Llais Ardudwy Tachwedd 2019

Page 1

Llais Ardudwy

70c

‘SALEM’ GAN VOSPER

RHIF 492 - TACHWEDD 2019

HER Y TRI CHASTELL

Ddechrau mis Hydref cychwynnodd pump o gyfeillion ben bore i redeg marathon o Gastell Conwy i Gastell Caernarfon ac ymlaen i Gastell Harlech. Martin Perch oedd y trefnydd gyda Martin Howie, Steven Evans, Zach Flint a Mike Jones yn cyd-redeg. Daeth y daith i ben drwy redeg i fyny stryd mwyaf serth y byd a chwblhau’r her o redeg 55 milltir mewn 10 awr 20 munud. Llwyddwyd i godi £1,500 tuag at Dŷ Gobaith. Diolch i’r dynion am eu hymdrech wiw a hefyd i Janine, Huw, Siôn ac Elfyn am ofalu am y cerbyd cymorth.

Bydd Her Ricsio [rickshaw] sy’n rhan o ymgyrch Plant Mewn Angen y BBC yn dod i Harlech ar ddydd Sadwrn, Tachwedd 9. Maen nhw am geisio dringo stryd fwyaf serth y byd. Fe ddylen nhw fod yn Harlech erbyn 9.00 y bore ac mi fydd Pudsey efo nhw. Cofiwch gefnogi’r marchogion ifanc.

Yr ail fersiwn o’r llun Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth wedi prynu un o ddarluniau mwyaf eiconig Cymru. Wedi ei beintio yn 1909 gan Curnow Vosper, mae’r llun hwn yn dangos yr olygfa gyfarwydd o Gapel Salem, Cefncymerau – ond efo rhai gwahaniaethau i’r gwreiddiol cyfarwydd. Prif gymeriad y llun yw Siân Owen, oedd yn byw yn Nhŷ’n y Fawnog, Llanfair, ar y pryd. Y bwriad gwreiddiol oedd gwerthu’r llun mewn ocsiwn gyda chynnig bris o £60,000 ond cadarnhaodd y cwmni ocsiwn Rogers Jones ei fod wedi ei dynnu’n ôl ac wedi ei werthu’n breifat i’r Llyfrgell. Meddai Pedr ap Llwyd, prif weithredwr a llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n dod yn wreiddiol o Benrhyndeudraeth ac a fu’n ddisgybl yn Ysgol Ardudwy, Harlech: ‘Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu prynu’r darlun hwn o wasanaeth yng Nghapel Salem. Mae’r gwaith hwn gan Curnow Vosper yn un o drysorau’r genedl ac edrychaf ymlaen at gael ei rannu gyda phobl Cymru a thu hwnt. Edrychwn ymlaen yma felly at arddangos y darlun yn y Llyfrgell, a mynd ag o i gymunedau fel rhan o’n rhaglen i ysgolion.’ Mae’r darlun a brynwyd gan y Llyfrgell yn un o ddau lun a beintiwyd gan Vosper. Prynwyd y fersiwn gyntaf gan ddiwydiannwr o’r enw William Hesketh Lever i’w ddefnyddio mewn ymgyrch hyrwyddo gan Sunlight Soap, cwmni’r Brodyr Lever. Fel y gŵyr pawb, daeth y llun yn hynod boblogaidd ac mae’n bosib bod copi ohoni bron ym mhob tŷ ledled Cymru ar un pryd.


GOLYGYDDION Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 780635 pmostert56@gmail.com

HOLI HWN A’R LLALL

Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 772960 anwen15cynos@gmail.com Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hmeredydd21@gmail.com 07760 283024 / 01766 780541

SWYDDOGION

Cadeirydd: Hefina Griffith 01766 780759

Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr iolynjones@outlook.com Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com CASGLWYR NEWYDDION LLEOL

Y Bermo Grace Williams 01341 280788 David Jones 01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones 01341 241229 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Cysodwr y mis: Phil Mostert

Gosodir y rhifyn nesaf ar Tachwedd 29 am 5.00. Bydd ar werth ar Ragfyr 4. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Tachwedd 25 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw golygyddion Llais Ardudwy o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

Dilynwch ni ar Facebook @llaisardudwy

2

Enw: Marnel Pritchard Gwaith Wedi ymddeol ers bron i ddwy flynedd a hanner. Bum yn dysgu yn Ysgol Aberconwy am saith mlynedd ar hugain cyn ymddeol. Cefndir Ces i fy magu ym Mryn Golau, Talsarnau, merch hynaf Meirion Eisingrug a Rhiannon, chwaer fawr Brymor a Marian. Bûm yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ac wedyn dysgu mewn ysgolion cynradd am flwyddyn cyn cael fy mhenodi yn Swyddog Datblygu’r Urdd ym Meirionnydd yn 1983. Byw yn Nolgellau bryd hynny, priodi Bedwyr yn 1985 ac wedyn yn 1988, symud i fyw i’r Groeslon a chael swyddi dysgu yn ysgolion Friars a John Bright cyn dechrau yn Aberconwy yn 1990. Symud i fyw i Ddegannwy yn 1994 ac wedyn symud i Landwrog yng Ngorffennaf 2018. Sut ydych chi’n cadw’n iach?

Mynd â’r ci am dro sawl gwaith y dydd a mynd ar fy meic weithiau ond yn bendant ddim yn ddigon aml! Beth ydych chi’n ei ddarllen? Amrywiaeth mawr o nofelau Cymraeg a Saesneg. Newydd ddarllen ‘Carafanio’ gan Guto Dafydd a chwerthin yn uchel wrth ddarllen rhai rhannau. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Dwi ddim yn gwylio’r rhaglenni sebon o gwbl ond dwi’n hoff o Holby City a Casualty a gemau rygbi yn enwedig os ydy Cymru neu’r Gweilch yn chwarae. Ydych chi’n bwyta’n dda? Yn rhy dda faswn i’n ei ddeud! Hoff fwyd? Cinio dydd Sul, cyw iâr neu unrhyw bysgodyn. Hoff ddiod? Tê’r Iarll Llwyd neu win Pinot Grigio. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Mi faswn i wedi bod wrth fy modd yn mynd am fwyd efo Nelson Mandela a Terry Wogan, dau gymeriad unigryw iawn. Bedwyr, wrth gwrs, a ffrindiau. Lle sydd orau gennych? Traeth Dinas Dinlle neu Ynys Llanddwyn yn y gaeaf, pan fydd yr ymwelwyr i gyd wedi mynd adref. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Mi dreulion ni fis yn Sbaen efo’n ffrindiau yn ein carafanau ddwy flynedd yn ôl – gweld y Sbaen ‘go iawn’ a blasu diwylliant anhygoel Tordesillas a’u gŵyl lanteri a’r rhedeg teirw! Beth sy’n eich gwylltio? Pobl anghwrtais a’r rhai sy’n

taflu sbwriel. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Cefnogaeth. Pwy yw eich arwr? Nelson Mandela am ei holl waith yn gwrthsefyll apartheid yn Ne Affrica. Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon? Dad, er i ni ei golli bron i ugain mlynedd yn ôl. Gweithgar iawn a chefnogol i’w gymuned ar hyd ei oes. Beth yw eich bai mwyaf? Gadael pethau tan y funud olaf a brysio i’w cwblhau. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Crwydro yn y garafan efo Bedwyr a Caleb y ci ac Em ac Anwen, ein ffrindiau. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Ei roi i elusen mae’n debyg. Ambiwlans Awyr neu Ymchwil Canser y Fron. Eich hoff liw? Glas. Eich hoff flodyn? Rhosyn. Eich hoff gerddor? Mozart. Eich hoff ddarnau o gerddoriaeth? Eine Kleine Nachtmusik a Don’t Stop Me Now gan Queen. Pa dalent hoffech chi ei chael? Gallu chwarae unrhyw offeryn cerdd. Eich hoff ddywediadau? Bobol Bach o Bethesda! Na’i neud o rŵan yn munud! Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Hapus a bodlon fy myd.

CYFEILLION ELLIS WYNNE Tachwedd 2019 Annwyl Aelod/au, Aelodaeth Cyfeillion Ellis Wynne a Rhybudd o’r Cyfarfod Blynyddol 2019 Diolch i’r sawl sydd eisoes yn aelod o’r Cyfeillion; fe’ch gwahoddir i adnewyddu eich aelodaeth am 2019/20, gan fawr obeithio y byddwch yn parhau i’n cefnogi, neu i ymaelodi o’r newydd. Mae adroddiad o weithgareddau y llynedd ar gael [mae croeso i unrhyw un gysylltu fel isod am gopi]. Mae dulliau gwahanol o ymaelodi/adnewyddu eich aelodaeth; cysylltwch am ffurflen a manylion pellach. Hefyd, rybudd o Gyfarfod Blynyddol y Cyfeillion am 5.30 y prynhawn ar ddydd Llun 25ain Tachwedd yng Nghanolfan yr Hen Lyfrgell, Stryd Fawr, Harlech. Diolch yn fawr am eich cefnogaeth i’r Cyfeillion. Tudur Williams Trysorydd/Ymddiriedolwr, 30 Ffordd Dolwen, Bae Colwyn, LL29 8UP.


LLANFAIR A LLANDANWG

DYSGWR Y FLWYDDYN

Merched y Wawr Harlech a Llanfair Braf oedd cael ymuno â changen Talsarnau i’n cyfarfod y tro hwn. Carys Edwards o’r Ganllwyd oedd y wraig wadd. Mae Carys yn arbenigwraig ar gadw gwenyn ac mae wedi bod yn cystadlu a beirniadu mewn nifer o sioeau ar hyd a lled y wlad ers nifer o flynyddoedd. Roedd ei brwdfrydedd am y maes, ei gwybodaeth fanwl a’i phrofiad eang o gadw gwenyn yn amlwg yn ystod y noson. Cafwyd cyfle i flasu ei chynnyrch, sef jam mafon a marmalêd yn cynnwys mêl. Blasus iawn! Bronwen dalodd y diolchiadau ar ran y gangen.

Bnawn Sadwrn 19 Hydref cynhaliwyd Seremoni Wobrwyo i dros 100 o fyfyrwyr sydd newydd gymhwyso ar Gynllun Hyfforddi Cenedlaethol Mudiad Meithrin yn y Theatr ar Gampws Prifysgol Aberystwyth. O safbwynt y Cynllun Ysgolion - Cwrs Tystysgrif CACHE Lefel 2 mewn Gofal ac Addysg Plant – yr enillydd oedd Cerys Sharp, Ysgol Ardudwy. Llongyfarchiadau cynnes iawn iddi hi.

Eglwys Llandanwg

PLYGAIN CYFEILLION ELLIS WYNNE 2020 YN EGLWYS LLANFAIR Cynhelir Plygain y Lasynys Fawr 2019 ar nos Fercher, 15 Ionawr am 7.00 o’r gloch yn Eglwys Llanfair. Yn dilyn y Plygain, gobeithiwn unwaith eto gynnal swper Y Plygain yn Neuadd Goffa Llanfair. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu tamaid o fwyd at y swper yn y gorffennol, ac os hoffech gyfrannu eto eleni neu helpu ar y noson, cysylltwch â Haf os gwelwch yn dda (manylion cyswllt y tu mewn i’r clawr). Hefyd, os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â pharti Plygain y Lasynys (croeso i unrhyw lais), cofiwch gysylltu.

Mae Eglwys Llandanwg ar hyn o bryd yn cael ei hadnewyddu ac er bod y gwaith yn dod yn ei flaen yn dda, oherwydd glaw yn ddiweddar, dydy’r gwaith plastr ar y muriau mewnol ddim wedi sychu digon i’w plastro â chalch felly bydd yr Eglwys ar gau am gyfnod eto i’w galluogi i sychu digon.

Byddwn yn cynnal Gwasanaeth arbennig iawn am 10.30 ar ddydd Sul, Rhagfyr 1 i fynegi ein diolch am y gwaith.

SAMARIAID - LLINELL GYMRAEG

08081 640123

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR

Cydymdeimlwyd â Gerallt Jones a’r teulu yn dilyn marwolaeth ei chwaer a diolchodd Gerallt Jones am y cerdyn oedd wedi ei dderbyn gan y Cyngor, MATERION YN CODI Llinellau melyn ger stesion Llandanwg Derbynwiyd copi o rybudd gan Gyngor Gwynedd yn datgan bod hwn yn mynd i’r wasg a bod gan wrthwynebwyr i’r cynllun hwn tan 15 Tachwedd i anfon gwrthwynebiad ysgrifenedig yn nodi pam eu bod yn gwrthwynebu gosod y llinellau hyn. ADRODDIAD Y TRYSORYDD Ceisiadau am gymorth ariannol Hamdden Harlech ac Ardudwy - £4,011.95 – hanner y cynnig presept Eisteddfod Ardudwy - £75 GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd – Adran Gyfreithiol Derbyniwyd copi o’r rhybudd canlynol: Gorchymyn Cyngor Gwynedd (Cau’r Ffordd Ddi-Ddosbarth a Adwaenir fel Pant yr Onnen, Llanfair) (Gwaharddiad Trafnidiaeth Trwodd Dros Dro) 2019 a bod hyn oherwydd bod angen gosod system taenellwr/cyflenwad tân domestig i eiddo cyfagos a bydd mynediad i breswylwyr yn unig pan fydd y gwaith hwn yn cael ei roi ar waith. Disgwylir i’r gwaith gychwyn ar 4 Tachwedd a pharhau am hyd at 5 diwrnod. UNRHYW FATER ARALL Angen anfon at yr Adran Briffyrdd i ofyn iddynt adnewyddu un o’r arwyddion 40 milltir yr awr ar riw Cae Cethin oherwydd nid yw’n bosib ei weld. Angen gofyn iddyn nhw hefyd i adnewyddu’r llinellau gwyn yn y maes parcio, hefyd y llecyn anabl a’r llinellau gwyn ar fynediad y maes parcio oherwydd eu bod i gyd wedi gwisgo. Yn ogystal, mae angen gofyn iddyn nhw dorri’r drain sydd wedi gor-dyfu i’r cae ger stad Derlwyn. Cafwyd adroddiad o bwyllgor y Neuadd gan Robert G Owen a Mair Thomas ac adroddwyd fel a ganlyn – cyfeiriwyd at y ffaith bod ein Clerc/ Annwen Hughes, pan yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd, wedi cyflwyno siec o £500 i bwyllgor y Neuadd o’i chronfa Cadeirydd a bod y pwyllgor yn ddiolchgar iawn am y rhodd hwn, bod y pwyllgor wedi cytuno i gais gan yr Eglwys i gael defnyddio’r Neuadd ar un Sul yn fuan i gael cinio ar ôl gwasanaeth yn Eglwys Llandanwg, a bod trefniadau Sul y Cofio wedi eu gwneud.

