Llais Ardudwy
50c
RHIF 481 - TACHWEDD 2018
DOUGLAS OWEN YN 100 OED
Tri o ffrindiau Douglas, sef Philip Jones, Bob Derec ac Eifion Williams, wedi galw heibio Hafod Mawddach ar achlysur pen-blwydd arbennig Douglas yn 100 oed yn ddiweddar. Roedd Douglas yn aelod o Gôr Meibion y Brythoniaid am rai blynyddoedd, ac mae Bob hefyd yn un o’r aelodau cyntaf.
Calendr Llais Ardudwy ar werth rŵan yn y siopau arferol
EISTEDDLE TOM HUGHES
Ar nos Fawrth, Hydref 9, agorwyd eisteddle Tom Hughes yng Nghae y Wern Fach yn swyddogol gan y dyn ei hun. Braf oedd ei weld wedi gwella digon i fedru bod yno. Bu Tom yn aelod gweithgar iawn o’r Clwb Pêl-droed am dros 60 mlynedd. Llongyfarchiadau calonnog iddo ar dderbyn y fath anrhydedd.
PENCAMPWR
Pen-blwydd arbennig
Cyfarchion pen-blwydd arbennig iawn i Douglas Owen sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed. O Harlech yn wreiddiol, mae Douglas bellach yn byw yng nghartref Hafod Mawddach yn y Bermo. Difyr oedd gweld Douglas yn cael ei gyfweld ar Newyddion 9 S4C ar nos Iau, 1 Tachwedd, gan Llŷr Edwards, gohebydd S4C, am ei brofiadau yn yr Ail Ryfel Byd. Eglurodd Douglas fel y bu’n hynod o lwcus o gael cwch o draeth Dunkirk ac fel yr hwyliodd y cwch hwnnw’n ôl i Loegr. Dywedodd hefyd bod angen cofio’r miloedd a roddodd eu bywydau yn y Rhyfel er mwyn sicrhau na fydd dim byd tebyg yn gallu digwydd eto. Anfonwn ein cofion cynhesaf ato gan wybod ei fod yn mwynhau darllen Llais Ardudwy a’i fod yn cael pob gofal gan staff Hafod Mawddach.
Bydd pris y papur yn codi i 70c ym mis Ionawr.
Llongyfarchiadau i Aled Shenton, fferm Caerddaniel a’i wartheg Charolais. Bu’n dymor arddangos llwyddiannus dros ben i Aled, gan gychwyn yn Sioe Nefyn lle cafodd wobr pencampwr a phencampwr wrth gefn. Mae’n siŵr fod ei lwyddiant yn Sioe Llanelwedd yn binacl i’w dymor lle’r enillodd yr oruwchbencampwr wrth gefn a hefyd pencampwriaeth pâr Charolais. Dilynwyd hyn gan lwyddiant ysgubol yn Sioe Sir Fôn a Sioe Sir Feirionnydd. Yn dilyn canlyniadau Sioeau Eglwysbach, Llanrwst a Cherrigydrudion roedd gwobr arbennig ar gael gan NFU Cymru am y pâr gorau ar dennyn, ac i Lanaber y daeth y wobr hon hefyd. Yn glod ychwanegol i’r holl lwyddiant yw’r ffaith fod yr holl wartheg wedi eu magu adref gan Aled.
GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com 07760 283024 / 01766 780541
SWYDDOGION
Cadeirydd: Hefina Griffith 01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg CASGLWYR NEWYDDION LLEOL
Y Bermo Grace Williams 01341 280788 David Jones 01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones 01341 241229 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Cysodwr y mis: Phil Mostert
Bydd y rhifyn nesaf yn cael ei osod ar Tachwedd 30 am 5.00. Bydd ar werth ar Ragfyr 5. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Tachwedd 26 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’
Dilynwch ni ar Facebook @llaisardudwy
2
HOLI HWN A’R LLALL
Ydych chi’n bwyta’n dda? Janet Griffith, Craig Artro sy’n dal Rwy’n bwyta llawer o fwyd a mor weithgar yn y pentref er ei hwnnw o ansawdd da. Mae ‘na bod mewn gwth o oedran; mae’n lawer o lefydd bwyta da yn yr ffrind ffyddlon i mi. ardal lle rydan ni’n byw. Beth yw eich bai mwyaf? Hoff fwyd? Tueddu i fod yn ‘bossy’! Dwi’n Bwyd Tsieineaidd ac Indiaidd a tueddu i ddweud wrth bobl nid bwyd y gŵr, Partrice, sy’n gogydd gofyn iddyn nhw! proffesiynol ac yn Ffrancwr. Beth yw eich syniad o Hoff ddiod? hapusrwydd? Gwin coch neu wyn a gwin rosé Bod gartref efo’r gŵr a’r ddwy yn yr haf. GET 27 o Ffrainc ar ôl gath ‘Jeeves’ a ‘Wooster’ o flaen y cinio, mae o’n debyg i creme de tân [di-fwg wrth gwrs]! menthe. Beth fuasech chi yn ei wneud efo Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta £5000? efo chi? Mynd ar wyliau efo’r gŵr i Alaska. Y gŵr a nifer o ffrindiau diddorol. Eich hoff liw a pham? Stephen Fry, Edward Fox a Barry Coch, lliw tîm rygbi Cymru. Mi Humphreys [Dame Edna]. Mae fyddwn yn dilyn y gemau yn ’na amryw o bobl enwog yn dod ffyddlon. i’r clwb am ginio - Joanna Lumley, Eich hoff flodyn? Frederick Forsyth, Andrew Lloyd Grug a frangipani - blodyn gwyn Enw: Margaret Hefina Auroux Webber, a J K Rowling ymhlith efo canol melyn ac arogl hyfryd [Hefina Penbont] eraill, gan gynnwys aelodau arno, yr un arogl â’r crwst enwog. Gwaith: Bûm yn rhedeg Clwb o’r teulu brenhinol. Roedd un Mae frangipani yn fy atgoffa o Dynion pwysig ac enwog ‘Pratt’s’ ohonyn nhw yma y noson o’r Awstralia tra mae grug bob amser yn St James’, Llundain ers 33 o blaen! yn fy atgoffa am Gymru. flynyddoedd ac yn dal i wneud. Lle sydd orau gennych? Eich hoff gerddor? Cefndir: Cefais fy ngeni a ’nghodi Cymru sy’n dod gyntaf ar fy Syr Bryn Terfel, does neb i’w guro yn fferm Pen-y-bont, Llanbedr. rhestr, Awstralia yn ail a De fo. Rydan ni wedi bod i sawl Es i weithio i’r RAF yn 18 Affrica yn drydydd. cyngerdd cofiadwy. oed. Bûm yn nyrsio am bedair Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Hoff gerddoriaeth? mlynedd, dwy yn Lloegr a dwy yn Yn Ffrainc a De Affrica lle mae’r Corau Meibion. Byddwn yn dilyn yr Almaen. Gweithio yn Ysbyty bobl mor gyfeillgar ac mae’r wlad llawer ar ganu corawl Cymreig. St Thomas yn Llundain wedyn yn werth ei gweld. Rydw i wrth Pa dalent hoffech chi ei chael? am 4 mlynedd, ac 8 mlynedd fy modd efo’r bwyd a’r gwin. Canu’n well. Bûm yn canu yn Awstralia cyn dod yn ôl i Beth sy’n eich gwylltio? hefo Côr Rygbi Sydney Welsh, Lundain. Pobl ifanc a dynion sy’n gwrthod ond gallwn fod yn llawer gwell Sut ydych chi’n cadw’n iach? ildio eu sêt i bobl oedrannus nei i cantores! Cerdded i fyny ac i lawr y grisiau ferched. Eich hoff ddywediadau? i’r fflat ar y pedwerydd llawr a Beth yw eich hoff rinwedd mewn Byddaf yn dweud wrth Patrice yn cherdded yn St James’ Park a ffrind? aml, ‘Cofia feddwl yn gadarnhaol Green Park. Bod yn ffyddlon. [positive]!’ Beth ydych chi’n ei ddarllen? Pwy yw eich arwr? Sut buasech chi’n disgrifio eich Hunangofiannau a llyfrau hanes. Fy ngŵr, Patrice, am fod hun ar hyn o bryd? Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? mor gefnogol i mi am 28 o Yn hapus a bodlon fy myd, yn Byddaf yn gwrando ar Classic FM flynyddoedd. mwynhau bywyd ac yn cadw’n ac rwy’n hoff o’r ‘Antiques Road Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr brysur. Show’. ardal hon? Yn nofel ddiweddaraf Robert Galbraith [ffugenw J K Rowling], ‘Lethal White’ mae’r prif gymeriad yn mynd i Glwb Pratt’s yn Llundain ac yn crybwyll y cogydd Ffrengig a Georgina - y groesawferch [stewardess]! Enwogrwydd i Hefina felly, ond rhaid bod yr enw Cymraeg yn ormod i Ms Rowling! [Gol.]
LLYTHYR
Annwyl Olygydd, Tybed a allwch chi fy helpu i os gwelwch chi’n dda? Dwi’n ymchwilio i hanes Miss Mary Davies a aned yn 1890 yn Harlech, yn ferch i‘r Parch David Davies, gweinidog gyda’r Bedyddwyr. Dwi’n credu mai Maelgwyn oedd enw’r cartref. Aeth Mary i Goleg Bangor a bu’n Arolygwr Addysg hyd ei marwolaeth yn 1938. Bu perthynas rhyngddi a’r Athro W J Gruffydd. Tybed a ydych chi wedi dod ar draws unrhyw hanes neu lun ohoni? Bu ei angladd yn Harlech ond tybed a oes rhywun yn gwybod ble yn union y claddwyd hi? Mi faswn i’n ddiolchgar iawn am unrhyw wybodaeth. Yn gywir, Gareth William Jones 01970 828203
LLANFAIR A LLANDANWG Merched y Wawr Croesawyd Cangen Talsarnau a Twm Elias y gŵr gwadd gan Bronwen. Mae Twm Elias yn lais cyfarwydd i’r rhai sy’n gwrando ar Radio Cymru. Roedd yn ddarlithydd a threfnydd cyrsiau ym Mhlas Tan-y-bwlch cyn iddo ymddeol. Mae hefyd yn awdur nifer o lyfrau ac yn olygydd Fferm a Thyddyn – cylchgrawn sy’n cofnodi hen arferion ym myd ffermio a chefn gwlad. Cafwyd noson ddiddorol yn ei gwmni yn adrodd hanesion am gymeriadau cefn gwlad yr oedd o wedi dod ar eu traws o ddydd i ddydd. Haf dalodd y diochiadau gyda Siriol Lewis yn diolch ar ran cangen Talsaranu. Rhaghysbysiad Plygain Cyfeillion Ellis Wynne, Y Lasynys Fawr. Nos Fercher, 23 Ionawr, 2019 am 7.00 o’r gloch yn Eglwys Llanfair.
Diolch Hoffai teulu’r diweddar Mair Meredith Williams, Glennydd, Derlwyn, Llanfair gynt, ddiolch i bawb am yr holl negeseuon o gydymdeimlad a dderbyniwyd, yn llythyrau a chardiau lu, ar ei marwolaeth yn ddiweddar. Diolch hefyd i bob un ohonoch a gyfrannodd at y gronfa er cof am Mair M. Daeth £540 i law, felly rhoddwyd £135 yr un i Neuadd Goffa Llanfair, Llais Ardudwy, Ysgol Tanycastell a chronfa Plas Bach, Ynys Enlli. Nain a thaid Llongyfarchiadau i Hefina ac Emlyn Griffith ar ddod yn nain a thaid am y tro cyntaf. Ganwyd Nia Grace i Sera a Mike ar Hydref 31. Maen nhw’n byw yn Stockport. Bydd Modryb Ceri wrth ei bodd!
DYDDIADUR Y MIS
Tachwedd 3-10 – Eglwys Sant Ioan, Bermo, Arddangosfa Y Rhyfel Mawr, 10.00 – 4.00 Tachwedd 7 – Cymdeithas Gymraeg Bermo, JBW, Cricieth, 7.30 Tachwedd 8 – Festri Lawen, Dyffryn Ardudwy, Keith O’Brien, 7.30 Tachwedd 9 - Sefydliad y Merched, Bermo, Bwyta Allan Tachwedd 9 – Merched y Wawr, Cwis Hwyl, Neuadd Llanelltyd Tachwedd 9 - Gyrfa Chwilen at Ymchwil Canser, Neuadd Goffa Llanfair am 7.00 Tachwedd 10 – Gŵyl Cerdd Dant, Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog Tachwedd 11 – Gwasanaeth Sul y Cofio ger y Gofeb, Dyffryn Ardudwy, 3.00 Tachwedd 12 – Cymdeithas Cwm Nantcol, Gwyn Wheldon a’i Griw Tachwedd 13 – Clwb Cinio, Gwesty Eryrod, Llanuwchllyn, 11.45 Tachwedd 17 – Arwerthiant Llyfrau Coleg Harlech Tachwedd 17 – Bingo, Caffi’r Pwll Nofio, Harlech, 2.30 Tachwedd 20 – Merched y Wawr Bermo, Alma Evans Dolgellau, Noson Nadoligaidd Tachwedd 21 – Teulu Ardudwy, Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy, Addurniadau Nadolig, 2.00 Tachwedd 27 – Cymdeithas Cwm Nantcol, ‘Llond car ac un yn y bŵt’ Tachwedd 29 – Ffair Nadolig, Neuadd Gymuned Talsarnau, 6.30 Tachwedd 30 – Grŵp Gwella Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont, Y Sgethin Rhagfyr 8 – Cinio Clwb Rygbi Harlech, Nineteen.57, 7.30 Rhagfyr 9 - Gwasanaeth Nadolig Undebol, Eglwys St Tanwg, Harlech gyda Band Harlech a Chana-mi-gei Rhagfyr 10 – Cinio Cymdeithas Cwm Nantcol/ Côr Meibion Ardudwy, Bwyty Clwb Golff Harlech Rhagfyr 12 – Gwasanaeth Carolau Eglwys Sant Pedr, Llanbedr, 6.30 Rhagfyr 16 - Gŵyl y Baban, Capel Jerusalem, Harlech am 7.00 Canu Nadoligaidd yng nghwmni Meibion Prysor Rhagfyr 18 – Carolau ’81, Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy, 7.00
Bryn Cader Faner
Rhai o aelodau Cymdeithas Hanes Harlech ger cofeb Bryn Cader Faner a saif yn y bryniau uwchben Llandecwyn Cymdeithas Hanes Harlech Ar 10 Gorffennaf eleni, aeth aelodau o Gymdeithas Hanes Harlech, dan arweinyddiaeth Andrew Wolfe, archeolegydd lleol, ar daith i’r gofeb o’r Oes Efydd, Bryn Cader Faner, a saif yn y bryniau uwchben fferm Caerwych ar ran o hen ffordd yr Oes Efydd rhwng Ardudwy a Thrawsfynydd. Ystyrir gan lawer o archeolegwyr bod y gofeb drawiadol hon ymysg yr enghreifftiau gorau yng Nghymru os nad yng ngwledydd Prydain. Fe’i crëwyd oddeutu 2,000 CC ac mae’r cerrig o’i chwmpas wedi eu gosod ar eu traed ar ongl at allan o brif gorff y garnedd. Wrth agosáu at y safle o gyfeiriad y de, gwelir y cerrig yma ar y gorwel, golygfa hynod o drawiadol.
