What's On at Oriel Davies, Summer 2016

Page 1

orieldavies.org

Gwanwyn —Haf Spring—Summer 2016

orieldavies



Gwanwyn — Haf Spring — Summer 2016

Croeso Welcome

Y gwanwyn a’r haf hwn, bydd yr oriel yn llawn pethau diddorol. Bydd dwy arddangosfa fawr wych yn cyflwyno gweithiau gan 66 o artistiaid. Ym mis Ebrill, bydd Arddangosfa Agored Oriel Davies 2016 yn dathlu paentio cyfoes yn ei holl ffurfiau. Bydd Radical Craft yn dod i’r oriel ym mis Mehefin, sef arddangosfa anhygoel o gelf a chrefft Outsider. Bydd flora yn parhau i deithio o amgylch Cymru ac yn rhedeg ei rhaglen breswyl, a bydd TestBed yn cyflwyno sioeau gan Eifion Sven-Meyer ac Elizabeth Brickell. Rydym yn falch iawn i groesawu Amber Knipe i’r oriel. Bydd hi’n gyfrifol am ein gofod prosiect newydd, The Drawing Room, sy’n cael ei lansio’r hydref hwn ac sy’n cael ei gefnogi gan Sefydliad Esmée Fairbairn.

This spring and summer the gallery is packed with interest. Two great group shows bring works by 66 artists to the gallery. In April the Oriel Davies Open 2016 celebrates contemporary painting in all its guises. June welcomes Radical Craft — an extraordinary exhibition of outsider art and craft. flora continues its Wales tour and residency programme, and TestBed presents shows by Eifion Sven-Myer and Elizabeth Brickell. We are delighted to welcome Amber Knipe to the gallery. She will head up our new project space, The Drawing Room, which launches this autumn supported by Esmée Fairbairn Foundation.

orieldavies.org


Arddangosfa Agored Oriel Davies 2016: Paentio Oriel Davies Open 2016: Painting

Ned Armstrong /Jo Berry / Louise Bristow / Melanie Carvalho Clare Chapman / Corinne Charton / Tom Climent / Michelle Conway Daniel Crawshaw / Martyn Cross / Rebecca Croxford / Tim Davies Ken Elias / Renata Fernandez / Niki Hare / Judith Hay Adam Hennessey / Nicholas Johnson / Natasha Kidd / Angela Lizon Eva Nielsen / Sally Payen / Cherry Pickles / Tom Pitt Clare Price / Andreas Rüthi / Mark Samsworth / DJ Simpson André Stitt / Lexi Strauss / Hannah Weatherhead / Ellie Young

Arddangosfeydd Exhibitions

Louise Bristow, The Good Life, 2015


This year Oriel Davies’ Open celebrates the current diversity and strength of painting practice by established and emerging talent across the UK and overseas.

16 Ebrill / April— 15 Mehefin / June 2016

Eleni, mae Arddangosfa Oriel Davies yn dathlu amrywiaeth a chryfder presennol ymarfer paentio gan artistiaid sefydledig a newydd ar draws y Deyrnas Unedig a thramor. Mae gwaith gan 32 o artistiaid wedi cael eu dethol o nifer rhyfeddol o geisiadau. Mae’r panel dethol yn cynnwys; Clare Woods, artist rhyngwladol blaenllaw, oedd ag arddangosfa unigol fawr yn Oriel Davies yn 2014 ac a aeth â’r arddangosfa ar daith wedyn o amgylch Cymru o 2015—2016; Nick Thornton, Pennaeth Celfyddyd Gain yn Amgueddfa Cymru — National Museum Wales, Caerdydd; Dr Rebecca Daniels, Ymchwilydd Celfyddyd Hanesyddol, Catalog Raisonné of Francis Bacon ac Alex Boyd Jones, Curadur Oriel Davies. Bydd gwobrau’n cael eu cyflwyno ar y noson agoriadol. Bydd yr enillydd cyffredinol yn derbyn gwobr ariannol o £1000, a gwahoddiad i arddangos sioe unigol yn Oriel Davies, a bydd enillydd y wobr i fyfyrwyr yn derbyn gwobr ariannol o £500. Yn ychwanegol, mae cyfle i ymwelwyr i’r arddangosfa bleidleisio dros eu hoff ddarn o waith fel rhan o’r Wobr Dewis y Bobl. Bydd £250 yn cael ei ddyfarnu i’r artist y mae ei waith yn derbyn y nifer fwyaf o bleidleisiau. Cefnogir y wobr drwy haelioni Cambrian Trains Ltd.

