Llais Ardudwy 50c
ACHLYSUR ARBENNIG
RHIF 446 TACHWEDD 2015
TEITHIO AM DDIM AR Y BWS A’R TRÊN [i rai dros 60 oed!]
Yr adeg yma o’r flwyddyn, hyd fis Ebrill, y mae modd i bobl dros 60 oed deithio am ddim i Fachynlleth neu i Bwllheli ar y trên, a theithio ar fws i unrhyw ran o Gymru. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw’r ‘Tocyn Teithio Rhatach’ sydd i’w gael gan Gyngor Gwynedd. Diolch i gynllun Llywodraeth Cymru, mae’r tocyn hefyd yn ddilys ar gyfer teithio ar y trên o Wrecsam i Benarlâg, o Amwythig i Abertawe ac o Flaenau Ffestiniog i Landudno. Mae un amod i’r tocyn, sef na chewch chi deithio ar yr un pryd â disgyblion ysgol. Cofiwch fod y gwasanaeth bws yn awr yn mynd dros Bont Briwet i Borthmadog. Er diddordeb i’n darllenwyr ni, dyma fanylion o’r daflen AM RAI o’r amseroedd lleol. Taflen amser - bws Bermo 0620 0723 0850 1048 1248 1400 Dyffryn 0633 0738 0903 1103 1303 1413 Llanbedr 0638 0743 0908 1108 1308 1418 Harlech Uchaf 0650 0752 0917 1117 1317 1413 Harlech Isaf 0757 0922 1122 1322 1428 Talsarnau 0658 0930 1130 1330 1436 Porthmadog 0938 1140 1340 1446 Taflen amser - trên Porthmadog 0653 0747 0957 1201 1402 1601 Talsarnau 0705 0800 1009 1213 1414 1613 Harlech 0715 0809 1020 1227 1428 1629 Llanbedr 0726 0829 1035 1236 1437 1638 Dyffryn 0730 0833 139 1240 1441 1642 Bermo 0742 0845 1051 1252 1453 1654 Dim ond rhannau o’r taflenni amser sydd yma. Cyhoeddir rhain er diddordeb. Ein cyngor i chi yw cael gafael ar y taflenni amser llawn - yn sicr mae’n werth y drafferth os ydych chi dros 60! [Gol.]
Yn y llun gwelir Ken a Beti Roberts, Bellaport, dau a roddodd wasanaeth clodwiw iawn i’r papur hwn am flynyddoedd lawer. Roedden nhw yn dathlu eu pen-blwydd priodas ar ddydd Sul 11eg Hydref - 63 mlynedd hapus iawn! Daw’r cyfarchion gan Llinos a Gareth, Idriswyn a Glenys, Owain a Laura, Gethin a Caryl, Llio a Nicky, Iestyn a Manon, Manon Dafydd heb anghofio eu gor-wyrion Fflur, Dion, Celt a Jini Grug!
LLONGYFARCHIADAU
Llongyfarchiadau i Erin Wyn Williams, Ysgol Llanbedr am ennill cwpan am ysgrifennu stori B5/6 yn Eisteddfod Ardudwy. Hefyd i Elain Iorwerth, Ysgol Bro Hedd Wyn, enillydd Cwpan Goffa Mary Lloyd, Lasynys am serenu yn y cystadlaethau cerdd dant ac i David Bisseker, Aelwyd Ardudwy am ei lwyddiant yn y gystadleuaeth offerynnau pres B6 ac iau.
Theatr Harlech
Dathlu degfed pen-blwydd Gŵyl Gwrw Llanbedr Nos Sadwrn, Tachwedd 7 am 7.00
CYNGERDD yng nghwmni:
Rhys Meirion Elin Fflur Pres Mân Cyflwynydd - Aeron Pughe Tocyn: £15 Elw at yr Ambiwlans Awyr Ffoniwch 01766 780667 i archebu tocyn
Llais Ardudwy
HOLI HWN A’R LLALL
GOLYGYDDION
Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Cae Bran, Talsarnau (01766 770736 anwen@barcdy.co.uk
Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk (07760 283024 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 ann.cath.lewis@gmail.com Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones Tyddyn Llidiart, Llanbedr (01341 241391 iolynjones@Intamail.com Casglwyr newyddion lleol Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Ann Lewis (01341 241297 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 770736
Enw: Jennifer Peckham Gwaith: Wedi ymddeol. Cefndir: Roeddwn i yn gweithio yn Covent Garden, Llundain ond yn awr rydw i’n byw yng nghyffiniau Llanbedr ac yn mwynhau cymdeithasu a dysgu Cymraeg. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Bwyta siocled bob bore. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Y geiriadur mawr bob prynhawn. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu?
‘Sorry I haven’t a Clue’ ar Radio 4. Ydych chi’n bwyta’n dda? Ydw, siocled a gwin bob nos. Hoff fwyd? Caws Perlas. Hoff ddiod? Cwrw Mŵs Piws ‘Dark Side of the Moose.’ Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? David Hockney ac Alan Bennet. Lle sydd orau gennych? Bwlch Drws Ardudwy. Ble cawsoch chi’r gwyliau gorau? De Affrica, lle cefais fy ngeni. Beth sy’n eich gwylltio? Galwadau ffôn ffug yn cynnig trwsio cyfrifiadur. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Brwdfrydedd. Pwy yw eich arwr? John, fy mhartner. Beth yw eich bai mwyaf? Methu gwneud penderfyniad. Beth ydych chi’n ei gasáu mewn pobl? Pobol gul eu hagwedd. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Bwyta siocled ac yfed gwin
mewn cae o lygaid y dydd. Beth fuasech chi’n ei wneud pe baech yn ennill £5000? Mynd i Fadagascar a phrynu car i’m ffrindiau tlawd yno. Eich hoff liw? Glas. Eich hoff flodyn? Llygaid y dydd yn ein lawnt. Eich hoff fardd? Edward Lear. Eich hoff gerddor? Debbie Harry, Blondie. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Dvorak Opus 104. Pa dalent hoffech chi ei chael? Medru rhedeg marathon. Eich hoff ddywediad? Mae yn un Almaeneg ‘Das Leben ist schwer und endet moistens Tödlich.’ Mae’n cyfieithu fel hyn: ‘Mae bywyd yn galed a chan amlaf yn farwol.’ Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Y funud hon yn cael hwyl yn siarad Cymraeg gyda ffrindiau yng nghaffi Dyffryn bob nos Iau rhwng 5.00 a 7.00 [croeso i chi ddod draw].
YN YR ARDD Mis Tachwedd Yn yr ardd flodau
Nid yw’n rhy hwyr i blannu cennin Pedr. Rŵan yw’r amser i blannu tiwlip. Gallwch blannu hyacinth mewn potyn ar gyfer y gwanwyn. Plannwch goed rhosod. Codwch y dahlia, gladioli a’r begonia. Cuddiwch beth o’r celyn sydd ag aeron arnyn nhw, rhag i’r adar gael y cyfan cyn y Nadolig.
Yn yr ardd lysiau
Codwch y pannas, ond bydd eu blas yn well ar ôl iddyn nhw gael barrug. Gallwch rannu riwbob wedi iddyn nhw gysgu dros y gaeaf. Dyma’r amser i wasgaru tail dros y gwely llysiau er mwyn iddo bydru’n dda dros y gaeaf.
Cyffredinol
Gallwch blannu mafon rŵan er mwyn cael cnwd blasus yn yr haf. Edrychwch ar y ffrwythau sydd wedi eu storio, rhag ofn bod rhai drwg yn eu canol. Gallwch dorri ychydig ar y coed afalau a’r gellyg.
Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Ragfyr 4 am 5.00. Bydd ar werth ar Ragfyr 9. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Tachwedd 30 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’
YN EISIAU - COLOFN ARDDIO
Tybed a oes un o’n darllenwyr a fuasai’n hoffi sgwennu colofn arddio fisol ar gyfer Llais Ardudwy - o Ionawr i Ragfyr? Os credwch y gallwch wneud hynny, buasem yn ddiolchgar pe medrech gysylltu ag un o’r golygyddion.
YN EISIAU - CROESAIR MISOL
Tybed a oes un o’n darllenwyr a fuasai’n hoffi bod yn gyfrifol am groesair misol ar gyfer Llais Ardudwy? Os credwch y gallwch wneud hynny, buasem yn ddiolchgar pe medrech gysylltu ag un o’r golygyddion.
2
Y BERMO A LLANABER Rhodd i’r Llais Diolch i Enid Parry, Penygroes am y rhodd o £6.50. Y Gymdeithas Gymraeg Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf tymor y Gymdeithas nos Fercher 14 o Hydref yn y Ganolfan Gymunedol. Pleser o’r mwyaf oedd croesawu Craig Duggan atom. Mae Craig yn wyneb a llais cyfarwydd i ni fel newyddiadurwr Canolbarth Cymru i’r BBC. Yn wreiddiol o’r de, mae Craig a’r teulu wedi ymgartrefu yn Nolgadfan ger Llanbrynmair. Cawsom noson ddifyr iawn gyda Craig yn dangos ei offer recordio, a sut mae’n llwyddo fel ‘band un dyn’ i gynhyrchu adroddiadau i’r radio a theledu. Dangosodd frasluniau o ambell adroddiad o’r gorffennol, a hanesion mwy diweddar o’i daith i Batagonia yn ystod y dathliadau. Noson arbennig iawn. Merched y Wawr Ar nos Fawrth, 20 Hydref daeth criw da ynghyd i’r Parlwr Mawr. Yn absenoldeb Dorothy, sydd dan anhwylder, llywyddwyd y noson gan Llewela. Canwyd cân y Mudiad ag estynnwyd croeso cynnes i bawb. Cafwyd adroddiad o’r pwyllgor rhanbarth a’r isbwyllgorau. Cytunodd pedair aelod i gymryd rhan yn y Cwis Cenedlaethol. Mae’r Mudiad eisoes wedi casglu £20,000 at Gronfa Ategolion at y Galon. Rydym am ddathlu’r Nadolig gyda chinio yn Nineteen 57 ar 8 Rhagfyr. Croesawodd Llewela ein gwraig wadd, Linda Ingram a’i merch Hannah atom. Ers dwy flynedd mae’r ddwy yn gwneud sebon o bob siâp a lliw gyda sawl arogl gwahanol. Menter ddiweddar ydy gwneud canhwyllau, rhai yn arbennig ar gyfer y Nadolig. Tynnwyd y raffl a’r enillydd lwcus oedd Glenys. Diolchwyd i Linda a Hannah gan lywydd y noson, Llewela, a pharatowyd y baned gan Gwyneth a Grace.
Theatr y Ddraig
TACHWEDD Dydd Iau, 5 Her Gwynedd; galwch heibio’r Parlwr Mawr rhwng 2 a 4 y pnawn am gyfle i gael dweud eich dweud am doriadau arfaethedig Cyngor Gwynedd, yn cynnwys i’r clwb ieuenctid, canolfan hamdden, llyfrgell, canolfan groeso, y celfyddydau a llwybr y bont. Dydd Gwener, 6 Ffilm: Mr Holmes, PG, 7.30 Dydd Sul, 15 Ffilm wedi ei hanimeiddio’n hyfryd o Iwerddon, ‘Song of the Sea’, a gweithdy celf i blant. Dydd Iau, 19 Sêl pen bwrdd a chinio o gawl. Dydd Gwener, 20 Ffilm: Under Milk Wood
RAFFL SIOE SIR MEIRION RHESTR ENILLWYR £100 Jane Thomas, Glanrhyd, Dolgellau £100 Heulwen Rowlands, Hendre, Cefnddwysarn £100 M Bowron, Harbourside, Aberdyfi £100 Anne Williams, Gilfach, Llandrillo £100 Aled M Jones, Cefn Uchaf, Llanbedr
CYMDEITHAS FRODWAITH CYMRU
Ysgoloriaeth £300
Mae Cymdeithas Frodwaith Cymru yn cynnig ysgoloriaeth bob blwyddyn o hyd at £300 i fyfyrwyr Cymraeg sy’n dilyn cwrs tecstilau mewn coleg. Bu nifer o fyfyrwyr yn llwyddiannus yn y gorffennol a phleser oedd cael arddangos peth o’u gwaith ar stondin y Gymdeithas yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Disgwylir i ymgeiswyr fod yn 18 oed a throsodd. Amcanion y Gymdeithas yw hyrwyddo brodwaith drwy gyfrwng y Gymraeg a threfnir darlithoedd, dosbarthiadau, ac arddangosfeydd mewn ardaloedd ledled Cymru. Diffinnir brodwaith fel unrhyw waith sydd yn addurno gan ddefnyddio edau a nodwydd, a cheir amrywiaeth o dechnegau ar gyfer hyn. I gael ffurflen gais neu os am fwy o wybodaeth cysylltwch â: Gwyneth Jones, Feidiog, 12 Maes Tegid, Y Bala, Gwynedd LL23 7BF feidiog12@gmail.com Y dyddiad cau ydy 15 Ionawr 2016. Yn gywir, Gwyneth Jones (Ysgrifennydd)
Bodlyn
Fuoch chi draw wrth lyn Bodlyn yn ddiweddar? Pan aeth William Large, gynt o Lanbedr, at y llyn yn ddiweddar synnodd weld y cwt cwch. Ers iddo ymweld â’r llyn ychydig flynyddoedd yn ôl roedd y to wedi disgyn i mewn i’r cwt a dim gobaith i gwch ei ddefnyddio. Diolch i Wil Owen am yr hanes a’r lluniau.
