Llais Ardudwy 50c
OEDI AR GODI PONT BRIWET
RHIF 435 TACHWEDD 2014
SWYNO’R GWYDDELOD
Ni fydd y bont yn agored i geir a cherddwyr tan haf 2015
Y Cynghorydd Gareth Thomas ‘Dwi’n siomedig o glywed fod cwmnïau eraill yn cael y bai am yr oedi pellach. Mae’r cyfrifoldeb ar y contractwr a neb arall.’
CHOIR PROGRAMME AFTERNOON CONCERTS a selection from:
EVENING CONCERTS a selection from:
Silver Trumpet – soloist Bili Jones Gŵyr Harlech [Men of Harlech] The Rose – soloist Llion Williams Gwin Beaujolais [Beaujolais Wine] Fields of Athenry Unchained Melody Mae’n hwyr y dydd – 6 soloists The Lord’s Prayer Y Cynghorydd Caerwyn Lily of the Valley – soloist Ieuan Edwards Roberts Gwahoddiad [Hymn Tune ] ‘Mae einMoliannwn rhwystredigaeth yn American Trilogy [Rejoice - spring is here!] parhau ... nid yw’n cynnig Delilah – soloist Ifor Wyn Jones Yn y Man [Hymn Tune] i fusnesau lleol a [My love is a Venus] Safwn yn y Bwlch – soloist Kevin Lewisunrhyw obaith ‘Nghariad i’n Fenws Y Cynghorydd Annwen thrigolion sy’n dioddef teithiau Cana-Mi-Gei a Chôr Meibion ArdudwyMehed yn Eglwys Sant Niclas, Galway Hakkame Minema Anthem from ‘Chess’ Hughes a chostau ychwanegol dros aeaf Cafodd y ddau gôr lleol daith bleserus a llwyddiannus iawn i ardal Benedictus [sung in Latin] ‘Unwaith eto, pobl a busnesau hir arall.’ Galway yn Iwerddon ar ddiwedd mis Hydref, gwnaed Depending uponlle time andllawer othero factors, lleol sy’n cael eu heffeithio ... Cerddwn Ymlaen [Patriotic Welsh Song] ffrindiau newydd. Roedd y cyngerdd cyntafbe ymitems mhentref Barna mae’n golygu costau ychwanegol there may also from a Soloist/ Mor fud yw’r Môr [Calm is the Sea] ar ffin Conamara a’r eglwys dan/Trio/Quartet/Octet. ei sang. Cafwyd croeso brwd ynup] effeithio ar fusnesau yn y Duet Dyrchefir Fi [You raiseacme iawn yno gan y gynulleidfa fawr. Roedd yr eglwys yn llawn hefyd rhan yma o’r byd. Dylid gyrru’r -------------------------------------------------- Hakkame Mehed Minema yn ninas Galway yn yr ail gyngerdd a’r gynulleidfa ar eu traed ar y gwaith yn ei flaen cyn gynted â We wish to thank all our Estonian Amen [This little light of mine] diwedd. Swynwyd pawb gan raglenni amrywiol y ddau gôr a chan phosib.’ friends, particularly Piia, Ester yr unawdwyr dawnus - Carol Stevens, Iwan Morgan, Iwan Morus whogan have to Other contributions from: Lewis a Bili Jones. Arweiniwydand CôrMarina, Cana-Mi-Gei Mrshelped Ann thisoedd tourAled such a success. Solo/Duet /Trio/Quartet/Octet. Jones ac arweinydd Côr Meibionmake Ardudwy Morgan Jones. Idris Lewis oedd yn cyfeilio i’r ddau gôr.
Ann Jones
Idris Lewis
Aled AledMorgan Morgan Jones Jones Conductor
Bili Jones
Carol Stevens
Iwan Morus Lewis
Idris Lewis
Iwan Morgan
Y Cynghorydd Eryl JonesWilliams ‘Mae nifer fawr o bobl yn yr rdal hon yn gorfod teithio 16 milltir yn ychwanegol ddwywaith y dydd ... Mae’r bobl yn flin am yr oedi. Mae’n gostus o ran arian ac amser. Dylai adran awdit y Cyngor fwrw golwg ar y sefyllfa.’
Y Cynghorydd Gethin Glyn Williams ‘Mae’n anodd derbyn y newydd am ragor o oedi, gan fod pobl leol wedi dioddef anghyfleustra am nifer o fisoedd erbyn hyn ... mae’n awgrymu diffyg rheolaeth gan y contractwr.’
The choir hails from Snowdonia, an area of outstanding natural beauty.
Llais Ardudwy
HOLI HWN A’R LLALL
GOLYGYDDION
Phil Mostert
Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com
Anwen Roberts
Cae Bran, Talsarnau (01766 770736 anwen@barcdy.co.uk
Newyddion/erthyglau i:
Haf Meredydd
hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk
(07760 283024 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 thebearatminymor@btinternet.com
Trysorydd Iolyn Jones Tyddyn Llidiart, Llanbedr (01341 241391 iolynjones@Intamail.com
Casglwyr newyddion lleol
Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones(01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Ann Lewis (01341 241297 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 770736 Cysodwr - Phil Mostert
Gosodir y rhifyn nesaf ar Tachwedd 28 am 5.00. Bydd ar werth ar Ragfyr 3. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Tachwedd 24 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau.
2
Enw: Sarah Jane Foskett Cefndir: Merch Fred a Roberta Foskett, fu’n byw ym Mronafon Llanbedr. Symudson ni a fy ddiweddar chwaer, Louise, i Lanbedr pan oeddwn yn 7 oed. Rydw i’n byw yn Llanfair rŵan gyda fy mhartner Vince Barnard [o Bermo] a’r merched Morgan [15] a Connie Fflur [8], a Dad. Gwaith: Osteopath Man Geni: Hamilton, Yr Alban. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Credaf mewn bod yn hapus mewn meddwl, corff ac ysbryd. Mater o gydbwysedd yw bywyd. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Yn anffodus, llyfrau yn ymwneud â gwaith yn bennaf. Rydw i’n hoff o nofel
ddirgelwch. Yn ddiweddar bûm yn darllen ‘Tell No One’ gan Harlen Cobens, a ‘The 100 yr old Man who climbed out the window and disappeared’ gan Jonas Jonasson. Dau lyfr ardderchog. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Dramâu hanesyddol. ‘Downton Abbey’ ar hyn o bryd. Ydych chi’n bwyta’n dda? Ydw, wel rydw i’n ceisio gwneud, ond rydw i yn hoff o gacennau! Hoff fwyd? Cacen – ar wahân i siocled. Hoff ddiod? Te Earl Grey ac ambell wydriad o win. Wedi darganfod fodca o Wlad Pwyl yn ddiweddar! Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Cyfeillion. Rydyn ni yn hoffi gwahodd ffrindiau i ginio. Lle sydd orau gennych? Y Ring, Y Sgwâr, Moorings (Borth-y-gest), Ship Aground, Indian Fairbourne Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Buasai’r teulu yn dweud Madeira, ond rydw i’n hoff iawn o’r Eidal. Beth sy’n eich gwylltio? Anghyfiawnder. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Bod yno i wrando. Pwy yw eich arwr? Y Dalai Lama am ei oddefgarwch ac am fod yn barod i faddau, hefyd am y
YARIS
modd y mae’n rhagweld pethau. Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon? Y gwirfoddolwyr yn ein cymuned. Y rhai sy’n rhoi eu hamser ac yn peryglu eu bywydau drosom ni – achubwyr mynydd, criw ymladd tân a’r RNLI. Beth yw eich bai mwyaf? Yn methu dweud ‘Na`! Beth ydych chi’n ei gasáu mewn pobl? Anfoesgarwch. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Pawb yn cyd-dynnu ac yn mwynhau eu hunain. Eich hoff liw? Coch, ond rydw i’n hoffi melyn a gwyrdd hefyd. Eich hoff flodyn? Tiwlip. Eich hoff fardd? Christina Rossetti. Eich hoff gerddor? Alison Krauss – cerddor ‘Blue grass’. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Pysgotwyr Perlau – Bizet. Pa dalent hoffech chi ei chael? Gallu siarad Eidaleg yn rhugl. Eich hoff ddywediad? “Paid â cheisio bod yn llwyddiant, gwell iti geisio bod o werth.” - Albert Einstein. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Consurwraig gyda sawl plât yn yr awyr, neu ddynes yn gwisgo sawl het!
Dywediadau am y Tywydd
AURIS
AYGO NEWYDD
TOYOTA HARLECH Ffordd Newydd, Harlech 780432 Dewch i weld yr Aygo newydd!
TACHWEDD
Tachwedd â’i darth a’i niwl o hyd sy’n gwneud i ni anniddan fyd. Tachwedd - dechrau’r galar.
Y BERMO A LLANABER PRIODAS DDIEMWNT Llongyfarchiadau i Bob a Sybil Jones, Cader Beti ar ddathlu eu priodas ddiemwnt yn ddiweddar. Dymuna’r ddau ddiolch yn ddiffuant i bawb am y cardiau, yr anrhegion a’r dymuniadau da a dderbyniwyd ganddynt yn ystod y dathliadau. Rhodd £5
PLYGAIN YN NOLGELLAU Bydd Plygain blynyddol Esgobaeth Bangor yn cael ei gynnal eleni yn Eglwys y Santes Fair, Dolgellau am 7.00 ar nos Wener, Ionawr 9, 2015. Am fwy o fanylion, cysylltwch ag Anona ar 01248 421855
GWOBRAU GAN Y LLYFRGELL
Llyfrgell Bermo Llongyfarchiadau i Connie Fflur, 8 oed o Lanfair, ac Elis Williams, o Ddyffryn Ardudwy, ar ennill gwobrau - tocyn teulu ar gyfer labyrinth Brenin Arthur yn y gystadleuaeth haf i ddylunio creadur mytholegol i lyfrgelloedd Cymru. Roedd 17 o enillwyr ledled Gwynedd gyda dros 600 o blant wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth. Merched y Wawr Nos Fawrth 21ain fel arfer yn y Ganolfan ar noson braidd yn aeafol daethom at ein gilydd o dan lywyddiaeth Llewela. Roedd yna nifer o ymddiheuriadau. Llongyfarchwyd Megan a Les Vaughan ar ddathliad pen-blwydd priodas arbennig a Jean ar lwyddiant graddio Osian a Mauriese. Cawsom ein hatgoffa am weithgareddau a dyddiadau pwysig yn y dyfodol. Wedyn pleser oedd cael ein diddanu gan Eirian Jones, Dinas Mawddwy ddaeth i arddangos ffrwyth ei llafur ar wneud cardiau o bob math. Gyda chymorth ei mam cawsom gyfle i wneud rhai ein hunain a mawr oedd yr amrywiaeth. Roedd y baned o dan ofal Megan ac Eurwen Enillwyd y raffl gan Elinor. Edrychwn ymlaen at gael cwmni Mair Tomos Ifans atom ar 18fed o Dachwedd am 7.00 o’r gloch.
