyd gan Carol a Steve am y cyfarchion a’r cardiau llongyfarch a gafwyd wrth iddyn nhw ddod yn Nain a Taid am y tro cyntaf. Rhodd a diolch £10 Ysgol Tanycastell Da iawn blant Ysgol Tanycastell am gasglu £210 ar ddiwrnod Plant mewn Angen. Cafwyd diwrnod o hwyl yn gwisgo pyjamas. Hoffai plant a staff yr ysgol ddymuno pen-blwydd hapus a chariad mawr i Mrs Edwards, sydd wedi dathlu penblwydd arbennig iawn yn diweddar.

Pen-blwydd hapus Pen-blwydd hapus arbennig iawn i Rhiannon Spoonley ar Rhagfyr 14 yn 27 oed unwaith eto (ha! ha!), modryb a chwaer ddireidus, hwyliog a llawn bywyd gan dy chwaer fach, Margaret Elizabeth, Delwyn, Siôn, Arawn ac Ana, Gwyneth a Huw, a Carys a Cai.xx Llongyfarch Llongyfarchiadau i Lowri Gwyn Rowlands, 12 Tŷ Canol ar ddathlu ei phen-blwydd yn 18 oed ac hefyd ar basio ei phrawf gyrru yn ddiweddar. Dymuniadau gorau gan y teulu i gyd. £5

Cardiau Nadolig Cofiwch bod cardiau Nadolig dwyieithog ar werth yn siop Eirlys Williams yn y Stryd Fawr; mae’r elw yn mynd at Ymchwil Canser Harlech.

Roedd Ken yn arfer dod i weld ei deulu a’i ffrindiau yma yn Harlech bob blwyddyn a bydd colled fawr ar ei ôl. Maria£5 a’r teulu Sefydliad y Merched Braf iawn oedd cael gweld pawb oedd yn y cyfarfod wedi i ni fethu â chyfarfod ers mis Mawrth 2020. Ar ôl trafod y busnes, cafwyd sgwrs ar yr hen Harlech yn yr 1950au gan Edwina Evans a Sheila Maxwell yn dangos sleidiau am y gwahanol lefydd yr oedd Edwina yn sôn amdanyn nhw. Am wahaniaeth bryd hynny mi oedd 33 busnes yn Harlech a ffermydd yn dod o gwmpas i werthu cynnyrch ffres ar nos Sadwrn, a llefrith ffres yn cael ei werthu pob dydd. Diolchwyd iddyn nhw gan Jan Cole, y llywydd. Ym mis Medi cafwyd noson o gwis cerddoriaeth, noson hwyliog iawn. Jan Cole oedd wedi trefnu’r noson yma. Diolchwyd iddi gan Denise Hagen. Braf iawn oedd cael paned o de wedyn am y tro cyntaf ar ôl Covid-19. Trefnwyd y te gan Jill Houliston gydag Ann Edwards ac Annette Evans yn ei helpu. Ym mis Tachwedd cynhaliwyd y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol gyda Jan Cole, Edwina Evans a Sheila Maxwell yn cael eu hailethol am y flwyddyn nesaf. Cafwyd sgwrs gan Sheila Maxwell am y gronfa ‘Pennies for Friendship’ gan SyM ledled y wlad. Rhoddwyd cyfraniadau i Deulu’r Castell, yr Ysgol Feithrin, at y goleuadau Nadolig, Sgowtiaid Harlech, tybiau i’r planhigion o amgylch Harlech a phopty ping (meicrodon) i’r Neuadd. Cynhelir cyfarfod mis Rhagfyr, te prynhawn, am 2 o’r gloch yng ngwesty’r Queens, Harlech. Hoffai’r Llywydd ddiolch i Ann Edwards, Annette Evans a Josie Robinson am y gwaith yr oedd y dair wedi ei wneud fel aelodau o’r pwyllgor dros y blynyddoedd.

