What's On July 2017 - January 2018

Page 1

orieldavies.org

Awst—Ionawr August—January 2017/18

orieldavies


Awst—Ionawr August—January 2017/18

I ddod Coming up… 29 Gorffennaf/July— 20 Medi/September Twelve Tall Tales Arddangosfa grw ˆp/Group exhibition Litmus (rhan/part 2) | AJ Stockwell 07 Hydref/October— 02 Rhagfyr/December Re-enactment: Louise Bristow (Enillydd Arddangosfa Agored 2016/ Open 2016 winner) Litmus (rhan/part 3) | Neasa Terry

Croeso Welcome

07 Hydref/October— 27 Ionawr/January 2018 The Kitchen Open Space year 2 09 Rhagfyr/December— 27 Ionawr/January 2018 Colourfelt: Andreas Rüthi (Enillydd Arddangosfa Agored 2016/ Open 2016 winner) Litmus (rhan/part 4)

Mae'r gweithiau celf sydd yn cael eu harddangos ar werth. Mae'r Oriel yn gweithredu'r Cynllun Casglu. Exhibited artworks for sale. Collectorplan is available.

Rhagor o wybodaeth: www.orieldavies.org Neu, gallwch gofrestru ar gyfer ein e-gylchlythyr misol, a bod y cyntaf i wybod beth sydd ar y gweill yn Oriel Davies. Find out more: www.orieldavies.org Or, sign up for our monthly e-newsletter and be the first to know what’s coming up at Oriel Davies.

orieldavies.org


Twelve Tall Tales

Arddangosfeydd Exhibitions

29 Gorffennaf/July— 20 Medi/September

Hefin Jones, The Welsh Space Campaign, 2013—2014 Photo by Dan Burn-Forti

Mae storïau yn bodoli o fewn hyd oes pob gwrthrych, boed hynny ar ffurf stori ynghylch trysor teuluol, neu banel gwybodaeth wedi’i osod wrth ymyl arddangosyn amgueddfa. Yn fwy diweddar, mae adrodd storïau wedi cael ei addasu fel teclyn marchnata, i gyfeirio at draddodiad a dilysrwydd. Mae’r arddangosfa hon, sy’n croesawu teuluoedd, yn cymryd ymagwedd fwy cynnil o ran archwilio adrodd storïau drwy wrthrychau wedi’u saernïo. Mae’r gweithiau’n cynnig amryfal ffyrdd ble y gellir trosi cyfeiriadau ffuglennol, doniol, diwylliannol, gwleidyddol a hanesyddol yn wrthrychau wedi’u saernïo. Mae deuddeg o artistiaid, gwneuthurwyr a dylunwyr, a ddewiswyd gan ein curadur gwadd, Onkar Kular, yn adrodd storïau drwy wrthrychau maen nhw wedi'u gwneud. Mae hyn yn cynnwys The Welsh Space Campaign gan y dylunydd rhyngddisgyblaethol, Hefin Jones, sy'n cynnig bod gan Gymru'r capasiti i archwilio gofod. Yn ei waith, mae pob eitem sydd ei hangen i sefydlu ymgyrch gofod cenedlaethol yn cael ei thrwytho yn niwylliant, sgiliau a thraddodiadau Cymru. Bob dydd Sadwrn Rhwng 11am—1pm a 2pm—3pm*, bydd un o’r darnau sydd yn cael ei arddangos, sef Play For A Handling Collection gan Cecilie Gravesen, yn cael ei animeiddio gan Dywysydd yr Oriel, fel bod ymwelwyr yn gallu gafael yn y gwrthrychau a chymryd rhan mewn sesiwn drin wedi’i choreograffu yn yr oriel. *Amseroedd gwahanol ddydd Sadwrn, 29 Gorffennaf

Artistiaid / Artists Åbäke, Auger-Loizeau, Carl Clerkin, Cecilie Gravesen, El Ultimo Grito, Zhenhan Hao, Hilda Hellström, Hefin Jones, Onkar Kular, Dash MacDonald, Noam Toran, Dawn Youll Stories exist within the lifespan of every object, whether in the form of a tale around a treasured heirloom or an information panel placed next to a museum exhibit. More recently, storytelling has been adapted as a marketing tool, to allude to tradition and authenticity. This family friendly exhibition takes a more subtle approach in exploring storytelling through crafted objects. The works present multiple ways in which fictional, humorous, cultural, political and historical references can be translated into crafted objects. Twelve artists, makers and designers, selected by guest curator Onkar Kular, tell stories through objects that they have made. This includes The Welsh Space Campaign by interdisciplinary designer Hefin Jones who proposes that Wales has the capacity to explore space. His work injects Welsh culture, skills and traditions into every item needed to establish a national space campaign. Every Saturday 11am—1pm & 2pm—3pm*, one of the exhibits, Play For A Handling Collection by Cecilie Gravesen will be animated by the Gallery Guide, so that visitors can handle the objects and participate in a choreographed handling session in the gallery. *Different times apply Saturday 29 July

Mae’r arddangosfa wedi cael ei dylunio gan Martino Gamper ac Åbäke.

The exhibition is designed by Martino Gamper and Åbäke.

Arddangosfa Deithiol y Cyngor Crefftau Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Lloegr

A Crafts Council Touring Exhibition Supported by Arts Council England


07 Hydref/October 2017— 27 Ionawr/January 2018 Gofod cymdeithasol creadigol, lle bydd celf, perfformio, crefft a ffilm, yn cael eu gwneud, eu rhannu a’u hysbrydoli. The Kitchen yw gofod digwyddiadau a phrosiectau untro Oriel Davies ac mae’n cyflwyno rhaglen fywiog o weithdai, gweithgareddau, digwyddiadau a sgyrsiau ochr yn ochr â chyfleoedd gwych ar gyfer cydweithio ac ymyriadau cymunedol. Mae The Kitchen yn ystafell i ymlacio a chymdeithasu ynddi, yn ogystal â lle i fod yn greadigol. Mae The Kitchen wedi cael ei ddylunio fel amgylchedd hyblyg ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau, a bydd yn addasu ac yn newid yn barhaus dros y pedwar mis wrth i ymwelwyr, artistiaid a grwpiau cymunedol greu a rhannu eu gwaith.

