Llais Ardudwy Tachwedd 2021

Page 1

Gwario £30 miliwn ar Bont y Bermo

Bydd y llwybr troed [a beiciau] ar gau yn gyfan gwbl tra bod y bont ar gau dros dro.

Rhagwelir y bydd y gwaith adfer ar draphont eiconig y Bermo yn hwb mawr i’r gymuned a’r economi leol. Bydd Network Rail yn gwario £30 miliwn i’w huwchraddio, y buddsoddiad mwyaf yn hanes y draphont. Mae Llais Ardudwy yn falch iawn o glywed am y buddsoddiad gan y bydd yn sicrhau bod y rheilffordd yn parhau i wasanaethu pobl leol a denu ymwelwyr i’r ardal am genedlaethau i Mae’rddod. draphont yn 150 oed ac mewn cyflwr gwael ar hyn o bryd. Mae llawer o’r rhannau pren wedi dirywio’n sylweddol dros amser ac mae nifer fawr o’r rhannau metel wedi rhydu. Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros dair blynedd

‘Pwy a groesodd Bont y Bermo Na cha’dd gyfoeth gwerth ei gofio?’ W D Williams

Llais Ardudwy 70c

Enghraifft o’r pydredd sydd yn y pren a bydd yn golygu cau’r draphont yn llawn am dri chyfnod byrrach, yn hytrach na’i chau unwaith am un cyfnod hir. Yn y lle cyntaf, caiff y bont ei chau rhwng dydd Sul, 12 Medi 2021 a dydd Sul, 12 Rhagfyr 2021. Wedyn ymhen blwyddyn, caiff y bont ei chau eto rhwng dydd Sul, 11 Medi 2022 a dydd Sul, 11 Rhagfyr 2022.

Mae Network Rail yn darparu gwasanaeth bysiau yn lle trenau rhwng gorsafoedd Pwllheli a Machynlleth a’r holl orsafoedd rhyngddynt a gwasanaeth bws ychwanegol ar gyfer disgyblion ysgolion lleol.

RHIF 514 - TACHWEDD 2021

SWYDDOGION Cadeirydd Hefina Griffith 01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, ann.cath.lewis@gmail.comLlandanwg Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn y Llidiart, Llanbedr Gwynedd LL45 llaisardudwy@outlook.com2NA Côd Sortio: 40-37-13 Rhif y Cyfrif: 61074229 Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, iwan.mor.lewis@gmail.comLlandanwg CASGLWYR NEWYDDION YLLEOLBermo Grace Williams 01341 280788 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Mai Roberts 01341 242744 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Jennifer Greenwood 01341 241517 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Gosodir y rhifyn nesaf ar Rhagfyr 3 a bydd ar werth ar Rhagfyr 8. Newyddion i law Haf Meredydd erbyn Tachwedd 29 os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw’r golygyddion o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei Dilynwchllafar.’ ni ar ‘Facebook’ @llaisardudwy GOLYGYDDION 1. Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 pmostert56@gmail.com780635 2. Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 anwen15cynos@gmail.com772960 3. Haf Newyddion/erthyglauMeredydd i: 01766hmeredydd21@gmail.com780541 2 Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi cyhoeddi rhestrau o’r 100 enw mwyaf poblogaidd i ferched a bechgyn yng Nghymru a Lloegr yn 2019. Dyma restrau o’r enwau Cymreig mwyaf poblogaidd ar fabis a anwyd yng Nghymru’r llynedd: BABIS CYMRU Enwau merched (a’r nifer) 1. Mali (92) 2. Erin (78) 3. Ffion (70) 4. Alys (62) 5. Seren (57) 6. Eira (38) 7. Cadi (37) 8. Lowri (37) 9. Nia (39) 10. Lili (34) Enwau bechgyn (a’r nifer) 1. Arthur (168) 2. Osian (130) 3. Dylan (116) 4. Elis (113) 5. Harri (111) 6. Tomos (80) 7. Jac (69) 8. Macsen (62) 9. Evan (58) 10. Owen (46)

Capiau cwyr yr hydref Os ydych chi’n hoff o fynd am dro yr adeg hon o’r flwyddyn, cofiwch gadw llygad am ffwng capiau cwyr lliwgar mewn porfeydd a chaeau agored. Yr adeg hon o’r flwyddyn, mae lliwiau pinc, oren a choch ffwng capiau cwyr sy’n ymddangos yn ein dolydd, lawntiau a mynwentydd yn arwydd nad oes neb wedi ymyrryd â’r hen gynefin glaswelltir hwn.

Mae hen laswelltir yn storio traean o garbon tirol y byd yn eu pridd ac mae hen ardaloedd sy’n llawn rhywogaethau yn storio llawer iawn mwy na thir gydag ychydig o rywogaethau neu ungnwd.

Mae’r hen welltir yma sy’n llawn o wahanol rywogaethau yn bwysig am eu cannoedd o flodau gwyllt ac yn ateb naturiol allweddol yn yr argyfwng newid hinsawdd ochr yn ochr â fforestydd a mawnogydd.

Mae gwledydd Prydain wedi colli 97% o’u dolydd traddodiadol a glaswelltir sydd bellach yn llai na 1% o’r arwynebedd tir. Os ydych chi wedi gweld y ffyngau bach lliwgar yma, anfonwch eich cofnodion i mewn drwy gyfrwng yr app ‘WaxcApp’. Bydd eich gwybodaeth yn gymorth i Lywodraethau warchod y glaswelltir hwn a chydweithio gyda chyrff sy’n bartneriaid megis Plantlife i ddarparu cyngor i dirfeddianwyr ar sut i edrych ar eu holau. Ewch i wefan Plantlife am fwy o wybodaeth – pob lwc gyda’r chwilio!

Cyfarfod Blynyddol Llais Ardudwy Nos Wener, Tachwedd 12 am 5.00 yn Ystafell y HarlechBand, Croeso cynnes i bawb!

Enw: Angharad Morris. Gwaith: Wedi ymddeol o fod yn athrawes Cyfnod Sylfaen. Cefndir: Cefais fy ngeni yn yr Ynys, byw ar ffarm Tŷ Cerrig, merch Gwilym Hedd ac Elsie, a chwaer Rhian. Es i Ysgol Talsarnau a chael tacsi i fynd gan fod y ffarm dros dair milltir o’r ysgol. Yn un-ar-ddeg, symud i Ysgol Ramadeg y Bermo, ac i’r ysgol newydd yn Harlech yn 1956. Yna mynd i’r Coleg Normal ym Mangor, cael tystysgrif addysg a ffeindio gŵr, CaelTrevor.gwaith yn ysgol fechan Froncysyllte, yna priodi a symud i fwy i’r Waun, cael dau o blant, Gareth a Shân, a chael gwaith yn yr ysgol leol ac aros yno tan ymddeol. Dair mlynedd ar ddeg ar ôl geni Shân cawsom ferch fach arall, Catrin. Erbyn hyn mae ganddon ni wyth o wyrion. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Cerdded, garddio ac edrych ar ôl y plant ieuenga weithia. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Dwi wrth y modd yn darllen cofiannau ac ar hyn o bryd, newydd brynu Cofiant Cynan. Pam mae’r cofiannau diweddar mor drwm? Anodd darllen yn y gwely! Mae’n hawdd archebu llyfrau Cymraeg o’r llyfrgell yma yn y Waun, ac roedd hyn yn hwylus iawn yn ystod y clo. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Dwi’n mwynhau gwrando ar Bore Cothi bob bore, a gwylio P’nawn Da, Pobol y Cwm a Sgwrs dan y Lloer ac, ar hyn o bryd, Our Yorkshire Farm, ac i godi calon Would I lie to You? Ydych chi’n bwyta’n dda? Dwi’n hoffi coginio a thrio ryseitiau newydd, ond dim bob amser yn brydau iachus. Hoff fwyd? Ffiled o gig eidion Cymreig, tatws rhost, ffa dringo o’r ardd a saws pupur du. Hoff ddiod? Te gwan heb siwgwr na llefrith, gwin a Prosecco. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Roedd gan Nain a Taid Bronynys 26 o wyrion; wedi colli rhai annwyl dros y blynyddoedd, felly pawb sydd “yma o hyd” ac yn gallu dod, heb gael gweld ein gilydd ers dros dair blynedd. Lle sydd orau gennych? Cerdded o Eglwys Llanfihangel i fyny i fanc Cefn Gwyn, edrych draw at Tŷ Cerrig a golygfeydd arbennig ar bob ochor. Yna i lawr dros y cae i Tŷ Gwyn ac ymlaen at Glanmeirion a Chollwyn. Atgofion melys a hiraeth. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Yn Canada. Glanio yn Vancouver, diwrnod yn Ynys Victoria, yna teithio ar drên enwog, y Rocky Mountaineer am ddau ddiwrnod i Jasper. Ymlaen wedyn i Banff a hedfan yn ôl o Calgary.

HOLI HWN A’R LLALL 3

Beth sy’n eich gwylltio? Ar hyn o bryd, y rhai sy’n gwrthod cael y frechiad, ac yn trio perswadio pobl ifanc rhag gwneud.

Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Newydd golli ffrind annwyl, yn gefn i mi bob amser pan oedd petha’n anodd, ac yn cael lot o hwyl a sbri. Yn bwysig iawn, hi oedd yr unig un sydd yn fy adnabod oedd yn meddwl mod i yn ddreifar da! Pwy yw eich arwr? Fy nhad. Yn ei edmygu am edrych ar ôl Mam pan oedd hi’n dioddef o’r afiechyd creulon, Alzheimer. Yn diolch iddo am ennyn diddordeb yna i at hanes teulu, cariad at lenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg ac i werthfawrogi cerddoriaeth. Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon? Gan nad ydw’i yn byw yn yr ardal dwi’n dod i wybod wrth ddarllen Llais Ardudwy bob mis, am yr holl bobol sy’n gwirfoddoli a helpu yn eu cymuned, yn enwedig yn ystod y ddwy flynedd dwytha. Beth yw eich bai mwyaf? Pryderu am bopeth. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Cael y teulu i gyd hefo’i gilydd. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Taswn i’n ddigon dewr, prynu tocyn i fynd i Awstralia i weld fy ŵyr Andrew, sydd wedi ymfudo yno, ond tydw i ddim yn hoff o fynd ar awyren, felly rhoi peth o’r arian i’r teulu a rhannu’r gweddill rhwng Ambiwlans Awyr Cymru, Tŷ Gobaith a Thŷ’r Eos. Eich hoff liw? Gwyrdd, yn enwedig yn y gwanwyn pan mae’r coed yn deilio. Eich hoff flodyn? Bwtsias y gog. Eich hoff ddarn[au] o gerddoriaeth? Gwaith Karl Jenkins, yn enwedig, ‘Yr Heddychwyr’ a’r ‘Gŵr Arfog’. Pa dalent hoffech chi ei chael? Canu, barddoni ac arlunio. Eich hoff ddywediadau? Ar hyn o bryd, englyn Dic Jones, ‘Fy Gweld,Nymuniad’:ryw adeg, aildroedio –yr undaith Â’r un ffrindiau eto, Yr un hwyl, a’r un wylo Yn ôl y drefn yr ail dro. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Hapus a diolchgar am gael teulu o gwmpas.

GRANT I GRWPIAU CYMUNEDOL Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i roi grant i grwpiau bychan i gynnal digwyddiadau i annog pobl hŷn yn ôl allan i ddigwyddiadau ac i gymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol. Gall y grant fod yn gyfraniad tuag at ddigwyddiadau fel cinio Nadolig neu Gŵyl Ddewi, yn de prynhawn i’w fwynhau wrth wrando ar gerddoriaeth fyw neu yn gyfres o ddigwyddiadau megis bingo, gyrfa chwist a chwis mewn neuadd gymunedol. Gall y digwyddiad fod yn beth bynnag sydd yn apelio i’ch criw ond ei fod yn ddigwyddiad sydd yn annog pobl nad ydyn nhw wedi medru cymryd rhan mewn llawer ers cychwyn y cyfnod clo. Byddwn yn gweithio yn ogystal â sawl mudiad ar draws Meirionnydd ond yn awyddus i weithio gyda grwpiau cymunedol yn ogystal. Unig amod y grant yw bod rhaid cynnal y digwyddiad cyn Mawrth 31, 2022. Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau sydd eisoes wedi’u trefnu neu i gael y ffurflen grant i’ch grŵp cymunedol ebostiwch Mirain ar mirainllwydroberts@gwynedd.llyw.cymru neu ffoniwch 01286 682818.

