Llenyddiaeth Cymru Dathlu a Chefnogi Geiriau o Bob Math 2016-19
1
llenyddiaethcymru.org
Prif Weithredwr Lleucu Siencyn post@llenyddiaethcymru.org 029 2047 2266 @LlenCymru llenyddiaethcymru.org
2
Clawr a’r dudalen hon: Gw ˆyl Lenyddiaeth Dinefwr / Llun: Emyr Young
Cynnwys
4
Cyflwyniad
6
Ein Cenhadaeth
8
Ein Gwerthoedd
10
Pwy Ydym Ni
12
Ein Hamgylchedd
16
Ein Gweithgareddau 16 Cymryd Rhan 18 Plant a Phobl Ifanc 20 Cefnogi Awduron 22 Rhyngwladol 24 Creadigrwydd Digidol
3
26
Sut Rydym Wedi Ein Trefnu
28
Rhagolygon Ariannol
Cyflwyniad
Dathlu a Chefnogi Geiriau o Bob Math Llenyddiaeth yw un o’r ffurfiau celfyddydol mwyaf hygyrch. Yn ystod ein bywydau mae straeon ym mhobman o’n hamgylch; mewn llyfrau, ar bosteri, ar sgriniau, ar lwyfan ac arlein. Caiff geiriau ysgrifenedig a llafar eu plethu’n greadigol i’n cyffroi ac i wneud i ni chwerthin. Mae geiriau yn ein diddanu, ein haddysgu a’n hysbrydoli. Mae Llenyddiaeth Cymru yn sicrhau y caiff llenyddiaeth ei chynnal a’i chefnogi fel ffurf gelfyddydol ddemocrataidd sy’n perthyn i bawb. Mae’r cynllun hwn yn dangos sut y bwriadwn ddatblygu’r gwaith a ddechreuwyd pan sefydlwyd Llenyddiaeth Cymru yn 2011. Fel un o Gwmnïau Cenedlaethol Cyngor Celfyddydau Cymru, mae gennym rôl allweddol wrth arwain y sector. Fodd bynnag, gwyddom na allwn fod yn gyfrifol am bob gweithgarwch llenyddol yng Nghymru. Yn ystod y blynyddoedd nesaf, bydd ein pwyslais ar hwyluso rhaglenni a digwyddiadau llenyddol, gan weithio gyda hyd yn oed mwy o bartneriaid ac allestyn ymhellach.
4
Rydym wedi mireinio ac ailddiffinio ein nodau ac amcanion craidd, gan fynd i’r afael â strategaethau’r llywodraeth sydd â’r nod o leihau tlodi, gwella llythrennedd a chyflogadwyedd a hybu lles. Ym mhob elfen o’n gwaith, ein nod yw rhoi cyfle cyfartal i bob person ifanc yng Nghymru i ddod ar draws llenyddiaeth ar bapur ac ar lafar ac i ddatblygu ei greadigrwydd ei hun. Rydym yn ymrwymedig i gefnogi holl awduron Cymru: rydym am iddynt ffynnu a chael rhagor o gyfleoedd i arddangos eu gwaith ar lwyfannau byd-eang. Yma ac ym mhob rhan o’n gwaith, mae partneriaethau’n allweddol ac rydym yn ymuno ag eraill i ddatblygu cyfleoedd newydd, yng Nghymru a thu hwnt, ar gyfer
ein hawduron boed yn brofiadol neu’n newydd i’w crefft. Drwy ddod ag arian a chyfleoedd i ystod ehangach o sefydliadau ac unigolion, bydd Llenyddiaeth Cymru yn sicrhau y caiff llenyddiaeth ei chlywed, ei darllen a’i thrysori ym mhob rhan o’r wlad.