Llongyfarchiadau cynnes i Donna Morris-Collins a David Morris-Collins ar eu priodas ar Tachwedd y chweched, merch i Alan a Shirley Morris, Beulah Cottage, Harlech, a mab i Patrick a Jane Collins o Richmond, Swydd Efrog. Mae’r ddau yn cartrefu yn Harlech gyda’u mab Phoelix. Pob hapusrwydd i chi’ch dau gan Alan, Shirley a Nain Ynys xxx

Arwyddion Tŷ Canol Cysylltwyd â Mr. Aled Lloyd o’r Parc Cenedlethol ynglyn â’r mater uchod. Nododd y byddai yn syniad i’r Cyngor gysylltu hefo Cyngor Gwynedd i ofyn am arwyddion a’r tebygrwydd fyddai, os byddai’r Cyngor yn gosod arwyddion eu hunain, byddai angen caniatâd cynllunio i wneud hynny. Cytunwyd anfon cais cynllunio i mewn a chytunodd Christopher Braithwaite i greu cynllun.

PRIODAS

Cydymdeimlad Anfonwn ein cydymdeimlad at Mrs Ann Bryan a’r teulu, Heol y Bryn, Harlech yn ei phrofedigaeth o golli ei chwaer yng nghyfraith, Sally Jones, gwraig y Capten Richard Jones, Y Fali, Sir Fôn [gynt o’r Ynys, Talsarnau].

LlechiGOHEBIAETH Sefydlir Fforwm Ceymunedol Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn fuan. Gwahoddir un cynrychiolydd o’r Cyngor a dirprwy i fod yn rhan o’r Fforwm. Cynhelir y cyfarfod cyntaf ym mis Ionawr 2022. Cytunodd Thomas Mort gynrychioli’r Cyngor yn y Fforwm hwn a chytunodd Martin Hughes fod yn ddirprwy. Clwb Rygbi Mae’r Clwb Rygbi am dderbyn grant gan Gronfa Eryri ar gyfer ailddatblygu’r cae hyfforddi. Maent yn gobeithio gosod ffens o gwmpas y cae hyffordd er mwyn sicrhau na fydd anifeiliad o unrhyw fath yn aflonyddu a difetha’r gwaith. Gofynnwyd a oedd gan y Cyngor unrhyw sylwadau ynglŷn â hyn. Yr unig sylw oedd bod moch daear tu ol i T3 ar dir y golff a byddant yn debyg o ddod i dyllu’r tir newydd a fydd wedi cael ei drin.

19 CYNGORHARLECHCYMUNED

UNRHYW FATER ARALL Bu’r Cadeirydd a Christopher Braithwaite o amgylch y biniau halen. Mae angen gwagio’r halen presennol sydd wedi mynd yn galed a rhoi halen newydd ym mhob un. Nid yw’r bin yng nghae chwarae Llyn y Felin wedi ei gwagio ac mae ysbwriel ym mhob man. Cytunwyd i gysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglŷn â hyn. Datganwyd pryder bod gyrrwr gyda carafan wedi dod i lawr Twtil oherwydd bod dim arwydd ar ben y ffordd yng nghanol y dref yn nodi bod y ffordd yn anaddas. Bydd Sian Roberts a Christopher Braithwaite yn cynnal cyfarfod dydd Iau y 4ydd o’r mis hwn gyda Gwen Evans er mwyn trafod Ardal Ni 2035. Gofynnwyd a oedd gan rhywun unrhyw sylwadau ynglŷn â’r mater hwn.

MATERION YN CODI Rhandiroedd Derbyniwyd sawl cwyn bod y safle yn mynd i edrych yn flêr oherwydd diffyg ymroddiad gan rhai o’r tenantiad sydd ddim yn edrych ar ôl eu rhandir. Cytunwyd i ddechrau codi rhent eto o fis Ebrill 2022. Tir Pen y Graig Derbyniwyd e-bost gan Tina Jones ar ran Cath Hicks o Addysg Oedolion Cymru yn gofyn a fyddai’n bosib i rhywun ei chyfarfod ar y safle fel ei bod yn gallu gweld pa waith fydd angen ei wneud yno ac wedyn byddai yn gallu trefnu rhywun i wneud y gwaith. Cytunodd y Cadeirydd gyfarfod Tina Jones ar y safle.

Mae nifer o wahanol swyddi ar gael mewn Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd Mudiad Meithrin.

