CURO EI RECORD 50c BERSONOL ac yntau ag anaf!
Llais Ardudwy RHIF 457 TACHWEDD 2016
LLWYDDIANT ETO ELENI
Llongyfarchiadau mawr i Elin Haf, merch Hywel ac Ifanwy Jones, Pensarn am wneud mor arbennig o dda yn y golff eto eleni. Yn ystod Cyfarfod Sulgwyn y merched yng Nghlwb Golff Dewi Sant enillodd ‘Fowlen y Castell’ a ‘Thlws y Coroni’ ac yna yng nghyfarfod Penwythnos y Llywydd enillodd Dlws Ann am yr ail waith yn olynol.
TAITH LWYDDIANNUS I GERNYW Llongyfarchiadau mawr i aelodau Côr Meibion Ardudwy am y gwaith da a wnaed ganddynt wrth gario enw ardal Ardudwy bob cam i Gernyw ddiwedd mis Hydref. Trefnwyd cyngherddau yn Lanivet, Helston a Falmouth a chafwyd derbyniad gwresog gan y tri Chôr lleol, sef Côr Meibion Loveny, Côr Meibion Truro a Chôr Meibion Treverva. Gallwch ddarllen yr hanes i gyd ar dudalennau 18 ac 19 a phrofi ychydig o flas y daith.
Llongyfarchiadau mawr i Damon John a lwyddodd i guro ei record bersonol wrth redeg hanner marathon Abersoch yn ddiweddar, gan gwblhau’r ras mewn 1:45:51. Roedd hyn yn dipyn o gamp gan ystyried bod ganddo anaf ar y pryd! Yn barod eleni, mae Damon wedi llwyddo i gwblhau Marathon Manceinion, a dim ond y llynedd fe redodd hanner marathon Abersoch am y tro cyntaf er cof am ei daid Basil Jerram, gan godi swm sylweddol i elusen Alzheimer yn y broses. Oherwydd hyn, derbyniodd gydnabyddiaeth gan ‘JustGiving’ am fod ymysg y 5% uchaf o bobl allan o 532,124 o unigolion i godi’r nifer fwyaf o arian i unrhyw elusen trwy gyfrwng eu gwefan yn 2015. Yn ddiweddar, mae Damon wedi cael cadarnhad ei fod wedi cael ei dderbyn i redeg marathon Llundain yn 2017. Dipyn o gamp - da iawn ti Damon! Pob lwc i ti gyda dy ymarferion, a llongyfarchiadau enfawr ar dy lwyddiant gan dy deulu a’th ffrindiau yn yr ardal - rydym yn falch iawn ohonot ti!
CALENDR LLAIS ARDUDWY Bargen am £4. Sicrhewch eich copi yn fuan.
Llais Ardudwy
HOLI HWN A’R LLALL
GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk (07760 283024
SWYDDOGION
Cadeirydd: Hefina Griffith (01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com
Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones (01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@Intamail.com Casglwyr newyddion lleol Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960 Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Ragfyr 2 am 5.00. Bydd ar werth ar Ragfyr 7. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Medi 27 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’
2
Enw: Iolyn Jones. Gwaith: Wedi ymddeol ers pedair blynedd. Cyn hynny wedi bod am tua ugain mlynedd yn ymgynghorydd meddalwedd cyfrifiaduron. Swydd ddiddorol iawn lle bûm yn gweithio i lawer o gwmnïau ac a aeth a fi i amryw o wledydd. Cefndir: Yn wreiddiol o Gricieth. Ar ôl cyfnod yn gweithio yn adran ymchwil y swyddfa dywydd, llwyddais i gael swydd gyda’r Awdurdod Afonydd yng Nghaernarfon a chael dod yn ôl i Eifionydd i fagu’r plant. Bu newid mawr yn y diwydiant dŵr a chefais gyfle i wneud amrywiol swyddi fu yn brofiad gwerthfawr pan ddaeth y cyfle i weithio ar system gyfrifiaduol gynhwysfawr i Dŵr Cymru. Symudais i gyffiniau Aberhonddu i wneud y gwaith hwn ac arweiniodd hynny yn ddiweddarach i yrfa fel ymgynhorydd meddalwedd arbenigol. Mynd am wyliau i Batagonia gyda Chlwb Mynydda Cymru a chyfarfod Eirlys oedd y cam a gychwynnodd ar siwrnai a ddaeth a fi i fyw i Dyddyn Llidiart yn Ardudwy. Sut ydych chi’n cadw’n iach?
Cerdded mynyddoedd a garddio ond yn methu gwneud yr un o’r ddau ar hyn o bryd. Wedi cael llawdriniaeth ar fy mhen-glin ac yn mawr obeithio y byddaf yn crwydro’r llethrau eto cyn bo hir. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Llyfrau Cymraeg y rhan fwyaf o’r amser. Ni fyddaf yn arfer darllen nofelau, ond ar hyn o bryd rydw i yn darllen ‘Iddew’ gan Dyfed Edwards. Mae’r enwau Hebraeg (dwi’n meddwl mai dyna’r iaith) a ddefnyddir yn golygu dipyn o ymdrech. Cyn hynny cefais bleser yn darllen ‘Periodic Table’ gan Primo Levi yn dilyn clywed darlleniad ar y radio. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Heb os, Dei Tomos ar y radio nos Sul. Ar y teledu, S4C fydd y dewis cyntaf a chwilio am rywbeth arall os nad yw’r rhaglen yn plesio ond rhaid dweud fy mod yn hoff iawn o raglenni newyddion a materion cyfoes gyda Channel 4 News yn ffefryn. Ydych chi’n bwyta’n dda? Ydw, yn hoff o gael llawer o lysiau ac ychydig o gig. Hoff fwyd? Salad yn yr haf a lobscows yn y gaeaf. Hoff ddiod? Yn y dydd, llefrith (sgim wrth gwrs). Gyda’r nos, Whisky Mac, sef chwisgi gyda gwin sunsur. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Eirlys a’r teulu. Mae cael cwmni’r plant a’u partneriaid a’r wyrion yn rhoi llawer o bleser i mi. Lle sydd orau gennych? Bûm yn crwydro dipyn gyda gwaith a gwyliau ond does unlle cystal ag Eryri. Ble cawsoch chi’r gwyliau gorau?
Cerddi’r Gŵr o Gynfal Fel awdur rhyddiaith grymus a gwreiddiol y cofir Morgan Llwyd (1615-59) yn bennaf, ond yr oedd hefyd yn dipyn o brydydd, a’i gerddi’n adlewyrchu cynnwrf mawr ei oes a’i genhadaeth bersonol yntau. Yn Hen Lyfr Bach Cerddi Morgan Llwyd, a gyhoeddir gan Dalen Newydd Cyf, ceir detholiad newydd ohonynt mewn golygiad modern am y tro cyntaf erioed. £3.00 yw pris y gyfrol, ond unwaith eto gellir prynu pecyn o bedwar ‘Hen Lyfr Bach’ am y pris manteisiol o £10.00. Hefyd yn y pecyn hwn mae: Y Bugeilgerddi, Caneuon Mynyddog a Cilhaul gan Samuel Roberts. Gan eich llyfrwerthwr neu o dalennewydd.cymru
Ym Mhatagonia. Beth sy’n eich gwylltio? Yn gyffredinol, mae gormod o gŵn ond yr un peth sydd yn codi gwrychyn yw perchnogion cŵn sydd yn codi’r baw mewn bag plastig a’i hongian ar wrych neu ffens. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Yn ddibynadwy ac yn dweud ei farn. Pwy yw eich arwyr? O’r gorffennol Owain Glyndŵr, Thomas Paine a Michael Collins. Yn gyfredol dwi’n meddwl bod Dafydd Wigley yn haeddu llawer o glod. Hen dro na fuasai wedi gallu aros yn y Cynulliad yn hirach. Beth yw eich bai mwyaf? Bod yn ddiamynedd. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Cael digon i’w wneud a digon o amser i’w wneud. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Gwyliau gydag Eirlys ym Mhatagonia. Eich hoff liw? Coch. Eich hoff flodyn? Clychau’r gog yn garped yn y caeau. Eich hoff gerddor? Dafydd Iwan. Efallai buasai baledwr yn well disgrifiad na cherddor. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Dafydd Iwan yn canu ‘Yma o Hyd’. Pa dalent hoffech chi ei chael? Gallu canu. Eich hoff ddywediad? Iawn. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Braidd yn gloff ac yn rhwystredig am na allaf fynd allan i gerdded.
ADUNIAD YSGOL ARDUDWY
Ddechrau mis Hydref cynhaliwyd aduniad o’r disgyblion ddaru gychwyn ar eu gyrfa yn Ysgol Ardudwy yn 1971. Cychwynnwyd yn Ysgol Ardudwy am 3.00 y pnawn ac yna cafwyd tamaid blasus i’w fwyta yng Nghlwb Golff Dewi Sant am 6.30. Diolch i Linda Soar am drefnu. Faint ohonyn nhw fedrwch chi eu hadnabod tybed?
3
LLANFAIR A LLANDANWG Merched y Wawr Harlech a Llanfair Ar ôl delio gyda materion y mudiad, croesawyd y gŵr gwadd sef Ken Robinson o Finffordd. Aeth Ken â ni am dro ar hyd lein y Cambrian o Bwllheli i Gyffordd Dyfi trwy gyfrwng lluniau hen a newydd o’r ardal. Roedd y lluniau yn dod â llawer o atgofion i nifer o’r aelodau. Un o’r atgofion difyr oedd eiddo Gwenda Jones a fu’n sôn am daith i Blackpool mewn diwrnod i weld y goleuadau - cychwyn yn blygeiniol a dychwelyd yn y bore bach ar y diwrnod canlynol. Cafwyd noson gartrefol yn nghwmni Ken. Janet dalodd y diolchiadau ar ran y gangen. Hithau ynghyd ag Ann oedd yn gofalu am y baned. Enillydd y raffl oedd Gwenda. Cyfeilio’n ddirybudd Diolch i Iwan Morus Lewis, Min-y-môr, Llandanwg am gamu i’r adwy fel cyfeilydd yn Eisteddfod Ardudwy pan nad oedd y cyfeilydd swyddogol ar gael. Damwain Dymunir adferiad iechyd llwyr a buan i Eurig Hughes, Argoed a gafodd ddamwain ddrwg yn ddiweddar. Deallwn ei fod wedi cael dod adref erbyn hyn a’i fod yn gwella yn araf deg. Anfonwn ein cofion atat Eurig.
Cafodd y gwylanod ar draethau Harlech a Llandanwg [a thraethau eraill hefyd] wledd yn ddiweddar. Dolffiniaid oedd yn hela mecryll a’u gyrru tua’r lan. Mi oedd y mecryll yn eu tro’n hela penwaig bach ifanc, rhyw 2 i 3 modfedd o hyd, ac efo pob ton oedd yn golchi i’r traeth, mi oedd weithiau rhai cannoedd o’r pysgod bach yma’n sboncio yn eu lliwiau arian. Roedd yn sicr yn wledd i bob math o wylanod, ac fel oedd rhai’n hel yno, mi oedd dwsinau eraill yn eu gweld ac yn heidio yno i fwydo.
Neuadd Goffa, Llanfair
GYRFA CHWIST
Neuadd Llanbedr
Helfa Drysor [i godi arian at y neuadd newydd]
ar Tachwedd 11
ar y drydedd nos Fawrth yn y mis am 7.00 o’r gloch
CYNGOR CYMUNED LLANFAIR
Polisïau Risg y Cyngor Cwblhawyd asesiad risg o’r llwybrau cyhoeddus a’r mynwentydd a chafwyd adroddiadau llawn. Mae angen sylw i rai materion. Toiled Cyhoeddus Llandanwg Adroddodd y clerc ei bod wedi gwneud ymholiadau pellach gyda Chyngor Gwynedd ynglŷn â mynd i bartneriaeth gyda hwy a chael 10% o’r arian maent yn ei dalu am barcio yn y maes parcio yn Llandanwg. Adroddodd ei bod wedi derbyn e-bost arall gan Gyngor Gwynedd yn datgan y byddai’r gost o fynd i mewn i’r bartneriaeth hon yn dod i lawr o £500 i £150 iddynt. Ar ôl trafodaeth cytunwyd i hyn a gofynnwyd i’r clerc gysylltu gyda Chyngor Gwynedd yn datgan hyn a gofyn iddynt lunio’r cytundeb angenrheidiol. Ceisiadau cynllunio â phenderfyniad arnynt Amnewid ystafell wydr - Morlais, Llandanwg - caniatáu Ceisiadau am gymorth ariannol ATC Ardudwy £200 Canolfan Hamdden Harlech £350 Comisiwn Ffiniau Derbyniwyd llythyr gan yr uchod ynglŷn ag arolwg 2018 o Etholaethau Seneddol yng Nghymru yn gofyn a oedd gan y Cyngor unrhyw sylwadau ynglŷn â’r newidiadau hyn. Cytunwyd i wrthwynebu’r ffiniau newydd. UNRHYW FATER ARALL Datganwyd pryder nad oedd y gamfa ar y lein byth wedi ei thrwsio. Angen gofyn i’r Adran Briffyrdd a fyddai’n bosib torri’r coed ger mynedfa Argoed.
4
Gwylanod
am 7.00 pm Car cyntaf i gychwyn o uned 120A y maes awyr Gorffen ym Mochras gyda thamaid i fwyta Cost - £5.00 y pen, plant dan 16 am ddim Ffurflen gystadlu ar gael yn CCF Llanbedr neu e-bost Eirwyn@tyddynbach.co.uk 01341 241301
Gwobr o £20 i’r enillydd!