GWNEUD / CHWARAE / RHANNU MAKE / PLAY / SHARE

Bydd gwybodaeth am y rhaglen yn cael ei chyhoeddi ar-lein o ddiwedd mis Medi. Gan adeiladu ar gyflawniadau The Drawing Room yn y flwyddyn gyntaf, The Kitchen ydy rhifyn nesaf Gofod Agored, sef prosiect peilot dwy flynedd sy'n rhedeg ochr yn ochr â, ac yn ychwanegol at, arddangosfa a rhaglenni dysgu presennol yr Oriel. Ymunwch â The Kitchen Collective! Grw ˆ p newydd sydd ar agor i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan a chefnogi The Kitchen. Bydd y Collective yn rhoi mewnbwn i'r hyn sy’n digwydd yn y gofod prosiectau, yn cefnogi digwyddiadau a gweithgareddau, ac yn helpu i ledaenu’r gair. Cefnogir Gofod Agored gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Esmée Fairbairn.

A creative social space, where art, performance, craft and film will be made, shared and inspired. The Kitchen is Oriel Davies’ pop-up project and event space, presenting a vibrant programme of workshops, activities, events and talks alongside fantastic opportunities for collaboration and community intervention. The Kitchen is a room to relax and hang out in as well as a space for creativity. Designed as a flexible environment for a wide range of activity, The Kitchen will continuously adapt and change over the four months as visitors, artists and community groups create and share their work. Programme information will be available online from the end of September. Building on the achievements of The Drawing Room in year one, The Kitchen is the next edition of Open Space, a two-year pilot project that runs alongside, and in addition to, the Gallery's existing exhibition and learning programmes. Join The Kitchen Collective! A new group open to anyone interested in taking part and supporting The Kitchen. The Collective will help shape what takes place in the project space, support events and activities as well as be out there spreading the word. Open Space is supported by the Esmée Fairbairn Foundation and the Arts Council of Wales. Rhagor o wybodaeth/ Find out more: amber@orieldavies.org www.openspace.orieldavies.org


Arddangosfeydd Exhibitions

Launching the first of two painting shows, Brighton-based artist Louise Bristow (joint prizewinner for Oriel Davies Open 2016), presents a major body of new and recent work in her first exhibition in Wales.

07 Hydref/October— 02 Rhagfyr/December

Re-enactment: Louise Bristow

Wrth lansio’r cyntaf o ddwy sioe baentiadau, mae’r artist Louise Bristow, sy’n byw yn Brighton (cyd-enillydd Arddangosfa Agored Oriel Davies 2016), yn cyflwyno corff mawr o waith newydd a diweddar yn ei harddangosfa gyntaf yng Nghymru. Mae paentiadau manwl, hardd Louise yn cael eu creu mewn ymateb uniongyrchol i drefniadau modelau ac elfennau gludwaith, sy’n atgoffa rhywun o setiau llwyfan bychan, wedi’u rhoi at ei gilydd yn ei stiwdio. Mae cynnwys y rhain yn cael eu hysbrydoli gan adnoddau mawr yr artist o lyfrau, cylchgronau ac effemera printiedig, sydd wedi cael eu cronni dros amser o farchnadoedd rhad, a siopau elusennol yn y DU a thramor. Mae hi hefyd yn cyfeirio at ei lluniau a’i modelau cywrain ei hun o adeiladau mae hi wedi eu crefftio (neu rannau o adeiladau), ciosgau a ffurfiau tri dimensiwn eraill. Mae pob cyfansoddiad yn cael eu datblygu drwy gyfosod delweddau a gwrthrychau mewn proses archwiliadol, lle mae syniadau cychwynnol yn esblygu’n gyflym ac yn symud i gyfeiriadau anhysbys.

Louise Bristow, Playground, 2017, Photo by Bernard G Mills

Mae ei phaentiadau grymus a chyfareddol yn troelli amser a gofod, ac yn cyflwyno amgylcheddau gwahanol i’w harchwilio. Mae’r ystyr neu’r stori ymhob darn yn llac, ac yn cael eu darllen dro ar ôl tro yn ôl yr amgylchiadau.

Louise’s intimately beautiful paintings are created directly in response to arrangements of models and collage elements, reminiscent of miniature stage sets, assembled in her studio. The content of these are inspired by the artist’s large resource of books, magazines and printed ephemera, amassed over time from flea markets, charity shops in the UK and abroad. She also references her own photographs and intricate models she has crafted of buildings (or parts of buildings), kiosks and other three-dimensional forms. Each composition is developed through juxtaposing images and objects in an exploratory process, where initial ideas quickly evolve and shift in unknown directions. Her compelling and intriguing paintings twist time and space, presenting alternative environments for exploration. The meaning or story within each piece is loose, having multiple readings over time and according to circumstance.


colourfelt: Andreas Rüthi

09 Rhagfyr/December 2017— 27 Ionawr/January 2018

Mae colourfelt yn dwyn ynghyd y pum corff o waith gan yr arlunydd o’r Swistir, Andreas Rüthi: cyd-enillydd Arddangosfa Agored Oriel Davies 2016. Mae Andreas, sydd yn byw ac yn gweithio yn Sir Fynwy, wedi arddangos ei baentiadau bywyd llonydd mewn dros ugain o arddangosfeydd unigol ar draws y byd. Mae Oriel Davies yn falch o gyflwyno colourfelt, ei sioe un person cyntaf yng Nghymru. Mae'r gwaith yn ymchwiliad cyson i’r posibiliadau newydd o fewn traddodiadau paentio: o liw a ffurf, i’r syniad o’r ‘tebygrwydd’ a’r syllu. Mae llawer o'i bwnc yn tarddu o gylchgronau, printiau, llyfrau a gwrthrychau hapgael, ac yn chwarae â natur atgynhyrchu ac ail-gyflwyno. Mae Field yn cael ei ddangos am y tro cyntaf, ac yn taflu lliwiau afreolus i’r oriel. Mae’r gwaith, sy’n cynnwys 64 o baentiadau sy’n portreadu bob atgynhyrchiad mewn arweinlyfr ar fadarch, yn dathlu pw ˆer rhithbeiriol lliw, tra’n cynrychioli’r potensial o fewn pob atgynhyrchiad. Mae teitl y sioe, sef colourfelt, yn cyfeirio at y profiad o liw ac at y gair Almaeneg am ‘field’ sef Feld, sydd yn cael ei ynganu fel felt.