Mae gennym nifer o gyrsiau ar gael i’ch helpu –1022320elusen:Rhif

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n cwsmeriaid Mark, Julie, Gerry a Janice ‘Tymhorau a Rhesymau’ Stryd Fawr, Harlech

Am sgwrs pellach: Leanne.marsh@meithrin.cymru neu ffoniwch 01970 639639

Eisiau gweithio gyda phlant bach?

20

Cylch Meithrin Harlech yn mwynhau creu a choginio ar gyfer diwrnod y Plant Mewn Angen Cylch Meithrin Llanbedr yn brysur yn creu masgiau a hetiau Pudsey ar gyfer diwrnod Plant Mewn Angen ac yn cadw’n heini gan defnyddio eu hegni naturiol.

Dyma gyfle i chi gyflwyno’r Gymraeg i blant bach yn eich ardal chi. Byddwch yn cael pleser o’u gweld yn datblygu’n siaradwyr Cymraeg hyderus gan wybod eich bod chi wedi cyfrannu at hynny! Am wybodaeth am ein holl swyddi ewch i’n gwefan –www.meithrin.cymru/prentisiaethwww.meithrin.cymru/swyddi Angen cymhwyster gofal plant?

21 *MELIN LIFIO SYMUDOL Llifio coed i’ch gofynion chi Cladin, planciau, pyst a thrawstiau *GWAITH ADEILADU AC ADNEWYDDU *SAER COED Ffoniwch neu edrychwch ar ein gwefan *COED TÂN MEDDAL WEDI EU SYCHU Netiau bach, bagiau mawr a llwythi ar gael Geraint Williams, Gwrach Ynys, Talsarnau 01766 780742 / 07769 713014 Dymunwnwww.gwyneddmobilemilling.comNadoligLlaweniawn a Blwyddyn Newydd Dda i bawb o’n cwsmeriaid. Edrychwn ymlaen at eich gwasanaethu yn 2022. Hoffai Bili a Katherine, 6 Stryd Fawr, i’wBlwyddynNadoligddymunoTalsarnauLlawenaNewyddDdahollffrindiauynyrardal. ffrindiauiBlwyddynNadoligddymuno[Glan-y-wernEmrysDymunaaDelythgynt]LlawenaNewyddDdabawbyndeuluaynyrardal.Dymuna Wyn ag Olwen, Erw Wen, Ty’nybraich, Dinas Mawddwy, Nadolig Dedwydd a Blwyddyn Newydd well i bawb o’u teulu, ffrindiau a chydnabod yn ardal Ardudwy. Dymuna David a Mai Roberts, Nant y Coed, Dyffryn Ardudwy, Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda yn 2022 i deulu, ffrindiau a chydnabod yn yr ardal. Cofion cynnes atoch i gyd. Dymuna Mari Williams, 5 Trem y Garth, Llandecwyn, Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’w holl deulu a’i chyfeillion. Trist yw datgan na fydd y cardiau Nadolig arbennig o waith crefftus Mari ar gael eleni. Hoffai Cassie Jones, Hafod y Gest, Porthmadog (Llain Hudol, Harlech gynt) ac Angharad ei merch a Dafydd ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’w theulu, cyfeillion a chydnabod. Eto eleni, nid ydym yn Nhyddyn Hendre yn anfon cardiau Nadolig. Byddwn yn cyfrannu at RNLI y Bermo. Ond hoffem anfon ein dymuniadau gorau am Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd. Dymuna Cyril Jones, Rhuthun [Pennaeth Ysgol Ardudwy gynt] ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Well i bawb o’i hen ffrindiau. Ni fydd Hefin Jones, Arfor yn anfon cardiau eleni. Er hynny, hoffai ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’w gyfeillion.

