ADVERTISING FEATURE
WALES AND THE EU: PARTNERSHIP FOR JOBS AND GROWTH
EU funds – delivering for Wales Alun Davies AM, Deputy Minister for Agriculture, Food, Fisheries and European Programmes, discusses how EU funds have benefited Wales MAXIMISING EU funds to help our businesses, people and communities as well as our rural economy is more important now than ever before. During recent years, EU funding has given us an edge during some difficult economic times and has enabled us to lay the foundations for sustainable growth and jobs for the future. Through the current Structural Funds programmes 2007–2013, for example, £3.8bn (EU funds £1.8bn) has been invested to help people into work, boost business growth and drive forward innovation. While through the Rural Development Plan, which includes more than £300m of EU funding, we have been able to deliver a range of activities that support the rural economy and the countryside. You only have
to look within your areas to see the positive differences the EU funds are making on the ground through projects such as JEREMIE, the Business Innovation Programme and Modern Apprenticeships. In North Wales alone, Structural Funds projects have already helped more than 4,800 people into work and 20,400 to gain qualifications and created almost 4,000 jobs and 1,400 businesses. We can be proud of these achievements, which will increase as EU projects continue to deliver their activities. Looking ahead, the next round of European funding programmes 2014–2020 are being developed in very different and challenging economic circumstances. Despite our efforts to secure a fair deal for Wales, the recent European Council budget agreement, much praised by the UK Government, may see some of Europe’s vulnerable region, like West Wales and the Valleys (including the areas of Denbighshire, Conwy, Anglesey and Gwynedd), losing out to wealthier regions. East Wales (including Wrexham and Flintshire) is also likely to see a
sharp reduction in its funding. We are now looking to the UK Government to make a fair allocation of support to Wales in order to address our much reduced Structural Funds budget so that we can continue our work in transforming the economy of our country. What is also clear is that every pound Wales does receive must be targeted on supporting jobs and growth. Equally, we also need to get better at co-ordinating our investments across the various EU funding streams – including the Structural, Rural Development and Fisheries funds, and Horizon 2020 – to generate a more sustainable and greater impact. Also a key priority of mine is to simplify and streamline access to these EU funds so that it is easier for organisations and businesses to benefit. To help achieve these goals, I have been discussing lessons learned and our priorities for future EU investments with partners in Wales over the last year. More recently I launched a full public consultation, ‘Wales and the EU: Partnership for Jobs and Growth,’ so that everyone
Lasers lead way with EU backing SET up by Nadeem Rizvi and Julian Burt as a joint venture with Bangor University in 2005, Laser Micromachining Ltd (LML) has grown into one of the UK’s leading providers of laser contract manufacturing services. The company uses high-tech laser machines to cut, drill and machine materials to produce ultra-small features in the development and manufacture of new generations of miniaturised products. Having benefited from the Welsh Government’s EU-funded £26m Business Innovation programme, the hi-tech company has been able to establish a unique commercial laser machining facility in Wales. LML employs six people from its base in St Asaph. The company works for a number of blue-chip businesses within the medical, biotech, renewable energy, displays and micro-electronics industries, to help develop a range of advanced micro-products. Managing director, Nadeem Rizvi, said: “LML is proud that, with this backing, we now have a flourishing world-beating facility in Wales.” The Business Innovation Programme has already helped almost 400 companies to pioneer their innovative ideas to boost business growth.
has the opportunity to feed in their views on how we should maximise the European Structural and Rural Development Funds to help shape conditions for smart, sustainable and inclusive economic growth in Wales and meet the challenges for Welsh agriculture. Wales is an exemplar to other parts of the EU for the way in which we manage and deliver, in partnership, our EU investments in Wales. My aim is for Wales to be even more successful with the delivery of the future European programmes so that businesses can grow, innovation will flourish and our people and communities will have the right skills and opportunities to compete successfully in the 21st century. Alun Davies AM, Deputy Minister for Agriculture, Food, Fisheries and European Programmes l The consultation documents for the Structural Funds and Rural Development programmes are now available at the website www.wefo.wales.gov.uk. Closing date for responses is April 23.
