Gwobrau Hyfforddiant Cenedlaethol a Phrentisiaeth Fodern Cymru 2008

Page 1

Gwobrau Hyfforddiant Cenedlaethol a Phrentisiaeth Fodern Cymru 2008

Datblygu sgiliau a newid bywydau C

afodd unigolion, sefydliadau a chyflogwyr eu cydnabod am eu hymrwymiad eithriadol i ragoriaeth mewn sgiliau yng Ngwobrau Hyfforddiant a Phrentisiaethau Modern Cenedlaethol Cymru 2008. Mae’r gwobrau, a gefnogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn dathlu Prentisiaid Modern, busnesau, darparwyr dysgu a phrosiectau cydweithio a wnaeth gyfraniadau eithriadol i hyfforddiant. Gall y rhain fod wedi bod drwy welliannau mewn datblygiad personol, gweithdrefnau busnes neu gyflenwi rhaglen. Daeth arweinwyr busnes, gwneuthurwyr penderfyniadau, prentisiaid a chyflogwyr o bob rhan o Gymru ynghyd mewn noswaith gala yn Neuadd y Ddinas Caerdydd nos Iau 23 Hydref i weld a chlywed adroddiadau gwefreiddiol am sut mae pobl a sefydliadau wedi trawsnewid eu hunain drwy hyfforddiant a datblygu sgiliau. Mae gan yr enillwyr a’r cystadleuwyr yn y rownd derfynol un nodwedd yn gyffredin – ymrwymiad cadarn i sicrhau rhagoriaeth drwy hyfforddiant.

Gyda phroses gais symlach a chategorïau gwobrau newydd, bu cynnydd o bron 80% yn y ceisiadau am Wobrau Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a chynnydd o 100% yn y Gwobrau Prentisiaeth Fodern yn 2008, gan olygu fod cystadlu brwd. Eleni, derbyniodd 13 o sefydliadau ac unigolion Wobrau Hyfforddiant Cymru, anrhydedd a gefnogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a gyflwynir am lwyddiant rhyfeddol mewn datblygu sgiliau. Cyflwynwyd Gwobr Hyfforddiant Cenedlaethol y Deyrnas Unedig hefyd i bedwar ohonynt, gan eu dodi ymysg y goreuon o bob cwr o’r Deyrnas Unedig. Ymysg enillwyr Gwobr Prentisiaeth Fodern oedd Joanne Frowen prentis Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau o Went, cwmni hyfforddiant ACT o Gaerdydd; a Trenau Arriva Cymru, a ddathlwyd fel y gorau yn eu maes. Dywedodd John Griffiths, Dirprwy Weinidog Sgiliau: “Mae’r Prentisiaethau Modern yn tyfu o nerth i nerth. Mae ymrwymiad Cymru’n Un i sicrhau cynnydd sylweddol yn nifer y prentisiaethau yng Nghymru ar ei ffordd i gael ei wireddu gyda help cyllid sylweddol o’r Gronfa Strwythurol Ewropeaidd.

ENiLLYDD Gwobr HYfforDDiANt CENEDLAEtHoL Y DU

Newid mewn hyfforddiant yn arwain canolfan gyswllt y DVLA at anrhydeddau cenedlaethol Mae llywio system hyfforddiant staff newydd yng Nghanolfan Gyswllt brysur yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn Abertawe wedi arbed £300,000 y flwyddyn i’r asiantaeth ac wedi hybu sgiliau, morâl a boddhad cwsmeriaid. Bu’r rhaglen hyfforddiant fodiwlaidd, sy’n arwain at gymwysterau a achredwyd gan y Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid, yn gymaint o lwyddiant fel bod y DVLA yn awr yn ystyried ei defnyddio ar draws y sefydliad. Gan gyflogi tua 800 o bobl yn trin 22 miliwn o alwadau’r flwyddyn, cafodd cynnydd y ganolfan gyswllt ei gydnabod gan Wobr Hyfforddiant Cenedlaethol ar gyfer cyflogwyr mawr. Cyflwynodd y Ganolfan Gyswllt y rhaglen hyfforddiant bwrpasol ym mis Ionawr y llynedd yn lle’r dull blaenorol ‘hen ffasiwn’ oedd yn methu cyflawni ei dargedau. Roedd yr asiantaeth eisiau cynghorwyr a hyfforddwyr wedi’u hyfforddi’n well i gynyddu bodlonrwydd cwsmeriaid ac ansawdd galwadau ac ymdopi gyda chynnydd o 400% yn nifer y galwadau. Helpodd staff i gynllunio’r rhaglen hyfforddiant newydd drwy gymryd

Jonathan Matthews, rheolwr hyfforddiant Grw ˆp Ymholiadau Cwsmeriaid DVLA rhan mewn grwpiau ffocws ac arolygon. Derbyniodd tua 800 o staff o leiaf 14 diwrnod o hyfforddiant dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae’r rhaglen hyfforddiant newydd wedi arbed £300,000 i’r asiantaeth mewn amser hyfforddwyr a dysgu a chostau llogi ystafell. Mae hefyd wedi cynyddu cynhyrchiant. Mae staff sgilgar yn awr yn trosglwyddo 60,000 yn llai o alwadau’r mis, yn gyfwerth ag arbedion o £120,000 y flwyddyn. Mae bodlonrwydd cwsmeriaid ac arolygon ansawdd wedi gwella i dros 90%. “Roedd yr hen ddull o hyfforddiant yn rhoi’r wybodaeth i bobl heb sicrhau eu bod yn ei deall yn well”, meddai Jonathan Matthews, rheolwr hyfforddiant Grwˆp Ymholiadau Cwsmeriaid DVLA. “Fe wnaethom gyflwyno hyfforddiant modwlar yn ei le lle medrwn adeiladu gwybodaeth rhywun yn raddol, rhoi cymwysterau ffurfiol iddynt a chyflwyno diwylliant hyfforddi. Rydym hefyd yn monitro sut mae staff yn datblygu ar ôl eu hyfforddiant ac mae’r canlyniadau yn siarad drostynt eu hunain.”

