“Noson Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss: Brwsel yw’r cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau a gynhelir yn 2017 i nodi canmlwyddiant Brwydr Passchendaele, lle lladdwyd neu anafwyd 3,000 o ddynion y 38ain Adran (Gymreig). Ymhlith y rhai a gollwyd oedd y bardd enwog o Gymru, Hedd Wyn, a laddwyd yn ystod Brwydr Pilckem Ridge ond ychydig wythnosau cyn yr enillodd y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Hefyd, cynhelir nifer o ddigwyddiadau diwylliannol yng Nghymru a thramor yn 2017. Rwy’n ddiolchgar i Llenyddiaeth Cymru am drefnu’r digwyddiad, i Passa Porta am gael ei gynnal yno ac i’r rhai sy’n cymryd rhan. Rwy’n arbennig o falch y bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar waith Hedd Wyn ac awduron Ffleminaidd o’r cyfnod. Mae’n rhan o raglen o weithgareddau sy’n cael eu trefnu ar y cyd gyda Chynrychiolaeth Gyffredinol Llywodraeth Fflandrys yn y DU.
Mae canmlwyddiant colli Hedd Wyn yn ganolog i raglen goffáol Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 yn 2017, sy’n cynnwys Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol Trydedd Frwydr Ypres (Passchendaele) ar 31 Gorffennaf, ac ailagoriad swyddogol cartref teuluol Hedd Wyn, Yr Ysgwrn, ar 6 Medi yn dilyn ei adnewyddiad.
Dymunaf bob llwyddiant i drefnwyr a chyfranogwyr y noson, fydd yn rhoi cipolwg diddorol iawn inni o lenyddiaeth cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf a 1917 yn benodol.”
Caiff Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss ei arwain gan Llenyddiaeth Cymru, ac fe’i noddir gan Raglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru Cymru’n Cofio Wales Remembers 19141918, ac mewn partneriaeth â Llywodraeth Fflandrys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r prosiect ehangach yn cynnwys digwyddiadau coffáol yn Fflandrys ac
Iwerddon; cyfnewidfa breswyl ar gyfer awduron rhwng Passa Porta ym Mrwsel a Chanolfan Ysgrifennu Ty Newydd, Llanystumdwy; a sioe farddoniaeth amlgyfrwng newydd gan Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, am fywyd Hedd Wyn dan y teitl Y Gadair Wag – i’w llwyfannu ym Medi 2017.
Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru
Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss: Brwsel
Passa Porta, Brwsel Dydd Mawrth 23 Mai 2017 8.00 pm
Passa Porta, Brussel Dinsdag 23 mei 2017 20u00
Noson o farddoniaeth, cerddoriaeth a thrafodaeth yn archwilio bywyd a gwaith Hedd Wyn a beirdd eraill y Rhyfel Byd Cyntaf.
Een avond vol poĂŤzie, muziek en debat over het leven en het werk van de Welshe dichter Hedd Wyn en andere dichters uit de Eerste Wereldoorlog.
Gydag: Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru Geert Buelens Nerys Williams Patrick McGuinness Gwyneth Glyn
Met als gastsprekers: Ifor ap Glyn, Nationaal Dichter van Wales Geert Buelens Nerys Williams Patrick McGuinness Gwyneth Glyn
Trefnir y noson gan Llenyddiaeth Cymru a chaiff ei ariannu gan Llywodraeth Cymru fel rhan o brosiect ehangach Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss.
Georganiseerd door Literature Wales met financiĂŤle steun van de Welshe overheid als deel van het grotere Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss project.
Perfformwyr
[Llun © Rhys Llwyd]
Ifor Ap Glyn yw Bardd Cenedlaethol Cymru. Wedi’i eni a’i fagu yn un o Gymry Llundain, mae’n fardd, cyflwynydd, cyfarwyddwr ac yn gynhyrchydd teledu sydd wedi ennill nifer helaeth o wobrau yn y meysydd amrywiol hyn. Mae’n Brifardd sydd wedi ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, yn 1999 ac eto yn 2013. Ef oedd Bardd Plant Cymru rhwng 2008 – 2009. Mae Ifor wedi camu ar lwyfannau amrywiol ar draws y byd gan berfformio mewn gwyliau megis Gwyl Werin y Smithsonian yn Washington, DC.
Nationaal Dichter van Wales. Hij won verschillende prijzen voor zijn televisiewerk: als presentator, regisseur en producer.