YSGOL ARDUDWY STAFF NEWYDD Estynnwn groeso cynnes i Gareth Corps, a benodwyd yn Gymhorthydd Llyfrgell ac Adnoddau yr Ysgol yn ddiweddar. Hefyd i ddwy ddarpar athrawes, sef Lucy Rogers sy’n dysgu gwyddoniaeth ac Erin Jones sy’n dysgu Saesneg. BORE MENTER B10 Cafwyd cyflwyniadau diddorol iawn gan Mr Huw Owen a Mr Islwyn Jones, dau ŵr busnes lleol, am eu swyddi o ddydd i ddydd . Roedd Mr Owen yn sôn am ei yrfa fel pensaer ac roedd Mr Jones yn trafod ei yrfa fel hebogydd yng Nghymru. Cafwyd pleser mawr gyda’r tylluanod a hefyd gyda Mr Owen yn gwneud cynhyrchion. MENTERGARWCH Trwy gael nawdd o £1000 gan ‘Llwyddo’n Lleol’, sefydlwyd busnes creu a gwerthu torchau allwedd (keyrings). Gwerthir nhw yn ystod amseroedd egwyl. Erbyn hyn mae llawer o ddisgyblion a staff wedi prynu torch ac mae’r cwmni yn mynd o nerth i nerth. DIOGELWCH AR Y RHEILFFORDD Gwahoddwyd Phil Coldwell, Swyddog Cyswllt Ysgolion i Gwmni Arriva, at B7 i drafod diogelwch ar y rheilffordd. ENILLWYR MARCIAU CLOD Ar gyfer y flwyddyn 2013-14, llwyddodd y canlynol i gasglu’r nifer mwyaf o farciau clod: Owain Evans, Amelia Greenway, Lowri Llwyd, Antonia Beale, Cadi Roberts, Cara Rowlands, Isabella Davis, Jacob Evans, Tyler Francis, Flynn Gannon, Bethany Richards, Jack Turner, Jessica Williams, Rebecca Armstrong, Rosalyn Blow, Isobel Kidd, Catrin Morris ac Isla Thorpe. YSGOLORIAETH JOHN TUDOR Llongyfarchiadau mawr i Elen Roberts a Jordan Edwards a lwyddodd i ennill Ysgoloriaeth John Tudor yn ddiweddar. Rhoddir yr ysgoloriaethau o £400 er cof am John Tudor i ddisgyblion sy’n dangos gwaith ardderchog. CYSTADLEUAETH CAIACIO Bu criw o ddisgyblion mewn cystadleuaeth caiacio yng Nglan-llyn ger y Bala. Roedd y diwrnod yn llawn hwyl a chafodd tîm genethod B10 a B11, sef Elin, Isobel a Cadi, lwyddiant trwy ennill cystadleuaeth De Gwynedd. Yna fe fu’r tair yn cystadlu yn y rownd derfynol yn Llanberis a dod yn gyntaf trwy Ogledd Cymru yn y râs gyfnewid caiacio.
LLWYDDIANT CENEDLAETHOL Cafodd dwy chwaer (Georgia Povey, B11 ac Olivia Povey B8) gyfarfod â Rebecca Addlington, y wraig enwog ym myd nofio, mewn gala nofio yn Sheffield. Cafwyd y cyfle i ofyn cwestiynau a thynnu lluniau hefo hi. TAITH PEIRIANNEG Ymwelodd disgyblion Peirianneg TGCh yr ysgol â ffatri JCB yn Rochester. Cafwyd diwrnod ardderchog yn y ffatri gan ddysgu llawer am hanes JCB. Gwelwyd llawer iawn o waith cyd-osod peiriannau ar lawr y ffatri, megis robotiaid yn weldio, plygu haearn a thorri gyda thorrwyr laser. DIWRNOD ANTUR AWYR AGORED Bu disgyblion B9 yn Llanberis yn astudio gwahanol fathau o fusnesau yng Ngwynedd. Fe gafwyd cyflwyniadau diddorol iawn gan nifer o unigolion sydd yn berchen ar eu cwmnïau eu hunain. Yn ystod y prynhawn, un o’r heriau oedd adeiladu rafft ac yna ceisio aros yn ddiogel arno ar Lyn Padarn! ARWEINIAD I RIENI AR LYTHRENNEDD A RHIFEDD Trefnwyd noson gan Gyfeillion yr Ysgol i roi arweiniad ar sut i helpu plant gyda’u gwaith iaith a mathemateg gartref. Daeth nifer teilwng o rieni ynghyd ar y noson.
3
LLANFAIR A LLANDANWG
Merched y Wawr Harlech a Llanfair Croesawodd Hefina bawb i’r cyfarfod ac anfonwyd ein cofion at Idris, gŵr Eirlys [ein hysgrifennydd], sydd yn dal yn yr ysbyty wedi iddo dderbyn triniaeth. Wedi darllen y cofnodion a’r prif bwyntiau o’r cylchlythyr, gofynnwyd i’r aelodau gasglu ategolion [sgarffiau, mwclis ac ati] nad oeddent yn eu defnyddio er mwyn codi arian at Sefydliad y Galon, elusen y llywydd Meryl Davies. Carys Edwards o Ganllwyd oedd y wraig wadd a chafwyd orig ddifyr llawn gwybodaeth ganddi ar gadw gwenyn. Bu’n ymddiddori yn y grefft ers rhai blynyddoedd ac mae’n hen law ar drafod gwenyn. Janet roddodd y diolchiadau, a Cassie a Maureen oedd yn gyfrifol am y baned. Daeth wyth o aelodau’r gangen ynghyd i gwrs undydd ar wneud cardiau dan ofal Gwen Pettifor o Lanfair. Roedd pawb wedi mwynhau’n fawr. Llwyddwyd i greu cardiau amrywiol gan ddefnyddio sawl techneg.
Lluniau o’r Cwrs Undydd ‘Gwneud Cardiau’, Hydref 18
Dathlu Llongyfarchiadau i Hywel ac Ifanwy Jones, Pensarn, ar ddathlu eu priodas arian ar Hydref 28. Dymuniadau gorau gan y teulu i gyd.
Eglwys Tanwg Sant, Llandanwg
CYNGERDD gan Catrin Finch Nos Iau, Rhagfyr 4 am 7.00 o’r gloch Tocyn: £15 ar y drws £12.50 ymlaen llaw Rhif ffôn 01341 241743
Gwellhad buan Dymuniadau gorau am wellhad buan i Mair M Williams sydd wedi dychwelyd adref ar ôl bod yn glaf yn yr ysbyty. Rydym i gyd yn meddwl amdanoch ac yn anfon ein cofion atoch. Marw yn 109 Trist oedd clywed am farwolaeth y ddynes hynaf yng Nghymru, sef Mrs Nellie Robinson, Llanfair. Daeth Mrs Robinson i Lanfair o Birmingham yn y 60au ac roedd yn wniadwraig heb ei hail fel y tystia llawer o drigolion Llanfair a Harlech. Ar ôl gadael ei chartref yn Llanfair, treuliodd Mrs Robinson gyfnod hapus yn Hafod Mawddach, Bermo ac ar ôl salwch bu farw yn Ysbyty Gwynedd.
[Rhes gefn o’r chwith]Winnie Griffiths, Cassie Jones, Bronwen Williams, Edwina Evans, Sue Jones [Yn eistedd] Hefina Griffith, Gwen Pettifor a Meinir Lewis
Winnie a Cassie wrthi o ddifrif
Gwen yn rhoi arweiniad manwl i Meinir a Sue
CYNGOR CYMUNED MATERION YN CODI Yr Elor Lluniwyd cytundeb drafft ynglŷn â’r uchod. Caiff ei anfon ymlaen at Gyfeillion Ellis Wynne i’w arwyddo. Twyni Tywod Llandanwg Caiff cerrig eu cludo i draeth Llandanwg i’w gosod ger y twyni er mwyn lliniaru effaith y tonnau. Coed o amgylch Porth yr Eglwys Gwnaed asesiad risg o’r uchod a chafwyd adroddiad. Caiff y materion a grybwyllwyd sylw manwl yn y dyfodol agos. CEISIADAU CYNLLUNIO Diddymu Amodau 9, 10 a 11 mewn perthynas â gofynion ‘Côd Cartrefi Cynaliadwy’ - Hafan a Mordan, Llandanwg. Cefnogi’r cais hwn. Ceisiadau cynllunio â phenderfyniad arnynt Diddymu Amodau 8 a 9 - Sŵn y Môr, Llanfair - caniatáu Ceisiadau am Gymorth Ariannol Hamdden Harlech ac Ardudwy £500.00 UNRHYW FATER ARALL Mae estyllod dros y ffos gyferbyn â phorth eglwys Llandanwg angen sylw. Mae twrch daear wedi dychwelyd i’r fynwent newydd ac mae’r arwydd “Dim cŵn” wedi malu. Mae un o golfachau’r hysbysfwrdd yn y pentref wedi malu. MATERION CYNGOR GWYNEDD Bydd ymgynghoriad arall yn Neuadd Bentref Llanbedr ar Tachwedd 6 o 12.30 tan 8.00 o’r gloch yr hwyr er mwyn rhoi cyfle i’r cyhoedd weld y gwahanol ddewisiadau ynglŷn â gwella mynedfa i Faes Awyr Llanbedr. Clywyd bod Maes Awyr Llanbedr yn agored i fusnes i gefnogi hedfan arbrofol o adar drycin ac yn gobeithio dechrau hedfan yr adar drycin hyn ar ddechrau 2015. Mae cyfarfodydd wedi eu trefnu er mwyn trafod yr her ariannol y bydd Swyddogion y Cyngor yn ei wynebu eleni ac i glywed a oes gan aelodau’r cyhoedd unrhyw syniadau ynglŷn ag arbed arian. Cynhelir cyfarfod ym Mhorthmadog ar 24 Tachwedd ac un arall yn Nolgellau ar 27 Tachwedd.
Rhodd i’r Llais Mr a Mrs Gerallt Jones, Pensarn £10 Cyhoeddiadau Caersalem 2014 [am 2.15 oni nodir yn wahanol] TACHWEDD 16 Parch Eirian Wyn Lewis 26 Parch Olwen Williams [2.00] RHAGFYR 7 – Parch Iwan Llywelyn Jones am 3.45 y prynhawn 14 – Parch Dewi Tudur Lewis
Edwina yn amlwg wrth ei bodd
4
Bronwen yn canolbwyntio
Hefina wedi cael hwyl arni
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Teulu Artro I ddechrau’r tymor newydd cafwyd cinio ardderchog yn Nhŷ Mawr. Croesawyd pawb gan Gweneira gan obeithio i ni fwynhau yr ‘haf hirfelyn tesog’ a gawsom. Diolchwyd i’r staff gan Glenys cyn i bawb droi am adref wedi mwynhau’r prynhawn.
Diolch Mae Jane Taylor Williams a John Williams eisiau diolch i bawb am eu cyfarchion cynnes ar eu diwrnod priodas, 26 Gorffennaf, yn Eglwys San Pedr, Llanbedr – diwrnod arbennig a thywydd bendigedig i bawb fwynhau. Fferm Ffactor Braf oedd gweld Delyth, Tyddyn Bach, yn cystadlu ar y rhaglen Fferm Ffactor. Llongyfarchiadau iddi; mae hi’n cael hwyl dda arni. Llawdriniaeth Gobeithio fod Brian Taylor, Alltwen, yn teimlo’n llawer iawn gwell erbyn hyn ar ôl ei lawdriniaeth. Dymunwn lwyr iachâd iddo. Cafodd Alun, Graigisa, lawdriniaeth yn Ysbyty Maelor yn ddiweddar. Mae yntau’n gwella. Rhodd Diolch am y rhodd o £9.50 oddi wrth Anna Wyn Jones. Diolch hefyd am y rhodd o £5 gan Mr a Mrs John Williams. Prynhawn coffi Macmillan Ar 27 Medi, cynhaliwyd prynhawn coffi i godi arian at elusen cancr Macmillan yn nhŷ Jane Taylor Williams. £165 oedd y cyfanswm drwy raffl, cacennau ac arian parod. Yr oedd hyn er cof am ei chwaer Susan a fu farw Tachwedd 2003. Cyhoeddiadau Sul [am 2.00 o’r gloch y prynhawn] Capel Salem TACHWEDD 9 Parch Dewi Tudur Lewis 23 Morfudd Lloyd RHAGFYR Parch Dewi Tudur Lewis
Cymdeithas Cwm Nantcol Mae’r rhaglen ar gyfer y gaeaf yn sicr o dynnu dŵr i’r dannedd. Dyma drosolwg er diddordeb: Tachwedd 10 J Bryn Williams Capel Cymraeg Dulyn Tachwedd 24 Parch Iwan Ll Jones Seren Wib Rhagfyr 8 Cinio Nadolig gyda Geraint Roberts Ionawr 12 Ioan Gruffydd Stori Taid - Gŵr o Baradwys Ionawr 26 Adloniant Criw ar y Naw, Trawsfynydd Chwefror 2 Dr John Williams, Lerpwl John Thomas y Ffotograffydd Chwefror 23 Adloniant gan ‘Glaslanciau’, Porthmadog. Beth am i chi ymuno â’r Gymdeithas y gaeaf hwn? Nosweithiau difyr, adloniadol ac addysgiadol; cwmni difyr a phanad a bwyd wedyn - beth gewch chi well? Buasem yn falch iawn o’ch gweld chi yno.
