Llais tachwedd 2017

Page 1

Llais Ardudwy 50c

MARATHON

RHIF 468 - TACHWEDD 2017

BAFTA I ERIN

Llongyfarchiadau mawr i Damon John, 30 Tŷ Canol, Harlech ar gwblhau marathon arall yn ddiweddar! Ar ôl mwynhau’r profiad o redeg marathon Llundain yn ôl ym mis Ebrill, roedd Damon yn awyddus i ddod o hyd i’w her nesaf, a phenderfynodd roi ei enw i lawr ar gyfer y marathon yng Nghaer yn yr Hydref. Llwyddodd i gwblhau’r cwrs mewn amser arbennig o dda 3:33:12, sef chwe munud yn gyflymach na redodd yn Llundain yn gynharach eleni! Fel rhan o’i ymarfer, fe redodd hanner marathon Abersoch ganol mis Medi, gan gwblhau’r cwrs hwnnw mewn 1:38:52. Dyma’r trydydd tro iddo redeg y cwrs ym Mhen Llŷn, ac eto, fe lwyddodd i gwblhau’r cwrs mewn amser da - bron i saith munud yn gyflymach na’r llynedd. Llongyfarchiadau gwresog i ti ar dy lwyddiant Damon, rwyt ti’n gwneud yn arbennig o dda!

PONT Y BERMO YN 150 OED

Mae Erin Gwilym o Lanrug (wyres Pris a Tecwyn Williams, Tŷ’r Acrau, Harlech) a Moi Hallam o’r Felinheli yn chwarae rhan y prif gymeriadau yn y rhaglen deledu boblogaidd ‘Deian a Loli’ a gynhyrchir gan Gwmni Da ac a ddarlledir ar ‘Cyw’. Cafodd y rhaglen ei henwebu gan Banel BAFTA Cymru ar gyfer y rhaglen orau i blant. Ar nos Sul, Hydref 8 roedd noson wobrwyo BAFTA Cymru yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Fe deithiodd sawl un o griw Deian a Loli yno, gan gynnwys Erin a Moi. Ar y noson, fe enillodd ‘Deian a Loli’ y wobr am y Rhaglen Blant Orau a chafwyd noson i’w chofio i Erin a’r criw. Mae Erin wedi mwynhau’r holl broses o actio rhan Loli yn fawr. Bu premiere y gyfres newydd yn ‘Pontio’, Bangor ar nos Iau, Hydref 19 gyda phob un o’r 600 tocyn wedi eu harchebu o fewn ychydig o oriau! Roedd Heno hefyd yn cyfweld yr actorion yn y premiere ac fe’i darlledwyd y noson honno. Mae’r ail gyfres wedi dechrau ers dydd Mercher, Hydref 25 ac fe fydd yn cael ei darlledu am 7:00 bob bore Mercher ar ‘Cyw’. Llongyfarchiadau mawr i Erin a’r criw ar eu llwyddiant.

Cafwyd penwythnos o ddathliadau ar Hydref 14/15 wedi ei noddi gan Gyngor Tref y Bermo i nodi pen-blwydd Pont y Bermo yn 150 oed; y draphont hiraf yng Nghymru. Yr uchafbwynt oedd arddangosfa goleuni laser a thân gwyllt wedi ei ganolbwyntio ar yr harbwr a’r bont. Daeth tyrfa fawr o bobl i’r Bermo i ymuno yn y dathlu a’r hwyl ac roedd awyrgylch tebyg i garnifal yn y dref. Mae’r bont, sy’n 700 llath o hyd, yn enghraifft wych o waith peirianyddol o’r 19eg ganrif ac mae’n cynnig lleoliad gwych ar gyfer mwynhau’r golygfeydd godidog sydd i’w gweld yn yr ardal, yn enwedig i gyfeiriad dyffryn Mawddach a Chader Idris. Rydym yn falch o ddeall bod Network Rail yn cydweithio â Chyngor Gwynedd a Cadw er mwyn atgyweirio’r bont a sicrhau ei dyfodol am flynyddoedd i ddod.


Llais Ardudwy

HOLI HWN A’R LLALL

GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn (01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com (07760 283024/01766 780541

SWYDDOGION

Cadeirydd: Hefina Griffith (01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com

Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis (01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones (01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@Intamail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 772960 Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Rhagfyr 1. am 5.00. Bydd ar werth ar Rhagfyr 6. Newyddion i law Phil Mostert y mis nesaf cyn gynted â phosib, ac erbyn Tachwedd 27 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

Dilynwch ni ar Facebook

@llaisardudwy 2

Enw Ieuan James Williams. Cefndir Byw yng Nghefn Gwyn, Ynys erioed, mynd i Ysgol Talsarnau, wedyn ymlaen i Ysgol Blaenau. Mynd i weini i Tyddyn Siôn Wyn yn 15 oed. Hoff le Ben Banc Cefn Gwyn, edrych drosodd am Ynys Gifftan a Phortmeirion ar ddiwrnod braf a phenllanw. Does unman yn debyg i gartref. Hoff ddiod Paned o de rŵan, ond yn hoff o beint o chwerw ers talwm gyda hogiau’r darts yn Brontrefor a’r Ship Aground. Pa dalent hoffech chi ei chael? Cael llais fel Mario Lanza. Roeddwn yn hoff o ganu penillion yn blentyn, yn Eisteddfodau yn Ynys, Talsarnau, Harlech, Llanfair, Dyffryn, Llanbedr, ac yn

ennill yn aml. Eisteddfod ym mhob pentre amsar hynny. Gŵr Kate Tŷ Gwyn sef Dewi Williams, Prifathro Talsarnau yn fy nysgu. Hoff liw Gwyrdd - wrth fy modd wedi bod yn ffarmwr erioed, oeddwn hefyd yn hoff o wisgo dillad gwyrdd; Muriel yn deud bod nhw yn fy siwtio. Beth fuasech yn ei wneud â £5,000? Eu rhoi i Angharad a Nathan am edrych ar fy ôl, ac mor driw. Beth yw eich bai mwyaf? Roedd Gareth fy mrawd a fi gyda thueddiad i roi llysenwau ar bobl, er enghraifft Gabriel os nad oeddem yn ei adnabod, Sgreglyn os nad oeddem yn ei hoffi, Cwmpeini os yr oedd yn helpu adeg cario gwair, ac yn dda i ddim. Hoff gerddor? Mario Lanza. Y tenor Americanaidd o gefndir Eidalaidd yn canu ‘Because, Be my Love’ ac ‘O Sole Mio’. Gwych o lais, rwyf yn dal i gofio geiriau’r gân ‘Because’. Hoff ddarn o gerddoriaeth? Caneuon Hogia’r Wyddfa, sef Caru Cymru, Tylluanod, Hwiangerddi, Safwn yn y Bwlch, geiriau R Williams Parry a Chrwys. Dyna i chi beth yw harmoni o leisiau. Byddaf reit hoff o ganu Roger a John Kerry, ‘Hogia Harlech’ hefyd. Maen nhw’n rhai

hynod o dda am edrych ar fy ôl ac yn ffrindiau triw iawn i mi. Hoff ddarn o farddoniaeth? Cofio’r dyddiau dedwydd hapus, Cofio’r cariad, cofio’r wên, Cofio’r gofal mawr amdanom Hiraeth nid yw’n mynd yn hen. Dros flwyddyn wedi mynd ers colli Miw, ac mae rhywun yn mynd yn hen. Hoff fwyd? Cinio dydd Sul gyda Heulwen ac Evie, pan fydd Angharad a Phil ddim adra. Hoff raglen teledu neu radio? Noson Lawen ers talwm, ond nid yw’r safon cystal rŵan. Fel arall, gwylio pêl-droed a golff. Gwyliau gorau? Nid wyf wedi bod ers blynyddoedd ond heibio Angharad i Gaer neu i Ysbyty Gwynedd! Pa ddawn sydd gennych? Chwarae pêl-droed i Talsarnau gyda hogia’r garej, wedyn rhedeg cŵn defaid dros Gymru’n rhyngwladol a handicap o wyth ar ôl dechrau chwarae golff bron yn hanner cant oed. Sut buasech yn disgrifio eich hun ar hyn o bryd? ’Chydig yn unig ar hyn o bryd ar ôl colli Muriel, ond mae gen i deulu a ffrindiau dedwydd a charedig yn galw neu ffonio bob dydd, a diolch amdanyn nhw.

Llwyddiant Seindorf yr Oakeley Llongyfarchiadau i Seindorf yr Oakeley, Blaenau Ffestiniog a’r arweinydd John Glyn Jones ar ennill y drydedd wobr ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Prydain yn ddiweddar. Daw tri aelod o’r Seindorf o ardal Llais Ardudwy sef Heledd Evans, Alan Smith ac Iwan Morus Lewis. Y wobr fawr oedd gwahoddiad gan Gymdeithas Bandiau Pres Cymru i gystadlu yn rowndiau terfynol Pencampwriaeth Bandiau Pres Gwledydd Prydain yn Cheltenham ym mis Medi gyda 19 o fandiau eraill o John O’Groats i Land’s End! Yn y fan honno, dyfarnwyd mai Seindorf Newmains o’r Alban oedd y pencampwyr gyda Seindorf Dinas Norwich yn ail a Seindorf yr Oakeley yn drydydd. Bellach mae’r Seindorf yn hynod brysur yn paratoi ar gyfer gweithgareddau’r Nadolig gyda’r holl ofynion blynyddol i chwarae carolau ac ymddangosiad yng Ngŵyl Fwyd Portmeirion ar y dydd Sadwrn a’r Sul, Rhagfyr 2 a 3. Pinacl y gweithgareddau eleni fydd Cyngerdd Nadolig Mawreddog yn y Ganolfan, Porthmadog ar nos Sul, Rhagfyr 17 gyda Chôr Ieuenctid Môn o dan arweiniad Mari Pritchard. Dyma gôr a ddaeth i’r brig yn Adran Ieuenctid cystadleuaeth Côr Cymru ar S4C eleni, ac yna ennill Gwobr y Gwylwyr ar noson y rownd derfynol. Yn ystod yr haf daeth mwy o lwyddiant iddynt yn yr Eisteddfod Genedlaethol pan fu iddynt ennill mwy o wobrau mawr ac i goroni’r cwbl dyfarnwyd yr anrhydedd iddynt gael eu dyfarnu yn Gôr yr Wyl. Dewch yn llu!


PEINTIO’R NEUADD GOFFA YN HARLECH

Dymuna pwyllgor Neuadd Goffa Harlech ddiolch yn ddiffuant i bawb a fu’n rhan o’r gwaith enfawr o ailaddurno’r neuadd ddechrau mis Hydref. Rhoddodd y bobl hyn oriau o waith er mwyn rhoi sglein ar y neuadd ac erbyn hyn mae’n edrych yn hardd iawn. Felly diolch yn fawr iawn i Dave Sullivan, Brian Bradley, John Brierley, Lee Warwick, Mike Hemsley ac yn arbennig Jim a Sheila Lees am gyd-drefnu’r gwaith. Diolch hefyd i C&D Window, Bermo am y sgaffaldiau, Kaleidoscope, Porthmadog a Huws Gray, Dyffryn Ardudwy am eu disgownt hael ac i bwyllgorau Sefydliad y Merched, Harlech a Roc Ardudwy am eu cyfraniadau ariannol hael. Y cam nesaf fydd rhoi sylw i’r gegin a’r toiledau yn y flwyddyn newydd gan fanteisio ar grantiau amrywiol. Y gobaith ydi y bydd hyn yn annog mwy o bobl i ddefnyddio’r neuadd arbennig sydd ar gael i ni yn nhref Harlech. Diolch yn fawr iawn i bawb. Linda Soar (Ysgrifennydd Neuadd Goffa, Harlech)

Cyfeillion Coedlannau Llanbedr Yn ardal Ardudwy, a Llanbedr yn arbennig, mae nifer o goedlannau hynafol sydd o ddiddordeb amgylcheddol arbennig. Mae nifer o bobl sydd â diddordeb mewn coed a’r llystyfiant a geir yn y coedwigoedd wedi sefydlu cymdeithas ‘Cyfeillion Coedlannau Llanbedr’ ac yn awyddus iawn i ehangu’r aelodaeth a denu mwy o wirfoddolwyr i gynorthwyo i gynnal a chadw’r coedlannau. Er mwyn eu gwneud yn llefydd deniadol i’r cyhoedd ymweld â nhw, mae angen cadw llwybrau a chreu rhai newydd, rheoli mieri, creu amgylcheddau er mwyn ychwanegu at y math o goed, ailgodi waliau cerrig, a chreu llecynnau ar gyfer gweithgareddau awyr agored. Mae’n gyfle i ddod i adnabod coed a phlanhigion drwy gyfarfod ag arbenigwyr a mynychu cyrsiau. Yn ogystal â’r gwaith cynnal a chadw, mae’r cyfeillion yn cydweithredu gyda Pharc Eryri, Coed Cadw a mudiadau amgylcheddol eraill. Maen nhw wedi cymryd rhan mewn archwiliadau gwyddonol gan Brifysgol Bangor i’r amrywiaeth o lystyfiant sydd i’w gael yn y coedlannau ac yn trefnu teithiau cerdded

natur a digwyddiadau yn y coed. Mae’n gyfle i rai ddysgu am ein cynefin ac i rai sydd â gwybodaeth leol drosglwyddo’r wybodaeth i eraill, yn arbennig i ddisgyblion Ysgol Llanbedr sydd â chysylltiad arbennig â’r cyfeillion. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Nick White ar 01341 247959 neu e-bostiwch Nick.white545@btinternet.com. Mae Nick yn ddysgwr a bydd yn falch o gael cyfle i ymarfer ei Gymraeg. Fel arall, gallwch alw i mewn i un o’r digwyddiadau. Dyma raglen mis Tachwedd: Sadwrn, Tachwedd 11 am 10:00, Coed Hafod y Bryn, rheoli mieri Sadwrn, Tachwedd 25 am 10:00, Coed Aberartro, torri celyn. Ar gyfer y cyfarfodydd hyn fe ddylech ddod â menig gwaith, gwisgo’n addas a dod â phecyn bwyd. Mae coed Hafod y Bryn yn agos i bentref Llanbedr, ar y ffordd sydd yn mynd i fyny’r allt heibio Bryn Deiliog. I fynd i Goed Aberartro, dilynwch ffordd Cwm Bychan am tua milltir ac yna troi i’r dde heibio Plas Aberartro ac i fyny’r allt.