Gallwch anfon eich cyfarchion Nadolig i’ch ffrindiau trwy gyfrwng Llais Ardudwy. Bydd cyfarchiad o’r maint hwn yn costio £6.
3
LLANFAIR A LLANDANWG
‘Arwr o Athro’ Timothy Unwin a’i dystysgrif ‘Arwr o Athro’ gan Brifysgol Aberystwyth. Cafodd ei enwebu gan gyn-ddisgyblion o Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun. Cafodd Tim ei addysg yn Ysgol Gynradd Llanfair, Ysgol Ardudwy a Phrifysgol Aberystwyth ac mae’n athro yn Ysgol Brynhyfryd ers 32 mlynedd. Llongyfarchiadau i ti, Tim, a phob llwyddiant yn y dyfodol. Newid swydd Llongyfarchiadau i Sally John, 30 Tŷ Canol, Harlech ar ei swydd newydd yng Nghaffi’r Castell. Bu Sally yn gweithio yn ffreutur Ysgol Ardudwy am dros 20 mlynedd. Pob dymuniad da iddi. Croeso Croeso cynnes iawn i Melissa Hughes, Argoed sydd wedi dychwelyd i’r ardal ac wedi cael swydd yng Nghaffi’r Castell fel cogydd crwst [pastry chef]. Pob dymuniad da i tithau hefyd.
4
Merched y Wawr Llanfair a Harlech Cafwyd y croeso arferol gan Hefina, y Llywydd. Adroddwyd y byddai’r gweithdy cardiau ar Dachwedd 9 yn Neuadd Llanfair. Gwen Pettifor fydd yn arwain y gweithdy. Darllenwyd prif bwyntiau’r cylchlythyr o’r Ganolfan sef y Cwis Hwyl ar Dachwedd 13; manylion y gystadleuaeth Cynllunio Cerdyn Nadolig 2016 a bod £20,000 wedi ei gasglu at Sefydliad y Galon. Diolchwyd i’r rhai fu’n helpu ddiwrnod y Sioe Sir. Cafwyd gwybodaeth mai Meirionnydd fydd yn noddi’r Sioe yn Llanelwedd y flwyddyn nesaf. Y gŵr gwadd oedd Wyn Meredith o Ddolgellau. Cafwyd hanes diddorol sut y daeth y teulu i helpu i redeg y tanws yn ôl yn 1855 tan iddi gau yn 1990. Diddorol oedd ei glywed yn cyfeirio at enwau Patons a Baldwin - Axminster a Dents oedd yn gyfarwydd i ni. Janet roddodd y diolchiadau gydag Eirlys a Cassie yn gofalu am y panad.
Cyhoeddiadau Caersalem 2015 Am 2.15 o’r gloch oni nodir yn wahanol TACHWEDD 1 Parchg Christopher Prew 8 Parchg Iwan Llewelyn Jones 22 Parchg Eirian Wyn Lewis RHAGFYR 13 Parchg Dewi Tudur Lewis
CYNGOR CYMUNED LLANFAIR Cyfarfod Pwyllgor y Neuadd Adroddodd Mair Thomas ei bod wedi mynychu’r cyfarfod uchod a chafwyd copi o fantolen ariannol y pwyllgor. Cafwyd gwybod bod angen trimio’r coed yn y cae chwarae a bydd cyfarfod nesa pwyllgor y neuadd ar y 25ain o Dachwedd. CEISIADAU CYNLLUNIO Cais ôl-weithredol i gadw lle parcio a mynedfa - Tir ger 1 a 2 Pen Lan. Cefnogi’r cais hwn. Amnewid tŷ - Tegfor, Llandanwg. Cefnogi’r cais hwn. Ceisiadau am gymorth ariannol Canolfan Hamdden Harlech - aros tan ar ôl y noson agoriadol, CAFC Meirionnydd Sir Nawdd 2016 - £100. GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd - Adran Briffyrdd Bydd Cyngor Gwynedd yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb am ddarparu biniau halen i’r Cynghorau Cymuned yn 2016. Bydd y gost o lenwi bin halen yn ystod y gaeaf yn £156 a bydd y gost o ddarparu bin halen newydd wedi ei osod a’i gyflenwi â halen oddeutu £281, felly bydd yn rhaid i’r Cyngor Cymuned roi’r gost yma ar eu presept blynyddol. Penderfynwyd bod angen cadw’r biniau yma i gyd, felly cytunwyd i dderbyn y cyfrifoldeb am y biniau o Ebrill 2016 ymlaen. Canolfan Hamdden Derbyniwyd gwahoddiad i’r Cadeirydd i’r noson agoriadol am 7.00 ar y 19eg Dachwedd 2015. Y Fynwent Cafwyd manylion am y gwaith ychwanegol sydd angen ei wneud yn y fynwent, sef clirio’r eiddew oddi ar feddi ac ysgythru a chlirio coed a drain, a bod y gwaith yn mynd i gymryd 4-5 diwrnod. Banc HSBC Datganodd HSBC eu bod am gau oherwydd diffyg cwsmeriaid. Hefyd yn datgan eu bod yn chwilio am le addas ar gyfer y peiriant arian mewn lleoliad arall yn y dref. UNRHYW FATER ARALL Nid oes derbyniad ar y giât fach sy’n mynd o’r cei i’r clawdd llanw; oherwydd hyn mae’n cael ei gadael yn agored o hyd. Cafwyd gwybod bod y bin baw cŵn wastad yn llawn ym maes parcio Llandanwg. Mae carreg yn rhydd ger yr hysbysfwrdd yn y pentref a chytunwyd i ofyn i Mr Hywel Jones ei thrwsio. Mae angen glanhau’r cwteri ar waelod rhiw Cae Cethin yn aml lle bod dail a nodwyddau pîn yn cronni ynddynt ag oherwydd hyn yn gwneud i ddŵr lifo i’r ffordd yn ystod tywydd garw.
R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Teulu Artro Dechreuodd y tymor newydd ar brynhawn Mawrth, 8 Medi, a hynny gyda chinio ardderchog yng Ngwesty’r Tŷ Mawr. Croesawyd pawb, yn aelodau a chyfeillion, gan Gweneira, a chafwyd amser hapus yn sgwrsio a mwynhau’r arlwy. Roedd nifer o rafflau, fel arfer, a diolchodd y Llywydd i bawb a oedd wedi cyfrannu, ac i Eirwen a Glenys am fod yn gyfrifol amdanynt. Diolchodd Iona i staff Tŷ Mawr. Ar 6 Hydref, cynhaliwyd ein Diolchgarwch, ac estynnwyd croeso i ni ar brynhawn braf – a hynny’n dilyn dyddiau o dywydd da. Dymunwyd yn dda i’r tair sydd wedi cyrraedd 90 oed, sef Beti, Gretta, a Leah. Rhoddwyd cyfarchion penblwydd i Eleanor, a diolchwyd am y rafflau. Ein gwraig wadd oedd Mrs Ann Williams, Trawsfynydd. Croesawyd hi’n gynnes gan Gweneira, a dymunodd yn dda iddi ar ei hymddeoliad. Un o blant y pentref yw Ann – fe’i ganwyd yn Llanbedr, a bu ei rhieni, sef y diweddar Ron a Margaret Morgan, yn weithgar iawn gyda Theulu Artro. Thema Ann oedd Diolch, a dechreuwyd, a diweddwyd, y cyfarfod trwy ganu emynau Diolchgarwch. Cafwyd nifer o hanesion ar y testun – yr olaf yn rhoi hanes y cardotyn yn dod yn ôl i ‘Ddiolch’. Diolchwyd gan Glenys a hynny am “brynhawn diddorol dros ben.” Enillwyd y rafflau gan Eleanor a Gretta. Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â Misses Elizabeth a Catherine Richards, Cartref a’r teulu i gyd yn yr ardal ym marwolaeth Glenys, eu chwaer yng nghyfraith, yn y Dyffryn. Hefyd, anfonwn ein cofion at John Wyn Jones, Crafnant, sydd yn Ysbyty Dolgellau.
CYMDEITHAS HANES HARLECH Tachwedd 21, 2015 2.30pm [drysau’n agor am 2.00] Aber Artro, Llanbedr Cofiant a Bywyd Jackie Williams, Harlech
yn cynnwys y brwydro yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn Galipoli a Gaza, ei deulu, ei gyfeillion, ei heddychiaeth, ei ddaliadau a bywyd yn ardal Harlech.
Tocyn: £2.00 wrth y drws
Bydd rhai copïau o Gofiant Jackie Williams ar gael i’r rhai fydd yn bresennol neu yn Llyfrgell Harlech. Noddir yr argraffu gan CAG YMCA CC Cymru. Cymdeithas Cwm Nantcol Cafwyd pregeth ddiolchgarwch amserol iawn gan y Parch Emlyn Richards, Cemaes unwaith eto eleni. Daeth cynulleidfa dda i wrando arno’n traethu yn ei ddull dihafal ei hun. Rhaglen ddifyr Wele isod fanylion am raglen cyfarfodydd Cymdeithas y Cwm am y tymor sydd i ddod. Os nad ydych eisoes yn aelod, hyderwn y bydd darllen hyn o lith yn eich ysgogi i neilltuo bob yn ail nos Lun i gefnogi’r gymdeithas ddiwylliadol hon. Mae croeso cynnes i bawb. Tachwedd 9: Ifor Griffith, Lerpwl, ‘Dau Gerddor’ Tachwedd 23: Eurgain Prysor, Y Bala, ‘Atgofion plentyndod yng Nghwm Tryweryn’ Rhagfyr 14: Dilwyn Morgan, Y Bala, ‘Y Daith’. 2016 Ionawr 18, 2016: Hedd Bleddyn, Penegoes, ‘Atgofion’ Chwefror 1: Elfyn Llwyd, Llanuwchllyn ‘Braslun o Fywyd Seneddol’ Chwef ror15: Dr Cen Williams, ‘Cymeriadau a Beirdd Môn’ Chwefror 29: Swper Gŵyl Ddewi yng Nghlwb Golff Dewi Sant. Diddanwyr: Lliaws Cain. Yn gwella Rydym yn falch o glywed fod Mrs Pat Hughes adref o’r ysbyty ac yn gwella; hefyd bu Meurig Jones, Hendre Waelod, yn cael llawdriniaeth i’w lygaid. Gobeithio fod yntau yn gwella.