Mark’s training shapes his future FOLLOWING the news that Wylfa Nuclear Power Station was to be decommissioned, Mark Honebone, of Holyhead, started to consider his future career opportunities. Having worked at Wylfa for over 10 years, first as a security guard and then in waste and operational support, he knew he would need to develop new skills for his future success. Mark had previous experience as a police dog handler in the RAF but his ambition was to become a teacher. With support from Menter Môn’s £4m Shaping the Future project, backed by the European Social Fund, he received support to realise his goals. He said: “The project has helped me to map out the best route to achieving my goal of becoming a teacher. “I have also been shown where my personal strengths lie and which areas I need to improve and focus upon to help meet my new career ambition.” Mark now plans to undertake an Open University course in teacher training and has taken a job as a teaching assistant which will help set him on his new career path. Judy Craske of Menter Môn said: “Shaping the Future helps workers in Wylfa and Trawsfynydd with careers advice, mentoring, training and jobsearch support so that they can fully maximise their future employment opportunities. “So far, more than 800 individuals have signed up and we offer assistance to either help them diversify or build on their existing skills and benefit from the future employment opportunities to be created by the Isle of Anglesey’s Energy Island initiative.”
Managing Director of LML. Nadeem Rizvi, with one of his innovative company’s products
WALES AND THE EU: PARTNERSHIP FOR JOBS AND GROWTH
ADVERTISING FEATURE
QPC investment to drive market growth Some of the hard-working team from Bodnant Welsh Food at Furnace Farm
Blazing a trail for Welsh produce OPENED in July 2012, Bodnant Welsh Food at Furnace Farm is fastbecoming a centre of excellence for Welsh produce and is providing a welcome boost to the local economy. The centre, set on the stunning Bodnant Estate in the Conwy Valley, is backed with almost £3m from the Welsh Government, including the European Regional Development Fund and Rural Development Plan. The funding has enabled the transformation and renovation of 18th Century farm buildings to house and showcase the best of local and Welsh produce. So far, more than 60 employees – mainly from the local area – have been recruited by Bodnant Welsh Food, while many thousands of tourists are expected to visit the centre, bringing further economic benefits to the area. Also involved in the centre’s development were local architects Capita Symonds, Colwyn Bay, and contractor K&C Construction, from
WITH headquarters in Flintshire, global company QPC is developing the technology and markets for a ground-breaking customer services’ solution – thanks to the EU-backed JEREMIE fund. A unique Information Gateway called ‘MIG’ (Management Information Gateway) has been developed by QPC to provide exceptional insight about the customer experience and enable the many and varied systems within an organisation to work together far
Kinmel Bay. On site is an extensive farm shop – selling a wide range of local and Welsh produce – a tea room, restaurant, dairy, bakery and a cookery school. One employee, Neil Davies, grew up just three miles away from the site and is now working as a marketing assistant at Furnace Farm He said: “This is my first job since graduating and I feel so lucky and proud to have had the opportunity to begin my career working at such a place that will benefit the local area. “Job opportunities such as these are few and far between in rural areas such as North Wales, especially in the present economic climate. “Because I‘ve grown up in the area, I care greatly about my community and it is amazing to be able to say that the vast majority of the products we stock in the shop will be sourced from this region which is fantastic for the local economy.”