3


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Colli dau frawd Trist yw cyhoeddi marwolaeth dau frawd, sef Leonard Wynne a Derek Jones; Leonard ar y 27 Awst 2017 yn 83 oed yn yr Amwythig a Derek ar 31 Awst 2017 yn 85 oed yn Vancouver, Canada. Roedd y ddau yn feibion i’r diweddar Lewis a Gwendoline (Gweno) Jones, Ty’n Llan ac yn frodyr i Raymond. Anfonwn ein cydymdeimlad â’r teulu yn eu colled. Cydymdeimlad Ar Hydref 1af yn ei gartref yn Abergele, yn 74 mlwydd oed, bu farw Mr Colin Griffiths. Cydymdeimlwn yn fawr â’i wraig Muriel, ei blant Gareth, Geraint, Bethan, Calfyn a’u teuluoedd yn eu profedigaeth. Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn y Neuadd Bentref, bnawn Mercher, 18 Hydref. Croesawyd pawb gan Gwennie. Diolchodd i Bwyllgor Celf yn y Llan am eu cyfraniad o £50 i’r teulu a hefyd i’r Cyngor Cymuned am eu cyfraniad o £200. Rydym yn wir yn eu gwerthfawrogi. Trafodwyd y fwydlen cinio Nadolig yn Nineteen57. Yn ôl ein harfer ym mis Tachwedd, cawsom Wasanaeth Diolchgarwch bendithiol iawn wedi ei drefnu gan Hilda gydag Anthia a Gwennie yn ei chynorthwyo. Diolchwyd iddynt gan Mrs Beti Parry. Rhoddwyd y raffl gan Lorraine, Iona, Iris ac Eleri. Ar 15 Tachwedd, byddwn yn cael hanes ei gyrfa fel cynllunydd defnyddiau gan Mrs Juanita Jones. Clwb Cinio Ddydd Mawrth, Hydref 17 aeth criw bach ohonom am ginio i Westy’r Fictoria yn Llanbedr. Roedd amryw o’r ffyddloniaid i ffwrdd ac eraill yn methu dod ond cafwyd cinio blasus a sgwrsio difyr iawn. Gobeithiwn fynd i Hafan Artro yn Llanbedr fis Tachwedd, dyddiad i’w drefnu. Diolch Diolch am rodd o £10 gan Aled Corps

4

Diolch Diolch i W H Owen a Patricia Jones am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu eu tanysgrifiadau. Diolchgarwch Fore Sul Hydref 15, cynhaliwyd gwasanaeth Diolchgarwch yn Horeb wedi ei drefnu gan Mai a Rhian Roberts, gyda’r plant a’r oedolion yn cymryd rhan a chafwyd gwasanaeth hyfryd iawn. Roeddem wedi gwneud cais am fwydydd sych a thuniau bwyd a chafwyd ymateb ardderchog. Aeth Rhian ac Alma a hwy i’r banc bwyd yn y Bermo. Diolch yn fawr i bawb. Festri Lawen, Horeb Cynhaliwyd cyfarfod cynta’r tymor ar nos Iau, Hydref 12 a chafwyd noson yng nghwmni ‘Talent Ardudwy’, sef parti o 5 o bobl ifanc sef David ac Elsi Bissiker, Alaw a Cerys Sharp, Gwenno, Lasynys a dau oedolyn, Mike o’r Ynys a Ceri o Lanfair sy’n eu hyfforddi, a hi arweiniodd y noson. Maen nhw i gyd yn aelodau o Fand Bach Harlech. Cafwyd eitemau gan y grŵp cyfan, ynghyd ag unawdau ar y piano gan David a sawl unawd ar y corn hefyd, unawdau ar y delyn gan Gwenno a deuawd ar y corn gan Ceri a David. Roedd yn noson arbennig iawn a phawb wedi mwynhau ac yn edmygu eu dawn. Diolchwyd iddynt gan Gwennie gan eu hannog i ddal ati a diolch i Ceri am eu hyfforddi. Bydd y cyfarfod nesaf ar Dachwedd 9fed am 7.30 yng nghwmni’r Parch Iwan Ll Jones. Haelioni Ar ddydd Sul ym mis Hydref aeth nifer fawr o’r ardal i Nineteen57 i gael cinio. Roedd Siôn Wellings sy’n rhedeg Nineteen 57 yn cyfrannu £5 at darged Horeb tuag at Gorwynt Cariad, Apêl Eglwys Bresbyteraidd Cymru at y Philippinas, am bob pryd a archebwyd, a derbyniwyd siec gan Siôn am £450. Diolch o galon, Siôn, am dy haelioni; rydym yn gwerthfawrogi dy gyfraniad yn fawr iawn. Erbyn hyn rydym wedi casglu £950.

65 Mlynedd o Fywyd Priodasol

Dathlu Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Ken a Beti Roberts, Bellaport, oedd yn dathlu 65 mlynedd o fywyd priodasol ar Hydref 11. Rhodd: £20

Gwasanaethau’r Sul, Horeb TACHWEDD 12 Anwen Williams 19 Eluned Williams 26 Anthia a Gwennie RHAGFYR 3 Gwasanaeth Nadolig

Cydymdeimlad Ar 11 Hydref yn ei gartref 6 Ffordd yr Orsaf, Dyffryn, bu farw Mr William (Bill) Chambers. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at ei wraig Buddug, ei blant Debra, Kevin, Steffan ac Ela a’r teulu oll yn eu profedigaeth.

Llais Ardudwy

Cydymdeimlad Ar Hydref 23, bu farw Mrs Mary Morris Jones, Doleiddion, Rhydymain (Mary Pantenddwyn gynt). Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at ei phriod Thomas Idris, ei phlant a’u teuluoedd ac at y cysylltiadau teuluol yma yn Dyffryn.

DYDDIADUR Y MIS

Hoffem gynnwys dyddiadur yn manylu ar ddigwyddiadau yn yr ardal bob mis yn y papur hwn. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn gyfrifol am ei gasglu ynghyd, yna dewch i gysylltiad ag un o’r golygyddion. Mae’n bwysig bod gennych gyfeiriad e-bost!

Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd

Tel: 01341 247799

www.smithygarage-mitsibushi.co.uk smithygaragedyffryn

smithygarageltd

Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes


Eisteddfod Ardudwy Gŵyl Flynyddol y Nadolig 1932 Marjorie Jones

Y diweddar Barch Ganon R Dwyfor a Marjorie Jones ar ddydd eu priodas

Mae’n siŵr bod llawer yn cofio’r diweddar Barchedig Ganon R Dwyfor Jones yn rheithor yma yn ardal y Dyffryn. Ar Fedi 28, bu farw ei wraig Marjorie Patricia Jones yn 85 oed. Roedd yn byw yn Llandudno. Cydymdeimlwn â’i phlant Ann, Margaret a Gwilym a’u teuluoedd yn eu profedigaeth. Yn ystod ei deyrnged i’w fam, soniodd Gwilym am yr amser hapus a dreuliasant fel teulu yma yn ardal y Dyffryn a lle mor braf oedd o i blant dyfu i fyny.

Elusen Ellin Humphrey Mae Elusen Ellin Humphrey yn cynnig grantiau bychain i fyfyrwyr sy’n cychwyn cwrs prifysgol. Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn y gefnogaeth ariannol, rhaid i fyfyrwyr fod o dan 25 oed ac yn byw naill ai yn Nyffryn Ardudwy (LL44) neu Dal-ybont (LL43). Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydy 15 Tachwedd 2017, felly dylai unigolion sy’n teimlo eu bod un gymwys i dderbyn grant gysylltu â’r Clerc, Catrin Edwards ar 07917 101704 neu ar catrin.edwards13@icloud.com cyn gynted â phosib.

CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT CEISIADAU CYNLLUNIO Dymchwel lolfa wydr ac adeiladu estyniad yn y cefn - 2 Ty’n Llidiart, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Cais ôl-weithredol am addasiadau i ran o’r to - Dor Eca, 13 Llwyn Ynn, Tal-y-bont. Cefnogi’r cais hwn. MATERION YN CODI Grŵp Gwella Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont Mae’r peiriant diffib wedi ei osod yn y garej erbyn hyn ac yn gweithio. Mae trefniadau’n cael eu gwneud ar gyfer hyfforddiant pêl-droed plant y pentref a fydd yn cychwyn yn fuan. Y nod tymor hir yw ailsefydlu tîm pêl-droed plant. Archwilio’r llochesi bws, mynwentydd a pharciau chwarae Cafwyd adroddiad llawn gan Siôn Ifor Williams a nododd fod angen sylw i rai materion. Hamdden Harlech ac Ardudwy Cytunwyd i gynnal cyfarfod cyhoeddus gydag aelodau o Hamdden Harlech ac Ardudwy ynglŷn â’r cynllun praesept cyn gwneud penderfyniad a fydd y Cyngor yn sefydlu’r un trefniant gyda hwy eto a chynhelir hwn ar y 24ain o Hydref yn y neuadd bentref am 7.30 o’r gloch. Ceisiadau am gymorth ariannol Hamdden Harlech ac Ardudwy - £4,871.07 Pwyllgor Neuadd Bentref - £1,500.00 Ambiwlans Awyr Cymru - £500.00 Teulu Ardudwy - £200.00 Canolfan Hamdden Harlech - £400.00 UNRHYW FATER ARALL Mae angen torri’r eiddew ger pont Tal-y-bont. Mae angen sylw ar y ffordd o Fro Enddwyn i Bron Foel a sylw mawr ar y ffordd o Bron Foel Ganol at Talffynhonnau oherwydd bod y ffordd bron â diflannu mewn mannau. Bu bron i yrrwr fynd oddi ar y ffordd ger Bryn Bywyd yn ddiweddar ac mae angen gofyn i Gyngor Gwynedd ystyried sut i leihau’r dŵr sy’n dod i’r ffordd ar dywydd garw yn y fan hon. Mae angen gofyn i BT symud y polyn a osodwyd ar ochr Ffordd Tyddyn y Felin oherwydd ei fod yn culhau’r ffordd yn fwy nag y mae hi eisoes.

Y Buddugwyr Cynhaliwyd Eisteddfod Nadolig Ardudwy 1932 yn y Neuadd Newydd, Dyffryn, a chafwyd dau gyfarfod campus, gan fod y cystadlu o radd uchel. Y beirniad cerdd oedd Mr Gordon Price, Bala, a beirniadwyd yr adrodd gan Mr Llew Williams, Llanuwchllyn. Gwnaethant eu gwaith i fodlonrwydd pawb. Yr arweinydd ydoedd y Parch J O Jones MC. Gwnaeth yntau ei waith yn gampus. Llywydd y Pwyllgor oedd Mr R Jones, Briws; trysorydd Mr William Parry, Tyn-y-coed, ysgrifennydd Mr J H Lewis, Ty’r Eiddew. Cyfeiliwyd gan Miss Janet Roberts, Dyffryn a chanmolwyd ei gwaith. Yn ôl ei arfer, cafwyd rhodd sylweddol oddi wrth Mr W Roberts, Utica, America, tuag at roddi gwobr i bob plentyn oedd yn cystadlu. Mab ydyw Mr Roberts i’r diweddar Mr a Mrs J Roberts, Bellaport. Cafwyd rhoddion hefyd gan Mr George Jones o’r America, a chynt o Felin y Brenin, Dyffryn a Miss Elsie Jones BA, Dyffryn. Llywydd yr Eisteddfod ydoedd Mr Charles Phibbs, Llanbedr. Diolchwyd i bawb ar ran y pwyllgor gan Mr E Humphrey Parry. Cyfarfod y Prynhawn Adrodd dan 10: 1 Laura Jane Edwards, 2 Dilys Roberts, 3 Elsie Pugh ac Elinor Jones, Penrhyn Unawd dan 8: 1 Mona Pugh, 2 Olwen Thomas, 3 Gwendoline Taylor. Unawd 8-11: 1 Ceinwen Edwards, 2 Margaret Jones, 3 Lilian May Edwards a May Roberts. Canu’r berdoneg dan 14: 1 Lorna Davies, 2 Eryl Hughes, 3 Morgan Wynne. Unawd 11-14: 1 Catherine Davies, Llanbedr, 2 Doris Lewis. Adrodd dan 14: 1 Doris Lewis, 2 Phoebe Pugh, 3 Catherine Davies. Canu gyda’r tonau dan 14: 1 Gwenfron Jones Unawd 14-18: 1 Miss Gwendo Jones, 2 Miss Gwenfron Jones, 3 Miss Laura Lewis, Bontddu. Parti 12 o blant: 1 Parti Miss Margaret Morris, 2 Parti Miss Anita Griffith. Côr plant: 1 Parti’r Pentre, dan arweiniad Miss Morris, Pentre Canol.

Llais Ardudwy CYFARFOD BLYNYDDOL LLAIS ARDUDWY

yn ADEILAD Y BAND HARLECH Nos Iau, Tachwedd 23 am 6.00 o’r gloch Mae hwn yn gyfarfod sy’n agored i holl ddarllenwyr y papur. Dewch i gefnogi er mwyn sicrhau bod y papur yn ffynnu i’r dyfodol.

SYLWER Os gwelwch yn dda, mae angen i bawb anfon eu newyddion i law Phil Mostert y mis nesaf cyn gynted â phosib ac erbyn Tachwedd 27 fan bellaf. Os gwelwch yn dda: • Ni ddylai unrhyw goffâd fod yn hwy na 600 gair. • Ni ddylai unrhyw newydd am gyfarfodydd cymdeithasau fod yn hwy na 250 gair. • Lluniau ar ffurf jpg. • Mae’n hwyluso ein gwaith yn fawr os gallwch anfon cyfraniadau ar e-bost, ond heb bwyso’r botwm ‘return’! 5


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Gŵyl Gwrw Mae Pwyllgor Gŵyl Gwrw Llanbedr wedi cyflwyno siec am £ 150 i Uned Trawsblannu Mêr Esgyrn Ysbyty Brenhinol y Plant ym Manceinion. Casglwyd yr arian yn seremoni cynnau goleuadau Nadolig yn y pentref y llynedd. Roedd y cyfraniad yn cydnabod y driniaeth a ddarperir yn yr ysbyty i unigolyn ifanc lleol sy’n dioddef o lewcemia. Goleuadau’r Nadolig Eleni bydd y goleuadau yn cael eu cynnau ar nos Wener, 8 Rhagfyr. Disgwylir y bydd y canu carolau ac adloniant arferol, groto Siôn Corn yn ogystal â stondinau bwyd. Bydd y casgliad y tro hwn yn cael ei roi i Ysgol Hafod Lon ym Mhenrhyndeudraeth a fydd yn anfon cynrychiolwyr i gynnau’r goleuadau. Mae Ysgol Hafod Lon yn ysgol newydd i blant gydag anghenion ychwanegol. Pwyllgor Gŵyl Gwrw Llanbedr sydd yn trefnu’r goleuadau. Diolch Dymuna Brian a Betty, Pentre Gwynfryn, ddiolch i’r teulu am benwythnos ardderchog yn Ninbych-y-pysgod ac i’r cyfeillion am y cardiau ac anrhegion. Diolch £10 Gartref o’r ysbyty Rydym yn falch o glywed bod Carwyn Roberts, Bryn Deiliog, adra o’r ysbyty ar ôl cael trawsblaniad. Dymunwn iachâd buan iti. Yn yr ysbyty Dymunwn iachâd buan i John Wynne, Glyn Artro, yntau yn Ysbyty Gwynedd. Cofion Anfonwn ein cofion at Gwen Simpson, Bryn Deiliog, sydd ar hyn o bryd yn Ysbyty Gwynedd.