Ariannol Cyfrifol Cyflog graddfa pwyntiau SCP 7-12 (£10.16 - £11.22 yr awr) (7 awr yr wythnos) Gofynnir am geisiadau gan ymgeiswyr addas ar gyfer y swydd uchod. Am fwy o fanylion cysyllter â’r Clerc presennol Liz Watkin, ar 01248 671243 neu 07799 026791 neu e-bost cyngordolbenmaen@btinternet.com. Dyddiad cau: dydd Iau 4ydd o Dachwedd 2021. Dylid anfon ceisiadau, yn cynnwys CV, gyda llythyr i gefnogi’r cais, at Richard Williams, Cadeirydd Cyngor Cymuned Dolbenmaen, Portreuddyn, Tremadog, Gwynedd LL49 9SN (jrwilliams2034@btinternet.com)

LLYTHYRAU CYNGOR CYMUNED DOLBENMAEN Swydd Clerc a Swyddog

4 LLANBEDR, CWM BYCHAN AAnnwylNANTCOLOlygydd Rhoddodd gwraig garedig gopi o Llais Ardudwy i mi a sylwais ar yr erthygl ynddo am Bessie Williams y Crydd o Lanbedr. Yn yr erthygl, roeddech yn holi am enwau’r plant yn y llun. Dyma’r Heatherenwau:(fi),Minette ac Arthur Wannop (fy mrawd a’m chwaer) o Lwyn Ithel, Llanbedr. Roedd yn hyfryd gweld y lluniau. Rydan ni’n cofio Bessie yn dda; dynes hyfryd a charedig iawn. Cofion FFRINDIAUAnnwylHeathergorau,ZolmanOlygyddDEMENTIA Hoffwn gyflwyno fy hun ichi. Melanie ydw i a fi yw Rheolwraig Prosiect Dementia Gogledd Cymru. Un o’r blaenoriaethu sydd gennyf ydi cyfarfod y rhai hynny ohonoch sydd yn un ai yn gofalu am rywun â dementia, neu unigolyn sy’n byw â Fedementia.fuasai’n braf clywed gennych er mwyn imi ddysgu pa wasanaeth allwn ei wella neu / a pha wasanaethau fuasech yn hoffi eu gweld yn eich hardal Gallwchchi.gysylltu â mi un ai drwy gyfeillgar.yynEdrychafneumelanie.sillett@sirddinbych.gov.ukebostffôn/negestestun07768006414.ymlaenatglywedgennychfuanagyda’ngilyddgallwnsicrhaubyddCymru’ngenedldementia Yn Melaniegywir,SillettCymdeithasCwmNantcolOherwyddbodCovid-19 ar gynnydd yn yr ardal, penderfynwyd gohirio ein Gydacyfarfodydd.lwc,byddwn yn aildrefnu at y flwyddyn newydd. Gobeithio y bydd y lluniau yma o ddiddordeb i chi. Criw Garej Artro, Llanbedr yn y 50au. Chwith o’r cefn: Aneurin Evans, Pat Hughes, Ifor Pugh, Mena Jones, Russell Hughes, Philip Hughes, Terence Hughes a William Pugh. Yn y llun arall mae Mici Thomas ac Wmffra Ffestyn Williams (Mwff) yn y cae chwarae yn Llanbedr. John Pugh Gynt o Llanbedr LLUNIAU LLEOL

5 Mae ôl-rifynnau i’w gweld ar y cymru/papurau-bro/neullaisardudwy/docshttp://issuu.com/we.https://bro.360. Llais Ardudwy SAMARIAIDLLINELLGYMRAEG08081640123 CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant PORTHMADOG PWLLHELI ABERMAW 01766 512214/512253 01758 612362 01341 280317 60 Stryd Fawr Adeiladau Madoc Stryd Fawr office@bg-law.co.uk Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd … Cysylltwch â Dioni i siarad am eich bwthyn gwyliau Gwion Llwyd 01341 247200 gwion@dioni.co.uk BUSNES LLEOL ... CWSMERIAID BYDEANG Os ydych yn dymuno cyflwyno cyfarchion Nadoligaidd eleni, a fuasech cystal â’u hanfon erbyn canol mis Tachwedd os gwelwch yn dda? £10 y blwch fydd y gost CYFARCHIONNADOLIG

Aaron Wynne Gofynnwyd i’r Cyngor Cymuned gefnogi deiseb wedi ei threfnu gan Mabon ap Gwynfor AS a Liz Saville Roberts AS ynglŷn â

Liz Saville Roberts AS Gofynnwyd a fyddai’r Cyngor yn ymateb i ymgynghoriad ar y defnydd peryglus o fadau dŵr personol ac anfon eu sylwadau i’r linc canlynol ymlaenrecreational-and-personal-watercraft.government/consultations/strengthening-enforcement-of-the-dangerous-use-of-https://www.gov.uk/Cytunwydianfonycyfeiriade-bosthwnibobaelod.

phenderfyniad diweddar HSBC i gyflwyno costau newydd i gyfrifon banc grwpiau cymunedol. Cytunwyd i anfon yr e-bost hwn ymlaen i bob aelod. Sefydliad y Merched Derbyniwyd llythyr gan yr uchod ar ran Sefydliad y Merched Llanfair yn hysbysu’r Cyngor eu bod wedi archebu a gosod mainc newydd ger wal yr Eglwys. Sul y Cofio Cynhelir gwasanaeth Sul y Cofio y tu allan i Neuadd Goffa Llanfair am 11.00 o’r gloch, dydd Sul, Tachwedd 14. Croeso cynnes i bawb. Yn yr ysbyty Deallwn fod Gari Hall, 4 Derlwyn wedi bod yn glaf yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar. Anfonwn ein cofion ato gan hyderu y bydd yn teimlo’n well yn fuan. Rhodd: Mrs Hefina Griffith £10

MATERION YN CODI Llinellau melyn ger stesion Llandanwg Nid oes diweddariad wedi ei dderbyn. Hefyd adroddwyd bod y cynghorydd lleol wedi cysylltu eto gyda Mr ap Trefor i ofyn pryd fyddai adroddiad y cynllun hwn yn mynd gerbron pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd. Bydd arwyddion rhybudd yn cael eu gosod y naill ochr i’r bont ar ffordd Llandanwg. Pwyllgor y Neuadd – 29.9.21 Adroddodd Mair Thomas fel a ganlyn – cafwyd gwybod gan Mrs Ann Lewis bod defnydd yn cael ei wneud o’r Neuadd unwaith eto. Hefyd, mae’r Swyddfa Bost deithiol wedi dechrau yn y Neuadd ar ddydd Gwener rhwng 12.15 a 1.45 ac mae angen hysbysu hyn i gadw’r gwasanaeth i fynd. Mae’r gwaith o beintio’r tu allan ar y gweill. Roedd rhai o ddefnyddwyr y Neuadd wedi diolch i Mrs Ann Lewis am beintio’r gegin a’r toiled ac mae’r ddau le yn edrych yn dda. Penderfynwyd cynnal gwasanaeth y Cadoediad yn yr awyr agored a gosod y torchau ar Sul y Cofio. Cytunodd y Cadeirydd osod un ar ran y Cyngor Cymuned. ADRODDIAD Y TRYSORYDD Ceisiadau am gymorth ariannol Hamdden Harlech ac Ardudwy - £4.153.43 – hanner y cynnig presept CyngorGOHEBIAETHGwynedd – Adran Briffyrdd Os oes angen llenwi biniau halen cyn y tywydd oer neu ail-lenwi unrhyw fin, mae angen cysylltu gyda’r Adran erbyn y 1af o Dachwedd er mwyn iddynt gael trefnu’r gwaith. Y gost o lenwi un bin halen yw £46.00.

6 DewchNEWYDDHYBRIDCOROLLAiroicynnig ar yrru’r Corolla newydd! Mae ’na ganmol mawr i hwn! Ffordd info@harlech.toyota.co.ukwww.harlech.toyota.co.uk01766HarlechNewyddLL462PS780432 Twitter@harlech_toyotafacebook.com/harlech. TOYOTA HARLECH LLANFAIR A LLANDANWGCYNGORCYMUNED LLANFAIR Pen-blwydd arbennig Hwyl fawr ar y dathliadau y mis yma i Mary Ellis sy’n dathlu pen-blwydd arbennig. Merched y Wawr Wedi ymdrin â materion y mudiad, cyflwynodd Eirlys y gŵr gwadd, Gwion Llwyd. Cafodd ei fagu yn Llanfair a Dyffryn Ardudwy, yn fab i Ifan ac Anne Jones. Wedi graddio yn y brifysgol bu’n gweithio yn yr Almaen, gwneud gradd Meistr a gweithio gyda chwmni Ifor Williams ac ym Manceinion cyn dychwelyd gartref i’r CychwynnoddDyffryn.fusnes gosod tai gwyliau sydd bellach yn cyflogi chwech o bobl leol. Bu’n siarad am effaith twristiaeth ar yr ardal a bu i nifer o’r aelodau ofyn cwestiynau perthnasol. Edwina dalodd y diolchiadau.

Dilys James - Mam, Nain, Hen Nain, Chwaer a Modryb

7

COFFÂD

Ganwyd Dilys yn Tŷ’n Bryn, Dyffryn Ardudwy ar Ebrill 14eg, 1924. Yn drydedd ferch i William a Mary Roberts, roedd yn chwaer fach i May a Beti. Buan iawn y daeth bachgen bach, Huw, a merch fach, Gwyneth, i gwblhau’r teulu. Felly doedd Tŷ’n Bryn ddim digon mawr iddyn nhw i gyd, a gan fod ei thad yn saer maen crefftus fe aeth ati i addasu bwthyn bach yn dŷ pedair llofft cyfforddus, ac yno yn Gwelfor y magwyd Dilys. Buan iawn yn yr ysgol y dechreuodd ei diddordeb mewn canu, a chystadlu mewn eisteddfodau. Roedd Dilys yn aelod brwd o aelwyd yr Urdd. Aeth i Ysgol Ramadeg y merched yn Y Bermo, ac roedd hi ei hun yn athrawes ysgol Sul yn Nghapel Horeb, Dyffryn. Yn ogystal, roedd Dilys yn organyddes fedrus a ffyddlon yn y capel. Ar ôl gadael ysgol, bu’n gweithio mewn swyddfa cyfreithwyr yn y Bermo ac i’r Weinyddiaeth Amaeth yn Nolgellau. Hefyd bu’n gweithio yn y post yn y Bermo, lle roedd yn gweithio “split shifts” ac yn gorfod seiclo yn ôl ac ymlaen o’i chartref, bum milltir bob ffordd ddwy waith y dydd. Roedd hi’n pasio tŷ dynes ryfedd (neu “wyllt” yng ngeiriau Dilys) a byddai ofn am ei bywyd wrth seiclo heibio ei thŷ yn y tywyllwch. Roedd yn sôn am hyn bob tro wrth fynd heibio yn y car am flynyddoedd wedyn. Drwy reidio beic daeth trobwynt mawr ei bywyd. Un noson wrth reidio’r beic heb olau, fe’i stopiwyd gan blismon y pentref. Yn hytrach na chael ei “rhoi yn y llyfr”, mae’n amlwg iddi greu cyn argraff ar yr heddwas. A phwy oedd y plismon yma? Wel, neb llai na’r sawl a ddaeth yn ŵr iddi maes o law! Yn wir, byddai Jêms yn dweud yn aml fel jôc wrth Dilys “Ddyla mod i wedi dy roi di yn y llyfr!” Ar ôl priodi, aeth y cwpl i fyw i Benygroes, lle’r oedd John wedi symud i fod yn blismon. Ddwy flynedd yn ddiweddarach ganwyd David. Er yr ymfalchïo mawr wrth iddo gyrraedd y byd, bu Dilys yn bur wael am gyfnod hir yn dilyn yr enedigaeth. Yn ystod yr amser yma cafodd David ofal tyner gan y teulu yn y Dyffryn, ac roedd bron yn ddwy oed cyn aduniad cyflawn Dilys a David bach. Cyfnod anodd a phryderus i bawb, a rhyddhad wedyn fod Dilys wedi cryfhau a fod y teulu bach yn ôl gyda’i gilydd yn eu cartref ym Mhenygroes.