5
Lolfa Lên
Ein Cenhadaeth
Llenyddiaeth i Bawb Mae llenyddiaeth yn perthyn i bawb ac ar gael ymhob man. Drwy eiriau rydym yn canfod bydoedd newydd. Drwy weithio gydag eraill mewn ystod eang o gymunedau, gall Llenyddiaeth Cymru wneud llenyddiaeth yn llais i bawb. Cymryd Rhan
Cefnogi Awduron
Plant a Phobl Ifanc
Gwella cyfleoedd er mwyn i bawb ddod i gysylltiad â llenyddiaeth ledled Cymru.
Datblygu a chefnogi awduron ar bob cam o’u gyrfa lenyddol i gyflawni eu llawn botensial.
Cynnig rhagor o gyfleoedd i blant a phobl ifanc greu a mwynhau’r byd llenyddol o’u hamgylch beth bynnag eu hoedran, gallu a’u cefndir.
ynyddu’r amrywiaeth o C weithgarwch llenyddol a gaiff ei ddarparu drwy weithio gyda phartneriaid Gweithio gyda mwy o bobl sydd mewn perygl o gael eu datgysylltu’n gymdeithasol neu barhau i fod wedi’u datgysylltu Sbarduno a chefnogi gweithgarwch cynaliadwy dan arweiniad lleol
ynnig cymorth i awduron er C mwyn iddynt allu rhagori yn eu maes Annog awduron i fod yn arloesol ac arbrofol yn eu gwaith Datblygu cyfleoedd ymarferol a chyfleoedd datblygu penodol i awduron ifanc
Rhyngwladol
Creadigrwydd Digidol
Gweithio mewn partneriaeth er mwyn codi proffil awduron a llenyddiaeth Gymreig.
Defnyddio creadigrwydd digidol i hyrwyddo ac annog rhagor o bobl i ymgysylltu â llenyddiaeth.
wyluso, cynghori a chydweithio H ar brosiectau rhyngwladol Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer cynyddu amlygrwydd awduron o Gymru ar lwyfan byd-eang Dysgu a thyfu drwy gyfnewid arfer da a diwylliant
6
ynyddu nifer y plant a phobl C ifanc yng Nghymru sy’n dod i gyswllt â llenyddiaeth o safon uchel yn ei holl ffurfiau Defnyddio geiriau i roi’r cyfle a’r hyder i blant a phobl ifanc fynegi eu hunain Mynd i’r afael â thlodi diwylliannol, llythrennedd a sgiliau cyfathrebu drwy fwynhad o lenyddiaeth
weithio gyda chynulleidfaoedd G newydd a chynulleidfaoedd anodd eu cyrraedd Creu mwy o gynnwys ac adnoddau digidol i gynyddu gwerth a gwaddol ein gweithgareddau Gwella mynediad at greadigrwydd drwy lwyfannau a sgiliau digidol
Darluniwyd gan Sarah Edmonds
7
Ein Gwerthoedd
Gwerth Geiriau i’n Cenedl Mae gwerthoedd Llenyddiaeth Cymru yn llywio sut y byddwn yn gwneud penderfyniadau strategol, yn cynllunio ac yn cyflawni pob menter a phrosiect.
Credwn yn y canlynol: mae llenyddiaeth yn perthyn i bawb.
mewn rhoi grym i bobl, grwpiau a chymunedau.
ceir y canlyniadau gorau drwy gydweithio ag eraill.
Ein cyfrifoldeb ni yw gwneud llenyddiaeth yn hygyrch i bawb drwy ymestyn y diffiniad traddodiadol ohoni, mynd â hi i leoliadau newydd ac annisgwyl, cadw prisiau’n deg a chyfathrebu’n dda gyda phob cynulleidfa.
Byddwn yn eu cefnogi drwy gynnig ein harbenigedd yn ogystal â darparu’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i ddatblygu eu rhaglenni, digwyddiadau a chynlluniau llenyddol lleol eu hunain.
Wrth ddarganfod tir cyffredin o ran strategaeth a gweithio mewn partneriaeth, rydym yn atgyfnerthu ein sefydliad a’r gwaith rydym yn ei wneud.
mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i leisio’u barn ac adrodd eu hanesion.
mae llenyddiaeth yn fuddiol i ni a gall wella ein bywydau.
dylai sefydliadau celfyddydol sicrhau gwerth am arian.