Neuadd Llanbedr CYLCH MEITHRIN LLANBEDR

FFAIR NADOLIG Dydd Sadwrn, Rhagfyr 2 am 2.00 y pnawn

Stondinau Crefftau, Cacennau, Anrhegion Nadolig, Chwaraeon, Te a choffi a ‘Mins Peis’ Mae Siôn Corn wedi addo bod yn bresennol yn ystod y p’nawn i weld y plantos! Croeso cynnes i bawb

6

Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch

TACHWEDD 12 Capel y Ddôl, Parch W H Pritchard 19 Capel Salem, Parch Dewi Tudur Lewis RHAGFYR 3 Capel y Ddôl, Parch Dewi Tudur Lewis

Pont y Bermo Clywais hanesyn yn y Cwm pan oeddwn yn ifanc fod Mrs Dorothy Stephens, Maesgarnedd, wedi mynd ar daith dros bont Bermo, y tro cyntaf i’r trên fynd dros y bont ac wedi cael mynd drosti am ddim yn 1867. Roeddwn yn rhyw feddwl ei bod wedi cerdded o Maesgarnedd ond erbyn imi wneud fy sỳms a sylweddoli nad oedd Dorothy Stephens ond merch ifanc 18 oed ac wedi ei geni yn Llanfair, mae’n debyg fod trenau yn rhedeg o’r gogledd bryd hynny cyn belled â’r Bermo. Erbyn 1891, roedd Dorothy Stephens a’i gŵr Stephen Stephens yn byw ym Maesgarnedd. Roeddynt yn hen daid a hen nain i Meira a Beti Mai, a Rhian ac Iola Rhosfawr. Y cof cyntaf sydd gennyf o gerdded dros Bont y Bermo oedd i’m mam fynd â ni ein tri am dro i Arthog yn y pedwardegau i ymweld â ffrind iddi yn Erwgoed. Rwy’n dal i gofio’r dorth gyrants ffres gawsom yno i de gan Mrs Edwards. Fel rwyf yn heneiddio mae atgofion melys yn dod yn ôl yn aml iawn. G Jones

Teulu Artro Cafwyd ein cyfarfod cyntaf o’n tymor newydd ar 5 Medi, gyda chinio yn Tŷ Mawr. Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan Gweneira ac roedd yn dda gweld Elisabeth yno. Diolchwyd i’r rhai a ofalodd am y rafflau, ac i Iona am drefnu’r rhaglen. Cafwyd cinio da, a phawb yn mwynhau’r sgwrsio yn y lolfa. Ar 3 Hydref cynhaliwyd ein cyfarfod yng Ngwesty’r Fictoria. Croesawyd pawb gan Gweneira ein Llywydd, a hynny i’n cyfarfod Diolchgarwch. Rhoddodd groeso cynnes i Mrs Alma Griffith, a chawsom naws hyfryd yn y cyfarfod trwy weddïau, darlleniadau ac atgofion. Glenys a roddodd y diolchiadau.

Merched y Wawr Nantcol Croesawodd Anwen, y Llywydd, bawb i fyny i’r Cwm nos Fercher Hydref 4ydd. Yna cyflwynwyd y ddwy wraig wadd - Manon a Lisa, o Salon Harddwch ‘Beautique’ ym Mhorthmadog. Cafwyd arddangosfa gan Lisa wrth iddi egluro a dangos sut i drin y croen cyn gwisgo colur, a hynny trwy ddefnyddio wyneb Manon fel model. Eglurwyd sut i ddefnyddio colur i ddangos yr wyneb ar ei orau, yn ogystal â sut i guddio brychau ac yn y blaen. Yna cafodd yr aelodau gyfle i geisio gwneud yr un fath ar wynebau ei gilydd - rhai yn fwy parod i wneud hynny na’r lleill, ac ar y diwedd dyfarnodd Lisa a Manon y wobr o becyn o ddanteithion i Mair am ei hymgais ar wyneb Ann. Diolchodd Anwen yn gynnes iawn i’r ddwy am noson hwyliog, ddiddorol a defnyddiol dros ben. Cyflwynwyd pecyn

bach o wybodaeth am y gwahanol driniaethau sydd ar gael yn y salon i bob aelod ar y diwedd, yn ogystal â thocyn disgownt i bawb fydd yn ymweld â ‘Beautique’. Aelodau Tal-y-bont oedd yn gyfrifol am y baned, a Jean enillodd y raffl. Llongyfarch Llongyfarchiadau i Elfed Wyn Jones, Ty’nllan, a oedd yn un o 200 a wnaeth y daith o Lundain i Baris, Ffrainc, ar gefn beic i gasglu arian at y Lleng Brydeinig ar ddechrau mis Mai. Rhodd £5

Cymdeithas Cwm Nantcol Tachwedd 13 Parch Marcus Robinson ‘Y gaplaniaeth yn ei holl amrywiaeth.’ Tachwedd 27 J Bryn Williams ‘Mab y Mans.’

YMATEB I’R LLUN

Dwi’n nabod dau yn y llun: Rhes gefn, 4ydd o’r chwith, Wyn Edwards, Cromlech, Dyffryn. Ar y pryd, roedd o’n beintar yn gweithio i Wil Parry. Yn y rhes flaen, ail o’r chwith Colin Edge, trydanydd yn gweithio i D Cooke. Wedyn fe aeth i weithio yn Garej W D Pugh, Dolgellau. Bu ei wraig Brenda â busnes trin gwallt yn Llanbedr. Dan Jones, Harlech Rhes Gefn: 4ydd o’r chwith - Brian Mitchelmore, Llanfair, 5ed o’r chwith - Wyn Edwards, Dyffryn Ardudwy [wrth ymyl Llew Penrallt], 3ydd o’r dde - Les Cable, Harlech. Di-enw Y 3ydd yn y rhes gefn oedd Les Cable [adeiladwr nes iddo gael damwain] a siopwr. Roedd yn frawd yng nghyfraith i Ifan Ellis, cyntaf ar y chwith yn y cefn. Roedd Ifan yn adeiladwr ac yn bêl-droediwr adnabyddus a golffiwr da. [Pencampwr Prydeinig y Stiwardiaid.] Roedd hefyd yn ganwr da. Roedd ei fam yn chwaer i wraig W D Williams. Roedd coffâd i’w merch, Nia, yn Llais Ardudwy ychydig o flynyddoedd yn ôl. Bu farw ei brawd, Dr Iwan Bryn Williams ym Mhorthmadog ym mis Hydref eleni. Byddai’n treulio ei wyliau haf gyda’i ddewyrth, Griff Williams ym Modurdy Dewi Sant. Mae achau’r teulu yn Harlech, Llanfair a Llanbedr yn dyddio’n ôl i’r 18fed ganrif o leiaf. Dymuniadau gorau, Gwyn Cable


LLANFAIR A LLANDANWG Dilys Hughes

Ganwyd a magwyd Mam yn Llanfair, Harlech. Roedd ganddi ddwy chwaer sef y diweddar Annie a Barbara (Babs) ac un brawd, y diweddar Arwel. Bu i Mam gyfarfod â’i diweddar ŵr Dad, sef Tomi, ar ôl i’r rhyfel orffen tua 1946 pan oedd hi’n gweithio yng nghaffi’r ‘Snack Bar’ yn Harlech. Fe briodwyd y ddau ym mis Tachwedd 1949 ac fe fuon nhw’n briod am 59 o flynyddoedd cyn i Dad farw ym mis Mawrth 2009. Cawson nhw un ferch (fi, Sharon) ym mis Mai 1962. Ar ôl priodi bu’r ddau yn byw yn y Neuadd Goffa yn Llanfair fel gofalwyr. Wrth i iechyd ei Mam waelu, aeth Mam a Dad i fyny i fyw atyn nhw yn Awelfor, Llanfair, ac yno y buon nhw’n byw am y rhan helaetha o’u bywyd priodasol. Bu Dad yn gwneud gwahanol swyddi fel dyn lludw, dyn glo a dreifar tacsi a hers, a bu Mam yn gweithio mewn gwahanol westai a thai gwely a brecwast yn glanhau. Ymhellach ymlaen aeth Dad i weithio yn yr RAE yn Llanbedr a bu Mam yn gweithio yng ngheginau’r ysgolion cynradd ac uwchradd. Bu iddyn nhw symud i lawr i Harlech yn 1974 i Hyfrydle, ac yno buon nhw tan tua diwedd 1990 pan symudon nhw i Ddolgellau i Hen Felin i fod yn nes ataf fi, cyn gorfod symud i Gartref Preswyl Hafod Mawddach yn y Bermo yn 2007/08. Yn anffodus bu Dad farw ym mis Mawrth 2009 ac wedyn aeth salwch dementia Mam yn waeth, ac fe symudwyd hi i Bontnewydd a bu yno tan fis Chwefror 2011 pan aeth i’r Pines yng Nghricieth, lle cafodd ofal arbennig iawn. Bywyd syml traddodiadol Cymraeg oedd ganddom ar yr aelwyd. Cefais fagwraeth lawn cariad gan y ddau, a’m cynnal ar y ffordd iawn mewn bywyd. Roedd Mam a fi yn ffrindiau gorau, yn ogystal ag yn fam a merch, a medrwn ddweud unrhyw beth wrthi. Roedd Mam yn ddynes llawn bywyd a llawn hiwmor ac yn dweud ei barn heb flewyn ar ei thafod, ond yn dal dim dig. Roedd yn hoff o blant ac yn mwynhau gweithio yng nghegin yr ysgol, ac Anti Dil oedd hi i blant ym mhobman. Roedd croeso acw ar yr aelwyd bob amser, a byddai’r pot te yn mynd yn wastad, a byddai’n ffysian yn gwneud siŵr bod gan bawb gacen i’w bwyta. Roedd Mam yn hoff o bêl-droed: bu’n chwarae gyda thîm pêl droed merched Llanfair pan oedd yn hogan ifanc, ac am flynyddoedd lawer buodd yn ‘tea lady’ i Glwb Pêl-droed Harlech ar bnawn Sadwrn ym mhob tywydd. Roedd Mam yn hoff o’r lliw coch a byddai wastad ganddi gardigan neu gôt goch, ac wrth gwrs ai hi byth allan heb ei ‘trademark’ lipstic coch ymlaen! Roedd wastad yn smart. Byddai’n hoff iawn o liwiau’r hydref hefyd. Byddai’n hoff iawn o anifeiliaid a chathod yn arbennig, fel finnau. Roedd ei chapel a’i chrefydd yn bwysig i Mam. Byddai’n hoff o ganu, a byddai’n canu ar dop ei llais i gyfeiliant y canu emynau ar y radio ar bnawn Sul. Byddai yn hoff iawn hefyd o gorau meibion, a byddem ein dwy yn mynd i wrando ar Gôr Ardudwy a Chôr y Brythoniaid yn aml. Hyd yn oed yn ddiweddar rŵan, roedd Mam yn dal i ganu. Roedd pawb ymhobman yn hoff o Mam ac roedd hithau’n hoff o bobl. Dynas arbennig iawn oedd hi, â chalon fawr yn llawn o gariad a hiwmor a ‘twinkle’ yn ei llygaid. Mae cyn-gymydog i Mam o Lanfair, Anti Gwen, yn deud mai hi oedd y cymydog gorau gafodd hi erioed, y sort ora. Roedd Mam wedi bod trwy lawer yn ei bywyd, ac fel llawer o rai ei hoedran hi wedi byw trwy adegau llwm iawn ar ôl y rhyfel ac wedi gorfod byw yn gynnil ac wynebu caledi, ond roedden nhw yn ei wynebu a chario ymlaen trwy bob dim. Credaf fod hyn, y ‘true grit’ yma, wedi ei chynnal ar hyd ei bywyd. Hefyd roedd cariad wedi ei chynnal, achos roedd llawer iawn o hwnnw o’i chwmpas hi. Roedd Dad a finnau yn ei charu’n enfawr - dynes fach oedd hi o ran maint, ond roedd ganddi galon fawr llawn cariad, a phersonoliaeth fawr hefyd. Diolch am ei chael fel Mam am yr holl flynyddoedd. Mae Dad a hi nôl efo’i gilydd rŵan. Nos Da Mam, cwsg yn dawel. Sharon

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR MATERION YN CODI Polisïau Risg y Cyngor Cafwyd adroddiadau gan nifer o gynghorwyr ynghylch man waith sydd angen ei wneud yn y gymuned ac mae’r Cyngor wedi trefnu fod pob eitem a drafodwyd i gael sylw yn fuan. Gwefan y Cyngor Mae Cyngor Cymuned Harlech wedi penderfynu sefydlu gwefan newydd i’r Cyngor a’u bod wedi cytuno cynnwys Cyngor Cymuned Llanfair ynddo. Ceisiadau am gymorth ariannol Canolfan Hamdden Harlech - £100 GOHEBIAETH Adran Briffyrdd Bydd y Cyngor yn archwilio’r tyllau yn y ffordd ger Llwyn a Thy’n Llidiart, Pensarn, ac yn trefnu i ymgymryd ag unrhyw waith angenrheidiol pe bai angen. UNRHYW FATER ARALL Cytunwyd bod y Cadeirydd yn gosod y dorch flodau pabi ar Sul y Cofio. Mae’n fwriad i greu ramp ar gyfer mynediad i borth yr Eglwys. Diolchwyd I Mr Robert G Owen am glirio’r goeden a oedd wedi cwympo yn y fynwent newydd. Mae angen cadw llygad ar y llwybr cyhoeddus o Uwchglan am Hengaeau a’i roi ar y rhestr o lwybrau 2018. Ar ôl trafodaeth cytunwyd i dynnu’r lloches bws i lawr ger croesffordd Frondeg oherwydd ei fod mewn cyflwr bregus, hefyd bod gormod o gostau i’w drwsio a hefyd y ffaith nad oes neb yn aros ynddo am fws erbyn hyn.

Merched y Wawr Harlech a Llanfair Croesawyd yr aelodau, aelodau cangen Talsarnau a’r wraig wadd Bethan Gwanas gan Hefina, ein Llywydd. Daeth Bethan â nifer o lyfrau a ysgrifennwyd ganddi dros y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys llyfrau i blant, oedolion a dysgwyr. Mae hi’n awdures boblogaidd iawn yn ogystal â chyflwynydd dawnus ar y radio a’r teledu. Mwynhawyd orig ddifyr iawn yn ei chwmni; roedd hynny yn amlwg o ymateb yr aelodau. Janet roddodd ddiolch iddi ar ran y gangen gyda Mai yn diolch ar ran cangen Talsarnau. Edwina, Gwenda a Bronwen oedd yn gyfrifol am y danteithion a Cassie enillodd y raffl.

Clwb 200

Côr Meibion Ardudwy

HYDREF 2017 £30 Wyn Jones £15 Donna Williams £7.50 Edwin Jones £7.50 Heulwen Jones £7.50 Gwyneth Meredith £7.50 John Williams [Coety] TACHWEDD 2017 £30 Jean Jones £15 Ann Lewis £7.50 Roger Kerry £7.50 Helen Williams £7.50 Ynyr Edwards £7.50 Smithy Garage Neuadd Goffa, Llanfair

GYRFA CHWIST

ar y drydedd nos Fawrth yn y mis am 7.00 o’r gloch Croeso i ddechreuwyr.