more effectively. In turn it can help businesses, particularly those with call and contact service centres, to make efficiency savings and improve their service delivery. This unique system developed by QPC is already used by some of the world’s largest businesses, including Bell Canada and Vodafone. The company has been awarded £2m from JEREMIE (Joint European Resources for Micro to Medium Enterprises), a fund delivered by
Ryan is flying high AN Aeronautical Engineering Craft Apprentice with Airbus UK in Broughton is on course to achieving his high-flying career ambition of working with aircraft. Ryan McAnerney, 20, from Saltney Ferry, Flintshire, is studying at Deeside College after gaining 14 GCSEs and three A-Levels. Ryan chose not to take the university route to achieve his dream job but instead opted for a work-based placement. The former Air Training Corps member said: “My desire from an early age was to become an engineer to fulfil my fascination with aircraft, particularly the design, implementation and build aspects.” Ryan has already achieved a Foundation Apprenticeship in Engineering Operations with distinction and is now working towards a full apprenticeship, with the aim of becoming a qualified aircraft fitter by September 2014. Welsh Government apprenticeship schemes are backed by the European Social Fund and delivered by further education colleges, in collaboration with businesses across Wales, to provide thousands of opportunities to help people into work.
getting them involved at the butchery and food preparation stages, they will have a clearer idea of what butchers and chefs are looking for from animal produce.” The project delivers throughout Wales, and is funded by the Rural Development Plan through the Supply Chain Efficiency Scheme. One of the farmers who attended the event, Jane Downes, of Ysgubor Teile, Penuwch, has diversified her farming business by also opening a restaurant. She found the advice delivered by Rob and Gareth to be very useful. She said: “The presentation covered so many aspects of meat production, from the farm to the plate, and this knowledge will be very useful to us in our new business.”
BEACON works with companies to convert non-food crops and wastes into commercially viable products
l For more information on EU funding contact the enquiries helpline on 0845 010 3355 or visit www.wefo.wales.gov.uk
l For the latest news on EU funding following www.twitter.com/wefowales
Ryan McAnerney, an Aeronautical Engineering Craft Apprentice with Airbus UK in Broughton
BEACON of light
Adding real value to agriculture sector THROUGH the Cywain project, led by Menter a Busnes, a range of activities and events are taking place to help support the agriculture industry. A recent event promoting red meats produced in Ceredigion gave an insight to farmers and other rural businesses on how to maximise their returns from animal produce. Butcher, Rob Rattray provided a butchery demonstration while Gareth John, head chef of the acclaimed Wynnstay Hotel in Machynlleth, prepared and cooked the meat as it would be served in a quality restaurant. Catrin Jones, Cywain Development Manager South-West Wales, said: “We want producers to think outside the box and, by
Finance Wales to help businesses expand to their full potential. Phil Smith, founder of QPC, explained: “The funding is helping us to further invest in our innovative technology which helps blue-chip clients improve service while achieving significant cost savings. This investment will enable us to harness the considerable global demand for such innovative systems and enable us to grow and create more jobs.”
THE £20m EU-backed BEACON project is making a vital contribution to the green economy helping to establish Wales as a Bio-refining Centre of Excellence. BEACON works with companies to convert non-food crops and wastes, such as rye grass, bran and straw, into commercially viable products – such as butanol and lactic acid, which are used to make road fuel and plastics – for the pharmaceutical, food, packaging, construction, chemical and cosmetic industries. With many businesses in the pipeline, Felin Ganol is one of more than 55 companies already involved in BEACON. Based in Ceredigion, the restored, traditional Welsh watermill, with organic status, produces stoneground flour.
BEACON is helping Felin Ganol identify new ways of using their bran “waste” through innovative bio-refining processes. Miller Anne Parry said: “Working with the BEACON project offers us a great opportunity to explore ways of using our low-value organic bran to produce novel products and thus increase the economic efficiency of our milling.” Aberystwyth University’s Institute of Biological, Environmental and Rural Science (IBERS) is leading the BEACON programme, in collaboration with its partners at Bangor and Swansea Universities. It is backed with over £10m European Regional Development Fund through the Welsh Government.