MARATHON BANGOR

Llongyfarchiadau cynnes iawn i Damon a Dev John ar redeg hanner marathon a 10k Bangor yn ddiweddar. Hon oedd 12fed ras Damon eleni, ac fe lwyddodd i orffen hanner marathon y ddinas mewn amser campus o 1:37:21’’. Roedd ei dad, Dev, yn rhedeg ras 10k am y tro cyntaf erioed gan gwblhau’r gamp mewn amser arbennig – 57’31’’. Mi fydd Mr John Sr yn troi’n 65 mlwydd oed ar Dachwedd 11eg, felly dymunwn ben-blwydd hapus iawn iddo! Llongyfarchiadau mawr i ŵr, tad a thaid arbennig! Llongyfarchiadau hefyd i Damon ar gwblhau marathon Eryri ar benwythnos olaf mis Hydref. Roedd yn ras eithriadol o anodd o dan amgylchiadau anodd, ond fe lwyddodd i orffen mewn 3:33:52. Gwych iawn, Damon!

3


N

DIARHEBION H-M

Nac adrodd a glywaist rhag ei fod yn gelwyddog Nac yf ond i dorri syched Na ddeffro’r ci a fo’n cysgu Nerth cybydd yw ei ystryw Nerth gwenynen, ei hamynedd Nes penelin nag arddwrn Ni all neb ddwyn ei geraint ar ei gefn Ni cheir da o hir gysgu Ni cheir gan lwynog ond ei groen Ni chyll dedwydd ei swydd Ni ddaw doe byth yn ôl Ni ddaw henaint ei hunan Ni ddychwel cyngor ynfyd Ni ellir prynu parch Ni saif sach wag Ni ŵyr dyn ddolur y llall Nid ar redeg mae aredig Nid athro ni ddysg ei hunan Nid aur yw popeth melyn Nid byd, byd heb wybodaeth Nid call, adrodd y cyfan Nid da y peth ni phlyco Nid deallus ond a ddeall ei hunan Nid doeth a ymryson Nid eir i annwn ond unwaith Nid hawdd bodloni pawb Nid hwy oes dyn nag oes dail Nid oes ar uffern ond eisiau ei threfnu Nid o fradwr y ceir gwladwr Nid rhodd rhodd oni bydd o fodd Nid rhy hen neb i ddysgu Nid tegwch heb wragedd Nid yw’r hoff o lyfr yn fyr o gyfaill Nid yw rhinwedd byth yn mynd yn hen

CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF

MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod

Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant PORTHMADOG 01766 512214/512253 60 Stryd Fawr

PWLLHELI 01758 612362 Adeiladau Madoc

office@bg-law.co.uk

Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd …

R J Williams Honda Garej Talsarnau Ffôn: 01766 770286

CYFARCHION NADOLIG

GWASANAETH CADW CYFRIFON ARDUDWY

Cysylltwch â ni am y gwasanaethau isod: • Cadw llyfrau • Ffurflenni TAW • Cyflogau • Cyfrifon blynyddol • Treth bersonol info@ardudwyaccounting.co.uk 07930 748930 4

CYMDEITHAS CWM NANTCOL 2019-2020 ‘Y Gymdeithas sy’n asio Doniau brwd Ardudwy’n bro.’ JIJ

Am y tymor nesaf, byddwn yn cyfarfod yn Neuadd Llanbedr ar nosweithiau Mawrth. Croeso cynnes i bawb!

O

O ddau ddrwg gorau y lleiaf Oedran a ŵyr fwy na dysg O gyfoeth y daw gofid Oer yw’r cariad a ddiffydd ar un chwa o wynt O mynni brysurdeb, cais long, melin a gwraig Oriadur yw meddwl dyn, a rhaid ei ddirwyn bob dydd Oni byddi gryf, bydd gyfrwys Os rhôi barch ti gei barch

ABERMAW 01341 280317 Stryd Fawr

Cofiwch anfon eich cyfarchion Nadoligaidd i ni erbyn canol mis Tachwedd

Tachwedd 12 Parti’r Eryrod, Llanuwchllyn Tachwedd 26 Bethan Gwanas ‘Bethan a’i llyfrau’ Rhagfyr 9 Cinio Nadolig ym Mwyty’r Clwb Golff, Harlech. Diddanwyr: John Price a Gwilym Bryniog Ionawr 14 Dilwyn Morgan ‘Hiwmor ddoe a heddiw’ Ionawr 28 Rhys Gwynn ‘Rhyfeddodau Cadair Idris’ Chwefror 11 Dr John Williams, Lerpwl ‘Clefydau’r Beibl’ Chwefror 25 Dafydd Iwan ‘Hanes y 60au a’r 70au trwy ambell i gân’ Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/ llaisardudwy/docs Llais Ardudwy


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Priodas berl Llongyfarchiadau i Ifanwy a Hywel Jones, Uwch y Sarn, Pensarn, ar ddathlu eu priodas berl ar ddiwedd mis Hydref. Diolch £10

Cydymdeimlo Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf â Gerallt a Bet Jones a’r teulu, Pensarn, ar farwolaeth chwaer Gerallt, sef Mair Thomas, Eden, Bronaber, Trawsfynydd, yn ddiweddar. Ein cofion hefyd at ei chwaer, Ann, Maes Meillion, Eisingrug, Talsarnau, a meibion Mair, Myfyr ac Ieuan a’r teulu, Bronaber ac at ei chyfnither Elinor Evans, Moelfre. Diolch Dymuna Gerallt, Bet, a theulu Pensarn, ddiolch yn fawr am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu colled o golli Mair, chwaer Gerallt. Diolch £10 Teulu Artro Cyfarfu Teulu Artro pnawn Mawrth, Hydref 8, dan arweiniad Glenys, ein llywydd. Anfonodd ein cofion at Betty, Elinor a Winnie sydd heb fod yn dda eu hiechyd yn ddiweddar, a chydymdeimlo ag Elinor sydd wedi colli cyfnither, sef Mair Wyn Thomas o Drawsfynydd. Diolchodd Glenys i Evie a Heulwen Jones am argraffu’r rhaglen eto eleni, ac i Iona am drefnu rhaglen ddiddorol. Yna croesawodd ein gwraig wadd, sef Mrs Ann Williams o Drawsfynydd, merch y diweddar Ron a Margaret Morgan, Bodafon gynt. Cawsom bnawn difyr yn ei chwmni gydag aml stori a hanesyn ar y thema ‘Diolch’ a bu inni ganu dwy emyn yn diolch am y cynhaeaf. Diolchwyd yn gynnes iawn iddi. Enillwyd y rafflau gan Pat ac Iona. Bagiau papur Diolch i Dei Henfecws am y defnydd o fagiau papur yn lle rhai plastig. Ychydig iawn o ymdrech a welir gan rai archfarchnadoedd i leihau’r defnydd o blastig. Marwolaeth Bu farw Mary Jones, Talartro gynt, yn Ysbyty’r Galon, Lerpwl. Anfonwn ein cydymdeimlad at ei brodyr Peter a Martin a’r teulu yn eu colled.

Yn y llun o’r chwith i’r dde: Rhes gefn: Gwynli Jones, Mrs Maggie Williams, Iorwerth Evans Rhes blaen: Sylfia Jones, Anna Wyn Richards a Jean Edwards CAU YSGOL NANTCOL Mae 70 mlynedd ers pan gaewyd Ysgol Nantcol, dydd olaf o Fedi, 1949. Cafwyd te parti yno i anrhegu Mrs Maggie Williams, yr athrawes. Ar y 3ydd o Hydref aeth y tri phlentyn, Gwynli, Jean ac Anna Wyn gyda thacsi William Pugh i Ysgol Llanbedr. Roedd Sylvia a Iorwerth wedi symud i Ysgol Ramadeg y Bermo ddechrau’r tymor. Cafwyd darlith yno ym mis Tachwedd gan D Jones Ellis, Rhosigor a ‘The Ymadael’ y Parch A Llywelyn Lloyd i Bwllglas ym mis Rhagfyr. Pryd hynny tân agored oedd yno a thecell ar stôl haearn i ferwi dŵr i gael paned, wedi cario’r dŵr o bistyll yn ymyl, a golau oddi wrth dwy lamp baraffin. Cynhaliwyd dosbarthiadau WEA yno am flynyddoedd, tua deg darlith pob gaeaf. Bu’r Parch John Owen yno ddau dymor yn darlithio ar ‘Grefyddau Mawr y Byd’ a ‘Dargynfyddiadau Diweddaraf ’ a Mrs R O Griffith, Harlech yno ddau dymor gyda ‘Phroblemau Cydwladol’ un gaeaf. Yna yn 1956-57 bu Mr Cadfan Jones o Flaenau Ffestiniog yn darlithio ar ‘Grefydd a Chymdeithas’. Byddai ambell gêm o ddartiau yno a thimau o Bontddu a Harlech yn dod yn erbyn bechgyn y Cwm. Yn 1967 prynwyd yr Ysgol gan drigolion Nantcol gan y Cyngor Sir am £100. Yr ymddiriedolwyr oedd Edward Edwards, Cilcychwyn, R Prysor Evans, Maesygarnedd, John Jones, Hendre Waelod ac Ifan O Jones, Graig Isaf. Erbyn hyn rydym wedi cael trydan yn y Cwm a rhoddwyd dŵr a chegin i mewn a thoiled yn y seler. Am flynyddoedd, bu yno fri mawr ar Ymryson Chwist bob yn ail wythnos a darlithoedd neu bartïon canu. Cafwyd Ymryson y Beirdd yn erbyn Cymdeithas Tal-y-bont a Llanystumdwy bob tymor. Yn ogystal cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol y Cwm pryd cafwyd y Neuadd yn orlawn a’r Eisteddfod yn para am oriau. Enillwyd Cadair gan y diweddar Ieuan Jones, Ty’n Coed am yr awdl ‘Molawd Ardudwy’ sydd wedi ei chanu ar lwyfannau cenedlaethol. Dros y blynyddoedd, gwnaed y cadeiriau cyntaf gan Edward Edwards, Cilcychwyn gan ddefnyddio cyllell boced ac yna yn dilyn yn grefftus gan Gwyn Saer o Harlech. Ys gwn i lle mae’r cadeiriau hyn bellach? Byddai’n ddiddorol cael gwybod. Bu Merched y Wawr yn cyfarfod am 50 mlynedd gyda tua 40 o aelodau ar y dechrau yn dod atom o Ddyffryn Ardudwy, Llanbedr a Llanfair. Maent bellach yn cyfarfod yn y Neuadd. Dros y blynyddoedd mae’r Gymdeithas wedi bod yn hynod lwyddiannus gan wahodd cantorion, beirdd a llenorion sydd yn enwog drwy Gymru a thu hwnt i’n diddori. Maent yn rhy niferus i’w henwi. Erbyn heddiw mae aelodau’r Gymdeithas yn heneiddio a theimlant ei bod yn haws iddynt gyfarfod yn Neuadd Bentref Llanbedr yn hytrach na thrafeilio tair milltir i’r Cwm ar nosweithiau tywyll y gaeaf. Y swyddogion presennol yw Llywydd: Phil Mostert, Harlech, Trysorydd: Evie M Jones [ers 1968], Trefnydd: Evie M Jones. G P Jones

Capel y Ddôl Bu Cyfarfodydd Diolchgarwch dan arweiniad y Parch J Tudno Williams yng Nghapel y Ddôl a chyda Morfudd Lloyd yn Nantcol. Roedd y ddau le wedi eu haddurno â blodau, ffrwythau a llysiau a chafwyd paned o de a chacen ar derfyn y ddau gyfarfod. Diolch yn fawr. Pen-blwydd Dymuniadau gorau i Wilfred Pugh, Bryn Deiliog, wedi dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed yn ddiweddar Rhodd Diolch i Anna Wyn Jones am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu ei thanysgrifiad. Sul y Cofio Bydd gwasanaethau Sul y Cofio yn Llanbedr ar 10 Tachwedd yn dilyn y drefn arferol, gyda gwasanaeth yn yr eglwys i ddechrau gyda’r ATC yn ymgynnull ym maes parcio’r Fic wedyn, yn barod i gerdded at y gofgolofn tua 10:40. Bydd y gwasanaeth wrth y gofgolofn yn cychwyn ar ôl i’r ATC ei chyrraedd. Mi fydd y ffordd rhwng y Fic a’r gofgolofn, a’r ffordd o stad y Wenallt i’r pentref ar gau rhwng 10.30 a 11.10 y bore.