DWI’N COFIO
CHARLIE JONES Y TEILIWR
Mae stori am Charlie Jones, y teiliwr oedd yn byw yn ‘Trem y Môr’, Dyffryn Ardudwy yn y teras ger y neuadd bentref, yn eistedd o flaen ffenestr agored un haf yn gwnio pan ddaeth syrcas i’r pentref a’r orymdaith yn mynd heibio’r teras. Fe roddodd yr eliffant ei drwyn i mewn drwy’r ffenest. Dychrynnodd Charlie Jones a’i bigo hefo’r nodwydd oedd yn ei law. Pan ddaeth yn amser i’r orymdaith ddychwelyd drwy’r pentref, fe gofiodd yr eliffant a phan ddaeth at dŷ Charlie Jones chwythodd ddŵr ato drwy’r ffenest agored. Y ddiweddar Miss May Davies, Llanenddwyn fyddai’n adrodd y stori. Roedd hi yn fodryb i Erddyn Davies oedd yn destun ‘Holi Hwn a’r Llall’ y mis diwethaf.
Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/llaisardudwy/docs
Llais Ardudwy 3
LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau i Ceri Richards, Cwm-yr-afon, ar ei phenodiad yn ymgynghorydd iechyd mewn clinig yn Leeds. Teulu Artro Cafwyd cinio blasus yn Hafan Artro ym mis Medi ar ddechrau tymor newydd, gyda Glenys Roberts yn llywyddu. Diolchodd i Iona am drefnu’r cinio ac am drefnu rhaglen ddiddorol ar ein cyfer ac i Evie Morgan am argraffu’r taflenni. Cyfeiriodd at salwch Eirwen ac Elizabeth gan ddymuno gwellhad buan iddynt. Dechrau Hydref daeth Bryn Williams o Gricieth atom. Cawsom sgwrs ddifyr ganddo ar sut y cychwynnwyd cynnal Gŵyl Ddiolchgarwch tua 1840, gan adrodd emynau sydd â chysylltiad â’r Ŵyl, a’r arferion oedd gennym i ddiolch am y cynhaeaf. Dymunodd Glenys, y llywydd, ben-blwydd hapus i Elinor yn 90 oed, a dymuno iechyd buan i Eirwen ac Elizabeth, a diolchodd i Iona am ofalu am waith y trysorydd dros dro yn lle Eirwen. Diolchodd Greta i Bryn a’n hatgoffa o’r adeg y bu’n byw yn Ty’n Ddôl ac yn aelod yn y Gwynfryn gyda’i wraig Gwenan a’r teulu.
Brysiwch wella Dymunwn adferiad iechyd buan i Reg Jarvis. Clun newydd Derbyniodd Lorraine Coe, Bryndeiliog, glun newydd yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar. Gobeithio ei bod yn dal i wella. O Awstralia Croeso adre i’r Bryn i Manon a’r hogiau Bailey Artro a Jo Artro o Awstralia. Mae’r bechgyn yn mynychu dosbarth yn y Penrhyn i roi sglein ar eu Cymraeg tra byddant yma. Da iawn, hogiau. Diolch Dymunaf ddiolch i’m teulu am ffrindiau am yr anrhegion, cardiau a galwadau ffôn a dderbyniais ar fy mhen-blwydd yn ddiweddar. Diolch o galon i bawb. Elinor Evans, Moelfre. Rhodd £10 Rhoddion Diolch Edith Owen am dalu mwy na’r gofyn am ei thanysgrifiad. Mae’n anfon ei diolch a’i chofion at bawb. Diolch hefyd i Anna Wyn Jones am ei rhodd o £10.
Ysgol Cwm Nantcol 1934-5
CYWIRIAD! Drwg gennym am y camgymeriad yn ein rhifyn diwethaf. Sylwer ar y ddau gywiriad mewn print du isod. Rhes ôl (chwith i’r dde) 7. Hannah Jones, Graig Isa. Ar ôl priodi bu’n ffermio yn Nhyddyn Ronnen, Llanuwchllyn. 8. Dorothy Stephen, Maes-y-garnedd. Ar ôl priodi bu’n byw am gyfnod yn yr Allt Goch cyn symud i Dy’n Rhos Fawr, Rhos Fawr.
4
Ysgol Llanbedr Hoffem ddiolch o galon i bob rhiant, aelodau o’r teulu ac o’r gymuned a ddaeth i’r ysgol am baned a chacen i gefnogi ein P’nawn Coffi Macmillan. Codwyd swm anhygoel o £229 – gwych! Ymysg yr holl bethau sy’n digwydd acw bu’r disgyblion hŷn yn gwylio sioe ‘Awful Auntie’ yn y Venue, Llandudno yn ddiweddar. Dyma fydd y sbardun am fis o waith Saesneg i’r dosbarth rŵan!
Bu disgyblion y Cyfnod Sylfaen yn siop y pentref yn prynu cynhwysion i wneud pitsa – blasus iawn hefyd! Yn y lluniau isod, fe welwch chi rai yn ceisio datrys problemau wrth weithio fel tîm o garcharwyr – mae pawb yn saff yn Llanbedr, peidiwch chi â phoeni dim!
Gwasanaeth Carolau Eglwys Sant Pedr, Llanbedr Nos Fercher, Rhagfyr 12 am 6.30 efo Band Harlech
Rhodd Diolch am y rhodd o £30 gan Hefina Auroux, Llundain.
Cyhoeddiadau’r Sul TACHWEDD, Capel y Ddôl 11 Parch Eric Greene 18 Mrs Glenys Jones RHAGFYR 2 Parch Huw Dylan Jones
Dathlu 10 mlynedd gefeillio Llanbedr a Huchenfeld
Yn ddiweddar bu Kevin Titley, Gruff Price a Helen Johns, aelodau o’r Cyngor Cymuned, a Susanne Davies, aelod o Eglwys Sant Pedr, draw i Huchenfeld yn yr Almaen i ddathlu 10 mlynedd ers i’r ddau bentref efeillio. Mae gan Lanbedr gysylltiadau cryf efo Huchenfeld ers i John Wynne fynd drosodd yn 1992 a chyflwyno ceffyl siglo i’r ysgol feithrin i gofio am ei gyfeillion a gollodd eu bywydau yno yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ers hynny mae nifer fawr o blant ac oedolion o’r ddwy wlad wedi bod yn cyfnewid ymweliadau. Cafodd y Cymry groeso cynnes iawn eleni a’r cyfle i fod yn rhan o’r dathliadau mewn cyngerdd ar y nos Sadwrn trwy roi anerchiadau a hefyd mwynhau adloniant gan gôr lleol a band acordion. Rhan bwysig o’r ymweliad oedd mynychu gweithdy i drin a thrafod dyfodol y gefeillio a sut allwn symud ymlaen i’w gadw’n fyw. Rhannwyd nifer o syniadau yn cynnwys cadw cysylltiad efo’r ysgolion a hefyd annog ymwelwyr a chymdeithasau i ymweld. Yn ddiweddar mae cylchfan newydd wedi ei greu yn Huchenfeld ac wedi ei enwi yn Gylchfan Llanbedr, a theimlad balch iawn oedd cael ei weld! Bu’r daith yn llwyddiannus iawn er mwyn symud ymlaen i sicrhau dyfodol cadarn rhwng y ddwy wlad. Taith yng Nghwm Nantcol Dydd Sul, 9 Rhagfyr. Trefnir gan Glwb Dringo Porthmadog. Croeso i bobl Ardudwy ymuno â’r cerddwyr. Cysylltwch â’r arweinydd Haf Meredydd am fwy o hanes y daith (manylion cyswllt y tu mewn i’r clawr).
RHAGLEN CYMDEITHAS CWM NANTCOL 2018/19 Tachwedd 12: Gwyn Wheldon a’i griw Tachwedd 27: [Nos Fawrth] Llond car ac un yn y bŵt Rhagfyr 10: Cinio Nadolig ym Mwyty Clwb Golff Harlech Diddanwyr: Geraint, Nerys ac Alwena 2019 Ionawr 7: Mair Tomos Ifans, ‘Y Fari Lwyd’ Ionawr 21: John Price, ‘Dylanwadau a Choronau’ Chwefror 3: Glyn Williams, ‘Sgwrs a Chân’ Chwefror 18: Iwan Morgan, ‘Dylanwadau’
Merched y Wawr, Nantcol Cyfarfu’r gangen nos Fercher, Hydref 3, 2018 a chroesawodd Rhian, y Llywydd, bawb i Neuadd Llanbedr gan roi croeso arbennig i’r wraig wadd, Jane Williams, un o blant y Dyffryn. Crochennydd yw Jane wrth ei galwedigaeth ac ar hyn o bryd mae’n gweithio’n rhan amser yn dysgu yng Ngholeg Meirion Dwyfor ac yn ei chrochendy ar dir fferm ei thad yng Nghors y Gedol. Yn 2015, gwelwyd Jane yn cyrraedd y rownd gyn-derfynol ar raglen teledu Great Pottery Throw Down. Mae llawer o’i gwaith yn ymwneud â thema y môr a glan y môr a chawsom gyfle i weld casgliad amrywiol o’i gwaith cywrain. Yna, daeth ein tro ni i weithio gyda’r clai gan greu ac addurno potiau bach i ddal canhwyllau a gwneud addurniadau Nadolig i’w hongian ar y goeden. Cawsom lawer o hwyl wrth dylino’r clai a cherfio patrymau Nadoligaidd ar ein gwaith. Diolchodd Rhian i Jane am noson hynod o ddifyr ac am yr holl waith paratoi ar ein cyfer. Llongyfarchwyd Elinor, Moelfre, ar achlysur dathlu ei phen-blwydd yn 90 oed ac Ann a Wil wedi dathlu priodas ruddem. Hefyd, llongyfarchwyd Gwen ar achlysur priodas Osian a Mererid. Dymunwyd adferiad buan i Edward, gŵr Einir, sydd wedi debyn triniaeth ac i Rhodri, mab Rhian, yn dilyn damwain. Gwnaed trefniadau ar gyfer y cinio Nadolig ym mis Rhagfyr.
CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT Llongyfarchwyd Mr Edmund Bailey ar gael ei benodi yn Gwnstabl Castell Caernarfon i olynu’r diweddar Iarll Eryri. Ceisiadau Cynllunio Dymchwel ports blaen, tynnu simdde, adeiladu estyniad i’r lolfa yn cynnwys newidiadau i’r to, adleoli ffenestri a drysau ac adeiladu teras yn cynnwys balwstrad cysylltiedig – Perth y Deri, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Addasiadau ac estyniad i’r bloc toiled presennol a gosod 15 o oleuadau lefel isel – Murmur yr Afon, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Newid defnydd rhan o weithdy yn dŷ – Enterprise Building, Ffordd Glan y Môr, Tal-y-bont. Cefnogi’r cais hwn. Grŵp Gwella Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont Adroddodd Steffan Chambers bod cyfarfod o’r Grŵp Gwella wedi ei gynnal ar y 27ain o’r mis diwethaf ac nad oedd llawer o drafodaeth wedi digwydd oherwydd nad oes digon yn mynychu’r cyfarfodydd i allu gwneud penderfyniadau a symud ymlaen gyda chynlluniau. Cynhelir y cyfarfod nesa ar 30 Tachwedd yn Y Sgethin. Archwilio’r lloches bws, mynwentydd a pharciau chwarae Adroddodd Steffan Jones ei fod wedi gwneud yr archwiliad uchod ar ran y Cyngor ac adroddodd fel a ganlyn - Roedd y fynwent gyhoeddus yn daclus iawn ond roedd angen glanhau’r llwybrau a chytunodd y Cadeirydd i ofyn i Mr Gary Coates wneud y gwaith hwn; hefyd nododd y Clerc bod y nant fach y tu allan i’r fynwent yn dal yn sych a bod poteli gwag yn cael eu gadael ym mhob man yn y fynwent, a’i bod wedi eu clirio. Hefyd, ei bod wedi derbyn cais i osod tap dŵr a chytunwyd i osod casgen ddŵr ger y sied fach yn lle tap. Roedd mynwent Llanddwywe yn daclus, hefyd mynwent Llanenddwyn, ond roedd angen torri’r coed masarn bach oedd yn aildyfu, a chytunodd y Cadeirydd i ofyn i Mr Gary Coates wneud hyn. Ni fydd archwiliad yn cael ei wneud eto tan y gwanwyn ond cytunwyd bod pawb yn adrodd yn ôl i’r Cyngor os bydd unrhyw fater yn codi a fydd angen sylw. Adroddiad y Trysorydd Ceisiadau am gymorth ariannol Ambiwlans Awyr - £500.00 Teulu Ardudwy - £200.00 Dizzie Dancers - £200.00 Pwyllgor Neuadd Bentref - £1,500.00 UNRHYW FATER ARALL Angen gofyn am y diweddaraf ynglŷn â chynnal clwb ieuenctid yn y neuadd oherwydd nad oedd y Cyngor wedi clywed dim ymhellach ar ôl datgan eu bod yn mynd am opsiwn 2; hefyd eisiau nodi bod gwirfoddolwyr yn barod ganddynt i redeg y clwb.
5
HARLECH Diolchiadau Dymuna Olwen Jones, Rock Terrace, ddiolch o galon am yr holl gardiau, blodau ac anrhegion o bob math, ac yn enwedig am y gacen pen-blwydd annisgwyl gan Edwina, yn nhe Teulu’r Castell ar ei phenblwydd arbennig yn 90 oed. Rhodd a diolch £10 Hoffai Mrs E Stumpp, Bron Haul, ddiolch i bawb oedd wedi dymuno yn dda iddi ar ôl bod yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Alltwen. Hefyd i Maria, ac Edward, am eu gofal dros yr holl flynyddoedd. Diolch yn fawr iawn i bawb. £5 Gŵyl Dydd Calan Cafodd Cymdeithas Dwristiaeth Harlech grant gan Gronfa Eryri i ddathlu diwrnod Calan traddodiadol ar 1 Ionawr 2019. Ydych chi’n cofio canu calennig? Pa ganeuon/eiriau oeddech chi’n eu defnyddio? Ydych chi’n cofio unrhyw draddodiadau arbennig yn yr ardal? Os felly, allwch chi eu rhannu gyda Sheila Maxwell, os gwelwch yn dda? Gallwch gysylltu â hi ar bronheulog1@btinternet. com neu gallwch ei ffonio ar 01766 780648. Rydym yn paratoi rhaglen lawn ar gyfer y diwrnod. Os oes unrhyw un yn fodlon gwirfoddoli eich amser byddem yn falch iawn o glywed oddi wrthych chi. Dyweddïo Llongyfarchiadau i Elen Anwyl, Stad Tŷ Canol a Michael Taylor o Benrhyndeudraeth ar eu dyweddïad. Llongyfarchiadau gan y ddau deulu. Côr Meibion y Graig Oes rhywun yn cofio ‘Côr Meibion y Graig’? Rydym ni yn Siop yr Hosbis wedi sgleinio basged fach EPNS ac wedi dod o hyd i’r geiriau yma: ‘Rhodd gan Gôr Meibion y Graig, Gorffennaf 1939.’ Rydym yn meddwl bod yr hen gôr yn dod o Harlech, a bod ‘Craig’ yn golygu craig y Castell neu Bengraig? Bydd y fasged yn ffenestr Siop yr Hosbis os hoffech chi ddod i’w gweld. Diolch, Pam Ainsworth, 9 Cae Gwastad, Harlech. Sul y Cofio Cynhelir gwasanaeth yn Eglwys Tanwg Sant am 9.45 o’r gloch y bore, ac wrth y Gofeb am 10.45. Teulu’r Castell Croesawodd Edwina’r aelodau i’r cyfarfod yn Neuadd Goffa Llanfair brynhawn dydd Mawrth, 9 Hydref.