CYFARCHION NADOLIG RHIFYN RHAGFYR Os ydych am gynnwys cyfarchion yn ein rhifyn Nadolig, cofiwch gysylltu’n fuan. Buasai cyfarchion yr un maint â’r blwch hwn [heb y llun] yn costio £6.

7


HARLECH Teulu’r Castell Cynhaliwyd y cyfarfod yn Llanfair ar 10 Hydref. Croesawodd Edwina Evans yr aelodau oedd yn bresennol. Dymunwyd pen-blwydd hapus i Olwen Jones oedd yn dathlu ei phen-blwydd y diwrnod yma. Dymunwyd yn dda i Gwenda Jones a Maureen Jones, y ddwy ddim yn dda iawn, ond wedi dod i’r cyfarfod, a braf iawn oedd gweld Rhiannon Jones yn ôl ar ôl ei thriniaeth. Diolchwyd i Susan Jones am arfraffu’r rhaglen am y flwyddyn; i Maureen Jones am wneud y daflen ariannol ac i Pete Smith am edrych Dilys Hughes drosti. Ar 15 Hydref, bu farw Dilys Hughes, Mi fydd y cinio Nadolig yn y Bistro, gweddw’r diweddar Tommy a mam Harlech, ar ddydd Iau, 7 Rhagfyr, Sharon, yng nghartref The Pines, am 1.00 o’r gloch. Cricieth, yn 90 mlwydd oed. Cafwyd prynhawn difyr. Y testun Cynhaliwyd gwasanaeth angladdol oedd gan Edwina oedd ‘Atgofion i Dilys ar fore dydd Mawrth, am Ddoe’, hanes Harlech yn 1947 24 Hydref, yn Eglwys y Santes pan ddaeth yma i fyw o Ddyffryn Fair, Dolgellau, lle daeth teulu a Ardudwy. Mi oedd yna 64 o chyfeillion ynghyd i gofio amdani. fusnesau yn Harlech bryd hynny Dilynwyd gan wasanaeth byr yn ac roedd Edwina’n cofio pawb Amlosgfa Aberystwyth. oedd yn byw yma neu’n gweithio Os hoffech gyfrannu at Ymchwil yma. Roedd stesion Harlech yn Dementia er cof am Dilys, cyflogi 7 o staff, a’r trenau yma am cysylltwch â’r trefnydd angladdau, 6.30 y bore, yn cario glo, y post a’r Glyn Rees a’r Mab, Dolgellau. Yn papurau. Roedd yma 7 capel ac ystod y gwasanaeth, darllenwyd eglwys, a’r rheini’n reit llawn bob teyrnged gan Sharon i’w mam gan dydd Sul. Dyna wahaniaeth mawr y Parch Tim Webb, Dolgellau. i weld Harlech rŵan. Diolch i Sharon am fod mor fodlon Mi oedd Susan Jones wedi dod â i ni rannu ei hatgofion am ei mam. hen luniau o Harlech ac o deulu yr [Gweler tudalen Llanfair.] Amherst oedd yn byw ym Mhlas Amherst, sef hen luniau oedd gan ei Sefydliad y Merched Harlech thad, Dudley Maidment. Croesawyd yr aelodau ar nos Rhoddwyd y diolchiadau i’r ddwy Fercher, 11 Hydref, i Neuadd Goffa am brynhawn difyr gan Hefin Jones. Harlech, gan y Llywydd, Christine Fe fydd y cyfarfod nesaf ar 14 Hemsley. Rhoddwyd blodau i Ann Tachwedd yn Llanfair, ac fe fydd Edwards oedd yn 70 yn ddiweddar Myfanwy Jones a Jack Forster yn a blodau i Annette Evans a oedd yn cynnal cwis cerddorol. 60 yn ddiweddar. Fe fydd y clwb cinio yn mynd Dawnsio i Goleg Meirion Dwyfor ar 29 Llongyfarchiadau i grŵp dawnsio Tachwedd, ac mae amryw wedi rhoi Gravity ar ddod yn ail mewn eu henwau i fynd. Fe fydd cyfarfod cystadleuaeth ddawnsio BDO y Nadolig yn y Cemlyn. ym Manceinion. Hefyd, bu Cawsom noson o weld Kevin nifer o aelodau o fewn y grŵp Evans, chef o’r Cemlyn, yn gwneud yn llwyddiannus fel unigolion a cacennau cri, rhai blasus iawn, chyplau. Diolch i bawb am eu rhai’n cynnwys siocled a rhai’n cefnogaeth. Da iawn, genethod, ar cynnwys ‘mincemeat’. Cafodd pawb roi Harlech ar y map unwaith eto. gyfle i brofi’r rhain a phawb yn eu canmol. Diolchwyd i Kevin gan Mrs Ann Evans Myfanwy Jones. Bydd y cyfarfod Wedi cystudd hir, bu farw Ann nesaf ar 8 Tachwedd pan gynhelir Evans, 30 Y Waun, gwraig Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol y Aneurin a mam Gareth, Aneurin, Sefydliad ac fe fydd yn cynnwys Elaine, Linda a Helen. Roedd gwaith llaw’r aelodau. ganddi bersonoliaeth ddymunol a hawddgar iawn a bydd chwith Capel Engedi mawr ar ei hôl gan gylch mawr o TACHWEDD 12, am 2.00 ffrindiau. Mae ein meddyliau a’n Undebol - Gwen Edwards cydymdeimlad gyda’r teulu yn ystod y cyfnod anodd hwn. Capel Jerusalem

TACHWEDD 19 Dewi Tudur Lewis am 3.30

8

Gerald Evans Trist yw nodi marwolaeth un o hen blant Harlech. Hogyn ei filltir sgwâr oedd Gerald. Roedd yn fab i Brian a Bronwena Evans, Brig y Wern (Min y Don) ac yn frawd i Colin a Wendy. Ymgartrefodd yn Salt Ash, Plymouth, ond anghofiodd o ddim o’i Gymraeg. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol yn yr Amlosgfa yn Plymouth. Y mae’n gadael gwraig, dwy ferch a mab. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at y teulu yn Plymouth ac yma yn Harlech. Anghofiwn ni byth mo dy chwerthiniad, ’rhen Ger. Eglwys Rehoboth

DIGWYDDIADAU YNG NGHAFFI’R PWLL NOFIO

Dydd Llun, Tachwedd 13 BORE COFFI 10.30 -12.00 Stondinau amrywiol. Dydd Sadwrn Tachwedd 25 Jean Napier, ffotograffydd yn rhoi sgwrs ar: Y RHINOGYDD (ac yn arwyddo ei llyfr newydd) am 7.00 yr hwyr, Mynediad: £5 Dydd Sadwrn, Rhagfyr 2 am 2.30 y pnawn BINGO NADOLIGAIDD Diolch

Diolch i Mrs Betty Jones am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu ei thanysgrifiad.

Peth amser yn ôl, cafodd Rehoboth ei wneud yn ‘adeilad rhestredig’. O’r herwydd, mae’n ofynnol ac yn orfodol i ni fel aelodau gadw’r capel, y cwt elor a’r ddwy fynwent mewn cyflwr da. Yn anffodus, fel llawer capel arall, mae ein haelodaeth wedi lleihau’n enfawr dros y blynyddoedd. Serch hynny, mae’r gost o gadw’r adeilad a’r mynwentydd yn cynyddu, sydd yn mynd yn faich ar y criw bach ffyddlon sydd ar ôl. Mae rhai o’r beddau heb unrhyw gysylltiadau byw mwyach, eraill gyda’r teuluoedd wedi symud o’r ardal ers tro. Os oes unrhyw un o ddarllenwyr y Llais yn fodlon cyfrannu at y gwaith cynnal a chadw, mi fyddwn yn ddiolchgar dros ben. Gan fod y Capel yn adeilad rhestredig, mae’n ofynnol ei warchod a’i gadw ar gyfer y dyfodol. Gofynnwn yn garedig i chi gysylltu ag unrhyw un o aelodau Rehoboth gan gynnwys finnau. Diolch yn fawr. Bethan Johnstone, Encil y Coed, Hwylfa’r Nant, Harlech [ffôn 01766 780507]. Theatr Ardudwy Ar nos Wener, Hydref 6 cynhaliwyd cyngerdd cerddorfaol gyda’r Gerddorfa Siambr Gymreig fel rhan o raglen Cymdeithas Gerdd Dolgellau. Blaenwr y gerddorfa oedd Benedict Holland a’r bariton gwadd oedd Jeremy Huw Williams. Cafwyd gwledd o gerddoriaeth gan gyfansoddwyr megis Purcell, Mozart, William Mathias, Alberga ac Edward Elgar, ac roedd yn braf gweld cynulleidfa mor lluosog yno.

Pensaernïaeth Harlech Ym mis Rhagfyr 2017 cynhelir sgwrs ddifyr am bensaernïaeth Harlech fel rhan o raglen aeaf Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd. Cynhelir y sgwrs ‘Anarchists & Artists: Their impact on the architecture of Harlech in the early 20th century’, gan Andrew Davidson, yng Nghanolfan Thomas Telford, Porthaethwy, am 7.30 yr hwyr ar 13 Rhagfyr 2017. Adref o Batagonia Croeso adref i Gwion Lloyd, Lasynys Fach o’i daith i Batagonia. Roedd Gwion yn un o’r 25 o aelodau’r Urdd a ddewiswyd ar gyfer taith. Roedd yn gyfle i bobl ifanc ledu eu gorwelion a phrofi’r diwylliant gwahanol sydd i’w weld ym Mhatagonia. Siawns y cawn ni hanes y daith ganddo cyn bo hir! Mrs Rhiannon Owens Wedi cystudd hir, bu farw Rhiannon Owens, Pen-yr-hwylfa yn ddiweddar. Cydymdeimlwn ag Eluned a Maldwyn a’r teulu oll yn eu profedigaeth ac anfonwn ein cofion atyn nhw. Sioe Glan Gaeaf Llongyfarchiadau i bwyllgor Sioe Flodau Harlech ac i’r arddangoswyr am drefnu sioe ragorol unwaith eto eleni. Roedd safon y cynnyrch a welwyd yn y Neuadd Goffa yn wirioneddol wych. Daeth tyrfa dda i gefnogi a mwynhau’r wledd. Yn eisiau Gwybodaeth am Harlech/Ardudwy yn ystod y rhyfel. Rydym yn gwneud project yn Ysgol Ardudwy ddiwedd mis Ionawr. Cysylltwch â Heledd Evans, Ysgol Ardudwy 780331 os allwch helpu. Diolch.


BWYDLEN NADOLIG BISTRO’R CASTELL HARLECH 780416 CYRSIAU CYNTAF

CAWL NADOLIGAIDD Cawl pannas a tsili coch wedi’i weini gyda bara cyflawn PATE Pate iau hwyaden gyda chwisgi Penderyn a marmaled nionyn coch, wedi’i weini gyda bara cyflawn COCTEL CORGIMWCH Corgimwch mewn saws Marie Rose gydag eog wedi’i gochi a brwyniad, wedi’i weini gyda bara brown, menyn Cymreig a lemwn PATE LLYSIEUOL Pate wedi’i fwydo gyda ffacbysen goch, tomato sych, medd Cymreig a marmaled nionyn coch, wedi’i weini gyda bara cyflawn

PRIF GYRSIAU

TWRCI RHOST TRADDODIADOL gyda stwffin saets a nionyn, selsig tsipolata mewn bacwn, tatws rhost rhosmari a grefi traddodiadol LWYN GANOL PORC wedi’i stwffio gyda chig selsig, bricyll a sunsur ac wedi’i weini gyda saws seidr afal CIG CARW wedi’i frwysio gyda thatws, moron, nionod bach a thwmplenni mewn grefi gwin coch, wedi’i weini gyda thatws rhost FFILED EOG gyda thomatos bach wedi’u rhostio, saws cennin a chêl wedi’i wynnu OPSIWN LLYSIEUOL Cnau castan, sbigoglys, madarch a chaws glas en croûte wedi’i weini gyda saws pupur coch wedi ei rostio gyda pherlysiau Y prydau uchod i gyd wedi eu gweini gyda thatws, bresych coch, moron a choriander, ysgewyll a menyn saets, a llysiau gwraidd wedi’u rhostio

PWDINAU

TORTH O BWDIN NADOLIG gyda saws brandi a hufen iâ pwdin Nadolig TARTEN SIOCLED Tarten siocled mascarpone gyda hufen iâ rỳm a rhesinen PWDIN BRIWSION Afal ac eirin Mair gyda chwstard fanila DEWIS O GAWSIAU CYMREIG Bisgedi Jacob, grawnwin, a siytni gellyg *** Te neu goffi gyda mins peis Tri chwrs - £24.95 Dau gwrs - £20.45

Bydd unrhyw un sy’n trefnu parti i ddeg neu ragor o bobl y Nadolig hwn yn derbyn taleb gwerth £10 ar gyfer bwyta gyda ni ym mis Chwefror [ac eithrio Diwrnod Ffolant] fel diolch arbennig gan Fistro’r Castell am eich gwaith wrth drefnu’r parti.

CYNGOR CYMUNED HARLECH Croesawyd aelodau o’r Grŵp Parciau Cymunedol i drafod y ddau gae chwarae sydd ym meddiant y Cyngor. Cafwyd cyfarfod buddiol ac mae sawl mater I’w drafod dros y misoedd nesaf er lles y gymuned. MATERION YN CODI Cynllun Gwobrau Cymunedol Cynigiodd Judith Strevens wobrwyo unigolyn bob blwyddyn yn yr ardal er mwyn cydnabod y gwaith da maent wedi ei wneud i’r gymuned yn ystod y flwyddyn. Trafodir y mater eto eto ym mis Ionawr. Gwefan y Cyngor Sefydlir gwefan newydd a gofyn i Mr Owen Brown fod yn gyfrifol amdano. Bydd Cyngor Cymuned Llanfair yn cyfrannu at y gost. Nadolig 2017 Cychwynnir y gweithgareddau gyda noson siopa hwyr ar Ragfyr 2. Hefyd, cynhelir gweithdy llusernau ym mhob ysgol gynradd yn yr ardal a hefyd noson gweithdy i bobl yn digwydd yn y Neuadd Goffa ar Ragfyr 9. Hamdden Harlech ac Ardudwy Cafodd y ganolfan fis Awst da ond mae diffyg ariannol yn parhau. Cynhelir cyfarfod cyhoeddus ynglŷn â’r cynllun praesept cyn gwneud penderfyniad a fydd y Cyngor yn sefydlu’r un trefniant eto a chynhelir hwn ar Dachwedd 13 yn ystafell y band. CYNGOR GWYNEDD Derbyniwyd cwynion am oryrru ar Ffordd Llechwedd. Bydd arwyddion 30mya mwy amlwg yn cael eu gosod yno. Mae Theatr Ardudwy yn cael ei gweinyddu gan wirfoddolwyr ar hyn o bryd. Cytunwyd i geisio creu lle i barcio bysiau ym maes parcio Bron y Graig Uchaf. CEISIADAU CYNLLUNIO Newid ffenestr do a thynnu corn - Awel y Mynydd, Pant Mawr. Cefnogi’r cais. UNRHYW FATER ARALL Mae coed yn gordyfu ar ochr y ffordd o riw Dewi Sant draw am Perthi. Mae trefniadau wedi eu gwneud i ymdrin â rhai coed ym Mhenygraig. Mae angen gwybod beth sy’n digwydd ar dir ger ystâd Tŷ Canol a chytunodd Freya Bentham wneud ymholiadau gyda’r Parc Cenedlaethol.