CYMRU A'R UE: PARTNERIAETH AR GYFER SWYDDI A THWF
ADVERTISING FEATURE
Arian yr UE – yn llesol i Gymru Alun Davies AC, Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, yn trafod sut mae cyllid UE wedi elwa Cymru
M
ae’n bwysicach nawr nag erioed ein bod yn gwneud y gorau o arian yr UE i helpu’n busnesau, pobl a chymunedau yn ogystal â’n heconomi wledig. Yn y blynyddoedd diwethaf, arian yr UE sydd wedi rhoi’r hwb angenrheidiol inni allu dygymod ag amgylchiadau economaidd anodd a gosod sylfeini ar gyfer twf a swyddi cynaliadwy yn y dyfodol. Yn ystod rhaglenni’r Cronfeydd Strwythurol presennol (2007-2013) er enghraifft, cafodd £3.8bn (£1.8bn ohono o’r UE) ei fuddsoddi i helpu pobl i swyddi a busnesau i dyfu ac i sbarduno pobl i arloesi. Yr un pryd, trwy’r Cynllun Datblygu Gwledig, gyda thros £300m o arian yr UE, rydym wedi gallu cynnal amrywiaeth o weithgareddau i gynnal cefn gwlad a’i heconomi. Does dim angen
ichi edrych ymhellach na’ch ardal eich hun i weld y gwahaniaethau positif y mae arian yr UE wedi’u gwneud ar lawr gwlad trwy brosiectau fel JEREMIE, y Rhaglen Arloesi i Fusnesau a Phrentisiaethau Modern. Yn y Gogledd yn unig, mae prosiectau’r Cronfeydd Strwythurol wedi helpu 4,800 o bobl i gael gwaith ac 20,400 i ennill cymwysterau ac wedi creu 4,000 o swyddi a 1,400 o fusnesau. Gallwch ymfalchïo yn yr hyn sydd wedi’i wneud, a gwelwn fwy eto’n cael ei wneud wrth i brosiectau’r UE esgor ar ragor o weithgareddau. Ond gan edrych tua’r dyfodol, mae’r rownd nesaf o raglenni ariannu Ewropeaidd (2014-2020) yn cael eu datblygu o dan amodau economaidd gwahanol ac anodd iawn. Er gwaetha’n hymdrechion i sicrhau bargen deg i Gymru, mae’r gyllideb y cytunodd y Cyngor Ewropeaidd arni ac y mae Llywodraeth y DU wedi bod mor ganmoliaethus ohoni, yn debygol o weld rhanbarthau bregus yr UE, gan gynnwys y Gorllewin a’r Cymoedd, yn colli allan i ranbarthau cyfoethocach. Bydd y Dwyrain hefyd yn debygol o weld gostyngiad mawr yn ei chyllideb.
Rhaid dibynnu nawr ar Lywodraeth y DU i ddyrannu’r arian yn deg i Gymru er mwyn ein digolledu am ein cyfran is o gyllideb y Cronfeydd Strwythurol ac i ni allu dal ati i weddnewid economi ein gwlad. Yr hyn sydd yn amlwg yw bod yn rhaid i bob punt sy’n dod i Gymru gefnogi swyddi a thwf economaidd. Yn yr un modd, rhaid inni ddysgu sut mae trefnu’n buddsoddiadau’n well ar draws holl ffrydiau ariannu gwahanol yr UE –y Cronfeydd Strwythurol, y Gronfa Datblygu Gwledig, y Gronfa Pysgodfeydd a Horizon 2020 – iddynt fedru cael effaith fwy cynaliadwy a chryfach. Hefyd, blaenoriaeth fawr i mi yw symleiddio’r drefn ar