6
Rhoddodd groeso arbennig i Alan, Heddwyn a Judith, a hefyd Menna. Cafwyd prynhawn arbennig iawn gan fod Olwen Jones yn dathlu ei phen-blwydd yn 90 ar 10 Hydref. Mae Olwen wedi bod yn aelod o’r pwyllgor ers dro 30 o flynyddoedd ac wedi bod yn edrych ymlaen at bob cyfarfod. Diolchwyd i Susan Jones am argraffu’r rhaglen am y flwyddyn a hefyd i Maureen Jones am roi trefn ar y cyfrifon. Pete Smith sy’n eu harchwilio i ni. Diolch hefyd i Enid Smith am roi’r rafflau. Mae hi’n gwneud hyn bob hydref, ac mae pawb yn edrych ymlaen i’w gweld pan ddaw ar ei gwyliau i Harlech. Bydd y cinio Nadolig yn y Bistro. Ar ôl trafod y busnes, croesawyd Geraint Williams a Margaret, a chawsom sgwrs a sleidiau ar y tylluanod oedd wedi dod ato ac yr oedd yn edrych ar eu hôl. Daeth â thair tylluan i’r cyfarfod, un bach gwyn a dwy arall, ac ar ôl y sgwrs cawsom weld y tair wedi eu tynnu o’r bocs. Diolchwyd i’r ddau am sgwrs ddifyr iawn. Ar ôl hyn cawsom ddathlu pen-blwydd Olwen. Canwyd penblwydd hapus iddi. Cafodd dorri’r gacen pen-blwydd a bu Alan a hi’n chwythu’r canhwyllau. Roedd pawb wedi cael prynhawn difyr iawn. Bydd y cyfarfod nesaf ar ddydd Mawrth 13 Tachwedd am 2 o’r gloch, a Mr Gwynne Pierce fydd efo ni. Priodasau aur Llongyfarchiadau i Tecwyn a Priscilla Williams, Tŷ’r Acrau a oedd yn dathlu eu priodas aur ar Hydref 16. Pob dymuniad da. Llongyfarchiadau i Robert ac Ann Edwards, 43 Y Waun, sy’n dathlu 50 o flynyddoedd o briodas ar 23 Tachwedd 2018, sef priodas aur. Hwyl fawr a llongyfarchiadau gan eich ffrindiau. Llongyfarchiadau cynhesaf a phob dymuniad da i Ken a Mair Jones, Tŷ Bryn, Rhiw Top Dref, Harlech. Ar 23 Tachwedd fe fyddant yn dathlu eu priodas aur, sef 50 mlynedd o fywyd priodasol. Pob lwc i’r ddau at y dyfodol, a gobeithio y byddant yn mwynhau eu diwrnod arbennig iawn! Cariad mawr gan Dad, Meic a Bet, Heulwen Medi, Soffia a Casi. xxx Rhodd £10 Sefydliad y Merched Rhoddwyd cardiau pen-blwydd i aelodau oedd yn dathlu y mis yma. Darllenwyd y llythyr o’r Sir a chofnodwyd y dyddiadau o bwys.
Bydd cyfarfod Rhagfyr yn cael ei gynnal amser cinio yn y Branwen ar 12 Rhagfyr. Dywedodd Myfanwy bod y ‘beetle drive’ yn cael ei gynnal yn Llanfair ar 9 Tachwedd am 7.00 o’r gloch at Ymchwil Canser Gogledd Cymru. Ar ôl trafod y busnes i gyd, cyflwynwyd y wraig wadd, sef Sheila Maxwell, a chafwyd sgwrs, lluniau a hanes Laura Ashley a’r teulu, yn ogystal â Sefydliad Ashley. Roedd Sheila wedi dod a phedair gwisg o ddefnydd Laura Ashley, a chafwyd sgwrs ddifyr iawn. Roedd rhai o’r sleidiau o briodas Laura Ashley, a’r plant a rhai o’r tai oedd ganddynt yn y gwahanol wledydd. Diolchwyd i Sheila ar ran yr aelodau gan Christine Hemsley. Cynhelir y cyfarfod nesaf, y Cyfarfod Blynyddol, am 7 o’r gloch ar 14 Tachwedd. Grŵp Artro, Sefydliad y Merched Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol yn nhafarn y Fictoria, Llanbedr, gyda chynrychiolwyr o’r Bermo, Llanfair a Harlech yn bresennol. Cynhelir gwasanaeth carolau yn Eglwys Tanwg Sant, Harlech, ar 7 Rhagfyr am 2.00 o’r gloch, gyda Pam Odam yn cymryd y gwasanaeth. Llyfrgell Coleg Harlech Ym mis Hydref cynhaliwyd arwerthiant o lyfrau llyfrgell Coleg Harlech am ddau ddiwrnod dros un penwythnos. Daeth amryw o gyn-fyfyrwyr – megis glowyr a gweithwyr dur - a phobl a oedd a chysylltiad â’r Coleg draw i brynu, ac i hel atgofion.
Sefydlwyd y coleg ym 1927 gan Thomas Jones, neu TJ, Ysgrifennydd Cabinet i Lloyd George a Stanley Baldwin. Un o ferched TJ oedd Eirene White, a fu’n rhan o lywodraeth Harold Wilson ac a wnaed yn Farwnes Rhymni ym 1970. Bu’n Llywydd Coleg Harlech am flynyddoedd, ac un o’i ffrindiau oedd Jim Perrin, yr awdur. Arferai fynd ag ef i agoriadau o arddangosfeydd yn y coleg, ac i gyngherddau yn Sgwâr St John, Llundain, lle byddai’n gwneud sylwadau miniog am unrhyw Dori yn y gynulleidfa. Bu farw yn 90 oed yn 1999. Yn raddol crebachodd y nawdd i Goleg Harlech; o ganlyniad dirywiodd yr adeilad celf a chrefft hardd a’r gerddi – stori gyfarwydd i rai a fu fyw drwy gyfnod Margaret Thatcher. Newidiwyd llawer o fywydau yma, ac ehangwyd meddyliau llu o fyfyrwyr. Profiad trist iawn i lawer oedd yr ymweliad â’r hen goleg. Y gobaith yw cynnal arwerthiant arall o’r llyfrau sydd ar ôl ar 17 Tachwedd – dewch yn llu, i gael gweld yr adeilad cyn iddo ddirywio ymhellach ac i sicrhau bywyd pellach i lyfrau coleg ‘yr ail gyfle’. Rhodd Diolch am rodd o £5.50 gan Betty Jones, Pentre’r Efail gynt.
Cyhoeddiadau’r Sul
TACHWEDD, Engedi 11 Elfed Lewis, Undebol am 2.00 RHAGFYR - Jerusalem 2 Dewi Morris - Cymun am 4.00 16 Gwŷl y Baban am 7.00
CYNGOR CYMUNED HARLECH Y Fynwent Aethpwyd o amgylch y cerrig beddau er mwyn gweld a oedd rhai yn rhydd a darganfuwyd bod angen sylw ar ddwy, ac oherwydd nad oes teuluoedd yn yr ardal a fyddai’n gyfrifol am y rhain, cytunwyd bod y Cyngor yn gwneud y gwaith o ddiogelu’r ddwy garreg dan sylw. Unwaith eto, datganwyd pryder bod rhai’n parcio eu ceir ger gatiau’r mynwentydd ac oherwydd hyn yn creu rhwystr i fynediad, a chytunwyd i ailbeintio yr arwydd ‘Dim Parcio’ sydd wedi ei osod ar y ffordd ynghyd â’r llinell wen i weld a fyddai hyn yn atal rhai rhag defnyddio’r lle fel man parcio cyhoeddus. Os na fydd hyn yn gweithio, ailedrychir ar y sefyllfa. Mae angen peintio ‘Dim Parcio’ ar y llecyn gyferbyn â’r Odyn, Ffordd Penllech; hefyd trwsio’r polyn sydd wedi ei ddifrodi’r un pryd. Diolchwyd i Mr Meirion Griffiths am wneud gwaith taclus wrth dorri gwair y fynwent. Sul y Cofio Adroddodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu creu Gardd Goffa ar ddarn o dir gyferbyn â’r Gofeb sydd ger y tair sedd wrth fynd am yr Eglwys a chytunodd pawb i hyn gael ei wneud. Adroddiad y Trysorydd Ceisiadau am gymorth ariannol: Dizzie Dancers - Dim Pwyllgor Hen Lyfrgell - £500 Pwyllgor Twristiaeth Harlech - £500 Parc Cenedlaethol Eryri Os oes gan unrhyw un sylwadau i’w rhoi gerbron, mae angen eu hanfon ymlaen yn ysgrifenedig erbyn 5.00 o’r gloch ar Hydref 25, 2018.
SAFLE’R PWLL NOFIO Mae Jonny Martin wedi archwilio safleoedd arall i ddod a gwesty i Harlech, gan gydweithio gyda’r golffwyr D J Russell ac Ian Woosnam. Methodd perchnogion Coleg Harlech a Gwesty Dewi Sant i ymateb. Saif y pwll nofio wrth ymyl y Clwb Golff. Dengys cynllun archwiliol bod gwesty pedwar llawr gyda 60+ o welyau’n bosib, gyda pharcio i geir, bwyty a theras to, pe byddai’r safle ar gael. Pe bai’n bosib cael cytundeb yn lleol, byddai modd cysylltu â buddsoddwyr potensial o’r math sydd eu hangen ar Harlech wedi dyfalu costau’r cynllun. Yn gynwysedig byddai pwll nofio newydd, o gynllun ac anghenion ynni cyfoes. Gobeithio y byddai modd lleoli hwn ar gampws Ysgol Ardudwy. Mae Bwrdd Pwll Hamdden Harlech ac Ardudwy wedi cytuno i archwilio hyn mewn egwyddor. Efallai y byddai’n bosib sicrhau ariannu arall i gefnogi’r wal ddringo a’r caffi ar safle yn Harlech. Mae llawer o waith i’w wneud, yn cynnwys cynllun gyda’r holl gostau, i alluogi Harlech, drwy gyfrwng ‘Harlech ar Waith’, i werthu’r cysyniad i fuddsoddwyr posibl. Credwn bod hwn yn wir gyfle i Harlech, i adeiladu’r gwesty a nodwyd gan adroddiadau llywodraethol fel rhywbeth sy’n hanfodol ar gyfer ei ddatblygiad. Byddai’r cynnig hefyd yn atgyfnerthu Ysgol Ardudwy a’r Clwb Golff. Byddai’n darparu’r pwll nofio cymunedol a chynaliadwy y crëwyd Hamdden Harlech ac Ardudwy ar ei gyfer. Byddai hefyd yn creu swyddi ar gyfer pobl ifanc Harlech ac yn hybu’r economi leol. Byddai’n ffordd o fwrw ymlaen â syniadau lle mae datblygwyr eraill wedi methu. Ar ôl degawd mae’r perchennog wedi methu â denu buddsoddiad neu adeilad ar safle Dewi Sant a gwrthododd perchnogion Coleg Harlech y posibiliadau o fuddsoddiad o Tsieina. Mae Gwesty Machrie a chwrs golff D J Russell ar ynys Islay yn fodel llwyddiannus a byddai modd ei ddefnyddio fel arweiniad ar gyfer cynllun yn Harlech. Byddai’r cynnig yn cynnwys y gymuned ac yn sicrhau elw iddi. I orffen, ni fyddwn yn cael cyfle arall fel hwn. SAFLE A DYMCHWEL GWESTY DEWI SANT Gosodwyd gorchymyn dymchwel ar y gwesty 2½ mlynedd yn ôl; gosodwyd dirwy o £2½k a £22k am
beidio â chydymffurfio. Dewis y llysoedd yw gorfodi’r rhain. Fe all APCE ddymchwel a chodi tâl ar y perchnogion, er nad oes modd rhagweld effaith yr orfodaeth ar y perchnogion o Gibraltar. Daw’r cyfle nesaf ar gyfer dymchwel ym mis Ebrill 2019 oherwydd yr ystlumod. Does dim gorchymyn dymchwel ar y cyn-adeilad llety. Mae gan APCE a Chyngor Sir Gwynedd bwerau i wneud gwaith trwsio neu ddymchwel yn orfodol, ond ar hyn o bryd dydyn nhw ddim yn ystyried bod yr adeilad mewn cyflwr ddigon drwg i sicrhau bod y pwerau yma’n orfodol yn gyfreithiol. Cynhaliwyd cyfarfod yn ddiweddar rhwng y perchennog a chynrychiolwyr y llywodraeth. Dywedodd y perchnogion y bydden nhw’n gwneud y gwaith dymchwel ac yn talu amdano a’u bod bellach yn cydnabod y byddai gwesty llai o bosib yn fwy ymarferol. Mae’n well ganddyn nhw ddatblygiad gwesty unigol yn Harlech. Bydd y Cyngor Cymuned yn llunio adroddiad i’r gymuned. Wedi degawd o segurdod, amser a ddengys a fydd y perchnogion yn ateb eu haddewidion ond erbyn hyn mae posibilrwydd y bydd y gwesty’n cael ei ddymchwel yn 2019. SAFLE COLEG HARLECH Darparwyd rhywfaint o ddiogelwch ar Goleg Harlech, ond bu dwyn a fandaliaeth y tu mewn a’r tu allan. Cafodd landeri plwm eu dwyn, torrodd lladron i mewn i do’r theatr a’r llyfrgell, ac yn ddiweddar cafodd plwm a chopr ei ddwyn oddi ar y toeau; mae hyn wedi peri lleithder a dirywiad pellach y tu mewn. Rhoir y safle ar y farchnad cyn bo hir. Mae’r perchnogion, Addysg Oedolion Cymru, wedi cyfrannu dodrefn o’r adeilad i’r Hen Lyfrgell; efallai y bydd offer arall dros ben ar gael i elusennau lleol. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ail-leoli offer sinema digidol Theatr Ardudwy yn Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu. Lluniwyd llythyr gennym yn mynegi ein siom na fu ymgynghori gyda’r gymuned er gwaethaf y ffaith eu bod yn gwybod am ein dymuniad i ail-leoli’r offer yn lleol. Y DIWEDDARAF O’R PWLL NOFIO Mae angen tîm Bwrdd Hamdden newydd i wynebu’r heriau. Adroddir bod y pwll o dan fygythiad, yn dirywio’n raddol ac yn anghynaladwy yn y pen draw, a bydd angen gwneud penderfyniadau’r hydref hwn. Cafwyd ymateb rhesymol i’r alwad am aelodau Bwrdd newydd
arfaethedig. Mae angen ariannu sylweddol i gynhyrchu arian wrth gefn a thalu am Reolwr Busnes. Mae’r preseptiau Treth Cyngor yn cymryd lle nawdd grant yn unig ac mae bwlch sylweddol yn dal i fodoli ar gyfer ariannu’r pwll, er bod gweithgareddau codi arian parhaol yn ateb hyn yn rhannol. Os hoffech chi wneud sylwadau ar y cynigion hyn, atebwch os gwelwch yn dda ar e-bost i: hcylch@ yahoo.co.uk neu siaradwch â’ch cynrychiolwyr lleol. Grŵp ‘ambarel’ ydy ‘Harlech ar Waith’. Ei nod yw arwain gweithredu ar adfywio Harlech a’i symud oddi wrth ei sefyllfa bregus presennol. Fe’i cefnogir gan Gyngor Cymuned Harlech, Cymdeithas Dwristiaeth Harlech, Clwb Golff Brenhinol Dewi Sant, Hamdden Harlech ac Ardudwy a Harlech a’r Cylch, y cwbl ohonyn nhw’n anfon cynrychiolwyr i’w cyfarfodydd ffurfiol.
