Llenyddiaeth Cymru
Cynllun Strategol Ysbrydoli cymunedau Datblygu awduron Dathlu diwylliant llenyddol Cymru
llenyddiaethcymru.org
Llenyddiaeth Cymru yw’r cwmni cenedlaethol gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth. Ein gweledigaeth yw Cymru sydd yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth.
Llenyddiaeth Cymru Canolfan Glyn Jones Canolfan Mileniwm Cymru Plas Bute Caerdydd / CF10 5AL Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd Llanystumdwy Cricieth Gwynedd / LL52 0LW
Lluniau gan: Andrew Cockerill Photography Camera Sioned Emyr Young Wythnos Llyfrgelloedd 2018 Keith Morris Rhys Llwyd
Darlun y clawr: Rhan o furlun Pete Fowler a osodwyd ar y Tŵr Dŵr yng Nghaerdydd – fe’i ysbrydolwyd 029 2047 2266 gan y Mabinogion fel rhan post@llenyddiaethcymru.org o brosiect Cymru Ryfedd a llenyddiaethcymru.org Chyfareddol Llenyddiaeth @LlenCymru / @LitWales Cymru.
“Fel sefydliad byddwn yn parhau i ddysgu a myfyrio, byddwn yn hyblyg ac yn croesawu newid...” Fel Cadeirydd, rwy’n falch o gyflwyno Cynllun Strategol 2019-2022 Llenyddiaeth Cymru. Mae’n dangos sut y bydd y sefydliad yn symud ymlaen, yn addasu, ac yn parhau i gyflawni’n uchelgeisiol ar gyfer y sector llenyddiaeth yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf. Fel ffurf gelfyddydol byw a ffyniannus, mae llenyddiaeth yn ganolog i fywyd bob dydd pobl Cymru. Mae ein perthynas gyda geiriau yn unigryw, boed ar lafar neu ar bapur ac ym mha bynnag iaith. Gall ddiffinio ein hunaniaeth fel cenedl; i ni ein hunain ac i’r byd. Pan fyddwn ni’n ymwneud â llenyddiaeth – yn ei mwynhau ac yn ei chreu – byddwn yn ffurfio cysylltiadau cryfach â’n gilydd ac â’r byd o’n cwmpas. Yn ystod y tair blynedd nesaf, byddwn yn defnyddio grym creadigol llenyddiaeth i hybu llesiant, i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a diffyg cynrychiolaeth, ac i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.
Mae awduron yn ganolog i’n gwaith, ac wedi chwarae rhan allweddol wrth ein helpu i roi cig ar esgyrn y cynllun hwn. Mae’r sector llenyddiaeth yn eang a’r galwadau a’r anghenion yn niferus, ac at hynny fe fyddwn yn cryfhau ein perthynas gyda sefydliadau eraill er mwyn sicrhau fod yr hyn a ddarperir yn effeithiol. Byddwn yn canolbwyntio ar adnabod talent a datblygu egin awduron, ac yn meithrin diwylliant lle bydd artistiaid yn mentro ac yn arloesi. Byddwn yn gwneud hyn trwy gynnig y gefnogaeth gywir ar yr amser iawn. Yn ogystal, byddwn yn mynd â gwaith ein hawduron profiadol at gynulleidfaoedd lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd hyn yn cryfhau enw da ein llenorion cyfoes gorau a’n treftadaeth lenyddol unigryw. Fel sefydliad byddwn yn parhau i ddysgu a myfyrio, byddwn yn hyblyg ac yn croesawu newid. Byddwn yn sicrhau ein bod yn barod i wynebu cyfnodau o ansicrwydd, gan edrych ymlaen hefyd at y cyfleoedd fydd yn codi yn y blynyddoedd a ddaw. Diolch yn fawr, Dr Kate North Cadeirydd, Llenyddiaeth Cymru
3
Ers ffurfio Llenyddiaeth Cymru yn 2011, mae dros 1 miliwn o bobl wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau yr ydym wedi eu trefnu neu eu cefnogi.
Un o’r bobl ifanc fu’n cymryd rhan mewn prosiect Bardd Plant Cymru mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru.