CREFFT NADOLIG Llongyfarchiadau i bedwar o ddisgyblion B11, sef David Bisseker, Harlech, Lois Erin Jones, Minffordd, Daniella Paganuzzi, Dyffryn Ardudwy a Shane McKeown o Lanbedr ar gael eu dewis yn Swyddogion yn Ysgol Ardudwy am eleni. Cylch Meithrin Talsarnau yn cefnogi diwrnod Plant Mewn Angen. PRIFYSGOLDDISGYBLIONARDUDWY

Chwefror y flwyddyn nesaf, aethpwyd ymlaen i groesawu Siwan Evans o Benrhyndeudraeth i sôn am fyw a gweithio fel athrawes gerdd ym Mhatagonia ar ddau gyfnod. Y tro cyntaf am flwyddyn dda cyn y cofid, a’r llall am gyfnod byrrach yn ystod y cofid. Cyflwynodd sgwrs, drwy gyfrwng taflunydd, am y lleoedd yr ymwelodd â hwy Porth Madryn, Trelew, Dolavon, Trevelin a’r Gaiman i enwi ond rhai. Cawsom weld lluniau o hen gapeli Cymreig, lleoedd bwyta, cystadlu yn Eisteddfod y Gaiman, y golygfeydd o amgylch afon Camwy a’r Dyffryn, a’r bywyd bob dydd yno. Hefyd dangosodd luniau o blant Ysgol gynradd roedd hi wedi’u dysgu i ganu yn y Gymraeg yn ardderchog. Roedd yn werth gweld y plant mor frwdfrydig!

Diolchodd Anwen i Siwan am ddod atom a rhannu ei phrofiadau ym Mhatagonia gyda sgwrs ddiddorol ac addysgol. Tynnwyd y raffl a’r enillwyr oedd Haf a Siriol. Paratowyd y baned gan Eluned ac Ann. Nadolig yn yr eira Pob dymuniad da i Elgan Tudur Lewis (Llwyndafydd, Soar, Talsarnau gynt) ar ei ail ymweliad ag Antarctica! Bydd Elgan yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar safle Haley tro hwn. Edrychwn ymlaen iddo ddod adref i ddweud yr hanes a chael gweld y lluniau trawiadol. Efallai y bydd cyfle i’w wahodd i Ferched y Wawr, neu unrhyw sefydliad/ysgol, i gael yr hanes. Mwynha dy hun, Elgan, a chofion annwyl gan bawb yn ardal Talsarnau. Cydymdeimlad Yn hwyr nos Lun, 22 Tachwedd, daeth y newydd trist bod Gwen Williams (Anti Gwen i lawer o blant yr ardal yma), gwraig Eifion, 5 Cilfor, mam Dylan a’r ddiweddar Amanda, wedi marw’n dawel yn ei chartref ar ôl gwaeledd byr. Estynnir pob cydymdeimlad gydag Eifion a’r teulu i gyd yn eu profedigaeth lem ac anfonir cofion arbennig atynt. Graddio Llongyfarchiadau cynnes i Sara Elen Macdonald, ACCA, ar ennill gradd fel Cyfrifydd Siartedig. Mae Sara yn wyres i Eifion Williams a’r ddiweddar Gwen, 5 Cilfor, Llandecwyn, ac yn byw a gweithio yng Nghyffordd Llandudno. Mae’r teulu i gyd yn falch iawn o’i llwyddiant ardderchog. I’r ysbyty Bore dydd Mawrth, 23 Tachwedd, aethpwyd â Geraint Williams, Garej Talsarnau mewn ambiwlans i Ysbyty Gwynedd i gael archwiliad pellach, ac yno mae’n parhau i fod am ychydig ddyddiau eto. Anfonwn ein cofion gorau ato a gobeithio y bydd yn gwella’n fuan.

Crefftwaith Nadoligaidd amrywiol gan Katherine Kennedy, 6 Stryd Fawr, Talsarnau. Y goeden yn y llun olaf bron â’i chwblhau.