Roedd ein cyfarfod yng Ngwesty’r Fictoria ym mis Hydref. Cydymdeimlwyd â theulu Margaret a fu farw ar Medi 10 wedi cystudd hir a blin. Roedd yn chwith meddwl bod Megan Jones wedi marw, un arall a fu’n aelod selog. Llongyfarchwyd Beti ar briodas Glesni, ei hwyres, a hefyd Gweneira ar briodas dwy wyres. Ein gŵr gwâdd oedd Mr Ray Owen. Croesawyd ef yn gynnes gan y llywydd a chydymdeimlwyd ag ef wedi iddo golli ei fam yn ddiweddar. Testun ei sgwrs oedd ‘Barddoniaeth’, a chawsom glywed darnau o’i waith - cerddi campus i rai o ddarlithywr Coleg Meirionnydd a oedd yn ymddeol. Talwyd y diolchiadau gan Iona ac enillwyd y rafflau gan Gweneira a Gretta.
Clwb 200 Côr Ardudwy Mis Hydref
1 [£30] Evie M P Jones 2 [£15] Gretta Cartwright 3 [£7.50] Roger Kerry 4 [£7.50] Ingrid W Williams 5 [£7.50] Eirlys Williams 6 [£7.50] Heulwen Jones
Mis Tachwedd
1 [£30] Dei Corps 2 [£15] Rhodri Dafydd 3 [£7.50] Arthur G Jones 4 [£7.50] Harri Jones 5 [£7.50] Ann Humphreys 6 [£7.50] Alun P Evans Neuadd Goffa, Llanfair
GYRFA CHWIST
ar y drydedd nos Fawrth yn y mis am 7.00 o’r gloch Croeso i ddechreuwyr.
SAMARIAID Llinell Gymraeg 0300 123 3011
R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU
TACHWEDD 16 Capel Nantcol, Parch William Davies 23 Capel y Ddôl, Mrs Gretta Benn 30 Capel y Ddôl, Parch Irfon Roberts RHAGFYR 7 Capel y Ddôl, Mr D Ch Thomas
5
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT
Sefydliad y Merched, Dyffryn Ardudwy Cyfarfu aelodau Sefydliad y Merched, Dyffryn Ardudwy yn Heulwen ar 8 Hydref dan lywyddiaeth Mrs Dorothy Harper. Cafwyd ymddiheuriad gan Leah Jones, ac anfonwyd cofion at Elwen Evans sydd wedi cael triniaeth yn Ysbyty Gwynedd. Darllenwyd y cofnodion a’r Llythyr Newyddion gan Gretta Cartwright. Trafodwyd y materion oedd yn codi gan gynnwys adroddiad gan Dorothy am y prynhawn ym Maentwrog ar “Hosbis yn y Cartref ”. Mae cinio Nadolig wedi ei drefnu ym Mochras ar 14 Rhagfyr. I ddilyn cafwyd y Cyfarfod Blynyddol, a derbyniwyd yr adroddiadau. Swyddogion am 2014: Llywydd - Dorothy Harper Ysgrifennydd - Gretta Cartwright Trysorydd - Gretta Cartwright Clwb Cynilo - Elwen Evans, Gretta Cartwright Te a Raffl - Beti Parry, Leah Jones. Yna amser i edrych drwy rai o gofnodion y Sefydliad ers ei chychwyn ar 8 Medi 1917, cyn eistedd i de a baratowyd gan Beti a Gretta. Bydd Edwina Evans gyda ni’r mis nesaf yn arddangos gosodiadau Nadoligaidd.
Elusen Ellin Humphrey Fel y gŵyr llawer erbyn hyn, mae’r elusen yn cynnig grantiau bychain i fyfyrwyr sy’n cychwyn cwrs prifysgol. Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn y gefnogaeth ariannol rhaid i fyfyrwyr fod o dan 25 oed ac yn byw naill ai yn Nyffryn Ardudwy (LL44) neu yn Nhal-y-bont (LL43). Yn ystod mis Tachwedd, bydd ymddiriedolwyr yr elusen yn cyfarfod i rannu’r arian sydd ar gael am 2014. Dylai unigolion sy’n gymwys i dderbyn grant gysylltu â’r Clerc ar 01341 247868, mor fuan ag sy’n bosib.
Aduniad Cynhaliwyd aduniad blynyddol cyn-ddisgyblion Ysgol Ramadeg y Bermo yng Ngwesty’r Cadwgan ar 4 Hydref. Daeth 37 o gyn-ddisgyblion yno i fwynhau bwffe blasus, i sgwrsio a hel atgofion. Trefnwyd y noson gan Rhiannon Roberts. Festri Lawen, Horeb Cynhaliwyd cyfarfod cynta’r tymor nos Iau, 9 Hydref. Croesawyd pawb gan y cadeirydd, Gwennie. Diolchodd i’r cyn-swyddogion am eu gwaith ac i Iwan Meirion am brintio’r rhaglenni. Yna croesawodd Jean, llywydd y noson, chwe aelod o Barti Perlais o’r Bala, eu harweinydd a’u cyfeilydd Beti Puw Richards ac Eldryd Williams atom. Chwech o ferched ifanc a phob un yn meddu ar lais swynol iawn. Cafwyd eitemau gan y parti ac unawdau a deuawdau gan wahanol aelodau. Roedd dwy set o chwiorydd yn y parti. Arweiniwyd y noson yn ddiffwdan a hwyliog gan Rhian, aelod o’r parti a chafwyd deuawd ganddi hi ac Eldryd a chawsom unawdau gan Eldryd hefyd. Ymunodd Eldryd gyda’r parti i ganu Anfonaf Angel ac Eryr Pengwern. Diolchodd Jean iddynt am noson ragorol i agor y tymor a’r teimlad oedd ein bod wedi cael gwerth ein tâl aelodaeth ar y noson gyntaf. Y gwragedd te oedd Jean, Anwen, Einir a Gwennie. Bydd y cyfarfod nesaf ar 13 Tachwedd am 7.30 yng nghwmni Rhys Mwyn, fydd yn sgwrsio am archeoleg leol. Cyhoeddiadau Sul, Horeb TACHWEDD 9 Parch Ioan Davies 16 John a Jean Roberts 23 Gareth Rowlands 30 Dewi Jones RHAGFYR 7 Dafydd Charles Thomas
CYNGERDD DATHLU BAND YR OAKELEY YN 150 OED Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog Nos Sadwrn, Tachwedd 22 am 7.30
Côr Rhuthun, Robat Arwyn a Dilwyn Morgan Tocyn: £8, £4 i blant
6
Rhoddion Rhodd a diolch gan Mrs Jane Jones, Berwyn. £10 Rhodd o £6.50 oddi wrth John E Edwards a £7.50 oddi wrth T M Jones. Diolch yn fawr. Diolchgarwch Fore Sul, 12 Hydref yn Horeb, cafwyd gwasanaeth Diolchgarwch hyfryd iawn gan blant yr Ysgol Sul gyda chymorth gan rai o’r oedolion. Yn ystod y gwasanaeth cafwyd anerchiad diddorol i’r plant gan Mr Gareth Rowlands. Yna nos Lun, 20 Hydref am 7 cafwyd Oedfa Ddiolchgarwch a phregethwyd gan y Parch Eric Greene, Y Bala. Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn Neuadd yr Eglwys bnawn Mercher, 15 Hydref. Croesawyd pawb gan Gwennie a chafwyd ymddiheuriadau gan Iona, Leah a Gretta. Dymunwyd penblwydd hapus i Blodwen, Glenys Jones, Hilda ac Ann. Diolchodd Gwennie i’r Cyngor Cymuned am eu cyfraniad hael o £200 i Deulu Ardudwy. Eleni cafwyd cyfarfod Diolchgarwch bendithiol iawn wedi ei drefnu’n ofalus gan Glenys Jones a Meinir Lewis yn cyfeilio. Diolchwyd yn gynnes i Glenys am baratoi a chynnal y cyfarfod gan Hilda. Rhoddwyd y te a’r raffl gan Iona, Lorraine ac Anthia ac enillwyd y raffl gan Dilys, Elinor ac Olwen. Bydd y cyfarfod nesaf ar 19 Tachwedd. Cydymdeimlad Ar 20 Hydref ym Mhlas Gwyn, Cricieth yn 94 mlwydd oed, bu farw Mrs Elizabeth Jane Roberts, Aelwyd y Gof (Brynyfelin gynt). Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at John a Jean, David a Mai, Einion a Rhian a’u teuluoedd yn eu profedigaeth o golli mam, nain a hen nain annwyl iawn.
Pwyllgor ‘81 Cynhelir y Noson Garolau flynyddol yn Neuadd y Pentref, Dyffryn Ardudwy ar Nos Fawrth, Rhagfyr 16 am 7.00 o’r gloch. Arweinir y noson gan Aled Morgan Jones, arweinydd Côr Meibion Ardudwy. Ceir eitemau gan y Côr a bydd cyfle i flasu mins pei a phaned yn ystod yr egwyl. Croeso cynnes i bawb.
Cyngor Cymuned Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont
GWASANAETH SUL Y COFIO GER Y GOFEB 9 Tachwedd, 2014 am 3.15 y prynhawn CROESO CYNNES I BAWB
FFAIR GREFFTAU NADOLIG Tachwedd 11 Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy 10.00 – 4.00 Anrhegion Nadolig Gwych!