Merched y Wawr Nantcol Nos Fercher Hydref 7fed. Cafwyd croeso cynnes i’r cyfarfod gan ein Llywydd, Gwen Edwards a estynnodd groeso arbennig i Pat Jones, Cydlynydd Prosiect Pont Briwet i Gyngor Gwynedd, oedd wedi dod i roi sgwrs i ni ar ‘Codi Pont Newydd Dros y Ddwyryd’. Yn enedigol o Lundain, mae Pat wedi dysgu Cymraeg ac wedi byw yn Llanrug ger Caernarfon ers tua 30 mlynedd. Trwy luniau a sgwrs cawsom ganddi hanes trawsnewid y bont oedd yn 150 mlwydd oed - lluniau oedd yn dangos y bont cyn y newidiadau, lluniau wrth weithio arni yn ogystal â hanes yr holl broblemau a gafwyd ar y daith a’r lluniau bendigedig wedyn ohoni wedi ei gorffen. Cawsom gyfle hefyd i’w holi ar y diwedd. Gwen dalodd y diolchiadau i Pat ac i Nantcol am baratoi’r lluniaeth, ac Elinor Evans enillodd y raffl. Aethpwyd ymlaen wedyn i drafod materion y gangen. Mis diwethaf buom ar daith i ymweld â Byd Mary Jones yn Llanycil, noson fendigedig i ddechrau tymor newydd gyda phryd o fwyd blasus wedi ei baratoi ar ein cyfer yn yr Eryrod, Llanuwchllyn, cyn troi am adref. Llongyfarchwyd Lowri a Pete, merch Elinor; Aled a Sue, mab Jane; a dwy wyres i Gweneira, sef Grisial a Ruth ar eu priodasau yn ddiweddar, Elisabeth ar enedigaeth wyres fach - Bethan, ac Olwen ar enedigaeth gor-wyres - Gwenan Mair. Dymunwyd penblwydd hapus i Ann oedd wedi dathlu pen-blwydd arbennig ym mis Awst. Hefyd, llongyfarchwyd ein Llywydd, Gwen, sydd wedi cael ei hordeinio yn aelod llawn o’r weinidogaeth yn Berw Goch a Rehoboth. Mis nesaf ar Dachwedd 4ydd byddwn yn croesawu Mo Ainsclough atom i arddangos addurniadau bwrdd Nadolig - croeso cynnes i bawb.
CALENDR LLAIS ARDUDWY
Calendar 2016 ar werth rŵan - dim ond £4 neu £5.50 drwy’r post Anrheg Nadolig Delfrydol!
Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch Capel Salem TACHWEDD 15 Mr Eurfryn Davies 22 Mrs Morfudd Lloyd RHAGFYR 20 Parch Dewi Tudur Lewis *
*
*
TACHWEDD 8 Capel Nantcol, Eurwyn Pierce Jones 29 Capel y Ddôl, Eleri Jones RHAGFYR 6 Capel y Ddôl, Parch Huw Dylan Jones
5
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Elusen Elin Humphrey Fel y gŵyr llawer erbyn hyn, mae’r elusen yma’n cynnig grantiau bychain i fyfyrwyr sy’n cychwyn cwrs prifysgol. Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn y gefnogaeth ariannol rhaid i fyfyrwyr fod o dan 25 oed ac yn byw naill ai yn Nyffryn Ardudwy (LL44) neu yn Nhalybont (LL43). Yn ystod mis Tachwedd, bydd ymddiriedolwyr yr elusen yn cyfarfod i rannu’r arian sydd ar gael am 2015. Dylai unigolion sy’n teimlo eu bod yn gymwys i dderbyn grant gysylltu â’r Clerc ar 01341 247868 mor fuan ag sy’n bosib. Festri Lawen, Horeb Cynhaliwyd cyfarfod cynta’r tymor nos Iau, 8 Hydref. Croesawyd pawb gan y cadeirydd a diolchodd i’r pwyllgor am eu gwaith ac yn enwedig i Enid, yr ysgrifennydd am baratoi’r rhaglen ac i Iwan Meirion am argraffu’r rhaglenni. Yna cyflwynwyd a chroesawyd y Glaslanciau o Borthmadog atom gan Rhian Davenport. Parti o ddeuddeg gyda Gareth yn cyfeilio ar y piano a Richard ar y gitâr ydy’r rhain. Arweiniwyd y noson yn hwyliog iawn gan Elwyn Thomas. Yn ogystal â chyd-ganu, cafwyd unawdau gan rai aelodau o’r parti a datganiad hyfryd ar y piano gan Gareth. Diolchodd Rhian iddynt hwy am noson gartrefol a fwynhawyd yn fawr. Y gwragedd te oedd Jean, Anwen, Einir a Gwennie. Ar 12 Tachwedd bydd John Sam Jones o’r Bermo yn dod atom i roi sgwrs ar Deulu Mawddach. Clwb Cinio Cyfarfu’r Clwb Cinio bnawn Mawrth, 20 Hydref yng ngwesty’r Victoria yn Llanbedr. Wedi cinio aethom ymlaen i Harlech i ymweld â’r ganolfan newydd yng Ngwesty’r Castell. Mae yno siop a chaffi bendigedig a chawsom gyfle i groesi’r bont newydd i’r castell. Ddydd Mawrth, 10 Tachwedd byddwn yn mynd am ginio i Aberdeunant ym Mhrenteg rhwng Porthmadog a Beddgelert. Yno erbyn hanner dydd.
6
Diolchgarwch Yn Horeb fore Sul, 11 Hydref, cynhaliwyd gwasanaeth Diolchgarwch gan blant yr ysgol Sul gyda chymorth gan yr oedolion. Cafwyd gwasanaeth hyfryd iawn a diolch yn fawr i Mai a Rhian am y gwaith paratoi. Eleni yn hytrach nag addurno’r capel gyda ffrwythau a llysiau, penderfynwyd, yn dilyn cynnig gan Alma, ofyn i bawb ddod â nwyddau i’r gwasanaeth ac yna mynd â’r nwyddau i’r banc bwyd yn y Bermo. Cafwyd ymateb ardderchog ac rydym yn ddiolchgar iawn am eich haelioni. Yn y llun mae Rhys a Jessica yn cynrychioli plant yr Ysgol Sul gyda’r nwyddau a gasglwyd. Nos Lun, 19 Hydref, cafwyd pregeth amserol iawn gan y Parch Eric Jones, Bangor.
Dyrchafiad Llongyfarchiadau i Sarah Tibbetts, Llwyn Ynn, Talybont ar gael ei phenodi yn rheolwraig ym Meddygfa Dolgellau. Dechreuodd Sarah weithio yno fel ysgrifenyddes 19 o flynyddoedd yn ôl. Ddeng mlynedd yn ôl cafodd ei phenodi yn ddirprwy reolwraig. Dechreuodd ar ei gwaith fel rheolwraig ar 19 Hydref. Rydym yn ymfalchïo yn dy lwyddiant, Sarah, ac yn dymuno’n dda i ti yn dy swydd newydd.
Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn Neuadd yr Eglwys bnawn Mercher 21 o Hydref. Roeddem yn falch iawn o gael croesawu aelod newydd sef Eleri Bowater i’n plith. Llongyfarchwyd Blodwen a Hilda ar ddathlu pen-blwyddi arbennig yr wythnos flaenorol. Diolchodd Mrs Leah Jones am y cardiau a’r dymuniadau da ar achlysur ei phen-blwydd yn 90. Yna, cafwyd Gwasanaeth Diolchgarwch wedi ei baratoi gan Hilda gydag Enid, Anthia a Gwennie yn ei chynorthwyo a Mrs Meinir Lewis yn cyfeilio. Diolchwyd iddynt gan Iona. Rhoddwyd y te a’r raffl gan Iona, Lorraine ac Iris. Ar 18 Tachwedd bydd Linda Ingram yn dod atom i ddangos sut y mae’n gwneud sebon.
Diolch Hoffwn ddiolch o galon i deulu, ffrindiau a chymdogion am eu caredigrwydd ar achlysur fy mhen-blwydd arbennig. Cefais ddiwrnod wrth fy modd. Diolch yn fawr. Hilda Harris. Diolch a rhodd £10
Cydymdeimlad Dydd Llun, 19 Hydref, bu farw Mrs Glenys Richards, Minffordd, Dyffryn. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at Mr Ifan Richards, John ac Irene a’r teulu oll yn eu profedigaeth o golli priod, mam, nain a hen nain annwyl iawn.
Cydymdeimlad Ar Hydref 24, yn Ysbyty Dolgellau, bu farw Mr Lionel Parry, 12 Penrhiw. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at ei blant, Rona, Marian, Robert, David a’u teuluoedd yn eu profedigaeth o golli tad, taid a hen daid annwyl iawn. Rhoddion Diolch i W H Owen am y rhodd o £6.50 a £7 gan T M Jones.
Diolch Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bawb, yn deulu a ffrindiau, am yr holl gardiau, anrhegion, blodau, galwadau ffôn a phob dymuniad da a charedigrwydd a dderbyniais ar achlysur fy mhen-blwydd arbennig yn ddiweddar. Diolch i Bethan, Eithinfynydd am y gacen flasus dros ben a phawb wedi ei mwynhau ac i John Gornant am ei bennill hyfryd. Blodwen Williams, Bodfan. Diolch a rhodd £10 Diolch Yn y Llais mis diwethaf, roeddem yn diolch i Rhian Davenport am y gwaith gwirfoddol gwych mae’n ei wneud dros yr Ambiwlans Awyr yn yr ardal hon. Hoffai Rhian hithau ddatgan ei diolch i drigolion Ardudwy am eu cefnogaeth a’u haelioni i’r Ambiwlans Awyr. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae Rhian wedi anfon £23,000 i’r Ambiwlans Awyr o’r ardal hon. Mae’n wasanaeth gwerthfawr i ni sy’n byw mor bell o ysbyty. Priodas ruddem Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Gareth ac Anwen Williams, Glanffrwd, Tal-ybont oedd yn dathlu eu priodas ruddem ar Hydref 25. Diolch iddyn nhw hefyd am eu rhodd garedig o £10 i goffrau’r Llais.
Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb TACHWEDD 8 Parch Iwan Ll Jones 15 Anwen Williams 11 Parch Ioan Davies 29 Parch Gareth Rowlands
SAMARIAID Llinell Gymraeg 0300 123 3011
Canolfan Chwaraeon Harlech Yn swyddogol, bydd y ganolfan yn agor ym mis Tachwedd gyda rhaglen o weithgareddau wedi eu trefnu ar gyfer pobl o bob oedran. Er mwyn cael gwybodaeth am y gweithgareddau gallwch ymweld â safle Gweplyfr/ Facebook y ganolfan o dan y pennawd Canolfan Hamdden Harlech. Yn y cyfamser, bydd gwybodaeth yn cael ei dosbarthu i ddisgyblion ysgolion cynradd yr ardal am weithgareddau a all fod o ddiddordeb i rieni a phlant. Mae gweithgareddau plant yn cynnwys beicio ar nos Iau, dawns dan hyfforddiant Eirian Foster, gymnasteg a phêldroed dan hyfforddiant Iolo Owen a rygbi dan hyfforddiant Elfyn Anwyl. Bu gofyn mawr am hyfforddiant gymnasteg cynradd, yn enwedig gan rieni a fu’n mynychu clwb yr ysgol flynyddoedd yn ôl. Mae cyfle i rieni sydd yn danfon eu plant i’r gwersi gymnasteg neu unrhyw weithgaredd arall, ddefnyddio’r ystafell ffitrwydd wrth aros am eu plant. Bu’n gyfnod prysur yn y ganolfan gyda disgyblion cwrs adeiladwaith yr ysgol, dan arweiniad Ceri Murray a Robert Chidley, yn cynorthwyo gyda gwaith peintio a pharatoi hysbysfyrddau. Hefyd, rhaid diolch i Dai Morris o Gwmni L&L Bermo am ei haelioni wrth roi top gegin i’r ganolfan. Bu Merfyn Min Don yn rhoi o’i amser i osod cwpwrdd storio ar brif lwybr y ganolfan. Diolch hefyd i Gynghorau Cymuned lleol am eu haelioni wrth gefnogi’r prosiect. Mae angen gwariant ac amser sylweddol i uwchraddio offer ac ymddangosiad yr adeilad a gobeithir cwblhau’r mwyafrif o’r gwaith cyn Tachwedd. Mae ceisiadau am grantiau wedi eu hanfon a disgwylir ymateb gan Magnox a’r Parc Cenedlaethol. Newyddion da yw bod offer newydd eisoes wedi cyrraedd, sef peiriant rhedeg a rhwyfo. Mae’r ystafell godi pwysau yn
mae badminton ar gael rhwng 6.30 - 7.30 ar nos Fercher. Mae pêl-droed cerdded wedi ei drefnu i rai dros 60 oed a hefyd sesiwn pêl-droed hwyliog i rai dros 40 oed.