“Mae gan bob un ohonom ein straeon i’w hadrodd, ac rydym oll yn rhannu’r angen greddfol hwnnw i wrando ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd...” Llenyddiaeth yw un o’r ffurfiau celfyddydol hynaf yng Nghymru, ac mae’n parhau i fod yn berthnasol a phwysig. Mae hynny’n amlwg wrth weld y nifer cynyddol o wyliau, darlleniadau, cylchoedd trafod a nosweithiau barddol a gynhelir ledled y wlad. Mae llenyddiaeth hefyd yn ffurf celfyddydol hynod ddemocrataidd a hygyrch gydag ystod amrywiol o ffurfiau, o’r llyfr i’r llwyfan a thu hwnt. Wrth greu’r Cynllun Strategol hwn, rydym wedi ymgynghori’n eang, gan geisio barn unigolion a sefydliadau a chanddynt gefndiroedd, profiadau a safbwyntiau tra gwahanol. Mae rhai ohonynt yn adnabod Llenyddiaeth Cymru yn dda, ac eraill yn llai cyfarwydd â’n gwaith a’n pwrpas. Mae pob un ohonynt wedi bod yn agored ac yn onest; yn wir, cafwyd sawl safbwynt gwahanol ynghylch hanfod Llenyddiaeth Cymru a’r hyn y dylem ei wneud. Rydym yn gwybod na allwn fod yn bopeth i bawb, ac na allwn ymateb i’r holl fylchau a’r holl gyfleoedd yn y sector llenyddiaeth yng Nghymru. Fodd bynnag, mae tystiolaeth gref yn dangos fod yr hyn a gyflawnir gennym – fel y darlunnir yn y cynllun hwn – yn werthfawr i gymdeithas ac i’r sector. Mae’r sector ei hun yn fywiog ac amrywiol, ac mae gan y sefydliadau llenyddol sy’n ei ffurfio safbwyntiau ac arbenigedd penodol. Serch
hynny, mae cynrychiolaeth deg o fewn y sector yn parhau i fod ymhell o’n gafael, a bydd ein blaenoriaethau yn mynd i’r afael â’r annhegwch hwn o ran cyfleoedd a mynediad. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein rôl fel hwylusydd, gan weithio gydag eraill er mwyn ehangu effaith ein gweithgareddau. Byddwn hefyd yn datblygu cysylltiadau cryfach â chyrff rhanbarthol a chenedlaethol sy’n rhannu ein gwerthoedd a’n huchelgais i Gymru. Mae angen inni oll sicrhau bod cysylltiad o hyd rhwng Cymru a’r byd. Dinasyddion rhyngwladol yw awduron ac artistiaid Cymru, ac mae eu gwaith yn fodd i feithrin gwell dealltwriaeth rhwng diwylliannau. Mae ein gwaith yn Llenyddiaeth Cymru yn cyfrannu at wneud Cymru a’r byd yn lle gwell. Mae gan bob un ohonom ein straeon i’w hadrodd, ac rydym oll yn rhannu’r angen greddfol hwnnw i wrando ar ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd. Mae awduron yn dal drych i wyneb cymdeithas, a dylem edrych yn graff ar yr adlewyrchiad. Pwy a ŵyr beth ddaw’r dyfodol i’n rhan, ond bydd Llenyddiaeth Cymru yno i rymuso, i wella ac i gyfoethogi ein bywydau. Diolch yn fawr, Lleucu Siencyn Prif Weithredwr, Llenyddiaeth Cymru
Ein Cenhadaeth Byddwn yn ysbrydoli cymunedau, yn datblygu awduron, ac yn dathlu diwylliant llenyddol Cymru drwy wneud y canlynol: darparu rhagor o gyfleoedd i bobl Cymru gymryd rhan mewn gweithgareddau ysgrifennu creadigol, a dyfnhau eu heffaith; galluogi egin awduron i achub ar gyfleoedd i fireinio a datblygu sgiliau llenyddol amrywiol; ehangu ac ymestyn cyrhaeddiad ac enw da awduron Cymru. Bydd hyn yn creu Cymru sy’n grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth.
Mae Llenyddiaeth Cymru yn gweithio yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwyieithog ledled Cymru. Lleolir ein swyddfeydd yn Llanystumdwy ac yng Nghaerdydd.