Arddangosfeydd Exhibitions

colourfelt brings together five bodies of work by Swiss-born painter Andreas Rüthi: joint prizewinner for Oriel Davies Open 2016. Andreas, who lives and works in Monmouthshire, has exhibited his still life paintings in over twenty solo exhibitions worldwide. Oriel Davies is delighted to present colourfelt, his first one-person show in Wales. The work is a constant investigation in new possibilities held within the traditions of painting: from colour and form to the notion of ‘likeness’ and the gaze. Much of his subject matter originates from magazines, prints, books and found objects
and plays with the nature of reproduction and re-presentation. Showing for the first time and throwing the gallery into riotous colour is Field. Consisting of 64 paintings portraying every reproduction in a mushroom guidebook, the work celebrates the hallucinogenic power of colour, while representing the potential held within each reproduction. The title of the show colourfelt refers to both the experience of colour and the German word for field which is Feld, pronounced felt.

Andreas Rüthi, Field, 2017


Arddangosfeydd Exhibitions

29 Gorffennaf/July— 20 Medi/September 2017 AJ Stockwell: In Guise of the Rock 07 Hydref/October— 02 Rhagfyr / December 2017 Neasa Terry: Cyfnod Preswyl Litmus/ Litmus Residency 09 Rhagfyr/December 2017— 27 Ionawr/January 2018 (bydd yr artist yn cael ei ddewis drwy broses galwad agored/ artist to be selected through open call)

Gan adeiladu ar etifeddiaeth ein mentrau blaenorol — TestBed ac In Focus —mae Litmus yn rhaglen gomisiynu a datblygu ar gyfer artistiaid newydd yng Nghymru a'r Gororau, i ymchwilio datblygu a chyflwyno gwaith newydd yn Oriel Davies.

Building on the legacy of our previous initiatives — TestBed and In Focus — Litmus is a commissioning and development programme for early career artists based in Wales and the Welsh Borders to research, develop and present new work at Oriel Davies.

Lansiwyd y rhaglen Litmus ym mis Mai, pan agorwyd arddangosfa Katie Surridge Who lives in a hole like this?, ac yn dilyn ein hail alwad agored, rydym yn falch iawn o gyhoeddi comisiwn newydd gan AJ Stockwell, ac artist preswyl cyntaf y rhaglen, Neasa Terry.

The Litmus programme launched in May with the opening of Katie Surridge’s exhibition Who lives in a hole like this? and following our second open call, we’re delighted to announce the development of a new commission by AJ Stockwell and the programme’s first residency artist, Neasa Terry.

Bydd AJ Stockwell, sydd yn cael ei chyfareddu gan natur newidiol deunyddiau drwy amser a lle, a gan y diwylliant o rannu deunyddiau, yn canolbwyntio ar ddarn o'i phrosiect uchelgeisiol White Rock, sy'n tynnu ar etifeddiaeth y diwydiant porslen yn Ewrop. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd Neasa Terry yn treulio cyfnod preswyl yn archwilio elfennau newydd ymarfer sy'n ymwneud â sain wedi’i recordio, y corff dynol, atgynhyrchu mecanyddol a thechnoleg. Mae comisiynau ar gyfer y rhaglen Litmus yn cael eu dewis drwy broses galwad agored, a byddwn yn cyhoeddi’r gyfres nesaf o alwadau yn ystod tymor yr Hydref 2017. Cefnogir Litmus gan Gyngor Celfyddydau Cymru

AJ Stockwell, In Guise of the Rock, 2017

Fascinated by the slippage of materials through time and place, and our shared 'material' culture, AJ Stockwell will focus on an excerpt of her ambitious project White Rock, which draws on the legacy of the porcelain industry in Europe. Later in the year, Neasa Terry will be in residence to explore emergent strands of practice relating to recorded sound, the human body, mechanical reproduction and technology. Litmus is selected through open call and we’ll be announcing future call outs in Autumn 2017. Litmus is supported by the Arts Council of Wales Rhagor o wybodaeth/Find out more: www.orieldavies.org/en/litmus or email Litmus Curator Louise Hobson litmus@orieldavies.org

Mae cyfleusterau sain ddisgrifiad ar gael. Audio description available.


Gweithdai a Chyrsiau Workshops & Courses Satine DiMonté

Dosbarthiadau Bywluniadu ar ddydd Sadwrn gyda Caroline Ali Dydd Sadwrn cyntaf bob mis 10.15am—1.30pm £20 (yn cynnwys deunyddiau)

Saturday Life Drawing Classes with Caroline Ali First Saturday of each month 10.15am—1.30pm £20 (includes materials)

Sesiynau difyr â thiwtor, sy’n annog cryfderau unigol wrth archwilio gwahanol agweddau ar dynnu llun y ffigwr dynol. Mae'r sesiynau hyn yn cael eu cynllunio i roi cyngor technegol mewn meysydd allweddol fel cyfrannedd, persbectif, llinell, tôn, lliw, ac ystum. Cewch eich annog i ddatblygu eich arddull eich hun gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau mewn awyrgylch hamddenol a chreadigol. Yn addas ar gyfer dechreuwyr ac artistiaid profiadol. Rhaid cadw lle.

These fun, tutored sessions encourage individual strengths whilst exploring different aspects of drawing the human figure. The sessions are designed to give technical advice in key areas such as proportion, perspective, line, tone, colour and gesture. Participants are encouraged to develop their own style using a variety of materials in a relaxed and creative atmosphere. Suitable for beginners and experienced artists. Booking essential.

Dosbarth Bywluniadu Arbennig! Digwyddiad Braslunio Cabaret Arbennig Oriel Davies Dydd Sadwrn 23 Medi, 10.30am—3.30pm (yn cynnwys awr o egwyl i gael cinio) £28 (yn cynnwys yr holl ddeunyddiau) Dewch i dreulio’r diwrnod yn tynnu llun y ffigwr dynol-ond gyda thro y tro hwn. Ar ôl digwyddiad hynod lwyddiannus y llynedd, rydym yn gwahodd pobl yn ôl i fraslunio’r perfformiwr bwrlésg disglair Satine Dimonté, a fydd yn ystumio ac yn dangos ei chorff yn ei thaselau a’i phlu. Bydd hwyl, cerddoriaeth a gwisgoedd hynod i gyd yn rhan o’r digwyddiad gwahanol hwn! Rhaid cadw lle. Rhaid cadw lle/ Booking essential: desk@orieldavies.org 01686 625041

Life Drawing Extra! Oriel Davies Cabaret Sketching Special Saturday 23 September, 10.30am—3.30pm (including 1 hour break for lunch) £28 (includes all materials) Make a day of it with our figure drawing session with a twist. After a hugely successful session last year we invite people back to sketch dazzling burlesque performer Satine DiMonté dancing, posing and unveiling in her tassels and feather finery. Fun, music and fabulous costumes are all part of this very alternative event. Booking essential.