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Merched y Wawr Nantcol
Cafwyd orig ddifyr yn gwrando ar ein gwraig wadd, Nia Ritchie o Gerrigydrudion, a Rhuthun erbyn hyn, yn dweud hanes ei ‘Disgynyddion ar y Mimosa’. Tua ugain mlynedd yn ôl darganfuwyd esgyrn dynol yn ystod gwaith cloddio ym Mhorth Madryn yn yr Ariannin, a dyfalwyd mai esgyrn Catherine Davies oeddan nhw, hithau yn un o’r fintai gyntaf a ymfudodd o Gymru ar y Mimosa yn 1865 gyda’i gŵr Robert Davies a’u tri mab. Bu farw’r ieuengaf o’r meibion oedd ond yn flwydd oed yn ystod y fordaith. Hi, Catherine, oedd y cyntaf o’r ymfudwyr i farw, a hynny dim ond mis ar ôl cyrraedd Y Wladfa ond doedd dim cofnod o le y’i claddwyd. Bu farw Robert ei gŵr ymhen dwy flynedd, a’u mab hynaf yn 1872 yn bymtheg oed. Henry’r ail fab, a ymfudodd i Ganada yn ddiweddarach, oedd yr unig un i oroesi. Ond roedd yn rhaid cael tystiolaeth mai esgyrn Catherine Davies oedd wedi eu darganfod am mai hi oedd y fam gyntaf i farw a thrwy hynny roedd yn symbol arbennig o’r fintai a’r anturiaeth fawr. Dyma fynd ati i ddod o hyd i ddisgynyddion Catherine ac roedd yn rhaid gwneud hynny trwy olrhain ochr fenywaidd y teulu’n unig, sef merch y fam bob tro. Felly cafodd Nia ei darganfod, ac ar ôl gwneud profion DNA cadarnhawyd mai esgyrn Catherine Davies, o Landrillo yn wreiddiol, oeddan nhw. Aeth Nia drosodd i’r Wladfa yn 2015 a gwnaed ffilm Sbaeneg gan Ricardo Preve ohoni’n darganfod yr hanes. Mae hi’n gobeithio, os bydd digon o arian, y gall S4C ei throsi i’r Gymraeg rhyw dro. Diolchodd Mair yn gynnes i Nia am yr hanes, ac i’w mam a’i modryb am ddod hefo hi i’w chynorthwyo, a braf hefyd oedd deall bod gan deulu tad Nia gysylltiad â Hendre Waelod flynyddoedd yn ôl. Materion Pwyllgor Croesawodd Anwen aelod newydd atom, sef Ceri Williams o Ddyffryn Ardudwy. Llongyfarchwyd Jean ar ddod yn hen nain am y tro cyntaf i Noa
John, mab bach Llion a Jamie, i Beti Roberts ar ddod yn hen nain eto, i Aron Moi, ac i Elinor a John ar ddathlu eu Priodas Ruddem ddiwedd Medi. Cydymdeimlwyd â Mattie ar ôl iddi golli Eurwyn ei gŵr yn ddiweddar. Anfonwyd cofion ati hi a’r teulu, a chydymdeimlwyd hefyd â Beti ac Elinor a’u teuluoedd, chwiorydd Eurwyn. Roedd pawb yn falch o ddeall bod Rhian Dafydd wedi derbyn y swydd o fod yn Is-lywydd y gangen am y ddwy flynedd nesa. Digwyddiadau i ddod: Cwis Hwyl - Tachwedd 11eg yn Neuadd Llanelltyd. Gŵyl Ranbarth - Ebrill 26ain yn Neuadd Deudraeth. Dathlu’r Aur - mis Mehefin nesa yn Y Parc - gofynnwyd am hanes diddorol neu hen luniau o’r gangen neu’r Mudiad i’w cyflwyno ar gyfer y dathlu. Chwaraeon – cystadlaethau dominos, chwist a bowlio deg – dim dartiau eleni. Celf a chrefft – eitemau ar gyfer ‘Dathlu’r Aur’, a chystadleuaeth y Llyfr Lloffion o hanes y gangen o Fedi 2016 hyd Awst 2017. Awgrymwyd lleoliadau i’n Cinio Gŵyl Ddewi, 2017; Enid i gael bwydlenni ar gyfer y cyfarfod nesa. Enillwyd y raffl gan Jean. Yn ein cyfarfod nesa ar Dachwedd 2il, bydd noson ar gymorth cyntaf yng nghwmni Jon Dobson Jones. Brysiwch wella Bu Brian Taylor, Alltwen yn yr ysbyty am gyfnod. Gobeithio ei fod yn teimlo’n well. Ni fu Betty Taylor, ei wraig, yn teimlo’n rhy dda yn ddiweddar ‘chwaith. Anfonwn ein cofion atoch chithau hefyd.
Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch Capel y Ddôl TACHWEDD
20 Parch Gareth Rowlands 27 Mrs Eleri Owen Jones RHAGFYR 4 Parch Christopher Prew Capel Salem TACHWEDD 20 Parch Dewi Tudur Lewis 27 Morfudd Lloyd RHAGFYR 18 Parch Dewi Tudur Lewis
DIOLCH AM Y CROESO
Ar yr ail Sul o fis Medi daeth pererinion o Gapel Ebenezer yr Annibynwyr yng Nghraigfechan, ger Rhuthun (capel bychan a saif ym mhen pellaf Dyffryn Clwyd) i ardal Harlech i dreulio Sul a phleser mawr oedd gwneud hynny gan y croeso dderbyniasom. Aethpwyd yn gyntaf ar ymweliad â’r Lasynys Fawr gan alw wedyn yn Eglwys fechan hynafol Llandanwg cyn mynd i fyny’r dyffryn i Gapel Salem, Cwm Nantcol i ymuno yn yr Oedfa brynhawn. Yn anffodus, roedd y pregethwr gwadd wedi gorfod tynnu yn ôl o’i gyhoeddiad ac felly cymerwyd y rhannau arweiniol gan aelod o’r Graigfechan ac wedi hynny cafwyd anerchiad mor ddiddorol gan yr organyddes ac aelod o’r Capel, Catrin Richards. Heb ddim nodiadau o’i blaen cafwyd hanes sefydlu’r Achos yn Salem a hanes y teuluoedd ynghlwm â’r achos ac yn arbennig teuluoedd y rhai a welir yn y darlun enwog gan Sidney Curnow Vosper. Roedd yr hanes yn byrlymu o’i chof ac mae’n diolch iddi yn fawr am y croeso a gafwyd ganddom y prynhawn Sul braf hwnnw; fe ganwyd pedwar emyn i gyfeiliant Catrin Richards wrth yr organ ac mi fuase yn hawdd iawn fod wedi mynd ymlaen i gynnal Cymanfa Ganu! Diolch eto. Gareth Lewis Jones (blaenor gyda’r Annibynwyr yng Nghraigfechan, ar ran Pererinion Graigfechan).
Teulu Artro Agorwyd y tymor newydd gyda chinio yng Ngwesty Tŷ Mawr. Croesawyd pawb gan Gweneira, a rhoddwyd croeso arbennig i Elizabeth ar ôl ei llawdriniaeth. Llongyfarchwyd Iona ar ddod yn hen nain i efeilliaid, a chydymdeimlwyd ag Eleanor wedi colli brawd. Diolchwyd i Eirwen a Glenys am ofalu am y rafflau ac i Iona am drefnu’r rhaglen. Derbyniwyd llythyr gan Myfanwy yn diolch am y rhodd ac i ddymuno’n dda i ni. Diolchodd Iona i staff Tŷ Mawr. Ar 4 Hydref, cynhaliwyd ein Cyfarfod Diolchgarwch. Estynnwyd croeso i ni gan Gweneira. Dymunwyd penblwydd hapus i Eleanor a chydymdeimlwyd ag Iona, wedi colli cyfnither. Diolchwyd i Catherine am y rhodd o arian ac i’r aelodau a ddaeth a nwyddau i’r bwrdd gwerthu. Darllenwyd a chadarnhawyd y cofnodion. Ein gwraig wadd oedd Mai Roberts a chafwyd naws hyfryd, gyda chanu nifer o emynau ‘Diolch’ a darlleniadau pwrpasol. Diolchodd Iona am gyfarfod arbennig. Enillwyd y raffl gan Catherine. Canu Carolau Prynhawn Sul, 11 Rhagfyr, bydd gwasanaeth o ganu carolau yn Eglwys Sant Pedr am 4 o’r gloch.
Cymdeithas Cwm Nantcol Y Parch Emlyn Richards oedd y pregethwr gwadd yn ein cyfarfod Diolchgarwch a gynhaliwyd yng Nghapel y Cwm ddiwedd Hydref. Cafwyd ganddo bregeth rymus wedi ei seilio ar ddameg y Mab Afradlon. Daeth cynulliad o 25 o’r aelodau ynghyd a chafwyd bendith o wrando ar y gweinidog hynaws a ffraeth. Geraint a Nerys Roberts fydd yn difyrru yn ein cyfarfod nesaf gydag Alwena Morgan yn cyfeilio iddynt. Dyddiadau i’w cofio: 21 Tachwedd – Parch Christopher Prew, Dylanwadau. 5 Rhagfyr - Cinio Nadolig ym Mwyty’r Clwb Golff, Harlech. Diddanwyr - ‘Harmoni’, Porthmadog. Cydymdeimlo Cydymdeimlwn â theulu Werncynyddion yn eu profedigaeth o golli Richard, brawd i Megan yn ddiweddar, hefyd cydymdeimlwn â Bruce a Jenny Caeabergam o golli eu mam Mrs Doreen Williams ac â Lee o golli ei nain.
PLAS ABERARTRO Llanbedr Nos Wener, Rhagfyr 16 am 7.30
DATHLU’R NADOLIG gyda
Côr Meibion Ardudwy a Pres Mân + Gwin y Gaeaf a Mins Peis Tocyn: £10 Dim ond 100 tocyn fydd ar gael. Holwch aelodau’r Côr amdanyn nhw.
5
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Bore Coffi Macmillan Llawer iawn o ddiolch i bawb ddaeth draw i Nant-y-Coed, Dyffryn bore Gwener, Medi 30ain rhwng 10.00 a hanner dydd. Cawsom fore braf yn sgwrsio wrth fwynhau paned a chacen. Casglwyd £333 ar y diwrnod a gyda rhoddion mae’r cyfanswm erbyn hyn yn £422. Swm anhygoel wir. Diolch yn fawr iawn. Mae Mai a’i mam, Mrs Beti Parry, yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a gawsant. Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn Neuadd yr Eglwys, bnawn Mercher, 19 Hydref. Croesawyd pawb gan Gwennie a diolchodd i’r Cyngor Cymuned am ei gyfraniad hael o £200 i’r clwb a llongyfarchodd Gareth a Glenys Jones ar ddathlu eu priodas aur. Yn ôl ein harfer ym mis Hydref cyfarfod Diolchgarwch oedd gennym. Trefnwyd ac arweiniwyd y gwasanaeth gan Hilda gydag Anthia a Gwennie yn cymryd rhan a diolchwyd iddynt am y gwasanaeth gan Glenys Jones. Rhoddwyd y te a’r raffl gan Iona, Lorraine ac Iris. Ar 16 Tachwedd byddwn yn cael cwmni Mair Penri i roi hanes ei hewythr a fu’n garcharor rhyfel. Cydymdeimlad Trist oedd clywed am farwolaeth Mrs Megan Foxwell, Llanaber. Fe fu Mr a Mrs Foxwell yn cadw siop bapurau yn y Bermo am flynyddoedd cyn symud i gadw siop yn y Dyffryn ac yn ddiweddarach ymunodd eu mab, John â nhw. Roeddynt yn uchel iawn eu parch yn yr ardal ac yn garedig iawn. Siop Foxwell fydd y siop i lawer ohonom tra byddwn. Cydymdeimlwn â’r meibion John a David a’u teuluoedd yn eu profedigaeth. Llun Cafwyd ymateb gan Margaret Snarr (Jennings gynt o Dyffryn) i’r llun a gyhoeddwyd yn y rhifyn diwethaf: ‘Ymddangosodd y llun yma yn Llais Ardudwy ym mis Medi 1995 – erthygl am yr ail ryfel byd. O’r chwith i’r dde - Evan Williams, y diweddar Gwyn Jones, Jim Jones, John Ifor Williams a’i frawd Idris Williams gollodd ei fywyd . Tybed ai Robert Idris Williams, sydd â’i enw ar y Gofgolofn yn Dyffryn, ydi’r Idris Williams yn y llun? Roedd Keith Phillips yn holi amdano yn rhifyn mis Medi.’
CARNIFAL DYFFRYN 1937
Dyma lun o garnifal y Dyffryn yn 1937. Y frenhines oedd Eirwen Davies, London House. Diolch i Hilda Harris am gael benthyg y llun. Diolchgarwch Fore Sul, 9 Hydref, cynhaliwyd Gwasanaeth Diolchgarwch gan blant yr Ysgol Sul a rhai o oedolion Horeb. Gwnaeth y plant eu gwaith yn ardderchog ac rydym yn ddiolchgar iawn i’w hathrawon, Mai a Rhian Roberts. Roeddynt hefyd wedi addurno’r capel yn hardd ar gyfer y gwasanaeth. Yna nos Lun, 10 Hydref, cafwyd pregeth Ddiolchgarwch. Y Parchedig Ron Williams, Caernarfon, oedd i fod i bregethu ond ni allai ddod ond fe ddaeth ei ferch y Parchedig Mererid Mair yn ei le ac fe gafwyd oedfa o ddiolch bendithiol iawn yn ei chwmni. Diolch Hoffwn ddiolch o galon i bawb am y cyfarchion arbennig megis cardiau ac anrhegion, y galwadau ffôn a’r ymweliadau a dderbyniais ar achlysur fy mhen-blwydd yn 94 oed ar Dachwedd 1af. Roedd fy ffrind oes, Mrs Jane Morris Jones, Berwyn hefyd yn dathlu ei phen-blwydd yn 94 ar yr un diwrnod. Beti Parry Rhodd a diolch £10 Clwb Cinio Dydd Mawrth 18 Hydref aeth criw da ohonom i Westy Fictoria yn Llanbedr i fwynhau cinio a sgwrs. Ar 15 Tachwedd byddwn yn mynd i Gastell Caernarfon i weld yr arddangosfa o flodau’r pabi a chael cinio yn y ‘Black Boy’. Diolch Diolch i Mrs Patricia Jones am y rhodd i’r Llais. Bu ei diweddar ŵr Terry M Jones, Ferndale gynt, yn ei dderbyn am flynyddoedd.