[Llun © Bob Bronshoff]
Mae Geert Buelens yn fardd, beirniad, awdur ac Athro Llên Gyfoes Fflandrys ym Mhrifysgol Utrecht, ac yn athro gwadd ym Mhrifysgol Stellenbosch. Cyhoeddwyd ei gasgliad cyntaf o gerddi Het is (Y mae) gan Meulenhoff yn 2002, gan ennill Gwobr Lucy B. & C. W. van der Hoogt. Mae ei gerddi wedi’u cyfieithu i’r Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Pwyleg a Tsiec. Enillodd Europa Europa! (Ambo), ei gyfrol ar feirdd Ewropeaidd y Rhyfel Byd Cyntaf, sawl gwobr ac fe’i cyfieithwyd i’r Almaeneg a’r Saesneg. Bydd ei lyfr newydd, ar hanes diwylliannol y Chwe Degau, yn cael ei gyhoeddi yn 2017. Een bekroonde dichter, criticus en essayist. Professor Moderne Nederlandse Letterkunde aan de Universiteit van Utrecht.
[Llun © Andy Morgan]
[Llun © Barney Jones]
Astudiodd Gwyneth Glyn Athroniaeth a Diwinyddiaeth yng Ngholeg Iesu Rhydychen, cyn dychwelyd i Gymru i ddilyn gyrfa fel awdur a cherddor. Mae wedi perfformio mewn gwyliau a chyngherddau ar draws y byd, gan gynnwys Gwyl Werin y Smithsonian yn Washington, DC, a ledled India fel rhan o Ghazalaw, ei chywaith gyda’r canwr ghazal Tauseef Akhtar.
Patrick McGuinness yw awdur The Last Hundred Days (Seren), a gyrhaeddodd Restr Hir y Man Booker Prize 2011, Rhestr Fer y Costa First Novel Award 2011, ac fe enillodd Brif Wobr Llyfr y Flwyddyn 2012 a’r Writers’ Guild Prize for Fiction 2012. Enillodd ei gyfrol Other People’s Countries (Vintage) Brif Wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2015.
Hi oedd Bardd Plant Cymru o 2006-2007, ac mae’n ysgrifennu’n helaeth i’r theatr a’r teledu.
Mae’n gymrawd Coleg Anne, Rhydychen ble mae’n darlithio mewn Ffrangeg. Mae’n byw yng Nghaernarfon.
Auteur, dichter en songwriter die wereldwijd optrad op verschillende festivals
Een uiterst gerespecteerd romanschijver en auteur, genomineerd voor de Man Booker Prize in 2011.
Preswyliadau Llenyddol
Passa Porta, Brwsel Ym mis Mai, bydd y bardd a’r academydd Nerys Williams yn cyflawni preswyliad llenyddol ym Mrwsel, gan archwilio’r tebygrwydd rhwng hanes Hedd Wyn a’r bardd o Iwerddon Francis Ledwidge. Bu farw’r ddau yn Ypres ar 31 Gorffennaf 1917. Yn ystod ei phreswyliad, bydd Nerys yn ymweld ag ardal Artillery Wood, ble claddwyd y ddau fardd. Yn wreiddiol o Sir Gaerfyddin, mae Nerys Williams bellach yn Athro Cysylltiol mewn Llên Americanaidd yng Ngholeg Prifysgol Dulyn, ac yn gynfyfyriwr Fulbright. Mae Nerys wedi ysgrifennu’n helaeth ar farddoniaeth gyfoes ac enillodd ei chyfrol
o gerddi Sound Archive (Seren, 2011) sawl gwobr. Hi sy’n dal gwobr cerdd unigol Teddy McNulty Poetry Ireland, ac mae’n byw yn Kells, Co. Meath, Iwerddon, gyda’i gwr a’i merch. Prif leoliad y preswyliad fydd Passa Porta (www.passaporta.be), Ty Rhyngwladol Llenyddiaeth ym Mrwsel. Mae Passa Porta wedi ei leoli yng nghanol Brwsel, ac mae’n lleoliad unigryw i awduron, darllenwyr, cyfieithwyr a hyrwyddwyr llên o bob cwr o’r byd gyfarfod a gweithio. Dyddiadau’r Preswyliad: Dydd Llun 8 – Dydd Sul 28 Mai 2017
Ty Newydd, Llanystumdwy Ty Newydd yw canolfan ysgrifennu genedlaethol Cymru. Mae’r ganolfan yn cynnal rhaglen flynyddol o gyrsiau ysgrifennu creadigol ac encilion i gynulleidfa o bob oed a gallu, yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae Ty Newydd, sy’n hen gartref i’r cyn Brif Weinidog David Lloyd George, wedi’i leoli yn Llanystumdwy yng Ngwynedd. Mae Ty Newydd, sy’n hen gartref i’r cyn Brif Weinidog David Lloyd George, wedi’i leoli yn Llanystumdwy yng Ngwynedd, a caiff ei