Rydym yn cefnogi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn sy’n nodi y dylent gael “yr hawl i ymlacio a chwarae, ac i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau diwylliannol, artistig a gweithgareddau hamdden eraill”.
Byddwn yn gosod llenyddiaeth wrth wraidd agendâu lles, llythrennedd, cyflogaeth a sgiliau i sicrhau y caiff ei gweld fel rhan annatod o fywyd cytbwys, ymgysylltiol ac iach.
Drwy ddatblygu a sicrhau nawdd o ffynonellau amrywiol byddwn yn adeiladu dyfodol cynaliadwy ar gyfer llenyddiaeth yng Nghymru.
8
Darluniwyd gan Sarah Edmonds
9
Pwy Ydym Ni
Ein Stori Llenyddiaeth Cymru, a sefydlwyd yn 2011, yw’r cwmni cenedlaethol ar gyfer datblygu llenyddiaeth yng Nghymru. Mae Llenyddiaeth Cymru yn gyfrifol am arwain y sector ac mae’n cydweithio â sefydliadau ac unigolion sy’n cyfrannu at hyrwyddo, creu a mwynhau llenyddiaeth yng Nghymru. Mae’r cwmni’n cynnwys Canolfan Ysgrifennu Ty ˆ Newydd ac rydym yn gweithio’n agos gyda’r Academi Gymreig, sef y gymdeithas genedlaethol ar gyfer awduron Cymru. Rydym yn galluogi a hwyluso gweithgarwch mewn lleoliadau amrywiol: p’un a’i trwy noddi gweithdy barddoniaeth Minecraft mewn ysgol; darparu cyngor ar ba awduron all gymryd rhan mewn digwyddiadau rhyngwladol mawr; gweithio gyda phrifysgol ar elfen allestyn o brosiect academaidd; neu gysylltu â busnesau lleol yngly ˆn â chomisiynau barddoniaeth gyhoeddus gan Fardd Cenedlaethol Cymru. Rydym yn rhoi cyngor arbenigol ar awduron addas a sut i drefnu digwyddiadau, yn ogystal â chynnig arian tuag at gostau gweithgaredd. Mae’r rôl hon fel hwylusydd yn golygu bod ein
10
harbenigedd a’n gwybodaeth o’r sector yn cyfrannu at weithgarwch cynaliadwy, parhaus, sy’n cefnogi twf creadigrwydd yng Nghymru. Rydym yn hyfforddi awduron i weithio gyda grwpiau ac oedrannau amrywiol ac i hyrwyddo’r arlwy o weithgaredd llenyddol sydd ar gael. Mae Llenyddiaeth Cymru hefyd yn cynnal rhaglenni sy’n cynorthwyo ein hawduron i greu a chyflwyno gwaith newydd a pharhau gyda’u datblygiad proffesiynol. Rydym yn cyflawni prosiectau uchelgeisiol sy’n cyfrannu at oresgyn rhai o’r heriau a wynebwn heddiw. Mae’r rhain yn cynnwys gweithdai gyda charcharorion i ysgrifennu straeon i’w darllen i’w plant, cynnal cyrsiau yn Nhy ˆ Newydd ar gyfer cyn-ddefnyddwyr cyffuriau, a gweithio gyda’r gymuned Sipsi Roma i ddatblygu
2016-19
ffilmiau ac animeiddiadau byr a ysbrydolwyd gan Roald Dahl. Drwy raglenni megis Menter Datblygu Llenyddiaeth De Cymru, rydym wedi dangos bod llenyddiaeth yn rhan o gymdeithas fwy cydlynol, iach a chymhellol. Drwy weithio gyda phobl ifanc drwy fentrau Awdur Pobl Ifanc Cymru a Bardd Plant Cymru, mae Llenyddiaeth Cymru yn deall bod hoffter o eiriau yn dechrau’n gynnar. Pw ˆer stori i ddal dychymyg plant ifanc iawn yw’r garreg gamu at lythrennedd gydol oes.