SAMARIAID - Llinell Gymraeg - 0808 1640123 6
Festri Lawen, Horeb Nos Iau, 13 Hydref, cynhaliwyd cyfarfod cynta’r tymor yn y capel. Croesawyd pawb gan y cadeirydd Mr Edward Owen a diolchodd i’n hysgrifennydd Mai Roberts am ei gwaith yn trefnu rhaglen ddifyr ar ein cyfer. Llywydd y noson oedd David Roberts ac ef a gyflwynodd a chroesawu Côr Eifionydd, eu harweinydd Pat Jones a’u cyfeilydd Catrin Alwen atom. Cafwyd canu bendigedig gan y côr ynghyd ag eitemau gan dri o’r aelodau a mwynhawyd y noson yn fawr. Mae’r côr yn dathlu 30 mlynedd ers ei sefydlu eleni ac roeddynt yn mynd i Barcelona yn ystod hanner tymor. Yn dilyn roedd gwledd yn aros y côr a’r aelodau yn y festri. Ar 10 Tachwedd byddwn yn cael cwmni Geraint Jones, ‘Cofiant John Preis’. Cydymdeimlad Ar 21 Hydref yn Ysbyty Maelor, Wrecsam, bu farw Mrs Brenda Silverside, Bro Enddwyn, yn 74 mlwydd oed. Brenda Siop Dicks oedd hi i lawer yn yr ardal gan i’w rhieni fod yn cadw siop esgidiau yn y Bermo am flynyddoedd. Roedd Brenda yn gymeriad hwyliog iawn, siaradus a bob amser yn gwenu. Cydymdeimlwn yn fawr â’i gŵr Tom, ei merched Andrea a Gillian a’u teuluoedd, ac â’i chwiorydd Sally ac Ann a’u teuluoedd yn eu profedigaeth.
Clwb 200
Côr Meibion Ardudwy
Hydref 2016 £30 Rhodri Dafydd £15 Olwen Jones £7.50 Denise Jones £7.50 Lea Ephraim £7.50 Donna Williams £7.50 Christina Jones
Carreg Bodlyn Dros gan mlynedd yn ôl bu damwain ger Llyn Bodlyn. Mae’r llyn yn y cwm sydd rhwng Moelfre a Diffwys, rhyw bedair milltir i’r dwyrain o’r ffordd fawr. Syrthiodd llanc ifanc o glogwyn Diffwys i’r creigiau o amgylch y llyn. Enw’r llanc oedd William Haines Ledbrook, 21 oed o Kenilworth. Yn ôl hanes papur lleol Kenilworth, dylai Mr Ledbrook fod wedi gorffen ei wyliau yn Ardudwy rhyw dri diwrnod ynghynt. Sgwennodd adra at ei rieni yn dweud oherwydd bod y tywydd mor braf, iddo benderfynu aros yn hirach. Digwyddodd y ddamwain ar Fai 14eg, 1913, ond yn ôl yr hanes ni ddarganfuwyd tan y 15fed. Anfonwyd y neges drist hefo ‘telegraph’ at yr heddlu yn Kenilworth ac wedyn at y rhieni. Roedd Mr Ledbrook yn fyfyriwr y gyfraith yn hyfforddi hefo cwmni ei dad. Yn ôl cyfrifiad 1901 mae’n amlwg fod teulu Ledbrook yn eithaf llewyrchus. Roedd tri mab a merch yn y teulu ac roedden nhw’n cyflogi tair morwyn yn y tŷ. Mewn amser roedd y teulu’n gyfrifol am osod cofeb goffau eu mab ar graig islaw’r clogwyn lle syrthiodd Mr Ledbrook. Roeddwn yn gwybod am y gofeb yma ers talwm ond erioed wedi dod o hyd iddi nes i mi ddod ar draws y graig ar ddamwain fis Mai diwethaf. Mae’n llechen tua llathen o hyd ac yn ddwy fodfedd o drwch. Mae’n siŵr ei bod wedi bod yn gryn dipyn o dasg i’w chario at ochr y llyn. W Large (gynt o Llanbad). Gol: Clywyd stori’n lleol mai dringo i safle nythu’r hebog tramor oedd y llanc a laddwyd – i ddwyn eu hwyau tybed? A oes unrhyw un yn gwybod mwy am y digwyddiad? [Mae’r uchod yn gwneud synnwyr o ystyried safle nythu’r hebog tramor yn y blynyddoedd diwethaf yma a’r amser o’r flwyddyn.]
Clwb 200
Côr Meibion Ardudwy
Tachwedd 2016 £30 Jean Jones £15 Iwan Morus Lewis £7.50 Dion Steffan Williams £7.50 Aneurin Evans £7.50 Eleri Jones £7.50 Dafydd Thomas
CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT Archwilio’r lloches bws, mynwentydd a pharciau chwarae Adroddodd Catrin Edwards ei bod wedi gwneud yr archwiliad uchod ar ran y Cyngor ac adroddodd fel a ganlyn - bod y lloches bws yn Nhal-y-bont yn iawn, bod y lloches bws yn y pentref yn iawn a hefyd y llochesi bws yng Nglan Rhos ac Ystumgwern, ond roedd pryder bod marciau’n cael eu gadael ar y gwydr ar ôl gosod posteri efo tâp gludiog, roedd gardd Penybont yn edrych yn daclus iawn, roedd y fynwent gyhoeddus yn iawn ond bod y llwybr angen ei lanhau. Roedd angen tacluso mynwent Llanddwywe ac roedd y gwair yn flêr. Roedd mynwent Llanenddwyn yn iawn, roedd yr hen barc chwarae’n iawn a’r parc chwarae newydd, ond bod pryder bod moch daear wedi gwneud llanast yn y gornel a chytunwyd nad oedd yn hawdd iawn gwneud dim i atal hyn rhag digwydd. Cytunodd Catrin Edwards wneud yr archwiliad eto’r mis nesa gyda Siân Edwards yn ei chynorthwyo. Parc Cenedlaethol Eryri Derbyniwyd ateb gan yr uchod ynglŷn â chais cynllunio Hen Neuadd Sefydliad y Merched Taly-bont yn dilyn pryder yr aelodau nad oedd yr adeiladwr yn cadw i’r cynlluniau, ac yn datgan yn dilyn archwiliad bod uchder yr adeilad yn unol â’r cynlluniau ar ganiatâd cynllunio NP5/58/572.
136-140 STRYD FAWR, PORTHMADOG, GWYNEDD LL49 9NT
Sul y Cofio Caiff yr uchod ei gynnal ar y 13eg o Dachwedd a’r Cadeirydd sydd yn gyfrifol am ei drefnu. Datganwyd y bydd rhaid i’r Cadeirydd yn gyntaf gysylltu gyda’r Parch Beth Bailey er mwyn llunio trefn y gwasanaeth, archebu 2 dorch, cysylltu gyda’r Heddlu, Mr Trefor Roberts o’r Lleng Prydeinig ac ATC Ardudwy. Cytunodd y Clerc i gysylltu gyda Ms Ceri Griffith i ofyn i aelod o Seindorf Arian Harlech ddod i chwarae’r corn, a chytunwyd bod angen rhoi cyhoeddiadau yn y capeli. Adroddodd y Clerc ei bod wedi methu dod o hyd i daflenni’r gwasanaeth ond ei bod wedi anfon neges at Owen Gwilym Thomas i ofyn a oedd y taflenni ganddo.
Dewch draw i’r Siop am sbec - mae rhywbeth i bawb yma! Gorffennwch eich ymweliad â phaned, teisen neu bryd o fwyd blasus mewn awyrgylch hamddenol. DISGOWNT O 10% WRTH GYFLWYNO’R HYSBYSEB YMA AR NWYDDAU O’R SIOP, NEU FWYD A DIOD O’R TŶ COFFI. [Ni chaniateir ei ddefnyddio gydag unrhyw gynigion eraill sy’n bodoli ar y pryd.] www.kerfoots.com enquiries@kerfoots.com Ffôn: 01766 512256 Llais Llais Ardudwy
Ardudwy
Gŵyl Fwyd a Chrefft Portmeirion
Comisiwn Ffiniau Derbyniwyd llythyr gan yr uchod ynglŷn ag arolwg 2018 o Etholaethau Seneddol yng Nghymru yn gofyn a oedd gan y Cyngor unrhyw sylwadau ynglŷn â’r newidiadau hyn. Cytunwyd i wrthwynebu’r ffiniau newydd.
2, 3 a 4 Rhagfyr
Dewch yn llu i gefnogi busnesau lleol. Bwyd, diod a chrefftau unigryw o Gymru. Siôn Corn yn ei ogof!
Gwasanaethau’r Sul, Horeb TACHWEDD 13 Beryl a Rhiannon 20 Parch Gareth Rowlands 27 Dewi Jones, 5.30 RHAGFYR 4 Parch Dewi Morris, 5.30
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Phortmeirion ar 01766 770000
CEIR MITSUBISHI
HYSBYS NADOLIG RHIFYN RHAGFYR
Os ydych am gynnwys hysbyseb yn ein rhifyn Nadolig, cofiwch gysylltu yn fuan. Buasai hysbys yr un maint â’r blwch coch hwn [heb y llun] yn costio £6.
ENGLYN DA Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk
Llŷn
Heulwen ar hyd y glennydd - a haul hwyr A’i liw ar y mynydd, Felly Llŷn ar derfyn dydd, Lle i enaid gael llonydd. John Glyn Davies
7
HARLECH Mae’r llyfr Hanes Harlech yn dal i werthu’n dda. Mae llawer o’r aelodau’n mynd i Gaernarfon i weld yr arddangosfa o flodau pabi coch yn y Castell. Dau achlysur arall sydd wedi eu trefnu yw cinio yng Ngholeg Meirion/Dwyfor a pharti Nadolig yng Nghaffi’r Castell yn Harlech. Ar ôl trafod y busnes i gyd, dangosodd Marion Wagstaff sut i wneud ‘elf slippers’ a hefyd Pen-blwyddi arbennig Pen-blwydd hapus iawn i bawb yr oedd wedi dod â rhai o’r gwahanol waith llaw rhagorol yr yn yr ardal sydd wedi dathlu oedd wedi bod yn eu gwneud; y pen-blwyddi go arbennig yn ddiweddar, sef Glyn a Julie Jones, rheiny’n werth eu gweld. Rhoddwyd y diolchiadau 18 Tŷ Canol, Harlech, Heather gan Jenny Dunley. Enillwyd Lewis, 12 Pen yr Hwylfa, Craig y gystadleuaeth gan Eileen Evans (gynt o 10 Y Waun), Greenwood. Cynhelir y Sally John, 30 Tŷ Canol, a Blod (Crossing), 33 Y Waun, Harlech. cyfarfod nesaf ar 9 Tachwedd, sef Cyfarfod Blynyddol. Bydd Gobeithio eich bod i gyd wedi gwaith crefft yr aelodau’n cael ei cael amser gwych yn dathlu! arddangos. Gwellhad buan Teulu’r Castell Dymunwn wellhad buan i Mrs Croesawodd y llywydd Edwina Melanie Griffiths, 22 Y Waun Evans yr aelodau i gyfarfod sydd wedi bod yn yr ysbyty am newydd y tymor yma; rhoddodd gyfnod. Mae dy gyfeillion yn groeso hefyd i ddau aelod meddwl llawer amdanat yn y newydd sef John a Betty Grant. cyfnod hwn. Cydymdeimlwyd â Nancy Nelson a’r teulu ar golli ei brawd Dyweddïo dwbl! Llongyfarchiadau i ddwy chwaer yng nghyfraith Jim Nelson yn o Harlech sydd wedi dyweddïo â ddiweddar. dau frawd o Ddyffryn Ardudwy Braf iawn oedd gweld Olwen Jones a Meirion Thomas yn ôl yn ddiweddar, sef Sophie Evans efo ni, a dymuniadau gorau gyda Luke Roberts, hefyd ei i Terry Jones oedd wedi cael chwaer Emily Evans gyda Nick damwain ond yn ôl hefo ni. Roberts. Dymuniadau gorau hefyd i Mae Emily a Sophie yn ferched Menna Jones oedd yn dal i wella i Gareth a Wendy Evans, ond ddim yn ddigon da i ddod Brodawel, Harlech, ac yn atom; brysiwch yn ôl, Menna, a wyresau i Brian a Bronwen dymuniadau gorau i Rhiannon Evans, Min y Don. Mae Sophie Jones oedd yn Ysbyty Gwynedd. a Luke wedi ymgartrefu yn Diolch i Maureen Jones am yr Ynys, ac Emily a Nick ym drefnu’r gyfriflen ac i Peter Mhenrhyndeudraeth. Pob dymuniad da i’r ddau gwpl ifanc. Smith am fwrw golwg arnyn nhw. Ar ôl trafod y busnes, roedd Sefydliad y Merched Harlech Edwina wedi trefnu cwis ar Croesawodd y llywydd, bethau da a siocledi; roedd pawb Christine Hemsley, yr aelodau wedi cael hwyl a chwerthin wrth i’r cyfarfod a gynhaliwyd yn drio cael yr enwau priodol at y Neuadd Goffa Harlech nos cwestiynau ond tîm Susan Jones Fercher, 12 Hydref. Rhoddwyd blodau i Denise a Magnus Hagan oedd yr enillwyr. Mis nesaf 8 Tachwedd mae oedd yn dathlu eu priodas aur. Gwenda Jones am drefnu bingo. Llongyfarchwyd Edwina a Jan Croeso i unrhyw un ymuno â ni. ar ennill yr helfa drysor yn Fe fydd bwrdd gwerthu ar gael i Nolgellau yn ddiweddar. Cafwyd bore coffi llwyddiannus godi arian at Deulu’r Castell. Diolch i bawb ddaeth ag aelodau yn yr Hen Lyfrgell lle bu llawer i’r cyfarfod ac am y rafflau. yn dangos eu gwaith crefft. Yn gwella Anfonwn ein cofion gorau at Mair Jones, Eithinog, Cae Gwastad wedi iddi gael penglin newydd yn ddiweddar. Hyderwn dy fod yn gwella bob dydd rŵan, Mair. Gwylia dy hun, Edwin - unwaith fydd hi ’di cael gwared â’r hen fagla ’na! - mi fydd yna hen gystadlu wedyn ar y cwrs golff.