Ein Ffocws
Ein Blaenoriaethau
Drwy broses o fyfyrio ar ein gwaith yn y gorffennol, gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus, rydym wedi adnabod tri maes lle byddwn yn canolbwyntio ein gwaith a’n hegni yn ystod y cyfnod nesaf. Bydd rhoi pwyslais ar y meysydd hyn yn sicrhau fod cyswllt clir rhwng ein gwaith a’n cenhadaeth, gan ein galluogi i ddefnyddio’n hadnoddau yn fwy effeithiol.
Ar sail ein dealltwriaeth fod gan lenyddiaeth y grym i wella a gweddnewid bywydau, a’r angen i gynnal gweithgareddau lle y byddant yn cael yr effaith mwyaf, rydym wedi nodi tair Blaenoriaeth Dactegol a fydd yn berthnasol i bob un o’n Colofnau Gweithgaredd. Nid mathau o weithgaredd yw’r rhain, ond yn hytrach themâu a gaiff eu cynnwys ym mhopeth y byddwn yn eu cyflawni, gan gynnwys ein gwaith-ar-y-cyd a’n gwaith hwyluso:
Bydd ein holl weithgareddau felly wedi eu strwythuro o dan dair Colofn Gweithgaredd: Cyfranogi - ysbrydoli rhai o’n hunigolion a’n cymunedau mwyaf ymylol drwy eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgaredd llenyddol. Datblygu Awduron - datblygu potensial creadigol a phroffesiynol egin awduron. Diwylliant Llenyddol Cymru - dathlu ein hawduron cyfoes a threftadaeth lenyddol Cymru. Mae’r tair colofn yn gorgyffwrdd, a rhan helaeth o’n gwaith yn llifo o un i’r llall. Ni chaiff prosiectau eu datblygu heb edrych ar y darlun cyfan. Byddant yn ategu ei gilydd, a bydd i’n holl weithgarwch dros y tair blynedd ddilyniant a datblygiad clir.
Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb - trwy sicrhau cynrychiolaeth deg ar draws ein gweithgareddau a’n strwythurau mewnol, byddwn yn darparu llwyfannau ac anogaeth i leisiau sy’n cael eu tangynrychioli, a thrwy hynny’n meithrin diwylliant llenyddol sy’n adlewyrchu’r Gymru gyfoes. Iechyd a Llesiant - trwy gefnogi a hyrwyddo’r gwahanol ffyrdd y gall llenyddiaeth gyfrannu’n gadarnhaol at iechyd a llesiant y genedl, byddwn yn gwella bywydau pobl yng Nghymru. Plant a Phobl Ifanc – trwy gynyddu’r cyfleoedd i fwynhau ac ymwneud ag ysgrifennu creadigol a darllen er pleser, byddwn yn cyfrannu’n sylweddol at wella bywydau a llesiant cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru. Dyma fireinio yn hytrach na diwygio ein cenhadaeth yn 2016-2019 – fod llenyddiaeth yn perthyn i bawb ac ar gael ymhobman, a’i fod yn rhoi llais i bob un.
“Mae Tŷ Newydd yn rhoi cyfle i awduron hen a newydd i rannu’r un bwrdd. Roedd cael cyfle i gymysgu gyda phobol debyg a bwrw syniadau ar bapur mewn lleoliad mor fendigedig yn werth y wâc o Bencarreg.” - Mynychodd Heiddwen Tomos gwrs sgriptio gydag Aled Jones Williams a Sarah Bickerton, ac fe ddatblygodd yr egin syniad a gafodd yn ystod y cwrs hwn yn Nhŷ Newydd yn sgript a enillodd iddi’r Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017.