dechrau siapio gydag offer sgwatio a mainc pwysau wedi cyrraedd yn ogystal â dros 200kg o bwysau i’w rhoi ar y bariau Olympaidd. Gwnaed y gwaith o gysylltu’r ystafell ffitrwydd â’r ystafell godi pwysau yn ystod mis Hydref. Felly beth sydd ar gael i chi yn yr ystafell ffitrwydd? Mae’r cyfnod o 5.00 - 6.00 wedi ei neilltuo i bobl dros hanner cant oed gyda chyfnod dydd Mercher o 5.00 - 6.00 yn cael ei neilltuo i’r merched. Mae peiriant stepio, beicio, rhwyfo a rhedeg ar gael yn ogystal â pheiriant ymarfer a phwysau. Bydd yr ystafell yn agored o 5.00 - 8.00 o ddydd Llun i nos Iau. Os oes galw am fwy o ddefnydd, bydd yn bosibl agor ar nos Wener. Yn yr ystafell godi pwysau drws nesaf mae’r pwyslais ar oedolion sydd yn awyddus i greu corff cyhyrog gan ddefnyddio pwysau trwm. Yn y neuadd a’r gampfa bydd cyfle i wella ffitrwydd. Nid oes rhaid i chi boeni am lefel ffitrwydd presennol, cewch weithio ar eich cyflymder a dwysedd personol a byddwch yn siŵr o golli braster a theimlo’n llawer gwell gyda mwy o egni. Mae’r gweithgareddau Blastio yn ddelfrydol i gadw a chodi lefelau ffitrwydd - sesiwn hanner awr gyda lle i bymtheg ymarfer. Os ydych yn awyddus i ymuno â gweithgareddau cystadleuol, yna
I’r genethod mae’r Clwb Pêlrwyd yn ymarfer ar nos Iau gyda dros bymtheg yn mynychu’r ymarferion. Mae’r clwb wedi cael hyfforddwraig a braf ydy gweld merched o bob oedran yn cymryd rhan. Buasai’n braf gweld yr ymroddiad a welwyd dros y blynyddoedd i’r gêm hoci. Oes rhywun yn awyddus i ddechrau gweithgaredd a fuasai’n boblogaidd gan ferched a dynion? Bydd lluniau gan unigolion talentog yr ardal yn cael eu harddangos ym mhrif lwybr y ganolfan. Mae lluniau Bob Piercy (gynt o Dalsarnau) a hefyd y ffotograffydd lleol John Powell Jones neu JP yn cael lle teilwng ymysg crysau pêldroed cyn-ddisgyblion a fu’n cynrychioli Cymru. Bydd un o gyn-chwaraewyr Cymru sydd, mae’n debyg, y perfformiwr chwaraeon mwyaf llwyddiannus yn hanes yr ardal yn ail agor y ganolfan yn swyddogol. Mae Iwan Roberts (Dyffryn Ardudwy) wedi cytuno i ddychwelyd a braf fydd iddo ail gyfarfod â hen ffrindiau. Gwelir Iwan yn aml ar y teledu yn rhoi ei farn ar bynciau llosg pêl-droed a bu yn llysgennad ardderchog i ardal Ardudwy. Apêl rŵan i gael lluniau timau o’r gorffennol. Os oes gennych luniau pêl-droed, rygbi, pêlrwyd, hoci, golff neu unrhyw gêm arall, mae lle iddynt ar hysbysfwrdd mawrion y gorffennol. Braf oedd gweld hen luniau yn ddiweddar wedi eu casglu at ei gilydd yn dilyn cynhebrwng y cymeriad lleol a roddodd ei egni dros y blynyddoedd i bêl-droed yr ardal, sef Dei Llandanwg. Roedd diddordeb mawr yn y lluniau, yn enwedig wrth weld sut mae chwaraewyr wedi aeddfedu dros amser - fel gwin da.
Eisteddfod Ardudwy Cynhaliwyd yr Eisteddfod yn Neuadd Dyffryn Ardudwy eleni ar Hydref y 10fed. Roedd y neuadd dan ei sang gyda nifer o ieuenctid y sir yn canu, adrodd, chwarae offerynnau, actio a dawnsio. Cafwyd arddangosfa liwgar o ffotograffiaeth, coginio, TGCh ac arlunio. Hoffai’r pwyllgor ddiolch yn fawr iawn i’r holl feirniaid: Miss Melanie Cooper, Cerdd Mrs Carys Huw Jones, Llefaru Mrs Siri Wigdel, Dawnsio Mrs Jane Williams, Arlunio Mr Wyn Edwards, Ffotograffiaeth Mrs Gwennie Roberts, Llenyddiaeth Mr Elfyn Anwyl, TGCh Mrs Caryl Anwyl, Coginio. Eleni ein llywydd oedd Mr Evie Morgan Jones. Diolch iddo a diolch i Heledd Evans ac Iwan Lewis am arwain. Diolch arbennig i Mrs Elin Williams am ei gwaith medrus yn cyfeilio. Diolch i Mrs Rhian Davenport am y trefniant blodau hyfryd a phwyllgor Neuadd Dyffryn am gael llogi’r neuadd. Diolch i’r ysgolion a phawb am eu gwaith yn paratoi a dysgu’r plant ar gyfer yr Eisteddfod, am gefnogi’r Eisteddfod ac am eu cyfraniadau i sicrhau diwrnod llwyddiannus. Cynhelir cyfarfod blynyddol yr Eisteddfod ar Dachwedd 9fed am 7yh yn Ystafell y Band. Croeso cynnes i aelodau newydd ymuno â’r pwyllgor.
YSGOL ARDUDWY Noson Agored Nos Fercher, Tachwedd 18 am 6.30
Cyfle i gwrdd â’r athrawon, ymweld â’r ystafelloedd dosbarth ac i gael blas ar rai o weithgareddau’r ysgol. Bydd y noson yn dechrau gyda chyflwyniad yn neuadd yr ysgol. Edrychwn ymlaen i’ch 7
HARLECH Teulu’r Castell Croesawyd yr aelodau i gyfarfod y tymor newydd ar 13 Hydref gan y Llywydd Edwina Evans, a’r ddau aelod o’r heddlu, PC Paula Stewart a PC Mark Hughes. Cydymdeimlwyd gyda theulu’r diweddar Mair Highley a fu farw’n ddiweddar. Mi oedd Mair wedi bod yn aelod ffyddlon o’r Teulu am flynyddoedd cyn mynd i Abergele i fyw. Dymuniadau gorau i Eileen Lloyd oedd wedi bod yn Ysbyty Cais Cyfeillgar Gwynedd yn ddiweddar, a A fuasai’r unigolyn (unigolion) chofion gorau i’r rhai oedd yn sydd wedi benthyca 37 o cwyno ac yn methu bod gyda gadeiriau o Neuadd Goffa, Harlech, heb ganiatâd, cystal â’u ni, sef M M Williams a Menna Jones. Pen-blwydd hapus i’r dychwelyd ar unwaith? rhai oedd yn dathlu’r mis yma, Os oes gennych unrhyw wybodaeth am hyn, os gwelwch a chroeso yn ôl i Nancy Nelson oedd wedi dod yn ôl i Harlech i yn dda a fuasech yn cysylltu â’r fyw. gofalwr neu unrhyw aelod o’r Er mai’r Hydref yw hi, mae’n pwyllgor? rhaid meddwl am ginio Nadolig. Roedd pawb yn unfrydol mai i’r Neuadd Goffa Gwnaeth Neuadd Goffa Harlech Ship i Dalsarnau maent eisiau mynd. elw o £154.57 gyda thri bwrdd yn y sêl a drefnwyd gan bwyllgor Diolch i bawb oedd wedi rhoi’r rafflau ac i bawb oedd wedi dod y Pwll Nofio, Harlech. ag aelodau i’r cyfarfod. Diolch Diolch i bawb am eu cymorth hefyd i Maureen Jones am a’u cyfraniadau i’r stondinau. Mae’r Neuadd wir angen unrhyw drefnu’r fantolen ac i Peter Smith am ei harchwilio. gymorth ariannol. Cofiwch am y digwyddiad nesaf, Yna cawsom sgwrs gan Paula sef Noson Gaws a Gwin a ‘Body a Mark am ddiogelwch yn y cartref. Roedd llawer o oedolion Shop’ nos Wener, 6 Tachwedd yn byw ar ben eu hunain ac am 7.30 o’r gloch yn ystafell y yn teimlo yn fregus iawn yn Band. enwedig gan fod y gaeaf yn dod. Cawsom lawer o bwyntiau am Diolch ofal yn y cartref, yn arbennig am Hoffai Pam Ainsworth ddiolch y scams o gwmpas, fel pobl yn i bawb am y cardiau, blodau, cydymdeimlad a chefnogaeth, ac dod ac yn dweud bod llechi wedi dod i ffwrdd oddi ar y to ac yn i bawb sydd wedi cyfrannu at y gofyn am bris uchel am y gwaith casgliad i Eglwys Tanwg Sant er cof am ei mam, y diweddar Beryl o’u gosod yn ôl. Cawsom rif i gael gafael ar yr heddlu’n sydyn Williamson Ainsworth. os oedd angen. Diolch o fy nghalon am yr holl Diolchwyd iddynt gan Myfanwy gymorth a chariad sydd wedi Jones. Paratowyd y te gan y helpu mi trwy’r amser trist. Pwyllgor. Fe fydd y cyfarfod nesaf ar brynhawn dydd Cyfeillion y Pwll Nofio Llwyddwyd i godi £200 tuag at y Mawrth, 10 Tachwedd am 2 Pwll Nofio yn ein hymgyrch pen o’r gloch yn Neuadd Llanfair bwrdd diweddar. Diolch i bawb gyda Gwenda Griffith yn gosod blodau a dangos cardiau. a fu’n arddangos yn y Neuadd Fe fydd bwrdd gwerthu hefyd. Goffa. Cyfrannodd Beti Miller gacen Calan Gaeaf ac enillwyd hi Croeso i unrhyw un ymuno â ni! gan ein hysgrifennydd gweithgar, Rhoddion i’r Llais Tainia Stone. Diolch am y rhodd o £6.50 gan Rydym bob amser yn chwilio am ragor o wirfoddolwyr i helpu Bet Jones a £16.50 gan Mari gyda’r gwaith o hybu’r pwll nofio Strachan. a’r wal ddringo. Genedigaethau Llongyfarchiadau i Elizabeth Ann Jones ar enedigaeth Dylan Wyn Steven Jones, aelod newydd i deulu Min y Morfa, Harlech. Dymuniadau gorau i ti, Liz. Llongyfarchiadau i Dylan John a Danielle Jones Austwick, Tywyn ar enedigaeth Harri Dylan John ar Hydref 8. Ŵyr i Richard John, Llanfair a Nia John, Harlech. Pob dymuniad da iddynt.
8
Eglwysi Rehoboth ac Engedi Gwasanaethau Diolchgarwch y ddau gapel. Yn Engedi (Berw Goch) cafwyd gwasanaeth ardderchog yng nghwmni Geraint a Nerys Roberts Bronaber, Nerys yn ein harwain a’n cymhell ar lafar trwy hanesion pwysigrwydd diolch yn y Beibl a Geraint yn yr un modd ar gân i gyfeiliant Alwena Morgan Ffestiniog. Yr wythnos ganlynol cafwyd gwasanaeth hyfryd yn Rehoboth dan ofal Bethan Johnstone – a chawsom ein tywys ar lafar a ffilm i gyfandir yr Affrig i sylweddoli cymaint o le sydd gennym i ddiolch am bopeth, yn enwedig am ddŵr. Ar ddiwedd y gwasanaeth, dadorchuddiwyd carreg goffa i ‘Arwel’, a braf iawn oedd bod Els ei wraig yn bresennol ar gyfer yr achlysur. Diolch i Iwan Morgan am greu’r cwpled sydd ar y garreg, cwpled sy’n crynhoi personoliaeth Arwel i’r dim.