Llais Ardudwy DYDDIADUR Y MIS

Hoffem gynnwys dyddiadur yn manylu ar ddigwyddiadau yn yr ardal bob mis yn y papur hwn. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn gyfrifol am ei gasglu ynghyd, yna dewch i gysylltiad ag un o’r golygyddion. Mae’n bwysig bod gennych gyfeiriad e-bost!

CARDIAU NADOLIG ar werth er budd ymchwil canser

Eirlys Williams, Trugareddau Harlech 780399

HARLECH TOYOTA

ENGLYN DA

Y Nos

Y nos dywell yn distewi, - caddug Yn cuddio Eryri; Yr haul yng ngwely’r heli, A’r lloer yn ariannu’r lli. Gwallter Mechain [Walter Davies], 1761-1849

Ffordd Newydd, Harlech 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@ harlech.toyota.co.uk facebook.com/ harlech.toyota Twitter@ harlech_toyota 9


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Merched y Wawr Gwenda Paul, yr Is-lywydd oedd yn y gadair yng nghyfarfod y Gangen yn Neuadd Gymuned Talsarnau nos Lun, 2 Hydref, yn absenoldeb y Llywydd, a dechreuodd drwy anfon cofion, ar ran bawb, at Siriol oedd wedi mynd â’i gŵr i’r ysbyty. Darllenwyd cofnodion ymweliad ag Archifdy Dolgellau ar 7 Medi a’u derbyn yn gywir. Arweiniodd y Llywydd drwy’r ohebiaeth ddaeth i law; cafwyd enwau pedair i gymryd rhan yn y Cwis Cenedlaethol ar 10 Tachwedd a chafwyd gwybodaeth am nifer o gystadlaethau eraill. Cyhoeddwyd y sesiynau o ganu a gynhelir yn Neuadd Gellilydan, dan ofal Canolfan Gerdd William Mathias, ar ddyddiau Gwener rhwng nawr a mis Rhagfyr – ‘Atgofion ar Gân’ – yn rhad ac am ddim. Talwyd y tâl aelodaeth o £16 am y flwyddyn a gwerthwyd y Cardiau Nadolig a Dyddiaduron 2018. Yna croesawodd Gwenda ein gwraig wadd y noson yma, sef Haf Llewelyn o Lanuwchllyn i gyflwyno sgwrs ar y testun ‘Dilyn Llwybrau’. Soniodd sut y dechreuodd ysgrifennu a chyhoeddi ei llyfr cyntaf o gerddi, ‘Llwybrau’, cyn cyhoeddi ei nofel gyntaf ‘Y Graig’. Mae hefyd wedi ysgrifennu llyfrau i blant, ynghyd â nifer o nofelau eraill erbyn hyn. Roedd yn cydnabod y cymorth mae’n ei gael gan Wasg y Lolfa sy’n cyhoeddi ei gwaith. Cyflwynodd ei sgwrs mor naturiol a chartrefol ac eglurodd bod dylanwad ei magwraeth yng Nghwm Nantcol yn gryf iawn arni ac roedd yn ddiolchgar iawn am hynny. Diolchodd Ella i Haf ar ein rhan gan fynegi mai gwaith hawdd iawn oedd diolch iddi, gan fod pawb yn amlwg wedi mwynhau ei sgwrs a’i chwmni. Cyn gadael, cawsom ein hatgoffa gan y Llywydd o’r gwahoddiad i ymuno â changen Harlech y noson ddilynol i wrando ar sgwrs gan Bethan Gwanas a chafwyd enwau’r rhai oedd yn bwriadu mynd. Paratowyd y baned gan Eirwen a Maureen, a Bet enillodd y raffl. Ymuno â Changen Harlech Derbyniwyd gwahoddiad cangen Harlech i ymuno â hwy yn Neuadd Llanfair, nos Fawrth, 2 Hydref i glywed sgwrs gan Bethan Gwanas. Roedd wedi dod â nifer o’i llyfrau gyda hi a chyflwynodd y cefndir i rai ohonynt mewn modd diddorol a hwyliog. Hawdd iawn oedd gwrando ar ei sgwrs a chafwyd pleser mawr yn ei chwmni. Mwynhawyd paned a chacen cyn mynd adref, a diolchodd Mai i gangen Harlech, ar ran aelodau Talsarnau, am y gwahoddiad a’r cyfle i glywed sgwrs gan Bethan. Roeddem ni’n teimlo’n ffodus iawn ein bod wedi cael y cyfle i wrando ar ddwy o awduron dawnus Meirionnydd, un noson ar ôl y llall.

R J WILLIAMS Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU

Adferiad Iechyd Pob dymuniad da am wellhad llwyr a buan i Elfed Griffith, Brynmôr, Talsarnau, yn dilyn llawdriniaeth yn cael clun newydd yn Ysbyty Gwynedd. Da yw deall ei fod wedi dod adref i orffen gwella’n iawn. Dymuniadau gorau hefyd am wellhad buan i Dewi Tudur Lewis, Llwyn Dafydd, Talsarnau sy’ wedi dioddef cyfnod hir o anhwylder yn ddiweddar. Anfonwn ein cofion gorau at y ddau ohonoch. Nodyn personol Dymuna Dewi Tudur ddiolch i’w ffrindiau a’i gymdogion am bob caredigrwydd yn ystod cyfnod o salwch yn ddiweddar.

Neuadd Gymuned Talsarnau

TRIO CYMRU ac Annette Bryn Parri

Nos Sadwrn, Tachwedd 18 am 7.30 Tocyn: £10 Plant ysgol am ddim Tocynnau gan: Anwen Roberts 01766 772960 Mai Jones 01766 770757

Diolch Diolch i Ieuan Lloyd Evans am y rhodd o £10 i Llais Ardudwy; hefyd diolch i Angharad Morris am y rhodd o £12.

AR OSOD Byngalo dwy ystafell wely ar osod yn Nhalsarnau Ffôn 01766 590415 [bore neu gyda’r nos yn unig]

AR OSOD

Neuadd Gymuned Talsarnau

FFAIR NADOLIG

Nos Iau, Tachwedd 30 am 6.30 Dewch i brynu anrhegion Nadolig Mynediad: Oedolion £1, Plant – am ddim

Gellir llogi bwrdd gwerthu am £10 Ffôn 01766 772960/770757

Capel Newydd TACHWEDD 12fed - Dewi Tudur 19eg - Dewi Tudur 26ain - Dewi Tudur RHAGFYR 3ydd - Eifion Jones

Neuadd Talsarnau

GYRFA CHWIST Nos Iau Tachwedd 9 am 7.30 o’r gloch

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286

Ffacs 01766 771250

Honda Civic Tourer Newydd

10


NEWYDDION YR URDD

Taith i’r Bala gafodd Ysgol Talsarnau ar ddechrau’r mis. Cawsant eu trechu yn y gêm olaf gan Ysgol Bro Tryweryn. Da iawn chi blant am ymdrech glodwiw. Cyn y gwyliau hanner tymor aeth 15 o dimau i’r Bala er mwyn ceisio sicrhau lle yn y chwaraeon cenedlaethol yn Aberystwyth. Unwaith eto, roedd gan Ysgol y Traeth ddau dîm ac un gan Ysgol Talsarnau. Llwyddodd un o dimau’r Traeth i gyrraedd y rownd gynderfynol cyn colli. Er y siom, gall pawb fod yn falch iawn o’u hymdrechion. Chwaraeon Wedi’r holl gicio pêl yn ddiweddar, cyfle i daflu a rhedeg fydd mis Tachwedd wrth i’r pêl rwydwyr gael lle ar y cwrt. Bydd y cystadlu i ysgolion ac adrannau yn digwydd yn y Bermo ar nos Lun, Tachwedd 20 gan gychwyn am 5.00. Wedyn ar 22 Tachwedd, bydd cystadleuaeth i gymnastwyr ym Mlaenau Ffestiniog cyn gorffen y cyfan ar 23 Tachwedd gyda 5-bob-ochr Talaith y Gogledd i dimau bechgyn a merched. Llwyddodd Ysgol Ardudwy i ennill gyda’r bechgyn y llynedd. Gobeithio y daw llwyddiant eto eleni.

Y BERMO A LLANABER Merched y Wawr

Nos Fawrth, Hydref 17 daeth criw da ynghyd i’r Parlwr Mawr. Croesawyd yr aelodau gan ein Llywydd, Llewela. Cafwyd adroddiad o’r Pwyllgor Rhanbarth a’r Is-bwyllgorau. Cytunodd pedwar aelod i gymryd rhan yn y Cwis Cenedlaethol Croesawodd Heulwen ein gwraig wadd atom, sef Emsyl Davies, Llanbedr a chawsom noson i’w chofio yn ei chwmni. Bu’n sôn am ei mam a’r teulu a fu’n byw am gyfnod yn ardal Ardudwy. Dangosodd waith llaw ei mam, a’r wobr enillodd yn Eisteddfod Genedlaethol am waith llaw cywrain iawn. Hefyd ffrog briodas Emsyl oedd wedi ei gwneud o fflanel Cymreig gyda gwaith brodwaith arbennig arni. Aeth Emsyl ymlaen i arddangos ei gwaith llaw ei hun, gwaith nodedig eto. Dillad, gwisgoedd a bagiau a hithau wedi nyddu’r gwlân, hefyd defnydd wedi gwehyddu ganddi. Roedd rhai o’r aelodau yn gwisgo’r dillad. Diolchodd Iona am noson ddiddorol iawn. Heulwen a Lorraine oedd yn gofalu am y te ac enillwyd y raffl gan Mair. Bydd ein cyfarfod nesaf ar Tachwedd 21 am 7.00 o’r gloch gyda Jane Williams yn dangos crochenwaith.

Diolch Diolch i Mrs Enid Parry am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu ei thanysgrifiad.

LLYTHYR

Annwyl Olygydd, Annwyl Olygydd, Fe ddois i ar draws fideo yn ddiweddar o ‘Dechrau Canu Dechrau Canmol’ o’r Bermo yn 1988 gyda Chôr Meibion Ardudwy a llawer iawn o wynebau cyfarwydd eraill, lot fawr wedi’n gadael ni bellach. O’n i’n meddwl y baswn i’n pasio’r linc ymlaen rhag ofn nad ydych wedi ei weld. Dwi’n siŵr y byddai llawer o bobl yr ardal yn hoff iawn o wylio hwn eto, felly dyma enw’r wefan i bobl fynd i’w weld. https://www.youtube.com/watch?v=bzWXxboGRfs&sns=fb Cofion cynnes, Aled Corps (gynt o Ddyffryn Ardudwy)

TÎM PÊL-RWYD YSGOL RAMADEG Y BERMO [dechrau’r 1950au]

Aelodaeth Ychydig dros fis ac fe fydd pris ymaelodi yn codi i £8.50 yr un neu £21.50 i deuluoedd felly os ydych am gymryd y cyfle i dalu pris rhesymol neu’n ystyried cystadlu yn yr Eisteddfod Cylch ar ddechrau mis Mawrth – ymaelodwch heddiw. Diolch am eich cefnogaeth i waith yr Urdd yn lleol. Dylan Elis Urdd Gobaith Cymru Swyddog Datblygu Meirionnydd

Rhes ôl o’r chwith: Megan Llanbedr, Gwenfron Ynys, Meryl Penrhyn, Margaret Harlech, Millie Bermo, Rhiannon Dyffryn. Rhes flaen o’r chwith: Eirlys Harlech, Lilian Minffordd, Eirlys Bermo, Margaret Bermo, Deilwen Ynys, Eirliw Llandecwyn, Nia Bermo. 11


CALENDR LLAIS ARDUDWY

BWYD A DIOD

Ar werth yn y siopau rŵan Bargen am £4! Cymdeithas Brodwaith Cymru Ysgoloriaeth

Mae Cymdeithas Frodwaith Cymru yn cynnig ysgoloriaeth bob blwyddyn o hyd at £500 i fyfyriwr Cymraeg sy’n dilyn cwrs tecstilau mewn coleg. Bu nifer o fyfyrwyr yn llwyddiannus yn y gorffennol a phleser oedd cael arddangos peth o’r gwaith ar stondin y Gymdeithas yn yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn. Disgwylir i’r ymgeisydd fod yn 18 oed a throsodd. Amcanion y Gymdeithas yw hyrwyddo brodwaith drwy gyfrwng y Gymraeg, a threfnir cyrsiau, darlithoedd, dosbarthiadau ac arddangosfeydd mewn ardaloedd ledled Cymru. Diffinnir brodwaith fel unrhyw waith sydd yn addurno gan ddefnyddio edau a nodwydd, a cheir amrywiaeth o dechnegau ar gyfer hyn. Mae gennym arddangosfa o waith yr aelodau yn yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn. I gael ffurflen gais neu ragor o wybodaeth cysylltwch â: Medwen Charles, Maes Meini, Rhyduchaf, Y Bala, LL23 7SD. maes.meini@btinternet.com

Blas o Biosffer y Dyfi! ‘Gin! Gin! A drop of Gin! The dram of Satan! The liquor of Sin!’ Thomas Hood 1799-1845 O labeli negyddol fel ‘Mother’s ruin’ a’r darlun brawychus uchod, mae gin wedi cael ail-enedigaeth go iawn. Yn ddiweddar, rydym wedi cynnal blasu gin yn Gwin Dylanwad a phrofiad diddorol oedd gwneud ymchwil yn ogystal â’r blasu. Daw atgyfodiad gin yn sgil sialens gyfreithiol gan gwmni Sipsmith yn 2009 yn erbyn HMRC. Cyn hyn, roedd rhaid cynhyrchu sypiau mawr o gin, ond enillwyd yr hawl yn yr achos yma i gynhyrchu sypiau bach sydd wedi cychwyn epidemig gin trwy Brydain o bobl yn ei greu o bob mathau o blanhigion botanegol! Nid yw’r cynhyrchwr fel arfer yn cynhyrchu’r gwirod sylfaenol, eu crefft nhw yw dewis a chymysgu’r detholiad o blanhigion – y ‘botanegau’ fel maent yn cael eu galw. Prif blanhigyn gin yw merywen, ac o’r dechrau yma, cewch ychwanegu planhigion eraill i roi blas unigryw botanegol i’r alcohol niwtral gwreiddiol. Mae’r gin rhatach yn defnyddio dull o socian y planhigion yn yr alcohol ond i wneud y ‘craft gins’, mae ail ddistylliad gyda’r planhigion arbennig a ddewiswyd gan y cynhyrchwr yna yn cael ei gynnal. Yn ffodus iawn, mae ardal Dolgellau wedi cael ei dal yn y cyffro yma gyda Dyfi Gin o Gorris, cwmni sy’n cynhyrchu tri gwahanol gin: Dyfi Original, Pollination a Hibernation. Ond yn well fyth, mae’r dyfarniad cenedlaethol fod eu gin Pollination ymysg y rhai gorau ym Mhrydain yn ôl y Great British Food Awards. Mae 29 planhigyn gwahanol yn y gin yn cynnwys sawl y maen nhw yn eu hel yn yr ardal leol. Casglwyd y planhigion i’r Pollination ym misoedd yr haf ac i’r Hibernation yn y gaeaf. Gyda gwybodaeth o fflora’r ardal maent wedi dewis yn ofalus y cyfuniad i gael y blas hynod flodeuog a pherlysiog yn y gin eithriadol o dda yma; planhigion fel aeron criafolen, eirin surion bach, draenen wen, ysgawen, dail mieri, balm lemwn, a grug ymysg sawl un arall. Yn wir, maen nhw’n haeddu pob clod ac mae’n gwerthu trwy wledydd Prydain. Does dim angen llawer arno, efallai dwist bach o groen lemwn a thonic Cymreig Source o Lanllŷr wedi’u tywallt dros y rhew. Rhowch lowc bach iddo ar ben ei hunan yn gyntaf i gael profi’r blas yn llawn ac anadlu awyr y gwanwyn o ardal y Dyfi! Jin! Jin! Llinos Rowlands Gwin Dylanwad Wine Dolgellau

SAMARIAID Llinell Gymraeg 0808 164 0123

12


YSGOL TANYCASTELL

Sêr y Sgrin Ar ddiwedd y tymor diwethaf, aeth pedwar o ddisgyblion B3 i Gaernarfon i gymryd rhan yn y rhaglen deledu ‘Asra’. Rhaglen ydi hon yn llawn gemau gwahanol ar blaned arall. Darlledwyd y rhaglen ar S4C yn ddiweddar.