Work by 32 artists has been selected from a remarkable number of entries. The selection panel includes; Clare Woods, a leading international artist who had a large solo show at Oriel Davies in 2014 and subsequent Welsh tour from 2015―2016; Nick Thornton, Head of Fine Art at Amgueddfa Cymru — National Museum Wales, Cardiff; Dr Rebecca Daniels, Art Historical Researcher, Catalogue Raisonné of Francis Bacon and Alex Boyd Jones, Curator at Oriel Davies. Awards are presented on the opening night. The overall prizewinner receives a cash prize of £1000 and an invitation to have a solo show at Oriel Davies, and a student prize winner receives a cash prize of £500. In addition, there is a chance for visitors to the exhibition to vote for their favourite work in the People’s Choice Prize. £250 which will be awarded to the artist whose work receives the most votes. This prize is kindly sponsored by Cambrian Trains Ltd.


Radical Craft: Alternative Ways of Making

Dalton Ghetti, Giraffe Photo: Sloan Howard


25 Mehefin / June — 29 Awst / August 2016 Mae Radical Craft, a guradwyd ar y cyd â Laura Hamilton, yn cynnwys 34 o artistiaid rhyngwladol ac o’r Deyrnas Unedig sy’n mynegi eu creadigrwydd tu hwnt i ffiniau confensiwn. Mae’n cynnwys gweithiau gan artistiaid enwog sy’n gysylltiedig â Chelfyddyd yr Ymylon a hefyd, gan artistiaid hunanddysgedig cyfoes. Mae’r gweithiau celf yn cyfleu gweledigaethau personol y byd, yn datgelu defnydd dyfeisgar o ddeunyddiau, ac yn amrywio o ran maint. O gerfluniau bychain wedi’u cerfio i ddeintbigau a blaenau pensilau plwm, i gerbydau wedi’u gwneud o sgrap wedi’i ailgylchu, ac o ffigurau rhisgl bedwen wedi’u gwehyddu, maint bywyd, i benwisg briodasol wedi’i wneud o ffabrig lapiedig ac addurniedig. Terence Wilde, Embodiments Photo: Anthony Woods-McLean

Radical Craft co-curated with Laura Hamilton, features 34 international and UK artists who express their creativity beyond the bounds of convention. It includes works by renowned artists associated with Outsider Art and also contemporary self-taught artists. The artworks convey personal visions of the world, reveal inventive use of materials and vary in scale. From miniature sculptures carved into toothpicks and lead pencil tips, to vehicles made from recycled scrap, and from life-size, woven birch bark figures to a bridal headdress made from wrapped and embellished fabric.

Arddangosfa Deithiol Genedlaethol Craftspace ac Outside In. A Craftspace and Outside In national touring exhibition. craftspace.co.uk/radicalcraft outsidein.org.uk


Obscured Light — Misshapen Vistas Eifion Sven-Myer

TestBed 16 Ebrill / April — 15 Mehefin / June 2016 Mae Eifion Sven-Myer yn creu gosodiad mewn ymateb i’r gofod TestBed, sy’n cynnwys y golau’n chwarae ar ddrychau, strwythurau pren a dalennau plastig mwyhaol. Mae’n gobeithio newid ein dealltwriaeth o ffurf a gofod: creu golygfeydd rhyfedd drwy fwyhad a golau sydd yn adlewyrchu oddi ar wrthrychau cerfluniol. Mae ei ddefnydd o ddrychau ceimion, acrylig yn adlewyrchu’r golygfeydd hyn, tra bod siapiau haniaethol wedi’u paentio yn cael eu hymblethu i harmoneiddio’r cyfansoddiad cyffredinol. Cefnogir Obscured Light – Misshapen Vistas gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

TestBed supports new and experimental work by artists based in Wales and the Borders. Mae TestBed yn cefnogi gwaith newydd ac arbrofol gan artistiaid sydd wedi'u lleoli yng Nghymru a'r Gororau.

Eifion Sven-Myer is creating an installation in response to the TestBed space that incorporates the play of light on mirrors, wooden structures and magnifying plastic sheets. He wishes to alter our understanding of form and space: creating peculiar vistas through magnification and light reflected off sculptural objects. His use of warped, acrylic mirrors reflect these vistas while painted abstract shapes are interwoven to harmonise the overall composition. Obscured Light – Misshapen Vistas has been supported by Arts Council of Wales

Eifion Sven-Myer from Work in Progress g39 UNIT(e), 2016


Moving On Elizabeth Brickell

TestBed 25 Mehefin / June — 29 Awst / August 2016 Mae gwaith Elizabeth Brickell yn cael ei wreiddio mewn synwyrusrwydd cyffyrddol. Mae hi’n harbwr gwrthrychau sy’n cael eu trwytho â chof a chysylltiad gyda lle neu achlysur. Mae casgliad o lwyau, sy’n amrywio o ran maint a dimensiwn, yn cael eu cynnwys yn y gofod: mae pob llwy yn ynganu ei unigoliaeth yn glir ac yn cael ei ddwysáu drwy ei ail-greu mewn latecs tenau. Mae’r ‘crwyn’ cain hyn yn archwilio’r syniadau o freuder ac yn cyfeirio at y weithred o ‘symud ymlaen’. Er wedi’u hailddyfeisio, maent yn gadael croen o’r ‘hyn a oedd’ tu ôl. Yn yr ystyr ehangach, mae’r gwaith yn ceisio mynd i’r afael â bregusrwydd dynol.