CYFRANIADAU I LOCHESWYR Mae angen sachau cysgu, blancedi, pebyll, deunyddiau ymolchi, teclynnau agor tuniau, sosbenni, coed tân, dillad cynnes ac esgidiau. Gallwch eu gadael yn Eglwys St Tanwg, Harlech. Symudir nhw wedyn i Flaenau Ffestiniog i eglwys y Tad Deiniol lle cânt eu didol a’u dosbarthu i’r anghennus yn Ffrainc a gwlad Groeg. Diolch Dymuna Myfanwy Jones ddiolch i bawb a gefnogodd y ddawns sgubor yn ddiweddar. Diolch hefyd am y cyfraniadau. Llwyddwyd i godi dros £1000 at Ymchwil Canser. Cafwyd noson hwyliog yng nghwmni band y Mooncoin Ceilidh. Gadael newyddion i’r Llais Gallwch adael unrhyw newyddion fydd gennych efo Ceri Griffith 07748 692170, Edwina Evans 780789, neu Carol O’Neill 780189. Yn y dref, gallwch eu gadael yn Siop Spar trwy law Darren Williams. Y cyfan sydd ei angen yw rhoi’r newyddion mewn amlen a sgwennu Llais Ardudwy d/o Darren Williams ar yr amlen. Llawer o ddiolch. Diolch Dymunwn ddiolch i Arthur a Barbara Murphy [Siop Bapur] am y cydweithio hapus wrth werthu Llais Ardudwy dros 29 o flynyddoedd. Pob dymuniad da iddyn nhw yn y dyfodol.
HAF WILLIAMS 1953-2015
yn ffitio i’r blewyn i sicrhau diddosrwydd yn nannedd unrhyw oerwynt. Roedd hi’n wniadwraig arbennig, ac yn wir yn gallu troi’i llaw at unrhyw beth yn y tŷ, ac wedi gwneud pob un o’r tai a grybwyllais gynnau yn gartref clyd. Os oedd cyfle i ddangos cefnogaeth wedyn, roedd hi yno. Fe welodd bron bob cynhyrchiad gan Gwmni Drama’r Parc am wn i, a dod a’i mam gyda hi sawl gwaith. Dyna’r math o ffrind oedd hi. A phan oedd troeon bywyd yn golygu fod Rydw i’n ymwybodol iawn wrth pethau braidd yn ddu arnoch chi, ymateb i’r cais i ddweud gair hi oedd y ffrind yr oeddech chi’n am Haf fel ffrind fy mod i’n wirioneddol falch o’i gweld. cynrychioli carfan gref ohonoch Mi fuon ni ar nifer o wyliau chi, sydd yma heddiw; achos gyda’n gilydd. Yn Iwerddon, roedd gan Haf ddawn arbennig mewn pabell nad oedd yr un i wneud ffrindiau. Cydweithio ohonon ni wedi ei chodi cyn ddaeth â ni’n dwy at ein gilydd hynny, a Haf druan yn sâl yr holl gyntaf, a hynny mor bell yn ôl ag ffordd i’r Dingle. Ond oedd ’na 1976 pan ymunodd Haf â’r Adran sôn am droi’n ôl a mynd adre? Gymraeg yn Ysgol y Moelwyn ar Dim peryg. Roedd hi’n rhy wydn ôl treulio blwyddyn yn gweithio i hynny. Mi fuon yn Ffrainc yn fel gwarchodwraig i deulu yn crwydro o un Campanille i’r llall, yr Unol Daleithiau. Roedd yng nghwmni criw o blant yn hynny ynddo’i hun yn rhoi rhyw Awstria, yn ymlacio a llosgi yn arbenigrwydd iddi heblaw am y yr haul ar ynys Sark, a theithio ffaith ei bod hi’n ifanc, yn llawn ar y trên bob cam o Fachynlleth i bywyd, a’i phersonoliaeth yr un Inverness wrth anelu am Orkney. mor ddeniadol â’i gwedd, a’r Dim ond pacio a mynd fyddai cyfan yn sicrhau iddi ddod yn raid i mi. Haf oedd yn trefnu dipyn o ffefryn ar y staff ac popeth, ac aeth dim byd o’i le ymysg y plant fel ei gilydd. erioed, ddim hyd yn oed pan Beth oedd bod yn ffrind i Haf oedd rhaid newid ochr ffordd yn ei olygu? Wel, i ddechre, wrth yrru dramor. Roedd hi’n roedd o’n golygu derbyn croeso yrrwr penigamp hefyd, er y ar ei haelwyd. Gan fod theatr byddai’n gweiddi a gwaeth ar gwbl weithredol yn Harlech yn ambell yrrwr gan gymysgu y blynyddoedd hynny, byddai’r dywediadau mewn bloedd o gwahoddiadau’n llifo i aros “digywilydd heb ei eni!” ac yn ar aelwyd Hafod y Morfa i taranu yn erbyn Mr Beeching ddechrau, ac yna Dwyfor, Bro am gau’r rheilffyrdd ac achosi Gyntun a Gwynedd. Roedd hi’n tagfeydd ar y ffyrdd! gogyddes arbennig, a’r swper Ar ôl i ni ymddeol ein dwy, bob amser yn flasus. Yn y gaea’ doedden ni ddim yn gweld mi fyddai ’na botel ddŵr poeth ein gilydd mor aml, ond pa â gorchudd gwau amdani wedi wahaniaeth. Pan ddoi cyfle, ei rhoi yn y gwely rhyw hanner byddem yn cyfarfod am goffi. awr cyn i chi gyrraedd yno, ac Cyn i ni droi, byddai’n amser yn y bore, paned o de yn y gwely, cinio. A thoc ar ôl amser te nid mewn mwg cofiwch chi, ond byddai’r naill neu’r llall yn rhyw cwpan a soser tsieni mor denau ddechre sôn am droi tuag adre. â phapur sidan. Dwi’n siŵr bod Colli’r sgwrs fu’r golled fawr. agweddau ar y disgrifiad yna yn Ond, fyddwn ni, ei ffrindiau brofiad i sawl un ohonoch chi. ddim yn cyfyngu’n hatgofion am Roedd rhywun yn cael y teimlad Haf i’r misoedd creulon olaf. Fe bob amser ei bod hi’n ymhyfrydu ddaw amser pan fedrwn godi’n mewn rhoi’r croeso gorau posib. golygon tu hwnt iddyn nhw at Pan oedd rhyw broblem fach yr amseroedd braf, hapus llawn ymarferol yn poeni rhywun, digrifwch a direidi yng nghwmni dim ond ei chrybwyll wrth Haf arian byw o ferch. Ac mi fyddwn oedd angen. Fel pan soniais ni’n diolch am ei ’nabod hi a am wynt oer oedd yn mynnu chael ei chyfri’n ffrind. treiddio drwy’r drws ffrynt, ac Gwen Edwards fe laniodd llen felfed drom oedd
CYNGOR CYMUNED HARLECH Parc Cymunedol Croesawodd y Cadeirydd aelodau o bwyllgor parc cymunedol Harlech i’r cyfarfod sef Sarah Badham, Lorraine Hanley, Julie Thomas a Jane Devine, er mwyn cael trafod cyflwr cae chwarae Brenin Siôr a chae chwarae Llyn y Felin. Roeddent eisiau gwneud gwelliannau iddynt a gwneud cais am grant i’r ‘Fields in Trust’. Cytunwyd bod Judith Strevens yn cadw cysylltiad gydag aelodau’r pwyllgor hwn ar ran y Cyngor. Safle Pen y Graig Adroddodd y Cadeirydd ei fod wedi cysylltu gyda ‘Tree Fella’ ynglŷn â thorri coeden ond ei fod yn disgwyl cadarnhad gan y Parc Cenedlaethol oherwydd ei bod mewn ardal gadwraeth. Nadolig 2015 Adroddodd Huw Jones ei fod wedi gwneud ymholiadau ynglŷn ag archebu coed ar gyfer gwahanol leoliadau o amgylch y dref a chytunwyd i osod coeden ar ben rhiw Dewi Sant, ym maes parcio Bron y Graig Isaf, ym maes parcio’r castell, ger siop y Morfa a’r tu allan i ystâd Tŷ Canol. CEISIADAU CYNLLUNIO Gosod ffenestri to - Tanycastell, Ffordd y Traeth. Cefnogi’r cais hwn. Gosod ffliw allanol – Bwyty’r Castell. Cefnogi’r cais hwn. Lleihau uchder yr estyniad o ddeulawr i unllawr, newid gorffeniad allanol o garreg i rendr, newid drysau Ffrengig i ffenestr a gosod ffenestr fechan i’r wal gefn - Yr Hen Felin, Y Llech. Cefnogi’r cais hwn. Ceisiadau am gymorth ariannol Hamdden Harlech ac Ardudwy - £750, Neuadd Goffa - £500, Hen Lyfrgell - £500, Clwb Pêl-droed Harlech - £500 Canolfan Hamdden Harlech - £500, Ardudwy Knights - £200 CAFC Meirionnydd Sir Nawdd 2016 - £200, GOHEBIAETH Adran Briffyrdd Bron Castell, Twtil, cadarnhawyd bod gordyfiant o’r eiddo. Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant Ni fydd yn bosib cael apwyntiad yn y swyddfeydd cofrestru yn Nolgellau a Phwllheli rhwng 10.00 y bore a hanner dydd ac y bydd swyddfeydd Y Bala, Porthmadog a Thywyn yn cau. UNRHYW FATER ARALL Mae angen arwydd dim mynediad ar giât cae chwarae Llyn y Felin a chytunodd Huw Jones ddelio gyda’r mater; cytunodd Judith Strevens gael clo i’w osod ar y giatiau. Hysbysfyrddau ar agenda mis nesaf. Angen sbring newydd ar giât cae chwarae Llyn y Felin; cytunodd Judith Strevens ddelio gyda’r mater. Angen sbring newydd ar giatiau cae chwarae Brenin Siôr; cytunodd Gareth Jones ddelio gyda’r mater. Parc Bron y Graig angen sylw: angen glanhau’r llyn ac archwilio’r coed. Angen cael gwybod pwy sydd yn berchen ar y coed o dan Fair View. Angen ysgrifennu at HSBC yn gofyn a fyddai ganddynt ddiddordeb mewn trosglwyddo adeilad y banc i’r gymuned unwaith y bydd yn cau.
Diolch Dymuna Peter, Ann ac Adrian a’u teuluoedd ddiolch o galon i bawb am y caredigrwydd, yr holl gardiau a’r galwadau ffôn a dderbyniwyd ganddynt yn eu profedigaeth o golli eu mam, Mair Highley, yn ddiweddar. Rhodd a diolch £20 DIOLCH Dymuna Dr Peter Williams, Gwynedd, Nicki a Catrin a’r teulu oll ddiolch yn ddiffuant i bawb a fu mor garedig tuag at Haf a’r teulu yn ystod ei gwaeledd a’u profedigaeth. Mae’r teulu hefyd yn dymuno datgan eu diolch i staff meddygfa Harlech ac Abacare, Bangor am eu cefnogaeth arbennig.
Ysgol Ardudwy, Harlech Nos Fercher, 9 Rhagfyr 2015 am 6.30 Cyngerdd gyda
SEINDORF ARIAN HARLECH YSGOL TANYCASTELL AELWYD ARDUDWY DIZZEE DANCERS Lluniaeth ysgafn, Croeso cynnes i bawb Mynediad am ddim Bydd Sion Côrn yn galw heibio
Trefnir gan Gyngor Cymuned Harlech
9
Grŵp Hyfforddi Ardudwy
peiriannau a datblygodd yr angen am wybodaeth i’w trin a’u trwsio. Ond, erbyn heddiw, mae HiTec fel cyfrifiaduron yn fodd i hwyluso gwaith y swyddfa ond eto i eraill mae’n felltith.