8
Cynrychioli Pawb
Mae gan lenyddiaeth wreiddiau dwfn yn y cysyniad o ryddid mynegiant. Serch hynny, mae gwir ryddid yn ddibynnol ar gydraddoldeb cyfleoedd a chynrychiolaeth deg. Pan nad ydych yn gweld pobl fel chi yn yr hyn yr ydych yn ei ddarllen, rydych yn llawer llai tebygol o chwilio gweithiau tebyg neu weld gwerth mewn ysgrifennu creadigol. Pan nad ydych yn gweld eich hunan mewn sefydliad sy’n cynnig cyfleoedd creadigol, rydych yn llawer llai tebygol o ymgeisio amdanynt. Trwy weithio gyda phartneriaid, byddwn yn gwneud mwy i feithrin amrywiaeth a chynrychiolaeth o fewn y sector lenyddol. Dylai awduron Cymru gynnwys ystod o oedrannau, o gefndiroedd cymdeithasol ac economaidd, ethnigedd, rhyw, ardaloedd ac ieithoedd. Nid cau unrhyw un allan yw’r bwriad yma, ond yn hytrach greu cyfleoedd teg a chyfartal, a sicrhau fod datblygiad proffesiynol ac arloesedd celfyddydol ar gael i bawb. Drwy ein Blaenoriaethau Tactegol, rydym wedi adnabod tair nodwedd benodol, a byddwn yn darparu cefnogaeth ychwanegol i gleientiaid sydd yn: Unigolion o gefndiroedd du, Asiaidd neu leiafrif ethnig (BAME)
Unigolion o gefndiroedd incwm isel
Unigolion sydd ag anableddau neu salwch (corfforol neu feddyliol)
Byddwn yn parhau i arddel diffiniad eang o lenyddiaeth, gan roi cyfleoedd i gyfranogwyr o bob gallu fwynhau ac arbrofi â gwahanol ffurfiau.
Yn 2017, dyfarnwyd Ysgoloriaeth Greadigol Weston Jerwood i Llenyddiaeth Cymru – un o ddim ond 2 sefydliad yng Nghymru a enillodd le ar y cynllun. Mae’r rhaglen hon yn cefnogi sefydliadau celfyddydol i wella eu dulliau recriwtio a datblygu talent a chynyddu eu gallu i gynhyrchu gweithiau celfyddydol rhagorol.
Ein Cleientiaid Wrth fireinio ein blaenoriaethau a’n gweithgareddau, gobeithiwn ddatblygu perthnasau mwy ystyrlon gyda’r awduron a’r cyfranogwyr rydym yn gweithio â hwy. Maent yn defnyddio ein gwasanaethau neu’n cyflawni ein prosiectau, ac yn randdeiliaid hollbwysig. Ein nod yw sicrhau fod ein dulliau o gefnogi yn cynnig datblygiad hir-dymor i awduron, gan ganolbwyntio ar fuddsoddi ar yr amser iawn er mwyn gwneud y mwyaf o ddatblygiad celfyddydol a phroffesiynol yr unigolyn. Er mwyn cynnig ymyraethau effeithiol a phenodol, ac er mwyn defnyddio ein hadnoddau i gyflawni’r effaith mwyaf, byddwn yn canolbwyntio ar dri grŵp o gleientiaid yr ydym am weithio â hwy yn ystod y cyfnod hwn. Trwy adnabod cleientiaid i’w targedu, gallwn fod yn fwy eglur wrth ddatgan pa gymorth a chefnogaeth y gallwn ei gynnig i awduron, darllenwyr a chyfranogwyr ar bob cam o’u gyrfa a’u datblygiad.
Cyfranogwyr Creadigol Mae cyfranogwyr creadigol yn cymryd rhan mewn gweithgareddau llenyddol o bob math, a hynny’n aml mewn gweithdai. Efallai fod y geiriau’n fodd o leddfu loes, yn ffordd o ddatblygu sgiliau, neu’n amddiffynfa rhag byd annheg. Bydd nifer yn datblygu i fod yn awduron ac artistiaid proffesiynol, gan fentora ac ysbrydoli eraill i ddod o hyd i’w lleisiau.
Egin Awduron Mae gan egin awduron y potensial i ragori yn eu crefft ac i fentro wrth greu eu celfyddyd. Efallai y byddant wedi cael rhywfaint o gydnabyddiaeth eisoes, ac yn canolbwyntio’n gynyddol ar ddatblygu eu crefft. Gall egin awduron berthyn i bob grŵp oedran.