Bob blwyddyn, rydym yn cyrraedd dros 160,000 o bobl a 60,000 o bobl ifanc drwy ein gweithgareddau llenyddol dros Gymru.
11
Cwrs ysgrifennu Ty ˆ Newydd / Llun: Keith Morris
Gweithio mewn Byd sy’n Newid
Ein Hamgylchedd Mae holl waith Llenyddiaeth Cymru wedi’i leoli yn, ac yn ymateb i fywyd diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol Cymru. O fewn y cyd-destun hwn, rydym yn llunio rhaglenni sy’n cyfrannu at y nod o greu cyfleoedd i bawb yng Nghymru.
Diwylliannol
Rhyngwladol
Cymdeithasol a Gwleidyddol
Mae Llenyddiaeth Cymru yn arwain y sector llenyddol, ond nid yw’n gyfrifol am yr holl weithgarwch llenyddol yng Nghymru o bell ffordd. Llenyddiaeth Cymru yw’r canolbwynt ar gyfer cysylltu â’r gymuned ffyniannus hon a’i chefnogi; cymuned sy’n cynnwys cystadlaethau barddoniaeth, gwyliau lleol, cylchoedd ysgrifennu, grwpiau llenyddol, yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd.
Mae gan Gymru artistiaid o’r radd flaenaf sydd â’r gallu i greu a pherfformio ochr-yn-ochr â’u cymheiriaid o bob cwr o’r byd. Mae Gillian Clarke, Sarah Waters, Gwyneth Lewis ac Owen Sheers, ymysg eraill, yn fyd-enwog am eu crefft.
Mae Llenyddiaeth Cymru yn gosod llenyddiaeth wrth wraidd agendâu lles, llythrennedd, cyflogaeth a sgiliau. Ymdrechwn i sicrhau y caiff llenyddiaeth ei gweld fel rhan hanfodol o fywyd cytbwys, ymgysylltiol ac iach, ac i gefnogi amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru.
Mae Cymru’n wlad ddwyieithog gyda threftadaeth gref yn y ddwy iaith. Rydym bob amser yn chwilio am gyfleoedd ar gyfer cydweithio rhwng y ddwy iaith ac ieithoedd eraill, yn ogystal â rhannu profiadau gyda gwledydd a chymunedau dwyieithog eraill ledled y byd.
12
Mae’n bwysig bod ein hawduron newydd yn hawlio eu lle ar y llwyfan hwn hefyd. Mae Llenyddiaeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid megis y British Council, Llywodraeth Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyfnewidfa Lên Cymru i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer awduron a beirdd cyfoes.
Rydym yn cydweithio â phartneriaid amrywiol ar draws sawl sector i sicrhau bod y celfyddydau a diwylliant yn chwarae rhan wrth fynd i’r afael â’r diffyg mewn cyrhaeddiad a chyfle yng Nghymru. Drwy gyfrannu at gynllun Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau, ynghyd â chynnal cynlluniau eraill, nod Llenyddiaeth Cymru yw tanio’r dychymyg a rhoi llais i bobl ifanc.
13
Taith lenyddol aber afon Tâf
Gweithio mewn Byd sy’n Newid
14
Ein Hamgylchedd
Cynaliadwyedd
Gwydnwch Ariannol
Gweithio gyda Phartneriaid
Rydym yn ymrwymo i integreiddio cynaliadwyedd, yn amgylcheddol ac yn ariannol, i mewn i’n gwaith craidd. Yn strategol, ein nod yw rhoi grym yn nwylo unigolion a grwpiau i ddatblygu a threfnu gweithgarwch cynaliadwy yn eu hardaloedd lleol, gan sicrhau y caiff sgiliau eu datblygu lle mae eu hangen a bod darpariaeth yn briodol ac yn lleol.