gyfer cael at arian yr UE i’w gwneud yn haws i fusnesau a chyrff elwa arno. I’n helpu i gyrraedd y nod, rwyf wedi bod yn trafod â’n partneriaid yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf y gwersi a ddysgwyd a’n blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi arian yr UE yn y dyfodol. Yn fwy diweddar, lansiais ymgynghoriad llawn ar ‘Cymru a’r UE: Partneriaeth ar gyfer Swyddi a Thwf’, fel bod pawb yn cael cyfle i
UE yn cefnogi arloeswyr laser
MAE Laser Micromachining Ltd (LML), a sefydlwyd gan Nadeem Rizvi a Julian Burt fel cyd-fenter â Phrifysgol Bangor yn 2005, wedi tyfu i fod yn un o’r darparwyr gwasanaethau gweithgynhyrchu laser mwyaf blaenllaw yn y DU. Mae’r cwmni yn defnyddio peiriannau laser uwch-dechnoleg i dorri, tyllu a pheiriannu deunyddiau er mwyn cynhyrchu nodweddion hynod fach wrth ddatblygu a chynhyrchu cenedlaethau newydd o gynhyrchion mân. Ar ôl cael arian trwy raglen £26m Arloesi Busnes Llywodraeth Cymru a ariennir gan yr UE, mae’r cwmni wedi llwyddo i sefydlu cyfleuster peiriannu laser masnachol unigryw yng Nghymru. Mae LML yn cyflogi chwech o bobl yn ei ganolfan yn Llanelwy. Mae’r cwmni yn gweithio i nifer o fusnesau o’r radd flaenaf yn y diwydiant meddygol, biodechnoleg, ynni adnewyddadwy, arddangos a micro-electroneg er mwyn helpu i ddatblygu amrywiaeth o ficro-gynhyrchion datblygedig. Meddai Nadeem Rizvi, Rheolwr Gyfarwyddwr LML: “Mae LML yn falch bod gennym bellach gyfleuster ffyniannus gyda’r gorau yn y byd, gyda’r cymorth hwn.” Mae’r Rhaglen Arloesi Busnes eisoes wedi helpu bron 400 o gwmnïau hyd yma i dreialu eu syniadau arloesol er Nadeem Rizvi, Rheolwr Gyfarwyddwr LML, gydag un o gynhyrchion ei gwmni arloesol mwyn hybu twf busnes.
ddweud ei ddweud. Rydym am wneud y gorau o’r Cronfeydd Strwythurol a Datblygu Gwledig i sbarduno twf economaidd sy’n ddoeth, cynaliadwy a chynhwysol yng Nghymru ac wynebu heriau amaethyddiaeth Cymru. Mae Cymru’n esiampl i weddill yr UE o ran sut i reoli buddsoddiadau’r UE mewn partneriaeth a chael y gorau ohonyn nhw. Fy nod yw gweld Cymru’n cael hyd yn oed mwy o lwyddiant wrth gynnal rhaglenni Ewrop yn y dyfodol er mwyn i fusnesau allu tyfu, arloesedd allu ffynnu ac i’n cymunedau a’n pobl allu meithrin y sgiliau a’r cyfleoedd iawn i gystadlu’n llwyddiannus yn yr 21ain Ganrif. Alun Davies AC Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd l Mae’r dogfenni ymgynghori ar Gronfeydd Strwythurol a Rhaglenni Datblygu Gwledig ar gael ar www.wefo.cymru.gov.uk. Y dyddiad cau ar gyfer ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus yw 23 Ebrill 2013.