Eglwys Pedr Sant, Llanbedr GWASANAETH CAROLAU efo

Seindorf Harlech

Nos Fercher, Rhagfyr 11eg am 6.30 yr hwyr Lluniaeth ysgafn i ddilyn Cyhoeddiadau’r Sul am 2.00 o’r gloch y prynhawn TACHWEDD 13 Capel Nantcol, Elfed Lewis 17 Capel y Ddôl, Parch Gwenda Richards 24 Capel y Ddôl, D Charles Thomas RHAGFYR 1 Capel y Ddôl, Parch Gareth Rowlands

5


TELYNOR MAWDDWY A’I DEULU gan Les Darbyshire

fam yn cadw siop esgidiau yn yr hen Arcade, ac yr oedd yn frawdyng-nghyfraith i’r diweddar Meirion Griffiths, Mount Pleasant. Rwyf yn cofio Stanley yn Stiniog lle roedd yn ‘gonductor’ ar fysus Crossville ac yn wir yr oedd yn un o’r ‘conductors’ mwyaf blin a oedd yn bosib ei gael. Bu cyngerdd yn yr hen Gapel Gwylfa yn y Manod a’r telynor Stanley Jones oedd y prif artist, noson fythgofiadwy, ac roedd Stanley yn unigolyn hollol wahanol pan oedd gyda’r delyn, yn llawn hiwmor ac yn ein hatgoffa o’r dywediad: ‘Music soothes the savage beast …’

Ym mhob ardal neu bentref mae yna un teulu yn sefyll allan. Yn y Bermo, teulu Dafydd Roberts (Telynor Mawddwy neu y Telynor Dall) oedd y teulu yma, a phleser yw ysgrifennu eu hanes a’u cyfraniad i’r cylch ac i Gymru gyfan. Yr wyf yn ddiolchgar i’w fab Robert Ifor a’r diweddar Mrs Margaret Owen am yr wybodaeth.

Roedd Dafydd Roberts yn enedigol o Llannerch, Llanymawddwy, ac yn ôl cyfrifiad 1881, pan oedd Dafydd yn pump oed, roedd y teulu – sef y tad a’r fam, Dafydd a’i ddau frawd yn byw yn ffarm Nant y Nodyn. Tua 1883 cafodd Dafydd ei daro yn wael gyda’r frech goch ac o achos hynny fe gollodd ei olwg; golyga hyn na fedrai ddilyn cwrs ysgol. Roedd ei dad Robert Roberts yn hanu o deulu cerddorol ac roedd yn aelod o gôr Perth-y-Felin dan arweiniad Eos Mawddwy ac roedd yn dra wybodus fel cerddor, yn gallu chwarae gwahanol offerynnau ac yn hyddysg mewn cerdd dant. Roedd yna draddodiad o ganu penillion yn y teulu ac roedd Eos Mawddwy ynei feithrin. Byddai y cantorion yn cerdded milltiroedd i ymarfer yn ffarm Perth-y-Felin ac roedd Dafydd yn rhan o’r côr ac yn chwarae y ‘violin’ a’r gweddill gyda ‘flutes and strings’. Trwy anogaeth ei ddewythr Morris, a’i frawd John, bu i Dafydd lwyddo i brynu telyn. Er ei ddallineb yr oedd yn gallu gwneud llawer o waith y ffarm a hynny yn fedrus. Bu yn cystadlu mewn llawer eisteddfod ac yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog yn 1898, enillodd y brif unawd cerdd dant ac wedyn eilwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Lerpwl yn 1900. Clywodd y Foneddiges Llanofer (Gwenynen Gwent) ef yn canu’r delyn a rhoddodd wahoddiad iddo ddod i Blas Llanofer ym Mynwy i gael rhagor o hyfforddiant ar y delyn a hefyd gwasanaethu yn y tŷ a’r ffarm, a bod yn aelod o Gôr Telyn y Plas. Byddai’r côr yn diddanu’r gwesteion a oedd yn aros yn y Plas. Byddai y staff a’r gweision yn cymryd rhan yn y dawnsfeydd Cymreig ac yn arbennig y ddawns Meillionen. Mae hanes i’r côr yma gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni yn 1913 ac roedd Dafydd yn aelod ohono. Yn arferol, byddai y rhai o dan hyfforddiant yn aros yn y Plas am ddwy flynedd ond bu Dafydd yno

6

Roedd y Foneddiges yn defnyddio ei henw barddonol sef ‘Gwenynen Gwent’ a hi ddyfeisiodd y wisg draddodiadol genedlaethol Gymreig sef y fantell goch, pais wlanen a betgwn gyda het ddu uchel. Dywed rhai mai pwrpas y wisg oedd i roi cymorth i’r diwydiant gwlân a oedd yn cael ei wasgu gan effaith y mewnforio cotwm. Urddwyd Benjamin Hall yn farchog yn 1838 ac wedyn yn Arglwydd yn 1859 a daeth Augusta yn Arglwyddes Trefnodd merch y diweddar Foneddiges Llanofer i Dafydd Llanofer. Bu farw Arglwydd Llanofer briodi ag un o forwynion y Plas sef Ada Jane Jones (Jennie) yn 1867 a pharhaodd yr Arglwyddes i gynorthwyo traddodiadau Cymreig er a hi a drefnodd y mis mêl iddynt yn y Bermo, a’u cludo yno. Penderfynodd y ddau bod y cylch yn addas iddynt a roedd rhai yn ei galw yn od. Bu farw yn 1896 yn 94 oed, ddeng mlynedd gwnaethant eu cartref yn y dre mewn tŷ o’r enw Ardwyn ond erbyn heddiw nid oes gwybodaeth o’i leoliad. Roedd ar hugain ar ôl colli ei gŵr. Roedd gan Benjamin ac Augusta ddau o Dafydd wedi deall nad oedd hin Ardudwy mor oer yn y blant - mab a merch - ond bu i’r gaeafau ac nid yn rhy boeth yn yr haf. mab farw yn ifanc. Roedd y ferch Augusta Charlotte Elizabeth - yn dilyn Buddiol buasai rhoi ychydig o hanes y Foneddiges diddordebau ei mam ac yn hyrwyddo Llanofer (Gwenynen Gwent). Merch a anwyd yn 1802 i ei gwaith i gadw’r traddodiad Cymreig Benjamin Waddington oedd Augusta (ei henw bedydd) ac yn defnyddio’r plas i’r pwrpas hynny. o Tŷ Uchaf, Llanofer, Mynwy. Priododd â Benjamin Hall Fe gymrodd enw barddol ei mam sef yn 1823, peiriannydd sifil a gwleidydd ydoedd a bu yn Gwenynen Gwent ac ychwanegu ‘yr aelod seneddol dros Sir Fynwy ac wedyn Marylebone Ail’ ar ei ôl. Bu iddi farw yn 1912 yn yn Llundain. Roedd yn ddyn mawr o gorff ac yn cael 88 oed. Cofier y fam, y tad a’r ferch fel ei adnabod fel ‘Big Ben’; ef oedd goruchwyliwr gwaith arwyr a oedd wedi rhoi ysbrydoliaeth adnewyddu senedd Plas Westminster ac yn gyfrifol i’r genedl ac ymwybyddiaeth o’u am osod y gloch enfawr yn Nhŵr y Plas. Er bod enw swyddogol ar y gloch, dywedir mai enw Benjamim Hall sef hetifeddiaeth. [i’w barhau] ‘Big Ben’ y gelwid y gloch ar lafar ar y pryd ac mae’r enw wedi parhau hyd heddiw. am saith ac yn y cyfnod fe ddysgodd sut i drin y delyn deires, tiwnio pianos a gwneud cadeiriau gwiail.

Bu i Augusta a’i gŵr fyw ym Mhlas Llanofer lle roedd y ddau yn weithgar dros achosion Cymreig ac yn eiddgar dros yr iaith er nad oeddent yn hyddysg ynddi. Byddent yn cael cyngherddau yn y Plas i ddiddanu eu gwesteion ac yn sicrhau bod cynnwys y cyngerdd yn draddodiadol Gymreig gyda’r côr â’r delyn deires ac hefyd adfywio yr hen ddull o ddawnsio. Ar yr un pryd yn rhoi cymorth a hyfforddiant i’r rhai oedd yn dyheu i fynd ymlaen ym myd cerdd. Cafodd telynor arall o gylch y Bermo, a lle i gredu mae un o ddisgyblion Telynor Mawddwy ydoedd - sef y diweddar Stanley Jones, ragor o hyfforddiant yn Llanofer. Roedd ei

YN EISIAU

IS-OLYGYDDION I’R PAPUR HWN

Llais Ardudwy Diolch am bob cefnogaeth. Os gallwch helpu mewn unrhyw fodd - rhowch wybod.


MEDDYGINIAETHAU addasiad rhydd o lyfr W H Roberts - ‘Aroglau Gwair’

Tybed beth sydd gennych chi yn y cwpwrdd pils ac eli? Mae gen i gof o bethau fel hyn yn ein tŷ ni: asiffeta, gliserin, mêl, triog du, dail Sena, oel Morris Evans, castor oel, iwcalyptws, iodin, lint, borasig, had llin ac olew llin. Ac yn ei dro - saim gŵydd. Cadw’n gynnes oedd un o ymadroddion Mam a chadw’r traed yn sych. Roedd y frech goch yn bur beryglus bryd hynny fel ag y mae hi heddiw. Aros mewn lle tywyll oedden ni rhag cael anhwylder ar y llygaid. Bu i un o blant yr ardal ddioddef weddill ei oes oherwydd y frech goch yn ôl y cymdogion. Salwch annifyr iawn oedd pâs. Mi gefais i hwnnw a chael trafferth mawr i gael y peswch i fyny. Ni chofiaf fod clwy’r pennau mor ddrwg. Cynhesrwydd oedd y feddyginiaeth unwaith eto! Mae gen i frith gof hefyd o’r wlanen goch a saim gŵydd ond ni chredaf ei fod yn gwneud unrhyw les i’r annwyd. Bûm yn gwisgo pwltis poeth ar benddüyn a chofiaf hyd heddiw nad oedd wiw i neb ei gyffwrdd gan ei fod mor boenus. Byddem yn sipian mêl i ireiddio dolur gwddf ac mae’n gas gen i fêl hyd heddiw. Iwcalyptws oedd ar gael i drin anhwylder y ffroen a thyllau seinws y pen - llestr o ddŵr berwedig ac anadlu’r ager. Os na allai babi bach dorri gwynt roedd digon o ddŵr greip ar gael ond weithiau fe wneid dŵr colsyn drwy ollwng colsyn coch o’r tân i gwpanaid o ddŵr oer. Wedi iddo oeri a gwaelodi, gloywi’r dŵr glân a rhoi ychydig o siwgr ynddo. Roedd yn ddifeth. Os oedd dannodd a thwll yn y dant gellid stwffio wadin wedi ei drochi mewn iodin iddo. Os oedd pigyn clust rhoddid olew olewydd cynnes ar wadin. Clywais sôn hefyd am chwythu mwg baco i’r glust ond nis gwn a yw hwnnw’n gweithio! Y feddyginiaeth ar gyfer defaid ar y dwylo oedd chwilio am y blodyn llym y llygaid [greater celandine] a defnyddio’r sug

melyn o’r goes ar y ddafad. Tropyn bob dydd am dair wythnos ac fe weithiai yn ddiffael. Clywais hefyd am rwbio llaeth ysgall, llaeth ysgyfarnog neu falwen ddu neu drochi eich dwylo yng nghafn oeri’r efail. Roedd asiffeta yn sur ofnadwy ond roedd diferyn ohono mewn llwyaid o ddŵr yn stwff da at y stumog. Os ceid llyfrithen ar lygaid, ei rhwbio â modrwy aur oedd y feddyginiaeth. Un arall oedd pwltis dail te oer. Pan godai pothell fe ddyfriai weithiau, ac erbyn y bore byddai wedi sychu

fel grawn gan gloi’r amrannau. Dŵr cynnes a phinsiad o bowdwr borasig ynddo neu lefrith cynnes a ddefnyddid i’w ddatgloi. Dywedwyd wrthyf mai yn y gwaed yr oedd y drwg a’r cyngor a gefais i buro hwnnw oedd llwyaid o ffrom brwmstan a thriog du bob nos a bore. Nid eglurwyd imi mai un o nodweddion llencyndod ydoedd ac yr ai heibio wrth ei natur. Weithiau fe ddeuai yr igian - wedi bwyta’n rhy gyflym a gwynt wedi casglu yn y stumog. Tyfu oeddan ni! Cawsem siars i ddal ein gwynt a dweud ‘pen galad, pen galad’ naw gwaith ar yr un gwynt naw gwaith. Ac yn wir mi âi. Sipian dŵr yn araf deg a wnaem weithiau i’w wella. Roedd rhai plant oedd yn dioddef o blorod ar yr wyneb a’r

cyngor iddyn nhw oedd eu hiro â phoeryn cynta’r bore. I atal gwaedlyn o’r ffroen rhoi cadach gwlyb oer ar y gwegil oedd y peth gorau ond i atal gwaedu o glwyf, gwe pry cop. Un tro roedd fy nhad yn dioddef o ryw aflwydd ar gefn ei law. Ecsema o ryw fath oedd o mae’n siŵr ac yr oedd yn cosi’n ofnadwy, yn enwedig yn y gwely. Meddai Meri Owen, Tyddyn Bach wrtho, ‘rhowch owns o siag Amlwch mewn pot jam pwys a llenwch y pot â llaeth enwyn - gora’ po sura’. Gadewch fymryn o gadach ynddo fo a hel tipyn hyd eich llaw bob tro y byddwch chi’n ei basio.’ Yn wir, meddaf i chi, fe gliriodd y cwbl yn lân. Addasiad PM

7


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT

Rhedeg i godi arian i’r NSPCC Cymrodd Sophie Angharad Jones, 36 oed, o Dal-y-bont, ran yn hanner marathon Caerdydd yn ddiweddar. Roedd Sophie yn rhedeg tuag at yr elusen NSPCC. Mae hi wedi casglu dros £400, ac mae hi yn diolch i bawb sydd wedi ei chefnogi. Mi ddaru hi gwblhau’r ras mewn llai na dwy awr a hanner. Roedd yna 27, 000 o redwyr i gyd yn cymryd rhan yn y ras. Roedd Patience a Meirion Jones (mam a tad Sophie) yn falch dros ben ei bod hi wedi cystadlu a gorffen y ras oherwydd pan oedd Sophie yn rhyw 9 diwrnod oed, cafodd ddiagnosis o dwll yn ei chalon ac yn dilyn, cafodd ddwy lawdriniaeth yn Ysbyty Plant Lerpwl, y cyntaf pan oedd yn rhyw 10 diwrnod oed a’r ail pan oedd yn rhyw 3 mis oed. Mae ei rhieni’n credu bod y ffaith bod Sophie wedi rhedeg y ras yn ysbrydoliaeth i rai sydd wedi cael llawdriniaeth debyg. Y llynedd, rhedodd Sophie yr hanner marathon ym Mangor.