Adnoddau Chwarae Newydd Diolch yn fawr i Gyfeillion yr Ysgol am brynu adnoddau chwarae newydd ar gyfer y disgyblion a ddewiswyd gan aelodau o’r Cyngor Ysgol. Dyma rai o’r disgyblion yn mwynhau yn ystod amser egwyl.

Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/llaisardudwy/docs

Llwyddiant yn Eisteddfod Ardudwy Cynhaliwyd Eisteddfod Ardudwy yn Neuadd Llanbedr ar Hydref 21. Bu cystadlu brwd iawn ar y llwyfan a hefyd yn y gwaith celf, ysgrifennu a thechnoleg gwybodaeth. Llongyfarchiadau mawr i’r cystadleuwyr i gyd! Hefyd llongyfarchiadau arbennig i Thio Walters am ennill y gadair am ei bortread o’i dad. Y Cyngor Ysgol Wedi diwrnod o bleidleisio yn yr ysgol dyma aelodau newydd y Cyngor Ysgol am y flwyddyn: Jago Jones - Cadeirydd, Billy Foulkes – Is-gadeirydd, Ruby Jones Trysorydd, Karl Griffith – Is-drysorydd, Ella Mair – Ysgrifennydd, Cari Evans – Is-ysgrifennydd, Awel John, Thio Walters, Emily Green a Freddie Lewis. Cynllun Ysgolion Iach Mae’r ysgol yn falch o gyhoeddi ei bod wedi llwyddo i gyrraedd Cam 4 o Gynllun Ysgolion Iach Gwynedd.

Llais Ardudwy 13


H YS B YS E B I O N

Cefnogwch ein hysbysebwyr

CYNLLUNIAU CAE DU Stryd Fawr Harlech, Gwynedd 01766 780239

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

E B Richards

Llais Ardudwy

01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

GERALLT RHUN

ARCHEBU A

01341 421917 07770 892016

07776 181959 Sŵn y Gwynt Talsarnau, Gwynedd

www.raynercarpets.co.uk

Tiwniwr Piano

g.rhun@btinternet.com Tiwnio ...neu drwsio ar dro!

GWION ROBERTS SAER COED 01766 771704 - 07912 065803 gwionroberts@yahoo.co.uk

£60 y flwyddyn yw cost hysbysebu mewn blwch sengl ar y dudalen hon

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

Ffoniwch Ann Lewis 01341 241297

Pritchard & Griffiths Cyf. Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk

drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]

ALAN RAYNER GOSOD CARPEDI

Llanuwchllyn 01678 540278

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu 01341 241297 Ffynnon Mair Llanbedr

Tafarn yr Eryrod

01766 512091 / 512998

TREFNWYR ANGLADDAU

Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

JASON CLARKE Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

DAVID JONES

Cigydd, Bermo 01341 280436

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

ADEILADWR Gwarantir gwaith o safon.

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

MELIN LIFIO SYMUDOL

Gadewch i’r felin ddod atoch chi! www.gwyneddmobilemilling.com

dros 25 mlynedd o brofiad 14

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau 01766 780742 07769 713014


Mynwent Silverton, Colorado, yn aflonyddu’r byw

Ym mynwent dawel Hillside, Silverton, Colorado, lle mae’r cerrig beddi yn glynu wrth lechweddau crasboeth wedi eu cymhlethu â phennau mafon a’u hysbwrielu â chonau pinwydden, y mae’n anodd amgyffred sut y gall y meirw fod mor broblematig. Ond y mae yna tua wyth gwaith mwy ohonynt nac y sydd yna o bobl byw yn y dref islaw. Mae llawer o’r 3,300 ymadawedig wedi bod yn Hillside am ganrif a mwy. Maent wedi eu gwasgaru ar draws y corlannau creigiog sydd wedi gwasanaethu fel mynwent am 133 o flynyddoedd. Yn ystod dyddiau trwst mwyngloddio, gwnaeth afalansau, damweiniau mwnglawdd, niwmonia, genedigaeth plant, ac ergyd gwn gladdedigaethau yn fusnes bywiog. Hyd 1910, yr oedd yna ddigon o drefnu angladdau a gweithwyr mynwent i ofalu am fusnes lludw-iludw a phridd-i’r-pridd mewn ffasiwn drefnus. Ond does gan Silverton modern ddim gofalwr swyddogol, na thorrwr beddau. Tydy hynny ddim llawer o syndod mewn tref heb fortisian na chartref gorffwys. Does yno ychwaith ddim plotiau swyddogol. Yn wir, cyfeiriodd rhywun at Hillside fel “lle am ddim i bawb.” Mae yno 2,000 o feddi heb eu nodi o’r dyddiau cynnar. Ond nid yw’r ymadawedig mwyaf diweddaraf yn dal unrhyw weithredoedd fel yn y mwyafrif o fynwentydd. Am ffi o 250 doler, caiff pawb yr hawliau i rentiad hir iawn ar fan y gallant ond gobeithio na fydd arch arall yn ymddangos pan fydd cloddio’n digwydd. Gall claddedigaeth yno arwyddo hacio i’r ddaear greigiog gyda chaib a rhaw ar y llechweddau mwyaf serth. Daw daearyddiaeth a’r tywydd a’u trallodion gyda hwy hefyd. Y mae rhai beddi wedi llithro i lawr y llechweddau, gan adael y cerrig beddi yn ogwyddog, tyllau sinc a waliau cerrig adfeiliedig. Mae’r gaeaf yn claddu’r ugain acer gyfan mewn dros 10 troedfedd o eira, gan ei gwneud yn anodd cyrraedd y ddaear, mwy byth cloddio ynddo. Ond y mae’r holl broblemau hynny wedi creu effaith lleol anghyffredin i fynwent sydd ymhell o fod yn drefnus, ac wedi ei thrin fel y rhai crand a geir mewn trefi eraill. Pob Mehefin ers yr 16 mlynedd diwethaf, y mae tri o ymddeolwyr wedi arwain mintai o wirfoddolwyr i fyny’r bryn. Deuant yno o gyn belled i ffwrdd â Mecsico Newydd yn arfog gyda chliperau, rhawiau a chribynnau i dacluso Hillside. Maen nhw’n gosod 10 i 20 o gerrig beddi newydd yno bob blwyddyn ar bantiau dinod yn y ddaear. Hyd yma maent wedi gosod 250 ac yn obeithiol, gyda chymorth disgownt dwfn i Waith Cofadail Dorango, cael nodwr ar gyfer pob un o’r beddi. Maent yn llingerfio enwau, dyddiadau ac achos y farwolaeth ar y cerrig oherwydd y mae un o’r ymddeolwyr, sef Peterson Gooch, wedi bod yn cloddio am yr wybodaeth honno ers 21 o flynyddoedd. Mae hi wedi archwilio drwy restri marwolaethau, storïau newyddion a phapurau cofnodion swyddogol mewn mwy na 7,000 o bapurau newydd hanesyddol. Mae hi wedi cofnodi marwolaethau o un cynamserol Richard Farrow, pedair blwydd oed, yn 1875 - y

gladdedigaeth gyntaf yn Hillside - i’r gladdedigaeth fwyaf diweddar, sef Louise Bergman yn ôl yn 2008. Mae hi wedi casglu hynny i gyd mewn dwy gyfrol drwchus, clawr caled, o dan y teitl ‘The Story of Hillside Cemetery.’ Y mae i hanes garw Silverton rhai straeon trychinebus yn y cyfrolau ac ar y cerrig, gyda nifer o Gymry yn eu plith. Bu Bobby Walker farw o’r dropsi yn nhloty’r sir. Chwythodd Angelo Vito ei hun i fyny gyda phowdr ffrwydro ym mwnglawdd Sunnyside. Ysgubwyd Richard Roberts, postmon, i’w farwolaeth mewn afalans anferth, 19 Ebrill 1886 yn 31 mlwydd oed, gan adael ei fam 75 oed a’i dilynodd ef o Gymru i alaru dros ei mab. Yr oedd ei frawd yn cadw Gwesty Riverside yn Silverton. Rhoddodd Delia Curry ddiwedd arni ei hun drwy yfed asid carbolig ar ôl helynt garwriaeth a’i gadawodd mewn ‘cyflwr eiddil’. Crogwyd y ‘copper-coloured kid’ yn 16 mlwydd oed. Ymysg y Cymry o Ogledd Cymru sydd wedi eu claddu yno mae Gwen Roberts Jones Jenkins, a anwyd yn y Bermo, yn 1856, ac a fu farw yn Ionawr 1917; Ebenezer L Roberts, mab i Ebenezer L ‘Bob’ Roberts a Lizzie Smith, ac ŵyr i Owen a Laura Roberts, saer maen o’r Bermo, a fu farw yn 11 mis oed, 1892; Gwen Roberts Jones Jenkins arall, a anwyd yn y Bermo, Ebrill 1819, ac a fu farw Mehefin 1899. Daeth i Silverton yn 75 mlwydd oed gyda’i mab ieuengaf, Robert W Roberts; Hugh Davies 1850-1905, o Aberffraw; Henry Jones 1850-1897, o Frithdir; a John ‘The Prince of Wales’ Roberts, a fu farw Tachwedd 1905 yn 60 oed, o niwmonia a meddwdod. Ceir un nodwr wedi ei osod dros ddwy ffos lle claddwyd 90 o bobl y dref mewn un bedd mawr yn 1918 pan fu i haint y ffliw ddifa 10% o boblogaeth y dref. Codwyd cofeb hefyd i’r gweithwyr rheilffordd Tsieniaidd, y rhai na chaniatawyd iddynt gael eu claddu yn y fynwent, ar waelod y bryn. Yr oedd sefyllfa economaidd mwyngloddwyr Cymraeg yn yr 1890au’n reit llwm a’r cyflogau’n isel. O ganlyniad aeth 80% o fwynwyr yr undeb ar streic a chollodd y rhan fwyaf eu gwaith. Gadawodd nifer ohonynt, yn ddynion a merched, Cymru i geisio’u lwc yn nhref Silverton. W Arvon Roberts, Pwllheli

15


MELINAU GWLÂN

rhyw afiechyd neu’i gilydd EMYNAU bod arno. Pan oedd yn 60 oed, cwynai ei fod yn paratoi am y bedd ac A’U CEFNDIR meddai, ‘A’m nos hir yn ymnesáu’.

Neb i Feiddio Grwgnach Yn y gyfrol liwgar hon daw geiriau Branwen Davies a ffotograffiaeth Iestyn Hughes ynghyd i adrodd hanes hynod y melinau gwlân niferus oedd ym mhob ardal o Gymru. Erbyn 1895 roedd ymhell dros 300 o felinau gwlân ar waith yn Sir Aberteifi, Sir Gâr a Sir Benfro ond o’r 1920au ymlaen, dirwasgiad a dirywiad fu hanes y diwydiant. Erbyn 1969 pan gyhoeddodd Dr J Geraint Jenkins ei astudiaeth helaeth ‘The Welsh Woollen Industry’, dim ond 24 o felinau gwlân oedd yn dal i gynhyrchu yng Nghymru. Erbyn heddiw, dim ond dyrnaid o’r rheiny sy’n parhau i weithio a thrafodir 12 ohonyn nhw yn y gyfrol. Yn y gyfrol ceir hanes melin wlân Trefriw (yr unig un o’r gogledd yn y llyfr). Da dweud mai’r un teulu a fu’n gyfrifol am sicrhau ei goroesiad ers canrif a hanner. Pandy ar gyfer pannu brethyn yn dyddio o’r 1830au oedd ar y safle yn wreiddiol ar lannau afon Crafnant. Ym 1859 prynwyd Melinau Gwlân Trefriw gan Thomas Williams, hen daid i’r perchnogion presennol, y brawd a’r chwaer Morgan ac Elaine Williams. “Er bod cymeriadau’r melinau a’u perchnogion yn amrywio’n fawr, yn ddiddorol ddigon, daeth nifer o themâu cyffredin i’r amlwg wrth grwydro Cymru’n ymweld â nhw”, meddai Branwen Davies yn y gyfrol. “Natur simsan, oriog sydd i’r peiriannau hynafol, ac mae’r berthynas rhwng y gwehydd â’i beiriannau’n agos iawn. Mae dod o hyd i bartiau newydd er mwyn trwsio’r hen fwystfilod hyn yn her gynyddol.” Mae’r ffotograffydd Iestyn Hughes wedi gwneud gwaith ardderchog yn crisialu natur ac awyrgylch pob melin - yr adeiladau, yr offer, y brethyn a’r bobl. Mae’n ymwybodol hefyd o ba mor fregus y mae sefyllfa’r diwydiant presennol. Yng ngeiriau Iestyn, “Dwi’n gallu gweld a blasu’r hanes a synhwyro’r hiraeth a ddaw. Mae’r diwydiant ar y dibyn ac efallai y bydd y gyfrol hon yn ysbrydoli rhywun i gymryd at un o’r melinau hyn cyn iddi fynd yn rhyw hwyr.” Un felin sydd yn llewyrchus y dyddiau yma yw Melin Tregwynt gyda’i chynlluniau nodweddiadol a chyfoes. Mae posibiliadau’r farchnad wedi’u gweddnewid gan y we ac mae marchnad newydd wedi’i sefydlu gan gynllunwyr arbenigol a thalentog sy’n gweithio gyda gwlân pur, gan werthu drwy’r rhyngrwyd. Ar gyrion Drefach Felindre, ar safle hen ffatri Melinau Cambrian, y fwyaf yn yr ardal, mae Amgueddfa Wlân Cymru. Ym 1976 daeth Amgueddfa Cymru i safle Ffatri Cambrian ac ym 1984 prynodd yr Amgueddfa’r ffatri yn ei chyfanrwydd a daeth y safle’n gartref i Amgueddfa Diwydiant Gwlân Cymru, diolch i weledigaeth Dr J Geraint Jenkins. Heddiw mae’n denu 30,000 o ymwelwyr y flwyddyn, ac yn sicr mae’n werth galw heibio os byddwch yn yr ardal.