Cymorth i ffurfio dyfodol newydd YN dilyn y newyddion y byddai Atomfa’r Wylfa yn cael ei ddatgomisiynu dechreuodd Mark Honebone, o Gaergybi feddwl am ei gyfleoedd am yrfa yn y dyfodol. Ar ôl gweithio yn yr Wylfa ers dros 10 mlynedd, yn gyntaf fel swyddog diogelwch ac yna yn yr adran wastraff a chymorth gweithredol, gwyddai y byddai angen iddo ddatblygu sgiliau newydd er mwyn llwyddo yn y dyfodol. Roedd Mark wedi cael profiad fel Swyddog Cw ˆ n yr Heddlu yn yr Awyrlu Brenhinol ond ei uchelgais oedd bod yn athro. Gyda chymorth prosiect Llunio’r Dyfodol gwerth £4m Menter Môn, a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, cafodd gymorth i wireddu ei uchelgais. Meddai: “Mae’r prosiect wedi fy helpu i bennu’r ffordd orau o gyflawni fy nod o fod yn athro. Mae’r prosiect hefyd wedi dangos i mi lle mae fy nghryfderau personol a’r meysydd sydd angen sylw er mwyn fy helpu i wireddu fy uchelgais am yrfa newydd.” Erbyn hyn mae Mark yn bwriadu dilyn cwrs hyfforddiant athrawon gyda’r Brifysgol Agored ac mae wedi derbyn swydd fel cynorthwyydd dysgu a fydd yn ei helpu tuag at ei yrfa newydd. Meddai Judy Craske o Menter Môn: “Mae Llunio’r Dyfodol yn helpu gweithwyr o’r Wylfa a Thrawsfynydd i gael cyngor gyrfaol, mentora, hyfforddiant a chymorth i chwilio am swyddi, er mwyn iddynt fedru manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol. Hyd yma mae dros 800 o unigolion wedi cofrestru gyda ni ac rydym yn cynnig cymorth naill ai i’w helpu i arallgyfeirio neu i gryfhau’r sgiliau sydd ganddynt, a manteisio ar y cyfleoedd gwaith fydd yn cael eu creu gan fenter Ynys Ynni Môn yn y dyfodol.”
CYMRU A'R UE: PARTNERIAETH AR GYFER SWYDDI A THWF
ADVERTISING FEATURE
QPC yn buddsoddi i hybu’r farchnad Rhai o’r tîm gweithgar yn Bwyd Cymru Bodnant yn Fferm Ffwrnais
Ar y blaen gyda chynnyrchCymreig MAE Canolfan Fwyd Bodnant, a agorwyd ym mis Gorffennaf 2012, yn prysur ddod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer cynnyrch Cymreig ac yn rhoi hwb gwerthfawr i’r economi leol. Mae’r ganolfan, sydd wedi’i lleoli ar ystad ysblennydd Bodnant yn Nyffryn Conwy, wedi cael bron £3m gan Lywodraeth Cymru gan gynnwys arian drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a’r Cynllun Datblygu Gwledig. Drwy’r arian hwn bu modd gweddnewid ac adnewyddu adeiladau fferm o’r 18fed ganrif i arddangos y cynnyrch lleol a Chymreig gorau. Hyd yma mae dros 60 o staff - o’r ardal leol yn bennaf – wedi cael eu recriwtio gan Bwyd Cymru Bodnant, a disgwylir i filoedd lawer o ymwelwyr ddod i’r ganolfan gan ddod â manteision economaidd ychwanegol i’r ardal. Bu penseiri lleol Capita Symonds, Bae Colwyn, a’r contractwr, K&C Construction, o Fae Cinmel yn ymwneud â’r gwaith o ddatblygu’r ganolfan hefyd.
Ar y safle ceir siop fferm fawr – sy’n gwerthu amrywiaeth eang o gynnyrch lleol a Chymreig - ystafell de, bwyty, llaethdy, becws ac ysgol goginio. Cafodd un gweithiwr, Neil Davies, ei fagu dair milltir i ffwrdd o’r safle ac mae bellach yn gweithio fel cynorthwy-ydd marchnata yn Fferm Ffwrnais. Meddai: “Dyma fy swydd gyntaf ers graddio ac rwy’n teimlo mor ffodus ac mor falch o gael y cyfle i ddechrau fy ngyrfa yn gweithio mewn lle fel hwn a fydd yn fuddiol i’r ardal leol. “Mae cyfleoedd swyddi o’r fath yn brin iawn mewn ardaloedd gwledig fel y gogledd, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni. “Gan fy mod yn hanu o’r ardal leol, mae fy nghymuned leol yn bwysig iawn i mi ac mae’n anhygoel cael dweud bod y rhan helaeth o’r cynhyrchion rydym yn eu gwerthu yn y siop fferm yn dod o’r rhanbarth hwn, sy’n beth gwych i’r economi leol.”