8
Dydd Sul y Cofio Cofiwch am y dydd Sul pwysig yma ar ddydd Sul, 13 Tachwedd. Fe fydd y gwasanaeth yn cychwyn yn yr Eglwys am 9.45 y bore, ac wrth y gofgolofn am 10.50. Genedigaethau Llongyfarchiadau i Geraint a Rhian, 9 Y Waun ar enedigaeth mab bach, brawd i Catrin. Llongyfarchiadau hefyd i Kelly a Llion Evans, 2 Y Waun ar enedigaeth Efa, chwaer fach i Ella, Lili a Lia. Gwasanaeth cofio Ddiwrnod cyn y byddai wedi dathlu ei phen-blwydd yn 97 oed, ar yr 11eg o Fedi, ymunodd teulu a ffrindiau mewn gwasanaeth yn Eglwys Llanfihangel-y-traethau i gladdu llwch y diweddar Blodwen Jones, Y Waun, Harlech. Y Parch Bob Hughes gymerodd y gwasanaeth yn yr eglwys ac wrth ymyl y bedd. Mae hi wedi ei chladdu hefo’i mam a’i thad sef y diweddar David ac Elisabeth Jones, Wyndcote gynt, a’i chwaer Gwyneth Jones a fu farw yn 23 oed yn 1946. Mae cofio’n codi hiraeth a gwên.
MESUR DYN gan John Gwilym Jones
Ymchwil y Canser Harlech Mae gyrfa chwilod wedi ei drefnu at yr achos, i’w gynnal yn Neuadd Goffa Llanfair ar 18 Tachwedd. Mae cardiau Nadolig ar werth at Ymchwil y Canser yn siop Trugareddau ar y stryd fawr. Cofiwch gefnogi. Cydymdeimlo Cydymdeimlwn gyda Mr Ralph Jones a’r teulu i gyd ar golli gwraig annwyl, nain a hen nain sef Mrs Catherine Jones, Min y Morfa, Harlech. Brysia wella Anfonwn ein dymuniadau gorau at Chris Parry, Bwlch y Garreg sydd wedi cael triniaeth yn ddiweddar. Gobeithio dy fod yn dal i wella a chryfhau, oddi wrth dy ffrindiau i gyd yn yr ardal.
RHODDION I’R LLAIS Diolch i’r canlynol am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu eu tanysgrifiad i’r Llais: Mrs Betty Jones, Llanddaniel Mrs Enid Parry Mrs Gwyneth Meredith Mrs Patricia Jones Mr Bedwyr Williams
Pan gaiff dyn ei fesur, gofynnir gan Dduw, Nid sut y gwnaeth farw, ond sut y gwnaeth fyw, Nid faint a wnaeth ennill, ond faint fyddai’n rhoi, Ac a fyddai yn aros pan oedd eraill yn ffoi, Nid beth oedd ei chred ond beth fyddai’n ei wneud, A faint oedd hi’n teimlo, nid faint alla’i ddweud, Nid uchder ei feddwl, ond dyfnder ei ras A’i gymeriad tu fewn, nid ei wên y tu fas. Nid faint oedd y deyrnged gan bawb i hen ffrind, Ond faint deimlodd golled ar ôl iddi fynd, Mae’n dda dweud na allai fyth golli’r un cwrdd, Ond gwell dweud na throai ’run truan i ffwrdd, Ac y bu goleuni mewn ambell i nos, A throchi ei hun i ddwyn cyfaill o’r ffos, Ie, dyna’n y diwedd y modd y gwêl Duw, Pa enaid sy’n farw a pha enaid sy’n fyw.
CAPEL JERUSALEM
Tachwedd 13 Undebol, yn Engedi am 2.00 Tachwedd 20 Parch Dewi Tudur Lewis am 3.30
EGLWYS ST TANWG
Rhagfyr 11 Gwasanaeth Undebol am 6.00 gyda Meibion Prysor a Seindorf Arian Harlech Croeso cynnes i bawb!
H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239
Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290
YSWIRIANT I BAWB
E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr
01341 241551
Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.
ALAN RAYNER ARCHEBU A GOSOD CARPEDI 07776 181959
Gwynedd
www.raynercarpets.co.uk
Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297
Tafarn yr Eryrod Llanuwchllyn 01678 540278
Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00
Sgwâr Llew Glas
Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd
01766 780186 07909 843496
Llais Ardudwy
Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk
drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]
01766 512091 / 512998
TREFNWYR ANGLADDAU
Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb
GERALLT RHUN
JASON CLARKE
Bryn Dedwydd, Trawsfynydd LL41 4SW 01766 540681
Tiwniwr Piano a Mân Drwsio g.rhun@btinternet.com
BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU
Phil Hughes Adeiladwr
Gosod stofiau llosgi coed Cofrestrwyd gyda HETAS
Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.
Sŵn y Gwynt Talsarnau,
Cefnog wch e in hysbyseb wyr
Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504
DAVID JONES
Cigydd, Bermo 01341 280436
Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau
ADEILADWR Gwarantir gwaith o safon.
Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014
Ar agor bob nos 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00
Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 9.00 Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!
MELIN LIFIO SYMUDOL
Gadewch i’r felin ddod atoch chi! www.gwyneddmobilemilling.com
GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014 9
EISTEDDFOD ARDUDWY 2il – Lucy, Ysgol Tan y Castell Grŵp Llefaru B6 ac iau 1af – Ysgol Dyffryn Ardudwy Ymgom B6 ac iau 1af – Beca Groomes a Lucy, Ysgol Tanycastell 2il – Lucy a Grace Lewis, Ysgol Tanycastell B7, 8 a 9 1af – Elain Iorwerth, Trawsfynydd
Offerynnol Unrhyw Offeryn B6 ac iau 1af – David Bisseker, Ysgol Talsarnau Piano B6 ac iau 1af – David Bisseker, Ysgol Talsarnau 2il – Sioned Evans, Ysgol Talsarnau 3ydd – Erin Mitchelmore, Ysgol Talsarnau Band Cegin B6 ac iau 1af – Ysgol Dyffryn Ardudwy Unawd Piano B7, 8 a 9 1af – Elain Iorwerth, Trawsfynydd Band dan 25 1af – Seindorf Arian Harlech Dawnsio Unigol B6 ac iau 1af – Lois Williams, Ysgol Talsarnau 2il – Erin Mitchelmore, Ysgol Talsarnau 3ydd – Anna Mitchelmore, Ysgol Talsarnau Grŵp Dawnsio B6 ac iau 1af - Taranau Talsarnau 2il – Genod Tanycastell
Canlyniadau Eisteddfod Ardudwy a gynhaliwyd ar Hydref 15, 2016. Cerdd Meithrin a Derbyn 1af – Anna Mitchelmore, Ysgol Talsarnau 2il – Grace Braithwaite, Tanycastell 3ydd – Thannasis Walters, Ysgol Tanycastell B1 & 2 1af – Malena, Y Bala 2il – Freddie Lewis, Tanycastell 3ydd – Tolis Walters, Ysgol Tanycastell B3 a 4 1af – Lois Williams, Ysgol Dyffryn Ardudwy 2il – Rose Doody, Tanycastell 3ydd – Thio Walters, Ysgol Tanycastell B5 a 6 1af – Lois Williams, Ysgol Talsarnau Parti Canu B6 ac iau 1af – Ysgol Gynradd Talsarnau 2il – Ysgol Tanycastell 3ydd – Ysgol Dyffryn Ardudwy Unawd Canu B7, 8 a 9 1af – Elain Iorwerth, Trawsfynydd 2il – Cerys Sharp, Llanfair
10
Alaw werin B9 ac iau 1af – Elain Iorwerth, Trawsfynydd Cerdd Dant B7, 8 a 9 1af – Cerys Sharp, Ysgol Ardudwy Dan 18 1af – Elain Iorwerth, Trawsfynydd Seren Cerdd Dant – Elain Iorwerth, Trawsfynydd Llefaru Meithrin a Derbyn 1af – Anna Mitchelmore, Ysgol Talsarnau 2il – Grace Braithwaite, Tanycastell 3ydd – Thannasis Walters, Tanycastell B1 a 2 1af – Malena, Y Bala 2il – Freddie Lewis, Tanycastell 3ydd – Alaw Thomas, Dyffryn Ardudwy B3 a 4 1af – Lois Williams, Ysgol Dyffryn Ardudwy 2il – Ieuan, Ysgol Dyffryn Ardudwy 3ydd – Ella Evans, Ysgol Tan y Castell B5 a 6 1af – Erin Mitchelmore, Ysgol Talsarnau
Arlunio Ysgol Feithrin 1af – Harley Charlton, Ysgol Feithrin Dyffryn Ardudwy 2il – Keelie Thomas, Ysgol Feithrin Dyffryn Ardudwy 3ydd – Harri Martin, Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy Derbyn a B1 1af – Jessica Roberts, Tanycastell 2il – Misha ac Isabella, Ysgol Tan y Castell 3ydd – Millie Williams, Ysgol Dyffryn Ardudwy B1 a 2 1af Elain Jones, Ysgol Dyffryn Ardudwy 2il – Gracie, Ysgol Tanycastell 3ydd – Ieuan, Ysgol Dyffryn Ardudwy a Daniel, Ysgol Tanycastell B3 a 4 1af – Chloe Wright, Ysgol Dyffryn Ardudwy 2il – Kira Vodvarka, Ysgol Tanycastell 3ydd – Olivia, Ysgol Dyffryn Ardudwy B5 a 6 1af – Amy, Ysgol Tanycastell 2il – Cari Elen Evans, Tanycastell 3ydd – Cai Evans, Ysgol TanycastellTGCh B1 a 2
1af – Oliver Green, Ysgol Dyffryn Ardudwy ac Ellis Foulkes, Ysgol Dyffryn Ardudwy 2il – Sam Beddall, Ysgol Dyffryn Ardudwy a Tomos Williams, Ysgol Dyffryn Ardudwy 3ydd – Alfie Wright, Ysgol Dyffryn Ardudwy B3 a 4 1af – Rose Doody, Ysgol Tanycastell 2il – Harvey Hooban, Ysgol Tanycastell 3ydd – Garrett Russell, Ysgol Tanycastell B5 a 6 1af – Lily Haf Brookes, Ysgol Tanycastell 2il – Lia John, Ysgol Tanycastell 3ydd – Cai Evans, Ysgol Tanycastell Coginio B2 ac iau 1af – Zane Woolley, Ysgol Tanycastell 2il – Marged Williams, Ysgol Dyffryn Ardudwy a Moi Williams, Ysgol Dyffryn Ardudwy B6 ac iau 1af – Beca Groomes, Ysgol Tan y Castell 2il - Lowri Lloyd, Ysgol Llanbedr Llenyddiaeth B5 a 6 1af – Lia John, Ysgol Tanycastell 2il – Beca Groomes, Ysgol Tanycastell 3ydd – Jago Jones, Ysgol Tanycastell Enillydd y Gadair – Lia John, Ysgol Tanycastell Ffotograffiaeth B2 ac iau 1af – Dylan Mitchelmore, Ysgol Talsarnau 2il – Ellen Bisseker, Ysgol Talsarnau 3ydd – Anna Mitchelmore, Ysgol Talsarnau B6 ac iau 1af – Cherry Smith, Ysgol Tanycastell 2il – David Bisseker, Ysgol Talsarnau 3ydd – Erin Mitchelmore, Ysgol Talsarnau B7, 8 a 9 1af – Rhys Gruffudd Jones, Penrhyndeudraeth 2il – Rhys Gruffudd Jones, Penrhyndeudraeth 3ydd – Rhys Gruffudd Jones, Penrhyndeudraeth Dan 18 1af, 2il a 3ydd – Osian Myfyr Jones, Penrhyndeudraeth Raffl Lia John, Harlech Einir Jones, Dyffryn Ardudwy Emlyn Griffith, Llanfair Elizabeth Ann Jones, Penrhyn Anest Gwenllian. Llanaber
EISTEDDFOD ARDUDWY
11
R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286
Ffacs 01766 771250
BWYD A DIOD Cognac a’r Byd Distyllu
Honda Civic Tourer Newydd