Noson Arwerthiant Ambiwlans Awyr Cymru
Tafarn Ysgethin
Rhagfyr 11, 2014 am 7.30 Cyfle i brynu celf artistiaid lleol, a nifer o eitemau eraill yng nghwmni Côr Meibion Ardudwy Tynnu Raffl Fawr. Darperir lluniaeth ysgafn. Cadwch y noson yn glir. Rhestr o eitemau i’w chyhoeddi’n fuan
RHAGOR O DYFFRYN A THAL-Y-BONT TEYRNGED I ELIZABETH JANE ROBERTS, AELWYD Y GOF
Gwraig dawel, yn meddu ar natur hoffus a chynnes a gwên groesawgar ar ei hwyneb, ei cherddediad yn syth ac urddasol a rhyw dinc direidus yn ei llygaid - dyna’r darlun a erys yn fy nghof i o Anti Beti, Bryn y Felin. Ganwyd Elizabeth Jane Roberts ar Fai 5ed, 1920, yn ferch ieuengaf i William a Kate Thomas, Tyddyn Bach, Llanbedr, ac yn chwaer fach i Leah, Griffith, Robert ac Ellen. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Llanbedr gan gerdded drwy goed Garth Goch i lawr drwy Bentref Gwynfryn i’r ysgol bob dydd a hynny ym mhob tywydd. Amser cinio cerddai’r plant yn ôl i Bentre Gwynfryn i gartref eu Nain yn y Ffatri i fwyta eu cinio. Roedd eu mam yn wraig wael ei hiechyd ac wedi ymadael â’r ysgol bu Anti Beti yn gofalu am ei mam a chadw tŷ i’r teulu gan fod y plant hŷn yn gweini oddi cartref. Roedd hyn yn waith caled iawn gan fod angen godro, corddi, pobi, golchi a chario dŵr yn ddyddiol heb sôn am y mân ddyletswyddau eraill. Magwyd hi ar aelwyd grefyddol gyda’r teulu cyfan yn aelodau yng Nghapel Gwynfryn. Meddai ar lais alto cyfoethog ac roedd yn aelod o gôr y capel a chôr y pentref a byddai wrth ei bodd yn cystadlu gyda’r côr yn Eisteddfodau Nantcol a Gwynfryn. Ymhen amser priododd â Joseph Roberts, Cae Tudur, Bontddu, a weithiai fel gof yn yr Efail, Dyffryn Ardudwy, gan symud i fyw i Isfryn gyda’i mam yng nghyfraith a rhedeg siop groser Bryn y Felin. Wedi geni eu mab hynaf, John Gwilym, symudodd y teulu i fyw i Fryn y Felin gan barhau i gadw’r siop a’r Efail. Ymhen ychydig flynyddoedd, bendithiwyd hwy â dau fab arall, sef David Henry ac Einion Wyn. Ymdaflodd i’r gwaith yn ddiwyd a llon yn ogystal â gofalu’n dyner am y teulu. Fel plentyn ysgol 13 oed, treuliais bob gwyliau ysgol yn helpu Anti Beti yn y siop. Mae gennyf atgofion melys iawn am yr hwyl a’r direidi yn ystod prysurdeb y dydd a hithau wrth ei bodd yng nghanol y miri. Toedd dim diwedd ar y tynnu coes a’r chwerthin pan fyddai Anti Gwen o gwmpas. Mae fy nyled yn fawr iddi am fy meithrin yn y gwaith a’m hannog i wireddu fy mreuddwyd i fod yn siopwr. Ymhen blynyddoedd daeth y tri mab i gefnogi eu tad a datblygu busnes Smithy Garage. Caewyd y siop a dyma gyfle i Anti Beti gael mwynhau amser gwerthfawr gyda’r wyrion a’r wyresau a oedd mor annwyl ganddi. Roedd amser i deithio a mynd am wyliau dramor. Mawr fu’r sôn am yr hwyl a’r sbri a gafodd y ddau ac Anti Gwen ar eu teithiau gyda Chôr Godre’r Aran. Roedd yn yrrwr car heb ei hail a charai fynd am dramp i gyfeiriad Llyn Mair a throsodd i Drawsfynydd ac yna yn ôl adref trwy’r Bermo. Byddai bob amser yn paratoi picnic blasus ar gyfer y daith. Symudodd y ddau o Bryn y Felin i’w cartref newydd yn Aelwyd y Gof lle’r oedd y wên a’r croeso’r un mor gynnes. Roedd ei chwpan yn llawn yng nghwmni ei phlant, ei wyrion a’i gor-wyrion erbyn hyn. Ergyd drom iddi oedd salwch ei gŵr Joseph, ond bu ei ffydd yn gynhaliaeth gyson iddi wrth iddi ofalu’n dyner amdano ar hyd y blynyddoedd. Dangosodd yr un gofal cariadus a diflino tuag at Anti Gwen ac roedd bwlch mawr yn ei bywyd ar ôl colli’r ddau. Daliodd ati gyda chefnogaeth y plant a’u teuluoedd gan fwynhau’r gwmnïaeth yma yn Horeb, lle’r oedd yn aelod ffyddlon a gwerthfawr, ac yng nghymdeithasau Teulu Ardudwy, Teulu Artro a Chlwb Henoed Cadwgan. Cai bleser mawr yn canu’r organ a oedd yn cael lle amlwg yn yr ystafell fyw. Wrth alw heibio’r tŷ, byddai rhywun yn ei chlywed yn cyfeilio a chanu ei hoff emynau. Yn araf daeth afiechyd creulon i’w rhan a mawr fu gofal y teulu ohoni ar hyd y blynyddoedd. Bu caredigrwydd John, David ac Einion yn neilltuol a derbyniodd bob cefnogaeth a chariad gan Jean, Mai a Rhian a’r teulu oll tra bu gartref yn Aelwyd y Gôf ac yna ym Mhlas Gwyn. Diolchwn am y gofal tyner ac annwyl a dderbyniodd gan bawb yng Nghartref Plas Gwyn yn ystod y misoedd diwethaf. Rydym ni fel Eglwys eisoes wedi gweld bwlch mawr ar ei hôl yn yr oedfaon ac yn cydymdeimlo’n ddwys iawn â chwi fel teulu yn eich profedigaeth o golli mam, nain a hen nain hoffus ac annwyl. Gwyddom am eich hiraeth a’r bwlch mawr a fydd yn eich bywydau chwithau, ond gwyddom hefyd y bydd gennych atgofion melys i’w trysori am byth. Coffa da amdani. Hi oedd haul ei theulu A mwyn o fam i chwi fu. Wedi gofidiau, hir lawenhau Gorffwys rôl lludded, hedd i barhau. Edward P Owen
HEN LUNIAU
Band Dyffryn - tybed a oes gan rhywun lun cliriach na hwn? Buasem yn falch o gyhoeddi ychydig o hanes y band. Os gallwch chi helpu, dewch i gysylltiad os gwelwch yn dda.
Parti Cerdd Dant Dyffryn Ardudwy - enillwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Aberpennar, 1947. Fel gyda’r llun uchod, buasem yn falch o gael ychydig o’r hanes cefndirol. Y diweddar O T Morris yw’r arweinydd sydd yn y llun. Faint o’r merched ydych chi’n eu hadnabod?
CEIR MITSUBISHI
Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk 7
HARLECH Eisteddfod Ardudwy Braf oedd gweld Neuadd Talsarnau dan ei sang ar gyfer Eisteddfod Ardudwy, y cyntaf i’w chynnal. Roedd arddangosfa liwgar o waith TGCh, lluniau, ffotograffau a choginio o amgylch y neuadd. Daeth cystadleuwyr o Harlech, Talsarnau a Phenrhyndeudraeth i ddiddan’r gynulleidfa, Hoffai’r pwyllgor ddiolch i’r holl feirniaid - Mr Einion Dafydd, Cerdd; Mr Iwan Morus Lewis, Llefaru; Miss Freya Bentham, Arlunio; Miss Gwenan Owen, Coginio; a Mr Elfyn Anwyl, TGCh. Diolch arbennig i Mrs Elin Williams am gyfeilio. Diolch i bawb am eu gwaith yn paratoi a dysgu’r plant ar gyfer yr Eisteddfod, am gefnogi’r Eisteddfod ac am eu cyfraniadau i sicrhau diwrnod llwyddiannus. Cynhelir cyfarfod blynyddol yr Eisteddfod ar Tachwedd 10 am 6.30 yn Ystafell y Band, Harlech. Croeso cynnes i bawb. Hyderwn y bydd dyfodol llewyrchus i Eisteddfod Ardudwy. Sefydliad y Merched Harlech Croesawodd y llywydd Edwina Evans yr aelodau a thri o westeion i’r cyfarfod a gynhaliwyd nos Fercher, 8 Hydref yn Neuadd Goffa Harlech. Canwyd y gân Meirion gyda Myfanwy Jones yn cyfeilio. Dymunwyd yn dda i’r aelodau oedd o dan anhwylder, a rhoddwyd cardiau pen-blwydd i’r rhai oedd yn dathlu’r mis yma. Darllenwyd y llythyr o’r Sir a chofnodwyd dyddiadau i’w cofio yn arbennig yr ysgol undydd ym Mhlas Tanybwlch ar 20 Tachwedd gyda Gwenda Griffith yn trefnu blodau ac Eleri Griffith yn gwneud addurniadau’r Nadolig. Fe fydd dathliadau can mlynedd y Sefydliad yn cael eu cynnal yn Neuadd Albert, Llundain, ar 4 Mehefin 2015 a bydd y dathlu’n cael ei ddarlledu yn Theatr y Ddraig, Bermo. Bydd bwffe’n cael ei drefnu yno gan fod aelodau nad ydynt yn mynd i Lundain yn cael mwynhau a dathlu yma yn y Bermo. Cafwyd gwybodaeth am y noson yn Rhagfyr fydd yn y pwll nofio, a hefyd am y trefniadau i blannu
8
bylbiau ac yn y blaen ar y stesion ddiwedd Hydref. Rhoddwyd £250 i’r pwll nofio ar ôl i SyM baratoi a gwerthu nwyddau yn y Neuadd yn ystod y pythefnos gelf ym mis Gorffennaf. Diolch yn fawr i Christine Helmsley am drefnu hwn. Y wraig wadd oedd Beth Bailey, a’i thestun oedd ei gwaith gyda gwahanol eglwysi plwyf Ardudwy. Diolchwyd iddi gan Pat Turton. Fe fydd y cyfarfod nesaf yn Gyfarfod Blynyddol gydag arddangosfa o waith aelodau a hefyd Annette Evans yn sôn am ei gwaith gyda gwydr. Dymuniadau gorau i Mrs Peggy Lloyd, 39 Y Waun, sydd wedi bod yn Ysbyty Alltwen.
Dyddiadau i’w cofio
Tachwedd 10 - Cyfarfod Blynyddol Eisteddfod Ardudwy - 6.30 Ystafell y Band, Harlech. Croeso cynnes i bawb. 14 - Parti ‘Body Shop’ Noson Caws a Gwin Ystafell y Band - 7.30 Elw at Neuadd Goffa Harlech. 18 - Ffair Nadolig Ysgol Tanycastell. Rhagfyr 10 - Cyngerdd Nadolig Ystafell y Band, Mins Pei a Phanad - am 7.00. 21/22 [dibynnu ar y tywydd] Carolau yn sgwâr y Llew Glas 10.30. Rhoddion Diolch i Ifan a Helen Pritchard, 26 Tŷ Canol am eu rhodd o £20. Diolch am y rhodd o £6.50 gan Bet Jones. Neuadd Goffa Mae’r pwyllgor yn casglu tocynnau ‘Wish’ o’r Daily Post er mwyn cael cyfran o’r £25,000. Gallwch roi eich tocynnau yn eich siop bapur newydd neu i Laurence Hooban, Hefina Griffith neu Linda Soar.
Clwb Rygbi Harlech Gemau i ddod - gemau i ddechrau am 2.30 os na nodir yn wahanol. Tachwedd 8- Llangollen 11.30 [oddi cartref] 15 - Porthaethwy 11.30 Rhagfyr 6 - Machynlleth 13 - Gêm gwpan i’w chadarnhau. 27 - Cyn-chwaraewyr. Teulu’r Castell Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod cyntaf ar ôl seibiant yr haf gan y llywydd Edwina Evans. Dymunwyd pen-blwydd hapus i bawb oedd yn dathlu’r mis yma, a chofion cynnes i Mair Evans, Mair M Williams a Menna Jones, y tair wedi bod dan anhwylder yn ddiweddar ac wedi bod yn aelodau ffyddlon iawn. Diolchwyd i Enid Smith am ei chyfraniad at goffrau Teulu’r Castell. Bydd y rhaglen yn barod ym mis Tachwedd. Cynhelir y cinio Nadolig yn y Ship, Talsarnau, amser cinio 12.30 i 1.00 o’r gloch ar 3 Rhagfyr 2014. Cawn ddewis o’r fwydlen ym mis Tachwedd. Ar brynhawn dydd Mawrth, 11 Tachwedd, fe fydd Linda Ingram gyda ni yn rhoi sgwrs ar wneud sebon, canhwyllau, a nwyddau eraill. Cafwyd sgwrs a gwelsom waith arbennig gan un o’n haelodau oedd wedi ennill aml i wobr ar hyd y blynyddoedd yn Sioe Sir sef Christine Freeman. Diolchwyd iddi ar ran yr aelodau gan Myfanwy Jones. Diolch i bawb a fu’n cludo aelodau i’r cyfarfodydd, am gyfrannu gwobrau i’r rafflau, ac am gyfrannu at y te.] Ymchwil Canser Codwyd £1,400 at Ymchwil Canser yn dilyn y Ddawns Sgubor a gynhaliwyd yn ddiweddar. Diolchodd Myfanwy Jones i bawb am yr ymdrech glodwiw.
PEN-BLWYDD HAPUS Pen-blwydd hapus iawn i’r pêl-droediwr enwog, Def John a fydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 oed ar Dachwedd 11. Mae o’n gefnogwr brwd i Manchester United a hefyd yn gweithio fel plymar yn yr ardal.
LLYTHYR Annwyl Olygydd Rydw i wrth fy modd gyda’m copi electronig o’r Llais. Mae o’n dod bob cam i Dde Affrica mewn chwinciad ac yn sbario amser a chostau postio. Ac ar yr iPad mae pob tudalen mewn lliw! Gwych iawn. Mawr ddiolch. Enid [Glasfryn gynt]
PEN-BLWYDD HAPUS
Dyma Daniel Owen, 7 Ael y Glyn, Harlech a’i ffrind agos Thomas Pennie, Cae Gwastad, Harlech. Roedd Daniel yn dathlu ei ben-blwydd yn 18 oed ar Hydref 10 a bydd Thomas yn 18 oed ar Ragfyr 18. Dymuna eu teuluoedd a’u ffrindiau oll ben-blwyddi hapus iddynt.