Bu i Sarjant James ymddeol ym 1966, a symudodd y teulu i Gricieth i redeg swyddfa bost Marine Terrace. Yma, daeth ei chyfnod o weithio yn y post yn Bermo yn ddefnyddiol iawn. Roedd Dilys, John a hefyd David yn gweithio’n galed yn y siop, yn enwedig yn ystod cyfnod y ‘visitors’ yn yr haf. Serch hyn, fe ffeindiodd Dilys yr amser i fod yn aelod brwd o Gapel Jeriwsalem, Cymdeithas y Chwiorydd a hefyd canu fel unawdydd mewn cymanfaoedd. Yn ystod y cyfnod yma roedd rhaid i Dilys wynebu’r her o’r newid i arian degol (decimalisation) - hyn pan oedd prif swyddfeydd post ynghau oherwydd streic. Felly roedd Cricieth i gyd yn dod i nôl eu budd-daliadau a’u pensiynau o bôst bach Marine Terrace. Yn 1972, daeth ymddeoliad o’r siop a symud i Mona Terrace. Ond doedd o ddim yn ymddeoliad i Dilys wrth iddi benderfynu rhedeg B&B yn Annedd, sydd gyferbyn â’r capel yma. Daeth ergyd drom i’w rhan ym 1976 pan fu farw John ei gŵr. Roedd ei ffydd Gristnogol yn gefn iddi yn ystod y cyfnod yma ac yn gyfrwng iddi orchfygu ei phrofedigaeth lem, maes o law. Roedd canu yn rhan bwysig o’i bywyd erioed, ac mi ddaeth yn aelod o’r pwyllgor oedd yn trefnu canu cynulleidfaol glan y môr Cricieth. Yn wir, aeth y canu o nerth i nerth gyda Dilys yn rhannol gyfrifol am yr adfywiad hyn. Yn ysgrifennydd a thrysorydd y pwyllgor roedd Dilys yn gwneud yn siŵr bod hanes y canu nos Sul yn ymddangos yn rheolaidd yn y Cambrian News pob wythnos. Wedi i’r arweinydd O J Roberts symud i Abergele i fyw bu i Dilys gymryd yr awenau fel arweinydd y gân. Efallai fod rhai ohonoch wedi ei gweld yn ddiweddar ar Dechrau Canu Dechrau Canmol ar Facebook. Roedd hi yn y tu blaen ac yn gwisgo’n smart, sef atgof sydd gen i o fy Nain. Bu’n weithgar iawn hefo Eisteddfod Cricieth hefyd, gan ganu Cân y Cadeirio yn flynyddol. Ac ar Sul y Cofio pob mis Tachwedd hi fyddai’n arwain y canu yn y Neuadd Goffa. Gydol ei hoes roedd yn hoff iawn o ymweld â’i phentref genedigol, Dyffryn Ardudwy, a mwynhau cwmni ei chwiorydd, Beti a Gwyneth. Trip i’r Dyffryn oedd ar y gweill i ddathlu’r flwyddyn newydd, gyda Dilys yn mwynhau pob eiliad; digon o fwyd, diod a chwmni hwyliog. Roedd wrth ei bodd yn cymryd rhan mewn gemau gwirion, dawnsio i’r curiad a chanu nerth ei phen; Gwyneth ar y piano a Dilys yn ei morio hi. Hoffai liwiau llachar, siwt binc i’n priodas ni, glas i briodas Llio a Mark, a ffrog laes biws ym mharti nos Galan i ddathlu Mileniwm newydd. Cymeriad lliwgar felly mewn sawl ystyr, cymeriad di-flewyn ar dafod gyda chwerthiniad iach yw atgof melys llawer o’r teulu o YnDilys.ddi-os, uchafbwynt mawr Dilys oedd bod yn nain. Roedd wedi gwirioni’n llwyr efo Dafydd a finnau, ac yna Siôn. Un o’r llu atgofion hapus sydd gen i o Nain ydi’r cinio Sul blasus y byddai hi wedi ei baratoi i ni pan roeddan ni yn dod i Gricieth i’w gweld. Ond nid jyst y cinio, cofiwch! Mi fydda’i wrthi am oriau dwi’n siŵr yn gneud llwyth o gacennau, bara brith ac ati. Cymaint felly nes bod y llwy bren roedd hi’n ei defnyddio i bobi’r holl ddanteithion wedi gweithio mor galed ar hyd y blynyddoedd nes bod hi wedi colli ei siâp yn gyfan gwbl! Doedd Nain ddim yn hoff o newid na’r dechnoleg newydd. Mae Dafydd yn cofio iddi unwaith ffonio i ddweud fod un ohonom wedi anghofio eu “ffôn bach”, sef y ‘mobile’. Ond wedi i bawb sbïo, doedd neb wedi anghofio eu ffôn. ‘Remote control’ y teledu oedd Nain wedi ei Ynffeindio!eiblynyddoedd olaf yng Nghricieth, doedd unman gwell ganddi nag eistedd ar y fainc ar Beach Bank. O’i sedd yno roedd yn medru edrych draw at Sir Feirionnydd, ei sir enedigol. Byddai’n eistedd yno gymaint, nes i’r diweddar Robert Price (Dixie) dynnu ei choes fod Gwynedd am godi treth cyngor arni ar y Ersedd!nad yn frodor o Gricieth, bu’n byw yma am dros hanner can mlynedd. Daeth Cricieth yn gartref iddi, a hithau yn rhan annatod o’r dref. Bydd colled ar hôl yma yng Nghricieth. Ond y golled fwyaf yn sicr un fydd yng nghalonnau ei theulu. Catrin Mai Dawson (wyres)

Cydymdeimlo Anfonwn ein cydymdeimlad at Mai a David, Rhian a Einion a’r teulu oll yn eu profedigaeth o golli eu modryb, Mrs Dilys James. Bu’n byw ym Mhenygroes a Chricieth ond fe’i ganed yn Gwelfor, Dyffryn. Diolch Dymuna teulu y diweddar Dilys James, Cricieth ddiolch yn fawr am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth. Rhodd: £10 Cofion Anfonwn ein cofion at Nia Williams, Islwyn sydd wedi bod yn Ysbyty Gwynedd. Mae Nia yn gweithio yn y Co-op yn y Bermo ac yn boblogaidd iawn gyda’r cwsmeriaid yno. Pen-blwydd arbennig Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Mrs Glenys Jones, Cerist, oedd yn dathlu

pen-blwydd arbennig ar 11 Hydref. Roedd dau gais i Glenys ar y rhaglen Ar Eich Cais efo Rhys Meirion ar nos Sul, 10 Hydref ar Radio Cymru. Pen-blwydd Pen-blwydd hapus arbennig i’r hogyn bach yma a ddathlodd ei ben-blwydd yn 40 ddechrau Hydref. Pen-blwydd hapus gan y teulu i gyd. xx Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb TACHWEDD 7 – Iola a Glesni 14 – Elfed Lewis 21 – Anwen Williams 28 – Cyfarfod Gweddi RHAGFYR 5 – Edward ac Enid Radio Cymru Bydd llawer ohonoch yn cofio Duncan Brown a’r teulu pan roeddan nhw’n byw yn y Dyffryn. Nos Sul, 31 Hydref, am 6.30, darlledwyd rhaglen ar Radio Cymru o’r enw ‘Newid Hinsawdd, Taid, a Fi’, lle’r oedd Leisa Gwenllian, wyres Duncan, yn trafod yr argyfwng presennol gyda’i thaid, yn gyntaf o ardd Duncan ym mhentref Waunfawr, yna ym Mhenmachno, lle mae’r mawndir yn eithriadol o bwysig o ran storio carbon yn y tir. I wrando ar y rhaglen, ewch i wefan y BBC, ‘Ein Planed Nawr’.

GWASANAETH SUL Y COFIO GER Y GOFEB 14.11.21 am 3.00 pm CROESO CYNNES I BAWB Diolch Hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd arian i’r elusennau lleol yn Ardudwy er cof am y diweddar Beti Roberts. Derbyniwyd £1,050, sydd yn cael ei rannu i dri mudiad oedd yn agos iawn at ei chalon, sef Cylch Meithrin Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont; cangen Merched y Wawr Nantcol, a phapur bro Llais Ardudwy. Diolch yn fawr, Ken, Idriswyn a Llinos, Bellaport. Rhodd Derbyniwyd rhodd o £350 er cof am Mrs Beti Roberts, Bellaport. Dymunwn ddiolch i’r teulu yn gynnes iawn am eu haelioni.

DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT 8

Cydymdeimlad Ar 27 Medi yn Ysbyty Gwynedd bu farw Mrs Ann Eurwen Price, 22 Bro Enddwyn yn 74 mlwydd oed. Roedd Ann yn briod â’r diweddar Vic ac yn fam a mam-yng-nghyfraith ofalus i David, Michael a Jo, Andrew ac Alison, Suzanne a Craig ac yn nain a hen nain hoffus. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at y teulu yn eu profedigaeth.

CYNGOR CYMUNED Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont

Ann Eurwen COFFÂDPrice

Adroddodd y Cadeirydd ei bod wedi cysylltu gyda Mrs Alma Griffiths ynglŷn â bod yng ngofal y gwasanaeth uchod a’i bod wedi cytuno i hyn, hefyd ei bod yn mynd i gyfarfod Mrs Griffiths ynghyd â Mr Roy Gamlin a Mrs Mai Roberts er mwyn ailwampio’r taflenni gwasanaeth. Roedd Mr Gamlin wedi cytuno i ddatgan enwau y rhai oedd wedi colli eu bywydau yn y ddau ryfel a bod Mr Trefor Roberts yn archebu torch pabi coch ar ran y Cyngor. Cytunwyd bod angen gwahodd rhai o’r ATC os yn bosib, hefyd yr Heddlu. Cytunwyd i ofyn i Mr Derek Haywood ynglŷn a’r system PA ac hefyd gofyn i Steffan Chambers a fyddai yn bosib iddo ffilmio’r gwasanaeth eto eleni. Cafwyd gwybod gan y Clerc ei bod wedi llunio’r poster a chytunwyd ei fod yn iawn. CyngorGOHEBIAETHGwynedd – Adran Briffyrdd Derbyniwyd llythyr gan yr uchod yn gofyn a oes gan y Cyngor finiau halen sydd angen eu llenwi cyn y tywydd oer ac os oes angen ail-lenwi unrhyw fin a fyddant yn cysylltu gyda’r Adran erbyn y 1af o Dachwedd er mwyn iddynt gael trefnu’r gwaith. Y gost o lenwi un bin halen yw £46.00. Cafwyd gwybod bod angen llenwi’r bin halen ger Gors y Gedol a chytunodd Edward Griffiths gael golwg ar y bin ar Ffordd Tyddyn y Felin. Liz Saville Roberts AS Derbyniwyd llythyr gan yr uchod yn gofyn a fyddai’r Cyngor yn ymateb i ymgynghoriad Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DG ar y defnydd peryglus o fadau dŵr personol ac anfon eu sylwadau i’r linc canlynol iCytunwydpersonal-watercraftdangerous-use-of-recreational-and-strengthening-enforcement-of-the-www.gov.uk/government/consultations/https://ianfonyre-bosthwnymlaenbobaelod.

Fe gyrhaeddodd Ann y Dyffryn pan yn 4 mis oed, yn cael ei mabwysiadu gan Annie Madryn ac Ifan Henry, Belmont fel roedd o bryd hynny, ond Lluesty i ni heddiw. Cafodd fagwraeth braf yn un o blant y pentre nes, yn greulon iawn, a hithau ond yn 8 oed, bu farw ei mam Annie. Cafodd Ann ei danfon i fyw gyda’i modryb yn Bedford. Yn y man, ac iechyd ei thad yn dirywio, fe ddychwelodd Ann i’r Dyffryn i edrych ar ei ôl. Bu fyw bywyd prysur a llawn yn magu tri o hogia, Dei, Michael ac Andrew ac yn gweithio mewn sawl man yn yr ardal. Yn ogystal â’r ffatri gwneud canhwyllau yn Y Bermo, bu’n gweithio yn Cambrian Cleaners, yn y Vic yn Llanbedr am flynyddoedd ac yn ddiweddarach yng ngofal yr iard yn yr Ysgol Gynradd, lle roedd y plant i gyd yn meddwl y byd ohoni. Roedd bob amser yn ofalus o’r plant a doedd neb yn cael ‘get away’ efo cambihafio! Mae Andrew yn cofio’n iawn amdani yn gweithio yn y bwtsiar pan roedd o’n ifanc - ac yna ar ddydd Sadwrn mynd a fo, Michael a Dei efo hi i llnau chalets yn Rhinog. “Cofio ei bod yn gweithio mor galed a byth yn cwyno,” medde fo. Bu’r blynyddoedd wedi cyfarfod, syrthio mewn cariad a phriodi Vic yn 1982 yn rhai hapus iawn i Ann, gyda genedigaeth Suzanne yn coroni’r cyfan. Byw bywyd gan fwynhau bob munud a wnaeth Ann, a phawb oedd yn ddigon ffodus i dreulio amser yn ei chwmni yn medru tystio i’r ffaith ei bod yn gwbod sut i fwynhau! Roedd ei hiwmor ffraeth yn bywiocáu yr amser yn ei chwmni.

Doedd dim llaesu dwylo adre ar yr aelwyd gan y byddai Ann bob amser yn brysur yn coginio prydau blasus a phobi cacennau. Er, sa well gan Ann fwyta paced o grisps! Dyna be oedd y ‘go to’ bob amser, hyd yn oed yn ei dyddiau olaf yn yr ysbyty - ‘tyd a’r crisps na i fi’ oedd Erhi! nad oedd yn un am ddiddordebau, un peth oedd bob amser wrth ymyl Ann oedd edafedd a phatrwm gwau - ac nid ‘knit one, purl one’ cyffredin - ond patrymau cymhleth oedd yn dangos ei gallu a’i dawn gyda’r gweill. Yn Sioe Sir Feirionnydd fe enillodd y wobr gyntaf yn yr adran gwaith llaw ac roedd yn hynod o falch o’r clod. Roedd wrth ei bodd yn mynd am ‘day out’ wedyn a chofia Dei yn dda am un trip i Wrecsam ac yn adrodd fel hyn; “Roedd Mam wrth ei bodd yn B&M a di llenwi y troli a di cyrraedd y ciw. Roedd llawer o bobl yn aros i dalu pan weiddodd y ddynas ar y til “next please” ac aeth Mam heibio bawb a syth i’r tilpawb yn sbio arni yn ysgwyd eu penna a ninna’ n cymryd arnom nad oeddan ni’n ei nabod hi. Deud wrthi wedyn ‘Mam! nes di basio’r ciw i gyd’ a’i hateb hi oedd ‘stwffio nhw, sgena’ i’m amser i sefyll yn fana drwy’r dydd!’ Na! Fuodd Mam ’rioed yn un dda am aros ei thro am im Pasiobyd! barn heb flewyn ar dafod oedd un arall o nodweddion Ann! Ond, roedd hi’n meddu ar galon gynnes ac yn feddylgar iawn, fel mae nifer o’r negeseuon a dderbyniwyd yn y dyddiau diwethaf yn ei ddatgan. Fe wynebodd Ann bob her yn ei bywyd gyda nerth a gwroldeb ac fe fu’r blynyddoedd diwetha ymysg yr anoddaf iddi, ond gyda gofal a chymorth di-flino Suzanne fe lwyddodd i ymdopi â’r cyfan yn ei ffordd ddihafal ei hun, gyda Suzanne hithau yn cyfadde mor anodd yw dygymod â’r golled a’i bod hi mor chwith ‘meddwl nad ydy Mam ar ben arall y ffôn’. Oedd, mi roedd Ann yn berson unigryw, ac fe fydd y cof amdani fel Mam - a Nain - benderfynol, gweithgar a thriw ei chariad yn parhau. A bydd - mi fydd cofio llawer o’i hiwmor a’i dywediadau yn dod a gwên i’r wyneb! Hefyd, rhaid cofio mae byr fu’r blynyddoedd o salwch i gymharu â’i bywyd cyfan. O hyn ’mlaen, - ‘hiraethwn fesul deigryn, ond cofiwn gyda gwên’.