Ardal Cognac yn Ffrainc oedd dewis gwyliau haf teuluol y flwyddyn yma a lle braf iawn hefyd gyda golygfeydd o winllannoedd yn ymestyn i’r gorwel. Ond, dim i gynhyrchu gwin yn yr ardal hon, nage wir, mae’r grawnwin yma’n cael eu tyfu i wneud Cognac. Ugni Blanc yw’r prif rawnwin sy’n cael ei ddefnyddio i’r gwirod yma. Math sydd ddim yn ffasiynol efallai ond yn gweddu i’r pridd yn yr ardal. Mae pob un gwirod yn cychwyn yn yr un ffordd mwy neu lai, gyda bas-wirod sy’n glir ac yn eithaf di-flas. Ac mae’r bas yma’n wahanol yn dibynnu ar y gwirod: er enghraifft, Cognac yn cael ei greu o win, ond chwisgi o rawn. Yn dilyn hyn, mae gwahanol fathau o ddistyllyron a’r broses o aeddfedu (defnyddio casgenni efallai, ac am ba hyd) yn effeithio ar y ddiod derfynol. Efallai bydd cynhyrchwr yn ychwanegu caramel i Cognac i reoli’r lliw neu siwgr cansen os oes angen melyster. Y ffordd orau i ddysgu am y broses wrth gwrs yw mynd i’r ardal! Gallaf awgrymu taith i Jarnac, a rhoi cynnig i flasu yn Nhŷ Courvoisier sy’n amhosib i’w fethu wrth ymyl yr afon Charente. Ar ôl y daith, sy’n adrodd yr hanes o gysylltiad Napoleon yn ogystal â’r dull o wneud Cognac, cewch eistedd yn yr adeilad hynod smart yma i flasu. Am €25 mae detholiad o ddanteithion melys yr un maint a bysa Alice yn y Wlad Hud yn eu cael ar ôl yfed yr hylif hud a
12
chwpan wydr o espresso cryf. Y brenin wrth gwrs yw’r gwydred o Cognac XO sydd wrth y plât (mae hwn wedi’i aeddfedu am rhwng 11 a 25 mlynedd mewn casgenni derw). Roedd y cyfuniad o’r macarŵn coffi, tarten fach siocled a’r hufen iâ marmaled mewn siocled gwyn yn un arbennig o dda - hoffi brandi ai peidio! Ac yn agoriad llygaid i mi fel un sydd ddim yn aml yn dewis gwirod i’w hyfed. Peidiwch â gadael yr ardal heb flasu diod arall sy’n unigryw, sef Pineau des Charente. Aperitif a gafodd ei greu, yn ôl chwedl, trwy i winwr roi llwydni grawnwin yn ddamweiniol mewn casgen yr oedd yn credu oedd i fod yn wag ond mewn gwirionedd gydag eau de vie ynddi. Gadawodd y gymysgedd am rai blynyddoedd cyn darganfod ei fod wedi creu gwin wedi’u gryfhau newydd. Stori dda. Rhaid sôn am y chwyldro o greu gwirod ym Mhrydain ar hyn o bryd. Mae hyn oherwydd newid deddfwriaeth rhyw 10 mlynedd yn ôl a ganiataodd ddistyllu mewn sypiau bach. Newyddion da iawn gyda’r holl wahanol gin Cymraeg sydd ar gael, a nawr hefyd mae Da Mhile wedi cynhyrchu chwisgi newydd Cymraeg – dyna hanes arall i’w hadrodd rhywbryd. Pwy sydd am lymed gyda chacen Nadolig ‘ta? Llinos Rowlands Gwin Dylanwad Wine Dolgellau
Y BERMO A LLANABER Merched y Wawr Y Bermo a’r Cylch Yn ein cyfarfod ar 18 Hydref roedd ’na 13 ohonom i groesawu Phil Mostert, a rhoddodd sgwrs am Llais Ardudwy. Cyhoeddwyd Rhif 1 yn 1975 ac roedd yn 4 tudalen, wedi’i argraffu yn ddu a gwyn, a chysodi wrth ddefnyddio teipiadur ‘golf ball’, a thorri a gludo yn llythrennol. Aeth ar werth am 7c, pris stamp dosbarth cyntaf. Pa mor broffesiynol mae’r Llais yn ymddangos rŵan, yn cael ei gysodi gan ddull modern electronig efo’r holl gymwysiadau soffistigedig sy ar gael. Rŵan mae ’na 16, weithiau 20, tudalen, rhai ohonynt efo lliw. Canmolodd Phil Y Lolfa am eu gwasanaeth argraffu cyson dros y blynyddoedd. Heddiw argraffir 700 o gopïau o’r Llais bob mis. Ond nid dim ond yn Ardudwy mae o’n cael ei ddosbarthu. Mae copïau yn mynd i bobl sy’n byw yn rhannau eraill o’r DU a hyd yn oed dramor, er enghraifft yng Nghanada. Mae cynhyrchu’r Llais wedi bod yn waith tîm: pobl yr ardal yn cyfrannu erthyglau, newyddion a lluniau, teipio, plygu’r papur, dosbarthu a gwerthu copïau, pobl i drefnu hysbysebion a phethau eraill yn y cefndir. Fe wnaethon ni fwynhau clywed sôn a straeon am gyfraniadau gan hen gymeriadau’r ardal. Mae’n dda gweld sut mae’r Llais yn adlewyrchu a chynnal y gymuned Gymraeg yn Ardudwy.
Y cyfraniad mawr a chyson sydd wedi parhau trwy’r blynyddoedd ydy’r un gan Phil. Rydan ni’n ddiolchgar iddo fo am hynny ac am ei sgwrs yn ein cyfarfod diwethaf. Bydd ein cyfarfod nesaf ar 15 Tachwedd: ‘Coed Nadolig’ – gwaith llaw gydag Olwen Jones, Rhydymain. Y Gymdeithas Gymraeg Ciliodd yr haf a daeth yn amser ailgydio yn y gweithgareddau gaeafol a dyna ein hanes yma yn y Bermo pan gyfarfu’r Gymdeithas Gymraeg. Roedd y noson gyntaf yn nwylo medrus y Parchedig Christopher Prew a chawsom amser difyr a hwyliog yn ei gwmni. Dylanwadau oedd ei destun a bu’n sôn am y bobl a’r llefydd a ddylanwadodd arno. Yn ystod gwyliau’r ysgol a’r coleg bu’n gweithio yn yr hen ysbyty meddwl yn Ninbych. Fel rhan o’i gwrs diwinyddol fe fu’n byw gyda theulu yn yr India, dau le a ddylanwadodd yn gryf arno. Bydd ein cyfarfod nesaf dan ofal Haf Llewelyn ar 2 Tachwedd. Priodas Dymuniadau gorau i’r Parchedigion A Brian Evans ac Eirlys Gruffydd, yr Wyddgrug, ar eu priodas yng Nghapel Disgwylfa, Coedpoeth ar 20 Gorffennaf. Y Banc Pob dymuniad da i Ryan a Megan [Castle Cottage, Harlech gynt] gyda’r bwyty newydd sydd wedi agor yn Y Banc.
Ysgol Ardudwy Croeso i Ddisgyblion B7 Dyma ddisgyblion B7 newydd yn gyda’u Tiwtoriaid Dosbarth - 7 Cnicht gyda Mr Robert Chidley-Williams, 7 Moelfre gyda Mr Gareth Williams a 7 Rhinog gyda Mrs Fflur Williams. Maent erbyn hyn wedi hen setlo ac yn cymryd rhan lawn yn holl weithgareddau’r ysgol.
Y Cyngor Ysgol Mae’r Cyngor Ysgol newydd wedi’i ethol. Y cynrychiolwyr yw: B7 Patrick Foster a Keira Williams B8 Mali Henshaw ac Ellis Jones B9 Alaw Hughes a Mared Jones B10 Jessica Cunnington-Holmes a David Hall B11 Jenna O’Brien ac Elliw Muscroft Mae’r Cyngor eisoes wedi cyfarfod ac wedi dechrau ar ei waith. Bydd cynrychiolwyr B11 yn ymuno â chyfarfodydd Y Corff Llywodraethol yn y dyfodol agos. 100% Presenoldeb Llongyfarchiadau enfawr i’r disgyblion canlynol sydd wedi cyflawni Presenoldeb 100% yn ystod 2015-16 ac wedi derbyn tocyn anrheg i gydnabod eu llwyddiant. Cefn: Osian Toohill, Cara Rowlands, Osian Jones, Kyle Williams a Guto Thomas, Blaen: Ifan Beale, Tom Rooney, Lowri Llwyd, Lowri Rowlands, Tomos Jones, Elan Rayner a Seren Llwyd. Da iawn chi i gyd!
Diolch i Hilda Harris am gael benthyg y llun uchod. Yn 1977, dathlwyd can mlynedd sefydlu’r achos yn Christ Church ac yn y llun fe welir gweinidog a blaenoriaid yr Eglwys. Yn sefyll o’r chwith i’r dde: O Glyn Owen, Dr David O Williams, Walter J Schokes, Parch R W Jones, C R Harris [tad Hilda], W J Thorneycroft a Kenneth H Day. Yn eistedd - Griffith E Jones.
13
TAPAS YN HARLECH Leila a Mark A minnau newydd ddod adref o Bilbao yng Ngwlad y Basg, amheuthun oedd cael gwahoddiad i fwyta Tapas yng Nghaffi’r Castell Harlech. Yn Bilbao mae’r tafarnau i gyd yn gwerthu pintxos, sef eu fersiwn nhw o’r tapas. Fel arfer, digon ar gyfer dau lond ceg ydi pintxos ac maent i’w cael ym mhob math o siâp. Felly roedd yn gyfle da i gymharu tapas yng Nghymru a pintxos yng Ngwlad y Basg!
powlenaid o datws newydd gyda jwg o saws tomato sbeislyd, pelenni cig, madarch, cyw iâr sbeislyd, corgimychiaid mawr mewn menyn garlleg a bara menyn. Ac i olchi’r cyfan i lawr – potel o win y tŷ, sef Pinot Noir derbyniol iawn o Chile.
Mae bwydlen Caffi’r Castell yn ddigon amrywiol ac mae’r lleoliad yn braf ac iddo naws hamddenol. Ar y noson y buom ni roedd yna gerddoriaeth Sbaeneg i ychwanegu at y naws – a chwarae teg i Freya, mi ddaru droi’r sŵn i lawr rhyw ychydig pan welodd y gwg ar fy wyneb! Ann a Gerallt oedd efo ni, sef y cwmni arferol. Maen nhw’n bwyta popeth, felly hefyd fy ngwraig, Janet, ond rydw i dipyn bach yn fisi hefo fy mwyd. Sut bynnag fe ddewison ni ford i’w rhannu, sef platiad o ham prosciutto [coes ôl mochyn wedi’i halltu] a chaws Caerffili,
Ham prosciutto
14
Ble wnaethoch chi gyfarfod? Mi wnaethon ni gyfarfod yn Ysgol Uwchradd Eifionydd. Roedden ni’n ffrindiau da ac wedyn dod at ein gilydd nos Galan, 2005. Erbyn hyn mae gynnon ni ddau o blant - Lili-Mai, 4 oed, ac Aron, 2 oed, ac mae ‘na drydedd ar y ffordd. Mae’r rhan fwya’ o bobl yn beichiogi ar eu mis mêl, ond mi wnes i ar fy mharti plu! Sut wnaethoch chi ddyweddïo? Es i draw i dŷ ei rieni, ac mi wnaeth o ofyn i fi briodi fo. Roedd ei fam a’i chwaer yna, yn gwrando wrth y drws, ac mi glywon nhw bob dim!
8.00 Nos Sul 13 Tachwedd Pam wnaethoch chi benderfynu priodi ar Priodas Pum Mil? Mi welais i hysbyseb ar Facebook yn sôn eu bod yn chwilio am gwpwl i fod yn rhan o’r gyfres. Mi wnes i drio i fod ar Priodas Pum Mil a ‘Don’t Tell The Bride’. Mi ‘naeth ‘Don’t Tell The Bride’ gysylltu yn ôl, ond doedd Mark ddim eisiau trefnu’r briodas i gyd Mi fasa’n priodas ni ar gae ffwtbol tasa fo wedi trefnu! Oeddet ti’n nerfus? Dw i’n meddwl mod i’n berson hamddenol, ond fasa mam ddim yn cytuno! Ro’n i’n nerfus iawn, yn enwedig am fy ffrog! Mi wnaethon nhw yrru fi i Bwllheli, a fy rhoi i mewn ffrogiau hyll, felly ro’n i’n poeni ychydig. Aeth yna rywbeth yn anghywir ar ddiwrnod eich priodas? Mi wnes i feichio crio am fy ngholur. Ro’n i eisiau edrychiad naturiol. Do’n i ddim yn teimlo’n gyfforddus!
Tapas yn Harlech
Pintxos o Wlad y Basg
Mae Mark, sy’n wreiddiol o Flaenau Ffestiniog, yn byw yng Nghricieth gyda Leila. Bydd priodas y ddau i’w gweld ar S4C mewn cyfres newydd Priodas Pum Mil, lle mae teulu a ffrindiau’n trefnu priodas cwpl am £5000. Bu S4C yn holi Leila, sy’n wreiddiol o Benrhyndeudraeth, am y profiad.
Barn y pedwar ohonom oedd bod y bwyd i gyd yn flasus iawn ac yn gwbl ffres. I mi does dim i guro tamaid o fara ffres a lwmpyn o gig. Ac roedd yr ham prosciutto yma yn feddalach na’r hyn gefais i yn Bilbao; doedd o ddim mor sych. Roedd pawb yn canmol y pelenni cig a’r saws ac roedd y cyw iâr a’r corgimwch yn ardderchog. Roedd y saws ddaeth efo’r tatws yn eithaf poeth ond diolch mai mewn jwg y daeth ac nid wedi ei dywallt drostyn nhw.