PEN-BLWYDD HAPUS
Pen-blwydd hapus neu ‘Bon Anniversaire’ i Cath Smith, gynt o Harlech, fydd yn 60 oed ar Dachwedd 23. Trwy garedigrwydd ei mam, mae’n derbyn Llais Ardudwy bob mis allan yn Ffrainc. ‘Supendre’ i ti Cath a gobeithio y cei di ddiwrnod i’w gofio. Rydym yn edrych ymlaen at dy groesawu di a Mike adref dros y Nadolig. Pen-blwydd hapus iawn a llawer o gariad gan y teulu oll. X
RHAGOR O HARLECH
YSGOL TANYCASTELL
Ar ddiwedd mis Medi, cynhaliwyd etholiad ar gyfer y Cyngor Ysgol. Bu disgyblion B3–6 yn pleidleisio.
Dyma gynrychiolwyr o bob blwyddyn a gafodd eu hethol: Luke Devine, Ryan Hanley, Lowri Rowlands, Ruby Jones, Jago Jones, Lia John, Cai Evans, Cameron Green, Ella John a Glesni Rowlands. Da iawn chi. Byddant yn gweithio yn ddiwyd trwy’r flwyddyn yn casglu syniadau ac yn codi arian at wahanol achosion ac elusennau. Maent eisoes wedi penderfynu y caiff pob plentyn wisgo dillad eu hunain ar ddydd Gwener bob mis am £1.00 er mwyn codi arian ar gyfer adnoddau chwarae ac iPad ychwanegol i’r ysgol. Syniad gwych! Eisteddfod Ardudwy Llongyfarchiadau mawr i bawb a gafodd lwyddiant yn Eisteddfod Ardudwy ar ddydd Sadwrn, Hydref 11. Braf oedd gweld Neuadd Gymuned Talsarnau yn llawn. Llongyfarchiadau i Natasha Cunningham-Holmes ar ennill cadair yr Eisteddfod. Dyma’r darn o waith a ysgrifennodd Natasha –> Cofion Anfonwn ein cofion at Mrs Pat Roberts, 11 Tŷ Canol sydd wedi treulio cyfnod yn Ysbyty Gywynedd yn ddiweddar.
Dyddiadur Cymeriad Enwog Bart Simpson Dydd Llun Codi am wyth a mynd i ddeffro Lisa hefo dŵr oer! HA!HA! Roedd hi’n socian. Mam yn gweiddi arnaf i! Mam yn flin. Mynd i ddal y bws ysgol. Anghofio fy mag. Cerdded yn ôl adref i nôl fy mag, Mam a Dad yn edrych yn ddryslyd arnaf. Colli’r bws a gorfod cerdded i’r ysgol. Gwneud llawer o ddim yn y bore. Amser cinio, chwaraeais bêl-droed hefo fy ffrindiau, teimlo reit hapus gan fy mod wedi sgorio gôl. Dechreuodd fwrw eira – athro yn dweud fod yn rhaid i bawb fynd adref. GRÊT! Ond, gorfod cerdded adref efo Lisa – dim bws yn teithio. Swper afiach – cig moch a thatws. Yuk! Rhoddais y bwyd i’r ci yn slei bach o dan y bwrdd. Mam a Dad yn gweiddi arnaf eto. Ddim yn teimlo yn grêt ar ôl swper – ychydig o gur yn fy mhen a theimlo yn sâl. Ar ôl swper, chwaraeais dric ar Lisa. Tra’r oedd hi wedi mynd i’r toiled, es i’w ’stafell wely a rhoi tegan pry copyn ac anghenfil mawr o dan ei gwely hi. Yna es i ddweud wrthi fod ‘na sŵn yn dod o’i ’stafell wely ac aeth Lisa yno. Dechreuodd sgrechian. Mam a Dad yn flin efo fi ETO!!!
GWASANAETH UNDEBOL - Eglwys St Tanwg - Rhagfyr 14, 5.30 gyda Chôr Cana-Mi-Gei a Band Harlech. Nodwch y dyddiad!
CLWB PÊL-DROED HARLECH - 1982?
RHES GEFN [chwith i’r dde] Hywel Evans, Deio Williams, David John, Mark Jones, Steve O’Neill, David Powell Jones, Gareth Evans, Kenny Blanks, Bob Major. RHES FLAEN Merfyn Jones, Mike Roberts, David Soar, Bili Jones, Humphrey Williams, Alan Aubrey.
Dydd Mawrth Codi am 8.45yb. Rhedeg allan efo afal yn fy llaw i ddal y bws ysgol. Pawb yn chwerthin ar fy mhen. Teimlo ychydig yn embaras! Chwarae allan am ychydig efo Lisa a fy ffrindiau cyn i’r gloch ganu. Amser cinio - eistedd ar ben fy hun. Lisa yn chwerthin ar fy mhen. Cyrraedd adre am 3.45yp a mam yn gofyn beth oedd yn bod. Dydw i ddim wedi dweud wrthi. Mynd i’r gwely yn flin. Gobeithio bydd fory yn ddiwrnod gwell! Natasha Cunningham-Holmes
CYNGOR CYMUNED Croesawyd Judith Evans a Joseph Jones i’w cyfarfod cyntaf o’r Cyngor. MATERION YN CODI Rhandiroedd Bydd is-bwyllgor yn cyfarfod er mwyn llunio rheolau ar gyfer y rhandiroedd. Cytunwyd i osod weiren mochyn a weiran lefn ar hyd y rhandir uchaf. Derbyniwyd un cais am logi’r garej ger yr Hen Ladddŷ ond cytunwyd I beidio ei dderbyn gan fod y pris yn llawer rhy isel. Darn Tir ger Cwrt Tenis Mae angen gosod arwyddion ynglŷn â baw cŵn yno. Cyngerdd Nadolig 2014 Cynhelir hwn ar Ragfyr 17 am 6.30 o’r gloch yn Ysgol Ardudwy. Coed Nadolig ac addurno’r dref Penderfynwyd archebu pedair coeden Nadolig eto eleni a mwy o oleuadau er mwyn cael addurno’r dref a chytunwyd i sefydlu isbwyllgor i ddelio’r gyda’r mater. Cytunwyd i roi £300 fel cymorth ariannol i Gymdeithas Twristiaeth a Masnach Harlech at yr uchod. CEISIADAU CYNLLUNIO Estyniad i’r safle carafanau presennol, lleoli 10 carafán sefydlog ychwanegol, dymchwel rhai adeiladau a gwella’r fynedfa - Parc Carafanau Ffordd y Traeth, Harlech Cefnogi’r cais hwn. CYMORTH ARIANNOL Cymdeithas Twristiaeth a Masnach Harlech - £300.00 Hamdden Harlech ac Ardudwy £750.00 Pwyllgor Neuadd Goffa - £500.00 Pwyllgor yr Hen Lyfrgell - £500.00 GOHEBIAETH Siop Spar, Harlech Derbyniwyd llythyr oddi wrth yr uchod yn gwrthwynebu cynlluniau’r Cyngor i gael gwared ag un llecyn parcio y tu allan i’r siop uchod. Cytunwyd i anfon copi o’r llythyr at Mr Colin Jones yng Nghaernarfon. UNRHYW FATER ARALL Estynnir gwahoddiad i Mr Colin Jones a Mr Iwan ap Trefor Jones o Gyngor Gwynedd i gyfarfod nesaf y Cyngor. Mae’r llain o amgylch y sedd gyferbyn â maes parcio Bron y Graig isaf angen sylw. Datganwyd pryder bod y coed ar safle Pant yr Eithin yn dal heb eu torri. Mae angen sylw ar y wal o amgylch y Gofeb; mae’r mater yn cael sylw. Mae angen tocio’r coed ger Pen y Garth. Datganwyd pryder bod y rhwystr ym maes parcio Min y Don yn dal heb ei drwsio. Mae angen i’r glanhawr ffordd ddod i’r dref. Mae coeden beryglus yng nghyffiniau Bryn Teg. Mae angen golau ger Bodriw.
9
Dyddiadur fy nhaid, Evan Pugh Jones, Twllnant, am y flwyddyn 1931
[Anfonwyd at y Llais gan Gweneira Jones, Allt Goch]
Ionawr 2 - 1 indian meal, 2 corn, 12 siwgr, 1 te (o Coporet) 5ed Ion - 9 cwt.. glo 6ed Ion - Tipio tro cyntaf i Graig isa 14 Ion - 1 tea, 1 canwyllau, 10½ cwt.. glo, 4 sachau gweigion [arian mae’n debyg am eu dychwelyd] 20 Ion - Tipio yr ail waith 26 Ion - 2 Corn, 1 Bran, 12 Siwgr, 12 reis, 1 tê, 1 triog Chwefror 2 - 12 siwgr, 1 te. 3 – 1 Bran, 1 Indian meal, 4 sachau gweigion 11 – 1 Corn, 1 Indian meal, 1 Blawd, 1 triog 18 – 7 cwt. glo, 1 Rhaw, 1 weiar, 5 sachau gweigion 24 - 12 siwgr, 1 te. Mawrth 2 – 1 Indian meal, 1 Corn 4 – 11 cwt. glo. 4 sachau gweigion 18 - Rhoi wyau yn yr inciwpetor 20 - Rhoi wyau dan yr ŵydd wen Ebrill 11 – Rhoi wyau yn yr inciwpetor 25 – Rhoi iâr i ista yn gut tipio. 29 - Rhoi wyau o tan yr ieir yn Tŷ ingin
ATGOF AUR
Mai 2 – Rhoi dwy iâr i ista yn y simdda. 11 - Tatws 6/6 a Haidd 7/6 i Owen Penisarcwm [ei frawd]. Mynd a defaid i’r mynydd. Mehefin 11 – Torri ar yr ŵyn yn Dolgau a torri ar yr ŵyn Bronfoelisa ac ar y lloau yn Caerffynnon. 15fed - Torri ar yr ŵyn yn Nantcol a Cilcychwyn. 16 – Torri ar yr ŵyn yn Penisarcwm. 17 – Mynd â’r ferlen i Caenest. 24 – Golchi yn Penisarcwm [defaid cyn eu cneifio] 25 – Golchi yn Dolgau 26 - Cneifio yn Cefn isa. Rhoi £21 yn y Banc 29 – Golchi yna, Hendre, Glanrheadr, Gellibant. Cneifio Penisarcwm. 30 – Cneifio Cilcychwyn, Golchi Graig isa Gorffennaf 1 – Cneifio Gellibant. 2il - Canu Harlech 3ydd – Cneifio yn Maesgarnedd. 6 – Cneifio yn Glanrheadr 7 – Cneifio Twllnant, Caermeddyg 9 – Cneifio yn Nantcol 10 – Cneifio yn Graig isa 20 – Dechrau ar y gwair. 28 – Tipio am y tro cyntaf. Awst 5 – Gwerthu heffar i Llwynhwlcyn. 7 – Tipio yr ail waith. Gwerthu 20 ŵyn i Evans & Davies
14 – Rhoi £18.10 yn y Banc – arian yr ŵyn.
Gwerthu i Hugh Jones, Dyffryn, menyn a wyau
Medi 1 – Gorffen efo’r gwair 5 – Dwad a 9 ½ o gig o Cefn uchaf 7 Prynu 17 ŵyn gan Owen. 10 am 12/-, 7 am 6/-.