Oedden, mi ‘roedden nhw’n ddyddie da’, meddai’r hen gân - atgofion braf am nosweithiau yn Cadwgan ac yn Ael y Bryn yn cael hwyl a sbort yn ei chwmni.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD Ceisiadau am gymorth ariannol: Ambiwlans Awyr Cymru - £500.00 Pwyllgor Neuadd Bentref - £3.000.00 Hamdden Harlech ac Ardudwy£5,365.52 – hanner y cynnig presept Grŵp Adfywio Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont - £750.00.

9 CYNGOR SulMATERIONTHAL-Y-BONTDYFFRYNCYMUNEDAYNCODIyCofio–14.11.21

Genedigaeth Llongyfarchiadau mawr a phob dymuniad da i Sophie a Luke Roberts, Ynys, ar enedigaeth eu mab ar yr 8fed o Hydref, Albie Vaughan Roberts yn 7 pwys 2 owns, ŵyr bach cynta i Wendy a Gareth Evans, Harlech, a heb anghofio Hen Daid Brian Evans. Dymuniadau gorau i’r teulu bach.

TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN 10 *MELIN LIFIO SYMUDOL Llifio coed i’ch gofynion chi Cladin, planciau, pyst a thrawstiau *GWAITH ADEILADU AC ADNEWYDDU *SAER COED Ffoniwch neu edrychwch ar ein gwefan *COED TÂN MEDDAL WEDI EU SYCHU Netiau bach, bagiau mawr a llwythi ar gael Geraint Williams, Gwrach Ynys, Talsarnau 01766 780742 / 07769 713014 www.gwyneddmobilemilling.comCydnabyddiaeth Diolch am y cyfarchion a’r llu anrhegion a gawsom i ddathlu genedigaeth ein mab bach Elis Llewelyn. Catrin a Llŷr, Gellilydan. (Ganed Elis ym mis Medi ac mae’n ychwanegiad hyfryd i deulu John a Gwyneth Richards, Bryn Eithin, Llandecwyn) Rhodd: £10 Merch fach Llongyfarchiadau cynnes iawn i Dona ac Aaron Evans (Maes Gwndwn gynt) wedi cael merch fach yn ddiweddar. Croeso gwresog i Mia Alys. Mae’n siŵr bod nain Eir, (Eirian Evans) wedi gwirioni wedi iddi gael wyres newydd. Rhodd Iona a Dylan Aubrey £10 Merched y Wawr Croesawodd y Llywydd, Siriol Lewis, yr aelodau i brif ystafell Neuadd Talsarnau nos Lun, 4ydd Hydref, i gael cyfarfod yn y Neuadd am y tro cyntaf eleni, gan ddilyn rheoliadau Cofid! Cytunwyd i gyfarfod yn ystod y prynhawn yn ystod misoedd y gaeaf a bydd cyfarfodydd Ionawr a Chwefror felly ar bnawn dydd Llun, 13 Ionawr a 3 Chwefror am 2.00 o’r gloch. Yna croesawyd Sioned Williams o Landanwg i gyflwyno ei sgwrs am ei chwmni gwneud coffi dan yr enw ‘Ffa Da’. Dechreuodd drwy sôn ychydig am ei gyrfa fel athrawes ffiseg yn ysgolion uwchradd Lloegr, cyn dychwelyd i ddysgu yn Ysgol Bro Idris, Dolgellau am gyfnod, yna gweithio fel athrawes lanw mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, ond yn awr yn gweithio yn Ysgol Hafod Lon ac wrth ei bodd yno. Roedd wedi teimlo ers dipyn ei bod angen rhywbeth arall i’w wneud ac wedi mynd ati i ddechrau busnes gwneud coffi oedd ddim yn rhy gry’ a gyda llai o ‘caffeine’ ynddo. Eglurodd sut y dechreuodd y cwmni a’r gwaith mae hi wedi’i wneud yn ei werthu ers tair blynedd ac ar ôl gweithio’n galed, mae’r cwmni wedi datblygu i fod yn llwyddiannus iawn. Cawsom gyfle i flasu dau fath gwahanol – Bore Da a Halibalŵ – ac wedi iddi orffen ei sgwrs, roedd pawb yn barod iawn i brynu bag o’u Diolchodddewis.Siriol i Sioned am sgwrs ddiddorol ac addysgiadol, ac edrychwn ymlaen at gael ei chwmni eto gyda sgwrs arall. Roedd tair raffl i’w hennill a’r enillwyr oedd Bet, Frances ac Eluned. Bydd ein cyfarfod nesaf nos Lun, 1af Tachwedd am 7.00 o’r gloch pan y bydd Siwan Evans yn sôn am fyw a gweithio ym Mhatagonia. Damwain i aelod o’r Gangen Drwg iawn oedd gennym glywed am y ddamwain anffodus gafodd Frances Griffith ar ei ffordd adref o’r cyfarfod uchod. Cafodd godwm gas ger y tŷ a thorri ei chlun. Bu’n gorwedd allan yn y glaw a’r oerni am rai oriau yn disgwyl am ambiwlans, er i’w chymdogion ddod ati i geisio ei chysuro. Yn y diwedd bu raid ei chario i’r tŷ i gynhesrwydd - a da bod hynny wedi digwydd, gan na welwyd mo’r ambiwlans tan 5 o’r gloch y bore! Wedi cael triniaeth yn yr ysbyty, daeth adref nos Iau, 14 Hydref. Mae aelodau’r gangen yn dymuno gwellhad llwyr a buan i ti a gobeithio y byddi wedi gwella digon da i ymuno â ni yn y cinio ‘Dolig!

Rwy’n siŵr fod llawer arall yn diolch am y fraint o gael byw yn y fro fendigedig yma. Gretta Llennyrch,Benn,Llanbedr

Diddorol darllen yr hyn a ysgrifennodd Aldwyth Wynne yn Llais Ardudwy rhifyn Gorffennaf am y diweddar John Evans, Tyddyn y Felin, sef yr olaf o blant Edward a Margiad Evans a anwyd ar 29ain o Orffennaf, 1892. Gan fod John Evans yn frawd i’m mam, cefais fy nhrwytho yn hanes y teulu ar hyd y blynyddoedd. Cafodd Mam a Dewyrth John gyfle i fynychu Ysgol Ramadeg y Bermo - roedd hyn yn beth newydd yr adeg hynny ac, yn ôl y sôn, roedd Dewyrth John wedi mwynhau y diwylliant Cymreig yno. Roedd yn ffarmwr, gwladwr a bardd ac wrth ei fodd yn barddoni ar aelwyd Tyddyn y Felin pan oedd yn Bu’rifanc.diweddar Evan Owen, Tanymarian, yn gweithio fel gwas ar y fferm ac yn mwynhau cystadlu efo Dewyrth John mewn ymryson barddoni ar fin nos. Dywed Evan Owen mewn teyrnged farddonol amdano: “Yr oedd yn fardd a llenor llawn Fel dengys ei ganeuon Ei awen fwyn a’i hwyliog ddawn I loni clwyfus galon.” Roedd fy nhaid, Edward Evans, yn cymryd rhan yn y gornesi barddoni yma hefyd. Dyma englyn o’i waith i gae o’r enw “Wern Llygod” ar ôl diwrnod o ladd gwair: “Gloew gledd yn glau yr a –hunanei Ond cydio yn ei dyrna Wern Llygod, lwyr arswyda A’th ddiosg gei o’th wisg ha.” Ar droad y ganrif ddiwethaf roedd Tyddyn y Felin yn derbyn ymwelwyr i aros ar y fferm. Bu Mr a Mrs Geere a Miss Newell o Painswick, Swydd Gaerloyw, yn ymweld am flynyddoedd. Arlunydd oedd Mr Geere a Miss Newell yn addysgu brodwaith a gwnïo ac roedd yn ffrind agos i deulu’r Geere. Cafwyd blodau i’w plannu yn anrheg gan yr ymwelwyr un flwyddyn ac, yn ôl fy Mam, math o rosynnau gwyn oedd y blodau a phlannwyd nhw wrth y drws ffrynt am eu bod yn blodeuo pob mis. Dyma’r blodau a ysbrydolodd fy ewythr i ysgrifennu’r gerdd “Y Blodau ger y Drws” a ddaeth, yn ddiweddarach, yn unawd boblogaidd gan y diweddar Meirion Williams. Yr unawd yma, ynghyd ag “Awelon y Mynydd,” a ganodd y soprano Ceinwen Rowlands mewn cyngerdd yn y Neuadd Goffa yn Harlech flynyddoedd yn ôl pan gwahoddwyd fy ewythr i’r llwyfan i gyfarfod Ceinwen Rowlands a’r perfformwyr Tynnwyderaill.

11 Atgofion am John Evans, Tyddyn y Felin

Cerdd oedd hon a ysbrydolwyd pan gauwyd drws y llofft stabal ar Dewyrth John a Richard, Pensarn, (sef tad Beti Wyn) oedd ar y pryd yn fachgen saith oed. “Er nad oedd ond bachgenyn, Ei eiriau’n addysg gawn,--“Ar ngliniau byddaf fi yn mynd Pan fyddo’n dywyll iawn.“

Hoffai Dewyrth John ysgrifennu ar destunau Beiblaidd, Natur a’i Fro – y fro a garai mor fawr – “llwybrau’r mynydd, y blodau ger y drws a pherlau’r ffriddoedd.”

y llun uchod yn Nhyddyn y Felin gan un o’r ymwelwyr yn 1913. Ar y chwith mae fy Nain, yna Mam ac ar y dde mae Modryb Gwen. Credir mai at Dewyrth John y cyfeiria Robert Graves yn ei lyfr “Good-bye to All That,” lle mae’n sôn am y bardd ifanc a gyfarfu yn y wlad sydd y tu cefn i Harlech a chael sgwrs ag ef am Unfarddoniaeth.o’mhoffgerddi yn “Perlau’r Ffriddoedd” a argraffwyd yn 1924 ydyw “Pan fyddo’n dywyll iawn.”

2 Pobwch yr afalau yn y popty a gynheswyd yn barod am 20 munud. Yn y cyfamser, mesurwch y blawd a’r siwgr brown meddal a’u rhoi mewn powlen gymysgu. Ychwanegwch y sgwariau bach o ymenyn i’r bowlen a’u cymysgu gyda’r blawd a’r siwgr gyda fforc i greu briwsion bara bras.

3 Estynnwch yr afalau yn ofalus o’r popty a chymysgwch y mwyar duon efo nhw. Tywalltwch y gymysgedd blawd dros y ffrwythau a’i daenu hyd at ymylon y ddysgl. Pobwch yn y popty am 40-45 munud. Gweiniwch tra’n dal yn gynnes.

12 Llongyfarchiadau i Gwenfair Aykroyd, Y Bala; Mai Jones, Llandecwyn; Angharad Morris, Y Waun, Wrecsam; Dotwen Jones, Cilgwri Wirral Anfonwch. eich atebion i’r Sgwâr Geiriau at Phil Mostert. [Manylion ar dudalen 2]. PÔS SGWÂR GEIRIAU 9 Gerallt Rhun A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y ATEBION SGWÂR GEIRIAU PM Rhif 2 Sgwar geiriau Phil M rhif 2 S O D A Rh I N C C Ll I Y M E R Y D U C Y M R O D E Dd U Ll D R U R D I A L W H Y N Ff I D L O E A O I W D Y Dd I O D I L Y N W Y R N N E N R T I I Dd C A Ng H E N N U E Th I O P I Y O N Y A R N A F E P A A Dd O D R Th W B S E F E L Y Ch I A D A S G E Ll D O Y D O I S E L A N O Dd Pos rhif 9 POS RHIF 9 A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I (J) L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y 1 2 3 4 A 5 6 7 I 8 9 10 11 12 13 R14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 PH28 Pos rhif 9 9 2 12 1 8 4 10 25 15 4 22 2 15 9 20 12 18 4 7 13 12 4 11 21 14 2 4 1 19 14 3 25 4 14 4 1 2 1 26 2 7 11 14 R 4 7 4 18 12 18 14 19 10 4 7 5 8 12 23 2 11 21 27 27 11 7 I 19 2 4 12 4 4 A 26 18 7 6 12 1 2 21 4 11 23 24 19 11 1 7 24 7 18 24 6 4 2 26 4 7 11 19 10 4 14 15 2 14 16 17 14 26 14 7 17 4 1 2 11 7 21 1 24 27 4 26 14 16 27 20 24 4 1 15 4 4 3 14 12 ACRYMBLRYSÁITAFALMWYARDUON Gan iddi fod yn hydref da i afalau, efallai y bydd y rysáit canlynol yn cynnig ffordd dda o’u defnyddio a’u Doesmwynhau.dimŵy, soia na chnau yn y rysáit hwn. Cynhwysion: (i wneud un crymbl) 500g o afalau cwcio 75g siwgr castr 1 llond llwy fwrdd o ddŵr 1 llond llwy de o ‘vanilla extract’ 175g blawd 125g siwgr brown meddal 125g ymenyn, mewn sgwariau bach 100g o fwyar duon Cyfarwyddiadau: 1 Cynheswch y popty i 180º C/160º ffan/nwy marc 4. Pliciwch yr afalau, tynnu’r canol a’u sleisio i mewn i ddysgl popty 1-litr, ychwanegwch y siwgr castr, dŵr a’r ‘vanilla extract’, yna troi’r gymysgedd.