Marathon Llongyfarchiadau cynnes iawn i Bethan Smedley a redodd 26.2 milltir ym Marathon Caer ar 6 Hydref mewn amser o 4 awr 14 munud a 54 eiliad. Mae’r arian a gasglwyd yn mynd tuag at adnoddau i ysgol gynradd Dyffryn Ardudwy.

8

Festri Lawen Horeb Croesawyd ni i gyfarfod cynta’r tymor gan John Gwilym Roberts. Diolchodd i’r ysgrifennydd Mai a’r pwyllgor am drefnu’r rhaglen am y tymor. Yna cyflwynodd a chroesawodd Hogia’r Berfeddwlad atom. Ffurfiwyd y parti yn 1999 o dan arweiniad Cathryn Watkin ond erbyn hyn eu cyfeilydd Daniel sydd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o’r gwaith er fod Cathryn Watkin yn dal i helpu a chynghori pan fo angen. Criw o hogia cefn gwlad o’r fro rhwng Dyffryn Conwy a Chlwyd yw’r parti. Daeth y parti i’r brig sawl gwaith yn y Brifwyl gyda cherdd dant a chanu gwerin a chafwyd llwyddiant hefyd yn yr Ŵyl Gerdd Dant. Enillwyd Côr yr Ŵyl yn yr Ŵyl Ban Geltaidd ddwy flynedd yn olynol, yn Donegal yn 2009 a Dingle yn 2010. Daethant yn fuddugol yn Eisteddfod Llanrwst eleni hefyd. Cafwyd noson wych yn gwrando arnynt yn canu amrywiaeth o ganeuon gwerin, cerdd dant a chaneuon o sioeau cerdd. Plesiwyd ni’n fawr am iddynt orffen y noson trwy ganu ‘Y Cymro’ gan Meirion Williams, ein Wil Post ni. Cafwyd sawl sgets ddifyr hefyd yn ystod y noson. Diolchodd John yn gynnes iddynt am noson arbennig i gychwyn y tymor. Ar 14 Tachwedd byddwn yn cael cwmni Mr Cefin Roberts. Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn y Neuadd Bentref bnawn Mercher 16 Hydref, a chroesawyd pawb gan Gwennie. Cydymdeimlodd â Mrs Gwyneth Davies yn ei phrofedigaeth o gollli ei phriod, Ronnie. Anfonodd ein cofion at Miss Lilian Edwards a fu yn Ysbyty Gwynedd, ond sydd yn Ysbyty Dolgellau erbyn hyn. Anfonwyd cofion hefyd at Mrs Enid Thomas a fu yn Ysbyty Bryn Beryl ond sydd wedi dod i Hafod Mawddach a Mrs Iris Pugh a fu yn Ysbyty Dolgellau ond adre erbyn hyn. Derbyniwyd siec o £200 gan y Cyngor Cymuned ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am eu haelioni eto eleni.

Yna cynhaliwyd ein Gwasanaeth Diolchgarwch ar y thema ‘Y Tymhorau’ gydag Anthia, Einir a Gwennie yn cymryd rhan ac yn ystod y gwasanaeth cawsom wrando ar Hogia’r Wyddfa yn canu ‘Y Tymhorau’, Trebor Edwards yn canu ‘Tydi a wnaeth y wyrth’, Adlais yn canu ‘Cân o ddiolch’ a Dafydd Edwards yn canu ‘Emyn y Cynhaeaf ’. Ar 20 Tachwedd bydd Mrs Elizabeth Peate yn dod atom i ddangos ei gwaith gwnïo.

Cyngor Cymuned Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont

GWASANAETH SUL Y COFIO Ger y gofeb 10.11.19 3.00 y prynhawn Croeso cynnes i bawb

Diolch Diolch i Mr O Huw Ellis am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu ei danysgrifiad i Llais Ardudwy.

CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT Croesawyd Meinir Thomas i’w chyfarfod cyntaf o’r Cyngor a dymunwyd yn dda iddi yn y dyfodol. CEISIADAU CYNLLUNIO Codi storfa cadw biniau – tir ym Mhentre Uchaf. Cefnogi’r cais. Newidiadau ac estyniad i’r balconi presennol, gosod ffenestr to a dormer to fflat ar yr edrychiad cefn – 13 Bro Enddwyn. Cefnogi’r cais. Ehangu’r balconi presennol ar hyd edrychiadau blaen ac ochr a phorts newydd – ‘Coastal View’, Bro Enddwyn. Cefnogi’r cais hwn. MATERION YN CODI Grŵp Gwella Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont Adroddwyd ymhellach bod y Clwb Ieuenctid yn llawn rŵan gyda 40 o blant yn ei fynychu a diolchwyd i Meinir Thomas am ei gwaith gyda hwn. Hefyd cafwyd gwybod bod y clwb pêl-droed wedi gofyn a fyddai hi’n bosib parhau i dorri gwair y cae pêl-droed a chytunwyd â hyn. ADRODDIAD Y TRYSORYDD Ceisiadau am gymorth ariannol: Neuadd Bentref – gohirio’r cais nes bydd cyfarfod wedi’i gynnal gyda Swyddogion y pwyllgor Teulu Ardudwy - £200 Ambiwlans Awyr Cymru - £500 Eisteddfod Ardudwy - £250 Treialon Cŵn Defaid Cenedlaethol Cymru 2020 - £50 Hamdden Harlech ac Ardudwy - £5,182.75

Smithy Garage Dyffryn Ardudwy, Gwynedd

Tel: 01341 247799 www.smithygarage-mitsubishi.co.uk smithygaragedyffryn

smithygarageltd

Ar gael ar delerau 0% hurbrynu dros 3 blynedd heb unrhyw isafswm ernes


GLANHAU TRAETH HARLECH

Trefnwyd y sesiwn hel sbwriel ar draeth Harlech gan Gymdeithas Eryri – elusen leol sydd â’r nod o warchod a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri. Cynhaliwyd y digwyddiad ar yr un pryd â’r Great British Beach Clean, sy’n cael ei drefnu bob mis Medi. Ychydig iawn o sbwriel oedd ar brif ran y traeth. Mae offer yn y maes parcio yn annog pobl i hel sbwriel am ddau funud, felly efallai dyna pam. Diolch i bawb sy’n codi sbwriel! Roedd y rhan fwyaf o’r sbwriel a gasglwyd gennym yn gysylltiedig â physgota – rhwydi, potiau, blychau pysgod – a oedd wedi dod i mewn ar y llanw. Tasg gyntaf y grŵp oedd cynnal arolwg sbwriel ar ddarn 100m o’r traeth. Roedd hyn ar gyfer Cymdeithas Cadwraeth y Môr, sydd yn bwydo’r wybodaeth i arolwg byd-eang blynyddol Clwb Cinio Nid aethom i dafarn Brondanw, Llanfrothen, ar 15 Hydref gan fod amryw ym methu dod. Byddwn yn mynd yno ar ddydd Mawrth, 12 Tachwedd. Cydymdeimlad Ar 10 Hydref bu farw Mrs Mary Elizabeth Jones (Mari i ni yn y Dyffryn), Pentre Uchaf yn 98 mlwydd oed mewn cartref gofal yn Llandudno. Roedd yn wraig annwyl iawn ac yn uchel ei pharch yn y Dyffryn. Cydymdeimlwn yn fawr â’i chwaer Catrin a’i brawd Wilfred a’r teulu oll yn eu profedigaeth. Diolch Dymuna Edward ac Einir, Enlli, 16 Pen Rhiw, ddiolch i deulu a ffrindiau yn yr ardal am y cardiau a’r anrhegion a dderbyniwyd ar achlysur dathlu eu priodas aur. Hefyd i’r plant am y penwythnos yn Ardal y Llynnoedd, Windermere. Diolch £5 Cyhoeddiadau’r Sul Horeb TACHWEDD 10 Ceri Hugh Jones 17 Elfed Lewis 24 Dafydd Charles Thomas RHAGFYR 1 Parch Gareth Rowlands

o lygredd sbwriel ar hyd ein harfordiroedd. Cynhaliwyd sesiwn hel sbwriel am weddill y dydd gyda thua milltir a hanner o’r traeth wedi’i lanhau.” Ymhlith y rhai a helpodd ar y diwrnod roedd staff o Gyfoeth Naturiol Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri ac Adrannau Morwrol a Phriffyrdd Cyngor Diolch Dymuna Gwyneth a’r teulu, 19 Pentre Uchaf, ddatgan eu diolch am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli Ronnie. Diolch i Pritchard a Griffiths am y brefniadau trylwyr ac i Alma am y gwasanaeth arbennig yn yr Amlosgfa, a diolch i bawb am y rhoddion at Gyfeillion Ysbyty Dolgellau. Diolch £5

Gwynedd. Dyma sylwadau rhai o’r gwirfoddolwyr a gymrodd ran: “Fe gawson ni ddiwrnod hyfryd - fe wnaeth y plant ei fwynhau’n fawr iawn ac eisiau gwneud un arall. Diolch am ei wneud yn brofiad da iddyn nhw.” Melanie, a ddaeth o’r Amwythig am y diwrnod gyda’i theulu. “Roedd yn bleser helpu gyda’r helfa sbwriel a chwrdd â chymaint o bobl fendigedig sydd mor angerddol am ein traethau

a’r amgylchedd.” Karen. Dywedodd Freya Bentham, aelod o Gyngor Gwynedd dros Harlech a Thalsarnau: “Mae’r olygfa o Gastell Harlech o’r Morfa gyda chefndir Eryri yn un o’r goreuon yng Nghymru, ond gan ein bod ni ym mhen pellaf Bae Ceredigion rydyn ni’n cael llawer o blastig, offer pysgota a mân ddarnau plastig cyffredinol yn cael ei olchi yma gan y tonnau. “Mae’n wych bod Cymdeithas Eryri wedi dod ynghyd â’r holl bartneriaid i alluogi’r gwirfoddolwyr i gael gwared â’r sbwriel hwn oddi ar y traeth. Mae wedi bod yn ymdrech wych ac rwy’n canmol pawb a gymrodd ran yn ystod y dydd am eu hymdrechion glew.” Gall unrhyw un sy’n eu gael yn euog o daflu sbwriel mewn man cyhoeddus wynebu gwŷs llys a dirwy o hyd at £2,500. I roi gwybod am unrhyw achosion o dipio anghyfreithlon, cysylltwch â Chyngor Gwynedd ar 01766 771000.

Nineteen.57, Islawrffordd Ambiwlans Awyr Cymru

NOSON GAROLAU yng nghwmni

Côr Meibion Ardudwy

Nos Sul 22 Rhagfyr am 6.00 o’r gloch. Mynediad drwy docyn yn unig £5.00

Diolch Ar ôl pum mlynedd yn ’57 mae Siôn a finnau wedi penderfynu dod â’n hamser yno i ben. Roedd y penderfyniad yn un anodd iawn gan fod ein perthynas hefo teulu Islawrffordd yn un glos iawn. Mae ein diolch yn fawr i Dylan a Geraint am y cyfle a’u ffydd ynom ein dau i sefydlu busnes ar Wersyll Carafanau Islawrffordd. mae’r staff i gyd yn gyfrifol am lwyddiant y bwyty ac yn haeddu canmoliaeth mawr. Llun o’r staff gwreiddiol sy’n cael ei ddangos ac mae wedi bod yn bleser gweithio hefo pob un ohonynt, hen a newydd. Er colli rhai i goleg a phrifysgol maent yn dal i gadw cysylltiad hefo ‘teulu ’57’. Llawer o ddiolch hefyd i’r bobl a chymdeithasau lleol am eu cefnogaeth. Roeddem yn disgwyl bod yn brysur yn ystod yr haf a gwyliau hanner tymor, ond braf oedd cael croesawu pobl ’dan ni’n eu adnabod a chael y cyfle i gynnal nosweithiau codi arian at wahanol elusennau. Mae noson garolau eto eleni yng nghwmni Côr Meibion Ardudwy (mynediad drwy docyn yn unig). Bydd Siôn yn coginio am y tro olaf ddydd cyntaf y flwyddyn newydd a dymunwn ein Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd. Iola a Siôn Diolch £10

9


RHAI O DEULU Y FUCHES WEN (parhad) Yn 1898 ar alwad yr Arlywydd, William McKinley (1843-1901), (y cyntaf o arlywyddion yr ugeinfed ganrif i gael ei lofruddio), am wirfoddolwyr ar ddechrau y rhyfel rhwng yr Unol Daleithiau a Sbaen, daeth Wiliam J Evans (1870-1898), 28 oed, un o feibion Griffith D a Catherine Evans oedd ers 1889 yn byw yn Beatrice, Nebraska, i ymuno â’r fyddin, yn aelod o Gwmni C, Catrawd 1af, Milwyr Traed Nebraska, ar gyfer mynd i ymladd i Manila, yn Ynysoedd y Philipine. Ar Gorffennaf y 5ed, ar fwrdd y llong, rhwng Honolulu a’r Philipine, cafodd anffawd i’w goes pan syrthiodd neu daro yn erbyn copor neu bres, nes trodd yn waed wenyniad. Glaniodd yn Cavite yn y Philipine, 17 Gorffennaf, ac aed ag ef i’r ysbyty. Gorffennaf 24, torrodd y meddygon ei goes, a bu farw mewn canlyniad, a’i gladdu drannoeth.