Cystadleuaeth Ysgrifennu Agored Oriel Davies 2017 Gwahoddir awduron profiadol a newydd i gyflwyno naill ai cerddi (hyd at 50 llinell yr un) neu ryddiaith (hyd at 1,000 o eiriau'r un) sy'n canolbwyntio ar y thema 'dw ˆr'. Bydd y ceisiadau buddugol (un ar gyfer y rhyddiaith orau ac un ar gyfer y gerdd orau), yn derbyn taleb £50 i'w wario yn siop yr oriel. Dylai’r gweithiau fod naill ai yn Gymraeg neu’n Saesneg. Y pris mynediad yw £3 am bob darn a gyflwynir. Beirniaid eleni ydy’r ysgrifennydd a’r bardd Chris Kinsey, a Sophie McKeand, bardd arobryn ac enillydd presennol Young People’s Laureate Wales. Oriel Davies 2017 Open Writing Competition Both experienced and budding writers are invited to submit either poems (up to 50 lines each) or prose (up to 1000 words each) that focus on the theme of ‘water’. The winning entries (one for best prose and one for best poetry) will receive a £50 voucher to spend in the gallery shop. Works should be in either English or Welsh. Entry fee is £3 per piece submitted. This year’s judges are writer and poet Chris Kinsey and Sophie McKeand, award-winning poet and current Young People’s Laureate Wales.

Rhagor o wybodaeth/ Find out more: www.orieldavies.org desk@orieldavies.org 01686 625041


Gweithgareddau i Blant a Theuluoedd Children/Family Activities

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o sesiynau a digwyddiadau cyffrous a chreadigol i blant a'u teuluoedd yma yn yr oriel ac allan yn y gymuned. Mae gweithgareddau celfyddydol i deuluoedd sydd yn cael eu cynnal yn ystod gwyliau'r ysgol yn galluogi rhieni a phlant i fod yn greadigol mewn ffordd hwyliog ac anffurfiol. Drwy weithio gydag amrywiaeth o wahanol artistiaid a chrefftwyr, mae’r gweithdai hyn yn gyfle gwych i arbrofi gydag ystod o dechnegau celf, archwilio creadigrwydd a dysgu sgiliau newydd.

We offer a wide variety of exciting and creative sessions and events for children and their families here at the gallery and out in the community. Family arts activities held during the school holidays allow parents and children to get creative in a fun and informal way. Working with a variety of different artists and craft makers, these workshops are a great opportunity to experiment with a range of art techniques, explore creativity and learn new skills.

Amy Sterly, Story Boats

Gweithdai yn ystod Gwyliau’r Haf

Summer Holiday Workshops

10.30am—1pm | £5 y person* * Rhaid i blant o dan 8 oed fod yng nghwmni rhiant neu ofalwr talu. Bydd plant dan 7 mlwydd oed yn arbennig, angen help gan rieni neu ofalwyr yn y gweithdy Gwneud Ffelt.

10.30am—1pm | £5 per person* *Under 8’s must be accompanied by a paying parent or carer. In particular, under 7’s will need assistance from parent’s or carer’s in the Felt Making workshop.

Gweithdy tynnu lluniau gyda’r artist Christine Mills Dydd Mawrth 25 Gorffennaf Gan ddefnyddio amrywiaeth o offer a defnyddio inc, pensil a siarcol, byddwn yn gweithio drwy wahanol ddulliau o greu marciau cyn symud ymlaen at ddarluniau llawn, lle byddwn yn amlygu cymeriad y gwrthrychau a ddewisoch.

Drawing workshop with artist Christine Mills Tuesday 25 July Using a variety of tools and using ink, pencil and charcoal we will work through different approaches to mark making before moving on to full drawings where we will bring out the character of your chosen objects.

Gweithdy platiau papur gyda phatrwm helyg gyda’r artist Christine Mills Dydd Mawrth 01 Awst Byddwn yn dylunio platiau papur unigryw, ac yn creu storïau a phatrymau wedi’u hysbrydoli gan y patrwm helyg glas a gwyn nodedig, a choeth yn aml, a geir ar blatiau ceramig hanesyddol. Gweithdy gwneud ffelt gyda’r artist Christine Mills Dydd Mawrth 08 Awst Byddwn yn dysgu’r broses o wneud ffelt, a chymryd ysbrydoliaeth o’r arddangosfa Twelve Tall Tales. Fleet Street gyda’r artist Amy Sterly Dydd Mawrth 15 Awst ‘Fleet Street’ — creu cychod storïau — wedi’i ysbrydoli gan yr arddangosfa Twelve Tall Tales. Byddwn yn gwneud cychod papur ac yn eu llenwi nhw gyda chymeriadau a naratifau o bapurau newydd, cylchgronau a chomics. Crëwch eich stori eich hun i hwylio i ffwrdd ynddi!