Caffi’r Pwll Nofio Dydd Sadwrn, Tachwedd 17 am 2.30 Tocynnau: £1 y gêm Croeso cynnes i bawb!
RADIO CYMRU YN COFIO TACHWEDD 11
Mae’n anodd iawn dychmygu’r awyrgylch yng Nghymru gan mlynedd yn ôl. Roedd y Rhyfel wedi cipio cenhedlaeth gyfan o fechgyn ifanc gan adael teuluoedd mewn galar a’r rhai a ddychwelodd wedi gweld erchyllterau yn y ffosydd. Roedd ’na bobl oedd yn gwrthwynebu’r ymladd ac eraill oedd yn argyhoeddedig fod rhaid ymladd i’r eithaf i orchfygu’r Almaen. Roedd ’na rieni wedi eu siomi gan arweinwyr fel John Williams, Brynsiencyn oedd wedi tywys eu meibion i ryfel, ac roedd ’na bobl oedd wedi pydru byw mewn carchardai oherwydd eu gwrthwynebiad i’r ymladd. Yng nghanol hyn i gyd, roedd pobl yn canu caneuon am eu profiadau cymysg gan ddefnyddio tonau cyfarwydd eu dydd. Roedd ’na ganu am hiraeth, dewrder, cariad, oferedd y cyfan a hyd yn oed am y margarine yr oedd yn rhaid dygymod ag o. Er mwyn rhoi blas i ni ar y cyfnod, y mae Radio Cymru yn atgyfodi rhai o’r caneuon hynny yn y rhaglen Rhyfelgan a ddarlledir ar Tachwedd 9 ac 11. Bydd Cerddorfa Genedlaethol y BBC yn cyfeilio i Shân Cothi, Rhys Meirion a Trystan Llŷr Griffiths ac fe fydd Siân James yn canu rhai alawon gwerin yn ogystal. Ond er mwyn dod â’r profiad yn nes atom, y mae rhai o gyflwynwyr Radio Cymru yn cyflwyno monologau arbennig o waith Aled Jones Williams er mwyn dod â phrofiad y milwr, y recriwtiwr, y fam, y gwrthwynebydd cydwybodol, y cariad, y newyddiadurwr, y nyrs a’r gwleidydd yn fyw i ni. Bydd yn brofiad newydd i Aled Hughes, Ifan Evans, John Hardy, Dafydd Meredydd, Lisa Gwilym, Dei Tomos, Nia Roberts, Caryl Parry Jones a Tudur Owen i gyflwyno cymeriadau amrywiol o 1918 y gallent uniaethu efo nhw. Ond y mae sawl un o’r cyflwynwyr yn ymwybodol o aelodau o’u teuluoedd a fu’n ymladd yn y rhyfel, ac mae rhai wedi ymweld â beddau eu perthnasau yn Ffrainc. Cyflwynir y rhaglen gan Beti George. Darlledir Rhyfelgan am 10.00 ar Tachwedd 9 ac am 11.30 ar Tachwedd 11 ar Radio Cymru.
7
DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Teulu Ardudwy Bnawn Mercher, 17 Hydref cyfarfu’r Teulu yn y Neuadd. Croesawyd pawb gan Gwennie. Diolchodd i’r Cyngor Cymuned am eu cyfraniad hael o £200 i’r teulu. Dymunodd ben-blwydd hapus i Mrs Beti Parry fydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 96 ar 1 Tachwedd ac roeddem yn hynod falch ei bod wedi gwella’n ddigon da i ddod i’r cyfarfod. Yna, cafwyd gwasanaeth Diolchgarwch wedi ei drefnu gan Hilda gydag Enid, Anthia a Gwennie yn ei chynorthwyo. Ar 21 Tachwedd bydd Mrs Dorothy Round yn dangos i ni sut i wneud addurniadau’r Nadolig. Bore Coffi Macmillan Llawer iawn o ddiolch i bawb ddaeth draw i Nant-yCoed, Dyffryn bore Gwener, Medi 2 rhwng 10.00 ac 1.00. Cawsom fore braf yn sgwrsio wrth fwynhau paned a chacen. Casglwyd £435.88 yn gyfangwbl. Swm anhygoel wir. Diolch yn fawr iawn i bawb am eu cefnogaeth. Olwen Telfer, Pat Williams a Bethan Evans enillodd y cystadlaethau. Llongyfarchiadau.
PRIODAS
Cyngor Cymuned Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont
GWASANAETH SUL Y COFIO GER Y GOFEB Tachwedd 11, 2018 am 3.00 y prynhawn Croeso cynnes i bawb
Diolch Dymunaf ddiolch o galon am y galwadau, ymweliadau a’r caredigrwydd a dderbyniais tra bûm yn Hafod Mawddach dros gyfnod. Mawr werthfawrocaf pob cymwynas a chyfeillgarwch. Rhodd a diolch £10 Enid Thomas, Borthwen
Gwella Rydym yn falch o glywed fod Mr Edward Jones, Penrhiw yn gwella ar ôl cael clun newydd yn Ysbyty Maelor. Gwasanaethau’r Sul Horeb TACHWEDD 11 Parch Eric Green 18 Andrew Settatree 25 Ceri Hugh Jones RHAGFYR 2 Gwasanaeth Nadolig yr Eglwys
Clwb Rygbi Harlech
Hyfforddwr rhan amser i’r plant iau. Dydd Iau, 2.00 – 6.00 i ddechrau. Tâl priodol a chystadleuol. Rhaid cael: * Tystysgrif DBS clir * Profiad hyfforddi (opsiynol) * Cyfathrebwr da. * Presenoldeb da. * Gweithio’n dda mewn grŵp * Trafnidiaeth eich hun. * Medru siarad Cymraeg Gallwch holi Gareth John Williams, 07919 530431 am ragor o wybodaeth.
8
Diolchgarwch Fore Sul, 14 Hydref, cafwyd gwasanaeth Diolchgarwch hyfryd iawn yn Horeb gyda phlant yr Ysgol Sul a’r oedolion yn cymryd rhan. Roedd y gwasanaeth wedi ei drefnu gan Mai a Rhian Roberts. Yn ystod y gwasanaeth rhoddodd Alma hanes y banc bwyd yn y Bermo a chymaint o alw sydd am y gwasanaeth hwn a hynny drwy’r wlad. Aeth o plant o gwmpas gyda’u basgedi i gasglu nwyddau i fynd i’r banc bwyd yn y Bermo ac yr oedd yr ymateb yn wych. Diolch yn fawr iawn am eich haelioni. Nos Lun, 22 Hydref, cynhaliwyd gwasanaeth Diolchgarwch yn Horeb a gwasanaethwyd gan y Parch Ddr Elwyn Richards.
Priodas Yn ôl ym mis Gorffennaf, priodwyd Ceili Mai â James yng Nghors-y-gedol. Mae Ceili yn ferch i Mai Jones gynt o’r Dyffryn, merch y diweddar Stan ac Annie Jones, a Merfyn Roberts o Benrhyndeudraeth. Mae Ceili a James yn byw yn Llundain ond mae Ceili yn wreiddiol o Sydney, Awstralia. Dymuniadau gorau i’r pâr ifanc. Ar Hydref 19eg cafodd mab Mai a Merfyn, Tristan a’i wraig Tam, fab – Tomas Aleni Roberts, brawd i Archie. Llongyfarchiadau calonnog i’r teulu i gyd. Radio Cymru Nos Lun, 22 Hydref, roedd Dilys Roberts, Gorffwysfa yn gwrando ar raglen Geraint Lloyd. Yn ystod y rhaglen, bu Geraint yn sgwrsio ag Alan Williams ym Mhort Elliott, Awstralia. Daeth Alan, ei frawd a’i chwaer a’i rieni fyw i Droed y Rhiw, Dyffryn, o Wolverhampton a buan iawn y dysgodd y plant i siarad Cymraeg. Mae Alan yn byw yn Awstralia ers llawer o flynyddoedd. Daeth yn ôl i’r Dyffryn tua 10 mlynedd yn ôl ac ymweld â’i gyfoedion oedd yn dal i fyw yn yr ardal. Cyn iddo ddychwelyd i Awstralia fe drefnodd y diweddar Geraint Wynne ein bod i gyd yn mynd allan am ginio i Cadwgan a chawsom noson i’w chofio. Mae Alan yn gwrando’n gyson ar Radio Cymru ar ei I-pad sy’n dangos bod ganddo feddwl mawr o Gymru o hyd.
RHAGOR O DYFFRYN A THAL-Y-BONT PRIODAS
YSGOL IACH
Priodwyd Daniel Lloyd Roberts, mab Dafydd a Bethan, Bro Arthur a Bethan Mair Williams, merch Gwyndaf ac Annwen Williams o Gaergeiliog, Ynys Môn ar Fedi 29. Yn dilyn, cynhaliwyd y wledd yng Ngwesty Bae Trearddur. Llongyfarchiadau a phob dymuniad da iddyn nhw.
Cyngor Ysgol Dyffryn Ardudwy yn derbyn gwobr lefel 4 ‘Ysgol Iach’
Clwb Cinio yn yr Ysgwrn Ddydd Mawrth, 16 Hydref aeth nifer dda am ginio i’r Grapes ym Maentwrog. Yn dilyn pryd ardderchog aethom ymlaen i’r Ysgwrn yn Nhrawsfynydd. Cafwyd croeso arbennig yno, cyfle i weld dwy ffilm, sgwrs hyfryd gyda Gerald Williams yn y gegin ac yna i’r parlwr i weld y Gadair Ddu ac yna i fyny i’r llofftydd. I ddiweddu diwrnod arbennig, cafwyd paned a chacen yn y caffi. Ar 13 Tachwedd byddwn yn mynd i’r Eryrod yn Llanuwchllyn am ginio, yno erbyn 11.45 ac yna ymlaen i Langynog i ymweld ag Eglwys Pennant Melangell a bedd Nansi Richards.
Rhoddion Diolch am y rhodd o £25 gan Erddyn Davies, Llanfaglan. Rhodd £10 - Di-enw.
Festri Lawen, Horeb Nos Iau, 11 Hydref, cafwyd noson agoriadol ardderchog i’r tymor yng nghwmni Hogia ’Sbyty Ifan. Croesawyd a chyflwynwyd yr Hogia gan Raymond Owen. Sylvia Ann Jones oedd y cyfeilydd a Siân Ellis oedd yn arwain y parti. Gwynedd Evans oedd cyflwynydd y noson. Mwynhawyd canu’r hogia yn fawr iawn. Yn ogystal, cafwyd deuawd gan ddau o’r aelodau, dwy gân gan aelod arall i gyfeiliant ei gitâr a thair unawd gan fachgen ifanc iawn, Gwydion Alun, a sawl stori ddoniol iawn gan arweinydd y noson. Diolchodd Raymond yn gynnes iawn iddynt am noson arbennig. Braf iawn oedd cael cwmni Edward Richie a anwyd yn y Dyffryn, oedd wedi dod efo’r hogia er nad oedd yn aelod o’r parti. Ar 8 Tachwedd cawn gwmni Keith O’Brien o Drawsfynydd.
Noson agoriadol benigamp y Festri Lawen yng nghwmni Hogia ’Sbyty
9
ADUNIAD 1969 – 1976 CANU YN YR YSBRYD
Ar ddydd Sadwrn, Hydref 6, cyfarfu criw o gyn-ddisgyblion Ysgol Ardudwy. Agorwyd yr ysgol inni er mwyn cael busnesa a gweld y datblygiadau diweddaraf ac yna roedd cyfle i barhau â’r sgwrs gyda bwyd a diod yng Nghlwb Golff Harlech. Braf oedd gweld wynebau cyfarwydd a dal i fyny gyda’u hanes. Diolch o galon i Morfudd a phawb fu mor weithgar yn trefnu popeth.
10
wonders’ ond mae’r emyn yn llawer mwy cyfarwydd yn y Gymraeg,
‘Duw mawr y rhyfeddodau maith, rhyfeddol yw pob rhan o`th waith, ond dwyfol ras mwy rhyfedd yw na’th holl weithredoedd o bob rhyw.’