Robert Ll Evans, 1895

Cafodd disgyblion Ysgol y Traeth, Bermo lwyddiant mawr yn y ddwy gystadleuaeth bêl-droed a gynhaliwyd yn y Bala yn ddiweddar.

Robert Llewellyn a Mary Hunt Evans, 1942

Aeth mab hynaf Griffith D a Catherine Evans, sef Robert Llewellyn Evans, DD, ar ôl cwblhau cwrs o addysg, yn genhadwr i Hankow, Tsieina, yn 1895. Yr oedd Llewellyn yn un o wyth o frodyr, ac wedi ei eni yn Wild Rose, Sir Waushara, Wisconsin, Medi 21, 1886, cyn i’w rieni symud i Nebraska. Yn ŵr ifanc, cafodd waith mewn storfa, a threuliodd ei nosweithiau yn astudio. Yn fuan yn ei fywyd penderfynodd ar yrfa yn y weinidogaeth. Dechreuodd gyda gwaith yr YMCA fel ysgrifennydd cyffredinol mewn un o drefi rheilffordd bychan yn Nebraska. Yna aeth yn fyfyriwr i’r Athrofa Beiblaidd ar gyfer gwasanaethu yn y genhadaeth dramor, ar ôl iddo raddio ymhen tair blynedd wedyn. Hwyliodd am Tsieina o dan Genhadaeth Mewndirol Tsieina. Ar Ebrill 13eg, 1898, yn Pao-Ming-Tu, Tsieina, priododd â Mary Caroline Hunt (1871-1948), merch o Ottawa, Illinois, a gyfarfu yn ystod ei gyfnod yn Institiwt Beiblaidd Moody, Chicago. Ar ôl nifer o flynyddoedd anrheithiol yn Tsieina yn ystod y gwrthryfel gwarthus, dychwelodd gyda’i wraig a’i ddau blentyn, gan gynnwys Howell G Evans (1899-1963) a anwyd yn Tsieina, i Chicago, Illinois, yn 1901. Bu’n darlithio am flwyddyn mewn eglwysi a cholegau am anghenion Tsieina. Bu i gyflwr iechyd Mary, ei wraig, eu rhwystro rhag dychwelyd i’r maes cenhadol tramor ac ymgymerodd yn 36 oed i fod yn weinidog ar Eglwys Cynulleidfaol Pecatonica, Illinois. Yr oedd ef eisoes pan yn 28 oed wedi bod yn weinidog ar Eglwys Cynulleidfaol Forest Glen, cymuned fechan yng ngogledd-orllewin Chicago, yn 1895 – aeth y capel ar dân yn 1955. Yn 1904 symudodd i ofalu am Eglwys Carrollton, Sir Greene, Illinois, lle bu am bedair blynedd. Am bedair mlynedd ar ddeg bu weinidog ar Eglwys Bresbyteraidd Sutter, yn St Louis, Missouri, ac yna ymatebodd i alwad i Eglwys Bresbyteraidd Lincoln Avenue, yn Pasadena, Califfornia, ac ar yr un pryd yn gwasanaethu ar gyfadran Institiwt Beiblaidd Los Angeles, am gyfnod o ddeunaw mlynedd. Ar ôl iddo ymddeol teithiodd yn eang yn dysgu, efengylu ac yn gweinyddu. Cafodd radd ddoethuriaeth gan Goleg Diwinyddol Dallas, Texas, yn 1934, am ei gyfraniad clodwiw mewn maes astudiaeth Beiblaidd ac esboniad. Yr oedd yn awdur nifer o bamffledi a thraethodau ar wirionedd y Beibl. Bu ei blentyn ieuengaf, Paul C Evans, farw yn Pasadena, yn 1934, yn 22 mlwydd oed; a’i briod, Mary, farw Ebrill, 1948, yn Hollywood, Califfornia, yn 76 oed. Y plant eraill oedd: Mrs Beatrice Evans (1901-1967), Hermosa Beach, Califfornia; Gordon Kenneth Evans (1901-1999), Efrog Newydd; Norman A (1904-1998) a Harris K Evans (1908-1982), Alhambra, Califfornia. Mawrth 24, 1960, yn 93 oed, yn Alhambra, mewn cartref henoed, bu farw Robert Llewellyn Evans, a’i gladdu ym Mynwent Forest Lawn Memorial Park, yn Glendale, Califfornia. W Arvon Roberts

10

CYSTADLAETHAU PÊL-DROED YR URDD

GWAITH AR Y RHEILFFORDD YM MHENSARN

Cofiwch fod bws ar gael i hwyluso teithio rhwng y Bermo a Phwllheli tra bo gwaith ar y draphont. Daw i ben ar Tachwedd 11.


Y BERMO A LLANABER CORNEL Y FFERYLLYDD Y Gymdeithas Gymraeg Nos Fercher Hydref 2, codwyd y llenni ar dymor arall o weithgareddau. Yn briodol iawn, agorwyd y noson gan y llywydd Llewela Edwards, wrth iddi groesawu pawb a diolch i’r aelodau am eu cefnogaeth i’r gymdeithas. Trefnydd y noson oedd Raymond Owen a chyn cyflwyno y siaradwr gwadd, diolchodd i’r swyddogion gweithgar am eu gwaith. Gorchwyl bleserus oedd cyflwyno ac estyn croeso i’r Parch Euron Hughes, Llanuwchllyn. Testun ei anerchiad oedd ‘Atgofion am y Co’ Bach’ a difyr iawn fu’r noson yn ei gwmni. Cawsom gyfle i ddod i adnabod y dyn y tu ôl i’r perfformiwr, wrth i Euron sôn am ei berthynas ậ Richard Hughes, sef ei hen ewythr Dic. Cafwyd cyfle i glywed eto y llais cyfarwydd, wrth wrando ar dri recordiad ohono yn adrodd cerddi yn llawn o’r ffraethineb sy’n gysylltiol ậ’r Co’ Bach. Cyfeiriwyd yn eu tro at yr hen bosteri, adroddiadau papur newydd a lluniau yr oedd Euron wedi eu hel dros y blynyddoedd, pob un â’i stori ei hun. Diolchodd llywydd y noson i Euron am ei gyflwyniad hwyliog a diddorol. Yn ôl yr arfer, cloi’r noson

gyda sgwrs, paned a sgonsen. Enillwyd y raffl gan Grace Williams. Ar nos Fercher, Tachwedd 6, disgwylir Elfed Lewis i sgwrsio am ei gartref eco-gyfeillgar ym Mrithdir. Merched y Wawr Daeth criw da o aelodau i gyfarfod cyntaf y tymor. Braf oedd croesawu un aelod newydd ac un aelod wedi dychwelyd ar ôl anhwylder. Dymunwyd adferiad buan i Iris a Mair. Diolch i Grace am baratoi’r rhaglen a hefyd i’r aelodau am drefnu siaradwyr. Darllenwyd cerdyn gan Tegwen Morris yn dilyn ein dathliad mis Medi. Aethpwyd ymlaen i drafod materion rhanbarthol a chenedlaethol. Wedyn trosglwyddwyd y noson i ddwylo Gwyneth Edwards a Glenys Jones. Roeddent wedi paratoi cwis hwyl, megis teitl rhigymau, diarhebion a cwestiynau cyffredinol. Bu llawer o drafod a chrafu pen. Ar y diwedd dangosodd y ddwy lawer o gelfi diddorol o’u meddiant. Diolchodd Llewela i’r ddwy am noson hwyliog a chartrefol. Daeth y cyfarfod i ben gyda sgwrs a phaned. Rhoddion i Llais Ardudwy: Robin a Sybil Jones £10 Mrs Enid Parry £8

TOYOTA HARLECH

COROLLA HYBRID NEWYDD

Dewch i roi cynnig ar yrru’r Corolla newydd! Mae ’na ganmol mawr i hwn! facebook.com/harlech.

Ffordd Newydd Harlech LL46 2PS 01766 780432 www.harlech.toyota.co.uk info@harlech.toyota.co.uk

Gyda’r Nadolig yn agosáu mae tymor y gwledda yn ei anterth. Sawl mins pei neu sbrowt ydych chi wedi ei fwyta hyd yma? Un o’r problemau sy’n cael eu gweld yn y fferyllfa dros wythnos y Nadolig yw gwynt, dŵr poeth a diffyg treuliad! Hwyrach felly bod hwn yn gyfle perffaith i roi ychydig bach o gyngor am sut i osgoi neu ddelio â’r broblem. Un o’r pethau pwysicaf y gallwch ei wneud yw osgoi bwyta prydau mawr. Sialens ddigon anodd dros y Nadolig, ond mae bwyta prydau llai yn amlach ac osgoi bwyta gormod yn hwyr y dydd yn gallu bod o help mawr. Mae hi hefyd yn bwysig bod yn ofalus beth yr ydych yn ei fwyta. Gall coffi, siocled, alcohol, tomatos a bwydydd llawn braster neu sbeislyd waethygu’r broblem. Gyda holl brysurdeb a chynnwrf y Nadolig, hawdd ydi teimlo dan straen. Dyma i chi rywbeth arall sy’n gallu gwaethygu y symptomau. Felly sut i ddatrys y broblem? Cymerwch fantais o dymor y gwyliau i ymlacio, byddwch yn ofalus o’r hyn yr ydych yn ei fwyta a beth am ystyried rhoi’r gorau i ysmygu neu golli pwysau yn y flwyddyn newydd? Wrth gwrs, gallwch ymweld â’r fferyllfa i gael cyngor neu brynu meddyginiaeth i’ch helpu. Mae pob math o ddewis ar gael – tabledi i niwtraleiddio asid y stumog fel ‘Rennies’ a thabledi i leihau faint o asid sydd yn cael ei gynhyrchu yn y stumog, i arbed asid rhag dod yn ôl i’r gwddf. Os oes unrhyw un yn ystyried rhoi’r gorau i ysmygu, cofiwch fod cynllun i’ch helpu i roi’r gorau ar gael yn rhad ac am ddim yn y fferyllfa. Steffan John

Eglwysi Bro Ardudwy Digwyddiadau Dydd Sadwrn, 9 Tachwedd Côr yr Atgyfodiad (Resurrection Choir) o St Petersburg. Eglwys Sant Ioan, Bermo am 7.00 yr hwyr Tocynnau £12 Mae’n bleser gennym groesawu Côr yr Atgyfodiad St Petersburg unwaith eto gyda’u rhaglen o gerddoriaeth amrywiol. Sul 10, Tachwedd Gwasanaethau Sul y Cofio 9.30 yb Sant Pedr, Llanbedr 9:30 yb Tanwg Sant, Harlech 10:45 yb Sant Ioan, Bermo 10:55 yb Bodfan Sant a’r Santes Fair, Llanaber 10:55 yb Santes Ddwywe, Llanddwywe 10:55 yb Llanfihangel-y-traethau 1 Rhagfyr Tanwg Sant, Llandanwg 10.30 yb Gwasanaeth y Fro Gwasanaeth Cyfunedig Bro Ardudwy 8 Rhagfyr Tanwg Sant, Harlech Côr Bro Meirion Cyngerdd

Twitter@harlech_toyota

11


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN YSGOL TALSARNAU

Yn ein rhifyn diwethaf, cyfeiriwyd at dorri gwallt Mrs Helen Davies yn ystod y ‘Pnawn Paned a Chacen’ a drefnwyd at ymgyrch Macmillan. Erbyn hyn gallwn gadarnhau bod y swm o arian a gasglwyd i’r achos teilwng hwn dros £1,600. Rydym hefyd yn falch o gyhoeddi bod gwallt Mrs Davies yn tyfu yn ei ôl yn ddel iawn! Diolch i bawb am bob cefnogaeth. Merched y Wawr Croesawodd y Llywydd, Siriol Lewis, bawb i’r cyfarfod yn Neuadd Talsarnau nos Lun, 7 Hydref gan estyn croeso arbennig i aelodau Cangen Harlech oedd wedi derbyn ein gwahoddiad i ymuno â ni i glywed yr hanes gan Carys Edwards, Ganllwyd ar sut y daeth i gadw gwenyn a gwerthu mêl. Wedi cyd-ganu cân y mudiad, dechreuodd Carys ei sgwrs gan egluro bod ganddi dros 100 o gychod gyda tua 200 gwenyn mewn un cwch! Eglurodd am y gwahanol fathau o fêl roedd yn ei gael, ac am y gwahanol baill roedd y gwenyn yn eu casglu. Roedd ei gwybodaeth yn drylwyr ac yn eang iawn ac eglurodd am rai o’r pethau eraill roedd yn ei gwneud gyda’r cŵyr. Roedd yn amlwg ei bod yn gweithio’n ddygn i baratoi’r holl botiau mêl ynghyd â phob dim arall. Soniodd hefyd am yr hyn sy’n dda mewn mêl at wella briw, a’i fod yn dda fel ffisyg at annwyd, gydag ychydig o wisgi! Siaradodd am awr ddifyr, yn hwyliog a chartrefol braf, a chafwyd sesiwn o holi ac ateb gyda hi ar y diwedd. Cyflwynodd Frances y diolchiadau ar ein rhan i Carys, gan fynegi gwerthfawrogiad o’r holl waith roedd yn ei gyflawni. Bu’n noson ddiddorol i bawb a chafwyd cyfle i brynu dipyn o’r potiau mêl a nwyddau eraill cyn mynd adref. Tynnwyd y raffl ac enillwyd nifer dda o’r gwobrau gan aelodau o’r ddwy gangen.