MAE’R cwmni byd-eang QPC, sydd â phencadlys yn Sir y Fflint, yn datblygu’r dechnoleg a’r marchnadoedd ar gyfer adnodd gwasanaethau cwsmeriaid arloesol – diolch i gronfa JEREMIE a gefnogir gan yr UE. Cafodd Porth Gwybodaeth unigryw a elwir yn ‘MIG’ (Management Information Gateway) ei ddatblygu gan QPC i roi dealltwriaeth ddofn am brofiadau cwsmeriaid a galluogi’r systemau lu o fewn sefydliad i weithio gyda’i
gilydd yn fwy effeithiol. Yn ei dro, gall helpu busnesau, yn enwedig y rheini sydd â chanolfannau galwadau a gwasanaethau cyswllt, i wneud arbedion effeithlonrwydd a gwella’u gwasanaethau. Mae’r system unigryw hon a ddatblygwyd gan QPC eisoes yn cael ei defnyddio gan rai o fusnesau mwyaf y byd gan gynnwys Bell Canada a Vodafone. Mae’r cwmni wedi cael £2m trwy JEREMIE (Cyd-adnoddau Ewropeaidd ar gyfer Busnesau Micro i Ganolig), sef cronfa a
Cyflawni uchelgais MAE Prentis Crefft Peirianneg Awyrofod gydag Airbus UK ym Mrychdyn ar fin cyflawni ei uchelgais i weithio gydag awyrennau. Mae Ryan McAnerney, 20 oed, o Saltney Ferry, Sir y Fflint, yn astudio yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy ar ôl ennill 14 TGAU a 3 Safon Uwch. Penderfynodd Ryan beidio â dilyn llwybr prifysgol i gael ei swydd ddelfrydol, ond, yn hytrach, dewisodd geisio lleoliad yn y gwaith. Meddai’r cyn-aelod o’r Corfflu Hyfforddiant Awyr: “Ers yn fachgen ifanc roeddwn i eisiau bod yn beiriannydd, er mwyn gweithio ar awyrennau a oedd wastad wedi mynd â’m bryd, yn enwedig yr agweddau sy’n ymwneud â dylunio, gweithredu ac adeiladu.” Mae Ryan eisoes wedi cyflawni Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweithrediadau Peirianyddol gydag anrhydedd ac erbyn hyn mae’n gweithio tuag at brentisiaeth, gyda’r nod o ddod yn osodwr awyrennau cymwysedig erbyn mis Medi 2014. Cefnogir prentisiaethau Llywodraeth Cymru gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop ac maent yn cael eu darparu gan golegau addysg bellach, ar y cyd â busnesau ledled Cymru, i gynnig miloedd o gyfleoedd i helpu pobl i gael gwaith.
gynhyrchwyr feddwl yn greadigol a thrwy eu cael i fod yn rhan o’r camau cigydda a pharatoi bwyd, byddant yn cael darlun cliriach o’r hyn y mae cigyddion a chogyddion yn dymuno ei weld o gynnyrch anifeiliaid.” Mae prosiect Cywain yn gweithredu ledled Cymru ac fe’i hariennir gan y Cynllun Datblygu Gwledig drwy Gynllun Effeithlonrwydd y Gadwyn Gyflenwi. Mae un o’r ffermwyr a fu’n bresennol yn y digwyddiad, Jane Downes o Ysgubor Teile, Penuwch, wedi arallgyfeirio ei busnes ffermio drwy agor bwyty. Yn ei barn hi, roedd y cyngor a roddwyd gan Rob a Gareth yn ddefnyddiol iawn. Meddai: “Roedd y cyflwyniad yn cwmpasu cymaint o agweddau ar gynhyrchu cig, o’r fferm i’r fforc, a bydd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol iawn i ni yn ein busnes newydd.”