Elizabeth Brickell’s practice is rooted in a tactile sensibility. She harbors objects that are imbued with memory and connection to a place or occasion. A collection of spoons, of varying size and dimension, is contained in the space: each spoon clearly pronouncing its individuality and heightened by its recreation in thin latex. These delicate ‘skins’ explore notions of fragility and reference the act of ‘moving on’. While being a reinvention they leave behind a skin of ‘what was’. In the broader sense, the work aims to address human vulnerability. Elizabeth Brickell Latex Spoons


flora

Taith Oriel Davies Oriel Davies touring

20 Mawrth / March— 15 Mai / May 2016 Oriel Plas Glyn y Weddw, Pwllheli www.oriel.org.uk 01758 740763 12 Gorffennaf / July — 17 Medi / September 2016 Aberystwyth Arts Centre www.aberystwythartscentre.co.uk 01970 623232

Mae flora yn parhau i deithio ar draws Cymru. Mae’r arddangosfa yn archwilio arwyddocâd blodau o fewn celfyddyd gyfoes ac yn cynnwys yr artistiaid; Emma Bennett / Michael Boffey Anya Gallaccio / Ori Gersht Owen Griffiths / Anne-Mie Melis Jacques Nimki / Yoshihiro Suda Clare Twomey Mae’r arddangosfa’n arddangos mewn gwahanol ffurfiau yn ystod ei thaith, ac yn cynnwys digwyddiadau cysylltiedig. Cynghorir ymwelwyr i gysylltu â’r lleoliadau yn uniongyrchol am fanylion.

Anne-Mie Melis, Work from A New Niche for Nature

flora continues its tour across Wales. The exhibition explores the significance of flowers within contemporary art and includes artists; Emma Bennett / Michael Boffey Anya Gallaccio / Ori Gersht Owen Griffiths / Anne-Mie Melis Jacques Nimki / Yoshihiro Suda Clare Twomey The exhibition shows in different guises during its tour and includes associated events. Visitors are advised to contact the venues directly for details.

Mae flora yn Arddangosfa Deithiol Genedlaethol sy’n cael ei churadu gan Oriel Davies a’i chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae rhaglen Allgymorth Deithiol flora i ysgolion yn cael ei churadu gan Ymddiriedolaeth Ernest Cook. flora is a National Touring Exhibition curated by Oriel Davies and supported by Arts Council of Wales. The flora Outreach on Tour schools programme is supported by the Ernest Cook Trust.


Preswyliadau flora flora residencies Mae’r artist, Magali Nougarede, wedi ymestyn ei chyfnod preswyl yn lleoliad unigryw Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru tan fis Mehefin 2016. Mae hi’n ymateb i’r gwaith ac i adnoddau naturiol yr Ardd a hefyd, i brosiect arddangosfa flora. Mae Caroline Dear wedi cwblhau ei chyfnod preswyl yng Nghanolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange a orffennodd gydag arddangosfa. Bydd gwaith gan y ddau artist yn ymddangos yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn rhan olaf taith flora o 12 Gorffennaf. Ewch i flora.orieldavies.org/blog i gael manylion am y ddau breswyliad hyn. Artist, Magali Nougarede, has extended her residency at the unique setting of the National Botanic Garden of Wales until June 2016. She is responding to the work and natural resources of the Garden as well as the flora exhibition project. Caroline Dear has completed her residency at Llantarnam Grange Arts Centre which culminated in an exhibition. Both artists will have work featured in Aberystwyth Arts Centre in the final leg of the flora tour from 12 July. See flora.orieldavies.org/blog for details about both residencies.