12

Mwynhawyd paned a bisged dan ofal Ann ac Eluned, cyn i Bronwen Williams, Llywydd Cangen Harlech ddiolch i aelodau Talsarnau am y gwahoddiad i ymuno â hwy, a diolch i Carys am y cyfle i gael clywed am y busnes o gadw gwenyn a’r holl waith sydd ynghlwm. Gofynnwyd i aelodau Talsarnau aros ar ôl am ychydig i drafod rhai materion, megis nodi dyddiad a chael tîm i gystadlu yn y Cwis Hwyl nos Wener, 8 Tachwedd, cyhoeddi Gwasanaeth Llith a Charol yn Nhrawsfynydd nos Lun, 2 Rhagfyr, a chyhoeddi digwyddiad Mentergarwch Merched, yng Ngwesty Fictoria, Porthaethwy dydd Sadwrn, 16 Hydref rhwng 10.00 ac 1.00 o’r gloch. Trafodwyd dyddiad a lleoliad posib i’r cinio ‘Dolig a phenderfynwyd ar un ai 4 neu 11 Rhagfyr, ac enwyd tri neu bedwar o leoliadau i Mai wneud ymholiadau am fwydlenni ayyb. Diolchodd Siriol i Ann ac Eluned am y baned, cyn atgoffa pawb y bydd ein cyfarfod mis nesaf ar yr ail nos Lun yn y mis, sef 11 Tachwedd am 7.00 o’r gloch.

Trysorau Talsarnau Cafwyd noson ddifyr yn Neuadd Gymuned Talsarnau nos Iau, 24ain Hydref wedi ei threfnu gan griw Trysorau Talsarnau. Cafwyd cyfle i weld 4 fideo ar wahanol agweddau ar fywyd yr ardal a golwg ar rai o hen luniau pobl yr ardal - rhai cyfeillion wedi ein gadael ac eraill yn edrych, efallai, wedi heneiddio ychydig. Cafwyd cyfle i gael paned a sgedan, ac ambell i ddarn o gacen flasus hefyd, a sgwrs hefo hwn a’r llall ar gychwyn y noson. Braf iawn oedd cael croesawu Gareth Williams o Wrecsam, Ken ei frawd o gyffiniau Llandwrog, Megan o’r Blaenau ac Olwen o Ddinas Mawddwy, ynghyd â nifer dda o bobl mwy lleol wrth gwrs. Bu’r cyfarfod yn un cymdeithasol iawn; pawb wedi mwynhau a llun o Johni’r Ynys yn cael derbyniad gwresog ac annwyl. Yn sicr dyna oedd uchafbwynt y noson. Roedd cael clywed sylwadau aelodau’r gynulleidfa yn ychwanegu’n fawr at yr arlwy. Gwnaed casgliad tuag at gynnal y Neuadd Gymuned a diolchwn yn gynnes iawn i bawb am gefnogi’r noson.

Capel Newydd, Talsarnau Oedfaon am 6:00 TACHWEDD 3 - Dewi Tudur 10 - Dewi Tudur 17 - Eifion Jones 24 - Dewi Tudur RHAGFYR 1 - Dewi Tudur 8 - Dewi Tudur Croeso cynnes i bawb Diolch Diolch i Ieuan Lloyd Evans am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu ei danysgrifiad i Llais Ardudwy.

Neuadd Gymuned Talsarnau

FFAIR NADOLIG Nos Iau 28 Tachwedd am 6.30

Stondinau amrywiol Paned a sgwrs Adloniant gyda Band Bach Harlech Oedolion £1 Plant ysgol am ddim Llogi bwrdd £5 01766 772960/770757 Johnny’r Ynys

Neuadd Gymuned

Gyrfa Chwist

Nos Iau, 12 Rhagfyr am 7.30 Croeso cynnes i bawb!

Mair Penri, Ella Wyn Jones, Gwenda Jones a Mai Jones


FFERMDY ARALL

R J WILLIAMS IZUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU IZUZU

Dyma ffermdy arall i chi geisio ei adnabod. Nid oes sicrwydd bod hwn yn Ardudwy ond fe’i cafwyd gyda lluniau o gastell Harlech sy’n awgrymu ei fod yn yr un ardal. Tybed a oes un o’n darllenwyr sy’n nabod y ffermdy?

DIOLCHGARWCH YN LLANDECWYN A LLANFIHANGEL-Y-TRAETHAU

Cyngerdd Blynyddol Côr Godre’r Aran

Morgan, Lois, Ingrid a Mari ddaeth â rhoddion i’r Diolchgarwch Llandecwyn Ar fore Sul, Medi 22 cynhaliwyd gwasanaeth o ddiolch am y cynhaeaf yn Gymraeg ynghyd â Chymun Bendigaid dan ofal y Parch Paul Jones, Bangor. Cafwyd darlleniadau gan Eifiona Lane a Catrin Richards gyda Pam Odam wrth yr organ. Yr oedd yr eglwys wedi ei pharatoi yn bwrpasol gyda blodau a chynnyrch y tymor gan John a Gwyneth Richards a’r teulu. Derbyniwyd rhoddion hael gan y gynulleidfa er budd trigolion Cartref Cefn Rodyn, Dolgellau.

Llanfihangel-y-traethau Daeth ein ficer bro, y Tad Tony Hodges atom ddydd Sul, Hydref 20 i ddathlu ein Gŵyl o Ddiolch am y Cynhaeaf. Cafwyd gwasanaeth dwyieithog a Chymun. Y darllenwyr oedd Eifiona Lane a Victor Osmond a Priscilla Williams oedd yr organyddes. Diolchwyd i ferched yr eglwys am yr addurno hardd ac i bawb a gyfrannodd gynnyrch. Cafwyd rhoddion lu tuag at Fanc Bwyd y Bermo.

A ninnau o fewn ’chydig wythnosau i’r Nadolig, mae Côr Godre’r Aran unwaith eto’n paratoi ar gyfer y Cyngerdd Blynyddol a gynhelir yng Nghanolfan Hamdden Penllyn, Y Bala nos Sadwrn, Rhagfyr 14. Cynhaliwyd y cyngherddau hyn yn ddi-dor ers 23 mlynedd, croesawyd degau o artistiaid o safon eithriadol i berfformio gyda ni ym Mhenllyn ac, eleni, sicrhawyd gwasanaeth dau ifanc sydd wedi ymddangos ar ein llwyfannau cenedlaethol ers blynyddoedd. Tenor o ardal Llandudno yw Elgan Llŷr Thomas ac ef oedd enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn 2010 ynghyd â’r Rhuban Glas i rai dan 25 oed yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2012. Bydd ffyddloniaid eisteddfodau lleol Ardudwy a’r cyffiniau yn ei gofio’n cystadlu’n gyson ar ganu a chanu’r piano yn llanc ifanc. Ers hynny, yn dilyn cyfnod o astudiaeth ym Manceinion ac yn Llundain, mae wedi mynd o nerth i nerth ac wedi treulio cyfnod gyda Chwmni Opera’r Alban yn ogystal â pherfformio ym Mharis ac yn China - ac Elgan oedd dewis Syr Bryn Terfel i berfformio gydag ef yn Tosca yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 2017. Ers 2018, mae’n canu gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Lloegr dan gynllun Artist Ifanc Harewood. Dim ond 13 oed yw Charlotte Kwok ond bydd selogion Eisteddfod yr Urdd a’r Genedlaethol yn gyfarwydd â’i gweld yn cipio’r wobr gyntaf am ganu’r piano dro ar ôl tro gan ein cyfareddu â’i dawn arbennig. Mae yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun y Pant ym Mhontyclun ond yn teithio i Adran Iau y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd ar gyfer gwersi arbenigol ar y piano a’r ffidil. Cychwynnodd ganu’r piano yn 4 oed ac, yn 6 oed, roedd eisoes wedi llwyddo gydag anrhydedd yn ei harholiad piano gradd 5. Yn 7 oed enillodd y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, gan gystadlu yn erbyn rhai dan 12 oed. Mae wedi ennill ysgoloriaethau di-ri ac wedi ymddangos ar Noson Lawen S4C. Ei huchelgais yw bod yn bianydd proffesiynol. Bydd ei dwy chwaer iau yn dod gyda hi i’r cyngerdd yn Y Bala a chawn weld y tair yn cyflwyno darn ar y cyd - pan fydd 6 o ddwylo bychain yn cyd-ddawnsio ar yr allweddell. Os na fuoch yn un o’n Cyngherddau Blynyddol o’r blaen, beth am roi tro arni eleni? Rydw i’n siŵr na chewch eich siomi; bydd rhaglen y côr a’r artistiaid yn un amrywiol a difyr a chewch gyfrannu o’r bwrlwm sydd bob amser yn rhan o’r noson. Ewch ar ôl aelodau’r côr i sicrhau tocyn (cysylltwch â John ar 01341 280788/07788 454575); y pris yw £15 ond cofiwch bod plant/ pobl ifanc oed cynradd ac uwchradd yn cael mynediad am ddim. Dyma gyfle gwych i rai ifanc sydd yn astudio’r piano i glywed artist penigamp fel Charlotte. John Williams Hendreclochydd

13


Yr Urdd yn Ardudwy Chwaraeon Daeth llwyddiant mawr i’r ardal yn ddiweddar. Mae dwy gystadleuaeth eisoes wedi eu cynnal ar gae 3G Clwb Pêl-droed y Bala ac mae Ysgol y Traeth, Bermo wedi cael llwyddiant mawr yn y ddwy. Fe fydd tîm y bechgyn yn mynd ymlaen i gynrychioli’r Rhanbarth yn yr Ŵyl Chwaraeon yn Aberystwyth ganol mis Mai nesaf fel enillwyr y 7-bobochr i ysgolion cynradd. Yn ychwanegol i hyn, bydd y merched yn cael cyfle i deithio i lawr wedi iddynt ddod yn ail yn eu cystadleuaeth hwythau, sef y 7-bob-ochr i ferched. Felly, diwrnod mawr i’r ysgol o gylch Ardudwy. Yn y gystadleuaeth agored, cyrhaeddodd Ysgol Tanycastell y pedwar olaf tra fod Ysgolion Llanbedr a Talsarnau hefyd wedi creu cryn argraff o flaen y dorf fawr oedd yn gwylio. Cofiwch y bydd y Gala Nofio yn cael ei chynnal ym Mhwll Nofio Harlech ar Sadwrn 16 Tachwedd gyda’r criw uwchradd yn cystadlu yn y bore a’r cynradd yn y prynhawn. Adrannau Gwnewch yn siŵr fod pawb wedi ymaelodi. Mae pris aelodaeth am eleni yn £8 hyd at ddechrau Ionawr, 2020 neu £20 i deuluoedd. Os nad yn ymaelodi cyn yr amser yma, fe fydd y pris yn codi i £10 yr un neu £25 i deuluoedd. Teithiau Trefnir taith i weld Cymru yn herio Hwngari mewn gêm ragbrofol i Ewro 2020. Mae’r bws yn llawn. Mae hon yn mynd i fod yn noson a hanner gyda dyfodol y grŵp yn ddibynnol ar y canlyniad. Dyna i chi brofiad y mae pobl ifanc yr ardal yn ei gael. Byddent hefyd yn aros yng Ngwersyll yr Urdd, Caerdydd cyn ei heglu adre ar y diwrnod canlynol gan ymweld â’r Pwll Mawr ym Mlaenafon ar y ffordd. Fe gawn hanes y daith yn y rhifyn nesaf. Diolch am eich cefnogaeth i waith yr Urdd yn lleol. Dylan Elis Swyddog Datblygu Meirionnydd

DYDDIADUR Y MIS Tachwedd 6 Tachwedd 9 Tachwedd 9 Tachwedd 12 Tachwedd 14 Tachwedd 19 Tachwedd 23 Tachwedd 26 Tachwedd 28 Tachwedd 28 Rhagfyr 6 Rhagfyr 7 Rhagfyr 11 Rhagfyr 15 Rhagfyr 17 Rhagfyr 18 Rhagfyr 22

- Cymdeithas Gymraeg Bermo, Elfed Lewis, 7.30 - Canfod y Gân, Ysgol Ardudwy o 2.00 tan 4.00 Mynediad am ddim. - Ricsio Plant mewn Angen y BBC yn dringo Llech, Harlech. Côr Meibion Ardudwy yn eu croesawu. - Cymdeithas Cwm Nantcol, Parti Eryrod, Neuadd Llanbedr, 7.30 - Festri Lawen, Cefin Roberts, 7.30 - Cyngerdd dau gôr gyda Chôr Meibion Ardudwy a Cana-mi-gei yn Neuadd Talsarnau, 7.30 - Roc Ardudwy, ‘Sesiwn’, Neuadd Goffa Harlech - Cymdeithas Cwm Nantcol, Bethan Gwanas, Neuadd Llanbedr, 7.30 - Cymanfa Codi’r To, Tanygrisiau am 7.30 - Ffair Nadolig, Neuadd Talsarnau, 6.30 - Ratz Alley yn Neuadd Goffa Harlech - Cinio Nadolig Clwb Rygbi Harlech, Nineteen.57, 7.00 (enwau erbyn Tachwedd 20) - Gwasanaeth Carolau Eglwys Pedr Sant, Llanbedr am 6.30 - 9 Llith a Charol, Eglwys Llanfihangel-y-traethau, Ynys, Talsarnau, 11.30 - Carolau ’81 gyda Côr Meibion Ardudwy, Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy, 7.00 - Cyngerdd Nadolig ym Mhlas Aberartro, Llanbedr Côr Meibion Ardudwy a ‘Cwlwm Pump’, 7.30. Dim ond 100 o docynnau fydd ar werth [£10] - Noson Garolau yn Nineteen.15, Islawrffordd

Manylion dyddiadur i Mai Roberts ar: mairoberts4@btinternet.com

Canfod y Gân

Hoffem gyflwyno ein hunain a’r prosiect i’r gymuned leol ar Tachwedd 9, o 2.00 tan 4.00 yn Ysgol Ardudwy. Cynhelir cyngerdd a the prynhawn, MYNEDIAD YN RHAD AC AM DDIM, dan arweiniad y grŵp, a gwesteion arbennig Sera Owen (unawdydd) ac Elin Taylor (cello). Mae croeso i chi i gyd fwynhau prynhawn o gerddoriaeth ac adloniant. Dewch i fwynhau gyda chriw Canfod y Gân. Dewch yn llu! Rhagor o wybodaeth gan: Mared Gwyn-Jones - ebost mared@cgwm.org.uk neu ar 01286 285230.