Mis Ionawr 1af - 2 lb menyn 3/2, 94 wyau = 11.9 = £14.11 8fed – 3 lb menyn 4/9, 95 wyau – 12/1½ = £16.10½ 15fed – 5 lb menyn 7/11, 126 wyau – 15.9 = £1.3.8 22nd – 5 lb menyn 7/11, 102 wyau = 10.7½ = £18.6½ 29ain – 6 lb menyn 9/6, 162 wyau = 16.10½ = £1.6.4½ 21 lb menyn, 1/7 y pwys a 579 o wyau = £5.0.4½
Hydref 24 – Yn ddyledus i Owen am oen a cig. 18/6 7 – Gwerthu tri o fyllt i Owen am £3 Tachwedd 9 – Lladd mochyn yn Bronfoelucha. 10 – Lladd mochyn yn Nantcol a Hendre a torri yn Bronfoel 11 – Lladd dau fochyn yn Cefnisa a torri yn Nantcol a Hendre. 12 – Lladd dau fochyn yma a torri yn Cefn isa a lladd llwdwn Owen 13 – Torri yma a lladd mochyn yn Maesgarnedd. 14 – Torri mochyn Maesgarnedd. 18 – Lladd moch Glanrheadr 20 – Torri moch yn Glanrheadr. Rhagfyr 3 - Lladd mochyn Cilcychwyn, lladd hwch Byrllusg. Rhag 12fed – 1 Corn, 1 Indian meal, 1 Bran, 12 siwgr, 1 tea, 1 jam, 1 triog. 23 - 1 Corn, 12 siwgr, 1 te, 1 Resin, 1 Cyrants, 1 Peel, 1 Mincemeat. 2 ŵydd i Arthog - £1.1.3, gŵydd i Coedybachau 9 lb 11/3 gŵydd Llanfachreth 8 lb 10/gŵydd Penygarth 8 ½ 10/6. 1/3 y pwys.
FFAIR AEAF
Hoffem longyfarch Gweneira yng nghwmni Jones yn fawr iawn ar y fideo am SIÔN CORN, BAND ARALL a LIZ SAVILLE ROBERTS deulu Allt Goch a grëwyd gan [darpar ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn etholiad cyffredinol 2015] ei hŵyr, Deio Owain, sydd wedi yn Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth, sefydlu’r cwmni ‘Atgof Aur’. Mae’n ddiddorol dros ben. dydd Sadwrn, Tachwedd 22, 2014 o 2.00 tan 4.00 Yn ôl Bethan Gwanas, ‘Mae’n Stondinau o bob math - cynnyrch cartre’ o’r safon uchaf: ffilm hyfryd, gynnes, annwyl jamiau, cacennau, taffi, picl; tombola; llyfrau ail-law; ac ati. sy’n hynod werthfawr i aelodau’r Mynediad yn cynnwys ‘pana’d a chacen gri/sgon: £1.50. teulu yn y dyfodol, heb sôn am CROESO CYNNES I BAWB rŵan. Fe gewch y manylion ar Trefnir gan Gangen Deudraeth Plaid Cymru youtube dan y pennawd Nain Allt Goch. Ac i chi sy’n awyddus i gael rhywun i ddod atoch i greu ffilm fer ac i roi rhai o’ch lluniau a’ch atgofion ar gof a chadw, cysylltwch â’r cwmni: Atgof Aur, Drws Agored, Stryd y Plas, Nefyn LL53 6HP www.atgofaur.com atgofaur@hotmail.com 01758 720604 neu 07880 351763
9
ac am fis Gorffennaf: 2il – 9 lb menyn 1/- y pwys 9/wyau 10c am 192 = 13/4 = £1.2.4 9fed – 10 lb menyn “ 10/- 180 wyau = 12/1 = £1.2.11 16eg – 12 lb “ 1/1 y pwys 13/264 wyau 1/- y dwsin = £1.15.0 23 – 10 lb “ 10/10 244 wyau £1.0.4 = £1.11.2 30 – 11 lb “ ½ y pwys 12.10 234 “ 1.3 y dwsin £1.4.4 = 1.11.2 62 pwysi o fenyn a 1120 wyau = £7.2.9 Cyfanswm derbyniadau menyn a wyau yn 1931 = £64.7.9 Cyfanswm menyn 254 pwys, wyau 8784.
YSGOL ARDUDWY HARLECH Nos Fercher 17 Rhagfyr 2014 am 6.30 yr hwyr
CYNGERDD gyda
CHÔR CANA-MI-GEI SEINDORF ARIAN HARLECH PLANT YSGOL TANYCASTELL AELWYD ARDUDWY DIZZEE DANCERS Lluniaeth ysgafn Croeso cynnes i bawb Mynediad am ddim Hefyd bydd Siôn Corn yn dod heibio am dro
Sadwrn a Sul, 6ed a 7fed Rhagfyr
Trefnir gan Gyngor Cymuned Harlech
TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Gwasanaethau Diolchgarwch Diolch Bu dwy Oedfa Ddiolchgarwch Diolch i’m ffrindiau, cymdogion ym Mryntecwyn eleni, gyda’r a theulu am y cardiau, blodau, Gwasanaeth cyntaf prynhawn anrhegion a phrydau bwyd ar Sul, 5 Hydref o dan y teitl gyrraedd y garreg filltir hon. ‘Ffynnu yng Ngardd Duw’, Cyd-ddigwyddiad oedd cael wedi’i pharatoi’n arbennig gan y gwaith wedi ei wneud ar Lwybr Parch Anita Ephraim. Cafwyd y Wern yn ystod y cyfnod hwn. darlleniadau unigol gan aelodau Bum rai misoedd yn ôl yn casglu Bryntecwyn a Chapel Soar. Merched y Wawr enwau ar ddeiseb i wella’r llwybr Ella Wynne Jones oedd wrth yr Cawsom wahoddiad i ymuno â oedd mor boblogaidd gennym Changen Deudraeth i wrando ar organ. fel plant yn Soar. Mae gwaith adloniant gan y parti ‘Pwy Fase’n Prynhawn Sul, 19 Hydref bu’r ardderchog wedi ei wneud ail Wasanaeth o ddiolch dan ofal yno a hoffwn ddiolch i Gyngor Meddwl’ o ardal Llŷn. Cafwyd Carys Evans, Elin Williams wrth Gwynedd ac yn enwedig i Lis noson wych o ganu hyfryd gan yr organ, a Meinir Jones, gyda’r y saith gŵr, i gyfeiliant medrus Haynes o’r swyddfa yn Nolgellau. plant i gyd yn cynnal yr oedfa. eu harweinyddes, Gwenda, ar Mae’r llwybr yn arwain i lawr at Cyflwynwyd amrywiaeth o y piano drydan a’r acordion a yr afon Wern yn dilyn arwydd hithau hefyd yn rhoi cyflwyniad ddarlleniadau addas i’r achlysur rhyw 100 llath i’r dde ar ôl mynd ar yr offeryn yma. I gloi’r noson, gan Ellie, Beca, Siôn, Osian, Jac, heibio i’r capel yn Soar. Mae’r Lois, Sioned a Cari Elen, gyda’r mwynhawyd lluniaeth blasus llwybr newydd yn llawer uwch mamau’n cyfrannu ychydig wedi’i baratoi gan aelodau na’r cae ac yn bleser i’w gerdded at hyn. Diolchwyd yn gynnes Deudraeth, a diolchwyd ac wrth droi i’r chwith a heibio iawn iddynt i gyd am ddod iddynt gan Gwenda Paul, am tyddyn Dolorgan dewch yn ôl i i Fryntecwyn, ac i Carys am y croeso ac am y cyfle i gydSoar - cylchdaith fer o hanner drefnu pob dim. fwynhau noson bleserus iawn. awr. Wedi’r holl wledda, dyma’r Nos Lun, 6 Hydref cynhaliwyd ateb i gadw’n iach. Diolch noson gyntaf y Gangen eleni Gwenda. Dymuna Ann Jones, Llwyn dan lywyddiaeth Siriol Lewis. Rhodd a diolch £10 Croesawyd pawb a chyd-ganwyd Ffynnon ddiolch yn fawr i’w theulu, ei ffrindiau a’i chydcân y mudiad. Trafodwyd Gwellhad buan weithwyr yn Ysgol Tan y prosiect Meryl Davies, y Dyna yw ein dymuniad i Dylan Llywydd Cenedlaethol newydd, Castell am y dymuniadau Aubrey, Pensarn, a gafodd anaf gorau, y cardiau a’r anrhegion a oedd yn cefnogi Sefydliad i’w fys wrth dorri gwair yn a dderbyniodd ar achlysur ei y Galon Cymru, ac yn apelio ddiweddar. Deallwn ei fod yn phen-blwydd yn ddiweddar. am i ni gasglu ategolion o gwella reit dda a byddwn oll yn Rhodd a diolch £10 bob math; ac yna nodwyd falch o’i weld yn ôl wrth ei waith nifer o gystadlaethau, y Cwis unwaith eto. Rhodd Cenedlaethol, y Gwasanaeth Diolch am y rhodd o £10 gan Llith a Charol a Bowlio Deg. Cofion Ieuan Lloyd Evans. Roeddem wedi derbyn sampl Anfonwn ein cofion at Gwynfor o fwydlen cinio ‘Dolig Cwmni Williams, Angorfa, sydd yn Bore Coffi Seren ac wedi trafodaeth, Ysbyty Gwynedd, wedi derbyn TEAR FUND - Tachwedd 8 am cytunwyd i fynd yno. Dydd 10.30-12.30 yn y Capel Newydd llawdriniaeth. Rydym yn Gwener, 12 Rhagfyr fyddai’n meddwl amdanoch. ddiwrnod hwylus i bawb. Ein gwraig wadd oedd Siân Northey o Benrhyndeudraeth, yr awdures a bardd. Dechreuodd drwy gyflwyno ychydig o’i hanes a sut y daeth i ysgrifennu yn y lle cyntaf, cyn dechrau sôn am ei llyfrau - i bobl ac i blant, a’i llyfr idiomau Cymraeg i blant; dyfynnodd ychydig o’i gwaith a rhoddodd hyn flas i ni gael darllen mwy ohono. Soniodd am sgriptio Pobol y Cwm, ac yr hoffai wneud mwy o’r math yma o waith, ynghyd â dal ati gydag ysgrifennu i blant. Mwynhawyd Honda Civic Tourer Newydd ei sgwrs yn fawr. Diolchwyd iddi’n gynnes iawn gan Gwenda Paul, am roi o’i hamser i ddod atom ac i sôn am ei gwaith. Cofion Anfonwn ein cofion gorau at Mr Idris Williams, Tanforhesgan, sydd wedi cyrraedd Ysbyty Alltwen erbyn hyn. Mae’n teimlo yn llawer gwell erbyn hyn. Hyderwn y gwelwn ef yn cerdded yn fuan iawn rŵan.
FFAIR NADOLIG yn Neuadd Gymuned Talsarnau Nos Iau, 27 Tachwedd am 6.30
Stondinau amrywiol Paned a sgwrs Dewch i brynu anrhegion Nadolig
Mynediad: Oedolion £1 Plant – am ddim Gellir llogi bwrdd am £10 01766 770757 Cyngerdd Mwynhawyd noson arbennig yng nghwmni Trio Canig a Pharti’r Goedlan nos Wener 27 Hydref. Roedd yn braf gweld y Neuadd yn llawn. Roedd yr elw at y Neuadd yn £880. Diolch yn fawr i bawb am eu cefnogaeth.