Rhagor o’r Tapas yn Harlech Noson ddifyr, wahanol oedd hon ond noson wrth ein bodd. Y staff i gyd yn annwyl a mynwesol a’r bil ar y diwedd am fwyd i bedwar yn rhesymol am £73, gan gynnwys tri phwdin a’r gwin. A sut oedd o’n cymharu â Bilbao? Mae’r ddau yn wahanol a’r ddau yn wych. Fe awn ni yn ôl at Freya a’i staff cyn bo hir – onid yw hynny yn dweud digon wrthych chi? PM
Gwyliwch bennod Leila a Mark nos Sul, 27 Tachwedd am 8.00 s4c.cymru
THEATR HARLECH Ffôn: 01766 780667
TACHWEDD
8-10 (7.00yh), ffilm: Inferno, Mae Robert Langdown yn deffro mewn ysbyty yn yr Eidal, ond dydy o ddim yn gallu cofio dim. 11 (7.30yh) a 12 (2.30 a 7.30yh), fersiwn newydd sbon o’r ffilm ‘Magnificent Seven’. 18, 22, 23, 7.30yh, ffilm Jack Reacher: Never go back. Nos Sadwrn, 19 Tachwedd am 7.30 yr hwyr - Morfydd Llwyn Owen, dathliad o fywyd a gwaith Morfydd Llwyn Owen trwy gyfrwng cân, cerddoriaeth biano a darlleniadau, gydag Elin Manahan Thomas a Brian Ellsbury.
R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU
Theori’r ‘Chweched Radd’ [parhad]
Union bum mlynedd ar ôl symud i Wrecsam, penderfynais ymfudo i Ganada. Roedd hi’n ganol gaeaf - cyfnod anffodus! Fodd bynnag, roedd fy mrawd Morris eisoes wedi ymfudo yno rhyw ddwy flynedd o fy mlaen felly ni chymerodd yn hir i mi setlo i fywyd yng Nghanada heb anghofio fy ngwreiddiau Cymraeg. Yn ogystal, bu’r Evansiaid (perthnasau) a’r teulu Thomos, yn wreiddiol o Harlech, oedd yn byw yn St Catherines, Canada, yn garedig iawn wrthyf. Wedi ychydig o wythnosau, euthum i weithio gyda chwmni trydanol yn Toronto, rhyw hanner can milltir o St Catherines’. Roedd y dynfa tuag at Eglwys Gymreig Dewi Sant yn Toronto yn gryf iawn. Bu’r Cymry yno yn garedig iawn hefo fi. Bu’r Parch Humphrey Jones, yn wreiddiol o Sir Fôn, yn garedig iawn ac yn graig o gadernid. Buan iawn y dechreuais wisgo ac edrych fel Canadiad gyda fy nhei llydan ac yn y blaen. Gallwn dwyllo rhai pobol am gyfnod hyd nes i fy acen Gymraeg fy mradychu. Rwyf mor falch nad wyf wedi ei cholli. Ar un achlysur, gofynnwyd i mi fod yn Siôn Corn i’r cwmni y gweithiwn iddynt. Dyma’r tro cyntaf dw i’n siŵr i blant bach Canada ddod ar draws Siôn Corn ag acen Gymraeg. Ymunodd fy narpar wraig â fi yng Nghanada ymhen y rhawg ac aethpwyd ati i drefnu priodas. Priodwyd ni yn St Catherines’ (dros drigain mlynedd yn ôl). Wedi byw am ddwy flynedd yn Toronto, dyma symud ddeng milltir ar hugain i ffwrdd i Hamilton. Ers hynny, rydym wedi cartrefu fwy na heb yn yr un ardal. Panad o de Tra’n byw’n Allt Goch, fe wahoddodd fy chwaer Dorothy’r wraig oedd yn gymydog newydd iddi yn Uwchlawrcoed am banad. Dyma fynd ati i drafod hyn a’r llall ac arall ac i edrych ar luniau oedd yn cynnwys lluniau ein priodas. Pan welodd Mair, y gymdoges, luniau o fy ngwraig, dyma hi’n dweud ei bod yn gyfarwydd â hi ac iddynt fynychu’r un ysgol yn Wrecsam. Cafodd Dorothy gryn syndod enghraifft arall o’r Chweched Radd. Tra’n byw yn Hamilton, roedd mynd mawr ar y Gymdeithas Gymraeg yno. Yn ystod un digwyddiad yno, fe wnaethon ni gyfarfod dwy nyrs ifanc o dde Cymru. Doedd dim yn anarferol yn hynny wrth gwrs o gofio mai Cymdeithas Gymraeg oedd hi! Ond beth sy’n ddiddorol ydy’r ffaith i ni gyfarfod un o’r nyrsys wedyn tra’r oeddem ymhell iawn o gartref. Roedden ni wedi mynd i ymweld â’n mab ieuengaf, David a’i deulu, sy’n byw yn yr Almaen. Tra’r oedd o yn ei waith, aethom am dro i lawr i’r dref. Rhywsut neu’i gilydd collais olwg o fy ngwraig ond daliais ati i gerdded ymlaen hyd y stryd yn teimlo braidd yn unig. Wrth fynd yn fy mlaen, clywn ganu swynol a chyfarwydd côr o Gymry. Diflannodd yr unigrwydd ac euthum atynt am sgwrs. Soniais fod gennym ni gôr da yn Hamilton (o dan arweiniad Lyn Harry a Chôr Morriston cyn hynny). Yn syth dyma wraig oedd yn sefyll ychydig oddi wrthyf yn gofyn o le’r oeddwn yn dod. Gredwch chi mai’r wraig hon oedd un o’r nyrsys o Dde Cymru yr oeddwn wedi ei chyfarfod yn y Gymdeithas Gymraeg yn Hamilton, Ontario dros chwe mil o filltiroedd i ffwrdd! Onid ydy hyn yn enghraifft o’r Chweched Radd? Ar achlysur arall, pan oeddwn eto ar ymweliad â’r Almaen, arhosodd fy ngwraig a minnau mewn gwesty bychan yn Awstria o’r eiddo gwraig o Flaenau Ffestiniog a’i gŵr Heinz o Awstria yr oedd wedi ei gyfarfod rai blynyddoedd ynghynt pan oedd o’n gweithio ym Mhortmeirion, Porthmadog. Cyn i ni gyrraedd roedd hi wedi mynd ati i gasglu nifer o’i lluniau o Gymru. Rhoddodd y trydydd neu’r pedwerydd lun gryn ysgytwad i mi oherwydd beth oedd o ond yr arwydd ‘NEVER CUT A FRIEND’ sydd ar y llechen uwchben y fainc ger y bont yn Llanbedr. Ond yn fwy diddorol na hynny, llun pwy oedd yn eistedd ar y fainc ond Islwyn, Plas Newydd gyda’i wên ddireidus a’i ffon bwlyn. Ydi hyn yn dangos y Chweched radd ar waith eto neu ai cyd-ddigwyddiad ydy o? Deuthum i wybod fod y wraig hon, sef Anita, yn perthyn i deulu Plas Newydd ar y pryd, yn ogystal â fy nghyfyrderes Mair Meredydd
o Lanfair. Llifodd yr atgofion yn ôl wrth weld y llun. Cofiaf yn glir gyfarfod wrth ‘NEVER CUT A FRIEND’ ar nos Sul i ganu emynau a chaneuon cyfarwydd yng nghwmni pobl gerddorol fel Mr Richards, Penisarcwm; Ifan Wyn, Tyddyn Llidiart; Ned, Cefn Isa’ ac eraill o’r un anian. Tra’n byw yng Nghanada, rydym wedi mynychu Cymanfa Ganu Ontario yn rheolaidd. Pan yn bosib rydym hefyd wedi mynychu’r Gymanfa Ganu Genedlaethol o dan nawdd Ffrindiau’r Unol Daleithiau a Chanada. Un flwyddyn, cynhaliwyd Cymanfa Ontario yn Stratford sydd rhyw ddeng milltir ar hugain oddi wrthym ac roedd côr meibion o ardal y Bala wedi eu gwahodd i gymryd rhan. Ar y nos Wener yn dilyn y Noson Lawen, dechreuodd fy ngwraig sgwrsio ag un o aelodau’r côr oedd yn athro yn Wrecsam. Pan ymunais yn y sgwrs, gofynnodd i mi o le’r oeddwn yn dod yn wreiddiol. Atebais mai go brin y byddai’n gwybod am y lle ac meddai, ‘Wel gawn ni weld!’ Pan ddywedais ‘Cwm Nantcol’ gofynnodd a oeddwn yn gyfarwydd â Graig Isa’? Wel wyddwn i ddim beth i’w ddweud! Mae Graig Isa’ gyferbyn â Maesygarnedd ond yn fwy na hynny, roeddwn wedi cyfarfod y gŵr hwn pan oedd yn fabi ac wedi dod i Graig Isa’ i weld ei nain. Doeddwn i ddim llawer hŷn nag o mae’n debyg, ond dw i’n credu i mi fynd yno gyda fy chwaer Dorothy a’m brawd Morris. Dyma enghraifft o’r Chweched Radd yn gweithio oriau ychwanegol. Ar y Llun canlynol, ar ôl y Gymanfa, aeth fy ngwraig a minnau am frecwast. Eisteddom wrth fwrdd gyda chwpl oedd yn ffermio ger Bangor a’r gŵr yn aelod o’r côr. Dyma gyflwyno’r naill a’r llall yn y dull traddodiadol Cymreig gyda fy ngwraig yn dweud ei bod yn dod o Wrecsam ac yn y blaen. Pan ddaeth fy nhro i a dechrau sôn am Lanbedr dyma fo’n gofyn oeddwn i’n gyfarwydd â theulu Hendre Waelod, Cwm Nantcol. Fel mae’n digwydd, bu merch Mr a Mrs Meurig Jones, Hendre Waelod, yn gweithio am gyfnod o chwe mis gyda’r cwpwl yma tra yn y coleg. Dyma ni, dros bum mil o filltiroedd o Gymru ac yn sôn am y bobl yn ôl adref. Penderfynasom ychydig flynyddoedd yn ôl ein bod am werthu’r tŷ a symud i le llai o faint. Roedd yr arwerthwr yn dangos y tŷ i un ddarpar brynwr, pan ddywedodd fod ganddi beth gwaed Cymreig yn ei gwythiennau. Ei hen, hen, hen ewythr oedd gŵr o’r enw Ivor Wynne ac am nifer o flynyddoedd cysylltwyd ei enw â Stadiwm Bêldroed Canada. Y fo oedd Deon Chwaraeon Prifysgol McMaster yn Hamilton ar un adeg. O ydyn, mae’r Cymry’n gallu mynd ymhell! Dywedom wrthi ein bod wedi cyfarfod ag Ivor ar fwy nac un achlysur yn y Gymdeithas Gymraeg a bod ei dad yntau, Bob Wyn ei hen, hen, hen daid hi felly, yn hanu o Ddyffryn Ardudwy. Dywedais wrthi ei fod yn ffrindiau mawr gyda fy nhaid a nain ac iddo aros gyda hwy’r noson cyn iddo ymadael am Ganada. Dyna le’r oedden ni yng nghwmni hen, hen, hen orwyres Bob Wyn yn trafod telerau pris ein cartref. Rhaid ein bod ni wedi creu cryn argraff arni gan iddi brynu’r tŷ neu ai’r Chweched Radd oedd ar waith eto? Y tro nesaf y byddwch yn ymweld â Chwm Nantcol pam nad ewch chi ychydig o’ch ffordd a throi i’r dde cyn cyrraedd Hendre Waelod a mynd hyd y ffordd gul am Lanbedr a Dyffryn? Pan ddowch i godiad tir, arhoswch ennyd i edmygu un o olygfeydd mwyaf godidog yr ardal. Edrychwch i gyfeiriad Llandanwg fel daw’r llanw i mewn gan hanner amgylchynu’r ynys. Trowch eich golygon am Lanbedr wedi hanner ei guddio gan goed, a syllwch ar harddwch Llanfair fel y llithra am y môr. Yn y pellter, gallwch weld copa ysgythrog yr Wyddfa. Tra’n amsugno’r harddwch naturiol o’ch cwmpas, efallai y gallwch synhwyro presenoldeb rhywun o’r gorffennol yn eistedd ar ei geffyl gyda’i esgidiau a’i fyclau pres yn sgleinio yn yr haul. Efallai ei fod ar ei ffordd adref wedi ymweld â chartref ei fam ger Llanbedr ac yn aros i orffwyso ychydig a syllu ar yr un olygfa’n union ag a welwch chi, golygfa sydd heb newid ers pum can mlynedd. Cyfarchwch o yn y Gymraeg. Mae’n wybyddus iawn â’r iaith ‘Prynhawn da Cyrnol John,’ a pheidiwch anghofio Theori’r Chweched Radd a’i phum can mlynedd o dreigl amser. Cofion atoch i gyd yng Nghymru a phob bendith. Steve Stephens (Styfyn Styfn) comero@cogeco.ca
15
TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Merched y Wawr Talsarnau Nos Lun, 3 Hydref, croesawodd y Llywydd, Siriol Lewis yr aelodau i’r cyfarfod cyntaf o raglen 2016-17 yn y Neuadd Gymuned. Atgoffodd bod y tâl aelodaeth o £16 am y flwyddyn i’w dalu i’r trysorydd, ynghyd â chasglu cyfraniad gan bawb tuag at Elusen Age Cymru sy gyda ni heno. Penderfynwyd cael tîm i gymryd rhan yn y Cwis Cenedlaethol nos Wener, 11 Tachwedd yn Neuadd Llanelltyd. Trafodwyd lleoliad ein cinio ‘Dolig a bydd Mai yn gwneud ymholiadau mewn tri lle a enwyd. Wedi delio gyda’r materion uchod, croesawodd Siriol ein gwesteion – Aled Evans a Nesta Williams o Age Cymru Gwynedd a Môn. Cafwyd cyflwyniad gan Aled yn egluro’r holl wybodaeth ac adnoddau sy’ ar gael i ni droi atynt gan yr elusen, cyn cael cyflwyniad gan Nesta yn ymwneud mwy â chyngor ar faterion ariannol, yswiriant ayyb. I orffen cafwyd cyngor gan Aled ar sut i ddelio â’r sgams sy’n bodoli. Roedd eu cyngor a’u harweiniad yn werthfawr iawn a diolchwyd i’r ddau gan Frances am rannu’r cyfan gyda ni. Paratowyd y baned gan Maureen ac Eirwen, a Dawn enillodd y raffl. DIOLCHIADAU Er cof am Muriel Elisabeth Williams, Cefn Gwyn, Talsarnau. Dymuna Ieuan, Angharad, Phil, Nathan, Leanne a’r teulu ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a dderbyniasant yn eu profedigaeth o golli gwraig, mam, nain, hen nain a chwaer arbennig iawn. Diolch am yr holl gardiau, galwadau ffôn, ymweliadau a’r rhoddion hael a dderbyniwyd er cof am Muriel. Diolch i’r Parch Robert Hughes am ei wasanaeth urddasol ac i Malcolm a Dylan (Pritchard a Griffiths) am y trefniadau gofalus a’r gefnogaeth i ni fel teulu. Rhodd a diolch £10
16
GWOBR I MEINIR
Llongyfarchiadau cynnes iawn i Mrs Meinir Evans o Dalsarnau a enillodd un o wobrau Mudiad Meithrin yn y cyfarfod blynyddol. Meddai Dr Gwenllïan Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin: ‘Rydym wedi gwirioni ein bod wedi derbyn cannoedd o enwebiadau! Mae’n ffordd hyfryd i staff a gwirfoddolwyr gael eu cydnabod trwy gael eu henwebu gan rieni’r plant sy’n eu gofal.’ Cydymdeimlad Estynnwn ein cydymdeimlad i Glenys Jones, 6, Maes Trefor ac Alun Rhys yn eu profedigaeth ddiweddar o golli chwaer a modryb, Ella Griffith. Rydym yn meddwl amdanoch. Diolch Dymuna Glenys Jones, 6, Maes Trefor, a’i mab Alun Rhys, ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad ddangoswyd tuag atynt yn dilyn eu profedigaeth ddiweddar yn colli Ella Griffith, chwaer a modryb annwyl. Diolch yn fawr am y cardiau a’r geiriau caredig, ac am yr ymweliadau. Mae’r cyfan wedi bod yn gymorth mawr wrth wynebu profedigaeth mor annisgwyl. £5 Genedigaeth Llongyfarchiadau i Sion a Wandee Richards, 1, Ship Aground, ar enedigaeth eu merch fach, Lana, yn ddiweddar.