22 TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN

Merched y Wawr Cafwyd cyfarfod o aelodau Cangen Talsarnau yn ystafell fawr y Neuadd nos Lun, 1af Tachwedd. Croesawodd y Llywydd, Siriol Lewis, bawb i’r noson, ac wedi ymdrin â rhai materion cenedlaethol, trefnu cinio Nadolig y gangen, ac atgoffa pawb y byddwn yn cyfarfod yn y prynhawn am 2.00 o’r gloch ar 13 Ionawr a 3

Ganwyd Gwen yn Stryd yr Ysgol ym Mhenrhyndeudraeth yn 1947, yn ferch i Catherine a William Jones, a chwaer i Derwyn, Mari, Ann a’r diweddar Gwynogfryn. Yn y flwyddyn 1949, symudodd y teulu i rif 11 Cilfor. Pan oedd hi yn 3 mlwydd oed cychwynnodd yn ysgol Llandecwyn, ac yna aeth i Ysgol Ardudwy. Mae Mari yn cofio fel y byddai Derwyn a Gwynogfryn yn gwthio y ddwy ohonynt mewn coetsh i fyny i’r ysgol dipyn go lew o dynnu i fyny. Ei hoff bwnc yn yr ysgol oedd cerddoriaeth, a byddai ambell dro yn cael chwarae piano yn y gwasanaeth boreol. Roedd Gwen mor hoff o’r piano, a phan oeddynt ar yr aelwyd yn 11 Cilfor, bob tro roedd angen golchi llestri, byddai Gwen yn mynd at y piano.

efo Pris a Tec am flynyddoedd lawer amser difyr iawn. Byddai Gwen wrth ei bodd yn dysgu’r plant i ganu ac actio, yn enwedig adeg y Nadolig. Hefyd byddai tripiau Ysgol Sul ym mis Awst yn llawn bwrlwm a hwyl. Mynd ar y trên un tro i Butlin’s a chael hwyl; dro arall ar fferm yn ardal y Bala a chael reid ar y trên bach o Lanuwchllyn rownd llyn y Bala a chael ‘fish and chips’ yn y Bermo ar y ffordd adra. Hefyd bu Gwen ac Eifion yn trefnu i fynd â’r plant i’r pantomeim yn y Rhyl. Yn ei hamser hamdden, byddai’n mwynhau mynd i’r ‘line dancing’ yn y Neuadd Bentref bob wythnos ac yn cael llawer o sbort a mwynhau’r gwmnïaeth. Hefyd, cafodd Gwen ac Eifion lawer o bleser wrth gystadlu mewn sioeau cŵn gyda Snowball a Frosty a chael ambell i lwyddiant. Roeddynt hefyd yn mwynhau mynd ar eu gwyliau i Lundain efo Fal a David Tregwylan, a’r uchafbwynt oedd cael mynd yn y garafan efo Eifion, er enghraifft, ar fferm yn ymyl Llanelli; hefyd mewn gwahanol eisteddfodau, ac ambell i benwythnos yn Cyndun ym Mhen Llŷn. Roedd Gwen yn gefnogol iawn i Gôr y Brythoniaid ac ni fyddai Eifion byth yn colli ar nos Iau. Bu colli eu merch Amanda yn greulon iawn iddi yn y flwyddyn 2001 amser anodd iawn yn ei bywyd, a bu’n gefnogol iawn i Sara a Tomos ac yn hynod falch o lwyddiant y ddau. Hefydd, byddai Siôn a Rhys yn dod i aros at Nain a Taid, ac yn dod i’r Ysgol Sul efo Nain a Sara a Tomos. Balchder o’r mwyaf iddi oedd gweld Dylan wedi cymryd y garej yn Nhrawsfynydd sydd hefyd yn llwyddiant mawr iddo. Salwch byr ac annisgwyl ddaeth i’w rhan ychydig wythnosau yn ôl a bu gofal arbennig ohoni gan Eifion, Mari, Ann, Jeff, Yvonne a Dylan. Diolch arbennig i Bethan a Meg y ci. Roedd hi mor ddewr a di-gŵyn oedd yn gwneud y gofal ohoni yn gymaint haws i’r teulu a’r nyrsys cymunedol. Mae nawr yn cael gorffwys mewn hedd gydag Amanda.

Dymuna Trefor ac Annwen a’r teulu, Crafnant, ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’w teulu a’u cyfeillion, a phob bendith yn 2022. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb gan John a Gwyneth Richards, Hafan Deg, Bryn Eithin, Llandecwyn. Hoffai Joy a Dylan, Ysgubor Hen, Eisingrug ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’r teulu a’u ffrindiau yn yr ardal.