Bu’r blynyddoedd diwethaf yn rhai heriol i’r sector celfyddydol. Mae arian cyhoeddus wedi aros yn ei unfan neu wedi crebachu tra bod costau yn parhau i godi. Bydd rhagor o heriau ariannol yn y dyfodol agos gyda thoriadau pellach yn debygol ar lefel genedlaethol a lleol. Er mwyn ffynnu a pharhau i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl, rhaid i’r celfyddydau yng Nghymru fod yn gynyddol arloesol, yn gost effeithiol, yn agored i gydweithredu ac yn effeithlon.
Mae partneriaeth a chydweithio wrth wraidd y ffordd y mae Llenyddiaeth Cymru’n gweithio. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau eraill i sicrhau bod darpariaeth llenyddiaeth yn strategol a chynhwysfawr. Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid o fewn a thu hwnt i’r sector llenyddiaeth er mwyn atgyfnerthu ac ymestyn cynulleidfaoedd i’n mentrau.
Mae gweithgareddau Llenyddiaeth Cymru yn costio llai na £9 y pen ar gyfer pob cyfranogwr, gan gynnwys £5 y pen gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Yn ystod 14/15, roedd pobl o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi cymryd rhan mewn gweithgaredd llenyddol a gafodd naill ai ei gyflwyno neu ei gefnogi gan Llenyddiaeth Cymru.
Mae Llenyddiaeth Cymru yn gweithio gyda mwy na 200 o bartneriaid bob blwyddyn, o sawl maes gwahanol, gan gynnwys llenyddiaeth, diwylliant, addysg, twristiaeth, treftadaeth a’r sector cymdeithasol.
15
Anni Lly ˆn, Bardd Plant Cymru 2015-17 / Llun: Emyr Young
Ein Gweithgareddau
Cymryd Rhan Gwella cyfleoedd er mwyn i bawb ddod i gyswllt â llenyddiaeth ledled Cymru
Gweithgareddau
wduron ar Daith A nawdd ar gyfer gweithgareddau lleol yn y gymuned
Lolfa Lên Y llwyfan i lenyddiaeth mewn gwyliau a strydoedd ein trefi
oald Dahl 100 Cymru R entrau Datblygu M Llenyddiaeth Rhanbarthol rhaglenni cynhwysol sy’n noddi, hyrwyddo a ymateb i anghenion lleol threfnu gweithgarwch sy’n annog pawb yng Nghymru i ddarllen ac i ysgrifennu
16
Mentrau Datblygu Llenyddiaeth Rhanbarthol “Does dim modd newid fy ngorffennol, ond gallaf ‘sgwennu fy nyfodol” Jaz Port Talbot
17
Mae’r mentrau hyn yn ein caniatáu i greu rhaglenni sydd wedi’u teilwra’n arbennig i adnabod anghenion ardaloedd penodol ac ymateb iddynt. Rydym yn cyflawni hyn trwy gydweithio’n uniongyrchol gyda sefydliadau partner, Awdurdodau Lleol, grwpiau cymunedol a gwasanaethau cymorth. Gan ganolbwyntio ar ymgynnwys cymdeithasol, mae’r mentrau hyn yn anelu at ymgysylltu â grwpiau sy’n ddatgysylltiedig â chanolfannau celfyddydol traddodiadol. Rydym yn trefnu gweithgarwch mewn ysbytai, cartrefi gofal, llyfrgelloedd, neuaddau cymunedol a hyd yn oed trenau. Ers 2008 mae Menter Datblygu Llenyddiaeth De Cymru wedi ymgysylltu â dros 35,000 o bobl mewn ardaloedd o amddifadedd economaidd, diwylliannol a chymdeithasol. Dros y tair blynedd nesaf bydd Llenyddiaeth Cymru yn defnyddio elfennau o’r fenter lwyddiannus hon i ddatblygu rhaglenni mewn ardaloedd eraill er mwyn sicrhau y bydd gan bobl o bob gallu, cefndir ac amgylchiadau ledled Cymru y cyfle i ysgrifennu eu dyfodol eu hunain. Sophie McKeand, Young People’s Laureate 2016-18 / Photo: Andy Garside