16

Bûm yn Abererch y dydd o’r blaen. Fel llawer pentref arall o’i faint yng nghefn gwlad mae Abererch wedi colli llawer yn y blynyddoedd diweddar yma. Un capel yn unig a erys ac mae yno ysgol. Mae gorsaf y rheilffordd gryn bellter o’r pentref. Ond mae yno eglwys. Mae honno wedi ei chysegru i Gawrdaf Sant ac mae hi’n hen a diddorol. Cofiais fod y bardd Robert ap Gwilym Ddu wedi ei gladdu yn y fynwent ac i ffwrdd a mi i chwilio am y bedd. Bûm yn chwilio am rai munudau ond heb lwyddiant pan ddaeth cenllif o law ar fy mhen a bu’n rhaid i mi roi’r gorau iddi. Fe fydd yn rhaid i mi fynd yn ôl, ac os oes unrhyw un o ddarllenwyr Llais Ardudwy yn gwybod lle y dyliwn ddechrau chwilio am y bedd byddwn yn falch o gael gwybod. Roedd Robert ap Gwilym Ddu, neu Robert Williams a rhoi iddo ei enw bedydd, yn un o feirdd medrusaf ei oes. Ganwyd ef yn 1767 a bu’n ffermio yn y Betws Fawr gerllaw afon Dwyfach yn Eifionydd. Ymddengys ei fod yn amaethwr llwyddiannus ac eithaf cefnog. B u yn hen lanc nes cyrraedd 50 oed ac yna priododd ferch ifanc a oedd yn forwyn yn un o’r plastai lleol. Bu iddynt un plentyn, sef Jane Elizabeth. Tybiodd Robert ap Gwilym Ddu ei fod wedi cael cam mewn eisteddfod yn gynnar yn ei yrfa a rhoddodd y gorau i gystadlu. I ni heddiw mae’n debyg fod hyn yn ennill mawr. Arbedodd y bardd rhag cyfansoddi awdlau hirfaith catalogaidd i geisio ennill cadeiriau; pethau hollol ddieneiniad a diwerth i ni bellach [hynny yw’r awdlau ac nid o angenrheidrwydd y cadeiriau]. Rhoddodd ryddid iddo ganu o’r galon ac felly mae gennym englynion gwych a rhai o emynau praffaf Cymru wedi dod o’r Betws Fawr. Mae llawer o’i ganu’n ddigon pruddglwyfus a dweud y gwir. Collodd ei unig ferch yn ieuanc a byddai byth a beunydd yn cwyno

Wel y gwir yw ei fod wedi byw sbel dros y pedwar ugain - oed da iawn i’r cyfnod a’r gair yn Eifionydd yw ei fod yn dipyn o heipocondriac. Roedd o’n byw ychydig cyn oes y camera ac felly does dim llun ohono ar gael, ond mae un olew ohono yn yr Amgueddfa Genedlaethol wedi ei beintio yn 1845 pan oedd yn 78 oed. Yn ôl y llun yma mae o’n edrych yn hen fachgen iach i’w ryfeddu. Efallai ei fod o bryd i’w gilydd yn cywilyddio oherwydd y digalondid yma gan ein bod yn clywed sain gobaith yn ei emynau. Maen nhw’n gryf eu neges ac yn ddefosiynol. Un ohonyn nhw yw Emyn 151 yn y Caniedydd ac Emyn 794 yn Atodiad y Presbyteriaid a’r Wesleaid, emyn sy’n llawn cysur: ‘Pa fodd y meiddiaf yn fy oes Dristau na grwgnach dan y groes, A minnau’n gwybod am y fraint Mai’r groes yw coron pawb o’r saint?’ Mae’r bardd yn ei geryddu ei hun. Fe ŵyr na ddylai fod yn cwyno, oherwydd os yw yn dioddef, ei fraint ef yw hynny ac fe ddioddefodd Crist fwy o lawer trosom. A dyma’r pennill olaf: ‘O dan y groes ymlaen yr awn, Dywedodd Ef mai’r groes a gawn: Ond dyma gysur, f ’enaid gwan, Try’r groes yn goron yn y man.’ Mae’n resyn na chyrhaeddodd yr emyn Ganeuon Ffydd. Ond beth am y dôn? Tôn Joseph Parry ‘Moliant’ sydd uwch ei phen yn y Caniedydd ond yn fy marn fach i y dôn sy’n gweddu i’r dim yw ‘Ombersley’, sef y dôn yn yr Atodiad. Mae hi’n dôn dawel gyfoethog gyda rhyw sain obeithiol braf ynddi. Ei hawdur oedd William Henry Gladstone (1840 -1891), mab i’r Prif Weinidog enwog W H Gladstone. Roedd William y mab yn ŵr talentog iawn. Bu’n AS am 20 mlynedd ac yn gyfansoddwr tonau ac anthemau. Yr oedd hefyd yn bêl-droediwr a chwaraeodd yn y gêm ryngwladol gyntaf rhwng Lloegr a’r Alban. Sais oedd ei dad ond roedd ei fam o Benarlâg yn Sir Y Fflint. Er hynny dros yr Alban y chwaraeai gan fod ei daid o’r wlad honno. Tydi pethau fel yna ddim yn newid llawer efallai. A’r sgôr, 1-1 oedd hi ac yn ôl yr adroddiadau fe gafodd yr hen foi gêm go dda. Mwy am Robert ap Gwilym Ddu eto, ond fe welwch beth yw’r cysylltiad rhwng yr hen fardd o’r Betws Fawr a phêl-droed rhyngwladol. JBW


Adeiladu hen feic modur Norton ac ennill gwobr am y beic gorau! Yn ôl yn hydref 2013 daeth cyfle i fy nhad yng nghyfraith a minnau brynu dwy ffrâm motor-beic Norton o atig cwpwl caredig o Alperton, Llundain, yn ogystal â llond garej o injans, blychau gêrs a llawer mwy o ddarnau. Yn anffodus, roedd iechyd Michael, y gŵr oedd yn gwerthu, yn dirywio ac nid oedd o’n medru gweithio ar feics yn rhagor, ond mae o wedi joio clywed hanes y ddau feic dros y pedair blynedd ddiwethaf. Norton ES2 o 1936 oedd fy ffrâm i. Do’n i ddim wedi deall ar y pryd faint o waith ymchwil oedd yn mynd i fod ei angen i adeiladu motor-beic mor hen heb gyfarwyddiadau na llawlyfr. Y dewis cyntaf oedd pa un o’r 4 injan oedd am fynd yn y beic. Roedd ’na grac yn y gwreiddiol oedd angen llawer o waith i’w drwsio, felly dewis mynd am un o 1958 gydag ychydig mwy o wmff wnes i! Dros y tair blynedd nesaf, ar bob penwythnos sbâr rhwng mudo, trefnu priodas a misoedd o ymarfer ar gyfer seiclo o John O’Groats i Land’s End, mi fues i’n gweithio ar adeiladu’r beic, tra’r oedd Pete (y tad yng nghyfraith) yn adeiladu ei feic o, Norton Dominator Café Racer o 1958. Gyda’r injan yn un mwy diweddar na’r gwreiddiol, wnes i ddewis peidio adeiladu’r beic i edrych fel un clasurol o 1936, a gwneud ambell i addasiad er mwyn gorffen hefo beic gwahanol ac unigryw. Dwi wedi torri rhan allan o’r tanc petrol oedd yn cuddio top yr injan, wedi ymestyn y tanc olew, cwtogi’r mudguards, creu braced newydd i ddal y plât rhif a golau cefn, diweddaru’r system danio, gwahanu ac ailadeiladu’r injan a’r gerbocs ac adeiladu olwynion, cyn cael rhywun sy’n gwybod mwy na fi am ’letrics i weirio popeth efo’i gilydd. Ar ddiwedd 2016, wnes i fedru tanio’r beic am y tro cyntaf. Carreg filltir enfawr, a rhyddhad mawr! Dros 2017 dwi wedi bod yn gorffen hyn a’r llall a threfnu. Ychydig o drafferth dwi wedi ei gael hefo’r injan. Ym mis Mehefin es i â’r beic i’r Ace Café (caffi beiciau modur byd enwog yn Llundain) ar ddiwrnod lle’r oedd cystadleuaeth ‘custom bikes’ yn cael ei chynnal. Enillodd y beic ddwy wobr ar y diwrnod, a chefais wahoddiad i ddangos y beic mewn sioe fawr yn ardal Rhydychen ym mis Medi. Cefais benwythnos arbennig yn y sioe, gyda’r beic yn cael ai arddangos ymhlith beics rhai o adeiladwyr beiciau modur gorau’r wlad. Gydag amrywiaeth o feics anhygoel yn bresennol, sioc fawr oedd clywed y beirniad yn enwi fy meic bach i yn enillydd ‘beic gorau’r sioe’! Dros yr haf, roedd hanes y beic yng nghylchgrawn beiciau modur ‘Back Street Heroes’ fel rhan o Bencampwriaeth Adeiladu Beiciau Prydain 2017. Cefais y newyddion gwych yn ddiweddar fod y beic wedi ennill y gystadleuaeth yn ei ddosbarth, ac fel canlyniad caiff ei arddangos yn sioe ‘Motorcycle Live’ yn yr NEC yn Birmingham ar 18-26 o Dachwedd eleni. Dwi ’di mwy na mwynhau adeiladu’r beic dros y pedair blynedd diwethaf, a methu aros am benwythnos braf i’w reidio fo adra i Ddyffryn Ardudwy. Mae’n rhaid i mi ddiolch i’m tad yng nghyfraith, Pete sydd wedi rhoi llawer o help i mi. Mae ei feic yntau wedi’i hen orffen ac wedi bod ar y ffordd dros flwyddyn bellach. Dwi’n brysur yn edrych am fy mhrosiect nesaf ar hyn o bryd, felly os oes gan unrhyw un hen feic modur sy’n cuddio mewn sied, ysgubor neu atig, mewn unrhyw gyflwr, mi faswn i’n falch iawn o glywed gennych. Aled Corps 07737 234239

Y ddwy ffrâm ‘Norton’

Ailadeiladu’r injan

Gosod yr injan yn ei lle

Adeiladu olwynion 17 A


‘O Lys Aberffraw i Gribau Eryri’ Cip ar waith y nofelydd hanes Rhiannon Davies Jones, Ardudwy ac atgofion am ei gwaith a’i bywyd. [Parhad]

Byr-hoedlog fu dathlu llwyddiant Rhiannon yn cipio’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Caerdydd. O fewn mis i’r seremoni chwalwyd ei llawenydd yn deilchion, pan fu farw ei chariad a’i chyfaill Clwyd, yn 45 mlwydd oed. ‘Cael fy lluchio i’r gwaelodion eithaf, gan aros yno am dair blynedd gron. Roedd y peth fel Tynged arna i a doedd dim ffoi rhagddo. Does dim ffoi rhag Angau.’ Rhywsut, dydw i ddim yn credu iddi fyth ddod dros y golled honno. Roedd cysgod y galar hwnnw fel petai’n rhan ohoni wedyn, yn ei geiriau a’i gwaith ac yn ei hymarweddiad. Dros ugain mlynedd yn ddiweddarach, pan roeddwn inna’n fyfyriwr yn y Coleg Normal ym Mangor, yr oeddem ni gyd yn synhwyro rhywfodd fod yna rhyw dristwch enbyd yn rhan ohoni. Mae’n dyfynnu llinell o waith R Williams Parry pan yn sôn am y cyfnod hwn yn ei bywyd - ‘Mae’r haf wedi marw hefyd,’ meddai ac ni allodd aros wedyn yn Nyffryn Clwyd, gan symud ymhen ychydig flynyddoedd i lawr i Goleg Caerleon fel darlithydd Cymraeg.

dderyn?... Ond chest ti mo’i gusan o yn naddo! Fuost ti ddim yn yfed o ffynhonne’i lygaid o? Sibrydodd o mo dy enw di. Dal di i grawcian. Mae pobl y gaer yn meddwl fod Duw yn y nefoedd ond does yr un Duw, rhen dderyn... does dim uffern chwaith. Ni alle’r un uffern fod yn waeth na hon.” Ond mae’r chwaer Anna yn dychwelyd at ei ffydd, ac yn cysegru ei bywyd ac yn mynd yn Lleian i Lan-Llŷr.

Eisteddfod Abertawe 1964 gyda T H Parry Williams yn traddodi

Yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1964, fe ennillodd eto ar y Fedal Ryddiaith gyda’r nofel Lleian Llan-Llŷr, nofel ddwys a theimladwy sydd yn adlewyrchu teimladau’r Chwaer Anna wedi i’w chariad gwympo yn un o frwydrau Llywelyn Fawr. Mae ymateb Rhiannon Davies Jones, a grym y dicter sydd yn ei disgrifiad, ar adegau yn ysgytwol. Mae ei phrofiadau hi o golli ei chariad yn ddiau yn dod a’r naratif yn fyw a gonest. Dyma ran o’r dweud pan mae’r Chwaer Anna yn cofio am farwolaeth Peredur, ei chariad ‘Yna rhyw ddiwrnod daeth negesydd ar frys tua’r gaer. Yr oedd Reginald de Breos wedi croesi corsydd Tregaron ac yn ymosod ar Lanfair-ym-muellt ... ni ddaeth Peredur yn ôl o’r frwydr honno. “Cariad Anna,” meddai rhywun, “mae o wedi marw. Dwedwch wrthi!” Ond ni feiddiai neb... Ac am fisoedd lawer byddwn yn siarad hefo pawb heb siarad hefo neb... “I ble’r est ti Peredur?” “Fe aeth Peredur at Fair,” meddai’r offeiriad. “At Fair butain!” Meddwn o dan fy anadl. “At Dduw.” medd rhywun. “Duw ddiawl!” meddwn. “Pe medrai gysgu...” “Fynna i ddim cysgu rhag i mi ddeffro.” “Mae Anna allan o’i phwyll!” Ac yna gweddiwn: “O Dduw, gwna i mi fynd o fy mhwyll. Os oes nefoedd drysa fy synhwyre a gad i mi farw.” Ac felly yr oeddwn yn bod mewn byd lle nad oedd byw na marw, yn llonyddwch maith y llwydni... Deuai imi’r meddyliau rhyfeddaf erioed o’r llwydni llonydd hwnnw... Rhyw fin nos ysgubodd aderyn drwy’r awyr a’i grawcian yn gras fel aderyn ysglyfaeth. “Beth gest ti i ginio rhen dderyn?” gofynnais. “gest ti glun Peredur? Gest ti ei glustie a’i lygaid o a’i ruddie o? Oedden nhw’n dda, yr hen

18 A

Cafodd Rhiannon Davies Jones lwyddiant ysgubol gyda’i phortread o Lleian Llan-Llŷr, gan i’r nofel gael gwerthiant sylweddol iawn. Yr oedd tri argraffiad o’r nofel wedi eu cyhoeddi erbyn 1967, ac argraffiad eto gan Wasg Gwynedd yn 1990 - camp brin yn y byd cyhoeddi Cymraeg. Wedi cyfnod byr yng Nghaerleon, daeth cyfle iddi ddychwelyd i’r gogledd ac yn ei hôl i Fangor yn 1965, yn ddarlithydd i’r Coleg Normal. Yno y bu wedyn hyd at ei hymddeoliad yn 1984.