13 R J Williams Honda Garej Talsarnau Ffôn: 01766 770286 Lle pawb i hybu digwyddiadau. hyblyg hawdd am ddim Calendr360 Dyma gyfle newydd i hyrwyddo eich digwyddiad lleol neu genedlaethol Bydd hi'n wych gweld pethau'n ailgynnau wrth gamu mlaen o Covid Beth am ddefnyddio eich papur bro ac adnodd newydd ar lein Calendr360 i hyrwyddo eich digwyddiadau lleol? Ymuno Creu Digwyddiad Calendr360.cymru Y GEGIN GEFN Rhian Mair Rysáit y mis Dyma rysáit hawdd iawn i’w ddilyn, ac mae’n flasus dros ben. Mae’r cynhwysion ar gael yn hwylus. CAWL BROCOLI A STILTON Rysáit 12 owns o frocoli 14 owns hylif o stoc llysiau 1 owns o fenyn 4 nionyn y gwanwyn 1 owns a 3/4 o gaws Stilton 3 1/2 owns hylif o hufen dwbl Pupur a halen Pinsiad o nytmeg Dull Coginiwch y brocoli yn y stoc llysiau. Toddwch y menyn, ac ychwanegwch y nionod a’u coginio am ychydig funudau. Yna, trosglwyddwch y brocoli a’r stoc i brosesydd bwyd, ac ychwanegwch y nionod, y caws a’r hufen ato Cymysgwchfo. yn dda. Rhowch mewn sosban a gadewch iddo fud ferwi yn ysgafn, yna adiwch y pupur, halen a’r nytmeg. Gweiniwch gyda bara Ffrengig, a mwynhewch! Llun: BBC

Wrth gwrs, aelod Llafur oedd Mr Gaitskell yr un fath â Taid a dyna oedd ystyr y ‘labour’ yn y pennill! Ymhen blynyddoedd wedyn, deuthum i ddeall am John Bunyan (1628–1688) y Cristion mawr ac awdur Taith y Pererin yn ogystal â’r emyn mawr hwn ac am ei garcharu am flynyddoedd am ei ddaliadau crefyddol. Rhydd yr emyn olwg ar syniadau ac ofnau ei oes ac ar ei dewrder hefyd. Mae cyfieithiad O M Lloyd (1910–1980) yn Caneuon Ffydd (776). Cafodd O M Lloyd afael arbennig ar yr emyn gan ddod a’r cyfan o fewn ein cyrraedd ni gan gadw ar yr un pryd naws glasurol ac anturus gwaith John Bunyan. Dim ond un dôn a welais erioed ar yr emyn, sef Monks Gate, hen alaw Saesneg wedi ei threfnu at y pwrpas gan Ralph Vaughan Williams (1872–1956). JBW

Ond un dydd fe ddaeth goleuni. Un bore dywedodd y dirprwy wrthym fod y gwleidydd enwog Mr Gaitskell wedi marw a byddem yn canu emyn er cof amdano – ‘Who would true valour see’. Ac yn y llinell olaf ond un y tywynnodd y goleuni arnaf – ‘He`ll labour night and day to be a pilgrim’.

Llewod a Chewri a Gwaeth 14Fe

Ond wir roedd y geiriau’n rhai cyffrous: ‘No lion can him fright; He’ll with a giant fight; But he will have the right To be a pilgrim.’ Ew! Llewod a chewri. Pethau wrth fodd hogyn ysgol gynradd. Ond roedd y pennill olaf yn well byth: ‘Hobgoblin nor foul fiend Can daunt his spirit...’ A dyma ni ym myd yr ellyllon a’r ysbrydion drwg. Ac fel y gellwch feddwl, yn canu o’i hochor hi. Bron cystal â Doctor Who myn diani. Ond roedd y llinellau olaf yn dipyn o ddirgelwch i mi: ‘Then fancies fly away, He’ll fear not what men say; He’ll labour night and day To be a pilgrim’. Er bod y geiriau’n gyffrous, roedd eu hystyr yn ddigon tywyll i blentyn.

Ond yr emyn Saesneg arall oedd y ddifyraf un i gyd. Chlywswn i rioed mohono cynt, ‘Who would true valour see, let him come hither’. Mae’r emyn yn Caneuon Ffydd (953). Beth oedd y ‘falasi’ yma? Mae’n bosib nad oedd ynganiad plant Edeyrnion nag acen ddiarth y dirprwy yn gymorth mawr i ddehongli’r geiriau.

soniais o’r blaen fod Caneuon Ffydd yn gasgliad ardderchog ac i’r Pwyllgor Golygyddol a’i lluniodd gael hwyl arbennig ar y dasg. Gofynnwyd i mi beth a fuaswn i wedi ei hepgor o`r casgliad a’r ateb gonest fyddai mai ychydig iawn sydd ynddo fo nad ydi o yn talu am ei le. Er hynny mae yna ambell i lemon wedi disgyn i’r fasged afalau. Rydw i wedi crybwyll o’r blaen nad oes yn fy marn i unrhyw werth yn emyn 116, ‘Nef a daear, tir a môr ...’ ar rhigymau sydd yn ymddangos yn emyn 149, ‘Pe bawn i yn iar fach yr haf ...’ ac mae yna un neu ddau o bethau chwerthinllyd eraill yn y casgliad hefyd. Y peryg ydi i emyn 158 ‘O O O...’ beri difyrrwch i’r anystyriol ac i’r pregethwr ar ôl edrych trwy’r ffenest orfod newid emyn 150, ‘Diolch i ti, Ior, am ddiwrnod braf ...’ am rywbeth arall mwy niwtral am y tywydd. Ond brychau ar yr haul ydi pethau fel hyn. Mae yna dros bedwar ugain o emynau Saesneg yn y llyfr. Mae hwn yn gasgliad cynhwysfawr a chlasurol a go brin y byddai angen chwilio yn unlle arall pe bai angen emyn Saesneg ar dro. Roeddwn i’n falch o weld bod y casgliad yn cynnwys y ddau emyn Saesneg cyntaf erioed i mi eu dysgu. Pan oedden ni yn blant yn Ysgol Sarn Bach, roedden ni yn cael defnyddio llyfr emynau yn y gwasanaeth bob bore. Roedd y llyfr yn eitha newydd ar y pryd – ‘Llyfr Gweddi a Mawl i Ysgolion’ (neu yn ôl rhai plant drwg –Llyfr Gweiddi fel Diawl i Ysgolion). Wedyn daeth newid ardal a newid ysgol. Synnais nad oedd plant Ysgol Corwen yn defnyddio unrhyw lyfr emynau yn y gwasanaeth; roedden nhw’n gwybod yr emynau a genid i gyd air am air. Felly doedd yna ddim dewis ond dysgu a hynny ar wib neu fe fyddai’r prifathro, Mr Mathew Griffith yn fy nhynnu allan a lwc owt Ynwedyn.Gymraeg byddai’r prifathro yn cynnal y gwasanaeth ond o bryd i’w gilydd doi’r dirprwy atom ac yn Saesneg y byddem yn canu wedyn. Dau emyn Saesneg oedd yna yn yr ysgol; byddem yn canu un neu’r llall. Roeddwn yn hanner gwybod un ohonynt, sef, ‘There is a green hill far away, without a city wall’. Mae hwn yn Caneuon Ffydd (919) a bob tro y clywaf neu y darllenaf yr emyn fe ddaw yn acen braf Gwlad yr Haf fel byddai Mr Richards yn ei ledio.

TACHWEDD 7 - Dewi Tudur 14 - Dewi Tudur 21 - Dewi Tudur 28 - Eifion Jones RHAGFYR 5 - Dewi Tudur

Ar ddiwrnod braf o hydref yng Nghapel Peniel Newydd, Llanegryn priodwyd Aled Shenton, mab hynaf Chris ac Annwen Shenton, Gorwel Deg, Dyffryn Ardudwy a Glesni Haf Davies, merch Glyndwr a Gaynor Davies, Cae Du, Rhoslefain. Gwasanaethwyd gan y Parch Brian Wright gyda Mrs Bethan Davies yn organyddes a Mrs Catrin Jones yn delynores. Y gwas priodas oedd Iwan Shenton gyda chwiorydd a ffrindiau y briodferch fel morynion a Caia Wyn Shenton fel y forwyn fach a Cynan a Mabon Jones fel y gweision bach. Maent wedi ymgartrefu yng Nglan Ysgethin, Tal-y-bont a dymunwn hir oes a phob hapusrwydd iddynt. Fel rhan o’r gwasanaeth arbennig bedyddiwyd eu merch fach Malan Fflur a oedd fel tywysoges yn ei gwisg hardd.

Yr Hen Llyfrgell, Harlech

Mae’r gwres canolog bellach wedi’i osod drwy’r adeiladgyda diolch i Kevin Davies, Blaenau Ffestiniog, am job dda. Dymunwn ddiolch hefyd i’r unigolion gweithgar hynny sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau dyfodol yr adeilad buddiol hwn ar gyfer y gymuned.

Dymuniadau gorau iddynt fel teulu.

Llongyfarchiadau cynnes iawn i John Cedri Williams, mab John a Jane Williams, North Lodge (Ystumgwern) a Ffion Haf Williams, merch Emlyn a Sue Williams, Bryngwran, Ynys Môn ar eu priodas yn ddiweddar. Mae Cedri yn gweithio ym Mhwerdy Trawsfynydd a Ffion ym Mhrifysgol Bangor. Ar hyn o bryd maent yn byw ym Mhentre Gwynfryn, Llanbedr ond yn symud i Morfa Bychan yn y dyfodol agos. Dymuniadau gorau iddynt yn y dyfodol.

15 Capel Newydd, Talsarnau Rydym yn parhau i gael cyfarfod gweddi ar Skype am 10.30 ar fore Sul ac yn cyfarfod yn y capel am 6.00. Mae’r oedfaon yma yn cael eu darlledu ac fe gewch y manylion ar ein safle we capelnewydd.org. Mae croeso i chi ymuno hefo ni ond plîs cysylltwch fel bod sedd gadw i chi.

DWY BRIODAS

Creu’r

A ydy Cymru’n wlad sy’n hybu heddwch heddiw? Un ffordd o godi ymwybyddiaeth am heddwch yw hyrwyddo pabis gwynion yn arwain at Sul y Cofio. Wrth wisgo pabi gwyn, rydym yn cofio pawb sydd yn dioddef oherwydd rhyfel, gan gynnwys unigolion, teuluoedd a phlant, ac yn dangos dyhead am fyd a fydd – un dydd – yn dysgu datrys anghydfod yn ddi-drais. Gallwch archebu pabis gwyn gyda ‘hedd’ yn y canol twy gysylltu cymdeithasycymod@gmail.com.â

Llesiant a Ffyniant economaidd: Yn enwedig yn sgil COVID-19 dylai fod mwy o bwyslais yn ein cymunedau ar hyrwyddo hunanbarch, sgiliau rhwngbersonol, a datrys gwrthdaro. Mae’n bwysig hefyd i symud oddi ar economi sydd yn ddibynnol ar greu arfau dinistriol (sydd yn gwneud niwed i’r amgylchfyd yn ogystal â dinistrio bywydau a chymunedau) tuag at greu swyddi gwyrdd cynaliadwy. A wyddoch chi fod pob person yng Nghymru yn cyfrannu £572.40 y flwyddyn at y diwydiant arfau? Hoffem weld Cymru sydd yn canolbwyntio ar dyfu economi gwyrdd – a sydd hefyd yn ffurfio perthynas â gwledydd eraill yn seiliedig ar gyfathrebu a chydweithio. Dysgu o’r gorffennol a gweithio tuag at ddyfodol gwell Mae aelodau Cymdeithas y Cymod yn ymgyrchu dros gymdeithas sydd yn dysgu o’i chamgymeriadau ac yn edrych am ffyrdd mwy cynaliadwy o drefnu’n hunain. Un peth sydd wedi dod yn amlwg yn ystod y pandemig yw’r ffaith nad yw arfau niwclear yn medru ein hamddiffyn rhag beryglon megis heintiau a newid hinsawdd. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi’r Cytundeb ar Wahardd Arfau Niwclear y Cenhedloedd Unedig a rhoi pwysau ar Lywodraeth San Steffan i wneud yr un fath. Yn yr un modd, mae rhannau mawr o diroedd Cymru yn cael eu defnyddio at bwrpas milwrol – ardaloedd megis Mynydd Epynt a Chastell Martin. Mae Cymdeithas y Cymod am gadw yn fyw’r cof am yr hyn yr oedd y troi o’u tiroedd yn ei olygu i’r teuluoedd oedd yn byw yn yr ardaloedd hyn a hefyd gofyn y cwestiwn – a oes angen yr holl dir hwn ar gyfer ymarfer tuag at ryfel, a sut mae hyn yn cyfrannu at lesiant cenedlaethau’r dyfodol? Croeso ichi ymuno gyda ni! A hoffech gyfrannu at ein hymgyrchoedd? Mae arnom angen pobl gydag amrywiaeth o sgiliau. Cysylltwch â ni os hoffech drafod sut medrwch gyfrannu a hefyd sut i ymaelodi. Diolch! Ewch at ein gwefan: cymdeithasycymod.cymruwww. neu ysgrifennwch at cymdeithasycymod@ gmail.com. Gymru a