Mae’r cwpled olaf yn cael ei ailganu ar ddiwedd pob pennill, ‘Pa dduw sy`n maddau fel tydi yn rhad ein holl bechodau ni?’ Ychydig iawn o emynau sydd yn gorffen gyda chwestiwn. Gair o ymddiheuriad i Ond mae’r ateb yn y cwestiwn ddechrau. Dylwn fod wedi mae`n debyg – dim un. dweud un peth ychwanegol y Dyma emyn poblogaidd tro diwethaf. mewn cymanfaoedd ac fe’i Fe soniais am John Rowlands (1911–1969) bardd y lori laeth, cenid ar sawl tôn wahanol ond dylwn fod wedi ychwanegu – Leicester yn un ac yn aml iawn Huddersfield. Ond ers tro ei fod yn daid i fardd y gadair bellach, mae’r emyn wedi glynu eleni, sef Gruffydd Eifion i’r dôn ‘Rhyd y Groes’ a dyma’r Owen. Mae’r hen ddywediad dôn a ymddengys yn Caneuon am gyw o frid mor wir ag Ffydd. erioed. Cyfansoddwr y dôn oedd Dr Mae llyfr John Rowlands T D Edwards (1874 -1930), ‘Olwynion Aflonydd’ yn yn wreiddiol o Pittson, drysor prin ac os cewch gyfle, prynwch o ar frys; mae’r cerddi Pennsylvania, UDA ond a fu fyw y rhan fwyaf o’i oes yng yn agos atoch a’r defnydd o’r Nghymru. Ei gartref olaf oedd gynghanedd yn feistrolgar. ym Mhorthmadog, lle bu yn Un gŵr a fu lawer iawn yn arwain côr ac yn organydd Harlech oedd John Richard Capel y Tabernacl. Jones (1765 – 1822) neu Roedd yn byw uwchben un o’r J R Jones o Ramoth fel y siopau yn y Stryd Fawr. Rhai cofir amdano. Brodor o blynyddoedd y ôl, cwynai’r Lanuwchllyn oedd J R Jones teulu oedd yn byw yno ar y ac Annibynnwr ar y cychwyn. Daeth i gredu mai’r Bedyddwyr pryd bod ei ysbryd yn ‘trwblo’ yno gan wneud sŵn a symud oedd yr enwad agosaf at wir dodrefn. Tyngai rhai iddynt Gristnogaeth a throdd atyn weld ei wyneb gwelw yn edrych nhw. Daeth yn weinidog gyda’r Bedyddwyr yn Ramoth, allan o un o ffenestri’r llofft! Pan soniais am hyn wrth un Llanfrothen ac roedd ei wraig o organyddes ei hateb ofalaeth yn cynnwys Harlech. oedd, ‘Wel os gweli di o gofyn Mae’n amlwg fod yr hen J R iddo fo pam ei fod o wedi Jones yn ddyn penderfynol cyfansoddi Rhyd y Groes yn D iawn. Daeth i gredu bod fflat. Mae tôn hefo pump fflat y Bedyddwyr hefyd yn yn dipyn o drafferth!’ cyfeiliorni a diwedd y gân fu Penderfynodd golygyddion iddo ymneilltuo oddi wrthyn Caneuon Ffydd newid y nhw a chychwyn enwad oedd cyweirnod i C, sef dim un siarp yn newydd i Gymru sef y na fflat er rhyddhad i sawl Bedyddwyr Albanaidd. Mae’r organydd mae’n siŵr. enwad hwn yn dal i fod, wrth Deallaf nad ydi ysbryd Dr gwrs, ac mae’n parhau ar Edwards yn trwblo ers rhai wahân i’r Bedyddwyr eraill. blynyddoedd. Yr adeilad wedi Mae gan J R Jones un emyn ei ailwampio meddai`r teulu yn y Caneuon Ffydd, sef rhif 216. Cyfieithiad ydyw o emyn wrthyf. Ond yn ddistaw bach rydw i’n credu mai newid Americanwr o’r enw Samuel cyweirnod y dôn wnaeth y tric. Davies (1723 – 1761). Mae`r JBW emyn Saesneg yn cychwyn gyda’r geiriau, ‘Great God of
STRAEON AR THEMA: Magu Plant Dim Siôn Corn Rhyw ychydig ddyddiau cyn y Dolig oedd hi a Guto’r ŵyr yn cambyhafio. Dyma fi’n dweud wrtho, ‘Mi sgwenna i nodyn at Siôn Corn yn dweud wrtho fo am basio Gwrachynys [yn fanno maen nhw’n treuluio’r Dolig] ac anghofio am dy anrhegion.’ Bid a fo am hynny, ymhen ychydig oriau ro’n i wedi anghofio bob dim am y bygythiad. Ar fore Dolig, tua hanner awr wedi naw, dyma alwad ffôn gan Deborah yn ein gwahodd i lawr i weld y bechgyn efo’u teganau. Dyma gnoc ar y drws yng Ngwrachynys a phwy ddaeth i’w agor ond Guto. Dyma fo’n dweud yn syth wrth ei daid, ‘Wnaeth o ddim gwrando arnat ti!’ Rhaid ei fod wedi poeni am y peth hefyd! PM Gorchwyl bwysig yw magu plant. Ceisiwn fel rhieni wneud ein gorau drostynt, gofalu amdanynt ymhob ffordd ac ar yr un pryd rhoi digon o gyfle iddynt ehangu eu gorwelion a sefyll ar eu traed eu hunain maes o law. Wn i ddim a fuom ni yn gwneud hyn yn iawn ond maent yn dal o’n cwmpas ac ar yr un pryd yn anibynnol ac yn dilyn eu llwybrau eu hunain. Olwen Jones Dim golwg o’r mab Fel plant ffarm, roedd gan y ddau yma ryddid i chwarae ymhobman, heb fod rhy bell o’r tŷ ac wedi’u rhybuddio, heb eu dychryn, o’r peryglon a allai fod o’u cwmpas. Gwanwyn oedd hi a digon o waith i’w wneud ar ôl wyna ac fel yr oedd yn yr adeg honno, dipio defaid yn orchwyl yn ei hunan. Roedd y twb dipio yng ngwaelod y buarth yr adeg hynny, yn yr amser cyn rhyw foderneiddio a chofio Evie Morgan yn dod o gwmpas i weld os oedd y gwaith i fyny i’r hyn ddylai fod i
dderbyn grant. Roedd y ferch yn diddanu ei hunan yn ôl ac ymlaen hefo’r cŵn ond doedd olwg o’r mab yn unlle! Galw arno, chwilio pob twll a chornel. Taid, Nain Tad a Mam yn mynd rownd bob man ond dim siw na miw ohono yn unlle. Yn ei dychryn a’i gofid roedd ei Nain wedi dod i’r canlyniad ei fod wedi disgyn i mewn i’r twb dipio! Ehangodd ei dad y chwilio o’r siediau a’r buarth ac aeth ymhellach a thu ôl i’r tŷ. Yno, yn ei gwrcwd, gyda rhaw a rhyw fanion eraill ’roedd y mab, mor brysur yn gwneud “twch” fel nad oedd ateb y galwadau yn rhan o’r cynllun a choeliwch chi byth, mae yn dal i wneud tyllau o lawer math ers yr amser hwnnw ond yn y presennol hefo peiriannau! OJ Ar goll eto Cofiaf flynyddoedd ynghynt, i’m modryb a’m magodd i, roi dillad ar y lein yn yr ardd. Trodd rownd, ac yn ddychryn iddi roedd bachgen bach tua 3 oed yn sefyll tu ôl iddi. Welodd hi na chlywodd o yn dod ati o gefn y tŷ o’r ffordd gul ar y talcen. Roedd y ddau ddigon cybyddus a’i gilydd a phob amser yn cael sgwrs wrth i’r bychan fynd heibio hefo’i fam i edrych am ei daid a’i nain i fyny’r ffordd. ‘Wel, wel, beth wyt ti’n ei wneud fan hyn, ’ngwas i?’ ‘Eisiau Ieu, eisiau Ieu,’ meddai’r bychan. ‘Tyrd o’na,’ meddai fy modryb, ‘mi â i a thi i fyny’ - i gartref ei nain. Wrth i’r ddau fynd i fyny’r rhiw am Rhydgoch, pwy ddaeth i’w cwrdd ond ei fam a’i nain yn eu dychryn, wedi ei golli ac wedi bod yn chwilio amdano a chredu ei fod wedi mynd am y sied foch a bod yr hwch wedi ei fwyta! Yntau yn chwilio am ei ewythr Ieuan, (a oedd ac y sydd yn gwirioni ar blant!) yn rhywle roedd
o’n gybyddus ag o ac yn arfer ei basio. Dau hanes am ddau fachgen o blwyfi gwahanol ar adegau gwahanol ond yn rhannu yr un enw bedydd - Aled. OJ
coeden binwydd uchel, uchel ac yn siglo darn uchaf tenau y goeden, tra roedd Mam yn cael llonydd braf yn y tŷ. Ambell nos Sadwrn byddai ein rhieni’n mynd ar y bws i’r dref a gadael y teulu yng ngofal eu merch hynaf gyfrifol (fi) am chydig oriau. Cyn Y genhedlaeth iau gynted ag y clywsem y bws yn stopio Roedd Capel Bethel, Talsarnau yn ac yn ail gychwyn, i fyny i ben cadair llawn iawn yn ei anterth. â ni i chwilio am Golden Virginia a Dau lefnyn a oedd yn aelodau Rizla ein tad (hwnnw’n cael paced o oedd Tecwyn Jones, Ty’n-y-bonc, Players yn drît ar nos Sadwrn). Fy Llandecwyn ac Idwal Wyn Jones, mrawd iau a finnau yn ei rowlio nhw Pensarn, Glan-y-wern. ac yn eu rhannu hefo’r gweddill o’r Wrth gwrs, i seddi cefn unrhyw plant (yr efeilliaid yn ddim ond naw gapel ai y genhedlaeth iau, i seti a oed ar y pryd). Pan oedd dim Golden elwid yn ‘seddi’r Pechaduriaid’, yn Virginia ar gael, byddai hadau dail annheg iawn felly debygwn i. tafol yn gwneud smôc golew hefyd. Gellid credu fod ambell i bregeth yn Wedyn trio gwneud chips ar y dreth na nhw mae’n siŵr a bu’r ddau Rayburn (doedd hynny ddim yn yn canolbwyntio ar wneud unrhyw bosib go iawn ond roedd bob amser beth ond gwrando! yn werth trei). Tân priciau gwlyb, O’u blaenau eisteddai gwraig Tŷ saim llugoer a chips yn ffrio am oriau Mawr, Talsarnau yn gwisgo côt a a byth yn gwneud! Bwyta nhw r’un choler ffwr iddi. Be wnaeth y ddau fath a thrafod byddai raid i ni gael ond sticio minciag eitha gludiog yn rhyw batant gwell tro nesa. Fy mrawd sownd yn ei choler! mwyaf yn bygwth saethu’r gath hefo Hoffwn i ddim meddwl beth oedd y gwn slygs a’n chwaer fach yn beichio canlyniad! crio. Paentio fy wyneb hefo paent OJ du a gwisgo tyrban a dod i ffenast y drws cefn fel un o’r dynion oedd Cig Sami yn gwerthu o gwmpas tai y dyddiau Elfyn yn blentyn a Nain Tywyn hynny. Yr efeilliaid yn dychryn eu yn cynnig corn biff iddo i swper. bywydau ac yn dal eu gwynt wrth grio Ychydig cyn hynny, roedd hi wedi cymaint. Gorfod mynd yn ôl i’r tŷ agor tun o fwyd i’r ci. drwy ffenest y parlwr, yr un ffordd ag ‘Na, dim diolch,’ meddai Elfyn, ‘Cig es allan, ac i olchi’r paent du i ffwrdd Sami ydi hwnna! Sami oedd y ci, cyn mynd i’r gegin i wneud CPR ar y wrth gwrs! twins. PM Y tŷ i gyd mewn trefn i dderbyn ein rhieni adref oddi ar y trên wyth. Y Cambyhafio plant lleiaf yn eu gwlâu, wedi eu ‘Pwy faga blant’, medda Mam o hyd. hypnoteiddio i anghofio’r cwbl erbyn Pam ddim? Be oedd y broblem? y bore a dim prepian, a ninnau’r rhai Pump ohonom yn tyfu i fyny yn hynaf, yn eistedd yn dawel yn darllen. ystod y 40/50au ac yn byw ynghanol ‘Pwy faga blant?’ Wel, pam ddim? y wlad ar gwr y goedwig ac ar lan Doeddan ni ddim yn draffarth nag afon Ddyfrdwy. Oes nad oeddem oeddan? dros ein pennau ym mhyllau dyfn AR yr afon am oriau byddem yn dringo Testun Rhagfyr: Bwyd coed. Un o ’mrodyr yn dringo i ben Cofiwch anfon atom! Diolch.
Cronfa Addysgol Dr Daniel Williams Faint o ddarllenwyr Llais Ardudwy sydd yn gwybod am fodolaeth Cronfa Addysgol Dr Daniel Williams, tybed? Sefydlwyd y Gronfa yn 1979 wedi i Ysgol Dr Williams i Ferched gau ei drysau am y tro olaf yn 1975. Wedi i’r ysgol gau gwerthwyd yr holl eiddo, sef yr adeiladau niferus, y caeau chwarae, dodrefn ac yn y blaen, a buddsoddwyd yr arian a ddeilliodd o’r gwerthiant er mwyn creu cronfa addysgol. Bydd llawer ohonoch yn cofio’r gŵr a lywiodd y gwaith o greu’r Gronfa, sef y diweddar Mr T Meirion Wynne. Ers hynny y mae’r Gronfa wedi dosbarthu’r llogau sydd yn deillio o’r buddsoddiadau, symiau sylweddol o arian, er mwyn hybu gweithgareddau addysgol y plant a’r bobl sydd yn gymwys i wneud cais am gymorth o’r Gronfa. Gweinyddir y Gronfa gan fwrdd o Ymddiriedolwyr, gyda chymorth clerc. Dros y ddeng mlynedd diwethaf yn unig dosbarthwyd £431,000, cyfartaledd o £43,000 y flwyddyn.
Pwy felly sy’n gymwys i wneud cais, medde` chi? Wel, rhaid bod dan bump ar hugain oed a rhaid bod yn breswylydd ym Meirionnydd neu fod yn fab, merch, ŵyr neu wyres i gyn-ddisgybl o’r ysgol. Gellir gwneud cais am gymorth tuag at bethau megis llyfrau addysgol, teithiau addysgol, offer cyfrifiadurol at bwrpasau addysgol, teithio i dderbyn hyfforddiant neu ar gyfer cystadlaethau, ffioedd coleg (ond nid llety coleg), ffioedd arholiadau, offer chwaraeon, offerynnau cerdd, gwersi offerynnol neu lais, offer neu ddillad ar gyfer cyrsiau galwedigaethol, cyrsiau addysgol ayyb. Rhaid darparu talebau neu dderbynebau perthnasol gyda phob cais – mae hynny’n hanfodol. Pe baech yn dymuno cael ffurflen gais neu ragor o wybodaeth am y Gronfa, cysylltwch â’r clerc, Mr Dwyryd Williams - rhif ffôn 01341 423 494, e-bost - dwyryd@gmail.com.
11
TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Merched y Wawr Croesawyd pawb i’r cyfarfod yn y Neuadd Gymuned nos Lun, 1 Hydref gan y Llywydd, Siriol Lewis gan estyn croeso arbennig i ddwy aelod newydd – Ann Jones ac Eluned Williams. Diolchwyd i Margaret Roberts am gymryd cofnodion y cyfarfod oherwydd bod yr ysgrifennydd a’i llaw dde mewn plastar a’r is-ysgrifennydd ar wyliau dramor! Cyflwynwyd a thrafodwyd nifer o faterion cenedlaethol a lleol a rhoddwyd sylw i rhai’n benodol. Cafwyd tîm i fynd i’r Cwis Hwyl Cenedlaethol yn Neuadd Llanelltyd ar 9 Tachwedd; cytunwyd i wneud casgliad ymysg yr aelodau tuag at apêl Ymchwil Canser Cymru a chasglwyd swm anrhydeddus. Talwyd y tâl aelodaeth o £16 a chyflwyno rhaglen y flwyddyn i bawb, ynghyd â chopi o’r Wawr; gwerthwyd y cardiau Nadolig a dyddiaduron 2019. Enwyd rhai lleoedd i Mai gysylltu â hwy ar gyfer cael bwydlen i’n cinio Nadolig ar 6 Rhagfyr. Penderfynir ar y lleoliad yn ein cyfarfod nesaf ar 5 Tachwedd. Gwahoddiad i ymuno â Changen Harlech Aeth 11 o aelodau Cangen Talsarnau i Neuadd Llanfair nos Fawrth, 2 Hydref i wrando ar sgwrs gan Twm Elias ar y testun ‘Cymeriadau Cefn Gwlad’. Cawsom groeso cynnes yno, ac wedi prynu raffl, eisteddodd pawb i wrando ar Twm yn adrodd hynt a helynt rhai o gymeriadau roedd o’n ei adnabod, neu wedi clywed sôn amdanynt. Roedd ei sgwrs yn ddiddorol a hwyliog a’r cyfan yn cael ei adrodd ar go’! Mwynhawyd paned a bisged a sgwrs ar y diwedd a diolchodd Siriol ar ein rhan i aelodau Harlech am y gwahoddiad a’r croeso, a’r cyfle i ddod i wrando ar y siaradwr ffraeth yma. Geni Llongyfarchiadau i Iolo a Sioned Tudur Lewis, Maes Gwyn, Penrhyn ar enedigaeth Cynan Siôn ar 28 Hydref, ŵyr newydd i Dewi a Siriol, Llwyn Dafydd. Pob dymuniad da i’r teulu bach.