Comisiwn flora flora commission

A New Niche for Nature Anne-Mie Melis 06 Awst / August — 15 Hydref / October 2016 Mae pedwerydd comisiwn flora, a’r olaf mewn partneriaeth ag Oriel Myrddin, yn datgelu ffocws Anne-Mie Melis ar Afon Tywi ac yn benodol, y pwynt lle mae’r tir a’r dwr � yn cwrdd - lle mae rhywogaethau planhigion prin a dan fygythiad a phlanhigion ymledol yn cystadlu i oroesi. Wrth dynnu sylw at natur fregus y cydbwysedd hwn ochr yn ochr â chwestiynau ecolegol ehangach, mae hi’n creu amgylchedd newydd neu gilfach ecolegol i blanhigion dyfu drwy greu swbstrad artiffisial. The fourth and final flora commission in partnership with Oriel Myrddin reveals Anne-Mie Melis’ focus on the River Tywi and in particular the point at which land and water meet - where rare and endangered plant species and invasive plants compete for survival. Highlighting the precariousness of this balance alongside wider ecological questions, she creates a new environment or ecological niche for plants to grow through the creation of an artificial substrate. Oriel Myrddin, Church Lane Caerfyrddin / Carmarthen, SA31 1LH www.orielmyrddingallery.co.uk 01267 222 775

Magali Nougarede, Human Structures II (working title)


A TREE A ROCK A CLOUD Clare Woods

Clare Woods in Conversation Friday 22 April 2016, 1.05pm Amgueddfa Cymru — National Museum Wales At the close of the touring show, Clare Woods discusses recent work inspired by the Museum’s collections and launches her major new monograph Strange Meetings (published by Art / Books, foreword by Andrew Marr with texts by Michael Bracewell, Rebecca Daniels, Jennifer Higgie and Simon Martin).

Clare Woods yn Sgwrsio Dydd Gwener 22 Ebrill 2016, 1.05pm Amgueddfa Cymru — National Museum Wales Ar ddiwedd y sioe deithiol, bydd Clare Woods yn trafod gwaith diweddar a ysbrydolwyd gan gasgliadau’r Amgueddfa, ac yn lansio ei monograff newydd mawr, Strange Meetings (a gyhoeddwyd gan Art / Books, rhagair gan Andrew Marr a thestunau gan Michael Bracewell, Rebecca Daniels, Jennifer Higgie a Simon Martin).

CLARE WOODS

STRANGE MEETINGS

www.artbookspublishing.co.uk £29.99 / $50.00 / €40.00 ISBN 978-1-908970-26-8

9 781908 970268

55000

CLARE WOODS

STRANGE MEETINGS


Arddangosfa o bensaernïaeth yng Nghanolbarth Cymru: An exhibition of architecture in Mid Wales: Added Dimensions Education Room 16 Ebrill / April ― 02 Mai / May 2016 Arddangosfa o waith arferion penseiri lleol, sy’n dangos cynllun a adeiladwyd yn ddiweddar o bob arfer ac sydd hefyd yn tynnu sylw at ddiddordebau penseiri siartredig y tu allan i’w harferion, a’r cyfraniadau arbennig y mae bob un ohonynt yn eu gwneud i’w cymunedau ac i fywyd dinesig. Nod yr arddangosfa yw tynnu sylw at y prosesau a’r hoffterau ym mywyd pensaer yng Nghymru o ddydd i ddydd. Mae’r arddangosfa hon yn rhan o W � yl Bensaerniaeth Cymru 2016: rhaglen gyfan o ddigwyddiadau am ddylunio ar gyfer y cyhoedd, sy’n rhedeg o fis Mawrth tan fis Mai eleni.

Cyfarfod Pensaer Dydd Sadwrn 30 Ebrill, 10am―4pm. Ymgynghoriad am ddim―galwch heibio Bydd gr wp � o benseiri lleol ar gael i sgwrsio am eich syniadau a’ch breuddwydion ar gyfer eich eiddo, ac i roi rhywfaint o gyngor ar sut i’w gwireddu.

An exhibition of the work of local architects’ practices, illustrating a recently built scheme from each practice and also highlighting chartered architects’ interests outside of practice and the special contributions they each make to their communities and civic life. The exhibition highlights the processes and predilections involved in the day to day life of an architect in Wales. This exhibition is part of the 2016 Wales Festival of Architecture: a whole programme of events about design for the public running from March until May this year.

Meet an Architect Saturday 30 April, 10am―4pm. Free consultation ― drop in A group of local architects are available to chat about your ideas and dreams for your property and to give you some advice on how to turn them into reality.