16Pa fath o Gymru hoffech chi ei gweld ar gyfer eich plant a phlant eich plant? Mae Cymdeithas y Cymod yn gweithio dros gymunedau a chenedl fwy diogel, cyfiawn a chyfartal yma yng Nghymru a’r tu hwnt. Rydym yn rhan o fudiad rhyngwladol o bobl sy’n credu yn y llwybr di-drais mewn ymateb i ryfel a militariaeth. Dyma fraslun o’n gweledigaeth a’n gwaith. Addysg Rydym yn falch o weld cwricwlwm yng Nghymru sydd yn anelu at baratoi pobl ifanc at y dyfodol fel dinasyddion sydd yn ymwybodol o’r heriau sydd yn ein hwynebu ac yn barod i’w goresgyn mewn ffordd greadigol ac egwyddorol. Credwn, er hynny, y dylai fod mwy o bwyslais ar alluogi pobl ifanc i ennill y sgiliau i gydberthyn ag eraill ar sail parch a goddefgarwch ac i ddatrys problemau’n ddi-drais. Nid oes lle yn ein hysgolion ar gyfer recriwtio milwrol, a dylai hynny gael ei Maewahardd.Cymru’n wlad gyda threftadaeth heddwch anhygoel a dylai fod mwy o bwyslais ar hyn yn ein hysgolion a’n cymdeithas. Cymru, er enghraifft, yw’r unig wlad yn y byd sydd wedi anfon Neges Heddwch ac Ewyllys Da oddi wrth ein pobl ifanc i bobl ifanc y byd yn flynyddol ers canrif. Yn 1923 – 4 fe wnaeth criw o fenywod fynd ati i gasglu dros 390,000 o lofnodion i ddeiseb i geisio dwyn pwysau ar Arlywydd America i’w wlad ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd. Mae’r rhain yn storïau y dylai plant – ac oedolion – wybod amdanynt.

Garem

Mab i David a Margaret Jones, Llysenddwyn, Dyffryn Ardudwy, oedd David Parry Jones. Melinydd oedd galwedigaeth ei dad, a anwyd yn Llanfihangel-y-traethau yn 1858 ac a fu farw yn 1943. Un o Tai’n Lôn, Clynnog, Arfon, oedd ei fam, a fu farw yn 1920, yn 63 oed. Ganwyd David Parry, Mehefin 6, 1886, yn Llanegryn. Symudodd y teulu yn fuan ar ôl hynny i King’s Mill, Llanenddwyn. Yng nghyffiniau Meirion y trigodd am ugain mlynedd cyntaf ei fywyd. Er mai cymharol ieuanc ydoedd, yr oedd yn ddigon hen i sylweddoli mai cyfyng ydoedd y cyfleusterau i ddatblygu yn ei fro cynefin. Yr oedd yn dyheu am wlad arall, a gwell manteision, fel y penderfynodd geisio amgenach bywyd. Yn y cyfnod hwnnw, yr oedd Evan Roberts, y diwygiwr, ar ymweliad â’r fro, a bu David Parry yn methu penderfynu beth a wnai, pa un ai mynd i wrando ar yr efengylwr yntau cymryd y trên am Lerpwl. Yr oedd ei ysbryd heini wedi ei feddiannu ac awch anorchfygol i fynd i America a thrannoeth yr oedd ar fwrdd agerlong a’i wyneb tua ‘gwlad yr addewid.’ Wedi glanio yn Efrog Newydd cymerodd y trên am Pittsburgh, Pennsylfania, lle nad oedd iddo na châr, cyfaill na chydnabod yn byw. Yn estron mewn gwlad estron cerddodd strydoedd y ‘Ddinas Fyglyd’, yn chwilio am waith. Ymhen hir, gwelodd arwydd ar un adeilad ar Penn Avenue a ddenodd ei sylw, Thomas C Jenkins, Wholesale Groceries. Ganwyd T C Jenkins yn Prospect, Efrog Newydd, yn fab i Jenks Jenkins, o Aberystwyth, a Hannah (Jones) Jenkins, o’r un ardal. Tyfodd menter TCJ yn un o’r groseris cyfanwerthu a masnachwyr blawd mwyaf amlwg y wlad, oedd yn cynnwys pedair warws anferth, yn cyflogi 80 o ddynion, ac yn defnyddio 32 o geffylau i redeg y busnes. Nid oedd TC Jenkins yn gallu siarad Cymraeg ond medrai ei darllen.

Anturiodd David Parry i mewn i’r siop, ac yn ddigon pryderus gofynnodd am waith. Wedi i bennaeth y swyddfa ei holi am ei brofiad a’i gymwysterau, cafodd ymateb cadarnhaol i ddechrau fel ysgrifennydd y busnes. Dangosodd y Cymro ieuanc allu a diwydrwydd ac arddangosodd yr awdurdodau hwythau eu gwerthfawrogiad o’i weithgaredd trwy ei ddyrchafu o ris i ris. Erbyn 1915 daeth yn un o brif geidwaid cyfrifon y cwmni, ac ar ddechrau mis Chwefror, 1917, dyrchafwyd ef yn gyfrifydd cynorthwyol, gyda chodiad sylweddol yn ei gyflog. Pan ystyriwyd fod y cwmni hwnnw yn un o gwmnïau unigol mwyaf y wlad, yn trafod masnach gwerth bron i filiwn o ddoleri yn fisol, yr oedd yn angenrheidiol cael gallu a gofal i lenwi swydd mor bwysig. Ond nid i gylch masnachol Pittsburgh yn unig y cyfyngwyd gweithgarwch y brawd o Feirion, oherwydd yr oedd yn aelod gweithgar o Eglwys Gymraeg Oakland yn y ddinas. Penodwyd ef yn ysgrifennydd ariannol yr eglwys yn 1910. Nid yn unig cafodd gartref clyd ar aelwyd yr eglwys, ond cafodd un o blant yr eglwys yn wraig iddo sef Arvonia (1891-1973), merch Mr a Mrs Daniel R Williams, Stryd Dunseith, Pittsburgh. Priododd y ddau yn Eglwys Bresbyteraidd Oakland, 19 Hydref 1914. Yr oedd ei thad yn wyliadurwr nos ac yn fwy adnabyddus fel ‘Deiniol Arfon’. Bu’n ohebydd y ‘Drych’, ac ymysg ei alwedigaethau amrywiol bu’n weithredydd lifft, ceidwad stoc ac yn glerc llongau. Yr oedd gan David Parry Jones frawd yn Pittsburgh, sef George Brymer Jones (1881-1963), a ymfudodd yn 1906, bum mlynedd ar ôl David P. Bu’n arolygydd Ysgol Sul yn Oakland, ac yn ysgrifennydd ariannol Cymdeithas Dewi Sant Pittsburgh. Yna, chwaer yn Llundain, ac ysbytai Llundain i gysuro’r milwyr clwyfedig adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. William Brymer Jones (189401973), oedd 17 yr ieuengaf o’r teulu. Bu ar faes y gad yn Salonica yn Rhyfel 1914-18. Bu farw yn Llundain yn 1973, yn 79 oed. B u un brawd arall, John Brymer Jones, farw yn blentyn bychan ar 3 Awst 1893, yn King’s Mill, Llanenddwyn, yr uchod yr oedd amryw o berthnasau yn trigo yn Utica a’r cylchoedd, ac hefyd yn Colorado a CafoddChaliffornia.David Parry ac Arvonia ysgariad ac ailbriododd ef gyda Rachel A Kilgore (189501971), merch o Clairon, Pennsylfania. Erbyn 1930, ar ôl treulio ei oriau hamdden yn astudio cyfrifiaeth, cafodd swydd fel ceidwad cyfrifon. Bu farw 26 Medi 1966, yn 80 oed, yn Ysbyty Gyffredinol Alleghany, Pittsburgh ac fe’i claddwyd ef ym Mynwent Union Dale, Pittsburgh. W Arvon Roberts, LLAISCALENDRPwllheliARDUDWY2022Ynysiopaurŵan£5.00AnrhegNadoligdelfrydol

David Parry Jones (1886-1966)

Llongyfarchiadau cynnes iawn i Kyle a Ffion Jones, Llanrug ar enedigaeth mab, Noa Aeron ar 25 Medi, yn 8 pwys 2 owns, yn frawd bach i Tomi. Llongyfarchiadau i Nain, sef Rhian Edwards, Harlech a Hen Nain a Taid Penrhyn. Dymuniadau gorau iddyn nhw i gyd. Genedigaeth merch Croeso mawr i’r byd i Mari Wyn Atkinson, babi cynta Jamie a Sara, Morfa Bychan. Cyrhaeddodd Mari ar y 6ed o fis Hydref yn 8 pwys 1 owns. Llongyfarchiadau mawr i Nain a Taid Carol a Steve O’Neill, Cae Gwastad Harlech, Roger ac Eira Atkinson, Nain a Taid Penrhyn, a Hen Daid Penrhyn, Iorwerth Davies. Hoffai teuluoedd Jamie a Sara ddiolch o galon i’r bydwragedd Meirionwen a Cerys am eu gofal rhagorol a’r caredigrwydd a ddangoswyd iddynt yn ystod geni Mari DymuniadauWyn. gorau i’r teulu bach newydd. Colli Gwenael Bu farw Gwenael Jones, 33 Y Waun gynt, ddiwedd mis Medi. Roedd yn 71 oed a bu farw’n sydyn ar ôl salwch byr. Roedd yn byw yn DymunaLlangollen.ei brawd, Andrew a’r teulu ddiolch am y cardiau, yr ymweliadau, a’r negeseuon o gydymdeimlad a dderbyniwyd ganddynt. Roedden nhw’n gysur mawr iddynt. Genedigaeth Llongyfarchiadau i Hywel Evans am ddod yn daid i Mia Alys ac i Dona ac Aaron, gynt o Dalsarnau ar ddod yn rieni i’r ferch fach. Hefyd llongyfarchiadau i Bronwen Williams ar ddod yn hen nain.

Mae hi’n ‘dymor y babis’ yn yr ardal, mae hi’n ymddangos. Croeso i’r byd i’r canlynol. Genedigaeth mab

• Gofal Personol 24 awr • Capel Gorffwys • Cynlluniau Angladd Rhagdaledig Heol Dulyn, Tremadog. Ffôn: 01766 post@pritchardgriffiths.co.uk512091

Cyfraniad difyr Wedi darllen cyfraniad difyr Margaret Tilsley yn rhifyn Medi o Llais Ardudwy, amgaeaf gopi o boster yn hysbysebu Gŵyl Gerddorol Harlech a drefnwyd yn y Castell ar Fehefin 15, 1933. Mae’n amlwg fod angen gwaith mawr i drefnu gŵyl i faint a safon hon. Aled Ellis, Minffordd Cyfarfod NosCyfeillionCyffredinolBlynyddolEllisWynneFercher,24Tachwedd,am6.30drwygyfrwngZoom Os am ymuno â’r cyfarfod, cysylltwch os gwelwch yn dda â Sian Northey ar sian_northey@yahoo.com

Llanfihangel-y-traethau Ar fore Sul, 26 Medi cawsom ein gwasaneth cyntaf yn yr eglwys ers dechrau’r pandemig Cofid-19. Yn gwasanaethu oedd y Parch Tony Beacon a’r Parch Stephanie Beacon. Rhyfedd iawn oedd cael gwasanaeth heb ganu ac eistedd yn bell o’n gilydd and rhaid oedd cadw at y rheolau. Cafwyd cynulleidfa deilwng iawn a phawb yn falch o gael cyfarfod unwaith eto yn yr eglwys. Yn dilyn, dan y to allanol ac yn y porth, cawsom gyfle i gael sgwrs a llongyfarch Priscilla, ein horganyddes, unwaith eto am ei gwaith diflino ar hyd y blynyddoedd, a hithau yn cael cyfle i dderbyn a rhannu ei chacen o’r diwedd. Yr oedd y gacen yn hardd iawn wedi ei haddurno a lluniau a modelau eisin bychan i ddangos peth o yrfa Pris fel athrawes, gwraig fferm brysur a’i gwaith i’r eglwys. Dyluniwyd y gacen yn arbenig i’r achlysur gan Alma Evans, Dolgellau. Darparwyd paned a glasied o win hefyd a chafwyd cyfraniadau hael iawn; cyfanswm o £120 i’w rannu’n gyfartal rhwng Macmillans a’r Groes Goch. Diolch i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw fodd.