Ein Gweithgareddau
Plant a Phobl Ifanc Cynnig rhagor o gyfleoedd i blant a phobl ifanc greu a mwynhau’r byd llenyddol o’u hamgylch beth bynnag eu hoedran, gallu a’u cefndir
Gweithgareddau
Bardd Plant Cymru ac Awdur Pobl Ifanc Cymru llysgenhadon i blant a phobl ifanc yng Nghymru
Sgwadiau ‘Sgwennu’r Ifanc cyfleoedd i bobl ifanc weithio gydag awduron proffesiynol
Awduron ar Daith nawdd ar gyfer gweithgareddau lleol yn y gymuned
Roald Dahl 100 Cymru noddi, hyrwyddo a threfnu gweithgarwch sy’n annog holl blant Cymru i ddarllen ac i ysgrifennu
Slam Cymru llwyfan i bobl ifanc fynegi eu hunain wrth berfformio eu gwaith
18
Cyrsiau Ysgolion Ty ˆ Newydd cyrsiau dan arweiniad tiwtoriaid proffesiynol yng Nghanolfan Ysgrifennu Cenedlaethol Cymru
“Mae ei gwneud hi’n bosibl i blant ysgol gwrdd ag awdur proffesiynol (nid wyf yn dweud awdur ‘go iawn’, gan fod plant yn awduron go iawn hefyd) yn un o’r ffyrdd gorau i’w hannog i feddwl bod diben i ysgrifennu, a’i fod yn bleserus, a gall arwain at ganfyddiad cyffrous a boddhad parhaus. Mae hefyd yn sbardun gwych ar gyfer darllen. Mae gwaith Llenyddiaeth Cymru wrth ddod â phlant ac awduron proffesiynol ynghyd yn wych - mae o fudd i’r ddwy ochr.” Philip Pullman Noddwr Llenyddiaeth Cymru
19
Gweithdy Dylanwad / Llun: Ffotograffiaeth Sioned a Nia
Ein Gweithgareddau
Cefnogi Awduron Datblygu a chefnogi awduron ar bob cam o’u gyrfa lenyddol i gyflawni eu llawn botensial
Gweithgareddau
Ysgoloriaethau i Awduron cymorth ymarferol sy’n galluogi awduron i ddatblygu gwaith ar y gweill
Canolfan Ysgrifennu Ty ˆ Newydd cyrsiau ysgrifennu creadigol, encilion preswyl a dosbarthiadau meistr
wobr Llyfr y Flwyddyn G Cynlluniau mentora gwobrau i’r llyfrau gorau cefnogaeth uniongyrchol o ac am Gymru dwys gan awdur proffesiynol Gwybodaeth, Gwasanaeth Beirniadu hyfforddiant a adborth adeiladol a chyngor i awduron chreadigol gan arlein, ar y ffôn ac awdur proffesiynol wyneb yn wyneb
20
Canolfan Ysgrifennu Ty ˆ Newydd Ty ˆ Newydd yw Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru. Ers ei sefydlu ym 1990, mae miloedd o gyw awduron wedi croesi trothwy ei drws gwyrddlas eiconig. Mae cyrsiau ysgrifennu creadigol preswyl, encilion a dosbarthiadau meistr Ty ˆ Newydd yn cynghori a chefnogi awduron ar bob lefel o’u gyrfa i ragori ac annog arloesedd. Mae’r rhaglen amrywiol yn darparu ar gyfer gwahanol alluoedd, oedran a diddordebau, ac mae’r cyrsiau’n cwmpasu gwahanol genres, ffurfiau ac arddulliau, gan gynnwys barddoniaeth, ffuglen, ysgrifennu ffeithiol, sgriptio, ysgrifennu am natur, darlunio, adrodd stori, ioga a mwy. Yn ogystal, rydym yn gweithio gyda thiwtoriaid ac athrawon i greu cyrsiau wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer grwpiau addysgol. 21