12
PRIODI
Neuadd Gymuned Bydd dosbarth dawnsio llinell ychwanegol yn cychwyn ar nos Lun, 19 Tachwedd rhwng 7.00 ac 8.00. Hefyd cynhelir dosbarth ‘pom poms’ ar ddydd Mercher rhwng 2.00 a 3.00. Croeso cynnes i bawb.
Cyngerdd Trio ‘Noson lewyrchus,’ ‘mwynhad pur,’ ‘noson ardderchog.’ Rhai o’r sylwadau yn dilyn cyngerdd Trio Cymru yn Neuadd Gymuned Talsarnau nos Sadwrn, Medi 29. Ac yn wir, fe gafwyd noson i’w chofio. Rhaglen amrywiol ei chynnwys gan y tri, a’u cyflwyno crefftus yn rhoi boddhad a phleser i’r gynulleidfa niferus oedd wedi dod i gefnogi’r noson. Cyfeiliwyd iddynt gan y ddawnus Annette Bryn Parri a llwyddodd hithau i gyfareddu wrth gyflwyno eitemau unigol ar y piano. Ymdrech oedd y noson i geisio chwyddo coffrau’r neuadd er mwyn ceisio sicrhau fod y drysau yn cadw ar agor fel ag i sicrhau gweithgareddau o fewn ein cymdogaeth sydd yn dod â phobl at ei gilydd i gydymwneud. Diolch i bob un fu’n ymwneud â threfnu’r noson ac i sicrhau ei bod yn llwyddiant. Diolch yn siŵr i Trio ac Annette Bryn Parri am noson arbennig.
ENGLYN DA
Llongyfarchiadau i Bili Jones, Talsarnau a Katherine Kennedy o Swydd Longford, Iwerddon ar eu priodas yng Nghaernarfon ar Medi 3. Byddant yn rhannu eu hamser rhwng Iwerddon a Chymru.
PRIODI
Capel Newydd am 6.00 o’r gloch
TACHWEDD 4 - Dewi Tudur 11 - Dafydd P Morris 18 - Dewi Tudur 25 - Dewi Tudur RHAGFYR 2 - Dewi Tudur
Neuadd Gymuned Talsarnau
Ffair Nadolig
Llongyfarchiadau fil i Arwel a Phatsaraphon [Rose] Morgan ar eu priodas ar Hydref 8 yng ngwlad Thai. Dymuniadau gorau i’r ddau ohonyn nhw. Rhoddion Diolch am rodd o £50 gan Angharad Morris a £10.50 gan Ieuan Lloyd Evans.
CYFARCHIAD TAD I FAM AR AWR GENI Bu hir y disgwyl, f ’anwylyd. Yn drwm Ar dy draed, ond gwynfyd Yw cael o’r oriau celyd Wyrth o beth sy’n werth y byd. J Eirian Daves, 1918-1995
Nos Iau, 29 Tachwedd 2018 am 6.30 Stondinau amrywiol Paned a sgwrs
Ymweliad Siôn Corn
Adloniant gyda Band Bach Harlech Oedolion £1 Plant ysgol am ddim Llogi byrddau: £5 y bwrdd 01766 772960/770757
Y BERMO A LLANABER
DOSBARTH MEITHRIN YSGOL Y TRAETH
Merched y Wawr Ar 16 Hydref, trefnwyd taith ar y trên i Bwllheli. Rhwng y sgwrsio a’r chwerthin a mwynhau’r olygfa wych, buan iawn y cyrhaeddasom ben y daith. Cyfle i grwydro y strydoedd wedyn cyn cwrdd eto yng Nghaffi Taro Deg. Cawsom groeso cynnes a bwyd blasus iawn. Rhaid oedd brysio wedyn i weld gweddill y siopau, braf oedd gweld llawer o nwyddau lleol ar werth. Dymunwyd gwellhad buan i Pegi a Lorraine ar ôl eu llawdriniaethau. Ar 20 Tachwedd, cawn gwmni Alma Evans o Ddolgellau – ‘Noson Nadoligaidd’. Croeso cynnes i aelodau newydd, rydym yn griw bach cartrefol iawn. Eglwys Sant Ioan Tachwedd 3-10 Gan gydweithio gyda’r Lleng Brydeinig a grwpiau eraill, mae criw o bobl wedi darparu deunydd ar fenthyg mewn arddangosfa ar y rhyfel mawr a’i heffaith ar y rhan hon o Gymru. Mae’r amrywiaeth eang o eitemau yn coffau’r unigolion a fu farw yn ystod y rhyfel, y mwyafrif helaeth ohonynt sydd yn cael eu cofio ar gofebion rhyfeloedd o Landecwyn i Bontddu. Yn ogystal, mae yna arddangosfa pabi a grëwyd gan bobl leol ac a gynlluniwyd gan bobl ifanc yn cael eu dangos o gwmpas yr adeilad. Croeso i chwi ymweld ag Eglwys Sant Ioan yn ystod oriau agor rhwng 10.00yb a 4.00yp.
Y Gymdeithas Gymraeg Mwynhawyd noson agoriadol wych yng nghwmni Dafydd Iwan. Bu’n trafod rhai o’i ganeuon a ble/pam /sut yr ysgrifennodd rai ohonynt. Ac, wrth gwrs, bu’n eu canu inni. Roedd rhai eisiau ymuno gyda rhai o’r caneuon gan ein bod yn cofio’r cyfnod a’r achlysur y clywsom y gerddoriaeth. Llewela oedd yn llywyddu a gan bod Dafydd Iwan a hithau wedi mynychu’r un ysgol, roedd dipyn o gymharu nodiadau! Diolch i Megan cawsom flasu ei sgons blasus gyda paned o de cyn ymlwybro am adre yn hymian rhai o’r ffefrynnau. Mae’n wlad i ti ... Dowch draw i ymuno â ni ar nos Fercher, Tachwedd 7 am 7.30 pan gawn gwmni Bryn Williams.
Sefydliad y Merched Rhoddodd Jacqui Puddle groeso i aelodau i’r cyfarfod ar Hydref 24. Roedd ychydig o aelodau wedi mynychu cyflwyniad gan ‘Blood Bikers’ yn Nolgellau ar 18 Hydref. Gwirfoddolwyr ydy’r rhain sy’n darparu gwasanaeth am ddim i gludo pethau hanfodol oddi allan i oriau arferol o ysbyty i ysbyty o amgylch y wlad. Mae’r cynllun yn hynod o effeithiol ac yn cael ei gefnogi drwy godi arian a chyfraniadau’n unig, sy’n arbed arian i’r Gwasanaeth Iechyd. Rhoddwyd cyfraniad hael iddyn nhw gan y merched. Llongyfarchwyd y tîm dartiau, Pam Payton, Geinor Lavender, Janet Davies ac Angela Jones ar ennill y Gystadleuaeth Dartiau Sirol yn ddiweddar. Ymysg y digwyddiadau nesaf mae Bwyta Allan yn Hendre Mynach ar 9 Tachwedd a threfnu blodau a chaws a gwin yn Llanelltyd ar 23 Tachwedd. Yna dangoswyd y ffilm ‘Journey on the Mawddach’. Mae’r ffilm yn dilyn ffynhonnell yr afon Mawddach o’r Cwm, uwchben Abergeirw, i’r aber ger y Bermo. Roedd wedi cymryd chwe mis i roi’r ffilm at ei gilydd ac roedd llawer ohoni’n cael ei sylwebu gan Gwynfor Owen. Roedd y gwaith ffotograffiaeth yn hyfryd
a hanes diwydiannol yr ardal yn ddifyr dros ben. Cystadleuaeth y mis oedd ‘Llun o’r afon Mawddach’ a’r enillydd oedd Janet Davies. Enillwyd y raffl gan Barbara Howard a’r blodau gan Wendy Ponsford. Clwb Bowlio Cynhaliodd Clwb Bowlio’r Bermo eu Cyfarfod Blynyddol ar 7 Hydref gyda 19 o aelodau’n bresennol. Bu’n dymor prysur a chwaraewyd pob cystadleuaeth ar amser, a daeth nifer dda i’r gemau cyfeillgar yn erbyn Fairbourne. Yn ogystal â’r aelodau, mae ymwelwyr wedi chwarae’n ystod y tymor ac wedi mwynhau’r awyrgylch cyfeillgar a’r lleoliad hyfryd. Dioddefodd y grîn yn ystod y cyfnod hir o dywydd sych, ond daeth ato’i hun yn dda diolch i waith dygn y garddwr. Mae rhai aelodau wedi treulio sawl penwythnos yn tacluso’r llwybrau a’r ardd o amgylch cwr y grîn. Ail-etholwyd y swyddogion i gyd ar gyfer y tymor nesaf yn cynnwys: Ron Harrison, Cadeirydd; Mari O’Rourke, Ysgrifennydd a Pam Payton, Trysorydd. Cynhaliwyd y Cinio Cyflwyno yng Ngwesty Min-y-Môr yr un noson a daeth llawer draw yno i fwynhau’r noson.
Rhodd Enid Parry, Penygroes £5.50 Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol Cyfeillion Ellis Wynne am 5.30 nos Fawrth 27 Tachwedd, yn yr Hen Lyfrgell, Harlech
CYFARCHION NADOLIG
Cofiwch anfon unrhyw gyfarchion Nadolig atom erbyn canol mis Tachwedd os gwelwch yn dda.
13
YSGOL LLANGEFNI
Yn Ysgol Gyfun Llangefni y cefais fy addysg uwchradd, a hynny rhwng 1963 a 1970. Bryd hynny, roedd Sir Fôn ar flaen y gad yn sefydlu ysgolion cyfun lle’r oedd yr holl ddisgyblion dan un to. Roedd mwyafrif llethol y disgyblion yn Gymry Cymraeg ond roedd yr addysg yn y cyfnod hwnnw yn Seisnig iawn. Yn 1963, gadewais Ysgol Bodorgan lle’r oedd rhyw 90 o ddisgyblion a chyrraedd yr ysgol ‘fawr’ lle’r oedd oddeutu mil o ddisgyblion a hanner cant o athrawon! E D Davies oedd y pennaeth, gŵr o Ddyffryn Aeron yn wreiddiol. Yn ei hunangofiant, mae Leah Owen yn ei ddisgrifio fel ‘Hitlar o ddyn’ a dydy hi ddim yn bell o’i lle! Doeddwn i ddim yn hoff o’r dyn, a dweud y lleiaf, ac nid oes gennyf unrhyw barch tuag ato wrth edrych yn ôl dros y degawdau. Roedd gweddill y staff yn amrywio o’r gwych i’r gwachul! Rwy’n fodlon cyfaddef i mi fod yn ffodus iawn o fod wrth draed rhai athrawon dawnus iawn yno. Bûm hefyd yn dyst i wersi diflas gan athrawon diglem, ond nid af i fanylu gormod ar rheini yn yr erthygl hon. Gwahanwyd yr us a’r grawn i wyth dosbarth yn ôl eu gallu yn fy mlwyddyn gyntaf yn 1963 - A, B, C, D, E, F, G, H. Dwi’n cyffredinoli mi wn, ond ar gyfartaledd mae rhyw 75% o ddisgyblion yn ‘gwneud yn dda’ mewn profion ac arholiadau allanol y dyddiau hyn. Ni chredaf fod pawb hyd waelod dosbarth 1F yn llwyddo i’r un graddau bryd hynny! Yr enwog Gwilym Pritchard oedd ein hathro celf yn y flwyddyn gyntaf. Ac mi lyncodd ful efo ni am fod yn ddosbarth mor fywiog a siaradus, a gwrthododd ein haddysgu am y chwe wythnos gyntaf! Sut oedd peth felly yn bosib? Cawsom athro gwahanol yn y drydedd flwyddyn ond wnaethon ni fawr o gnoc efo fo. Mi gofiaf ddwy wers, un am berspectif a’r llall am dynnu llun corff dynol efo cylchoedd a siapiau hirgrynion ond ni chofiaf ddim byd arall am y 38 arall o wersi a gawsom yn ystod y flwyddyn honno. Rydw i’n flin am hynny gan fy mod yn medru tynnu llun yn weddol ond heb gael arweiniad gan neb erioed. Diolch nad oeddwn yn cael gwersi garddio oherwydd clywais gan fy nghyd-ddisgyblion fod rhai
14
o’r bechgyn yn cael blaen troed neu flas y shefl neu’r rhaw am gambyhafio yn y gwersi! Doedd taflu sialc neu chwalwr-bwrdd-du ddim yn beth anghyffredin yno ’chwaith! Y tu allan i wersi Cymraeg, dim ond yn y gwersi ysgrythur [nid addysg grefyddol oedd o bryd hynny] y clywsech chi air o Gymraeg. Roedd A K Morris yn academig disglair a J Madoc Jones yn ddisgyblwr teyrn a blin, er i gyd-ddisgybl i mi, oedd yn byw yn weddol agos ato, ddweud ei fod yn ddyn digon clên y tu allan i furiau’r ysgol. Pan sefais yr arholiad hanes [lefel ‘O’], bu raid i mi astudio gyrfaoedd Palmerston, Peel, Disraeli, a Gladstone ymhlith meysydd eraill. Llwyddais yn weddol dda yn yr arholiad ond pe baech yn gofyn i mi sgwennu dwy frawddeg heddiw am unrhyw un o’r pedwar gwron a restrais, mi gawn drafferth mawr. Gallwn sgwennu un frawddeg a ddysgais am Palmerston: ‘when Lord Palmerston talked of diplomacy he usually meant ships of war!’ Roedd rhaid dewis rhwng Cymraeg neu Ffrangeg ar ôl tair blynedd. A phan nodais wrth y prifathro, E D Davies bod gen i awydd mynd yn gapten llong, mi ddwedodd y buasai raid i mi astudio Ffrangeg. Rhoddais y gorau i’r freuddwyd honno yn fuan wedi hynny! Cefais dair blynedd o wersi Lladin a Ffrangeg. Gwersi llyfr oedden nhw heb unrhyw bwyslais ar y llafar. Pan es i Ffrainc ymhen blynyddoedd, nid oedd medru dweud ‘mae’r pren mesur ar y bwrdd’ neu ‘mae’r llyfr wrth y ffenest’ yn gymorth mawr i mi! Er hynny, rydw i’n siŵr fod y gwersi a gefais wedi bod o gymorth i ddysgu’r ychydig Almaeneg sydd gen i erbyn heddiw. ‘Dewis’ arall a gawsom oedd naill ai waith metel neu goginio. Ac ar gychwyn y bedwaredd flwyddyn, dyma bedwar ohonom yn ymuno â’r merched yn y dosbarth coginio. Ond wedi iddi gyrraedd y dosbarth ychydig yn hwyr, gwrthododd yr athrawes â’n derbyn – heb roi unrhyw reswm. Roedd Mr Jimmy Marshall yn ddigon coeglyd pan aethom i’w ystafell ef rhyw ddeg munud yn hwyr ac egluro lle buon ni! Tybed beth fuasai wedi digwydd pe baem wedi mynd at y prifathro i
gwyno am ragfarn rhyw? Dan Jones oedd fy athro Saesneg ac roeddwn yn mwynhau’r gwersi. Cofiaf sgwennu adroddiad gêm bêl-droed iddo a minnau’n meddwl fy mod wedi gwneud joban eithaf da cyn i mi gael y gwaith yn ôl efo’r sylw ‘merely journalese’! Mi siarsiodd ni i ddysgu degau o ‘figurative expressions’ gan fod prawf ar y gorwel. Es innau ati i ddysgu am stablau Augean, cwlwm Gordian, croesi’r Rubicon, tasgau Herciwleaidd ayyb ond chawson ni ddim prawf ganddo ymhen y rhawg. Er hynny, rydw i’n eu cofio hyd heddiw. Gwirionais ar Shakespeare yn ei gwmni hefyd. O’i chymharu ag Ysgol Bodorgan, roedd y gampfa yn enfawr a chawsai rygbi a phêl-droed sylw cyfartal yn y gaeaf, felly hefyd athletau a chriced yn yr haf. Doedd dim bri ar gymnasteg. Newidiodd yr adran addysg gorfforol ei chymeriad a’i hiaith pan ddaeth Ieuan Griffith a Wyn Davies yno a bu llewyrch ar waith, gan gynnwys gymnasteg. Roedd ‘Ieus’ a ‘Wyn’ yn gwybod sut i gael y gorau o’r disgyblion. Roedd yno adran gerdd ddisglair iawn dan arweiniad John Arwyn Jones [Chips] a fu farw yn ifanc iawn, a Denis Williams. Roedd mynd ar seindorf a cherddorfa ac roedd disgyblion y naill a’r llall yn cyfeilio yn y gwasanaeth ddeuddydd bob wythnos. Byddai cerddorfa’r ysgol yn cystadlu mewn eisteddfodau hefyd ac yn cyfeilio yng nghymanfaoedd canu’r sir. Cynhyrchwyd opera gan Gilbert a Sullivan yn flynyddol ac mae gen i atgofion melys iawn am yr holl hwyl a gawsom. Doedd dim sôn am sioeau cerdd Cymraeg bryd hynny! Credaf fod yr adrannau gwyddoniaeth yn bur effeithiol yn eu gwaith, yn arbennig o safbwynt cynnig profiadau ymarferol a gwaith ymchwiliol – oedd yn sail i lawer iawn o’r gwersi. Mae gen i gof o Hywel Gwynfryn Evans yn dod yno i arsylwi am gyfnod byr pan oedden ni yn y flwyddyn gyntaf. Ar dechrau’r ‘wers’ mi holodd pawb o lle roedden nhw’n dod. Rhywbeth tebyg i hyn oedd y sgwrs: Iorwerth: Bodffordd. Hywel: Nabod Charles Williams? Iorwerth: Dewyrth i mi! Arwel: Bodffordd. Hywel: Nabod Alwyn Humphreys? Arwel: Brawd i mi!