TEYRNGEDIGWEN(AntiGwenilaweriawnoblantyrardal)

Ar ôl gadael yr ysgol aeth i goleg yn Abertawe, ac yna cafodd swydd cogyddes yn Ysgol Rydal ym Mae Colwyn. Yna daeth yn nes adra a chael swydd yn y gegin yn Ysgol Ardudwy. Roedd wedi cyfarfod Eifion pan yn gweithio ym Mae Colwyn, a phriododd y ddau yn Eglwys Llanfihangel yn 1970. Yn fuan wedyn ganwyd Amanda a Dylan, a bu’r teulu bach yn hapus yn rhif 5 Cilfor.

RHAGFYR 5 Dewi Tudur 12 Dewi Tudur 19 Gwasanaeth Carolau 26 DT oedfa am 10:30 IONAWR 2022 2 Dewi Tudur 9 Dafydd Job. Ewch i’n gwefan am fwy o fanylion (capelnewydd.org). Mae oedfaon ar YouTube ar sianel Eglwys Efengylaidd Ardudwy hefyd. Pob dymuniad da i ddarllenwyr Llais Ardudwy dros yr Ŵyl.

Byddai Gwen wrth ei bodd yn chwarae’r organ yn Eglwys Crist Talsarnau ddwywaith y Sul, ac yn Eglwys Llandecwyn pan oedd angen. Pan oedd Dylan yn flwydd oed, cafodd swydd yng nghegin Ysgol Talsarnau efo Anti Ceri. A phan ymddeolodd Anti Ceri, Anti Gwen oedd y brif gogyddes am flynyddoedd lawer, ac yn aml iawn yr adeg yma byddai’n cael chwarae piano i’r plant, a rhoddodd hyn bleser o’r mwyaf iddi. Yn y saithdegau cynnar, bu Gwen yn cynnal yr Ysgol Sul yn Llanfihangel

23 Capel Newydd, Talsarnau Oedfaon am 6:00.

Dymuna Ella Wynne Jones, Ty’n y Bonc, Llandecwyn, Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’w chyfeillion i gyd.

phrofi bod y ffordd osgoi yn achosi cynnydd sylweddol mewn allyriadau carbon deuocsid ac felly, yn fy marn i, mae ei benderfyniad yn annilys ac yn anghyfiawn. David HarlechNaylorLLYTHYR YN HERIO PENDERFYNIAD Y SENEDD deuocsid a llygredd amrywiol sy’n cael ei achosi gan gerbydau yn ciwio ac yn gyrru’n araf oherwydd y tagfeydd traffig yng nghanol Llanbedr, elfennau na fyddai’n bresennol wrth i drafnidiaeth yrru’n rhydd ar y ffordd osgoi? Dylai sail ei benderfyniad roi sylw i’r effaith terfynol [net impact]. Pam na wnaeth y Dirprwy Weinidog osod cyfyngiad

Dr David Naylor Wrth inni fynd i’r wasg roedd 2023 o bobl wedi arwyddo’r ddeiseb ar https://deisebau.senedd.cymru