Willow pattern paper plate workshop with artist Christine Mills Tuesday 01 August We will design unique paper plates, creating stories and patterns inspired by the distinctive, and often elaborate blue and white willow pattern found on historic ceramic plates. Felt making workshop with artist Christine Mills Tuesday 08 August We will learn the process of felt-making working from the Twelve Tall Tales exhibition. Fleet Street with artist Amy Sterly Tuesday 15 August ‘Fleet Street’ making story boats — inspired by the exhibition Twelve Tall Tales. We will be making paper boats and filling them with characters and narratives from newspapers, magazines and comics. Create your own story to sail away in! Bwcio/Rhagor o wybodaeth/ Booking/Find out more: www.orieldavies.org desk@orieldavies.org / 01686 625041


Gweithdy ffansîns gyda’r artist Amy Sterly Dydd Mawrth 22 Awst Mae ‘ffansîn’ yn debyg i gylchgrawn, ond gyda thro. Mae ‘ffansîns’ yn cael eu hunan-gyhoeddi, ac yn cael eu gwneud drwy ddefnyddio technegau gludwaith ac yna, eu llungopïo i wneud cymaint ag y dymunwch i’w rhoi i'ch ffrindiau a'ch teulu. Gwnewch eich llyfryn stori bach eich hun a lledaenwch y gair! Nodweddion Creaduriaid wedi'u Hailgylchu gyda’r artist Amy Sterly Dydd Mawrth 29 Awst Bydd Amy, sydd wedi ei hysbrydoli gan yr arddangosfa Twelve Tall Tales, yn arwain gweithdy yn defnyddio dylunio a meddwl creadigol, i drawsnewid hen wrthrychau a sgrapiau yn greaduriaid unigryw a swreal gyda stori i’w dweud. Gw ˆ yl Fwyd y Drenewydd Gweithgaredd Galw Heibio Celf a Chrefft Dydd Sadwrn 02 Medi 1pm—3pm AM DDIM Yn addas ar gyfer pob oedran Mae deunydd pacio yn gwneud gwobrwyon! Drwy ddefnyddio deunydd pacio bwyd wedi’i daflu, mae’r artist Helen Kozich yn eich gwahodd i greu modelau a rhosedau eich hun allan o blastig, rhubanau a cherdyn.

Bwcio/Rhagor o wybodaeth / Booking/Find out more: www.orieldavies.org desk@orieldavies.org 01686 625041

Gweithgareddau i Blant a Theuluoedd Children/Family Activities

Zines workshop with artist Amy Sterly Tuesday 22 August A zine is kind of like a magazine but with a twist. Zines are self-published and made using collage techniques and then photocopied to make as many as you like to give to your friends and family. Make your own little story booklet and spread the word! Recycled Creature Features with artist Amy Sterly Tuesday 29 August Inspired by the exhibition Twelve Tall Tales, Amy will be leading a workshop using design and creative thinking to transform discarded objects and scraps into unique and surreal creatures with a story to tell. Newtown Food Festival Drop-in Art and Craft Activity Saturday 02 September 1pm—3pm FREE / Suitable for all ages Packaging makes prizes! Using discarded food packaging, artist Helen Kozich invites you to create your own medals and rosetts out of plastic, ribbons and card.

Amy Sterly, Recycled Creature Feature

Hwyl Hanner Tymor! Dydd Llun 30 Hydref — Dydd Gwener 04 Tachwedd 10.30am—1pm Ymunwch â ni mewn amrywiaeth o weithgareddau creadigol a gweithdy yn ein gofod prosiect, The Kitchen.

Half Term fun! Monday 30 October— Friday 04 November 10.30am—1pm Join us for a variety of creative activities and workshop in our project space, The Kitchen.

Y Darlun Mawr Dydd Sadwrn 07, 14, 21, 28 Hydref 10.30am—1pm Cymrwch ran yng ngw ˆ yl ddarlunio fwyaf y byd — Living Lines: An Animated Big Draw Festival! Byddwn yn rhedeg gweithgareddau’r Darlun Mawr bob dydd Sadwrn drwy gydol mis Hydref yn ein gofod prosiect, The Kitchen.

Big Draw Saturday 07, 14, 21, 28 October 10.30am—1pm Take part in the world’s biggest drawing festival – Living Lines: An Animated Big Draw Festival! We’ll be running Big Draw activities on Saturdays throughout October in out project space, The Kitchen.

Nadolig Creadigol Dydd Sadwrn 25 Tachwedd 10.30am—1pm Gweithdy Nadoligaidd i blant a theuluoedd.

Creative Christmas Saturday 25 November 10.30am—1pm A festive themed workshop for children and families.


Cyrsiau Dysgu Gydol Oes Lifelong Learning Courses

Cynhelir cyrsiau yn Oriel Davies ar y cyd ag Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Cymru, Aberystwyth. www.aber.ac.uk

Courses take place at Oriel Davies in association with the University of Wales, Aberystwyth, School of Education and Lifelong Learning. www.aber.ac.uk

Os hoffech ragor o wybodaeth neu i fwcio lle ar y cyrsiau, cysylltwch â’r Brifysgol yn uniongyrchol ar 01970 621580 neu e-bostiwch learning@aber.ac.uk

For further information and course bookings, please contact the University directly on 01970 621580 or email: learning@aber.ac.uk

Barddoniaeth 1 Bob dydd Mercher 04 Hydref— 06 Rhagfyr 10.15am—12.30pm Lara Clough Mae'r cwrs hwn ar gyfer pobl sydd eisiau dechrau ysgrifennu barddoniaeth, neu sydd yn gwneud hynny eisoes, ond yn ystyried eu hunain yn amhrofiadol. Drwy gyflwyniadau tiwtor, trafodaethau grw ˆp a thasgau ysgrifennu strwythuredig, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddysgu am elfennau ffurf a thechneg barddoniaeth, a dechrau adeiladu portffolio o waith eu hunain. Maen nhw’n cael eu hannog i ysgrifennu rhwng sesiynau, a derbyn adborth cefnogol ar eu cerddi. Gwnïo Sylfaenol Dydd Llun 16 a 23 Hydref 10am—3.30pm Jill Rolfe Yn ystod y cwrs byr hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu sut mae peiriant gwnïo yn gweithio, ac yn dysgu sgiliau pwytho a defnyddio peiriant gwnïo sylfaenol. Yn ychwanegol, bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau torri, sut i ddefnyddio peiriannau yn ddiogel, ansoddau ffabrig a gosod tyniant. Bydd yr holl sgiliau hanfodol hyn yn eich galluogi i symud ymlaen i'r cwrs Uwchgylchu dillad poblogaidd. Bydd angen i chi ddefnyddio peiriant gwnïo adref, gan y bydd y tiwtor yn rhoi tasgau i chi eu gwneud rhwng sesiynau. Bydd peiriannau gwnïo yn cael eu darparu ar gyfer gwaith yn y dosbarth.