Awduron Profiadol Mae awduron cyfoes Cymru yn cynrychioli ystod eang o ffurfiau, ieithoedd a phrofiadau. Yn ogystal â chryfhau proffil Cymru a’i llenyddiaeth, maent hefyd yn hollbwysig wrth ysbrydoli cenhedlaeth newydd o awduron a chynulleidfaoedd creadigol, ac yn medru rhoi arweiniad i eraill a’u mentora.
Rydym yn credu fod y rheini sy’n darllen, yn gwrando ac yn gwylio llenyddiaeth yn unigolion creadigol yn eu hanfod, a gan hynny, byddwn yn cyflawni ein holl weithgareddau gyda Chynulleidfaoedd Creadigol mewn golwg.
Ein Rhaglen
Byddwn yn darparu rhagor o gyfleodd i bobl Cymru gymryd rhan mewn gweithgareddau ysgrifennu creadigol, ac yn dyfnhau eu heffaith. Byddwn yn cyflawni hyn drwy wneud y canlynol: Eirioli dros y grym sydd gan lenyddiaeth i wella llesiant, a chefnogi pobl sy’n gweithio yn y maes hwn;
Ymwneud yn uniongyrchol ag unigolion a chymunedau sydd wedi’u tangynrychioli, a hynny ar draws ystod o brofiadau diwylliannol a ffurfiau llenyddol;
Cyfeirio cyfranogwyr sydd â photensial creadigol tuag at gyfleoedd o fewn ein colofn gweithgaredd Datblygu Awduron.
Cyfranogi
Cyfranogi:
Bydd hyn yn ysbrydoli rhai o’n hunigolion a’n cymunedau mwyaf ymylol drwy eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgaredd llenyddol.
Gweithgareddau Craidd: Cynllun Nawdd Llên a Llên Pawb | Lit Reach – menter llenyddiaeth yn y Lles gymuned
Ffrindiau Darllen
Cynllun Nawdd Awduron ar Daith
Sgwad ‘Sgwennu Tŷ Newydd
Cyrsiau Addysgol yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
Ysbrydoli rhai o’n hunigolion a’n cymunedau mwyaf ymylol drwy eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgaredd llenyddol
Cip ar weithgaredd: Cynllun Nawdd Llên a Llês Dyma gynllun sy’n cynnig cefnogaeth ariannol a hyfforddiant i awduron ddatblygu prosiectau creadigol yn y gymuned. Y nod yw defnyddio ysgrifennu creadigol er mwyn hyrwyddo ymdeimlad o berthyn a llesiant. Caiff pob prosiect ei ddyfeisio gan yr awdur a’i gyd-greu gyda grŵp penodol. Mae’r cynllun hwn yn rhan o’n menter llenyddiaeth yn y gymuned, Llên Pawb.
Preswyliad Barddoniaeth Byw Nawr Ym mis Mai 2018 cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru gyfrol o gerddi yn y Gymraeg a’r Saesneg gan y Prifardd Mererid Hopwood, oedd yn dwyn y teitl Cerddi Byw Nawr | Live Now Poems. Cyfansoddwyd y cerddi yn dilyn ei phreswyliad barddonol gyda Thîm Gofal Lliniarol Ceredigion, ble bu’n cwrdd ac yn sgwrsio â chleifion oedd yn derbyn gofal diwedd oes a gyda’r staff fu’n gofalu amdanynt. Bwriadwyd i’r cerddi ddarparu cefnogaeth a chysur i nifer, yn ogystal â bod yn fan cychwyn i drafod teimladau a themâu sy’n codi o fewn maes gofal lliniarol.
Prosiect Cynllun Nawdd Llên a Llês mewn partneriaeth â Byw Nawr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
“Does dim modd newid fy ngorffennol, ond gallaf ysgrifennu fy nyfodol” - Disgybl mewn gweithdy cyfranogi
I ddarganfod mwy, ewch i: llenyddiaethcymru.org/llen-a-lles/
Ers 2011 mae dros 400,000 o blant a phobl ifanc wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau sydd wedi eu cynnal neu eu cefnogi gan Llenyddiaeth Cymru.