Linda: Malltraeth. Hywel: Nabod Victor Hughes? Bethan: Talwrn. Hywel: Nabod John Wyn? Bethan: Brawd i mi! Ddysgon ni fawr o ddim ond roedd hi’n sesiwn ddifyr iawn! Er bod amryw o’r staff yn gynddisgyblion, ni welais yr un ohonyn nhw yn picio draw i’r ‘gornel ysmygu’ i chwilio am ysmygwyr dirgel. Siawns hefyd eu bod yn gwybod bod llawer o ddisgyblion yr adran gemeg yn manteisio ar y cwpwrdd mwg i fwynhau ambell i stwmp sigaret! Cafodd grŵp ohonom gwblhau’r cwrs lefel ‘O’ mathemateg mewn blwyddyn. Rhyw bump gyrhaeddodd y trothwy mewn arholiad ffug adeg y Pasg ond mi lwyddodd rhyw ddau ddwsin ohonom i basio’r arholiad yn yr haf. Dyna beth oedd ymlafnio! Doedd arfer yr athro o weiddi’n uwch os nad oeddech yn deall ddim yn gymorth i’r dysgu! Roedd dwy set yn sefyll yr arholiad Cymraeg, y naill yng ngofal John Parry, cymeriad hoffus a gwybodus, a’r llall yng ngofal Glenda Carr, gwraig addfwyn a galluog yr oedd gen i feddwl y byd ohoni. Hi a wnaeth Gymro ohonof a byddaf yn fythol ddiolchgar iddi am fy arwain at geinder yr iaith a chyfoeth ei llenyddiaeth. O dan ei harweiniad hi, roedd pob gwers yn bleser pur. Mi wellodd pethau o safbwynt Cymreictod yr ysgol pan ddaeth pennaeth newydd, Gerald Morgan, i Langefni. Roeddwn yn y chweched dosbarth erbyn hynny a bum yn dyst i nifer o newidiadau ond roedd llawer o’r hen do yn parhau yn yr un rhigol. Wedi i mi ymadael â’r ysgol, cofiaf weld ambell un o fy nghynathrawon ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol [a llawer ohonyn nhw pan oedd hi yn Llangefni]. Syndod i mi oedd gweld ambell un yn y Babell Lên! Roedd rhai Cymry pybyr ar y staff, pobl fel Edward Jones, Glyndwr Thomas, Ifan Williams, Maldwyn Jones, Dafydd Meirion, Peter Goginan, Myra Jones ac eraill ond bûm yn pendroni llawer ynghylch diffyg Cymreictod rhai o athrawon yr ysgol a oedd yn gallu siarad yr iaith yn rhugl. Er hyn i gyd, mwynheais fy nghyfnod yn Llangefni. Roedden nhw’n ddyddiau da! Ardal gyfoethog ei doniau yw Ardudwy. Aeth Rhiannon Davies Jones, Meirion Williams, Iorwerth Ellis [Prif beiriannydd Dinorwig]
i Ysgol Ramadeg y Bermo ac aeth R Merfyn Jones, Haf Llewelyn, Nia Medi, Robin Llywelyn, Mair Tomos Ifans, Gareth Eilir Owen, Iwan Roberts ac Iwan Rees i Ysgol Ardudwy. Ond beth am Ysgol Llangefni? Bûm yn meddwl ychydig am y disgyblion o’r ysgol honno ddaeth yn enwog neu o leiaf yn adnabyddus mewn rhannau helaeth o Gymru wedi iddyn nhw ymadael – yn fwyaf arbennig ym maes ‘y pethe’. Cyn fy amser i yr oedd Hugh Griffith,
Bedwyr Lewis Jones, Harri Pritchard Jones, Gwilym Owen a J O Roberts yn ddisgyblion yn Llangefni. Yn ddiweddarach, bu Tony Jones [i Amlwch yr aeth Aloma], John Price [gof arian a gwneuthurwr coronau], Wilf Roberts [arlunydd], Hywel Gwynfryn, Derec Boote, ac Alwyn Humphreys yno. Bûm yn gyd-ddisgybl i William R Lewis [dramodydd], Michael Bayley Hughes [cynhyrchydd teledu], Gwyn L Williams [arweinydd corawl], Einir
Jones [Prifardd yr Wyddgrug], Glenys Mair Roberts [Prifardd Glyn Ebwy], Dei Fôn [addysgwr], Vaughan Hughes [newyddiadurwr a golygydd], Marged Esli [actores], Gareth Mitford [cerddor], Stan Morgan Jones [canwr], Emyr Huws Jones [cyfansoddwr], Delyth Morris [cymdeithasegydd], Hywel Jones [Mudiad Ysgolion Meithrin], Gwynne Jones [addysgwr a Phrif Weithredwr], Tudur Huws Jones [newyddiadurwr], Bethan Wyn Jones [naturiaethwraig ac
awdur], Leah Owen [cerddor, beirniad a hyfforddwraig], Graham Pritchard [cerddor a chyfarwyddwr], Rhiannon Ifans [darlithydd ac awdur] ac Idris Charles [comedïwr a gohebydd]. Yn y 70au, aeth Siw Hughes [actores], Tudur Morgan [cerddor a chyfansoddwr], Judith Humphreys am gyfnod byr [actores] a Phil Bradley [canwr] yno. Yn ddiweddarach bu Tony Llewelyn [sgriptiwr, canwr, digrifwr], Bedwyr Morgan [canwr], Mared Lewis [nofelydd a sgriptwraig], Maldwyn John [actor], Osian Roberts [hyfforddwr pêl-droed], Medwin Hughes [Is-ganghellor], Dyfed Edwards [awdur], a Pwyll ap Siôn [cerddor a darlithydd] yn ddisgyblion. Yna daeth Gwyn Hughes Jones [canwr opera], Meinir Gwilym [cantores, cyfansoddwraig a chyflwynydd], Manon Wyn Williams [dramodydd a darlithydd], Sara Elin Roberts [hanesydd cyfraith], Naomi Watts [actores] am gyfnod a Seiriol Davies [actor a dramodydd] i’w dilyn. Dyna oriel ysblennydd o ryw hanner cant o anfarwolion! Siawns fod ’na rywrai allai ychwanegu at y rhestr uchod. Diau fod ambell i seren ddisglair ymhlith y disgyblion mwy diweddar a’r rhai presennol. Hyderaf eu bod yn mwynhau’r ysgol uwchradd cymaint ag a wnes i. ‘Pwy a rif dywod Llifon? Pwy rydd i lawr wŷr [a gwragedd] mawr Môn?’ PM
CYFEILLION ELLIS WYNNE
Cyfarfod Blynyddol 2018
Diolch i’r sawl sydd eisoes yn aelod o’r Cyfeillion; fe’ch gwahoddir i adnewyddu eich aelodaeth am 2018/19, gan fawr obeithio y byddwch yn parhau i’n cefnogi, neu i ymaelodi o’r newydd. Mae adroddiad o weithgareddau y llynedd ar gael (mae croeso i unrhyw un gysylltu am gopi). Mae dulliau gwahanol o ymaelodi/adnewyddu eich aelodaeth; cysylltwch am ffurflen a manylion pellach. Dyma hefyd rybudd o Gyfarfod Blynyddol y Cyfeillion am 5.30 yp ddydd Mawrth 27ain Tachwedd yng Nghanolfan yr Hen Lyfrgell, Stryd Fawr, Harlech. Diolch yn fawr am eich cefnogaeth i’r Cyfeillion. Tudur Williams, 30 Ffordd Dolwen, Bae Colwyn, LL29 8UP.
15
Canlyniadau Eisteddfod Ardudwy 2018
CANU Meithrin a Derbyn 1 Hetty Howard, Tanycastell 2 Robyn Humphries, Tancyastell 3 Isla Cowen, Tanycastell B1 a 2 1 Henry Greenwood, Tanycastell 2 Harri, Cefn Coch 3 Thanasis Walters, Tanycastell B3 a 4 1 Llio Iorwerth, Trawsfynydd 2 Lili Mai Evans, Tanycastell 3 Cedri, Cefn Coch B5 a 6 1 Cêt ap Tomos, Cefn Coch 2 Nel, Cefn Coch 3 Mari, Cefn Coch Parti B6 ac iau 1 Genod Hŷn Cefn Coch 2 Plant Iau Cefn Coch 3 Parti Tanycastell a Pharti Dyffryn Ardudwy Côr B6 ac iau 1 Côr Cefn Coch B7, 8, 9 1 Elain Iorwerth, Trawsfynydd LLEFARU Meithrin a Derbyn 1 Hetty Howard, Tanycastell 2 Mared Evans, Dyffryn Ardudwy a Gwenno Edwards, Dyffryn Ardudwy 3 Isla Cohen, Tanycastell B1 a 2 1 Elgan Evans, Dyffryn Ardudwy 2 Anna Mitchelmore, Talsarnau 3 Annest, Cefn Coch a Thanansis Walters, Tanycastell B3 a 4 1 Deio Rhys, Chwilog 2 Alaw Thomas, Dyffryn Ardudwy 3 Llio Iorwerth, Trawsfynydd B5 a 6 1 Lea Mererid, Pwllheli 2 Cêt ap Tomos Parti Llefaru 1 Genod Dyffryn B7, 8, 9 1 Elain Iorwerth,Trawsfynydd Dan 21 1 Owain Rhys, Chwilog Dan 25 1 Owain Rhys, Chwilog CERDD DANT B4 ac iau 1 Llio Iorwerth B7, 8, 9 1 Elain Iorwerth, Trawsfynydd Unawd Piano B6 ac iau 1 Lea Mererid, Pwllheli 2 Erin Wynne Lloyd, Llanbedr 3 Deio Rhys, Chwilog B7, 8, 9 1 Elain Iorwerth, Trawsfynydd 2 David Bisseker, Harlech Unrhyw Offeryn B6 ac iau 1 Lea Mererid, Pwllheli 2 Erin Wynne Lloyd, Llanbedr B7, 8, 9 1 David Bisseker, Harlech
16
Deuawd Dan 18 1Alaw & Cerys Sharp, Llanfair Unawd Dan 18 1 Elain Iorwerth, Trawsfynydd 2 Alaw Sharp 3 Cerys Sharp Deuawd Cerdd Dant 1 Alaw a Cerys Sharp, Llanfair Unawd Cerdd Dant dan 18 1 Alaw Sharp 2 Cerys Sharp Unawd offeryn 1 Cerys Sharp 2 Alaw Sharp Sgen ti dalent?
1 Owain Rhys, Chwilog 2 Elain Iorwerth,Trawsfynydd 3 David Bisseker, Harlech
TGCh B2 ac iau 1 Summer Stanley, Y Garreg 2 Lisi Mortimer, Y Garreg 3 Harry, Llanbedr B3 a 4 1 Imogen, Penrhyn 2 Luie, Penrhyn 3 Cian Rissbrook, Tanycastell B5 a 6 1 Shôn John, Tanycastell
2 Thio Walters, Tanycastell 3 William Bailey, Tanycastell CELF Meithrin a Derbyn 1 Madi Thomas, Dyffryn Ardudwy 2 Dexter, Dyffryn Ardudwy 3 Robyn Humphries, Tanycastell B1 a 2 1 Nia Roberts, Tanycastell 2 Mabli Bentham, Cefn Coch 3 Misha Vodvarka, Tanycastell B3 a 4 1 Orororororod, Cefn Coch 2 Matilda Owen, Dyffryn Ardudwy 3 Sophia Poulton, Tanycastell B5 a 6 1 Daron, Cefn Coch 2 Erin Wynne Lloyd, Llanbedr 3 Alys Owen, Dyffryn Ardudwy Llenyddiaeth B4 ac iau 1 Freddie Lewis, Tanycastell 2 Aron Roberts, Tanycastell 3 Maxon Parker, Cefn Coch B5 & 6 1 Seren, Cefn Coch 2 Lea Mererid, Pwllheli 3 Lotti, Cefn Coch 4 Rose Doody, Tanycastell FFOTOGRAFFIAETH B2 ac iau 1 Siôn Williams, Dyffryn Ardudwy B3 a 4 1 & 2 Tomos Williams, Dyffryn Ardudwy B5 a 6 1 Molly Roberts, Harlech 2 Lois Jones-Evans, Llanbedr Dan 18 1 Cerys Sharp, Harlech a Rhys G Jones, Penrhyn 2 Alaw Sharp a Rhys G Jones, Penrhyn COGINIO B4 ac iau 1 Anna Mitchelmore, Talsarnau B5 & 6 1 Molly Roberts, Harlech B7- 9 1 Lowri Elen Lloyd, Harlech 2 Erin Mitchelmore, Harlech ----Diolch yn fawr iawn i bawb am gefnogi Eisteddfod Ardudwy 2018. Diolch i athrawon a staff yr ysgolion cynradd yn yr ardal Tanycastell, Cefn Coch, Y Garreg, Llanbedr, Talsarnau, a Dyffryn Ardudwy am eu gwaith paratoi. Diolch i’r rhieni. Diolch i aelodau’r pwyllgor am eu gwaith paratoi trylwyr. Ond diolch arbennig i Carwyn Evans, Janet Pugh, Janet Mostert, Lowri Ifan, Ffion Gwyn, Elfyn Anwyl a Wyn Edwards am feirniadu, Caryl Roberts am gyfeilio a Llanast Brynli Bach, Iwan Morus Lewis ac Alaw Sharp am arwain. Diolch i chi i gyd.