Ymrwymiad eithriadol i hyfforddiant Gwobr Hyfforddiant Cenedlaethol y DU - Enillwyr n Awdurdod Addysg Lleol Cyngor Sir Caerdydd n Canolfan Gyswllt DVLA n Ysgol Uwchradd Eirias n Samantha Wilson Gwobr Hyfforddiant Cymru - Enillwyr n 101 mewn partneriaeth gyda Heddlu De Cymru a Chyngor Sir Caerdydd n Agoriad Cyf n Caleb Roberts Insurance Services n Ceri Mumford n DVLA mewn partneriaeth gyda Blue Sky Performance Improvement n Legal & General n Coleg Merthyr Tudful “Bydd prosiect £70 miliwn Sgiliau Safon Fyd-eang Prentisiaeth Modern yn helpu mwy na 22,500 o bobl i gynyddu eu lefel sgiliau, ac ennill pa bynnag gymwysterau y maent eu hangen am y swyddi y

n SAIL - School Action Intervention in Literacy,AALl Caerdydd Gwobrau Prentisiaeth Fodern - Enillwyr n Trenau Arriva Cymru - Enillydd Gwobr Cyflogwr n ACT - Enillydd Gwobr Darparydd n Joanne Frowen - Enillydd Gwobr Dysgwr Gwobrau Prentisiaeth Fodern - Rownd Derfynol n Connaught Partnership - Categori Cyflogwr n BT - Categori Cyflogwr n Debra Foster - Categori Dysgwr n Miles Black - Categori Dysgwr n Coleg Llandrillo Cymru - Categori Darparydd n t2 business solutions - Categori Darparydd dymunant eu cael. Llongyfarchiadau diffuant i bawb yn y rownd derfynol yn y Gwobrau Hyfforddiant Cenedlaethol, mae eu gwaith caled yn ysbrydoliaeth i bawb ohonom.”

ENiLLYDD Gwobr HYfforDDiANt CENEDLAEtHoL Y DU

Prosiect mathemateg yn ennill lle ar y rhestr fer am wobr hyfforddiant genedlaethol Cafodd prosiect creadigol sy’n helpu disgyblion ysgol gynradd sy’n tangyflawni i loywi eu mathemateg ei gydnabod gan Wobr Hyfforddiant am yr ail flwyddyn yn olynol. Y llynedd enillodd y Prosiect Ymyrraeth Rhifedd, a gaiff ei redeg gan Gyngor Sir Caerdydd,Wobr Hyfforddiant Cymru. Eleni, aeth un yn well drwy ennill Gwobr Hyfforddiant Cenedlaethol y DU yn y categori Darparu Addysg a Hyfforddiant. Cafodd y Prosiect Ymyrraeth Rhifedd, a ariannir gan Sgiliau Sylfaenol Cymru hyd 2010, ei redeg am y tair blynedd ddiwethaf gan Samantha Oldfield, athrawes ymgynghorol gyda thîm ymgynghorol mathemateg y cyngor. Yn ystod y cyfnod, mae 36 o ysgolion cynradd, 75 o gynorthwywyr addysgu, 38 o athrawon a channoedd o blant yng Nghaerdydd wedi manteisio o’r prosiect a chafodd ei ddynodi fel “nodwedd eithriadol” yn narpariaeth addysg Caerdydd. Dengys ymchwil fod mwy na thri-chwarter y plant a dderbyniodd gymorth gan gynorthwywyr addysgu a

Samantha Oldfield o Brosiect Ymyrraeth Rhifedd Awdurdod Addysg Lleol Caerdydd hyfforddwyd gan y prosiect wedi gwneud cynnydd da. Mae Samantha, 34, yn darparu hyfforddiant ar gyfer cynorthwywyr addysgu a’r athrawon sy’n fentoriaid iddynt i sicrhau fod ganddynt y sgiliau a’r hyder i gefnogi plant blynyddoedd cynnar a Chyfnod Allweddol 1 a 2 sy’n cael anawsterau gyda mathemateg. “Mae cynyddu hyder cynorthwywyr addysgu ac athrawon, yn ogystal â’u dealltwriaeth o’r sgiliau sydd eu hangen a’u mwynhad o’r pwnc, yn cael effaith uniongyrchol ar safon y cymorth a roddir i blant,” esboniodd Samantha, cyn athrawes ysgol gynradd, a oedd ei hunan unwaith yn cael trafferth gyda mathemateg. Mae cynorthwywyr addysgu a’r athrawon sy’n fentoriaid iddynt yn mynychu sesiynau hyfforddi wythnosol y tu allan i’r ysgol am 18 wythnos gyda chymorth hyfforddiant gan Samantha yn yr ystafell ddosbarth.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Gwobrau Hyfforddiant Cenedlaethol a Phrentisiaeth Fodern Cymru 2008 by Trinity Mirror, North West & North Wales - Issuu