HARLECH 18

Trefnwyr Angladdau

Croesawyd Emma Howie i’w chyfarfod cyntaf o’r Cyngor. MATERION YN CODI Toiledau ger y Castell Adroddodd y Cadeirydd bod y tair uned golchi a sychu dwylo nawr yn eu lle a bod y toiledau wedi agor. Hefyd datganodd y Cadeirydd bod angen ychydig o bethau eraill a’i fod wedi gwneud trefniadau i archebu’r rhain. Adroddodd y Clerc ei bod wedi llunio cytundeb rhwng y Cyngor a Mr Lee Warwick a chytunodd y Cadeirydd i drafod y cytundeb hwn gyda Mr Warwick cyn ei arwyddo. Diolchwyd i’r Cadeirydd am ei holl waith gyda’r toiledau uchod ers cychwyn y broses o’u cymryd drosodd gan Gyngor Gwynedd yn ôl yn 2019. CEISIADAU CYNLLUNIO Newid defnydd y bwyty (A3) ar y lloriau daear ac is-ddaear yn dŷ (C3) ynghyd â newidiadau allanol i’r ffenestri a chodi balconi yn y cefn ar y llawr daear - Weary Walkers Café, Stryd Fawr, Harlech Gwrthwynebu’r cais cynllunio uchod oherwydd eu bod o’r farn nad oedd yr adeilad erioed wedi bod yn dŷ, hefyd yn bryderus y bydd y dref yn colli busnes arall. Hefyd, mae’r aelodau o’r farn dylai yr ardal hon gael ei chadw fel ardal siopa.

Llongyfarchiadau i David a Ann Price, Bryn Aderyn ar ddathlu eu priodas ddeiamwnt ar Hydref 21. Dyma nhw’n dathlu ar y diwrnod.

Priodas Ddeiamwnt

ADRODDIAD Y TRYSORYDD Ceisiadau am gymorth ariannol Pwyllgor Hen Lyfrgell - £1,000.00 Pwyllgor Neuadd Goffa - £1,000.00 Hamdden Harlech ac Ardudwy£10,142.95 – hanner y cynnig presept CyngorGOHEBIAETHGwynedd – Adran Briffyrdd Derbyniwyd llythyr yn gofyn a oes gan y Cyngor finiau halen sydd angen eu llenwi cyn y tywydd oer ac os oes angen ail lenwi unrhyw fin a fyddant yn cysylltu gyda’r Adran erbyn y 1af o Dachwedd er mwyn iddynt gael trefnu’r gwaith. Y gost o lenwi un bin halen yw £46.00. Cytunodd y Cadeirydd fynd o amgylch biniau’r ardal. Hefyd cytunwyd i ofyn a fyddai modd gosod bin halen ychwanegol ar y tro ger Pant Mawr.

Priodas ruddem

UNRHYW FATER ARALL Bydd y goleuadau Nadolig yn cael eu troi ymlaen ar y 27ain o Dachwedd a bydd eisiau gofyn i Gyngor Gwynedd a fydd hi’n bosib cau i ffwrdd hanner maes parcio Bron y Graig Isaf er mwyn cael stondinau crefft yno. Datganwyd siom o glywed bod Mr Meirion Griffith wedi dod ar draws swmp sylweddol o faw ci wrth dorri llwybrau cyhoeddus yr ardal.

19 CYNGORHARLECHCYMUNED R J TalsarnauWILLIAMS01766770286TRYCIAUIZUZU

Llongyfarchiadau i Alan a Bev Smith ar ddathlu eu priodas ruddem ar ddydd Sul, Hydref 24. Cafwyd parti dathlu ym Mistro Harlech lle dangoswyd cyfres o fideos a baratowyd gan gyfeillion. Cafwyd pnawn i’w gofio a dymuna Al a Bev ddiolch am y cyfraniadau ar ffilm. Pen-blwydd Llongyfarchiadau i Bob Major sydd wedi dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed. Shelter Cynhaliwyd stondin Calan Gaeaf yn y Castle Gift Shop fore Mawrth, 26 Hydref. Bu Judith Strevens ac Izzy Evans [ei nith, merch Richard, brawd Judith] yn brysur yn paratoi danteithion i’w gwerthu. Llwyddwyd i godi £233 tuag at Shelter sy’n cyflenwi bwyd a llety ar gyfer y digartref. Syniad Issy oedd y stondin, hithau yn Harlech ar wyliau hanner tymor. Da iawn chi! Da iawn chi!

Yn20 1978 cyhoeddodd y ‘Sunday Times’ ganlyniad y bumed gystadleuaeth flynyddol am y traethawd gorau ar gadwraeth er cof am waith y cadwraethwr Kenneth Allsop. Rhoddwyd gwobr o £250, a phwnc y gystadleuaeth oedd traethawd ar Johngadwraeth.Barrington, Cymro o dde Cymru, ond yn fugail yn Ucheldir yr Alban yn ardal Aberfoyle, enillodd y gystadleuaeth gyda’i draethawd ‘My Friend The Fox’ ac rwyf yn ddiolchgar iddo am roi caniatâd i mi ddefnyddio ei waith a’i drosi i’r Gymraeg gan obeithio bod y cyfieithiad yn gwneud cyfiawnder â’i waith (mae John Barrington - ar wahân i fod yn fugail - yn awdur poblogaidd ac yn aelod pwysig amaethyddol yn yr Alban). Les Darbyshire Fy Ffrind y Llwynog I’r cipar, mae’r llwynog yn anifail ffiaidd; i’r perchnogion tir, fermin ydyw ac angen cael gwared arno mewn unrhyw ffordd bosib. I’r bugail, ysglyfaethwr i’r praidd ydyw. Yn hanesyddol mae pob llaw yn erbyn y ‘Vulpes vulpes’ - y llwynog coch. Rwyf yn fugail ar 750 o ddefaid ar 2,000 o aceri ar dir yn ucheldir yr Alban. Yn ddiweddar rwyf wedi dod i’r casgliad nad yw fy agwedd tuag at y llwynog yn briodol ac mae ymchwil yn dangos nad yw yn cael ei le haeddiannol ym myd natur. Y llwynog sy’n hwylus i gymryd y bai am lawer o droseddau eraill. Credaf fod y llwynog yn rhan bwysig o gadwraeth yr ucheldir ac yn ffrind i’r bugail. Mae y system bresennol yn annaturiol. Mae dyn wedi clirio y goedwig naturiol er budd y crofftwyr a’r diwydiant mwyndoddi haearn, ac wedyn y tyddynnwr (crofftiwr) yn gweld y tir yn cael ei adfeddiannu i wneud lle i ddefaid y ‘Golden Fleece’.

Ydi, mae llwynogod yn lladd ŵyn, gwiriondeb fuasai dweud yn wahanol, ond yn ôl fy mhrofiad i, go brin mae hynny yn digwydd a dim ond pan mae dyn yn ymyrryd â bywyd y llwynog. Mae cŵn domestig yn lladd fwy o ddefaid na dim arall ac mae amcangyfrif bod tua pum mil o ddefaid ac ŵyn yn cael eu lladd yn flynyddol gan y cŵn Ynyma.ystod amser paru (mis Ionawr) mae’r llwynogod yn ymuno fel pâr ac o dan amgylchiadau naturiol byddant yn aros gyda’i gilydd tan ganol yr haf pan fydd y cenawon yn gallu hela bwyd gyda’u mam. Yr adeg hynny bydd y ci yn ymddeol o’r bywyd teuluol ac yn ailafael ar ei fywyd ar ei ben ei hun. Prif bwrpas y llwynog yn ystod cyfnod magu y cenawon ydy hel bwyd; mae ei gymar wedi mynd i’r ddaear a hyn tua dechrau mis Ebrill. Mae’r ci yn byw yn yr awyr agored ond mewn cyfnod o berygl mae yn aros yn y ddaear; mae yn hel bwyd ac yn ei drosglwyddo i’r llwynoges, hyn peth bellter o’r lloches. Y mwyaf hyderus yw’r llwynoges, hi sydd yn penderfynu pellter man trosglwyddo oddi wrth ei lloches. Ar ôl genedigaeth y cenawon mae’r llwynoges yn dibynnu yn llwyr ar y ci am ei chynhaliaeth ac yn aros felly tan bydd y cenawon wedi dod i’w maint a chwant bwyd arnynt. Mae’r pâr yn gorfod mynd allan i chwilio am fwyd Dyma’riddynt. adeg pan mae’r gadwyn yn cael ei thorri pan gaiff y llwynog neu’r lwynoges eu lladd, yn aml, gan helwyr neu gipar y stad. Os bydd llwynog wedi ei ladd bydd raid i’r lwynoges chwilio am fwyd i’r cenawon ac mae dal llygod pengrwn y maes yn waith anodd ac yn cymryd llawer o amser ac yn ei chadw yn hir oddi wrth ei chenawon. I ddal y llygod hyn mae’n cymryd oriau lawer ac rwyf wedi cael llawer o fwyniant yn eu gwylio. Maent fel petai yn dawnsio ar bedair coes, cynffon i fyny, clustiau yn syth yn gwrando, y corff yn llonydd cyn neidio ar y llygoden a’i dal, ond mae angen mwy nag un ac ymhen amser mae llwyth o gyrff blewog o ryw hanner dwsin yn barod i’w cludo i’r ddaear.

Heddiw cynnyrch ŵyn a gwlân sydd yn bwysig. Yn ystod mis Mai bydd fy nefaid yn cael tua 500 o ŵyn. Mae mis Mai yn edrych yn hwyr yn y flwyddyn i ŵyna ond dyma pryd mae’r gwair yn dechrau Gwairtyfu. Fescus a maeswellt (bent) gyda llus a grug ydi mwyafrif y borfa ar y mynydd ac yno mae’r llwynog yn rhoi ei wasanaeth godidog i gadw’r borfa mewn cyflwr da a glân. Mae’r math yma o borfa yn lle bendigedig i lygod pengrwn y maes (voles) fagu ac mae rhyw gant i bob acer o dir. Mae un llygoden pengron y maes yn gallu bwyta hanner can pwys o wair mewn blwyddyn a hwythau yn borfa gwych i’r llwynog; dyma ei brif fwyd. Mewn blwyddyn bu i bâr o lwynogod, yn magu cenawon, fwyta 9,000 o lygod y maes a rhyngddynt roeddent wedi gallu difa dros ddau gan tunnell o wair prin, hyn yn rhan bwysig o gadwraeth tir pori.

Fy Ffrind y Llwynog

Mae yr “Animal Breeding Research Organisation” (ABRO) yn datgan bod dau ar bymtheg y cant o’r ŵyn a anwyd ar fynyddoedd yr Alban yn marw ar enedigaeth neu ymhen pedair awr ar hugain ar ôl eu geni. Y llwynog sy’n cael bai am yr holl golled ond mae ABRO wedi profi mai’r rheswm am hyn yw diffyg bwyd addas a maethlon yn ystod y cario a hyn yn achosi i’r ŵyn gael eu geni yn wan ac yn methu gwrthsefyll effaith yr hin. Mae rhai ŵyn yn marw o achosion naturiol ac yn cynnwys tua deg o ddefaid a fu farw yn ystod genedigaeth; mae cyrff ac ysgerbwd yr anifeiliaid yn lluosog ar y mynydd yr adeg yma. Nid yw’n bosib claddu pob corff ond rwyf yn falch o’r cymorth naturiol ac yn eu mysg mae yr hen lwynog sydd yn un o’r rhai gorau am lanhau a chadw y borfa yn lân. Mae’r brain yn cymryd y llygaid o’r sgerbwd ond gall y gweddill aros yn ei unman am fisoedd oni bai iddo gael ei agor gan y llwynog neu weithiau gan fochyn daear. Daw y gigfran wedyn ar ôl y llwynog i wledda ac mae y brain a’r eryrod hefyd yn dod i fwyta, wedyn y pryfetach yn gorffen y gwaith a gadael yr esgyrn, y croen a’r gwlân. Mae’r rhan fwyaf o’r mamau yn bwyta y brych, a’r hyn sydd ar ôl ynghyd â chyrff yr ŵyn yn cael ei glirio gan y llwynog.