Annwyl FFORDDOlygyddOSGOI LLANBEDR Ysgrifennais at nifer o aelodau’r Senedd a sawl Gweinidog, gan gynnwys y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters dros yr Amgylchfyd, i herio’r cyfiawnhad brysiog, simsan, digymar ac annigonol a gafwyd dros y penderfyniad hwn. iddyn nhw ailystyried a gwrthdroi’r penderfyniad i ganslo’r ffordd osgoi hir-ddisgwyliedig. Mae’r Dirprwy Weinidog wedi methu â o 40 mya fel yr awgrymwyd gan gynghorwyr lleol; buasai hynny wedi gostwng allyriadau carbon hyd at 15% [yr unig faintioli a gynhwysir yn yr Adroddiad]? na ofynnodd y Dirprwy Weinidog am blannu coed ar hyd y ffordd osgoi er mwyn lleihau allyriadau carbon? Pam fod y Dirprwy Weinidog wedi anwybyddu’r ffaith fod cerbydau petrol a disel yn cael eu gwahardd erbyn 2030 a bod cerbydau trydanol, fydd yn lleihau allyriadau carbon yn sylweddol, am gymryd eu lle? Pam na fu ystyriaeth i effaith canslo’r ffordd osgoi ar iechyd a diogelwch y gymdogaeth ac ymwelwyr, ar yr economi leol, gan gynnwys unrhyw gyflogaeth sgil-uchel a ddoi i’r ardal yn sgil ehangu’r maes awyr? A yw’r Dirprwy Weinidog yn sylweddoli bod canslo’r ffordd osgoi yn golygu condemnio ardal Ardudwy i farweidd-dra economaidd? Yma mae’r cyflogau isaf yn y wlad! A yw’r Dirprwy Weinidog yn sylweddoli bod y bont yn Llanbedr yn allweddol i ffyniant economaidd Ardudwy? Does dim ffordd arall o deithio o’r Bermo i Borthmadog a Maentwrog. Heb ffordd osgoi, mae’r bont bresennol yn mynd i gael mwy a mwy o ddefnydd a bydd y draul ychwanegol yn debyg o’i gwneud yn fwy bregus. Buasai colli’r bont trwy ddamwain neu lifogydd yn drychinebus i Ardudwy.

Dyma’r cwestiynau a’r sylwadau anfonodd David Naylor at nifer o aelodau’r Senedd. Pa bryd gafodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yr Adroddiad gan y Panel Adolygu Ffyrdd? Rhwng derbyn yr Adroddiad a chyhoeddi ei benderfyniad ar Tachwedd 1, ddaru’r Dirprwy Weinidog ofyn unrhyw gwestiynau am yr Adroddiad, ddaru o ofyn am eglurhad, ddaru o ofyn i’r aelodau i faintioli’r casgliadau?

Gofynnais

Pam

DAVID NAYLOR ynghylch ffordd osgoi Llanbedr

A wnaed unrhyw newidiadau i’r Adroddiad o ganlyniad i unrhyw ymyriadau gan y Dirprwy Weinidog?

Ddaru’r Dirprwy Weinidog ystyried y casgliad mai cymharol fach fuasai cynnydd y drafnidiaeth trwy Llanbedr pe buasai cynyddu gweithgareddau’r maes awyr yn canolbwyntio ar weithgareddau awyr yn unig? Â’r Adroddiad ymlaen wedyn i seilio’r asesiad ar lefelau llawer uwch o drafnidiaeth sy’n ddisgwyliedig gan weithgareddau busnes cyffredinol gyda llefydd parcio ar gyfer 800 o geir, er iddyn nhw nodi y buasai estyniad o’r fath yn groes i bolisi cenedlaethol.

A wnaeth y Dirprwy Weinidog gyddrafod ag aelodau Canolbarth Cymru cyn gwneud ei benderfyniad, ac os y gwnaeth o, beth oedd ymatebion ei gyd-aelodau? A fu unrhyw ymgynghori â’r Gweinidogion sy’n gyfrifol am yr economi, gogledd Cymru, iechyd, busnes a thwristiaeth neu drafnidiaeth cyn gwneud ei benderfyniad ac, os y gwnaeth o, beth oedd y cyngor a gafodd ganddyn nhw? A gafodd Adroddiad y Panel a phenderfyniad y Dirprwy Weinidog i ganslo’r ffordd osgoi ei drafod a’i gymeradwyo gan Gabinet y Llywodraeth ac ar lawr y Senedd? A fedr y Dirprwy Weinidog esbonio sut y gall gyfiawnhau canslo’r ffordd osgoi oherwydd ei bod yn mynd i gael effaith arwyddocaol ar allyriadau carbon deuocsid, pan mai’r cyfan a nododd aelodau’r Panel oedd ‘ei bod yn ymddangos y bydd y ffordd osgoi yn fwy tebygol na pheidio o gynyddu allyriadau carbon deuocsid, gan ei gwneud yn fwy anodd i Gymru gyrraedd ei thargedau’?

Ddaru’r Dirprwy Weinidog lawn ystyried yr allyriadau carbon

CWESTIYNAU

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.