Digwyddiadau i Blant / Teuluoedd Children and Family Activities


Gweithdai a Chyrsiau Workshops & Courses

Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a gweithdai wedi’u hanelu at deuluoedd a phobl ifanc. Yr haf hwn, rydym yn ymuno â Dathliadau Roald Dahl 100 ar draws Cymru gyfan, drwy arddangos llais unigryw yr awdur a aned yng Nghaerdydd yn ein gweithdai yn yr oriel yn ystod y gwyliau. Ymunwch â ni i fynd am antur drwy gyfrwng celfyddydau gweledol, crefftau, dawns a cherddoriaeth yn yr oriel, y llyfrgell a’r parc. Yng ngeiriau Willy Wonka “mae llawer o bethau gwych, annisgwyl yn aros amdanoch chi!” Rhagor o wybodaeth: sheela@orieldavies.org Cefnogir gan Lenyddiaeth Cymru. Dyddiadau ar gyfer eich dyddiadur: 31 Mai, 19 Gorff, 26 Gorff, 02 Awst, 09 Awst, 16 Awst, 23 Awst, 30 Awst, 03 a 04 Medi.

We offer a range of activities and workshops aimed at families and young people. This summer we join the Wales-wide Roald Dahl 100 celebrations by showcasing the distinct voice of the Cardiff born author in our holiday workshops at the gallery. Join us for an adventure through visual arts, crafts, dance and music at the gallery, the library and the park. In the words of Willy Wonka “many wonderful surprises await you!” Further information: sheela@orieldavies.org Supported by Literature Wales Dates for your diary: 31 May, 19 July, 26 July, 02 Aug, 09 Aug, 16 Aug, 23 Aug, 30 Aug, 03 & 04 Sept.


Gweithgareddau Allgymorth Outreach Activities

Ein Lle Ni/Our Space programme Rydym wedi bod yn llwyddiannus o ran ennill arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ariannu ail flwyddyn y prosiect allgymorth cyffrous hwn. Rydym yn gweithio gyda’r gymuned leol a gydag amrywiaeth o artistiaid a gwneuthurwyr, ac yn darparu gweithgareddau celf, crefft a choginio bob mis yn ac o amgylch ystâd Maesyrhandir, gyda’r nod o ysbrydoli, ymgysylltu a chefnogi cymunedau i gymryd rhan yn y celfyddydau. Mae’r gweithgareddau yn cael eu cynnal yn bennaf yng nghanolfan Ieuenctid Maesyrhandir, ond hefyd yn yr oriel.

We have been successful in gaining Arts Council of Wales funding for the second year of this exciting outreach project. Working with the local community and a range of artists and makers we deliver monthly art, craft and cooking activities in and around the Maesyrhandir estate aimed at inspiring, engaging and supporting communities to participate in the arts. The activities mainly take place at Maesyrhandir Youth centre but also at the gallery.

Ein Lle Ni / Our Space


Gweithdai a Chyrsiau i Oedolion Workshops & Courses

Dosbarthiadau Bywluniadu ar Ddydd Sadwrn Dydd Sadwrn cyntaf bob mis, 10:15am―1:30pm £18 (yn cynnwys deunyddiau) Rhaid cadw lle Bywluniadu ydy un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o wella sgiliau arlunio, paentio, cerflunio ac arsylwi. Gall y siapiau a geir yn y ffigwr dynol adleisio siapiau ym mhob maes o natur, a gall dysgu i dynnu o ffurf ddynol fod o fudd ym mhob maes o’ch arfer artistig. Dan arweiniad yr artist, Caroline Ali; mae’r gweithdai hyn yn addas i ddechreuwyr, pobl sydd â sgiliau canolradd a phobl brofiadol. Rhaid cadw lle. Dyddiadau: 02 Ebrill, 07 Mai, 04 Mehefin, 02 Gorffennaf, 03 Medi. Gw � yl y Gwanwyn Gw � yl mis o hyd ydy Gwanwyn sy’n cael ei rhedeg ar draws Cymru bob blwyddyn i ddathlu creadigrwydd. Dechreuodd yr w � yl yn 2007 ac fe’i chefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru. Eleni, bydd Oriel Davies yn rhedeg dau weithdy crefft ar ddydd Sadwrn i oedolion. Digwyddiadau Llythrennedd yn yr oriel Rydym yn rhedeg Gweithdai Ysgrifennu Creadigol ar Ddyddiau Sadwrn, sesiynau barddoniaeth a chystadleuaeth ysgrifennu Agored blynyddol. Os hoffech gofrestru ar gyfer unrhyw rai o’r gweithdai, cysylltwch â: desk@orieldavies.org Ffôn: 01686 625041 Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Sheela Hughes informallearning@orieldavies.org