PYTIAU Diolch i’r darllenwyr a ddywedodd wrthym eu bod wedi cael mwynhad mawr o ddarllen cyfraniad Olwen y mis diwethaf – enwau lleoedd plwyfi Llandecwyn a Thalsarnau. Casglwyd yr isod at ei gilydd gan Olwen Jones, Yr Ynys, pan oedd yn nosbarth 2M, Ysgol Ardudwy. Ei hathro ar y pryd oedd Mr Dallis-Davies. Sir Feirionnydd – Tra Môr, Tra Meirion Tafodiaith Mae tafodiaith Meirionnydd wedi’i rhannu’n dair rhan: a) Edeyrnion a Phenllyn – yn tebygu i Sir Ddinbych a Dwyrain Maldwyn, hynny ydy, y Bywyseg. “a > e” b) Y Gogledd-Orllewin a’r Gorllewin – tebygu i ran o Wynedd hynny ydy Wynedon, siarad yn agored = ‘cerdded > cerddad’. c) De a Gorllewin: tafodiaith yn tebygu i Geredigion hynny ydy yn feinach – a > i tebygu i ‘i’. Casgliad o eiriau wancos fawr /f ’argian fawr / Dymo – ebychiadau. achan < fachgen. symai < pa sut yr ydych chi Termau chwarel bargen – man lle gweithiai’r chwarelwr. pileru – hollti darn o graig Termau’r tir gwŷdd - aradr tyndir < tir glas rhos – gwndwn < gwaun. stric i hogi bladur. torri gwair yn lle’r cywir, lladd gwair. Yng Nghwm Nantcol arferid dweud ‘sgota gwair’ pan fyddai lli wedi dod tros y cae ac angen hel y gwair gwlyb. tywydd brith yn y Bala, tywydd cymysglyd yn y Gorllewin, hogan – merch, hogyn neu gog - bachgen. ciath – cath, gwedd neu deuben o geffylau. beudy yn y Gorllewin, gêr yn y Dwyrain. Melysion Ym Mhenrhyndeudraeth – da-da. Harlech a Thalsarnau – minciag. Weithiau yn rhai ardaloedd – fferins. Dywediadau Tywyll fôr a golau fynydd (i) ddaw a thegwch i Feirionnydd. (ii) ydyw tegwch bro Meirionnydd. (iii) a sych ddyfroedd yr afonydd.
Hir yw’r ffordd a maith yw’r mynydd o Gwm Mawddwy i Drawsfynydd. Yn Nolgellau: Pandy’r Odyn Dirion, chwain a phigau hirion. Trawsfynydd hen le hyll, Dynion cam yn torri cyll. Yn Nyffryn Ardudwy: Pan ferwa crochan Bennar Fawr Mae’n siŵr o ddod yn dywydd mawr. (Arwydd tywydd mawr, gwynt o’r môr). Y Bala aeth, a Bala aiff, A Llanfor aiff yn llyn. Tri pheth is Fawddwy ddaw Dyn adgas, nod glâs, a gwlaw. Ar lech o faen mae Harlech i fod. Dâ a gollir yw Dolgelle, Daear a’i llwnc – dŵr yn ei lle. Llwch Enddwyn sy’n llechu ynddo. (Llanenddwyn) Llandanwg llanw â’m tôdd. wagen gynta un – digywilydd myn giafr i – ebychiad. Cocos Penrhyn, brain Harlech, bobl y Bala! Glas Stiniog, morynion Glân Meirionnydd. fydda’ i ddim dau funud. mae’n ddrycin. tywydd clos – trymaidd rhytsiwn beth! - y fath beth. fel gafr ar dranna = ar grwydr gwyllt yn aml. fel ci potiwr = crwydrwr. fel malwen mewn côl tar – araf ofnadwy. siawns mul mewn Grand National – dim gobaith o gwbl. clatsian neu gelpan = clustan. yn glowtan – yn sydyn - ‘like a sack of potatoes’ malu awyr – siarad er mwyn dweud rhywbeth. [mwy y tro nesaf]
Clwb 200 Côr Meibion Ardudwy HYDREF 2018
1. Siân Jones £30 2. Siân Edwards £15 3. Blodwen Williams £7.50 4. Ann Lewis £7.50 5. Bili Jones £7.50 6. Evie M P Jones £7.50
TACHWEDD 2018
1. Ingrid Williams 2. Siân Edwards 3. Harry Jones 4. Phil Mostert 5. Gwilym Rh Jones 6. Pauline Williams
£30 £15 £7.50 £7.50 £7.50 £7.50
Oes angen cymorth arnoch chi gyda’r canlynol?
Ffôn: 07523 174 888
GWESTY TŶ’R CASTELL Y BERMO Rydym yn awr yn gweini cinio dydd Sul rhwng 12.00 a 2.00. Rydym yn agored gyda’r nos rhwng 6.00 ac 8.00 o’r gloch. Ffoniwch 01341 280470 i archebu bwrdd 17
HYSBYSEBION
Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu 01341 241297 GALLWCH HYSBYSEBU YN Y BLWCH HWN AM £6 Y MIS
18
Atgofion bore oes yn Harlech Ann Doreen Thomas - Rhan 3
Roeddwn yn cerdded i fyny i’r hen ysgol ac yn cerdded i lawr i nôl cinio bob dydd trwy bob tywydd a ddim yn hwyr – doedd fiw inni fod. Rwyf yn cofio M O Griffith yn athro yn yr ysgol. Mi briododd ag athrawes y babanod oedd yn dod o Bontddu. Cawson nhw ddwy gadair freichiau yn anrheg priodas gan yr ysgol; cofio fi’n eistedd ar y llawr adeg ei gyflwyno. Miss Thomas, oedd yn athrawes ffeind arall a hefyd heb anghofio Miss Owen; dyna i chi Gristion o ddynes os fuo ’na un erioed. Athrawes goginio oedd hi a phawb yna ddydd Gwener pan oedd yna wers goginio. Am ein bod ni’n hŷn yng ngwaelod Harlech roedd yn gofalu ein bod yn cael cinio bob dydd os nad oedd gennym y ddima. Doedd yna dim lol; mae’n siŵr mai hi oedd yn talu. Y plant oddi amgylch Harlech oedd yn cael cinio. Meddyliwch am blant Glan-y-môr, Yr Ynys yn dod i ysgol Harlech a phlant y ffermydd yn cerdded ym mhob tywydd. Sôn am y tywydd, roedd y tymhorau yn gall adeg hynny; roedd yna eira yn y gaeaf a haul bob haf. Dwn i ddim os ydy o yna rŵan, ond oedd yna sleid ym Mhencraig. Hoel penolau plant canrifoedd wedi rwbio i lawr y graig nes oedd yna gafn wedi ei rwbio i fewn i’r graig. Bu mam yn dweud y drefn sawl gwaith am i mi ddifetha fy nillad isa, doedd dim trowsus hir i genod yr adeg yna. Doeddwn i ddim yn cael chwarae allan yn y tywyllwch gan Mam, felly chwarae yn y tŷ oeddwn ac yn edrych ymlaen i’r Dolig er mwyn cael gemau a llyfr newydd. Ar ôl Dolig, hel calennig oedd i edrych ymlaen ato. Tua’r adeg yma cawsom de parti yn y Neuadd i ddathlu’r Coroni. Un diwrnod dyma Mr R O Griffith yn dweud ein bod i gyd yn cerdded i lawr i’r stesion er mwyn gweld y brenin a’r frenhines newydd yn mynd heibio yn y trên brenhinol. Roeddwn i yn cael bod ar y blaen ond ddaru’r trên ddim
arafu llawer. Rwyf yn cofio gweld dyn a dynes yn eistedd gyferbyn â’i gilydd, a dyn yn eu canol yn pwyntio i fyny tua’r castell. Ddaru nhw ddim edrych o gwbl arnom ni - diolch yn fawr! Roedd yn galed am waith y dyddiau hynny. Pob cyfle a gai, roedd ein tad yn mynd i’r golff i gadio. Cafodd y cwrs yr enw ‘brenhinol’ ar ôl y Duke of Windsor. Roedd yn dod yna yn aml i chwarae efo criw o’i ffrindiau ac aros yn Portmeirion gyda’i ddarpar wraig Mrs Simpson. Am ryw reswm, roedd un o griw y Dug yn hoff o Dad am ei fod yn deall y cwrs. Mae’n siŵr bod yna fetio achos rwyf yn cofio Dad yn dod â lot o arian i mam a’i roi ar y bwrdd iddi ac yn dweud bod y dyn wedi ennill eto. Tua 1937-38, mi gynigiodd waith i’n tad ar ei stad yng ngwaelod Lloegr. German Jew oedd y dyn yma, Sligman, os wyf yn cofio’n iawn oedd ei s’nâm. Mi ddaru roi cynnig i Dad na fetsa mo’i wrthod, felly dyma bacio i fyny a symud i Loegr. Y noson olaf i ni aros yn Harlech, ddaru ni gysgu yn tŷ Nyrs Roberts oedd yn ffrind agos i Mam. Deintydd oedd gŵr Nyrs Roberts ac roedd ganddynt fab efo gwallt coch o’r enw Eric, oedd rhyw flwyddyn neu ddwy yn hŷn na fi. Pentref bach gyda thai a to gwellt oedd yng nghanol y stâd a dyna lle’r oedd yr ysgol. Rhyw ddwy filltir tu allan i’r pentref oedd tai y gweithwyr, saith o dai yn un rhes. Rack a Manager Cottages oedd ei enw a rhif 6 oedd ein tŷ ni. Roedd gardd hir o’i blaenau ac allotments. Buom yn lwcus, achos roedd y tenant o’n blaen wedi plannu’r rhandir â digon o datws a moron a phanas. Tasa ein rhieni ddim ond yn gwybod - ond dyma ddechrau’r rhyfel inni, ond stori arall ydi honna. Ni fu bywyd byth yr un fath wedyn inni fel teulu. Diolch nac ydym yn gwybod beth sydd o’n blaenau. Ond wna’i byth anghofio y dyddiau haf yna yn Harlech. (i’w barhau)
Cadlywydd David Evans (1817-1895) - Pennod IV
Ym 1869, y flwyddyn y comisiynwyd H M Stanley i fynd i Affrica i chwilio am Livingstone, a dwy flynedd ers pan werthwyd Alasga gan y Rwsiaid i’r Unol Daleithiau, cafodd David Evans ei anfon o San Francisco, Califfornia, i Sitka, Alasga, prifddinas Rwsiaid-America, yn y de ddwyrain, ar lan gorllewinol Ynys Baranof, i nôl y stemar Lincoln. Ar yr un pryd ymwelodd â Môr y Bering ac Ynysoedd yr Aleutian. Treuliodd ddeng mlynedd olaf ei wasanaeth morwrol ar y llynnoedd arfordirol, yn bennaf Llyn Michigan, a’i long oedd yr Andrew Johnson. Bu’n adnabyddus a phoblogaidd yn holl borthladdoedd y llynnoedd. Roedd yn ŵr nodedig ac anghyffredin mewn llawer ystyr, ac o dymer siriol, garuaidd a chydymdeimladol. Meddai ar galon fawr, a’i law yn agored bob amser i gynorthwyo y tlawd a’r anghenus.
Ymunodd â’r Methodistiaid yn ŵr ifanc, er mai Bedyddwyr oedd aelodau eraill ei deulu. Ar ôl iddo ymsefydlu yn yr America, cysylltodd ei hun â’r Presbyteriaid yn Berlin, Wisconsin. Yn ystod cyfnod byr yn ninas Washington yn 1874 cafodd y fraint o eistedd a chyd-addoli wrth ochr yr Arlywydd Ulysses S Grant yn Eglwys Fethodistaidd Metropolitan am nifer o Suliau. Cyfrannodd yn helaeth tuag at y capel Presbyteraidd Cymraeg yn Berlin – ffurfiodd y capel hwnnw yn Eglwys Undebol yn ddiweddarach. Yn dilyn hynny mynychodd David Evans â’r Methodistiaid Esgobol Saesneg. Yn ei flynyddoedd olaf ar ei fferm yn Wisconsin yng nghanol y gwinllannoedd a’r coed ffrwythau ymaflodd y twymyn malaria ynddo ar ôl treulio cyfnodau hir yn yr hinsoddau afiach y bu ef ynddynt, ac ar ôl hynny y colig. Nid oedd ychwaith wedi dyfod dros y brofedigaeth ar ôl colli Ellen Ann, ei ferch ieuengaf, ychydig flynyddoedd ynghynt. Bu ef farw fore Sul, 20 Hydref, 1895. Digwyddodd amgylchiad hynod iawn ar yr union adeg; yr oedd ef wedi anrhegu’r Eglwys Fethodistaidd lle yr addolai, tua’r flwyddyn 1880 â chloc, ac er iddo fynd heb fethu drwy gydol yr holl amser, safodd ar yr un munudau ac y bu David Evans farw. Claddwyd ef ym mynwent Oakwood, Berlin, lle y claddwyd ei fam o’i flaen ef, ac Ellen, ei wraig, ar ei ôl ef. W Arvon Roberts, Pwllheli
19
Clwb Pêl-droed Bermo a Dyffryn Mwynhawyd noson arbennig yng Nghae y Wern Fach nos Fawrth, Hydref 9. Agorwyd eisteddle Tom Hughes yn swyddogol gan y dyn ei hun. Braf oedd ei weld wedi gwella digon i fynychu’r achlysur. Bu Tom yn aelod gweithgar iawn o’r Clwb Pêl-droed am dros 60 mlynedd. Hefyd, dathlwyd agoriad swyddogol y llifoleuadau yng nghwmni William Huntley, y Cadeirydd gweithgar a’r Maer Jamie Brooks. Cafwyd adloniant cyn y gêm gan Gôr Meibion Ardudwy ac yn ystod hanner amser gan Batala Bermo. Chwaraewyd gêm gyffrous rhwng Bermo a Chaernarfon gydag ieuenctid y ddau dîm yn serenu. Braf oedd gweld Nicky John [S4C] yn cyfweld a ffilmio cymeriadau lleol yn gwylio’r gêm hanesyddol. Mae llawer o welliannau wedi eu cwblhau dros y ddegawd diwethaf ond mae angen dal ati i gryfhau y Clwb, felly ewch draw am dro i brynu sgarff, het neu gwpan yn y siop newydd, yfed paned yn y caffi bach neu bori yn yr arddangosfa o hanes can mlynedd a mwy o’r Clwb lleol hwn. Dymuniadau gorau i’r dyfodol a llongyfarchiadau i’r tîm gweithgar.