Poetry 1 Wednesdays 04 October— 06 December 10.15am —12.30pm Lara Clough This course is for people who want to start writing poetry, or, who are doing so already, but consider themselves inexperienced. Through tutor presentations, group discussions and structured writing tasks, students will be given the opportunity to learn about the elements of poetic form and technique and begin to build a portfolio of their own work. They are encouraged to write between sessions and receive supportive feedback on their poems. Basic Sewing Monday 16 & 23 October 10am—3.30pm Jill Rolfe During this short course students will learn how a sewing machine operates, basic stitch and machine skills. In addition students will learn cutting skills, safety around machines, qualities of fabric and setting tension. All these vital skills will enable students to progress on to the popular Up-Cycled clothing course. You will need the use of your own sewing machine at home as the tutor will set you tasks to do between sessions. Sewing machines will be provided for class work.


Cyrsiau Dysgu Gydol Oes Lifelong Learning Courses

Uwchgylchu Dillad Dydd Llun 13, 20, 27 Tachwedd ac 11 Rhagfyr, 10am—3.30pm Jill Rolfe Bydd y cwrs newydd hwn yn ailwampio dyluniad eich wardrob. Cwrs 'dim tacio', dim ond gwnïo rhydd. Gydag agwedd amgylcheddol, byddwch yn creu eitemau o ddillad yr oeddech yn meddwl na fuasech chi fyth yn gallu eu gwneud. Dechreuwch gasglu dillad o arwerthiannau cist a siopau elusen i’w huwchgylchu. Bydd myfyrwyr yn gweithio o fag syml wedi’i uwchgylchu, i eitem o ddillad, ac yn datblygu sgiliau dylunio ar hyd y ffordd. Bydd sylw'n cael ei roi i'r mathau gwahanol o ffabrig a’u rhinweddau unigryw. Bydd myfyrwyr yn gorfod gweithio ar brosiectau rhwng sesiynau, felly bydd angen iddynt defnyddio peiriant adref. Dim ond lle i wyth o bobl sydd ar y cwrs. Fodd bynnag, mae llefydd ychwanegol ar gael os gall myfyrwyr ddod â pheiriant eu hunain. Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y cwrs, cofiwch ddweud os ydych yn dod â pheiriant gyda chi. Ar ôl cwblhau'r cwrs, efallai y bydd myfyrwyr yn cael eu gwahodd i gyflwyno’u heitemau i'w gwerthu i gydweithfa eco-ffasiwn o'r enw Co-Create.

Tynnu lluniau drwy Arsylwi Dydd Mawrth 03, 17 Hydref a 07, 21 Tachwedd 10am—3.30pm Tereska Shepherd Y ffordd gyflymaf i ddatblygu sgiliau tynnu lluniau ydy dysgu i dynnu lluniau drwy arsylwi. Bydd y modiwl hwn yn dysgu’r gelfyddyd o edrych. Bydd y modiwl yn cynnwys persbectif, cyfansoddiad, arlunio tonyddol, chiaroscuro, y mesuriad sefydlog, mannau negyddol, gwneud marciau a rhagfyrhau. Byddwch hefyd yn cael eich annog i werthuso eich gwaith drwy hunanfeirniadaeth. Y nod yw rhoi'r sgiliau a'r ymarfer i chi ddechrau tynnu llun ond nid o reidrwydd, i gynhyrchu gweithiau gorffenedig. Byddwch yn gweithio gyda beiro, pensil, lloc, brwsh, conté a siarcol.

I ddod: Sgiliau llyfr brasluniau Dydd Mawrth 06, 20 Chwefror a 06, 20 Mawrth 2018 10am—3.30pm Tereska Shepherd

Upcycled Clothing Mondays 13, 20, 27 November & 11 December, 10am—3.30pm Jill Rolfe This new course will up-lift the design of your wardrobe. A 'no tacking' course, just free sewing. With an eco aware slant, you will design articles of clothing you thought you would never be able to do. Start collecting garments from boot sales and charity shops to up-cycle. Students will work from a simple up-cycled bag through to an article of clothing and develop design skills along the way. Regard will be paid to the different types of fabric and their unique qualities. Students are required to work on projects between sessions so will need the use of a machine at home. Spaces are limited to 8. However, additional spaces are available if students can bring their own machine. Please state when booking, if you will be bringing a machine. On completing the course, students may be invited to present their articles for sale to an eco-fashion co-operative called Co-Create.

Drawn from Observation Tuesday 03, 17 October & 07, 21 November 10am—3.30pm Tereska Shepherd The quickest way to accelerate drawing skills is to learn to draw from observation. This module will teach you the art of looking. Topics will include perspective, composition, tonal drawing, chiaroscuro, the fixed measurement, negative spaces, mark-making and foreshortening. You will also be encouraged to evaluate your work through self-criticism. The aim is to give you the skills and practice to start a drawing but not necessarily producing finished works. You will work with biro, pencil, pen, brush, conté and charcoal.

Coming up: Sketch Books skills Tuesdays 06, 20 February & 06, 20 March 2018 10am—3.30pm Tereska Shepherd

Barddoniaeth 2 Dydd Mercher 11 Ebrill— 13 Mehefin 2018 10.15am—12.30pm Lara Clough

Poetry 2 Wednesdays 11 April — 13 June 2018 10.15am—12.30pm Lara Clough

Os hoffech ragor o wybodaeth neu i fwcio lle ar y cyrsiau, cysylltwch â’r Brifysgol yn uniongyrchol ar 01970 621580 neu e-bostiwch learning@aber.ac.uk

For further information and course bookings, please contact the University directly on 01970 621580 or email: learning@aber.ac.uk


Ysgolion a Cholegau Schools & Colleges

Datblygu sgiliau creadigrwydd, llythrennedd, meddwl a chyfathrebu drwy’r celfyddydau.

Developing creativity, visual literacy, thinking and communication skills through the arts.

Cydweithredu a Gweithio mewn Partneriaeth Mae arddangosfeydd a phrosiectau artistiaid Oriel Davies yn darparu adnoddau amrywiol ac ysbrydoledig ar gyfer cefnogi dysgu ar draws y cwricwlwm. Mae ein prosiectau mwyaf llwyddiannus gydag ysgolion a cholegau yn cael eu datblygu mewn partneriaeth ag athrawon a disgyblion. Rydym yn arbennig o falch o weld athrawon yn cysylltu â ni gyda syniad yr hoffent fynd ar ei drywydd gyda ni, neu a fyddai'n hoffi archwilio sut allai dysgu yn y dyfodol elwa o ddefnyddio ein harddangosfeydd a sgiliau ein hartistiaid i gefnogi eu cynlluniau gwaith mewn ffyrdd newydd a chyffrous. Gallai prosiectau o'r fath gyfuno ymweliadau i arddangosfeydd, gweithdai dan arweiniad artistiaid, gweithgareddau allgymorth yn yr ysgol neu mewn safleoedd eraill, a chyfleoedd hyd yn oed i gymryd rhan mewn arddangosfeydd yn yr oriel.