redeg gan Llenyddiaeth Cymru, y cwmni cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu llenyddiaeth yng Nghymru. Yn mis Tachwedd, bydd llenor o Fflandrys yn cyflawni preswyliad llenyddol yn Nhy Newydd fel rhan o brosiect ehangach Barddoniaeth Colled. www.tynewydd.cymru
“Mae Barddoniaeth Colled, a rhaglen ehangach Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, yn gyfle i Gymru atgyfnerthu ei chysylltiadau diwylliannol gydag Ewrop ac i hyrwyddo’i threftadaeth ddiwylliannol i gynulleidfaoedd newydd. Yn ogystal â Fflandrys, mae gan y rhaglen ehangach gysylltiadau ag Iwerddon, megis hanes y bardd Francis Ledwidge a fu farw, fel Hedd Wyn, ar 31 Gorffennaf 1917 yn Ypres. Byddwn yn defnyddio llenyddiaeth, celfyddyd a hanes i archwilio themâu o ryfel a dadleoliad, themâu sydd mor arwyddocaol heddiw ag yr oeddent gan mlynedd yn ôl.”
I ddarganfod mwy am brosiect Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss, ewch i: www.llenyddiaethcymru.org Am ragor o wybodaeth ynglyn â Rhaglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, ewch i: www.cymruncofio.org
Lleucu Siencyn Prif Weithredwr, Llenyddiaeth Cymru
[Canolfan Ysgrifennu Ty Newydd. Llun © Richard Outram]
Hedd Wyn Hedd Wyn oedd y bugail-fardd a ddaeth i fod yn symbol o’r genhedlaeth a gollwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu farw Ellis Evans (1887 – 1917), oedd yn adnabyddus dan yr enw barddol Hedd Wyn, yn ystod Rhyfel Passchendaele. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917 gyda’r gerdd ‘Yr Arwr’ sawl wythnos yn dilyn ei farwolaeth. Gorchuddiwyd y Gadair â mantell ddu pan ddatgelwyd y trasiedi yn ystod y seremoni. Yn rhyfeddol, cerfiwyd y Gadair Ddu – fel mae’n cael ei hadnabod heddiw – gan Eugeen Vanfleteren, ffoadur rhyfel o Fflandrys. Bydd y gadair wreiddiol yn cael ei harddangos yn Yr Ysgwrn, fferm deuluol y bardd, sydd bellach yn cael ei redeg gan Barc Cenedlaethol Eryri. I ddysgu mwy am Yr Ysgwrn, ewch i: www.yrysgwrn.com Hedd Wyn – Llun: Trwy garedigrwydd APCE
RHYFEL
OORLOG
Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng, A Duw ar drai ar orwel pell; O’i ôl mae dyn, yn deyrn a gwreng, Yn codi ei awdurdod hell.
Wee mijn leven in deze vreselijke tijd, Waar God aan de einder wegdeemstert, Opnieuw stellen mensen klein en groot Hun vreselijke dwingelandij.
Pan deimlodd fyned ymaith Dduw Cyfododd gledd i ladd ei frawd; Mae swn yr ymladd ar ein clyw, A’i gysgod ar fythynnod tlawd.
Wanneer de mens zich van God afkeerde Verhief hij ‘t zwaard om zijn broer te doden, Het strijdgewoel zindert in onze oren na En wierp zijn schaduw op armtierige woonsten.
Mae’r hen delynau genid gynt Ynghrog ar gangau’r helyg draw, A gwaedd y bechgyn lond y gwynt, A’u gwaed yn gymysg efo’r glaw.
Nu hangen d’oude harpen In de takken van de treurwilgen, Jongenskreten hebben de wind gevoed En de regen vermengde zich met hun bloed.
HEDD WYN
HEDD WYN Vertaald door / cyfieithwyd gan Lieven Dehandschutter Gepubliceerd in / cyhoeddwyd yn: Een Herder-Oorlogsdichter (Gwasg Carreg Gwalch, 2017)