Saturday Life Drawing Classes First Saturday of each month, 10:15am―1:30pm £18 (includes materials) Booking essential Life drawing is one of the most effective ways to improve drawing, painting, sculptural and observational skills. The shapes found in the human figure echo shapes in all areas of nature and learning to draw from a human form can benefit all areas of your artistic practice. Led by artist, Caroline Ali, these workshops are suitable for beginners, intermediates and the experienced. Booking essential. Dates: 02 April, 07 May, 04 June, 02 July, 03 September. Gwanwyn Festival Gwanwyn is a month long festival held across Wales each year to celebrate creativity. The festival began in 2007 and is supported by Arts Council of Wales and Welsh Government. This year, Oriel Davies will run two Saturday Craft workshops for adults. Literary Events at the gallery We run Saturday Creative Writing Workshops, poetry sessions and an annual Open writing competition. To book on any of the workshops, contact: desk@orieldavies.org Tel: 01686 625041 For further information, contact Sheela Hughes informallearning@orieldavies.org


Cyrsiau Dysgu Gydol Oes Mae cyrsiau’n cael eu cynnal yn Oriel Davies ar y cyd â Phrifysgol Cymru, Aberystwyth, Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes. www.aber.ac.uk Am ragor o wybodaeth ac i gadw lle, cysylltwch â’r Brifysgol yn uniongyrchol ar 01970 621580 neu e-bostiwch: learning@aber.ac.uk Ysgrifennu ar gyfer y Sgrîn 2 gyda Lara Clough Bob dydd Mercher, 27 Ebrill― 29 Mehefin 2016 10:15am―12:30pm Mae’r cwrs hwn yn dilyn ymlaen o’r cwrs cyntaf, gyda’r nod o greu amlinelliad o syniadau’r cyfranogwyr ar gyfer sgriptiau ffilmiau, defnyddio deialog i ddatgelu cymeriad a chreu golygfeydd effeithiol, ac adeiladu stori. Byddwch yn cael cyfle i rannu eich gwaith a chael adborth gwerthfawr gan y gr w � p a’r tiwtor. Ysgrifennu ac ailysgrifennuYsbrydoliaeth a Chrefft gyda Chris Kinsey Bob dydd Mercher, 20 Ebrill― 29 Mehefin 2016 1:30pm―3:30pm Ailysgrifennu yw’r grefft sy’n cymryd eich ysbrydoliaeth ac sy’n llywio eich gweledigaeth er mwyn i eraill gael ei rhannu. Dysgwch fwy am hyn ar y cwrs 10 wythnos hwn.

Lifelong Learning Courses Courses take place at Oriel Davies in association with the University of Wales, Aberystwyth, School of Education and Lifelong Learning. www.aber.ac.uk For further information and course bookings, please contact the University directly on 01970 621580 or email: learning@aber.ac.uk Screen Writing 2 with Lara Clough Wednesdays, 27 April―29 June 2016 10:15am―12:30pm This course builds on screenwriting 1, and looks at creating an outline of the participant’s screenplay idea, using dialogue to reveal character and create effective scenes, and story building. You will have a chance to share your work and receive valuable feedback from the group and the tutor. Writing and Rewriting-Inspiration and Crafting with Chris Kinsey Wednesdays, 20 April―29 June 2016 1:30pm―3:30pm Re-writing is the craft that takes your inspiration and hones your vision so that others can share it. Learn more about it on this 10 weeks course.


Gweithdai a Chyrsiau Workshops & Courses


Defnyddio’r arddangosfa i gefnogi gweithgareddau gweithdai creadigol ar gyfer colegau Using the exhibition to support college creative workshop activity

Ysgolion a Cholegau

Schools & Colleges

Datblygu sgiliau creadigrwydd, llythrennedd, meddwl a chyfathrebu trwy’r celfyddydau

Developing creativity, literacy, thinking and communication skills through the arts

Arddangosfa Agored Oriel Davies 2016: Paentio Bydd gweithdai paentio a gwneud printiau ar gyfer ysgolion yn archwilio wyneb, llinell, ffurf, lliw a gofod, ac yn defnyddio’r arddangosfa hon i brofi’r amrywiaeth o ffyrdd y mae artistiaid heddiw yn paentio i fynegi eu syniadau.

Oriel Davies Open 2016: Painting Painting and printmaking workshops for schools will explore surface, line, form, colour and space, using this exhibition to experience the breadth of ways that artists today use painting to express their ideas.


Radical Craft: alternative ways of making Bydd yr arddangosfa hon yn dathlu dyfeisgarwch a chreadigrwydd artistiaid sy’n gweithio y tu allan i’r brif ffrwd, ac yn cynnig cyfoeth o dechnegau adeiladu, syniadau ac ysbrydoliaeth i ddisgyblion ac athrawon eu defnyddio. Os hoffech fynd i weld arddangosfeydd a gweithdai creadigol cysylltiedig wedi’u teilwra i’ch grwp, � cysylltwch â Helen Kozich, Swyddog Addysg (ysgolion a cholegau). 01686 625041 helen@orieldavies.org Rhaglen Allgymorth ar Daith flora Mae’r artist Jacques Nimki yn gweithio gyda disgyblion sydd ag anghenion ychwanegol a’u hathrawon yn Ysgol Hafod Lon, ger Pwllheli. Cefnogir gan Ymddiriedolaeth Ernest Cook.