Carwn ddechrau’r cyflwyniad drwy sôn am addysg amaethyddol a’r cyfraniad mawr a roddwyd gan Glybiau Ffermwyr Ieuainc dros y blynyddoedd cynnar a oedd yn ffordd boblogaidd a chymdeithasol o ehangu gwybodaeth. Cafwyd nosweithiau poblogaidd o waith llaw neu gynghorwyr i’r weinyddiaeth amaeth neu filfeddygon fel siaradwyr, ond roedd cyfartaledd oedran wrth gwrs yn dipyn hyn yr adeg honno. Yn ystod y 60au cafwyd mwy o weithgareddau cystadleuol a chymdeithasol drwy’r Sir o dan arweiniad Mr Emyr Jones a thripiau i’r Almaen i addfwyno erchylltra rhyfel fel y dywedai. Trefnwyd sawl trip ar y cyd rhyngddo ef a Dewi Wyn Jones i sioe Smithfield Llundain ac roedd yn gyfle i adnabod a chymdeithasu â rhai eraill, ac wrth gwrs clywed gwahanol dafodiaith y sir - “Yn de Waa!” - a chofiaf wedyn roedd rhaid trio’r dafodiaith newydd ar fy ffrindiau a dywedais ‘Sut mae’i Waa’ wrth bellach y diweddar a’r cymeriad Robert Evans (neu Robert Byrdir Harlech), a mopiodd ei ben a bu yn ei arddel ar hyd ei oes, a bellach mae ei deulu wedi rhoddi ar ei garreg fedd y geiriau “Cysga yn dawel Waa”. Yn y chwedegau hefyd fe welwyd gweithgareddau NPTC (sef y National Proficiency Test Council) yn datblygu hefo’r mudiad a oedd yn cydnabod arferion gorau’r diwydiant ac yn cynnig bathodynnau ‘Craftsman’. Daeth yn gystadleuol i’w casglu am y ‘Gold Badge’ trwy basio nifer arbennig o brofion.
Cynhaliwyd cyrsiau gwneud menyn neu gaws drwy’r sir yn ystod y dauddegau gan Miss Myfanwy Davies [neu Miss Davies Llaeth fel yr adnabyddir hi’n sirol] pryd y cafodd ei phenodi yn Swyddog Gofal Llaeth a Dofednod gyda’r Weinyddiaeth ym Mhenbryn House, Dolgellau yn 1924. Cynhaliwyd un o’r dosbarthiadau hynny yng Ngholeg Harlech[gweler y llun].
Roedd bodolaeth adran gynghori’r Weinyddiaeth Amaeth ynghyd â’r gwasanaeth War-ag fel contractwyr o fferm i fferm yn lleihau’r angen i ffermwyr fuddsoddi mewn peiriannau drud yn ystod y rhyfel. Pan ddiwygiwyd y War-ag yn y 50au, bu’n rhaid buddsoddi mwy mewn
10
Merched lleol ar gwrs gwneud menyn a chaws yng Ngholeg Harlech oddeutu 1928/9 Datblygwyd a sefydlwyd, yn ychwanegol i golegau Glynllifon a Llysfasi a oedd yn tynnu rhai myfyrwyr o’r sir, gyrsiau undydd yn nechrau’r 60au gan bwyllgor addysg y sir mewn llefydd fel Llanbedr, Tywyn a’r Bala. Cynigiwyd tystysgrifau City & Guilds safon un ac yn ddiweddarach i safon 2 yn Nolgellau a hefyd cyrsiau min nos fel weldio; buon nhw’n dra phoblogaidd. Yn ddiweddarach, cynigiwyd safon tri City & Guilds mewn Rheolaeth Fferm drwy Goleg Glynllifon neu Llysfasi a oedd yn cyrraedd safon tystysgrif cyrsiau diploma (NDA) a allasai arwain i dystysgrif Technegydd. Ond,
yn y 90au, ar ôl aildrefnu Coleg Meirionnydd, caewyd yr adran amaeth er mawr siom i’r sir.
Sefydlu’r Grŵp
Wedi gwrando ar sgwrs Mr Charles Arch yn un o gyfarfodydd Undeb Amaethwyr Cymru yn y Bala ym 1974 fe gysylltodd Evan O Jones, Allt goch â chlwb Ffermwyr Ieuanc Ardudwy i ymholi a fuasai ganddynt ddiddordeb mewn sefydlu Grŵp Hyfforddi yn Ardudwy. Penderfynwyd cynnal cyfarfod arbennig ar 25 Hydref 1974 gyda Charles Arch, ac erbyn hyn y diweddar Ifor Roberts o Lanelidan ger Rhuthun. Derbyniwyd cyfansoddiad i’r Grŵp o dan yr ‘Agriculture Training Board’ sef ATB sydd bellach yn gorff wedi ei ddiddymu ond hyd heddiw mae’r enw ATB yn dal i fod yn adnabyddus. Etholwyd Evan O Jones yn Gadeirydd ac yn ddiweddarach penodwyd ef yn Llywydd. Dewiswyd Robert Owen, Caecethin yn drysorydd a thrwy fy mod yn bwt o ysgrifennydd i CFfI Llanfair a Chlwb Dyffryn Ardudwy am ychydig cyn uno’r ddau glwb a’i alw yn Glwb Ffermwyr Ieuanc Ardudwy, disgynnodd y llygaid i fy nghyfeiriad. Felly mae hi wedi bod wedyn er hynny efo’r trysorydd a minnau dros y blynyddoedd a chynhaliwyd aelodaeth dros y blynyddoedd o rhwng 50 a 60 o fusnesau, sy’n eithriadol o dda mewn ardal fach. Credaf fod yr allwedd i lwyddiant y Grŵp yn hanu o’i chymdeithas oherwydd tirwedd arbennig Ardudwy, a chredais dros y blynyddoedd bod sawl stori ddiddorol yn llechu oddi mewn i’w ffiniau a’i chreigiau.
Felly, fel Grŵp, casglwyd ychydig o hen hanesion neu arferion diddorol sy’n ymwneud ag Ardudwy gan yr aelodau a’i galw ‘Pawb a’i Bwt o Ardudwy’ i ddathlu 40 mlynedd o fodolaeth y Grŵp yn 2014. Wedi sefydlu’r Grŵp [y trydydd i’w sefydlu yng Nghymru ar ôl Tywyn a’r Bala] fe’n gyrrwyd ar gwrs wythnos o ymarfer dysgu sgiliau i Goleg Glynllifon. Dyna oedd wythnos i’w chofio yng nghwmni Twm Jim, trefnydd y Bala. Roeddem yn aros mewn gwesty nepell o’r coleg a chofiaf Twm y bore cyntaf yn gwneud cythraul o sŵn curo ar ei wardrob toc wedi saith y bore. Roedd yn ddigon o sŵn i ddeffro’r holl westy. Roedd pedwar diwrnod ychwanegol arall yn y Bala yn ddiweddarach i gael hyfforddiant o redeg Grŵp a datblygu rhaglenni hyfforddi, ac felly roedd her o’n blaenau i gynnal cyrsiau ymarferol o safon i’r aelodau. Yn ystod y flwyddyn gyntaf cafwyd nifer fawr o gyrsiau Graddio a Thorri Carces Wyn Tew gyda Raymond Pullin o Ddolgellau. Daeth hefyd gyrsiau Dysgu Cŵn Defaid ac am flynyddoedd roedd dau gwrs y flwyddyn o tua deg wythnos dan ofal Garnet Jones o Ruthun yn gyntaf. Cymerodd Huw Morgan, Tŷ Cerrig yr awenau yn ddiweddarach ac roedd yn gymeriad o fri i fod yn ei gwmni wrth drin y cŵn. Roedd yn dreialwr penigamp ac ni wnai rhywbeth y tro. Yr adeg honno, roedd treialon cŵn defaid yn Nhalsarnau, Dyffryn Ardudwy a Harlech ac un fach yn Uwch Artro, a chodwyd diddordeb i drin cŵn yn aruthrol. D J Roberts, Uwch Glan I’W BARHAU
TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Merched y Wawr Croesawodd y Llywydd, Siriol Lewis, bawb i’r cyfarfod nos Lun, 5 Hydref, y tro cyntaf i ni fod yn y Neuadd Gymuned yn ein rhaglen eleni, a dechreuwyd drwy gyd-ganu cân y mudiad. Darllenwyd cofnod o’n hymweliad â Gwinllan Pant Du ym mis Medi, a darllenwyd y llythyr a dderbyniwyd oddi wrth Bwyllgor y Sioe Sir yn diolch i bawb fu’n stiwardio ac yn helpu yn y sioe eleni yn Nhŷ Cerrig. Derbyniwyd gohebiaeth o’r Swyddfa Ganolog yn nodi’r tâl aelodaeth am eleni, yn cadarnhau dyddiad y Cwis Hwyl ar 13 Tachwedd, yn adrodd bod £20,000 wedi’i gasglu hyd yma at brosiect y Llywydd Cenedlaethol eleni, sef Sefydliad y Galon Cymru, a derbyniwyd rhestr o destunau’r Ffair Aeaf a manylion Cystadleuaeth Cynllunio Cerdyn Nadolig 2016. Trafodwyd lleoliad ein cinio Dolig a gofynnwyd i’r ysgrifennydd gysylltu i gael manylion o ddau le bwyta yn yr ardal. Atgoffwyd yr aelodau o gynnwys cyfarfod mis Tachwedd, sef gosod blodau at y Nadolig, a gofynnwyd i bawb ddod â blodau ffres, neu rhai o unrhyw ddeunydd arall, gyda hwy ar y noson, ynghyd â siswrn. Yna croesawodd y Llywydd ein gŵr gwadd y noson yma, sef y Parch Iwan Llewelyn Jones, Borth-y-gest a gyflwynodd sgwrs o dan y teitl ‘Seren Wib’ – gan mai sôn yr oedd am y Parch Robin Williams, neu ROGW fel yr adwaenid ef. Roedd ef wedi cael y fraint o’i adnabod yn dda a chafwyd darlun ganddo o fywyd a gwaith ROGW, gan olrhain ei fagwraeth, ei ddyddiau ysgol a choleg - cyn dilyn gyrfa fel Gweinidog a chael ei Ofalaeth gyntaf yn Ninmael, Corwen, cyn symud yn ddiweddarach i Benrhyndeudraeth. Soniodd am ei waith fel darlledwr, dynwaredwr, awdur a phregethwr adnabyddus a phoblogaidd drwy Gymru gyfan. Cawsom ddarlun gwych o’r gŵr amryddawn yma. Diolchodd Ella i Iwan am ei sgwrs ddiddorol am y Parch
Robin Williams; bu’n bleser gwrando arno. Mynegodd ein bod ninnau yma’n ei adnabod, ac wedi cael y fraint o’i glywed yn pregethu yng Nghapel Bryntecwyn sawl tro. Mwynhawyd sgwrs bellach gydag Iwan wrth gael paned ar y diwedd wedi’i baratoi gan Maureen ac Eirwen. Gwenda J enillodd y raffl. Gwasanaeth Diolchgarwch Pnawn Sul, 18 Hydref, cynhaliwyd Gwasanaeth Diolchgarwch yng Nghapel Bryntecwyn, dan ofal y Gweinidog, y Parch Anita Ephraim. Wedi iddi gyflwyno’r gwasanaeth dechreuol, cafwyd darlleniadau addas gan y plant, gyda chymorth Carys Evans, cyn gwrando ar Lois a Sioned yn canu deuawd hyfryd, i gyfeiliant Elin Williams. I ddilyn, cyflwynodd y Gweinidog stori Gwinllan Naboth a thrwy gyfrwng lluniau, adroddodd yr hanes yn arbennig i’r plant. Gwerthfawrogwyd cyfraniad pawb i’r gwasanaeth. Gwnaed casgliad tuag at waith Cymorth Cristnogol. Y Neuadd Gymuned Noson yng nghwmni Meibion Prysor Bwriadwn aildrefnu’r noson y bu raid ei gohirio ym mis Hydref. Cynhelir y noson ar 22 Ionawr. Rhagor o fanylion yn rhifyn mis Rhagfyr o’r Llais.
FFAIR NADOLIG yn Neuadd Gymuned Talsarnau Nos Iau, 26 Tachwedd am 6.30
Yn gwella Hyfryd yw gweld Carol Stevens, Awelon, Llandecwyn yn gwella’n dda ar ôl ei llawdriniaeth ddiweddar. Dymuniadau gorau i ti Carol. Anfonwn ein cofion hefyd at ei thad, Derwyn ym Mhenrhyndeudreth sy’n gwella ar ôl bod yn symol iawn.