“Roedd y cwrs yn anhygoel ym mhob ffordd. Rydw i wedi dysgu gymaint – mae wedi rhoi egni newydd yn fy ngwaith ysgrifenedig! Roedd cydbwysedd gwych rhwng anogaeth ysgafn ac ymarferion oedd wedi eu strwythuro’n dda. Gadewais i’r cwrs gydag ysbrydoliaeth yn fy mhen a’m calon, a gydag arfau newydd yn fy nwylo” Mynychwr cwrs Ty ˆ Newydd
Canolfan Ysgrifennu Ty ˆ Newydd / Llun: Emyr Young
Ein Gweithgareddau
Rhyngwladol Gweithio mewn partneriaeth er mwyn codi proffil awduron a llenyddiaeth Gymreig
Gweithgareddau
Bardd Cenedlaethol Cymru llysgennad diwylliannol sy’n cynrychioli’r gorau o Gymru iwrnod Rhyngwladol D Dylan Thomas dathlu bywyd a gwaith un o awduron enwocaf Cymru
22
Gwaith ymchwil ac ymweliadau allestyn cynrychioli awduron o Gymru gartref a thu hwnt rosiectau rhyngwladol P fel rhan o ddathliadau mawr codi proffil llenyddiaeth o Gymru
Bardd Cenedlaethol Cymru
23
Mae Bardd Cenedlaethol Cymru yn llysgennad diwylliannol ac yn rôl sy’n cynrychioli’r ysgrifennu gorau o Gymru ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r Bardd Cenedlaethol yn arwain ymgyrchoedd yng Nghymru ac yn ymddangos mewn digwyddiadau a gwyliau ledled y byd i godi proffil llenyddiaeth a llenorion o Gymru. Mae’r fenter hefyd yn ymdrechu i gyfoethogi barddoniaeth a’r sîn diwylliannol ehangach yng Nghymru drwy fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gyfnewid arfer da a diwylliant.
Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru / Llun: Rhys Llwyd
Ein Gweithgareddau
Creadigrwydd Digidol Defnyddio cynnwys a llwyfannau digidol i godi proffil llenyddiaeth a chynyddu lefelau ymgysylltu â llenyddiaeth
Gweithgareddau
24
er 100 Cerdd H dathlu Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth gyda chant o gerddi newydd mewn 24 awr
Cynnwys digidol unigryw rhannu’r profiad o fynychu digwyddiadau byw a chreu prosiectau llenyddiaeth digidol newydd
Cerdd Fawr Dylan cerdd ddwyieithog epig 100 llinell wedi’i hysgrifennu gan bobl ifanc o bob cwr o’r byd ar gyfer Dydd Dylan
ae llenyddiaeth yn M rhywbeth i bawb ac mae ar gael ymhob man, gan gynnwys ar Twitter, Instagram, YouTube, Facebook, Flickr, Snapchat…
Mae blog Her 100 Cerdd yn derbyn dros 10,000 o ymweliadau bob blwyddyn ac mae dros 2,500 o ddarllenwyr unigol yn edrych ar blog yn ystod wythnos Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth
25
Jon Chase / Llun: Lleucu Meinir
26
Sut Rydym Wedi Ein Trefnu
Ein Strwythurau
Mae Llenyddiaeth Cymru yn Gwmni Cyfyngedig drwy Warant ac yn Elusen gofrestredig. Cefnogir y Prif Weithredwr gan Uwch Dîm Rheoli, sy’n cynnwys Dirprwy Brif Weithredwr, Pennaeth Rhaglenni, Pennaeth Cyfathrebu, Pennaeth Ty ˆ Newydd a Phennaeth Datblygu. Mae’r staff yn gweithio mewn swyddfeydd yng Nghaerdydd ac yng Nghanolfan Ysgrifennu Nhy ˆ Newydd. Caiff gwaith y cwmni ei oruchwylio gan Fwrdd Cyfarwyddwyr sydd hefyd yn gweithredu fel Ymddiriedolwyr. Mae’r Bwrdd Cyfarwyddwyr yn cwrdd bob chwarter i drafod materion strategol ac ariannol. Yn ystod ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol, bydd cyfrifwyr annibynnol yn cyflwyno’r cyfrifon archwiliedig ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol.