Capel Newydd Cynhaliwyd Oedfa Diolchgarwch nos Fercher, Hydref 12 a’r Parch Emyr James, Caerdydd yn pregethu neges berthnasol i bawb. Gwnaethpwyd casgliad o £168 a’i anfon at waith elusennol ymhlith ffoaduriaid. Daeth tymor y ‘Seiadu-DrosGinio’ i ben ddiwedd Hydref. Roedd pawb yn teimlo fod y sgwrsio wedi bod yn fuddiol. Braf iawn oedd cael gwyntyllu ambell i gwestiwn anodd yn onest a didwyll. Nos Fercher, Tachwedd 9 am 7.30 bydd Heledd Job yn siarad am ei gwaith fel cenhades yn Nwyrain Ewrop. Croeso cynnes i bawb. Suliau - Oedfaon i gyd am 6:00 Tachwedd 13 - Dewi Tudur Tachwedd 20 - Dewi Tudur. Tachwedd 27 - Geraint Jones, Llanbrynmair Rhagfyr 4 - Dewi Tudur Diolch Dymuna Alison Rayner, Gwyndy Mawr, ddiolch i bawb am yr holl gefnogaeth, cardiau, negeseuon a’r storïau [a wnaeth i ni chwerthin a denu atgofion melys] a anfonwyd ataf fi, Lisa, Claire, Allan, Jack a Nell wedi i ni golli Ian. Mi wnaeth eich meddwlgarwch a’ch caredigrwydd ein helpu i gynnal ein breichiau mewn cyfnod anodd iawn a bu’n gymorth i ddod yn ôl i normalrwydd - er fod y normal yn dra gwahanol. Rydyn ni i gyd yn ei golli yn arw. Rhaid i mi ddiolch i chi hefyd am eich haelioni anhygoel o safbwynt y cyfraniadau o £1609.29 anfonwyd i Adran Oncoleg Glan Clwyd. Diolch o galon i bawb ohonoch. Alison Rayner Diolch: £5 Canolfan Walton Mae teulu Gwyndy Mawr yn awyddus i nodi fod Dafydd Thomas, brawd yng nghyfraith Alison, wedi casglu £4,360 at Ganolfan Walton yn Lerpwl.
Neuadd Talsarnau
GYRFA CHWIST Nos Iau - Tachwedd 10 am 7.30 o’r gloch Croeso cynnes i bawb
Neuadd Talsarnau Nos Fawrth, Tachwedd 22 am 7.30
CYNGERDD yng nghwmni
Cana-Mi-Gei Côr Meibion Ardudwy Elw at Eglwysi Llanfihangel-y-traethau a Llandecwyn
Tocyn £5
Lluniaeth ar gael
Gwasanaeth Diolchgarwch Cynhaliwyd y Gwasanaeth yng Nghapel Bryntecwyn prynhawn Sul, 18 Hydref dan ofal Carys Evans gyda chriw o ieuenctid yn cymryd rhan. Cyflwynwyd nifer o ddarlleniadau arbennig yn ymwneud â’r Diolchgarwch gan Ellie, Osian, Jack, Lois, Sioned, Erin, Cari Ellen, Dylan ac Anna. Hefyd canwyd dwy gân ganddynt i gyfeiliant Carys Evans ar y piano. Roedd yn braf gweld nifer dda wedi dod ynghyd i wrando ar y plant a phleser oedd eu gweld yn gwneud eu gwaith mor hyderus. Diolchwyd i Carys am drefnu’r cyfan ac i’r plant i gyd am fod mor barod i ddod i Fryntecwyn i gymryd rhan mewn gwasanaeth o ddiolchgarwch. Cyd-ganwyd Calon Lân i orffen cyn i bawb gyd-adrodd y fendith. Cytunwyd i gyfrannu rhodd o’r casgliad heddiw tuag at Apêl Nepal i helpu plant bach y wlad honno yn dilyn daeargryn enfawr. Diolch Dymuna Mrs Bronwen Rayner a’r teulu ddiolch yn ddiffuant i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a gafwyd yn dilyn marwolaeth Ian yn ddiweddar. Diolch: £5 Priodas Llongyfarchiadau i Iolo a Sioned Lewis ar achlysur eu priodas ddydd Sadwrn 22 Hydref. Bu’r gwasanaeth yn y Ffôr a’r wledd briodasol ym Mwyty Dylan, Cricieth. Dymunwn bob hapusrwydd i’r ddau yn eu cartref yn Maesgwyn, Penrhyndeudraeth.
ANGEN CYMORTH
Mae angen pob math o ddillad arnon ni i’w hanfon i ffoaduriaid ymhell ac agos. Ymysg y pethau angenrheidiol mae: Dillad ac esgidiau plant - pob oedran a maint. Cotiau gaeaf cynnes, hetiau, sgarffiau, menig, siwtiau babis, trowseri, siwmperi, dillad cnu, dillad isaf, sanau a theits, ‘trainers’, ‘boots’ a welingtons. Pethau plant - teganau meddal bach, pensiliau, papur, ffolderi, glud, paent a brwshys, deunyddiau crefft, sachau cefn. Dillad babanod – pob maint. Blancedi, sachau cysgu babanod, cludwyr, poteli, cadeiriau gwthio, clytiau, ‘wipes’, llaeth a bwyd babanod (dim cig). Esgidiau – pob math. Dillad merched a dynion - bach a chanolig yn well. Cotiau, dillad glaw, cotiau cnu, crysau dynion, crysau T, topiau llewys hir i ferched, siwmperi, hetiau, sgarffiau, menig, sanau, dillad isaf newydd, festiau, bras, sgerti a ffrogiau hirion. Arall - dillad gwely, sosbenni, padelli ffrio, platiau plastig, enamel, cyllyll a ffyrc, tegelli ysgafn, sachau cysgu, blancedi, matiau cysgu, matresi (fel newydd), pebyll a tharpolin. Deunydd ymolchi Bagiau dal pethau ymolchi, shampw, cyflyrydd, gel cawod, hylif corff, diheintydd dwylo, rhasal taflu, crib a brwsh gwallt, brwsh a phast dannedd, gwlanen ymolchi, tyweli misglwyf, padiau, pethau clymu gwallt. Meddygol – Calpol, Paracetamol, Aspirin, bandesi, plasteri, teclynnau monitro clefyd siwgr, cadeiriau olwyn, pulpud cerdded. Beiciau, matiau gweddïo, fflachlampau, cardiau SIM, sachau cefn. Cofiwch eu rhoi mewn bagiau duon cyn galw heibio un ai Eglwys Sant Ioan, Bermo, Eglwys Tanwg Sant, Harlech, neu Eglwys y Drindod, Penrhyndeudraeth, lle gallwch eu gadael yn ddiogel. Diolch ymlaen llaw, criw CEFN [Cefnogi Ffoaduriaid]. www.cefn.cymru neu cefn.cymru@gmail.com Gwerthfawrogir pob cymorth.
CERDDED I GODI ARIAN
Braf iawn oedd gweld cynifer o bobl a phlant wedi dod ynghyd i ymuno’n y daith gerdded i godi arian at y Peiriant Diffib ar gyfer yr ardal. Gwenda Griffiths oedd wedi bod yn trefnu, gyda Noel, ei brawd yn cynorthwyo ac yn gofalu am y cerddwyr yn ystod y dydd. Rydan ni’n diolch yn gynnes iawn iddynt ill dau. Casglwyd £150 drwy gyfraniadau’r cerddwyr a rhoddion ddaeth i law. Mae croeso cynnes i unrhyw un os ydynt yn dymuno cyfrannu, wneud hynny drwy Gwenda Griffiths 01766 771238.
Neuadd Gymuned Talsarnau
FFAIR NADOLIG Nos Iau, 24 Tachwedd
Neuadd Talsarnau
GYRFA CHWIST NADOLIG Nos Iau Rhagfyr 8 am 7.30 o’r gloch
Croeso cynnes i bawb
am 6.30
Dewch i brynu anrhegion Nadolig Mynediad: Oedolion £1 Plant – am ddim
LLYTHYR AT DAD
Teyrnged i’r diweddar Ian Rayner, yr Ynys, gan ei ferch Claire. Haia Dad, Claire sydd yma! Dwi ’di colli cownt o’r nifer o weithiau mae pobl ’di dweud ‘Cofia’r amseroedd da’ ac, wrth edrych yn ôl ar ein hatgofion o chdi, mond hynny sydd gennyn ni i ddweud y gwir - atgofion da a llawn hwyl. Dyma lond llaw o’r atgofion ddaeth i’n meddyliau gyntaf wrth edrych yn ôl ... Pan oedden ni’n fach, a hyd yn oed drwy gydol dy oes, chdi oedd yr un oedd yn enterteinio pawb yn ein partïoedd gyda gemau gwahanol o’ch chdi ’di gwneud dy hun ac efo’r ‘treasure hunts’ gwahanol o amgylch yr ardd lle oedd rhaid dilyn lluniau neu gliwiau o’ch di ’di eu gwneud. Mae dy ‘treasure hunts’ mor gofiadwy, mae Jack a Nell yn elwa ohonyn nhw heddiw. Oedden ni’n hoff fel teulu o fynd am dro a dwi’n cofio’r un tro ’ma pan es di a ni i fyny i Soar. Dyna le dyfes di i fyny a lle oeddech chi’n chwarae fel plant. Y ‘piece de resistance’ ar y tro yma oedd chdi’n dangos y goeden ga*** i ni! Coeden ’di twistio a ’di creu siap basin toiled ydi hi a phan oeddech chi rhy bell o adref, dyna le wnaethoch chi fynd i’r toiled. Diolch i’r nefoedd, doedd yr un ohonom ni eisiau mynd y diwrnod hynny! Pan oedden ni’n blant drwg, prin anaml mai y chdi oedd yn dweud drefn. Dysgon ni pam y tro cyntaf fe drïais di. Pob tro o’ch di’n trïo, fe wnaeth dy wyneb di gracio’n wên ac yna, mewn dim, roedden ni i gyd yn chwerthin. Dim y canlyniad gorau i mam ond yr un gorau i ni ein dwy! Pan oedden ni’n brifo ac yn crio y chdi oedd yn dweud o hyd “Os wyt ti’n chwerthin, wneith o ddim brifo” felly fe wnes di gosi ni, creu ystumiau, dawns neu unrhyw beth gwirion i wneud i ni chwerthin. Fe weithiodd achos fe dynnodd ein sylw o’r boen at y clown gwirion o’n blaenau. Wrth i ni dyfu’n hŷn o’ch di dal yna. Os oedden ni’n gorfod mynd ffordd wahanol yn y car achos roedd y ffordd ’di cau, oedden ni’n ffonio chdi’n syth i wybod pa ffordd arall i fynd. O’ch di’n gwybod yn union le i ddanfon ni. O’ch chdi fel SAT NAV personol. Hefyd pan oedden ni’n teithio yn y car o’ch chdi dal i wneud pethau gwirion - dysgais di fi un tro gêm ar y ‘dual carriageway’. Roedd yn rhaid croesi’r lonau heb gyffwrdd y ‘cats’ eyes’ efo olwynion y car. Mae rhaid cyfaddef bo fi dal yn ei wneud o heddiw a dwi di pasio’r gêm ymlaen i eraill ’fyd! Cofiodd Lisa un tro pan oedd hi’n hwyr adref efo’i ffrindiau a thrïodd ‘sneakio’ i mewn drwy’r drws ffrynt heb ddeffro chdi a mam ond o’ch di’n barod amdani. O’r ffenestr uwchben y drws ffrynt wnes di daflu jwg o ddŵr dros ei phen! Ddoth hi ddim yn ôl yn hwyr eto am sbel ac yn bendant ddoth hi ddim drwy’r drws ffrynt! Wrth feddwl am yr atgofion yma a’r llawer mwy sydd gennym ni (y jet ski, trompolîn, beach bygi), mae’n rhoi gwên fawr ar ein hwynebau a chynhesrwydd yn ein calonnau. Ti di’n dysgu ni i fyw ein bywydau yn llawn, i gael hwyl ac am y pwysigrwydd o fod yn hapus a gofalu am ein gilydd. Mi wnawn ni gario ’mlaen efo hyn, paid ti â phoeni. Diolch i ti am bopeth ‘Ianto Boichy Boich’.