R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau
Ffôn 01766 770286 Ffacs 01766 771250
Hen lun Edward Morris Hughes, Barcdy gynt, (taid Mai) tua 1890, ar feic teiars caled. Gwelir y lamp garbeid ar y tu blaen, a hefyd bod yr unig frêc yn gorwedd yn union ar ben teiar yr olwyn flaen! Beic ‘fixed wheel’ oedd hwn a gellir gweld bod lle, o boptu’r fforch flaen, i roi traed pan nad oedd angen padlo. MJ
11
THEATR HARLECH
CROESAIR 1
2
3
4
5
6
7 9
8
10
TACHWEDD
11
13
12
15
14
Am fanylion pellach am ddigwyddiadau’r Theatr, ffoniwch 01766 780667, neu ewch i’r wefan ar www.theatrharlech.com Digwyddiadau am 7.30 oni nodir yn wahanol. 8 - Anthem for Doomed Youth Straeon o ffosydd y Rhyfel Mawr 11 - United We Stand - Drama newydd bwerus am Streic yr Adeiladwyr 1972 20 - Ffilm - Metro Manilla [15] 29 - Dawns - Dizzee Dancers
16 17
19
18
21
20
22
Ar draws 1 Tyfiant newydd ar blanhigyn (6) 4 Llyfr o fapiau (5) 8 Offeryn cerddorol â nodyn isel (4, 3) 9 Moel (4) 10 Rhywun sydd wedi cyrraedd ei lawn dwf (7) 11 Ystafell mewn ysbyty (4) 12 Cainc (4) 14 Cân o fawl neu lawenydd (5) 17 Tref yn Ne Cymru (6) 19 Rhedeg i ffwrdd (5) 21 Defnydd a grëwyd gan ddyn (6) 22 Cerdd sy’n adrodd hanes campau arwr neu arwyr (4) I lawr 1 Bustach (6) 2 Swm o arian gaiff ei dalu am niwed, colled ac ati (7) 3 Begian (5) 5 Tân mawr (7) 6 Offer i fesur cerrynt trydanol mewn amperau (5) 7 Esgyrn sy’n ymestyn o’r asgwrn cefn i’r frest (7) 13 Plant i fab neu ferch (6) 15 Dymuniad i wneud niwed neu ddrwg (6) 16 Bechgyn neu ferched ifanc (5) 18 Chwisl (4) 20 Y synau sy’n dangos o ba ardal mae’r person hwnnw yn dod (4)
ENILLWYR MIS HYDREF Dyma’r enillwyr y tro hwn: Megan Jones, Pensarn, Pwllheli; Elizabeth Jones, Tyddyn y Gwynt, Harlech; Dilys A Pritchard Jones, Abererch; Ceinwen Owen, Llanfachreth; Hilda Harris, Dyffryn Ardudwy; Gweneira Jones, Cwm Nantcol. Atebion Mis Hydref AR DRAWS 1. Craith 4. Gadael 7. Bachwr 8. Ithfaen 9. Udo 11. Cambodia 12. Band 13. Uno 14. Bai 18. Reiat 19. Crafog 20. Ceirios 21. Neis I LAWR 1. Cablu 2. Arch 3. Thoracs 4. Gwidman 5. Difrod 6. Eleni 10. Ochneidio 12. Barics 15. Afonig 16. Steil 17. Barnu 19. Cosi SYLWER Atebion i sylw: Phil Mostert, Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech LL46 2SS, erbyn canol y mis os gwelwch yn dda.
MARCHNAD CYNNYRCH LLEOL GWYNEDD Y Ganolfan, Harbwr Porthmadog 9.30 y bore – 2.00 y pnawn Dydd Sadwrn ola’r mis. Cyfle i brynu cynnyrch lleol ffres o bob math, o fadarch, wyau, cacenni, llysiau, bara a chig, i daffi a jamiau!
12
Y Bardd Cwsg a Guto Ffowc
Welsoch chi gerdd Ellis Wynne (Y Bardd Cwsg) ar y testun ‘Noson Guto Ffowc’? Naddo mae’n debyg, oherwydd yn awr y mae’n gweld golau dydd am y tro cyntaf. Cerdd fer mewn Lladin ydyw, dan y teitl ‘In Quintum Novembris’, yn gwaredu at Gynllwyn y Powdwr Gwn ac yn diolch am y waredigaeth i’r deyrnas. Daeth i’r fei ymhlith papurau Ymddiriedolaeth David Hughes yn Archifdy Ynys Môn, Llangefni, a gwarantodd yr Athro Gwyn Thomas bod y copi yn llaw Ellis Wynne ei hun. Fe’i cyhoeddir yn y gyfrol ‘Hen Lyfr Bach Cerddi’r Bardd Cwsg’, dan olygyddiaeth Dafydd Glyn Jones. Yn y gyfrol hefyd mae’r englynion Lladin y bu Ellis Wynne yn eu cyfnewid â Thomas Owen, Prifathro Ysgol Ramadeg Biwmares, hyn eto yn ennyn chwilfrydedd ynghylch cysylltiad posibl y Bardd Cwsg â’r hen
ysgol ym Môn. A oes yma ryw bennod fach o hanes Ellis na wyddem ddim amdani? Yn yr un pecyn o ‘Hen Lyfrau Bach’ ceir tri llyfr bychan arall, i ffitio poced y Cymro o ran maint ac o ran pris. Am y tro cyntaf ers 1923, ceir y casgliad cyflawn o gerddi’r Bardd Cocos, gyda rhagymadrodd gwerthfawr Thomas Roberts (Alaw Ceris). Ceir detholiad newydd gan Dawi Griffiths o waith Eben Fardd mewn mydr a rhyddiaith. A cheir y stori ‘Dewis Blaenoriaid’ gan Daniel Owen, gwaith cynnar a ddisgrifiwyd gan Saunders Lewis fel ‘y peth perffeithiaf a sgrifennodd ef ’. Bwriedir ‘Yr Hen Lyfrau Bach’ fel chwaer-gyfres i ‘Gyfrolau Cenedl’, yn ailgyflwyno gweithiau byrrach a ddylai fod ar gael i bob Cymro. Mae rhes hir o gyfrolau eisoes wedi eu cynllunio. Gobeithir gweld eu cyhoeddi os ceir cefnogaeth. Mae’r diolch i Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai am gyfraniad hael a wnaeth yn bosibl gyhoeddi’r pedair cyfrol gyntaf. Roedd y gyfrol ar werth yn Ffair Cyfeillion y Lasynys, a gynhaliwyd yn Neuadd Talsarnau ddydd Sadwrn, 18 Hydref.
Adloniant yn Nhŷ Siamas
Mae hi wedi bod yn hydref prysur iawn yn Nhŷ Siamas Dolgellau. Cafwyd nosweithiau cofiadwy yng nghwmni Rhisiart Arwel, Al Lewis a llawer mwy. Bellach edrychwn ymlaen at fisoedd y gaeaf a chredwn fod digon o adloniant gwerth chweil i’ch cynhesu. Tachwedd 29 Cewch lond bol o chwerthin yng nghwmni’r comedïwr Tudur Owen. Beth yn well ar noson aeafol oer na chael llond bol o chwerthin, cwmni da a diod neu ddau? Rhagfyr 6 Bydd y grŵp gwerin Calan yn cynnig cerddoriaeth i’ch cynhyrfu ar drothwy’r Nadolig. Felly, yn ddi-os, Tŷ Siamas ydy’r lle i fod am adloniant y gaeaf hwn! Gallwch sicrhau eich tocynnau trwy ffonio 07860 934722 neu 01341 421800.
Rhiannon Davies Jones
TEYRNGED
Mae’r awdures Rhiannon Davies Jones, enw blaenllaw ymysg nofelwyr hanesyddol Cymru, wedi marw yn 92 oed. Bu farw yn yr ysbyty ar ôl salwch hir. Yn wreiddiol o Lanbedr, yn Ardudwy, fe enillodd y Fedal Ryddiaith ddwywaith – yn 1960 am ei nofel Fy Hen Lyfr Cownt ac yn 1964 am ei gwaith Lleian Llanllŷr. Yn ystod ei gyrfa, fe ysgrifennodd 10 nofel ynglŷn â chyfnodau o hanes Cymru gan gynnwys Dyddiadur Mari Gwyn (1985), Llys Aberffraw (1977), Eryr Pengwern (1981) ac Adar Drycin (1993). Y mae hefyd wedi cyhoeddi storïau byrion a chasgliad o hwiangerddi gwreiddiol i blant. Cafodd ei haddysg ym Mhrifysgol Bangor, a bu’n athrawes yn Ysgol Ramadeg Rhuthun cyn symud i swydd mewn Coleg yng Nghaerllion. Yna am gyfnod bu’n ddarlithydd ac yn uwchddarlithydd yn y Gymraeg yn y Coleg Normal, Bangor.
Ganwyd Anti Rhiannon yn Llanbedr ar y 4ydd o Dachwedd 1921, yn ferch i Anti Laura, Pen-y-bont, a Hugh Davies Jones a hanai o ardal Llansilin. Roedd yn weinidog gyda’r Bedyddwyr yn Ardudwy, gan gynnwys Salem Cefncymerau. Bu farw ei thad pan oedd ond yn ddwy oed, ac ymhen ychydig aeth gyda’i mam ac Annie Davies, ei chwaer hŷn, i fyw i Ben-y-bont at ei nain. Ar yr aelwyd y cafodd Anti Rhiannon ei haddysg mwyaf gwerthfawr. Cofiaf iddi ddweud nad oedd ganddynt fawr o lyfrau yn y tŷ yr adeg honno, ond yr hyn a wnai yn gyson oedd gwrando ar yr oedolion yn siarad. Gwrando ar straeon cefn gwlad yn cael eu hadrodd mewn iaith goeth. Sugnai’r cyfan i fêr ei hesgyrn a esgorodd ar lenyddiaeth werthfawr gydol ei hoes.
Clwb Rygbi Harlech Cwpan Gwynedd Harlech v Pwllheli (Ail Dîm) Cafwyd dechreuad digon cyfartal i’r gêm. Harlech oedd y cyntaf i sgorio - cic gosb gan Ewart Williams. Atebodd Pwllheli gyda chic gosb gan Alan Roberts. Yna cafodd Ewart Williams gic gosb lwyddiannus arall. Tro Edward Williams oedd hi wedyn i sgorio cais, ond anlwcus fuodd Ewart gyda’r trosgais. Ynyr Roberts sgoriodd y cais nesaf, ond methu’r trosgais wnaeth Ewart. Y canolwr Eilir Hughes sgoriodd y cais olaf i Harlech ac mi fuodd Ewart Williams yn llwyddiannus gyda’r trosgais. Harlech 23 Pwllheli (ail dîm) 3 oedd y sgôr terfynol. Gêm nesaf i ffwrdd yn erbyn Llangollen, Tachwedd 8 Meilir Roberts
ENNILL GWOBR NEUSTADT
Ar yr aelwyd honno, magwyd perthynas glos rhyngddi â’i theulu. Roedd yna gwlwm tyn iawn rhwng Anti Laura, Annie Davies a hithau a braint hyfryd oedd cael ymweld â’u cartref yn Glynnor pan oeddem yn blant. Nid dyletswydd oedd mynd yno i’w gweld ond pleser pur. A chael y cyfle i sgwrsio am bethau oedd o bwys. Roeddech yn ymwybodol o gynhesrwydd y berthynas oedd rhyngddynt a chyn mynd oddi yno roedd yn rhaid sgwennu yn y ‘llyfr ymwelwyr’. Na, nid ‘rhaid’ ond ein hannog i wneud. Roedd yn ymarfer da wrth edrych yn ôl i’n dysgu i gyfleu ein meddwl am yr hyn y buom yn ei drafod. A dyna i chi beth arall am Anti Rhiannon; ei dawn arbennig i annog eraill. Os oeddem wedi cyflawni rhywbeth o bwys, ei geiriau fyddai “Wel, be wyt ti am neud nesa?” Neu beth fyddem yn obeithio ei wneud efo’r hyn roeddem wedi’i gyflawni. Ddiwrnod cyn iddi farw, roedd ganddi eiriau o anogaeth ar ei gwefusau. Cymaint oedd ei diddordeb mewn pobl, fe gymrai amser i wrando ac i feddwl. Nid gwrando yn unig a wnai ond cofio’r cyfan hefyd a gwneud rhywbeth am y peth tasa hi’n cael y cyfle. Roedd yn berson hael iawn ym mhob ffordd. Ceir ambell i hanesyn digrif iawn amdani gyda’r myfyrwyr yn y Coleg ac roedd ganddi berthynas arbennig â hwy. Dywedai wrthym bod ei thad yn dipyn o dynnwr coes a daethai hynny i’r golwg ynddi hithau bob hyn a hyn. Cofiaf fod yn ei chwmni yn Ngwernyfed, ei chartref ym Mhorthaethwy, yn fy nagrau yn chwerthin am rywbeth neu’i gilydd.
Llongyfarchiadau cynnes iawn i’r Athro Emeritws Rhodri Jeffreys-Jones ar ennill gwobr Neustadt gan y Grŵp Gwleidyddol Mae yna andros o fwlch ar ei hôl. Roedd yn gymeriad mor fawr er mai bach iawn o gorffolaeth oedd Americanaidd. Gwobr yw hon a ddyfernir i’r llyfr gorau hi yn y diwedd. a gyhoeddwyd yn y maes Diolch i Meic Stephens, am ei ysgrif goffa yn y papur Saesneg ‘The Independent’ sy’n sôn am ei llyfrau gwleidyddol yn ystod y flwyddyn flaenorol. Mae’r llyfr ‘The a’r hyn a gyfrannodd i Lenyddiaeth Gymraeg. Gobeithiwn gynnwys cyfieithiad ohoni yn y rhifyn American Left: Its Impact on Politics nesaf o’r Llais.