Suliau Capel Newydd Oedfaon am 6.00 bob nos Sul TACHWEDD 8 Dewi Tudur 15 Dewi Tudur 22 Dewi Tudur 29 Derrick Adams
Rhoddion i’r Llais Diolch i Angharad Morris am y rhodd o £6.50 a £10 oddi wrth Ieuan Lloyd Evans i’r Llais.
Llais Ardudwy
Triniaeth Rydym yn falch o glywed bod Katherine Kennedy, Tanybryn yn gwella’n dda ar ôl triniaeth i’w hysgwydd yn Ysbyty Gwynedd.
Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/llaisardudwy/ docs
CYFEILLION ELLIS WYNNE Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2015 Hysbysir yr aelodau, drwy hyn, y cynhelir y Cyfarfod Blynyddol yn Ysgol Ardudwy, Harlech am 4.00 o’r gloch Dydd Iau, Tachwedd 19
Neuadd Talsarnau
Gyrfa Chwist Nos Iau, 12 Tachwedd am 7.30
Neuadd Talsarnau
Gyrfa Chwist Nadolig Nos Iau, 10 Rhagfyr am 7.30
R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286 Ffacs 01766 771250
Stondinau amrywiol Paned a sgwrs Dewch i brynu anrhegion Nadolig Mynediad: Oedolion £1 Plant – am ddim Gellir llogi bwrdd am £10 01766 772960
Honda Civic Tourer Newydd
11
Hen Benillion 1. Dacw long yn hwylio’n hwylus Heibio i’r trwyn ac at yr ynys, Os fy nghariad i sydd ynddi, Hwyliau sidan glas sydd arni.
4. Tra bo eglwys yn Llanelli, A’r wennol fach yn hedeg drosti, A thra bo gwyngalch ar ei thalcen, Caraf i fy siriol seren.
2. Hardd yw gwên yr haul yn codi Gyda choflaid o oleuni, Hardd y nos yw gwenau’r lleuad, Harddach ydyw grudd fy nghariad.
5. Tri pheth sydd yn anodd imi, Cyfri’r sêr pan fo hi’n rhewi, Rhoi fy llaw ar gwr y lleuad, A gwybod meddwl f ’annwyl gariad.
3. Tros y môr y mae fy nghalon, Tros y môr y mae f ’ochneidion; Tros y môr y mae f ’anwylyd, Sy’n fy meddwl i bob munud.
6. Mae gennyf gariad sydd yn fychan, Mae yn methu cyrraedd cusan, Y mae’n gweiddi am stôl i ddringo, Yn fy myw ni chawn un iddo.
7. Geiriau mwyn gan fab a gerais, Geiriau mwyn gan fab a glywais; Geiriau mwyn sydd dda dros amser, Ond y fath a siomodd lawer.
Cist Gymunedol yn cefnogi chwaraeon yng Ngwynedd Mae Cist Gymunedol Gwynedd wedi dyrannu cyfanswm o £20,511 i 19 clwb neu sefydliad chwaraeon yng Ngwynedd yn ystod eu cyfarfod diweddar. Mae grantiau Cist Gymunedol Gwynedd yn rhoi cymorth i glybiau a sefydliadau amrywiol sydd yn ymwneud â chwaraeon ledled y sir, megis clybiau pêl-droed, rygbi, gymnasteg, rhedeg, pêl-rwyd, pysgota a llawer mwy. Ymysg y clybiau a sefydliadau llwyddiannus, mae Gild pysgota â phlu ‘Cambrian Fly Dressers’ Meirionnydd / Penrhyndeudraeth a Chlwb Rygbi Harlech. Am fwy o wybodaeth am sut all eich clwb neu sefydliad chwaraeon chi wneud cais am gefnogaeth ariannol gan Gist Gymunedol Gwynedd, cysylltwch â thîm datblygu chwaraeon Cyngor Gwynedd drwy e-bostio DatblyguChwaraeon@gwynedd.gov.uk neu ffoniwch 01766 771000.
CEIR MITSUBISHI
Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk 12
THEATR HARLECH Am fanylion pellach am ddigwyddiadau’r Theatr, ffoniwch 01766 780667, neu ewch i’r wefan ar www.theatrharlech.com Digwyddiadau am 7.30 oni nodir yn wahanol.
Tachwedd 7
Dathlu pen-blwydd Gŵyl Gwrw Llanbedr yn 10 oed. Noson arbennig o gerddoriaeth gyda Rhys Meirion, Elin Fflur, a 10 o offerynwyr band pres blaenllaw. Cyflwynydd: Aeron Pughe. Elw at yr Ambiwlans Awyr.
Pôs y Beirdd - Tachwedd gan Iwan Morgan
1. Mae’r curlaw yn dallu ffenestri fy nhŷ, A thymestlwynt Tachwedd a gyfyd ei ru; Mae cedyrn y derlwyn yn siglo i’w gwraidd, A brefu am loches wna ychen a phraidd Ein Tad, cofia’r adar Nad oes iddynt gell; Mae’r eira mor agos, A’th haf di mor bell. 2. Rhew du oedd cyrn yr allor, Llwydrew y memrwn gwyn; Ni chariwyd baich oedd drymach Erioed tros Bont-y-Glyn: Y ddwyflwydd lân â’r dwylo pleth A thrawsder Tachwedd ar bob peth. (Prifardd cadeiriol ddwywaith - a honnodd iddo ‘weld golau dydd am y tro cyntaf ar fferm Eithinfynydd, Tal-y-bont, Ardudwy’.) 3. Tachwedd ydi’r amser pan fydd y flwyddyn Yn dod i afael y gaeaf. Ond mi fyddwn ni am fynnu, am dipyn, Bod ein byd mor loyw â’r haf. Ac mi fyddwn ni’n codi coelcerth Mor anferth ag y medrwn ni A’i rhoi hi, fel llygedyn o haul, Yn wyneb y tywyllwch, a byddwn ni Yn ceisio gwirioni’r dűwch a’i wneud yn araul. (Meistr geiriau a gafodd ‘fywyd bach’.) 4. Yn Nhachwedd y mae’n weddaidd - cofio llu, Cofio’r lladd anwaraidd, Ond trwy ust yr ennyd traidd Y twrw militaraidd. (Un y cyffelybwyd i ‘Magnus Pike’ a ‘Meuryn o gymeriad’ yn Ymrysonau’r Babell Lên.) 5. Mae marc gwaed ar y mwyar a’r cyll, Daw ar ysgaw bryder o’u hoedl, a hen yw’r griafolen eleni. Ganed hwy oll i gwynion o’n tu. Fe ddaw glaw Tachwedd gwlyb A’i gas i’w herwau a’u digysuro, Rhoi clwy iddynt hyd farw a’u claddu, A’r gaeafwynt a’u hebargofia. (Un o’n gwŷr eglwysig llengar a brawd i fardd cadeiriol ac Archdderwydd.)
ATEBION MIS HYDREF
1. Crwys. 2. T Gwynn Jones. 3. T Glynne Davies. 4. Gerallt Lloyd Owen. 5. Tudur Dylan Jones.
Eisteddfod CFfI Cymru 2015
Y diweddaraf o’r Nant…
Pleser yw medru dweud bod haf 2015 wedi bod yn haf eithriadol o brysur yma yn Nant Gwrtheyrn. Bu i lu o briodasau, cynadleddau a chyrsiau iaith gymryd lle yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst. Roedd y pentref yn llawn bwrlwm a braf oedd gweld cynifer yn mynychu. Yn ôl yr arfer, bu niferoedd uchel yn mynychu’r cyrsiau iaith yn ystod y misoedd diwethaf, a lle gwell i ddysgu iaith y nefoedd nag yma yng nghanol harddwch Nant Gwrtheyrn? Roedd lliwiau’r grug yn erbyn y graig yn anhygoel ddiwedd yr haf! Braf oedd cael sgwrs gyda rhai o ffyddloniaid y Nant yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd yr Eisteddfod yn gyfle perffaith i ni lansio ein rhaglen gyrsiau ar gyfer 2016. Mae copi o’r rhaglen, ynghŷd â chopi o’n pecyn priodas newydd i’w cael ar ein gwefan:
Tŷ Canol www.nantgwrtheyrn.org Rydym yn parhau i groesawu grwpiau a mudiadau o bell ac agos yma i’r Nant am sgwrs yn y Ganolfan Dreftadaeth cyn galw yn y caffi am damaid o de prynhawn. Mae croeso i chi gysylltu os ydych yn dymuno trefnu i ymweld â ni. Wedi Haf bach Mihangel gwerth chweil ddiwedd Medi, mae’r naws yma yn y Nant yn prysur droi’n hydrefol a lliwiau’r coed yn werth eu gweld. Rydym yn prysur edrych ymlaen at dymor y Cinio Sul, Partïon Nadolig a Gwledd Nos Galan, wrth gwrs! Yda’ chi wedi clywed pwy fydd yn ein diddanu eleni? Rydym yn falch o gyhoeddi mai Geraint Lovgreen a’r enw da a Dilwyn Morgan â’i hiwmor ffraeth fydd yn eich diddanu. Cysylltwch â’r swyddfa am ragor o wybodaeth ac i hawlio’ch ticedi: 01758 750 334. Cofiwch, hefyd, bod croeso i chi gysylltu i drefnu dathliad yng nghaffi Meinir dros gyfnod y Nadolig, boed yng nghwmni teulu, ffrindiau neu gydweithwyr.
Oeddech chi’n gwybod mai ein sir ni fydd yn croesawu Eisteddfod CFfI Cymru eleni? Dyma ein tro ni i drefnu un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd y mudiad a rhoi Meirionnydd ar y map! Bydd yr adran addysg yn cynnal cwrs arbennig y ‘Nadolig Cymreig’ unwaith eto eleni. Dyma gyfle i unrhyw un boed yn ddysgwyr neu’n Gymry Cymraeg ddod i ymuno yn hwyl yr ŵyl a dysgu am gefndir y Nadolig Cymreig. Dewch yn llu! Mae gwaith adeiladu’r adnoddau newydd bellach wedi ei gwblhau ac rydym yn falch o gyhoeddi bod Tŷ Canol ar agor. Mae’n werth i chi ddod draw i’w weld! Bu cynhadledd ‘Smaller Earth’ yma ddiwedd y mis a chafwyd defnydd buddiol iawn o’r adnoddau newydd yn ystod yr wythnos. Braf oedd gweld y pentref yn llawn o bobl ifanc o bob cwr o’r byd yn dod at ei gilydd yma yn y Nant. Efallai bod rhai ohonoch wedi sylwi ar y cerflun gwydr sydd wedi glanio yma yn y Nant - Tu Hwnt yw enw’r cerflun gan Awst a Walther. Dewch draw i’w weld a rhowch wybod i ni beth ydi eich argraffiadau ohono ar ein tudalen Facebook neu Drydar @ nantgwrtheyrn1 #tuhwnt.
GWIRIONEDDAU
Os nad yw tasg yn ymddangos yn rhwydd, nid ydych chi’n gweithio’n ddigon caled. Byddwn yn treulio mwy o amser yn pwyso’r mochyn nag yn ei fwydo. Nid rhoi’r gorau i chwarae oherwydd ichi fynd yn hen y byddwch chi, ond mynd yn hen oherwydd ichi roi’r gorau i chwarae. Mae tair ochr i bob stori - eich
ochr chi, fy ochr i, a’r gwirionedd. Os bydd dau berson yn anghytuno, mae un ohonynt yn gwybod rhywbeth na ŵyr y llall. Adnabod y ‘rhywbeth’ hwnnw fydd y cam cyntaf tuag at ddatrys yr anghytundeb. Mae profiad yn athro caled: mae’n gosod y prawf yn gyntaf ac yn dysgu’r wers wedyn. Cael yr hyn y dymuni yw llwyddiant - derbyn yr hyn a gei
yw hapusrwydd. Nid gorau pwyll - pwyllgorau. Rydym yn gwerthfawrogi yr hyn y gallwn ei fesur, yn hytrach na mesur yr hyn yr ydym yn ei werthfawrogi. Mae tri math o ddyn - dyn sy’n gallu cyfrif a dyn nad yw’n gallu cyfrif. [Codwyd o gyfrol D Geraint Lewis, Lewisiana.]