FFAIR AEAF
yng nghwmni SIÔN CORN a BAND ARALL yn Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth am 2.00 o’r gloch y prynhawn
Dydd Sadwrn, Rhagfyr 10fed, 2016
Stondinau o bob math - cynnyrch cartre’, rafflau, llyfrau, tombola, gemau i’r plant ac ati ac ati. Agorir gan LIZ SAVILLE ROBERTS AS Mynediad yn cynnwys lluniaeth: £1.50 CROESO CYNNES I BAWB Trefnir gan Blaid Cymru
17A
TAITH CÔR MEIBION ARDUDWY I GERNYW DYDDIADUR Y DAITH
Dydd Mawrth – 25 Hydref Cychwyn o Harlech am 7.00 y bore. Arhosiad difyr yn y Fenni ar y ffordd a chyfle i bawb ymlacio. Aros y noson gyntaf yn ninas Bryste. Cyrraedd y gwesty ganol pnawn ac wedi datrys problem fach gyda’r llofftydd, roedd pawb yn rhydd i wneud fel y mynno. Y staff yn hynod groesawgar, y llofftydd yn gyfforddus a’r brecwast yn ardderchog. Dydd Mercher - 26 Hydref 188 o filltiroedd i fynd cyn cyrraedd Falmouth. Aros yn Exeter am baned a chacen. Cwis difyr [i rai!] ar y bws i ddifyrru’r amser ac i dorri’r siwrnai. Roedd pawb yn hapus iawn efo’r gwesty braf yn Falmouth. Aeth rhai i fwynhau eu hunain yn yr ystafell ymarfer a’r pwll nofio. Ond mi gafodd Robert Wyn blwc drwg efo’i ysgwydd yn y pwll a bu bron iddo a chael cam gwag. ‘Bu bron i ni golli tenor da a hynny’n fuan ar y daith,’ meddai un o’r dynion! Nifer yn swpera yn y gwesty ac eraill yn mynd i’r dref lle’r oedd y bwyd yn rhatach o lawer ac yn fwy swmpus. Dydd Iau - 27 Hydref Brecwast gwych [uwd, eog, hadog melyn, bacwn, crempog ayyb] cyn cychwyn ar daith i Lizard Point, y lle mwyaf deheuol yng Ngwledydd Prydain [nid Land’s End!] i weld llefydd o ddiddordeb. Cyn cychwyn, gweld Mervyn yn y lifft yn ei siwmper newydd; roedd hi’n amlwg ei bod yn newydd gan fod y label yn dal arni hi! Cyfle i flasu hufen iâ lleol a’u pasteiod enwog; blasus iawn. Fel roedden ni’n cychwyn mi gafodd un aelod ei fedyddio gan wylan. Dyma Robert Wyn yn dechrau canu’r gân am y wylan wen. Clustan gafodd o! Awgrymodd rhywun y dylai’r aelod fynd i siop Bet Fred efo Ifor Evans – ond chawson nhw fawr o lwc yno. Cyngerdd gyda’r nos yn Lanivet gyda Chôr Meibion Loveny a chyfarfod Erfyl, o Drawsfynydd, sy’n aelod o’r côr. Doedd yr allweddell ddim yn gweithio’n rhy dda a bu raid i ddynion Ardudwy lwyfannu mewn tair rhes oherwydd bod y llwyfan mor gul. Er gwaetha’r anawsterau, fe roeson nhw berfformiad caboledig. Cafwyd cyfraniadau unigol gloyw gan Ieuan Edwards, Meirion Richards ac Iwan Morgan. Roedd yr ail set yn llawer gwell a’r canu pan ymunodd y ddau gôr â’i gilydd ar y diwedd yn wefreiddiol. Criw dymunol a mynwesol oedd pobl Lanivet. Noson gofiadwy oedd hon. Dydd Gwener - 28 Hydref Diwrnod rhydd. Rhai yn nofio, eraill yn golffio, cerdded ar lan y môr neu yn siopa. Cyngerdd gyda’r nos mewn eglwys fodern yn Helston gyda Chôr Meibion Truro. Allweddell oedd yma eto ond roedden ni ar ein gwyliadwriaeth y tro hwn! Rhyw 33 yng Nghôr Truro ac roedd eu llwyfannu yn hollol broffesiynol. Iwan Morus Lewis, Iwan Morgan a Bili yn swyno’r gynulleidfa. Unwaith eto roedd y canu yn ddyrchafedig pan ymunodd y ddau gôr ar y diwedd. Hyfrydwch pur oedd cyfarfod Cathryn, merch Gwynli, a’i wyres, Kitty Seren ar ddiwedd y cyngerdd – ac roedd y wên ar wyneb Gwynli fel toriad dydd. Pobl glên a chroesawgar yma eto. Soniodd rhywun y buasem yn fwy tebyg o glywed y Gernyweg heno ond ar wahân i athrawes y bu Robert Wyn yn siarad â hi, [un da ydi o am siarad efo’r merched], chlywson ni fawr ddim o’r iaith frodorol. Dydd Sadwrn - 29 Hydref Taith ddifyr i fyny’r afon Fal ar gwch bleser i lawer ohonom. Eraill yn dewis mynd i Truro ar gwch ac ar drên. Cyngerdd gyda Chôr Meibion Treverva yn yr Eglwys yn Falmouth gyda’r nos. Roedd hwn yn gôr mwy eto, 40 o leisiau, ac roedden nhw’n hynod o dda. Chlywsech chi ddim un llais unigol ac roedden nhw’n canu’n ddisgybledig, boed yn bianissimo neu’n ddwbl forte. Er hynny, mi lwyddodd Côr Meibion Ardudwy gydag ond 23 o aelodau i swyno’r gynulleidfa hefyd a chafodd Roger Kerry gymeradwyaeth frwd am ganu Strydoedd Aberstalwm. Roedd y gynulleidfa ar eu traed ar y diwedd wrth i ni gydganu Morte Christe. Cyfle wedyn i’r ddau gôr ddod ynghyd yn y Clwb Rygbi - ac roedd dynion Treverva yn hynod ddisgybledig wrth ganu yn y fan honno hefyd. Dydd Sul - 30 Hydref Teithio 340 milltir a chyrraedd gartref yn flinedig ond wedi mwynhau’r profiad, wedi dysgu ychydig mwy am Gernyw a’i phobl ac wedi cael y pleser o rannu ein diwylliant a’n hiaith efo’n cefndryd Celtaidd. Diolch i Aled Morgan Jones, ein harweinydd diymhongar, ac i Idris Lewis, ein cyfeilydd medrus, am eu gwaith gwiw yn y tri chyngerdd. Mi fydd yr atgofion melys yn aros yn hir iawn yn y cof.
AM FOD YN AELOD O’R CÔR?
Dyma amser da i ymuno â Chôr Ardudwy. Mae angen gwaed ifanc [a hen] arnom. Mae’n bosib mai taith i Ganada fydd y nesaf! Cewch groeso cynnes, cwmni difyr ac nid oes gwrandawiad!
18 A
Diolch am gael taith efo’r Côr unwaith eto a diolch i Dewi am rannu llofft ac edrych ar fy ôl mor dda. Diolch i Phil am drefnu a da iawn Aled ac Idris. Gwynli Jones
Trip da. Mi gawson ni lot o hwyl a thynnu coes. Ac fe ddysgon ni lawer am yr ardal a’i phobl. Diolch i bawb. Rob Lewis ac Iwan Morus Lewis
Diolch am gael dod efo chi i Gernyw. Mi wnes i fwynhau fy hun yn fawr. Rhaid cofio nad oes raid cael côr enfawr i ganu’n dda! A wnewch chi gadw lle i mi ar y trip nesaf os gwelwch yn dda? Diolch. Myfanwy Jones Mawr ddiolch i bawb a weithiodd i wneud y daith yn un mor llwyddiannus. Mi gawsom daith bleserus iawn a manteisio ar y cyfle i roi Cymru ar y map. Mair a Dafydd Thomas
Diolch o galon am gael dod ar y daith. Cefais amser difyr a chwmni hwyliog. Pob dymuniad da i’r Côr. Elwen Jones
Diolch i bawb am gydweithio pleserus. Diolch arbennig i Aled ac Idris am waith gwiw, i’r unawdwyr a’r cantorion ac i Phil am gyflwyno’r tri chyngerdd mor raenus. Mervyn Williams, Cadeirydd.
Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Idris, i’r unawdwyr ac i bob aelod o’r Côr am eu cyfraniadau gloyw. Diolch hefyd am y trefnu manwl. Gallwn fynd o nerth i nerth ar ôl y daith hon. Aled Morgan Jones
Taith rhyfeddol o dda unwaith eto. Y gwesty yn ardderchog fel ag yr oedd y trefniadau i gyd. Mi wnaethon ni fwynhau yn fawr. Diolch i bawb. Bili Jones a Katherine Kennedy
Taith wych iawn i’r Côr unwaith eto. Popeth yn gweithio fel wats. Mi oedd hyd yn oed y tywydd wedi’i drefnu ar ein cyfer. Mae angen i ni chwilio am hogiau ifanc [ac o bob oed]i ymuno â ni rŵan er mwyn diogelu’r Côr i’r dyfodol. Ifan ac Anne Jones
Diolch am drefnu taith ragorol unwaith eto - gyrrwr bws ardderchog, lleoliad a gwesty gwych, cwmnïaeth fendigedig, cyngherddau cofiadwy, a bron na fuaswn i’n deud ein bod wedi gallu trefnu’r tywydd anhygoel i gloriannu’r cyfan hefyd! Dwi wedi rhedeg allan o ansoddeiriau rŵan! Taith arbennig iawn a hynny oherwydd y gwaith caled tawel yn paratoi ymlaen llaw. Diolch o galon. Gwen a Ieuan Edwards
Diolch am bopeth dros y dyddiau diwethaf ‘ma. Rhyfeddu at y sgiliau trefnu a’r ffordd y gwnaeth pawb ymateb mor gadarnhaol. Roedd yn bleser pur bod yn un o’r cwmni. Diolch eto. Edrych mlaen at y trip nesa rwan! Alwena ac Iwan Morgan Diolch dros Eleri a minnau. Mi wnaethon ni fwynhau yn fawr. Criw hwyliog a phawb yn tynnu ymlaen yn dda efo’i gilydd. Gwych! Richard ac Eleri Morgan
Lizard Point
Diolch i bawb am eu cwmni ac am daith mor bleserus. Mae’n dyled yn fawr i grŵp bach o swyddogion diwyd iawn. Meirion a Iona Richards
Trip ardderchog a diolch unwaith eto. Gobeithio gawn ni gyfle i ddod rhywdro eto. Diolch i bawb am gadw Llion ar y llwybr cul. John a Karen Kerry
19 A
GARDDWR PRYSUR
A beth am y blodau? ‘Byddaf yn prynu’r rheiny gan Ivor Mace sy’n arddwr tan gamp a chan gwmni Halls of Heddon.’ Mae ganddo fwy o ddiléit mewn blodau na llysiau ond mae o’n tyfu ychydig o lysiau a llawer o domatos - cymaint â 12 o fathau gwahanol - ac mae o’n rhannu llawer efo’i ffrindiau. Fel llawer un, mi ddysgodd Edwin Jones [Morlais] y grefft o arddio wrth draed ei dad, Thomas Morris Jones. Dechreuodd o ddifri pan oedd o’n 15 oed. Dydi o ddim yn cofio sawl gwaith yr enillodd o’r brif wobr yn Sioe Harlech - ‘llawer iawn ar hyd y blynyddoedd’ oedd yr ateb gefais i ganddo. Mae’n un da am gefnogi sioeau lleol eraill ac mae wedi cael amryw o wobrau ym Mhenygroes, Y Ffôr, Garndolbenmaen a Ganllwyd.
Ydi Mair yn ymddiddori yn yr ardd? ‘Ydi, hi sy’n gofalu am y gwely cerrig [rockery]!’ Ac mae Mair yn ychwanegu, ‘Cofia nodi ei fod wedi rhoi’r rhan fwyaf cysgodol o’r ardd i mi! Er hynny, mae’r ardd wedi bod yn dlws - yn arbennig pan oedd y pabi coch yn blodeuo.’
Fe welwch o’r lluniau fod ei ardd yn llawn blodau amrywiol. Delia [dahlia], ffarwel haf [chrysanths], blodau cleddyf [gladioli], dropsan, coleus a mynawyd y bugail [geranium] ydi’r rhai sy’n apelio ato. Fydd o ddim yn defnyddio tail o gwbl ac mae’n cymysgu ei gompost ei hun. ‘Rydw i hefyd yn prynu compost yn y Gymdeithas yn Llanbedr.’ Beth am hadau? ‘Mi fydda’ i yn prynu llawer o’r rheiny yn Nhremadog ac rydw i’n eithaf hoff o hadau cwmni Dobies.’ Roedd yn bleser pur cael gweld yr ardd a hithau yn ei gogoniant. Pleser hefyd oedd sgwrsio efo’r ddau enaid hoff cytûn.
A 20