Byddwn yn galluogi egin awduron i achub ar gyfleoedd i fireinio a datblygu sgiliau llenyddol amrywiol, drwy wneud y canlynol: Datblygu a darparu gweithgareddau i ddatblygu’n greadigol a phroffesiynol, a’r rheiny wedi eu teilwra’n benodol ar gyfer anghenion egin awduron;
Darparu gwybodaeth am gyfleoedd perthnasol eraill a chyfeirio awduron atynt;
Canfod carfan o awduron ifanc sydd â photensial llenyddol sylweddol, a datblygu eu sgiliau drwy gynlluniau hirdymor a hwyluso rhwydweithiau iddynt yn y sector.
Bydd hyn yn datblygu potensial creadigol a phroffesiynol egin awduron.
Gweithgareddau Craidd: Cyrsiau yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
Ysgoloriaethau i Awduron
Cynllun Mentora
Cyfleoedd Hyfforddi a Chysgodi i Awduron
Cynrychioli Pawb - Rhoi Rhestr Awduron Cymru – llwyfan i awduron a gaiff yn gyhoeddus ar wefan Llenyddiaeth Cymru eu tangynrychioli
Datblygu Awduron
Datblygu Awduron:
Gwybodaeth ac Adnoddau i Awduron
Datblygu potensial creadigol a phroffesiynol egin awduron
Cip ar weithgaredd: Cynllun Mentora Mae ein Cynllun Mentora yn cynnig cymorth a chyngor ymarferol i awduron er mwyn datblygu gwaith penodol sydd ar y gweill i safon cyhoeddi. Dyfernir llefydd ar y cynllun i egin awduron sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd. Mae’r cynllun yn cynnwys cwrs pwrpasol yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, sesiynau mentora unigol gydag awdur profiadol yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â chyfleoedd i rwydweithio â chynrychiolwyr o’r diwydiant cyhoeddi.
“Wrth i mi ddechrau ysgrifennu mewn ail iaith ac mewn ffurf pur wahanol i’m gwaith arferol mae Cynllun Mentora Llenyddiaeth Cymru wedi rhoi i mi nid yn unig y gefnogaeth ond hefyd yr hyder angenrheidiol i arbrofi efo’m llais llenyddol ac i wthio’n hunan i gyfeiriadau creadigol newydd.” William Gwyn Jones - Cynllun Mentora 2018
I ddarganfod mwy, ewch i: llenyddiaethcymru.org/mentora
“Mae’r broses o ysgrifennu fel arfer yn galw am ystyried beth fyddai darllenwyr yn dymuno ei ddarllen. Ond roedd y broses yn wahanol gyda hon, a theimlai fel cyfle gwirioneddol i ysgrifennu’r hyn roeddwn i eisiau ei ysgrifennu, er fy mwyn fy hun a neb arall, waeth beth a ddôi o’r gwaith.” – Lleucu Roberts, Derbynnydd Ysgoloriaeth Awdur (2012)
Mae 190 o awduron wedi derbyn Ysgoloriaeth i Awduron Llenyddiaeth Cymru (2011-2019).
Byddwn yn ehangu ac ymestyn cyrhaeddiad ac enw da awduron Cymru, drwy wneud y canlynol: Darparu a chefnogi prosiectau cenedlaethol a rhyngwladol sylweddol sy’n dathlu awduron ieithoedd a threftadaeth lenyddol unigryw Cymru;
Ysgogi comisiynau llenyddol, yn arbennig gan sefydliadau sy’n gweithio y tu allan i’r sector llenyddiaeth;
Datblygu cyfleoedd am glod ehangach i awduron o Gymru – yn enwedig ar gyfer egin awduron ac unigolion a chymunedau nad ydynt yn cael cynrychiolaeth deg ar hyn o bryd.
Bydd hyn yn dathlu awduron cyfoes a threftadaeth lenyddol Cymru.