Tachwedd 21 yw y dyddiad i’w gofio, a Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth fydd y lle i fod! Yn anffodus, nid oes lleoliad addas o fewn y sir i gynnal yr Eisteddfod ond gwn, er hynny, y bydd pobl Meirionnydd yn gefnogol i’r achlysur ac y bydd aelodau’r sir yn heidio i Aber am ddiwrnod o gystadlu brwd ac adloniant pur! Mae rhywbeth at ddant pawb fel arfer – o’r cystadlaethau cerddorol a’r llefaru, i’r cystadlaethau ysgafn a’r gwaith cartref. Mewn digwyddiad o’r fath mae’n rhaid cael byddin o stiwardiaid a gwirfoddolwyr dibynadwy. Os hoffech ein cynorthwyo ar y diwrnod, gofynnaf yn garedig i chi gysylltu â Ffion Williams, CFfI Meirionnydd cyn diwedd mis Hydref ar 01341 423846 neu cffimeirionnydd@gwynedd.gov.uk.
Cewch docyn mynediad i’r Eisteddfod yn gyfnewid am gyfnod o stiwardio.
Fe gynhelir yr Eisteddfod Sir yn Ysgol y Gader, Dolgellau ar Tachwedd 7. Edrychaf ymlaen at eich gweld yn y digwyddiadau yma ac at eich croesawu i Aberystwyth ym mis Tachwedd. Siwan Mair Jones Cadeirydd Eisteddfod CFfI Cymru
13
H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239
Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290
YSWIRIANT I BAWB
E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr
01341 241551
Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.
ALAN RAYNER ARCHEBU A GOSOD CARPEDI 07776 181959
Gwynedd
www.raynercarpets.co.uk
Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297
Tafarn yr Eryrod Llanuwchllyn 01678 540278
Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00
Sgwâr Llew Glas
Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd
Llais Ardudwy
Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk 01766 512091 / 512998
TREFNWYR ANGLADDAU
Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb
GERALLT RHUN
JASON CLARKE
Bryn Dedwydd, Trawsfynydd LL41 4SW 01766 540681
g.rhun@btinternet.com
BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU
01766 780186 07909 843496
Pritchard & Griffiths Cyf.
drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]
Tiwniwr Piano a Mân Drwsio
Phil Hughes Adeiladwr
Gosod stofiau llosgi coed Cofrestrwyd gyda HETAS
Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.
Sŵn y Gwynt Talsarnau,
Cefnog wch e in hysbyseb wyr
Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504
DAVID JONES
Cigydd, Bermo 01341 280436
Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau
SAER COED Amcanbris am ddim. Gwarantir gwaith o safon.
Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014
Ar agor bob nos 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00
Tacsi Dei Griffiths
Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 9.00 Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!
14
Sefydlwyd dros 20 mlynedd yn ôl
BWYD A DIOD
NEUADD GOFFA PENRHYNDEUDRAETH
FFAIR AEAF
yng nghwmni SIÔN CORN a BAND ARALL Dydd Sadwrn, Tachwedd 28ain, 2015 am 2.00 o’r gloch Gemau i’r plant a llu o stondinau Mynediad, yn cynnwys lluniaeth - £1.50 CROESO I BAWB Trefnir gan Blaid Cymru
Blasu Trwy’r Gymraeg Wrth fwynhau ei yfed, mae Dylan a minnau hefyd yn hoff iawn o siarad am win. Rhan o’r pleser yw trafod rhinweddau arbennig, da neu ddim cystal, gwahanol winoedd: y grawnwin, y dull neu’r wlad. Dyma hoffai pobl gymaint am nosweithiau blasu gwin - mae’n addysg yn ogystal â noson (wna’i ddim dweud ‘ar y lysh’) gwerthfawrogi blas ac arogl y gwin. Ond buan iawn daeth rhwystr yn y maes yma flynyddoedd yn ôl pan oedd Dylan yn cynnal blasu gwin trwy’r Gymraeg yn y dyddiau cynnar. Lle’r oedd yr eirfa i’w drafod? Sut mae dweud ‘oak on the nose’ ac ‘a fine bead’ yn y Gymraeg? Dim cyn hawsed ag y mae rhywun yn ei feddwl! Os cofiwch chi, Gilly Goolden ac Oz Clarke ymddangosodd ar y teledu yn yr 80au gyda disgrifiadau annisgwyl o winoedd yn y Saesneg. Hurt bost oedd y farn ar y pryd i’w cymariaethau hynod ‘abstract’. Goolden a ddisgrifiodd Gamay, y grawnwin a ddefnyddir i greu Beaujolais, fel rwber yn llosgi ar darmac ar ddiwrnod poeth yn yr haf. Erbyn hyn, rydym wedi arfer gyda’r iaith yma a does neb yn poeni am ddisgrifiad o win coch fel ‘licris’ neu ‘focs sigâr’ yn y Saesneg. Roedd felly’n naturiol wrth ysgrifennu ein llyfr ‘Bwyd a Gwin’ i gynnwys geirfa fer i gychwyn. Diddorol dros ben oedd yr ymateb ar Trydar i geisiadau am syniadau. Er enghraifft, roedd ‘vintage’ yn rhoi trafferth i ni, a daeth neges gan ‘Gwyddeles’ gyda’r syniad o ‘Gwinaeaf ’. Hoffi hwnna! I mewn i’r eirfa â fo! Yr un ‘gyddrydarwraig’ roddodd hefyd yr enw ‘mwclis’ i ‘bead’, sef y swigod bach sy’n dringo i fyny o waelod gwydr Siampên mewn
rhes. Mwclis. Am enw tlws, mae’n gneud y gwin flasu’n well fyth! Rŵan ta, efallai na fydd pawb yn cytuno gyda phob un gair - yn aml iawn rwy’n ei chael yn anodd mabwysiadu geiriau newydd yn y Gymraeg. Er enghraifft, well gennai ‘popty ping’ i ‘microdon’ yn bersonol. A dyna ni, fy newis i yw hynna. Mae iaith yn gorfod teimlo’n iawn, a chynigion yn unig yw’r geiriau yma. Erbyn hyn, mae Dylan yn ei chael yn haws pob tro i sgwrsio am brofi gwin trwy’r Gymraeg ar raglen deledu ‘Prynhawn Da’ yn un, neu yn y gwahanol sesiynau blasu rydym yn eu cynnal. Rydym yn bendant yn datblygu’r arferiad o yfed ein gwin trwy’r Gymraeg fel cenedl. Ac mae’r daith yn parhau. Yn ddiweddar, ffrwyth sgwrs gyda Gwyddeles oedd ei disgrifiad o Claret - Chateau Talbot 1982: ‘lledr, cedrwydd, dail tybaco’. Waeth i mi fod yn onest ddim, doedd dim syniad beth oedd ‘cedrwydd’ gennai, felly cefais gyfoethogi fy mhrofiad o’r gwin (o bell) ac ehangu fy iaith. Mae noson blasu gwin i ddysgwyr a siaradwyr iaith gyntaf gennym ar yr 20fed o Dachwedd. Cewch gyfle gwych i ymarfer sgiliau iaith gyda ‘sloch’ bach i ymlacio’r tafod. I chi athrawon sy’n dysgu ail iaith Gymraeg i oedolion, dyma’r adnodd dysgu iaith fwyaf effeithiol y dowch ar ei thraws! Hyder yw’r rhwystr mwyaf i siarad ail iaith ac mae’r ffisig perffaith gennai - bydd pawb yn rhugl ar ôl un gwydred garantîd! Llinos Dylanwad Da
GWŶL FWYD A CHREFFT PORTMEIRION RHAGFYR 5 - 6
Gŵyl Fwyd Portmeirion Ar y 5ed a’r 6ed o Ragfyr, bydd pentref Eidalaidd Portmeirion yn fwrlwm o stondinau o bob math yn gwerthu cynnyrch Cymreig o’r safon uchaf. Meddai Robin Llywelyn, Rheolwr Gyfarwyddwr Portmeirion, “Eleni, mae gennym dros 100 o stondinau sy’n gwerthu pob math o gynnyrch megis cawsiau, cwrw lleol, cigoedd a chrefftau gan rai o gynhyrchwyr nwyddau mwyaf blaenllaw Cymru. Mae’r ŵyl hon bellach yn cael ei chydnabod fel un o wyliau bwyd a chrefft gorau Cymru ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i groesawu pawb yma. Ategodd Gwynedd Roberts, Rheolwr Stad Portmeirion, “Gŵyl deuluol i bobl leol a thu hwnt ydy’r ŵyl hon. Mae gennym raglen eang o adloniant gwerth chweil ac mae hwn yn gyfle euraidd i wneud eich siopa Nadolig ymhell o brysurdeb y stryd fawr!” Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Gwynedd Roberts ar 01766 772450 neu gwynedd.roberts@portmeirion-village.com
15
Aberystwyth a gafodd ei wrthod gan Eirian Davies, y beirniad, yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala yn 1967. DRAENEN Hardd lances yn ei thresi a gwenwisg Y gwanwyn amdani; Ionor gwyn, hen wraig yw hi, Hir ei dannedd ar dwyni.
Jin Eirin Tagu Gwyddom fod llawer o’n darllenwyr yn cael hwyl ar gymysgu eirin tagu, siwgr a jin yn flynyddol er mwyn gwneud diod lesol. Ond mae mwy i’r goeden na’r ddiod. Mae’n bren caled ac yn ardderchog ar gyfer gwneud ffon gerdded, neu handlenni ar gyfer celfi amrywiol. Mae’r goeden hefyd yn dda am gynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt ac yn werth ei hystyried ar gyfer yr ardd. Mae’n tyfu’n sydyn ac yn ymateb yn dda i docio. Rhaid i chi gael menig caled i’w thrin ond mae ochr gadarnhaol i hyn. Mae’n goblyn
16
o dda am gadw bob math o anifeiliaid [a phobl!] o’r ardd. Mae’n gartref delfrydol ar gyfer y fronfraith a’r fwyalchen. Go brin y daw unrhyw un i ymyrryd â nyth mewn coeden eirin tagu. Mae hefyd yn cynnal llawer o bryfetach. Mae’n blodeuo’n gynnar ac mae ei phetalau yn eithriadol o hardd yn y gwanwyn. Yn gynnar yn y tymor, nid oes gan y pryfetach lawer o flodau i gael neithdar ohonyn nhw, felly maen nhw’n gweld y goeden eirian tagu yn un fendithiol iawn. Englyn gwych iawn yw hwn gan y Parch Roger Jones, Tal-y-bont,
Rysáit Gan y diweddar Eluned Parry, Harlech y cefais i’r rysáit syml hwn: Pwys o eirin tagu Pwys o siwgr Peint o jin 5 diferyn o rinflas almon Fe ddywedodd Eluned wrthyf am roi pin yn yr eirin a rhoi’r cyfan mewn potel dywyll. Emyr John ddywedodd wrthyf am roi rhinflas almon ynddo fo! Ysgwyd y cynnwys bob dydd wedyn am ryw dair wythnos a’i gadw mewn cwpwrdd tywyll [rhag iddo ocsideiddio]. Mae’n gweithio’n ddi-feth. Wrth ddarllen y cylchgrawn ‘Garden News’ yn ddiweddar, fe ddes i ar draws rysáit arall a dyma’i rannu efo chi.
1. Casglwch yr aeron. Maen nhw’n aeddfed pan fedrwch chi wasgu un rhwng eich bys a’ch bawd. Ond maen nhw’n well os ydyn nhw wedi cael barrug. 2. Golchwch nhw ac yna eu pwyso. Dylech anelu at lenwi’r botel [hollol lân] at ei hanner a sticio pin ym mhob un. Adiwch siwgr mân - hanner pwysau’r eirin sydd gennych. 3. Llenwch y botel efo fodca yn hytrach na jin. Dywedir fod y blas yn fwy miniog ac yn lanach [beth bynnag yw ystyr hynny!]. 4. Rhowch y botel mewn cwpwrdd tywyll a gadewch lonydd iddi gyhyd ag y medrwch - lleiafswm o ddau fis; ond mae blwyddyn neu ddwy yn well fyth. Mae’n cymryd amser iddo aeddfedu i’w ogoniant! PM