Radical Craft: alternative ways of making Celebrating the inventiveness and creativity of artists working outside the mainstream, this exhibition provides a wealth of construction techniques, ideas and inspiration for pupils and teachers to use. For exhibition visits and linked creative workshops tailored to your group, please contact Helen Kozich, Learning Officer (schools & colleges). 01686 625041 helenk@orieldavies.org flora Outreach on Tour Artist Jacques Nimki works with pupils with additional needs and their teachers at Ysgol Hafod Lon, near Pwllheli. Supported by the Ernest Cook Trust.

Gweithgaredd paentio a darlunio i ysgolion cynradd gyda’r artist Catrin Williams Primary school painting and drawing activity with artist Catrin Williams


Siop Shop

Y gwanwyn a’r haf hwn, rydym yn falch o gyflwyno casgliad newydd sbon o syniadau am anrhegion at ddant pawb, sydd oll yn cael eu harddangos yn siop yr oriel, sydd newydd gael ei haddurno. Ceir arddangosfa syfrdanol o anrhegion unigryw cyfoes, gemwaith hardd wedi’u gwneud â llaw, tecstilau a chrefftau, llyfrau diddorol a deunydd swyddfa yn Gymraeg a Saesneg, nwyddau steilus i’r cartref, teganau plant a llawer mwy i gipio’r dychymyg. Mae Oriel Davies yn le perffaith i siopa am yr anrheg arbennig hwnnw. Rydym yn cynnig Talebau Rhodd, brynu darnau unigryw o gelf a chrefft gyfoes dros gyfnod o ddeg mis yn ddi-log. Mae’r cynllun yn berthnasol os byddwch yn prynu darnau sy’n werth dros £55.

This spring and summer we proudly present a brand new collection of gift ideas to suit everyone, all showcased in our newly decorated gallery shop. A stunning display of unique contemporary giftware, beautiful handmade jewellery, textiles and craft, gorgeous books and stationery in English and Welsh, stylish homeware, children’s toys and much more to capture the imagination. Oriel Davies is the perfect place to shop for that special gift. We offer Gift Vouchers and are part of the Collectorplan Scheme which allows you to buy unique pieces of contemporary art and craft over a period of ten months interest free, and is available on all purchases over £55.


Ar agor / Open: 10am—4pm I gadw lle / Bookings: 01686 622288

Galwch heibio i’n caffi cyfeillgar yn yr oriel i flasu bwydydd cartref blasus ac iachus. Cymrwch sedd yn ein teras naws Canoldirol drws nesaf i’r parc, neu yn ein caffi golau, llachar gyda golygfeydd gwych. Mae Relish yn defnyddio cynhwysion gan gyflenwyr bach sydd mor lleol a thymhorol â phosibl, ac mae’n cynnig dewis o fwydydd llysieuol, fegan a heb glwten. Mae’r caffi wedi’i thrwyddedu ac yn gwerthu cwrw organig gwych, gwinoedd a diodydd meddal. Rydym hefyd yn gwerthu prydau parod, fel y gallwch fynd â’ch cinio i’r parc.

Rosie Jones, Rheolwr Caffi Relish Cafe Manager

Bara Cartref / Homemade breads Salad lleol / Locally-sourced salad Cawl cartref / Homemade soup Cacennau / Cakes / Te / Tea Coffi Barista / Barista Coffee Diodydd Meddal Organig / Organic Soft Drinks Falafel / Falafel / Tapas / Tapas Tatws trwy’u crwyn / Jacket Potatoes Paninis / Paninis Prydau parod / Take-away

Caffi‘r Oriel Gallery Café

Pop into our friendly gallery café or some delicious home-cooked and seasonal food. Take a seat in our light, bright café with great views. Relish sources ingredients as seasonal as possible from small and local suppliers, and caters for vegetarian, vegan and gluten-free diets. The café is licensed and serves excellent beers, wines and soft drinks. We also serve takeaway meals so you can take your lunch into the park.