Daliodd i ymchwilio i sawl maes hanes, a daliodd i gystadlu hefyd, gan ennill coron Eisteddfod Môn yn 1973, gyda’r nofel Llys Aberffraw a gyhoeddwyd yn 1977. Yn 1981 cyhoeddwyd y nofel Eryr Pengwern, sydd wedi ei gosod yn y seithfed ganrif, yng nghyfnod Heledd a’i brawd Cynddylan. Yn 1985 cyhoeddwyd Dyddiadur Mari Gwyn, sy’n mynd a ni yn ôl i gyfnod yr erledigaeth ar Babyddion yn nheyrnasiad Elizabeth 1. Ac yna daeth y dair nofel epig, un yn dynn ar sawdl y llall, ac yn ôl Gruffydd Aled Williams, dyma waith mwyaf uchelgeisiol Rhiannon Davies Jones, eto. Tair nofel wedi eu hysgrifennu mewn cyfnod anodd i genedlaetholwyr, yn dilyn digalondid methiant y bleidlais ar ddatganoli yn 1979. Nofelau yn cwmpasu teyrnasiad Llywelyn Fawr, Dafydd ap Llywelyn, a Llywelyn ap Gruffydd, sef Cribau Eryri, 1987, Barrug y Bore 1989 ac Adar Drycin 1993. Yn sicr yn fy meddwl i mae’r rhain yn glasuron, yn nofelau i fynd yn ôl atynt ac i ryfeddu unwaith eto at waith ymchwil trylwyr Rhiannon. Mae yma ail-greu cymdeithas Oes y Tywysogion yn ei holl rigolau, mae yma gymeriadau, rhai o gig a gwaed y gwyddom am eu bodolaeth, ac eraill yn ffrwyth dychymyg yr awdures, ond ymhob un y mae yma gymhlethdod y da a’r drwg, y ffyddlon a’r


anffyddlon, y bradwr a’r arwr. Pa bynnag lun sydd gennym ni o’n harwyr cenedlaethol, fe gawn yng ngwaith Rhiannon Davies Jones yr hyn sy’n eu gwneud yn ddynol, ei dadansoddiad hi o’r digwyddiadau a’r rhai a gymrodd ran yn y digwyddiadau hynny. Fel y dywed yr awdures hanes Hilary Mantel yn ddiweddar yn y Ddarlith Reith - pan fyddwch yn darllen ffuglen hanes, - ‘You are not buying a replica, or photographic reproduction, you are buying a painting, with the brushstrokes left in.’ Mor wir yng nghyd destun gwaith Rhiannon Davies Jones. Mae cyffyrddiad y brwsh paent mor gelfydd a chynnil yn ei gwaith.

Y ddwy chwaer, Annie Davies Evans a Rhiannon Davies Jones wrth Pen-y-bont

Cyfrol olaf Rhiannon Davies Jones oedd Cydio Mewn Cwilsyn a gyhoeddwyd yn 2002, a hithau bellach mewn iechyd pur fregus. Cawn ynddo ddyddiadur ffuglennol eto wedi ei osod yng nghyfnod yr Archddiacon Edmwnd Prys, ar ddechrau Cyfnod y Stiwartiaid. Ynddo hefyd mae cyfres o ysgrifau, ac atgofion yr awdures. Bu i mi bwyso’n drwm ar yr ysgrifau hyn wrth greu’r rhaglen hon. Fel y dywedais eisoes roedd rhywun yn synhwyro dwyster cymeriad Rhiannon Davies Jones, yr ochenaid fach honno, nad oedd ymhell. Ond fel y dywed hi ar ddiwedd ei chyfrol olaf - ‘Fe all pobl gredu fy mod yn berson difrifol iawn, ond nid dyna’r gwir. Mae llawer o ddigrifwch plentynnaidd yn aros o hyd o dan yr wyneb, a diolch amdano!’ Gallaf yn sicr ategu’r geiriau hyn. Nid efallai y digrifwch plentynnaidd, ond yr oedd yn sicr llawer o ddoniolwch ac ysgafnder yn perthyn i Rhiannon Davies Jones. A minnau yn un o’r myfyrwyr yn ei gwersi Ysgrifennu Creadigol ar ddechrau’r wythdegau, mi fedraf haeru yn sicr, nad darlithoedd mohonynt. Seiadau mae’n debyg yw’r gair mwyaf addas, er nad seiadau difrifol o gwbl, dim ond trafod tipyn am y busnes sgwennu yma. Un cof arbennig sydd gen i ydi o arfer Rhiannon o fynd i chwilio am yr awen - hynny ydi, roedd yn rhaid aros i’r awen eich cyffwrdd cyn medru ysgrifennu, a lle gwell na bedd Cynan ar Ynys Tysilio ar lan y Fenai i ddod o hyd iddi. Ni fydden ni’n cael cerdded yno, gan fod y ffordd yn llawer rhy beryglus yn nhyb Rhiannon, yn hytrach byddai hi’n ein cario pob yn dri neu bedwar dros Bont Menai yn ei char bach coch, ac yna ein gadael i droedio’r llwybr bach draw at eglwys Tysilio. Yno byddai’r aros yn digwydd, aros ac aros - nes byddai’r cyfnod drosodd ac yna nôl a ni i’r coleg, yr awen fel arfer yn dal i hedfan yn rhydd uwchben tonnau’r Fenai. Cofiaf hefyd i ni sawl gwaith fethu mynd yn ein blaenau gydag unrhyw drafodaeth ar lenydda, gan i Rhiannon fynd i chwerthin am rhyw sylw neu’i gilydd, bryd hynny byddai’r dagrau’n dianc, a byddai’r hances lês yn dod allan, a’r sbectol binc nodweddiadol yn cael ei gwthio i flaen ei thrwyn. Ond fel myfyrwraig yn dechrau’n sigledig ar geisio ysgrifennu rhywbeth - y cof mwyaf sydd gennyf ydi o Rhiannon yn athrawes addfwyn, oedd bob amser yn canmol ac annog. Roedd hi am i ni lwyddo, doedd hi ddim am i ni faglu, ac felly y bu, yn gwylio ein camau o bell, ac eto yn cymryd diddordeb byw yn yr hyn yr oedden ni’n ei wneud. Pan yn ysgrifennu fy nofel hanes gyntaf - Mab y

Cychwr, cefais wŷs i’w chartref ym Mhorthaethwy, a hithau erbyn hynny yn rhannol ddall a musgrell iawn, ond roedd hi wedi bod yn pendronni, yn gwybod fy mod yn ysgrifennu am ardal Ardudwy, ac am wneud yn siwr fy mod yn gwybod sut roedd gwely’r afon Artro wedi newid yn ystod storm enbyd rhywdro yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg- doedd hi ddim am i mi faglu, rhag i ddilysrwydd unrhyw beth a fyddwn yn ei ysgrifennu gael ei amau. Roedd ei meddwl yn dal yn effro a bywiog, a’i gofal dros ei chyn-fyfyrwraig yn ddigyfnewid. Fel y dywedodd Rhiannon, roedd ysgafnder yn rhan annatod o’i natur, a dyna sydd i gyfrif mae’n debyg am y casgliad o hwiangerddi o’i heiddo. Rydw i wedi crybwyll y casgliad a gafodd ei gyhoeddi, ond yr oedd gan Rhiannon lyfryn yn llawn o gerddi bychan gwreiddiol, a chefais gip ar hwnnw yn ddiweddar, a’u cael yn gerddi hyfryd a nodweddiadol o natur ramantaidd Rhiannon. Mae’r teulu bellach wedi eu trosglwyddo i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Yn Eisteddfod Môn eleni cafodd un o’r hwiangerddi hynny ei chanu gan Cadog, Brychan a Guto - tri gor-ŵyr i Gwynfor Evans. Gallaf glywed rŵan yr ochenaid fechan honno o eiddo Rhiannon, petai hi ond yn gwybod!

Ger rhaeadrau gwrhydri - yr oedodd, ger rhydau’n trueni, ac aeth fel gwaed ei gwythi afon y Cof i’w hinc hi. Gerallt Lloyd Owen Haf Llewelyn

19 A


Cyw yn dod â hwyl a hud y Nadolig i Wynedd! Mae Cyw a’i ffrindiau yn dod i’r ardal cyn bo hir fel rhan o daith i ddymuno Nadolig Llawen i blant ar hyd a lled Cymru. Bydd rhai o gyflwynwyr a chymeriadau hoffus S4C - Huw, Elin, Ben Dant a’i ffrind Cadi, Seren o blaned Asra ac, wrth gwrs, Cyw ei hun - yn dod i Wynedd ar 14, 16 a 17 o Ragfyr ac maen nhw’n eich gwahodd chi i ymuno â nhw yn yr hwyl! Bydd tair sioe yn cael eu cynnal yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, ar 14 o Ragfyr, ac mae’r sioeau yn dechrau am 11.30, 1.45 neu 5.45. I brynu eich tocyn, dilynwch y ddolen ar wefan s4c.cymru/cyw Mae’n bosibl archebu tocynnau ar gyfer grwpiau os ydych chi’n dymuno trefnu trip ar gyfer eich ysgol, mudiad meithrin neu grŵp chwarae. Mae croeso mawr i bawb yn Sioe Cyw! Bydd ffi bwcio o £1.00 ar bob archeb sy’n cael ei wneud dros y ffôn neu ar-lein. Cysylltwch â Galeri ar 01286 685222 os gewch unrhyw anawsterau. Mae Sioe Nadolig Cyw yn boblogaidd iawn pob blwyddyn a’r tocynnau yn gwerthu’n gyflym, felly peidiwch ag oedi!

TÎM PÊL-DROED ADRAN YR URDD YSGOL Y TRAETH

Aeth 15 o dimau ysgolion cynradd i’r Bala er mwyn ceisio sicrhau lle yn y chwaraeon cenedlaethol yr Urdd yn Aberystwyth. Wedi perfformiadau arbennig, llwyddodd un o dimau Ysgol y Traeth i gyrraedd y rownd gyn-derfynol cyn colli. Er y siom, gall pawb fod yn falch iawn o’u hymdrechion.

20 A

Taith BandArall i Estonia Cychwynnodd 6 o aelodau Band Arall ar daith i Estonia ar Fedi 28ain 2017 o faes awyr Manceinion, profiad fydd yn siŵr o aros yn y cof am amser hir. Bu’r 6 yn ddewr iawn i hedfan gyda Ryanair o gofio amgylchiadau’r cwmni ar y pryd. Glaniwyd yn Riga, yn Latvia a thaith 2 awr a hanner mewn bws i dref Pärnu. Taith pur wahanol i deithiau bws Traws Cambria yn sicr! Seddi moethus, toiled a darpariaeth paned. Sgrîn o flaen pob sedd yn cynnig amrywiaeth mawr o ffyrdd i ddifyrru’r teithwyr. Daeth y gwahoddiad gan Ganolfan Hen Ysgol Raekula yn nhref Parnu lle mae gwahanol agweddau ar ddiwylliant yn cael lle amlwg. Braf iawn oedd cael gweld rhai o’r gweithgareddau’n digwydd a chael cymryd rhan gydag un grŵp arbennig gan gyfnewid a gwrando ar alawon y naill grŵp wrth y llall. Gwnaed trefniadau manwl ar ein cyfer a chawsom gyfle i ymweld â’r brifddinas Tallin (a hynny’r un diwrnod ag arweinwyr gwledydd Yr Undeb Ewropeaidd gan gynnwys Mrs May wrth gwrs). Roeddem yn sefyll yn griw bychan yn gwrando ar y tywysydd oedd yn ein harwain o gwmpas y ddinas pan glywais fy ffôn yn pingian yn cyfleu bod neges. O’i agor, gwelais y neges ganlynol: ‘NEWS FLASH - Prime Minister Theresa May is delighted to announce that Welsh Folk Band member Mr C Roberts will be assisting her in Brexit Talks in Estonia this week and will be promoting the UK abroad!’ Digon yw dweud mai hen dynnwr coes o Blas Tan-y-bwlch oedd yn gyfrifol. Bu’r lleill yn methu deall beth oedd testun y chwerthin nes i mi egluro a dangos y neges! Yn ogystal ag ymweld â Tallin, cawsom gyfle hefyd i deithio i’r dwyrain i dref Tartu. Yno mae prifysgol hynaf a mwyaf enwog y wlad a lle mae Amgueddfa Genedlaethol Estonia wedi ei lleoli. Gallem yn hawdd fod wedi treulio’r diwrnod yn gyfan yn yr amgueddfa. Rhyfeddol oedd eu defnydd o dechnoleg fodern i gyfleu eu gorffennol. Mae’n werth cyfeirio at yr adran canu gwerin yno lle cawsom glywed lleisiau grŵp o ddynion yn cyd-ganu, ac yn swnio mor debyg i’n canu plygain ni. Fe fuom ni’n cynnal cyngerdd neu ddau hefyd! Noson wahanol iawn oedd honno yn y Sweet Rosie Irish Pub, tafarn Wyddelig mewn enw’n unig dybiwn i. Noson hwyliog a phawb i’w gweld wedi mwynhau. Cynhaliwyd tri chyngerdd mewn tair ysgol yn y dref a’r ymateb yn gynnes ym mhob un. Ddydd Sul cynhaliwyd y cyngerdd yng Nghanolfan Raekula oedd yn brofiad arbennig. Fel rhan o’n rhaglen cyflwynwyd y gân Kauges Kulas, un o ganeuon Estonia, ac roedd yr ymateb a gawsom bob tro yn brofiad, a’r hyn oedd yn rhyfeddol oedd i bob cynulleidfa hen neu ifanc neu ganol oed, ymuno i ganu gyda ni ac yn amlwg roeddynt yn gwybod y geiriau hefyd. Roedden nhw’n mwynhau canu. Efallai am ein bod ni, bobl, yn gyffredinol yn mwynhau cerddoriaeth, mae’n rhywbeth sydd yn dod â ni at ein gilydd, ac yn y dyddiau hyn o ansicrwydd ac ymbellhau yng nghysgod y Brecsit, mae cael cyfleoedd fel hyn i godi pontydd a chreu a chryfhau cysylltiadau yn rhywbeth na ellir rhoi pris arno. Mi fyddem ni fel band yn dymuno diolch yn gynnes iawn am y croeso, y gofal a’r trefniadau a wnaed, ac am yr holl garedigrwydd a ddangoswyd tuag atom.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.