Mae BEACON yn gweithio gyda chwmniau i roi potensial masnachol i gnydau a gwastraff
l Am ragor o wybodaeth am arian yr UE cysylltwch a'n llinell
ymholiadau ar 0845 010 3355 neu ewch i www.wefo.cymru.gov.uk
l Am ragor o newyddion ar arian yr UE dilynwch ni ar Twitter:
www.twitter.com/wefocymru
Ryan McAnerney, sy’n Brentis Crefft Peirianneg Awyrofod gyda chwmni Airbus UK ym Mrychdyn
Goleuo’r ffordd
Ychwanegu at lwyddiant y diwydiant amaethyddol DRWY brosiect Cywain, dan arweiniad Menter a Busnes, cynhelir amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau i helpu i gefnogi’r diwydiant amaeth. Cynhaliwyd digwyddiad diweddar i hybu cig coch a gynhyrchir yng Ngheredigion, gan helpu ffermwyr a busnesau gwledig eraill i ddeall sut i gael yr elw mwyaf o gynnyrch anifeiliaid. Cafwyd sesiwn arddangos dulliau cigydda gan y cigydd Rob Rattray a bu Gareth John, pen-cogydd Gwesty’r Wynnstay ym Machynlleth yn dangos sut i baratoi a choginio’r cig fel y byddai’n cael ei weini mewn bwyty o safon. Dywedodd Catrin Jones, Rheolwr Datblygu De-orllewin Cymru Cywain, mai nod digwyddiadau o’r fath oedd ysbrydoli cynhyrchwyr i feddwl yn greadigol am ychwanegu gwerth at eu stoc. Dywedodd: “Rydym am i
ddarperir gan Cyllid Cymru i helpu busnesau i ehangu i’w potensial llawn. Meddai Phil Smith, sylfaenydd QPC: “Mae’r arian yn ein helpu i fuddsoddi ymhellach yn ein technoleg arloesol sy’n helpu cleientiaid o’r radd flaenaf i wella gwasanaethau ac ar yr un pryd sicrhau arbedion sylweddol mewn costau. Bydd y buddsoddiad hwn yn ein galluogi i harneisio’r galw aruthrol a geir trwy’r byd am systemau blaengar o’r fath gan ein galluogi i greu mwy o swyddi.”
MAE prosiect BEACON gwerth £20m, gyda chefnogaeth yr UE, yn gwneud cyfraniad hollbwysig i gynorthwyo’r economi werdd gan helpu i sefydlu Cymru fel Canolfan Ragoriaeth mewn Bioburo. Mae BEACON yn gweithio gyda chwmnïau i droi cnydau nad ydynt yn fwyd a gwastraff megis rhygwellt, bran a gwellt yn gynhyrchion gyda photensial masnachol - fel asid bwtanol a lactig, a ddefnyddir i wneud tanwydd cludiant a phlastigion – ar gyfer y sectorau fferyllol, bwyd, pecynnu, adeiladu, cemegol a chosmetig. Gyda llawer o fusnesau yn yr arfaeth, mae’r Felin Ganol yn un o fwy na 55 o gwmnïau sydd eisoes yn rhan o BEACON. Mae’r felin ddwr draddodiadol hon yng Ngheredigion, sydd wedi cael ei hadfer ac wedi ennill statws
organig, yn cynhyrchu blawd mâl. Mae BEACON yn ceisio helpu’r Felin Ganol i nodi ffyrdd newydd o ddefnyddio’u bran “gwastraff” drwy broses bioburo arloesol. Meddai’r felinwraig Anne Parry: “Mae gweithio gyda phrosiect BEACON yn cynnig cyfle gwych i archwilio ffyrdd o ddefnyddio bran organig gwerth isel i gynhyrchu cynhyrchion newydd, a thrwy hynny wneud ein prosesau melino yn fwy effeithlon yn economaidd.” Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth sy’n arwain rhaglen BEACON mewn cydweithrediad â’i bartneriaid ym Mhrifysgolion Bangor ac Abertawe. Fe’i cefnogir gan dros £10m o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.