Gweithgareddau Craidd: Gwobr Llyfr y Flwyddyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
Bardd Plant Cymru
Children’s Laureate Wales
Her 100 Cerdd
Cymryd rhan mewn gwyliau cenedlaethol
Diwylliant Llenyddol Cymru
Diwylliant Llenyddol Cymru:
Cyfleoedd cydweithio rhyngwladol
Dathlu awduron cyfoes a threftadaeth lenyddol Cymru
Cip ar weithgaredd: Gwobr Llyfr y Flwyddyn Nod Gwobr Llyfr y Flwyddyn yw dathlu talentau rhagorol llenorion Cymru yn y Gymraeg a’r Saesneg, a hynny’n flynyddol. Mae Llenyddiaeth Cymru wedi bod yng ngofal Llyfr y Flwyddyn ers 2004, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae rhai o awduron amlycaf Cymru wedi eu gwobrwyo ochr yn ochr ag awduron sy’n cyhoeddi cyfrolau am y tro cyntaf. Gall ennill y Wobr hon gael effaith sylweddol ar yrfa awdur. Yn 2017, y gyfrol fuddugol Gymraeg oedd Cofio Dic gan Idris Reynolds (Gwasg Gomer) a’r prif enillydd Saesneg oedd Alys Conran gyda’i nofel gyntaf, Pigeon (Parthian). Gwelwyd cynnydd o 400% yn y cyfnod o chwe mis wedi i Cofio Dic ennill y wobr o’i gymharu â’r un cyfnod y flwyddyn flaenorol. Cynyddodd gwerthiant Pigeon 43% yn dilyn cyhoeddi’r Rhestr Fer. Mae’r buddion eraill i’r enillwyr yn cynnwys hwb i broffil a hyder awduron, cyfnod o sylw estynedig i’r awduron a’r cyfrolau yn y wasg ac yn y cyfryngau, cynnydd yn y gwahoddiadau i drafod eu gwaith mewn gwyliau a chymdeithasau a chyfleoedd i addasu’r gwaith i ffurfiau eraill megis ffilmiau a chynyrchiadau theatr.
I ddarganfod mwy, ewch i: llenyddiaethcymru.org/llyfr-y-flwyddyn
“Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi bod yn hollbwysig yn achos fy nofel gyntaf. Ers ennill y wobr, rydw i wedi fy ngwahodd i wyliau a chynadleddau rhyngwladol; ac wedi gweld y llyfr – a’i neges am ein hiaith a’n diwylliant – yn cyrraedd cynulleidfa llawer fwy eang, gyda mwy o siopau llyfrau mawr yn penderfynu ei gynnwys ar eu silffoedd. Roedd y wobr yn allweddol i mi, ac i fy ngyrfa llenyddol, ac mi fydd yn parhau i agor drysau.” - Alys Conran, enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2017 gyda’i nofel, Pigeon
Beth yw llwyddiant inni? Mae ein Cenhadaeth yn nodi y byddwn yn: ysbrydoli cymunedau, datblygu awduron ac yn dathlu diwylliant llenyddol Cymru. Bydd yr ymyraethau uniongyrchol a’r strategaethau a amlinellir yn y ddogfen hon yn arwain at welliannau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd. Byddwn yn dilyn y gwelliannau hyn am dair blynedd gan ddefnyddio dulliau casglu data newydd. Mae ein diben yn glir, ac rydym wedi gosod targedau mesuradwy y byddwn yn eu defnyddio er mwyn monitro cynnydd. Erbyn 2022, bydd Llenyddiaeth Cymru wedi cyfrannu at y canlynol: Rhagor o bobl yng Nghymru yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ysgrifennu creadigol, yn benodol rhai sy’n uniaethu â’r nodweddion yr ydym yn eu targedu
Rhagor o’r rheini sy’n cymryd rhan yn ein gweithgareddau cymunedol yn symud ymlaen i elwa o’n mentrau Datblygu Awduron
Rhagor o awduron ifanc (rhwng 16-30 oed) yn ymgymryd â chyfleoedd creadigol
Rhagor o awduron profiadol yn cymryd rhan mewn prosiectau cenedlaethol a rhyngwladol sylweddol
Rhagor o gyfleoedd creadigol a phroffesiynol i egin awduron
Mae’n hysbys ers tro fod llenyddiaeth yn llesol i ni. Mae’r buddion a brofir gan bobl sy’n cymryd rhan yn ein gweithgareddau yn cynnwys: Gwell sgiliau siarad ac ysgrifennu (Cymru sy’n fwy cyfartal)
Mwy o hunanhyder (Cymru gydnerth)
Rhagor o gyfleoedd gwaith (Cymru lewyrchus)
Llai o bobl yn teimlo’n ynysig (Cymru o gymunedau cydlynus)
Risg is o salwch meddwl, a’r gallu i wrthsefyll salwch meddwl yn well (Cymru iachach)
Y cyfle i ddarganfod bydoedd, athroniaethau a diwylliannau newydd (Cymru o gymunedau cydlynus)
Gwell gallu i ddangos empathi (Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang)
Gwell sgiliau amlieithog (Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu)
Fel a nodir yn saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Ein Gwerthoedd Sail ein gwaith yw ein gwerthoedd, ac mae’r egwyddorion hyn yn ganolog i hunaniaeth y sefydliad. Maent yn atgyfnerthu ein gwaith ac yn dylanwadu ar y ffyrdd yr ydym yn ymwneud â’n rhanddeiliaid, cyfranogwyr a’n cynulleidfaoedd.