CALENDR LLAIS ARDUDWY 2020 ar werth rŵan am £5 yn y siopau arferol 14

Clwb 200 Côr Meibion Ardudwy HYDREF 2019 1. Deilwen Rowlands £30 2. Eirlys Williams £15 3. Hari Jones £7.50 4. Eleri Jones £7.50 5. Denise Jones £7.50 6. Lowri Llwyd £7.50 TACHWEDD 2019 1. Ieuan Edwards £30 2. Ken Roberts £15 3. Iwan Morris £7.50 4. Siân Jones £7.50 5. Gwen Edwards £7.50 6. Dylan Williams £7.50

ENGLYN DA Y PABI COCH Ifanc yn nrama’r cofio - dwfn ei wrid, Dyfnha’r ing lle byddo; Y mae barn Ypres arno, A dafn o waed o’i fewn o. Ithel Rowlands, 1922-2012


HYSBYSEBION

Telerau gan Ann Lewis 01341 241297

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru

ALUN WILLIAMS TRYDANWR GALLWCH HYSBYSEBU *YN Cartrefi Y * Masnachol BLWCH HWN * Diwydiannol AM £6 Ya Phrofi MIS Archwilio Ffôn: 07534 178831

e-bost:alunllyr@hotmail.com

15


HARLECH

Priodas yn Congleton Teithiodd aelodau Côr Meibion Ardudwy i Congleton yn swydd Caer ar Hydref 21 er mwyn diddori’r gwesteion ym mhriodas John Wyn Richards, mab Tom a Catrin Richards, 1 Gilar Wen gynt a Lizzy Carter o’r dref honno. Roedd Tom yn aelod o’r Côr am nifer o flynyddoedd. Trefnwyd ymweliad y Côr yn y dirgel ac roedd y cyfan yn syndod i John pan welodd o gynifer o wynebau cyfarwydd yn cerdded i mewn wrth iddyn nhw arwyddo’r gofrestr. Cafwyd pnawn difyr iawn a derbyniad gwresog gan y gwesteion. Dymunwn bob bendith i’r ddau.

Y Lasynys Ar 10 Hydref treuliodd grŵp o ferched o Sefydliad y Merched Harlech brynhawn yn glanhau’r Lasynys Fawr cyn ei gau am y gaeaf. Eu bwriad yw dychwelyd yn y gwanwyn i lanhau’r tŷ unwaith eto cyn i ymwelwyr tymor 2020 ddechrau galw heibio. Hoffai Cyfeillion Ellis Wynne ddiolch yn fawr iawn i’r merched am eu gwaith trwyadl ac i Sheila Maxwell am wneud y trefniadau. Rhoddion Diolch i Betty Jones am dalu mwy na’r gofyn wrth adnewyddu ei thanysgrifiad. A diolch i John a Karen Kerry, 33 Tŷ Canol am eu rhodd o £10.

Sul y Cofio

Cardiau Nadolig Cofiwch fod gan Eirlys Williams, Siop Trugareddau, gardiau Nadolig ar werth at Ymchwil Canser.

Cynhelir dydd Sul y Cofio ar 10 Tachwedd. Cynhelir gwasanaeth coffa yn Eglwys Tanwg Sant, Harlech, fore dydd Sul 10fed am 9.45 y bore, yna o flaen y gofeb am 10.50. Bydd Seindorf Harlech yn cymryd rhan a’r gwahanol fudiadau a theuluoedd yn gosod y torchau pabi.

Gwasanaethau’r Sul TACHWEDD 10 Engedi - Parch Iwan Llewelyn Jones am 3.30 17 Jerusalem - Iwan Morgan am 4.00

16

Teulu’r Castell Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod a gynhaliwyd yn Neuadd Goffa Llanfair, 8 Hydref, gan y Llywydd Edwina Evans. Rhoddwyd croeso hefyd i Fiona Roberts oedd wedi dod i gynnal y bingo am y prynhawn. Dymunwyd pen-blwydd hapus i’r aelodau oedd yn dathlu. Mae Maureen Jones, y trysorydd, wedi gwneud y fantolen ac mae Peter Smith wedi ei harchwilio. Diolch iddi am gadw’r cyfrifon mor gywir bob mis, ac hefyd i Susan Jones sydd wedi argraffu’r rhaglen i ni. Sylwch: fis Mawrth nesaf, fe fydd y cyfarfod yn Neuadd Llanfair, gyda Siân Roberts yn rhoi sgwrs ar chwedlau Cymreig ac yna fe fydd te Cymreig. Sylwch hefyd fe fydd cyfarfod mis Ebrill wythnos yn gynt gan fod y Pasg yn disgyn ar yr ail wythnos; fe fydd Teulu’r Castell yn cyfarfod ddydd Mawrth 7 Ebrill, yn y pnawn gyda Sefydliad y Merched Harlech yn darparu’r te. Bydd yn brynhawn gwahanol sef cystadleuaeth bonet y Pasg. Y mis nesaf, sef 12 Tachwedd, yn y Neuadd Goffa Llanfair, fe fydd Beti Mai Miller yn addurno cacen Nadolig. Bydd hefyd yn gwerthu jam, marmalêd a siwtni yn barod at y Nadolig. Croeso i unrhyw un ymuno â ni am y prynhawn; 2.00 o’r gloch yn Llanfair. Fe fydd y cinio Nadolig yn y Bistro (Castell) brynhawn dydd Iau, 5 Rhagfyr am 1.00 o’r gloch. Diolch i bawb oedd wedi dod â gwobrau a rafflau at y prynhawn ac i bawb oedd wedi helpu gyda’r te. Diolch i Maureen am hel yr aelodaeth oedd yn £5 am y flwyddyn. Yna cawsom hwyl yn chwarae bingo. Rhoddwyd rhodd i’r pwll nofio gan fod Fiona wedi dod a’r peiriant a’r llyfrau bingo o’r pwll nofio. Diolchodd Edwina i bawb. Gartref o’r ysbyty Mae pawb yn falch o weld Mr Edwin Jones, Eithinog, Tŷ Canol gartref ar ôl treulio mis yn Ysbyty Gwynedd. Hyderwn y bydd yn cryfhau o ddydd i ddydd rŵan.

RICHARD POWELL WILLIAMS Dyma golled arall i Harlech - colli cymeriad a cholli gweithiwr dygn. Un o blant Hendre Fawr, Trawsfynydd oedd Dic. Yn fachgen ifanc bu’n gweini ar ffermydd Ty’n Llyn a Brynysguboriau. Yn ddyn ifanc bu’n gyrru lorri i deulu Tudor, Trawsfynydd. Yn dilyn hynny bu’n casglu arian yswiriant. Yna daeth i’r siop esgidiau yn Harlech oedd yn hen fusnes teuluol a thra bu yno roedd hefyd yn ffermio gyda’i frawd yn Can Coed Uchaf ym Maentwrog. Priododd â Nancy ac roedd y siop yn brysur iawn. Ymhen y rhawg fe ddaeth dau fab i lonni’r aelwyd, sef Edgar a Richard. Pan oedd yn ei hwyliau roedd yn un da iawn am ddweud hanesion pobl Trawsfynydd ac fe fyddai’n chwerthin yn harti wrth adrodd y chwedlau. Mi weithiodd yn ddibaid dros y gymuned a gwahanol gymdeithasau yn Harlech. Roedd yn dda am drin arian ac roedd yn drysrodd gwych i sawl cymdeithas. Bu’n drysorydd Eisteddfod Harlech am rai blynyddoedd, yn weithgar yn y Cyngor Cymuned ac yn arbennig o ofalus yn ei waith ar bwyllgor y fynwent. Roedd ganddo lais bas melfedaidd a chyfoethog a gallai ganu unawdau pe bai wedi ymroi iddi. Ond dyn yn caru’r encilion oedd Dic, er iddo wasanaethu fel cadeirydd yn ei dro. Bu’n weithgar iawn hefyd gyda Chlwb Cynilo’r Côr pan oedd llawer yn hel arian at y Nadolig a Dic yn buddsoddi’r arian gan gyflwyno’r llogau i’r Côr. Dyma englyn Iwan Morgan iddo ar achlysur ei ymddeoliad fel Cynghorydd Cymuned yn y dref am dros 30 o flynyddoedd: Mae rhan o dir Meirionnydd heno, Dic, Yn dweud,‘Da was ufudd!’ Ar bentymor Cynghorydd Doeth ei farn, pob bendith fydd.

Cydymdeimlwn â’r teulu oll yn eu colled. PM


CYNGOR CYMUNED HARLECH MATERION YN CODI Grŵp Adfywio Harlech Cytunwyd i’r Cyngor gael rhoi goleuadau ar bedwar polyn ar gost o £150 yr un. Adroddwyd ymhellach nad oedd yn bosib gosod goleuadau ar bolion trydan oedd dan ofal y cwmnïau trydan oherwydd diogelwch, a bod perchnogion y siopau wedi cytuno i osod seren sydd yn goleuo yn eu siop. CYNGOR GWYNEDD Coleg Harlech Derbyniwyd y diweddariad canlynol gan Kathryn Robson o Dysgu Oedolion Cymru – “Mae’r safle rŵan wedi ei roi yn ôl ar y farchnad gan y perchennog newydd am amcanbris o £615K. Yn amlwg rydym yn siomedig bod y perchennog newydd wedi dewis peidio â gweithredu’r cynlluniau a gafodd eu hamlinellu yn y broses cynnig ond yn amlwg nid yw hyn yn benderfyniad y gallwn ei ddylanwadu na’i reoli. Fe gofiwch, fel rhan o’r broses gwaredu, cymerwyd cyngor gan Syrfëwr Siartredig oedd wedi cael gwybodaeth hanesyddol a hir o’r safle ac fe gymerwyd y penderfyniad i gynnig y safle fel un eitem bryd hynny, oherwydd yr oeddem wedi cael cyngor y byddai yn cynnig y potensial mwyaf i sicrhau dyfodol hir i Wern Fawr, yn ein barn ni yr adeilad allweddol ar y safle. Hefyd fe liniarodd yr angen am gost i neilltuo gwasanaethau i’r adeiladau unigol ac ymdrechu i gynnig yr hyblygrwydd mwyaf i brynwyr ac felly yn ychwanegu at ei apêl marchnadol. Hefyd roeddem yn ystyriol o chwilio er mwyn osgoi y cyfuniad o’r safle i mewn i safleoedd gerllaw heb fewnbwn ganddom ni ac felly mae llain o dir rhwng y safleoedd wedi ei gadw. Fel sefydliad ein cyfrifoldeb blaenaf ydy trosglwyddiad o’n model addysg craidd a’r gost o gynnal adeilad gwag ac ystyried diogelwch, dwyn a fandaliaid a oedd yn codi ac yn bychanu o gyllid oedd ar gael er mwyn danfon busnes craidd. Fe gafodd ymgyrch farchnata helaeth ynglŷn â’r gwaredu ei gymryd a daethpwyd i gytundeb gyda’r cynnig mwyaf oedd ar gael ar y farchnad ar y pryd. Yn dilyn cwblhau’r gwerthiant, mae’r prynwr wedi dewis ceisio ailwerthu’r safle am werth llawer mwy. Er yn siomedig, mae’r pris sydd yn cael ei ofyn o fewn cais y prynwr, a’r gwerth yn cael ei benderfynu gan y farchnad. Bydd ein hymgynghorwyr yn dal i fonitro’r sefyllfa.” CEISIADAU CYNLLUNIO Codi tŷ ar wahân ar amryw-lefel gyda 3 ystafell wely – tir rhwng Trem Arfor a Hiraethog, Stryd Fawr, Harlech. Gwrthwynebwyd y cais hwn oherwydd gwelededd i dai cyfagos, hefyd pryder parthed parcio. Codi estyniad to brig, dymchwel y to gwastad presennol a chodi llechi drosto, newid mynedfa ac ymestyn cwrtil – Rhiw Goch Bach, Harlech. Cefnogi’r cais hwn. ADRODDIAD Y TRYSORYDD Ceisiadau am gymorth ariannol: Pwyllgor Neuadd Goffa - £500 Pwyllgor Hen Lyfrgell - £500 Hamdden Harlech ac Ardudwy - £9,797.45 Cylch Meithrin Harlech - £1,000 Eisteddfod Ardudwy - £500 Dizzie Dancers - Dim oherwydd nad oedd mantolen ariannol wedi ei derbyn gyda’r cais. Treialon Cŵn Defaid Cenedlaethol Cymru 2020 - Dim oherwydd nad oedd mantolen ariannol wedi ei derbyn gyda’r cais; hefyd, nid oedd y cais yn un lleol.