27
Gweithdy Eurig Salisbury / Llun: John Briggs
Sut Rydym Wedi Ein Trefnu
Rhagolygon Ariannol Mae Llenyddiaeth Cymru’n sylweddoli bod ei lwyddiant a’i gynaliadwyedd yn dibynnu ar agwedd gadarn at reolaeth ariannol, gweithdrefnau tryloyw ac amrywiol ffrydiau incwm. Mae Llenyddiaeth Cymru yn aelod o Bortffolio Celfyddydol Cymru a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac yn ddyranwr Loteri, sy’n gyfrifol am ddosbarthu arian drwy gynlluniau Awduron ar Daith, Ysgoloriaethau i Awduron a Mentora. Mae Llenyddiaeth Cymru yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi prosiectau megis dathliadau Roald Dahl 100 Cymru a Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas. Ar hyn o bryd mae incwm o weithgareddau masnachol, cynlluniau aelodaeth a sefydliadau elusennol yn cynrychioli pumed rhan o incwm terfynol y sefydliad. Mae’r ffynonellau incwm amrywiol hyn yn cryfhau ein hydwythedd ariannol ac yn ein galluogi i ehangu amrywiaeth a chyrhaeddiad y rhaglenni yr ydym yn eu cynnig.
Yn ystod 2016-19, bydd 25% o wariant Llenyddiaeth Cymru yn mynd yn uniongyrchol i awduron, drwy ffioedd i gyflawni gweithgaredd, cymorth i drefnwyr digwyddiadau lleol, a thuag at greu gwaith newydd.
28 28
Erbyn 2019, bydd o leiaf 10% o’n incwm yn deillio o Ymddiriedolaethau Elusennol.
Erbyn 2019, bydd incwm masnachol yn cynrychioli o leiaf 15% o’n incwm.
Ymdrecha Llenyddiaeth Cymru i fod yn sefydliad cost-effeithiol ac effeithlon. Rydym yn adolygu ein gwariant yn rheolaidd er mwyn sicrhau y gallwn gynnal a datblygu gwariant ar gyflawni a chefnogi gweithgarwch, a fydd yn ymgysylltu â phobl ledled Cymru. Bydd y pwysau ar arian cyhoeddus yn parhau, os nad yn dwysáu, dros y tair blynedd nesaf ac mae Llenyddiaeth Cymru yn cymryd camau i leihau ei ddibyniaeth ar arian cyhoeddus. Yn ystod 2016-19, nod Llenyddiaeth Cymru yw lleihau ei gyfran o incwm o ddaw o arian cyhoeddus, gan gyflwyno Strategaeth Codi Arian, sydd â thri nod: ynyddu incwm masnachol, c drwy sicrhau rhagor o refeniw drwy docynnau gweithgareddau, ehangu’r dwristiaeth lenyddol a gynigir, gwella cyfleoedd manwerthu a chynyddu’r cysylltiadau â busnesau
29
cynyddu incwm drwy gynlluniau ac ymgyrchoedd aelodaeth, drwy ddatblygu cyfleoedd gwirfoddoli sy’n creu incwm, cyflawni ymgyrchoedd codi arian sy’n canolbwyntio ar gynulleidfaoedd ac atgyfnerthu ein perthynas â chynulleidfaoedd
cynyddu incwm o nawdd corfforaethol ac ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol, drwy ddatblygu perthynas hirdymor â noddwyr a chefnogwyr a thrwy ddatblygu perthnasau strategol â noddwyr posibl a presennol
Dylan ar Daith / Llun: Lleucu Meinir
Prif Weithredwr Lleucu Siencyn
llenyddiaethcymru.org post@llenyddiaethcymru.org 029 2047 2266 @LlenCymru
Canolfan Ysgrifennu Ty ˆ Newydd. Llun: Richard Outram