CREADIGRWYDD Mae gan bawb yr hawl i fod yn greadigol ac i fod yn rhan o ddiwylliant bywiog Cymru
IAITH Parchu, meithrin a dathlu ieithoedd Cymru
CYDRADDOLDEB Mae cydraddoldeb yn angenrheidiol ar gyfer rhyddid mynegiant
CYNRYCHIOLAETH Rhoi llais i’r rheiny sy’n cael eu tangynrychioli
HYRWYDDO Hyrwyddo ac ymgyrchu dros fanteision celfyddydau llenyddol a gaiff eu hariannu’n gyhoeddus yng Nghymru
PARTNERIAETH Gweithio gydag eraill i gyflawni mwy
DEINAMIG Croesawu newid, parhau i ddysgu a bod yn barod i addasu
Y GWADDOL Ysgogi newid gwirioneddol hirdymor
13
Yr egwyddorion ar gyfer cyflawni’r cynllun Wrth gyflawni’r Cynllun Strategol hwn, byddwn yn cofio bod angen gwneud y canlynol: - Bod yn gydnerth a gweithredu’n gynaliadwy er mwyn cael effaith hirdymor – gan gynnwys buddsoddi ar yr amser cywir, a sicrhau cynllunio rhesymegol, gofalus; - Ymchwilio i’r angen a’r galw presennol, ac ystyried ein darganfyddiadau wrth fynd ati i ddatblygu gweithgareddau; - Gweithio mewn partneriaeth ag eraill yn y sector llenyddol a thu hwnt er mwyn manteisio ar gyfleoedd; - Cydweithio gydag awduron a phencampwyr o gymunedau sy’n cael eu tangynrychioli, yn ogystal ag arbenigwyr yn y maes, er mwyn sicrhau bod cynnwys a strwythur prosiectau yn addas i’n cleientiaid, ac i gynyddu’r cyfleoedd recriwtio a’n prosesau llywodraethu;
- Rhoi lle amlwg i nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac ystyried sut y gall ein gwaith helpu pobl eraill i’w cyflawni; - Bod yn ymwybodol o ddatblygiadau mewn dulliau cyfathrebu a thechnoleg digidol, ac addasu ein gweithgareddau yn unol â hynny pan fydd modd; - Cefnogi targed Llywodraeth Cymru i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Diolchiadau Ein Cyfarwyddwyr
Gyda diolch i:
Kate North (Cadeirydd) Jacob Dafydd Ellis Craig Austin Eric Ngalle Charles Annie Finlayson Elizabeth George Radhika Mohanram John O’Shea Delyth Roberts Owain Taylor-Shaw Cathryn Summerhayes Christina Thatcher
Cyngor Celfyddydau Cymru Ymatebwyr ein harolwg Ein Ffrindiau Beirniadol Hefyd: Eluned Parrott David Metcalfe Ifor ap Glyn Sarah Drummond Charles Beckett Damian Walford Davies Pete Fowler
Prif Weithredwr Lleucu Siencyn Noddwr Philip Pullman post@llenyddiaethcymru.org llenyddiaethcymru.org @LlenCymru / @LitWales
Datblygwyd y Cynllun Strategol hwn gyda chefnogaeth werthfawr Rhaglen Wytnwch Cyngor Celfyddydau Cymru.