Ond wedyn mae’r hwyl yn dechrau - nid hawdd cludo hanner dwsin o lygod. Mae eu cael yn hwylus i’r geg yn broblem iddo, ond eto mae’n llwyddo i fynd â hwy i’r lloches. I’r lwynoges, mae dal llygod pengrwn y maes yn cymryd gormod o amser na all ei fforddio ac felly rhaid iddi gael modd i ddal rhywbeth mwy ac yn sydyn. Mae oen marw yn rhagorol ond mae un byw yn gwneud cystal os nad oes un marw ar gael. Weithiau mae’r llwynoges a’r cenawon wedi eu lladd yn y lloches ac os yw’r bwyd yn cael ei ollwng yn bell o’r lloches ni fydd y ci yn gwybod am y trallod ac yn dal i ddod a bwyd i’r storfa Buarferol.imi ymweld â lloches llwynoges a’i chenau ddeg diwrnod ar ôl iddynt gael eu mygu gan nwy. Yn ymyl y lloches, mewn llinell berffaith, roedd cyrff 14 o ŵyn, 12 o ieir, 3 iâr y mynydd, 1 ffesant, 1 mochyn daear ac 1 cwningen ddof gyda rhai o anifeiliaid eraill, ond dim llygod pengrwn y maes. Mae’n debyg bod yr ieir a’r ŵyn wedi eu lladd gan y llwynog ar ôl i’r llwynoges gael ei difa. Ond mae effaith cael eu hela yn creu rhyw fath o ddicter yn y llwynog. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf bu bugail, gyda chymorth ciperiaid a bugeiliaid eraill, yn edrych am lwynoges am ddyddiau. Yr oedd ei lloches a phob daear a oedd ganddi wedi eu harchwilio yn ofalus, ond rhywsut roedd wedi dianc ac er iddi orfod gollwng ei thiriogaeth, yn fuan ar ôl hyn bu i un o’r bugeiliaid ddod ar draws llinell o naw o ŵyn wedi eu lladd; y rhain, meddent, wedi eu lladd gan y llwynog mewn dialedd bod y llwynoges wedi cael ei gyrru o’i chylch. Ond y tebygrwydd oedd mai bwyd roedd y cadno ei hun wedi dod i’r llwynoges a’r cenawon ydoedd ac nid oedd neb yna i’w dderbyn. Credai llawer o fugeiliaid fod y llwynog yn lladd er difyrrwch, neu ddial neu gael cynffonau yr ŵyn i’r cenawon gael hwyl, ond mae hyn yn gamarweiniolnid yw llwynog yn arferol yn lladd ŵyn. Mae’r llwynog, wrth gwrs, wedi rhoi esgus da i’r bugeiliaid, sy’n ddiffygiol yn eu gwaith o edrych ar ôl eu praidd a gadael terfynau yn agored. Yn anffodus, mae angen llawer o berswâd ac addysg i ddarbwyllo bod tir glân, clir â digonedd o borfa yn cael ei fwynhau gan y praidd wedi ei hyrwyddo gan yr ‘HEN ELYN’. Yn y cyfamser, rwyf yn gwneud fy rounds i gadw trefn ar y praidd a hyfryd gweld fy ffrind y llwynog yna ... John Barrington

Care Porthmadog. Mae ein cofion a’n cydymdeimlad gyda Gwyneth Edwards, ei chwaer a Gwenfron a Jac yn Bod Gwilym, Llanaber.

Stori fer arall sydd gen i yw hanes dreifar articulated lorry yn stopio a thynnu i mewn yn Ffordd yr Orsaf, Bermo yn yr 80au pan o’n i ar ddyletswydd un diwrnod. Gofynnodd y dreifar wrtha’i, pan edrychodd i lawr ar bisyn o bapur ar ei clipboard, os o’n i’n gyfarwydd â rhyw gyfeiriad yn y dref. Dyma fi’n gofyn wrtho am weld y pisyn papur a sylwi bod o yn y dref anghywir, a dwi’n cofio deud wrtho, “I’m sorry, but it’s not Barmouth you want, it’s Bournemouth you want”. Dyma ei wyneb yn cwympo. Roedd ganddo oriau o waith trafaelio, y creadur, i lawr i waelod Lloegr; taith rhwng 6 ac 8 awr, bron i 300 milltir. Y dyddia yma fase’r dreifar ddim wedi gwneud y fath gamgymeriad gyda’r dechnoleg sydd ar gael, sef y Sat Nav.

Cydymdeimlad Diwedd mis Medi bu farw Meirwen Davies yng nghartref Nyrsio Meddyg

Rydym yn anfon ein cofion cynnes at aelodau a pherthnasau sydd wedi bod yn wael. Darllenwyd llythyr gan Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, yn dymuno’n dda i’r canghennau ar ddechrau tymor newydd a chofiwch bod nifer o weithgareddau yn parhau ar-lein. Llongyfarchiadau i Morwena ar ennill clod uchel yn yr Adran Grefft, Sioe Llanelwedd. Y dasg oedd gwneud anifail unrhyw gyfrwng, unrhyw faint, ac fe ddewisodd eliffant. Yng nghyfarfod mis Hydref, ein man cyfarfod oedd Canolfan Hamdden y Pafiliwn. Croesawodd Llewela ni yn gynnes a diolchodd i Jean am drefnu Brethyn Cartref. Cawsom bnawn difyr iawn gyda phawb yn hel atgofion, er enghraifft, cystadlu ac ennill mewn eisteddfodau lleol, cenedlaethol a Llangollen. Roedd rhaid dysgu i golli ac ennill. Eraill wedi cwrdd â chyfeillion a theulu o Llanbedr a’r ardal er ymhell o gartref. Un yn hoff o gerdded mynyddoedd ac wedi cerdded rhan o’r ‘Pennine Way’. Diolch i bawb am rannu eu storïau. Edrychwn ymlaen at ein cyfarfod ar 16 Tachwedd - ‘gwneud cardiau’ yng ngofal Morwena.

Y BERMO A LLANABERStoriarallganMeirionJones

Llongyfarchiadau Ar 9 Hydref dathlodd Sybil a Robert Wyn Jones, Cader Beti, 67 mlynedd o fywyd priodasol. Pob dymuniad da i chi.

Merched y Wawr Croesawyd ni i gyfarfod cyntaf y tymor gan Llewela. Roedd yn bnawn hynod o braf a naw aelod yn bresennol. Cawsom bryd canol dydd blasus yn Hendrecoed Isaf, Llanaber, gydag golygfeydd hyfryd o’r traeth - pnawn hamddenol a chartrefol.

21

Cawn yma stori’r Hennessys o safbwynt un o’r triawd, Dave Burns; a dyma, yn gryno, hanes Gwyddelod alltud Caerdydd. Mae hi’n stori sy’n absennol o’n llyfrau hanes, yn olrhain stori triawd a gyfoethogodd y sîn canu gwerin yng Nghymru a thu hwnt. Mae hi’n byrlymu o fwyniant ac o ganu, cymysgedd afieithus o’r hwyl a’r craic.

Pan ffurfiwyd yr Hennessys ganol y chwedegau fe wnaethon nhw sylweddoli’n fuan iawn fod ganddyn nhw broblem o ran hunaniaeth. Cymerai’r triawd yn ganiataol mai band Gwyddelig oedden nhw oedd yn digwydd byw yng Nghaerdydd. Yna, ar ddiwedd sesiwn yn Ninas Corc dyma rhywun yn gofyn pam nad oedden nhw’n canu caneuon Cymraeg? Dyma, yn syml, drobwynt o ran hanes y band. Daethant i sylw arloeswyr oedd yn hyddysg yn y byd gwerin Cymraeg a’r rheiny’n ddylanwadol yn y cyfryngau – Meredydd Evans, Rhydderch Jones a Ruth Price. Llyfr clawr caled hardd sy’n gyfuniad o ryseitiau ac atgofion teuluol gan yr actores ac awdures boblogaidd sydd hefyd yn gogyddes wych! Dywed Rhian fod coginio iddi hi yn ffordd o gyfleu ei chariad at ei theulu a’i ffrindiau. Crëwyd y lluniau gan Kristina Banholzer. Corff gwraig yn y Ddyfrdwy a thrasiedi yn Llŷn, nofel goll, dyddiadur cudd, dryswch yn achau’r teulu. Mae rhyw ddirgelwch neu gyfrinach yng ngorffennol pob un ohonom ond unlle’n fwy nag ym mywyd yr awdures fyd-enwog Veronique ac yn hanes teulu Sisial y Traeth yn Abersoch. Mae sawl dirgelwch i’w ddatrys, ym marn y gohebydd Huw Peris, ond a fydd ymyrryd yn costio’n ddrud iddo?

LLYFRAU

nofel gan yr awdur poblogaidd John Alwyn Griffiths am ymchwiliadau troseddol y Ditectif Jeff MaeEvans.Meira, gwraig Ditectif Jeff Evans, yn cael ei bwlio ar y cyfryngau cymdeithasol gan rywun anhysbys. Mae cyfrifon ffug yn cael eu defnyddio i wneud sylwadau celwyddog a chas amdani hi ac aelodau eraill grŵp Facebook Cyfeillion Glan Morfa – oes cysylltiad rhwng hyn â llofruddiaeth dynes yn ei phedwardegau yn ei chartref ei hun yn y dref? A beth fydd rhan Nansi’r Nos, hysbysydd ffyddlon Jeff, yn y cyfan?

22Yddegfed

Dilyniant o straeon atgofus yn cynnig portread cynnes o berthynas unigryw rhwng mam a mab dros ugain mlynedd ac o gymdeithas wledig ar Ynys Môn sy’n prysur ddiflannu. Mae Gwyn wedi symud o Fôn i Ddulyn ar gyfer ei waith ers blynyddoedd bellach, gan ddychwelyd bob hyn a hyn i weld ei fam oedrannus, ond pan ddechreua ei hiechyd waethygu, mae ei ymweliadau yn dod yn fwy mynych. Wrth iddo fynd â’i fam am dro yn y car o amgylch arfordir yr ynys, mae hi’n hel atgofion am ei bywyd: pob traeth a phentref a llwybr yn ysgogi stori, ac yn ei hatgoffa o’r rhai a gollwyd ar hyd y blynyddoedd.

GORYMDAITH LLUSERN A SIOPA HWYR YN HARLECH Nos Sadwrn, 27 Tachwedd am 5.00 o’r gloch Cadwch y dyddiad yn glir! Cofiwch am SIOEHARLECHARDDIO Tachwedd 6 am 2.00 yn y Neuadd Goffa a chofiwch gystadlu!

Roedd Heulwen Evans yn arweinydd yno ers dros ugain mlynedd ond bellach wedi rhoi’r awenau i Jackie Hooban. Mae’r gymuned yn un glos a’r plant yn dod o amryw o gefndiroedd gwahanol, ond yn dysgu’r Gymraeg yn fuan yn y Cylch Meithrin. Bu llawer iawn o newidiadau yn y Cylch ond heddiw mae ystafell bwrpasol yn y Neuadd Gymuned newydd sydd yn golygu llawer llai o waith gosod a chlirio’r dodrefn a’r adnoddau. Hoffai’r Cylch

ddiolch yn fawr iawn i rieni dros y blynyddoedd ynghyd â’r gymuned leol am eu cefnogaeth barhaus. Cylch Meithrin Llanbedr Partí Nadolig yn yr hen Neuadd Bentref Dathlu pen-blwydd Mudiad Meithrin yn 25 mlwydd oed Plant yn y Cylch yn 1992 Cylch Meithrin Llanbedr 2003/2004 Plant y Cylch yn mynd am dro yn 2018 Bu Heulwen Evans yn Arweinydd yn y Cylch am dros 20 mlynedd a bu’r Cylch yn brysur yn ennill bob math o gymwysterau a gwobrau Part Nadolig y Cylch yn 2020

23

Agorwyd y Cylch Meithrin ym mis Medi 1978, ar ôl i griw o rieni cefnogol iawn godi arian i brynu offer angenrheidiol. Roedd 8 o blant ar y gofrestr a Mair Richards fel arweinydd gyda’r mamau yn barod iawn i gymryd tro fel cymhorthydd. Erbyn hyn, mae’r Cylch yn mynd o nerth i nerth.

ALUNBLWCHHYSBYSEBUGALLWCHYNYHWNAM£6YMISWILLIAMS TRYDANWR*Cartrefi*Masnachol*Diwydiannol Archwilio a Phrofi Ffôn: 07534 178831 TelerauHYSBYSEBIONe-bost:alunllyr@hotmail.comganAnnLewis01341241297 Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru ALAN RAYNER 07776 181959 ARCHEBU A CARPEDIGOSOD Sŵn y Gwynt, www.raynercarpets.co.ukTalsarnau CAE DU DESIGNS DEFNYDDIAU DISGOWNT GAN GYNLLUNWYR Stryd Fawr, Harlech Gwynedd LL46 2TT 01766 780239 ebost: sales@caedudesigns.co.ukDilynwchni: Oriau agor: Llun - Sadwrn 10.00 tan 4.00 Tafarn yr LlanuwchllynEryrod 01678 540278 Bwyd cartref blasus Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd E B RICHARDS Ffynnon 01341LlanbedrMair241551 CYNNAL EIDDO O BOB MATH Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb. GWION ROBERTS, SAER COED 01766 771704 / 07912 gwionroberts@yahoo.co.uk065803 dros 25 mlynedd o JASONbrofiadCLARKE Maesdre, 20 Stryd golchipeiriannauPenrhyndeudraethFawrLL486BNArbenigwrmewngwerthuathrwsiosychudillad,dilladagolchillestri. Gwasanaeth Cadw Llyfrau a Marchnata Glanhäwr Simdde • Chimney Sweep Gosod, Cynnal a Chadw Stôf Stove Installation & Maintenance 07713 703 222 Glanhäwr Simdde Gosod, Cynnal a Chadw Stôf 01766 770504 Am argraffu diguro Holwch Paul am paul@ylolfa.combris! 01970 832 304 Talybont Ceredigion SY24 5HE www.ylolfa.com H Williams Gwasanaeth cynnal a chadw yn eich gardd Ffôn: 01766 762329 07513 949128 NEAL PARRY Bwlch y Garreg Harlech CYNNAL A TUCHADWMEWN A THU 07814ALLAN900069 Llais Ardudwy Drwy’r post Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, £7.70llaisardudwy@outlook.comE-gopillaisardudwy@outlook.comLlanbedryflwyddynam11copi Am hysbysebu yn Llais Llandanwg,ManylionArdudwy?gan:AnnLewisMin-y-môrHarlechLL462SD01341241297 07713 703222

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.