Anna Wyn a Lisbeth
and Society since 1900’ (Edinburgh University Press, 2013) yn
ymwneud â gwleidyddiaeth adain chwith yn yr Unol Daleithiau. Ef hefyd yw awdur y llyfr ‘In Spies We Trust’ sy’n ymchwilio i faes ysbïo ers dechrau’r ganrif ddiwethaf hyd heddiw. Mae Rhodri yn gynddisgybl o Ysgol Sir Y Bermo ac wedyn Ysgol Ardudwy hyd 1960, ac ar ôl hynny bu ym Mhrifysgol Aberystwyth.
13
Eisteddfod Ardudwy
Cerdd Unawd B1 & 2 1af – Madi Lloyd, Talsarnau 2il – Cet ap Tomos, Penrhyn 3ydd – Cari Elen Jones, Talsarnau Unawd B3 & 4 1af – Nel ap Tomos, Penrhyn 2il – Sioned Evans, Talsarnau 3ydd – Chloe Lois Roberts, Talsarnau Unawd B5 & 6 1af – Lea Ephraim, Talsarnau Chwarae Offeryn Cerdd – B6 ac iau 1af – David Bisseker, Talsarnau 2il – Sioned Evans, Talsarnau 3ydd – Chloe Lois Roberts, Talsarnau Parti Canu B6 ac iau 1af – Grŵp Tanycastell Côr B6 ac iau 1af – Côr Ysgol Talsarnau Unawd B7, 8 a 9 1af – Alaw Mai Sharp, Ardudwy 2il – Cerys Fflur Sharp, Ardudwy Deuawd B7, 8 & 9 1af – Cerys ac Alaw Sharp, Ardudwy Offeryn Cerdd B7, 8 & 9 1af – Alaw Mai Sharp, Ardudwy 2il – Cerys Fflur Sharp, Ardudwy Côr dan 21 1af – Côr Aelwyd Ardudwy Dawnsio Grŵp Dawnsio Disgo B6 ac iau 1af – Grŵp Ysgol Tanycastell Unigol B6 ac iau 1af – Erin Mitchelmore, Talsarnau Llefaru Meithrin a Derbyn 1af – Caio Williams,Tanycastell B1 & 2 1af – Cet ap Tomos, Penrhyn 2il – Ella Evans, Tanycastell 3ydd – Dylan Mitchelmore, Talsarnau B3 & 4 1af – Nel ap Tomos, Penrhyn 2il – Erin Mitchelmore, Talsarnau 3ydd – Grace Lewis, Tanycastell B5 & 6 1af – Natasha Cunnington Holmes, Tanycastell Grŵp llefaru B6 ac iau 1af – Grŵp Ysgol Tanycastell Sgets/Ymgom B6 ac iau 1af – Grwp Ysgol Tanycastell Arlunio Meithrin & Derbyn 1af – Sophia Poulton, Tanycastell 2il – Cian Rissbrook, Tanycastell 3ydd – Emily Jenkins, Tanycastell B1 & 2 1af – Thio Walters, Tanycastell
14
2il – Madi Lloyd, Talsarnau 3ydd – Tay Devine, Tanycastell B3, 4, 5 & 6 1af – Cameron Green, Tanycastell 2il – Ifan Beale, Talsarnau 3ydd – Chloe, Dyffryn Ardudwy B7, 8 & 9 1af – Alaw Mai Sharp, Ardudwy 2il – Cerys Fflur Sharp, Ardudwy Coginio B2 ac iau 1af – Dylan Mitchelmore, Talsarnau 2il – Cai Thomas, Talsarnau 3ydd – Sam Roberts, Talsarnau B3 & 4 1af – Cara Thomas, Talsarnau & Chloe Lois Roberts, Talsarnau 2il – Lois Williams, Talsarnau 3ydd – Erin Mitchelmore, Talsarnau B5 & 6 1af – Lowri Gwyn Rowlands, Tanycastell 2il – Ceri John, Tanycastell 3ydd – Lea Ephraim, Talsarnau B7, 8 & 9 1af – Alaw Mai Sharp, Ardudwy 2il – Beca Williams, Ardudwy 3ydd – Cerys Fflur Sharp, Ardudwy. Ffotograffiaeth B6 ac iau 1af – Tomasz Ambrozewicz, Tanycastell 2il – Osian Llyr Evans, Talsarnau 3ydd – Chloe Lois Roberts, Talsarnau B9 ac iau 1af – Alaw Mai Sharp, Ardudwy 2il – Cerys Fflur Sharp, Ardudwy Dan 21 1af – Cynan Sharp, Llanfair Llenyddiaeth B6 ac iau 1af – Natasha Cunnington Holmes, Tanycastell 2il – Ffion Moore, Tanycastell 3ydd – Lois Williams, Talsarnau B9 ac iau 1af – Cerys Fflur Sharp, Ardudwy 2il – Alaw Mai Sharp, Ardudwy Enillydd y Gadair – Natasha Cunnington Holmes, Tanycastell Technoleg Gwybodaeth B2 ac iau 1af – Moli, Dyffryn Ardudwy 2il – Alys, Dyffryn Ardudwy 3ydd – Katie, Dyffryn Ardudwy B6 ac iau 1af – Nathan Devine, Tanycastell 2il – Lia John, Tanycastell 3ydd – Cai Evans, Tanycastell Enillydd y Logo – Beca Williams, Talsarnau
AELWYD ARDUDWY
Dechreuodd tymor 2014-2015 i Aelwyd Ardudwy gyda gêm o rownderi yng Nghae’r Brenin Siôr. Daeth nifer o bob oedran i faesu a tharo a chafwyd sesiwn hwyliog iawn! Taith i Alton Towers oedd y weithgaredd nesaf. Ar fore dydd Llun, Hydref 27, cychwynnodd 14 o blant a 4 oedolyn ar y siwrne hir i Uttoxeter. Gweiddi a sgrechian wrth wibio ar y reids oedd hanes y diwrnod! Diolch i Alwen, Elin, Jane a Ceri am roi o’u hamser i ofalu am y plant. Y gweithgareddau nesaf fydd sesiwn ar yr anghenfil yn y pwll nofio a pharti Nadolig. Yn fuan mi fydd ymarferion Eisteddfod yr Urdd yn dechrau, gan obeithio y gallwn gystadlu mewn cystadlaethau cerdd, llefaru a chelf. Am fwy o wybodaeth gallwch ymuno ag Aelwyd Ardudwy ar Facebook neu ffoniwch Jane Sharp (780890) neu Ceri Griffith (07748 692170). Croeso cynnes i ddisgyblion cynradd ac uwchradd ymuno gyda ni, ac mae croeso hefyd i ddisgyblion hŷn neu fyfyrwyr mewn colegau ddod i’r aelwyd.
CYFEILLION ELLIS WYNNE
Mae hi’n agosáu at gyfnod y Nadolig a’r Plygeiniau yn tydi? Rydym yn cynnal ein Plygain yn y flwyddyn newydd, sef ar nos Fercher, Ionawr 14, 2015 am 7.00 yn Eglwys y Santes Fair, Llanfair. Roedd hi’n wych cael cynrychiolaeth o’r Lasynys yn canu, a dyna’r gobaith eto’r flwyddyn nesaf. Bydd ymarfer yn Y Lasynys Fawr ar y 23ain o Dachwedd a’r 14eg o Ragfyr, am 2.00. Gobeithiaf eich gweld a chofiwch ddod ag unrhyw un sydd â diddordeb hefo chi. Mae croeso cynnes i unrhyw un ymuno â ni yn yr hwyl.
RABI Meirionnydd
Canolfan Pennal ger Machynlleth oedd y lleoliad unwaith yn rhagor ar gyfer Swper Cynhaeaf pwyllgor RABI. (Royal Agricultural Benevolent Institution) Sir Feirionnydd a gynhaliwyd ar nos Sadwrn 27 Medi. Roedd aelodau’r pwyllgor wedi bod yn brysur iawn yn paratoi pwdinau gogoneddus a bwffe gwych i’r 60 o bobl yn bresennol. Yna diddanwyd pawb gan y canwr adnabyddus, Geraint Roberts o Drawsfynydd, gyda detholiad o ganeuon ac emynau Cymraeg poblogaidd, a chyfeiliwyd iddo gan Alwena Morgan. Llwyddwyd i godi oddeutu £800 rhwng gwerthiant tocynnau a raffl. Diolch i bawb am noson gymdeithasol hwyliog iawn!
ADUNIAD
Blwyddyn Gychwynnol 1961 yn Ysgol Ardudwy
Rydym wedi trefnu dyddiad - Mai 9, 2015 yn y Clwb Golff Harlech. Gobeithiwn drefnu ymweliad â’r ysgol am 6.00 a bwffe gydag adloniant am 7.30. Mae cofrestr 1961 gennym ac rydym yn ceisio cysylltu gyda cyn gymaint ag y gallwn. Os ydych am ymuno â ni, dyma enwau a rhifau cysywllt: Heulwen Jones, Brynaire Uchaf, Llanbrynmair, Powys SY19 7DX, ffôn 01650 521260 e-bost - brynaire@gmail.com Morwen Pritchard, Cae Ednyfed, Minffordd, LL48 6AU, ffôn 01766 771147 e-bost - pritchard278@btinternet.com Olwen Jones, Ty’nybraich, Dinas Mawddwy SY20 9LX ffôn 01650 531379 e-bost - tynybraich@btinternet.com
H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239
Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290
YSWIRIANT I BAWB
E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr
01341 241551
Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.
T N RICHARDS Caergynog, Llanbedr 01341 241485
Adnewyddu Hen Ddodrefn Rydym yn gwarantu gwaith trwsio a chwyro o’r safon uchaf. Mewn busnes ers 30 mlynedd.
Cefnog wch e in hysbyseb wyr
Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297
Tafarn yr Eryrod Llanuwchllyn 01678 540278
Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.
Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00
Sgwâr Llew Glas
Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd
Llais Ardudwy
Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk
drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]
GERALLT RHUN Bryn Dedwydd, Trawsfynydd LL41 4SW 01766 540681
Tiwniwr Piano a Mân Drwsio g.rhun@btinternet.com
BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU
01766 512091 / 512998
TREFNWYR ANGLADDAU
Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb
TERENCE BEDDALL
JASON CLARKE
15 Heol Meirion, Bermo
Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504
Papuro, peintio, addurno tu mewn a thu allan 01341 280401 07979 558954
Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau
SAER COED Amcanbris am ddim. Gwarantir gwaith o safon.
Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014
Ar agor bob nos dros yr haf 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00
Tacsi Dei Griffiths
Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 9.00 Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!
Sefydlwyd dros 20 mlynedd yn ôl 15
CYSTADLEUAETH NEWYDD #PethauBychain Wyt ti rhwng 14 a 25? Eisiau ennill Iphone 6? Beth am roi cynnig ar gystadleuaeth #PethauBychain Dyma be’ sydd angen i ti wneud. Tynna lun neu gwna fideo o’r #PethauBychain ’rwyt ti’n eu gwneud yn Gymraeg e.e. fideo ohonot ti a dy ffrindiau yn mwynhau defnyddio’r Gymraeg mewn siop, mewn gig, gêm rygbi/ pêl droed neu’n cymdeithasu... Rho dy lun / fideo ar Facebook neu Twitter a chofia gynnwys #PethauBychain yn dy neges. Dyddiad cau: 30 Tachwedd 2014 Twitter: @iaithfyw Facebook/Cymraeg
Eisiau ennill iPad6?
CARDIAU DENIADOL Ar y dde fe welwch gynnyrch y cwrs undydd ar wneud cardiau a gynhaliwyd gan Gangen Harlech a Llanfair o Ferched y Wawr dan ofal Gwen Pettifor o Lanfair. Adroddiad ar t4.
16