Collaboration & Partnership Oriel Davies’ exhibitions and artists’ projects provide a diverse and inspiring resource for supporting learning across the curriculum. Our most successful projects with schools and colleges are developed in partnership with teachers and pupils. We particularly welcome approaches from teachers with an idea they’d like to pursue with us or who would like to explore how future teaching could benefit from using our exhibitions and artists’ skills to support their schemes of work in new and exciting ways. Such projects could combine exhibition visits, artist-led workshops, outreach activities at school or other sites and even opportunities to take part in exhibitions at the gallery.

Help gyda Chyllid Gall Cronfa Profi’r Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru ddarparu grantiau i helpu ysgolion gyda chostau teithio a gweithgareddau, a gallwn roi cyngor i chi gyda’ch cais. Rhagor o wybodaeth: www.arts.wales

Help with Funding The Arts Council of Wales’ Experiencing the Arts Fund can provide grants to help schools with travel and activity costs and we can advise you in your application. Find out more: www.arts.wales

Ymweld Ar gyfer ymweliadau grw ˆp hunan-dywysedig, cysylltwch â desk@orieldavies.org neu ffoniwch 01686 625041. Os hoffech drefnu gweithdy neu ymweliad tywys mewn perthynas â’r arddangosfeydd yn y rhifyn hwn, neu i drafod cydweithredu gyda ni yn y dyfodol, anfonwch e-bost at Helen Kozich, Swyddog Addysg (ysgolion a cholegau): helenk@orieldavies.org

Visiting For self-led group visits, please let us know in advance by contacting desk@orieldavies.org or phoning 01686 625041. To arrange a workshop or guided visit with the exhibitions in this issue, or to discuss a future collaboration with us, please email Helen Kozich, Learning Officer (schools & colleges) at helenk@orieldavies.org

Lluniau: Disgyblion iau a fu’n gweithio gyda'r artist Mai Thomas, yn gwisgo’u capiau a’u hetiau papur, a gafodd eu gwneud yn arbennig ar gyfer The Drawing Room yn Oriel Davies. Gwnaethpwyd prosiect creadigol Ysgol Gynradd Yr Eglwys Yng Nghymru Llanfair Llythyfnwg ac ymweliadau disgyblion i arddangosfeydd The Drawing Room ac Imaginary Worlds yn bosibl drwy arian grant Ewch i Weld Cyngor Celfyddydau Cymru.

Images: Trying on their paper caps and hats, made especially for The Drawing Room at Oriel Davies by junior pupils working with artist Mai Thomas. Gladestry C. in W. School’s creative project and pupils’ visits to The Drawing Room and Imaginary Worlds exhibitions were made possible through Arts Council Wales’ Go & See grant funding.


Caffi‘r Oriel Gallery Café Ar agor / Open: 10am—4pm Ebril /April—Medi/September 10am—3.30pm Hydref/October—Mawrth /March I gadw lle /Bookings: 01686 622288

Bara Cartref / Homemade breads Salad lleol / Locally-sourced salad Cawl cartref / Homemade soup Cacennau / Cakes / Te / Tea Coffi Barista / Barista Coffee Diodydd Meddal Organig / Organic Soft Drinks Falafel / Falafel / Tapas / Tapas Tatws trwy’u crwyn / Jacket Potatoes Paninis / Paninis Prydau parod / Take-away

Siop Shop

Modrwyau Draenogod Môr Arian Clustlysau Cregyn Gleision Arian ac Aur gan Alex Yule / Silver Urchin Rings Silver & Gold Mussel Earings by Alex Yule

Mae ein siop bwtîg yn cynnig ystod drawiadol o anrhegion unigryw cyfoes, gemwaith wedi'u gwneud â llaw, tecstilau, crefftau, deunydd ysgrifennu a llyfrau hyfryd yn Gymraeg a Saesneg, nwyddau steilus i’r cartref, teganau plant a llawer mwy i gipio’r dychymyg.

Our boutique shop offers a stunning range of unique contemporary giftware, handmade jewellery, textiles, craft, stationery and gorgeous books in English & Welsh, stylish homeware, children’s toys and much more to capture the imagination.

Mae talebau rhodd ar gael!

Gift vouchers available!

Mae Oriel Davies yn rhan o Gynllun Casglu Cyngor Celfyddydau Cymru, sy'n eich cynorthwyo chi i brynu gweithiau celf a chrefft, yn ddi-log dros gyfnod o deuddeg mis. Mae’r cynllun yn berthnasol os byddwch yn prynu darnau sy’n werth dros £50.

Oriel Davies is part of the Arts Council Wales Collectorplan Scheme, which assists you to buy original works of art and crafts, interest free over a period of twelve months. Credit loans start at £50.

Rydym yn croesawu ymholiadau gan grefftwyr sefydledig a newydd sydd â diddordeb mewn arddangos eu gwaith yn ein siop. Anfonwch fanylion at rhian@orieldavies.org

We welcome enquiries from established and emerging craftspeople interested in displaying their work in our shop. Please send details to rhian@orieldavies.org

Galwch heibio i’n caffi cyfeillgar yn yr oriel i flasu bwydydd cartref blasus ac iachus. Cymrwch sedd yn ein teras naws Canoldirol drws nesaf i’r parc, neu yn ein caffi golau, llachar gyda golygfeydd gwych. Mae Relish yn defnyddio cynhwysion gan gyflenwyr bach sydd mor lleol a thymhorol â phosibl, ac mae’n cynnig dewis o fwydydd llysieuol, fegan a heb glwten. Mae’r caffi wedi’i thrwyddedu ac yn gwerthu cwrw organig gwych, gwinoedd a diodydd meddal. Rydym hefyd yn gwerthu prydau parod, fel y gallwch fynd â’ch cinio i’r parc.