Cyfeillion

Friends

Mae Cyfeillion Oriel Davies yn grw ˆp ymroddgar o unigolion, sydd yn cefnogi Oriel Davies drwy greu cyswllt cryf rhwng yr oriel a’i chynulleidfaoedd, a threfnu tripiau a gweithgareddau cymdeithasol sy’n ymwneud â chelf. Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn celf i ymuno â’r grw ˆp. £14 yw’r gost aelodaeth flynyddol, £6 i fyfyrwyr a £22 am aelodaeth ddwbl. Gallwch ddod o hyd i restr o fanteision ar ein gwefan, ac mae croeso i chi ein ffonio neu anfon e-bost atom gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych am ymuno ar 01686 625041 / desk@orieldavies.org

The Friends of Oriel Davies are an active group of individuals, dedicated to supporting Oriel Davies and creating a strong link between the gallery and its audiences. Friends are drawn from the general public and anyone with an interest in art is welcome to join. Annual membership costs £14 or £6 for a student and £22 for a double membership. You can find a list of benefits on our website and please don’t hesitate to give us a call or email with your questions about joining on 01686 625041 / desk@orieldavies.org

Llogi ystafell

Room hire

Dewch i gael eich ysbrydoli yn yr oriel a rhowch naws creadigol i’ch digwyddiad. Mae’r ystafell addysg awyrog a lliwgar yn Oriel Davies ar gael i’w llogi, ac mae’n berffaith ar gyfer amryw o grwpiau cymunedol, gweithdai, sesiynau hyfforddi a chyfarfodydd. Mae lle i hyd at 40 o bobl yn yr ystafell, sydd â chyfleusterau glân a modern, gwasanaeth arlwyo gwych, staff cyfeillgar a lleoliad canolog yn y Drenewydd, Powys ac yng Nghymru.

Get inspired at the gallery and give your event a creative feel. Perfect for community groups, workshops, training sessions and meetings, the bright airy education room at Oriel Davies is for hire! Accommodating up to 40 people with clean and modern facilities, excellent catering, friendly staff and a central location in Newtown and Powys.

Am ragor o wybodaeth ewch i www.orieldavies.org/room-hire neu ffoniwch 01686 625041

For more information visit www.orieldavies.org/room-hire or give us a call on 01686 625041

orieldavies.org


Sut i ddod o hyd i ni

How to find us

Mae’r Oriel drws nesaf i’r orsaf fws a’r prif faes parcio sy’n edrych dros barc y dref. O’r A489, trowch i mewn i ganol y dref wrth y goleuadau traffig ac ar ôl 200 metr, trowch i’r chwith gyferbyn â Argos. Mae’r oriel bum munud ar droed o orsaf drên y Drenewydd ac ar lwybr beicio 81.

The gallery is next to the bus station and main car park overlooking the town park. From the A489 turn into the town centre at the traffic lights and after 200 metres turn left opposite Argos. The gallery is a five-minute walk from Newtown train station and situated on cycle route 81.

Amseroedd agor: Dydd Llun i ddydd Sadwrn 10am–5pm (yn cynnwys gwyliau’r banc), ar gau ar ddydd Sul.

Opening times: Monday —Saturday 10am–5pm (including bank holidays), closed on Sundays.

Mynediad am ddim

Free admission

Hygyrchedd: Mae Oriel Davies yn croesawu pawb ac yn hollol hygyrch i gadeiriau olwyn.

Accessibility: Oriel Davies welcomes all and is fully accessible by wheelchair.

Os hoffech fersiwn print bras o destun y rhaglen hon, ffoniwch 01686 625041

For a large print version of this programme text please telephone 01686 625041

River Severn

Y Drenewydd / Newtown

Bus Station

Park

A489

A4 89

Aberystwth

Oriel Davies

Llandrindod Wells

Town Centre

A483

A4 89

Shrewsbury

Ludlow


Diolch

Thanks

Hoffai Oriel Davies ddiolch i’r sefydliadau canlynol am eu cefnogaeth hael: Cyngor Celfyddydau Cymru; Elusen Gwendoline a Margaret Davies; Cyngor Sir Powys; Llenyddiaeth Cymru; Ernest Cook Trust; Age Cymru; Esmée Fairbairn Foundation. Gyda diolch arbennig i Gyfeillion Oriel Davies am eu cefnogaeth gryf o’r oriel a’i rhaglenni.

Oriel Davies warmly thanks the following organisations for their generous support: Arts Council of Wales; the Gwendoline and Margaret Davies Charity; Powys County Council; Literature Wales; Ernest Cook Trust; Age Cymru; Esmée Fairbairn Foundation. With special thanks to the Friends of Oriel Davies for their strong support of the gallery and the Artists’ Talks Series.

Rhif Elusen / Reg. charity no. 1034890 Front cover image: Tom Climent, The Kingdom, from Oriel Davies Open 2016: Painting Design: heightstudio.com



Oriel Caffi Siop Gallery Cafe Shop

Oriel Davies Y Parc / The Park Y Drenewydd / Newtown Powys SY16 2NZ 01686 625041 desk@orieldavies.org www.orieldavies.org @orieldavies orieldavies orieldavies Mynediad am ddim Free admisssion


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.