Cynnig Gofal Gofal Plant Cynnig Plant Cymru Cymru Addysggynnar gynnar aagofal Addysg gofal

30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi’u 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant hariannu gan y Llywodraeth i rieni cymwys sy’n gweithio wedi’u gan y Llywodraeth i rieniam cymwys ac sydd âhariannu phlant tair a phedair oed, a hynny hyd at sy’n gweithio 48 ac wythnos sydd â phlant tair a phedair oed, y flwyddyn. a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Amfwy fwyoofanylion fanylion cysylltwch cysylltwch gyda Am gydag Uned Gofal Plant Gwynedd a Môn Uned Gofal Plant Gwynedd a Môn Ffôn: 01248 352436 Ffôn: 01248 352436 E-bost: gofalplant30awr@gwynedd.llyw.cymru E-bost: gofalplant30awr@gwynedd.llyw.cymru

BINGO

Codwyd £250 yn y sesiwn ddiwethaf yng nghaffi’r Pwll Nofio, Harlech. Bydd y sesiwn nesaf yn digwydd ar bnawn Sadwrn, Rhagfyr 7 am 2.30 Tocynnau: £1 y gêm 17


Cyw yn dod â hwyl a hud y Nadolig i Bwllheli

Mae Cyw a’i ffrindiau yn dod i’r ardal cyn bo hir fel rhan o daith i ddymuno Nadolig Llawen i blant ar hyd a lled Cymru. Bydd rhai o gyflwynwyr a chymeriadau hoffus S4C - Huw, Elin, Ben Dant ac, wrth gwrs, Cyw ei hun - yn dod i Bwllheli ar Ragfyr 16 ac maen nhw’n eich gwahodd chi i ymuno â nhw yn yr hwyl! Bydd tair sioe yn cael eu cynnal yn Ysgol Glan y Môr ar Ragfyr 16, ac mae’r sioeau yn dechrau am 11.00 y bore, a 1.45 a 5.45 y prynhawn. I brynu eich tocyn, dilynwch y ddolen ar wefan galericaernarfon.com Mae’n bosibl archebu tocynnau ar gyfer grwpiau os ydych chi’n dymuno trefnu trip ar gyfer eich ysgol, mudiad meithrin neu grŵp chwarae. Mae croeso mawr i bawb yn Sioe Cyw! Bydd ffi bwcio o £1.00 ar bob archeb sy’n cael ei wneud dros y ffôn neu ar-lein. Cysylltwch â Galeri ar 01286 685222 os cewch unrhyw anhawster. Mae Sioe Nadolig Cyw yn boblogaidd iawn pob blwyddyn a’r tocynnau yn gwerthu’n gyflym, felly peidiwch ag oedi!

TYMHORAU A A RHESYMAU RHESYMAU TYMHORAU HARLECH HARLECH SIOP UWCHBEN UWCHBEN YYSIOP STRYD FWYAF SERTH YN Y STRYD FWYAF SERTH YBYD BYD

Dymuna Jerry a Janice ddiolch i bawb am eu cefnogaeth Dymuna Jerry a Janice ddiolch i bawb am eu cefnogaeth dros yr 20 mlynedd diwethaf. Hyderwn y gallwn barhau i’ch dros yr 20 mlynedd diwethaf. Hyderwn y gallwn barhau i’ch gwasanaethu gyda’r amrywiaeth o nwyddau sydd yma. gwasanaethu gyda’r amrywiaeth o nwyddau sydd yma.

PEN-BLWYDD HAPUS PEN-BLWYDD HAPUS YN 20 OED YN 20 OED

18


LLYTHYR Annwyl Olygyddion Gobeithio y caniatewch i mi ymateb i lythyr y Parchedig Dewi Tudur, llythyr a ymddangosodd yn Llais mis Hydref. Cred DT fy mod wedi dilorni Williams Pantycelyn trwy ei alw yn ddyn gorffwyll. Dim o’r fath beth; darllened eto yr hyn a ysgrifennais. Dywedais mai “bron na ddywedech fod yma dinc o orffwylldra” lle mae Williams yn gofyn cwestiwn ar ôl cwestiwn ac yn dweud wrth Dduw fod yn “rhaid” iddo gael bywyd - ffordd fentrus iawn i siarad â’i Grewr. Cyferbynnais y dull yma gydag emynau diweddarach sydd yn ymddangosiadol “neisiach” na geiriau’r hen wron ei hun. Na, ni ryfygwn byth i ddilorni arwr fel Pantycelyn; mae ei weledigaeth wedi tanio cenedlaethau ohonom. Ailddarllened DT yr hyn a ysgrifennais mewn gwaed oer a siawns na ddaw hyn yn amlwg iddo. Yn ddiffuant, John Bryn Williams

NEUADD GYMUNED TALSARNAU

CYNGERDD DAU GÔR gyda

Cana-mi-gei

a

Côr Meibion Ardudwy Nos Fawrth, Tachwedd 19 am 7.30 Mynediad: £10, plant ysgol am ddim Elw at y Neuadd Gymuned

WILLIAMS ETO FYTH

Wrth ddarllen ac astudio’r cyfoeth emynau sydd gennym fel cenedl, tu mewn a thu allan i`r Caneuon Ffydd, mae rhywun yn sylweddoli mor fawr ac mor drylwyr oedd gwybodaeth yr hen emynwyr o’r Beibl. Maent yn defnyddio bron bob rhan ohono i bwrpas creu emynau gafaelgar agos at galon crefyddwyr eu dydd. Heddiw, mae ein gwybodaeth ni o’r Ysgrythur yn llawer mwy llegach ac oherwydd hynny mae llawer o’r gyfeiriadaeth Feiblaidd yn mynd ar goll gennym. Un enghraifft o emyn felly ydi’r emyn yr yden ni i gyd wedi ei ddysgu pan oedden ni’n blant: ‘Iesu, Iesu, rwyt ti’n ddigon, `rwyt ti`n llawer mwy na`r byd; mwy trysorau sy’n dy enw na thrysorau’r India i gyd: oll yn gyfan ddaeth i’m meddiant gyda’m Duw.’

Pan oeddem ni’n blant yn Ysgol Abersoch fe fyddem ni’n canu ‘gwell na’r byd’ yn hytrach na ‘mwy na’r byd’ ac wir mae’n debyg fod hynny yn gwneud gwell synnwyr i blentyn bach. Emyn 320 ydi hwn yn Caneuon Ffydd ac mae’n siŵr ei fod yn fwy adnabyddus na’r un arall o emynau Williams. Ond beth am yr ail bennill? Dyma fo: ‘Y mae gwedd dy wyneb grasol yn rhagori llawer iawn ar bob peth a welodd llygad ar hyd wyneb daear lawn: Rhosyn Saron, Ti yw tegwch nef y nef. O ba le y daeth y ‘Rhosyn Saron’ yma tybed? Nid Williams yw’r unig un sy’n ei ddefnyddio. Mae Ann Griffiths yn sôn amdano yn yr emyn cynt – rhif 319: ‘Rhosyn Saron yw ei enw, gwyn a gwridog teg o bryd...’ Planhigyn ydyw, wrth gwrs, ac un teg iawn yr olwg hefyd ond nid o lyfr blodau y cafodd Williams ac Ann Griffiths eu hysbrydoliaeth. Na, daeth

hwnnw o’r Beibl. Ac fe ddaeth o un o lyfrau rhyfeddaf y Beibl, o lyfr Caniad Solomon. Yn draddodiadol, y Brenin Solomon oedd awdur y llyfr yma. Fel y gwyddom, roedd Solomon yn enwog am ei ddoethineb. Mae’r Hen Destament yn dweud fod ganddo 700 o wragedd a 300 o ordderchwragedd a’i fod hefyd wedi ysgrifennu Llyfr y Diarhebion ac o bosib Lyfr y Pregethwr ar ôl hynny. Sut y cafodd o amser nag egni i sgwennu llythyren ar bapur (neu femrwn) hefo’r holl ferched o’i gwmpas wn i ddim wir. Wrth edrych ar yr adnod gyntaf yn ail bennod Caniad Solomon, fe welwn y cyfeiriad at Rosyn Saron, ‘Rhosyn Saron, a lili y dyffrynnoedd ydwyf fi.’ Ond mae yna broblem fawr yn codi wrth ddarllen Caniad Solomon. Ar yr olwg gyntaf, does yna fawr o sôn am brofiadau crefyddol nac am Dduw nac ychwaith am hanes yr Hen Genedl a’i phroffwydi. Yn wir, yn ôl un esboniwr Beiblaidd, yr hyn a geir yn y llyfr ydi ‘cerdd erotig heb fod ynddi’n amlwg unrhyw gynnwys ysbrydol’. Tybed a lithrodd y gerdd i mewn i’r Hen Destament ar ddamwain neu bod ei chysylltu â Solomon wedi perswadio’r hen dadau y dylid gwneud lle iddi fel y gweddill o gynnyrch y Brenin Doeth? Mae rhai esbonwyr wedi dadlau mae alegori sydd yma ac nad oes yma gerdd erotig o gwbl. Mae’r cyfan sydd yn y llyfr yn adlewyrchu cariad Duw at ei bobl ac at ei eglwys maes o law. Beth bynnag yw’r gwirionedd, rhaid cydnabod fod Williams wedi ei ysbrydoli dro ar ôl tro gan ddelweddau cryfion Caniad Solomon ac wedi eu defnyddio i gynhyrchu clasuron. Ac nid Williams yn unig, gwnaeth Ann Griffiths ac eraill hyn hefyd. Yn hen Lyfr Emynau yr MC a’r Wesleaid mae yna fynegai Ysgrythurol hwylus iawn sy’n rhestru’r adnodau fu’n ysbrydoliaeth neu gefndir i’r gwahanol emynau. Yn ôl yr hyn sydd yno, mae yna gymaint â 29 o emynau’r llyfr wedi codi o Ganiad Solomon (mwy na’r un o’r proffwydi ond Eseia!). Mae’n siŵr fod neges i ni yn y fan yma! JBW

19


DAU GÔR YN TEITHIO I GALWAY

Roedd ’na gryn edrych ymlaen ers wythnosau lawer. Criw o 75 ohonom mewn dau fws yn teithio oddeutu 250 o filltiroedd o Ardudwy i bellafoedd Connemara er mwyn codi arian tuag at Hospis Galway. Fe wnaethon ni yr un daith bum mlynedd yn ôl a llwyddo i godi llawer o arian yn sgîl hynny. Fe gollodd cyfaill agos i’r corau, Paraic Macdonncha, ei gymar Catrina i ganser y pancreas rhyw bum mlynedd yn ôl ac roedd Paraic yn awyddus i godi arian er cof amdani. Gan fod y daith ddiwethaf mor llwyddiannus, roedd yn awyddus inni roi cynnig arall arni. Crybwyllwyd y mater wrth y ddau gôr. Dyna Aled Morgan Jones ac Ann Jones yn rhoi sêl eu bendith, sicrhau bod Idris Lewis yn rhydd i gyfeilio a dyna ddechrau ar y trefnu manwl. Dyma fras syniad o’r hyn ddigwyddodd - heb gynnwys gormod o fanylion, wrth gwrs! Dydd Mercher, Hydref 30 Dal cwch Stena am ddau y pnawn, y naill fws yn teithio drwy Trawsfynydd a’r llall drwy Ardudwy. Cyfle da i ymlacio ar y cwch gan fod y daith yn cymryd tair awr a hanner. Cyrraedd Dulyn am hanner awr wedi pump. Taith wedyn o rhyw 130 milltir i Galway a chyrraedd toc wedi naw. Gwely a brecwast yng Ngwesty’r Imperial. Dydd Iau, Hydref 31 Diwrnod rhydd i fwynhau pleserau’r ddinas - y merched wrth eu bodd efo’r siopau a’r dynion yn chwilio am ddifyrrwch gwahanol. Cyngerdd min nos yn Eglwys Barna am 20.00. Mae Barna mewn Gaeltacht, sef ardal lle

siaredir yr Wyddeleg fel iaith bob dydd. Cafwyd cyngerdd cofiadwy iawn a’r ddau gôr yn llonni’r gynulleidfa. Cafodd yr unawdwyr Roger Kerry, Kevin Lewis, Bili Jones, Iwan Morgan a Meirion Richards hwyl arbennig o dda ar y canu. Roedd cyfle wedyn i gymdeithasu yn Nhafarn Paraicin’s, Furbo - rhyw bum munud i lawr y lôn. Dydd Gwener, Tachwedd 1 Diwrnod rhydd arall. Roedd rhaid manteisio ar siop sglodion McDonagh’s sy’n gwerthu’r pysgod gorau yn y ddinas yn ôl yr arbenigwyr. Mae eu cawl pysgod [chowder] yn rhagorol hefyd. Aeth rhai ar fws i ymweld â phentrefi megis Oran Môr, Spiddall ac Athenry tra bu eraill yn teithio ar fws o gwmpas y ddinas er mwyn dysgu mwy amdani. Roedd y cyngerdd min nos yn Eglwys St Niclas, am wyth o’r gloch a daeth cynulleidfa fawr ynghyd. Cafwyd cyngerdd gwych iawn unwaith eto. Y gynulleidfa ar eu traed yn dilyn cyfraniad Meirion Richards ar Is’e Weary o’ waitin. Daeth llawer o’r bobl leol atom i ddweud cymaint yr oedden nhw wedi mwynhau’r perfformiadau. Bwffe bys yn y gwesty wedyn a chyfle i’r arweinyddion ddatgan eu diolchiadau. Ymlacio go iawn wedyn yn dilyn yr holl waith paratoi a pherfformio. Dydd Sadwrn, Tachwedd 2 Dal cwch pnawn am dri o’r gloch a chyrraedd Caergybi am hanner awr wedi chwech. Pawb wedi blino ond yn falch o fod wedi helpu achos teilwng. Wrth i Llais Ardudwy fynd i’r wasg roedd y cyfanswm a gasglwyd i’r hospis dros £5000.

Cana-mi-gei yn ymarfer

Côr Meibion Ardudwy yn barod i gychwyn


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.