Pop into our friendly gallery café for some delicious home-cooked and seasonal food. Take a seat in our light, bright café with great views. Relish sources ingredients as seasonal as possible from small and local suppliers, and caters for vegetarian, vegan and gluten-free diets. The café is licensed and serves excellent beers, wines and soft drinks. We also serve takeaway meals so you can take your lunch into the park.


Cefnogwch ni!

Support us!

Sut i ddod o hyd i ni

How to find us

Fel lleoliad mynediad AM DDIM ac elusen gofrestredig, rydym bob amser yn chwilio am gefnogaeth. Dyma rywfaint o'r ffyrdd y gallwch chi ein helpu ni i ddatblygu a chyflwyno ein gwaith:

As a FREE entry venue and a registered charity we are always looking for support. Here are some of the ways you can help us to develop and deliver the work that we do:

Hoffech Chi Ddod yn Gyfaill? Am gyn lleied â £6 (myfyrwyr), £14 (sengl) neu £ 22 (dwbl), gallwch ymuno â grw ˆ p gweithgar o unigolion, sy'n ymroddedig i gefnogi Oriel Davies, a’n cysylltu ni â'r gymuned rydym yn ei gwasanaethu.

Become a Friend For as little as £6 (students), £14 (single) or £22 (double) you can join an active group of individuals, dedicated to supporting Oriel Davies and connecting us with the community we serve.

Mae’r Oriel drws nesaf i’r orsaf fws a’r prif faes parcio sy’n edrych dros barc y dref. O’r A489, trowch i mewn i ganol y dref wrth y goleuadau traffig ac ar ôl 200 metr, trowch i’r chwith gyferbyn â Argos. Mae’r oriel bum munud ar droed o orsaf drên y Drenewydd ac ar lwybr beicio 81.

The gallery is next to the bus station and main car park overlooking the town park. From the A489 turn into the town centre at the traffic lights and after 200 metres turn left opposite Argos. The gallery is a five-minute walk from Newtown train station and situated on cycle route 81.

Amseroedd agor: Dydd Llun i ddydd Sadwrn, 10am–5pm (yn cynnwys gwyliau’r banc), ar gau ar ddydd Sul.

Opening times: Monday —Saturday, 10am—5pm (including bank holidays), closed on Sundays.

Cyfrannwch Cyn lleied neu gymaint ag y gallwch – gallwch roi rhodd untro, noddi arddangosfa, digwyddiad neu addysg, neu ddod yn Gymwynaswr neu Noddwr.

Donate As little or as much as you can – you can make a one-off gift, sponsor an exhibition, event or education activity, or by becoming a Benefactor or Patron.

Gwirfoddolwch Rydym bob amser yn chwilio am unigolion i helpu - o oruchwylio arddangosfa i farchnata a gweinyddu.

Volunteer We are always looking for individuals to assist – from exhibition invigilation to marketing and administration.

Amseroedd agor y Nadolig: 23 Rhagfyr, 10am—4pm 24—26 Rhagfyr, Ar gau 27—29 Rhagfyr, 10am—5pm 30 Rhagfyr, 10am—4pm 31 Rhagfyr—02 Ionawr, Ar gau

Christmas opening times: 23 December, 10am—4pm 24—26 December, Closed 27—29 December 10am—5pm 30 December, 10am—4pm 31 December—02 January, Closed

Hygyrchedd: Mae Oriel Davies yn croesawu pawb ac yn hollol hygyrch i gadeiriau olwyn.

Accessibility: Oriel Davies welcomes all and is fully accessible by wheelchair.

Rhagor o wybodaeth: desk@orieldavies.org 01686 625041

Find out more: desk@orieldavies.org 01686 625041

Os hoffech fersiwn print bras o destun y rhaglen hon, ffoniwch 01686 625041

For a large print version of this programme text please telephone 01686 625041

Llogi ystafell

Room hire

Dewch i gael eich ysbrydoli yn yr oriel a rhowch naws creadigol i’ch digwyddiad. Mae’r ystafell addysg awyrog a lliwgar yn Oriel Davies ar gael i’w llogi, ac mae’n berffaith ar gyfer amryw o grwpiau cymunedol, gweithdai, sesiynau hyfforddi a chyfarfodydd. Mae lle i hyd at 40 o bobl yn yr ystafell, sydd â chyfleusterau glân a modern, gwasanaeth arlwyo gwych, staff cyfeillgar a lleoliad canolog yn y Drenewydd, Powys ac yng Nghymru.

Get inspired at the gallery and give your event a creative feel. Perfect for community groups, workshops, training sessions and meetings, the bright airy education room at Oriel Davies is for hire! Accommodating up to 40 people with clean and modern facilities, excellent catering, friendly staff and a central location in Newtown and Powys.

Rhagor o wybodaeth: www.orieldavies.org/cy/room-hire 01686 625041

Find out more: www.orieldavies.org/room-hire 01686 625041

River Severn

Y Drenewydd / Newtown

Bus Station

Park

A489

A4 83

Aberystwth

Oriel Davies

Llandrindod Wells

Town Centre

A483

A4 89

Shrewsbury

Ludlow


Diolch

Thanks

Hoffai Oriel Davies ddiolch i'r sefydliadau canlynol: Cyngor Celfyddydau Cymru; Elusen Gwendoline a Margaret Davies; Cyngor Sir Powys; Sefydliad Esmée Fairbairn. Hoffai ddiolch yn arbennig i Gyfeillion Oriel Davies am eu cefnogaeth gref o'r oriel ac o’r Gyfres Sgyrsiau Artistiaid.

Oriel Davies warmly thanks the following organizations: Arts Council of Wales; The Gwendoline and Margaret Davies Charity; Powys County Council; Esmée Fairbairn Foundation. With special thanks to the Friends of Oriel Davies for their strong support of the gallery and the Artists’ Talks Series.

Rhif Elusen / Reg. charity no. 1034890 Front cover image: Andreas Rüthi, Field, 2017 Design: heightstudio.com


Oriel Caffi Siop Gallery Cafe Shop

Oriel Davies Y Parc / The Park Y Drenewydd / Newtown Powys SY16 2NZ 01686 625041 desk@orieldavies.org www.orieldavies.org @orieldavies orieldavies orieldavies Mynediad am ddim Free admisssion


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.